Y RHAN GYNTAF O'R LLYFR HWN.
PEN. I. Amcan a Rhannau 'r llyfr hwn, ynghyd â rhybudd angenrheidiol i'r darlleydd.
AMcan ac ergyd priodol y llyfr hwn yw annog yr hwn sydd Gristion mewn enw, i fod yn Gristion mewn gwirionedd, or hyn lleiaf, vngwir feddylfryd ei galon ei hun. Ac o herwydd bod deubeth yn anghenrheidiol i'r perwyl hwnnw, am hynny y dosperthir y llyfr hwn yn ddwy ran. Yn y rhan gyntaf y dangosir rhesymau tradwysion, ac achosion trachadarn i annog dyn i roi cwbl o'i fryd a'i feddwl ar fod yn Gristion da. Yn yr ail rhan y tynnir ymaith yr holl rwystrau y mae ein gelynion ysprydol (y byd, y cnawd, a'r cythrael) yn arfer o'i gosod o'n blaen, i luddias i ni roi 'n bryd a'n meddwl ar hynny; am eu bod yn gwybod yn dda mai ar hynny y mae ein holl wasanaeth ni i Dduw yn sefyll. Oblegid y neb ni roddo ei fryd vn amser ar wneuthur daioni, ac ar ymadael a'r peryglus gyflwr y mae ynddo tra fo mewn pechod, y mae hwnnw ym mhell oddiwrth wneuthur y peth ni roes erioed ei fryd ar ei wneuthur. [Page 2]Ond y neb sydd weithiau yn rhoi ei fryd ar wneuthur hynny, er nas gàd ei wendid a'i freuolder iddo ei gwplau pan roddo ei fryd arno; etto y mae 'r bryd a'r ewyllys hwnnw yn gymmeradwy gan Dduw, ac y mae ei feddwl a'i galon ynteu ar âl hynny yn barottach i roi ei fryd drachefn ar ei wneuthur, a thrwy râs Duw i'w wneuthur hefyd. Ond y neb a fo o'i wirfodd yn gwrthwynebu 'r amcanion da a roddo yr yspryd Glan yn ei galon ef, ac a fo mor anfoesol a diystyru ei Arglwydd sydd yn curo wrth ddrws ei galon a'i gydwybod ef; y mae 'r cyfryw vn yn annog digllonedd Duw yn ei erbyn yn fawr, ac yn myned fynychaf yn galettach galettach beunydd, hyd oni rodder ef i fynu i feddwl anghymmeradwy, yr hwn yw'r drws nessaf i golledigaeth dragywyddol. Rhuf. 1.26. Dat. 3.20. Acts 7.
2. Vn peth gan hynny sy raid i ni rybuddio 'r darlleydd o'i blegid, cyn myned ym mhellach, ar iddo gymmeryd mawr ofal am ochelyd vn ddichell o'r▪ rhai pennaf sy gan ein gelyn ysprydol ni, i dynnu myrddiwn o eneidiau beunydd i vffern: sef yw hynny, eu hofni a'i dychrynu rhac na gwrando na darllein dim ac a fo gwrthwyneb iw meddwl a'i hewyllys hwy eu hunain. Felly y dychryna efe yr occrwr rhag darllein vn llyfr a fo'n dysgu iddo dalu 'r llôg ar occr yn ei ól, yr anllad rhac darllein vn traethawd yn erbyn anlladrwydd: y bydol rhac darllein llyfrau ysprydol a grybwyllont am dduwioldeb a dyfosiwn da. Ac dymma y rheswm y mae efe fynychaf yn ei arfer i ddenu dynion i hynny: Ti a weli medd efe, nad wyt ti etto barod i ymadael á'r fuchedd yr wyt yn byw ynddi; ac am hynny ni wna darllein y cyfryw lyfrau ond blino dy gydwybod di, a'th fwrw di mewn trymder a thristwch, ac am hynny na ddarllein mo honynt hwy ddim. Dymma, meddaf ddichell gyfrwys sy gan Satan, i ddallu [Page 3] [...]awer o ddynion ac iw hudo i golledigaeth: yr vn modd ac y mae yn hawdd ir hebogydd ddwyn llawer o weilch lle y mynno, tra fo y mwgwd ar eu llygaid, yr hyn nis gallai byth ei wneuthur pe gadawai iddynt gael ei golwg yn rhydd.
3. Pettai anwybodaeth yn abl escus tros bechod, têg y gallai hynny fod yn achos i ddynion i fyw yn annuwiol: ond y mae 'r cyfryw anwybod ac sydd. o wirfodd calon dyn, yn hyttrach yn chwanegu ar [...] pechod, ac ar ddrwg gyflwr y pechadur hefyd. Oblegid, am y cyfryw ddyn y dywed yr yspryd glân trwy fawr ddirmyg, Efe a beidiodd a bod yn gall i wneuthur daioni, Psal. 36.3. megis pe dywedai, ni fynnai ddysgu gwneuthur daioni. A thrachefn, Am i ti ddiystyru gwybodaeth, minneu a'th ddiystyraf ditheu, Hos. 4.6. Ac am yr vnrhyw ddynion y dywaid yr yspryd glân mewn lle arall Y maent yn treulio eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y desgynnant i'r bedd, Dywedant hefyd wrth Dduw, Cilia oddi wrthym, canis nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd di, Job 21.13. Ymogeled pob dyn gan hynny rhac y ddichell hon, a bydded fodlon, o'r hyn lleiaf, i ddarllein llyfrau da, ac i ymarfer â chwmpeini duwiol, ac à chyfryw foddion eraill ac a allo wellhau ei fuchedd ef; er na bo etto yn ei fryd eu canlyn: ie er ei fod yn clywed ynddo ei hun wrthwyneb i wneuthur hynny. Oblegid nis gall y pethau hynny byth wneuthur dim niwed iddo, ond hwy allant wneuthur iddo fawr lles: ac fe allai y gall y gwrthwyneb y mae efe yn ei ddioddef yn ei feddwl wrth arfer o'r pethau hynny yn erbyn ei ewyllys, beri i'r Arglwydd trugarog sydd [...]n gweled ei gyflwr blin ef, roddi iddo yr orchafiaeth arno ei hun o'r diwedd, a danfon iddo lawer mwy o ddiddanwch a chyssur yn y pethau yr oedd o'r blaen yn e [...] diflassu, nag oedd o anfodd ac anewyllys ganddo [Page 4]iddynt ar y cyntaf. Oblegid efe a all Duw wne [...] thur hynny yn hawdd, yn vnig drwy newidio ei blâs genau ni ag vn defnyn bâch o'i nefol râs, a gw neuthur y pethau hynny yn flasus ac yn beraidd, [...] rhai'r oeddym ni o'r blaen yn eu clywed yn chwerwon ac yn ddiflas.
4. Am hynny, megis yr ewyllysiwn fod i bob ma [...] enaid o ddyn ac a ddarllenno y llyfr hwn, ei ddarllein â meddwl gwastad wedi ymroi yn gwbl yn llaw Dduw, a rhoi ei fryd ar wneuthur y peth a rodd [...] 'r yspryd glàn yn ei feddwl ef, pe rhôn iddo a cholli ei holl ddifyrrwch bydol wrth hynny: (yr hyn sydd anghenraid i bawb ei wneuthur, ar a fynno fod yn gadwedig) felly os bydd i vn nas gallo wneuthur hynny allan o law, etto mi a gynghorwn iddo, yn anad dim, geisio 'r maes ar ei feddwl ei hun cyn belled a bod yn ddioddefgar i ddarllein y llyfr hwn hyd y diwedd, ac i edrych beth a ellir ei ddywedyd yn erbyn y pethau a gynnhwysir ynddo, er nas rhoddo gwbl o'i fryd a'i feddwl ar eu gwneuthur. Oblegid nid wyf yn ammeu nas gall Duw gynnhyrfu calonnau y rhai hyn cyn y delont i ddiwedd y llyfr, i newidio eu meddwl, ac i ymroi yn ostyngedig i hyfryd wasanaeth eu Harglwydd a'i Hiachawdur, fel y gallo Angelion nef lawenychu a gorfoleddu am eu hynnill hwy drachefn, megis am y ddafad a gollasai. Luc. 15.
PEN. II. Mor anghenrhaid yw i ni ystyried a myfyrio yn ddifrif ar ein cyflwr ein hunain.
Y mae'r Prophwyd Ieremi, yn ôl hir gwyno rhac yr aflwydd a'r gofid oedd ar yr luddewon yr [...]mser hynny am eu pechodau, yn dangos yr achos o [...]ynny yn y geiriau hyn; Y tiri gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn cymmeryd at ei galon, Jer. 12.11. Gan arwyddoccau wrth hynny, pe buasai yr Iuddewon yn ystyried yn ddwys ac yn ddifrif y fuchedd [...]'r cyflwr yr oeddynt ynddo cyn dyfod o'r difrod nawr hwnnw arnynt, y gallasent ddiangc rhagddo, [...]el y diangodd y Ninifeaid wrth gymmeryd rhy [...]ydd gan Ionas, er bod y cleddyf eusys wedi ei dyn [...]u, a llaw'r Arglwydd wedi ei hystyn allan i'w distrywio hwy o fewn deugain nhiwrnod. Mor anghenrhaid ac mor bwysfawr ydyw ystyried y pe [...]hau hyn. Yn arwydd o'r hyn beth y cyfrifid yn [...]flan wrth gyfraith Moses bob anifail ni chnoai ei gil: ac felly yn ddiammau y mae pob enaid ger [...]ron Duw, yr hwn nid ystyrio yn ei galon ac ni [...]hnoo ei gil, trwy fynych fyfyrio, ar y peth a fyddai raid iddo ei wneuthur yn y bywyd hwn. Lev. 11. Deut. 14.
2. O herwydd, o ddyffyg y cyfryw ystyried a myfyrio y mae cymmaint o bechodau ac amryfuseddau yn y byd, ac y mae llawer mil o Gristianogion yn cael gweled eu bod ym mhorth vffern cyn ddynt ammeu dim o'r cyfryw beth, wrth adael eu [...]arwain trwy ddyffryn y fuchedd hon, a hùg ac a gorchudd diofalwch a difrawch ac anystyr tros eu llygaid, megis anifeiliaid i'r lladdfa, ac heb gael erioed [Page 6]weled eu perygl eu hun, hyd oni bo rhywyr ceisio help ac ymwared rhagddo.
3. O herwydd hyn y mae 'r yscrythur lân mor ofalus yn ein hannog ni i ystig fyfyrio ac i ddyfa ystyried beth a ddylem ei wneuthur, i geisio ein hachub ni oddiwrth y perygl y mae eisieu ystyried a myfyrio yn ein tywys ni iddo.
4. Y mae Moses wedi darfod iddo ddangos i'r bobl ei gennadwri oddiwrth Dduw ynghylch holl gyfrannau 'r gyfraith, yn gosod hyn yn angwhaneg ger eu bronnau hwy oddiwrth Dduw, megis peth o'r angenrheittiaf Deut. 6.6. sef, Bydded y geiria [...] hyn yn dy galon di, Ac yspyssa hwynt i'th blant a chrybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i gysgu, a phan gyfodech i fynu: a rhwym hwynt yn arwydd ar dy law, a byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid. Scrifenna hwynt hefyd ar bŷst dy dŷ ac ar dy byrth. A thrachefn mewn lle arall y dywaid yr vn geiriau, ac y gorchymmyn ym mhellach fel hyn; Dysgwch hwynt i'ch plant, fel y gallont hwythau fyfyrio arnynt. Deut. 11.19. Yr vnrhyw orchymmyn a roddes Duw ei hun 1 Josua, pan ddewiswyd ef gyntaf i lywodraethu 'r bobl, Ios. 1.8, 9. Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o'th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nôs, fel y cedwych ar wneuthur y [...] hyn oll sydd scrifennedig ynddo: Ac yn y man y mae Duw yn dangos pa lês a wnai hynny iddo, Yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni; canys yr Arglwydd dy Dduw a fydd gydâ thi, i ba le bynnac yr elych. Wrth yr hyn y mae efe yn arwyddoccâu nad yw dyn heb fyfyrio ar Gyfraith Dduw, ond myned ar gyfeilorn, ac megis vn dall heb wybod i ba le y mae yn myned.
5. S. Paul wedi darfod iddo osod ger bron ei yscolhaig Timotheus beth yw iawn ddyledswydd Eglwyswr, [Page 7]sydd yn rhoi hyn o gyngor iddo yn angwhaneg, 1 Tim. 4.15. Myfyria ar y pethan hyn, ac arhos ynddynt: Ystyria hwynt yn ddwys, gwyl pa bwys a pha ddefnydd sydd ynddynt. A pha le bynnac y mae 'r yscrythur lân yn dangos pa fath sy a [...] wr doeth, dedwydd, cyfiawn, (oblegid yr vn yw'r tripheth hyn yn yr yscrythur lân, can nad oes gwir ddoethineb a dedwyddwch ond cyfiawnder) vn o'r pethau pennaf y mae yn ei ddywedyd am dano ydyw, ei fod ef yn myfyrio ar Gyfraith Dduw ddydd a nôs. Psal. 1. Ac am esamplau allan o'r yscrythur lân, i ddangos pa fodd y byddai gwyr da gynt yn arfer o fyfyrio, hawdd fyddei imi ddangos llawer o honynt, megis am Isaac yr hwn a ai allan i'r meusydd i fyfyrio, Gen. 24.63: a'r brenhin Ezechias, yr hwn a riddfannodd megis colommen, Esa. 38.14. hynny yw▪ mewn distawrwydd, rhyngtho a'i galon ei hun, heb glywed llais ei eiriau. Ond nid oes vn esampl bennach yn y defnydd ymma nag esampl Dafydd, yr hwn, ym mhob man gan mwyaf, sydd yn cofio el ddyfal a'i ddibaid fyfyrdod, gan ddywedyd wrth Dduw fel hyn. Myfyriais am dy orchymmynion [...] rhai a hoffais, Psal. 119.47. Felly y mae 'r Groeg a'r Lladin yn cyfieithu 'r gair. A thrachefn, Pan i'th gofiwyf ar fyngwely, Myfyriaf am danat yngwiliadwriaethau'r nos (neu fel y mae eraill yn ei gyfiaithu, Myfyriaf am danat y boreau) Psal. 63.6. A thrachefn, Mor gu gennyf dy Gyfraith, hi yw fy myfyrdod beunydd, ie, ac ar hyd y dydd hefyd. Psal. 119.97. Ac mor wresog ac mor daerl [...]w yr oedd efe yn arfer o fyfyrio, y mae efe ei hun yn ei ddangos, pan yw yn dywedyd am dano ei hun, Gwresogodd fy nghalon o'm mewn, tra oeddwn yn myfyrio ennynnodd tân. Psal. 39.3.
6. Y pethau hyn a gadwodd yr yspryd glân mewn cof am y gwyr hynny gynt, i yrru cywilydd arnom [Page 8]ni sydd Gristianogion, y rhai er ein bod yn llawer mwy rhwymedig nâ hwynt hwy i fod yn wresog mewn myfyrdod, oblegid i ni dderbyn doniau mwy gan Dduw; etto yr ydym ni yn byw mor segurllyd, y rhan fwyaf o honom, ac nad ydym ni agos vn amser yn myfyrio nac am Gyfreithiau a gorchymmynion Duw, nac am ddirgeledigaethau ein ffydd, nac am fuchedd a marwolaeth ein Iachawdur Christ, nac am ein dylêd ein hunain tu ag atto ef; chwaethach ystudio a myfyrio ar hynny beunydd fel y gwnai'r brenhinoedd sanctaidd hynny, er maint eu gwaith a'i llafur yn llywodraethu eu gwledydd.
7. Pwy sy o honom ni heddyw yn gwneuthur cyfreithau, a gorchymmynion, a chyfiawnderau Duw (canis felly y mae 'r yscrythur lân yn eu galw) yn fyfyrdod beunyddol iddo, fel y gwnai 'r brenhin Dafydd? Ac nid y dydd yn vnig y gwnai efe hynny, ond y nôs hefyd, fel y tystiolaetha efe am dano ei hun mewn lle arall. Pa sawl vn o honom ni sydd yn gollwng llawer dydd, a llawer mis dros ei ben, heb vnwaith na myfyrio na meddylio am y pethau hyn? Ie Duw a wnel nad oes llawer o Gristianogion yn y byd, heb wybod beth ydyw 'r cyfryw fyfyrdodau. Yr ydym ni yn credu ysgatfydd, ddirgelion ffydd Grist, sef bod vffern, a bod nêf, a bod tâl am ddaioni, a chospedigaeth am ddrygioni, ac y daw dydd barn, ac y bydd rhaid gwneuthur cyfrif, a'r cyffelyb: ond am nad ydym nac yn cnoi ein cil ar y pethau hyn drwy ddwys fyfyrio arnynt, nac yn eu treulio yn ein calonnau trwy wrês myfyrdod; nid ydynt yn helpio dim arnom tu ag at fyw yn dduwiol, mwy nag y mae 'r feddyginiaeth a roddo gwr yn ei bocced yn helpio ei iechyd corphorol ef.
8. Pa ddyn o'r byd a fyddai mor hawdd gantho anturio pechu (fel y mae gan lawer, y rhai sy 'n [Page 9]yfed pechod cyn rhwydded ac yr ŷf yr anifeiliaid ddwfr) ped ystyriai y mawr berygl sydd o bechu, a'r golled am râs Duw a'i ffafor a'i ewyllys da, a haeddu digofaint tragywyddol, a pheri o bechod i Fab Duw ei hun ddioddef marwolaeth, a'r anfeidrol boenau vffernol a fydd yn gospedigaeth dragywyddol am bechu? Ac er bod pob Christion yn credu y pethau hyn, ac yn cydnabod â hwynt, etto o herwydd bod y rhan fwyaf o ddynion heb eu hystyried hwy yn iawn yn eu calonnau, nid ydynt hwy yn cyffroi dim arnynt, ond y maent yn arwein yr wybodaeth honno ganthynt megis tan glo yn eu calonnau, heb na chlywed na gwybod vn gronyn oddiwrthi, megis vn a fyddai yn dwyn tan gydag ef mewn [...]allestr, ac heb gael dim gwrês oddiwrtho, eisieu taro 'r gallestr; neu vn a fyddai 'n dwyn gantho beraroglau mewn blwch, ac heb gael dim arogl oddiwrtho eisieu ei rwbbio.
9. Ac weithan i ddyfod yn nês at y defnydd pre [...]ennol yr ydym ar fedr ei ddatcan yn y llyfr hwn; [...]a ddyn byw ni roddei ei fryd yn gwbl ar wasana [...]thu Duw yn gywir, ac i ymadael â holl orwagedd [...] byd pettei yn ystyried fel y dylai, y pwysfawr re [...]ymmau a'r achosion a allai ei gynnhyrfu ef i wneu [...]hur hynny; sef, y mawr wobr a gaiff efe am wneuhur hynny, ar anfeidrol berygl sy iddo onis gwna? Ond o herwydd (fel y clywsoch) nad oes odid o vn ym mysg mil yn ysty [...]ied y pethau hyn, ac o happiei ddo eu hystyried, nis gwna ond yn ysgafn, heb gymmaint o astudrwydd a chydwybod ac y mae 'r pethau yn eu haeddu: a hynny sy 'n peri i gynnifer o ddynion fyned beunydd i golledigaeth, ac i gyn lleied fod yn gadwedig, am eu bod, o eisieu ystyried, heb roi eu bryd vn amser ar fyw fel y dylent, ac fel y mae galwedigaeth Christion yn gofyn ar eu dwylo hwy. Megis y gallwn ninnau hefyd gwyno [Page 10]gydâ Ieremi, fel y clywsoch o'r blaen, fod tir ein Christianogaeth ni wedi myned yn anrhaith, am nad yw dynion yn ystyried yn eu calonnau.
10. Ystyried yw'r agoriad sydd yn egori drw [...] ystafell ein calonnau ni, lle y mae llyfrau ein holl gyfrif ni ynghadw: Ie ystyried ydyw drych, [...] echrê llygad a golwg ein henaid ni, â'r hwn y ma [...] 'r enaid yn ei weled ei hun, ac yn canfod ei holl gyflwr trwyddo; sef ei gyfoeth, a'i ddoniau daionus, a'r ffordd y mae 'n rhodio ynddi, a pha fodd y ma [...] 'n ei cherdded, ai yn fuan, ai yn araf; a'r pennod a'r diben y mae 'n cyrchu atto. Ac heb yr ystyried hyn nid yw 'r enaid ond rhuthro fel dall yn wysg el ben ym mhlith miloedd o ddrain a mieri, a thramgwyddo ar bob cam a gerddo i ryw anghymmhesurwydd neu ei gilydd, a phob amser mewn perygl o ryw fawr farwol aflwydd. A pheth rhyfedd yw gweled, fod pob dŷn yn ei fatterion a'i negesau by dol yn gwybod ac yn cydnabod, na s gall na dechreu, na gwneuthur, na gorp [...] gwaith yn y byd heb ei ystyried; ac etto yn y gwaith mawr hwn ar geisio ynnill teyrnas nef, nid oes agos neb nac yn arfer o ystyried, nac yn tybied fod yn rhaid iddo ystyried.
11. Pettai ddyn yn amcanu myned i daith neu siwrnai, er na bai ond, o Loegr i Constantinopl, pe rhôn iddo a cherdded y ffordd vnwaith neu ddwy o'r blaen, etto ni cherddai gam o honi heb ei hystyried yn ddwys ac yn fynych; yn enwedig heb ystyried pa vn a wnai ai bod ar y ffordd ai na bai, pa fodd y byddai'n cerdded ai yn fuan ai yn araf, a pha faint fyddei rhyngtho a phen ei siwrnai; ar cyffelyb bethau. Ac wyti yn meddwl (fo mraw [...] anwyl) myned o'r ddaiar hon i'r nefoedd, a hynny tros gynnifer o fryniau, a phantiau, ac anialwch a lleoedd peryglus ni cherddaist erioed o'r blaen [Page 11]heb ystyried vnwaith beth yr wyt arno? Yr wyti yn camgymmeryd yn fawr, os wyti yn tybied hynny: canys rheitiach o lawer i ti wrth ystyried yn y daith nefol nag yn yr vn ddaiarol, o herwydd bod mwy o drawsffyrdd, a mwy o beryglon yn y naill nac yn y llall, gan fod pob dyfyrrwch yn y byd hwn, a phob trachwant, a phob ofer feddwl, a phob golwg gwammal, a phob llais a demptio, a phob cythrael ar y ddaiar, a phob elwig or eiddo (a'r rhei'ny yn aml) megis lladron yn cynllwyn am danat i'th yspeilio ac i'th ddifetha ar y ffordd hon tu a'r nef.
12. Am hynny mi a gynghorwn i bob vn a siwrneio ar y ffordd hon, edrych yn dda yn ei gylch, ac o'r hyn lleiaf vn waith yn y dydd, ystyried ei gyflwr ei hun, a chyflwr y trysor sydd gantho mewn llestr brau, fel y dyweid S. Paul, a'r trysor hwnnw yw ei enaid ef, yr hwn o eisieu ystyried a ellir ei golli cyn hawsed a'r tlws lleiaf a siomgaraf yn y byd, fel y ceir gweled yn ôl hyn wrth y pethau a ddywetwyf er mwyn helpio dyn i ystyried, yr hyn sydd raid iawn i mi ac i bob Christion arall wrtho, er mwyn gwneuthur ein gwasanaeth yn gymmeradwy gan Dduw. O herwydd ped ystyriai fy enaid i neu'r eiddo arall, yn ddwys ac yn ddifrif, ychydig o lawer o bethau a wyr eu bod yn wir; ni byddei bossibl iddo na wellhaei, a bod yn anfodlon i'w fuchedd o'r blaen, a'i diflasu a'i ffieiddo. M [...]gis, ped ystyriei yn ddwys ei ddyfod i'r byd hwn er mwyn cymmeryd gofal am wasanaethu Duw, a'i fod ef er hynny yn edrych yn vnig, neu yn fwya dim, am orwagedd y byd: pettai yn ystyried y bydd rhaid iddo roi cyfrif yn y dydd diweddaf am bob gair ofer, Mat. 12.36. ac etto nad ydyw yn gwneuthur cyfrif yn y byd o lawer gweithred ddrwg v mae yn ei wneuthur, chwaethach o'i eiriau; pet [...]ai yn ystyried na chaiff vn putteinwr, na godinebwr, nac [Page 12]enlynaddolwr, na thorrwr priodas, na masweddwr, na gwrrywgydiwr, na lleidr, na chybydd, na meddw, na dis [...] [...]a chribddeilwr, etifeddu teyrnas Dduw; a'i fod yn [...]u yn meddwl y dichon fyned yno er ei fod yn byw yn y bei [...]u hynny: pettai yn ystyried fod vn pechod yn ddigon er colli miloedd o bobl ar vnwaith, ac etto er bod arno fawrllwyth o bechodau ei fod ynteu yn tybied y gall ddiangc, 1 Cor. 6.9, 10. Eph. 5 5. Gen. 6. Gen. 19. ped ystyriai fod y ffordd i'r nef vn anhawdd, yn gûl, ac yn boenus, fel y dyweid Duw ei hun, a'i fod yntau yn tybied y gall fyned i mewn yno, er byw mewn digrifwch, a melyschwant y byd, Mat. 7.14. ped ystyriai ddarsod i'r holl Sainct Duwiol a fu erioed, (megis Apostolion Christ, a'i fam ef ac eraill) ddewis byw mewn caledfyd, mewn llafur poenus, buddiol i eraill, mewn ymprydio, gweddio, a chospi eu cyrph a'r cyffelyb, a'i bod er hynny yn byw mewn ofn a dychryn rhag barnedigaethau Duw; ac ynteu heb wneuthur cymmaint a meddwl am yr vn o'r pethau hyn, ond canlyn ei blesser a'i ddifyrrwch, ac er hynny nid yw yn ammeu nad yw dda ei gyflwr, 1 Cor. 4. 2 Cor. 4. & 6, & 11, & 12. 1 Cor. 9. Phil. 2. ped ystyriei fy enaid i (meddaf) neu yr eiddo arall y pethau hyn yn ddwys ac yn ddifrif, neu y rhan leiaf o fil o bethau eraill a ellid eu hystyried, y mae 'n ffydd Gristianogawl yn dyscu i ni eu bod yn wir; ni chyfeiliornai mewn perygl diobaith, fel y mae llawer o eneidiau Christianogion, o eisieu ystyried ei gyflwr ei hun
13. Beth a bair i ladron gael can wyr synhwyrol dybieid am danynt eu bod allan o'i côf, am fod yn lladdrata, a hwythau yn gweled crogi cymmaint o ddynion am lad [...]d, ger bron eu llygaid, ond am nad ydynt yn ystyried hynny? A'r vnrhyw achos sy'n peri i'r gwyr doetha 'n y byd gael eu cyfrif [Page 13]ger bron Duw a dynion da, yn anfad ffyliaid ac yn waeth nag ynfydion cynhwynol; am eu bod, a hwythau yn adnabod gorwagedd y byd, ac yn gwybod y perygl sydd o fyw mewn pechod, er hynny yn canlyn y byd yn gymmaint, a chynlleied eu harswyd i bechu. Luc. 12.20. Pettei gyfraith wedi ei gwneuthur, trwy awdurdod dyn, ar fod i bwy bynnag a feiddiei yfed gwin, ddal ei law yn y man tros hanner awr yn tân, neu mewn plwm berwedig; yr wyfi yn tybied y byddai anhawdd gan lawer yfed gwin, er eu bod with naturiaeth yn ei garu: ac etto er bod cyfraith wedi ei gwneuthur gan dragywyddol fawredd Duw y gorfydd i bwy bynnag a wnelo bechod ddioddef ei ferwi yn dragywyddol yn nhân vffern, heb na diben nac esmwythdra; y mae llawer er hynny o eisieu ystyried y pethau hyn heb ddim mwy eu hofn i bechu, nag i fwytta neu i yfed.
14. I dynnu at y diwedd, y mae ystyried yn beth anghenrhaid iawn ei wneuthur, yn enwedig yn ein dyddiau ni, pan ydys yn gwneuthur cymmaint cyfrif o orwagedd ac oferedd, ac y tybir mai gwir ddoethineb ydyw; ac nad yw'r gwrthwyneb ond gwir ffoledd, a diystyr wiriondeb. Ond nid oes gennyf ddi [...] ammeu, drwy help Duw a chymmhorth iawn ystyried, na's datcuddiaf i'r darlleydd synhwyrol yn eglur ddigon, yr amryfusedd sydd yn hyn o beth, oddieithr ei fod yn ddall o'i wirfodd, neu o wir gyndynrwydd gwedi ymroi i gaethiwed ei elyn ysprydol: o blegid y mae rhai o'r cyfryw ddynion yn y byd: am y rhai y mae Duw yn dywedyd, megis yn ymofidio trostynt, ac yn tosturio wrth eu cyflwr, Esa. 28.15.18. Hwy a wnaethant gyfammod ag angeu, a chyngrair ag vffern: hynny ydyw; ni fynnant ddyfod allan o'r perygl y maent ynddo, ond eu bwrw eu hun bendramwnwgl i golledigaeth [Page 14]dragywyddol, yn gynt nag ystyried eu cyflwr ac felly ynnill iddynt eu hunain fywyd tragywyddol a gogoniant nef. Oddiwrth y cyndynrwydd angheuol hwnnw, yr Arglwydd o'i drugaredd a'n diango ni bawb ar sy 'n perthyn iddo ef.
PEN. III. Er mwyn pa achos a diwedd y crewyd dyn ac y gosodwyd ef yn y byd hwn.
WEithian gan hynny yn Enw 'r Hollalluog Dduw, a thrwy gymmorth ei lân yspryd ef, ystyried pob Christion o ddyn ac sydd yn chwennych iechydwriaeth enaid a chorph, yn ddwys ac yn ddifrif, yn gyntaf dim, megis y gwna marsiandwr pan êl tros for i wlad ddieithr, neu megis y gwna capten a ddanfono ei dywysog ar ryw negesau o bwys, pan ddêl i'r lle a appwyntiwyd iddo: hynny ydyw, meddwl am ba achos y daeth yno, paham y danfonwyd ef yno, ac i ba beth, i amcanu pa beth, i wneuthur pa beth, ac i gyflawni pa beth, a pha beth a ddisgwyl ac a ofyn yr hwn a'i danfonodd ef yno ar ei law ef pan ddêl adref. Oblegid diammau y gwna ystyried y pethau hynny iddo fod yn ofalus am edrych am y pethau y danfonwyd ef o'i plegid, ac nid ymofalu am bethau ni pherthyn iddo. Y cyffelyb bethau a fynnwn i Gristion eu hystyried, ac ymofyn ag ef ei hun, pa ham ac er mwyn pa achos a diwedd y creodd Duw ef, ac a'i danfonodd ymma i'r byd hwn? i wneuthur pa beth? i dreulio ei oes mewn pa beth? ac fe gaiff [Page 15]weled nad i ddim arall, ond yn vnig i wasanaethu Duw yn y bywyd hwn. Tan yr ammod hwnnw y crewyd ni, ac er mwyn hynny yn vnig i'n prynwyd ni, fel y prophwydodd Zacharias o'r blaen, fel y byddei i ni wedi ein gwared oddiwrth ddwylo ein gelynion, ei wasanaethu ef mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder holl ddyddiau ein heinioes. Luc. 1.74.
2, O hyn y canlyn yn gyntaf, gan mai gwasanaethu Duw yn y bywyd hwn, yw'r achos a'r diwedd y rhoed ni yn y byd o'i blegid; wrth hynny beth bynnag a wnelom, neu a amcanom, neu y treuliom ein hamser arno, ar a fo na gwrthwyneb nac ammherthynol i'r achos a'r diwedd hwnnw, sef gwasanaethu Duw yn vnig, pe rhon i ni allu wrth hynny ynnill holl deyrnasoedd y byd; etto nid yw ond llwyr waggedd ac oferedd, a ffoledd, a gwaith ofer; a pheth a wna i ni ryw ddydd ofidio, ac edifarhau, a chywilyddio o'i blegid, o herwydd nad hynny yw'r peth y daethom ni i'r byd o'i achos, na'r peth y gofynnir i ni gyfrif am dano yn y dydd diweddaf, oddieithr i gael ein barnu am dano.
3. Yn ail y canlyn, os gwasanaethu Duw ydyw'r vnig achos a'r neges y daethom ni i'r byd o'i blegid, a bod pob creadur daiar ol arall wedi ei roi yn y byd i'n gwasanaethu ni, fel y byddei i ninnau wasanaethu Duw: ni a ddylem ninnau na ddymunem o'r creaduriaid eraill, nac o gyfoeth nac o dlodi, nac o iechyd nac o glefyd, nac o barch nac o ammharch, na mwy na llai, nac a fo da ar ein lles ni tu ag at wasanaethu Duw; oblegid pwy bynnag a geisio ychwaneg o'r creaduriaid hynny nag a wasanaetho i'r perwyl hynny, y mae efe yn cilio oddiwrth yr achos a'r diwedd y daeth i'r byd o'i blegid.
4. Wrth hyn y gall Christion gofalus gael peth cydnabyddiaeth am ei gyflwr gydâ Duw, a bwrw amcan pa vn a wna ai bod ar y ffordd vnion ai na [Page 16]byddo. Oblegid os edrych ef yn vnig neu yn bennaf dim at y pennod y daeth efe ir byd yma er'e fwyn, hynny ydyw gwsanaethu Duw; os bydd e ofalon ef a'i feddyliau, a'i amcanion, a'i lafur, a'i ymddiddanion, yn rhedeg yn vnig ar y peth hyn; ac na [...]bo matter ganddo am greaduriaid eraill, megis anrhydedd, cyfoeth, dysg, a'r cyffelyb; ond hyd y bônt yn anghenrhaid iddo i'r perwyl hynny; os efe a dreulia ei ddyddiau a'i fywyd (meddaf) mewn astudrwydd ar wasanaethu Duw, yna diammeu ei fod yn ddyn o'r happusaf ac o'r dedwyddaf, ac y daw efe yn y diwedd i deyrnas Dduw.
5. Ond os gwyl efe ei fod mewn cyflwr gwrthwyneb i hynny, ai fod heb edrych am y peth y danfonwyd efe ymma o'i blegid, na bod ei galon a'i feddwl ar wasanaethu Duw, ond yn hyttrach ar orwagedd y byd, megis goruchafiaeth, golud, digrifwch, dillad gwychion, tegwch pryd, adeiladau teg, neu ryw beth arall ni pherthyn ir perwyl hwnnw: os efe a dreulia ei amser (meddaf) ynghylch y coegbethau hynny, a bod ei ofalon, a'i feddyliau, a'i ymddiddanion, a'i ddifyrwch, yn fwy yn y pethau hyn, nag ynghylch y neges mawr arall y danfonwyd ef yma o'i achos, yna y mae mewn helynt enbyd, yr hon a dywys yn vnion i golledigaeth, os efe ni newidia ei helynt. Oblegid diammeu ydyw, am bwy bynnag nid edrycho am y gwasanaeth y danfonwyd ef i'w wneuthur, na chaiff efe byth mor tâl a'r gwobr sydd wedi ei addo am y gwasanaeth hwnnw.
6. Ac o herwydd bod y rhan fwyaf o'r byd, nid yn vnig o'r rhai digréd, ond hefyd o'r Christianogion, allan o'i lle yn y pwngc yma, ac heb edrych am y peth y crewyd hwy er ei fwyn, ac y danfonwyd hwy yma oi achos: am hynny y mae Christ a'i dduwiol Sain yn crybwyll mor dost am y nifer [Page 17]bychan sydd mewn cyflwr iechydwriaeth, ie ym myse Christianogion, ac o herwydd hynny, y traethasant amryw ymadroddion y rhai y mae cig a gwaed yn tybied eu bod yn galed, ac mai digon prin y maent yn wir, er bod yn ddir y cyflawnir hwynt, megis hyn, Haws yw i gamel fyned trwy grau'r nodwydd ddur, nac i wr goludog fyned i mewn i deyrnas Dduw, Luc. 13.24. Mat. 19.24. Y rheswn o'r ymadrodd hwnnw, a'i gyffelyb, yw hyn, Na's gall y gwr goludog sydd yn edrych am bentyrru golud, roi ei fryd a'i fedd [...] ar y peth y daeth efe i'r byd o'i blegid, ac am hynny nas dichon byth fyned i deyrnas nef, oddieithr i Dduw wneuthur gwyrthiau, ac felly peri iddo ddiystyru ei olud, a'i arfer yn vnig at wasanaeth Duw. Ac y mae Duw weithiau yn gwneuthur y fath wyrthiau, fel y mae ini esampl anaml ei chyffelyb, yn yr Efengyl, am Zacheus, yr hwn er ei fod yn wr goludog iawn, yn y man pan ddaeth Christ i'w dy ef, ie yn enwedig i'w galon ef trwy flydd, a roes hanner ei dda i'r tlodion, ac os gwnaethai gam â neb drwy drawsder, y mae 'n addo ei dalu adref ar ei bedwerydd. Luc. 19.
7. Ond wrth hyn y gellir gweled gofidus gyflwr llawer mil o Gristianogion yn y byd, y rhai sy cyn belled oddiwrth dreulio eu holl amser a'i llafur yngwasanaeth Duw, ac nad ydynt hwy agos vn amser yn meddwl am dano, ac os ydynt, nid yw hynny ond diofal iawn ac yscafala. O Dduw pa sawl mil o wyr a gwragedd sydd yn y byd yn dwyn enw Christianogion, heb dreulio vn awr o'r pedeir ar hugain yngwasanaeth Duw: pasawl mil sy'n blino eu meddyliau ynghylch negeseuau bydol, a lleied sy'n cymmeryd gofal am wasanaethu Duw? Pa nifer sydd yn cael ac yn cymmeryd ennyd ac amser i fwyta, ac i yfed, ac i gysgu, ac i wneuthur yn llawen, ac i'w trwsio eu hunain ac i'w paentio yngolwg y byd, ac etto heb gael dim [Page 18]amser i'w dreulio ar y peth mwyaf a rheitiaf, sef gwasanaethu Duw? Pa nifer fydd yn treulio 'r dydd o'r pen bwygilydd, ac wythnosau, a misoedd, a blynyddoedd, yn hebocca, ac yn hela, ac mewn difyrrwch arall, heb wneuthur dim cyfrif o wasanaethu Duw? Beth a ddaw o'r bobl hynny? Pa beth a ddywedant hwy ddydd farn? pa escus a gânt hwy?
8. Pettai wâs i farsiandwr, wedi iddo dreulio llawer o flynyddoedd o'r tu hwnt i'r môr, pan ddelei adref yn rhoi cyfrif i'w feistr ddarfod iddo dreulio hyn a hyn o amser yn canu, a hyn a hyn yn dawnsio, a hyn a hyn mewn maswedd, a'r cyffelyb; pwy ni chwarddai am ben ei gyfrif efe? Ond os gofynnei ei feistriddo ym mhellach pa faint o amser a dreuliasai ynghylch ei farsiandiaeth ynteu a'i negesau; ac atteb o'r gwas na threuliasai ddim, ac na feddyliodd efe vnwaith nac am danynt hwy, nac am dano ynteu, pwy ni thybygai fod y cyfryw wâs yn haeddu pob math ar gospedigaeth a chywilydd? Ac yn siccr mwy fydd eu cywilydd a'i gwaradwydd hwy ddydd farn, y rhai a osodwyd yma ar neges cymmaint ac yw gwasanaethu Duw, a hwythau er hynny yn ei esgeuluso, ac yn rhoi cwbl o'i hastudrwydd, a'i poen, a'i meddyliau ar goegbethau ofer y byd hwn: yr hyn sydd cyn belled oddiwrth yr hyn a ddylent hwy ei wneuthur, a phettei wyr a fai wedi eu gosod i redeg gyrfa am gamp o werth anfeidrol, yn troi oddiwrth y nôd, a rhai yn mynd tros y ffordd ar ôl gwybed, neu yscafnblu yn y gwynt; a rhai eraill yn sefyll ar y ffordd ac yn casclu tom yddaiar. A pha fodd, meddwch chwi, yr haeddai y rhai hynny dderbyn cymmaint gwobr ac a amcanesid i roi iddynt?
9. Am hynny, anwyl Gristion, od wyti synhwy [...]ol, ystyria dy gyflwr tra caffech amser, Gal. 6.3, 4. [Page 19]canlyn gyngyr yr Apostol, hola dy weithredoedd, a'th ffyrdd, ac na thwylla ddim honot dy hun. Ti a elli etto gael grâs i wellhau dy fuchedd, am fod goleu dydd y bywyd hwn etto yn parhau: fe ddaw erchyll nôs yr angeu i'th oddiwes di ar fyrr, ac yno ni bydd mwy amser i wellhau. Pa les a wna dy holl boen a'th drafferth a gymmeraist i geisio cyfoeth y byd, i ti yn yr awr honno? a pha ddiddanwch a gei di oddiwrtho, pan ddywetter wrthyt ti fel y dywedodd Christ wrth vn o'th gyffelyb di yn yr Efengyl, pan oedd wedi dyfod i vchder a brigyn ei hapusrwydd, O ynfyd, y nôs hon y dygir dy enaid o ddiarnat, ac yno eiddo pwy fydd y pethau a barottoaistti, ac a gesglaist ynghyd? Luc. 12.20. Cred fi, fy mrawd anwyl, oblegid ni ddywedaf i ti ddim anwir, Mwy o gyssur a diddanwch a gai di yr amser hwnnw oddiwrth vn awr a dreuliaist ti yngwasanaethu Duw, nag oddiwrth ganmhlynedd a dreuliaist yn ceisio goruchafiaeth i ti dy hun ac i'th dŷ yn y byd hwn. A phe gellit ti yr awron wybod oddiwrth y blin gyflwr y bydd dy enaid truan di ynddo 'r amser hwnnw, am esceuluso yr vnpeth hwn a ddylesit ti fwyaf feddwl am dano; ti a hepcorit beth o'th amser cysgu, a pheth o'th amser bwytta, i wneuthur iawn am esgeulusdra 'r amser a aeth heibio. Y rhagor sy rhwng y doeth a'r ynfyd yw hyn, bod y naill yn ymbarottoi yn erbyn drwg cyn ei ddyfod, a'r llall pan fo rhyhwyr.
10 Dyro dy fryd gan hynny, Gristion daionus, tra caffech amser: dyro dy fryd yn ddioed ar fynd ynghylch y gorchwyl mawr i'th anfonwyd ymma o'i blegid; hwnnw yn vnig sydd orchwyl o bwys, a gorchwyl anhepcor; ac nid yw gorchwylion eraill ond gwagbethau coegion ac oferedd, ond hyd y maent yn perthyn i'r gorchwyl hwnnw. Na choelia mo'r byd, yr hwn y mae dy lachawdur Christ yn [Page 20]ei ffieiddio am gyfeiliorni yn y pwngc ymma, ac y mae ei Apostol Ioan yn cyhoeddi ei fod yn elyn i Dduw, Io. 7.7. 1 Joh. 2. Dywed o'r diwedd wrth dy Iachawdr, Yr wyf yn cyfaddef wrthyt ti, ô Arglwydd, yr wyf yn cyfaddef, ac ni's gallaf wadu, nad ymofelais i etto am y peth i'm gwnaethost o'i blegid, ac i'm prynaist o'i achos, ac i'm rhoddaist yma o'i herwydd: yr wyf yn gweled fy amryfusedd, ni allaf gelu fy anfad fai, ac yr wyf yn diolch i ti ddeng mil o weithiau, roi o honot i mi'r gras i weled hynny, tra gallwyf trwy nerth dy râs di ei wellhau; yr hyn trwy dy sanctaidd râs sydd yn fy mryd ei wneuthur, a newidio fy muchedd allan o law; ac yr wyf yn attolwg ar dy dduwiol fawredd, megis y rhoddaist i mi hyn o oleuni a deall i weled fy mherygl, ac y-cynnhyrfaist fy nghalon i roi fy mryd ar wellhau; felly cadw a chynnal dy gymmorth bendigedig tu ag attaf, fel y gallwyf gyflawni yr hyn yr wyf yn ei amcanu, i'th anrhydedd di ac iechdwyriaeth fy enaid, Amen.
PEN. IV. Am y diwedd a'r achos y gwnaed dyn o'i blegid, yn naillduol: ac am ddau beth a ofynnir yn enwedig ar law dyn yn y fuchedd hon.
GWedi darfod crybwyll yn y bennod o'r blaen ain y diwedd y gwnaed dyn o'i blegid yn gyffredinol, a dangos mai i wasanaethu Duw y gwnaed ef; cymmhesur oedd bellach (am fod y peth [Page 21]o bwys a defnydd mawr) ddangos yn neillduol ac yn hyspysach, ym mha beth y mae gwasanaeth Duw yn sefyll, fel y gallo pob Christion farnu o honaw ei hun pa vn a wna ai bod yn gwneuthur y gwasanaeth hwnnw, ai nad ydyw: ac felly gweled ydyw fo 'n gwneuthur y pethau y danfonwyd ef i'r byd o'i plegid, ai nad ydyw.
2. Yn gynta peth gan hynny rhaid yw deall fod yr holl wasanaeth y mae Duw 'n ei ofyn ar law Christion o ddyn yn y fuchedd hon, yn sefyll mewn dau beth, y naill yw Gochelyd y drwg, a'r llall yw Gwneuthur y da. Ac er bod y ddeubeth hyn yn ddyledus arnom ni cyn dyfod Christ i'r byd, (fel y mae Dafydd yn dangos wrth roi gorchymmyn cyffredinol, Cilia oddiwrth ddrwg, a gwna dda: a'r prophwyd Esai, Peidiwch â gwneuthur drwg, a dysgwch wneuthur da) Psal. 34. [...]4. Esa. 1.16, 17. etto y mae mwy o achos a rheswm i'w gofyn hwynt ar ddwylo Christianogion, am eu bod hwy trwy angeu a dioddefaint eu hiachawdur, yn cael grâs a gallu i fod yn abl mewn rhyw fesur i wneuthur y ddeubeth hynny, y rhai nid oedd y Gyfraith yn rhoi grâs i'w gwneuthur, er ei bod yn gorchymmyn eu gwneuthur.
3. Ond nyni, y rhai a brynodd Crist, ac a gawsom ganddo ef nid yn vnig adnewyddu'r gorchymmyn hwnnw am wneuthur y ddeubeth hyn, ond hefyd nerth a gallu trwy ei râs ef i'w gwneuthur: yr ydym Ni yn rhwymediccach trwy ddyled a rheswm, iw gwneuthur nâ'r rhai o'r blaen, oblegid hynny oedd ffrwyth bendigedig dioddefaint Christ, fel y dywaid S. Petr, Fel gwedi ein marw i bechod, y byddem byw i gyfiawnder: 1 Pet. 2.24. Neu fel y mae S. Paul yn eglurach yn ei ddangos fel hyn, Ymddangosodd grâs Duw, yr hwn sydd yn dwyn iechydwraieth i bob dyn, gan ein dys [...]u ni i wadu annuwioldeb a chwantau [Page 22]bydol, ac i fyw 'n sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awrhon, Tit. 2.11, 12.
4. Y ddeubeth hynny a glywsochwi ydyw gwasanaeth Duw, y danfonwyd ni i'r byd hwn o'i blegid, sef i wrthwynebu pechod, ac i ddilyn gweithredoedd da. O achos y cyntaf o'r ddau i 'n gelwir ni yn filwyr, ac y gelwir ein bywyd ni yn filwriaeth ar y ddaiar. 2 Cor. 10.4. 2 Tim. 2.3. Oblegid fel y mae milwyr bob amser yn cynllwyn i wrthwynebu eu gelynion, felly y dylem ninnau i wrthwynebu pechod a'i brofedigaethau. O achos yr ail i'n gelwir ni yn llafurwyr, ac yn oruchwilwyr, a'r cyffelyb: oblegid fel y mae y rhai hyn yn edrych yn ddyfal ar ei helw a'r hynnill, a chynnyrch ei golud yn y byd hwn, felly y dylem ninnau edrych am wneuthur gweithredoedd da, er gogoniant i Duw, a bûdd i eraill ymma yn y fuchedd hon. 1 Tim. 6.18.
5. Felly dymma 'r ddau bwngc bennaf a ddylei Gristion fyfyrio arnynt, a'r ddau orchwyl bennaf y dylai weithio ynddynt beunydd, a'r ddau droed y mae iddo gerdded a hwynt yngwasanaeth Duw, a'r ddwy asgell y mae iddo ehedeg i fynu â hwynt tu ac at fuchedd Gristianogol. A phwy bynnag sy ag vn o'r rhai'n yn niffyg gantho, er bod y llall ganddo, ni all efe ymddyrchafael at wir dduwioldeb, mwy nag y gall aderyn hedeg ni bo ganddo ond vn asgell. Ni thal dim i ddyn fod heb wneuthur drwg, oni bydd iddo hefyd wneuthur daioni, ac ni thal dim iddo wneuthur daioni, oni bydd iddo fod heb wneuthur drygioni hefyd. Y diweddaf o'r ddau hyn sydd eglur wrth bobl Israel, y rhai yr oedd eu haberthau a'i hoffrymmau, a'i gweddiau, a'i gweithredoedd da eraill, yn fynych yn ffiaidd ger bron Duw, er ei fod ef ei hun yn eu canmol ac yn eu gorchymmyn; am fod y rhai oedd yn eu gwneuthur hwy yn byw mewn pechod ac anwiredd, fel y mae 'r prophwyd [Page 23] Esay yn ei ddangos yn helaeth, Esa. 1. Y cyntaf a ddangosir yn amlwg ddigon wrth ddammeg y morwynion angall, y rhai er eu bod yn lân oddiwrth bechod, er hynny am na wiliasant, hwy a gaewyd allan. Ac ar ddydd y farn ddiweddaf y dywed Christ wrth y rhai colledig, Am na ddilladasoch fi, am na roesoch i mi fwyd, am na wnaethoch y gweithredoedd eraill o gariad perffaith, oedd ddyledus arnoch yn eich galwedigaeth; am hynny, ewch oddiwrthyf rai melldigedig i'r tan tragywyddol yr hwn a barotowyd i ddiafol ac i'w angylion. Matth. 25.41. Wrth hynny y mae pob vn o'r ddau yn anghenrhaid i gristion wrtho i wasanaethu Duw: ac mor anghenrhaid ac na wna lles y naill heb y llall. Ac am y cyntaf o'r ddau, yr hwn yw gwrthwynebu pechod, fe a orchymynnir i ni ei wrthwynebu hyd angeu, ie hyd golli ein gwaed, os bydd rhaid hynny, Heb. 12.4. Eph. 6.11. ac mewn amryw leoedd o'r yscrythur lân y mae yspryd Duw yn ewyllysio ini ymbarottoi ac ymdacclu i wrthwynebu 'r cythrael yn wrol, yr hwn sydd yn ein temptio ni i bechu, Iac. 4.7. 1 Pet. 5.9. ac ni a ddylem ei wrthwynebu mor gwbl ac mor berffaith ac nad ymroddom o'n bodd a thrwy wybod, i wneuthur vn pechod, nac ar air, nac ar weithred, nac ar feddwl calon: yn gymmaint a bod pwy bynnag a gydsynio yn ddirgel yn ei galon ar wneuthur pechod pe cai amser, a chyfle, a gallu i'w wneuthur, trwy farn yr yscrythur lân yn euog o bechod, yn gystal a phettai eisus wedi gwneuthur y weithred. Mat. 5.28. A thu ac at am yr ail, yr hwn yw gwneuthur gweithredoedd da, y mae Duw yn ein hannog i'w gwneuthur yn aml, yn ddyfal, yn llawen, ac yn ddibaid; canys fel hyn y dyweid yr Scrythur, Beth bynnag a ymaelo dy law ynddo i'w wneuthur, gw [...]a a'th hell egni. Preg 9.10. A thrachefn, Rhodiwch [Page 24]yn addas i'r Arglwydd, i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, Col. 1.10. A thrachefn y dywaid S. Paul, Tra fom yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, Gal. 6.10. A thrachefn yn yr vn lle, Na ddiogwn yn gwneuthur daioni, canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn. Ac mewn man arall y mae 'n ewyllysio i ni fod yn siccr, ac yn ddiymmod, ac yn helaethion yngwaith yr Arglwydd yn oestadol, a ni yn gwybod nad yw ofer ein llafur yn yr Arglwydd. 1 Cor. 15.58.
6. Wrth hyn y gellir gweled, frodyr anwyl, mor berffaith o greadur ydyw Christion da, hynny ydyw, fel y mae S. Paul yn dywedyd am dano, mai Gwaith Duw ydyw, wedi ei greu yn Ghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ddarparodd Duw iddo rodio ynddynt, Eph. 2.10. Wrth hyn, meddaf, y gwelir mor berffaith o fuchedd yw buchedd Christion: yr hon yw gwrthwynebu pob pechod yn ddibaid, mewn meddwl, gair, a gweithred; a gwneuthur a chyflawni pob gweithred dda, ar a fo possibl iddo feddwl am dani. O Dduw, ond buchedd angylion yw 'r cyfryw fuchedd, ie mwy na buchedd angylion, oblegid nad oes i'r angylion, gan eu bod eisus mewn gogoniant, na themptasiwn pechod i'w wrthwynebu, na gweithred dda ar a allont eu gwneuthur (fel y dwedom felly) er mwyn chwanegu ar eu gogoniant.
7. Pe bucheddai Gristianogion yn ôl eu dylêd bonno, sef gwneuthur o honynt gwbl ac a allent o ddaioni, ac na chydsynient vn amser â drygioni, pa raid fyddei agos wrth vn gyfraith fyd? ond llywodraeth wych fyddei Gristianogaeth? Pwy ni bydd ryfedd gantho esamplau llawer o'n hên dadau duwiol ni, yn y rhai y dywedir bod cymmaint o ddisymlrwydd a diniweidrwydd, cymmaint o wirionedd, ac o gydwybod, ac o eluseni, ac o burdeb, ac o rinwedd, [Page 25]ac o grefydd a defosiwn da? A'r achos oedd am eu bob vn o honynt (fel y rhoddai Duw'r grâs iddo) roddi ei fryd yn astud ar y ddau bwngc hynny o ddyled Christion, ac ar wneuthur eu goreu ar eu cyflawni. A ninnau, am nad ydym yn edrych am y pethau hyn, ydym wedi myned mor ddrwg-fucheddol, a chymmaint ein hanwiredd ac a fu 'r cenhedl-ddynion a'r rhai digred erioed. Ac etto yr vn Duw ydyw Duw yn wastad, ac ni dderbyn efe ond yr vn cyfrif ar ein dwylo ni, ac a dderbyniodd ar law ein hên dadau ni, am gyflawni 'r ddwy ran hyn o'n dyled tu ac atto ef. Pa beth wrth hynny a ddaw o honom ni y rhai nid ydym yn byw yn yr yn o'r ddwyran yn gyffelyb iddynt hwy? Ac os ystyriwn y pethau hyn ym mhellach bob vn ar ei ben, pwy yn y dyddiau hyn, o'r Christianogion cyffredin sydd yn cymmeryd poen yn y byd yn y rhan gyntaf, sef yn gwrthwynebu trachwantau pechod; diammeu fod llawer o ddirgel wasanaethwyr Duw yn gwneuthur hynny, ond o'r rhai sy'n dwyn enw Christianogion ac sydd amlaf yn ymdrin yn y byd, pwy o honynt hwy, meddaf, sydd yn ei wneuthur? Y trachwant yma, a'r tuedd naturiol sydd ynom i bechu, yr hwn sy wedi ei adael ynom megis gweddillion o'n clwyf naturiol yn gospedigaeth am bechod ein cyntad Addaf, Aug. li. 2. cont, Iulian. & lib. 1. de pec. mor. c. ult. Io. Cassian. lib. 5. cap. 12. & deinceps. hwnnw, meddaf, sydd wedi ei adael ynom ni ar ôl ein bedyddio, ad agonem, hynny ydyw i ymdrech ag ef ac i'w wrthwynebu. Ond ôch Dduw, leied o Gristianogion sydd fel y dylent yn gwrthwynebu drwg-feddyliau yr trachwant hwnnw: Pwy sydd vn amser vn holi ei gydwybod o'i blegid? Pwy nid yw synychaf yn cyttuno yn ei feddwl a'i galon, â phob meddylfryd a fo dim difyrrwch na digrifwch bydol yn ei ganlyn, fel y mae [Page 26]cybydd-dod, llid, dial, balchder, serch i anrhydedd, ac yn bennaf o gwbl, anlladrwydd ac eraill o fryntion bechodau 'r cnawd; a hynny er eu bod yn gwybod wrth a ddywedodd ein Iachawdur Christ ei hun, fod cyttundeb a chydsyniad y meddwl a'r galon, (o ran sylwedd pechod) gymmaint a phe gwneid y weithred, ac yn gwneuthur yr enaid yn euog o golledigaeth dragywyddol. Mat. 5.28.
8. Peth rhyfedd ei ystyried ydyw, a pheth a allal beri i ddyn synnu wrth feddwl am dano, faint y gofal, a'r ofn, a'r diwydrwydd, a'r boen, a gymmerai yr hên wyr duwiol gynt yn gwrthwynebu pechod; a lleied a gymmerwn ninnau yr awrhon. Iob gyfiawn, er nad oedd iddo ond llai o achos i ofni nag sydd i ni, a ddyweid am dano ei hun;Fally y mae 'r lladin yn ei gyfiaithu. Ofnais fy holl weithredoedd, (o Arglwydd) am fy mod yn gwybod nad arbedi di mo'r rhai a becho yn dy erbyn, Job 9.28. Ond y brenhin duwiol gan Ddafydd, yr hwn a brofasei eisus, drymmed oedd law Dduw am gyttuno yn y galon â phechod, y mae efe yn dangos ei fod yn fwy ei ofal a'i ofn, pan yw yn dywedyd, Yr ydwyf yn myfyrio 'r nôs, yr ydwyf yn ymddiddan â'm calon, fy yspryd sydd yn chwilio yn ddyfal, neu fal y mae rhai yn ei gyfieithu, mi a ysgubais, ac a lanweithiais fy yspryd o'm mewn, Psal. 77.6. Pa ddyfal chwilio a holi ar galon, a meddwl, a chydwybod, oedd hyn gan frenhin? Ac nid oedd hyn i gyd ond i geisio gochel a gwrthwynebu pechod. Ac felly y gwnai S. Paul, yr hwn a holai ei gydwybod mor ddichlyn, ac a wrthwynebai bod temptasiwn mor ddyfal ac mor ddiwyd, ac y gallai ddywedyd am dano ei hun, nad oedd ef yn gwybod ei fod yn euog o ddim yn ei weinidogaeth. 1 Cor. 4.4. er ei fod yn cyfaddef mewn man arall ei fod ef trwy ordinhâd Duw yn eael gan [Page 27]y cythrael demptasiwnau garwflin chwerwdost yn y cnawd, 2 Cor. 12.9. Etto trwy râs Christ efe a'i gwrthwynebodd ac a'i gorchfygodd i gyd oll. Ac fel y gallai gyflawni hynny yn well, y mae yn gyffelyb ei fod ef yn cymmeryd help a chymorth iawn ymprydio, a thaer weddio, a dyfal wilio, a thost gospi ei gorph a'i wastadol a'i lafurus fowrboen yn ei alwedigaeth, am yr hyn y mae yn crybwyll yn ei epistolau. 2 Cor. 6. & 11. 1 Cor. 9.27. Ac felly y byddai gwyr Duwiol eraill, wrth ei esampl ynteu, yn arfer o gymmeryd y cyffelyb help a chymorth, fel y bai haws iddynt wrthwynebu temptasiwnau pechod pan fyddai raid. Ac o'r cyfryw y gallwn ymma adrodd llawer o esamplau allan o'r hen Dadau: y rhai a allai beri iddyn ryfeddu a dychrynu ac osni (o bai nac ofn na dychryn yn ei galon ef) wrth weled y ddygn boen a'r dirfawr ddyfalwch a gymmerai yr hên Gristianogion hynny gynt, i wilied ar bob dichell o'r eiddo 'r cythraul, er lleied fai, ac i wrthwynebu pob temptasiwn a drwg feddwl i bechu, er lleied fyddaint: a ninnau heb feddwl vnwaith am y cyfryw beth, na gwneuthur cyfrif yn y byd nac o ddrwg feddwl, nac o gyttundeb calon i bechu, nac o air, nac o weithred: ond ymroi yn rhwydd i bob peth ac y mae ein trachwantau ein hunain yn ein harwein iddo; a llyngcu pob bach ac y mae 'r cythrael yn ei osod i ni, ac yssu yn dra chwannog bob abwyd gwenwynig ac a gynnygio ein gelyn i ni er mwyn destrywio ein heneidiau, os ni a'i clywn yn felys ac yn beraidd. A hynny am wrthwynebu pechod.
9. Bellach am yr ail pwngc, ynghylch ymarfer beunydd o weithredoed da, y m [...]e 'n amlwg ein bod ni i gyd gan mwyaf yn ddiffygiol yn y pungc hwn. Mi a ddangosais o'r blaen f [...]l y mae 'r Scrythur lan yn gorchymmyn i ni wneuthur gweithredoedd da, yn wastadol, ac yn ddyfal t [...]a caffom amser, a lliw [Page 28]dydd i'w gwneuthur hwy: oblegid, fel y dyweid Christ, Y mae 'r nos yn dyfod, pryd na allo neb weithio, Io. 9.4. Mi a allwn ddangos hefyd fel yr oedd llawer o Sainct Duw a'n hên dadau ninnau, yn ddyfal iawn ac yn ofalus yn eu dyddiau am wneuthur gweithredoedd da, fel y mae 'r llafurwr yn ofalus am fwrw ei hâd yn y ddaiar tra fo'r hin yn dêg, ac fal y mae 'r marsiandwr yn gofalu am wario ei arian tra fo'r farchnad yn dda, Gal. 6. Phil. 2. Hwy a wyddent yn dda na pharhaei 'r amser yn hir oedd iddynt hwy i weithio ynddo; ac am hynny yr oeddynt yn cymmeryd poen tra caent amser; ni orphywysent hwy vn amser ond myned rhagddynt o'r naill weithred dda i'r llall, gan wybod yn dda beth yr oeddynt yn ei wneuthur, ac mor gymmeradwy gan Dduw oedd y gwasanaeth hwnnw.
10. Pettai heb ddim arall i brofi eu rhyfeddol ofal a'i diwydrwydd hwy yn hyn o beth; etto y mae 'rOblegid er bod llawer o'r cyfryw bethau wedi eu gwneuthur mewn coelfuchedd, etto yr oeddynt weith [...]u yn arwyddion digon eglur o'i gofal hwy iwneuthur daioni yn ol eu gwyboda [...]th. coffadwriaethau a adawsant hwy ar eu hol o'i helusenau yn dystiolaeth ddigon amlwg o hynny; sef yr aneirif o eglwysi a adeiladwyd, ac a gynnysgaeddwyd â helaeth fawr gyfoeth i gynnal ei gweinidogion; cynnifer o ysgolion o ddysg; cynnifer o bynt, o briffyrdd, ac o ddaioni arall o'r cyffelyb. Y gweithredoedd elusengar hynny (heb law miloedd eraill o rai neillduol a chyffredin, dirgel ac amlwg) a ddaeth allan o byrsau ein hên dadau duwiol ni, y rhai yn fynych a roesant nid o'i helaethrwydd yn vnig, ond a arbedent hefyd allan o'i geneuau a'i boliau ei hunain beth i'w wario ar weithredoedd da, er gogoniant i Dduw, a llês i eraill: A ninnau cyn belled oddiwrth roi dim o'n hangenrheidiau, ac na allwn hepcor dim o'n [Page 29]gweddill a'n gormodedd tu ac at y cyfryw weithredoedd; haws gennym ni o lawer ddwyn yr hyn a roes eraill, a'i wario ar ein gweilch a'n cŵn, a'n hanifeiliaid eraill, neu ar bethau a fo gwaeth; nag ar dorri newyn ac eisiau ein cydfrodyr tlodion.
11. Och Dduw, frodyr anwyl, mor ddiofal, ac mor ddiddarbod, ac mor ddifatter am ein iechydwriaeth a'n damnedigaeth, yr ydym ni wedi myned. Y mae S. Paul yn llefain amom am weithio allan ein hiechydwriaeth ein hunain drwy ofn a dychryn, Phil. 2.12. ac er hynny nid oes neb yn gwneuthur cyfrif yn y byd o hynny. Y mae S. Petr yn ein rhybuddio ni yn ddwys ac yn ddifrif, i fod yn ofalus am wneuthur ein galwedigaeth, a'n hetholedigaeth yn siccr trwy weithredoedd da: ac etto pwy agos sy'n meddwl am danynt, 2 Pet. 1.5.6, 7. &c. Y mae Christ ei hun hefyd megis yn rhoi diasbad yn y geriau hyn, Yr wyf yn dywedyd i chwi, gwnewch i chwi (yn y byd hwn) gyfeillion o'r golud anghyfiawn, fal pan fo eisieu arnoch i'ch derbyniont i'r tragywyddol bebyll: ac er hyn i gyd nid ydym ni yn cyffroi gronyn: mor fusgrell ac mor feirwon ydym i bob daioni. Luc. 16.9.
12. Pettei Dduw yn ein hannog ni i wneuthur gweithredoedd da er mwyn llês iddo ei hun, neu er mwyn elw yn y byd a allai ddyfod iddo ef odd [...] wrth ein gwaith ni yn gwneuthur daioni; etto ni a ddylem wrth bob rheswm wneuthur cymmaint a hynny o gymmwynas iddo, gan nad oes gennym ni ddim ar sy gennym ond a gawsom o'r blaen ar ei law haelionus ef. Ond gan nad yw efe yn gofyn hynny ar ein dwylo ni am fod yn rhaid iddo ef wrthynt, ond er llês a thwrn da i ni ein hunain, ac er mwyn cael talu i ni am danynt hwy gydag elw; y mae yn fwy o lawer yr achos i ni i wrando arno. Pettei wr honest o'r byd yn erfyn arnom wneuthur rhyw beth, ac ar [Page 30]ei honestrwydd yn addaw ein bodloni ni yn helaeth am ei wneuthur, ni wnaem ni lai nâ'i goelio ef yn hawdd: ond er bod Duw yn yr Scrythur lân yn gwneuthur i ni aneirif o addewidion ar dalu i ni yn helaeth am wneuthur daioni, (sef y cawn ni fwytta gydag ef, ac yfed gydag ef, a theyrnasu gydag ef, a meddiannu nef gydag ef, Luc. 22.29. Rom. 8. Datc. 22.14.) etto nid yw hynny i gyd abl i gynnhyrfu gronyn arnom ni i wneuthur gweithredoedd da. Ond am fod y pethau hyn yn cynnhyrfu ein hên dadau ni i ddaioni, megis rhai yr oedd eu calonnau o fettel feddalach nag y mae yr eiddom ni; am hynny yr oeddynt hwy yn dwyn ffrwyth cyn helaethed ac y dangosais i chwi.
13. Or cwbl ac a ddywedais y gall Christion duwiol gasglu 'r pethau hyn, yn gyntaf mor druan ac mor ofidus yw cyflwr y byd yn y dyddiau hyn, gan fod cynnifer o'r rhifedi bychan sy'n dwyn enw Christianogion, yn debyg i fyned i golledigaeth, eisiau cyflawni'r ddau brif-bwngc yma o'i galwedigaeth. Yn ail y gall weled yr achos a bair fod mor anfeidrol y rhagor sydd rhwng gwobr y da a'r drwg yn y fuchedd a ddaw, yr hyn sydd ryfedd gan lawer: ond mewn gwirionedd y mae y rhagor hwnnw ar wobr or fath gyfiawnaf ac o'r fath resymmolaf, gan fod cymmaint o ragor rhwng buchedd y da a'r drwg tra sônt yn y byd hwn. Oblegid y mae 'r da nid yn vnig yn gwneuthur ei oreu ar ochel pechu, ond hefyd wrth ochel pechu yn cynnyddu bob awr beunydd mewn ffafor gydâ Duw: ac y mae 'r diofal a'r drwg wrth ymroi o gyttundeb ei galon i'w drachwant ei hun, nid yn vnig yn colli ffafor Duw, ond hefyd yn chwanegu pechod at bechod heb rifedi. Y mae 'r gwr da heb law ei fod yn gochel pechu, yn gwneuthur hefyd aneirif o weithredoedd dâ, o'r hyn lleiaf mewn ewyllys calon, lle ni bo gallu i'w gyflawni [Page 31]ar weithred. Ond yr annuwiol, nid ydynt hwy nac ar ewyllys nac ar weithred yn gwneuthur dim daioni, ond yn hyttrach ceisio yn lle hynny wneuthur drygioni. Y mae 'r gwr duwiol da, yn rhoi cwbl o'i fryd, a'i feddwl, a'i galon, a'i eiriau, a'i weithredoedd, ar wasanaethu Duw, a'i weision er ei fwyn ynteu. Ond yr annuwiol sydd yn rhoi cwbl o'i fryd, a'i egni, a'i allu ar wasanaethu gorwagedd ac oferedd y byd a'r cnawd, Fel, megis ac y mae 'r duwiol yn cynnyddu beunydd yngwasanaeth Duw, am yr hyn y mae Duw yn rhoi iddo ynteu gynnydd grâs yn y byd yma, a gogoniant yn y nef: felly y mae 'r annuwiol ynteu o amser i amser, ar feddwl, neu air, neu weithred, neu ar bob vn, yn pentyrru pechod a damnedigaeth ar ei wartha ei hun; am yr hyn y mae dialedd yn ddyledus, a chynnydd poenau yn vffern. Felly y mae pob vn yn wrthwÿneb eu helynt iw gilydd, yn treulio eu hoes tros vgain neu ddêg ar hugain neu ddeugain o flynyddoedd, ac felly o'r diwedd yn marw. Ac onid yw resymol, gan fod cymmaint o ragor rhwng helynt buchedd pob vn o'r ddau, fod cymmaint rhagor hefyd, neu fwy, rhwng tâl a gwobr pob vn o'r ddau? Yn enwedig gan fod Duw yn Dduw mawr, ac yn arfer o dalu gwobr mawr am bethau bychain, naill ai o gogoniant tragywyddol, a'i o boenau tragywyddol. Yn drydydd ac yn ddiweddaf y gall y Christion dyfal gofalus gasglu o'r hyn a ddywetpwyd, faint yw'r achos iddo i wneuthur cyngor S. Paul, hynny yw, bod i bob dyn brofi a holi ei waith ei hun; ac felly bod yn abl i farnu am dano ei hun, ym mha gyflwr y mae yn sefyll, Gal. 6.4, ac os wrth ei holi ei hun y caiff weled nad yw ar yr iawn, yna bod iddo ddiolch i Dduw am wneuthur iddo cymmaint o gymmwynas a datcuddio iddo ei berygl, tra fo iddo amser a chyfle i wellhau ei fuchedd. [Page 32]Diammau fod llawer yn myned i golledigaeth beunydd trwy gyfiawnder Duw yn eu hanfad anwybodaeth eu hun, y rhai pe buasent heb gael ond hyn o ffafor, sef cael gweled y pwll cyn iddynt fyrthio ynddo, fe allei y gallesynt ei ochel. Arfer ditheu (fy anwyl frawd) drugaredd Duw er llês i ti dy hun, ac nid i chwanegu ar dy ddamnedigaeth. Os ti a ganfyddi, wrth dy holi dy hun fel hyn, na buost ti fyw hyd yn hyn mewn buchedd wir Gristianogawl, dod gwbl o'th fryd ar ddechreu bellach, ac na fwrw ymaith mo'th enaid gwerthfawr, yr hwn a brynodd Christ mor ddrûd; ac y mae efe yn barod iawn i'w gadw, ac i'w gynnysgaeddu â grâs ac â gogoniant tragywyddol, pe dydi a'i rhoit ar ei law ef, a bod yn fodlon i vniawni dy fuchedd wrth ei sancteiddiaf, a'i esmwyth, a'i felys ber orchymmynion ef.
PEN. V. Y tost gyfrif a fydd rhaid i ni ei wneuthur i Dduw am y pethau a ddywetpwyd vchod.
YM mhlith cynneddfau eraill ar wâs synhwyrol dymma 'r hon a ddylid ei gadael yn bennaf, sef bod iddo ystyried pa gyfrif a ofynnir gantho am bob peth a osodwyd tan ei law ef; ac yn nesaf, pa fath wr yw ei feistr ef, ai esmwyth ai tôst, ai mwyn ai garw, ai difraw ai manwl yn ei gyfrif; hefyd pa vn a wna ei feistr ai bod yn abl iw gospi ef wrth [Page 33]ei ewyllys, os efe a'i caiffyn feius, ai na bo; ac yn ddiweddaf pa fodd y gwnaeth ei feistr ag eraill yn y cyfryw bethau: Oblegid, os bydd efe gwâs synhwyrol, efe a wŷl fel y gwnaeth ei feistr o'r blaen, ac wrth hynny fe fydd ynteu fwy ei ddyfalwch yn y pethau a roddwyd tan ei law ef.
2. Y cyfryw ddoethineb a ddymunwn ei bod gan Gristion, yn y pethau a ddywerpwyd o'r blaen, sef ynghylch y diwedd a'r achos y danfonodd Duw ni ymma o'i blegid, a'r ddau bwngc arbennig, a glywsoch fod arnom ni fod yn ofalus am eu cadw yn y byd hwn; hynny yw, bod yn rhaid i ni ystyried pa gyfrif a ofynnir ar ein dwylo ni am y pyngciau hynny, pa fodd y gofynnir, pwy a'i gofyn, dosted y gofynnir, a pha berygl a fydd arnom os ceir ni yn esgeulus ac yn ddiffygiol yn ein cyfrif.
3. Ond fel y gallom ddeall hynny yn well, rhaid i ni edrych yn gyntaf, wrth ba drefn, ac â pha ceremoniau ac amgylchion y gorchymmynnodd Duw i ni 'r pethau hyn, ac y gwnaeth ac y cyhoeddodd efe 'r Gyfraith hon, i ddangos pa fodd y mae i ni ymddwyn tu ag atto ef, a'i wasanaethu. Oblegid er rhoi o honaw ef yr vn gorchymmyn i Addaf wrth ei wneuthur ef, a'i blannu wedi hynny wrth naturiaeth ynghalon pob dyn, cyn iddo ei scrifennu, (fel y tystia S. Paul, Rom. 2.15.) etto er mwyn ei ddangos yn eglurach, ac er mwyn ein hargyoeddi ninnau o bechod yn helaethach, (fel y dengis yr vn Apostol) efe a gyhoeddodd yr vn gyfraith yn yscrifennedig ar lechau ym mynydd Sinai, a hynny mor llawn o ddychryn ac arwyddion eraill o'i fawrhydi (fel y dyweid yr vn Apostol at yr Hebraeaid. Heb. 12.21.) ac y gallai beri i'r rhai a'i torro synnu arnynt yn fawr. Darllenned y neb a fynno, yr amyn vnfed bennod vgain o Exodus, ac yno y caiff weled pa ymbarottoi a fu cyn cyhoeddi 'r gyfraith. Yn gyntaf fe alwodd Duw [Page 34]Foesen i fynu i'r mynydd, ac yno y mae yn cyfrif llawer o gymwynasau a wnaethai efe i feibion Israel, ac yn addaw iddynt lawer ychwaneg, os hwy a gadwent y Gyfraith a roddai efe iddynt; Moesen a aeth yn ei ôl at y bobl, ac a ddûg ei hatteb hwy at Dduw y cadwent hwy 'r Gyfraith. Yna y parodd Duw i'r bobl ymsancteiddio erbyn y trydydd dydd a golchi eu dillad, ac na byddai i neb ymgystlwn â'i wraig, ac a barodd orchymmyn iddynt, na byddai i neb o honynt, tan boen marwolaeth, ryfygu dyfod i fynu i'r mynydd ond Moesen ei hun, a pha beth bynnag a feiddiai gyffwrdd a'r mynydd, bod ei labyddio i farwolaeth. Pan ddaeth y trydydd dydd, yr oedd yr angylion (fel y mae S. Stephan yn deallt) yn barod i gyhoeddi'r Gyfraith. Acts 7. Yr ytcyrn a seinient yn vchel yn yr awyr: taranau mawr a dorrodd allan o'r wybren, ynghyd â mellt creulon, a chymmylau erchyll, a niwl dudew, a mwg ofnadwy yn codi o r mynydd. Ac ynghanol hyn oll o fawrhydi, a dychryn ofnadwy, Duw ei hun a lefarodd, lle y clywai pawb, Myfi yw'r Arglwydd dy Dduw, a'th ddug di allan o dir yr Aipht; Myfi yn vnig a wasanaethi: ac fel y mae 'n canlyn; lle y dangosir yn berffaith ac yn gwbl beth yw ein dylèd ni yn y byd hwn, a hynny a alwn ni yn gyffredin DEG GORCHYMMIN DVW.
4. A'r holl ddychryn a r mawrhydi hwnnw, y mae 'r Apostol ei hun, fel y dywedais, yn ei ddeall fel hyn, sef y dylem ninnau fod arnom ofn ac arswyd mawr rhac torri 'r Gyfraith hon, a roes Duw i ni drwy gymmaint o ofn a dychryn: ac wrth hynny hefyd yr arwyddocceid y gofynnir cyfrif tost dychryn-llawn ddydd farn am dorri 'r Gyfraith hon, gan ddarfod ei chyhoeddi ar y cyntaf drwy gymmaint o ddychryndod ac ofn. Canys felly y gwelwn ni bob amser, am gyfreithiau tywysogion bydol, [Page 35]fod yn fwy 'r ofn a'r dychryn wrth gospi rhai am eu torri, nag wrth en cyhoeddi. A hyn a all fod yn rheswm cadarngryf i beri i Gristion edrych am wneuthur a ddylai
5. Yn ail, os ystyriwn mor dóst yr arferai Duw o gospi rhai a dorrei ei Gyfraith ef, yn gystal cyn ei scrifennu a chwedi ei scrifenu, ni a gawn weled fod i ni ddigon o achos i ofni: megis y gospedigaeth ryfeddol a roed ar Addaf, ac ar gynnifer myrddiwn o'i heppil, am ei vn pechod ef; darfod boddi 'r holl fyd ar vnwaith; darfod llosgi Sodoma a Gomorrah a thân a brwmstan o'r nef; ddarfod gwrthod Saul; a rhoi dygn gospedigaeth a'r Ddafydd, a'r cyffelyb, 1 Sam. 28. 2 Sam. 12. Y cospedigaethau hyn a roes Duw cyn drymmed, am bechodau llai o bwys, a llai o rifedi nâ 'n pechodau ni, a hynny ar y rhai yr oedd iddo mwy o achos i'w harbed nag sydd iddo in harbed ni; y rheini meddaf, a all fod yn rhybydd i ni, i ddangos beth sydd i ni i'w ddisgwyl ar law Ddvw am dorri'r Gyfraith ymma a roes efe i ddysgu ini ei wasanaethu ef yn y byd yma.
6. Yn drydydd, os ystyriwn ymadroddion ac ymddygiad ein Harglwydd a'n meistr Christ yn y peth hyn, ni a gawn etto weled mwy o achlysur i ni i ammeu 'n cyflwr ein hunain; yr hwn er ei ddyfod i'r byd i'n prynu ni, ac i faddeu i bawb, yn llawn llarieidd-dra, ac addfwynder, a gostyngeiddrwydd, a gwarder, a thrugaredd; etto yn y pwngc yma o gymmeryd cyfrif, nid yw efe arfer o ddangos ei fod ond yn dost ac yn galed iawn, a hynny nid vnig ar ciriau, ac yn ei ymddiddanion cyfeillgar rhyngtho a'i ddiscyblon, ond hefyd trwy esamplau, a dammhegion, i'r perwyl hynny. Canys felly mewn vn ddammeg y mae efe yn damnio y gwas truan hwnnw i vffern (lle bydd wylofain a rhincian dannedd, lle ni bydd marw 'r pryf ac ni ddiffydd y tan) [Page 36]am na buasai yn chwanegu 'r dalent a roesid atto, Mat. 25. Ac yno y mae Crist yn cyfaddef am dano ei hun, ei fod ef yn wr tôst caled, yn medi lle nis hauodd, ac yn casglu lle nis gwascarodd, ac yn disgwyl elw ar ein dwylo ni am y dalent a roes efe ini ym menthyg, ac heb gymmeryd yr eiddo ei hun heb elw: ac wrth wneuthur hynny y mae efe megis yn bygwth y bydd efe tostach o lawer wrth y rhai a gamdreulio eu talentau, fel y mae y rhan fwyaf o honom ni yn gwneuthur. Hefyd, y mae efe yn damnio 'r gwas a gafodd efe 'n cysgu: y mae efe 'n damnio 'r dyn truan a gymmhellwyd i ddyfod i'r neithior, heb ddim achos ond am na bai ganddo wisg priodas am dano: y mae yn damnio 'r pum morwyn angall, am nad oedd ganddynt olew yn eu lampau, ac am nad oeddynt barod, yn vnion ar yr awr, i fyned i mewn gydag ef, ac ni fyddei wiw gantho eu hadnabod pan ddeathant wedi hynny: ac yn ddiweddaf, y mae efe yn addo damnio pawb a wnel anwiredd, fel y tystia S. Matthew, 13.41, 42. Mat. 25. Mat. 22.
7. Hefyd, pan ofynnodd rhyw bennaeth iddo, pa fodd y gallai fod yn gadwedig, ni roddai efe iddo ddim gwell gobaith, er ei fod yn dywysog (ac ynteu yn ceisio iechydwriaeth wrth ei weithredoedd) ond hyn yn ynig, Os mynni fyned i mewn i'r bywyd, cadw 'r gorchymmynion. Luc. 18. Ac wrth ymddiddan a i ddisgyblon amser arall ynghylch yr vn peth, nid yw efe yn rhoi iddynt hwy amgen rheol nâ hyn, O cerwch fi cedwch fyngorchymmynion, Joan. 14.15. Megis pe dywedai, er cwpled yr ydych yn ddiscyblon i mi, ac er cued gennif chwi, etto os chwi a dorrwch fy ngorchymmynion, ni bydd mwy na chariad na chymdeithas rhyngom. Acy mae S. Ioan, yr hwn a wyddei ei feddwl ef oren yn y peth hyn, yn esponi ei eiriau ef i'r deall hwnnw, lle y mae 'n [Page 37]dywedyd, Pwy bynnag sydd yn dywedyd, Mi a adwaen Dduw, at ynten heb gadw ei orchymmynion ef, celwyddog ydyw, a'r gwirionedd nid yw ynddo, 1 Jo. 2.4. Ac ym mhellach etto, er mwyn tynnu pob gobaith oddiwrth ei ddiscyblon, y gellynt ryngu ei fodd ef mewn ffordd yn y byd ond trwy gadw ei orchymmynion, y mae efe yn dywedyd mewn man arall, na ddaeth efe i dorri 'r Gyfraith ond i'w chyflawni, ac yn y man ar hynny y mae yn dywedyd, Pwy bynnag gan hynny a dorro on o'r gorchymmynion lleiaf hyn, efe a elwir yn lleiaf yn nheyrnas nefoedd. Mat. 5.17.19. Ac o'r achos hwnnw y mae efe wrth ymadael a'r byd, yn y geiriau diweddaf a ddywedodd efe wrth ei Apostolion yn dywedyd, Am iddynt ddyscu i ddynion gadw pob peth a'r a orchymmynnasai efe iddynt, Mat. 28.26.
8. Ac wrth hyn y gellir gweled mor dôst oedd feddwl Crist am y cyfrif a fydd rhaid ei wneuthur ynghylch cadw ei orchymmynion ef yn y byd hwn. Yr hyn hefyd a ellir ei gasclu wrth yr hyn a ddywedodd efe pan ofynnid iddo ai ychydig o nifer fyddei y rhai cadwedig, lle y mae efe yn eu cynghori hwynt i ymdrech am fyned i mewn trwy 'r porth cyfyng: o herwydd y ceuir allan lawer, ie o'r rhai a fwyttasent ac a yfasent gydag ef, ac a gawsent fwynhau presennoldeb a chwmpeini ei gorph bendigedig ef, ac heb fatter ganddynt am fym yn ôl ei orchymmynion ef, Luc. 13.23, 24, 27. Ac wrth hynny y mae efe yn arwyddoccau na wna efe gyfrif yn y byd o gymdeithas a chydnabod yn y dydd diweddaf; ac am hynny y mae efe yn dywedyd wrth y dŷn a wnaethai efe yn iach ar lan y llynn yn Ierusalem, Wele ti a wnaethbwyd yn iach, na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth, Ioan. 5.14. Ac y mae yn ein rhybuddio ni 'n gyffredinol yn Efengyl S. Matthew, ar i ni gyttuno a'n gwrthnebwr ar frys [Page 38]tra fom ar y ffordd gyd ag ef, hynny yw, gwneuthur ein cyfrif yn y fuchedd hon; os amgen, ni a gawn dalu 'r ffyrling eithaf yn y fuchedd a ddaw. Mat. 5.25, 26. Ac yn dostach y dywaid mewn man arall y bydd rhaid i ni roddi cyfrif ddydd farn am bob gair segur a ddywedom, Mat. 12.36.
9. Ac am y dydd farn hwnnw y mae efe yn ein rhybuddio ni ym mlaen llaw, ac yn dywedyd i ni, mewn llawer o leoedd yn yr Scrythur lân, dosted a pheryccled fydd, fel y gallem ymbarottoi tu ag atto; ac felly vniawni ein bucheddau tra caffom amser yn y byd hwn, fel y gallom ddyfod ger bron yn y dydd hwnnw, heb nac ofn na pherygl, ie yn hyttrach, yn llawn cyssur, a diddanwch, a llawenydd: pan ddêl cymmaint o filoedd o bobl annuwiol yno ger bron, i'w gwaradwydd a'i gwarth tragywyddol.
10. Ac o herwydd nad oes dim mor gymmwys i ddangos dosted a fydd Crist wrth gymmeryd cyfrif y dydd diweddaf, ac ydyw trefn a dull y farn ddiweddaf, yr hyn a ddangosir yn ddyfal yn yr yscrythur lan; fe fydd perthynol iawn i ni ystyried hynny. Ac yn gyntaf peth y mae 'n rhaid i ni ddeall fod dwy farn wedi eu hordeinio i ni yn ôl marwolaeth: y naill a elwir yn farn neillduol, wrth yr hon y mae pob dyn ar ei ben ei hun yn y man ar ôl ymadael â'r byd, yn cael barn o'r neilldu, naill ai i boenau, ai i ogoniant, yn ól ci weithredoedd yn y fuchedd hon, fel y dywaid Christ ei hun. Ac o hynny y mae i ni esampl yn Lazarus a'r glwth goludog, y rhai a gymmerwyd ymmaith yn y man ar ôl eu marw, y naill i boenau, a'r llall i orphywysdra, fel y tystia S. Luc. 16. A chyndynrwydd mawr fyddei ammeu hyn, fel y dywaid S. Awstin. Y farn arall a elwir yn farn gyffredinol, am y bydd honno i bob dyn yn niwedd y byd, pan gyhoedder y farn [Page 39]ddiweddaf ar bob dyn a fu erioed fyw yn y byd, naill ai i dderbyn gwobr, ai i gael cospedigaeth, yn ôl y gweithredoedd a wnaethant yn y bywyd hwn, pa vn bynnag ai da, ai drwg, ac na bydd byth mwy sôn am gyfnewid eu cyflwr hwynt, nac am esmwythau ar-boenau 'r naill, nac am ddibennu gogoniant y llaill. Mat. 25.
11. Ac ynghylch y gyntaf o'r ddwy farn hyn, er bod yr hên dadau (yn enwedig S. Awstin) yn casglu ac yn ystyried y bydd ynddi amryw bethau tôst ac ofnadwy iawn, megis yn gyntaf mynediad ein henaid ni allan o'r corph ger bron gorseddfaingc Duw, a hynny tan gad wraeth angylion da a drwg; yn ail, yr ofn a fydd ar yr enaid rhag pob vn o'r ddeufath angylion hynny; yna, mor ddieithr ddisymmwth fydd gan yr enaid y lle y bydd ynddo; wedi hynny, mor ofnadwy fydd presennoldeb Duw, a'r holi tôst a fydd arno, a'r cyffelyb: etto, o herwydd bod yn rhaid ystyried y rhan fwyaf o'r pethau hyn yn yr ail farn gyffredinol hefyd; mi af heibio i'r rhai hynny yr awron, ac a ddangosaf amryw resymmau o'r eiddo 'r tadau duwiol pa ham y mae Duw wedi ordeinio bod ail barn gyffredinol, ac ynteu wedi darfod iddo yn y farn gyntaf, roi i bawb o'r neilldu yn ôl ei haeddedigaeth. Y rheswm cyntaf yw, fel y byddai gorph dyn yn ôl ei gyfodi o'r bêdd, yn gyfrannog o gospedigaeth neu o ogoniant ynghyd â'r enaid, fel y bu gyfrannog gydag ef o rinwedd neu o gamwedd yn y fuchedd hon. Yr ail yw, fel megis ac yr ammharchwyd ac y gwarthruddiwyd Christ ar gyhoedd ymma yn y byd hwn, felly y gallai yn helaethach o lawer ddangos ei fawredd a'i allu yn y dydd diweddaf yngwydd ei holl greaduriaid, ac yn enwedig yngwydd ei elynion. Y trydydd yw, fel y gallai 'r duwiol a'r annuwiol dderbyn eu tal a'i gwobr ar gyhoadd, er mwyn cael [Page 40]o'r naill ychwaneg o warth, a gofid a thorr-calon, ar llaill ychwaneg o lawenydd a gorfoledd, er eu bod fynychaf yn cael yn y byd hwn eu gorthrechu gan yr annuwiol. Y pedwerydd yw, Nad ydyw y rhai annuwiol wrth farw yn dwyn gyda hwynt mo'i holl haeddedigaeth a'i drygioni, am eu bod yn gadael yn eu hôl naill a'i eu hesampl ddrwg, ai eu plant ai eu cyfneseifiaid a ddarfu iddynt hwy eu llygru, ai eu llyfrau neu ryw bethau eraill a all mewn amser lygru eraill. Ac oblegid na wnaed y pethau hynny etto, ond eu bod heb wneuthur hyd ar ôl eu marwolaeth hwy, ni allant hwy mor gymmhesur gael eu barnu am y pethau hynny yn y man; ond fel y digwyddo 'r drwg y rhoesant hwy gynt esampl i'w wneuthur, felly y chwanegir ar eu poenau hwythau. A'r vn peth a ellir ei ddywedyd am y rhai duwiol, yn gymmaint a bod S. Paul (os mynnwch gael esampl) yn cael chwanegu beunydd ar ei ogoniant, ac felly y caiff hyd ddiwedd y byd, o blegid fod rhai beunydd yn cynnyddu mewn daioni oddiwrth ei scrifennadau a'i esampl ef; ac am yr vn achos y chwanegir ar boenau y rhai annuwiol. Ond yn y dydd diweddaf y bydd diben ar ein holl weithredoedd ni, ac yna y cair gweled yn amlwg pa beth sydd i bob dyn i'w gael, wrth gyfiawnder a thrugaredd Duw.
12. A thuag at am yr ail farn gyffredinol i'r holl fyd, yn yr hon y Dwg Duw, fel y dyweid yr Scrythur Ian, bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa vn bynnag fyddo ai da ai drwg, Prog. 12.14. Rhuf. 2.16, & 14.10. 2 Cor. 5.10. y mae amryw bethau i'w hystyried yn ei chylch, ac amryw wyr dysgedig yn rhoi y rhei'ny ar lawr mewn amryw foddion; ond yn fy nhŷb i ni ellir eu dangos yn well, nac yn oleuach, nac yn ddwysach, nag y mae 'r Scrythur lân yn eu dangos, yr hon sydd yn [Page 41]yspyssu i ni holl ddull a threfn y farn honno a'i gogylcheddau, a'r ymbarottoi a fydd o'i blaen, a hynny mewn geiriau llawn o arwyddoccâd, yn y modd y canlyn.
13. Yn y dydd hwnnw y bydd arwyddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r sêr, Luc. 21.25 yr haul a dywyllir, a'r lleuad ni rydd ei goleuni, a'r sêr a syrth o'r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir; y nefoedd a ânt heibio gyd â thwrwf, a'r defnyddiau gan wir wrês a doddant, a'r ddaiar a'r gwaith a fyddo ynddi a losgir, Mar. 13.24. 2 Pet. 3.10. a'r ddaiar a gryn o'i lle, ac a fydd megis ewig wedi ei tharfu, ac fel dafad heb neb a'i coleddo, Esa. 13.13, 14. bydd ing ar genhedloedd gan gyfyng-gyngor, a'r môr a'r tonnau yn rhuo, a dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaiar, Luc. 21. Yna'r ymddengys arwydd mab y dyn yn y nef, ac yna y galara holl lwythau'r ddaiar, a hwy a welant fab y dyn yn dyfod ar gymmalau 'r nef, gydâ nerth a gogoniant mawr, Mat. 24.30. Ac yna mewn moment ar darawiad llygad, efe a ddenfyn ei angylion a mawr sain vdcorn, a gwaedd a gawr ar hanner nôs, a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd, o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd en heithafoedd hwynt, 1 Cor. 15.52. Mat. 25.6. A rhaid i bawb ymddangos ger bron brawdle Christ fel y derhynio pob vn y pethau a wnaethpwyd yn y corph, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg, 2 Cor. 5.10. ac efe a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau 'r calonnau, a'r pethau a ddywedpwyd yn y glûst mewn stafelloedd is bregethir ar bennau tai: ac fe fydd rhaid rhoi cyfrif am bob gair segur a ddywedo dynion, 1 Cor. 4.5. Luc. 12.3. Mat. 12.36. ac efe a farn ein cyfiawnderau ni. Yna y saif y cyfiawn mewn hyder mawr o flaen ei orthrymwyr, a'r rhai a ddiystyrasant ei lafur ef, Psal. 75.3. A'r annuwiol [Page 42]pan welont hyn, a fyddant mewn dychryn ac ofn mawr, ac a ddechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd a'r creigian, Syrthiwch arnom, ac with y bryniau cuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfaingc, ac oddiwrth lid yr Oen: canys daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a ddichon sefyll? Dat. 6.16. Yna y didola Christ y defaid oddiwrth y geifr, ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, a'r geifr ar yr asswy, ac a ddyweid wrth y rhai a fo ar ei ddeheulaw, Deuwch chwi fendigedigion fy nhad, meddiennwch y deyrnas a barottowyd i chwì er seiliad y byd: canys bum newynog, a chwi a roesoch i mi fwyd; bu arnaf syched, a rhoesoch i mi ddiod; bum ddieithr, a dygasoch fi gydâ chwi; bum noeth, a dilladasoch si; bum glâf, ac ymwelsoch â mi: bum yngharchar, a daethoch attaf. Yna 'r ettyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Pa bryd i'th welsom yn newynog, ac ith borthasom; neu yn sychedig ac y rhoesom i ti ddiod? a pha bryd i'th welsom yn ddieithr, ac i'th ddygason gydâ ni; neu yn noeth, ac i'th ddilladasom? A pha bryd i'th welsom yn glaf, neu yngharchar, ac y daethom attat? A'r brenhin a ettyb ac a ddywed wrthynt, yn wir meddaf i chwi, yn gymmaint a'i wneuthur o honoch i vn o'r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. Yna y dyweid efe wrth y rhai a fyddant ar y llaw asswy, Ewch oddiwrthyf rai melldigedig i'r tân tragywyddol, yr hwn a barottowyd i ddiafol, ac i'w angylion: canys bum newynog, ac ni roesoch i mi fwyd; bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod; bum ddieithr, ac ni 'm dygasoch gyda chwi; bum noeth, ac ni 'm dilladasoch; yn glaf ac yngharchar, ac nid ymwelsoch â mi. Yna yr attebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd i'th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, [Page 43]neu yngharcar, ac ni weinasom i ti? Yna 'r ettyb efe iddynt, gan ddywedyd, yn wir meddaf i chwi, yn gymmaint ac na's gwnaethoch i r vn o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau. A'r rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragwyddol, a'r rhai cyfiawn i fywyd tragywyddol. Mat. 25.
14. Dywedwch i mi bellach ond ofnadwy yw 'r darpar yma tu ag at ddyd i farn? gwelweh faint yw 'r achosion i ofni ac i ddychrynu? Fe ddaw dydd farn, mêdd yr yscrythur, pan fo dynion, ond odid, yn cysgu; fe ddaw gyd a sŵn erchyll, gan lais vdcyrn, a thrwst dyfroedd, a chynnwrf y pedwar defnydd. Pa fath noswaith fydd honno, dybygi di, pan weler y ddaiar yn crynu, y mynyddoedd a'r dyffrynnoedd yn symmud allan o'i lle, yr haul wedi tywyllu, y fleuad wedi colli ei llewyrch, y sêr yn syrthio i lawr o'r wybren, a'r holl ffurfafen yn hollti 'n ddrylliau, a'r holl fyd yn llosgi yn dân poeth.
15, Ai possibl i dafod yn y byd allu hyspyssu dim yn eglurach nag y mae Christ a'r Apostolion a'r prophwydi yn hyspyssu y peth hyn? Pa ddyn bydol ni chryn ei galon yn ei gorph gan y dychryn anfeidrol drol hwn? Ai rhyfedd yw clywed dywedyd bod y rhai cyfiawn, a'r angylion hefyd yn ofni 'r pethau hyn? Ac yno, fel y dywaid S. Petr, Os prin y bydd cadwedig y cyfiawn, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur? 1 Pet. 4.18. Och mor ofnadwy fydd y diwrnod hwnnw i'r Christion difraw, diofal, yr hwn a dreuliodd ei amser yn y byd yma mewn llawenydd a difvrrwch, pan welo mor anfeidrol fydd yr ofn a'r dychryn, a maint fydd y trueni a'r aflwydd a fydd yn barod i ruthro arno!
16. Ond heb law 'r holl bethau creulon tôst hyn a fydd o flaen y farn; fe fydd llawer o bethau eraill mor erchyll eu hystyried a hwytheu; megis gweled [Page 44]yr holl feddau yn egori pan ganer yr vdcorn, ac yn rhoi i fynu eu holl gyrph meirwon a dderbyniasant er dechreuad y byd; gweled holl wyr a gwragedd y byd, brenhinoedd a brenhinesau, tywysogion a gwyr mawr, yn sefyll yno yn noethion yngŵydd holl greaduriaid Duw; gweled amlygu eu holl bechodau hwy, a datguddio eu hanwireddau cuddiedig, y rhai a wnaethant hwy o fewn eu stafelloedd dirgel yn eu llysoedd; a'i cymmhell a'i gyrru hwythau i roi cyfrif am fil o bethau a fuasai ddiystr ganddynt eu rhybuddio o'i plegid yn y byd hwn, sef pa fodd y treuliasant eu hamser, pa fodd y gwariasant eu golud, pa fodd yr ymddygasant tu ac at eu brodyr, pa fodd y darfu iddynt farwolaethu a gorchfygu eu gwyniau cnawdol, pa fodd y darfu iddynt lywodraethu eu hewyllysion, pa fodd yr vfyddhasant i weithrediad yr Yspryd glan yn eu calonnau, ac yn ddiwethaf, pa fodd yr arferasant holl ddoniau Duw yn y byd hwn.
17. O, frawd anwyl, nyd yw bossibl gallu dangos mor werthfawr o dryssor fydd cydwybod dda yn y dydd hwnnw: hi a fydd gwell na deng mil o'r byd hwn; oblegid ni thyccia golud yr amser hwnnw; ni lygrir y barnwr ag arian, ni thyccia gwaith neb o'n caredigion yn eiriol trosom ni y dwthwn hwnnw, na gwaith angylion ychwaith, y rhai y bydd eu gogoniant yr amser hwnnw, fel y dywed y prophwyd, i rwymo brenhinoedd a chadwynau, a phendefigion a gefynnau heiyrn; i wneuthur arnynt y farn scrifennedig: yr adderchawgrwydd hyn fydd iw holl sainct ef, Psal. 149.8. Och, beth a wna 'r holl bobl ddoethio [...] hynny yr amser hwnnw, y rhai fydd yr awrhon yn treulio eu hamser mewn llawenydd a ddifyrrwch, ac ni chlywant arnynt gymmeryd dim poen yn gwasanaethu Duw? pa ymadferth a wnant hwy yn y cyfyngder hynny? tu a phle [Page 45]yr ymdroant? gan bwy y ceisiant help? Hwy a gant weled pob peth yn eu cylch yn galw am ddialedd arnynt hwy, a phob peth yn rhoi achos iddynt i ofni ac i ddychrynu; ac na bydd dim a roddo iddynt ronyn gobaith neu gyssur. Vwch eu pennau y bydd eu barnwr yn ddigllon am eu hanwiredd hwy; is eu llaw y bydd vffern yn agored, a'r pair berwedig yn barod i'w derbyn hwy; ar y tu dehau y bydd eu pechodau yn eu cyhuddo hwynt; ar y tu asswy y bydd y cythreuliaid yn barod i wneuthur tragwyddol farn Duw arnynt hwy; o'i tu mewn y bydd eu cydwybod yn eu cnoi; ger llaw iddynt y bydd yr holl eneidiau colledig yn ochain ac yn cwynfan; o'i hamgylch y bydd yr holl fyd yn llosgi. O Arglwydd Dduw, pa beth a wna 'r pechadur truan pan fo 'r holl ofidiau hyn yn ei amgylchu? pa fodd y gall ei galon ef ddioddef y cyfyngderau hyn? pa ffordd a gyrch efe? myned yn ôl nid possibl iddo, a myned ym mlaen nid ydyw abl iw ddioddef. Pa beth ynteu a wna efe ond (fel y dywedodd Christ, Luc. 21.26.) edwi a digalonni, a llewygu gan ofn, a cheisio marw ac heb gael, chwennychu marw, a marwolaeth yn cilio oddiwrtho, a gwaeddi ar y mynyddoedd am syrthio arno, ac ar y bryniau am ci guddio, a hwythau yn naccau gwneuthur iddo cymmaint a hynny o gymmwynas, Datc. 9.6. Dat. 6.16. ac fo a gaiff sefyll yno fel dyn truan, digarad, diobaith, hyd oni chaffo glywed y farn ofnadwy ni throir byth yn ei hol, Ewch chwi rai melldigedig i'r tan tragywyddol.
18. A phan ddarffo rhoi 'r farn, ystyriwch mor ofidus fydd y waedd a'r floedd a fŷdd yu y man ar ol hynny, gan y rhai da yn llawenychu ac yn canu mawl a gogoniant i'w hachubwr, a chan y rhai drwg yn cwynfan, ac vn cablu, ac yn melldigo dydd eu genedigaeth. Ystyriwch dosted y bydd y [Page 46]drwg ysprydion vffernol yn ymedliw a'r eneidiau truain colledig a fo wedi eu rhoi weithian yn ysclyfaeth dragwyddol iddynt hwy: mor chwerw fydd eu gwawd a'i gwatwor hwy am ben yr eneidiau truain hynny wrth eu dwyn i'r poenau tragywyddol. Ystyriwch y didoli a fydd yr amser hwnnw ar dadau a mammau oddiwrth eu plant, ar gyfeillion a charedigion, oddiwrth ei gilydd, a hynny yn dragywyddol, heb obaith byth cael gweled y naill y llall: a pheth arall a fydd cymmaint gofid a'r mwyaf (os gwir a ddyweid rhai, y cawn ni adnabod ei gilydd cyn belled a hynny) ni bydd i'r mab a fo 'n mynd i'r nef dosturio wrth ei dâd neu ei fam a fo yn myned i vffern, ond yn hyttrach bod yn llawen ganddynt hynny am ei fod yn troi 'n ogoniant i Dduw wrth wneuthur cyfiawnder. Pa fath ddidoli fydd hyn, meddaf? pa fath ganu yn iâch? pwy ni thorrei ei galon y dydd hwnnw wrth ymadael ac ymddidoli felly, pe gallei galon dorri yr amser hwnnw, ac felly cael diwedd ar ei gofid a'i phoenau? Ond ni all hynny fod. Ple yna y bydd ein holl blesser a'n difyrrwch ni? I ba le 'r aeth ein holl ddigrifwch a'n diddanwch ni? a'n gwychder yn ein dillad, ein disgleirio mewn aur, y parch a gawsom trwy gael gistwng a bod yn bennoeth i ni, ein holl fwydydd dainteth, ein holl fusig a'n melysgerdd, ein holl drythyllwch an ysmalhawch, ein cyfeillon a'n cymdeithion digrif diddan a fyddei arfer o chwerthin ac o ddifyrru 'r amser gydâ ni? I ba le 'r aethant hwy? O frawd anwyl, mor chwerw fydd holl blesser a difyrrwch y byd yr amser hwnnw? Mor ofidus fydd gennym feddwl am danynt? Mor ofer y cawn ni weled bod ein parch a'n golud a'n cyfoeth gynt? Ac yn y gwrthwyneb, mor llawen fydd y dyn hwnnw, a fu ofalus am fyw yn dda ac yn rhinweddol yn y byd hwn, er maint y boen a gafodd yn gwneuthur hynny, a'r [Page 47]dirmyg yn y byd. Dedwydd o greadur fydd efe ei eni, ac ni ddichon vn tafod ond Duw ddangos faint ei ddedwyddwch ef.
19. Ac i ddibennu 'r cwbl oll, nid rhaid i ni ond y diben a wnaeth Christ, ystyriwn hawsed i ni yr awr hon ag ychydig boen, ochel perygl y dydd hwnnw, a darfod i'n barnwr trugarog a'n hiachawdr ddangos y perygl hwnnw i ni ym mlaenllaw, fel y gallem fod yn ofalus am geisio ei ochel. Oblegid fel hyn y dibenna efe yn ol ei holl fygythion, Ymogelwch, gwiliwch, a gweddiwch; canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. A'r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwiliwch. Mar. 13.33. Ac mewn man arall, wedi darfod iddo gyfrif yr holl bethau o'r blaen, rhag i neb a mmeu nas deuent i ben, y mae 'n dywedyd, Nef a daiar ant heibio, ond fy ngeiriau i nid ant heibio ddim. Ac yno y mae 'n rhoi 'r cynghor hwn, Edrychwch chwithau arnoch eich hunain rhag gorchfygu eich calonnau a'i trymhau trwy lothineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth. Canys efe a ddaw fel magl ar wartha pawb oll ac sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaiar. Byddwch chwithau wiliadwrus, a gweddiwch bob amser, ar gael eich cyfri 'n deilwng i ddiangc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll ger bron Mab y dyn. Luc. 21. [...]3. Ond cariadus y cynghôr hwn gan Grist? A allai ein tad ein hun roi i ni gynghor carediccach? Pwy a ddymunai rybudd teccach a mwynach, a dwysach? Ai possibl i neb wedi hynny allu dywedyd, Nis gwyddwn i? Yr vn cyffelyb rybudd y mae S. Petr yn ei roi ar yr vn achos, 2 Pet. 3.10. lle mae yn dywedyd, Dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos, yn yr hwn yr â 'r nefoedd heibio gyda thwrwf, a'r defnyddiau gan wir wrês a doddant, a'r ddaiar. a'r [Page 48]gwaith a fyddo ynddi a loscir. A chan fod yn rhaid i'r pethau hyn i gyd ymollwng, pa fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, yn disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw. Y brysio yma megis i gyfarfod dydd farn, y mae S. Petr yn crybwyll am dano, nid yw ddim ond yr hiraeth a ddylei fod arnom am ddydd farn; a'r hiraeth hwnnw nis gall fod ar neb o honom nês i ni yn gyntaf ymwrando a'n cyflwr ein hunain, a gwellhau ein buchedd yn ddioed ddi-ohir. Am hynny odiaeth y dyweid y gwr doeth, Eccles. 18.19, 20. Cyn afiechyd cymmer feddyginiaeth; a chyn barn hola di dy hun, ac yn amser gofwy ti a gai drugaredd gan Dduw. Ac a'r geiriau hynny y cytuna geiriau S. Paul, Pe iawn farnem ni ein hunain, ni 'n bernid. 1 Cor. 11.31. Ond am nad yw neb yn ei iawn farnu ei hun a'i fuchedd, hynny sy'n peri bod cyn lleied o bobl yn ymbarottoi erbyn y farn honno, a bod cyn lleied yn wiliadwrus, a chymmaint yn gorwedd mewn trymgwsg, heb wybod dim oddiwrth y perygl y maent ynddo. Yr Arglwydd Dduw a roddo i ni 'r gras i edrych yn well yn ein cylch. Amen.
PEN. VI. Ystyried beth yw naturiaeth pechod, a phechadur; er mwyn dangos nad yw Duw yn anghyfiawn, er ei fod cyn dosted ac y dywetpwyd yn y bennod o'r blaen.
RHag bod i neb le i achwyn fod yn rhy dost y cyfrif a ofyn Duw ar ein dwylo ni yn y dydd diweddaf, a bod yn rhydost y farn a ddangoswyd yn y bennod o'r blaen: da fyddai yn y bennod yma ystyried yr achos pa ham y mae Duw cyn dosted yn erbyn pechod, ac yn erbyn pechaduriaid, fel y gellir gweled wrth a ddywetwyd o'r blaen, ac wrth gwbl o'r Scrythur lan, lle y mae efe agos ym mhob man yn datcan ei ddygn gas, a'i lid, a'i ddigofaint yn erbyn pob vn o'r ddau; megis lle y dywedir am dano ei fod yn casau holl weithredwyr anwiredd, a bod yn gas ganddo 'r annuwiol a'i annuwioldeb, Psal. 5.5. Dihar. 15.8. A bod holl fuchedd pechaduriaid, a'i meddyliau a'i gweithredoedd, a phob daioni ar a wnelont hwy, yn ffiaidd yn ei olwg ef, tra fònt hwy yn byw mewn pechod: a pheth sy fwy, nas gall efe ddioddef i bechadur ei glodfori na chymmeryd ei dystiolaethau ef yn ei enau, fel y tystia 'r Yspryd glan, Psal. 50.16. Ac am hynny nid dim rhyfedd iddo fod cyn dosted wrtho ddydd y farn, ac ynteu yn ei gasau ac yn ei ffieiddio yn gymmaint yn y bywyd yma.
2. Fe ellid dangos llawer o resymmau am y peth hyn, megis torri gorchymmynion Duw, anniolchgarwch pechadur tuac atto am ei ddoniau, a'r cyffelyb; y rhai a allai ddangos yn ddigon goleu gyfiawned [Page 50]yw ei ddigofaint ef tu ac at bechadur. Ond y mae vn rheswm vwch law'r cwbl yn egori gwreiddyn y peth; a hynny ydyw yr anfad lwyrgam a wneir â Duw ym mhob pechod a wnelom ni o'n gwirfodd a thrwy wybod, yr hyn fydd gymmaint cam, a dirmyg, ac ammharch, ac na ddioddefai vn gwr mawr y cyfryw ar law ei ddeiliaid: a llai o lawer y bydd i Dduw, yr hwn yw Duw y mawredd, eu dioddef cyn fynyched ac y gwna dynion hwynt iddo.
3. Ac fel y gallom ddeall faint yw 'r cam hwnnw, rhaid i ni wybod, am bob gwaith ac y bôm yn gwneuthur pechod, fod ein calonnau ni a'n deall, er nad ydym yn dal ar hynny, megis yn ymresymmu o'n mewn ni ac megis yu gosod ger em bronau ni, o'r naill du pa fûdd a pha lês a ddaw i nî oddiwrth y pechod yr ydym ar fedr ei wneuthur, a'r llês hwnnw yw 'r plesser a'r difyrrwch yr ydym yn ei gael wrth bechu; ac o'r tu arall pa beth yw digio Duw, hynny ydyw, colli ei gariad a'i ewyllys da ef wrth y pechod hwnnw, os ni a'i gwnawn: ac felly yr ydym ni yn ein meddyliau a'n calonnau megis yn rhoi Duw yn y naill ben i'r clorian; a'r plesser yr ydym ni yn ei gael wrth bechu, yn y pen arall; a ninnau megis yn sefyll yn y canol yn bwrw ac yn ystyried pa vn drymmaf o'r ddeupen, ac o'r diwedd yn dewis ein plesser a'n difyrrwch ac yn gwrthod Duw: hynny ydyw yr ydym ni yn dewis yn hyttrach golli cariad Duw a'i râs a chwbl ac a dal ef, na cholli byrr blesser a dyfyrrwch pechu. Beth all fod fryntach na hyn? Pa fodd byth y gwnaem ni mwy o ddirmyg ar Dduw, na dewis y plesser gwaelfrwnt hwn o flaen ei fawredd ef? Ond gwaeth yw hynny, a mwy cam nag a wnaeth yr Iuddewon wrth ddewis Barabbas y Ileiddiad, a gwrthod Christ ei hachubwr? Ac yn ddiau, er maint oedd pechod [Page 51]yr Iuddewon, etto mewn dau beth y mae 'r pechod ymma megis yn rhagori ar yr eiddynt hwy: y naill yw, nad oedd yr Iuddewon wrth ddewis yn gwybod pwy yr oeddynt yn ei wrthod, fel yr ydym ni; y Ilall yw, na wrthodasant hwy Grist ond vnwaith, a ninnau yn ei wrthod ef yn fynych, ie bob dydd, a phob awr ac ennyd, pan fòm o'n gwir fodd ac o ewyllys ein calonnau yn ymroi i bechu.
4. Ai rhyfedd wrth hynny, fod Duw cyn dosted a chyn llymmed wrth y rhai drygionus, yn y byd a ddaw, a hwythau mor ddirmygus ddiystyr ganthynt ef yn y byd ymma? Yn siccr mae 'n fawr malais pechadur tu ag at Dduw, ac y mae efe nid yn vnig yn ei ammherchi ef wrth ddistyru ei orchymmynion, ac wrth ddewis y creaduriaid gwaelaf a gwaethaf o'r byd o'i flaen ef; ond y mae hefyd yn dwyn cas dirgel yn ei galon tu ac atto, ac yn cynfigennu wrth ei fawredd ef, ac yn chwennych, pes gallei, ei dynnu ef i lawr oddi ar ei orseddfaingc, neu, o'r hyn lleiaf, yn dymuno na bai vn Duw i roi cosp am bechod yn ol y fuchedd hon. Ymwrandawed pob pechadur ag eigion ei gydwybod yn hyn o beth, oni byddei bodlon ganddo gael o'i enaid farw gyda'i gorph, ac na byddai anfarwol; ac na byddei ar ol y fuchedd hon na chyfrif, na barnwr, na chospedigeth, nac vffern, ac felly na byddai vn Duw, fel y gallai efe gymmeryd ei blesser yn ddiofal wrth ei ewyllys ei hun yn y byd ymma?
5. Ac o herwydd bod Duw (ac ynteu yn chwilio 'r calonnau a'r arennau) yn gweled eu meddwl bradwraidd hwy tu ac atto pe rhon a'i fod yn llechu o fewn ymyscaroedd eu calonnau hwy, er llyfned fytho eu geiriau: am hynny y mae efe yn cyhoeddi yn yr Scrythur lan eu bod hwy yn elynion iddo, ac yn cyhoeddi rhyfel a gelyniaeth yn eu herbyn hwy. Ac yno, dybygwch chwi, ym mha gyflwr y mae [Page 52]'r truain ad ddynion hyn, y rhai nid ydynt ond gwael bryfed y ddaiar, pan fo iddynt i ymladd yn erbyn y cyfryw elyn, ac sydd yn peri i'r nefoedd grynu, er na's gwnelo ond edrych arnynt. A rhag i ti dybied na bo hynny gwir, gwrando beth y mae efe yn ei ddywedyd, beth y mae efe yn ei fyg vth, beth y mae efe yn ei dadsain yn eu herbyn hwy. Wedi darfod iddo, trwy enau 'r prophwyd Esai, gyfrif llawer o'i pechodau ffiaidd hwy ger ei fron ef (sef eu bod yn caru rhoddion, ac yn dilyn gwobrau, ac yn gorthrymmu 'r truan a'r tlawd, a'r cyffelyb) y mae ynteu yn ffieiddio y rhai a wna 'r pethau hynny, gan ddywedyd, Fel hyn y dyweid yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, cadarn, Ddaw Israel; Aha, mi a ymgyssuraf ac fy ngwrthwynebwyr, ac a ymddialaf ar fy ngelynion, Es. 1.23.24. A'r prophwyd Dafydd, fel yr oedd efe yn wr mawr ei gariad gyd a Duw, ac yn cael gwybod llawer o'i gyfrinachau ef; felly y mae efe yn aml yn datcan ac yn adrodd dosted yw meddwl Duw a maint yw ei ddigofaint yn erbyn pechaduriaid, ac yn eu galw hwy yn elynion iddo, yn llestri ei ddigofaint ef, a chwedi eu hordeinio i ddistryw a cholledigaeth dragywyddol; ac yno y mae yn cwyno na choelia'r byd mo hynny, gan ddywedyd, Gwr annoeth ni ŵyr, a'r ynfyd ni ddeall hyn, Psal. 92.6. Beth yw hynny? Pa fodd y mae pechaduriaid yn ol iddynt godi i fynu, a gweithredwyr anwiredd wedi yr ymddangosont i'r byd yn myned i golledigaeth dragywyddol? A pha beth yw 'r achos o hynny? Y mae efe yn atteb yn y man ac yn dywedyd, Gwers. 9. Canys wele dy elynion O Arglwydd, vvele, dy elynion a ddifethir, gvvascerir holl vveithredvvyr anvviredd. Wrth hyn y gwelwn fod pob pechadur yn elyn i Dduw, a Duw iddo ynteu; ac y gwelwn pa ham y mae hynny. Ond er mwyn dangos yn eglurach fod barn Duw yn gyfiawn, [Page 53]er ei thosted, ystyriwn beth yw maint a mesur ei ddigllonedd ef yn erbyn pechod, a pheth yw ei chyrraedd, a pheth yw ei therfynau, a ph [...]th a wna ai bod iddi derfynau ai nad oes: fel y mae mewn gwirionedd, yn anfeidrol, hynny ydyw heb na metr na mesur, nac ymyl nac eithaf. Ac i adrodd y peth fel y mae mewn gwirionedd, pettai holl dafodau 'r byd wedi eu gwneuthur yn vn tafod, a holl ddeall yr holl greaduriaid, o ddynion ac o angylion, wedi ei wneuthur yn vn deall; etto ni allai y taiod hwnnw fynegi, na'r deall hwnnw amgyffred faint yw digofaint calon Duw yn erbyn pob pechod ar yr ydym ni yn ei wneuthur trwy wybod. A'r rheswm o hyn sydd yn sefyll mewn dau beth. Yn gyntaf, o herwydd cymmaint ac y mae Duw yn rhagori arnom ni mewn daioni, o gymmaint a hynny y mae efe yn caru daioni ac yn cassau pechod yn fwy nag yr ydyn ni: ac am ei fod ef yn anfeidrol ei ddaioni, am hynny y mae ei gariad ef tu ac at ddaioni, a'i gâs tu ac at bechod, yn anfeidrol hefyd; ac o'r achos hynny y mae 'r tâl sy gantho ynghadw i bob vn o'r ddau, yn anfeidrol ynteu; i'r naill yn y nef, ac i'r llall yn vffern.
6. Yn ail, ni a welwn beunydd, mai po mwyaf a pho ardderchoccaf fyddo 'r gŵr y gwneler bai yn ei erbyn, mwyaf y cyfrifir y bai: obl [...]gid nid yr vn bai yw rhoi dyrnod i wasanaethwr, a rhoi dyrnod o'r vn faint i dywysog; y mae rhagor mawr rhyngddynt, a rhagor rhwng y gospedigaeth y maent yn ei haeddu. Ac am fod pob pechod vr [...]dym ni yn ei wneuthur trwy wybod, yn vnion yn erbyn Duw ei hun, fel y dangoswyd vchod, a bod ei ardderchawgrwydd ef yn anfeid [...]o [...]; am hynny y mae bai ac euogrwydd pob cyfryw bechod yn anfeidrol hefyd, ac am hynny yn haeddu ca [...] anfeidrol, a chospedigaeth anfeidrol ar law [...]duw. Wrth hyn y [Page 54]gellir gweled rheswm am lawer o bethau y mae Duw yn eu dywedyd ac yn eu gwneuthur yn yr Yscrythur lân, ac y mae Athrawon dysgedig yn eu dysgu, ynghylch y gospedigaeth sydd am bechod, y rhai y tybia doethineb y byd eu bod yn ddieithr, ac yn anhygoel iawn. Megis yn gyntaf, y gospedigaeth fawr ofnadwy honno o dragywyddol ddamnedigaeth a roir ar gynnifer mil, a chynnifer myrddiwn o angylion a grewyd i ogoniant, ac ynddynt berffeithrwydd agos i anfeidrol, a hynny am vn pechod yn vnig, yr hwn ni wnaed ond vnwaith, nac mo hynny ond ar feddwl yn vnig, fel y tybia rhai dysgedig. Yn ail, y gospedigaeth dôst a roed ar ein hynafiaid ni Adda ac Efa a'i holl hiliogaeth, am fwytta o ffrwyth y pren gwaharddedig: am yr hwn bechod, heb law 'r gospedigaeth a roed ar y rhai a'i gwnaeth, ac ar holl greaduriaid y byd, a'i holl blant a i heppil ar eu hol, o flaen dyfodiad Christ a chwedi hynny, (oblegid er ein bod ni wedi ein gwared oddiwith fod yn euog o'r pechod hwnnw, etto y mae 'r cospedigaethau bydol a roed am dano, yn aros etto; megis newyn, a syched, ac anwyd, a chlefydau, a marwolaeth, a mil o ofidiau heb law hynny) ac heb law colledigaeth dragywyddol ar aneirif o ddynion: heb law hyn i gyd, meddaf, (ae fe dybygai reswm dŷn fod hyn yn ddigon tôst) ni ellid dyhuddo a bodloni digofaint a chyfiawnder Duw, on [...] byddei i'w fab ef ei hun ddyfod i'r byd, a chymmeryd ein cnawd ni arno, a thrwy ei boenau ei hun wneuthur iawn i Dduw. A chwedi iddo ddyfod i wared, a'i ddarostwng ei hun i gyfiawnder ei Dad yn ein cnawd ni, or bod y cariad oedd gan e [...] Dad iddo yn anfeidrol; etto fel y gallai Dduw ddangos faint a thosted oedd ei gas a'i gyfiawnder yn erbyn pechod, ni pheidiodd efe a rhoi 'r gospedigaeth honno ar ei anwyl fendigedig fab ei hun; hyd [Page 55]yn oed yr amser yr oedd efe yn athrist hyd angeu, ac mewn ymdrech meddwl, a'i chwŷs fel defnynnau gwaed yn discyn ar y ddaiar, ac ynteu yn llefain, O Dâd os yw bossibl, aed y cwppan hwn heibio i mi fel nad yfwyf ef, Luc. 22.44. Mar. 14. Matth. 26.27. A thrachefn yn fwy tosturus o lawer pan oedd ar y groes, Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gwrthodaist? Er hyn i gyd, meddaf, ni waredodd ei Dâd mo hono ef, ond rhoi iddo ddyrnod ar ddyrnod, a chosp ar gôsp, a phoenau ar boenau, hyd oni roes i fynu ei enioes a'i enaid yn llaw ei Dâd: Yr hyn sydd beth rhyfeddol i ddangos i ni faint yw digllonedd Duw yn erbyn pechod.
7. Mi a allwn yma ddwyn ar gôf i chwi bechod Esau yn gwerthu ei etifeddiaeth a'i enedigaeth-fraint am ychydig fwyd: am yr hwn y dyweid yr Apostol, Na chafodd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi, Heb. 12.17. Hefyd pechod Saul, er nad oedd ei bechod ond vn pechod, a hwnnw nid am iddo wneuthur dim oedd waharddedig, ond am iddo adael heb wneuthur yr hyn a orchymmynnasid, am na laddasai efe Agag brenhin Amalec, a phob peth o'r eiddo, fel yr archesid iddo, etto fe a'i bwriodd Duw ef ymaith am hynny, er ei fod o'r blaen yn enneiniog iddo ac yn was detholedig, ac fe a fethodd gantho gael maddeuant am y pechod hwnnw, er i Samuel ac ynteu alaru ac ymofidio yn fawr am y pechod hwnnw, neu o'r hyn lleiaf, am ddarfod i Dduw ei wrthod ef. 1 Sam. 15. & 16.
8. Mi a allwn hefyd ddwyn esampl y brenhin Dafydd, yr hwn er i Dduw fadden iddo ei ddau bechod ar ei edifeirwch, etto er maint oedd galar Dafydd tros ei bechodau, fe a'i ceryddodd Duw ef yn dost iawn, trwy farwolaeth ei fab, a [...]hoi arno ynteu ei hun drallod gwastadol tra fu fyw. A hyn [Page 56]i gyd i ddangos ei gas tu ac at bechod, ac felly in dychrynu ninnau rhac pechu.
9. Ac o hyn y tŷf yr holl ymadroddion caled chwerw sydd yn yr yscrythur lân am bechaduriaid, y rhai am eu dyfod o enau 'r yspryd glan, ac am hynny yn wir ddiammau, a allent roi achos da i'r rhai sy'n byw mewn pechod i ofni, megis lle y dywedir, Y tân a'r mor, a dannedd bwystfilod, ac yscorpionau, a gwiberod, a marwolaeth, a gwaed ac ymryson, a'r cleddyf, a gorthrymder, a newyn, a chystudd, a ffrewyll: y pethau hyn oll a wnaed er dialedd a dinistr ar yr annuwiol, ac er eu mwyn hwy y bu'r diluw, Eccl. 39.29, 20. & 40.9, 10. A thrachefn, Ar yr annuwolion y glawia efe faglau, tân, a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dymma ran eu phiol hwynt: Psal. 11.6. A thrachefn, Adweinir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yngweithredoedd eu dwylo eu hun. Y rhai drygionus a ymchwelant i vffern, a'r holl genhedloedd a anghofiant Dduw, Psal. 9.16, 17. Hwy a fyddant fel y man-us yr hwn a chwâl y gwynt ymmaith. Psal. 1.4. Duw a dery ei elynion ar garr yr ên, ac a dyrr ddannedd yr annuwolion, Psal. 3.7. Efe a ddryllia eu dannedd yn eu geneuau, ac a'i tawdd hwynt fel y dyfroedd rhedegog; a hwy ant ymmaith fel malwoden dawdd, Psal. 58.6. Yr Arglwydd a chwardd am ben yr annuwiol, canys gwel fod ei ddydd ef ar ddyfod: Efe a dyrr freichiau 'r annuwolion, a'i cleddyf a â'n eu calon eu hunain. Gelynion yr Arglwydd fel brasder wyn a ddiflannant; yn fwg y diflannant hwy. Y pechaduriaid a dderffyddant o'r tir, ac ni bydd yr annuwolion mwy, Psal. 37. Hwy a gydgwympant yn eu rhwydau eu hun, Psal. 141.10. A thi a gei weled pan ddifether hwynt. Blinder eu gwefusau a'i gorchuddia: marwor a syrth arnynt, a hwy a fwrir yn tan, ac [Page 57]mewn ceu-ffosydd, fel na chyfodant; a'r drwg a hela 'r traws i ddistryw. Wele, dydd yr Arglwydd a ddaw, yn greulon, a digofaint, a dicter llidiog, i wneuthur y wlad yn ddiffaethwch, as i ddifa ei phechaduriaid allan o honi, Ef. 13.9. A'r cyfiawn a lawenycha pan welo ddial, ac a ylch ei draed yngwaed yr annuwiol. Psal. 58.10. Y rhai hyn, a mil o wersi yn ychwaneg allan o'r Scrythur lan, y rhai yr wyf yn eu gadael heibio, y mae yspryd Duw yn eu hadrodd yn erbyn pechaduriaid, y rhai a allai ddangos i ni pa gyflwr tostur y mae pechaduriaid ynddo, ac mor annhraethawl yw digofaint Duw yn eu herbyn hwy, tra font yn aros mewn pechod.
10. O'r holl bethau hyn y mae 'r Scrythur lan yn casglu vn peth a ddylem ni ei ystyried yn ddwys ac yn ddifrif; nid amgen na hyn, Cywilydd pobloedd yw pechod: A thrachefn, Yr hwn sydd hôff ganddo ddrygioni, sydd yn casau ei enaid ei hun, Dih. 14.34. Psal. 11.5.Felly y mae 'r lladin yn ei gyfeithu. Neu fel y mae 'r Angel Raphael yn ei adrodd mewn geiriau cynnhebyg, Y rhai sydd yn gwneuthur pechod sydd elynion i'w heneidian eu hunain, Tob. 12.10. Am hynny y maent yn gosod ger bron pawb, y gorchymmyn cyffredinol, tost, angenrheidiol hwn, tan boen y gospedigaeth a ddangoswyd o'r blaen, Ffô oddiwrth bechod megis, rhag wyneb sarph, Eccles. 21.2. Ac medd Tobit wrth ei fab, Mogel byth roi dy feddwl ar bechu, nac ar dorri gorchymmynion yr Arglwydd, Tob. 4.5. Oblegid er lleied o gyfrif y mae 'r byd yn ei wneuthur o hyn, gan yr hwn, fel y dyweid yr Scrythur, Y canmolir y pechadur am ewyllys ei galon, ac y bendithir yr annuwiol, Fe [...] hyn y mae 'r lladin. yr hwn y mae 'r Arglwydd yn ei ffieiddio: Psal. 10 3. etto diammau ydyw, gan fod yspryd Duw yn ei adrodd, Yr [Page 58]hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae: ac am hynny efe a gaiff dderbyn ei ran gyda 'r cythreuliaid yn y dydd diweddaf, 1 Joh. 3.8. Joh. 8.44.
11. Ac onid yw hyn ddigon, frawd anwyl, i beri i ni roi 'n câs ar bechod, a bod arnom beth ofn rhag pechu? Onid yw'r pethau hyn i gyd yn ddigon crŷf er dryllio calonnau y rhai sy 'n byw mewn pechod, ac yn ei wneuthur beunydd heb nac ystyried nac ofni gronyn? Pa gyndynrwydd, a pha galedwch calon yw hyn? yn wir ni a welwn ddarfod i'r Yspryd glan brophwydo 'r gwirionedd am danynt hwy, lle y mae 'n dywedyd fel hyn, O'r groth yr ymddîeithrodd yr annuwiol oddiwrth Dduw, o'r bru y cyfeiliornasant, Psal. 58.3. eu Felly y mae yn y Lladin ac eraill lawer. gwyn a'i cynddaredd sydd fel gwyn sarph; ac y maent fel y neidr fyddar, yr hon a gae ei chlustiau, ac ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo 'r swynwr. Y wŷn a'r ynfydrwydd yma yw gwyn a chynddaredd pechaduriaid anhydyn, y rhai sy 'n cau eu clustiau fel seirph, oddiwrth yr holl swynion a'r cyfareddion bendigedig y mae Duw yn eu gwneuthur iddynt i geisio eu troi hwy atto; sef yw hynny, oddiwrth yr holl feddyliau da a'r ysprydoliaeth a ddanfono Duw yn eu calonnau hwy, oddiwrth holl waith eu cydwybodau hwy eu hunain yn gwrthwynebu ac yn ofni pechu; oddiwrth holl fygythiau 'r Scrythur lan; oddiwrth holl rybuddion gwasanaethwyr Duw, ac oddiwrth bob peth arall ac y mae Duw yn ei wneuthur i geisio eu dwyn hwy i fod yn gadwedig.
12. Och Duw, pwy trwy wybod a wnai vn pechoder ynnill mil o'r holl fyd, ped ystyriai yr anfeidrol golledion, a'r niweidion, a'r aflwydd, a'r gofidiau sydd yn dyfod o wneuthur vn pechod? [Page 59] Oblegid yn gyntaf, y mae'r neb sy 'n pechu felly, yn colli 'r grâs Duw a rodded iddo, yr hon yw y rhodd fwyaf ac a all Duw ei rhoi i greadur yn y bywyd hwn; ac wrth hynny y mae 'n colli pob peth ar oedd yn dyfod gyda 'r gras hwnnw; megis rhinweddau a doniau 'r yspryd glan, y rhai oedd yn gwneuthur yr enaid yn hardd yngolwg ei briod, ac yn ei arfogi yn erbyn dygyrch y cythraul, a chynllwynion y gelyn. Yn ail y mae efe 'n colli cariad Duw a'i ewyllys da, ac wrth hynny yn colli ei dadol nawdd, a'i ofal, a'i ymgeledd ef; ac yn ynnill bod yn elyn iddo. A pheth yw maint y golled honno, ni a allwn fwrw wrth gyflwr vn o ŵyr llŷs brenhin bydol, a fai wedi colli ffafr ac ewyllys da ei dywysog, a chwedi myned yn elyn iddo. Yn drydydd, y mae efe 'n colli ei dreftadaeth, a'i glaim, a'i ditl yn nheyrnasnef, (yr hon sydd ddyledus trwy ras, fel y [...]dengys yr Apostol S. Paul, Rhuf. 6.) ac wrth hynny mae 'n ei ddifuddio ei hun o bob braint ac o bob cymmwynas ac sydd yn canlyn hynny yn y bywyd yma; hynny yw, y braint a'r goruchafiaeth sydd o fod yn blentyn i Dduw, a chyfundeb y Sainct, nawdd ac ymddiffyn ac ymgeledd yr Angylion, a'r cyffelyb. Yn bedwerydd, y mae efe 'n colli llonyddwch, a llawenydd, ac esmwythder cydwybod dda; a'r holl ffafor, a'r ewyllys da, a'r diddanwch, a'r cyssur, y mae 'r yspryd glan yn arfer o'i danfon ym meddyliau y rhai cyfiawn. Yn bummed, y mae 'n colli 'r tal oedd yn dyfod iddo am ei holl weithredoedd da a wnaeth efe er pan ei ganwyd, a chwbl ac y mae efe yn eu gwneuthur, a chwbl ac a wnel efe tra fo 'n aros yn y cyflwr hwnnw. Ezec. 18.24. Yn chweched, y mae 'n ei wneuthur ei hun yn euog o boenau tragywyddol, ac yn rhoi ei henw-i mewn yn llyfr colledigaeth, ac wrth hynny yn ymrwymo i bob anghyflwr ac sydd ddyledus i'r rhai colledig, [Page 60]hynny ydyw, cael tan vffern yn dreftadaeth iddo, bod ym meddiant diafol a'i angylion, bod yn gaeth i bob pechod ac i bob temtasiwn i bechu, a bod ei enaid (oedd o'r blaen yn deml i'r yspryd glan, yn drigfa i'r fendigedig drindod, ac yn orphywysfa i'r angylion i ymweled ag ef) o hyn allan yn nyth i scorpionau, yn bwll carchar i'r cythreuliad, a'i fod ynteu yn gyfaill i'r rhai colledig. Yn ddiweddaf, y mae efe yn ymddidoli oddiwrth Grist, ac yn ymwrthod a'r rhan oedd ddo gyda Christ, ac yn ei wneuthur ei hun yn elyn i Christ, trwy ei sathru ef dan ei draed, a'i ail croes-hoelio ef, halogi ei waed ef, (fel y dyweid yr Apostol) wrth bechu yn erbyn yr hwn a fu farw tros bechod, Heb. 10. Hebr. 6. Rhuf. 6. Ac am hynny y mae 'r vn Apostol yn datgan barn ryfeddol yn erbyn y cyfryw, yn y geiriau hyn, Os o'n gwirfodd y pechwn, ar ol derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth tros bechodau wedi ei adael mwyach; ond rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa 'r gwrthwynebwyr, Heb. 10.26. & 6.4. A'r hyn y cyttuna geiriau S. Petr, lle mae 'n dywedyd, Gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nâ chwedi ei hadnabod, troi oddiwrth y gorchymmyn sanctaidd a draddodwyd iddynt. 2 Pet. 2.21.
13. Weithian aed y rhai bydol ac ymddigrisant mewn pechod cymmaint ac y mynnont, escusodant eu pechod ac ymddiffynnant ef twy gellwair a digrifwch, a dywedant, Nid yw balchder ond campau gwr bonheddig; Nid yw glothineb a meddwdod ond rhan cydymmaith da; nid yw drythyllwch ac anlladrwydd ond nwyf ieuengtid; a'r cyffelyb: hwy a gânt weled ryw ddydd na chymmerir mor fath escusodion ganddynt, ac a gânt weled y try 'r fath gellwair a digrifwch a hwnnw yn wylo ac yn ochain: hwy a gânt wybod na fyn Duw mor cellwair [Page 61]ag ef, ac mai 'r vn Duw yw efe byth, ac y gofyn ef gyfrif cyn dosted ganddynt hwy, ac a ofynnodd ef gan eraill o'r blaen; er nad gwiw ganddynt hwy yr awrhon gadw cyfrif yn y byd oi buchedd, ond yn hyttrach troi 'r cwbl yn gellwair ac yn ddigrifwch; a thybied yn eu calonnau pa fodd bynnag y gwnaeth Duw ag eraill o'r blaen, y bydd ef mor dirion a maddeu 'r cwbl iddynt hwy. Ond nid felly y mae 'r Scrythur lân yn ymresymmu, ond mewn modd amgen o lawen; a hynny a fynnwn i bob Christion synhwyrol ei ystyried.
14. S. Paul wrth gyffelybu pechodau 'r Iuddewon a'n pechodau ninnau, sydd yn ymresymmu fel hyn, Onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, 'mogel nad arbedo ditheu chwaith; Ac ar hynny y mae 'n rhoi y rhybudd hwn, Na fydd ditheu vchelfryd, ond ofna, Rhuf. 11.20, 21. Drachefn, fel hyn yr ymresymma 'r Apostol ynghylch yr hen gyfraith a'r newydd, Yr hwn a ddirmygai Gyfraith Moses, a roid i farwolaeth heb drugaredd trwy ddau neu dri o dystion: pa faint mwy cospedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o'r hwn a sathrodd Fab Duw dan draed trwy bechu o'r gwaith goddeu, ac a farnodd yn aftan waed y cyfammod, a'r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd yspryd y gras, Heb. 10.28. Yn yr vn modd yn ymresymma Sanct Petr, a S. Iud ynghylch pechod yr Angylion a'n pechod ninnau. 2 Pet. 2. Jud. 6. Iob 4.18. Onid arbedodd Duw 'r Angylion a bechasent ond eu taflu i vffern, a'i rhoddi mewn cadwyn au tragwyddoltan dywyllwch, hyd farn y dydd mawr, diau nad arbed ef mo honomni. A thrachefn, 2 Pet. 2.11. Onid yw'r Angylion, Fel hyn y deall rhai eirian 'r Apostol. y rhai sy yn rhagori arnom ni mewn gallu a nerth, yn abl i ddioddef dygn-dost farn Duw yn eu herbyn hwy, pa beth a wrawn ni? [Page 62]Drachefn mewn lle arall y' mae 'n ymresymmu fel hyn, Os braidd y bydd y cyfiawn cadwedig, pa le 'r ymddengys yr annuwiol a'r pechadur? 1 Pet. 4.18. Wrth y samplau hynny i'n dysgir ninnau i ymresymmu yn yr vn modd, ac i ddywedyd fel hyn, os cospodd Duw mor dost vn pechod yn yr Angylion, ac yn Addaf, ac yn eraill, pa beth a ddisgwiliaf a wneuthum gynnifer o bechodau yn ei erbyn ef? Os damniodd Duw gynnifer o ddynion am lai o bechodau nag a wneuthum i pa beth a wna efe i mi am fwy o bechodau nag a wnaeth eraill? Os darfu i Dduw gyd-ddwyn â myfi yn hwy nag â llawer eraill a dorrodd [...]f ymmaith heb roi iddynt amser i edifarhau, pa reswm iddo gyd-ddwyn â myfi yn hwy nag â hwynt hwythau? Os ceryddwyd Dafydd ac eraill mor dôst, yn ôl maddeu iddynt eu pechodau, pa gospedigaeth a haeddwn i yn y byd ymma neu yn y byd a ddaw, am wneuthur cymmaint o bechodau cyn drymmed? Os gwir a ddywedodd ein Iachawdr fod y ffordd yn gùl ac yn anhawdd, a'r porth yn gyfyng i ddynion i fyned i'r nêf, ac y bydd [...]haid iddynt roi cyfrif am bob gair segur cyn eu myned yno; pa beth a ddaw o honof fi sydd yn byw mor esmwyth, ac heb gadw cyfrif yn y byd am fy ngweithredoedd, chwaethach am fy ngeiriau? Os oedd gwyr da gynt yn cymmeryd y fath boen yn ffordd eu hiechydwriaeth, ac er hynny, fel y dyweid S. Petr, braidd y bydd y cyfiawn gadwedig; ym mha gyflwr yr ydwyfi, yr hwn nid wyf yn cymmeryd po [...]n yn y byd, ond byw mewn pob math ar blesser a difyrrwch bydol?
15. Dyma 'r rhesymau sy wiriaf, a buddiolaf i ninnau, wrth y rhai y gallem yn haws ystyried ein per [...]gl ein hun, ac ofni peth ar farn Duw, ac eisiau hynny sy'n peri gwneuthur y rhan fwyaf o'r pechodau a wneir ym mysg Christianogion: oblegid [Page 63]felly y mae 'r Scrythur lân, wrth ddangos yr achosion o'r annuwioldeb sy ym mhlith dynion, yn gosod y ddau yma yn bennaf. Yn gyntaf, truth y byd, am fod yn canmol pechadur am ewyllys ei galon, yn bendithio 'r annuwiol, yr hwn y mae 'r Arglwydd yn ei ffieiddio, Psal. 10.3. Ac yn ail, am nad ydyw Duw yn ei holl feddyliau ef, a bod barnedigaethau Duw allan o'i olwg ef, Psal. 10 4, 5. Ac o'r gwrthwyneb wrth grybwyll am dano ei hun y mae yn dywedyd, Psal. 18.21. Mi a gedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddiwrth fy Nuw. Ac yn man y mae 'n dangos beth oedd yn peri iddo hynny; Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i. A thrachefn, mi a ofnais rhag dy farnedigaethau, A thrachefn, meddyliais am dy farnedigaethau, Psal. 119.30. A maint y llês a wna 'r ofn hwn, y mae 'n dangos yn yr vn man,Felly y mae 'r lladin. lle mae 'n gofyn yr ofn hwn yn daer ac yn ddifrif ar law Dduw, ac yn gweddio fel hyn, Trywana fy nghnawd i a' th ofn, Psal. 119.120. A Sainct Paul, wedi darfod iddo ddangos i'r Corinthiaid y bydd rhaid i ni i gyd ymddangos ger bron brawdle Christ, sydd yn cau ar y cwbl fel hyn, A ni gan hynny yn gwybod hyn, ofni yr Arglwydd yr ydym yn ei berswadio i ddynion, 2 Cor. 5.11. A Sainct Petr, wedi darfod iddo ddangos mawredd Duw, a Christ yn teyrnasu 'n y nef, ar hir draethawd, y mae efe o r diwedd yn cau ar y cwbl fel hyn,Felly y mae rhai y deall y lli yma. Ac os ydych yn ei alw ef yn Dad, yr hwn heb dderbyn wyneb sydd yn barnu pob dyn yn ôl ei weithred, ymddygwch mewn ofn tros amser eich ymdeithiad yma ar y ddaiar, 1 Pet. 1.17. Dyna we [...]s angenrheidiol i bob dyn, ond yn enwedic i'r rhai sydd o herwydd eu pechodau a'i drwg fuchedd, yn aros mewn anfodd a digofaint Duw, a phob awr (fel [Page 64]y dywetpwyd) tan gynddaredd barn Duw; ac os syrthiant vnwaith tani, nid oes fodd i'w throi yn ôl, ac nis gellir ei dioddef: ac y mae cyn hawsed syrthio tan gynddaredd barn Duw, a chymaint o ffyrdd i syrthio tani, ac sydd i syrthio i farwolaeth, ac y mae ffyrdd marwolaeth yn aneirif, yn enwedig i'r rhai trwy annuwioldeb a gollasant nawdd ac ymddiffyn ac ymgeledd Duw, ac felly cymmorth ei Angylion hefyd, a chwedi myhed tan feddiant cythreuliaid y tywyllwch, y rhai nid ŷnt yn gwneuthur dim arall ond ceisio eu distrywio hwy enaid a chorph, a hynny mor ddyfal ac mor ddiwyd ac y gallont. Pwy gan hynny, a fai a dim synhwyr ganddo, nid ofnai yn y cyfryw gyflwr? Pwy a fedrai na bwytta, nac yfed, na chysgu yn esmwyth nes iddo, trwy wir edifeirwch, ddadlwytho ei gydwybod o bob pechod? Fe allai garreg fechan a gwympai 'n ei ben ef oddiar y tŷ, neu gephyl wrth drippio dano yn marchogaeth, neu ei elyn wrth gyfarfod ag ef ar y ffordd, neu gryd neu glefyd a ddoai arno wrth fwytta neu yfed ychydig mwy nâ digon, neu ddeng mil o'r cyfryw bethau, y rhai y mae efe beunydd a phob awr ac ennyd mewn perygl oddiwrthynt, ddwyn ei einioes oddiarno, a'i ddwyn ef ir fath gyflwr ac na allai holl greaduriaid y byd byth ei wared ef allan o hono. Pwy wrth hynny nid ofnai? Pwy ni chrynei, ac ni ddychrynai?
16. Duw o'i drugaredd a roddo i ni ei fendigedig ras, i'w ofni ef megis y dylem, ac i wneuthur y fath gyfrif o'i gyfiawnder ef, ac y mae efe, wrth ein bygwth ni â hi, yn chwennych i ni ei wneuthur. Ac yno nid oedwn ni mo'r amser, ond ymroi yn gwbl i'w wasanaethu ef, tra fai wiw gantho gymmeryd [...] gwasanaeth ni, a maddeu i ni ein holl bechodau, [...] ymro [...] ni vnwaith o ewyllys ein calonnau i'w wasa [...]aethu ef▪
PEN. VII. Angwhaneg o reswm i amddiffyn cyfiawnder barnedigaethau Duw, ac i ddangos ein haeddigaeth ninnau, a hynny wrth y [...]tyried mawredd Duw, a'i ddoniau haelionus tu ag attom ni.
ER nad yw y rhan fwyaf o Gristianogion, o achos annuwioldeb eu buchedd, yn gallu dyfod i'r cyflwr yr oedd Dafydd ynddo pan ddywedodd ef wrth yr Arglwydd, Dy farnedig aethau, O Arglwydd, sy hoff gennyf, Psal. 119. fel y maent hwy mewn gwirionedd yn hoff gan bawb ac fy'n byw'n dduwiol, ac sy ganddynt dystiolaeth cydwybod dda; etto fel y gallom ddywedyd o'r hyn lleiaf gyda 'r vn prophwyd, Barnau 'r Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd oll, Psal. 19.9. A thrachefn, Cyfiawn ydwyt ti, ô Arglwydd, ac vniawn yw dy farnedigaethau, Psal. 119.137. Mi a dybiais yn dda osod rheswm neu ddau etto ar lawr yn y bennod ymma, fel y galler gweled yn eglurach, faint yw 'n pechodau ni tu ac at Dduw wrth bechu fel yr ydym, ar mor vniawn yw ei sarnedigaeth ynteu a'i gyfiawnder tu ac attom ninnau am bechu.
2. Ac yn gyntaf rhaid i ni ystyried maint yw Mawredd y neb yr ydym ni 'n pechu 'n ei erbyn: oblegid diammau ydyw, fel y dywedais o'r blaen, mai mwyaf yw 'r bai a'r pechod, a thostaf, po mwyaf ac anrhydeddusaf fo 'r neb y gwneler y bai a'r pechod yn ei erbyn, a pho gwaelaf a distarlaf fo 'r neb a'i gwnêl. Ac o'r achos hwn y mae Duw, er [Page 66]mwyn peri i ni ofni pechu, yn ei alw ei hun yn fynych wrth henwau yn arwyddoccau mawredd, megis y dywed efe wrth Abraham, Myfi yw Duw hollalluog. A thrachefn, Yr nef yw fy ngorseddfaingc, a'r ddaiar yw lleithig fy nhraed. A thrachefn efe a orchymmynnodd i Foesen ddywedyd wrth y bobl yn ei enw ef, y gennadwri hon, Na chaledwch eich gwarr mwyach, canys yr Arglwydd eich Duw chwi yw Duw y duwian, ac Arglwydd yr Arglwyddi, Duw mawr cadarn ac ofnadwy, yr hwn ni dderbyn wyneb, ac ni chymer wobr. Gen. 17. Isa. 66. 1. Deut. 10.16.
3. Ystyria dithau yn gyntaf, Gristion, mor anfeidrol yw mawredd yr hwn a ddarfu i ti bryf truan gwael daiarol, mor fynych ac mor ddirmygus wneuthur yn ei erbyn yn dy fywyd. Ni a welwn yn y byd hwn na faidd ac na lefys neb wneuthur yn erbyn mawredd tywysog bydol, ie na dywedyd gair yn ei erbyn o fewn ei wlad a'i lywodraeth: a pha beth yw mawredd holl dywysogion y ddaiar wrth y filcanfed ran o fawredd Duw, yr hwn a'i air a wnaeth nêf a daiar a'r holl greaduriaid sydd ynddynt; ac a hanner gair a all eu distrywio hwy drachefn: yr hwn y mae 'r holl greaduriaid a wnaeth, yr Angylion, y nefoedd, a'r holl ddefnyddiau heb law hynny, yn ei wasnaethu, ac heb feiddio gwneuthur yn ei erbyn. Y pechadur yn vnig sydd yn myned mor hŷ ar ei fawredd ef a bod heb ofni gwneuthur yn ei erbyn ef, yr hwn y mae 'r Angylion yn ei foliannu, a'r llywodraethau yn ei addoli, a'r galluoedd yn crynu rhagddo, a nef y nefoedd ynghyd a'r Cherubin a'r Seraphin beunydd yn ei anrhydeddu ac yn ei glodfori.
4. Meddw! ditheu, frawd anwyl, am bob gwaith ao yr wyt ti yn pechu, dy fod ti megis yn taro y Duw mawr hwn yn ei wyneb, Yr hwn, fel v dywaid [Page 67]S. Paul, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod atto, yr hwn ni's gwelodd vn dyn bydol, ac ni's dichon edrych arno, 1 Tim. 6.16. Joan 1.18. 1 Jo. 4.12. sel y gwelir hefyd wrth esampl S. Ioan Efangylwr, yr hwn a syrthiodd i lawr yn farw gan wir ofn pan ymddangosodd Christ iddo, fel y mae efe ei hun yn tystiolaethu, Datc. 1. A phan ddeisyfodd Mosen gael gweled Duw vnwaith yn ei oes, a hynny yn ostyngedig iawn, ef a gafodd atteb gan Dduw na allai vn dyn ei weled ef a byw: ond etto (er mwyn bodloni ei ddeisyfiad ef, a dangos iddo o ran mor ofnadwy ac mor ogoneddus o Dduw ydoedd) efe a ddywedodd wrth Foesen y cai efe weled peth o'i ogoniant ef: ond efe a ddywedodd hyn yn ychwaneg, y byddei raid i Foesen ymguddio mewn agen yn y graig, a chael ei orchuddio â llaw Duw ei hun yn lle ymddiffyn iddo, tra fai Dduw (mewn rhyw fesur o'i fawredd) yn myned heibio iddō yn ei ogoniant. Ac wedi iddo fyned heibio, Duw a dynnodd ymmaith ei law, ac a adawodd iddo weled y tu cefn iddo yn vnig, yr hwn er hynny oedd ofnadwy iawn i edrych arno. Exod. 33.20.
5. Y mae 'r prophwyd Daniel hefyd yn dangospa ddull oedd a'r fawredd y Duw hwn, fel y gwelsai ynteu ar weledigaeth, yn y geiriau hyn, Dan. 7.9. Mi a edrychais hyd oni osodwyd y gorseddfeydd, Felly y mae llawer yn ei gyfieithu. a'r hen. ddihenydd a eisteddodd: ei wisg oedd cyn wynned a'r eira, gwallt ei ben fel gwlan pur, a'i orseddfa yn fflam dan, a'i olwynion yn danpoeth: afon danllyd oedd yn rhedeg, ac yn dyfod allan oddi ger ei fron: mil o filoead a'i gwasanaethent a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron: y farn a eisteddadd, a'r llyfrau a agorwyd ger ei fron ef Datc. 20.12. Hyn i gyd a llawer ychwaneg sy wedi ei roi i lawr yn yr Scrythur lan, i ddwyn ar gôf i ni, ac [Page 68]i'n rhybuddio, faint yw mawrhydi y tywysog hwnnw y mae pechadur yn gwneuthur yn ei erbyn.
6. Meddwl bellach, fy mrawd anwyl, dy fod ti yngweled y brenhin mawr ymma yn eistedd ar orseddfaingc ei fawredd, a cherbydau tanllyd, a goleuni anhydraeth, ac aneirif o fyrddiwnau Angylion yn ei gylch, fel y dengys yr Scrythur lân. Meddwl hefyd, yr hyn sydd wiriaf peth, dy fod di yn gweled holl greaduriaid y byd yn fefyll yn ei wydd ef, ac yn crynu rhag ei fawredd, ac yn ofalus iawn am wneuthur y peth y creodd efe hwynt i'w wneuthur; fef y nefoedd i ymsymmud odd [...]mgylch, y d [...]aiar i ddwyn cynnheiliaeth i'r cr [...]dur [...]aid byw, a'r cyffelyb. Meddwl hefyd dy fod di yn gweled yr holl greaduriaid hyn, er maint neu er lleied fyddont, a'i goglud ac a'i gogwydd ar allu a rhinwedd Duw, trwy 'r hyn y maent yn sefyll, yn symmud, ac yn bod: a bod yn dyfod ac yn deilliaw oddiwrth Dduw at bob creadur yn y byd, ie at bob cyfran o bob creadur ac sydd a bod ac ymsymmud yuddo, ryw belydr o'i rinwedd ac o'i allu ef; megis y gwelwn ni fod o'r haul aneirif o belydr yn dyfod trwy 'r awyr. Ystyria, meddaf, nas gall vn rhan o vn creadur yn y byd, nac o'r pyscod yn y môr, nac o'r glaswellt ar y ddaiar, nac o'r dail ar y coed a'r gwydd, nac vn gyfran o ddyn ar wyneb y ddaiaren, na thyfu, na symmud, na bod, oni bydd i ryw gaingc neu belydr o rinwedd, fod yn dyfod atto yn wastadol oddiwrth Dduw. Felly, mae 'n rhaid i ti feddwl fod Duw megis haul gogoneddus yn sefyll yn y canol, a bod yn dyfod oddiwrtho ef aneirif o belydr a goferoedd o rinwedd at bob creadur ac sydd nac yn y nef, nac ar y ddaiar, nac yn yr awyr, nac yn y dwfr; ac at bob rhan o bob vn o honynt: ac oddiwrth pelydr hyn o'i rinwedd ef y mae i'r holl [Page 69]greaduriaid eu bywyd a'i bod; a phettai efe yn attal vn o'r pelydr hynny, fe barai hynny i ryw greadur neu ei gilydd yn y man fyned yn ddiddim. Hyn, meddaf, os ti a'i hystyri ynghylch mawredd Duw, a'r ofn anfeidrol sydd ar bob creadur rhagddo ef, ond yn vnig ar bechadur, (oblegid y mae 'r cythreuliaid yn ei ofni ef, fel y dwaid S. laco, Yr [...]. 19.) ni ryfeddi di ronyn fod Duw yn rhoi cospedigaeth cyn dosted am bechod. Oblegid mi a wn yn siccr fod cywilydd y byd yn peri i ni fod yn fwy 'n gofal rhac gwneuthur yn erbyn y câr llescaf a feddom, nac ydyw gofal y drygionus rhac gwneuthur yn erbyn Duw. Ac dyna ddirmyg anesgorol ar fawredd mor ardderchog.
7. Ond os bydd i ni gydâ myfyrio ar fawredd Duw, ystyried hefyd yr aml ddoniau y mae efe yn eu rhoi i ni, ni a gawn weled fod ein bai ni yn ei erbyn ef yn llawer mwy: oblegid peth ffiaidd wrth naturiaeth, yw gwneuthur cam a sarhâd â'r neb a wnaeth i ni ddaioni. Ac ni bu erioed etto, na ddo ym mysg yr anifeiliaid direswm, galon mor greulon ac nas gellid ei hynnill â hawddgarwch ac a thwrn da; ond ym mysg dynion, haws o lawer yw ynnill calonnau trwy haelioni a chymmwynasau, yn enwedig os bydd yn dyfod oddiwrth y gwyr mwyaf, y rhai er nas dangosant eu cariad a'i caredrgrwydd tu ac attom ond mewn rhoddion a chymmwynasau bychain, etto y mae hynny yn gwneuthur calonnau y rhai a'i derbynio yn rhwymedig iawn i'w caru hwythau drachefn.
8. Ystyria ditheu, Gristion da, y cymmwynasau anfeidrol a'r tyrnau da a dderbyniaist ar law 'r Duw mawr hwn, y rhai a wnaeth efe i ti i geisio dy ynnill di iw garu ef, ac i geisio gennyt beidio a gwneuthur yn ei erbyn ef na cham na sarhad. Ac er na's gall vn tafod dyn nac angel ddangos hanner y [Page 70]doniau a dderbyniaist ti ganddo, na 'i gwerth, nac a pha fawr gariad ac ewyllys calon y rhoes efe hwynt i ti: etto fel y bo haws eu cadw mewn côf, mi a adroddaf rai o'r pyngciau cyffredinol pennaf o haelioni Duw, fel y galler wrth y rhai hynny adnabod y llaill.
9. Yn gyntaf dim gan hynny efe a roes i ti dy greadigaeth a'th wneuthuriad, ac a'th wnaeth di o ddiddim ddefnydd ar ei lun a'i ddelw ei hun, a hynny er mwyn gorchwyl mor anrhydeddus a chael ei wasanaethu ef yn y byd yma, a theyrnasu gyd ag ef yn y byd a ddaw, ac a roes i ti yn y byd hwn yr holl greaduriaid i wneuthur gwasanaeth i ti, ac i fod tan dy lywodraeth. A thi a gait wybod amcan faint yw 'r gymmwynas honno, pe meddylit fod arnat eisieu coes, neu fraich, neu lygad, neu ryw ran arall o'th gorph, ac i ryw vn o'i haelioni roddi i ti yr hyn oedd yn niffyg gennyt: neu pettai arnat eisiau vn o'th bum synwyr, a'th fod heb weled neu heb glywed, ac i ryw vn roi i ti dy weled a'th glywed, dywed i mi oni chyfrifit ti hynny yn gymwynas fawr? Oni thybygit ti dy fod yn rhwymedig iawn iddo am hynny? Ac os tybygit fod vn o'r pethau hynny yn rhôdd fawr, pa gyfrif a ddylit ti ei wneuthur o gael dy holl gorph ar vnwaith yn rhodd ac yn rhad?
10. Chwanega at hyn hefyd, fel y dywedais, na wnaeth efe mo honot ti ar lun dim arall, ond ar ei lun ei hun; ac na wnaeth efe mo honot ti i ddim arall, ond i fod yn was parchedig iddo yn y byd yma, ac i fod yn gyfrannog gydag ef o frenhinol ogoniant yn dragywydd yn y byd a ddaw: ac iddo wneuthur hyn i ti a thitheu heb fod ond telpyn o bridd a chlai yn y blaen. Meddwl bellach faint oedd y cariad y daeth hyn i gyd oddiwrtho. Ac etto ystyria ymmhellach, fel y gwnaeth efe yr holl fyd [Page 71]hardd-wych-deg hwn er dy fwyn di, a holl greaduriaid y byd i'th wasanaethu di yn ei wasanaeth ef; y nefoedd i wneuthur gwahaniaeth rhwng prydiau ac amserau, ac i roi goleuni i ti; y ddaiar, a'r awyr a'r dwfr, i ddwyn i ti rywogaethau aneirif o greaduriaid i fod yn gynheiliaeth i ti, ac i wneuthur gwasanaeth i ti; a'th wneuthur ditheu yn arglwydd ar y cwbl, i'w cymmeryd hwy ac i'w mwynhau wrth dy raid i'th ddiddanu ac i'th wasanaethu. Ac ond haelionus y doniau hyn? Ac ond cywilyddus o anniolchgarwch ydyw troi 'r rhoddion hynny i ammherchi ac i wneuthur cam a rhoddwr mor garedig, fel yr wyt ti yn gwneuthur, trwy arfer ei roddion ef i'th wasanaethu mewn pechod.
11. Ond etto ystyria ychydig pellach ddawn dy brynedigaeth, yr hyn sydd fwy o lawer na 'r holl ddoniau o'r blaen: hynny ydyw, wedi darfod i ti golli 'r holl ddoniau a roesai Dduw i ti o'r blaen, a'th wneuthur dy hun yn euog o gospedigaeth tragywyddol, lle bwriasid yr Angylion am y pechod a wnaethent o'r blaen; i Dduw ddewis dy brynu di, ac nid yr Angylion, a rhoi ei fab ei hun i farwolaeth trosot ti, i wneuthur iawn tros dy bechod ti. O Dduw, pa galon a all feddwl faint y dawn a'r haelioni hyn? Meddwl ddarfod i ti dy hun yn ddyn truan tlawd wneuthur anfad fai yn erbyn brenhin mawr, ynghyd a rhyw wr mawr o'i bendefigion pennaf ef; ac i'r brenhin ddigio yn fawr wrthyth chwi eich dau, ac er hynny maddeu i ti a rhoi 'r gwr mawr i farwolaeth: ac ym mhellach hefyd, gan nad oedd vn ffordd ond vn i achub dy fywyd di, rhoi 'r gospedigaeth angeu oedd ddyledus i ti, ar ei fab a'i aer ei hun, er dy fwyn di: oni thybygit ti fod y brenhin hwnnw yn dy garu di yn fawr? oni thybygit ti dy fod yn rhwymedig iawn [Page 72]i'r Tywysog ieuangc hwnnw, a ymgynnygiei ac a y mroddai i gyfiownder ei Dad i ddioddef angeu trosot ti bryf gwae [...], ac nid tros y pendefig hwnnw (fel na fynnei farw tros yr Angylion) ac i roi ei ben yn y cebystr am dy feiau di yn vnig? Oedd bossibl i ti glywed ar dy galon fod yn elyn i'r gwr hwnnw byth wedi, nac i wneuthur yn ei erbyn ef o'th fodd, na thrwy wybod? Ac etto hynny yw 'n cyflwr ni, a rhwy medicach o lawer ydym i Grist ac i'w Dad, a ninnau er hynny i gyd, y rhan fwyaf o honom, beunydd yn ei ddigio ef, ac yn ei ammherchi, ac yn gwneuthur cam a farhaad ag ef trwy bechu.
12. Ac etto y mae ychwaneg o ddoniau Duw tu ac attom ni heb son amdanynt, nid amgen na'n galwedigaeth ni a'n cyfiawnhaad, 1 Cor. 1.26. ein galwedigaeth a'r hon y galwodd efe nyni o anffyddlondeb ac anghrediniaeth i radd a chyflwr Christianogion, ac felly a'n gwnaeth ni yn gyfrannogion o'n prynedigaeth, yr hon nid yw 'r angrhedadyn gyfrannogion o honi. Oblegid er iddo ef dalu 'r iawn tros bawb yn gyffredinol, etto ni roes efe ddim o ffrwyth y brynedigaeth honno i bawb, ond yn vnig i'r rhai y gwelodd ei dduwiol ddaioni ef yn dda ei roddi. Ar ôl hynny y canlynodd ein cyfiawnhaad ni, trwy 'r hon y cawsom ni nid yn vnig ein rhyddhau oddiwrth yr holl bechodau a wnaethom o'r blaen, ac oddiwrth yr holl gospedigaeth a'r poenau oedd ddyledus am danynt; ond hefyd cael harddu, a theghau, a chyfoethogi ein heneidiau a'i fendigedig ras ef, ynghyd a'r rhinweddau a elwir defeiniol, ffydd, gobaith, a chariad perffaith, ac ynghyd a doniau 'r yspryd glan; a thrwy ei ras ef i'n gwneir yn gyfiawn ac yn vnion yngolwg Duw, ac y rhoir i ni ditl a chlaim ym mendigedig dreftadaeth teyrnas nef. Rhuf. 8.30.
[Page 73]13. Ar ôl y rhai hyn y canlyn rhifedi mawr o ddoniau ynghyd, a'r rhai hynny bob vn o honynt o anfeidrol bris a gwerth; y rhai a roddwyd i ni wedi ein gwneuthur yn blant ac yn garedigion anwyl i Dduw. Cyfryw [...]w dawn y Sacramentau bendigedig a rodded i'n diddanu ac i'n cynnal ni, y rhai nid ydynt ond megis pibellion i ddwyn gras Duw attom ni; yn enwedig y ddau Sacrament ymma a berthyn i bawb, sef Sacrament y bedydd, a Sacrameut ei fendigedig gorph ef a'i waed. Sacrament y Bedydd iI fod yn arwydd o lanhaad. lanhau ac i buro 'n heneidiau ni oddiwrth bechod, a'r llall i borthi ac i ddiddanu ein heneidiau ni wedi darfod eu glanhau. Y cyntaf sydd ymdrochfa a golch wedi ei wneuthur o waed Christ ei hun, i olchi ac i drochi ein harchollion a'n gweliau ni ynddo; a'r llall sydd megis dilledyn comfforddus cyfoethog i orchuddio ac i achlesu ein heneidiau ni wedi darfod eu golchi. Yn y cyntaf yr ordeiniodd Christ ei briod yr Eglwys yn ei le ei hun i ddatgan ac i ddeclario maddeuant pechodau yn ei enw ef: yn y llall efe a'i gadawodd ei hun, a'i gig a'i waed ei hun, yn y Sacrament i fod yn ymborth gwerthfawr, i lawenychu ac i gynnal ein heneidiau ni.
14. Heb law hyn i gyd y mae etto ddawn arall a'r hwn y mae Duw yn ein cadw ni oddiwrth amryw beryglon, y mae eraill yn syrthio iddynt, a'r rhai y syrthiasem ninnau iddynt oni bai fod bendigedig law Dduw yn ein cynnal ni, megis oddiwrth ryfyg a gormodd hyder, heresi, ac anffyddlondeb, a llawer o bechodau trymion eraill; ac yn enwedig oddiwrth angeu a cholledigaeth, y rhai a ddarfu i ni er ys talm eu haeddu am ein pechodau. Ac y mae hefyd ddoniau yr ysprydoliaethau da a'r rhybuddion, a'r rhai y bu i Dduw yn fynych guro wrth ddrws ein cydwybodau ni oddimewn, a'n rhybuddio [Page 74]ni trwy gymmaint o ffyrdd a moddion oddiallan; nid amgen na llyfrau da, pregethau da, cynghorion da, cwmpeini da, esamplau da gan eraill, a chant o foddion eraill, y rhai y mae efe yn fynych yn eu harfer i geisio ein hynnill ni a'n heneidiau i'w dragywyddol deyrnas, drwy ein hannog ni i ymwrthod â'n buchedd bechadurus, ac ymroi i'w fendigedig a'i hyfryd wasanaeth ef.
15. Yr holl ddoniau a'r cymmwynasau godidog ardderchog hyn, os ni a'i mesurwn nac wrth eu pris a'i gwerth eu hunain, nac wrth gariad y galon y maent hwy yn dyfod oddiwrthi, hwy a ddylent ein cynnhyrfu ni yn fawri fod yn ddiolchgar i'r neb a'i rhoes hwynt: a'r diolchgarwch hwnnw fyddei roi cwbl o'n bryd a'n meddwl o'r diwedd ar ei wasnaethu ef yn ddiffuant, ac i wneuthur rhagor rhwng ei gariad ef a'i ewyllys da a phob peth bydol marwol arall. Ac onis medrwn gael gennym em hunain wneuthur hynny: etto o'r hyn lleiaf na bo i ni mwy ei ddigio ef a'n pechodau a'n hanwireddau.
16. Nid oes naturiaeth mor arw ac mor greulon yn y byd, fel y dywedais o'r blaen, na's dichon rhoddion a chymmwynasau ei meddalhau, a'i denu, a'i hynnill: ac y mae historiau yn mynegi esamplau rhyfedd o hynny, hyd yn oed ym mysg anifeiliaid direswm, megis am ddiolchgarwch y llewod, a'r cŵn, a'r eyffelyb, tu ac at eu meistreid a'r rhai a wnai gymmwynas iddynt, Yn vnig y pechadur cyndyn, ym mysg yr holl greaduriaid gwylltion,Aelian in Hist. anim. yw 'r hwn nis gall na chymmwynasau ei gynnhyrfu, na charedigrwydd ei feddalhau, nac addewidion ei ddenu, na rhoddion ei ynnill, i wasnaethu 'n ffyddlon ei Arglwydd a'i feistr Duw.
17. Y pechadur mwyaf ac sydd yn y byd, er na roddo i'w wâs ond vgain fflorin yn y flwyddyn, neu [Page 75]i'w ddeiliad ond tyddyn bychan i fyw arno, ac onis gwasanaethant hwy ef wrth amnaid am hynny, ef a gwyna yn dôst eu bod hwy yn anniolchgar iawn: ond os hwy a geisiant trwy salis wneuthur yn ei erbyn ef, ac ymgyssylltu â'i elyn yn ei erbyn ef, oni byddei hynny yn ei olwg megis peth ni bai neb abl iw ddioddef? Ac er ei fod ef ei hun yn gwneuthur mwy o anniolchgarwch a cham tuac at Dduw, etto ef a dybia nad yw hynny beth yn haeddu ei ystyried, ond peth a ellir cael maddeuant am dano yn hawdd. Ie mae efe yn anniolchgarach o lawer tu ac at Dduw, ac ynteu wedi cael gan Dduw fil am vn o'r doniau a'r cymmwynasau a all dyn marwol ei roddi i ddyn arall: oblegid efe a dderbyniodd gan Dduw bob peth a chwbl oll, y bara y mae 'n ei fwytta, y ddaiar y mae 'n ei cherdded, y goleuni y mae 'n ei weled, a'i lygaid hefyd i weled: yr haul, a phob peth ac sydd o'r tu mewn ac o'r tu allan i'w gorph: a chydâ hynny ei yspryd a'i feddwl a'i holl ddoniau ysprydol, y rhai y tâl pob vn o honynt fwy na mil o gyrph; mi a ddywedaf hefyd ei fod efe yn gwneuthur mwy o gam a Duw, am ei fod ef, er maint ac er amled doniau Duw iddo, yn gwasanaethu gwir elyn Duw, a pheunydd yn gwneuthur pechod ac anwiredd, y rhai y mae Duw yn eu cassau yn fwy nag y gall vn galon ddaiarol gassau ei gelyn marwol, oblegid mai pechod mewn gwirionedd a erlidiodd ei fab ef ein lachawdr, â chyfryw elyniaeth ac a ddûg ei werthfawroccaf einioes oddiarno, ac a'i hoeliodd ef yn dynn wrth bren y groes.
18. A rhac y dygn anniolchgarwch, a'r llwyr gam hwn, y mae yn gorfod ar Dduw ei hun gwyno mewn llawer o leoedd o'r Scrythur lan, megis lle mae 'n dywedyd, Hwy a dalasant i mi ddrwg dros dda, Psal. 35.12. Ac yn dostach o lawer mewn man arall, lle mae efe yn galw 'r nefoedd [Page 76]yn dyst o'i hanwiredd hwy, ac yn dywedyd, O chwychwi nefoedd, synnwch wrth hyn, ac ofnwch yn aruthrol, Ier. 2.12. Megis pe dywedai trwy ddull dieithr ar ymadrodd, Ammhwyllwch nefoedd, gan ryfedded ac mor anhygoel ydyw annuwioldeb dyn tu ac attafi Canys felly y mae efe yn hyspyssu 'r peth yn helaethach mewn man arall, Gwrandewch nefoedd, clyw ditheu ddaiar, mi a fegais ac a feithrinais feibion, a hwy awrthryfelasant i'm herbyn. Esa. 1.2. Ond tostur yr achwyn ymma gan Dduw yn erbyn pryfed daiarol o'r gwaelaf ac o'r distatlaf? Ac etto y mae Duw yn hyspyssu 'r anwiredd yma yn helaethach; trwy amryw esamplau a chyffelybiaethau; Yr ŷch medd efe, a edwyn ei feddiannudd, a'r assyn breseb ei berchennog, ond Israel nid edwyn fi, fy mhobl ni ddeall. Gwae'r genhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, hâd y rhai drygionus, meibion yn llygru: gwrthodasant yr Arglwydd, digiasant Sant Israel, ciliasant yn ôl. Pa achwyn a ddichon fod tostach na hwn? Pa fygwth a all bod mor ofnadwy a'r gwae yma sydd yn dyfod o enau 'r hwn all ein cospi ni wrth ei ewyllys ei hun?
19. Am hynny, anwyl frawd, od oes i ti ddim gras, paid a bod yn anniolchgar i Dduw yn hwy; paid a gwneuthur yn erbyn yr hwn drwy gynnifer o ffyrdd a achubodd dy flaen di a chymmwynasau ac a doniau; paid a thalu drwg dros dda, a chas am gariad, a dirmyg am dadol ewyllys da tu ac attat. Efe a wnaeth i ti ac erot ti gwbl ac allai, efe a roes i ti gwbl ac wyt, ie mewn ffordd, gwbl ac a dâl ynteu ei hun hefyd, ac mae'n ei fryd heb law hynny dy wneuthur di yn gyfrannog o'i holl ogoniant yn y byd a ddaw, ac heb ofyn dim ar dy law di am hyn i gyd ond bod i ti ei garu ef, a bod yn ddiolchgar iddo. O anwyl frawd, oni chlywi ditheu arnat wneuthur cymmaint a hynny iddo ynteu? Pa ham [Page 77]na wnei di iddo ef cymmaint ac a fynnit titheu i arall ei wneuthur i ti, am lai na 'r fil-canfed ran o'r donieu a gefaist di ganddo ef? Oblegid mi a allaf ddywedyd yn hydda, pettit ti heb roi i ddyn ond elusen wrth dy ddrws, y tybygit ti ei fod ef yn rhwymedig i'th garu di am hynny, er na byddai ynot ddim ond hynny yn haeddu cariad. Ond y mae gan dy Arglwydd Dduw, heb law ei ddoniau hyn, aneirif o achosion eraill i beri i ti ei garu ef, sef pob rhyw achosion ac sydd gan ddim yn y byd i ynnill cariad, ac aneirif eraill yn ychwaneg; oblegid pettai gwbl o berffeithrwydd holl greaduriaid nef a daiar, a allai ynnill cariad, wedi ei roi i gyd yn vn, sef eu holl degwch hwy a'i holl rinweddau, a'i holl ardderchawgrwydd, a'i holl ddaioni, a'r cyffelyb; etto y mae dy Arglwydd di a'th Achubwr, yr hwn yr wyti yn ei ddirmygu, yn rhagori ar y cwbl yn anfeidrol: oblegid y mae efe nid yn vnig yn gwbl o'r pethau hynny i gyd, ond hefyd tegwch ei hun ydyw ef, rhinwedd ei hun, doethineb ei hun, pereidd-dra ei hun, ardderchawgrwydd ei hun, daioni ei hun ydyw ef, a'r ffynnon hefyd y mae cwbl o'r rhai hynny yn tarddu allan o honi, yn rhannau ac yn gyfrannau, at ei holl greaduriad ef.
20. Bid cywilydd arnat titheu, Gristion daionus, o herwydd dy anniolchgarwch ymma tu ac at Arglwydd cymmaint, a chystal, a chyn haeled, a dyro gwbl o'th fryd o hyn allan, ar wellhau dy fuchedd a'th ymddygiad tu ac atto ef. Dywed gyd a 'r prophwyd, oedd iddo lai o achos i ddywedyd hyny nag i ti, Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddeu sy anwiredd, canys mawr yw, Psal. 25.11. Mi a wn nad oes dim, O Arglwydd, yn dy anfodloni di yn gymmaint, nac yn sychu ffynnon dy drugaredd di yn fwy, nac yn rhwymo dy ddwylo di rhac gwneuthur daioni, yn gymmaint ac y mae anniolchgarwch [Page 78]y rhai sy'n derbyn daioni a chymmwynasau ar dy law di, yn yr hyn y rhagorais i ar bawb eraill hyd yn hyn o'm hoes; ond mi a'i gwneuthum, O Arglwydd, mewn anwybod, eisieu ystyried dy ddoniau a'th ddaioni di tu ac attaf, a pha gyfrif a ofynni di ar fy llaw i am danynt hwy. Ond yr awrhon, gan ryngu bodd i ti fy nghyfrif i yn deilwng o hyn oth ras yn angwhaneg, i allu gweled ac adnabod fy nghyflwr am ddiffyg fy hun, yr wyf yn gobeithio y bydd i mi o hyn allan, trwy fod dy ras di i'm cyfarwyddo, fy nangos fy hun yn well plentyn tu ac attati. O Arglwydd, yr wyf fi o'r diwedd wedi fy ngorchfygu wrth ystyried dy gariad di tu ac attaf, a pha fodd y gallaf glywed ar fy nghalon wneuthur mwy yn dy erbyn di, a thitheu trwy gynnifer o foddion yn achub fy mlaen i a'th ddoniau, ie pan nad oeddwn i yn meddwl am eu gofyn? A allaf fi byth mwy fod yn berchen dwylo i bechu yn dy erbyn di, a thitheu wedi rhoi dy ddwylo dy hun i'w hoelio ar y groes tros fy mhechodau i? Na allaf ddim, gormodd cam fyddei hynny yn dy erbyn di, Arglwydd; ac ôch gwae finneu ddarfod i mi ei wneuthur cyn fynyched o'r blaen. Ond trwy dy fendigedig gymmorth di, yr wyf yn gobeithio na ddychwelaf yn fy ôl at y cyfryw anwiredd o hyn allan. Ac ar hynny, Arglwydd, y dymunaf arnat er mwyn dy drugaredd, o'th fendigedig orsedd yn y nef, ddywedyd Amen.
PEN. VIII. Pa dyb a fydd cennym ni am y pethau hyn, wrth farw, a pha fodd y cawn ni yr amser hwnnw glywed oddiwrthynt.
Y mae 'r Yscrythur lân yn ein dysgu ni, ac yr ydym ni yn gweled beunydd, fod elw ac ynnill, a goruchafiaeth, a phlesser a difyrruch y byd, yn perchennogi calonnau llawer o dynion mor gwbl, a'i bod yn eu dal mewn cadwynau, a swynion ac a chyfareddion cyn gryfed, gan ddarfod i ras Duw ymwrthod a hwynt yn ôl eu cyfiawn haeddedigaeth eu hun; ac nas gall dim, dyweded dyn wrthynt y peth a fynno, a bygythied arnynt cymmaint ac a fynno, a dyged yn eu herbyn yr holl Scrythur lan, o ddechreu Genesis hyd ddiwedd Datcuddiad Ioan (lle nid oes dim nad ydyw yn erbyn pechod a phechaduriaid) ni thyccia dim iddynt, gan eu bod yn y cyfryw gyflwr gofidus a bod naill ai heb gredu ai heb wneuthur cyfrif yn y byd o ddim ac a ddywetter wrthynt yngwrthwyneb i'w cynnefin fuchedd eu hunain, neu i geisio peri iddynt roi eu bryd ar ymadael a hi. Ac o hyn y mae i ni aneirif o esamplau yn yr Scrythur lan; megis am Sodoma a Gomorha, a'r dinasoedd o'i hamgylch, y rhai ni fynnent wrando ar y rhybudd a roddai y gŵr duwiol Lot iddynt. Gen. 19. A Pharao ynteu, yr hwn nid oedd abl dim i'w gynnhyrfu, ac a fedrai Foesen ei wneuthur, na thrwy arwyddion, na thrwy ymadroddion. Exod. 6. A Judas hefyd, yr hwn nis gallai ddim ac a wnai ei f [...]istr iddo na thrwy dêg na thrwy fygwth, beri iddo newidio ei feddwl oddiwth y drwg y rhoesai ei fryd ar ei wneuthur, Ond yn enwedig y prophwydi a ddanfonid [Page 80]gan Dduw, o amser i amser, i geisio tynnu 'r bobl oddiwrth eu drwg fuchedd ac felly oddiwrth y plàau a'r dialeddan oedd yn dyfod ar eu gwartha; hwynt hwy sydd yn tystiolaethu yn helaeth am y peth hyn, wrth achwyn ym mhob man fod cyn galetted calonnau 'r bobl ac nad oedd yr holl gynghorion a'r pregethau, a'r addewidion, a'r bygythiau, yr oeddynt hwy yn eu dangos iddynt, yn cynhyrfu gronyn arnynt hwy. A bydded y prophwyd Zachari yn dyst tros y ewbl yn hyn o beth, yr hwn sydd yn dywedyd fel hyn am bobl Israel, ychydig of flaen eu dinistrio, Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Bernwch farn gyfion, gwnewch d [...]ugaredd a thosturi bob vn iw frawd, ac na orthrymmwch y weddw, a'r ymddifad, a'r dieithr, a'r anghenog; ac na feddyliwch ddrwg yn eich calonnau bob vn iw gilydd. Ac yn y man y dyweid ym mhellach, E'r hynny hwy a wrthodasant wrando, ac a roesant ysgwydd anhydyn, ac a drymhasant eu clustiau rhag clywed; ac a wnaethant eu calonnau yn Adamant rhag clywed y Gyfraith, a'r geiriau a anfonodd Arglwydd y lluoedd drwy ei yspryd, yn llaw y Prophwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddiwrth Arglwydd y llu [...]edd, Zech. 7.9. &c.
2. Wrth hynny, dymma 'r arfer sydd ac a fu erioed gan y rhai bydol, a'r rhai annuwiol gwrthodedig, sef caledu eu calonnau fel carreg Adamant, ya erbyn pob peth ac a ddy weder wrthynt am wellhau eu buchedd, a cheisio cadw eu heneidiau. Tra font yn cael iechyd a hawddfyd, ni fynnant adnabod Duw; fel y mae efe yn achwyn mewn man arall: Etto, fel y dyweid y prophwyd, fe wna Duw i'r dynion hyn ryw ddiwrnod ei adnabod ef; A hynny yw, pan Adwaenir yr Arghwydd wrth y farn a wna. Psal. 9.16. A hynny fydd ar ddydd marwolaeth, yr hwn yw 'r drws nesaf i'r farn, fel y tystia 'r Apostol [Page 81] Gosodwyd i ddynion farw vnwaith, ac wedi hynny bod barn. Heb. 9.
3. Hwnnw, meddaf, yw dydd Duw, yr hwn fydd ofnadwy iawn, a gofidus, a llawn o drallod i'r annuwiol, yn yr hwn y gwna Duw wybod ei fod ef yn Dduw cyfiawn, ac y tál efe i bob dyn yr hyn a wnaeth yn y corph, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg, 2 Cor. 5.10. fel y dyweid yr Apostol: neu fel y dywaid y prophwyd, ef a wna wybod ei fod efe yn Dduw of nadwy, ac na ddichon neb sefyll o'i flaen pan ennynno ei ddigofaint; a'i fod yn gyfryw vn ac a dyrr ymmaith yspryd tywysogion, ac sydd of nadwy i frenhinoedd y ddaiar, Psal. 76.7. Ar y dydd hwnnw, sef dydd marwolaeth, fel y bydd cyfnewid mawr ym mhob peth arall, oblegid ein llawenydd ni a droir yn alar, ein chwerthin yn wylo, ein difyrrwch yn ofid, ein hyder yn ofn, ein gwroliaeth yn llyrfder, ein balchder yn anobaith, a'r cyffelyb: felly yn enwedig y bydd cyfnewid mawr yn ein meddyliau ni, a'n tŷb, a'n barn, oblegid doethineb Duw, am yr hon y crybwyllais yn y pennodau o'r blaen, a'r hon, fel y dyweid yr Scrythur, a gyfrifir yn ffolineb gan ddoethion y byd hwn; a ymddengys yr amser hwnnw yn ei rhith a'i chyffelybrwydd ei hun, ac yn ei gwir ddull ei hun, ac y cydnebydd ei gelynion pennaf nad oes wir ddoethineb ond y hi; ac nad yw holl gnawdol ddoethineb y rhai bydol ond llwyr ffolineb, fel y mae Duw yn dywedyd am dani.
4. Hyn y mae 'r Serythur lân yn ei osod ar lawr yn amlwg, wrth ddangos yr ymadroddion, a'r ymddiddanion, a'r cwynfan fydd gan y rhai bydol yn y dydd diweddaf, pan elont i ddywedyd am y rhai duwiol a ddiystyrent hwy yn y byd ymma, Nyni ffyliaid a feddyliasom fod eu buchedd hwy yn ynfydrwydd, a'i diwedd yn ammharchus; ond yr awrhon [Page 82] hwy a gyfrifir ym mysg meibion Duw, ac y mae eu rhan hwy ym mysg y Sainct, Nyni a gyfeiliornasom allan o ffordd y gwirionedd, ac ni thywynnodd llewyrch cyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cyfiawnder arnom: ni a ymflinasom yn ffordd anwiredd a distryw, ac arodiasom trwy ynialwch anhyffordd, ond ffordd yr Arglwydd nid adnabuom. Doeth. 5.4. Hyd ymma y mae geiriau 'r Scrythur, wrth y rhai y gallwn weled faint y cyfnewid fydd ar ein tŷb a'n barn, a'n meddwl ni yn y dydd diweddaf, a'r rhagor sydd rhwng y tŷb a'r meddwl fydd gennym yr amser hwnnw am bethau bydol, a'r meddwl sydd gennym yr awrhon am danynt: ac y gallwn weled pa gyfaddef a wnawn ar ein ffolineb, pa gydnabod a'n camsynied, pa ofid calon am y boen a gymmerasom yn ofer, ac mor ofer fydd i ni yr amser hynny edifarhau am wyro allan o'r ffordd. Och nad ystyriei dynion y pethau hynny yr awrhon. Ni a ymflinasom, meddant hwy, yn ffordd anwiredd a distryw, ac a rodiasom trwy anialwch anhyffordd. Beth am eglured y mae yn dangos y cyflwr y bydd y rhai bydol truain ynddo yr amser hwnnw, y rhai sy yma beunydd yn curo eu hymmennyddiau, ac yn eu llwyrflino eu hunain yn canllyn oferedd a gwagedd, ac vs a llŵch y byd hwn, ac er hynny fynychaf yn fwy eu poen a'i llafur ynghylch y gwag-bethau hynny, nag ydyw poen y rhai cyfiawn yn ceisio teyrnas [...]f? A phan ddelont hyd at y dydd diweddaf, yn [...]wr eu blinder a'i lludded ar ól eu llafur a'i poen yn y byd yma; y maent yn gweled nad oedd eu holl lafur ond colledig, na'i holl drafferth a'i trallod ond ofer. Oblegid am y tippyn golud a gawsant hwy yn y byd hwn, ac yr ymdrechasant mor dôst am dano, ni wna fo ronyn llês iddynt, ond yn hytrach eu poeni a'i blino yn ddirfawr. Ac fel y galler deall hyn yn well, rhaid yw ystyried fod tri pheth [Page 83]yn bennaf a flina ac a boena 'r cyfryw ddynion ar ddydd eu marwolaeth; ac yn y tri pheth hynny y cynnhwysir cwbl o'r llaill.
5. Y cyntaf yw 'r boen anesgorol y mae dynion fynychaf yn ei dioddef wrth ymadawiad yr enaid a'r corph, y rhai a fu cyd o amse [...] yn byw ynghyd fel dau gyfaill gariadus, yn vn ei cariad a'i difyrrwch, ac am hynny yn anhawdd iawn ganthynt ymadael â'i gilydd, oni bai fod yn ddir ac yn anghenrhaid iddynt ymadael. Y boen a'r gofid hwnnw a ellir ei ddeall wrth hyn; pettem ni yn gyrru bywyd allan o'r rhan leiaf o'r corph, pettai ond ein bŷs bâch (fel y gwna 'r meddygon pan fônt yn marweiddio rhyw ran glwyfus o'r corph i gael gantho dorri allan) pa boen ddirfawr sydd raid i ddyn ei dioddef cyn ei marweiddio? pa wynio cynddeiriog sydd raid iddo ei oddef? Ac os yw cymmaint ein gofid ni wrth farweiddio vn rhan fechan o'r corph, meddyliwch faint fydd y gofid wrth farweiddio 'r holl gorph, a hynny o'i anfodd. Oblegid ni a welwn yr angeu yn gyntaf yn cymmell y bywyd i ymadael â'r rhannau eithaf o'r corph, sef bysedd y traed a'r dwylo, wedi hynny y coesau a'r breichiau; ac felly y mae pob rhan yn marw, y naill ar ôl y llall, hyd oni yrrer y bywyd yn vnig i'r galon, yr hon sy 'n dal allan yn hwyaf, o herwydd mai y rhan bennaf ydyw, ond o'r diwedd hi a gymmhellir hitheu i ymroi, er maint fo ei phoen, ac er maint fo 'r gwrthwyneb ganthi i ymroi. Ac mor fawr ac mor gryf ydyw 'r boen honno, fe ellir gweled wrth fod llinynnau 'r galon yn torri gan faint ac mor anesgorol ydyw 'r poenau marwol hynny. Ond cyn y gyrrer hi cyn belled a gorfod arni ymroi, nid oes vn dyn a ddichon ddangos greuloned a thosted yw 'r ymdrech sydd rhyngthi ac angeu, a pha ing a chyfyngder sydd raid iddi eu dioddef pan ddél gloes angeu atti. Meddyliwch [Page 84]pet [...]ai ryw frenhin galluog mewn heddychol feddiant o ryw ddinas dêg, ac yn byw mewn pob math a'r hawddfyd a difyrrwch ynddi, a'i holl gymmydogion o'i amgylch yn ei garu, ac yn addo ei gymmorth pa bryd bynnag y byddai raid iddo; a dyfod o'i elyn marwol yn ddisymmwth ar ei vchaf, ac amgylchynu ei ddinas ef, ae ynnill y naill ymddiffynfa ar òl y llall, y naill gaer ar ôl y llall, y naill dŵr ar ol y llall; a gyrru 'r brenhin yn vnig i ryw dŵr bach o fewn y ddinas, a'i amgylchu ef yno hefyd, wedi euro i lawr ei holl ymddiffynfeydd ef, a llâdd ei holl wŷr yngwydd ei lygaid: pa ofn, a pha gyfyngder, a pha ofid fyddei an y brenhin hwnnw? Onid edrychai efe allan yn fynych trwy dyllau [...] ffenestri yr [...]ŵr, [...]i edrych a ddoai ei garedigion a'i gymmodogion i'w helpio ai na ddaent? Ac o gwelai fod pawb o honynt yn ei wrthod, a'i elyn ar dorri i mewn atto, oni byddai dostur a blin ganddo ei gyflwr, dybygwch chwi? Ac yn y cyflwr hwnnw y mae ir enaid truan yn amser gloes angeu: pan fo'r corph yr oedd efe yn teyrnasu ynddo meg [...]s brenhin gwych pan oedd yn ei flodau, mewn pob math ar ddifyrrwch, wediiw elyn yr angau ei guro ilawr a'i ddadymchwel: y breichian a'r coesau, a'r aelodau eraill, oedd megis caerau yn gadernid ac yn ymddiffyn iddo tra oedd mewn iechyd, wedi eu gorchfygu, a'i curo i lawr, ac ynteu 'r enaid wedi ei yrru i'r galon yn vnig megis i'w ymddiffynfa eithaf, ac yno yn cael gosod arno mor greulon, ac nas gall ddal allan nemor o ennyd; a'i hoff garedigion, y rhai a ddywedai yn dêg wrtho yn ei wynfyd, ac a addawent iddo bob rhyw help a chymorth, sef ieuengtid, a physygwriaeth, a chynnorthwyau dynol eraill, yn ei wrthod yn llwyr; a'r gelyn ynteu yn gyfryw ac nas gellir na heddychu ag ef, na chael cyngrair gantho, a phob nos a dydd yn gosod ar y [Page 85]twr bâch hwnnw y mae ef ynddo, a hwnnw weithian yn dechreu siglo, a chrynu, a mynd yn ddrylliau; ac ynteu bob awr yn disgwyl pa bryd y daw 'r gelyn i mewn atto yn gynddeiriog ac yn ofnadwy. Pa fath gyflwr, dybygwch chwi yw hwn ar yr enaid cystuddiedig? Nid yw ryfeddod yn y byd os a'r doeth yr amser hwnnw yn ynfyd, a'r dewr yn llwrf, pan ddel arno y fath ofid blin a chyfyngder ac a welwn ei bod yn dyfod ar y rhai bydol, fel nas gallont wneuthur na threfn na dosparth iawn yn y byd nac o'i golud by dol, nac o'i dlèd tu ag at Dduw yn yr awr honno; o achos y ddygn boen sydd yn gorthrechu en heneidian hwy,Ser. 48. ad frat. in [...]re. fel y dyweid S. Awstin (neu ryw vn arall tan ei enw ef) yr hwn hefyd sy'n rhoi i ni rybudd gorchestol, pettai i ni cymmaint o râs a'i ganlyn; Pan fych di yn dy glefyd diweddaf, ac ar dy wely angeu, frawd anwyl (medd efe) ôch mor anhawdd ac mor flin fydd i ti edifarhau am y pechodau a wnaethost; a pham yw hynny, ond am y bydd holl feddyl-fryd dy galon di ar y man lle y bo mwya'r dolur aruat? Llawer o rwystrau a fydd yn llestair i ddyn yn yr awr honno feddwl am edifarhau, megis y dolur a'r boen a fo yn ei gorph, ofn angeu, gweled ei blant ger ei fron (a'r rhei'ny weithiau yn peri i'w tadau dybied eu bod yn golledig; o'i hachos) ei wraig yn cwynfan ac yn wylo, y byd; yn gwneuthur truth iddo, y cythraul yn ei demptio, a'r physygwyr yn ei wenhiethio i geisio elw oddiwrtho, a'r [...]yffelyb. A chred, fi, o ddyn pwy bynnag wyt a ddanllennych hyn, y cai di ar fyr o amser weled y bydd yr holl bethau hyn yn wir ynot tidy hun: ac am hynny mi a ddymunaf arnat edifarhau cyn dyfod y dydd hwnnw ar dy warthaf: gosod dy dŷ mewn trefn, a gwna dy ewyllys a'th lythyr cymmyn tra fych gwr i ti dy hun, oblegid os oedi dihyd y dydd [Page 86]diweddaf, ti a gai dy arwain lle nis mynnit. Ac dyna eiriau S. Austin.
6. Yr ail peth a wna angeu yn ofnadwy ac yn ofidus gan y rhai bydol, yw bod yn rhaid iddo ymadael yn ddisymmwth; a hynny byth bythoedd, â'r holl bethau yr oedd efe yn eu hoffi fwyaf yn y byd hwn, ei gyfoeth, a'i feddiannau, a'i anrhydedd, a'i swyddau, a'i adeiladau têg, a'i holl oludoedd, a'i ddillad gwychion, a'i dlysau gwerthfawr, a'i wraig, a'i blant, a'i geraint, a'i gyfeillon, a'r cyffelyb; o achos y rhai yr oedd yn ei dybied ei hun yn ddedwydd yn y byd ymma, ac ynteu yr awrhon yn cael ei gippio oddiwrthynt yn ddisymmwth, heb obaith cael na'i gweled na'i mwynhau byth ond hynny. Och mor flin ac mor ofidus fydd hynny. Ac am hynny y dywaid yr Scrythur lân, O angeu, mor chwerw yw meddwl am danat ti, i'r dyn fyddo yn byw mewn heddwch yn yr hyn sydd ganddo; i'r gwr a fyddo dihelbul, a llwydiannus ym mhob peth. Ecc. 41.1. Megis pe dywedid, nid oes chwerwder na gofid mwy yn y byd i'r cyfryw vn nâ meddwlam farw yn vnig chwaethach mynd i ymdrech marwolaeth, a hynny allan o law, pan ddywetter wrtho, fel y mynega Christ ddarfod dywedyd wrth y gwr goludog mawr yn yr Efengyl, yr hwn oedd wedi llenwi ei ysguboriau, ac wedi dyfod i vchder ei ddedwyddyd, O ynfyd y nos hon y gofynnir dy enaid oddi gennit, ac yno eiddo pwy fydd yr holl bethau a barotoaist. Luc. 12.20.
7. Ammhossibl, meddaf, i vn tafod yn y byd ddangos mor ofidus fydd cyflwr y gwr bydol yn awr angeu, pryd na allo dim o'r golud a gasglodd efe erioed ynghyd, trwy gymmaint o boen a trafferth, er maint oedd ei oglud arno a'i ymddiried ynddo; wneuthur iddo ronyn llês mwyach, ond yn hyttrach ei boeni a'i flino wrth feddwl am dano, ac [Page 87]ystyried y bydd rhaid iddo adael y cwbl i eraill, a myned ei hun i roi cyfrif pa fodd y casglodd, a phafodd yr arferodd efe ei olud, ac wrth hynny ond odid cael damnedigaeth dragywyddol, ac eraill yn y cyfamser yn byw mewn llawenydd a digrifwch yn y byd hwn, ar y pethau a ddarfu iddo ef eu casglu, a'r rheiny heb feddwl ond ychydig am dano ef, a gofalu llai drosto ef pan fo yn llosgi ysgatfydd yn y tan anniffoddadwy, o achos y golud a adawodd efe iddynt hwy. Dyma beth tostur gofidus, ac sydd abl i ddwyn ar lawer dyn fawr ddolur calon a chyfyngder yn yr awr ddiwethaf, pan orffo arno adael holl lawenydd y byd, ac ysgar a phob difyrrwch ac a'i holl olud byth bythoedd. Och mor dostur ac mor flin fydd yr ymadael hwnnw! Beth a ddywedi di y dwthwn hwnnw, pan ddêl darfod ar dy holl ogoniant, a'th holl gyfoeth, a'th holl rodres di? Beth fyddi di gwell yr amser hynny er dy fod yn byw yn barchedig yn y byd, mewn ffafor tywysogion, a phawb yn dy glodfori, ac yn dy ofni, ac yn dy berchi, ac yn dy dderchafu; gan fod y cwbl bellach wedi darfod am danynt, a thitheu heb allael byth mwy mo'i mwynhau?
8. Ond y mae etto 'r trydydd peth a wna fwy o ofid a thrallod i'r rhai bydol wrth farw na 'r holl bethau eraill, a hynny ydyw ystyried beth a ddaw o honaw ef, gorph ac enaid, wedi hynny. Eccl. 10. Ac am ei gorph, digon erchyll fydd iddo feddwl y bydd iddo gael seirph, a bwystfilod, a phryfed (fel y dyweid yr Scrythur) yn etifeddiaeth, hynny ydyw y bydd dir y teflir ef allan i fod yn ymborth, i bryfed: y bydd rhaid i'r corph hwnnw oedd 'yn cael ei drin mor foethus o'r blaen, ag amryw ddaintethion o fwydydd, â chlustogau a gwelau manblu, ac a dillad mor wychion ac mor ddillynion, ac amryw addurnau eraill, y rhai nid oedd iawn dybygent [Page 88]hwy, i'r gwynt chwythu, nac i'r haul dywynnu arnynt: y corph hwnnw yr oedd cymmaint balchder o'i degwch, a thrwy 'r hwn y gwnaed cymmaint o oferedd a phechodau, y corph hwnnw oedd gynnefin â phob math ar foethau, ac ni allai ddioddef dim gerwinder, na cherydd yn y byd, fydd raid iddo yr awrhon gael ei wrthod gan bob dŷn, a'i ad [...]el yn vnig i gael ei yssu gan bryfed. Yr hyn beth, er nas gall na fago ofn ac erchylldod ynghalon dŷn wrth farw, etto nid yw hynny ddim wrth y meddyliau erchyll ofnadwy a fydd gantho o achos ei enaid; sef pa beth a ddaw o hwnnw, ac i ba le yr â yn ol ymadael a'r corph: ac yno wrth ystyried y bydd rhaid iddo fyned ger bron brawdle Christ, i gael ei farnu ganddo, naill ai i fwynhau gogoniant annrhaethadwy, ai i ddioddef poenau anesgorol; y daw arno ystyried ym mhellach faint yw 'r perygl o hynny, pan êl i edrych pa gyffelybrwydd sydd rhwng cyfiawnder a bygythion Duw, a osodwyd i lawr yn yr Scrythur lâu, a'i fuchedd ynteu ei hun: yna y dechreu efe holi 'r tŷst, yr hwn yw ei gydwybod ef ei hun, ac y caiff weled ei bod yn barod i roi aneirif o achwynion yn ei erbyn ef pan ddel ger bron brawdle cyfiawnder Duw.
9. Ac yna frawd anwyl, y dechreu gofid a thrueni dŷn. Oblegid nid oes odid o ymadrodd tôst yn yr holl Scrythur lan, na ddaw yn ei gof ef yr amser hwnnw, i beri iddo ofni a dychrynu ar y munud hwnnw, megis y rhai hyn, Os ewyllysi fyned i mewn i'r bywyd cadw 'r gorchymmynion, Mat. 19.17. Yr hwn sydd yn dywedyd ei fod yn adnabod Duw, ac heb gadw ei orchymmynion ef, celwyddog ydyw, a'r gwirionedd nid yw ynddo, 1 Joan. 2.4. Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di? ac oni [Page 89]fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di; ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enwedi? Ac yna yr addef af iddynt (medd Christ) Nid a [...]nabûm chwi erioed, Ewch ymaith oddiwrthyf, chwi weithredwyr anwiredd, Mat. 7.22. Nid gwrandawyr y Gyfraith sy gysiawn ger bron Duw, ond gwneuthurwyr y gyfraith a gyfiawnheir, Rhuf. 2.13. Ewch ymaith oddiwrthyf rai melldigedig i'r tân tragywyddol, yr, hwn a barottowyd i ddiafol ac iw angylion, Matth. 25.41. Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw. Na thwyller chwi, ni chaiff na godineb-wyr, nac eulyn-addol-wyr, na thorwyr priodas, na maswedd-wyr, na gwr-ryw-gydwyr, na lladron, na chybyddion, na meddwyr, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw, 1 Cor. 6.9. Os byw fyddwch yn ol y cnawd, meirw fyddwch, Rhuf. 8.13. Gal. 5.19. Ac amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw torri priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, delw-addoliaeth, swyn gyfaredd, casineb, cynnhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresiau, cynnsigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a'r pethau cyffelyb i'r rhai hyn; am y rhai yr wyf yn rhag-ddywedyd wrthych, megis y dywedais o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu Teyrnas Dduw. Rhaid i ni oll ymddangos g [...]r bron brawdle Christ, fel y derbynio pob vn, y pethau a wnaethbwyd yn y corph, yn ôl yr hyn a w [...]eth, pa [...]m bynnag ai da ai drwg: a phob vn a dderbyn yn ol ei weithredoedd, 2 Cor. 5.10. Dat. 20.12. Nid arbedodd Duw yr angylion a bechas [...]nt, 2 Pet. 2.4. Rhaid yw rhoi cyfrif ddydd farn am bob gair segur a ddywedo dynion. Os braidd y bydd y cy [...]wn cadwedig, pa le 'r ymddengys yr annuwiol a r pechadur, 1 Pet. 4.18. Y chydig yw y rhai sy 'n c [...]el y ffordd gûl; ac yn myned i mewn i'r porth cy [...]yng. Ychydig [Page 90]a ddetholir; Ychydig a fydd cadwedig. Ac anhawdd yw i'r goludog fynedi mewn i Deyrnas nefoedd. Mat. 7.14. Mat. 22.14. Luc. 13.23. Mat. 19.23, 24.
10. Yr holl bethau hyn, meddaf, a mil yn ychwaneg ynghylch tosted barn Duw, a'r cyfrif a ofynnir yn y dydd hwnnw, a ddaw ynghof y rhai bydol wrth farw; a'n gelyn ysprydol (yr hwn yn ein bywyd a wnaeth ei oreu ar gadw 'r pethau hyn allan o'n golwg ni, fel y byddai haws iddo beri i ni bechu) a esyd gwbl o hyn a llawer yn ychwaneg yr amser hwnnw ger ein bronnau ni, ac a helaetha ac a daera bob peth hyd yr eithaf, ac a ddwg ein cydwybod ni ein hunain yn dŷst trosto ar bob peth. A chan na all yr enaid truan sydd yn ymadael wadu dim o hynny, nid yw bossibl na bydd dirfawr ei ofn ef:Hieron. in vit. Hilarion abb. fel yr ydym ni yn gweled beunydd fod y cyfryw ofn ar wyr da duwiol. Y mae S. Ierom yn dywedyd am y gŵr duwiol Hilarion, pan oedd ei enaid, wrth ystyried y pethau hyn, yn ofni yn fawr fyned allan o'r corph; yn ôl hir ymdrech, efe a gymmerodd galon yn y diwedd, ac a ddywedodd wrth ei enaid, dôs allan fy enaid, dôs allan; pa ham yr wyti yn ofni; yr wyti yn gwasanaethu Christ er ys deng mhlynedd a thriugain, ac a oes arnat ti yr awrhon ofn marw? Ac od oedd cymmaint ofn ar wr mor dduwiol a hwnnw wrth ymadael, ac ynteu wedi gwasanaethu Duw mewn purdeb buchedd, a zêl berffaith tros deng mhlynedd a thriugain; pa ofn, dybygwch chwi fydd ar y rhai ni ddarfu iddynt wasanaethu Duw yn gywir ond prin vn diwrnod yn eu holl fywyd, ond yn hyttrach treulio eu holl flynyddoedd mewn pechod a gorwagedd y byd? Oni bydd angenrhaid bod ofn a chyfyngder mawr ar y gwyr hyn wrth ymadael a'r byd?
[Page 91]11. Yn awr, frawd anwyl, gan fod y pethau hyn felly, hynny ydyw, gan fod ymadawiad marwolaeth mor ofnadwy, ac mor beryglus, ac er hynny mor ammhossibl ei ochel; a bod cynnifer o ddynion beunydd yn myned yn golledig, ac yn colli 'r maes yr amser hwnnw, yr hyn nis gellir ei wadu; a bod yr yscrythurau sanctaidd, a hen dadau duwiol, yn tystiolaethu i ni hynny trwy esamplau a choffad wriaethau eraill; pa ddyn a fai a dim synhwyr yn ei ben, ni ddysgai fod yn ddoeth, wrth beryglon rhai eraill? A pha greadur a fai a rheswm gantho, ni ochelai, ac nid edrychai yn ei gylch, ac ynteu wedi cael rhybudd mor amlwg ac mor oleu, faint yw ei berygl? Os wyti Gristion, ac os wyti yn credu yn ddiau, y pethau y mae ffydd Grist yn eu dysgu i ti; yr wyti yn gwybod ac yn credu yn s [...]ccr, o ba radd bynnag, o ba oedran bynnag, o ba gryfder bynnag, o ba fraint a chyflwr bynnag, yr wyti yr awrhon; y bydd rhaid i titheu dy hun sy yn darllein y pethan hyn yn iach ac yn llawen, ac yn tybied nad ydynt hwy yn perthyn fawr i ti; ryw ddiwrnod, a hynny ysgatfydd yn y man ar ol darllein y pethau hyn, gael dy hun brofi 'r pethau hyn yr wyt yn eu darllain: hynny ydyw, y bydd rhaid i ti trwy alar a gofid gael dy yrru i'th wely, ac yno yn ol dy holl ymdrech a phiccellau angeu, y bydd rhaid i ti roi i fynu dy gorph yr wyti 'n ei garu cymmaint, i fod yn abwyd i bryfed; a'th enaid i gael barn gyfiawn a [...] a wnaeth yn y bywyd hwn.
12. Meddwl ditheu fanwylyd, yr hwn wyt heddyw yn hoyw ac yn heini, fod y dengmhlynedd, neu yr vgain mhlvnedd neu y ddwy flynedd, neu ysgatfydd y ddeufis [...]dd i ti etto yn ol o'th oes wedi dyfod i ben, a'th fod ti yr awr hon wedi ymestyn ar dy wely, a chwedi dy orfod a'th flino gan boen a dolur, a bod dy garedigion enawdol yn dy [Page 92]gylch yn wylo ac yn vdo, dy physygwyr wedi cael eu cyflog ac ymadael â thi, a'th roi ditheu i fynu; a'th fod titheu yn gorwedd yno yn fud ac yn aflafar mewn poen dosturus, yn disgwyl o fynud i fynud am gael y dyrnod diwethaf gan yr angeu. Dyweid i mi, pa lês a wnai holl ddifyrrwch a golud y byd i ti yn yr awr honno? Pa gyssur fyddei i ti dy fod gynt yn anrhydeddus yn y byd; dy fod gynt yn gyfoethog a chwedi pwrcasu llawer, a'th fod mewn swyddau, ac mewn ffafor tywysogion; a'th fod yn gadael dy blant a'th dylwyth yn gyfoethogion, a darfod i ti gael y gorfod ar dy elynion, a bod yn fawr dy rwysg yn y byd? Pa esmwythdra, a pha gomffordd fyddei i ti dy fod gynt yn dèg dy bryd, yn wychion dy ddillad, yn wr glan o gorph, yn discleirio mewn aur? Onid mwy o flinder a gofid a wnai 'r holl bethau hyn i ti yr amser hwnnw, nag o lês? Canys yno y cait ti weled ofered y coeg bethau hyn: yno y dechrenai dy galon di ddywedyd o'th fewn; Och mor ddygn yw fy ynfydrwydd a'm dallineb i: wele, dyma ddiben ar fy holl ddifyrrwch i a'm llwyddiant; fe ddarfu bellach fy holl lawenydd i, am holl ddifyrrwch, a'm holl ddiddanwch, a'm holl ddigrifwch: pa le y mae fy ngharedigion i a'm cyfeillion a fyddei arfer o gyd chwerthin a mi? pa le y mae fy ngweision a fyddei yn gweini i mi, a'm plant a fyddei yn fy llawenychu? Pa le y mae fy holl feirch a'm cerbydau y gwnawn fawr rodres a hwynt? Pa le y mae 'r ymbennoethi a'r ymostwng y byddei'r bobl i mi, a'r mawrbarch a roid i mi? Pa le mae 'r lluoedd a fyddai yn fy nghanlyn ac yn erlyn arnaf am negeseu? Pa le y mae fy holl drythyllwch i, a'm nwyfiant a'm ysmalbawch? Pa le y mae fy holl felysgerdd a'm canu, a'm holl dai gwychion, a'm holl wleddoedd a'm daintethfwyd costfawr? Ac yn anad dim, pa [Page 93]le y mae fy holl garedigion anwylgu, a gymmerent arnynt na'm gwrhodent byth? Ond y maent hwy i gyd yr awrhon wedi myned ymaith, a'm gadael innau ymma yn vnig i roi cyfrif am y cwbl, ac ni wna yr vn o honynt hwy cymmaint a mynd gyda myfi i'r farn, na dywedyd vn gair yn fy mhlaid i.
13. Gwae finnau fyth na ragwelswn i'r dydd yma yn gynt, a [...] ymbarottoi yn well erbyn ei ddyfod: hi aeth yn rhyhwyr weithian, ac yr wyfi yn ofni ddarfod i mi bwrcasu damnedigaeth dragywyddol am ychydig fyrr ddifyrrwch bydol, a cholli gogoniant annhraethadwy am orwagedd ac oferedd. Oh dedwydd a thra happus yw y rhai sy yn byw fel na bo rhaid iddynt ofni 'r dydd hwnnw. Yr awrhon y gwelaf fi y rhagor sydd rhwng diwedd y da a'r drwg, ac nid rhyfedd gennyf fod yr Scrythur yn dywedyd am y naill, Psal. 116.15. Gwerth-fawr yngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei Sainct; ac am y llaill mors peccatorum pessima, Drwg iawn yw marwolaeth yr annuwiol. O na buaswn i fyw mor dduwiol ac y bu rhai fyw, ac na buaswn i yn cresawu yr aml ysprydoliaethau da a ddanfonodd Duw yn fy nghalon i, i geisio gennyfi fyw'n dduwiol; neu na wnaethwn y gweithredoedd da a allaswn eu gwneuthur; mor felus ac mor gyssurfawr fuasent hwy i mi yr awr hon yn fy mawr ddygn gyfyngder diwethaf yma.
14. Y meddyliau a'r ymadroddion hyn, frawd anwyl, beth bynnag wyti yr awrhon, sydd dir eu bod yn dy galon di yn awr angeu, oddieithr i ti yr awrhon ochelyd hynny trwy wellhau dy fuchedd, a hynny yn vnig a all roi cyssur i ti yn y dydd trist hwnnw. Oblegid am y rhai da y dywaid y barnwr ei hun, Luc. 21.28. Pan ddechreuo 'r pethau hyn ddyfod edrychwch i fynu, a chodwch eich pennau, canys y mae eich ymwared chwi oddi wrth drallod a [Page 94]thrafferth y byd hwn, yn nesau. Ac y mae 'r prophwyd yn dywedyd am y gwr duwiol, a wnaeth weithredoedd da yn y bywyd hwn, y bydd yr amser hwnnw, Gwyn ei fyd ef: ac y mae 'n dangos yr achos o hynny, Oblegid yr Arglwydd a'i gwared ef yn y dydd drwg, ac a'i nertha ef ar ei glas-wely, ac a gyweiria ei holl wely ef yn ei glefyd, Psal. 41. A hyn yn ddiammau a ddywedir yn benu if am wely angau dyn a'i ymadawiad o'r byd; oblegid y gwely hwnnw, o'r holl welyau eraill, yw'r gwely tristaf a mwyaf ei ofid, fel y dywedais o'r blaen, pan nad ydyw ddim ond pentwrr o bob math ar dristwch a gofid ynghyd, yn enwedig i'r rhai a dynnir iddo cyn eu bod yn barod iddo, megis fynychaf y maent hwy i gyd h [...]b fod, y rhai o ddydd i ddydd sy'n oedi gwellhau eu buchedd, ac heb gymmeryd gofal am fyw yr awrhon yn y cyfryw fodd ac y dymunent wrth ymadael a'r byd ddarfod iddynt fyw.
PEN. IX. Y Poenau sydd wedi eu hordeinio am bechod yn ol y fuchedd hon.
YM mysg yr holl foddion y mae Duw yn eu harfer tu ac at feibion dynion i geis [...]o eu cyffroi hwynt i roi eu bryd yn gwbl ar wellhau eu buchedd, y cryfaf a'r cadarnaf gyda 'r bobl gyffredin, yw ystyried y poenau a barotoodd Duw i bechaduriaid gwrthryfelgar, ac i'r rhai a [...] oseddo ei ochymmynion ef. Ac am hynny y mae efe yn arfer [Page 95]o hynny mor fynych, fel y gellir gweled trwy 'r holl Brophwydi, y rhai nid ydynt agos yu gwneuthur dim ond bygwth plaau a dinistr ar bechaduriaid. A'r, modd hwn yn fynych a dycciodd yn well na dim arall ac a ellid ei arfer, a hynny o achos y cariad naturiol sydd gan bawb o honom ni arnom ein hunain, a'r ofn fydd ynom ni rhag bod perygl arnom ein hunain. Felly yr ydym ni yn darllein nad oedd dim a allai gyffroi 'r Nineseaid, cymmaint a dwedyd iddynt o'r blaen pa perygl oedd vwch eu pennau. A S, Ioan fedyddiwr, er ei fod yn dyfod mewn modd disyml diystyr, etto wrth bregethu i'r bobl mor erchyll oedd y dialedd oedd ar ddyfod, a bod y fwyall wedi ei gosod eisus ar wreiddyn y prenniau, i dorri i lawr iw fwrw yn tàn bob vn ar ni ddygai ffrwyth da, a gwellhau ei fuchedd, efe a wnaeth i'r Publicanod, ac i'r milwyr ofni, er eu bod yn bobl o fettel galed, a chyrchu atto wrth glywed y gennadwri dost honno, a gofyn iddo pa beth a wnaent er mwyn cael gochel y cospedigaethau hyn. Luc. 3.9.
2. Pan ddarpho i ni gan hynny ystyried am farwolaeth, a thost farn Duw sydd yn dyfod ar ól marwolaeth, yn yr hon y mae i bob dŷn dderbyn yn öl ei weithredoedd yn y bywyd hwn, fel y dyweid yr yscrythur lan, 2 Cor. 5. nessaf peth i ni i'w ystyried ydyw yr poenau a osodwyd i'r rhai a gaffer yn feius yn y cyfrif hwnnw; fel y gallei hynny, onis gwna dim arall, ddwyn Christianogion i roi eu bryd ar wasanaethu Duw. Oblegid, fel y dangosais o'r blaen, od oes gan bawb wrth naturiaeth gariad arno ei hun, a chwant i gadw ei esmwythdra ei hun; wrth hynny fe ddylei fod yntho hefyd ofn rhag pob perygl a allai beri iddo gwympo i ddygn drueni ac aflwydd. Hyn y mae S. Bernard yn ei egluro yn orchestol yn ôl ei arfer; Oh ddyn (medd efe) pe [Page 96]rhon i ti a bod wedi bwrw heibio bob cywilydd ac a ddylei fod mewn creadur mor ardderchog ac wyti; oni chlywi di oddiwrth dristwch yn y byd, mwy nag y mae y rhai cnawdol yn ei glywed, etto na choll byth mo'th ofn hefyd, yr hwn sydd hyd yn oed mewn anifeiliaid. Yr ydym ni yn arfer o lwytho assyn, ac o'i flino a gwaith, ac nid gwaeth ganddo, am nad yw ond assyn; ond pe bait ti yn ei wthio ef yn tân, neu yn ei daflu mewn clawdd, fe a wnai oreu dim fyth ac a allai ar ochel hynny, am fod yn hoff ganddo fyw, ac yn ddrwg gantho farw. Ofna ditheu; ac na fydd lai dy synwyr nag anifail. Ofna farwolaeth; ofna 'r farn; ofna vffern. Yr ofn hwn a elwir yn ddechreuad doethineb, ac nid yn gywilydd, neu yn dristwch: am fod yspryd ofn yn gryfach i wrthwynebu pechod, nag yspryd cywilydd, neu dristwch: ac am hynny y dywedir, Meddwl am dy ddiwedd, ac ni phechi di byth. Hynny ydyw, meddwl am y gospedigaeth dragywyddol sydd am bechu yn ôl y fuchedd hon. A hynny a ddyweid S. Bernad. Dihar. 9. Eccles. 7.36.
3. Yn gyntaf gan hynny, i ddywedyd yn gyffredinol am y poenau sydd ynghadw erbyn y fuchedd a ddaw; pettai yr Scrythur làn heb ddangos i ni yn yspysol faint ydynt, etto y mae llawer o resymmau a allai beri i ni gredu eu bod hwy yn dost, ac yn ofidus, ac yn anhawdd dros ben eu dioddef. Canys yn gvntaf, fel y mae Duw yn Dduw yn ei holl weithredoedd, hynny ydyw, yn fawr, yn rhyfeddol, ac yn ofnadwy; felly yn enwedig y mae efe yn dangos hynny wrth roi cospedigaeth am bechod, ac o'r achos hynny y gelwir ef yn Dduw 'r cyfiawnder, ac yn Dduw 'r dial. Am hynny, gan fod ei holl weithredoedd eraill ef yn llawn mawredd, ac yn rhagori llawer ar ein deall ni, ni a allwn wybod hefyd, fod ei law ef wrth gospi yn rhyfeddol. Y [Page 97]mae Duw ei hun yn dysgu i ni ymresymmu felly, pan yw yn dywedyd, Onid ofnwch chwi fi? oni chrynwch ger fy mron i, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i'r môr, trwy ddeddf dragywyddol, fel nad elo tros hwnnw; er i'r tonnau ymgyrchu, etto ni thyccia iddynt derfysgu, etto ni ddeuant tros hwunw. Jer. 5.22. Megis pe dywedai, Os ydywyfi yn rhyfeddol, ac yn rhagori ar eich deall chwi, yn y mor, ac yn fy ngweithredoedd eraill a welwch chwi beunydd; y mae i chwi achos da i'm hofni i, os ystyriwch y bydd fy ngwaith i yn cospi, yn gyffelyb i'r rhai hynny.
4. Ni a allwn fwrw amcan arall ar fawr a thost gyfiawnder Duw, wrth ystyried ei anfeidrol drugaredd annrhaethadwy ef, yr hon sydd o'i wir naturiaeth ef, ac heb na meidr na mesur arni, mwy nag ar ei dduwdod ef, felly y mae ei gyfiawnder ef hefyd. A'r ddau hyn, sydd megis dau fraich i Dduw, yn cofleidio, ac yn cusanu 'r naill y llall, fel y dyweid yr Scrythur lân, Psal. 85.10. Am hynny, megis mewn dyn bydol, os caem fesur y naill fraich iddo, fe fyddai hawdd i ni wybod mesur y llall; felly wrth weled samplau rhyfeddol beunydd o drugaredd Duw tu ac at y thai edifeiriol, ni a allwn wybod wrth hynny mor dost yw ei gyfiawnder ef tu ac at y rhai a roes efe i gadw i'w cospi yn y fuchedd a ddaw, a'r rhai o'r achos hynny y mae efe yn eu galw yn yr Scrythurau, yn llestri digofaint, neu yn llestri i ddangos ei ddigofaint arnynt. Rhuf. 9.22, 23.
5. Y trydydd rheswm i beri ini gredu faint yw ei gospedigaeth ef, yw rhyfeddol ymmynedd, a dioddefgarwch Duw yn y byd hwn, megis pan yw yn dioddef i amryw ddynion fyned rhagddynt o bechod i bechod, o ddydd i ddydd, o flwyddyn i flwyddyn, o oes i oes; ac i dreulio 'r cwbl mewn [Page 98]ammharch a distyrwch ar ei fawredd ef, gan chwanegu camwedd at gamwedd, a gwrthod pob cyngor, ac annog, ac ysprydoliaeth dda a phob moddion caredig a fettro ei drugaredd ef ddyfeisio eu cynnyg iddynt i geisio ganddynt wellhau.
A pha ddyn o'r byd a allai ddioddef hyn? Neu pa galon dŷn marwol a all ddangos y fath ddioddefgarwch a hyn? A phe gallai hyn i gyd ddiangc heb dost gospedigaeth ar y rhai cyndyn yn y byd a ddaw; fe ellid tybied bod hynny yn wrthwyneb i gyfraith cyfiawnder ac vnioudeb, a bod y naill fraich i Dduw yn hwy nâ'r llall. Y mae S. Paul yn cyfwrdd â'r rheswm yma yn ei Epistol at y Rhufeiniaid, lle y mae efe yn dywedyd, Oni wyddosti, o' ddyn, fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch. Ac yr wyt titheu wrth dy galedrwydd, a'th galon ddiediferirol, yn trysori i ti dy hun ddigofaint, erbyn dydd digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw; yr hwn a dâl i bob vn yn ol ei weithredoedd, Rhuf. 2.4. Y mae efe yma yn arfer y geiriau hyn, Trysori digofaint, i arwyddoccau, mai megis ac y mae 'r cybydd yn trysori ac yn pentyrru arian ar arian beunydd, i wneuthur ei bentwr yn fwy; felly y mae 'r pechadur diedifeiriol yn pentyrru pechod ar bechod; a Duw ynteu yn y gwrthwyneb, yn pentyrru digofaint ar ddigofaint, a dialedd ar ddialedd, hyd oni bo llawn ei fesur i'w dalu iddynt yn y diwedd; Mesur ar fesur, fel y dyweid y prophwyd, i gael talu i ni adref, yn ôl lliosowgrwydd ein ffieidd dra, Es. 27.8. A hyn yr oedd Duw yn ei feddwl pan ddywedodd efe wrth Abraham, Na chyflawnesid otto anwiredd yr Amoriaid, Gen. 15.16. a hefyd yn llyfr y datguddiad wrth Joan yr Efangylwr, pan ddibennodd efe 'r llyfr hwnnw yn y modd hyn, Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn etto; a'r hwn sydd frwnt, bydded frwnt etto: canys wele, [Page 99]yr wyf yn dyfod ar frŷs, a'm gwobr sydd gyd a mi, i roddi i bob vn fel y byddo ei waith, Dat. 22.11, 12. Wrth y geiriau hyn y mae Duw yn arwyddoccau fod ei waith ef yn dioddef ac yn cyd-ddwyn a phechaduriaid yn y byd yma, yn arwydd o'i dost gospedigaeth ef yn y fuchedd a ddaw; yr hyn y mae 'r prophwyd Da ydd hefyd yn ei ddangos, lle mae efe wrth son am bechadur diofal yn dywedyd fel hyn: Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef, canys efe a wêl fod ei ddydd ef ar ddyfod, Psal. 37.13. Y dydd yma, yn ddiammau, yw 'r dydd cyfrif, ac amser cospedigaeth yn ôl y fuchedd hon; canys felly y mae Duw yn ei yspyssu ei hun yn helaethach mewn lle arall, yn y geiriau hyn, Titheu fab dyn, fel hyn y dyweid yr Arglwydd Dduw wrth dir Israel, Diwedd, diwedd a ddaeth ar bedair congl tir. Daeth yr awr hon ddiwedd arnat, ac mi a anfonaf. fy nig arnati; ac mi a th farnaf di yn ôl dy ffyrdd ac a roddaf dy holl ffieidd-dra arnat. A'm llygad ni'th arbed ti, ac ni thosturiaf; eithr rhoddaf dy ffyrdd arnat ti, a'th ffieidd-dra fydd yn dy ganol di, fel y gwypoch mai myfi yw'r Arglwydd. Fel hyn y dyweid yr Arglwydd, Drwg, drwg vnig, wele, a ddaeth Y diwedd a ddaeth, daeth y diwedd, y mae 'n gwilio am danat; wele, efe a ddaeth. Daeth y boregwaith attat; daeth y [...] amser; ages yw'r dydd terfysg. Weithiau ar fy [...]der y tywalldaf fy llid arnal, ac y gorphennaf fy nig wrthyt; ac mi a'th farnaf di yn ol dy ffyrdd, ac a rodd [...]f dy holl ffieidd-dra arnat. Am llygad ni th arbed, ac ni thosturiaf wrthyt; rhoddaf arnat yn ol dy ffyrdd, a'th ffieidd-dra fydd yn dy ganol di; a thi a gai wybod mai myfi 'r Arglwydd sydd yn taro. Hyd yn hyn y mae ymadrodd Duw ei hun, Ezec. 7.2. —
6. Wrth hynny, gan ein bod ni weithian yn deall yn gyffredinol, fod yn ddiau y bydd cospedigaethau [Page 100]Duw yn y byd a ddaw, yn fawr ac yn dôst i bob rhai a gwympo iddynt, ac o'r achos hynny y dywaid yr Apostol, Peth of nadwy yw syrthio yn nwylo 'r Duw byw, Heb. 10.31. ystyriwn beth yn neillduol pa fath boenau a chospedigaethau fyddant hwy.
7. Ac yn gynta' dim, am y lle sydd wedi ei appwyntio i fod cospedigaeth y rhai colledig ynddo, ac a elwir yn gyffredin Vffern, y mae yr Scrythur lân mewn amryw ieithoedd, yn arfer amryw enwau arno, a'r cwbl er mwyn dangos ac yspyssu mor dost fydd y poenau sydd raid eu dioddef yno. Yn lladin y gelwir ef INFERNƲS, hynny ydyw, lle odditanodd, neu tan y ddaiar; fel y mae y rhan fwyaf o'r hên dadau yn ei gyfieithu. Ond pa vn bynnag a wnel ai bod tan y ddaiar, ai na bo, siccr iawn ydyw ei fod yn lle mor wrthwyneb i'r nef ac y gall fod, a'r nef a ddywedir ei bod i fynu oddiarnodd. A'r henw yma a arferir i arwyddoccâu mor druan ac mor dostur y gwthir, ac y teflir y rhai damnedig i lawr i'w sathru tan draed Duw a dynion da byth bythoedd. Canys felly y dywaid yr Scrythur lâu. Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn; a'r holl feilchion, a holl weithwyr anwiredd a fyddant sofl. A chwychwi, y rhai ydych yn ofni fy enw i a fethrwch yr annuwolion, a hwy a fyddant yn lludw tan wadnau eich traed chwi. Mal. 4.1, 2 3.
8. Y gair Hebraeg y mae'r Scrythur lân yn ei arfer am vffern, yw [...] Sheol, yr hyn a arwyddocca bwll mawr neu geuffos ddofn, Esa. 14.15. Ac yn y deall hwnnw y gelwir hi hefyd yn llyfr y datguddiad,Hi a elwir felly hefyd am na's digonir hi. yn llynn mawr, neu yn gerwyn fawr digofaint Duw; A thrachefn y gelwir hi yn llynn yn llosgi gan dân a brwmstan. [Page 101]Datc. 14.19. ac 21.8. Yn y Groeg, y mae 'r Scrythur lân yn arfer o dri gair i arwyddoccau yr vn lle, y cyntaf yw [...] Hades, a arferir yn yr Efengyl, ac a arwyddoccaa medd Plutàrch, lle heb oleuni yntho. Yr ail yw [...] Zophos, yr hwn a arwyddoccaa tywyllwch, Ac yn y deall hwnnw y geilw Job hi,In com. Supverba viue latenter. Tir tywyllwch a chysgod angeu, Tir tywyllwch fel y fagddu, a chysgod angeu, a heb drefn; lle mae 'r goleuni fel y tywyllwch. Ac am hynny y gelwir hi yn yr Efengyl, Y tywywylwch eithaf. Y trydydd enw Groeg yw [...] Tartaros, yn Sainct Petr, 2 Pet. 2.4, 17. A'r gair hwnnw sydd yn cael ei dadogaeth o'r Ferb [...] Tarasso, yr hyn a arwyddoccaa dychrynu ac ofni; a thrallodi, a blino, a molestu, ac aflonyddu; a'r henw hwnnw sydd yn dangos fod yn vffern annrhefn erchyll ar boenau, fel y dywed Job am dani ei bod yn lle heb drefn, lle mae erchylldod, a dychryn tragywyddol yn aros ac yn trigo. Job 10.21, 22.
9. Y gair Chaldaeg, yr hwn sydd hefyd yn yr Hebraeg, ac a adewir yn y Groeg, yw Gehenna, Mat. 5.22. yr hwn y mae Christ ei hun yn ei arfer gyntaf, i arwyddoccau lle y rhai damnedig, fel y dywed S. Hierom ar y ddegfed bennod o Efengyl S. Matthew: A'r gair hwn a gyfansoddir o'r gair Gee, a'r gair Hinnom, ac a arwyddoccaa ddyffryn sydd gyfagos i Jerusalem, a elwir dyffryn Hinnom, lle byddai hên ddelw-addolwyr yr Iuddewon yn arfer o losgi eu plant eu hunain yn fyw er anrhydedd i'r cythraul, ac yn lleisio ag vtgyrn, ac a thympauau ac ag offer cerdd vchel-sain eraill, tra fyddent yn eu llosgi, rhag clywed llais a llefain eu plant: Ac i'r lle hwnnw yn ol hynny y byddid arfer o fwrw pob brynti, a thom, a chelaneddau meirwon, a'r cyffelyb fudreddi. Ac y mae'n gyffelyb iawn i'n [Page 102]Iachawdr arfer y gair hwn am vffern, yn hytrach na geiriau eraill, er mwyn arwyddoccau y gofidus losgi sydd ar eneidiau yn y lle hwnnw, a'r llefain a'r gwaeddi tostur sydd gan y rhai a boenir yno; a'r lleisiau a'r germain erchyll anhawddgar sydd gan y rhai sy'n eu poeni, ac mor ddrewllyd, fudr, ffieidd-frwnt ydyw'r lle yma, yr hwn hefyd y mae'r Scrythur lan mewn lleoedd eraill yn dangos ei ddull tan enwau nadroedd, a seirph, a dreigiau, a gwiberod, ac aspiaid, ac yscorpionau, a phryfed gwenwynig eraill, fel y cewch chwi weled yn ol hyn.
10. Gan ddarfod i mi ddangos enwau'r lle hwn, ac wrth hynny dangos peth o'i naturiaeth a'i ddull; y mae 'n canlyn bod i ni ystyried pa fath boenau y mae dynion yn eu dioddef yno. Ac i ddangos hynny, rhaid i ni wybod, megis y mae nef ac vffern yn wrthwyneb i'w gilydd, a chwedi eu hordeinio i ddau fath ar bobl wrthwyneb i'w gilydd, ac am achosion gwrthwyneb iw gilydd; felly y mae iddynt naturiau, a chynneddfau, a swyddau gwrthwyneb i'w gilydd; megis beth bynnag a ddweder am ddedwyddwch y naill, fe wasanaetha hynny yn hydda i ddangos gwrthwyneb annedwyddwch y llall. Megis pan yw S. Paul yn dywedyd am y nef, Na welodd llygad, ac na chlywodd clûst, ac na ddaeth i galon dŷn y pethau a ddarparodd Duw ir rhai di carant ef, 1 Cor. 2 [...].9. wrth y geiriau hynny y gallwn ni wybod fod yn gymmaint poenau y rhai damnedig. Drachefn, pan yw 'r Scrythur lan yn dywedyd fod dedwyddwch y rhai sy'n y nef yn ddedwyddwch perffaith, yn cynnwys pob math ar ddaioni, fel nas gellir meddwl am yn fath ar hyfrydwch nad oes ganddynt hwy: rhaid i ni dybied yn y gwrthwyneb y bydd rhaid i drueni y rhai damnedig, fod yn drueni perffaith, yn cynnwys pob math [Page 103]ar ofid ac a all fod, heb vn yn eisiau: Fel megis ac y mae dedwyddwch y rhai duwiol yn anfeidrol ac yn gyffredinol, felly hefyd y mae gofid ac anghyflwr yr annuwiol yn anfeidrol ac yn gyffredinol. Yn y fuchedd hon nid yw yr holl drueni, a'r anghyflwr a'r poenau sydd yn digwydd ar ddyn, ond neillduol, heb fod yn gyffredinol; fel y gwelwn ni fod vn dŷn a'i boen ac a'i ddolur yn ei lygaid, ac arall a'i ofid yn ei gefn: y rhai er nad ydynt ond poenau neillduol, ydynt er hynny weithiau mor dost, ac mor ddygn, ac nad yw bywyd dyn abl i'w gwrthwynebu, ac ni fynnei ddyn fod arno eu dioddef yn hir, er ynnill mwy nâ llawer o fydoedd ar vnwaith. Ond beth pettai ddŷn, dybygwch chwi, yn dioddef ei boeni ym mhob rhan o'i gorph ar vnwaith, yn ei ben, yn ei lygeid, yn ei dafod, yn ei ddannedd, yn ei wddf, yn ei gylla, yn ei fol, yn ei gefn, yn ei galon, yn ei ystlysau, yn ei forddwydydd, yn ei goesau, yn ei draed, ac ym mhob cymmal yn ei gorph heb law hynny: beth pettai ddŷn, meddaf, yn dioddef ei boeni yn greulon, ac yn dwyn y dygn ofid ym mhob rhan o'i gorph ar vnwaith, heb na thorr, nac esmwythdra; pa ofid a thrueni a allai fod fwy nâ hyn, pa olwg dosturach? Pettit ti yn gweled ci yn gorwedd yn yr heol yn dioddef y fath boenau, mia wn na ellit ti amgen nâ thosturio wrtho. Bellach ystyria ditheu pa ragoriaeth sydd rhwng dioddef y poenau hyn dros wythnos, ai dioddef yn dragywyddol byth; pa ragor sydd rhwng eu dioddef hwynt ar wely esmwyth, a'i dioddef hwynt ar yr alch boeth, neu yn y ffwrnais ferwedig: pa ragor sydd rhwng eu dioddef hwynt ymmysg caredigion a allai gyssuro, a diddanu, ac ymgeleddu dyn, a'i dioddef hwynt ym mysg cythreuliaid vffern, ni wnaent ond ei fflangellu a'i boeni. Ystyria hyn, meddaf, ddarllenydd [Page 104]hynaws, ac os byddai well gen [...]yt gymmeryd poen fawr, nâ dioddef y gofidiau hynny yn y bywyd yma; bydd fodlon i gymme [...]yd ychydig boen, yn hyttrach nâ dioddef y llaill yn y byd a ddaw.
11. Ond i ystyried y pethau hyn ym mhellach, nid yn vnig yr holl rannau hyn o'r corph, y rhai a fu megis yn arfau ac yn offer i wneuthur pechod, a boenir ar vnwaith, ond hefyd pob vn o'r synhwyrau oddi fewn ac oddi allan, a boenir hefyd a'i boenau nailltuol ei hun, a'r poenau hynny yn wrthwyneb i'r peth oedd hoffaf, a difyrraf, a digrifaf gan bob vn o honynt yn y byd hwn. Megis pe dywedid fel hyn, y cai y llygaid gwammal hoywon eu poeni a'i cospi, trwy weled golwg erchyll ofnadwy ar gythreuliaid; y clustiau tyner, a llais ac a drygnad gerwin yr ysprydion damnedig; yr aroglau mursennaidd, a drewi ac a drygfawr gwenwynig brwmstan a brynti anesgorol; y chwaith a blas y genau mwythus blyssig, a dygn wangc a rhaib newyn a syched; a holl rannau 'r corph sydd a bywyd yn ddynt, a than llosgadwy. Drachefn, y tŷb a'r meddwl a boenir trwy ddeall a gwybod oddiwrth y poenau y mae yn eu dioddef, ac a orfydd arno eu dioddef; y côf trwy gofio a meddwl am y plesser a'r difyrrwch a gafodd gynt; y deall trwy ystyried y dedwyddwch a gollodd, a'r trueni a'r anghyflwr a ddaeth iddo. O Gristion truan, pa beth a wnei di ynghanol cymmaint o ofidiau tost.
12. Peth rhyfedd, a pheth, medd vn o'r hên dadau, abl i yrru dŷn a fai a dim rheswm gantho, allan o'i bwyll; yw ystyried yr hyn a ddatguddiodd Duw i ni, yn yr Scrythur lan, ynghylch y poenau hyn; ac etto leied y mae dynion difraw 'r byd hwn yn eu hofni: Oblegid yn gyntaf, y mae nid yn vnig y rhesymmau a ddangoswyd o'r blaen, ond amryw bethau eraill a ellir eu hystyried yn yr Scrythur lan; [Page 105]yn dangos i ni mor gyffredinol, mor amryw, ac mor anfeidrol yw 'r poenau hynny. Megis lle y dywedir am y rhai damnedig, A hwy a boenir ddydd a nos, yn oes oesoedd, Dat. 20.10. A thrachefn wrth grybwyll am Babylon yn vffern, Rhoddwch iddi ofid a galar, Dat. [...]8.7. Wrth yr hyn yr arwyddoceir, bod yn arfer poenau vffern, nid er mwyn ceryddu, ond er mwyn poeni y rhai a ddêl yno. Ac y mae poenau, ie yn y byd hwn, cymmaint a chyn dosted ac y medro synhwyr dyn eu cyrhaedd a'i dyfeisio: Meddwl ditheu, o byddai i Dduw roi cwbl o'i feddwl ar ddyfeisio poenau (fel y gwnaeth efe am boenau vffern) pa fath boenau a fyddei y rhai hynny a ddyfeisiai ei ddoethineb anfeidrol ef?
13. Os medrai efe wrth wneuthur elfen a defnydd y tan i'n comfforddi ni yma ar y ddaiar, ei wneuthur ef mor ofnadwy ac ydyw, fel na synnai ddŷn ddal ei law yn vnig ynddo tros vn diwrnod, er ynnill teyrnas; pa fath dan, dybygwch chwi, a barotoodd efe yn vffern, yr hwn a wnaed, nid i fod yn gomffordd, ond i boeni ac i gospi y rhai a ddêl iddo? Y mae llawer o ragor rhwng ein tan ni yma a'r tan hwnnw, ac am hynny gwir a ddywedodd yr hên dadau am dano, nad yw ein tan ni yma, ond megis eilun tan a baentid ar bared, neu ryw dan dychymmyg, wrth y tan hwnnw. Oblegid ein tan ni a wnaed, fel y dywedais, i fod yn gomffordd, a'r llall i boeni. Y mae 'n rhai i'n tan ni gael ei borthi yn wastad a than-wydd, ac onid ê ef a ddiffydd, a'r tan hwnnw yn llosgi yn wastad, heb ei borthi. Y mae 'n tan ni yn rhoi goleuni, a hwnnw heb roi dim. Y mae 'n tan ni allan o'i le naturiol priodol, ac am hynny yn ceisio esgyn, ac yn ymgais ar i fyn [...], a myned ymaith oddiwrth ym ni, fel yr ydym ni yn gweled: ond y mae 'r tan [Page 106]hwnnw yn ei le naturiol ei hun, lle y gwnaed ef, ac am hynny y mae efe yn aros yno yn wastadol byth. Y mae ein tan ni yn yssu ac yn difa 'r defnydd a rodder ynddo, ac felly ar frŷs yn diweddu 'r boen: a'r tân hwnnw yn poeni, ac heb ddifa 'r peth a fwrier ynddo, fel y byddo 'r boen yn dragywyddol. Ein tan ni a ddiffoddir a dŵr, ac a byla lawer os bydd oer yr awel o'i amgylch; ond nid oes dim a ddiffydd nac a byla 'r tan hwnnw. Yn ddiweddaf, mor ddieithr ac mor anghredadwy ydyw 'r tan hwnnw, ni allwn weled wrth eiriau 'n Iachawdr Christ, y rhai y mae efe mor fynych yn eu hadrodd, Yno y bydd wylofain, a rhincian dannedd, Mat. 13 42. Wylo sydd yn dyfod o achos y boethfa ar llosgi anesgorol sydd yn y tan hwnnw, oblegid bod y boen wrth ddioddef berwi a llosgi yn peri gollwng dagrau yn gynt nag vn boen arall, fel y gellir gweled pan roddo vn beth poeth yn ei enau yn ddisymmwth, neu pan losco ryw fan arall ar ei gorph. A rhingciau neu ysgyrnygu dannedd (fel y gwyr pawb) fydd yn dy [...]od oddiwrth oerni ac anwyd mawr.
Meddwl ditheu pa fath dan yw hwn sydd yn peri gwres ac oerni anesgorol ar vnwaith. O Dduw galluog, mor ddieithr o Dduw ydwyt ti! Mor rhyfeddol ac mor ofnadwy wyt yn dy holl weithredoedd, a'th ddychymmygion! Mor haelionus wyt i'r, rhai sy yn dy garu ac yn dy wasanaethu di! Ac mor dost wyt i'r rhai sydd yn diystyru dy orchymmynion! A ddychymmygaist ti fodd i beri i'r rhai a fo yn gorwedd yn y pwll tan a brwmstan, gael eu poeni hefyd a dy [...]n anwyd oer anesgorol! Pa synwyr ddynol a feidr ddeall pa fodd y gallai hynny fod? Ond dy f [...]rnedigaethau di, o Arglwydd, dyfnder hed waelod ydynt; ac am hynay mi a adawaf hyn ar dy rag [...]eliad di yn vnig ac a'th foliannaf yn dragywyddo! o'i blegid.
[Page 107]14. Heb law 'r poenau cyffredinol sy raid i bawb ac sy yn y lle hwnnw eu dioddef, y mae 'r Scrythur lan yn dangos y bydd yno hefyd boenau neillduol i bob vn ar ei ben ei hun, yn ôl modd a maint pob pechod' ac anwiredd o'r eiddo pob pechadur. Oblegid i'r perwyl hynny y dywaid y prophwyd Esai wrth Dduw, Ti a'i berni fesur wrth fesur, Esa. 27.8.Fally 'r mae lladin yn ei gyfieithu. Ac y mae Duw yn dywedyd am dano ei hun, Mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys, Es. 28.17. A hynny yw meddwl holl fygythion Duw ar bechaduri [...]id lle y mae efe yn dywedyd y tal efe hyd adref, [...]i bob vn o honynt yn ôl eu gweithredoedd bawb o'r neilldu, yn ol dychymmygion eu calonnau eu hunain, Datc. 20.12. Ac yn y deall yma y dywedir yn llyfr y ddatguddiad am Babylon, yn ol ei thaflu i'r llynn tân a brwmstan, Cymmaint ac yr ymogoneddodd hi, ac y bu mewn moethau, y cymmaint arall rhoddwch iddi o ofid a galar, Datc. 18.7. Am hynny o'r lle hwn y casglai 'r hên dadau sanctaidd, y bydd amrafael boenau am amrafael bechodau yn y lle hwnnw. Fel y mae rhagor rhwng pechod a phechod,Li. de verit. paen. cap. 2. felly y bydd amrafael boenau; medd yr hên Ephraim: i'r godinebwr y bydd vn fath ar boenau ac i'r lleiddiad fath ar [...]ll, ac i'r lleidr fath arall, ac i'r meddw fath arali, ac i'r celwyddog fath arall. Megis pettid yn sathru 'r balch tan draed, i dalu iddo am ei falchder; a gorfod i'r glwth ddioddef newyn anghyfartal, ac i'r meddw ddwyn syched anesgorol, a chael o'r genau moethus ei lenwi â bwstl, ac o'r corph tyner ei serio a'i losgi â heiyrn poethion.
15. Y mae 'r Yspryd glan yn dangos y fath beth, lle y mae efe yn crybwyll yn yr Scrythurau am y gwr bydol annuwiol, Ei fwyd a dry yn ei [Page 108]ymysgaroedd: bustl aspiaid ydyw o'i fewn ef: efe a [...]yngcodâ gyfoeth, ac efe a'i chwyda: Duw a'i tynn allan o i fol: efe a sugn wenwyn aspiaid; tafod gwiber a'i lladd ef. Felly y ma [...]'r lladin yn ei gyfiei [...]hu. Efe a dâl hyd adref am yr hyn a wnaeth, ac ni ddifir ef, ond efe a gaiff ddioddef yn ol lliosowgrwydd ei ddychymmygion ei hun. Pob tywyllwch fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tan heb ei chwythu a'i hyssa ef. Dymma ran dyn annuwiol gan Dduw, Job. 20.14. Wrth y geiriau hyn, a'i cyffelyb, y dangosir yn oleu, y caiff y [...]hai bydol, bob vn ei naillduol a'i briodol boenau, am eu glythineb, am eu daintethion a'i ammheuthyn foethus-fwyd, am eu trais a'i traha, a'r cyffelyb. A'r poenau hynny fyddant mwy nag y gall vn tafod daiarol eu hadrodd: fel y gellir gweled wrth y geiriau dirfing ofnadwy y mae'r Scrythur lân yn eu harfer yma i'w hyspyssu hwynt.
16. Heb law hyn, y mae 'r Scrythur lân yn dangos i ni y bydd y poenau hynny nid yn vnig yn gyffredinol i bawb, ac yn neillduol i bob vn, ac yn dôst; ond hefyd yn gyfyngder mawr, heb na help, na chymmorth, nac esmwythdra, na chyssur; lle y mae yn dywedyd, Y teflir ni yno yn rhwym ein traed a'n dwylo, Mat. 22.13. oblegid y mae yn beth comffordd yn y byd yma, allu bod yn abl i wrthwynebu ac i ymdrech â'n gofidiau; ond yno y bydd rhaid i ni orwedd yn llonydd, a dioddef pob peth a ddêl attom. A thrachefn, pan yw yn dywedyd, Caewyd y porth, Mat. 25.10. Hynny ydyw, Caewyd porth pob trugaredd, a phob nawdd a phardwn, a phob esmwythdra, a phob seibiant, a phob comffordd, o'r nef, o'r ddaiar, oddiwrth y creawdr, ac oddiwrth y creduriaid: yn gymmaint ac nad oes dim cyssur i ddisgwyl am dano byth mwy: fel nad oes vn o ofidiau 'r byd hwn ar nas gellir disgwyl [Page 109]peth comffordd ynddo. Y cyfyngder a'r caethiwed yma hefyd a ddangosir yn eglur iawn yn y ddammeg ofnadwy am y glŵth goludog oedd yn vffern, yr hwn oedd wedi ei yrru ir cyfryw angen a chyfyngder, ac y dymunai gael o Lazarus fyned a throchi blaen ei fŷs mewn dŵr i oeri ei dafod ef, ynghanol y tân y mae efe yn dywedyd ei fod yntho; ac nis gallai gael ei ddymuniad. Luc. 16.24. Ni buasei hynny yn fy nhŷb i, ond ymwared bychan iddo, pes gallasai gael yr hyn yr oedd yn ei geisio. Ond etto, i ddangos gaethed ydyw'r lle hwnnw, fe a'i naccawyd ef o hynny. Oh, chwychwi y rhai sydd yn byw ymmŷsg golud pechadurus y byd hwn, ystyriwch, pettei heb ddim ond yr vn esampl yma o doster Duw, ac ofnwch. Yr oedd y gwr hwn mewn rhwysg, a rhodres mawr ychydig o'r blaen, ac heb ystyried gronyn ar y mawr ofid ar dygn drueni yr oedd Lazarus ynddo: ond yr awrhon efe a roddai fil o'r byd, pettynt ar ei helw, am vn defnyn o ddwr i oeri ei dafod. Pa beth lai na hynny a allai ddŷn ei ofyn? Ni feiddiai efe ddymuno cael ei wared allan oddi yno, na chael toli ac esmwythau ar ei boenau, na gofyn llestraid mawr o ddŵr i gomfforddi ei holl gorph, ond yn vnig cymmaint ac a lynai wrth ben bŷs gwr i oeri ei dafod. Beth am yr eisiau y gyrrasid y goludog hwn iddo? Beth am y grym a'r rhinwedd a dybiai ef ei fod mewn vn defnyn o ddwr? Ond tostur oedd y gyfnewid yma oedd ar ei dafod ef, yr hwn o'r blaen oedd gynnefin a chael ei wasanaethu a phob math ar ddiod beraidd? Oh na fedrai'r naill ddyn gymmeryd esampl wrth y llall! Naill ai mae hyn yn wir, ai mae Mab Duw yn gelwyddog. Ac yno, pa fath ddynion ydym ni, a ninnau yn ein gweled ein hunain mewn perygl o sythio i'r cyfryw drueni, na byddwn ddyfalach i gesio ei ochel?
[Page 110]17. O achos bod Duw mor gaeth ac mor dôst, yn naccau pob cyssur a chomffordd yn y dydd hwnnw, y mae 'r Scrythur lan yn dywedyd y bydd dynion yr amser hwnnw y cynddeiriogi, yn ammhwyllo, yn gwallgofi, yn anuioddefgar aruthr, yn cablu Duw, yn melldigo dydd eu ganedigaeth, yn cnoi en tafodau gan ofid, ac yn deisyf ar y creigiau a'r mynyddoedd syrthio arnynt, i ddiweddu eu poenau hwynt. Dat. 16.10. Dat. 13. Dat. 6.16, 17.
18. Bellach os chwanegwn at hyn, dragywyddoldeb ac annarfodedig bara y poenau hynny: ni a gawn weled fod hynny yn chwanegu llawer ar y peth. Oblegid yn y byd hwn nid oes poenau cymmaint, ac nad yw amser naill ai yn eu diweddu ai yn eu lleihau. Oblegid naill ai fe fydd marw y poenwr neu'r hwn a boener, neu fe ddigwydd rhyw achlysur arall, a newidia neu a eswmytha 'r boen. Ond yno nid oes dim cyfryw obaith, na dim o'r fath gomffordd, ond Hwy a boenir medd yr Scrythur lan, ddydd a nos yn oes oesoedd yn y llynn sydd yn llosgi gan dan abrwmstan, Dat. 20.10. Yr hyd y byddo Duw yn Dduw, yr hyd hynny y cant hwythau eu llosgi yno; ac ni bydd marw na'r poenwr, na'r hwn a boener, ond byw fyddant eill dau yn dragywydd, er mwyn cael o'r rhai a boener fod mewn tragwyddol ofid a thrueni.
19. Oh, medd vn o'r tadau gynt mewn myfyrdod duwiol, pes gwyddei bechadur damnedig yn vffern, na byddai raid iddo ddioddef y poenau hynny yno, ond cynnifer mil o flynyddoedd ac yw rhifedi tywod y mor neu'r blewynnau glaswellt ar y ddaiar; neu ond cynnifer mil fyrrdiwn o oesoedd ac sydd o rifedi creaduriaid yn y nef ac yn y ddaiar, fe fyddei lawen dros ben gantho hynny; oblegid efe a ymgyssurai wrth feddwl y byddei ryw amser ddiben ar ei boenau. Ond yn awr, medd y gwr [Page 111]da hwnnw, y mae'r gair yma Byth, yn torri ei galon ef pan feddylio efe am dano; a meddwl, wedi y darpho iddo ddioddef yno fil can myrddiwn cŷd a holl oesoedd y byd, fod cymmaint rhyngtho a chael diben ar ei boenau, ac oedd y dydd cyntaf yr aeth efe i mewn i'r poenau, Ystyria, Ghristion da, mor hir y tybit ti fod vn awr, er nas gorfyddei arnat ddal dy law mewn tan a brwmstan ddim ond yr vn awr honno. Ni a welwn, os bydd gwr yn glaf iawn, er ei fod yn gorwedd ar wely esmwyth, hŷd fydd gantho vn noswaith. Efe a ymdrŷ ac a ymdreigla o ystlys i ystlys, tan gyfri 'r clocc, a rhifo pob awr fel yr êl heibio, ac y mae yn tybieid fod pob awr cyhyd a diwrnod cyfan. A phe dywedai vn wrtho y byddei raid iddo ddiodde'r boen honno ddim ond saith mlynedd ar vntu; fe fyddei agos i anobeithio gan wir ofid. Ac os yw vn noswaith mor hir ac mor faith gan vn a fo'n gorwedd ar wely esmwyth da, er na bo ond tippyn o grŷd yn ei flino; pa beth fydd gantho orwedd mewn tân a brwmstan, pan fyddo efe'n gwybod yn sicer na bydd diben byth ar ei boenau ef? Oh, anwyl frawd, y mae digonedd o'r vn peth yn wastadol, yn ddiflas; hyd yn oed o bethau nid ydynt ddrwglo honynt eu hunain. Pettit ti yn rhwym i fwytta yr vn bwyd yn vnig bob amser, ti a'i diflesit o'r diwedd. Pettit ti yn rhwym i eistedd yn yr vn lle tra fait fyw, heb symmud, fe fyddei flin gennyt hynny, er na byddei neb yn dy gospi yn y lle hwnnw. Pa beth wrth hynny fydd gorwedd yn dragywyddol, byth heb ddiwedd, mewn poenau o'r fath fwyaf ac a ellid eu dychymmyg? Ai possibl byth ei ddioddef? Pa synhwyr, wrth hynny, a pha ddeall, sydd yn y rhai nid ydynt yn gwneuthur mwy o gyfrif o'r pethau hyn nag y maent?
[Page 112]20. Mi a allwn yma ddywedyd vn peth etto y mae'r Scrythur lan hefyd yn ei ddangos, sef yw hynny, y bydd y poenau hyn mewn tywyllwch, yr hwn o hono ei hun sydd beth ofnadwy, i naturiaeth dŷn. Oblegid nid oes wr yn y byd cyn ddewred, a phe bai efe ei hun, yn noeth mewn tywyllwch anesgorol, ac yn clywed llais a nad ysprydion yn dyfod tu acatto, nad ofnai, er na roent vn dyrnod iddo ar ei gorph. Mi allwn hefyd ddywedyd vn peth arall, y mae'r prophwyd yn ei adrodd, hynny yw, y bydd Duw a dynion da yn chwerthin am eu pennau hwy y dwthwn hwnnw, yr hyn sydd ofid nid bychan. Oblegid, fel y mae yn beth comffordd i ddyn yn ei adfyd, gael cwyno iddo gan vn o'i garedigion, felly y mae cael chwerthin am ei ben, yn enwedig gan yr hwn yn vnig a allai help iddo, yn chwanegu yn fawr aruthr ar ei adfyd ef. Dihar. 1.26.
21. Ac etto nid yw cwbl ac a ddywedais i, ond y naill ran yn vnig o gospedigaeth y rhai damnedig, yr hon a eilw y dyfeinwyr paena sensus poen dioddef, hynny ydyw, y boen a rodder ar y corph ar enaid ei dioddef. Ond heb law hyn y mae rhan arall o'r gospedigaeth yma, a elwir, paena damni, poen colled, yr hou fel y tybia yr holl rai dysgedig, nid ydyw ddim llai nâ'r llall, onid ydyw fwy. A hon yw'r golled anfeidrol y mae'r dyn damnedig yn ei gael wrth ei gau byth bythoedd allan o olwg ei wneuthurwr, ac allan o'i ogoniant ef. A chan fod y golwg hwnnw yn ddigon o hono ei hun yn vnig, i wn [...]uthur yn happus ac yn ddedwydd bawb ac a gynnhwyser i'w fwynhau, y mae 'n anghenrhaid bod yn drueni ac yn ofid blin i'r rhai damnedig, fod mewn colled am y golwg hwnnw yn dragywydd. Ac am hynny dymma'r bennaf, a'r gyntaf o'r holl boenau a'r cospedigaethau a roir arnynt: [Page 113] Tynner ymaith yr annuwiol i vffern, fel na welo ogoniant Duw. Es. 26. Acy mae'r golled hon yn cynnwys ynddi bob math a'r golled arall; megis colled am ddedwyddwch tragywyddol, fel y dywedais, a llawenydd tragywyddol, a chymdeichas yr angylion a'r cyffelyb: a'r colledion hynny, pan ystyrio y rhai damnedig hwynt, megis nad yw bossibl iddynt nad ystyriont hwynt yn wastadol, y maent yn cael mwy o ofid a thristwch oddiwrth hynny, fel y dyweid y dyfeinwyr, nag oddiwrth yr holl boenau y maent yn eu dioddef heb law hynny.
22. Ac at hyn y perthyn prŷf y gydwybod, a elwir felly yn yr Scrythur lan, Mar. 9.44. oblegid fal y mae'r pryf yn bwytta ac yn yssu'r coed [...] mae ynddo, felly y bydd ymatgof ein cydwybod ninnau o'n mewn, yn ein cnoi ac yn ein poeni ni yn wastadol. A'r pryf a'r ymatgof a'r ymgno hwnnw a ddwg a'r gof i ni yr holl foddion a'r achosion a'n dug ni i'r dygn ofid hwnnw: megis ein difrawch a'n esceulusdra, a wnaeth i ni golli'r dedwyddwch y mae eraill yn ei fwynhau. Ac with ystyried pob vn o'r pethau hyn, y pryf hwnnw a'n brath ac a'n eny ni yn ddwys ac yn dostlym hyd at y golon. Megis pan osodo o'n blaen ni yr holl achosion a roed i ni i ochel y gofid a'r trueni y byddwn ni yr amser hwnnw ynddo, ac i n dwyn ni i'r gogoniant a gollasom; ac mor hawdd a fuasei i ni wneuthur hynny: ac mor [...]gos fuom ni yn fynych i roi ein bryd ar ei wneuthur; ac mor anraslon y bwriasom ni heibio 'r meddylfryd hwnnw; ac mor fynych y dywedpwyd i ni am y perygl yma, ac etto leied oedd ein gofal a'n hofn ni am ei ochel: mor ofer ac mor orwag oedd y coeg-bethan bydol y treuliasom ni ein hamser ynddynt, ac y collasom y nef o'i plegid, ac y cwympasom i'r trueni anesgorol hwnnw; ef a ddengy's i ni faint yw parch a goruchafiaeth y rhai a gyfrifem [Page 114]ni yn ffyliaid yn y byd hwn; ac fel yr aethom ni yr awrhon yn ffyliaid, ac y chwerddir am ein pennau er doethed gynt y tybiem ein bod. Pan roddo ein cydwybod, meddaf, y pethau hyn, a mil o bethau eraill ger ein bronnau ni, hwy a wnant i ni ofid a thristwch a dolur anfeidrol; am fod yn rhyhwyr bellach eu gwellhau. A'r gofid a'r dolur hwn, a elwir pryf, neu ymgno, neu ymatgof ein cydwybod ni ein hunain; ac fe bair y pryf hwnnw, a'r ymgno, a'r ymatgof, i ddynion wylo ac vdo mwy nag a bair vn o'r poenau eraill, pan ystyriont mor esgeulus, ac mor ynfyd, ac mor ofer fuant hwy i ddyfod i'r poenau anesgorol hynny, ac nad oes mwy bellach amser iddynt i wellhau eu camsynuied a'i hamryfusedd.
23. Yna y daw'r amser i'r dynion hynny i wylo ac i gwynfan, ond ni bydd ond ofer iddynt: Yna y dechreuant ymddigio; ac ymgyffroi, a rhyfeddu wrthynt eu hunain, a dywedyd, pa le'r oedd ein synhwyr ni? pa le'r oedd ein deall ni? pa le'r oedd ein cof ni pan ganlynem oferedd a gorwagedd a diystyru'r pethau hyn? Dyma ymddiddanion pechaduriaid yn vffern medd yr Scrythur, Doeth. 5.8. Pa fudd sydd i ni o'n balchder? a pha les a wnaeth golud a ffrost i ni? Y pethau hyn oll aethant ymaith fel cysgod, ac fel cennad yn rhedeg: fel llong yn myned trwy'r dwr tonnog, yr hon ni ellir cael ei hôl, wedi iddi fyned heibio, na'r llwybr yr aeth hi trwy'r tonnau, &c. Nyni a ymstinasom yn ffyrdd anwiredd a distryw, end ffordd yr Arglwydd nid adnabuom. Hyn, meddaf, a fydd accen dragywyddol y gydwybod ddamne [...]ig yn vffern, gan y pryf hwnnw yn ei chnoi: sef edifeirwch tragywyddol, heb lês o hono. A hynny a'i dwg ef i'r fath anobaith, medd yr Scrythur, ac yr ymgynddeirioga efe yn ei erbyn ei hun, ac y rhwyga ei gnawd ei hun, ac y dryllia, pettei [Page 115]bossibl, ei enaid ei hun, ac y gwahodd y cythreuliaid i'w boeni gan ddarfod iddo ymddwyn mor debyg i anifail yn y byd hwn, ac na wnaeth na darbod na gofalu am y peth pennaf yma, a ddylesid, mewn gwirionedd, feddwl am dano o flaen dim. Oh na chai efe vn hoedl etto, gydâ'r hon a gafodd, i fyw yn y byd, pa fodd, meddwchwi, y treuliai efe yr hoedl honno: Beth mor ddiwyd a fyddai? Beth am dosted fyddai ei fuchedd? Ond ni all hynny fod: nyni yn vnig y rhai sy fyw sy a'r amser hwnnw gennym, pes meddyliem am dano, a rhoi ein bryd ar wneuthur y goreu o hono. Cyn nemmor o ddyddiau, ni a fyddwn ninnau wedi colli'r amser hwnnw, ac nis gallwn ei gael byth drachefn; na allwn, gael vn awr o hono, pe rhoem ni fil o'r holl fyd er ei chael, fel y rhoei y rhai sy wedi myned i golledigaeth eisus, pes gellynt ei chael. Treuliwn ninnau yr amser presennol a roed i ni, fel pan elom ni oddi yma, na bo rhaid i ni ddymuno ein bod yma drachefn.
24. Dyma 'r amser y gallwn ni ochel y cwbl, dyma yr amser y gallwn ni ein diogelu ein hunain rhag yr holl beryglon hynny: Dymma 'r amser, meddaf, os ni a rydd ein bryd allan o law. Oblegid ni wyddom ni beth a ddaw o honom ni yforu: fe allai y bydd ein calonnau ni yforu cyn galetted, ac mor ddiofal am y pethau hyn, ac y buant o'r blaen, ac fel yr oedd calon PHARAO, pan ymadawai MOESEN ag ef: Oh na roesai efe ei fryd ar wneuthur gorchymmyn Duw, tra fyddai MOESEN gvdag ef, mor ddedwydd, ac mor happus fuasai ef! Pe cymmerasai y glwth goludog ei amser, tra oedd mewn hawddfyd, mor fendigedig a fuasai efe! Fe a gawsai rybudd o'r blaen (fel yr ydym ninnau yn cael yr awrhon) o'r trueni a ddeuai arno, gan Foesen a'r prophwydi, fel y mae Christ yn dangos, [Page 116]ond ni fynnai efe wrando. Ond yn ol hynny yr oedd cyn rhyfedded gantho faint fuasei ei ynfydrwydd, ac y mynnai efe gael danfon Lazarus o fynwes Abraham, at ei frodyr, i'w rhybuddio hwy o'r afrwydd deb a gawsai efe. Luc. 16. Ond Abraham a ddywedodd wrtho nad oedd ond seithug iddo geisio hynny, oblegid na choeliai ei froder ef mo Lazarus, ond yn hyttrach ei erlid megis dyn celwyddog, ac vn a fai 'n rhoi enllib i'w brawd anrhydeddus hwy a fuasai farw, pe daethai efe a dywedyd iddynt hwy fod eu brawd yn y fath boenau. Ac felly yn siccr y gwnai annuwolion y byd hwn yr awrhon, pe deuai un a dywedyd iddynt fod eu tadau, neu eu mammau, neu eu ceraint hwy yn golledig yn vffern am y bai a'r bai; ac attolwg arnynt hwythau am edrych yn well at eu buchedd, rhag iddynt hwythau wrth ddyfod i'r vn lle, chwanegu ar boenau eu caredigion, am eu bod yn beth achos o'i colledigaeth hwy, (oblegid dyma'r vnig achos pa ham y mae y rhai damnedig yn gofalu tros y rhai byw, ac nid am ddim cariad sy ganthynt tu ac attynt hwy) pe deuai, meddaf, y fath gennad o vffern at bechaduriaid hoywon y byd hwn, oni chwarddent hwy am ei ben ef, dybygwch chwi? Onid erlidient hwy yn dôst y neb a ddygai iddynt y fath chwedl? Pa beth wrth hynny a ddichon Duw ei ddychymmyg, i geisio gwneuthur y rhai hyn yn gadwedig! Pa ffordd a gymmer efe, a pha foddion, gan na thyccia iddynt na rhybudd, nac esampl rhai eraill, na bygythiau, na chynghorion? Ni a wyddom, neu ni a allem wybod, os nyni ni fydd gwell ein buchedd nag ydyw, nas gallwn ni fod yn gadwedig. Ni a wyddom, neu a ddylem wybod fyned llawer i ddamnedigaeth am lai o achosion. Ni a wyddom, ac ni allwn ni nas gwyddom, fod yn rhaid i ni farw ar fyrder, a chael y pethau a gawsant hwythau; a [Page 117]ninnau yn byw fel hwynt hwy, neu yn waeth. Ni a welwn wrth a ddywetpwyd fod y poenau sydd yn ein haros ni am hynny yn anesgorol, ac er hynny yn dragywyddol. Yr ydym ni yn cyfaddef eu bod hwy yn druain ac yn annedwydd iawn, y rhai er mwyn difyrrwch neu ynnill bydol, sydd eisus wedi syrthio i'r poenau hynny. Pa beth wrth hynny a allai ein llestair ni i roi ein bryd ar geisio diangc oddiwrth bob peth a'n rhwystro; Ac i'n gwared ein hunain allan o rwymau a chadwynau 'r byd hwn, y rhai sy 'n rhwystro i ni wasanaethu Duw mor gywir ac y dylem, ac a chymmaint zel ac y dylem? Pa'm y cysgem ni vn noswaith mewn pechod, gan nas gwyddom ni nad y nos honno yw 'r nos ddiwethaf o'n hoedl ni, yr hon a dyrr oddiwrthym ni bob gobaith am yr amser sydd yn dyfod?
25. Dyro dy fryd, gan hynny, fy mrawd anwyl, ar wasanaethu Duw, od oes dim synhwyr gennyt, ac ymryddhaa oddiwrth y perygl hwn, tra fo Duw yn foddlon i'th dderbyn di, ac yn dy annog di drwy 'r moddion hyn, fel y gwnaeth efe â'r goludog trwy Foesen a'r prophwydi, tra oedd yn ei hawddfyd. Bydded ei esampl ef yn fynych ger bron dy lygaid di, ac ystyria hi o ddifrif, a hi a wna i ti fawr lês. Y mae Duw yn Dduw rhyfeddol, ac i ddangos ei ddioddefgarwch a'i anfeidrol ddaioni, y mae efe yn ymbil ac yn ymnhêdd â ni yn y byd hwn, ac yn ymgais â ni, ac yn ei osod ei hun megis wrth ein traed ni, i geisio ein cynnhyrfu ni a'n cyffroi er twrn da ini ein hunain, i geisio ein hynnill ni, a'n tynnu ni, i'n cadw rhag colledigaeth. Ond yn ôl y fuchedd hon y mae efe yn gwneuthur yn y gwrthwyneb i hynny; y mae efe yn troi 'r ddalen, ac yn newidio ei leferydd: Yn lle oen, y mae efe yn myned yn llew i r annuwiol; ac yn lle bod yn Iachawdr iddynt, y mae efe yn myned yn [Page 118]gosbwr tôst arnynt. Pa beth mwy a ellir ei ddywedyd neu i wneuthur i'n cyffroi ni? Y neb a gaffo rybudd, ac a fo 'n gweled ei berygl ei hun ger bron ei lygaid, ac ni chyffrôo arno, ac ni bo dyfalach ac ofnusach o hynny, ond yn hyttrach cyrchu at ei berygl a syrthio ynddo: er gallu tosturio wrth y cyfryw vn, diau na ellir help iddo mewn vn modd; ac ynteu yn ei wneuthur ei hun yn anghymmwys ac yn anaddas o bob ymwared a aller ei geisio iddo.
PEN. X. Am y gwobr a'r tal anrhydeddus a [...]haelionus, a osodir o flaen pawb a wasanaetho Dduw yn gywir.
FE fyddai ddigon y rhesymmau, a'r ystyriaethau a osodwyd i lawr yn y bennod o'r blaen, i gyffroi calon vn Christion a fai a rheswm ynddo, i roi ei fryd ar wasanaethu Duw, yr hyn yr wyf yn crybw [...]ll am dano, ac yn chwennych yn gymmaint dy berswadio di i'w wneuthur, ddarllennydd hawddgar, a hynny er llês i ti dy hun. Ond am nad yw calonnau pawb o'r vn ddull yn hyn o beth, ac na thynnir ac na chynnhyrfir pawb trwy 'r vn moddion; fy amcan ydyw yma ystyried pa lês a pha ynnill a ddaw i ni oddiwrth hynny, o herwydd bod pob dyn gan mwyaf wrth naturiaeth yn tynnu at ei lês ai elw. Ac am hynny yr ydwyf yn gobeithio y bydd mwy o rym yn hynny tu ac at ddwyn i ben y peth yr ydym yn ei geisio, nag mewn dim arall [Page 119]ac a ddywetpwyd etto. Fy meddwl gan hynny yw traethu am y llês ar elw sydd yn dyfod o wasanaethu Duw, a'r ynnill a geir oddiwrth hynny, a'r taledigaeth da, a'r gwobr helaeth haelionus a rydd Duw i'w weision, yn hyttrach nag un meistr arall, ar a aller ei wasanaethu. Ac er bod ofn y gospedigaeth a gawn ni, onis gwasanaethwn ef, yn ddigon er ein gyrru ni i roi ein bryd ar ei wasanaethu ef; a bod y doniau anfeidrol a gawsom ni gantho ef, yn ein denu ac yn ein gwahodd ni i wneuthur hynny, er mwyn dangos ein bod yn ddiolchgar iddo (ac am y ddeubeth hynny y crybwyllwyd peth o'r blaen:) etto, ddarllennydd daionus, mi a fyddaf fodlon, i roi i ti hyn o rydd-did, os myfi nis dangosaf fod y peth yr wyf yn ei ofyn ar dy law di, yn well ar dy lês di ac yn fuddiolach i ti, nâ dim arall yn y byd ar a ellych di feddwl am dano; ni cheisiaf mo'th rwymo di i'w wneuthur, er dim ac a ddywedais i etto i'r perwyl hwnnw. Oblegid, fel y mae Duw ym mhob peth arall yn Dduw helaeth er fawredd, yn llawn haelioni, a chymmwynasgarwch, a brenhinol haelder; felly y mae efe yn y peth yma, yn anad vn peth arall. Oblegid er nad yw dim a wnelom ni, neu a allom ei wneuthur, ond vnion ddyled arnom iddo ef, ac heb heuddu dim o hono ei hun; etto o'i fawr ddaionus haelioni, nid yw efe yn gadael vn tippyn o'n gwasanaeth ni iddo ef, heb ei obrwyo'n helaeth, hyd yn oed phiolaid o ddwfr oer. Mat. 10.42.
2. Fe a orchymmynnodd Duw i Abraham aberthu iddo ef ei vnig fab Isaac, yr hwn yr oedd efe yn ei garu yn gymmaint: ond pan oedd efe yn barod i wneuthur hynny, Duw a ddywedodd wrtho, Na ddod dy law as y llangc, ac na wna ddim iddo; digon gennyfi weled dy vfydd dod di, O herwydd mi awn weithian dy fod di yn ofni [...]uw, gan nad a [...]eliaist [Page 120]dy fab, oddiwrthyfi. Ac am nas gwrthodaist oi wneuthur, J mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, y bendithiafi dy di, ac yr amlhâaf dy hâd di, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod sydd ar lan y môr; ac yn eu mysg hwy y bydd vn yn Grist, ac yn lachawdr i'r byd. Gen. 22.12. Ond têg oedd y taliad yma am gyn lleied o boen? Y brenhin Dafydd a ddechrenodd ryw ddiwrnod feddwl yntho ei hun, ei fod ef yn awr yn preswylio mewn tŷ o gedrwydd, a bod arch Duw yn aros mewn pabell o fewn y cortynnau: am hynny efe a roes ei fryd ar adeiladu tŷ i'r Arch. Ac fe fu 'r meddwl a'r amcan hwnnw mor cymmeradwy gan Dduw, ac y gyrrodd efe 'r prophwyd Nathan atto ef yn y man, i wrthod gantho hynny, ac etto i ddywedyd iddo, yn gymmaint ac iddo roi ei fryd ar y peth, y gwnai 'r Arglwydd iddo ef dŷ neu yn hyttrach frenhiniaeth, iddo ef ac i'w heppil ar ei ôl, yr hon a barha ai byth ac ni thynnai efe byth ei drugaredd oddiwrchi, pa bechodau ac anwireddau bynnag a wnaent hwy, 2 Sam. 7.1.11, 15. Psal. 89.29. A'r addewid yma a welwn ni ei fod yr awrhon wedi ei gyflawni yn Eglwys Grist, yr hon a gyfododd o'r tylwyth hynny. I ba beth y dangoswn i lawer o'r fath esamplau? Y mae Christ ei hun yn rhoi i ni addysg gyffredinol o hyn, wrth alw 'r gweithwyr, a thalu iddynt eu cyflog mor vnion; a phan yw yn dywedyd am dano ei hun, Wele fi yn dyfod ar frys, a'm gwobr sydd gydâ mi, i dalu i bawb yn ôl ei weithredoedd, Mat. 20. Datc. 22.12. Wrth yr hyn y mae'n amlwg, nad yw Duw yn gadael poen yn y byd a gymmerer yn ei wasanaeth ef heb dalu yn dda am dani. Ac er ei fod ef (fel y dangosir yn ôl hyn mewn lle cyfaddas) yn talu yn y byd yma hefyd, a hynny yn helaeth ddigon; etto (fel y gwelir wrth y ddwy esampl hynny) y mae efe yn oedi ei daledigaeth pennaf, [Page 121]hyd oni ddêl efe ei hun yn niwedd y dydd, hynny ydyw, yn ôl y fuchedd hon, yn adgyfodiad y rhai cyfiawn, fel y dyweid efe ei hun mewn man arall, Luc. 14 14.
3. Ac am y taledigaeth ymma sydd ynghadw i wasanaethwyr Duw yn y fuchedd a ddaw, y mae i ni yr awr hon ystyried, pa beth ydyw, a pha fath ar beth ydyw, a pha vn a wna a i bod yn talu yr llafur a'r boen y mae gwasanaeth Duw yn ei ofyn, ai nad ydyw. Ac yn gynta' dim, os ni a gredwn yr Scrythur lân sydd yn galw y taledigaeth hwnnw yn Deyrnas, ac yn Deyrnas nefol, ac yn Deyrnas dragywyddol, ac yn Deyrnas fendigedig: rhaid i ni gyfaddef yn ddiau fod y tâl a'r gwobr hwnnw yn rhyfeddol o faint, Mat. 25.34. 2 Pet. 1.11. Oblegid nid ydyw Tywysogion bydol yn arfer o roi teyrnasoedd i'w gwasanaethwyr yn dâl am eu llafur a'i gwasanaeth. A phettynt hwy yn eu rhoi, neu yn abl i'w rhoi; etto ni allai y rhai a roent hwy fod yn deyrnasoedd nefol, nac yn rhai tragywyddol, nac yn rhai bendigedig: Yn ail os rhown goel ar yr hyn a ddyweid S. Paul am y taledigaeth hwnnw, Na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i galon dyn, faint ydyw, I Cor. 2.9. Ps. 31.19. ac y mae 'n rhaid i ni wrth hynny dybied yn fwy o hono, oblegid i ni weled llawer o bethau rhyfedd yn ein dyddiau; a chlywed pethau rhyfeddach, ac y gallwn feddwl am bethau rhyfeddol iawn ac anfeidrol. Pa fodd wrth hynny y gallwn ni ddyfod i ddeall faint a gwerthfawroceed yw 'r taledigaeth yma? diau na all vn tafod ar a grewyd, na thafodau dynion nac angylion, ei adrodd, nac vn meddwl er dderbyn, nac vn deall ei gyrhaeddyd a'i amgyffred. Fe a ddywedodd Christ ei hun, Na's gwyr neb beth ydyw, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn: ac am hynny y mae efe yn yr vn man yn ei alw'r Manna cuddiedig, [Page 122]edig, Datc. 2.17. Er hynny, fel y dywedir am ryw Geometrydd da, yr hwn pan gafodd hŷd troed Hercules ar fryn Olympus, a fesurodd ac a dynnodd bortreiad ei holl gorph ef, wrth fesur ei droed: felly y gallwn ninnau wrth ryw bethau sy wedi ei gosod ar lawr yn yr Scrythur lân, ac wrth ryw bethau eraill sydd yn cyttuno â hi, fwrw amcan beth yw y taledigaeth hwnnw, er na bo 'r amcan ddim tebyg i'r peth ei hun.
4. Mi a ddangosais o'r blaen fel y mae 'r Scrythur lân yn galw 'r taledigaeth hwnnw yn deyrnas nefol, dragywyddol, fendigedig: wrth yr hyn yr arwyddocceir, y bydd rhaid i bawb a gynnhwyser yno fod yn frenhinoedd. I'r vn defnydd y gelwir ef mewn lleoedd eraill yn goron gogoniant, yn orsedd mawrhydi, yn baradwys, yn lle o hyfrydwch, yn fywyd tragywyddol, Datc. 2.10. Darc. 3.21. Y mae S. Joan Efangylwr; pan oedd wedi ei ddeol, a'i yrru allan o'i wlad, wedi iddo drwy ryw ragorfraint gael peth gwybodeath a phrawf, o'r lle hwnnw; yn cymmeryd arno ei bortreiadu, trwy ei gyffelybu i ddinas; a dangos fod yr holl ddinas o aur pûr, a chaer fawr vehel iddi o'r maen gwerthfawr, a elwir Jaspis; a bod i'r gaer hon ddeuddeg sail,Nid felly y mae 'r lle. wedi eu gwneuthur o ddeuddeg amryw fain gwerthfawr, y rhai y mae efe yno yn eu henwi: a deuddeg porth, o ddeuddeg maen gwerthfawr a elwid Margarit; ac ym mhob porth yr oedd vn Margarit cyfan: a heol y ddinas oedd wedi ei phalmantu ag aur pùr, yn gymmysgedig o berlau, ac o fain gwerthfawr: a goleuni 'r ddinas honno yw disgleirdeb, a llewyrch Christ ei hun, yn eistedd yn ei chanol hi: ac o'i orsedd-faingc ef y doei afon o ddwfr y bywyd, disglair fel y grisial, i lonnychu'r ddinas: ac ar ddeutu glau yr afon y [Page 123]tyfai bren y bywyd, yn dwyn ffrwyth yn wastadol ddibaid: ac nid oedd dim nos yn y ddinas honno, a dim halogedig nid ai i mewn iddi: ond y rhai sydd o'i mewn hi a deyrnasant ynddi, medd efe, byth bythoedd, Dat. 21.11. &c. Dat. 22.
5. Wrth y portreiad hwn trwy gyffelybiaeth o'r pethau cyfoethoccaf a gwerthfawroccaf yn y byd hwn y mynnei S Ioan i ni ddeall, y pris a'r gwerth, a'r gogoniant, a'r mawrhydi sydd yn y dedwyddwch a barottowyd i ni yn y nef. Ac er (fel y dangosais o'r blaen) mai tywysogawl dref-tadaeth ein lachawdr Christ ydyw, a theyrnas ei Dâd, a thragywyddol drigias y fendigedig drindod a barottowyd er cyn dechreuad y byd, i osod allan ogoniant, ac i ddangos gallu yr hwn nid oes na meidr, na mesur, na diben ar ei allu a'i ogoniant: ni a allwn dybied yn dda gydâ S. Paul, na all na thafod ei draethu, na chalon ei feddwl.
6. Pan gymmero Duw arno wneuthur rhyw beth i ddangos mewn modd, ei allu, a'i ddoethineb, a'i fawredd hyd yr eithaf; meddyliwch ynoch eich hunain pa fath beth fydd hwnnw. Fe ryngodd bodd iddo ryw amser wneuthur rhyw greaduriaid i'w wasanaethu ef yn ei wydd ei hun, ac i fod yn dystion o'i ogoniant ef: ac ar hynny ag vn gair efe a greodd yr Angylion, o herwydd eu rhifedi a'i perffeithrwydd mor ddieithr ac mor rhyfeddol, ac y pair i ddeall dyn synnu wrth feddwl am dano. Oblegid, tu ac at am eu rhifedi, yr oeddynt agos yn aneirif, yn rhagori ar rifedi holl greaduriaid y byd hwn, fel y mae amryw wyr dysgedig, a rhai o'r hên dadau yn tybied: er bod y prophwyd Daniel, yn ôl arfer yr Scrythur lân, yn gosod rhifedi pennodol yn lle rhifedi ammhennodol, pan yw yn dywedyd am yr Angylion. Mil o filoedd a'i gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron, Dan. 7.10. Ac am [Page 124]berffeithrwydd eu naturiaeth, cyfryw ydyw (gan eu bod, fel y dyweid yr Scrythur, yn ysprydion, ac yn dân fflamllyd) a'i bod yn rhagori ar holl greaduriaid y byd hwn, mewn gwybodaeth naturiol a gallu, a'r cyffelyb. Pa anfeidrol fawredd y mae hyn yn ei ddangos ei fod yn y ereawdr.
7. Yn ol hyn, wedi darfod i lawer o'r angylion hyn gwympo, fe ryngodd bodd i Dduw greu creadur arall oedd lawer is nâ hwnnw, i gyflawni lleoedd y rhai a gwympasai; ac ar hynny efe a greodd ddyn o delpyn o bridd, fel y gwyddoch chwi, ac a appwyntiodd iddo fyw tros amser mewn lle pell oddiwrth y nef, yr hwn a wnaethid i'r perwyl hynny, a hwnnw yw'r byd: yr hwn sydd le i'w gynwys ef ac i'w brofi tros amser, a chwedi hynny a ddistrywir. Ac etio, wrth greu'r byd darfodedig hwn (yr hwn nid yw ond lluest yn perthyn i'w drigfa dragywyddol ef) pa allu, pa haelioni, pa fawrhydi a ddangosodd ef? Pa fath nefoedd mor rhyfeddol a greodd ef? Pa rifedi anfeidrol o ser, a goleuadau eraill a ddyfeisiodd efe? Pa fath elfennau, a defnyddiau a luniodd efe? Ac mor rhyfeddol y cymmhwysodd efe 'r cwbl ynghyd? Y mor o'r tu allan i'r llaill yn fawr ei fordwy, a'i ryferthwy a'i donnau yn ymdaflu ac yn ymdreiglo, ac ynteu yn llawn o aneirrif rywogaethau o bysgod: yr afonydd yn rhedeg trwy'r ddaiar, fel gwythenni yn y corph, ac heb fod vn amser yn hŷsp, nac yn llifo tros y ddaiar: y ddaiar hitheu, cyn llawned o bob math ar greaduriald, ac nad yw dyn yn rhaid iddo wrth y ganfed ran o honynt, ond eu bod yn aros i ddangos llaw lawn, a braich cadarn y Creawdr. A hyn i gyd, fel y dywedais, a wnaethbwyd mewn moment, ag vn gair yn vnig: a hynny i'w mwynhau tros amser bychan wrth y tragywyddoldeb sydd i ddyfod. Pa beth wrth hynny, dybygwn ni, fydd [Page 125]y drigfa a barottowyd i'r tragywyddoldeb hwnnw? Os yw lluest y gwâs distatlaf o'r eiddo ef, (yr hon nis gwnaed ond i barhau tros amser, ac megis i fwrw cawod heibio) mor frenhinol, mor wychdeg, ac mor hardd, a chymmaint ei fawrhydi, ac y gwelwn ni fod y byd hwn; pa beth dybygwn ni ydyw llys y brenhin ei hun, a wnaed i barhau yn dragywyddol, iddo ef ac i'w garedigion i deyrnasu ynghyd ynddo. Mae'n rhaid i ni dybied ei fod yn gymmaint, ac y gallai ddoethineb a gallu ei wneuthurwr gyrhaeddyd ei wneuthur ef; hynny ydyw yn anghyfartal, ac yn anfeidrol vwch law pob mesur. Y brenhin Ahasuerus, yr hwn oedd yn teyrnasu yn Asia, ar gant a saith ar hugain o daleithiau; i ddangos ei allu a'i gyfoeth i'w ddeiliaid, a wnaeth wledd, fel y dyweid yr Scrythur lân, yn ei ddinas frenhinol Susa; i holl dywysogion, a rhaglawiaid, a gwyr mawr ei lywodraeth ef, dros gant a phedwar vgain o ddyddiau o'r vntu. Y mae 'r prophwyd Esai yn dywedyd y gwna ein Duw ni Arglwydd y lluoedd, wledd i'w holl bobl ar fryn a mynydd y nef; gwledd o basgedigion breision, ac o loywwin puredig, Es. 25.6. A'r wledd hon fydd mor reiol ac y bydd i fab Duw ei hun, Arglwydd pennaf y wledd, fod yn fodlon i ymwregysu ac i wasanaethu ynddi, megis y mae efe yn addaw a'i air ei hun, Luc. 12.37. Pa fath wledd, wrth hynny, fydd hon? Mor reiol fydd? Mor llawn o fawrhydi? Yn enwedig gan ei bod yn parhau nid yn vnig tros gant a phedwar vgain o ddyddiau, fel gwledd Ahasuerus; ond tros fwy na chant a phedwar vgain mil fyrddiwn o oesoedd; ac nid dynion yn gwasanaethu arni, ond Angylion, a mab Duw ei hun: ac nid i ddangos gallu a chyfoeth cant a saith ar hugain o daleithiau, ond i ddangos gallu a chyfoeth Duw ei hun, Brenhin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi, yr hwn [Page 126]y mae ei allu a'i gyfoeth heb ddiben arnynt, ac yn fwy nag a all ei holl greaduriaid ef na meddwl na deall? Mor ogoneddus gan hynny fydd y wledd hon? Mor orfoleddus fydd llawenydd yr wyl-wledd hon? Och mor anhappus, ac mor ynfyd ydyw meibion dynion, a hwythau wedi ei geni i'r fath fraint ammheuthyn ardderchog, acetto nas gellir eu dwyn nac i'w ystyried, nac i'w garu, nac i wneuthur cyfrif o honaw.
8. Y mae pethau eraill i'w hystyried a all ddangos maint y dedwyddwch hwn: megis hyn, os rhoes Duw cymmaint o hyfrydwch, a doniau comfforddus yn y bywyd hwn ac a welwn ni eu bod yn y byd, yr hwn er hynny i gyd, nid yw ond y wlad yr ydym ni yn wyr deol ynddi, a bro ein alldudaeth ni, a mangre pechaduriaid, a glyn y gofid ar trueni, dyffryn wylofain ac amser i edifeirwch a dagrau, a chwynfan: pa beth a wna efe yn y bywyd a ddaw, i'r rhai cyfiawn, i'w garedigion, yn amser llawenydd, ar ddydd priodas ei fab, Datc. 19.7, Yr oedd ystyried hyn yma yn beth crŷf gan S. Austin, yr hwn yn yr ymddiddan cyfrinachol rhwng ei enaid a Duw, a ddywedodd fel hyn, ô Arglwydd,In soliloquiis animae ad Deu. cap. 20. sed istelib. non credit, esse Aug. os wytti yn rhoi cymmaint o ddoniau aneirif i'r corph gwael hwn eiddom ni, o'r ffurfafen, ac o'r awyr, ac o'r ddaiar, ac o'r môr, o'r goleuni a'r tywyllwch, o'r gwrês a'r cysgod, o'r gwlith a'r cawodydd, o'r gwyntoedd a'r glawogydd, o'r adar a'r pysgod, o'r anifeiliaid ac o'r coedydd, ac amlder y llysiau, ac amryw blanhigion, a thrwy weinidogoeth dy holl greaduriaid: ô Arglwydd da, pa fath bethau a barottoaist ti i ni yn ein cartref nefol, lle y cawn dy weled di wyneb yn wyneb? Os wyti yn rhoi i ni bethau cymmaint yn ein carchardy ni, pa bethau a roi di i ni yn dy frenhinllys [Page 127]dy hun? Os wyti yn rhoi cymmaint o bethau yn y byd hwn i ddynion dà a drwg ynghyd, pa beth sy gennyt ti wedi ei roi i gadw i'r rhai da yn vnig yn y byd a ddaw? Od oes cymmaint difyrrwch a llawenydd yn y dyddiau wylofain yma, pa fath lawenydd fydd ar ddydd y briodas? od oes cymmaint o bethau hyfryd yn ein carchardy ni, pa fath bethau, meddwch chwi, fydd i ni yn ein gwlad? Oh fy Arglwydd a'm Duw, Tydi sydd Dduw mawr, a mawr yw amlder dy haeledd a'th ddaioni di. Ac fel nad oes diben ar dy fawredd, na rhifedi ar dy ddoethineb, na mesur ar dy haeledd: felly nid oes na diben na rhifedi, na mesur, ar dy daledigaethan ir rhai sy'n dy garu di, ac yn ymladd trosot. Hynny a ddywaid S. Awstin. Psal. 31.19.
9. Ffordd arall i fwrw amcan ar y dedwyddwch yma, yw ystyried yr addewidion mawr y mae Duw yn eu gwneuthur yn yr Scrythur lân, er anrhydeddu a gogoneddu dyn yn y bywyd a ddaw: Y Sawl a'm hanrhydeddo i medd Duw, mi a'i gogoneddaf ef, 1 Sam. 2. Ac y mae 'r prophwyd Dafydd megis yn cwyno fod Duw yn anrhydeddu ei garedigion yn gymmaint. Yr hyn y gallasai efe gael achos mwy i'w ddywedyd pe buasai efe byw yn amser y Testament newydd, a chlywed addewid Christ, yr hwna grybwyllais am dano o'r blaen y cai ei weiston ef eistedd i lawr i wledda, ac y byddai ynteu ei hun yn gweini, ac yn gwasanaethu arnynt yn nheyrnas ei Dâd, Luc. 12. Pa synhwyr a all amgyffred a deall faint yw 'r anrhydedd yma? Ond etto fe ellir mewn rhan ei ddychymyg a bwrw amcan arno, wrth yr hyn a ddywaid ef, y cânthwy eistedd i farnu gyd ag ef, yn farnwyr, fel y dywaid S. Paul, nid yn vnig ar ddynion, ond hefyd ar yr Angylion, Mat. 19.28. 1 Cor. 6. Fe ellir bwrw amcan arno hefyd, wrth yr anrhydedd mawr iawn, y mae Duw [Page 128]ar amseroedd yn ei rol i'w weision, ie yn y byd hwn: er eu bod hwy wedi eu gosod ynddo i'w diystyru, ac nid i'w hanrhydeddu. Beth am faint yr anrhydedd a'r parch a wnaeth efe i Abraham, ger bron cynnifer o frenhinoedd y ddaiar, Pharao, Abimelech, Melchizedec, a'r cyffelyb: Beth am yr anrhydedd a wnaeth efe i Foesen ac i Aaron, yn wyneb Pharao, a'i holl lŷs, trwy'r arwyddion rhyfeddol a wnaethant hwy? Beth am yr anrhydedd rhagorol dros ben a wnaeth ef i'r gwr sanctaidd Josua pan fu iddo, 'wrth orchymmyn Josua ac yngwydd ei holl lu beri i'r haul ac i'r lleuad sefyll ynghanol y ffurfafen, y rhai yn hynny, fel y dywaid yr Scrythur [...]an, a fuant vfydd i leferydd dŷn, Jos. 10. Peth am yr anrhydedd a wnaeth efe i Esai, yngwŷdd y brehhin Ezecias, pan wnaeth ef ir haul fyned yn ei ol ddeg o raddau yn y nef, Es. 38. Beth am yr annuydedd a wnaeth efe i Elias yngwydd Ahab annuwiol, pan roes efe yr nefoedd yn ei law ef, a goddef iddo ddywedyd na syrthiai na glaw na gwlith ar y ddainr tros ennyd o flynyddoedd, ond trwy air ei enau ef yn vnig? 1 Bren. 17. Beth am yr anrhydedd a wnaeth efe i Elisaeus yngwydd Naaman y pendefig o Syria, yr hwn a iachàodd efe, a'i air yn vnig oddiwrth ei waban-glwyf: a'i esgyrn ef, yn ôl ei farwolaeth, a gyfodasant y marw i fyw, trwy gyffwrdd ahwy 'n vnig, 2 Bre. 5. ac 13.21. Yn ddiweddaf, i wneuthur pen ar ddwyn esamplau yn hyn o beth, beth am yr anrhydedd godidog a wnaeth efe i holl Apostolion ei fab, fel y byddai i gynnifer ac y rhoent eu dwylo arnynt, gael eu hiachau oddiwith bob math ar wendid, fel y dywaid S. Luc. Ie, a mwy na hyn hefyd, fe wnai hyd yn oed gwregysaù a napcynnau S. Paul yr vn peth: a mwy na hynny hefyd, cynnifer ac a ddaethant o fewn cysgod Sainct Petr a iachêid o'i clefydau, Act. 5. Act. 19. [Page 129]Ond yw hwn yn anrhydedd mawr, ie yn y byd hwn! A fu erioed nac ymmerodr, na brenhin, na thwysog, na gwr mawr, a allai ymffrostio ddarfod iddo wneuthur y cyfryw barch i neb? Ac os gwnaeth Christ hynny, ie yn y byd hwn, i'w weision, ac ynteu yn dywedyd nad yw ei deyrnas ef o'r byd hwn: pa anrhydedd a dybygwn ni ei fod gantho ynghadw iddynt yn y byd a ddaw, lle bydd ei deyrnas ef, a lle y coronir ei holl weision ef megis brenhinoedd gydag ef? Jon. 18. 2 Tim. 4. Datc. 4.
10. Peth arall y mae 'r dyfeinwyr yn ei osod ar lawr i ddangos ac i hyspyssu maint y dedwyddwch yma yn y nef: a hynny ydyw, bod ystyried tri lle a appwyntiwyd i ddyn wrth ei greadigaeth. Y cyntaf yw croth ei fam, yr ail yw'r byd presennol, a'r trydydd yw Caelum empyreum, y nef, yr hwn yw mangre dedwyddwch yn y fuchedd a ddaw. Weithian am y tri lle hyn, rhaid i ni gynnal y fath ragor gwahanredol rhyngddynt i gyd, (trwy bob rheswm) ac a welwn ni yn eglur eu bod rhwng y ddau gyntaf. Felly, edrych beth yw y rhagor sydd rhwng yr ail a'r cyntaf; yn yr vn mesur y bydd rhaid bod y rhagor rhwng y trydydd a'r ail, neu yn hytrach ychwaneg o lawer: gan nad yw'r holl ddaiar i gyd ond megis pwngc neu ditl bychan wrth y maint rhyfeddol sydd yn y nefoedd. Wrth faint y rhagor yma gau hynny, y mae'n rhaid i ni ddywedyd, beth bynnag y mae 'r holl fyd yn ei ragori ar groth vn wraig, yr vn faint y mae mangre 'r dedwyddwch yn rhagori ar yr holl fyd yma, mewn tegwch, a hyfrydwch, a mawrhydi. A chymmaint ac y mae dyn sy'n byw'n y byd, yn rhagori ar ddyn bach ynghroth ei fam, mewn nerth corphorol, a thegwch, a synhwyr, a deall, a dysg, a gwybodaeth: hynny, a mwy o lawer y mae 'r Sainct yn y nef yn ei ragori ar ddynion y byd hwn, yn yr h [...]ll [Page 130]bethau hyn, ac mewn llawer o bethau eraill hefyd. A chymmaint ac a fyddei o chwithdod gan ddyn ddychwelyd i groth ei fam; cymmaint a fyddei ar enaid wedi ei ogoneddu am ddychwelyd yn ei ol o'r nef i'r byd hwn. Hefyd nid yw'r naw mis bywyd ynghroth y fam cyn lleied wrth oes dyn yn y byd hwn, ac ydyw yr oes hwyaf ar y ddaiar wrth y bywyd tragywyddol yn y nef. Ac nid yw dallineb, ac anwybod, a thrueni arall dyn bach ynghroth ei fam, mewn vn modd i'w cyffelybu i ddallineb, ac anwybod, a thrueni arall dyn yn y bywyd hwn; wrth y goleuni, a'r wybodaeth eglur, a'r ddedwyddwch arall sydd yn y fuchedd a ddaw. Fel y gellir wrth hyn hefyd wybod, peth amcan ar y defnydd yr ydym yn sôn amdano.
11. Ond i ystyried y peth yn neillduolach, mae 'n rhaid gwybod y bydd i'r gogoniant nefol hwn ddwy ran, y naill yn perthyn i'r enaid, a'r llall yn perthyn i'r corph. Yr hon sydd yn perthyn i'r enaid, sydd yn sefyll ar weled Duw, fel y ddangosir yn ol hyn. Yr hon a berthyn i'r corph, sydd yn sefyll ar y cyfnewidiad a'r gogoneddiad fydd ar ein cnawd ni, yn ôl yr adgyfodiad cyffredin, trwy'r hyn y gwisg y corph llygredig yma eiddom ni, anllygredigaeth, fel y dywaid Sainct Paul, ac yr a o farwol yn anfarwol, 1 Cor. 15. Ein holl gnawd hwn eiddom ni, meddaf, yr hwn sydd yr awrhon drallodus, a gorthrwm, a blin i'r enaid; yr hwn sydd yr awrhon yn cael ei flino ag amryw aflwydd; yn hyrwym i lawer o gyfnewidiau, yn cael ei folestu a chynnifer o glefydau, wedi ei halogi a llawer o lygredigaethau, yn llawn o drueni ac adfyd aneirif; a wneir y pryd hynny yn ogoneddus, ac o'r fath berffeithiaf, i barhau byth, heb gyfnewid, ac i deyrnasu gyda 'r enaid heb drangc heb orphen. Oblegid fe fydd wedi ei wared oddiwrth y trymder musgrell [Page 131]yma sydd yn bwys arno yn y byd hwn; ac oddiwrth bob math ar glefydau a gofidiau 'r bywyd hwn, ac oddiwrth bob trallod a thrafferth a berthyn i hynny, megis pechu, bwytta, yfed, cysgu, a'r cyffelyb. Ac efe a osodir mewn cyflwr hoyw odiaeth o iechyd nid adfeilia byth. Mor hoyw-wych fydd, ac y dyweid ein lachawdr Christ, Yn y dydd hwnnw y llewyrcha y rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tâd, Mat. 13.43. Dyma ymadrodd rhyfedd gan Grist, ac yn neall dŷn, agos yn anghredadwy, y llewyrcha ein cyrph ni, wedi eu pydru, ac yr ant mor ddisglair a'r haul, lle y bydd o'r gwrthwyneb, gyrph y rhai damnedig mor ddu, ac mor erchyll a'r budreddi. Felly hefyd, yr holl synhwyrau a gant wybod fod yn odidowgach ei grym hwy nag y gallai fod byth yn y byd hwn, fel y dangosir yn ôl hyn, o herwydd fe fydd llawn pob rhan; a phob synhwyr a phob aelod, a phob cymmal, o gomffordd godidog, yr vn modd ac y poenir pob vn o honynt yn y rhai damnedig. Ac yma y dygaf eiriau Anselmus, Cap. 27. am eu bod yn dangos y peth yma yn rhagorol, Yr holl gorph gogoneddus, medd efe, a lenwir a helaethrwydd o bob math ar ddyfyrrwch, y llygaid, y clustiau, y ffroenau, y genau, y dwylo, y gêg, yr ysgyfaint, y galon, y cylla, y cefn, yr esgyrn, y mêr, a'r ymysgaroedd eu hunain: a phob rhan o honynt a lenwir a'r fath annrhaethawl ddigrifwch a phereidd-dra, fel y gellir dywedyd yn ddigon gwir, Yr holl ddyn a lawn-ddigonir, a feddwir, a fwydir, a brasder tŷ Dduw; ac ag afon dy hyfrydwch y diodir ef: Canys gydâ'r Arglwydd y mae ffynnon y bywyd, ac yn ei oleuni ef y gwelwn oleuni, Psal. 36.8, 9. Ac heb law hyn i gyd, y mae yn cael tragywyddoldeb, trwy'r hon y siccrheir ef, na bydd byth marw, ac na newid byth ei ddedwyddwch; yn ôl yr hyn a ddywaid [Page 132]yr Scrythur, Y cyfiawn a fydd byw byth. yr hyn yw vn o ragor-freiniau pennaf y corph gogoneddus; o herwydd trwy hyn y tynnir ymmaith bob gofal ac ofn, ac y symmudir oddiwrthym bob perygl ac enbydrwydd o gael na niweid na sarhaed.
12. Ond bellach i ddyfod at y rhan honno o ddedwyddwch a berthyn i'r enaid, yr hon yw y rhan bennaf, mae'n rhaid i ni ddeall, er bod llawer o bethau yn dyfod ynghyd yn y dedwyddwch yma, i gyflawni ac i berffeithio 'r gwynfyd: etto nid yw ffynnon y cwbl ond vn peth yn vnig, a hynny a eilw 'r dyfeinwyr, visio Dei beatifica, Cael gweled Duw, yr hyn sydd yn ein gwneuthur ni yn ddedwydd. Haec sola est summum bonum nostrum, Li. de Trin. ca. 13. medd S. Awstin, Cael gweled Duw yw 'n daioni pennaf ni a'n dedwyddwch. Yr hyn y mae Christ hefyd yn ei ddywedyd, pan yw efe yn dywedvd wrth ei. Dad. Hyn yw 'r bywyd tragywyddol, bod i ddyn dy adnabod di, yr vnig wir Dduw, a'r hwn a ddanfonaisti, Jesu Grist. Joan. 17.3. Ac y mae S. Paul hefyd yn dangos mai Cael gweled Duw wyneb yn wyneb, yw ein dedwyddwch ni, a S. Ioan mai Cael gweled Duw megis y mae, 1 Cor. 13.12. 1 Io. 3.2. A'r rheswm o hyn ydyw, am fod pob difyrrwch a bodlonrwydd yn y byd (y rhai nid ŷnt ond gwreichion a rhannau wedi eu danfon oddiwrth Dduw) yn gynnwysedig oll yn Nuw ei hun, a hynny yn llawer perffeithi [...] a godidowgach nag y crewyd hwynt yn eu [...]turiau eu hunain: megis hefyd y mae holl berffeithrwydd ei greaduriaid ef yn gyflawnach ynddo ef nag ynddynt hwy. Ac o hyn y canlyn bod ym mhwy bynnag ac a gynnhwyser i gael gweled Duw, ac i ddyfod yn ei wydd ef, holl ddaioni a pherffeithrwydd creaduriaid y byd wedi eu cyssylltu ynghyd, a'i presentio [Page 133]iddo ef ar vnwaith. Megis pa beth bynnag sydd hyfryd gan na'r corph na'r enaid, y mae efe y [...]o yn ei fwynhau yn gwbl, wedi eu cylymmu ynghyd megis yn vn ysgub, ac y mae hynny â'i bresennoldeb yn ei orchfygu ef ym mhob rhan o'i enaid a'i gorph; megys nas gall efe na dychymmyg, na dymuno, na meddwl am lawenydd yn y byd, nad ydyw efe yn ei gael yn ei lawn berffeithrwydd: yno y mae yn cael pob gwybodaeth, pob doethineb, pob tegwch, pob cyfoeth, pob bonedd, pob daioni, pob dyfyrrwch, a phob peth heb law hynny ac sydd yn haeddu na'i garu, na rhyfeddu wrtho, neu yn gweithio hyfrydwch a bodlonedd. Holl alluoedd y meddwl a lenwir a'r golygiad yma ar Dduw, a bod yn ei wydd ef, a'i fwynhau; holl synhwyrau 'r corph a ddigonir. Duw a fydd yn ddedwyddwch cyffredinol i w holl Sainct, yr hwn sydd yn cynnwys ynddo bob math ar ddedwyddwch neillduol, heb drangc heb orphen, heb rifedi, heb na meidr, na mesur. Efe a fydd yn ddrych i'n llygaid ni, yn fusig ac yn felys-gerdd i'n clustiau ni, yn fel i'n geneuau ni, yn balm hyfryd o'r pereiddiaf i'n haroglau ni: efe a fydd yn oleuni i'n deall ni, yn fodlonrwydd i'n hewyllys ni, yn bara tragywyddoldeb i'n cof ni. Ynddo ef y cawn ni fwynhau pob ymrafael fath ar amseroedd sydd yma yn hyfryd gennym ni, a holl degwch y creaduriaid sydd yma yn ein llithio ac yn ein denu ni: a phob digrifwch a llawenydd sydd yma yn ein bodloni ni. Wrth weled Duw, medd vn o'r Doctoriaid, y cawn ni wybod, y cawn ni garu, y cawn ni lawenychu, y cawn ni glodfori. Ni a gawn wybod hyd yn oed cyfrinachoedd a barnedigaethau Duw; y rhai sydd eigion gorddyfnder diwaelod. Nia gawn wybod achosion, a naturiau, a dechreuad, a gwreiddyn a chychwynfa a diwedd pob creadur. Ni a [Page 134]gawn garu yn anghyfartal,Hugo. lib. 4. de anima, cap. 15. ni a gawn garu Duw o herwydd yr aneirif o achosion cariad a gawn eu gweled ynddo, a charu ein cyfeillon cymmaint a ni ein hunain, am y cawn ni weled fod Duw yn eu caru hwy yn gymmaint a ninau, a hynny am yr vn achos ac y mae efe yn ein caru ninnau. Ac o hyn y canlyn, y bydd ein llawenydd ni heb arno na meidr na mesur, Psal. 36.8. am y cawn ni lawenydd neillduol am bob peth ac yr ydym ni yn ei garu yn Nuw, y rhai sy aneirif; a hefyd am y cawn ni lawenychu o achos dedwyddwch pob vn o'n cyfeillion, yn gymmaint ac o achos yr eiddom ein hunain: ac wrth hynny ni a gawn cynnifer o fathau gwahanredol ar ddedwyddwch, ac a fyddo i ni o gyfeillion gwahanredol yn gyfrannogion o'r dedwyddwch hwnnw: a chan fod y rhai hynny yn aneirif, nid rhyfedd ddywedyd o Grist, Dôs i mewn i lawenydd dy Arglwydd, ac nid Aed llawenydd dy Arglwyed i mewn i ti': oblegid nas gall vn galon ac a grewyd dderbyn cyflawnder a maint y llawenydd yma, Mat. 25.21, 23. O hyn y canlyn yn ddiweddaf, y cawn ni foliannu Duw heb na diben na diffygio, a hynny â'n holl galon â'n holl nerth, â'n holl alluoedd, â'n holl rannau, yn ôl yr hyn a ddyweid yr Scrythur lân, Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ di, O Arglwydd, yn wastad i'th foliannant, byth bythoedd, Psal. 84.4.
13. Am y gwynfydedig weled yma a'r Dduw, y mae 'r tâd duwiol S. Awstin yn yscrifennu fel hyn, Gwyn fŷd y rhai glan o galon, canys hwy a gant weled Duw, medd ein Iachawdr; wrth hynny,Tract. 4. in Ep. Ion. Mat. 5. y mae gweled Duw, frodyr anwyl, yn ein gwneuthur ni yn wynfydedig; y mae golwg, meddaf, yr hwn ni welodd llygad yn y byd yma, ac ni chlywodd clust, ac nid aeth i mewn i galon dŷn. Y mae golwg [Page 135]sydd yn rhagori ar bob tegwch pethau bydol, megis aur, arian, coedydd, maesydd, y môr, yr awyr, yr haul, y lleuad, y sèr, yr Angylion: oblegid mai oddi wrth y golwg hwnnw y mae 'r holl bethau hyn yn cael eu tegwch, Ni a gawn ei weled ef wyneb yn wyneb, medd yr Apostol, ac a gawn ei adnabod ef, megis i'n hadwaenir ninnau, 1 Cor. 13.12. Ni a gawn adnabod gallu 'r Tâd,Aug. cap. 36. solilo (que) ni a gawn adnabod doethineb y Mâb, ni a gawn adnabod daioni yr Yspryd glân, ni a gawn adnabod naturiaeth anghy frannol y fendigediccaf Drindod. A'r golwg yma ar wyneb Duw yw llawenydd yr Angylion, a'r holl Sainct yn y nef. Y golwg yma yw gwobr bywyd tragywyddol, hwn yw gôgoniant yr ysprydion bendigedig, a'i dyfyrrwch tragywyddol, a'i coron anrhydedd, a'i hynnill ar ddedwyddwch, a'i hesmwythyd cyfoethog, a'i lle tirion hyfryd, a'i llawenydd oddi fewn ac oddi allan, a'i duwiol baradwys, a'i Jerusalem nefol, a'i dedwyddwch bywyd, a'i llawnder gwynfyd, a'i tragywyddol lawenydd, a'i tangnefedd Dduw yr hwn sydd vwch law pob deall. Y golwg hwn ar Dduw yw llawn ddedwyddwch dyn, a'i hollawl ogoneddiad; sef cael gweled yr hwn a wnaeth nef a daiar; cael gweled yr hwn a'th wnaeth, ac a'th brynodd, ac a'th ogoneddodd di. Oblegid wrth ei weled, ti a'i molienni, Oblegid efe yw tref-tadaeth ei bobl; efe yw perchennogaeth eu dedwyddyd hwy; efe yw'r gwobr y maent yn disgwyl am dano, Myfi yw dy wobr mawr iawn, medd efe wrth Abraham, Gen. 15. O Arglwydd, yr wyti yn fawr, ac am hynny nid rhyfedd by fod di yn wobr mawr. Dy weled di gan hynny, a'th fwynhau, yw 'n holl gyflog ni, a'n holl wobr, a'n holl lawenydd a'n dedwyddwch, yr ydym yn disgwyl am dano, gan dda [...]fod i ti ddywedyd, [Page 136]dyd, Hyn yw 'r bywyd tragywyddol, dy weled a'th adnabod di yr vnig wir Dduw, a'r hwn a ddanfonaisti Jesu Grist. Joan. 17.3.
14. Gan ddarfod bellach ddangos dwy ran gyffredinol y dedwyddwch nefol, y naill yn perthyn i'r enaid, a'r llall i'r corph; nid yw anhawdd bwrw amcan pa ragorol lawenydd a bair pob vn o'r ddwy ran, pan gyssyllter hwy ynghyd, pan ddêl bendigedig ddiwrnod ein gogoneddiad ni. Oh y llawenydd sydd vwch ben pob llawenydd, yn rhagori ar bob llawenydd, a heb yr hwn nid oes dim llawenydd; pa bryd y caf fi fyned i mewn i ti,Soli. ca. 36. medd S. Awstin, Pa bryd y caf dy fwynhau di, i gael gweled Duw, yr hwn sydd yn trigo ynot ti? Oh dragywyddol deyrnas! Oh deyrnas pob tragywyddoldeb: Oh oleuni heb ddiwedd! Oh dangnhefedd Dduw yr hwn sydd vwch law pob deall! lle mae eneidiau 'r Sainct yn gorphywys gyda thi: a llawenydd tragywyddol sydd ar eu pennau; y maent wedi goddiwes llawenyd a hyfrydwch, a phob gofid a griddfan a ffoawdd ymaith oddiwrthynt, Esa. 35.10. & 51.11. Oh mor ogoneddus o deyrnas yw 'r eiddot ti, Arglwydd, yn yr hon y mae 'r holl Sainct yn teyrnasu gyda thi, wedi eu gwisgo â goleuni fel dilledyn, ac ar eu pennau goronau o aur coeth, Psal. 104.2. Psal. 21.3. Oh deyrnas tragywyddol wynfyd, lle 'r wyti, ô Arglwydd, gobaith yr holl Sainct, a choron a thalaith eu gogoniant tragywyddol, yn eu llawenychu hwy o amgylch, ath welediad bendigedig. Yn y deyrnas yma eiddot ti, y mae llawenydd anfeidrol, a digrifwch heb brudd-der, ac iechyd heb dristwch, a bywyd heb lafur, a goleuni heb dywyllwch, a dedwyddwch heb dawl, a phob daioni heb ddim drwg: lle y mae ieuengtid yn ei [...]odau, heb heneiddio byth, bywyd heb ddiben, [Page 137]tegwch heb ddiflannu byth, cariad heb oeri byth, iechyd heb ballu byth, llawenydd heb beidio byth. Ni chlywir byth oddiwrth dristwch, lle ni chlywir cwyno byth, lle ni welir byth achos prudd-der, lle nid rhaid ofni afrwydd-deb byth; Am eu bod hwy yn dy feddiannu di, o Arglwydd, yr hwn wyt berffeithrwydd eu dedwyddwch hwy.
15. Ped ystyriem ni 'r pethau hyn, fel y gwnai 'r gwr Duwiol yma, ac eraill o'i gyffelyb, diammau y cynneuai ac yr ennynnai ynom ni fwy o gariad i'r dedwyddwch hwn a barottowyd i ni, nag sydd ynom; ac felly ni a ymdrechem yn well nag yr ydym i geisio ei ynnill. Ac fel y bo i ti glywed mwy o fyw ynot, ddarllenydd hawddgar, ynghylch hyn o beth, ystyria gyda myfi, Pa ddiwrnod llawen fydd hwnnw yn dy dŷ di, wedi darfod i [...]i fyw mewn ofn Duw, a'i wasanaethu ef hyd ddiw [...]d dy bererindod; a chael dyfod o'r diwedd, trwy gyfrwng angeu, i ymadael a'th drueni ac a'th lafur a meddiannu anfarwoldeb: ac yn y traidd ar ymadawiad hwnnw, pan fo eraill yn dechreu ofni, tydi a gai ddyrchafu dy ben mewn gobaith, fel y mae Christ yn addaw, am fod amser dy ymwared a'th iechydwriaeth di yn nesau, Luc. 21.28. Dyweid i mi pa fath ddiwrnod, dybygidi, fydd hwnnw, pan fo dy enaid di yn myned allan o garchar, ac yn cael ei gyrchu a'i ddwyn i babell nef, ac yn cael ei dderbyn yno gyda minteioedd a byddinoedd anrhydeddus y lle hwnnw: gydâ 'r holl ysprydion gwynfydedig hynny y mae son am danynt yn yr Scrythur lan, sef yw y rhai hynny, tywysogaethau, a galluoedd, a nerthoedd, ac arglwyddiaethau, a thronau, ac Angylion, ac archangylion, a Cherubiaid a Seraphiaid, a hefyd gyda sanctaidd Apostolion a disgyblion Christ, a'r padrieirch a'r prophwydi, a'r merthyron, a'r gwirioniaid, a chonssessoriaid, a holl Sainct [Page 138]Duw; y rhai a orfoleddant i gyd oll wrth dy goroni di a'th ogoneddu. Pa lawenydd a fydd i'th enaid di y dythwn hwnnw, pan bresentier ef yngwydd yr holl rai vchel-swydd hynny, ger bron gorseddfaingc a mawrhydi y fendigedig Drindod, a dangos ac yspyssu dy holl weithredoedd da di, a'th lafur a ddioddefaist er cariad ar Dduw, ac er mwyn ei wasanaeth ef? Pan osoder ar lawr yn y senedd a'r gymmanfa anrhydeddus honno, dy holl weithredoedd da di, a'th holl boen a gymmeraist yn dy alwedigaeth, a'th holl eluseni, a'th holl weddiau, a'th holl ymprydiau, a'th holl ddiniweidrwydd bywyd, a'th holl ddioddefgarwch wrth gael cam, a'th holl ddianwadalwch yn dy adfyd, a'th holl gymmedrolder, a'th gymmesurwydd mewn bwyd a diod, a holl rinweddau da dy holl fywyd? Pan gyfrifer hwy oll, meddaf, yno, a'i canmol oll, a'i gobrwyaw oll, oni chai di weled grym a llês buchedd dda rinweddol? Oni chyfaddefi di'r pryd hynny fod gwasanaeth Duw yn ynnillfawr ac yn anrhydeddus? Oni byddi di lawen yr amser hwnnw, a bendithio 'r awr y rhoist dy fryd gyntaf ar ymadael a gwasanaeth y byd, a myned i wasanaethu Duw? Oni thybygi di dy fod yn rhwymedig iawn i'r neb a'th gynghorodd ac a'th annogodd di i wneuthur hynny? gwnei yn wir.
16. Ac etto mwy na hyn hefyd, pan fych di mor agos i'th ymadawiad oddi yma, ac ystyried i ba fath borthladd diogelwch y daethost, ac edrych yn dy ôl ar y peryglon y daethost heibio iddynt, y rhai y mae eraill etto ynddynt; fe fydd i ti achos mwy o lawer i lawenychu. Oblegid ti a gai weled yn amlwg, mor aneirif o amserau y gallasai ddarfod am danati yn y daith honno, oni bai ddarfod i Dduw fod a'i law drosot ti yn ddiwyd iawn. Ti a gai weled y peryglon y mae eraill ynddynt, yr angeu a'r [Page 139]ddamnedigaeth y mae llawer o'th garedigion a'th gydnabod di wedi syrthio iddynt, y tragywyddol boenau vffernol a haeddodd llawer a fyddei arfer o chwerthin ac o fod yn llawen gyd â thi yn y byd. Yr hyn i gyd a chwanega ddedwyddwch dy fendigedig gyflwr di. Ac weithian o'th ran di dy hun, ti a elli fod yn ddiogel, yr wyt ti allan o bob math ar berygl yn oes oesoedd. Nid rhaid mwy weithian wrth nac ofni, na gwilied, na llafurio, na gofalu. Di a elli fwrw heibio dy holl arfau bellach, yn well nag y gallai meibion Israel, wedi iddynt ynnill gwlâd yr addewid. Oblegid nid oes mwy vn gelyn i'th gyrchu di, ac i osod arnat: nid oes mwy vn sarph ddichellgar i'th dwyllo di: y mae pob peth yn heddychol, y mae pob peth yn esmwythdra, pob peth yn llawenydd, pob peth yn ddiogelwch. Nid rhaid i S. Paul mwy lafurio yngweinidogaeth y gair, nac ymprydio, na gwilio, na chospi ei gorph. Fe all yr hên Ierom dduwiol bellach beidio a'i boeni ei hun ddydd a nôs i geisio gorchfygu ei elyn ysprydol.Hieron. Ep. 22. ad Eust. Dy vnig waith di a'th orchwyl weithian fydd llawenychu, a gorfoleddu, a chanu Hallelujah i'r oen a'th ddug di i'r dedwyddwch hwnnw, ac a'th geidw di yntho, byth ac yn dragywydd. Pa gomffordd fydd cael gweled yr oen hwnnw yn eistedd ar orseddfaingc ei fawrhydi? Os daeth y doethion o'r dwyrain cyn belled ffordd i'w weled ef yn y preseb, a bod mor llawen ganthynt ei weled ef yno, pa beth fydd cael ei weled ef yn eistedd yn ei ogoniant? Os llammodd Ioan fedyddiwr wrth ei bresennoldeb ef ynghroth ei fam, pa beth a wna ei bresennoldeb ef yn ei frenhinol a'i dragywyddol deyrnas? Y mae yn rhagori ar bob gogoniant arall y mae 'r Sainct yn ei gael yn y nef, Medd S. Awstin, De Sanct. Ser. 87. gael o honynt [Page 140]eu cynnwys i gael gweled wyneb gogoneddus Christ, a derbyn pelydr gogoniant oddiwith ddisgleirdeb ei fawredd ef. A phe bai raid i ni ddioddef poenau bob dydd, ie poenau vffern tros amser, er mwyn cael gweled Christ, a chael ein cyssylltu mewn gogoniant at rifedi 'r Sainct, ni byddei hynny ddim wrth y tal a geid am dano. O na wnaem ni gyfrif cymmaint o hyn yma, ac a wnai 'r gwr sanctaidd hwnnw; ni byddem ni byw fel yr ydym, ac ni chollem ni mor gwobr hwnnw er mwyn y fath goegoethau ac y mae y rhan fwyaf o ddynion yn ei golli o'i plegid.
17. Ond i fyned rhagom etto ymmhellch i ystyried y peth hyn, meddwl heb law hyn i gyd, pa lawenydd sydd gan dy enaid di y dwthwn hwnnw, gael cyfarfod a'i holl dduwiol garedigion yn y nef, a thad ac a mam, a brodyr ac a chwiorydd, a gwraig ac a gwr, ag athraw, ac a disgyblion, a chymmydogion ac a chyfneseifiaid, a chydtylwyth ac a chydnabod; a chael y croesaw, a'r llawenydd, a'r mwyn ymgofleidio, a fydd yno, o'r hyn, fel y dy waid S. Cyprian, y bydd llawenydd annrhaethawl. Rhoer at hynny, y beunyddol wledda,Cyp. lib. de immortalit. a'r gorfoledd anghyfartal a fydd yno, pan ddelo brodyr a chwiorydd newydd i mewn, y rhai sy 'n dyfod yno o amser i amser, a chanddynt anrhaith eu gelynion y cawsant y gorfod arnynt yn y byd hwn. Ond pa olwg comfforddus fydd gweled llenwi eisteddleoedd yr angylion a gwympodd, a gwyr ac a gwragedd, o ddydd i ddydd! a gweled gosod coronau gogoniant ar eu pennau hwy, a hynny mewn amryw foddion, yn ôl eu hamryw orfodaeth hwynt: vn am ferthyrdod a chyffessu enw Christ, yn erbyn yr erlidiwr: vn arall am ei ddiweirdeb yn y cnawd: vn arall am dlodi a gostyngeiddrwydd, yn erbyn y [Page 141]byd: vn arall am lawer goruchafia [...], yn erbyn y cythraul, 2 Tim. 2.12. Datc. 2. & 3. & 4. Yno y caiff gogoneddus fintai yr Apostolion, (medd Cyprian sanctaidd) yno y caiff nifeiri llawen y prophwydi, yno y caiff aneirif liaws y merthyron dderbyn coronau am eu marwoluethau a'i dioddefaint. Yno y caiff y gorfoleddus wyryfon, a orchfygasant chwant y cnawd, drwy nerth eu hymgynnal; yno y caiff yr elusenwyr da, a borthasant y tlawd yn haelionus, ac a drosglwyddasant eu golud bydol (yn ôl gorchymmyn Duw) i drysordy 'r nef; dderbyn eu dyledus a'i priodol wobrau. Oh fel yr ymddengys rhinwedd dda yn y dydd hwnnw! Oh mor fodlon fydd gweithredoedd da gan y rhai a'i gwnaeth! Ac ym mhlith yr holl lawenydd a'r bodlonrwydd hwnnw, nid lleiaf fydd gweled yr eneidiau truain a ddêl yno yn ddisymmwth, allan o drueni a gofidiau 'r bywyd hwn, yn sefyll yn synn, ac megys heb wybod oddiwrthynt eu hunain, gan y gyfnewyd yma, a'r anrhydedd disymmwth a wneir iddynt. Pe bai ddyn tlawd a fai allan o'i ffordd, yn crwydro ei hunan ar y mynyddoedd ynghanol noswaith dywyll dymhestlog, ym mhell oddiwrth gwmpeini, mewn eisiau am arian, a'r glaw yn ei guro, a'i taranau yn ei ddychrynu, a'r oerfel yn ei fythu, a chwedi blino gan ei daith, ac agos yn dydd [...]u gan newyn a syched, ac agos i anobeitheio gan liaws gofidiau; pe bai 'r cyfryw ddyn, meddaf, yn ddisymmwth, ar darawiad llygad, yn cael ei osod mewn palas teg, helaeth, cyfoethog, yn llawn o bob math ar oleuadau disglair, a thân gwresog, a [...] aroglau peraidd, a bwydydd dainteiddiol, a gwelyau esmwythglyd, a difyr felys gerdd, a gwisgoedd dillynion a chwmpeini anrhydeddus, a'r cwbl wedi ei barottoi iddo ef, ac yn disgwyl am ei ddyfodiad, i wasanaethu arno, i'w anrhydeddu, ac i'w [Page 142]enneinio ac i'w goroni yn frenhin tros byth; pa beth a wnai 'r dŷn tlawd hwn, meddwch chwi? pa fodd yr edrychai ef? pa beth a fedrai efe ei ddywedyd? yr wyf yn tybiaid yn siccr na fedrai efe ddywedyd dim, ond yn hyttrach wylo yn ddistaw o wir lawenydd, gan na allai ei galon ef amgyffred disymmwth ac anfeidrol faint y llawenydd hwnnw.
18. A hynny i gyd, a llawer mwy a fydd i'r eneidiau llwyr dded-wydd a ddel i'r nef. Canys ni bu erioed na'r tawel-oer gysgod mor hyfryd ar ddydd tesog, poeth, llosgadwy; na'r ffynnon loyw-ddwfr i'r ymdeithydd tlawd ynghanol ei ddygn syched ganol dydd o haf; na gorphywys ar wely man-blu esmwyth i'r gwâs lluddedig, y nôs ar ôl ei waith; nag a fydd yr esmwythdra yma yn y nef, i'r enaid blinedig a ddêl yno. Oh na fedrem ni ddeall hyn, na fedrem brintio hyn yn ein calonnau, frawd anwyl; a ddilynem ni goeg-bethau'r byd fel yr ydym? a esgeulusem ni'r pethau hyn fel yr ydym? Yn siccr y dŷb wan wael sydd gennym am y llawenydd yma, sydd yn peri i ni fod mor oer yn ei geisio. Oblegid pe gwnaem ni y fath bris a chyfrif ar y tlws hwn, ac a wnai marsiandwyr eraill o'n blaen ni, y rhai oedd gyfarwyddach a doethach nâ nyni; ni a gynnygiem am dano fel y cynnygiasant hwythau, neu o'r hyn lleiaf ni byddem ni mor esgeulus a gadael i fyned heibio y peth yr oeddynt hwy mor ofalus yn ymgais am dano. Y mae'r Apostol yn dywedyd am Grist, efe a osododd y llawenydd ger ei fron, ac a ddioddefodd y groes, Heb. 12.2. Dyna gyfrif mawr yr oedd efe yn ei wneuthur o'r peth, pan brynai ef mor brid. Ond pa gyngor y mae efe yn ei roi i eraill ynghylch yr vn peth? Dim ond hyn, Dôs a gwerth gymmaint oll ac a feddych, a phryn y tryssor yma, Mat. 13.45. A pha beth y mae S. Paul yn ei ddywedyd am dano ei hun, ond [Page 143] ei fod efe yn cyfrif pob peth yn dom, wrth geisio prynu 'r tlws yma, Phil. 3.8. Yscolhaig S. Paul, Ignatius ynteu, beth y mae efe yn ei gynnyg am dano? Gwarandewch ei eiriau ef ei hun. Deued tân, a chrôg, a dannedd anifeiliaid, a dryllio fy esgyrn, a chwartorio fy aelodau,Hieron in catalogo. ac yssigo fy nghorph, a holl boenau vffern arnafi i gyd ar vnwaith, os câf fi fwynhau y tryssor nefol yma.Ser. 31. de Sanctis. A S. Awstin yr esgob duwiol, beth y mae ynteu yn ei gynnyg am dano? Chwi a glywsoch o'r blaen y byddai efe bodlon i ddioddef poenau bob dydd, hyd yn oed poenau vffern, er mwyn ynnill y llawenydd hwn. O Arglwydd Dduw, pa ragor oedd rhwng y Sainct duwiol hyn a nyni? Mor wrthwyneb oedd eu tyb a'i barn hwy i nyni yn y pethau hyn! Pwy bellach a ryfedda fod Duw yn barnu doethineb y byd hwn yn ffolineb, a bod y byd yn cyfrif doethineb Duw yn ffolineb? O feibion dynion, medd y prophwyd, pa hŷd yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Psal. 4.2. Pa ham yr ydych yn ymgofleido â gwelltach, ac yn diystyru aur? Ie gwelltach, meddaf ac vs gwael, a chyfryw ac a ennyn dân yn eich tai chwi o'r diwedd, ac a fydd yn gwymp ac yn golledigaeth tragywyddol i chwi.
19. Ond bellach i dynnu at y diben yn y peth hyn, er bod y peth ei hun yn anniben; ystyried Christion i ba beth y ganwyd ef, a pha beth y mae efe yn bossibl i'w gael os efe a'i mynn. Efe a anwyd yn etifedd i deyrnas nef, teyrnas heb ddiwedd arni, teyrnas heb fesur arni, teyrnas dedwyddwch, teyrnas Duw ei hun: efe a aned i fod yn gydetifedd ag Jesu Grist Mab Duw, i deyrnasu gyd ag ef, i orfoleddu gyd ag ef, i eistedd mewn barn a mawrhydi gyd ag ef, i farnu Angylion nef gyd ag ef. Pa ogoniant mwy a ellid meddwl am dano, oni bai [Page 144]gael bod yn Dduw ei hun? Fe a dywelltir am ei ben ef yr holl lawenydd, a'r holl gyfoeth a gynnhwysir yn y nef. Ac i wneuthur yr anrhydedd hwn etto yn fwy, yr Oen gogoneddus sydd yn eistedd ar orseddfaingc y mawredd, a'i lygaid fel fflam dân, a'i draed fel pres coeth, a'i wyneb yn disgleirio yn oleuach nâ'r maen gwerthfawr, yr hwn y daw taranau a mellt o'i orseddfaingc byth bythoedd, yr hwn y rhydd y pedwar henuriad ar hugain eu coronau i lawr ger ei fron; yr oen hwn, meddaf, a gyfyd, ac a'i hanrhydedda ef a'i holl wasanaeth, Luc. 12.37. Pwy ni wna gyfrif o'r etifeddiaeth frenhinol hon? Yn enwedig gan fod i ni yr awrhon amser mor gyfaddas i'w cheisio ac i'w chael hi trwy ddawn ein prynedigaeth, a thrwy'r grâs a bwrcaswyd i ni wrth ein prynu.
20. Dy [...]aid i mi bellach ddarllennydd hawddgar, pa ham na dderbyni di y cynnyg yma y mae efe yn ei wneuthur i ti? Oni wnai di gyfrif o'r deyrnas yma eiddo ef? Pa ham na phryni di y gogoniant yma gantho ef er cyn lleied o boen ac y mae efe yn ei ofyn gennyti? Yr wyf yn dy gynghori di, medd Christ, i brynu gennyfi aur wedi ei buro trwy dân, fel i'th gyfoethoger, Datc. 3.18. Pa ham na chanlyni ei gyngor ef, frawd anwyl, ac ynteu yn gyngor marsiandwr nid oes yn ei fryd mo'th dwyllo di? Nid oes dim mwy gofidus gan ein Iachawdr Christ, na bod dynion yn ceisio trwy gymmaint o boen brynnu gwêllt yn yr Aipht, lle y gwerthai efe iddynt aur pûr yn well newid; a'i bod yn prynu dwfr y pwll, â mwy o boen nag a ofynnai efe am ddeg cymmaint o loyw ddwfr allan o'r ffynnon ei hun. Nid oes gwr o'r annuwiolaf yn y byd, nad yw yn cymmeryd mwy o boen yn ynnill vffern, fel y dangosir yn ôl hyn, nag y mae 'r mwyaf ei boen o wasanaethwyr Duw yn ei gymmeryd i geisio ynnill nef.
[Page 145]21. Ond na chanlyn di mo'i ffolineb hwy fy mrawd anwyl, oblegid ti a gei eu gweled hwy yn dioddef yn dôst am hynny ryw ddiwrnod, pan fo dy galon di yn ddigon llawen nad oes i ti gyfran yn y byd gydâ hwynt. Elont hwy 'n awr a threuliant eu hamser mewn oferedd, a digrifwch, a difyrrwch y byd. Adailadant balassau, prynant swyddau a breiniau, a chwanegant y naill ddarn o dir at y llall: gwibiont ar ôl goruchafiaeth ac anrhydedd, ac adeiladant gestyll yn yr awyr: fe ddaw 'r diwrnod, os coeli di Grist ei hun, pan fo i ti ychydig achos i wynfydu ac i gynfigennu wrth eu dedwyddyd hwy. Luc. 6.25. Os hwy a chwedleuant yn wael am ogoniant a chyfoeth y Sainct yn y nef, heb wneuthur cyfrif yn y byd o'r rhai hynny wrth yr eiddynt eu hunain, ond eu diystyru am na chyfrifir difyrrwch cnawdol yn eu mysg; na wna di fawr gyfrif o'i geiriau hwy, am nad yw 'r dyn anianol yn derbyn nag yn deall y pethau sy o yspryd Duw, 1 Cor. 2.14. Pettai eu meistr yn addo i gephylau wledd fawr, ni fedrent hwy feddwl am well gwledd na chael eu gwala o ebran, o ŷd a dwfr; am nad ydynt hwy yn adnabod seigiau gwell na 'r rhai hynny: felly y gwyr hyn, am nad ydynt hwy gydnabyddus ond a budr-bwll eu cnawdol ddyfyrrwch eu hun, ni fedrant hwy ddyrchafu mo'i meddyliau at ddim a fo vwch na hynny. Ond mi a ddangosais i ti o'r blaen, ddarllennydd tirion, ryw ffyrdd i ystyried ac i feddwl am bethau a fo mwy, er bod yn ddir i ni, fel i'th rybuddiais yn fynych, gyfaddef gyda S. Paul, na all calon dŷn na deall na meddwl y rhan leiaf o honynt: ac nid yw anghyffelyb mai o'r achos hynny y gwaharddwyd i S. Paul adrodd y pethau a welsai ac a glywsai, pan gymmerwyd ef i fynu yn rhyfeddol i'r drydedd nef. 1 Cor. 2.9. 2 Cor. 12.
[Page 146]22. I ddibennu weithiau, y mae 'r gamp a'r gyngwystl yma wedi ei gosod i, fynu i'r rhai a redo, fel y dywaid S. Paul, ac ni choronir neb, ond yn vnig y rhai a ymdrecho, fel y mae 'r vn Apostol yn dysgu. 1 Cor. 9.24. 2 Tim. 2.4. Nid pwy bynnag a ddywedo wrth Grist, Arglwydd, Arglwydd a â i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys ei Dâd ef yr hwn sydd yn y nefoedd, Mat. 7.21. Er bod y deyrnas yma eiddo Christ wedi ei gosod o flaen pawb, etto ni chaiff pob dyn ddyfod i deyrnasu gyd a Christ, ond yn vnig y rhai a fo bodlon i ddioddef gyda Christ. Dy ran di gan hynny yw eistedd i lawr, ac ystyried yn ôl cyngor dy lachawdwr, pa beth a w [...]ei, a oes gennyti cymmaint o arian ysprydol, ac a fo ddigon i adeiladu 'r twr hwn, ac i fyned i'r rhyfel hon, ai nad oes: hynny ydyw, a oes gennyti ynot cymmaint o ewyllys da, a gwroliaeth sanctaidd, a chlywed arnat ddioddef poen gyda Christ (os poen y gelwir hynny, ac ynteu yn hyttrach yn hyfrydwch) fel y gallech di felly deyrnasu gyd ag ef yn ei deyrnas, Luc. 14.27, 28. Hyn yw'r Questiwn, ac dyma holl derfyn y peth, ac at hyn y perthyn pob peth ac a ddywedpwyd yn y llyfr hwn o'r blaen, pa vn bynnac a'i am dy ddiwedd neillduol di, ai am fawrhydi, a haelioni, a chyfiawnder Duw; ac am y cyfrif a ofyn efe gennyt ti; a hefyd am y gospedigaeth a'r taledigaeth sy wedi eu rhoi i gadw i ti: Fy amcan; meddaf, yn hyn i gyd, yw ceisio peri i ti fesuro y naill ran, ar llall hefyd, ac felly rhoi dy fryd ar edrych pa beth a wnait, ac na ollyngyt mo'th amser heibio mewn diofal esgeulusdra, fel y gwna llawer heb ganfod byth mo'i hamryfusedd a'i camsynnied, hyd oni byddo rhyhwyr ei wellhâu.
23. Er cariad ar Dduw gan hynny, frawd anwyl, ac er y cariad sy gennyt i'th enaid dy hun, ysgwyd [Page 147]ymaith y diofalwch peryglus yma, yr hwn y mae cig a gwaed yn arfer o suo i ddynion i gysgu ynddo: a dôd gwbl o'th fryd, o ddifrif dy galon, ar edrych am dy enaid, erbyn y fuchedd a ddaw. Cofia yn fynych y dywediad gwiw hwnnw, Hoc momentum, unde pendet aeternitas, Mynudyn a moment o amser yw 'r byd hwn, etto arno ef y saif holl dragywyddoldeb bywyd ac angeu 'r byd a ddaw. Onid ydyw ond mynudyn, ac os ydyw fynudyn o gymmaint pwys, pa fodd y mae dynion y byd yn ei ollwng heibio mor ddiofal ac y maent.
24. Mi a allaswn yma ddwyn aneirif o resymmau ac ystyriaethau i gynnhyrfu dynion i roi eu bryd yn gwbl ar wasanaethu Duw; ac yn siccr ni by ddei vn llyfr o'r mwyaf ddigon i gynnwys cymmaint ac a ellid ei ddywedyd am y peth hyn. Oblegid nid yw 'r holl greaduriaid sy tan y nef, ie yn y nef ei hun, ac yn vffern hefyd; nid yw 'r cwbl, meddaf, o'r cyntaf hyd y diweddaf, ond megis rhesymmau i annog ac i berswadio dyn i hynny; nid yw 'r cwbl ond megis llyfrau a phregethau, a'r cwbl yn pregethu ac yn llefain (rhai drwy eu cospedigaeth, rhai drwy eu gogoniant, rhai drwy eu tegwch, a'r cwbl drwy eu creedigaeth a'i gwneuthuriad) y dylem ni, yn ddioed ac yn ddiohir, roi ein bryd ar wasanaethu Duw; ac nad yw pob peth arall amgen nâ gwasanaethu ein gwneuthurwr a'n prynwr, ond oferedd oll, ac ynfydrwydd oll, ac anwiredd oll, a thrueni oll. Ond etto er hynny, fel y dywedais, mi a dybiais yn dda ddethol yr ychydig bethau hyn a osodwyd i lawr, i ystyried arnynt, megis y pethau pennaf ym mhlith y llaill, a allai weithio ynghalon gwir Gristion. Ac onis gall y rhai hyn weithio ynot ti, ddarllennydd hynaws, nid oes fawr obaith y gwnai ddim arall i ti mor llês. Ac am hynny, yma y diweddaf y rhan hon, ac a adawaf ychydig bethau etto [Page 148]i'w dywedyd yn yr ail rhan, er mwyn tynnu ymmaith y cyfryw rwystrau, ac y mae ein gwrthwynebwr ysprydol yn arfer o'i gosod yn erbyn y gwaith da yma, megis yn erbyn y cam cyntaf o'n lechydwriaeth ni. Ein Harglwydd Dduw, a'n Iachawdr Iesu Grist, yr hwn a fu fodlon i dalu ei waed ei hun, i ni; a roddo i ni ei râs, i wneuthur y fath gyfrif o honi ac y mae pwys y peth ei hun yn ei ofyn, ac na bo i ni trwy esgeulusdra, golli ein cyfran o honi. Amen.
YR AIL RHAN O'R LLYFR HWN.
PENNOD. I. Am y rhwystrau sydd yn llestair i ddynion roi eu bryd ar wasanaethu Duw, ac yn gyntaf, am yr anhawsder a'r caledi a dybygir eu bod mewn buchedd dduwiol.
ER maint o resymmau ac o ystyriaethau a osodwyd i lawr o'r blaen, i geisio dwyn, a denu dynion i rôi eu bryd ar beth mor anghenrheidiol ac ydyw gwasanaethu Duw; etto y mae llawer o Gristianogion yn y byd, y rhai y mae eu calonnau naill a'i wedi eu maglu gan ddyfyrrwch y bywyd hwn, ai gwedi eu rhoi o Dduw i fynu i feddwl anghymmeradwy, nad ymroant hwy vn gronyn i'r cais a'r cyrch a roddwyd arnynt; ond eu dangos eu hunain yn galettach na'r Adamant, ac nid yn vnig gwrthwynebu a diystyru 'r cwbl, ond gydâ hynny chwilio am escusodion dros eu diogi a'i hannuwio [...] deb, a dwyn rhesymau trostynt, i'w colledigaeth eu hunain. Rhesymmau yr wyf yn eu galw hwy, fel y gelwir hwy yn gyffredin, er nad oes yn siccr [Page 150]vn peth mwy yn erbyn rheswm na bod i ddyn fyned yn elyn i'w enaid ei hun, fel y mae 'r Scrythur lân yn dywedyd fod pechaduriaid anhydyn, Dihar. 8.36. Ond etto er hynny, mae ganddynt eu hescusodion: a'r cyntaf a'r pennaf o'r cwbl ydyw, bod buchedd dduwiol yn boenus ac yn galed, ac am hynny na allant hwy ddioddef ei chanlyn: yn enwedig y rhai a dducpwyd i fynu, yn dyner ac yn fwythus, ac ni buant erioed gynnefin a'r cyfryw arwder, ac y tybiant ein bod ni yn ei ofyn ar eu dwylo hwy. Ac y mae hyn yn rhwystr mawr, helaeth, cyffredinol, ac yn attal llawer iawn oddiwrth y moddion fydd iddynt i ymchwelyd at Dduw, ac am hynny y mae'n rhaid atteb hynny yn helaeth yn y fan hon.
2. Yn gyntaf gan hynny, pe rhôn a bod ffordd buchedd dduwiol mor galed mewn gwirionedd, ac y mae'r gelyn yn peri i lawer dybied ei bod hi; etto mi a allwn ddywedyd yn hydda, gydâ S. Ioan aur-eneu,Chrys. lib. de compunct. cordis. gan fod y gwobr mor fawr, ac mor anfeidrol ac y dangosasom eisus, na ddylid cyfrif yn fawr boen yn y byd a gymmerid i ddyfod o hyd iddo. Drachefn, mi a allwn ddywedyd gyda S. Awstin dduwiol,Hom 16. ex So. gan ein bod ni beunydd yn y byd hwn yn cymmeryd poen fawr i ochel gwrthwyneb bychan, megis clefyd, carchar, colled am dda, a'r cyffelyb: pa boen a ddylem ni ei gwrthod i geisio gochel tragywyddoldeb tân vffern, a grybwyllwyd am dano or blaen? Y cyntaf o'r pethau hyn y mae S. Paul yn ei ystyried, pan yw 'n dywedyd, Nid yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatguddir i ni yn y fuchedd a ddaw, Rhuf. 8.18. Yr ail peth y mae S. Petr yn ei ystyried pan yw yn dywedyd, Gan fod yn rhaid i'r nefoedd a'r defnyddiau, a'r ddaiar, a'r gwaith a fyddo [Page 151]ynddi, ymollwng; a bod yn ddir y daw Christ i farnu, ac i dalu i bawb yn ôl ei gweithredoedd; pa ryw fâth ddynion a ddylem ni fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, 2 Pet. 3.10. Megis pe dywedid, ni ddylem ni dybied fod na llafur, da phoen, na thrafael yn y byd, yn ormodd nac yn rhy galed i ni, i geisio gochel dychryndod y dydd hwnnw. Y mae Sainct Awstin yn gofyn y Questiwn yma, Pabeth dybygem ni a wnai'r glŵth goludog, pettai efe yr awrhon yn y bywyd yma drachefn: oni byddai efe fawr ei boen a'i ofal yn gynt nag yr ai efe yn ei ôl drachefn i'r lle poenus hwnnw? Mi a allwn chwanegu at hynny y poenau anfeidrol a gymmerodd Christ trosom ni; yr anfeidrol ddoniau a roddodd efe i ni? yr anneirif bechodau a wnaethom ni yn ei erbyn ef; aneirif esamplau 'r Sainct a gerddasant y llwybr yma o'n blaen ni: ac wrth hynny i gyd ni ddylem ni wneuthur cyfrif yn y byd o boen a llafur cyn lleied, pettai wir fod gwasanaeth Duw mor flin ac y mae llawer yn ei gyfrif.
3. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r peth felly ddim, ac nid yw hynny ond hud a dichell y gelyn i geisio ein digaloni ni. Y mae tystiolaeth Christ ei hun yn olau yn y pwngc yma, Fy iau i sydd esmwyth, a'm baich sydd yscafn, Mat 11.30. Ac y mae 'r anwyl garedig ddisgybl Sainct Joan, yr hwn oedd fwyaf achos iddo i wybod cyfrinach ei feistr yn hyn o beth, yn dywedyd yn eglur, Ei orchymynion ef nid ydynt drymion, 1 Joan. 5.3. Beth yw'r achos wrth hynny, sydd yn peri i lawer o ddynion dybied eu bod mor anhawdd? Yn siccr, heb law cyfrwysder a dichell y cythraul yr hwn yw'r achos pennaf; vn achos yw, am fod dynion yn clywed clefyd trachwant yn eu cyrph, ac nad ydynt yn ystyried gryfed yw'r feddyginieth a roed i ni yn ei erbyn. Y maent yn llefain gydâ S. Paul, eu bod yn gweled [Page 152]cyfraith yn eu haelodau, yn gwrthryfela yn erbyn cyfraith eu meddwl, Rhuf. 7.23. (yr hyn yw gwrthryfel trachwant, a adawyd yn ein cnawd ni trwy bechod dechreuol) ond nid ydynt nac yn cyfaddef, nac yn ystyried gydâ 'r vn Sainct Paul, fod grâs Duw trwy Jesu Grist yn eu gwared hwy oddiwrth yr vnrhyw. Nid ydynt hwy yn cofio ymadrodd comfforddus Christ wrth Sainct Paul, yn ei brofedigaethau mwyaf, Digon i ti fy ngras i i'th gryfhau yn eu herbyn hwy i gyd, 2 Cor. 12.9. Mae'r gwyr hyn yn gwneuthur fel y gwnaeth disgybl Eliseus wrth fwrw ei olwg yn vnig ar ei elynion, hynny ydyw ar lu mawr y Syriaid oedd yn barod i osod arno, a dybiodd ddarfod am dano, ac na bai bossibl iddo sefyll yn eu golwg hwy, hyd oni chafodd ef genhadiad gan Dduw, trwy weddi'r prophwyd, i weled yr Angylion oedd yn sefyll yno yn bresennol, i ymladd trosto ef, ac yna efe a welodd yn amlwg mai cryfaf oedd ei blaid ef. 2 Reg. 6.
4. Felly y gwyr hyn, wrth edrych yn vnig ar ein trueni ni a gwendid ein naturiaeth, trwy'r rhai y mae profedigaethau beunyddol yn cyfodi yn ein herbyn ni; y maent hwy yn cyfrif y gâd yn boenus a'r gorfod yn ammhossibl ei gael, am na phrofasant hwy erioed, gan eu hesgeulusdra eu hunain, yr amryw gymmorth gras, a chynnorthwyau ysprydol eraill, y mae Duw yn wastad yn eu danfon i'r sawl sy fodlon i fyned i'r gad hon er ei fwyn ef. Yr oedd Sainct Paul wedi profi yn helaeth o'r cymmorth hwnnw, yr hwn wedi iddo gyfrif yr holl bethau calettaf ac allai fod, sy'n dywedyd yn ychwaneg, Ond yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na chwnowerwyr, trwy'r hwn a'n carodd ni, Rhuf. 8.37. &c. Ac yma y mae efe yn datgan ar gyhoedd, na all nac angeu, nac einioes, nac Angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, [Page 153]na phethau i ddyfod, nac vchder, na dyfnder, nac vn creadur arall, ei wahanu ef oddiwrth gariad Duw ynghrist Jesu: a hyn oll y mae ef yn ei ddywedyd o hyder ar gymmorth ysprydol oddiwrth Grist, trwy'r hwn y mae yn hyderu dywedyd y gallai efe wneuthur pob peth, Phil. 4.13. Fe a brofasei Dafydd ynteu rym ei gymmorth ef, pan yw yn dywedyd, mi a redais ffordd dy orchymmynion, pais ehengaist fy nghalon, Psal. 119. 32. Yr ehengi yma ar galon oedd yn dyfod trwy gyssur ysprydol yr enneiniad oddi mewn, yr hwn sydd yn egori ac yn ehengi'r galon a gaewyd ac a gyfyngwyd gan ing a chystudd, wrth dywallt gras ynddi: megis y meddalhaa ac yr ymehenga pwrs neu god a fo wedi crino a chaledu, wrth ei iro ag olew. A phan oedd y gras hwnnw yn bresennol, y dywedai Ddafydd, nid yn vnig ei fod efe yn rhodio ffyrdd gorchymmynion Duw yn hawdd ac yn esinwyth, ond ei fod yn eu rhedeg: fel y bydd olwyn men yn llefain ac yn cwyno tan lwyth bychan tra fo hi sŷch; ond pan fwrier ychydig olew ynddi, hi a rêd yn llawen ac yn ddistaw ddinad. Ac y mae hynny yn vnion iawn yn dangos ein ystad a'n cyflwr ninnau, y rhai heb help a chymmorth Duw, nid ydym abl i wneuthur dim, ond trwy ei help ef ydym abl i wneuthur beth bynnag y mae efe yr awrhon yn ei ofyn gennym ni.
5. Ac yn siccr, mi a ofynnwn i'r gwyr hyn sydd yn meddwl fod ffordd Cyfraith Dduw mor galed ac mor anhawdd, pa fodd y gallai'r prophwyd ddywedyd, Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau a'r holl olud, Psal. 119.14. Ac mewn man arall, en bod hwy yn fwy dymunol nag aur, ie nag aur coeth lawer, ac yn felysach nâ'r mêl, ac na diferiad diliau mêl, Psal. 19.10 & 119.72. Wrth y geiriau hyn y mae efe yn rhoi i fuchedd dduwiol, nid [Page 154]yn vnig y bri a'r parch a haeddai vwch law holl dryssorau'r byd; ond hefyd yn dangos ei bod yn hyfryd, yn ddifyr, ac yn beraidd; a hynny i oresgyn ac i wradwyddo y rhai oll sy yn ei gwrthod ac yn ei hesgeuluso, yn rhith ei bod yn galed, ac yn anhawdd. Ac os gallai Dafydd ddywedyd cymmaint yn amser yr hên gyfraith; oni allwn ni yn gyfiawnach o lawer ddywedyd hynny yn amser y gyfraith newydd, pan roddwyd gras yn helaethach, fel y dyweid yr Scrythur, Joan. 1.17. A thitheu Gristion truan, yr hwn wyt yn dy dwyllo dy hunan a'r tŷb ac a'r meddwl hwnnw, dywaid i ml pa ham y daeth Christ i'r byd? pa ham y cymmerodd efe cymmaint o boen a llafur yn y byd yma? pa ham y collodd efe ei waed? pa ham y gweddiodd efe at ei Dad cyn fynyched trosot ti? pa ham yr ordeiniodd efe y Sacramentau i fod megis yn bibellion i ddwyn gras i ti? pa ham y danfonodd efe yr yspryd glân i'r byd? pa beth y mae 'r gair yma Efengyl, neu goelsain, neu Newyddion da, yn ei arwyddoccau? pa beth yw meddwly gair yma Grâs, a'r drugaredd a ddûg efe gydag ef? beth y mae 'r gair comfforddus yma Jesu yn ei ddwyn ar ddallt i ni? Ond i'n gwared ni oddiwrth bechod y mae hyn i gyd? oddiwrth y pechod a aeth heibio meddaf, trwy ei vnig farwolaeth ef: oddiwrth y pechod a ddêl, trwy 'r vn farwolaeth, a thrwy gymmorth ei sanctaidd ras ef, a roddwyd i ni trwy 'r moddion hynny yn helaethach nag o'r blaen? Ond hyn yn bennaf a weithiodd dyfodiad Christ, fel y dywed y prophwyd, y gwneid y ffyrdd gwyr-geimion yn vnion, a'r anwastad yn wastadedd, Esa. 40.4. Luc. 3.4. Ond hyn oedd yr achos y cynnysgaeddodd efe ei eglwys a chynnifer o ddoniau bendigedig yr yspryd glan, ac ag amryw radau arbennig, i wneuthur iau ei wasanaeth yn beraidd, a buchedd dda yn esmwyth, a [Page 155]rhodio yn y gorchymynion yn hyfryd: fel y gall dynion bellach ganu mewn cystuddiau, a bod yn' hyderus mewn peryglon, ac yn ddiofal mewn gwrthwyneb, a bod yn siccr o gael y maes ym mhob math ar brofedigaethau? Ond hyn yw dechreu, a chanol, a diwedd yr Efengyl? Ond y rhai hyn oedd addewidion y prophwydi; a llawenchwedl yr Efengyl; a phregeth yr Apostolion; ac addysg, a chrediniaeth, a gwaith a gorchwyl yr holl Sainct? Ac yn ddiweddaf, ond hyn yw verbum abbreuiatum Y gair a fyrhawyd, yn yr hwn y mae 'n sefyll holl gyfoeth a thrysor Christianogaeth? Rhuf. 9.28.
6. Ar grâs yma sydd o'r fath nerth a grym yn yr enaid yr êl i mewn iddo, ac y newidia ei holl gyflwr ef: ac y gwna yn oleu ac yn eglur y pethau oedd o'r blaen yn dywyll, ac yn hawdd ac yn esmwyth y pethau oedd o'r blaen yn galed ac yn anhawdd. Ac o'r achos hwnnw y dywedir am dano yn yr Scrythur lân, ei fod yn gwneuthur yspryd newydd a chalon newydd. Megis lle y mae Ezeciel wrth grybwyll am y peth hyn, yn dywedyd megis allan o enau Duw, Mi a roddaf iddynt galon newydd, ac a roddaf yspryd newydd o'i mewn hwynt; fel y rhodiont yn fy neddfau, ac y cadwont fy marnedigaethau, ac y gwnelont hwynt, Ezec. 36.26. A ellir dywedyd dim yn y byd yn eglurach? Ac am farwolaethu a gorchfygu ein gwynniau, y rhai trwy eu gwrthryfel sydd yn gwneuthur ffordd gorchymmynion Duw yn anhyfryd; y mae S. Paul yn tystiolaethu yn oleu, fod Duw yn rhoi i ni râs yn helaeth, trwy ddioddefaint Christ, i wneuthur hynny; canys y mae 'n dywedyd, Ni a wyddom hyn, ddarfod croes-hoelio ein hên ddŷn ni gydâ Christ, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod, Rhuf. 6.6. Wrth grybwyll am yr Hen ddŷn, a chorph pechod, y mae S. Paul yn deall ein [Page 156]gwynniau gwrthryfelgar ni a'n trachwant,Felly y prawf S. Awstin, lib. 2. de pec. mer. cap. 6. y rhai hefyd a groeshoeliwyd ac a ddinistrywyd trwy ardderchoccaf aberth Christ, fel y gallwn ni trwy 'r grâs a bwrcaswyd i ni yn yr aberth honno, mewn rhyw fesur da, wrthwynebu a gorchfygu y gwyniau hyn, a ninnau wedi ein rhyddhau mor helaeth oddiwrth wasanaeth a chaethiwed pechod. A hon yw'r oruchafiaeth ardderchog gyfan gwbl, a ddechreuir yn y byd hwn, ac a orphennir yn y byd a ddaw, yr hon a addawodd Duw er cyhyd o amser, i bob enaid Christianogaidd, trwy gyfrwng Christ, pan ddywedodd efe, Nac ofna canys yr wyfi gydâthi: na lwfrhâa, canys myfi yw dy Dduw; mi a'th gadarnhaf di ac a'th gynnorthwyaf di, ac a'th gynnhaliaf di a deheulaw fy ngwr cyfiawn i. Wele cywilyddir a gwradwyddir y rhai oll a ymladdant i'th erbyn: dy wrthwyneb-wyr fyddant megis diddim, ac a ddifethir. Ti a'i ceisi, ac ni's cei hwynt, sef y rhai a ymgynhennasant â thi. Y gwyr a ryfelant â thi a fyddant megis diddim, ac megis peth heb ddim. Canys myfi 'r Arglwydd dy Dduw a ymaflaf yn dy ddeheulaw, ac a ddywed wrthyt, nac ofna, myfi a'th gynnorthwyaf di, &c. Esa. 41.10.
7. Wele yma addaw i ni oruchafieth gyflawn yn erbyn ein gwrthryfelwyr, trwy gymmorth deheulaw cyfiawn wr Duw; hynny ydyw yn erbyn ein gwyniau anllywodraethus, trwy gymmorth grâs oddiwrth Jesu Grist. Ac er nad ydys yma yn addaw tynnu 'r gwrthryfelwyr hyn ymaith yn llwyr, ond yn vnig en gorchfygu a'i gwradwyddo; etto y mae yn dywedyd, y byddant hwy megis diddim, ac megis peth heb ddim. Ac wrth hynny yr arwyddocceir, na rwystrant hwy i ni fod yn gadwedig, ond yn hytrach ein dyrchafu, a'n rhwyddhâu tu a'n Iechydwriaeth. [Page 157]wriaeth. Oblegid fel y mae 'r anifeiliaid gwylltion, er eu bod o naturiaeth yn greulon, ac yn barottach i wneuthur niweid i ddyn yn hytrach nâ chymmwynas, etto pan feistroler hwy a'i dofi, y maent yn myned yn fuddiol iawn ac yn anghenrhaid i ni: felly 'r gwyniau gwrthryfelgar hyn eiddom ninnau, er eu bod o honynt eu hunain yn gyfryw ac a'n hanrheithient ni yn gwbl, etto wedi darfod i ni vnwaith eu darostwng a'i marwolaethu trwy râs Duw, hwy a wnant i ni lês mawr iawn, tu ac at weithredu pob math ar rinweddau da; megis y gwna chwerwder a digofaint lês i ni tu ac at gynneu ac ennyn zêl ynom, a chasineb i beri i ni erlid pechod, a meddwl vchel i beri i ni ddiystyru 'r byd ac ymwrthod ag ef, a chariad i beri i ni ymgais ac ymgyrhaeddyd a phob gweithred fawrfrydig wrolwych, ynghyfer y doniau a'r cymmwynasau a dderbyniasam ni gan Dduw. Heb law hyn, fe a adawyd y gâd a'r ymdrech yma i ni i ddarostwng ein gwyniau, er mwyn mawr llês i ni; hynny yw, er mwyn ein dioddefgarwch, a'n goruchafiaeth, ac i gael o honom ni 'r gorfod yn y bywyd hwn; ac er mwyn cael o honom ein gogoneddu a'n coroni yn y fuchedd a ddaw: fel y mae S. Paul yn dywedyd am dano ei hun, ac yn ei siccrhau i eraill trwy ei esampl ei hun.
8. Bellach gan hynny, aed y Christion diowgswrth, a rhoed ei law yn ei fonwes, neu dan ei wregys, fel y dyweid yr Scrythur lan, a dyweded, Mae llew ar y ffordd, a llewes yn yr heolydd, ac fe a'm lleddir i: fel na lyfaso fyned allan o'r drysau, Dih. 19.24. Dyweded, Nad ardd efe gan oerder y gayaf, Dih [...] 26.13. Dyweded, anhawdd yw gweithio, ac am hynny ni chwynna efe na'r drain na'r ysgall allan o'i winllan, ac nid adeilada ei magwyr hi, Dih. 24.30, 31. Hynny ydyw, dyweded [Page 158]fod ei wyniau yn gryfion, ac am hynny na's gall mo'i gorchfygu hwy; a bod ei gorph yn dyner ac yn foethus, ac am hynny na faidd efe roi gormod poen arno, a bod ffordd buchedd dduwiol yn rhwystrus ac yn anhawdd, ac am hynny nas meidr efe ymroi i'w chychwyn hi. Dyweded hyn i gyd, a llawer ychwaneg, o'r pethau y mae Christianogion diog segurllyd yn arfer o'i dwyn yn esgus drostynt: dyweded hynny drosto ei hun, meddaf, cymmaint ac a fynno, a chyn fynyched ac y mynno; nid yw 'r cwbl ond esgus, a cham esgus, ac esgus yn gwneuthur mawr ammarch a dirmyg ar nerth a grym gras Christ, a brynodd efe a'i chwerw-dost ddioddefaint, nid ydyw ond esgus ddywedyd fod ei iau ef yr awrhon yn anhyfryd, ac ynteu ei hun wedi ei wneuthur ef yn esmwyth, Mat. 11.30. fod ei faich ef yr awrhon yn drwm, ac ynteu wedi ei wneuthur ef yn ysgafn; fod ei orchymmynion ef yr awrhon yn dôst, gan fod yr yspryd glan yn taeeru 'r gwrthwyneb, 1 Jo. 5.3. ein bod ni yr awrhon tan gaethiwed ein gwyniau, a'n trachwantau, ac ynteu trwy ei ras wedi ein gwared ni, a'n gwneuthur yn wir ryddion, Rhuf. 7.25. Os yw Duw gydâ ni, pwy a all fod i'n herbyn, medd yr Apostol, Rhuf. 8.31. Yr Arglwydd yw fy, ngobaith, a m iechydwriaeth, a'm nerth, medd Dafydd sanctaidd, rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf? Pe gwersyllai llu i'm herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai câd i'm herbyn, er hynny mi a fyddwn hyderus. A pheth yw 'r achos o hynny? Canys yr wyt ti gyda mi, Psal. 27.1, 3. & 28, 7. Psal. 23.4. Oh Arglwydd, yr wyti yn ymladd yn fy mhlaid, yr wyti yn fy nghymmorth i a th râs, a thrwy nerth dy ras di y caf yr oruchafiaeth: pe codei holl dorfoedd fy ngelynion i'm herbyn ar unwaith, sef y byd, y cnawd, [Page 159]a'r cythreul; mi a gaf nid yn vnig yr oruchafiaeth ar [...]ynt, ond mi a'i caf yn hawdd ac yn esmwyth, a thrwy hyfrydwch a llawenydd. Canys cymmaint a hynny y mae S. Ioan yn ei arwyddoccau, oblegid wedi iddo ddywedyd nad yw gorchymmynion Christ yn drymion, y mae efe yn dywedyd yn y man ar ôl hynny megis i ddangos yr achos paham nad ydynt hwy drymion, Oblegid beth bynnag a aned o Dduw y mae yn gorchfygu'r byd. Hynny yw, y mae 'r gras yma, a'r cymmorth nefol a ddanfonir i ni oddiwrth Dduw, yn gorchfygu 'r byd a'i holl wrthwyneb a'i brofedigaethau, a chyda hynny yn gwneuthur gorchymmynion Duw yn esmwyth, a buchedd dduwiol yn dra-hyfryd ac yn beraidd, 1 Ioan. 5.3, 4.
9. Ond fe a allai y dywedwch [...]hwi, Y mae Christ ei hun yn cyfaddef bod buchedd dduwiol yn iau ac yn faich, pa fodd wrth hynny y dichon fod yn hyfryd ac yn esmwyth, fel y dywedwch ei bod? Fy atteb yw, fod Christ yn dywedyd ym mhellach, ei bod yn iau esmwyth ac yn faich ysgafn. Ac y mae hynny yn tynnu ymaith eich gwrthwynebchwedl chwi, a chyda hynny yn arwyddoccau fod rhyw faich nid yw na thrwm na thost ar y neb a'i dycco, ond yn hytrach yn ei gymmorth ac yn ei lonnychu: fel mae 'r baich plu ar gefn yr aderyn yn cynnal yr aderyn i fynu, a heb fod yn flin iddo ddim. Felly hefyd er ei fod yn iau, y mae 'n iau esmwyth, ac yn iau comfforddus, ac yn iau sy fwy hyfryd na'r mêl, ac na'r dil mêl, fel y dywaid y prophwyd. Psal. 19.10. A pha ham hynny? am ein bod ni yn tynnu ynddo gyda chymmar hynaws mwynaidd: yr ydym ni yn tynnu yr iau gyda Christ; Hynny ydyw, y mae ei ras ef yn y naill ben i'r iau, a ninnau yn gwneuthur ein goru yn y penarall. Ac o herwydd pan fo ŷch mawr ac ŷch bychan yn tynnu [Page 154] [...] [Page 155] [...] [Page 156] [...] [Page 157] [...] [Page 158] [...] [Page 159] [...] [Page 160]ynghyd, bod y pwys i gyd ar wddf yr ych mawr, am ei fod ef yn codi yr iau yn lân oddiar wddf y llall; ac dyna 'r achos tra fom ninnau yn tynnu yn yr iau yma gyda Christ sy fwy na nyni, ei fod ef yn ysgafnhau yr holl bwys oddiarnom ni, ac yn gofyn yn vnig fod ini fyned rhagom gydag ef yn gomfforddus, ac na wrthodom fyned tan yr iau gyd ag ef, am fod y boen i gyd yn eiddo ef, a'r hyfrydwch yn eiddom ninnau. Hyn y mae efe yn ei arwyddoccau yn eglur pan yw 'n dywedyd, Deuwch attafi bawb ac sydd yn flinderog ac yn llwythog, ac mi a esmwythaaf arnoch, Matth. 11.28. Yma y gwelwch ei fod yn ein hannog ni i gymmeryd yr iau hwn, yn vnig fel y gallai ef wrth hynny ein llonnychu ni, a thynnu'r baich oddiarnom: ie meddaf, tynnu [...] baich oddiarnom a'n llonnychu, ac nid ein llwytho ni a'n blino mewn modd yn y byd: ein dadlwytho ni o feichiau trymion ac ieuau'r byd hwn: oddiwrth faich gofal, a baich trymder, a baich cynfigen, a châs, a malais; a baich balchder, a baich ymgyrhaedydd am swyddau, a baich cybydd-dod, a baich annuwioldeb, a baich tân vffern. Oddiwrth yr holl feichiau, a'r ieiau gofidus hyn, yr ewyllysiai Grist ein gwared ni, trwy roi ar ein gwarrau ni ei iau of yn vnig a'i faich, a'r rhei'ny wedi eu hysgafnhau a'i pereiddio gan ei sanctaidd râs ef, fel nad ydyw flin eu dwyn hwy, ond esmwyth a hyfryd, a chomfforddus, fel y dangoswyd vchod.
10. Achos arall pa'm y mae 'r iau yma mor esmwyth, a'r baich mor ysgafn, a ffordd gorchymmynion Duw mor hyfryd gan wyr da, yw yr Cariad sy ganddynt tu ac at Dduw, yr hwn biou 'r gorchymmynion. Oblegid nid oes vndynna's gŵyr, ac na's profodd ynddo ei hun, gryfed gwŷn yw gwŷn cariad, ac fel y mae yn gwneuthur yn hawdd [Page 161]ac yn esmwyth y boen fwyaf yn y byd. Pa beth sydd yn peri i'r fam gymmeryd cymmaint o boen yn magu ac yn meithrin ei phlentyn, ond cariad yn vnig? Pa beth sy'n peri i'r wraig eistedd mor ddiwyd wrth erchwyn gwely ei gŵr pan fo'n glaf, ond cariad yn vnig? Pa beth sydd yn peri [...]'r anifeiliaid, ac i adar yr awyr, hepcor peth o'i hymborth ei hun, a rhoi eu bywyd mewn perygl, i borthi eu rhai bach, ond nerth cariad yn vnig? Y mae S. Awstin yn dilyn y pwngc yma ymmhell ac yn helaeth, trwy lawer o esamplau eraill: megis esampl y marsiandwr,Ser. 9. de verb. Dom. yr hwn ni wrthyd antur yn y byd ar for, o gariad ar elw; yr heliwr ni wrthyd ddrwg dywydd yn y bŷd, o gariad ar ei helwriaeth; y rhyfelwr, ni wrthyd berygl marwolaeth, o gariad ar yr anrhaith. Ac y mae ef yn dywedyd ym mhellach yn y diwedd, ac os gall cariad dŷn tu ac at greaduriaid yn y byd yma fod cymmaint ac y gallo beri iddo wneuthur poen a llafur yn esmwyth, ac na thybier ei bod yn boen, ond yn hytrach yn ddifyrrwch ac yn hyfrydwch; pa faint mwy y bydd i gariad gwyr da tu ac at Dduw wneuthur eu holl boen hwy'n gomfforddus, a gymmeront yn ei wasanaeth ef?
11. Yr anfeidrol gariad yma oedd yr achos y tybiai Grist am yr holl boenau a'r cystuddiau a ddioddefodd ef er ein mwyn ni nad oeddynt hwy ddim A'r cariad yma hefyd oedd yr achos y tybiai lawer Christion am yr holl flinderau a'r poenau a ddioddefasant hwy er mwyn Christ, nad oeddynt hwy ddim. Nid oedd carcharau, ac arteithiau, a cholled am anrhydedd, a da, a bywyd hefyd, ddim ond pethau gwael gan lawer o wasanaethwyr Duw, wrth y cariad gwresog yma. Y cariad yma a yrrodd lawer o wyryfon, a phlant ieuaingc tyner, i'w hoffrymmu [Page 162]eu hunain yn amfer erlid er cariad ar yr hwn yr oeddid yn eu herlid o'i achos. Y cariad yma a barodd i Apolonia dduwiol o Alexandria, Euseb. lih. 6. cap. 34. pan ddugpwyd hi at y tân i'w llosgi er mwyn Christ, ddiangc allan o ddwylo y rhai oedd yn ei harwein, a rhedeg i'r tan yn llawen o honi ei hun. Y cariad yma a wnaeth i Jgnatius yr hen ferthyr gynt wedi darfod ei gondemnio i'w daflu i'r anifeiliaid gwylltion, (am ei fod yn ofni y gwrthodent hwy ei gorph ef, fel y gwrthodasent lawer o ferthyron o'r blaen) ddywedyd na adawai ef iddynt wneuthur felly, ond yr annogai ac y cyffroai efe hwynt i ddyfod atto, ac i ddwyn ei fywyd oddiarno, trwy rwygo ei gorph ef yn ddrylliau.
12. Ac dyma 'r pethau a weithia cariad gwresog, yr hwn sydd yn peri i'r pethau sydd o honynt eu hunain yn dra anhawdd ac yn dra ofnadwy, fod yn beraidd ac yn hyfryd: ac yn hytrach o lawer y gall beri i gyfreithiau a gorchymmynion Duw, y rhai o honynt eu hunain sydd dra chyfiawn, a rhesymol, a sanctaidd, a hawdd, fod yn hyfryd ac yn esmwyth. Da amantem, medd S. Awstin & sentit quod dico, Tract. 27. in Joan. si autem frigido loquor, nescit quid loquor: moes i mi wr a fo yn caru Duw, ac ef a wŷr ynddo ei hun fod yn wir y peth yr wyf yn ei ddywedyd; ond os a Christion oerllyd y chwedleuaf, ni ddeall efe beth yr wyf yn ei ddywedyd. Ac dyma 'r achos pa ham y mae Christ, wrth son am gadw ei orchymmynion, mor fynych yn adrodd y gair yma Cariad, megis yr achos siccraf sy 'n peri cadw gorchymmynion Duw, ac o eisiau bod cariad yn y byd, nid ydyw 'r byd yn eu cadw hwy ddim, fel y mae efe yno yn dangos. O, cerwch fi, cedwch fy ngorchymmynion, medd efe, Ioan. 14.15, 21, 23. A thrachefn, [Page 163] Yr hwn sydd a'm gorchymmynion i ganddo efe yw 'r hwn sydd yn fy ngharu i. Drachefn, Yr hwn sydd yn fy ngharu i, a geidw fy ngorchymmyn. Ac yn y geiriau diweddaf hyn, y gallwn ni ystyried ei fod ef yn dywedyd wrth yr hwn sydd yu ei garu, Fy ngorchymmyn, Ond, gwers 15 y mae efe yn arfer y lliosog. yn y rhif vnig, oblegid i'r cyfryw vn, nad yw ei holl orchymmynion ef ond megis vn gorchymmyn, yn ôl yr hyn a ddyweid S. Paul, mai Cariad yw cyflawnder y gyfraith: am ei fod yn cynnwys y cwbl, Rhuf. 13.10. Ond wrth yr hwn nid yw yn ei garu, y dywed Christ, Fy gorchymmynion, yn y rhif lliosog; gan arwyddoccau wrth hynny, eu bod hwy i'r cyfryw vn yn llawer, ac yn drymion hefyd, am nad oes ganddo gariad i'w gwneuthur hwy yn esmwyth. Yr hyn y mae S. Ioan hefyd yn ei ysspyssu, pan yw yn dywedyd, Hyn yw cariad Duw, bod i ni gadw ei orchymmynion ef, a'i orchymmynion ef nid ydynt drymion, 1 Ioan. 5.3. Hynny yw, nid ydynt hwy drymion i'r hwn sydd a chariad Duw ganddo, ac onid e nid rhyfedd eu bod yn dra thrymion. Oblegid trwm y tybiwn ni fod pob peth ac yr ydym ni yn ei wneuthur yn erbyn ein hewyllys. Ac felly wrth hyn hefyd, ddarllennydd mwynlan, y gelli di wybod amcan pa vn a wna cariad Daw ai bod ynot ti, ai nad ydyw.
13. Ac dyma ddau fodd bellach, sy 'n gwneuthur buchedd dduwiol gwyr da yn esmwyth iddynt yn y byd hwn. Y mae yn canlyn amryw foddion eraill, fel y gallo yr ymesgusodwyr esgeulus yma weled mor anghyfiawn ac mor anwir yw eu hesgus hwy, sef yw hynny, cam dybied fod yn anhawdd byw yn dduwiol: er bod i fuchedd dduwiol mewn gwirionedd gymmaint o freiniau of gyffur, vwch law buchedd y rhai annuwiol, ie yn y byd hwn. [Page 164]A'r modd nesaf, sydd yn canlyn ar ôl y rhai o'r blaen, ydyw rhyw yspysol a neillduol oleuni deall sydd yn perthyn i'r rhai cyfiawn, ac a elwir yn yr Scrythur lan, Prudentia Sanctorum, Doethineb y Sainct; yr hyn nid yw ddim amgen na rhyw wreichion o ddoethineb nefol, sydd trwy ryw neillduol fraint wedi eu rhoi i'r rhai duwiol yn y fuchedd hon: trwy 'r hyn y maent yn derbyn goleuni tra chomfforddus, a deall mewn pethau ysprydol, yn enwedig ynghylch eu hiechydwriaeth eu hun, a'r pethau a berthyn iddi. A hyn yr oedd y prophwyd Dafydd yn ei feddwl pan ddywedai, Ti a ddangosaist i mi lwybr bywyd. A phan ddywedodd efe am dano ei hun, Deellais fwy na 'm holl athrawon; Deellais yn well nâ 'r henuriaid. A thrachefn mewn lle arall, Peraist i mi wybod doethineb yn ddirgel, Psal. 16.11. Psal. 119.19, 100. Psal. 51.6. Hwn yw 'r goleuni hwnnw y mae Sainct Ioan yn dywedyd am dano, fod Christ yn goleuo ei weision ei hun ag ef: a hwn yw enneiniad yr Yspryd glân yr hwn y mae'r vn Apostol yn dywedyd fod Duw yn ei roi i'r rhai duwiol, i'w dysgu hwy ymmhob peth ac a fo anghen-rhaid i'w hiechydwriaeth, Io. 1.9. 1 Io. 2.27. Ac dyma hefyd waith Duw yn yscrifennu ei Gyfraith ynghalonnau dynion, yr hyn y mae efe yn ei addaw trwy 'r prophwyd IEREMI, Ier. 31.33. ac dyma ddysgu dynion gan Dduw ei hun, yr hyn a addawyd trwy 'r prophwyd Esai, Esa. 54.13. Ac yn ddiweddaf, dyma 'r deall ardderchog ynghyfraith yr Arglwydd, a'i orchymmynion, a'i gyfiawnderau, yr hwn yr oedd Dafydd dduwiol yn ei ddeisyfu yn gymmaint, ac yn ei ofyn cyn fynyched yn y psalm dra duwiol honno sydd yn dechreu, Gwyn eu byd y rhai perffaith eu ffordd: hynny ydyw, yn y bywyd hwn, Psal. 119.
[Page 165]14. Trwy 'r goleuni deall yma, a'r wybodaeth nefol, a'r ymglywed yma oddiwrth yr yspryd glân, mewn pethau ysprydol; yr helpir y rhai duwiol yn fawr yn ffordd cyfiawnder; am eu bod yn cael eu gwneuthur yn abl iiawn farnu er eu cyfarwyddo eu hunain yn y pethau a gyfarfyddo a hwynt; yn ôl yr hyn a ddywaid S. Paul, Yr hwn sydd ysprydol sydd yn barnu pob peth. A'r dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o yspryd Duw, 1 Cor. 2.14, 15. Onid yw hyn yn datguddio braint buchedd dduwiol yn fawr? Y llawenydd, a'r cyssur, a'r comffordd sydd oddiwrthi; a'r gofid a'r trueni anesgorol sydd o'r gwrthwyneb? Oblegid pettei ddau yn rhodio ynghŷd, y naill yn ddall, a'r llall yn gweled yn eglur, pa vn o honynt a flinai ac a ddiffygiai yn gyntaf? Taith pa vn a fyddai debyg i fod yn boenusaf? Ond digon ychydig i flino gwr dall? Ystyriwch chwithau ym mha dywyllwch blinedig y mae 'r annuwiol yn rhodio. Ystyriwch pa vn a wnantai bod yn ddall ai nad ydynt! Y mae S. Paul, yn y lle a ddangoswyd o'r blaen, yn dywedyd na's gallant hwy dderbyn dim gwybodaeth ysprydol. Ond tywyllwch mawr ydyw hynny, 1 Cor. 2.14, 15. Drachefn, y mae 'r prophwyd Esai yn darlunio eu cyflwr hwy ym mhellach, pan yw yn dywedyd megis o enau 'r annuwiol, ni a balfasom a'r parod fel deillion, ie fel rhai heb lygaid y palfalasom: ni a dramgwyddasom ar hanner dydd fel yn y cyfnos, Esa. 59.10. Ac mewn lle arall y mae 'r Scrythur yn ei osod allan etto yn oleuach, ynghŷd a'i boen a'i lafur, a hynny allan o enau 'r annuwiol eu hunain, yn y geiriau hyn, Ni thywynnodd llewyrch cyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cyfiawnder arnom: ni a ymflinasom mewn anialwch anhyffordd▪ &c. Dyma ymddiddanion pechaduriaid yn vffern, Doeth. 5.6. Wrth y geiriau hyn y gwelir, nid yn vnig bod yr [Page 166]annuwiol yn byw mewn tywyllwch mawr, ond hefyd bod y tywyllwch yma yn boenus iawn iddynt hwy: ac felly o'r gwrthwyneb, bod y goleuni sydd i'r cyfiawn, yn esmwythder mawr iddynt ar ffordd duwioldeb.
15. Vn peth arbennig arall, sydd yn gwneuthur ffordd buchedd dduwiol yn esmwyth ac yn hyfryd i'r rhai a rodiant ynddi, a hwnnw ydyw'r cyssur cuddiedig, dirgel, y mae Duw yn ei dywallt ynghalonnau y rhai sy'n ei wasanaethu ef. Dirgel yr wyf yn ei alw, am nad oes neb yn ei adnabod, nac yn gwybod oddiwrtho, ond yn vnig y rhai a'i profasant: ac o'r achos hwnnw y mae Christ ei hun yn ei alw ef yn Manna cuddiedig, ac yn enw newydd, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn, Datc. 2.17. Ac y mae 'r prophwyd yn dywedyd am dano, Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i'r sawl a'th ofnant, Psal. 31.19. A thrachefn mewn lle arall,Felly y mae 'r lladin. Neillduaist law graslon i'th etifeddiaeth, Psal. 68.10. Ac y mae prophwyd arall yn dywedyd, megis o enau Duw yn crybwyll am yr enaid defosionol sydd yn ei wasanaethu ef, Mi a'i denaf hi, ac a'i dygaf i'r anialwch, ac yno mi a ddywedaf wrth fodd ei chalon hi, Os. 2.14. Ac wrth yr holl eiriau hyn, anialwch, a neillduo, a chuddiedig, yr arwyddocceir mai braint dirgel cuddiedig yw hwn, a roir yn vnig i'r rhai duwiol, ac nad oes i galonnau cnawdol y rhai annuwiol, na rhan na chyfran ynddo. Ond ni all tafod dŷn yspysu faint a gwerthfawrocced hyfrydwch y cyssur nefol yma: etto ni a allwn fwrw amcan arno wrth eiriau Dafydd, yr hwn wrth grybwyll am y gwin ysprydol, sydd yn dywedyd fod ynddo'r fath nerth ai fod yn meddwi pob vn a'i profo: hynny ydyw y gwna efe iddynt na wypont ac na chlywont ddim oddiwrth [Page 167]bethau daiarol, Psal. 36.8. megis am S. Petr, wedi iddo yfed ychydig o hono, efe a'i gollyngodd ei hun tros gôf yn y man, ac a chwedleuodd megis gwr wedi amhwyllo, am adeiladu pebyll yn y fan honno, a gorphywys yno byth, Mat. 17.4. Dyma Afon yr hyfrydwch, fel y mae 'r prophwyd yn ei galw, sydd yn tarddu allan o fryn y nef, a thrwy ffyrdd dirgel yn dyfrhau calonnau ac yspryd y rhai duwiol, ac yn eu meddwi hwy a'r llawenydd annrhaethadwy y mae yn ei ddwyn gyd â hi, Psal. 36.8. Dyma dippyn o dammaid prawf yn y bywyd hwn o'r llawenydd nef, a roddir i'r rhai da, i'w comfforddi hwy ac i roi cyssur ynddynt i fyned rhagddynt yn eu duwioldeb. Oblegid fel y mae marsiandwyr a fo 'n chwennych gwerthu eu marfiandiaeth, yn fodlon i chwi i gael gweled a theimlo, ac weithiau, i brofi'r pethau y bônt yn eu gwerthu, er mwyn eich annog chwi i brynu ganddynt, felly y mae 'r hollalluog Dduw, am ei fod megys yn chwennych gwerthu i ni lawenydd nef, yn fodlon i roi peth o hono, i'w brofi ym mlaenllaw i'r rhai y mae efe yn eu gweled yn chwennych prynu: er mwyn peri iddynt gynnyg yn rhwydd, ac na rusont dalu cymaint neu fwy nag y mae ef yn ei ofyn, Datc. 3.18. Dyma'r anfeidrol lawenydd a'r gorfoledd sydd ynghalonnau y rhai cyfiawn, yr hwn y mae 'r prophwyd yn ei feddwl pan yw yn dywedyd, Llef gorfoledd ac iechydwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn, Psal. 118.15. A thrachefn, Gwyn ei fyd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: sef yw hynny, y rhai sy gydnabyddus ag anfeidrol lawenydd a hysrydwch y cyssur a'r diddanwch calon yma, Psal. 89.15. Yr oedd S. Paul wedi profi o hono, pan yscrifennodd efe'r geiriau hyn, ynghanol ei holl lafuriau er mwyn Christ, Yr wyf yn llawn o ddiddanwch, ac yn drachyflawn o lawenydd, yn ein holl orthrymder, [Page 168]2 Cor. 7.4. Pa beth ddwysach nâ hyn a ellir ei ddywedyd, i brofi fod gwasanaeth Duw yn hyfryd? Yn siccr, ddarllenydd mwynaiddlan, pe bait ti vnwaith wedi profi ddim ond cymmaint ac vn defnyn o'r llawenydd nefol yma, ti a roit yr holl fyd er cael vn defnyn arall o hono, neu o'r hyn lleiaf rhag colli drachefn yr vn defnyn a gawsit.
16. Ond ti a ofynni i mi, pa ham a thitheu yn Gristion yn gystal ac eraill, na phrofaist ti erioed etto o'r cyssur yma? I hynny 'r attebaf, nad yw hwn, fel y dangoswyd o'r blaen, fwyd i bob genau, ond Gwlith-law a neilltuwyd i etifeddiaeth Duw yn vnig, Psal. 68.9. Gwin ydyw hwn o gell Duw ei hun, a roed i gadw i'w briodferch ef; fel y mae 'r Caniad yn dangos: hynny ydyw i'r enaid defosionol sy wedi ymroi i wasanaethu Duw, Can. 2.4, 5. Bron y diddanwch yw hon, i'r plentyn yn vnig i sugno o honi ac i ymlenwi arni, tel y dywaid y prophwyd Esai, Es. 66.11. Ac ni all yr enaid sy wedi boddi mewn pechod, a difyrrwch y byd, fod yn gyfrannog o'r dawn yma, na'r galon a fo 'n llawn o ofalon bydol a meddyliau cnawdol. Oblegid fel nas gallai Arch Duw, ac eilun Dagon sefyll ar vnwaith ar yr vn allor; felly nis gall Christ a'r byd sefyll ar vnwaith yn yr vn galon, 1 Sam 5: Ni ddanfonodd Duw mo'r Manna hyfryd i bobl Israel, tra barhaodd y peillied a'r winwyn a ddygasent o'r Aipht. Felly ni ddenfyn efe mo'r diddanwch nefol yma i titheu, hyd oni ymarloesech o'th holl feddyliau gorwag. Marsiandwr doeth yw efe, er ei fod yn hael, ni rydd efe ddim o'i drysor i'w brofi, lle y gwypo nad oes ewyllys i brynu. Dyro dy fryd yn siccr vnwaith ar wasanaethu Duw, ac yno ti a gai glywed oddiwrth y llawenydd yma yr wyfi'n son am dano, sel y cafodd llawer mil o'th flaen di; ac ni thwyllwyd neb erioed etto yn hyn o beth. Fe [Page 169]ddiangodd Moesen yn gyntaf allan o'r Aipht, i fynyddoedd Madian, cyn i Dduw ymddangos iddo; ac felly y bydd rhaid i'th enaid ditheu ymadael a gwagedd y byd, cyn y gallo edrych am y diddanwch yma, Exod. 2. Ond er cynted yr ymroddech di yn gwbl i wasanaethu Duw, yno ti a gai groesaw mwy nag yr oeddit yn ei ddisgwyl. Oblegid mewn gwirionedd tynerach yw ei gariad ef ar y rhai newydd ddyfod i'w wasanaeth, nag ar y rhai sy'n ei wasanaethu ef er ys talm, fel y mae efe yn dangos yn eglur wrth ddammeg y mab afradlon: yr hwn a groesawodd efe â mwy o lawenydd a daintethfwyd, na'r brawd hynaf oedd yn ei wasanaethu ef er ys hir o amser, Luc. 15. Ac o hyn y mae dau achos; y naill, o lawenydd cael gwasanaethwr newydd, fel y dengys S. Luc yn y text; a'r llall, rhag i hwnnw, oni chai ddim cyssur yn y dechreuad ddychwelyd yn ei ôl drachefn i'r Aipht: fel y mae Duw, wrth esampl meibion Israel, yn dangos yn oleu yn y geiriau hyn; Pan ollyngodd Pharao bobl Israel allan o'r Aipht, ni arweiniodd yr Arglwydd hwynt drwy ffordd gwlâd y Philistiaid, er ei bod yn nes, oblegid dywedodd Duw, rhag i'r bobl edifarhau pan welont ryfel, a dychwelyd yn eu hôl i'r Aipht, Exod. 13.17. Ac o'r ddau achos hynny ti a elli fod yn siccr y cait ti ddiddanwch arbennig, a chomflordd, yngwasanaeth Duw, pe rhoit ti dy fryd arno, fel y cafodd gwŷr eraill o'th flaen di; ac a brofasant wrth hynny, nad ydyw'r ffordd yn galed ac yn anhawdd, fel y mae y rhai bydol yn tybied am dani; ond yn esmwyth, ac yn hyfryd, ac yn gomfforddus, fel yr addawodd Christ, Mat. 11.30.
17. Yn ôl y rhagor-fraint yma o ddiddanwch calon, y mae vn arall yn canlyn, yr hwn sydd yn gwneuthur gwasanaeth Duw yn hyfryd, a hwnnw [Page 170]yw tystiolaeth cydwybod dda, yr hon y gwnai S. Paul cymmaint cyfrif o honi a'i galw yn Orfoledd iddo, 2 Cor. 1.12. Ac y mae yr yspryd glân yn dywedyd am dani ym mhellach trwy enau'r gwr doeth, Gwledd wastadol yw calon lawen, neu gydwybod dda, Dih. 15.15. Ac o hynny y gallwn gasglu, am y gwr duwiol, gan fod ei feddwl ef yn ddiogel, a'i galon yn llawen, a'i gydwybod yn heddychol, ei fod ef yn byw bob amser mewn gwledd ddiddan lawenwych. A pha fodd wrth hynny y mae 'r bywyd yma yn galed ac yn anhyfryd, fel yr ydychwi yn tybied ei fod? yn y gwrthwyneb, yr annuwiol, gan fod ei gydwybod yn cael ei blino wrth ymwybod ac ymglywed a'i bechod, y mae efe bob amser yn cael ei boeni o'r tu mewn iddo, fel yr ydym ni yn datllain fod Cain yn ôl iddo ladd ei frawd Abel; ac Antiochus am y drygioni a wnaethai efe i Ierusalem; a Iudas am ei fradwriaeth yn erbyn ei feistr, Gen. 4. 1 Mach. 6. Mat. 27. ac y mae Christ yn arwyddoccau hynny am bob rhai drwg yn gyffredinol, pan yw yn dywedyd, fod ynddynt brŷf yn cnoi eu cydwybod o'r tu mewn. Y rheswm o hynny y mae'r Scrythur yn ei agori mewn lle arall, pan yw yn dywedyd, Peth ofnus yw drygioni, ac yn rhoi barn i'w erbyn ei hun, a'r gydwybod yn gwasgu arno fydd yn darogan pethau blin yn wastad. Hynny ydyw, y mae 'n darogan ac yn tybieid fod pethau creulon aruthrol yn dyfod yn ei erbyn, fel y mae yn bwrw ddarfod iddo eu haeddu, Doeth. 17.11. Ond ym mhellach, y mae Job dduwiol vwch ben pawb eraill yn gosod allan gyflwr gofidus y rhai annuwiol, yn y geiriau hyn, Holl ddyddiau 'r annuwiol y bydd efe yn ymofidio, a rhifedi'r blynyddoedd a guddiwyd oddiwrthy traws. Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y tybia y daw y dinistruda arno. Ni chred efe y dychwel [Page 171]allan o dywyllwch, ac y mae'n disgwyl bod y cleddyf yn gwilied arno. Y mae efe yn crwydro am fara pa le y byddo: efe a wyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law. Cystudd a chyfyngdra a'i brawycha ef. Hwy a'i gorchfygant fel brenhin parod i ryfel. Job 15.20.
18. Ond rhyfedd y darlunio yma y mae 'r yspryd glân ei hun ar gydwybod ddrwg? Pa beth a ellir meddwl ei fod yn fwy ei ofid a'i drueni nâ 'r dŷn yma, sy ar fath ymmladd, ac ymgigyddio o fewn ei galon ei hun? Pa ddychryniadau, pa gyfyngder,Chrys. ho. 8. ad pop. Antioch. a grybwyllir yma amdanynt? Y mae S. Joan Aurenau yn gwneuthur traethawd godidog ar y pwngc yma. Dyma arfer pechaduriaid, medd efe, drwgdybio pob peth; ammeu eu cysgod eu hunain; ofni pob sŵn a thrwst, er lleied fyddo; a thybied fod pob dŷn a fo'n dyfod tu ac attynt, yn dyfod yn eu herbyn hwy. O bydd rhai yn chwedleua a'i gilydd, hwy a dybiant mai sôn y maent am eu pechodau hwy. Cyfryw beth yw pechod, ac y mae yn ei gyhuddo ei hun, er na bo neb yn achwyn arno; ac yn ei gondemnio ei hun, er na bo neb yn tystiolaethu yn ei erbyn: y mae efe bob amser yn gwneuthur y pechadur yn ofnus, fel y mae duwioldeb a chyfiawnder yn gwneuthur y gwrthwyneb. Gwrandewch fel y mae 'r Scrythur lan yn datgan ofn y pechadur, a hyder y cyfiawn, Yr annuwiol a ffŷ heb neb yn ei erlid, medd yr Scrythur, Dih. 28.1. Pa ham y mae efe yn ffô onid oes neb yn ei erlid? Am fod ei gydwybod o'i fewn yn ei gyhuddo ac yn ei erlid, yr hon y mae efe bob amser yn ei harwain gydag ef. Ac fel nas gall efe ffo oddiwrtho ei hun, felly nis gall efe ffo oddiwrth ei gyhuddwr oddi fewn ei gydwybod ei hun; ond i ba le bynnag yr êl efe, mae honno yn ei ymlid ac [Page 172]yn ei fflangellu, ac y mae ei archoll yn anaele. Ond nid yw 'r cyfiawn felly ddim, Y cyfiawn sydd hŷ megis llew, medd Solomon, Dih. 28.1. Hyd hyn y mae geiriau S. Chrysostom.
19. Wrth y geiriau hynny, ac felly hefyd wrth yr Scrythurau a ddangoswyd, y gallwn adnabod rhagor fraint arall sydd i fuchedd dduwiol, yr hwn yw gobaith a hyder, y trysor mwyaf, a'r tlŵs cyfoethoccaf, sydd gan Gristianogion wedi ei adael iddynt yn y fuchedd hon. Oblegid wrth hwn yr ydym ni yn myned trwy bob cystudd, a thrallod, a gwrthwyneb, yn dra llawen, fel y dengys S. Jaco, Jac. 1.2. Wrth hwn y dywedwn gyda S. Paul, Yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau, gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch, a dioddefgarwch brofiad, a phrofiad obaith; a gobaith ni'n cywilyddia, Rhuf. 5.3. Dyma ein cyssur trachadarn-gryf ni, Dyma ein hangor siccr ni ym mhob math ar dymmhestl, fel y dyweid Sainct Paul, Y mae gennym ni gyssur crŷf, y rhai a ffoesom i gymmeryd gafael yn y gobaith a osodwyd on blaen; yr hwn obaith sy gennym megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn siccr, Heb. 6.18. Dyma ardderchog Helm yr iechydwriaeth, fel y mae 'r Apostol yn ei alw, yr hon sydd yn derbyn yr holl ddyrnodiau a allo 'r bŷd hwn eu rhoi arnom, 1 Thess. 1.8. Ac yn ddiweddaf, dyma 'r vnig ddiogelwch sydd ynghalon gwr duwiol, yr hwn sydd yn peri iddo, er na bywyd nac angeu, nac iechyd na chlefyd, na golud na thlodi; na hawddfyd nac adfyd, er maint fo ystorm a thymmhestl yr adfyd, eistedd i lawr mewn llonyddwch, a dywedyd yn dawel gyda 'r prophwyd, Yn Nuw y gobeithiaf, nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi, Psal. 56.4. Ie efe a ddyweid ym mhellach gyda Job dduwiol ynghanol ei holl ofidiau, Pe lladdai efe fi, etto mi a obeithiaf ynddo ef, Job [Page 173]13.15. A hyn yw bod, fel y dywedodd yr Scrythur o'r blaen, yn hyderus fel llew, yr hwn sy gnawd iddo fod yn hyderusaf ac yn ddewraf pan fo mwya 'r perygl arno, a pho nessaf fyddo i'w angeu, Dih. 28.1.
20. Ond yn awr, fel y dywaid yr Yspryd glân, Non sic impij, non sic, Psalm 1. Ni all yr annuwiol ddywedyd felly; nid oes iddynt hwy na rhan yn yr hyder yma, na chyfran yn y diddanwch yma: oblegid gobaith y drygionus a dderfydd am dano, medd yr Scrythurlân. A thrachefn, Gobaith y drygionus sydd ddigter, Dih. 10.28. Dih. 11.23. Ac etto ym mhellach, Gobaith yr annuwiol sydd ffieidd-dra, ac nid cyssur, i'r enaid, Job 11.20. A'r iheswm o hyn sy ddauddyblyg. Yn gyntaf, am nad yw 'r annuwiol mewn gwirionedd (er eu bod yn dywedyd y gwrthwyneb ar eiriau) yn rhoi eu gobaith, a'i goglud, a'i hyder yn Nuw; ond yn y byd, ac yn eu cyfoeth, ac yn eu cryfder, ac yn eu caredigion, ac yn eu swyddau, ac yn nhwyllodrus fraich dŷn, Ier. 17.5. yn y modd y dengys y prophwyd megis allan o'i geneuau hwy, pan yw yn dywedyd, Ni a osodasom ein gobaith ar gelwydd. Hynny ydyw, Ni a osodasom ein gobaith mewn pethau darfodedig, y rhai a'n twyllodd ni, Es. 28.15. A hyn y mae 'r Scrythur yn ei yspysu yn eglurach etto, gan ddywedyd, Fel llwch, yr hwn a arwain y gwynt; ac fel ewyn teneu, yr hwn a yrr y dymmhestl, ac fel y mŵg a wasgerir gan wynt, neu fel côf am ymdeithydd tros vn diwrnod, yr a gobaith yr annuwiol ymaith, Doeth. 5.14. Wrth yr holl ddull-ymadrodd yma y mae 'r Yspryd glan yn hyspyssu i ni ofered ydyw 'r pethau y mae 'r annuwiol yn rhoi eu hymddiried ynddynt, ac fel y mae 'r pethau hynny yn pallu ganddynt yn ôl ychydig amser, ar bob achlysur bach o wrthwyneb a ddigwyddo.
[Page 174]21. Hyn hefyd y mae Duw yn ei feddwl, p [...]n yw yn gwneuthur trŵst a tharanau yn erbyn y rhai oedd yn myned i'r Aipht i geisio help, ac yn rhoi eu hyder ar nerth Pharao; ac yn eu melldigo hwy am hynny, ac yn addaw y trŷ hynny yn wradwydd iddynt, Es. 30.2. A hynny sydd i'w ddeall yn briodol am bawb ac sy 'n rhoi eu hymddiried pennaf mewn cynnorthwyau bydol; fel y mae pawb o'r rhai annuwiol, er maint a fo eu ffuant i'r gwrthwyneb mewn geiriau. Ac o achos y ffuant hwnnw y mae Iob yn eu galw hwy yn rhagrithwyr: oblegid lle y dywed y gŵr doeth, Gobaith y drygionus a dderfydd am dano; y mae Iob yn dywedyd, Derfydd am obaith y rhagrithiwr, Dih. 10.28. Iob 8.13. Lle y mae yn galw'r drygionus yn rhagrithwyr, am eu bod yn dywedyd eu bod yn rhoi eu hyder ar Dduw, a hwythau mewn gwirionedd yn ei roi ar y byd. Yr hyn beth, heb law'r Scrythur Iân, sydd eglur hefyd wrth brawf beunyddol. Oblegid, a phwy y mae 'r annuwiol yn ymgynghori yn ei negeseuau a'i betrusder? A'i â Duw yn bennaf, ynteu â'r byd? A phwy y mae efe yn ymgais yu ei gystadd? Ar bwy y mae efe yn galw yn ei glefyd? oddiwrth bwy y mae 'n gobeithioam ddiddanwch yn ei adfyd? I bwy y mae efe 'n rhoi diolch yn ei hawddfyd? Pan êl gŵr bydol ynghylch rhyw orchwyl o bwys, ydyw efe yn ymgynghori yn gyntaf â Duw, pa beth a ddigwydd o'r gorchwyl hwnnw? Ydyw efe 'n syrthio ar ei liniau, ac yn gofyn ei gymmorth ef? Ydyw efe yn tueddu 'r gorchwyl yn gwbl ac yn bennaf at anrhydedd Duw? Ac onid ydyw, pa fodd y gall efe obeithio help ar ei law ef? Pa fodd y gall efe gyrchu atto am ei gymmorth, yn y peryglon a'r rhwystrau a ddigwyddo yn y gorchwyl hwnnw? Pa fodd y gall efe roi hyder yn y byd yn yr hwn nid oes iddo gyfran yn y [Page 175]byd yn y gorchwyl hwnnw? Nid yw ond rhagrith gan hynny (fel y dyweid Iob yn ddigon gwir) i'r dŷn hwnnw ddywedyd fod ei hyder ar Dduw; ac ynteu mewn gwirionedd a'i hyder ar y byd: yn Pharao y mae; yn yr Aipht y mae; ym mraich dŷn y mae; mewn celwydd y mae. Nid yw efe yn adeiladu ei dŷ gydâ 'r gwr doeth, ar y graig; ond gyda 'r ynfyd, ar y tywod: ac am hynny, fel y mae Christ yn dywedyd iddo yn siccr, pan ddiscynnodd y glaw, a dyfod o'r llifddyfroedd, a chwythu o'r gwyntoedd, a churo ar y tŷ hwnnw (yr hyn a fydd ar ddydd marwolaeth) yna y syrth y tŷ hwnw, a'i gwymp a fydd mawr, Mat. 7.27. Mawr fydd, o herwydd y gyfnewid a gaiff efe ei weled; mawr, o herwydd y mawr ddychryn a gaiff efe, mawr, o herwydd y mawr ofid a gaiff efe ei ddioddef, mawr, o herwydd colli anhydraeth lawenydd nef; mawr o herwydd syrthio mewn poenau tragywyddol yn vffern; mawr fydd ym mhob ffordd, bydd di siccr o hynny, frawd anwyl, ac oni bai hynny ni buasai 'r gair yma mawr, byth yn dyfod allan o enau Duw. A digon yw hynny am y rheswm cyntaf, paham y mae 'n ofer gobaith yr anghyfiawn, am nad ydynt yn ei roi ar Dduw ond ar y byd.
22. Yr ail rheswm yw, o herwydd pe rhôn iddynt a bod yn rhoi eu gobaith yn Nuw, a hwythau yn byw yn annuwiol, nid yw hynny ond ofer: a gwell y dylai hynny gael ei alw yn rhyfyg nag yn obaith. Ac er mwyn deall hynny y mae 'n rhaid gwybod, megis y mae 'r Scrythur lân yn cyfrif dau fath ar ffydd, y naill yn ffydd farw, heb weithredoedd da, sef yr hon sydd yn credu pob peth yr ydych chwi yn ei ddywedyd am Grist, ond nid ydyw yn cadw ei orchymmynion; a'r llall yn ffydd fywiol, yn ffŷdd yn cyfiawnhau, yr hon sydd nid yn vnig yn credu, ond hefyd yn gweithredu trwy [Page 176]gariad, fel y mae geiriau Sainct Paul, Iac. 2.14. Mat. 7.21. Gal. 3.6. felly y mae dau fath ar obaith hefyd yn canlyn y ddwy ffŷdd hyn, y naill yw gobaith y rhai da, sydd yn dyfod o gydwybod dda, am yr hon y dywedais o'r blaen: a'r llall yw 'r eiddo 'r drygionus, ac sydd yn sefyll mewn cydwybod euog, yr hyn mewn gwirionedd nid yw wir obaith, ond yn hytrach rhyfyg. Hyn y mae S. Ioan yn ei brofi yn oleu, pan yw yn dywedyd, Anwylyd, os ein calon ni'n condemna, y mae gennym hyder ar Dduw. Hynny ydyw, os ein calon nid yw euog o fuchedd annuwiol. Ac y mae 'r geiriau sy nesa 'n canlyn, yn hyspyssu hynny yn well, y rhai yw, Pa beth bynnag a ofynnom yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef, oblegid ein bod yn cadw ei orchymmynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef, 1 Jo. 3.21. Yr vn peth y mae Sainct Paul yn ei gadarnhau, pan yw yn dywedyd, Diwedd y gorchymmyn yw cariad o galon bûr, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith, 1 Tim. 1.5. Wrth esponi 'r geiriau hyn, y mae S. Awstin mewn amryw eirau, ac mewn amryw leoedd o'i waith,De doct Christ. ca [...]. 17. yn profi yn helaeth, na ellir deall fod gwir obaith lle ni bô cydwybod dda. Y mae S. Paul, medd efe, yn rhoi 'r gair hyn (o gydwybod dda) yn angwhaneg o achos gobaith; oblegid pwy bynnag sydd ynddo betrusder cydwybod ddrwg, y mae yn anobeithio cael mwynhau yr hyn y mae yn ei gredu,Ffydd pawh yn ei. galon. Praejatin Psal. 31. A thrachefn, Ffydd pawb fydd yn ei galon a'i gydwybod ei hun, wrth y modd y mae yn ei glywed ei hun yn caru Duw. A thrachefn mewn llyfr arall, Y mae 'r Apostol yn rhoi cydwybod dda yn lle gobaith, oblegid hwnnw yn vnig sydd a gobaith ganddo, yr hwn sydd ganddo gydwybod dda: [Page 177]a'r neb y mae cydwybod euog ddrwg yn ei bigo, y mae 'n cilio yn ôl oddiwrth obaith, ac nid yw yn gobeithio dim ond ei ddammedigaeth ei hun. Mi a allwn yma adrodd llawer ychwaneg of freinlau buchedd dduwiol, y rhai fydd yn ei gwneuthur hi yn esmwyth, ac yn hawdd, ac yn hyfryd, ac yn gomfforddus, oni bai fod y pennod yma yn myned yn hir: ac am hynny mi a gyffyrddaf yn vnig, megis wrth fyned heibio, a dau neu dri o'r pyngciau pennaf eraill: y rhai er hynny a ofynnent hir draethawd, pe datgenid hwy yn ôl eu teilyngdod a'i gwiwdeb. A'r cyntaf yw gwerthfawr fraint y rhydd-did y mae y duwiol yn ei fwynhau, vwch law yr annuwiol, fel y mae Christ, yn addaw yn y geiriau hyn, Os arhoswch yn fy ngorchymmyn i, chwi a fyddwch ddiscyblioni mi yn wir: a chwi a gewch wybod y gwirionedd, a'r gwirionedd a'ch rhydhaa chwi, Ioan 8.31. A'r geiriau hyn y mae Sainct Paul megis yn eu hesponi, ac yn dywedyd, lle y mae Yspryd yr Arglwydd yno y mae rhydd-did, 2 Cor. 3.17. Ac wrth y rhydd-did yma y deellir ein bod ni yn rhyddion oddiwrth drais a thrawsder a thraha, a chreulondeb, a chaethiwed ein gwyniau llygredig a'n trachwantau ni, y rhai y mae yr annuwiol mor gaeth iddynt, ac na bu erioed gaethwas yn y cyfryw gaethiwed i wr o'r trawsaf, ac o'r creulonaf, ac o'r aunrhugaroccaf. A hyn a ellir ei ddeall o ran wrth yr vn esampl yma. O byddai wr wedi priodi gwraig gyfoethog, bryd-weddol, foneddigeiddwych, a fai gynnysgaeddol o bob math a'r gynueddfau da a rhinweddau ac a ellid meddwl eu bod mewn gwraig; a bod o'r gwr er hynny wedi ei hurtio, a'i faglu, a'i rwydo cyn belled, o gariad rhyw gardottes ddiffaith anhonest, a fai forwyn waith yn ei dŷ ef; ac y gwrthodai gwmpeini a chyfeillach ei wraig er ei mwyn hi, ac y treuliai ei amser yn cellwair ac [Page 178]Yn cymhŵedd â'r fudrog honno, ac yn ei gwasanaethu hi; a rhedeg, a cherdded, a sefyll, wrth ei harchiad hi; a rhoi ei holl olud a'i feddiannau ar ei llaw hi, i'w treulio, ac i'w difa, ac i'w hanrheithio wrth ei hewyllys hi; ac na naccai mo honi o ddim, ond gweini iddi, a gwasanaethu arni wrth ei hamnaid; ie a pheri i'w wraig wneuthur hynny hefyd; oni thybygech chwi fod bywyd y gwr hwnnw yn ofidus, ac yn flin, ac yn gaeth iawn? Ac etto yn siccr y mae 'r caethiwed yr ydym ni yn sôn am dano, yn dostach, yn flinach, ac yn gaethach o lawer. Oblegid nid oes ac ni all bod na gwraig, nac vn creadur arall yn y byd, mor dêg nac mor brydweddol nac mor fonheddig ac ydyw rhad yspryd Duw, yr hwn y mae dŷn pan y gwnaed wedi ei ddyweddio ag ef, ac ynteu er hynny yn ei fwrw ymaith ac yn ei wrthod, er cariad ar wyniau 'r cnawd sydd elyn iddo, ac sydd greadur o'r fath wrthunaf wrth y rheswm a roed mewn dyn: ac etto ynghariad hwnnw neu yn hytrach yn ei gaethiwed, y gwelwn fod y rhai annuwiol wedi eu boddi mor llwyr, ac y maent yn ei wasanaethu ddydd a nôs trwy fawr boen, a pherygl, a thraul, ac yn cymmell yr ysprydoliaethau da a.ddêl oddiwrth yspryd Duw i roi lle, wrth bob amnaid a gorchymmyn o'r eiddo 'r feistres newydd yma, yr hon yw gwyniau a chwant y cnawd. Oblegid i ba beth y maent yn llafurio? I ba beth y maent yn gwilio? I ba beth y maent yn pentyrru cyfoeth ynghyd, ond yn vnig i wasanaethu eu gwyniau a'i trachwantau? I ba beth y maent yn curo eu hymmennyddiau, ond yn vnig i fodloni'r Teiran traws creulon yma a'i wyniau?
23. Os mynnwch chwi weled yn siccr mor greulon ac mor dostur yw 'r gwasanaeth a'r caethiwed yma; ystyriwch ymbell esampl neillduol o hono. Cymmerwch i mi ddyn y mae trachwant y cnawd [Page 179]yn cael ei lywodraethu mewn rhyw wyniau, megis mewn anlladrwydd neu'r cyffelyb; a pha boen a gymmer efe er ei mwyn hi? Pa lafurio a wna efe? Pa chwyssu y mae yn y gwasanaeth a'r caethiwed yma? Mor gadarn ac mor gryf y mae efe yn clywed y llywodraeth hwnnw arno? Cofiwch gryfder Sampson, a doethineb Salomon, a duwioldeb Dafydd, fel y goresgynnwyd hwy gan lywodraeth eu trachwantau. Iupiter, Mars, a Hercules, y rhai am eu mawr wrolaeth a gyfrifai 'r Paganiaid yn dduwiau, oni orchfygwyd hwy, ac oni wnaed hwy yn gaethion trwy hudoliaeth y llywodraethwr traws hwn? Ac o mynnwch wybod etto ym mhellach beth yw ei gryfder, ac mor greulon y mae'n ei arfer ar y rhai ni waredodd Christ allan o'i gaethiwed ef, ystyriwch, yn lle esampl, gyflwr tostur rhyw wraig a fai anffyddolon i'w gwr priod, yr hon er ei bod yn gwybod ei bod hi wrth dorri ei phriodas, yn cwympo i fil o beryglon, ac anghymmhesurwydd, sef colli ffafor Duw, a chael câs ei gŵr, ac anfodloni ei thylwyth, ac ammherchi ei chorph ei hun, os ceir gwybod arni, ac ynddiweddaf mawr gwymp a pherygl ei henaid a'i chorph; etto er mwyn rhyngu bodd y llywodraethwr traws yma chwant y cnawd, hi a anturia wneuthur y pechod, beth bynnac fo'r perygi a'r enbydrwydd a ddel o'i wneuthur.
24. Ac nid yn y pwngc yma, o anlladrwydd yn vnig, ond ym mhob peth arall, y mae dŷn mewn caethiwed ir llywodraethwr hwnnw ac i'w wyniau. Edrychwch ar wr a fo gwag-ogoneddus neu yn ymgyrhaeddyd am oruchafiaeth, a gwelwch fel y mae efe yn gwasanaethu ar hynny; mor ofalus ac mor ddiwyd y mae efe yn gwneuthur ei orchymmyn, hynny ydyw, mor dyfal ydyw i ymgais ag ychydig wynt a ddel allan o enau dynion, ac i ymlid pluen fach sydd yn hedeg o'i flaen ef yn y gwynt; [Page 180]chwi a gewch weled nad yw ef yn gadael heibio nac vn peth, nac vn amser, na dim yn y byd, er ceisio mwynhau hynny. Y mae efe yn codi yn foreu, ac yn mynd yn hwyri gysgu; yn ymdrafferthu'r dydd, ac yn ymofalu'r nos; yma y truthia ac y gwenhieithia, ac accw y rhagrithia; yma yr ymostwng ac yr ymoblyga, ac accw yr edrych yn vchel; yma y gwna rai ar ei blaid, ac accw y cais ochel gwrthwynebwyr. Ac at hynny y cyfeiria ef ei holl weithredoedd, ac y tuedda ei holl fatterion eraill, megis dull ei fuchedd, ei gadw cyfeillach, a gwifgad ei ddillad, a dull ei feirch, a'i weision, a'i ymddiddanion, a'i ymarweddiad, a'i gellwair, a'i edrychiad, ie ai gerddediad yn yr heolydd.
25, Yr vn modd yr hwn sydd yn gwasanaethu ei arglwyddes mewn gwŷn cybydd-dod; pa dôst ofidus gaethiwed y mae efe yn ei ddioddef? Y mae ei galon ef wedi ei murio yngharchar gan arian, fel y mae yn rhaid iddo feddwl yn vnig am y rhei 'ny, a sôn am danynt, a breuddwydio am danynt, a dychymmygu ffyrdd newydd i geisio ychwaneg o honynt, heb wneuthur dim yn y byd ond hynny. Pe gwelych chwi Gristion ynghaethiwed y Twrc, wedi ei rwymo erbyn ei droed â chadwyni mewn rhwyflong, i wasanaethu yno byth ac i rwyfo; ni allech chwi amgen na thosturio wrth ei gyflwr ef. A pha beth a wnawn ninnau wrth ofid a thrueni'r dŷn yma, yr hwn fydd mewn caethiwed i greadur gwaelach a distadlach nag vn Twrc, ac nag vn creadur rhesymol arall, hynny ydyw, i ddernyn o fettel, gan yr hon y mae efe yngharchar, yn rhwym, nid yn vnig enbyn ei draed, fel na allo gerdded i vnlle, yngwrthwyneb i'w budd ac i'w gorchymmyn hi; ond hefyd erbyn ei ddwylo, erbyn ei enau, erbyn ei lygaid, erbyn ei glustiau, erbyn ei galon, fel nas gallo na gwneuthur, na dywedyd, na gweled, na chlywed, na [Page 181]meddwl am ddim, ond am ei gwasanaethu hi? A fu erioed gaethiwed cymmaint â hyn? Ond gwir ynteu a ddywedodd Christ, Pwy bynnac sydd yn gwneuthur pechod, y mae ef yn was i bechod. Ac ond da y dywaid Sainct Petr, Gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, y mae efe wedi myned yn gaethwas i hwnnw. Ioan 8.34. 2 Petr. 2.19.
26. Ac oddiwrth y caethiwed hwn y gwaredir y rhai duwiol, trwy nerth Christ, a'i gymmorth, yn gymmaint a'i bod hwy yn llywodraethu ar eu gwyniau a'i trachwantau, ac nid y rhein'i yn llywodraethu arnynt hwy. Hyn a addawodd Duw trwy 'r Prophwyd Ezeciel, gan ddywedyd, A hwy a gant wybod mai myfi yw'r Arglwydd; pan dorrwyf rwymau eu hiau hwynt a'i gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt, Ezec. 34.27. A'r daioni yma yr oedd Dafydd dduwiol yn ei gydnabod ynddo ei hun, pan ddywedodd efe yr geiriau nerthol hyn wrth Dduw, O Arglwydd, yn ddian dy wâs di ydwyfi, dy was di ydwyfi, mab dy wasanaethwraig; dattodaist fy rhwymau, a minnau a aberthaf i ti aberth moliant, ac a alwaf ar enw'r Arglwydd, Psal. 116. 16. Y daioni yma hefyd y mae Sainct Paul yn ei gydnabod pan yw yn dywedyd ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydâ CHRIST, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod. Wrth yr hen ddyn yma, a chorph pechod y mae efe yn deall ein trachwant ni, yr hwn a farwolaethir trwy ras Christ ym mhlant Duw. Rhuf. 6.6.
27. Yn oly braint yma ar rydd-did y canlyn braint arall o gymmaint pwys ac ynteu, a hwnnw yw▪ rhyw heddwch nefol a llonyddwch meddwl, yn ô yrhyn a ddywaid y prophwyd, Ei babell ef sydd mewn heddwch. Ac mewn lle arall, Heddwch mawr sydd i'r rhai a garant dy gyfraith di, Psal. 119. 165. Ac yn y gwrthwyneb y mae'r Prophwyd Esai yn [Page 182]datcan yr ymadrodd yma yn fynych oddiwrth Dduw▪ Nid oes heddwch i'r annuwiol medd yr Arglwydd, Es. 59.21. Ac y mae hefyd yn dywedyd am yr vn dynion, Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd; a ffordd tangnefedd nid adnabuant, Esa. 59.7.8. Y rheswm o'r rhagor yma sy rhwng y duwiol a'r annuwiol a ddangoswyd o'r blaen yn yr hyn a ddywedais am yr amrafael wyniau sydd ynddynt. Oblegid y duwiol, gan ddarfod iddynt, trwy nerth grâs Christ ddarostwng cryfder mwyaf eu gwyniau, sydd yn myned rhagddynt yn eu buchedd yn dra esmwyth ac yn dawel trwy fod ei yspryd ef yn eu cyfarwyddo hwy, a hynny heb na gwyniau na thrallod yn y byd ac sydd yn blino nemmor arnynt, yn y matterion mwyaf a ddigwyddo yn eu bywyd hwy. Ond yr annuwiol am na ddarfu iddynt farwolaethu y gwyniau hynny, hwynt hwy a deflir ac a drallodir gan y gwyniau hynny, megis gan wynt gwrthwyneb crŷf. Ac am hynny y mae Esai yn cyffelybu eu cyflwr hwy i fôr tymmhestlog aflonydd, Es. 57.20. a S. Iaco yn ei gyffelybu i ddinas neu wlad a fo mewn rhyfel a therfysg o'i mewn ei hun, Iac. 3.14. Ac o hyn y mae dau achos, y naill am fod gwyniau trachwant, y rhai sy lawer ac anfeidrol agos mewn rhifedi, yn trachwantu ar ôl aneirif o bethau, ac na ddigonir hwy byth, ond bod yn debyg i'r sugneion hynny mae 'r gwr doeth yn crybwyll am danynt, y rhai sy'n llefain yn wastad Moes moes, heb gael eu gwala byth, Dih. 30.15. Megis, i ddwyn i chwi esampl, pa brŷd y caiff y neb a fo chwannog i oruchafieth ddigon o anrhydedd, na'r anllad ddigon o drythyllwch? na'r cybydd ddigon o arian? Ni chânt hwy byth; ac am hynny, megis na's gall y fam honno, na bô tôst iawn arni, yr hon a fyddei iddi lawer o blant yn llefain ar vnwaith a hitheu heb ddim bara ganthi i'w dorri rhyngddynt: felly y mae [Page 183]'n ddir bod yn flin ac yn dôst iawn ar yr annuwiol a fo aneirif o wyniau yn galw arno yn awyddus am ymroi i'w deisyfiadau hwy, yn enwedig gan nas gall ddigoni vn o'i deisyfiadau lleiaf hwynt.
28. Achos arall o'r blinder sy arnynt hwy ydyw, bod y gwyniau trachwant anllywodraethus yma, yn fynych yn wrthwyneb i'w gilydd, ac yn gofyn pethau gwrthwyneb, fel cymmysg Babel, lle'r oedd y naill dafod yn dywedyd yn wrthwyneb i'r lall, a hynny mewn amryw ieithoedd gwrthwyneb i'w gilydd. Felly y gwelwn ninnau yn fynych, fod chwant i anrhydedd yn dywedyd, Treulia yn hydda, ond medd gwŷn cybydd-dod Attal dy law. Medd anlladrwydd, Anturia yma: ond medd balchder, Na wna ddim, fe all hynny fod yn ammraint mawr i ti. Medd digofaint dial dy gam, ond medd Chwant i oruchafiaeth, Gwell i ti na chymmerych arnat. Ac yn ddiweddaf, yma y cyflawnir yr hyn a ddywaid y Prophwyd, Gwelais anwiredd a chynnen yn y ddinas. Anwiredd, am fod holl ddymuniadau 'r gwyniau hyn yn dra anghyfiawn, am eu bod yn erbyn gair Duw. Cynnen, am fod y naill o honynt yn llefain yn erbyn y llall yn eu dymuniadau, Psalm 55.10. Oddiwrth yr holl ofidiau hyn y gwaredodd Duw 'r cyfiawn, trwy roddi iddynt ei heddwch ef yr hwn sydd vwch law pob deall, fel y dywaid yr Apostol, a'r hwn ni ddichon y byd ei roddi, na phrofi o hono fel y dywaid Christ ei hun, Phil. 4.7. Io. 14.17, 27.
29. A chynnifer a hyn, o achosion a ellir en dangos yr awrhon, (heb law llawer eraill yr wyf yn eu gadael heibio,) i wirio geiriau Christ, fod ei iau ef yn ysgafn ac yn esmwyth: sef, help a chymmo [...]th grâs; cariad Duw; goleuni deall oddiwrtli yr yspryd glàn, diddauwch calon oddifewn; llonyddwch cydwybod; yr hyder sydd yn dyfod o hynny; rhydid enaid a chorph; a hyfryd orphywys [Page 184]ein hysprydoedd ni, tu ac at Dduw, tu ac at ein cymmydog, a thu ac attom ein hunain. Trwy 'r moddion hynny, a'r help, a'r breiniau, a'r doniau ardderchog, y cynnorthwyir y duwiol yn amgen na'r annuwiol, fel y dangoswyd, ac y gwneir eu ffordd hwy yn esmwyth, ac yn oleu, ac yn hyfryd. Ac at hynny y gallwn chwanegu y diddanwch yma, yn ddiweddaf cyssur, er nad yw leiaf, sef edrych a disgwyl am daledigaeth; hynny ydyw▪ am ogoniant a dedwyddyd tragywyddol i'r rhai duwiol; a damnedigaeth tragywyddol i'r rhai annuwiol. Ac dyma beth mawri ddwyn cyssur a chomffordd i'r naill, os bydd eu bywyd yn boenus mewn duwioldeb, ac i drallodi ac i flino 'r llaill ynghanol holl blesser a difyrrwch eu pechodau. Y mae 'r gweithiwr wrth feddwl am y cyflog a gaiff efe yn yr hwyr, yn cymmeryd calon i fyned rhagddo yn ei waith, er poenused fo iddo. O byddai ddau yn cyd siwrneio tu a'i gwlâd, y naill i dderbyn anrhydedd a pharch am y gwasanaeth da a wnaethai tra fuasai oddi cartref, a'r llall yn garcharor i dderbyn barn cyfraith am y fradwriaeth a wnaethai mewn gwledydd dieithr yn erbyn ei Arglwydd; ni fyddent hwy ill dau, i'm tŷbi, mor llawen hyfryd y naill, a'r llall, yn eu lletty ar y ffordd: ac er bod yr vn o honynt a fai mewn perygl, yn canu ac yn cymmeryd arno fod yn galonnog ac yn wirion, ac yn dangos wyneb têg llawen: etto da y gallai 'r llall dybieid, fod llawer oer-loes yn ei galou ef o'r tu mewn, fel y mae 'n ddiammau ynghalon pob rhai annuwiol, pan feddyliont ynddynt eu hunain am y byd a ddaw. Pe b [...]asai Ioseph a phobydd Pharao yn gwybod yn y carchar, pa gwttws a gai bob vn o honynt (sef y cai'r naill ar y dydd a'r dydd alw arno i'w wneuthur yn arglwydd ar yr Aipht, a'r llall i'w grogi ar bren) fe fuasai anhawdd iddynt fod [Page 185]mor llawen y naill a'r llall, tra fuasent fyw ynghyd yn y carchar. Y cyffelyb a ellir ei ddywedyd yn wiriach o lawer, am y duwiol a'r annuwiol yn y byd hwn. Oblegid pan feddylio 'r naill am ddydd ei marwolaeth yr hwn yw 'r diwrnod y gwaredir hwy allan o garchar, ni ddichon bod na lammo eu calonnau hwy gan lawenydd, wrth ystyried pa beth a ddigwydd iddynt ar ôl hynny, Ond y llaill a fydd blin arnynt, ac a syrthiant mewn trymfryd a thristwch, bob gwaith ac y clywont sôn am farwolaeth, neu y meddyliont am dani: am fod yn siccr ganthynt fod angeu yn dwyn gwenwyn gydag ef iddynt hwy, fel y dywaid yr Scrythur lân, Pan fo marw'r drygionus, fe ddarfu am ei obaith ef. Dih. 11.7.
30. Felly, frawd anwyl, os yw 'r holl bethau hyn felly, pa beth bellach a allai dy attal di rhag rhoi dy fryd ar y peth yr wyf yn dy annog i'w wneuthur? A ddywedi di etto, er hyn i gyd, fod y peth yn galed, a'r ffordd yn anhyfryd? Neu a goeli di rai eraill sydd yn dywedyd i ti hynny, er na wyddant hwy ond llai nag a wyddost di, o'r peth hynny? Coelia yn hyttrach air ac addewid Christ, sydd yn dy siccrhau di o'r gwrthwyneb: coelia y rhesymmau a ddangoswyd o'r blaen, y rhai sy 'n profi hynny yn eglur: Coelia dystiolaeth y rhai a brofasant hynny ynddynt eu hunain, fel y gwnaeth y brenhin Dafydd, a S. Paul, a S. Ioan Efangylwr; y rhai y dangosais i ti y tystiolaethan o'r blaen, allan o'i genau hwy eu hunain: Coelia lawer cant, a droir ynghred beunydd trwy râs Christ, o fyw yn annuwiol i wasanaethu Duw; y rhai sydd i gyd yn tystiolaethu ac yn dangos, ddarfod iddynt gael yn wir mwy nag a ddywedais i, nag a allwyf ei ddywedyd yn y matter yma.
[Page 186]31. Ac o herwydd y gelli di atteb a dywedyd, nad oes dim o'r cyfryw wyr lle 'r wyti, i ddangos i ti ddarfod iddynt hwy eu hunain brofi hynny; mi a allaf ddywedyd, ac yr wyf yn dywedyd i ti yn lle gwir, ar fy nghydwybod ger bron Duw; ddarfod i mi siarad fy hun a llawer o'r cyfryw rai; a chymmeryd cyssur mawr wrth weled cadarn law Dduw, ac anfeidrol haelioni ei fwyneidd-dra ef tu ac attynt yn y peth yma. Oh, frawd anwyl, ni all vn tafod ddatgan pa beth a welais i yn hyn o beth; ac etto ni welais i mo'r rhan leiaf o'r hyn yr oeddynt hwy yn clywed oddiwrtho. Ond hyn a allaf ei ddywedyd, am y rhai a wyddis eu bod yn gyfarwydd, ac yn chwarae mor deg ac mor vnion ac y gall eraill ddadlwytho eu cydwybodau iddynt, er mwyn cael cyssur neu gyngor ganddynt; mai rhan ydynt o'r rhai y mae 'r prophwyd yn dywedyd am danynt eu bod yn gwneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion, ac yn gweled gweithredoedd yr Arglwydd a'i ryfeddodau yn y dyfnder: sef yn nyfnder cydwybodau dynion y rhai y maent yn eu hadrodd gyd â lliaws o ddagrau, pan gyffyrddo Duw â hwynt â'i fendigedig râs. Coelia fi ddarllennydd rhywiogaidd, canys yr wyf yn dywedyd y gwir ger bron ein harglwydd Jesu, mi a welais gyssur cymmaint ac mor rhagorol mewn llawer o bechaduriaid mawr yn ôl eu troi, ac nas gall calon ond prin ei amgyffred, ac nad oedd y calonnau a'i derbyniasent ond braidd yn gallu ei gynnwys: mor helaeth yr oedd y gwlith nefol yn diferu i lawr oddiwrth haelionus law Dduw. Ac fel na bo i ti dybied fod hyn yn ddieithr, rhaid i ti wybod fod etto goffa am vn gwr duwiol a elwid, Ephrem, ddarfod iddo gael diddanwch mor rhyfeddol o faint yn ôl iddo droi at ddaioni, ac y cymmhellid ef yn fynych i waeddi ar Dduw; Oh Arglwydd, tro heibio dy law oddiwrthyf, am nad yw [Page 187]fy nghalon i yn abl i dderbyn llawenydd mor anfeidrol.Gofr. in vit. Bern. Ac y mae 'r cyffelyb yn ysgrifennedig am Sainct Bernard, ei fod ef dros ennyd o amser yn ôl iddo droi oddiwrth y byd, megys wedi ei ddifuddio o'i synhwyrau, gan faint y diddanwch a gawsai efe am Dduw.
32. Ond onis gall hyn oll dy annog di, ond mynnu o honot arhos yn dy anhyder, gwarando dystiolaeth vn, a wni y gwnai di goel arno, yn enwedig ac ynteu yn dywedyd y peth a brofodd ynddo ei hun: hwnnw yw'r merthyr a'r athraw sanctaidd Sainct Cyprian, Lib. Epist. 1. yr hwn wrth ysgrifennu at wr a garai, ac oedd o'i gyfrinach ef ac a elwid Donatus, sydd yn cyfaddef ei fod ef, cyn iddo droi, o'r vn meddwl ac yr wyt titheu; sef meddylio fod yn ammhossibl iddo newidio ei fuchedd, a chael y fath gomffordd mewn buchedd dduwiol ac a gafodd efe wedi hynny: ac ynteu o'r blaen yn ymarfer â phob math ar ddrwg ymarweddiad. Ac am hynny y mae ef yn dechreu ei draethawd at ei gyfaill yn y modd hyn, Accipe quod sentitur ante quam discitur, Cymmer y peth a glywir oddiwrtho, cyn y dysger; ac felly y mae'n myned rhagddo mewn hir draethawd, ac yn dangos ddarfod iddo yr awrhon weled a phrofi 'r peth ni allai efe erioed ei gredu cyn iddo droi, er bod Duw wedi ei addaw iddo.Lib: 6. Confess. c. 12. Y cyffelyb y mae S. Awstin yn ei sgrifennu am dano ei hun, yn llyfrau ei gyffes, lle y mae yn dangos y mynnai ei wyniau ef er dim ac a fai, beri iddo goelio cyn iddo droi, na byddai efe byth abl i ddioddef peth mor galed ac mor dost ac yw buchedd dduwiol: yn enwedig am bechodau 'r cnawd, y [...]uasai efe fyw yn drythyll nwyfus ynddynt hyd yr amser hwnnw, ni thybygid bod yn [Page 188]bossibl iddo byth eu gadael, a byw yn ddiwair: ac er hynny efe a gâfodd wybod wedi, fod y peth yu esmwyth, ac yu hyfryd, ac heb ddim caledi ynddo. Ac am hynny y mae efe yn torri allan i'r geiriau hyn, Fy Nuw, bid i mi gofio, a chyfaddef dy drugareddau di tu ac attaf; llawenyched fy esgyrn, a dywedant wrthyt, Oh Arglwydd, pwy sydd fel tydi? Dattodaist fy rhwymau; ac mi a aberthaf i ti aberth moliant. Y rhwymau hyn oedd rwymau trachwant, y rhai oedd yn ei rwymo ef mewn caethiwed cyn ei droi, fel y mae efe yn cyfaddef yno ond yn y man ar ôl hynny efe a waredwyd odd [...]wrthynt, trwy gymmorth sancteiddiaf râs Duw. Psal. 35.10. Psal. 116.16.
33. Fy nghyngor [...]i gan hynny, ddarllennydd hawddgar, gan fod iti gynnifer o dystiolaethau, ac o esamplau, ac o resymmau, ac addewidion o'r peth; oedd fod i ti vnwaith o'r hyn lleiaf brofi ynot dy hun beth a wna hyn ai bod yn wir ai peidio: yn enwedig gan ei fod yn fatter o gymmaint o bwys, ac yn haeddu cystal gael gennyt ei brofi: hynny ydyw, am ei fod yn perthyn cyn nessed i'th lechydwriaeth dragywyddol di. Pe deuai ddyn gwael attat, a chynnyg i ti er anturio vn goron aur; wneuthur i ti fil o goronau trwy gelfyddyd Alchymi: pe rhon a'th fod yn ammau nac yw efe ond coegwr a thwyllwr, etto gan fod gobaith o ynnill cymmaint, ac nid yw 'r antur ond colled cyn lleied, ti a fyddit debyg iawn i brofi 'r matter vnwaith, er a wnelai vn goron. Pa faint mwy y dylit ti brofi 'r matter yma, lle ni elli di golli dim wrth ei brofi; ond os ffynna gennyt, ti a elli ynnill cymmaint ac a dâl tragywyddol lawenydd nef.
34. Ond etto yma ar y ffordd, ni allafi nas rhybuddiwyf di am vn peth y mae'r hên dadau a Sainct Duw aeth o'th flaen di trwy'r afon yma sy'n terfynu [Page 189]rhwng gwasanaeth Duw a'r bŷd, yn ei ddywedyd ddarfod iddynt hwy ei brofi: hynny ydyw bod yn rhaid i ti cyn gynted ac yr amcenych roi dy fryd ar ymadael â'r bŷd a gwasanaethu Duw, ddisgwyl am gyrchfaau, ac ymladdau, a rhyfel cyhoedd o'th fewn dy hun,C [...]pr. lib. 1. cap 1. Aug. lib. 1. doct. Christ. cap. 23. Greg. Mor. lib. 4. c. 24. li, 30. c. 18. Cyril lib. deorat. Orig. ho. 30 in ex & levit, & 11 Ios. Hilar in Psal. 118. fel y mae Sainct Cyprian, Sainct Awstin, S. Grigor, a S. Bernard, yn dywedyd ddarfod iddynt hwy ei gael ynddynt eu hunain. Hyn y mae Cyril ac Origen yn ei ddangos yn helaeth mewn amryw leoedd. Hyn y mae Sainct Hilar yn ei brofi drwy resymmau ac esamplau. Hyn y mae 'r gŵr doeth yn dy rubuddio di am dano, ac yn ewyllysio i ti, P [...]n ddelych i wasanaeth yr Arglwydd baratoi dy enaid i brofedigaeth. Ecc. 2.1. A'r rheswn o hynny ydyw, am fod y cythraul, tra oedd mewn heddychol feddiant o'th enaid ti o'r blaen, yn aros yn llonydd ac yn ceisio ym mhob modd dy foddloni di trwy osod gar dy fron di bob dyfyrrwch cnawdol a phob math ar hyfrydwch newydd ar ôl ei gilydd. Ond pan welo efe dy fod yn amcanu ymadael ag ef, ef a ddechreu yn y man ymgynddeiriogi, a chodi terfysg o'th fewn di, a therfysgu nef a daiar, cyn y collo ef ei deyrnas yn dy enaid ti. A hyn sydd amlwg wrth esampl yr hwn a waredodd Christ, wrth ddyfod i wared o'r mynydd yn ol ei weddnewidiad, oddiwrth yspryd byddar mud. Oblegid er na chymmerai'r cythraul arno na dywedyd na chlywed, [...]a oedd efe yn cael meddiannu'r corph hwnnw yn llonydd; etto pan orchymmynnodd Christ iddo fyned allan, efe a glywodd ac a waeddodd hefyd, ac a rwygodd ac a ddrylliodd y dyn truan hwnnw, fel y tybiodd pawb ar a oedd yn sefyll yno ei fod efe wedi marw yn siccr, Marc. 9. A hyn a ddangoswyd [Page 190]trwy ffigur yn histori Laban, yr hwn ni flinodd ronyn ar ei fab yn y gyfraith Jacob, hyd oni chychwynnodd ymadael ag ef, Gen. 31. Ac etto yn amlygcach yr hyspyswyd hyn yngwaith Pharao, yr hwn pan wybu efe vnwaith fod pobl Israel a'i brŷd ar ymadael allan o'i deyrnas ef, ni pheidiodd efe â'i blino hwy yn dost, fel y tystiolaetha Moesen, hyd oni waredodd Duw hwynt yn gwbl allan o'i ddwylo ef, a hynny trwy gwymp a dinistr yr holl Aipht eu gelynion hwy: A'r ymwared hwnnw a ddyweid y tadau duwiol a Sainct yr Eglwys, ei fod yn ffigur amlwg o warediad ein heneidiau ni allan o gaethiwed y cythraul.
35. Acos mynni di gael esampl eglur o'r hyn oll a ddywedais i o'r blaen, mi a allwn ddwyn i ti lawer o esamplau; ond rhag bod yn rhyhir, digon fydd esampl troad Sainct Awstin yn vnig, fel y mae efe yn tystiolaethu ei hun yn llyfrau ei gyffes. Esampl ryfeddol ydyw, ac y mae 'n cynnwys llawer o byngciau godidog comfforddus. Ac yn siccr pwy bynnag a'i darllenno i gyd trwyddi, yn enwedig yn y chweched, a'r seithfed, a'r wythfed llyfr o'i gyffes ef;Lib. 8. Confess. c. 1. & 2. efe a gaiff ei gyffroi a'i addysgu yn fawr wrth, hynny. Ac mi a attolygaf arnati ddarllennydd sydd yn d [...]all lladin, fwrw golwg o'r hyn lleiaf ar rai pennodau o'r wythfed llyfr, lle y datgennir troad y Sanct yma, yn ôl aneirif o ymladdau. Rhyhir a fyddai ei adrodd yma, er ei fod yn gyfryw mewn gwirionedd ac na bai raid i neb fod yn flin gantho ei glywed. Yno y mae efe yn dangos pa drallod a blinder a gafodd efe yn yr ymdrech yma rhwng y cnawd a'r yspryd, rhwng Duw yn tynnu o'r naill du, a'r byd, a'r cnawd a'r cythraul yn dal or tu arall. Efe a aeth at Simplicianus hên wr dysgedig, a Christion dwyfol: efe aeth at [Page 191]Sa [...]ct Ambros esgob Milan: ac wedi iddo ymddiddan â hwynt, ef a gafodd mwy o flinder nag o'r blaen. Efe a ymgynghorodd a'i gyfeillion, Nebridius ac Alipius, ond nid oedd hynny i gyd yn esmwythau dim arno; hyd oni ddaeth o'r diwedd ryw Gristion oedd wr llys a chapten, a elwaid Pontition, a dywedyd iddo ef ac i Alipius, ar ryw achlysur, am fuchedd dduwiol Sanct Anthoni, yr hwn ychydig o'r blaen a ymroesai i fyw yn neillduol ac yn vnig yn yr Aipht; fel y clywodd efe hefyd fod eraill yn gwneuthur, ie yn Milan, lle 'r oedd efe yr amser hwnnw. Pan glywodd efe hynny efe a dynnodd o'r neilldu, ac a gafodd ymdrech tra ofnadwy ag ef ei hun: am yr hwn y mae efe yn ysgrif [...]nu fel hyn,Cap. 7. Pa beth na's dywedais i yn fy erbyn fy hun yn yr ymdrech yma? Pa fodd y curais i, ac y ffrewyllais fy enaid fy hun, i beri iddo dy ganlyn di, O Arglwydd? Ond yr oedd [...]y enaid i yn tynnu yn ôl, ac yn gwrthod, ac yn ymesgusodi: a phan orchfygwyd ei holl resymmau ef, efe a grynodd ac a ofnodd, megis rhag angeu, rhag ei dynnu oddiwrth ei ddrwg after yn pechu. Ac wrth hynny ef a ymdreuliodd hyd angeu. Wedi hyn ef a aeth i'r ardd gyd ag Alipius e [...] gyfaill, ac yuo efe a lefodd wrtho ef,Cap. 1. Quid hoc est? Quid patimu [...]? Surgunt indocti & Caelum capiunt, & nos cum doctrinis nostris, sine corde, ecce vbi volutamur in carne & sanguine. Pa beth yw hyn? Alipius, pa beth yr ydym ni yn ei ddioddef tan gaethiwed pechod? y mae gwŷr annysgedig (fei Anthoni ac eraill; oblegid annysgedig▪ oedd efe) yn cippio 'r nef trwy drais, a ninnau a'n holl ddysg gennym, heb galonnau, wele fel yr ydym ni yn ymdreiglo mewn cnawd a gwaed. Ac yno y mae ef yn myned rhagddo, ac yn dangos y blinderau rhyfeddol anghredadwy a gafodd efe yn [Page 192]yr ymdrech yma'r dwthwn hwnnw: Wedi [...]ŷn efe a aeth allan i berllan, ac yno y cafodd efe etto ymdrech mwy. Oblegid yno yr oedd ei holl blesser a'i ddigrifwch bydol yn ymddangos yngŵydd ei lygaid ac yn dywedyd, Dimittesne nos, & a momento isto non erimus tecum vltra in Aeternum, &c. Pa beth? a ymadewi di â nyni? Ac oni chawn ni fod gydâ thi byth mwy, o'r munyd yma allan? Oni bydd cyfraithlon i ti wneuthur hyn neu'r llall byth yn ol hyn? Ac yna medd Sainct Awstin, tro oddi wrth feddwl dy was feddylio am y peth y maent yn ei roi yn erbyn fy enaid: pa frynti, pa ddifyrrwch cywilyddus a osodent hwy ger bron fy llygaid i? O'r diwedd y mae yn dywedyd, yn ol ymdrech hir a ma [...]th, ddyfod arno dymmestl ryfedd o wylo: a chan nas gallai ei wrthwynebu, efe a redodd ymaith oddiwrth Alipius, ac a'i bwriodd ei hun ar y ddaiar tan ffigys- [...]en, ac a adawodd i'w lygaid wylo eu hamcan, a hwythau yn y man a ollyngasant lifeiriaint o ddagreu. Ac ychydig wedi myned y rhai hynny heibio, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth Dduw yn y modd hyn, Et tu Domine, vsquequo? quam diu, quamdiu, cras & cras? quare non modo? quare non hac hora finis est turpitudinis meae? O Arglwydd, pa hyd y gadewi di i mi fod fel hyn? pa hyd, pa hyd y dywedaf, Yforu, yforu? pa ham na's gwnawn heddyw? pa ham na bydd diben ar fy muchedd aflan i yr awr hon? Ac yn ol hyn y canlyn ei ryfeddol ymchweliad ef, ac ymchweliad Alipius ei gyfaill ef, yr hon am ei fod ef ei hun vvedi ei gosod i lawr yn fyrr, mi a adroddaf ei eiriau ef ei hun; y rhai sy fel y canlyn yn y man, ar ol y rhai o'r blaen.
36. Mi a ymddiddenais fel hyn a Duw, ac a wylais yn drachwerw, ynghyd a dwfn ofid calon; ac wele mi a glywn lef, fel pettai lais bachgen neu eneth yn [Page 193]canu o ryw dŷ ger llaw, ac yn adrodd yn fynych Cymmer a darllein, Cymmer a darllein. Ac yn ebrwydd mi a newidiais fy wynebpryd, ac a ddechreuais feddwl yn dra difrif ynof fy hun, a fyddai blant arfer o ganu dim o'r fath beth, mewn chwarae yn y byd ar y byddent yn ei wneuthur: ond nid yw 'n dyfod yn fy nghof glywed dim o'r fath beth erioed. Am hynny mi a attelais nerth fy nagrau, ac a godais i fynu, heb fedru dirnad dim amgen, nâ dyfod y llef honno o'r nef, i beri i mi egori 'r llyfr oedd gennyf gydâ mi, (yr hwn oedd Epistolau Sainct Paul) a darllein y bennod gyntaf a gyfarfyddai a mi. Oblegid mi a glywswn o'r blaen am Sainct Anthoni, fel y rhybuddiasid ef i droi, wrth glywed darllain gwers o'r Efengyl, yr oeddid yn ei darllain, pan oedd efe, ar ryw achlysur yn dyfod i'r [...]glwys; a'r wers honno oedd, Dôs, gwerth gwbl [...] sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gai drysor yn y nef, a thyred a chanlyn fi, Mat. 19.21. Yr ymadrodd yma a gymmerodd Sainct Anthoni, megis pe y dywedasid wrtho ef ei hun yn neillduol; ac yn y man efe a droodd at [...]ati, o Arglwydd. Am hynny mi a aethym finnau ar frys i'r man lle'r oedd Alipius yn eistedd, oblegid yno y gadawswn fy llyfr pan ymadaws [...]n: mi a'i cippiais i fynu, ac a'i hegorais, ac a ddarllennais yn gyfrinachol ddistaw y bennod gyntaf a ddaeth i'm golwg, ac yno yr oedd y geiriau hyn, Nid mewn cyfaddech, a meddwdod; nid mewn cydorwedd, ac anlladrwydd; nid mewn cynnen, a chynfigen: Ond gwisgwch am danoch yr Arglwydd Jesu Ghrist; ac na wnewch ragddarbod tros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef, Rhuf. 13.13. Pellach na'r ymadrodd yma nis darllennwn, ac nid oedd raid i mi [...] Oblegid yn y man gyda diwedd yr ymadrodd hwnnw, fe ffoawdd holl dywyllwch petrusder ymaith o'm calon, megis pe [Page 194]buasai lewyrch diogelwch wedi ei dywallt ynddi. Ar hynny mi a roais fy mŷs, neu ryw nôd arall nid wyf yr awrhon yn ei gofio, ar y lle a ddarllennaswn, ac a geuais y llyfr, ac ag wynebpryd heddychol mi a ddangosais y cwbl i Alipius. Ac ynteu wrth, hynny a fynegodd yr hyn a weithiesid ynddo ynteu, yr hyn nis gwyddwn i o'r blaen, ac a ddeisyfiodd gael gweled y peth a ddarllennaswn i; ac mi a'i dangosais iddo. Efe a'i hystyriodd i gyd oll ac a aeth ym mhellach nag y darllennaswn i. Oblegid y mae'n canlyn yn Sanct Paul, (yr hyn nis gwyddwn i) Derbynniwch attoch yr hwn sydd wan yn y ffydd, Rhuf. 14.1. Yr hyn a fwriodd Alipius atto ei hun, ac a agorodd ei holl betrusder i mi. Ond trwy y rhybudd yma eiddo Sainct Paul, efe a siccrhawyd, ac a gyssylltwyd attafi yn fy amcan da, ond er hynny yn dawel, ac heb ddim cyngyd trallodus, fel yr oedd ei naturiaeth a'i foddion, yn yr hyn yr oedd efe, yn rhagori arnafi, yn y rhan oreu.
37. Yn ôl hyn ni a aethom at fy mam i,Monica oedd ei henw: gwraig dduwiol iawn ydoedd fel y mae efe 'n dangos, lib. 9. cap. 9.11, 12, 13. ac a ddywedasom y peth iddi hitheu, a hi fu lawen ganthi: ni a'i mynegasom iddi mewn trefn, hithau a lawenychodd ac a orfoleddod, ac a'th fendithiodd di ô Arglwydd (yr hwn wyt gadarnach a haelach, nag y medrwn ni na gofyn na deall) am ei bod yn gweled ddarfod i ti ganiattau iddi o'm plegid i, fwy nag y byddei hi arfer o'i ofyn yn ei hocheneidiau trymion tosturus. Oblegid ti a'm troesit i felly attat ti, fel na cheisiais i byth wraig, na dim gobaith arall yn y byd hwn: ond byw ac arhos yn y rheol ffydd honno, yn yr hon y datguddiaist fi iddi, cynnifer o flynyddoedd o'r blaen. Ac felly ti a droist ei thristwch hi yr awrhon, yn llawenydd helaethach nag a fedrai hi ei ddymuno, ac yn llawenydd [Page 195]cuach a diweiriach, nag a fedrai hi ei ofyn oddiwrth fy mhlant i a'm hwyrion pe buaswn i yn ceisio gwraig. O Arglwydd, yr wyfi yn was i ti, yr wyn yr awrhon yn was i ti, ac yn fab i'th wasanaethwraig, ti a ddattodaist fy rhwymau; a minnau a aberthaf i ti am hynny aberth moliant. Molianned synghalon a'm tafod innau dydi, a dyweded fy esgyrn wrthyt; O Arglwydd, pwy sydd fel tydi? Dywedent hwy hynny, ô Arglwydd, ac atteb ditheu, mi a attolygaf i ti, a dywed wrth fy enaid, Mysi yw dy iechydwriaeth. Hyd hyn y mae geiriau S. Awstin, Li. 9. ca. 1.
38. Yn yr esampl ryfeddol hon am droad y gwr enwog yma, y mae amryw bethau i'w hystyried, i'n diddanu ni, ac i'n haddysgu hefyd. Yn gyntaf, y mae i ni ystyried yr ymdrech mawr a fu rhyngtho a'i elyn ysprydol, cyn gallu diangc allan o'i feddiant a'i lywodraeth ef. A diammau fod yn fwy yr ymdrech hwnnw, am fod yn rhaid iddo ef wedi hynny fod yn golofn cymmaint yn Eglwys Dduw. Ac ni a welwn na chafodd Alipius cymmaint o wrthwyneb, am fod y gelyn yn gweled nad oedd ynddo ef ond llai o ddeunydd o lawer nag oedd yn Awstin, i niweidio ei deyrnas ef. Yr hyn a ddylai roi comffordd mawr i'r rhai sy 'n clywed gwrthwyneb mawr, a phrofedigaethau cryfion yn erbyn eu galwedigaeth: a bod yn siccr ganddynt, fod hynny yn arwydd o ras a ffafor, os hwy a ant rhagddynt yn wrol. Felly y galwyd S. Paul, fel yr ydym yn darllain, trwy nerth a gwrthwyneb mawr, trwy ei daro i lawr i'r ddaiar, a'i wneuthur yn ddall cyn iddo droi; am ei fod ef yn llestr etholedig i ddwyn Enw Christ at y Cenhedloedd. Act. 9.
39, Yn ail y mae i'w ystyried, er bod yn y gwr hwn wyniau cadarngryf o flaen ei ymchweliad, a hynny yn y clefydau mwyaf, ac anhawsaf eu hiachau, [Page 196]ac sy fynychaf yn blino y rhai bydol; megis mewn chwant i oruchafiaeth, cybydd-dod, a phechodau 'r cnawd, fel y mae efe ei hun yn cyfaddef o'r blaen: a'r clefydau hynny oedd mewn gwirionedd mor grŷf yn ei berchennogi ef, ac y tybiai efe yn ammhossibl, cyn ei droi, allu eu darostwng a'i gorchfygu hwy byth:Li. 6. ca. 6. & 16. etto wedi hynny efe a gafodd brofi 'r gwrthwyneb trwy help hollalluog ras Duw. Yn drydydd hefyd y mae i ni ystyried, nid yn vnig iddo gael goruchafiaeth orchestol ar y gwynian hyn, ond cael o hono hefyd fawr hyfrydwch yn ffordd buchedd dduwiol. Oblegid, ychydig yn ôl iddo droi, y mae efe yn scrifennu fel hyn: Ni chawn i byth ddigon, o Arglwydd, yn y dyddiau hynny, o'r rhyfeddol hyfrydwch a roddaist i mi; pa faint a wylais i yn dy hymnau a'th ganeuau di, ac mor grŷf i'm cyffroid gan leisiau dy Eglwys di yn canu 'n beraidd hyfryd? Y lleisiau hynny a redent i'm clustiau, a'th wirionedd a doddodd i mewn i'm calon, ac oddiyno y berwodd allan naws duwioldeb, ac a barodd i ddagrau redeg oddiwrthyf, ac yr oeddwn mewn cyflwr tra happus ganddynt. Li. 9. ca. 6.
40. Yn bedwerydd y mae i'w ystyried er mwyn ein haddysgu ni a pheri i ni ei ganlyn, beth oedd ymarweddiad y gwr hwn ynghylch ei alwedigaeth: yn gyntaf drwy ei chwilio a'i phrofi, wrth gyrchu at Sainct Ambros, a Simplicianus ac eraill; drwy ddarllein gair Duw, ac arfer o gwmpeini da, a'r cyffelyb: yr hyn a ddylyt titheu, ddarllennydd mwynlan, ei wneuthur, pan glywech dy gyffroi o'r tu mewn: ac nid gorwedd yn farw, fel y gwna llawer, drwy wrthwynebu yr yspryd glan yn amlwg, a phob ysprydoliaethau da; ac heb roi clûst cymmaint ac vnwaith i Grist yn curo wrth ddrws eu [Page 197]cydwybodau. Heb law hyn, ni wrthododd S. Awstin, fel y gwelwn ni, mo'r moddion i adnabod ei alwedigaeth, ond gweddio, ac wylo, a mynych ymnaillduo ac ymddidoli ar ei ben ei hun oddiwrth gwmpeini, i ymddiddan â Duw yn y matter hwnnw. Yr hyn nis gwna llawer o honom ni byth: ond yn hytrach ffieiddo a gochel pob moddion a allai yn dwyn ni i feddwl am droi at Dduw. Yn ddiweddaf, S. Awstin, Li. 9. ca. 2. wedi iddo vnwaith weled beth oedd ewyllys Duw yn oleu, nid oedodd mo 'r peth ddim hwy; ond torri ymaith yn nerthol oddiwrth yr holl fyd a'i orwagedd; a rhoi i fynu ddarllain a dysgu Areithyddiaeth ym Milan; ac ymadael â phob gobaith o gael goruchafiaeth yn y llŷs, ac ymroi i wasanaethu Duw yn gwbl: ac am hynny nid rhyfedd gael o hono ef cymmaint diddanwch a chodiad gan Dduw yn ôl hynny, a chael bod yn aelod mor wiw yn ei Eglwys ef. A'r esampl yma a ddylai bawb ei chanlyn, ac y sydd yn chwennych cadw cydwybod dda, cyn belled ac y goddefo cyflwr a buchedd pob dŷn.
41. Ac yma ar hyn o achlysur, ni allafi beidio a'th rybuddio di, ddarllennydd hynaws, a'th ragrybuddio di trwy esampl S. Awstin, y bydd rhaid i bawb ac a fo yn meddwl rhoi ei fryd ar wasanaethu Duw yn gwbl, wneuthur hynny megis trwy gymmell yn y dechreuad. Oblegid fel y mae yn hawdd diffodd tân os rhuthrwch arno trwy nerth, ond os cymmerwch ef yn araf ac yn esmwyth, a rhoi vnllaw arno ar ôl y llall, chwi a ellwch yn hytrach wneuthur niweid i chwi eich hun na diffodd y tan: felly am ein gwyniau ninnau, y rhai sy 'n gofyn gwroldeb a chalondid yn y dechreuad, y rhai pwy bynnag a'i harfero, ynghyd a'r moddion eraill sydd yn perthyn i hynny, yn dra diau efe a gaiff weled fod yn esmwyth y peth y mae efe yr awrhon yn tybied ei [Page 198]fod yn drwm; a bod yn dra hyfryd y peth y mae efe yr awrhon yn ei gyfri 'n ddiflas. Er mwyn profi hynny,In verba Evangecce nos reli (que) omnia, &c. a diweddu 'r pennod yma hefyd, mi a adroddaf draethawd byrr allan o Bernard, yr hwn yn ôl ei arfer, sydd yn profi 'r peth yn gymmwys allan o'r Scrythurau. Y mae Christ yn dywedyd wrthym, Cymmerwch fy iau i arnoch, a chwi a gewch orphywysdra, Mat. 11.29. Dyma newyddion rhyfeddol, ond y mae 'n dyfod oddiwrth yr hwn sydd yn gwneuthur pob peth yn newydd: Bod y neb sy 'n cymmeryd yr iau arno, yn cael esmwythdra; a'r neb sydd yn gadael y cwbl, yn cael y can cymmaint. Efe a wyddai hynny (sef y gwr oedd wrth fodd calon Duw) yr hwn a ddywedodd yn y Psalm,Ps. 94.20. Felly y mae yn y lladin. A lŷn gorseddfaingc anwiredd wrthyt ti ô Arglwydd, yr hwn wyt yn cymmeryd arnat fod poen yn dy orchymmynion di. Ond poen yw hon a gymmerai vn arno ei bod mewn gorchymmyn, frawd anwyl? sef baich ysgafn, ac iau esmwyth, a chroes wedi ei henneinio. Felly yn yr hên amser y dywedodd efe wrth Abraham, Cymmer dy fab Isaac, yr hwn a hoffaist, ac offrymma ef i mi yn boeth offrwm, Gen. 22.2. Dyma boen a dybid ei bod mewn gorchymmyn: oblegid er darfod offrymmu Isaac, nid ei ladd ef ond ei sancteiddio a wnaed wrth hynny. Titheu gan hynny, os clywi lef Duw o fewn dy galon yn ewyllysio i ti offrymmu Isaac, yr hyn a arwyddoccau llawenydd, neu chwerthin; nac ofna vfyddhau iddi yn ffyddlon ac yn ddianwadal: a pha beth bynnag a dybio dy ewyllys llygredig di o'r peth, bydd di ddiogel: Nid Isaac, ond yr hwrdd a fydd marw yn yr achos: nid dy lawenydd di a dderfydd am dano, ond dy gyndynrwydd yn vnig, yr hwn y mae ei gyrn [Page 199]ynglyn mewn drain, ac nis gall fod ynoti heb pigiadau cyfyng betrusder. Nid yw dy Arglwydd ond dy brofi di, fel y profodd efe Abraham, i edrych beth a wnei di. Isaac, (hynny ydyw, dy lawenydd di yn y byd hwn) ni bydd marw ddim, fel yr wyti yn tybied, ond byw fydd: yn vnig mae 'n rhaid ei godi fo i fynu ar y coed, er mwyn cael o'th lawenydd di fod yn vchel, ac er mwyn cael o honot ti ogoneddu, nid yn dy gnawd dy hun, ond yn vnig ynghroes dy Arglwydd, trwy 'r hwn hefyd i'th groes-hoeliwyd titheu; i'th groes-hoeliwyd meddaf, ond i'r byd i'th groes-hoeliwyd; oblegid i Dduw yr wyti yn fyw etto, a hynny yn hytrach nag yr oeddit o'r blaen.
PEN II. Am yr ail rhwystr, yr hwn yw erlid, a blinder, a thrallod, gan y rhai y cedwir llawer oddiwrth wasanaeth Duw.
LLawer sydd yn y byd, y rhai naill ai wrth ystyried y pethau hyn a ddywetpwyd o'r blaen, ai am eu bod yn gweled rhai gwyr yn byw mor llawen a hwythau, sydd foddlon i ganhiadu hyn, eu bod hwy mewn gwirionedd yn cyfrif bod buchedd dduwiol yn ddigon hyfryd, i'r rhai sy vnwaith wedi myned i mewn iddi, ac y clywent hwythau arnynt fof yn fodlon mewn gwirionedd i'w chanlyn hi, pe gallent wneuthur hynny trwy lonyddwch a heddwch o bob parth. Ond os gofynnir hynny ganddynt ar y cyfryw amser a'r cyfryw le, ac yn y cyfryw drefn [Page 200]a dull, a modd, ac y gorphai arnynt ddioddef trallod, a chystudd, ac erlid o'r achos; y maent hwy yn tybied fod hynny yn beth anrhesymmol ei ofyn ganddynt, a bod yn ddigon da eu hesgus hwy ger bron Duw a dyn, er iddynt ei wrthod. Ond nid yw ddim gwell yr esgus yma nâ 'r hwn o'r blaen, am yr anhawsder a dybiant ei fod yn gwasanaethu Duw: am fod yr esgus yma yn sefyll ar sail anghywir, ac ar reswm anghyfiawn a osodir ar y sail honno. Y sail yw hyn, y gall dyn fyw yn dduwiol, a gwasanaethu Duw yn gywir mewn pob math ar esmwythder bydol, ac heb ddim cystudd, na thrallod, nac erlid: a hynny nid wy wir. Oblegid, er bod gwrthwyned oddi allan, ac erlid yn fwy ryw amser na'i gilydd, ac yn fwy yn rhyw fan na'i gilydd; etto ni all bod na lle nac amser, heb beth gwrthwyneb, oddifewn ac oddiallan hefyd. Y rhai er eu bod, fel y dywedais o'r blaen, heb fod yn drymion nac yn anhyfryd gan y duwiol, o achos bod Duw yn danfon amryw gymmorth, a diddanwch iddynt, ynghyfer y gwrthwyneb hwnnw: etto ynddynt eu hunain y maent yn fawr ac yn drymion hefyd, fel y caid gweled pe cwympai 'r cyffelyb ar yr annuwiol a'r annioddefgar. Yn ail, y mae y rheswm a osodir ar y sail honno, yn anghyfiawn, am ei fod yn dywedyd fod trallod yn ddigon o reswm iddynt i wrthod gwasanaethu Duw, a Duw wedi ordeinio trallod megis modd i dynnu dynion i'w wasanaethu ef. Er mwyn hyspyssu hynny yn well, ac ynteu yn fatter o gymmaint pwys, mi a draethaf yn y bennod yma 'r pedwar pwngc hyn. Yn gyntaf, pa vn a wna ai bod yn gyffredin, gorfod ar bawb a fo cadwedig, ddioddef rhyw fath ar erlid, a thrallod, a chystudd ai nas gorffo. Yn ail, beth yw 'r achosion pa ham y dewisodd ac yr appwyntiodd Duw, ac ynteu yn ein caru ni fel y mae, wneuthur a ni felly [Page 201]yma yn y byd hwn. Yn drydydd, pa resymmau pennaf o ddiddanwch sydd i ddyn i'w cael mewn trallod. Yn bedwerydd, pa beth a ofynnir ganddo ef yn y cyflwr hwnnw. Ac wedi darfod yspyssu 'r pedwar pwngc yma, nid wyf yn ammau na cheir gweled goleuni mawr yn y matter yma, yr hwn yn nhŷb cig a gwaed sydd mor llawn o dywyllwch ac anghyffelybrwydd.
2. Ac am y cyntaf nid rhaid fawr profedigaeth, am fod Christ ei hun yn dywedyd wrth ei ddisgyblion, a thrwyddynt hwy wrth bawb eraill o'i weision, In mundo pressuram habebitis, Yn y bŷd y cewch orthrymder, Jo. 16.33. Ac mewn lle arall, Yn eich ymmynedd y meddiennwch eich eneidiau, Luc. 21.19. Hynny ydyw, trwy ddioddef yn ymmyneddus mewn gwrthwyneb: yr hyn y mae Sainct Paul yn ei adrodd yn eglurach, pan yw yn dywedyd, Pawb ar sy 'n ewyllysi [...] byw yn dduwiol ynghrist Jesu, a erlidir, 2 Tim. 3.12. Ac os erlidir pawb, ni ddiangc neb. Ac i ddangos etto ym mhellach mor angenrheidiol ydyw hynny, y mae Paul a Barnabas hefyd yn rhoi athrawiaeth, fel y mae S. Luc yn nynegi, Mai trwy lawer o orthrymderau y mae 'n rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw, Act. 14.22. gan arfer y gair Oportet, yr hwn sydd yn arwyddoccau bod yn ddir ac yn angenrhaid i ni hynny. Ac y mae Christ ei hun etto ym mhellach yn datcuddio 'r dirgelwch yma, pan yw yn dywedyd wrth S. Joan yr Efangylwr, Ei fod efe yn ceryddu y sawl y mae 'n eu caru, Datc. 3.19. A'r geiriau hynny y mae 'r Apostol megis yn eu hesponi at yr Hebraeaid, ac yn dywedyd, Y mae efe yn fflangellu pob mab a dderbynio. Ac y mae 'r Apostol yn canlyn y matter hwnnw cymmhelled yn y fan honno, ac y mae yn dywedyd yn eglur, Mai bastardiaid ydynt hwy i gyd, ac nid meibion i Dduw, y rhai m [...] yw efe yu eu cystuddio [Page 202]yn y byd hwn, Heb. 12.6, 8. Yr vn rheswm y mae Sainct Paul yn ei ddal at Timotheus, Si sustinemus, & conregnabimus, Os dioddefwn gydâ Christ, ni a deyrnaswn gydag ef. Ac â hynny y cyttuna Dafydd dduwiol, pan yw yn dywedyd, Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn. 2 Tim. 2.12. Psal. 34.19.
3. Yr vn peth a ellid ei brofi drwy lawer o foddion eraill, megis drwy 'r hyn a ddyweid Christ, Na ddaeth efe i ddanfon tangnefedd ar y ddaiar, ond cleddyf, Mat. 10.34. Ac wrth yr hyn a ddyweid Sainct Paul hefyd, Na choronir neb, onid ymdrech yn gyfreithlon, 2 Tim. 2.5, Ond pa fodd y gallwn ni ymladd, oni bydd i ni elyn i'n gwrthwynebu? Yr vn peth y mae Christ yn ei arwyddoccau yn llyfr y Datguddiad, pan yw yn adrodd mor fynych, mai 'r hwn a orchfyga yn vnig pieu cael y nef. Yr vn peth a arwyddocceir wrth y llong yr aeth Christ a'i ddisgyblon i mewn iddi; yr hon a deflid ac a dreiglid fel pe buasai ar soddi; y llong hon meddaf, fel yr oedd yr hên dadau yn ei dirnad, oedd ffigur ac arwydd o'r trallodau, a'r blinderau, a gai bawb eu dioddef, ar y sydd yn rhwyfo yn yr vn llong gydâ Christ ein Iachawdr, Mat. 8.24. Yr vn peth hefyd a brofir, wrth fod yn galw bywyd dyn yn filwriaeth ar y ddaiar, 2 Tim. 2.3. ac wrth ei fod wedi ei appwyntio i lafurio ac i drafaelio, tra fyddo yma, Job 5.7. ac wrth fod ei fywyd yn llawn o bob gofid a thrueni: a hynny trwy ordinhaad Duw, yn ôl cwymp dŷn. Yr vn peth hefyd a ddangosir wrth ddarfod i Dduw appwyntio bod i bob dŷn dreiddio trwy boenau angeu, cyn iddo ddyfod i'r llawenydd; a hefyd wrth yr aneirif o wrthwyneb a thrallod oddifewn ac oddiallan, a adawyd i ddyn yn y bywyd hwn: megis, o'r tu mewn y mae gwrthryfeloedd a gwrthrin trachwant, a gofidiau eraill ei feddwl ef, y rhai y mae 'n rhaid iddo [Page 203]beunydd ryfela â hwynt, os myn fod ei enaid yn gadwedig. O'r tu allan iddo y mae 'r byd, a'r cythraul, y rhai nid ydynt yn peidio vn amser â gosod arno ef, weithiau trwy dêg, weithiau trwy hagr; weithiau trwy druthio, weithiau trwy fygwth; weithiau trwy ei ddenu â melyschwant, ac à goruchafiaeth; weithiau trwy ei ddychrynu a blinder, ac ag erlid: a'r rhai 'ny i gyd sy raid i'r Christion da eu gwrthwynebu yn wrol, ac onid ê efe a gyll goron ei Iachawdwriaeth dragywyddol.
4. Yr vn peth hefyd a ellir ei ddangos trwy esamplau yr holl Sainct enwog, er y dechreuad, y rhai nid yn vnig a osodid arnynt oddifewn beunydd gan wrthryfeloedd eu cnawd eu hun, ond hefyd a erlidid ac a gystuddid oddiallan; a hynny i siccrhau yr arfaeth yma eiddo Duw, yn amlyccach. Fel y gwelwn ni Abel, a gafodd ei erlid a'i lâdd gan ei frawd ei hun, er cynted y dechreuodd efe wasanaethu Duw: ac Abraham, yr hwn a gafodd amryw flinderau wedi darfod i Dduw ei ddewis ef: ac yn fwyaf o gwbl trwy beri iddo ymroi i lâdd ei anwyl a'i vnig blentyn ei hun. O'r vn cwppan yr yfodd ei holl blant ef a'i hiliogaeth a ddaeth ar ei ôl ef yn ffafor Duw; megis Isaac, Jacob, Joseph, Moysen, a'r holl brophwydi: am y rhai y mae Christ ei hun yn rhoi tystiolaeth, fel y tywalltwyd eu gwaed hwynt yn dra chreulon gan y byd, Luc. 13.34. Cystudd Iob hefyd sy ryfeddol, gan fod yr Scrythur lân yn dywedyd ei ddyfod arno trwy yspysol ordinhâad Duw, ac ynteu yn wr o'r fath gyfiawnaf. Ond etto rhyfeddach oedd gystudd Tobias dduwiol, yr hwn ym mysg gofidiau eraill, a wnaed yn ddall trwy gwympo o dom gwenholiaid neu adar y to yn ei lygaid [...]f: am yr hyn y dywedodd yr Augel Rhaphael wrtho yn ôl hynny, Am dy fod di yn wr cymmeradwy gan Dduw; anghenrhaid oedd, bod i'r [Page 204]tentasiwn yma dy brofi di. Tab. 12, 11. Ond nid ydyw'r geiriau hyn yn y Groeg. Gwelwch mor angenrheidiol yw blinderau i wyr da. Mi a allwn roi at hyn esampl Dafydd ac eraill; oni bai fod yr Apostol yn rhoi tystiolaeth gyffredinol am yr holl Sainct, gan ddywedyd, ddarfod dirdynnu rhai, enllibio rhai, a fflangellu rhai, a rhwymo rhai, a charcharu rhai, a llabyddio rhai, a thorri rhai â llifiau, a themptio rhai, a lladd rhai a'r cleddyf, a bod rhai yn crwydro mewn crwyn defaid a chrwyn geifr, yn ddiddim, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr, yn crwydro ac yn ymguddio mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau, ac ogfeydd y ddaiar, gan nad oedd y byd deilwng o honynt. Ac am y rhei'ni i gyd y mae yn datcan y wers gomfforddus hon, a ddylei bawb ei hystyried, sef eu bod heb dderbyn ymwared, fel y gallent gael adgyfodiad gwell: Hynny yw, na fynnai Dduw eu gwared hwy oddiwrth y cystuddiau hynny yn y bywyd yma, fel y byddai eu hadgyfodiad hwy a'i gwobr yn y bywyd a ddaw yn ogoneddusach. A hynny am Sainct yr hên Destament. Heb. 11.35.
5. Ond weithian yn y Testament newydd, a seiliwyd yn eglur ar y groes, y mae 'r peth yn olenach o lawer, a hynny trwy reswm da. Oblegid oni allai Grist fyned i mewn i'w ogoniant, ond trwy ddioddef, fel y dywaid yr Scrythur, Luc. 24.26. gan hynny wrth resymolaf reol Christ, yn dywedyd, nad yw braint y gwas vwch law ei feistr, Mat. 10.24. y mae 'n ddir y canlyn, bod yn rhaid i bawb yfed o gwppan Christ, a'r sydd wedi eu hordeinio i fod yn gyfrannogion o'i ogoniant ef. Ac i brofi hyn edrychwch ar y caredigion anwylaf a fu gan Grist erioed yn y bywyd hwn, a gwelwch pa vn a wnaethant a'i cael rhan o honaw, ai nad do. Am ei fam ef y prophwydodd Simeon ac y dywedodd [Page 205]iddi yn y dechreuad, yr ai cleddyf cystudd trwy el chalon hi: gan arwyddoccau wrth hynny y dygn gystuddiau a gafodd hi wedi hynny wrth fa [...]w ei mab, a'r gofidiau eraill a ddaeth yn aml arni, Luc. 2.35. Am yr Apostolion y mae 'n amlwg, heb law eu holl lafuriau, a'i trafaelion, a'i hanghen [...]on, a'i di [...]ddefaint, a'i herlidiau, a'i haflwydd, y [...] [...]eirif, ac yngolwg dyn yn anoddef (os co [...]wn ni Sainct Paul sydd yn eu cyfrif, 1 Cor. 4. 2 Cor. 4.) heb law hyn i gyd, meddaf, ni byddai ddigon gan Dduw oni ch [...]i efe eu gwaed hwy hefyd: ac felly y gwelwn na adawodd efe i'r vn o honynt farw wrth naturiaeth, ond Sainct Ioan yn vnig: ac etto, os ystyriwn ni beth a ddioddefodd Sainct Ioan ynteu yn ei hir fywyd, iddo gael ei ddeol allan o'i wlad gan Domitian i ynys Pathmos; ac amser arall gael ei [...]wiw mewn tunnell o olew poeth berwedig yn Rhufain, fel y mae Tertullian a Sainct Ierom yn mynegi; Tert. de praesc. haeret. Hieron. con. Iouinian. ni a gawn weled nad oedd dim llai ei ran ef o gwppan ei feistr nag oedd ran eraill. Mi a allwn yma gyfrif aneirif o esamplau eraill, ond nid rhaid. Oblegid digon yw ddarfod i Grist rhoi y rheol gyffredin yma yn y Testament newydd. Yr hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ol i, nid yw deilwng o honof fi Mat. 10.38. Wrth yr hyn y pennir yn oleu, nad oes i ned weithian gael iachawdwriaeth, ond i'r rhai a gymmeront eu croesau eu hunain, (hynny ydyw, nis dygont eu croesau yn ewyllysgar) a chanlyn eu capten sydd yn cerdded o'i blaen hwynt a'i groes ar ei ysgwyddau.
6. Ond yma y gall rhai ddywedyd, Os felly y mae 'r peth na ddichon neb fod yn gadwedig heb groes, hynny ydyw, heb flinder a thrallod; beth [...]n y rhai sy'n byw mewn amseroedd a lleoedd heddychol, [Page 206]lle nid oes nac erlid, na thrallod, na chystudd, na blinder. I hynny yr attebaf, yn gyntaf pe rhôn a bod y cyfryw amser a lle a hynny, y byddai 'r gwyr a fai 'n byw, yn y lle a'r amser hwnnw, mewn perygl mawr, yn ôl yr hyn a ddy wedodd y Prophwyd, Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill, ac ni ddialeddir arnynt hwy gyd â dynion eraill. Am hynny y cadwynnodd balchder hwynt, Felly y mae 'r lladin Psal. 73.5, 6. ac y gwisg trawsder am danynt fel dilledyn. A'i hanwiredd sydd yn dyfod oddiwrth eu brasder, neu eu hamlder. Yn ail yr attebaf, nad oes nac amser na lle heb drallod ynddo, lle nid oes grôes i'w chael bob amser i'r rhai a'i cymmero hi i fynu. Oblegid naill ai mae tlodi, a'i clefyd, ai enllib, ai gelyniaeth, ai cam, ai gwrthwyneb, neu ryw fath flinder yn ymgynnyg bob amser, oblegid nâ bydd byth eisiau 'r gwŷr hynny yn y byd, am y rhai y dyweid y prophwyd, Y rhai a dalant ddrwg dros dda a'm gwrthmynebant, am fy mod yn dilyn daioni, Psal. 38.20. O'r hyn lleiaf, ni bydd byth eisiau gelynion cartrefol, am y rhai y mae Christ yn son, Mat. 10.21. sef naill ai ein ceraint ai ein caredigion cnawdol, y rhai, sy fynychaf yn ein gwrthwynebu ni, os dechreuwn ni wasanaethu Duw o ddifrif; ai ein gwyniau anllywodraethus ein hunain, y rhai yw 'r gelynion perycclaf o gwbl, am eu bod yn peri i ni ryfela ar ein tir ein hun. Drachefn, ni bydd byth eisiau tentasiwnau 'r byd a'r cythraul, y rhai sy lawer anhaws eu gwrthwynebu yn amser heddwch a hawddfyd, nag yn amser cystudd ac erlid oddiallan: am fod y gelynion hynny yn gadarnach o drûth a gweniaith, nag o nerth: yr hyn y mae Tâd duwiol yn ei hyspyssu wrth y ddammeg hon; Yr haul a'r gwynt ryw ddiwrnod, medd efe, a gyttunasant ar brofi bob vn ei nerth, wrth [Page 207]ddwyn ei gochl oddiar vn oedd ar ei daith. Ac o flaen hanner dydd, y gwynt a ymegniodd gryfa' ac allodd i geisio chwythu 'r gochl oddiam dano ef: ond po mwyaf y chwythai 'r gwynt, tynnaf y daliai 'r siwrneiwr ei gochl, ac y tynnai hi yn gynnhwysach yn ei gylch. A phrydnawn yr haul a ddanfonodd allan ei belydr hyfryd, ac o fesur ychydig ac ychydig a aeth i mewn i'r dŷn yma, hyd oni wnaeth iddo ddiosg nid ei gochl yn vnig, ond ei bais hefyd. Wrth yr hyn y deellir, medd y tâd hwnnw, fod hudoliaeth difyrrwch a melyschwant yn gryfach ac yn anhaws eu gwrthwynebu, nâ chryfder erlid. Y cyffelyb a ddangosir wrth esampl Dafydd, yr hwn a wrthwynebodd yn hawdd lawer o gyrchfaau adfyd, ac etto a syrthiodd yn enbyd iawn yn amser hawdd-fyd, 2 Sam. 11. Wrth yr hyn y gellir gweled nad oes i'r duwiol ddim llai rhyfel yn amser heddwch, nag yn amser erlid: ac na phalla byth achlysur i ddwyn y groes, ac i ddioddef blinder, i'r neb a'i cymmero. A hyn a wasanaetha am y pwngc yma, i brofi y bydd rhaid i bob dŷn fyned i mewn i'r nef trwy orthrymderau, fel y dywaid Sainct Paul.
7. Am yr ail, pa ham y mynnai Dduw fod y peth fel hyn, digon fyddai atteb, mai felly y rhyngodd bodd iddo, heb geisio rheswm pellach o'i feddwl ef yn hyn o beth: fel y rhyngodd bodd iddo, heb rheswm yn y byd yn ein golwg ni, wneuthur mor wael o'i fab a'i ddanfon ef yma i'r byd hwn, i ddioddef ac i farw drosom ni. Neu os byddai raid i ni gael rheswm am hynny, digon fyddai yr vn rheswm yma tros y cwbl: gan ein bod ni yn disgwyl am ogoniant cymmaint, y dylem gymmeryd peth poen yn gyntaf am dano, ac felly cael ein gwneuthur yn fyrn deilwng o ffafor Duw, ac o'n goruchafiaeth. Ond etto gan ryngu bodd i'w dduwiol [Page 208]fawredd ef, nid yn vnig agoryd i ni ei ewyllys a'i amcan, ar fod yn rhaid i ni ddioddef yn y byd hwn: ond dangos i ni hefyd amryw resymmau o'i sancteiddiaf ewyllys a'i fodd yn y peth, er mwyn ychwaneg o galondid a chyssur i ni sydd yn dioddef: mi a adroddaf yma rai o honynt, er mwyn dangos ei fawr anfeidrol gariad ef tu ac attom ni, a'i dadol ofal trosom ni.
8. Yr achos cyntaf gan hynny, a'r pennaf ydyw, er mwyn chwanegu ein gogoniant ni yn y byd a ddaw. Oblegid, gan ddarfod iddo drwy ei dragwyddol ddoethineb a'i gyfiawnder ordeinio, na chaiff neb ei goroni yno, ond y rhai a oddefo ymdrech (mewn rhyw fesur da) yn y byd hwn: a pho amlaf a mwyaf fyddo 'r ymdrech a roddo efe (ynghyd â digonol ras i'w orchfygu) mwyaf fydd y goron gogoniant y mae efe yn ei pharottoi i ni yn ein hadgyfodiad, 2 Tim. 2.5. Datc. 2.10. A'r achos yma y crybwyll yr Apostol am dano yn y geiriau a adroddwyd am Sainct yr hên Destament; sef yw hynny, nad ydynt hwy yn derbyn ymwared oddiwrth eu gofidiau yn y byd yma, fel y gallont gael adgyfodiad gwell yn y byd a ddaw, Heb 11.35. A hyn hefyd yr oedd Christ yn ei feddwl yn eglur, pan ddywedodd efe, Gwyn eu byd y rhai a erlidir, canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eich byd pan ddywedo dynion ddrygair am danoch, a'ch erlid, &c. Byddwch lawen a hyfryd, canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd, Mat. 5.10- Ac at hyn y perthyn yr holl addewidion yma, am ynnill bywyd trwy golli bywyd, am gael derbyn cant am vn, a'r cyffelyb, Mat. 10.39. & 19.29. Ac o hynny y daw yr holl addewidion helaeth a wneir i farwhâad a newydd-deb buchedd. Yn y ddeubeth hynny y mae ymdrech mawr yn erbyn y cnawd, a'r byd, a'n gwyniau ein hunain, ac nis gellir eu dwyn i ben [Page 209]ond trwy ddioddefaint a chystudd. Yn ddiweddaf' y mae Sainct Paul yn datgan y peth yma yn gwbl gyflawn, pan yw yn dywedyd, fod ein byrr ysgafn gystudd ni yn odidog ragorol yn gweithredu tragywyddol bwys gogoniant i ni yn vchder nef, 2 Cor. 4.17.
9. Yr ail achos pa ham yr ordeiniodd Duw hyn oedd i 'n tynnu ni oddiwrth garu 'r byd, ei elyn ef; fel y dangosir yn helaeth yn y bennod nessaf. Yr achos yma y mae Sainct Paul yn ei adrodd yn y geiriau hyn; Pan i'n bernir, i'n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na 'n damner gydâ 'r byd, 1 Cor. 11.32. Wrth hynny, fel y bydd mammaeth, er mwyn diddyfnu ei phlentyn oddiwrth garu ei llaeth, yn iro ei bronnau ag Aloes, neu â rhyw bethau chwerwon eraill; felly y mae ein tad trugarog ninnau, am ei fod yn ewyllysio ein diddyfnu ni oddiwrth ddifyrrwch y byd (trwy 'r hwn y mae aneirif o wyr yn mynd beunydd i golledigaeth) yn arfer o ddanfon cystudd: yr hwn yn anad dim arall sydd fwyaf ei rym i wneuthur hynny: fel y gwelwn ni yn esampl y mab afradlon, yr hwn nid oedd dim abl i'w ddiddyfnu oddiwrth ei ddifyrrwch, ond cystudd yn vnig. Luc. 15.
10. Yn drydydd, y mae Duw yn arfer cystudd megis meddyginiaeth o'r oreu ac o'r bennaf, i'n hiachau ni oddiwrth lawer o glefydau, y rhai oni bai hynny sydd agos yn anaele. Megis yn gyntaf, oddiwrth ryw ddallineb, a diofal esgeulusdra yn ein cyflwr, yr hyn yr ydym yn ei fagu oddiwrth hawddfyd a llwyddiant. Ac yn y deall hwnnw y dyweid yr Scrythur lân, fod cystudd yn rhoi deall. Ac y mae 'r gwr doeth yn dywedyd fod y wialen yn dwyn doethineb, Dihar. 29.15. fel yr adferwyd golwg Tobit a chwerw fustl y pysgodyn. Ac y mae i ni esamplau eglur yn Nabuchodonosor, Saul, Antiochus, [Page 210]a Manasses: y rhai oll a ddaethant i weled eu beiau trwy gystudd, yr hyn ni's gwnaethent byth yn amser llwyddiant. Y cyffelyb yr ydym yn ei ddarllain am frodyr Joseph, y rhai pan ddaeth peth cystudd arnynt yn yr Aipht, aethant yn y man i mewn i'w cydwybodau eu hunain ac a ddywedasant; Am bechu o honom yn erbyn ein brawd, am hynny y daeth y cufyngdra hwn arnom ni, Gen. 42.21. Ac fel y mae cystudd vn dwyn y goleuni yma i ni i weled ein diffygion, felly y mae yn helpio o'i tynny hwy ymaith ac o'i hiachau: ac yn hynny y gellir ei gyffelybu yn dda i wialen Moysen: oblegid fel yr oedd y wialen honno, wrth daro 'r creigiau caledion, yn dwyn allan ddwfr, fel y dywaid yr Scrythur; felly y mae gwialen cystudd, wrth syrthio ar bechaduriaid calon-galed yn eu meddalhau hwynt i ymofidio, ac yn fynych yn dwyn allan llifeiriant o ddagrau i edifeirwch, Exod. 17.6. Ac o'r achos hynny y dywaid Tobit dduwiol wrth Dduw; Yn amser cystudd y maddeui bechod. Ac o herwydd hynny y cyffelybir ef i lifddur,Tob. 3.14. Nid yw 'r geiriau hyn yn y lladin. yn tynnu y rhŵd oddiar yr enaid, ac i physygwriaeth yn gyrru llygredigaeth allan o'r corph; ac yn ddiwethaf i dân yr eurych a'r gof aur, yr hwn sydd yn treulio ymaith y sothach, ac yn puro 'r aur i'w berffeithrwydd, Mi a lan buraf dy sothach di, medd DVW wrth bechadur trwy 'r prophwyd Esai, ac a dynnat ymaith dy holl alcam, Esa. 1.25. A thrachefn trwy Ieremi, Wele fi yn eu toddi hwynt ac yn eu profi trwy dan, Ier. 9.7. Hyn y mae efe yn ei feddwl am dan cystudd, cynnheddfau yr hwn ydyw (fel y dywaid yr Scrythur) glanhau a phuro 'r enaid, fel y mae 'r tân yn glanhau ac yn puro 'r aur yn y ffwrneis. Oblegid, heb law ei fod yn puro ac yn tynnu ymaith bechodau mawr, trwy [Page 211]Ystyried ac ymofidio (yr hyn y mae cystudd yn ei wneuthur, fel y dangoswyd) y mae efe hefyd yn carthu rhŵd aneirif o wyniau drwg, a trachwantau, a dryganian mewn dyn: megis dryganian balchder, a gwag ogoniant, a diogi, a llid, a mwythus fursenneiddrwydd, a mil yn ychwaneg, y rhai y mae llwyddiant yn eu magu ynom ni. Hyn y mae Duw yn ei ddangos trwy 'r Prophwyd Ezechiel, gan ddywedyd am enaid rhydlyd; Dod ef ar ei farwor yn wâg, fei y twymno, ac y llosgo ei brês, ac y toddo ai aflendid ynddo, ac y darfyddo ei scum ai rŵd, Ymflinwyd ac ymchwyswyd gydag ef; ac etto nid aeth ei scum a'i rŵd mawr allan o hono, Ezec. 24.11. Hyn hefyd y mae Iob dduwiol yn ei arwyddoccau, yr hwn wedi iddo ddywedyd, fod Duw yn addysgu drwy athrawiaeth a cherydd, i dynnu dŷn oddiwrth yr hyn a wnaeth, ac i'w wared oddiwrth falchder, yr hyn a ddeellir am weithredoedd pechadurus; y mae ychydig ar ol yn dywedyd yn ychwaneg, Ei gnawd a ddarfu gan geryddon, dychweled yn ei ôl at ddyddiau ei ieuengctid. Hynny ydyw, gan fod ei holl anwydau cnawdol a'i wyniau wedi darfod weithian gan gospedigaeth a chystudd, dechreued fyw etto yn y cyfryw burdeb ennaid ac yr oedd yn nechreuad ei ieuengtid, cyn iddo fagu y dryganian yma a'r clefydau. Iob 33.25.
11. Ac y mae cystudd nid yn vnig yn feddyginiaeth grêf i iachau pechod, ac i garthu ymaith V sothach fettel sydd ynom ni o brês, acalcam, a haiarn, a phlwm, a sorod, fel y mae Duw yn dywedyd trwy Ezeciel; ond hefyd yn feddyginiaeth orchestol odiaeth i gadw vn rhag pechu o hyn allan:Psalm 18.39. Fel hyn y mae y groeg a'r lladin. fel y dywedodd y brenhin daionus Dafydd, Dy gerydd di, Oh Arglwydd, a'm gwellaodd i hyd y diwedd. Hynny ydyw, ef a wnaeth [Page 212]i mi fod yn ochelog ac yn wiliadwrus, rhac pechu mwy, fel y dywaid yr Scrythur mewn lle arall, Trwm glefyd n [...]u gystudd, a wna 'r enaid yn sobr. Ac o'r achos hynny y geilw Ieremi gystudd yn wialen wiliadwrus. Hynny ydyw, fel y mae S. Hierom yn ei esponi, gwialen yn gwneuthur dŷn yn wiliadwrus. Yr vn peth y mae Duw yn ei arwyddoccau, pan ddywedodd efe trwy Osee'r prophwyd, Mi a gaeaf dy fuchedd di o bob parth â chof am gystudd ac â'i ofn, fel na lefesych di sathru ar ŵyr, rhac i ti sathru ar ddraenen, Hos. 2.6. A hyn i gyd y mae Dafydd dduwiol yn ei yspyssu am dano ei hun, yn y geiriau hyn, Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni, ond yn awr mi a gedwais dy air di. Da i mi fynghystuddio, fel y dysgwn dy ddeddfau. Psal. 119.67, 71.
12. Ac o hyn y gwelir achos arall, pa ham y mae Duw yn cystuddio ei etholedigion yn y fuchedd hon, a hynny ydyw, er mwyn na ddelai ei gyfiawnder ef arnynt yn y byd a ddaw. Am yr hyn y mae S. Bernard yn dywedyd fel hyn,Ser. 55 in Cant. Oh Dduw na bai ryw vn, yr awrhon ym mlaenllaw, a barottoai i'm pen i helaethrwydd o ddwfr, ac i'm llygaid ffynnon o ddagreu; canys felly odid a gallei r tân poeth graffu lle y darfuasei i ddagrau lanhau o'r blaen. A'r rheswm o hynny ydyw (fel y dengys y gwr duwiol hwnnw ei hun) am ddywedyd o Dduw trwy Nahum brophwyd, Mi a'th flinais ac ni'th flinaf mwyach: ni ddaw oddiwrthyf gystudd dau ddyblyg, Nah. 1.12.
13. Yn chweched y mae Duw yn danfon cystudd ar ei weision, i'w profi hwy ag ef, pa vn a wnant ai bod yn ffyddlon ac yn ddianwadal, ai nad ydynt: hynny ydyw, i beri iddynt hwy eu hunain ac i eraill [Page 213]weled a chyfaddef, mor ffyddlon, neu mor anffyddlon ydynt. Hyn a ddangoswyd o'r blaen megis trwy ffigur, pan fynnai Isaac balfalu a theimlo ei fab Iaco, cyn y benedithiai ef. A hyn y mae'r Scrythur lân yn ei yspyssu yn amlwg, pan yw yn dywedyd, wrth grybwyll am y cystuddiau a roed ar Abraham; A Duw a brofodd Abraham, Gen. 22.1. A Moysen ynteu a ddywedodd wrth bobl Israel, Cofia'r holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mblynedd hyn, trwy 'r anialwch, er mwyn dy gystuddio di a'th brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon di, a gedwit ti ei orchymmynion ef, ai nas cedwit, Deut. 8.2. A thrachefn, ychydig bennodau wedi, Yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru yr Arglwydd eich Duw a'ch holl galon ac a'ch holl enaid, Deut. 13.3. Ac yn y deall hwnnw y dywaid yr Scrythur am Ezecias, yn ôl rhoi iddo lawer o ganmoliaeth, i Dduw ei adael ef, i'w brofi ef, i wybod cwbl ac oedd yn ei galon ef, 2 Cron. 32.31. Ac mai hyn yw arfer Duw tu ac at yr holl rai da, y mae 'r brenhin DAFYDD yn dangos, megis o enau pawb, pan yw yn dywedyd, Ti a'n profaist ni o Dduw, ti a'n coethaist ni fel coethi arian. Dygaist ni i'r rhwyd, gosodaist wasgfa ar ein lwynau, ac a beraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom drwy'r tân a'r dwfr, Psal. 66.10. A daied oedd gantho hynny, y mae efe yn arwyddoccau, pan yw yn galw am ychwaneg o hono mewn man arall, gan ddywedyd, Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi, llosg fy arennau a'm calon o'm mewn, Psal. 26.2. Hynny yw, prawf fi trwy gystudd ac erlid, chwilia ddirgelion fy nghalon i a'm harennau: gad i'r byd weled a lynaf fi wrthyt ti mewn adfyd, ai nas gwnaf, Psal. 26.2. Fel hyn y dywedodd y prophwyd duwiol hwnnw, gan wybod yn dda'r peth y mae 'r [Page 214]Yspryd glân yn ei adrodd mewn lle arall, mai fel y profir yr aur yn tân, felly y profir dyni [...]n cymmeradwy yn ffwrn gostyngiad. Oblegid fel y mae 'r llestri cyfan yn dal, pan ddelont i'r ffwrneis, ac y tyrr y rhai twnn bregus yn ddrylliau, felly yn amser cystudd ac erlid, y duwiol yn vnig fydd yn dal allan, a'r rhai ffuantus yn dangos pa fath ydynt: yn ol yr hyn a ddywedodd Christ, yn amser profedigaeth y maent yn cilio oddiwrthyf. Eccl. 2.5. Dih. 17.3. Luc. 8.13.
14. Y seithfed rheswm pa ham y mae Duw yn rhoi cystudd ar y rhai duwiol, ydyw, i beri iddynt hwy redeg atto ef am help a chymmorth: megis y mae 'r fam, i beri iw phlentyn ei charu hi yn fwy, a rhedeg atti hi, yn peri i eraill ei ddychrynu a'i ofni ef. Hyn y mae Duw yn ei yspysu yn amlwg trwy'r prophwyd Osee, gan ddywedyd am y rhai yr oedd efe yn ei garu, Mi a'i tynnais hwynt attaf â rheffynnau Addaf, â rhwymau cariad, ac yr oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu bochgernau, Osee 11.4. Wrth reffynnau Addaf, y mae efe yn meddwl cystudd, a'r hyn y tynnodd efe Addaf i'w adnabod ei hun, fel y gwelir wrth yr hyn y mae yn ei ddywedyd yn ychwaneg am drwm iau cystudd, yr hwn a rydd efe ar bennau ac wynebau ei weision, megis rhwymau a chadwynau cariad i'w tynnu hwynt atto. Y gadwyn yma a dynnasai Ddafydd atto ef pan ddywedodd efe, O Arglwydd, ti yw fy lloches rhag cystudd, Psal. 32.7. A'r rhai hynny hefyd y rhai y mae Esai yn dywedyd am danynt, Mewn adfyd, Arglwydd, i'th geisiasant, Es. 26.16. A'r rhai y mae Dafydd yn dywedyd am danynt, Gofidiau a amlhasant arnynt, ac yno y brysiasant ddyfod. Ac y mae Duw yn dywedyd yn gyffredinol wrth bob dyn duwiol, Pan fyddo adfyd arnynt i'm bore geisiant, Osee 5.15. Am hynny y [Page 215]mae 'r duwiol frenhin Dafydd, wrth chwennych gwneuthur daioni i ryw ddynion, a'i hynnill hwy at Dduw, yn dywedyd yn vn oi psalmau, llanw eu hwynebau a gwarth, fel y ceisiont dy enw Arglwydd, Psal. 83.16. A hyn sy wir, fel y dywedais i, am etholedig▪ ddewis weision Duw; ond yn y rhai gwrthodedig, nid yw y rheffynnau hyn yn tynnu, na'r iau hwn yn dal, na'r gadwyn gariad hon yn eu hynnill hwy at Dduw. Ac am hynny y mae Duw yn cwyno, gan ddywedyd, Yn ofer y tarcwais eich plant chwi, gan na dderbyniant gerydd, Jer. 2.30. A thrachefn y dyweid y prophwyd Jeremi am danynt hwy wrth Dduw, Ti a'i tarewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd; hwy a wnaethant eu hwynebau yn galettach nâ chraig, ac a wrthodasant ddychwelyd attat ti. Wele hwy a dorrasant yr iau ac a ddrylliasant y rhwymau. Jer. 5.3, 5.
15. O hyn weithian y canlyn yr wythfed rheswm, pa ham y mae Duw yn dwyn ei weision i gystudd; sef, fel y gallai ddangos ei allu a'i gariad yn eu gwared hwy. O herwydd megis yn y byd hwn, nid yw meddwl gwrol yn chwennych dim yn fwy, nâ chael achlysur i ddangos ei allu a'i ddaioni i'r neb a so anwyl gantho: felly am Dduw, yr hwn y mae pob achlyssur yn ei law, ac sydd yn rhagori ar ei holl greaduriaid mewn cariad a mawrfryd; y mae efe o'r gwaith goddeu yn gweithio amryw achlysur a chyfamser a chyfle, i gael dangos hynny. Felly y dûg efe 'r tri llange i'r ffwrn dan, fel y gallai ddangos ei allu a'i gariad yn eu gwared hwy. Felly y dûg efe Ddaniel i ffau'r llewod, a Susanna ym mron angeu, a Iob i ddygn ofid a thrueni, a Ioseph i garchar, a Thobit i ddallineb; fel y gallai ddangos ei alla a'i gariad yn eu gwared hwy. Ac o'r achos yma hefyd y ga [...]awodd Christ i'r llong fod [Page 216]yn agos a boddi, cyn y deffroai efe: i Sainct Petr fynd agos tan y dwfr, cyn ei gymmeryd ef erbyn ei law.
16. Ac yn y rheswm yma y gwelir llawer o resymau eraill, ac o achosion comfforddus am waith Duw yn y peth hyn. Megis yn gyntaf, fel y byddai i ni wedi ein gwared oddiwrth ein blinderau, gymmeryd mwy o lawennydd a hyfrydwch ynddynt, nâ phe buasem ni erioed heb eu dioddef. Oblegid fel y mae 'r dwfr yn fwy croesawus, i'r hwn a fo ar ei daith, yn ôl hir syched; ac fel y mae tawelwch yn fwy hyfryd gan y morwyr yn ôl tymmhestl drafferthus: felly y mae ein hymwared ninnau yn bereiddiach yn ôl erlid a thrallod, fel y dyweid yr Scrythur, Hyfryd a thymmhoraidd yw trugaredd yn amser adfyd, fel y cwmmylau glaw yn amser sychder, Ecc. 35.20. Hyn a arwyddoccaodd Christ hefyd pan ddywedodd efe, Eich tristwch a droir yn llawenydd: hynny ydyw, chwi a lawenychwch am i chwi fod yn drist, Io. 16.20. Hyn a brofasai Dafydd, pan ddywedodd efe, Dy wialen di, Arglwydd, a'th ffon a'm cyssurasant, Psal. 23.4. hynny ydyw, yr wyfi yn cymeryd cyssur mawr ddarfod iddynt erioed fy ngheryddu. A thrachefn, Yn ol amlder fy ngofidiau o'm mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid: hynny ydyw, am bob tristwch a gefais yn amser cystudd, yr wyfi yr awrhon yn derbyn cyssur wedi cael fy ngwared, Psal. 93.19. A thrachefn mewn lle arall, Ymlawenhaf, ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd, Oh Arglwydd. A pha ham frenhin da, yr ymlawenychi di felly? Y mae yn canlyn yn y man, Canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau; ac ni warcheaist fi yn llaw'r gelyn, ond gosodaist fy nhraed mewn ehengder, Psal. 31.7, 8. Ac dyma feddwl grasusol ein Tad cariadus trugar [...]g yn ein cystuddio ni tros amser, fel [Page 217]y gallo ein llawenydd ni fod yn fwy yn ôl ein ymwared, fel yr oedd yn diammau yn y rhai oll a henwais o'r blaen, a waredwyd trwy drugaredd Duw: sef Abraham, Joseph, Daniel, Sidrach, Misach ac Abednego, Susanna, Job, Tobias, Petr, a'r llaill, y rhai a fuant lawenach yn ôl eu hymwared, nâ phe buasent erioed heb eu cystuddio. Wedi darfod i Judith wared Bethulia, a dychwelyd yno yn ei hôl, a phen Holoffernes ganthi; yr oedd mwy o wir lawenydd yn y ddinas honno, nag a fuasai byth ynddi, pe buasai hi heb fod mewn cyfyngder. Pan waredwyd S. Petr allan o garchar gan yr Angel, yr oedd mwy o lawenydd yn yr Eglwys am ei wared ef nag a allasai fod, pe buasai efe erioed heb fod yngharchar. Act. 12.
17. Allan o'r llawenydd mawr yma y tŷf peth arall a weithia ein cystudd ni, yr hwn sydd hyfryd iawn gan Dduw, a chomfforddus i'n heneidiau ninnau: a hwnnw yw diolchgarwch calonnog difrif i Dduw am ein hymwared, cyfryw ac a arferodd y prophwyd, pan ddywedodd ef yn ôl ei ymwared, Minneu a ganaf am dy nerth, ie llafar-ganaf am dy di ugaredd yn foreu; canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa, yn y dydd y bu cyfyngder arnaf? Psal. 59.16. Y cyfryw galonnog ddiolch a moliant a roes plant yr Israel i Dduw am eu hymwared, pan ddaethant tros y môr coch, yn eu cân orchestol, yr hon sydd yn dechreu, Cantemus Domino, ac a roes Moysen mewn cof yn llyfr Exodus. Oddiwrth yr vn calonnog ewyllys y daeth caneuau Anna, Debora, a Iudith, y rhai a gynuhyrfwyd i hynny wrth gofio eu cystuddiau aethent heibio. Ac yn ddiweddaf, dyma vn o'r pethau permaf y mae Duw yn gwneuthur cyfrif o hono, ac yn ei ofyn ar ein dwylo ni, fel y mae yn tystiolaethau trwy 'r prophwyd, gan ddy wedyd, Galw arnafi yn nydd trallod: minnau a thwaredaf, [Page 218]waredaf, a thi a'm gogoneddi. Psal. 50.15.
18. Heb law hyn i gyd, y mae gan Ddvw etto ychwaneg o resymmau i ddanfon erlid arnom ni; Megis hyn, am ein bod ni wrth ddioddef, ac wrth weled cymmorth Duw a'i gomffordd yn ein dioddefiadau; yn myned mor wrolddewr, ac mor hŷ, ac mor ddianwadal yn ei wasanaeth ef, ac na's gall dim wedi hynny ein digalonni ni: megis Moysen, er ei fod ef ar y cyntaf yn ofni'r sarph a wnaethid o'i wialen ef, ac yn ffo rhagddi: etto wedi iddo, wrth orchymmyn Duw, ymaflyd yn ei llosgwrn hi, nid ofnodd efe mo honi mwy. Hyn y mae 'r prophwyd Dafydd yn ei yspysu yn orchestol, pan yw yn dywedyd, Duw sydd noddfa, a nerth i ni, cymmorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. Am hynny nid ofnwn pe symmudai'r ddaiar, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y mor. Pa hyder mwy na hyn a ellir meddwl am dano. Psal. 46.1.
19. Drachefn, ag erlid ac a chystudd y mae Duw yn dwyn ei blant i ymarfer ac i ymgynnefino a llawer o rinweddau da ac sydd yn perthyn i Gristion, ac i fynd mewn peth meddiant o honynt. Megis hyn; Ffydd a arferir mewn cystudd, wrth ystyried yr achosion y mae Duw yn ein cystuddio ni o'i plegid, ac wrth gredu yn dra siccr i'r addewidion a wnaeth efe ar ein gwared ni. Gobaith a ymarferir o honi mewn cystudd, wrth ddeall ac ymsiccrhau o'r gwobr a addawyd i'r rhai a ddioddefo yn ymmyneddgar. Cariad perffaith a ymarferir ag ef mewn cystudd wrth ystyried cariad Christ yn dioddef trosom ni, ac sydd wrth hynny yn annog y rhai cystuddiedig i ddioddef gyd ag ef Vfydd-dod a ymarferir ag ef mewn cystudd, wrth gydffurfio ein hewyllys ni ag ewyllys Christ. Dioddefgarwch a ymarferir ag ef, drwy ddioddef yn llonydd. Gostyngeiddrwydd, wrth ein darostwng ein hunain yngolwg Daw. Ac [Page 219]felly yr vn ffunyd, pob rhinweddau da eraill ac a berthyn i Gristion a gynhyrfir ac a siccrheir mewn dŷn wrth ei gystuddio, yn ôl yr hyn a ddyweid S. Petr: Duw a berffeithia, ac a gadarnhâa ac a gryfhaa, ac a sefydla, y rhai a ddioddefodd ychydig er mwyn ei enw ef. 1 Pet. 5.10.
20. Yn ddiweddaf, meddwl Duw wrth ddanfon erlid a blinder arnom ni, ydyw ein gwneuthur ni yn gristianogion perffaith: hynny ydyw, yn gyffelyb i Grist ein capten, yr hwn y mae 'r prophwyd yn ei alw, Yn wr gofidus, a chynnefin â phob math ar ddolur: fel y gallai wrth hynny dderbyn mwy o ogoniant, pan ddelei yn ei ôl i'r nef, a gwneuthur yn fwy gogoneddus bob vn a gymmero ei blaid ef yn hynny, Es. 53. I ddywedyd y cwbl ar vn gair, ewyllys Duw wrth ein cystuddio ni oedd ein gwneuthur ni yn Gristianogion croes-hoeliedig, yr hwn yw'r enw a'r titl anrhydeddusaf ac a ellir ei roi i greadur; wedi ein croes-hoelio meddaf, a'n marwolaethu i orwagedd y byd hwn, ac i'n trachwant ein hunain, a'n deisyfiadau cnawdol: ond yn fyw ac yn llawn yspryd bywyd i ddaioni, a duwioldeb, a defosiwn da. Dyma feddwl nefol ein goruchaf Arglwydd a'n Duw, wrth ddanfon arnom ni erlid, a chystudd, a blinder: o achos yr hyn nid yw Iob dduwiol yn ammeu dywedyd, Gwyn ei fyd y dŷn a geryddo Duw. A Christ ei hun etto yn yspyssach, Gwyn eu byd y rhai a erlidir, Iob 5.17. Mat. 5. Os ydynt hwy yn wynfydedig ac yn ddedwydd gael eu herlid, mae y rhai bydol wrth hynny allan o'r ffordd ymmhell, y rhai fy cymaint yn ffleiddio dioddef erlid; ac nid yw Duw yn cael mor diolch a ddylai gan lawer o'i blant, y rhai fy yn grwgnach wrth y dedwyddwch yma a roir iddynt: lle y dylent hwy ei dderbyn ynghyd a llawenydd a diolchgarwch. Ac er mwyn profi hynny a'i yspyssu yn [Page 220]well, mi a dynnaf weithian at y trydydd pwngc o'r bennod yma, i chwilio, ac i holi pa resymmau ac achosion sydd, i'n dwyn ni i ymlawenychu, ac i ymfodloni mewn cystudd.
21. Ac yn gyntaf, digon fyddai y rhesymmau a osodwyd i lawr eisus, am drugarog a thadol feddwl Duw yn danfon blinder arnom ni, i ddangos hyn o beth: hynny ydyw, i gomfforddio ac i fodloni pob math ar Gristion, o wr neu wraig, ac sydd yn ymhyfrydu yn sanctaidd ragddarbodaeth Duw tu ac attynt. Oblegid os ydyw Duw yn danfon cystudd arnom ni, er mwyn chwanegu ar ein gogoniant ni yn y fuchedd a ddaw; er mwyn ein tynnu ni rhag ein llygru a'n llynu gan y byd; er mwyn egori ein llygaid ni, ac iachau ein clefydau, ac er mwyn cadw ein heneidiau ni rhac pechu yn ol hyn, fel y dangoswyd vchod; pwy a all o gyfiawnder fod yn anfodlon iddo, ond cyfryw rai ac sydd elynion i'w daioni eu hunain? Ni a welwn, er mwyn cael iechyd corphorol ein bod ni yn fodlon, nid yn vnig i ddioddef llawer meddiginiaeth chwerw anhyfryd, ond hefyd, os bydd rhaid, i ymroi i adael tynnu peth o'n gwaed oddiwrthym, a pha faint mwy y dylem ni wneuthur hynny, rhac peryglu tragywyddol iechyd a chadwedigaeth ein heneidiau? Ond ym mhellach; od oes yn y feddyginiaeth hon lawer mwy na hynny o les-had, fel y dangoswyd; os ydyw hi yn gwasanaethu yma i gospi ein pechodau ni, yr hyn yr ydym ni yn haeddu ei gael wrth gyfiawnder mewn lle arall, yn llawer mwy, ac yn llawer tostach; os ydyw hi yn profi ein cyflwr ni ac yn ein tynnu ni at Dduw; os ydyw hi yn annog cariad Duw tu ac attom ni; ac yn rhoi i ni achos i lawenychu wrth gael ymwared; ac yn ein hannog ni i fod yn ddiolchgar, ac yn ein gwneuthur ni yn hyderus ac yn gryfion; ac yn ddiweddaf, os ydyw hi yn ein cynnysgaeddu ni a phob [Page 221]rhinweddau da, ac yn ein gwneuthur ni yn debyg i Grist ei hun; yna y mae achos mawr rhagorol i ni i gymmeryd comffordd a chyssur ynddi: o herwydd, dyfod yn agos at Grist, a bod yn debyg iddo, yw'r braint a'r goruchafiaeth mwya n y byd. Yn ddiweddaf, os darfu i dragywyddol ddoethineb Duw ordeinio ac appwyntio, mai hyn fyddai nod, ac arwydd, a lifrai ei Fab ef; a'r ffordd fawr i'r nef, dan ystondart ei groes ef; ni ddylem ninnau wrthod y lifrai yma, na gochel y ffordd yma, ond yn hytrach, gydâ 'r gwyr da Petr ac Ioan, cyfrif yn fraint mawr, gael bod mor ddedwydd a chael ein gwneuthur yn gyfrannogion o hono. Acts 5. Ni a welwn, fod gwisgo lifrai 'r brenin a'i arwydd, yn cael ei gyfrif yn fraint mawr gan wyr llŷs y byd hwn: ond cael gwisgo 'r frenhinwisg neu'r goron, gormodd braint fyddai hynny i vn deiliad iselradd. Etto y mae CHRIST ein Harglwydd ni a'n brenhin yn fodlon i gyfrannu â nyni bod vn o'r ddau. A pha fodd, meddwch chwi, y dylem ninnau eu derbyn?
22. Ac yn awr fel y dywedais, digon fyddei hyn o resymmau i gomfforddio ac i lawenychu pawb ac a alwer i ddioddef blinder a chystudd Ond etto y mae pethau eraill heb law hyn, i'w hystyried yn neillduol. Ac o'r rhei'ni y cyntaf, a'r pennaf ydyw, nad yw erlid a chystudd beth yn dyfod wrth ddigwydd a damwain, na thrwy fod awdurdodau goruchel y byd hwn yn eu hordeinio; ond trwy yspyssol ragddarbodaeth a rhagweliad Duw a'r ordinhaad ef; fel y mae Christ yn dangos yn helaeth yn Efengyl S. Matthew, hynny ydyw, mai gwaith llaw Dduw ei hun yw'r feddyginiaeth a'r ddiod nefol yma. Yr hyn y mae Christ yn ei arwyddoccau, pan yw yn dywedyd, Y cwppan a roddes y Tâd i mi, onid yfaf o honaw? Hynny ydy v, gan ddarfod i'm Tâd gymmysgu a thymmherudiod i mi, onid yfaf [Page 222]finneu hi? Megis pe dywedai, rhy anniolchgar fyddei i mi nas gwnawn. Ioan 18.11. Yn ail y mae i ni ystyried, mai 'r vn llaw i Dduw ac a gymmysgodd y cwypan i Grist ei fab ei hun, a'i tymmherodd i ninnau, yn ôl yr hyn a ddywedodd CHRIST, Diau yr yfwch o'm cwppan i, Sef yw hynny, o'r vn cwppan ac a dymmherodd fy Nhad i minneu, Mat. 20.23. O hyn y canlyn, mai a'r vn fath galon ac a'r vn cariad ac y tymmherodd Duw y cwppan hwn i'w fab ei hun, y tymmherodd efe ef i ninnau hefyd; hynny yw, er llês i ni yn hollawl, ac er gogoniant iddo ynteu. Yn drydydd, y mae i ni ystyried fod y cwppan hwn wedi ei dymmheru a chyfryw fawr ofal, fel y dywaid Christ, megis pa drallod a pherygl bynnag a dybier ei fod yn ei ddwyn, etto ni chyll vn o wallt ein pennau ni ganddo ef, Matth. 10.23. lle y mae i ni ystyried ym mhellach yr hyn a ddyweid y prophwyd, Ti a'n porthaist ni a bara dagrau, ti a'n diodaist ni â dagrau wrth fesur, Psal. 80.5. Hynny ydyw, cwppan dagrau a chystudd a dymmherir wrth fesur gan ein physygwr nefol ni, fel na chaffo neb o hono vwch law'r hyn a allo. Ye hyn a roer ynddo o Aloes a phethau chwerwon eraill, a dymmherir â manna ac a digon o bereidd-dra comffordd nefol. Ffyddlon yw Duw medd Sainct Paul, yr hwn ni âd eich temptio chwi vwch law yr hyn a alloch, 1 Cor. 10.13. Dyma bwngc o gomffordd godidog, ac a ddyly fod bod amser yn ein cof ni.
23. Heb law hyn, mae yn rhaid i ni ystyried, gan fod ordeinio a thymmheru 'r cwppan hwn yn nwylo Christ ein Iachawdr, trwy 'r gyflawn gennad a roed iddo gan ei Dad; a'i fod ynteu wedi dysgu wrth ei waith ei hun yn dioddef, fel y dywaid yr Apostol, beth yw dioddef mewn cnawd a gwaed, ni a allwn fod yn siccr na rŷdd efe arnom ni ddim [Page 223]mwy nag a allom ei ddwyn, Heb. 2.18. Megis, pettai i wr dad neu frawd yn physygwr o'r celfyddaf, ac ynteu yn cymmeryd physygwriaeth ganthynt wedi ei dymmheru a'i dwylo hwy eu hunain; fe allei fod yn siccr na wnai'r physygwriaeth hynny ddim niweid iddo er maint o drwst a wnai yn ei fol ef tros amser: felly, a mwy o lawer, y gallwn ninnau fod yn siccr am y ddiod cystudd a roer i ni o law Christ ei hun; er ei fod, fel y dyweid yr Apostol megis yn anhyfryd gennym tros amser. Ond o flaen pob meddyliau comfforddus eraill, dyma 'r mwyaf, a'r comfforddusaf, nid amgen nag ystyried ei fod ef yn rhannu 'r cwppan yma o gariad yn vnig, fel y mae efe ei hunan yn tystiolaethu, a'r Apostol yn profi, Datc. 3.19. Heb. 12.6. Hynny yw, y mae efe yn rhoi rhannau o'i groes (y trysor mwyaf y mae efe yn gwneuthur cyfrif o hono) fel y mae tywysogion bydol am eu trysorau, nid i bawb ond i'w etholedig a'i ddewis garedigion; ac yn eu plith hwythau, nid yr vn faint i bob vn, ond i bob vn ei fesur a'i ddogn, yn ôl mesur y cariad sydd gantho tuac atto. A hyn sydd amlwg wrth y samplau a osodwyd i lawr o'r blaen am ei garedigion anwylaf ef, y rhai a gystuddir fwyaf yn y bywyd hwn: hynny ydyw, hwy a dderbyniasant ran fwy o'r trysor yma, am fod ei ewyllys da ef yn fwy tu ac attynt hwy. A hyn hefyd a ellir ei weled yn amlwg yn esampl S. Paul, am yr hwn y dywedasai Grist wrth Ananias, Y mae efe yn llestr dewisedig i mi. Ac yn y man y mae efe yn dangos y rheswm o hynny, Canys, mi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo eu dioddef er mwyn fy enw i, Acts 9.15, 16. Wele ynteu: am ei fod yn llestr etholedig, am hynny yr oedd yn rhaid iddo ddioddef pethau mawr. Ond ydyw mesur y cystudd wrth hynny, yn myned yn ôl mesur cariad Duw tu ac attom ni? Yn siccr fe wyddai Sainct Petr [Page 224]Yn dda pa fodd yr oedd y peth, ac am hynny y ma [...] efe yn yscrifennu fel hyn; Os byddwch yn gwneuthur Yn dda, ac etto yn dda eich ammynedd yn dioddef, hyn sydd ras (neu fraint) ger bron Duw. A thrachefn ychydi yn ôl, Os difenwir chwi er mwyn Enw Christ, gwyn e [...]ch byd: Oblegid y mae anrhydedd, a gogoniant, a gallu Duw a'i yspryd yn gorphywys arnoch. 1 Pet. 2.20. 1 Pet. 4.14.
24. A ellir addaw gwobr mwy, na braint godidow [...]ach, na chael bod yn gyfrannog o anrhydedd, a gogoniant, a gallu Christ? Ai rhyfedd weithian os dywedodd Christ. Gwyn eich byd pan i'ch difenwo dynion, a'ch erlid? Mat. 5.11. Ai rhyfedd dywedyd o hono, Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemmwch? Luc. 6.23 Ai rhyfedd dywedyd o S. Paul, Mi a fyddaf hyfryd, ac a ymffrostiaf yn fy ngwendid, neu yn fy nghystudd, yn fy ngwradwydd, yn fy anghenion, yn fy erlidian, yn fy nghyfyng der au er mwyn Christ? 2 Cor. 12.9. Ai rhyf [...]dd os bu i Betr ac i Joan, wedi cael eu difenwi a'i curo ger bron brawdle yr Iudd [...]on, fyned ymaith dan ymlawenychu am gacl eu cyfrif yn deilwng i ddioddef gwaradwydd er mwyn enw'r Jesu? Acts 5. Ai rhyfedd os eyfrifodd Sainct Paul yn vchelfaint mawr yr hyn a roed i'r Philippiaid, pan ddywedodd efe, I chwi y rhoddwyd nid yn vnig credu yn Ghrist, ond hefyd dioddef er ei fwyn ef, gan fod i chwi yr vn ymdrin ac a welsoch ynofi, ac yr awrhon a glywch ei fod ynofi? Phil. 1.29. Nid yw hyn i gyd ddim rhyfedd, meddaf, g [...]n fod dioddef gyda Christ, a dwyn y groes gyda Christ, yn gymmaint goruchafiaeth yn llŷs y nef, ac a fyddai mewn llys daiarol, i'r Tywysog gymmeryd ei wisg ei hun oddiamdano, a'i rhoi am gefn vn o'i weision.
25. O hyn weithian y canlyn peth arall fydd yn dwyn cyssur mawr yn amser cystudd: a hynny yw, [Page 225]bod cystudd (yn enwedig pan rodder gras hefyd i'w ddwyn yn ddioddefgar) yn amcan mawr ddarfod i Dduw ragordeinio 'r cystuddiol i fywyd tragywyddol, (oblegid, hynny y mae 'r holl resymmau a dducpwyd o'r blaen yn ei ddangos) megis o'r gwrthwyneb, y mae byw yn wastad mewn hawddfyd a llwyddiant yn arwydd ofnadwy o wrthodiad tragywyddol. Y pwngc yma 'y mae 'r Apostol at yr Hebraeaid yn ei brofi yn rhŷfeddol ac yn ei bennu yn daer, Heb. 12. Ac y mae Christ yn ei arwyddoccau yn oleu yn Sainct Luc, pan yw yn dywedyd. Luc. 6.24, 25. Gwyn eich byd chwi, y rhai ydych yn wylo yr a [...] hon, canys chwi a chwerddwch, Ac o'r tu arall, Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awrhon, canys chwi a alerwch ac a wylwch. Gwae chwi 'r cyfoethogion, canys chwi a dderbyniasoch eich diddanwch yma yn y bywyd hwn. A dwysach na hyn o lawer y mae ymadrodd Abraham wrth y goludog yn Vffern, (neu yn hytrach geiriau Christ, y rhai ar ddammeg a fwrir ar Abraham) yn siccrhau 'r peth hyn: oblegid y mae ef yn dywedyd wrth y goludog oedd yn cwyno rhag eu boenau, Ha fab, cofia i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, Luc. 16.25. Nid yw efe yn dywedyd (fel y mae Sainct Bernard yn marcio yn dda) Rapuisti, ti a'i cippiaist trwy drais, ond Recepisti, ti a'i derbyniaist. Ac etto yr ydys yr awrhon yn rhoi hyn yn ei erbyn ef, fei y gwelwn ni. Y mae Dafydd yn teimlo 'r matter yma mewn amryw fannau, yn enwedig mewn dwy o'i psalmau, a hynny yn helaeth: ac yn ôl hir chwilio, a mawr ryfeddu, ei ddiweddchwedl am yr annuwiol sy mewn llwyddiant yn y byd hwn vwch law eraill, yw hyn, Veruntamen propter dolos posuisti eos, deiccisti eos dum alleuarentur, Psal. 27. ac 37, ac 73.18. Ti a roist iddynt lwyddiant ô Arglwydd, i'w twyllo hwynt; ac mewn gwirionedd ti a'i teflaist i lawr with eu codi [Page 226]i fynu: hynny ydyw, ti a'i teflaist hwy i law: trwy farn damnedigaeth, yn dy ordinhaad a'th amcan dirgel anchwiliadwy. Ac yma y mae cyffelybiaeth Sainct Grigor ar Job yn cael ei lle; sef, megis ac y gadewir i'r ychen a ordeiniwyd i'w lladd, redeg ac ymdewhau wrth eu hewyllys eu hun, ac y ced wir y llaill tan feunyddol lafur yr iau; felly y mae 'r dynion da a'r rhai drwg. Yr vn ffunyd, y pren nid yw yn dwyn dim ffrwyth ni churir dim arno, fel y gwelwn ni, ond yn vnig yr hwn a ddygo ffrwyth; ac etto y llall, fel y dywed Christ, yr ydys yn ei gadw i'r tan, Mat. 3. & 7. Iud. Y claf a fo heb ddim gobaith byw ynddo y gad y physygwr iddo gael beth bynnag a fynno; ond y neb ni bo anobaith byw ynddo, ni chaiff y cyfryw rydd-did. Yn ddiweddaf, y meini a fyddei raid iddynt wasanaethu i ogoneddus deml Solomon a neddid, ac a gurid, ac a gyweirid o'r tu allan i'r eglwys, yn ymyl y chwarel; am na cheid clywed dyrnod morthwyl o fewn y Deml. Y mae Sainct Petr yn dywedyd fod y rhai duwiol yn feini dewisedig, i'w gosod yn adeilad ysprydol Duw yn y nêf, lle nid oes na churo, na thristwch, na chystudd, 1 Bren. 6.7. 1 Pet. 2. Datc. 21. Yma wrth hyn y mae'n rhaid ein cyweirio ni, a'n naddu, a'n gwneuthur yn gymmwys i waith y Deml: yma, meddaf, yn chwarel a maen-glawdd y byd hwn: yma y bydd rhaid ein puro; yma y bydd rhaid i ni gael clywed dyrnod y morthwyl, a bod yn dra llawen pan y clywom; oblegid arwydd ydyw o'n etholedigaeth ni i ogoneddusaf dy trigfa dragywyddol Duw.
26. Heb law'r pwngc yma am ragordinhaad ac etholedigaeth; y mae peth arall etto o gomffordd nid bychan i'r duwiol cystuddiedig, yr hwn sy a'i sail ar y geiriau hyn eiddo Duw: Mewn ing y byddaf gydag ef: Psal. 91.15. yn y rhai yr addewir [Page 227]cwmpeini Duw ei hun mewn cystudd ac erlid. Dymma beth godidog, medd S. Bernard, i annog aci gynhyrfu dynion i gresawu cystudd, gan fod dynion yn barod i anturio pob peth er mwyn cwmpeini da. Joseph a ddugpwyd yn gaeth i'r Aipht, a Duw aeth i wared gydag ef, fel y dywaid yr Scrythur lân, ie mwy nâ hynny, efe aeth i wared i'r carchar ac i'r pydew gyd ag ef, ac aeth mewn cadwyni gyd ag ef, Gen. 37. Sidrach, Misach, ac Abednago a daflwyd i'r ffwrn boeth losgadwy, ac yn y man yr oedd pedwerydd wedi dyfod i ddwyn cwmpeini iddynt, am yr hwn y mae Nabuchodonosor yn dywedyd fel hyn, Onid trywyr a fwriasam ni i ganol y tân, yn rhwym? a'i weison a attebasant ie yn wir, o frenhin: ond wele, ebyr ynteu, yr wyfi yn gweled pedwargwyr yn rhyddion, yn rhodio ynghanol y tân; a dull y pedwerydd sydd debyg i Fab DVW. Dan. 3.24, 25. Fe roes Christ wrth fyned heibio, i ryw gardottyn ei olwg drachefn, yr hwn a fuasai ddall o'i enedigaeth. Ac am hynny y galwyd y dŷn i'w holi, ac a roes beth canmoliaeth i Grist am y gymmwynas a gawsai gantho, ac a fwriwyd allan o'r Synagog gan y Pharisaeaid. A phan glybu Christ hynny, efe a chwiliodd am dano yn y man, ac a gyssurodd ei galon ef, ac a roes iddo oleuni meddwl hefyd, yr hyn oedd fwy nâ'r goleuni corphorol a roesai efe iddo o'r blaen, Joan 9. Wrth yr esampl yma a'r cyffelyb y gellir gweled, er cynted y bo dyn mewn cystudd ac erlid er mwyn cyfiawnder, fod CHRIST gydag ef yn y man i ddwyn iddo gwmpeini; a phe gellid egoryd ei lygaid ef, fel yr agorwyd llygaid disgybl Elisaeus i weled ei gydymdeithion, sef y byddinoedd Angylion sydd yn gweini ar eu harglwydd yn ei ymweliad yma: diammau y cai ei galon ef gyssur mawr oddiwrth hynny, 2 Brenh. 6.16, 17.
[Page 228]27. Ond yr hyn nis gall y llygad ei weled, y mae'r enaid yn ei glywed; hynny ydyw, y mae yn clywed oddiwrth gymmorth gras Duw ynghanol ei holl drallodau. Hyn a addawodd efe yn dra mynych; hyn a dyngodd efe; a hyn y mae efe yn ei gyflawni yn dra ffyddlon, i bawb ac a ddioddefo yn llariaidd er mwyn ei enw ef. Hyn oedd dra siccr gan Sainct Paul, pan ddywedodd efe ei fod yn ymffrostio yn ei wendid a'i holl drallodau, fel y byddai i nerth Christ drigo ynddo ef: hynny yw, fel y byddai i Grist ei gynnorthwyo ef â'i ras yn helaethach, Canys pan wyf wan, yna 'r wyf yn gadarn, medd efe; 2. Cor. 12. hynny yw, po mwyaf o drallodau ac o erlidiau a rodder arnaf, cryfaf ydyw gras Christ i mi. Ac am hynny y mae 'r vn Apostol yn ysgrifennu fel hyn am yr holl Apostolion ynghyd, Yr ydym yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng-gyngor, ond nid yn ddiobaith, yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr-adael; yn cael ein bwrw i lawr, ond heb ein difetha, 2 Cor. 4.9. A hyn a ddylei fod yn ffonn gadarn-gref ddiogel yn llaw pob Christion a fo mewn blinder; sef beth bynnag a ddigwyddo iddynt, na phalla gras Duw byth i'w cynnal hwynt i fynu, ad i'w dwyn allan o gystudd: oblegid yn y pwngc yma y mae 'n wir ac yn siccr iawn geiriau Sainct Awstin, Str. 88. de temp. & nat. & gr. cap. 26. y rhai a adroddodd efe cyn fynyched yn ei waith; nad yw Duw byth yn gwrthod vn dyn, oni bydd wedi i ddynion ei wrthod [...]f a'i fwrw ymmaith yn gyntaf.
28. Yn lle y rheswm diweddaf o gyssur mewn cystudd, mi a gyssylltaf ynghyd ddau beth sy o rym a nerth mawr i'r defnydd yma. A'r cyntaf o'r ddau yw disgwyl am gyflog, a'r llall yw byrred yr amser sydd i ni i ddioddef cystudd: a'r ddau hyn y mae Sainct Paul yn crybwyll am danynt mewn vn [Page 229]ymadrodd, lle y mae 'n dywedyd, fod byrr ysgafn gystudd yn y byd hwn, yn odidog ragorol yn gweithredu tragywyddol bwys gogoniant yn vchder nef, 2 Cor. 4.17. Wrth ei alw yn fyrr y mae efe yn dangos fyrred yr amser sydd i ni i ddioddef; ac wrth dragwyddol bwys gogoniant y mae yn yspyssu faint yw 'r gwobr a'r cyflog sy wedi ei barottoi yn y nef, yn lle tâl am ddioddef. Ac y mae Christ hefyd yn cyssylltu faint yw 'r ddau gyssur hyn ynghŷd, pan yw yn dywedyd, Wele fi yn dyfod ar frys, a'm gwobr sydd gyda mi, Datc. 22. Wrth addaw dyfod ar frys y mae efe yn arwyddoccau na hir-bery ein cystudd ni: ac wrth addaw dwyn ei wobr gydag ef, y mae efe yn ein siccrhau ni na ddaw efe yn wag-law, ond â pharodrwydd i roi cwbl dâl i bawb am ei lafur. A pha fodd y gallai efe roi cyssur mwy nâ hyn? Pettai ddyn yn dwyn baich gorthrwm tros ben, etto o byddai siccr gantho gael taledigaeth da am ei boen, ac na byddai iddo ond ychydig ffordd i ddwyn y baich hwnnw, efe a ymegniai yn dost i fyned rhagddo hyd ym mhen ei ffordd, yn hytrach nag y collai wobr cymmaint, a'i gael yn y man, er mwyn arbed cyn lleied o boen. Mawr drugaredd ein Harglwydd a'n Duw, ydyw ei fod ef yn ein cyssuro ni fel hyn yn ein cystudd, ac yn rhoi calon ynom ni i ddal allan tros amser, er bod y pwys yn drwm ar ein hysgwyddau ni. Y mae dyfodiad ein Harglwydd gar llaw, ac y mae 'r barnwr wrth y porth, ac efe a'n llonna ni, ac a sych ymaith ein holl ddagra [...] ni, ac a'n gosyd ni yn ei deyrnas, i gael llawenydd diball. Ac yno y cawn brofi fod yn wir yr hyn a ddywedodd y bendigedig S. Paul, Nad yw dioddefiadau'r byd hwn yn haeddu 'r gogoniant a ddatguddir i ni, Iac. 5 [...] Mat. 11. Datc. 7. ac 21. Gal. 6. Rhuf. 8.18. A digon yw hynny o resymmau am y comffordd a adawyd i ni yn ein trallod a'n cystudd.
[Page 230]29. Gan ddarfod i ni weithian ddatgan y tri phwngc cyntaf a addawyd yn y bennod yma; y mae 'n canlyn bod i ni ddywedyd gair neu ddau am y pedwerydd: hynny ydyw, pa beth sydd i ni i'w wneuthur yn amser erlid a chystudd. Ac i ddangos hynny, digon fyddai ddywedyd yn vnig fod arnom ni ymroi i ewyllys a meddwl Duw, beth bynnag fyddo; fel yr adroddwyd o'r blaen yn achosion cystudd, ond etto er mwyn ychwaneg o esmwythdra, ac fel y galler ei gofio yn well, mi a redaf yn fyrr tros ei brif byngciau ef. Yn gynta' peth gan hynny mae 'n rhaid i ni ymgais, os gallwn, a'r hyn y mae Christ yn ei gynghori, Byddwch lawen, a llemmwch, Luc. 6.23. Ac onis gallwn gyrhaeddyd y cyfryw berffeithrwydd, etto bod i ni wneuthur fel y mae 'r Apostol yn ewyllysio, Cyfrifwch yn bob llawenydd, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau. Hynny ydyw, oni fedrwn ni lawenychu yn ein cystudd etto bod i ni ddeall fod cystudd yn beth sydd o hono ei hun yn haeddu llawenychu o'i blegid, a beio arnom ein hunam am nas medrwn lawenychu. Ac onis gallwn gyrhaeddyd cyfuwch â hynny chwaith (fel y dylem ni mewn gwirionedd) etto er dim bod i ni gofio yr hyn y mae efe yn ei ddywedyd mewn lle arall, Bod yn rhaid i chwi wrth ymmynedd, os mynnwch dderbyn addewid Duw am fywyd tragywyddol. Jac. 1.2. Heb. 10.36.
30. Yn ail, ni a ddylem wneuthur fel y gwnaeth yr Apostolion, pan oeddynt yn y dymmhestl dra erchyll ar y mor, (a Christ gyda hwynt, ond ei fod yn cysgu) hynny yw, rhaid i ni fyned a'i ddeffro ef. Rhaid i ni weiddi arno gyda 'r Prophwyd, Deffro, pa ham y cysgi, ô Arglwydd, a ninnau mewn ing? Mat. 8. Psal. 44.23. Y mae deffro Christ fel hyn yn rhyngu bodd iddo yn rhyfeddol, os gwneir hynny a'r cyfryw hyder siccr, a chan wir galonnog blant, [Page 231]fel y mae Sainct Marc yn dangos ddarfod i'r Apostolion ddeffro Christ. Oblegid dyma eu geiriau hwy, Ai difatter gennyt ein colli ni yma? Marc. 4.38. Megis pe dywedent, Ond ydym ni yn ddisgyblon ac yn weision i ti? Ond wyt titheu yn arglwydd ac yn feistr i ninnau? Ond yw cwbl o'n hymddiried ni a'n gobaith ynoti? Pa ham ynteu y cysgi di, a gadael ein taflu ni a'n treiglo fel hyn, megis pettem ni heb perthyn dim i ti? A'r cyfryw ddwys awyddfryd y gweddiodd Esai, pan ddywedodd efe, Edrych o'r nefoedd, Arglwydd, a gwel; o annedd dy sancteiddrwydd, a'th ogoniant? Mae dy zêl di a'th gadernid, a lliosowgrwydd dy dosturiaethau, a'th drugareddau tuac attafi? a ymattaliasant hwy oddiwrthyfi yr awrhon? Canys ti yw ein tâd, er nad edwyn Abraham ni, ac na 'n cydnebydd Israel, Ti Arglwydd yw ein Tâd ni, dychwel er mwyn dy weision er cariad ar lwythau dy etifeddiaeth Esa. 63.15. Fel hyn, meddaf, y mae 'n rhaid i ni alw ar Dduw: fel hyn y mae 'n rhaid i ni ei ddeffro ef, pan fyddo megis yn cysgu yn ein hadfyd ni, a gweddi ddifrifol, ddwywol, ddibaid; a chennym bob amser yn ein meddyliau, y ddammeg gomfforddus eiddo Christ, lle y mae efe yn dywedyd, Luc. 11. pe doai vn o honom ni wrth ddrws ei gymmydog, a churo ganol nôs i geisio bara yn echwyn, pan fyddai efe yn ei wely gyd a'i blant, ac yn anhawdd iawn gantho godi: etto os ni a barhawn yn gofyn, a churo yn wastad wrth y drws, er na byddai efe o'n caredigion ni, etto efe a godai o'r diwedd, ac a roai i ni ein gofyn, o'r hyn lleiaf er mwyn cael gwared o'n taerni ac o'n llefain ni. A pha faint mwy y gwna Duw hyn, medd Christ, ac ynteu yn ein caru ni, ac yn darbod o'n cyflwr ni yn drugarog iawn.
31. Ond yma y mae vn peth i'w ystyried yn y matter hyn; a hynny yw goddef o Grist i'r llong [Page 232]gael ei chuddio agos gan donnau, fel y dywaid yr Efangylwr, cyn iddo ddeffro, Mat. 8. i arwyddoccau wrth hynny y bydd rhaid gadael arno ef pa faint o brofedigaeth a roddo efe arnom ni: digon i ni ymfodloni yngeiriau yr Apostol, ffyddlon yw Duw, yr hwn ni âd ein temptio ni vwch law yr hyn a allom, 1 Cor. 10.13. Nid iawn i ni na holi nac ammeu ei weithredoedd ef: ni allwn ni ymofyn pa ham y gwna efe hyn, neu pa ham y mae efe yn goddef hyn accw, neu pa hyd y gâd efe i r drygau hyn gael y llaw vehaf. Y mae Duw yn Dduw mawr yn ei holl weithredoedd, a phan fyddo yn danfon trallod, efe a ddenfyn lawer ar vnwaith, fel y gallo ddangos ei fawr allu yn ein gwared ni; ac y mae wedi hynny yn ei gydbwyso â llawer o gyssur. Y mae ei brofedigaethau ef yn fynych yn myned yn ddwfn iawn, er mwyn profi hyd yn oed calonnau ac arennau dynion. Ef aeth ym mhell ag Elias, pan wnaeth iddo ffo i'r mynydd, ac yno chwennych angeu yn fawr, a dywedyd, Hwy a ddistrywiasant dy allorau di, ac a laddasant dy holl brophwydi â'r cleddyf, a myfi a adawyd fy hunan, ac y maent yn ceisio dwyn fy einioes inneu hefyd. 1 Bren. 19.10 Ef aeth ym mhell a DAFYDD, pan wnaeth iddo lefain, Pa ham y cuddi dy wyneb, O Arglwydd, ac yr anghofi fy nghystudd a'm gorthrymder? A thrachefn mewn lle arall, Mi a ddywedais yn fy ffrwst fo 'm bwriwyd allan o'th olwg. Psal. 44.24. Psal. 31.22. Fe aethei Dduw ym mhell a'r Apostolion, pan wnaeth efe i vn o honynt hwy scrifennu, Ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr vwch ben ein gallu, hyd onid oeddym yn flin gennym fyw yn hwy, 2 Cor. 1.8. Onid etto vwch law pawb eraill efe aeth ym mhellaf o gwbl a'r anwyl fab ei hun, pan wnaeth iddo adrodd y geiriau tosturus galarus hyn ar y groes, mhellaf o gwbl a'i anwyl fab ei hun, pan wnaeth iddo adrodd y geiriau tosturus galarus hyn ar y groes, [Page 233] Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist? Pwy wrth hynny a all gwyno rhac vnfath ar brofedigaeth na themptasiwn a rodder arno, gan i Dduw weled yn dda fyned cym-mhelled a'i anwyl a'i vnig fab ei hun? Mat. 27.46. Mar. 15.34. Psal. 22.1.
32. Ac o hyn y canlyn y trydydd peth sydd anghenrhaid i ni mewn cystudd, a hwnnw yw calondid a mawrfryd wedi ei seilio ar ffydd gadarn anorfod, y rhydd Duw gymmorth i ni, ac y cawn ni gwbl ymwared, er hyd yr oedo efe hynny, ac er erchylled fyddo gennym y dymmhestl tros yr amser. Hyn y mae Duw yn ei ofyn ar ein dwylo ni, fel y gellir gweled wrth esampl y disgyblion, y rhai a lefasant, Darfu am danom, cyn i'r tonnau orchuddio 'r llong, fel y mae S. Matthew yn scrifennu: ac etto fe ddywedodd Christ wrthynt hwy, Ʋbi est fides vestra, pa le y mae eich ffydd chwi! Mat. 8. Luc. 8. Sainct Petr hefyd, nid ofnodd hyd onid oedd efe agos tan y dwfr, fel y mae yr vn Efangylwr yn coffa; ac etto fo 'i ceryddodd Christ ef, gan ddywedyd, Tydi o ychydig ffydd, pa ham y petrusaist? Mat. 14. Pa beth wrth hynny a wnawn ni yn y cyflwr yma frawd anwyl? Yn siccr mae yn rhaid i ni ymwisgo â ffydd gadarn y brenhin calonnog Dafydd, yr hwn ar yr hyder siccraf oedd gantho vnghymmorth Duw, a ddywedodd, Psal. 18.29. Yn fy Nuw y llammaf dros fûr. A chyfryw ffydd anorfod oedd gan S. Paul ynteu, pan ddywedodd efe, Yr wyfi yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i, ac yn fy nghyssuro, Phil. 4.13. Nid oes dim yn ammhossibl i mi; nid oes dim rhy galed i mi, trwy ei gymmorth ef. Rhaid i ni fod, fel y dyweid yr Scrythur lan, yn hŷ ac yn ddiarswyd fel llew, Dihar. 28.1. Hynny yw, rhaid i ni na synno arnom er tymmhestl yn y byd, er trallod yn y byd, er gwrthwyneb yn y byd. Rhaid i ni ddywedyd gyda 'r [Page 234]prophwyd Dafydd a brofasai 'r pethau hyn, Nid of naf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodant i'm herbyn. Pe rhodiwn ynglynn cysgod angeu, nid ofnaf niweid. Pe gwersyllai llu i'm herhyn nid ofnai fynghalon; pe cyfodai câd i'm herbyn, er hynny mi a fyddwn hyderus. Yn Nuw yr ymddiriedaf, nid ofnaf, beth a wnêl dyn i mi. Yn Nuw y gobeithiaf, nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi. Duw yw fy nghymmorth a'm noddfa, am hynny y diystyraf ac y dirmygaf fy ngelynion. Psal. 3.6. Psal. 23.4. Psal. 27.3. Psal. 56.11. Psal. 56.4. & 118.6. A prophwyd arall yn yr vn deall, Wele, Duw yw fy iechydwriaeth, am hynny mi a fyddaf hyderus ac nid ofnaf. Esa. 12.2. Y rhai hyn, oedd ymadroddion y prophwydi sanctaidd, a gwŷr oedd yn gwybod yn dda beth yr oeddynt yn ei ddywedyd, ac a brofasent gystudd yn fynych eu hunain: ac am hynny a fedrent ddywedyd o'i gwybodaeth eu hunam mor siccr ddiammau ydyw cymmorth Duw mewn cystudd.
33. I'r calondid arbennig yma, a'r dewrder, a'r gwroliaeth a'r cryfder Christianogawl yma, y mae 'r Scrythur lan yn ein hannog ni, pan yw yn dywedyd, Pan gyfodo yspryd pennadur yn dy erbyn, nac ymado â th le, Preg. 10.4. A thrachefn, Scrythur arall a ddywaid, Ymdrech am dy einioes tros gyfiawnder, ac ymegnia gydâ 'r gwirionedd hyd farwolaeth, a'r Arglwydd Dduw a ymladd gyda thitheu, ac a oresgyn dy elynion trosoti. Ecc. 4.28. Ac y mae Christ ei hun yn ddwysach etto yn gorchymmynnu y peth yma yn y geiriau hyn, Yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sy 'n llâdd y corph, ac wedi hynny heb ganddynt ddim i'w wneuthur yn eich erbyn chwi, Luc. 12.4. Ac y mae Petr yn dywedyd ym mhellach, Ne (que) conturbemini, Ac na chynnhyrfer chwi: 1 Pet. 3.14. hynny ydyw nid yn vnig, nag ofnwch hwynt, ond (yr hyn sy [Page 235]lai) na wnewch cymmaint a chyffroi er dim a allo cnawd a gwaed ei wneuthur i chwi.
34 Ac y mae Christ yn myned ym mhellach yn llyfr y datguddiad, ac yn arfer o ymadroddion rhyfeddol i'n denu ni i'r cryfder a'r gwroliaeth yma. oblegid dyma ei eiriau ef, Datc. 2.7, 9, 10, 11, ac 3.5, 11, 12, 13.21. Yr hwn sydd ganddo glûst i wrando, gwrandawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi. I'r hwn sydd yn gorchfygu y rhoddaf iddo fwytta o bren y bywyd, yr hwn sydd ynghanol Paradwys Dduw. Y pethau hyn y mae 'r cyntaf, a'r diweddaf; yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn ei ddywedyd, Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gystudd, a'th dlodi: eithr cyfoethog wyti mewn gwirionedd, a thi a geblir gan y rhai sy 'n dywedyd eu bod yn wir Iuddewon, ac nid ydynt, ond yn hyttrach Synagog Satan. Nac ofna ddim o'r pethau yr wyt i'w dioddef: wele 'r cythraul a bair fwrw rhai o honoch chwi i garchar, fel i'ch profer chwi, a chwi a gewch gystudd ddeng nhiwrnod. Ond bydd di ffyddlon hyd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando gwrandawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi, Yr hwn sydd yn gorchfygu, ni chaiff ddim eniweid gan yr ail farwolaeth. A'r hwn a orchfygo, ac a gadwo fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd fel y derbyniais inneu gan fy Nhâd: ac mi a roddaf iddo 'r seren foreu. Yr hwn sydd yn gorchfygu, hwnnw a wisgir â dillad gwynion, ac ni ddileaf fi ei enw ef allan o lyfr y bywyd, ond mi a gyffessaf ei enw ef ger bron fy Nhâd, a cher bron ei angylion ef. Wele, yr wyfi yn dyfod ar frys; dal yr hyn sydd gennyt, fel na ddycco neb dy goron di. Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a'i gwnaf ef yn golofn yn Nheml fy Nuw, ac nid a efe allan byth mwyach: ac mi a 'sgrifennaf arno Enw dinas fy [Page 236]Nuw i, yr hon yw Jerusalem newydd, yr hon sydd yn disgyn oddiwrth fy Nuw i; ac mi a sgrifennaf arno fy Enw newydd i. Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a roddaf iddo eistedd gyda mi ar fy ngorseddfaingc, megis y gorchfygais inneu, ac yr wyf yn eistedd gyda 'm Tad ar ei orseddfaingc ef.
35. Hyd hyn y mae geiriau Christ wrth S. Ioan. Ac yn niwedd yr vn llyfr, wedi darfod iddo bortreiadu llawenydd a gogoniant nef yn helaeth, y mae efe yn diweddu fel hyn, A'r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfaingc a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna 'r geiriau hyn canys y maent yn gywir ac yn ffyddlon. Yr hwn sydd yn gorchfygu a etifedda yr holl lawenydd yma y soniais am dano, ac mi a fyddaf yn Dduw iddo ef, ac ynteu fydd yn fab i minneu. Ond y rhai fy ofnog i ymdrech, a gwanffyddiol i gredu 'r pethau a ddywedais i; eu rhan hwy fydd yn y llynn sydd yn llosgi, gan dân a brwmstan, yr hwn yw 'r ail farwolaeth, Datc. 21.5, 8.
36. Yma bellach y gwelwn osod ger ein bronnan addewidion a bygythiau, da a drwg, einioes ac angeu; llawenydd nef, a'r ffwrn losgadwy. Ni a allwn ystyn ein dwylo at yr hyn a fynnom. Os ymladdwn ni, a gorchfygu (yr hyn a allwn ni trwy help Duw) ni a gawn fwynhau 'r addewidion a osodwyd i lawr o'r blaen: os ni a'n dangoswn ein hunain nac yn angrhededyn i'r addewidion hyn; nac yn ofnog i fyned i'r ymdrech a gynnygir i ni; yna y syrthiwn mewn perygl o'r bygythiau sy wrthwyneb i hynny: yn y modd y dywaid S. Joan mewn lle arall, ei wneuthur o bendefigion ym mysg yr Iuddewon, y rhai a gredent ynghrist, ond ni feiddient ei gyfaddef rhac ofn erlid. Joan. 12.42.
37. Yma wrth hynny y bydd rhaid i rinwedd arall ganlyn ynom ni, yr hon sydd dra angenrheidiol i'r rhai a fo rhaid iddynt ddioddef cystudd a blinder: [Page 237]a honno ydyw, rhoi ein bryd yn grŷf ac yn gadarn ar sefyll a myned rhagom, pa wrthwyneb a pha rwystr bynnag a gaffom yn y byd, gan druth yn gwenheithio i ni, neu gan greulondeb yn ein herlid. Hyn y mae 'r Scrythur yn ei ddysgu gan lefain arnom, Bydd ddianwadal a siccr yn ffordd yr Arglwydd, Eccl. 5.10. A thrachefn, Sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch, 1 Cor. 16.13. Ac etto ym mhellach, Ymddiried yn yr rglwydd, ac aros yn dy le, Eccl. 11.2. Ac yn ddiweddaf, Ymgryfhewch, ac na laesed eich dwylo oddiwrth y gwaith a ddechreuasoch, 2 Cron. 15.7.
38. Y gwrolfryd yma oedd yn y tri llangc, Sidrach, Misach, ac Abednego, y rhai wedi [...]ddynt glywed truth eiriau Nahuchodonozor greulon, a'i aml fygythion; a attebasant ag yspryd esmwyth llonydd, Oh frenhin, nid ydym ni yn gofalu am atteb i ti yn y peth hyn. Wele, y mae ein Duw ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli, yn abl, os myn efe, i'n gwared ni allan o'r ffwrn danllyd boeth yr wyti yn ein bygwth ni â hi; ac efe a'n gwared ni allan o'th law di, o frenhin: ac onid ê, bydded hyspys i ti frenhin, nad addolwn ni dy dduwiau di, ac nad ymgrymmun i'th ddelw aur a gyfodaist, Dan 3.16, 17, 18.
39. Y Gwrolfryd yma oedd yn Petr ac Joan, y rhai wedi eu dwyn yn fynych ger bron y Cyngor, a gorchymmyn iddynt, a'i bygwth a'i curo, na sonient mwy am Grist, a attebent yn wastadol, Rhaid yw vfyddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion, Act. 4.19. & 5.29. Yr vn hefyd oedd yn S. Paul, yr hwn pan ddeisyfai y Christianogion yn Caesarea arno trwy ddagrau, ar iddo beidio â mynedi fynn i Jerusalem, o herwydd darfod i'r yspryd glan ddatguddio i lawer y trallodau oedd yn ei ddisgwyl ef yno; a attebodd fel hyn, Beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? canys yr wyfi yn barod, nid i'm rhwymo yn [Page 238]vnig, ond i farw hefyd yn Ierusalem, or mwyn Enw yr Arglwydd Iesu, Acts. 21.12, 13. Ac yn ei Epistol at y Rhufeiniaid y mae efe yn dangos y gwrolfryd yma ym mhellach, pan yw yn dywedyd, Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw gydâ ni, pwy a all fod i'n herbyn? Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad Christ? ai gorthrymder? neu ing? neu ymlid? neu newyn? neu noethni? neu enbydrwdd? neu gleddyf? Y mae 'n ddiogel gennyf, na all nac angeu, nac einioes, nac Angylion, na thwysogaethau, na meddiannau; na phethau presennol, na pethau i ddyfod, nac Vchder, na dyfnder, nac vn creadur arall ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hw [...] sydd yn Ghrist Iesu ein Harglwydd, Rhuf. 8.31, 35, 38, 39.
40. Yn ddiweddaf, hyn oedd wrolfryd yr holl ferthyron sanctaidd a'r conffessoriaid, a gweision eraill Duw; yr hwn a wnai iddynt sefyll yn erbyn profedigaethau 'r Cythraul, a hûd cnawd a gwaed, a holl erlidian y rhai creulon, a geisient ganthynt hwy wneuthur pethau anghyfreithlawn. Mi a ddygaf i chwi vn esampl allan o ail llyfr y maccabaeaid, a hynny o flaen dyfodiad Christ, ond er hynny yn agos at ei ddyfodiad ef, ac am hynny nid rhyfedd ei fod yn cael peth o dwymder gwrês a dianwadalwch Christianogaidd tu ac at ferthyrdod. Y mae 'r esampl yn rhyfeddol, o herwydd yngolwg dŷn nad oedd hi ond am fatter bychan a ofynnid ar eu dwylo hwy wrth orchymmyn y zeirian creulon: hynny yw, bwytta cig moch, yr hyn oedd waharddedig yr amser hwnnw. Oblegid fel hyn y mae wedi ei roi mewn côf yn y llyfr hwnnw. 2 Maccab. 7.2, 7, 10, 24, 30.
41. Fe a ddigwyddodd ddarfod dal saith mrodyr ynghyd yn y dyddiau hynny, a'i dwyn, ynghyd â'i mam, at y brenhin Antiochus, ac yno eu cymmhell [Page 239]trwy boenau ffrewyll a phethau eraill, i fwytta cig moch, yn erbyn y gyfraith. Ac ar yr amser hwnnw y dywedodd vn o honynt, yr hwn oedd hynaf, Pa beth yr wyti yn ei geisio? a pha beth a fynni di ei wybod gennym ni, o frenhin? Yr ydym ni yn barod i farw, yn gynt nag y torrom hên gyfreithiau ein tadau. Yna y cythruddodd y brenhin ac y parodd dwymno pedyll a pheiriau; y rhai yn y man a wnaethbwyd yn boeth; ac efe a orchymmynnodd dorri tafod yr hwn a ddadleuasai yn gyntaf, a'i flingo ef, a thorri pennau bysedd ei draed a'i ddwylo, a chroen ei ben, yngwydd ei fam a'i frodyr eraill; a chwedi hynny ei ffrio ef hyd oni bu farw. Ac wedi hynny, hwy a ddygasant yr ail brawd i'w boeni, ac wedi iddynt dynnu croen ei ben ef a'i wallt, hwy a ofynnasant iddo a fwyttaei efe gig moch, cyn merthyru pob aelod o'i gorph. Ond efe a attebodd yn iaith ei wlad, Na wnaf. Ac ar hynny, yn ôl llawer o boenau, efe a laddwyd gyd â'r llaill. Yn ôl marw hwnnw y dygwyd y trydydd hefyd, a phan ofynnasant iddo am ei dafod, efe a'i hestynnodd allan yn ebrwydd, a'i ddwylaw hefyd i'w torri, ac a ddywedodd yn wrol, y rhai hyn a gefais i gan Dduw o'r nef, a'r rhai hyn yr wyf yn eu dirmygu er mwyn ei gyfraith ef, am fy mod yn gobeithio eu derbyn hwy eilwaith ganddo ef. Ac wedi iddynt boeni chwech o'r brodyr fel hyn, a'i rhoi i'w marwolaeth, a phob vn o honynt yn dra hŷ ac yn ddianwadal yn cyfaddef ei ffydd, a'r llawenydd oedd ganddo i farw yn achos Duw; yr oedd yr ieuangaf yn vnig yn ôl, yr hwn y gwnaeth Antiochus (am fod yn gywilydd gantho na allai ŵyro yr vn o'r llaill) ei oreu ar dynnu hwnnw oddiwrth ei amcan, trwy addaw a thyngu y cai fod yn gâr iddo, ac y rhoddai iddo swyddau, ac y gwnai ef yn gyfoethog ac yn ddedwydd, os efe a ymroai. Ond gan [Page 240]nad oedd y gwr ieuangc yn cyffroi gronyn er hynny, Antiochus a barodd gyrchu ei fam ef, ac a eiriolodd arni hi gynghori 'r gwr ieuange i achub ei hoedl: hitheu a gymmerodd arni wneuthur hynny, ac a addawodd gynghori ei mab, fel y byddai rydd iddi gael ymddiddan ag ef, ac a'i hannogodd ef yn ddwys ac yn ddifrif, yn yr iaith Hebraeg, i ddal allan, ac i farw er mwyn ei gydwybod: a chwedi darfod iddi ymadrodd, y gwr ieuangc a lefodd a llef vchel, ac a draethodd yr ymadrodd yma sy wiw ei gofio; Quem sustinetis? Non obtempero praecepto regis, sed praecepto legis: Beth yr ydych chwi yn ei ddisgwyl? nid oes yn fy mryd i vfyddhau gorchynuhyn y brenhin, ond gorchymmynion y gyfraith a roddwyd i'n tadau ni trwy law Moses. Ac am hynny, vn ôl llawer ac amryw o boenau, y rhoddwyd ef a'i fam i'w marwolaeth yn y man.
42. Dyma wrth hynny y gwrolfryd siccr dianwadal a ddyly fod gan Gristion yn holl gystuddiau 'r bywyd hwn. Am yr hwn y mae S. Ambrose Li. 8 off. 38 yn dywedyd fel hyn, Gratiâ praeparandus est animus, exercenda mens, & stabilienda ad constantiam; vt nullis perturbari animus possit terroribus, nullis frangi molestiis, nullis suppliciis cedere, Mae 'n rhaid i'n meddwl ni fod wedi ei barottoi a grâs, a'i gynnefino, i'w siccrhau mewn dianwadalwch, fel na thralloder ef gan ddychryn yn y byd, ac na laeso gan wrthwyneb, ac na ymroddo er math yn y byd ar boenau nac arteithiau.
43. Os gofynnwch yma pa fodd y gall dyn gyrhaeddyd y cyfryw wrolfryd a hyn; mi a attebaf fod S. Ambros yn y fan honno yn gosod ar lawr ddwy ffordd; y naill yw, cofio 'r poenau anniben anaele sydd yn vffern ini, oni wnawn hynny; a'r llall yw meddwl am y gogoniant anhydraeth a gawn ni yn y nef, os nyni a'i gwnawn. Ac at hynny y [Page 241]chwanegaf finnau 'r drydedd, yr hon mewn calon foneddigeiddwych a all wneuthur cymmaint o lês a hwythau; a hynny yw ystyried beth a ddioddefodd eraill o'n blaen ni, yn enwedig Christ ei hun, a hynny yn vnig o wir gariad a serch arnom ni. Ni a welwn yn y byd hwn, nad yw deiliaid cariadus yn ymffrostio mewn dim yn fwy, nag yn y peryglon a'r briwiau a gawsant yn y rhyfel, tros eu Tywysog, er na ddioddefodd ef ddyrnod erioed er eu mwyn hwy. Pa beth wrth hynny a wnaent hwy, pe buasei eu Tywysog yn dioddef cystudd o'i wirfodd trostynt hwy, fel y gwnaeth Christ trosom ni? Ond os wyti yn tybied fod esampl Christ yn rhy vchel i ti i'w chanlyn; edrych ar rai ô 'th frodyr o'th flaen di, a wnaethbwyd o gnawd a gwaed fel ditheu: edrych beth a ddioddefasant hwy cyn gallu myned i'r nef. Na thybia fod yn chwareu yn galed â thydi os gorfydd arnat titheu hefyd ddioddef ychydig.
44. Y mae S. Paul yn ysgrifennu am yr holl Apostolion ynghyd, Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym yn noethion, ac yn cael ein cernodio, ac yn grwydraidd, heb gennym le i aros; yr ydym yn llafurio ac yn gweithio â'n dwylo ein hunain: yn cael ein difenwi, ac yn bendithio; yn cael ein herlid, ac yn ei gymmeryd yn ddioddefgar, Yn cael ein cablu, ac yn gweddio tros y rhai a'n cablant: ni a wnaethbwyd fel ysgubion y byd, a sorod pob dim hyd yn hyn: 1 Cor. 4.11, 12, 13. hynny ydyw, er ein bod ni yn Apostolion, er i ni wneuthur cymmaint o wyrthiau, a throi cynnifer myrddiwn o bobl, etto hyd y dydd hwn dyma 'r byd yr ydym ni yn ei gael. Ac ychydig wedi, y mae efe yn portreiadu eu bywyd hwy, ac yn dywedyd, 2 Cor. 6.4, 5, 6. Yr ydym yn ein dangos ein hunain fel gweinidogion Duw, mewn ymmynedd mawr, mewn [Page 242]cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyng derau, mewn gwialennodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn poenau, mewn gwiliadwriaethau, mewn ymprydiau, mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hirymaros, mewn tiriondeb ymarweddiad. Ac am dano ei hun o'r neilldu y dywaid, 2 Cor. 11.23, 24, 25, 26, 27, 28. Yr wyfi yn weinidog i Ghrist, mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialennodiau tros fesur, mewn carcharau yn amlach nag eraill, mewn marwolaethau yn fynych. Pumwaith i'm maeddwyd gan yr Iuddewon, ac y derbyniais ddeug ain gwialennod onid vn; teirgwaith i'm curwyd â gwiail; vnwaith i'm llabyddiwyd; teirgwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bum yn y dyfnfor: mewn teithiau yn fynch; ymmheryglon llifddyfroedd, ym mheryglon lladron; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y Cenhedloedd, ymmheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mheryglon ym mhlith brodyr gau; mewn llafur a lludded; mewn anhunedd yn fynych, mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni; ac heb law 'r pethau sydd yn digwydd oddiallan, yr ymosod beunyddol sydd arnaf, fy ngofaltros yr holl Eglwysi.
45. Wrth hyn y gwelwn bellach; na ddyfgodd yr Apostolion i ni ddim mwy ar eiriau, nag a ddangosasant hwy trwy esampl, ynghylch mor anghenrhaid yw dioddef yn y bywyd hwn. Fe a allasai Grist pes mynnasai barottoi iddynt eu hanghenrheidiau corphorol, ac na oddefasai iddynt ddyfod i'r cyfryw gyfyngder a bod arnynt eisiau dillad am eu cefnau, a bwyd yn eu boliau, a'r cyffelyb. Fe allasai yr hwn a roddes iddynt awdurdod i wneuthur llawer o wyrthiau eraill, roi cennad iddynt, o'r hyn lleiaf, i wneuthur digon o gynheiliaeth i'w cyrph, yr hyn fyddai 'r gwyrthiaucyntaf a wnai y rhai bydol, [Page 243]pe bai ganddynt y fath awdurdod. Fe allasai Christ pan ddanfonodd efe Bedr i gymmeryd arian ei deyrnged allan o safn y pysgodyn, Mat. 17.27. ddywedyd wrtho, Cymmer yn ychwaneg cymmaint ac a fyddo rhaid i chwi wrtho tuac at eich craul yn siwrneio trwy 'r wlad; ond nis gwnai efe, ac nis lleihaai ddim ychwaith ar y cystuddiau mawr a ddangosais o'r blaen, er ei fod yn eu caru hwy yn gymmaint â 'i enaid ei hun. A hyn i gyd a wnaed, fel y mae S. Petr yn ei ddeongl, 1 Pet. 2.21. i roi i ni esampl, pa beth a ganlynem, pa beth a ddisgwiliem, pa beth a ddeisyfem, â pha beth yr ymgyssurem, ynghanol y mw yaf on holl drallodau.
46. Y mae 'r Apostol yn ei ystyried yn bendifaddef, pan yw efe ynscrifennu fel hyn at yr Hebraeaid, wedi iddo adrodd y pethau a ddioddefasai sainct eraill o'i blaen hwy, Heb. 1.2.1, 2, 3, 5, 6, 7, 8, 11, 12, Oblegid hynny ninnau, frodyr, gan fod cymmaint owmmwl o dystion a ddioddefasant gystudd o'n blaen ni, wedi ei osod o'n hamgylch, bwriwn heibio bob pwys pechod sydd i'n hamgylchu, a thrwy ymmynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o'n blaen, gan edrych ar Jesu, tywysog a pherffeithydd ein ffydd ni, yr hwn gan osod llawenydd nef o flaen ei lygaid, a ddioddefodd y groes trwy ymmynedd, gan ddiystyru ei gwaradwydd à 'i chwilydd hi, ac am hynny y mae yr awr hon yn eistedd ar ddeheulaw gorseddfaingc Duw. Ystyriwch gan hynny, meddaf, yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid, fel na flinoch ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau. Oblegid, ni wrthwynebasoch etto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod: ac y mae yn debyg i chwi ollwng tros gof yr ymadrodd a'r cyngor comfforddus sydd yn dywedyd writhych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd ac nac ymollwng pan i'th gerydder ganddo. Canys y neb y mae 'r Arglwydd [Page 244]yn ei garu y mae yn ei geryddu, ac y mae yn fflangellu pob mab a dderbynio. Parhewch chwithau yn y cerydd a osodwyd arnoch; Y mae Duw yn ymddwyn ru ac attoch, megis tu ac at feibion. Canys pa fab sydd ar nid yw ei dâd yn ei geryddu? Os heb gerydd yr ydych, o'r hon y mae ei holl blant ef yn gyfrannogion, ynabastardiaid ydych, ac nid meibion. Ni welir vn cerydd tros yr amser presennol y bydder yn ei ddioddef, yn hyfryd, ond yn anhyfryd; ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r rhai sy wedi eu cynnefino ag ef. O herwydd pa ham, cyfodwch i fynn eich dwylo a laesasant, a'r gliniau a ymollyng asant, a gwnewch lwybrau vnion i'ch traed, &c. Hynny ydyw, Cymmerwch galon, ac ewch rhagoch yn wrol tan y groes a osodwyd arnoch. Hyn oedd gyngor y capten duwiol yma i wŷr ei wlâd, milwyr Jesu Christ, yr luddewon.
47. Y mae S. Jaco brawd yr Arglwydd yn rhoi cyngor arall i bob gwir Gristion, heb fawr ragor rhyngtho â hwn, yn ei Epistol, yr hon y mae efe yn ei ysgrifennu yn gyffredinol at bawb, Jac. 5.7, 8, 9, 10, 11. Byddwch gan hynny yn ymarhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae 'r llafurwr yn disgwil tros amser am werthfawr ffrwyth y ddaiar, yn dda ei amynedd am dano, nes iddo dderbyn y glaw cynnar a'r diweddar. Byddwch chwithau hefyd dda eich ymmynedd, a chadarnhewch eich calonnau, oblegid y mae dyfodiad yr Arglwydd yn agos. Na fyddwch dristion, ac na rwgnechwch yn erbyn ei gilydd? wele, y mae'r barnwr yn sefyll wrth y drws. Cymmerwch, fy mrodyr, y prophwydi, y rhai a lefarasant yn enw Duw, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hirymaros. Wele, dedwydd yr ydym yn cyfrif y rhai a ddioddef asant. Chwi a glywsoch am amynedd Iob, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd iddo ef: chwi a welsoch meddaf, fod yr Arglwydd yn drugarog, ac yn llawn tosturi.
[Page 245]48. Mi a allwn yma adrodd llawer o bethau eraill allan o'r Scrythur lân i'r perwyl yma, am fod yr Scrythur yn dra helaeth yn hyn o beth, ac mewn gwirionedd, pettid yn ei thoddi hi i gyd ac yn ei thywallt allan, ni chaem ni agos ddim arall ynddi ond ynghylch y groes, a dioddef cystudd trwy ymmynedd yn y fuchedd hon. Ond rhaid i mi ddibennu, am fod y pennod yma yn tyfu yn hir fel yr hon o'r blaen. Ac am hynny, i ddibennu, mi a osodaf i lawr gyffes, a gorchestol gyngor yr hen Fattathias i'w blant, yn amser creulon erlid Antiochus yn erbyn yr Iuddewon. 1 Mac. 2.49. Yr awrhon, medd efe, y mae balchder yn ei gryfder. Dyma amser cerydd, a distryw, a dig llidiog arnom ni. Gan hynny, fy meibion, dygwch zêl yr awrhon i Gyfraith Dduw: a rhoddwch eich hoedl tros gyfammod eich tadau: cofiwch weithredoedd ein hynafiaid ni, y rhai a wnaethant hwy yn eu hamseroedd, ac felly chwi a dderbyniwch barch mawr, ac enw tragywyddol. Oni chaed Abraham yn ffyddlon mewn profedigaeth, a hynny a gyfrifwyd iddo yn gyfiawnder? Gen. 22.10. Rhuf. 4.3. Joseph yn amser ei gyfyngder, a gadwodd orchymmyn Duw, ac a wnaethbwyd yn Arglwydd ar yr Aipht, Gen. 41.40. Phinehas ein tâd, wrth ddwyn zêl tuac at Gyfraith Dduw, a gafodd ammod am offeiriadaeth dragywyddol, Num. 25.13. Josua, am gyflawni gair Duw a wnaethbwyd yn farnwr ar Israel, Jos. 1.2. Caleb am dystiolaethu ger bron y gynnulleidfa, a gafodd etifeddiaeth o'r tir. Num. 14.6. Jos. 14.13. Dafydd, am ei drugaredd, a etifeddodd orseddfaingc y deyrnas dragywyddol. Elias, am ddwyn zel i'r Gyfraith, a gymmerwyd i fynn i'r nefoedd. 2 Bre. 2.11. Ananias, Azarias, a Misael, am iddynt gredu, a achubwyd o'r tân. Dan. 3.16, &c. Daniel, am ei wiriondeb, a waredwyd oddiwrth safnau'r llewod. Dan. 6.22. Ac felly ystyriwch ym [Page 246]mhob oes, a chwi a gewch weled am bwy bynnac sydd yn ymddiried yn Nuw, na orchfygir ef. Am hynny nac ofnwch eiriau gwr pechadurus: Canys ei ogoniant ef a fydd yn dom a phryfed. Heddyw efe a ddyrchefir, ac yforu ni bydd efe iw gael: Canys efe a ddychwel i'w bridd, a'i holl amcanion a dderfydd. Psal. 146.4. Gan hynny, fy meibion, cymmerwch galon nau; a byddwch wrol ym mhlaid cyfraith Dduw; canys hynny a fydd yn barch ac yn anrhydedd i chwi. Hyd hyn y mae geiriau Mattathias; y rhai sy ddigon i ddiweddu 'r bennod hon.
PEN. III. Am y trydydd rhwystr sydd yn llestair i ddynion roi eu bryd ar wasanaethu Duw; yr hwn yw cariad ar y byd hwn.
MEgis y mae y ddau rwystr a dynnwyd ymmaith o'r blaen, yn attal mawr i lawer o ddynion, i'w cadw hwy oddiwrth y gwrolfryd yma yr ydym ni yn sôn am dano; felly y mae'r hwn yr ydym yr awrhon yn mynd yn ei gylch, nid yn vnig o hono ei hunan yn rhwystr crŷf, ond hefyd yn achos mawr, ac megis yn sylfaen cyffredinol i bob rhwystrau eraill ac sydd. Oblegid pe gallai ddyn wybod meddwl pawb ac sydd yn gwrthod, neu y [...] esgeuluso, neu yn oedi rhoi eu bryd ar wasanaethu Duw; fe gai weled mai serch ar y byd hwn yw'r achos o hynny, pa esgus bynnag a gymmeront hwy [Page 247]arnynt heb law hynny. Yr oedd pendefigion yr luddewon yn cymmeryd arnynt mai ofn oedd yr achos pa ham nas gallent hwy gyfaddef Christ yn amlwg ac yn oleu; ond y mae S. Joan, yr hwn oedd yn gwybod y gwirionedd am danynt hwy, yn dywedyd mai'r achos oedd, Am en bod yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw, Ioan. 12.42, 43. Yr oedd Demas (yr hwn a ymwrthododd a Sainct Paul yn ei rwymau, ychydig o flaen ei farwolaeth) yn cymmeryd arno fod iddo achos arall i fyned ymaith i Thessalonica, ond y mae Sainct Paul yn dywedyd mai'r achos oedd Am ei sod yn caru'r byd presennol, 2 Tim. 4.10. A hynny yw y rhwystr cyffredinol, ac sydd amlach nag y gwelir oddiallan: am ei fod yn peri llawer o esgusodion eraill, er mwyn ei guddio ei hunan mewn llawer o ddynion.
2. Hyn a ellir ei siccrhau a godidowgaf ddammeg ein lachawdwr Christ, yr hon y mae tri o'r Efangylwyr wedi ei chadw mewn côf, am y tri math ar ddynion a fydd colledig, a'r tri achos o'i colledigaeth hwy: a'r trydydd a'r diweddaf a'r eyffredinolaf o'r rhai hynny (megis yn amgyffred y ddau eraill) yw cariad ar y byd. Oblegid y fath gyntaf o ddynion a gyffelybir i briffordd, lle mae cwbl o hâd y bywyd ac a heuir arni, naill ai yn gwywo yn y man, ai yn cael ei yssu gan adar y nefoedd: hynny yw, fel y mae Christ yn ei ddeongl, gan y cythreuliaid, yn y rhai diofal, sy yn difrawu ac yn diystyru pob peth a ddywetter wrthynt: fel y mae'r anghrededyn, a phawb o'r rhai cyndyn diystyr. Yr ail fath a gyffelybir i greigleodd, lle nid yw'r hâd yn parhau, o eisieu dwfn i wreiddio: wrth yr hyn yr arwyddocceir y rhai ysgafn anwadal▪ y rhai sy weithiau i mewn weithiau allan, weithiau yn wresog yngwasaneth Duw, ac yn y fan drachefn cyn oered [Page 248]a'r ia; ac felly yn amser profedigaeth y maent yn cilio. Y trydydd math a gyffelybir i faes, lle y mae 'r hâd yn tyfu allan; ond etto y mae ynddo cymmaint o ddrain, (y rhai y mae Christ yn efponio mai gofalon, a thrallod, a thrafferthion, a gosidion, a gorwagedd twyllodrus y byd ydynt) ac y mae 'r ŷd da yn cael ei dagu ganddynt, ac heb gael dwyn dim ffrwyth. Wrth y geiriau diwethaf hynny y mae ein Iachawdr Christ yn ar wyddoccau, pa le bynnag y mae dysgeidiaeth CHRIST yn tyfu allan ac etto heb ddwyn ffrwyth, hynny ydyw, pa le bynnag y derbynier ac y croesawer hi, (fel y mae llawer Christion yn gwneuthur) ac etto bod o honi heb ddwyn ffrwyth buchedd dduwiol; mai 'r achos o hynny ydyw am fod gorwagedd y byd hwn yn ei thagu hi. Math. 13. Marc. 4. Luc. 8.
3. Dammeg o bwys a defnydd mawr yw'r ddammeg hon, gan fod Christ yn ôl ei hadrodd hi, yn llefain â llef vchel, Y neb sydd ganddo glustiau i wanando, gwrandawed: a chan ei fod ef ei hun yn ei deongl ac yn ei esponi hi i'w ddisgyblon yn vnig, a hynny yn ddirgel ac o'r neilldu: ac yn enwedig gan ei fod ef cyn ei deongl hi yn arfer y cysryw ragymadrodd, ac yn dywedyd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgelion teyrnas nefoedd, ond ni roddwyd i eraill: oblegid hwy yn gweled ni welant, ac yn clywed ni chlywant, ac ni ddeallant. Mat. 13.11. Wrth yr hyn y mae Christ yn arwyddoccau bod deall a dirnad y ddammeg yma ym mŷsg eraill, o bwys mawr tros ben, i beri i ni wybod gwir ddirgelion teyrnas nef; a bod llawer yn ddeillion o'r rhai y tybir am danynt eu bod yn gweled; a llawer yn fyddar ac heb wybod dim, a dybir eu bod yn clywed ac yn gwybod: am nad ydynt hwy yn deall yn iawn ddirgelion y ddammeg hon. Ac o'r achos hynny hefyd y mae Christ, cyn dechreu deongl y ddammeg, yn dibennu ei ymadrodd [Page 249]fal hyn, Dedwydd yw'ch llygaid chwi, am eich bod yn gweled, a'ch clustian, am eich bod yn gwrandaw, Gwers 16. Ac ar ôl y geiriau hynny y mae efe yn dechreu deongl y ddammeg ynghŷd â'r rhybydd yma, Gwarandewch chwithau, a deelwch y ddammeg hon.
4. Ac am fod y ddammeg hon yn cynnwys cymmaint aga ellir ac sy raid ei ddywedyd ynghylch tynnu ymaith y rhwystr mawr peryglus yma, sef serch ar y byd: fy meddwl yw sefyll yn vnig ar ei deongl a'i esponi hi yn hyn o fan, a dangos grym a gwirionedd rhyw eiriau a draethodd Christ yma am y byd a'i ddifyrrwch: ac er mwyn gosod trefn well ar fy ymadrodd, mi a dynnaf y cwbl at y chwe phwngc hyn sydd yn canlyn. Yn gyntaf, pa fodd, ac ym mha ddeall nad yw'r holl fyd a chwbl ac sydd i'w gael ynddo, ond oferedd heb dalu dim (fel y mae Christ yma yn arwyddoccau) ac am hynny na ddylei 'r byd fod yn rhwystr i ni i'n cadw ni oddiwrth beth cymmaint ag yw teyrnas nefoedd a gwasanaethu Duw. Yn ail nad yw 'r byd a chwbl ac sydd yntho yn vnig yn oferedd ac yn bethau gwael diddim ynddynt eu hunain, ond hefyd yn hûd ac yn dwyll, fel y dyweid Christ: sef yw hynny yn hudoliaeth heb gwplau â ni mo'r coeg-bethau diddim y maent yn eu haddo. Yn drydydd, y modd y maent hwy yn ddrain pigog llymion, fel y dyweid Christ, er bod y rhai bydol yn tybieid eu bod hwy yn dra melus ac yn hyfryd iawn. Yn bedwerydd, y modd y maent hwy yn ofidiau ac yn flinderau, fel y mae geiriau Christ yn dywedyd am danynt. Yn bamed, pa fodd y maent hwy yn ein tagu ac yn ein mygu ni, fel y dyweid geiriau Christ. Yn chweched, pa fodd y gallwn ni eu trin hwy a'i harfer, er hynny i gyd, heb gael na pherygl na niweid oddiwrthynt, a chael cyssur a diddanwch, ac elw, a gor [...]chafiaeth mawr oddiwrthynt.
[Page 250]5. Ac am y pwngc cyntaf, nid wyfi yn gweled pa fodd well y profir nad yw holl ddifyrrwch a hyfrydwch, a gwychder a thegwch y byd hwn ond oferedd, fel y mae Christ yn dywedyd yma; nâ thrwy ddwyn tystiolaeth o ben vn a'i profodd hwy i gyd oll; hynny ydyw, o ben vn sydd yn dywedyd y peth nid wrth ei ddeall a'i synhwyr, ond wrth yr hyn a brofodd ef ei hun, ac a gafodd ef yn wir vnddo ei hun: a hwnnw yw'r brenhin SALOMON, am yr hwn y mae'r Scrythur lân yn adrodd pethau rhyfeddol ynghylch ei heddwch, a'i lwyddiant a'i gyfoeth a'i ogoniant yn y byd hwn: hyd onid oedd holl frenhinoedd y ddaiar yn chwennych cael gweled el wyneb ef, o achos ei ddoethed, a maint ei rwysg a'i ddedwyddyd; ac nad oedd holl dywysogion y byd gyffelyb iddo mewn cyfoeth: a bod yn dwyn iddo bob blwyddyn 666 o dalentau aur (dyna swm anfeidrol) heb law cwbl ac yr oedd efe yn ei gael oddiwrth frenhinoedd Arabia, a thywysogion eraill: 2 Chron. 9.13, 14. a bod yr arian oedd gantho cyn amled a'r cerrig, ac heb bris arnynt ga [...] faint yr ystôr a'r amlder oedd gantho o honynt: ac nad oedd diben ar ei lestri aur, a'i dlysau; a bod ei orseddfaingc ef a'i deyrngadair o Ifori, wedi ei gwisgo ag aur, a chwech o risiau i'r ersteddfa, a throedle o aur, a chanllawiau o bob tu i'r eisteddfa, a dau lew yn sefyll wrth y canllawiau, a deuddeg o lewod ar y chwe gris, a'r cwbl o aur pûr; fel nad oedd y fath orseddfaingc gan vn brenhin yn y byd; a bod ei ddillad gwerthfawr ef a'i arfau, yn aneirif; a bod yr holl frenhinoedd o'r afon hyd wlâd y Philistiaid, a hyd terfynna [...] 'r Aipht, tan ei lywodraeth ef, a bod gantho ddeugain mil o bresebau meirch, a deuddeng mil o gerbydau; 1 Bren. 4.21, 22, 26. a bod gantho ddeucant o wayw-ffyn aur, iw dwyn o'i flaen, a chwe chan coron o aur ym mhob gwaywffon; a thrychant [Page 251]o dariannau, a thrychan coron aur ym mhob tarian; a bod yn treulio beunydd yn ei dŷ ef, ddêg Corus ar hugain o beillieid a thri vgain Corus o flawd, a dêg ar hugain o ychen pasgedig, a chant o ddefaid, heb law ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision; a bod gantho saith gant o wragedd yn frenhinesau, a thrychant o ordderchwragedd, 1 Bre. 11.3. Hyn oll, a llawer yn angwhaneg y mae 'r Scrythur làn yn ei adrodd am gyweth Salomon a'i ddoethineb, a'i olud, a'i lwyddiant: ac y mae ynteu, wedi darfod iddo brofi'r cwbl, a chael ei wala o honynt, yn y diwedd yn datgan y farn yma am da nynt i gyd, Vanitas vanitatum & omnia vanitas, Gwagedd o wagedd, gwagedd yw'r cwbl, Preg. 1.1. Wrth eu galw yn Wagedd o wagedd y mae efe yn deall (medd Sainct JEROM) faint y mae eu gwagedd hwy yn rhagori ar bob math o wagedd. ac oferedd ac a ellir ei ddychymmyg.
6. Ac nid dywedyd hyn yn vnig y mae SALOMON ond ei brofi hefyd trwy lawer o esamplau o'r eiddo ei hun. Mi a fum frenhin ar Israel yn Jerusalem, medd efe, ac a roddais fy mryd ar geisio, a chwilio drwy ddoethineb am bob peth a wnaed tan y nefoedd: ac mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed tan yr haul, ac wele, gwagedd a gorthrymder yspryd yw'r cwbl oll. Gwers. 12.13, 14. Mi a ddywedais yn fy nghalon, mi a brofaf bob math ar lawenydd a difyrrwch; ac wele, gwagedd oedd hynny hefyd. Mi a wneuthum i mi waith mawr, ac a adeiledais i mi dai, ac a blennais i mi winllannoedd ac a wneuthum erddi a pherllannau, ac a blennais ynddynt bob math ar goed; mi a wneuthum i mi lynnan dwfr, i ddyfrhau y llwynau sy'n dwyn coed: mi a ddarperais weision a morwynion, ac yr oedd i mi lawer o dylwyth tŷ, ac yr oeddwn yn berchen llawer o wartheg a defaid, in hwnt i bawb a fuasai o'm blaen i yn Jerusalem. [Page 252]Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac aur, a thryfor pennaf brenhinoedd a thaleithiau: mi a ddarper ais i mi gantorion a chantoresau, a phob rhyw offer cerdd, yr hyn yw difyrrwch meibion dynion, a chwppanau gwychion i yfed gwin ynddynt; a pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid, ni ommeddwn hwynt; ac ni attalliwn fy nghalon oddiwrth ddim hyfryd, ond fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur. Yna mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethai fy nwylaw, ac ar y llafur a lasuriais yn ei wneuthur; ac wele, nid oedd y cwbl oll ond gwagedd a g [...]rthrymder yspryd, Preg. 2.1, 4, 5, 6, 7, 8, 10, 11.
7. Ac dyma dystiolaeth SALOMON, fel y profasai efe ei hun▪ am y pethau hyn: a phe dywedasai efe hyn heb ddim ond o'i ddoethineb a'i gyfarwyddyd, (a maint oedd) ni a ddylem ei gredu ef; ond gan ei fod yn ei dywedyd megis peth a brofasai efe ei hun, ni a ddylem ei gredu ef yn haws o lawer. Ond onid yw hyn abl i gyffroi neb, ni a ddygwn etto dŷst arall allan o'r testament newydd, a hwnnw yn gyfryw vn ac a wyddai gyfrinach a meddwl CHRIST ei hun yn hyn o beth; a hwnnw yw Sainct Ioan yr Efengylwr sy yn dywedyd y geiriau hyn, Na cherwch y byd, na 'r pethau sy yn y byd: o châr neb y byd, nid yw cariad y Tâd ynddo ef. Canys pob peth ac sydd yn y byd, megis chwant y cnawd, a chwant y llygad, a balchder y bywyd, nid yw o'r Tad, eithr o'r byd y mae, 1 Joh. 2.15, 16. Lle y mae Sainct Joan, heb law ei fod yn bygwth y rhai a garant ac a ganlynant y byd, yn gosod holl wagedd y byd ar dri phwnge, ac yn ei dorri yn dair caingc gyffredinol; sef yw hynny, Chwant y cnawd, (yn yr hwn y mae efe yn cynnwys holl ddifyrrwch a digrifwch y cnawd) chwant y llygaid, (ac yn hwnnw y mae yn cynnwys pob peth a berthyn i gyfoeth a golud y byd) a balchder y bywyd, wrth hynny y [Page 253]mae efe yn arwyddoccau chwant i swyddau a pharch, a goruchafiaeth. Wrth hynny dymma dri gwagedd pennaf y bywyd hwn, y rhai y mae y rhai bydol yn ymflino ynddynt; chwant i anrhydedd, cybydddod, a difyrrwch y cnawd, ac i'r tri hyn y perthyn pob math arall ar wagedd. Ac am hynny nid ammherthynol ystyried y tri hyn yn y man yma.
8. Ac yn gyntaf, at chwant i anrhydedd y perthyn gorwag-clod a gwag-fost; hynny ydyw, pan fo gan vn ormod chwant i gael gan bawb dybied yn dda am dano, a dywedyd yn dda am dano, a chael ei ganmol a'i foliannu gan bob dŷn: ac y mae hynny yn gymmaint gorwagedd ac oferedd (er bod y rhan fwyaf yn euog o'r bai yma) a phettai vn yn darymred i fynu ac i wared ar hŷd ac ar draws yr heol ar ol pluen a fai yn hedeg yn y gwynt, ac a deflid yma a thraw gan anadl genau aneirif o ddynion. Oblegid sel y byddai haws i'r cyfryw vn ei flino ei hunan yn llwyr ac yn gwbl, yn gynt na chael gafael ar y peth y mae yn ei ymlid, ac etto wedi iddo gael gafael ynddo, nid oedd yn cael ond pluen; felly y gall efe wrth chwennych gorwag-clod a molach y byd, gymmeryd poen fawr tros hir amser, cyn cael y glod a'r gair y mae 'n ei chwennych, a phan ei caffo, ni thâl hynny ysglodyn, gan nad yw ond anadl geneuau ychydig ddynion, yr hwn a gyfuewidia yn hawdd, ar bob achlysur, ac a wna 'r neb a fynno weithiau yn wr mawr, weithiau yn wr bychan, ac yn y man yn beth heb dalu dim. Ac am hyn o beth nid rhaid i ni esampl oleuach na Christ ei hun; yr hwn a deflid i fynu ac i wared ar dafodau dynion, fel y gwelent hwy yn dda, rhai a ddywedai mai Samariad ydoedd, a bod cythrael ganddo; eraill a fynnai mai prophwyd oedd; eraill a daerai na allai ei fod ef yn brophwyd, ac na hanoedd o Dduw, am nad oedd yn cadw 'r dydd Sabboth: eraill a ofynnai, oni hanoedd [Page 254]ef o Dduw, pa fodd y gallai efe wneuthur cymmaint o wyrthiau. Hyd onid aeth ymbleidio ac ymrafael yn eu plith hwy, medd S. Ioan, Io. 9.16. Yn ddiweddaf, hwy a'i croesawasant ef i Jerusalem gyda gorfoledd a Hosanna, ac a danasant eu dillad tan ei draed ef. Ond die gwener wedi hynny, hwy a waeddasant yn ei erbyn ef, Croes-hoelia, croes-hoelia ef, ac a ddewisasant Barabbas y lleiddiad annuwiol o'i flaen ef. Mat. 21.9. Mat. 27.
9. Bellach, fy anwylyd, os gwnaethant hwy fel hyn a Christ, yr hwn oedd wellgwr nag a fyddi di byth, ac a wnaeth mwy o wyrthiau gogoneddus nag a wnai di byth, i geisio i ti enw ac anrhydedd a pharch gan ddynion; i ba beth yr wyt ti yn cymmeryd cymmaint o boen, ac yn ymguro cymmaint, am beth mor ofer ac yw gorwag-clod a gair y byd? Pa beth a wnai di yn bwrw dy holl lafur ar awel ac anadl genau dynion? Beth a wnai di yn gosod dy holl gyfoeth ar wefusau a thafodau dynion anwadal cyfnewidiol; lle y gallo pob truthiwr a gwenhieithwr eu lledratta hwy oddiarnati? Onid oes gennyti vn gist well iw rhoi hwynt tan glo ynddi? Yr ydoedd S. Paul o feddwl arall, pan ddywedodd efe, Bychan iawn gennyfi fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn, Ac yr oedd iddo achos da i ddywedyd hynny, 1 Cor. 4.3. Oblegid, pam neu beth waeth gan yr hwn a fo yn rhedeg mewn gyrfa, er i'r bobl ddiwybod roi barn yn ei erbyn ef, os rhydd y barnwyr farn gyd ag ef? Pe buasai y dyn dall oedd ar y ffordd i lericho, yn gwneuthur cyfrif o'r hyn a ddywedai 'r bobl oedd yn myned heibio, ac yn ystyried beth a welent hwy yn dda iddo ei wneuthur; ef a fuasai etto heb gael ei olwg; oblegid eu cyngor hwy oedd iddo beidio a rhedeg, ac a gweiddi mor groch ar ol Christ, Luc. 18.39. Peth truan gofidus ydyw i ddyn fod yn felin wynt, heb wneuthur dim blawd ond tra [Page 255]barhao 'r chwa wynt. Os yr awel wynt a fydd cref, hia dry yn sidyll ac yn hoyw; ond os yr awel a ostwng, hitheu a lwfrhaa yn y man ac a ddioga. Felly, canmolwch y neb a fo 'n chwennych gair y byd, ac efe a red yn gyflym (os amgen, efe a ddigalonna yn y man) fel y Babyloniaid, y parai ychydig felysgerdd iddynt addoli y peth a fynnid, Dan. 3.
10. Oblegid gwir a ddywaid yr yscrythur, Fel y profir yr arian yn tan, a'r aur yn y ffwrnais, felly y profir gwr yngenau 'r neb a'i canmolo, Diha. 27.21. Oblegid fel am yr arian, os da fydd ni wna 'r tan niweid iddo, os amgen, efe a ddiflanna yn fwg, ac a dry 'n sothach; ac felly y gwna gwr gorwag ofer wrth ei ganmol. Pa sawl vn a welsom ni wedi chwyddo cymmaint gan glod a molach dynion, onid oeddynt ar fyned allan o'i pwyll gan llawenydd eu bod yn cael cymmaint clod; a'i gweled hwy yn ol hynny wedi digalonni gan wrthwynebwynt anglod a gogan, a myned cyn belled agos ac anobeithio gan ddirmyg a diystyrwch? Pa sawl a welwn ni beunydd yn cael eu canmol yn eu pechodau, a'i bendithio yn eu hanwiredd? Ps. 10.3. Pa faint o druth a gweniaith dygn digwilydd yr ydym ni yn clywed rhai yn ei ddywedyd, ac eraill yn ei gymmeryd, a neb heb lefain gydâ 'r brenhin duwiol Dd ymaith a'r olew pechaduriaid yma, ac na ddeled ar fy mhen i? Ond oferedd a gwagedd ac ynfydrwydd yw hyn oll? Nid yw 'r Angylion yn ceisio dim anrhydedd iddynt eu hunain, ond y cwbl i Dduw: ac a fynni di ddaiarbrŷf gwael, gael dy foliannu? Y 24 henuriaid a ddiosgent eu coronau, ac a'i bwrient wrth draed yr Oen; a thithau a fynnit, pesgellit, eu dwyn hwy oddiar yr Oen i ti dy hun, Datc. 4.10. Oh greadur ffol disynwyr! mor wir y dywaid y prophwyd, dyn sydd debyg i wagedd hynny ydyw i'w wagedd ei hun; mor orwag ac mor ysgafn a'r oferedd a'r [Page 256]gwagedd y mae 'n ei ddilyn, Psal. 144.4.
11. Yr ail gorwagedd a berthyn i chwant cael anrhydedd, yw chwennych cael parch, a goruchafieth bydol. A pheth mawr iawn ydyw yngolwg y rhai bydol, a thlws a thryssor gwerthfawr dros ben, a haeddai ei brynu a chymmaint o boen, a llafur, a pherygl, ac a fai bossibl byth i ddyn ei gy mmeryd. Dyma 'r peth a lesteiriodd i wyr mawr Iudaea gyffessu Christ ar gyhoedd, Ioa. 12.43. Dyma 'r peth a rwystrodd i Bilatus ollwng yr Jesu yn rhydd, er ei fod yn gwybod yn dda y dylai wneuthur hynny, Io. 19. Dyma 'r peth a rwystrodd i Agrippa ac i Ffestus fyned yn Gristianogion er eu bod yn coelio bod yn wir yr hyn a ddysgai Paul, Act. 26. Ond ysy waeth nid yw dynion yn gweled ofered yw 'r peth y maent yn ei garu. Y mae S. Paul yn dywedyd, Na fyddwch fechgynmewn deall, 1 Cor. 14.20. Arfer plantos yw gwneuthur cyfrif mwy o ryw degan dibris, nag o'r tlws gwerthfawroccaf: a chyfryw ydyw paentiedig barch y byd, yr hwn y ceir mawr boen yn ei geisio, a mawr gost yn ei gadw, a mawr ofid o i golli. Ac fel y bo i ti ddeall hyn yn well, ystyria ynot dy hun, ddarllennydd hy naws, a meddwl pa radd o anrhydedd a chwennychit ti ei chael; ac edrych pa fawl vn a fu yn y radd honno o'th flaen di. Cosia 'r modd y codasant hwy, a'r modd y disgynnasant hwy drachefn; a meddwl ynot dy hun pa vn fwyaf ai 'r llawenydd a gawsant hwy wrth gael y radd honno, ai 'r tristwch a gawsant o'i cholli hi. Pa le yn awr y mae 'r holl ymerodron hynny, a'r brenhinoedd, a'r Tywysogion, a'r Preladiaid, a fu mor llawen ganthynt gynt gael eu goruchafiaeth a'i cyfodiad? Pa le yn awr y maent hwy, meddaf? pwy sy nac yn son nac yn meddwl am danynt hwy? Oni ebargofwyd hwynt, ac oni fwriwyd hwynt i'w beddau er ys talm byd? onid ydyw dynion yn rhodio [Page 257]yn hy uwch eu pennau hwy yr awr hon, er na ellid heb ofn ac arswyd edrych yn eu hwynebau hwy yn y byd hwn? Pa leshaad a wnaeth eu goruchafiaeth iddynt hwy?
12. Peth rhyfedd yw ystyried mor ofer ydyw anrhydedd y byd hwn. Tebyg ydyw i gysgod dyn ei hun, yr hwn po mwyaf y rheder ar ei ol, cyntaf y diangc ynteu; a phan el ynteu i ffo rhag ei gysgod, ef a'i canlyn ef drachefn; ac nid oes vn ffordd onid vn iw ddal ef, a honno ydyw syrthio i lawr ar ei wartha ef. Felly y gwelwn ni am y rhai a chwennychent anrhydedd yn y byd hwn, eu bod hwy yr awrhon wedi eu gillwng yn angof; a bod y rhai oedd fwyaf yn ffo rhagddo, ac yn eu bwrw eu hunain is law pob dyn, yn cael eu hanrhydeddu yn fwyaf o gwbl, a hynny gan y byd ei hun, er eu bod yn elynion iddo pan oeddynt fyw. Canys pwy sy 'r awrhon fwy ei barch a'i anrhydedd; pwy a ganmolir yn fwy; ac a gofir yn fynychach na S. Paul a'i gyffelyb, y rhai a ddiystyrent anrhydedd bydol yn gymmaint yn y bywyd hwn, fel y dywedodd y Prophwyd, Dirfawr, O Arglwydd, yr anrhydeddwyd dy gyfeillion di? Oferaf dim yn y byd yw erlyn ar ol anrhydedd a goruchafiaeth bydol, gan nad yw nac yn bodloni 'r meddwl, nac yn arhos gyd a'i berchennog; ac nad ydyw heb peryglon mawr yn ei ganlyn, yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw hefyd, fel y dywaid yr yscrythur, Barn dost fydd i'r llywodraethwyr: y lleiaf a ddichon gael maddeuant yn drugarog, ond y cedyrn a gospir yn gadarn. Doeth.
13. Y trydydd oferedd a berthyn i chwant cael anrhydedd, ac i falchder y bywyd yma, ydyw bonedd cnawd a gwaed: yr hwn sydd berl mawr vchelbris yngolwg y byd: ond mewn gwirionedd, o hono ei hun, ac yngolwg Duw, nid yw ond coegbeth ac oferedd a gwagedd, A hynny yr oedd Iob [Page 258]dduwiol yn ei wybod yn dda, pan ysgrifennodd efe y geiriau hyn, Mi a ddywedais wrth y pwll, ac wrth bydrni a llygredigaeth, Ti yw fy nhad; ac wrth y pryf, Ti yw fy mam am chwaer, Job 17.14. Y neb a chwennycho weled bonedd ei hynafiaid, edryched yn eu beddau hwy, ac fo a gaiff weled pa vn a wna Iob ai bod yn dywedyd y gwir ai peidio. Ni ddechreuodd gwir fonedd erioed ond trwy rinwedd; ac am hynny, fel y mae bonedd yr hynafiaid yn dystiolaeth o'i rhinweddau da hwynt; felly y mae efe hefyd iw heppil hwynt. A phwy bynnag sydd yn dal enw bonedd oddiwrth ei hynafiaid, heb rinwedd yn ei ganlyn, nid yw efe ond anghenfil annaturiol wrth ei hynafiaid, am ei fod yn torri terfynau naturiaeth gwir fonedd, Ac am y cyfryw y dywaid Duw trwy vn o'i Brophwydi, Hwy a aethant yn ffiaidd, fel y pethau a garasant: eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn, o'r enedigaeth, o'r groth, ac o'r beichiogi, Hos. 9.10, 11.
14. Oferedd dybryd yw ceisio parch a choel oddiwrth y meirw, a ninneu ein hunain heb ei heuddu: a cheifio hen achau a rhagorbarch oddiwrth ein hynafiaid, a ninnau, gan ein drwg foesau an coeg ymarweddiad, heb fod dim o'r cyffelyb yn gweddu arnom. Fe waradwyddodd Christ yr oferedd yma yn eglur, pan fu iddo, er ei fod ef ei hun yn dyfod o'r bonedd mwyaf ar a fu erioed yn y byd, ac heb law hynny, yn fab i Dduw; ei alw ei hun er hynny yn gyffredinol yn fab dyn; hynny yw, yn fab i'r Forwyn Fair (oblegid mewn modd amgen, nid oedd efe yn fab dyn) a chyda hynny hefyd ei alw ei hun yn fugail, yr hwn nid yw ond henw diystyr iawn yn y byd yma, Io. 10. Nid aeth efe i ymhel am ditlau anrhydedd ei hynafiaid i chwanegu ar ei barch a'i fowredd, fel y gwna ein gwŷr ni. A phan aeth efe i wneuthur brenhin gyntaf yn Israel, oi cheisiodd efe [Page 259]chwilio am y gwaed hynaf, ond efe a gymmerodd Saul o'r llwyth gwaelaf yn holl Israel; ac ar ei ol ynteu Dafydd, y bugail distatlaf o'i holl frodyr. A phan ddaeth efe i'r byd, nid aeth efe i chwilio am y gwŷr boneddicaf i'w gwneuthur yn dywysogion ar y ddaiar, hynny ydyw, i'w gwneuthur yn Apostolion; ond efe a gymmerodd y rhai truanaf a'r rhai gwaelaf, i wradwyddo (fel y dywaid vn) ffoledd ac oferedd y byd hwn, sydd yn gwneuthur cymmaint cyfrif o ychydig ragorfraint cig a gwaed yn y byd hwn. 1 Cor. 1.27.
15. Y pedwerydd gwagedd sydd yn perthyn i chwant anrhydedd ac i falchder buchedd, yw doethineb fydol, am yr hon y dywaid yr Apostol, Doethineb y byd sydd ffolineb gyda Duw, 1 Cor. 3.19. Os ffolineb ydyw, wrth hynny y mae yn sicer ddiammau mai oferedd a gwagedd yw ymhyfrydu o ddynion ynddi yn gymmaint ac y maent. Peth dieithr yw gweled mor wrthwyneb yw barn Duw i farn dyn. Fe fynnai bobl Israel er dim gael brenin, fel y dywedais vchod, ac yr oeddynt hwy yn tybieid y rhoesai Dduw yn y man iddynt hwy ryw dywysog mawr galluog i lywodraethu arnynt; ac ynteu a ddewisodd ddyn truan tlawd oedd yn cerdded y wlad i geisio assynnod a gollasai, 1 Sam. 9. Ac yn ol hynny pan fynnai Dduw ddiswyddo hwnnw drachefn am ei bechod, efe a ddanfonodd Samuel i enneinio vn o feibion Iesse yn frenhin; a phan ddaeth efe i mewn i'r ty, fe ddug Iesse ei fab hynaf Eliab ger bron, yr hwn oedd wr hirfraisg heinyf, gandybieid mai hwnnw oedd gymmhwysaf i lywodraethu: ond Duw a attebodd, Nac edrych ar ei wynebpryd ef, nac ar vchder ei gorpholaeth ef, canys mi a'i gwrthodais ef: o herwydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad, ond yr Arglwydd a edrych ar y galon, 1 Sam. 16.7. Wedi [Page 260]hynny y dug Iesse ei ail mab Abinadab ger bron, ac ar ei el ynteu Sammah, ac felly y llaill bob vn yn ol ei gilydd, nes darfod iddo ddangos iddo saith o'i feibion. Ac wedi i Samuel wrthod y rhai hynny i gyd, rhyfeddu a wnaethant a dywedyd nad oedd mwy ond hynny, ond vn bachgen pengoch bach yn vnig, yr hwn oedd yn cadw 'r defaid, ac a elwid Dafydd; a Samwel a archodd yrru i gyrchu hwnnw: ac er cynted y daeth efe mewn golwg, Duw a ddywedodd wrth Samwel, dyma 'r gwr a ddewisais i.
16. Pan addawyd y Messias i'r Iuddewon i fod yn frenhin arnynt, hwynt hwy a dybiasant yn y man, wrth eu bydol ddoethineb, mai rhyw dywysog mawr fyddai efe: ac am hynny hwy a wrthodasant Grid a ddaeth attynt mewn tlodi. Iaco hefyd ac Ioan tra oeddynt etto yn gnawdol, wrth weled y Samariaid trwy ddirmyg yn gwrthod disgyblon Christ; gan eu bod yn gwybod beth ydoedd Christ, hwy a dybiasant yn y man y byddai raid iddo ddial arnynt, a golw am dân o'r nef i'w difa hwynt. Ond efe a'i ceryddodd hwy gan ddywedyd, Ni wyddoch chwi oba yspryd yr ydych, Luc. 9.55. Pan oedd yr Apostolion yn pregethu 'r groes i'r Cenhedloedd doethion, ac i'r Philosophyddion, ac yn dywedyd y byddai raid dioddef er mwyn Christ; hwy a gawsant yn y man eu cysrif yn ynfydion am eu poen, 1 Cor. 1.23. Ffestus hefyd rhaglaw yr ymerodr, wrth glywed yr Apostol Paul, yn dywedyd cymmaint am ymwrthod â'r byd, a chanlyn Christ, a ddywedodd ei fod ef wedi ynfydu, Act. 26.24. Yn ddiweddaf, dyma arfer pob doeth bydol, dirmygua diystyru doethineb Christ a'i Sainct. Canys felly y mae 'r Scrythur yn dangos eu bod hwy eu hunain yn cyfaddef pan font mewn poenau, Nyni ffyliaid a feddyliasom fod en ffordd hwy yn ynfydrwydd, Doeth. [Page 261]5.4. Am hynny, fel y dywedais, Oferedd mawr ydyw gwneuthur cymmaint cyfrif o ddoethineb y byd; a hitheu nid yn vnig yn ffolineb, oud hefyd yn ynfydrwydd ac yn wallgof, fel y mae 'r Yspryd glan ei hun yn tystiolaethu am dani.
17. Pwy a dybygai nad doethion y byd hwn oedd gymmhwysaf eu dewis i wneuthur i Grist wafanaeth yn ei Eglwys? Etto medd S. Paul, Nid llawer o ddoethion yn ol y cnawd a ddewisodd Duw, 1 Cor. 1. Pwy a dybygai na ellid gwneuthur o wr call bydol, Gristion synhwyrol call. Etto y mae S. Paul yn dywedyd na's gellir, oddieithr iddo fyned yn ffol yn gyntaf, 1 Cor. 3.18. Na thwylled neb ei hunan, Od oes neb yn eich mysg yn tybieid ei fod ei hunan yn ddoeth yn y byd hwn; bydded ffol, fel y byddo doeth. Ofer gan hynny, a dibris yw doethineb y byd hwn, oddieithr iddi fod tan lywodraeth doethineb Duw.
18. Y pumed gwagedd ac oferedd a berthyn i falchder y bywyd, yw glendid corph, am yr hwn y dyweid y gwr doeth, Siommedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch pryd a gwedd, Dih. 31.30. Ac am hynny yr oedd Dafydd yn meddwl, pan ddywedodd efe, Tro heibio fy llygaid rhag edrych ar wagedd, Psal. 119.37. Dyma oferedd a gwagedd mawr, peryglus twyllodrus; ac etto mawr yw 'r cyfrif o hono gan feibion dynion, y rhai sy gnawd iddynt hoffi gwagedd, fel y dywaid y prophwyd, Psal. 4. Tegwch pryd a gwedd y mae 'r gwyr duwiol yn ei gyffelybu i neidr baentiedig, yr hon sydd deg oddiallan, ond yn llawn gwenwyn marwol oddifewn. Ped ystyriai ddyn faint o ddialedd a dinistr a ddaeth o roi gormodd coel arno, ef a'i gochelai. A phe meddyliai efe srynted y sothach a'r ammhuredd sydd dan groenen deg, ni roddai ond ychydig serch arno, medd gwr duwiol. Fe gyfrannodd Duw ryw wreichionen [Page 262]chionen o degwch i'w greaduriaid, er mwyn ein tynnu ni a'n denu wrth hynny i ystyried ac i hoffi ei degwch ef ei hun, yr hwn nid yw tegwch y byd ond cysgod o honaw: megis y gall dyn wrth weled ychydig ddwr yn tarddu allan, ddyfod o hyd i'r ffynnon wrth hynny, neu wrth gael gwythen bach o aur, ddyfod o hyd i'r holl fwyn. Ond yr ydym ni fel plant bychain yn ymhoffi yn y caead teg sy ar y llyfr, heb ystyried beth sy wedi ei scrifennu o'r tu mewn iddo. Ym mhob creadur teg yr edrycho dyn arno, y dylai efe ddarllain hyn yma, medd vn o'r tadau, Os medrai Dduw wneuthur telpyn o bridd mor deg ac mor gariadus, wrth roi iddo fân wreichion o'i degwch ei hun; onid yw anfeidrol ei degwch ef ei hun: ac oni haeddai ei hoffi yn fawr, a rhyfeddu wrtho? Ac mor ddedwydd fyddwn ninnau, pan gaffom ddyfod i'w weled ef, yr hwn y mae 'r holl greaduriaid yn cael eu tegwch oddiwrtho.
16. Ped ymarferem ni a'r cyfryw feddyliau a hyn, ni a allem yn hawdd gadw ein calonnau yn lân ddihalog ger bron Duw, wrth edrych ar degwch ei greaduriaio ef. Ond o herwydd nad ydym ni yn arfer o feddwl am y creawdr wrth edrych ar y creadur, ond ymfodloni yn vnig ar edrych ar wedd a gosgedd wyneb twyllodrus, a gollwng y ffrwyn i bob meddyliau bryntion, ac o'n gwir fodd ennyn tân ein trachwantau ein hunain; hynny a bair bod cymmaint o ddynion yn golledig beunydd, o achos y gwagedd a'r oferedd ffol yma; ffol yr wyf yn ei alw, am fod pob bachgen yn abl i ddangos mor dwyllodrus ac mor ofer ydyw. Oblegid, cymerwch i mi yr wyneb teccaf a glanaf yn y byd, yr hwn y bu i aneirif o ddynion roi ei serch arno, wrth ei weled; a chripiwch ef trosto a chryffiniad bach ysgafn, ac fe gilia 'r cwbl oedd yn peri ei hoffi ynddo; os daw gronyn o gryd, ef a ddistrywia [...] holl degwch [Page 263]a'r glendid yma, os yr enaid a ymad a'r corph tros vn hanner awr, fe fydd yr wyneb teg hwnnw yn erchyll edrych arno; er na bo ond dau ddiwrnod yn gorwedd yn y bedd, ni all vn o'r rhai oedd yn ei hoffi yn gymmaint o'r blaen, ond prin edrych arno, neu ddyfod yn agos atto. Ac er nas digwydd yr vn o'r pethau hynny iddo, etto, buan y daw henaint, i grychu 'r croen, i dynnu 'r llygaid i mewn, i gwympo 'r dannedd, ac i anffurfio yr holl wynepryd, fel y bo yn fwy ei wrthuni yr awrhon, nag oedd ei degwch o'r blaen, ac yn haws iddo beri ei ddirmygu, nag oedd o'r blaen iddo beri ei hoffi. A pha beth a all fod yn wagedd mwy na hyn? Pa ynfydrwydd mwy nag ymfalchio o ddyn ynddo wrth ei weled ynddo ei hun, neu beryglu ei enaid o'i achos wrth ei weled mewn arall?
20. Y chweched gwagedd a berthyn i falchder y bywyd, yw hoywedd dillad gwychion; ac yn erbyn y rhei'ni y dywaid y gwr doeth, Nac ymorfoledda o herwydd gwisg o ddillad, Ecc. 11.4. O'r holl oferedd dyma 'r mwyaf, yr hwn a welwn ni mor gyffredin ym mysg dynion y byd. Pe buasai Addaf erioed heb gwympo, ni buasai raid i ni byth wrth ddillad: oblegid yr achos y dyfeisiwyd dillad, oedd, i guddio ein noethni ni a'n cywilydd, a'n gwendidau eraill a ddaeth i ni oddiwrth gwymp Addaf. Ac am hynny pwy bynnag o honom sy 'n ymfalchio ac yn ymogoneddu yn ei ddillad, nid yw efe yn gwneuthur ond fel pettai 'r cardottyn yn cymmeryd balchder o'r carpiau sy 'n cuddio ei ddoluriau. Fe ddywedodd S. Paul wrth esgob, O bydd gennym ddillad i'n cuddio ymfodlonwn ar hynny, 1 Tim. 6.8. Ac fe grybwyllodd Christ ynteu yn ddwys am ddillad hoywychion, wrth ganmawl S. Ioan fedyddiwr yn gymmaint am ei wisg arwdost, a dywedyd ym mhellach am y gwrthwyneb, Y rhai sy'n gwisgo [Page 264]dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent, Yn llysoedd brenhinoedd y byd hwn, ond nid yn llys brennin ne [...], Mat. 3.4. Mat. 11.8. Ac o'r achos hynny, nid yw Christ wrth ddangos pa fath ydoedd y gwr goludog a aeth i vffern, yn gadel heibio ddywedyd i fod ef a'i ddillad o borphor ac o sidan main. Luc. 16.19.
21. Peth rhyfedd yw ystyried y rhagor sy rhwng dull ac arfer Duw, a dull y byd yn hyn o beth. Duw oedd y cyntaf a wnaeth ddillad erioed yn y byd: ac i bwy y gwnaeth efe hwynt ond i'r boneddiccaf ar a fu erioed o'n holl hynafiaid ni, a hynny ym Mharadwys: ac etto ni wnaeth efe mo honynt hwy ond o grwyn anifeiliaid, Gen, 3.21. Ac y mae S. Paul yn tystiolaethu am y Sainct boneddiccaf yn yr hen Destament, nad oedd ganddynt iw cuddio ond crwyn geifr a blew camelod. Ond oferedd wrth hynny ydyw i ni fod mor hoywon yn ein dillad, a chymmeryd y fath falchder o honynt ac yr ydym? Yr ydym ni yn yspeilio ac yn anrheithio holl greaduriaid y byd gan mwyaf, i'w roi am ein cefnau, ac i harddwychu ein cyrph. Oddiar vn y dygwn ei wlân, oddiar arall ei groen; oddiar arall ei bân, ac oddiar arall yr ammhuredd a ddel allan o'i cyrph; oblegid beth yw'r sidan ond yr ammhuredd sy 'n dyfod aslan o gyrph pryfed? Ac nid ydym ni fodlon i hyn, ond yr ydym ni hefyd yn myned at y pysgod, ac yn cael ganthynt hwythau berlau i'w erogi yn ein cylch. Yr ydym ni yn mynd i eigion y ddaiar i geisio aur ac arian, ac yn chwalu tywod y mor am fain gwerthfawr: a chwedi darffo i ni fenthygio hyn i gyd gan greaduriaid eraill, ni a wag-rodiwn i fynu ac i wared gan annog dynion i edrych arnom; megis pettai gwbl o'r gwychder hwnnw yn eidom ni ein hunain. Pan fo 'r arian a'r sidan yn disgleirio yn ein cylch ni, ni a edrychwn cyn vched a phettai 'r holl degwch [Page 265]hwnnw yn dyfod oddiwrthym ni ein hunain. Ac felly, fel y dywaid y Prophwyd, Yr ydym ni yntreulio ein dyddiau mewn oferedd, ac heb ganfod ein dygn ffolineb ein humain.
22. Yr ail gainge gyffredinol y mae S. Ioan yn dywedyd ei bod yn perthyn i orwagedd ac oferedd y fuchedd hon, yw trachwant y llygaid; ac at hynny y mae 'r hen dadau yn bwrw holl wagedd ac oferedd cyfoeth a golud y byd hwn. Ynghylch hynny y mae S. Paul vn yscrifennu at Timotheus, Gorchymmyn i'r rhai sy oludog yn ybyd yma, na byddont vchel feddwl, ac na obeitthiont mewn golud anwadal. 1 Tim. 6.17. Yr achos o'r ymadrodd hwnnw y mae 'r Scrythur lan yn ei adrodd mewn man arall, pan yw yn dywedyd, Ni thyccia cyfoeth yn nydd digofaint, Diha. 11.4. Hynny yw yn nydd marwolaeth ac yn nydd y farn; yr hyn y mae cyfoethogion y byd hwn yn ei gyfaddef ei hunain, ond yn rhyhwyr, pan waeddont, Pa lês a wnaeth golud a ffrôst i ni, Doeth. 5.8. A hyn i gyd sydd yn dangos i ni yn oleu mor ofer yw cyfoeth bydol, yr hwn ni all ronyn llês i'w berchennog pan fo rheitia' iddo wrth ei help: Y cyfoethogion a hunasant eu hun, medd y Prophwyd, ac ni chawsant ddim yn eu dwylo, Psal. 76.5. hynny yw, y mae 'r cyfoethogion wedi treulio 'i bywyd, yr vn modd ac y mae dynion yn huno eu hun, ac yn tybieid fod ganthynt fynyddoedd o aur a thrysor; a phan ddeffroont (ar ddydd eu marwolaeth) y maent hwy yn gweled nad oes ganddynt ddim yn eu dwylo. Ac o herwydd hynny y mae 'r Prophwyd Baruch yn gofyn y Question yma, Pa le yn awr y mae y rhai oedd yn pentyrru arian ac aur, ac ni wnaent ddiben ar geisio? Ac yna y mae yn ei atteb ei hun yn y man, Hwy a ddislannasant, ac a ddiscynnasant ir bedd, Bar. 3.17, 19. Ac i'r vn defnydd y dywaid S. Iaco, Iddo yn awr, chwi gyfoethogion, [Page 266]foethogion, wylwch ac vdwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch. Eich cyfoeth a bydra, a'ch gwiscoedd a ysswyd gan bryfed; a'ch aur, a'ch arian a rydodd, a'i rhwd hwynt fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwytty eich cnawd chwi fel tan: chwi a gasglasoch drysor digofaint i chwi eich hunain erbyn y dydd diweddaf, Jac. 5. Rhuf. 2, 5.
23. Os yw golud y byd hwn nid yn vnig mor ofer ac mor orwag, ond hefyd mor beryglus ac y dywetpwyd; ond oferedd wrth hynny i ddynion osod eu meddyliau arno yn gymmaint ac y maent? y mae S. Paul yn dywedyd am dano ei hun, nad oedd, ef yn cyfri'r cwblond yn dom, Phil. 3.8. Ac nid heb achos mawr yn siccr y dywedai ef hynny, gan nad ydyw golud mewn gwirionedd ond tom; hynny ydyw, ammhuredd y ddaiar, a phethau yr ydys yn eu cael yn y lleoedd diffrwythaf o'r ddaiar, fel y gŵyr y rhai a welodd fwyn-gloddiau yr aur a'r arian. Ond pethau gwael wrth hynny ydynt hwy i ddyn i glymu ei gariad wrthynt? Fe a orchymmynnodd Duw yn yr hen gyfraith, fod o bob peth a gerddai a'i dorr ar y ddaiar, yn ffieidd-beth i ni; Lev. 11. ac ond ffieiddiach y dyn y rhoes Duw reswmiddo, ac fydd wedi gludio a chyssylltu ei galon a'i enaid wrth delpyn o bridd y ddaiar? Yn noeth y daethom i'r byd, ac yn noeth yr awn allan o hono, medd Job. Y mae olwyn y felin yn ymdroi llawer, ac yn ymguro o ddydd i ddydd; ac etto ym mhen y flwyddyn y mae hi yn yr vn lle ac yr oedd yn y dechreu: ac felly 'r cyfoethogion, ymboenant ac ymdrafferthant cymmaint ac a allont, etto rhaid iddynt hwy yn y dydd diweddaf fod cyn dlotted ac oeddynt hwy y dydd cyntaf y ganed hwynt. Pan fo marw y cyfoethog, medd Job, ni ddwg efe ddim gydag ef, ond efe a gae ei lygaid, ac nid yw yn cael dim. Tlodi a'i goddiwes ef fel dyfrosdd, a chorwynt a'i gorthrymma [Page 267]ef liw nôs. Poethwynt a'i cymmer ef i ffordd, ac efe a â ymaith; a'r corwynt a'i cippia ef allan o'i le: efe a ruthr arno, ac nid arbed ef: efe a rwym ei ddwylo arno ef, ac a'i hyssia ef; am ei fod yn gweled ei le ef, lle y mae rhaid iddo fyned, Iob 27.19. Lat.
24. Y mae 'r prophwyd Dafydd ynteu yn yr vn modd yn rhoi i ni rybydd o'r vn peth, yn y geiriau hyn, Nac of na pan gysoethogo vn, na phan chwanego gogoniant ei dy ef: canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ol ef. Efe a â at genhedlaeth ei dadau (hynny yw, efe a â i r lle y mae y rhai a fu fyw fel y bu ynteu fyw) ac ni welant oleuni byth. Psal. 49.16.
25. Hyn i gyd a llawer ychwaneg y mae 'r Yspryd glan yn ei ddywedyd, i ddangos mor beryglus ac mor ofer yw golud bydol; ac mor ynfyd yw y rhai sy yn cymmeryd cymmaint o boen yn ei geisio, a hynny trwy berygl tragwyddol i'w heneidiau; fel y mae 'r Scrythur yn dywedyd i ni yn siccr. Pe bai cymmaint o physygwyr, ac a ddangosais yma o Scrythurau, wedi cyttuno yn yr vn meddwl fod y bwydydd a'r bwydydd yn wenwynllyd ac yn enbyd; yr wyfi yn tybieid na byddai nemmor o ddynion a anturiai eu bwytta hwy, er bod eu blâs yn felus ac yn hyfryd. Pa fodd wrth hynny nas gall cynnifer o rybuddiau dwys difrif y mae Duw ei hun yn eu rhoi i ni, ein hattal ni rhag rhoi ein serch ar beth mor ofer ac mor beryglus ac yw golud bydol? Os cynnydda golud, medd Duw trwy 'r Prophwyd, na roddwch eich calon arno, Psal. 62.10. Ni chyfiawnheir y neb a hoffo aur, Ecc. 31.5. Mi a ddigiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd goludog, medd Duw trwy Zechariah, Zech. 1.15. Lat. Ac medd Christ, Yn wir y dywedaf i chwi, mai anhawdd fydd i'r goludog fyned i mewn i deyrnas nefoedd, Mat. 19.23. A thr [...] chefn, Gwae chwychwi 'r cyfoethogion, canys chwi a [Page 268]dderbyniasoch eich diddanwch yn y bywyd hwn, Luc. 6.24. Ac yn ddiweddaf, y mae S Paul yn dywedyd yn gyffredinol am bawb, ac wrth bawb, Y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl y cythraul, ac i lawer o chwantau ynfyd a niweidiol y rhai sy yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth, 1 Tim. 6 9.
26. A ellir dywedyd dim yn y byd ddwysach a chryfach nâ hyn, i geisio peri i ddynion beidio a rhoi eu serch ar olud bydol? Oni bydd rhaid ynteu i'r cybyddion naill ai gwadu Duw, ai eu condemno eu hunain yn eu cydwybodau eu hunain? Gedwch iddynt ymesgusodi ynghysgod bod iddynt wraig a phlant, yn ôl eu harfer, a dywedyd, nad yw eu meddwlhwy ddim ond gwneuthur eu goreu ar gael a so digon i'r rhai hynny. Ydyw na Christ na S. Paul yn cynnwys yr Esgus hwnnw? A ddylem ni garu na gwraig, na phlant, na cheraint eraill, cymmaint â pheryglu ein heneidiau er eu mwyn hwy? Pa gyssur a chomffordd fydd i'r tâd mewn poenau yn vffern, wrth gofio ddarfod iddo adael i'w wraig ac i'w blant fodd i fyw yn gyfoethogion yn y byd; nid yw hyn i gyd, frawd anwyl, ond oferedd, a hud a thwyll ein gelyn ysprydol ni. Oblegid o fewn vn munyd awr ar ol ein meirw, ni bydd arnom ni ddim gofal, nac am wraig, nac am blant, nac am dâd, nac am fam, nac am frawd, yn y matter hwnnw, mwy nag am estron tra môr: a mwy o gomffordd a gawn ni y dwthwn hwnnw oddiwrth vn geiniog fach a roesom ni yn eluseni er mwyn Duw pan oeddym yn y byd, nag oddiwrth filoedd o bunnau a roesom ni i'n cenedl er mwyn y cariad oedd gennym ar ein cig a'n gwaed ein hunain: ac och Dduw deg nag ystyriai y rhai bydol hyn yma: ac yna diammau na chymmerent hwy byth cymmaint o ofal tros eu tylwyth ac y maent hwy yn ei gymmeryd; yn enwedig ar [Page 269]eu gwely angeu, o'r lle y bydd rhaid iddynt hwy fyned ymaith i'r lle nid oes dim rhagorfraint i gig a gwaed, a lle nis gall golud ddim ymwared; ond yn vnig yr hyn a dreuliwyd ar wasanaeth Duw, a'r hyn a roed i dlodion er mwyn Duw. A hynny sy ddigon am y pwngc yma ynghylch golud bydol.
27. Y drydedd gaingco orwagedd bydol y mae S. Ioan yn ei galw, Chwant y cnawd; a hynny sy 'n cynnwys pob difyrrwch, a digrifwch, a mwythau 'r cnawd, megis gwledda a chwmpniaeth, a chwerthin, a chwarae, a'r cyffelyb, yn y rhai y mae ein cnawd ni yn ymhoffi yn fawr yn y byd hwn. Ac er bod yn rhydd i'r duwiol arfer y pethau hynny mewn cymmedrolder, er mwyn cadw eu hiechyd yn well (ac nid oes bai arnynt er gwneuthur yr vn modd am eu cyfoeth hefyd) etto y mae yn amlwg wrth eiriau Christ, fod yr holl blesser yma a'r difyrrwch, nid yn vnig yn orwagedd ac yn oferedd, ond hefyd yn beryglus ac yn enbyd, yn y cyfryw helaethrwydd, a gormodedd, a rhysedd ac y mae y rhai bydol yn eu harfer hwy. Gwae chwi y rhai llawn, medd Christ, canys chwi a ddygwch newyn: Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awrhon, canys chwi a alerwch ac a wylwch, Luc. 6.25. A thrachefn yn Efengyl S. Ioan, wrth ei Apostolion, ac ynddynt hwy wrth bawb eraill, y mae 'n dywedyd, Chwi a wylwch, ac a alerwch, a'r byd a lawenycha: lle y mae efe yn gwneuthur hyn yn arwydd hynod o'r rhagor sy rhwng y drwg a'r da, y bydd i'r naill alaru yn y bywyd yma, ac i'r llall lawenhau, ac ynddigrifo. Joan. 16.20.
28. A'r vn peth y mae Iob yn ei siccrhau am y naill ac am y llall hefyd; oblegid am y rhai bydol y mae yn dywedyd, eu bod yn difyrruiddynt eu hunain â'r tympan ac a'r delyn, ac a llais yr organ, ac yn treulio eu dyddiau mewn digrifwch; ac yn discyn [Page 270]mewn moment i'r bedd, Iob 21.12, 13. Ond am y duwiol y dywaid megis am dano ei hun, y byddant yn ocheneidio o flaen eu bwyd, Iob 3.24. Ac mewn lle arall eu bod yn ofni eu holl weithredoedd, Iob 9.28. A'r rheswm o hynny y mae 'r gwr doeth yn ei egluro ym mhellach, gan ddywedyd, Fod gweithredoedd y rhai da yn llaw Dduw, ac na ŵyr neb (wrth y pethau oddiallan) pa vn ai cariad ai cas sydd iddo ar law Duw: ond bod pob peth mewn ammau hyd yr amser a ddel, Preg. 9.1. Ac y mae yr hên Tobias ynteu yn dangos etto achos arall, pan yw yn dywedyd, Pa lawenydd a allaf fi ei gael, gan fy mod yn eistedd yma mewn tywyllwch: ac er ei fod efe yn meddwl hyn wrth y llythyren am ei ddallineb corphorol, etto efe a adawodd i ni ddeall hynny hefyd am dywyllwch ysprydol oddifewn.
29. Ac dyma (heb law blinder a thrallod oddiallan yr hwn y mae Duw yn ei ddanfon yn fynych) dyma'r achosion pa ham y mae y rhai duwiol yn byw mewn mwy o dristwch ac ofn yn y bywyd yma, nâ'r rhai annuwiol, yn ôl cyngor S. Paul; a pha ham hefyd y maent hwy yn ochain ac yn wylo yn fynych, fel y mae Iob a Christ yn dywedyd, am eu bod hwy yn meddwl yn fynych am gyfiawnder Duw, ac am eu breuolder a i gwendid eu hunain yn pechu, ac am ddirgel farn Rhagluniaeth Duw, yr hon sydd ddiwybod i ni; ac am y dyffryn trueni ac annrhefn yr ydym ni yma yn byw ynddo: yr hyn sy'n peri i'r Apostolion ochain, medd S. Paul, er bod iddynt lai o achos i wneuthur hynny nag i ni. Ac o'r achos hynny yr ewyllysir i ni dreiddio trwy'r bywyd hwn trwy ofalu, a gwilio, ac ofn a dychryn. Ac o'r achos hynny hefyd y dywaid y gwr doeth, Gwell yw myned i dŷ galar, nag i dy gwledd. Calon doethion fydd yn nhŷr galar, ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd, Preg. 7.2: 4. Yn ddiweddaf, o'r achos hyn [Page 271]y dywaid yr Scrythur, Gwyn ei fyd y dŷn a ofno yn wastadol, Dih. 28.14. Yr hyn nid yw ddim ond y peth y mae'r yspryd glân yn ei orchymyn i bob dŷn trwy 'r Prophwyd Micheas, sef, Rhodio yn ofalus ac yn ddiwyd gyda Duw; Mich. 6.8. Lat. gan feddwl am ei orchymmynion ef, a pha fodd yr ydym yn eu cadw ac yn eu gwneuthur hwynt, a pha fodd yr ydym yn gwrthwynebu ac yn marweiddio ein haelodau yma ar y ddaiar, a'r cyffelyb. A phe cai'r cyfryw feddyliau le ynom ni, hwy a dorrent ymmaith lawer o'r difyrrwch bydol sy 'n dymchwelyd llawer o bechaduriaid diofal: sef yw hynny, y gymdeithas dda o fwytta, ac yfed, a bod yn llawen a chanu, ac ymresymmu, a'r cyfyryw oferedd, y rhai sy fwyaf yn ein tynnu ni oddiwrth yr hyn a ddylem ei wneuthur.
30. Ac o hyn y rhoes Christ i ni gyngor godidog, wrth ei waith yn wylo cyn fynyched, sef ar ei enedigaeth, ac wrth gyfodi Lazarus o farw i fyw, a thros Jerusalem, ac ar y groes. Ond nid ydym ni yn darllain iddo chwerthin vnwaith yn ei holl fywyd. A hyn y mae ein genedigaeth a'n marwolaeth ni ein hunain yn ei arwyddoccau i ni, y rhai sy ar law Dduw bob vn o'r ddau, ac a ordeiniwyd i ddyfod i ni trwy dristwch a gofid, fel y gwelwn ni. Ond gan fod y canol rhwng y ddau, sef ein bywyd ni yn y byd yma, trwy ordinhâad Duw wedi ei adael ar ein dwylo ni ein hunain, yr ydym ni yn treulio hynny mewn difyrrwch ac oferedd, heb feddwl vn amser o ba le y daethom ni, nac i ba le yr awn ni.
31. Pan fo gwr synhwyrol ar ei siwrnai yn myned heibio i'w letty, er bod yn cynnyg iddo fwydydd o'r dainteiddiaf, etto efe a ymgeidw rhagddynt, pan ystyrio faint yw pris y bwydydd, a maint sy 'n ôl o'i daith ynteu: ac ni chymmer ef ddim ond cymmaint ac a wypo fe 'n dda fod gantho fodd i dalu [Page 272]am dano wrth fyned ymaith y boreu: ond yn ansynhwyrol a dery ei law ar bob saig ddaintethol a ddel i'w olwg, ac a â yn wr gwych tros noswaith neu ddwy; ond pan ddeler i gyfrif ag ef, fe fyddai well ganddo pe buasai bodlon i ymborth ar fara a diod, nâ'r drafferth a fydd arno wrth wneuthur ei gyfrif. Arfer rhyw eglwysydd ydyw ymprydio ar bob noswyl, a bod yn llawen dranoeth ar yr wyl; a hynny a all arwyddoccau i ni fawr ddirwest y rhai duwiol yn y byd hwn, a'r llawenydd a gânt hwy yn y byd a ddaw. Ond y mae arfer y byd yn y gwrthwyneb, sef yfed, a bwytta, a gwneuthur yn llawen yn gyntaf yn y dafarn, a chwedi hynny gadael i'r llettywr ddwyn i mewn ei gyfrif. Y maent hwy yn bwytta, ac yn yfed, ac yn chwerthin, a'r llettywr ynteu yn y cyfamser yn rhoi 'r cwbl ar yr ysgôr. A phan ddêl yr amser i dalu, yno y bydd llawer calon yn brudd, oedd o'r blaen yn llawen.
32. A hynny y mae 'r Scrythur lân hefyd yn ei ddywedyd am ddifyrrwch y byd, Chwerthin a fydd ynghymmysg â gofid, a diwedd llawenydd yw tristwch, Dih. 14.13. Y mae'r cythraul, megis llettywr yn y byd hwn, yn barod i'ch gwasanaethu chwi â phob mwythau a difyrrwch ac a ddymunoch chwi, ond y mae efe yn ysgrifennu 'r cwbl yn ei lyfr, a phan foch chwi yn ymadael (hynny ydyw, wrth eich marw) ef a ddwg yr holl gyfrif gar eich bron chwi, ac a rydd y cwbl yn eich saig chwi: ac yno y canlyn yr hyn y mae Duw yn ei addo i'r rhai bydol trwy'r Prophwyd AMOS, Eich llawenydd chwi, a'ch ca. neuan a droir yn oernad ac yn gwynfan, Amos 8. Ie, a mwy nâ hynny hefyd, oni byddwch chwi abl i dalu'r cyfrif, nid hwyrach i chwi gael clywed y farn ofnadwy arall a ddyweid Christ yn llyfr y Datc. Cymmaint ac yr ymogoneddodd hi ac y bu mewn mwythau, rhoddwch iddi y cymmaint arall o ofid a galar. Datc. 18.7.
[Page 273]33. Ac am hynny, i ddibennu y pwngc yma, a'r rhan gyntaf yma hefyd ynghylch gorwagedd ac oferedd; ni a allwn ddywedyd yn ddigon gwir gydâ'r Prophwyd Dafydd am yr hwn a fo a meddwl bydol gantho, Diau mai cwbl wagedd yw pob dyn byw; gan nad yw ei holl fywyd ef yn cynwys dim ond gwagedd, Psal. 39.5. Hynny yw, gwagedd ac oferedd yn y chwant sydd gantho i anrhydedd a goruchafiaeth, gwagedd yn ei gyfoeth, gwagedd yn ei ddifyrwch a'i lawenydd, gwagedd ymhob peth ac y mae ef yn gwneuthur mwya cyfrif o hono. Ac am hynny da y gallaf ddibennu â geiriau Duw trwy Esai, Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau oferedd, Es. 5.18. Y rheffynnau yma ydyw oferedd gorwag-clod, goruchafiaeth, parch, bonedd, tegwch pryd a gwedd, cyfoeth a golud, difyrrwch a llawenydd, a'r pethau eraill a grybwyllwyd o'r blaen: y rhai sy bob amser yn tynnu gydâ hwynt ryw bechod ac anwiredd. Ac o'r achos hwnnw y mae DAFYDD yn dywedyd wrth Dduw, Cas gennyti y rhai sy'n dal ar ofer wagedd, Psal. 31.6. Ac yn ddiweddaf, o'r achos yma y mae'r ysbryd glân yn adrodd yn gyffredinol am bob dyn, Gwyn ei fyd y gwr ni thry at oferedd, ac ynfydrwydd twyllodrus y byd hwn, Psal. 40. Lat.
34. Weithian gan hynny dyma fi yn dyfod at yr ail rhan o'r bennod yma, ac i ddangos nad yw'r byd hwn a chwbl ac sydd iw gael ynddo, yn wagedd ac oferedd yn vnig, ond gydâ hynny yn hûd ac yn siommedigaeth, (fel y mae Christ yn dywedyd am dano) am nad ydyw (mewn gwirionedd) yn cwplau ac yn cy wiro a'r rhai sy'n glynu wrtho, mo'r oferedd coeg diwres y mae'n ei addaw iddynt. Ac yn hynny y gellir cyffelybu'r byd i'r twyllwr cyrrith anniolchgar Laban, yr hwn a wnaeth i Iacob druan ei wasanaethu ef saith mlynedd am ei ferch lân Rachel, ac [Page 274]yn y diwedd ai twyllodd ef a'i ferch ddiffaith anhawddgar Leah. A pheth am yr addewidion gau y mae'r byd yn ei wneuthur beunydd? I vn y mae 'n addaw hiroes a hir iechyd, ac a'i tyrr ef ymaith ynghanol ei ddyddiau. I arall y mae'n addaw cyfoeth mawr a goruchafiaeth, ac yn ôl hir wasanaeth, nid yw yn cywirio vn gronyn ag ef. I arall y mae'n addo anrhydedd mawr wrth dreulio'n helaeth, ac yn rhith hynny y mae yn ei ddwyn ef i ddirmyg trwy dlodi. I arall y mae'n addo codiad mawr wrth briodas, ac etto ni wna fe mo hono byth yn abl i gael yr hyn y mae'n ei ddymuno. Ewch tros yr hollfyd, edrychwch ar y gwledydd, a'r taleithiau, a'r dinasoedd; gwrandewch wrth ddrysau a ffenestri tai 'r deiliaid, a llysoedd y brenhinoedd, a'i staselloedd dirgel cyfrinachol; ac ni chewch na gweled na chlywed dim ond achwynion tostur gan bob dyn, y naill am ei golled, y llall am na bai yn ynnill, a'r trydydd am nad yw yn cael a'i bodlono, a deng mil am eu bod yn cael eu twyllo a'i siommi.
35. Pa dwyll fwy a all fod (i ddwyn i chwi esampl) nag addo i vn barch, a chael coffa am dano yn ei ol, fel y mae 'r byd yn addo i'r rhai sy'n ei wasanaethu ef; ac er hynny eu gillwng hwy yn angof er cynted y bônt feirw? Pwy sy yr awrhon yn cofio vn ym mysg deugain mil o wyr gwychion a fu yn y byd, yn gapteiniaid, yn rhyfelwyr, yn gynghoriaid, yn ddugiaid, yn ieirll, yn dywysogion, yn breladiaid, yn ymmerodron, yn frenhinoedd ac yn frenhinesau, yn arglwyddi ac yn arglwyddesau? Pwy meddaf, sy 'n eu cofio hwy? Pwy sy vnwaith yn meddwl nac yn sôn am danynt hwy yr awrhon? Oni ddarfu eu coff adwriaeth gyd a hwynt, a chydâ i trwst a'i rhodres, fel y dy weid y Prophwyd, Psal. 9.6. Ond cywir addewid JOB, y byddai eu coffadwria [...]th hwy yn gyffelyb i'r lludw a sethrir tan draed, Iob [Page 275]13.11. A DAFYDD, y byddent hwy fel y man vs a chwal y gwynt ymaith? llawer o wŷr a fu ym mlaen hyn, a gyfrifid yn wael ac yn ddisas iawn yn eu hamser: ac etto am eu bod hwy yn gwneuthur eu goreu ar fod yn anenwog yn y byd, am hynny y mae'r byd yr awrhon yn hyttrach yn eu cofio hwynt, ac yn anrhydeddu eu coffadwriaeth hwy. Ond llawer brenhin ac ymmerodr a fu yn ymegnio, ac yn gwneuthur eu goreu tros eu holl fywyd, am gael bod yn honnaid ac yn enwog yn y byd, ac etto yr awrhon hwy a ebargofiwyd oll. Ac felly y mae 'r byd yn hynny yn debyg (fel y dywaid vn) i lettywr cybydd, drwg ei gof, yr hwn os gwŷl efe vn o'i hên lettywyr yn dyfod heibio mewn cyflwr cardottyn, wedi treulio ei holl arian; efe a gymmer arno nad edwyn ddim o hono. Ac os rhyfeddu a wna'r truan wrth hynny, a dywedyd, iddo ddyfod yn fynych y ffordd honno, a threulio llawer o arian yn ei dŷ ef; y llettywr a ettyb, fe allai hynny fod, oblegid y mae cymmaint o ddynion yn myned heibio ffordd yma ac nad ydym ni yn cadw cyfrif yn y byd o honynt. Y ffordd i chwi i gael gan eich llettywr eich adnabod, (medd yr vn awdur) ydyw bod yn ddrwg wrtho, curwch ef yn dda, neu wnewch ryw lwyrgam ag ef, ac efe a'ch edwyn chwi tra fo byw; a mynych y son efe am danoch, pan foch chwi ym mhell oddiwrtho.
36. Aneirif yw siommedigaethau a ffuant y byd. Y mae efe'n edrych yn wŷch, ac yn dêg, ac yn hyfryd, yn y golwg oddiallan: ond os ni a'i teimlwn ef, nid yw efe ddim ond pluen: os ni a ddaliwn sulw arno, nid yw efe ond cysgod: os ni a'i pwyswn, nid yw efe ond mŵg: os ni a'i hegyr, nid yw efe ond delw wedi ei gwyngalchu, yn llawn hên garpiau a brattiau o'r tu mewn. Os mynnwchwi gael adnabod trueni a gofidiau 'r byd, rhaid i chwi fynd [Page 276]ychydig allan o honaw. Oblegid megis nas gall y rhai sy yn rhodio mewn niwl, weled y niwl cystal a'r rhai sy'n sefyll ar frynn ennyd oddiwrtho: felly y mae am adnabod y byd, yr hwn sy gnawd iddo ddallu y rhai a ddêl iddo, rhag iddynt weled eu cyflwr eu hun: fel y mae 'r gigfran yn gyntaf yn tynnu llygad y ddafad truan, ac felly yn peri iddi na allo weled diangc rhag ei chreulonder hi.
37. Pan ddarffo i'r byd vnwaith yspeilio'r bydol am ei olwg ysprydol, fel nas medro mwy farnu rhwng drwg a da, rhwng gwagedd a gwirionedd, yna y mae yn suo iddo, ac yn peri iddo gysgu mewn esmwythyd a difyrwch, ac yn ei rwymo ef yn dra melus, ac yn ei dwyllo ef yn hyfryd tros ben; ac yn ei boeni ef mewn heddwch a llonyddwch mawr: ac yn y man y mae gantho ysbryd balch i'w osod ef ar binacl chwant i anrhydedd, ac i ddangos iddo oddi yno swyddau, ac vchelfreiniau, a goruchafiaethau'r holl fyd. Y mae gantho vgain o farsiandwyr ffeilsion i ddangos iddo yn y tywyll, y pen blaen i frethynnau têg gwerthfawr, ond ni chaiff efe weled yr holl we frethyn, na'i dwyn i'r goleu i edrych arni: y mae gantho bedwar cant o brophwydi gau i wneuthur truth a gweniaith iddo, fel yr oedd gan Ahab, 1 Bren. 22. a rhei'ni sy raid iddynt luddias iddo wrando cyngor Micheas; hynny ydyw, rhag edrych yn ei gydwybod ei hun, yr hon a ddywaid iddo'r gwir: y mae ganddo fil o bysgodwyr cyfarwydd, i osod abwydydd hyfryd ger ei fron ef, ond bod bachau peryglus o'r tu mewn i bob vn o honynt. Y mae ganddo aneirif o buteiniaid Babilon, i gynnyg iddo ddiod mewn phiolau aur, ond bod y cwbl wedi ei gymmysgu â gwenwyn marwol, Datc. 17. Y mae ganddo ym mhob drws ryw Iael i'w ddenu ac iw hudo ef at laeth digrifwch a mwythau, ond bod gan bawb o honynt forthwylion a hoelion yn ei dwylo [Page 277]i'w daro yn ei arlais ef, ac i'w ladd, pan gaffont ef yn cysgu, Barn. 4. Y mae cantho ym mhob cornel ryw Ioab wenhieithus, i'w gofleidio ef â'r naill fraich, ac i'w lâdd â'r llall, a Suddas fradwr i'w fradychu ef â chusan. Yn ddiweddaf, y mae gantho bob math ar dwyll, a phob math ar ffuant, a phob math ar weniaith, a phob math ar frâd ac a fai bossibl ei ddychymmyg. Y mae'n casau 'r neb a'i caro, yn twyllo 'r sawl a ymddiriedo iddo, yn poeni'r rhai a'i gwasanaetho, yn dirmygu'r sawl a'i hanrhydeddo, yn dwyn i golledigaeth y sawl a'i canlyno, ac yn gollwng yn fwy tros gof, y sawl sy fwyaf eu poen a'i llafur trosto. Ac i dalfyrru'r pwngc yma, gwnewch cymmaint oll ac a alloch tros y byd yma, a cherwch ef, ac addolwch yn gymmaint ac y mynnoch; etto yn y diwedd chwi a gewch weled mai Nabal yn vniawn ydyw efe, yr hwn wedi iddo gael llawer o gymmwynasau gan Ddafydd, etto pan ddaeth ar Ddafydd ei eisieu ynteu, efe a attebodd, Pwy yw Dafydd? A phwy yw mab Iesse, fel yr adwaenwn i ef, 1 Sam. 25. Nid heb achos mawr wrth hynny, y dywedodd y Prophwyd DAFYDD, Oh feibion dynion, pa hyd y byddwch mor ddiddeall eich calon? yr hoffwch wegi ac yr argeisiwch gelwydd? Y mae efe yn galw 'r byd nid yn gelwyddog ond yn gelwydd, o herwydd maint ei hûd a'i dwyll, Psal. 4.2.
38. Y trydydd henw y mae ein iachawdr Christ yn ei roi i ddifyrrwch a golud y byd, ydyw eu bod hwy yn ddrain: am yr hyn y mae S. Grigor yn yscrifennu fel hyn,Hom. 5, in Euange. Pwy a'm credasai i byth pe buaswn i yn galw cyfoeth yn ddrain fel y gwnaeth Christ, gan fod drain yn pigo, a bod cyfoeth mor hyfryd? Ac etto yn siccr drain ydynt hwy, am eu bod hwy a phigau yr gofalus feddyliau sydd yn eu canlyn, yn rhwygo meddyliau y [Page 278]rhai bydol, ac yn tynnu gwaed o honynt. Wrth y geiriau hynny y mae r gwr duwiol yn arwyddoccau, mai megis na ddichon corph noeth dyn a dreigler ac a dafler ym mhlith llawer o ddrain, na chaffo ei rwygo, a'i ddryllio, a'i wneuthur yn waedlyd gan eu pigau hwynt: felly nis gall enaid y gwr bydol a gurer gan ofalon a meddyliau'r fuchedd hon, nas caffo ei flino gan eu hanorphwys bigiadau hwynt, ac nas archoller ef gan lawer o demptasiwnau pechod a fo yn cyfarfod ag ef. Hyn y mae Salomon yn ei arwyddoccau, yn y lleoedd a adroddwyd o'r blaen, lle y mae efe yn galw golud a difyrrwch y byd hwn, nid yn vnig yn wageddo wagedd, hynny ydyw, yn fwya' gwagedd ac sydd, ond hefyd yn orthrymder yspryd; gan ddwyn ar ddeallt i ni, pa le bynnag y mae'r gwagedd yma, a chariad arno wedi dyfod i mewn, nad oes yno ddim tangnefedd Dduw yr hwn sydd vwch law pob deall; nad oes yno ddim mwy esmwythdra a llonyddwch meddwl, ond rhyfel rhwng trachwantau, a blinder meddyliau, a thrallod gan ofn, a phigo gan ofalon, ac aflonyddwch enaid, yr hyn mewn gwirionedd nid yw ddim ond gofidus a thostur orthrymder yspryd. Preg. 1.
39. A'r rheswm o hyn ydyw, megis ac nas gall clocc byth sefyll yn llonydd heb gerdded tra fo'r pwysau ynghrog wrtho, felly nis gall gwr bydol a fo ac aneirif o ofalon, a meddyliau, a phetrusder ynghrog wrth ei feddwl, megis pwysau wrth y clocc, byth gael na llonydd nac esmwythdra, na dydd na nôs, ond bod yn ddir iddo guro ei ymmennydd, pan so eraill yn cysgu, er mwyn ceisio dyfod o hyd i'r coeg-bethau hynny, sydd yn ei drallodi ef. Oh faint o wyr goludog yn y byd sy 'n gwybod fod yn wir y peth yr wyfi yn ei ddywedyd yr awrhon! a maint o'r rhai chwannog i anrhydedd sydd yn ei wirio beunydd, ac etto ni fedrant ymadael ag ef!
[Page 279]40. O'r holl blaau a ddanfonwyd ar yr Aipht, blinaf a dygnaf oedd y bla wybed. Oblegid nid oedd y rhai'ni vn amser yn gadael i ddynion mor llonydd, ond pa mwyaf y curid hwy ymaith, mwyaf y cyrchent attynt hwy. Felly o'r holl ofidiau a'r blinderau y mae Duw yn eu dodi ar y rhai bydol, nid lleiaf hyn, eu bod yn cael eu poeni a gofalon am y pethau y maent yn eu cyfrif yn fwya dedwyddyd iddynt, ac heb allu mo'i gyrru ymaith er dim a fedront ei ddychymmyg. Mae'r gofalon hynny yn rhuthro arnynt hwy y boreu cyn gynted ac y deffroont o'i cwsg, ac yn aros gyd a hwynt ar hyd y dydd, ac nid ymadawant a hwynt y nos, ond y maent yn eu canlyn i'w gwelyau, ac yn lladdias iddynt gysgu, ac yn flin wrthynt yn eu breuddwydion; ac yn ddiweddaf, y maent yn debyg i'r rhai creulon hynny y mae Duw yn bygwth eu danfon ar yr annuwiol trwy'r Prophwyd Jeremi, Y rhai ni chair llonydd ganddynt, na dydd, na nos: a'r achos y mae Duw yn ei ddangos am hynny yn yr vn man yw hyn, Canys mi a gymmerais ymmaith fy heddwch oddiwrth y bobl hyn, medd yr Arglwydd, sef trugaredd a thosturi. Dyna farn drom i'r rhai sy dan iau a chaethiwed y gwagedd blin hynny. Jer. 16.13, 5.
41. Ond etto y mae 'r Prophwyd Esay yn portreiadu cyflwr y cyfryw ddynion, yn erchyllach o lawer, Y maent yn ymddiried mewn peth heb ddim, ac yn chwedlena am wagedd, yn beichiogi ar stinder ac yn esgor ar anwiredd; y maent yn deor wyau aspiaid, ac yn gwau gweoedd y pryf coppyn: yr hwn a fwyttao eu hwyau a fydd marw; a'r hwn a sathrer a dyrr allan yn wiber; eu gweoedd ni byddant yn ddillad, ac nid ymwisgant a'i gwaith; canys eu gwaith sy anfuddiol, a gwaith anwiredd sydd yn eu dwylaw, Es. 59.4. Lat. Dyma eiriau Esay, y rhai sy'n dangos i ni trwy gyffelybiaethau yn llawn o arwyddoccad, [Page 280]mor beryglus o ddrain ydyw cyfoeth a difyrrwch y byd hwn. Ac yn gyntaf y mae'n dywedyd eu bod hwy yn rhoi eu hyder ar bethau diddim, ac yn chwedlena am wagedd; i arwyddoccau ei fod efe yn meddwl am wagedd a gwag ddynion y byd hwn, y rhai a chwedleuant fynychaf am y peth y maent yn ei garu yn fwyaf, ac yn hyderu arno fwyaf. Yn ail y dyweid, eu bod yn beichiogi ar flinder, ac yn esgor ar anwiredd: trwy gyffelybiaeth o waith gwragedd yn esgor, y rhai yn gynta' sy'n beichiogi yn y grôth, ac yn ôl llawer o flinder, yn esgor ar eu plentyn: ac felly y mae y rhai bydol; yn ôl hir amser o flinder a llafur mewn oferedd a gwagedd, nid esgorant ffrwyth yn y byd, ond pechod ac anwiredd. Oblegid dyna ddiwedd yr oferedd a'r gwagedd hynny, fel y dywaid ef yn yr vn llyfr, gan weiddi ar y cyfryw ddynion, Gwae chwi y rhai a dynnwch anwiredd a rheffynnau oferedd, Esa. 5.18.
42. Ac etto, i hyspysu 'r peth yn oleuach, y mae'n dwyn dau gyffelybiaeth arall, gan ddywedyd, eu bod hwy yn deor wyau aspiaid, ac yn gwau gweodd y pryf coppyn; i arwyddoccau wrth y naill gyffelybiaeth mor ofer ac mor orwag ydyw gofalon bydol, ac wrth y llall mor beryglus, ac mor enbyd ydynt. Y mae'r prŷf coppyn, fel y gwelwn ni, yn cymmeryd poen fawr, ac yn llafurio tros lawer o ddyddiau ynghyd i wau ci we, ac yn y man, pan ddarflo iddo, fe ddaw chwa o wynt, neu ryw beth arall, ac a'i tyrr hi 'n gandryll. Fel y gwr yn yr Efengyl a gymmerasai lawer o boen a gofal, yn pentyrru cyfoeth ynghyd, yn tynnu i lawr ei hen ysguboriau, ac yn adeiladu rhai newydd; a phan ddaeth efe i ddwedyd wrth ei enaid Bydd lawen weithian, y nos honno y ducpwyd ei enaid addiarno, ac yr aeth ei holl boen ef yn ofer, Luc. 12. Ac am hynny y dywaid Esay yn y fan yma, nad a gweoedd [Page 281]y gwehyddion hyn yn ddillad, am fod eu gwaith hwy yn anfuddiol.
43. Y gyffelybiaeth arall sydd yn dangos y perygl mawr a'r ofn. Oblegid, fel y mae'r aderyn a eisteddo ar wiau neidr neu asp, wrth eu deor a'i torri hwy, yn esgor ar nythlwyth peryglus, i'w ddinistr ei hun: felly y mae y rhai sy yn eistedd ar oferedd a gwagedd y byd, megys ar wyau, medd Esay, yn deor o'r diwedd eu dinistr eu hun. A'r rheswm o hynny ydyw, fel y dywaid efe, Oblegid mai gwaith anwiredd sydd yn eu dwylaw. Lle y mae efe yn taro yn wastad ar yr vn tant, ac yn dangos nas gall dyn garu, a chanlyn yr oferedd yma, nac ymrwydo yn ei raffau (fel y mae'r ymadrodd) heb dynnu atto lawer o anwiredd â hwynt; hynny ydyw, heb fod ganddo ynghymmysg a hwynt lawer o bechod, a llawer o bethau i ddigio Duw: ac am fod hynny yn dyfod o bechod, ac yn lladd yr enaid, am hynny y mae Esay yn ei gyffelybu i nythaid o nadroedd yn lladd yr aderyn a'i dycco i'r byd. Ac yn ddiweddaf, y mae Moysen yn dwyn yr vn fath gyffelybiaethau, lle y mae efe yn dywedyd am ddynion ofer annuwiol, O win-wydden Sodom y mae eu gwinwydden hwynt; eu grawnwin sydd rawnwin bustlaidd, a'i grawnsyppiau sy chwerwon, Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt, a gwenwyn yr aspiaid, yr hwn nid oes help rhagddo, Deut. 32.32. Wrth y cyffelybiaethau erchyll ffiaidd hyn y mynnai efe i ni ddeall, nad yw pleser hyfryd y byd yma, ond siommedigaethau, ac y ceid gweled ryw ddydd chwerwed a pheryccled ydynt hwy.
44. Y pedwerydd peth y sy i ni i'w ystyried, yw dangos pa fodd y gellir gwirio nad yw'r byd hwn a'i ddedwyddwch ddim ond gofid, a blinder. Ac er bod hynny yn ddigon amlwg, wrth yr hyn a ddywetbwyd [Page 282]o'r blaen, etto (gan i mi addo) mi a'i hegluraf yma ychydig pellach wrth amryw ofidiau neillduol. Ac ym mhlith llawer o ofidiau a allwn ni eu cyfrif yma, y cyntaf ac vn o'r rhai mwyaf ydyw, fyrred ac ansiccred ydyw pob llwyddiant yn y byd hwn. Och Dduw, ond gofid mawr yw hynny i wr bydol a fynnai fod ei ddifyrrwch a'i lwyddiant yn ddianwadal, ac yn barhaus? Eccl. 41.1. Oh angeu, mor chwerw yw meddwl am danat ti (medd y gwr doeth) i'r dyn a fyddo yn byw mewn heddwch yn yr hyn sydd ganddo; i'r gwr a fyddo dihelbul, a llwyddiannus ym mhob peth: Ni a welsom lawer o wŷr yn cael codiad, ac heb parhau ddeufis yn eu llwyddiant: Ni a glywsom sôn am lawer a briodwyd mewn llawenydd mawr, ac heb gael byw wythnos yn eu dedwyddyd: Ni a ddarllennasom bethau dieither i'r defnydd yma, ac yr ydym ni beunydd yn gweled â'n llygaid lawer o esamplau o'r cyffelyb. Pa ddolur a gofid, dybygwch chwi, oedd i Alexander mawr, wedi iddo mewn deuddeng mhlynedd orchfygu y rhan fwyaf o'r holl fyd, orfod arno farw pan oedd chwannoccaf i gael byw; a phan oedd i gymmeryd y llawenydd a'r diddanwch mwyaf o'i orfodaethau? Pa dristwch oedd i'r gwr goludog yn yr Efengyl, glywed dywedyd wrtho yn ddisymwth, Hac nocte, Y nos hon y dygir dy enaid oddiarnat? Luc. 12. Pa drueni a gofid gan lawer rhai bydol a fydd hyn, pan ddel attynt; y rhai sy yr awrhon yn adeiladu palasau teg, yn prynu tiroedd, yn pentyrru golud, yn cyrhaeddyd vchelswyddau, yn gwneuthur thur priodasau, yn clymmu cyfathrachon, megis pe na byddai byth ddiwedd ar y pethau hyn? Pa ddiwrnod tostur fydd hwnnw iddynt (meddaf) pan orffo arnynt adael y cwbl y maent hwy 'r awrhon yn eu hoffi 'n gymmaint? Pan droer hwy heibio, fel y gwneir â mulod Twysogion, pan ddelont i ben eu [Page 283]siwrnai: sef yw hynny, tynnu 'r tryssor oddiarnynt, ac heb adael iddynt hwy ond y cefnau briwedig? Obledgid, fel y gwelwn ni 'r mulod hynny ar hyd y dydd yn cael eu llawnbwn o drysor ar eu cefnau, a'i hulio â brethynnau gwychion teg; ond erbyn y nôs yn cael eu troi i stabl ddrwg, wedi briwo a blingo eu cefnau yn dwyn y trysor hwnnw: felly y mae'r cyfoethogion sy'n ymdaith yn y byd hwn yn llwythog o aur ac arian, ac yn briwo eu cydwybodau yn ddrwg wrth eu dwyn hwy; yn cael dwyn eu llwyth oddiarnynt pan font feirw, a'i troi heibio, a'i cydwybodau cefnrhwd canthynt, i ystabl erchyll ffiaidd vffern a cholledigaeth.
45. Trueni a gofid arall sydd gyssylltedig a llwyddiant y byd, yw yr gwrthbwys trwm o anfodlonrwydd sydd yn canlyn pob difyrrwch bydol. Ystyriwch bob dyfyrrwch yn y byd, ac edrychwch pa saws a geir gyd ag ef. Gofynnwch i'r rhai a brofodd hynny fwyaf, ydynt hwy wedi cael eu bodloni, ai nad ydynt. Gydâ chyfoeth y daw llawer o ofn, a gofalon, fel y dangofwyd o'r blaen. Ynghyd a chodiad ac anrhydedd y mae pob math ar flin gaethiwed ac a ellir ei ddychymmyg: difyrrwch a phleser y cnawd, er ei fod yn gyfreithlon ac yn honest, etto y mae S. Paul yn ei alw yn flinder yn y cnawd: ond os bydd yn gyssylltedig a phechod, y mae pob math ar ofidiau yn ei ganlyn yn ddeng mil mwy. 1 Cor. 7.28.
46. Pwy a feidr gyfrif gofidiau, a blinderau ein corph ni? cynnifer o glefydon, cymmaint o wendid, cymmaint o aflwydd, cynnifer o beryglon, ac sydd iddo? Pwy a feidr gyfrif gwyniau ein meddyliau ni, y rhai fy 'n ein blino ni, weithiau a digofaint, weithiau a thristwch, weithiau a chynfigen, weithiau a chynddaredd ac a gwylltineb? Pwy a ŵvr rifo pob gwrthwyneb, a phob echrys sydd yn dyfod i [Page 278] [...] [Page 279] [...] [Page 280] [...] [Page 281] [...] [Page 282] [...] [Page 283] [...] [Page 284]ni oddiwrth ein da? pwy a ŵyr rifedi y niweidion a'r anfodlonedd fy'n digwyddo i ni beunydd oddiwrth ein cymydogion? y naill yn ein dwyn ni i gyfraith am ein gwirdda cywir, a'r llall yn crlyn arnom am ein bywyd: y trydydd trwy enllib yn dwyn ein henw da ni: un yn ein blino ni a chasineb, vn arall a chynsigen, vn arall a gweniaith, vn arall a thwyll, vn arall a dial, vn arall a cham dystiolaeth, ac vn arall a chyrch cyhoeddog ac a brwydr gyfaddef. Nid oes cymmaint o ddyddiau ac o oriau yn ein bywyd ni, ac fydd o ofidiau a gwrthwyneb. Ac ym mhellach na hyn, y mae i'r drwg y rhagorfraint yma yn hytrach nag i'r da, yn ein bywyd ni; sef gallu o vn peth drwg ddadymchwel a boddi aneirif o bethau da ar vnwaith: fel megys pettai gan wr bod math ar ddedwyddwch ac a ellid i gael yn y byd, a bod vn daint iddo heb fod yn ei hwyl; ni allai yr holl ddifyrrwch arall mo'i wneuthur ef yn llawen. Ac o hynny y mae i chwi esampl oleu yn Haman vn o bencyngor y brenhin Ahasuerus: yr hwn, am nad oedd Mordecai yr Iuddew yn codi ar ei draed iddo, pan elai heibio, ac yn ei anrhydeddu ef, fel yr oedd eraill, efe a ddywedodd wrth ei wraig a i garedigion, nad oedd ei holl ddedwyddwch arall ddim iddo, wrth hynny o wrthwyneb. Er maint gogoniant ei gyfoeth, ac amled ei feibion, a maint ei fawrhaad, a'i barch, a'i anrhydedd, a'i ragor, gyd a'r Brenhin a'r Frenhines, gorwch yr holl dywysogion, a gweision y Brenhin; ond (medd efe ei hun) nid yw hyn oll yn llessan i mi, tra fwyf fi yn g [...]eled Mordecai yr Inddew yn eistedd ym mhorth y Brenhin. Hest. 5.10.
47. Rhown at hyn hefyd y mawr echrys o dywyllwch [...]dallineb y mae y rhai bydol yn byw yntho (am yr hyn y crybwyllais beth o'r blaen) yr hwn a gyffelybir yn gymmwys iawn i dywyllwch yr Aipht, [Page 285]yrhwn a ellid ei deimlo, gan yr hwn nis gallai neb weled ei gymydog, na neb weled ei waith, na neb weled ei ffordd. a'r fath hynny fy ar y tywyllwch y mae y rhai bydol yn rhodio ynddo; Y mae ganddynt lygaid, ond ni welant, medd Christ: sef yw hynny, er bod ganddynt lygaid i weled matterion y byd hwn, etto y maent hwy yn ddeillion, am nad ydynt yn gweled y pethan a ddylent eu gweled yn sicer, Mat. 13. Y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth nâ phlant y goleuni, Luc. 16.8. Ond y callder hwnaw fydd ym mhethau 'r byd hwn, ym matterion y tywyllwch, nid ym matterion y goleuni, yr hwn nid ydynt blant iddo: am nad yw'r dyn cnawdol yn deall nac yn gwybod y pethau sydd o Dduw, 1 Cor. 2.14. Tramwywch tros yr holl fyd, ac chwi a gewch weled dynion cyn graffed eu golwg a'r eryr, mewn pethau daiarol; a'r vn rhai heb weled mwy na'r post, mewn pethau nefol. Ac o hynny y daw y peth tostur ei ystyried a welwn ni beunydd, sef bod yn gwneuthur cymmaint cyfrif o gyfreithiau dynion, a chymmaint o ddirmyg a diystyrwch ar orchymmynion Duw; a bod cymmaint o ymgais am dda bydol, ac heb feddylieid am y da nefol; a bod yn cymmeryd cymmaint o boen tros y corph, a chyn lleied o ofal tros yr enaid. Yn ddiweddaf, os mynnwch chwi weled faint y dallineb y mae'r byd yn byw ynddo, cosiwch fel yr oedd S. Paul, wrth fyned o wr bydol yn Gristion da, a chenn ar ei lygaid, y rhai a orfu i Ananias eu tynnu ymaith, a'r rhai oedd yn cuddio ei olwg ef o'r blaen, pan oedd efe yn ei falchder ac yn nenn y byd Act. 9.
48. Heb law'r gosidian hyn oll, y mae etto cchrys arall, yr hwn mewn rhyw beth, sy fwy na'r llall: a hwnnw yw y rhifedi aneirif o demptasiwnau, ac o saglau, ac o hudoliaeth sydd yn y byd, yn tynnu [Page 286]dynion beunydd i golledigaeth. Y mae Athanasius yn scrifennu am S. Anthon y meudwy, ddarfod i Dduw ryw ddiwrnod ddatguddio iddo gyflwr y byd, ac efe a welai'r holl fyd trosto yn llawn rhwydau, ym mhob cornel iddo, a chythreuliaid yn eistedd wrthynt, i'w gwilied hwy. Y mae 'r Prophwyd Dafydd hefyd, i arwyddoccau 'r vn peth, sef bod cymmaint o faglau yn y byd hwn, yn dywedyd, Y glawia Duw ar yr annuwolion fag lau: hynny yw, efe a ddioddef i ddynion pechadurus syrthio mewn maglau: ac y mae y rhai hynny mor aml yn y byd, ac ydyw'r defnynnau glaw sydd yn syrthio o'r nefoedd, Psal. 11.6. Y mae pob peth gan mwyaf yn fagl angeu i'r dyn cnawdol calon-llaes: pob golwg a welo, pob gair a glywo, pob meddwl a feddylio, ei ieuengtid, ei oedran, ei garedigion, ei elynion, ei barch, ei ammharch, ei gyfoeth, ei dlodi, ei gwmpniaeth, ei hawddfyd, ei adfyd, ei fwyd y mae'n ei fwytta, ei ddillad am dano: y mae pob peth yn fagl i dynnu i ddistryw y neb ni bo gwiliadwrus.
48. Ac o hyn yma ac o'r dallineb a ddywetpwyd o'r blaen, y daw 'r echrys diweddaf, a mwyaf o gwbl ac a all fod yn y bywyd yma; a hynny ydyw, hawsed gan y rhai bydol redeg mewn pechod. Oblegid gwir a ddywaid yr Scrythur lân, Pechod yw'r peth sy'n gwneuthur y bobl yn ofidus, Dihar. 14.34. lat. Ac etto mor hawdd gan bobl y byd bechu, a lleied matter ganthynt am bechu, y mae Job yn dangos, lle y mae efe yn dywedyd, wrth sôn am y cyfryw ddyn, ei fod efe yn yfed anwiredd fel dwfr, Job 15.16. hynny ydyw, mor hawdd, ac mor gynnefin ac mor esmwyth y mae efe yn gwneuthur pob pechod ac a ddêl arno ei wneuthur; ac y mae dyn yn yfed dwfr pan fo arno syched. Y neb ni chretto yr hyn y mae lob yn ei ddywedyd, edryched ychydig [Page 287]wrtho ei hun, pa vn a wna 'r peth ai bod felly ai peidio: rhodied allan i'r heolydd, ac edryched ar weithredoedd dynion, a gweled eu hymarweddiad hwy; ac ystyried pa beth yr ydys yn ei wneuthur yn y sioppau, yn y neuaddau, yn y seneddau, yn y brawdleoedd, yn y palasau, ac ymmhob cyfarfod cyffredin; pa ddywedyd celwydd, pa enllibio, pa dwyllo sydd yno: ac efe a gaiff weled nad oes vn peth o'r pethau y mae dynion yn gwneuthur dim cyfrif o honynt, cyn lleied matter am ei wneuthur ac ydyw pechod; fo a gaiff weled gwerthu cyfiawnder, a gŵyro gwirionedd, a chwilydd wedi ei roi heibio, ac vniondeb yn cael ei ddiystyru: fo a gaiff weled bwrw 'r gwirion yn euog, a rhyddhau'r hwn a fo euog, a chodi'r annuwiol, a darostwng y duwiol: fo a gaiff lawer o ladron yn ei blodau, a llawer occrwr yn dwyn rhwyfg, a llawer mwrdriwr a chribddeiliwr yn cael ei berchi a'i anrhydeddu, a llawer o ffyliaid mewn awdurdod, a llawer rhai heb ddim ynddynt, ond eu bod ar lun dynion, yn cael, er mwyn eu harian, eu gosod mewn swyddau mawr, i lywodraethu eraill: fo a gaiff glywed allan o enau pob dyn gan mwyaf, wagedd, ac oferedd, a balchder; ac enllib, a chynfigen, a thwyll, a ffuant, a gwagsawrwydd, a gwammalrhwydd, a chelwydd, a thyngu, ac anudon, a chabledd: yn ddiwedda, fo a gaiff weled y rhan fwyaf o ddynion yn eu llywodraethu eu hunain wrth dynn en gwyniau eu hunain yn yr vn modd ac y mae anifeiliaid, nid wrth gyfraith cyfiawnder, a rheswm, a chrefydd, a rhinwedd dda.
50. Ac o hyn y canlyn y pummed pwngc y mae Christ yn ei ddangos yn y ddammeg hon, ac a addewais inneu ei draethu yma: a hwnnw yw, Bod serch ar y byd hwn yn tagu pob dyn y mae'r serch hynny yntho, o'i holl fywyd nefol ac ysprydol: am ei fod yn ei lenwi ef o yspryd gwir wrthwyneb i yspryd [Page 288]Duw. Y mae 'r Apostol yn dywedyd, Pwy bynnag sy heb yspryd Christ ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo Christ, Rhuf. 8.9. Ac mor wrthwyneb iw gilydd ydyw yspryd Christ ac yspryd y byd, fe ellir gweled wrth ffrwythau yspryd Christ, y rhai y mae S. Paul yn eu rhifo at y Galatiaid, Gal. 5.22. sef yw y rhai hynny, Cariad, yr hwn yw gwreiddyn a mam pob gweithred dda; Llawenydd wrth wafanaethu Duw; Tangnefedd, neu lonyddwch meddwl ym mysg tymhestloedd y byd hwn; Dioddefgarwch mewn adfyd; Hirymaros, wrth ddisgwyl am ein gwobr; Daioni a chymmwynas-garwch, heb wneuthur niweid i neb; Cyweithasrwydd, mewn ymddygiad hawddgar; Mwyneidd-dra, pan roer achos i ddigio; Ffyddlondeb, yn cywiro ein haddewidion; Lledneisrwydd heb ryfyg; Ymattal oddiwrth bob drygioni; Diweirdeb, trwy gadw'r meddwl yn bur mewn co [...]ph glan difrycheu: Yn erbyn y rhai hyn, medd S. Paul, nid oes Cyfraith. Ac yn yr vn bennod y mae efe yn yspysu beth yw yspryd y byd wrth ei wrthwyneb ffrwythau, gan ddywedyd, Amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw Torri priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, delw-addoliaeth, swyngyfaredd, casineb, cynnhennau, gwynfydau, llid, ymryson, ymbleidio, haeresian, cynfigennau, llofruddiacth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i'r rhai hyn; am y rhai yr wyf yn rhagddywedyd wrthych, megis ac y rhagddywedais, na chaiff y rhai sy'n gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Duw. Gal. 5.19.
51. Yma y gall pob dyn farnu am yspryd y byd ac yspryd Christ, ac wrth ei fwrw atto ei hun ef a all wybod amean pa vn o'r ddau sydd yntho, ai 'r naill ar llall. Y mae S. Paul yn rhoi i ni ddwy reol dlysion fyrrion, yn yr vn man i brofi hynny. Y gyntaf yw hon, Y rhai sy'n eiddo Christ a groes-hoeliasant [Page 289]y cnawd, a'i wyniau, a'i chwantau, Gwers. 24. Hynny ydyw, y maent hwy wedi marweiddio eu cyrph eu hunain yn gystal a'i bod yn ymdrech yn erbyn yr holl feiau a'r pechodau a ddywetbwyd o'r blaen, ac heb ymroi i wasanaethu eu trachwantau a'i temptasiwnau hwy. Yr ail rheol yw hon, Os ydym yn byw yn yr yspryd, rhodiwn hefyd yn yr yspryd, Gwers. 25. Hynny ydyw, bod ein hymddygiad ni a'r modd y bom ni yn rhodio yn arwyddo pa vn ydym ni ai byw ai meirw. Oblegid os bydd ein hymarweddiad ni a'n gwaith yn rhodio, yn ysprydol, sef yn gyfryw ac y dangosais o'r blaen wrth ffrwythau 'r yspryd, yna 'r ydym ni yn byw yn yr yspryd, ac y mae ein bywyd ni yn ysprydol: ond os ein gweithredoedd ni a fydd cnawdol, sef yn gyfryw ac y dangosodd S. Paul fod gweithredoedd y cnawd, yna cnawdol ydym ni, a meirw yn yr yspryd, ac nid oes i ni a wnelom â Christ, na chyfran yn nheyrnas nef. Ac am fod yr holl fyd yn llawn o'r gweithredoedd cnawdol hynny, ac heb ddwyn dim ffrwythau o yspryd Christ, nac yn gadael iddynt na thyfu na ffynnu ynddo, am hynny y mae'r Scrythur lan bob amser yn gosod Christ a'r byd megis yn elynion gwrthwyneb i'w gilydd.
52. Y mae Christ ei hun yn dywedyd, Na ddichon ybyd dderbyn yspryd y gwiri [...]nedd, Joan 14.17. A thrachefn yn yr vn Efengylwr y dywaid, Nad oes nac efe, nac yr vn o'r eiddo ef o'r byd hwn, er eu bod yn byw yn y byd, Jo. 15.19. Ac etto ym mhellach yn ei daerddrud weddi at ei dad y dywaid, Y Tâd cyfiawn, y byd nid adnabu mo honot ti, Jo. 17.16, 25. Ac o'r achos hynny y mae S. Joan yn scrifennu: O char neb y byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef, 1 Ioh. 2.15. Ac etto ym mhellach y dywaid S. laco, fod pwy bynnag ni wnêl ddim ond ewyllysio bod yn gyfaill i'r byd, ei fod ef yn elyn i Dduw, Iag. 4.4. [Page 290]Beth a ddywaid y rhai bydol wrth hyn? Y mae S. Paul yn dywedyd yn oleu y demnir y byd hwn, 1 Cor. 11.32. Ac y mae Christ ynteu yn bwrw at yr vn peth yn Efengyl Joan, ond yn fwyaf o gwbl, yn ei weithred ryfeddol, pan fu iddo wrth weddio at ei dad am bethau eraill, ddywedyd, Non pro mundo rogo, Nid wyfi yn gofyn na thrugaredd na maddeuant tros y byd, ond i'r rhai a roddaist ti i mi allan o'r byd, Io. 17.9. Och, mor ofnadwy yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, nad ocdd efe yn gweddio tros y byd, ac ynteu yn Iachawdr i'r byd, ac yn oen Duw yr hwn sy'n dileu pechodau 'r byd, ac yn gweddio tros ei arteithwyr a'r rhai a'i croes-hoelient, ac etto 'r awrhon yn dieithro'r byd oddiwrth ei drugaredd! Oh nad ystyriai y rhai bydol y pwngc yma yn vnig, ac ni fucheddent hwy, yn fy nhŷb i, mor ddiofn ac y maent!
53. A all neb, wrth hynny, ryfeddu pa ham y mae S. Paul yn gwaeddi mor ofalus arnom ni, Na fyddwch vn ddull â'r byd hwn, Rhuf. 12.2. A thrachefn, ar fod. i ni ymwadu ac ymwrthod a holl chwantau'r byd, Tit. 2.12. A all neb ryfeddu pa ham y mae S. Ioan, yr hwn a wyddai gyfrinach a meddwl sanctaidd Christ yn y peth yma yn oreu o gwbl, yn dywedyd wrthym ni mor ddifrif, Na cherwch y byd, na'r pethau sy yn y byd, 1 Ioh. 2.15. Ac oni allwn ni na charu 'r byd, na chymmaint â bod yn vn ddull ag ef, tan boen bod yn elynion i Dduw, ac yn euog o ddamnedigaeth dragywyddol, fel y dywetpwyd o'r blaen: pa beth a ddaw o'r dynion hynny sydd nid yn vnig yn eu gwneuthur eu hunain yn vn ddull a'r byd, ac a'i orwagedd: ond hefyd yn ei ganlyn ef, ac yn ymgais ag ef, ac yn rhoi eu pwys arno, ac yn gwario eu holl boen a'i trafel arno.
54. Os gofynnwch chwi i mi yr achos pa ham y mae Christ yn casau ac yn ffeiddio'r byd gymmaint, [Page 291]y mae S. Ioan yn dywedyd i chwi, mai am fod yr holl fyd yn gorwedd mewn drygioni; am fod yspryd y byd yn wrthwyneb i yspryd Christ, fel y dywetpwyd vchod; am ei fod yn dysgu balchder, a gorwagclod, a chwant i anrhydedd, a chynfigen, a dial, a malais, a digrif-chwant y cnawd, a phob math ar orwagedd ac oferedd, 1 Ioan. 5.15. a Christ ynteu o'r gwrthwyneb yn dysgu gostyngeiddrwydd, a llariciddra, a maddeu i'n gelynion, a dirwest, a diweirdeb, a hir-maros, a marweiddio'r corph a'i drachwantau, a dwyn y groes, a diystyru pob difyrrwch bydol; am fod y byd yn erlid y duwiol, ac yn mawrhau'r drygionus; am ei fod yn diwreiddio pob rhinwedd dda, ac yn plannu pob drwg; ac yn ddiweddaf, am ei fod yn cau'r drysau yn erbyn Christ pan guro, ac yn tagu ac yn mygu'r galon y bo yn ei meddiannu, Datc. 3.20.
55. Ac am hynny, i ddibennu y rhan yma gan fod y byd hwn fel y mae, mor orwag ac mor ofer, mor dwyllodrus, ac mor beryglus; gan ei fod yn elyn cyfaddef i Grist, a chwedi ei ysgymmuno a'i ddamno i bwll vffern; gan ei fod (fel y dyweid tad duwiol arall) yn arch trallod a thrafferth, yn ysgol gorwagedd, yn frawdle twyll, yn labyrinth pob amryfusedd; gan nad yw ddim ond ynialwch diffrwyth, a maes carregog, a gwâl fawlyd, a garwfor tymmhestlog; gan nad yw ond llwyn yn llawn drain, a gweirglodd yn llawn o nadroedd, a gardd dêg heb ddim ffrwyth ynddi, ac ogof yn llawn o ddreigiau gwenwynig angheuol; gan nad yw (fel y dangosais) ond ffynnon pob gofid ac echrys, ac afon o ddagrau, a chwedl dychymmyg yn llawn ffug, a gwallgof ac ammwyll hyfryd; gan nad oes yn llawenydd y byd hwn,Ep. 39. (fel y dywaid S. Awstin) ddim ond hyfrydwch a difyrrwch ffugiol gau, a gwir ârwder, a thristwch diammau, a [Page 292]phleser petrus, a llafur blinedig, ac esmwythdra ofnadwy, a gofid a thrueni tôst, a gobaith ofer o ddedwyddyd; gan nad oes ganddo ddim ynddo,Ho. 22. ad Pop. Antioch: (fel y dywaid S. Ioan aurenau) ond wylofain, a chwilydd, ac edifeirwch, a gwradwydd, a phruddder, ac esgeulusdra, a llafur a lludded, a dychrynfaau, a chlefydau, a pechodau, ie, a marwolaeth ei hun; gan fod esmwythder y byd yn llawn cyfyngder, a'i ddiogelwch heb sail iddo, a'i ofn heb achos o hono, a'i lafur heb ffrwyth oddiwrtho, a'i dristwch heb fudd oddiwrtho, a'i ddeisyfiadau heb ffynniant, a'i obaith heb na thâl na gwobr am dano, a'i ofid a'i drueni heb help rhagddynt; gan fod y drygau hyn, a mil ychwaneg yntho, ac nas gellir cael yn dim twrn da oddiwrtho; pwy a adawai ei stommi â'r cyfryw hudoliaeth, a'i hudo â'r fath oferedd yn ôl hyn? Pwy a ad i gariad ar goegbeth mor ddiddim ac ydyw'r byd, ei rwystro oddiwrth ardderchog wasanaeth Duw? A hynny allai fod yn ddigon i wr rhesymol, i ddangos nad yw y rhwystr yma ond rhy wann i attal neb rhag gwasanaethu Duw.
56. Ond etto, er mwyn cywiro fy addewid a wneuthum yn nechreuad y bennod hon, y mae gennyf air neu ddau etto, i ddangos pa fodd y mae i ni ochelyd perygl y byd hwn, a'i arfer a'i drin ef er llês a budd i ni ein hunain. Ac am y cyntaf, pa fodd y mae i ni ochelyd y peryglon, gan fod ynddo cymmaint o rwydau ac o faglau ac a ddywetpwyd o'r blaen; nid oes i ni vn ffordd i wneuthur hynny, ond gwneuthur fel y bydd yr adar yn gwneuthur i geisio gochel maglau peryglus yr adarwr: hynny ydyw, ymddyrchafu i fynu i'r awyr, ac felly hedeg vwch law'r holl faglau. Gwaith ofer yw tanu rhwyd yngolwg perchen adain, a'r peth a all ehedeg, Dih. 1.17. Yr yspiwyr aeth i Jericho, er maint o faglau a osododd [Page 293]y gelynion iddynt, etto hwy a ddiangasant rhag y cwbl am eu bod yn cerdded pennau 'r mynyddoedd medd yr Scrythur lan: ac ar hynny y mae Origen yn bwrw, pan yw yn dywedyd, nad oes vn ffordd i ochel peryglon y byd hwn, ond trwy rodio ar y mynyddoedd a chanlyn y prophwyd Dafydd, sydd yn dywedyd, Derchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd o'r lle y daw fy nghymmorth; a'm handdiffyn; i geisio gochel maglau'r byd hwn, Psal. 121.1. ac yna y gallwn ddywedyd gyda'r vn Dafydd, Ein henaid a ddiangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr, Ps. 124.7. Rhaid i ni ddywedyd gyda S. Paul, Ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd. Ac yna nid rhaid i ni ofni ond ychydig rhag dim twyll a pherygl sydd ar y ddaiar, Phil. 3.20. Oblegid, fel nad oes dim gobaith gan yr adarwr y gall ddal yr aderyn, oni all ei hudo ef ryw fodd i ddisgyn ar y ddaiar; felly nid oes modd yn y byd i'r cythraul i'n rhwydo ninnau, ond trwy ddwedyd wrthym ni fel y dywedodd wrth Ghrist, Bwrw dy hun i lawr; sef yw hynny, disgyn ar yr abwyd a osodais i ti: bwytta ac ŷf hwynt: bwrw dy serch arnynt: blysia hwynt; a'r cyffelyb. Mat. 4.
57. Y sawl a fynno ochel y tentasiwn goleu yma, trwy ddiystyru hudoliaeth yr abwyd hwnnw: trwy chedeg trostynt; trwy osod cwbl o'i serch a'i feddwl ar fynyddoedd llawenydd nefol a thragywyddoldeb; fe fydd hawdd iddo ddiange oddiwrth bob perygl ac enbydrwydd. Yr oedd y brenhin Dafydd wedi myned trwyddynt hwy i gyd, pan ddywedodd efe wrth Dduw, Pa beth sy gennifi yn y nefoedd onid tydi? a pha beth a ewyllysiais ar y ddaiar gyda thydi? Pallodd fy nghnawd a'm calon o hiraeth am danat ti: Ti yw nerth fy nghalon a'm rhan (ô Dduw) yn dragywydd, Psal. 73.25.
[Page 294]58. Yr oedd S. Paul ynteu wedi myned trwy'r holl beryglon hyn, pan ddywedodd efe ei fod ef wedi ei groes-hoelio i'r byd, a'r byd iddo ynteu, a'i fod yn cyfrif holl gyfoeth y byd hwn yn dom: ac er ei fod yn byw yn y cnawd, etto nad oedd efe yn byw yn ôl y cnawd. A phe dilynem ni yr esampl ardderchog yma, trwy ddirmygu a diystyru gorwagedd ac oferedd y byd hwn, a gosod ein meddyliau ar ardderchog olud teyrnas Dduw, yr hon a ddaw; ni allai holl faglau'r cythraul ddim i'n herbyn ni yn y bywyd hwn, Gal. 6.14. Phil. 3.8. 2 Cor. 10.3.
59. Ynghylch yr ail pwngc, pa fodd y mae i ni arfer cyfoeth a golud y byd hwn er budd a mantais i ni ein hunain; y mae Christ wedi gosod y modd yn oleu gar ein bron ni, Gwnewch i chwi gyfeillion o'r golud anghyfion, Luc. 16.9. Fe allasai'r glŵth goludog ddiange rhag ei boeni, a'i wneuthur ei hun yn wr dedwydd, trwy help ei olud bydol, pes mynnasai; ac felly y gallai filoedd ac sy yr awrhon yn fyw, ac a ant i vffern o achos eu golud. Och dduw na chymmerai ddynion rybudd, a bod yn gall, tra caffont amser. Y mae S. Paul yn dywedyd, Na thwyllwch mo honoch eich hunain; y peth a hauo dyn, hynny a fed efe, Gal. 6.7. Pa gynhauaf cnydfawr wrth hynny, a allai wyr cyfoethogion ei ddarparu iddynt eu hunain, pes mynnent, a hwythau a chymmaint ô hâd ganddynt, a chymmaint o dir i'w hau ynddo yr ydys yn ei gynnyg iddynt bennydd? Pa ham na feddyliant hwy am yr byfrydgân gynhauaf yma? Deuwch chwi fendigedigion fy Nhâd, etifeddwch y deyrnas a barottowyd i chwi; canys mi a fum newynog, a chwi a roesoch i mi fwyd, mi a fum sychedig a chwi a roesoch i mi ddiod: mi a fum yn noeth, a chwi a'm dilladasoch i, Mat. 25.34. Ac onid oes ganthynt fatter am hynny, pa ham nad ydynt [Page 295]hwy yn ofni y farn ofnadwy a gyhoeddir yn eu herbyn am y gwrthwyneb; Iddo 'n awr, chwi gyfoethogion, wylwch ac vdwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch? Jac. 5.1.
60. Y mae 'r Tad duwiol Ioan o Ddamascus yn adrodd dammeg o'r eiddo Barlaam, i'r perwyl yma. Yr oedd rhyw ddinas neu wlad, medd efe, lle'r arferai'r bobl o ddewis brenhin arnynt of fysg y rhai tlottaf o'r bobl, a'i ddyrchafael i anrhydedd mawr, a golud, a hyfrydwch tros amfer; ond yn ôl ennyd o amser, pan flinent arno, eu harfer oedd gyfodi yn ei erbyn a'i yspeilio am ei holl ddedwyddwch hyd yn oed y dillad oddiam ei gefn, ac felly i yrru ef yn wr deol i ynys mewn gwlad bell; lle byddai raid iddo, gan na chai ddwyn dim gydag ef, fyw mewn trueni ac adfyd mawr, ac mewn caethiwed tôst yn dragywydd. A rhyw vn o'r brenhinoedd hynny ryw amser a ystyriodd yr arfer honno, (oblegid y lleill i gyd, er eu bod yn gwybod yr arfer, er hynny o herwydd eu hesgeulusdra a'i hyfrydwch presennol, ni wnaethant ddeunydd yn y byd o honi) a thrwy gyngor da, a fu ofalus am ochel y trueni a'r adfyd hwnnw, ac a wnaeth yn y modd yma: Efe a arbedodd swmm mawr o arian beunydd allan o'i ormodedd a'i oferdraul, ac felly a yrrodd drysor mawr yn ddirgel o'i flaen, i'r ynys yr oedd efe beunydd mewn perygl o gael ei yrru iddi. A phan ddaeth yr amser y bwriasant hwy ef allan o'i deyrnas, a'i droi ymmaith yn noeth, fel y gwnaethent â'r llaill o'r blaen; efe a aeth i'r ynys honno yn llawen iawn ac yn hyderus, lle yr oedd ei dryssor ef wedi ei yrru o'r blaen, ac a gasodd ei dderbyn yno mewn gorfoledd mawr, a'i osod yn y man mewn mwy o ogoniant a pharch nag y bu [...]i ynddo erioed o'r blaen.
[Page 296]61. Y mae 'r ddammeg ymma yn tynnu yn agos at yr hon a adroddodd Christ am y goruchwiliwr drwg afradlon, ac y mae yn dysgu i ni gymmaint ac fy raid ei ddywedyd ar hyn o amser yn y pwngc yma. Oblegid, y ddinas neu'r wlad hono yw'r byd presenol hwn, yr hwn sydd yn codi rhai tlodion i awdurdod; sef yw hynny, cyfryw rai ac a ddaethant yn noethion i'r bywyd yma, ac sydd yn ddisymwth, pan font yn meddwl leiaf am hynny, yn cael eu tynnu i lawr drachefn, a'i gyrru yn noethion iw beddau, ac felly eu danfon i fyd arall, lle ni chant ond ychydig ffafor, oni ddygant dryssor gyda hwynt, call sydd yn darparu ym mlaen llaw rhac y gofid hwnnw, yw'r hwn, yn ôl cyngor Christ, sydd yn gwneuthur ei oreu ar ro [...] tryssor i gadw yn y nef erbyn dydd ei farwolaeth, pan fo dir iddo gael ei ddeol oddiyma yn noeth, fel y gwnaed â holl frenhinoedd y wlad honno: a'r amser hynny, os eu gweithredoedd da fydd yn eu canlyn (fel y mae Duw yn addaw) yna y byddant hwy ddynion happus, ac y gosodir hwy mewn mwy o ogoniant o lawer, nag a allodd y byd erioed i roi iddynt. Ond os hwy a ddoant heb olew yn eu lampau, nid oes iddynt ddim iw ddisgwyl ond, Nid adwaen i mo honoch: a phan adwaener hwynt, Ewch felldigedig i'r tân tragwyddol. Datc. 14.13. Mat. 25.
PEN. IV. Am y pedwerydd rhwystr, yr hwn yw gormodd hyderu ar drugaredd Duw.
Y Mae rhyw fath ar ddynion yn y byd, y rhai ni chymmerant ddim poen i feddwl am y rhwystrau o'r blaen, nac i'w hadrodd; ond sydd ganddynt lwybr byrrach, ac esmwythach yn en tŷb hwy; a hwnnw yw, rhoi ewbl o'r peth ar gefn Christ, ac atteb i ba beth bynnac a ddyweder wrthynt, a'r vn ymadrodd hwn, Y mae Duw yn drugarog. Rhag y gwŷr hyn y gall Christ achwyn gyd a'r Prophwyd a dywedyd, Y pechaduriaid a adeiladasant ar fy nghefn i ac a ystynnasant en hanwiredd, Psal. 129.3. Lat. Wrth y geiriau hynny y gallwn ni weled bwrw arnom ni mai adeiladu ar gesn Duw yr ydym, wrth ystyn ein hanwireddau trwy obeithio cael trugaredd gan Dduw. Ond beth sy'n canlyn? A ddioddef Duw hynny? Na wna ddim: Oblegid dyma 'r geiriau syn 'n canlyn nessaf, Yr Arglwydd cysiawn a dyrr yddfau pechaduriaid. Ac yn y geiriau hynny y mae dau ddrwg ddamwain gwrthwyneb i'r ddau esmwythdyb o'r blaen. A oes yn dy fryd di oh ddyn, ystyn dy anwiredd, a pharhau yn dy bechod o herwydd bod Duw yn drugarog? Cofia ei fod ef yn gyfiawn hefyd, medd y Prophwyd. Wyt ti wedi myned ar gefn Duw, i wneuthur yno dy nŷth i bechu? Ymogel; oblegid ef a'th dynn di i lawr drachefn, ac a dyrr dy wddf di, oni edifarhei di: oblegid mewn gwirionedd, ni ellir gwneuthur mwy cam â Duw na dywedyd mai efe yw sail ein drwg fywyd ni a'n pechod, ac ynten wedi colli ei fywyd ei hun er mwyn diffodd pechod.
[Page 298]2. Ond chwi a ddywedwch; Onid ydyw Duw wrth hynny yn drugarog? Ydyw yn wir (frawd anwyl) y mae Duw yn dra thrugarog, or fath drugaroccaf, ac nid oes na diben na mesur ar ei drugaredd ef. Trugaredd ei human ydyw efe; ei naturiaeth ef ai hanfood yw trugaredd, ac ni all efe beidio a bod yn drugarog, mwy na pheidio a bod yn Dduw. Ond er hynny, fel y dywed y Prophwyd o'r blaen, y mae efe yn gyfiawn hefyd. Ni wasanaetha i ni feddwl cymmaint am ei drugaredd ef a gollwng ei gyfiawnder ef yn angof. Y mae ein Harglwydd ni yn ddaionus ac yn fwynaidd, ond er hynny y mae efe yn vnion ac yn gyfiawn hefyd, medd Dafydd: ac yn yr vn man, Holl lwybrau'r Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionded. Ac wrth esponi y geiriau hyn,Ser. 52. parnorum. y mae Bernard dduwiol mewn rhyw bregeth, yn dywedyd fel hyn; Y mae dau droed i'r Arglwydd, ac â'r rhei'ny y mae efe yn cerdded ei ffyrdd; a'r ddeudroed hynny yw trugaredd a gwirionedd; ac y mae Duw yn gosod y ddeudroed hyn ar galonnau y rhai a ymchwelant atto ef, ac y mae yn rhaid i bob pechadur a dro yn ddiffuant at yr Arglwydd, ymaflyd yn dynn yn y ddeudroed yma. Oblegid pe mewn trugaredd yn vnig yr ymaflai efe, a gadael heibio wirionedd a chyfiawnder, ef a ai i golledigaeth trwy ormodd hyder: ac o'r tu arall, ped ymaflai ef mewn cyfiawnder yn vnig, heb drugaredd; efe a ai i golledigaeth trwy anobaith. Am hynny, i gael bod yn gadwedig, y mae yn rhaid iddo gwympo i lawr yn ostyngedig, a chusanu'r ddeudroed hyn; fel y gallo, o achos cyfiawnder Duw, ddal ofn gantho; ac o achos ei drugaredd ef, gymmeryd gobaith. Ac mewn mann arall y dywaid, Dedwydd yw'r enaid y gosododd yr Arglwydd Jesu Grist ei ddeudroed arno.Ser. 6. in Cant. Ni chanaf [Page 299]i ti farn yn vnig, na thrugaredd chwaith yn vnig, (oh fy Nuw) ond mi a ganaf i ti gydâ'r Prophwyd Dafydd, drugaredd a barn ynghyd: ac nid anghofiaf byth dy gyfiawnderau hynny, Psal. 101.1.
3. Y mae Sainct Awstin yn trin y pwngc yma yn dra godidog mewn amryw fannau o'i waith. Ystyried y rhai sy yn hoffi trugaredd a mwyneidd-dra'r Arglwydd yn gymmaint, ystyriant, meddaf ac ofnant ei gyfiawn de [...] ef hefyd. Oblegid fel y dywaid y Prophwyd, y mae Duw yn fwynaidd ac yn gyfiawn, Psal. 25.10. Psal. 145.17. Ai da gennyti ei fod ef yn fwynaidd? Ofna hefyd ei fod yn gyfiawn. Megis Arglwydd mwynaidd y dywedodd efe, Mi a dewais â sôon wrth eich pechodau chwi; ond megis Arglwydd cyfiawn y dywaid ef, Y dych chwi yn tybiaid y tawafi byth, Psa. 50.21. Y mae Duw yn drugarog ac yn llawn trugaredd, meddwch chwi; a siccr iawn yw hynny; ie, ac yn anghwaneg i hynny, y mae ef yn cyd-ddwyn yn hir, ac yn ymarhous: ond er hynny, ofnwch yr hyn sy yn niwedd y wers honno, Et verax, sef yw hynny, y mae efe yn vnion ac yn gyfion hefyd. Y mae dau beth y mae ar bechaduriaid berygl oddiwrthynt; y naill, rhag gobeithio gormodd, yr hyn yw gormodd hyder; a'r llall, rhag gobeithio rhy fychan, yr hyn yw anobaith. A phwy yw'r hwn a dwyllir trwy obeithio gormodd? yr hwn sy'n dywedyd wrtho ei hun, Y mae Duw yn Ddaw daionus, ac yn Dduw trugarog; ac am hynny mi a wna'r peth a fynnwyf fy hun. A pha ham hynny? Amfod Duw yu Dduw trugarog, yn Dduw daionus ac yn Dduw addfwyn rhywiogaidd. Y rhai hyn sydd mewn perygl wrth obeithio gormodd. A phwy yw y rhai sy mewn perygl trwy anobaith, a gobeithio rhy fychan? Y rahi sy'n gweled eu pechodau vn dost ac yn orthrwm, ac yn tybieid fod yn ammhossibl iddynt bellach gael [Page 300]maddeuant, ac am hynny a ddywedant ynddynt eu hunain, wele, gan ein bod ni yn golledig, ac yn rhaid i ni fyned i vffern, pan waeth i ni er gwneuthur y peth a fynnom yn y bywyd yma? Y rhai hyn y mae anobaith ac anhyder yn eu llâdd, a'r llaill y mae gobaith a gormodd hyder yn eu distrywio. Pa beth gan hynny y mae Duw yn ei wneuthur i geisio ynnill y ddeufath hyn? wrth yr hwn sy mewn perygl trwy obeithio gormodd y dywaid, Na ddywed ynot dy hun, Mawr yw trugaredd Duw: ef a faddeu liosowgrwydd fy mhechodau i, oblegid y mae trugaredd a digofaint yn dyfod oddiwrtho ef, a'i ddigofaint ef a orphywys ar bechaduriaid, Eccles. 5.6. Ac wrth yr hwn sy mewn perygl o herwydd anobaith a gormodd hyder, y dywaid, Pa bryd bynnag y bo 'n edifar gan bechadur ei bechod, mi a ollyng af dros gôf ei holl anwiredd ef, medd yr Arglwydd, Ezec. 18.21, 22.Tract. 33. in Joan. A hyd yma y mae geiriau Sainct Awstin, heb law llawer ychwaneg y mae ef yn ei ddywedyd yn y fan honno, ynghylch mawr berygl ac ynfydrwydd y rhai sy o hyder ar drugaredd Duw yn parhau mewn buchedd annuwiol.
4. Rheswm gwan ac anrhesymol iawn, yw dywedyd, O herwydd bod Duw yn drugarog, ac yn hirymarhous, am hynny mi a gamarferaf ei drugaredd ef, ac a barhâaf yn fy annuwioldeb. Nid felly y mae'r Scrythur lân yn dysgu i ni ymresymmu, ond yn y gwrthwyneb yn vnion: fef fal hyn Y mae Duw yn drugarog, ac yn disgwyl i mi droi atto; a pho hwyaf y mae efe yn disgwyl wrthyfi, tostaf fydd ei ddial a'i gospedigaeth ef pan ddelo, os myfi a esgeulusaf ei ddioddefgarwch ef: ac am hynny mi a ddylwn yn ddiattreg dderbyn a chroesawu ei drugaredd ef. Felly mae Sainct Paul yn ymresymmu, ac yn dywedyd. Wyt ti yn diystyru glud ei ddaioni ef, a'i [Page 301]ddioddefgarwch, a'i ymaros? Oni wyddost ti fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch? Ond yr wyt ti trwy dy galedrwydd a'th galon ddiedifeiriol, yn trysori i ni dy hun ddigofaint, erbyn dydd y digofaint, a ddatguddiad cyfiawn farn Duw, Rhuf. 2.4, 5. Yn y geiriau hyn y mae Sainct Paul yn arwyddoccau mai po hwyaf y dioddefo Duw trwy ei hirymaros, i ni fyw yn ein hannuwioldeb, mwy yw'r pentwr dial y mae efe yn ei gasglu ynghyd i'n herbyn ni, os ni a barhawn yn gyndynniog yn ein pechodau. A chydâ hyn y mae Sainct Awstin yn ystyried peth arall ofnadwy ac arswydus iawn; a hynny yw, Os cynnyg ef i ti râs heddiw medd Sainct Awstin ni wyddost ti pa vn a wna efe ai ei gynnyg i ti yforu, ai nas gwna.Fract. 33, in Joan. Os rhydd ef i ti dy hoedl a'th gôf yr wythnos yma, ni wyddost ti pa vn a wnai ai cael ei fwynhau yr wythnos nesaf, ai nas cai.
5. Y mae 'r Prophwyd sanctaidd wrth ddechren 'r Drydydd Psalm ar ddeg a thriugain, lle mae efe yn dangos mor beryglus yw llwyddiant y rhai annuwiol; megis yn rhyfedd gantho, yn y geirian, Ob, Mor ddaionus yw Duw i Isracl, sef i'r rhai glan o galon, Psal. 73.1. ac etto yn yr holl Psalm nid yw efe yn gwneuthur dim ond dangos mor dost yw cyfiawnder Duw yn erbyn yr annuwiol, hyd yn oed yr amfer y bo efe yn rhoi iddynt fwyaf llwyddiant a golud bydol: ac fel hyn y mae efe yn diweddu, Wele, difethir y rhai a bellâant oddiwrthyt: torraist ymmaith bob vn a butteinin oddiwrthyt, Gwers. 27. Wrth yr hyn yr arwyddocceir, er daied fyddo Duw wrth y cyfiawn, etto nad yw hynny ddim ymwared i'r annuwiol, gan fod yn ddir iddynt dderbyn dial cyfiawn ar ei law ef, ynghanol y trugare ddau mwyaf a ddangoser i r rhai Duwiol. Y. mar llygaid yr Arglwydd ar y rhai cysiawn (medd yr vn [Page 302]Prophwyd) a'i glustian yn agored i'w llefain hwynt: and y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa hwy oddiar y ddaiar, Psal. 34.15.
6. Hen arfer prophwydi twyllodrus (yr hon a wrthwynebai Brophwydi Duw â'i holl egni) oedd lefain, Heddwch heddwch, wrth yr annuwiol: ie yr amser nad oeddid yn amcanu dim iddynt, ond perygl, a chleddyf, a distryw, fel yr oedd y gwir Brophwydi yn dywedyd iddynt, ac fel y digwyddodd, Jer. 6.14. Am hynny y mae 'r Prophwyd Dafydd yn rhoi i ni reol odidog sicer ddiammau, i lywodraethu ein gobaith a'n hyder â hi, Aberthwch ebyrth cyfiawnder, a gobeithiwch yn yr Arglwydd, Psal. 4.5. Ac a hynny y cyttuna Sainct IO. AN, pan yw yn dywedyd, Os ein calon a'n cydwybod ni 'n condemna am ein drwg fuchedd, y mae gennym hyder ar Dduw: fel pe dywedai vn, Os ein calon a fydd euog o fuchedd ddrwg annuwiol, a niunau wedi rhoi ein bryd ar barhau ynddi; yna ofer fydd i ni hyderu ar drugaredd Duw, a ninnau yn rhwym i gyfiawn farn Duw am ein hannuwioldeb. 1 Ioan. 3.21.
7. Y mae yn dra rhyfedd ac yn ofnadwy iawn ystyried, fel yr ymddug. Duw tu ac at ei garedigion euaf yn y byd, pan wnaent yn ei erbyn ef trwy bechu; mor hawdd y newidiai ef ei wynebpryd; mor fuan yr ymadawodd a'i cyfeillach; mor fanwl y cyfrisodd a hwynt; ac mor dôst y cospodd efe hwynt. Yr Angylion, y rhai a dangosasai efe cymmaint gofal a chariad yn eu creu, ac i'r rhai y rhoesai gynnifer o freiniau arbennig, o bob math ar berffeithrwydd, hyd oni wnaeth efe hwynt agos yn Dduwiau; ni wnaethant hwy ond vn pechod, Balchder, yn erbyn ei fawredd ef, a hynny ar feddwl yn vnig, fel y tybia'r deseinwyr; ae etto yn y man fe droed yr holl ewyllys da a'r cariad hwnnw yn gysiawnder, [Page 303]a hynny cyn dosted, ac y taslwyd hwy i lawr i boenau tragywyddol heb brynedigaeth, mewn cadwynau tragywydd, i ddioddef angerdd tân vffern, a thywyllwch annioddef. 2 Pet. 2.4.
8. Wedi hynny fe wnaeth Daw iddo ei hun gyfaill arall ogig a gwaed, yr hwn oedd ein tâd Addaf, ac a roes hwnnw ym mharadwys, lle'r oedd Duw megis yn cyttal ag ef, mor gariadus gyfeillgar, ac y mae'n dra rhyfedd ei ystyried: efe a alwai arno, ac a chwedleuai ag ef, ac a wnaeth holl greaduriaid y byd yn ddarostyngedig iddo; ef a'i dug hwy i gyd ger ei fron ef, fel y byddei iddo ef ac nid i Dduw, roi henwau arnynt hwy: ef a wnaeth iddo gymmar a phriod, ac a'i bendithiodd hwy ill dau; ac a ddangosodd bob arwydd o'i gariad tu ac atto, ac a allai fod. Ond beth a ddaeth ar ol hyn? Ni wnaeth Addaf ond vn pechod, a hwnnw trwy annog vn arall, ac heb fod o bwys mawr mo hono, fel y tybiai reswm dyn; dim ond bwytta o ffrwyth y pren gwaharddedig, ac etto er cynted y gwnaeth efe hwnnw, fe dorrodd cwbl o'r gyfeillach rhwng Duw ag ef, ac ef a wthiwyd allan o Baradwys, ac a ddamniwyd i ofid ac echrys tragywyddol a'i holl hiliogaeth i golledigaeth tragywyddol, ac ynteu hefyd, oni buasai iddo edifarhau. Ac mor dost y cyflawnir y farn honno, y mae yn ddigon amlwg wrth fod aneirif riallu o bobl, sef holl genedl dyn, yn cael am y pechod hwnnw eu taflu i lawr i anhydraeth boenau vffern: ond yn vnig yr ychydig hynny a brynwyd wedi hynny trwy ddyfodiad Mab Duw ei hun, yr ail berson yn y drindod, i wared o'r nef, i gymmeryd ryd cnawd dyn arno; a thrwy ei ddioddefaint annrhaethadwy ef a'i farwolaeth yn y cnawd hwnnw.
9. Yr oedd Moysen ac Aaron, dau ryfeddod y byd, mewn awdurdod oruchel a ffafor gyda Daw; yn gymmaint ac y gallent hwy gael pethau mawrion [Page 304]ar ei law ef iddynion eraill: ac etto pan ddigiasant hwy Dduw vnwaith eu hunain wrth ddyfroedd y gynnen yn anialwch Sin, am iddynt ammeu ychydig am y gwrthiau a addawsai Duw iddynt, ac felly dianrhydeddu ei fawredd of gar bron y bobl, fel y mae efe yn dywedyd; hwy a geryddwyd yn y man yn llyoun am hynny; ac er iddynt edifarhau o'i calonnau am y pechod hwnnw, ac felly cael maddeuant am y bai ar euogrwydd, etto fe roed arnynt gospedigaeth drom am dano: a hynny oedd, na chaent hwy eu hunain fyned i mewn i wlâd yr addewid, ond bod yn rhaid iddynt farw pan ddoent o few golwg iddi. Ac er iddynt ymbil â Duw yn daer ac yn ddifrif am gael maddeu 'r penyd hwnnw, etto ni fedrent mewn vn modd gael maddeuant ar ei law ef, ond efe ai hattebai hwy bob amser, Gan i chwi fy nianrhydeddu i ger bron y bobl, chwi a fyddwch feirw o'r achos, ac ni chewch chwi fyned i mewn i wlad yr addewid. Deut. 32.50, 51.
10. Ond mawr oedd ssasor Saul gydâ Duw, pan ddewisodd efe ef i fod yn frenhin cyntaf ar ei bobl; a pheri i Samwel y Prophwyd ei anrhydeddu ef yn gymmaint, a'i enneinio ef yn dywysog ar etifeddiaeth Duw ei hun, fel y mae efe yn ei galw hi? pan ganmolodd ef yn gymmaint, a chymmeryd gofal mor ddichlyn trosto? Ac etto wedi hynny, am iddo dorri gorchymmyn Duw, trwy gadw peth o anrhaith y rhyfel yr hyn a ddylasai efe ei ddistrywio; ie, er iddo eu cadw i wneuthur aberth i Dduw, fel y oedd efe yn cymmeryd arno: er hynny fe a'i rhoddes Duw of heibio yn y man, ac efe a ddifreiniwyd o'i anrhydedd, ac a roddwyd i fynu i yspryd drwg, ac a dducpwyd i aneirif o ofidiau ac aflwydd, er iddo ymdaro tros amser, ac o'r diwedd a wrthodwyd gan Dduw cyn belled, ac y bu iddo ei lâdd ei hun; ei feibion ef a groes-hoeliwyd neu a grogwyd [Page 305]wrth bren croes gan ei elynion; a'i holl deulu a' [...] heppil a diffoddwyd yn dragywydd, 1 Sam. 15. & 16.1 Sam. 31. 2 Sam. 21.6.
11. Yr oedd Dafydd yn gyfaill etholedig i Dduw, ac yn hôff ganddo, ac yn cael yr enw parchedig yma, sef ei fod yn gyfryw vn ac oedd wrth fodd calon Duw. Ond etto er cynted ac y pechodd ef, fe ddanfonwyd y Prophwyd Nathan i ddatgan ac i gyhoeddi trwm ddigofaint Duw, a chospedigaeth arno ef, 2 Sam. 12. Ac felly y bu, er iddo ymofidio, a'i ddarostwng ei hun yn ddirfawr am y pechod a wnaethai, Psal. 51. fel y gwelir wrth ei waith ef yn ymprydio, ac yn gweddio, ac yn wylofain, ac yn gwisgo sach-liain, ac yn bwytta lludw, a'r cyffelyb. Wrth yr hyn y mae'n amlwg, fod cyfiawnder Duw tu ac at y rhai sy 'n gwneuthur yn ei erbyn, yn gymmaint ac yw ei drugaredd ef tu ac at y rhai sy'n ei ofni.
12. Y mae 'r Scrythur lân yn llawn esamplau i'r defnydd yma, megis gwrthod Cain a'i droi ymmaith yn y man ar ol llâdd ei frawd, Boddi 'r holl fyd yn dosturus yn amser Noah; y difaedd ofnadwy a ddaeth ar Sodom a Gomorrah, a'r dinasoedd o'i hamgylch trwy dan a brwmstan; Bwrw Core, Dathan ac Abiram yn fyw i vffern, a llâdd deucant a deg a deugain o'r rhai a lynasai wrthynt, a llawer mil o'r bobl heb law hynny, am fod yn wrthryfelgar yn erbyn Moysen ac Aaron: Lladd Nadab ac Abihu meibion Aaron, ac offeiriaid etholedig mor ddisymwth, am offrwm tân dieithr ar yr allor vnwaith: Taro Ananias a Sappheira mor ofnadwy am ddarnguddio peth o werth eu da eu hun trwy dwyll, oddiwrth yr Apostolion: a llawer eraill o'r cyfryw esamplau, y rhai y mae 'r Scrythur lân yn eu hadrodd, Gen. 4. 8.18. & 19. Num. 16. Levit. 10. Act. 5.
13. Ac er bod yn ddigon amlwg wrth yr holl esamplau o'r blaen (yn y rhai y gwelwch mor dost [Page 306]yw pob vn o'r cospedigaethau) mor ddirfing yw cyfiawnder Duw, a thrymmed yw ei law ef pan ddisgyuno arnom ni; etto mi a addroddaf vn ychwaneg o weithredoedd Duw, allan o'r Scrythur lân, yr hon sydd yn egluro hynny yn rhyfeddol iawn. Fe wyddys yn dda mai Benjamin oedd y cuaf gan ei dad, o holl blant Jacob, fel y mae 'n amlwg yn llyfr Genesis, Gen. 42. & 43. ac am hynny yr oedd efe yn fawr gyda Duw, ac y gosodwyd ei lwyth ef yn y rhan orau o holl wlad yr addewid, pan rannwyd hi rhwng y deuddegllwyth, ac yr oedd yn y rhan honno Jerusalem, a Jericho, a'r dinasoedd goreu heb law hynny, Ios. 18. Etto er hynny i gyd, am vn pechod yn vnig, a wnaeth rhai o'r bobl gyffredin, ar wraig y lesiad; fe gospodd Duw yr holl lwyth yn y modd a'r dresn yma, fel y mae 'r Scrythur lan yn ei adrodd. Fe wnaeth i gwbl o'r vnllwyth ar ddeg eraill gyfodi yn eu herbyn hwy; a dyfod yn gyntaf i dŷ Dduw yn Silo, i ymgynghori ag ef, ac i wneuthur a archai ef yn y rhyfel honno yn erbyn eu brodyr: ac yna wedi iddynt hwy trwy archiad Duw ymladd dau faes a llwyth Benjamin, y trydydd dydd fe roes Duw iddynt orfodaeth cymmaint, ac y lladdasant hwy bob peth byw o fewn y llwyth hwnnw, ond chwechant o wyr yn vnig, y rhai a ddiangodd ymaith i'r anialwch; a chwbl o'r llaill a ladded, yn wr, ac yn wraig, yn ddyn bach, ac yn blentyn sugno, ynghyd a'r holl anifeiliaid a'r yscrubliaid; a'r holl ddinasoedd, a'r trefi, a'r tai, a losgwyd a thân. A hyn i gyd am vn pechod a wnaed vnwaith yn vnig, a hynny gydag vn wraig, Barn 20.
14. A phwy wrth hynny ni chyfaddef gyda Moysen, fod Duw yn Dduw cyfiawn, yn Dduw mawr, ac yn Dduw ofnadwy? Pwy ni chyfaddef gyda S. Paul, Mai peth of nadwy ydyw syrthio yn nwylo 'r Duw byw, Heb. 10.31. Pwy ni ddywaid gyda [Page 307] Dafydd sanct Mi a ddychrynais rhag dy farnedigaethau, Psal. 119.120. Onid arbedai Dduw ddistrywo 'r holl lwyth, am vn pechod yn vnig; oni faddeuai ef i Core, Dathan ac Abiram tros vnwaith; ac i feibion Aaron tros vnwaith; ac i Ananias a Sappheira tros vnwaith: oni faddeuai efe i Esau, er iddo wedi hynny geisio 'r fendith trwy ddagrau, fel y dywaid yr Apostol: Oni faddeuai efe gospedigaeth vn pechod i Foesen ac Aaron, er iddynt ei ofyn yn daer; oni faddeuai efe vn balch-feddwl i'r angylion; nac i Addaf fwytta vnwaith ô ffrwyth y pren gwaharddedig, heb gospedigaeth fawr; na gillwng y ewppan digofaint heibio i'w fab ei hun, er iddo ei ddymuno deirgwaith ar ei liniau, trwy chwysu 'r gwaed; pa reswm sy gennyt ti feddwl y gad ef dy bechodau di heb gospi, a hwythau gyn amled? Oes i ti achos yn y byd i feddwl y bydd efe cystal wrthyt ti, ac y paid ef a'i gyfiawnder er dy fwyn di? wyt ti yn wellgwr na 'r rhai a henwais i? Oes gennytti ragorfraint yn y byd oddiwrth Dduw, amgen nac oedd ganddynt hwy.
15. Ped ystyrit ti pa bethau eu maint a'i dieithred y mae cyfiawnder Duw yn eu dwyn i ben, fel y gwelwn ni beunydd yn y byd; ni byddai i ti ond ychydig achos i dybieid y cait ti cymmaint o ffafor gan Dduw, nac i wenhieithio i ti dy hun mor beryglus ac yr wyt ti. Yr ydym ni yn gweled er maint trugaredd Duw, ac er dioddef a marw o Grist ein lachawdr er mwyncadw 'r holl fyd; er hynny fod cynnifer myrddiwn o'r byd yn golledig beunydd, wrth gyfiawnder Duw; a chynnifer o rai anghredadwy, a chenedl-ddynion, ac Iuddewon, a Thurciaid, yn aros yn nhywyllwch eu hanwybodaeth eu hun: ac ym mhlith Christianogion cynnifer naill ai heb gadw eu proffess yn vnion ac yn gywir, ai yn byw yn ddrwgfucheddol yn eu proffess, fel mai gwir [Page 308]yw yr hyn a ddy wedodd Christ, mai ychydig fyddai y rhai a fydd cadwedig; er darfod talu ei farwolaeth ef tros bawb, oni byddai iddynt hwy eu gwneuthur eu hunain yn annheilwng o honi, Mat. 7.14. Ac ym mlaen dyfodiad ein Iachawdr, mwy o lawer y gwelwn ni fod yr noll fyd yn myned ar ŵyr i golledigaeth tros lawer mil o flynyddoedd ynghyd; oddieithr ychydig Iuddewon, y rhai oedd bobl Dduw. Ac etto yn eu plith hwythau hefyd, yr oedd y rhan fwyaf, (hyd y mae 'n gyffelyb) heb fod yn gadwedig, fel y gellir gwybod amcan wrth yr hyn a ddywaid y Prophwydi o amser i amser, Esay 9.27. ac yn enwedig wrth yr hyn a ddywedodd Christ wrth y Pharisaeaid, ac eraill o lywodraethwyr y bobl hynny. Am hynny ynteu, os gallai Dduw, er mwyn cyflawni ei gyfiawnder, adael i gynnifer myrddiwn o bobl fyned i golledigaeth trwy eu pechodau eu hun, fel y mae efe yn gadael beunydd etto; a hynny heb dorr nac argywedd yn y byd ar ei drugaredd; pa ham nas gall efe hefyd dy ddamnio di am dy bechodau, er maint ei drugaredd, a thitheu nid yn vnig yn eu gwneuthur hwy yn ddiofn ddiarswyd, ond hefyd yn parhau yn rhyfygus yn dy bechodau?
16. Ond yma y gall vn ddywedyd, Os felly y mae, fod Duw mor dost wrth gospi pob pechod, a'i fod yn damnio llawer mil am vn y mae yn ei gadw; pa fodd y mae yn wir, Fod ei drugaredd ef goruch ei holl weithredoedd, fel y dywaid yr Scrythur lân; a bod Trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn, ac yn rhagori arni, Psal. 145.9. Iac. 2.13. Oblegid os yw rhifedi y rhai damnedig yn rhagori cymmaint ar rifedi y rhai cadwedig, y mae 'n gyffelyb fod gweithredoedd cyfiawnder yn rhagori ar weithredoedd Trugaredd. I hynny yr attebaf, na allwn ni ammeu dim ynghylch lleied rhifedi y rhai [Page 309]cadwedig, ac anfeidrol rifedi y rhai colledig: oblegid, heb law 'r holl Brophwydi eraill, y mae ein lachawdr Christ wedi gwneuthur hynny yn ddigon siccr ddiammau, Mat. 7.14. Am hynny mae 'n rhaid i ni edrych, pa fodd, er hynny i gyd y mae Trugaredd Duw yn rhagori ar ei holl weithred oedd eraill ef.
17. Ac yn gyntaf, fe ellir dywedyd bod ei drugaredd ef yn rhagori, oblegid bod ein holl gadwedigaeth ni yn dyfod i ni o'i drugaredd ef, a'n colledigaeth oddiwrthym ein hunain; oblegid dyna ddau brif achos pob vn o'r ddau; yn ol yr hyn a ddywed Duw trwy 'r Prophwyd, Dy golledigaeth di, o Israel, sydd o honot dy hun, ond ynofi y mae dy gymmorth i wneuthur daioni, Hos. 13.9. Megis fel y mae 'n rhaid i ni gydnabod mai grâs Duw a'i drugaredd yw awdur pob meddwl da ynom ni, a phob gweithred dda a wnelom ni, ac wrth hynny bod yn rhaid i ni gyfaddef mai o hono ef y mae cwbl o'n lechydwriaeth ni: felly nid oes yr vn o'n drwg weithredoedd ni, o herwydd y rhai 'r ydym ni 'n golledig, yn dyfod o hono ef, ond yn vnig o honom ni ein hunain; ac felly nid ydyw efe achos yn y byd o'n colledigaeth ni. Ac yn hyn y mae ei drugaredd ef yn rhagori ar ei gyfiawnder.
18. Yn ail, y mae ei drugaredd ef yn rhagori, o herwydd ei fod ef yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig, fel y dywaid S. Paul, 1 Tim. 2.4. ac y mae ynteu ei hun yn tystiolaethu, gan ddywedyd, Nid wyfi yn ewyllysio marwolaeth pechadur, ond yn hytrach troi o hono oddiwrth ei anwiredd, a byw. A thrachefn trwy 'r vn Prophwyd, y mae efe yn cwyno yn dost, nad yw dynion yn derbyn ei drugaredd ef, pan y cynnygier iddynt, Dychwelwch, dychwelwch oddiwrth eich ffyrdd drygionus: canys, pa ham y byddwch feirw tŷ Israel, Ezec. 33.11. wrth yr hyn [Page 310]y mae 'n amlwg ei sod ef yn cynnyg ei drugaredd yn dra ewyllysgar ac yn rhad i bawb; ac nad yw yn arfer ei gysiawnder ond pan fo gwir anghenrhaid, a phan fo ein hymarweddiad cildynnus ni megis yn ei gymmell ef. Hyn y mae Christ yn ei ddangos yn oleuach, pan yw yn dywedyd wrth Ierusa [...]em, O Ierusalem, Ierusalem, yr hon wyt yn lladd y Prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonir attat, pa sawl gwaith y mynnaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl yr iar ei chywion tan ei hadenydd, ond nis mynnech chwi? Wele, am hynny yr ydys yn gadael eich ty i chwi yn anghyfannedd; ac yn ddiblant, Mat. 23.37. Yma y gwelwch gynnyg trugaredd Duw yn fynych i'r Iuddewon, ond am iddynt wrthod ei drugaredd ef, efe a gymmhellwyd (mewn modd) i ddatgan y farn drom yma o ddinistr anghyfannedddra arnynt hwy: yr hon a gyflawnodd efe o fewn deugain mhlynedd neu ddêg a deugain wedi, trwy ddwylo Vespasian ymmerodr Rhufain, Josephus de bello Judaico. Lib. 1. C [...]. 1. a Thitus ei fab: y rhai a lwyr ddinistriodd ddinas Jerusalem, a holl genedl yr Iuddewon, yr rhai a welwn ni heddyw wedi eu gwasgaru trwy 'r holl fyd, mewn caethiwed enaid a chorph. Ac er bod y weithred honno o gyfiawnder Duw yn dra ofnadwy, etto yr oedd ei drugaredd ef yn fwy tu ac attynt, fel y mae 'n amlwg wrth eiriau Christ, oni bai iddynt wrthod ei Fab ef.
19. Yn drydydd, y mae ei drugaredd ef yn rhagori ar ei gyfiawnder, hyd yn oed tu ac at y rhai collegid; oblegid iddo trwy lawer of foddion yn y byd hwn geisio eu gwneuthur hwy yn gadwedig, trwy alw arnynt, a'i cynnorthwyo hwy a'i râs i wneuthur daioni, a'i cynnhyrfu hwy oddifewn ag aneirif o ysprydoliaethau da, a cheisio eu denu hwy oddi allan ag amryw gynghorion, ac addewidion, ac [Page 311]esamplau rhai eraill: a chyda hynny trwy glefydon, a gwrthwyneb, a cheryddon esmwyth eraill; trwy roddi iddynt amser, ac achlysur, a chyfle, achyfamser, a llawer annog, i edifarhau; trwy fygwth marwolaeth dragywyddol iddynt, oni edifarhaant. Yr holl bethau hyn, gan eu bod yn weithredoedd trugaredd a daioni Duw tu ac at yr annuwiol, y mae 'n anghenrhaid iddynt gysaddef, ynghanol eu cynddaredd a'i poenau, fod ci farnedigaethau ef yn vnion, a chwedi eu cyfiawnhau ynddynt eu humain, ac nas gellir mewn vnmodd eu cyffelybu hwy i fawredd ei drugaredd ef.
20. Wrth hyn y gwelwn fod yn wir yr hyn a ddywaid y Prophwyd, Yr Arglwydd a gar drugaredd a gwirionedd. A thrachefn, Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarsuant; cysiawnder a heddwch a ymgusanasant, Psal. 85.10. Ni a welwn pa ham y mae 'r Prophwyd yn dywedyd am dano ei hun, Mi a ganaf am drugaredd a barn, o Arglwydd: nid trugaredd yn vnig, na barn yn vnig, ond trugaredd a barn ynghyd, Psal. 101.1. Hynny yw, ni ryfygaf eymmaint ar dy drugaredd, ac nad ofnwyf dy farn; ac nid ofnaf cymmaint ar dy farn, ac yr anobeithiwyf o'th drugaredd. Mae 'n rhaid i ni bob amfer gyssylltu ein hofn rhag barn Duw, ynghyd â'n hyder ar drugaredd Duw: ie, hyd yn oed yn y Sainct eu hunain, fel y dywaid Dafydd. Ond pa fath ofn? Yr ofn hwnnw, yr hwn y mae 'r Scrythur lan yn dangos pa fath ydyw, pan yw yn dywedyd fod ofn Duw yn gyrru ymmaith bechod; bod ofn Duw yn cassau pob drygioni; nad yw 'r hwn sy 'n ofni Duw yn esgeuluso dim; bod y sawl sy 'n ofni Duw yn troi ac yn edrych ar ei galon ei hun; bod y sawl sy 'n ófni Duw yn gwneuthur gweithredoedd da; bod y sawl sy 'n ofni Duw heb aughredu 'r hyn y mae efe yn ei ddywedyd, ond yn cadw ei ffyrdd, [Page 312]ac yn chwilio am y pethau a ryng bodd iddo; ac yn parottoi eu calonnau, ac yn sancteiddio eu heneidiau yn ei olwg ef, Dihar. 8.13.
21. Ac dyma bortreiad gwir ofn Duw, fel y mae 'r. Scrythur lan yn ei ofod ar lawr. Dyma bortreiad yr ofn hwnnw yr ydys yn ei ganmawl ac yn ei orchymmyn ym mhob rhan a chyfran o air Duw. Dyma bortreiad yr ofn yr ydys yn ei alw, ffynnon y bywyd, gwreiddyn synwyr, coron a chyflawnder doethineb, Gogoniant ac ymffrost Christion o ddyn, Rhodd ddedwyddol. Am yr hwn sy ar ofn yma gantho, y mae 'r Scrythur lan yn dywedyd, Gwyn ei fyd y gwr sy 'n ofni yr Arglwydd, oblegid y mae yn hoffi ei orchymmynion of yn ddirfawr, Psal. 1 12.1. A thrachefn, Yn y diwedd, da fydd i'r hwn a ofno yr Arglwydd, ac efe a fendithir yn ei ddydd diwedd, Eccl. 1.13. Yn ddiwethaf, am y rhai sy ar ofn yma ganddynt, y mae 'r Scrythur lan yn dywedyd, Mai Duw yw eu sail hwynt; a darfod i Dduw barottoi amlder o hyfrydwch iddynt; a darfod i Dduw brynu etifeddiaeth iddynt; a bod Duw 'n drugarog wrthynt, fel y mae tad yn drugarog wrth ei blant; ac i ddibennu, fod Duw yn gwneuthur ewyllys y rhai a'i hofnant ef a'r cyfryw ofn, Psal. 31.19. & 103.13. & 145.19.
22. Yr ofn sanctaidd yma oedd gan Job dduwiol, pan ddywedodd efe wrth Dduw, Mi a of nais fy holl ffyrdd. Ac y mae 'n dywedyd pa ham y gwnai efe hynny, Oblegid mi a wn nad arbedi di neb a wnelo i'th erbyn, Job 9.28. Lat. Yr ofn yma oedd yn eisiau yn y rhai y mae 'r Prophwyd yn dywedyd am danynt, Y pechadur a gythruddodd Dduw, trwy ddywedyd na chymmer Duw gyfrif o'i weithredoedd of, yn amlder ei ddigofaint. Symmudwyd dy farnedigaethau allan o'i olwg ef. A thrachefn, Pa ham y cyffroodd yr annuwiol Dduw, trwy ddywedyd, Ni [Page 313]ofyn Duw gyfrif am fy ngweithredoedd i, Psal. 10. Annuwioldeb mawr, yn ddiau, a chysfroi Duw yn fawr i'n herbyn, ydyw dwyn hanncr naturiaeth Duw oddi arno; a'i wneuthur ef yn drugarog heb fod yn gyfiawn: a byw fel pettai Dduw heb amcanu ceisio cyfrif am ein buchedd ni; ac ynteu mor dra difrif wedi dangos y gwrthwyneb, gan ddywedyd: ei fod ef yn wr dirfing tost, ac na bydd efe bodlon i gymmeryd yr eiddo ei hun drachesn, ond y mynn efe elw ac occr gyda 'r eiddo ei hun: y mynn efe gyfrif o'r holl dda a fenthygiodd ef i ni: y mynn efe ffrwyth o'i holl lafur a roes efe i ni; ac yn ddiweddaf, y mynn efe gyfrif o bob gair a ddywedasom ni. Mat. 25.27.
23. Y mae Christ yn y nawfed Psalm a thrugain, yr hon y mae efe mewn amryw fannau o'r Efengyl yn deongl mai am dano ef yr yscrifennwyd hi; ym myfg llawer o felldithion ofnadwy y mae efe yn eu rhoi i lawr yn erbyn y rhai gwrthodedig, yn datgan y rhai hyn, Tywyller eu llygaid fel na welont: tywallt dy ddig of aint arnynt; cyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt: dod ti anwiredd at en hanwiredd hwynt, ac na ddelont ith gysiawnder di: dileer hwynt allan o lyfr y bywyd, ac na 'sgrifenner hwynt gyda'r rhai cysiawn, Psal. 69.23, 24, 27. Yma y gwelwn ni, mai mwyaf melldith a ddichon Duw ei rhoi arnom ni, yn nessaf at ein tynnu ni allan o lyfr y bywyd, yw gadael i ni fod mor ddeillion a chyssylltu anwiredd at anwiredd, a bod heb ystyried ei gyfiawnder ef. Ac o'r achos hwnnw hefyd y mae 'r defeinwyr yn cyfrif pechu o hyder ar drugaredd Duw,Tho. 22.9.4.9.14. Ar. 1.2.3. yn gyntaf o'r chwe pechod trymion yn erbyn yr yspryd glan; y rhai y mae ein Iachawdr Christ yn yr Efengyl yn dangos bod mor anhawdd gan ei Dad eu madden. A'r rheswm pa ham y maent [Page 314]hwy yn cyfrif gormodd hyder ar drugaredd Duw, yn bechod yn erbyn yr Yspryd glan, yw hyn, sef am ei fod yn bwrw heibio ac yn gwrthod vn o'r moddion pennaf a adawodd yr Yspryd glan i'n tynnu ni oddi wrth bechod, nid amgen nag ofni cyfiawnder Duw ar bechaduriaid.
24. Ac am hynny, i ddibennu 'r matter yma ynghylch gormodd hyder ar drugaredd Duw, yr wyf fi yn tybieid y gallwn ni arfer yr vn fath reswm ynghylch ofni cyfiawnder Duw, ac y mae 'r Apostol Sainct Paul yn ei arfer at y Rhufeiniaid, am weinidogion Duw, y rhai yw 'r tywysogion bydol: A fynni di nad ofnech allu y llywodraethwr bydol, medd efe? gwna ddaioni ynteu, a thi a gai nid yn vnig fod heb ei ofni ef, ond hefyd ti a gai glod a chanmoliaeth gantho. Ond os gwnai ddrwg, ofna; canys nid ydyw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer, Rhuf. 13. Yn yr vn modd y gallwn ninnau ddywedyd wrth y cymdeithion hynny sy 'n gwneuthur Duw mor drugarog, ac na ddylai neb ofni ei gyfiawnder ef. A fynnech chwi, frodyr, na bai raid i chwi ofni cyfiawnder Duw yn cospi? Byddwch fyw yn dduwiol, a chwi a fyddwch mor ddiofn a llewod, fel y dywaid y gwr doeth, oblegid y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn, 1 Jon. 4.18. Ond os byddwch fyw yn annuwiol, yna y mae i chwi achos i ofni: oblegid nid am ei ham y mae Duw yn ei alw ei hun yn farnwr cyfiawn.
25. Pettei 'r peth mor ddiogel ac y mae llawer, trwy druth a gweniaith, yn peri iddynt eu hunain goelio ei fod; ni ddywedasai Sainct Petr byth wrth Gristianogion wedi eu bedyddio eusys, Ymddygwch mewn ofn, tros amser eich preswylfod daiarol, 1 Pet. 1.17. na Sainct Paul chwaith wrth yr vn rhai, Gweithiwch allan eich Iechydwriaeth eich hunain, drwy ofn a dychryn, Phil. 2.12. Ond yma y gofyn rhyw ddynion, [Page 315]Pa fodd wrth hynny y mae 'r Apostol yn dywedyd mewn lle arall, Na roddes Duw i ni yspryd ofn, ond yspryd nerth, a chariad, a phwyll, 2 Tim. 1.7. Fy atteb i'r rhai hynny ydyw hyn, Nad yw ein hyspryd ni yspryd ofn tebyg i ofn gwâs rhag ei feistr; hynny ydyw, I fyw mewn ofn yn vnig rhag ofn cospedigaeth, heb ddim cariad; ond yspryd cariad yn gyssylltedig ag ofn tebyg i ofn plant rhag eu tab, trwy yr hwn ofn y maent yn ofni digio eu tad, nid yn vnig rhag iddo eu cospi, ond yn bendifaddeu o herwydd ei ddaioni tu ac attynt hwy, a'r cyminwynasau a'r twrn da a wnaeth efe iddynt. Hyn y mae S. Paul yn ei ddangos yn oleu at y Rhufeiniaid, lle y mae efe yn gwneuthur rhagor rhwng ofn gweision, ac ofn plant, Ni dderbyniasoch yspryd caethiwed trachefn (medd efe) i beri ofn, ond yspryd mabwysiad, trwy 'r hwn yr ydym yn llefain Abba, Dad, Rhuf. 8.15. Y mae efe yn dywedyd yma wrth y Rhufeiniaid, Ni dderbyniasoch chwi yspryd caethiwed drachefn i beri ofn, am nad oedd eu hofn hwy o'r blaen, a hwy yn genhedloedd, ond ofn gweision yn vnig, nid ofn meibion; am eu bod yn anrhydeddu ac yn addoli eu heulynnod, nid o herwydd cariad yn y byo oedd ganddynt ar eu heulynnod, gan eu bod mor aneirif; a bod y gair iddynt o gymmaint o annuwioldeb (fel yr oedd i Jupiter, i Mars, i Venus, a'r cyffelyb) ond yn vnig rhag ofn cael niweid oddiwrthynt oni wasanaethent hwynt, ac oni addolent iddynt.
26. Y mae S. Petr ynteu, mewn vn ymadrodd, yn egluro yr holl fatter yma. Oblegid, wedi iddo ddywedyd, Nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, (lle y mae efe yn meddwl am ofn gwasaidd yr annuwicl) y mae efe yn dywedyd yn y man, Ond sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau; a chennych gydwybod dda gyd ag addfwynde ac ofn, 1 Pet. [Page 316]3.14, 15. Ac felly y mae ofn gwasaidd, yr hwn sydd yn ystyried cospedigaeth yn vnig, wedi ei wahardd i ni; ond y mae ofn cariadus plant wedi ei orchymmyn i ni. Ac etto y mae deubeth i'w hystyried ynghylch y matter yma.
27. Y cyntaf yw, er bod yspryd ofn gwasaidd yn waharddedig i ni (yn enwedig gan ein bod ni yn awr wedi myned i wasanaethu Duw) etto fe wna 'r ofn hwnnw lês mawr i bechaduriaid, ac i'r rhai nid ydynt etto ond dechreu gwasanaethu Duw, am ei fod yn eu cynnhyrfu hwy i edifarhau, ac i edrych yn eu cylch; ac o'r achos hynny y dywaid y gwr doeth am dano, Mai dechreuad doethineb ydyw, Dih. 1.7, Ac am hynny y mae Ionas yn ceisio gyrru 'r ofn yma ar y Ninifeaid, ac Ioan fedyddiwr ar yr Iuddewon, a'r holl Brophwydi ar bechaduriaid; trwy fygwth y dialeddau a'r cospedigaethau a ddoai arnynt oni edifarhaent, Ion. 1. & 3. Mat. 3. Ond etto yn ôl hynny, pan fo dynion wedi troi at Dduw, ac yn myned rhagddynt yn ei wasanaeth ef, y maent hwy yn newid yr ofn gwasaidd yma yn gariad, hyd om ddelont o'r diwedd i'r cyfryw gyflwr ac y mae S. Ioan yn crybwyll am dano, sef bod perffaith gariad yn bwrw allan ofn, 1 Ion. 4.18. Ac ar hynny y dywaid S. Awstin, mai ofn yw 'r gwas yr ydys yn ei ddanfon o'r blaen i barottoi lle yn ein calonnan ni i'w feistres,Tract. 9. in 1 Joan. yr hon yw cariad perffaith: a phan ddêl cariad perffaith i mewn vnwaith, a chael cwbl feddiant ynom ni; y mae ofn yn myned allan ac yn rhoi lle i gariad perffaith. Ond lle ni ddelo 'r ofn yma i mewn ddim, nid yw bossibl byth i gariad perffaith ddyfod i drigo, ac i gartrefu yno, medd S. Awstin.
28. Yr ail peth i'w ystyried yw hyn, er nad ydyw ofn cospedigaeth yn y rhai perffaith, neu o'r [Page 317]hyn lleiaf nad ydyw ond llai ynddynt hwy nag mewn eraill fel y dy waid Sainct Ioan; etto, os efe a fydd, wedi ei gyssylltu a chariad ac a pharch, felly dylai fod, y mae yn fuddiol ac yn angenrheidiol iawn i bob Christion cyffredin, y rhai nid yw eu by wyd mor berffeith-gwbl, na'i cariad mor helaeth a bod mor berffeith-gwbl ar perffeithrwydd y mae Sainct Ioan yn crybwyll am dano. A hynny sydd amlwg wrth fod yn Iachawor Christ yn annog ei Apostolion i fod a'r ofn yma ynddynt, ofnwch yr hwn weds darffo iddo lad [...] ly corph, sydd ac awdurdod ganddo i fwrw i vffern yr enaid a'r corph; ie, meddaf i chwi, ofnwch hwnnw, Luc. 12.5. Yr vn peth y mae Sainct Paul yn ei ddysgu i'r Coninthiaid, y rhai oedd Gristianogion da, gan osod ar lawr yn gyntaf gyfiawnder Duw, ac yna eu hannog hwy i ofni, Y mas 'n rhaid i ni oll, medd efe, ymdaangos ger bron brawdle Christ, fel y derbynio pob vn y pethau a wnaethbwyd yn y corph, yn ol yr hyn a wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg. Ac am ein bod ni yn gwybod byo, yr ydym yn annog dynion i ofni 'r Arglwydd, a Cor. 5.10, 11. le, a pheth sydd fwy, y mae Sainct Paul yn tystiolaeth am dano ei hun; ei fod ef, er maint o ffafor ac ewyllys da a gawsai gan Dduw, yn dal gafael etto ar yr ofn yma rhag cyfiawn er Duw, fel y mae 'n amlwg wrth ei eirian ef, Yr wyf yn cospi fy nghorph, ac yn ei ddwyn yn gaeth, rhag i mi mewn vn modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymmeradwy, 1 Cor. 9.27.
29. Weithian, f'anwylyd, od oedd ar S. Paul ofn cyfiawnder Duw, ac ynteu yn Apostol; ac er nas gwyddai efe ddim arno ei hun, na'i fod yn euog o vn bai, fel y mae efe (am vn peth) yn ei ddangos: pa fodd y dylit ti fod, yr hwn y mae dy gydwybod yn euog o gynnifer bai ac annuwioldeb, 1 Cor. 4.4. Gwybyddwch hyn, medd S. Paul, dm bob putteinwr, [Page 318]neu aflan, neu gybudd, a'r cyffelyb, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Christ a Duw. Ac yn y man ar ôl hynny, megis pe na bai hynny ddigon, y mae efe yn dywedyd yn angwhaneg, er mwyn attal ffolineb pechaduriaid sy 'n gwenhieithio iddynt eu hunain, Na thwylled neb chwi a geiriau ofer; canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Dnw yn dyfod ar blant anufydd-dod neu anghrediniaeth. Am hynny na fyddwch chwi gyfrannogion a hwynt, Eph. 5.5. Megis pe dywedai, Pwy bynnag sy 'n gwenieithio i chwi ac yn dywedyd, Twt, y mae Duw yn drugarog, ac yn hawdd ganddo faddeu y pechodau hyn a'r cyffelyb; nid ydyw y rhainy ond eich twyllo chwi, medd S. Paul, oblegid y mae digofaint a dialedd Duw yn disgyn ar blant anghrediniaeth, oblegid y pethau hyn: sef yw hynny, ar y rhai ni chredant ei gyfiawnder ef n'i fygythion yn erbyn pechod; ond, o hyder ar ei drugaredd ef, sydd yn parhau yn eu pechod, hyd oni ruthro digofaint Duw arnynt yn ddisymmwth; ac yna y mae yn rhyhwyr gwellhau. Am hynny, medd efe, os ydych chwi gall, na fyddwch gyfrannogion a'i ffolineb hwy, ond gwellhewch eich bucheddau allan o law, tra caffoch amser. A digon fydd y rhybudd yma eiddo Sainct Paul, iddibennu 'r pennod yma; yn erbyn pawb ac sydd yn gwrthod neu yn oedi edifeirwch a gwellhaad buchedd, trwy wag obaith ar gael gan Dduw faddeu iddynt, a chyd-ddwyn a hwynt.
PEN. V. Am y pummed rhwystr, yr hwn yw oedi rhoi ein bryd ar edisarhau o amser i amser; tan obeithio y gallwn wneuthur hynny yn well, neu yn haws, ryw amser arall.
MI a dybygwn mai digon i wr rhesymol, fyddai y rhesymmau a ddangoswyd o'r blaen, i brofi bod mor anghenrheidiol i ni roi 'n bryd ar wasanaethu Duw, ac i dynnu ymaith y rhwystrau sy'n lluddias i ni wneuthur hynny. Ond er hynny, oblegid (fel y dywaid y gwr doeth) bod yr hwn a fo a'i fryd ar dorri cymdeithas a'i gydymmaith,Dihar. 18.1. Lat. yn ceisio pob achlysur i wneuthur hynny tan ryw liw ac esgus. Y mae llawer yn y byd, gan nad oes ganddynt na lliw nac esgus arall yn y byd i dorri a Duw, ac i ddal allan oddiwrtho, hwy a geisiant goluro 'r matter a hyn o liw, sef bod yn eu bryd hwy trwy ei ras ef, wellhau 'r cwbl mewn amser: ond y maent hwy yn oedi 'r amser hwnnw o ddydd i ddydd, hyd oni bo i Dduw, yr hwn y mae pob munyd o'r amser yn ei law, ddwyn yr amser yn llwyr oddiarnynt hwy, a'i danfon hwy i'r poenau taagywyddol tros ben pob amser, am iddynt gam arfer daioni 'r amser yn y byd hwn.
2. Dyma vn o'r siomedigaethau mwyaf a pherycclaf, ac etto y mae yn gynnefinaf ac yn gyffredinaf o'r cwbl y mae gelyn dyn yn eu harfer yn erbyn plant Addaf: ac mi a allaf ddywedyd yn hŷ, fod mwy yn myned i golledigaeth trwy'r siommedigaeth yma, nâ thwy'r holl gyfrwysdra a'r dichellion eraill heb law hynny. Fe a ŵyr yn dda faint yw grym a gallu 'r fagl yma rhagor cwbl o'r llaill, ac am hynny [Page 320]y mae efe yn ei gwthio mor daer ar bob dyn. Y mae efe yn ystyried yn well nâ nyni, fod oedi yn beth inawr iawn, yn enwedig mewn matter o gymmaint pwys ac yw ein ymchweliad a'n cadwedigaeth ni. Y mae efe yn gwybod yn dda fod y naill bechod yn tynnur llall ganddo; ac y bydd yr hwn nid yw gymmwys heddyw i edifarhau yn anghymmhwysach y foru; ac fel y mae y marfer yn myned yn naturiaeth; a bod yn anhawdd iachau hên ddoluriau; ac fel y mae Duw mewn amser yn dwyn ymaith ei ras, ac fel y mae ei gyfiawnder ef yn barod i gospi pob pechod; ac fel yr ydym ninnau trwy oedi yn cyffroi ei gyfiawnder ef, ac yn pentyrru dialedd ar ein pennau 'n hunain, fel y dywaid S. Paul, Rhuf. 2.4, 5. Y mae ef yn gydnabyddus iawn ag anwastadrwydd ac â pheryglon ein buchedd ni, ac â'r damweiniau peryglus yr ydym ni yn myned trwyddynt; ac â'r rhwystrau a ddaw beunydd fwyfwy, i luddias i ni ymchwelyd at Dduw. Hyn oll y mae efe yn ei wybod, ac yn ei ystyried yn dda, ac am hynny y mae yn peri i gy mmaint ac y mae, oedi eu hedifeirwch. Oblegid pryd nas gall yn hwy ddallu deall llawer o Gristianogion, fel na bo dir iddynt weled yn amlwg mor anghenrhaid ac mor fuddiol iddynt roi eu bryd ar edifarhau, ac nad yw holl rwystrau'r byd ond coegbethau a hudoliaeth i attal dynion rhag gwneuthur hynny; yna nid oes gantho ymddiffyn yn y byd ond hyn yn vnig, sef perswadio dynion i oedi ychydig, ac y cant ryw amser yn ôl hyn achlysur a chyfamser gwell i wneuthur hynny, nag yr awrhon.
3. A hyn a brofodd Sainct Awstin, yn ei ymchweliad at Dduw,Confess. lib. 8. ca. 7.18. fel y mae efe ei hun yn ysgrifennu; Oblegid; wedi iddo wybod yn siccr, nad oedd fodd iddo i gael bod yn gadwedig, ond crwy newidio ei fuchedd a'i gwellhau; etto yr oedd [Page 321]y gelyn yn ei attal ef tros amser, ac yn peri iddo oedi, ac yn dywedyd wrtho; Arhos ychydig etto; oeda ennyd etto; a hynny (fel y dywaid ef ei hun) er mwyn cael ei rwymo ef yn dynnach mewn ymarfer â phechod, hyd oni bu iddo trwy ollalluog nerth grâs Dduw, ac eithaf ei egni ei hun a'i oreu, dorri ymmaith oddiwrtho trwy gryfder, a gweiddi ar Dduw, Pa ham y dywedaf yn hwy, Yforu, yforu? Pa ham nas gwnâf ar y munyd awr hwn? Ac felly y gwnaeth efe, ie, yn ei ieuengtyd, ac a fu fyw wedi hynny mewn buchedd dra dirfing Gristianogaidd dduwiol.
4. Ond os mynnwn ni weled yn eglurach faint a pheryccled y ddichell yma, ystyriwn yr achosion a allai rwystro i ni droi at Dduw yn y man, ac ni a gawn weled fod pob vn o honynt yn cynnyddu ac yn cryfhau trwy ein gwaith ni yn oedi, ac felly bod yn anhaws i ni wneuthur y peth yn ôl hyn, nag ydyw yr awrhon. Oblegid yn gyntaf, (fel y dywedais o'r blaen) y mae parhau mewn pechod yn gwneuthur dŷn yn gynnefin ag ef wrth ymarfer o hono; a phan ddarpho i ni vnwaith ymgynnefino, y mae yn anhawdd symmud y cynnefinder hwnnw, fel y gwelwn ni beunydd am bob cynneddfau a fo wedi greddfu a gwreiddio ynom ni. Ac os mynnwch chwi weled gwirionedd o hynny; pwy ond yn anhawdd tros ben, a all nac a feidr symmud hir ymarfer o feddwdod, neu dyngu, neu ryw gynneddfau drwg arall, a fo vnwaith wedi greddfu ynom ni? Yn ail, po hwyaf y parhaom ni yn ein buchedd annuwiol, mwyaf y tynn Duw ei râs a'i help oddiwrthym ni, yr hyn yw'r modd vnig a wna ffordd buchedd dduwiol yn hawdd ac yn esmwyth gan ddynion. Yn drydydd, y mae gallu a llywodraeth y cythraul yn cael ymgryfhau ac ymsiccrhau ynom ni, trwy gael aros ynom; ac felly y mae yn anhaws ei symmud. [Page 322] Yn bedwerydd, y mae tueddiad ein meddwl ni at ddaioni, yn gwanhau fwyfwy, ac yn pylu, wrth fynych arfer o bechod, er nad ydyw yn diffodd yn llwyr. Yn bumed, y mae galluoedd a swyddau ein meddwl ni yn llygru yn fwy; y deall yn myned yn dywyllach, a'r ewyllys yn myned yn ŵyrach, a'r chwant yn anllywodraethusach. Yn chweched ac yn ddiweddaf, Y mae oedi edifeirwch yn cyffroi ac yn cryfhau ein gwyniau ni, a rhannau issaf a gwaelaf ein meddwl ni, yn erbyn rheol rheswm a deall, ac yn eu gwneuthur yn anhaws eu gorchfygu nag oeddynt o'r blaen.
5. Bellach, f' anwylyd, bwrw ynghyd gwbl o hyn, ac ystyria yn ddiduedd ynot dy hun, pa vn debyccaf i ti allu edifarhau, ai yr awr hon, ai yn ôl hyn. Yn ôl hyn, meddaf, pan fo pechod wedi greddfu ynot ti trwy ymarfer ac ymgynnefino ag ef; a'r cythraul wedi cael meddiant hwy ynot ti; a chymmorth Duw ym mhellach oddiwrthyt ti; a'th feddwl dithau wedi ei lygru yn fwy; a'th ddeall a'th farn wedi myned yn wannach; a'th chwant i ddaioni wedi diffodd; a'th wyniau wedi cryfhau; a'th gorph wedi eu halogi: a'th nerth wedi pallu; a'th holl fuchedd wedi gwyrdroi.
6. Ni a welwn, ac a wyddom am y llong afo yn gillwng dwr, mai haws fydd ei diyspyddu yn y dechreu, na chwedi hynny. Ni a welwn, am dŷ a fo wedi adfeilo ac ammharu, po hwyaf y gadawer iddo, mai mwya'r draul a'r boen yn ei gyweirio. Ni a welwn, os bydd vn yn pwyo hoel a morthwyl, po mwyaf a guro efe arni, mai anhawsaf fydd ei thynnu hi allan drachefn. A pha fodd y gelli di wneuthur pechod ar bechod, a thybieid wrth barhau mewn pechod y bydd haws i ti ymwrthod ac ymadael ag ef yn ôl hyn nag yr awrhon? Cyffelyb iawn fyddei hynny, i ddŷn a fyddai wedi gwneuthur baich mawr [Page 323]i'w ddwyn, ac a brofai ei godi ar ei gefn; ac am ei fod yn anesmwyth, ac yn pwyso yn drwm arno, a'i bwriai ef i lawr eilwaith, ac a roai lawer ychwaneg atto, ac a geisiai ei godi wedi hynny: ond pan y clywai yn drymmach nag o'r blaen, a ddigiai yn gynddeiriog, ac a roai y dau cymmaint atto, i geisio ei wneuthur yn ysgafnach. Oblegid felly y mae plant y byd hwn yn gwneuthur, y rhai wrth weled yn syrn anhyfryd iddynt wrthwynebu vn pechod neu ddau yn y dechreuad, sydd yn oedi ymchwelyd at Dduw, ac yn chwanegu at hynny vgain neu ddeugain o bechodau, a thybieid y bydd haws iddynt edifarhau yn ôl hynny.
7. Y mae Sainct Awstin wrth ddeongl y gwyrthiau a wnaeth ein lachawdr CHRIST wrth godi Lazarus o farw i fyw,Tract. 49. in Joan. 11. ac ynteu wedi marw er ys pedwar diwrnod weithian, fel y dywaid yr Efangylwr: yn chwilio yr achos pa ham yr wylodd, ac y dolefodd Christ, ac yr ymofidiodd yn yr yspryd cyn gwneuthur y weithred honno, gan iddo godi eraill yn hawdd iawn: ac o hynny y mae efe yn rhoi'r wers hon i ni; sef megis yr oedd Lazarus wedi marw er ys pedwar diwrnod, a chwedi ei gladdu; felly y mae pedair grâdd mewn pechadur: y gyntaf mewn ewyllysgar ddifyrwch pechod; yr ail trwy gydsynio a phechod, y drydedd drwy wneuthur y weithred; a'r bedwaredd trwy barhau mewn pechod ac ymgynnefino ag ef: a phwy bynnag, medd y tad duwiol hwnnw, a fo wedi ei gladdu vnwaith mewn ymarfer a phechod; y mae'n anhawdd i godi ef o farw i fyw, ond trwy wyrthiau mawr o ran Duw, a llawer o ddagreu o'i ran ynteu.
8. Y rheswm o hynny yw'r hyn a ddywaid y gwr doeth Hir glefyd a hen ddolur a flina'r physygwr, ond byrr glefyd newydd ni pharhaodd ond tros ychydig [Page 324]o amser, y physygwr a'i tyrr ymaith yn y man. Eccl. 10.10. Lat. Esgyrn yr hen annuwiel a fydd llawn o bechodau ei ieuengctyd, medd Job, a bwy a orweddant gydag ef yn y pridd pan êl efe i'r bedd, Job 20. Yr ydym ni yn darllain i Foesen, yn rhan o gospedigaeth ar y bobl a bechasai yn addoli y llo aur, falurio 'r llo yn chwilfriw, a'i roi iddynt i'w yfed. Felly 'r pechodau oedd ddifyrr gennym yn ein ieuengtyd, y maent wedi ymwasgaru, trwy ymarfer a chynnefindra, yn ein cyrph ni a'n hesgyrn, fel nas gallom ni, pan ddel henaint ar ein huchaf, mo'i gyrru hwynt ymaith pan fynnom, ond yn anhawdd ac yn flin iawn. Ond ffolineb gan hynny, ydyw i ni oedi gwellhau ein bucheddau hyd onid elom yn hên, a phan fo mwy o rwystrau i'n hattal ni, ac yn anhaws o lawer byd i ni wneuthur hynny nag yr awrhon?
9. Os anhawdd y gweli di i ti wellhau dy fuchedd yr awrhon, a llafurio yn boenus yn dy alwedigaeth, ac ymprydio, a gweddio, a phethau eraill, y rhai y mae'r Scrythur lân yn eu dysgu i bechaduriaid, i'w helpio i droi at Dduw; pa fodd y gwnei di y pethau hynny yn dy henaint, pan fo rheitiach i th gorph di gael gwneuthur yn fawr am dano, a bod yn dda wrtho, nâ'i flino a'i boeni a'r cyfryw weithredoedd? Os gweli di yn anhyfryd gwrthwynebu dy bechodau yr awrhon, a'i diwreiddio hwynt, wedi i ti barhau ynddynt ddwy flynedd, neu dair, neu bedair; pa fodd y gweli di hynny, wedi darffo i ti fwrw vgain mhlynedd attynt? Ond ynfyd iawn y cyfrifit ti, yr hwn wrth siwrneio ar y ffordd, a chanddo ei ddewis o ddigon o geffylau cryfion heinyf, ac a adawai i'r rhei'ny i gyd fyned yn weilydd, ac a roi ei holl glûd a'i bynnau ar ryw vn anifail cûl, truan, ni allai ond prin ddwyn ei ddraed ei hun, chwaethach sefyll tan gynnifer o bynnau a fwrid arno: Ac yn [Page 325]siccr nid gwell rheswm y dyn a dreulio holl ddyddiau ei hoywder a'i ieuengctyd mewn diogi a musgrelli, ac a adawo gwbl o'r boen a'r llafur i ddyfod ar yr henaint llêfg dirym.
10. Ond i adael heibio ynfydrwydd y ddichell hon, dywaid i mi (Gristion da) pa anniolchgarwch ac anghyfiawnder tu ac at Dduw ydyw hyn; wedi darfod i ti dderbyn eusys cymmaint o gymmwynasau ar ei law ef; a'th fod yn disgwyl cymmaint gwobr a thâl ganddo ac ydyw teyrnas nef, yn ôl hyn, i ti, er hynny i gyd, appwyntio y rhan leiaf, ac olaf, a gwaethaf o'th holl fywyd, i'w wasanaethu ef; ie, y rhan nid wyt ti siccr o honi, ac ni wyddost di pa vn a wna ai dyfod byth, ai peidio; na pha vn a wna Duw ai ei chymeryd gennyt ti ai peidio, os daw? Y mae 'r Prophwyd yn melldigo'r neb a fo perchen anifeiliaid iach dianaf ac a offrymmo i'r Arglwydd yr vn a fo cloff ac anafus o honynt, Malac. 1. Pa faint mwy y byddi di felldigedig, a thithau a chymmaint gennyt o ddyddiau dy ieuengtyd, a'th nerth, a'th gryfder; ac nid wyt o'th holl fywyd yn appwyntio i wasanaethu Duw, ond dy henaint gogloff yn vnig? Yn y gyfraith yr oedd yn waharddedig, trwy fygwth tôst, fod gan neb ddau fesur yn ei dŷ i'w gymmydog; vn mawr i'r hwn a fo da ganddo, ac vn llai i rai eraill. Ac etto nid oes arnat ti gywilydd fod gennyt ddau fesur o'th fywyd, o rai tra anghyfiawn, i dwyllo yr Arglwydd dy Dduw; ac wrth y mesurau hynny yr wyt ti yn rhannu arno ef ran fechan, ferr, anafus, amheus, o'th amser: ac yn rhoi i'w elyn ef y rhan fwyaf, a'r deccaf a'r siccaraf o'th amser.
11. Oh frawd anwyl, pa reswm sydd gennyt ti wneuthur fel hyn â Duw? Pa gyfraith, pa gyfiawnder, pa gydwybod sydd gennyt ti, wedi darffo i ti wasanaethu'r byd, a'r cnawd, a'r cythraul, tros dy [Page 326]holl ieuengctyd, a'r rhan oreu o'th ddyddiau, ddyfod yn y diwedd a tharo dy hên esgyrn, wedi llygru a darfod gan bechod, yn nysgl Duw? A rhoi i'w elynion ef yr hyn goreu, ac iddo ynteu'r gweddill? A rhoi'r gwin i'w elynion ef, ac iddo ynteu'r gwaddod a'r ammhuredd: Onid wyt ti yn cofio y mynn efe offrwm iddo y rhan frasaf a goreu? Onid wyti yn meddwl am y gospedigaeth a roed ar y rhai a offrymmasant y rhan waethaf o'i golud i Dduw? Levit. 3. Malac. 1. Canlyn gan hynny gyngor yr Yspryd glân os wyt ti gall, yr hwn sy'n dy rybuddio di yn y geiriau hyn, Cofia dy greawdr yn nyddiau dy ieuengctyd, cyn dyfod y dyddiau blin, a nessau o'r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, nid oes gennyf ddim hyfrydwch yddynt, Preg. 12.1.
12. Pa sawl vn a welaist di eu torri y maith ynghanol eu dyddiau, tra fyddent yn amcanu newidio eu buchedd yn yr amser a ddoai? Pa sawl vn a gyrhaeddodd hyd henaint, ac a glywent ynddynt yna lai ewyllys i wellhau nag o'r blaen? Pa sawl vn a oedodd hyd awr angeu, ac yno a feddylient lai am eu cyflwr, nag erioed o'r blaen? ond meirw fel anifeiliaid mudion direswm, yn ôl yr hyn a ddywaid S. Grigor; Ser. 1.10. de Sanctis. Y mae 'r pechadur (medd efe) yn cael bwrw arno hyn o flinder hefyd, sef bod iddo yn ei farwolaeth ei ollwng ei hun dros gôf, gan iddo ollwng Duw tros gôf yn ei fywyd? O faint o esamplau o hyn yma a welir beunydd! pa faint o'r rhai bydol a fuant fyw yn gnawdol? Pa sawl pechadur mawr, wedi treulio eu buchedd mewn annuwioldeb; sydd yn diweddu ac yn marw, megis pettynt hwy yn myned i ryw le difywyd, lle ni ofynnir nac atteb na chyfrif am ddim ac a wneler? Y maent hwy mor ofalus yn eu llythyr cymmyn tros gig a gwaed, ac am olud y byd hwn, a phettynt hwy yn cael byw [Page 327]byth, neu yn cael rhan o'r oferbethau hynny wedi yr elont ymaith. Mewn gwirionedd, os mynnwch chwi ddywedyd y peth yn y modd y mae, y maent hwy yn meirw fel pe bai'r enaid heb fod yn anfarwol, ond yn marw gŷd a'r corph: a hynny yn siccr wir y maent hwy yn ei gredu yn eu calonnau.
13. Ond bwriwch na bai'r peth felly; ac y gallai ddyn mor hawdd, ac mor gymmwys, ac mor siccr droi at Dduw yn ei henaint, ac yn ci ieuengctid, a bod y naill yn rhyngu bodd i Dduw yn gystal a'r llall; etto dywedwch i mi pa faint o amser yr ydych chwi yn ei golli wrth oedi fel hyn? Pa drysor mawr o dduwioldeb yr ydys yn ei ollwng heibio, ar a allesid ei gael wrth gymmeryd poen yn gwasanaethu Duw? Pe bai ryw gapten a'i sawdwyr yn myned i mewn i ryw dref gyfoethog, i gymmeryd ei hyspail a'i hanrhaith hi, a dywedyd o vn o'r sawdwyr, myfi a arhosaf yu ôl, ac a ddeuaf i mewn dranoeth wedi myned o'r yspail ymaith, oni thybygech chwi fod hwnnw yn llwrf ac yn ansynhwyrol iawn hefyd? Felly am Grist ein Iachawdwr a'i holl sawdwyr da, y maent hwy wedi cymryd anrhaith y bywyd hwn, a'i cyfoethogi eu hunain a'i llafur mewn amser, a chwedi cludo'r cyfoeth hwnnw gydâ hwynt megys ysgrifennadau cyfnewyd i'r banc nefol, a chael yno daledigaeth o ogoniant tragywyddol. Ac ond ffoledd a chyndynrwydd mawr ynom ni, ydyw treulio'r fuchedd hon mewn pethau mor ddiles? Yr awrhon ydyw'r amser i ymdrech ac i ynnill y goron: yr awrhon yw'r amser i ni i geisio ein rhan o'r anrhaith: yr awrhon ydyw'r amser i redeg yr yrrfa, i gael ynnill y gamp: yr awrhon yw amser hau, i gael o honom ŷd e [...]byn y cynhauaf sydd yn dyfod. Os gollyngwch chwi'r amser yma heibio, nid oes i ni mwy na choron, nac anrhaith, na theyrnas, na chynhauaf i ddisgwyl amdano. Oblegid, fel y mae'r [Page 328]ysgrythur yn ein siccrhau ni, Y diog, nid ardd o herwydd oerder y gauaf, a â i gard [...]tta'r cynhauaf ac ni chaiff ddim, Diha. 20.4.
14. Ond oni all ystyried yr elw dy annog di, ddarllennydd hynaws, fel y dylai wneuthur, ac yntau o gymmaint pwys ac ydyw, ac nas gellir ei alw yn ôl wedi yr êl heibio, etto meddwl ynot dy hun faint y ddlêd a'r rhwymedigaeth yr wyt ti yn ei dynnu arnat dy hun, am bob diwrnod ac yr wyt ti yn oedi ymchwelyd at Dduw, ac yn byw mewn pechod. Yr wyt ti bob dydd yn gofod clymmau, y rhai sy raid i ti eu dattod ryw amser; yr wyt ti yn casglu ynghyd y pethau a fydd rhaid i ti eu gwasgaru drachefn; Yr wyt ti bob yn awr yn bwytta ac yn yfed y pethau a fydd rhaid i ti ryw amser eu chwydu: ie, os digwydd i ti yr hyn a fo goreu ardy les; hynny ydyw os ti a edifarhei mewn pryd, ac os Duw a dderbyn dy edifeirwch di, ac onid ê gwae dydi am dy fod di yn pentyrru digofaint a dialedd ar dy ben dy hun. Ond bwrw y gelli di yn ôl hyn gael grâs 1 edifarhau, er dy fod di yr awrhon yn ei wrthod; etto fe fydd i ti achos i wylo am y peth yr wyt ti yr awrhon yn chwerthin; fe fydd drwg iawn gennyt ddarfod i ti wneuthur y peth sy wŷch gennyt ti yr awrhon ei wneuthur; fe fydd rhaid i ti felldigo'r dydd yr ymroist i bechu, ac onid ê ni wna ddim llês i ti edifarhau. Hyn yr wyt ti yn ei wybod yr awrhon, a hyn yr wyt ti yn ei gredu yr awrhon, ac onid è nid wyt ti Gristion. Pa fodd wrth hynny yr wyt ti yr awrhon mor ynfyd, a gwneuthur yn erbyn Duw, o ewyllys dy galon, ac o'r gwaith goddeu; a thitheu yn gwybod yn dda y bydd rhaid i ti ryw amser ofyn maddeuant iddo trwy ddagrau. Os wyt ti yn tybieid y maddeu efe i ti, pa anniolchgarwch i ti ddigio arglwydd mor ddaionus? Os, wyt ti yn tybieid na faddeu efe ddim i ti pa ynfydrwydd [Page 329]fwy na gwneuthur yn erbyn tywysog lle nid oes gobaith maddeuant.
15. Gwna di dy gyfrif yr awrhon fel y mynnych, os ti nid edifarhei a newidio dy fuchedd, yno y bydd pob pechod yr wyt ti yn ei wneuthur, a phob dydd yr wyt ti yn byw mewn pechod, yn angwhanegu ar ddigofaint a dialedd arnat ti yn vffern, fel y mae S. Paul yn profi, Rhuf. 2.4, 5. Os bydd i ti yn ôl hyn trwy drugaredd Duw edifarhau a gwellhau dy fuchedd (oblegid nid oes mo hynny ar dy law di dy hun) yno y bydd rhaid i ti ryw amser ymgwyno, ac ymofidio, a bod yn ddrwg gennyt ddarfod i ti oedi cyhyd. Felly po hwya 'r oedech di, a pho mwyaf y chwanegech di bechu, mwya' fydd dy ofid di a'th dristwch wrth edifarhau. Fe fydd rhaid hir a dyfal feddy giniaeth i hên friw, medd S Cyprian.Li de La, & li; 5. epi. 5. ad Cor. Ep. 27. ad Eustoch. Ad laps. vir. Fe fydd rhaid i'n cyrph ni a fu fyw mewn mwythau, gael eu blino medd S. Jerom, a rhaid yw gwneuthur iawn am ein hir chwerthin ni, â hir wylofain. Ac medd S. Ambros, i archoll fawr y bydd rhaid wrth hir feddygyniaeth.
16. Marcia hyn, fy anwyl frawd, y bydd mawr dy boen di yn gwellhau dy fuchedd, ac nad oes ffordd i ochel y boen honno. Pa ynfydrwydd i ti wrth hynny, yr awrhon helaethu dy archoll, a thithau yn gwybod y bydd mor dôst y feddyginiaeth yn ol hyn? Pa greulondeb yn dy erbyn dy hun a all fod fwy, na bod i ti wthio drain yn dy gnawd dy hun, a gorfod arnat yn ol hyn eu tynnu allan trwy fawr ofid? A fyddit ti mor ynfyd ac yfed y cyfryw gwppanaid o ddiod wenwynllyd a barai i ti yn y man syrthio mewn crŷd poeth, ac a flinai dy ymysgaroedd di, ac a ddygai dy fywyd oddiarnat ti, neu a'th yrrai mewn perygl bywyd; a hynny er mwyn ychydig flâs da a glywit arni wrth ei hyfed? Mi a wn beth a fydd dy atteb [Page 330]di i hynny, sef dwyn ar dy blaid esampl y lleidr da, yr hwn a fu gadwedig yn yr awr ddiwethaf ar y groes, ac a ddugpwyd i Baradwys y dwthwn hwnnw gydâ Christ, heb ddim ychwaneg o lafur yn gwellhâu ei fuchedd. Dyfal y deil y rhai sy'n oedi edifarhau ar y sampl yma, a mawr y gwnânt o honi; ac yn siccr mawr ydyw, a mawr y dylai fod y cyssur oddiwrthi i bob dŷn ac sy flin arno yn yr awr ddiwethaf, ac am hynny fynychaf a demptir gan y gelyn i anobeithio yn nrhugaredd Duw, yr hyn nis dylai mewn modd yn y byd ei wneuthur. Oblegid y mae yr vn Duw a achubodd y mawr bechadur yn yr awr ddiwethaf, yu abl i achub pawb ac a droo atto ef o wir ddifrif eu calonnau, yn yr awr ddiwethaf, ac efe a'i gwna hefyd. Ond ysywaeth y mae llawer o ddynion yn eu twyllo eu hunain eisiau iawn ddeall, neu yn hytrach eisiau iawn arfer y siampl yma.
17. Oblegid rhaid i ti ddeall, fel y dywaid S. Awstin, nad oedd hynny ond vn weithred neilltuol a wnaeth Christ, yr hon nis gall wneuthur rheol gyffredin: fel y gwelwn ni fod Tywysog daiarol weithiau yn pardynu drwgweithredwr wedi ei ddyfod at y pren dioddef, ond ni wasanaetha i bob drwgweithredwr ymddiried i hynny; oblegid nad yw hynny ond vn weithred neillduol o drugaredd y Tywysog yr hon nis gwna efe, ac nid yw yn addaw ei gwneuthur i bob dyn. Heb law hyn, nid oedd y weithred honno ond gwyrthiau a wnaeth Christ i ddangos ei allu yn yr awr ddiwethaf ar y groes. A hefyd nid oedd y weithred honno ond vn a wnaed wrth ragorol gyffes y lleidr ar yr awr honno, pan oedd yr holl fyd wedi gwrthod Christ, a'r Apostolion eu hunain naill ai yn ammau, ai wedi colli eu ffydd am ei dduwdod ef. Heb law hyn oll, yr oedd cyffes y lleidr yma ar y fath amser ac nas gallai [Page 331]ef na chael ei fedyddio, na chael amser i wellhau ei fuchedd. Ac yr ydym ni yn bwrw, nad ydys yn gofyn dim ychwaneg ar law dyn, ar ei ymchweliad cyntaf, ond bod iddo gredu a chael ei fedyddio. Ond ni bydd anghymmwys adrodd geiriau S. Awstin ei hun yn hyn o beth. Ac fel hyn y dywaid ef:
18. Y mae yn berygl dirwymedi, pan ymroddo dyn mor gwbl i annuwioldeb, a bod iddo ollwng yn anghof y bydd rhaid iddo roi cyfrif i Dduw am hynny: a'r achos sy'n peri i ni dybiaid hynny ydyw hyn, fod yn gospedigaeth fawr am bechod bod i ddyn golli'r ofn a'r coffa a ddylai fod ynddo am y farn a ddaw, &c. Ond, anwyl garedigion, rhag ofn i ddedwyddwch y lleidr a gredodd ar y groes, wneuthur neb o honoch chwi yn rhy ddiofal ac yn rhy esgeulus: rhag ofn i neb o honoch ddywedyd yn ei galon; Ni chaiff fynghydwybod euog na'm blino i na'm poeni: am fy mod i yn gweled ddarfod mewn vn moment faddeu cwbl ò'i bechodau i'r lleidr hwnnw; Rhaid i ni ystyried yn y lleidr hwnnw, nid yn vnig fyrred oedd ei greduniaeth a'i gyffes, ond gydâ hynny hefyd ei ddwysoldeb ef, a'r achlysur o'r amser hwnnw, pan oedd y rhai perffeithaf, a'r rhai cyfiownaf yn siglo. Yn ail, dangos i mi ynot dy hun y fath ffydd ac oedd yn y lleidr hwnnw, ac yno dywed y gelli fod mor ddedwydd ac a fu yntau. Y mae'r cythraul yn rhoi 'r dioalwch hwnnw yn dy ben di er mwyn ceisio dy ddwyn di i golledigaeth. Ac amhossibl fyddai dangos cyfrif o'r cwbl ac a aeth i golledigaeth tan rith y gobaith twyllodrus hwnnw. Y mae efe yn ei dwyllo ei hun pwy bynnag nid yw yn gwneuthur ond cellwair o'i ddamnedigaeth, ac a dybia y bydd i drugaredd Duw ei helpio ef yn yr awr ddiwethaf. Peth ffieiddgas gan Dduw ydyw bod i ddyn bechu yn hydda o hyder cael edifeirwch yn ei henaint. Y lleidr dedwydd yma, dedwydd [Page 332]ydoedd nid am iddo gael y ffordd, ond am iddo gymmeryd gafael yn y ffordd ei hun ynghrist, pan oedd yntau yn cael gafael ar ysglyfaeth y bywyd, ac mewn modd rhyfeddol a wnaeth elw o'i farwolaeth ei hun; Ni bu i'r lleidr yma, meddaf, nac oedi amser ei iachawdwriaeth trwy wybod, na gosod cwbl o'i ymddiried ar gael edifeirwch yn yr awr ddiwethaf, na chadw gobaith ei ymwared hyd yn amser angau, ac nid oedd ganddo wybodaeth yn y byd am grefydd nac am Grist o'r blaen. Canys pe buasai ganddo hynny ni buasai efe yn olaf o rifedi yr Apostolion, ac ynteu yn myned o'i blaen hwy i'r deyrnas.
19. Wrth y geiriau hyni S. Awstin y rhybuddir ni (fel yr ydych chwi yn gweled) nad yw gwaith Christ yn maddeu i'r lleidr, yn rheol gyffredin i ddangos y caiff pob dyn faddeuant: nid am nad yw Christ bob amser yn barod i dderbyn yr edifeiriol, fel y mae efe yn addaw, ond am nad yw pob dyn yn cael amser a grâs i edifarhau fel y dylai yn yr awr honno, fel y dangoswyd o'r blaen. Y ffordd gyffredinol y mae Duw yn ei gosod o flaen pawb, yw'r hyn a ddywaid S. Paul, Eu diwedd fydd yn ol eu gweithredoedd, 2 Cor. 11.15. Edrychwch fel y buant hwy fyw, felly y byddant feirw. Ac i'r deunydd yma y dywaid y prophwyd, Ʋnwaith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwywaith, mai eiddo Duw yw cadernid. Trugaredd hefyd sydd eiddot ti, ô Arglwydd, canys ti a deli i bob dyn yn ôl ei weithred, Psal. 62.11, 12. Y mae'r gwr doeth yn gwneuthur hyn yn amlwg gan ddywedyd, Ffordd pechaduriaid a wastattawyd a cherrig, ond yn ei chwrr eithaf hi y mae ffos vffern, Eccl. 21.10. Yn ddiweddaf, y mae S. Paul yn cloi ar y cwbl yn ddwys ac yn gyffredinol, Na thwyller chwi, ni watwerir Duw, canys beth bynnag a hauo dyn, hynny a fed efe. Oblegid yr hwn sydd yn hau i'w gnawd ei hun, o'r cnawd [Page 333]a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i'r yspryd, o'r yspryd a fed fywyd tragywyddol. Lle y mae efe nid yn vnig yn gosod ar lawr i ni y rheol gyffredin fy raid i ni hyderu arni, ond y mae yn dywedyd ym mhellach hefyd, nad ydym ni wrth goelio'r gwrthwyneb ond gwatwor a dirmygu Duw, yr hwn a roes i ni yr gyfraith hon, Gal. 6.7.
20. Er hynny i gyd, fel y dywedais, nid ydyw hyn yn rhwystro i drugaredd Duw ymddangos i rai yn yr awr ddiwethaf. Etto anhappus yw'r dŷn a osodo angor a hyder ei ddedwyddwch neu ei annedwyddwch tragywyddol ar beth mor ansicor. Ansiccr yr wyf yn ei alw am fod yr holl wŷr dysgedig a sgrisennasant amdano, yn dywedyd yn amheus iawn am ymchweliad dyn yn yr awr ddiwethaf. Ac er nad ydynt yn ei wrthod yn hollawl ym mhob dyn, ond yn ei adael megis peth ansiccr ar farn ddirgel Duw, etto y maent yn tueddu at y blaid fy yn ei wadu, ac yn dangos pedwar o resymmau wrth y rhai y gellir ammeu bod ymchwelaid dyn yn yr awr ddiwethaf, yn ddigon i wneuthur dyn yn gadwedig.
21. Y rheswm cyntaf ydyw, am nad yw dygn ofn a gofid angeu yr hwn (fel y dywed y Philosophydd) o'r holl bethau ofnadwy yw'r peth mwya' ofnadwy, yn gadael i ddyn ymwrando ac ymglywed ag ef ei hun yr amser hwnnw yn gystal ac yn gymmaint ac y byddai raid iddo, i ymwneuthur a Duw ynghylch matter cymmaint ac yw ein ymchweliad ni a'n iachawdwriaeth. Ac os ydym ni yn gweled yn fynych nas dichon ac nas meidr gwr duwiol da osod ei feddwl mor ddwys ac mor ddifrif ar bethau nefol, yr amser y bo gwyniau'r colic neu ryw ddolur tôst arall yn ei flino ef: pa fodd y gall gwr bydol yngloes angau wneuthur hynny, ac yntau heb fod erioed yn arfer o'i wneuthur, a chwedi ei lwytho ag euogrwydd llawer o bechodau trymmion, a chwedi ei orchfygu [Page 334]gan gariad ar ei gorph ei hun, a'r pethau a berthyn iddo.
22. Yr ail rheswm yw, am nad yw'r ymchwelyd y mae dyn ar yr awr ddiwethaf, ond yn anfynych o wir ewyllys y galon, ond rhag y dir angen, a rhag ofn: cyfryw ac ydoedd edifeirwch Shimei a ddarfuasai iddo ddigio'r Brenhin Dafydd yn dôst yn ei adfyd, ac a ddaeth atto wedi hynny yn ei lwyddiant, rhag ofn cael ei gospi, ac a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a y mbiliodd am faddeuant trwy ddagrau. Etto yr oedd Dafydd yn deall yn dda pa fodd yr oedd y matter, ac am hynny er iddo ei arbed ef y dwthwn hwnnw rhag lleihau ar y llawenydd a'r gorfoledd, efe a barodd wedi hynny wneuthur ag ef yn ôl ei haeddedigaeth, 1 Bren. 2.
23. Y trydydd rheswm yw, am nas gellir peidio a'r arfer o bechu, mor ddisymmwth, ac ynteu wedi tyfu megis yn naturiaeth. Ac am hynny y mae Duw yn dywedyd wrth y dynion drwg trwy'r prophwyd Jeremi, a newidia'r Ethiopiad ei groen: neu'r llewpârd ei frychni? felly y gellwch chwithau wneuthur da, y rhai a gynnefinwyd a gwneuthur drwg, Jer. 13.22.
24. Y Pedwerydd rheswm ydyw, am nas gall y gweithredoedd a wneler yr amser hwnnw, fod o gymmaint pris gydâ Duw, a phe gwneuthid hwy o'r blaen yn amser iechyd. Oblegid ai mawr ydyw os ti a faddeui i'th elynion pan ddel yr amser nas gelli di mwy wneuthur niweid iddynt? a rhoi dy dda oddiwrthyt, pan na ellych di mwy wneuthur dim â hwynt? ac ymadael â'th ordderch, pan na ellych di ei chadw hi yn hwy? ac ymadael â'th bechod, pan fo dy bechod yn ymadael â thydi? Pethau da duwiol yw y rhain' i gyd, a phethau a ddylai ddyn eu gwneuthur, ie yn yr awr ddiwethaf: ond ni bydd cymmaint pris arnynt a phe buasid yn eu gwneuthud [Page 335]mewn pryd ac amser, fel y dangosais o'r blaen. Y pummed rheswm a ellir ei gasglu allan o'r hyn yr ydym ni yn ei weled yn fynych, sef yw hynny, bod y rhai sydd yn edifarhau yn y modd hwnnw, os hwy a gânt eu hiechyd drachefn, yn myned yn waeth ar ol hynny nag oeddynt o'r blaen, a hynny sydd yn dangos nad oedd yr edifeirwch honno wir edifeirwch.
25. Ac dyma y rhesymmau sy'n peri ammau yr edifeirwch yma a gammerer yn y dydd diweddaf; nid o achos bod diffyg yn y byd o ran Duw, ond o ran y rhai sy'n gwneuthur hynny. Marcia yn dda, medd vn, yr hyn yr wyfi yn ei ddywedyd, ac fe allai y bydd rhaid i mi ddangos fy meddwl yn am lygach, rhag i neb fy ngham gymmeryd. Beth wrth hynny yr wyfi yn ei ddywedyd? y bydd colledig y neb nid edifarhao ond yn y diwedd? nag ê ddim. Beth ynteu? Ai y byddant hwy gadwedig, nag e ychwaith. Beth ynteu a ddywedafi? Nis gwn beth a ddywedaf; ni feiddiaf ddywedyd: nid addawaf ddywedyd: nis medraf ddywedyd. A fynni di na bo rhaid i ti fod mewn ammau fel hyn? A fynni di ochelyd y pwngc peryglus yma? Cymmer dithau edifeirwch tra fych yn iach lawen. Oblegid os ti a edifarhei yn dy iechyd, pa bryd bynnag y dêl yr awr ddiwaethaf ar dy vchaf di, yr wyt ti yn ddiogel ddigon. A pha ham? am ddarfod i ti edifarhau yn yr amser y gallesit bechu. Ond os yr amser hwnnw yr edifarhei di, pan na allech di bechu yn hwy, nid tydi sydd yn ymadael a'th bechod, ond y pechod sydd yn ymadael â thydi.
26 Ac yma y mynnwn i'r Christion gofalus ystyried gydâ myfi vn gyffelybiaeth a ddangosaf iddo. Os ydyw y rhai sydd yn dangos rhyw fath ar edifeirwch ar eu dydd diwedd, yn ymadael oddi yma ar hynny yn y fath beryglus ammau, beth a dybiwn [Page 336]ni am y rhai fy heb na bod ganthynt ewyllys, na chael nac amser na grâs i edifarhau yn yr awr honno? Beth a ddywedwn ni am y rhai a dorrer ymaith o'r blaen? am y rhai a fo meirw yn ddisymmwth? am y rhai a gollo eu synhwyr a'i pwyll, fel y mae llawer? Beth a ddywedwn ni am y rhai y mae Duw yn eu gwrthod, ac yn gadeal iddynt bechu tra fo'r ffûn yn eu genau? Mi a ddangosais o'r blaen allan o Sainct Paul, fod pob pechadur gan mwyaf yn marw yn yr vn modd ac y bu fyw. Wrth hynny y mae yn rhagorfraint mawr i ddŷn annuwiol gael dechreu ei edifeirwch pan fo yn marw. Ac yno, os bydd ei edifeirwch ef mor amheus pan ddêl, pa ofidus gyflwr y mae rhai eraill ynddo? sef y rhan fwyaf o ddynion, y rhai nid ydynt yn edifarhau ddim: ond marw fel y buant byw, a Duw yn eu gadael yn y cyfyngder hynny, fel y mae efe yn addo pan yw yn dywedyd; Yn gymmaint ac i mi eich gwahodd, ac i chwi [...]hau wrthod; i mi ystyn fy llaw a neb heb ystyried: Minnau a chwarddaf yn eich dialedd chwi: ac a wawdiaf pan ddel arnoch wasgfa, a distryw a chaledi. Chwi a elwch arnaf, ac ni warandawaf, chwi a'm ceistwch yn fore, ac ni'm cewch, Dihar. 1.24.
27. Pan welo'r by dol fod hoywedd ei vchelfraint ef, a'i rodres, a'i rwysg bydol wedi darfod am danynt: pan fo gwrà trachwant, a serch y cnawd, a phob mwythau a phleser wedi diffoddi: pan fo tiriondeghaf-ddydd y fuchedd hon ar ddibennu, a thymhestlog auaf-nos marwolaeth yn nessau; yna y try efe at Dduw; yna yr edifarhaa efe; yna y rhydd efe gwbl o'i frŷd a'i feddwl ar ymadael a'i ddrygioni, a throi ar ddaioni. Pryd nas gallo fyw yn hwy, efe a eddy gymmeryd y boen a fynner, a gwrando ac astudio gair Duw yn y modd y mynner, a chymmeryd y boen a fynner yn ei alwedigaeth, a gweddio cymmaint ac a fynner, a rhoi o eluseni cymmaint [Page 337]ac a fynner, a gwneuthur y maint a fynner o weithredoedd da, a byw cyn galetted ac y mynner; ef a eddy hyn i gyd, meddaf, tan ammod cael oes etto i fyw yn y byd; tan ammod cael oedi ei ddydd diwedd; ac etto pe caniattai Duw ei ddymuniad iddo, (fel y mae efe yn gwneuthur yn fynych) ni chywirai ef vn gair o'i addewid, ond bod mor ddiofal ac a fu erioed o'r blaen. Pan ddêl ar y cyfryw vn lefain ac ochain, a griddfan, ac vcheneidio tostlym, ac heb gael ei wrando, pa gomffordd a ddisgwyl efe ei gael yr amser hwnnw? Oblegid i ba le y trŷ efe yn y cyfryw gyfyngder? ai at ei olud bydol, a'i allu, a'i gyfoeth? Och, och, y mae y rheiny wedi ei adaw ef; ac y mae'r Scrythur yn dywedyd, Ni thyccia cyfoeth yn nydd digofaint, Dih. 11.4. Ai at ei ddynion y trŷ efe? Ond pa gomffordd a fedrant nac a allant hwy ei roi, ond wylo yn vnig a galaru? Ai gofyn cymmorth a wnant hwy yr amser hwnnw gan y Saint i weddio trostynt? yno y bydd rhaid iddynt gofio yr hyn a ysgrifennwyd, Gorfoledded y Sainct mewn gogoniant, a chanant; a bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau, a chleddyf dausiniog yn eu dwylo, i wneuthur dial ar genhedloedd, a chosp ar bobloedd; i rwymo brenhinoedd a chadwynau, a phendefigion a gefynnau heiyrn, i wneuthur arnynt farn ysgrifennedig Duw: yr ardderchawgrwydd hyn sydd iw holl Sainct ef, Psal. 149. At Dduw yn vnig wrth hynny y mae'n rhaid iddynt hwy gilio, yr hwn mewn gwirionedd yw vnig ymddiffynfa pawb: ond etto yn y peth yma, fel hyn y dywed y prophwyd, Ni wrendy efe arnynt, ond yn hytrach ei diystyru a chwerthin am ben eu gofidus gyflwr hwy, Dih. 1.26. Nid am ei fod yngwrthwyneb i'w addewid am dderbyn a chrosawu pechadur, Pa bryd bynnac yr edifarhao, ac y troo oddiwrth ei bechodau: ond am nad yw'r ymchweliad yma yn y dydd diwedd ond yn anaml yn [Page 338]wir edifeirwch, ac yn wir ymchweliad, oblegid yr achosion a ddangoswyd o'r blaen.
28. Ac i ddibennu'r matter yma ynghylch oedi edifeirwch, pa wr synhwyrol yn y byd, wrth ddarllain hyn, nid ofna oedi ymchwelyd at Dduw, pettai hynny heb ddimond tros vn diwrnod? oblegid pwy a wŷr nad hwn yw'r dydd diwethaf y geilw Duw ef i edifarhau? Y mae Daw yn dywedyd, Myfi a elwais, ond chwi a wrthodasoch ddyfod; mi a estynnais fy llaw, ac nid edrychech tu ac attaf; ac am hynny y gwrthodaf sinnau chwithau yn eich caledi, Dihar. 1. Nid yw efe yn dywedyd pasawl gwaith, a pha hŷd y bu yn galw ac yn estyn ei law. Y mae Duw yn dywedyd, Yr wyfi yn sefyll wrth y drws ac yn curo: ond nid yw yn dywedyd pa hyd y bu yn sefyll yno, na pha sawl gwaith y mae'n curo, Date. 3.20. Hefyd, efe a ddywedodd am Jezabel ddrygionus, y gau brophwydes, Mi a roddais iddi amser i edifarhau am oi godineb, ac nid edifarhaodd hi, am hynny y daw dialedd arni, ond nid yw efe yn dywedyd pa hŷd o amser a roes efe iddi, Datc. 2.21. Yr ydym ni yn darllain esamplau aruthrol am y peth yma. Ef a alwyd ar Herod y tâd, a hynny yn vchel, pan ddanfonwyd Joan Fedyddiwr atto ef, a phan gynnhy [...]fwyd ei galon ef i wrando arno yn ewyllysgar, ac i wneuthur ei gyngor ef mewn llawer o bethau, fel y dengys yr Efangylwr: ond etto am iddo oedi, ac na chymmerodd amser pan gynnygiwyd iddo, ef a fwriwyd ymaith, fel yr aeth ei weithredoedd diwethaf ef, yn waeth na'i rai cyntaf, Mar. 6. Ef a alwyd hefyd ar Herod y Tetrarch y mâb, pan ddaeth arno chwant cael gweled Christ, a gweled gwneuthur rhyfeddodau ganddo ef: ond am nad attebodd efe i'r galwad hwnnw, ni wnaeth llês yn y byd iddo gael galw arno, ond yn hytrach afles a niweid mawr. Pa ddyrnod o guro a gafodd PILAT ar [Page 339]ei galon, pe buasai iddo cymmaint ô râs ac egori 'r drws yn y man, pan barwyd iddo ddeall fod Christ yn ddieuog: fel y gellir gweled wrth ei waith ef yn golchi ei ddwylo yn dystiolaeth o hynny, a'i wraig hefyd yn danfon iddo rybodd o hynny? Nid llai curo a gafodd y brenhin Agrippa ar ddrws ei galon, pan lefodd efe wrth wrando ar S. Paul, O Paul, yr wyti o fewn ychydig i'm hynnill i fod yn Gristion. Ond am iddo oedi'r peth, fe giliodd y cyffro hwnnw ymaith drachefn, Acts 26.28.
29. Tradedwydd fuasai Pharao, pe buasai efe yn ymroi ar y cyffro yr oedd yn ei glywed ynddo ei hun, pan ddywedodd efe wrth Foesen, Mi a bechais: y mae'r Arglwydd yn gyfiawn, a minnau a'm pobl yn annuwiol. Ond wrth oedi, efe a aeth yn waeth nag a fuasai erioed o'r blaen. Y mae S. Luc yn adrodd fel y bu i Felix rhaglaw y Rhufeinwyr yn Judaea, ymchwedleua yn fynych â S. Paul yn ddirgel pan oedd efe yn garcharor, a chlywed ganddo ffydd Grist, a chyffroi yn fawr wrth ei glywed, yn enwedig vnwaith ym mysg eraill, pan oedd Paul yn ymresymmu am gyfiawnder Duw, a'r farn ddiwethaf, hyd oni ddychrynodd Felix; ond etto efe a oedodd ymroi, ac a archodd i S. Paul fyned ymaith, a dyfod atto ef amser arall: ac felly wrth oedi, ni weithiodd hynny ddim ynddo, Acts 24.25. Pa faint o ddynion sy beunydd yn mynd yn golledig, rhai wrth fod angau yn eu torri ymaith, rhai trwy fod Duw yn eu gadael, ac yn eu rhoi i fynu i feddwl anghymmeradwy; y rhai a allasai gael grâs, pe buasent heb oedi eu hymchweliad o ddydd i ddydd, ac yn ymroi yn y man pan glywent Dduw yn galw yn eu calonnau?
30. Y mae Duw yn haelionus iawn i guro ac i alw, ond nid yw efe yn ymrwymo i amser nac ennyd yn y byd, ond mynd a dywod pan fynno; a'r rhai ni [Page 340]chymmero 'r amser a gynnygier iddynt, y maent hwy yn ddiesgus ger bron ei gyfiawnder ef, ac nis gwyddant pa vn a wneir ai ei gynnyg iddynt drachefn ai nas gwneir: am fod hynny yn sefyll ar ewyllys a gwybodaeth Duw yn vnig, yr hwn sydd yn dangos trugaredd i'r neb y gwelo efe yn dda, ac nid yw rwymedig i neb. A phan êl heibio vnwaith yr amser a bennododd efe i alw dŷn, gwae fyth y dŷn hwnnw oblegid ni chair mor amser hwnnw mwy er mil o'r holl fyd. Y mae Christ yn dangos faint o bwys yw'r matter hwnnw, pan oedd efe yn myned i Jerusalem, ynghanol ei lawenydd a'i ogoniant ni fedrai efe nad wylai tros y ddinas honno, a llefain trwy ddagrau, O Jerusalem, pe gwybasit [...]ithau, ie yn dy ddydd hwn y pethau a berthynent i'th heddwch, ond yn awr y maent yn guddiedig oddiwrthyt, Luc. 19. Megis pe y dy wedasai, Pettit ti yn gwybod, o Jerusalem, yn gystal ac y gwn i, pa drugaredd yr ydys yn ei gynnyg i ti heddyw, ni wnait ti fel yr ydwyt yn gwneuthur, ond ti a'i cymmerit yn y man, ond yn awr y mae dirgel farn fy nhâd yn guddiedig oddiwrthyt ti, a hynny sy'n peri i ti wneuthur cyn lleied cyfrif o hono, hyd oni ddel dialedd disymmwth arnat ti: ac felly y daeth cyn pen nemmor ar ôl hynny.
31. Wrth hyn y gellir gweled y rheswm mawr sy'n peri i'r gwr doeth roi 'r cyngor yma, Na fydd hwyrfrydig i droi at yr Arglwydd, ac nac oeda o ddydd i ddydd oblegid yn ddisymwth y daw digofaint yr Arglwydd, a thra fych di yn ddifraw y daw dialedd arnat, Eccles. 5.7. Ac fe ellir gweled hefyd beth yw'r achos mawr sy'n peri i'r Apostol gynghori yr Hebraeaid mor ddifrif, ar iddynt dderbyn grâs, Dum cognominatur hodie, tra y barhaai 'r dydd hwnnw, ac na ollyngynt heibio mor achlysur oedd yn ymgynnyg iddynt, Heb. 3. A hyn a ddylai bawb ei fwrw atto ei hun, ac vfuddhau i'r meddyliau da y mae yspryd [Page 341]Duw yn ei roddi ynddo. Fe ddylai bob dyn, meddaf, pan glywo feddwl da yn ei galon, ddywedyd yntho ei hun, yr awr hon y mae Duw yn curo wrth fy nrws i, os myfi a egoraf iddo yn y man, ef a ddaw i mewn ac a wna ei drigias ynofi. Ond os myfi a oedaf hyd y fory, ni wn i pa vn a wna efe ai curo drachefn ai nas gwna, Dat. 3.20. Fe ddylai bob dyn feddwl yn wastad am yr hyn a ddywedodd y prophwyd am yspryd Duw, Heddyw o gwrandewch ar ei leferydd ef yn galw arnoch, na chaledwch eich calonnau ond ymrowch iddo yn y man. Psalm 95.
32. Och finnau, frawd anwyl, pa beth yr wyt ti yn ei obeithio ei ynnill wrth yr oedi peryglus yr wyt yn ei wneuthur? Y mae hynny yn chwanegu ar dy gyfrif di, fel y dangosais o'r blaen: y mae dy ddyled di ar wellhau yn myned yn drymmach: mae dy elyn di yn myned yn gryfach, a thithau yn myned yn wannach; mae yn myned yn anhaws i ti edifarhau; pa beth wrth hynny a allai fod yn dy attal di rhac ymroi allan o law! fe allai mai cael ynnill ychydig amser iw dreulio mewn gorwagedd. Ond mi a ddangosais i ti o'r blaen nad y [...]nill yr amser yw hynny, ond [...]i golli; gan dy fod yn ei dreulio heb ffrwyth yn y byd o dduwioldeb, yr hyn yw gwir y [...]nill yr amser. Os difyr gennyt ti bechu tros yr amser presennol, etto galw i'th gôf yr hyn y mae'r prophwyd yn ei ddywedyd, Agos yw dydd trychineb, a phrysuro y mae'r hyn a barottowyd iddynt. A phan ddêl y dydd, y mae'n rhyfedd gennyf pa obaith fydd gennyt ti bellach, Deut. 32.35. Ai meddwl crio Peccaui Mi a bechais, yr wyt ti? Da fydd hynny o gelli di wneuthur hynny: ond ti a wyddost i Pharao wneuthur felly, ac na thycciodd iddo ronyn, Exod. 9. Ai amcanu yr wyt ti wneuthur llythyr cymmon da, a bod yn hael o'th eluseni yr amser hwnnw? A da yw [Page 342]dy feddwl di yn hynny: ond etto rhaid i ti gofio hefyd, am y morwynion a lanwasant eu lampau ar y munyd hwnnw ddarfod i Grist eu cau hwynt allan, a'i gwrthod hwy yn gwbl. Ai amcanu wylo a chrio yr wyt ti, i geisio ynnill trugaredd dy arglwydd a'th ddagrau yn yr amser hwnnw? yn gyntaf, nid oes yn dy allu di wueuthur mo hynny wrth dy ewyllys dy hun: ac y mae'n rhaid i ti ystyried hefyd fethu gan Esau gael trugaredd, er iddo ei cheisio trwy ddagrau, Heb. 12.17. Galw i'th gôf gyflwr Antiochus yn ei gyfyngder, pa addewidion o weithredoedd da, pa addunedau o fyw yn Dduwiol a wnaeth efe wrth Dduw tan ammod cael diange, ac na thycciodd iddo ddim, 2 Mac. 9. Nid wyf yn dywedyd mo hyn i beri i'r rheiny anobeithio sydd yr awrhon yn y gofid hwnnw, ond i geisio cynghori eraill rhag syrthio i'r vn gofid; a bydd di sicer, ddarllennydd hynaws, nad heb achos y dywedodd y prophwyd, Ceisiwch yr Arglwydd tra y galler ei gael: gelwch arno tra fyddo yn agos. Wele yn awr yr amser cymmeradwy, wele yn awr ddydd yr iachawdwriaeth, medd S. Paul, Es. 55.6. 2 Cor. 6.2. Yr awrhon y mae Duw i'w gael, ac yn agos ger llaw, i groesawu pawb a ymchwelo atto ef o wir ewyllys y galon; ac a roddo ei fryd yn gwbl ar fyw yn dduwiol o hyn allan. Os oedwn ni yr amser yma, nid oes i ni siccrwydd yn y byd y geilw efe nyni mwy, nac y croesawa ni yn ol hyn: ond y mae i ni yn hytrach lawer o fygythion i'r gwrthwyneb, fel y dywetpwyd o'r blaen. Am hynny mi a ddiweddaf ar yr vn wers yma allan o S. Awstin, Mai diofal ac anraslon o ddyn ydyw 'r neb sy'n gwybod hyn oll, ac er hynny a anturia dragywyddoldeb ei Iachawdwriaeth a'i ddamnedigaeth ar beth mor amheus ac ydyw cael edifeirwch yn yr awr ddiwethaf, Tract. 3.3 Joan.
PEN. VI. Am dri rhwystr arall sydd yn lluddias i ddynion roi eu bryd ar edifarhau; a'r rhai hynny yw Diogi, a Diofalwch, a Chalon-galedwch.
HEB law y rhwystrau a grybwyllwyd am danynt o'r blaen, y mae etto amryw rai i'w cael; pettai ddyn yn gallu holi cydwybod pob vn ac sydd heb glywed arno roi cwbl o'i fryd a'i feddwl ar edifarhau. Ond y mae'r tri a grybwyllaf amdanynt yn y bennod yma, mor hynod ac mor gydnabyddus, ac nas gallaf eu gillwng heibio heb eu hyspysu: oblegid bod dynion lawer gwaith heb fod yn eu hwyl, ac etto heb wybod beth yw eu clefyd; a digon i'r rhai a fo'n chwennych cael iechyd gael dangos iddynt beth yw eu hafiechyd er mwyn eu cadw eu hunain rhag clefydau.
2. Yn gyntaf gan hynny, y mae diogi yn rhwystr mawr cyffredinol i luddias i ddynion roi cwbl o'i bryd ar edifarhau, ond yn enwedig i'r rhai segur mwythus, y rhai a fu fyw mewn llonyddwch ac esmwythdra ac am hynny sydd yn coelio am danynt eu hunain nas gallant hwy gymmeryd poen yn y byd, na dioddef caledi, pe gwneynt eu goreu ar hynny. Am y rhai hynny y mae S. Paul yn dywedyd na chaiff masweddwyr meddfaeth etifeddu teyrnas Duw, 1 Cor. 6.9. Hyn i gyd, a llawer ychwaneg a gyfadde'r gwŷr hyn ei fod yn wir, ac y byddai dda iawn ganddynt eu gwneuthur, ond nas gallant: Ni all eu cyrph hwy ddioddef mo hynny, ni allant hwy gymmeryd dim poen yn eu galwedigaeth, nis gallant hwy mor ymprydio, ni allant hwy mor gwylieid, ni allant hwy mor [Page 344]gweddio. Ni fedranthwy mo'r ymadael a'i plesser ac a'i difyrrwch, ac a'i ewmpeini llawen: hwy a fyddent meirw yn y man gan drymfryd a melancholi, meddant hwy, pettent hwy yn gwneuthur hynny, ac er hynny y maent hwy yn ewyllysio yn eu calonnau fedru gwneuthur hynny, os coelir hwy: ac am nas gallant, nid oes ganddynt ddim ammau na bydd Duw bodlon i'w hewyllys da hwy. Ond gwrandawant hwy ychydig beth y mae'r Scrythur lâ yn ei ddywedyd am hynny, Dihar 21.5. Deisyfiad y diog a'i lladd, medd Salomon, canys ei ddwylo a wrthodant weithio: ar hyd y dydd y mae'n fawr ei awydd; ond y cyfiawn â rydd ac ni arbed. Cymmerwch y gwâs diog anfuddiol, medd Christ, a theflwch i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd, Mat. 25. A phan oedd yn ymdaith ar y ffordd, a chanfod ffigysbren a dail arno heb ffrwyth, efe a roes iddo felldith dragywyddol yn y man, Mat. 21.
3. O'r ffynnon ddiogi yma, y mae'n tarddu lawer o bethau sy'n rhwystro i'r diog roi ei fryd ar edisarhau. A'r cyntaf yw rhyw drymder a syrthni a gogysgu tu ac at bob daioni, fel y dywaid yr Scrythur, Syrthni a bair drymgwsg, Dih. 19.15. Ac am hynny y dywaid S. Paul, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, Eph. 5. Ac y mae Christ yn llefain yn fynych, Edrychwch arnoch eich hunain, a gwiliwch. Chwi a gewch weled llawer o ddynion yn y byd, y rhai os chwi a chwedleuwch a hwynt am vchen, neu am wartheg, neu am ddefaid, neu am ddarn o dir, neu'r cyffelyb, hwy a fedrant wrando arnoch a siarad a chwi yn ewyllysgar ac yn ddislin iawn; ond os chwi ewch i ymrefymmu a hwynt ynghylch eu hiachawdwriaeth, a'i treftadaeth yn nheyrnas nef, ni attebant hwy i chwi vn gair, ond gwrando megis pettent yn breuddwydio. Am y dynton yma, gan hynny, y dywaid y gwr doeth; Pa hyd ddiogyn y gorweddi? [Page 345]Pa bryd y cyfodi o'th gwsg? Ai etto Ychydig gysgu, ychydig heppian, ychydig wasgu dwylo i gysgu? Ac felly y daw dy dlodi arnat megis cennad yn rhedeg, a'th angen fel gwr arfog, Dihar. 6.9. Dihar. 24.33.
4. Yr ail peth y mae diogi yn ei beri ynom ni ydyw peri i ni ofni cymmeryd poen a thrafael, a bwrw peryglon lle ni bo achos, fel y dywaid yr Scrythur, Ofn sydd yn digalonni 'r diog. Ac y mae'r prophwyd yn dywedyd am y cyfryw rai, Ofnasant gan ofn lle nid oedd ofn, Psal. 53.5. Y mae'r cyfryw ddynion yn dychymmyg llawer o feddyliau dieithr am wasanaeth Duw, ac yn bwrw fod yn berygl mawr iddynt ei ddilyn. Vn a ddywaid, pettawn i yn rhoi llawer ni allai nad awn i'yn gardottyn. Medd vn arall, ped ymrown i gymmeryd poen drafaelus yn wastadol, lladdai hynny fi cyn nemmor o ennyd. Medd y trydydd, pettwn i yn fy narostwng fy hun fel yr ydys yn ceisio gennyf wneuthur, mi a gawn gan bawb fy sathru dan draed. Ac etto nid yw hyn i gyd ddim ond diogi, fel y tystia'r Scrythur lân yn y geiriau hyn, Medd y diog wrth eiste'n ei dy, Y mae llew allan, ac od af si allan i lafurio, fo'm lleddir i ynghanol yr heolydd, Dih. 22.13.
5. Y trydydd peth y mae diogi yn ei beri ydyw llyrfder a gwan galon, a hynny sydd yn dadymchwel y diog ac yn ei ddigalonni, ar bob tippyn o wrthwyneb ac anhawsder y mae efe yn ei weled neu yn tybied ei fod mewn duwioldeb. A hynny y mae'r gwr doeth yn ei dystiolaethu, pan yw yn dywedyd, In lapide luteo lapidatus est piger, y diog a labyddiwyd i angau â maen o dom. Hynny ydyw, efe a ymchwelwyd ac a orchfygwyd gan anhawsder heb ddim pwys ynddo. Hefyd De stercore boum lapidatus est piger, y diog a labyddiwyd â biswail ychen, yr hwn fynychaf sydd mor feddal ac nas gwna niweid ei ddyrnod.
[Page 346]6. Y pedwerydd peth y mae diogi yn ei beri ydyw mewvd a musgrelli: y rhai a welwn eu bod mewn llawen o bobl a chwedleuant ac a ymgynghorant am hyn ac am y llall ynghylch eu gwellhaad, ac heb wellhau vn gronyn. A hynny a ddangosir yn gymmwys iawn gan yr yspryd glân yn y geiriau hyn, Fel y drws yn troi ar ei golyn, felly y try'r diog yn ei wely, Dih. 26.14. A thrachefn, Y diog a wna ac nis gwna, Hynny ydyw, ef a ymdrŷ yn ei wely, a rhwng cyngyd gwneuthur a bod heb wneuthur ni wna efe ddim. Ac ymmhellach mewn man arall, y mae'r Scrythur yn dangos ei fusgrelli ef, fel hyn, Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fonwes, ac nid ystyn hi at ei enau, Dih. 19.24.
7. Y pethau hyn a llawer eraill y mae diogi yn eu peri, ond y pedwar peth hyn yn enwedig y tybiais yn dda gyffwrdd a hwynt, am eu bod yn rhwystro yn fawr i ddyn ymroi i wellhau ei fuchedd: oblegid pwy bynnag sydd yn byw mewn swrth ddargwsg, ac ni warandawo ac ni roddo glûst i ddim ac a ddywetter wrtho ynghylch y bywyd a ddaw; a chydâ hynny sydd yn bwrw bod peryglon wrth wneuthur hynny; ac heb law hynny a dramgwyddo wrth bob peth a fo ar ei ffordd, ac a gwympo; ac yn ddiweddaf fydd mor ddiowgswrth ac na chlywo arno gymmeryd poen yn y byd; y mae'r cyfryw vn allan o bob gobaith gallu ei ynnill i roi ei fryd ar wasanaethu Duw.
8. Gan hynny, i dynau ymaith y rhwystr yma rhaid i'r cyfryw ddynion osod bob amser ger bron eu llygaid boen a llafar CHRIST a'i Sainct, a'r cynghorion y maent hwy yn eu rhoi i rai eraill i gymmeryd yr vn fath boen: a'r bygwth a wneir yn yr Scrythur lân ar y rhai ni chymmeront boen: a chyflwr ein milwriaeth ni yma ar y ddaiar, yr hon sydd yn gofyn ar ein dwylo ni lafurio: a'r goron sy [Page 347]wedi ei pharottoi i ni am hynny: ar dialedd a'r gofid a ddaw ar y rhai musgrell diowgswrth. Ac yn ddiwethaf onis gallant hwy ddioddef poen a llafur buchedd dduwiol, a hithan yn gyffylltedig a chymmaint o gomffordd a hyfrydwch ac nas gellir gan iawn ei galw yn boen; pafodd y byddant abl i ddioddef poenau a gofidiau 'r fuchedd a ddaw, y rhai sydd ddir eu bod yn anoddef ac yn dragywyddol.
9. Y mae S. Paul yn dywedyd am dano ei hun ac eraill, wrth y Thessaloniaid, Ni fwyttasam ni ein bara yn rhâd gyda chwychwi, ond trwy weithio mewn llafur a lludded nos a dydd: i roi i chwi esampl ar hynny i'w ddilyn ef; ac y mae yn datgan ymmhellach, os byddai neb ni fynnai weithio, na chai fwytta ychwaith, 2 Thes. 3.8, 10. Y mae Christ yn y ddamineg byth yn ceryddu yn dôst y rhai o [...]dd yn sefyll yn segur; gan ddywedyd, beth a wnewch chwi yn sefyll yma yn segur ar hyd y dydd, ac heb weithio dim, Mat. 20, Myfi yw'r winwydden, medd Christ, a'm Tâd yw'r llafurwr, Pob cangen ynof fi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymmaith, ac yn ei bwrw yn tân, a hi a losgir, Joan. 15.1, 6. Ac mewn man arall, Torrwch i lawr y pren nid yw yn dwyn ffrwyth, pa ham y mae efe yn diffrwytho'r tir, Luc. 13.9. A thrachefn, Yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd, a'r treiswyr [...]dd yn ei chippio hi trwy boen a llafur, Mat. 11.12 Ac am hynny y mae'r gwr doeth yntau yn dywedyd, Preg. 9.10. Beth bynnag a ymaflo dy law ynddo i'w wneuthur yn y byd yma, gwna a'th holl egni; can nad oes na gwaith, na dychymmyg, na gwybodaeth, na doethineb, yn y bedd, lle'r wyt ti yn myned, ar a dyccia i ti. A thrachefn y dywed yr vn gwr doeth, Y neb a weithio a llaw ddiog a ddaw i dlodi, ond llaw y diwyd a'i cyfoethoga, Dih. 10.4. Ac etto ym mhellach i'r vn defnydd, Y diog nid ardd o herwydd oerder y gauaf, [Page 348]am hynny efe a gardotta'r cynhauaf ac ni chaiff ddim. Dih. 20.4.
10. Hyn i gyd a berthyn i ddangos, mai amser cymmeryd poen a llafur yw'r fuchedd hon, ac nid amser i segura, a'i bod wedi ei happwyntio i ni er mwyn ceisio ynnill nef: y hi ydyw'r farchnad, lle mae yn rhaid i ni brynu; a'r gâd, lle mae'n rhaid i ni ymladd ac ynnill y goron; a'r gauaf yn yr hwn y mae'n rhaid i ni hau; a'r dydd gwaith, lle mae'n rhaid i ni lafurio a chwysu, ac ynnill ein ceiniog gyflog. A'r neb a ollyngo'r dydd yma heibio mewn seguryd, fel y mae y rhan fwyaf yn gwneuthur, sy raid iddo ddioddef tlodi ac eisiau tragwyddol yn y fuchedd a ddaw, fel y dangoswyd yn helaeth yn y rhan gyntaf o'r llyfr hwn. Ac am hynny mae'r gwr doeth, neu yn hytrach yr yspryd glân drwy enau'r gwr doeth, yn rhoi i bob vn o honom ni rybudd a chyngor o'r difrifaf yn y geiriau hyn, Dih. 6.3. &c. Cerdda, brysia, ac ymbil a'th gymmydog. Na ddyrò gwsg i'th lygaid na hun i'th amrantau: Gwared dy hun fel yr iwrch o law'r heliwr; ac fel aderyn o law'r adarwr. Cerdda at y morgrugyn, edrych ar ei ffyrdd ef, a dysg fod yn ddoeth. Nid oes ganddo neb i'w arwain, nac i'w lywodraethu, nac iw feistroli; ac er hynny y mae efe yn parottoi ei fwyd yr haf ac yn casglu ei luniaeth y cynhauaf. Wrth y geiriau hyn y rhybuddir ni, pa fodd y mae i ni ymddwyn yn y fuchedd hon, ac mor ddyfal ac mor ofalus y dylem ni fod ym mhob math ar weithred dda, fel y dywaid yr Apostol yntau; gan fod y morgrugyn yn gweithio mor ddyfal y cynhauaf, i gasglu ymborth erbyn y gauaf; felly y dylem ninnau gasglu erbyn y byd a ddaw, ac nad oes rhwystr pennach na pherygclach nâ diogi i lestair i ni wneuthur hynny. Oblegid fel y byddai ddir i'r morgrugyn farw o newyn y gauaf, pettai efe yn treulio'r hâf mewn seguryd; felly yn [Page 349]ddiammau y bydd rhaid i bawb ni weithio gan ddiogi yn y byd yma, ddioddef dygn eisiau ac angen a gofid yn y byd a ddaw.
11. Yr ail rhwystr yr wyfi yn ei alw Diofalwch ac esgeulusdra, ond yr wyf fi yn deall wrth hynny beth sy fwy nag y mae'r gair yn ei arwyddoccau. Oblegid tan enw Esgeulusder yr wyf yn cynnwys pob math ar ddynion diofal difraw, y rhai ni chymmerant at eu calon ddim ac a berthyn i Dduw ac i dduwioldeb, ond rhoi eu meddwl mor gwbl ar fatterion bydol, heb fawr feddwl am lachawdwriaeth eu heneidiau. Tan y fath yma ar esgeulusdra y cynnhwysir dau fath ar bobl, y naill yw'r Epicuraeaid, cyfryw ac y mae S. Paul yn dangos fod rhyw Gristianogion yn ei amser ef, y rhai oedd yn cymmeryd ennyd yn vnig i fwytta ac i yfed, ac i wneithur Duw o'i boliau, fol y mae llawer o Gristianogion heddyw, Phel. 3.19. a'r llall yw math ar ddirgel annuwdeb a gwadu Duw: hynny ydyw, ei wadu ef yn eu buchedd a'i hymarweddiad, fel y mae S. Paul yn deall y geiriau, Tit. 1.16. Oblegid er bod y gwyr hyn ar eu geiriau yn cydnabod Duw, ac yn ymhonni o fod yn gystal Christianogion ac eraill, etto mewn gwirionedd, yn y dirgel nid ydynt yn credu i Dduw, fel y mae eu buchedd hwy a'i gweithredoedd yn dangos. A hyn y mae Ecclesiasticus yn ei ddatguddio yn eglur, lle y mae efe yn dywedyd, Gwae'r galon lesg, o herwydd nid yw yn credu i Dduw, Eccl. 2.13. Hynny ydyw, er eu bod yn ymhonni o fod yn credu iddo ac yn ymddiried ynddo, etto mae eu difraw a'i diofal weithredoedd hwy yn tystiolaethu nad ydynt yn credu iddo yn eu calonnau: am nad ydynt nac yn gofalu nac yn meddy lio am ddim ac a berthyn iddo ef.
12. Y fath yma ar bobl y mae 'r Scrythur lân yn eu marcio ac yn eu ffieiddio am aredig ag ŷch ac ag [Page 350]assen ynghyd, ac am hau eu tir â hâd cymmysg, ac am wisgo dillad o lin a gwlân ynghyd, Deut. 22. Y rhai hyn yw y rhai y mae Christ yn dywedyd am danynt yn llyfr y Datguddiad: Mi a fynnwn pe bait ti oer neu frwd. Felly am dy fod yn glaiar, ac nid yn oer nâc yn frwd mi a'th chwydaf di allan o'm genau, Datc. 3.15.16. Dymma y rhai a fedr wneuthur cyttundeb rhwng pob math ar grefydd, a dibenno pob ymrafael ynghylch y flydd, trwy ddywedyd, naill ai nad yw'r ymrafael sy rhyngddynt ond o bwys bychan, neu na pherthyn y pethau hynny ond i wŷr dysgedig i sôn am danynt, ac nid iddynt hwy. Dyma 'r rhai a feidr gyttuno â phob math ar gwmpeini, ac â phob amser, ac ag ewyllys pob tywysog ynghylch y pethau a berthyn i'r bywyd a ddaw. Dyma y rhai ni fynnant sôn am yr yspryd, nac am ffydd, nac am ddwywoldeb, lle y bônt hwy; ond mynnu i ddynion fwytta, ac yfed, a bod yn llawen gyda hwynt; a dywedyd newyddion o'r llŷs âc o leoedd eraill; a chanu a dawnsio, a chwerthin, a chwarau; ac felly treulio eu bywyd yma mewn llai o feddwl am Dduw nac y gwnai'r cenhedloedd erioed: ac onid ydyw reswm i'r Scrythur lân ddywedyd fod y rhai hyn yn eu calonnau ac yn eu gweithredoedd yn bobl ddidduw? ydyw yn wir. Ac fe ellir ei brosi wrth lawer o reolau CHRIST. Ac dyma vn rheol a osododd efe ar lawr, Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt, oblegid fel y bo'r pren oddifewn, felly y bydd y ffrwyth a ddaw allan o hono Hefyd; O helaethrwydd y galon y llefara'r genau, Luc. 6, 44, 45. ac wrth hynny, gan nad ydyw eu siarad hwy ddim ond am orwagedd bydol, mae hynny yn arwydd nad oes dim amgen nâ hynny yn eu calonnau hwynt. Ac yma y canlyn wrth y drydedd reol, lle y byddo eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd Mat. 6.21. Ac felly gan fod eu calonnau hwy [Page 351]ar y byd yn vnig, y byd wrth hynny ydyw eu hunig drysor hwy, ac nid Duw. Ac felly y maent hwy yn gosod y byd o flaen Duw, yn y modd y gwna y rhai didduw.
13. Felly y cyrraedd y rhwystr yma yn y dyddiau hyn, a llawer o ddynion a rwydir ac a feglir gantho; a'r achos pennaf o hynny ydyw gormodd serch ar y byd; yr hyn sydd yn eu dwyn hwy i gasau Duw, ac i fagu gelyniaeth yn ei erbyn ef, fel y dywaid yr Apostol, Jac. 4.4. ac am hynny nid dim rhyfedd na wnelont hwy na chredu ynddo nac ymhoffi ynddo. Ac o ddynion y byd dyma y rhai anhawsaf eu troi yn ol a pheri iddynt ddodi eu bryd ar wellhâu; am eu bod yn ddiymglywed, ac heb law hynny yn ffo rhag pob peth a allo eu hiachau hwy. Oblegid fel na bai fawr obaith o'r dyn a fai glaf iawn, ac ni chlywai ddim oddiwrth ei glefyd, ac ni choeliai fod arno anhwyl yn y byd, ac ni fynnai sôn am na physygwriaeth na physygwr, ac ni chymmerai gyngor yn y byd a gynnygid iddo; na dioddef na fiarad nag ymgynghori ynghylch ei wneuthur yn iach: felly y mae'r dynion hyn mewn cyflwr perygclach na neb arall, am nad ydynt yn gwybod oddiwrth eu perygl eu hun; ond coelio eu bod ddoethach na 'i cymmydogion, a bwrw ym mhell allan o'i meddyliau pob peth ac a allai beri iddynt gael iechyd.
14. Nid oes vn ffordd ond vn, od oes ffordd yn y byd, a all wneuthur llês i'r dynion yma, a hynny ydyw peri iddynt goelio eu bod yn gleifion, a'i bod mewn perygl; a'r ffordd oreu i wneuthur hynny, yn fy nhyb i, ydyw peri iddynt ddeall belled ydynt oddiwrth fod yn Gristianogion, ac felly oddiwrth bob gobaith o lechydwriaeth ar a ellir ei gael oddiwrth fod yn Gristianogion. Y mae Duw yn gofyn ar ein dwylo ni, Fod i ni ei garu ef a'i wasanaethu a'n holl galon, ac a'n holl enaid, ac a'n holl nerth. [Page 352]Dyma wir eiriau Duw, a osodwyd i lawr yn y gyfraith hên a'r newydd, Mat. 22.37. A pha gyn belled, meddi di, ydyw'r gwŷr hyn oddiwrth wneuthur felly, a hwy heb roi hanner eu calon, na hanner eu henaid, na hanner eu nerth i wasanaethu Duw, ie na'r dim lleiaf o honynt? Y mae Duw yn gofyn ar ein dwylo ni fod i ni roi ein holl astudrwydd a'n meddyliau ar ei orchymmynion ef, a bod i ni feddwl am danynt yn wastadol, a myfyrio arnynt ddydd a nôs, yn ty ac allan, y boreu a'r hwyr, wrth fynd i gysgu ac wrth godi'r boreu. Dyna ei orchymmyn ef, ac nid oes maddeu dim o hono. Ac onid ydynt hwy bell oddiwrth hynny y rhai nid ydynt yn gwario traian eu meddyliau ar hynny, ie na'r ganfed ran ychwaith, nac ond odid vnwaith mewn blwyddyn yn crybwyll am hynny? A all y rhai hyn ddywedyd eu bod yn Gristianogion, neu eu bod yn adnabod Duw?
15. Y mae Christ, wrth fwrw pris pethau 'r bywyd hwn, yn adrodd y wers hon, Vnpeth sy anghenrheidiol yn y byd hwn, hynny ydyw gwasanaethu Duw yn ddyfal ac yn ofalus, Luc. 10.42. Y mae'r gwŷr hynny yn gweled llawer o bethau yn angenrheidiol heb law'r vnpeth hwn, ac nad yw'r vnpeth hwn yn anghenrheidiol ddim o hono. Pa ragor wrth hynny sy rhwng eu tŷb hwy a thŷb Apostol Christ fydd yn dywedyd na ddylai Gristion byth garu 'r byd na dim o'r pethau sydd ynddo, 1 Jo. 2.15. Ac ni char y gwŷr hyn ddim arall ond y pethau sy 'n y byd. Y mae efe yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn caru 'r byd, y mae efe yn elyn i Grist. Ac y mae 'r gwyr hyn yn elynion i bob dyn nid yw yn caru 'r byd. Pa fodd wrth hynny y gall y gwyr hyn ddal gyda Christ? Y mae Christ yn dywedyd y dylem ni weddio yn wastadol, Luc. 18.1. A hwythau heb wêddio vn amser. Y mae Apostol Christ yn dywedyd [Page 353]dyd am gybydd-dod, ac aflendid, a godineb, a serthedd, a choeg-ddigrifwch, na ddylid vnwaith cymmaint a'i henwi ym mysg Christianogion, Eph. 5.1, 3, 4. A'r gwyr hynny ni fynnant sôn am ddim ond am y pethau hynny. Yn ddiweddaf, y mae 'r holl Scrythur lan yn rhedeg ar hyn, y dylai Gristianogion fod yn wrandawus, yn wiliadwrus, yn ofalus, yn daerion, yn frydion, yn parhau yn ddibaid yngwasanaeth Duw. Ond nid oes yn y gwyr hyn yr vn o'r pethau hyn, na rhan yn y byd o'r vn o honynt; ond bawb y gwrthwyneb yn vnion. Oblegid nid ydynt hwy nac yn hyglust i wrando, na yn wiliadwrus, nac yn ddiwyd. nac. yn ofalus, chwaethach bod yn daerion, yn frydion, ac yn parhau yn ddibaid. Ond yn y gwrthwyneb, y maent hwy yn ddiofal, yn esgeulus, yn fusgrell, yn llacc ac yn llaes; yn oerion, yn wrthnysig, yn dirmygu, ac yn diystyru, ac yn w [...]thwyneb ganddynt, ac yn ffieiddio pob peth a berthyn tu ac at eu marwolaethu eu hunain, a thu ac at wie wasanaeth Duw. Pa ran wrth hynny sydd i'r gwy [...] hyn gyda Christianogion, ond yr enw yn vnig y [...] hwn ni thyccia ddim iddynt.
16. A hyn sy ddigon i ddangos mor fawr ac mor beryglus o rwystr ydyw 'r esgeulusdra, a'r diofalwch, a'r difrawch yma, i luddias i ddynion roi eu bryd ar wasanaethu Duw. Oblegid os ydyw Christ yn gofyn gan y neb a fynno roi ei fryd yn llwyr ac yn gwbl ar ei wasanaethu ef, fod i'r neb a ganfyddo vnwaith y trysor cuddiedig yn y maes (hynny ydyw teyrnas nef, a'r vnion ffordd sydd yn tywys iddi) fyned yn y man a gwerthu cwbl ac a fedd, a phrynu 'r maes hwnnw, Mat. 13.44. hynny ydyw, bod iddo wneuthur mwy cyfrif o erlyn am deyrnas nef, nac o holl ddaioni 'r bywyd hwn, ac anturio cwbl o honynt yn hytrach nag esgeuluso 'r trysor yma. O [...] yw Christ meddaf, yn gofyn hynny ar ein dwylo [...], [Page 354]pa bryd y daw 'r dynion yma i wneuthur hynny, y rhai ni fynnant roi y rhan leiaf o'i da tu ac at brynu 'r maes hwnnw, na myned vnwaith allan o ddrysau eu tai i sôn am eu brynu, na meddwl na sôn am dano, na thybiaid yn dda o'r neb a ddan oso iddynt y modd y mae iddynt ddyfod o hŷd iddo.
17. Am hynny y neb a'i clywo ei hun, o'r meddwl hwnnw, mi a gynghorwn iddo ddarllain ymbell bennod yn nechreuad y llyfr hwn, yn enwedig y trydydd ar pedwerydd y rhai sy 'n dangos yr achosion y danfonwyd ni i't byd hwn o'i plegid; a'r pummed hefyd, yr hwn sy 'n dangos pa gyfrif sy raid i ni ei wneuthur i Dduw o'r amser yr ydym ni yn ei dreulio yma; ac yno nid wyf yn ammau na chaiff weled yr amryfusedd a'r perygl y mae efe yn sefyll ynddo, wrth fod mor esgeulus ddiofal ac edrych am bethau mor weigion ddiles ac y mae, y rhai ni ddaeth efe i'r byd o'i hachos; a gadael heibio, heb na gofalu na meddwl am danynt, y pethau sydd o bwys, ac y dylai roi ei fryd a'i feddwl arnynt.
18. Y trydydd rhwystr a'r diwethaf y mae 'n fy mryd grybwyll am dano yn y llyfr hwn; yw 'r drwg dueddfryd sy mewn rhai, yr hwn y mae 'r Scrythur lân yn ei alw Caledwch calon, a Chyndynrwydd meddwl, pan fo dyn wedi gosod cwbl o'i fryd a'i feddwl nad ymadawo byth a'r cyflwr pechadurus y mae 'n byw ynddo, beth bynnag a ddyweder neu a aller ei ddywedyd yn ei erbyn. Ac mi a adewais y rhwystr yma hyd yn olaf yn y llyfr hwn, o herwydd mai hwn yw 'r diweddaf, a'r gwaethaf o'r holl rwystrau a ddangoswyd o'r blaen, ac yn cynnwys ynddo bob math ar ddrygioni ac sydd yn yr vn o'r llaill, ac sy gyda hynny yn ymroi 'n gwbl o wir ddihewyd calon i bechu; yn gwbl wrthwyneb i'r peth yr ydym yn llafurio ar i ddynion roi eu bryd arno.
[Page 355]19. Y Caledwch calon yma sydd ynddo amryw raddau mewn amryw ddynion, a hynny yn helaethach mewn rhai nag yn y llaill. Oblegid y mae rhai wedi cyrrhaeddyd hyd at y Caledwch eithaf a soniais am dano o'r blaen; yn gymmaint ac er eu bod hwy yn gwybod yn dda eu bod ar gam, etto er mwyn rhyw achos bydol, nid ymroant hwy i newidio eu buchedd. Cyfryw oedd Galedwch Pilat, oblegid er ei fod yn gwybod yn dda ei fod yn rhoi barn yn erbyn Christ ar gam, etto rhag colli ewyllys da yr luddewon, neu anfoddhau eu dywysog, efe a aeth rhagddo ac a roes farn yn ei erbyn ef. Hyn hefyd oedd galedwch Pharao, yr hwn er ei fod, yn gweled y gwyrthiau a wnai Foesen ac Aaron, ac yn clywed llaw Dduw yn drom ar ei deyrnas, etto am na fynnai wybod arno gael ei orchfygu gan bobl mor wael ac oeddynt hwy, ac am na fynnai i ddynion feddwl y mynnai efe ei gymmell i laryeiddio, efe a barhaodd yn wastad yn ei wrthnysigrwydd a'i ddrygioni, hyd oni ddaeth arno o'r diwedd lwyr ddygn ddinystr a dialedd. Y Caledwch calon yma hefyd oedd ymrenhin Agrippa, ac yn Felix rhaglaw Judaea, y rhai er eu bod yn meddwl yn eu cydwybod fod S. Paul yn dywedyd y gwir wrthynt hwy, etto rhag ofn colli eu gair yn y byd, hwy a barhasant, ac a gyfrgollwyd yn eu gwagedd eu hun. Ac y mae 'r caledwch yma fynychaf ym mhawb ac sy 'n erlid rhinweddau da a dynion da, ac yn enwedig y rhai sy yn dal ar y gwirionedd. Oblegid er eu bod hwy 'n gweled fod y rhai hynny yn wirion, a bod gair Duw a chyfiawnder ar eu tu hwynt: etto er mwyn cadw eu hystad, a'i gair, ac ewyllys da 'r byd, y maent hwy yn parhau yn eu drygioni heb na thrugaredd nac edifeirwch, hyd oni ddêl Duw o'r diwedd a'i torri hwy ymaith ynghanol eu drwg feddwl a'i cynddaredd.
[Page 356]20. Y mae eraill nid oes ynddynt cymmaint caledwch calon a pharhau yn eu drygioni yn erbyn eu gwybodaeth, etto y mae ynddynt mewn modd arall, am eu bod wedi rhoi eu bryd yn gwbl ar ganlyn y ffordd a gychwynnasant, ac ni fynnant ddeallt y peryglon sy ynddi, ond yn hytrach ceisio siccrhau eu coel ar y fford honno, a llonyddu eu cydwybodau ynddi: ac nid oes dim a'i digia hwy yn gymmaint a chlywed dim a fo gwrthwyneb iddi. Am y rhai hyn y dywaid Job dduwiol, hwy a ddywedasant wrth Dduw, Cilia oddiwrthym, canys nid ydym yn chwennych adnabod dy ffyrdd di, Job 21.14. A'r prophwyd Dafydd, yn oleuach etto, Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn asp. Y maent fel y neidr fyddar, yr hon a gae ei chlustiau, ac ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo 'r swynwr, Psal. 58.4. Wrth y swynwr yma y mae efe yn deall yr yspryd glan, yr hwn fy 'n ceisio ym mhob modd eu denu hwy oddiwrth yr hudoliaethau sydd yn eu rhwydo hwynt; a'r rheiny a eilw yr gwr doeth, Fascinationes vanitatis, Hudoliaeth gwagedd. Ond fel y dywaid y prophwyd, Hwy a wrthodasant wrando, ac a roesant ysgwydd anhydyn, ac a drymhasant eu clustiau rhag clywed: Gwnaethant eu calonnau yn Adamant rhag clywed Cyfraith yr Arglwydd, ac ymchwelyd atto ef, Zech. 7.11.
21. Yr ydys yn bwrw 'r pechod mawr yma yn enwedig ar yr Iuddewon, fel y mae S. Stephan yn tystiolaethu pan ddywedodd efe yn eu gŵydd hwy eu hunain, Acts 7.51. Chwychwi Iuddewon gwarrgaled, yr ydych chwi bob amser yn gwrthwynebu 'r Yspryd glan, gan feddwl wrth hynny, fel y dengys Christ yn helaethach, eu bod hwy yn gwrthwynebu prophwydi a Sainct Duw, yn y rhai yr oedd yr yspryd glan yn llefaru wrthynt o amser i amser am wellhau eu buchedd. Ac am nas gallent hwy gan [Page 357]oleuni yr wybodaeth yr oeddynt yn ei gael wrth wrando cyfraith Dduw, nac mewn gwirionedd nac mewn lliw fwrw dim yn erbyn y pethau a ddywedid, nac yn erbyn y beio a'r ceryddu a wneid arnynt, ac etto a roent eu bryd yn gwbl nad vfuddhaent, ac na newidient eu hên arfer: am hynny y cwympasant o'r diwedd i erlid y rhai a'i ceryddai, a'r achos o hynny oedd galedwch calon yn vnig: Hwy a wnaethant eu hwynebau yn galettach na 'r graig, ac a wrthodasant ddychwelyd, medd Duw trwy enau Jeremi, Jer. 5.3. Ac mewn man arall yn yr vn prophwyd y mae efe 'n cwyno yn dôst rhag eu cyndynrwydd hwy, Pa ham y ciliodd pobl Jerusalem yma yn eu hôl, ag enciliad cynnhennus cyndyn, fel na wrandawant arnaf fi, Jer. 8.5. Sic latine; Ac etto drachefn, Pa ham y byddwch feirw, chwi ty Israel? Ezec. 33.11. Pa ham yr ydych yn eich gwneuthur eich hunain yn golledig? Pa ham yr ydych chwi mor gyndynniog ac nas gwrandewch; ac mor anhydyn ac nas dysgwch; ac mor greulon wrthych eich hunain ac nas mynnwch wybod y perygl yr ydych ynddo, na deall y dialedd sydd vwch eich pennau.
22. Ond wyt ti yn tybiaid, frawd anwyl, fod Duw yn arfer y fath ymadrodd, nid yn vnig wrth yr Iuddewon, ond hefyd wrth lawer mil o Gristianogion, ac ysgatfydd wrthyt ti dy hun lawer gwaith yn y dydd, am dy fod di yn gwrthod y meddyliau da y mae efe yn eu rhoi ynot ti, a'r moddion da eraill y mae efe yn eu harfer, i geisio dy dynnu di i'w wasanaethu ef; a thithau ath fryd yn gwbl nad ymroech iddynt; ond canlyn dy ffordd dy hun, er maint a annoger arnat i'r gwrthwyneb? Och och, pa sawl Christion sydd yn dywedyd wrth Dduw bob dydd, fel y dywedai yr annuwiol, Cilia oddiwrthym, nid ydym ni yn chwennych adnabod dy ffyrdd di. Pa faint [Page 358]sy o ddynion yn ffiaidd ac yn gâs ganddynt gyngor da; yn ofni ac yn crynu rhag darllain llyfrau da; yn gochel ac yn cassau cwmpeini duwiol, rhag i hynny gyffroi dim ar eu cydwybod hwy, ac iddynt ddychwelyd, a bod yn gadwedig? Pa faint sy o rai a ddywedant gydâ 'r rhai calon-galed anhappus hynny y mae 'r prophwyd yn crybwyll am danynt, Ni a wnaetham ammod ag angeu ac ag vffern y gwnaethom gyngrair. Megis pe y dywedent, Na flinwch ni, nac aflonyddwch arnom a'ch cynghorion, na threuliwch ddim o'ch geiriau a'ch trafael yn ofer: siaredwch a'r rhai sy etto heb sefydlu: cymmered y neb a fynno 'r nef: yr ydym ni a'n meddwl cennym: yr ydym ni wedi gwnenthur ammod, ac y mae 'n rhaid i ni ei gyfiawni, ag vffern ac ag angeu tragywyddol. Es. 28.15.
23. Cynddaredd ryfeddol ydyw calon-galedwch; ac nid heb achos y cyffelyba 'r prophwyd hynny i wenwyn a chynddaredd sarph, Psal. 58.4. Ac mewn lle arall y mae 'r Scrythur lan yn dangos pa fath ydyw, yn y modd hyn, Yr wyt ti yn galon galed, a'th warr sy fal geuyn haiarn, a'th dalcen yn bres, Es. 48.4. Pa beth a ellir ei ddywedyd ddwysuch,De Cons. ad Eug. lib. 5. cap. 1. i ddangos galetted y fettel yma? Ac etto y mae S. Bernard yn ei ddangos yn helaethach yn y geiriau hyn, A pha beth wrth hynny yw calon-galed? Ac yn y man y mae 'n atteb, Calon-galed yw 'r hon ni ddryllir gan dristwch, ac ni feddalheir gan dduwioldeb, ac ni chyffroir gan weddi, ac nid ymrydd er bygwth, ac ni wellhaa ddim ond yn hyttrach gwaethygu gan gerydd. Calon-galed yw 'r hon sy anniolchgar i Dduw am ei ddoniau, ac anufudd i'w gynghorion ef: yr hon a greulonir gan ei farnedigaethau ef, ac a ymollwng pan geisio efe ei denu, ac sy ddigywilydd mewn brynti, a diofn rhag perygl; ac anhynaws [Page 359]wrth drin y byd, ac anhydyn yn y pethau a berthyn i Dduw, ac yn anghosio 'r pethau a aeth heibio, ac yn esgeulus ddifraw yn y pethau sy bresennol, ac yn anfeddylgar ddiddarbod am y pethau a ddaw.
24. Wrth eiriau S. Bernard y gellir gweled, fod calon galedwch agos yn glefyd diobaith anaele heb feddyginiaeth iddo, lle y digwyddo. Oblegid beth a wnewch chwi, medd y tad duwiol hwnnw, i geisio help iddo? os dangoswch iddo dosted yw pechod, ni chyffry arno ronyn gan ofid: os dangoswch iddo bob math ar reswm, y dylem ni wasanaethu Duw, ac na ddylem na'i ddigio, na'i ammherchi, er hynny ni liniara ac ni feddalhaa efe vn gronyn. Pettych yn ymbil ag ef ac yn erfyn arno trwy ddagrau, ie ar eich gliniau, ni chyffroai arno ronyn. Os bygythiwch ef a digofaint Duw, nid ymddyry efe ddim er hynny. Os Duw a'i fflangella ef, efe a syrth mewn cynddaredd, ac a â yn galon-galettach nag oedd o'r blaen. Os gwna Duw gymmwynasau iddo, efe a â yn anniolchgar. Os ei gynghori a wna ynghylch ei lachawdwriaeth, nid vfuddhaa efe. Os crybwyllwch wrtho mor ddirgel ac mor dôst yw barnedigaethau Duw, efe a gwymp mewn anobaith, ac a fydd creulonach. Os ceisiwch ei ddenu a'i ynnill a thrugareddau Duw, hynny a wna iddo ymroi i ddrygioni. Os dywedwch iddo ei frynti, ni wrida efe. Os rhowch iddo rybudd o'i beryglon, nid ofna efe. Os trin matterion y byd a wna, y mae 'n falch ac yn annhirion. Os trin pethau Duw a wna, y mae efe yn waedwyllt, ac yn anwadal, ac yn drahaus. Yn ddiwethaf, y mae 'n gollwng yn anghof bob peth aeth heibio am ddynion eraill, y modd y gobrwywyd hwy am eu duwioldeb, neu y cospwyd hwy am eu pechodau. Am yr amser presennol, y mae efe yn ei esgeuluso, ac heb wneuthur cyfr [...] 'n y byd o'i arfer tu ac at ei lês. Ac am y p [...]thau a ddaw, [Page 360]pa vn bynnag a'i dedwyddyd a'i colledigaeth, y mae efe yn gwbl ddiddarbod o honynt, ac heb wneuthur cyfrif o honynt, er mynyched ac er difrifed y crybwylloch wrtho am danynt. A pha fodd y gellir help i'r cyfryw vn?
25. Nid heb achos mawr yn siccr y gweddiodd y gwr doeth mor ddifrif at Dduw, Na ddod fi i fynu i feddwl digywilydd anllyfodraethus, Eccl. 23.6. Ac y mae'n rhoi rheswm am hynny mewn man arall o'r vn llyfr, Drwg fydd ar galon galed yn y diwedd, Eccl. 3, 26. O na ddaliai bob vn sy galongaled ar y rheswmyma. Ond y mae S. Bernard yn myned rhagddo, ac yn dangos mor ofnadwy yw hyn ymmhellach, pan yw yn dywedyd, Ni bu erioed etto un dyn calon-galed yn gadwedig, De cons. l. 1. cap. 1. oddieithr i Dduw o'i drugaredd dynu oddiwrtho ei galon galed, a rhoi iddo galon gnawd, fel y dywaid y prophwyd, Ezek. 36.26. Wrth y geiriau hyn y mae S. Bernard yn dangos, ac yn profi allan o'r prophwyd, fod dau fath ar galon mewn dynion, y naill o gnawd, yr hon a waeda ond ei phigo; hynny ydyw, hi a syrth mewn cystudd a dolur, ac edifeirwch, a dagrau, er lleied a gerydder arni am bechod. A'r llall sydd galon garreg, yr hon er maint a faeddoch ac a guroch arni a gyrdd ac a morthwylion, chwi a ellwch cyn hawsed ei thorri yn ddrylliau, a'i phlygu neu beri iddi waedu. Ac ar y ddau fath yma ar galon yn y byd yma, y mae 'n sefyll ein holl ddedwyddwch a'n hannedwyddwch ni yn y byd a ddaw. Oblegid, megis pan oedd Duw a'i fryd ar ddwyn dialedd ar Pharao, nid oedd ganddo ffordd dostach i wneuthur hynny na dywedyd; Mi a galedaf galon Pharao, Exod. 4. hynny ydyw (fel y mae S. Awstin yn deall) mi a ddygaf fy ngrâs oddiarno, ac a adawaf iddo galedu ei galon ei hun: [Page 361]felly pan oedd yn chwennych dangos trugaredd i Israel, Super Exod. & S [...]r. 88. de t [...]p. nid oedd ganddo fodd i'w ddangos yn eglurach na dywedyd, Mi a dynnaf y galon garreg allan o'ch cnawd chwi, ac a roddaf i chwi galon gig, Ezek. 36.26. Hynny ydyw, Mi a dynnaf ymaith eich calon galed chwi, ac a roddaf i chwi galon feddal, yr hon a gyffry pan lefarer wrthi. Ac o'r holl fendithion a'r doniau y mae Duw yn eu rhoddi i ddynion yn y'byd hwn, y galon feddal dyner yma yw vn o'r rhai mwyaf; hynny ydyw y cyfryw galon ac a fo hawdd genthi edifarhau, a ddioddef yn hawdd ei cheryddu, a fo hawdd ei gwanu a'i phigo, a fo hawdd genthi waedu, a fo hawdd ei chymmell ar wellhaad. Ac o'r gwrthwyneb, ni all fod melldith a dialedd mwy ar Gristion, na bod ganddo galon galed gyndyn, a fo yn pentyrru dialedd beunydd arni ei hun ac ar ei pherchen hefyd; fel y dywaid S. Paul; hi a gyffelybir gan yr Apostol i dir ni phair glaw yn y bydiddo fod yn ffrwythlon, er mynyched y syrthio arno, ac am hynny y mae yn datgan am dano ei fod yn anghymmeradwy, ac yn agos is felldith, ac mai ei ddiwedd fydd ei lo [...]gi, Heb. 6.8.
26. A chan fod y peth felly, nid rhyfedd fod yr Scrythur lan yn ein hannog ni mor ofalus i ochel calon-galedwch, am nad oes clefyd perygclach, nac mor anaele, ac a all ddigwydd i Gristion, gan mai hwnnw yw 'r drws nesaf fel y dywaid yr Apostol, i ddyn i gael ei wrthod gan Dduw. Ac am hynny y llefa S. Paul, Eph. 4.30. 1 Thess. 5.19. Na thristewch lân Yspryd Duw; Na ddiffoddwch yr yspryd, trwy galedwch calon, a thrwy wrthwynebu a gw [...]thladd yr yspryd. A thrachefn, Na chaleder calon neb o honoch trwy dwyll pechod, Heb. 3.13. Y mae 'r prophwyd Dafydd ynta [...] yn llefain, Heddyw o gwrandewch ar leferydd Duw yn galw arnoch i edifarhau, [Page 362] na chaledwch eich calonnau yn ei erbyn ef, Ps. 95. Ac y mae 'r holl eiriau difrif yma eiddo 'r yspryd glán yn dwyn ar ddallt i ni mor ofalus y dylem ni fod i ochel yr haint gwenwynig yma, calon-galedwch: a'r holl-alluog Dduw o'i drugaredd a roddo i ni ras i wneuthur hynny, ac a'n cynnysgaeddo ni a chalon dyner i vfuddhau yn gwbl i'w ddwyfawl fawredd ef; y cyfryw galon feddal, meddaf, ac a ddymunodd y gwr doeth ei chael pan ddywedodd efe wrth Dduw, Dyro i'th wâs galon ddeallus, vfudd i wrando, a hawdd ei dysgu, 1 Bren. 3.9. y fath galon ac y mae Duw ei hun yn dangos ei bod ym mhawb a'i carant ef, gan ddywedyd, Ar bwy yr edrychaf, ond ar y truan, a'r cystuddiedig o yspryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair, Es. 66.2.
27. Dyma anwyl frawd, y fath galon y mae Duw yn ei disgwyl ar dy law di: calon fechan, druan, vfudd, ostyngedig, a chalon ddrylliedig am dy bechodau; a chalon a gryno wrth bob gair a ddèl attati oddiwrth Dduw trwy enau ei weinidogion. Pa fodd wrth hynny nad ofni wrth yr aml eiriau a'r hir draethawd a aeth o'r blaen, i geisio dy ddeffro di, a dangos i ti dy berygl, a cheisio dy wellhau di? Pa fodd nad ofni di fygythion a barnedigaethau yr Arglwydd mawr yma am dy bechod di? Pa fodd y llefesi di fyned rhagot yn ei ddigio ef? Pa fodd yr oedi di yn hwy wellhau dy suchedd? diau y gallasai y rhan leiaf o'r hyn a ddywetpwyd fod yn llawn ddigon i gyffroi calon dyner, ac yspryd vfudd gostyngedig, i wellhau ei buchedd yn y man. Ond onis gall y cwbl beri i ti wneuthur hynny; ni fedrafi ddywedyd dim amgen na bod gennyt ti galon galed iawn: Yr hon er mwyn dy Iachawdwriaeth di, yr attolygaf ar y Tad o'r nef ei meddalhau a gwerthfawr waed brŵd ei vnig fab ein Iachawdwr, yr hwn a fu fodlon i golli ei waed ar y groes er dy fwyn di.
[Page 363]28. Ac dyma i chwi gwbl ac a amcenais ei adrodd yn y llyfr hwn, i ddangos i chwi yr modd y mae i chwi wneuthur eich goreu ar droi at Dduw ac ymadael a'ch drwg fuchedd, ac y mae hyn yn llawn ddigon gydâ chymorth glân yspryd Duw, yr hwn sydd bod amser yn barod i gymmorth pawb a wnêl ei oreu ar ochel yr hyn sy ddrwg, a dilyn yr hyn sy dda. Ac onid ydyw hyn ddigon i ti, ddarllennydd hynaws, ni wn i pa obaith a all fod o'th iachawdwriaeth di. Oblegid y mae yn ammhossibl i ti fyned i'r nef, o byddi fyw yn annuwiol heb edifarhau. Ie y mae cyn hawsed i [...]i allu gyrru Duw ei hun allan o'r nef, a chael myned i'r nef dy hun os ti a barhei yn dy annuwioldeb. Beth wrth hynny a wnai di? A elli di fod heb fyned i'r nef, a gochel vffern hefyd? Na elli ddim. Beth ynteu a wnai di? ai oedi 'r matter, a meddwl yn ôl hyn beth sy oreu i ti ei wneuthur? Ond bydd di siccr na chai di byth amser cystal, na hanner cystal a'r amser presennol. Ac od yw anhawdd i ti yr awrhon wellhau dy fuchedd, gwybydd yn ddiau y bydd anhaws o lawer i ti yn ôl hyn. Os gwrthodi di gymmeryd edifeirwch pan y cynnygier yt, mae arnaf ofn nas cai di mwy ei gynnyg i ti. Wrth hynny, frawd anwyl, nid oes dim well i ti nâ'i gymmeryd allau o law. Gwna dithau hynny, a gwna i angylion nef lawenhau o'th achos. Na sid gwellgennyti, fel y mab afradlon, Luc 15. fwytta 'r ciban gyd [...] 'r môch yn y byd hwn, nâ chymmeryd gwahodd i'r wledd nefol gydâ Duw a'i angylion. I'r hon y dygco Duw nyni 1 gyd, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.
DIWEDD.