Y BIBL CYSSEGR-LAN, …

Y BIBL CYSSEGR-LAN, Sef yr HEN DESTAMENT A'R NEWYDD.

II. TIM. III. 16, 17.

Yr holl Scrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysprydoliaeth Dduw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder:

Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.

[...]intiedig yn Llundain gan John Bill, Christopher Barker, [...]ho. Newcomb, a Henry Hills, Printwyr i Ardderchoccaf fawrhydi y Brenin: ac a werthir gan John Hancock, tan lûn. y tri Bibl yn Popes-Head Alley, yn Cornhill. 1677.

HENWAV A THREFN LLYFRA [...] 'R HEN DESTAMENT A'R NEWYDD, A RHIFEDI PENNODAU POB LLYFR.

  • GEnesis Pen. 50
  • Exodus Pen. 40
  • Leviticus Pen. 27
  • Numeri Pen. 36
  • Deuteronomium Pen. 34
  • Josua Pen. 24
  • Barnwyr Pen. 21
  • Ruth Pen. 4
  • I. Samuel Pen. 31
  • II. Samuel Pen. 24
  • I. Brenhinoedd Pen. 22
  • II. Brenhinoedd Pen. 25
  • I. Chronicl Pen. 29
  • II. Chronicl Pen. 36
  • Ezra Pen. 10
  • Nehemiah Pen. 13
  • Esther Pen. 10
  • Job Pen. 42
  • Psalmau Pen. 150
  • Diharebion Pen. 31
  • Pregethwr Pen. 12
  • Caniadau Salomon Pen. [...]
  • Esay Pen. 6 [...]
  • Jeremi Pen. [...]2
  • Galarnad Jeremi Pen. 5
  • Ezeciel Pen. 48
  • Daniel Pen. 12
  • Osea Pen. 14
  • Joel Pen. 3
  • Amos Pen. 9
  • Obadiah Pen. 1
  • Jonah Pen. 4
  • Micah Pen. 7
  • Nahum Pen. 3
  • Habaccuc Pen. 3
  • Zephaniah Pen. 3
  • Haggai Pen. 2
  • Zechariah Pen. 14
  • Malachi Pen. 4

Y LLYFRAU A ELWIR APOCRYPHA.

  • I. Esdras Pen. 9
  • II. Esdras Pen. 16
  • Tobit Pen. 14
  • Judeth Pen. 10
  • Y darn arall o lyfr Esther Pen. 6
  • Doethineb Pen. 19
  • Ecclesiasticus Pen. 51
  • Baruch Pen. 6
  • Cân y tri llangc. Pen. 1
  • Histori Susanna Pen. 1
  • Histori Bel a'r Ddraig Pen. 1
  • I. Maccabæaid Pen. 16
  • II. Maccabæaid. Pen. 15

LLYFRAU Y TESTAMENT NEWYDD.

  • SAinct Matthew Pen. 28
  • S. Marc Pen. 16
  • S. Luc Pen. 24
  • S. Joan Pen. 21
  • Actau 'r Apostolion Pen. 28
  • Yr Epistol at y Rhufeiniaid Pen. 16
  • At y Corinthiaid 1. Pen. 16
  • At y Corinthiaid 2. Pen. 13
  • At y Galatiaid Pen. 6
  • At yr Ephesiaid Pen. 6
  • At y Philippiaid Pen. 4
  • At y Colossiaid Pen. 4
  • At y Thessaloniaid 1. Pen. 5
  • At y Tessaloniaid 2. Pen. 3
  • At Timotheus 1. Pen. 6
  • At Timotheus 2. Pen. 4
  • At Titus Pen. 3
  • At Philemon Pen. 1
  • At yr Hebræaid Pen. 13
  • Epistol Iaco Pen. 5
  • 1 Petr Pen. 5
  • 2 Petr Pen. 3
  • 1 Ioan Pen. 5
  • 2 Ioan Pen. [...]
  • 3 Ioan Pen. [...]
  • Jud Pen. [...]
  • Datcuddiad Ioan Pen. [...]

LLYFR CYNTAF MOSES, YR HWN A ELWIR GENESIS.

PENNOD. I.

1 Creadwriaeth nef a daiar, 3, a'r goleuni, 6 a'r ffurfafen, 9 naillduo y ddaiar oddiwrth y dy­froedd, 11 a'i gwneuthur yn ffrwythlon, 14 yr haul, y lleuad, a'r sêr, 20 y pyscod a'r adar, 24 yr anifeiliaid, 26 dyn ar lun Duw. 29 Ordei­nio lluniaeth ac ymborth.

YNPs. 33.6. Ps. 136.5 Act. 14.15. Act. 17.24. Heb. 11.3. Eccles. 18.1. y dechreuad y creawdd Duw y nefoedd a'r ddaiar.

2 A'r ddaiar oedd afluniaidd a gwâg, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac yspryd Duw yn ymsymmud ar wyneb y dyfroedd.

3 A Duw a ddywedodd,2 Cor. 4.6. Heb. 11.3. bydded goleuni, a goleuni a fu.

4 A Duw a welodd y goleuni mai dâ oedd: a Duw a wahanodd rhwng y goleuniHebr. a rhwng y. a'r ty­wyllwch.

5 A Duw a alwodd y goleuni yn ddydd, a'r tywyllwch a alwodd efe yn nos: a'r hwyr a fu, a'r borau a fu, y dydd cyntaf,

6 Duw hefyd a ddywedodd,Ps. 136.5. Jerem. 10.12. Jerem. 51.15. bydded ffur­fafen yng-hanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a'r dyfroedd.

7 A Duw a wnaeth y ffurfafen, ac a wa­hanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a'r dyfroeddPs. 148.4. Jer. 51.15. oddi ar y ffurfafen, ac felly y bu.

8 A'rPs. 33.7, ac 136.5. Job 38.8. ffurfafen a alwodd Duw yn nefo­edd: a'r hwyr a fu, a'r borau a fu, yr ail dydd.

9 Duw hefyd a ddywedodd,Ps. 33.7, ac 136.5. Job. 38.8. cascler y dy­froedd oddi tan y nefoedd i'r vn lle, ac ym­ddangosed y sych-dir: ac felly y bu.

10 A'r sych-dir a alwodd Duw yn ddaiar, a chascliad y dyfroedd a alwodd efe yn foroedd: a Duw a welodd mai da oedd.

11 A Duw a ddywedodd, egined y ddaiar egin, sef llyssiau yn hadu hâd, a phrennau ffrwyth-lawn yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhy­wogaeth, y rhai y mae eu hâd ynddynt ar y ddaiar: ac felly y bu.

12 A'r ddaiar a ddug egin sef llyssiau yn ha­du hâd wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu hâd ynddynt wrth eu rhywogaeth: a Duw a welodd mai da oedd.

13 A'r hwyr a fu, a'r borau a fu, y trydydd dydd.

14 Duw hefyd a ddywedodd,Ps. 136.7 Deut. 4.19. bydded go­leuadau yn ffurfafen y nefoedd i wahanu rhwng y dyddHebr. a rhwng y. a'r nos, a byddant yn arwy­ddion, ac yn dymmorau, ac yn ddyddiau a blynyddoedd.

15 A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaiar: ac felly y bu.

16 A Duw a wnaeth ddau oleuad mawri­on, y goleuad mwyafHeb. yn rheol i'r. i lywodraethu y dydd, a'r goleuad lleiaf i lywodraethu y nos, a'r ser hefyd a wnaeth efe.

17 Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaiar:

18 AcJerem. 31.35. i lywodraethu y dydd a'r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a'r tywyllwch: a gwelodd Duw mai dâ oedd.

19 A'r hwyr a fu, a'r borau a fu, y pedwe­rydd dydd.

20 Duw hefyd a ddywedodd,2 Esdr. 6.47. heigied y dy­froedd ymlusciaid byw, ac eheded ehediaid vwch y ddaiar, yn wyneb ffurfafen y nefoedd.

21 A Duw a greawdd y mor-feirch mawri­on, a phob ymlusciad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad as­cellog yn ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai dâ oedd.

22 A Duw a'i bendigodd hwynt, gan ddy­wedyd;Pen. 8. 17. ac 9.1. ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaiar.

23 A'r hwyr a fu, a'r borau a fu, y pum­med dydd.

24 Duw hefyd a ddywedodd, dyged y ddai­ar bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a'r ymlusciad, a bwystfil y ddaiar wrth ei ry­wogaeth: ac felly y bu.

25 A Duw a wnaeth fwystfil y ddaiar, wrth ei rywogaeth, a'r anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusciad y ddaiar wrth ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai dâ oedd.

26 Duw hefyd a ddywedodd, [...] gwna [...] ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysc y mor, [...] hediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar [...] ddaiar, ac ar bob ymlusciad a, ymlu [...] [...] ddaiar.

27 Felly Duw a greawdd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw Duw y creawdd efe [...] wryw ac yn fenyw y creawdd efe hwynt.

28 Duw hefyd a'i bendigodd hwynt [...] a ddywedodd wrthynt, [...] ffrwythwch, ac aml­hewch, a llenwch y ddaiar, a darostyngwch hi, ac arglwyddiaethwch ar bysc y mor, ac ar ehe­diaid y nefoedd, ac ar bob peth byw aHebr. ymlusco ym­symmudo ar y ddair.

29 A Duw a ddywedodd, wele mi a ro­ddais i chwi bob llyssieun yn hadu hâd, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaiar, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu hâd,Gen. 9.3. i fod yn fwyd i chwi.

30 Hefyd i bob [...], ac i bob e­hediad y nefoedd, ac [...] ymsummudo ar y ddaiar yr hwn y mae Heb. enaid byw. Mar. 7. 37. Eccles 39.16. [...] ynddo, y bydd pob llyssieun gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu.

31 A gwelodd Duw yr hyn oll a [...]ethei, ac wele da iawn ydoedd: [...] yr hwyr a fu, ar borau a fu, y chweched dydd.

PEN. II.

Y dydd Sabbath, 2 dull y creadwriaeth, 8 plan­nu [Page] [...] gwybodaeth yn unig,19 Enwi y creaduriaid. 22 gwneuthur gwraig, ac ordeinio priodas.

FElly y gorphennwyd y nefoedd a'r ddaiar, ai holl lu hwynt.

2Exod. 20.11. Exod. 31.17. Heb. 4.4. Deut 5.14. Ac ar y seithfed dydd y gorphennodd Duw ei waith yr hwn a wnaethe efe, ac a orphywy­sodd ar y seithfed dydd oddi with ei holl waith, yr hwn a wnaethei efe.

3 A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef: oblegit ynddo y gorphywy­sase oddi wrth ei holl waith, yr hwn a greasei Duw iw wneuthur.

4 Dymma genhedlaethau y nefoedd a'r ddaiar, pan grewyd hwynt, yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaiar a nefoedd:

5 A phob planhigyn y maes cyn ei fod yn y ddaiar, a phob llyssieun y maes cyn tarddu a­llan: oblegit ni pharasei yr Arglwydd Dduw lawio ar y ddaiar, ac nid ydoedd dyn i lafurio y ddaiar.

6 Onid tarth a escynnodd o'r ddaiar, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaiar.

7 A'r Arglwydd Dduw a luniase y dyn1 Cor. 15.47. oHebr. lw [...]h. bridd y ddaiar, ac a anadlase yn ei ffroenau ef anadl enioes:1 Cor. 15.45. a'r dŷn a aeth yn enaid byw.

8 Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd yn Eden o du y dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasei efe.

9 A gwnaeth yr Arglwydd Dduw, i bob pren dymunol i'r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd ynghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o'r ddaiar.

10 Ac afon a aeth allan o Eden i ddyfrhau yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.

Eccles. 24.25.11 Henw y cyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila, lle y mae yr aur.

12 Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae Bdeliwm, a'r maen Onix.

13 A henw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wladHebr. Cush. Ethiopia.

14 A henw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn mynedTua dwyrain. o du yr dwyrain i As­syria: a'r bedwaredd afon yw Euphrates.

15 A'r Arglwydd Dduw a gymmerodd y dyn, ac a'i gosododd ef yngardd Eden, iw llafu­rio ac iw chadw hi.

16 A'r Arglwydd Dduw a orchymynnodd i'r dyn, gan ddywedyd, o bob pren o'r ardd gan fwytta y gelli fwytta.

17 Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwytta o honaw: oblegit yn y dydd y bwyt­teych o honaw, gan farw y byddi farw.

18 Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, nid da bod y dyn ei hunan, gwnaf iddogym­morth. ym­geleddHebr. megis ger ei fron ef. cymmwys iddo.

19 A'r Arglwydd Dduw a luniodd o'r ddai­ar holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y ne­foedd, ac a'i dygodd at Adda, i weled pa henw a roddei efe iddynt hwy: a pha fodd bynnac yr henwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei henw ef.

20 Ac Adda a henwodd henwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Addagym­morth ymgeledd cymmwys iddo.

21 A'r Arglwydd Dduw a wnaeth i drym­gwsc syrthio ar Adda, ac efe a gyscodd: ac efe a gymmerodd un o'i assennau ef, ac a gaeodd gig yn ei lle hi.

[...] sen a gymmerasei efe o'r dyn, yn wraig, [...] ac a'i dug at y dyn.

23 Ac Adda a ddywedodd, hon weithian sydd ascwrn o'm hescyrn i, a chnawd o'm cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegit o ŵr y1 Cor. 11.8. cymmerwyd hi.

24 O herwydd hynMatt. 19.5. Mat. 10.7 Ephes. 5.31. 1 Cor. 6.16. yr ymedy gwr a'i dâd, ac a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.

25 Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a'i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.

PEN. III.

1 Y sarph yn hudo Efa. 6 Cywilyddus gwymp dyn. 9 Duw yn eu holi ac yn eu barnu hwy. 14 Melldigo y sarph.15 Addaw yr had. 16 Co­spedigaeth dyn. 21 Ei wisciad cyntaf. 22 A'i fwrw allan o baradwys.

A'RDoeth. 2.24. sarph oedd gyfrwysach nâ holl fwyst­filod y maes, y rhai a wnaethe yr Arglwydd Dduw, a hi a ddywedodd wrth y wraig, aiNeu am. diau ddywedyd o Dduw, ni chewch chwi fwytta o bob pren o'r ardd?

2 A'r wraig a ddywedodd wrth y sarph, o ffrwyth prennau'r ardd y cawn ni fwytta.

3 Ond am ffrwyth y pren sydd ynghanol yr ardd, Duw a ddywedodd, na fwyttewch o hon­aw, ac na chyffyrddwch ag ef, rhac eich marw.

4 A'r sarph a ddywedodd wrth y wraig, ni byddwch feirw ddim.

5 Canys gwybod y mae Duw, mai yn y dydd y bwyttaoch o honaw ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau yn gwybod da a drwg.

6 A phan welodd y wraig mai dâ oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac maiNeu dy­munol. têg mewn golwg ydo­edd, a'i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymmerth o'i ffrwyth ef,1 Tim. 2.14. Eccles. 25.24. ac a fwyttaodd, ac a roddes iw gŵr hefyd gyd â hi, ac efe a fwyt­taodd.

7 A'u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wniasant ddail y ffigus-bren; ac a wnaethant iddynt ar­ffedogau.

8 A hwy a glywsant lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd, gyd ag awel y dydd, ac ymguddiodd Adda a'i wraig o olwg yr Ar­glwydd Dduw, ym mysc prennau'r ardd.

9 A'r Arglwydd Dduw a alwodd ar Addaf, ac a ddywedodd wrtho, pa le yr wyt ti?

10 Yntef a ddywedodd, dy lais a glywais yn yr ardd, ac mi a ofnais, oblegit noeth oeddwn, ac a ymguddiais.

11 A dywedodd Duw, pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o'r pren y gorchymyn­naswn i ti na fwytteit o honaw, y bwytteaist?

12 Ac Adda a ddywedodd, y wraig a ro­ddaist gyd â mi, hi a roddodd i mi o'r pren, a mi a fwytteais.

13 A'r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig, pa ham y gwnaethost ti hyn? a'r wraig a ddywedodd; y sarph a'm twyllodd, a bwytta a wneuthum.

14 A'r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarph; am wneuthur o honot hyn, melldi­gediccach wyt ti nâ'r holl anifeiliaid, ac nâ holl fwyst-filod y maes: ar dy dorr y cerddi, a phridd a fwyttei holl ddyddiau dy enioes.

15 Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngor ti a'r wraig, a rhwng dy hâd ti ai hâd hithe: efe a yssiga dy ben di, a thithe a yssigi ei sodl ef.

16 Wrth y wraig y dywedodd, gan amlhau [Page] yr amlhaf dy boenau di a'th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a'th ddymuniad fydd ar dy wr,1 Cor. 14 34. ac efe a lywodraetha arnat ti.

17 Hefyd wrth Adda y dywedodd, am wran­do o honot ar lais dy wraig, a bwytta o'r pren am yr hwn y gorchymynnaswn i ti, gan ddy­wedyd, na fwytta o honaw; melldigedic fydd y ddaiar o'th achos di: trwy lafur y bwyttei o honi holl ddyddiau dy enioes.

18 Drain hefyd ac ysgall a ddŵg hi i ti; a llyssiau y maes a fwyttei di.

19 Trwy chwŷs dy wyneb y bwyttei fara, hyd pan ddychwelech i'r ddaiar, oblegit o honi i'th gymmerwyd; canys pridd wyt ti, ac i'r pridd y dychweli.

20 A'r dyn a alwodd henw ei wraigHeb. Chauab. Efa; oble­gid hi oedd fam pob dŷn byw.

21 A'r Arglwydd Dduw a wnaeth i Adda ac iw wraig beisiau crwyn, ac a'i gwiscodd am danynt hwy.

22 Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, wele y dŷn sydd megis vn o honom ni, i wybod dâ a drwg. Ac weithian rhac iddo estyn ei law, a chymmeryd hefyd o bren y bywyd, a bwytta, a byw yn dragwyddol:

23 Am hynny yr Arglwydd Dduw a'i han­fonodd ef allan o ardd Eden, i lafurio y ddaiar, yr hon y cymmerasid ef o honi.

24 Felly efe a yrrodd allan y dŷn, ac a osododd o'r tu dwyrain i ardd Eden y Cerubiaid, a chle­ddyf tanllyd yscwydedic, i gadw ffordd pren y bywyd.

PEN. IV.

1 Genedigaeth, celfyddyd, a chrefydd Cain ac A­bel. 8 Lladd Abel. 11 Melldigo Cain. 17 Enoch y ddinas gyntaf. 19 Lamech a'i ddwy wraig. 25 Genedigaeth Seth, 26 Ac Enos.

AC Adda a adnabu Efa ei wraig, a hi a feichi­ogodd, ac a escorodd ar Gain, ac a ddy­wedodd cefais ŵr gan yr Arglwydd.

2 A hi a escorodd eil-waith ar ei frawd ef Abel, acHeb. Habel. Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio y ddaiar.

3 A bu wedi talm o ddyddiau, i Gain ddwyn o ffrwyth y ddaiar offrwm i'r Arglwydd.

4 Ac Abel yntef a ddûg o flaen-ffrwyth ei ddefaid, ac o'i braster hwynt: a'r Arglwydd aHeb. 11.4. edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm:

5 Ond nid edrychodd efe ar Gain, nac ar ei offrwm ef: a digllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wyneb-pryd ef.

6 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, pa ham y llidiaist? a pha ham y syrthiodd dy wyneb-pryd?

7 Os dâ y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn ddâ, pechod a orwedd wrth y drws: attat ti hefyd y mae ei ddymuniad ef, a thi a lywodraethi arno ef.

8 A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd. Ac fel yr oeddynt hwy yn y maes,Mat. 23.35. 1 Joan. 3.12. Jud. 11. Doeth. 10.3. Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a'i lladdodd ef.

9 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Gain, mae Abel dy frawd ti? yntef a ddywedodd, ni's gwn; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?

10 A dywedodd Duw, beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gweiddi arnaf fi o'r ddaiar.

11 Ac yr awrhon melldigedic wyt ti o'r ddai­ [...], yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy f [...]awd o'th law di.

12 Pan lafuriech y ddaiar, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth it; gwibiad, a chrwydiad fyddi ar y ddaiar.

13 Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd, mwy yw fynghospe­digaeth nag y gall­wyf ei oddef. anwiredd nac y gellir ei faddeu.

14 Wele gyrraist fi heddyw oddi ar wyneb y ddaiar, ac oth ŵydd di i'm cuddir: gwibiad he­fyd a chrwydrad fyddaf ar y ddaiar, a phwy bynnac a'm caffo a'm lladd.

15 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, am hyn­ny y dielir yn saith ddyblyg ar bwy bynnac a laddo Gain. A'r Arglwydd a osododd nôd ar Gain, rhac i neb a'i caffei ei ladd ef.

16 A Chain aeth allan o ŵydd yr Arglwydd, ac a drigodd yn nhîr Nod, o'r tu dwyrain i Eden.

17 Cain hefyd a adnabu ei wraig, a hi a fei­chiogodd, ac a escorodd arHeb. Chanoch. Henoch; yna'r y­doedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd henw y ddinas yn ol henw ei fâb Henoch.

18 Ac i Henoch y ganwyd Irad: ac Irad a gen­hedlodd Mehuiael, a Mehuiael a genhedlodd Methusael, a Methusael a genhedloddHeb. Lemech. Lamech.

19 A Lamech a gymmerodd iddo ddwy wra­gedd: henw y gyntaf oedd Ada; a henw 'r ail Silla.

20 Ac Ada a escorodd ar Jabal, hwn ydoedd dâd pob presswylydd pabell, a pherchen anifail.

21 A henw ei frawd ef oedd Jubai, ac efe oedd dâd pob teimlydd telyn ac organ.

22 Silla hitheu a escorodd ar Tubal-cain,Heb. hogwr. gweithydd pob cywrein waith prês a haiarn: a chwaer Tubal-cain ydoedd Naamah.

23 A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Ada a Silla, gwragedd Lamech, clywch fy llais, gwrandewch fy lleferydd; canys mi aHeb. laddwn. leddais ŵr i'm harcholl, a llangc i'm clais.

24 Os Cain a ddielir seith-waith, yna Lamech saith ddeng-waith, a seith-waith.

25 Ac Adda a adnabu ei wraig drachefn, a hi a escorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Seth; o herwydd Duw eb hi a osododd i mi hâd arall yn lle Abel, am ladd o Gain ef.

26 I'r Seth hwn hefyd y ganwyd mâb, ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna yHeb. dechreua­sant eu galw eu hun ar enw &c. dechreuwyd galw ar enw 'r Arglwydd.

PEN. V.

1 Achau, oedran, a marwolaeth y Patrieirch o Adda hyd Noah. 24 Duwioldeb Enoch, a Duw yn ei gymmeryd ef ymmaith.

DYmma1 Cro. 1.1. lyfr cenhedlaethau Adda: yn y dydd y creawdd Duw ddŷn,Gen. 1.26. Doeth. 2.23. ar lûn Duw y gwnaeth efe ef.

2 Yn wryw, ac yn fanyw y creawdd efe hwynt, ac efe ai bendithiodd hwynt, ac a al­wodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crewyd hwynt.

3 Ac Adda a fu fyw ddeng-mhlynedd ar hu­gain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun ai ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth.

41 Cro. 1.1. A dyddiau Adda wedi iddo genhedlu Seth oedd wyth gan mlhynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched.

5 A holl ddyddiau Adda y rhai y bu efe fyw, oedd naw can-mlhynedd, a deng-mlhynedd ar hugain, ac efe y fu farw.

6 Seth hefyd a fu fyw bum-mhlynedd, a chan mhlynedd, ac a genhedlodd Enos.

7 A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gan mlhynedd, ac a gen­hedlodd feibion a merched▪

8 A holl ddyddiau Seth oedd ddeu-ddeng mhlynedd a naw-can mhlynedd, ac efe a fu farw.

9 Ac Enos a fu fyw ddeng mlhynedd a phed­war vgain, ac a genhedlodd Cenan.

10 Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlhynedd ac wyth gan mlhy­nedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

11 A holl ddyddiau Enos oedd bum mlhy­nedd a naw can mlhynedd, ac efe a fu farw.

12 Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd a thrugain, ac a genhedlodd Mahalaleel.

13 A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Ma­halaleel ddeugain mlhynedd ac wyth gan mlhy­nedd, ac a genhedlodd feibion a meched.

14 A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlhy­nedd a naw can mlhynedd, ac efe a fu farw.

15 A Mahalaleel a fu fyw bum mlhynedd a thrugain mlhynedd, ac a genhedloddIared. Iered.

16 A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedluIared. Iered, ddeng mlhynedd ar hugain ac wyth gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

17 A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bum­theng mlhynedd a phedwar vgain ac wyth gan mlhynedd, ac efe a fu farw.

18 AIared. Iered a fu fyw ddwy flynedd a thru­gain a chan mlhynedd, ac a genhedlodd Enoch.

19 AIared. Iered a fu fyw wedi iddo genhedlu En­och wyth gan-mlhynedd, ac a genhedlodd fei­bion a merched.

20 A holl ddyddiauIared. Iered oedd ddwy flyn­edd a thrugain, a naw can mlhynedd, ac efe a fu farw.

21 Henoch hefyd a fu fyw bum mlhynedd a thrugain, ac a genhedlodd Methuselah.

22 A Henoch a rodiodd gyd a Duw wedi iddo genhedlu Methuselah, dry-chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

23 A holl ddyddiau Henoch oedd bum mlhy­nedd a thrugain, a thrychant o flynyddoedd.

24Heb. 11.5. Eccles. 44.16. A rhodiodd Henoch gyd a Duw, ac ni welwyd ef: canys Duw a'i cymmerodd ef.

25 Methuselah hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar vgain a chant, ac a genhedlodd La­mech.

26 A Methuselah a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar vgain, a saith gan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

27 A holl ddyddiau Methuselah oedd naw mlynedd a thrugain, a naw can mlhynedd, ac efe a fu farw.

28 Lamech hefyd y fu fyw ddwy flynedd a phedwar vgain a chan mlhynedd, ac a genhed­lodd fâb,

29 Ac a alwodd ei enw ef Noah, gan ddywedyd, hwn a'n cyssura ni am ein gwaith a llafur ein dwylo, o herwydd y ddaiar yr hon a felldigodd yr Arglwydd.

30 A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noah, bymtheng mlhynedd a phedwar vgain, a phum-can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

31 A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy fly­nedd ar bumthec a thrugain, a saith gan mlhy­nedd, ac efe a fu farw.

32 A Noah ydoedd fab bum can-mlwydd, a Noah a genhedlodd Sem, Cam, a Japheth.

PEN. VI.

1 Drygioni y byd, yr hwn a gyffrôdd ddigllonedd Duw, ac a barodd y Diluw. 8 Noah yn cael ffafor. 13 Trefn a phortreiad, a'r achos y gwnaed yr Arch.

YNa y bû pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaiar, a geni merched iddynt,

2 Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg oeddynt hwy, a hwy a gymmerasant iddynt wragedd o'r rhai oll a ddewisasant.

3 A dywedodd yr Arglwydd, nid ymrysona fy yspryd i a dŷn yn dragywydd, oblegit mai cnawd yw efe: a'i ddyddiau fyddant vgain mlhynedd a chant.

4 Cawri oedd ar y ddaiar y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd, pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta o'r rhai hynny idd­ynt: dymma y cedyrn a fu wŷr enwoc gynt.

5 A'r Arglwydd a welodd mai aml oedd dry­gioni dŷn ar y ddaiar, a bod Pob bwriad. holl fwriad me­ddyl-fryd eiGen. 8.21. Mat. 15.19. galon, yn vnic yn ddrygionus bôbHeb. dydd. amser.

6 Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur o honaw ef ddyn ar y ddaiar, ac efe a ymofidi­odd yn ei galon.

7 A'r Arglwydd a ddywedodd, deleaf ddŷn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaiar, o ddŷn hyd anifail, hyd yr ymlusciad, a hyd ehe­diad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennif eu gwneuthur hwynt.

8 Ond Noah a gafodd ffafor yng-olwg yr Ar­glwydd.

9 Dymma genhedlaethau Noah,Eccles. 44.17. 2 Pet. 2.5. Noah oedd ŵr cyfiawn,Neu, vnion. perffaith yn ei oes: gyd a Duw y rhodiodd Noah.

10 A Noah a genhedlodd dri o feibion, Sem, Cham, a Japheth.

11 A'r ddaiar a lygrasid ger bron Duw, llan­wasid y ddaiar hefyd â thrawsedd.

12 A Duw a edrychodd ar y ddaiar, ac wele hi a lygrasid, canys pôb cnawd a lygrasei ei ffordd ar y ddaiar.

13 A Duw a ddywedodd wrth Noah, diwedd pôb cnawd a ddaeth ger fy mron: o blegit llan­wyd y ddaiar a thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a'i difethaf hwynt gyd ar ddaiar.

14 Gwna it Arch o goed Gopher, yn gellau y gwnei 'r Arch, a phŷga hi oddi fewn, ac oddi allan â phŷg.

15 Ac fel hyn y gwnei di hi, try chant cufydd fydd hŷd yr Arch, dec cufydd a deugain ei lled, a dec cufydd ar hugain ei huchter.

16 Gwna ffenestr i'r Arch, a gorphen hi yn gufydd oddi arnodd: a gosod ddrws yr Arch yn ei hystlys: o dri uchder y gwnei di hi.

17 Ac wele myfi, ie myfi, yn dwyn dyfroedd diluw ar y ddaiar, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl enioes ynddo, oddi tan y ne­foedd: yr hyn oll sydd ar y ddaiar a drenga.

18 Ond â thi y cadarnhaf fyng-hyfammod, ac i'r Arch yr ei di, tydi a'th feibion, a'th wraig, a gwragedd dy feibion gyd a thi.

19 Ac o bob peth byw, o bôb cnawd, y dygi ddau o bôb rhyw i'r Arch iw cadw yn fyw gyd a thi; gwryw a banyw fyddant.

20 O'r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o'r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bôb ymlusci­ad y ddaiar wrth ei rywogaeth, dau o bôb rhywo­gaeth a ddaw attat iw cadw yn fyw.

21 A chymmer it o bôb bwyd a fwytteir, a chascl attat, a bydd yn ymborth iti, ac iddynt hwythau.

22Hebr. 11.7. Felly y gwnaeth Noah, yn ol yr hyn oll a orchymynnasei Duw iddo, felly y gwnaeth efe.

PEN. VII.

1 Noah a'i deulû a'r creaduriaid byw yn myned i'r Arch, 17 Dechreuad, cynnydd, a pharhaad y Diluw.

YNa y dywedodd yr2 Pet. 2.5. Arglwydd [...] dôs di, a'th holl dŷ i'r Arch: canys tydi a we­lais i yn gyfiawn ger fy mron i, yn yr oes hon.

2 O bôb anifail glân y cymmeri gyd a thi bôb ynHeb. saith a saith. saith, y gwryw a'i fanyw, a dau o'r anifeiliaid y rhai n'i ydynt lân, y gwryw, a'i fanyw:

3 O ehediaid y nefoedd hefyd, bôb yn saith, yn wryw ac yn fenyw, i gadw hâd yn fyw ar wyneb yr holl ddaiar.

4 Oblegit wedi saith niwrnod etto, mi a lawiaf ar y ddaiar ddeugain nhiwrnod, a deu­gain nhôs: ac mi a ddeleaf oddi ar wyneb y ddaiar bôb peth byw a'r a wneuthum i.

5Mat. 24 37. Luc. 17.26. 1 Pet. 2.20. A Noah a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchy­mynnasei yr Arglwydd iddo.

6 Noah hefyd oedd fâb chwe chan mlwydd, pan fu y dyfroedd diluw ar y ddaiar.

7 A Noah aeth i mewn, a'i feibion, a'i wraig, a gwragedd ei feibion gyd ag ef, i'r Arch, rhac y dwfr diluw.

8 O anifeiliaid glân, ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân, o ehediaid hefyd, ac o'r hyn oll a ymluscei ar y ddaiar,

9 Yr aeth i mewn at Noah i'r Arch bôb yn ddau, yn wryw, ac yn fanyw, fel y gorchymyn­nasei Duw i Noah.

10 AcNeu ar y seith­fed dydd. wedi saith niwrnod y dwfr diluw a ddaeth ar y ddaiar.

11 Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd No­ah, yn yr ail mîs, ar yr ail dydd ar bymthec o'r mîs, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffyn­honnau y dyfnder mawr, a ffenestri y nefoedd a agorwyd,

12 Ar glaw fu ar y ddaiar ddeugain nhiwr­nod a deugain nhôs.

13 O fewn corph y dydd hwnnw y daeth No­ah, a Sem, a Cham, a Japheth, meibion Noah, a gwraig Noah, a thair gwragedd ei feibion ef gyd a hwynt i'r Arch.

14 Hwynt, a phob bwyst-fil wrth ei rywoga­eth, a phob anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusciad a ymluscei ar y ddaiar wrth ei rywo­gaeth, a phob ehediad wrth ei rywogaeth, pob aderyn o bobHeb. agen. rhyw.

15 A daethant at Noah i'r Arch bob yn ddau, o bob cnawd ar oedd ynddo anadl enioes.

16 A'r rhai a ddaethant, yn wryw a banyw y daethant o bôb cnawd, fêl y gorchymynnasei Duw iddo. A'r Arglwydd a gaeodd arno ef.

17 A'r diluw fu ddeugain nhiwrnod ar y ddaiar, a'r dyfroedd a gynnyddasant ac a goda­sant yr Arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaiar.

18 A'r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynnydd­asant yn ddirfawr ar y ddaiar, a'r Arch a ro­diodd ar wyneb y dyfroedd.

19 A'r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaiar, a gorchguddiwyd yr holl fy­nyddoedd vchel oedd tan yr holl nefoedd.

20 Pymthec cufydd yr ymgryfhaodd y dyfro­edd tuac i fynu: a'r mynyddoedd a orchguddi­wyd.

21 A bu farw pôb cnawd a ymluscei ar y ddaiar, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fw­yst-filod, ac yn bôb rhyw ymlusciad a ymlu­scei ar y ddaiar, a phôb dŷn hefyd.

22 Yr hyn oll yr oedd ffun anadl enioes yn ei ffroenau, o'r hyn oll oedd ar y sych-dir, a fu­ant feirw.

23 Ac efe a ddeleodd bôb sylwedd byw a'r a oedd ar wyneb y ddaiar, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusciaid, ac yn ehediaid y nefoedd, ie de- [...] oedd gyd ag ef yn yr Arch yn vnic a adawyd yn fyw. [...]5. Doeth. 10.4.

24 A'r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaiar, ddeng nhiwrnod a deugain, a chant.

PEN. VIII.

1 Y Dyfroedd yn llonyddu. 4 Yr Arch yn gor­phywys ar fynyddoedd Ararat. 7 Y gig fran a'r golommen. 15 Noah ar orchymmyn Duw, 18 yn myned allan o'r Arch. 20 Ef yn adeila­du allor ac yn aberthu aberth, 21 yr hwn y mae Duw yn ei dderbyn, ac yn addo na felldi­thiai y ddaiar mwyach.

A Duw a gofiodd Noah, a phôb peth byw, a phôb anifail, ar a oedd gyd ag ef yn yr Arch: a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaiar, a'r dyfroedd a lonyddasant.

2 Caewyd hefyd ffynhonnau y dyfnder a ffene­stri y nefoedd; a lluddiwyd y glaw o'r nefoedd.

3 A'r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaiar gan fyned a dychwelyd: ac ym mhen y deng nhiwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasei.

4 Ac yn y seithfed mîs, ar yr ail dydd ar bymthec o'r mîs, y gorphywysodd yr Arch ar fynyddoedd Ararat.

5 A'r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio hyd y decfed mîs, yn y decfed mîs, ar y dydd cyntaf o'r mîs y gwelwyd pennau y mynyddoedd.

6 Ac ym mhen deugain nhiwrnod yr agorodd Noah ffenestr yr Arch a wnaethai efe.

7 Ac efe a anfonodd allan gig-frân, a hi aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaiar.

8 Ac efe a anfonodd golommen oddi wrtho, i weled a dreiasei y dyfroedd oddi ar wyneb y ddaiar.

9 Ac ni chafodd y golommen orphywysfa i wadn ei throed, a hi a ddychwelodd atto ef i'r Arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynnodd ei law, ac ai cymmerodd hi, ac ai derbyniodd hi atto ir Arch.

10 Ac efe a arhosodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eil-waith y golommen allan o'r Arch.

11 A'r golommen a ddaeth atto ef ar bryd nawn, ac wele ddeilen oliwydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noah dreio o'r dyfroedd oddi ar y ddaiar.

12 Ac efe a arhosodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golommen, ac ni ddychwelodd hi eil-waith atto ef mwy.

13 Ac yn yr vnfed flwyddyn a chwe-chant, yn y mîs cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mîs, y darfu i'r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noah a symmudodd gaead yr Arch, ac a edrychodd ac wele sychasei wyneb y ddaiar.

14 Ac yn yr ail mîs, ar y seithfed dydd ar­hugain o'r mîs, y ddaiar a sychasei.

15 A llefarodd Duw wrth Noah, gan ddy­wedyd;

16 Dos allan o'r Arch, ti, a'th wraig, a'th fei­bion, a gwragedd dy feibion, gyd a thi.

17 Pôb peth byw ar sydd gyd â thi, o bôb cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bôb ymlusciad a ymlusco ar y ddaiar, a ddygi allan gyd a thi:Gen. 22. Gen. 9. heppiliant hwythau yn y ddaiar, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaiar.

18 A Noah a aeth allan, ai feibion, ai wraig, a gwragedd ei feibion gyd ag ef.

19 Pôb bwyst-fil, pôb ymlusciad, a phôb ehe­diad, pôb peth a ymlusce ar y ddaiar, wrth [Page] eu rhywogaethau, a ddaethant allan o'r Arch.

20 A Noah a adailadodd allor i'r Arglwydd, ac a gymmerodd o bôb anifail glân, ac o bôb ehediad glân, ac a offrymmodd boeth offrym­mau ar yr allor.

21 A'r Arglwydd a aroglodd aroglPeraidd. esmw­yth, a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon, ni chwanegaf felldithio y ddaiar mwy er mwyn dyn: o herwydd bodPen. 6.5 Mat. 15.19. bryd calon dyn yn ddrwg oi ieuengctid: ac ni chwanegaf mwy daro pôb peth byw, fel y gwneuthum.

22 Pryd hau, a chynhaiaf, ac oerni, a gwres, a hâf, a gaiaf, a dydd, a nôs ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaiar.

PEN. IX.

1 Duw yn bendithio Noah, 4 yn gwahardd gwaed a llofruddiaeth. 9 Cyfammod Duw, 13 a ar­wyddoceir trwy'r Enfys. 18 Noah yn llenwi 'r byd, 20 yn plannu gwinllan, 21 yn meddwi, ac yn cael ei watwar gan ei fab: 25 yn melldigo Canaan, 26 yn bendithio Sem, 27 yn gweddio tros Japheth, 28 ac yn marw.

DVw hefyd a fendithiodd Noah ai feibion, ac a ddywedodd wrthynt,Pen. 1.28. ac 8.17. ffrwythwch a lluosogwch, a llenwch y ddaiar.

2 Eich ofn hefyd, a'ch arswyd sydd ar holl fwystfilod y ddaiar, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a'r hyn oll a ymsymmudo ar y ddaiar, ac ar holl byscod y mor, yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.

3 Pob ymsymmudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel yPen. 1.29. gwyrdd lessieun y rhoddais i chwi bob dim.

4Lefit. 17.14. Er hynny na fwytewch gig ynghyd ai enioes sef ei waed.

5 Ac yn ddiau gwaed eich enioes chwithau hefyd a ofynnaf fi: o law pob bwyst-fil y gofyn­naf ef, ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynnaf enioes dyn.

6 AMat. 26.52. Datc. 13.10. dywalldo waed dyn, drwy ddyn y tywelldir ei waed yntef, o herwydd arPen. 1.27. ddelw Duw y gwnaeth efe ddyn.

7 Ond chwychwi ffrwythwch ac amlhewch, heppiliwch ar y ddaiar, a lluosogwch ynddi.

8 A Duw a lefarodd wrth Noah, ac wrth ei feibion gyd ag ef, gan ddywedyd;

9 Ac wele myfi, îe myfi, ydwyf yn cadarnhau fynghyfammod â chwi, ac â'ch hâd ar eich ol chwi;

10 Ac â phob peth byw'r hwn sydd gyd a chwi, a'r ehediaid, a'r anifeiliaid, ac a phob bwyst-fil y tir gyd a chwi, o'r rhai oll sydd yn myned allan o'r Arch, hyd oll fwyst-filod y ddaiar.

11 AcIsai 54.9. mi a gadarnhaf fyng-hyfammod a chwi, ac ni thorrir ymmaith bob cnawd mwy gan y dwfr diluw, ac ni bydd diluw mwy i ddifetha y ddaiar.

12 A Duw a ddywedodd, dymma arwydd y cyfammod yr hwn yr ydwyfi yn ei roddi rhyngofi a chwi, ac a phob peth byw ar y sydd gyd a chwi, tros oesoedd tragywyddol.

13 Fy mwa a roddais yn y cwmmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfammod rhyngofi a'r ddaiar.

Eccles. 43.11.12.14 A bydd pan godwyf gwmmwl ar y ddaiar, yr ymddengys y bwa yn y cwmmwl.

15 Ac mi a gofiaf fyng-hyfammod yr hwn sydd rhyngofi a chwi, ac a phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddiluw mwy, i ddifetha pob cnawd.

16 A'r bwa y fydd yn y cwmmwl, ac mi a edrychaf arno ef i gofio y cyfammod tragywy­ddol, rhwng Duw a phob peth byw, o bob cnawd ar y sydd ar y ddaiar.

17 A Duw a ddywedodd wrth Noah, dymma arwydd y cyfammod yr hwn a gadarnheais rhyngofi a phob cnawd ar y sydd ar y ddaiar.

18 A meibion Noah y rhai a ddaeth allan o'r Arch oedd Sem, Cam, a Japheth, a Cham oedd dad Canaan.

19 Y tri hyn oedd feibion Noah: ac o'r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaiar.

20 A Noah a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd win-llan.

21 Ac a yfodd o'r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng-hanol ei babell.

22 A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd iw ddau frodyr allan.

23 A chymmerodd Sem a Japheth ddilledyn, ac ai gosodasant ar eu hyscwyddau ill dau, ac a gerddasant yn-wysc eu cefn, ac a orchguddia­sant noethni eu tad; a'u hwynebau yn ôl, fel na welent noethni eu tad.

24 A Noah a ddeffrôdd oi win, ac a wybu beth a wnaethei ei fab ieuangaf iddo.

25 Ac efe a ddywedodd, melldigedic fyddo Canaan, gwâs gweision iw frodyr fydd.

26 Ac efe a ddywedodd, bendigedic fyddo Ar­glwydd Dduw Sem, a Chanaan fydd wâs iddo ef.

27 Duw a helaetha ar Japheth, ac efe a bress­wylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd gwâs iddo ef.

28 A Noah a fu fyw wedi y diluw, drychan mlhynedd, a deng mlhynedd a deugain.

29 Felly holl ddyddiau Noah oedd naw can mlhynedd, a deng mlhynedd a deugain, ac efe a fu farw.

PEN. X.

1 Cenhedlaethau Noah. 2 Meibion Japheth. 6 Meibion Cam. 8 Nimrod y brenhin cyntaf. 21 Meibion Sem.

AC dymma genhedlaethau meibion Noah, Sem, Cam, a Japheth; ganwyd meibion hefyd i'r rhai hyn wedi 'r diluw.

21 Chron. 1.5. Meibion Japheth oedd Gomer, a Magog, a Madai, ac Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.

3 Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riphath, a Thogarma.

4 A Meibion Jafan, Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.

5 O'r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cen­hedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu iaith eu hun trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.

61 Cron. 1.8. A meibion Cam oedd Cus, a Mizraim, a Phut, a Chanaan.

7 A meibion Cus, Seba, a Hafilah, a Sabtah, a Raamah, a Sabtecha: a meibion Raamali, Seba, a Dedan.

8 Cus hefyd a genhedlodd Nimrod, efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaiar.

9 Efe oedd heliwr cadarn ger bron yr Ar­glwydd: am hynny y dywedir, fel Nimrod heliwr cadarn ger bron yr Arglwydd.

10 A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalneh, yngwlad Sinar.

11 O'r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adailadodd Ninife, a dinas Rehoboth, a Chalah,

12 A Resen rhwng Ninife a Chalah: honno sydd ddinas fawr.

13 Mizraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Naphtuhim,

14 Pathrusim hefyd a Chasluhim, o'r rhai y daeth Philistim a Chaphtorim.

15 Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntafanedic, a Heth,

16 A'r Jebusiad, a'r Amoriad, a'r Gergasiad,

17 A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r Siniad,

18 A'r Arfadiad, a'r Semariad, a'r Hamathi­ad: ac wedi hynny yr ymwascarodd teuluoedd y Canaaneaid.

19 Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon ffordd yr elych i Gerar hyd Azah: y ffordd yr elych i Sodoma, a Gomorra, ac Alma, a Seboi­im hyd Lesah.

20 Dymma feibion Cam, yn ol eu teuluoedd, wrth eu hiaithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.

21 I Sem hefyd y ganwyd plant, yntef oedd dâd holl feibion Heber, a brawd Japheth yr hynaf.

22 Meibion1 Cron. 1.17. Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arphaxad, a Lud, ac Aram.

23 A meibion Aram, Vs, a Hul, a Gether, a Mas.

24 Ac Arphaxad a genhedlodd Selah, a Selah a genhedlodd Heber.

251 Cron. 1.19. Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: henw un oedd Peleg, o herwydd yn ei ddyddi­au ef y rhannwyd y ddaiar; a henw ei frawd, Joctan.

26 A Joctan a genhedlodd Almodad, a Sa­leph, a Hazarmafeth, a Jerah,

27 Hadoram hefyd, ac Vsal, a Dicla.

28 Obal hefyd, ac Abimael, a Seba,

29 Ophir hefyd, a Hafilan, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan.

30 Ai presswylfa oedd o Mesa ffordd yr e­lych i Sephar mynydd y dwyrain.

31 Dymma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ol eu hiaithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.

32 Dymma deuluoedd meibion Noah, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu cenhedloedd: ac o'r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaiar wedi y diluw.

PEN. XI.

1 Vn iaith yn y byd. 3 Adailadaeth Babel. 5 Cymmyscu 'r ieithoedd. 10 Cenhedlaethau Sem. 27 Cenhedlaethau Terah tad Abram. 31 Te­rah yn myned o Vr i Haran.

A'R holl ddaiar ydoedd o vn iaith, ac o vn ymadrodd.Doeth. 10

2 A bu, a hwy yn ymdaith o'r dwyrain, gael o honynt wastadedd yn nhir Sinar, ac yno y trigâsant.

3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn bo­eth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerric, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.

4 A dywedasant, moeswch, adailadwn i ni ddinas, a thŵr, ai nen hyd y nefoedd a gwnawn i ni enw, rhac ein gwascaru rhyd wyneb yr holl ddaiar.

5 A'r Arglwydd a ddiscynnodd, i weled y ddinas a'r tŵr a adailiadei meibion dynion.

6 A dywedodd yr Arglwydd, wele y bobl yn vn, ac vn iaith iddynt oll, ac dymma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awrhon nid oes rwystr arnynt am ddim oll, ar a amca­nasant ei wneuthur.

7 Deuwch, descynnwn, a chymmyscwn yno eu hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gi­lydd.

8 Felly yr Arglwydd a'i gwascarodd hwynt oddi yno rhyd wyneb yr holl ddaiar: a phei­diasant ac adailadu y ddinas.

9 Am hynny y gelwir ei henw hiSef, cym­mysc. Babel, o blegit yno y cymmyscodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaiar, ac oddi yno y gwascarodd yr Argl­wydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaiar.

101 Cron. 1.17. Dymma genhedlaethau Sem, Sem ydo­edd fâb can-mlwydd, ac a genhedlodd Arphax­ad ddwy flynedd wedi'r diluw.

11 A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Ar­phaxad bump can-mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

12 Arphaxad hefyd a fu fyw bymtheng mlhynedd a'r hugain, ac a genhedlodd Selah.

13 Ac Arphaxad a fu fyw gwedi iddo gen­hedlu Selah, dair o flynyddoedd a phedwar can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

14 Selah hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber.

15 A Selah a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber, dair o flynyddoedd a phedwar can mlhy­nedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.

161 Cron. 1.19. a henwir Luc. 3.35. Phalec. 1. Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddec ar hugain, ac a genhedlodd 1 Cron. 1.19. Peleg.

17 A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Pe­leg, ddeng mlhynedd ar hugain a phedwar can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

181 Cron. 1.19. Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu.

19 A Pheleg a fu fyw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd, a deucan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

20 Reu hefyd a fu fyw ddeu-ddeng mlhy­nedd ar hugain, ac a genhedloddLuc. 3.35. Serug.

21 A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Se­rug, saith o flynyddoedd a dau can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

22 Serug hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor.

23 A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

24 Nachor hefyd a fu fyw naw mlhynedd ar hugain, ac a genhedloddLuc. 3.34. Terah.

25 A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Terah, onid vn flwyddyn chwech vgain mlhy­nedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

26 Terah hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd a thrugain,1 Cron. 1.26. Josua. 24.2. ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.

27 Ac dymma genhedlaethau Terah: Terah a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran: a Haran a genhedlodd Lot.

28 A Haran a fu farw o flaen Terah ei dâd, yngwlad ei anedigaeth, o fewn Vr y Caldeaid.

29 Yna y cymmerodd Abram a Nachor idd­ynt wragedd: henw gwraig Abram oedd Sarai: a henw gwraig Nachor Milcha, merch Haran, tâd Milcha, a thâd Iscah.

30 A Sarai oedd amhlantadwy, heb plentyn iddi.

31 A Therah a gymmerodd Abram ei fâb, a Lot fâb Haran, mâb ei fâb, a Sarai ei waudd, gwraig Abram ei fâb, a hwy a aethant allan yng-hyd oJosua 24.2. Neh. 9.7. Act. 7.4. Judith. 5.7. Vr y Caldeaid, i fyned i dir Ca­naan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a dri­gasant yno.

32 A dyddiau Terah oedd bum mhlynedd a deu-can mlhynedd, a bu farw Terah yn Haran.

PEN. XII.

1 Duw yn galw Abram, ac yn ei fendithio ef trwy addewid o Grist. 4 Yntef yn myned gyd a Lot o Haran. 6 Yn trammwy trwy wlad Canaan. [Page] 7 Yr hon a addewir iddo ef mewn gweledigaeth. 10 Newyn yn ei yrru ef i'r Aipht. 11 Ofn yn peri iddo ef ddywedyd mai ei chwaer oedd ei wraig, 14 Pharao, wedi ei dwyn hi oddiarno ef, a gymmhellir gan blaau iw rhoddi hi yn ei hol.

A'R Arglwydd a ddywedodd wrth Abram,Act. 7.3. dos allan o'th wlad, ac oddi wrth dy ge­nedl, ac ô dŷ dy dâd, i'r wlad a ddangoswyf i ti.

2 A mi a'th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a'th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw, a thi a fyddi yn fendith.

3 Bendithiaf hefyd dy fendith-wyr, a'th fell­dith-wyr a felldigaf,Pen. 18.18. ac 22.18. Act. 3.25. Gal. 3.8. a holl deuluoedd y ddai­ar a fendithir ynot ti.

4 Yna 'r aeth Abram, fel y llefarasei'r Ar­glwydd wrtho, a Lot aeth gyd ag ef: ac Abram oedd fâb pymtheng-mlwydd a thrugain, pan aeth efe allan o Haran.

5 Ac Abram a gymmerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a'i holl olud a gasclasent hwy, a'r eneidiau a enillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlâd Canaan: ac a ddaethant i wlâd Canaan.

6 Ac Abram a drammwyodd drwy'r tir hyd lle Sichem, hyd wastadedd Moreh: a'r Canaa­nead oedd yn y wlâd y pryd hynny.

7 A'r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd;Pen. 13.15. I'th hâd ti y rhoddaf y tîr hwn: yntef a adailadodd ynoPen. 13.4. allor i'r Ar­glwydd, yr hwn a ymddangosasei iddo.

8 Ac efe a dynnodd oddi yno i'r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell, gan adel Bethel tu a'r gorllewin, a Hai tu a'r dwyrain: ac a adailadodd yno allor i'r Ar­glwydd, ac a alwodd ar enw 'r Arglwydd.

9 Ac Abram a ymdeithiodd gan fyned ac ymdaith tua 'r dehau.

10 Ac yr oedd newyn yn y tîr, ac Abram aeth i wared i'r Aipht i ymdeithio yno, am dry­mhau o'r newyn yn y wlâd.

11 A bu, ac efe yn nesau i fyned i mewn i 'r Aipht, ddywedyd o hono wrth Sarai ei wraig, wele yn awr mi a wn mai gwraig lân yr o­lwg wyt ti:

12 A phan welo 'r Aiphtiaid dydi, hwy a ddywedant, dyma ei wraig ef, a hwy a'm lladdant i, a thi a adawant yn fyw.

13 Dywed attolwg, mai fy chwaer wyt ti, fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y bydd­wyf fyw o'th blegit ti.

14 A bu pan ddaeth Abram i'r Aipht, i'r Aiphtiaid edrych ar y wraig, mai glân odieth oedd hi.

15 A thywysogion Pharao a'i gwelsant hi, ac a'i canmolasant hi wrth Pharao: a'r wraig a gymmerwyd i dŷ Pharao.

16 Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid, aYchen. gwarthec, ac assynnau, a gweision, a morwynion, ac assyn­nod, a chamêlod.

17 A'r Arglwydd a darawodd Pharao a'i dŷ, â phlaau mawrion, o achos Sarai gwraig Abram.

18 A Pharao a alwodd Abram, ac a ddywe­dodd; pa ham y gwnaethost hyn i mi? pa ham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi?

19 Pa ham y dywedaist, fy chwaer yw hi? fel y cymmerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon, wele dy wraig, cymmer hi, a dos ymmaith.

20 A Pharao a roddes orchymmyn iw ddy­nion oi blegit ef: a hwy a'i gollyngasant ef ym­maith, a'i wraig, a'r hyn oll oedd eiddo ef.

PEN. XIII.

1 Abram a Lot yn dychwelyd o'r Aipht. 7 Trwy anghyttundeb yn ymadel a'i gilydd. 10 Lot yn myned i Sodom ddrygionus. 14 Duw yn ad­newyddu y cyfammod i Abram. 18 Yntef yn symmudo i Hebron, ac yn adailadu allor yno.

AC Abram aeth i fynu o'r Aipht, efe a'i wraig, a'r hyn oll oedd eiddo; a Lot gyd ag ef, i'r dehau.

2 Ac Abram oedd gyfoethog iawn o ani­feiliaid, ac o arian, ac aur.

3 Ac efe a aeth ar ei deithiau, o'r dehau hyd Bethel, hyd y lle y buasei ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai:

4 I lêPen. 12.7. 'r allor a wnaethei efe yno o'r cyn­taf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr Ar­glwydd.

5 Ac i Lot hefyd, yr hwn aethei gyd ag A­bram, yr oedd defaid, a gwarthec, a phebyll.

6 A'r wlâd nid oedd abl iw cynnal hwynt i drigo yng-hyd: am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel na allent drigo yng-hyd.

7 Cynnen hefyd oedd rhwng bugeilydd ani­feiliaid Abram, a bugeilydd anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd, a'r Phereziaid oedd yna yn trigo yn y wlâd.

8 Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, na fy­dded cynnen attolwg rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a'th fugeiliaid ti, o herwyddHeb. gwyr o frodyr. brodyr ydym ni.

9 Onid yw yr holl dîr o'th flaen di? ymnaill­tua attolwg oddi wrthif, os ar y llaw asswy y troi di: minneu a droaf ar y ddehau: ac os ar y llaw ddehau, minneu a droaf ar yr asswy.

10 A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr lorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i'r Arglwydd ddifetha Sodoma a Gomorrah, fel gardd yr Arglwydd, fel tîr yr Aipht, ffordd yr elych i Soar.

11 A Lot a ddewisodd iddo wastadedd yr Iorddonen, a Lot aeth tua'r dwyrain: felly yr ymnailltuasant bôb vn oddi wrth ei gilydd.

12 Abram a drigodd yn nhir Canaan, a Lot a drigodd yn-ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodoma.

13 A dynion Sodoma oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.

14 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth A­bram, wedi ymnailltuo o Lot oddi wrtho ef, cy­fod dy lygaid, ac edrych o'r lle yr wyt ynddo, tu a'r gogledd, a'r dehau, a'r dwyrain, a'r gor­llewin.

15 Canys yr holl dir a weli,Gen. 12.7. Gen. 15.7. Gen. 26.4 Deut. 34.4. i ti y rho­ddaf ef, ac i'th hâd byth.

16 Gwnaf hefyd dy hâd ti fel llŵch y ddai­ar, megis os dichon gŵr rifo llwch y ddaiar, yna y rhifir dy hâd ditheu.

17 Cyfod, rhodia drwy yr wlâd, ar ei hŷd, ac ar ei llêd, canys i ti y rhoddaf hi.

18 Ac Abram a symmudodd ei luest, ac a ddaeth, ac a drigodd yng wastaded Mamre, yr hwn sydd yn Hebron, ac a adailadodd yno allor i'r Arglwydd.

PEN. XIV.

1 Pedwar brenhin yn rhyfela yn erbyn pump. 12 Dala Lot yn garcharor. 14 Abram yn ei achub ef. 18 Melchisedec yn bendithio Abram. 20 Abram yn talu degwm iddo ef. 22 Wedi iw gyfran-wyr gael ei rhannau, mae ef yn rho­ddi y rhan arall o'r ysclyfaeth i frenhin Sodo­ma.

A Bu yn nyddiau Amraphel brenin Sinar, A­rioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd:

2 Wneuthur o honynt ryfel a Bera brenin Sodoma, ac â Birsa brenin Gomorrah, a Sinab brenin Adma, ac a Semeber brenin Sebolm, ac a brenin Bela, hon yw Soar.

3 Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw yr môr heli.

4 Deuddeng mlhynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer: a'r drydedd flwyddyn ar ddec y gwrthryfelasant.

5 A'r bedwaredd flwyddyn arddec y daeth Cedorlaomer, a'r brenhinoedd y rhai oedd gyd ag ef, ac a darawsant y Rephaimiaid, yn Asterothcarnaim, a'r Zusiaid yn Ham, a'r E­miaid yngwasta­dedd. Saueh-Ciriathaim.

6 A'r Horiaid yn eu mynydd Seir, hydEl. wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr ani­alwch.

7 Yna y dychwelasant, ac y daethant i En­mispat, honno yw Cades, ac a darawsant holl wlâd yr Amaleciaid, a'r Amoriaid hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Hazezon-tamar.

8 Allan hefyd yr aeth brenin Sodoma, a bre­nin Gomorra, a brenin Adma, a brenin Seboim, a Brenin Bela, honno yw Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt,

9 A Chedorlaomer brenin Elam, a Thidal bre­nin y cenhedloedd, ac Amraphel brenin Sinar, ac Arioch brenin Elasar: pedwar brenhin yn erbyn pump.

10 A dyffryn Sidim oedd lawn o byllau clai, a brenhinoedd Sodoma a Gomorra a ffoesant, ac a syrthiasant yno: a'r lleill a ffoesant i'r my­nydd.

11 A hwy a gymmerasant holl gyfoeth So­doma a Gomorra, a'i holl luniaeth hwynt, ac a aethant ymmaith.

12 Cymmerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram, a'i gyfoeth, ac a aethant ymmaith, o herwydd yn Sodoma yr ydoedd ef yn trigo.

13 A daeth vn a ddianghasei, ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo yngwasta­dedd Mamre 'r Amoriad, brawd Escol, a brawd Aner, a'r rhai hyn oedd mewn cyngrair ag A­bram.

14 A Phan glybu Abram gaeth-gludo ei fra­wd, efe aNeu, ddygodd allan. arfogodd o'i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef; ddau naw a thrychant, ac a ymlidiod hyd Dan.

15 Ac efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nôs, efe a'i weision, ac ai tarawodd hwynt; ac a'i hymlidiodd hyd Hoba, yr hon sydd o'r tu asswy i Ddamascus.

16 Ac efe a ddûg drachefn yr holl gyfoeth, a'i frawd Lot hefyd a'i gyfoeth a ddug ef dra­chefn, a'r gwragedd hefyd, a'r bobl.

17 A brenin Sodoma a aeth allan iw gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a'r brenhinoedd oedd gyd ag ef) i ddyffryn Saueh, hwn yw2 Sam. 18.18. dyffryn y brenin.

18Heb. 7.1. Melchisedec hefyd brenin Salem, a ddûg allan fara a gwin, ac efe oedd offeiriad i Dduw goruchaf.

19 Ac a'i bendithiodd ef, ac a ddywedodd▪ bendigedic fyddo Abram gan Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daiar.

20 A bendigedic fyddo Duw goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law:Heb. 7.4. ac efe a roddes iddo ddegwm o'r cwbl.

21 A dywedodd brenin Sodoma wrth Abram, dôd i miHebr yr eneidi­au. y dynion, a chymmer i ti y cy­foeth.

22 Ac Abram a ddywedodd wrth frenin So­doma, derchefais fy llaw at vr Arglwydd Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daiar,

23 Na chymmerwn o edef hyd garrei escid, nac o'r hyn oll sydd eiddo ti, rhac dywedyd o honot, myfi a gyfoethogais Abram.

24 Ond yn vnic yr hyn a fwyttaodd y llang­ciau, a rhan y gwyr a aethant gyd a mi, Aner, Escol, a Mamre: cymmerant hwy eu rhan.

PEN. XV.

1 Duw yn cyssuro Abram. 2 Abram yn cwyno nad oedd gantho etifedd. 4 Duw yn addo mâb iddo, ac amlhau ei hâd ef. 6 Abram a gyfi­awnheir trwy ffydd. 7 Addewid o wlâd Ca­naan trachefn, a'i gadarnhau trwy arwydd, 12 a gweledigaeth.

WEdi y pethau hyn y daeth gair yr Ar­glwydd at Abram,Num. 12.6. mewn gwelediga­eth, gan ddywedyd; nac ofna Abram, myfi ydyw dy darian,Ps. 16.5.6. dy wobr mawr iawn.

2 A dywedodd Abram, Arglwydd Dduw, bêth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddi-blant, a goruchwiliwr fy nhŷ yw Eleazar yma o Ddamascus.

3 Abram hefyd a ddywedodd, wele ni ro­ddaist i mi hâd, ac wele fynghaethwas fydd fy etifedd.

4 Ac wele air yr Arglwydd atto ef, gan ddy­wedyd, nid hwn fydd dy etifedd, onid vn a ddaw allan o'th ymyscaroedd di fydd dy e­tifedd.

5 Ac efe a'i dug ef allan, ac a ddywedodd, golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrthoRhuf. 4.18. fe­lly y bydd dy hâd ti.

6 Yntef aRhuf. 4.3. Gal. 3.6. Iac. 2.23 gredodd yn yr Arglwydd, ac efe a'i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder.

7 Ac efe a ddywedodd wrtho, myfi yw yr Ar­glwydd yr hwn a'th ddygais di allan oGen. 11.28. Vr y Caldeaid, i roddi i ti y wlad hon iw hetifeddu.

8 Yntef a ddywedodd, Arglwydd Dduw, trwy ba bêth y câf wybod yr etifeddaf hi?

9 Ac efe a ddywedodd wrtho, cymmer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chyw co­lommen.

10 Ac efe a gymmerth iddo y rhai hyn oll, ac a'i holltodd hwynt ar hyd eu canol, ac a roddodd bôb rhan ar gyfer ei gilydd, ond ni holltodd efe yr adar.

11 A Phan ddescynnei yr adar ar y cela­neddau, yna Abram a'i tarfai hwynt.

12 A Phan oedd yr haul ar fachludo, y syr­thiodd trym-gwsc ar Abram: ac wele ddychryn a thywyllni mawr yn syrthio arno ef.

13 Ac efe a ddywedodd wrth Abram,Act. 7.6. gan wybod gwybydd, y bydd dy hâd di yn ddieithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a'i gwasanae­thant, a hwyntau a'i cystuddiant bedwar can mlhynedd.

14 A'r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanae­thant, a farna fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr.

15 A thi a ai at dy dadau mewn heddwch? ti a gleddir mewn henaint teg.

16 Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant ymma, canys ni chyflawnwyd etto anwiredd yr Amoriaid.

17 A bu pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd [Page] yn tramwyo rhwng y darnau hynny.

18 Yn y dydd hwnnwPen. 12.7. ac 13.15. ac 26.4. Deut. 34.4. y gwnaeth yr Ar­glwydd gyfammod ag Abram, gan ddywedyd; i'th hâd ti y rhoddais y wlâd hon,1 Bren. 4.21. 2 Cro. 9, 26. o afon yr Aipht hyd yr afon fawr, afon Euphrates:

19 Y Ceneaid, a'r Ceneziaid, a'r Cadmo­niaid,

20 Yr Hethiaid hefyd, a'r Phereziaid, a'r Rephaimiaid,

21 Yr Amoriaid hefyd, a'r Canaaneaid, a'r Girgasiaid, a'r Jebusiaid.

PEN. XVI.

1 Sarai yn amhlantadwy, yn rhoddi Hagar i A­bram. 4 Hagar wedi ei chystuddio am ddiystyru ei meistres, yn rhedec i ffordd. 7 Angel yn ei danfon bi yn ei hôl iw darostwng ei hun, 11 ac yn dywedyd iddi am ei mab. 15 Genedigaeth Ismael.

SArai hefyd gwraig Abram ni phlantasei i­ddo, ac yr ydoedd iddi forwyn o Aiphtes, a'i henw Agar.

2 A Sarai a ddywedodd wrth Abram, wele yn awr, yr Arglwydd a luddiodd i mi blanta: dos attolwg at fy llaw-forwyn, fe alleiHeb. yr adeiledir fi genthi hi. y ceir i mi blant o honi hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai.

3 A Sarai gwraig Abram a gymmerodd ei morwyn Agar yr Aiphtes, wedi trigo o Abram ddeng mlhynedd yn nhir Canaan, a hi a'i rho­ddes i Abram ei gwr yn wraig iddo.

4 Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichi­ogodd: a phan welodd hitheu feichiogi o honi, yr oedd ei mistres yn wael yn ei golwg hi.

5 Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, By­dded fy-ngham i arnat ti: mi a roddais fy mo­rwyn i'th fonwes, a hithe a welodd feichiogi o honi, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi.

6 Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, wele dy forwyn yn dy law di, gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a'i cy­studdiodd hi, a hithe a ffoawddHeb. rhag ei hwyneb hi. rhacddi hi.

7 Ac angel yr Arglwydd a'i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffyn­non yn ffordd Sur.

8 Ac efe a ddywedodd, Agar morwyn Sarai, o ba le y daethost; ac i ba le yr ei di? a hi a ddywedodd, ffoi yr ydwyfi rhag wyneb fy meistres Sarai.

9 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthi, dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tan ei dwylo hi.

10 Angel yr Arglwydd a ddywedodd hefyd wrthi hi; gan amlhau yr amlhaf dy hâd ti, fel na rifir ef o luosogrwydd.

11 Dywedodd angel yr Arglwydd hefyd wrthi hi, wele di yn feichiog, a thi a escori ar fâb, ac a elwi ei enw efSef. Duw a wrendy. Ismael: canys yr Ar­glwydd a glybu dy gystudd di.

12 Ac efe a fydd ddyn gwyllt, a'i law yn er­byn pawb, a llaw pawb yn ei erbŷn yntef,Pen. 25.18. ac efe a drig ger bron ei holl frodyr.

13 A hi a alwodd enw 'r Arglwydd yr hwn oedd yn llefaru wrthi, ti ô Dduw wyt yn e­drych arnafi: canys dywedodd, oni edrychais ymma hefyd ar ol yr hwn sydd yn edrych arnaf?

14 Am hynny y galwyd y ffynnonSef ffyn­non yr hwn sy'n byw ac yn fyngwe­led. Beer­lahai-roi: wele rhwng Cades a Bered y mae hi.

15 Ac Agar a ymmddug fab i Abram: ac A­bram a alwodd enw ei fab a ymddygasei Agar, Ismael.

16 Ac Abram oedd fâb pedwar vgain mlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddug Agar Ismael i Abram.

PEN. XVII.

1 Duw yn adnewyddu y Cyfammod. 5 Newidio henw Abram yn arwydd o fendith mwy, 10 Or­deinio Enwaediad. 15 Newid henw Sarai, a'i bendithio. 17 Addewid o Isaac. 23 Enwaedu ar Abram ac Ismael.

A Phan oedd Abram onid vn mlwydd cant, yr ymddangosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho; myfi yw Duw hôll alluog,Pen. 5.22. rhodia ger fy mron i, a byddNeu, vnion, neu bur. ber­ffaith.

2 Ac mi a wnaf fyng-hyfammod rhyngof a thi, ac a'th amlhâf di yn aml iawn.

3 Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb, a lle­farodd Duw wrtho ef, gan ddywedyd,

4 Myfi, wele mi a wnaf fynghyfammod â thi, a thi a fyddi yn dâd llawer o genhedloedd.

5 A'th henw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham,Rhuf. 4.17. canys yn dâd llawer o genhedloedd i'th wnaethum.

6 Ac mi a'th wnaf yn ffrwythlon iawn, ac a wnâf genhedloedd o honot ti, a brenhinoedd a ddaw allan o honot ti.

7 Cadarnhâf hefyd fyng-hyfammod rhyngof a thi, ac a'th hâd ar dy ol di trwy eu hoesoedd, yn gyfammod tragywyddawl, i fod yn Dduw i ti, ac ith hâd ar dy ôl di.

8 Ac mi a roddaf i ti, ac i'th hâd a'r dy ôl di, wlâd dy ymdaith, sef holl wlâd Canaan yn etifeddiaeth dragwyddawl, ac mi a fyddaf yn Dduw iddynt.

9 A Duw a ddywedodd wrth Abraham, cadw ditheu fyng-hyfammod i, ti a'th hâd a'r dy ol, trwy eu hoesoedd.

10 Dymma fyng-hyfammod a gedwch rhyng­of fi a chwi, a'th hâd a'r dy ôl di:Act 7.8. enwaedir pôb gwryw o honoch chwi.

11 A chwi a enwaedwch gnawd eich dien­waediad: a bydd ynRhu. 4.11. arwydd cyfammod rhyngof fi a chwithau.

12 Pôb gwryw yn wyth niwrnod oedLevit. 12.3. Luc. 2.21. Io. 7.22. a enwaedir i chwi trwy eich cenhedlaethau: yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dieithr, yr hwn nid yw o'th hâd ti.

13 Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fyng-hyfammod yn eich cnawd chwi, yn gy­fammod tragywyddawl.

14 A'r gwryw dienwaededic yr hwn ni en­waeder enawd ei ddienwaediad, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o fysc ei bobl: oblegit efe a dorrodd fyng-hyfammod i.

15 Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sa­ra fydd ei henw hi.

16 Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fâb o honi: iê bendithiaf hi fel y byddo yn genhed­loedd: brenhinoedd pobloedd fydd o honi hi.

17 Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, a blentir i fâb can mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar-vgain?

18 Ac Abraham a ddywedodd wrth Dduw, ôh na byddei fyw Ismael ger dy fron di.

19 A Duw a ddywedodd,Pen. 18.20. ac 21.2. Sara dy wraig a ymddwg i ti fab yn ddiau, a thi a elwi ei enw ef Isaac: ac mi a gadarnhaf fyng-hyfammod ag ef yn gyfammod tragwyddawl, ac a'i had ar ei ol ef.

20 Am Ismael hefyd ith wrandewais, wele [Page] [...] ef, ac a'i lluosogaf yn aml iawn:Pen. 25.12. deuddec tywy­sog a genhedla efe, ac mi a'i gwnaf ef yn gen­hedlaeth fawr.

21 Eithr fynghyfammod a gadarrhaf ag Isa­ac, yr hwn a ymddwg Sara i ti y pryd hwn, y flwyddyn nessaf.

22 Yna y peidiodd a llefaru wrtho, a Duw a aeth i fynu oddi wrth Abraham.

23 Ac Abraham a gymmerodd Ismael ei fâb, a'r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a'r rhai oll a bryn­nasei efe a'i arian, pôb gwryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dien­waediad hwynt o fewn corph y dydd hwnnw, fel y llefarase Duw wrtho ef.

24 Ac Abraham oedd fâb onid vn mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaedi­ad ef.

25 Ac Ismael ei fâb ef yn fâb tair blwydd ar ddec, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef.

26 O fewn corph y dydd hwnnw 'r en­waedwyd Abraham, ac Ismael ei fâb.

27 A holl ddynion ei dŷ ef y rhai a anesid yn tŷ, ac a brynesid ag arian gan neb dieithr, a enwaedwyd gŷd ag ef.

PEN. XVIII.

1 Abraham yn derbyn tri Angel iw dŷ. 9 Sara a geryddir am chwerthin rhyngddi a hi ei hun o ran yr addewid dieithr. 17 Duw yn rhybuddio Abraham am ddinistr Sodoma. 23 Ac Abra­ham yn eiriol trostynt.

A'RHeb. 13.2. Arglwydd a ymddangosodd iddo ef yngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrŵs y babell, yng-wrês y dydd.

2 Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele dry-wyr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd; efe a redodd o ddrws y babell iw cy­farfod hwynt, ac a ymgrymmodd tua 'r ddaiar.

3 Ac a ddywedodd fy Arglwydd, os cefais yn awr ffafor yn dy olwg di, na ddos heibio atto­lwg oddi wrth dy wâs.

4 Cymmerer attolwg ychydic ddwfr, a golchwch eich traed, a gorphwysswch dan y pren:

5 Ac mi a ddygaf dammeid o fara; a chry­fhewch eich calon, wedi hynny y cewch fyned ymmaith, o herwydd i hynny y daethochHeb. heibio ich. at eich gwâs: a hwy a ddywedasant, gwna felly fel y dywedaist.

6 Ac Abraham a fryssiodd i'r babell at Sa­ra, ac a ddywedodd, paratoa ar frŷs dair phi­oled o flawd peillied, tylina, a gwna yn dei­ssennau.

7 Ac Abraham a rêdodd at y gwarthec, ac a gymmerodd lô tŷner a dâ, ac a'i rhoddodd at y llangc, yr hwn a fryssiodd iw baratoi ef.

8 Ac efe a gymmerodd ymenyn, a llaeth, a'r llô a baratoisei efe, ac a'u rhoddes oi blaen hwynt: ac efe a safodd gyd a hwynt tan y pren, a hwy a fwyttasant.

9 A hwy a ddywedasant wrtho ef, mae Sara dy wraig? ac efe a ddywedodd, wele hi yn y babell.

10 Ac vn a ddywedodd,Gen. 17.19. Gen. 21.2. Ruf. 9.9. gan ddychwelyd y dychwelaf attat ynghylch amser bywiolaeth, ac wele fab i Sara dy wraig. A Sara oedd yn clyw­ed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd oi ôl ef.

11 Abraham hefyd a Sara oedd hên, wedi myned mewn oedran; a pheidiasei fôd i Sara yn ôl arfer gwragedd.

12 Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a ni ei hun, gan ddywedyd, ai gwedi fy henei­ddio y bydd i mi drythyllwch,1 Pet. 3.6. a'm harglwydd yn hên hefyd?

13 A dywedodd yr Arglwydd wrth Abra­ham, pa ham y chwarddodd Sara fel hyn, gan ddywedyd, a blantaf inneu yn wir, wedi fy he­neiddio?

14 A fydd dim yn anhawdd i'r Arglwydd? ar yr amser nodedic y dychwelaf attat, yng­hylch amser bywiolaeth, a mâb fydd i Sara.

15 A Sara a wadodd, gan ddywedyd, ni chwerddais i; o herwydd hi a ofnodd: yn­tef a ddywedodd, nag ê, oblegit ti a chwer­ddaist,

16 A'r gwŷr a godasant oddi yno, ac a edry­chasant tua Sodoma: ac Abraham a aeth gyd a hwynt, iw hanfon hwynt.

17 A'r Arglwydd a ddywedodd, A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf?

18 Canys Abraham yn ddiau a fydd yn gen­hedlaeth fawr a chref, acGen. 12.3. Gen. 11.18. Act. 3.25. Gal. 3.8. ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaiar.

19 Canys mi a'i hadwaen ef, y gorchymyn efe iw blant, ac iw dylwyth ar ei ôl, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cy­fiawnder a barn, fel y dygo 'r Arglwydd ar A­braham yr hyn a lefarodd efe am danaw.

20 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, am fod gwaedd Sodoma a Gomorra yn ddirfawr, ai pechod hwynt yn drwm iawn;

21 Descynnaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ôl ei gwaedd a ddaeth attafi, y gwnaethant yn hollawl: ac onide, mynnaf wybod.

22 Ar gwŷr a droesant oddi yno, ac a aethant tua Sodoma: ac Abraham yn sefyll etto ger bron yr Arglwydd.

23 Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywe­dodd, a ddifethi di y cyfiawn hefyd yng-hyd a'r annuwiol?

24 Ond odid y mae dec a deugain o rai cy­fiawn yn y ddinas, a ddifethi di hwynt hefyd, at ni arbedi y lle er mwyn y dec a deugain cyfi­awn sydd oi mewn hi?

25 Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth▪ gan ladd y cyfiawn gyd a'r annuwiol, fel y byddo y cyfiawn megis yr annuwiol: na by­ddo hynny i ti; oni wna barnudd yr holl ddaiar farn?

26 A dywedodd yr Arglwydd, os câf fi yn Sodoma ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, mi a arbedaf yr holl fangre er eu mwyn hwynt.

27 Ac Abraham a attebodd, ac a ddywedodd, wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Ar­glwydd, a mi yn llwch ac yn lludw.

28 Ond odid bydd pump yn eisieu o'r dec a deugain cyfiawn: a ddifethi di 'r holl ddinas er pump? yntef a ddywedodd, na ddifethaf us câr yno bump a deugain.

29 Ac efe a chwanegodd lefaru wrtho ef et­to, ac a ddywedodd: onid odid ceir yno ddeu­gain: yntef a ddywedodd, nis gwnaf er mwyn y deugain.

30 Ac efe a ddywedodd, oh na ddigied fy Arglwydd os llefaraf, ceir yno onid odid ddêc ar hugain: yntef a ddywedodd nis gwnaf, os caf uno ddêc ar hugain.

31 Yna y dywedod efe, wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd: ond odid ceir yno vgain: yntef a ddywedodd nis dife­thaf er mwyn vgain.

32 Yna y dywedodd, oh na ddigied fy Argl­wydd, a llefaraf y waith hon yn vnic, ond odid ceir yno ddêc: yntef a ddywedodd nis difethaf er mwyn dêc.

33 A'r Arglwydd aeth ymmaith pan ddarfu iddo ymddiddan ag Abraham: ac Abraham a ddychwelodd iw le ei hun.

PEN. XIX.

1 Lot yn derbyn angylion i'w dŷ. 4 Taro y Sodo­miaid annuwiol a dallineb. 12 Danfon Lot i'r mynydd er mwyn ei ddiogelwch. 18 Yntau yn cael cennad i fyned i Zoar. 24 Dinistrio Sodom a Gomorrah. 26 Troi gwraig Lot yn golofn ha­len. 30 Lot yn trigo mewn ogof. 31 Godinebus fonedd Moab ac Ammon.

A Dau angel a ddaeth i Sodoma yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodoma: a phan welodd Lot, efe a gyfododd iw cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd ai wyneb tua'r ddaiar.

2 Ac efe a ddywedodd, wele yn awr fy Ar­glwyddi, trowch attolwg i dŷ eich gwâs, lletteu­wch heno hefyd, aGen. 18.4 golchwch eich traed, yna codwch yn foreu ac ewch i'ch taith; A hwy a ddywedasant, nag ê, o herwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol.

3 Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy: yna y troesant atto, ac y daethant iw dŷ ef: ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croiw, a hwy a fwyttasant.

4 Eithr cyn gorwedd o honynt, gwyr y ddinas, sef gwyr Sodoma, a amgylchasant o amgylch y tŷ, hên ac ieuangc, sef yr holl bobl o bob cwrr.

5 Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, mae y gwyr a ddaethant attat ti heno? dŵg hwynt allan attom ni, fel yr adnabyddom hwynt.

6 Yna y daeth Lot attynt hwy allan i'r drws, ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl,

7 Ac a ddywedodd, attolwg fy-mrodyr, na wnewch ddrwg.

8 Wele yn awr y mae dwy ferched gennifi, y rhai nid adnabuantŵr; dygaf hwynt allan attoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn ddâ: yn vnic na wnewch ddim i'r gwyr hyn, o herwydd er mwyn hynny y daethant dan gys­cod fynghronglwyd i.

9 A hwy a ddywedasant, saf hwnt: dywedasant hefyd, efe a ddaeth i ymdaith yn vnic, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wn­awn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy. A hwy a bwysasant yn-drwm2 Pet. 2.7. ar y gwr, sef ar Lot, a hwy a nessasant i dorri y ddôr.

10 A'r gwŷr a estynnasant eu llaw, ac a ddy­gasant Lot attynt i'r tŷ, ac a gaeasant y ddôr.

11Doeth. 19.17. Tarawsant hefyd y dynion oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio y drws.

12 A'r gwyr a ddywedasant wrth Lot, A oes genniti ymma neb etto? mâb ynghyfraith, ath feibion, ath ferched, a'r hyn oll sydd i ti yn y ddinas, a ddŷgi di allan o'r fangre hon.

13 O blegit ni a ddinistriwn y lle hwn,Genes. 18.20. am fod eu gwaedd hwynt yn fawr ger bron yr Ar­glwydd: a'r Arglwydd a'n hanfonodd ni iw ddinistrio ef.

14 Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn priodi ei ferched ef, ac a ddywedodd; cyfodwch, deuwch allan o'r fan ymma: o herwydd y mae'r Arglwydd yn di­fetha y ddinas hon: ac yng-olwg ei ddawon yr oedd efe fel vn yn cellweir.

15 Ac ar godiad y wawr yr angylion a fuant daer ar Lot, gan [...] wraig, ath ddwy ferched, y rhai sydd iw cael, rhac dy ddifetha diyngho­spediga­eth. yn anwiredd y ddinas.

16 Yntef a oedd hwyr-frydic, a'r gwyr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferched, am dosturio o'r Arglwydd wrtho ef; ac ai dygasant ef allan, ac ai gossodasant o'r tu allan i'r ddinas.Doeth. 10.6.

17 Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, diangc am dy enioes, nac edrych ar dy ôl, ac na sâf yn yr holl wastadedd: diangc i'r mynydd rhac dy ddifetha.

18 A dywedodd Lot wrthynt, oh nid felly fy Arglwydd.

19 Wele yn awr, cafodd dy wâs ffafor yn dy olŵg, a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost a mi, gan gadw fy enioes, ac ni allaf fi ddiangc i'r mynydd rhac i ddrwg fŷng-oddiweddyd, a ma­rw o honof.

20 Wele yn awr y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw: oh gad i mi ddiangc yno: (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid.

21 Yntef a ddywedodd wrtho, wele mi aDderby­niais dy wyneb. ganiadheais dy ddymuniad hefyd am y pêth hyn, fel na ddinistriwyf y ddinas am yr hon y dywedaist.

22 Bryssia, diangc yno, o herwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Zoar.

23 Cyfodasei yr haul ar y ddaiar, pan ddaeth Lot i Zoar.

24 Yna'r Arglwydd aDeut. 29.23. Isa. 13.19 Jer. 50.40 Ezec. 16.49. Oze. 11.8 Amos. 4 11. Luc. 17.29. Jud. 7. lawiodd ar Sodoma a Gomorra frwmstan, a thân oddi wrth yr Ar­glwydd, allan o'r nefoedd.

25 Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny, a'r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaiar.

26 Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn oi du ôl ef, a hi a aeth yn golofn halen.

27 Ac Abraham a aeth yn foreu i'r lle y safasei efe ynddo ger bron yr Arglwydd.

28 Ac efe a edrychodd tua Sodoma a Gomorra, a thua hôll dir y gwastadedd, ac a edrychodd, ac wele cyfododd mwg y tir, fel mwg ffwrnes.

29 A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd Duw am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistri­odd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo yn­ddynt.

30 A Lot a escynnodd o Zoar, ac a drigodd yn y mynydd, ai ddwy ferched gyd ag ef: o her­wydd efe a ofnodd drigo yn Zoar, ac a dri­godd mewn ogof, efe ai ddwy ferched.

31 A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, ein tad ni sydd hân, a gŵr nid oes yn y wlad i ddyfod attom ni, wrth ddefod yr holl ddaiar.

32 Tyred, rhoddwn i'n tâd wîn iw yfed, a gor­weddwn gyd ag ef, fel y cadwom hâd o'n tâd.

33 A hwy a roddasant wîn iw tâd i yfed y no­son honno, a'r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyd ai thâd, ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.

34 A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, wele myfi a orweddais neithwyr gyd a'm tâd, rhoddwn wîn iddo ef iw yfed heno hefyd, a dos ditheu a gorwedd gyd ag ef, fel y cadwom hâd o'n tâd.

35 A hwy a roddasant wîn iw tâd i yfed y no­son hono hefyd, a'r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gyd ag ef: ac ni wybu efe pan or­weddodd hi, na phan gyfododd hi.

36 Felly dwy ferched Lot a feichiogwyd oi tâd.

37 A'r hynaf a escorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tâd y Moabiaid hyd heddyw.

38 A'r ieuangaf hefyd a escorodd hitheu ar fab, ac a alwodd ei enw ef Benammi: efe yw tad meibion Ammon hyd heddyw.

PEN. XX.

1 Abraham yn ymdaith yn Gerar, 2 Yn gwadu ei wraig ac yn ei cholli hi. 3 Ceryddu Abimelec mewn breuddwyd o'i hachos hi, 9 Yntef yn ceryddu Abraham, 14 yn rhoddi Sara yn ei hol, 16 ac yn ei cheryddi hi, 17 Ac yn cael ei iachau trwy weddi Abraham.

AC Abraham aeth oddi yno i dîr y dehau, ac a gyfanneddodd rhwng Cades a Sur, ac a ymdeithiodd yn Gerar.

2 A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, fy chwaer yw hi: ac Abimelec brenin Gerar a anfonodd ac a gymmerth Sara.

3 Yna y daeth Duw at Abimelec noswaith mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, wele dŷn marw wyt ti am y wraig a gymmeraist, a hithau yn berchen gŵr.

4 Ond Abimelec hi nessasei atti hi: ac efe a ddywedodd, Arglwydd, a leddi di genedl gyfiawn hefyd?

5 Oni ddywedodd efe wrthif fi, fy chwaer yw hi? a hithe hefyd ei hun a ddywedodd fy mrawd yw efe:yn sym­lrwydd. ym mherffeithrwydd fyngha­lon, ac yng-lendid fy nwylo y gwneuthum hyn.

6 Yna y dywedodd Duw wrtho ef mewn breu­ddwyd, minneu a wn mai ym-mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn: a mi a'th atteliais rhac pechu i'm herbyn: am hynny ni adewais i ti gyffwrdd a hi.

7 Yn awr gan hynny dod y wraig drachefn i'r gŵr, o herwydd prophwyd yw efe, ac efe a weddia trosot, a byddi fyw: ond oni roddi hi drachefn, gwybydd y byddi farw yn ddiau, ti a'r rhai oll ydynt eiddoti.

8 Yna y cododd Abimelec yn foreu, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl be­theu hynHeb. yn eu clust­iau hwy. wrthynt hwy, a'r gwyr a ofnasant yn ddirfawr.

9 Galwodd Abimelec hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, beth a wnaethost i ni? a pheth a bechais i'th erbyn, pan ddygyt bechod mor fawr arnafi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost a mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur.

10 Abimelec hefyd a ddywedodd wrth Abra­ham, beth a welaist, pan wnaethost y peth hyn?

11 A dywedodd Abraham, am ddywedyd o honofi, yn ddiau nid oes ofn Duw yn y lle hwn: a hwy a'm lladdant i o achos fyng-wraig.

12 A hefyd yn wîr fy chwaer yw hi: merch fy nhâd yw hi, ond nid merch fy mam; ac y mae hi yn wraig i mi.

13 Ond pan barodd Duw i mi grwydro o dŷ fy nhad, yna y dywedais wrthi hi, dymma dy garedigrwydd yr hwn a wnei a mi ymmhôb lle y delom iddo,Pen. 12.13. dywed am danaf fi fy mrawd yw efe.

14 Yna y cymmerodd Abimelec ddefaid, a gwarthec, a gweision, a morwynion, ac ai rhodd­es i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sara ei wraig drachefn.

15 A dywedodd Abimelec, wele fyng-wlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg.

16 Ac wrth Sara y dywedodd, wele rhoddais i'th frawd fîl o ddarnau arian: wele efe yn orchudd llygaid it, i'r rhai oll sydd gyd a thi, a chydâ phawb eraill: fel hyn y ceryddwyd hi.

17 Yna Abraham a weddiodd ar Dduw, a Duw a iachaodd Abimelec, a'i wraig, a'i forwynion, a hwy a blantasant.

18 O herwydd yr Arglwydd gan gau a gae­ase ar bob croth yn nhŷ Abimelec, o achos Sara gwraig Abraham.

PEN. XXI.

1 Genedigaeth Isaac, 4 a'i Enwaediad. 6 Lla­wenydd Sara. 9 Bwrw Hagar ac Ismael allan. 15 Hagar mewn cyfyngdra. 17 Yr Angel yn ei chyssuro hi. 22 Cyngrair rhwng Abimelec ac Abraham yn Beersheba.

A'R Arglwydd a ymwelodd a Sara fel y dy­wedasei, a gwnaeth yr Arglwydd i SaraGen. 17.19. Gen. 18.10. fel y llefarasei.

2 O herwydd Sara aAct. 7.8. Gal. 4.22. Heb. 11.11. feichiogodd, ac a ym­ddug i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedic y dywedasei Duw wrtho ef.

3 Ac Abraham a alwodd henw ei fab a anesid iddo, (yr hwn a ymddygase Sara iddo ef) Isaac.

4 Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fâb yn wyth niwrnod oed;Gen. 17.19. fel y gorchymynasei Duw iddo ef.

5 Ac Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.

6 A Sara a ddywedodd, gwnaeth Duw i mi chwerthin; pob vn a glywo a chwardd gyd a mi.

7 Hi a ddywedodd hefyd, pwy a ddywedasei i Abraham, y rhoesei Sara sugn i blant: canys mi a escorais ar fab yn ei henaint ef.

8 A'r bachgen a gynnyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.

9 A Sara a welodd fâb Agar yr Aiphtes, yr hwn a ddygasei hi i Abraham yn gwarwar.

10 A hi a ddywedodd wrth Abraham,Gal. 4.30. bwrw allan y gaeth forwyn hon ai mâb; o herwydd ni chaiff mâb y gaethes hon gyd etifeddu a'm mab i Isaac.

11 A'r peth hyn fu ddrwg iawn yngolwg Abraham, er mwyn ei fab.

12 A Duw a ddywedodd wrth Abraham, na fydded drwg yn dy olwg am y llangc, nac am dy gaeth-forwyn: yr hyn oll a ddywedodd Sara wrthit, gwrando ar ei llais: o herwydd yn Isaac y gelwir i ti hâd.

13 Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a'i gwnaf ef yn genhedlaeth, o herwydd dy hâd ti ydyw ef.

14 Yna y cododd Abraham yn loreu, ac a gym­merodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a'i rhoddes at Agar, gan osod ar ei hyscwydd hi hynwy a'r bachgen hefyd, ac efe a'i gollyngodd hi ym­maith: a hi a aeth, ac a gyrwydrodd yn anial­wch Beersebah.

15 A darfu y dwfr yn y gostrel, a hi a fwriodd y bachgen tan vn o'r gwŷdd.

16 A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan yn bell ar ei gyfer, megis ergyd bŵa: canys dy­wedasei, ni allafi edrych ar y bachgen yn marw: felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddercha­fodd ei llef, ac a ŵylodd.

17 A Duw a wrandawodd ar lais y llangc, ac angel Duw a alwodd ar Agar o'r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, beth a ddarfu i ti Agar? nac ofna, o herwydd Duw a wrandawodd ar lais y llangc lle y mae efe.

18 Cyfot, cymmer y llangc, ac ymafel ynddo a'th law, o blegit myfi a'i gwnâf ef yn gen­hedlaeth fawr.

19 A Duw a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr, a hi aeth, ac a lanwodd y [Page] gostrel o'r dwîr, ac a ddiododd y llangc.

20 Ac yr oedd Duw gyd a'r llangc, ac efe a gynnyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac aeth yn berchen bwa.

21 Ac yn anialwch Paran y trigodd efe, a'i fam a gymmerodd iddo ef wraig o wlad yr Aipht.

22 Ac yn yr amser hwnnw, Abimelec a Phi­col tywysog ei lu ef a ymddiddanasant ag Abra­ham, gan ddywedyd, Duw sydd gyd a thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.

23 Yn awr gan hynny, twng wrthif fi yma i Dduw, naHeb. ddywedi gelwidd wrthyf. fyddi anffyddlon i mi, nac i'm mâb, nac i'm hwyr: yn ol y drugaredd a wneuthum a thi y gwnei di a minne, ac a'r wlad yr ymdeithiaist ynddi.

24 Ac Abraham a ddywedodd, mi a dyngaf.

25 Ac Abraham a geryddodd Abimelec, o a­chos y pydew dwfr a ddygase gweision Abime­lec trwy drais.

26 Ac Abimelec a ddywedodd, nis gwybum i pwy a wnaeth y peth hyn: tithe hefyd ni fy­negaist i mi, a minne ni chlywais hynny hyd heddyw.

27 Yna y cymmerodd Abraham ddefaid a gw­arthec, ac ai rhoddes i Abimelec, a hwy a wnae­thant gyngrair ill dau.

28 Ac Abraham a osododd saith o hespinod o'r praidd wrthynt eu hunain.

29 Yna y dywedodd Abimelec wrth Abra­ham, beth a wna y saith hespin hyn a osso­daist wrthynt eu hunain?

30 Ac yntef a ddywedodd, canys ti a gymme­ri y saith hespin o'm llaw, i fod yn destiolaeth mai myfi a gloddias y pydew hwn.

31 Am hynny efe a alwodd henw y lle hwnnwffynon y llw. Beer-sebah: oblegit yno y tyngasant ill dau.

32 Felly y gwnaethant gyngrair yn Beer-se­bah: a chyfododd Abimelec, a Phicol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dîr y Philistiaid.

33 Ac yntef a blannoddlwyn. goed yn Beer-sebah, ac a alwodd yno ar enw yr Arglwydd Dduw tragywyddol.

34 Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid:

PEN. XXII.

1 Profi Abraham i abertbu ei fab. 3 Yntef yn dangos ei ffydd a'i vfydd-dod. 11 Yr angel yn ei rwystro ef. 13 Newid Isaac am hwrdd. 14 Galw 'r lle Jehovah-jireh. 15 Bendithio Abra­ham drachefn. 20 Cenhedlaeth Nachor hyd Rebecca.

AC wedi y petheu hyn y bu i DduwHeb. 11, 17, brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham: yn­tef a ddywedodd, wele fi.

2 Yna y dywedodd Duw, cymmer yr awron dy fâb, sef dy vnic Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dîr Moriah, ac offrymma ef yno yn boeth offrwm ar vn o'r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthit.

3 Ac Abraham a foreu gododd, ac a gyfrwyodd ei assyn, ac a gymmerodd ei ddau langc gyd ag ef, ac Isaac ei fâb, ac a holltodd goed y poeth offrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i'r lle a ddywe­dase Duw wrtho.

4 Ac ar y trydydd dydd y derchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welei y lle o hir-bell.

5 Ac Abraham a ddywedodd wrth ei langci­au, arhoswch chwi ymma gyd a'r assyn, a mi a'r llangc a awn hyd accw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn attoch.

6 Yna y cymmerth Abraham goed y poeth offrwm, ac ai gosododd ar Isaac ei fâb: ac a gymmerodd y tân, a'r gyllell yn ei law ei hun, a hwy a aethant ill dau ynghyd.

7 A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dâd, ac a ddywedodd fy nhâd; yntef a ddywedodd, wele fi, fy mab: yna ebr ef, wele dân a choed, ond maemyr. oen y poeth offrwm?

8 Ac Abraham a ddywedodd, fy mâb, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poeth offrwm: felly 'r aethant ill dau ynghyd,

9 Ac a ddaethant i'r lle a ddywedasei Duw wrtho ef, ac yno 'r adailadodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, acJa. 2.21. a'i gosododd ef ar yr allor ar vchaf y coed.

10 Ac Abraham a estynnodd ei law, ac a gym­merodd y gyllell i ladd ei fâb.

11 Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o'r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abra­ham: yntef a ddywedodd, wele fi.

12 Ac efe a ddywedodd na ddod dy law ar y llangc, ac na wna ddim iddo: o herwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad atteliaist dy fâb, dy vnic fab oddi wrthifi.

13 Yna y derchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele o'i ôl ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni, ac Abraham a aeth ac a gymmerth yr hwrdd, ac a'i hoffrym­modd yn boeth offrwm yn lle ei fâb.

14 Ac Abraham a alwodd henw y lle hwnnwyr Ar­glwydd a edrych neu a ddarpara Jehovah-jireh, fel y dywedir heddyw, ym mynydd yr Arglwydd y gwelir.

15 Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abra­ham yr ail waith o'r nefoedd.

16 Ac a ddywedodd,Ps. 105.9. Eccles. 44.21. Luc. 1.73. Heb. 6.13. i mi fy hun y tyngais medd yr Arglwydd, o herwydd gwneuthur o honot y peth hyn, ac nad atteliaist dy fâb, dy vn­ic fâb,

17 Mai gan fendithio i'th fendithiaf, a chan amlhau 'r amlhaf, dy hâd, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd arfin. lan y môr: a'th hâd a feddianna borth ei elynion.

18 AcGen. 12.3. Gen. 18.18. Act. 3.25. Gal. 3.8. yn dy hâd ti y bendithir holl genhed­loedd y ddaiar, o achos gwrando o honot ar fy llais i.

19 Yna Abraham a ddychwelodd at ei lang­ciau, a hwy a godasant, ac a aethant yng-hyd i Beer-sebah: ac Abraham a drigodd yn Beer-sebah.

20 Darfu hefyd wedi y pethau hyn, fynegi i Abraham gan ddywedyd, wele dûg Milcha hi­the hefyd blant i Nachor dy frawd.

21 Hus ei gyntaf-anedic, a Buz ei frawd: Cemuel hefyd tâd Aram,

22 A Chesed, a Hazo, a Phildas, ac Idlaph a Bethuel.

23 A Bethuel a genhedlodd Rebecca: yr wyth hyn a blantodd Milcha i Nachor brawd Abra­ham.

24 Ei ordderch-wraig hefyd, ai henw Reumah, a escorodd hithe hefyd ar Tebah, a Gaham, a Thahas, a Maachah.

PEN. XXIII.

1 Oedran a marwolaeth Sara. 3 Prynu Machpe­lah, 19 Lle y claddwyd Sara.

AC oes Sara vdoedd gan-mlhynedd a saith-mlynedd ar hugain: dymma flynyddoedd oes Sara.

2 A Sara a fu farw yng-haer Arbah, honno yw Hebron yn nhîr Canaan: ac Abraham aeth i alaru am Sara, ac i wylofain am deni hi.

3 Yna y cyfododd Abraham i fynu oddi ger bron ei gorph marw, ac a lefarodd wrth feibion Heth, gan ddywedyd,

4 Dieithr ac alltud ydwyfi gyd a chwi: rhodd­wch i mi feddiant beddrod gyd a chwi, fel y claddwyf fy marw allan o'm golwg.

5 A meibion Heth a attebasant Abraham, gan ddywedyd wrtho,

6 Clyw ni fy Arglwydd: tywysogcadarn. Duw wyt ti yn ein plith: cladd dy farw yn dy dde­wis o'n beddau ni: ni rwystr neb o honom ni ei fedd i ti, i gladdu dy farw.

7 Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrym­modd i bobl y tîr sef i feibion Heth:

8 Ac a ymddiddanodd a hwynt gan ddywedyd, os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o'm golwg, gwrandewch fi ac eiriolwch trosof fi ar Ephron fâb Zohar:

9 Ar roddi o honaw ef i mi yr ogof Mach­pelah, yr hon sydd eiddo ef, ac sydd ynghwr ei faes: er ei llawn werth o arian rhodded hi i mi, yn feddiant beddrod yn eich plith chwi.

10 Ac Ephron oedd yn aros ym-mysc mei­bion Heth: ac Ephron yr Hethiad a attebodd Ab­raham, lle y clywodd meibion Heth: yngwydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddy­wedyd,

11 Nagê fy arglwydd, clyw fi; rhoddais y maes i ti, a'r ogof sydd ynddo, i ti y rhoddais hi, yng-wydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw.

12 Ac Abraham a ymgrymmodd o flaen pobl y tîr.

13 Ac efe a lefarodd wrth Ephron lle y cly­bu pobl y tîr, gan ddywedyd, etto os tydi a'i rhoddi attolwg gwrando fi: rhoddaf werth y maes, cymmer gennif, ac mi a gladdaf fy marw yno.

14 Ac Ephron a attebodd Abraham, gan ddy­wedyd wrtho;

15 Gwrando fi fy arglwydd, y tîr a dâl bed­war cant sicl o arian: beth yw hynny rhyngof fi a thithe? am hynny cladd dy farw.

16 Felly Abraham a wrandawodd ar Ephron, a phwysodd Abraham i Ephron yr arian a ddywedasei efe lle y clybu meibion Heth: ped­war-cant sicl o arian cymmeradwy ymmhlith marchnad-wyr.

17 Felly y siccrhawyd maes Ephron yr hwn oedd ym-Machpelah, yr hon oedd o flaen Mam­re, y maes a'r ogof oedd ynddo, a phôb pren ar a oedd yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch,

18 Yn feddiant i Abraham, yng-olwg meibi­on Heth, yngwydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef.

19 Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sara ei wraig, yn ogof maes Machpelah, o flaen Mam­re, honno yw Hebron, yn nhir Canaan.

20 A siccrhawyd y maes, a'r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham yn feddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth.

PEN. XXIIII.

Abraham yn peri i'w wâs dyngu. 10 Taith y gwâs: 12 Ei weddi: 14 Ei arwydd. 15 Re­becca yn ei gyfarfod ef, 18 yn cwplhau ei ar­wydd ef, 22 yn derbyn tlyssau, 23 yn dangos ei chenedl, 25 ac yn ei wahadd ef adref. 26 Y gwâs yn bendithio Duw. 28 Laban yn ei groesafu ef. 34 Y gwâs yn treuthu ei neges. 50 Laban a Bethuel yn fodlawn. 58 Rebecca yn cydsynio i fyned. 62 Isaac yn cyfarfod a hi.

AC Abraham oedd hên, wedi mynedHeb. [...]n [...]iau. yn oe­drannus, a'r Arglwydd a fendithiasei Abra­ham ym mhob dim.

2 A dywedodd Abraham wrth ei wâs hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a'r a oedd ganddo:Gen. 47 29. gosod attolwg, dy law tan fy morddwyd.

3 Ac mi a baraf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd, a Duw y ddaiar, na chymmerech wraig i'm mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai 'r ydwyf yn trigo yn eu mysc.

4 Ond i'm gwlad i yr ei, ac at fynghenedl i yr ei di, ac a gymmeri wraig i'm mab Isaac.

5 A'r gwâs a ddywedodd wrtho ef, onid odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ôl i i'r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i'r tîr y daethost allan o honaw?

6 A dywedodd Abraham wrtho, gwilia arnat rhac i ti ddychwelyd fy mâb i yno.

7 Arglwydd Dduw y nefoedd yr hwn a'm cymmerodd i o dŷ fy nhâd, ac o wlad fynghe­nedl, yr hwn hefyd a ymddiddannodd a mi, ac a dyngodd wrthif gan ddywedyd;Gen. 12.7. Gen. 15.7. Gen. 13.15. Gen. 15.18. Gen. 26.4. ith hâd ti y rhoddaf y tîr hwn, efe a enfyn ei angel o'th flaen di, a thi â gymmeri wraig i'm mâb oddi yno.

8 Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ol di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn vnic na ddychwel di fy mâb i yno.

9 A'r gwâs a osododd ei law tan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y pêth hyn.

10 A chymmerodd y gwâs ddec camel, o ga­melod ei feistr, ac a aeth ymmaith (Neu, a. canys holl dda ei feistr oedd tan ei law ef:) ac efe a gododd ac a aeth i Mesopotamia i ddinas Nachor.

11 Ac efe a wnaeth i'r camelod orwedd or tu allan i'r ddinas, wrth bydew dwfr ar bryd nawn, yng-hylch yr amser y byddei merched Neu, a dynnal ddwfr, yn dyfod allan. yn dyfod allan i dynnu dwfr.

12 Ac efe a ddywedodd, ô Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, attolwg, pâr i mi lwyddi­ant heddyw; a gwna drugaredd â'm meistr Abraham.

13Vers. 43. Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwyr y ddinas yn dyfod allan i dyn­nu dwfr:

14 A bydded, mai'r llangces y dywedwyf wrthi, gogwydda attolwg dy stên, fel yr yfwyf: os dywed hi ŷf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd, honno a ddarperaist i'th wâs Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur o honot ti drugaredd â'm meistr.

15 A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Re­becca yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milcha, gwraig Nachor, brawd Abraham) a'i stên ar ei hyscwydd.

16 A'r llangces oedd dêg odieth yr olwg, yn forwyn, a heb i ŵr ei hadnabod, a hi a aeth i wa­red i'r ffynnon, ac a lanwodd ei stên ac a ddaeth i fynu.

17 A'r gwâs a redodd iw chyfarfod, ac a ddywedodd, attolwg gâd i mi yfed ychydic ddwfr o'th ystên.

18 A hi a ddywedodd, ŷf fy meistr, a hi a fryssiodd, ac a ddescynnodd ei stên ar ei llaw, ac a'i diododd ef.

19 A phan ddarfu iddi ei ddiodi ef, hi a ddy­wedodd, tynnaf hefyd i'th, gamelod hyd oni ddarffo iddynt yfed.

20 A hi a fryssiodd, ac a dywalltodd ei stên i'r cafn, ac a redodd eil-waith i'r pydew i dyn­nu, ac a dynnodd iw holl gamelod ef.

21 A'r gŵr yn synnu o'i phlegit hi, a dawodd, lwybod a lwyddase'r Arglwydd ei daith ef, ai naddo.

[...]
[...]

22 A bu pan ddarfu i'r camelod yfed, gymmeryd o'r gŵrTaldiws. glust-dlws aur yn han­ner sicl ei bwys: a dwy fraichled iw dwylo hi, yn ddêc sicl o aur eu pwys.

23 Ac efe a ddywedodd, merch pwy ydwyt ti? mynega i mi attolwg: a oes lle i ni i letteu yn nhŷ dy dâd?

24 A hi a ddywedodd wrtho, myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milcha, yr hwn a ymddug hi i Nachor.

25 A hi a ddywedodd wrtho ef, y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i letteu.

26 A'r gŵr a ymgrymmodd, ac a addolodd yr Arglwydd.

27 Ac a ddywedodd, bendigêdic fyddo Ar­glwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd, a'i ffydd­londeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dûg yr Ar­glwydd fi i dŷ brodyr fy meistr.

28 A'r llangces a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam y pethau hyn.

29 Ac i Rebecca 'r oedd brawd, a'i enw Laban: a Laban a redodd at y gŵr allan i'r ffynnon.

30 A phan welodd efe y clustdlws, a'r breich­ledau am ddwylo ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebecca ei chwaer yn dywedyd, fel hyn y dywedodd y gŵr wrthifi, yna efe a aeth at y gŵr; ac wele efe yn sefyll gyd a'r camelod wrth y ffynnon,

31 Ac efe a ddywedodd, tyred i mewn, ti fendigêdic yr Arglwydd, pa ham y sefi di all­an? canys mi a baratoais y tŷ, a lle i'r ca­melod.

32 A'r gŵr a aeth i'r tŷ, ac yntef a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i'r camelod, a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gyd ag ef.

33 A gosodwyd bwyd oi flaen ef i fwytta, ac efe a ddywedodd, ni fwyttâf hyd oni thrae­thwyf fy negesau: a dywedodd yntef trae­tha.

34 Ac efe a ddywedodd, gwâs Abraham ydwyf fi.

35 A'r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynnyddodd: canys rhodd­odd iddo ddefaid, a gwarthec, ac arian, ac aur, a gweision, a morwynion, a chamelod, ac assyn­nod.

36 Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddug fab i'm meistr, wedi ei heneiddio hi, ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo.

37 A'm meistr a'm tyngodd i, gan ddywe­dyd, na chymmer wraig i'm mab i, o ferched y Canaaneaid, y rhai'r ydwyf yn trigo yn eu tîr.

38 Ond ti a ei i dŷ fy nhâd, ac at fy-nhŷ­lwyth, ac a gymmeri wraig i'm mâb.

39 A dywedais wrth fy meistr, fe allai na ddaw'r wraig ar fy ôl i.

40 Ac efe a ddywedodd wrthif, yr Ar­glwydd yr hwn y rhodias ger ei fron, a enfyn ei angel gyd a thi, ac a lwydda dy daith di: a thi a gymmeri wraig i'm mab i o'm tylwyth, ac o dŷ fy nhâd.

41 Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhŷlwyth: ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw.

42 A heddyw y daethum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awron yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyfi yn myned arni:

43 Wele fivers. 13. yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a'r forwyn a ddelo allan i dynnu, ac y dywe­dwyf wrthi; dod i mi attolwg ychydic ddwfr iw yfed oth ystên:

44 Ac a ddywedo wrthif inne, ŷf di, a thy­nnaf hefyd i'th gamelod; bydded honno y wraig a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr.

45 A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy­nghalon, wele Rebecca yn dyfod allan, ai stên ar ei hyscwydd, a hi aeth i wared i'r ffynnon, ac a dynnodd: yna dywedais wrthi, dioda fi attolwg.

46 Hithe a fryssiodd, ac a ddescynnodd ei stên oddi arni, ac a ddywedodd ŷf, a mi a ddyf­rhaf dy gamelod hefyd: felly yr yfais, a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd.

47 A mi a ofynnais iddi ac a ddywedais, merch pwy ydwyt ti? hithe a ddywedodd, merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddug Milcha iddo ef. Yna y gossodais y clustdlŵs wrth ei hwyneb, a'r breichledau am ei dwy­lo hi:

48 Ac a ymgrymmais, ac a addolais yr Ar­glwydd, ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn a'm harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymmeryd merch brawd fy meistr iw fab ef.

49 Ac yn awr od ydych chwi yn gwneu­thur trugaredd a ffyddlondeb â'm meistr, my­negwch i mi: ac onidê, mynegwch i mi, fel y trowyf ar y llaw ddehau, neu ar y llaw asswy.

50 Yna 'r attebodd Laban, a Bethuel, ac a ddywedasant; oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthit ddrwg, na dâ.

51 Wele Rebecca o'th flaen, cymmer hi, a dôs, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefa­rodd yr Arglwydd.

52 A phan glybu gwâs Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymmodd hyd lawr i'r Arglwydd.

53 A thynnodd y gwâs allanDdo­drefn. dlŷsau ari­an, a thlysau aur, a gwiscoedd, ac ai rhoddodd i Rebecca: rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr iw brawd hi, ac iw mam.

54 A hwy a fwyttasant, ac a yfasant, efe, a'r dynion oedd gyd ag ef, ac a letteuasant dros nôs, a chodasant yn foreu, ac efe a ddywedodd,Vers. 56.& 59. gollyngwch fi at fy meistr.

55 Yna y dywedodd ei brawd, ai mam, tri­ged y llangces gyd a niFlwydd­yn gyfan, neu ddeg o fisoedd ddeng-nhiwrnodd o'r lleiaf, wedi hynny hi a gaiff fyned.

56 Yntef a ddywedodd wrthynt, na rwyst­rwch fi, gan i'r Arglwydd lwyddo fy nhaith; gollyngwch fi, fel yr elwyf at fy meistr.

57 Yna y dywedasant, galwn ar y llangces, a gofynnwn iddi hi.

58 A hwy a alwasant ar Rebecca, a dyweda­sant wrthi, a ei di gyd a'r gŵr hwn? a hi a ddywedodd, âf.

59 A hwy a ollyngasant Rebecca ei chwaer, a'i mammaeth, a gwâs Abraham, ai ddynion:

60 Ac a fendithiasant Rebecca, ac a ddy­wedasant wrthi: ein chwaer wyt, bydd di fîl fyrddiwn: ac etifedded dy hâd borth ei ga­seion.

61 Yna y cododd Rebecca ai llangcessau, ac a farchogasant ar y camelod, ac aethant ar ôl y gŵr; a'r gwas a gymmerodd Rebecca, ac a aeth ymmaith.

62 Ac Isaac oedd yn dyfod o fforddGen. 16.14. Gen. 25.11. py­dew Lahai-roi, ac efe oedd yn trigo yn nhîr y dehau.

63 Ac Isaac aeth allan iWeddio. fyfyrio yn y maes, ym mîn yr hwyr, ac a dderchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele y camelod yn dyfod.

64 Rebecca hefyd a dderchafodd ei llygaid, a phan welodd hi Isaac, hi a ddescynnodd o­ddiar y camel.

65 Canys hi a ddywedasei wrth y gwâs, pwy yw 'r gwr hwn sydd yn rhodio yn y maes i'n cyfarfod ni? a'r gwâs a ddywedasei fy meistr yw efe: a hi a gymmerth orchudd, ac a ym­wiscodd.

66 A'r gwâs a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethe efe.

67 Ac Isaac ai dûg hi i mewn i babell Sara ei fam, ac efe a gymmerth Rebecca, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe ai hoffôdd hi: ac Isaac a ymgyssurodd ar ol ei fam.

PEN. XXV.

1 Plant Abraham o Cetura. 5 Rhanau ei ddâ ef. 7 Ei oedran a'i farwolath. 9 Ei gladde­digaeth.12 Cenhedlaethau Ismael. 17 Ei oe­dran a'i farwolaeth. 21 Isaac yn gweddio tros Rebecca 'r hon oedd yn amhlantadwy. 22 Y plant yn ymwthio yn ei chrôth hi. 24 Ganedi­gaeth Esau ac Jacob. 27 Y rhagor oedd rhyng­thynt hwy. 29 Esau yn gwerthu braint ei ane­digaeth.

AC Abraham a gymmerodd ellwaith wraig, a'i henw Cetura.

2 A hi a escorodd iddo ef Zimrarn, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Suah.

31 Cron. 1.32. A Jocsan a genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd Assurim, a Letusim, a Leummim.

4 A meibion Midian oedd Ephah, ac Epher, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaah: yr holl rai hyn oedd feibion Cetura.

5 Ac Abraham a roddodd yr hyn holl oedd ganddo i Isaac.

6 Ac i feibion gordderch-wragedd Abraham, y rhoddodd Abraham roddion, ac efe ai hanfo­nodd hwynt oddi wrth Isaac ei fâb, tu a'r dwy­rain, i dîr y dwyrain, ac efe etto yn fyw.

7 Ac dymma ddyddiau blynyddoedd enioes Abraham, y rhai y bu ef fyw; can-mlhynedd, a phymtheng mlhynedd a thrugain.

8 Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw mewn oed têg, yn hên, ac yn gyflawn o ddy­ddiau, ac efe a gasclwyd at ei bobl.

9 Ac Isaac ac Ismael ei feibion a'i claddasant ef yn ogof Machpelah, ym maes Ephron fâb Zohar yr Hethiad, yr hwn sydd o flaen Mamre:

10Pen. 23.16. Y maes a brynasei Abraham gan fei­bion Heth: yno y claddwyd Abraham a Sara ei wraig.

11 Ac wedi marw Abraham, bu hefyd i Dduw fendithio Isaac ei fab ef: ac Isaac a dri­godd wrthGen. 16.14. Gen. 24.62. ffynnon Lahai-roi.

12 Ac dymma genhedlaethau Ismael fâb A­braham, yr hwn a ymddug Agar yr Aiphtes morwyn Sara i Abraham.

13 Ac dymma henwau1 Cron. 1.29. meibion Ismael, erbyn eu henwau, trwy eu cenhedlaethau; Ne­baioth cyntaf-anedic Ismael, a Cedar, ac Ad­beel, a Mibsam,

14 Misma hefyd, a Dumah, a Massa,

15 Hadar, a Thema, Jetur, Naphis, a Che­demah.

16 Dymma hwy meibion Ismael, ac dymma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll: yn ddeuddec o dywysogion yn ol eu cenhedloedd.

17 Ac dymma fiynyddoedd enioes Ismael, can-mlynedd, a dwy ar bymthec ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casclwyd ef at ei bobl.

18 Presswyliasant hefyd o Hafilah hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aipht, ffordd yr ei di i Assyria: ac yngwydd ei holl frodyrHeb. cwym­podd. y bu efe farw.

19 Ac dymma genhedlaethau Isaac fab A­braham: Abraham a genhedlodd Isaac.

20 Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd, pan gymmerodd efe Rebecca ferch Bethuel y Sy­riad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo.

21 Ac Isaac a weddiodd ar yr Arglwydd dros ei wraig am ei bod hi 'n amhlantadwy: a'r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a Rebecca ei wraig ef a feichiogodd.

22 A'r plant a ymwthiasant a'i gilydd yn ei chroth hi; yna y dywedodd hi, os felly, beth y wnaf fi fel hyn? a hi a aeth i ymofyn a'r Ar­glwydd.

23 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, dwy genhedl sydd yn dy grôth di, a dau fath ar bobl a wahenir o'th fru di, a'r naill bobl fydd cryfach nâ'r llall,Rhuf▪ 9.12. a'r hynaf a wasanaetha 'r ieuangaf.

24 A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i es­cor, wele gefelliaid oedd yn ei chrôth hi.

25 A'r cyntaf a ddaeth allan yn gôch tro­sto i gyd, fel cochl flewog: a galwasant ei enw ef Esau.

26 Ac wedi hynny yOsea. 12.3. daeth ei frawd ef allan, a'i law yn ymaflyd yn sodl Esau: a ga­lwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab tru­gein mlwydd pan anwyd hwynt.

27 A'r llangciau a gynnyddasant; ac Esau oedd wr yn medru hela, a gwr o'r maes: ac Jacob oedd wr disyml yn cyfanneddu mewn pebyll.

28 Isaac hefyd oedd hôff ganddo Esau, am ei fod yn bwytta o'i helwriaeth ef: a Rebecca a hoffei Jacob.

29 Ac Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o'r maes, ac efe yn ddeffygiol.

30 A dywedodd Esau wrth Jacob, gâd i mi yfed attolwgHeb. o'r coch, o'r coch ymma. o'r cawl côch ymma: o her­wydd deffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.

31 A dywedodd Jacob, gwerth di heddyw i mi dy anedigaeth-fraint.

32 A dywedodd Esau, wele fi yn myned i farw, a pha lês a wna yr anedigaeth-fraint hon i mi?

33 A dywedodd Jacob, twng i mi heddyw: ac efe a dyngodd iddo; ac efe a werthodd ei a­nedigaeth-fraint i Jacob.

34Heb. 12.16.Ac Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys, ac efe a fwyttaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymmaith: felly y diystyrodd Esau ei anedigaeth-fraint.

PEN. XXVI.

Isaac o achos newyn yn myned i Gerar. 2 Duw yn ei addyscû ac yn ei fendithio ef. 7 Abime­lec yn ei geryddu ef am wadu ei wraig. 12 Efe yn myned yn gyfoethawg. 18 Yn cloddio ffynnon Esec, Sitnah, a Rehoboth. 23 Abimelec yn gwneuthur cyngrair ag ef yn Beersebah. 34 Gwragedd Esau.

A Bu newyn yn y tir, heb law y newyn cyn­taf a fuasei yn nyddiau Abraham: ac I­saac a aeth at Abimelec brenhin y Philistiaid i Gerar.

2 A'r Arglwydd a ymddangossasei iddo ef, ac a ddywedasei, na ddos i wared i'r Aipht: a­ros yn y wlâd a ddywedwyfi wrthyt.

3 Ymdeithia yn y wlâd hon, a mi a fyddaf gyd a thi, ac a'th fendithiaf: o herwydd i ti ac i'th hâdPen. 13.15. & 15.18. y rhoddaf yr holl wledydd hyn, ac mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth A­braham dy dâd ti.

4 AcPen. 12.3. ac 15.18. ac 22.17 18. mi a amlhâf dy hâd ti fel sêr y ne­foedd, a rhoddaf i'th hâd ti'r holl wledydd hyn: a holl genhedlaethau y ddaiar a fendithir yn dy hâd ti:

5 Am wrando o Abraham ar fy llais i, a chadw fyng-hadwriaeth, fyng-orchymynion, fy neddfau, a'm cyfreithiau.

6 Ac Isaac a drigodd yn Gerar.

7 A gwŷr y lle hwnnw a ymofynnasant am ei wraig ef: ac efe a ddywedodd, fy chwaer yw hi: canys ofnodd ddywedyd fyng­wraig yw, rhac eb ef i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebecca: canys yr ydoedd hi yn dêg yr olwg.

8 A bu gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelec brenin y Philistiaid edrych trwy 'r ffenestr, a chanfod, ac wele Isaac yn chwarae a Rebecca ei wraig.

9 Ac Abimelec a alwodd ar Isaac, ac a ddy­wedodd, wele, yn ddiau dy wraig yw hi: a pha ham y dywedaist fy chwaer yw hi? yna y dy­wedodd Isaac wrtho, am ddywedyd o honof, rhac fy marw oi phlegit hi.

10 A dywedodd Abimelec, pa ham y gwn­aethost hyn a ni? hawdd y gallasei vn o'r bobl orwedd gyd a'th wraig di, felly y dygasit arn­om ni bechod.

11 A gorchymynnodd Abimelec i'r holl bobl, gan ddywedyd; yr hwn a gyffyrddo a'r gŵr hwn, neu ai wraig, a leddir yn farw.

12 Ac Isaac a hauodd yn y tîr hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn honno y can-cymmaint. A'r Arglwydd a'i bendithiodd ef.

13 A'r gŵr a gynnyddodd, ac aeth rhagddo ac a dyfodd, hyd onid aeth yn fawr iawn.

14 Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid, a chyfoeth o wartheg, aNeu, ac hwsmon­naeth. gweision lawer: a'r Philistiaid a gynfigennasant wrtho ef.

15 A'r holl bydewau y rhai a gloddiasei gweision ei dâd ef, yn nyddiau Abraham ei dâd ef, y Philistiaid a'i caeasant hwy, ac a'i llanwa­sant â phridd.

16 Ac Abimelec a ddywedodd wrth Isaac, dos oddi wrthym-ni: canys ti a aethost yn gryfach o lawer nâ nyni.

17 Ac Isaac aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar, ac a bresswyliodd yno.

18 Ac Isaac eilwaith a gloddiodd y pydew­au dwfr, y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abra­ham ei dâd ef, ac a gaeasei y Philistiaid, wedi marw Abraham; ac a henwodd henwau ar­nynt, yn ôl yr henwau a henwasei ei dâd ef arnynt hwy.

19 Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn, ac a gawsant yno ffynnon o ddwfrHeb. byw. rhedegoc.

20 A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant a bu­geiliaid Isaac gan ddywedyd; y dwfr sydd ei­ddom ni; yna efe a alwod i henw y ffynnonHynny yw Cyn­nen. Esec; o herwydd ymgynhennu o honynt ag ef.

21 Cloddiasant hefyd bydew arall, ac ymry­sonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw efHynny yw, Cas. Sitnah.

22 Ac efe a fudodd oddi yno, ac a gloddi­odd bydew arall, ac nid ymrysonasant am hwn­nw, ac efe a alwodd ei enw efHynny yw, E­hangder. Rehoboth; ac a ddywedodd, canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom, ac ni a ffrwythwn yn y tîr.

23 Ac efe aeth i fynu oddi yno i Beer-sebah.

24 A'r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, myfi yw Duw Abraham dy dâd di: nac ofna, canys byddaf gyd a thi, ac a'th fendithiaf, ac a luosogaf dy hâd, er mwyn Abraham fyng-wâs.

25 Ac efe a adailadodd yno allor, ac a al­wodd ar enw'r Arglwydd, ac yno y gosododd efe ei babell; a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew.

26 Yna y daeth Abimelec atto ef o Gerar, ac Ahuzzah ei gyfeill, a Phicol tywysog ei lû.

27 Ac Isaac a ddywedodd wrthynt, pa ham y daethoch chwi attaf fi? gan i chwi fyng-ha­sau, a'm gyrru oddi wrthych?

28 Yna y dywedasant, gan weled ni a welsom fôd yr Arglwydd gyd â thi; a dywedasom, by­dded yn awr gyngrair rhyngom ni, sef rhyng­om ni a thi; a gwnawn gyfammod â thi,

29Heb. Os gwnei Na wnei i ni ddrwg, megis na chy­ffyrddasom ninnau a thi, a megis y gwnaethom ddaioni yn vnic a thi, ac i'th anfonasom mewn heddwch; ti yn awr wyt fendigedig yr Ar­glwydd.

30 Ac efe a wnaeth iddynt wledd, a hwy a fwyttasant, ac a yfasant.

31 Yna y codasant yn foreu, a hwy a dyng­asant bôb vn iw gilydd: ac Isaac a'i gollyn­godd hwynt ymmaith, a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch.

32 A'r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent, a dywedasant wrtho, cawsom ddwfr.

33 Ac efe ai galwodd efHynny yw, llw. Sebah: am hyn­ny henw y ddinas yw Hynny yw, ffyn­non y llw Beersebah hyd y dydd hwn.

34 Ac yr oedd Esau yn fâb deugein mlwydd, ac efe a gymmerodd yn wraig, Judith ferch Beeri 'r Hethiad, a Basemath ferch Elon yr Hethiad.

35 APen. 27.46. hwy oeddynt chwerwder yspryd i Isaac, ac i Rebecca.

PEN. XXVII.

1 Isaac yn anfon Esau am helwriaeth. 5 Rebecca yn dyscu Jacob i gael y fendith. 15 Jacob yn rhith Esau yn ei chaffael. 30 Esau yn dwyn ei saig. 33 Isaac yn dychrynu. 34 Esau yn cwy­nofain, a thrwy daerni yn caffael bendith.41 Yn bygwth Jacob. 42 Rebecca yn ei si­ommi ef.

A Bu wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei ly­gaid fel na welei, alw o honaw ef Esau ei fâb hynaf, a dywedyd wrtho, fy mâb; yntef a ddywedodd wrtho ef, wele fi.

2 Ac efe a ddywedodd, wele mi a heneiddi­ais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth.

3 Ac yn awr cymmer attolwg dy offer, dy gawell saethau, a'th fwa, a dos allan i'r maes, a hela i mi helfa.

4 A gwna i mi flasus-fwyd o'r fâth a garaf, a dwg i mi, fel y bwyttawyf, fel i'th fendithio fy enaid cyn fy marw.

5 A Rebecca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fâb: ac Esau aeth i'r maes i hela helfa iw dwyn.

6 A Rebecca a lefarodd wrth Jacob ei mâb, gan ddywedyd; wele clywais dy dâd yn lle­faru wrth Esau dy frawd gan ddywedyd,

7 Dŵg i mi helfa, a gwna i mi flasus-fwyd fel y bwyttawyf, ac i'th fendithiwyf ger bron yr Arglwydd cyn fy marw.

8 Ond yn awr, fy mâb, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchymynnaf i ti.

9 Dos yn awr i'r praidd, a chymmer i mi oddi yno ddau fyn gafr da, a mi a'i gwnâf hwynt yn fwyd blasus i'th dâd, o'r fath a gâr efe.

10 A thi a'i dygi i'th dâd, fel y bwyttao, ac i'th fendithio cyn ei farw.

11 A dywedodd Jacob wrth Rebecca ei fam, wele Esau fy mrawd yn ŵr blewoc, a minne yn ŵr llyfn.

12 Fy nhâd ond odid a'm teimla, yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyll-wr; ac a ddygaf arnaf felldith, ac nid bendith.

13 A'i fam a ddywedodd wrtho, amafi y by­ddo dy felldith fy mâb, yn vnic gwrando ar fy llais, dos a dŵg i mi.

14 Ac efe a aeth, ac a gymmerth y mynnod ac a'i dygodd at ei fam: a'i fam a wnaeth fwyd blasus o'r fath a garei ei dâd ef.

15 Rebecca hefyd a gymmerodd hoff wi­scoedd Esau ei mâb hynaf, y rhai oedd gyda hi yn tŷ, ac â wiscodd Jacob ei mâb ieuangaf.

16 A gwiscodd hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylo ef, ac am lyfndra ei wddf ef.

17 Ac a roddes y bwyd blasus, a'r bara a ar­lwyasei hi, yn llaw Jacob ei mab.

18 Ac efe a ddaeth at ei dâd, ac a ddywedodd, fy-nhâd: yntef a ddywedodd, wele fi: pwy wyt ti fy mâb?

19 A dywedodd Jacob wrth ei dâd, myfi yw Esau dy gyntaf-anedic: gwneuthum fel y dy­wedaist wrthif: cyfod attolwg, eistedd, a bwytta o'm helfa, fel i'm bendithio dy enaid.

20 Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fâb, pa fodd fy mâb y cefaist mor fuan a hyn? Yntef a ddy­wedodd, am i'r Arglwydd dy Dduw beri iddo ddigwyddo o'm blaen.

21 A dywedodd Isaac wrth Jacob, tyred yn nes yn awr fel i'th deimlwyf fy mâb; a'i ty di yw fy mâb Esau, a'i nad ê.

22 A nessaodd Jacob at Isaac ei dâd: yntef a'i teimlodd, ac a ddywedodd, y llais yw llais Jacob, a'r dwylo, dwylo Esau ydynt.

23 Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylo fel dwylo ei frawd Esau, yn flewoc: felly efe a'i bendithiodd ef.

24 Dywedodd hefyd, ai ti yw fy mâb Esau? yntef a ddywedodd, myfi yw.

25 Ac efe a ddywedodd, dŵg yn nês attafi, ac mi a fwyttaf o helfa fy mâb, fel i'th fendithio fy enaid: yna y dûg atto ef, ac efe a fwyttâodd: dûg iddo win hefyd, ac efe a yfodd.

26 Yna y dywedodd Isaac ei dâd wrtho ef, tyred yn nês yn awr a chussana fi fy mâb.

27 Yna y daeth efe yn nês, ac a'i cussanodd ef, ac a aroglodd arogl ei wiscoedd ef, ac a'i ben­dithiodd ef, ac a ddywedodd, wele arogl fy mâb fel arogl maes, yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd.

28 AHeb. 11.20. rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd, ac o fraster y ddaiar, ac amldra o ŷd a gwin.

29 Gwasanaethed pobloedd dy di, ac ymgrym­med cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymmed meibion dy fam i ti: melldigedic fyddo a'th felldithio, a bendigedic a'th fendithio.

30 A bu, pan ddarfu i Isaac fendithio Jacob, ac i Jacob yn brin fyned allan o ŵydd Isaac ei dâd, yna Esau ei frawd a ddaeth o'i hela.

31 Ac yntef hefyd a wnaeth fwyd blasus ac a'i dûg at ei dâd, ac a ddywedodd wrth ei dâd, cyfoded fy nhâd, a bwyttaed o helfa ei fâb, fel i'm bendithio dy enaid.

32 Ac Isaac ei dâd a ddywedodd wrtho, pwy wyt ti? yntef a ddywedodd myfi yw dy fâb, dy gyntaf-anedic Esau.

33 Ac Isaac a ddychrynnodd â dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd; pwy? p'le mae yr hwn a heliodd helfa, ac a'i dûc i mi, a mi a fwytteais o'r cwbl cyn dy ddyfod, ac a'i bendithiais of? bendigedic hefyd fydd efe.

34 Pan glybu Esau eiriau ei dâd, efe a wae­ddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dâd, bendithia fi, ie finneu, fy nhâd.

35 Ac efe a ddywedodd, dy frawd a ddaeth mewn twyll, ac a ddûg dy fendith di.

36 Dywedodd yntef, ond iawn y gelwir ei enw efHebr. disodlwr. Jacob, canys efe a'm disodlodd i ddwy waith bellach: dûg fyng-anedigaeth-fraint, ac wele yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd he­fyd, oni chedwaist gyd â thi fendith i minneu.

37 Ac Isaac a attebodd, ac a ddywedodd wrth Esau, wele mi a'i gwneuthum ef yn Arglwydd i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef: ag ŷd a gwin y cynheliais ef; a pheth a wnaf i tithe fy mab weithian:

38 Ac Esau a ddywedodd wrth ei dâd, ai vn fendith sydd gennit fy nhâd? bendithia finneu, finneu hefyd fy nhâd. Felly Esau a dderchafodd ei lef ac aHebr. 12.17. ŵylodd:

39 Yna 'r attebodd Isaac ei dâd ac a ddywe­dodd wrtho,Vers. 28. wele ym-mraster y ddaiar y bydd dy bresswylfod, ac ym mysc gwlith y ne­foedd oddi vchod.

40 Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a'th frawd a wasanaethi: onid bydd amser pan feistr­olech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.

41 Ac Esau aObad. 10. gasaodd Jacob am y fendi [...] a'r hon y bendithiasei ei dâd ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, nesau y mae dyddiau galar fy nhâd, yna lladdaf Jacob fy mrawd.

42 A mynegwyd i Rebecca eiriau Esau ei mâb hynaf: hithe a anfonodd, ac a alwodd am Jacob ei mâb ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho, wele Esau dy frawd fy yn ymgyssuro o'th blegid di, ar fedr dy ladd di.

43 Ond yn awr fy mâb gwrando ar fy llais; cyfod, ffô at Laban fy mrawd i Haran.

44 Ac aros gyd ag ef ychydic ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd:

45 Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthit, ac anghofio o honaw ef yr hyn a wnae­thost iddo: yna 'r anfonaf ac i'th gyrchaf oddi yno: pa ham y byddwn yn ymddifad o ho­noch eich dau mewn yn dydd?

46 Dywedodd Rebecca hefyd wrth Isaac,Pen. 26.35. blinais at fy enioes o herwydd merched Heth: os cymmer Jacob wraig o ferched Heth, fel y rhai hyn o ferched y wlâd, i ba beth y chwen­nychwn fy enioes?

PEN. XXVIII.

1 Isaac yn bendithio Jacob, ac yn ei anfon ef i Padan Aram. 9 Esau yn priodi Mabalath merch Ismael. 12 Gweledigaeth yscol Jacob. 18 Maen Bethel. 20 Adduned Jacob.

YNa y galwodd Isaac ar Jacob, ac a'i bendithi­odd ef: efe a orchymynnodd iddo hefyd, ac a ddywedodd wrtho, na chymmer wraig o ferch­ed Canaan.

2 Cyfod, dos iPadan Aram Oze. 12.12. Genes. 24.10. Mesopotamia, i dŷ Bethuel tâd dy fam, a chymmer i't wraig oddi yno, o ferched Laban brawd dy fam.

3 A Duw holl-alluoc a'th fendithio, ac a'th ffrwythlono, ac a'th luosogo, fel y byddech yn gynnulleidfa pobloedd:

4 Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i'th hâd gyd â thi, i etifeddu o honot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd Duw i Abraham.

5 Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob, ac efe a aeth iPadan Aram. Mesopotamia at Laban fâb Bethuel y Sy­riad, brawd Rebecca, mam Jacob ac Esau.

6 Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob, a'i anfon ef iPadan Aram. Mesopotamia, i gymmeryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio, gan ddywedyd; na chymmer wraig o ferched Canaan;

7 A gwrando o Jacob ar ei dad, ac ar ei fam, a'i fyned i Mesopotamia:

8 Ac Esau yn gweled mai drwg oedd ferched Canaan yng-olwg Isaac ei dad:

9 Yna Esau a aeth at Ismael, ac a gymmerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nebaioth, yn wraig iddo, at ei wragedd eraill.

10 Ac Jacob aeth allan o Beer-seba, ac a aeth tuaA el­wir. Act 7.2. Charran. Haran.

11 Ac a ddaeth ar ddamwain î fangre, ac a let­teuodd yno tros nôs, oblegit machludo 'r haul: ac efe a gymmerth o gerric y lle hwnnw, ac a ossododd tan ei ben, ac a gyscodd yn y fan hon­no.

12 Ac efe a freuddwydiodd, ac wele yscol yn se­fyll ar y ddaiar, a'i phen yn cyrhaeddyd ir nefo­edd: ac wele angylion Duw yn dringo ac yn des­cyn ar hyd-ddi.

13 AcGen. 35.1. Gen. 48.3.4. wele yr Arglwydd yn sefyll arni, ac efe a ddywedodd, myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dâd, a Duw Isaac: y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i'th hâd.

14 A'th hâd ti fydd fel llŵch y ddaiar,Deut. 12.20. a thi a dorri allan i'r gorllewin, ac i'r dwyrein, ac i'r gogledd, ac i'r dehau: aGen. 12.3. ac 18.18. ac 22.18. ac 26.4. holl deuluoedd y ddai­ar a fendithir ynot ti, ac yn dy hâd ti.

15 Ac wele fi gyd a thi, ac mi a'th gadwaf pa le bynnac yr elych, ac a'th ddygaf drachefn i'r wlad hon: o herwydd ni'th adawaf hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthit.

16 Ac Jacob a ddeffrôdd o'i gwsc, ac a ddy­wedodd, diau fod yr Arglwydd yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i.

17 Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, mor of­nadwy yw y lle hwn? nid oes ymma onid tŷ i Dduw, ac dymma borth y nefoedd.

18 Ac Jacob a gyfododd yn foreu, ac a gym­merth y garrec a ossodasei efe tan ei ben, ac efe a'i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi.

19 Ac efe a alwodd henw y lle hwnnwHynny yw, tŷ Dduw. Bethel: ond Lus fuasei henw y ddinas o'r cyntaf.

20 Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddy­wedyd, os Duw fydd gyd â myfi, ac am ceidw yn y ffordd ymma, yr hon yr ydwyf yn ei cher­dded, a rhoddi i mi fara iw fwytta, a dillad i'w gwisco,

21 A dychwelyd o honof mewn heddwch i dŷ fy nhâd; yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi.

22 A'r garres ymma, yr hon a ossodais yn go­lofn, a fydd yn dŷ Dduw, ac o'r hyn oll a rodd­ech i mi, gan ddegymmu mi a'i degymmaf i ti.

PEN. XXIX.

1 Jacob yn dyfod at ffynnon Haran. 9 Yn ymgare­digo a Rahel. 13 Laban yn ei groessafu ef iw dŷ. 18 Jacob yn gwneuthur ammod am Rahel. 23 Ei siommi ef â Leah. 28 Yntef yn priodi Ra­hel, ac yn gwasaneuthu am dani hi saith mly­nedd eraill. 32 Leah yn dwyn Reuben, 33 Si­meon, 34 Levi, 35 A Juda.

AC Jacob a gymmerth eiHeb. draed. daith, ac aeth i wlâd meibion y dwyrein.

2 Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair diadell o ddefaid yn gor­wedd wrtho: o herwydd o'r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd: a charrec fawr oedd ar eneu y pydew.

3 Ac yno y cesclid yr holl ddiadelloedd, a hwy a dreiglent y garrec oddi ar eneu y pydew, ac a ddyfrhaent y praidd: yna y rhoddent y garrec trachefn ar eneu y pydew yn ei lle.

4 A dywedodd Jacob wrthynt, fy mrodyr, o ba le 'r ydych chwi? a hwy a ddywedasant, o Haran yr ydym ni.

5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, a adwaenoch chwi Laban fab Nachor? a hwy a ddywedasant, adwaenom.

6 Yntef a ddywedodd wrthynt hwy, a oes Heb. heddwch lwyddiant iddo ef? a hwy a ddywedasant, oes lwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dy­fod gyd a'r defaid.

7 Yna y dywedodd ef, wele etto y dydd ynHeb. fawr. gynnar, nid yw bryd casglu yr anifeiliaid: dy­frhewch y praidd, ac ewch, a bugeiliwch.

8 A hwy a ddywedasant, ni allwn ni, hyd oni chascler yr holl ddiadelloedd, a threiglo o honynt y garrec oddi ar wyneb y pydew, yna y dwf­rhawn y praidd.

9 Tra yr ydoedd efe etto yn llefaru Wrthynt, daeth Rahel hefyd gyd a'r praidd oedd eiddo ei thâd, oblegit hi oedd vn bugeilio.

10 A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nessaodd Jacob, ac a dreiglodd y garrec oddi ar eneu y pydew, ac a ddwfrhaodd braidd Laban brawd ei fam.

11 Ac Jacob a gussanodd Rahel, ac a ddercha­fodd ei lef, ac a wylodd.

12 A mynegodd Jacob i Rahel, mai brawd ei thad oedd efe, ac mai mab Rebecca oedd efe: hithe a redodd, ac a fynegodd iw thâd.

13 A phan glybu LabanHeb. sôu am. hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i'w gyfarfod ef, ac a'i cofleidiodd ef, ac a'i cussanodd, ac a'i dug ef iw dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn.

14 A dywedodd Laban wrtho ef, yn ddiau fy asgwrn i a'm cnawd ydwyt ti; ac efe a drigodd gyd ag ef fis o ddyddiau.

15 A Laban a ddywedodd wrth Jacob, ai o her­wydd mai fy mrawd wyt ti, im gwasanaethi yn rhâd? mynega i mi beth fydd dy gyflog?

16 Ac i Laban yr oedd dwy ferched: henw yr hynaf oedd Lea, ac enw yr ieuangaf Rahel.

17 A llygaid Lea oedd weiniaid: ond Rahel oedd dêg ei phrŷd, a glan-deg yr olwg.

18 A Jacob a hoffodd Rahel, ac a ddywedodd, mi a'th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.

19 A Laban a ddywedodd, gwell yw ei rhoddi hi i ti, na'i rhoddi hi i ŵr arall: aros gyd a mi.

20 Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd: ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychy­dig ddyddiau; am fod yn hoff ganddo efe hi.

21 A dywedodd Jacob wrth Laban, moes i mi fyngwraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau) fel yr elwyf atti hi.

22 A Laban a gasclodd holl ddynion y fan honno, ac a wnaeth wledd.

23 Ond bu yn yr hwyr, iddo gymmeryd Lea ei ferch, a'i dwyn hi atto ef, ac yntef a aeth atti hi.

24 A Laban a roddodd iddi Zilpha ei forwyn, yn forwyn i Lea ei ferch.

25 A bu, y boreu wele Lea oedd hi: yna y dywedodd efe wrth Laban, pa ham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel i'th wasanaethais? a pha ham i'm twyllaist?

26 A dywedodd Laban, ni wneir felly yn einHeb. lle. gwlad ni, gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf.

27 Cyflawna di wythnos hon, ac ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyd a mi etto saith mlynedd eraill.

28 A Jacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd ei hwythnos hi: ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.

29 Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi.

30 Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy nâ Lea, ac a wasanaethodd gyd ag ef etto saith mlynedd eraill.

31 A phan welodd yr Arglwydd mai câs oedd Lea, yna efe a agorodd ei chroth hi: a Rahel oedd amhlantadwy.

32 A Lea a feichiogodd, ac a escorodd ar fâb, ac a alwodd ei enw efHynny yw, Gwe­lwch fâb. Reuben, o herwydd hi a ddywedodd, diau edrych o'r Arglwydd ar fyng-hystudd, canys yn awr fyng-wr a'm hoffa i.

33 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a escorodd ar fab, ac a ddywedodd, am glywed o'r Arglwydd mai câs ydwyf fi, am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw efSef clywed, Sime­on.

34 A hi a feichiogodd drachefn, ac a escorodd ar fâb, ac a ddywedodd, fy ngwr weithian a lŷn yn awr wrthifi, canys plentais iddo dri mâb. Am hynny y galwyd ei enw efSef Glynu. Lefi.

35 A hi a feichiogodd drachefn, ac a escorodd ar fâb, ac a ddywedodd, weithian y moliannaf yr Arglwydd: am hynny y galwodd eiMath. 1.2. enw efSef mo­liant. Juda: a hi a beidiodd a phlanta.

PEN. XXX.

1 Rahel gan fod yn ddigllon nad oedd yn planta, yn rhoddi Bilha ei llaw-forwyn i Jacob. 5 Hi­thau yn dwyn Dan a Naphtali. 9 Lea yn rhoddi Zilpah ei llaw-forwyn, yr hon a ymddug Gad ac Aser. 14 Reuben yn cael mandragorau, am y rhai y mae Lea yn prynu ei gwr gan Rahel. 17 Lea yn dwyn Isacar, Zabulon a Dina. 22 Ra­hel yn dwyn Joseph. 25 Jacob yn deisyfu cael myned ymmaith. 27 Laban yn ei attal ef ar gy­fammod newydd. 37 Dyfais Jacob, trwy'r hon yr ymgyfoethogodd ef.

PAn welodd Rahel na phlantasei hitheu i Ja­cob, yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Jacob, moes feibi­on i mi, ac onidê mi a fyddaf farw.

2 A chynneuodd llid Jacob wrth Rahel, ac efe a ddywedodd: a'i myfi sy yn lle Duw; yr hwn a attaliodd ffrwyth y grôth oddi wrthit ti?

3 A dywedodd hitheu, wele fy llaw-forwyn Bilha, dôs i mewn atti hi, a hi a blanta ar fyng­liniau i, felHeb. yr adeila­der fi gan­ddi hi.. y caffer plant i minneu hefyd o honi hi.

4 A hi a roddes ei llaw-forwyn Bilha iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn atti.

5 A Bilha a feichiogodd, ac a ymddûg fâb i Jacob.

6 A Rahel a ddywedodd, Duw am barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fâb: am hynny hi a alwodd ei enw efSef, Barnu. Dan.

7 Hefyd Bilha llaw-forwyn Rahel a feichio­godd eilwaith, ac a ymddûg yr ail mâb i Ja­cob.

8 A Rahel a ddywedodd, ymdrechais ymdre­chiadauHeb. Duw. gorchestol a'm chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw efSef, fy ymdrech. Naphtali.

9 Pan welodd Lea beidio o honi a phlanta, hi a gymmerth ei llawforwyn Zilpah, ac a'i rho­ddes hi yn wraig i Jacob.

10 A Zilpha llaw-forwyn Lea a ymddûg fâb i Jacob.

11 A Lea a ddywedodd, y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw efSef, Bagad. Gad.

12 A Zilpha llawforwyn Lea a ymddûg yr ail mâb i Jacob.

13 A Lea a ddywedodd, yr ydwyf yn dded­wydd, oblegit merched a'm galwant yn dded­wydd, a hi a alwodd ei enw efSef, dedwydd. Aser.

14 Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaiaf gwenith, ac a gafodd Fandragorau yn y maes, ac a'i dug hwynt at Lea ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Lea, dyro attolwg i mi o Fan­dragorau dy fâb.

15 Hitheu a ddywedodd wrthi, ai bychan yw dwyn o honot fyngwr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mâb? A Rahel a ddywedodd, cysced gan hynny gyd â thi heno am Fandra­gorau dy fâb.

16 A Jacob a ddaeth o'r maes yn yr hwyr, a Lea a aeth allan iw gyfarsod ef, ac a ddywedodd, attaf fi y deui: oblegit gan brynu i'th brynais am fandragorau fy mâb: ac efe a gysgodd gyd â hi y nôs honno.

17 A Duw a wrandawodd ar Lea, a hi a feich­iogodd, ac a ymddûg y pumed mâb i Jacob.

18 A Lea a ddywedodd, rhodd Duw fyngwobr imi, o herwydd rhoddi o honofi fy llaw-forwyn i'm gŵr: a hi a alwodd ei enw efSef. Gwobr. Issacar.

19 Lea hefyd a feichiogodd etto, ac a ym­ddûg y chweched mâb i Jacob.

20 A Lea a ddywedodd, cynhyscaeddodd Duw fyfi â chynhyscaeth dda: fyngŵr a drig weithian gyd â mi, o blegit chwech o feibion a ymddygais iddo ef: a hi a alwodd ei enw efSef, Triefa. Zabulon.

21 Ac wedi hynny hi a escorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hiSef, Barn. Dina.

22 A Duw a gofiodd Rahel, a Duw a wran­dawodd arni, ac a agorodd ei chrôth hi.

23 A hi a feichiogodd, ac a escorodd ar fâb, ac a ddywedodd; Duw a dynnodd fyngwarth­rudd ymmaith.

24 A hi a alwodd ei enw efSef, chwaneg. Joseph, gan ddy­wedyd; yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fâb arall.

25 A bu wedi escor o Rahel ar Joseph, ddy­wedyd o Jacob wrth Laban; gollwng fi ym­maith, fel yr elwyf i'm brô, ac i'm gwlad fy hun.

26 Dyro fyngwragedd i mi, a'm plant, y rhai y gwasanaethais am danynt gyd a thi, fel yr [Page] elwyf ymmaith; o blegit ti a wyddost fyng-wasanaeth a wneuthum i ti.

27 A Laban a ddywedodd wrtho, os cefais ffafor yn dy olwg, na syfl: da y gwn i'r Ar­glwydd fy mendithio i o'th blegit ti.

28 Hefyd efe a ddywedodd, dogna dy gyflog arnaf, a mi a'i rhoddaf.

29 Yntef a ddywedodd wrtho, ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dy di; a pha fodd y bu dy anifeiliaid ti gyd a myfi.

30 O blegit ychydic oedd yr hyn ydoedd gennit ti cyn fy nyfod i, ond yn lluossogrwydd yHeb. torrodd allan. cynnyddodd: o herwydd yr Arglwydd a'th fendithiodd diWrth fynrhoed i. er pan ddaeth ym i: bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i'm tŷ fy hun?

31 Dywedodd yntef, pa beth a roddaf i ti? ac Jacob a attebodd, ni roddi i mi ddim; os gwnei i mi y peth hyn, bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn.

32 Tramwyaf trwy dy holl braidd di he­ddyw, gan nailltuo oddi yno bôb llwdn mân-frith, a mawr-frith, a phôb llwdn coch-ddu ym mlhith y defaid; y mawr-frith hefyd a'r man-frith ym mlhith y geifr: ac o'r rhai hynny y bydd fynghyflog.

33 A'm cyfiawnder a dystiolaetha gyd a miHeb. y foru. o hyn allan, pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di: yr hyn oll ni byddo fân-frith neu fawr-frith, ym mlhith y geifr, neu goch-ddu ym mlhith y defaid, lladrad a fydd hwnnw gyd a myfi:

34 A dywedodd Laban, wele, ô na byddei ar ôl dy air di.

35 Ac yn y dydd hwnnw y nailltuodd efe y bychod cylch-frithion, a mawr-frithion, a'r holl eifr mân-frithion, a mawr-frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwyn arno, a phôb coch-ddu ym mlhith y defaid, ac a'i rhoddes tan law ei feibi­on ei hun.

36 Ac a osododd daith tri diwrnod rhyng­ddo ei hun a Jacob: ac Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban.

37 A Jacob a gymmerth iddo wiail gleision o boplys, a chyll, a ffawydd, ac a ddirisclodd ynddynt ddiriscliadau gwynion, gan ddatguddio y gwyn yr hwn ydoedd yn y gwiail.

38 Ac efe a osododd y gwiail y rhai a ddi­risclase efe, yn y cwtterydd, o fewn y cafnau dyf­roedd, lle y deue y praidd i yfed, ar gyfer y praidd, fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed.

39 A'r praidd a gyfebrasant wrth y gwiail, a'r praidd a ddug rai cylch-frithion, a man-frithion, a mawr-frithion.

40 A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osso­dodd wynebau y praidd, tuac at y cylch-frithion, ac at bôb cochddu ym mlhith praidd Laban: ac a ossododd ddiadellau iddo ei hun o'r nailltu, ac nid gyd â phraidd Laban y gosododd hwynt.

41 A Phob amser y cyfebre y defaid cryfaf, Jacob a osode y gwiail o flaen y praidd yn y cwtterydd, i gael o honynt gyfebru wrth y gwiail.

42 Ond pan fydde y praidd yn weniaid, ni osode efe ddim: felly y gwannaf oedd eiddo La­ban, a'r cryfaf eiddo Jacob.

43 A'r gŵr a gynnyddodd yn dra rhagorol: ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morwy­nion, a gweision, a chamelod, ac assynnod.

PEN. XXXI.

1 Jacob ar sorriant yn ymadel yn ddirgel. 19 Ra­hel yn lledratta delwau ei thad. 22 Laban yn canlyn ar ei ôl ef, 26 ac yn achwyn rhac y cam. 34 Dyfais Rahel i guddio 'r delwau. 36 Jacob yn achwyn o herwydd Laban. 43 Y cyfammod rhwng Laban ac Jacob yn Galeed.

AC efe a glybu eiriau meibion Laban yn dy­wedyd, Jacob a ddûg yr hyn oll oedd in tâd ni, ac o'r hyn ydoedd i'n tâd ni y cafodd efe yr holl anrhydedd hyn.

2 Hefyd Jacob a welodd wyneb-pryd Laban, ac wele nid ydoedd tu ag attaw ef megisHeb. doe ac echdoe. cynt.

3 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jacob, dychwel i wlâd dy dadau, ac at dy genhedl, ac mi a fyddaf gyd a thi.

4 Ac Jacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel, a Lea i'r maes, at ei braidd,

5 Ac a ddywedodd wrthynt, myfi a welaf wyneb-pryd eich tâd chwi, nad yw fel cynt tu ag attafi: a Duw fy nhâd a fu gyd a myfi.

6 A chwi a wyddoch mai a'm holl allu y gwa­sanaethais eich tâd.

7 A'ch tâd a'm twyllodd i, ac a newidiodd fynghyflog i ddeng-waith: ond nis dioddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg.

8 Os fel hyn y dywedei; y man-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a heppili­ent fân-frithion: ond os fel hyn y dywedei; y cylch-frithion a fydd dy gyflog di, yna 'r holl braidd a heppilient rai cylch-frithion.

9 Felly Duw a ddûg anifeiliaid eich tâd chwi, ac a'i rhoddes i mi.

10 Bu hefyd yn amser cyfebru o'r praidd, dderchafu o honof fy llygaid, ac mewn breu­ddwyd y gwelais, ac weleneu, y bychod. yr hyrddod (y rhai oedd yn llammu y praidd) yn gylch-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion.

11 Ac angel Duw a ddywedodd wrthif mewn breuddwyd, Jacob; minne a attebais wele fi.

12 Yntef a ddywedodd, derchafa weithian dy lygaid, a gwêl, yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llammu y praidd yn gylch-frithion, yn fân-frithion, ac yn fawr-frithion; oblegit gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti.

13 Myfi yw Duw Bethel,Gen. 28.18. lle 'r enneiniaist y golofn, a lle 'r addunaist adduned i mi: cyfot bellach, dos allan o'r wlad hon, dychwel i wlad dy genhedl dy hun.

14 A Rahel a Lea a attebasant ac a ddyweda­sant wrtho; a oes etto i ni ran, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tâd?

15 Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? o blegit efe a'n gwerthodd; a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni.

16 Canys yr holl olud yr hwn a ddûg Duw oddi a'r ein tâd ni, nyni a'n plant ai piau: ac yr awr hon yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthit, gwna.

17 Yna Jacob a gyfododd, ac a ossododd ei feibion, a'i wragedd, ar gamelod.

18 Ac a ddûg ymmaith ei holl anifeiliaid, a'i holl gyfoeth yr hwn a enillase, sef ei anifeiliaid meddiannol, y rhai a enillasei efe ymPadan Aram. Mesopo­tamia, i fyned at Isaac ei dâd, i wlâd Canaan.

19 Laban hefyd a aethei i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ledrattasei yHeb. Teraphim delwau oedd gan ei thâd hi.

20 Ac Jacob a aeth ymmaith yn lledradaiddHeb. galon Laban. heb wybod i Laban y Syriad: canys ni fyne­godd iddo mai ffo yr oedd.

21 Felly y ffôdd efe a'r hyn oll oedd ganddo, ac a gyfododd ac a aeth tros yr afon, ac a gyfeiri­odd at fynydd Gilead.

22 A mynegwyd i Laban ar y trydydd dydd, ffoi o Jacob,

23 Ac efe a gymmerth ei frodyr gyd ag ef, ac a erlidiodd ar ei ol ef daith saith niwrnod, ac ai goddiweddodd ef ym mynydd Gilead.

24 A Duw a ddaeth at Laban y Syriad liw nôs mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, cadw arnat rhag yngen o honot wrth Jacob, na da, na drwg.

25 Yna Laban a oddiweddodd Jacob: ac Jacob a osododd ei babell yn y mynydd: Laban hefyd a wersyllodd ynghyd a'i frodyr ym my­nydd Gilead.

26 A Laban a ddywedodd wrth Jacob, pa beth a wnaethost? o blegit ti a aethost yn lle­dradaidd oddi wrthif i, ac a ddygaist fy merch­ed, fel caethion cleddyf.

27 Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac a lledratteaistHeb. fi oddi wrthi fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd, ac a cha­niadau, a thympan, ac a thelyn,

28 Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a'm merched? gwnaethost yr awrhon yn ffôl gan wneuthur hyn.

29 Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg: ond Duw eich tâd a lefarodd wrthif neithwyr, gan ddywedyd, cadw arnat rhac yngen wrth Ja­cob, na da, na drwg.

30 Weithian gan hynny, ti a fynnit fyned ymmaith, oblegit gan hiraethu yr hiraethaist am dŷ dy dâd. Ond pa ham y lledratteist fy nu­wiau i?

31 A Jacob a attebodd ac a ddywedodd wrth Laban, am ofni o honof: o blegit dywedais, rhac dwyn o honot dy ferched oddi arnaf trwy drais.

32 Gyd a'r hwn y ceffych dy dduwiau, na chaffed fyw: ger bron ein brodyr mynn wybod pa beth o'r eiddoti sydd gyd a myfi, a chymmer i ti: ac nis gwyddei Jacob mai Rahel a'i lledra­tasei hwynt.

33 A Laban a aeth i mewn i babell Jacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy lawforwyn, ac nis cafodd hwynt: yna yr aeth allan o babell Lea, ac y daeth i babell Rahel.

34 A Rahel a gymmerasei y delwau, ac ai gosodase hwynt yn offer y camel, ac a eisteddasai arnynt; a Laban aHeb. deimlodd. chwiliodd yr holl babell, ac nis cafodd.

35 A hi a ddywedodd wrth ei thâd, na ddi­gied fy arglwydd, am nas gallaf gyfodi ger dy fron di; canys arfer gwragedd a ddigwyddodd i mi: ac efe a chwiliodd, ac ni chafodd y delwau.

36 A Jacob a ddigiodd, ac a roes senn i La­ban: ac Jacob a attebodd ac a ddywedodd wrth Laban, pa beth yw fy-nghamwedd i? pa beth yw fy mhechod, gan erlid o honot ar fy ôl?

37 Gan i'tHeb. deimlo. chwilio fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosot ef ymma ger bron fy mrodyr i a'th frodyr dithe, fel y barnaut rhyngom ni ein dau.

38 Myfi bellach a fum vgain mlhynedd gyd a thi, dy ddefaid a'th eifr ni erthylasant, ac ni fwytteais hyrddod dy braidd.

39 Ni ddygum sclyfaeth attat ti; myfi ai gwnawn ef yn dda;Exod. 22.12. o'm llaw i y gofynnit hynny, yr hyn a ledratteid y dydd, a'r hyn a ledratteid y nôs.

40 Bûm y dydd, y gwres a'm treuliodd, a rhew y nôs: a'm cwsc a giliodd oddiwrth fy llygaid.

41 Felly y bûm i vgain mlhynedd yn dy dŷ di: pedair blynodd ar ddec y gwasanaethas di am dy ddwy ferched, a chwê blynedd am dy braidd, a thi a newidiast fyng hyflog ddec o wethiau.

42 Oni buase fod Duw fy nhâd, Duw Abra­ham, ac arswyd Isaac gyd a'mi, diau yr awr hon y gollyngasit fi ymmaith yn wâglaw: Duw a welodd fyng-hystudd a llafur fy nwylaw, ac a'th geryddodd di neithwyr.

43 A Iaban a attebodd, ac a ddywedodd wrth Jacob, y merched hyn ydynt fy merched i, a'r meibion hyn ŷnt fy meibion i, a'r praidd yw fy mhraidd i: a'r hyn oll a weli, eiddo fi yw: a heddyw pa beth a wnaf i'm merched hyn, ac iw meibion hwynt y rhai a escorasant?

44 Tyred gan hynny yn awr, gwnawn gy­fammod mi a thi, a bydded yn destiolaeth rhyngofi a thitheu.

45 A Jacob a gymmerth garrec ac a'i cododd hi yn golofn.

46 Hefyd Jacob a ddywedodd wrth ei frodyr, cesclwch gerric: a hwy a gymmerasant gerric, ac a wnaethant garnedd, ac a fwyttasant yno ar y garnedd.

47 A Laban ai galwodd hiSef. carnedd y dystiola­eth. Jegar-Sahadutha: ac Jacob ai galwodd hi Galeed.

48 A Laban a ddywedodd, y garnedd hon sydd dŷst rhyngofi a thithe heddyw, am hynny y galwodd Jacob ei henw hi Galeed,

49 ASef, Disgwil­fa. Mispah: o blegit efe a ddywedodd, gwilied yr Arglwydd rhyngofi a thithe, pan fôm ni bob vn o olwg ei gilydd.

50 Os gorthrymmi di fy merched, neu os cymmeri wragedd heb law fy merched i: nid oes neb gyd â ni, edrych, Duw sydd dŷst rhynghofi a thithe.

51 Dywedodd Laban hefyd wrth Jacob, wele y garnedd hon, ac wele y golofn hon a osodais rhyngofi a thi.

52 Tŷst a fydd y garnedd hon, a thŷst a fydd y golofn, na ddeuafi tros y garnedd hon attat ti, ac na ddoi dithe tros y garnedd hon, na'r golofn hon attafi, er niwed.

53 Duw Abraham, a Duw Nachor a farno rhyngom ni, Duw eu tadau hwynt. Ac Jacob a dyngodd i ofn ei dâd Isaac.

54 Hefyd Jacob aneu, laddodd. aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwytta bara, a hwy a fwyttasant fara, ac a drigasant tros nôs yn y mynydd.

55 A Laban a gyfododd yn foreu, ac a gusa­nodd ei feibion a'i ferched, ac a'i bendithiodd hwynt? felly Laban a aeth ymmaith, ac a ddych­welodd i'w frô ei hun.

PEN. XXXII.

1 Gweledigaeth Jacob yn Mahanaint. 3 Eu gen­nadwriaeth at Esau. 6 Mae ef yn ofni dyfodi­ad Esau, 9 yn gweddio am ymwared, 13 Yn an­fon anrheg i Esau, 24 Yn ymdrech ag Angel yn Peniel, lle y gelwir ef Israel. 31 Mae efe yn cloffi.

AC Jacob a gerddodd i'w daith yntef: ac ang­ylion Duw a gyfarfu ag ef.

2 Ac Jacob a ddywedodd pan welodd hwynt. dymma wersyll Duw, ac a alwodd henw y lle hwnnwSef, Dwy wersyll. Mahanaim.

3 Ac Jacob a anfonodd gennadau o'i flaen at ei frawd Esau, i wlâd Seir, i Heb. faes. wlâd Edom.

4 Ac a orchymynnodd iddynt, gan ddywedyd; fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau, fel hyn y dywed dy wâs di Jacob: gyd â Laban yr ymdeithiais, ac a trigais hyd yn hyn.

5 Ac y mae i mi eidionnau, ac assynnod, de­faid, a gweision, a morwynion: ac anfon a wnaethum i fynegi i'm harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.

6 A'r cennadau a ddychwelasant at Jacob, gan ddywedyd, daethom at dy frawd Esau, ac y mae efe yn dyfod i'th gyfarfod ti, a phedwar cant o wŷr gyd ag ef.

7 Yna Jacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arnaw, ac efe a rannodd y bobl oedd gyd ag ef, a'r defaid, a'r eidionnau, a'r camelod, yn ddwy fintai.

8 Ac a ddywedodd, os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd diangol.

9 A dywedodd Jacob, o Dduw fy nhâd Abra­ham, a Duw fy-nhad Isaac, ô Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthif,Pen. 31.13. dychwel i'th wlâd, ac at dy genhedl, ac mi a wnaf ddaioni i ti:

10Heb. Llai wyf nâth holl Ni ryglyddais y lleiaf o'th holl drugar­eddau di, nac o'r holl wirionedd a wnaethost â th wâs: o blegit â'm ffon y daeth ym tros yr lorddo­nen hon, ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai.

11 Achub fi attolwg o law fy mrawd, o law Esau; o blegit yr ydwyfi yn ei ofni ef, rhac dyfod o honaw a'm taro a'r famHebr. ar y. gyd a'r plant.

12 A thy di a ddywedaist, gwnaf ddaioni i ti yn ddiau; a'th hâd ti a wnaf fel tyfod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.

13 Ac yno y lletteuodd efe y noson honno: ac o'r hyn a ddaeth i'w law ef y cymmerth efe anrheg iw frawd Esau:

14 Dau cant o eifr, ac vgain o fychod, deu­cant o ddefaid, ac vgain o hyrddod:

15 Dêc ar hugain o gamelod blithion a'i llydnod, deugain o warthec, a dêc o deirw, v­gain o assynnod, a dêc o ebolion.

16 Ac efe a roddes yn llaw ei weision, bôb gyrr o'r nailltu, ac a ddywedodd wrth ei weision; ewch trosodd o'm blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyrr a'i gilydd.

17 Ac efe a orchymynnodd i'r blaenaf, gan ddywedyd; os Esau fy mrawd a'th gyferfydd di, ac a ymofyn â thy di, gan ddywedyd; I bwy y perthyni di? ac i ba le 'r ei? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o'th flaen di?

18 Yna y dywedi, eiddo dy wâs Jacob: anrheg yw, wedi ei hanfon i'm harglwydd Esau: ac wele yntef hefyd ar ein hôl ni.

19 Felly y gorchymynnodd hefyd i'r ail, ac i'r trydydd, ac i'r rhai oll oedd yn canlyn y gyrro­edd, gan ddywedyd, yn y modd hwn y dywe­dwch wrth Esau, pan gaffoch afael arno.

20 A dywedwch hefyd, wele dy wâs Jacob ar ein hôl ni: o blegit (eb ef) bodlonaf ei wyneb ef â'r anrheg sydd yn myned o'm blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef, onid antur efe a dderbyn fy wyneb inneu.

21 Felly yr anrheg a aeth trosodd o'i flaen ef: ac efe a letteuodd y noson honno yn y gwersyll.

22 Ac efe a gyfododd y noson honno, ac a gym­merth ei ddwy wragedd, a'i ddwy lawforwyn, a'i vn mâb ar ddêc, ac a aeth tros rŷd Jabboc.

23 Ac a'i cymmerth hwynt, ac a'i trosglwydd­odd trwy 'r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo.

24 Ac Jacob a adawyd ei hunan; yna yr vmdrechodd gŵr ag ef, nes codi'r wawr.

25 A phan welodd na byddei drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chysswllt ei forddwyd ef, fel y llaessodd cysswllt morddwyd Jacob, wrth ym­drech o honaw ag ef.

26 A'r Angel a ddywedodd, gollwng fi ym­maith, o blegit y wawr a gyfododd: yntef a at­tebodd,Ose. 12.4. ni'th ollyngaf oni'm bendithi.

27 Hefyd efe a ddywedodd wrtho, beth yw dy henw? ac efe a attebodd, Jacob.

28 Yntef a ddywedodd,Pen. 35.10. mwyach ni elwir dy henw di Jacob, ond Israel: o blegit cefaist nerth gyd a Duw fel tywysog, a chyda dynion, ac a orchfygaist.

29 A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, mynega attolwg dy henw: ac yntef a attebodd, i ba beth y gofynnei hyn am fy henw i? ac yno efe a'i bendithiodd ef.

30 Ac Jacob a alwodd henw y fanSef, wyneb Duw. Peniel: o blegit gwelais Dduw wyneb yn wyneb, a di­angodd fy enioes.

31 A'r haul a gyfodasei arno fel yr oedd yn myned tros Penuel, ac yr oedd efe yn glôff o'i glûn.

32 Am hynny plant Israel ni fwyttant y gewyn a giliodd, yr hwn sydd o fewn cysswllt y mor­ddwyd hyd y dydd hwn: o blegit cyffwrdd â chysswllt y morddwyd, ar y gewyn a giliodd.

PEN. XXXIII.

1 Caredigrwydd Jacob ag Esau wrth gyfarfod. 17 Jacob yn dyfod i Succoth, 18 yn prynu maes yn Salem, ac yn adailadu allor a'i henw El-Elohe-Israel.

AC Jacob a dderchafodd ei lygaid, ac a edry­chodd, ac wele Esau yn dyfod a phedwar cant o wŷr gyd ag ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy lawforwyn.

2 Ac ym mlaen y gosododd efe y ddwy law forwyn, a'i plant hwy; a Lea a'i phlant hithe yn ol y rhai hynny, a Rachel a Joseph yn olaf.

3 Ac yntef a gerddodd oi blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seithweith, oni ddaeth efe yn agos at ei frawd.

4 Ac Esau a redodd i'w gyfarfod ef, ac a'i co­fleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cussanodd ef: a hwy a wylasant.

5 Ac efe a dderchafodd ei lygaid, ac a ganfu y gwragedd, a'r plant, ac a ddywedodd, pwy yw y rhai hyn gennyt ti? yntef a ddywedodd y plant a roddes Duw o'i râs i'th wâs di.

6 Yna y llaw forwynion a nessasant; hwynt­hwy ai plant, ac a ymgrymmasant.

7 A Lea a nessaodd a'i phlant hitheu, ac a ym­grymmasant; ac wedi hynny y nessaodd Joseph a Rahel, ac a ymgrymmasant.

8 Ac efe a ddywedodd, pa beth yw gennyt yr holl fintai accw a gyfarfûm i? yntef a ddywe­dodd, anfonais hwynt i gael ffafor yngolwg fy Arglwydd.

9 Ac Esau a ddywedodd, y mae gennifi ddigon, fy mrawd: bydded i ti yr hyn sydd gennyt.

10 Ac Jacob a ddywedodd, nagê attolwg; os cefais yn awr ffafor yn dy olwg; cymmer fy anrheg o'm llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb Duw, a thi yn fodlon i mi.

11 Cymmer attolwg fy mendith, yr hon a ddycpwyd i ti; o blegit Duw a fu raslon i mi, ac am fod gennifi bôb peth: ac efe y fu daer ar­no, ac yntef a gymmerodd.

12 Ac a ddywedodd, cychwynnwn, ac awn, a mi a âf o'th flaen di.

13 Yntef a ddywedodd wrtho, fy Arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a'r gwartheccyfloion blithion gŷd â myfi: os gyrrir hwynt vn diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna yr holl braidd.

14 Aed attolwg fy arglwydd o flaen ei wâs, a minne a ddeuaf yn araf fel y gallo 'r anifeiliaid sydd o'm blaen i, ac a gallo 'r plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir.

15 Ac Esau a ddywedodd,Heb. gosodaf. gadawaf yn awr [Page] gyd â thi rai o'r bobl sydd gydâ mi: yntef a ddy­wedodd, I ba beth y gwnei hynny? cafwyf ffa­for yng-olwg fy arglwydd.

16 Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.

17 Ac Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adai­ladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i'w anifeili­aid: am hynny efe a alwodd henw y lleBythod. Suc­coth.

18 Hefyd Jacob a ddaeth yni Salem llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd yngwlad Canaan, (pan ddaeth efe oPadan Aram. Mesopotamia,) ac a wersyll­odd o flaen y ddinas.

19 Ac a brynodd ran o'r maes y lledasei ei babell ynddo, o law meibiona elwir Act. 7.16. Emor. Hamor, tâd Sichem, am ganNeu, o wyn. darn o arian.

20 Ac a ossododd yno allor, ac a'i henwoddSef, Duw, Duw Is­rael. El-Elohe-Israel.

PEN. XXXIV.

1 Sichem yn treisio Dina. 4 Yn ei gofyn hi yn bri­od. 13 Meibion Jacob yn cynnyg ir Sichemiaid ammod yr enwaediad. 20 Hemor a Sichem yn eiriol arnynt am ei dderbyn. 25 Meibion Jacob ar y fantais honno yn ei lladd hwynt, 27 ac yn yspeilio y ddinas. 30 Jacob yn ceryddu Simeon a Levi.

A Dina merch Lea, yr hon a ymddygasei hi i Jacob, a aeth allan i weled merched y wlâd.

2 A Sichem mab Hemor yr Hefiad, tywysog y wlad, a'i canfu hi, ac a'i cymmerth hi, ac a or­weddodd gyd a hi, ac a'iHeb. darosty­ngodd. treisiodd.

3 A'i enaid ef a lŷnodd wrth Dina ferch Ja­cob, ie efe a hoffodd y llangces, ac a ddywedodd wrth fodd calon y llangces.

4 Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dâd, gan ddywedyd; cymmer y llancges hon yn wraig i mi.

5 A Jacob a glybu i Sichem halogi Dina ei ferch (a'i feibion ef oedd gyd a'i anifeiliaid ef yn y maes) ac Jacob a dawodd â sôn hyd oni ddae­thant hwy adref.

6 A Hamor tâd Sichem a aeth allan at Jacob, i ymddiddan ag ef.

7 A meibion Jacob a ddaethant o'r maes, wedi clywed o honynt, a'r gwyr a ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, o blegit gwneuthur o Si­chem ffolineb yn Israel, gan orwedd gyd â merch Jacob; canys ni ddylesid gwneuthur felly.

8 A Hemor a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, glynu a wnaeth enaid Sichem fy mâb i wrth eich merch chwi: rhoddwch hi attolwg yn wraig iddo ef.

9 Ac ymgyfathrechwch â ni, rhoddwch eich merched chwi i ni, a chymmerwch ein merched ni i chwithau.

10 A chwi a gewch bresswylio gyd â ni, a'r wlad fydd o'ch blaen chwi: trigwch, a negeseu­wch ynddi, a cheisiwch feddiannau ynddi.

11 Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thâd hi, ac wrth ei brodyr, cafwyf ffafor yn eich golwg, a'r hyn a ddywedoch wrthif a roddaf.

12 Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynhyscaeth a rhodd, ac mi a roddaf fel y dywedoch wrthif: rhoddwch chwithau y llangces i mi yn wraig.

13 A meibion Jacob a attebasant Sichem, a He­mor ei dâd ef yn dwyllodrus, ac a ddywedasant, o herwydd iddo ef halogi Dina eu chwaer hwynt.

14 Ac a ddywedasant wrthynt, ni allwn wneu­thur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i ŵr dien­waededic▪ o blegit gwarthrudd yw hynny i ni,

15 Ond yn hyn y cytunwn â chwi, os byddwch fel nyni, gan enwaedu pôb gwryw i chwi.

16 Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi ac y cymmerwn eich merched chwithau i ninnau, ac ni a gyd-trigwn â chwi, ac ni a fyddwn yn vn bobl.

17 Ond oni wrandewch arnom ni i'ch enwae­du, yna y cymmerwn ein merch, ac a awn ym­maith.

18 A'i geiriau hwynt oedd dda yngolwg He­mor, ac yngolwg Sichem mâb Hemor.

19 Ac nid oedodd y llangc wneuthur y peth, o blegit efe a roddase serch ar ferch Jacob: ac yr oedd efe yn anrhydeddusach nâ holl dŷ ei dâd.

20 A Hemor a Sichem ei fâb ef a aethant i borth eu dinas, ac a lefarasant wrth eu dinasy­ddion, gan ddywedyd;

21 Y gwyr hyn heddychol ynt hwy gyd â ni, trigant hwythau yn y wlad, a gwnant eu nege­sau ynddi: a'r wlâd, wele, sy ddigon ehang idd­ynt hwy: cymmerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd, a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy.

22 Ond yn hyn y cytuna y dynion â ni, i drigo gyd â ni, ar fod yn vn bobl, os enwaedir pôb gwryw i ni, fel y maent hwy yn enwaededic.

23 Eu hanifeiliaid hwynt, a'i cyfoeth hwynt, a'i holl yscrubliaid hwynt, onid eiddo ni fyddant hwy? yn vnig cytunwn â hwynt, a hwy a dri­gant gyd a ni.

24 Ac ar Hemor ac ar Sichem ei fâb ef, y gwrandawodd pawb a'r a oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef: ac enwaedwyd pôb gwryw, sef y rhai oll oedd yn dyfod allan o borth ei ddi­nas ef.

25 A bu ar y trydydd dydd pan oeddynt hwy yn ddolurus, gymmeryd o ddau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, brodyr Dina, bôb vn ei gleddyf, a dyfod ar y ddinas yn hyderus, a lladd pôb gwryw.

26Gen. 49.6. Lladdasant hefyd Hemor a Sichem ei fâb, â mîn y cleddyf: a chymmerasant Dina o dŷ Sichem, ac aethant allan.

27 Meibion Jacob a ddaethant ar y lladdedigi­on, ac a yspeiliasant y ddinas, am halogi o ho­nynt eu chwaer hwynt.

28 Cymmerasant eu defaid hwynt, a'i gwar­thec, a'i hassynnod hwynt, a'r hyn oedd yn y ddi­nas, a'r hyn oedd yn y maes.

29 A'i holl gyfoeth hwynt, a'i holl rai bych­ain, a'i gwragedd a gaethgludasant hwy, ac ys­peiliasant yr hyn oll oedd yn y tai.

30 A Jacob a ddywedodd wrth Simeon a Lefi, trallodasoch fi gan beri i mi fod yn ffiaidd gan bresswylwyr y wlâd, gan y Canaaneaid, a'r Phe­reziaid, a minneu yn ychydig o nifer: a hwy a ymgasclant yn fy erbyn, a tharawant fi, felly y difethir fi, mi a'm tŷ.

31 Hwythau a attebasant, ai megis puttain y gwnai efe ein chwaer ni?

PEN. XXXV.

1 Duw yn anfon Jacob i Bethel: 2 mae ef yn glanhau ei dŷ o ddelwau. 6 Yn adailadu allor yn Bethel. 8 Debora yn marw yn Alhon bach­uth. 9 Duw yn bendithio Jacob yn Bethel. 16 Rahel wrth escor ar Benjamin yn marw ar y ffordd i Edar. 22 Reuben yn gorwedd gyda Bilba. 23 Meibion Jacob. 27 Jacob yn dyfod at Isaac i Hebron. 28 Oedran, marwolaeth, a chladdediga­eth Isaac.

A Duw a ddywedodd wrth Jacob, cyfod, escyn i Bethel, a thrîg yno, a gwna yno allor i [Page] Dduw, yr hwn a ymddangosodd i ti,Pen. 27.43. pan ffoaist o wydd Esau dy frawd.

2 Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll oedd gyd ag ef, bwriwch ym­maith y duwiau dieithr sydd yn eich plith chwi, ac ymlânhewch, a newidiwch eich dillad,

3 A chyfodwn, ac escynnwn i Bethel, ac yno y gwnaf allor i Dduw yr hwn a'm gwrandawodd yn nŷdd fynghyfyngder, ac a fu gyd â myfi yn y ffordd a gerddais.

4 A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dieithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt, a'r clust­dlysau oedd yn eu clystiau: ac Jacob a'i cuddiodd hwynt tan y dderwen oedd yn ymmyl Sichem.

5 A hwy a gychwynnasant: ac ofn Duw oedd ar y dinasoedd, y rhai oedd o'i hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ol meibion Jacob.

6 Ac Jacob a ddaeth i Luz yngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a'r holl bobl y rhai oedd gyd ag ef:

7 Ac adailadodd yno allor, ac a henwodd yPen. 28.19. llesef, Duw Bethel. El-bethel, oblegit yno yr ymddangosassei Duw iddo ef, pan ffoesei efe o wydd ei frawd.

8 A marw a wnaeth Debora mammaeth Re­becca, a hi a gladdwyd islaw Bethel dan dder­wen: a galwyd henw honnosef, Derwen wylofain. Alhon-bachuth.

9 Hefyd Duw a ymddangosodd eilwaith i Ja­cob pan ddaeth efe oPadan Aram Mesopotamia, ac a'i ben­dithiodd ef.

10 A Duw a ddywedodd wrtho, dy henw di yw Jacob: niPen. 32.28. elwir dy henw di Jacob mwy, onid Israel a fydd dy henw di: ac efe a alwodd ei enw ef Israel.

11 Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, myfi yw Duw holl alluog: cynnydda, ac amlhâ: cene­dl a chynnulleidfa cenhedloedd a fydd o honot ti, a brenhinoedd a ddaw allan o'th lwynau di:

12 A'r wlâd yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i'th hâd ar dy ôl di y rhoddaf y wlâd.

13 A Duw a escynnodd oddi wrthaw ef yn y fan lle y llefarasei efe wrtho.

14 Ac Jacob a osododd golofn yn y fan lle'r ymddiddanasei efe ag ef, sef colofn faen: ac efe a dywalltodd arni ddiod offrwm, ac a dywallt­odd olew arni.

15 A Jacob a alwodd henw y fan lle 'r ym­ddiddanodd Duw ag ef; Bethel.

16 A hwy a aethant ymmaith o Bethel: ac yr oedd ettoneu, ych­ydig ffordd. megis milltir o dîr i ddyfod i Ephrath: yno'r escorodd Rahel, a bu galed arni wrth escor.

17 A darfu pan oedd galed arni wrth escor, i'r fydwraig ddywedyd wrthi hi, nac ofna; o blegit llymma hefyd i ti fâb.

18 Darfu hefyd wrth ymadel o'i henaid hi (o blegit marw a wnaeth hi) iddi alw ei enw efsef, Mab fyngalar Benoni: ond ei dâd a i henwodd efsef, mab y ddeheu­law. Ben­jamin.

19 A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Ephrath; hon yw Bethlehem.

20 Ac Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: honno yw colofn bedd Rahel hyd heddyw.

21 Yna Israel a gerddodd, ac a ledodd ei ba­bell o'r tu hwnt iTwr Eder. Migdal-eder.

22 A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlâd honno, yna Reuben a aeth ac a orweddoddPen. 49.4. gyd a Bilha gordderch wraig ei dâd, a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeu-ddec.

23 Meibion Leah, Reuben cyntafanedic Ja­cob, a Simeon, a Lefi, a Juda, ac Isacar, a Zabulon.

24 Meibion Rahel, Joseph, a Benjamin.

25 A meibion Bilha llaw-forwyn Rahel; Dan, a Naphthali.

26 A meibion Zilpha llaw-forwyn Lea; Gad, ac Aser. Dymma feibion Jacob, y rhai a anwyd iddo ym-Mesopotamia.

27 A Jacob a ddaeth at Isaac ei dâd i Mamre, i gaer Arba, hon yw Hebron, lle'r ymdeithiasei A­braham ac Isaac.

28 A dyddiau Isaac oedd gan-mlynedd a phed­war vgain mlynedd.

29 Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw,Pen. 25.8. ac a gasclwyd at ei bobl, yn hên, ac yn gyflawn o ddyddiau: a'i feibion Esau ac Jacob a'i cladda­sant ef.

PEN. XXXVI.

1 Tair gwragedd Esau. 6 Ei symmudiad ef i fy­nydd Seir. 9 Ei feibion. 15 Y Dugiaid a ddae­thant oi feibion ef, 20 Meibion a dugiaid Seir. 24 Ana yn cael mulod. 31 Brenhinoedd Edom. 40 Y Dugiaid a ddaethant o Esau.

AC dymma genedlaethau Esau: efe yw Edom.

2 Esau a gymmerth ei wragedd o ferched Canaan; Ada merch Elon yr Hethiad, ac Aholi­bama merch Ana, merch Zibeon yr Hefiad:

3 Basemath hefyd merch Ismael, chwaer Ne­baioth.

4 Ac1. Cron. 1.35. Ada a ymddug Eliphas i Esau: a Basemath a escorodd ar Reuel.

5 Aholibama hefyd a escorodd ar Jeus, a Jalam, a Chorah: dymma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo yngwlad Canaan.

6 Ac Esau a gymmerodd ei wragedd, a'i feibi­on, a'i ferched, a holl ddynion ei dŷ, a'i anifeiliaid, a'i holl yscrubliaid, a'i holl gyfoeth a gasglasei efe yngwlad Canaan, ac a aeth ymmaith i'r wlâd o wydd ei frawd Jacob.

7 O blegit eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd trigo: ac nis gallei gwlâd eu hym­daith eu cynnwys hwynt gan eu hanifeiliaid.

8 Felly yJosua 24.4. trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau yw Edom.

9 Ac dymma genedlaethau Esau tâd yr Edo­miaid ym mynydd Seir.

10 Dymma henwau meibion Esau;1. Cron. 1.35. Eliphas mâb Ada gwraig Esau, Reuel mâb Basemath gwraig Esau.

11 A meibion Eliphas oedd Teman, Omar, Zepho, a Gatam, a Chenaz.

12 A Thimna oedd ordderch-wraig i Eliphas mâb Esau, ac a escorodd Amalec i Eliphas; dym­ma feibion Ada gwraig Esau.

13 Ac dymma feibion Reuel; Nahath, a Serah, Samma, a Mizza; y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau.

14 Hefyd y rhai hyn oedd feibion Aholibama merch Ana, merch Zibeon gwraig Esau: a hi a ymddug i Esau, Jeus, a Jalam, a Chorah.

15 Dymma ddûgiaid o feibion Esau; meibion Eliphas cyntafanedic Esau, duwc Teman, duwc Omar, duwc Zepho, duwc Cenaz.

16 Duwc Corah, duwc Gattam, duwc Ama­lec: dymma y dûgiaid o Eliphaz yngwlad E­dom: dymma feibion Ada.

17 Ac dymma feibion Reuel mab Esau, duwc Nahath, duwc Serah, duwc Samma, duwc Miz­za: dymma 'r dugiaid o Reuel yng-wlad Edom: dymma feibion Basemath gwraig Esau.

18 Dymma hefyd feibion Aholibama gwraig Esau, duwc Jeus, duwc Jalam, duwc Corah: dymma 'r dugiaid o Aholibama merch Ana gwraig Esau.

19 Dymma feibion Esau, (hwn yw Edom) ac dymma eu dûgiaid hwynt.

1 Cron. 1.38.20 Dymma feibion Seir yr Horiad, cyfannedd­wyr [Page] y wlad; Lotan, a Sobal, a Zibeon, ac Ana,

21 A Dison, ac Eser, a Disan: dymma ddu­giaid yr Horiaid meibion Seir yng-wlad Edom.

22 A meibion Lotan oedd Hori, a Hemam: a chwaer Lotan oedd Timna.

23 Ac dymma feibion Sobal; Alfan, a Mana­hath, ac Ebal, Sepho, ac Onam.

24 Ac dymma feibion Zibeon; Aia, ac Ana: hwn yw Ana a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi assynnod Zibeon ei dâd.

25 Ac dymma feibion Ana; Dison, ac Aho­libama merch Ana.

26 Dymma hefyd feibion Dison; Hemdan, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.

27 Dymma feibion Eser, Bilhan, a Saafan, ac Acan.

28 Dymma feibion Disan; Vs, ac Aran.

29 Dymma ddugiaid yr Horiaid; duwc Lottan, duwc Sobal, duwc Zibeon, duwc Ana,

30 Duwc Dison, duwc Eser, duwc Disan. Dym­ma ddugiaid yr Horiaid, ym-mlhith eu dugiaid yngwlâd Seir.

31 Dymma hefyd y brenhinoedd a deyrnasa­sant yng-wlad Edom, cyn teyrnasu brenin ar fei­bion Israel.

32 A Bela mab Beor a deyrnasodd yn Edom: a henw ei ddinas ef oedd Dinhabah.

33 A Bela a fu farw; a Jobab mab Serah o Bozra a deyrnasodd yn ei le ef.

34 Jobab hefyd a fu farw; a Husam o wlâd Temani a deyrnasodd yn ei le ef.

35 A bu Husam farw; a Hadad mab Bedad yr hwn a darawodd Midian ym maes Moab, a deyr­nasodd yn ei le ef: a henw ei ddinas ef oedd Afith.

36 Marw hefyd a wnaeth Hadad, a Samlah o Masrecah a deyrnasodd yn ei le ef.

37 A bu Samlah farw; a Saul o Rehoboth wrth yr afon, a deyrnasodd yn ei le ef.

38 A bu Saul farw; a Baalhanan mab Ach­bor a deyrnasodd yn ei le ef.

39 A bu Baalhanan mab Achbor farw; a Ha­dar a deyrnasodd yn ei le ef, a henw ei ddinas ef oedd Pau; a henw ei wraig Mehetabe, merch Matred, merch Mezahab.

40 Ac dymma henwau'r dûgiaid o Esau yn ol eu teuluoedd, wrth eu trigleoedd, erbyn eu hen­wau; duwc Timna, duwc Alfah, duwc Jetheth,

41 Duwc Aholibama, duwc Ela, duwc Pinon,

42 Duwc Cenaz, duwc Teman, duwc Mibsar,

43 Duwc Magdiel, duwc Iram. Dymma'r du­giaid o Edom, yn ol eu presswylfeudd, yng-wlad eu perchennogaeth: dymma Esau tâdHeb. Edom. yr Edo­miaid.

PEN. XXXVII.

2 Joseph yn cael ei gasau gan ei frodyr. 5 Ei ddau freuddwyd ef. 13 Jacob yn ei anfon ef i ymwelod a'i frodyr. 18 Hwythau yn cydfwriadu i lâdd ef. 21 Reuben yn ei achub ef. 26 Hwynt yn eu werthu ef i'r Ismaeliaid. 31 Ei dâd wedi ei siommi trwy'r siacced waedlyd, yn galaru am dano ef. 36 Ei werthu ef i Putiphar yn yr Aipht.

A Thrigodd Jacob yngwlâd ymdaith ei dâd, yngwlâd Canaan.

2 Dymma genhedlaethau Jacob; Joseph yn fab dwy flwydd ar bymthec oedd fugail gyd a'i fro­dyr ar y praidd: a'r llangc oedd gyd a meibion Bilha, a chyd a meibion Zilpha gwragedd eu dâd: A Joseph a ddygodd eu dryg-air hwynt at eu tâd.

3 Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseph nâ'i holl feibion, oblegit efe oedd fâb ei henaint ef, ac efe a wnaeth siacced fraith iddo ef

4 A phan welodd ei frodyr fod eu tâd yn ei garu ef yn fwy nâ'i holl frodyr; hwy a'i casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan ag ef yn heddychol.

5 A Joseph a freuddwydiodd freuddwyd, ac a'i mynegodd iw frodyr: a hwy a'i casasant ef etto yn ychwaneg.

6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, gwrandewch attolwg y breuddwyd hwn a freuddwydiais i.

7 Ac wele rhwymo ysgubau'r oeddym ni yng­hanol y maes, ac wele fy yscub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele eich yscubau chwi a safa­sant o amgylch ac a ymgrymmasant i'm hysgub i.

8 A'i frodyr a ddywedasant wrtho, ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddi­aethu 'r arglwyddiaethi arnom ni? a hwy a chwanegasant etto ei gasau ef, o blegid ei freu­ddwydion, ac oblegit ei eiriau.

9 Hefyd efe a freuddwydiodd etto freuddwyd arall, ac a'i mynegodd iw frodyr, ac a ddywedodd; wele breuddwydiais freuddwyd etto; ac wele yr haul, a'r lleuad, a'r vn seren ar ddec yn ym­grymmu i mi.

10 Ac efe a'i mynegodd iw dâd, ac i'w fro­dyr; a'i dâd a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, pa freuddwyd yw hwn, a freuddwy­diaist i? ai gan ddyfod y deuwn ni, mi a'th fam, a'th frodyr, i ymgrymmu i lawr i ti?

11 A'i frodyr a gynfigennasant wrtho ef, ond ei dâd a ddaliodd ar y peth.

12 A'i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tâd yn Sichem.

13 Ac Israel a ddywedodd wrth Joseph, onid yw dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? tyred, a mi a'th anfonaf attynt: yntef a ddywedodd wrtho, wele fi.

14 A dywedodd wrtho, dos weithian, ed­rych pa lwyddiant sydd i'th frodyr, a pha lwy­ddiant sydd ir praidd, a dŵg eilchwyl air i mi: felly efe a'i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron, ac efe a ddaeth i Sichem.

15 A chyfarfu gŵr ag ef, ac wele efe yn cyr­wydro yn y maes; a'r gŵr a ymofynnodd ag ef, gan ddywedyd, pa beth yr wyt ti yn ei geisio?

16 Yntef a ddywedodd, ceisio fy-mrodyr yr ydwyfi; mynega attolwg i mi pa le y maent hwy yn bugeilio?

17 A'r gŵr a ddywedodd, hwy a aethant o­ddi ymma, o blegit mi a'i clywais hwy yn dy­wedyd, awn i Dothan. A Joseph a aeth ar ôl ei frodyr, ac a'i cafodd hwynt yn Do­than.

18 Hwythau a'i canfuant ef o bell, a chyn ei ddynessu ef attynt, hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef, iw ladd ef.

19 A dywedasant wrth ei gilydd, wele y breu­ddwyd-wr yn dyfod.

20 Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn vn o'r pydewau, a dywedwn, bwyst-fil drwg a'i bwyttaodd ef; yna y cawn weled beth a ddaw o'i freuddwydion ef.

21 APen. 42.22. Reuben a glybu, ac a'i hachubodd ef o'i llaw hwynt, ac a ddywedodd na laddwn ef.

22 Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, na thywelltwch waed; bwriwch ef i'r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynnwch law ar­no, fel yr achubei ef o'i llaw hwynt i'w ddwyn eilwaith at ei dâd.

23 A bu pan ddaeth Joseph at ei frodyr, iddynt ddiosc ei succed oddi am Joseph, sef y siacced fraith ydoedd am dano ef.

24 A chymmerasant ef, a thaflasant i bydew; a'r pydeŵ oedd wâg heb ddwfr ynddo.

25 A hwy a eisteddasant i fwytta bwyd, ac a dderchafasant eu llygaid, ac a edrychasant, ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead, yn myned i wared i'r Aipht, a'i camelod yn dŵyn llyssiau, a balm, a myrr.

26 A dywedodd Juda wrth ei frodyr, pa le­saad a fydd os lladdwn ein brawd, a chêlu ei waed ef?

27 Deuwch, a gwerthwn ef i'r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef: o blegit ein brawd ni a'n cnawd ydyw efe: a'i frodyr aHebr. wran­dawsant. gytunasant.

28 A phan ddaeth yDoeth. 10.13. Psal. 105.17. Act. 7.9. marchnad-wyr o Mi­dian heibio, y tynnasant, ac y cyfodasant Joseph i fynu o'r pydew, ac a werthasant Joseph i'r Is­maeliaid, er vgain darn o arian: hwyntau a ddygasant Joseph i'r Aipht.

29 A Reuben a ddaeth eil-waith at y pydew, ac wele nid ydoedd Joseph yn y pydew; ac yn­tef a rwygodd ei ddillad,

30 Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddy­wedodd, y llangc nid yw accw, a minneu, i ba le 'r âf fi.

31 A hwy a gymmerasant siacced Joseph, ac a laddasant fyn gafr, ac a drochasant y siacc­ed yn y gwaed.

32 Ac anfonasant y siacced fraith, ac a'i dy­gasant at eu tad, ac a ddywedasant, hon a gaw­som: myn ŵybod yn awr ai siacced dy fâb yw hi ai nad ê.

33 Yntef a'i hadnabu hi, ac a ddywedodd, siacced fy mab yw hi, Pen. 44.28. bwyst-fil drwg a'i bwyt­taodd ef: gan larpio y llarpiwyd Joseph.

34 Ac Jacob a rwygodd ei ddillad, ac a oso­dodd sach-len am ei lwynau, ac a alarodd am ei fâb ddyddiau lawer.

35 A'i holl feibion, a'i holl ferched a goda­sant iw gyssuro ef: ond efe a wrthododd gym­meryd cyssur, ac a ddywedodd; yn ddiau des­cynnaf yn alarus at fy mâb i'r beddrod: a'i dad a wylodd am dano ef.

36 A'r Midianiaid a'i gwerthasant ef i'r Aipht i Putifar, tywysog Pharao, a'r distain.

PEN. XXXVIII.

1 Juda yn cenhedlu Er, Onan, a Selah. 6 Er yn priodi Tamar. 8 Camwedd Onan. 11 Tamar yn aros am Selah, 16 yn siommi Juda, 27 ac yn dwyn gefelliaid, Phares a Zarah.

AC yn y cyfamser hwnnw, y darfu i Juda fy­ned i wared oddi wrth ei frodyr, a throi at ŵr o Adulam, a'i henw Hirah.

2 Ac yno y canfu Juda ferch gŵr o Ganaan, a'i enw ef oedd 1 Cro. 2.3. Sua, ac a'i cymmerodd hi, ac a aeth atti hi.

3 A hi a feichiogodd, ac a escorodd ar fâb, ac efe a alwodd ei enw ef Er.

4Num. 26.19. A hi a feichiogodd eil-waith, ac a escorodd ar fâb, a hi a alwodd ei enw ef Onan.

5 A thrachefn hi a escorodd ar fâb, ac a al­wodd ei enw ef Selah. Ac yn Cezib yr oedd efe pan escorodd hi ar hwn.

6 A Juda a gymmerth wraig i Er ei gyntaf­anedic, a'i henw Tamar.

7 AcNum. 26.19. yr oedd Er cyntaf-anedic Juda yn ddrygionus yng-olwg yr Arglwydd, a'r Ar­glwydd a'i lladdodd ef.

8 A Juda a ddywedodd wrth Onan, dos at wraig dy frawd, a phrioda hi, a chyfod hâd i'th frawd.

9 Ac Onan a wybu nad iddo ei hun y by­ddei'r hâd: a phan elei efe at wraig ei frawd, yna y collei efe ei hâd ar y llawr, rhac rhoddi o honaw hâd i'w frawd.

10 A drygionus oedd yr hyn a wnaethei efe yngolwg yr Arglwydd: am hynny efe a'i lladd­odd yntef.

11 Yna Juda a ddywedodd wrth Tamar ei waudd, trig yn weddw yn nhŷ dy dâd, hyd oni chynnyddo fy mâb Selah: (oblegit efe a ddywedodd, rhag ei farw yntef fel ei frodyr) A Thamar a aeth, ac a drigodd yn nhŷ ei thâd.

12 Ac wedi llawer o ddyddiau, marw a wn­aeth merth Sua gwraig Juda: a Juda a gym­merth gyssur, ac a aeth i fynu i Timnath, at gneif­wyr ei ddefaid, ef a'i gyfaill Hirah yr Adu­lamiad.

13 Mynegwyd hefyd i Tamar, gan ddywe­dyd; wele dy chwegrwn yn myned i fynu i Timnath, i gneifio ei ddefaid.

14 Hithe a ddioscodd ddillad ei gweddwdod oddi am deni, ac a'i cuddiodd ei hun â gorch­udd, ac a ymwiscodd, ac a eisteddodd yn nrwsmewn lle amlwg. Enaim, yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath: o blegit gweled yr oedd hi fyned Selah yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef.

15 A Juda a'i canfu hi, ac a dybiodd mai puttain ydoedd hi; oblegit gorchguddio o ho­ni ei hwyneb.

16 Ac efe a droawdd atti hi i'r ffordd, ac a ddywedodd, tyred attolwg, gad imi ddyfod at­tat: (o blegit nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi) hithe a ddywedodd, beth a roddi i mi, ôs cei ddyfod attaf?

17 Yntef a ddywedodd, mi a hebryngaf fyn gafr o blith y praidd: hithe a ddywedodd, a roddi di wystl hyd oni hebryngech?

18 Yntef a ddywedodd, pa wystl a roddaf i ti? hithe a ddywedodd, dy sêl, a'th freichledau, a'th ffon sydd yn dy law: ac efe a'i rhoddes iddi, ac a aeth atti, a hi a feichiogodd o honaw ef.

19 Yna y cyfododd hi ac a aeth ymmaith, ac a ddioscodd ei gorchudd oddi am deni, ac a wiscodd ddillad ei gweddwdod.

20 A Juda a hebryngodd fyn gafr yn llaw 'r Adulamiad ei gyfaill, i gymmeryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd hwnnw hi.

21 Ac efe a ymofynnodd a gwŷr y frô honno, gan ddywedyd, pa le y mae y buttain honno a ydoedd ynneu yr amlwg. Enaim wrth y ffordd? a hwythau a ddywedasant, nid oedd yma vn buttain.

22 Ac efe a ddychwelodd at Juda, ac a ddy­wedodd, ni chefais hi: a gwŷr y frô honno hefyd a ddywedasant, nid oedd ymma vn buttain.

23 A Juda a ddywedodd, cymmered iddi hi, rhac i niHeb. fod yn ddir­myg. gael cywilydd: wele, mi a he­bryngais y myn hwn, a thithe ni chefaist hi.

24 Ac ynghylch pen tri mîs y mynegwyd i Juda, gan ddywedyd; Tamar dy waudd di a butteiniodd, ac wele hi a feichiogodd hefyd mewn godineb. A dywedodd Juda, dygwch hi allan, a lloscer hi.

25 Yna hi (pan ddygwyd hi allan) a anfo­nodd at ei chwegrwn, gan ddywedyd; o'r gŵr biau y rhai hyn yr ydwyfi yn feichiog: hefyd hi a ddywedodd, adnebydd attolwg, ei­ddo pwy yw y sêl, a'r breichledau, a'r ffon ymma.

26 A Juda a adnabu y pethau hynny, ac a ddy­wedodd; [Page] cyfiawnach yw hi nâ myfi; o her­wydd na roddais hi i'm mâb Selah: ac ni bu iddo ef a wnaeth a hi mwy.

27 Ac yn amser ei hescoredigaeth hi, wele efelliaid yn ei chroth hi.

28 Bu hefyd pan escorodd hi, i vn roddi allan ei law: a'r fyd-wraig a gymmerth ac a rwymodd am ei law ef edef gôch, gan ddywe­dyd; hwn a ddaeth yn gyntaf allan.

29 A phan dynnodd efe ei law yn ei hôl, yna wele ei frawd ef a ddaeth allan: a hithe a ddy­wedodd, paneu, pa­ham y gwnae­thost y rhwygi­ad hwn i'th er­byn. fodd y torraist allan? byd y tor­riad hwn arnati: am hynny y galwyd ei1 Cron. 2.4. Mat. 1.3. enw efsef tor­riad. Phares.

30 Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan, yr hwn yr oedd yr edef gôch am ei law: a gal­wyd ei enw ef Zarah.

PEN. XXXIX.

1 Codiad Joseph yn nhy Putiphar. 7 Ei feistres yn ei demptio ef, ac yntef yn ei gwrthwynebu hi. 13 Achwyn arno ef ar gam. 19 Ei fwrw ef yngharchar. 21 A Duw gydag ef yno.

A Joseph a ddygwyd i wared i'r Aipht, a Pu­tiphar yr Aiphtwr tywysog Pharao a'i ddi­stain, a'i prynodd ef o law 'r Ismaeliaid, y rhai a'i dygasent ef i wared yno.

2 Ac yr oedd yr Arglwydd gyd â Joseph, ac efe oedd ŵr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Aiphtiad.

3 A'i feistr a welodd fod yr Arglwydd gyd ag ef, a bôd yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelei efe.

4 A Joseph a gafodd ffafor yn ei olwg ef, ac a'i gwasanaethodd ef: yntef a'i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef.

5 Ac er pan wnaethei efe ef yn olygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i'r Arglwydd fendithio tŷ 'r Aiphtiad, er mwyn Joseph: ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef yn y tŷ, ac yn y maes.

6 Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo tan law Joseph: ac ni wyddei oddiwrth ddim ar a oedd gyd ag ef, oddi eithr y bwyd yr oedd efe yn ei fwytta: Joseph hefyd oedd dêg o brŷd, a glân yr olwg.

7 A darfu wedi y petheu hynny, i wraig ei feistr ef dderchafu ei golwg ar Joseph, a dywe­dyd, gorwedd gyd â mi.

8 Yntef a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, wele, fy meistr ni wyr pa beth sydd gyd â mi yn y tŷ: rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo, tan fy llaw i.

9 Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn nâ myfi, ac ni waharddodd efe ddim rhagof, onid ty di; o blegit ei wraig ef wyt ti: pa fodd gan hynny y gallaf wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw?

10 A bu fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Jo­seph beunydd, ac yntef heb wrando aml hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyd a hi.

11 A bu ynghylch yr amser hwnnw i Joseph ddyfod i'r tŷ i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr vn o ddynion y tŷ yno yn tŷ.

12 Hithe a'i daliodd ef erbyn ei wisc, gan ddywedyd, gorwedd gyd â mi: yntef a ada­wodd ei wisc yn ei llaw hi, ac a ffoawdd, ac a aeth allan.

13 A phan welodd hi adel o honaw ef ei wisc yn ei llaw hi, a ffoi o honaw allan,

14 Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd; gwelwch, efe a ddûg i ni Hebrewr i'n gwradwyddo: daeth attafi i orwedd gyd â myfi, minne a wae­ddais â llêf vchel.

15 A phan glywodd efe dderchafu o honofi fy llef, a gweiddi: yna efe a adawodd ei wisc yn fy ymyl i, ac a ffôdd, ac aeth allan.

16 A hi a osododd ei wisc ef yn ei hymmyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.

17 A hi a lefarodd wrtho yn y modd hyn, gan ddywedyd; yr Hebrewas yr hwn a ddy­gaist i ni, a ddaeth attaf i'm gwradwyddo.

18 Ond pan dderchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisc yn fy ymmyl, ac a ffoawdd allan.

19 A Phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, yn y modd hwn y gwnaeth dy wâs di i mi, yna yr enynnodd ei lid ef.

20 A meistr Joseph a'i cymmerth ef, ac a'i rhoddes yn y carchar-dŷ, yn y lle yr oedd car­charorion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchar-dŷ.

21 Ond yr Arglwydd oedd gyd â Joseph, ac a ddangosedd iddo efneu ga­redig­rwydd. drugaredd, ac a roddes ffafor iddo yngolwg pennaeth y carchar-dŷ.

22 A phennaeth y charchar-dŷ a roddes tan law Joseph yr holl garcharorion, y rhai oedd yn y carchar-dŷ, a pha beth bynnac a wnênt yno, efe oedd yn ei wneuthur.

23 Nid oedd pennaeth y charchar-dŷ yn e­drych am ddim oll a'r a oedd tan ei law ef, am fod yr Arglwydd gyd ag ef; a'r hyn a wnai efe, yr Arglwydd a'i llwyddei.

PEN. XL.

1 Bwtler a Phobydd Pharao yngharchar, 4 tan siars Joseph. 5 Ef yn deongli eu breuddwydion hwy. 20 A'r rhai hynny yn dyfod i ben ar ol ei ddeongliad ef. 23 Anniolchgarwch y bwtler.

A Darfu wedi y petheu hynny, ibwtler drulliad brenin yr Aipht a'r pobydd, bechu yn er­byn eu harglwydd brenin yr Aipht.

2 A Pharao a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen trulliad, a'r pen pobydd.

3 Ac a'i rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ y distain, sef yn y charchar-dŷ, y lle 'r oedd Jo­seph yn rhwym,

4 A'r distain a wnaeth Joseph yn olygwr arnynt hwy: ac efe a'i gwasanaethodd hwynt, a buant mewn dalfa tros amser.

5 A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob vn ei freuddwyd ei hun yn yr vn nôs, pob yn ar ol deongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aipht, y rhai oedd yn rhwym yn y carchar-dŷ.

6 A'r borau y daeth Joseph attynt, ac a e­drychodd arnynt, ac wele hwynt yn athrist.

7 Ac efe a ymofynnodd a swyddwyr Pharao, y rhai oedd gyd ag ef mewn dalfa yn nhŷ ei Arglwydd, gan ddywedyd; pa ham y mae eich wynebau yn ddrwg heddyw?

8 A dywedasant wrtho, breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a'i deonglo: a Joseph a ddywedodd wrthynt, onid i Dduw y perthyn deongli? mynegwch attolwg i mi.

9 A'r pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseph, ac a ddywedodd wrtho; yn fy mreu­ddwyd yr oeddwn, ac wele winwŷdden o'm blaen.

10 Ac yn y win-wŷdden yr oedd tair caingc, ac yr oedd hi megis yn blaen-darddu; ei blode­un a dorrassei allan, ei grawnsyppiau hi a ddûg rawn-win addfed.

11 Hefyd yr oedd cwppan Pharao yn fy llaw, [Page] a chymmerais y grawn-wîn, a gwescais hwynt i gwpparr Pharao, a rhoddais y cwppan yn llaw Pharao.

12 A Joseph a ddywedodd wrtho, dymma ei ddeongliad ef; tri diwrnod yw y tair caingc.

13 O fewn tri diwrnod etto Pharao aneu gy­frif. dderchafa dy ben di, ac a'th rŷdd di eilwaith yn dy le, a rhoddi gwppan Pharao yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddit dru­lliad iddo.

14 Etto cofia fi gyd â thi, pan fô daioni i ti, a gwna attolwg â mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharao, a dŵg fi allan o'r tŷ hwn.

15 O blegid yn lledrad i'm lledrattawyd o wlâd yr Hebreaid, ac ymma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi yngharchar.

16 Pan welodd y pen-pobydd mai da oedd y deongliad, efe a ddywedodd wrth Joseph, minne hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd, ac wele dri chawellneu, gwynion. rhwyd-dylloc ar fy mhen.

17 Ac yn y cawell vchaf yr oedd peth o bôb bwyd Pharao o waith pobydd: a'r ehediaid yn eu bwytta hwynt o'r cawell odddi ar fy mhen.

18 A Joseph a attebodd, ac a ddywedodd, dymma ei ddeongliad ef; tri diwrnod yw y tri chawell.

19 O fewn tri diwrnod etto yCyfrif. cymmer Pharao dy ben di oddi arnat, ac a'th groga di ar bren, a'r ehediaid a fwyttant dy gnawd ti oddi am danat.

20 Ac ar y trydydd dydd, yr oedd dydd ga­nedigaeth Pharao, ac efe a wnaeth wledd iw holl weision: ac efe aneu, gy­frifodd. dderchafodd ben y pen­trulliad, a'r pen-pobydd ym mysc ei weision.

21 Ac a osododd y pen-trulliad eilwaith yn ei swydd, ac yntef a roddes y cwppan i law Pharao.

22 A'r pen-pobydd a grogodd efe, fel y de­onglasei Joseph iddynt hwy.

23 Ond y pen-trulliad ni chofiodd Joseph, eithr anghofiodd ef.

PEN. XLI.

1 Dau freuddwyd Pharao. 9 Joseph yn eu deon­gli hwy. 33 Yn rhoddi cyngor i Pharao. 38 Codiad Joseph. 50 Mae ef yn cenhedlu Ma­nasseh ac Ephraim. 54 Y newyn yn dechreu.

YNa ym-mhen dwy flynedd lawn, y bu i Pharao freuddwydio; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon.

2 Ac wele yn escyn o'r afon saith o wartheg têg yr olwg, a thewon o gig, ac mewn gwyr­glodd-dir y porent.

3 Wele hefyd saith o wartheg eraill yn escyn ar eu hôl hwynt o'r afon, yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gîg; a hwy a safasant yn ymmyl y gwartheg eraill ar lan yr afon.

4 A'r gwartheg drwg yr olwg a chulion o gîg, a fwyttasant y saith gwartheg têg yr olwg, a breision: yna y dihunodd Pharao.

5 Ac efe a gyscodd, ac a freuddwydiodd eil­waith; ac wele saith o dwysennau yn tyfu ar vn gorsen, o rai neu, breision. breiscion a dâ.

6 Wele hefyd saith o dwysennau teneuon ac wedi deifio gan wynt y dwyrein, yn tarddu allan ar eu hôl hwynt.

7 A'r twysennau teneuon a lyngcasant y saith dwysen fraisc, a llawn: a deffroawdd Pharao, ac wele breuddwyd oedd.

8 A'r boreu y bu iw yspryd ef gynhyrfu, ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aipht, a'i holl ddoethion hi: a Pharao a fy­negodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a'i deonglei hwynt i Pharao.

9 Yna y llefârodd y pen-trulliad wrth Pha­rao, gan ddywedyd; yr wyf fi yn cofio fy meiau heddyw.

10 Llidio a wnaethei Pharao wrth ei wei­sion, ac efe a'm rhoddes mewn carchar yn nhŷ y distain, myfi a'r pen-pobydd.

11 A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr vn nôs, mi ag ef: breuddwydiasom bob vn ar ôl deongliad ei freuddwyd.

12 Ac yr oedd yno gyd â nyni fâb ieuangc o Hebread, gwâs i'r distain: ac ni a fynegasom iddo ef, yntef a ddeongloddPen. 40.12. i ni ein breudd­wydion, i bôb vn yn ôl ei freuddwyd, y deon­glodd efe.

13 A darfu, fel y deonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i'm swydd, ac yntef a grogodd efe.

14 Pharao gan hynny a anfonodd,Psal. 105.20. ac a al­wodd am Joseph: hwytheu ar redec a'i cyrcha­sant ef o'r carchar: yntef a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharao.

15 A Pharao a ddywedodd wrth Joseph, breu­ddwydiais freuddwyd, ac nid oes a'i deonglo: ac myfi a glywais ddywedyd am danat ti, y medriHebr. wrando. ddeall breuddwyd iw ddeongli.

16 A Joseph a attebodd Pharao, gan ddywe­dyd; nid myfi, Duw a ettyb lwyddiant i Pha­rao.

17 A Pharao a ddywedodd wrth Joseph; wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon.

18 Ac wele 'n escyn o'r afon saith o wartheg tewon o gîg, a theg yr olwg, ac mewn gwyr­glodd-dir y porent.

19 Wele hefyd saith o wartheg eraill yn escyn ar eu hôl hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cyn­ddrwg a hwynt yn holl dîr yr Aipht.

20 A'r gwartheg culion a drwg, a fwytta­sant y saith muwch tewon cyntaf.

21 Ac er eu myned iw boliau, ni wyddid iddynt fyned iw boliau, ond yr olwg arnynt oedd ddrwg megis yn y dechreuad: yna mi a ddeffroais.

22 Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dwysen llawn a thêg, yn cyfodi o'r vn gorsen.

23 Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyrein-wynt yn tyfu ar eu hôl hwynt.

24 A'r twysennau teneuon a lyngcasant y saith dwysen dda: ac mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid, ond nid oedd a'i deonglei i mi.

25 A dywedodd Joseph wrth Pharao, breu­ddwyd Pharao sydd vn; yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharao.

26 Y saith o wartheg têg, saith mlynedd y­dynt: a'r saith dwysen dêg, saith mlynedd ydynt: y breuddwyd vn yw.

27 Hefyd y saith muwch culion a drwg y rhai oedd yn escyn ar eu hôl hwynt, saith mly­nedd ydynt: a'r saith dwysen gwâg gwedi dei­fio gan y dwyreinwynt, a fyddant saith mly­nedd o newyn.

28 Hyn yw y peth a ddywedais i wrth Pha­rao: yr hyn a wna Duw, efe a'i dangosodd i Pharao.

29 Wele y mae saith mlynedd yn dyfod, o amldra mawr trwy holl wlad yr Aipht.

30 Ond ar eu hôl hwynt y cyfyd saith mly­nedd [Page] o newyn, ac anghofir yr holl amlder trwy wlâd yr Aipht: a'r newyn a ddifetha y wlâd.

31 Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlâd, o herwydd y newyn hwnnw wedi hynny: o blegit trwm iawn fydd.

32 Hefyd am ddyblu y breuddwyd i Pharao ddwywaith, hynny a fu o blegitNeu, darparu.. siccrhau y peth gan Dduw, a bod Duw yn brysio iw wneu­thur.

33 Yn awr gan hynny edryched Pharao am wr deallgar a doeth, a gosoded ef ar wlâd yr Aipht.

34 Gwnaed Pharao hyn, a gosoded clygwyr ar y wlâd, a chymmered bumined ran cnwd gwlad yr Aipht, tros saith mlynedd yr amldra.

35 A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sy ar ddyfod: a chasclant ŷd dan law Pharao, a chadwant ymborth yn y dinasoedd.

36 A bydded yr ymborth ynghadw i'r wlâd tros y saith mlynedd newyn, y rhai fydd­ant yngwlad yr Aipht, fel naNeu, thorrer ymaith. ddifether y wlâd gan y newyn.

37 A'r peth oedd dda yngolwg Pharao, ac yngolwg ei holl weision.

38 A dywedodd Pharao wrth ei weision, a gaem ni ŵr fel hwn, yr hwn y mae yspryd Duw ynddo.

39 Dywedodd Pharao hefyd wrth Joseph, gan wneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll, nid mor ddeallgar a doeth neb a thydi.

40 Ty di aPsal. 105.21. 1. Mac. 2.53. Act. 7.10. fyddi ar fy nhŷ, ac wrth dy air di yHebr. arfogir, neu cusa­na. llywodraethir fy mhobl oll: yn y deyrn­gader yn vnic y byddaf fwy nâ thydi.

41 Yna y dywedodd Pharao wrth Joseph, edrych, gosodais di ar holl wlad yr Aipht.

42 A thynnodd Pharao ei fodrwy oddi ar ei law, ac a'i rhoddes hi ar law Joseph, ac a'i gwis­codd ef mewn gwiscoeddNeu, lliain main. sidan, ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef.

43 Ac a wnaeth iddo farchogeth yn yr ail cer­byd oedd gantho: a llefwyd o'i flaen ef,Plyg­wch y glin. Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aipht.

44 Dywedodd Pharao hefyd wrth Joseph, myfi yw Pharao, ac hebot ti ni chyfyd gŵr ei law na'i droed, trwy holl wlad yr Aipht.

45 A Pharao a alwodd henw Joseph, Zaphnath-Paaneah, ac a roddes iddo Asnath merch Poti­pherahTywysog offeiriad On, yn wraig: yna yr aeth Joseph allan dros wlad yr Aipht.

46 A Joseph ydoedd fâb deng-mlwydd ar hu­gain pan safodd ef ger bron Pharao brenin yr Aipht: a Joseph aeth allan o wydd Pharao, ac a dramwyodd drwy holl wlad yr Aipht.

47 A'r ddaiar a gnydiodd tros saith mlynedd yr amldra, yn ddyrneidiau.

48 Yntef a gasclodd holl ymborth y saith mly­nedd a fu yngwlad yr Aipht, ac a roddes ym­borth i gadw yn y dinasoedd: ymborth y maes yr hwn fyddei o amgylch pob dinas, a roddes ef i gadw ynddi.

49 A Joseph a gynnullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra lluosoc, hyd oni pheidiodd a'i rifo: oblegit yr ydoedd heb rifedi.

50 Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn, yPen. 46.20. & 48.5. ganwyd i Joseph ddau fab, y rhai a ymddûg As­nath merch Potipherah Tywysogoffeiriad On iddo ef.

51 A Joseph a alwodd henw ei gyntafanedic,Sef, Angho­fio. Manasseh: oblegid eb efe Duw a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy nhad oll.

52 Ac efe a alwodd henw 'r ailSef, ffrwyth­lon. Ephraim: oblegit eb efe Duw a'm ffrwythlonodd i yng­wlad fyngorthrymder.

53 Darfu y saith mlynedd o amldra, y rhai a fu yngwlad yr Aipht.

54Psal. 105.16. A'r saith mlynedd newyn a dechreua­sant ddyfod, fel y dywedasei Joseph; ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd; ond yn holl wlad yr Aipht yr ydoedd bara.

55 A phan newynodd holl wlad yr Aipht; y bobl a waeddodd ar Pharao am fara: a Pharao a ddywedodd wrth yr holl Aiphtiaid, ewch at Jo­seph; yr hyn a ddywedo efe wrthych, gwnewch.

56 Y newyn hefyd ydoedd ar holl wyneb y ddaiar, a Joseph a agorodd yr holl leoedd yr ydo­edd ŷd ynddynt, ac a werthodd i'r Aiphtiaid: oblegit y newyn oedd drwm yng-wlad yr Aipht.

57 A daeth yr holl wledydd i'r Aipht at Jo­seph i brynu: o herwydd y newyn oedd drwm yn yr holl wledydd.

PEN. XLII.

1 Jacob yn anfon ei ddec mab i'r Aipht i brynu ŷd. 6 Joseph yn eu carcharu hwy yn lle spiwyr. 18 Ac yn ei rhyddhau hwy tan ammod iddynt ddwyn Benjamin. 21 Eu cydwybod yn eu cybuddo hwy o achos Joseph. 24 Cadw Simeon yn wystl. 25 Hwynt yn dychwelyd ag ŷd, a'i harian yn eu sachau. 29 Ac yn treuthu y newyddion i Jacob. 36 Jacob yn gwrthod danfon Benjamin.

PAn welodd Jacob fod ŷd yn yr Aipht,Act. 7.12. dywe­dodd Jacob wrth ei feibion, pa ham yr edrychwch ar ei gilydd?

2 Dywedodd hefyd, wele, clywais fod ŷd yn yr Aipht: ewch i wared yno, a phrynwch i ni oddi yno, fel y bôm fyw, ac na byddom feirw.

3 A dêc brodyr Joseph a aethant i wared i brynu ŷd i'r Aipht.

4 Ond ni ollyngei Jacob Benjamin brawd Joseph gyd a'i frodyr: o blegit efe a ddywedodd, rhac digwydd niweid iddo ef.

5 A meibion Israel a ddaethant i brynu ym­mlhith y rhai oedd yn dyfod; oblegit yr ydo­edd y newyn yng-wlad Canaan.

6 A Joseph oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Joseph a ddaethant, ac a ymgrymmasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau.

7 A Joseph a ganfu ei frodyr, ac a'i hadnabu hwynt, ac a ymddieithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt ynGaled. arw, ac a ddywedodd wrthynt, o bale y daethoch? hwythau a atteba­sant, o wlâd Canaan i brynu llyniaeth.

8 A Joseph oedd yn adnabod ei frodyr: ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef.

9 A Joseph a gofioddPen. 37.5. ei freuddwydion, a freuddwydlasei efe am danynt hwy, ac a ddy­wedodd wrthynt; spiwyr ydych chwi: i edrych noethder y wlâd y daethoch.

10 Hwythau a ddywedasant wrtho ef, nagê fy Arglwydd, onid dy weision a ddaethant i brynu llyniaeth.

11 Nyni oll ydym feibion vn gŵr: gwyr cywir ydym ni: nid yw dy weision di spiwyr.

12 Yntef a ddywedodd wrthynt hwy, nagê, onid i edrych noethder y wlâd y daethoch.

13 Hwythau a ddywedasant, dy weision di oedd ddeuddeng mhrodyr, meibion vn gŵr yng­wlâd Canaan: ac wele y mae yr ieuangaf heddyw gyd a'n tâd ni, a'r llall nid yw fyw.

14 A Joseph a ddywedodd wrthynt, dym­ma yr hyn a adroddais wrthych, gan ddywe­dyd; spiwyr ydych chwi.

15 Wrth hyn i'ch profir; myn enioes Pharao nid ewch allan oddi yma, onid drwy ddyfod o'ch brawd ieuangaf yma.

[...]
[...]

16 Hebryngwch vn o honoch, i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwitheu, fel y profer eich geiriau chwi, a oes gwirionedd ynoch: o blegit onid ê (myn enioes Pharao) spiwŷr yn ddiau ydych chwi.

17 Ac efe a'iHeb. casclodd. rhoddodd hwynt i gyd yng­harchar dridiau.

18 Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Jo­seph wrthynt, gwnewch hyn fel y byddoch fyw: ofni Duw'r wyf fi.

19 Os gwŷr cywir ydych chwi, rhwymer vn o'ch brodyr chwi yn eich carchardŷ: ac ewch chwitheu, dygwch ŷd rhac newyn i'ch tylwyth.

20 APen. 43.5. dygwch eich brawd ieuangaf attaf fi, felly y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddwch feirw: hwythau a wnaethant felly.

21 Ac a ddywedasant wrth ei gilydd, diau bechu o honom yn erbyn ein brawd: o blegit gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni.

22 A Reuben a'i hattebodd hwynt gan ddy­wedyd,Pen. 37.21. oni ddywedais i wrthych, gan ddy­wedyd; na phechwch yn erbyn yr herlod, ac ni wrandawech chwi, wele am hynny ynte y gofynnir ei waed ef.

23 Ac nis gwyddynt hwy fod Joseph yn eu deall; am fod cyfiaithudd rhyngddynt.

24 Yntef a drôdd oddi wrthynt, ac a wylodd, ac a ddaeth eilchwyl attynt, ac a lefarodd wrth­ynt hwy, ac a gymmerth o'i mysc hwynt Sime­on, ac a'i rhwymodd efo flaen eu llygaid hwynt.

25 Joseph hefyd a orchymynnodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi drachefn arian pôb vn o honynt yn ei sach, a rhodi bwyd iddynt iw fwytta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy.

26 Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hassynnod, ac a aethant oddi yno.

27 Ac vn a agorodd ei sach ar fedr rhoddi ebran iw assyn yn y llettŷ, ac a ganfu ei arian: canys wele hwynt yngenau ei ffettan ef.

28 Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, rhoddwyd adref fy arian, ac wele hwynt hefyd yn fy ffettan: yna y digalonnasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd; pa ham y gwnaeth Duw ini hyn?

29 A hwy a ddaethant at Jacob eu tâd i wlâd Canaan, ac a fynegasant iddo ef eu holl ddamweiniau, gan ddywedyd,

30 Dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlâd ynHeb. galed. arw wrthym ni, ac a'n cymmerth ni fel spiwyr y wlâd.

31 Ninnau a ddywedâsom wrtho ef, gwyr cywir ydym ni; nid spiwyr ydym.

32 Deuddec o frodyr oeddym ni, meibion ein tâd ni: vn nid yw fyw, ac y mae yr ieuangaf heddyw gyd a'n tâd ni yngwlâd Canaan.

33 A dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlâd wrthym ni, wrth hyn y câf wybod mai cywir ydych chwi, gedwch gyd a myfi vn o'ch brodyr, a chymerwch lyniaeth i dorri newyn eich teuluoedd, ac ewch ymmaith.

34 A dygwch eich brawd ieuangaf attaf fi, fel y gwybyddwyf nad yspiwyr ydych chwi, onid eich bod yn gywir: yna y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnatta yn y wlad.

35 Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godeid arian pôb vn yn ei sâch: a phan welsant y codau arian, hwynt hwy a'i tâd, ofni a wnaethant.

36 A Jacob eu tâd hwynt a ddywedodd wrthynt hwy, diblantasoch fi; Joseph nid yw fyw, a Simeon yntef nid yw fyw, a Benjamin a ddygech ymaith: yn fy erbyn i y mae hyn oll.

37 A dywedodd Reuben wrth ei dâd, gan ddywedyd; lladd fy nau fâb i, oni ddygaf ef drachefn attat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi a'i dygaf ef attat ti eilwaith.

38 Yntef a ddywedodd, nid â fy mâb i wa­red gyd â chwi, o blegit bu farw ei frawd, ac yntef a adawyd ei hunan: pe digwyddei iddo ef niweid ar y ffordd yr ewch rhyd-ddi, yna chwi a barech i'm pen-wynni ddescyn i'r bedd mewn tristwch.

PEN. XLIII.

1 Jacob yn flin gantho ollwng Benjamin. 15 Jo­seph yn croesafu ei frodyr, 31 Yn gwneuthur iddynt wledd.

A'R newyn oedd drwm yn y wlâd.

2 A bu wedi iddynt fwytta 'r ŷd a ddy­gasent o'r Aipht, ddywedyd o'i tâd wrthynt hwy, ewch eilwaith, prynwch i ni ychydic lyniaeth.

3 A Juda a attebodd, gan ddywedyd, gan ry­buddio y rhybuddiodd y gŵr nyni, gan ddy­wedyd;Pen 42.20 nac edrychwch yn fy wyneb oni bydd eich brawd gyd â chwi.

4 Os anfoni ein brawd gyd â ni, ni a awn i wared, ac a brynwn i ti lyniaeth.

5 Ond os ti nid anfoni, nid awn i wared: o blegit y gŵr a ddywedodd wrthym ni,Pen. 42.20 nac edrychwch yn fy wyneb oni bydd eich brawd gyd â chwi.

6 Ac Israel a ddywedodd, pa ham y dryga­soch fi, gan fynegi i'r gŵr fod i chwi etto frawd?

7 Hwythau a ddywedasant, gan ymmofyn yr ymofynnodd y gŵr am danom ni, ac am ein cenhedl, gan ddywedyd; ai byw eich tâd chwi etto? oes frawd arall i chwi? ninne a ddywedasom wrtho ef ar ol y geiriau hynny: a allem ni gan wybôd, wybôd y dywedai efe, dygwch eich brawd i wared?

8 Juda a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel, gollwng y bachgen gŷd â mi, ninneu a gyfodwn, ac a awn ymmaith, fel y byddom byw, ac na by­ddom feirw; nyni, a thitheu, a'n plant hefyd.

9 Myfi a fechniaf am dano ef, o'm llaw i y gofynni ef:Pen 44. [...] onis dygaf ef attat ti, a'i osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog o fai i'th erbyn byth.

10 Canys pe na buassem hwyrfrydic, dae­them eilchwyl yma ddwy waith bellach.

11 Ac Israel eu tâd a ddywedodd wrthynt, Os rhaid yn awr felly, gwnewch hyn: cymmerwch o ddewis ffrwythau y wlad yn eich llestri, a dy­gwch yn anrheg i'r gŵr, ychydic balm, ac ychy­dic dic fêl, llyssiau, a myrh, cnau, ac almonau.

12 Cymmerwch hefyd ddau cymmeint o arian gyd â chwi, a dygwch eilwaith gyd â chwi yr arian a roddwyd trachefn yngenau eich sachau: onid odid amryfusedd fu hynny.

13 Hefyd cymmerwch eich brawd, a chy­fodwch, ewch eilwaith at y gŵr.

14 A Duw ollalluog a roddo i chwi druga­redd ger bron y gwr, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Benjamin: minne fel i'm diblan­twyd a ddiblentir.

15 A'r gwyr a gymmerasant yr anrheg honno, a chymmerasant arian yn ddwbl yn eu llaw, a Benjamin hefyd, a chyfodasant ac aethant i wared i'r Aipht, a safasant ger bron Joseph.

16 A Joseph a ganfu Benjamin gyd â hwynt, [Page] ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd dygwr ar ei dŷ, dŵg y gwyr hyn i'r tŷ, a lladd laddfa, ac arlwya; o blegit y gwyr a gant fwytta gyd â myfi ar hanner dydd.

17 A'r gŵr a wnaeth fel y dywedodd Jo­seph: a'r gŵr a ddûg y dynion i dŷ Joseph.

18 A'r gwŷr a ofnasant, pan ddycpwyd hwynt î dŷ Joseph, ac a ddywedasant, o blegit yr arian a roddwyd eilwaith yn ein sachau ni yr amser cyntaf, y dycpwyd nyni i mewn: iHeb. ymdreiglo fwrw hyn arnom ni ac i ruthro i ni, ac i'n cymmeryd ni yn gaethion, a'n hassynnod hefyd.

19 A hwy a nesasant at y gŵr oedd olygur ar dŷ Joseph, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y tŷ,

20 Ac a ddywedasant, fy arglwydd, gan ddescyn y descynnasom yr amser cyntaf,Pen. 42.3. i brynu llyniaeth.

21 A bu pan ddaethom i'r llettŷ, ac agoryd ein sachau, yna wele arian pob vn yngenau ei sach: ein harian ni meddaf yn ei bwys: ond ni a'i dygasom eilwaith yn ein llaw.

22 Dygasom hefyd arian arall i wared yn ein llaw, i brynu llyniaeth: nis gwyddom pwy a osododd ein harian ni yn ein ffettanau.

23 Yntef a ddywedodd, heddwch iwch: nac ofnwch, eich Duw chwi, a Duw eich tâd, a roddes i chwi drysor yn eich sachau; daeth eich arian chwi attafi; ac efe a ddûg Simeon allan attynt hwy.

24 A'r gŵr a ddûg y dynion i dŷ Joseph, ac aPen. 18.4. & 24.32. roddes ddwfr, a hwy a olchasant eu traed, ac efe a roddes ebran iw hassynnod hwynt.

25 Hwythau a barottoesant eu hanrheg erbyn dyfod Joseph ar hanner dydd: o blegit clywsent mai yno y bwyttaent fara.

26 Pan ddaeth Joseph i'r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i'r tŷ, ac a ymgrymmasant iddo ef hyd lawr.

27 Yntef a ofynnodd iddynt am euHeb. heddwch. hiechyd, ac a ddywedodd,Heb. oes heddwch i'r. ai iach yr hen-wr eich tâd chwi, 'r hwn y soniasoch am danaw? a'i byw ef etto?

28 Hwythau a ddywedasant, iach yw dy wâs, ein tâd ni, byw yw efe etto: ŷna yr ym­grymmasant, ac yr ymostyngasant.

29 Yntef a dderchafodd ei lygaid, ac a ganfu ei frawd Benjamin, mâb ei fam ei hun, ac a ddy­wedodd; ai dyma eich brawd iangaf chwi, am yr hwn y dywedasoch wrthif fi? yna y dywe­dodd, Duw a roddo grâs i ti fy mâb.

30 A Joseph a fryssiodd (o blegit cynhessasei ei ymyscaroedd ef tu ag at ei frawd) ac a geisi­odd le i wylo, ac a aeth i mewn i'r ystafell, ac a wylodd yno.

31 Gwedi hynny efe a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac a ymattaliodd, ac a ddywe­dodd, gosodwch fara.

32 Hwythau a osodasant fwyd iddo ef wrtho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun, ac i'r Aiphtiaid y rhai oedd yn bwyta gyd ag ef wrth­ynt eu hunain: o blegid ni allei 'r Aiphtiaid fwytta bara gyd a'r Hebreaid: o herwydd ffieidd-dra oedd hynny gan yr Aiphti­aid.

33 Yna 'r eisteddasant ger ei fron ef, y cyn­tafanedic yn ol ei gyntafanedigaeth, a'r ieuan­gaf ar ol ei ieuenctyd: a rhyfeddodd y gwŷr bob vn wrth ei gilydd.

34 Yntef a gymmerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy: a mwy ydoedd saig Benjamin o bum rhan nâ seigiau 'r vno honynt oll: felly 'r yfasant ac y gwleddasant gyd ag ef.

PEN. XLIIII.

1 Dyfais Joseph i attal ei frodyr. 14 Vfydd ddei­syfiad Juda at Joseph.

AC efe a orchymynnodd i'r hwn oedd olygwr ar ei dŷ ef gan ddywedyd, llanw sachau y gwyr o fwyd, cymmaint ac a allant ei ddwyn, a dôd arian pob vn yngenau ei sach.

2 A dôd fynghwppan fy hun, sef y cwppan arian yngenau sach yr ieuangaf, gyd ag arian ei ŷd ef: yntef a wnaeth ar ôl gair Joseph, yr hwn a ddywedasei efe.

3 Y borau a oleuodd, a'r gwyr a ollyngwyd ymmaith, hwynt, a'i hassynnod.

4 Hwythau a aethant allan o'r ddinas, ac nid aethant nepell, pan ddywedodd Joseph wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ; cyfod, a dilyn ar ol y gwyr: a phan oddiweddech hwynt, dywed wrthynt, pa ham y talasoch ddrŵg am dda?

5 Onid dyma y cwppan yr yfei fy arglwydd ynddo, ac yr arferai ddewiniaeth wrtho? drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.

6 Yntef a'i goddiweddodd hwynt, ac a ddy­wedodd y geiriau hynny wrthynt hwy.

7 Y rhai a ddywedasant wrtho yntef, pa ham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na atto Duw i'th weision di wneuthur y cyfryw beth.

8 Wele, ni a ddygasom attat ti eilwaith o wlâd Canaan yr arian a gawsom yngenau ein sachau; pa fodd gan hynny y lladrattaem ni a­rian, neu aur o dŷ dy arglwydd di?

9 Yr hwn o'th weision di y ceffir y cwppan gyd ag ef, bydded hwnnw farw; a ninnau hefyd a fyddwn gaeth-weision i'm harglwydd.

10 Yntef a ddywedodd, Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir y cwppan gyd ag ef, a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddieuog.

11 Hwythau a frysiasant, ac a ddescynnasant bob vn ei sach i lawr, ac a agorasant bawb ei ffettan.

12 Yntef a chwiliodd: ar yr hynaf y dechreu­odd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd: a'r cwp­pan a gafwyd yn sach Benjamin.

13 Yna y rhwygasant eu dillad, ac a bynni­asant bawb ar ei assyn, ac a ddychwelasant i'r ddinas.

14 A daeth Juda a'i frodyr i dŷ Joseph, ac efe etto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef.

15 A dywedodd Joseph wrthynt, pa waith yw hwn a wnaethoch chwi? oni wyddech chwi y meidr gwr fel myfi ddewiniaeth.

16 A dywedodd Juda, pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhawn? cafodd Duw allan anwi­redd dy weision: wele ni yn weision i'm har­glwydd, ie nyni, a'r hwn y cafwyd y cwppan gyd ag ef hefyd.

17 Yntef a ddywedodd, na atto Duw i mi wneuthur hyn; y gŵr y cafwyd y cwppan yn ei law, efe fydd wâs i mi; ewch chwithau i fynu mewn heddwch at eich tâd.

18 Yna 'r aeth Juda atto ef, ac a ddywe­dodd, fy arglwydd, caffed attolwg dy wâs ddy­wedyd gair ynghlustiau fy arglwydd, ac nac enynned dy lid wrth dy wâs, o herwydd yr wyt ti megis Pharao.

19 Fy arglwydd a ymmofynnodd a'i weisi­on, gan ddywedyd; a oes i chwi dâd neu frawd?

20 Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, y mae i ni dâd yn henŵr, a phlentyn ei henaint [Page] ef, vn bychan: a'i frawd fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o'i fam ef; a'i dad sy hoff ganddo ef.

21 Tithe a ddywedaist wrth dy weision, dy­gwch ef i wared attaf fi fel y gosodwyf fy lly­gaid arno.

22 A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd, y llangc ni ddichon ymadel â'i dâd: o blegit os ymedy ef â'i dâd, marw fydd ei dâd.

23 Tithe a ddywedaist wrth dy weision,Pen. 43.3. oni ddaw eich brawd ieuangaf i wared gyd â chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy.

24 Bu hefyd wedi ein myned ni i fynu at dy was fy nhad, mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd:

25 A dywedodd ein tâd, ewch eilwaith, pry­nwch i ni ychydig lyniaeth.

26 Dywedasom ninneu, nis gallwn fyned i wared: os bydd ein brawd ieuangaf gyd â ni, ny­ni a awn i wared: o blegit ni allwn edrych yn wyneb y gŵr oni bydd ein brawd ieuangaf gyd â ni.

27 A dywedodd dy wâs fy nhâd wrthym ni; chwi a wyddoch mai dau a blantodd fyngwraig i mi:

28 Ac vn a aeth allan oddi wrthif fi, minneu a ddywedais,Pen. 37.33. yn ddiau gan larpio y llarpiwyd ef, ac nis gwelais ef hyd yn hyn.

29 Os cymmerwch hefyd hwn ymmaith o'm golwg, a digwyddo niweid iddo ef, yna y gwnewch i'm penllwydni ddescyn mewn gofid i fedd.

30 Bellach gan hynny pan ddelwyf at dy wâs fy nhâd, heb fod y llangc gyd â ni (gan fod ei hoedl ef ynglŷn wrth ei hoedd yntef,)

31 Yna pan welo ef na ddaeth y llangc, marw fydd efe, a'th weision a barant i benwynnedd dy was ein tâd ni ddescyn mewn gofid i fedd.

32 O blegid dy wâs aeth yn feichiau am y llangc i'm tâd, gan ddywedyd;Pen. 43.9. Onis dygaf ef attat ti, yna byddaf euog o fai yn erbyn fy nhâd byth.

33 Gan hynny weithian attolwg arhôsed dy wâs tros y llangc, yn wâs i'm harglwydd, ac aed y llangc i fynu gyd â'i frodyr.

34 O blegit pa fodd yr âf i fynu ar fy nhâd, a'r llangc heb fod gyd â mi: rhac i mi weled y gofid a gaiff fy nhâd.

PEN. XLV.

1 Joseph yn ei yspyssu ei hun iw frodyr, 5 yn eu cysuro hwynt a rhagluniaeth Duw, 9 Yn danfon am ei dâd. 16 Pharao yn sicrhau 'r peth. 21 Jo­seph yn ffwrneisio ei frodyr i'r darth, ac yn eu hannog hwynt i fod yn gytûn. 25 Jacob yn ym­lawenychu wrth y newyddion.

YNa Joseph ni allodd vmattal ger bron y rhai oll oedd yn sefyll gyd ag ef: ac efe a lefodd, perwch allan bawb oddi wrthif: yna nid arho­sodd neb gyd ag ef, pan ymgydnabu Joseph a'i frodyr.

2 Ac efe a godes ei lef mewn wylofain, a chly­bu 'r Aiphtiaid, a chlybu tŷ Pharao.

3 A Joseph a ddywedodd wrth ei frodvr,Act. 7.13. myfi yw Joseph, ai byw fy nhâd etto: a'i fro­dyr ni fedrent atteb iddo, o blegit brawychasent ger ei fron ef.

4 Joseph hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, dyneswch attolwg attafi, hwythau a ddynesa­sant: yntef a ddywedodd,Act. 7.13. myfi yw Joseph eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i'r Aipht.

5 Weithian gan hynny na thirstewch, ac naHebr. Na fy­dded dig yn eich llygaid. ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu o honoch fyfi ymma, o blegit i achub enioes yr hebryngodd Duw fyfi o'ch blaen chwi.

6 O blegit dymma ddwy flynedd o'r newyn o fewn y wlâd, ac fe a fydd etto bum mlhynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi.

7 APen. 50.20. Duw am hebryngodd i o'ch blaen chwi, iHebr. osod. gadw i chwi hiliogaeth yn y wlâd, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared.

8 Ac yr awr hon nid chwi a'm hebryngodd i ymma, onid Duw: ac efe a'm gwnaeth i yn dâd i Pharao, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aipht.

9 Bryssiwch, ac ewch i fynu at fy nhâd, a dywedwch wrtho, fel hyn y dywed dy fâb Jo­seph; Duw a'm gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aipht, tyred i wared attaf, nac oeda.

10 A chei drigo yngwlâd Gosen, a bod yn agos attafi, ti a'th feibion, a meibion dy feibion, a'th ddefaid, a'th warthec, a'r hyn oll sydd gen­nit.

11 Ac yno i'th borthaf (o blegit pum mlhy­nedd o newyn a fydd etto) rhac dy fyned mewn tlodi; ti a'th deulu, a'r hyn oll sydd gennit.

12 Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Benjamin yn gweled, mai fy-ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych.

13 Mynegwch hefvd i'm tâd, fy holl anrhy­dedd i yn yr Aipht, a'r hyn oll a welsoch: bryssi­wch hefyd, a dygwch fy nhâd i wared yma.

14 Ac efe a syrthiodd ar wddf ei frawd Ben­jamin, ac a wylodd; Benjamin hefyd a wylodd ar ei wddf yntef.

15 Ac efe a gussanodd ei holl frodyr, ac a wylodd arnynt: ac yn ol hynny ei frodyr a chwedleuasant ag ef.

16 A'r gair a ddaeth i dŷ Pharao, gan ddy­wedyd; brodyr Joseph a ddaethant: a da oedd hyn yngolwg Pharao, ac yngolwg ei weision.

17 A Pharao a ddywedodd wrth Joseph, dy­wed wrth dy frodyr, gwnewch hyn, llwythwch eich yscrubliaid, a cherddwch, ac ewch i wlâd Canaan.

18 A chymmerwch eich tâd, a'ch teuluoedd, a dewch attaf fi: a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aipht, a chewch fwytta braster y wlad.

19 Gorchymyn yn awr a gefaist, gwnewch hvn; cymmerwch i chwi o wlâd yr Aipht ger­bydau i'ch rhai bâch, ac i'ch gwragedd; a chymmerwch eich tâd, a deuwch.

20 Ac nac arbeded eich llygaid chwi ddim do­drefn; o blegit dâ holl wlâd yr Aipht fydd eiddo chwi.

21 A meibion Israel a wnaethant felly; a rho­ddodd Joseph iddynt hwy gerbydau yn olHeb geneu. gorchymyn Pharao: a rhodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd.

22 I bôb vn o honynt oll, y rhoddes bâr o ddillad: ond i Benjamin y rhoddes dry-chant o ddarnau arian, a phum pâr o ddillad.

23 Hefvd iw dad yr anfonodd fel hyn; dêc o assynnod ynHebr. cludo. llwthog o dda 'r Aipht, a dêc o assynnod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd iw dâd ar hyd y ffordd.

24 Yna y gollyngodd ymmaith ei frodyr, a hwy a aethant ymmaith: ac efe a ddvwedodd wrthynt hwy, nac ymrysonwch ar y ffordd.

25 Felly yr aethant i fynu o'r Aipht, ac a ddaethant i wlâd Canaan, at eu tâd Jacob:

26 Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd; y mae Joseph etto 'n fyw, ac y mae yn llywodrae­thu ar holl wlâd vr Aipht: yna y llescaodd ei galon yntef, o blegid nid oedd yn eu credu.

27 Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Jo­seph, [Page] y rhai a ddywedasei efe wrthynt hwy: a phan ganfu efe y cerbydau a anfonasei Joseph iw ddwyn ef, yna y bywiogodd yspryd Jacob eu tâd hwynt.

28 A dywedodd Israel, digon ydyw, y mae Joseph fy mâb etto 'n fyw: âf fel y gwelŵyf ef cyn fy marw.

PEN. XLVI.

1 Duw yn cyssuro Jacob yn Beerseba. 5 Efe a'i deulu yn mynd oddi yno i'r Aipht. 8 Rhifedi ei deulu ef y rhai a aeth i'r Aipht. 28 Joseph yn cyfarfod Jacob. 31 Mae ef yn dyscu in frodyr pa fodd yr attebaint Pharao.

YNa cychwynnodd Israel, a'r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beerseba, ac a aber­thodd ebyrth i Dduw ei dâd Isaac.

2 A llefarodd Duw wrth Israel mewn gwele­digaethau nôs, ac a ddywedodd, Jacob, Jacob: yntef a ddvwedodd, wele fi.

3 Ac efe a ddywedodd, myfi yw Duw, Duw dy dâd, nac ofna fyned i wared i'r Aipht; ca­nys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr.

4 Myfi af i wared gyd a thi i'r Aipht, a myfi gan ddwvn a'th ddygaf di i fvnu drachefn: Jo­seph hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di.

5 A chyfododd Jacob o Beerseba: a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tâd, a'i rhai bach, a'i gwragedd, yn y cerbydau a anfonasei Pharao iw ddwyn ef.

6 Cymmerasant hefyd eu hanifeiliaid, a'i go­lud a gasclasent vn nhîr Canaan, ac a ddaethant i'r Aipht,Josh. 24.4. Psal. 105.23. Esa. 52.4. Jacob, a'i holl hâd gyd ag ef.

7 Ei feibion, a meibion ei feibion gyd ag ef, ei ferched, a merched ei feibion, a'i holl hâd a ddug efe gyd ag ef i'r Aipht.

8 AcExod. 1.2. & 6.14.1. Cro. 5.1. Num. 26.5. dymma henwau plant Israel, y rhai a ddaethant i'r Aipht, Jacob a'i feibion, Reuben, cynfab Jacob.

9 A meibion Reuben, Hanoch, a Phalu, Hes­ron hefyd, a Charmi.

10 A meibion Simeon,Exod. 6.15.1. Cron. 4.24. Jemuel, a Jamin, ac Ohad, a Jachin, a Zohar, a Saul mâb Cananaees.

11 Meibion Lefi hefyd,1 Cron. 6.1. Gerson, Cohath a Merari,

12 A meibion Juda,1 Cron. 2.3. & 4.21. Pen. 38.8. Er, ac Onan, a Selah, Phares hefyd a Zarah: a buasei farw Er ac Onan yn nhir Canaan. A meibion Phares oedd Hesron, a Hamul.

13 Meibion Isacar hefyd;1 Cron. 7.1. Tola, a Phuah, a Job, a Simron.

14 A meibion Zabulon; Sered, ac Elon, a Jah­leel.

15 Dymma feibion Lea, y rhai a blantodd hi i Jacob ymPadan Aram. Mesopotamia, a Dina ei ferch: ei feibion, a'i ferched oeddynt oll, dri dŷn ar ddêc ar hugain.

16 A meibion Gad; Ziphion, a Haggi, Suni, ac Esbon, Eri, ac Arodi, ac Areli.

17 A meibion Aser;1 Cron. 7.30. Jimmah, ac Isinh, ac Isui, a Beriah, a Serah eu chwaer hwynt. A meibion Beriah; Heber, a Maichiel.

18 Dymma feibion Zilpha, yr hon a rodd Laban i Lea ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, sef vn dŷn ar bymthec.

19 Meibion Rahel, gwraig Jacob, oedd Joseph a Benjamin.

20 Ac i Joseph y ganwyd yn nhîr yr AiphtPen. 41.50. Ma­nasseh, ac Ephraim, y rhai a blantodd Asnath merch PotipherahTywysog. offeiriad On, iddo ef.

21 A meibion Benjamin;1 Cron. 7.6. & 8.1. Bela, a Becher, ac Asbel, Gera, a Naaman, Ehi, a Ros, Muppim, a Huppim, ac Ard.

22 Dymma feibion Rahel y rhai a blantodd hi i Jacob; yn bedwar dyn ar ddêc oll.

23 A meibion Dan oedd Husim.

24 A meibion Nephtali; Jahseel, a Guni, a Jeser, a Sillem.

25 Dymma feibion Bilha, yr hon a rodd La­ban i Rahel ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, yn saith nŷn oll.

26 YrExod. 1.5. Deut. 10.22. holl eneidiau y rhai a ddaethant gyd ag Jacob i'r Aipht, yn dyfod allan oiHebr. fordd­wyd. lwynau ef, heb law gwragedd meibion Jacob, oeddynt oll chwe enaid a thrugain.

27 A meibion Joseph y rhai a anwyd iddo ef yn yr Aipht oedd ddau enaid: holl eneidiau tŷ Jacob y rhai a ddaethant i'r Aipht oeddynt ddêc a thrugain.

28 Ac efe a anfonodd Juda o'i flaen at Joseph, i gyfarwyddo ei wyneb ef i Gosen: yna y dae­thant i dîr Gosen.

29 A Joseph a barottôdd ei gerbyd, ac a aeth i fynu i gyfarfod Israel ei dâd i Gosen, ac a yrn­ddangosodd iddo: ac efe a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a wylodd ar ei wddf ef ennyd.

30 A dywedodd Israel wrth Joseph, bvddwyf farw bellach, wedi i'm weled dy wyneb, gan dy fod ti yn fyw etto.

31 A dywedodd Joseph wrth ei frodyr, ac wrth deulu ei dâd, mi a âf i fynu, ac a fynegaf i Pharao, ac a ddywedaf wrtho, fy mrodyr a theulu fy nhad, y rhai oedd yn nhir Canaan a ddaethant attaf fi.

32 A'r gwyr, bugeiliaid defaid ydynt; canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a'i gwarthec, a'r hyn oll oedd ganddynt.

33 A phan alwo Pharao am danoch, a dywe­dyd, beth yw eich gwaith?

34 Dywedwch; dy weision fuant drin-wyr anifeiliaid, o'n hieuengctyd hyd yr awr hon; ny­ni a'n tadau hefyd; er mwyn cael o honoch dri­go yn nhir Gosen. Canys ffieidd-dra 'r Aiphti­aid yw pôb bugail defaid.

PEN. XLVII.

1 Joseph yn dwyn pump o'i frodyr, 7 ai Dâd gar bron Pharao. 11 Yntef yn rhoddi iddynt drigfa, a modd i fyw. 13 Mae ef yn cael holl arian yr Aiphtiaid, 16 a'i hanifeiliaid, 18 a'i tiroedd, i Pharao. 22 Ni phrynwyd mo dir yr offeiriaid. 23 Mae ef yn gosod y tir iddynt er y bumed ran. 28 Oedran Jacob. 29 Mae ef yn peri i Joseph dyngu y claddei efe ef gyd a'i da­dau.

YNa y daeth Joseph ac a fynegodd i Pharao; ac a ddywedodd; fy nhâd a'm brodyr, a'i defaid, a'i gwarthec, a'r hyn oll oedd ganddynt, a ddaethant o dir Canaan; ac wele hwynt yn nhîr Gosen.

2 Ac efe a gymmerth rai o'i frodyr, sef pum­nŷn, ac a'i gosododd hwynt o flaen Pharao.

3 A dywedold Pharao wrth ei frodyr ef, beth yw eich gwaith chwi? hwythau a ddyweda­sant wrth Pharao; bugeiliaid defaid yw dy wei­sion, nyni a'n tadau hefyd.

4 Dywedasant hefyd wrth Pharao, i orymdaith yn y wlâd y daethom, am nad oes borfa i'r defaid gan dy weision: canys trwm yw 'r newyn yng­wlad Canaan: ac yr awrhon attolwg caed dy weision drigo yn nhîr Gosen.

5 A llefarodd Pharao wrth Joseph, gan ddy­wedyd; dy dâd a'ch frôdyr a ddaethant at­tat.

6 Tir yr Aipht sydd o'th flaen: cyflea dy dâd a'th frodyr yn y man goreu yn y wlâd: trigant [Page] yn-nhîr Gosen: ac os gwyddost fod yn eu mysc wyr grymmus, gosod hwynt yn ben bugeiliaid ar yr eiddof fi.

7 A dûg Joseph Jacob ei dâd, ac a'i gosododd ger bron Pharao: a Jacob a fendithiodd Pharao.

8 A dywedodd Pharao wrth Jacob, pa feint yw dyddiau blynyddoedd dy enioes di?

9 A Jacob a ddywedodd wrth Pharao, dy­ddiau blynyddoeddHebr. 11.9, 13. fy ymdaith ydynt ddêc ar hugain, a chan mlynedd: ychydic, a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy enioes, ac ni chyrhe­ddasant ddyddiau blynyddoedd enioes fy nha­dau, yn nyddiau eu ymdaith hwynt.

10 A bendithiodd Jacob Pharao, ac a aeth allan o ŵydd Pharao.

11 A Joseph a gyfleodd ei dâd, a'i frodyr, ac a roddes iddynt feddiant yng-wlâd yr Aipht, ynghwrr goreu y wlâd, yn-nhirExod. 1.11. Rameses, fel y gorchymynnasei Pharao.

12 Joseph hefyd a gynhaliodd ei dâd, a'i frodyr, a holl dŷlwyth ei dâd, â bara,Neu, fel bwydo plentyn. yn ôl eu teuluoedd.

13 Ac nid oedd bara yn yr holl wlâd: canys y newyn oedd drwm iawn, fel yr oedd gwlâd yr Aipht, a gwlâd Canaan, yn dyddfu gan y new­yn.

14 Joseph hefyd a gasclodd yr holl arian a gawsid yn-nhîr yr Aipht, ac yn-nhîr Canaan, am yr ymborth a brynasent hwy: a Joseph a ddûg yr arian i dŷ Pharao.

15 Pan ddarfu yr arian yn-nhir yr Aipht, ac yng-wlad Canaan, yr holl Aiphtiaid a ddaethant at Joseph, gan ddywedyd; moes i ni fara, ca­nys pam y byddem ni feirw ger dy fron? o herwydd darfu yr arian.

16 A dywedodd Joseph, moeswch eich anifei­liaid; a rhoddaf i chwi am eich hanifeiliaid, os darfu 'r arian.

17 A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Jo­seph; a rhoddes Joseph iddynt fara, am y meirch, ac am eu diadelloedd defaid; ac am eu gyrroedd gwarthec, ac am yr assynnod; ac a'iHeb. [...]wysodd cynhaliodd hwynt â bara, am eu holl anifei­liaid tros y flwyddyn honno.

18 A phan ddarfu y flwyddyn honno, y dae­thant atto ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddar­fod yr arian, a myned ein yscrubliaid a'n hani­feiliaid at fy arglwydd: ni adawyd i ni ger bron fy arglwydd, onid ein cyrph, a'n tîr.

19 Pa ham y byddwn feirw o flaen dy ly­gaid, nyni a'n tîr? pryn ni a'n tîr am fara, a nyni a'n tîr a fyddwn gaethion i Pharao: dôd tithe i ni hâd fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac na byddo y tîr yn anghyfannedd.

20 A Joseph a brynodd holl dîr yr Aipht i Pharao: canys yr Aiphtiaid a werthasant bôb vn ei faes: oblegit y newyn a gryfhasei arnynt: felly yr aeth y tîr i Pharao.

21 Y bobl hefyd, efe a'i symmudodd hwynt i ddinasoedd, o'r naill gwrr i derfyn yr Aipht, hyd ei chwrr arall.

22 Yn vnic tîr yrNeu, tywysogi­on. offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i'r offeiriaid wedi ei phen­nu iddynt gan Pharao, a'i rhan a roddasei Pha­rao iddynt a fwyttasant hwy: am hynny ni werthasant hwy eu tîr.

23 Dywedodd Joseph hefyd wrth y bobl, wele prynais chwi heddyw, a'ch tîr i Pharao: wele i chwi hâd, heuwch chwithau y tîr.

24 A bydded i chwi roddi i Pharao y bummed ran o'r cnŵd, a bydd y pedair rhan i chwi, yn hâd i'r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i'r rhai sydd yn eich tai, ac yn fwyd i'ch rhai bach.

25 A dywedasant, cedwaist ni yn fyw: gâd i ni gael ffafor yngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharao.

26 A Joseph a osododd hynny yn ddeddf hyd heddyw ar dîr yr Aipht, gael o Pharao y bummed ran, onid o dir yrTywyso­gion. offeiriaid yn vnic, yr hwn nid oedd eiddo Pharao.

27 Trigodd Israel hefyd yngwlad yr Aipht o fewn tîr Gosen, ac a gawsant feddiannau ynddi: cynyddasant hefyd, ac amlhasant yn ddirfawr.

28 Jacob hefyd a fu fyw yn nhîr yr Aipht ddwy flynedd ar bymthec: felly 'r oedd dyddi­au Jacob, sef blynyddoedd ei enioes ef yn saith mlynedd a deugain, a chan mlhynedd.

29 A dyddiau Israel a nesasant i farw, ac efe a alwodd am ei fab Joseph, ac a ddywedodd wrth­o, o chefais yn awr ffafor yn dy olwg,Gen. 24.2. gosod attolwg dy law tan fy morddwyd, a gwna â mi drugaredd a gwirionedd: na chladd fi at­tolwg yn yr Aipht.

30 Eithr mi a orweddaf gyd â'm tadau, yna dŵg fi allan o'r Aipht, a chladd fi yn eu beddrod hwynt; yntef a ddywedodd, mi a wnaf yn ol dy air.

31 Ac efe a ddywedodd, twng wrthif, ac efe a dyngodd wrtho. YnaHeb. 11.21. Israel a ymgrym­modd ar ben y gwely.

PEN. XLVIII.

1 Joseph a'i ddau fab yn ymweled a'i dâd yn ei glefyd. 2 Jacob yn ymgryfhau iw bendithio hwy. 3 Yn adrodd yr addewid, 5 yn cymmeryd Eph­raim a Manasseh yn eiddo ei hun. 7 Yn crybwyll wrtho am fedd ei fam. 9 Yn bendithio Ephraim a Manasseh. 17 Yn gosod yr iangaf o flaen yr hynaf. 21 Yn prophwydo am eu dychweliad hwy i Canaan.

A Bu wedi y petheu hyn, ddywedyd o vn wrth Joseph, wele y mae dy dâd yn glâf: ac efe a gymmerth eu ddau fâb gyd ag ef, Manasseh ac Ephraim.

2 A mynegodd vn i Jacob, ac a ddywedodd, wele dy fâb Joseph yn dyfod attat: ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd ar y gwely.

3 A dywedodd Jacob wrth Joseph,Pen. 28.13.35.6. Duw holl alluawg a ymddangosodd i mi yn Luz, yngwlad Canaan, ac a'm bendithiodd.

4 Dywedodd hefyd wrthif, wele mi a'th wnâf yn ffrwythlon, ac a'th amlhaf, ac yn dyrfa o bobloedd i'th wnâf, a rhoddaf y tîr hwn i'th hâd ti, ar dy ol di, yn etifeddiaeth dragywyddol.

5 Ac yr awrhon, dy ddau fâb,Pen. 41.50. Jos. 13 7 y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aipht, cyn fy nyfod attat i'r Aipht, eiddo fi fyddant hwy Ephraim, a Manasseh fyddant eiddo fi, fel Reuben a Simeon.

6 A'th heppil y rhai a genhedlych ar eu hôl hwynt fyddant eiddo ti dy hun; ar enw eu bro­dyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth.

7 A phanPen. 35.19. ddaethym i oPadan Aram. Mesopotamia, bu Rahel farw gyd â mi yn nhîr Canaan, ar y ffordd, pan oedd etto filldir o dîr hyd Ephrath: a chleddais hi yno ar ffordd Ephrath, honno yw Bethlehem.

8 A gwelodd Israel feibion Joseph, ac a ddy­wedodd, pwy yw y rhai hyn?

9 A Joseph a ddywedodd wrth ei dâd, dyma fy meibion i, a rodd Duw i mi yma: yntef a ddy­wedodd, dwg hwynt attolwg attafi, ac mi a'i bendithiaf hwynt.

10 Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint fel na allei efe weled: ac efe a'i dy­godd [Page] hwynt atto ef, yntef a'i cusanodd hwynt, ac a'i cofleidiodd.

11 Dywedodd Israel hefyd wrth Joseph, ni feddyliais weled dy wyneb, etto wele, parodd Duw i'm weled dy hâd hefyd.

12 A Joseph a'i tynnodd hwynt allan oddi­wrth ei liniau ef, ac a ymgrymmodd i lawr ar ei wyneb.

13 Cymmerodd Joseph hefyd hwynt ill dau, Ephraim yn ei law ddehau tua llaw asswy Isra­el, a Manasseh yn ei law asswy, tua llaw dde­hau Israel; ac a'i nesaodd hwynt atto ef.

14 Ac Israel a estyn [...]d ei law ddehau ac a'i gosododd ar ben Ephraim, (a hwn oedd yr ieuan­gaf) a'i law asswy ar ben Manasseh: gan gyfar­wyddo ei ddwylaw trwy wybod, canys Manas­seh oedd y cynfab.

15Heb. 11.21. Ac efe a fendithiodd Joseph ac a ddy­wedodd, Duw yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham, ac Isaac, ger ei fron; Duw yr hwn a'm porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,

16 Yr angel yr hwn a'm gwaredodd i oddi­wrth bôb drwg, a fendithio y llangciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau, Abraham, ac Isaac a alwer arnynt: heigiant hefyd yn lliaws yng­hanol y wlâd.

17 Pan welodd Joseph osod o'i dâd ei law ddehau ar ben Ephraim, bu anfodlon ganddo: ac efe a ddaliodd law ei dâd, iw symmud hi oddi ar ben Ephraim, ar ben Manasseh.

18 Dywedodd Joseph hefyd wrth ei dâd, nid felly fy nhâd: canys dymma y cynfab: gosot dy law ddehau ar ei ben ef.

19 A'i dâd a ommeddodd, ac a ddywedodd, mi a wn fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd: ond yn wir ei frawd iangaf fydd mwy nag ef, a'i hâd ef fydd yn lliaws o genhedloedd.

20 Ac efe a'i bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd; ynot ti y bendithia Is­rael, gan ddywedyd; gwnaed Duw di fel Eph­raim, ac fel Manasseh: ac efe a ossododd Eph­raim o flaen Manasseh.

21 Dywedodd Israel hefyd wrth Joseph, wele fi yn marw: a bydd Duw gyd â chwi, ac efe a'ch dychwel chwi i dîr eich tadau.

22 Ac mi a roddais i ti vn rhan goruwch dy frodyr, yr hon a ddygais o law 'r Amoriaid â'm cleddyf, ac â'm bŵa.

PEN. XLIX.

1 Jacob yn galw ei feibion i'w bendithio. 3 Ben­dith pob vn o honynt. 29 Mae ef yn rhoddi siars arnynt ynghylch ei gladdedigaeth. 33 ac yn marw.

YNa y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddy­wedodd; ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi 'r hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diweddaf.

2 Ymgesclwch, a chlywch meibion Jacob: ie gwrandewch ar Israel eich tâd.

3 Reuben fynghynfab, tydi oedd fyngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rha­goriaeth cryfder.

4 Ansafadwy oeddit fel dwfr,Heb. na rago­ra. ni ragori di, canysPen. 35.22. 1. Cron. 5, 1. dringaist wely dy dâd: yna yr halogaist ef: fyngwely a ddringodd.

5 Simeon a Lefi sydd frodyr, Neu, Arfau, trawsder yw eu cleddyfau. offer creulon­deb sydd yn eu hanneddau.

6 Na ddeled fy enaid iw cyfrinach hwynt: fyngogoniant na fydd ûn a'i cynnulleidfa hwynt: canys yn eu dîg y lladdasant ŵr, ac o'i gwirfodd yNeu, diwyllia­sant ych­en. diwreiddiasant gaer.

7 Melldigedic fyddo eu dîg, canys tôst oedd; a'i llid, canys creulon fu: rhannaf hwynt yn Ja­cob, a gwascaraf hwynt yn Israel.

8 Tithe Juda, dy frodyr a'th glodforant di: dy law fydd yngwarr dy elynion, meibion dy dâd a ymgrymmant i ti.

9 Cenew llew wyt ti Juda: o'r ysclyfaeth y daethost i fynu fy mâb: ymgrymmodd, gor­weddodd fel llew, ac fel hên lew: pwy a'i cyfyd ef?

10 Nid ymedy y deyrn-wialen o Juda, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Silo: ac atto ef y bydd cynnulliad pobloedd:

11 Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei assyn wrth y bêr win-wydden: golch­odd ei wisc mewn gwîn, a'i ddillad yngwaed y grawn-wîn.

12 Côch fydd ei lygaid gan wîn, a gwyn fydd ei ddannedd gan laeth.

13 Zabulon a bresswylia ym mhorthleoedd y môr, ac efe a fydd yn borthladd llongau, a'i derfyn fydd hyd Sidon.

14 Issachar sydd assyn ascyrnoc, yn gorwedd rhwng dau bwn.

15 Ac a wel lonyddwch mai da yw, a'r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth tan deyrnged.

16 Dan a farn ei bobl fel vn o lwythau Israel.

17 Dan fydd sarph ar y ffordd, aHeb. saeth nei­dr. neidr ar y llwybr, yn brathu sodlau y march, fel y syr­thio ei farchog yn ôl.

18 Am dy iechydwriaeth di y disgwiliais Ar­glwydd.

19 Gad, llu a'i gorfydd, ac yntef a orfydd o'r diwedd.

20 O Asser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddaintethion brenhinol.

21 Nephthali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau têg.

22 Joseph fydd gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon,Heb. merched. ceingciau yn cerdded ar hyd mûr.

23 A'r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a'i casasant ef.

24 Er hynny arhôdd ei fwa ef yn gryf, a brei­chiau ei ddwylo a gryfnasant, trwy ddwylo grymmus Dduw Jacob: oddi yno y mae'r bu­gail, maen Israel.

25 Trwy Dduw dy dâd, yr hwn a'th gyn­northwya, a'r holl-alluoc, yr hwn a'th fendithia, a bendithion y nefoedd oddi vchod, a bendithi­on y dyfnder yn gorweid issod, a bendithion y bronnau a'r grôth.

26 Rhagorodd bendithion dy dâd ar fendithi­on fy rhieni hyd derfyn bryniau tragywyddol­deb: byddant ar ben Joseph, ac ar goryn yr hwn a nailltuwyd oddi wrth ei frodyr.

27 Benjamin a sclyfaetha fel blaidd; y boreu y bwytty yr ysclyfaeth, a'r hwyr y rhan yr yspail.

28 Dymma ddeuddec llwyth Israel oll, ac dymma 'r hyn a lefarodd eu tâd wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pôb yn yn ol ei fendith y bendithiodd efe hwynt.

29 Yna y gorchymynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, myfi a gesclir at fy mhobl:Pen. 47.30. cleddwch fi gyd a'm tadau, yn yr ogof sydd ym maes Ephron yr Hethiad;

30 Yn yr ogof sydd ym maesPen. 23.16. Machpela, yr hon sydd o flaen Mamre, yngwlad Canaan, yr hon a brynodd Abraham gyd a'r maes gan Eph­ron yr Hethiad, yn feddiant beddrod.

31 Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig: [Page] yno y claddasant Isaac a Rebecca ei wraig: ac yno y cleddais i Lea.

32 Meddiant y maes a'r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth.

33 Pan orphennodd Jacob orchymmyn i'w feibion, efe a dynnodd ei draed i'r gwely, ac a fu farw, a chasglwyd ef at ei bôbl.

PEN. L.

1 Arwyl Jacob. 4 Joseph yn cael cennad gan Pharao i fyned iw gladdu ef. 7 Y claddedigaeth. 15 Joseph yn cyssuro ei frodyr, y rhai oedd yn gofyn ei nawdd ef. 22 Ei oedran. 23 Mae ef yn gweled y drydydd genhedlaeth o'i feibion, 24 Yn darogan iw frodyr eu dychweliad, 25 Yn cymmeryd llw ganthynt am ei escyrn. 26 Yn marw ac yn cael ei roddi mewn arch.

YNa y syrthiodd Joseph ar wyneb ei dâd, ac a wylodd arno ef, ac a'i cusanodd ef.

2 Gorchymynnodd Joseph hefyd i'w weision y meddygon bêr-arogli ei dâd ef: felly y me­ddygon a bêr-aroglasant Israel.

3 Pan gyflawnwyd iddo ddeugain nhiwrnod (canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a bêr-aroglir,) yna 'r Aiphtiaid a'i harwylasant ef ddeng-nhiwrnod a thrugain.

4 Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Joseph wrth deulu Pharao, gan ddy­wedyd; os cefais yr awr hon ffafor yn eich golwg, lleferwch wrth Pharao attolwg, gan ddy­wedyd,

5 Fy nhâdPen. 47.29. a'm tyngodd, gan ddywedyd, wele fi yn marw: yn fy medd yr hwn a glodd­iais i'm yngwlad Canaan, yno i'm cleddi: ac yr awr hon caffwyf fyned i fynu attolwg, fel y claddwyf fy nhâd, yna mi a ddychwelaf.

6 A dvwedodd Pharao, dos i fynu, a chladd dy dâd, fel i'th dyngodd.

7 A Joseph aeth i fynu i gladdu ei dâd: a holl weision Pharao, sef henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlâd yr Aipht, a aethant i fynu gyd ag ef.

8 A holl dŷ Joseph, a'i frodyr, a thŷ ei dâd: eu rhai bach yn vnic, a'i defaid, a'i gwarthec a adawsant yn nhir Gosen.

9 Ac aeth i fynu gyd ag ef gerbydau a gwyr meirch hefyd: ac yr oedd yn llu mawr iawn.

10 A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad, yr hwn sydd tros yr Jorddonen, ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm iawn: canys gwnaeth alar dros ei dâd saith niwrnod.

11 Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlâd, y galar yn llawr dyrnu Atad: yna y dywedasant, dymma alar trwm gan yr Aiphtiaid: am hynny y galwasant ei henw,Sef, ga­lar yr Alphtiaid. Abel Misraim, yr hwn sydd tros yr Jorddonen.

12 A'i feibion a wnaethant iddo, megis y gorchymynnasei efe iddynt.

13Act. 7.16. Canys ei feibion a'i dygasant ef i wlâd Canaan, ac a'i claddasant ef yn ogof maes Mach­pela,Pen. 23.16. yr hon a brynasei Abraham gyd a'r maes, yn feddiant beddrod, gan Ephron yr Hethiad, o flaen Mamre.

14 A dychwelodd Joseph i'r Aipht, efe, a'i frodyr, a'r rhai oll a aethant i fynu gyd ag ef i gladddu ei dâd, wedi iddo gladdu ei dâd.

15 Pan welodd brodyr Joseph farw o'i tâd, hwy a ddywedasant, Joseph ond odid a'n cassâ ni, a chan dalu a dâl i ni'r holl ddrwg a wnae­thom ni iddo ef.

16 A hwy aHeb. A yrra­sant or­chymyn. anfonasant at Joseph i ddywe­dyd: dy dâd a orchymynnodd o flaen ei farw, gan ddywedyd,

17 Fel hyn y dywedwch wrth Joseph; atto­lwg maddeu 'r awr hon gamwedd dy frodyr, a'i pechod hwynt: canys gwnaethant it ddrwg: ond yr awr hon, maddeu attolwg gamwedd gweision Duw dy dâd: ac wylodd Joseph pan lefarasant wrtho.

18 A'i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthia­sant ger ei fron ef, ac a ddywedasant, wele ni 'n weision i ti.

19 A dywedodd Joseph wrthynt,Pen. 45.5. nac of­nwch, canys a ydwyf i yn lle Duw?

20 Chwi a fwriadasech ddrwg i'm herbyn, ond Duw a'i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben fel y gwelir heddyw, i gadw 'n fyw bobl lawer.

21 Am hynny nac ofnwch yr awr hon: myfi a'ch cynhaliaf chwi a'ch rhai bach: ac efe a'i cys­surodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.

22 A Joseph a drigodd yn yr Aipht, efe, a theu­lu ei dâd: a bu Joseph fyw gan mlhynedd a dêg.

23Num. 32.39. Gwelodd Joseph hefyd o Ephraim orwy­rion: maethwyd hefyd plant Machir fâb Ma­nasseh ar liniau Joseph.

24 A dywedodd Joseph wrth ei frodyr, myfi sydd yn marw: aHebr. 11.22. Duw gan ymweled a ym­wel â chwi, ac a'ch dŵc chwi i fynu o'r wlâd hon, i'r wlâd a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.

25 AExod. 13.19. thyngodd Joseph feibion Israel gan ddywedyd, Duw gan eich gofwyo a'ch gofwya chwi: dygwch chwithau fy escyrn i fynu oddi ymma.

26 A Joseph a fu farw yn fâb deng-mlwydd a chant: a hwy a'i pêr-aroglasant ef, ac fe a osodwyd mewn arch yn yr Aipht.

¶AIL LLYFR MOSES YR HWN a elwir Exodus.

PEN. I.

1 Plant Israel ar ol marwolaeth Joseph yn aml­hau. 8 Po mwyaf y mae y brenhin newydd yn ei gorthrymmu, mwyaf y maent yn amlhau. 15 Du­wioldeb y bydwragedd yn cadw yn fyw y plant gwryw. 22 Pharao yn gorchymmyn bwrw y plant gwryw i'r afon.

DYmma yn awr henwauGene. 46.8. Pen. 6.14. meibion Is­rael, y rhai a ddaethant i r Aipht: gyd ag Jacob y daethant, bôb vn a'i deulu.

2 Reuben, Simeon, Lefi, a Juda.

3 Isachar, Zabulon, a Benjamin.

4 Dan a Nepthali, Gad, ac Afer.

5 A'r holl eneidiau a ddaethant allan oNeu, lwynau, Heb, for­ddwyd. gorph Jacob oeddGen. 47.29. ddeng- [...]id a thri-ugain: a Joseph oedd yn yr Aipht.

6 A Joseph a fu farw, a'i holl frodyr,Deut. 10. 22. a'r holl genhedlaeth honno.

7 AAct. 7.17▪ phlant Israel a hiliasant ac a gynnydda­sant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odieth: a'r wlâd a lanwyd o honynt.

8 Yna v cyfododd brenin newydd yn yr Aipht; yr hwn ni adnabuasei mo Joseph.

9 Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl; wele bobl plant Israel yn amlach ac yn gryfach nâ nyni.

10 Deuwch, gwnawn yn gall â hwynt, rhac amlhau o honynt; a bod pan ddigwyddo rhy­fel, ymgyssylltu o honynt â'n caseion, a rhyfela i'n herbyn, a myned i fynu o'r wlâd.

11 Am hynny y gosodasant arnynt feistred [Page] gwaith iw gorthrymmu â'i beichiau: a hwy a adailadasant i Pharao ddinasoedd tryssorau, sef Pithom a Raamses.

12 Ond fel y gorthrymment hwynt, felly 'r amlhaent, ac y cynnyddent: a drwg oedd gan­ddynt o herwydd plant Israel.

13 A'r Aiphtiaid a wnaeth i blant Israel wa­sanaethu yn galed.

14 A gwnaethant eu henioes hwynt yn chwerw, drwy y gwasanaeth caled mewn clai, ac mewn priddfain, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes: a'i holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo, oedd galed.

15 A brenin yr Aipht a lefarodd wrth fyd­wragedd yr Hebræesau: o ba rai henw vn oedd Siphra, a henw 'r ail Puah.

16 Ac efe a ddywedodd, pan fyddoch fyd­wragedd i'r Hebræesau, a gweled o honoch hwynt yn escor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw.

17 Er hynny y byd-wragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ol yr hyn a ddywe­dasei brenin yr Aipht wrthynt: eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.

18 Am hynny brenin yr Aipht a alwodd am y byd-wragedd, ac a ddywedodd wrthynt, pa ham y gwnaethoch y peth hyn? ac y cadwa­soch y bechgyn yn fyw?

19 A'r byd-wragedd a ddywedasant wrth Pharao, am nad yw yr Hebræesau fel yr Aiph­tiesau: oblegit y maent hwy yn fywioc, ac yn escor cyn dyfod byd-wraig attynt.

20 A'm hynny y bu Duw dda wrth y byd-wragedd: a'r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.

21 Ac o herwydd i'r byd-wragedd ofni Duw, yntef a wnaeth dai iddynt hwythau.

22 A Pharao a orchymynnodd iw holl bobl, gan ddywedyd; pôb mâb a'r a enir, bwriwch ef i'r afon, ond cedwch yn fyw bôb merch.

PEN. II.

1 Geni Moses, 3 a'i fwrw mewn cawell yn yr hesc. 5 Merch Pharao yn ei gael ef, ac yn ei ddwyn i fynu. 11 Efe yn lladd Aipht-wr. 13 Yn ceryddu Hebrewr. 15 Yn ffo i Midian. 21 Yn priodi Sephora. 22 Ganedigaeth Gershon. 23 Duw yn ystyried vchenaid yr Israeliaid.

YNaPen. 6.20. Num. 26.59. gŵr o dŷ Lefi aeth, ac a briododd ferch i Lefi.

2 A'r wraig a feichiogodd, ac a escorodd ar fâb:Act. 7.20. Hebr. 11.23. a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, hi a'i cuddiodd ef dri mis.

3 A phan na allei hi ei guddio ef yn hwy, hi a gymmerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phŷg; ac a oso­dodd y bachgen ynddo, ac a'i rhoddodd ymmysc yr hesc a'r fin yr afon.

4 Ai chwaer ef a safodd o bell; i gael gwybod beth a wneid iddo ef.

5 A merch Pharao a ddaeth i wared i'r afon i ymolchi, (a'i llangcesau oedd yn rhodio ger llaw 'r afon:) a hi a ganfu y cawell ynghanol yr hesc, ac a anfonodd ei llaw-forwyn iw gyrchu ef.

6 Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu y bachgen, ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, vn o blant yr Hebre­aid yw hwn.

7 Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth serch Pharao, a âfi i alw attat famaeth o'r Hebræesau, fel y mago hi y bachgen i ti?

8 A merch Pharao a ddywedodd wrthi, dôs: a'r llangces a aeth ac a alwodd fam y bachgen.

9 A dywedodd merch Pharao wrthi, dŵg ym­maith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a min­neu a roddaf i ti dy gyflog: a'r wraig a gym­merodd y bachgen ac a'i magodd.

10 Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a'i dug ef i ferch Pharao, ac efe a fu iddi yn fab; a hi a alwodd ei enw efSef, vn adynnu yd llan. Moses, o herwydd (ebr hi) o'r dwfr y tynnais ef.

11 A bu yn y dyddiau hynny pan aeth Mo­ses yn fawr, fyned o honaw allan at ei frodyr, ac edrych ar ei beichiau hwynt,Act. 7.24. a gweled Aiphtwr yn taro Hebre-wr vn o'i frodyr.

12 Ac efe a edrychodd ymma ac accw, a phan welodd nad oedd yno neb; efe a laddodd yr Aiphtiad, ac a'i cuddiodd yn y tywod.

13 Ac efe a aeth allan yr ail dydd, ac wele ddau Hebre-wr yn ymryson: ac efe a ddywe­dodd wrth yr hwn oedd ar y cam, pa ham y tarewi dy gyfaill?

14 A dywedodd yntef, pwy a'th osododd di yn bennaeth, ac yn frawd-wr arnom ni? ai me­ddwl yr wyti fy lladd i megis y lleddaist yr Aiph­tiad? A Moses a ofnodd, ac a ddywedodd, diau y gwyddir y peth hyn.

15 Pan glybu Pharao y peth hyn, efe a gei­siodd ladd Moses: ond Moses a ffoawdd rhac Pharao, ac a arhosodd yn-nhir Midian, ac a eisteddodd wrth bydew.

16 Ac iDywy­sog. offeiriad Midian yr ydoedd saith merched: a'r rhai hynny a ddaethant, ac a dyn­nasant ddwfr, ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhau defaid eu tâd.

17 Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a'i gyr­rasant ymmaith: yna y cododd Moses, ac a'i cynnorthwyodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt.

18 Yna y daethant at Reuel eu tad: ac efe a ddywedodd, pa ham y daethoch heddyw cyn gynted?

19 A hwy a ddywedasant, Aiphtwr a'n hachu­bodd ni o law y bugeiliaid; a chan dynnu a dyn­nodd ddwfr hefyd i ni, ac a ddyfrhaodd y praidd.

20 Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched, pa le y mae efe? pa ham y gollyngasoch ymmaith y gŵr? gelwch arno, a bwytaed fara.

21 A bu Moses fodlon i drigo gyd a'r gwr: ac yntef a roddodd Sephora ei ferch i Moses.

22 A hi a escorodd ar fab, ac efe a alwoddPen. 18.3. ei enw ef Gershom; o herwydd dieithr (ebr ef) a fum i mewn gwlad ddieithr.

23 Ac yn ôl dyddiau lawer bu farw brenin yr Aipht, a phlant Israel a vcheneidiasant oblegid y câethiwed, ac a waeddasant, a'i gwaedd hwynt a dderchafodd at Dduw, o blegid y caethiwed.

24 A Duw a glybu eu huchenaid hwynt: a Duw a gofiodd eiGene. 15.14. & 46.4. gyfammod ag Abraham, ag Isaac, ac ag Jacob.

25 A Duw a edrychodd ar blant Israel: Duw hefyd a gydnabu â hwynt..

PEN. III.

1 Moses yn bugeilio defaid Jethro. 2 Duw yn ymddangos iddo mewn perth yn llosci. 9 Ac yn ei anfon ef i waredu Israel. 14 Henw Duw. 15 Ei gennadwriaeth ef at Israel.

A Moses oedd yn bugeilio defaid Jethro ei chwegrwn offeiriad Midian; ac efe a yr­rodd y praidd o'r tu cefn i'r anialwch ac a ddaeth i fynydd Duw, Horeb.

2 Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewnAct. 7.3. fflam dân o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn llosci yn dân,; a'r berth heb ei difa.

3 A dywedodd Moses, mi a droaf yn awr ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon; pa ham nad yw y berth wedi llosgi.

4 Pan welodd yr Arglwydd ei fôd efe yn troi i edrych; Duw a alwodd arno o ganol y berth ac a ddywedodd Moses, Moses: a dywedodd yntef, wele fi.

5 Ac efe a ddywedodd na nessa ymma,Jos. 5.15. Act. 7.33. diosc dy escidiau oddi am dy draed, o herwydd y lle'r wyti yn sefyll arno sydd ddaiar sanctaidd.

6 Ac efe a ddywedodd,Mat. 21.31. act. 7.32. myfi yw Duw dy dâd, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb, o blegid ofni 'r ydoedd edrych ar Dduw.

7 A dywedodd yr Arglwydd, gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aipht, a'i gwaedd o achos eu meistred gwaith, a glywais; canys mi a wn oddiwrth eu doluriau.

8 Ac mi a ddescynnais iw gwaredu hwy o law 'r Aiphtiaid, ac iw dwyn o'r wlad honno, i wlad dda, a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i lê y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd a'r Jebusiaid.

9 Ac yn awr wele, gwaedd meibion Israel a dda­eth attafi; a hefyd mi a welais y gorthrymder, â'r hwn y gorthrymmodd yr Aiphtiaid hwynt.

10 Tyred gan hynny yn awr, a mi a'th an­fonaf at Pharao, fel y dygech fy mhobl, plant Israel allan o'r Aipht.

11 A dywedodd Moses wrth Dduw, pwy ydwyfi fel yr awn i at Pharao, ac y dygwn blant Israel allan o'r Aipht?

12 Dywedodd yntef, diau y byddaf gyd â thi; a hyn a fydd arwydd it mai myfi a'th anfon­odd: wedi it ddwyn fy mhobl allan o'r Aipht, chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn.

13 A dywedodd Moses wrth Dduw, wele pan ddelwyfi at feibion Israel a dywedyd wrth­ynt, Duw eich tadau a'm hanfonodd attoch; os dywedant wrthif, beth yn ei enw ef? beth a ddywedafi wrthynt?

14 A Duw a ddywedodd wrth Moses, Ydwyf yr hwn ydwyf: dywedodd hefyd, fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel, Ydwyf am hanfon­nodd attoch.

15 A Duw a ddywedodd drachefn wrth Moses, fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob a'm hanfonodd attoch: dymma fy enw byth, a dymma fynghoffad­wriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.

16 Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Ab­raham, Isaac, ac Jacob a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd; gan ymweled yr ymwelais a chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aipht.

17 A dywedais, mi a'ch dygaf chwi i fynu o adfyd yr Aipht i wlad y Canaaneaid, a'r Hethi­aid, a'r Amoriaid, a'r Phereziaid; yr Hefiaid he­fyd a'r Jebusiaid: i wlad yn llifeirio o laeth a mêl.

18 A hwy a wrandawant ar dy lais, a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenin yr Aipht, a dywedwch wrtho, Arglwydd Dduw yr Hebre­aid a gyfarfu a ni; ac yn awr gad i ni fyned attolwg daith tri diwrnod i'r anialwch, fel yr aberthom i'r Arglwydd ein Duw.

19 A mi a wn na edy brenin yr Aipht i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn.

20 Am hynny mi a estynnaf fy llaw, ac a da­rawaf yr Aipht â'm holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a'ch gollwng chwi ymmaith.

21 A rhoddaf hawddgarwch i'r bobl hyn yngolwg yr Aiphtiaid: a bydd pan eloch nad eloch yn wâg-law:

22Pen. 11.2. & 12.35. Ond pob gwraig a fenthygia gan ei chymydoges, a chan yr hon fyddo yn cyttal â hiDlysau, ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwiscoedd: a chwi a'i gosodwch hwynt am eich meibion, ac am eich merched, ac a yspeiliwch yrNeu, Aipht. Aiphtiaid.

PEN. IIII.

1 Troi gwialen Moses yn Sarph. 6 Ei law ef yn gwahan-glwyfo. 10 Ef yn anwyllyscar iw an­fon. 14 Apwyntio Aaron iw helpu ef. 18 Moses yn ymmadel oddiwrth Jethro. 21 Cen­nadwriaeth Duw at Pharao. 24 Sephora yn en­waedu ar ei mab. 27 Danfon Aaron i gyfarfod a Moses. 31 Y bobl yn credu iddynt.

A Moses a attebodd, ac a ddywedodd, etto wele ni chredant i mi ac ni wrandawant ar fy llais: onid dywedant, nid ymddangosodd yr Arglwydd i ti.

2 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, beth sydd yn dy law? dywedodd yntef, gwialen.

3 Ac efe a ddywedodd, tafl hi ar y ddaiar; ac efe a'i taflodd hi ar y ddaiar, a hi aeth yn sarph, a Moses a giliodd rhacddi.

4 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, estyn dy law ac ymafel yn ei lloscwrn hi: ac efe a estynnodd ei law ac a ymaflodd ynddi, a hi aeth yn wialen yn ei law ef:

5 Fel y credant ymddangos i ti o Arglwydd Dduw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.

6 A dywedodd yr Arglwydd wrtho drachefn, dôd yn awr dy law yn dy fonwes, ac efe a rodd­odd ei law yn ei fonwes: a phan dynnodd ef hi allan, wele ei law ef yn wahanglwyfol fel yr eira.

7 Ac efe a ddywedodd, dôd eil-waith dy law yn dy fonwes; ac efe a roddodd eil-waith ei law yn ei fonwes, ac a'i tynnodd hi allan o'i fonwes, ac wele hi a droesai fel ei gnawd arall ef.

8 A bydd oni chredant i ti, ac oni wrandaw­ant ar lais yr arwydd cyntaf, etto y credant i lais yr ail arwydd.

9 A bydd oni chredant hefyd i'r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymme­ri o ddwfr yr afon ac a'i tywellti ar y sych-dir:Heb. Bydd a bydd. a bydd y dyfroeddd a gymmerech o'r afon yn waed ar y tîr sych.

10 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, o fy Arglwydd, ni bum ŵr ymadroddus,Heb. na doe nac echdoe. na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy wâs; eithr safn-drwm a thafod-trwm ydwyf.

11 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, pwy a wnaeth enau i ddŷn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu 'r neb sy'n gweled, neu 'r dall? ond myfi 'r Arglwydd?

12 Am hynny dôs yn awr, a mi aMatth. 10.19. Marc. 13.11. Luc. 12.11. fyddaf gyd a'th enau, ac a ddyscaf i ti yr hyn a ddywedych.

13 Dywedodd yntef, o fy Arglwydd, danfon attolwg gyd â 'r hwn a ddanfonych.

14 Ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn er­byn Moses, ac efe a ddywedodd, ond dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y meidr ef lefaru yn groyw; ac wele efe yn dyfod allan i'th gyfar­fod, a phan i'th welo, efe a lawenycha yn ei galon.

15 Llefara dithe wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minne a fyddaf gyd â'th enau di, a chyd â'i enau yntef, a dyscaf i chwi 'r hyn a wneloch.

16 A llefared yntef trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti,Pen. 7.2. a thithe a fyddi yn lle Duw iddo yntef.

17 Cymmer hefyd y wialen hon yn dy law, yr hon y gwnei wrthiau â hi.

18 A Moses aeth ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, gad i mi fy­ned attolwg a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aipht, a gweled a ydynt etto yn fyw: a dy­wedodd Jethro wrth Moses, dos mewn heddwch.

19 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses ym Midian, dôs dychwel i'r Aipht; o herwydd bu feirw yr holl wyr oedd yn ceisio dy enioes.

20 A Moses a gymmerth ei wraig, a'i feibion, ac a'i gosododd hwynt arassyn, ac a ddychwe­lodd i wlad yr Aipht: cymmerodd Moses hefyd wialen Duw yn ei law.

21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, pan elych i ddychwelyd i'r Aipht, gwel it wneu­thur ger bron Pharao yr holl ryfeddodau a rodd­ais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymmaith y bobl.

22 A dywed wrth Pharao; fel hyn y dywe­dodd yr Arglwydd, fy mâb i sef fyng-hyntaf­anedic yw Israel.

23 A dywedais wrthit, gollwng fy mab fel i'm gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele mi a laddaf dy fâb di, sef dy gyntaf-anedic.

24 A bu ar y ffordd yn y llettŷ, gyfarfod o'r Arglwydd ag ef, a cheisio ei lâdd ef.

25 Ond Sephora a gymmerthNeu, garreg. gyllell lem, ac a dorrodd ddienwaediad ei mâb, ac a'i bw­riodd i gyffwrdd â'i draed ef; ac a ddywedodd, diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi.

26 A 'r Arglwydd a beidiodd ag ef: yna y dywedodd hi, priod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.

27 A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, dôs i gyfarfod â Moses i'r anialwch: ac efe aeth ac a gyfarfu ag ef ym mynydd Duw, ac a'i cu­sanodd ef.

28 A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau 'r Arglwydd, yr hwn a'i hanfonasei ef; a'r holl arwyddion a orchymynnasei efe iddo.

29 A Moses ac Aaron a aethant, ac a gynnull­asant holl henuriaid meibion Israel.

30 Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefa­rasei 'r Arglwydd wrth Moses; ac a wnaeth yr arwyddion yngolwg y bobl.

31 A chredodd y bobl: a phan glywsant ym­weled o'r Arglwydd a meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrym­masant, ac a addolasant.

PEN. V.

1 Pharao yn rhoddi sen i Moses ac Aaron am eu cennadwriaeth, 5 Yn chwanegu tasc yr Israeli­aid, 15 Yn eu ceryddu hwynt am eu achwynion. 21 Hwythau yn llefain yn erbyn Moses ac Aaron. 22 Moses yn cwyno wrth Dduw.

AC wedi hynny Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharao; fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, gollwng ymmaith fy mhobl, fel y cadwant ŵyl i mi yn yr anialwch.

2 A dywedodd Pharao, pwy yw 'r Arglwydd fel y gwrandawn i ar ei lais, i ollwng Israel ym­maith? yr Arglwydd nid adwen, ac Israel ni ollyngaf.

3 A dywedasant hwythau,Pen. 3.18. Duw 'r Hebreaid a gyfarfu â ni: gad i ni fyned, attolwg, daith tri­diau yn yr anialwch, ac aberthu i'r Arglwydd ein Duw, rhac iddo ein rhuthro â haint neu â chleddyf.

4 A dywedodd brenin yr Aipht wrthynt, Moses ac Aaron, pa ham y perwch i'r bobl beidio a'i gwaith? ewch at eich beichiau.

5 Pharao hefyd a ddywedodd, wele pobl y wlad yn awr ydynt lawer; a pharasoch iddynt beidio â'i llwythau.

6 A gorchymynnodd Pharao y dydd hwn­nw i'r rhai oedd feistred gwaith ar y bobl, a'i swyddogion, gan ddywedyd;

7 Na roddwch mwyach wellt i'r bobl i wneu­thur pridd-feini megis o'r blaen; elont a chas­clant wellt iddynt eu hunain.

8 A rhifedi y pridd-feini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o'r blaen a roddwch ar­nynt, na leihewch o hynny: canys segur yd­ynt, am hynny y maent yn gweiddi, gan ddy­wedyd, gâd i ni fyned ac aberthu i'n Duw.

9 Trymhaer y gwaith ar y gwŷr, a gweithi­ant ynddo, fel nad edrychant am eiriau ofer.

10 A meistred gwaith y bobl, a'i swyddogion a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl, gan ddywedyd, fel hyn y dywed Pharao, ni roddaf wellt i chwi.

11 Ewch chwi a cheisiwch iwch wellt lle y caffoch, er hynny ni leiheir dim o'ch gwaith.

12 A'r bobl a ymwascarodd trwy holl wlad yr Aipht, i gasclu sofl yn lle gwellt.

13 A'r meistred gwaith oedd yn ei pryssuro, gan ddywedyd; gorphennwch eich gwaith, dogn dydd yn ei dydd, megis pan oedd gwellt.

14 A churwyd swyddogion meibion Israel, y rhai a osodasei meistred gwaith Pharao ar­nynt hwy: a dywedpwyd, pa ham na orphen­nasoch eich tâsc ar wneuthur pridd-feini ddoe a heddyw, megis cyn hynny?

15 Yna swyddogion meibion Israel a ddae­thant, ac a lefasant ar Pharao, gan ddywedyd; pa ham y gwnei fel hyn a'th weision?

16 Gwellt ni roddir i'th weision, a gwnewch bridd-feini i ni, meddant: ac wele dy weision a gurwyd, a'th bobl di dy hun sydd ar y bai.

17 Ac efe a ddywedodd, segur, segur ydych; am hynny 'r ydych chwi yn dywedyd, gâd i ni fyned ac aberthu i'r Arglwydd.

18 Am hynny ewch yn awr, gweithiwch; ac ni roddir gwellt i chwi: etto chwi a roddwch yr vn cyfrif o'r pridd-feini.

19 A swyddogion meibion Israel a'i gwelent eu hun mewn lle drwg, pan ddywedid, na lei­hewch ddim o'ch pridd-feini, dogn dydd yn ei ddydd.

20 A chyfarfuant a Moses ac Aaron yn sefyll ar eu ffordd: pan oeddynt yn dyfod allan oddi wrth Pharao.

21 A dywedasant wrthynt, edryched yr Ar­glwydd arnoch chwi, a barned, am i chwi beri i'n sawyr ni ddrewi ger bron Pharao, a cher bron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i'n llâdd ni.

22 A dychwelodd Moses at yr Arglwydd, ac a ddywedodd: ô Arglwydd pa ham y dry­gaist y bobl hyn? i ba beth i'm hanfonaist?

23 Canys er pan ddaethum at Pharao i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hyn: a chan waredu ni waredaist dy bobl.

PEN. VI.

1 Duw yn adnewyddu ei addewid trwy ei henw JEHOVAH. 14 Achan Reuben, 15 Si­meon, 16 a Levi, o'r hwn y daeth Moses ac Aaron.

YNa y dywedodd 'r Arglwydd wrth Moses, yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharao: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyrr efe hwynt o'i wlad.

2 Duw hefyd a lefarodd wrth Moses: ac a ddywedodd wrtho, myfi yw Jehosa.

3 A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob tan enw Duw Hollalluog: onid erbyn fy enw Jehofa ni bum adnabyddus iddynt.

4 Hefyd mi a sicrheais fy nghyfammod â hwynt am roddi iddynt wlâd Canaan, sef gwlâd eu hymdaith, yr hon yr ymdeithiasant ynddi.

5 A mi a glywais hefyd vchenaid plant Israel, y rhai y mae 'r Aiphtiaid yn eu caethiwo: a cho­fiais fynghyfammod.

6 Am hynny dywed wrth feibion Israel, my­fi yw yr Arglwydd, ac myfi a'ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Aiphtiaid, ac a'ch rhydd-hâf o'i caethiwed hwynt: ac a'ch gware­daf â braich estynnedic, ac â barnedigaethau mawrion.

7 Hefyd mi a'ch cymmeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn Dduw i chwi: a chewch wybod mai myfi yw 'r Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau 'r Aiphtiaid.

8 A mi a'ch dygaf chwi i'r wlâd, am yr hon yHeb. Codais fy llaw. tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob: ac mi a'i rhoddaf i chwi yn etifeddi­aeth: myfi yw yr Arglwydd.

9 A Moses a lefarodd felly wrth feibion Isra­el: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyng­dra yspryd, a chan gaethiwed caled.

10 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd;

11 Dos i mewn, dywed wrth Pharao brenin yr Aipht, am iddo ollwng meibion Israel allan o'i wlâd.

12 A Moses a lefarodd ger bron yr Arglwydd, gan ddywedyd; wele plant Israel ni wrandaw­sant arnafi, a pha fodd i'm gwrandawei Pharao, a minne yn ddienwaededic o wefusau.

13 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at fei­bion Israel, ac at Pharao brenin yr Aipht; i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aipht.

14 Dymma eu pencenedl hwynt:Gen. 46.9. 1 Cron. 5.3. meibion Reuben y cyntaf-anedic i Israel, Henoch a Phalu, Hesron a Charmi; dymma deuluoedd Reuben.

151 Cron. 4.24. A meibion Simeon, Jemuel, a Jamin; Ohad, a Jachin, Sohar hefyd a Saul mâb y Ga­naanites: dymma deuluoedd Simeon.

16 Dymma hefyd henwauNum. 3.17. 1 Cron. 6.1. meibion Lefi yn ôl eu cenhedlaethau, Gerson, Cohath hefyd a Merari: a blynyddoed oes Lefi oedd gant, ac onid tair blynedd deugain.

17 Meibion Gerson, Libni, a Simi, yn ôl eu teuluoedd.

18Num. 26.57. 1 Cron. 6.1. A meibion Cohath, Amram, ac Izhar, Hebron hefyd, ac Vzziel: a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddêc ar hugain, a chan mihynedd.

19 Meibion Merail oedd Mahali, a Musi; dym­ma deuluoedd Lefi yn ôl eu cenhedlaethau.

20Pen. 2.2. Num. 26. [...]9. Ac Amram a gymmerodd Jochebed, ei fod­ryb chwaer ei dâd, yn wraig iddo, a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Am­ram, oedd onid tair deugain a chan mlhynedd.

21 A meibion Izhar, Corah, a Nepheg, a Sichri.

22 A meibion Vzziel; Misael, ac Llzaphan, a Zithri.

23 Ac Aaron a gymmerodd Elizebah merch Aminadab chwaer Nabason, yn wraig iddo: a hi a ymddûg iddo Nadab, ac Abihu, Eleazar ac Ithamar.

24 Meibion Corah hefyd Assir, ac Eleanah, ac Abiasaph: dymma deuluoedd y Corahiaid.

25 Ac Eleazar mâb Aaron a gymmerodd yn wraig iddo vn o ferched Putiel, aNum. 25.7. hi a ymddûg iddo ef Phineas: dymma bennau cenedl y Le­fiaid, yn ôl eu teuluoedd.

26 Dymma Aaron a Moses; y rhai y dywe­dodd yr Arglwydd wrthynt, dygwch feibion I­srael allan o wlâd yr Aipht, yn ol eu lluoedd.

27 Dymma y rhai a lefarasant wrth Pharao brenin yr Aipht, am ddwyn meibion Israel allan o'r Aipht: Dymma Moses, ac Aaron hwnnw.

28 A bu at y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses yn nhir yr Aipht,

29 Lefaru o'r Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd, myfi yw 'r Arglwydd; dywed wrth Pharao brenin yr Aipht yr hyn oll yr ydwyfi yn ei ddywedyd withit.

30 A dywedodd Moses ger bron yr Ar­glwydd; wele fi yn ddienwaededic o wefusau, a pha fodd y gwrendy Pharao arnaf?

PEN. VII.

1 Duw yn rhoi calon ym Moses i fyned at Pha­rao. 7 Ei oedran ef. 8 Ei wialen ef yn troi yn sarph. 11 Yr hudolion yn gwneuthur y cyffelyb. 13 Ca­ledu calon Pharao. 14 Cennadwriaeth Duw at Pharao. 19 Troi 'r afon yn waed.

A'R Arglwydd a ddywedodd wrth [...] gwel, mi a'th wneuthum yn Dduw i Pha­rao; ac Aaron dy frawd fydd yn brophwyd i tithe.

2 Ti a leferi yr hyn oll a orchymynnwyf it: ac Aaron dy frawd a lefara wrth Pharao ar iddo ollwng meibion Israel ymaith o'i wlâd.

3 A minneu a galedaf galon Pharao; ac a amlhaf fy arwyddion a'm rhyfeddodau yng­wlad yr Aipht.

4 Ond ni wrendy Pharao arnoch; yna y rhoddaf fy llaw ar yr Aipht; ac y dygaf allan fy lluoedd, fy mhobl, meibion Israel o wlâd yr Aipht, trwy farnedigaethau mawrion.

5 A'r Aiphtiaid a gant wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan estynnwyf fy llaw ar yr Aipht; a dwyn meibion Israel allan o'i mysc hwynt.

6 A gwnaeth Moses ac Aaron fel y gorchy­mynnodd yr Arglwydd iddynt, ie felly y gw­naethant.

7 A Moses ydoedd fâb pedwar vgain mlwydd, ac Aaron yn fâb taIr blwydd a phedwar vgain, pan lefarasant wrth Pharao.

8 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac Aaron, gan ddywedyd;

9 Pan lefaro Pharao wrthych, gan ddywedyd, dangoswch gennych wrthiau; yna y dywedi wrth Aaron, cymmer dy wialen, a bwrw hi ger bron Pharao, a hi â yn sarph.

10 A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharao, ac a wnaethant felly, megis y gorchy­mynnasei 'r Arglwydd: ac Aaron a fwriodd ei wialen ger bron Pharao, a cher bron ei weision, a hi aeth yn sarph.

11 A Pharao hefyd a alwodd am y doethion, a'r hudolion: a hwyntau hefyd sef swynwyr yr Aipht a wnaethant felly drwy eu swynion.

12 Canys bwriasant bob vn ei wialen, a hwy a aethant yn seirph: ond gwialen Aaron a lyng­codd eu gwiall hwynt.

13 A chalon Pharao a galedodd, fel na wran­dawei arnynt hwy, megis y llefarasei yr Ar­glwydd.

14 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, caledodd calon Pharao: gwrthododd ollwng y bobl ymaith.

15 Dos at Pharao yn foreu, wele efe a ddaw allan i'r dwfr, saf dithe ar lan yr afon erbyn ei ddyfod ef: a chymmer yn dy law y wialen a drôdd yn sarph.

16 A dywed wrtho ef, Arglwydd Dduw yr Hebræaid a'm anfonodd attat, i ddywedyd, gollwng ymmaith fy mhobl fel i'm gwasan­aethont yn yr anialwch: ac wele hyd yn hyn ni wrandewit.

17 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, wrth hyn y cei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: wele myfi â'r wialen sydd yn fy llaw a dara­waf y dyfroedd sydd yn yr afon, fel y troer hwynt yn waed.

18 A'r pysc sydd yn yr afon a fyddant feirw, a'r afon a ddrewa; a bydd blin gan yr Aiphtiaid yfed dwfr o'r afon.

19 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, dywed wrth Aaron, cymmer dy wialen, ac estyn dy law ar ddyfroedd yr Aipht, ar eu ffrydau, ar eu hafonydd, ac ar eu pylau, ac ar eu hollHeb. gascliad eu dyfro­edd. lynnau dyfroedd, fel y byddont yn waed: a bydd gwaed drwy holl wlâd yr Aipht, yn eu llestri coed a cherrig hefyd.

20 A Moses ac Aaron a wnaethant fel y gor­chymynnodd yr Arglwydd, ac efe aPen. 17.5. gododd ei wialen ac a darawodd y dyfroedd y rhai oe­ddynt yn yr afon yngwydd Pharao, ac yngwydd ei weision:Psal. 78.44. a'r holl ddyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon a drowyd yn waed.

21 A'r pyscod y rhai oeddynt yn yr afon a fuant feirw, a'r afon a ddrewodd, ac ni allei yr Aiphtiaid yfed dwfr o'r afon: a gwaed oedd trwy holl wlâd yr Aipht.

22Doeth. 17.7. A swyn-wyr yr Aipht a wnaethant y cyffelyb drwy eu swynion: a chaledodd calon Pharao, ac ni wrandawodd arnynt, megis y lle­farasei 'r Arglwydd.

23 A Pharao a drôodd ac a aeth iw dŷ, ac ni osododd hyn at ei galon.

24 A'r holl Aiphtiaid a gloddiasant oddi amgylch yr afon am ddwfr iw yfed: canys ni allent yfed o ddwir yr afon.

25 A chyflawnwyd saith o ddyddiau, wedi i'r Arglwydd daro 'r afon.

PEN. VIII.

1 Danfon llyffaint. 8 Pharao yn ymbil a Moses. 12 A Moses trwy weddi yn eu tynnu hwy ym­aith.16 Troi 'r llwch yn llau, yr hyn ni allei y swynwyr ei wneuthur. 20 Yr heidiau ednog. 25 Pharao yn lled-foddlon i'r bobl i fyned. 32 Etto efe a galedir.

A Dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, dôs at Pharao; a dywed wrtho, fel hyn y dy­wed yr Arglwydd, gollwng ymmaith fy mhobl fel i'm gwasanaethont.

2 Ac os gwrthodi eu gollwng: wele, mi a darawaf dy holl derfynau di â llyffaint.

3 A'r afon a heigia lyffaint, y rhai a ddring­ant, ac a ddeuant i'th dŷ, ac i stafell dy orweddle, ac ar dy wely; ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i'th ffyrnau ac ar dyGafnau tylino, neu does. fwyd gwedill.

4 A'r llyffaint a ddringant arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dy holl weision.

5 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, dywet wrth Aaron, estyn dy law a'th wialen ar y ffrydiau, ar yr afonydd, ac ar y llyn­noedd, a gwna i lyffaint ddyfod i fynu ar hyd tîr yr Aipht.

6 Ac Aaron a estynnodd ei law ar ddyfroedd yr Aipht; a'r llyffaint a ddaethant i fynu, ac a orchguddiasant dîr yr Aipht.

7Doeth. 17.7. A'r swyn-wyr a wnaethant yr vn modd drwy eu swynion; ac a ddygasant i fynu ly­ffaint ar wlad yr Aipht.

8 Yna Pharao a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, gweddiwch ar yr Arglwydd ar iddo dynnu y llyffaint ymaith oddi wrthifi, ac oddi wrth fy mhobl; a mi a ollyngaf ym­maith y bobl fel yr aberthont i'r Arglwydd.

9 A Moses a ddywedodd wrth Pharao, cym­mer ogoniant arnafi:Neu, erbyn pa bryd. pa amser y gweddiaf trosot, a thros dy weision, a thros dy bobl, amHebr. dorri y­maith. ddifa y llyffaint oddi wrthit, ac o'th dai; a'i gadel yn vnic yn yr afon?

10 Ac efe a ddywedodd,Neu, erbyn y feru. y foru: a dywedodd yntef yn ol dy air y bydd, fel y gwypech nad oes neb fel yr Arglwydd ein Duw ni.

11 A'r llyffaint a ymadawant â thi, ac a'th dai, ac â'th weision, ac â'th bobl: yn vnic yn yr afon y gadewir hwynt.

12 A Moses ac Aaron a aethant allan oddi wrth Pharao: A Moses a lefodd ar yr Arglwydd o achos y llyffaint y rhai a ddygasei efe ar Pharao.

13 A'r Arglwydd a wnaeth yn ol gair Moses: a'r llyffaint a fuant feirw o'r tai, o'r pentrefydd, ac o'r meusydd.

14 A chasclasant hwynt yn bentyrrau; fel y drewodd y wlad.

15 Pan welodd Pharao fod seibiant iddo, efe a galedodd ei galon, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasei 'r Arglwydd.

16 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, dywed wrth Aaron, estyn dy wialen, a tharo lwch y ddaiar; fel y byddo yn llau trwy holl wlad yr Aipht.

17 Ac felly y gwnaethant: canys Aaron a estynnodd ei law a'i wialen, ac a darawodd lwch y ddaiar, ac efe aeth yn llau ar ddyn, ac ar ani­fail: holl lwch y tîr oedd yn llau drwy holl wlad yr Aipht.

18 A'r swynwyr a wnaethant felly drwy eu swynion i ddwyn llau allan, ond ni allasant: felly y bu y llau ar ddŷn, ac ar anifail.

19 Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharao, bŷs Duw yw hyn: a chaledwyd calon Pharao, ac ni wrandawei arnynt, megis y llefa­rasei 'r Arglwydd.

20 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, cyfot yn foreu, a safger bron Pharao, wele efe a ddaw allan i'r dwfr: yna dywed wrtho, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, gollwng ymmaith fy mhobl fel i'm gwasanaothont.

21 O herwydd os ti ni ollyngi fy mhobl, wele fi yn gollwng arnat ti, ac ar dy weision, ac ar dy bobl, ac i'th daiHeldi [...] o ednog. gymmysc-bla: a thai 'r Aiphtiaid a lenwir o'r gymmysc-bla, a'r ddaiar hefyd yr hon y maent arni.

22 A'r dydd hwnnw y nailldua fi wlâd Go­sen, yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo y gymmysc-bla yno: fel y gwypech mai myfi yw 'r Arglwydd ynghanol y ddaiar.

23 A mi a osodafHeb. ymwared wahan rhwng fy mhobl i a'th bobl di:Neu, er­byn y fo­ru. y foru y bydd yr arwydd hwn.

24 A'r Arglwydd a wnaeth felly:Doeth. 16.9. a daeth cymmysc-bla drom i dŷ Pharao, ac i dai ei wei­sion, ac i holl wlâd yr Aipht: a llygrwyd y wlâd gan y gymmysc-bla.

25 A Pharao a alwodd am Moses, ac Aaron; ac a ddywedodd, ewch, aberthwch i'ch Duw yn y wlâd.

26 A dywedodd Moses, nid cymmwys gw­neuthur felly; o blegit nyni a aberthwn i'r Ar­glwydd ein Duw ffieidd-beth yr Aiphtiaid: we­le [Page] os aberthwn ffieidd-beth yr Aiphtiaid yng­wydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni?

27 Taith tri diau 'r awn i'r anialwch, ac ny­ni a aberthwn i'r Arglwydd ein Duw,Pen. 2.18. megis y dywedo efe wrthym ni.

28 A dywedodd Pharao, mi a'ch gollyngaf chwi fel yr aberthoch i'r Arglwydd eich Duw yn yr anialwch, ond nac ewch ym mhell: gweddiwch trosofi.

29 A dywedodd Moses, wele myfi a âf allan oddi wrthit, ac a weddiaf ar yr Arglwydd ar gilio y gymmysc-bla oddi wrth Pharao, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl y foru: ond na thwylled Pharao mwyach, heb ollwng ymmaith y bobl i aberthu i'r Arglwydd.

30 A Moses aeth allan oddi wrth Pharao; ac a weddiodd ar yr Arglwydd.

31 A gwnaeth yr Arglwydd yn ôl gair Moses: a'r gymmysc-bla a dynnodd efe ymmaith oddi wrth Pharao, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl: ni adawyd vn.

32 A Pharao a galedodd ei galon y waith honno hefyd; ac ni ollyngodd ymmaith y bobl.

PEN. IX.

1 Haint ar anifeiliaid. 8 Plâ y cornwydydd lli­norog. 13 Cennadwriaeth Moses ynghylch y cen­llysc. 22 Plâ y cenllysc. 27 Pharao yn ymbil â Moses, 35 ac er hynny efe a galedir.

YNa y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, dôs i mewn at Pharao; a llefara wr [...]o ef, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebræ­aid, gollwng ymmaith fy mhobl, fel i'm gwa­sanaethont.

2 O blegit os gwrthodi eu gollwng hwy ym­maith, ac attal o honot hwynt etto;

3 Wele, llaw 'r Arglwydd fydd ar dy ani­feiliaid, y rhai sydd yn y maes: ar feirch, ar assynnod, ar gamelod, ar y gwarthec, ac ar y defaid; y daw haint trwm iawn.

4 A'r Arglwydd a nailltua rhwng anifeili­aid Israel, ac anifeiliaid yr Aiphtiaid: fel na byddo marw dim o gwbl ar sydd eiddo meibion Israel.

5 A gosododd yr Arglwydd amser nodedic, gan ddywedyd; y foru y gwna 'r Arglwydd y peth hyn yn y wlad.

6 A'r Arglwydd a wnaeth y peth hynny drannoeth: a bu feirw holl anifeiliaid yr Aiph­tiaid: ond o anifeiliaid meibion Israel, ni bu farw vn.

7 A Pharao a anfonodd, ac wele ni buasei farw vn o anifeiliaid Israel: a chalon Pharao a galedwyd, ac ni ollyngodd y bobl.

8 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, cymmerwch iwch loneid eich llaw o ludw ffwrn, a thaned Moses ef tua 'r nefoedd yngŵydd Pharao:

9 Ac efe fydd yn llŵch ar holl dîr yr Aipht: ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd lli­noroc, trwy holl wlad yr Aipht.

10 A hwy a gymmerasant ludw 'r ffwrn, ac a safasant ger bron Pharao: a Moses a'i tanodd tua 'r nefoedd; ac efe aeth yn gomwyd lli­norog ar ddŷn ac ar anifail.

11 A'r swyn-wyr ni allent sefyll ger bron Moses gan y cornwyd: o blegit yr oedd y corn­wyd ar y swyn-wyr, ac ar yr holl Aiphtiaid.

12 A'r Arglwydd a galedodd galon Pharao fel na wrandawei arnynt; megis yPen. 4.21. llefarasei yr Arglwydd wrth Moses.

13 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, cyfod yn foreu, a saf ger bron Pharao; a dywed wrtho, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw 'r Hebræaid, gollwng fy mhobl, fel i'm gwasa­naethont.

14 Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blaau ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaiar.

15 O herwydd yn awr mi a estynnaf fy llaw, ac a'th darawaf di a'th bobl, â haint y nodau: a thi a dorrir ymaith oddiar y ddaiar.

16 Ac yn ddiauRuf. 9.17. er mwyn hyn i'th gyfo­dais di, i ddangosynot. it fy nerth; ac fel y myne­ger fy enw trwy 'r holl ddaiar.

17 A wyt ti yn ymdderchafu ar fy mhobl etto, heb eu gollwng hwynt ymmaith?

18 Wele mi a lawiaf ynghylch yr amser yma y foru genllysc trymion iawn; y rhai ni bu eu bâth yn yr Aipht o'r dydd y sylfaenwyd hi hyd yr awr hon.

19 Anfon gan hynny yn awr, cascl dy ani­feiliaid, a phôb dim ar y sydd it yn y maes: pôb dŷn, ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis dyger i dŷ, y descyn y cenllysc arnynt, a byddant feirw.

20 Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharao, a yrrodd ei weision a'i anifei­liaid i dai.

21 A'r hwnHeb. Ni oso­dodd ei galon [...]. nid ystyriodd air yr Arglwydd, a adawodd ei weision, a'i anifeiliaid yn y maes.

22 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Mo­ses, estyn dy law tua 'r nefoedd, fel y byddo cenllysc yn holl wlad yr Aipht, ar ddŷn ac ar anifail, ac ar holl lyssiau y maes, o fewn tîr yr Aipht.

23 A Moses a estynnodd ei wialen tua 'r nefoedd; a'r Arglwydd a roddodd daranau a chenllysc, a'r tân a gerddodd ar hyd y ddaiar, a chafododd yr Arglwydd genllysc ar dîr yr Aipht.

24 Felly 'r ydoedd cenllysc, a thân yn ym­gymeryd ynghanol y cenllysc, yn flin iawn: yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aipht, er pan ydoedd yn genhedlaeth.

25 A'r cenllysc a gurodd drwy holl wlad yr Aipht gwbl ar oedd yn y maes, yn ddyn, ac yn anifail: y cenllysc hefyd a gurodd holl lys­sieu y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes.

26 Yn vnic yngwlad Gosen yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi, nid oedd dim cenllysc.

27 A Pharao a anfonodd, ac a alwodd ar Mo­ses, ac Aaron, ac a ddywedodd wrthynt, pechais y waith hon; yr Arglwydd sydd gyfiawn, a minneu a'm pobl yn annuwiol.

28 Gweddiwch ar yr Arglwydd, (canys digon yw hyn) na byddo taranau Duw na chenllysc, ac mi a'ch gollyngaf, ac ni arhoswch yn hwy.

29 A dywedodd Moses wrtho, pan elwyf allan o'r ddinas, mi a ledaf fy nwylaw at yr Ar­glwydd, a'r taranau a beidiant, a'r cenllysc ni bydd mwy:Psal. 24.1. fel y gwypych mai 'r Arglwydd piau 'r ddaiar.

30 Ond mi a wn nad wyt ti etto, na'th wei­sion yn ofni wyneb yr Arglwydd Dduw.

31 A'r llîn, a'r haidd a gurwyd: canys yr haidd oedd wedi hedeg, a'r llîn wedi hadu.

32 A'r gwenith a'r rhŷg ni churwyd: o herwyddHeb. cuddiedig neu dy­wyll. diweddar oeddynt hwy.

33 A Moses a aeth oddi wrth Pharao allan o'r ddinas, ac a ledodd ei ddwylo at yr Arglwydd; a'r taranau a'r cenllysc a beidiasant, ac ni thy­walltwyd glaw ar y ddaiar.

34 A phan welodd Pharao beidio o'r glaw, a'r cenllysc, a'r taranau, efe a chwanegodd be­chu; ac a galedodd ei galon, efe a'i weision.

35 A chaledwyd calon Pharao, ac ni ollyng­ei efe feibion Israel ymmaith, megis y llefarasei 'r Arglwydd trwy law Moses.

PEN. X.

1 Duw yn bygwth anfon Locustiaid. 7 Pharao ar ddeisyfiad ei weision yn lled-foddlon i'r Is­raeliaid i fyned ymaith. 12 Plâ y Locustiad. 16 Pharao yn ymbil â Moses. 21 Plâ y tywyllwch anferthol. 24 Pharao yn ymbil â Moses, 27 et­to efe a galon-galedir.

A Dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, dos at Pharao; o herwŷdd mi aPen. 4.21. galedais ei galon ef, a chalon ei weision, fel y dangoswn fy arwyddion hyn yn ei wydd ef:

2 Ac fel y mynegit wrth dy fâb a mâb dy fab, yr hyn a wneuthum yn yr Aipht, a'm ha­rwyddion a wneuthum yn eu plith hwynt: ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

3 A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharao, a dywedasant wrtho, fel hyn y dywedodd Ar­glwydd Dduw 'r Hebreaid, pa hŷd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymmaith fy mhobl fel i'm gwasanaethont.

4 O herwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl; wele, y foru y dygafDoeth. 16.9. locustiaid i'th frô.

5 A hwynt hwy a orchguddiantHeb. lygad. wyneb y ddaiar, fel na allo un weled y ddaiar: a hwy a yssant y gweddill, a adawyd i chwi yn ddi­angol gan y cenllysc; difant hefyd bôb pren, a fyddo yn blaguro iwch yn y maes.

6 Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai 'r holl Aiphtiaid, y rhai ni we­lodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaiar hyd y dydd hwn. Yna efe a drôdd, ac aeth allan oddi wrth Pharao.

7 A gweision Pharao a ddywedasant wrtho, pa hŷd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ym­maith y gwŷr, fel y gwasanaethont yr Arglwydd eu Duw: oni wyddosti etto ddifetha 'r Aipht?

8 A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharao: ac efe a ddywedodd wrthynt, ewch, gwasanae­thwch yr Arglwydd eich Duw: ond Heb. pwy a phwy. pa rai sy 'n myned?

9 A Moses a ddywedodd, a'n llangciau, ac a'n henafgwŷr yr awn ni: a'n meibion hefyd, ac a'n merched, a'n defaid, ac a'n gwarthec yr awn ni: o blegit rhaid i ni gadw gŵyl i'r Arglwydd.

10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, yr vn môdd y byddo 'r Arglwydd gyd â chwi, ac y gollyngaf chwi, a'ch rhai bâch: gwelwch mai ar ddrŵg y mae eich brŷd.

11 Nid felly, ewch yn awr y gwŷr, a gwasa­naethwch yr Arglwydd, canys hyn yr oeddych yn ei geisio: felly hwy a yrrwyd allan o wydd Pharao.

12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, estyn dy law ar wlâd yr Aipht am locustiaid, fel y delont i fynu ar dîr yr Aipht; ac y bwytta­ont holl lyssiau y ddaiar, sef y cwbl ar a adawodd y cenllysc.

13 A Moses a estynnodd ei wialen ar dîr yr Aipht, a'r Arglwydd a ddûg ddwyreinwynt ar y tîr, yr holl ddiwrnod hwnnw, a'r holl nôs honno: a phan ddaeth y borau, gwynt y dwy­rain a ddûg locustiaid.

14 A'r locustiaid a aethant i fynu tros holl wlâd yr Aipht, ac a arhosasant ym mhôb ardal i'r Aipht: blîn iawn oeddynt: ni bu y fâth locustiaid o'i blaen hwynt, ac ar eu hôl ni bydd y cyffelyb.

15 Canys toesant wyneb yr holl dîr, a thy­wyllodd y wlâd, a hwy a yssasant holl lyssiau y ddaiar, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddi­llasei y cenllysc: ac ni adawyd dim gwyrddles­ni ar goed, nac ar lyssiau y maes, o fewn holl wlâd yr Aipht.

16 Yna PharaoHeb. a frysiodd i alw. a alwodd am Moses ac Aa­ron ar frŷs, ac a ddywedodd; pechais yn erbyn yr Arglwydd eich Duw, ac yn eich erbyn chwithau.

17 Ac yn awr maddeu attolwg fy mhechod, y waith hon yn vnic, a gweddiwch ar yr Ar­glwydd eich Duw, ar iddo dynnu oddi wrthif y farwolaeth hon yn vnic.

18 A Moses a aeth allan oddi wrth Pharao, ac a weddiodd ar yr Arglwydd.

19 A'r Arglwydd a drôdd wynt gorllewin crŷf iawn, ac efe a gymmerodd ymmaith y lo­custiaid, ac a'iHeb. rhwy­modd. bwriodd hwynt i'r môr côch: ni adawyd vn locust o fewn holl derfynau 'r Aipht.

20 Er hynny, caledodd yr Arglwydd galon Pharao, fel na ollyngei efe feibion Israel ym­maith.

21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, estyn dy law tua 'r nefoedd, fel y byddo tywy­llwch ar dîr yr Aipht, tywyllwch a aller ei deimlo.

22 A Moses a estynnodd ei law tua 'r ne­foedd: aDoeth. 17.2. bu dywyllwch du-dew, drwy holl wlâd yr Aipht dri diwrnod.

23 Ni welei nêb ei gilydd, ac ni chododd nêb o'i le dri diwrnod:Doeth. 18.1. ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.

24 A galwodd Pharao am Moses, ac Aaron, ac a ddywedodd, ewch; gwasanaethwch yr Ar­glwydd; arhoed eich defaid, a'ch gwarthec yn vnic: aed eich rhai bâch hefyd gyd a chwi.

25 A dywedodd Moses, ti a roddi hefyd yn ein dwylo ebyrth, a phoeth offrymmau, fel yr aberthom i'r Arglwydd ein Duw.

26 Aed ein hanifeiliaid hefyd gyd â ni; ni adewir ewin yn ôl, o blegit o honynt y cym­merwn i wasanaethu 'r Arglwydd ein Duw: ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr Arglwydd, hyd oni ddelom yno.

27 Ond yr Arglwydd a galedodd galon Pha­rao ac ni fynnei eu gollwng hwynt.

28 A dywedodd Pharao wrtho, dôs oddi wrthif, gwilia arnat rhac gweled fy wyneb mwy: o blegit y dydd y gwelych fy wyneb, y byddi farw.

29 A dywedodd Moses, vnion y dywedaist, ni welaf dy wyneb mwy.

PEN. XI.

1 Cennadwriaeth Duw at yr Israeliaid i fenthygio tlysau gan ei cymydogion. 4 Moses yn bygwth Pharao â marwolaeth y cyntaf-anedig.

A'R Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, vn blâ etto a ddygaf ar Pharao, ac ar yr Aipht, wedi hynny efe a'ch gollwng chwi oddi ymma: pan i'ch gollyngo, gan wthio efe a'ch gwthia chwi oddi ymma yn gwbl.

2 Dywed yn awr lle y clywo 'r bobl; a ben­thygied pôb gŵr gan ei gymmydog, a phôb gwraig gan ei chymydoges, ddodrefn arian, adlysau Exod. 3.22. & 12.35. dodrefn aur.

3 A'r Arglwydd a roddodd i'r bobl ffafor yngolwg yr Aiptiaid: ac yr oedd Eccles. 45.1. Heb. 11.28. Moses yn ŵr mawr iawn yng-wlad yr Aipht, yngolwg gwei­sion Pharao, ac yngolwg y bobl.

4 Moses hefyd a ddywedodd, fel hyn y llefa­rodd [Page] yr Arglwydd;Pen. 12.29. yng-hylch hanner nôs yr âfi allan i ganol yr Aipht.

5 A phôb cyntaf-anedic yngwlâd yr Aipht a fydd marw, o gyntaf-anedic Pharao, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrn-gader, hyd gyntaf­anedic y wasanaeth-ferch sydd ar ôl y felin; a phôb cyntaf-anedic o anifail.

6 A bydd gweiddi mawr drwy holl wlâd yr Aipht; yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwy­ach ei gyffelyb.

7 Ond yn erbyn nêb o blant Israel ni symmud ci ei dafod, ar ddŷn, nac anifail: fel y gwypoch fôd yr Arglwydd yn gwneuthur rhagor rhwng yr Aiphtiaid ac Israel.

8 A'th holl weision hyn a ddeuant i wared attafi, ac a ymgrymmant i mi, gan ddywedyd, dôs allan, a'r holl bobl sydd ar dy ôl, ac wedi hynny yr afi allan: felly efe a aeth allan oddi wrth Pharao mewnHeb. Poethder digllon­edd. digllonedd llidioc.

9 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ni wrendy Pharao arnoch; fel yr amlhaer fy rhy­feddodau yngwlad yr Aipht.

10 A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn ger bron Pharao: a'r Ar­glwydd a galedodd galon Pharao, fel na ollyng­ei efe feibion Israel allan o'i wlâd.

PEN. XII.

1 Newidio dechreuad y flwyddyn. 3 Ordeinio y Pasc. 11 Defod y Pasc. 15 Bara croyw. 29 Marwolaeth y cyntaf-anedic. 31 Gyrru 'r Is­raeliaid allan o'r tir. 37 Hwythau yn dyfod i Succoth. 43 Ordeinhâd y Pâsc.

YR Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhîr yr Aipht, gan ddywe­dyd;

2 Y mîs hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd; cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn.

3 Lleferwch wrth holl gynnulleidfa Israel, gan ddywedyd, ar y decfed dydd o'r mîs hwn, cym­merant iddynt bôb vn cen, yn ol teulu eu tadau, sef Neu, wyn. oen dros bôb teulu.

4 Ond os y teulu fydd rŷ fychan i'r oen, efe a'i gymydog nessaf iw dŷ a'i cymmer, wrth y rhifedi o ddynion: pôb vn yn ol ei fwytta a gyfrifwch at yr oen.

5 Bydded yr oen gennych yn berffaith-gwbl, yn wryw, ac yn llwdn blwydd: o'r defaid, neu o'r geifr y cymmerwch ef.

6 A bydded ynghadw gennych hyd y pedwe­rydd dydd ar ddêc o'r mîs hwn: a lladded holl dyrfa cynnulleidfa Israel ef,Heb. rhwngy ddau hwyr. yn y cyfnôs.

7 A chymmerant o'r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlys-bost, ac ar gappan drws y tai y bwyttânt ef ynddynt.

8 A'r cîg a fwytânt y nôs honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw, gyd a dail surion y bwyttânt ef.

9 Na fwytewch o honaw yn amrwd, na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr, eithr wedi ei rostio wrth dân; ei ben gyd a'i draed, a'i ymyscaroedd.

10 Ac na weddillwch ddim o honaw hyd y boren: a'r hyn fydd yngweddill o honaw er­byn y boreu, lloscwch yn tân.

11 Ac fel hyn y bwytewch ef; wedi gwre­gysu eich lwynau, a'ch escidiau am eich traed, a'ch ffyn yn eich dwylo: a bwytewch ef ar ffrŵst: Pasc yr Arglwydd ydyw efe.

12 O herwydd mi a dramwyaf drwy wlâd yr Aipht y nos hon, ac a darawaf bôb cyntaf­anodic o fewn tîr yr Aipht, yn ddŷn, ac yn ani­fail: a mi a wnaf farn yn erbyn hollNeu, dywyso­gion. dduwi­an 'r Aipht; myfi yw yr Arglwydd.

13 A'r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi: a phan welwyf y gwaed, yna yr âf heibio i chwi, ac ni bydd plâHeb. yn ddi­nistr. dini­striol arnoch chwi, pan darawyf dîr yr Aipht.

14 A'r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth iwch; a chwi a'i cedwch ef yn wyl i'r Ar­glwydd trwy eich cenhedlaethau: cedwch ef yn wyl drwy ddeddf dragywyddol.

15 Saith niwrnod y bwytewch fara croyw; y dydd cyntaf y bwriwch sur-does allan o'ch tai: o herwydd pwy bynnac a fwyttao fara lefeinllyd o'r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymmaith oddi wrth Israel.

16 Ar y dydd cyntaf hefyd y bydd i chwi gy­manfa sanctaidd, a chymanfa sanctaidd ar y seithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yr hyn a fwyty pôbHeb. enaid. dŷn, hynny yn vnic a ellwch ei wneuthur.

17 Cedwch hefyd ŵyl y bara croyw: o herwydd o fewn corph y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlâd yr Aipht: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich cenhedlae­thau, drwy ddeddf dragywyddol.

18Lev. 23.5. Num. 28.16. Yn y mîs cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddêc o'r mis yn yr hwyr, y bwytewch fara croyw, hyd yr vnfed dydd ar hugain o'r mîs yn yr hwyr.

19 Na chaffer surdoes yn eich tai saith ni­wrnod: canys pwy bynnac a fwyttao fara le­feinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymmaith o gynnulleidfa Israel, yn gystal y dieithr a'r priodor.

20 Na fwytewch ddim lefeinllyd: bwytewch fara croyw yn eich holl drigfannau.

21 A galwodd Moses am holl henuriaid Is­rael, ac a ddywedodd wrthynt; tynnwch a chymmerwch i chwiNeu▪ fyn. oen yn ôl eich teulu­oedd, a lleddwch y Pasc.

22Heb. 11.28. A chymmerwch dussw o yssop, a throch­wch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg, a rhodd­wch ar gappan y drŵs, ac ar y ddau ystlys-bost o'r gwaed a fyddo yn y cawg: ac nac aed neb o honoch allan o ddrŵs ei dŷ hyd y borau.

23 O herwydd yr Arglwydd a dramwya i daro 'r Aiphtiaid; a phan welo efe y gwaed ar gappan y drŵs, ac ar y ddau ystlysbôst; yna 'r Arglwydd â heibio i'r drws, ac ni âd i'r dini­strudd ddyfod i mewn i'ch tai chwi i ddi­nistrio.

24 A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti, ac i'th feibion yn dragywydd.

25 A phan ddeloch i'r wlad a rydd yr Ar­glwydd i chwi, megis yr addawodd; yna ced­wch y gwasanaeth hwn.

26 A byddJos. 4.6 pan ddywedo eich meibion wrthych: pa wasanaeth yw hwn gennych?

27 Yna y dywedwch, aberth Pasc vr Ar­glwydd ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai mei­bion Israel yn yr Aipht, pan darawodd efe yr Aiphtiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymmodd y bobl, ac yr addolasant.

28 A meibion Israel a aethant ymaith, ac a wnaethant, megis y gorchymynnasei 'r Ar­glwydd wrth Moses ac Aaron; felly y gwnae­thant.

29 AcExod. 11.4. ar hanner nos y tarawodd yr Ar­glwydd bôb cyntafanedic yngwlad yr Aipht, o gyntafanedic Pharao 'r hwn a eisteddai ar ei frenhin-faingc,Doeth 18.11. hyd gyntafanedic y gaethes [Page] oedd yn yHeb. Ty y py­dew. carchar-dŷ; a phôb cyntafanedic i anifail.

30 A Pharao a gyfododd liw nos, efe a'i holl weision, a'r holl Aiphtiaid; ac yr oedd gweiddi mawr yn yr Aipht: o blegit nid oedd dŷ ar nad ydoedd vn marw ynddo.

31 Ac efe a alwodd ar Moses ac Aaron liw nos, ac a ddywedodd, codwch, ewch allan o fysc fy mhobl, chwi a meibion Israel hefyd: ac ewch, a gwafanaethwch yr Arglwydd, fel y dywedasoch.

32 Cymmerwch eich defaid, a'ch gwarthec hefyd fel y dywedasoch, ac ewch ymmaith, a bendithiwch finneu.

33 A'r Aiphtiaid a fuant daerion ar y bobl gan eu gyrru ar ffrwst allan o'r wlad: o blegit dywedasant dynion meirw ydym ni oll.

34 A'r bobl a gymmerodd eu toes cyn ei lefeinio: a'iCafnau tylino. toes oedd wedi ei rwymo yn eu dillad ar eu hyscwyddau.

35 A meibion Israel a wnaethant yn ol gair Moses: ac a fenthygiasantEx. 3.22. & 11.2. Jos. 24.6. gan yr Aiphtiaid dlysau arian, aDodrefn thlysau aur, a gwiscoedd.

36 A'r Arglwydd a roddase i'r bobl hawdd­garwch yngolwg yr Aiphtiaid, fel yr echwyna­sant iddynt: a hwy a yspeiliasant yr Aiphtiaid.

37 ANum. 33.3. meibion Israel a aethant o Rameses i Succoth, ynghylch chwe chan mil o wŷr traed, heb law plant.

38 A phobl gymmysc lawer aethant i fynu hefyd gyd â hwynt: defaid hefyd a gwarthec, sef da lawer iawn.

39 A hwy a bobasant y toes a ddygasent allan o'r Aipht, yn deissennau croyw, o her­wydd yr oedd heb ei lefeinio: canys gwthi­asid hwynt o'r Aipht, ac ni allasant aros, ac ni pharatoesent iddynt eu hun luniaeth.

40 A phresswyliad meibion Israel tra y tri­gasant yn yr Aipht, oedd Gen. 15.13. Act. 7.6. Gal. 3.17. ddeng mlhynedd ar hugain a phedwar can mlhynedd.

41 Ac ym mhen y deng-mihynedd ar hu­gain a phedwar can mlhynedd, ie o fewn corph y dydd hwnnw, yr aeth holl luoedd yr Ar­glwydd allan o wlad yr Aipht.

42 Nos yw hon iw chadw i'r Arglwydd, ar yr hon y dygwyd hwynt allan o wlad yr Aipht:Heb. nos ca­dwriaeth. nos yr Arglwydd yw hon, i holl feibion Israel iw chadw drwy eu hoesoedd.

43 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses ac Aaron, dyma ddeddf y Pasc: na fwytaed neb dieithr o honaw.

44 Ond pôb gwasanaethwr wedi ei brynu am arian; gwedi yr enwaedych ef, a fwyty o hono.

45 Yr alltud, a'r gwas cyflog ni chaiff fwyta o honaw.

46Num. [...].12. [...]oan. 19.6. Mewn vn tŷ y bwyteir ef: na ddwg ddim o'r cîg allan o'r tŷ; ac na thorrwch ascwrn o hono.

47 Holl gynnulleidfa Israel a wnant hynny.

48 A phan arhoso dieithr gyd â thi, ac ewyllysio cadw Pasc i'r Arglwydd, enwaeder ei holl yrfiaid ef, ac yna nesaed i wneuthur hynny: a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwytaed neb dienwaededic o honaw.

49 Yr vn gyfraith fydd i'r priodor, ac i'r dieithr a arhoso yn eich mysc.

50 Yna holl feibion Israel â wnaethant, fel y gorchymynnasei 'r Arglwydd wrth Moses ac Aaron: felly y gwnaethant.

51 Ac o fewn corph y dydd hwnnw, y dug yr Arglwydd feibion Israel o wlad yr Aipht yn ol eu lluoedd.

PEN. XIII.

1 Cyssegru y cyntaf-anedic i Dduw. 3 Gorchym­myn cadw coffadwriaeth o'r Pasc. 11 Nailltuo y cyntaf o'r anifeiliaid. 19 Yr Israeliaid wrth fyned allan o'r Aipht yn dwyn escyrn Joseph gyda hwynt, 20 Yn dyfod i Etham. 21 Duw yn eu harwain mewn colofn o niwl a cholofn o dân.

A'R Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd;

2Ex. 22.29. & 34.19. Leuit. 27.26. Num. 3.13 Luc. 2.23. Cyssegra i mi bôb cyntafanedic, sef beth bynnac a agoro 'r groth ym mysc meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddo fi yw.

3 A dywedodd Moses wrth y bobl, cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o'r Aipht, o dŷHeb. y gwei­sion. y caethiwed: oblegit trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno: am hynny na fwytaer bara lefeinllyd.

4 Heddyw yr ydych chwi yn myned allan; ar y mîs Abib.

5 A phan ddygo yr Arglwydd di i wlad y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, yr Hefiaid hefyd a'r Jebusiaid, yr hon a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddei efe i ti, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl: yna y gwnei y gwasanaeth ymma ar y mîs hwn.

6 Saith niwrnod y bwytei fara croyw: ac ar y seithfed dydd y bydd gŵyl i'r Arglwydd.

7 Bara croyw a fwyteir saith niwrnod: ac na weler bara lefeinllyd gyd â thi: ac na weler gennit surdoes o fewn dy holl derfynau.

8 A mynega i'th fab y dydd hwnnw gan ddywedyd, o herwydd yr hyn a wnaeth yr Arglwydd i mi pan ddaethum allan o'r Aipht y gwneir hyn.

9 A bydded it yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid, fel y byddo cy­fraith yr Arglwydd yn dy enau: o herwydd â llaw gadarn y dug yr Arglwydd dydi allan o'r Aipht.

10 Am hynny cadw y ddeddf hon, yn ei hamser nodedic, o ffwyddyn i flwyddyn.

11 A phan ddygo 'r Arglwydd di i wlâd y Canaaneaid megis y tyngodd efe wrthit, ac wrth dy dadau, a'i rhoddi i ti,

12 Yna yEx. 22.29. & 34.19. Ezec. 44.30. nailltui i'r Arglwydd bôb cyntaf­anedic▪ a phôb cyntaf i anifeil a fyddo eiddo ti, y gwrywiaid eiddo 'r Arglwydd fyddant.

13 A phôb cyntaf i assyn a bryni diA myn. ag oen: ac oni phryni di ef, yna torfynygla ef; a phôb dŷn cyntaf-anedic o'th feibion a bryni di hefyd.

14 A phan ofynno dy fabHeb. y foru. yn ol hyn, gan ddywedyd, beth yw hyn? yna dywed wrtho, â llaw gadain y dug yr Arglwydd ni allan o'r Aipht, o dŷ y caethiwed.

15 A phan oedd anhawdd gan Pharao ein goll­wng ni, y lladdodd yr Arglwydd bôb cyntaf­anedic yngwlâd yr Aipht, o gyntaf-anedic dŷn hyd gyntaf-anedic anifail: am hynny 'r ydwyf yn aberthu i'r Arglwydd bôb gwryw a egoro y groth: ond pôb cyntaf-anedic o'm meibion a brynaf.

16 A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn ractalau rhwng dy lygaid: canys â llaw ga­darn y dug yr Arglwydd ni allan o'r Aipht.

17 A phan ollyngodd Pharao y bobl, ni arwei­niodd yr Arglwydd hwynt drwy ffordd gwlâd y Philistlaid, er ei bod yn agos: oblegit dywe­dodd Duw, rhac i'r bôbl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aipht.

18 Ond Duw a arweiniodd y bôbl o amgylch trwy anialwch y môr côch: acHeb. yn [...]um­piau. yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlâd yr Aipht.

19 A Moses a gymmerodd escyrn Joseph gyd ag ef: o herwydd efe a wnelse i feibion Israel dyngu trwy lw gan ddywedyd; Duw aGen. 50.25. Jos. 24.32. ymwel â chwi yn ddiau: dygwch chwithau fy escym oddi ymma gyd â chwi.

20Num. 33.6. A hwy a aethant o Succoth; ac a wer­ssyllasant yn Etham, ynghwrr yr anialwch.

21Nu. 14.14. deut. 1 33. ps. 78.14. 1 cor. 10.1. A'r Arglwydd oedd yn myned o'i blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, iw harwe­in ar y ffordd, a'r nos mewn colofn o dân i oleuo iddynt: fel y gallent fyned ddydd a nôs.

22 Ni thynnodd efe ymaithNeh. 9.19. y golofn niwl y dydd, na'r golofn dân y nôs, o flaen y bôbl.

PEN. XIIII.

1 Duw yn hyfforddi 'r Israeliaid yn eu taith. 5 Pharao yn erlid ar eu hol hwynt. 10 Yr Israeli­aid yn tuchan. 13 Moses yn eu cyssuro hwy. 15 Duw yn dyscu i Moses beth a wnai. 19 Y niwl yn symmudo i'r tu ol i'r gwersyll. 21 Yr Isra­eliaid yn myned trwy 'r mor coch, 22 A'r Aiphtiaid yn boddi yntho.

A'R Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Dywed wrth feibion Israel, am ddych­welyd a gwersyllu o flaenNum. 33.7. Pihahiroth, rhwng Migdol a'r môr, o flaen Baal-Sephon: ar ei chyfer y gwerssyllwch wrth y môr.

3 Canys dywed Pharao am feibion Israel, rhwystrwyd hwynt yn y tîr; caeodd yr anial­wch arnynt.

4 A mi a galedaf galon Pharao fel yr erlidio ar eu hol hwynt, felly i'm gogoneddir ar Pha­rao, a'i holl fyddin; a'r Aiphtiaid a gânt wy­bod mai myfi yw'r Arglwydd: ac felly y gwnae­thant.

5 A mynegwyd i frenin yr Aipht fod y bôbl yn ffô: yna y trôdd calon Pharao a'i weision yn erbyn y bôbl, a dywedasant, beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o'n gwasanaethu?

6 Ac efe a daclodd ei gerbyd, ac a gymme­rodd ei bôbl gyd ag ef.

7 A chymmerodd chwc chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aipht, a chapteni­aid ar bôb vn o honynt.

8 A'r Arglwydd a galedasei galon Pharao brenin yr Aipht, ac efe a ymlidiodd ar ol mei­bion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw vchel.

9 A'rJos. 24.6.1 Mac. 4.9. Aiphtiaid a ymlidiasant ar eu hôl hwynt, sef holl feirch,Jos. 24.6. 1 Mac. 4.9. a cherbydau Pharao, a'i wŷr meirch, a'i fyddin, ac a'i goddiweddasant yn gwerssyllu wrth y môr, ger llaw Pihahiroth o flaen Baal-sephon.

10 A phan nessaodd Pharao, meibion Israel a godasant eu golwg, ac wele yr Aiphtiaid yn dyfod ar eu hol, a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd.

11 A dywedasant wrth Moses, ai am nad oedd beddau yn yr Aipht, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? pa ham y gwnaethost fel hyn a ni, gan ein dwyn allan o'r Aipht?

12Pen. 6.9. Ond dymma y peth a lefarasom wrthit yn yr Aipht? gan ddywedyd, paid a ni, fel y gwasanaethom yr Aiphtiaid: canys gwell fua­sei i ni wasanaethu'r Aiphtiaid nâ marw yn yr anialwch.

13 A Moses a ddywedodd wrth y bôbl, nac ofnwch, sefwch, ac edrychwch ar iechydwriaeth yr Arglwydd, yr hwn a wna efe i chwi heddyw: o blegit yr Aiphtiaid y rhai a welsoch chwi heddyw, ni chewch eu gweled byth ond hynny.

14 Yr Arglwydd a ymladd trosoch: am hynny tewch chwi a sôn.

15 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, pa ham y gweiddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhacddynt.

16 A chyfot tithe dy wialen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dîr sych.

17 Wele fi, ie myfi a galedaf galon yr Ai­phtiaid fel y delont ar eu hol hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharao, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar ei farchogion.

18 A'r Aiphtiaid a gânt wybod mai myfi yw'r Arglwydd; pan i'm gogoneddir ar Pharao, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.

19 Ac Angel Duw yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel a symmudodd, ac a aeth o'i hôl hwynt: a'r golofn niwl aeth ymmaith o'i tu blaen hwynt, ac a safodd o'i hôl hwynt.

20 Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Aiphtiaid a llu Israel, ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i'r Aiphtiaid, ac yn goleuo y nôs i Israel: ac ni nessa odd y naill at y llall ar hyd y nôs.

21 A Moses a estynnodd ei law ar y môr, a'r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ol trwy ddwyrein-wynt crŷf ar hyd y nôs, ac a wnaeth y mor yn sychdir,Josua. 4.23. a holltwyd y dyfroedd.

22 APsal. 114.3. 1 Cor. 10.1. Heb. 11.29. Psal. 78.13. meibion Israel a aethant trwy ga­nol y môr ar dir sych: a'r dyfroedd oedd yn fûr iddynt o'r tu dehau ac o'r tu asswy.

23 A'r Aiphtiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hol hwynt, sef holl feirch Pharao a'i ger­bydau, a'i farchogion, i ganol y môr.

24 Ac ar y wiliadwriaeth foreu yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Aiphtiaid, trwy y golofn dân a'r cwmwl, ac a derfyscodd fyddin yr Aiphtiaid.

25 Ac efe a dynnodd ymmaith olwynion eu cerbydau, acA ba­rodd iddynt gerdded. yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Aiphtiaid, ffown oddi wrth Israel; o blegit yr Arglwydd sydd yn ymladd trostynt hwy yn erbyn yr Aiphti­aid.

26 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, estyn dy law ar y môr; fel y dychwelo y dy­froedd ar yr Aiphtiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion.

27 A Moses a estynnodd ei law ar y môr, a dychwelodd y môr cyn y borau iw nerth, a'r Aiphtiaid a ffoesant yn ei erbyn ef: a'r Ar­glwyddd aHeb. yscytiodd ddymchwelodd yr Aiphtiaid ynghanol y môr.

28 A'r dyfroedd a ddychwelasant, ac a orch­guddiasant gerbydau, a marchogion, a holl fyddin Pharao, y rhai a ddaethant ar eu hol hwynt i'r môr: ni adawyd o honyntPsal. 106.11. gym­meint ag vn.

29 Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych ynghanol y môr: a'r dyfroedd oedd yn fûr iddynt ar y llaw ddehau, ac ar y llaw asswy.

30 Felly'r Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law 'r Aiphtiaid: a gwelodd Israel yr Aiphtiaid yn feirw ar fîn y môr.

31 A gwelodd Israel yHeb. llaw fawr. grymmusder mawr a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Aiphtiaid; a'r bôbl a ofnasant yr Arglwydd, ac a gredasant i'r Arglwydd ac iw wâs ef Moses.

PEN. XV.

1 Cân Moses. 22 Y bobl ag eisieu dwfr arnynt. 23 Chwerw ddyfroedd Marah. 25 Pren yn eu [Page] pereiddio hwy. 27 Deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palm-wydden a thriugain yn Elim.

YNa yDoeth. 10.20. canodd Moses a meibion Israel y gân hon i'r Arglwydd, ac a lefarasant gan ddywedyd; Canaf i'r Arglwydd, canys gwnaeth yn rhagorol iawn, taflodd y march, a'i farchog i'r môr.

2 Fy nerth a'm cân yw 'r Arglwydd, ac y mae efe yn iechydwriaeth i mi: efe yw fy Nuw, efe a ogoneddafi, Duw fynhad, a mi a'i der­chafaf ef.

3 Yr Arglwydd sydd ryfel-wr: yr Arglwydd yw ei enw.

4 Efe a daflodd gerbydau Pharao a'i fyddin yn y môr: ei gapteniaid dewisol a foddwyd yn y môr côch.

5 Y dyfnderau a'i toesant hwy: descynnasant i'r gwaelod fel carreg.

6 Dy ddeheu-law Arglwydd sydd ardderchoc o nerth: a'th ddeheu-law Arglwydd a ddrylli­odd y gelyn.

7 Ym mawredd dy ardderchawgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i'th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist allan, ac efe a'i hyssodd hwynt fel sofl.

8 Drwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd: y ffrydau a safasant fel pen-twrr: y dyfnderau a geulasant ynghanol y môr.

9 Y gelyn a ddywedodd, mi a erlidiaf, mi a oddiweddaf, mi a rannaf yr yspail; caf fyng­wynfyd arnynt: tynnaf fynghleddyf, fy llaw a'iGorescyn difetha hwynt.

10 Ti a chwythaist â'th wynt, y môr a'i tôawdd hwynt: foddasant fel plwm yn y dy­froedd cryfion.

11 Pwy sydd debyg i ti ô Arglwydd ym­mhlith yCedyrn. duwiau? pwy fel tydi yn ogone­ddus mewn sancteiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?

12 Estynnaist dy ddeheulaw, llyngcodd y ddaiar hwynt.

13 Arweiniaist yn dy drugaredd y bôbl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist hwynt i anneddle dy sancteiddrwydd.

14Deut. 2.25. Jos. 2.9. Y bobloedd a glywant ac a ofnant: dolur a ddeil bresswyl-wyr Palestina.

15 Yna y synna ar ddugiaid Edom: cedyrn hyrddod Moab, dychryn a'i deil hwynt: holl bresswyl-wyr Canaan a doddant ymaith.

16 OfnDeut. 2.25. Jos. 2.9. ac arswyd a syrth arnynt, gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o'th bôbl di Arglwydd, nes myned o'r bôbl a ennillaist di trwodd.

17 Ti a'i dygi hwynt i mewn, ac a'i plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost ô Arglwydd yn anneddle it: y cyssegr Arglwydd a gadarnhaodd dy ddwylaw.

18 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, ac yn dragywydd.

19 O herwydd meirch Pharao a'i gerbydau, a'i farchogion a aethant i'r môr, a'r Arglwydd a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt: ond meibion Israel aethant ar dîr sych ynghanol y môr.

20 A Miriam y brophwydes, chwaer Aaron, a gymmerodd dympan yn ei llaw; a'r holl wragedd a aethant allan ar ei hol hi â thympanau, ac a dawnsiau.

21 A dywedodd Miriam wrthynt: cenwch i'r Arglwydd, canys gwnaeth yn ardderchog: bwriodd y march a'r marchog i'r môr.

22 Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch, ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.

23 A phan ddaethant i Marah, ni allent yfed dyfroedd Marah, am eu bod yn chwerwon: o herwydd hynny y gelwir ei henw hiChwi­rwder. Marah.

24 A'r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, beth a yfwn ni?

25 Ac efe a waeddodd ar yr Arglwydd:Ecclus. 38.5. a'r Arglwydd a ddangosodd iddo ef bren, ac efe a'i bwriodd i'r dyfroedd, a'r dyfroedd a bereiddiasant: yno y gwnaeth efe ddeddf, a chyfraith, ac yno y profodd efe hwynt,

26 Ac a ddywedodd, os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Duw, ac os gwnei di yr hyn sydd vnion yn ei olwg ef, a rhoddi clust iw orchymynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef: ni roddaf arnat vn o'r clef­ydau a roddais ar yr Aiphtiaid: o herwydd myfi yw yr Arglwydd dy iachawdur di.

27 A daethantNum. 33.9. i Elim, ac yno'r oedd deuddec ffynnon o ddwfr, a dec palm-wydden a thrivgain: a hwy a werssyllasant yno wrth y dyfroedd.

PEN. XVI.

1 Yr Israeliaid yn dyfod i Sin. 2 Ac yn tuchan o eisieu bara. 4 Duw yn addo iddynt fara o'r nefoedd. 11 Danfon sofl-ieir, 14 a Manna. 16 Trefn y Manna. 25 Na cheid ef ar y dydd Sabboth. 32 Cadw lloneid Omer o hono ef.

A Hwy a symmudasant o Elim, a holl gyn­nulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin, yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai; ar y pymthecfed dydd o'r ail mîs wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aipht.

2 A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron, yn yr anialwch.

3 A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, ô na buasem feirw trwy law 'r Arglwydd yngwlad yr Aipht, pan oeddym yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwyta bara ein gwala: ond chwi a'n dygasoch ni allan i'r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.

4 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, wele, mi a lawiaf arnoch fara o'r ne­foedd; a'r bobl a ânt allan ac a gasclant ddogn dydd yn ei ddydd, fel y gallwyf eu profi, a ro­diant yn fynghyfraith, ai nas gwnant.

5 Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn: a hynny fydd dau cymmeint ac a gasclant beunydd.

6 A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel, yn yr hwyr y cewch wybod mai 'r Arglwydd a'ch dug chwi allan o wlad yr Aipht.

7 Y borau hefyd y cewch weled gogoniant yr Arglwydd, am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr Arglwydd: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i'n herbyn?

8 Moses hefyd a ddywedodd, hyn fydd pan roddo yr Arglwydd i chwi yn yr hwyr gîg iw fwyta, a'r borau fara eich gwala; am glywed o'r Arglwydd eich tuchan chwi 'r hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: o herwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, onid yn erbyn yr Arglwydd.

9 A Moses a ddywedodd wrth Aaron, dy­wed wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, deu­wch yn nes ger bron yr Arglwydd; o herwydd efe a glywodd eich tuchan chwi.

10 Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth ho [...] gynnulleidfa meibion Israel, yna 'r edrychasant tua 'r anialwch; ac welePen. 13.2.1. gogoniant yr Ar­glwydd a ymddangosodd yn y cwmmwl.

11 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

12 Clywais duchan meibion Israel: llefa­ra wrthynt, gan ddywedyd, yn yr hwyr y ce­wch fwyta cîg, a'r borau i'ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai m [...]i yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

13 Felly [...]n yr hwyr yNum. 11.31. Ps. 78.24. Doeth. 16.20. Num. 11.7. sofl-ieir a ddaethant, ac a orchguddiasant y wers [...]yllfa; a'r boreu yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwerssyll.

14 A phan gododd y gaenen wlith; wele ar hyd wyneb yr anialwch dippynnau crynion cyn faned a'r llwyd-rew ar y ddaiar.

15 Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd,Neu, Beth yr hwn? Neu Rhan yw. Manna yw: ca­nys ni wyddent beth ydoedd: a dywedodd Mo­ses wrthynt,Joan. 6.31. 1 Cor. 10.3. hwn yw y bara a roddodd yr Arglwydd i chwi iw fwyta.

16 Hyn yw 'r peth a orchymynnodd yr Arglwydd, cesclwch o honaw bôb vn yn ôl ei fwyta; Omer i bôbHeb. Pen. vn yn ôl rhifedi eich e­neidiau, cymmerwch bob vn i'r rhai fyddant yn ei bebyll.

17 A meibion Israel a wnaethant felly: ac a gasclasant, rhai fwy, a rhai lai.

18 A phan2 Cor. 8.15. sesurasant wrth yr Omer, nid oedd gweddill i'r hwn a gasclasei lawer, ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasclasei ychydig: casclasant bôb vn yn ôl ei fwyta.

19 A dywedodd Moses wrthynt; na wedd­illed nêb ddim o honaw hyd y borau.

20 Er hynny ni wrandawsant ar Moses, onid gado a wnaeth rhai o honaw hyd y borau, ac efe a fagodd bryfed ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt.

21 A hwy a'i casclasant ef bôb borau, pob vn yn ôl ei fwytta: a phan wresogei yr haul efe a doddei.

22 Ac ar y chweched dydd y casclent ddau cymmeint o fara, dau Omer i vn: a holl ben­naethiaid y gynnulleidfa a ddaethant, ac a fy­negasant i Moses.

23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, hyn yw 'r peth a lefarodd yr Arglwydd, y foru y mae gor­phywysfa Sabboth sanctaidd i'r Arglwydd: pob­wch heddyw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a'r holl weddill, rhoddwch i gadw i'wch hyd y boreu.

24 A hwy a'i cadwasant hyd y borau fel y gorchymynnasei Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd prŷf ynddo.

25 A dywedodd Moses, bwytewch hwn he­ddyw, o blegit Sabboth yw heddyw i'r Arg­lwydd: ni chewch hwn yn y maes heddyw.

26 Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef; ond ar y seithfed dydd yr hwn yw y Sabboth, nl bydd efe.

27 Etto rhai o'r bobl aethant allan ar y seith­fed dydd i gasclu, ond ni chawsant ddim.

28 A r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses; pa hyd y gwrthodwch gadw fyngorchymyni­on a'm cyfreithiau?

29 Gwelwch mai'r Arglwydd a roddodd i chwi y Sabboth, am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref, nac aed un o'i le y seithfed dydd.

30 Felly y bobl a orphywysasant y seithfed dydd.

31 A thŷ Israel a alwasant ei henw ef Man­na: ac yr oedd efe fel hâd Coriander, yn wyn, a'i flâs fel afrllad o fêl.

32 A Moses a ddywedodd, dymma y peth a orchymynnodd yr Arglwydd: llanw Omer o honaw iw gadw i'ch cenhedlaethau; fel y gwe­lant y bara y porthais chwi ag ef yn yr ania­lwch, pan i'ch dygais allan o wlad yr Aipht.

33 A Moses a ddywedodd wrth Aaron, cym­merHeb. 9.4. grochan, a dod ynddo loneid Omer o'r Manna; a gosod ef ger bron yr Arglwydd ynghadw i'ch cenhedlaethau.

34 Megis y gorchymynnodd yr Arglwydd i Moses; felly y gosododd Aaron ef i gadw ger bron y dystiolaeth.

35 A meibion Israel a fwytasant y MannaJosua 5.12. Nehem. 9.15. ddeugain mhlynedd, nes eu dyfod i dîr cy­fanneddol: Manna a fwytasant nes eu dyfod i gwrr gwlad Canaan.

36 A'r Omer ydoedd ddecfed ran Epha.

PEN. XVII.

1 Y bobl yn tuchan am ddwfr yn Rephidim. 5 Duw 'n eu hanfon hwy am ddwfr i'r graig yn Horeb. 8 Gorchfygu Amalec trwy ddal dwylaw Moses i fynu. 15 Moses yn adailadu 'r allor Jehovah-Nissi.

A Holl gynnulleidfa meibion Israel a aethant o aniaiwch Sin, wrth eu teithiau, yn ôl gor­chymyn yr Arglwydd: ac a werssyllasant yn Rephidim, ac nid oedd dwfr i'r bobl i yfed.

2Num. 20.4. Am hynny y bobl a ymgynhennasant â Moses, ac a ddywedasant, rhoddwch i ni ddwfr i yfed: a dywedodd Moses wrthynt, pa ham yr ymgynhennwch â mi? pa ham y temptiwch yr Arglwydd?

3 A'r bobl a sychedodd yno am ddwfr, a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses, ac a ddy­wedodd, pa ham y peraist i ni ddyfod i fynu o'r Aipht i'n lladd ni, a'n plant, a'n hanifeiliaid â syched?

4 A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, beth a wnaf i'r bobl hyn? ar ben ychydig etto hwy a'm llabyddiant i.

5 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, cerdda o flaen y bobl, a chymmer gyd â thi o henuriaid Israel: cymmer hefyd dy wialen yn dy law, yr hon yExod. 7.20. tirewaist yr afon â hi, a cherdda.

6Doeth 11.4. Num. 20.9. Ps. 78.15. Psal. 109 41. 1 Cor. 10.4. Wele mi a safaf o'th flaen yno ar y graic yn Horeb, taro ditheu y graig, a daw dwfr allan o honi, fel y gallo y bobl yfed. A Moses a wnaeth felly yngolwg henuriaid Israel.

7 Ac efe a alwodd henw y lleProfi­digaeth. Massah aCynnen Meribah; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio yr Arglwydd, gan ddywe­dyd, a ydyw yr Arglwydd yn ein plith, ai nid yw.

8Deut. 25.17. Doeth. 11.3. Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd ag Israel yn Rephidim.

9 A dywedodd Moses wrthA elw [...] Act. 7.45. Jesu. Josua, dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd ag Amalec: y fo­ru mi a safaf ar ben y bryn a gwialen Dduw yn fy llaw.

10 Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho, ac a ymladdodd ag Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fynu i ben y bryn.

11 A phan godei Moses ei law y byddei Is­rael yn drechaf: a phan ollyngei ei law i lawr, Amalec a fyddei drechaf.

12 A dwylaw Moses oedd drymion, a hwy a gymmerasant faen, ac a'i gosodasant tano ef, [Page] ac efe a eisteddodd arnaw: ac Aaron a Hur a gynhaliasant ei ddwylaw ef, vn ar y naill tu, a'r llall ar y tu arall: felly y bu ei ddwylaw ef sythion nes machludo haul.

13 A Josua a orchfygodd Amalec a'i bobl â min y cleddyf.

14 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, scrifenna hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua:Num. 24.20. 1 Sam. 15.3. canys gan ddeleu y deleaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd.

15 A Moses a adailadodd allor, ac aalwodd ei henw hi,Yr Ar­glwydd yw fy ma­ner Jehovah Nissi.

16 Canys efe a ddywedodd, o herwyddNeu, bod llaw ar orsedd­faingc yr Argl­wydd. tyngu o'r Arglwydd y bydd i'r Arglwydd ry­fel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i gen­hedlaeth.

PEN. XVIII.

1 Jethro yn dwyn ac Moses ei wraig i'i ddau fab. 7 Moses yn ei groesafu ef. 13 Ynteu yn derbyn cyngor Jethro. 27 Jethro yn ymadel.

PAn glywoddExod. 2.16. Jethro offeiriad Midian, chwe­grwn Moses, yr hyn oll a wnaethei Duw i Moses ac i Israel ei bôbl, a dwyn o'r Arglwydd Israel allan o'r Aipht:

2 Yna Jethro chwegrwn Moses a gymme­rodd Siphora gwraig Moses, (wedi ei hebrwng hi yn ei hôl,)

3 A'i dau fâb hi: o ba raiPen. 2.22. henw vn oedd Sef, dieithr yno. Gershom, o blegit efe a ddywedasei, dieithr fum mewn gwlâd estronol.

4 Ac enw y llall oedd Sef, Fy Nuw sy gym­morth. Eliezer: o herwydd Duw fy nhâd oedd gynhorthwy i mi eb efe, ac a'm hachubodd rhac cleddyf Pharao.

5 A Jethro chwegrwn Moses, a ddaeth a'i feibion, a'i wraig at Moses i'r anialwch, lle 'r ydoedd efe yn gwerssylu ger llaw mynydd Duw.

6 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, myfi Je­thro dy chwegrwn di sydd yn dyfod attat ti, a'th wraig a'i dau fâb gyd â hi.

7 A Moses a aeth allan i gyfarfod a'i chwe­grwn, ac a ymgrymmodd, ac a'i cussanodd; a chyfarchasant well bôb vn iw gilydd, a dae­thant i'r babell.

8 A Moses a fynegodd iw chwegrwn yr hyn oll a wnaethei 'r Arglwydd i Pharao, ac i'r Aiphriaid er mwyn Israel; a'r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o'r Arglwydd hwynt.

9 A llawenychodd Jethro o herwydd yr holl ddaioni a wnaethei 'r Arglwydd i Israel: yr hwn a waredasei ef o law 'r Aiphtiaid.

10 A dywedodd Jethro, bendigedic fyddo yr Arglwydd yr hwn a'ch gwaredodd o law 'r Aiphtiaid, ac o law Pharao: yr hwn a ware­dodd y bôbl oddi tan law'r Aiphtiaid.

11 Yn awr y gwn mai mwy ydyw 'r Argl­wydd nâ 'r holl Dduwiau:Exod. 1.10. & 16.22. Exod. 5.7. Exod. 14.18. o blegit yn y peth yr oeddynt falch o honaw yr oedd efe yn vwch nâ hwynt.

12 A Jethro chwegrwn Moses a gymmerodd boeth offrwm, ac ebyrth i Dduw: a daeth Aa­ron a holl henuriaid Israel i fwyta bara gyd a chwegrwn Moses ger bron Duw.

13 A thranoeth Moses a eisteddodd i farnu y bôbl: a safodd y bôbl gêr bron Moses o'r bo­rau hyd yr hwyr.

14 A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i'r bobl; efe a ddywedodd, pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i'r bôbli pa ham yr elsteddi dy hun, ac y saif yr holl bôbl ger dy fron di, o'r borau hyd yr hwyr?

15 A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn; am fôd y bôbl yn dyfod attaf i ymgynghori â Duw.

16 Pan fyddo iddynt achos, attafi y deuant, a myfi sydd yn barnu rhwng Heb. Gwr. pawb a'i gilydd; ac yn ysbyssu deddfau Duw, a'i gyfreithiau.

17 A dywedodd chwegrwn Moses wrtho; nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur.

18 Tydi a lwyr ddeffygi, a'r bôbl ymma he­fyd y rhai sydd gyd a thi: canys rhy drwm yw y peth i ti,Deut. 1.9. ni elli ei wneuthur ef dy hun.

19 Gwrando ar fy llais i yn awr, mi a'th gynghoraf di, a bydd Duw gyd â thi: bydd di dros y bôbl ger bron Duw, a dŵg eu hacho­sion at Dduw.

20 Dysc hefyd iddynt y deddfau, a'r cyfrei­thiau: ac ysbyssa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a'r gweithredoedd a wnânt.

21 Ac edrych ditheu allan o'r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni Duw, gwŷr geirwir, yn cassau cybydd-dod: a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogi­on ar gantoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.

22 A barnant hwy y bôbl bôb amser, ond dy­gant bôb peth mawr attat ti, a barnant eu hun bôb peth bychan: felly yr yscafnhei arnat dy hun, a hwynt hwy a ddygant y baich gyd â thi.

23 Os y peth hyn a wnei, a'i orchymyn o Dduw i ti, yna ti a elli barhau: a'r holl bobl hyn a ddeuant iw lle mewn heddwch.

24 A Moses a wrandawodd ar lais ei chwe­grwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe.

25 A Moses a ddewisodd wŷr grymmus, allan o holl Israel, ac a'i rhoddodd hwynt yn bennae­thiaid ar y bobl: yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gantoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.

26 A hwy a farnasant y bobl bôb amser: y pethau caled a ddygent at Moses, a phôb peth bychan a farnent hwy eu hunain.

27 A Moses a ollyngodd ymmaith ei chwc­grwn: ac efe aeth adref iw wlâd.

PEN. XIX.

1 Y bobl yn dyfod i Sinai. 3 Cennadwriaeth Duw at y bobl trwy law Moses allan o'r mynydd. 8 Dwyn atteb y bobl at Dduw. 10 Paratoi y bobl erbyn y trydydd dydd. 12 Ni wasanaetha cyffwrdd a'r mynydd. 19 Dychrynllyd bresen­noldeb Duw ar y mynydd.

YN y trydydd mîs wedi dyfod meibion Is­rael allan o wlâd yr Aipht, y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai.

2 Canys hwy a aethant o Rhephidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai, gwerssyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwerssyilodd Israel ar gyfer y mynydd.

3Act. 7.38. A Moses aeth i fynu at Dduw: a'r Argl­wydd a alwodd arno ef o'r mynydd, gan ddy­wedyd, fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel.

4Deut. 29.2. Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i'r Aiphtiaid; y môdd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac i'ch dygais attafi fy hun.

5Deut. 5.2. Yn awr gan hynny, os gan wrando y gw­randewch ar fy llais, a chadw fynghyfammod; [Page] chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd:Deut. 10.14. Ps. 24.1. canys eiddo fi yr holl ddaiar.

6 A chwi a fyddwch i mi yn1 Pet. 2.9. Datc. 1.6. frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dymma y geiriau a leferi di wrth feibion Israel.

7 A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn, a orchymynnasei 'r Arglwydd iddo.

8Pen. 24.3.7. Deut. 5.27. & 26.17. A'r holl bobl a gyd attebasant, ac a ddy­wedasant, nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. A Moses a ddug drachefn eiriau 'r bobl at yr Arglwydd.

9 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, wele mi a ddeuaf attat mewn cwmmwl tew, fel y clywo y bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont it byth. A Moses a fynegodd eiriau 'r bobl i'r Arglwydd.

10 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, dos at y bobl, a sancteiddia hwynt he­ddyw ac y foru, a golchant eu dillad,

11 A byddant barod erbyn y trydydd dydd; o herwydd y trydydd dydd y descyn yr Ar­glwydd, yngolwg yr holl bobl ar fynydd Si­nai.

12 A gosod derfyn i'r bobl o amgylch, gan ddywedyd, gwiliwch arnoch rhag myned i fy­nu i'r mynydd, neu gyffwrdd a'i gwrr ef:Heb. 12.20. pwy bynnac a gyffyrddo â'r mynydd a le­ddir yn farw.

13 Na chyffyrdded llaw ag ef, onid gan la­byddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef: pa vn bynnag ai dŷn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw; pan gano 'r vdcorn yn hir-llaes, deuant i'r mynydd.

14 A Moses â ddescynnodd o'r mynydd at y bobl; ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad.

15 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, by­ddwch barod erbyn y trydydd dydd: nac ewch yn agos at eich gwragedd.

16 A'r trydydd dydd ar y boreuddydd yr oedd taranau, a mellt, a chwmwl tew ar y mynydd, a llais yr vdcorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynnodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.

17 A Moses a ddug y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod â Duw: a hwy a safasant yngodre y mynydd.

18Deut. 4.11. A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, o herwydd descyn o'r Arglwydd arno mewn tân: a'i fŵg a dderchafodd fel mŵg ffwrn, a'r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr.

19 Pan ydoedd llais yr vdcorn yn hir, ac yn cryshau fwyfwy, Moses a lefarodd, a Duw a attebodd mewn llais.

20 A'r Arglwydd a ddescynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr Af­glwydd Moses i ben y mynydd, a Moses aeth i fynu.

21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, dos i wared, gorchymyn i'r bobl; rhac iddynt ruthro at yr Arglwydd i hylldremmu, a chwympo llawer o honynt.

22 Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nessânt at yr Arglwydd; rhac i'r Ar­glwydd ruthro arnynt.

23 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, ni ddichon y bobl ddyfod i fynu i fyndd Si­nai: o blegit ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef.

24 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, dos, cerdda i wared, a thyred i fynu ac Aaron gyd â thi: ond na ruthred yr offeiriaid a'r bobl i ddyfod i fynu at yr Arglwydd, rhac iddo yn­tef ruthro arnynt hwy.

25 Yna 'r aeth Moses i wared at y bobl, ac a ddywedodd wrthynt.

PEN. XX.

1 Y dec gorchymmyn. 18 Y bobl yn ofni. 20 Mo­ses yn eu cyssuro hwy. 22 Gwahardd gau ddu­wiaeth. 24 Portreiad yr Allor.

A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd,

2Deut. 5.6. Ps. 81.10. Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw; yr hwn a'th ddûg di allan o wlad yr Aipht, o dŷ yHeb. Gweision. caethiwed.

3 Na fydded it dduwiau eraill ger fy mron i.

4Levit. 26.1. Ps. 97.7. Na wna it ddelw gerfiedic, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd vchod, nac a'r y sydd yn y ddaiar isod; nac ar sydd yn y dwfr tan y ddaiar.

5 Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw wyf Dduw eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwar­edd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt:

6 Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd, o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fyngorchymy­nion.

7Levit. 19.12. Deut. 5.11. Mat. 5.33. Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.

8 Cofia y dydd Sabboth iw sancteiddio ef.

9Pen. 23.12. Ezec. 20.12. Luc. 13.14. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith.

10 Onid y seithfed dydd yw Sabboth yr Ar­glwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wasanaethwr, na'th wasanaeth-ferch, na'th anifail, na'th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth:

11 O herwydd mewn Gen. 2.2. chwe diwrnod y gw­naeth yr Arglwydd y nefoedd a'r ddaiar, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt, ac a orphywysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabboth, ac a'i sancteiddiodd ef.

12Deut. 5.16. Mat. 15.4. Ephes. 6.2. Anrhydedda dy dad a'th farn; fel yr e­stynner dy ddyddiau ar y ddaiar yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

13Mat. 5.21. Na ladd.

14 Na wna odineb.

15 Na ledratta.

16 Na ddŵg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.

17Rhuf. 7.7. Na chwennych dŷ dy gymydog: na chwennych wraig dy gymydog, na'i wasanaeth­wr, na'i wasanaethferch, na'i ŷch, na'i assyn, na dim ar sydd eiddo dy gymydog.

18Heb. 12.18. A'r holl bobl a welsant y taranau, a'r mêllt, a sain yr vdcorn, a'r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hir-bell.

19 A dywedasant wrth Moses,Deut. 5.24.18.16. llefara di wrthym ni, ac nyni a wrandawn: ond na lefa­red Duw wrthym, rhac i ni farw.

20 A dywedodd Moses wrth y bobl, nac ofn­wch, o herwydd i'ch profi chwi y daeth Duw, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech.

21 A safodd y bobl o hirbell, a nessaodd Mo­ses i'r tywyllwch, lle yr ydoedd Duw.

22 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, [Page] fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; chwi a welsoch mai o'r nefoedd y lleferais wrthych.

23 Na wnewch gyd â mi dduwiau arian, ac na wnewch i chwi dduwiau aur.

24 Gwna i mi allor brîdd, ac abertha arni dy boeth ebyrth a'th offrymmau hêdd, dy dde­faid, a'th eidionnau: ym mbob man lle y rho­ddwyf goffadwriaeth o'm henw, y deuaf attat, ac i'th fendithiaf.

25 Ond os gwnei i mi allor gerric,Deut. 27.5. Jos. 8.31. na wna hi o gerric nâdd: pan gottech dy forthwyl arni, ti a'i halogaist hi.

26 Ac na ddôs i fynu ar hyd grissiau i'm hallor; fel nad amlyger dy noethni wrthi.

PEN. XXI.

1 Cyfreithiau gweision. 5 Am y gwâs a dyller ei glust. 7 Am forwynion. 12 Am lofruddiaeth. 16 Am ladron dynion. 17 Am y rhai a felldi­thio eu rhieni. 18 Am darawyr. 22 Am friw damwain. 28 Am ŷch a gornio 33 Am yr hwn a fo achos o niwed i arall.

DYmma y barnedigaethau a osodi di ger eu bron hwynt.

2Levit. 25.41. Deut. 15.12. Jer. 34.14. Os pryni wâs o Hebræad, gwasanaethed chwe blynedd; a'r seithfed y ceiff yn rhâd fy­ned ymmaith yn rhydd.

3 OsHeb. a'i gorph. ar ei ben ei hun y daeth, ar ei ben ei hun y caiff fyned allan: os perchen gwraig fydd efe, aed ei wraig allan gyd ag ef.

4 Os ei feistr a rydd wraig iddo, a hi yn planta iddo feibion, neu ferched: y wraig a'i phlant fydd eiddo ei meistr, ac aed efe allan ar ei ben ei hun.

5 Ac os y gwâs gan ddywedyd a ddywed, hoff gennifi fy meistr, fyngwiaig a'm plant; nid afi allan yn rhydd:

6 Yna dyged ei feistr ef at y barnwyr, a dy­ged ef at y ddôr, neu at yr orsin; a thylled ei feistr ei glust ef â mynawyd, ac efe a'i gwasanae­tha ef byth.

7 Ac os gwerth gŵr ei ferch yn forwyn gaeth; ni chaiff hi fyned allan fel yr êl y gweision caeth allan.

8 OsHebr. Drwg fydd hi. heb ryglyddu bodd yngolwg ei meistr y bydd hi, yr hwn a'i cymmerodd hi yn ddy­weddi, yna gadawed ei hadbrynu hi: ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddieithr, wedi iddo ef ei thwyllo hi.

9 Ac os iw fâb y dyweddiodd efe hi, gw­naed iddi yn ôl deddf y merched.

10 Ac os arall a brioda efe, na wnaed yn llai ei hymborth, ei dillad, nai dlêd priodas.

11 Ac os y tri hyn nis gwna efe iddi; yna aed hi allan yn rhâd heb arian.

12 Rhoddir i farwolaeth yLevit. 24.17. neb a darawo wr fel y byddo marw.

13 Ond yr hwn ni chynllwynodd onid rho­ddi o Dduw ef yn ei law ef,Deut. 19.3. mi a ossodaf it fan lle y caffo ffoi.

14 Ond os daw dyn yn rhyfygus ar ei gy­mydog i'w ladd ef trwy dwyll: cymmer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor.

15 Y neb a darawo ei dâd, neu ei fam, rho­dder ef i farwolaeth.

16 Yr hwn a ledratao ddŷn, ac a'i gwertho, neu os ceir ef yn ei law ef, rhodder ef i farwol­aeth.

17Levit. 20.9. Dihar. 20.20. Mat. 15.4 Marc. 7.10. Rhodder i farwolaeth yr hwn a felldi­thio ei dâd neu ei fam.

18 A phan ymryssono dynion a tharo o'r naill y llall â charrec, neu â dwm; ac efe heb farw, onid gorsod iddo orwedd;

19 Os cyfyd efe a rhodio allan w [...]th ei ffon, yna y tarawydd a fydd diangol: yn vnic rho­dded eiHeb. am ei or­phywys. golled am ei waith, a chan feddigini­aethu meddiginiaethed ef.

20 Ac os tery vn ei wasanaethwr, neu ei wa­sanaeth-ferch â gwiâlen fel y byddo farw tan ei law ef, gan ddial dialer arno.

21 Ond os erys ddiwrnod neu ddau ddiwr­nod, na ddialer arno, canys gwerth ei arian ei hun ydoedd efe.

22 Ac os ymrafaelia dynion, a tharo o ho­nynt wraig feichiog, fel yr el ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fôd marwolaeth; gan gospi cos­per ef, fel y gosodo gŵr y wraig arno, a rho­dded hynny trwy farn-wŷr.

23 Ac os marwolaeth fydd: rhodder enioes am enioes,

24Levit. 24.20. Deut. 19.21. Mat. 5.38. Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,

25 Llosc am losc, archoll am archoll, a chlais am glais.

26 Os tery vn lygad ei wasanaeth-wr, neu lygad ei wasanaeth-ferch fel y llygro ef; goll­ynged ef yn rhydd am ei lygad.

27 Ac os tyrr efe ymmaith ddant ei wasan­aeth-wr, neu ddant ei wasanaeth-ferch; gollyng­ed ef yn rhydd am ei ddant.

28 Ac os ŷch a gornia ŵr neu wraig, fel y byddo farw;Gen. 9.5. gan labyddio llabyddier yr ŷch, ac na fwytaer ei gîg ef, ac aed perchen yr ŷch yn rhydd.

29 Ond os yr ŷch oedd yn cornio o'r blaen, a hynny trwy dystion wedi ei hyspysu iw berch­ennog; ac efe heb ei gadw ef, ond llâdd o hono ŵr neu wraig; yr ŷch a labyddir; a'i berch­ennog a roddir i farwolaeth hefyd.

30 Os iawn a roddir arnaw, rhodded werth am ei enioes, yn ôl yr hyn oll a ossoder arno.

31 Os mâb a gornia efe, neu ferch a gornia efe, gwneler iddo yn ôl y farnedigaeth hon.

32 Ond os gwasanaeth-wr, neu wasanaeth-ferch a gornia 'r ŷch, rhodded iw perchennog ddecGen. 23 15. sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ŷch.

33 Ac os egyr gŵr bydew, neu os cloddia vn bydew, ac heb gau arno; a syrthio yno ŷch neu assyn,

34 Perchen y pydew a dâl am dany [...] arian a dâl efe iw perchennog, a'r anifail marw a fydd iddo yntef.

35 Ac os ŷch gŵr a dery ŷch, ei gymydog fel y byddo efe farw; yna gwerthant yr ŷch byw, a rhannant ei werth ef, a'r ŷch marw a rannant hefyd.

36 Neu os gwybuwyd ei fôd ef yn ŷch hwy­lioc o'r blaen, a'i berchennog heb ei gadw ef; gan dalu taled ŷch am ŷch, a bydded y marw yn eiddo ef.

PEN. XXII.

1 Am ledrad. 5 Am golled. 7 Am sarhaed. 14 Am fenthyg. 16 Am aniweird [...] 18 Am dde­winiaeth. 19 Am orwedd gydag anifail. 20 Am ddelw-addoliaeth. 21 Am ddieithraid, a gweddwon, ac ymddifaid. 25 Am vsuriaeth. 26 Am wystlon. 28 Am barch i Swyddogion. 29 Am flaen-ffrwythau.

OS lledratta vn ŷch neuNeu, Afr. ddafad, a'i ladd, neu ei werthu, taled bum ŷch am ŷch, a phedair2 Sam. 12.6. dafad am ddafad.

2 Os ceir lleidr yn torri tŷ, a'i daro fel y by­ddo farw, na choller gwaed am dano.

3 Os bydd yr haul wedi codi arno coller gwa­ed am dano: efe a ddyly gwbl dalu: oni bydd [Page] dim ganddo, gwerther ef am ei ledrad.

4 Os gan gael y ceir yn ei law ef y lledrad yn fyw, o eidion neu assyn, neu ddafad, taled yn ddwbl.

5 Os pawr vn faes, neu win-llan, a gyrru ei anifail i bori maes vn arall, taled o'r hyn go­reu yn ei faes ei hun, ac o'r hyn goreu yn ei win-llan ei hun.

6 Os tân a dyrr allan, ac a gaiff afel mewn drain, fel y difaer dâs o ŷd, neu ŷd ar ei droed, neu faes; cwbl daled yr hwn a gynneuodd y tân.

7 Os rhydd vn iw gymydog arian, neu ddo­drefn i gadw, a'i ledratta o dŷ 'r gŵr, os y lleidr a geir, taled yn ddwbl.

8 Os y lleidr ni cheir, dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu, a estynnodd efe ei law at dda ei gymydog.

9 Am bôb mâth ar gamwedd, am eidion, am assyn, am ddafad, am ddilledyn, ac am bôb peth a gollo 'r hwn y dywedo arall ei fôd yn eiddo: deued achos y ddau ger bron y barnwŷr, a'r hwn y barno y swyddogion yn ei erbyn, taled iw gymydog yn ddwbl.

10 Os rhydd un assyn, neu eidion, neu dda­fad, neu vn anifail at ei gymydog i gadw, a marw o honaw, neu ei friwo, neu ei yrru ym­maith heb nêb yn gweled:

11 Bydded llŵ 'r Arglwydd rhyngddynt ill dau; na roddes efe ei law at dda ei gymydog: a chymmered ei berchennog hynny, ac na wnaed y llall iawn.

12Gen. 31.39. Ac os gan ledratta y lledratteir ef oddi wrtho, gwnaed iawn iw berchennog.

13 Os gan ysclyfaethu yr ysclyfaethir ef, dyged ef yn dystiolaeth, ac na thaled am yr hwn a ysclyfaethwyd.

14 Ond os benthygia vn gan ei gymydog ddim, a'i friwo, neu ei farw, heb fod ei berch­ennog gyd ag ef; gan dalu taled.

15 Os ei berchennoc fydd gyd ag ef; na tha­led: os llôg yw efe, am ei lôg y daeth.

16Deut. 22.28. Ac os huda vn forwyn yr hon ni ddy­weddiwyd, a gorwedd gyd â hi; gan gynnysc­aeddu cynnhyscaedded hi 'n wraig iddo ei hun.

17 Os ei thâd a lwyr wrthyd ei rhoddi hi iddo,Heb. Pwysed. taled arian yn ôl gwaddol morwynion.

18 Na chaffed hudoles fyw.

19 Llwyr rodder i farwolaeth bôb vn a or­weddo gyd ag anifail.

20Deut. 13.13. 1 Mac. 2.24. Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i'r Arglwydd yn vnic.

21Levit. 19.33. Na orthrymma, ac na flina y dieithr; canys dieithraid fuoch chwithau yn nhir yr Aipht.

22 Na chystuddiwch vn weddw, nac ym­ddifad.

23Zac. 7.10. Os cystuddiwch hwynt mewn vn môdd, a gwaeddi o honynt ddim arnaf, mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt;

24 A'm digofaint a ennyn, a mi ach lladdaf a'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn wedd­won, a'ch plant yn ymddifaid.

25Levi [...]. [...] 37. [...]. 23. [...].5. Os echwyni arian i'm pobl sy dlawd yn dy ymmyl na fydd fel occrwr iddynt: na ddôd vsuriaeth arnynt.

26 Os cymmeri ddilledyn dy gymydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul:

27 O herwydd hynny yn vnic sydd iw roddi [...]no ef, hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen [...] mewn pa beth y gorwedd? a bydd os gwae­ [...] efe arnaf, i mi wrando, canys trugarog [...]

28Act. 23.5. Na chabla yDuwiau swyddogion, ac na fell­dithia bennaeth dy bobl.

29 Nac oeda dalu Heb. dy gy­flawnder. y cyntaf o'th ffrwythau addfed, ac o'thHeb. ddagrau. bethau gwlybion; dod i miPen. 13.2. & 34.19. y cyntaf-anedic o'th feibion.

30 Felly y gwnei am dy eidion, ac am dy ddafad; saith niwrnod y bydd gyd a'i fam, a'r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.

31 A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi:Levit. 22.8. Ezek. 44.31. ac na fwyttewch gîg wedi ei ysclyfaethu yn y maes; teflwch ef i'r ci.

PEN. XXIII.

1 Am enllib, a gau dystiolaeth. 3. 6. Am gyfiawn­der. 4 Am gymydogaeth. 10 Am y flwyddyn orphwys. 12 Am y Sabboth. 13 Am ddelw addoliaeth. 14 Am y tair gwyl. 18 Am waed a brasder yr aberth. 20 Addaw Angel, a bendith os hwy a vfyddhânt.

NANeu, Dderbyn. chyfod enllib; na ddôd dy law gyd â'r annuwiol i fod yn dŷst anwir.

2 Na ddilyn liaws i wneuthur drwg, ac nac atteb mewn ymrafael, gan bwyso yn ôl llawer­oedd i wyro barn.

3 Na pharcha y tlawd y chwaith yn ei ym­rafael.

4Mat. 5.44. Os cyfarfyddi ag eidion dy elyn, neu a'i assyn, yn myned ar gyfyrgoll, dychwel ef adref iddo.

5Deut. 22.4. Os gweli assyn yr hwn a'th gassa yn gor­wedd dan ei phwn; a beidi a'i gynnorthwyo? gan gynnorthwyo cynnorthwya gyd ag ef.

6 Na wyra farn dy dlawd yn ei ymrafael.

7 Ymgadw ym mhell oddi wrth gamfatter: Na ladd y chwaith na'r gwirion, na'r cyfiawn: canys ni chyfiawnhafi 'r annuwiol.

8 NaDeut. 16.19. Ecclus. 20.29. dderbyn wobr, canys gwobr a ddalla yDoe­thion. rhai sy yn gweled, ac a wyra eiriau y cy­fiawn.

9 Na orthrymma y dieithr; chwi a wyddochHeb. enaid. galon y dieithr; o herwydd chwi a fuoch ddieithraid yn nhîr yr Aipht.

10Levit. 25 3. & 26.43. Chwe blynedd yr heui dy dîr, ac y cesgli ei ffrwyth:

11 A'r seithfed paid ag ef, a gâd ef yn llonydd, fel y caffo tlodion dy bobl fwytta: a bwyttaed bwyst-fil y maes eu gweddill hwynt: felly y gwnei am dy winllan, ac am dy oliwydden.

12Pen. 20.8. Luc. 13.14. Deut. 5.13. Chwe diwrnod y gwnei dy waith, ac ar y seithfed dydd y gorphywysi; fel y caffo dy ŷch, a'th assyn lonyddwch, ac y cymmero mâb dy forwyn gaeth, a'r dieithr-ddŷn ei anadl atto.

13 Ac ymgedwch ym mhôb peth a ddywe­dais wrthych: na chofiwch enw duwiau eraill: na chlywer hynny o'th enau.

14 Teir-gwaithDeut. 16.16. yn y flwyddyn y cedwi wŷl i mi.

15Pen. 13.3. & 34.18. Gŵyl y bara croyw a gedwi: saith ni­wrnod y bwyttei fara croyw, fel y gorchymyn­nais it, ar yr amser gosodedic o fîs Abib: ca­nys ynddo y daethost allan o'r Aipht:Deut. 16.16. Ecclus. 35.4. ac nac ymddangosed nêb ger fy-mron yn waglaw:

16 A gŵyl cynhaiaf blaen-ffrwyth dy lafur yr hwn a heuaist yn y maes▪ a gŵyl y cynnull yn niwedd y flwyddyn, pan gynhullech dy la­fur o'r maes.

17 Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymdden­gys dy holl wrrywaid ger bron yr Arglwydd Dduw.

18 Nac abertha waed fy aberth gyd â bara lefeinllyd: ac nac arhoed brasder fyNeu, ngwyl. aberth dros nôs hyd y borau.

19Pen. 34.36. Dŵg i dŷ 'r Arglwydd dy Dduw y [Page] cyntaf o flaen-ffrwyth dy dîr.Deut. 14.21. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.

20Pen. 33 2. Wele fi yn anfon angel o'th flaen i'th gadw ar y ffordd; ac i'th arwain i'r man a baratoais.

21 Gwilia rhagddo, a gwrando ar ei lais ef, na chyffroa ef; canys ni ddioddef eich anwi­redd, o blegit y mae fy enw ynddo ef.

22 Os gan wrando y gwrandewi ar ei lais ef, a gwneuthur cwbl a lefarwyf, mi a fyddaf elyn i'th elynion, ac a wrthwynebaf dy wrthwyneb-wyr.

23 O Herwydd fy angel â o'th flaen di,Josua 24.11. ac a'th ddŵg di i mewn at yr Amoriaid, a'r Hethiaid, a'r Phereziaid, a'r Canaaneaid, yr He­fiaid, a'r Jebusiaid: a mi a'i difethaf hwynt.

24 Nac ymgrymma iw duwiau hwynt, ac na wasanaetha hwynt, ac na wna yn ôl eu gweithredoedd hwynt,Deut. 7.25. onid llwyr ddinistria hwynt, dryllia eu delwau hwynt yn gandryll.

25 A chwi a wasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, ac efe a fendithia dy fara, a'th ddwfr, a mi a dynnaf ymmaith bôb clefyd o'th fysc.

26Deut. 7.14. Ni bydd yn dy dîr di ddim yn erthylu, na heb hilio: mi a gyflawnaf rifedi dy ddyddiau.

27 Mi a anfonaf fy arswyd o'th flaen, ac a ddifethaf yr holl bobl y deui attynt, ac a wnâf i'th holl elynion droi eu gwarrau attat.

28 A mi aJosua 24.12. anfonaf gaccwn o'th flaen, a hwy a yrrant yr Hefiaid, a'r Canaaneaid, a'r Hethiaid allan o'th flaen di.

29 Ni yrraf hwynt allan o'th flaen di mewn vn flwyddyn; rhac bôd y wlâd yn anghyfan­nedd, ac i fwyst-filod y maes amlhau yn dy er­byn di.

30 O fesur ychydic ac ychydic y gyrraf hwynt allan o'th flaen di, nes iti gynnyddu ac etifeddu y tîr.

31 A gossodaf dy derfyn o'r môr côch hyd fôr y Philistiaid, ac o'r diffaethwch hyd yr afon: canys mi a roddaf yn eich meddiant bresswyl­wyr y tîr, a thi a'i gyrri hwynt allan o'th flaen.

32 NaPen. 34.15. Deut. 7.2. wna ammod â hwynt, nac a'i duwiau.

33 Na âd iddynt drigo yn dy wlâd, rhac iddynt beri it bechu im herbyn: canys os gwa­sanaethi di eu duwiau hwynt,Deut. 7.16. Jos. 23.13. Barn. 2.3. diau y bydd hynny yn dramgwydd i ti.

PEN. XXIIII.

1 Galw Moses i'r mynydd. 3 Y bobl yn addo vfydd-dod. 4 Moses yn adailadu allor a deuddec colofn, 6 yn taenellu gwaed y Cyfammod. 14 Aaron a Hur a siars y bobl arnynt. 15 Moses yn myned ir mynydd, lle y mae efe yn aros ddeu­gain nhiwrnod, a deugain nhôs.

AC efe a ddywedodd wrth Moses, tyred i fynu at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Na­dab, ac Abihu, a'r dec a thrugain o henuriaid Israel: ac addolwch o hir-bell.

2 Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd, ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fynu gyd ag ef.

3 A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i'r bobl holl eiriau 'r Arglwydd, a'r holl farnedigaethau: ac attebodd yr holl bobl yn vn-air, ac a ddy­wedasant,Pen. 19.8. & 24.3.7. Deut. 5.27. ni a wnawn yr holl eiriau, a lefa­rodd yr Arglwydd.

4 A Moses a scrifennodd holl eiriau 'r Ar­glwydd, ac a gododd yn forau, ac aPen. 20.25. adailadodd allor islaw y mynydd, a deuddec colofn, yn ôl deuddec llwyth Israel.

5 Ac efe a anfonodd langciau meibion Israel, a hwy a offrymmasant boeth offrymmau, ac a ab­erthasant fustych yn ebyrth hedd i'r Arglwydd.

6 A chymmerodd Moses hanner y gwaed, ac a'i gossododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor.

7 Ac efe a gymmerth lyfr y cyfammod, ac a'i darllenodd lle y clywe y bobl: a dyweda­sant,vers. 3. ni a wnawn, ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd.

8 A chymmerodd Moses y gwaed, ac a'i tae­nellodd ar y bobl, ac a ddywedodd,Heb. 9.20. 1 Pet. 1.2. wele waed y cyfammod yr hwn a wnaeth yr Argl­wydd a chwi, ar ôl yr holl eiriau hyn.

9 Yna 'r aeth Moses i fynu, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a dêc a thrugain o henuriaid Israel.

10 A gwelsant Dduw Israel, a than ei draed megis gwaith o faen Saphir, ac fel corph y ne­foedd o ddiscleirder.

11 Ac ni roddes ei law ar bendefigion mei­bion Israel, onid gwelsant Dduw, a bwyttasant, ac yfasant.

12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, tyret i fynu attaf i'r mynydd a bydd yno: ac mi a roddaf it lechau cerric, a chyfraith, a gorchy­mynion y rhai a scrifennais iw dyscu hwynt.

13 A chododd Moses, a Josua ei wenidog, ac aeth Moses i fynu i fynydd Duw.

14 Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, arho­swch ni yma, hyd oni ddelom attoch drachefn: ac wele Aaron, a Hur gyd a chwi; pwy bynnac a fyddo ag achos iddo deued attynt hwy.

15 A Moses aeth i fynu i'r mynydd; a chwm­mwl a orchguddiodd y mynydd.

16 A gogoniant yr Arglwydd a arhôdd ar fynydd Sinai, a'r cwmmwl a'i gorchguddiodd chwe diwrnod, ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmmwl.

17 A'r golwg ar ogoniant yr Arglwydd oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd, yngolwg mei­bion Israel.

18 A Moses aeth i ganol y cwmmwl, ac aeth i fynu i'r mynydd: a bu Moses yn y my­nyddPen. 34.28. Deut. 9.9. ddeugain nhiwrnod, a deugain nhôs.

PEN. XXV.

Pa beth sydd raid i'r Israeliaid ei offrwn-tuac at wneuthur y Babell. 10 Dull yr Arch. 17 Y drugareddfa a'r Cerubiaid. 23 Y Bwrdd a'i ar­lwy. 31 Y Canwyllbren a'i offer.

AR Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd;

2 Dywed wrth feibion Israel,Heb. gymeryd. am ddwyn o honynt i miOffrwm dercha­fael. offrwm:Pen 35.5. gan bôb gwr ew­yllysgar ei galon y cymmerwch fy offrwm.

3 Ac dymma 'r offrwm a gymmerwch ganddynt; aur, ac arian, a phrês,

4 A sidan glâs, a phorphor ac yscarlat, aSidan. lliain main, a blew geifr,

5 A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daiar-foch, a choed Sittim,

6 Olew i'r goleuni, llyseuau i olew 'r en­naiat, ac i'r pêr-arogl-darth,

7 Meini Onix, a meini iw gossodPen. 28.4. yn yr E­phod, acPen. 28.15. yn y ddwyfronnec.

8 A gwnant i mi gyssegr, fel y gallwyf drigo yn eu mysc hwynt.

9 Yn ôl holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai 'r ydwyf yn eu dangos it, felly y gwnewch.

10 A gwnant ArchPen. 37.1. o goêd Sittim, o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei llêd, a chufydd a hanner ei huchder.

11 A gwisc hi ag aur coeth; o fewn ac oddi allan y gwisci hi: a gwna arni goron o aur o amgylch.

12 Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur, a dod ar ei phedair congl: dwy fodrwy ar vn ystlys iddi, a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi.

13 A gwna drossolion o goed Sittim, a gwisc hwynt ag aur.

14 A gossod y trossolion trwy y modrwyau, gan ystlys yr Arch, i ddwyn yr Arch arnynt.

15 Ym modrwyau 'r Arch y bydd y trosso­lion, na symmuder hwynt oddi wrthi.

16 A dod yn yr Arch y destiolaeth a roddaf it.

17 A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei llêd.

18 A gwna ddau Gerub o aur; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwrr y dru­gareddfa.

19 Vn Cerub y wnei yn y naill ben, a'r Ce­rub arall yn y pen arall: o'r drugareddfa, ar ei dau ben hi y gwnewch y Cerubiaid.

20 A bydded y Cerubiaid yn lledu eu hesgyll i fynu, gan orchguddio y drugareddfa â'i hesgyll, a'i hwynebau bôb vn at ei gilydd: tua 'r dru­gareddfa y bydd wynebau y Cerubiaid.

21 A dod y drugareddfa i fynu ar yr Arch, ac yn yr Arch dod y destiolaeth a roddaf i ti.

22 A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthit oddiar y drugareddfa,Num. 7.89. oddi rhwng y ddau Gerub y rhai a fyddant ar Arch y destio­laeth, yr holl bethau a orchymynnwyf wrthit i feibion Israel.

23 APen. 37.10. gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hŷd, a chufydd ei lêd, a chufydd a hanner ei vchder.

24 A gosod aur coeth trosto, a gwna iddo goron o aur o amgylch.

25 A gwna iddo wregys o lêd llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch.

26 A gwna iddo bedair modrwy o aûr, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fy­ddant ar ei bedwar troed.

27 Ar gyfer y cylch y bydd y modrwyau, yn lleoedd i'r trossolion i ddwyn y bwrdd.

28 A gwna y trossolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur fel y dyger y bwrdd arnynt.

29 A gwna ei ddysglau ef, a'i lwyau, a'i gaeadau, a'i phiolau, y rhai yNeu, gorchgu­ddir. tywelltir a hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt.

30 A dod ar y bwrdd y bara dangos ger bron fy wyneb yn oestadol.

31Pen. 37.17. Gwna hefyd ganhwyllbren; o aur pûr yn gyfan-waith y gwneir y canhwyllbren: ei baladr, ei geingciau, ei bedyll, ei gnappiau, a'i flodau, a fyddant o'r vn.

32 A bydd chwe chaingc yn dyfod allan o'i ystlysau: tair caingc o'r canhwyll-bren o vn tu, a thair caingc o'r canhwyll-bren o'r tu arall.

33 Tair padell o waith almonau, cnap a blo­deun ar vn gaingc; a thair padell o waith almo­nau, cnap a blodeun ar gaingc arall; felly ar y thwe chaingc a fyddo 'n dyfod allan o'r can­hwyll-bren.

34 Ac yn y canhwyll-bren y bydd pedair pa­dell ar waith almonau, a'i gnappiau, a'i flodau.

35 A bydd cnap tan ddwy gaingc o honaw, a chnap tan ddwy gaingc o honaw, a chnap tan ddwy gaingc o honaw: yn ol y chwe chaingc a ddeuant o'r canhwyll-bren.

36 Eu cnappiau, a'i ceingciau a fyddant o'r vn: y cwbl fydd aur coeth o vn cyfanwaith morthwyl.

37 A thi a wnei ei saith lusern ef, ac aNeu, gyfedi. oleui ei lusernau ef, fel y goleuo efe ar gyfer ei wy­neb.

38 A bydded ei efeiliau, a'i gafnau o aur coeth.

39 O dalent o aur coeth y gwnei ef, a'r holl lestri hyn.

40 OndAct. 7.44. Heb. 8.5. gwel wneuthur yn ôl eu portreiad hwynt a ddangoswyd it yn y mynydd.

PEN. XXVI.

1 Dec llen y Tabernacl. 7 Yr vn llen ar ddec o flew geifr. 14 Y Babell-len o grwyn hyrddod. 15 Byrddau y Tabernacl gyda 'i morteisiau a'i barrau. 31 Y wahan-len i'r Arch. 36 Y gaead­len i'r drws.

Y Tabernacl hefyd a wnei di o ddêc llen o liain main cyfrodedd, ac o sidan glâs, a phorphor, ac yscarlat: yn Gerubiaid o Hebr. waith y cywraint. gyw­reinwaith y gwnei hwynt.

2 Hŷd vn llen fydd wyth gufydd ar hûgain, a llêd vn llen fydd pedwar cufydd; yr vn me­sur a fydd i'r holl lenni.

3 Pum llen a fyddant ynglŷn bôb vn wrth ei gilydd, a phum llen eraill a fyddant ynglŷn wrth ei gilydd.

4 A gwna ddolennau o sidan glâs ar ymyl vn llen, ar y cwrr, yn y cydiad; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llen arall yn yr ail cydiad.

5 Dêg dolen a deugain a wnei di i vn llen, a dêc dolen a deugain a wnei ar gwrr y llen a fy­ddo yn yr ail cydiad: y dolennau a dderbyni­ant bôb vn ei gilydd.

6 Gwna hefyd ddêc bâch a deugain o aur, a chydia â'r bachau y llenni bôb vn wrth ei gi­lydd, fel y byddo yn vn tabernacl.

7 A gwna lenni o flew geifr i fod yn babell-len ar y tabernacl: vn llen ar ddêc a wnei.

8 Hŷd vn llen fydd dêc cufydd ar hugain, a llêd vn llen fydd pedwar cufydd; a'r vn mesur fydd i'r vn llen ar ddêc.

9 A chydia bum llen wrthynt eu hun, a chwe llen wrthynt eu hun: a dybla y chweched len ar gyfer wyneb y babell-len.

10 A gwna ddêc dolen a deugain ar ymyl y naill len, ar y cwrr, yn y cydiad cyntaf; a dêc dolen a deugain ar ymyl y llen arall yn yr ail cydiad.

11 A gwna ddêc bâch a deugain o brês, a dod y bachau yn y dolennau, a chylymma y ba­bell-len, fel y byddo yn vn.

12 A'r gweddill a fyddo tros ben, o lenni y babell-len sef yr hanner llen weddill, a fydd yng­weddill ar du cefn y tabernacl.

13 Fel y byddo o'r gweddill gufydd o'r naill du, a chufydd o'r tu arall, o hyd y babell-len: bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl, o'r tu yma ac o'r tu accw, iw orchguddio.

14 A gwna dô i'r babell-len o grwyn hyrddod wedi eu llifo yn gochion, a thô o grwyn daiar­foch yn vchaf.

15 A gwna i'r tabernacl styllod o goed Sittim, yn eu sefyll.

16 Dêc cufydd fydd hŷd ystyllen, a chufydd a hanner cufydd fydd llêd pob ystyllen.

17 Bydded Hebr. dwy law. dau dŷno i vn bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bôb vn ar gyfer ei gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau y tabernacl.

18 A gwna styllod i'r tabernacl, vgain yst­yllen o'r tu dehau, tu a'r dehau.

19 A gwna ddeugain mortais arian tan yr vgain ystyllen, dwy fortais tan vn ystyllen iw dau dŷno, a dwy fortais tan styllen arall, iw dau dyno.

20 A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du 'r gogledd vgain ystyllen,

21 A deugain mortais o arian, dwy fortais tan vn ystyllen, a dwy fortais tan ystyllen arall.

22 Hefyd i ystlys y tabernacl o du'rgorllew­in, y gwnei chwech ystyllen.

23 A dwy styllen a wnei i gonglau y taber­nacl yn y ddau ystlys.

24 A byddant wedi euCydble­thu. cyssylldu oddi tan­odd: byddant hefyd wedi eu cyd-gydio oddi arnodd wrth vn fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i'r ddwy gongl y byddant.

25 A byddant yn wyth ystyllen, a'i morteisiau arian yn vn fortais ar bymthec: dwy fortais dan vn ystyllen, a dwy fortais tan ystyllen arall.

26 Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump î ystyllod un ystlys i'r tabernacl,

27 A phum barr i styllod ail ystlys y taber­nacl, a phum barr i ystyllod ystlys y tabernacl i'r ddau ystlys tu a'r gorllewin.

28 A'r barr canol ynghanol yr ystyllod, a gyrraedd o gwrr i gwrr.

29 Gosod hefyd aur tros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau drwyddynt: gwisg y barrau hefyd ag aur.

30 APen. 25.9.40. Act. 7.44. Heb. 8.5. chyfod y tabernacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd it yn y mynydd.

31 A gwna wahan-len o sidan glâs, porphor ac scarlat, ac o liain main cyfrodedd: â Cherubi­aid o waith cywreint y gwnei hi.

32 A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur, a'i pennau o aur ar be­dair mortais arian.

33 A dod y wahan-len wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno o fewn y wahan-len Arch y destiolaeth: a'r wahan-len a wna wahan i chwi rhwng y cyssegr, a'r cyssegr sancteiddiolaf.

34 Dod hefyd y drugareddfa ac Arch y desti­olaeth yn y cyssegr sancteiddiolaf.

35 A gosot y bwrdd o'r tu allan i'r wahan-len, a'r canhwyll-bren gyferbyn a'r bwrdd, ar y tu dehau i'r tabernacl: a dod y bwrdd ar du y gogledd.

36 A gwna gaead-len i ddrws y babell, o si­dan glâs a phorphor ac yscarlat, ac o liain main cyfrodedd o wniad-waith.

37 A gwna i'r gaead-len bum colofn o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur: a'i pennau fydd o aur, a bwrw iddynt bum mortais brês.

PEN. XXVII.

1 Allor y poeth offrwm a'i llestri. 9 Cynteddfa y Tabernacl wedi ei gau â llenni ac âcholofnau, 18 Mesur y Cynteddfa. 20 Yr olew i'r lamp.

GWna hefyd allor o goed Sittim o bum cu­fydd o hŷd, a phum cufydd o lêd: ynBedwar­sgwâr. bedair­ongl y bydd yr allor, a'i huchder o drichufydd.

2 A gwna ei chyrn; ar ei phedair congl: o'r vn y bydd ei chyrn; a gwisc hi â phrês.

3 Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei llu­dw; a'i rhawiau, a'i chawgiau, a'i chigweiniau, a'i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o brês.

4 A gwna iddi alch o brês, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o brês ar ei phedair congl.

5 A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tan­odd fel y byddo y rhwyd hyd hanner yr allor.

6 A gwna drosolion i'r allor sef trosolion o goed Sittim, a gwisc hwynt â phrês.

7 A dod ei throssolion trwy y modrwyau, a bydded y trossolion ar ddau ystlys yr allor i'w dwyn hi.

8 Gwna hi ag ystyllod yn gau: fel yHebr. dango­fodd. dan­goswyd i ti yn y mynydd: felly y gwnant hi.

9 A gwna gynteddfa y tabernacl ar y tu de­hau tua'r dehau: llenni y cynteddra fyddant liain main cyfrodedd, o gan cufydd o hŷd i vn ystlys.

10 A'i hugain colofn, a'i hugain mortais fydd o brês: pennau y colofnau, a'i cylchau fydd o arian.

11 Felly o du'r gogledd ar hŷd, y bydd llen­ni, o gant cufydd o hŷd, ai hugain colofn, a'i hu­gain mortais o brês: a phennau y colofnau, a'i cylchau o arian.

12 Ac i lêd y cynteddfa o du'r gorllewin y bydd llenni o ddêc cufydd a deugain: eu colof­nau fyddant ddêc, a'i morteisiau yn ddêc.

13 A llêd y cynteddfa tua'r dwyrain o go­diad haul, a fydd dêc cufydd a deugain.

14 Y llenni o'r naill du a fyddant bymthec cufydd, eu colofnau yn dair, a'i morteisiau yn dair.

15 Ac i'r ail tu y bydd pymthec llen, eu tair colofn a'i tair mortais.

16 Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o vgein cufydd o sidan glâs, porphor, ac yscar­lat, ac o liain main cyfrodedd o wniad-waith: eu pedair colofn, a'i pedair mortais.

17 Holl golofnau y cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian, a'i pennau yn arian, a'i mor­teisiau yn brês.

18 Hŷd y cynteddfa fydd can cufydd, a'i lêd yn ddec a deugain o bôb tu: a phum cufydd o uchder o liain main cyfrodedd, a'i morteisiau o brês.

19 Holl lestri y tabernacl yn eu holl wasa­naeth, a'i holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa fyddant o brês.

20 A gorchymyn dithe i feibion Israel ddwyn o honynt attat bur olew'r oliwydden coethe­dic, yn oleuni, i beri i'r lampHebr. ddercha­fu. losci yn oestad.

21 Ym mhabell y cyfarfod o'r tu allan i'r wa­hanlen, yr hon fydd o flaen y destiolaeth, y trefna Aaron, a'i feibion hwnnw, o'r hwyr hyd y borau, ger bron yr Arglwydd: deddf dragywyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.

PEN. XXVIII.

1 Nailltuo Aaron a'i feibion i swydd yr offeiriaid. 2 Gorchymmyn gwiscoedd sanctaidd. 6 Yr Ephod. 15 Y ddwy fronneg a'r deuddeg maen gwerth-fawr. 30 Yr Vrim a'r Thummim. 31 Mantell yr Ephod gyd a'i phomgranadau a'i chlŷch. 36 Dalen y meitr. 39 Y hais wmad­waith. 40 Gwiscoedd meibion Aaron.

A Chymmer Aaron dy frawd attat, a'i feibi­on gyd ag ef, o blith meibion Israel, i offei­riadu i mi: sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleazar, ac Ithamar meibion Aaron.

2 Gwna hefyd wiscoedd sanctaidd i Aaron dy frawd; er gogoniant, a harddwch.

3 A dywed wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i ag yspryd doethineb, am wneu­thur o honynt ddillad Aaron i'w sancteiddio ef i offeiriadu i mi.

4 Ac dymma y gwiscoedd a wnant, dwyfron­nec, ac Ephod, mantell hefyd, a phais o waith edef a nodwydd, meitr a gwregys: felly y gwnant wiscoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac iw feibion i offeiriadu i mi.

5 Cymmerant gan hynny aur, a sidan gids, a phorphor, ac yscarlat, a lliain main.

6 A gwnant yr Ephod o aur, sidan glâs, a phorphor, ac yscarlat a lliain main cyfrodedd o waith cywraint.

7 Dwy yscwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwrr: ac felly y cydir hi ynghyd.

8 A gwregys cywraint ei Ephod ef, yr hwn fydd arni, fydd o'r vn, yn vnwaith a hi: o aur, sidan glâs, â phorphor, scarlet hefyd, a lliain main cyfrodedd.

9 Cymmer hefyd ddau faen Onix, a nâdd yn­ddynt enwau meibion Israel.

10 Chwech o'i henwau ar vn maen; a'r chwe henw arall ar yr ail maen, yn ol eu gene­digaeth.

11Doeth. 18.24. A gwaith naddwr mewn main fel na­ddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, â henwau meibion Israel: gwna hwynt a boglynnau o aur o'i hamgylch.

12 A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr Ephod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt ger bron yr Ar­glwydd ar ei ddwy yscwydd yn goffadwriaeth.

13 Gwna hefyd foglynnau aur,

14 A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau: o bleth-waith y gwnei hwynt: a dod y cadwy­nau plethedic ynglŷn wrth y boglynnau.

15 Gwna hefyd ddwyfronnec barnedigaeth o waith cywraint; ar waith yr Ephod y gwnei hi: o aur, sidan glâs, a phorphor, ac yscarlat, a lliain main cyfrodedd y gwnei hi.

16 Pedair-ongl fydd hi yn ddau ddyblyg; yn rhychwant ei hŷd, ac yn rhychwant ei llêd.

17 Llanw hi yn llawn o feini, sef pedair rhês o feini: vn rhês fyddNeu, Rubi. Sardius, a Thophas, a Smaragdus: hyn fydd y rhês gyntaf.

18 A'r ail rhês fydd Carbuncl, Saphir, ac A­damant.

19 A'r drydydd rhês fydd Lygur, ac Achat, ac Amethyst.

20 Y bedwared rhês fydd Beryl, ac Onix, a Jaspis: byddant wedi eu gosod mewn aur yn eu lleoedd.

21 A'r meini fyddant â henwau meibion Is­rael, yn ddeuddec yn ol eu henwau hwynt: o naddiad sêl, bob vn wrth ei henw y byddant yn ôl y deuddec llwyth.

22 A gwna ar y ddwyfronnec gadwynau ar y cyrrau, yn bleth-waith o aur coeth.

23 Gwna hefyd ar y ddwyfronnec ddwy fodrwy o aur, a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwrr y ddwyfronnec.

24 A dod y ddwy gadwyn blethedic o aur, trwy y ddwy fodrwy, ar gyrrau y ddwyfronnec.

25 A'r ddau ben arall i'r ddwy gadwyn ble­thedic dôd ynglŷn wrth y ddau foglyn, a dod ar yscwyddau yr Ephod o'r tu blaen.

26 Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur, a gosod hwynt ar ddau ben y ddwyfronnec; ar yr ym­myl sydd ar ystiys yr Ephod o'r tu mewn.

27 A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr Ephod oddi tanodd, tu a'i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr Ephod.

28 A'r ddwyfronnec a rwymant a'i modrwyau wrth fodrwyau 'r Ephod â llinin o sidan glâs, fel y byddo oddi ar wregys yr Ephod, fel na dda­roder y ddwyfronnec oddi wrth yr Ephod.

29 A dyged Aaron yn nwyfronnec y farne­digaeth, henwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i'r cyssegr, yn goffadwriaeth ger bron yr Arglwydd yn oestadol.

30 A dod ar ddwyfronnec y farnedigaeth yr Vrim a'r Thummim, a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn ger bron yr Arglwydd: ac Aa­ron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei ga­lon, ger bron yr Arglwydd yn oestadol.

31 Gwna hefyd fantell yr Ephod oll o sidan glâs.

32 A bydd twll yn ei phen vchaf hi ar ei cha­nol: gwrym o waith gwehydd o amgylch y twll, megis twll lluric fydd iddi, rhac rhwygo.

33 A gwna ar ei godre hi bomgranadau o sidan glâs, a phorphor, ac yscarlat ar ei godrau o am­gylch; a chlych o aur rhyngddynt o amgylch.

34 Clôch aur a phom-granad, a chlôch aur a phom-granad, ar odre y fantell o amgylch.

35Ecclus. 45.10. A hi a fydd am Aaron wrth weini: a cheir clywed ei swn ef pan ddelo i'r cyssegr, ger bron yr Arglwydd, a phan elo allan, fel na byddo farw.

36 Gwna hefyd ddalen o aur coeth; a nadd arni fel naddiadau sel, Sancteiddrwydd i'r Ar­glwydd.

37 A gosod hi wrth linin o sidan glâs, a bydd­ed ar y meitr: o'r tu blaen i'r meitr y bydd.

38 A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd, a gyssegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn oestad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafor ger bron yr Arglwydd.

39 Gweithia ag edef a nodwydd y bais o li­ain main: a gwna feitr o liain main, a'r gwre­gys a wnei o wniad-waith.

40 I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau: gwna hefyd iddynt gappiau, er gogoniant a harddwch.

41 A gwisc hwynt am Aaron dy frawd a'i feibion gyd ag ef: ac eneinia hwynt,Hebr. llanw eu llaw. cysseg­ra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt i offeiria­du i mi.

42Leuit. 6.10. Gwna hefyd iddynt lodrau lliain i guddio eu cnawd noeth: o'r lwynau hyd y morddwyd­ydd y byddant.

43 A byddant am Aaron, ac am ei feibion pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod, neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cyssegr, fel na ddygont anwiredd, a marw: hyn fydd deddf dragywyddol iddo ef, ac iw hâd ar ei ol.

PEN. XXIX.

1 Yr aberth a'r ceremoniau a arferid wrth gysse­gru yr offeiriaid. 38 Y llosc-offrwm gwastadol. 45 Addewid Duw ar drigo ymhlith plant Is­rael.

DYmma hefyd yr hyn a wnei di iddynt iw cyssegru hwynt, i offeiriadu i mi:Leuit. 9.2. cym­mer vn bustach ieuangc, a dau hwrdd persfeith­gwbl,

2 A bara croyw, a theisennau croyw wedi eu cymmyscu ag olew, ac afrllad croyw wedi eu hi­ro ag olew: o beillied gwenith y gwnei hwynt.

3 A dod hwynt mewn vn cawell, a dwg hwynt yn y cawell gyd a'r bustach a'r ddau hwrdd.

4 Dwg hefyd Aaron a'i feibion i ddrws pa­bell y cyfarfod; a golch hwynt â dwfr.

5 A chymmer y gwiscoedd, a gwisc am Aa­ron y bais, a mantell yr Ephod, a'r Ephod he­fyd, a'r ddwyfronnec: a gwregyssa ef a gwre­gys yr Ephod.

6 A gosot y meitr ar ei ben ef, a dodPen. 28 36. y goron gyssegredic ar y meitr.

7 Yna y cymmeriPen. 30.25. olew yr eneiniad, ac y tywellti ar ei ben ef, ac yr enneini ef.

8 A dwg ei feibion ef, a gwisc beisiau am danynt.

9 A gwregysa hwynt â gwregysau, sef Aaron a'i feibion, aHebr. Rhwym. gwisc hwynt â chappiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragywy­ddol:Pen. 28.41. a thi a gyssegri Aaron a'i feibion.

10 A phâr ddwyn y bustach ger bron pabell y cyfarfod; aLeuit. 1.4. rhodded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben y bustach.

11 A lladd y bustach ger bron yr Arglwydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

12 A chymmer o waed y bustach, a dod ar gyrn yr allor â'th fŷs; a thywallt yr holl waed arall wrth droed yr allor.

13Leu. 3.3. Cymmer hefyd yr holl frasder a fydd yn gorchguddio y perfedd, a'rY lliein­gig yw medd yr Hebre­wyr. rhwyden a fyddo ar yr afu, a'r ddwy aren, a'r brasder a fyddo ar­nynt; a llosc ar yr allor.

14 Ond cîg y bustach, a'i groen, a'i fiswel, a losci mewn tân, o'r tu allan i'r gwerssyll: aberth tros bechod yw.

15 Cymmer hefyd vn hwrdd; a gosoded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.

16 A lladd yr hwrdd; a chymmer ei waed ef, a thaenella ar yr allor o amgylch.

17 A thorr yr hwrdd yn ddarnau; a golch ei berfedd, a'i draed, a dod hwynt yng-hyd a'i ddarnau, acNeu, ar ei. a'i ben.

18 A llosc yr hwrdd i gyd ar yr allor, poeth offrwm i'r Arglwydd yw: arogl peraidd, aberth tanllyd i'r Arglwydd yw.

19 A chymmer yr ail hwrdd; a rhodded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.

20 Yna lladd yr hwrdd, a chymmer o'i waed, a dod ar gwrr isaf clust ddehau Aaron, ac ar gwrr isaf clust ddehau ei feibion, ac ar fawd eu llaw ddehau hwynt, ac ar fawd eu troed dehau hwynt: a thaenella y gwaed arall ar yr allor o amgylch.

21 A chymmer o'r gwaed a fyddo ar yr allor, ac o olew 'r eneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wiscoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wis­coedd ei feibion gyd ag ef: felly sanctaidd fydd efe a'i wiscoedd, ei feibion hefyd, a gwiscoedd ei feibion gyd ag ef.

22 Cymmer hefyd o'r hwrdd,Leuit. 8.25. y gwêr, a'r gloren, a'r gwêr sydd yn gorchguddio y per­fedd, a rhwyden yr afu, a'r ddwy aren, a'r gwêr sydd arnynt, a'r yscwyddoc ddehau: canys hwrdd cyssegriad yw:

23 Ac vn dorth o fara, ac vn deisen o fara olewedic, ac vn afrlladen o gawell y bara croyw, yr hwn sydd ger bron yr Arglwydd.

24 A dod y cwbl yn-nwylo Aaron, ac yn­nwylo ei feibion, a chwhwfana hwyat yn off­rwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd.

25 A chymmer hwynt o'u dwylo, a llosc ar yr allor yn boeth offrwm; yn arogl peraidd ger bron yr Arglwydd: aberth tanllyd i'r Ar­glwydd yw.

26 Cymmer hefyd barwyden hwrdd y cys­segriad yr hwn fyddo tros Aaron, a chyhwfana ef yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd, a'th ran di fydd.

27 A sancteiddia barwyden yr offrwm cw­hwfan, ac yscwyddoc yr offrwm derchafel, yr hwn a gwhwfanwyd, a'r hwn a dderchafwyd, o hwrdd y cyssegriad, o'r hwn a fyddo tros Aaron, ac o'r hwn a fyddo tros ei feibion.

28 Ac eiddo Aaron a'i feibion fydd trwy ddeddf dragywyddol oddi wrth feibion Israel: canys offrwm derchafel yw, ac offrwm derchafel a fydd oddi wrth feibion Israel, o'i haberthau hedd, sef eu hoffrwm derchafel i'r Arglwydd.

29 A dillad sanctaidd Aaron a fyddant iw feibion ar ei ol ef, iw henneinio ynddynt, ac iw cyssegru ynddvnt.

30 Yr hwn o'i feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef, a'i gwisg hwynt saith niwrnod, pan dde­lo i babell y cyfarfod i weini yn y cyssegr.

31 A chymmer hwrdd y cyssegriad, a berw ei gig yn y lle sanctaidd.

32 A bwytaed Aaron a'i feibion gîg yr hwrdd,Leuit. 8.31. mat 12.4. a'r bara yr hwn fydd yn y cawell, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

33 A hwy a fwytânt y pethau hyn y gwnaed y cymmod â hwynt, iw cyssegru hwynt ac iw sancteiddio: ond y dieithr ni chaiff eu bwytta, canys cyssegredic ydynt.

34 Ac os gweddillir o gig y cyssegriad, neu o'r bara, hyd y boreu, yna ti a losci y gweddill â thân; ni cheir ei fwytta, oblegit cyssegredic yw.

35 A gwna fel hyn i Aaron, ac iw feibion, yn ol yr hyn oll a orchymynnais it: saith ni­wrnod y cyssegri hwynt.

36 A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth tros bechod, er cymmod: a glanhâ 'r allor we­di it wneuthur cymmod trosti, ac eneinia hi iw chyssegtu.

37 Saith niwrnod y gwnei gymmod tros yr allor, ac y sancteiddi hi: felly yr allor fydd sanctaidd; pob beth a gyffyrddo a'r allor a sanct­eiddir.

38 A dymma yr hyn a offrymmi ar yr allor:Num. 28.3. dau oen flwyddiaid bob dydd yn oestadol.

39 Yr oen cyntaf a offrymmi di y borau: a'r ail oen a offrymmi di yn y cyfnos.

40 A chyd a'r naill oen ddecfed ran o beilli­ed wedi ei gymmyscu â phedwaredd ran Hin o olew coethedic, a phedwaredd ran Hin o wîn yn ddiod offrwm.

41 A'r oen arall a offrymmi di yn y cyfnos; ac a wnei iddo yr vn modd ac i fwyd offrwm y borau, ac iw ddiod offrwm, i fod yn arogl pe­raidd, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd:

42 Yn boeth offrwm gwastadol drwy eich oesoedd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd, lle y cyfarfyddaf â chwi i lefaru wrthit yno.

43 Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf â mei­bion Israel: ac efe a sancteiddir drwy fyng-o­goniant.

44 A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a'r allor: ac Aaron a'i feibion a sancteiddiaf i offei­riadu i mi.

45 ALeuit. 26.12. 2 cor. 6.16. mi a bresswyliaf ym mysc meibion Israel, ac a fyddaf yn Dduw iddynt.

46 A hwy a gânt wybod mai myfi yw 'r Ar­glwydd eu Duw, yr hwn a'i dygais hwynt allan o dir yr Aipht, fel y trigwn yn eu plith hwynt: myfi yw yr Arglwydd eu Duw.

PEN. XXX.

1 Allor yr arogl darth. 11 Yr iawn tros bob e­naid. 17 Y golch-lestr prês. 22 Yr olew sanct­aidd i enneinio. 34 Defnydd yr arogl-darth.

GWna hefyd allor i arogl-darthu arogl­darth: o goed Sittim y gwnei di hi.

2 Yn gufydd ei hŷd, ac yn gufydd ei lled, (pedeirongl fydd hi) ac yn ddau gufydd ei huchder: ei chyrn fyddant o'r vn.

3 A gwisg hi ag aur coeth,Heb. ei nen a'i pharwy­dydd. ei chefn a'i hyst­lysau o amgylch, a'i chyrn: a gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch.

4 A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron, wrth ei dwyHeb. Assen. gongl: ar ei dau ystlys y gwnei hwynt, fel y byddant i wisco am dro­solion iw dwyn hi arnynt.

5 A'r trosolion a wnei di o goed Sittim: a gwisg hwynt ag aur.

6 A gosod hi o flaen y wahan-len sydd wrth Arch y destiolaeth, o flaen y drugareddfa sydd ar y destiolaeth, lle y cyfarfyddaf a thi.

7 Ac arogl-darthed Aaron arni arogl-darth lys­seuoc [Page] bôb boreu; pan daclo efe y lampau, yr arogl-dartha efe.

8 A phanGyfodo oleuo Aaron y lampauHeb. rhwng y ddau hwyr. yn y cyfnôs, arogl-darthed arni arogl-darth gwa­stadol ger bron yr Arglwydd drwy eich cen­hedlaethau.

9 Nac offrymmwch arni arogl-darth diei­thr, na phoeth offrwm, na bwyd offrwm: ac na thywelltwch ddiod offrwm arni.

10 A gwnaed Aaron gymmod ar ei chyrn hi vnwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech aberth y cymmod: vnwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymmod arni drwy eich cenhedlaethau: sancteiddiolaf i'r Arglwydd yw hi.

11 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

12Num. 1.2. Pan rifech feibion Israel,Heb. y rhai sy iw rhifo. dan eu rhife­di, yna rhoddant bôb vn iawn am ei enioes i'r Arglwydd pan rifer hwynt: fel na byddo plâ yn eu plith pan rifer hwynt.

13 Hyn a ddyry pôb vn a elo tan rîf, hanner sicl, yn ôl sicl y Cyssegr,:Levit. 27.25. Num. 3.47. Ezec. 45.12. vgain Gerah yw y sicl, hanner sicl fydd yn offrwm i'r Arglwydd.

14 Pôb vn a elo tan rîf, ô fâb vgein-mlwydd ac vchod, a rydd offrwm i'r Arglwydd.

15Heb. Ni chwa­nega. Ni rydd y cyfoethog fwy, ac niHeb. Leihâ. rydd y tlawd lai nâ hanner sicl, wrth roddi offrwm i'r Arglwydd, i wneuthur cymmod tros eich eneidiau.

16 A chymmer yr arian cymmod gan feibi­on Israel a dod hwynt i wasanaeth pabell y cy­farfod, fel y byddant yn goffadwriaeth i feibi­on Israel ger bron yr Arglwydd i wneuthur cymmod tros eich eneidiau.

17 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

18 Gwna noe brês, a'i throed o brês, i ym­olchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor; a dod ynddiddwfr.

19 A golched Aaron a'i feibion o honi eu dwylo a'i traed.

20 Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant â dwif fel na byddont feirw: neu pan ddelont wrth yr allor i weini, gan arogldarthu aberth tanllyd i'r Arglwydd.

21 Golchant eu dwylo a'i traed fel na by­ddont feirw: a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragywyddol, iddo ef, ac iw hâd, drwy eu cen­hedlaethau.

22 Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Mo­ses, gan ddywedyd,

23 Cymmer it ddewis lyssiau, o'r Myrr pûr, bwys pum cant sicl, a hanner hynny o'r Cina­mon peraidd, sef pwys deucant a dêc a deugain o siclau, ac o'r Calamus peraidd pwys deucant, a dêc a deugain o siclau.

24 Ac o'r Casia pwys pum cant o siclau yn ôl sicl y Cyssegr:Pen. 29.40. a Hin o olew oliwydden.

25 A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd, yn ennaint cymmyscadwy o waith yrPer­aroglwr. apothecari: olew enneiniad sanctaidd fydd efe.

26Levit. 8.10. Ac enneinia ag ef babell y cyfarfod, ac Arch y dystiolaeth:

27 Y bwrdd hefyd, a'i holl lestri, a'r canhwyll­bren, a'i holl lestri; ac allor yr arogl-darth:

28 Ac allor y poeth offrwm, a'i holl lestri, a'r noe, a'i throed.

29 A chyssegra hwynt, fel y byddant yn san­cteiddiolaf: pob peth a gyffyrddo â hwynt a fydd sanctaidd.

30 Eneinia hefyd Aaron, a'i feibion; a chysse­gra hwynt i offeiriadu i mi.

31 a llefara wrth feibion Israel, gan ddywe­dyd; olew eneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi, trwy eich cenhedlaethau.

32 Nac enneinier ag ef gnawd dŷn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fâth: sanctaidd yw, by­dded sanctaidd gennych.

33 Pwy bynnag a gymmysco ei fâth, a'r hwn a roddo o honaw ef ar ddyn dieithr, a dorrir ymmaith oddi wrth ei bobl.

34 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, cymmer it lyssiau peraidd, sef stacte, ac Onycha, a Galbanum; y llyssiau hyn, a Thus pûr; yr vn feint o bôb vn.

35 A gwna ef yn arogl-darth arogl-bêr, o waith yr Apothecari; wedi eiHeb. Halltu. gyd-tymheru yn bûr, ac yn sanctaidd.

36 Gan guro cûr yn fân beth o honaw, a dôd o honaw ef ger bron y dystiolaeth, o fewn pa­bell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf â thi; sanct­eiddiolaf fydd efe i chwi.

37 A'r arogl-darth a wnelech, na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded gennit yn sanctaidd i'r Arglwydd.

38 Pwy bynnag a wnêl ei fâth ef i arogli o honaw, a dorrir ymmaith oddi wrth ei bobl.

PEN. XXXI.

1 Galw Bezaleel, ac Aholiab, a'i gwneuthur yn gymmwys i waith y Tabernacl. 12 Ail gorchy­myn cadw y Sabboth. 18 Moses yn derbyn y ddwy lêch.

A'R Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Gwêl, mi a elwais wrth ei enw ar1. Cro. 2.20. Be­zaleel fâb Vri, fâb Hur, o lwyth Juda:

3 Ac ai llenwais ef ag yspryd Duw mewn doethineb, ac mewn deall, ac mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhôb rhyw waith,

4 I ddychymmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn prês,

5 Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saerniaeth pren, i weithio ym mhôb gwaith.

6 Ac wele mi a roddais gyd ag ef Aholiab fâb Achisamah o lwyth Dan: ac ynghalon pôb doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneu­thur yr hyn oll a orchymynnais wrthit:

7 Pabell y cyfarfod, ac Arch y dystiolaeth, a'r drugareddfa yr hon sydd arni; a hollDdo­drefn. le­stri y babell:

8 A'r bwrdd, a'i lestri; a'r canhwyll-bren pûr, ai holl lestri; ac allor yr arogl-darth:

9 Ac allor y poeth offrwm; a'i holl lestri; a'r noe, a'i throed;

10 A gwiscoedd y wenidogaeth; a'r gwisc­oedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwisc­oedd ei feibion ef i offeiriadu ynddynt:

11 Ac olew yr enneiniad, a'r arogl darth peraidd i'r cyssegr, a wnant yn ôl yr hyn oll a orchymynnais wrthit.

12 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

13 Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddy­wedyd, diau y cedwch fy Sabbothau: canys ar­wydd yw rhyngofi a chwithau drwy eich cen­hedlaethau, i wybod mai myfi yw yr Arglwydd sydd yn eich sancteiddio.

14 AmExod. 20.8. Ezec. 20.12. Deut. 5.12. hynny cedwch y Sabboth, o blegit sanctaidd yw i chwi: llwyr rodder i farwolaeth yr hwn a'i halogo ef: o herwydd pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o blîth ei bobl.

15 Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd y mae Sabboth gorphwysdraHeb. sanctei­ddrwydd. sanctaidd i'r Arglwydd: pwy bynnac a wnelo waith y seithfed dydd, llwyr rodder ef i farwolaeth.

16 Am hynny cadwed meibion Israel y Sabboth, gan gynnal Sabboth drwy eu cenhed­laethau, yn gyfammod tragywyddol.

17 Rhyngofi a meibion Israel y mae yn ar­wydd tragywyddol,Gen. 1.31. Gen. 2.2. pen. 20.11. mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a'r ddaiar, ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd, ac y gorphwysodd efe.

18 Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orphen llefaru wrtho ym mynydd Sinai,Deut. 9.10. ddwy lêch y dystiolaeth: sef llechau o gerric wedi eu scrifennu â bŷs Duw.

PEN. XXXII.

1 Y bobl yn absen Moses, yn peri i Aaron wneu­thur llo, 7 a hynny yn digio Duw, 11 ac yntau ar ymbil Moses yn diddigio. 15 Moses yn dy­fod i wared â'r llechau, 19 yn eu torri hwy, 20 yn difetha y llo. 22 Escus Aaron trosto ei hun. 25 Moses yn gorchymmyn llâdd y delw­addolwyr, 33 ac yn gweddio tros y bobl.

PAn welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i wared o'r mynydd; yna yr ymgasclodd y bobl at Aaron ac y dywedasant wrtho,Act. 7.40. cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o'n blaen, canys y Moses hwn, y gwr a'n dûg ni i fynu o wlad yr Aipht, ni wyddom beth a ddaeth o hono.

2 A dywedodd Aaron wrthynt, tynnwch y clust-dlysau aur sydd wrth glustiau eich gwra­gedd, a'ch meibion, a'ch merched, a dygwch attafi.

3 A'r holl bobl a dynnasant y clust-dlysau aur oedd wrth eu clustiau: ac a'i dygasant at Aaron.

4Psal. 106.19. 1 Bren. 12.29. Ac efe a'i cymmerodd o'i dwylo, ac a'i lluniodd â chŷn, ac a'i gwnaeth yn llôtawdd: a hwy a ddywedasant, dymma dy dduwiau di Israel, y rhai a'th ddug di i fynu o wlad yr Aipht.

5 A phan ei gwelodd Aaron, efe a adaila­dodd allor ger ei fron ef: ac Aaron a gyhoe­ddodd, ac a ddywedodd, y mae gŵyl i'r Ar­glwydd y foru.

6 A hwy a godasant yn forau drannoeth, ac a offrymmasant boeth offrymmau, ac a ddygasant aberthau hedd: a'r1 Cor. 10.7. bobl a eiste­ddasant i fwytta ac i yfed, ac a godasant i fynu i chwarae.

7 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses;Deut. 9.12. cerdda, dos i wared, canys ymlygrodd dy bobl a ddygaist i fynu o dîr yr Aipht.

8Pen. 33.3. Deut. 9.8 Buan y ciliasant o'r ffordd a orchym­ynnais iddynt, gwnaethant iddynt lô tawdd; ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywe­dasant hefyd, dymma dy dduwiau di Israel, y rhai a'th ddygasant i fynu o wlad yr Aipht.

9 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses;Pen. 33.3. Deut. 9.13. gwelais y bobl hyn, ac wele, pobl war-galed ydynt.

10 Am hynny yn awr, gâd im lonydd fel yr enynno fy llid yn eu herbyn, ac y difeth­wyf hwynt: ac mi a'th wnaf di yn genhed­laeth fawr.

11 APsal. 106.23. Moses a ymbilioddHeb. ag wyneb. ger bron yr Arglwydd ei Dduw; ac a ddywedodd, pa ham Arglwydd yr enynna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aipht, drwy nerth mawr, a llaw gadarn?

12Num. 14.13. Pa ham y caiff yr Aiphtiaid lefaru, gan ddywedyd? mewn malis y dygodd efe hwynt allan iw lladd yn y mynyddoedd, ac iw difetha oddi ar wyneb y ddaiar: trô oddi wrth angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennit y drwg a amcenaist i'th bobl.

13 Cofia Abraham, Isaac, ac Israel dy weisi­on, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt, mi aGen. 12.7. Gen. 15.7 Gen. 48.16. amlhaf eich hâd chwi fel ser y nefoedd: a'r holl wlad ymma, yr hon a ddywedais, a roddaf i'ch hâd chwi, a hwy a'i hetifeddant byth.

14 Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd am y drwg a ddywedasei efe y gwnai iw bobl.

15 A Moses a drôdd ac a ddaeth i wared o'r mynydd, a dwy lêch y dystiolaeth yn ei law: y llechau a scrifennasid o'i dau tu, hwy a scrifennesid o bob tu.

16Pen. 31.18. A'r llechau hynny oedd o waith Duw: yr yscrifen hefyd oedd yscrifen Duw, yn scrifen­nedic ar y llechau.

17 A phan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio, efe a ddywedodd wrth Moses, y mae sŵn rhyfel yn y gwerssyll.

18 Yntef a ddywedodd, nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gwaeddi amHebr. lescedd. golli 'r maes, onid sŵn canu a glywafi.

19 A bu wedi dyfod o honaw yn agos i'r gwersyll, iddo weled y llo a'r dawnsiau: ac enynnodd digofaint Moses, ac efe a daflodd y llechau o'i ddwylaw, ac a'i torrodd hwynt is­law y mynydd.

20Deut. 9.21. Ac efe a gymmerodd y llô a wnaeth­ent hwy, ac a'i lloscodd â thân, ac a'i malodd yn llwch; ac a'i tanodd ar wyneb y dwfr, ac a'i rhoddes iw yfed i feibion Israel.

21 A dywedodd Moses wrth Aaron, beth a wnaeth y bobl hyn i ti; pan ddygaist arnynt bechod mor fawr?

22 A dywedodd Aaron, nac enynned digo­faint fy Arglwydd: ti a adwaenost y bobl mai ar ddrwg y maent.

23 Canys dywedasant wrthif, gwna i ni dduwiau i fyned o'n blaen; canys y Moses hwn, y gŵr a'n dûg ni i fynu o wlad yr Aipht, ni wyddom beth a ddaeth o hono.

24 A dywedais wrthynt, i'r neb y mae aur, tynnwch ef: a hwy a'i rhoddasant i mi, a mi a'i bwriais yn tân, a daeth y llô hwn allan.

25 A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth: (canys Aaron a'i noethasei hwynt i'w gwradwyddo ym myscHebr. y rhai a gyfodent i'w her­byn. eu gelynion.)

26 Yna y safodd Moses ym mhorth y gwer­ssyll, ac a ddywedodd, pwy sydd ar du yr Arglwydd? deued attafi; a holl feibion Lefi a ymgasclasant atto ef.

27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, gosodwch bob vn ei gleddyf ar ei glun; ac ewch, cynniwer­wch o borth i borth drwy y gwerssyll, a lledd­wch bob vn ei frawd, a phob vn ei gyfeill, a phob vn ei gymydog.

28 A meibion Lefi a wnaethant yn ol gair Moses: a chwympodd o'r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr.

29 Canys dywedasei Moses,Hebr. llenweb. cyssegrwch eich llaw heddyw i'r Arglwydd,Neu, am fod pob vn yn er­byn ei fab, ac yn er­byn, &c. bob vn ar ei fab, ac ar ei frawd; fel y rhodder heddyw i chwi fendith.

30 A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn [Page] awr mi a âf i fynu at yr Arglwydd: ond odid mi a wnaf gymmod tros eich pechod chwi.

31 A Moses a ddychwelodd at yr Arglwydd, ac a ddywedodd; Och, pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur.

32 Ac yn awr, os maddeui eu pechod: ac os amgen, delea fi attolwg allan o'th lyfr a scrifennaist.

33 A dywedodd yr Arglwydd wrth Mo­ses; pwy bynnac a bechodd i'm herbyn, hwnnw a ddeleaf allan o'm llyfr.

34 Am hynny dôs yn awr, arwein y bobl i'r lle a ddywedais wrthit: wele fy angel â o'th flaen di: a'r dydd yr ymwelwyf yr ymwelaf â hwynt am eu pechod.

35 A'r Arglwydd a darawodd y bobl; am iddynt wneuthud y llo a wnaethai Aaron.

PEN. XXXIII.

1 Yr Arglwydd yn gwrthod myned gyd a'r bobl fel yr addawsei. 4 Y bobl yn galaru am hynny. 7 Symmudo y Tabernacl allan o'r gwersyll. 9 Yr Arglwydd yn llefaru wrth Moses wyneb yn wyneb. 18 Moses yn deisyfu cael gweled gogoniant Duw.

A'R Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, cerdda, dos i fynu oddi ymma, ti a'r bobl a ddygaist i fynu o wlad yr Aipht; i'r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham, Isaac, ac Jacob, gan ddywedyd,Gen. 12.7. I'th hâd di y rhoddaf hi.

2 A miPen. 23.27. Jos. 24.11. Deut. 7.22. a anfonaf angel o'th flaen di; ac a yrraf allan y Canaanead, yr Amoriad, a'r Hethiad, y Phereziad, yr Hefiad, a'r Jebusiad:

3 I wlad yn llifeirio o laeth a mêl; o herw­ydd nid âfi i fynu yn dy blith: o blegitPen. 32.9. Deut. 9.13. pobl war-galed wyt, rhac i mi dy ddifa ar y ffordd.

4 A phan glywodd y bobl y drwg chwedl hwn, galaru a wnaethant: ac ni wisgodd neb ei hardd-wisc am dano.

5 O blegit yr Arglwydd a ddywedasei wrth Moses, dywed wrth feibion Israel, pobl warga­led ydych chwi: yn ddisymmwth y deuaf i fynu i'th ganol di, ac i'th ddifethaf: am hynny yn awr diosc dy hardd-wisc oddi am danat, fel y gwypwyf beth a wnelwyf it.

6 A meibion Israel a ddioscasant eu hardd­wisc wrth fynydd Horeb.

7 A Moses a gymmerodd y babell, ac a'i lledodd o'r tu allan i'r gwerssyll, ym mhell oddi wrth y gwerssyll, ac a'i galwodd pabell y cyfarfod: a phob vn a geisiei yr Arglwydd, a ai allan i babell y cyfarfod, yr hon ydoedd o'r tu allan i'r gwerssyll.

8 A phan aeth Moses i'r babell, yr holl bobl a godasant, ac a safasant bob vn ar ddrws ei babell; ac a edrychasant ar ol Moses, nes ei ddyfod i'r babell.

9 A phan aeth Moses i'r babell y descyn­nodd colofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell: a'r Arglwydd a lefarodd wrth Mo­ses.

10 A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmwl yn sefyll wrth ddrws y babell: a'r holl bobl a gododd, ac a addolasant bob vn wrth ddrws ei babell.

11 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefarei gŵr wrth ei gyfeill. Ac efe a ddychwelodd i'r gwerssyll, ond y llangc Josua mab Nun ei wenidog ef ni sy­flodd o'r babell.

12 A Moses a ddywedodd wrth yr Ar­glwydd, gwel, ti a ddywedi wrthif, dwg y bobl ymma i fynu, ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyd â mi: a thi a ddywedaist, mi a'th adwen wrth dy enw, a chefaist hefyd ffafor yn fyngolwg.

13 Yn awr gan hynny o chefais ffafor yn dy olwg, yspyssa i mi dy ffordd attolwg fel i'th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafor yn dy olwg: gwel hefyd mai dy bobl di yw y genhedl hon.

14 Yntef a ddywedodd; fy wyneb a gaiff fyned gyd â thi, a rhoddaf orphwysdra it.

15 Ac efe a ddywedodd wrtho; onid â dy wyneb gyd â ni, nac arwein ni i fynu oddi ymma.

16 Canys pa fodd y gwyddir ymma gael o honofi ffafor yn dy olwg, mi a'th bobl? onid drwy fyned o honnot ti gyd â ni? felly myfi a'th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaiar.

17 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Mo­ses, gwnaf hefyd y peth hyn a leferaist: o blegit ti a gesaist ffafor yn fyng-olwg, a mi a'th adwen wrth dy enw.

18 Yntef a ddywedodd; dangos i mi at­tolwg dy ogoniant.

19 Ac efe a ddywedodd, gwnaf i'm holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, a chyhoeddhaf enw yr Arglwydd o'th flaen di: ac miRhuf. 9.15. a drugarhaf wrth yr hwn y cym­merwyf drugaredd arno, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.

20 Ac efe a ddywedodd, ni elli weled fy wyneb: canys ni'm gwel dŷn a byw.

21 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, wele fan yn fy ymyl, lle y cei sefyll ar graig.

22 A thra yr elo fyngogoniant heibio, mi a'th osodaf o fewn agen yn y graig; a mi a'th orchguddiaf a'm llaw nes i mi fyned heibio.

23 Yna y tynnaf ymmaith fy llaw, a'm tu cefn a gei di ei weled: ond ni welir fy wyneb.

PEN. XXXIIII.

1 Adnewyddu y llechau. 5 Cyhoeddi Henw 'r Arglwydd. 8 Moses yn ymbil â Duw ar iddo fynd gydâ hwy. 10 Duw yn gwneuthur cyfam­mod a hwynt, ac yn ail adrodd rhai o orchym­mynnion y llech cyntaf. 28 Moses wedi bod ddeu-gain nhiwrnod yn y mynydd, yn dyfod i lawr a'r llechau. 29 Ei wyneb ef yn discleirio, ac yntef yn rhoddi llen gudd arno.

A Dywedodd yr Arglwydd wrth Moses,Deut. 10.1. nâdd it ddwy o lechau cerrig fel y rhai cyntaf: a mi a scrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist.

2 A bydd barod erbyn y borau; a thyred i fynu yn forau i fynydd Sinai, a saf i mi yno ar ben y mynydd.

3Pen. 19.12. Ond na ddeued neb i fynu gyd â thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.

4 Ac efe a naddodd ddwy o Iechau cerrig, o fâth y rhai cyntaf, a Moses a gyfododd yn forau, ac a aeth i fynydd Sinai fel y gorchym­ynnasai yr Arglwydd iddo; ac a gymerodd yn ei law y ddwy lech garreg.

5 A'r Arglwydd a ddescynnodd mewn cwm­mwl, ac a safodd gyd ag ef yno; ac a gyhoedd­odd enw 'r Arglwydd.

6 A'r Arglwydd aeth heibio o'i flaen ef, ac a [Page] lefodd Jehofa, Jehofa, y Duw trugarog, a gras­lawn, hwyr-frydic i ddig, ac aml o druga­redd, a gwirionedd,

7 Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddeu anwiredd a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwnPen. 20.5. Deut. 5.9. Jer. 32.18. a ymwel ag anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd, a'r bedwaredd genhedlaeth.

8 A Moses a fryssiodd; ac a ymgrymmodd tua 'r llawr, ac a addolodd,

9 Ac a ddywedodd, os cefais yn awr ffafor yn dy olwg ô Arglwydd, eled fy Arglwydd at­tolwg yn ein plith ni (canys pobl war-galed yw) a maddeu ein hanwiredd, a'n pechod, a chym­mer ni yn etifeddiaeth i ti.

10 Yntef a ddywedodd,Deut. 5.2. wele fi yn gwneu­thur cyfammod yngwydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau y rhai ni wnaed yn yr holl ddaiar, nac yn yr holl genhedloedd: a'r holl bobl yr wyt ti yn eu mysc a gânt weled gwaith yr Arglwydd; canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi.

11 Cadw yr hyn a orchymynnais it heddyw: wele mi a yrraf allan o'th flaen di yr Amoriad, a'r Canaanead, a'r Hethiad, a'r Phereziad, yr Hefiad hefyd a'r Jebusiad.

12 APen. 23.32. Deut. 7.2 chadw arnat rhac gwneuthur cyfam­mod a phresswyl-wyr y wlad yr wyt yn myned iddi; rhac eu bod yn fagl yn dy blith.

13 Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt; drylliwch eu delwau hwynt; a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt.

14 Canys ni chei ymgrymmu i dduw arall: o blegit yr Arglwydd,Pen. 20.5. eiddigus yw ei enw; Duw eiddigus yw efe:

15 Rhac it wneuthur cyfammod a phress­wylwyr y tîr; ac iddynt butteinio ar ol eu duwiau, ac aberthu iw duwiau, a'th alw di, ac i tithe fwytta o'i haberth,

16 A chymmeryd o honot o'i1 Bren. 11.2. 1 Cor. 8.11. merched i'th feibion; a phutteinio o'i merched ar ol eu duwiau hwynt, a gwneuthur i'th feibion di butteinio ar ol eu duwiau hwynt.

17 Na wna it dduwiau tawdd.

18Pen. 23.15. Cadw ŵyl y bara croyw; saith niwr­nod y bwytei fara croyw fel y gorchymmynnais it, ar yr amser ym mis Abib: o blegit ymPen. 13.4. mis Abib y daethost allan o'r Aipht.

19Pen. 22.29. Ezek. 44.30. Eiddo fi yw pob peth a egoro y groth, a phob gnrryw cyntaf o'th anifeiliaid, yn eidion­nau, nau, ac yn ddefaid.

20 Ond y cyntaf i assyn a bryni diNeu, a myn. ag oen: ac oni phryni, torr ei wddf: pryn hefyd bob cyntaf-anedic o'th feibion,Pen. 23.15. ac nac ymddango­sed neb ger fy mron yn wâg-law.

21Pen. 23.12. Deut. 5.12 Luc. 13.14 Chwe diwrnod y gweithi, ac ar y seithfed dydd y gorphywysi: yn anser aredic, ac yn y cynhaiaf y gorphywysi.

22 CadwPen. 23.16. it hefyd ŵyl yr wythnosau, o flaen-ffrwyth y cynhaiaf gwenith; a gŵyl y cynnull ar ddiwedd y flwyddyn.

23Pen. 23.14, 17. Deut. 16.16. Tair gwaith yn y ffwyddyn, yr ym­ddengys dy holl wr-rywiaid ger bron yr Ar­glwydd Dduw, Duw Israel.

24 Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o'th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fynu i ymddangos ger bron yr Arglwydd dy Dduw, dair gwaith yn y flwyddyn.

25Pen. 23.18. Nac offrymma waed fy aberth gyd â bara lefcinllyd; ac nac arhoed aberth gŵyl y Pasc tros nos hyd y borau.

26 Dŵg yCyntaf▪ goreu o flaen-ffrwyth dy dir, i dŷ yr Arglwydd dy Dduw.Pen. 23.19. Deut. 14.21. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.

27 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth MosesDeut. 4.13. scrifenna it y geiriau hyn; o blegit yn ôl y geiriau hyn y gwneuthum gyfammod â thi ac ag Israel.

28Pen. 24.18. Deut. 9.9 Ac efe a fu yno gyd â'r Arglwydd ddeu­gain nhiwrnod, a deugain nhos: ni fwyttaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac efe a scrifennodd ar y llechauDeut. 4.13. eiriau y cyfammod sef y dec gair.

29 A phan ddaeth Moses i wared o fynydd Sinai, a dwy lech y destiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i wared o'r mynydd, ni wyddei Moses i groen ei wyneb ddisgleirio, wrth lefaru o honaw ef wrtho.

30 A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele yr oedd croen ei wyneb ef yn dis­cleirio:2 Cor. 3.7. a hwy a ofnasant nessau atto ef.

31 A Moses a alwodd arnynt; ac Aaron a holl bennaethiaid y gynnulleidfa, a ddychwela­sant atto ef: a Moses a lefarodd wrthynt hwy.

32 Ac wedi hynny nessaodd holl feibion Is­rael: ac efe a orchymynnodd iddynt yr hyn oll a lefarasei yr Arglwydd ym mynydd Sinai.

33 Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt, efe2 Cor. 3.13. a roddes len gudd ar ei wyneb.

34 A phan ddelei Moses ger bron yr Ar­glwydd i lefaru wrtho, efe a dynnei ymmaith y llen gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddelei efe allan y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a or­chymynnid iddo.

35 A meibion Israel a welsant wyneb Moses, fod croen wyneb Moses yn discleirio; a Moses a roddodd drachefn y llen gudd ar ei wyneb hyd oni ddelei i lefaru wrth Dduw.

PEN. XXXV.

1 Y Sabboth. 4 Ewyllyscar offrymmau i'r Ta­bernacl. 20 Parodrwydd y bobl i offrymmu. 30 Galw Bezaleel ac Aholiab i'r gwaith.

CAsclodd Moses hefyd holl gynnulleidfa mei­bion Israel, a dywedodd wrthynt; dymma y pethau a orchymynnodd yr Arglwydd eu gwneuthur.

2 ChwePen. 20.9. Lev. 23.3. Deut. 5.12. Luc. 13.14. diwrnod y gwneir gwaith, ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddyddHeb. sancteidd­rwydd. sanctaidd, Sabboth gorphywys i'r Arglwydd: llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnac a wnelo waith arno.

3 Na chynneuwch dân yn eich holl anne­ddau ar y dydd Sabboth.

4 A Moses a lefarodd wrth holl gynnulleid­fa meibion Israel, gan ddywedyd; dymma y peth a orchymynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd,

5 Cymmerwch o'ch plith offrwm i'r Ar­glwydd; pobPen. 25.2. un ewyllyscar ei galon dyged hyn yn offrwm i'r Arglwydd: aur ac arian, a phrês;

6 A sidan glâs, a phorphor, ac scarlat, a lliain main, a blew geifr,

7 A chrwyn hyrddod wedi eu llifo yn go­chion, a chrwyn daiar-foch, a choed Sittim,

8 Ac olew i'r goleuni; a llyssiau i olew yr ennaint, ac i'r arogl-darth peraidd:

9 A meini Onix, a meini iw gosod yn yr Ephod, ac yn y ddwyfronnec.

10 APen. 28.3. phob doeth ei galon yn eich plith; deuant a gweithiant yr hyn oll a orchymynnodd yr Arglwydd;

11 Y tabernacl, eiPen. 26.31. babell-len, a'i dô: ei fachau a'i styllod, ei farrau, ei golofnau, a'i forteisiau:

12 Yr Arch, a'i throssolion, y drugareddfa, a'r wahan-len, yr hon a'i gorchguddia:

13 Y bwrdd, a'i drossolion, a'i hôll lestri, a'r bara dangos:

14 A chanhwyll-bren y goleuni a'i offer, a'i lampau, ac olew y goleuni:

15Pen. 30.1. Ac allor yr arogl-darth, a'i throsolion, ac olew yr eneiniad, a'r arogl-darth-peraidd, a chaead-len y drws i fyned i'r tabernacl:

16Pen. 27.1. Allor y poeth-offrwm a'i alch brês, ei throssollon a'i holl lestri, y noe a'i throed:

17 Llenni y cynteddfa, ei golofnau a'i fortei­siau: caead-len porth y cynteddfa:

18 Hoelion y tabernacl, a hoelion y cyntedd­fa, a'i rhaffau hwynt:

19 A gwiscoedd y weinidogaeth i weini yn y cyssegr: sanctaidd wiscoedd Aaron yr offei­riad, a gwiscoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt.

20 A holl gynnulleidfa meibion Israel aethant allan oddi ger bron Moses.

21 A phob vn yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef; a phob vn yr hwn y gwnaeth ei yspryd ef yn ewyllyscar, a ddaethant, ac a ddygasant off­rwm i'r Arglwydd, tu ac at waith pabell y cyfarfod, a thu ac at ei holl wasanaeth hi, a thu ac at y gwiscoedd sanctaidd.

22 A daethant yn wŷr, ac yn wragedd; pob yn ar a oedd ewyllyscar ei galon a ddygasant freichledau, a chlust-dlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gwr ar a offrymmodd offrwm a offrymmodd aur i'r Arglwydd.

23 A phob vn ar y caed gyd ag ef sidan glâs, a phorphor, ac yscarlat, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu llifo yn gochion, a chrwyn daiar-foch, a'i dygasant.

24 Pob vn ar a offrymmodd offrwm o ari­an a phrês, a ddygasant offrwm i'r Arglwydd: a phob vn ar y caed gyd ag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth, a'i dygasant.

25 A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â'i dwylaw: ac a ddygasant yr edafedd sidan glâs, a phorphor, ac scarlat, a lliain main.

26 A'r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nydda­sant flew geifr.

27 A'r pennaethiaid a ddygasant feini O­nix, a meini iw gosod ar yr Ephod, ac ar y ddwyfronnec:

28 A llyssiau, ac olew i'r goleuni, acPen. 30.23. i olew yr ennaint, ac i'r arogl-darth peraidd.

29 Holl blant Israel yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymmu tu ac at yr holl waith a orchymynnasei yr Arglwydd drwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i'r Arglwydd offrwm ewyllyscar.

30 A dywedodd Moses wrth feibion Israel, gwelwch, galwoddPen. 31.2. yr Arglwydd erbyn ei enw, Besaleel fâb Vri, fab Hur, o lwyth Juda:

31 Ac a'i llanwodd ef ag yspryd Duw, mewn cyfarwyddyd, mewn deall, ac mewn gwybo­daeth, ac mewn pob gwaith:

32 I ddychymygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn prês,

33 Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernieth pren; i weithio ym mhob gwaith cywraint.

34 Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddyscu eraill: efe, ac Aholiab mâb Achisamah o lwyth Dan.

35 Efe a'i llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer aPen. 26.1. chywr­einwaith, a gwaith edef a nodwydd, mewn si­dan glâs, ac mewn porphor, ac mewn scarlat, ac mewn lliain main, ac i wau; gan wneuthur pob gwaith, a dychymygu cywreinrwydd.

PEN. XXXVI.

1 Rhoddi offrwm y bobl yn llaw y gweithwyr. 5 Gorfod gwahardd haelioni y bobl. 8 Llenni y Cerubiaid. 14 Y llenni o flew geifr, 19 Y ba­bell-len o grwyn. 20 Y byrddau a'i morteisiau. 35 Y wahanlen. 37 Y gaead-len i'r drws.

YNa y gweithiodd Besaleel ac Aholiab, a phôb gŵr doeth o galon, y rhai y rho-ddasel yr Arglwydd gyfarwyddyd a deall yn­ddynt, i fedru gwneuthur holl waith gwasa­naeth y cyssegr, yn ôl yr hyn oll a orchymyn­nasai yr Arglwydd.

2 A Moses a alwodd Besaleel ac Aholiab, a phôb gŵr celfydd y rhoddasei yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo: pôb vn yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nessau at y gwaith iw wei­thio ef.

3 A chymmerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasei meibion Israel i waith gwasanaeth y cyssegr, iw weithio ef. A hwy a ddygasant atto ef ychwaneg o offrwm gwir-fodd bôb borau.

4 A'r holl rai celfydd a'r oedd yn gweithio holl waith y cyssegr, a ddaethant bôb vn oddi wrth ei waith, yr hwn yr oeddynt yn ei wneu­thur.

5 A llefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, y mae yr bobl yn dwyn mwy nâ digon er gwasanaethu i'r gwaith a orchymynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.

6 A Moses a roes orchymyn, a hwy a bara­sant gyhoeddi trwy y gwerssyll, gan ddywedyd, na wnaed na gŵr na gwraig waith mwy tuac at offrwm y cyssegr: felly yr attaliwyd y bobl rhac dwyn mwy.

7 Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i'r holl waith iw wneuthur, a gweddill.

8Pen. 26.3, 4. A'r holl rai celfydd o'r rhai oedd yn gwei­thio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddec llen o liain main cyfrodedd, a sidan glâs, a phor­phor, ac yscarlat: â Cherubiaid o waith cywr­aint y gwnaethant hwynt.

9 Hŷd vn llen oedd wyth gufydd ar hugain, a llêd vn llen, pedwar cufydd: yr vn mesur oedd i'r holl lenni.

10 Ac efe a gydiodd bum llen wrth ei gilydd; ac a gydiodd y pum llen eraill wrth ei gilydd.

11 Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glâs ar ymmyl vn llen, ar ei chwrr eithaf yn y cy­diad: felly y gwnaeth efe ar ymyl llen arall ynghydiad yr ail.

12Pen. 26.10. Dec dolen a deugain a wnaeth efe ar vn llen, a dec dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwrr eithaf i'r llen ydoedd ynghydiad yr ail: y dolennau oedd yn dal y naill len wrth y llall.

13 Ac efe a wnaeth ddec a deugain o fachau aur: ac a gydiodd y naill len wrth y llall â'r bachau, fel y byddei yn vn tabernacl.

14 Efe a wnaeth hefyd lenni o flew geifr, i fôd yn babell-len ar y tabernacl: yn vn llen ar ddec y gwnaeth efe hwynt.

15 Hŷd vn llen oedd ddec cufydd ar hugain, a llêd vn llen oedd bedwar cufydd: a'r vn me­sur oedd i'r vn llen ar ddec.

16 Ac efe a gydiodd bum llen wrthynt eu hunain; a chwe llen wrthynt eu hunain.

17 Efe a wnaeth hefyd ddec dolen a deugain [Page] ar ymyl eithaf y llen yn y cydiad: a dec do­len a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llen yn­g ydiad yr ail.

18 Ac efe a wnaeth ddec a deugain o fachau prês, i gydio y babell-len i fod yn vn.

19 Ac efe a wnaeth dô i'r babell-len o grwyn hyrddod wedi eu lliso yn gochion, a thô o grwyn daiar-foch yn vchaf.

20 Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl o goed Sittim, yn eu sefyll.

21 Dec cufydd oedd hyd ystyllen: a chufydd a hanner cufydd lled pôb ystyllen.

22 Dau dyno oedd i'r vn ystyllen, wedi eu go­fod mewn trefa y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl ystyllod y tabernacl.

23 Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl: vgain ystyllen i'r tu dehau, tua 'r dehau.

24 A deugain mortais arian a wnaeth efe dan yr vgain ystyllen: dwy fortais dan vn y­styllen iw dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall iw dau dyno.

25 Ac i ail ystlys y tabernacl o du y gogledd, efe a wnaeth vgain ystyllen,

26 A'i deugain mortais o arian; dwy for­tais tan vn ystyllen, a dwy fortais tan ystyllen arall.

27 Ac i ystlysau y tabernacl tu a'r gorllewin y gwnaeth efe chwech ystyllen.

28 A dwy styllen a wnaeth efe ynghonglau y tabernacl i'r ddau ystlys.

29 Ac yr oeddyntPen. 26.24. wedi euHeb. plethu. cydio oddi tanodd; ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth vn fodrwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl.

30 Ac yr oedd wyth ystyllen; a'i morteisiau oedd vn ar bymthec o forteisiau arian:Heb. Dwy for­tais, dwy fortais i vn ysty­llen. dwy fortais tan bôb ystyllen.

31 Ac efe a wnaethPen. 25.28. ac 30.5. farrau o goed Sittim: pump i styllod vn ystlys i'r tabernacl,

32 A phum barr i styllod ail ystlys y taber­nacl, a phum barr i styllod y tabernacl i'r ystly­sau o du y gorllewin.

33 Ac efe a wnaeth y barr canol i gyrhaeddyd trwy yr ystyllod o gwrr i gwrr.

34 Ac efe a osododd aur tros yr ystyllod, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur i fyned am y barrau: ac a wisgodd y barrau ag aur.

35 Ac efe a wnaeth wahan-len o sidan glâs, a phorphor ac yscarlat, a lliain main cyfro­dedd: â Cherubaid o waith cywraint y gw­naeth efe hi.

36 Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim, ac a'i gwiscodd hwynt ag aur, a'i pen­nau oedd o aur: ac efe a fwriodd iddynt be­dair mortais o arian.

37 Ac efe a wnaeth gaead-len i ddrws y tabernacl o sidan glâs, a phorpher, ac yscarlat, a lliain main cyfrodedd, o waith edef a no­dwydd,

38 A'i phum colofn, a'i pennau; ac a oreu­rodd eu pennau hwynt [...] cylchau ag aur: ond eu pum mortais oedd [...] [...]rês.

PEN. XXXVII.

1 Yr Arch. 6 Y Drugareddfa a'r Cerubiaid. 13 Y bwrdd a'i lestri. 17 Y Canwyll-bren, a'i lam­pau, a'i offer. 25 Allor yr arogl-darth. 29 Olew 'r eneiniad, a'r per-arogl-darth.

APen. 25.10. Besaleel a wnaeth yr Arch, o goed Sittim; o ddau gu [...]ydd a ham er ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.

2 Ac a'i gwiscodd hi ag aur pur o fewn ac oddi allan; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.

3 Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl; sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall.

4 Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sit­tim, ac a'i gwisgodd hwynt ag aur.

5 Ac a osododd y trosolion drwy y modrwy­au ar ystlysau yr Arch, i ddwyn yr Arch.

6 Ac efe aPen. 25.17. wnaeth drugareddfa o aur coeth; o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled.

7 Ac efe a wnaeth ddau Gerub aur: o vn dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt ar ddau ben y drugareddfa.

8 Vn CerubNeu, o'r pen. ar y pen o'r tu yma, a Cherub arall ar y pen o'r tu arall: o'r drugareddfa y gwnaeth efe y Cerubiaid ar ei dau ben hi.

9 A'r Cerubiaid oeddynt, gan ledu esgyll tuac i fynu, â'u hesgyll yn gorchguddio y drugareddfa, a'i hwynebau bôb vn at ei gilydd: wynebau y Cerubiaid oedd tu ac at y druga­reddfa.

10 Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hŷd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei vchder.

11 Ac a osododd aur pûr trosto, ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch.

12 Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o lêd llaw: ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch.

13 Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei be­dair congl, y rhai oedd, yn ei bedwar troed.

14 Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau yn lle i'r trosolion i ddwyn y bwrdd.

15 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a'i gwisgodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd.

16 Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddei ar y bwrdd,Pen. 25.29. ei ddysclau ef a'i lwyau, a'i phiolau, a'i gaeadau iNeu, dywal [...]t. gau â hwynt, o aur pûr.

17 Ac efe a wnaethPen. 25.31. ganhwyll-bren o aur coeth: o vn dryll cyfan y gwnaeth efe y can­hwyll-bren, ei balader, ei geingciau, ei bedill, ei gnapiau, a'i flodau oedd o'r vn.

18 A chwech o geingciau yn myned allan o'i ystlysau: tair caingc o'r canhwyll-bren o vn ystlys, a thair caingc or canhwyll-bren o'r ystlys arall.

19 Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeun oedd ar vn gaingc, a thair padell o waith almonau, cnap a blodeun ar gaingc arall: yr vn modd yr oedd ar y chwe chaingc, y rhai oedd yn dyfod allan o'r canhwyll-bren.

20 Ac ar y canhwyll-bren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnappiau a'i llodau.

21 A chnap tan ddwy gaingc o honaw, a chnap tan ddwy gaingc o honaw, a chnap tan ddwy gaingc o honaw: yn ôl y chwe chaingc oedd yn dyfod allan o honaw.

22 Eu cnappiau, a'i ceingciau oedd o'r vn: y cwbl o honaw ydoedd Pen. 25.31. vn dryll cyfan o aur coeth.

23 Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a'i efeiliau, a'i gafnau, o aur pur.

24 OPen. 25.39. dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef, a'i holl lestri.

25 Gwnaeth hefydPen. 30.1. allor yr arogl-darth o goed Sittim: o gufydd ei hŷd, a chufydd ei lled yn bedair-ongl, ac o ddau gufydd ei huchder; ei chyrn oedd o'r vn.

26 Ac efe a'i gwisgodd hi ag aur coeth; ei chaead a'i hystlysau o amgylch, a'i chyrn; [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] ac efe a wnaeth iddi goron o aur o am­gylch.

27 Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron; i fyned am drosolion iw dwyn arnynt.

28 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sit­tim; ac a'i gwiscodd hwynt ag aur.

29 Ac efe a wnaethPen. 30.35. olew yr enneiniad sanctaidd, a'r arogl darth llysseuoc pur o waith yr apothecari.

PEN. XXXVIII.

1 Allor y poeth-offrwm. 8 Y Noe brês. 9 Y Cynteddfa. 21 Cyfrif o offrymmau y bobl.

AC efe a wnaeth allor y poeth offrwm oPen. 27.1. goed Sittim: o bump cufydd ei hŷd, a phump cufydd ei llêd, yn bedair-ongl; ac yn dri chufydd ei huchter.

2 Gwnaeth hefyd ei chym hi ar ei phedair congl; ei chyrn hi oedd o'r vn: ac efe a'i gwiscodd hi â phrês.

3 EfePen. 27.3. a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a'r rhawiau, a'r cawgiau, a'r cig­weiniau, a'r pedyll tân: ei holl lestri hi a wnaeth efe o brês.

4 Ac efe a wnaeth i'r allor alch brês ar waith rhwyd; dan ei chwmpas oddi tanodd hyd ei hanner hi.

5 Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwrr yr alch brês; i fyned am drosolion.

6 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a'i gwiscodd hwynt â phres.

7 Ac efe a dynnodd y trosolion drwy y mo­drwyau ar ystlysau yr allor, iw dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod.

8 Ac efe a wnaeth noe brês, a'i throed o brês, o ddrychau gwragedd y rhai a ymgasclent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod.

9 Ac efe a wnaeth y cynteddfa ar yr ystlys dehau, tu a'r dehau: llenni y cynteddfa oedd o liain main cyfrodedd o gant cufydd.

10 A'i hugain colofn, ac a'i hugain mortais o brês: a phennau y colofnau a'i cylchau o arian yr oeddynt.

11 Ac ar du y gogledd, y llenni oedd gan cu­fydd, eu hugain colofn, a'i hugain mortais ô brês: a phennau y colofnau a'i cylchau o arian.

12 Ac o du y gorllewin, llenni o ddec cu­fydd a deugain: eu dec colofn, a'i dec mortais, a phennau y colofnau, a'u cylchau o arian.

13 Ac i du y dwyrain tu a'r dwyrain yr oedd llenni o ddec cufydd a deugain.

14 Llenni o bymthec cufydd a wnaeth efe o'r naill du i'r porth: eu tair colofn, a'i tair mortais.

15 Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys o ddeutu drws porth y cynteddfa lenni o bymthec cu­fydd, eu tair colofn, a'u tair mortais.

16 Holl lenni y cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o liain main cyfrododd.

17 A morteisiau y colofnau oedd o brês: pennau y colofnau, a'i cylchau o arian: a gwisc eu pennau o arian; a holl golofnau y cynteddfa oedd wedi eu cylchu ag arian.

18 A chaead-lon drws y cynteddfa ydoedd waith edef a nodwydd, o sidan glâs, a phorphor, ac yscarlat, a lliain main cyfrodedd: ac yn vgain cufydd o hŷd, a'i huchter o'i llêd yn bump cu­fydd, ar gyfer llenni y cynteddfa.

19 Eu pedair colofn hefyd, a'i pedair mor­tais oedd o brês, a'i pennau o arian: gwisc eu pennau hefyd a'i cylchau oedd arian.

20 APen. 27.19. holl hoelion y tabernacl, a'r cyn­teddfa oddi amgylch oedd brês.

21 Dymma gyfrif perthynasau y tabernacl, sef tabernacl y dystiolaeth, y thai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses, i wasanaeth y Lefiaid, drwy law Ithamar fab Aaron yr offeiriad.

22 A Besaleel mab Vri, mab Hur, o lwyth Ju­da, a wnaeth yr hyn oll a orchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

23 A chyd ag ef yr ydoedd Ahollab, mab Achisama, o lwyth Dan, saer cywraint, a gw­niedydd mewn sidan glâs, ac mewn porphor, ac mewn yscarlat, ac mewn lliain main.

24 Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith, sef yn holl waith y cyssegr, sef aur yr offrwm ydoedd naw talent ar hugain, a seithgan sicl, a dec ar hugain, yn ôl sicl y cyssegr.

25 A'r arian y rhai a gyfrifwyd o'r gynnu­lleidfa, oedd gan talent, a mîl a seithgant a phym­thee sicl a thrugain yn ôl sicl y cyssegr.

26 Becah am bôb pen, sef hanner sicl yn ôl sicl y cyffegr, am bôb un a ele heibio dan rif, o fab vgein-mlwydd ac vchod, sef am chwe chan mil a thair mîl, a phum-cant, a dec a deugain.

27 Ac o'r can talent arian y bwriwyd mor­teisiau y cyssegr, a morteisiau y wahan-len: can mortais o'r cant talent, talent, i bôb mortais.

28 Ac o'r mîl, a seith-gant, a phymthec sicl a thrugain y gwnaeth efe bennau y colofnau; ac y gwiscodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt.

29 A phrês yr offrwm oedd ddec talent a thrugain; a dwy fil a phedwar cant o siclau.

30 Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod, a'r allor brês, a'r alch pres yr hwn oedd iddi; a holl lestri yr allor:

31 A morteisiau y cynteddfa o amgylch, a morteisiau porth y cynteddfa, a holl hoelion y tabernacl,Exod. 27.19. a holl hoelion y cynteddfa o amgylch.

PEN. XXXIX.

1 Gwiscoedd y wenidogaeth, a'r gwiscoedd sanctaidd. 2 Yr Ephod. 8 Y ddwyfronneg. 22 Mantell yr Ephod. 27 Y peisiau, y meitr a'r gwregys o liain main. 30 Talaith y go­ron sanctaidd. 32 Moses yn golygu y cwbl, ac yn eu bendithio.

AC o'r fidan glâs, a'r porphor, a'r yscarlat, y gwnaethant wiscoedd gweinidogaeth i weini yn y cyssegr:Pen. 31.10. & 35.19. gwnaethant y gwiscoedd sanctaidd i Aaron, fel y gorchymmynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

2 Ac efe a wnaeth yr Ephod o aur fidan glâs, a phorphor, ac yscarlat, a lliain main cyfro­dedd.

3 A gyrrasant yr aur yn ddalennau teneu­on, ac a'i torrasant yn edafedd i weithio yn y sidan glâs, ac yn y porphor, ac yn yr yscarlat, ac yn y lliain main, yn waith cywraint.

4 Yscwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wrth ei dau gwrr y cydiwyd hi.

5 A gwregys cywraint ei Ephod ef, yr hwn oedd arni ydoedd o'r un, yn un waith a hi: o aur, sidan glâs, a phorpor ac yscarlat, a lliain main cyfrodedd: megis y gorchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

6Pen. 28.9. A hwy a weithiasant feini Onix wedi eu gosod mewn boglynnau aur, wedi eu naddu a naddiadau sêl, a henwau meibion Israel ynddynt.

7 A gosododd hwynt ar yscwyddau yr E­phod,Pen. 28.12. yn feini coffadwriaeth i feibion Israel, [Page] megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

8 Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronnec o waith cywraint, ar waith yr Ephod; o aur, sidan glâs, porphor hefyd ac yscarlat, a lliain main cyfrodedd.

9 Pedeir-ongl ydoedd; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwy-fronnec: o rychwant ei hŷd, a rhychwant ei llêd, yn ddau ddyblyg.

10 A gosodasant ynddi bedair rhês o feini: rhês oNeu, Rubi. Sardius, Tophas, a Smaragdus ydoedd y y rhês gyntaf.

11 A'r ail rhes oedd Carbuncl, Saphyr, ac Adamant.

12 A'r drydedd rhês ydoedd Lygur, Achat, ac Amethist.

13 A'r bedwaredd rês ydoedd Beryl, Onix, a Jaspis; wedi eu hamgylchu mewn boglynnau aur yn eu lleoedd.

14 A'r meini oedd yn ol henwau meibion Israel, yn ddeu-ddec, yn ol eu henwau hwynt: pôb vn wrth ei henw oeddynt o naddiadau sêl, yn ôl y deuddec llwyth.

15 A hwy a wnaethant ar y ddwyfronnec gadwynau ar y cyrrau, yn bleth-waith o aur pûr.

16 A gwnaethant ddau foglyn aur, a dwy fodrwy o aur: ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwrr y ddwyfronnec.

17 A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedic o aur trwy y ddwy fodrwy, ar gyrrau y ddwyfronnec.

18 A deu-pen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant ynglŷn yn y ddau foglyn: ac a'i go­sodasant ar ysgwyddau yr Ephod, o'r tu blaen.

19 Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur, ac a'i gosodasant ar ddau ben y ddwyfronnec, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr Ephod, o'r tu mewn.

20 A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur, ac a'i gosodasant ar ddau ystlys yr Ephod, oddi tanodd tu a'i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr Ephod.

21 Rhwymasant hefyd y ddwyfronnec erbyn ei modrwyau, wrth fodrwyau yr Ephod, â llinin o sidan glâs, i fod oddi ar wregis yr Ephod, fel na ddatodid y ddwyfronnec oddi wrth yr Ephod: megis y gorchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

22 Ac efe a wnaeth fantell yr Ephod ei gyd o sidan glâs yn wauad-waith.

23 A thwll y fantell oedd yn ei chanol, fel twll lluric, a gwrym o amgylch y twll rhac ei rhwygo.

24 A gwnaethant ar odrau y fantell bom­granadau, o sidan glâs, porphor, ac yscarlat, a lliain cyfrodedd.

25 Gwnaethant hefydPen. 28.33. glŷch o aur pur, ac a roddasant y clŷch rhwng y pomgranadau, ar odrau y fantell o amgylch, ym mysc y pom­granadau.

26 Clôch a phomgranad, a chlôch a phom­granad, ar odrau y fantell o amgylch, i weini ynddynt, megis y gorchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

27 A hwy a wnaethant beisiau o liain main o wauad-waith, i Aaron ac iw feibion,

28 A meitr o liain main, a chappiau hardd o liain main, aPen. 28.42. llawdrau lliain o liain main cyfrodedd,

29 A gwregys o liain main cyfrodedd, ac o sidan glâs, porphor, ac yscarlat, o waith edef a nodwydd: fel y gorchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

30 Gwnaethant hefyd dalaith y goron san­ctaidd o aur pûr, ac a scrifennasant arni scrifen fel naddiad sêl;Pen. 28.36. Sancteiddrwydd i'r Arglwydd.

31 A rhoddasant wrthi linin o sidan glâs, iw dal hi i fynu ar y meitr: fel y gorchymynnasei yr Arglwyddd wrth Moses.

32 Felly y gorphennwyd holl waith y ta­bernacl sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ol yr hyn oll a orchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaethant.

33 Dygasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell a'i holl ddodrefn: ei bachau, ei styllod, ei barrau, a'i cholofnau, a'i morteisiau,

34 A'r tô o grwyn hyrddod wedi eu llifo yn gochion, a'r tô o grwyn daiar-foch: a'r llen wahan yr hon oedd yn gorchguddio:

35 Arch y destiolaeth, a'i throsolion, a'r dru­gareddfa:

36 Y bwrdd hefyd a'i holl lestri, a'r bara dangos:

37 Y canhwyll-bren pur a'i lampau, a'r lampau iw gosod mewn trefn, ei holl lestri, ac olew i'r goleuni:

38 A'r allor aur, ac olew'r eneiniad, a'r arogldarth llysseuog, a chaead-len drws y ba­bell:

39 Yr allor brês, a'r alch brês yr hon oedd iddi, ei throsolion a'i holl lestri; y noe a'i throed:

40 Llenni y cynteddfa, ei golofnau a'i fortei­siau, a chaed-len porth y cynteddfa, ei raffau a'i hoelion, a holl ddodrefn gwasanaeth y ta­bernacl, sef pabell y cyfarfod:

41 Gwiscoedd y weinidogaeth i weini yn y cyssegr: sanctaidd wiscoedd Aaron yr offeiriad, a gwiscoedd ei feibion ef i offeiriadu.

42 Yn ol yr hyn oll a orchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses: felly y gwnaeth meibi­on Israel yr holl waith.

43 A Moses a edrychodd ar yr holl waith, ac wele hwy a'i gwnaethent megis y gorchym­ynnasei yr Arglwydd: felly y gwnaethent; a Mo­ses a'i bendithiodd hwynt.

PEN. XL.

1 Gorchymmyn codi y Tabernacl, 9 a'i eneinio, 13 a sancteiddio Aaron a'i feibion. 16 Moses yn gwneuthur fel y gorchymmynasid iddo. 34 Cwmwl yn gorchguddio y babell.

A'R Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Yn y mîs cyntaf ar y dydd cyntaf o'r mîs, y cyfodi y tabernacl pabell y cyfarfod.

3 A gosot yno Arch y dystiolaeth; a gorch­guddia yr Arch â'r wahan-len.

4Pen. 26.35. Dŵg i mewn hefyd y bwrdd, a threfnaHeb. ei drefn ef. ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyll­bren, a goleua ei lampau ef.

5 Gosot hefyd allor aur yr arogl-darth ger bron Arch y destiolaeth: a gosot gaead-len drws y Tabernacl.

6 Dod hefyd allor y poeth offrwm o flaen drws Tabernacl pabell y cyfarfod.

7 Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a dod ynddi ddwfr.

8 A gosot hefyd y cynteddfa oddi amgylch, a dod gaead-len ar borth y cynteddfa.

9 A chymmer olew yr enneiniad, ac enneinia y Tabernacl, a'r hyn oll sydd ynddo, a chyssegra ef a'i holl lestri a sanctaidd fydd.

10 Enneinia hefyd allor y poeth offrwm, a'i holl lestri: a'r allor a gyssegri: a hi a fydd yn allor sancteiddiolaf.

11 Enneinia y noe a'i throed, a sanctei­ddia hi.

12 A dwg Aaron a'i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.

13 A gwisc am Aaron y gwiscoedd sancta­idd: ac enneinia ef, a sancteiddia ef i offeiriadu i mi.

14 Dŵg hefyd ei feibion ef, a gwisc hwynt â pheisiau.

15 Ac enneinia hwynt megis yr enneiniaist eu tad hwynt i offeiriadu i mi: felly bydd eu henneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragywydd­ol drwy eu cenhedlaethau.

16 Felly Moses a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchymynnodd yr Arglwydd iddo: felly y gwnaeth efe.

17 FellyNumb. 7.1. yn y mîs cyntaf o'r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o'r mis, y codwyd y Taber­nacl.

18 A Moses a gododd y Tabernacl, ac a siccrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fynu ei styllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau.

19 Ac a ledodd y babell-len ar y tabernacl, ac a osododd dô y babell-len arni oddi arnodd, fel y gorchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

20 Cymmerodd hefyd a rhoddodd y dystiol­aeth yn yr Arch, a gosododd y trosolion wrth yr Arch; ac a roddodd y drugareddfa i fynu ar yr Arch.

21 Ac efe a ddûg yr Arch i'r tabernacl,Pen. 35.12. ac a osododd y wahan-len orchudd, i orchguddio Arch y destiolaeth; megis y gorchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

22 Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod ar ystlys y tabernacl, o du 'r gog­ledd, o'r tu allan i'r wahan-len.

23 Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, ger bron yr Arglwydd: fel y gorchym­ynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

24 Ac efe a osododd y canhwyll-bren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du yr dehau.

25 Ac efe a oleuodd y lampau ger bron yr Arglwydd; fel y gorchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

26 Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahen-len.

27 Ac a arogl-darthodd arni arogl-darth peraidd, megis y gorchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

28 Ac efe a osododd y gaead-len ar ddrws y tabernacl.

29 Ac efe a osododd allor y poeth offrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrymmodd arni boeth offrwm a bwyd offrwm,Pen. 30.9. fel y gorchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

30 Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a'r allor: ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi.

31 A Moses, ac Aaron, a'i feibion, a olcha­sant yno eu dwylo, a'i traed.

32 Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nessaent at yr allor yr ymolchent; fel y gorch­ymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

33 Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl, a'r allor, ac a roddodd gaead-len ar borth y cynteddfa: felly y gorphennodd Mo­ses y gwaith.

34Num. 9.15. 1 Bren. 8.10. Yna cwmmwl a orchguddiodd babell y cyfarfod, a gogoniant yr Arglwydd a lan­wodd y tabernacl.

35 Ac ni allei Moses fyned i babell y cyfar­fod, am fôd y cwmwl yn aros arni, a gogoni­ant yr Arglwydd yn llenwi y tabernacl.

36 A phan gyfodei y cwmmwl oddiar y tabernacl, y cychwynnei meibion Israel iw holl deithiau.

37 Ac oni chyfodei y cwmmwl; yna ni chychwynent hwy hyd y dydd y cyfodei.

38 Canys cwmmwl yr Arglwydd ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos; yng-olwg holl dŷ Israel yn eu holl dei­thiau hwynt.

¶TRYDYDD LLYFR MOSES, YR HWN a elwir Leviticus.

PEN. I.

1 Trefn y poeth offrymmau, 3 o eidionnau, 10 o ddefaid, neu eifr, 14 ac o adar.

A'R Arglwydd a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod; gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel a dy­wet wrthynt; pan ddygo dŷn o honoch off­rwm i'r Arglwydd, o anifail sef o'r eidionnau, neu o'r praidd, yr offrymmwch eich offrwm.

3Exod. 19.10. Os poeth offrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymed ef yn wryw perffaith­gwbl: a dyged ef o'i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd.

4 A gosoded ei law ar ben y poeth offrwm, ac fe a'i cymmerir ef yn gymeradwy ganddo, i wneuthur cymmod trosto.

5Levit. [...] 12. Lladded hefyd yr eidion ger bron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron yr offeiri­aid y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

6 A blinged y poeth offrwm, a thorred ef yn ei ddarnau.

7 A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor, a gossodant goed mewn trefu ar y tân.

8 A gossoded meibion Aaron yr offeiriaid y darnau, y pen, a'r brasder, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.

9 Onid y perfedd, a'i draed, a ylch efe mewn dwfr; a'r offeiriaid a lŷsc y cwbl ar yr allor, yn boeth offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

10 Ac os o'r praidd sef o'r defaid, neu o'r geifr yr offrymma efe boeth offrwm, offrymmed ef yn wryw perffaith-gwbl.

11 A lladded ef ger bron yr Arglwydd o du 'r gogledd i'r allor: a thaenelled meibion Aaron yr offeiriaid ei waed ef ar yr allor o amgylch.

12 A thorred ef yn ddarnau, gyd a'i ben a'i frasder; a gossoded yr offeiriaid hwynt ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.

13 Onid golched y perfedd, a'r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor: hwn sydd boeth offrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

14 Ac os poeth offrwm o aderyn fydd ei offrwm ef i'r Arglwydd, yna dyged ei offrwm o durturau, neu o gywion colomeanod.

15 A dyged yr offeiriad ef at yr allor, a thorred ei ben ef, a llosged ef ar yr allor: a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor.

16 A thynned ymmaith ei grombil ef yn­ghŷd â'iNeu, Aflen­did. blu, a bwried hwynt ger llaw yr allor o du 'r dwyrain, i'r llê y byddo y lludw.

17 Hollded ef a'i esgyll hefyd, etto na wahaned ef: a llosged yr offeiriaid ef ar yr allor, ar y coed a fyddant ar y tân: dymma boeth offrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

PEN. II.

1 Y bwyd offrwm tanllyd gydag olew ac arogl darth, 4 Naill ai wedi ei bobi mewn ffwrn, 5 ai ar radell, 7 ai mewn padell frio: 12 Neu o'r blaen ffrwyth yn y dwyssem 13 Halen y bwyd offrwm.

PAn offrymmo dŷn fwyd offrwm i'r Arg­lwydd bydded ei offrwm ef o beillied: a thywallded olew arno, a rhodded thus arno.

2 ALeuit. 6.15. dyged ef at feibion Aaron yr offeiri­aid; a chymmered efe oddi yno loned ei law o'i beillied ac o'i olew, ynghŷd a'i hôll thus, a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i'r Arg­lwydd.

3Ecclus 7.31. A bydded gweddill y bwyd offrwm i Aaron ac iw feibion: sancteidd-beth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw.

4 Hefyd pan offrymmech fwyd offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teissen beillied groyw, wedi ei chymmyscu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio agPen. 6.21. olew, a fydd.

5 Ond os bwyd offrwm ar radell fydd dy offrwm di, bydded o beillied wedi ei gym­myscu yn groyw trwy olew.

6 Torr ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd offrwm yw.

7 Ac os bwyd offrwm padell fydd dy off­rwm, gwneler o beillied trwy olew.

8 A dwg i'r Arglwydd y bwyd offrwm, yr hwn a wneir o'r rhai hyn, ac wedi y dyger at yr offeiriad dyged ynteu ef at yr allor.

9 A choded yr offeiriad eiVers. 2. goffadwriaeth o'r bwyd offrwm, a llosged ef ar yr allor,Exod. 29.18. yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i'r Ar­glwydd.

10 A bydded i Aaron ac iw feibion weddill y bwyd offrwm; sancteidd-beth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw.

11 Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd offrwm a offrymmoch i'r Arglwydd: canys dim sur-does na mêl ni losgwch yn offrwm tanllyd yr Arglwydd.

12 Offrymmwch i'r Arglwydd offrwm y blaen-ffrwyth, ond naHeb ddercha­fer. losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd.

13 Dy holl fwyd offrwm hefyd a helltiMatth. 5.13. Mar. 9.49. Luc. 14.34. di â halen; ac na phalled halen cyfammod dy Dduw o fod ar dy fwyd offrwm: offrym­ma halen ar bob offrwm it.

14 Ac os offrymmi i'r Arglwydd fwyd offrwm y ffrwythau cyntaf; twysennauirion wedi eu crassu wrth y tân, sef ŷd a gurirallan o'r dwy­sen lawn, a offrymmi di, yn fwyd offrwm dy ffrwythau cyntaf.

15 A dod olew arno, a gossot thus arno; bwyd offrwm yw.

16 A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o'i ŷd wedi ei guro allan, ac o'i olew yng­hyd a'i holl thus: offrwm tanllyd i'r Arg­wydd yw.

PEN. III.

1 Yr aberth hedd o eidion, 6 o'r praidd, naill ai oen, 12 ai gafr.

AC os aberth hedd fydd ei offrwm ef, pan offrymmo efe eldion, offrymmed ef ger bron yr Arglwydd yn berffaith-gwbl: pa vn bynnac ai yn wryw ai yn fenyw.

2 A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod: a thaenelled meibion Aaron yr offeiriaid y gwaed ar yr allor o amgylch.

3 Ac offrymmed o'r aberth hedd aberth tanllyd i'r Arglwydd: sef y weren fol, a'rExod. 29.22. holl wêr a fydd ar y perfedd,

4 A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a'rNeu, lliain gig. rhwyden hefyd a fydd oddi-ar yr afu, a dynn efe ymmaith, yng-hyd a'r arennau.

5 A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd a'r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

6 Ac os o'r praidd y bydd yr hyn a offrym­mo efe yn hedd aberth i'r Arglwydd, offrym­med ef yn wryw neu yn fenyw perffaith­gwbl.

7 Os oen a offrymma efe yn ei offrwm, yna dyged ger bron yr Arglwydd.

8 A gosoded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod: a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch.

9 Ac offrymmed o'r aberth hedd yn aberth tanllyd i'r Arglwydd: ei weren, a'r gloren i gyd: torred hi ymmaith wrth asgwrn y cefn, yng-hyd a'r weren fol, a'r holl wêr a fyddo ar y perfedd.

10 A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt hyd y tenewyn, a'r thwyden oddi ar yr afu yng­hyd a'r arennau, a dynn efe ymmaith.

11 A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor: bwyd aberth tanllyd yr Arglwydd ydyw.

12 Ac os gafr fydd ei offrwm ef, dyged hi ger bron yr Arglwydd:

13 A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod, a thaenelled meibi­on Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch.

14 Ac offrymmed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i'r Arglwydd, sef y weren fol, a'r holl wêr a fyddo ar y perfedd.

15 A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu ynghyd â'r arennau, a dynn efe ymmaith.

16 A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, bwyd aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw: yr hollPen. 7.25. wêr sydd eiddo 'r Arglwydd.

17 Deddf dragwyddawl drwy eich cen­hedlaethau, yn eich holl anneddau yw; na fwyttaoch ddim gwêr na dimGen. 9.4. Pen. 7.26. & 17, 14. gwaed.

PEN. IIII.

Aberthau tros bechod a wnelei 'r offeiriad; 13 Neu 'r holl gynnulleidfa, 22 Neu y pennaeth mewn anwybod.

LLefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd;

2 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, pan becho dyn mewn anwybod yn erbyn yr vn o orchymynion yr Arglwydd, a gwneuthur yn erbyn yn o honynt, y pethau ni ddylid eu gwneuthur:

3 Os offeiriad eneiniog a becha yn ôl pe­chod y bobl, offrymmed tros ei bechod a wnaeth, fustach ieuangc perffaith-gwbl, yn aberth dros bechod i'r Arglwydd.

4 A dyged y bustach i ddrws pabell y cyfar­fod ger bron yr Arglwydd, a gosoded ei law ar ben y bustach, a lladded y bustach ger bron yr Arglwydd.

5 ALevit. 9.18. chymmered yr offeiriad eneiniog o waed y bustach, a dyged ef i babell y cyfar­fod.

6 A throched yr offeiriad ei fŷs yn y gwaed, a thaenelled o'r gwaed, ger bron yr Arglwydd seithwaith, o flaen gwahan-len y cyssegr.

7 A gosoded yr offeiriad beth o'r gwaed ger bron yr Arglwydd ar gyrn allor yr arogldarth peraidd, yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod: a thywalldedPen. 5.9. holl waed arall y bustach wrth droed allor y poeth offrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

8 A thynned holl wêr bustach yr aberth dros bechod oddiwrtho: y weren fol, ar holl wêr fyddo ar y perfodd.

9 A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddiar yr asu, a dynn efe ymmaith, ynghyd a'r arennau,

10 Megis y tynnodd o fustach yr aberth hedd: A llosged yr offeiriad hwynt ar allor y poeth offrwm.

11Exod. 29.14. Numb. 19.5. Ond croen y bustach, a'i holl gîg yn­ghyd a'i ben, â'i draed, a'i berfedd, a'i fis­wel,

12 A'r holl fustach hefyd a ddwg efe allan i'r tu allan i'r gwerssyll, i le glân wrth dywa­lltfa y lludw,Hebr. 13.13. ac a'i llysc ar goed yn tân: wrth dywalltfa y lludw y lloscir ef.

13 Ac os holl gynnulleidfa Israel a becha mewn anwybod,Pen. 5.2, 3, 4. a'r peth yn guddiedic o olwg y gynnulleidfa, a gwneuthur o honynt yn erbyn yr vn o orchmynion yr Arglwydd, ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a myned yn euog:

14 Pan wyper y pechod y pechasant ynddo, yna offrymmed y gynnulleidfa fustach ieuanc dros y pechod, a dygant ef o flaen pabell y cyfarfod.

15 A gosoded henuriaid y gynnulleidfa eu dwylo ar ben y bustach, ger bron yr Arglwydd, a lladdant y bustach ger bron yr Arglwydd.

16 A dyged yr offeiriad eneiniog o waed y bustach i babell y cyfarfod.

17 A throched yr offeiriad ei fŷs yn y gwaed, a thaenelled ger bron yr Arglwydd seithwaith, o flaen y wahanlen.

18 A gosoded o'r gwaed ar gym yr allor sydd ger bron yr Arglwydd, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod, a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poeth offrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

19 A thynned ei holl wêr allan o honaw, a llosged ar yr allor.

20 A gwnaed i'r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech aberth, felly gwnaed iddo; a'r offeiriad a wna gymmod troftynt, ac fe a faddeuir iddynt.

21 A dyged y bustach allan i'r tu allan i'r gwerssyll, a llosged ef fel y lloscodd y bustach cyntaf: dymma aberth dros bechod y gynnu­lleidfa.

22 Os pecha pennaeth, a gwneuthur mewn amvybod yn erbyn yr vn o orchymynion yr Arglwydd ei Dduw, ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog:

23 Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth, dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffaithgwbl.

24 A gosoded ei law ar ben y llwdn, a lladded ef yn y lle y lleddir y poeth offrwm, ger bron yr Arglwydd: dymma aberth tros bechod.

25 A chymmered yr offeiriad o waed yr aberth tros bechod â'i fŷs, a gossoded ar gyrn allor y poeth offrwm, a thywallded ei waed ef wrth waelod allor y poeth offrwm.

26 A llosged ei holl wêr ar yr allor fel gwêr yr aberth hedd, a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod, a maddeuir iddo.

27 Ac os pechaHeb. vn enaid. neb o bobl y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr vn o orchymynion yr Arglwydd ddim o'r pethau ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog:

28 Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i'w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffaithgwbl dros ei be­chod a bechodd efe.

29 ALevit. 3.13. gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth tros bechod yn y lle y lleddir y poeth offrwm.

30 A chymmered yr offeiriad o'i gwaed hi a'i fŷs, a rhodded ar gym allor y poeth offrwm, a thywallded ei holl waed hi wrth waelod yr allor.

31Levit. 3.14. A thynned ei holl wêr hi, fel y tyn­nir y gwêr oddi ar yr aberth hedd, a llosged yr offeiriad ef ar yr allor,Exod. 29.18. yn arogl peraidd i'r Arglwydd, a gwnaed yr offeiriad gymmod trosto, a maddeuir iddo.

32 Ac os dwg efe ei offrwm tros bechod o oen, dyged hi 'n fenyw berffaithgwbl.

33 A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded hi tros bechod yn y lle y lleddir y poeth offrwm.

34 A chymmered yr offeiriad â'i fŷs o waed yr aberth tros bechod, a gosoded ar gyrn allor y poeth offrwm, a thywallded ei holl waed hi, wrth waelod yr allor.

35 A thynned eiLevit. 3.9. holl wêr hi, fel y tynnir gwêr oen yr aberth hedd, a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, fel aberth tanllyd i'r Arg­lwydd, a gwnaed yr offeiriad gymmod trosto am ei bechod yr hwn a bechodd, a maddeuir iddo.

PEN. V.

1 Y neb a bechodd trwy gelu 'r hyn a wypo, 2 trwy gyffwrdd â dim aflan, 4 neu trwy lw. 6 Ei offrwm tros ei gamwedd o'r praidd, 7 o'r adar, 11 o beillied. 14 Yr offrwm tros gamwedd mewn cyssegr-ladrad, 17 ac mewn pechodau o anwybod.

OS pecha dyn a chlywed llais llw, ac yntef yn dŷst naill ai 'n gweled ai 'n gwybod, oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd.

2 Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pwy vn bynnac ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn ani­fail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan, er bod y peth yn guddiedic oddi wrtho ef, aflan, ac euog yw efe:

3 Neu pan gyffyrddo ag aflendid dŷn, pa a­flendid bynnac iddo, yr hwn y bydd efe aflan o'i blegit, a'r peth yn guddiedig rhagddo, pan gaffo wybod, yna euog yw.

4 Neu os dŷn a dwng, gan draethu â'r gwe­fusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn drwy lw, a'r peth yn guddiedic rhagddo, pan gaffo efe wybod; euog yw o vn o hyn.

5 A phan fyddo efe euog o vn o hyn; yna cyffessed yr hyn y pechodd ynddo,

6 A dyged i'r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd: sef benyw o'r praidd, oen neu fynn gafr yn aberth tros bechod, a gwnaed yr offeiriad gym­mod trosto arn ei bechod.

7 Ond os ei law ni chyrredd werth oen, dyged i'r Arglwydd am ei gamwedd yr hwn a bechodd,Pen. 12.8. Luc. 2.24. ddwy durtur neu ddan gyw co­lomen, y naill yn aberth tros bechod, a'r llall yn boeth offrwm.

8 A dyged hwynt at yr offeiriad, ac offrym­med efe yr hwn fydd tros bechod yn gyntaf,Pen. 1.15. a thorred ei ben wrth ei wegil, ond na thor­red ef ymmaith.

9 A thaenelled o waed yr aberth tros be­chod ar ystlys yr allor, a gwascer y rhan arall o'r gwaed wrth waelod yr allor; dymma a­berth tros bechod.

10 A'r ail a wna efe yn offrwm poeth yn ol y ddefod: a'r offeiriad a wna gymmod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd, a ma­ddeuir iddo.

11 Ac os ei law ni chyrraedd ddwy durtur neu ddau gyw colomen; yna dyged yr hwn a bechodd, ei offrwm o ddecfed ran Epha o beillied yn aberth tros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno: canys aberth tros bechod yw.

12 A dyged hynny at yr offeiriad, a chym­mered yr offeiriad o honaw loneid ei lawPen. 2.2. yn goffadwriaeth; a llosged ar yr allor,Pen. 4.35. fel ebyrth tanllyd i'r Arglwydd: dymma aberth tros bechod.

13 A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto ef, am ei bechod a bechodd efe yn vn o'r rhai hyn, a maddeuir iddo: a bydded i'r offeiriad y gweddill, megis o'r bwyd offrwm.

14 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

15 Os gwna dŷn gamwedd, a phechu drwy amryfusedd, yn y pethau a gyssegrwyd i'r Arg­lwydd: yna dyged i'r Arglwydd dros ei gam­wedd, hwrdd perffaith-gwbl o'r praidd gyd â'th bris di o siclau arian, yn ol sicl y cyssegr, yn aberth tros gamwedd.

16 A thaled am y niweid a wnaeth yn y peth cyssegredic, a rhodded ei bummed ran yn chwanec atto, a rhodded ef at yr offeiriad, a gwnaed yr offeiriad gymmod trosto â hwrdd yr offrwm tros gamwedd; a maddeuir iddo.

17 Ac os pecha enaid,Pen. 4.2. a gwneuthur yn erbyn gorchymynion yr Arglwydd ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur, er na wyddei, etto euog fydd, a'i anwiredd a ddwg.

18 A dyged hwrdd perffaith-gwbl o'r praidd, gyd â'th bris di, at yr offeiriad yn offrwm tros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymmod trosto am ei amryfusedd a gamgymmerodd efe, ac yntef heb wybod; a maddeuir iddo.

19 Aberth tros gamwedd yw hyn: camwedd a wnaeth yn ddiau yn erbyn yr Arglwydd.

PEN. VI.

1 Yr offrwm tros gamwedd mewn pechodau a wneler trwy wybod. 8 Cyfraith y poeth offrwm, 14 a'r bwyd offrwm. 19 Yr offrwm wrth gyssegru offeiriad. 24 Cyfraith y pech-offrwm.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Os pecha dŷn a gwneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a dywedyd celwydd wrth ei gymydog am yr hyn a rodded atto iw gadw, neu am yr hyn y rhoddes efe ei law, neu yn yr hyn drwy drawster a ddygodd efe, neu yn yr hyn y twyllodd ei gymydog:

3 Neu os cafodd beth gwedi ei golli, a dy­wedyd celwydd am dano, neuNum. 5.6. dyngu yn anu­don, am ddim o'r holl bethau a wnelo dŷn, gan bechu ynddynt:

4 Yna am iddo bechu a bod yn euog, bydded iddo roddi yn ei ol y trais a dreisiodd efe, neu 'r peth a gafodd trwy dwyll, neu 'r peth a adawyd i gadw gyd ag ef, neu 'r peth wedi ei golli a gafodd efe:

5 Neu beth bynnac y tyngodd efe anudon am dano,Pen. 5.16. taled hynny erbyn ei ben, a chwa­neged ei bummed ran atto:Heb. yn nydd ei gamwedd. ar y dydd yr offrymmo dros gamwedd, rhodded ef ir neb a'i piau:

6 A dyged i'r Arglwydd ei offrwm dros gam­wedd, hwrdd perffaith-gwbl o'rPen. 5.15. praidd, gyd âth bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad.

7 A gwnaed yr offeiriad gymod trosto, ger bron yr Arglwydd: a maddeuir iddo, am ba beth bynnac a wnaeth, i fod yn euog o honaw.

8 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Mo­ses, gan ddywedyd,

9 Gorchymyn i Aaron, ac iw feibion, gan ddywedyd, dymma gyfraith y poeth offrwm: (poeth offrwm yw o herwydd y llosgi ar yr allor, ar hŷd y nos, hyd y borau, a thân yr allor a gynneuir arni.)

10 Gwisced yr offeiriad hefyd ei lieinwisc am dano, a gwisced lowdrau lliain am ei gnawd, a choded y lludw lle 'r yssodd y tân y poeth aberth ar yr allor, a gossoded ef ger llaw 'r allor.

11 A diosced ei wiscoedd, a gwisced ddillad eraill, a dyged allan y lludw i'r tu allan i'r gwerssyll, i le glân.

12 A chynneuer y tân sydd ar yr allor arni: na ddiffodded: onid llosged yr offeiriad goed arni, bob boreu: a threfned y poeth offrwm arni, a llosced wêr yr aberth hedd arni.

13 Cynneuer y tân bob amser ar yr allor: na ddiffodded.

14Pen. 2.1. Num. 15.4. Dymma hefyd gyfraith y bwyd offrwm: dyged meibion Aaron ef ger bron yr Arglwydd o flaen yr allor:

15 A choded o honaw yn ei law o beillied y bwyd offrwm, ac o'i olew; a'r holl thus yr hwn fydd ar y bwyd offrwm, aPen. 2.9. Num. 15.3. llosced ei goffadwriaeth ef ar yr allor, yn arogl peraidd i'r Arglwydd.

16 A'r gweddill o honaw a fwyty Aaron a'i feibion; yn groyw y bwytheir ef: yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwytânt ef.

17 Na phober ef trwy lefein: rhoddais ef yn rhan iddynt o'm haberthau tanllyd: peth sancteiddiolaf yw hyn, megis yr aberth tros be­chod, a'r aberth tros gamwedd.

18 Pob gwryw o blant Aaron a fwyttant hyn: deddf dragywyddol fydd yn eich cen­hedlaethau, am aberthau tanllyd yr Arg­lwydd:Exod. 29.37. pob vn a gyffyrddo â hwynt fydd sanctaidd.

19 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

20 Dymma offrwm Aaron, a'i feibion, yr hwn a offrymmant i'r Arglwydd ar y dydd [Page] yr enneiner ef: decfed ran Exod. 16.36.. Epha o beillied yn fwyd offrwm gwastadol, ei hanner y borau, a'i hanner bryd nawn.

21 Gwneler efPen. 2.5. trwy olew mewn padell; yna y dygi ef i mewn wedi ei grassu; ac off­rymma ddarnau y bwyd offrwm wedi ei grassu, yn arogl peraidd i'r Arglwydd.

22 A'r offeiriad o'i feibion ef, yr hwn a eneinir yn ei le ef, gwnaed hyn, drwy ddeddf dragywyddol, lloscer y cwbl i'r Arglwydd.

23 A phob bwyd offrwm tros yr offeiriad a fydd wedi ei losci oll: na fwytaer ef.

24 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Mo­ses, gan ddywedyd,

25 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, dymma gyfraith yr aberth tros bechod; yn y lle y lleddir y poeth offrwm, y lloddir yr aberth tros bechod, ger bron yr Ar­glwydd; sancteiddiolaf yw efe.

26 Yr offeiriad a'i hoffrymmo tros bechod, a'i bwyty, yn y lle sanctaidd y bwyteir ef, yng­hynteddfa pabell y cyfarfod.

27 Beth bynnac a gyffyrddo â'i gig ef a fydd sanctaidd: a phan daeneller o'i waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno.

28 APen. [...]. 33. & 15.12. thorrer y llestr pridd y berwir ef, ynddo; ond os mewn llestr prês y berwir ef, yscwrier a golcher ef mewn dwfr.

29 Bwytaed pob gwryw ym mysc yr offei­riaid ef: sancteiddiolaf yw efe.

30Hebr. 13.11. Ac na fwytaer vn offrwm tros bechod, yr hwn y dygir o'i waed i babell y cyfarfod, i wneuthur cymmod yn y lle sanctaidd, ond llosger mewn tân.

PEN. VII.

1 Cyfraith yr offrwm tros gamwedd, 11 a'r aberthau bedd, 12 pa vn bynnac fo ai aberth diolch, 16 ai adduned, ai rhodd o wir fodd. 22 Gwahardd y brasder a'r gwaed. 28 Rhan yr offeiriaid o'r aberthau hedd.

DYmma hefyd gyfraith yr offrwm dros gamwedd: sancteiddiolaf yw.

2 Yn y man lle y lladdant y poeth offrwm, y lladdant yr aberth tros gamwedd; a'i waed a daenella efe ar yr allot o amgylch.

3 A'i holl wêr a offrymma efe o honaw; y gloren hefyd a'r weren fol,

4 A'r ddwy aren, a'r gwêr fyddo arnynt, hyd y tenewyn: a'r rhwyden oddi ar yr afu yng­hyd â'r arennau, a dynn efe ymmaith.

5 A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor yn aberth tanllyd i'r Arglwydd: aberth tros gamwedd yw.

6 Pob gwryw ym mysc yr offeiriaid a'i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef; sanc­teiddiolaf yw.

7 Fel y mae yr aberth tros bechod, felly y bydd yr aberth tros gamwedd; vn gyfraith sydd iddynt; yr offeiriad yr hwn a wna gym­mod ag ef, a'i piau.

8 A'r offeiriad a offrymmo boeth offrwm neb, yr offeiriad a gaiff iddo ei hun groen y poeth offrwm a offrymmodd efe.

9 A phob bwyd offrwm a graser mewn ffwrn, a'r hyn oll a wneler mewn padell, neu ar radell, fydd eiddo 'r offeiriad a'i hoffrymmo.

10 A phob bwyd offrwm wedi ei gymmyscu trwy olew, neu yn sych, a fydd i holl feibion Aaron, bob vn fel ei gilydd.

11 Dymma hefyd gyfraith yr ebyrth hêdd, a offrymma efe i'r Arglwydd.

12 Os yn lle diolch yr offrymma efe hyn, offrymmed gyd a'r aberth diolch deissennau croyw, wedi eu cymmyscu drwy olew; ac asillad croyw, wedi eu hîro ag olew; a pheillied wedi ei grassu 'n deissennau, wedi eu cymmyscu ag olew.

13 Heb law y teissennau, offrymmed fara lefeinllyd yn ei offrwm gyd â'i hedd aberth o ddiolch.

14 Ac offrymmed o hyn vn dorth o'r holl offrwm, yn offrwm derchafel i'r Arglwydd; a bydded hwnnw eiddo 'r offeiriad a daenello waed yr ebyrth hêdd.

15 A chig ei hedd-aberth o ddiolch a fwyteir y dydd yr offrymmir ef: na adawer dim o honaw hyd y borau.

16 Ond os adduned neu offrwm gwir-fodd fydd aberth ei offrwm ef, y dydd yr offrym­mo efe ei aberth, bwytaer ef: a thrannoeth bwytaer yr hyn fyddo yn weddill o honaw.

17 Ond yr hyn a fyddo o gîg yr aberth yn weddill y trydydd dydd, lloscer yn tân.

18 Ac os bwyteir dim o gîg offrwm ei ebyrth hedd ef, o fewn y trydydd dydd, ni byddir bodion i'r hwn a'i hoffrymmo ef, ac nis cyfrifir iddo, ffieidd-beth fydd: a'r dŷn a fwyty o honaw a ddwg ei anwiredd.

19 A'r cîg a gyffyrddo â dim aflan, ni fwyteir; mewn tân y llosgir ef: a'r cîg arall, pôb glân â fwyty o honaw.

20 A'r dŷn a fwytao gîg yr hedd aberth, yr hwn a berthyn i'r Arglwydd,Pen. 15.3. a'i aflendid arno, torrir ymmaith y dŷn hwnnw o fysc ei bobl.

21 Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan, sef ag aflendid dŷn, neu ag anifail aflan, nêu ag vn ffieidd-beth aflan, a bwytta o gîg yr hedd aberth, yr hwn a berthyn i'r Arglwydd; yna y torrir ymmaith y dyn hwnnw o fysc ei bobl.

22 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywodyd,

23 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywe­dyd;Pen. 3.17. na fwytewch ddim gwêr eidion, neu ddafad, neu afr.

24 Etto gwêr burgyn, neu wêr ysclyfaeth a ellir ei weithio mewn pob gwaith: ond gan fwytta na fwyttewch ef.

25 O herwydd pwy bynnac a fwyttao wer vr anifail, o'r hwn yr offrymmir aberth tanllyd i'r Arglwydd; torrir ymmaith yr enaid a'i bwytao, o fysc ei bobl.

26 Na fwyttewch y chwaithGene. 9.4. Pen. 3.17. & 17.14. ddim gwaed o fewn eich cyfanneddau, o'r eiddo aderyn nac o'r eiddo anifail.

27 Pob enaid a fwytao ddim gwaed, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o fysc ei bobl.

28 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd,

29 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywe­dyd, y neb a offrymmo ei aberth hedd i'r Ar­glwydd, dyged ei rodd o'i aberth hedd i'r Arglwydd.

30 Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd, y gwêr ynghyd a'r barwyden a ddwg efe: y barwyden fydd iwExod. 29.24. chyhwfan, yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd.

31 A llosged yr offeiriad y gwêr ar yr allor: a bydded y barwyden i Aaron ac iw feibion.

32 Rhoddwch hefyd y balfais ddehau yn offrwm derchafael i'r offeiriad, o'ch ebyrth hedd.

33 Yr hwn o feibion Aaron a offrymmo waed yr ebyrth hedd, a'r gwêr, bydded iddo ef yr yscwyddoc ddehau yn rhan.

34 O herwydd parwyden y cwhwfan, ac ys­cwyddoc y derchafael, a gymmerais i gan feibi­on Israel o'i hebyrth hedd, ac a'i rhoddais hwynt i Aaron yr offeiriad, ac iw feibion drwy ddeddf dragywyddol, oddi wrth feibion Israel.

35 Hyn yw rhan eneiniad Aaron, ac eneini­ad ei feibion, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yn y dydd y nessaodd efe hwynt i offeiriadu i'r Ar­glwydd:

36 Yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd ei roddi iddynt, y dydd yr eneiniodd efe hwynt allan o feibion Israel, drwy ddeddf dragywyddol, drwy eu cenhedlaethau.

37 Dymma gyfraith y poeth offrwm, y bwyd offrwm, a'r aberth tros bechod, a'r aberth tros gamwedd, a'r cyssegriadau, a'r aberth hedd,

38 Yr hon a orchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai, yn y dydd y gorchymynnoddd efe i feibion Israel offrymmu eu hoffrymmau i'r Arglwydd, yn anialwch Si­nai.

PEN. VIII.

1 Moses yn Cyssegru Aaron a'i feibion. 14 Eu haberth tros bechod. 18 Eu poeth offrwm. 22 Hwrdd y cyssegriadau. 31 Y lle a'r amser y cys­segrid hwynt.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd;

2 CymmerExod. 28.2. Aaron a'i feibion gyd ag ef, a'r gwiscoedd,Exod. 30.24. ac olew 'r eneiniad, a bustach yr aberth tros bechod, a dau hwrdd, a chawell y bara croyw:

3 A chasgl yr holl gynnulleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod.

4 A gwnaeth Moses fel y gorchymynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglwyd y gynnulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod.

5 A dywedodd Moses wrth y gynnulleidfa,Exod. 29.4. dymma y peth a orchymynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.

6 A Moses a ddug Aaron a'i feibion: ac a'i golchodd hwynt â dwfr.

7 Ac efe a roddes am dano ef y bais, ac a'i gwregyssodd ef â'r gwregys, ac a wiscodd y fantell am dano, ac a roddes yr Ephod am dano, ac a'i gwregyssodd â gwregys cywreint yr Eph­od, ac a'i caeodd am dano ef.

8 Ac efe a osodod y ddwyfronnec arno, ac aExod. 28.30. roddes yr Vrim a Thummim yn y ddwyfron­nec.

9 Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef, ac a osododd ar y meitrar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd, fel y gorchymynnasei yr Ar­glwydd iExod. 28.39. Moses.

10 A Moses a gymmerodd olew 'r eneiniad ac aExod. 30.26. enneiniodd y tabernacl, a'r hyn oll oedd ynddo; ac a'i cyssegrodd hwynt:

11 Ac a daenellodd o honaw ar yr allor saith waith, ac a enneiniodd yr allor a'i holl lestri, a'r noe hefyd a'i throed, iw cyssegru.

12Ecclus 45.15. Psal. 133.2. Ac efe a dywalltodd o olew 'r enneiniad ar ben Aaron, ac a'i henneiniodd ef, iw gyssegru.

13 A Moses a ddug feibion Aaron, ac a wis­codd beisiau am danynt, a gwregyssodd hwynt â gwregysau, ac aHebr. rwymodd. osododd gappiau am eu pen­nau, fel y gorchymynnasei 'r Arglwydd wrth Moses.

14Exod. 29.14. Ac efe a ddug fustach yr aberth tros bechod; ac Aaron a'i feibion a roddasant eu dwylo a'r ben bustach yr aberth tros bechod.

15 Ac efe a'i lladdodd, a Moses a gymerth y gwaed, ac a'i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â'i fŷs; ac a burodd yr allor, ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a'i cyssegrodd hi i wneuthur cymmod arni.

16 Efe a gymmerodd hefyd yr holl wêr oedd ar y perfedd, a'r rhwyden oddi ar yr afu, a'r ddwy aren a'i gwêr, a Moses a'i lloscodd ar yr allor.

17 A'r bustach a'i groen, a'i gig, a'i fiswel, a loscodd efe mewn tân o'r tu allan i'r gwersyll;Exod. 29.14. fel y gorchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

18 Ac efe a ddûg hwrdd y poeth offrwm; ac Aaron a'i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd.

19 Ac efe a'i lladdodd; a Moses a daenellodd y gwaed ar yr allor o amgylch.

20 Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ddarnau, a lloscodd Moses y pen, y darnau, a'r gwêr.

21 Ond y perfedd a'r traed a olchodd efe mewn dwfr, a lloscodd Moses yr hwrdd oll ar yr allor: poeth offrwm yw hwn, i fod yn arogl pe­raidd ac yn aberth tanllyd ir Arglwydd: fel y gorchymynnodd yr Arglwydd i Moses.

22 Ac efe a ddug yrExod. 29.31. ail hwrdd, sef hwrdd y cyssegriad: ac Aaron a'i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd.

23 Ac efe a'i lladdodd, a Moses a gymme­rodd o'i waed, ac a'i rhoddes ar gwrr issaf clust ddehau Aaron, ac ar fawd ei law ddechau, ac ar fawd ei droed dehau.

24 Ac efe a ddug feibion Aaron, a Moses a roes o'r gwaed ar gwrrissaf eu clust ddehau, ac ar fawd eu llaw ddehau, ac ar fawd eu troed de­hau: a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch.

25 Ac efe a gymmerodd hefydExod. 29.20. y gwêr, a'r gloren, a'r holl wêr oedd ar y perfedd, a'r rhwyden oddiar yr afu, a'r ddwy aren a'i brast­er, a'r yscwyddoc ddehau.

26 A chymmerodd o gawell y bara croyw yr hwn oedd ger bron yr Arglwydd, vn deissen groyw, ac vn deissen o fara olewedic, ac vn afr­lladen, ac a'i gossododd ar y gwêr, ac ar yr ys­cwyddoc ddehau:

27 Ac a roddes y cwbl arExod. 29.24. ddwylo Aaron, ac ar ddwylo ei feibion, ac a'i cwhwfanodd hwynt yn offrwm cwhwfan, ger bron yr Ar­glwydd.

28 A Moses a'i cymmerth oddi ar eu dwylo hwynt, ac a'i llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth: dymma gyssegriadau o arogl peraidd: dymma aberth tanllyd i'r Arglwydd.

29 Cymmerodd Moses y barwyden hefyd, ac a'i cwhwfanodd yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd:Exod. 29.26. rhan Moses o hwrdd y cyssegriad oedd hi, fel y gorchymynnasci yr Ar­glwydd wrth Moses.

30 A chymmerodd Moses o olew 'r eneiniad, ac o'r gwaed oedd ar yr allor, ac a'i taenellodd ar Aaron, ar ei wiscoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wiscoedd ei feibion ynghyd ag ef: ac efe a gys­segrodd Aaron, a'i wisgoedd, a'i feibion hefyd, a gwisooedd ei feibion ynghyd ag ef.

31 A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, berwch y cig wrth ddrws pabell y cy­farfod; acExod. 29.32. yno bwyttewch ef, a'r bara hefyd sydd ynghawell y cyssegriadau, megis y gorch­ymynnais, gan ddywedyd, Aaron a'i feibion a'i bwytty ef.

32 A'r gweddill o'r cig, ac o'r bara a losgwch yn tân.

33 Ac nac ewch tros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflaw­ner dyddiau eich cyssegriadau: o herwyddExod. 29.35. saith niwrnod y bydd efe yn eich cyssegru chwi.

34 Megis y gwnaeth efe heddyw, y gorchym­ynnodd yr Arglwydd wneuthur, i wneuthur cymmod drossoch.

35 Ac arhoswch wrth ddrws pabell y cy­farfod saith niwrnod ddydd a nos, a chedwch wiliadwriaeth yr Arglwydd, fel na byddoch fei­rw: canys fel-hyn i'm gorchymynnwyd.

36 A gwnaeth Aaron a'i feibion yr holl bethau a orchymynnodd yr Arglwydd trwy law Moses.

PEN. IX.

1 Yr offrymmau cyntaf a offrymmodd Aaron trosto ei hun a'r bobl. 8 Y pech-offrwm, 12 a'r poeth-offrwm trosto ei hun. 15 Yr offrymmau tros y bobl. 23 Moses ac Aaron yn bendithio y bobl. 24 Tân yn dyfod oddiwrth yr Ar­glwydd ar yr allor.

YNa y bu ar yr wythfed dydd i Moses alw Aaron a'i feibion, a henuriaid Israel.

2 Ac efe a ddywedodd wrth Aaron,Exod. 29.1. cym­mer it lô ieuangc yn aberth tros bechod, a hwrdd yn boeth offrwm, o rai perffaith-gwbl, a dwg hwy ger bron yr Arglwydd.

3 Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, cymmerwch fynn gafr, yn aberth tros bechod, a llô, ac oen, blwyddiaid perffaith­gwbl yn boeth offrwm;

4 Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aber­thu ger bron yr Arglwydd; a bwyd offrwm wedi ei gymmyscu trwy olew: o herwydd he­ddyw yr ymddengys yr Arglwydd i chwi.

5 A dygasant yr hyn a orchymynnodd Mo­ses ger bron pabell y cyfarfod: a'r holl gynnull­eidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant ger bron yr Arglwydd.

6 A dywedodd Moses, dymma 'r peth a or­chymynnodd yr Arglwydd i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi.

7 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, dos at yr allor, ac abertha dy aberth tros bechod, a'th boeth offrwm, a gwna gymmodHebr. 7.27. drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymmod drostynt, fel y gorchymynnodd yr Arglwydd.

8 Yna y nessaodd Aaron at yr allor, ac a ladd­odd lô yr aberth tros bechod, yr hwn oedd trosto ef ei hun.

9 A meibion Aaron a ddygasant y gwaed atto, ac efe a wlychodd ei fŷs yn y gwaed, ac a'i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor.

10 Ond efe a losgodd ar yr allor o'r aberth tros bechod y gwêr a'r arennau, a'r rhwyden oddi ar yr afu, fel y gorchymynnasei yr Ar­glwydd wrth Moses.

11 A'r cîg, a'r croen a losgodd efe yn tân, o'r tu allan i'r gwerssyll.

12 Ac efeLeuit. 1.5. a laddodd y poeth offrwm, a mei­bion Aaron a ddygasant y gwaed atto, ac efe a'i taenellodd ar yr allor o amgylch.

13 A dygasant y poeth offrwm atto gyd â'i ddarnau, a'i ben hefyd; ac efe a'i llosgodd hwynt ar yr allor.

14 Ac efe a olchodd y perfedd a'r traed, ac a'i llosgodd hwynt ynghyd â'r offrwm poeth ar yr allor.

15 Hefyd efe a ddug offrwm y bobl, ac a gym­merodd fwch yr aberth tros bechod y bobl, ac a'i lladdodd, ac a'i hoffrymmodd tros bechod, fel y cyntaf.

16 Ac efe a ddug y poeth offrwm, ac a'i hoff­rymmodd yn ol yNeu, ordeinhad ddefod.

17 Ac efe a ddug y bwyd offrwm, ac a lan­wodd ei law o honaw, ac a'i llosgodd ar yr allorExod. 29.38. heb law poeth offrwm y boreu.

18 Ac efe a laddodd y bustach a'r hwrdd yn aberth hedd, yr hwn oedd tros y bobl: a mei­bion Aaron a ddygasant y gwaed atto, ac efe a'i taenellodd ar yr allor o amgylch.

19 Dygasant hefyd wêr y bustach a'r hwrdd, y gloren, a'r weren fol, a'r arennau, a'r rhwyden oddi ar yr afu.

20 A gosodasant y gwêr ar y parwydennau, ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor.

21 Y parwydennau hefyd, a'r yscwyddoc ddehau a gwhwfanodd Aaron yn offrwm cw­hwfan, ger bron yr Arglwydd, fel y gorchymyn­nodd Moses.

22 A chododd Aaron ei law tu ac at y bobl, ac a'i bendithiodd; ac a ddaeth i wared o wneu­thur yr aberth tros bechod, a'r poeth offrwm, a'r ebyrth hedd.

23 A Moses ac Aaron aethant i babell y cy­farfod, a daethant allan, ac a fendithiasant y bobl; a gogoniant yr Arglwydd a ymddango­sodd i'r holl bobl.

24 A2 Cron 7.1. 2 Mac. 2.10. Gen. 4.4. 1 Bren. 18. 38. daeth tân allan oddi ger bron yr Ar­glwydd, ac a yssodd y poeth offrwm, a'r gwêr, ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl, a gwaedda­sant, a chwympasant ar eu hwynebau.

PEN. X.

1 Nadab ac Abihu am offrymmu tân dieithr, a loscir gan dân. 6 Gorafun i Aaron ac iw feibi­on alaru am danynt.8 Gwahardd gwin i'r offeiriaid, pan fônt ar fyned i'r babell. 12 Y gyfraith ynghylch bwytta pethau sanctaidd. 19 Escus Aaron am ei throseddu.

YNaNum. 3.4. & 26.61. 1 Cron, 2 [...] 2. Nadab ac Abihu, meibion Aaron, a gymmerasant bob vn ei thusser; ac a ro­ddasant dân ynddynt, ac a osodasant arogl-darth ar hynny, ac a offrymmasant ger bron yr Ar­glwydd dân dieithr, yr hwn ni orchymynnasei efe iddynt.

2 A daeth tân allan oddi ger bron yr Ar­glwydd ac a'i difaodd hwynt; a buant feirw ger bron yr Arglwydd.

3 A dywedodd Moses wrth Aaron, dymma 'r hyn a lefarodd yr Arglwydd gan ddywedyd, mi a sancteiddir yn y rhai a nessânt attaf, a cher bron yr holl bobl i'm gogoneddir. A thewi a wnaeth Aaron.

4 A galwodd Moses Misael ac Elsaphan meibi­on Vziel, ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, deuwch yn nês, dygwch eich brodyr oddi ger bron y cyssegr allan o'r gwersyll.

5 A nessau a wnaethant a'i dwyn hwynt yn eu peisiau allan o'r gwerssyll, fel y llefarasei Mo­ses.

6 A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleazar, ac wrth Ithamar ei feibion, na ddiosgwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwis­coedd, rhac iwch feirw, a dyfod digofaint ar yr holl gynnulleidfa: ond wyled eich brodyr chwi, holl dŷ Israel, am y llosciad a losgodd yr Arglwydd.

7 Ac nac ewch allan o ddrws pabell y cyfar­fod, rhac iwch farw: o herwydd bod olew enei­niad yr Arglwydd arnoch chwi. A gwnaethant fel y llefarodd Moses.

8 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Aaron, gan ddywedyd,

9 Gwîn a diod gadarn nac ŷf di, na'th feibi­on gyd â thi, pan ddeloch i babell y cyfarfod, fel na byddoch feirw: deddf dragywyddol drwy eich cenhedlaethau fydd hyn.

10 A hynny er gwahanu rhwng cyssegredic a digyssegredic, a rhwng aflan a glân:

11 Ac i ddyscu i feibion Israel, yr holl ddeddfau a lefarodd yr Arglwydd wrthynt, drwy law Moses.

12 A llefarodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleazar, ac wrth Ithamar, y rhai a adawsid o'i feibion ef, cymerwch y bwyd offrwm sydd yng­weddill o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bwyt­tewch yn groyw, ger llaw 'r allor: o herwydd sancteiddiolaf yw.

13 A bwyttewch ef yn y lle sanctaidd, o her­wydd dy ran di, a rhan dy feibion di o ebyrth tanllyd yr Arglwydd yw hyn: canysfel hyn i'm gorchymynnwyd.

14Exod. 29.24. Y barwyden gwhwfan hefyd, a'r ys­gwyddoc dderchafel, a fwyttewch mewn lle glân: ty di, a'th feibion, a'th ferched, ynghyd â thi: o herwydd hwynt a roddwyd yn rhan i ti, ac yn rhan i'th feibion di, o ebyrth hêdd meibi­on Israel.

15 Yr yscwyddoc dderchafel, a'r barwyden gwhwfan a ddygant ynghyd ag ebyrth tanllyd o'r gwêr, i gwhwfan offrwm cwhwfan, ger bron yr Arglwydd; a bydded i ti, ac i'th feibion gydâ thi,Drwy ddeddf. yn rhan dragywyddol, fel y gorchym­ynnodd yr Arglwydd.

16 A Moses a gelsiodd yn ddyfal fŵch yr aberth tros bechod, ac wele ef wedi ei losci; ac efe a ddigiodd wrth Eleazar, ac Ithamar, y rhai a adawsid o feibion Aaron, gan ddywedyd,

17 Pa ham na fwyttasoch, yr aberth tros bechod yn y lle sanctaidd; o herwydd sanctei­ddiolaf yw, a Duw a'i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynnulleidfa, gan wneuthur cym­mod trostynt, ger bron yr Arglwydd.

18 Wele ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cyssegr: ei fwytta a ddylasech yn y cyssegr,Pen. 6.26. fel y gorchymynnais.

19 A dywedodd Aaron wrth Moses, wele heddyw yr offrymmasant eu haberth dros bech­od, a'i poeth offrwm ger bron yr Arglwydd: ac fel hyn y digwyddodd i mi: am hynny os bwyttawn aberth tros bechod heddyw, a fyddei hynny dda yngolwg yr Arglwydd?

20 A phan glybu Moses hynny, efe a fu fodlon.

PEN. XI.

1 Pa anifeiliaid a ellir, 4 a pha rai ni ellir eu bwytta. 9 Pa byscod hefyd, 13 a pha adar. 29 Pa ymlusciaid sydd aflan.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd wrthynt,

2 Lleferwch wrth feibion Israel, gan ddywe­dyd,Gen. 7.8. Deut. 14.4. Act. 10.14. dymma yr anifeiliaid a fwyttewch, o'r holl anifeiliaid sydd ar y ddaiar.

3 Beth bynnac a hollto 'r ewin, ac a fforch­ogo hollt yr ewinedd, ac a gno ei gil, o'r anifei­liaid, hwnnw a fwyttewch.

4 Ond y rhai hyn ni fwyttewch, o'r rhai a gnoant eu cîl, ac o'r rhai a holltant yr ewin: y Camel er ei fod yn cnoi ei gîl, am nad yw yn hollti 'r ewin, aflan fydd i chwi.

5 A'r gwningen, am ei bod yn cnoi ei chîl, ac heb fforchogi 'r ewin, aflan yw i chwi.

6 A'r yscyfarnog, am ei bod yn cnoi ei chîl, ac heb fforchogi 'r ewin, aflan yw i chwi.

72 Mac. 6.18. A'r llwdwn hŵch, am ei fod yn hollti 'r ewin, ac yn fforchogi fforchedd yr ewin, a heb gnoi ei gîl; aflan yw i chwi.

8 Na fwyttewch o'i cîg hwynt, ac na chy­ffyrddwch â'i burgyn hwynt; aflan ydynt i chwi.

9 Hyn a fwyttewch o bôb dim a'r sydd yn y dyfroedd: pôb peth y mae iddo ascell a chen, yn y dyfroedd, yn y moroedd, ac yn yr afon­ydd, y rhai hynny a fwyttewch.

10 A phôb dim nid oes iddo ascell a chen, yn y moroedd, ac yn yr afonydd; o bôb dim a ymsymmudo yn y dyfroedd, ac o bôb peth byw, y rhai fyddant yn y dyfroedd, byddant ffiaidd gennych.

11 Byddant ffiaidd gennych: na fwyttewch o'i cîg hwynt, a ffieiddiwch eu burgyn hwy.

12 Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo escyll a chen iddo; ffieidd-beth fydd i chwi.

13 A'r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o'r adar: na fwyttewch hwynt, ffieidd-dra ydynt: sef yr Eryr a'r wydd-walch, a'r for-wennol,

14 A'r fwltur, a'r barcud, yn ei ryw,

15 Pôb cig-fran yn ei ryw,

16 A chyw 'r estrys, a'r frân nos, ar gôg, a'r gwalch yn ei ryw,

17 Ac aderyn y corphau, a'r fulfran, a'r dy­lluan,

18 A'r gocfran, a'r pelican, a'r biogen,

19 A'r ciconia, a'r crŷr yn ei rhyw, a'r gornchwigl, a'r ystlym.

20 Pôb ehediad a ymlusco, ac a gerddo ar bedwar-troed, ffieidd-dra yw i chwi.

21 Ond hyn a fwyttewch, o bôb ehediad a ymlusco, ac a gerddo ar bedwar troed, yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed, i neidio wrthynt ar hyd y ddaiar:

22 O'r rhai hynny, y rhai hyn a fwyttewch; y locust yn ei ryw, a'r Selam yn ei ryw, a'r Har­gol yn ei ryw, a'r Hagab yn ei ryw.

23 A phôb ehediad arall a ymlusco, yr hwn y mae pedwar-troed iddo, ffieidd-dra fydd i chwi.

24 Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnac a gyffyrddo â'i burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr.

25 A phwy bynnac a ddygo ddim o'i burgyn hwynt, golched ei ddillad, ac aflan fydd hyd yr hwyr.

26 Am bôb anifail sydd yn hollti 'r ewin, ac heb ei fforchogi, ac heb gnoi ei gîl, aflan yw y rhai hynny i chwi; aflan fydd pob vn a gyffyrddo â hwynt.

27 Pôb vn hefyd a gerddo ar ei balfau, o bôb anifail a gerddo ar bedwar troed, aflan ydynt i chwi: pôb vn a gyffyrddo â'i burgyn, a fydd aflan hyd yr hwyr.

28 A'r hwn a ddygo eu burgyn hwynt, golchedPen. 5.2. ei ddillad, a bydded aflan hyd yr hwyr: aflan ydynt i chwi.

29 A'r rhai hyn sydd aflan i chwi o'r ym­lusciaid a ymlusco ar y ddaiar: yFron­wen. wengci, a'r llygoden, a'r llyffant yn ei ryw,

30 A'r draenog, a'r lysard, a'r stelio, a'r fal­woden, a'r wâdd.

31 Y rhai hyn ydynt aflan i chwi o bôb ym­lusciaid: pôb dim a gyffyrddo â hwynt, pan fyddant feirw, a fydd aflan hyd yr hwyr.

32 A phôb dim y cwympo vn o honynt ar­no, wedi marw, a fydd aflan; pôb llestr pren, neu wisc, neu groen, neu sâch, pob llestr y gwne­lir dim gwaith ynddo, rhodder mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr; felly y bydd glân.

33 A phôb llestr pridd yr hwn y syrthio vn o'r rhai hyn iw fewn, aflan sydd yr hyn oll fydd o'i fewn, a thorrwchPen. 6.28. ynteu.

34 Aflan sydd pob bwyd a fwytteir, o'r hwn y dêl dwfr aflan arno: ac aflan fydd pôb diod a yfr mewn llestr aflan.

35 Ac aflan fydd pôb dim y cwympo dim o'i burgyn arno, y ffwrn a'r badell a dorrir; aflan ydynt ac aflan fyddant i chwi.

36 Etto glân fydd y ffynnon a'r pydew, lle maeHebr. cascliad dyfroedd. dyfroedd lawer: ond yr hyn a gyffyrddo â'i burgyn a fydd aflan.

37 Ac os syrth dim o'i burgyn hwynt ar ddim hâd hauedic, yr hwn a heuir, glân yw efe.

38 Ond os rhoddir dwfr ar yr hâd, a syrthio dim o'i burgyn hwynt arno ef; aflan fydd efe i chwi.

39 Ac os bydd marw vn anifail a'r sydd i chwi yn fwyd, yr hwn a gyffyrddo â'i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr.

40 A'r hwn a fwytty o'i furgyn ef, golched ei ddillad, a bydded aflan hyd yr hwyr: a'r hwn a ddygo ei furgyn ef, golched ei ddillad, a bydd­ed aflan hyd yr hwyr.

41 A phôb ymlusciad a ymlusco ar y ddaiar fydd ffieidd-dra: na fwyttaer ef.

42 Pôb peth a gerddo ar ei dorr, a phôb peth a gerddo ar bedwar troed, a phob pethHebr. a amlhao draed. aml ei draed, o bôb ymlusciad a ymlusco ar y ddaiar, na fwyttewch hwynt, canys ffieidd-dra ydynt.

43 Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd o blegit vn ymlusciad a ymlusco, ac na fyddwch aflan o'i plegit, fel y byddech aflan o'i herwydd.

44 O herwydd myfi yw 'r Arglwydd eich Duw chwi:Pen. 19.2. & 20.7. 1 Pet. 1.15. ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd, o berwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth vn ymlusciad, a ymlusco ar y ddaiar.

45 Canys myfi yw 'r Arglwydd, yr hwn a'ch dug chwi o dir yr Aipht, i fod yn Dduw i chwi; byddwch chwithau sanctaidd, canys sanctaidd ydwyf fi.

46 Dymma gyfraith yr anifeiliaid, a'r ehedi­aid, a phôb peth byw, a'r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd, ac am bôb peth byw a'r sydd yn ymlusco ar y ddaiar:

47 I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a'r glân, a rhwng yr anifail a fwytteir, a'r hwn nis bwytteir.

PEN. XII.

Puredigaeth gwraig yn ol escor.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd,Pen. 15.19. os gwraig a feichioga, ac a escor ar wryw, yna bydded aflan saith mwrnod: fel dyddiau gwa­haniaeth ei mis-glwyf, y bydd hi aflan.

3 A'rGen. 17.12. Luc. 2.21. Joan. 7.22 wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddienwaediad ef.

4 A thri diwrnod ar ddec ar hugain yr erys yngwaed ei phuredigaeth: na chyffyrdded â dim sanctaidd, ac na ddeued i'r cyssegr, nes cyf­lawni dyddiau ei phuredigaeth.

5 Ond os ar fenyw yr escor hi, yna y bydd hi aflan bythefnos, megis yn ei gwahaniaeth: a chwe diwrnod a thrugain yr erys yngwaed ei phuredigaeth.

6 A phan gyflawner dyddiau ei phuredigaeth ar fâb neu ferch, dyged oen blwydd yn offrwm poeth, a chyw colomen, neu durtur, yn aberth tros bechod, at yr offeiriad i ddrws pabell y cy­farfod:

7 Ac offrymmed efe hynny ger bron yr Ar­glwydd, a gwnaed gymmod trosti: a hi a lanheir oddi wrth gerddediad ei gwaed: dymma gyf­raith yr hon a escor ar wryw neu ar fenyw.

8 Ac os ei llaw ni chyrraedd werth oen, yna cymmeredLuc. 2.24. ddwy durtur, neu ddau gyw colo­men, y naill yn offrwm poeth, a'r llall yn aberth tros bechod: a gwanaed yr offeiriad gymod trosti, a glân fydd.

PEN. XIII.

1 Y Deddfau a'r arwyddion, wrth y rhai y cyfar­wyddir yr offeiriad i adnabod y gwahan-glwyf.

A'R Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aa­ron, gan ddywedyd;

2 Dŷn (pan fyddo ynghroen ei gnawdNeu. godiad. chŵydd, neu grammen, neu ddisclaerder, a bod ynghroen eiLuc. 17.15. gnawd ef megis pla y clwyf gwa­hanol) a ddygir at Aaron yr offeiriad, neu at vn o'i feibion ef yr offeiriaid.

3 A'r offeiriad a edrych ar y pla ynghroen y cnawd: os y blewyn yn y pla fydd wedi troi yn wyn, a gwelodiad y pla yn ddyfnach nâ chroen ei gnawd ef, pla gwahan-glwyf yw hwn­nw: a'r offeiriad a'i hedrych, ac a'i barn yn af­lan.

4 Ond os y disgleirdeb fydd gwyn ynghroen ei gnawd ef, ac heb fod yn îs ei welediad nâ 'r croen, a'i flewyn heb droi yn wyn, yna cayed yr offeiriad ar y clwyfus saith niwrnod.

5 A'r seithfed dydd edryched yr offeiriad ef; ac wele, os sefyll y bydd y pla yn ei olwg ef, heb ledu o'r pla yn y croen, yna cayed yr offeiriad arno saith niwrnod eil-waith.

6 Ac edryched yr offeiriad ef yr ail seithfed dydd; ac wele, os bydd y pla yn odywyll, heb ledu o'r pla yn y croen, yna barned yr offeiriad ef yn lân: crammen yw honno; yna golched ei wiscoedd, a glân fydd.

7 Ac os y grammen gan ledu a leda yn y croen, wedi i'r offeiriad ei weled, iw farnu yn lân, dangoser ef eilwaith i'r offeiriad.

8 Ac os gwêl yr offeiriad, ac wele, ledu o'r grammen yn y croen, yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahan-glwyf yw.

9 Pan fyddo ar ddyn bla gwahan-glwyf, dy­ger ef at yr offeiriad:

10 Ac edryched yr offeiriad, yna os chŵydd gwyn a fydd yn y croen, a hwnnw wedi troi y blewyn yn wyn, a dim cîg noeth byw yn y chŵydd:

11 Hên wahan-glwyf yw hwnnw, ynghroen ei gnawd ef, a barned yr offeiriad ef yn aflan; na chayed arno: o herwydd y mae efe yn aflan.

12 Ond os y gwahan-glwyf gan darddu a dar­dda yn y croen, a gorchguddio o'r gwahan­glwyf holl groen y clwyfus, o'i ben hyd ei draed, pa le bynnac yr edrycho 'r offeiriad:

13 Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os y gwahan-glwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef, yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân; trôdd yn wyn ei gyd, glân yw.

14 A'r dydd y gwelir ynddo gîg byw, aflan fydd.

15 Yna edryched yr offeiriad ar y cîg byw, a barned ef yn aflan: aflan yw 'r cîg byw hwn­nw: gwahan-glwyf yw.

16 Neu os dychwel y cîg byw a throi'n wyn, yna deued at yr offeiriad:

17 Ac edryched yr offeiriad arno, ac wele, os trôdd y pla yn wyn, yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: glân yw efe.

18 Y cnawd hefyd y bu ynddo gornwyd yn ei groen, a'i iachau,

19 A bod yn lle y cornwyd chŵydd gwyn, neu ddisclaerder gwyn-goch, a'i ddangos i'r offeiriad:

20 Os pan edrycho yr offeiriad arno, y gwe­lir ef yn is nâ'r croen, a'i flewyn wedi troi yn wyn, yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwa­han-glwyf yw efe wedi tarddu o'r cornwyd.

21 Ond os yr offeidad a'i hedrych, ac wele ni bydd ynddo flewyn gwyn, ac ni bydd îs nâ'r croen, ond ei fod yn odywyll: yna cayed yr offeiriad arno saith niwrnod.

22 Ac os gan ledu y lleda yn y croen, yna barned yr offeiriad ef yn aflan; pla yw efe.

23 Ond os y disclaerder a saif yn ei le heb ymledu, craith cornwyd yw efe, a barned yr offeiriad ef yn lân.

24 Os cnawd fydd aHebr. llosciad tân. llosciad yn y croen, a bod i'r cig byw sy yn llosci ddisclaerder gwyn­goch neu wyn:

25 Yna edryched yr offeiriad ef, ac wele, os y blewyn yn y disclaerdeb fydd wedi troi yn wyn, ac yn is iw weled nâ'r croen, gwahan­glwyf yw hwnnw yn tarddu o'r llosciad; a barned yr offeiriad ef yn aflan; pla gwahan­glwyf yw hwnnw.

26 Ond os yr offeiriad a'i hedrych, ac wele ni bydd blewyn gwyn yn y disclairder, ac ni bydd îs nâ'r croen, ond ei fod yn odywyll, yna cayed yr offeiriad arno saith niwrnod.

27 Ac edryched yr offeiriad ef y seithfed dydd, os gan ledu y lledodd yn y croen, yna barnedi yr offeiriad ef yn aflan; pla gwahan­glwyf yw hwnnw.

28 Ac os y discleirdeb a saif yn ei lê, heb ledu yn y croen, ond ei fod yn odywyll; chŵydd y llosciad yw efe: barned yr offeiriad ef yn lân: canys craith y llosciad yw hwnnw.

29 Os bydd gwr neu wraig a phla arno mewn pen neu farf.

30 Yna edryched yr offeiriad y pla; ac wele os îs y gwelir nâ'r croen, a blewyn melyn main ynddo, yna barned yr offeiriad ef yn aflan: y ddufrech yw hwnnw: gwahan-glwyf pen neu farf yw.

31 Ac os yr offeiriad a edrych ar bla y ddu­frech, ac wele ni bydd yn is ei weled nâ'r croen, a heb flewyn du ynddo, yna cayed yr offeiriad ar yr hwn y bo arno y ddu-frech saith niwrnod.

32 Ac edryched yr offeiriad ar y pla y seith­fed dydd; ac wele, os y ddu frech ni bydd wedi lledu, ac ni bydd blewyn melyn ynddi, a heb fod yn îs gweled y ddu-frech nâ'r croen:

33 Yna eillier ef, ac nac eillied y fan y byddo y ddufrech; a chayed yr offeiriad ar berchen y ddu-frech saith niwrnod eilwaith.

34 A'r seithfed dydd edryched yr offeiriad ar y ddu-frech; ac wele, os y ddufrech ni led­odd yn y croen, ac ni bydd âs ei gweled nâ'r croen: yna barned yr offeiriad ef yn lân, a golched ei ddillad, a glân sydd.

35 Ond os y ddu-frech gan ledu a leda yn y croen, wedi ei lânhau ef;

36 Yna edryched yr offeiriad ef, ac wele, os lledodd y ddufrech yn y croen, na chwilied yr offeiriad am y blewyn melyn: y mae efe yn aflan.

37 Ond os sefyll y bydd y ddufrech yn ei olwg ef, a blewyn du wedi tyfu ynddi: aeth y ddufrech yn iach, glân yw hwnnw, a barned yr offeiriad ef yn lân.

38 Os bydd ynghroen cnawd gwr neu wraig, lawer o ddisclair fannau gwynion;

39 Yna edryched yr offeiriad, ac wele, os bydd ynghroen eu cnawd hwynt ddiscleiriadau gwynion wedi gordduo, brychni yw hynny, yn tarddu yn y croen, glân yw efe.

40 A gŵr panHebr. hifier ei ben. syrthio gwallt ei ben, moel yw; etto glân fydd.

41 Ac os o du ei wyneb y syrth gwallt ei ben, efe a fydd tâl-foel; etto glân fydd efe.

42 Ond pan fyddo anafod gwyn goch yn y pen-foeledd, neu yn y tâl-foeledd, gwahan-glwyf yw efe, yn tarddu yn ei ben-foeledd neu yn ei dâl-foeledd ef.

43 Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os bydd chŵydd yr anafod yn wyn-goch, yn ei ben-foeledd, neu yn ei dâl-foeledd ef, fel gwele­diad gwahanglwyf ynghroen y cnawd,

44 Gŵr gwahan-glwyfus yw hwnnw, aflan yw; a'r offeiriad a'i barna ef yn llwyr aflan: yn ei ben y mae ei bla.

45 A'r gwahan-glwyfus yr hwn y byddo pla arno, bydded ei wiscoedd ef wedi rhwygo, a'i ben yn noeth, a rhodded gaead ar ei wefus vchaf, a llefed; aflan, aflan.

46 Yr holl ddyddiau y byddo 'r pla arno, ber­nir ef yn aflan, aflan yw efe; triged eu hunan,Num. 5.2. 2 Bren. 15.5. bydded ei drigfa allan o'r gwersyll.

47 Ac os dilledyn fydd a phla gwahan-glwyf ynddo, o ddilledyn gwlân, neu o ddilledyn llîn,

48 Pwy vn bynnac ai yn yr ystof, ai yn yr anwe o lîn, neu o wlân, neu mewn croen, neu mewn dim a wnaed o groen:

49 Os gwyrdd-las, neu gôch fydd yr anafod yn y dilledyn, neu yn y croen, neu yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewnHebr. llestr, neu offeryn. dim o groen, pla y gwahan-glwyf yw efe; a dangoser ef i'r offeiri­ad.

50 Ac edryched yr offeiriad ar y pla; a chay­ed ar y peth y bo 'r pla arno, saith niwrnod.

51 A'r seithfed dydd edryched ar y pla: os y pla y ledodd yn y dilledyn, pa vn bynnac ai mewn ystof, ai mewn anwe, ai mewn croen, neu beth bynnac a wnaed o groen, gwahan-glwyf yssol yw y pla; aflan yw.

52 Am hynny llosced y dilledyn hwnnw, pa vn bynnac a'i ystof, a'i anwe, o wlân, neu o lîn, neu ddim o groen, yr hwn y byddo pla ynddo; canys gwahan-glwyf yssol yw efe; llosger yn tân.

53 Ac os edrych yr offeiriad, ac wele ni le­dodd y pla mewn dilledyn, mewn ystof, neu mewn anwe, neu ddim o groen;

54 Yna gorchymynned yr offeiriad iddynt olchi yr hyn y byddo 'r pla ynddo, a chayed arno saith niwrnod eilwaith.

55 Ac edryched yr offeiriad ar y pla wedi ei olchi ac wele, os y pla ni thrôdd ei liw, ac ni ledodd y pla, efe a fydd aflan: llosc ef yn tân; yssiad yw, pa vn bynnac y bo yn llwm, aiHebr. yn ei ben neu ei dalcen. o'r tu mewn, a'i o'r tu allan.

56 Ac os edrych yr offeiriad, ac wele 'r pla yn odywyll, yn ôl ei olchi; yna torred ef allan o'r dilledyn, neu o'r croen, neu o'r ystof, neu o'r anwe.

57 Ond os gwelir ef etto yn y ddilledyn, yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen; tarddu y mae efe: llosg yr hwn y mae y pla ynddo yn tân.

58 A'r dilledyn, neu 'r ystof, neu 'r anwe, neu pa beth bynnac o groen, y rhai a olcher; [Page] os ymadawodd y pla â hwynt, a olchir eil­waith: a glân fydd.

59 Dymma gyfraith pla gwahan-glwyf, mewn dilledyn gwlân, neu lîn, mewn ystof, neu anwe, neu pa beth bynnag o groen, iw farnu 'n lân, neu iw farnu 'n aflan.

PEN. XIV.

1 Y Ceremoniau a'r aberthau wrth lanhau y gwa­han-glwyfus. 33 Arwyddion y gwahan-glwyf mewn tŷ. 48 Y modd y glanheir y tŷ hwnnw.

LLefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Dymma gyfraith y gwahan-glwyfus, y dydd y glanheir ef:Pen. 13.2. Luc. 17.14. & 5.12. Mat. 8.2. Mar. 1.40. dyger ef at yr offeiriad.

3 A'r offeiriad a ddaw allan o'r gwerssyll, ac edryched yr offeiriad; ac wele, os pla y gwa­han-glwyf a iachaodd ar y gwahan-glwyfus:

4 Yna gorchymynned yr offeiriad i'r hwn a lanheir, gymmeryd dau aderyn y tô, byw a glân, a choed Cedr, ac yscarlat, ac Yssop.

5 A gorchymynned yr offeiriad ladd y naill aderyn y tô, mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegoc.

6 A chymmered efe yr aderyn byw, a'r coed Cedr, a'r yscarlat, a'r Yssop, a throched hwynt, a'r aderyn byw hefyd, yngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegoc,

7 A thaenelled seithwaith ar yr hwn a lan­heir oddi wrth y gwahan-glwyf, a barned ef yn lân, yna gollynged yr aderyn byw yn rhydd ar wyneb y maes.

8 A golched yr hwn a lanheir ei ddillad, ac eillied ei holl flew, ac ymolched mewn dwfr; a glân fydd: a deued wedi hynny i'r gwerssyll, a thriged o'r tu allan iw babell saith niwrnod.

9 A'r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew, sef ei ben, a'i farf, ac aeliau ei lygaid; fe eillied ei holl flew, a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr, a glân fydd.

10 A'r wythfed dydd cymmered ddau oen perffaith-gwbl, ac vn hesbin flwydd berffaith-gwbl, a thair decfed ran o beillied yn fwyd offrwm, wedi ei gymmyscu trwy olew, ac vn Log o olew.

11 A gossoded yr offeiriad a lanhâo, y gwr a lanheir, a hwynt hefyd, ger bron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

12Exod. 29.24. A chymmered yr offeiriad vn hesbwrn, ac offrymmed ef yn aberth tros gamwedd, a'r Log o olew, a chwhwfaned hwynt yn offrwm cwhwfan, ger bron yr Arglwydd.

13 A lladded ef yr oen, yn y llê y lladder y pech aberth, a'r poeth offrwm, sef yn y lle sanctaidd: oPen. 7.7. herwydd y'r aberth tros gam­wedd sydd eiddo 'r offeiriad, yn gystal a'r pech aberth; sancteiddiolaf yw.

14 A chymmered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd, a rhodded yr offeiriad ef ar gwrr isaf clust ddehau, yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau ef.

15 A chymmered yr offeiriad o'r Log olew, a thywallted ar gledr ei law asswy ei hun.

16 A gwlyched yr offeiriad ei fŷs dehau yn yr olew fyddo ar ei law asswy, a thaenelled o'r olew â'i fŷs, seith-waith ger bron yr Arglwydd.

17 Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law, y dŷd yr offeiriad ar gwrr issaf clust ddehau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau, ar waed yr offrwrn tros gamwedd.

18 A'r rhan arall o'r olew fyddo ar law 'r offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir; a gwnaed yr offeiriad gymmod trosto ger bron yr Arglwydd.

19 Ie offrymed yr offeiriad aberth tros boch­od, a gwnaed gymmod tros yr hwn a lanheir oddi wrth ei aflendid, ac wedi hynny lladded y poeth offrwm.

20 Ac aberthed yr offeiriad y poeth offrwm, a'r bwyd offrwm, ar yr allor: a gwnaed yr offeiriad gymod trosto, a glân fydd.

21 Ond os tlawd fydd, a'i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymmered vn oen, yn aberth tros gamwedd, iw gwhwfanu, i wneuthur cymod trosto, ac vn ddecfed ran o beillied wedi ei gym­myscu trwy olew, yn fwyd offrwm, a Log o olew,

22 A dwy durtur, neu ddau gyw colomen, y rhai a gyrhaeddo ei law; a bydded vn yn bech aberth, a'r llall yn boeth offrwm.

23 A dyged hwynt yr wythfed dydd iw lan­hau ef at yr offeiriad, wrth ddrws pabell y cy­farfod; ger bron yr Arglwydd.

24 A chymmered yr offeiriad oen yr off­rwm tros gamwedd, a'r Log olew, a chwhwfan­ed yr offeiriad, hwynt yn offrwm cwhwfan, ger bron yr Arglwydd.

25 A lladded oen yr offrwm tros gamwedd, a chymmered yr offeiriad o waed yr offrwm tros gamwedd, a rhodded ar gwrr issaf clust ddehau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau.

26 A thywallted yr offeiriad o'r olew, ar gledr ei law asswy ei hun.

27 Ac â'i fŷs dehau taenelled yr offeiriad o'r olew fyddo ar gledr ei law asswy, seith-waith ger bron yr Arglwydd.

28 A rhodded yr offeiriad o'r olew a fyddo ar gledr ei law, ar gwrr issaf clust ddehau 'r hwn a lanheir, as ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau, ar y man y byddo gwaed yr offrwm tros gamwedd.

29 A'r rhan arall o'r olew fyddo ar gledr llaw 'r offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir, i wneuthur cymmod trosto, ger bron yr Ar­glwydd.

30 Yna offrymmed vn o'r turturau, neu o'r cywion colomennod, sef o'r rhai a gyrhaeddo ei law ef:

31 Y rhai meddaf a gyrhaeddo ei law ef, vn yn bech aberth, ac vn yn boeth offrwm, ynghyd â'r bwyd offrwm: a gwnaed yr offeiriad gym­mod tros yr hwn a lanheir, ger bron yr Ar­glwydd.

32 Dymma gyfraith yr vn y byddo pla y gwa­han-glwyf arno, yr hwn ni chyrredd ei law yr hyn a berthyn i'w lanhâd.

33 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron gan ddywedyd,

34 Pan ddeloch i dîr Canaan, yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant, os rho­ddaf bla gwahan glwf ar dŷ o fewn tîr eich meddiant:

35 A dyfod o'r hwn biau y tŷ, a dangos i'r offeiriad, gan ddywedyd, gwelaf megis pla yn tŷ▪

36 Yna gorchymynned yr offeiriad iddyntNeu, barattoi▪ arloesi y tŷ, cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla, fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ; ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ.

37 Ac edryched ar ŷ pla: ac wele, os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ, yn agennau gwyrdd­leision, neu gochion, a'r olwg arnynt yn îs nâ'r pared;

38 Yna aed yr offeiriad allan o'r tŷ, i ddrws y tŷ, a chayed y tŷ saith niwrnod.

39 A'r seithfed dydd deued yr offeiriad tra­chefn, ac edryched; ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ,

40 Yna gorchymynned yr offeiriad iddynt dynnu y cerric y byddo 'r pla arnynt, a bwriant hwynt allan o'r ddinas i lê aflan.

41 A phared grafu y tŷ o'i fewn o amgylch, a thywalldant y llwch a grafont, o'r tu allan i'r ddinas, i lê aflan.

42 A chymerant gerric eraill, a gossodant yn lle y cerric hynny, a chymmered bridd arall, a phridded y tŷ.

43 Ond os daw 'r pla drachefn, a tharddu yn tŷ, wedi tynnu y cerric, ac wedi crafu y tŷ, ac wedi priddo:

44 Yna doed yr offeiriad, ac edryched, ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahan-glwyf yssol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe.

45 Yna tynned y tŷ i lawr, ei gerric, a'i go­ed, a holl bridd y tŷ: a bwried i'r tu allan i'r ddinas i lê aflan.

46 A'r hwn a ddêl i'r tŷ, yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau, efe a fydd aflan hyd yr hwyr.

47 A'r hwn a gysoo yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yr hwn a fwyttao yn tŷ, golched ei ddillad.

48 Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edrych, ac wele ni ledodd y pla yn tŷ, wedi priddo y tŷ; yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân, o herwyd iachau 'r pla.

49 A chymmered i lanhau y tŷ, ddau aderyn y tô, a choed Cedr, acHeb. 9.19. yscarlat, ac Ysob.

50 A lladded y naill aderyn mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegoc.

51 A chymmered y coed Cedr, a'r Ysob, a'r yscarlat, a'r aderyn byw, a throched hwynt yng­waed yr aderyn a laddwyd, ac yn y dwfr rhe­degoc, a thaenelled ar y tŷ seith-waith.

52 A glanhaed y tŷ â gwaed yr aderyn, ac â'r dwfr rhedegoc, ac â'r aderyn byw, ac a'r coed Cedr, ac â'r Ysob, ac â'r yscarlat.

53 A gollynged yr aderyn byw, allan o'r ddinas, ar wyneb y maes, a gwnaed gymod tros y tŷ; a glân fydd.

54 Dymma gyfraith am bob plâ y clwyf gwahanol, ac am yPen. 13.30. ddu-frech,

55 Ac am wahan-glwyf gwisc, a thŷ,

56 Ac am chŵydd, a chrammen, a dis­cleirdeb:

57 I ddyscuHeb. Yn nydd yr aflan ac yn nydd y glan. pa bryd y bydd aflan, a pha bryd yn lân: dymma gyfraith y gwahanglwyf.

PEN. XV.

1 Aflendid gwyr yn eu diferlif. 13 Eu puredi­gaeth. 19 Aflendid gwragedd yn eu diferlif. 28 A'u puredigaeth.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac Aa­ron, gan ddywedyd,

2 Lleferwch wrth febion Israel, a dywe­dwch wrthynt; pob vn pan fyddo diferlif yn rhedeg o'i gnawd a fydd aflan o blegyd ei ddiferlif.

3 A hyn fydd ei aflendid yn ei ddiferlif: os ei gnawd ef a ddifera ei ddiferlif, neu ymmattal o'i gnawd ef oddi wrth ei ddiferlif, ei aflendid ef yw hyn.

4 Pob gwely y gorweddo ynddo vn difer­llyd a fydd aflan: ac aflan fydd pobHeb. [...]dodref­nyn. peth yr eisteddo efe arno.

5 A'r neb a gyffyrddo â'i wely ef, golched ei ddillad, ac ymdroched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

6 A'r hwn a eisteddo ar ddim yr eisteddodd y diferllyd arno, golched ei ddillad, ac ymol­ched mewn dwfr a bydd aflan hyd yr hwyr.

7 A'r hwn a gyffyrddo â chnawd y difer­llyd, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

8 A phan boero y diferllyd ar vn glân, gol­ched hwnnw ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

9 Ac aflan fydd pob cyfrwy y marchogo y diferllyd ynddo.

10 A phwy bynnac a gyffyrddo â dim a fu tano, bydd aflan hyd yr hwyr: a'r hwn a'i dyc­co hwynt, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

11 A phwy bynnac y cyffyrddo y diferllyd ag ef, heb olchi ei ddwylo mewn dwfr, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

12 A'rLev. 6.28. llestr pridd y cyffyrddo y diferllyd ag ef, a ddryllir: a phob llestr pren a olchir mewn dwfr.

13 A Phan lanheir y diferllyd oddi wrth ei ddiferlif, yna cyfrifed iddo saith niwrnod iw lanhau, a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr rhedegoc, a glân fydd.

14 A'r wythfed dydd cymmered iddo ddwy durtur, neu ddau gyw colomen, a deued ger bron yr Arglwydd i ddrws pabell y cyfarfod, a rhodded hwynt i'r offeiriad.

15 Ac offrymmed yr offeiriad hwynt, vn yn bech aberth, ar llall yn boeth offrwm: a gwnaed yr offeiriad gymmod trosto ef am ei ddiferlif, ger bron yr Arglwydd.

16 Ac os gwr a ddaw oddiwrtho ddescyni­ad hâd yna golched ei holl gnawd mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

17 A phob dilledyn, a phob croen, y byddo descyniad hâd arno, a olchir mewn dwfr, ac a fydd aflan hyd yr hwyr.

18 A'r wraig y cysgo gŵr mewn descynni­ad hâd, gyd â hi; ymolchant mewn dwfr, a byddant aflan hyd yr hwyr ill-dau.

19 A phan fyddo gwraig a diferlif arni, a bod ei diferlif yn ei chnawd yn waed, bydded saith niwrnod yn ei gwahaniaeth, a phwy byn­nac a gyffyrddo â hi, bydd aflan hyd yr hwyr.

20 A'r hyn oll y gorweddo hi arno, yn ei gwahaniaeth, fydd aflan: a'r hyn oll yr eistoddo hi arno a fydd aflan.

21 A phwy bynnac a gyffyrddo â'i gwely hi, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

22 A phwy bynnac a gyffyrddo â dim yr eisteddodd hi arno, golched ei ddillad, ac ymol­ched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

23 Ac os ar y gwely y bydd efe, neu ar ddim y byddo hi yn eistedd arno, wrth gyffwrdd ag ef, hyd yr hwyr y bydd efe aflan.

24 Ond os gŵr gan gyscu a gwsc gydâ hi,Lev. 18.19. fel y byddo o'i misglwyf hi arno ef, aflan fydd efe saith niwrnod, ac aflan fydd yr holl wely y gorwedd efe arno.

25 A phan fyddo diferlif ei gwaed yn rhe­deg ar wraig, lawer o ddyddiau, allan o amser ei hanhwyl; neu pan redo diferlif arni ar ol ei hanhwyl, bydded holl ddyddiau diferlif ei ha­flendid hi, megis dyddiau ei gwahaniaeth: aflan fydd hi.

26 Pôb gwely y gorweddo hi arno, holl ddy­ddiau ei diferlif, fydd iddi fel gwely ei misglwyf, a phôb dodrefnyn yr eisteddo hi arno, fydd aflan, megis aflendid ei misglwyf hi.

27 A phwy bynnac a gyffyrddo â hwynt, aflan fydd, a golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydd aflan hyd yr hwyr.

28 Ac os glanheir hi o'i diferlif, yna cyfrifed iddi saith niwrnod; ac wedi hynny, glân fydd.

29 A'r wythfed dydd cymmered iddi ddwy durtur, neu ddau gyw colomen, a dyged hwynt at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.

30 Ac offrymmed yr offeiriad vn yn bech aberth, a'r llall yn boeth offrwm, a gwnaed yr offeiriad gymmod trosti ger bron yr Arglwydd, am ddiferlif ei haflendid.

31 Felly y neilltuwch blant Israel oddi wrth eu haflendid, fel na byddant feirw yn eu haflen­did; pan halogant fy mhabell, yr hon sydd yn eu mysc.

32 Dymma gyfraith yr hwn y byddo y di­ferlif arno, a'r hwn y daw oddi wrtho ddescy­niad hâd, fel y byddo aflan o'i herwydd:

33 A'r glâf o'i mis-glwyf, a'r neb y byddo y diferlif arno, o wryw, ac o fenyw, ac i'r gwr a orweddo ynghŷd â'r hon a fyddo aflan.

PEN. XVI.

1 Y modd y mae ir Archoffeiriad fyned i mewn i'r Cyssegr. 11 Y pech aberth trosto ei hun. 15 Y pech aberth tros y bôbl. 20 Yr afr ddian­gol. 29 Gwyl y cymmod bob blwyddyn.

LLefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, wediPen. 10.2. marwolaeth dau fâb Aaron, pan offrymmasant ger bron yr Arglwydd, ac y buant feirw.

2 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, llefara wrth Aaron dy frawd,Exod. 30.10. na ddelo bôb amser i'r cyssegr, o fewn y wahan-len, ger bron y drugareddfa sydd ar yr Arch, fel na byddo efe farw:Heb. 9.7. o herwydd mi a ymddangosaf ar y dru­gareddfa1 Bren. 8.10▪ yn y cwmmwl.

3 A hyn y daw Aaron i'r cyssegr, â bustach ieuangc yn bech aberth, ac â hwrdd yn boeth offrwm.

4 Gwisced bais liain sanctaidd, a bydded llo­drau lliain am ei gnawd, a gwregysser ef â gwregys lliain, a gwisced feitr lliain; gwiscoedd sanctaidd yw y rhai hyn: golched yntef ei gnawd mewm dwfr, pan wisco hwynt.

5 A chymmered gan gynnulleidfa meibion Israel, ddau lwdn gafr yn bech aberth, ac vn hwrdd yn boeth offrwm.

6 Ac offrymmed Aaron fustach y pech aberth a fyddo Heb. 9.7. drosto ei hun, a gwnaed gymmod trosto ei hun, a thros ei dŷ.

7 A chymmered y ddau fwch, a gossoded hwynt ger bron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod:

8 A rhodded Aaron goel-brennau ar y ddau fwch; vn coel-bren tros yr Arglwydd, ar coel­bren arall tros yHeb. Azazel. bwch diangol.

9 A dyged Aaron y bwch yHeb. derchu­fodd: syrthiodd coel-bren yr Arglwydd arno, ac offrymmed ef yn bech aberth.

10 A'r bwch y syrthiodd arno y coel-bren i fod yn fwch diangol, a roddir i sefyll yn fyw ger bron yr Arglwydd, i wneuthur cymmod ag ef, ac iw ollwng i'r anialwch yn fwch diangol.

11 A dyged Aaron fustach y pech aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymmod drosto ei hun, a thros ei dŷ; a lladded fustach y pech aberth a fyddo trosto ei hun.

12 A chymmerod loueid thusser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi ger bron yr Ar­glwydd, a lloneid ei ddwlo o arogl-darth peraidd mân, a dyged o fewn y wahan-len.

13 A rhodded yr arogl-darth ar y tân, ger bron yr Arglwydd, fel y cuddio mŵg yr arogl­darth y drugareddfa, yr hon sydd ar y destio­laeth, ac na byddo efe farw.

14Heb. 9.13. & 10.4. Pen. 4.6. A chymmered o waed y bustach a tha­enelled â'i fŷs ar y drugareddfa tu a'r dwyrain: a saith-waith y taenella efe o'r gwaed â'i fys o flaen y drugareddfa.

15 Yna lladded fwch y pech-aberth fydd tros y bobl, a dyged ei waed ef o fewn y wahan-len, a gwnaed â'i waed ef megis ac y gwnaeth a gwaed y bustach, a thaenelled ef ar y druga­reddfa, ac o flaen y drugareddfa.

16 A glanhaed y cyssegr oddi wrth aflendid meibion Israel, ac oddiwrth eu hanwireddau, yn eu holl bechodau: a gwnaed yr vn modd i ba­bell y cyfarfod, yr hon sydd yn aros gydâ hwynt, ym mysc eu haflendid hwynt.

17 Ac na fydded vn dŷnLuc. 1.10. ym-mhabell y cy­farfod, pan ddelo efe i mewn i wneuthur cym­mod yn y cyssegr, hyd oni ddelo efe allan, a gwneuthur o honaw ef gymmod trosto ei hun, a thros ei dŷ, a thros holl gynnulleidfa Israel.

18 Ac aed efe allan at yr allor sydd ger bron yr Arglwydd, a gwnaed gymmod arni, a chym­mered o waed y bustach, ac o waed y bwch, a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch.

19 A thaenelled arni o'r gwaed seith-waith â'i fŷs, a glanhaed hi, a sancteiddied hi, oddi wrth aflendid meibion Israel.

20 A phan ddarffo iddo lanhau y cyssegr, a phabell y cyfarfod, a'r allor, dyged y bwch byw.

21 A gosoded Aaron ei ddwylaw ar ben y bwch byw, a chyffessed arno holl anwiredd mei­bion Israel, a'i holl gamweddau hwynt, yn eu holl bechodau, a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymmaith yn llaw gŵrHeb. Cyfam­ser. cym­mwys i'r anialwch.

22 A'r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir naillduaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i'r anialwch.

23 Yna deued Aaron i babell y cyfarfod, a di­osced y gwiscoedd lliain a wiscodd efe wrth ddy­fod i'r cyssegr, a gadawed hwynt yno.

24 A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd, a gwisced ei ddillad, ac aed allan, ac offrymmed ei boeth offrwm ei hun, a phoeth offrwm y bobl, a gwnaed gymmod trosto ei hun, a thros y bobl.

25 A llosged wêr y pech aberth ar yr allor.

26 A golched yr hwn a anfonodd y bwch; fod yn fŵch diangol, ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr, ac yna deued i'r gwerssyll.

27 A bustach y pech-aberth, a bwch y pech­aberth y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymmod yn y cyssegr, a ddwg vn Pen. 6.30. Heb. 13.11. i'r tu allan i'r gwersyll, ac hwy a losgant eu crwyn hwynt, a'i cnawd, a'i biswel yn tân.

28 A golched yr hwn a'i llosco hwynt ei ddillad, golched hefyd ei gnawd mewn dwfr, wedi hynny deued i'r gwerssyll.

29 A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi: y seithfed mis, ar y decfed dydd o'r mis y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y priodor a'r dieithr a fyddo yn ym­daith yn eich plith.

30 O herwydd y dydd hwnnw y gwna yr offei­riad gymmod drossoch, i'ch glanhau o'ch holl be­chodau, fel ŷ byddoch lân ger bron yr Arglwydd.

31 Sabboth gorphwysdra yw hwn i chwi, yna cystuddiwch eich eneidiau, trwy ddeddf dragywyddol.

32 A'r offeiriad yr hwn a eneinio efe, a'r hwn aHeb. lanwo ei law. gyssegro efe, i offeiriadu yn lle ei dâd, a wna'r cymmod, ac a wisc y gwiscoedd lliain, sef y gwiscoedd sanctaidd,

33 Ac a lanhâ y cyssegr sanctaidd, ac a lanhâ babell y cyfarfod, a'r allor; ac a wna gymmod tros yr offeiriaid, a thros holl bobl y gynnulleidfa

34 A bydded hyn yn ddeddf dragywyddol i chwi, i wneuthur cymmod tros feibion Israel am eu pechodau oll,Exod. 30.10. Heb. 9.7. vn waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

PEN. XVII.

1 Rhaid yw offrwm i'r Arglwydd wrth ddrws y babell waed yr hol anifeiliaid a leddir. 7 Ni wasanaetha iddynt aberthu i gythreuliaid. 10 Gwahardd bwytia gwaed, 15 A phob peth a fo marw ei hun, neu a ysclyfaethwyd.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, dymma y peth a orchymynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd,

3 Pob un o dŷ Israel a laddo ŷch, neu oen, neu afr, o fewn y gwerssyll, neu a laddo allan o'r gwerssyll,

4 Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfar­fod, i offrymmu offrwm i'r Arglwydd, o flaen tabernacl yr Arglwydd, gwaed a fwrir yn erbyn y gŵr hwnnw: gwaed a dywalltodd efe, a thor­rir y gŵr hwnnw ymmaith o blith ei bobl.

5 O herwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu ha­berthu ar wyneb y maes: îe dygant hwynt i'r Arglwydd i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offeiriad, ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i'r Arglwydd.

6 A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar allor yr Arglwydd wrth ddrws pabell cyfarfod, a llos­ced y gwêrExod. 29.18. Pen. 4.31. yn arogl peraidd i'r Arglwydd.

7 Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gy­threuliaid, y rhai y buant yn putteinio ar eu hol: deddf dragywyddol fydd hyn iddynt, drwy eu cenhedlaethau.

8 Dywed gan hynny wrthynt, pwy bynnac o dŷ Israel, ac o'r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysc, a offrymmo boeth offrwm, neu aberth,

9 Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod, iw offrymmu i'r Arglwydd, torrir ymaith y gŵr hwnnw o blith ei bobl.

10 A phwy bynnac o dŷ Israel ac o'r dieith­raid a ymdeithio yn eich mysc, a fwyttao ddim gwaed, myfi a osodaf fy wyneb yn erbyn yr e­naid a fwyttao waed, a thorraf ef ymmaith o fysc ei bobl.

11 O herwydd enioes y cnawd sydd yn y gwaed, a mi a'i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymmod tros eich eneidiau: o her­wydd y gwaed hwn a wna gymod tros yr enaid.

12 Am hynny y dywedais wrth feibion Israel, na fwyttaed vn enaid o honoch waed, a'r dieithr a ymdeithio yn eich mysc, na fwyttaed waed.

13 A phwy bynnac o feibion Israel, neu o'r dieithraid a ymdeithio yn eu mysc, a helio helfa o fwyst-fil, neu o aderyn a fwyttaer, tywallted ymmaith ei waed ef, a chuddied ef â llwch.

14 O herwydd enioes pôb cnawd yw ei waed, yn lle ei enioes ef y mae: am hynny y dywedais wrth feibion Israel,Gen. 9.4. Pen. 3.17. na fwyttewch waed un cnawd; o herwydd enioes pôb cnawd yw ei waed: pwy bynnac a'i bwyttao a dorrir ymmaith.

15 A phôb dyn a'r a fwyttaoHeb. burgin▪ y peth a fu farw o hono ei hun neu sclyfaeth, pa un bynac ai priodor ai dieithr-ddyn, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: yna glân fydd.

16 Ond os efe nis gylch hwynt, ac ni ylch ei gnawd; yna y dŵg efe ei anwiredd.

PEN. XVIII.

1 Priodasau anghyfraithlon. 19 Chwantau ang­hyfreithlon.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wr­thynt, myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

3 Na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlâd yr Aipht, yr hon y trigasoch ynddi: ac na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlâd Canaan, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi: ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt.

4 Fy marnedigaethau i a wnewch, a'm dedd­fau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

5 Ie cedwch fy neddfau a'm barnedigaethau: a'rEzec. 20.11. Rhuf. 10.5. Gal. 3.12. dyn a'i cadwo a fydd byw ynddynt i myfi yw yr Arglwydd.

6 Na nessaed nêb atHeb. weddill. gyfnessaf ei gnawd, i ddinoethi ei noethni: myfi yw yr Arglwydd.

7 Noethni dy dâd, neu noethni dy fam,Ezec. 22.10. na ddi­noetha: dy fam yw hi, na ddinoetha ei noethni.

8Pen. 20.11. Na ddinoetha noethni gwraig dy dâd: noethni dy dâd yw.

9 Noethni dy chwaer, merch dy dâd, neu ferch dy fam, yr hon a anwyd gartref, neu a an­wyd allan:Ezec. 22.11. na ddinoetha eu noethni hwynt.

10 Noethni merch dy fâb, neu ferch dy ferch; na ddinoetha eu noethni hwynt; canys dy noethni di ydyw.

11 Noethni merch gwraig dy dâd, plentyn dy dâd, dy chwaer dithe yw hi; na ddinoetha ei noethni hi.

12Pen. 20.19. Na ddinoetha noethni chwaer dy dâd; cyfnessaf dy dâd yw hi.

13 Na ddinoetha noethni chwaer dy fam; canys cyfnessaf dy fam yw hi.

14Pen. 20.20. Na noetha noethni brawd dy dâd, sef na nessa at ei wraig ef; dy fodryb yw hi.

15Ezec. 22.11. Pen. 20, 12. Na noetha noethni dy waudd; gwraig dy fâb yw hi; na noetha ei noethni hi.

16Pen. 20.21. Mat. 14.4. Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd; noethni dy frawd yw.

17 Na noetha noethni gwraig a'i merch; na chymmer ferch ei mâb hi, neu ferch ei merch hi, i noethi ei noethni hi; ei chyfnessar hi yw y rhai hyn: yscelerder yw hyn.

18 Hefyd na chymmer wraig yng-hydNeu, a gwraig arall. â'i chwaer, iw chystuddio hi, gan noethi noethni honno gydâ 'r llall, vn ei byw hi.

19 AcEzec. 22.10. Pen. 20.18. na nessâ at wraig yn naillduaeth ei haflendid, i noethi ei noethni hi.

20 AcPen. 15.24. na chydorwedd gyd â gwraig dy gymydog, i fod yn aflan o'i phlegit.

21 AcPen. 20.2. 2 Bren. 23.10. na ddod o'th hâd i fyned trwy dân i Moloch, ac na haloga enw dy Dduw: myfi yw yr Arglwydd.

22 AcPen. 20.13. Rhuf. 1.26. na orwedd gyd â gwryw, fel gor­wedd gyd â benyw; ffieidddra yw hynny.

23 AcPen. 20.15. Deut. 27.21. na chydorwedd gyd ag vn anifail, i fod yn aflan gyd ag ef: ac na safed gwraig o flaen vn anifail i orwedd tano;Ffieidd­beth. cymyscedd yw hynny.

24 Nac ymhalogwch yn yr vn o'r pethau hyn; canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o'ch blaen chwi.

25 A'r wlad a halogwyd; am hynny yr yd­wyf yn ymweled â'i hanwiredd yn ei herbyn, fel y chwydo y wlâd ei thrigolion.

26 OndPen. 20.22. cedwch chwi fy-neddfau, a'm bar­nedigaethau i, ac na wnewch ddim o'r holl ffiaidd bethau hyn; na'r priodor, na'r dieithr­ddyn sydd yn ymdaith yn eich mysc:

27 (O herwydd yr holl ffiaidd bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlâd, y rhai a fu o'ch blaen, a'r wlâd a halogwyd.)

28 Fel na chwydo y wlâd chwithau, pan ha­logoch hi, megis y chwydodd hi y genedl oedd o'ch blaen.

29 Canys pwy bynnac a wnel ddim o'r holl ffiaidd bethau hyn, torrir ymmaith yr eneidiau a'i gwnelo o blith eu pobl.

30 Am hynny cedwch fy neddf i, heb wneu­thur yr vn o'r deddfau ffiaidd a wnaed o'ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

PEN. XIX.

Ail-adrodd amryw gyfreithiau.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, a dywed wrthynt,Pen. 11.44. & 20.7. 1 Pet. 1.16. Byddwch sanctaidd, canys sanctaidd ydwyf fi yr Arglwydd eich Duw chwi.

3 Ofnwch bobExod. 20.12. vn ei fam, â'i dâd, a chedwch fy Sabbothau: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

4 Na throwch at eulynnod, ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

5 A phan aberthoch hedd aberth i'r Ar­glwydd, yn ôl eich ewyllys eich hun yr aber­thwch hynny.

6 Ar y dydd yr offrymmoch, a thrannoeth y bwytteir ef,Pen. 7.16. a llosger yn tân yr hyn a we­ddillir hyd y trydydd dydd.

7 Ond os gan fwytta y bwytteir ef o fewn y trydydd dydd, ffiaidd fydd efe; ni bydd gymmeradwy.

8 A'r hwn a'i bwyttao a ddwg ei anwiredd, am iddo halogi cyssegredic beth yr Arglwydd; a'r enaid hwnnw a dorrir ymmaith o blith ei bobl.

9 A phan gynhaiafoch gynhaiaf eich tîr,Pen. 23.22. na feda yn llwyr gonglau dy faes, ac na chynnull loffion dy gynhaiaf.

10 Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan: gad hwynt i'r tlawd ac i'r dieithr: yr Arglwydd eich Duw chwi ydwf fi.

11 NaExod. 20.15. Eph. 4.28 Zach. 8.16. ladratewch, ac na ddywedwch gel­wydd, ac na thwyllwch bôb vn ei gymydog.

12 AcExod. 20.7. Deut. 5.11 Mat. 5.34. Iac. 5.12. na thyngwch i'm enw i yn anudon: ac na haloga enw dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.

13 NaDeut. 24.14. Tob. 4.14 Eccl. 10.6. cham attal oddi wrth dy gymydog, ac na yspelia ef: na thriged cyflog y gweithwr gyd â thi hyd y boreu.

14 NaDeut. 27.18. felldiga y byddar, ac na ddod dram­gwydd o flaen y dall; ond ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.

15 NaExod. 23.3. Deut. 1.17. & 16.20. Jac. 2.9. Dihar. 24.23. wnewch gam mewn barn: na dder­byn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymydog mewn cyfiawnder.

161 Tim. 5.1 [...] Ac na rodia yn athrodwr ym mysc dy bobl: na saf yn erbyn gwaed dy gymydog: yr Arglwydd ydwyf fi.

17 Na1 Ioan. 2.11. Mat. 5.46. chasâ dy frawd yn dy galon; ganMat. 18.15. Eccl. 19.13. geryddu cerydda dy gymydog,Neu, rhag it ddwyn pe­chod tro­sto. ac na ddi­oddef bechod ynddo.

18 Na ddiala, ac na chadw lîd i feibion dy bobl, ondRhuf. 13.9. & 12.7. Gal. 5.14. Iac. 2.8. Mat. 5.43 & 22.39. câr dy gymydog megis ti dy hun: yr Arglwydd ydwyf fi.

19 Cedwch fy neddfau; na âd i'th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth; ac na haua dy faes ag amryw hâd; ac nac aed am danatDeut. 22.11. ddille­dyn cymmysc o lin a gwlân.

20 A phan fyddo i ŵr a wnelo â benyw, a hithe yn forwyn gaeth wedi eiNeu, amherchi gan neb. Heb. enllibio gan neu am wr. dyweddio i ŵr, ac heb ei rhyddhau ddim, neu heb roddi rhydd-did iddi, byddedNeu, iddi. iddynt gurfa, ac na la­dder hwynt, am nad oedd hi rydd.

21 A dyged efe yn aberth tros ei gamwedd i'r Arglwydd i ddrws pabell y cyfarfod, hwrdd dros gamwedd.

22 A gwnaed yr offeiriad gymmod trosto, â'r hwrdd tros gamwedd, ger bron yr Ar­glwydd, am ei bechod a bechodd efe: a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe.

23 A phan ddeloch i'r 'tîr, a phlannu o ho­noch bôb pren ymborth, cyfrifwch yn ddien­waededig eiffrwyth ef: tair blynedd y bydd efe megis ddienwaededig i chwi: na fwyttaer o hono.

24 A'r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth ynSanct­eidd­rwydd mo­liant i'r &c. sanctaidd i foliannu 'r Arglwydd ag ef.

25 A'r bummed flwyddyn y bwyttewch ei ffrwyth, fel y chwanego efe ei gnwd i chwi: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

26 Na fwytewch ddim ynghŷd â'i waed: nac arferwch na swynion, na choel ar frudiau.

27Pen. 21.5. Na thalgrynnwch odre eich pen, ac na thorr gyrrau dy farf.

28Deut. 14.1. Ac na wnewch dorriadau yn eich cnawd am vn marw, ac na roddwch brint nôd arnoch: yr Arglwydd ydwyf fi.

29 Na haloga dy ferch gan beri iddi buttei­nio, rhac putteinio y tîr, a llenwi y wlâd o sce­lerder.

30 Cedwch fy Sabbothau, a pherchwch fynghyssegr: yr Arglwydd ydwyf fi.

31Lev. 20.6. Deut. 18.10. 1 Sam. 28.9. Nac ewch ar ôl dewiniaid, ac nac ymo­fynnwch â'r brudwyr, i ymhalogi o'i plegit: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

32 Cyfot ger bron penwynni; a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy Dduw: yr Ar­glwdd ydwyf fi.

33Exod. 22.21. A phan ymdeithio dieithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlâd; naOr­thrym­mwch. flinwch ef.

34 Bydded y dieithr i chwi, yr hwn a ym­deithio yn eich plîth, fel yr vn a hanffo o ho­noch, a châr ef fel ti dy hun: o herwydd diei­thraid fuoch yngwlad yr Aipht; yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

35 Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fessur.

36 Bydded iwchDihar. 11.1. & 16.11. & 20.10. gloriannau cyfiawn, gerric cyfiawn, Epha gyfiawn, a Hin gyfiawn: yr Arglwydd eich Duw ywyf fi, yr hwn a'ch dygais allan o dir yr Aipht.

37 Cedwch chwithau fy holl ddedfau, a'm holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr Ar­glwydd ydwyf fi.

PEN. XX.

1 Am yr hwn a roddo ei hâd i Moloch. 4 Am yr hwn a arbedo y cyfryw. 6 Am fyned at frudwyr. 7 Am ymsancteiddio. 9 Am yr hwn a felldithio ei rieni, 10 Am odineb. [Page] 11, 14, 17. Am ymloscach. 13 Am orwedd gydâ gwryw, 15 neu gydag anifail, 18 am aflendid. 22 Gorchymmyn vfydd-dod gyda sancteiddrwydd. 27 Rhaid yw rhoddi brudwyr i farwolaeth.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd,

2 Dywed hefyd wrth feibion Israel, pob vn o feibion Israel, neu o'r dieithr, a ymdeithio yn Israel, yr hwn aLevit. 18.21. roddo o'i hâd i Moloch, a leddir yn farw: pobl y tîr a'i llabyddiant ef â cherric.

3 A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a'i torraf o fysc ei bobl, am iddo roddi o'i hâd i Moloch, i aflanhau fynghyssegr, ac i halogi fy enw sanctaidd.

4 Ac os pobl y wlâd gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw (pan roddo efe ei hâd i Moloch) ac nis lladdant ef:

5 Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ym­maith ef, a phawb a ddilynant ei butteindra ef, gan butteinio yn ol Moloch, o fysc eu pobl.

6 A'r dŷn a drô ar ôl dewiniaid, a brudwŷr, i butteinio ar eu hôl hwynt, gosodaf fy wyneb yn erbyn y dŷn hwnnw hefyd, a thorraf ef ymmaith o fysc ei bobl.

7 Ymsancteiddiwch gan hynny,Levit. 11.44. & 19.2. 1 Pet. 1.16. a byddwch sanctaidd: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

8 Cedwch hefyd fy-neddfau, a gnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddudd.

9 Os bydd neb aExod. 21.17. Dihar. 20.20. Mat. 15.4 Ecclus 3. felldigo ei dâd neu ei fam, lladder ef yn farw: ei dâd neu ei fam a felldi­godd efe; ei waed fydd arno ei hun.

10Deut. 22▪ 22. Ioan. 8.4. Ar gŵr a odinebo gyd â gwrag gŵr arall, sef yr hwn a odinebo gyd â gwraig ei gymydog, lladder yn farw y godinebwr a'r odi­neb wraig.

11 A'r gŵr a orweddo gyd â gwraig ei dâd,Pen. 18.8. a noethodd noethni ei dâd: lladder yn feirw hwynt ill dau; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

12Pen. 18.16. Am y gŵr a orweddo ynghyd â'i waudd, lladder yn feirw hwynt ill dau; cymyscedd a wnaethant; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

13Pen. 18.22. A'r gŵr a orweddo gyd â gŵr, fel gor­wedd gyd â gwraig, ffieidd-dra a wnaethant ill dau: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

14 Y gŵr a gymmero wraig, a'i mam, sce­lerder yw hynny: lloscant ef a hwythau yn tân, ac na fydded scelerder yn eich mysc.

15Pen. 18.23. Deut. 27.21. A lladder yn farw y gŵr a ymgydio ag anifail; lladdant hefyd yr anifail.

16 A'r wraig a êl at vn anifail i orwedd tano, lladd di y wraig a'r anifail hefyd; lla­dder hwynt yn feirw: eu gwaed fydd arnynt eu hunain.

17 A'r gŵr a gymmero ei chwaer, merch ei dâd, neu ferch ei fam, ac a welo ei noethni hi, ac y gwelo hithe ei noethni yntef; gwradwydd yw hynny; torrer hwythau ymmaith yngolwg meibion eu pobl: noethni ei chwaer a noeth­odd efe; efe a ddwg ei anwiredd.

18 A'rPen. 18.19. gŵr a orweddo gyd â gwraig glâf o'i misglwyf, ac a noetho ei noethni hi; ei di­ferlif hi aHebr. ddinoe­thodd. ddadcuddiod efe, a hithe a ddad­cuddiodd ddiferlif ei gwaed ei hun: am hynny torrer hwynt ill dau o fysc eu pobl.

19 Ac na noetha noethni chwaer dy fam, neu chwaer dy dâd; o herwydd ei gyfnessaf ei hun y mae yn ei noethi: dygant eu hanwiredd.

20 A'r gŵr a orweddo gyd â gwraig ei ewythr frawd ei dâd, a noetha noethni ei ew­ythr: eu pechod a ddygant; byddant feirw yn ddiblant.

21 A'r gwr a gymmero wraig ei frawd: (Yscari­aeth. peth aflan yw hynny:) efe a noethodd no­ethni ei frawd; diblant fyddant.

22Pen. 18.26. Am hynny cedwch fy holl ddeddfau, a'm holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt,Pen. 18.25. fel na chwydo y wlâd chwî, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn iddi i bresswylio ynddi.

23 Ac na rodiwch yn neddfau y genedl yr ydwyf yn ei bwrw allan o'ch blaen chwi, o her­wydd yr holl bethau hyn a wnaethant,Deut. 9.5. am hynny y ffieiddiais hwynt.

24 Ac wrthych y dywedais, chwi a eti­feddwch eu tîr hwynt; mi a'i rhoddaf i chwi iw feddiannu: gwlâd yn llifeirio o laeth a mêl: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi, yr hwn a'ch naillduais chwi oddiwrth bobloedd eraill.

25Pen. 11.2. Deut. 14.4. Rhoddwch chwithau wahaniaeth rhwng yr anifail glân a'r aflan, a rhwng yr aderyn aflan a'r glân; ac na wnewch eich enei­diau yn ffiaidd o herwydd anifail, neu o her­wydd aderyn, neu o herwydd dim oll aNeu, a ymsym­mundo. ym­lusco ar y ddaiar, yr hwn a neillduais i chwi iw gyfrif yn aflan.

26 Byddwch chwithau sanctaidd i mi:Pen. 19.2. & 20.7. 1 Pet. 1.16. o herwydd myfi 'r Arglwydd ydwyf sanctaidd, ac a'ch neillduais chwi oddi wrth bobloedd eraill i fod yn eiddo fi.

27 Gŵr neu wraig a fo ganddyntDeut. 18.11. 1 Sam. 28.7. yspryd dewiniaeth neu frud, hwy a leddir yn farw; â cherric y llabyddiant hwynt; eu gwaed fydd ar­nynt eu hunain.

PEN. XXI.

1 Am alar yr offeiriaid. 6 Am eu sancteidd­rwydd. 8 Am eu cymmeriad. 7, 13. Am eu priodasau. 16 Ni chaiff yr offeiriaid a fo ar­nynt anaf weini yn y Cyssegr.

A Dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, lle­fara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt; nac ymhaloged neb am y marw ymmysc ei bobl:

2 Ond am ei gyfnesaf agos iddo: am ei fam, am ei dâd, ac am ei fâb, ac am ei ferch, ac am ei frawd,

3 Ac am ei chwaer o forwyn, yr hon sydd agos iddo; yr hon ni fu eiddo gŵr: am hon­no y gall ymhalogi.

4 Nac ymhalogedNeu, gwr priod. pennaeth ym mysc ei bobl, iw aflanhau ei hun,

5 NaPen. 19.27. wnânt foelni ar eu pennau, ac nac eilliant gyrrau eu barfau, ac na thorrant dor­riadau ar ei cnawd.

6 Sanctaidd fyddant iw Duw, ac na ha­logant enw eu Duw: o herwydd offrymmu y maent ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bara eu Duw; am hynny byddant sanctaidd.

7 Na1 Tim. 3.11. chymmerant buttain-wraig, neu vn halogedic yn wraig: ac na chymmerant wraig wedi yscar oddi wrth ei gŵr; o her­wydd sanctaidd yw efe iw Dduw.

8 A chyfrif di ef yn sanctaidd, o her­wydd bara dy Dduw di y mae efe yn ei offrymmu; bydded sanctaidd it, o herwydd sanctaidd ydwyf fi'r Arglwydd eich sanctei­ddudd.

9 Ac osNeu, ymhaloga &c. gan butteinio▪ dechreu merch un offeiriad butteinio, halogi ei thâd y mae; llosger hi yn tân.

[...]
[...]

10 A'r offeiriad pennaf o'i frodyr, yr hwn y tywalldwyd olew'r eneiniad ar ei ben, ac a gyssegrwyd i wisco y gwiscoedd, na ddiosced oddi am ei ben, ac na rwyged ei ddillad.

11 Ac na ddeued at gorph un marw, nac ymhaloged am ei dâd, nac am ei fam.

12 Ac nac aed allan o'r cyssegr, ac na halo­ged gyssegr ei Dduw: am fod coron olew ennei­niad ei Dduw arno ef: myfi yw yr Arglwydd.

13 A chymmered efe wraig yn ei morwyndod.

14 Gwraig weddw, na gwraig wedi yscar, nac un halogedic, na phuttain; y rhai hyn na chymmered: onid cymmered forwyn o'i bôbl ei hun yn wraig.

15 Ac na haloged ei hâd ym mysc ei bobl: canys myfi yw yr Arglwydd ei sancteiddudd ef.

16 A llefarodd yr Arglwydd with Moses, gan ddywedyd,

17 Llefara wrth Aaron, gan ddywedyd, na nessaed vn o'th hâd di drwy eu cenhedlaethau, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymmuNeu, ymborth. bara ei Dduw:

18 Canys2 Sam. 5.8. ni chaiff un gŵr y byddo anaf ar­no nessau: y gŵr dall, neu y cloff, neu'r trwyn­dwn, neu y neb y byddo dimPen. 22.23. gormodd ynddo,

19 Neu'r gŵr y byddo iddo droed twn, neu law don,

20 Neu a fyddoYn gorr. yn gefn-grwm, neu a magl neu byssen ar ei lygad, neu'n grachlyd, neu yn glafr-llyd, neu wedi yssigo ei eirin.

21 Na nessaed vn gŵr o hâd Aaron yr offei­riad, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymmu ebyrth tanllyd yr Arglwydd: anaf sydd arno; na nessaed i offrymmu bara ei Dduw.

22 Bara ei Dduw o'r pethau sanctaidd cysse­gredic, ac o'r pethau cyssegredic, a gaiff efe ei fwytta.

23 Etto nac aed i mewn at y wahan-len, ac na nessaed at yr allor, am fod anaf arno, ac na haloged fynghyssegroedd: canys myfi yw yr Ar­glwydd eu sancteiddudd hwynt.

24 A llefarodd Moses hynny wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel.

PEN. XXII.

1 Rhaid i'r offeiriaid yn eu haflendid ymgadw oddi wrth y pethau Cyssegredic. 6 Y modd y mae eu puro hwynt. 10 Pwy yn nhy 'r offeiriad a all fwytta o'r pethau Cyssegredic. 17 Rhaid i'r aberthau fôd yn ddianaf. 26 Oedran yr aberth. 29 Y gyfraith am fwytt a'r aberth-diolch.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, am iddynt ymneillduo oddi wrth bethau cyssegredic meibion Israel, ac na halogant fy enw sanctaidd, yn y pethau y maent yn eu cyssegru i mi: myfi yw yr Arglwydd.

3 Dywed wrthynt, pwy bynnac o'ch holl hiliogaeth, trwy eich cenhedlaethau, a nessao at y pethau cyssegredic, a gyssegro meibion Israel i'r Arglwydd, a'i aflendid arno, torrir ymmaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron; myfi yw yr Arglwydd.

4 Na fwyttaed nêb o hiliogaeth Aaron o'r pe­thau cyssegredic, an ynteu yn wahanglwyfus, neu yn ddiferllyd, hyd oni lanhaer ef: na'r hwn aPen. 13.2. gyffyrddo â dim wedi ei halogi wrth y marw, na'r hwn yr êl oddi wrtho ddescynniad hâd,

5 Na'r vn a gyffyrddo ag un ymlusciad, trwy'r hwn y gallo fod yn aflan, neu â dŷn y byddai aflan o'i blegid; pa aflendid bynnac fyddo arno.

6 A'r dyn a gyffyrddo ag ef a fydd aflan hyd yr hwyr, ac na fwyttaed o'r pethau cyssegredic, oddieithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr.

7 A phan fachludo 'r haul, glân fydd, ac wedi hynny bwyttaed o'r pethau cyssegredic, canys ei fwyd ef yw hwn.

8 AcExod. 22.31. Ezec. 44.31. na fwyttaed o ddim wedi marw ei hun, neu wedi ei sclyfaethu, i fod yn aflan o'i blegit: myfi yw yr Arglwydd.

9 Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant pechod bob un amynt ei hunain i farw o'i ble­git, pan halogant hi: myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddudd hwynt.

10 Ac na fwytaed un alldud o'r peth cysse­gredic: dieithr-ddyn yr offeiriad, a'r gwas cy­flog ni chaiff fwyta y peth cyssegredic.

11 Ond pan bryno 'r offeiriad ddŷn Heb. a gwerth ei arian. am ei arian, hwnnw a gaiff fwyta o honaw, a'r hwn a aner yn ei dŷ ef▪ y rhai hyn a gânt fywtta o'i fara ef.

12 A merch yr offeiriad pan fyddo hi eiddo gŵr dieithr, ni chaiff hi fwyta o offrwm y pe­thau cyssegredic.

13 Ond merch yr offeiriad os gweddw fydd hi, neu wedi yscar, a heb blant iddi, ac wedi dy­chwelyd i dŷ ei thâd, a gaiff fwyta o fara ei thâd,Levit. 10.14. megis yn ei hieuenctyd: ac ni chaiff neb dieithr fwyta o honaw.

14 A phan fwytao vn beth cyssegredic mewn anwybod, yna chwaneged ei bummed ran atto, a rhodded gad â'r peth cyssegredic i'r o­ffeiriad.

15 Ac na halogant gyssegredic bethau mei­bion Israel, y rhai a offrymmant i'r Arglwydd.

16 Ac naNeu, ymlwy­thant a chosy. wnant iddynt ddwyn cosp cam­wedd pan fwytaont eu cyssegredic bethau hwynt: o herwydd myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddudd.

17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

18 Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, pwy hynnac o dŷ Israel, ac o ddieithr yn Israel a o­ffrymmo ei offrwm yn ôl ei holl addunedau, ac yn ôl ei holl roddion gwir-fodd, y rhai a o­ffrymmant i'r Arglwydd yn boeth offrwm:

19 Offrymmwch wrth eich ewyllys eich hun, vn gwryw perffaith gwbl o'r eidionnau, o'r de­faid, neu o'r geifr.

20 Nac offrymmwch ddim y byddo anaf arno: o herwydd ni bydd efe gymeradwy trosoch.

21 ADeut. 15.21. & 17.1. phan offrymmo gŵr aberth hedd i'r Arglwydd, gan naillduo ei adduned, neu rodd ewyllysgar o'r eidionnau, neu o'r praidd, bydded berffaith-gwbl fel y byddo gymeradwy: na fydded vn anaf arno.

22 Y dall, neu yr yssig, neu yr anafus, neu y dafadennoc, neu 'r crachlyd, neu 'r clafrllyd, nac offrymmwch hwy i'r Arglwydd, ac na ro­ddwch aberth tanllyd o honynt ar allor yr Arglwydd.

23 A'r eidion, neu 'rNeu, myn. oen a fyddoLeuit. 21.18. gormod neu ryfychain ei aelodau, gellwch ei offrymmu yn offrwm gwir-fodd, ond tros adduned ni bydd cymmeradwy.

24 Nac offrymmwch i'r Arglwydd ddim wedi llethu, neu yssigo, neu ddryllio, neu dorri: ac na wnewch yn eich tîr y fath beth.

25 Ac nac offrymmwch o law un dieithr fwyd eich Duw o'r holl bethau hyn: canys y mae eu llygredigaeth ynddynt: anaf sydd ar­nynt: ni byddant gymeradwy trosoch.

26 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

27 Pan aner eidion, neu ddafad, neu afr, bydded saith niwrnod tan ei fam; o'r wythfed dydd ac o hynny allan, y bydd cymeradwy yn offrwm o aberth tanllyd i'r Arglwydd.

28 AcDeut. 22.6. am fuwch neuNeu, afr. ddafad, na ledd­wch hi a'i llwdn, yn yr vn dydd.

29 A phan aberthoch aberth diolch i'r Arglwydd, offrymmwch wrth eich ewyllys eich hunain.

30 Y dydd hwnnw y bwytteir ef:Levit. 7.15. na weddillwch o honaw hyd y borau: myfi yw 'r Arglwydd.

31 Cedwch chwithau fyngorchymynion, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd.

32Levit. 10.3. Ac na halogwch fy enw sanctaidd, ond sancteiddier fi ym mysc meibion Israel: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddudd,

33 Yr hwn a'ch dygais chwi allan o dîr yr Aipht, i fod yn Dduw i chwi; myfi yw yr Arglwydd.

PEN XXIII.

1 Gwyliau 'r Arglwydd. 3 Y Sabboth. 4 Y Pasc. 9 Yr yscub flaen-ffrwyth. 15 Gwyl y Sulgwyn. 22 Rhaid yw gadel pêth i'r tlodion iw loffa. 23 Gwyl yr vdcyrn. 26 Y dydd cym­mod. 33 Gwyl y pebyll.

LLefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, gŵyliau 'r Arglwydd y rhai a gy­hoeddwch yn gymanfeudd sanctaidd, ydyw fyngŵyliau hyn.

3Exod. 20.9. Deut. 5.13. Luc. 13.14. Chwe diwrnod y gwneir gwaith, a'r seith­fed dydd y bydd Sabboth gorphwysdra, sef cymmanfa sanctaidd: dim gwaith nis gwnewch: Sabboth yw efe i'r Arglwydd, yn eich holl drig-fannau.

4 Dymma ŵyliau 'r Arglwydd: y cym­manfeudd sanctaidd y rhai a gyhoeddwch yn eu tymmor.

5Exod. 12.18. Num. 28.17. O fewn y mîs cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddec o'r mîs yn y cyfnos, y bydd Pasc yr Arglwydd.

6 A'r pymthecfed dydd o'r mîs hwnnw y bydd gŵyl y bara croyw i'r Arglwydd; saith niwrnod y bwyttewch fara croyw.

7 Ar y dydd cyntaf y bydd iwch gymman­fa sanctaidd: dim caeth-walth ni chewch ei wneuthur.

8 ond offrymmwch ebyrth tanllyd i'r Ar­glwydd saith niwrnod; ar y seithfed dydd bydded cymmanfa sanctaidd: na wnewch ddim caeth-waith.

9 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, llefara wrth feibion Israel, a dywet wrthynt,

10 Pan ddeloch i'r tir a roddaf i chwi, a medi o honoch ei gynhaiaf, yna dygwchNeu, ddyrnaid. Heb. Omer. ys­cub blaen-ffrwyth eich cynhaiaf at yr offeiriad.

11 Cwhwfaned yntef yr yscub ger bron yr Arglwydd, i'ch gwneuthur yn gymmeradwy: tranoeth wedi y Sabboth y cyhwfana 'r offeiri­ad hi.

12 Ac offrymmwch ar y dydd y cwhwfaner yr yscub, oen blwydd perffaith-gwbl yn boeth offrwm i'r Arglwydd.

13 A'i fwyd offrwm o ddwy ddecfed ran o beillied wedi ei gymmyscu ag olew, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd, yn arogl peraidd: a'i ddiod offrwm fydd o wîn: pedwerydd ran Hin.

14 Bara hefyd, nac ŷd wedi ei grassu, na thwysennau îr, ni chewch eu bwyta hyd gorph y dydd hwnnw, nes dwyn o honoch offrwm eich Duw: deddf dragywyddol drwy eich cenhedlaethau, yn eich holl drigfannau fydd hyn.

15Deut. 16.9. A chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi 'r Sabboth, o'r dydd y dygoch yscub y cwhwfan; saith Sabboth cyflawn fyddant:

16 Hyd trannoeth wedi y seithfed Sabboth y cyfrifwch ddeng-nhiwrnod a deugain, ac offrymmwch fwyd offrwm newydd i'r Arg­lwydd.

17 A dygwch o'ch trig-fannau ddwy dorth gwhwfan, dwy ddecfed ran o beillied fyddant; yn lefeinllyd y pôbir hwynt, yn flaen-ffrwyth i'r Arglwydd.

18 Ac offrymmwch gyd â'r bara saith oen blwyddiaid perffaith-gwbl, ac vn bustach ieuangc, a dau hwrdd: poeth offrwm i'r Ar­glwydd fyddant hwy; ynghŷd â'i bwyd offrwm a'i diod offrwm, sef aberth tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd.

19 Yna aberthwch vn bwch geifr yn bech a­berth, a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd.

20 A chwhwfaned yr offeiriad hwynt yn­ghyd â bara y blaen-ffrwyth, yn offrwm cwhw­fan ger bron yr Arglwydd, ynghyd a'r ddau oen: cyssegredic i'r Arglwydd ac eiddo 'r offei­riad fyddant.

21 A chyhoeddwch, o fewn corph y dydd hwnnw y bydd cymanfa sanctaidd i chwi: dim caeth-waith nis gwnewch: deddf dragy­wyddol yn eich holl drig-fannau drwy eich cenhedlaethau fydd hyn.

22Levit. 19.9. A phan fedoch gynhaiaf eich tîr, na lwyr feda gyrrau dy faes,Deut. 24.19. ac na loffa loffion dy gynhaiaf: gâd hwynt i'r tlawd a'r dieithr: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

23 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

24 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywe­dyd,Num. 29.1. ar y seithfed mîs, ar y dydd cyntaf o'r mîs, y bydd i chwi Sabboth, yn goffadwriaeth caniad vdcyrn a chymanfa sanctaidd.

25 Dim caeth-waith nis gwnewch, ond offrymmwch ebyrth tanllyd i'r Arglwydd.

26 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

27Pen. 16.30. Num. 29.7. Y decfed dydd o'r seithfed mîs hwn, y bydd dydd cymmod; cymmanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau, ac offrymmwch ebyrth tanllyd i'r Arglwydd.

28 Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corph y dydd hwnnw; o herwydd dydd cym­mod yw, i wneuthur cymmod trosoch, ger bron yr Arglwydd eich Duw.

29 Canys pôb enaid ar ni chystuddier o fewn corph y dydd hwn, a dorrir ymmaith oddiwrth ei bobl.

30 A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corph y dydd hwnnw, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysc ei bobl.

31 Na wnewch ddim gwaith: deddf dra­gywyddol drwy eich cenhedlaethau yn eich holl drigfannau yw hyn.

32 Sabboth gorphywysdra yw efe i chwi: cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed dydd o'r mîs yn yr hwyr: o hwyr i hwyr yHeb. gorphwy­swch. cedwch eich Sabboth.

33 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd.

34 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywe­dyd, [...] ar y pymthecfed dydd o'r seithfed mîs hwn, y bydd gŵyl y pebyll, saith niwrnod, i'r Arglwydd.

35 Ar y dydd cyntaf y bydd cymmanfa sanctaidd: dim caeth-waith nis gwnewch.

36 Saith niwrnod yr offrymmwch aberth tanllyd i'r Arglwydd, ar yr wythfed dydd y bydd cymmanfa sanctaidd i chwi; a chwi a off­rymmwch aberth tanllyd i'r Arglwydd;1 Heb. dydd gwahar­ddedig. vchel ŵyl yw hi: na wnewch ddim caeth-waith.

37 Dymma wyliau 'r Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymmanfeudd sanctaidd i off­rymmu i'r Arglwydd aberth tanllyd, offrwm poeth, bwyd offrwm, aberth, a diod offrwm; pob peth vn ei ddydd:

38 Heb [...] Sabbothau 'r Arglwydd, a heb law eich rhoddion chwi, a heb law eich holl addunedau, a heb law eich holl offrymmau gwirfodd, a roddoch i'r Arglwydd.

39 Ac ar y pymthecfed dydd o'r seithfed mîs, pan gynhulloch ffrwyth eich tîr, cedwch ŵyl i'r Arglwydd saith niwrnod: bydded gor­phywysdra ar y dydd cyntaf, a gorphywysdra ar yr wythfed dydd.

40 A'r dydd cyntaf cymmerwch i chwiNeu, geingciau. ffrwyth pren prydferth, canghennau palm­wydd, a brig pren caead-frig, a helig afon; ac ymlawenhewch ger bron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod.

41 A chedwch hon yn ŵyl ir Arglwydd saith niwrnod yn y flwyddyn: deddf dragywy­ddol yn eich cenhedlaethau yw: ar y seithfed mis y cedwch hi yn ŵyl.

42 Mewn bythod yr arhoswch saith ni­wrnod; pob priodor yn Israel a drigant mewn bythod:

43 Fel y gwypo eich cenhedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo, pan ddygais hwynt allan o dir yr Aipht: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

44 A thraethodd Moses wyliau 'r Arglwydd wrth feibion Israel.

PEN. XXIV.

1 Olew y llusernau. 5 Y Bara-gosod. 10 Mab Selomith yn cablu, 13 Cyfraith cabledd, 17 a llofruddiaeth. 18 Am golled. 23 Llabyddio y cablwr.

Exod. 27.20.A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Gorchymyn i feibion Israel ddwyn attat olew oliwydden pur coethedic i'r goleuni, i beri i'r lampauHeb. d [...]r­chafu. gynneu bôb amser.

3 O'r tu allan i wahen-len y destiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef, o hwyr hyd fornu, ger bron yr Arglwydd bôb amser; deddf dragywyddol drwy eich cenhedlaethau fydd hyn.

4Exod. 15.31. & 31.8. Ar y canhwyllbren pûr y trefna efe y lampau ger bron yr Arglwydd bôb amser.

5Exod. 15.30. A chymmer beillied a phoba ef yn ddeu­ddec teissen: dwy ddecfed ran sydd pôb teissen.

6 A gosot hwynt yn ddwy rês, chwech yn y rhês, ar y bwrdd pur ger bron yr Arglwydd.

7 A dod thus pur ar b [...]b rhes, fel y byddo ar y bara yn goffadwriaeth, ac yn aberth tan­llyd i'r Arglwydd.

8 Ar bôb dydd Sabboth y trefna efe hyn ger bron yr Arglwydd bôb amser, yn gyfammod tragywyddol oddi wrth feibion Israel.

9 A bydd eiddo Aaron a'i feibion, a hwy a'i bwytty yn y lle sanctaidd; canys sanctei­ddiolaf ywExod. 29.33. Levit. 8.31. Mat. 12.4. iddo ef o ebyrth tanllyd yr Arg­lwydd drwy ddeddf dragywyddol.

10 A mab gwraig o Israel, a hwn yn fab gŵr o'r Aipht, a aeth allan ym mysc meibion Israel; a mab yr Israelites, a gŵr o Israel a ymgynhennasant yn y gwerssyll.

11 A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr Arglwydd, ac a felldigodd: yna y dygasant ef at Moses; ac enw ei fam ôedd Selomith merch Dibri o lwyth Dan.

12Num. 15.34. A gosodasant ef yngharchar fel yr hys­bysid iddynt o enau 'r Arglwydd beth a wnaent.

13 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd,

14 Dwg y cabludd i'r tu allan i'r gwersyll, a rhodded pawb a'i clywsant efDeut. 13.9. Deut. 17.7. eu dwylo ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynnulleidfa ef.

15 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywe­dyd; pwy bynnac a gablo ei Dduw a ddwg ei bechod.

16 A lladder yn farw yr hwn a felldithio enw 'r Arglwydd, yr holl gynnulleidfa gan labyddio a'i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dieithr a'r priodor, pan gablo efe enw 'r Arglwydd.

17 A'r neb aHeb. a darano einioes dyn Exod. 21.12. laddo ddyn, lladder yntef yn farw.

18 A'r hwn a laddo anifail, taled am dano:Heb. enioes am enioes. anifail am anifail.

19 A phan wnelo vn anaf ar ei gymydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo:

20Exod. 21.24. Deut. 19.21. Mat. 5.38. Torriad am dorriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddŷn, felly gwneler iddo yntef.

21 A'r hwn a laddo anifail a dâl am dano, a laddo ddŷn, a leddir.

22Exod. 12.46. Bydded vn farn i chwi, bydded i'r dieithr fel i'r priodor; myfi ydwyf yr Arg­lwydd eich Duw.

23 A mynegodd Moses hyn i feibion Israel, a hwynt a ddygasant y cabludd i'r tu allan i'r gwerssyll, ac a'i llabyddiasant ef â cherric; felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchy­mynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

PEN. XXV.

1 Sabboth y seithfed flwyddyn. 8 Y Jubili yn y ddecfed flwyddyn a deugain. 14 Am orthrym­mu. 18 Bendith am vfydd-dod. 23 Gollyng­iad tiroedd, 29 a thai. 35 Tosturio wrth y tlawd. 39 Esmwyth drin caethion. 47 Ad­brynu gweision.

LLefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses ym mynydd Sinai, gan ddywedyd;

2 Llefara wrth feibion Israel a dywet wrth­ynt, pan ddeloch i'r tîr yr hwn a roddaf i chwi, yna gorphywysed y tîr Sabboth i'r Ar­glwydd.

3Exod. 23.10. Chwe blynedd yr heui dy faes, a chwe blynedd y torri dy winllan, ac y cescli ei chnwd.

4 Ac ar y seithfed flwyddyn y bydd Sabboth gorphywysdra i'r tîr, sef Sabboth i'r Arglwydd: na haua dy faes, ac na thorr dy winllan.

5 Na chynhaiafa 'r hyn a dyfo o honaw ei hun, ac na chasglHeb. rawn­win dy naill­duaeth. rawnwin dy winwydden ni thecclaist: bydd yn siwyddyn orphywysdra i'r tîr.

6 Ond bydded ffrwyth Sabboth y tîr yn ym­borth i chwi, sef i ti, ac i'th wasanaethwr, ac i'th wasanaeth ferch, ac i'th wenidog cyflog, ac i'th alltud yr hwn a ymdeithio gyd â thi,

7 I'th anifail hefyd, ac i'r bwyst-fil fydd yn dy dîr, y bydd ei holl gnwd yn ymborth.

8 Cyfrif hefyd it saith Sabboth o flynyddo­edd, sef saith mlynedd seithwaith, dyddiau y saith Sabboth o flynyddoedd fyddant i ti yn naw mlynedd a deugain.

9 Yna pâr ganu it vdcornHeb. vchel­sain. y Jubili ar y seithfed mîs, ar y decfed dydd o'r mis, ar ddydd y cymmod, cenwch yr vdcorn trwy eich holl wlâd.

10 A sancteiddiwch y ddecfed flwyddyn a deugain, a chyhoeddwch rydd-did yn y wlâd iw holl drigolion: Jubili fydd hi i chwi, a dychwelwch bôb vn iw etifeddiaeth, fe dy­chwelwch bôb vn at ei deulu.

11 Y ddecfed flwyddyn a deugain honno sydd Jubili i chwi: na heuwch, ac na fedwch ei chnwd a dyfo o honaw ei hun; ac na chynhull­wch ei gwinwyddden ni thacclwyd.

12 Am ei bod yn Jubili, bydded sanctaidd i chwi: o'r maes y bwyttewch ei ffrwyth hi.

13 O fewn y flwyddyn Jubili hon y dych­welwch bôb vn iw etifeddiaeth.

14 Pan werthech ddim i'th gymydog, neu brynu ar law dy gymydog, na orthrymmwch bawb ei gilydd.

15 Pryn gan dy gymmydog yn ol rhifedi y blynyddoedd ar ôl y Jubili: a gwerthed efe i tithe yn ôl rhifedi blyneddoedd y cnydau.

16 Yn ôl amldra y blynyddoedd y chwa­negi ei brîs, ac yn ôl anamldra y blynyddoedd y lleihei di ei bris: o herwydd rhifedi y cnydau y mae efe yn ei werthu it.

17 Ac na orthrymmwch bôb vn ei gymy­dog, ond ofna dy Dduw, canys myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi.

18 Gwnewch chwithau fy neddfau, a ched­wch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt, a chewch drigo yn y tîr yn ddiogel.

19 Y tîr hefyd a rydd ei ffrwyth, a chewch fwytta digon, a thrigo ynddo yn ddiogel.

20 A hefyd os dywedwch, beth a fwyttawn y seithfed flwyddyn? wele ni chawn hau, ac ni chawn gynnull ein cnwd:

21 Yna mi a archaf fy mendith arnoch y chweched flwyddyn, a hi a ddwg ei ffrwyth i wasanaethu dros dair blynedd.

22 A'r wythfed flwyddyn yr heuwch, ond bwyttewch o'r hên gnwd hyd y nawfed flwy­ddyn; nes dyfod ei chnwd hi y bwyttewch o'r hên.

23 A'r tîr ni cheir ei werthuHeb. l'w dorri ymaith. yn llwyr, canys eiddo fi yw y tîr, o herwydd dieithraid, ac alltudion ydych gyd â mi.

24 Ac yn holl dîr eich etifeddiaeth rhodd­wch ollyngdod i'r tîr.

25 Os tloda dy frawd, a gwerthu dim o'i etifeddiaeth, a dyfod ei gyfnessaf iw ollwng, yna efe a gaiff ollwng yr hyn a werthodd ei frawd.

26 Ond os y gŵr ni bydd gantho neb a'i gollyngo, a chyrhaeddyd o'i law ef ei hun gael digon iw ollwng:

27 Yna cyfrifed fiynyddoedd ei werthiad, a rhodded drachefn yr hyn fyddo tros ben, i'r gŵr yr hwn y gwerthodd ef iddo, felly aed eilwaith iw etifeddiaeth.

28 Ac os ei law ni chaiff ddigon i dalu iddo, yna bydded yr hyn a werthodd efe, yn llaw yr hwn a'i prynodd hyd flwyddyn y Jubili; ac yn y Jubili yr â yn rhydd, ac efe a ddychwel iw etifeddiaeth.

29 A phan wertho gŵr dŷ annedd o fewn dinas gaeroc, yna bydded ei ollyngdod hyd ben blwyddyn gyflawn wedi ei werthu; tros flwyddyn y bydd rhydd ei ollwng ef.

30 Ac oni ollyngir cyn cyflawni iddo flwy­ddyn gyfan, yna siccrhaer y tŷ'r hwn fydd yn y ddinas gaeroc yn llwyr i'r neb a'i pry­nodd ac iw hiliogaeth; nid â yn rhydd yn y Jubili.

31 Ond tai y trefi nid oes caerau o amgylch iddynt a gyfrifir fel maesydd: bid gollyngdod iddynt, ac yn y Jubili yr ânt yn rhydd.

32 Ond dinasoedd y Leviaid a thai dinaso­edd eu hetifeddiaeth hwynt, bid i'r Leviaid eu gollwng bob amser.

33 Ac osGollwng. pryn vn gan y Leviaid, yna aed y tŷ a werthwyd a dinas ei etifeddiaeth ef allan yn y Jubili: canys tai dinasoedd y Le­fiaid ydyw eu hetifeddiaeth hwynt ym mysc meibion Israel.

34 Ac ni cheir gwerthu maes pentrefol eu dinasoedd hwynt: canys etifeddiaeth dragy­wyddol yw efe iddynt.

35 A phan dlodo dy frawd gydâ thi, a llescau o'i law,Heb. cryfha. cynnorthwya ef: fel y byddo byw gydâ thi er ei fod yn ddieithr-ddyn neu yn alltud.

36Exod. 22.25. Deut. 23.19. Psal. 15.5. Dihar. 28.8. Ezec. 18.8. & 22.12. Na chymmer gantho occreth na llôg: ond ofna dy Dduw, a gâd i'th frawd fyw gydâ thi.

37 Na ddod dy arian iddo ar vsuriaeth, ac na ddod dy fwyd iddo ar lôg.

38 Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi 'r hwn a'ch dygais allan o dir yr Aipht, i roddi iwch dîr Canaan, ac i fod yn Dduw i chwi.

39 AExod. 21.2. Deut. 15.12. Jere. 34.14. phan dlodo dy frawd gydâ thi, a'i werthu ef it: naHeb. na wasa­naetha mo honot dy hun ag ef a'i wasa­naeth. wna iddo wasanaethu yn gaethwâs.

40 Bydded gyd â thi fel gwenidog cyflog; fel ymdeithydd, hyd flwyddyn y Jubili y caiff wasanaethu gydâ thi.

41 Yna aed oddi wrthit ti, efe a'i blant gyd ag ef, a dychweled at ei dylwyth, ac aed dra­chefn i etifeddiaeth ei dadau.

42 Canys fyngweision i ydynt, y rhai a ddygais allan o dîr yr Aipht: na werther hwyntHeb. a gwerth caethwas. fel caeth weision.

43Ephes. 6.9. Col. 4.1. Na feistrola arno ef yn galed, ond ofna dy Dduw.

44 A chymmer dy wasanaeth-wr, a'th wasa­naeth-ferch y rhai fyddant i ti, o fysc y cen­hedloedd y rhai ydynt o'ch amgylch: o honynt y prynwch wasanaeth-wr a gwasanaeth-ferch.

45 A hefyd o blant yr alltudion y rhai a ym­deithiant gyd â chwi, prynwch o'r rhai hyn ac o'i tylwyth y rhai ŷnt gydâ chwi, y rhai a genhedlasant hwy yn eich tîr chwi: byddant hwy i chwi yn feddiant.

46 Ac etifeddwch hwynt i'ch plant ar eich ôl iw meddiannu hwynt yn etifeddiaeth: gwne­wch iddynt eich gwasanaethu byth: ond eich brodyr meibion Israel, na feistrolwch yn galed y naill ar y llall.

47 A phan gyrhaeddo llaw dŷn dieithr neu ymdeithydd gyfoeth gyd â thi, ac i'th frawd dlodi yn ei ymyl ef, a'i werthu ei hun i'r diei­thr yr hwn fydd yn trigo gyd â thi, neu i vn o hiliogaeth tylwyth y dieithr-ddyn:

48 Wedi ei werthu, ceir ei ollwng yn rhydd: vn o'i frodyr a gaiff ei ollwng yn rhydd:

49 Naill ai ei ewythr, ai mab ei ewythr a'i gollwng ef yn rhydd, neu vn o'i gyfnessaf ef o'i dylwyth ei hun a'i gollwng yn rhydd; neu os ei law a gyrraedd, gollynged efe ef ei hun.

50 A chyfrifed a'i brynwr o'r flwyddyn y gwerthwyd ef, hyd flwyddyn y Jubili: a bydded arian ei werthiad ef fel rhifedi y blyn­yddoedd, megis dyddiau gwenidog cyflog y bydd gyd ag ef.

51 Os llawer fydd o flynyddoedd yn ôl, taled ei ollyngdod o arian ei brynedigaeth yn ôl hynny.

52 Ac os ychydic flynyddoedd fydd yn ôl hyd flwyddyn y Jubili pan gifrifo ag ef, taled ei ollyngdod yn ôl ei flynyddoedd.

53 Megis gwâs cyflog o flwyddyn i flwy­ddyn y bydd efe gyd ag ef: ac na feistroled arno yn galed yn dy olwg di.

54 Ac os efe ni ollyngirNeu, yn y modd hyn. o fewn y blynyddo­edd hyn, yna aed allan flwyddyn y Jubili, efe a'i blant gyd ag ef.

55 Canys gweision i mi yw meibion Is­rael, fyngweision ydynt y rhai a ddygais o dîr yr Aipht. Myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw chwi.

PEN. XXVI.

1 Am ddelw-addoliaeth. 2 Am grefydd. 3 Ben­dith i'r rhai a gadwant y gorchymmynion, 14 A melltith i'r rhai a'i torrant. 40 Duw yn addo cofio y rhai a edifarhânt.

NA wnewchExod. 10.4. Deut. 5.8. & 16.22. Psal. 97.7. eulynnod iwch, ac na chod­wch i chwi ddelw gerfiedic, na cholofn, ac na roddwchHeb. faen llun. ddelw faen yn eich tir i ym­grymmu iddi, canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

2Pen. 19.30. Fy Sabbothau i a gedwch, a'm cyssegr i a berchwch: myfi ydwyf yr Arglwydd.

3Deut. 28.1. Os yn fy neddfau i y rhodiwch, a'm gor­chymynion a gedwch, a'i gwneuthur hwynt;

4 Yna mi roddaf eich glaw yn ei amser, a rhydd y ddaiar ei chynnyrch, a choed y maes a rydd eu ffrwyth.

5 A'ch dyrnu a gyrraedd hyd gynhaiaf y grawn-win, a chynhaiaf y grawn-win a gyr­raedd hyd amser hau: a'ch bara a fwytewch yn ddigonol,Job 11.19. ac yn eich tîr y trigwch yn ddiogel.

6 Rhoddaf heddwch hefyd yn y tîr, a gor­weddwch hefyd heb ddychrynnudd, a gwnaf i'r bwystfil niweidiolBeidio. ddarfod o'r tir: ac nid â cleddyf drwy eich tîr.

7 Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthi­ant o'ch blaen ar y cleddyf.

8 AJosua 23.10. phump o honoch a erlidia gant, a chant o honoch a erlidia ddengmil, a'ch gelynion a syrth o'ch blaen ar y cleddyf.

9 A mi a edrychaf am danoch, ac a'ch gwnâf yn ffrwythlawn, ac a'ch amlhâf, ac a gadarnhâf fynghyfammod â chwi.

10 A'r hên stôr a fwytewch, îe yr hên a fwriwch chwi allan o achos y newydd.

11Ezec. 37.26. 1 Cor. 6.19. Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysc, ac ni ffieiddia fy enaid chwi.

122 Cor. 6:16. Ac mi a rodiaf yn eich plîth, a byddaf yn Dduw i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi.

13 Myfi yw 'r Arglwydd eich Duw, 'r hwn a'ch dygais chwi allan o dîr yr Aipht, rhac eich bod yn gaeth-weision iddynt, a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum iwch rodio yn sythion.

14Deut. 28.15. Galar. 2.17. Mal. 2.2. Ond os chwi ni wrandewch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchymynion hyn:

15 Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchymynion, ond torrifyng-layfammod:

16 Minne hefyd a wnaf hyn i chwi, goso­daf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodediga­eth, a'r crŷd poeth, y rhai a wnâ i'r llygaid ba­llu, ac a ofidiant eich eneidiau, a heuwch eich hâd yn ofer, canys eich gelynion a'i bwytty.

17 Ac a osodaf fy wyneb i'ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion: a'ch caseion a feistrola arnoch:Dihar. 28.1. ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.

18 Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, yna y chwanegaf eich cospi chwi saith mwy am eich pechodau.

19 Ac mi a dorraf falchder eich nerth chwi, a gwnaf eich nefoedd chwi fel haiarn, a'ch tir chwi fel prês:

20 A'ch cryfdwr a dreulir yn ofer, canys eich tîr ni rydd ei gynnyrch, a choed y tîr ni roddant eu ffrwyth.

21 Ac os rhodiwch yngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnafi, mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau.

22 Ac anfonaf fwyst-fil y maes yn eich erbyn, ac efe a'ch gwna chwi yn ddiblant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a'ch lleihâ chwi, a'ch ffyrdd a wneir yn anialwch.

23 Ac os wrth hyn ni chymmerwch ddysc gennif, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi:

24 Yna2 Sam. 22.27. Psal. 18.26. y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau, a mi a'ch cospaf chwi hefyd etto 'n saith mwy am eich pechodau.

25 A dygaf arnoch gleddyf yr hwn a ddial fynghyfammod; a phan ymgascloch i'ch dina­soedd, yna yr anfonaf haint i'ch mysc, a chwi a roddir yn llaw y gelyn.

26 A phan dorrwyf ffon eich bara, yna dec o wragedd a bobant eich bara mewn vn ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys, a chwi a fwyttewch, ac nis digonir chwi.

27 Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, ond rhodio yngwrthwyneb i mi:

28 Minnau a rodiaf yngwrthwyneb i chwi­thau mewn llîd, a myfi, îe myfi a'ch cospaf chwi etto saith mwy am eich pechodau.

29Deut. 28.53. A chwi a fwyttewch gnawd eich mei­bion, a chnawd eich merched a fwyttewch.

302 Chro 34.7. Eich vchelfeudd hefyd a ddinistriaf, ac a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celane­ddau chwi ar gelaneddau eich eulynnod, a'm henaid a'ch ffieiddia chwi.

31 A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac a ddinistriaf eich cyssegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd.

32 A mi a ddinistriaf y tîr, fel y byddo aru­thr gan eich gelynion y rhai a drigant ynddo o'i herwydd.

33 Chwithau a wascaraf ym mysc y cenhed­loedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ôl; a'ch tîr fydd diffaithwch, a'ch dinasoedd yn anghy­fannedd.

34 Yna y mwynhâ y tir ei Sabbothau, yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffaithwch, a chwi­thau a fyddwch yn nhîr eich geiynion: yna y gorphywys y tîr, ac y mwynhâ ei Sabbothau.

35 Yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffaith­wch y gorphywys, o herwydd na orphywysodd ar eichLevit. 25.2. Sabbothau chwi, pan oeddych yn trigo ynddo.

36 A'r hyn a weddillir o honoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhîr eu gelynion; a thrwst deilen yn yscwyd a'i herlid hwynt: a ffoant fel ffo rhac cleddyf, a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid.

37 A syrthiant bawb ar ei gilydd megis o flaen cleddyf, heb neb yn eu herlid: ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion.

38 Difethir chwi hefyd ym-mysc y cenhed­loedd, a thîr eich gelynion a'ch bwytty.

39 A'r rhai a weddillir o honoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhîr eich gelynion, ac yn anwireddau eu tadau gyd â hwynt y to­ddant.

40 Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â'i camwedd yr hwn a wnae­thant i'm herbyn, a hefyd rhodio o honynt yn y gwrthwyneb i mi,

41 A rhodio o honof innau yn eu gwrth­wyneb hwythau, a'i dwyn hwynt i dir eu ge­lynion: os yno 'r ymostwng eu calon ddien­waededic, a'i bod yn fodlon am eu cospediga­eth:

42 Minne a gofiaf fynghyfammod ag Jacob, a'm cyfammod hefyd ag Isaac, a'm cyfammod hefyd ag Abraham a gofiaf, ac a gofiaf y tir hefyd.

43 A'r tir a adewir ganddynt, ac a fwynhâ ei Sabbothau tra fyddo yn ddiffaethwch heb­ddynt, a hwyntau a fodlonir am eu cospediga­eth; o achos ac o herwydd dirmygu o honynt fy marnedigaethau, a ffieiddio o'i henaid fy neddfau.

44 Ac er hyn hefyd, pan fyddont yn nhîr eu gelynion,Deut. 4.31. Rhuf. 11.26. nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt iw difetha, gan dorri fynghyfammod â hwynt, o herwydd myfi ydyw 'r Arglwydd eu Duw hwynt.

45 Ond cofiaf er eu mwyn gyfammod y rhai gynt, y rhai a ddygais allan o dîr yr Aipht, yngolwg y cenhedloedd, i fod iddynt yn Dduw: myfi ydwyf yr Arglwydd.

46 Dymma y deddfau, a'r barnedigaethau, a'r cyfreithiau, y rhai a rodd yr Arglwydd rhyngddo ei hun a meibion Israel, ym mynydd Sinai drwy law Moses.

PEN. XXVII.

1 Yr hwn a wnelo adduned yspysawl, eiddo 'r Ar­glwydd fydd. 3 Prîs y cyfryw adduned. 9 Am anifail a rodder trwy adduned. 14 Am dŷ. 16 Am faes a'i ollyngiad. 28 Ni ryddheir vn diofryd-beth. 32 Nid rhydd newid y degwm.

A Llefarawdd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrth­ynt, pan addunedo neb adduned nelltuol, y dynion fydd eiddo 'r Arglwydd yn dy bris di.

3 A bydd dy brîs, am wryw o fab vgain mlwydd hyd fâb trûgain mlwydd; îe bydd dy brîs ddec sicl a deugain o arian, yn ol sicl y cyssegr.

4 Ac os benyw fydd, bydded dy brîs ddec sicl ar hugain.

5 Ac o fab pum mlwydd hyd fab vgain mlwydd, bydded dy bris am wryw vgain sicl, ac am fenyw ddec sicl.

6 A bydded hefyd dy bris am wryw o fab misyriad hyd fab pum mlwydd, bum sicl o arian: ac am fenyw dy brîs fydd tri sicl o arian.

7 Ac o fab trûgein mlwydd ac vchod, os gwryw fydd, bydded dy bris bymthec sicl, ac am fenyw ddec sicl.

8 Ond os tlodach fydd efe nâ'th bris di, yna safed ger bron yr offeiriad, a phrissied yr offeiriad ef: yn ol yr hyn a gyrhaeddo llaw 'r addunedudd, felly y prissia 'r offeiriad ef,

9 Ond os anifail, yr hwn yr offrymmir o honaw offrwm i'r Arglwydd, fydd ei adduned: yr hyn oll a roddir o'r cyfryw i'r Arglwydd, sanctaidd fydd.

10 Na rodded vn arall am dano, ac na ne­widied ef, y da am y drwg, neu 'r drwg am y da; ac os gan newidio y newidia anifail am anifail; bydded hwnnw, a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd.

11 Ac os adduneda efe vn anifail aflan, yr hwn ni ddylent offrymmu o honaw offrwm i'r Arglwydd, yna rhodded yr anifail i sefyll ger bron yr offeiriad:

12 A phrissied yr offeiriad ef, os da os drwg fydd; Heb. yn ol dy bris di. fel y prissiech di 'r offeiriad ef; felly y bydd.

13 Ac os efe gan brynu a'i pryn, yna rho­dded at dy brîs di ei bummed ran yn chwaneg.

14 A phan sancteiddo gŵr ei dŷ yn sanc­taidd i'r Arglwydd, yna 'r offeiriad a'i prissia, os da os drwg fydd: megis y prissio 'r offeiriad ef, felly y saif.

15 Ac os yr hwn a'i sancteiddiodd a ollwng ei dŷ yn rhydd, yna rhodded bummed ran arian dy brîs yn chwaneg atto, a bydded eiddo ef.

16 Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gŵr i'r Arglwydd, yna bydded dy brîs yn ol ei hauad: hauad Omer o haidd fydd er dec sicl a deugain o arian.

17 Os o flwyddyn y Jubili y sancteiddia efe ei faes, yn ol dy brîs di y saif.

18 Ond os wedi y Jubili y sancteiddia efe ei faes, yna dogned yr offeiriad yr arian iddo, yn ôl y blynyddoedd fyddant yn ôl, hyd flwyddyn y Jubili, a lleihaer ar dy brîs di.

19 Ac os yr hwn a'i sancteiddiodd gan brynu a bryn y maes, yna rhodded bummed ran arian dy brîs di yn chwanec atto, a bydded iddo ef.

20 Ac onis gollwng y maes, neu os gwer­thodd y maes i ŵr arall, ni cheir ei ollwng mwy.

21 A'r maes fydd, pan elo efe allan yn y Jubili, yn gyssegredic i'r Arglwydd fel maes diofryd: a bydded yn feddiant i'r offeiriad.

22 Ac os ei dîr pryn, yr hwn ni bydd o dîr ei etifeddiaeth, a sancteiddia efe i'r Arglwydd:

23 Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy brîs di hyd flwyddyn y Jubili, a rhodded yntef dy brîs di yn gyssegredic i'r Arglwydd y dydd hwnnw.

24 Y maes a â yn ei ôl flwyddyn y Jubili, i'r hwn y prynassid ef ganddo, sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tîr.

25 A phob prîs it fydd wrthExod. 30.13. Num. 3.47. Ezec. 45.12. sicl y cyssegr: vgain Gerah fydd y sicl.

26Exod. 13.2. & 22.29. Num. 3.13. Ond y cyntafanedig o anifail yr hwn sydd flaenffrwyth i'r Arglwydd, na chyssegred neb ef, pa vn bynnac ai eidion, ai dafad fyddo: eiddo 'r Arglwydd yw efe.

27 Ond os ei adduned ef fydd o anifail aflan, yna rhyddhaed ef yn dy brîs di, a rhodded ei bummed ran yn ychwanec atto; ac onis rhy­ddhâ, yna gwerther ef yn dy brîs di.

28Jos. 6.19. Ond pob diofryd-beth a ddiofrydo vn i'r Arglwydd, o'r hyn oll a fyddo eiddo ef, o ddŷn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir, ac ni ryddheir:Num. 18.14. pob diofryd-beth sydd sancteiddiolaf i'r Arglwydd.

29 Ni cheir gollwng yn rhydd vn anifail diofrydoc, yr hwn a ddiofryder gan ddyn: lladder yn farw.

30 A holl ddegwm y tîr, o hâd y tîr, ac o ffrwyth y coed, yr Arglwydd a'i piau: cysse­gredic i'r Arglwydd yw.

31 Ac os gŵr gan brynu a bryn ddim o'i ddegwm, rhodded ei bummed ran yn ychwa­neg atto.

32 A phôb degwm eidion, neu ddafad, yr hyn oll a elo dan y wialen; y docfed fydd cys­segredic i'r Arglwydd.

33 Nac edryched pa vn ai da, ai ddrwg fydd efe, ac na newidied ef; ond os gan newidio y newidia efe hwnnw, bydded hwnnw, a bydded ei gyfnewid ef hefyd, yn gyssegredic: ni ellir ei ollwng yn rhydd.

34 Dymma y gorchymynion a orchymyn­nodd yr Arglwydd wrth Moses, i feibion Israel ym mynydd Sinai.

¶PEDWERYDD LLYFR MOSES, YR HWN a elwir Numeri.

PEN. I.

1 Duw 'n peri rhifo y bobl. 5 Capteniaid y llwy­thau. 17 Rhifedi pôb llwyth. 47 Nailltuo y Leviaid i wasanaeth yr Arglwydd.

YR Arglwydd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, ym mhabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o'r ail mis, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy allan o dîr yr Aipht, gan ddywedyd,

2Exod. 20 12. Num. 26.64. Cymmerwch nifer holl gynnulleidfa meibion Israel, yn ol eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau, dan rif ei henwau, pob gwryw wrth eu pennau:

3 O fâb vgain mlwydd ac vchod, pob vn a allo fyned i ryfel yn Israel: ti ac Aaron a'i cyf­rifwch hwynt yn ôl eu liuoedd.

4 A bydded gyd â chwi ŵr o bob llwyth, sef y gwr pennaf o dŷ ei dadau.

5 A dymma henwau y gwŷr a safant gyd â chwi: o lwyth Reuben, Elizur mâb Zedeur.

6 O lwyth Simeon, Selumiel mab Suri Sadai.

7 O lwyth Juda, Nahson mab Aminadab.

8 O lwyth Issachar, Nethancel mab Zuar.

9 O lwyth Zabulon, Eliab mab Helon.

10 O feibion Joseph dros Ephraim, Elifama mab Ammihud: tros Manasses, Gamaliel mab Pedahzur.

11 O lwyth Benjamin, Abidan mab Gideoni.

12 O lwyth Dan, Ahiezer mab Ammi Sadai.

13 O lwyth Aser, Pagiel mab Ocran.

14 O lwyth Gad, Eliasaph mab Deuel.

15 O lwyth Nephthali, Ahira mab Enan.

16 Dymma rai enwoc y gynnulleidfa, ty wy­fogion llwythau eu tadau, pennaethiaid miloedd Israel oeddynt hwy.

17 A chymmerodd Moses ac Aaron y gwŷr hyn, a yspyssasid wrth eu henwau.

18 Ac a gasclasant yr holl gynnulleidfa yng­hŷd ar y dydd cyntaf o'r ail mîs, a rhoddasant eu hachau, drwy eu teuluoed, yn ol tŷ eu ta­dau, tan rif eu henwau, o fâb vgain mlwydd ac vchod, erbyn eu pennau.

19 Megis y gorchymynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y rhifodd efe hwynt yn anialwch Sinai.

20 A meibion Reuben cyntafanedic Israel wrth eu cenedl eu hun, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, erbyn eu pen­nau, pob gwryw o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn ar a allei fyned i ryfel:

21 Y rhai a rifwyd o honynt, sef o lwyth Reuben, oedd chwe mil a deugain a phum cant.

22 O feibion Simeon wrth eu cenhedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, eu rhifedigi­on oedd dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwryw o fab vgain mlwydd ac vchod, sef pob vn ar a allei fyned i ryfel:

23 Eu rhifedigion hwynt o lwyth Simeon, oedd onid vn mil tri vgain mil, a thrychant.

24 O feibion Gad wrth eu cenhedlaethau, yn ôl eu lluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn a allei fyned i ryfel:

25 Eu rhifedigion hwynt o lwyth Gad, oedd­ynt bum mil a deugain a chwe chant, a dec a deugain.

26 O feibion Juda wrth eu cenhedlaethau, yn ôl eu teuluodd, o dŷ eu tadau, dau rif eu henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pawb ar a oedd yn gallu myned i ryfel:

27 Eu rhifedigion hwynt o lwyth Juda, oedd bedair mil ar ddec a thri vgain, a chwe chant.

28 O feibion Issachar wrth eu cenhedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn ar a oedd yn gallu myned i ryfel:

29 Eu rhifedigion hwynt o lwyth Issachar, oedd bedair mil ar ddec a deugain, a phedwar cant.

30 O feibion Zabulon wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn ar a ydoedd yn gallu myned i ryfel:

31 Eu rhifedigion hwynt o lwyth Zabulon, oedd ddwy fil ar bymthec a deugain, a phedwar cant.

32 O feibion Joseph, sef o feibion Ephraim, wrth eu cenhedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn ar a ydoedd yn gallu myned i ryfel:

33 Eu rhifedigion hwynt o lwyth Ephraim, oedd ddeugain mil, a phum cant.

34 O feibion Manasseh wrth eu cenhedlae­thau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn ar a oedd yn gallu myned i ryfel:

35 Eu rhifedigion hwynt o lwyth Manasseh, oedd ddeuddeng mil ar hugain, a dau cant.

36 O feibion Benjamin wrth eu cenhedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn ar a oedd yn gallu myned i ryfel:

37 Eu rhifedigion hwynt o lwyth Benjamin, oedd bymtheng mil ar hugain a phedwar cant.

38 O feibion Dan wrth eu cenhedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu hen­wau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn ar oedd yn gallu myned i ryfel:

39 Eu rhifedigion hwynt o lwyth Dan, oeddynt ddwy fil a thrugain, a saith gant.

40 O feibion Aser wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn ar a oedd yn gallu myned i ryfel:

41 Eu rhifedigion hwynt o lwyth Aser, oeddynt vn mil a deugain, a phum cant.

42 O feibion Nephtali wrth eu cenhedlae­thau, yn ol eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn ar a ydoedd yn gallu myned i ryfel:

43 Eu rhifedigion hwynt o lwyth Nephtali, oedd dair mil ar ddec a deugain, a phedwar cant.

44 Dymma y rhifedigion, y rhai a rifodd Moses, ac Aaron, a thywysogion Israel: sef y deuddeng-wr, y rhai oedd bob vn dros dŷ eu tadau.

45 Felly yr ydoedd holl rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau, o fab vgain mlwydd ac vchod, pob vn ar a ydoedd yn gallu myned i ryfel yn Israel:

46Exod. 12.37. Num. 11.21. A'r holl rifedigion oedd chwe chan mil, a thair mil, a phum cant, a dec a deugain.

47 Ond y Lefiaid, drwy holl lwythau eu ta­dau, ni rifwyd yn eu mysc hwynt.

48 Canys llefarasei yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

49 Ond na chyfrif lwyth Lefi, ac na chym­mer eu nifer hwynt, ym mysc meibion Israel.

50 Ond dod i'r Lefiaid awdurdod ar babell y destiolaeth, ac ar ei holl ddodrefn, ac ar yr hyn oll a berthyn iddi: hwynt hwy a ddygant y babell, a'i holl ddodrefn, ac a'i gwasanaethant, ac a werssyllant o amgylch i'r babell.

51 A phan symmudo y babell, y Lefiaid a'i tyn hi i lawr: a phan arhoso y babell, y Lefiaid a'i gesyd hi i fynu: lladder y dieithr a ddelo yn agos.

52 A gwerssylled meibion Israel, bob vn yn ei werssyll ei hun, a phob vn wrth ei luman ei hun, drwy eu lluoedd.

53 A'r Lefiaid a werssyllant o amgylch pa­bell y destiolaeth, fel na byddo llid yn erbyn cynnulleidfa meibion Israel: a chadwed y Le­fiaid wiliadwriaeth pabell y destiolaeth.

54 A meibion Israel a wnaethant yn ol yr hyn oll a orchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaethant.

PEN. II.

Trefn y llwythau yn eu pebyll.

A'R Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

2 Meibion Israel a werssyllant bob vn wrth ei luman ei hun, dan arwyddion tŷ ei tadau, o amgylch pabell y cyfarfod y gwerssyllantHebr. gyferbyn. o hir­bell.

3 A'r rhai a werssyllant o du y dwyrain tu a chodiad haul, fydd gwŷr lluman gwerssyll Ju­da, yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Juda fydd Nahson mab Aminadab.

4 A'i lu ef, a'i rhai rhifedic hwynt, fyddant bedair mil ar ddec a thrugain, a chwe chant.

5 A llwyth Issachar a werssyllant yn nessaf atto: a chapten meibion Issachar, fydd Nethaneel mab Zuar.

6 A'i lu, a'i rifedigion, fyddant bedair mil ar ddec a deugain, a phedwar cant.

7 Yna llwyth Zabulon; ac Eliab mab Helon fydd capten meibion Zabulon.

8 A'i lu, a'i rifedigion, fyddant ddwy sil ar bymthec a dougain, a phedwar cant.

9 Holl rifedigion gwerssyll Juda, fyddant yn ol eu lluoedd yn gan mil a phedwar vgain mil, a chwe mil a phedwar cant: yn flaenaf y cych­wyn y rhai hyn.

10 Lluman gwerssyll Reuben fydd tu a'r de­hau, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Reuben fydd Elizur mab Sedeur.

11 A'i lu ef, a'i rifedigion, fyddant chwe mil a deugain, a phum cant.

12 A'r rhai a werssyllant yn ei ymmyl ef fydd llwyth Simeon, a chapten meibion Simeon fydd Selumiel mab Suri Sadai.

13 A'i lu ef, a'i rhifedigion, fydd onid vn tru­gain mil a thry-chant.

14 Yna llwyth Gad: a chapten meibion Gad fydd Eliasaph mab Reuel.

15 A'i lu ef, a'i rhifedigion hwynt, fyddant bum mil a deugain, a chwechant, a dec a deugain.

16 Holl rifedigion gwerssyll Reuben, fyddant gan mîl, ac vn ar ddec a deugain o filoedd, a phedwar cant, a dec a deugain, yn ol eu lluoedd, ac yn ail y cychwynnant hwy.

17 A phabell y cyfarfod a gychwyn yng­hanol y gwerssylloedd, gyd â gwerssyll y Lefiaid: felly gwerssyllant, felly y symmudant, pôb vn yn ei le, wrth eu llumanau.

18 Lluman gwerssyll Ephraim fydd tua 'r gorllewin, yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Ephraim fydd Elisama mab Ammihud.

19 A'i lu ef, a'i rhifedigion, fyddant ddeugain mil, a phum cant.

20 Ac yn ei ymmyl ef llwyth Manasseh: a chapten meibion Manasseh fydd Gamaliel mab Pedazur.

21 A'i lu ef, a'i rhifedigion, fyddant ddeuddeng­mil ar hugain, a dau cant.

22 Yna llwyth Benjamin: a chapten meibi­on Benjamin fydd Abidan mab Gideoni.

23 A'i lu ef, a'i rhifedigion, fyddant bymtheng­mil ar hugain, a phedwar cant.

24 Holl rifedigion gwerssyll Ephraim, fydd­ant yn ol eu lluoedd, gan mil, ac wyth mil, a chant: ac a gychwynnant yn drydydd.

25 Lluman gwerssyll Dan fydd tua 'r gogledd yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Dan fydd Ahieser mab Ammi Sadai.

26 A'i lu ef, a'i rhifedigion, fyddant ddwy fil a thrugain, a saith gant.

27 A'r rhai a werssyllant yn ei ymmyl ef▪ fydd llwyth Aser: a chapten meibion Aser fydd Pagiel mab Ocran.

28 A'i lu ef, a'i rhifedigion, fyddant vn mîl a deugain, a phum cant.

29 Yna llwyth Nephtali: a chapten mei­bion Nephtali fydd Ahira mab Enan.

30 A'i lu ef, a'i rhifedigion, fyddant dair mil ac ddec a deugain, a phedwar cant.

31 Holl rifedigion gwerssyll Dan, fyddant gan mîl, ac onid tair mil tri vgain mil, a chwe chant: yn olaf y cychwynnant a'u llumanau.

32 Dymma rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau: holl rifedigion y gwerssylloedd yn ôl eu lluoedd, oedd chwe chan mil, a thair mil, a phum cant, a dec a deugain.

33 Ond y Lefiaid ni chyfrifwyd ym mysc meibion Israel, megis y gorchymynnasei yr Ar­glwydd wrth Moses.

34 A meibion Israel a wnaethant yn ol yr hyn oll a orchymynnasei 'r Arglwydd wrth Moses: felly y gwerssyllasant wrth eu llumanau, ac felly y cychwynasant, bob vn yn ei deuluoedd, yn ol tŷ eu tadau.

PEN. III.

1 Meibion Aaron. 5 Rhoddi y Lefiaid i'r offei­riaid er mwyn gwasanaeth y babell, 11 yn lle y cyntafanedic. 14 Rhifo y Lefiaid wrth eu teu­luoedd. 21 Teuluoedd, rhifedi, a swydd y Gerso­niaid, 27 y Cohathiaid, 33 y Merariaid. 38 Lle a swydd Moses ac Aaron. 40 Bod y cyntaf­anedic [Page] yn rhydd oddiwrth y Lefiaid. 44 Pry­nu y rhai oedd tros ben.

AC dymma genhedlaethau Aaron, a Moses: ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ym-mynydd Sinai.

2 Dymma henwau meibion Aaron:Exod. 6.23. Na­dab y cyntaf-anedic, ac Abihu, Eleazar ac Itha­mar.

3 Dymma henwauLevit. 8.2. Exod. 28.1. meibion Aaron yr offeiriad eneinioc y rhai aHebr. a lanwodd eu llaw. gyssegrodd efe i offeiriadu.

4 A Levit. 10.1. Num. 26. 61. 1 Cron. 24.2. marw a wnaeth Nadab ac Abihu ger bron yr Arglwydd, pan offrymmasant † dân dieithr ger bron yr Arglwydd yn anialwch Si­nai: a meibion nid oedd iddynt: ac offeiriad­odd Eleazar ac Ithamar yngŵydd Aaron eu tâd.

5 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

6 Nessâ lwythNum. 18.2. Lefi, a gwna iddo sefyll ger bron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef.

7 A hwy a gadwant ei gadwriaeth ef, a chadwriaeth yr holl gynnulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, i wneuthur gwasanaeth y tabernacl.

8 A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfar­fod, a chadwraeth meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth y tabernacl.

9 A thi a roddi yNum. 8.16. Lefiaid i Aaron, ac iw feibion: y rhai hyn sydd wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel.

10 Ac vrdda di Aaron a'i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a'r deithr-ddyn a ddelo yn agos a roddir i farw.

11 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Mo­ses, gan ddywedyd,

12 Ac wele mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel yn lle pob cyntaf-anedic, sef pob cyntaf a egoro y groth o feibion Israel: am hynny y Lefiaid a fyddant eiddo fi.

13Num. 8.14. Canys eiddo fi yw pob cyntafanedic;Exod. 34.19. Exod. 13.1. Levit. 27.26. Luc. 2.23. ar y dydd y tarewais y cyntaf-anedic yn nhîr yr Aipht, cyssegrais i mi fy hun bob cyntafane­dic yn Israel o ddyn ac anifail; eiddo fi ydynt; myfi yw yr Arglwydd.

14 Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Mo­ses yn anialwch Sinai, gan ddywedyd,

15 Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau, drwy eu teuluoedd; cyfrif hwynt bob gwryw o fab misyriad ac vchod.

16Gene. 46.11. Exod. 6.16. Num. 26.57. 1 Cron. 6.1. 1 Cro. 23.6. A Moses a'i cyfrifodd hwynt wrthHebr. enau. air yr Arglwydd, fel y gorchymynnasid iddo.

17 A'r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau: Gerson, a Cohath, a Merari.

18 Ac dymma henwau meibion Gerson yn ol eu teuluoedd: Libni a Simei.

19 A meibion Cohath yn ôl eu teuluoedd: Amram, Izehar, Hebron ac Vzziel.

20 A meibion Merari yn ôl eu teuluoedd, Mahli, a Musi: dymma deuluoedd Lefi wrth dŷ eu tadau.

21 O Gerson y daeth ty-lwyth y Libniaid, a thylwyth y Simiaid: dymma deuluoedd y Ger­soniaid.

22 Eu rhifedigion hwynt dan rif pob gwryw o fâb misyriad, ac vchod, eu rhifedigion meddaf oedd saith mil a phump cant.

23 Teuluoedd y Gersoniaid a wersyllant ar y tu ôl i'r tabernacl tua'r gorllewin.

24 A phennaeth tŷ tâd y Gersoniaid fydd Eliasaph mab Lael.

25 A chadwraeth meibion Gerson ym mha­bell y cyfarfod fydd y tabernacl, a'r babell, ei thô hefyd, a chaead-len drws pabell y cyfarfod;

26 A llenni y cynteddfa, a chaead-len drws y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a'r allor o amgylch, a'i rhaffau iw holl wasa­naeth.

27 Ac o Cohath y daeth ty-lwyth yr Amrami­aid, a thy-lwyth yr Isehariaid, a thy-lwyth yr Hebroniaid, a thy-lwyth yr Ozeliaid: dymma dy-lwyth y Cohathiaid.

28 Rhifedi yr holl wrywiaid, o fâb misyriad ac vchod, oedd wyth-mil a chwe chant, yn ca­dw cadwraeth y cyssegr.

29 Teuluoedd meibion Cohath a wersyllant ar ystlys y tabernacl tu a'r dehau.

30 A phennaeth tŷ tâd ty-lwyth y Coha­thiaid, fydd Elisaphan mab Vziel.

31 A'i cadwraeth hwynt fydd yr Arch, a'r bwrdd, a'r canhwyll-bren, a'r allorau, a llestri y cyssegr, y rhai y gwasanaethant â hwynt, a'r gaead-len, a'i holl wasanaeth.

32 A phennaf ar bennaethiaid y Lefiaid fydd Eleazar mab Aaron yr offeiriad; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cyssegr fydd iddo ef.

33 O Merari y daeth ty-lwyth y Mahliaid, a thy-lwyth y Musiaid: dymma dy-lwyth Merari.

34 A'i rhifedigion hwynt, wrth gyfrif pob gwryw o fab misyriad ac vchod, oedd chwe mil a deu cant.

35 A phennaeth tŷ tâd ty-lwyth Merari fydd Zuriel mab Abihael: ar ystlys y tabernacl y gwerssyllant tua'r gogledd.

36 AcHebr. yn swydd cadwra­eth. ynghadwraeth meibion Merari y bydd ystyllod y tabernacl, a'i drossolion, a'i golofnau, a'i forteisiau, a'i holl offer, a'i holl wasanaeth:

37 A cholofnau y cynteddfa o amgylch, a'i morteisiau, a'i hoelion, a'i rhaffau.

38 A'r rhai a werssyllant o flaen y tabernacl, tua 'r dwyrain, o flaen pabell y cyfarfod tuâ chodiad haul fydd Moses, ac Aaron a'i feibion, y rhai a gadwant gadwraeth y cyssegr, a chad­wraeth meibion Israel: a'r dieithr a ddelo yn agos a roddir i farwolaeth.

39 Holl rifedigion y Lefiaid, y rhai a rifodd Moses ac Aaron yn ol gair yr Arglwydd, trwy eu teuluoedd, sef pob gwryw o fab misyriad ac vchod oedd ddwy fil ar hugain.

40 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, cyfrif bob cyntaf-anedic gwryw o feibion Israel, o fab misyriad ac vchod, a chymmer rifedi eu henwau hwynt,

41 A chymmerNum. 8.14. y Lefiaid i mi (myfi yw yr Arglwydd) yn lle holl cyntaf-anedic meibion Israel: ac anifeillaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedic o anifeiliaid meibion Israel.

42 A Moses a rifodd megis y gorchymynnodd yr Arglwydd iddo, pob cyntaf-anedic o feibion Israel.

43 A'r rhai cyntaf-anedic oll, o rai gwryw, dan rif eu henwau, o fab misyriad ac vchod, o'i rhifedigion hwynt, oedd ddwy fil ar hugain, a dau cant, a thri ar ddec a thrugain.

44 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

45 Cymmer y Lefiaid yn lle pob cyntaf-ane­dic o feibion Israel; ac anifeiliaid y Lefiaid, yn lle eu hanifeiliaid hwynt; a bydded y Lefiaid i mi: myfi yw yr Arglwydd.

46 Ac am y rhai sy iw prynu o'r tri ar ddeg a thrugain a deucant, o gyntaf-anedig meibion Israel, y rhai sy dros ben y Lefiaid;

47 Cymmer bum sicl am bob pen; yn ôl sicl y cyssegr y cymmeri;Exod 30.13. Levit. 27.25. Num. 16. Ezec. [...] 12. vgain Gerah fydd y sicl.

48 A dod yr arian, gwerth y rhai sydd yn chwaneg o honynt, i Aaron ac i'w feibion.

49 A chymmerodd Moses arian y prynedi­gaeth, y rhai oedd dros ben y rhai a brynwyd am y Lefiaid.

50 Gan gyntaf-anedic meibion Israel y cym­merodd efe yr arian: pump a thrugain a thry­chant a mil, o siclau y cyssegr.

51 A Moses a roddodd arian y prynedigion i Aaron ac iw feibion, yn ôl gair yr Arglwydd, megis y gorchymynnasei 'r Arglwydd i Moses.

PEN. IV.

1 Oedran a chylch gwasanaeth y Lefiaid. 4 Clûd y Cohathiaid wedi i'r offeiriaid dynnu i lawr y babell. 16 Gorchwyliaeth Eleazar. 17 Swydd yr offeiriaid. 21 Clûd y Gersoniaid, 29 a'r Me­rariaid. 34 Rhifedi y Cohathiaid, 38 y Gerso­niaid, 42 a'r Merariaid.

A'R Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

2 Cymmer nifer meibion Cohath, o blith meibion Lefi, wrth eu teuluoedd, yn ol tŷ eu tadau,

3 O fab deng mlwydd ar hugain ac vchod, hyd fab deng mlwydd a deugain; pob vn a elo i'r llu i wneuthur gwasanaeth ym mhabell y cy­farfod.

4 Dymma wenidogaeth meibion Cohath, ym mhabell y cyfarfod, ynghylch y pethau sanct­eiddiolaf.

5 A deued Aaron, a'i feibion, pan gychwyn­no y gwerssyll, a thynnant i lawr y wahan-len orchudd, a gorchguddiant â hi Arch y destio­laeth:

6 A gosodant ar hynny dô o grwyn daiar­foch, a thanant arni wisc o fidan glâs i gyd, a gosodant ei throssolion wrthi.

7 Ac ar fwrddExod. 25.30. y bara dangos y tanant fre­thyn glâs, a gossodant ar hynny y dysclau, a'r cwppanau, a'r phiolau, a'r caeadauNeu, i dywallt. i gau: a bydded y bara bob amser arno.

8 A thanant arnynt wisc o scarlat, a gorch-guddiant hwnnw â gorchudd o groen daiar­foch, a gosodant ei drossolion wrtho.

9 Cymmerant hefyd wisc o sidan glâs a gorch-guddiantExod. 25.31. ganhwyll-bren y goleuni, a'i lampau,Exod. 25.38. a'i efeiliau, a'i gafnau, a holl lestri yr olew, y rhai y gwasanaethant ef â hwynt.

10 A gosodant ef, a'i holl ddodrefn mewn gorchudd o groen daiar-foch, a gosodant ef ar drossol.

11 A thanant frethyn glâs ar yr allor aur, a gorchguddiant hi â gorchudd o groen daiar-foch, a gosodant ei throssolion wrthi.

12 Cymmerant hefyd holl ddodrefn y gwa­sanaeth, y rhai y gwasanaethant â hwynt yn y cyssegr, a rhodddant mewn brethyn glâs, a gorchguddiant hwynt mewn gorchudd o groen daiar-foch, a gosodant ar drossol.

13 A thynnant allan ludw 'r allor, a thanant arni wisc borphor.

14 A rhoddant arni ei holl lestri, â'r rhai y gwasanaethant hi, sef y pedill tân, y cigweiniau, a'r rhawiau, a'rNeu, phiolau. cawgiau, ie holl lestri yr allor: a thanant arni orchudd o groen daiar-foch, a gosodant ei throssolion wrthi.

15 Pan ddarffo i Aaron ac iw feibion orch­guddio y cyssegr, a holl ddodrefn y cyssegr, pan gychwynno y gwerssyll; wedi hynny deued meibion Cohath iw dwyn hwynt: ond na chy­ffyrddant â'r hyn a fyddo cyssegredic, rhac idd­ynt farw: dymma faich meibion Cohath, ym mhabell y cyfarfod.

16 Ac i swydd Eleazar mab Aaron yr offei­riad y perthyn olew y goleuni,Exod. 30.34. a'r arogl-darth peraidd, a'r bwyd offrwm gwastadol, acExod. 30.23. olew yr eneiniad, a gorchwyliaeth yr holl dabernacl, a'r hyn oll fydd ynddo, yn y cyssegr ac yn ei ddodrefn.

17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac Aaron, gan ddywedyd,

18 Na thorrwch ymmaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid.

19 Ond hyn a wnewch iddynt, fel y bydd­ont fyw, ac na fyddont feirw: pan nessânt at y pethau sancteiddiolaf, Aaron a'i feibion a ânt i mewn ac a'i gosodant hwy bob vn ar ei wasa­naeth, ac ar ei glud.

20 Ond nac ânt i edrych pan fydder yn gorchguddio yr hyn sydd gyssegredic, rhac ma­rw o honynt.

21 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

22 Cymmer nifer meibion Gerson hefyd, trwy dŷ eu tadau, wrth eu teuluoedd:

23 O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod, hyd fab deng-mlwydd a deugain, y rhifi hwynt: pob vn a ddel iHebr. filwrio milwri­aeth. ddwyn swydd i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

24 Dymma wenidogaeth tylwyth y Gersoni­aid, o wasanaeth ac o glud.

25 Sef dwyn o honynt lenni y tabernacl a phabell y cyfarfod, ei len dô ef, a'r tô o grwyn daiar-foch, yr hwn fydd yn vchaf arno, a chudd­len drws pabell y cyfarfod.

26 A llenni y cynteddfa, a chaeadlen drws porth y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y ta­bernacl, a'r allor o amgylch, a'i rhaffau, a holl offer eu gwasanaeth hwynt, a'r hyn oll a wnaed iddynt; felly y gwasanaethant hwy.

27 WrthHebr. enau. orchymmyn Aaron a'i feibion y bydd holl wasanaeth meibion y Gersoniaid, yn eu holl glud, ac yn eu holl wasanaeth: a dodwch attynt eu holl glud iw cadw.

28 Dymma wasanaeth tylwyth meibion Ger­son ym mhabell y cyfarfod, ac ar law Ithamar mab Aaron yr offeiriad y bydd eu llywodraethu hwynt.

29 A meibion Merari, drwy eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau y cyfrifi hwynt:

30 O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod, hyd fab deng-mlwydd a deugain, y rhifi hwynt: pob vn a ddel iHebr. i'r filwri­aeth. ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.

31 Ac dymma orchwyliaeth eu clud hwynt, yn eu holl wasanaeth, ym mhabell y cyfarfod: sef Exod. 26.15. ystyllod y tabernacl, a'i farrau, a'i golof­nau, a'i forteisiau:

32 A cholofnau y cynteddfa oddi amgylch, a'i morteisiau, a'i hoelion, a'i rhaffau, ynghyd a'i holl offer, ac ynghyd a'i holl wasanaeth: rhifwch hefyd y dodrefn erbyn eu henwau, y rhai a gadwant ac a gludant hwy.

33 Dymma wasanaeth tylwyth meibion Me­rari yn eu holl wenidogaeth, ym mhabell y cy­farfod, dan law Ithamar fab Aaron yr offeiriad.

34 A rhifodd Moses, ac Aaron, a phennaethi­aid y gynnulleidfa, feibion Cohath drwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau:

35 O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod, hyd fab deng-mlwydd a deugain, sef pob vn a ddel mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod.

36 A'i rhisedigion drwy eu teuluoedd, oedd ddwy fil, saith gant, a dec a deugain.

37 Dymma rifedigion tylwyth y Cohathi­aid, sef pob gwasanaethudd ym mhabell y cy­farfod: y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd, drwy law Moses.

38 Rhifedigion meibion Gerson hefyd drwy eu teuluoedd, ac yn ol tŷ eu tadau:

39 O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod, ac hyd fab deng-mlwydd a deugain, sef pob vn a ddele mewn swydd i wasanaeth ym mha­bell y cyfarfod:

40 A'i rhifedigion hwynt drwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau, oeddynt ddwy fil, a chwe­chant, a dec ar hugain.

41 Dymma rifedigion tylwyth meibion Gerson, sef pob gwasanaethudd ym mhabell y cyfarfod, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd.

42 A rhifedigion tylwyth meibion Merari, drwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau:

43 O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod, hyd fab deng-mlwydd a deugain, sef pob vn a ddelei mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:

44 A'i rhifedigion hwynt drwy eu teulu­oedd, oeddynt dair mil, a dau cant.

45 Dymma rifedigion tylwyth meibion Merari, y rhai a rifodd Moses ac Aaron wrth orchymyn yr Arglwydd, drwy law Moses.

46 Yr holl rifedigion y rhai a rifodd Moses ac Aaron, a phennaethiaid Israel, o'r Lefiaid drwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau:

47 O fab deng-mlwydd ar hugain ac vchod, hyd fab deng-mlwydd a deugain, sef pob vn a ddele i wneuthur gwaith gwasanaeth, neu waith clud ym mhabell y cyfarfod:

48 A'i rhifedigion oeddynt wyth mil, pum cant, a phedwar vgain.

49 Wrth orchymyn yr Arglwydd drwy law Moses, y rhifodd efe hwy, pob vn wrth ei wa­sanaeth ac wrth ei glud: fel hyn y rhifwyd hwynt, fel y gorchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

PEN. V.

1 Symmudo 'r aflan allan o'r gwerssyll. 5 Rhaid yw gwneuthur iawn tros gamweddau. 11 Ei­ddigedd, pa vn ai heb achos ai trwy achos y mae.

A'R Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Gorchymyn i feibion IsraelLevit. 13.3. anfon allan o'r gwerssyll bob gwahan-glwyfus, aLevit. [...]5.2. phob vn y byddo diferlif arno, a phob vnLevit. 21.1. a halogir wrth y marw.

3 Yn wryw ac yn fenyw yr anfonwch hwynt; allan o'r gwerssyll yr anfonwch hwynt; fel na halogont eu gwerssylloedd, y rhai yr ydwyfi yn presswylio yn eu plith.

4 A meibion Israel a wnaethant felly, ac a'i hanfonasant hwynt i'r tu allan i'r gwerssyll: me­gis y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.

5 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

6 Llefara wrth feibion Israel,Levit, 6.3. os gŵr neu wraig a wna vn o holl bechodau dynol, gan wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a bod o'r enaid hwnnw yn euog:

7 Yna cyffessant eu pechod a wnaethant; a rhodded yn ei ôl yr hyn a fyddo efe euog o ho­nawLevit. 6.5. erbyn ei ben, a chwaneged ei bummed ran atto, a rhodded i'r hwn y gwnaeth efe gam ag ef.

8 Ac oni bydd i'r gŵr gyfnesaf i dalu am y camwedd iddo, yr: awn am y camwedd yr hwn a delir i'r Arglwydd fydd eiddo yr offeiriad: heb law yr hwrdd cymmod yr hwn y gwna efe gymmod ag ef trosto.

9 A phob offrwm derchafel, o holl sanctaidd bethau meibion Israel, y rhai a offrymmant at yr offeiriad fydd eiddo ef.

10 A sancteiddio gŵr, eiddo ef fyddant: hyn a roddo neb i'r offeiriad,Levit. 10.12. eiddo ef fydd.

11 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Mo­ses gan ddywedyd.

12 Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrth­ynt, pob gŵr pan ŵyro ei wraig ef a gwneu­thur bai yn ei erbyn ef:

13 A bod i ŵr a wnelo â hi, a bod yn guddi­edic o olwg ei gŵr hi, ac yn gyfrinachol, a hithe wedi ei halogi, ac heb dŷst yn ei herbyn, a hithe heb ei dal ar ei gweithred:

14 A dyfodYspryd. gwŷn eiddigedd arno, ac eiddi­geddu o honaw wrth ei wraig, a hithe wedi ei halogi: neu ddyfod yspryd eiddigedd arno, ac eiddigeddu o honaw wrth ei wraig, a hithe heb ei halogi:

15 Yna dyged y ei gŵr ei wraig at yr offeiri­ad, a dyged ei hoffrwm trosti hi, decfed ran Epha o flawd haidd: na thywallted olew arno, ac na rodded thus arno; canys offrwm eiddigedd yw; offrwm côf yn coffau anwiredd:

16 A nessaed yr offeiriad hi, a phared iddi sefyll ger bron yr Arglwydd:

17 A chymmered yr offeiriad ddwfr sanct­aidd mewn llestr pridd, a chymmered yr offei­riad o'r llwch fyddo ar lawr y tabernacl, a rho­dded yn y dwfr:

18 A phared yr offeiriad i'r wraig sefyll ger bron yr Arglwydd, a diosced oddi am ben y wraig, a rhodded yn ei dwylaw offrwm y coffa, offrwm eiddigedd yw efe: ac yn llaw yr offei­riad y bydd y dwfr chwerw sy'n peri'r felldith.

19 A thynged yr offeiriad hi, a dyweded wrth y wraig, oni orweddodd gŵr gyd â thi, ac oni ŵyraist i aflendid gyd ag arall Neu, a thi ym meddiant dy wr. Heb. Tan dy wr. yn lle dy ŵr, bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwe­rw hwn sy'n peri 'r felldith.

20 Ond os gwyraist ti oddi wrth dy ŵr, ac os halogwyd ti, a chydio o neb â thi heb law dy ŵr dy hun:

21 (Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melldith, a dyweded yr offeiriad wrth y wraig) rhodded yr Arglwydd dydi yn felldith ac yn llw, ym mysc dy bobl, pan wnelo 'r Ar­glwydd dy forddwydHebr. i syrthio yn bwdr, a'th groth yn chwyddedic,

22 Ac aed y dwfr melldigedic hwn i'th golu­ddion, i chwyddo dy groth, ac i bydru dy for­ddwyd: a dyweded y wraig, Amên, Amên.

23 Ac scrifenned yr offeiriad y melldithion hyn mewn llyfr, a golched hwynt ymmaith â'r dwfr chwerw:

24 A phared i'r wraig yfed o'r dŵfr chwerw sy 'n peri y felldith, ac aed y dwfr sy 'n peri y felldith i'w mewn hi, yn chwerw.

25 A chymmered yr offeiriad o law y wraig, offrwm yr eiddigeid, a chwhwfaned yr offrwm ger bron yr Arglwydd, ac offrymmed ef ar yr allor.

26 A chymmered yr offeiriad o'r offrwm loneid ei law, ei goffadwriaeth, a llosced ar yr allor, ac wedi hynny pared i'r wraig yfed y dwfr.

27 Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei [...] yr a y dwfr sy 'n peri y felldith yn chwe­rw [Page] ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwyd: a'r wraig a fydd yn felldith ym mysc ei phobl.

28 Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw, yna hi a fydd diangol, ac a blanta.

29 Dymma gyfraith eiddigedd, pan ŵyro gwraig at arall yn lle ei gŵr, ac ymhalogi:

30 Neu os daw ar ŵr wŷn eiddigedd, a dal o honaw eiddigedd wrth ei wraig, ŷna goso­ded y wraig i sefyll ger bron yr Arglwydd, a gwnaed yr offeiriad iddi yn ôl y gyfraith hon.

31 A'r gŵr fydd dieuog o'r anwiredd, a'r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun.

PEN. VI.

1 Cyfraith y Nazareaid. 22 Y dull y bendithir y bobl.

LLefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a dywet wr­thynt, pan ymnailltuo gŵr neu wraig i addo adduned Nazaread,Heb. ym-Naza­reiddo. i ymnailltuo i'r Ar­glwydd:

3 Ymnailltued oddi wrth win a diod gref, nac yfed finegr gwîn, na finegr diod gref: nac yfed ychwaith ddim sugn grawn-win, ac na fwyttaed rawn-win irion, na sychion.

4 Holl ddyddiau ei Nazareaeth, ni chaiff fwytta o ddim oll a wneir o wînwydden y gwîn, o'r dingcod hyd y bilionen.

5 Holl ddyddiau adduned ei Nazareaeth,Barn. 13.5. 1 Sam. 1.11. ni chaiff ellyn fyned ar ei ben, nes cyflawni y dydd­iau yr ymnailltuodd efe i'r Arglwydd; sanctaidd fydd, gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu.

6 Holl ddyddiau ei ymnailltuaeth i'r Ar­glwydd, na ddeued at gorph marw.

7 Nac ymhaloged wrth ei dâd, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer, pan fyddant feirw; am fod Nazareaeth ei Dduw ar ei ben ef.

8 Holl ddyddiau ei Nazareaeth, sanctaidd fydd efe i'r Arglwydd.

9 Ond os marw fydd vn yn ei ymyl ef yn ddisymwth, a halogi pen ei Nazareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth; ar y feithfed dydd yr eillia efe ef.

10 Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy dur­tur, neu ddau gyw colomen at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.

11 Ac offrymmed yr offeiriad un yn bech aberth, ac vn yn boeth offrwm, a gwnaed gym­mod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw.

12 A nailltued i'r Arglwydd ddyddiau ei Nazareaeth, a dyged oen blwydd yn offrwm tros gamwedd:Heb. a chwym­ped. ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nazareaeth ef.

13 Ac dymma gyfraith y Nazaread: pan gyflawner ddydiau ei Nazareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod.

14 A dyged yn offrwm drosto i'r Arglwydd vn hesbwm blwydd perffaith gwbl, yn boeth offrwm, ac vn hespin flwydd berffaith-gwbl yn bech-aberth, ac vn hwrdd perffaith gwbl yn aberth hedd,

15 Cawelleid o fara croyw hefyd, sef Levit. 2.15. teis­sennau peilliaid wedi eu tylino drwy olew, ac afrllad croyw, wedi eu henneinio ag olew, a'i bwyd offrwm, a'i diod offrwm hwy.

16 A dyged yr offeiriad hwynt ger bron yr Arglwydd, ac offrymmed ei bech aberth a'i boeth offrwm ef.

17 Offrymmed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i'r Arglwydd, ynghyd a'r cawelled bara croyw, ac offrymmed: yr offeiriad ei fwyd offrwm a'i ddiod offrm ef.

18 AcAct. 18.18. & 21.24. eillied y Nazaread wrth ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nazareaeth, a chymmered fyddo pen ei Nazareaeth, a rhodded ar y tân a fyddo tan yr aberth hedd.

19 Cymmered yr offeiriad hefyd balfais o'r hwrdd, wedi ei berwi, ac vn deissen groyw o'r cawell, ac vn afrlladen groyw, a rhodded ar ddwylo y Nazaread, wedi eillio o honaw ei Nazareaeth.

20 AExod. 29.27. chwhwfaned yr offeiriad hwynt, yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd: san­ctaidd yw hyn i'r offeiriad, heb law parwyden y cwhwfan a phalsais y derchafel: ac wedi hyn y caiff y Nazaread yfed gwîn.

21 Dymma gyfraith y Nazaread a addune­dodd, a'i offrwm i'r Arglwydd am ei Nazare­aeth, heb law yr hyn a gyrhaeddo ei law ef; fel y byddo ei adduned a addunedo, felly gwnaed, heb law cyfraith ei Nazareaeth.

22 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Mo­ses, gan ddywedyd,

23 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, fel hyn y bendithiwch feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt,

24 Bendithied yr Arglwydd di, a chadwed di:

25 A llewyrched yr Arglwydd ei wyneb ar­nat, a thrugarhaed wrthit:

26 Derchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat, a rhodded it dangneddyf.

27 Felly y gosodant fy enw ar feibion Isra­el, a mi a'i bendithiaf hwynt.

PEN. VII.

1 Offrwm y tywysogion wrth gyssegru y Taber­nacl,10 Offrwm pôb vn o bonynt wrth gyssegru 'r Allor. 89 Duw yn llefaru wrth Moses o'r drugareddfa.

AC ar y dydd y gorphennodd MosesExod. 40.18. godi y Tabernacl a'i eneinio, a'i sancteiddio ef, a'i holl ddodrefn, yr allor hefyd a'i holl ddo­drefn, a'i eneinio a'i sancteiddio hwynt:

2 Yr offrymmodd tywysogion Israel, pennae­thiaid tŷ eu tadau (y rhai oedd dywysogion y llwythau, ac wedi eu gosod ar y rhifedigion:)

3 A'i hoffrwm a ddygasant hwy ger bron yr Arglwydd, chwech o fenni diddos, a ddeudec o ŷchen: men dros bob dau dywyfog, ac ŷch dros bôb vn: a cher bron y tabernacl y dyga­sant hwynt.

4 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

5 Cymmer ganddynt, a byddant i wasanae­thu gwasanaeth pabell y cyfarfod: a dod hwynt i'r Lefiaid, i bôb vn yn ôl ei wasanaeth.

6 A chymmerodd Moses y menni, a'r ŷchen, ac a'i rhoddodd hwynt i'r Lefiaid.

7 Dwy fen a phedwar ŷch a rôddes efe i feibion Gerson, yn ôl eu gwasanaeth hwynt;

8 A phedair men ac wyth ŷchen a roddodd efe i feibion Merari, yn ol eu gwasanaeth hwynt, tan law Ithamar fab Aaron yr offeiriad.

9 Ond i feibion Cohath ni rodd efe ddim, am fod gwasanaeth y cyssegr arnynt; ar eu hyscwy­ddau y dygent hwnnw.

10 A'r tywysogion a offrymmasant tuac at gyssegru yr allor, ar y dydd yr eneiniwyd hi; a cher bron yr allor y dug y tywysogion eu rho­ddion.

11 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, pob tywysog ar ei ddiwrnod a offrymmaut eu hoffrymau, tuac at gyssegru 'r allor.

12 Ac ar y dydd cyntaf yr oedd yn offrym­mu ei offrwm, Nahson mab Aminadab, tros lwyth Juda.

13 A'i offrwm ef ydoedd vn ddyscl arian, o ddec ar hugain a chant o ficlau ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain yn ôl sicl y cyssegr; yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olewLevit. 3.2. yn fwyd offrwm:

14 Vn llwy aur o ddec ficl, yn llawn arogl­darth:

15 Vn bustach ieuangc, vn hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

16 Vn bwch geifrLevit. 4.23. yn bech aberth:

17 Ac yn aberth hedd, dan ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: a dymma offrwm Nahson fab Aminadab.

18 Ac ar yr ail dydd yr offrymmodd Ne­thaneel mab Zuar tywysog Issachar.

19 Efe a offrymmodd ei offrwm, sef vn ddyscl arian, o ddec ar hugain a chant o ficlau ei phwys, vn phiol arian, o ddec sicl a thrugain yn ol y sicl sanctaidd; yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew yn fwyd offrwm:

20 Vn llwy aur o decc sicl, yn llawn arogl­darth:

21 Vn bustach ieuangc, vn hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

22 Vn bwch geifr yn bech aberth:

23 Ac yn aberth hedd, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Nethaneel fab Zuar.

24 Ar y trydydd dydd yr offrymmodd Eliab mâb Helon, tywysog meibion Zabulon.

25 Ei offrwm ef ydoedd un ddyscl arian o ddec ar hugain a chant o ficlau ei phwys, un phi­ol arian, o ddec sicl a thrugain, yn ol y sicl san­ctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew, yn fwyd offrwm:

26 Vn llwy aur o ddec sicl, yn llawn arogl­darth:

27 Vn bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

28 Vn bwch geifr yn bech aberth:

29 Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Eliab mab Helon.

30 Ar y pedwerydd dydd yr offrymmodd Elizur mab Zedeur tywysog meibion Reuben.

31 Ei offrwm ef ydoedd vn ddyscl arian o ddec ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phiol arian o ddec sicl a thrugain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilli­ed wedi ei gymmyscu trwy olew, yn fwyd offrwm:

32 Vn llwy aur o ddec ficl, yn llawn arogl­darth:

33 Vn bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

34 Vn bwch geifr yn bech aberth:

35 Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Elizur mab Zedeur.

36 Ar y pummed dydd yr offrymmodd Selu­micl mab Suri Sadai, tywysog meibion Simeon.

37 Ei offrwm ef ydoedd vn ddyscl arian, o ddec ar hugain a chant o siclau ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew, yn fwyd offrwm:

38 Vn llwy aur o ddec ficl, yn llawn arogl­darth:

39 Vn bustach ieuangc, un hwrdd, vn oen blwydd, yn offrwm poeth:

40 Vn bwch geifr yn bech aberth:

41 Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Selumiel mab Suri Sadai.

42 Ar y chweched dydd yr offrymmodd Elia­saph mab Deuel, tywysog meibion Gad.

43 Ei offrwm ef ydoedd un ddyscl arian, o ddec ar hugain a chant o ficlau ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew, yn fwyd offrwm:

44 Vn llwy aur o ddec sicl, yn llawn arogl­darth:

45 Vn bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd, yn offrwm poeth:

46 Vn bwch geifr yn bech aberth:

47 Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Eliasaph mab Deuel.

48 Ar y seithfed dydd yr offrymmodd Elisama mab Ammihud, tywysog meibion Ephraim.

49 Ei offrwm ef ydoedd vn ddyscl arian, o ddec ar hugain a chant o ficlau ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew, yn fwyd offrwm:

50 Vn llwy aur o ddec sicl, yn llawn arogl­darth:

51 Vn bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd, yn offrwm poeth:

52 Vn bwch geifr yn bech aberth:

53 Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Elisama mab Ammihud.

54 Ar yr wythfed dydd yr offrymmodd Gamaliel mab Pedazur tywysog meibion Ma­nasseh.

55 Ei offrwm ef ydoedd vn ddyscl arian, o ddec ar hugain a chant o siclau ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew, yn fwyd offrwm:

56 Vn llwy aur o ddec sicl, yn llawn arogl­darth:

57 Vn bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

58 Vn bwch geifr yn bech aberth:

59 Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum Bwch, pum hesbwrm blwyddiaid: dymma offrwm Gamaliel mab Pedazur.

60 Ar y nawfed dydd yr offrymmodd Abidan mab Gideoni tywysog meibion Ben­jamin.

61 Ei offrwm ef ydoedd un ddyscl arian, o ddec ar hugain a chant o siclau ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew, yn fwyd offrwm:

62 Vn llwy aur o ddec sicl, yn llawn arogl­darth:

63 Vn bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd, yn offrwm poeth:

64 Vn bwch geifr yn bech aberth:

65 Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Abidan mab Gideoni.

66 Ar y decfed dydd yr offrymmodd Ahiezer mab Ammi Sadai, tywysog meibion Dan.

67 Ei offrwm ef ydoedd vn ddyscl arian, o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un [Page] phiol arian o ddec sicl a thrugain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilli­ed wedi ei gymmyscu trwy olew, yn fwyd offrwm:

68 Vn llwy aur o ddec sicl, yn llawn arogl­darth:

69 Vn bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd, yn offrwm poeth:

70 Vn bwch geifr yn bech aberth:

71 Ac yn aberth hedd, dau ŷch, pumhwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Ahiezer mab Ammi Sadai.

72 Ar yr vnfed dydd ar ddec yr offrymmodd Pagiel mab Ocran tywysog meibion Aser.

73 Ei offrwm ef ydoedd vn ddyscl arian, o ddec ar hugain a chant o siclau ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn o beillied ill dwy­oedd wedi ei gymmyscu trwy olew, yn fwyd offrwm:

74 Vn llwy aur o ddec sicl, yn llawn arogl­darth:

75 Vn bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd, yn offrwm poeth:

76 Vn bwch geifr yn bech aberth:

77 Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwm blwyddiaid: dymma offrwm Pagiel mab Ocran.

78 Ar y deuddecfed dydd yr offrymmodd Ahira mab Enan, tywysog meibion Nephtali.

79 Ei offrwm ef ydoedd vn ddyscl arian, o ddec ar hugain a chant o siclau ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied we­di ei gymmyscu trwy olew, yn fwyd offrwm:

80 Vn llwy aur o ddec sicl, yn llawn arogl­darth:

81 Vn bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd, yn offrwm poeth:

82 Vn bwch geifr yn bech aberth:

83 Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Ahira mab Enan.

84 Dymma gyssegriad yr allor, gan dy­wyssogion Israel, ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddec dyscl arian, deuddec phiol arian, deuddec llwy aur.

85 Dec ar hugain a chant o siclau arian ydo­edd pôb dyscl, a dec a thrugain pôb phiol: holl arian y llestri oedd ddwy fil a phedwar cant o siclau yn ol y sicl sanctaidd.

86 Y llwyau aur oedd ddeuddec, yn llawn arogl-darth, o ddec sicl bôb llwy, yn ol y sicl sanctaidd: holl aur y llwyau ydoedd chwech vgain ficl.

87 Holl eidionnau yr offrwm poeth oedd ddeuddec bustach, deuddec o hyrddod, deuddec o ŵyn blwyddiaid, a'i bwyd offrwm; a deu­ddec o fychod geifr, yn offrwm tros bechod.

88 A holl ychen yr aberth hedd oedd bed­war ar hugain o fustych, trugain o hyrddod, trugain o fychod, trugain o hesbyrniaid: dym­ma gyssegriad yr allor wedi ei henneinio.

89 Ac fel yr oedd Moses yn myned i babell y cyfarfod i lefaru wrth Dduw; yna efe a glywei lais yn llefaru wrtho oddi ar y druga­reddfa, yr hon oedd ar Arch y destiolaeth, oddiExod. [...].22. rhwng y ddau Gerub, ac efe a ddywe­dodd wrtho.

PEN. VIII.

1 Y modd y mae goleuo y lusernau. 5 Cyssegru y Leviaid. 23 Oedran a thymmor ei gwasanaeth hwynt,

A'R Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth Aaron, a dywed wrtho, pan oleuech y lampau, llewyrched y saith lampExod. 25.37. & 40.25. ar gyfer y canhwyll-bren.

3 Ac felly y gwnaeth Aaron; ar gyfer y can­hwyll-bren y goleuodd efe ei lampau ef,Exod. 25.31. megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

4 Dymma waith y canhwyll-bren;Exod. 25.18. cyfan­waith o aur fydd hyd ei baladr, ie hyd ei flodau cyfan-waith fydd, yn ol y dull a ddangosodd yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth efe y can­hwyll-bren.

5 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

6 Cymmer y Lefiaid o fysc meibion Israel, a glanhâ hwynt.

7 Ac fel hyn y gwnei iddynt iw glanhau: taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnant i'r ellyn fyned tros eu holl gnawd, a golchant eu gwiscoedd, ac felly ymlanhânt.

8 Yna cymmerant fustach ieuangc, a'i fwyd offrwm o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew, a bustach ieuangc arall a gymmeri di, yn aberth tros bechod.

9 A phâr i'r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod; a chynnull holl gynnulleidfa meibion Israel ynghŷd.

10 A dwg y Lefiaid ger bron yr Arglwydd, a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid.

11Heb. A chwhw­faned. Ac offrymmed Aaron y Lefiaid ger bron yr Arglwydd, ynHeb. offrwm cwhwfan. offrwm gan feibion Israel, fel y byddont hwy i wasanaethu gwa­sanaeth yr Arglwydd.

12 A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych: ac offrwm ditheu un yn bech aberth, a'r llall yn offrwm poeth i'r Arglwydd, i wneuthur cymmod tros y Lefiaid.

13 A gosod y Lefiaid ger bron Aaron, a cher bron ei feibion, ac offrwm hwynt yn offrwm i'r Arglwydd.

14 A nailltua y Lefiaid o blith meibion Is­rael, aNum. 3.45. bydded y Lefiaid yn eiddo fi.

15 Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod: a glanhâ di hwynt, ac offrymma hwynt yn offrwm.

16 Canys hwynt a roddwyd yn rhoddNum. 3.9. i mi o blith meibion Israel: yn lle agorydd pôb crôth, sef pôb cyntafanedic o feibion Israel, y cymmerais hwynt i mi.

17Exod. 13.1. Luc. 2.23. Canys i mi y perthyn pôb cyntafanedic ym mhlith meibion Israel, o ddyn ac o anifail: er y dydd y tarewais bôb cyntafanedic yngwlad yr Aipht, y sancteiddiais hwynt i mi fy hun.

18 A chymmerais y Lefiaid yn lle pôb cyn­tafanedic o feibion Israel.

19 A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac iw feibion o blith meibion Israel, i wasanae­thu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur cymmod tros feibion Israel; fel na byddo plâ ar feibion Israel, pan ddelo meibion Israel yn agos at y cyssegr.

20 A gwnaeth Moses ac Aaron a holl gyn­nulleidfa meibion Israel i'r Lefiaid, yn ôl yr hyn oll a orchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid: felly y gwnaeth meibion Israel iddynt.

21 A'r Lefiaid a lanhawyd, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron a'i hoffrymmodd hwynt yn offrwm ger bron yr Arglwydd: a gwnaeth Aaron gymmod trostynt iw glanhau hwynt.

32 Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i [Page] wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod ger bron Aaron a'i feibion: megis y gorchy­mynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Le­fiaid, felly y gwnaethant iddynt.

23 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

24 Dymma yr hyn a berthyn i'r Lefiaid: o fab pum mlwydd ar hugain ac vchod, y deu­ant i filwrio milwriaeth yngwasanaeth pabell y cyfarfod.

25 Ac o fab deng-mlwydd a deugain y caiff vn ddychwelyd yn ei ôl o filwriaeth y gwasa­naeth fel na wasanaetho mwy.

26 Ond gwasanaethed gyd â'i frodyr ym mhabell y cyfarfod, i orchwylio; ac na wasa­naethed wasanaeth: fel hyn y gwnei i'r Lefi­aid yn eu gorchwyliaeth.

PEN. IX.

1 Ail-gorchymmyn y Pasc. 6 Caniadtau ail-Pasc i'r rhai oedd aflan neu absennol. 15 Y Cw­mwl yn cyfarwyddo 'r Israeliaid i symmudo, ac i wersyllu.

A'R Arglwydd a lefarodd wrth Moses yn ani­alwch Sinai, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dîr yr Aipht, ar y mîs cyntaf, gan ddywedyd,

2Exod. 12.2. Levit. 23.5. Num. 28.16. Deut. 16.2. Cadwed meibion Israel y Pasc hefyd yn ei dymmor.

3 Ar y pedwerydd dydd ar ddec or mîs hwnHeb. rhwng y ddau hwyr. yn y cyfnos, y cedwch ef yn ei dymmor: yn ôl ei holl ddeddfau, ac yn ôl ei holl ddefodau y cedwch ef.

4 A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasc.

5 A chadwasant y Pasc, ar y mîs cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddec o'r mîs yn y cyfnos, yn anialwch Sinai: yn ol yr hyn oll a orchy­mynnasei yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.

6 Ac yr oedd dynion y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn, fel na allent gadw y Pasc ar y dydd hwnnw; a hwy a ddaethant ger bron Moses a cher bron Aaron, ar y dydd hwnnw.

7 A'r dynion hynny a ddywedasant wrtho, yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorph dyn ma­rw: pa ham i'n gwaherddir rhac offrymmu offrwm i'r Arglwydd yn ei dymmor, ym mysc meibion Israel?

8 A dywedodd Moses wrthynt, sefwch, a m i a wrandawaf beth a orchymynno yr Arglwydd o'ch plegit.

9 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

10 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywe­dyd, pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorph marw, neu neb o honoch neu o'ch hiliogaeth mewn ffordd bell, etto cadwed Basc i'r Ar­glwydd.

11 Ar y pedwerydd dydd ar ddec o'r ail mîs yn y cyfnos y cadwant ef: ynghyd â bara croyw, a dail chwerwon y bwyttant ef.

12 Na weddillant ddim o honaw hyd y bo­reu, acExod. 12.46. Ioan. 19.36. na thorrant ascwrn o hono: yn ôl holl ddeddf y Pasc y cadwant ef.

13 A'r gŵr a fyddo glân, a heb fod mewn taith, ac a beidio a chadw 'r Pasc, torrir ym­maith yr enaid hwnnw o fysc ei bobl, am na offrymmodd offrwm yr Arglwydd yn ei dym­mor; ei bechod a ddwg y gŵr hwnnw.

14 A phan ymdeithio dieithr gyd â chwi, ac ewyllysio cadw Pasc i'r Arglwydd i fel y byddo deddf y Pasc a'i ddefod, felly y ceidw: yrExod. 2.49. Num. 15.15. vn ddeddf fydd i chwi, sef i'r dieithr ac i'r vn sydd a'i anedigaeth o'r wlâd.

15 Ac ar y dyddExod. 40.34. & 13.21. y codwyd y Tabernacl, y cwmwl a gaeodd am y Tabernacl tros babell y dystiolaeth, a'r hwyr yr ydoedd ar y Taber­nacl, megis gwelediad tân hyd y boreu.

16 Felly yr ydoedd yn wastadol: y cwmwl a gauai am dano y dydd, a'r gwelediad tân y nos.

17 A phan gyfodei y cwmwl oddi ar y ba­bell, wedi hynny y cychwynnei meibion Is­rael: ac yn y lle yr arhosei y cwmwl ynddo, yno y gwerssyllei meibion Israel.

18 Wrth orchymyn yr Arglwydd y cych­wynnei meibion Israel, ac wrth orchymmyn yr Arglwydd y gwerssyllent: yr holl ddyddiau1 Cor. 10.1. yr arhosei y cwmwl ar y Tabernacl, yr ar­hosent yn y gwerssyll.

19 A phan drigei y cwmwl yn hîr ar y Ta­bernacl lawer o ddyddiau, yna mebion Israel a gadwent wiliadwriaeth yr Arglwydd, ac ni chychwynnent.

20 Ac os byddei y cwmwl ychydic ddyddi­au ar y Tabernacl, wrth orchymyn yr Ar­glywydd y gwerssyllent, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnent.

21 Hefyd os byddei y cwmwl o hwyr hyd forau, a chyfodi o'r cwmwl y borau, hwythau a symmudent: pa vn bynnac ai dydd ai nos fyddei pan gyfodei y cwmwl, yna y cych­wynnent.

22Exod. 40.36. Os deu-ddydd, os mîs, os blwyddyn fyddei tra y trigei y cwmwl ar y Tabernacl, gan aros arno, meibion Israel a arhosent yn eu pebyll, ac ni chychwynnent: ond pan godei efe, y cychwynnent.

23 Wrth air yr Arglwydd y gwerssyllent, ac wrth air yr Arglwydd y cychwynnent: felly y cadwent wiliadwriaeth yr Arglwydd, yn ol gair yr Arglwydd trwy law Moses.

PEN. X.

1 Beth a wneid â'r vdeyrn arian. 11 Yr Is­raeliaid yn symmudo o Sinai i Paran. 14 Trefn eu cerddediad hwy. 29 Moses yn attolwg ar Hobab nad ymadawai â hwynt. 33 Bendith Moses wrth symmudo a gorphwyso o'r Arch.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Gwna it ddau vd-corn arian: yn gyfan­waith y gwnei hwynt, a byddant it i alw y gyn­nulleidfa ynghyd, ac i beri i'r gwerssylloedd gychwyn.

3 A phan ganant â hwynt, yr ymgascl yr holl gynnulleidfa attat, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

4 Ond os ag un y canant, yna y tywyso­gion, sef pennaethiaid miloedd Israel a ymgas­clant.

5 Pan ganoch alarwm, yna y gwerssylloedd y rhai a werssyllant tua 'r dwyrain, a gychwyn­nant.

6 Pan ganoch alarwm yr ail waith, yna y gwerssylloedd y rhai a werssyllant tua 'r dehau a gychwynnant; alarwm a ganant hwy wrth eu cychwyn.

7 Ac wrth alw ynghŷd y gynnulleidfa cenwch yr vdcyern; ond na chenwch ala­rwm.

8 A meibion Aaron yr offeiriaid a ganant ar yr vdcyrn; a byddant i chwi yn ddeddf dragy­wyddol trwy eich cenhedlaethau.

9 Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlâd, yn [Page] erbyn y gorthrymmwr a'ch gorthrymmo chwi, cenwch alarwm mewn vdcyrn: yna y coffeir chwi ger bron yr Arglwydd eich Duw, ac yr achubir chwi rhac eich gelynion.

10 Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedic, ac ar ddechrau eich misoedd, y cenwch ar yr vdcyrn vwch ben eich offrymmau poeth, ac vwch ben eich aberthau hedd: a byddant i chwi yn goffadwriaeth ger bron eich Duw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

11 A bu yn yr ail flwyddyn, ar yr ail mis, ar yr vgeinfed dydd o'r mis, gyfodi o'r cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth.

12 A meibion Israel a gychwynnasant iw taith o anialwch Sinai, a'r cwmwl a arhosodd yn anialwch Paran.

13 Felly y cychwynnasant y waith gyntaf, wrth air yr Arglwydd, trwy law Moses.

14 Ac ynNum. 2.3. gyntaf y cychwynnodd lluman gwerssyll meibion Juda, yn ol eu lluoedd: ac ar ei lû ef yr ydoedd Num. 1.7. Nahson mab Aminadab.

15 Ac ar lû llwyth meibion Issachar, Ne­thaneel mab Zuar.

16 Ac ar lû llwyth meibion Zabulon, Eliab mab Helon.

17 Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl; a meibion Gerson, a meibion Merari a gychwyn­nasant, gan ddwyn y tabernacl.

18 Yna y cychwynnodd lluman gwerssyll Ru­ben yn ôl eu lluoedd, ac yr ydoedd ar ei lu ef Elizur mab Sedeur.

19 Ac ar lû llwyth meibion Simeon, Selu­miel mab Suri Sadai.

20 Ac ar lû llwyth meibion Gad, Eliasaph mab Deuel.

21 A'r Cohathiaid a gychwynnasant gan ddwynPen. 4.4. y cyssegr, a'r Sef, y Gersoni­aid a'r Merari­aid, vers 17. lleill a godent y Taber­nacl, tra fyddent hwy yn dyfod.

22 Yna lluman gwerssyll meibion Ephraim, a gychwynnodd yn ol eu lluoedd; ac yr oedd ar ei lû ef Elisamah mab Ammihud.

23 Ac ar lû llwyth meibion Manasseh, Ga­maliel mab Pedazur.

24 Ac ar lû llwyth meibion Beniamin, Abi­dan mab Gideoni.

25 Yna lluman gwerssyll meibion Dan, yn ôlaf o'r holl werssylloedd, a gychwynnodd yn ôl ei lluoedd; ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahieser mab Ammi Sadai.

26 Ac ar lû llwyth meibion Aser, Pagiel mab Ocran.

27 Ac ar lû llwyth meibion Nephtali, Ahira mab Enan.

28 Dymma gychwynniadau meibion Israel yn ôl eu lluoedd, pan gychwynnasant.

29 A dywedodd Moses wrth Hobab mab Ra­guel y Midianiad, chwegrwn Moses: myned yr ydym i'r lle, am yr hwn y dywedodd yr Ar­glwydd, rhoddaf hwnnw i chwi; tyret gyd â ni, a gwnawn ddaioni it; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel.

30 Dywedodd yntef wrtho, nid âf ddim, onid i'm gwlâd fy hun, ac at fyng-henedl fy hun yr âf.

31 Ac efe a ddywedodd, na'âd ni attolwg; canys ti a adwaenost ein gwerssyllfaoedd yn yr anialwch, ac a fyddi yn lle llygaid i ni.

32 A phan ddelych gyd â ni, a dyfod o'r daioni hwnnw, yr hwn a wna yr Arglwydd i ni, ninnau a wnawn ddaioni i titheu.

33 A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod; ac Arch cyfam­mod yr Arglwydd oedd yn myned o'i blaen hwynt daith y tri diwrnod, i chwilio am or­phywysfa iddynt.

34 A chwmwl yr Arglwydd oedd arnynt y dydd, pan elent o'r gwerssyll.

35 A hefyd pan gychwynnei yr Arch, Moses a ddywedei,Psal. 68.1. cyfot Arglwydd, a gwascarer dy elynion, a ffoed dy gaseion o'th flaen.

36 A phan orphywysei hi y dywedei efe; dy­chwel Arglywydd at Ddeng­mil o fil­oedd. fyrddiwn miloedd Israel.

PEN. XI.

1 Y llosciad yn Taberah yn diffoddi trwy weddi Moses. 4 Y bobl yn blysio cig ac yn galaru ar y Manna. 10 Moses yn cwyno o ran ei fiars. 16 Duw yn rhannu ei faich ef rhwng dec a thrigain o henuriaid. 31 Duw yn rhoddi soflieir yn ei ddiglonedd yn Cibroth Hattaauah.

A'R bobl fel tuchanwŷr oeddynt flîn ynghlu­stiau 'r Arglwydd, a chlywodd yr Arglwydd hyn, a'i ddig a enynnodd, aPsal. 78.21. thân yr Argl­wydd a gynneuodd yn eu mysc hwynt, ac a yssodd gwrr y gwerssyll.

2 A llefodd y bobl ar Moses, a gweddiodd Moses ar yr Arglwydd, a'r tânHeb. Suddodd. a ddiffo­ddodd.

3 Ac efe a alwodd henw y lle hwnnwSef, llosciad. Taberah; am gynneu o dân yr Arglwydd yn eu mysc hwy.

4Exod. 12.38. A'r lliaws cymmysc yr hwn ydoedd yn eu mysc, a flyssiasantHeb. flys. yn ddirfawr, a meibion Israel hefyd a ddychwelasant ac a wŷlasant, ac a ddywedasant,1 Cor. 10.6. pwy a rydd i ni gig iw fwytta.

5 Cof yw gennym y pyscod yr oeddym yn ei fwytta yn yr Aipht yn rhâd, y cucumerau, a'r pompionau, a'r cennin, a'r winiwn, a'r garllec.

6 Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y Manna yn ein golwg.

7Exod. 16.14, 31. Psal. 78.24. Ioan. 6.31. A'r Manna hwnnw oedd fel hâd cori­ander, a'iHeb. lygad fel llygad. liw fel lliw Bdeliwm.

8 Y bobl a aethant o amgylch ac a'i casclasant, ac a'i malâsant mewn melinau, neu a'i curasant mewn morter, ac a'i berwasant mewn peiriau, ac a'i gwnaethant yn deissen­nau: a'i flâs ydoedd fel blâs olew îr.

9 A phan ddiscynnei y gwlith y nôs ar y gwerssyll, discynnei y Manna arno ef.

10 A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, bob vn yn nrŵs ei babell; ac enyn­nodd dig yr Arglwydd yn fawr, a drwg oedd gan Moses.

11 Dywedodd Moses hefyd wrth yr Ar­glwydd, pa ham y drygaist dy wâs? a pha ham na chawn ffafr yn dy olwg, gan it roddi baich yr holl bobl hyn arnaf?

12 Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a'i cenhedlais fel y dywedech wrthif, dwg hwynt yn dy fynwes (megis y dwg tad­maeth y plentyn sugno) i'r tîr a addewaist trwy lŵ i'n tadau?

13 O ba le y byddei gennifi gîg iw roddi i'r holl bobl hyn? canys ŵylo y maent wrthif gan ddywedyd, dod i ni gîg iw fwytta.

14 Ni allafi fy hunan arwain yr holl bobl hyn, canys rhy-drwm ydyw i mi.

15 Ac os felly y gwnei i mi, attolwg gan ladd lladd fi, os cefais ffafor yn dy olwg di; fel na welwyf fy nryg-fyd.

16 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, cascl i mi ddeng-wr a thrugain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y [Page] bobl, ac yn swyddogion amynt, a dŵg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyd â thi.

17 Canys descynnaf a llefaraf wrthit yno, ac mi a gymmeraf o'r yspryd sydd arnat ti, ac a'i gosodaf arnynt hwy, felly y dygant gyd â thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn vnic.

18 Am hynny dywed wrth y bobl, ym­sancteiddiwch erbyn y foru, a chewch fwytta cîg: canys wylasoch ynghlustiau'r Arglwydd, gan ddywedyd, pwy a ddyry i ni gîg iw fwyt­ta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aipht: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gîg, a chwi a fwyttewch;

19 Nid un dydd y bwyttewch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid dec diwrnod, ac nid vgain diwrnod.

20 Ond hyd fîs o ddyddiau, hyd oni ddel allan o'ch ffroenau, a'i fod yn ffieidd gennych: am i chwi ddirmygu yr Arglwydd yr hwn sydd yn eich plith ac ŵylo o honoch yn ei wydd ef, gan ddywedyd, pa ham y daethom allan o'r Aipht?

21 A dywedodd Moses, chwe chan mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn eu plith, a thi a ddywedi, rhoddaf gîg iddynt iw fwytta fis o ddyddiau.

22 Ai y defaid a'r gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai holl bysc y môr a gesclir ynghyd iddynt, fel y byddo di­gon iddynt?

23 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses,Esai. 50. Esai. 59.1. a gwttogwyd llaw yr Arglwydd? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fyngair it, ai na ddigwydd.

24 A Moses a aeth allan, ac a draethodd ei­riau yr Arglwydd wrth y bobl, ac a gasclodd y deng wr a thrugain o henuriaid y bobl, ac a'i gosododd hwynt o amgylch y babell.

25 Yna y descynnodd yr Arglwydd mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho, ac a gymmerodd o'r yspryt cedd arno, ac a'i rhoddes i'r dec henafgwyr a thrugain; a thra y gorphywysei y yspryd arnynt y prophwydent,Ac ni eheidient. a chwaneg ni wnaent.

26 A dau o'r gwŷr a drigasent yn y gwerssyll, (henw vn ydoedd Eldad, a henw y llall Medad:) a gorphywysodd yr yspryd arnynt hwy, am eu bod hwy o'r rhai a scrifennasid, ond nid aethant ir babell, etto prophwydasant yn y gwerssyll.

27 A rhedodd llngc a mynegodd i Moses, ac a ddywedodd, y mae Eldad a Medad yn pro­phwydo yn y gwerssyll.

28 A Josuah mab Nun gweinidog Moses o'i ieuenctyd, a atebodd ac a ddywedodd, Moses fy Arglwydd, gwahardd iddynt.

29 A dywedodd Moses wrtho, ai cynfigennu yr ydwyt ti trossofi? o na byddei holl bobl yr Arglwydd yn brophwydi, a rhoddi o'r Ar­glwydd ei yspryd arnynt.

30 A Moses a aeth ir gwerssyll, efe a henuri­aid Israel.

31 Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr Ar­glwydd, ac aExod. 16.13. Psal. 78.26. ddug sofl-ieir oddi wrth y môr, ac a'i canodd wrth y gwerssyll, megisHeb. ffordd. taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall, o amgylch y gwerssyll, a hynny yng­hylch dau gufydd ar wyneb y ddaiar.

32 Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a'r nôs ôll, a'r holl ddydd drannoeth, ac a gasclasant y sofl-ieir: yr hwn a glasclodd leiaf a gasclodd ddêc Omer: a chan danu y tanasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwerssyll,

33 A'r cig oedd etto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi, pan enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn y bobl,Psal. 78.31. a'r Arglwydd a darawodd y bobl â phlâ mawr iawn.

34 Ac efe a alwodd henw y lle hwnnwSef, Beddau y blys. Ci­broth-Hattaauah: am iddynt gladdu yno y bobl a flyssiasent.

35 O Feddau y blŷs yr aeth y bobl i Hase­roth: acHeb. yr oedd­ynt. arhosasant yn Haseroth.

PEN. XII.

1 Duw yn ceryddu cynnen Miriam ac Aaron. 10 Ac yn iachau gwahan-glwyf Miriam ar we­ddi Moses. 14 Duw yn gorchymmyn ei chau hi allan o'r gwersyll.

LLefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig oCus. Aethiop, yr hon aHeb. gymmera­sei. briodasei efe: canys efe a gymmerasei Aethio­pes yn wraig.

2 A dywedasant, ai yn vnic trwy Moses y llefarodd yr Arglwydd? oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd? a'r Arglwydd a glybu hynny.

3Ecclus. 45.4. A'r gŵr Moses ydoedd larieiddiaf o'r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaiar.

4 A dywedodd yr Arglwydd yn ddisymmwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac wrth Miriam, deuwch allan eich trioedd i babell y cyfarfod; a hwy a aethant allan ill trioedd.

5 Yna y descynnodd yr Arglwydd yngholofn y cwmmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell, ac a alwodd Aaron a Miriam: a hwy a aethant allan ill dau.

6 Ac efe a ddywedodd gwrandewch yr awr hon fyngeiriau; os bydd prophwyd yr Ar­glwydd yn eich mysc, mewn gweledigaeth yr ymhysbyssaf iddo, neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho.

7Heb. 3.2 Nid felly y mae fyngwas Moses yr hwn sydd ffyddlon yn fy holl dŷ.

8Exod. 33.11. Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho mewn gwelediad, nid mewn dammegion, onid caiff edrych a'r wedd yr Arglwydd: pa ham gan hynny nad oeddych yn ofni dywedyd yd yn erbyn fyngwâs, sef yn erbyn Moses?

9 A digofaint yr Arglwydd a ennynnodd yn eu herbyn hwynt, ac efe a aeth ymmaith.

10 A'r cwmmwl a ymadawodd oddi ar y babell; ac wele Miriam ydoedd wahan-glwyfus, fel yr eira: ac edrychodd Aaron ar Miriam, ac wele hi yn wahan-glwyfus.

11 Yna y dywedodd Aaron wrth Moses, oh fy Arglwydd, attolwg na osot yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom, a thrwy yr hwn y pechasom.

12 Na fydded hi attolwg fel vn marw, yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa pan ddel allan o groth ei fam.

13 A Moses a waeddodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, ô Dduw attolwg meddigini­aetha hi 'r awr hon.

14 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, os ei thad a boerei yn ei hwyneb, oni chwily­ddiei hi saith niwrnod?Levit. 13.46. caier arni saith nlwr­nod o'r tu allan i'r gwerssyll, ac wedi hynny derbynier hi.

15 A chaewyd ar Miriam o'r tû allan i'r gwer­ssyll saith niwrnod: a'r bobl ni chychwynnodd, hyd oni ddaeth Miriam i mewn drachefn.

16Numb. 33.18. Ac wedi hynny yr aeth y bobl o Hazeroth, ac a werssyllasant yn anialwch Paran.

PEN. XIII.

1 Henwau y gwŷr a ddanfonwyd i chwilio 'r wlad: 17 Eu haddysc: 21 Eu gweithredo­edd: 26 Eu newyddion.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Anfon it wŷr i edrych tîr Canaan, yr hwn yr ydwyfi yn ei roddi i feibion Israel: gŵr tros bob vn o lwythau eu tadau a anfon­wch: pob vn yn bennaeth yn eu mysc hwynt.

3 A Moses a'i hanfonodd hwynt o analwch Paran, wrth orchymmyn yr Arglwydd: pen­naethiaid meibion Israel oedd y gwŷr hynny oll.

4 Ac dymma eu henwau hwynt: tros lwyth Ruben Sammua mab Zaccur.

5 Tros lwyth Simeon, Saphat mab Hori.

6 Tros lwyth Juda, Caleb mab Jephunneh.

7 Tros lwyth Issachar, Igal mab Joseph.

8 Tros lwyth Ephraim, Osea mab Nun.

9 Tros lwyth Benjamin, Palti mâb Raphu.

10 Tros lwyth Zabulon, Gadiei mab Sodi.

11 O lwyth Joseph, tros lwyth Marasseh, Gadi mab Susi.

12 Tros lwyth Dan, Amiel mab Gemali.

13 Tros lwyth Aser, Sethur Mab Michael.

14 Tros lwyth Nephtali, Nahbi mab Vophsi.

15 Tros lwyth Gad, Geuel mab Machi.

16 Dymma henwau y gwŷr a anfonodd Moses i edrych anfodd y wlâd: a Moses a hen­wodd Osea fab Nun, Josuah.

17 A Moses a'i hanfonodd hwynt i elrych anfodd gwlad Canaan, ac a ddywedodd wrthynt, ewch ymma tua 'r dehau, a dring­wch i'r mynydd.

18 Ac edrychwch y wlad beth yw hi, a'r bobl sydd yn trigo ynddi, pa vn ai cryf, ai gwan, ai ychydig, ai llawer ydynt:

19 A pheth yw y tîr y maent yn trigo ynddo, ai da, ai drwg; ac ym mha ddina­soedd y maent yn presswylio, ai mewn pebyll, ai mewn amddiffynfeudd:

20 A pha dîr, ai brâs yw efe, ai cûl; a oes goed ynddo ai nad oes: ymwrolwch a dyg­wch o ffrwyth y tîr: a'r dyddiau oeddynt ddyddiau blaen-ffrwyth grawn-win.

21 A hwy a aethant i fynu ac a chwiliasant y tîr o anialwch Sin hyd Rehob, ffordd y deuir i Hamath.

22 Ac a aethant i fynu i'r dehau, ac a ddae­thant hyd Hebron: ac yno yr oedd Ahiman, Sesai, a Thalmai, meibion Anac: a Hebron a adailadasid saith mlynedd o flaen Zoan yn yr Aipht.

23 A daethant hydDeut. 1.24. afon. ddyffrynsef, grawn­swp. Escol, a thorrasant oddi yno gangen, ac vn swp o rawn­wîn, ac a'i dygasant ar drossol rhwng dau; dy­gasant rai o'r pomgranadau hefyd, ac o'r ffigys.

24 A'r lle hwnnw a alwasantafon. dyffryn Escol, o achos y swp grawn-win a dorrodd meibion Israel oddi yno.

25 A hwy a ddychwelasant o chwilio y wlâd yn ol deugain nhiwrnod.

26 A myned a wnaethant, a dyfod at Moses ac at Aaron, ac at holl gynnulleidfa meibion Israel i Cades yn anialwch Paran: a dygasant yn eu hol air iddynt, ac i'r holl gynnulleidfa, ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tîr.

27 A mynegasant iddo, a dywedasant, dae­thom i'r tîr lle 'r anfonaist ni:Exod. 33.3. ac yn ddiau llifeirio y mae o laeth a mêl: ac dymma ei ffrwyth ef.

28 Ond y mae y bobl sydd yn trigo yny tîr yn gryfion, a'r dinasoedd yn gaeroc, ac ynfaw­rion iawn; a gwelsom yno hefyd feibion Anac.

29 Yr Amaleciaid fydd yn trigo yn nhîr y dehau, a'r Hethiaid, a'r Jebusiaid, a'r Amoriaid, yn gwladychu yn y mynydd-dir: a'r Canaaneaid yn presswylio wrth y môr, a cher llaw yr Iorddonen.

30 A gostegodd Caleb y bobl ger bron Mo­ses, ac a ddywedodd, gan fyned awn i fynu, a pherchennogwn hi, canys gan orchfygu y gorchfygwn hi.

31 Ond y gwŷr y rhai a aethant i fynu gyd ag ef a ddywedasant, ni allwn ni fyned i fynu yn erbyn y bobl, canys cryfach ydynt nâ nyni.

32 A rhoddasant allan anglod am y tîr a chwiliasent wrth feibion Israel, gan ddywedyd, y tîr yr aethom trosto iw chwilio, tir yn difa ei bresswylwyr yw efe: a'r holl bobl a welsom ynddo, ydynt wyr corphol:

33 Ac yno y gwelsom y cawri meibion Anac, y rhai a ddaethant o'r cawri: ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau.

PEN. XIV.

1 Y bobl yn tuchan o ran y newyddion. 6 Josuah â Chaleb yn ceisio eu llonyddu hwynt: 11 Duw yn eu bygwth. 13 Moses yn ymbil a Duw, ac yn caffael iddynt hwy faddeuant. 29 Y tuchan­wyr heb gael myned i'r wlâd. 36 Y gwyr a roe­sant anglod i'r tir yn marw o'r blâ. 40 Y bobl a fynnei osod ar y wlâd yn erbyn ewyllys Duw, yn cael eu taro.

YNa yr holl gynnulleidfa a dderchafodd ei llef ac a waeddodd, a'r bobl a ŵylasant y nôs honno.

2 A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron; a'r holl gyn­nulleidfa a ddywedasant wrthynt, ô na buasem feirw yn nhir yr Aipht, neu ô na buasem feirw yn y diffaethwch hwn.

3 A pha ham y mae 'r Arglwydd yn ein dwyn ni i'r tir hwn, i gwympo ar y cleddyf? ein gwragedd a'n plant fyddant yn yspail: onid gwell i ni ddychwelyd i'r Aipht?

4 A dywedasant bawb wrth ei gilydd, goso­dwn ben arnom, a dychwelwn i'r Aipht.

5 Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau, ger bron holl gynnulleidfa tyrfa me­ibion Israel.

6Ecclus. 46.9. 1 Mac. 2.56. Josuah hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jephunneh, dau o yspiwyr y tîr, a rwygasant eu dillad,

7 Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibi­on Israel, gan ddywedyd, y tîr yr aethom trosto iw chwilio sydd dîr da odieth.

8 Os yr Arglwydd sydd fodlon i ni, efe a'n dwg ni i'r tîr hwn, ac a'i rhydd i ni, sef y tîr sydd yn llifeirio o laeth a mêl.

9 Yn vnic na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac nac ofnwch bobl y tîr, canys bara i ni ydynt: ciliodd euHeb. cysgod. hamddeffyn oddi wrthynt, a'r Arglwydd sydd gyd â ni; nac ofnwch hwynt.

10 A'r holl dorf a ddywedasant am eu lla­byddio hwynt â meini, a gogoniant yr Arg­lwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfar­fod i holl feibion Israel.

11 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, pa hŷd y digia y bobl ymma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwy­ddion a wneuthum yn eu plith?

12 Tarawaf hwynt â haint, a gwascaraf hwy, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach nâ hwynt hwy.

13 [...] A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, [Page] felly yr Aiphtiaid a glyw, (canys o'i mysc hwynt y dygaist y bobl ymma i fynu yn dy nerth:)

14 Ac a ddywedant i bresswylwyr y tîr hwn: (canys clwysant dy fod ti Arglwydd ym mysc y bobl ymma, a'th fod ti Arglwydd yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmmwl di yn aros arnynt,Exod. 13.21. a'th fod ti yn myned o'i blaen hwynt mewn colofn o gwm­mwl y dydd, ac mewn colofn dân y nôs.

15 Os lleddi y bobl ymma fel vn gŵr, yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn am danat, gan ddywedyd,

16 O eissieuDeut. 9.28. gallu o'r Arglwydd ddwyn y bobl ymma i'r tîr y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffaeth­wch.

17 Yr awr hon gan hynny, mawrhaer atto­lwg nerth yr Arglwydd, fel y lleferaist, gan ddywedyd,

18 Yr Arglwydd sydd Exod. 34.6. Ps. 103.8. hwyrfrydic i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddeu anwiredd, a chamwedd, a chan gyfiawnhau ni chyfiawnhâ efe yr euog, Deut. 5.9. Exod. 20.5. & 34.7. Jer. 22.18. ymweled y mae ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwa­redd genhedlaeth.

19 Maddeu attolwg, anwiredd y bobl ym­ma, yn ôl dy fawr drugaredd, ac megis y ma­ddeuaist i'r bobl hyn o'r Aipht hyd ymma.

20 A dywedodd yr Arglwydd, maddeuais yn ôl dy air.

21 Ond os byw fi, yr holl dîr a lenwir o ogoniant yr Arglwydd.

22 Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant a'm harwyddion a wneuthum yn yr Aipht, ac yn y diffaethwch, ac a'm temptia­sant y deng-waith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais,

23Heb. Os gwe­lant. Ni welant y tîr y tyngais wrth eu tadau hwynt, sef y rhai oll am digiasant, nis gwelant ef.

24 Ond fyngwasJosua. 14.6. Caleb, am fod yspryd arall gydag ef, ac iddo fynghyflawn ddilyn, dygaf ef i'r tîr y daeth iddo, a'i hâd a'i hetife­dda ef.

25 (Ond y mae yr Amaleciaid a'r Cana­aneaid yn trigo yn y dyffryn:) y foru trowch, ac ewch i'r diffaethwch, ar hyd ffordd y môr côch.

26 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

27Psal. 106.26. Pa hŷd y cyd-ddygaf â'r gynnulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i'm herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i'm herbyn.

28 Dywed wrthynt,Num. 26.65. Num. 32.10. Deut. 1.35. fel mai byw fi medd yr Arglwydd, fel y llefarasoch yn fynghlustiau, felly y gwnaf i chwi.

29 Yn y diffaethwch hwn y cwymp eich celaneddau, a'ch holl rifedigion drwy eich holl rif, o fab vgain-mlwydd ac vchod, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn,

30 Diau ni ddeuwch chwi i'r tîr, am yr hwn y codais fy llaw, am wneuthur i chwi breswylio ynddo, ond Caleb mab Jephunneh, a Josuah mab Nun.

31 OndDeut. 1.35. eich plant chwi, y rhai y dywe­dasoch y byddent yn yspail, hwynt hwy a ddy­gaf i'r wlâd, a hwy a gânt adnabod y tîr a ddirmygasoch chwi.

32 A'ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffaethwch hwn.

33 A'ch plant chwi aGrwy­ [...]. fugeilia yn y di­ffaethwch ddeugain mhlynedd, ac a ddygant gosp eich putteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffaethwch.

34 Yn ôl rhifedi y dyddiau y chwiliasoch y tîr, sef Ezec. 4.6. Psal. 95.10. deugain niwrnod, pob diwrnod am flwyddyn, y dygwch eich anwireddau, sef deugain mlhynedd: a chewch wybodNeu, newidiad fy amcan. torriad fyngair i.

35 Myfi yr Arglwydd a lefarais, diau y gwnaf hyn i'r holl gynnulleidfa ddrygionus ymma, sydd wedi ymgynnull i'm herbyn i: yn y diffaethwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw.

36 A'r dynion a anfonodd Moses i chwilio y tîr, y rhai a ddychwelasant, ac a wnaethant i'r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, gan roddi allan anair am y tîr;

37 Y dynlon meddaf y rhai a roddasant allan anair drwg i'r tîr, aHebr. 3.10. 1 Cor. 10.10. Jud. 5. fuant feirw o'r plâ, ger bron yr Arglwydd.

38 Ond Josuah mab Nun, a Chaleb mab Jephunneh, a fuant fyw o'r gwŷr hyn a aeth­ant i chwilio y tîr.

39 A Moses a lefarodd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel: a'r bobl a alarodd yn ddirfawr.

40 ADeut. 1.41. chodasant yn foreu i fyned i ben y mynydd, gan ddywedyd, wele ni, ac ni a awn i fynu i'r lle am yr hwn y dywedodd yr Arg­lwydd: canys ni a bechasom.

41 A dywedodd Moses, pa ham yr ydych fel hyn yn trosseddu gair yr Arglwydd? a hyn ni lwydda.

42 Nac ewch i fynu: canys nid yw yr Ar­glwydd yn eich plith: rhac eich taro o flaen eich gelynion.

43 Canys yr Amaleciaid a'r Canaaneaid ydynt yno o'ch blaen chwi, a chwi a syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ôl yr Arglwydd, ni bydd yr Arglwydd gyd â chwi.

44 Etto rhyfygasant fyned i ben y mynydd: ond Arch cyfammod yr Arglwydd a Moses ni symmudasant o ganol y gwerssyll.

45 Yna y descynnodd yr Amaleciaid a'r Canaaneaid, y rhai oedd yn presswylio yn y mynydd hwnnw, ac a'i tarawsant,Deut. 1.44. ac a'i di­fethasant hyd Hormah.

PEN. XV.

1 Cyfraith y bwyd offrwm a'r ddiod offrwm. 13, 29 Bod y dieithr ddyn tan yr vn gy­fraith. 17 Cyfraith blaenion toes yn offrwm derchafel. 22 Yr aberth am bechod o anwy­bod. 30 Cospedigaeth rhyfyg. 32 Llabyddio 'r hwn a dorrodd y Sabboth. 37 Cyfraith y ridens.

A'R Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrth­ynt:Levit. 23.10. pan ddeloch i dîr eich presswylfod, yr hwn yr ydwyfi yn ei roddi i chwi,

3 Ac offrymmu o honoch aberth tanllyd i'r Arglwydd, offrwm poeth, neuLevit. 22.21. aberth wrthHeb. neillduo dalu adduned, neu mewn offrwm gwirfodd, neu ar eich gwyliau gosodedic, gan wneuthurExod. 29.18. arogl peraidd i'r Arglwydd o'r eidionnau, neu o'r praidd:

4 YnaLevit. 2.1. offrymmed yr hwn a offrymmo ei rodd i'r Arglwydd o beillied ddecfed ran, wedi ei gymmyscu trwy bedwaredd ran Hin o olew, yn fwyd offrwm.

5 Ac offrwm di gyd â'r offrwm poeth, neu 'r aberth, bedwaredd ran Hin o wîn, am bob oen, yn ddiod offrwm.

6 A thi a offrymmi yn fwyd offrwm gyd â hwrdd, o beillied ddwy ddecfed ran, wedi ei gymmyscu trwy drydedd ran Hin o olew.

7 A thrydedd ran Hin o win yn ddiod offrwm, a offrymmi yn arogl peraidd i'r Arglwydd.

8 A phan ddarperych lô buwch yn offrwm poeth, neu yn aberth yn talu adduned, neu a­berth hedd i'r Arglwydd:

9 Yna offrymmed vn swyd offrwm gyd â llo y fuwch, o beillied dair decfed ran wedi ei gymmyscu trwy hanner Hin o olew.

10 Ac offrwm hanner Hin o wîn yn ddiod offrwm, yn aberth tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd.

11 Felly y gwneir am bob ŷch, neu am bob hwrdd, neu am oen, neu am fynn.

12 Yn ol y rhifedi a ddarparoch, felly y gwnewch i bob un yn ol eu rhifedi.

13 Pob priodor a wna y pethau hyn felly, wrth offrymmu aberth tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd.

14 A phan ymdeithio dieithr-ddyn neu yr hwn sydd yn eich plith, drwy eich cenhedlae­thau, a darparu aberth tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd: fel y gwneloch chwi, felly gwnaed yntef.

15 YrExod. 12.49. Pen. 9.14. vn ddeddf fydd i chwi o'r dyrfa, ac i'r ymdaithydd dieithr: deddf dragywyddol yw drwy eich cenhedlaethau: megis yr ydych chwi, felly y bydd y dieithr ger bron yr Arg­lwydd.

16 Vn gyfraith, ac vn ddefod fydd i chwi ac i'r ymdeithydd a ymdeithio gyd â chwi.

17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

18 Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrthynt, pan ddeloch i'r tîr yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddo:

19 Yna pan fwytaoch o fara y tîr, y derche­fwch offrwm derchafel i'r Arglwydd.

20 O flaenion eich toes yr offrymmwch deissen yn offrwm derchafel: fel offrwm der­chafel y llawr dyrnu, felly y derchefwch hitheu.

21 O ddechreu eich toes yLevit. 23.14. rhoddwch i'r Arglwydd offrwm derchafel drwy eich cenhed­laethau.

22 A phan elochLevit. 4.2. tros y ffordd, ac na wneloch yr holl orchymynion hyn, y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses,

23 Sef yr hyn oll a orchymynnodd yr Arg­lwydd i chwi trwy law Moses, o'r dyddy gor­chymynnodd yr Arglwydd, ac o hynny allan, trwy eich cenhedlaethau:

24 Yna bydded,I vit. 4.13. os allan o olwg y gyn­nulleidfa y gwnaed dim trwy anwybod, i'r holl gynnulleidfa ddarparu vn bustach ieuangc yn offrwm poeth, i fod yn arogl peraidd i'r Arglwydd, a'i fwyd offrwm, a'i ddiod offrwm, wrth y ddefod, ac vn bwch geifr yn bech aberth.

25 A gwnaed yr offeiriad gymmod tros holl gynnulleidfa meibion Israel, a maddeuir iddynt, canys anwybodaeth yw: a dygant eu hoffrwm, aberth tanllyd i'r Arglwydd, a'i pech aberth, ger bron yr Arglwydd, am eu hanwybo­daeth.

26 A maddeuir i holl gynnulleidfa meibion Israel, ac i'r dieithr a ymdeithio yn eu mysc: canys digwyddodd i'r holl bobl trwy anwy­bod.

27 OndLevit. 4.27. os vn dyn a becha trwy amry­fusedd, yna offrymmed afr flwydd yn offrwm dros bechod.

28 A gwnaed yr offeiriad gymmod tro [...] [...] dyn a becho yn amryfus, pan becho trwy am­ryfusedd ger bron yr Arglwydd, gan wneuthur cymmod trosto, a maddeuir iddo.

29 Yr hwn a aned o feibion Israel, a'r diei­thr a ymdeithio yn eu mysc, vn gyfraith fydd i chwi am wneuthur pechod trwy amryfusedd.

30 Ond y dyn a wnel bechodHeb. a llaw vchel. mewn rhyfyg, o briodor, neu o ddieithr, cablu 'r Ar­glwydd y mae; torrer ymmaith y dyn hwnnw o fysc ei bobl.

31 O herwydd iddo ddiystyru gair yr Ar­glwydd a thorri ei orchymyn ef, llwyr dorrer ymmaith y dyn hwnnw; ei anwiredd fydd arno.

32 Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffaethwch, cawsant ŵr yn cynnytta ar y dydd Sabboth.

33 A'r rhai a'i cawsant ef, a'i dygasant ef, sef y cynnyttwr, at Moses, ac at Aaron, ac at yr holl gynnulleidfa.

34 Ac a'i dodasant ef mewnLevit. 24.12. dal-fa, am nad oedd hysbys beth a wneid iddo.

35 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, lladder y gŵr yn farw, llabyddied yr holl gyn­nulleidfa et â meini, or tu allan i'r gwerssyll.

36 A'r holl gynnulleidfa a'i dygasant ef i'r tu allan i'r gwerssyll, ac a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw, megis y gorchymyn­nodd yr Arglwydd wrth Moses.

37 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

38 Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrthynt,Deut. 22.12. Mat. 23.5. am wneuthur iddyntridens. eddi ar odre eu dillad, drwy eu cenhedlaethau, a rhoddant bleth o sidan glâs ar eddi y godre.

39 A bydded i chwi yn ridens i edrych arno, ac i gofio holl orchymynion yr Arglwydd, ac iw gwneuthur hwynt: ac na chwiliwch yn ôl eich calonnau eich hunain, nac yn ôl eich lly­gaid eich hunain, y rhai yr ydych yn putteinio ar eu hôl:

40 Fel y cofioch ac y gwneloch fy holl orch­mynion i, ac y byddoch sanctaidd i'ch Duw.

41 Myfi ydyw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a'ch dygais chwi allan o dîr yr Aipht, i fod i chwi yn Dduw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

PEN. XVI.

1 Gwrth-ryfel Corah, Dathan, ac Abiram. 23 Moses yn gwahami 'r bobl oddiwrth bebyll y gwrth-ryfelwyr. 31 Y ddaiar yn llyngeu Corah, a thân yn difa y lleill. 36 Cadw y thusserau er mwyn defnydd sanctaidd. 41 Lladd pedair mîl ac ddec am rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron. 46 Aaron drwy arogl-darthu yn attal y blâ.

YNaNum. 27.3. Eccl. 45 18. Jud. 11. Corah mab Izhar, mab Cohath, mab Lefi, a Dathan ac Abiram meibion Eliab, ac On mab Peleth, meibion Ruben, a gymmera­sant wyr.

2 A hwy a godasant o flaen Moses, ynghŷd a dan cant a dec a deugain o wŷr eraill o feibi­on Israel, pennaethiaid y gynnulleidfa,Num. 26.9. pende­figion y gymmanfa, gwŷr enwoc.

3 Ac ymgasclasant yn erbyn Moses ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt: gormod i chwi hyn, canys y mae 'r holl gynnulleidfa yn sanctaidd bob vn o honynt, ac y mae 'r Arglwydd yn eu mysc: pa ham yr ymgodwch goruwch cynnulleidfa yr Arglwydd?

A phan glybu Moses, efe a syrthiodd ar ei [...]yneb.

5 Ac efe a lefarodd wrth Corah, ac wrth ei holl gynnulleidfa ef, gan ddywedyd, y boreu y dengys yr Arglwydd yr hwn sydd eiddo ef, a'r sanctaidd, a phwy a ddylei nessau atto ef: canys yr hwn a ddewisodd efe a nessâ efe atto.

6 Hyn a wnewch, cymmerwch i chwi sef Corah a'i holl gynnulleidfa, thusserau.

7 A rhoddwch ynddynt dân, a gosodwch ar­nynt arogl-darth y foru ger bron yr Arglwydd: yna bydd i'r gŵr hwnnw fod yn sanctaidd yr hwn a ddewiso 'r Arglwydd: gormod i chwi hyn meibion Lefi.

8 A dywedodd Moses wrth Corah, gwran­dewch attolwg meibion Lefi.

9 Ai bychan gennych nailltuo o Dduw Israel chwi oddi wrth gynnulleidfa Israel, gan eich nessau chwi atto ei hun, i wasanaethu gwasa­naeth tabernacl yr Arglwydd, ac i sefyll ger bron y gynnulleidfa iw gwasanaethu hwynt?

10 Canys efe a'th nessaodd di, a'th holl fro­dyr meibion Lefi gyd â thi: ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd?

11 Am hynny dydi, a'th holl gynnulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd: ond Aaron beth yw efe i chwi i duchan yn ei erbyn?

12 A Moses a anfonodd i alw am Dathan ac Abiram meibion Eliab: hwythau a ddyweda­sant, ni ddeuwn ni ddim i fynu.

13 Ai bychan yw dwyn o honot ti ni i fynu o dîr yn llifeirio o laeth, a mêl, i'n lladd ni yn y diffaethwch; oddieithr hefyd Arglwyddiaethu o honot yn dost arnom ni?

14 Etto ni ddygaist ni i dîr yn llifeirio o laeth a mêl, ac ni roddaist i ni feddiant mewn maes, na gwin-llan: aHeb. dylli. dynni di lygaid y gwŷr hyn? ni ddeuwn ni i fynu ddim.

15 Yna y digiodd Moses yn ddirfawr, ac y dywedodd wrth yr Arglwydd,Gen. 4.4. nac edrych ar eu hoffrwm hwy: ni chymmerais vn assyn oddi arnynt, ac ni ddrygais vn o honynt.

16 A dywedodd Moses wrth Corah, bydd di a'th holl gynnulleidfa ger bron yr Arglwydd; ti a hwynt, ac Aaron y foru.

17 A chymmerwch bob un ei thusser, a rhoddwch arnynt arogl-darth, a dyged pob vn ei thusser ger bron yr Arglwydd, sef dau cant a dec a deugain o thusserau: dwg ditheu hefyd ac Aaron, bob vn ei thusser.

18 A chymmerasant bob un ei thusser, a rho­ddasant dân ynddynt, a gosodasant arogl-darth arnynt, a safasant wrth ddrws pabell y cyfar­fod ynghŷd â Moses ac Aaron.

19 Yna Corah a gasclodd yr holl gynnulleid­fa yn eu herbyn hwynt, i ddrws pabell y cy­farfod: a gogoniant yr Arglwydd a ymddan­gosodd i'r holl gynnulleidfa.

20 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

21 Ymnailltuwch o fysc y gynnulleidfa hon a mi a'i difaf hwynt ar vnwaith.

22 A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, o Dduw, Duw ysprydion pob cnawd, vn dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynnulleidfa?

23 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

24 Llefara wrth y gynnulleidfa gan ddywe­dyd, ewch ymaith o gylch pabell Corah, Da­than, ac Abiram.

25 A chyfododd Moses, ac a aeth at Da­than, ac Abiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef.

26 Ac efe a lefarodd wrth y gynnulleidfa, gan ddywedyd, ciliwch attolwg oddi wrth be­byll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrdd­wch â dim o'r eiddynt, rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt.

27 Yna yr aethant oddi wrth babell Corah, Dathan, ac Abiram o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a'i meibion, a'i plant a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll.

28 A dywedodd Moses, wrth hyn y cewch wybod mai 'r Arglwydd a'm hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn, ac nad o'm meddwl fy hun y gwneuthum hwynt.

29 Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dŷn, ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pôb dŷn, nid yr Arglwydd a'm hanfonodd i.

30 Ond os yr Arglwydd aHeb. grea gre­adur. wna newydd­beth, fel yr agoro y ddaiar ei safn, a'i llyngcu hwynt a'r hyn oll sydd eiddynt, fel y descynnont yn fyw i vffern; yna y cewch wybod ddigio o'r gwŷr hyn yr Arglwydd.

31Deut. 11.6. Psal. 106.17. Pen. 27.3. A bu wrth orphen o honaw lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o'r ddaiar oedd tanynt hwy.

32 Agorodd y ddaiar hefyd ei safn, a llyn­gcodd hwynt, a'i tai hefyd, a'r holl ddynion oedd gan Corah, a'i holl gyfoeth.

33 A hwynt, a'r rhai oll a'r a oedd gyd â hwynt, a ddescynnasant yn fyw i vffern: a'r ddaiar a gaeodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynnulleidfa.

34 A holl Israel y rhai oedd o'i amgylch hwynt, a ffoesant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, ciliwn rhag i'r ddaiar ein llyngcu ninnau.

35 Tân hefyd aeth allan oddi wrth yr Arg­lwydd, ac a ddifaodd y dau cant, a'r dec a deu­gain o wŷr oedd yn offrymmu yr Arogl-darth.

36 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

37 Dywed wrth Eleazar fâb Aaron yr offei­riad, am godi o honaw efe y thusserau o fysc y llosc, a gwascara y tân oddi yno allan, canys sanctaidd ydynt.

38 Sef thusserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun: a gweithier hwynt yn ddalennau llydain i fod yn gaead i'r allor: canys offrymmasant hwynt ger bron yr Ar­glwydd, am hynny sanctaidd ydynt, a byddant yn arwydd i feibion Israel.

39 A chymmerodd Eleazar yr offeiriad y thusserau prês, â'r rhai yr offrymmasci y gwŷr a loscasid, ac estynnwyd hwynt yn gaead i'r allor:

40 Yn goffadwriaeth i feibion Israel, fel na nessao gwr dieithr (yr hwn ni byddo o hâd Aaron) i losci arogl-darth ger bron yr Argl­wydd, ac na byddo fel Corah, a'i gynnulleidfa, megis y llefarasci yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.

41 A holl gynnulleidfa meibion Israel a du­chanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn er­byn Aaron, gan ddywedyd, chwi a laddasoch bobl yr Arglwydd.

42 A bu wedi ymgasclu o'r gynnulleidfa yn erbyn Moses, ac Aaron, edrych o honynt ar ba­bell y cyfarfod, ac wele toasei y cwmmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd.

43 Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pa­bell y cyfarfod.

44 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

45 Ciliwch o blith y gynnulleidfa hon, a mi a'i difaf hwynt yn ddisymmwth: a hwy a syr­thiasant ar eu hwynebau.

46 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, cymmer thusser a dod dân oddi ar yr allor yn­ddi, a gosot arogl-darth arni, a dos yn fum at y gynnulleidfa, a gwna gymmod trostynt: ca­nys digofaint aeth allan oddi ger bron yr Ar­glwydd; dechreuodd y blâ.

47 A chymmerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynnulleidfa, ac wele dechreuasei y blâ ar y bobl: ac efe a rodd arogl-darth, ac a wnaeth gymmod tros y bobl.

48 Ac efe a safodd rhwng y meirw a'r byw, a'r blâ a attaliwyd.

49 A'r rhai a fuant feirw o'r blâ oedd be­dair mil ar ddec, a saith gant, heb law y rhai a fuant feirw yn achos Corah.

50 A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a'r blâ a attaliwyd.

PEN. XVII.

1 Gwialen Aaron ymhlith holl wielyn y llw [...]hau, yn vnic yn blodeuo. 10 Ei gadel hi yn lle coff­adwriaeth yn erbyn y gwrthryfelwyr.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a chymmer gan bob vn o honynt wialen, yn ol tŷ eu tadau, sef gan bob vn o'i pennaethiaid, yn ôl tŷ eu tadau, deuddec gwialen: scrifenna henw pob vn ar ei wialen.

3 Ac scrifenna henw Aaron ar wialen Lefi: canys vn wialen fydd dros bob pennaeth tŷ eu tadau.

4 A gâd hwynt ym mhabell y cyfarfod, ger bron y destiolaethExod. 25.22. lle y cyfarfyddaf â chwi.

5 A gwialen y gŵr a ddewiswyf, a flodeua: ac mi a wnaf i furmur meibion Israel, y rhai y maent yn ei furmur i'ch erbyn, beidio â mi.

6 A llefarodd Moses wrth feibion Israel, a'i holl bennaethiaid a roddasant attoHebr wialen [...]ros vn [...]ennaeth, a gwialen [...]ros vn [...]ennaeth. wialen tros bôb pennaeth, yn ol tŷ eu tadau, sef deuddec gwialen: a gwialen Aaron oedd ymmysg eu gwiail hwynt.

7 A Moses a adawodd y gwiail ger bron yr Arglwydd, ym mhabell y destiolaeth.

8 A thrannoeth y daeth Moses i babell y dystiolaeth; ac wele, gwialen Aaron tros dŷ Le­fi a flagurasei, ac a fwriasei flagur, ac a flodeua­sei flodeu, ac a ddygasei almonau.

9 A dug Moses allan yr holl wiail oddi ger bron yr Arglwydd, at holl feibion Israel: hwy­thau a edrychasant, ac a gymmerasant bôb vn ei wialen ei hun.

10 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses,Hebr. 9.4. dod wialen Aaron drachefn ger bron y desti­olaeth, iw chadw yn arwydd i'r meibion gwrth­ryfelgar; fel y gwnelech iw tuchan hwynt bei­dio â mi, ac na byddont feirw.

11 A gwnaeth Moses, fel y gorchymynnodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.

12 A meibion Israel a lefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, wele ni yn trengi; darfu am danom; darfu am danom ni oll.

13 Bydd farw pôb vn gan nessau a nessao i dabernael yr Arglwydd: a wneir pen am da­nom gan drengi?

PEN. XVIII.

1 Swydd yr offeiriaid a'r Lefiaid. 9 Rhan yr offeiriaid. 21 Rhan y Lefiaid. 25 Rhoddi 'r offrwm derchafel i'r offeiriaid allan o ran y Le­fiaid.

A Dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, tydi a'th feibion a thŷlwyth dy dâd gyd â thi, a ddygwch anwiredd y cyssegr: a thi a'th feibi­on gyd â thi, a ddygwch anwiredd eich offeiri­adaeth.

2 A dwg hefyd gyd â thi dy frodyr o lwyth Lefi, sef llwyth dy dâd, i lynu wrthit ti, ac i'th wasanaethu: tithe a'th feibion gyd â thi a wasa­naethwch ger bron pabell y dystiolaeth.

3 A hwy a gadwant dy gadwriaeth di, a chadwriaeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cyssegr, nac at yr allor, rhac eu marw hwynt a chwithau hefyd.

4 Ond hwy a lynant wrthit, ac a orchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued dieithr yn agos attoch.

5 Eithr cedwch chwi orchwyliaeth y cyssegr, a gorchwyliaeth yr allor, fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel.

6 Ac wele, mi aPen. 3.45. gymmerais dy frodyr di y Lefiaid o fysc meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt megis rhodd i'r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.

7 Titheu a'th feibion gyd â thi a gedwch eich offeiriadaeth, ynghylch pob peth a berthyn i'r allor, ac o fewn y llen-wahan y gwasanae­thwch: yn wasanaeth rhodd y roddais eich offeiriadaeth chwi; a'r dieithr a ddelo yn agos a leddir.

8 A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, wele mi a roddais i ti hefyd orchwyliaeth fy offrym­mau derchafel, o holl gyssegredig bethau meibi­on Israel: rhoddais hwynt i ti, o herwydd yr eneiniad, ac i'th feibion, drwy ddedf dragywy­ddol.

9 Hyn fydd i ti o'r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o'r tân: eu holl offrymmau hwynt, eu holl fwyd offrwm, a'i holl aberthau tros bechod, a'i holl aberthau tros gamwedd y rhai a dalant i mi, fyddant sancteiddiolaf i ti, ac i'th feibion.

10 O fewn y cyssegr sanctaidd y bwyttei ef; pôb gwryw a'i bwytty ef: cyssegredic fydd efe i ti.

11 Hyn hefyd fydd i ti; offrwm derchafel eu rhoddion hwynt, ynghŷd â holl offrwmmau cwhwfan meibion Israel; i ti y rhoddais hwynt, ac i'th feibion, acLevit. 10.14. i'th ferched gyd â thi, trwy ddeddf dragywyddol: pob vn glân yn dy dŷ a gaiff fwytta o hono.

12 HollHebr. brasder. oreuon yr olew, a holl oreuon y gwîn a'r ŷd, sef eu blaen-ffrwyth hwynt, yr hwn a roddant i'r Arglwydd, a roddais i ti.

13 Blaen-ffrwyth pôb dim yn eu tir hwynt, yr hwn a ddygant i'r Arglwydd, fydd eiddo ti: pôb vn glân yn dy dŷ a fwytty o hono.

14Levit. 27.21, 28. Pob diofryd-beth yn Israel fydd eiddo ti.

15Exod. 13.2. & 22.29. Levit. 27.26. Pen. 3.13. Luc. 2.13. Pôb peth a egoro y groth o bôb cnawd yr hwn a offrymmir i'r Arglwydd, o ddyn ac o anifail, fydd eiddo ti; ond gan brynu y pryni bôb cyntaf-anedic i ddyn, a phryn y cyntafane­dic i'r anifail aflan.

16 A Phâr brynu y rhai a bryner o honynt, o fab misyriad yn dy bris di, er pump sicl o arian, wrth sicl y cyssegr:Exod. 30.13. Levit. 27.25. Pen. 3.47. Ezec. 45.12. vgain Gerah yw hynny.

17 Ond na phryn y cyntafanedic o eidion, neu gyntafanedic dafad, neu gyntafanedic gafr; sanctaidd ydynt hwy: eu gwaed a daenelli ar yr allor, a'i gwêr a losci yn aberth tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd.

18 Ond eu cig fydd eiddo ti; fel parwyden y cwhwfan, acExod. 29.26. Levit. 7.32. fel yr ysgwyddoc ddehau y mae yn eiddo ti.

19 Holl offrymmau derchasel y pethau sanct­aidd, y rhai a offrymmo meibion Israel i'r Ar­glwydd, a roddais i ti, ac i'th feibion, ac i'th ferched gyd â thi, trwy ddeddf dragywyddol: cyfammod halen dragywyddol fydd hyn ger bron yr Arglwydd i ti, ac i'th hâd gyd â thi.

20 A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tîr hwynt, ac na fydded it ran yn eu mysc hwynt:Deut. 10.9. & 18.2. Josu. 13.14. Ezec. 44.28. myfi yw dy ran di a'th etifeddiaeth, ym mysc meibi­on Israel.

21 Ac wele mi a roddais i feibion Lefi bôb degwm yn Israel yn etifeddiaeth, am eu gwasa­naeth y maent yn ei wasanaethu, sef gwasanaeth pabell y cyfarfod.

22 Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod, rhag iddynt ddwyn pechodHebr. i farw. a marw.

23 Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragywyddol fydd hyn drwy eich cenhedlae­thau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ym mysc meibion Israel.

24 Canys degwm meibion Israel, yr hwn a offrymmant yn offrwm derchafel i'r Ar­glwydd, a roddais i'r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny dywedais wrthynt nad etifeddent etifeddiaeth ym mysc meibion Israel.

25 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

26 Llefara hefyd wrth y Lefiaid a dywed wrthynt, pan gymmeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt, yna offrymmwch o hynny offrwm derchafel i'r Arglwydd, sef degwm o'r de­gwm.

27 A chyfrifir i chwi eich offrwm derchafel fel yr ŷd o'r yscubor, ac fel cyflawnder o'r gwînwrŷf.

28 Felly yr offrymmwch chwithau hefyd offrwm derchafel i'r Arglwydd, o'ch holl dde­gymmau a gymmeroch gan feibion Israel, a rho­ddwch o hynny dderchafel offrwm yr Ar­glwydd i Aaron yr offeiriad.

29 O'ch holl roddion offrymmwch bôb offrwm derchafel yr Arglwydd o bobHebr. brasder. goreu o hono, sef y rhan gyssegredig allan o honaw ef.

30 A dywed wrthynt, pan dderchafoch ei oreuon allan o honaw, cyfrifir i'r Lefiaid fel toreth yr yscubor, a thoreth y gwînwrŷf,

31 A bwyttewch ef ym mhob lle, chwi a'ch tylwyth: canys gwobr yw efe i chwi am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

32 Ac ni ddygwch bechod o'i herwydd, gwedi y derchafoch ei oreuon o honaw: na ha­logwch chwithau bethau sanctaidd meibion Is­rael, fel na byddoch feirw.

PEN. XIX.

1 Y dwfr nailltuaeth a wneid o ludw anner gach, 11 Y gyfraith pa fodd yr arferid ef wrth buro 'r aflan.

LLefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddy wedyd,

2 Dymma ddeddf y gyfraith a orchymyn­nodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, llefara wrth feibion Israel am ddwyn o honynt attat anner goch berffaith-gwol, yr hon ni byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni.

3 A rhoddwch hi at Eleazar yr offeiriad, a phared efe ei dwyn hi o'rHebr. 13.11. tu allan i'r gwerssyll, a lladded vn hi ger ei fron ef.

4 A chymmered Eleazar yr offeiriad beth o'i gwaed hiHebr. 9.13. ar ei fŷs, a thaenelled o'i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith.

5 A llosced vn yr anner yn ei olwg ef; ei chroen,Exod. 29 14. Levit. 4.11. a'i chîg, a'i gwaed, ynghyd â'i biswel, a lysc efe.

6 A chymmered yr offeiriad goed Cedr, ac Yssop, ac yscarlat; a bwried i ganol lloscfa yr anner.

7 A golched yr offeiriad ei wiscoedd, troch­ed hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i'r gwerssyll, ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr.

8 Felly golched yr hwn a'i llosco hi ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac aflau fydd hyd yr hwyr.

9 A chascled vn glân ludw 'r anner, a go­soded o'r tu allan i'r gwerssyll mewn lle glân: a bydded ynghadw i gynnulleidfa meibion Isra­el ynNum. 8.7. Num. 5.17. ddwfr nailltuaeth: pech-aberth yw.

10 A golched yr hwn a gasclo ludw yr anner ei ddillad, aflan fydd hyd yr hwyr; a bydd hyn i feibion Israel, ac i'r dieithr a ym­deithio yn eu mysc hwynt, yn ddeddf dragy­wyddol.

11 A gyffyrddo â chorph marw dŷn, aflan fydd saith niwrnod.

12 Ymlanhaed trwy y dwfr hwnnw y try­dydd dydd, a'r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanhâ efe, yna ni bydd efe lân y saithfed dydd.

13 Pôb vn a gyffyrddo â chorph marw dŷn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhâo, sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd: a thorrir ym­maith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel, am na thaenellwyd dwfr nailltuaeth arno, aflan fydd efe, ei aflendid sydd etto arno.

14 Dymma y gyfraith pan fyddo marw dyn mewn pabell; pob vn a ddelo i'r babell, a phôb vn a fyddo yn y babell, sydd aflan saith niwr­nod.

15 A phôb llestr agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno, aflan yw efe.

16 Pôb vn hefyd a gyffyrddo, ar wyneb y maes, ag vn wedi ei ladd â chleddyf, neu ag vn marw, neu ag ascwrn dŷn, neu â bedd, a fydd aflan saith niwrnod.

17 Cymmerant tros yr aflan oHebr. lwch. ludw llosc yr offrwm tros bechod, a rhodder atto ddwfrHebr. byw. rhedegoc mewn llestr:

18 A chymmered Yssop, a golched vn diha­logedic ef mewn dwfr, a thaenelled ar y babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr holl ddynion oedd yno, ac ar yr hwn a gyffyrddodd ag ascwrn, neu vn wedi ei ladd, neu vn wedi marw, neu fedd.

19 A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd, a'r seithfed dydd: ac ymlanhaed efe y seithfed dydd: a golched ei ddillad, ymolched mewn dwfr, a glân fydd yn yr hwyr.

20 Ond y gŵr a haloger, ac nid vmlanhâo, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o fysc y gyn­nulleidfa: canys efe a halogodd gyssegr yr Ar­glwydd, ni thaenellwyd arno ddwfr y nailltu­aeth, aflan yw efe.

21 A bydd iddynt yn ddeddf dragywyddol, [Page] bod i'r hwn a daenello ddwfr y nailltuaeth, olchi ei ddillad: a'r hwn a gyffyrddo â dwfr y nailltu­aeth a fydd aflan hyd yr hwyr.

22 A'r hyn oll a gyffyrddo 'r aflan ag ef, fydd aflan: a'r dyn a gyffyrddo â hynny fydd aflan hyd yr hwyr.

PEN. XX.

1 Plant Israel yn dyfod i Zin lle y bu farw Miri­am. 2 Hwynt hwy yn tuchan o eisieu dufr. 7 Moses yn taro y graig ac yn dwyn allan ddwfr ym Meribah. 12 Cospedigaeth Moses ac Aaron am eu petrussedd. 14 Moses yn Cades yn dei­syfu ffordd i dramwy trwy Edom, ac yn cael eu naccau. 22 Aaron yn rhoddi i fynu ei lê i Ele­azar ac yn marw.

A Meibion Israel sef yr holl gynnulleidfa a ddaethant iNum. 33.36. anialwch Zin yn y mîs cyntaf; ac arhôdd y bobl yn Cades, yno hefyd y bu farw Miriam, ac yno y claddwyd hi.

2 Ac nid oedd dwfr i'r gynnulleidfa: a hwy a ymgasclasant yn erbyn Moses ac Aaron.

3 Ac ymgynhennodd y bobl â Moses, a lle­farasant gan ddywedyd, ô o na buasem feirwNum. 11.23. pan fu feirw ein brodyr, ger bron yr Arglwydd.

4Exod. 17.2. Pa ham y dygasoch gynnulleidfa'r Ar­glwydd i'r anialwch hwn, i farw o honom ni a'n hanifeiliaid ynddo?

5 A Pha ham y dygasoch ni i fynu o'r Aipht, i'n dwyn ni i'r lle drwg ymma? lle heb hâd na ffigys-bren, na gwinwydden, na phomgranad-bren, ac heb ddwfr iw yfed.

6 A daeth Moses ac Aaron oddi ger bron y gynnulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod, ac a fyr­thiasant ar eu hwynebau; a gogoniant yr Ar­glwydd a ymddangosodd iddynt.

7 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

8 CymmerExod. 17.6. y wialen, a chascl y gynnulleid­fa, ti ac Aaron dy frawd, ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithe iddynt ddwfr o'r graig, a dioda y gynnulleidfa a'i hanifeiliaid.

9 A Moses a gymmerodd y wialen oddi ger bron yr Arglwydd, megis y gorchymynnasei efe iddo.

10 A Moses ac Aaron y gynnullasant y dyr­fa ynghŷd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, gwrandewch yn awr chwi wrthryfel­wyr, a'i o'r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr?

11 APsal. 78.15. Moses a gododd ei law, ac a daraw­odd y graig ddwy-waith â'i wialen: a daeth dwfr lawer allan, a'r gynnulleidfa a yfodd, a'i hanifeiliaid hefyd.

12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, am na chredasoch i mi, i'm sanct­eiddio yngŵydd meibion Israel, am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i'r tîr a roddais iddynt.

13Psal. 106.32. Dymma ddyfroeddHynny yn Cyn­nen. Meribah, lle yr ym­gynhennodd meibion Israel â'r Arglwydd, ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.

14Barn. 11.17. A Moses a anfonodd gennadau o Cades at frenin Edom: fel hyn y dywed Israel dy frawd, ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni:

15 Pa wedd yr aeth ein tadau i wared i'r Aipht, ac yr arhosasom yn yr Aipht lawer o ddy­ddiau, ac y drygodd yr Aiphtiaid ni, a'n tadau.

16 A ni a waeddasom ar yr Arglwydd, ac efe a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac a'n dug ni allan o'r Aipht: ac wele ni yn Cades dinas ar gwrr dy ardal di.

17 Attolwg gâd i ni fyned trwy dy wlâd: nid awn trwy faes, na gwin-llan, ac nid yfwn ddwfr un ffynnon: prif-ffordd y brenin a gerddwn, ni thrown ar y llaw ddehau, nac ar y llaw asswy, nes i ni fyned allan o'th derfynau di.

18 A dywedodd Edom wrtho, na thyret heibio i mi, rhac im ddyfod â'r cleddyf i'th gy­farfod.

19 A meibion Israel a ddywedasant wrtho, rhyd y briffordd yr awn i fynu: ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o'th ddwfr di, rhoddaf ei werth ef; yn vnic ar fy nhraed yr âf trwodd yn ddiniwed.

20 Yntef a ddywedodd, ni chei fyned trw­odd: a daeth Edom allan i gyfarfod ag ef, â pho­bl lawer, ac â llaw gref.

21 Felly Edom a neccaodd roddi ffordd i Is­rael trwy ei frô; am hynny Israel a drôdd oddi wrtho ef.

22 A meibion Israel, sef yr holl gynnulleidfa a deithiasant oNum. 33.37. Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor.

23 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tîr Edom, gan ddywedyd,

24 Aaron a gesclir at ei bobl, ac ni ddaw i'r tîr a roddais i feibion Israel, am i chwi anufydd­hau i'mHebr. genau. gair, wrth ddwfrHynny yw, Cynnen. Meribah.

25Num. 33.38. Deut. 32.50. Cymmer Aaron ac Eleazar ei fâb, a dwg hwynt i fynu i fynydd Hor.

26 A diosc ei wiscoedd oddi am Aaron, a gwisc hwynt am Eleazar ei fab ef: canys Aaron a gesclir at ei bobl, ac a fydd farw yno.

27 A gwnaeth Moses megis y gorchymyn­nodd yr Arglwydd: a hwy a aethant i fynydd Hor, yngwydd yr holl gynnulleidfa.

28 A dioscodd Moses oddi am Aaron ei wisc­oedd ac a'i gwiscoedd hwynt am Eleazar ei fab ef; a bu farwDeut. 10.6. Deut. 32.50. Aaron yno ym mhen y mynydd: a descynnodd Moses ac Eleazar o'r mynydd.

29 A'r holl gynnulleidfa a welsant farw Aa­ron, a holl dŷ Israel a wŷlasant am Aaron ddeng-niwrnod ar hugain.

PEN. XXI.

1 Israel trwy beth colled yn difetha y Cananeaid yn Hormah. 4 Y bobl yn tuchan ac yn cael eu brathu gan seirph tanllyd, 7 ac ar eu hedifeirwch yn cael eu hiachau gan y sarph bres. 10 Am­ryw deithiau 'r Israeliaid. 21 Gorchfygu Se­hon, 33 ac Og.

A BreninNum. 33.40. Arad y Canaanead presswylydd y dehau, a glybu fod Israel yn dyfod rhyd ffordd yr yspiwyr, ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a ddaliodd rai o honynt yn garcharorion.

2 Ac addunodd Israel adduned i'r Arglwydd, ac a ddywedodd, os gan roi y rhoddi y bobl ymma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dina­soedd hwynt.

3 A gwrandawodd yr Arglwydd ar lais Is­rael, ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef, ac efe a'i difrododd hwynt, a'i dinasoedd, ac a al­wodd henw y lle hwnnw Hynny yw Di­frod. Hormah.

4 A hwy a aethant o fynydd Hor, rhyd ffordd y môr coch, i amgylchu tîr Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, o herwydd y ffordd.

5 A llefarodd y bobl yn erbyn Duw, ac yn erbyn Moses, pa ham y dygasoch ni o'r Aipht, i feirw yn yr anialwch canys nid oes na bara na dwfr:Num. 11.6. a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn.

6Doeth. 16.1.5. 1 Cor. 1 [...].9. A'r Arglwydd a anfonodd ym mysc y bobl feirph tanllyd, a hwy a frathasant y bobl, a bu feirw o Israel bobl lawer.

7 A daeth y bobl at Moses, a dywedasant, pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr Ar­glwydd ac yn dy erbyn ditheu: gweddia ar yr Arglwydd ar yrru o honaw ef y seirph oddi wrthym: a gweddiodd Moses tros y bobl.

8 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, gwna it sarph danllyd a gosot ar drostan: a phawb a frather, ac a edrycho ar honno, fydd byw.

9 A2 Bren. 18.4. Ioan. 3.14. gwnaeth Moses sarph brês, ac a'i goso­dodd ar drostan: yna os brathei sarph ŵr, ac edrych o hono ef ar y sarph brês, byw fyddei.

10 A meibion IsraelNum. 33.43. a gychwynnasant oddi yno ac a werssyllasant yn Oboth.

11 A hwy a aethant o Oboth, ac a werssylla­santHebr. yn lle-Abarim. yngharneddau Abarim, yn yr anialwch, yr hwn oedd ar gyfer Moab, tua chodiad haul.

12 Cychwynasant oddi yno, a gwerssyllasant wrth afon Zared.

13 Cychwynasant oddi yno, a gwerssyllasant wrth rŷd Arnon, yr hon sydd yn yr anialwch, yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid: canys Ar­non oedd derfyn Moab, rhwng Moab a'r Amo­riaid.

14 Am hynny y dywedir yn llyfr rhyfel­oedd yr Arglwydd,Neu, Ʋaheb yn Suphah. y peth a wnaeth efe yn y môr coch, ac yn afonydd Arnon,

15 Ac wrth raiadr yr afonydd, hwn a dreig­la i breswylfa Ar, ac a bwyssa at derfyn Moab.

16 Ac oddi yno 'r aethant i Beer: honno yw 'r ffynnon lle y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, cascl y bobl ynghyd, ac mi a roddaf idd­ynt ddwfr.

17 Yna y canodd Israel y gân hon, cyfot ffynnon,Neu, attebnch. cenwch iddi.

18 Ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a gloddiodd pennaethiaid y bobl, ynghŷd â'r deddfwr a'i ffynn: ac o'r anialwch yr aethant i Mattanah:

19 Ac o Mattanah i Nahaliel, ac o Nahaliel i Bamoth:

20 Ac o Bamoth yn y dyffryn sydd Hebr. ym maes. yngwlad Moab, i benPisgah. y bryn sydd yn edrych tuaJesimon. 'r diffaethwch.

21 Yna yr anfonodd Israel gennadau at Se­hon brenin yr Amoriaid, gan ddywedyd,

22Deut. 2.27. Barn. 11.19. Gâd i mi fyned trwy dy dîr, ni thrown i faes na gwinllan, nid yfwn ddwfr vn ffynnon: ar hyd ffordd y brenin y cerddwn, hyd onid elom allan o'th derfynau di.

23 Ac ni roddDeut. 29.7. Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad, onid casclodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i'r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahaz, ac a ymladdodd yn erbyn Israel.

24 AcPsal. 135.11. Amos. 2.9. Josu. 12.2. Israel a'i tarawodd ef â min y cle­ddyf, ac a orescynnodd ei dir ef, o Arnon hyd Jabboc, hyd at feibion Ammon: canys cadarn oedd derfyn meibion Ammon.

25 A chymmerodd Israel yr holl ddinasoedd hynny, a thrigodd Israel yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon, ac yn ei hollHebr. ferched. bentrefydd.

26 Canys dinas Sehon brenin yr Amoriaid ydoedd Hesbon, ac yntef a ryfelasei yn erbyn brenin Moab, yr hwn a fuasei o'r blaen, ac a ddug ei dir ef oddi arno hyd Arnon.

27 Am hynny y dywed y dihareb-wyr, deuwch i Hesbon, adailader, a chadarnhaer di­nas Sehon.

28 Canys tân aeth allan o Hesbon, a fflam o ddinas Sehon: bwyttaodd Ar ym Moab, a pher­chennogionƲchel­feudd. Bamoth Arnon.

29 Gwae di Moab; darfu am danat bobl1 Bren. 11.7, 33. Ce­mos; rhoddodd ei feibion diangol, a'i ferched, mewn caethiwed i Sehon brenin yr Amoriaid.

30 Saethasom hwynt: darfu am Hesbon hyd Dibon; ac anrhaithiasom hyd Nopha, yr hon sydd hyd Mediba.

31 A thrigodd Israel yn nhîr yr Amoriaid.

32 A Moses a anfonodd i chwilio Jazer, a hwy a orchfygasant ei phen-trefydd hi, ac a yr­rasant ymaith yr Amoriaid y rhai oedd yno.

33Deut. 3.1. Deut. 29.7. Troesant hefyd ac aethant i fynu hyd ffordd Basan: ac Og brenin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel hyd Edrai, efe a'i holl bobl.

34 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, nac ofna ef, canys yn dy law di y rhoddais ef, a'i holl bobl, a'i dîr;Psal. 135.11. a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.

35 Am hynny y tarawsant ef, a'i feibion, a'i holl bobl, fel na adawyd iddo ef weddill, a hwy a berchennogasant ei dir ef.

PEN. XXII.

1 Cennadon cyntaf Balac yn cael nâg gan Ba­laam. 15 Ei ail-gennadon ef yn cael gantho ddyfod. 22 Angel a'i lladdasei ef, oni buassei iw assen ei waredu ef. 36 Balac yn ei groesawu ef.

A Meibion Israel a gychwynnasant, ac a wer­ssyllasant yn rhossydd Moab, am yr Ior­ddonen a Jericho.

2 A gwelodd Balac mab Zippor, yr hyn oll a wnaethei Israel i'r Amoriaid.

3 Ac ofnodd Moab rhac y bobl yn fawr, ca­nys llawer oedd; a bu gyfyng ar Moab o achos meibion Israel.

4 A dywedodd Moab wrth henuriaid Midian, y gynnulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd, fel y llyf yr ŷch wellt y maes: a Balac mab Zippor oedd frenin ar Moab yn yr amser hwnnw.

5Josua. 24.9. Deut. 23.5. 2 Pet. 2.15. Ac efe a anfonodd gennadau at Balaam fab Beor, i Pethor (yr hon sydd wrth afon tîr mei­bion ei bobl) iw gyrchu ef, gan ddywedyd, wele pobl a ddaeth allan o'r Aipht, wele, y maent yn cuddioHebr. llygad. wyneb y ddaiar; ac y maent yn aros ar fynghyfer i.

6 Yr awron gan hynny, tyret attolwg, mell­dithia i mi y bobl yma, canys cryfach ydynt nâ mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a'i gyrru hwynt o'r tîr: canys mi a wn mai bendigedic fydd yr hwn a fendithiech di, a melldigedic fydd yr hwn a felldithiech.

7 A henuriaid Moab, a henuriaid Midian a aethant â gwobr dewiniaeth yn eu dwylo; dae­thant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac.

8 A dywedodd yntef wrthynt, lleteuwch ymma heno, a rhoddaf i chwi atteb megis y lle­faro yr Arglwydd wrthif: a thywysogion Mo­ab a arhosasant gyd â Balaam.

9 A daeth Duw at Balaam, ac a ddywedodd, pwy yw y dynion hyn sydd gyd â thi?

10 A dywedodd Balaam wrth Dduw, Balac mab Zippor brenin Moab a ddanfonodd attaf, gan ddywedyd,

11 Wele bobl wedi dyfod allan o'r Aipht, ac yn gorchguddio wyneb y ddaiar: yr awron tyret, rhega hwynt i mi, felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a'i gyrru allan.

12 A dywedodd Duw wrth Balaam, na ddos gyd â hwynt, na felldithia y bobl, canys bendi­gedic ydynt.

13 A Balaam a gododd y boreu, ac a ddy­wedodd [Page] [...]rth dywysogion [...]ac; ewch i'ch gwlad; oblegit yr Arglwydd a neccaodd adel i mi fyned gyd â chwi.

14 A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac, ac a ddywedasant, neccaodd Balaam ddyfod gyd â ni.

15 A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dy­wysogion, anrhydeddusach nâ'r rhai hyn.

16 A hwy a ddaethant at Balaam, ac a ddy­wedasant wrtho, fel hyn y dywed Balac mab Zip­por, attolwg na luddier di rhac dyfod attaf.

17 Canys gan anrhydeddu i'th anrhydeddaf yn fawr, a'r hyn oll a ddywedech wrthif a wnaf: tyret tithe attolwg, rhega i mi y bobl hyn.

18 A Balaam a attebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac,Num. 24.13. pe roddei Balac i mi arian ac aur loneid ei dŷ, ni allwn fyned tros air yr Arglwydd fy Nuw, i wneuthur na bychan na mawr.

19 Ond attolwg yn awr arhoswch chwithau ymma y nôs hon, fel y caffwyf wybod beth a ddywedo yr Arglwydd wrthif yn chwaneg.

20 A daeth Duw at Balaam liw nôs, a dy­wedodd wrtho, os i'th gyrchu di y daeth y dy­nion hyn, cyfot, dos gyd â hwynt: ac er hynny y peth a lefarwyf wrthit, hynny a wnei di.

21 Yna y cododd Balaam yn forau, ac a gyf­rwyodd ei assyn, ac a aeth gyd â thywysogion Moab.

22 A dîg Duw a ennynnodd am iddo ef fyned; ac angel yr Arglwydd a safodd ar y ffordd iw wrthwynebu ef; ac efe yn marcho­gaeth ar ei assyn, a'i ddau langc gyd ag ef.

232 Pet. 2.16. [...]ud. 11. A'r assyn a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf yn noeth yn ei law; a chiliodd yr assyn allan o'r ffordd, ac aeth i'r maes a thrawodd Balaam yr assyn iw throi i'r ffordd.

24 Ac angel yr Arglwydd a safodd ar lwybr y gwinllannodd, a magwyr o'r ddau tu.

25 Pan welodd yr assyn angel yr Arglwydd, yna hi a ymwascodd at y fagwyr; ac a wascodd droed Balaam wrth y fagwyr; ac efe a'i taraw­odd hi eilwaith.

26 Ac angel yr Arglwydd aeth ym mhellach, ac a safodd mewn lle cyfyng, lle nid oedd ffordd i gilio tua 'r tu dehau, na'r tu asswy.

27 A gwelodd yr assyn angel yr Arglwydd, ac a orweddodd tan Balaam: yna 'r enynnodd dîg Balaam, ac efe a darawodd yr assyn â ffonn.

28 A'r Arglwydd a egorodd safn yr assyn, a hi a ddywedodd wrth Balaam, beth a wneuthum it, pan darewaist fi y tair gwaith hyn?

29 A dywedodd Balaam wrth yr assyn, am it fy siommi; ô na byddei gleddyf yn fy llaw, ca­nys yn awr i'th laddwn.

30 A dywedodd yr assyn wrth Balaam, onid myfi yw dy assyn, yr hon y marchogaist arnaf er panNeu, [...]wyt, [...]d, &c. ydwyf eiddo ti, hyd y dydd hwn? gan arfer a arferais i wneuthur it fel hyn? ac efe a ddywedodd na ddo.

31 A'r Arglwydd a egorodd lygaid Balaam, ac efe a welodd angel yr Arglwydd, yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf noeth yn ei law: ac efe a ogwyddodd ei ben, ac a ymgrymmodd ar ei wy­neb.

32 A dywedodd angel yr Arglwydd wrtho, pa ham y tarewaist dy assyn y tair gwaith hyn? wele mi a ddeuthum allan yn wrthwyne­bydd i ti: canys cyfeiliornus yw y ffordd hon yn fyngolwg.

33 A'r assyn a'm gwelodd, ac a giliodd rhagof y tair gwaith hyn; oni buasei iddi gilio rhagof, diau yn awr y lladdaswn di, ac a'i ga­dawswn hi yn fyw.

34 A Balaam a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, pechais: oblegit ni wyddwn dy fod ti yn sefyll ar y ffordd yn fy erbyn: ac yr awron os drwg yw yn dy olwg, dychwelaf adref.

35 A dywedodd angel yr Arglwydd wrth Balaam, dos gyd â'r dynion, a'r gair a lefarwyf wrthit, hynny yn vnic a leferi: felly Balaam a aeth gyd a thywysogion Balac.

36 A chlybu Balac ddyfod Balaam, ac efe a aeth iw gyfarfod ef i ddinas Moab: yr hon sydd ar ardal Arnon, yr hon sydd ar gwrr eithaf y terfyn.

37 A dywedodd Balac wrth Balaam; onid gan anfon yr anfonais attat i'th gyrchu; pa ham na ddeuit ti attaf? oni allwn i dy wneuthur di yn anrhydeddus?

38 A dywedodd Balaam wrth Balac, wele mi a ddeuthum attat, ganNum. 23.12. allu a allafi lefaru dim yr awron? y gair a osodo Duw yn fyngenau, hwnnw a lefara fi.

39 A Balaam a aeth gyd â Balac, a hwy a ddae­thant i gaerNeu, [...]eolydd. Huzoth.

40 A lladdodd Balac warthec a defaid, ac a anfonodd ran i Balaam, ac i'r tywysogion oedd gyd ag ef.

41 A'r Boreu Balac a gymmerodd Balaam, ac aeth ag ef i fynu i vchelfeudd Baal: fel y gwe­lei oddi yno gwrr eithaf y bobl.

PEN. XXIII.

1.13, 28. Offrwm Balac. 7, 18. Dammeg Ba­laam.

A Dywedodd Balaam wrth Balac, adailada i mi ymma saith allor, a darpara i mi ymma saith o fustych, a saith o hyrddod.

2 A gwnaeth Balac megis ac y dywedodd Balaam: ac offrymmodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor.

3 A dywedodd Balaam wrth Balac, saf di wrth dy boeth offrwm, myfi a âf oddi ymma: ond odid daw yr Arglwydd i'm cyfarfod, a mynegaf it pa air a ddangoso efe i mi; ac efe a aethNeu, o'r neilltu. i le vchel.

4 A chyfarfu Duw â Balaam, a dywedodd Ba­laam wrtho, darperais saith allor, ac aberthais fustach, a hwrdd ar bob allor.

5 A gosododd yr Arglwydd air yngenau Ba­laam, ac a ddywedodd, dychwel at Balac, a dy­wed fel hyn.

6 Ac efe a ddychwelodd atto, ac wele efe a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth ei boeth offrwm.

7 Ac efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, OAram. Siria y cyrchodd Balac brenin Moab myfi, o fynyddoedd y dwyrain gan ddy­wedyd, tyred, melldithia i mi Jacob, tyred a ffi­eiddia Israel.

8 Pa fodd y rhegaf yr hwn ni regodd Duw a pha fodd y ffieiddiaf yr hwn ni ffieiddiodd yr Arglwydd?

9 Canys o ben y creigiau y gwelaf ef, ac o'r brynnau yr edrychaf arno: wele bobl yn press­wylio eu hun, ac heb eu cyfrif ynghyd â'r cen­hedloedd.

10 Pwy a rif lwch Jacob, a rhifedi pedwa­redd ran Israel? marw aHebr. wnel fy enaid, neu fy enioes. wnelwyf o farwo­laeth yr vnion, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntef.

11 A dywedodd Balac wrth Balaam, beth a wnaethost i mi? i regu fyngelynion i'th cym­merais, [Page] ac wele gan fendithio ti a'i bendithi­aist.

12 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, onid yr hyn a osododd yr Arglwydd yn fyngenau, sy raid i mi edrych ar ei ddywedyd?

13 A dywedodd Balac wrtho ef, tyret atto­lwg gyd â myfi i le arall, lle y gwelych hwynt; oddi yno y cei weled eu cwrr eithaf hwynt yn vnic, ac ni chei eu gweled hwynt i gyd: rhêga dithe hwynt i mi oddi yno.

14 Ac efe a'i dûg ef i faesZophim. amlwg, i benPisgah. bryn, ac a adailadodd saith allor, ac a offrym­modd fustach a hwrdd ar bob allor.

15 Ac a ddywedodd wrth Balac, saf ymma wrth dy boeth offrwm, a mi a âf accw i gyfar­fod â'r Arglwydd.

16 A chyfarfu yr Arglwydd â Balaam,Pen. 22.35. ac a osododd air yn ei enau ef, ac a ddywedodd, dychwel at Balac, a dywed fel hyn.

17 Ac efe a ddaeth atto, ac wele efe yn se­fyll wrth ei boeth offrwm, a thywysogion Moab gyd ag ef: a dywedodd Balac wrtho, beth a ddywedodd yr Arglwydd?

18 Yna y cymmerodd efe ei ddammeg, ac a ddywedodd, cyfot Balac a gwrando, mab Zip­por, clust-ymwrando â mi.

19 Nid dyn yw Duw i ddywedyd celwydd, na mab dyn i edifarhau? a ddywedodd efe, ac nis cyflawna? a lefarodd efe, ac oni chywira?

20 Wele cymmerais arnaf fendithio; a ben­dithiodd efe, ac ni throafi hynny yn ei ôl.

21 Ni wêl efe anwiredd yn Jacob, ac ni wêl drawsedd yn Israel: yr Arglwydd ei Dduw sydd gyd ag ef, ac y mae vdcorn-floedd brenin yn eu mysc hwynt.

22Num. 24.8. Duw a'i dug hwynt allan o'r Aipht; me­gis nerth vnicorn sydd iddo.

23 Canys nid oes swynYn Ja­cob. yn erbyn Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel: y pryd hyn y dy­wedir am Jacob ac am Israel, beth a wnaeth Duw?

24 Wele, y bobl a gyfyd fel llew mawr, ac fel llew ieuangc yr ymgyfyd: ni orwedd nes bwytta o'r ysclyfaeth, ac yfed gwaed y lladde­digion.

25 A dywedodd Balac wrth Balaam, gan regu na rega ef mwy, gan fendithio na fendithia ef chwaith.

26 Yna yr attebodd Balaam ac a ddywedodd wrth Balac, oni fynegais it gan ddywedyd, yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd, hynny a wnafi?

27 A dywedodd Balac wrth Balaam, tyred attolwg, mi a'th ddygaf i le arall; ond odid bodlon fydd gan Dduw i ti ei regu ef i mi oddi vno.

28 A Balac a ddug Balaam i ben Peor, yr hwn sydd ynTua Je­simon. edrych tua'r diffaethwch.

29 A dywedodd Balaam wrth Balac, adai­lada i mi ymma saith allor, a darpara i mi ym­ma saith bustach, a saith hwrdd.

30 A gwnaeth Balac megis y dywedodd Ba­laam, ac a offrymmodd fustach a hwrdd ar bob allor.

PEN. XXIIII.

1 Balaam yn rhoi heibio ddewiniaeth ac yn pro­phwydo dedwyddwch i Israel. 10 Balac mewn digter yn ei anfon ef ymmaith. 15 Yntef yn pro­phwydo am seren Jacob, a dinistr rhyw wledydd.

PAn welodd Balaam mai da oedd yngolwg yr Arglwydd fendithio Israel;Num. 23.3. & 15. nid aeth efe megis o'r blaen iHebr. [...]farfod a. gyrchu dewiniaeth: onid gosododd ei wy [...]eb tua'r anialwch.

2 A chododd Balaam ei lygaid, ac wele Is­rael yn pebyllio yn ôl ei lwythau: a daeth ys­pryd Duw arno ef.

3Num. 23.7. Ac efe a gymmerodd ei ddammeg ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a'r gwrHebr. oedd lyg­adgacad. a agorwyd ei lygaid a ddywedodd:

4 Gwrandawydd geiriau Duw a ddywedodd, yr hwn a welodd weledigaeth yr Holl alluoc, yr hwn a syrthiodd ac a agorwyd ei lygaid:

5 Morr hyfryd yw dy bebyll di ô Jacob, dy gyfanneddau di Israel?

6 Ymestynnant fel dyffrynnodd, ac fel ger­ddi wrth afon, fel Aloe-wydd a blannodd yr Arglwydd, fel y Cedr-wydd wrth ddyfroedd.

7 Efe a dywallt ddwfr o'i stenau, a'i hâd fydd mewn dyfroedd lawer, a'i frenin a dder­chefir yn vwch nag Agag, a'i frenhiniaeth a ymgyfyd.

8 Duw a'i dug ef allan o'r Aipht:Pen. 23.22. megis nerth vnicorn sydd iddo: efe a fwytty y cen­hedloedd ei elynion, ac a dryllia eu hesgyrn, ac â'i saethau y gwana efe hwynt.

9 Efe aGene. 49.9. grymma ac a orwedd fel llew, ac fel llew mawr: pwy a'i cyfyd ef? bendigedic fydd dy fendith-wŷr, a melldigedic dy felldith­wŷr.

10 Ac enynnodd dig Balac yn erbyn Balaam, ac efe a darawodd ei ddwylo ynghŷd: dywe­dodd Balac hefyd wrth Balaam, i regu fyngely­nion i'th gyrchais, ac wele ti gan fendithio a'i bendithiaist y tair gwaith hyn.

11 Am hynny yn awr ffô i'th fangre dy hun: dywedais gan anrhydeddu i'th anrhyde­ddwn, ac wele attaliodd yr Arglwydd di oddi wrth anrhydedd.

12 A dywedodd Balaam wrth Balac, oni le­farais wrth dy gennadau a anfonaist attaf, gan ddywedyd,

13 Pe rhoddei Balac i mi arian ac aur loneid ei dŷ, ni allwn drosseddu gair yr Arglwydd, i wneuthur da neu ddrwg, o'm meddwl fy hun? yr hyn a lefaro yr Arglwydd, hynny a lefaraf fi.

14 Ond yr awron wele fi yn myned at fy mhobl: tyret, mi a fynegaf i ti yr hyn a wna y bobl hyn i'th bobl di yn y dyddiau diweddaf.

15 Ac efe a gymmerth ei ddammeg, ac a ddy­wedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a'r gwr a agorwyd ei lygaid a ddywed;

16 Dywed gwrandawydd geiriau Duw, gwy­bedydd gwybodaeth y Goruchaf, a gweledydd gweledigaeth yr Holl alluoc, yr hwn a syrth­iodd, ac yr agorwyd ei lygaid.

17 Gwelaf ef, ac nid yr awron: edrychaf arno, ond nid o agos: daw seren o Jacob, a chyfyd teyrn-wialen o Israel, ac a ddrylliaNeu, dywys [...] ­on. gong­lau Moab, ac a ddinistria holl feibion Seth.

18 Ac Edom a feddiennir, Seir hefyd a berchennogir gan ei elynion, ac Israel a wna rymmuster.

19 Ac arglwyddiaetha vn o Jacob, ac a ddi­nistria y gweddill o'r ddinas.

20 A phan edrychodd ar Amalec, efe a gym­merodd ei ddammeg ac a ddywedodd,Y cy [...] o'r cen­hedloedd [...] ryfel [...] yn erbyn Israel, Exod. [...] dechreu y cynhedloedd yw Ex [...] 17.10. 1 Sam 15.3. Amalec, a'i ddiwedd fyddNeu, [...] ddinis [...] darfod am dano byth.

21 Edrychodd hefyd ar y Ceneaid, ac a gym­merodd ei ddammeg, ac a ddywedodd, cadam yw dy annedd, gosot yr wyt dy nŷth yn y graig.

22 Anrheithir yHebr. Cain. Ceneaid,N [...] pa bryd fydd hyd, &c. hyd oni'th gaethiwo Assur.

23 Ac efe a gymmerodd ei ddammeg, ac a [Page] ddywedodd, och! pwy fydd [...]yw pan wnelo Duw hyn?

24 Llongau hefyd o derfynau Cittim a orth­rymmant Assur, ac a orthrymmant Eber, ac yntef a dderfydd am dano byth.

25 A chododd Balaam, ac aeth, ac a ddych­welodd adref, a Balac aeth hefyd iw ffordd yntef.

PEN. XXV.

1 Israel yn Sittim yn godinebu ac yn addoli del­wau. 6 Phinees yn lladd Zimri a Chosbi. 10 Duw o herwydd hynny yn rhoddi iddo ef offeiriedaeth dragywyddol. 16 Rhaid yw blino y Midiani­aid.

A Thrigodd IsraelPen. 33.49. yn Sittim, a dechreuodd y bobl odinebu gyd â merched Moab.

2 A galwasant y bobl i aberthau eu duwiau hwynt; a bwyttaodd y bobl, ac addolasant eu duwiau hwynt.

3 Ac ymgyfeillodd Israel â Baal-Peor; ac en­ynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Israel.

4 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses,Deut. 4.3. Jos. 22.17. cymmer holl bennaethiaid y bobl, a chrôg hwynt i'r Arglwydd ar gyfer yr haul; fel y dychwelo llîd digofaint yr Arglwydd oddi wrth Israel.

5 A dywedodd Moses wrth farn-wyr Israel, lleddwch bob vn ei ddynion, y rhai a ymgyfeilla­sant â Baal-Peor.

6 Ac wele, gŵr o feibion Israel a ddaeth ac a ddygodd Midianites at ei frodyr, yngolwg Mo­ses, ac yngolwg holl gynnulleidfa meibion Israel, a hwynt yn ŵylo wrth ddrws pabell y cyfarfod.

7 A gweloddPsal. 106.30. 1 Mac. 2. [...]4. Eccles. 45.23. Phinees mab Eleazar, mab Aaron yr offeiriad, ac a gododd o ganol y gyn­nulleidfa, ac a gymmerodd wayw-ffon yn ei law;

8 Ac a aeth ar ol y gŵr o Israel i'r babell, ac a'i gwanodd hwynt ill dau, sef y gŵr o Israel a'r wraig, trwy ei cheudod: ac attaliwyd y pla oddi wrth feibion Israel.

91 Cor. [...].8. A bu feirw o'r blâ bedair mil ar hugain.

10 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

11 Phinees mab Eleazar, mab Aaron yr offei­riad, a drôdd fy nigter oddi wrth feibion Israel, (pan eiddigeddodd efe drosofi yn eu mysc) fel na ddifethais feibion Israel yn fy eiddigedd.

12 Am hynny dywed, wele fi yn rhoddi iddo fynghyfammod o heddwch.

13 A bydd iddo ef, ac iw hâd ar ei ôl ef, am­mod o offeiriadaeth dragwyddol, am iddo ei­ddigeddu tros ei Dduw, a gwneuthur cymmod tros feibion Israel.

14 A henw y gŵr o Israel yr hwn a ladd­wyd, sef yr hwn a laddwyd gyd â'r Fidianites, oedd Zimri mab Salu, pennaeth tŷ ei dâd, o lwyth Simeon.

15 A henw y wraig o Midian a laddwyd oedd Cozbi merch Zur: pen cenhedl o dŷ mawr ym Midian oedd hwn.

16 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

17Pen. [...].2. Blina y Midianiaid, a lleddwch hwynt:

18 Canys blîn ydynt arnoch trwy eu dich­ellion a ddychymmygasant i'ch erbyn yn achos Peor, ac yn achos Cozbi merch tywysog Midian eu chwaer hwynt, yr hon a laddwyd yn nydd y blâ, o achos Peor.

PEN. XXVI.

1 Cymmeryd cyfrif o holl Israel yn nyffryn Moab. 52 Cyfraith i gyfrannu etifeddiaeth y tir rhyng­thynt hwy. 57 Teuluoedd a rhifed. 7 Lefiaid. 63 Na adawsid vn o'r rhai a rifesid yn Sinai, ond Caleb a Josuah.

A Bu wedi y blâ, lefaru o'r Arglwydd wrth Moses, ac wrth Eleazar fab Aaron yr offei­riad gan ddywedyd,

2 Cymmerwch nifer holl gynnulleidfa mei­bion Israel,Pen. 1.3. o fab vgain mlwydd ac vchod, trwy dŷ eu tadau, pob vn a allo fyned i ryfel yn Israel.

3 A llefarodd Moses ac Eleazar yr offeiriad wrthynt yn rhossydd Moab, wrth yr lorddonen ar gyfer Jericho, gan ddywedyd,

4 Rhifwch y bobl o fab vgain mlwydd ac vch­od,Pen. 1.2. megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses a meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aipht.

5 RubenGene. 46.8. Exod. 6.14. 1 Cron. 5.1. cyntafanedic Israel: meibion Ru­ben, o Hanoch, tylwyth yr Hanochiaid: o Pha­lu, tylwyth y Phaliaid:

6 O Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Carmi, tylwyth y Carmiaid.

7 Dymma dylwyth y Rubeniaid; a'i rhife­digion oedd dair mil a deugain, a saith gant, a dec ar hugain.

8 A meibion Phalu oedd Eliab.

9 A meibion Eliab, Nemuel, a Dathan, ac Abiram: dymma y Dathan ac Abiram, rhai en­woc yn y gynnulieidfa, y rhai aPen. 16.1. ymgynhen­nasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, yng­hynnulleidfa Corah, pan ymgynhennasant yn erbyn yr Arglwydd:

10 Ac agorodd y ddaiar ei safn, ac a'i llyngc­odd hwynt, a Chorah hefyd, pan fu farw y gyn­nulleidfa, pan ddifaodd y tân ddeng-ŵr a deu­gain, a dau cant: a hwy a aethant yn arwydd.

11 Ond meibion Corah ni buant feirw.

12 Meibion Simeon wrth eu tylwythau; o Nemuel, tylwyth y Nemueliaid: o Jamin, ty­lwyth y Jaminiaid; o Jacin, tylwyth y Jaciniaid:

13 O Zerah, tylwyth y Zerahiaid; o Saul, tylwyth y Sauliaid.

14 Dymma dylwyth y Simeoniaid, dwy fil a'r hugain a dau cant.

15 Meibion Gad wrth eu tylwythau; o Ze­phon, tylwyth y Zephoniaid, o Haggi, tylwyth yr Haggiaid; o Suni, tylwyth y Suniaid:

16 O Ozni, tylwyth yr Ozniaid; o Eri ty­lwyth yr Eriaid:

17 O Arod, tylwyth yr Arodiaid; o Areli tylwyth yr Areliaid.

18 Dymma deuluoedd meibion Gad dan eu rhif, deugain mil, a phum cant.

19 Meibion Juda oedd Gen. 38.3. & 46.12. Er ac Onan: a bu farw Er ac Onan yn nhîr Canaan.

20 A meibion Juda wrth eu teuluoedd: o Selah, tylwyth y Selaniaid; o Pharez, tylwyth y Phareziaid: o Zerah, tylwyth y Zerahiaid.

21 A meibionGen. 38.2, &c. & 46.12. Pharez oedd, o Hesron, ty­lwyth yr Hesroniaid: o Hamul, tylwyth yr Hamuliaid.

22 Dymma dylwyth Juda dan eu rhif: onid padair mil pedwar vgain mil, a phum cant.

23 Meibion Issachar wrth eu tylwythau oedd, o Tolah, tylwyth y Tolahiaid; o Puah, tylwyth y Puniaid:

24 O Jasub, tylwyth y Jasubiaid; o Simron, tylwyth y Simroniaid.

25 Dymma deuluoedd Issachar dan eu rhif, pedair mil, a thrugain mil, a thrychant.

26 Meibion Zabulon wrth eu teuluoedd oedd; o Sered tylwyth y Sardiaid: o Elon, tylwyth yr Eloniaid: o Jahleel, tylwyth y Jahleeliaid.

27 Dymma deuluoedd y Zabuloniaid dan eu rhif, tri vgain mîl, a phum cant.

28 Meibion Joseph wrth eu teuluoedd oedd Manasseh, ac Ephraim.

29 Meibion Manasseh oedd: oJosua 17.1. Machir, ty­lwyth y Machiriaid: a Machir a genhedlodd Gilead: o Gilead y mae tylwyth y Gilea­diaid.

30 Dymma feibion Gilead: o Jeezer, tylwyth y Jeezeriaid: o Helec, tylwyth yr Heleciaid:

31 Ac o Asriel, tylwyth yr Asrieliaid: ac o Sechem, tylwyth y Sechemiaid.

32 Ac o Semida, tylwyth y Semidiaid: ac o Hepher, tylwyth yr Hepheriaid.

33 APen. 27.1. Zalphaad mab Hepher nid oedd iddo felbion, onid merched: a henwau merched Zalphaad oedd, Mahlah, a Noah, Hoglah, Mil­cah, a Thirzah.

34 Dymma dylwyth Manasseh: a'i rhife­digion oedd ddeuddeng mîl a deugain, a saith gant.

35 Dymma feibion Ephraim wrth eu teulu­oedd: o Suthelah, tylwyth y Sutheliaid: o Becher, tylwyth y Becheriaid: o Tahan, ty­lwyth y Tahaniaid.

36 Ac dymma feibion Suthelah: o Eran, tylwyth yr Eraniaid.

37 Dymma dylwyth meibion Ephraim trwy eu rhifedigion, deuddeng mil ar hugain a phum cant: dymma feibion Joseph wrth eu teulu­oedd.

38 Meibion Beniamin wrth eu teuluoedd oedd, o Bela, tylwyth y Belaiaid: o Asbel, tylwyth yr Asbeliaid: o Ahiram, tylwyth yr Ahiramiaid.

39 O Sephupham, tylwyth y Sephuphami­aid: o Hupham, tylwyth yr Huphamiaid.

40 A meibion Bela oedd Ard, a Naaman: o Ard yr ydoedd tylwyth yr Ardiaid: o Naa­man, tylwyth y Naamaniaid.

41 Dymma feibion Beniamin yn ôl eu teu­luoedd: dan eu rhif yr oeddynt yn bum mil a deugain a chwe chant.

42 Dymma feibion Dan, yn ôl eu teulu­oedd: o Suham, tylwyth y Suhamiaid: dym­ma dylwyth Dan yn ol eu teuluoedd.

43 A holl dylwyth y Suhamiaid oedd yn ôl eu rhifedigion, bedair mil a thrugain, a phedwar cant.

44 Meibion Afer wrth eu teuluoedd oedd o Jimna, tylwyth y Jimnaid: o Jesui, tylwyth y Jesuiaid: o Beriah, tylwyth y Beriaid.

45 O feibion Beriah yr oedd o Heber, ty­lwyth yr Heberiaid: o Maiciel, tylwyth y Malcieliaid.

46 Ac enw merch Aser ydoedd Sarah.

47 Dymma deuluoedd meibion Aser yn ôl eu rhifedigion, tair mîl ar ddec a deugain, a phedwar cant.

48 Meibion Nephtali wrth eu teuluoedd oedd: o Jahzeel tylwyth y Jahzeeliaid: o Guni, tylwyth y Guniaid.

49 O Jezer, tylwyth y Jezeriaid: o Silem, tylwyth y Silemiaid.

50 Dymma dylwyth Nephtali yn ôl eu teu­luoedd dan eu rhif, pum mil a deugain, a phedwar cant.

51 Dymma rifedigion meibion Israel, chwe chau mîl, a mîl, saith ganr, a dec ar hugain.

52 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

53 I'r rhai hyn y rhennir y tîr yn etifeddi­aeth, yn ol thifedi yr benwau.

54 IPen. 33.34. lawer y chwanegi 'r etifeddiaeth, ac i ychydig pr [...]hâ 'r etifeddiaeth: rhodder i bob vn etifeddiaet [...] yn ôl ei rifedigion.

55 EttoJosua 11.23. & 14.2. wrth goelbren y rhennir y tîr: wrth henwau llwythau eu tadau yr etifeddant.

56 Wrth farn y coel-bren y rhennir ei eti­feddiaeth rhwng llawer ac ychydig.

57Exod. 6.16. Ac dymma risedigion y Lefiaid wrth eu teuluoedd: o Gerson, tylwyth y Gersoniaid: o Cohath, tylwyth y Cohathiaid: o Merari, tylwyth y Merariaid.

58 Dymma dylwythau y Lefiaid: tylwyth y Libniaid, tylwyth yr Hebroniaid, tylwyth y Mahliaid, tylwyth y Musiaid, tylwyth y Cora­thiaid: Cohath hefyd a genhedlodd Amram.

59 A henw gwraig Amram oedd JochebedExod. 2.2. Exod. 6.20. merch Lefi, yr hon a aned i Lefi yn yr Aipht; a hi a ddug i Amram, Aaron, a Moses, a Miri­am eu chwaer hwynt.

60 A ganed i Aaron, Nadab, ac Abihu, Elea­zar, ac Ithamar.

61 A bu farwLevit. 10.2. Num. 34 1 Cron. 24.2. Nadab ac Abihu, pan offrym­masant dân dieithr ger bron yr Arglwydd.

62 A'i rhifedigion oedd dair mil ar hugain, sef pob gwryw o fab misyriad ac vchod; canys ni chyfrifwyd hwynt ym mysc meibion Israel, am na roddwyd iddynt etifeddiaeth ym mlhith meibion Israel.

63 Dymma rifedigion Moses ac Eleazar yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion Israel yn rhossydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.

64 Ac yn y rhai hyn nid oedd vn o rifedi­gion Moses ac Aaron yr offeiriad, pan rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai.

65 Canys dywedasei yr Arglwydd am da­nynt,Pen. 14.28. 1 Cor. 10.5. gan farw y byddant feirw yn yr ania­lwch: ac ni adawsid o honynt vn, ond Caleb mab Jephunneh, a Josuah mab Nun.

PEN. XXVII.

1 Merched Zalphaad yn ceisio etifeddiaeth. 6 Cy­fraith etifeddiaethau. 12 Moses wedi ei rybu­ddio am ei farwolaeth, yn ymbil am gael vn yn ei le. 18 Appwyntio Josuah i gael ei le ef.

YNa y daeth merchedPen 26.33. Pen. 36. 11. Josua [...] 3. Zalphaad, mab He­pher, mab Gilead, mab Machir, mab Ma­nasseh, o dylwyth Manasseh mab Joseph: (ac dymma henwau ei ferched ef, Mahlah, Noah, Hoglah, Milcah, a Thirzah.)

2 Ac a safasant ger bron Moses, a cher bron Eleazar yr offeiriad, a cher bron y pennaethi­aid, a'r holl gynnulleidfa, wrth ddrws pabell y cysarfod, gan ddywedyd,

3Pen. 14. 35. 26 6 [...]. Ein tâd ni a fu farw yn yr anialwch, ac nid oedd efe ym mysc y gynnulleidfa a ymgas­clodd yn erbyn yr Arglwydd ynghynnulleidfaPen. 16.1. Corah, onid yn ei bechod ei hun y bu farw, ac nid oedd meibion iddo.

4 Pa ham yHeb. lleiheir. tynnir ymmaith henw ein tâd ni o fysc ei dylwyth, am nad oes iddo fab? dod i ni feddiant ym mysc brodyr ein tâd.

5 A dug Moses eu hawl hwynt ger bron yr Arglwydd.

6 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

7 Y mae merched Zalphaad yn dywedyd yn vnion; gan roddi, dyro iddynt feddiant eti­feddiaeth ym mysc brodyr eu tâd: trossa iddynt etifeddiaeth eu tad.

8 Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddy­wedyd, pan fyddo marw vn, ac heb fab iddo, trosswch ei etifeddiaeth ef iw ferch.

9 Ac oni bydd merch iddo, rhoddwch ei eti­feddiaeth ef iw frodyr.

10 Ac oni bydd brodyr iddo, yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dâd.

11 Ac oni bydd brodyr iw dâd, yna rho­ddwch ei etifeddiaeth ef iw gâr nessaf iddo o'i dylwyth, a meddianned hwnnw hi: a bydded hyn i feibion Israel yn ddeddf farnedic, megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses,Deut. 32.49. dring i'r mynydd Abarim hwn, a gwêi y tîr a roddais i feibion Israel.

13 Ac wedi it ei weled,Pen. 20.24. titheu a gesclir at dy bobl, fel y casclwyd Aaron dy frawd.

14 Canys yn anialwch Zin, wrth gynnen y gynnulleidfa, y gwrthryfelasoch yn erbyn fyng­air, i'm sancteiddio wrth y dwfr yn ei go­lwg hwynt:Exod. 17.7. dymma ddwfrMeribah. cynnen Cades yn anialwch Zin.

15 A llefarodd Moses wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,

16 Gosoded yr Arglwydd, Duw ysprydion pob cnawd, vn ar y gynnulleidfa,

17 Yr hwn a elo allan o'i blaen hwynt, ac a ddelo i mewn o'i blaen hwynt, a'r hwn a'i dygo hwynt allan, ac a'i dygo hwynt i mewn: fel na byddo cynnulleidfa yr Arglwydd fel defaid ni byddo bugail arnynt.

18 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, cymmer attat Josuah fab Nun, y gŵr y mae yr yspryd ynddo, a gosot dy law arno.

19 A dod ef i sefyll ger bron Eleazar yr offeiriad, a cher bron yr holl gynnulleidfa: a dôd orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt.

20 A dod o'th ogoniant di arno ef, fel y gwrandawo holl gynnulleidfa meibion Israel arno.

21 A safed ger bron Eleazar yr offeiriad, yr hwn a ofyn gynghor trosto ef, yn ôl barnExod. 28.30. Vrim, ger bron yr Arglwydd; wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef y deuant i mewn; efe a holl feibion Israel gyd ag ef, a'r holl gynnulleidfa.

22 A gwnaeth Moses megis y gorchymynnodd yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd Josuah, ac a barodd iddo sefyll ger bron Eleazar yr offei­riad, a cher bron yr holl gynnulleidfa.

23 Ac efe a osododd ei ddwylaw arno, ac a rodd orchymmyn iddo, megis y llefarasei yr Arglwydd trwy law Moses.

PEN. XXVIII.

1 Bod yn rhaid cadw offrymmau. 3 Y poeth­offrwm gwastadol. 9 Yr offrwm ar y Sabboth, 11 ar y lloerau newydd, 16 ar y Pasc, 26 yn nydd y blaen-ffrwythau.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Gorchymmyn i feibion Israel, a dywet wrthynt, gwiliwch am offrymmu i mi fy offrwm, a'm bara i'm hebyrth tanllyd o aroglHeb. Fy llony­ddwch peraidd, yn eu tymmor.

3 A dywet wrthynt,Exod. 29.38. dymma 'r aberth tanllyd a offrymmwch i'r Arglwydd; dau oen flwyddiaid berffaith-gwblHeb. mewn diwrnod. bob dydd, yn boeth offrwm gwastadol.

4 Vn oen a offrymmi di y boreu, a'r oen arall a offrymmi diHeb. rhwng y ddau hwyr. vn yr hwyr;

5 A decfed ran Epha o beillied ynLevit. 2.1. fwyd offrwm, wedi ei gymmyscu trwy bedwaredd ranExod. 29 40. Hin o olew coethedic.

6 Dymma y poeth offrwm gwastadol aNeu, ordeini­wyd. wnaed ym mynydd Sinai, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd.

7 A'i ddiod offrwm fydd bedwaredd ran Hin gyd â phob oen: pâr dywallt y ddiod gref yn ddiod offrwm i'r Arglwydd yn y cyssegr.

8 Yr ail oen a offrymmi yn yr hwyr: me­gis bwyd offrwm y boreu, a'i ddiod offrwm, yr offrymmi ef, yn aberth tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd.

9 Ac ar y dydd Sabboth, dau oen blwyddi­aid perffaith-gwbl, a dwy ddecfed ran o beilli­ed, yn fwyd offrwm, wedi ei gymmyscu trwy olew, a'i ddiod offrwm.

10 Dymma boeth offrwm pob Sabboth, heb law y poeth offrwm gwastadol, a'i ddiod offrwm

11 Ac ar ddechreu eich missoedd yr offrym­mwch, yn boeth offrwm i'r Arglwydd, ddau o fustych ieuaingc, ac vn hwrdd, a saith oen blwyddiaid perffaith-gwbl:

12 A thair decfed ran o beillied, yn fwyd offrwm, wedi ei gymmyscu drwy olew, gyd â phob bustach; a dwy ddecfed ran o beillied, yn fwyd offrwm, wedi ei gymmyscu trwy olew gyd â phob hwrdd:

13 A phob yn ddecfed ran o beillied, yn fwyd offrwm, wedi ei gymmyscu drwy olew, gyd â phob oen, yn offrwm poeth, o arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd.

14 A'i diod offrwm fydd hanner Hin gyd â bustach, a thrydedd ran Hin gyd â hwrdd, a phedwaredd ran Hin o wîn gyd ag oen: dymma boeth offrwm mis yn ei fis, trwy fisoedd y flwyddyn.

15 Ac vn bwch geifr fydd yn bech aberch i'r Arglwydd; heb law y gwastadol boeth offrwm, yr offrymmir ef a'i ddiod offrwm.

16 Ac yn y mis cyntaf,Exod. 12.18. Levit. 23.5. ar y pedwerydd dydd ar ddec o'r mîs, y bydd Pasc yr Arglwydd.

17 Ac ar y pymthecfed dydd o'r mîs hwn y bydd yr ŵyl: saith niwrnod y bwytteir bara croyw.

18 ArLevit. 23.7. y dydd cyntaf y bydd cymanfa san­ctaidd, na wnewch ddim caeth-waith ynddo.

19 Ond offrymmwch yn aberth tanllyd, ac yn boeth offrwm i'r Arglwydd, ddau o fustych ieuaingc, ac vn hwrdd, a saith oen blwyddiaid: byddant gennych yn berffaith-gwbl.

20 Eu bwyd offrwm hefyd fydd o beillied wedi ei gymmyscu drwy olew; tair decfed ran gyd â bustach, a dwy ddecfed ran gyd â hwrdd, a offrymmwch chwi.

21 Bob yn ddecfed ran yr offrymmwch gyd â phob oen, o'r saith oen:

22 Ac vn bwch yn bech aberth, i wneuthur cymmod drosoch.

23 Heb law poeth offrwm y boreu, yr hwn sydd boeth offrwm gwastadol, yr offrymmwch hyn.

24 Fel hyn yr offrymmwch ar bob dydd o'r saith niwrnod, fwyd aberth tanllyd o arogl per­aidd i'r Arglwydd: heb law y poeth offrwm gwastadol yr offrymmir ef, a'i ddiod offrwm.

25 Ac ar y seithfed dydd, cymanfa sanctaidd fydd i chwi, dim caeth-waith nis gwnewch.

26 Ac ar ddydd eich blaen-ffrwythau, pan offrymmoch fwyd offrwm newydd i'r Argl­wydd, wedi eich wythnosau; cymanfa sanctaidd fydd i chwi; dim caeth-waith nis gwnewch.

27 Ond offrymmwch ddau fustach ieuaingc, vn hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn boeth offrwm, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

28 A hydded eu bwyd offrwm o beillied wedi ei gymmyscu drwy olew; tair decfed ran gyd â phob bustach, dwy ddecfed ran gyd â phob hwrdd:

29 Bob yn ddecfed ran gyd â phob oen, o'r saith oen:

30 Vn bwch geifr i wneuthur cymmod trosoch.

31 Heb law y poeth offrwm gwastadol, a'i fwyd offrwm, yr offrymmwch hyn; (byddant gennych yn berffaith-gwbl) ynghyd a'i diod offrwm.

PEN. XXIX.

1 Yr offrymmau ar wyl yr vdcyrn, 7 Ar y dydd y cystuddiant eu heneidiau, 13 Ac ar wyth niwrnod gwyl y pebyll.

AC yn y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y bydd i chwi gymanfa sanctaidd, dim caeth-waith nis gwnewch:Levit. 23.24. dydd i ganu vdcyrn fydd efe i chwi.

2 Ac offrymmwch offrwm poeth yn arogl peraidd i'r Arglwydd; vn bustach ieuangc, vn hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid perffaith-gwbl:

3 A'i bwyd offrwm o beillied wedi ei gym­myscu drwy olew; tair decfed ran gyd â bustach, a dwy ddecfed ran gyd â hwrdd:

4 Ac vn ddecfed ran gyd â phob oen, o'r saith oen.

5 Ac vn bwch geifr yn bech aberth, i wneu­thur cymmod trosoch:

6 Heb law poeth offrwm y mis, a'i fwyd offrwm, a'r poeth offrwm gwastadol, a'i fwyd offrwm, a'i diod offrwm hwynt, wrth eu de­fod hwynt, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd.

7Levit. 16.29. & 23.27. Ac ar y decfed dydd o'r seithfed mîs hwn, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddi­wch eich eneidiau: dim gwaith nis gwnewch ynddo.

8 Ond offrymmwch boeth offrwm i'r Ar­glwydd yn arogl peraidd, vn bustach ieuangc, vn hwrdd, saith oen blwyddiaid; byddant ber­ffaith-gwbl gennych.

9 Ai bwyd offrwm fydd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew, tair decfed ran gyd â bustach, a dwy ddecfed ran gyd â hwrdd:

10 Bob yn ddecfed ran, gyd â phob oen o'r saith oen;

11 Vn bwch geifr yn bech aberth, heb law pech aberth y cymmod, a'r poeth offrwm gwa­stadol, a'i fwyd offrwm, a'i diod offrymmau.

12 Ac ar y pymthecfed dydd o'r seithfed mis, cymanfa sanctaidd fydd i chwi; dim caeth-waith nis gwnewch; eithr cedwch ŵyl i'r Arglwydd saith niwrnod.

13 Ac offrymmwch offrwm poeth, aberth tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd, tri ar ddec o fustych ieuaingc, dau hwrdd, pedwar ar ddec o ŵyn blwyddiaid; byddant berffaith-gwbl.

14 A'i bwyd offrwm fydd o beillied wedi ei gymmyscu drwy olew, tair decfed ran gyd â phob bustach, o'r tri bustach ar ddec: dwy ddec­fed ran gyd â phob hwrdd, o'r ddau hwrdd:

15 A phob yn ddecfed ran gyd â phob oen, o'r pedwar oen ar ddec:

16 Ac vn bwch geifr yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol; ei fwyd offrwm, a'i ddiod offrwm.

17 Ac ar yr ail dydd yr offrymmwch ddeuddeng mhustach ieuaingc, dau hwrdd, pedwar ar ddec o ŵyn blwyddiaid perffaith-gwbl:

18 A'i bwyd offrwm, a'i diod offrwm, gyd â'r bustych, gyd â'r hyrddod, a chyd â'r ŵyn fydd yn ol eu rhifedi, wrth y ddefod:

19 Ac vn bwch geifr yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, a'i fwyd offrwm, a'i diod offrymmau,

20 Ac ar y trydydd dydd vn bustach ar ddec, dau hwrdd, pedwar ar ddec o ŵyn blwy­ddiaid perffaith-gwbl:

21 A'i bwyd offrwm, a'i diod offrwm, gyd â'r bustych, gyd â'r hyrddod, a chyd â'r ŵyn fydd yn ôl eu rhifedi wrth y ddefod:

22 Ac vn bwch geifr yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, a'i fwyd offrwm, a'i ddiod offrwm.

23 Ac ar y pedwerydd dydd, deng-mhu­stach, dau hwrdd, pedwar a'r ddec o ŵyn blwy­ddiaid perffaith-gwbl.

24 Eu bwyd offrwm, a'i diod offrwm, gyd â'r bustych, gyd a'r hyrddod, a chyd â'r ŵyn fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

25 Ac vn bwch geifr yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, ei fwyd offrwm, a'i ddiod offrwm.

26 Ac ar y pummed dydd, naw bustach, dau hwrdd, pedwar ac ddec o ŵyn blwyddiaid per­ffaith-gwbl.

27 A'i bwyd offrwm, a'i diod offrwm, gyd â'r bustych, gyd â'r hyrddod, a chyd â'r ŵyn fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

28 Ac vn bwch yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, a'i fwyd offrwm, a'i ddiod offrwm.

29 Ac a'r y chweched dydd, wyth o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddec o ŵyn blwyddiaid perffaith-gwbl:

30 A'i bwyd offrwm, a'i diod offrwm, gyd â'r bustych, gyd â'r hyrddod, a chyd â'r ŵyn fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

31 Ac vn bwch yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, ei fwyd offrwm, a'i ddiod offrwm.

32 Ac ar y seithfed dydd, saith o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddec o ŵyn blwyddiaid per­ffaith gwbl:

33 A'i bwyd offrwm, a'i diod offrwm, gyd â'r bustych, gyd â'r hyrddod, a chyd â'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi wrth eu defod:

34 Ac vn bwch yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, ei fwyd offrwm, a'i ddiod offrwm.

35 ArLevit. 23.36. yr wythfed dydd, vchel-wŷl fydd i chwi; dim caeth-waith nis gwnewch ynddo.

36 Ond offrymmwch offrwm poeth, aberth tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd, vn bustach, vn hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid perffaith­gwbl:

37 Eu bwyd offrwm, a'i diod offrwm, gyd â'r bustach, a chyd â'r hwrdd, a chyd â'r ŵyn fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

38 Ac vn bwch yn bech aberth, heb law y poeth offrwm gwastadol, ei fwyd offrwm, a'i ddiod offrwm.

39 Hyn aNeu, offrym­mwch. wnewch i'r Arglwydd ar eich gwyliau, heb law eich addunedau, a'ch offrym­mau gwirfodd, gyd â'ch offrymmau poeth, a'ch offrymmau bwyd, a'ch offrymmau diod, a'ch offrymmau hedd.

40 A dywedodd Moses wrth feibion Israel, yn ôl yr hyn ôll a orchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

PEN. XXX.

1 Na ellir torri addunedau, 3 ond adduned morwyn ifangc, 6 gwraig wriog. 9 gwraig weddw, a'r yscaredic.

A Llefarodd Moses wrth bennaethiaid llwy­thau meibion Israel gan ddywedyd, dymma y peth a orchymynnodd yr Arglwydd.

2 Os adduneda gŵr adduned i'r Arglwydd, neu dyngu llw gan rwymo rhwymedigaeth ar ei enaid ei hun, na haloged ei air, gwmed yn ôl yr hyn oll a ddêl allan o'i enau.

3 Ac os adduneda benyw adduned i'r Ar­glwydd, a'i rhwymo ei hun â rhwymedigaeth yn nhŷ ei thâd, yn ei hieuenctyd;

4 A chlywed o'i thâd ei hadduned a'i rhwy­medigaeth, yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid, a thewi o'i thâd wrthi: yna safed ei holl addu­nedau, a phob rhwymedigaeth a rwymodd hi ar ei henaid a saif.

5 Ond os ei thad a bâr iddi dorri, ar y dydd y clywo efe: o'i holl addunedau, a'i rhwymedi­gaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, ni saif vn: a maddeu 'r Arglwydd iddi, o achos mai ei thâd a barodd iddi dorri.

6 Ac os hi oedd yn eiddo gŵr, panHeb. oedd ei haddune­dau arni. addu­nodd, neu pan lefarodd o'i gwefusau beth a rwymo ei henaid hi,

7 A chlywed o'i gŵr, a thewi wrthi y dydd y clywo: yna safed ei haddunedau: a'i rhwy­medigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid a safant.

8 Ond os ei gŵr ar y dydd y clywo a bâr iddi dorri, efe a ddiddymma ei hadduned, yr hwn fydd arni, a thraethiad ei gwefusau 'r hwn a rwymodd hi ar ei henaid; a'r Arglwydd a faddeu iddi.

9 Ond adduned y weddw, a'r yscaredic, yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid a saif arni.

10 Ond os yn nhŷ ei gŵr yr addunedodd, neu y rhwymodd hi rwymedigaeth ar ei henaid trwy lw;

11 A chlywed o'i gŵr, a thewi wrthi, heb peri iddi dorri; yna safed ei holl addunedau, a phob rhwym a rwymodd hi ar ei henaid a saif.

12 Ond os ei gŵr gan ddiddymmu a'i di­ddymma hwynt y dydd y clywo; ni saif dim a ddaeth allan o'i gwefusau, o'i haddunedau, ac o rwymedigaeth ei henaid; ei gŵr a'i diddymodd hwynt, a'r Arglwydd a faddeu iddi.

13 Pôb adduned a phôb rhwymedigaeth llw, i gystuddio 'r enaid, ei gŵr a'i cadarnha, a'i gŵr a'i diddymma.

14 Ac os ei gŵr gan dewi a daw wrthi, o ddydd i ddydd, yna y cadarnhaodd efe ei holl addunedau, neu ei holl rwymedigaethau y rhai oedd arni; cadarnhaodd hwynt, pan dawodd wrthi, y dydd y clybu efe hwynt.

15 Ac os efe gan ddiddymmu a'i diddymma hwynt wedi iddo glywed; yna efe a ddwg ei hanwiredd hi.

16 Dymma y deddfau a orchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses, rhwng gŵr a'i wraig, a rhwng tâd ai ferch, yn ei hieuenctyd, yn nhŷ ei thâd.

PEN. XXXI.

1 Yspeilio 'r Midianiaid a llâdd Balaam. 13 Mo­ses yn ddîg wrth y swyddogion am gadw y gwra­gedd yn fyw. 19 Pa fodd y glanheir y mlwyr, a'i carcharorion, a'i hysclyfaeth. 25 Y môdd y mae rhannu 'r yspail. 48 Yr offrwm ewylysgar i drysor-dy yr Arglwydd.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Pen. 25.17. Dial feibion Israel ar y Midianiaid; wedi hynny ti aPen. 27.13. gesclir at dy bobl.

3 A llefarodd Moses wrth y bobl, gan ddywe­dyd, arfogwch o honoch wŷr i'r rhyfel, ac ânt yn erbyn Midian, i roddi dial yr Arglwydd ar Midian.

4Heb. Mil o lwyth, mil o lwyth. Mil o bôb llwyth o holl lwythau Israel, a anfonwch i'r rhyfel.

5 A rhoddasant o filoedd Israel fil o bôb llwyth, sef deuddeng mil, o rai wedi eu arfogi i'r rhyfel.

6 Ac anfonodd Moses hwynt i'r rhyfel, mil o bôb llwyth; hwynt a Phinees mab Eleazar yr offeiriad a anfonodd efe i'r rhyfel, a dodrefn y cyssegr, a'r vdcyrn i vtcânu yn ei law.

7 A hwy a ryfelasant yn erbyn Midian, megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses, ac a laddasant bôb gwryw.

8 Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy, gyd â'i lladdedigion eraill, Josua. 13.21. sef Efi, a Recem, a Zur, a Hur, a Reba, pum brenin Mi­dian; Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â'r cleddyf.

9 Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn gar­charorion wragedd Midian, a'i plant, ac a yspei­liasant eu holl anifeiliaid hwynt, a'i holl dda hwynt, a'i holl olud hwynt.

10 Eu holl ddinasoedd hefyd drwy eu trig­fannau, a'i holl dŷrau a loscasant â than.

11 A chymmerasant yr holl yspail, a'r holl gaffaeliad, o ddyn, ac o anifail.

12 Ac a ddygasant at Moses, ac at Eleazar yr offeiriad, ac at gynnulleidfa meibion Israel, y carcharorion, a'r caffaeliad, a'r yspail, i'r gwer­ssyll, yn rhosydd Moab, y rhai ydynt wrth yr Iorddonen ar gyfer Jericho.

13 Yna Moses ac Eleazar yr offeiriad, a holl bennaduriaid y gynnulleidfa, a aethant iw cy­farfod hwynt o'r tu allan i'r gwerssyll.

14 A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, capteniaid y miloedd, a chapteniaid y cantoedd, y rhai a ddaethant o frwydr y rhyfel.

15 A dywedodd Moses wrthynt, a adawsoch chwi bôb benyw yn fyw?

16 WeleNum. 25.2. 2 Pet. 2.15. hwynt trwy air Balaam a bara­sant i feibion Israel wneuthur camwedd yn er­byn yr Arglwydd, yn achos Peor, a bu plâ ynghynnulleidfa yr Arglwydd.

17 Am hynnyBarn. 21.11. lledwch yn awr bob gw­ryw o blentyn, a lleddwch bôb benyw a fu iddi a wnaeth â gŵr, trwy orwedd gydagHeb. Gwryw. ef.

18 A phôb plentyn o'r benwyaid y rhai ni bu iddynt a wnaethant â gŵr, cedwch yn fyw i chwi.

19 Ac arhoswch chwithau o'r tu allan i'r gwerssyll saith niwrnod: pôb vn a laddodd ddyn, aNum. 19.11. phôb vn a gyffyrddodd wrth ladde­dig, ymlanhewch y trydydd dydd, a'r seithfed dydd, chwi a'ch carcharorion.

20 Pôb gwisc hefyd, a phôb dodrefnyn cro­en, a phôb gwaith o flew geifr, a phôb llestr pren, a lanhewch chwi.

21 A dywedodd Eleazar yr offeiriad wrth y rhyfel-wŷr, y rhai a aethent i'r rhyfel; dymma ddeddf y gyfraith, a orchymynnodd yr Ar­glwydd wrth Moses.

22 Yn vnic yr aur, a'r arian, y prês, yr haiarn, yr alcam, a'r plwm:

23 Pôb dim a ddioddefo dân, a dynnwch trwy 'r tân, a glân fydd: ac etto efe a lanheirPen. 19.9. â'r dwfr nailltuaeth; a'r hyn oll ni ddioddefo dân, tynnwch trwy 'r dwfr yn vnic.

24 A golchwch eich gwiscoedd ar y seith­fed dydd, a glân fyddwch, ac wedi hynny deuwch i'r gwerssyll.

25 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

26 Cymmer nifer yr yspailHeb. o'r gaeth­glud. a gaed, o ddyn ac o anifail, ti ac Eleazar yr offeiriad, a phennau ce­nedl y gynnulleidfa.

27 A rhanna y caffaeliad yn ddwyran, rhwng y rhyfelwŷr a aethant i'r filwriaeth, a'r holl gynnulleidfa.

28 A chyfot deyrnged i'r Arglwydd gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i'r filwriaeth: vn enaid o bôb pum cant o'r dynion, ac o'r ei­dionnau, ac o'r assynnod, ac o'r defaid.

29 Cymmerwch hyn o'i hanner hwynt; a dyro i Eleazar yr offeiriad, yn dderchasel offrwm yr Arglwydd.

30 Ac o hanner meibion Israel y cymmeri vn rhan o bôb dec a deugain, o'r dynion, o'r ei­dionnau, o'r assynnod, ac o'rNeu, geifr, neu, praiad. defaid, ac o bôb anifail, a dôd hwynt i'r Lefiaid, y rhai y­dynt yn cadw cadwraeth Tabernacl yr Ar­glwydd.

31 A gwnaeth Moses ac Eleazar yr offeiriad, megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

32 A'r caffaeliad sef gweddill yr yspall, yr hon a ddygasei pobl y filwriaeth, oedd chwe chan mil, a phymthec a thrugain o filoedd o ddefaid.

33 A deuddec a thrugain mil o eidionnau.

34 Ac vn mil a thrugain o assynnod.

35 Ac o ddynion, o fenwyaid ni buasei iddynt a wnaethent â gwr, drwy orwedd gyd ag ef, ddeuddeng mil ar hugain o eneidiau.

36 A'r hanner, sef rhan y rhai a aethant i'r rhyfel, oedd o rifedi defaid drychan mîl, a dwy ar bymthec ar hugain o filoedd, a phum cant.

37 A theyrnged yr Arglwydd o'r defaid oedd chwechant, a phymthec a thrugain.

38 A'r eidionnau oedd vn mîl ar bymthec ar hugain; a'i teyrnged i'r Arglwydd oedd deuddec a thrugain.

39 A'r assynnod oedd ddeng mil ar hugain, a phum cant; a'i teyrnged i'r Arglwydd oedd vn a thrugain.

40 A'r dynion oedd vn mîl ar bymthec; ai teyrnged i'r Arglwydd oedd ddeuddec enaid ar hugain.

41 A Moses a rodd deyrnged offrwm der­chasel yr Arglwydd i Eleazar yr offeiriad, megis y gorchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

42 Ac o ran meibion Israel, yr hon a ranna­sei Moses oddi with y mil-wyr,

43 Sef rhan y gynnulleidfa o'r desaid, oedd drychan mil, a dwy ar bymthec ar hugain o fi­loedd, a phum cant:

44 Ac o'r eidionnau, vn mîl ar bymthec ar hugain:

45 Ac o'r assynnod, deng mîl at hugain, a phum cant:

46 Ac o'r dynion, un mîl ar bymthec:

47 Ie cymmerodd Moses o hanner meibion Israel, vn rhan o bôb dec a deugain, o'r dy­nion ac o'r anifeiliaid, ac a'i rhoddes hwynt i'r Lefiaid oedd yn cadw cadwraeth Tabernacl yr Arglwydd, megis y gorchymynnasei yr Ar­Arglwydd wrth Moses.

48 A'r swyddogion y rhai oedd ar filoedd y llu, a ddaethant at Moses, sef capteniaid y mil­oedd, a chapteniaid y cantoedd:

49 A dywedasant wrth Moses, dy weision a gymmerasant nifer y gwŷr o ryfel a roddaist dan ein dwylo ni, ac nid oes ŵr yn eisieu o honom.

50 Am hynny yr ydym yn offrymmu offrwm i'r Arglwydd, pôb vn yr hyn a gafodd, yn offeryn aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glustdlysau ac yn dorchau, i wneuthur cymmod tros ein heneidiau ger bron yr Arglwydd.

51 A chymerodd Moses ac Eleazar yr offeiri­ad, yr aur ganddynt; y dodrefn gweithgar oll.

52 Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm dercha­fel, yr hwn a offrymmasant i'r Arglwydd, oddi wrth gapteniaid y miloedd, ac oddi wrth gap­teniaid y cantoedd, yn vn mîl ar bymthec, saith gant, a dec a deugain o siclau.

53 (Yspeiliasei y gŵyr o ryfel, bôb un iddo ei hun.)

54 A chymmerodd Moses, ac Eleazar yr offei­riad, yr aur gan gapteniaid y miloedd a'r can­toedd, ac a'i dygasant i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth dros feibion Israel, ger bron yr Arglwydd.

PEN. XXXII.

1 Y Rubeniaid a'r Gadiaid yn gofyn eu hetifeddi­aeth y tu hwynt i'r Iorddonen. 6 Moses yn eu ceryddu hwynt. 16 Hwythau yn cynnyg iddo ef ammodau wrth ei fodd. 33 Moses yn rhoddi iddynt y wlad. 39 Hwythau yn ei goresgyn hi.

AC yr ydoedd anifeiliaid lawer i feibion Ru­ben, a llawer iawn i feibion Gad: a gwelsant dîr Jazer, aGen. 31.47. thir Gilead, ac wele y lle yn lle da i anifeiliaid.

2 A meibion Gad, a meibion Ruben a ddae­thant, ac a ddywedasant wrth Moses, ac wrth Eleazar yr offeiriad, ac wrth bennaduriaid y gynnulleidfa, gan ddywedyd,

3 Ataroth, a Dibon, a Jazer, a Nimrah, a Hesbon, ac Elealeh, a Sebam, a Nebo, a Beon,

4 Sef y tîr a darawodd yr Arglwydd o flaen cynnulleidfa Israel, tîr i anifeiliaid yw efe, ac y mae i'th weision anifeiliaid.

5 A dywedasant, os cawsom ffafor yn dy olwg, rhodder y tîr hwn i'th weision yn feddi­ant: na phâr i ni fyned tros yr Iorddonen.

6 A dywedodd Moses wrth feibion Gad, ac wrth feibion Ruben, a â eich brodyr i'r rhyfel, ac a eisteddwch chwithau ymma?

7 A pha ham yHeb. torrwch galen meib. digalonnwch feibion Israel, rhac myned trossodd i'r tîr a rodd yr Argl­wydd iddynt?

8 Felly y gwnaeth eich tadau, pan anfonais hwynt o Cades Barnea i edrych y tîr.

9 Canys aethant i fynu hydNum. 13.24▪ ddyffryn Escol, a gwelsant y tîr, a digalonnasant feibion Israel, rhac myned i'r tîr a roddasei yr Arglwydd iddynt.

10 Ac enynnodd digllonedd yr Arglwydd y dydd hwnnw, ac efe a dyngodd, gan ddywedyd,

11 Diau na chaiff yr vnNum. 14.28. o'r dynion a ddae­thant i fynu o'r Aipht, o fab vgain mlwydd ac vchod, weled y tîr a addewais trwy lŵ i Abra­ham, i Isaac, ac i Iacob, am na chyflawnasant wneuthur ar fy ôl i:

12 Ond Caleb mab Jephunneh y Ceneziad, a Josuah mab Nun; canys cyflawnasant wneu­thur ar ôl yr Arglwydd.

13 Ac enynnodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel, a gwnaeth iddynt gyrwydro yn yr anialwch ddeugain mlhynedd; nes darfod yr holl oes a wnaethei ddrygioni yngolwg yr Arglwydd.

14 Ac wele, chwi a godasoch yn lle eich ta­dau, yn gynnyrch dynion pechadurus, i chwa­negu ar angerdd llid yr Arglwydd wrth Israel.

15 Os dychwelwch oddi ar ei ôl ef, yna efe a âd y bobl etto yn yr anialwch, a chwi a ddini­striwch yr holl bobl hyn.

16 A hwy a ddaethant atto ef, ac a ddywe­dasant, corlannau defaid a adailadwn ni ymma i'n hanifeiliaid, a dinasoedd i'n plant.

17 Ac ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel, hyd oni ddygom hwynt iw lle eu hun: a'n plant a arhosant yn y dinasoedd caeroc rhag trigolion y tîr.

18 Ni ddychwelwn ni i'n tai, nes i feibion Israel berchennogi bôb vn ei etifeddiaeth.

19 Hefyd nid etifeddwn ni gyd â hwynt o'r tu hwynt i'r Iorddonen, ac oddi yno allan; am ddyfod ein etifeddiaeth i ni o'r tu ymma i'r Iorddonen, tua 'r dwyrain.

20 AJosua. 1.13. dywedodd Moses wrthynt, os gwnewch y peth hyn, os ymarfogwch i'r rhy­fel o flaen yr Arglwydd:

21 Os â pôb vn o honoch dros yr Iorddo­nen yn arfog o flaen yr Arglwydd, nes iddo yr­ru ymmaith ei elynion o'i flaen;

22 A darostwng y wlad o flaen yr Arglwydd, yna wedi hynny y cewch ddychwelyd, ac y byddwch dieuog ger bron yr Arglwydd, a cher bron Israel: a bydd y tîr hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr Arglwydd.

23 Ond os chwi ni wna fel hyn, wele pe­chu yr ydych yn erbyn yr Arglwydd; a gwy­byddwch y goddiwedda eich pechod chwi.

24 Adailedwch i chwi ddinasoedd i'ch plant, a chorlannau i'ch defaid, a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o'ch genau.

25 A llefarodd meibion Gad, a meibion Ruben wrth Moses, gan ddywedyd; dy weision a wnânt megis y mae fy arglwydd yn gor­chymmyn.

26 Ein plant, ein gwragedd, ein hanifeili­aid, a'n holl yscrubliaid fyddant ymma, yn ninasoedd Gilead.

27 A'thJosua. 4.12. weision a ânt trossodd o flaen yr Arglwydd i'r rhyfel, pôb vn yn arfog i'r filwri­aeth, megis y mae fy arglwydd yn llefaru.

28 A gorchymynnodd Moses i Eleazar yr offeiriad, ac i Josua fab Nun, ac i bennau cenedl llwythau meibion Israel, o'i plegit hwynt.

29 A dywedodd Moses wrthynt, os meibion Gad a meibion Ruben a ânt dros yr Iorddonen gyd â chwi, pôb vn yn arfog i'r rhyfel o flaen yr Arglwydd, a darostwng y wlâd o'ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlâd Gilead yn berchen­nogaeth.

30 Ac onid ânt drossodd gyd â chwi yn arfogion, cymmerant eu etifeddiaeth yn eich mysc chwi yngwlâd Canaan.

31 A meibion Gad, a meibion Ruben a at­tebasant, gan ddywedyd, fel y llefarodd yr Ar­glwydd wrth dy weision, felly y gwnawn ni.

32 Nyni a awn trossodd i dîr Canaan yn arfogion o flaen yr Arglwydd, fel y byddo meddiant ein etifeddiaeth o'r tu ymma i'r Ior­ddonen gennym ni.

33 ADeut. 3.12. Josua. 13.8 & 22.4. rhodd Moses iddynt, sef i feibion Gad, ac i feibion Ruben, ac i hanner llwyth Manasseh mab Joseph, frenhiniaeth Sehon bre­nin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenin Ba­san, y wlâd a'i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef dinasoedd y wlâd oddi amgylch.

34 A meibion Gad a adailadasant Dibon, ac Ataroth, ac Aroer,

35 Ac Atroth, Sophan, a Jaazer, a Jogbeah,

36 A Bethnimrah, a Betharan, dinasoedd caeroc; a chorlannau defaid.

37 A meibion Ruben a adailadasant Hes­bon, Elealeh, a Chiriathaim:

38 Nebo hefyd a Baalmeon (wedi troi eu henwau) a Sibmah: ac a henwasant henwau ar y dinasoedd a adailadasant.

39 AGen. 50.23. meibion Machir mab Manasseh a aethant i Gilead, ac a'i hennillasant hi, ac a yr­rasant ymaith yr Amoriaid oedd ynddi.

40 A rhodd Moses Gilead i Machir fab Ma­nasseh, ac efe a drigodd ynddi.

41 AcDeut. 3.14. aeth Jair mab Manasseh, ac a en­nillodd eu pentrefydd hwynt, ac a'i galwodd hwyntTrefydd Jair. Havoth Jair.

42 Ac aeth Nobah, ac a ennillodd Cenath a'i phentrefydd, ac a'i galwodd ar ei enw ei hun, Nobah.

PEN. XXXIII.

1 Dwy daith a deugain yr Israeliaid. 50 Bod yn rhaid dinisirio y Canaaneaid.

DYmma deithiau meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dîr yr Aipht, yn eu lluoedd, dan law Moses ac Aaron.

2 A Moses a scrifennodd eu mynediad hwynt allan yn ôl eu teithiau, wrth orchy­myn yr Arglwydd: ac dymma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan.

3 A hwy a gychwynnasantExod. 12.37. o Rameses, yn y mîs cyntaf, ar y pymthecfed dydd o'r mîs cyntaf: trannoeth wedi 'r Pasc yr aeth meibi­on Israel allan, â llaw vchel, yngolwg yr Aiph­tiaid oll.

4 (A'r Aiphtiaid oedd yn claddu pôb cyn­tafanedic, y rhai a laddasei 'r Arglwydd yn eu mysc; a gwnaethei yr Arglwydd farn yn er­byn eu duwiau hwynt hefyd.)

5 A meibion Israel a gychwynnasant o Ra­meses, ac a werssyllasant yn Succoth.

6 A chychwynnasant oExod. 13.20. Succoth, a gwer­ssyllasant yn Etham, yr hon sydd ynghwrr yr anialwch.

7 A chychwynnasant o Etham, a throesant drachefn i Pi-hahiroth, yr hon sydd o flaen Baal-Sephon; ac a werssyllasant o flaen Mig­dol.

8 A chychwynnasant o Pi-hahiroth, ac ae­thantExod. 15.22. trwy ganol y môr i'r anialwch, a cher­ddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwerssyllasant yn Marah.

9 A chychwynnasant o Marah,Exod. 15.27. a daethant i Elim: ac yn Elim yr ydoedd deuddec o ffyn­honnau dwfr, a dec a thrugain o Balm-wydd: a gwerssyllasant yno.

10 A chychwynnasant o Elim, a gwerssylla­sant wrth y môr côch.

11 A chychwynnasant oddi wrth y môr côch, a gwerssyllasant ynExod. 16.1. anialwch Sin.

12 Ac o anialwch Sin y cychwynnasant, ac y gwerssyllasant yn Dophcah.

13 A chychwynnasant o Dophcah, a gwer­ssyllasant yn Alus.

14 A chychwynnasant o Alus, a gwerssylla­sant ynExod. 17.1. Rephidim, lle nid oedd dwfr i'r bobl iw yfed.

15 A chychwynnasant o Rephidim, a gwer­ssyllasantExod. 19.1. Num. [...] [...]4. yn anialwch Sinai.

16 A chychwynnasant o anialwch Sinai, a gwerssyllasant yn [...]ddau [...] blys. Cibroth Hattaauah.

17 A chychwynnasant o Cibroth Hattaauah, aNum. 11.35. gwerssyllasant yn Hazeroth.

18 A chychwynnasant o Hazeroth, a gwer­ssyllasant yn Rithmah.

19 A chychwynnasant o Rithmah, a gwer­ssyllasant yn Rimmon Parez.

20 A chychwynnasant o Rimmon Parez, a gwerssyllasant yn Libnah.

21 A chychwynnasant o Libnah, a gwer­ssyllasant yn Rissah.

22 A chychwynnasant o Rissah, a gwerssylla­sant yn Cehelathah.

23 A chychwynnasant o Cehelathah, a gwer­ssyllasant yn mynydd Sapher.

24 A chychwynnasant o fynydd Sapher, a gwerssyllasant yn Haradah.

25 A chychwynnasant o Haradah, a gwer­ssyllasant yn Maceloth.

26 A chychwynnasant o Maceloth, a gwer­ssyllasant yn Tahath.

27 A chychwynnasant o Tahath, a gwer­ssyllasant yn Tarah.

28 A chychwynnasant o Tarah, a gwer­ssyllasant yn Mithcah.

29 A chychwynnasant o Mithcah, a gwer­ssyllasant yn Hasmonah.

30 A chychwynnasant o Hasmonah, a gwer­ssyllasantDeut. 1 [...].6. yn Moseroth.

31 A chychwynnasant o Moseroth, a gwer­ssyllasant yn Bene Jaacan.

32 A chychwynnasant o Bene Jaacan, a gwerssyllasant yn Horhagidgad.

33 A chychwynnasant o Horhagidgad, a gwerssyllasant yn Jotbathah.

34 A chychwynnasant o Jotbathah, a gwer­ssyllasant yn Ebronah.

35 A chychwynnasant o Ebronah, a gwer­ssyllasant yn Ezion Gaber.

36 A chychwynnasant o Ezion Gaber, a g [...]erssyllasant ynNum. [...] anialwch Sin, hwnnw yw Ca [...]es.

37 A chy [...]hwynnasant o [...] Cades, a gwer­ssyll [...] ym mynydd Hor, ynghwrr tîr Edom.

38 [...] yr offeiriad a aeth i fynydd [...] orchymyn yr Arglwydd, ac a fu [...], yn y dde [...]einfed flwyddyn wedi dy­ [...] [...] o dir yr Aipht, yn y [...], ar y dydd cyntaf o'r mis.

39 [...] fâb tair blwydd ar hugain [...] farw ym mynydd Hor.

40 A [...] [...]. Arad y Canaanead, yr hwn [...] yn y dehau yn nhîr Canaan, a [...] ddyfodiad meibion Israel.

41 A chychwynnasant o [...] fynydd Hor, a [...]

42 [...]chwynasant o Zalmonah, a gwer­sylla [...] [...].

A chychwynnasant o Punon, a gwer­ [...] [...].

44 A [...]hych [...]sant o Oboth a gwer­ssyl [...] [...] ar derfyn Moab.

45 A chychwynnasant o lle Abarim, a gwer­ssyll [...] [...].

46 A chychwynna [...]nt o Dibon Gad, a gwer­s [...]yllas [...] yn Almon Diblathaim,

A chychwynnasant o Almon Dibla­thaim a gwerssyllasant ym mynyddoedd Aba­rim o f [...]n Nebo.

48 A chychwynnasant o fynyddoedd Aba­rim [...] gwerssyllasant yn rhossydd Moab, wrth yr [...]donen ar gyfer Jericho.

49 A gwerssyllasant wrth yr Iorddonen, o [...] Jesimoth hyd [...] wastadodd [...] Sittim, yn [...]sydd Moab.

50 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhossyd Moab wrth yr Iorddonen ar gyfer Jericho, gan ddywedyd.

51 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, gan eich bod chwi ynDeut. 7.2. Josua 3.11. myned tros yr Iorddonen i dîr Canaan;

52 Gyrrwch ymmaith holl drigolion y tîr o'ch blaen, a dinistriwch eu holl luniau hwynt, dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl vchelfeudd hwynt.

53 A gorescynnwch y tîr, a thrigwch yn­ddo: canys rhoddais y tîr i chwi iw berchen­nogi.

54 Rhennwch hefyd y tîr yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren,Num. 26.53. i'r aml chwanegwch ei etifeddiaeth; ac i'r anaml prin­hewch ei etifeddiaeth; bydded eiddo pôb vn y man lle yr êl y coelbren allan iddo: yn ol llwythau eich tadau yr etifeddwch.

55 Ac oni yrrwch ymmaith bresswylwyr y tîr o'ch blaen, yna y bydd y rhai aDeut. 7.16. weddi­llwch o honynt ynJosua 23.13. Barn. 2.3. gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlyssau, a blinant chwi yn y tîr y trigwch ynddo.

56 A bydd, megis yr amcenais wneuthur iddynt hwy, y gwnaf i chwi.

PEN. XXXIV.

1 Terfynau y wlad. 16 Henwau y rhai a ran­nant y tir.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd;

2 Gorchymyn i feibion Israel a dywed wrth­ynt, pan ddeloch chwi i dîr Canaan, (dymma y tîr a syrth i chwi yn etifeddiaeth sef gwlad Canaan a'i therfynau.)

3 A'ch tuJosua 15.1. Num. 15.1. dehau fydd o anialwch Sin ger llaw Edom: a therfyn y dehau fydd i chwi, o gwrr y môr heli, tua 'r dwyrain.

4 A'ch terfyn a amgylchyna o'r dehau i riw Acrabbim, ac â trossodd i Sin: a'i fynediad allan fydd o'r dehau i Cades Barnea, ac â allan i Hazar-Adar, a throssodd i Azmon.

5 A'r terfyn a amgylchyna o Azmon i afon yr Aipht, a'i fynediad ef allan a fydd tua 'rHeb. Mor. gorllewin.

6 A therfyn y gorllewin fydd y môr mawr i chwi, sef y terfyn hwn fydd i chwi yn derfyn gorllewin.

7 A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi, o'r môr mawr y tueddwch i fynydd Hor.

8 O fynydd Hor y tueddwch nes dyfod i Hamath, a mynediad y terfyn fydd i Zedad.

9 A'r terfyn a â allan tua Ziphron, a'i ddi­wedd ef sydd yn Hazar Enan; hwn fydd ter­fyn y gogledd i chwi.

10 A therfynwch i chwi yn derfyn y dwy­rain, o Hazar Enan i Sepham.

11 Ac acd y terfyn i wared o Sepham i Ribla, ar du dwyrain Ain: a descynned y terfyn, ac aed hŷdHeb. yscwydd. ystlys môr Cinnereth tua 'r dwyrain.

12 A'r terfyn â i wared tua 'r Iorddonen, a'i ddiwedd fydd y môr heli: dymma y tir sydd i chwi a'i derfynau oddi amgylch.

13 A gorchymynnodd Moses i febion Israel, gan ddywedyd, dymma y tîr a rennwch yn etifeddiaethau wrth goel-bren, yr hwn a orchy­mynnodd yr Arglwydd ei roddi i'r naw llwyth, ac i'r hanner llwyth.

14Num. 32.33. Josua 14 2, 3, 4. Canys cymmerasei llwyth meibion Ru­ben yn ôl tŷ eu tadau, a llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth Manasseh, cym­merasant meddaf eu hetifeddiaeth.

15 Dau lwyth a hanner llwyth a gymmera­sant eu hetifeddiaeth o'r tu ymma i'r Iorddonen yn agos i Jericho, tua 'r dwyrain a chodiad haul.

16 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

17 Dymma henwau y gwŷr a rannant y tîr yn etifeddiaethau i chwi,Josua. 19.51. Eleazar yr offei­riad, a Josuah mab Nun.

18 Ac vn pennaeth o bob llwyth a gym­merwch i rannu y tîr yn etifeddiaethau.

19 Ac fel dymma henwau y gwŷr: o lwyth Judah, Caleb mab Jephunneh.

20 Ac o lwyth meibion Simeon, Semuel mab Ammihud.

21 O lwyth Benjamin, Elidad mab Cislon.

22 A Bucci mab Jogli yn Bennaeth o lwyth meibion Dan.

23 O feibion Joseph, Haniel mab Ephod, yn bennaeth tros lwyth meibion Manasseh.

24 Cemuel hefyd mab Siphtan, yn benna­eth tros lwyth meibion Ephraim.

25 Ac Elisaphan mab Pharnach, yn benna­eth tros lwyth meibion Zabulon.

26 Paltiel hefyd mab Asan, yn bennaeth tros lwyth meibion Issachar.

27 Ac Ahihud mab Salomi, yn bennaeth tros lwyth meibion Aser.

28 Ac yn bennaeth tros lwyth meibion Nephtali, Pedahel mab Ammihud.

29 Dymma y rhai a orchymynnodd yr Ar­glwydd iddynt rannu etifeddiaethau i feibion Israel yn nhir Canaan.

PEN. XXXV.

1 Rhoddi wyth dref a deugain a'i pentrefi i'r Lefiaid, a'i mesur. 6 Chwech o'r rhai hynny yn drefydd noddfa. 9 Cyfraith llawruddiaeth. 31 Ac nas gellir ei ddywygio.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhossydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho, gan ddywedyd,

2 Corchymmyn i feibion Israel,Josua. 21.2. roddi o honynt i'r Lefiaid o etifeddiaeth eu meddiant, ddinasoedd i drigo ynddynt: rhoddwch hefyd i'r Lefiaid faes pentrefol wrth y dinasoedd o'i hamgylch.

3 A'r dinasoedd fyddant iddynt i drigo yn­ddynt, a'i pentrefol feusydd fyddant iw hanifei­liaid, ac iw cyfoeth, ac iw holl fwyst-filod.

4 A meusydd pentrefol y dinasoedd y rhai a roddwch i'r Lefiaid, a gyrhaeddant o fûr y ddi­nas tu ac allan, fil o gufyddau o amgylch.

5 A mesurwch o'r tu allan i'r ddinas, o du 'r dwyrain ddwy fil o gufyddau, a thu a'r de­hau ddwy fil o gufyddau, a thu a'r gorllewin ddwy fil o gufyddau, a thu a'r gogledd ddwy fil o gufyddau; a'r ddinas fydd yn y canol; hyn fydd iddynt yn feusydd pentrefol y dina­soedd.

6 Ac o'r dinasoedd a roddwch i'r Lefiaid, bydded Deut. 4.41. Jos. 20.2. Exod. 21.13. Deut. 10 2. Jos. 21.3. chwech yn ddinasoedd noddfa, y rhai a roddwch fel y gallo y llawruddiog ffoi yno: a rhoddwch ddwy ddinas a deugain attynt yn ychwaneg.

7 Yr holl ddinasoedd a roddwch i'r Lefiaid fyddant wyth ddinas a deugain, hwynt a'i pentrefol feusydd.

8 A'r dinassoedd y rhai a roddwch fydd o feddiant meibion Israel; oddi ar yr aml eu di­nasnedd y rhoddwch yn aml, ac oddi ar y prin y rhoddwch yn brin; pob vn yn ôl ei etife­ddiaeth â etifeddant, a rydd i'r Lefiaid o'i ddinasoedd.

9 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

10 Llefara wrth feibion Israel a dywed wrth­yntDeut. 19.2. Jos. 20.2. pan eloch tros yr Iorddonen i dîr Ca­naan,

11 Yna gosodwch i chwi ddinasoedd; dina­soedd noddfa fyddant i chwi; ac yno y ffŷ y llawruddiog a laddo ddŷn mewn amryfusedd.

12 A'r dinasoedd fyddant i chwi yn noddfa rhac y dialudd: fel na ladder y llawruddiog hyd oni safo ger bron y gynnulleidfa mewn barn.

13 Ac o'r dinasoedd y rhai a roddwch, chwech fydd i chwi yn ddinasoedd noddfa.

14 Tair dinas a roddwch o'r tu ymma i'r Iorddonen, a thair dinas a roddwch yn nhir Canaan: dinasoedd noddfa fyddant hwy.

15 I feibion Israel, ac i'r dieithr, ac i'r ym­deithydd a fyddo yn eu mysc, y bydd y chwe dinas hyn yn noddfa: fel y gallo pob vn a laddo ddyn mewn amryfusedd ffoi yno.

16 AcExod. 21.14. os ag offeryn haiarn y tarawodd ef fel y bu farw, llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.

17 Ac os â charrec-law yr hon y byddei efe farw o'i phlegit, y trawodd ef a'i farw; llawru­ddiog yw efe, lladder y llawruddiog yn farw.

18 Neu os efe a'i tarawodd ef â llaw-ffon, yr hon y bydde efe farw o'i phlegit, a'i farw; llawruddiog yw efe, lladder y llawruddiog yn farw.

19 Dialudd y gwaed a ladd y llawruddiog, pan gyfarfyddo ag ef, efe a'i lladd ef.

20 Ac osDeut. 19.11. mewn câs y gwthia efe ef, neu y teifl atto mewn bwriad, fel y byddo efe farw;

21 Neu ei daro ef â'i law, mewn gelynastra, fel y byddo farw; lladder yn farw yr hwn a'i tarawodd; llofrudd yw hwnnw: dialudd y gwaed a ladd y llofrudd pan gyfarfyddo ag ef.

22 OndExod. 21.13. os yn ddisymmwth, heb elynastra y gwthia efe ef, neu y teifl atto vn offeryn yn ddifwriad:

23 Neu ei daro ef â charrec, y byddei efe farw o'i phlegit, heb ei weled ef; a pheri iddi syrthio arno, fel y byddo farw, ac efe heb fod yn elyn, ac heb geisio niwed iddo ef:

24 Yna barned y gynnulleidfa rhwng y tarawudd, a dialudd y gwaed, yn ôl y barne­digaethau hyn.

25 Ac achubed y gynnulleidfa y llofrudd, o law dialudd y gwaed, a throed y gynnulleidfa ef i ddinas ei noddfa yr hon y ffodd efe iddi: a thriged yntef ynddi hyd farwolaeth yr arch­offeiriad, yr hwn a enneiniwyd â'r olew cysseg­redic.

26 Ac os y llofrudd gan fyned â allan o der­fyn dinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi:

27 A'i gael o ddialudd y gwaed allan o derfyn dinas ei noddfa, a lladd o ddialudd y gwaed y llofrudd,Heb. Ni bydd gwaed iddo. na rodder hawl gwaed yn ei erbyn:

28 Canys o fewn dinas ei noddfa y dyly drigo hyd farwolaeth yr arch-offeiriad, ac wedi marwolaeth yr arch-offeiriad, dychweled y llofrudd i dîr ei etifeddiaeth.

29 A hyn fydd i chwi yn ddeddf farne­dic drwy eich cenhedlaethau, yn eich holl drigfannau.

30 Pwy bynnac a laddo ddyn, wrth aDeut. 17.6. & 19.15. Mat. 18.16. 2 Cor. 13.1. Heb. 10.32 Ac 28. ddywedo tystion y lleddir y llofrudd: ac vn tŷst ni chaiff dystiolaethu yn erbyn dŷn i beri iddo farw.

31 Hefyd na chymmerwch iawn am enioes y llofrudd, yr hwn sydd euog i farw; ond lladder ef yn farw.

32 Ac na chymmerwch iawn gan yr hwn a ffôdd i ddinas ei noddfa, er cael dychwelyd i drigo yn y tîr, hyd farwolaeth yr offeiriad.

33 Fel na halogoch y tîr yr ydych ynddo; canys y gwaed hwn a haloga y tîr: a'r tîr ni lanheir oddi wrth y gwaed a dywallter arno, ond â gwaed yr hwn a'i tywalltodd.

34 Am hynny nac aflanhâ y tîr y trigoch ynddo, yr hwn yr ydwyfi yn presswylio yn ei ganol: canys myfi 'r Arglwydd ydwyf yn presswylio ynghanol meibion Israel.

PEN. XXXVI.

1 Bod yn rhaid i etifeddesau, 5 briodi yn eu llwythau eu hunain, 7 rhag symmudo 'r etife­ddiaeth oddiwrth y llwyth. 10 Merched Zalphaad yn priodi meibien eu hewythr frawd eu tâd.

PEnnau cenedl tylwyth meibion Gilead, mab Machir, mab Manasseh, o dylwyth meibion Joseph, a ddaethant hefyd, ac a lefarasant ger bron Moses a cher bron y pennaduriaid, sef pen­nau cenhedl meibion Israel,

2 Ac a ddywedasant,Pen. 27.7. Josua 17.3. yr Arglwydd a or­chymynnodd i'm harglwydd, roddi y tîr yn eti­feddiaeth i feibion Israel wrth goelbren: a'm harglwydd a orchymynwyd gan yr Arglwydd i roddi etifeddiaeth Zalphaad ein brawd iw ferched.

3 Os hwy a fyddant wragedd i rai o feibion llwythau eraill meibion Israel, yna y tynnir ymmaith eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth eti­feddiaeth ein tadau ni, ac a'i chwanegir at eti­feddiaeth y llwyth y byddant hwy eiddynt, a phrinheir ar randir ein etifeddiaeth ni.

4 A phan fyddo y Jubili i feibion Israel, yna y chwanegir eu hetifeddiaeth hwynt at etifeddi­aeth llwyth y rhai y byddant hwy eiddynt: a thorrir eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth eti­feddiaeth llwyth ein tadau ni.

5 A gorchymynnodd Moses i feibion Israel, yn ôl gair yr Arglwydd, gan ddywedyd, mae llwyth meibion Joseph yn dywedyd yn vni­on.

6 Dymma ypeth. gair a orchymynnodd yr Ar­glwydd am ferched Zalphaad, gan ddywedyd, byddant wragedd i'r rhai y byddo da yn eu golwg eu hun;Tob. 1.9. ond i rai o dylwyth llwyth eu tâd eu hun y byddant yn wragedd.

7 Felly ni threigla etifeddiaeth meibion Is­rael o lwyth i lwyth; canys glynu y wna pob vn o feibion Israel yn etifeddiaeth llwyth ei dadau ei hun.

8 A phob merch yn etifeddu etifeddiaeth o lwythau meibion Israel, a fydd wraig i vn o dylwyth llwyth ei thâd ei hun: fel yr etifeddo meibion Israel bob vn etifeddiaeth ei dadau ei hun.

9 Ac na threigled etifeddiaeth o lwyth i lwyth arall; canys llwythau meibion Israel a lynant bob vn yn ei etifediaeth ei hun.

10 Megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth merched Zalphaad.

11Pen. 27.1. Canys Mahlah, Tirzah, a Hoglah, a Mil­cah, a Noah, merched Zalphaad, fuant yn wragedd i feibion eu hewythredd:

12 I wŷr o dylwyth Manasseh fab Joseph, y buant yn wragedd: a thrigodd eu hetifeddi­aeth hwynt wrth lwyth tylwyth eu tâd.

13 Dymma y gorchymynion, a'r barnedi­gaethau a orchymynnodd yr Arglwydd i feibi­on Israel trwy law Moses, yn rhossydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho.

PVMMED LLYFR MOSES YR hwn a elwir Deuteronomium.

PEN. I.

1 Araith Moses yn niwedd y ddeugeinfed flwy­ddyn, yn adrodd ar fyrr eirieu yr holl histori, 6 Am addewid Duw, 9 Am osod swyddogion arnynt, 19 Am ddanfon yr yspiwyr i chwilio 'r wlâd, 34 Am ddigofaint Duw am eu hang­hrediniaeth, 41 a'i hanufydd-dod hwy.

DYmma y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel, o'r tu ymma i'r Iorddonen yn yr anialwch, ar y rhos gyferbyn a'rNeu, Zuph. môr côch, rhwng Paran a Thophel, a Laban, a Hazeroth, a Di­zahab.

2 (Taith vn diwrnod ar ddec sydd o Ho­reb, ffordd yr eir i fynydd Seir, hyd Cades Bar­nea.)

3 A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn, yn yr vnfed mîs ar ddec, ar y dydd cyntaf o'r mis, i Moses lefaru wrth feibion Israel, yn ôl yr hyn oll a orchymynnasei yr Arglwydd iddo ei ddy­wedyd wrthynt:

4 Wedi iddo laddNum. 21.24. Sehon brenin yr Amo­riaid yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac Og brenin Basan, yr hwn oedd yn trigo yn Astar­oth, o fewn Edrai.

5 O'r tu yma i'r Iorddonen yngwlâd Moab y dechreuodd Moses egluro y gyfraith hon, gan ddywedyd,

6 Yr Arglwydd ein Duw a lefarodd wrth­ym ni yn Horeb, gan ddywedyd, digon i chwi drigo hyd yn hyn yn y mynydd hwn:

7 Dychwelwch, a chychwynnwch rhagoch, ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac iw hollHeb. gymydo­gion. gyfagos leoedd; i'r rhôs, i'r mynydd, ac i'r dyffryn, ac i'r dehau, ac i borthladd y môr, i dîr y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Euphrates.

8 Wele, rhoddais y wlâd o'ch blaen chwi: ewch i mewn,Gen. 15.18. & 17.7, 8. a pherchennogwch y wlâd yr hon a dyngodd yr Arglwydd i'ch tadau chwi, i Abraham, i Isaac, ac i Iacob, ar ei rhoddi iddynt, ac iw hâd ar eu hôl hwynt.

9 A mi a leferais wrthychExod. 18.19. yr amser hwnnw, gan ddywedyd, ni allafi fy hun eich cynnal chwi.

10 Yr Arglwydd eich Duw a'ch lluosogodd chwi, ac wele chwi heddyw fel sêr y nefoedd o luosogrwydd.

11 (Arglwydd Dduw eich tadau a'ch cyn­nyddo yn fil lluosogach nag ydych, ac a'ch ben­dithio fel y llefarodd efe wrthych.)

12 Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder, a'ch baich, a'ch ymryson chwi?

13 Moeswch iwch wŷr doethion, a deallus, a rhai hynod trwy eich llwythau, fel y gosod­wyf hwynt yn bennau arnoch chwi.

14 Ac attebasoch fi, a dywedasoch, da yw gwneuthur y peth a ddywedaist.

15 Cymmerais gan hynny bennau eich llwythau chwi, sef gwŷr doethion, a rhai hynod, ac a'iHeb. rhoddais. gwneuthum hwynt yn bennau arnoch, sef yn gapteniaid ar filoedd, ac yn gapteniaid ar gantoedd, ac yn gapteniaid ar [Page] ddegau a deugain, ac yn gapteniaid ar ddegau, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi.

16 A'r amser hwnnw y gorchymynnais i'ch barnwŷr chwi, gan ddywedyd, gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr, aJoan. 7.24. bernwch yn gyfiawn rhwng gŵr a'i frawd, ac a'r dieithr sydd gyd ag ef.

17 Na chydnabyddwch wynebau mewn barn,Levit. 19.15. Deut. 16.19. 1 Sam. 16.7. Dihar. 24.23. Iac. 2.2. gwrandewch ar y lleiaf, yn gystal ac ar y mwyaf: nac ofnwch wyneb gŵr, o blegit y farn sydd eiddo Duw: a'r pêth a fydd rhy galed i chwi a ddygwch attafi, a mi a'i gwrandawaf.

18 Gorchymynnais i chwi hefyd yr amser hwnnw yr holl bethau a ddylech eu gwneu­thur.

19 A phan fudasom o Horeb, ni a gerdda­som trwy yr holl anialwch mawr, ac ofnadwy hwnnw, yr hwn a welsoch ffordd yr eir i fynydd yr Amoriaid, fel y gorchymynnasei yr Arglwydd ein Duw i ni: ac a ddaethom i Cades Barnea.

20 A dywedais wrthych, daethoch hyd fy­nydd yr Amoriaid, yr hwn y mae 'r Arglwydd ein Duw yn ei roddi i ni.

21 Wele 'r Arglwydd dy Dduw a roddes y wlâd o'th flaen: dos i fynu a pherchennoga hi, fel y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthit: nac ofna, ac na lwfrhâ.

22 A chwi oll a ddaethoch attaf, acNum. 13.1. a ddy­wedasoch, anfonwn wŷr o'n blaen, a hwy a chwiliant y wlâd i ni, ac a fynegant beth i ni, am y ffordd yr awn i fynu rhyd-ddi, ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt.

23 A'r peth oedd dda yn fyngolwg: ac mi a gymerais ddeuddeng-wr o honoch, vngŵr o bob llwyth.

24Num. 13.24. A hwy a droesant ac a aethant i fynu i'r mynydd, ac a ddaethant hyd ddyffryn Escol, ac a'i chwiliasant ef.

25 Ac a gymmerasant o ffrwyth y tîr yn eu llaw, ac a'i dygasant i wared attom ni, ac a ddygasant air i ni trachefn, ac a ddywedasant, da yw 'r wlâd y mae 'r Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni.

26 Er hynny ni fynnech fyned i fynu; ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr Arglwydd eich Duw.

27 Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll, a dywedasoch, am gasau o'r Arglwydd nyni y dug efe ni allan o dir yr Aipht, i'n rhoddi yn llaw 'r Amoriaid i'n difetha.

28 I ba le 'r awn i fynu? ein brodyr a'n digalonnasant ni, gan ddywedyd, pobl fwy, a hwy nâ nyni ydynt, dinasoedd mawrion, a chaeroc hyd y nefoedd, aNum. 13.28. meibion yr Anaci­aid hefyd a welsom ni yno.

29 Yna y dywedais wrthych, nac arswyd­wch, ac nac ofnwch rhacddynt hwy.

30 Yr Arglwydd eich Duw 'r hwn sydd yn myned o'ch blaen, efe a ymladd trosoch, yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe eroch chwi yn yr Aipht o flaen eich llygaid:

31 Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel i'th ddug yr Arglwydd dy Dduw, fel y dwg gŵr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i'r man ymma.

32 Etto yn y peth hyn, ni chredasoch chwi yn yr Arglwydd eich Duw,

33Exod. 13.21. Yr hwn oedd yn myned o'ch blaen chwi ar hyd y ffordd, i chwilio i chwi am le i wer­ssyllu; y nôs mewn tân i ddangos i chwi pa ffordd yr aeth, a'r dydd mewn cwmwl.

34 A chlybu 'r Arglwydd lais eich geiriau, ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddwedyd,

35Num. 14.29. Diau na chaiff yr vn o'r dynion hyn, o'r genhedlaeth ddrwg hon, weled y wlâd dda 'r hon y tyngais ar ei rhoddi i'ch tadau chwi:

36 Oddieithr Caleb mab Jephunneh, efe a'i gwêl hi,Josua 14.6. ac iddo ef y rhoddaf y wlâd y sangodd efe arni, ac iw feibion, o achos cyflaw­ni o honaw wneuthur ar ôl yr Arglwydd.

37Num. 20.12. & 27.14. Deut. 3.26. & 4.21. & 34.4. Wrthif finne hefyd y digiodd yr Ar­glwydd o'ch plegit chwi, gan ddywedyd, tithe hefyd ni chei fyned i mewn yno.

38 Josuah mab Nun yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di, efe a â i mewn yno: cadarnhâ di ef, canys efe a'i rhan hi 'n etifeddiaeth i Israel.

39 Eich plant hefyd, y rhai y dywedasoch y byddent yn yspail, a'ch meibion chwi y rhai ni wyddant heddyw na da, na drwg, hwynt hwy a ânt i mewn yno, ac iddynt hwy y rho­ddaf hi, a hwy a'i perchennogant hi.

40 Trowch chwithau, ac ewch i'r anialwch, ar hŷd ffordd y môr côch.

41 Yna yr attebasoch, ac a ddywedasoch wrthif,Num. 14.40. pechasom yn erbyn yr Arglwydd, nyni a awn i tynu, ac a ymladdwn, yn ol yr hyn oll a orchymynnodd yr Arglwydd ein Duw i ni: a gwiscasoch bob vn ei arfau rhyfel, ac a ymroesoch i fyned i'r mynydd.

42 A dywedodd yr Arglwydd wrthif, dy­wed wrthynt, nac ewch i fynu, ac na ryfelwch; o blegit nid ydwyfi yn eich mysc chwi; rhac eich taro o flaen eich gelynion.

43 Felly y dywedais wrthych, ond ni wran­dawsoch, eithr gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr Arglwydd, rhyfygasoch hefyd ac aethoch i fynu i'r mynydd.

44 A daeth allan yr Amoriaid oedd yn trigo yn y mynydd hwnnw i'ch cyfarfod chwi, ac a'ch ymlidiasant fel y gwnai gwenyn, ac a'ch difethasant chwi yn Seir hyd Hormah.

45 A dychwelasoch ac ŵylasoch ger bron yr Arglwydd: ond ni wrandawodd yr Arg­lwydd ar eich llef, ac ni roddes glust i chwi.

46 Ac arhosasoch yn Cades ddyddiau lawer, megis y dyddiau yr arhosasech o'r blaen.

PEN II.

1 Moses yn myned rhagddo yn yr histori, ac yn dangos nad oedd iddynt hwy â wnaent a'r Edo­miaid, 9 na'r Moabiaid, 17 na'r Ammoni­aid, 24 ond gorchfygu a wnaethant Sehon yr Amoriad.

YNa y troesom ac a aethom i'r anialwch ar hyd ffordd y môr coch, fel y dywedasei yr Arglwydd wrthif: ac a amgylchasom fynydd Seir ddyddiau iawer.

2 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrthif, gan ddywedyd,

3 Digon i chwi amgylchu y mynydd hwn hyd yn hyn: ymchwelwch rhagoch tua 'r gog­ledd.

4 A gorchymmyn i'r bobl, gan ddywedyd, yr ydych i dramwyo trwy derfynau eich bro­dyr, meibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir, a hwyntau a ofnant rhagoch; ond ymgedwch yn ddyfal.

5 Nac ymyrrwch arnynt, o herwydd ni ro­ddaf i chwi o'i tir hwynt gymmeint aHeb. lled gwa­dn troed. lled troed:Gen. 36.8. canys yn etifeddiaeth i Esau y rho­ddais fynydd Seir.

6 Prynwch fwyd ganddynt am arian fel y bwyttaoch: a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian, fel yr yfoch.

7 Canys yr Arglwydd dy Dduw a'th fendi­thiodd di yn holl waith dy law; gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlhynedd hyn y bu yr Arglwydd dy Dduw gyd â thi, ni bu arnat eisieu dim.

8 Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr meibion Esau, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, o ffordd y rhôs, o Elath, ac o Ezion-gaber, ni a ddychwelasom, ac aethom ar hŷd ffordd ani­alwch Moab.

9 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthif, naNeu, na wna elyniaeth a. orthrymma Moab, ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt; o blegit ni roddaf it fe­ddiant o'i dir ef: o herwydd i feibion Lot y rho­ddais Ar yn etifeddiaeth.

10 Yr Emiaid o'r blaen a gyfanneddasant yn­ddi; pobl fawr, ac aml, ac vchel fel yr Anaciaid.

11 Yn gawri y cymmerwyd hwynt hefyd fel yr Anaciaid, a'r Moabiaid a'i galwent hwy yn Emiaid.

12 YrGene. 36.20. Horiaid hefyd a bresswyliasant yn Seir o'r blaen, a meibion Esau aHebr. a'i heti­feddasant. ddaeth ar ei hôl hwynt, ac a'i difethasant o'i blaen, a thriga­sant yn eu lle hwynt, fel y gwnaeth Israel i wlad ei etifeddiaeth yntef, yr hon a roddes yr Ar­glwydd iddynt.

13 Yna y dywedais, cyfodwch yn awr, a thram­wywch rhagoch trosNeu, ddyffryn. afonNum. 21.12. Zared: ac ni a ae­thom tros afon Zared.

14 A'r dyddiau y cerddasom o Cades Barnea, hyd pan ddaethom tros afon Zared, oedd onid dwy flynedd deugain, nes darfod holl genhed­laeth y gwŷr o ryfel o ganol y gwerssyllau, fel y tyngasei 'r Arglwydd wrthynt.

15 Canys llaw 'r Arglwydd ydoedd yn eu herbyn hwynt, iw torri hwynt o ganol y gwer­ssyll hyd oni ddarfuant.

16 A bu wedi darfod yr holl ryfel-wŷr, a'u marw o blith y bobl,

17 Lefaru o'r Arglwydd wrthif, gan ddywe­dyd,

18 Tydi heddyw wyt ar fyned trwy derfy­nau Moab, sef trwy Ar.

19 A phan ddelech di gyferbyn a meibion Ammon, na orthrymma hwynt, ac nac ymmyr arnynt; o blegit ni roddaf feddiant o dir meibi­on Ammon i ti, canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot.

20 (Yn wlâd cawri hefyd y cyfrifwyd hi: cawri a bresswyliasant ynddi o'r blaen: a'r Am­moniaid a'i galwent hwy yn Zamzummiaid:

21 Pobl fawr, ac aml, ac vchel fel yr Anaci­aid; a'r Arglwydd a'i difethodd hwynt o'i blaen hwy, a hwy a ddaethant ar eu hol hwynt, ac a drigasant yn eu lle hwynt.)

22 Fel y gwnaeth i feibion Esau y rhai sydd yn trigo yn Seir, pan ddifethodd efe yr Horiaid o'i blaen, fel y daethant ar eu hol hwynt, ac y trigasant yn ei lle hwynt, hyd y dydd hwn:

23 Felly am yr Afiaid y rhai oedd yn trigo yn Hazerim, hyd Azza, y Caphtoriaid y rhai a ddaethant allan o Caphtor, a'i difethasant hwy, ac a drigasant yn eu lle hwynt.

24 Cyfodwch, cychwynnwch, ac ewch tros afon Arnon: wele, rhoddais yn dy law di Sehon brenin Hesbon yr Amoriad, a'i wlâd ef:Hebr. Dechreu, meddi­anna. dech­reu ei meddiannu hi, a rhyfela yn ei erbyn ef.

25 Y dydd hwn y dechreuaf roddi dy ar­swyd, a'th ofn di ar y bobloedd tan yr holl ne­foedd, y rhai a glywant dy henw di a ddych­rynant, ac a lescaant rhagot ti.

26 Ac mi a anfonais gennadau o anialwch Cedemoth at Sehon brenin Hesbon â geiriau he­ddwch, gan ddywedyd,

27Num. 21.22. Gâd i mi fyned trwy dy wlâd ti: ar hŷd y briffordd y cerddaf, ni chiliaf i'r tu de­hau, nac i'r tu asswy.

28 Gwerth fwyd am arian i mi, fel y bwyt­tawyf, a dyro ddwfr am arian i mi fel yr yfwyf; ar fy nrhaed yn vnic y tramwyaf:

29 Fel y gwnaeth meibion Esau i mi, y rhai sydd yn trigo yn Seir, a'r Moabiaid y rhai sydd yn trigo yn Ar, hyd onid elwyf tros yr Iorddo­nen, i'r wlâd y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni.

30 Ond ni fynnei Sehon brenin Hesbon ein gollwng heb ei law: o blegit yr Arglwydd dy Dduw a galedasei ei yspryd ef, ac a gadarnha­sei ei galon ef, er mwyn ei roddi ef yn dy law di, megis heddyw y gwelir.

31 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthif, wele, dechreuais roddi Sehon, a'i wlâd o'th flaen di; dechreu feddiannu fel yr etifeddech ei wlad ef.

32Num. 21.23. Yna Sehon a ddaeth allan i'n cyfarfod ni, efe a'i holl bobl, i ryfel yn Jahaz.

33 Ond yr Arglwydd ein Duw a'i rhoddes ef o'n blaen, ac ni a'i tarawsom ef, a'i feibion, a'i holl bobl.

34 Ac a ennillasom ei holl ddinasoedd ef yr am­ser hwnnw, ac a ddifrodasom bob dinas, yn wŷr, yn wragedd, yn blant; ac ni adawsom vn yng­weddill:

35 Ond sclyfaethasom yr anifeiliaid i ni, ac yspail y dinasoedd y rhai a ennillasom.

36 O Aroer, yr hon sydd ar fîn afon Arnon, ac o'r ddinas sydd ar yr afon, a hyd at Gilead; ni bu ddinas a'r a ddiangodd rhagom: yr Ar­glwydd ein Duw a roddes y cwbl o'n blaen ni.

37 Yn vnig ni ddaethost i dîr meibion Am­mon, sef holl lan afon Jabboc, nac i ddinasoedd y mynydd, nac i'r holl leoedd a waharddasei yr Arglwydd ein Duw i ni.

PEN. III.

1 Gorchfygu Og brenhin Basan. 11 Maint ei wely ef. 12 Rhannu y tiroedd hynny rhwng y ddau lwyth a hanner. 23 Gweddi Moses am gael myned i'r wlâd, 26 a rhoddi iddo gennad iw gweled hi.

YNa y troesom, ac yr escynnasom ar hyd ffordd Basan: acNum. 21.33. Deut. 29.7. Og brenin Basan a ddaeth allan i'n cyfarfod ni, efe a'i holl bobl, i ryfel i Edrai.

2 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthif, nac ofna ef: o blegit yn dy law di y rhoddaf ef, a'i holl bobl, a'i wlâd: a thi a wnei iddo fel y gwnae­thost iNum. 21.24. Sehon brenin yr Amoriaid yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.

3 Felly yr Arglwydd ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw niNum. 21.33. Og frenin Basan, a'i holl bobl, ac ni a'i tarawsom ef, hyd na adawyd iddo vn yngweddill.

4 Ac a ennillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, fel nad oedd dinas nas dygasom oddi arnynt: tri-vgain dinas, holl wlâd Argob, brenhiniaeth Og o fewn Basan.

5 Yr holl ddinasoedd hyn oedd gedyrn o fû­roedd vchel, pyrth, a barrau, heb law dinasoedd heb furoedd lawer iawn.

6 A difrodasom hwynt fel y gwnaethom i Sehon frenin Hesbon, gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr, y gwragedd, a'r plant.

7 Ond yr holl anifeiliaid ac yspail y dinas­oedd a sclyfaethasom i ni ein hunain.

8 Ac ni a gymmerasom yr amser hwnnw o law dau frenin yr Amoriaid, y wlâd o'r tu ymma i'r [Page] Iorddonen, o afon Arnon hyd fynydd Hermon:

9 (Y Sidoniaid a alwant Hermon yn Sirion, a'r Amoriaid a'i galwant Senir.)

10 Holl ddinasoedd y gwastad, a holl Gilead, a holl Basan hyd Selca, ac Edrai, dinasoedd bren­hiniaeth Og o fewn Basan.

11 O blegit Og brenin Basan yn vnic a ad­awsid o weddill y cawri: wele ei wely ef oedd wely haiarn: onid yw hwnnw yn Rabbath mei­bion Ammon? naw cufydd oedd ei hŷd, a phed­war cufydd ei led, wrth gufydd gŵr.

12 A'r wlâd hon a berchennogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead,Num. 32.33. Jos. 13.8. a'i ddinas­oedd ef a roddais i'r Rubeniaid ac i'r Gadiaid.

13 A'r gweddill o Gilead, a holl Basan, sef brenhiniaeth Og, a roddais i hanner llwyth Manasseh: sef holl wlâd Argob, a holl Basan, yr hon a elwid gwlad y cawri.

14 Jair mab Manasseh a gymmerth holl wlâd Argob, hyd frô Gessuri, a Maacathi; ac a'i gal­wodd hwynt ar ei henw ei hun, BasanNum. 32.41. Ha­voth Jair hyd y dydd hwn.

15 Ac i Machir y rhoddais i Gilead.

16 Ac i'r Rubeniaid, ac i'r Gadiaid, y rho­ddais o Gilead hyd afon Arnon, hanner yr afon a'r terfyn, ac hyd yr afon Jabboc, terfyn meibion Ammon:

17 Hefyd y rhôs, a'r Iorddonen, a'r terfyn o Cinereth hyd fôr y rhôs, sef y môr heli, danNeu, ffynhon­nau Pis­gah, neu, y bryn. Asdoth Pisgah, tu a'r dwyrain.

18Num. 32.20. Gorchymynnais hefyd i chwi 'r amser hwnnw gan ddywedyd, yr Arglwydd eich Duw a roddes i chwi y wlad hon iw meddiannu: ewch trosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Is­rael, pobHebr. mab. rhai pybyr o honoch.

19 Yn vnic eich gwragedd, a'ch plant, a'th ani­feiliaid, (gwn fod llawer o anifeiliaid i chwi) a drigant yn eich dinasoedd a roddais i chwi:

20 Hyd pan wnelo 'r Arglwydd i'ch brodyr orphywyso fel chwithau, a meddiannu o honynt hwythau y wlâd y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi iddynt tros y lorddonen:Josua. 22.4. yna dych­welwch bob vn iw etifeddiaeth a roddais i chwi.

21Num. 27.18. Gorchymynnais hefyd i Josuah yr am­ser hwnnw, gan ddywedyd, dy lygaid ti a wel­sant yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i'r ddau frenin hyn: felly y gwna 'r Arglwydd i'r holl deyrnasoedd yr ydwyt ti yn myned trosodd attynt.

22 Nac ofnwch hwynt; o blegit yr Arglwydd eich Duw, efe a ymladd trosoch chwi.

23 Ac erfyniais ar yr Arglwydd yramser hwnnw gan ddywedyd,

24 O Arglwydd Dduw, tydi a ddechreuaist ddangos i'th wâs dy fawredd, a'th law gadarn: o blegit pa Dduw sydd yn y nefoedd, neu ar y ddaiar, yr hwn a weithreda yn ôl dy weithred­oedd a'th nerthoedd di?

25 Gad i mi fyned trosodd attolwg, a gweled y wlâd dda sydd tros yr Iorddonen, a'r mynydd da hwnnw, a Libanus.

26Num. 20.12. Pen. 1.37. Ond yr Arglwydd a ddigiasei wrthif o'ch plegit chwi, ac ni wrandawodd arnaf, ond dywedyd a wnaeth yr Arglwydd wrthif, digon yw hynny i ti, na chwanega lefaru wrthif mwy am y peth hyn.

27 Dos i fynu i benNeu, y bryn. Pisgah, a derchafa dy lygaid tu a'r gorllewin, a'r gogledd, a'r dwy­rain, ac edrych arni â'th lygaid: o blegit ni chei di fyned tros yr Iorddonen hon.

28 Gorchymyn hefyd i Josuah, a nertha, a cha­darnhâ ef: o blegit efe a â trosodd o flaen y bobl ymma, ac efe a ran iddynt yn etifeddi­aeth y wlâd, yr hon a weli di.

29 Felly aros a wnaethom yn y dyffryn, gy­ferbyn a Beth-peor.

PEN. IIII.

1 Annoc y bobl i vfydd-dod. 41 Moses yn ap­pwyntio y tair dinas noddfa, o'r tu hwnnw i'r Iorddonen.

BEllach gan hynny ô Israel gwrando ar y deddfau, ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dyscu i chwi iw gwneuthur, fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y meddiannoch y wlâd y mae Arglwydd Dduw eich tadau 'n ei rhoddi i chwi.

2Pen. 12.32. Josu. 1.7. Dihar. 30.6. Date. 22.18. Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i ehwi, ac na leihewch ddim o honaw ef, gan gadw gorchymynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai 'r wyfi yn ei gorchymyn i chwi.

3 Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr Arglwydd amNum. 25.4. &c. Baal-Peor; o ble­git pob gŵr ar a aeth ar ôl Baal-Peor, yr Ar­glwydd dy Dduw a'i difethodd ef, o'th blith di.

4 Ond chwi y rhai oeddych yn glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, byw ydych heddyw oll.

5 Wele dyscais i chwi ddeddfau, a barnedi­gaethau fel y gorchymynnodd yr Arglwydd fy Nuw i mi: i wneuthur o honoch felly, yn y wlâd yr ydych ar fyned i mewn iddi iw meddiannu.

6 Cedwch gan hynny, a gwnewch hwynt o blegit hyn yw eich doethineb, a'ch deall chwi, yngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, yn ddiau pobl ddoeth, a deallus, yw y genhedl fawr hon.

7 O blegit pa genedl morr fawr, yr hon y mae Duw iddi yn nessau atti, fel yr Arglwydd ein Duw ni, ym mhob dim a'r y galwom ar­no?

8 A pha genhedl morr fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau, a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon yr ydwyfi yn ei rhoddi heddyw ger eich bron chwi?

9 Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhac anghofio o honot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio o honynt allan o'th galon di holl ddyddiau dy enioes: ond yspysa hwynt i'th feibion, ac i feibion dy feibion:

10 Sef y dydd y sefaist ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, pan ddywedodd yr Ar­glwydd wrthif, cynnull I mi y bobl, fel y gwne­lwyf iddynt glywed fyngeiriau, y rhai a ddys­cant i'm hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaiar, ac a dyscont hwynt iw meibion.

11 A nessasoch, aExod. 19.18. safasoch dan y mynydd, a'r mynydd oedd yn llosci gan dân, hydHebr. galon y nefoedd. en­trych awyr, yn dywyllwch, a chwmwl, a thy­wyllwch du-dew.

12 A'r Arglwydd a lefarodd wrthych o ga­nol y tân; a chwi a glywsoch lais y geiriau, ac nid oeddych yn gweled llûn dim ond llais.

13 Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfammod a orchymynnodd efe i chwi iw wneuthur, sef y deng-air; ac a'i scrifennodd hwynt ar ddwy lech faen.

14 A'r Arglwydd a orchymynnodd i mi'r am­ser hwnnw ddyscu i chwiddeddfau, a barnedi­gaethau, i wneuthur o honoch hwynt yn y wlâd yr ydych chwi yn myned iddi iw meddiannu.

15 Gwiliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, (o blegit ni welsoch ddim llûn yn y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrthych yn Ho­reb, o ganol y tân.)

[...]
[...]

16 Rhac ymlygru o honoch, a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedic, cyffelybrwydd vn ddelw, llûn gwry neu fenyw,

17 Llûn vn anifail ar sydd ar y ddaiar, llûn vn aderyn ascelloc a eheda yn yr awyr,

18 Llûn vn ymlusciad ar y ddaiar, llûn vn pyscodyn a'r y sydd yn y dyfroedd tan y ddaiar:

19 Hefyd rhac derchafu o honot dy lygaid tu a'r nefoedd, a gweled yr haul, a'r lleuad, a'r sêr, sef holl lu y nefoedd, a'th yrru di i ym­grymmu iddynt, a gwasanaethu o honot hwynt, y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw i'r holl bobloedd dan yr holl nefoedd.

20 Ond yr Arglwydd a'ch cymmerodd chwi, ac a'ch dug chwi allan o'r pair haiarn, o'r Aipht, i fod iddo ef yn bobl, yn etifeddiaeth, fel y gwelir y dydd hwn.

21 A'r Arglwydd a ddigiodd wrthif am eich geiriau chwi, ac a dyngodd nad awn i tros yr lorddonen, ac na chawn fyned i mewn i'r wlâd dda, yr hon y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth.

22 O blegit byddaf farw yn y wlâd hon, ni chasi fyned tros yr Iorddonen: ond chwychwi ewch trosodd, ac a feddiennwch y wlâd dda honno.

23 Ymgedwch arnoch rhac anghofio cy­fammod yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a am­mododd efe â chwi, a gwneuthur o honoch i chwi ddelw gerfiedic, llûn dim oll a wahardd­odd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

24 O blegit yr Arglwydd dy DduwPen. 9.3. Heb. 12.29. sydd dân yssol, a Duw eiddigus.

25 Pan genhedlych feibion, ac ŵyrion, a hir­drigo o honoch yn y wlâd, ac ymlygru o hon­och, a gwneuthur o honoch ddelw gerfiedic, llûn dim, a gwneuthur drygioni, yngolwg yr Ar­glwydd dy Dduw iw ddigio ef;

26 Galw 'r ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddyw, y nefoedd a'r ddaiar, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan-oddi ar y tir, yr ydych yn myned tros yr Iorddonen iddo iw feddiannu; nid estynnwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha i'ch difethir.

27 A'r Arglwydd a'ch gwascara chwi ym mhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ym-mysc y cenhedloedd, y rhai y dwg yr Arglwydd chwi attynt.

28 Ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dŷn, sef pren, a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni fwyttânt, ac ni aroglant.

29 Os oddi yno y ceisi yr Arglwydd dy Dduw, ti a'i cai ef, os ceisi ef â'th holl galon, ac â'th holl enaid.

30 Pan gyfyngo arnat, aHebr. a chael o'r holl bethau hyn di. digwyddo 'r holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diweddaf, os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef:

31 (o herwydd yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw trugarog) ni edy efe di, ac ni'th ddifetha, ac nid anghofia gyfammod dy dadau, yr hwn a dyngodd efe wrthynt.

32 Canys ymofyn yn awr, am y dyddiau gynt, a fu o'th flaen di, o'r dydd y creawdd Duw ddyn ar y ddaiar, ac o'r naill gwrr i'r ne­foedd, hyd y cwrr arall i'r nefoedd, a fu megis y mawr-beth hwn? neu a glybuwyd ei gyffelyb ef?

33 A glybu pobl lais Duw yn llefaru o ga­nol y tân, fel y clywaist ti, a byw?

34 A brofodd vn Duw ddyfod i gymmeryd iddo genhedl o ganol cenhedl; trwy brosedi­gaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynnedic, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw eroch chwi yn yr Aipht yng-ŵydd dy lygaid?

35 Gwnaethbwyd i ti weled hynny i wybod mai yr Arglwydd fydd Dduw, nad oes neb arall ond efe.

36 O'r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais, i'th hyfforddi di; ac ar y ddaiar y parodd i ti weled ei dân mawr, a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef.

37 Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu hâd hwynt ar eu hôl, ac a'th ddug di o'i flaen, â'i fawr allu, allan o'r Aipht:

38 I yrru cenhedloedd mwy, a chryfach nâ thi, ymmaith o'th flaen di, i'th ddwyn di i mewn, i roddi i ti eu gwlâd hwynt yn etifedd­iaeth, fel heddyw.

39 Gwybydd gan hynny heddyw, ac ystyria yn dy galon, mai 'r Arglwydd sydd Dduw yn y nefoedd oddi arnodd, ac ar y ddaiar oddi tanodd, ac nid neb arall.

40 Cadw dithe ei ddeddfau ef, a'i orchym­ynnion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw, fel y byddo yn ddâ i ti, ac i'th feibion ar dy ôl di, fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaiar, yr hon y mae 'r Arglwydd dy Dduw 'n ei rhoddi i ti byth.

41 Yna Moses, a nailltuodd dair dinas, o'r tu ymma i'r Iorddonen, tua chodiad haul:

42 I gael o'r llofrudd ffoi yno, yr hwn a laddei ei gymydog yn amryfus, ac efe heb ei gasau o'r blaen; fel y gallei ffoi i vn o'r dina­sodd hynny, a byw:

43 Sef Josua. 20.8. Bezer yn yr anialwch, yngwastad­tir y Rubeniaid; a Ramoth yn Gilead y Gadiaid; a Golan o fewn Basan y Manassiaid.

44 Ac dymma y gyfraith a osododd Moses o flaen meibion Israel:

45 Dymma y testiolaethau, a'r deddfau, a'r barnedigaethau, a lefarodd Moses wrth fei­bion Israel, gwedi eu dyfod allan o'r Aipht;

46 Tu ymma i'r Iorddonen, yn y dyffryn, ar gyfer Beth-Peor, yngwlâd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon,Num. 21.24. Pen. 1.4. yr hwn a darawsei Moses, a meibion Israel, wedi eu dyfod allan o'r Aipht:

47 Ac a berchennogasant ei wlâd ef, a gwlâdNum. 21.33. Deut. 3.3. Og brenin Basan, dau o frenhinoedd yr Amo­riaid, y rhai oedd tu ymma i'r Iorddonen, tua chodiad haul:

48 O Aroer, yr hon oedd ar lan afon Arnon, hyd fynydd Sion, hwn yw Hermon:

49 A'r holl rôs tu hwnt i'r Iorddonen tua 'r dwyrain, a hyd at fôr y rhôsDeut. 3.17. danFfynno­nau. Asdoth Pisgah.

PEN. V.

1 Y Cyfammod yn Horeb. 6 Y dêg gorchymmyn. 22 Moses ar ddeisyfiad y bobl yn derbyn y gy­fraith gan Dduw.

A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywe­dodd wrthynt, clyw ô Israel y deddfau, a'r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddyw; fel y byddo i chwi eu dyscu, a'i cadwHebr. iw. a'i gwneuthur.

2Exod. 19.5. Yr Arglwydd ein Duw a wnaeth gyfam­mod â ni yn Horeb.

3 Nid â'n tadau ni y gwnaeth yr Arglwydd y cyfammod hwn, ond â nyni: nyni y rhai ydym yn fyw bob vn ymma heddyw.

4 Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr [Page] Arglwydd â chwi yn y mynydd, o ganol y tân,

5 (Myfi oeddwn yr Amser hwnnw yn sefyll rhwng yr Arglwydd a chwi, i fynegi i chwi air yr Arglwydd: canys ofni a wnaethoch rhac y tân, ac nid escynnech i'r mynydd) gan ddywe­dyd,

6Exod. 20.2. Levit. 26.1. Psal. 81.10. Yr Arglwydd dy Dduw ydwyf fi, yr hwn a'th ddûg allan o dîr yr Aipht, o dŷ yHeb. gweision. caethiwed.

7 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.

8 Na wna it ddelw gerfiedic, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd oddi vchod, nac a'r y sydd yn y ddaiar oddi isod, nac a'r y sydd yn y dyf­roedd oddi tan y ddaiar.

9 Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt, oExod. 34.7. Jer. 32.18. blegit myfi 'r Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwir­edd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bed­waredd genhedlaeth o'r rhai a'm casant,

10 Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd, o'r rhai am carant, ac a gadwant fyngorchymynion.

11 Na chymmer enw 'r Arglwydd dy Dduw yn ofer; canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.

12 Cadw y dydd Sabboth i'w sancteiddio ef, fel y gorchymynnodd yr Arglwydd dy Dduw it.

13 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:

14 Ond y seithfed dydd yw Gen. 2.2. Heb. 4.4. Sabboth yr Arglwydd dy Dduw; na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wâs, na'th forwyn, na'th ŷch, na'th assyn, nac yr vn o'th anifeiliaid, na'th ddieithr-ddyn, yr hwn fyddo o fewn dy byrth: fel y gorphywyso dy was, a'th forwyn, fel ti dy hun.

15 A chofia mai gwâs a fuost ti yngwlâd yr Aipht, a'th ddwyn o'r Arglwydd dy Dduw allan oddi yno â llaw gadarn, ac a braich estynnedic; am hynny y gorchymynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti gadw dydd y Sabboth.

16 Anrhydedda dy dâd, a'th fam, fel y gorch­ymynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti: fel yr estynner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaiar, yr hon y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

17Matth. 5.21. Na lâdd.

18Luc. 18.20. Ac na wna odineb.

19Rhuf. 13.9. Ac na ledratta.

20 Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

21 AcRhuf. 7.7. na chwennych wraig dy gymydog, ac na chwennych dŷ dy gymmydog, na'i faes, na'i wâs, na'i forwyn, na'i ŷch, na'i assyn, na dim a'r y sydd eiddo dy gymydog.

22 Y geiriau hyn a lefarodd yr Arglwydd wrth eich holl gynnulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmmwl, a'r tywyllwch, a llais vchel, ac ni chwanegodd ddim, ond scrifennodd hwynt ar ddwy lêch o gerric, ac a'i rhoddes at­taf fi.

23 A darfu wedi clywed o honoch y llais o ganol y tywyllwch (a'r mynydd ynllosci gan dân:) yna nesasoch attaf, sef holl bennaethiaid eich llwythau, a'ch henuriaid chwi,

24 Ac a ddywedasoch, wele 'r Arglwydd ein Duw a ddangosodd i ni ei ogoniant a'i fawredd,Exod. 19.19. a'i lais ef a glywsom ni o ganol y tân; he­ddyw y gwelsom lefaru o Dduw wrth ddŷn,Deut. 4.33. a byw o honaw.

25 Weithian gan hynny pa ham y byddwn feirw? o blegit y tân mawr hwn a'n difa ni; canys os ni a chwanegwn glywed llais yr Ar­glwydd ein Duw mwyach, marw a wnawn.

26 O blegit pa gnawd oll sydd, yr hwn a gly­bu lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân, fel nyni, ac a fu fyw?

27 Nessa di, a chlyw 'r hyn oll a ddywed yr Arglwydd ein Duw; a llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro 'r Arglwydd ein Duw wrthit ti:Exod. 20.19. ac nyni a wrandawn, ac a wnawn hynny.

28 A'r Arglwydd a glybu lais eich geiriau chwi, pan lefarasoch wrthif, a dywedodd yr Ar­glwydd wrthif, clywais lais geiriau y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthit, da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant.

29 Oh na byddei gyfryw galon ynddynt i'm hofni i, ac i gadw fy holl orchymynion, bôb amser, fel y byddei dâ iddynt ac iw plant yn dragywyddol.

30 Dos, dywet wrthynt, dychwelwch i'ch pebyll.

31 Ond saf di ymma gyd â myfi, ac mi a ddywedaf wrthit yr holl orchymynion, a'r deddfau, a'r barnedigaethau a ddysci di idd­ynt, ac a wnant hwythau, yn y wlâd yr wyfi ar ei rhoddi iddynt iw pherchennogi.

32 Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchymynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi: na chiliwch i'r tu dehau nac i'r tu asswy.

33 Cerddwch yn yr holl ffyrdd, a orchym­ynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi, fel y byddoch fyw, ac y byddo yn dda i chwi, ac yr estynnoch ddyddiau yn y wlâd, yr hon a feddi­ennwch.

PEN. VI.

1 Diwedd y gyfraith yw vfydd-dod. 3 Annoc i vfyddhau.

AC dymma y gorchymynion, y deddfau, a'r barnedigaethau a orchymynnodd yr Ar­glwydd eich Duw eu dyscu i chwi, fel y gwne­loch hwynt yn y wlâd yr ydych ynHebr. yn myned trosodd. myned iddi iw meddiannu:

2 Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, a'i orchymynion ef, y rhai yr wyf i yn eu gorchymyn i ti; ti, a'th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy enioes; ac fel yr estynner dy ddyddiau.

3 Clyw gan hynny ô Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynnyddoch yn ddirfawr, fel yr addaw­odd Arglwydd Duw dy dadau i ti, mewn gwlâd yn llifeirio o laeth a mêl.

4 Clyw ô Israel, yr Arglwydd ein Duw ni sydd vn Arglwydd.

5Pen. 10.12. Mat. 22.37. Mar. 12.30. Luc. 10.27. Câr di gan hynny 'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth.

6 A byddedPen. 11.18. y geiriau hyn yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw, yn dy galon.

7 AcHebr. Hoga. hyspyssa hwynt i'th blant, a chry­bwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fynu.

8 A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law, byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid,

9 Scrifenna hwynt hefyd ar bŷst dy dŷ, ac ar dy byrth.

10 Ac fe a dderfydd, wedi i'r Arglwydd dy Dduw dy ddwyn di i'r wlâd (yr hon y tyng­odd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti) i ddinas­oedd mawrion a thêg, y rhai nid adailedaist,

11 A thai llawnion o bôb daioni, y rhai nis [Page] llenwaist, a phydewau cloddiedic, y rhai nis cloddiaist, i winllannoedd, ac oliwydd-lannau, y rhai nis plennaist,Pen. 8.9.10. wedi it fwytta a'th ddigoni;

12 Yna cadw arnat, rhac anghofio o honot yr Arglwydd, yr hwn a'th ddûg allan o wlâd yr Aipht, o dŷ yHebr. Caeth­wyr, neu weision. caethiwed.

13Pen. 10.12.20. & 13.4. Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi, ac iw enw ef y tyngi.

14 Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr, o ddu­wiau y boblcedd sydd o'ch amgylch chwi:

15 (O blegit Duw eiddigus yw 'r Arglwydd dy Dduw yn dy fysc di) rhac i lid yr Ar­glwydd dy Dduw ennyn yn dy erbyn, a'th ddi­fetha di oddiar wyneb y ddaiar.

16Matth. 4.7. Na themptiwch yr Arglwydd eich Duw,Exod. 17.2. fel y temptiasoch ef ym Massah.

17 Gan gadw cadwch orchymynion yr Ar­glwydd eich Duw a'i destiolaethau, a'i ddeddfau, y rhai a orchymynnodd efe i ti.

18 A gwna 'r hyn sydd vnion, a daionus yngolwg yr Arglwydd, fel y byddo da i ti, a myned o honot i mewn, a pherchennogi y wlâd dda, 'r hon trwy lŵ a addawodd yr Arglwydd i'th dadau di:

19 Gan yrru ymmaith dy holl elynion o'th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd.

20 Pan ofynno dy fab i tiHebr. y foru. wedi hyn, gan ddywedyd, beth yw y tystiolaethau, a'r deddfau, a'r barnedigaethau, a orchymynnodd yr Ar­glwydd ein Duw i chwi?

21 Yna dywet wrth dy fab, ni a fuom gaeth­weision i Pharao yn yr Aipht: a'r Arglwydd a'n dûg ni allan o'r Aipht, â llaw gadarn.

22 Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion, a rhyfeddodau mawrion, a niweidiol ar yr Aipht, ar Pharao a'i holl dŷ, yn ein golwg ni:

23 Ac a'n dûg ni allan oddi yno, fel y dygei efe nyni i mewn, i roddi i ni y wlâd, yr hon trwy lŵ a addawsei efe i'n tadau ni:

24 A'r Arglwydd a orchymynnodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn, i ofni 'r Ar­glwydd ein Duw er daioni i ni 'r holl ddyddi­au, fel y cadwei efe nyni yn fyw, megis y mae y dydd hwn.

25 A chyfiawnder a fydd i ni, os ymgadwn i wneuthur y gorchymynnion hyn oll, o flaen yr Arglwydd ein Duw, fel y gorchymynnodd efe i ni.

PEN. VII.

1 Gwahardd pôb cyfeillach â'r Cenhedloedd, 4 rhag ofn delw-addoliaeth, 6 o ran sancteidd­rwydd y bobl, 9 o ran naturiaeth Duw yn ei drugaredd a'i gyfiawnder, 17 o ran siccred yw yr oruwchafiaeth a rydd Duw arnynt.

PAn i'th ddygo yrPen. 31.3. Arglwydd dy Dduw, i mewn i'r wlâd yr ydwyt ti yn myned iddi iw meddiannu, a gyrru o honaw ymmaith gen­hedloedd lawer o'th flaen di, yr Hethiaid, a'r Gergeziaid, a'r Amoriaid, a'r Canaaneaid, a'r Phereziaid, a'r Hefiaid, a'r Jebusiaid, saith o gen­hedloedd lluossogach a chryfach nâ thydi:

2 A rhoddi o'r Arglwydd dy Dduw hwynt o'th flaen di, a tharo o honot ti hwynt: gan ddi­frodi difroda hwynt,Exod. 23.32. Exod. 34.12. na wna gyfammod â hwynt, ac na thrugarha wrthynt.

3 Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt, na ddod dy ferch iw fab ef, ac na chymmer ei ferch ef i'th fab ditheu.

4 Canys efe a dry dy fab di oddi ar fy ôl i, fel y gwasanaethont dduwiau dieithr; felly yr ennyn llîd yr Arglwydd i'ch erbyn chwi, ac a'th ddifetha di yn ebrwydd.

5 Ond fel hyn y gwnewch iddynt, dinistri­wch eu hallorau, a thorrwch eu colofnau hwynt, cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedic hwy yn y tân.

6 CanysPen. 14.2. Pen. 26.19. pobl Sanctaidd ydwyt ti i'r Ar­glwydd dy Dduw:Exod. 19.5. 1 Pet. 2.9. yr Arglwydd dy Dduw a'th ddewisodd di i fod yn bobl vnic iddo ei hun, o'r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaiar.

7 Nid am eich bôd yn lluosogach nâ'r holl bobloedd yr hoffodd yr Arglwydd chwi, ac ich dewisodd: o herwydd yr oeddych chwi yn anamlaf o'r holl bobloedd:

8 Ond o herwydd caru o'r Arglwydd chwi, ac er mewn cadw o honaw ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dûg yr Arglwydd chwi allan â llaw gadarn, ac a'ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharao brenin yr Aipht.

9 Gwybydd gan hynny mai 'r Arglwydd dy Dduw, sydd Dduw, sef y Duw ffyddlon yn cadw cyfammod, a thrugaredd, â'r rhai a'i ca­rant ef ac a gadwant ei orchymynion, hyd fil o genhedlaethau:

10 Ac yn talu 'r pwyth iw gâs yn ei wyneb, gan ei ddifetha ef; nid oeda efe iw gâs; yn ei wyneb y tâl efe iddo.

11 Cadw gan hynny y gorchymynion, a'r deddfau, a'r barnedigaethau, y rhai yr ydwyfi yn eu gorchymyn i ti heddyw iw gwneuthur.

12 A bydd, o achos gwrando o honoch ar y barnedigaethau hyn, a'i cadw, a'i gwneuthur hwynt; y ceidw yr Arglwydd dy Dduw â thi y cyfammod, a'r drugaredd, a addawodd efe trwy dy dadau di:

13 Ac a'th gâr, ac a'th fendithia, ac a'th amlha di, ac a fendiga ffrwyth dy frû, a ffrwyth dy dîr di, dy ŷd, a'th olew a chynydd dy war­thec, a diadellau dy ddefaid, yn y tîr y tyngodd efe wrth dy dadau, ar ei roddi i ti.

14 Bendigedic fyddi vwch law 'r holl bob­loedd:Exod. 23.26. ni bydd yn dy blith di vn gwryw, nac vn fenyw yn anffrwythlon, nac ym mhlith dy anifeiliaid di.

15 Hefyd yr Arglwydd a dynn oddi wrthit ti bôb gwendid, ac ni esyd arnat ti'r vn o glefydau drwg yrExod. 9.14. & 15.26. Aipht, y rhai a adwaenost: ond ar dy holl gaseion di y rhydd efe hwynt.

16 Difetha gan hynny yr holl bobloedd, y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti: nac arbeded dy lygad hwynt, ac na wasanae­tha eu duwiau hwynt, oExod. 23.33. blegit magl i ti a fyddei hynny.

17 Os dywedi yn dy galon, lluosogach yw y cenhedloedd hyn nâ myfi, pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymmaith?

18 Nac ofna rhacddynt; gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Pharao, ac i'r holl Aipht:

19 YDeut. 29.3. Exo. 15.25. Exod. 16.4. profedigaethau mawrion, y rhai a welodd dy lygaid, a'r arwyddion, a'r rhyfeddo­dau, a'r llaw gadarn, a'r braich estynnedic, â'r rhai i'th ddûg yr Arglwydd dy Dduw allan: felly y gwna'r Arglwydd dy Dduw i'r holl bob­loedd yr wyt ti yn eu hofni.

20 A'rExod. 23.28. Josua. 24.12. Arglwydd dy Dduw hefyd a dden­fyn gaccwn yn eu plith hwynt, hyd oni ddar­fyddo am y rhai gweddill, a'r rhai a ymguddi­ant rhagot ti.

21 Nac ofna rhacddynt; o blegit yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di, yn Dduw mawr, ac ofnadwy.

22 A'r Arglwydd dy Dduw, aHebr. dynn. yrr ymmaith y cenhedloedd hynny o'th flaen di, bôb ychydic [Page] ac ychydic: ni elli eu difetha hwynt ar vnwaith, rhac myned o fwyst-filod y maes yn amlach nâ thydi.

23 Ond yr Arglwydd dy Dduw a'i rhydd hwynt o'th flaen di, ac a'i cystuddia hwynt â chystudd dirfawr, nes eu difetha hwynt.

24 Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ni saif gŵr yn dy wyneb di, nes difetha o honot ti hwynt.

25Pen. 12.3. Llosc ddelwau cerfiedic eu duwiau hwynt yn tân; naJosua. 7.1, 21. 2 Mac. 12.40. chwennych na'r arian, na'r aur a fyddo arnynt, iw cymmeryd i ti, rhac dy faglu ag ef: o blegit ffieidd-dra i'r Arglwydd dy Dduw ydyw.

26 Na ddŵg ditheu ffieidd-dra i'th dŷ, fel y byddech escymmun-beth megis yntef: gan ddir­mygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef; o blegitPen. 13.17. escymmun-beth yw efe.

PEN. VIII.

1 Annoc i vfydd-dod, o ran ymgeledd Duw iddynt hwy.

EDrychwch am wneuthur pôb gorchymyn, yr wyfi yn ei orchymyn it heddyw, fel y byddoch fyw, ac y cynnyddoch, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlâd a addawodd yr Arglwydd wrth eich tadau trwy lŵ.

2 A chofia 'r holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlhynedd hyn, trwy 'r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchymynion ef, ai nas cedwit.

3 Ac efe a'th ddarostyngodd, ac a oddefodd it newynu, ac a'th fwydodd â Manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenei dy dadau; fel y gwnai efe it wybodMatth. 4.4. Luc. 4.4. nad trwy fara yn vnic y bydd byw dŷn, ond trwy bôb gair a'r sydd yn dyfod allan o enau 'r Arglwydd, y bydd byw dŷn.

4Nehem. 9.21. Dy ddillad ni heneiddiodd am danat, a'th droed ni chwyddodd, y deugain mlhy­nedd hyn.

5 Cydnebydd ditheu yn dy galon, fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddyscu di, fel y dysc gŵr ei fab ei hun.

6 A chadw orchymynion yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd, ac i'w ofni ef.

7 O blegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlâd dda, i wlâd afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd:

8 Gwlâd gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigys-wydd, a phomgranad-wydd; gwlâd olew oliwydden, a mêl:

9 Gwlâd yr hon y bwyttei fara ynddi heb prinder, ac ni bydd eisieu dim arnat ynddi: gwlâd yr hon y mae ei cherric yn haiarn, ac o'i mynyddoedd y cloddi brês.

10Pen. [...].11, 12. Pan fwytteych, a'th ddigoni, yna y bendithi 'r Arglwydd dy Dduw, am y wlâd dda a roddes efe i ti.

11 Cadw arnat rhac anghofio yr Arglwydd dy Dduw, heb gadw ei orchymynion, a'i farne­digaethau, a'i ddeddfau ef, y rhai 'r ydwyfi yn eu gorchymyn it heddyw:

12 Rhac wedi it fwytta, a'th ddigoni, ac adailadu tai têg, a thrigo ynddynt;

13 A lluossogi o'th warthec, a'th ddefaid di, ac amlhau o arian, ac aur gennit, ac amlhau o'r hyn oll y sydd gennyt:

14 Yna ymdderchafu o'th galon, ac angho­fio o honot yr Arglwydd dy Dduw (yr hwn a'th ddûg allan o wlâd yr Aipht, o dŷ y cae­thiwed;

15 Yr hwn a'th dywysodd di trwy 'r ania­lwch mawr ac ofnadwy, lle 'r ydoedd seirph tanllyd, ac yscorpionau, a syched lle nid oedd dwfr: yrNum. 20.11. hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o'r graig gallestr;

16 Yr hwn a'th fwydodd di yn yr ania­lwch âExod. 16.15. Manna, yr hwn nid adwaenei dy da­dau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,)

17 A dywedyd o honot yn dy galon, fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn.

18 Ond cofia yr Arglwydd dy Dduw; o ble­git efe yw 'r hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhâo efe ei gyfammod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn.

19 Ac os gan anghofio 'r anghofi 'r Argl­wydd dy Dduw, a dilyn duwiau dieithr, a'i gwasanaethu hwynt, ac ymgrymmu iddynt:Pen. 4.26. yr ydwyfi yn testiolaethu yn eich erbyn chwi heddyw, gan ddifetha i'ch difethir.

20 Fel y cenhedloedd y rhai y mae 'r Ar­glwydd ar eu difetha o'ch blaen chwi; felly y defethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw.

PEN. IX.

1 Moses yn eu hannoc nad ymddiriedent yn eu cy­fiawnder eu bunain, gan ddatcan eu hamryw wrth-ryfel hwynt.

GWrando Israel, yr wyt ti yn myned heddyw tros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i berchennogi cenhedloedd mwy, a chry­fach nâ thi, dinasoedd mawrion a chaeroc hyd y nefoedd,

2 Pobl fawr, ac vchel, meibion Anac y rhai a adnabuost, ac yNum. 13.28. clywaist ti ddywedyd am danynt, pwy a saif o flaen meibion Anac?

3 Gwybydd gan hynny heddyw, fod yr Ar­glwydd dy Dduw yn myned trossodd o'th flaen di ynPen. 4.24. Heb. 12.29. dân yssol; efe a'i difetha hwynt, ac efe a'i darostwng hwynt o'th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr Arglwydd wrthit.

4 Na ddywed yn dy galon, wedi gyrru o'r Arglwydd dy Dduw hwynt allan o'th fla­en di, gan ddywedyd, am fynghyfiawnder y dygodd yr Arglwydd fi i feddiannu y tir hwn: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y gyrrodd yr Arglwydd hwynt allan o'th flaen di.

5 Nid am dy gyfiawnder di, nac am vnion­deb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tîr hwynt; onid am annuwioldeb y cenhed­loedd hyn y bwrw yr Arglwydd dy Dduw hwynt allan o'th flaen di, ac er cyflawni y gair a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.

6 Gwybydd ditheu, nad am dy gyfiawn­der dy hun, y rhoddes yr Arglwydd it y tir daionus hwn iw feddiannu: canys pobl war­galed ydych.

7 Meddwl, ac na anghofia pa fodd y digiaist yr Arglwydd dy Dduw yn yr anialwch, o'r dydd y daethost allan o dîr yr Aipht hyd eich dyfod i'r lle hwn: gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd.

8 Yn Horeb hefyd y digiasoch yr Ar­glwydd, [Page] a digiodd yr Arglwydd wrthych i'ch difetha.

9 Pan aethym i fynu i'r mynydd i gymme­ryd y llechau meini, sef llechau y cyfammod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi;Exod. 24.18. Exod. 34.28. yna 'r arhoais yn y mynydd ddeugain nhiwrnod a deugain nhôs, bara ni fwytteais, a dŵfr nid yfais.

10 AExod. 31.18. rhoddes yr Arglwydd attaf y ddwy sech faen, wedi eu scrifennu â bŷs Duw; ac ar­nynt yr oedd yn ôl yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymmanfa.

11 A bu ym mhen y deugain nhiwrnod a'r deugain nhos, roddi o'r Arglwydd attaf y ddwy lech faen; sef llechau y cyfammod.

12 A dywedodd yr Arglwydd wrthif,Exod. 32.7. cy­fot, dôs oddi ymma i wared yn fuan; canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddygaist allan o'r Aipht: ciliasant yn ebrwydd o'r ffordd a or­chymynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd.

13 A llefarodd yr Arglwydd wrthif, gan ddywedyd, gwelais y bobl hyn, ac wele pobl war-galed ydynt.

14 Paid â mi, a mi a'i destrywiaf hwynt, ac a ddeleaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd, ac a'th wnaf di yn genedl gryfach, ac amlach nâ hwynt hwy.

15 Ac mi a ddychwelais, ac a ddaethym i wared o'r mynydd, a'r mynydd ydoedd yn llosci gan dân, a dwy lêch y cyfammod oedd yn fy nwylaw.

16 Edrychais hefyd, ac wele pechasech yn erbyn yr Arglwydd eich Duw: gwnaethech iwch lo tawdd: ciliasech yn fuan o'r ffordd a orchymynnasei yr Arglwydd i chwi.

17 Ac mi a ymaflais yn y ddwy lêch, ac a'i tefiais hwynt o'm dwy-law, ac a'i torrais hwynt o flaen eich llygaid.

18 A syrthiais ger bron yr Arglwydd, fel y waith gyntaf ddeugain nhiwrnod, a deugain nhos: ni fwytteais fara, ac nid yfais ddwfr, o herwydd eich holl bechodau chwi, y rhai a be­chasech gan wneuthur drygioni yngolwg yr Arglwydd, iw ddigio ef.

19 (Canys ofnais rhac y sorriant a'r dîg, drwy y rhai y digiodd yr Arglwydd wrthych i'ch dinistrio chwi:) etto gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith honno hefyd.

20 Wrth Aaron hefyd y digiodd yr Ar­glwydd yn fawr, iw ddifetha ef: a mi a weddi­ais hefyd tros Aaron y waith honno.

21 Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnae­thoch, sef y llo, a gymmerais, ac a'i lloscais yn tân; curais ef hefyd, gan ei falurio yn dda, nes i falu yn llwch: a bwriais ei lwch ef i'r afon oedd yn descyn o'r mynydd.

22Num. 11.3. O fewn Taberah hefyd, ac o fewnExod. 17.7. Massa, ac o fewnNum. 11.34. Beddau y blŷs yr oeddych yn digio 'r Arglwydd.

23 A phan anfonodd yr Arglwydd chwi o Cades Barnea, gan ddywedyd, ewch i fynu a meddiennwch y tîr, yr hwn a roddais i chwi, yr anufyddhasoch i air yr Arglwydd eich Duw: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef.

24 Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Ar­glwydd, er y dydd yr adnabum chwi.

25 Ac mi a syrthiais ger bron yr Arglwydd ddeugain nhiwrnod a deugain nhos, fel y syrthi­aswn o'r blaen, am ddywedyd o'r Arglwydd y difethai chwi.

26 Gweddiais hefyd ar yr Arglwydd, a dy­wedais, Arglwydd Dduw na ddifetha dy bobl, a'th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o'r Aipht â llaw gref.

27 Cofia dy weision, Abraham, Isaac, ac Ja­cob, nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod:

28 Rhac dywedyd o'r wlâd y dygaist ni all­an o honi,Num. 14.16. o eisieu gallu o'r Arglwydd eu dwyn hwynt i'r tîr a addawsei efe iddynt, ac o'i gâs arnynt, y dug efe hwynt allan, iw lladd yn yr anialwch.

29 Etto dy bobl di a'th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth, ac â'th estynnedec fraich.

PEN. X.

1 Trugaredd Duw yn ail rhoddi y ddwy lech, 6 Yn sicrhau 'r offeiriadaeth, 8 yn nailltuo llwyth Levi, 10 yn gwrando ar weddi Moses tros y bobl. 12 Annoc i ufydd-dod.

YR amser hwnnw, y dywedodd yr Ar­glwydd wrthif,Exod. 34.1. nâdd it ddwy lech faen fel y rhai cyntaf, a thyret i fynu attafi i'r my­nydd, a gwna it Arch bren.

2 A mi a scrifennaf ar y llechau, y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist: a gosot tithe hwynt yn yr Arch.

3 Yna gwneuthum Arch o goed Sittim; ac a neddais ddwy lêch faen, fel y rhai cyntaf, ac a euthum i fynu i'r mynydd, a'r ddwy lêch yn fy llaw.

4 Ac efe a scrifennodd ar y llechau, fel yr yscrifen gyntaf, y deng-air a lefarodd yr Ar­glwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, yn nydd y gymmanfa: a rhoddes yr Arglwydd hwynt attafi.

5 Yna y dychwelais, ac y deuthum i wared o'r mynydd, ac a osodais y llechau yn yr Arch, yr hon a wnaethwn: ac yno y maent, megis y gorchymynnodd yr Arglwydd i mi.

6 A meibion Israel a aethant o Beeroth mei­bion JacanNum. 33.3. i Mosera:Num. 20.21 yno y bu farw Aaron, ac efe a gladdwyd yno: ac Eleazar ei fab a offeiriadodd yn ei le ef.

7 Oddi yno yr aethant i Gudgodah: ac o Gudgodah i Jotbath, tir afonydd dyfroedd.

8 Yr amser hwnnw y naillduodd yr Arglwydd lwyth Lefi i ddwyn Arch cyfammod yr Ar­glwydd, i sefyll ger bron yr Arglwydd, iw wa­sanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef, hyd y dydd hwn.

9Num. 18.20. Am hynny ni bydd rhan i Lefi, nac eti­feddiaeth gyd â'i frodyr: yr Arglwydd yw ei eti­feddiaeth ef, megis y dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrtho ef.

10 Ac mi a arhoais yn y mynydd ddeugain nhiwrnod, a deugain nhos, fel yNeu y deu [...] nhiwr [...] cyntaf. dyddiau cyntaf: a gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith hon hefyd, ni ewyllyssiodd yr Arglwydd dy ddifetha di.

11 A dywedodd yr Arglwydd wrthif, cyfot, dôs i'th daith o flaen y bobl, fel yr elont i mewn ac y meddiannont y tir, yr hwn a dyng­ais wrth eu tadau ar ei roddi iddynt.

12 Ac yr awr hon Israel, beth y mae 'r Ar­glwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, onid ofni 'r Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a'i garu ef, a gwasanaethu 'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid:

13 Cadw gorchymynion yr Arglwydd, a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn i ti y dydd hwn, er daioni i ti?

14 Wele y nefoedd, a nefoedd y nefoedd ydynt eiddo 'r Arglwydd dy Dduw,Psal. 24.1. y ddaiar hefyd a'r hyn oll sydd ynddi.

15 Yn vnig ar dy dadau di'y rhoddes yr Arglwydd ei serch, gan eu hoffi hwynt, ac efe a wnaeth ddewis o'i hâd ar ei hôl hwynt, sef o honoch chwi o flaen yr holl bobloedd megis heddyw y gwelir.

16Jer. 4.4. Enwaedwch chwithau ddienwaediad eich calon, ac na chaledwch eich gwarr mwyach.

17 Canys yr Arglwydd eich Duw chwi, yw Duw y duwiau, ac Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn, ac ofnadwy, yr2 Cron. 19.7. Job 34.19. Act. 10.34. Rhuf. 2.11. Gal. 2.6. Eph. 6.9. Col. 3.25. 1 Pet. 1.17. hwn ni dderbyn wyneb, ac ni chymmer wobr.

18 Yr hwn a farna 'r ymddifad a'r weddw, ac y sydd yn hoffi y dieithr, gan roddi iddo fwyd a dillad.

19 Hoffwch chwithau y dieithr; canys di­eithraid fuoch yn nhîr yr Aipht.

20 YrPen. 6.13. Mat. 4.10 Luc. 4.8. Arglwydd dy Dduw a ofni▪ ac ef a wasanaethi, wrtho ef hefyd yPen. 13.4. glyni, ac iw enw ef y tyngi.

21 Efe yw dy fawl, ac efe yw dy Dduw, 'r hwn a wnaeth it y mawrion, a'r ofnadwy be­thau hyn, y rhai a welodd dy lygaid.

22 Dy dadau a aethant i wared i'r Aipht,Gen. 46.27. Exod. 1.5. yn ddec enaid a thrugain; ac yr awr hon yr Arglwydd dy Dduw a'th wnaeth diGen. 15.5. fel sêr y nefoedd o luossogrwydd.

PEN. XI.

1 Moses yn annoc y bobl i vfydd-dod, 2 trwy eu gwybodaeth eu hunain o fawr weithredoedd Duw, 8 trwy addewid o fawr fendithion Duw, 16 a thrwy fygythion. 18 Bod yn rhaid my­fyrio yn ofalus a'r eiriau Duw. 26 Rhoddi y fendith a'r felltith o'u blaen hwynt.

CAr dithe 'r Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwriaeth ef, a'i ddeddfau, a'i farne­digaethau, a'i orchymynion byth.

2 A chydnabyddwch heddyw: canys nid wyf yn ymdiddan â'ch plant y rhai nid adnabu­ant, ac ni welsant gerydd yr Arglwydd eich Duw chwi, ei fawredd, ei law gref, a'i fraich estynnedic,

3 Ei arwyddion hefyd, a'i weithredoedd, y rhai a wnaeth efe ynghanol yr Aipht, i Pharao brenin yr Aipht, ac iw holl dîr,

4 A'r hyn a wnaeth efe i lu'r Aipht, iw feirch ef, ac iw gerbydau: y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr coch lenwi tros eu hwy­nebau hwynt, pan oeddynt yn ymlid ar eich ôl, ac y difethodd yr Arglwydd hwynt hyd y dydd hwn:

5 A'r hyn a wnaeth efe i chwi yn yr ania­lwch, nes eich dyfod i'r lle hwn:

6Num. 16.31. & 27.3. Psal. 106.17. A'r hyn a wnaeth efe i Ddathan, ac i Abiram, meibion Eliab, mab Ruben: y modd yr agorodd y ddaiar ei safn, ac a'i llyngcodd hwynt, a'i teuluoedd, a'i pebyll, a'r hollNeu, dda byw byw oedd yn eu calyn hwy. olud oeddHeb. wrth ei traed. ganddynt ym mysc holl Israel.

7 Eithr eich llygaid chwi oedd yn gweled holl fawrion weithredoedd yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe.

8 Cedwch chwithau bob gorchymyn yr yd­wyfi yn ei orchymyn i chwi heddyw, fel y by­ddoch gryfion, ac yr eloch i mewn, ac y me­ddiannoch y tîr yr ydych yn myned trosodd iddo iw feddiannu:

9 Ac fel yr estynnoch ddyddiau yn y tîr, yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i'ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac iw hâd, sef tîr yn llifeirio o laeth a mêl.

10 O herwydd y tîr yr wyt yn myned iddo iw feddiannu, nid fel tîr yr Aipht y mae, yr hwn y daethoch allan o honaw, lle 'r heuaist dy hâd, ac y dwfrheaist â'th droed, fel gardd lyssiau:

11 Ond y tîr yr ydych yn myned trosodd iddo iw feddiannu sydd fynydd-dîr, a dyffryn­dir, yn yfed dwfr o law y nefoedd:

12 Tîr yw, yr hwn y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn eiHeb. geisio. ymgeleddu: llygaid yr Arglwydd dy Dduw sydd bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd.

13 A bydd, os gan wrando y gwrandewch ar fyngorchymynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddyw, i garu 'r Arglwydd eich Duw, ac i'w wasanaethu, â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid:

14 Yna y rhoddaf law i'ch tîr yn ei amser, sef y cynnar-law, a'r diweddar-law, fel y casclech dy ŷd, a'th wîn, a'th olew.

15 A rhoddaf lâs-wellt yn dy faes i'th ani­feiliaid, fel y bwytteych, ac i'th ddigoner.

16 Gwiliwch arnoch rhac twyllo eich ca­lon, a chilio o honoch, a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymmu iddynt,

17 Ac enynnu digllonedd yr Arglwydd i'ch erbyn, a chau o honaw ef y nefoedd, fel na by­ddo glaw, ac na roddo y ddaiar ei chnŵd, a'ch difetha yn fuan o'r tîr, yr hwn y mae yr Ar­glwydd yn ei roddi i chwi.

18 Am hynny gosodwch fyngeiriau hyn yn eich calon, ac yn eich meddwl, a rhwymwch hwyntDeut. 6.8. yn arwydd ar eich dwylo, a byddant yn rhactalau rhwng eich llygaid:

19Pen. 4.10. & 6.7. A dyscwch hwynt i'ch plant, gan grybwyll am danynt, pan eisteddych yn dy dŷ, a phan rodiech ar y ffordd, pan orwe­ddych hefyd, a phan godych.

20 Ac scrifenna hwynt ar bŷst dy dŷ, ac ar dy byrth:

21 Fel yr amlhao eich dyddiau chwi, a dy­ddiau eich plant chwi ar y ddaiar, yr hon a dyngodd yr Arglwydd wrth eich tadau am ei rhoddi iddynt, fel dyddiau y nefoedd ar y ddaiar.

22 Canys os gan gadw y cedwch yr holl orchymynion hyn, y rhai yr ydwyfi yn eu gorchymyn i chwi iw gwneuthur, i garu yr Arglwydd eich Duw, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i lynu wrtho ef:

23 Yna y gyrr yr Arglwydd allan yr holl genhedloedd hyn o'ch blaen chwi, a chwi a fe­ddiennwch genhedloedd mwy a chryfach nâ chwi.

24 PobJos. 1.3. man y sathro gwadn eich troed chwi arno fydd eiddo chwi, o'r anialwch a Li­banus ac o'r afon, sef afon Euphrates, hyd y môr eithaf, y bydd eich terfyn chwi.

25 Ni saif gŵr yn eich wyneb: eich arswyd a'ch ofn a rydd yr Arglwydd eich Duw ar wy­neb yr holl dîr, yr hwn y sathroch arno, me­gis y llefarodd wrthych.

26 Wele rhoddi 'r ydwyfi o'ch blaen chwi heddyw, fendith, a melldith:

27Pen. 28.2. & 30.1. Bendith, os gwrandewch ar orchymyni­on yr Arglwydd eich Duw, y rhai 'r ydwyfi yn eu gorchymyn i chwi heddyw:

28Pen. 28.15. A melldith, oni wrandewch ar orchymy­nion yr Arglwydd eich Duw, ond cilio o ho­noch allan o'r ffordd yr ydwyfi yn ei gorchy­myn i chwi heddyw, i fyned ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch.

29Pen. 27.13. Jos. 8.33. Bydded gan hynny pan ddygo 'r Arglwydd dy Dduw di i'r tîr yr ydwyt yn my­ned iddo iw feddiannu, roddi o honot y fen­dith ar fynydd Garizim, a'r felldith ar fynydd Ebal.

30 Onid yw y rhai hyn or tu hwynt i'r Iorddonen, tua 'r lle y machluda haul, yn nhir y Canaaneaid, yr hwn sydd yn trigo yn y rhôs, ar gyfer Gilgal, ger llaw gwastadedd Moreh?

31 Canys myned yr ydych tros yr Iorddo­nen, i fyned i feddiannu y tîr y mae yr Ar­glwydd eich Duw yn ei roddi i chwi: a chwi a'i meddiennwch ac a bresswyliwch ynddo.

32 Gwiliwch chwithau amPen. 6.32. wneuthur yr holl ddeddfau a'r barnedigaethau, y rhai 'r yd­wyfi yn eu rhoddi o'ch blaen chwi heddyw.

PEN. XII.

1 Bod yn rhaid dinistrio pob lle y buasei delw­addoliaeth ynddo, 5 a chyrchu i'r lle a ddewi­sodd Duw i'w wasanaeth. 15, 23 Gwahardd gwaed. 17, 20, 26 Rhaid yw bwytta pethau sanctaidd yn y lle sanctaidd. 19 Na wrthoder y Lefiaid. 29 Nac ymoroler am gau-dduwiau.

DYmma y deddfau, a'r barnedigaethau, y rhai a wiliwch ar eu gwneuthur, yn y tîr a rydd Arglwydd Dduw dy dadau i ti iw feddiannu, yr holl ddyddiau y byddoch fyw ar y ddaiar.

2Pen. 7.5. Gan ddinistrio dinistriwch yr holl fan­nau, y rhai y gwasanaethodd y cenhedloedd yr ydych chwi yn euNeu, etifeddu. meddiannu eu duwiau yn­ddynt, ar y mynyddoedd vchel, ac ar y bryn­nau, a than bob pren gwyrdd-las.

3Barn. 2.2. Drylliwch hefyd eu hallorau hwynt, a thorrwch eu colofnau hwynt, a lloscwch eu llwynau hwynt â thân, a thorrwch gerfiedig ddelwau eu duwiau hwynt, a dinistriwch eu henwau hwynt o'r lle hwnnw.

4 Na wnewch felly i'r Arglwydd eich Duw.

51 Bren. 8.29. 2 Cron. 6.5. & 7.12. Ond y lle a ddewiso 'r Arglwydd eich Duw o'ch holl lwythau chwi, i osod ei enw yno, ei drigfa ef a geisiwch, ac yno y deuwch:

6 A dygwch yno eich poeth offrymmau, a'ch aberthau, a'ch degymmau, ac offrwm derchafel eich llaw, eich addunedau hefyd, a'ch offrymmau gwirfodd, a chyntaf-anedic eich gwarthec a'ch defaid.

7 A bwytewch yno ger bron yr Arglwydd eich Duw, a llawenhewch ym mhob dim y rhoddoch eich llaw arno, chwychwi a'ch teu­luoedd, yn yr hyn i'th fendithiodd yr Ar­glwydd dy Dduw.

8 Na wnewch yn ôl yr hyn oll yr ydym ni yn ei wneuthur ymma heddyw, pob vn yr hyn fyddo vnion yn ei olwg ei hun.

9 Canys ni ddaethoch hyd yn hyn i'r orphy­wysfa, ac i'r etifeddiaeth, yr hon y mae'r Ar­glwydd dy Dduw yn ei rhoddi it.

10 Ond pan eloch tros yr Iorddonen, a thri­go yn y tîr, yr hwn y mae 'r Arglwydd eich Duw yn ei roddi yn etifeddiaeth i chwi, a phan roddo lonydd i chwi oddi wrth eich holl elyni­on o amgylch, fel y presswylioch yn ddiogel:

11 Yna y bydd lle, wedi i'r Arglwydd eich Duw ei ddewis iddo, i beri iw enw aros ynddo, yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi; sef eich poeth offrymmau, a'ch aberthau, eich degymmau, a derchafel offrwm eich llaw,Heb. a holl ddewis eich addu­nedau. a'ch holl ddewis addunedau, y rhai a addunedoch i'r Arglwydd.

12 A llawenhewch ger bron yr Arglwydd eich Duw, chwi, a'ch meibion, a'ch merched, a'ch gweision, a'ch morwynion, a'r Lefiad a fyddo yn eich pyrth chwi, canysPen. 10.9. nid oes iddo ran, nac etifeddiaeth gyd â chwi.

13 Gwilia arnat rhac poeth offrymmu o ho­not dy boeth offrymmau ym mhob lle ar a welych:

14 Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd o fewn vn o'th lwythau di, yno yr offrymmi dy boeth offrymmau, ac y gwnei yr hyn oll yr ydwyfi yn ei orchymyn i ti.

15 Er hynny ti a gei ladd a bwytta cîg, yn ôl holl ddymuniant dy galon, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a rydd efe i ti, yn dy holl byrth: yr aflan, a'r glân a fwytty o honaw, megis o'r iwrch a'r carw.

16Pen. 15.23. Ond na fwyttewch y gwaed; ar y ddaiar y tywelltwch ef fel dwfr.

17 Ni elli fwytta o fewn dy byrth ddecfed dy ŷd, na'th win, na'th olew, na chyntaf-anedic dy warthec, na'th ddefaid, na'th holl addune­dau y rhai a addunech, na'th offrymmau gwir­fodd, na derchafel offrwm dy law:

18 Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwyttei hwynt, yn y lle a ddewiso yr Ar­glwyd dy Dduw, ti, a'th fab, a'th ferch, a'th wâs, a'th forwyn, a'r Lefiad a fyddo yn dy byrth di: llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynnech dy law arno.

19Pen. 14.27. Eccles. 7.31. Gwilia arnat rhac gadel y Lefiad,Heb. dy holl ddyddiau. tra fyddech byw ar dy ddaiar.

20 Pan helaetho 'r Arglwydd dy Dduw dy derfyn di,Gen. 28.14. Pen. 19. 9 megis y dywedodd wrthit, os dy­wedi, bwyttâf gîg (pan ddymuno dy galon y fwytta cig) yn ôl holl ddymuniad dy galon y bwyttei gîg.

21 Os y lle a ddewisodd yr Arglwydd dy Dduw i roddi ei enw ynddo fydd pell oddi wrthit, yna lladd o'th warthec, ac o'th ddefaid, y rhai a roddodd yr Arglwydd it, megis y gorchymyn­nais i ti; a bwytta o fewn dy byrth, wrth holl ddymuniad dy galon.

22 Etto fel y bwytteir yr iwrch a'r carw, felly y bwyttei ef; yr aflan a'r glân a'i bwytty yn yr vn ffunyd.

23 Yn vnicHeb. ymgrys­ha. bydd siccr na fwyttaech y gwaed; canys y gwaed yw yr enioes: ac ni chei fwytta yr enioes ynghyd a'r cîg.

24 Na fwytta ef: ar y ddaiar y tywellti ef fel dwfr.

25 Na fwytta ef, fel y byddo daioni i ti, ac i'th feibion ar dy ôl, pan wnelych yr vnion yngolwg yr Arglwydd.

26 Etto cymmer dy gyssegredic bethau y rhai sydd gennit, a'th addunedau, a thyret i'r lle a ddewiso 'r Arglwydd:

27 Ac offrymma dy boeth offrwm (y cîg a'r gwaed) ar allor yr Arglwydd dy Dduw: a gwaed dy aberthau a dywelltir wrth allor yr Arglwydd dy Dduw; a'r cîg a fwyttei di.

28 Cadw a gwrando yr holl eiriau hyn yr ydwyfi yn eu gorchymyn i ti; fel y byddo daioni it, ac i'th feibion ar dy ôl byth, pan wnelych yr hyn sydd dda, ac vnion yngolwg yr Arglwydd dy Dduw.

29 Pan ddinistrio yr Arglwydd dy Dduw, y cenhedloedd, y rhai yr wyt ti yn myned at­tynt iw meddiannu, o'th flaen di, aHeb. meddian­nu, neu etifeddu o honot hwy [...] dyfod o honot yn eu lle hwynt, a phresswylio yn eu tîr hwynt:

30 Gwilia arnat rhac ymfaglu o honot ar [Page] eu hôl hwynt, wedi eu dinistrio hwynt o'th flaen di; a rhac ymorol am eu duwiau hwynt, gan ddywedyd; pa fodd y gwasanaethodd y cenhedloedd hyn eu duwiau, myfi a wnaf felly hefyd.

31 Na wna di felly i'r Arglwydd dy Dduw: canys pob ffieidd-draHeb. yr Ar­glwydd, yr hwn oedd gas gan­tho. yr hwn oedd gâs gan yr Arglwydd a wnaethant hwy iw duwiau: canys eu meibion hefyd, a'i merched a loscasant yn tân iw duwiau.

32 Pob gair yr wyfi yn ei orchymyn i chwi, edrychwch am wneuthur hynny:Pen. 4.2. Jos. 1.7. Dihar. 30.6. Datc. 22.18. na chwa­nega atto, ac na thyn oddi wrtho.

PEN. XIII.

1 Y rhai a hudo i ddelw-addoliaeth, 6 er nessed a font iti, 9 rhaid yw eu llabyddio. 12 Nad arbeder y dinassoedd lle y bo gau-dduwiaeth.

PAn godo yn dy fysc di brophwyd, neu freuddwydudd breuddwyd, (a rhoddi it ar­wydd neu ryfeddod,

2 A dyfod i ben o'r arwydd neu'r rhyfeddod a lefarodd efe wrthit) gan ddywedyd, awn ar ôl duwiau dieithr (y rhai nid adwaenost) a gwasanaethwn hwynt:

3 Na wrando ar eiriau y prophwyd hwnnw, neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnnw; canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru yr Arglwydd eich Duw â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid.

4 Ar ôl yr Arglwydd eich Duw yr ewch, ac ef a ofnwch, a'i orchymynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandewch, ac ef a wasanae­thwch, ac wrtho ef yPen. 10.20. glynwch.

5 A'r prophwyd hwnnw, neu yr breudd­wydudd breuddwyd hwnnw, a roddir i far­wolaeth, (canys llefaroddHeb. Dychwe­liad yn erbyn yr Arglwydd i'ch troi chwi oddi­wrth yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a'ch dug chwi allan o dir yr Aipht, ac a'ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed, i'th wthio di allan o'r ffordd, yr hon y gorchymynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti rodio ynddi) felly y tynni ym­maith y drwg o'th fysc.

6 Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu wraig dy fonwes, neu dy gyfeill, yr hwn sydd fel dy enaid dy hun, a'th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, awn, a gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost di, na'th dadau:

7 Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o'ch am­gylch chwi, yn agos attat, neu ymmhell oddi wrthir, o vn cwrr i'r tîr, hyd gwrr arall y tîr:

8 Na chydsynia ag ef, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ef, ac na chela arno.

9 Ond gan ladd lladd ef, bydded dyPen. 17.7. law di arno ef yn gyntaf, iw roddi iw farwolaeth; a llaw yr holl bobl wedi hynny.

10 A llabyddia ef â meini fel y byddo marw: canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr Ar­glwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddug di allan o dir yr Aipht, o dŷ yHeb. Caethion. caethiwed.

11 APen. 17.13. holl Israel a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus a hyn yn dy blith.

12 Pan glywech am vn o'th ddinasoedd, y rhai y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi it i drigo ynddynt, gan ddywedyd,

13 Aeth dynion, meibion yNeu, Belial. Fall allan o'th blith, a gyrrasant drigolion eu dinas, gan ddywedyd, awn, gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch:

14 Yna ymofyn, a chwilia, a chais yn dda: ac wele os gwirionedd yw, a bod yn siccr wneuthur y ffieidd-dra hyn yn dy fysc:

15 Gan daro, taro drigolion y ddinas hon­no â mîn y cleddyf: difroda hi, a'r rhai oll a fyddant ynddi, a'i hanifeiliaid hefyd, â mîn y cleddyf.

16 A'i holl yspail hi a gescli i ganol ei heol hi, ac a losci y ddinas a'i holl yspail hi yn gwbl, i'r Arglwydd dy Dduw, â than: felly bydded yn garnedd byth, nac adailader hi mwy.

17 AcPen. 7.26. na lyned wrth dy law di ddim o'rNeu, peth m [...]Il­tigedic. diofrydbeth, fel y dychwelo 'r Arglwydd oddi wrth angerdd ei ddig, ac y rhoddo it drugaredd, ac y tosturio wrthit, ac i'th amlhao, megis y tyngodd wrth dy dadau:

18 Pan wrandawech ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl orchydmynion ef, y rhai'r wyfi yn eu gorchymyn i ti heddyw; gan wneuthur yr hyn sydd vnion yng-olwg yr Arglwydd dy Dduw.

PEN. XIV.

1 Na ddylai plant Duw mo'i hanffurfio eu hunain wrth alaru. 3 Pa beth a ellir, a pha beth nis gellir ei fwytta, 4 o anifeiliaid, 9 o byscod, 11 o adar, 21 Ni ellir bwytta'r hyn a fo farw ei hun. 22 Degymmau gwasanaeth Duw. 23 Y degymmau a'r cyntafanedic i ymlaweny­chu ger bron yr Arglwydd. 28 Degwm y dry­dedd flwyddyn yn Elusen.

PLant ydych chwi i'r Arglwydd eich Duw,Levit. 19.28. na thorrwch mo honoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw.

2 CanysPen. 7.6. & 26.18. pobl sanctaidd wyt ti i'r Ar­glwydd dy Dduw, a'r Arglwydd a'th ddewi­sodd di i fod yn bobl vnic iddo ef, o'r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaiar.

3 Na fwytta dim ffiaidd.

4Levit. 11.2. Dymma yr anifeiliaid a fwyttewch; ei­dion, llwdn dafad, a llwdn gafr,

5 Y carw, a'r iwrch, a'r llwdn hydd, a'r bwch gwyllt, a'rHeb. Dison. vnicorn, a'rBual. ych gwyllt, a'r afr wyllt.

6 A phob anifail yn hollti yr ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ac yn cnoi cil, ym­mysc yr anifeiliaid; hwnnw a fwyttewch.

7 Ond hyn ni fwyttewch o'r rhai a gnoant y cîl, neu a holldant yr ewin yn fforchog; y camel a'r yscyfarnog, a'r gwningen, er bod y rhai hyn yn cnoi eu cîl, am nad ydynt yn fforchogi yr ewin, aflan ydynt i chwi.

8 Yr hŵch hefyd er ei bod yn fforchogi yr ewin, ac heb gnoi cîl, aflan yw i chwi: na fwyttewch o'i cîg hwynt, ac na chyffyrddwch â'i burgyn hwynt.

9Levit▪ 11.9. Hyn a fwyttewch o'r hyn oll sydd yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd iddo ascell a chenn a fwyttewch.

10 A'r hyn oll nid oes iddo ascell a chenn, ni fwyttewch: aflan yw i chwi.

11 Pob aderyn glân a fwyttewch.

12 Ac dymma y rhai ni fwyttewch o honynt; yr eryr, a'r wydd-walch, a'r for­wennol,

13 A'r bod, a'r barcut, a'r fwltur yn ei rhyw,

14 A phob cîg-fran yn ei rhyw,

15 A chyw'r estrys, a'r fran nôs, a'r gôg, a'r hebog yn ei ryw,

16 Aderyn y corphau, a'r dylluan, a'r gogfran,

17 A'r pelican, a'r biogen, a'r ful-fran,

18 A'r Ciconia, a'r crŷr yn ei ryw, a'r gorn­chwigl,Levit. 11.19. ar ystlym.

19 A phob ymlusciad ascelloc sydd aflan i chwi: na fwyttaer hwynt.

20 Pob ehediad glân a fwyttewch.

21 Na fwyttewch ddim a fo marw ei hun: dod ef i'r dieithr fyddo yn dy byrth, a bwyttaed ef, neu gwerth ef i'r dieithr, canys pobl san­ctaidd ydwyt i'r Arglwydd dy Dduw.Exod. 23.19. & 34.26 Na ferwa fynn yn llaeth ei fam.

22 Gan ddegymmu degymma holl gynnyrch dy hâd, sef ffrwyth dy faes bob blwyddyn.

23 A bwytta ger bron yr Arglwydd dy Dduw (yn y lle a ddewiso efe i drigo o'i enw ef ynddo) ddegwm dy ŷd, dy wîn, a'th olew, a chyntafanedic dy warthec, a'th ddefaid; fel y dyscech ofni 'r Arglwydd dy Dduw bob amser.

24 A phan fyddo y ffordd ry-hîr i ti, fel na ellych ei ddwyn ef, neu os y lle fydd ym mhell oddi wrthit, yr hwn a ddewiso 'r Arglwydd dy Dduw i osod ei enw ynddo, pan i'th fendithio yr Arglwydd dy Dduw:

25 Yna dod ei werth yn arian, a rhwym yr arian yn dy law, a dos i'r lle a ddewiso 'r Ar­glwydd dy Dduw:

26 A dôd yr arian am yr hyn oll aHeb. ofynno dy galon gennit. chwen­nycho dy galon; am warthec, neu am dde­faid, neu am wîn, neu am ddiod gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwytta yno ger bron yr Arglwydd dy Dduw, a llaw­enycha di, a'th deulu.

27Pen. 12.19. A'r Lefiad yr hwn fyddo yn dy byrth, na wrthod ef: am nad oes iddo na rhan, nac etifeddiaeth gyd â thi.

28 Ym mhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a dyro ef i gadw o fewn dy byrth.

29 A'r Lefiad, am nad oes iddo ran nac eti­feddiaeth gyd â thi, a'r dieithr, a'r ymddifad, a'r weddw, y rhai sydd yn dy byrth di, a ddeu­ant ac a fwyttânt, ac a ddigonir: fel i'th fendi­thio 'r Arglwydd dy Dduw ym mhob gwaith a wnelych â'th law.

PEN. XV.

1 Y seithfed flwyddyn yn flwyddyn gollyngdod i'r tlodion. 7 Etto nas dylai rwystro benthygio neu roddi. 12 Gwas o Hebræad, 16 oddieithr iddo fod yn anfoddlon i ymadel, sydd raid ei ollwng ymaith yn rhydd y seithfed flwyddyn, ond nid yn waglaw. 19 Rhaid yw cyssegru pob gwryw cyntafanedic o'r anifeiliaid i'r Arglwydd.

YM-mhen pob Levit. 25.1, 4. saith mlynedd gwna ollyng­dod.

2 Ac dymma wedd y gollyngdod: gollyn­ged pobHeb. meistr echwyn ei law. echwynwr iw gymydog yn rhydd ei echwyn a echwynodd efe: na fynned hynny trachefn gan ei gymydog, neu ei frawd, canys cyhoeddwyd gollyngdod yr Arglwydd.

3 Ti a elli fynnu drachefn gan y dieithr, ond gollynged dy law yn rhydd yr hyn sydd i ti gyd â'th frawd:

4Ond pan na byddo. Megis na byddo o honot ti gardottyn: canys yr Arglwydd gan fendithio a'th fendithia di, yn y tîr y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth iw feddiannu.

5 Yn vnic os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur yr holl orchymynion ymma, y rhai yr ydwyfi yn eu gorchymyn i ti heddyw.

6 Canys yr Arglwydd dy Dduw a'th fendi­thia, megis y llefarodd wrthit, felPen. 28.12. y benthy­giech i genhedloedd lawer, ac na fenthygiech di ganddynt; ti hefyd a arglwyddiaethi ar genhedloedd lawer, ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti.

7 Os bydd yn dy fysc di vn o'th frodyr yn dlawd o fewn vn o'th byrth, yn dy dir, yr hwn y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it, na chaleda dy galon, ac na chae dy law oddi wrth dy frawd tlawd:

8 Onid gan agorydMat. 5.42. Luc. 6.34. agor dy law iddo, a chan fenthygio benthygia ddigon iw angen ef, yr hyn fyddo arno ei eisiau.

9 Gwilia arnat rhac bod yn dy galonHeb. Belial. ddrwgHeb. Air. feddwl i ddywedyd, agos yw y seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod; a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhac rhoddi iddo, a llefain ô ho­naw ef ar yr Arglwydd rhagot, a'i fod yn be­chod i ti.

10 Gan roddi dod iddo, ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo: canys o achos y peth hyn i'th fendithia 'r Arglwydd dy Dduw yn dy holl waith, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno.

11 Canys niMat. 26.11. ddersydd y tlawd o ganol y tîr, am hynny 'r ydwyfi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, gan agoryd agor dy law i'th frawd, i'th anghenus, ac i'th dlawd yn dy dîr.

12Exod. 21.2. Jer. 34.14 Os gwerthir dy frawd, Hebread, neu Hebræes i ti, a'th wasanaethu chwe blynedd, y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthit.

13 A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthit, na ollwng efe yn wâg:

14 Gan lwytho llwytha ef o'th braidd, ac o'th yscubor, ac o'th win-wrŷf: o'r hyn i'th fendi­thiodd yr Arglwydd dy Dduw, dod iddo.

15 A chofia mai gwâs fuost yn nhîr yr Aipht, a'th waredu o'r Arglwydd dy Dduw: am hynny 'r ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddyw.

16 Ond os dywed wrthit, nid âf allan oddi wrthit, am ei fod yn dy hoffi di, a'th dŷ, o herwydd bod yn dda arno ef gyd â thi:

17 YnaExod. 21.6. cymmer fynawyd, a dod trwy ei glust ef, ac yn y ddôr, a bydded yn wâs i ti bŷth; felly hefyd y gwnei i'th forwyn.

18 Na fydded caled gennit ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthit, canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gwenidog, chwe blynedd: a'r Arglwydd dy Dduw a'th fendithia yn yr hyn oll a wnelych.

19Exod. 34.19. Pob cyntaf-anedic yr hwn a ênir o'th warthec, neu o'th ddefaid yn wryw, a gyssegri di i'r Arglwydd dy Dduw: na weithia â chyn­tafanedic dy ychen, ac na chneifia gyntaf-anedic dy ddefaid.

20 Ger bron yr Arglwydd dy Dduw y bwyttei ef bob blwyddyn, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd, ti a'th deulu.

21 OndLevit. 22.20. Deut. 17.1. Ecclus. 35.12. os bydd anaf arno, os cloff, neu ddall fydd, neu arno ryw ddrwg anaf arall, na a­bertha ef i'r Arglwydd dy Dduw.

22 O fewn dy byrth y bwyttei ef; yr aflan a'r glân ynghyd a'i bwytty, megis yr iwrch, ac megis y carw.

23Pen. 12.16.23. Etto na fwytta ei waed ef, tywallt hwnnw ar y ddaiar fel dwfr.

PEN. XVI.

1 Gwyl y Pasc, 9 yr Wythnosau, 13 Y Pebyll. 16 Rhaid i bob gwryw offrwm yn ol ei allu [Page] ar y tair gwyl hyn. 18 Am farnwyr a barn gyfiawn. 22 Gwahardd llwynau a delwau.

CAdw yExod. 12.2. & 13.4. mîs Abib, a chadw Basc i'r Arg­lwydd dy Dduw: canys o fewn y mîs Abib y dug yr Arglwydd dy Dduw di allan o'r Aipht o hŷd nos.

2 Abertha ditheu yn Basc i'r Arglwydd dy Dduw, o ddefaid a gwarthec, yn yPen. 12.5. lle a dde­wiso 'r Arglwydd dy Dduw i drigo o'i enw ef yno.

3Exod. 11.15. Na fwytta fara lefeinllyd gyd ag ef; saith niwrnod y bwyttei gyd ag ef fara croyw, sef bara cystudd: (canys ar ffrwst y daethost allan o dîr yr Aipht) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dîr yr Aipht, holl ddyddiau dy enioes.

4Exod. 34.25. Ac na weler gennit sur-does yn dy holl derfynau saith niwrnod, ac nac arhoed tros nôs hyd y boreu ddim o'r cîg, a aberthaist yn yr hwyr, ar y dydd cyntaf.

5 Ni elliNeu, l [...]dd. aberthu y Pasc o fewn yr vn o'th byrth, y rhai y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi it.

6 Ond yn y lle a ddewiso 'r Arglwydd dy Dduw i drigo o'i enw ef ynddo, yno r' aberthi y Pasc, yn yr hwyr, ar fachludiad haul, y pryd y daethost allan o'r Aipht.

7 Yna y rhosti ac y bwyttei ef, yn y lle a ddewiso 'r Arglwydd dy Dduw; a'r boreu y dychweli, ac yr ai i'th babellau.

8 Chwe diwrnod y bwyttei fara croyw, ac ar y seithfed dydd y mae Heb. Gwahar­ddlad vchel-ŵyl i'r Arglwydd dy Dduw, ni chei wneuthar gwaith ynddo.

9Levit. 23.15. Cyfrif it saith wythnos; pan ddechreuo y crymman ar yr ŷd y dechreui rifo y saith wythnos.

10 A chadw ŵyl yr wythnosau i'r Arg­lwydd dy Dduw, ag offrwm gwirfodd dy law yr hwn a roddi, megis i'th fendithio yr Arg­lwydd dy Dduw.

11 A llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw, ti a'th fab, a'th ferch, a'th wâs, a'th forŵyn, a'r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth; a'r dieithr, a'r ymddifad, a'r weddw, sydd yn dy fysc, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o'i enw ef ynddo.

12 Cofia hefyd mai caeth-wâs fuost yn yr Aipht; a chadw, a gwna y deddfau hyn.

13Levit. 23.34. Cadw it ŵyl y pebyll saith niwrnod, wedi it gasclu dyHeb. Lawr­dyrnu a'th win­wryf. ŷd a'th wîn.

14 A llawenycha yn dy ŵyl, ti, a'th fab, a'th ferch, a'th wâs, a'th forwyn, a'r Lefiad, a'r dieithr, a'r ymddifad, a'r weddw, y rhai fyddant o fewn dy byrth.

15 Saith niwrnod y cedwi ŵyl i'r Arg­lwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso yr Arg­lwydd: canys yr Arglwydd dy Dduw a'th fen­dithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylo, am hynny bydd ditheu lawen.

16Exod. 23.14. & 34.23. Tair gwaith yn y flwyddyn yr ym­ddengys pob gwryw o honot o flaen yr Arg­lwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll: ond nac ymddangosed neb o flaen yr Arglwydd ynEcclus. 35.4. wâg-law.

17 Pob vn yn ôl rhodd ei law, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw 'r hon a roddes efe i ti.

18 Gwna it farn-wŷr, a blaenorion yn dy holl byrth: y rhai y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi it, trwy dy lwythau: a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn.

19 Na ŵyra farn, ac na chydnebydd wyne­bau,Exo 23.8. na dderbyn wobr y chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a ŵyraNeu, achosion. eiriau y cyfiawn.

20 Cyfiawnder, cyfiawnder a ddilyni, fel y byddych fyw ac yr etifeddych y tir, yr hwn y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it.

21 Na phlanna it lwyn o neb rhyw goed, ger llaw allor yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a wnei it.

22Levit. 26.1. Ac na chyfot itDdelw. golofn, yr hyn sydd gâs gan yr Arglwydd dy Dduw.

PEN. XVII.

1 Rhaid yw bod y pethau a offrymmir yn ddia­naf. 2 Rhaid yw llâdd delw-addolwyr. 8 Ym­rafaelion caled a fernir gan yr Offeiriaid a'r Barn-wyr. 12 Yr hwn a ddiystyro y cyfryw farn a roddir i farwolaeth. 14 Dewisiad, 16 a dyled-swydd brenhin.

NAc abertha i'r Arglwydd dy Dduw ŷch, neuNeu, afr. ddafad y byddo arno anaf neu ddim gwrthuni: canys cas-beth yr Arglwydd dy Dduw yw hynny.

2 Pan gaffer yn dy blith di, o fewn vn o'th byrth y rhai y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi it, ŵr neu wraig a wnaeth ddrygi­oni yngolwg yr Arglwydd dy Dduw, gan droseddu ei gyfammod ef;

3 Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau di­eithr, ac a ymgrymmodd iddynt, i'r haul, neu i'r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchymynnais:

4 Pan ddangoser i ti, a chlywed o honot, yna cais yn dda, ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn siccr wneuthur y ffieidd-dra hyn yn Israel:

5 Yna dwg allan y gŵr hwnnw, neu 'r wraig honno (a wnaethant y peth drygionus hyn) i'th byrth, sef y gŵr neu 'r wraig; a lla­byddia hwynt â meini, fel y byddont feirw.

6Num. 35.30. Pen. 19.15. Mat. 18.16. 2 Cor. 13.1. Joh. 8.17. Heb. 10.28. Wrth dystiolaeth dau o dystion, neu dri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw; na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth vn tŷst.

7 Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf iw farwolaethu ef, a llaw 'r holl bobl wedi hynny: a thi a dynni ymmaith y drwg o'th blith.

8 Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti, rhwng gwaed a gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwngdyrnod. plâ a phlâ, mewn pethau amra­faelus o fewn dy byrth; yna cyfot, a dos i fynu i'r llê a ddewiso 'r Arglwydd dy Dduw.

9 A dos at yr offeiriaid, y Leviaid, ac at y barn-ŵr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymo­syn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnediga­eth.

10 A gwna ar ôl rheol y gair a ddangosant i ti, o'r lle hwnnw a ddewiso yr Arglwydd: ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddyscant i ti.

11 Ar ôl rheol y gyfraith a ddyscont it, ac yn ôl y farn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddiwrth y peth a ddangosont i ti, i'r tu dehau, nac i'r tu asswy.

12 A'r gŵr a wnêl mewn rhyfyg, heb wrando ar yr offeiriad (sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr Arglwydd dy Dduw,) neu ar y barn-ŵr; yna rhodder i farwolaeth y gŵr hwnnw, a thynn ymmaith y drwg o Israel.

13 A'r holl bobl a glywant, ac a ofnant, ac ni ryfygant mwy.

14 Pan ddelych i'r tîr y mae 'r Arglwydd dy Dduw 'n ei roddi i ti, a'i feddiannu, a [Page] thrigo ynddo, os dywedi gosodaf arnaf frenin megis yr holl genhedloedd sydd o'm hamgylch:

15 Gan osod, gosot arnat yn frenin yr hwn a ddewiso 'r Arglwydd dy Dduw; o blith dy frodyr y gosodi arnat frenin; ni elli roddi arnat ŵr dieithr, yr hwn nid yw frawd i ti.

16 Ond nac amlhaed iddo feirch, ac na ddy­chweled efe y bobl i'r Aipht i amlhau meirch; gan i'r Arglwydd ddywedyd wrthych, na chwanegwch ddychwelyd y ffordd honno mwy.

17 Ac nac amlhaed iddo wragedd, fel na ŵyro ei galon: ac nac amlhaed arian, ac aur lawer iddo.

18 A phan eisteddo ar deyrngader ei fren­hiniaeth, scrifenned iddo goppi o'r gyfraith hon mewn llyfr, allan o'r hwn fydd ger bron yr offeiriaid y Lefiaid.

19 A bydded gyd ag ef, a darllenned arno holl ddyddiau ei fywyd, fel y dysco ofni yr Ar­glwydd ei Dduw, i gadw holl eiriau y gyfraith hon, a'r deddfau hyn, iw gwneuthur hwynt:

20 Fel na dderchafo ei galon vwch-law ei frodyr, ac na chilio oddi wrth y gorchymyn, i'r tu dehau nac i'r tu asswy: fel yr estynno ddyddiau yn ei frenhiniaeth, efe a'i feibion, ynghanol Israel.

PEN. XVIII.

1 Yr Arglwydd yw etifeddiaeth yr offeiriaid a'r Lefiaid. 3 Defod yr offeiriaid. 6 Rhan y Lefiaid. 9 Rhaid yw gochelyd ffieidd-dra y C [...]hedloedd. 15 Rhaid yw gwrando ar Grist y prophwyd, 20 a rhoddi y prophwyd rhyfygus i farwolaeth.

NI bydd i'r offeiriaid, i'r Lefiaid, i holl lwyth Lefi ranNum. 18.20. Deut. 10.9. nac etifeddiaeth ynghyd ag Israel:1 Cor. 9.13. ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a'i etife­ddiaeth ef, a fwyttânt hwy.

2 Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ymlhith eu brodyr: yr Arglwydd yw eu hetife­ddiaeth hwy, megis ac y dywedodd wrthynt.

3 A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant a­berth, pwy vn hynnac ai eidion, ai dafad, rhoddant i'r offeiriadNum. 18.18. yr yscwyddoc, a'r ddwy ên, a'r botten.

4 Blaen-ffrwyth dy ŷd, dy wîn, a'th olew, a blaen-ffrwyth cnaif dy ddefaid a roddi iddo ef.

5 Canys dewisodd yr Arglwydd dy Dduw ef o'th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw 'r Arglwydd, efe ai feibion yn dragy­wydd.

6 A phan ddelo Lefiad o vn o'th byrth di yn holl Israel, lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod â holl ddymuniad ei galon, i'r lle a dde­wiso yr Arglwydd:

7 Yna gwasanaethed efe yn enw 'r Arg­lwydd ei Dduw, megis ei holl srodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno ger bron yr Arglwydd.

8 Rhan am ran a fwyttânt, heb-law gwerth yr hyn sy'n dyfod iddo oddi wrth ei dadau.

9 Pan elych di i'r tîr y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it, na ddysc wneuthur yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd hynny.

10Levit. 18.21. Na chaffer ynot a wnelo iw fab, neu iw ferch, fyned drwy 'r tân, neu a arfero ddewini­aeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol:

11Levit. 20.27. 1 Sam. [...]8.7. Na swyn-wr swynion, nac a geisio wyboda­eth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac a ymofyn­no â'r meirw.

12 O herwydd ffieidd-dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hyn: ac o achos y ffieidd-dra hyn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu gyr­ru hwynt allan o'th flaen di.

13 ByddNeu, vnion, neu bur. berssaith gyd â'r Arglwydd dy Dduw.

14 Canys y cenhedloedd hyn, y rhai aNeu, etifeddi. feddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond am danat ti, nid felly y canhiatâodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

15Joan. 1.45. Act. 3.22 & 7.37. Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti o'th blith dy hun, o'th frodyr dy hun, broph­wyd megis finneu; arno ef y gwrandewch.

16 Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr Ar­glwydd dy Dduw yn Horeb, yn nydd y gym­manfa, gan ddywedyd,Exod. 20.19. na chlywyf mwyach lais yr Arglwydd fy Nuw, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhac fy marw.

17 A dywedodd yr Arglwydd wrthif, da y dywedasant yr hyn a ddywedasant.

18Joan. 1.45. Act. 3.22. & 7.37. Codaf brophwyd iddynt o fysc eu brodyr fel titheu, a rhoddaf fyngeiriau yn ei enau ef: ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a or­chymynnwyf iddo.

19 A phwy bynnac ni wrandawo ar fyngei­riau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a'i gofynnaf ganddo.

20 Y prophwyd hefyd, yr hwn a ryfyga le­faru yn fy enw air ni orchymynnais iddo ei lefaru, neu 'r hwn a lefaro yn enw duwiau diei­thr; rhodder y prophwyd hwnnw i farwolaeth.

21 Ac os dywedi yn dy galon, pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr Arglwydd?

22 Yr hyn a lefaro y prophwyd hwnnw yn enw 'r Arglwydd, a'r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw 'r gair ni lefarodd yr Arglwydd; y prophwyd a'i llefarodd mewn rhyfyg; nac ofna ef.

PEN. XIX.

1 Dinasoedd y noddfa, 4 a braint y llofrudd yn­ddynt. 14 Na symmuder terfyn tîr. 15 Rhaid yw bod dau o dystion o'r lleiaf. 16 Cospediga­eth gau-dyst.

PAnDeut. 12.29. dorro 'r Arglwydd dy Dduw ym­maith y cenhedloedd y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn rhoddi eu tir i ti, a'iNeu, etifeddu. meddian­nu o honot ti, a phresswylio yn eu dinasoedd, ac yn eu tai,

2Exod. 21.13. Num. 35.10. Jos. 20.2. Nailldua it dair dinas ynghanol dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it, iw feddiannu.

3 Paratoa ffordd i ti, a thraiana derfyn dy dîr, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw yn etifeddiaeth it, fel y byddo i bob llofrudd ffoi yno.

4 Dymma gyfraith y llofrudd, yr hwn a ffŷ yno i fyw: yr hwn a darawo ei gymydog heb wybod; ac yntef heb ei gasau efHeb. er doe ac echdoe. o'r blaen,

5 Megis pan elo vn gyd â'i gymydog i'r coed, i gymmynu pren, ac a estyn ei law a'r fwyall i dorri y pren, a syrthio yr haiarnHeb. Oddiar y pren, a chaffael. &c. o'r menybr, a chyrhaeddyd ei gymydog, fel y byddo farw, efe a gaiff ffoi i vn o'r dinasoedd hyn, a byw:

6Num. 35.35. Rhac i ddialudd y gwaed ddilyn ar ôl y llofrudd a'i galon yn llidiog, a'i oddiweddyd, am fod y ffordd yn hir, a'i daro ef ynHeb. yn ei [...]ni­oes. farw, er nad oedd ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth, am nad oedd efe yn ei gasau efHeb. er doe ac echdoe. o'r blaen.

7 Am hynny 'r ydwyf yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, tair dinas a nailldûi i ti.

8Pen. 12.10. A phan helaetho 'r Arglwydd dy Dduw dy derfyn, fel y tyngodd wrth dy dadau, a rhoddi i ti yr holl dîr a addawodd efe ei roddi wrth dy dadau;

9 (Os cedwi y gorchymynion hyn oll, gan wneuthur yr hyn yr ydwyfi yn ei orchy­myn it heddyw, i garu yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef bob amser)Josuah 20.7. yna y chwanegi i ti dair dinas hefyd at y tair hyn:

10 Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir, yr hwn y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it yn etifeddiaeth; ac na byddo gwaed i'th erbyn.

11 Ond os bydd gŵr yn casau ei gymydog, ac yn cynllwyn iddo, a chodi yn ei erbyn, a'i ddieneidio fel y byddo farw, a ffoi i vn o'r dinasoedd hyn:

12 Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef, a chymmerant ef oddi yno, a rhoddant ef yn llaw dialudd y gwaed, fel y byddo farw.

13 Nac arbeded dy lygad ef, ond tynn ym­maith affaith gwaed gwirion o Israel, fel y by­ddo daioni it.

14 Na symmud derfyn dy gymydog, yr hwn a derfynodd y rhai a fu o'r blaen, o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti iw feddiannu.

15 Na chodedNum. 35.30. Deut. 17.6. Matth. 18.16. Joan. 18.17. 2 Cor. 13.1. Heb. 10.28. vn tŷst yn erbyn neb, am ddim anwiredd, neu ddim pechod, o'r holl be­chodau a becho efe: wrth dystiolaeth dau o dystion, neu wrth destiolaeth tri o dystion y bydd safadwy y peth.

16 Os cyfyd gau-dyst yn erbyn neb, gan dystiolaethu bai yn ei erbyn ef:

17 Yna safed y ddau ddyn y mae 'r amra­fael rhyngddynt ger bron yr Arglwydd, o flaen yr offeiriaid a'r barn-wŷr a fyddo yn y dy­ddiau hynny.

18 Ac ymofynned y barn-wŷr yn dda; ac os y tŷst fydd tŷst ffals, ac a dystiolaetha ar gam yn erbyn ei frawd:

19Dihar. 19.5, 9. Dan. 13.62. Yna gwnewch iddo fel yr amcanodd wneuthur iw frawd; a thynn ymmaith y drwg o'th fysc.

20 A'r lleill a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur mwy yn ôl y peth drygionus hyn yn dy blith.

21 Ac nac arbeded dy lygad:Exod. 21.23. Levit. 24.20. Mat. 5.38. bydded eni­oes am enioes, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.

PEN. XX.

1 Araith yr Offeiriaid i annoc y bobl i ryfel. 5 Cyhoeddiad y Swyddogion pwy sydd iw goll­wng adref o'r rhyfel. 10 Pa beth a wneir i'r dinasoedd a dderbyniant, neu a wrtholant am­modau heddwch. 16 Pa ddinasoedd sydd raid eu haddunedu. 19 Ni wasanaetha dinistrio prenni ymborth dyn, wrth warchae arddinas.

PAn elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch, a cherbydau, a phobl fwy­nâ thi, nac ofna rhacddynt: o herwydd yr Ar­glwydd dy Dduw fydd gyd â thi, yr hwn a'th ddûg di i fynu o dîr yr Aipht.

2 A bydd, pan nessaoch i'r frwydr, yna ddy­fod o'r offeiriad, a llefaru wrth y bobl,

3 A dywedyd wrthynt, clyw Israel, yr ydych chwi yn nessau heddyw i'r frwydr, yn erbyn eich gelynion: naDeut. 28.7. feddalhaed eich ca­lon, nac ofnwch,Heb. na phry­ [...]urwch. na synnwch, ac na ddych­rynwch rhacddynt.

4 Canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn myned gyd â chwi i ryfela â'ch gelynion tro­soch chwi, ac i'ch achub chwi.

5 A'r llywiawdwŷr a lefarant wrth y bobl, gan ddywedyd, pa ŵr sydd a adailadodd dŷ newydd, ac nis cyssegrodd ef? eled a dychwe­led iw dŷ, rhac i farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei gyssegru ef.

6 A pha ŵr sydd a blannodd winllan, ac nisHeb. cyffredi­n [...]dd. gwel Levit. 19.23. mwynhaodd hi? eled a dychweled iw dŷ, rhac ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei mwynhau hi.

7 A pha ŵr sydd aPen. 24.5. ymgredodd â gwraig, ac ni chymmerodd hi? eled, a dychweled iw dŷ, rhac ei farw mewn rhyfel, ac i ŵr arall ei chymmeryd hi.

8 Y llywiawdwŷr hefyd a chwanegant le­faru wrth y bobl, ac a ddywedant;Barn. 7.3. I'a ŵr sydd ofnus, a meddal galon? eled a dychwe­led iw dŷ, fel naHeb. thoddo. lwfrhao efe galon ei frawd, megis ei galon yntef.

9 A bydded pan ddarffo i'r llywiawdwŷr lefaru wrth y bobl; osod o honynt dywysogi­on y lluoedd, yn ben ar y bobl.

10 Pan nessaech at ddinas i ryfela yn ei herbyn,Num. 21.22. Deut. 2.26. cyhoedda iddi heddwch.

11 A bydded os heddwch a ettyb hi i ti, ac agoryd it: yna bydded i'r holl bobl a geffer ynddi, fod i ti dan deyrnged, a'th wasanaethu.

12 Ac oni heddycha hi â thi, ond gwneuthur rhyfel â thi; yna gwarchae arni hi.

13 Pan roddo 'r Arglwydd dy Dduw hi yn dy law di; taro ei holl wrywiaid â mîn y cle­ddyf.

14 Yn vnic y benwyaid, a'r plant,Jos. 8.2. a'r ani­feiliaid, a phob dim a'r a fyddo yn y ddinas, sef ei holl yspail a yspeili i ti: a thi a fwynhei yspail dy elynion, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

15 Felly y gwnei i'r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthit; y rhai nid ydynt o ddina­soedd y cenhedloedd hyn.

16 Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi it yn etifeddiaeth, na chadw vn enaid yn fyw:

17 Ond gan ddifrodi difroda hwynt, sef yr Hethiaid, a'r Amoriaid, y Canaaneaid, a'r Phe­reziaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid, megis y gor­chymynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti:

18 Fel na ddyscont i chwi wneuthur ar ôl eu holl ffieidd-dra hwynt, y rhai a wnaethant iw duwiau, a phechu o honoch yn erbyn yr Arglwydd eich Duw.

19 Pan warchaech ar ddinas lawer o ddy­ddiau, gan ryfela yn ei herbyn iw hynnill hi, na ddifetha ei choed hi, gan daro bwyall arnynt; canys o honynt y bwytei, na thorr ditheu hwynt i lawr (o herwyddNeu, o ddyn, pren y maes sydd iw osod, &c. bywyd dŷn yw pren y maes)Heb. i fyned o'th flaen. iw gosod yn y gwarchglawdd.

20 Yn vnic y pren y gwyddost nad pren ymborth yw, hwnnw a ddifethi ac a dorri, ac a adailedi warch-glawdd yn erbyn y ddinas sydd yn gwneuthur rhyfel â thi, hyd oniYmddar­ostyngo. orchfyger hi.

PEN. XXI.

1 Y môdd i ymddiheuro oddiwrth lofruddiaeth heb wybod pwy a'i gwnaeth. 10 Y modd y mae trin caethferch a briodo vn. 15 Na ddylid die­tifeddu y cyntaf-anedig, o ran câs. 18 Rhaid yw llabyddio mab anufydd. 22 Na adawer drwg-weithredwr ynghrôg tros nôs.

OS ceir vn wedi ei ladd o fewn y tîr, yr hwn y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti iw etifeddu, yn gorwedd yn y maes, heb wy­bod pwy a'i lladdodd:

2 Yna aed dy henuriaid, a'th farn-wŷr allan, a mesurant hyd y dinasoedd sydd o amgylch i'r lladdedig.

3 A bydded i'r ddinas nesaf at y lladdedig, sef henuriaid y ddinas honno gymmeryd an­ner o'r gwartheg, yr hon ni weithiwyd â hi, ac ni thynnodd dan iau.

4 A dyged henuriaid y ddinas honno 'r anner i ddyffryn garw, yr hwn ni lafuriwyd, ac ni hauwyd ynddo: ac yno tor-fynyglant yr anner yn y dyffryn.

5 A nessaed yr offeiriaid, meibion Levi, (o herwydd yr Arglwydd dy Dduw a'i hetholodd hwynt i weini iddo ef, ac i fendigo yn enw 'r Arglwydd:) ac wrth euHeb. genau. barn hwynt y terfy­nir pôb ymryson, a phôb plâ.

6 A holl henuriaid y ddinas honno, y rhai a fyddo nesaf at y lladdedig, a olchant eu dwy­lo vwch ben yr anner a dorr-fynyglwyd yn y dyffryn.

7 A hwy a attebant, ac a ddywedant, ni thywalltodd ein dwylo ni y gwaed hwn, ac nis gwelodd ein llygaid.

8 Trugarhâ wrth dy bobl Israel, y rhai a waredaist, ô Arglwydd, ac na ddyro waed gwirionHeb. ynghanol. yn erbyn dy bobl Israel; a maddeuir y gwaed iddynt hwy.

9 Felly y tynni ymmaith affaith y gwaed gwirion o'th fysc, os ti a wnei 'r vniawnder yngolwg yr Arglwydd.

10 Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a rhoddi o'r Arglwydd dy Dduw hwynt yn dy law di, a caeth-gludo o honot gaeth-glud o honynt,

11 A gweled o honot yn y gaeth-glud wraig brŷd-weddol, a'i bôd wrth dy fodd, iw chymmeryd it yn wraig:

12 Yna dwg hi i fewn dy dŷ, ac eillied hi ei phen, aHeb. gwnaed, neu gy­weiried. thorred ei hewinedd,

13 A diosced ddillad ei chaethiwed oddi am deni, a thriged yn dy dŷ di, ac ŵyled am ei thâd a'i mam, fîs o ddyddiau: ac wedi hynny yr ai di atti, ac y byddi ŵr iddi, a hitheu fydd gwraig i ti.

14 Ac oni bydd hi wrth dy fodd, yna gollwng hi yn ôl ei hewyllys ei hun, a chan werthu na werth hi er arian: na chais elw o honi am i ti ei darostwng hi.

15 Pan fyddo i ŵr ddwy wragedd, vn yn gû, ac vn yn gâs; a phlanta o'r gu a'r gâs feibi­on iddo ef: a bôd y mab cyntaf-anedic o'r vn gâs:

16 Yna bydded, yn y dydd y rhanno efe ei etifeddiaeth rhwng ei feibion y rhai fyddant iddo, na ddichon efe wneuthur yn gyntaf­anedic fab y gu o flaen mab y gâs, yr hwn fydd gyntaf-anedic.

17 Ond mab y gâs yr hwn sydd gyntaf­anedic a gydnebydd efe, gan roddi iddo ef y ddeuparth o'r hyn oll a gaffer yn eiddo ef: o achos hwn yw dechreuad ei nerth ef, iddo y bydd braint y cyntaf-anedic.

18 Ond o bydd i ŵr fab cyndyn, ac anu­fydd, heb wrando ar lais ei dâd, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef ni wrendy arnynt:

19 Yna ei dâd a'i fam a ymaflant ynddo, ac a'i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drig-fan:

20 A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, ein mab hwn sydd gyndyn ac anufydd, heb wrando ar ein llais; glŵth a meddwyn yw efe.

21 Yna holl ddynion ei ddinas a'i llabyddi­ant ef â meini, fel y byddo farw; felly y tynni ymmaith y drwg o'th fysc, a holl Israel a gly­want, ac a ofnant.

22 Ac o bydd mewn gŵr bechod yn haeddu barnedigaeth angau, a'i farwolaethu, a chrogi o honot ef wrth bren:

23 Na thriged ei gelain tros nôs wrth y pren, ond gan gladdu ti a'i cleddi ef o fewn y dydd hwnnw: o herwyddGalat. 3.13. melldith DduwNeu, yw'r hwn. sydd i'r hwn a grogir: ac na haloga dy dîr y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it yn etifeddi­aeth.

PEN. XXII.

1 Am garedigrwydd brawdol. 5 Bod adnabod y gwryw a'r fenyw wrth eu dillad. 6 Na dda­lier mam yr adar gydâ 'i chywion. 8 Rhaid yw bod i dŷ ganllawiau. 9 Gochelyd cym­myscedd.12 Rhaid yw bod ridens wrth ddillad. 13 Cospedigaeth yr hwn a roddo anair i'w wraig. 20, 22, Am dor-priodas, 25 Trais, 28 Godineb, 30 a llosc-âch.

NI chei weledExod. 23.4. eidion dy frawd neu ei ddafad yn cyfeiliorni, ac ymguddio oddi wrthynt: gan ddwyn dwg hwynt drachefn i'th frawd.

2 Ac oni bydd dy frawd yn gyfagos attat, neu oni adwaenost ef, yna dwg hwnnw i fewn dy dŷ, a bydded gyd â thi, hyd pan ymofynno dy frawd am dano, yna dyro ef yn ei ôl iddo ef.

3 Ac felly y gwnei iw assyn ef, ac felly y gwnei iw ddillad ef, ac felly y gwnei i bôb coll­beth i'th frawd yr hwn a gyll oddi wrtho ef, a thitheu yn ei gael: ni elli ymguddio.

4 Ni chei weled assyn dy frawd, neu ei ŷch yn gorwedd ar y ffordd, ac ymguddio oddi wrthynt, onid gan godi cyfot gyd ag ef.

5 Na fydded dilledyn gŵr am wraig, ac na wisced gŵr ddillad gwraig: o herwydd ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bawb a'r a wnêl hyn.

6 Pan ddamweinio nŷth adecyn i'th olwg ar dy ffordd, mewn vn pren, neu ar y ddaiar, a chywion neu ag ŵyau ynddo, â'r fam yn ei­stedd ar y cywion, neu ar yr ŵyau; na chy­mer y fam gyd â'r cywion.

7 Gan ollwng ti a ollyngi y fam, a'r cywi­on a gymmeri i ti; fel y byddo daioni it, ac yr estynnech dy ddyddiau.

8 Pan adailadech dŷ newydd, yna y gwnei ganllawiau o amgylch i'th nenn, fel na osodych waed ar dy dŷ, pan syrthio neb oddiarno.

9 Na haua dy winllan ag amryw hâd: rhac it halogiHeb. cyflawn­der. cynnyrch yr hâd a hauech, a chnwd y winllan.

10 Nac ardd ag ŷch ac ag assyn ynghyd.

11 NaLevi 19.19. wisc ddilledyn o amryw ddefnydd, megis o wlân a llîn ynghyd.

12Num 15.38. Plethau a weithi it arHeb. bedair adain. bedwar cwrr dy wisc, yr ymwiscech â hi.

13 O chymmer gŵr wraig, ac wedi myned atti, ei chasau;

14 A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd, y wraig hon a gymmerais, a phan aethym atti, ni chefais ynddi forwyndod:

15 Yna cymmered tâd y llangces, a'i mam, a dygant arwyddion morwyndod y llangces, at henuriaid y ddinas i'r porth.

16 A dyweded tâd y llangces wrth yr he­nuriaid, fy merch a roddais i'r gŵr hwn yn wraig, a'i chasau y mae efe:

17 Ac wele, efe a gododd iddi anair, gan ddywedyd, ni chefais yn dy ferch sorwyndod; ac fel dymma arwyddion morwyndod fy merch; yna lledant y dilledyn yngŵydd henuriaid y ddinas.

18 A henuriaid y ddînas honno, a gym­merant y gŵr, ac a'i cospant ef.

19 A hwy a'i dirwyant ef mewn can sicl o arian, ac a'i rhoddant hwynt i dâd y llangces, o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Is­rael: a bŷdd hi yn wraig iddo, ac ni ddichon ei gyrru ymmaith yn ei holl ddyddiau.

20 Ond os gwir fydd y peth, ac na chaf­wyd arwyddion morwyndod yn y llangces:

21 Yna y dygant y llangces at ddrws tŷ ei thâd, a dynion ei dinas a'i llabyddiant hi â mei­ni oni byddo farw: am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan butteinio yn nhŷ ei thâd; a thi a dynni ymmaith y drwg o'th fysc.

22 OLevit. 10.10. cheffir gŵr yn gorwedd gyd â gwraig briodol â gŵr, byddont feirw ill dau, sef y gŵr a orweddodd gyd â'r wraig, a'r wraig hefyd: felly y tynni ymmaith ddrwg o Israel.

23 O bydd llangces o forwyn wedi ei dy­weddio i ŵr, a chael o ŵr hi mewn dinas, a gorwedd gyd â hi:

24 Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a'i llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llangces o ble­git na waeddodd, a hitheu yn y ddinas; a'r gŵr o herwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymy­dog: felly ti â dynni ymmaith y drygioni o'th fysc.

25 Ond os mewn maes y cafodd y gŵr y llangces, wedi ei dyweddio, a'i threisio o'r gŵr, a gorwedd gyd â hi: yna bydded farw y gŵr a orweddodd gyd a hi yn vnic.

26 Ond i'r llangces ni chei wneuthur dim, nid oes yn y llangces bechod yn heuddu marwola­eth; o herwydd megis y cyfyd gwr yn erbyn ei gymydog a'i ddieneidio ef, yr vn modd y mae y peth hyn.

27 O blegit yn y maes y cafodd efe hi; gwaeddodd y llangces oedd wedi ei dyweddio, ac nid oedd achubudd iddi.

28Exod. 22.16. O chaiff gŵr langces o forwyn heb ei dyweddio, ac ymaflyd ynddi, a gorwedd gyd â hi, a'i daia hwynt:

29 Yna rhydd y gŵr a orweddodd gyd â hi, i dâd y llangces, ddec a deugain o arian; ac iddo y bydd yn wraig, am iddo ei darostwng hi; ni ddichon efe ei gyrru hi ymmaith yn ei holl ddyddiau.

30Levit. 18.8. Na chymmered neb wraig ei dâd, ac na ddinoethed odre ei dâd.

PEN. XXIII.

1 Pwy a all, a phwy ni all ddyfod i'r gynnulleid­fa. 9 Rhaid yw gochelyd aflendid yn y llu. 15 Am y gwâs ffoadur. 17 Am frynti. 18 Am aberthau ffiaidd, 19 vsuriaeth, 21 Addunedau, 24 A chamweddau.

NA ddeued neb wedi yssigo ei eirin na dis­paidd, i gynnulleidfa 'r Arglwydd.

2 Na ddeued basterdyn i gynnulleidfa 'r Ar­glwydd: y ddecfed genhedlaeth iddo hefyd ni chaiff ddyfod i gynnulleidfa 'r Arglwydd.

3 Na ddeledNehe. 13.1. Ammoniad, na Noabiad i gynnulleidfa 'r Arglwydd: y ddecfed genhed­laeth hefyd o honynt, na ddeued i gynnulleid­fa 'r Arglwydd byth:

4 O blegit ni chyfarfuant â chwi â bara ac â dwfr yn y ffordd, wrth eich dyfod o'r Aipht; acNum. 22.5. o achos cyflogi o honynt i'th erbyn Ba­laam fab Beor o Pethor ym Mesopotamia, i'th felldithio di.

5 Etto 'r Arglwydd dy Dduw ni fynnodd wrando ar Balaam; onid trôdd yr Arglwydd dy Dduw y felldith yn fendith it: canys ho­ffodd yr Arglwydd dy Dduw dy di.

6 Na chais eu heddwch hwynt, na'i daio­ni hwynt, dy holl ddyddiau byth.

7 Na ffieiddia Edomiad, canys dy frawd yw: na ffieiddia Aiphtiad, o herwydd diei­thr fuost yn ei wlad ef.

8 Deued o honynt i gynnulleidfa 'r Arg­lwydd, y drydedd genhedlaeth, o'r meibion a genhedlir iddynt.

9 Pan êl y llu allan yn erbyn dy elynion, yna ymgadw rhac pôb peth drwg.

10 O bydd vn o honot heb fod yn lân, o herwydd damwain nôs, eled allan o'r gwerssyll, na ddeued o fewn y gwerssyll.

11Heb. A phan wynebo yr h. Ac ym mîn yr hwyr ymolched mewn dwfr: yna wedi machludo yr haul, deued i fewn y gwerssyll.

12 A bydded lle i ti o'r tu allan i'r gwers­syll: ac yno yr ei di allan.

13 A bydded gennit raw-ffon ym mysc dy arfau: a bydded pan eisteddych allan, gloddio o honot â hi, a thrô a chuddia yr hyn a ddaeth oddi wrthit.

14 O herwydd bod yr Arglwydd dy Dduw yn rhodio ym mhlith dy werssyllau i'th ware­du, ac i roddi dy elynion o'th flaen di; am hyn­ny bydded dy werssyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot tiHeb. noethni dim. ddim brynti, a throi oddiwrthit.

15 Na ddyro at ei feistr wâs a ddiangodd attat oddiwrth ei feistr.

16 Gyd â thi y trîg yn dy fysc, yn y fan a ddewiso, yn vn o'th byrth di, lle byddo da ganddo: ac na chystuddia ef.

17 Na fyddedSodo­mies. puttain o ferched Israel, ac na fyddedSodo­miad. putteini-wr o feibion Israel.

18 Na ddwg wobr puttain, na gwerth cî, i dŷ 'r Arglwydd dy Dduw, mewn vn adduned: canys y maent ill dau yn ffiaidd gan yr Ar­glwydd dy Dduw.

19Exod. 22.25. Levit. 25.36. Psal. 15.5. Na chymmer occreth gan dy frawd; occreth arian, occreth bwyd, occreth dim y cymmerir occreth am dano.

20 Gan estron y cymmeri occreth, ond na chymmer occreth gan dy frawd: fel y bendi­thio yr Arglwydd dy Dduw di, ym mhob peth y rhoddych dy law arno, yn y tîr yr ydwyt yn myned iddo iw feddiannu.

21Preg. 5.4. Pan addunedech adduned i'r Arglwydd dy Dduw, nac oeda ei thalu: canys yr Arg­lwydd dy Dduw gan ofyn a'i gofyn gennit; a byddei yn bechod ynot.

22 Ond os peidi ag addunedu, ni bydd pechod ynot.

23 Cadw, a gwna yr hyn a ddaeth allan o'th wefusau, megis yr addunedaist i'r Arg­lwydd dy Dduw offrwm gwirfodd, yr hwn a draethaist â'th enau.

24 Pan ddelych i winllan dy gymydog, yna bwytta o rawn-win dy wala, wrth dy feddwl, ond na ddod yn dy lestr yr vn.

25 Pan ddelych i ŷd dy gymydog,Matth. 12.1. Mar. 2.23. Luc. 6.1. yna y cei dynnu y twyssennau â'th law: ond ni chei osod crymman yn ŷd dy gymydog.

PEN. XXIV.

1 Am yscar. 5 Nad rhaid i'r gwr newydd bri­odi fyned i ryfel. 6, 10 Am wystlon. 7 Am ladron dynion. 8 Am y gwahan-glwyf, 14 Ta­lu cyflog, 16 Barn, 19 ac Elusen.

PAnMatth. 5.31. & 19.7. Marc. 10.4. gymmero gŵr wraig a'i phriodi; yna oni chaiff hi ffafor yn ei olwg ef, o achos iddo gael rhywHeb. noet [...] aflendid ynddi, scrifenned [Page] iddi lythyr [...]eb. [...]rri [...]mmaith. yscar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymmaith o'i dŷ.

2 Pan elo hi allan o'i dŷ ef, a myned ym­maith, a bod yn eiddo gŵr arall:

3 Os ei gŵr diwethaf a'i casa hi, ac a scri­fenna lythyr yscar iddi, ac a'i rhydd yn ei llaw hi, ac a'i gollwng hi o'i dŷ: neu os bydd marw y gŵr diwethaf a'i cymmerodd hi yn wraig iddo:

4 Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn a'i gollyngodd hi ymmaith, ei chymmeryd hi dra­chefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd-dra yw hyn o flaen yr Arglwydd: ac na wna i'r wlâd bechu, yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti, yn etifeddiaeth.

5Pen. 20.7. Pan gymmero gŵr wraig newydd, nac eled i ryfel, acHeb. nac aed dim arno. na rodder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd vn flwyddyn, a llaw­enhau ei wraig a gymmerodd.

6 Na chymmered neb faen Issaf nac vchaf i felin, ar wystl: canys y mae yn cymmeryd bywyd dyn yngwystl.

7 Pan gaffer gŵr yn lledratta vn o'i frodyr, o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu: yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymmaith y drwg o'th fysc.

8 GwiliaLevit. 13.2. ym mhlâ y gwahan-glwyf ar ddyfal gadw, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysco yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrych­wch am wneuthur megis y gorchymynnais wrthynt hwy.

9 Cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw iNum. 12.10. Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o'r Aipht.

10 Pan fenthygiech i'th gymydog fenthig dim, na ddos iw dŷ ef i gymmeryd ei wystl ef.

11 Allan y sefi, a dyged y gŵr y benthygi­aist iddo, y gwystl allan attat ti.

12 Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsc a'i wystl gyd â thi.

13 Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo, pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn eu wisc, ac i'th fendithio di; a bydd hyn i ti yn gyfiawn­der o flaen yr Arglwydd dy Dduw.

14 Na orthrymma was cyflog tlawd, ac ang­henus, o'th frodyr, neu o'th ddieithr ddyn a fyddo yn dy dîr, o fewn dy byrth di.

15Levit. 19.13. Tob. 4.14. Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog, ac na fachluded yr haul arno; canys tlawd yw, acHeb. atto y derchafa ei enaid. â hyn y mae yn cynnal ei enioes, fel na leso ar yr Arglwydd yn dy erbyn, a bôd pechod ynot.

162 Bren. 4.1. & 14.6. 2 Cron. 25.4. Ezec. 18.20. Jere. 31.29. Na rodder i farwolaeth dadau tros blant, ac na rodder plant i farw tros dadau: pôb vn a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.

17 Na ŵyra farn y dieithr na 'r ymddifad: ac na chymmer ar wystloraeth wisc y weddw.

18 Onid meddwl mai caeth wâs fuost yn yr Aipht, a'th waredu o'r Arglwydd dy Dduw oddi yno: am hynny 'r wyfi yn gorchymyn it wneuthur y peth hyn.

19Levit. 19.9. & 23.22. Pan fedech dy gynhaiaf yn dy faes, ac anghofio yscub yn y maes, na ddychwel iw chymmeryd: bydded i'r dieithr, i'r ymddifad, ac i'r weddw: fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di, yn holl waith dy ddwylo.

20 Pan escydwech dy oliwydden, na loffa ar dy ôl: bydded i'r dieithr, i'r ymddifad, ac i'r weddw.

21 Pan gesclych rawn-win dy winllan, na loffa yn dy ôl: bydded i'r dieithr, i'r ymddifad, ac i'r weddw.

22 Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aipht: am hynny 'r ydwyfi yn gorchy­myn it wneuthur y peth hyn.

PEN. XXV.

1 Na roer y chwaneg i ddeugain gwialennod. 4 Na chauer safn yr ych. 5 Am godi hâd i frawd. 11 Am y wraig ddigwilydd. 13 Am bwysau anghyfiawn. 17 Rhaid yw dileu coffad­wriaeth Amalec.

PAn fyddo ymrafael rhwng dynion, a dyfod i farn iw barnu: yna cyfiawnhânt y cyfi­awn, a chondemnant y beius.

2 Ac o bydd y mab drygionus iw guro, pared y barnwr iddo orwedd, a phared ei guro ef ger ei fron, yn ôl ei ddryganiaeth, dan rifedi.

32 Cor. 11.24. Deugain gwialennod a rydd iddo, ac na chwaneged: rhâc os chwanega, a'i guro efe â llawer gwialennod vwch law hyn, a dirmygu dy frawd yn dy olwg.

41 Cor. 9.9. 1 Tim. 5.18. Na chae safn ŷch tra fyddo yn dyrnu.

5 OsRuth. 4.3. Mat. 22.24. Marc. 12.19. Luc. 20.28. brodyr a drigant ynghŷd, a marw vn o honynt, ac heb plentyn iddo, na phrioded gwraig y marw ŵr dieithr oddi allan: aed ei chyfathrachwr atti, a chymmered hi yn wraig iddo, a gwnaed iddi ran cyfathrachwr.

6 A bydded i'r cyntafanedic a ymddygo hi, sefyll ar enw ei frawd a fu farw: fel na ddeleuer ei enw ef allan o Israel.

7 Ac oni bydd bodlon y gwr i gymmeryd ei gyfathrach-wraig, yna aed ei gyfathrach­wraig i fynu i'r porth at yr henuriaid, a dywed­ed,Ruth. 3.9. & 4.7. gwrthododd fynghyfathrach-wr godi iw frawd enw yn Israel, ni fyn efe wneuthur rhan cyfathrach-wr â mi.

8 Yna galwed henuriaid ei ddinas am dano ef, ac ymddiddanant ag ef: o saif efe, a dy­wedyd, nid wyfi fodlon iw chymmeryd hi;

9 Yna nessaed ei gyfathrach-wraig atto ef yngŵydd yr henuriaid, a dattoded ei escid ef oddi am ei droed, a phoered yn ei wyneb ef, ac attebed, a dyweded, felly y gwneir i'r gŵr nid adailado dŷ ei frawd.

10 A gelwir ei henw ef yn Israel tŷ'r hwn y dattodwyd ei escid.

11 Os ymryson dynion ynghyd, sef gŵr a'i frawd, a nessau gwraig y naill i achub ei gŵr o law ei darawudd, ac estyn ei llaw ac ymaflyd yn ei ddirgeloedd ef:

12 Torr ymmaith ei llaw hi; nac arbeded dy lygad hi.

13 Na fydded gennit yn dy gôdHeb. garreg a charreg. Exod. 16.36. amryw bwys, mawr a bychan.

14 Na fydded gennit yn dy dŷHeb. Ephah ac Ephah. amryw fesur, mawr a bychan.

15 Bydded gennit garrec vnion, a chyfi­awn; bydded gennit Epha vnion a chyfiawn: fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaiar, yr hon y mae'r Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi it.

16 Canys ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bôb vn a wnelo hyn, sef pawb ar a wnel ang­hyfiawnder.

17Exod. 17.8. Cofia yr hyn a wnaeth Amalec i ti ar y ffordd, pan ddaethoch allan o'r Aipht:

18 Yr hwn a'th gyfarfu ar y ffordd, ac a laddodd y rhai olaf o honot, yr holl weiniaid o'th ôl di; a thi yn lluddedic, ac yn ddeffygi­ol; ac nid ofnodd efe Dduw.

19 Am hynny bydded, pan roddo 'r Ar­glwydd dy Dduw i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch, yn y tîr y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi it yn etifeddi­aeth iw feddiannu, dynnu o honot ymmaith [Page] goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd: nac anghofia hyn.

PEN. XXVI.

1 Cyffes yr hwn a offrymmo y cawell blaen­ffrwyth. 12 Gweddi 'r hwn a roddo ei dde­gymmau y drydydd flwyddyn. 16 Y cyfammod rhwng Duw a'r bobl.

A Phan ddelych i'r tîr y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it yn etifeddiaeth, a'i feddiannu, a phresswylio ynddo:

2 Yna cymmer o bôb blaenffrwyth y ddaiar, yr hwn a ddygi o'th dîr y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it, a gosot mewn cawell, a dôs i'r lle a ddewiso 'r Arglwydd dy Dduw,Pen. 12.5. i drigo o'i enw ef ynddo:

3 A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny, a dywed wrtho, yr ydwyfi yn cyfaddef heddyw i'r Arglwydd dy Dduw, fy nyfod i'r tîr a dyngodd yr Arglwydd wrth ein tadau, ar ei roddi i ni.

4 A chymmered yr offeiriad y cawell o'th law di, a gosoded ef o flaen allor yr Arglwydd dy Dduw.

5 A llefara ditheu, a dywed ger bron yr Ar­glwydd dy Dduw, Syriad ar ddarfod am dano oedd fy nhâd, ac efe a ddescynnodd i'r Aipht, ac a ymdeithiodd yno ag ychydig bobl, ac a aeth yno yn genhedl fawr, gref, ac ami.

6 A'r Aiphtiaid a'n drygodd ni, a chystuddia­sant ni, a rhoddasant arnom gaethiwed caled.

7 A phan waeddasom ar Arglwydd Dduw ein tadau, clybu yr Arglwydd ein llais ni, a gwe­lodd ein cystudd, a'n llafur, a'n gorthrymder.

8 A'r Arglwydd a'n dug ni allan o'r Aipht, â llaw gadarn, ac â braich estynnedic, ac ofn mawr, ac arwyddion, ac â rhyfeddodau.

9 Ac efe a'n dûg ni i'r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn sef tir yn llifeirio o laeth, a mêl.

10 Ac yn awr wele mi a ddygais flaenffrwyth y tîr a roddaist i mi ô Arglwydd: a gosod ef ger bron yr Arglwydd dy Dduw, ac addola ger bron yr Arglwydd dy Dduw.

11 Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, ac i'th deulu, ty di, a'r Lefiad, a'r dieithr a fyddo yn dy fysc.

12 Pan ddarffo it ddegymmu holl ddegwm dy gnwd, yn y drydydd flwyddyn,Pen. 14.28. sef blwyddyn y degwm, yna y rhoddi i'r Lefiad, i'r dieithr, i'r ymddifad, ac i'r weddw; fel y bwyttânt yn dy byrth di, ac y digoner hwynt.

13 A dywed ger bron yr Arglwydd dy Dduw, dygais y peth cyssegredic allan o'm tŷ, ac a'i rhoddais ef i'r Lefiad, ac i'r dieithr, i'r ym­ddifad, ac i'r weddw; yn ol dy holl orchymyn­nion a orchymynnaist i mi; ni throseddais ddim o'th orchymynion, ac nis anghofiais.

14 Ni fwytteais o honaw yn fyngalar, ac ni ddygum ymmaith o honaw i aflendid, ac ni roddais o honaw tros y marw: gwrandewais ar lais yr Arglwydd fy Nuw; gwneuthum yn ôl yr hyn oll a orchymynnaist i mi.

15Esai. 63.15. Edrych o drigle dy sancteiddrwydd, sef o'r nefoedd, a bendithia dy bobl Israel, a'r tir a roddaist i ni, megis y tyngaist wrth ein tadau, sef tîr yn o llifeirio o laeth a mêl.

16 Y dydd hwn y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn gorchymyn it wneuthur y deddfau hyn, a'r barnedigaethau: cadw ditheu a gwna hwynt, â'th holl galon, ac a'th holl enaid.

17 Cymmeraist yr Arglwydd heddyw i fod yn Dduw i ti, ac i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei ddeddfau, a'i orchymynion, a'i far­nedigaethau, ac i wrando ar ei lais ef.

18Pen. 7.6. & 14.2. Cymmerodd yr Arglwydd dithe he­ddyw i fod yn bobl briodol iddo ef, megis y lle­farodd wrthit, ac i gadw o honot ei holl orchy­mynion:

19 Ac i'th wneuthur yn vchelPen. 4.7. goruwch yr holl genhedloedd a wnaeth efe, mewn clod, ac mewn enw, ac mewn gogoniant, ac i fod o ho­notPen. 7.6. yn bobl sanctaidd i'r Arglwydd dy Dduw, megis y llefarodd efe.

PEN. XXVII.

1 Gorchymmyn y bobl i scrifennu y gyfraith ar gerric. 5 Ac i wneuthur allor o gerric cyfan. 11 Rhannu y llwythau ar fynydd Garizim ac Ebal. 14 Cyhoeddi y Melltithion ar fynydd Ebal.

YNa y gorchymynnodd Moses gyd â henu­riaid Israel i'r bobl, gan ddywedyd, ce­dwch yr holl orchymynion yr ydwyfi yn eu gorchymyn i chwi heddyw.

2 A bydded yn y dyddJosu. 4.2. yr elych tros yr Iorddonen, i'r tîr y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it, osod o honot i ti gerric mawri­on, a chalcha hwynt â chalch.

3 Ac scriferma arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elych trosodd, i fyned i'r tîr y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it, sef tîr yn llifeirio o laeth a mêl: megis ac y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthit.

4 A phan eloch tros yr Iorddonen, gosodwch y cerric hyn yr ydwyfi yn ei gorchymyn i chwi heddyw, ym mynydd Ebal, a chalcha hwynt â chalch.

5 AcExod. 20.25. Josu. 8.31. Adailada yno allor i'r Arglwydd dy Dduw, sef allor gerric; na chyfot arnynt arf haiarn.

6 A cherric cyfan yr adailedi allor yr Ar­glwydd dy Dduw; ac offrymma arni boeth-offrymmau, i'r Arglwydd dy Dduw.

7 Offrymma hefyd hedd-aberthau, a bwytta yno, a llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw.

8 Ac scrifenna ar y cerric holl eiriau y gyf­raith hon yn eglur iawn.

9 A llefarodd Moses, â'r offeiriaid y Lefiaid; wrth holl Israel, gan ddywedyd, gwrando a chlyw ô Israel, y dydd hwn i'th wnaethbwyd yn bobl i'r Arglwydd dy Dduw.

10 Gwrando gan hynny ar lais yr Arglwydd dy Dduw, a gwna ei orchymynion ef, a'i ddedd­fau, y rhai'r wyfi yn eu gorchymyn i ti heddyw.

11 A gorchymynnodd Moses i'r bobl y dydd hwnnw, gan ddywedyd,

12 Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garizim, wedi eich myned tros yr Ior­ddonen; Simeon, a Lefi, a Juda, ac Issachar, a Joseph, a Benjamin.

13 A'r rhai hyn a safantHe [...]. yn fell­dith. i felldithio ar fy­nydd Ebal: Ruben, Gad, ac Aser, a Zabulon, Dan, a Nephtali.

14 A'rDan. 9.11. Lefiaid a lefarant, ac a ddywedant wrth bob gŵr o Israel â llef vchel:

15 Melldigedic yw 'r gŵr a wnêl ddelw ger­fiedic, neu doddedic, sef ffieidd-dra gan yr Ar­glwydd, gwaith dwylo crefftwr, ac a'i gosodo mewn lle dirgel: a'r holl bobl a attebant, ac a ddywedant, Amên.

16 Melldigedic yw 'r hwn a ddirmygo ei dâd neu ei fam: a dywe led yr holl bobl, Amên.

17 Melldigedic yw 'r hwn a symmudo der­fyn ei gymydog: a dyweded yr holl bobl, Amên.

18 Melldigedic yw 'r hwn a baro i'r dall gy­feillorni allan o'r ffordd: a dyweded yr holl bobl, Amen.

19 Melldigedic yw 'r hwn a ŵyro farn y diei­thr, yr ymddifad, a'r weddw: a dyweded yr holl bobl Amên.

20 Melldigedic yw 'r hwn a orweddo gŷd a gwraig ei dâd, o herwydd datcuddiodd odre ei dâd: a dyweded yr holl bobl, Amên.

21 Melldigedic yw 'r hwn a orweddo gyd ag vn anifail; a dyweded yr holl bobl, Amên.

22 Melldigedic yw 'r hwn a orweddo gyd â'i chwaer, merch ei dâd, neu serch ei fam êf: a dyweded yr holl bobl, Amên.

23 Melldigedic yw 'r hwn a orweddo gyd â'i chwegr: a dyweded yr holl bobl, Amên.

24 Melldigedic yw 'r hwn a darawo ei gy­mydog yn ddirgel: a dyweded yr holl bobl, Amên.

25Ezec. 22.12. Melldigedic yw 'r hwn a gymmero wobr, er dieneidio gwaed gwirion: a dyweded yr holl bobl, Amên.

26Galat. 3.10. Melldigedic yw 'r hwn ni pharhao yng­eiriau y gyfraith hon gan eu gwneuthur hwynt: a dyweded yr holl bobl, Amên.

PEN. XXVIII.

1 Bendithion am vfydd-dod. 15 Melldithion am anufydd-dod.

ACLevit. 26.3. os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ac i wneuthur ei holl orchymynion ef, y rhai 'r ydwyfi yn eu gorchymyn i ti heddyw: yna 'r Arglwydd dy Dduw a'th esyd yn vwch nâ holl genhedloedd y ddaiar.

2 A'r holl fendithion hyn a ddaw arnat, ac a'th oddiweddant, os gwrandewi ar lais yr Ar­glwydd dy Dduw.

3 Bendigedic fyddi di yn y ddinas, a bendi­gedic yn y maes.

4 Bendigedic sydd ffrwyth dy frû, a ffrwyth dy dîr, a ffrwyth dy anifail di, cynnydd dy war-thec, a diadellau dy ddefaid.

5 Bendigedic fydd dy gawell, a'thNeu, gafnau tylino. does di.

6 Bendigedic fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a bendigedic yn dy fynediad allan.

7 Rhydd yr Arglwydd dy elynion a ymgo­dant i'th erbyn, yn lladdedic o'th flaen di: drwy vn ffordd y deuant i'th erbyn, a thrwy saith o ffyrdd y ffoant o'th flaen.

8 Yr Arglwydd a orchymyn fendith arnat ti, yn dyYscubo­riau. drysordai, ac yn yr hyn oll y dodech dy law arno; ac a'th fendithia yn y tîr y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti.

9 Yr Arglwydd a'th gyfyd ti'yn bobl sanct­aidd iddo ei hun, megis y tyngodd wrthit; os cedwi orchymynion yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef.

10 A holl bobloedd y ddaiar a welant fod yn dy alw di ar enw yr Arglwydd, ac a ofnant rha­got.

11Pen. 30.9. &c. A'r Arglwydd a'th lwydda diNeu, o dda. mewn daioni, yn ffrwyth dy frû, ac yn ffrwyth dy ani­feiliaid, ac yn ffrwyth dy ddaiar, yn y tîr a dyng­odd yr Arglwydd i'th dadau ar ei roddi i ti.

12 Yr Arglwydd a egyr ei drysor daionus i ti, sef y nefoedd, i roddi glaw i'th dîr di yn ei amser, ac i fendigo holl waith dy law:Pen. 15.6. a thi a roddi echwyn i genhedloedd lawer, ac ni cheisi ech­wyn.

13 A'r Arglwydd a'th wna di yn ben, ac nid yn gynffon, hefyd ti a fyddi yn vchaf yn vnic, ac nid yn isaf; os gwrandewi ar orchymynion yr Ar­glwydd dy Dduw, y rhai 'r ydwyf yn ei gorch­ymyn it heddyw, iw cadw, ac iw gwneuthur:

14 Ac heb gilio o honot oddi wrth yr holl ei­riau yr wyfi yn eu gorchymyn i chwi heddyw, i'r tu dehau, neu i'r tu asswy; gan fyned ar ôl duwiau dieithr, iw gwasanaethu hwynt.

15 A bydd,Levit 26.14. Galat. [...] 17. Mal. 2. [...] Baruc. [...] 20. oni wrandewi ar lais yr Ar­glwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur ei holl orchymynion ef, a'i ddeddfau, y rhai 'r ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw, y daw arnat yr holl felldithion hyn, ac i'th oddiwedant.

16 Melldigedic fyddi di yn y ddinas, a mell­digedic yn y maes.

17 Melldigedic fydd dy gawell, a'th does di.

18 Melldigedic fydd ffrwyth dy frû, a ffrwyth dy dir, cynnydd dy warthec, a diadellau dy ddefaid.

19 Melldigedic fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a melldigedic yn dy fynediad allan.

20 Yr Arglwydd a ddenfyn arnat ti felldith, trallod, a cherydd, yn yr hyn oll y dodech dy law arno,Neu, iw wne [...] ­thur. ac yn yr hyn a wnelych, nes dy ddi­nistrio, a'th ddifetha di yn gyflym, am ddrygioni dy weithredodd yn y rhai i'm gwrthodaist i.

21 Yr Arglwydd a wna i haint lynu wrthit, nes iddo dy ddifa oddi ar y tîr yr ydwyt ti yn myned iddo iw feddiannu.

22Levit 26.16. Yr Arglwydd a'th dery â darfodedigaeth, ac â chryd poeth, ac â lloscfa, ac â gwrês, ac âNe [...], sychder. chleddyf, ac â diflanniad, ac â mallder, a hwy a'th ddilynant, nes dy ddifetha.

23 Dy nefoedd hefyd y rhai sydd vwch dy ben a fyddant yn brês, a'r ddaiar yr hon sydd oddi tanat, yn haiarn.

24 Yr Arglwydd a rydd yn lle glaw dy ddai­ar, lwch, a lludw: o'r nefoedd y descyn arnat, hyd oni'th ddinistrier.

25 Yr Arglwydd a wna it syrthio o flaen dy elynion; drwy vn ffordd yr ei di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o'i blaen hwynt: a thi a fyddiHeb. yn was­carfa ar wascar dros holl deyrnasoedd y ddaiar.

26 A'th gelein a fydd bwyd i [...]ll ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaiar, [...]c ni bydd a'i tarfo.

27 Yr Arglwydd a'th dery di â chornwyd yr Aipht, ac â chlwyf y marchogion, ac â chrach, ac ag ysfa; o'r rhai ni ellir dy iachau.

28 Yr Arglwydd a'th dery di ag ynfydrwydd, ac â dallineb, ac â syndod calon.

29 Byddi hefyd yn ymbalfalu ganol dydd, fel yr ymbalsalei y dall yn y tywyllwch, ac ni lwy­ddi yn dy ffyrdd: a diau y byddi orthrymme­dic, ac anrhaithiedic byth, ac ni bydd a'th waredo.

30 Ti a ymgredi â gwraig, a gŵr arall a gyd­orwedd â hi; ti a adailedi dŷ, ac ni thrigi ynddo;De [...] 20.6 ti a blenni winllan, ac niHeb. chyff [...] ­dini [...] chescli ei ffrwyth.

31 Dy ŷch a leddir yn dy olwg, ac ni fwyttei o honaw: dy assyn a ddygir drwy drais o flaen dy wyneb, ac ni ddaw adref attat: dy ddefaid a roddir i'th elynion, ac ni bydd i ti achubudd.

32 Dy feibion a'th ferched a roddir i bobl eraill, a'th lygaid yn gweled, ac yn pallu am dan­ynt ar hŷd y dydd, ac ni bydd gallu ar dy law.

33 Ffrwyth dy dir a'th holl lafur a fwytty pobl nid adnabuost: a byddi yn vnic orthrym­medic, a drylliedic, bob amser.

34 A byddi wall-gofus gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych.

35 Yr Arglwydd a'th dery di â chornwyd dry­gionus, yn y gliniau, ac yn yr esceiriau, yr hwn ni ellir ei iachau, o wadn dy droed hyd dy goryn.

36 Yr Arglwydd a'th ddwg di, (a'th frenin a osodych arnat) at genhedl nid adnabuost di na'th dadau di; a gwasanaethi yno dduwiau dieithr, pren a maen.

37 A byddi yn1 Bren. 9.7. Jere. 24.9. Jere. 25.9. syndod, yn ddihareb, ac yn watworgerdd, ym mlhith yr holl bobloedd, y rhai 'r arwain yr Arglwydd di attynt.

38Mic. 6.15. Hag. 1.6. Hâd lawer a ddygi allan i'r maes, ac ychy­dig a gescli; o herwydd y Locust a'i hyssa.

39 Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi, ond gwîn nid yfi, ac ni chescli y grawnwin: canys pryfed a'i bwytty.

40 Oliwydd a fydd i ti trwy dy hollderfynau, ac ag olew ni'th îrir: o herwydd dy oliwydden a ddyhidla.

41 Meibion a merched a genhedli, ac ni bydd­ant i ti: o herwydd hwy a ânt i gaethiwed.

42 Dy holl brennau, a ffrwythau dy dir, aNeu, feddianna ddifa y Locust.

43 Y dieithr a fyddo yn dy fysc, a ddring ar­nat yn vchel vchel: a thi a ddescynni yn issel issel.

44 Efe a fenthygia i ti, a thi ni fenthygi iddo ef: efe a fydd yn ben, a thi a fydd yn gynffon.

45 A'r holl felldithion hyn a ddaw arnat, ac a'th erlidiant, ac a'th oddiweddant, hyd oni'th ddinistrier: am na wrandewaist ar lais yr Ar­glwydd dy Dduw, i gadw ei orchymynion, a'i ddeddfau ef, y rhai a orchymynnodd efe i ti.

46 A byddant yn arwydd, ac yn rhyfeddod arnat ti, ac ar dy hâd hyd byth:

47 O blegit na wasanaethaist yr Arglwydd dy Dduw mewn llawenydd, ac mewn hyfryd­wch calon am amldra pob dim:

48 Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr Arglwydd yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noeth­ni, ac mewn eisieu pob dim; ac efe a ddyry iau haiarn ar dy wddf, hyd oni ddinistrio efe dydi.

49 Yr Arglwydd a ddwg i'th erbyn genhedl o bell, sef o eithaf y ddaiar, mor gyflym ac yr ehe­da yr eryr; cenhedl yr hon niHeb. wran­dewi. ddealli ei hiaith:

50 Cenedl wynebHeb. gref. galed, yr hon ni dder­byn wyneb yr henafgwr, ac ni bydd raslon i'r llangc.

51 A hi a fwytty ffrwyth dy anifeiliaid, a ffrwyth dy ddaiar, hyd oni'th ddinistrier: yr hon ni âd i ti ŷd, gwîn, nac olew, cynnydd dy warthec, na diadellau dy ddefaid, hyd oni'th ddifetho di.

52 A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth, hyd oni syrthio dy vchel a'th gedyrn gaerau, y rhai yr ydwyt yn ymddiried ynddynt, trwy dy holl dîr: hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth o fewn dy holl dîr, yr hwn a rodd­odd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

53Levit. 26.29. 2 Bren. 6.29. Baruc. 2.3. Galar. 4.10. Ffrwyth dy frû, sef cig dy feibion, a'th ferched, y rhai a roddodd yr Arglwydd dy Dduw it, a fwyttei yn y gwarchae, ac yn y cy­fyngdra a ddwg dy elyn arnat.

54 Y gŵr tyner yn dy blith, a'r moethus iawn, aDeut. 15.10. greulona ei lygad wrth ei frawd, ac wrth wraig ei fynwes, ac wrth weddill ei feibi­on, y rhai a weddillodd efe:

55 Rhac rhoddi i vn o honynt o gîg ei feibi­on, y rhai a fwytty efe: o eisieu gado iddo ddim yn y gwarchae, ac yn y cyfyngdra, â'r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy holl byrth.

56 Y wraig dyner a'r foethus yn dy fysc, yr hon ni phrofodd osod gwadn ei throed ar y ddaiar, gan fwytheu a thynêrwch, a greulona ei llygad wrth ŵr ei mynwes, ac wrth ei mab, ac wrth ei merch,

57 Ac wrth eiHeb. ail-gene­digaeth. phlentyn a ddaw allanHeb. oddi rhwng ei dra [...]d. o'i chorph, a'i meibion y rhai a blanta hi, canys hi a'i bwytty hwynt yn ddirgel pan ballo pob dim arall yn y gwarchae, ac yn y cyfyngdra, â'r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy byrth.

58 Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, y rhai sydd scrifennedic yn y llyfr hwn, gan ofni 'r henw gogoneddus, ac ofnad­wy hwn, Yr Arglwydd dy Dduw:

59 Yna y gwna 'r Arglwydd dy blaau di yn rhyfedd, a phlaau dy hâd: sef plaau mawrion, a pharhaus, a chlefydau drwg, a pharhaus.

60 Ac efe a ddwg arnat holl glefydau yr Aipht y rhai yr ofnaist rhacddynt, a glynant wrthit,

61 Ie pob clefyd a phob plâ, yr hwn nid yw scrifennedic yn llyfr y gyfraith hon, aHeb. dderahafa ddwg yr Arglwydd arnat, hyd oni'th ddinistrier.

62 Felly chwi a adewir yn ychydig bobl, lle yr oeddych felDeut. 10.22. Gen. 15.5. sêr y nefoedd o luosogrwydd: o herwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw.

63 A bydd megis ac y llawenychodd yr Ar­glwydd ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i'ch amlhâu; felly y llawenycha yr Arglwydd yn­och, i'ch dinistrio ac i'ch difetha chwi: a di­wreiddir chwi o'r tîr yr wyt yn myned iddo iw feddiannu.

64 A'r Arglwydd a'th wascar di ym mhlith yr holl bobloedd, o'r naill gwrr i'r ddaiar, hyd y cwrr arall i'r ddaiar: a thi a wasanaethi yno dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost di na'th dadau, sef pren a maen.

65 Ac ym-mhlith y cenhedloedd hyn ni or­phywysi, ac ni bydd gorphywysdra i wadn dy droed; canys yr Arglwydd a rydd it yno ga­lon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwl.

66 A'th enioes a fydd yngrhôg gyferbyn â thi; a thi a ofni nos a dydd, ac ni byddi siccr o'th enioes.

67 Y borau y dywedi, ô na ddeuei yr hwyr; ac yn yr hwyr y dywedi, ô na ddeuei y borau, o achos ofn dy galon, gan yr hwn yr ofni, a rhac gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych.

68 A'r Arglwydd a'th ddychwel di i'r Aipht mewn llongau, ar hyd y ffordd y dywedais wrthit na chwanegit ei gweled mwy: a chwi a ymwerthwch yno i'ch gelynion yn gaeth-wei­sion, ac yn gaeth-forwynion: ac ni bydd a'ch pryno.

PEN. XXIX.

1 Moses yn annoc y bobl i vfydd-dod, trwy gofio y gweithredoedd a welsent. 10 Gosod pawb ger bron yr Arglwydd i fyned tan ei gyfammod ef. 18 Y mawr ddigofaint ar y neb a ymfendithio yn ei anwiredd. 29 I Dduw y perthyn pethau dirgel.

DYmma eiriau y cyfammod a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel yn-nhir Moab, heb law y cyfam­mod a ammododd efe â hwynt yn Horeb.

2 A Moses a alwodd ar holl Israel, ac a ddy­wedodd wrthynt,Exod. 19.4. chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi yn nhîr yr Aipht, i Pharao, ac iw holl weision, ac iw holl dir;

3 Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid; yr arwyddion, a'r rhyfeddodau maw­rion hynny.

4 Ond ni roddodd yr Arglwydd i chwi ga­lon i wybod, na llygaid i weled, na chlustiau i glywed, hyd y dydd hwn.

5 Arweiniais chwi hefyd yn yr anialwch ddeugain mlhynedd; ni heneiddiodd eich dillad [Page] am danoch, ac ni heneiddiodd dy escid am dy droed.

6 Bara ni fwyttasoch, a gwîn neu ddiod gref nid yfasoch: fel y gwybyddech mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

7 A daethoch hyd y lle hwn: yna daeth allan Sehon brenin Hesbon, ac Og brenin Basan i'n cyfarfod mewn rhyfel, ac ni a'i lladdasom hwynt:

8 Ac a ddygasom eu tîr hwynt, ac a'i rhoe­som yn etifeddiaeth i'r Rubeniaid, ac i'r Gadi­aid, ac i hanner llwyth Manasseh.

9Deut. 4.6. 1 Bren. 2.2. Josua. 1.7. Cedwch gan hynny eiriau y cyfammod hwn, a gwnewch hwynt, fel y llwyddoch ym­mhob peth a wneloch.

10 Yr ydych chwi oll yn sefyll heddyw ger bron yr Arglwydd eich Duw, pennaethiaid eich llwythau, eich henuriaid, a'ch swyddogion, a holl wyr Israel:

11 Eich plant, eich gwragedd, a'th ddieithr ddyn yr hwn sydd o fewn dy werssyll, o gym­ynudd dy goed, hyd wahennudd dy ddwfr:

12 I fyned o honot dan gyfammod yr Ar­glwydd dy Dduw, a than ei gyngrair ef, yr hwn y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei wneuthur â thi heddyw:

13 I'th siccrhau heddyw yn bobl iddo ei hun, ac i fod o hono yntef yn Dduw i ti, megis y lle­farodd wrthit, ac fel y tyngodd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.

14 Ac nid â chwi yn vnic yr ydwyfi yn gwneuthur y cyfammod hwn, a'r cyngrair ym­ma:

15 Ond â'r hwn sydd ymma gyd â ni yn sefyll heddyw, ger bron yr Arglwydd ein Duw, ac â'r hwn nid yw ymma gyd â ni heddyw:

16 (Canys chwi a ŵyddoch y modd y trigasom ni yn nhîr yr Aipht, a'r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd, y rhai y daethoch trwy­ddynt.

17 A chwi a welsoch ei ffieidd-dra hwynt, a'iHeb. tom ddu­wiau. heulun dduwiau, pren, a maen, arian, ac aur, y rhai oedd yn eu mysc hwynt.)

18 Rhac bôd yn eich mysc ŵr neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y trŷ ei galon heddyw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn: rhac bod yn eich mysc wreiddyn yn dwynNeu, Gwen­wynllys. neu, bustl. Heb. Rosh gwenwyn, a wermod,

19 A bod pan glywo efe eiriau y felldith hon, ymfendithio o honaw yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, heddwch fydd i mi, er i mi rodio ynghyndynrwydd fy nghalon, i chwaneguHeb. y meddw at y sy­chedig. meddwdod at syched:

20 Ni fyn yr Arglwydd faddeu iddo, canys yna y mŷga digllonedd yr Arglwydd a'i eiddi­gedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a'r holl felldi­thion sydd scrifennedic yn y llyfr hwn a or­wedd arno ef, a'r Arglwydd a ddelea ei enw ef oddi tan y nefoedd.

21 A'r Arglwydd a'i nailltua ef oddi wrth holl lwythau Israel, i gael drwg, yn ôl holl fell­dithion y cyfammod a scrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon.

22 A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ôl, sef eich plant chwi, y rhai a godant ar eich ôl chwi, a'r dieithr yr hwn a ddaw o wlâd bell, pan welont blaau y wlâd hon, a'i chlefydau, trwy 'r rhai y mae yr Arglwydd yn ei chlwyfo hi:

23 A'i thîr wedi ei losci oll gan frwmstan, a halen, na heuir ef, ac na flaen-dardda, ac na ddaw i fynu vn llyssieun ynddo i fel dinistr Gene 19.23. Sodoma, a Gomorra, Adma, a Zeboim, y rhai a ddinistriodd yr Arglwydd yn ei lid a'i ddigo­faint:

24 Iê, yr holl genhedloedd a ddywedant,1 Bre [...] 9.8. Jere. 21.8. pa ham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i'r tîr hwn? pa ddigter yw y digofaint mawr hyn?

25 Yna y dywedir, am wrthod o honynt gyfammod Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a ammododd efe â hwynt, pan ddûg efe hwynt allan o dîr yr Aipht.

26 Canys aethant, a gwasanaethasant ddu­wiau dieithr, ac ymgrymmasant iddynt, sef du­wiau nid adwaenent hwy, ac niHeb. rannasai neu, yr hwn ni roesai id [...] ­ynt [...]. rodda ai efe iddynt.

27 Am hynny 'r enynnodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn y wlâd hon, i ddwyn arni bob melldith a'r y sydd scrifennedic yn y llyfr hwn.

28 A'r Arglwydd a'i dinistriodd hwynt o'i tîr mewn digofaint, ac mewn digter, ac mewn llid mawr, ac a'i gyrrodd hwynt i wlâd arall, megis y gwelir heddyw.

29 Y dirgeledigaethau sydd eiddo 'r Ar­glwydd ein Duw, a'r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i'n plant hyd byth, fel y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon.

PEN. XXX.

1 Addaw trugareddau mawr i'r edifeiriol. 11 Bod y gorchymyn yn eglur. 15 Gosod angeu ac enioes o flaen y bobl.

A Phan ddelo 'r holl bethau hyn arnat, sef y fendith a'r felldith, y rhai a roddais o'th flaen, ac atcofio o honot hwynt ym mysc yr holl genhedloedd, y rhai i'th yrrodd yr Arglwydd dy Dduw di attynt:

2 A dychwelyd o honot at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef, yn ol yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddyw, ti, a'th blant, â'th holl galon, ac â'th holl enaid;

3 Yna y dychwel yr Arglwydd dy Dduw dy gaethiwed, ac y cymmer drugaredd arnat, ac y trŷ, ac a'th gascl o fysc yr holl bobloedd, lle i'th wascaro 'r Arglwydd dy Dduw di.

4 Pe i'thNeh▪ 1.9. wthid i eithaf y nefoedd, oddi yno i'th gasclei 'r Arglwydd dy Dduw, ac oddi yno i'th gymmerei.

5 A'r Arglwydd dy Dduw a'th ddŵg i'r tîr a feddiannodd dy dadau, a thitheu a'i meddien­ni: ac efe a fydd dda wrthit, ac a'th wna yn amlach nâ'th dadau.

6 A'r Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy ga­lon, a chalon dy hâd i garu 'r Arglwydd dy Dduw, â'th holl galon, ac â'th holl enaid, er mewn cael o honot fyw.

7 A'r Arglwydd dy Dduw a rydd yr holl felldithion hyn ar dy elynion, ac ar dy gaseion, y rhai a'th erlidiant di.

8 Titheu a ddychweli, ac a wrandewi ar lais yr Arglwydd, ac a wnei ei holl orchymynion ef, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti he­ddyw.

9Pe [...] 28.11. A'r Arglwydd dy Dduw a wna it lwy­ddo yn holl waith dy law, yn ffrwyth dy frû, ac yn ffwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy dir, er daioni: canys trŷ 'r Arglwydd i lawenychu ynot, i wneuthur daioni it, fel y llawenychodd yn dy dadau;

10 Os gwrandewi ar lais yr Arglwydd [...]y Dduw, i gadw ei orchymynion ef, a'i ddedd­fau, y rhai sydd scrifennedic yn llyfr y gyfraith hon: os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid.

11 O herwydd y gorchymyn ymma yr yd­wyf yn ei orchymyn i ti heddyw, nid yw gu­ddiedic oddi wrthit, ac nid yw bell.

12 Nid yn y nefoedd y mae, i ddywedyd o honot Rhuf. 10.6. pwy a ddring drosom i'r nefoedd, ac a'i dwg i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?

13 Ac nid o'r tu hwnt i'r môr y mae, i ddywedyd o honot, pwy a dramwya trosom ni i'r tu hwnt i'r môr, ac a'i dŵg ef i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?

14 Canys y gair sydd agos iawn attat, yn dy enau, ac yn dy galon, iw wneuthur ef.

15 Wele, rhoddais o'th flaen heddyw enioes, a daioni; ac angeu, a drygioni:

16 Lle yr ydwyfi yn gorchymyn i ti heddyw garu 'r Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orchymynion, a'i ddeddfau, a'i farnedigaethau ef; fel y byddech fyw, ac i'th amlhâer, ac i'th fendithio 'r Arglwydd dy Dduw yn y tîr yr wyt yn myned iddo iw feddiannu.

17 Ond os trŷ dy galon ymmaith fel na wrandewech, a'th yrru i ymgrymmu i dduwiau dieithr, a'i gwasanaethu hwynt:

18 Yr wyf yn mynegi i chwi heddyw, y difethir chwi yn ddiau, ac nad estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned tros yr Iorddonen, i fyned i mewn iddo iw ber­chennogi.

19Deut. 4.26. Galw yr wyf yn dŷst i'th erbyn heddyw y nefoedd a'r ddaiar, roddi o honof o'th flaen di enioes ac angeu; fendith a mell­dith; dewis ditheu yr enioes fel y byddych fyw, ti a'th hâd:

20 I garu o honot yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef, a glynu wrtho: canys efe yw dy enioes di, ac estynniad dy ddyddiau, fel y trigech yn y tir a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei roddi iddynt.

PEN. XXXI.

1 Moses yn rhoi cyssur yn y bobl, 7 ac yn Josuah. 9 Yn rhoddi y gyfraith i'r offeiriaid iw darllen ar y seithfed flwyddyn i'r bobl. 14 Duw yn rhoddi siars ar Josuah, 19 a chân i desiolaethu yn erbyn y bobl. 24 Moses yn gorchymyn llyfr y gyfraith ir Lefiaid iw gadw. 28 Moses yn rhybyddio y bobl o'i hanufydd-dod i Dduw, wedi ei farwolaeth ef.

A Moses aeth, ac a lefarodd y geiriau hyn wrth holl Israel,

2 Ac a ddywedodd wrthynt, mab chwech­vgain mlwydd ydwyfi heddyw, ni allaf mwy fyned allan, a dyfod i mewn: yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrthif, ni chei fynelNum. 20.12. Deut. 8.27. tros yr lorddonen hon.

3 Yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned trosodd o'th flaen di, efe a ddinistria y cenhed­loedd hyn oth flaen, a thi a'i meddienni hwynt: Num. 27.21. Josuah hefyd, efe â trosodd o'th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd.

4 A'r Arglwydd a wna iddynt fel y gwnaeth i Sehon, ac i Og, brenhinoedd yr Amori­aid, ac iw tir hwynt, y rhai a ddinistriodd efe.

5 A rhydd yr Arglwydd hwynt o'ch blaen chwi, gwnewch chwitheu iddynt hwy yn ôl yrDeut. 7.2. holl orchymynion a orchymynnais i chwi.

6 Ymgryfhewch, ac ymnerthwch, nac ofnwch, ac na ddychrynwch rhacddynt; canys yr Arglwydd dy Dduw fydd yn myned gŷd â thi: ni'th edy, ac ni'th wrthyd.

7 A Moses a alwodd ar Josuah, ac a ddywe­dodd wrtho, yngolwg holl Israel; ymgadarnhâ, ac ymnertha; canys ti a ai gyd â'r bobl ymma i'r tîr a dyngodd yr Arglwydd wrth eu tadau hwynt, ar ei roddi iddynt, a thi a'i rhenni yn etifeddiaeth iddynt.

8 Yr Arglwydd hefyd sydd yn myned o'th flaen di, efe a fydd gyd â thi, ni'th edy, ac ni'th wrthyd: nac ofna, ac na lwfrhâ.

9 A Moses a scrifennodd y gyfraith hon, ac a'i rhoddes at yr offeiriaid meibion Lefi, y rhai a ddygent Arch cyfammod yr Arglwydd, ac at holl henuriaid Israel.

10 A Moses a orchymynnodd iddynt, gan ddywedyd, yn ôl pob saith mlynedd, ar yr am­ser nodedic,Nehe. 8.2. Deut. 15.1. ar flwyddyn y gollyngdod, ar ŵyl y pebyll,

11 Pan ddelo holl Israel i ymddangos ger bron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a dde­wiso efe; y darlleni y gyfraith hon, o flaen holl Israel, lle y clywant.

12 Cynnull y bobl ynghŷd, y gwŷr, y gw­ragedd, a'r plant, a'th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth, fel y gwrandawont, ac fel y dyscont, ac yr ofnont yr Arglwydd eich Duw; ac yr edrychont am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon:

13 Ac y byddo iw plant, y rhai ni wy­bûant ddim, glywed a dyscu ofni yr Arglwydd eich Duw, yr holl ddyddiau y byddoch fyw yn y tir yr ydych yn myned iddo iw feddiannu.

14 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, wele, nesaodd y dyddiau i ti i farw: galw Josuah, a sefwch ger bron, ym mhabell y cyfarfod, fel y rhoddwyf orchymynion iddo ef: yna 'r aeth Moses a Josuah, ac a safasant ger bron, ym mhabell y cyfarfod.

15 A'r Arglwydd a ymddangosodd yn y babell mewn colofn gwmmwl; a'r golofn gwm­mwl a safodd ar ddrŵs y babell.

16 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, wele di aNeu, gysci. orweddi gyd a'th dadau, a'r bobl ymma a gyfyd ac a butteiniant ar ôl duwiau dieithriaid y tîr y maent yn myned i mewn iddo, ac a'm gwrthyd i, ac a dyrr fynghyfam­mod a wneuthum ag ef.

17 A'm dîg a ennyn yn eu herbyn y dydd hwnnw, ac mi a'i gwrthodaf hwynt, ac a guddi­af fy wyneb oddi wrthynt, a bwytteir ef, a drygau lawer a chyfyngderauHeb. a'i caiff hwynt. a ddigwyddant iddo ef, a'r dydd hwnnw y dywed efe, onid am nad yw 'r Arglwydd yn fy mysc y digwy­ddodd y drwg hwn i mi?

18 Canys myfi gan guddio a guddiaf fy wy­neb y dydd hwnnw, am yr holl ddrygioni a wnaeth efe, pan drôdd at dduwiau dieithr.

19 Scrifennwch yr awron gan hynny i chwi y gân hon; dysc hi hefyd i feibion Is­rael; a gosot hi yn eu genau hwynt, fel y byddo y gân hon yn dŷst i mi yn erbyn meibion Israel.

20 Canys dygaf ef i dîr yn llifeirio o laeth a mêl, yr hwn a addewais trwy lŵ iw dadau ef: fel y bwyttao ac y digoner, ac yr elo yn frâs; ond efe a drŷ at dduwiau dieithr; ac a'i gwa­sanaetha hwynt, ac a'm dirmyga i, ac a ddi­ddymma fynghyfammod.

21 Yna pan ddigwyddo iddo ddrygau lawer, a chyfyngderau, y bydd i'r gân hon dystiolaethu yn dŷst yn ei wyneb ef: canys nid anghofir hi o enau ei hâd ef: o herwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn eiHeb. wneuthur. amcanu heddyw; [Page] cyn dwyn o honofi ef i'r tîr a addewais trwy lŵ.

22 A Moses a scrifennodd y gân hon, ar y dydd hwnnw, ac a'i dyscodd hi i feibion Israel.

23 Efe a orchymynnodd hefyd i Josuah fab Nun, ac a ddywedodd,Josua. 1.6. ymgryfhâ, ac ymner­tha; canys ti a arweini feibion Israel i'r tîr a addewais iddynt trwy lw; a mi a fyddaf gyd â thi.

24 A phan ddarfu i Moses yscrifennu gei­riau y gyfraith hon ar lyfr, hyd eu diwedd hwynt,

25 Yna y gorchymynnodd Moses i'r Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn Arch cyfammod yr Ar­glwydd, gan ddywedyd,

26 Cymmerwch lyfr y gyfraith hon, a go­sodwch ef ar ystlys Arch cyfammod yr Ar­glwydd eich Duw, fel y byddo yno yn dŷst i'th erbyn.

27 Canys mi a adwaen dy wrthnyssigrwydd, a'th wargaledrwydd; wele a myfi etto yn fyw gyd â chwi heddyw, gwrthryfelgar yn erbyn yr Arglwydd fuoch, a pha faint mwy y bydd­wch wedi fy marw?

28 Cesclwch attaf holl henuriaid eich llwy­thau, a'ch swyddogion, fel y llefarwyf y geiriau hyn lle y clywont hwy, ac y cymmerwyf y nefoedd a'r ddaiar yn dystion yn eu herbyn hwy.

29 Canys mi a wn wedi fy marw gan lygru yr ymlygrwch, ac y ciliwch o'r ffordd a or­chymynnais i chwi; ac y digwydda i chwi ddrwg yn y dyddiau diweddaf, am y gwnewch ddrygioni yngolwg yr Arglwydd, i'w ddigio ef â gweithredoedd eich dwylo.

30 A llefarodd Moses lle y clybu holl gyn­nulleidfa Israel eiriau y gân hon, hyd eu di­wedd hwynt.

PEN. XXXII.

1 Cân Moses, yr hon sydd yn gosod allan dru­garedd Duw a'i ddial. 46 Moses yn an­noc y bobl i ystyried y gân. 48 Duw yn ei anfon ef i fynydd Nebo, i weled y wlâd, ac i farw.

GWrandewch y nefoedd, a llefaraf; a chly­wed y ddaiar eiriau fy ngenau.

2 Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw; fy ymadrodd a ddifera fel gwlith: fel gwlith­law ar îr-wellt, ac fel cawodydd ar las­wellt.

3 Canys enw yr Arglwydd a gyhoeddafi: rhoddwch fawredd i'n Duw ni.

4 Efe yw y Graig; perffaith yw ei wei­thred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: Duw gwirionedd a heb anwiredd, cyfiawn ac vni­awn yw efe.

5Neu, ymlygra­sant: eu bai nid bai ei feibion ef ydyw: cenhedla­eth wyrog a throfa­us ydynt. Y genhedlaeth ŵyroc, a throfaus, a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef.

6 Ai hyn a delwch i'r Arglwydd, bobl yn­fyd ac angall? ond efe yw dy dad, a'th bry­nŵr? ond efe a'th wnaeth, ac a'th siccr­haodd?

7 Cofia y dyddiau gynt; ystyriwch flyny­ddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth; gofyn i'th dâd, ac efe a fynega i ti; i'th henuriaid, a hwy a ddywedant wrthit.

8 Pan gyfrannodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd; pan naillduodd efe feibion Adda, y gosododd efe derfynau y bobloedd, yn ôl rhifedi meibion Israel.

9 Canys rhan yr Arglwydd yw ei bobl; Ja­cob yw Neu, coelbr [...]n. Heb. lli­nyn. rhan ei etifeddiaeth ef.

10 Efe a'i cafodd ef mewn tir anial, ac mewn diffaethwch gwâg erchyll,Neu, amgyl­chodd ef. arweiniodd ef o am­gylch: a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel canwyll ei lygad.

11 Fel y cyfyd eryr ei nŷth, y castella dros ei gywion, y lleda ei escyll, y cymmer ef, ac a'i dwg ar ei adenydd:

12 Felly yr Arglwydd yn vnic a'i harwei­niodd yntef, ac nid oedd duw dieithr gyd ag ef.

13 Gwnaeth iddo farchogaeth ar vchelder y ddaiar, a bwytta cnwd y maes, a sugno mêl o'r graig, ac olew o'r graig gallestr,

14 Ymenyn gwarthec, a llaeth defaid, yng­hyd â brasder ŵyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â brasder grawn gwe­nith, a phur-waed grawn-wîn a yfaist.

15 A'rJeshur [...] vnion a aeth yn frâs, ac a wingodd; brasseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wr­thododd Dduw, yr hwn a'i gwnaeth, ac a ddi­ystyrodd graig ei iechydwriaeth.

16 A dieithr dduwiau y gyrrasant eiddigedd arno, â ffieidd-dra y digiasant ef.

17 Aberthasant i gythreuliaid,Neu, nid oeddynt Dduw. nid i Dduw; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diwe­ddar, y rhai nid ofnodd eich tadau.

18 Y Graig a'th genhedlodd a anghofiaist di, a'r Duw a'th luniodd a ollyngaist ti tros gof.

19 Yna y gwelodd yr Arglwydd, ac a'iNeu, diystyrod [...] ffiei­ddiodd hwynt, o herwydd ei ddigio gan ei fei­bion, a'i ferched.

20 Ac efe a ddywedodd, cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth drofaus ydynt hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt.

21 Hwy a yrrasant eiddigedd arnaf, â'r peth nid oedd dduw; digiasant fi â'i hoferedd:Rhuf. 10.10. minneu a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â'r rhai nid ydynt bobl: â chenedl ynfyd y digiaf hwynt.

22 Canys tân a gynneuwyd yn fy nig, ac aNeu, loscodd. lŷsc hyd vffern isod, ac aNeu, ddifaeid. ddifa y tîr a'i gynnyrch, ac a wna i sylfeini y mynyddoedd ffaglu.

23 Casclaf ddrygau arnynt; treuliaf fy saethau arnynt.

24 Loscedic fyddant gan newyn, ac wedi eu bwytta ganHeb. farwor tanllyd. wrês poeth, a chwerw ddi­nistr; anfonaf hefyd arnynt ddannedd bwyst­filod, ynghyd â gwenwyn seirph y llwch.

25 Y cleddyf oddi-allan, a dychrynHeb. o'r ysta­felloedd. oddi­fewn, aHeb. ddifuddia ddifetha y gŵr ieuangc, a'r wyryf he­fyd, y plentyn sugno ynghyd a'r gŵr briglwyd.

26 Dywedais, gwascaraf hwynt i gonglau, paraf iw coffadwriaeth ddarfod o fysc dy­nion:

27 Oni bai i'm ofn idig y gelyn, rhac i'w gwrthwynebwŷr ymddwyn yn ddieithr, a rhac dywedyd o honynt,Neu, vchel yr ein llaw ni. ein llaw vchel ni, ac nid yr Arglwydd a wnaeth hyn oll.

28 Canys cenhedl heb gynghor ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt.

29 Oh na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd.

30 Pa fodd yr ymlidieiJos. 23.10. vn fil? ac y gyrrei dau ddeng-mil i ffoi? ond am werthu o'i Craig hwynt, a chau o'r Arglwydd arnynt?

31 Canys nid fel ein Craig ni y mae eu Craig hwynt, a bydded ein gelynion yn farn­wŷr.

32 CanysNeu, gwaeth yw eu gwin­wydd [...]n, na gw [...]n [...] Sodom. o wîn-wydden Sodom, ac o feusydd Gomorra y mae eu gwin-wydden hwynt; eu grawn-win hwynt sydd rawn-win [Page] bustlaidd; grawn-syp [...]iau chwerwon sydd iddynt.

33 Gwenwyn dreigiau yw eu gwîn hwynt, a chreulon wenwyn aspiaid.

34 Onid yw hyn ynghudd gyd â myfi, wedi ei selio ym mysc fy nhrysorau?

35 IEcclus. 28.1. Rhuf. 12.19. Heb. 10.30. mi y perthyn dial, a thalu y pwyth, mewn prŷd y llithr eu troed hwynt; canys agos yw dydd eu trychineb, a phryssuro y mae yr hyn a baratowyd iddynt.

36 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a edifarhâ am ei weision, pan welo ymado o'iHeb. llaw. nerth, ac nad oes na gwarchauedic, na gwe­ddilledic.

37 Ac efe a ddywed, pa le y mae eu du­wiau hwynt, a'r graig yr ymddiriedasant ynddi?

38 Y rhai a fwyttasant frasder eu haber­thau, ac a yfasant win eu diod offrwm: co­dant, a chynnorthwyant chwi, a byddant lo­ches i chwi.

39 Gwelwch bellach mai myfi, myfi yw efe, ac nad oes duw onid myfi:1 Sam. [...].6. Tob 13.2. Doeth. 16.13. myfi sydd yn llâdd, ac yn bywhau: myfi a archollaf, ac mi a feddiginiaethaf, ac ni bydd a achubo o'm llaw.

40 Canys codaf fy llaw i'r nefoedd, a dy­wedaf, mi a fyddaf fyw byth.

41 Os hogaf fynghleddyf disclair, ac yma­flyd o'm llaw mewn barn, dychwelaf ddial a'r fyngelynion, a thalaf y pwyth i'm cascion.

42 Meddwaf fy saethau â gwaed (a'm cle­ddyf a fwytty gîg) â gwaed y lladdedig a'r caeth, o ddechreu dial ar y gelyn.

432 Mac. 7.6. Rhuf. 15.10. Y cenhedloedd,Neu, molien­nwch ei bobl ef, neu, ce­nwch. llawenhewch gyd â'i bobl ef, canys efe a ddial waed ei weision, ac a ddychwel ddial ar ei elynion, ac a drugarhâ wrth ei dîr, a'i bobl ei hun.

44 A daeth Moses, ac a lefarodd holl eiri­au y gân hon lle y clybu y bobl, efe a Josuah mab Nun.

45 A darfu i Moses lefaru 'r holl eiriau hyn, wrth holl Israel:

46 A dywedodd wrthynt,Pen. 6.6. & 11.18. meddyliwch yn eich calonnau am yr holl eiriau yr ydwyf yn eu testiolaethu wrthych heddyw, y rhai a orchymynnwch i'ch plant, i edrych am wneu­thur holl eiriau y gyfraith hon.

47 Canys nid gair ofer yw hwn i chwi; o herwydd eich enioes chwi yw efe: a thrwy y gair hwn yr estynnwch ddyddiau yn y tîr, yr ydych yn myned iddo tros yr Iorddonen i'w feddiannu.

48Num. 27.12. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ynghorph y dydd hwnnw, gan ddywedyd;

49 Escyn i'r mynydd Abarim hwn, sef my­nydd Nebo, yr hwn sydd yn nhir Moab, ar gyfer Jericho; ac edrych ar wlâd Canaan, yr hon yr ydwyfi yn ei rhoddi i feibion Israel yn etifeddiaeth.

50 A bydd farw yn y mynydd yr escynni iddo, a chasgler di at dy bobl; megis yNum. 20.25. & 33.38. bu farw Aaron dy frawd ym mynydd Hor, ac y casclwyd ef at ei bobl:

51 O herwyddNum. [...]0.12. & 27.14. gwrthryfelasoch i'mherbyn ym mysc meibion Israel, wrth ddyfroeddMeribah. cynnen Cades, yn anialwch Zin: o blegit ni 'm sancteiddiasoch ym mhlith meibion Israel.

52 Canys y wlâd a gei di ei gweled ar dy gyfer, ond yno nid ai, i'r tir yr ydwyfi yn ei [...] [...]bion Israel.

PEN. XXXIII.

1 Ardderchawgrwydd Duw. 6 Bendithion y deuddec llwyth. 26 Godidawgrwydd Israel.

AC dymma y fendith â'r hon y bendithiodd Moses gwr Duw, feibion Israel, cyn ei farwolaeth.

2 Ac efe a ddywedodd, Yr Arglwydd a ddaeth allan o Sinai, ac a gododd o Seir iddynt, ymlewyrchodd o fynydd Paran; ac efe a ddaeth gyd â myrddiwn o sainct, a Heb. rhan cy­fraith. thanllyd gyfraith o'i ddeheulaw iddynt.

3 Caru y mae efe y bobl; ei holl sainct ydynt yn dy law; a hwy a ymlynasant wrth dy draed, pob vn a dderbyn o'th eiriau.

4 Moses a orchymynnodd gyfraith i ni, yn etifeddiaeth i gynnulleidfa Jacob.

5 Ac efe oedd frenin ynJesurun. Israel, pan ymgas­clodd pennau y bobl ynghyd â llwythau Israel.

6 Bydded fyw Reuben, ac na fydded farw, ac na bydded ei ddynion ychydig o rifedi.

7 Bydded hyn hefyd i Juda; ac efe a ddywe­dodd, clyw ô Arglwydd lais Juda; ac at ei bobl dŵg ef: digon fyddo iddo ei ddwylo ei hun, a bydd gymmorth rhac ei elynion.

8 Ac am Lefi y dywedodd,Exod. 28.30. Bydded dy Thummim, a'th Vrim i'th ŵr sanctaidd, yr hwn a brofaist ym Massah, ac a gynhennaist ag ef wrth ddyfroedd Meribah;

9 Yr hwn a ddywedodd am ei dâd, ac am ei fam, ni welais ef, a'i frodyr nis adnabu, ac nid adnabu ei blant ei hun: canys cadwasant dy eiriau, a chynhaliasant dy gyfammod.

10 Dyscant dy farnedigaethau i Jacob, a'th gyfraith i Israel: gosodant arogldarthHeb. wrth dy drwyn. ger dy fron, a llosc-aberth ar dy allor.

11 Bendithia ô Arglwydd ei olud ef, a bydd fodlon i waith ei ddwylo ef: archolla lwynau y rhai a godant iw erbyn, a'i gaseion, fel na chodant.

12 Am Benjamin y dywedodd efe, anwy­lyd yr Arglwydd a drîg mewn diogelwch gyd ag ef, yr hwn fydd yn cyscodi trosto ar hyd y dydd, ac yn aros rhwng ei yscwyddau ef.

13 Ac am Joseph y dywedodd efe,Gen. 49.25. ei dîr ef sydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd, â hy­frydwch y nefoedd, â gwlith, ac â dyfynder yn gorwedd isod,

14 Hefyd â hyfrydwch cynnyrch yr haul, ac â hyfrydwch addfed-ffrwyth y lleuadau,

15 Ac â hyfrydwch pen mynyddoedd y dwy­rain, ac â hyfrydwch brynnau tragywyddoldeb,

16 Ac â hyfrydwch y ddaiar, ac â'i chy­flawnder, ac ag ewyllys da presswylydd y berth: delo bendith ar ben Joseph,Gen. 49.26. ac ar goryn yr hwn a nailltuwyd oddi wrth ei frodyr.

17 Ei brydferthwch sydd debyg [...] [...]fa­nedic ei ŷch, a'i gyrn ef sydd gyrn v [...]; hwynt y cornia efe y bobl ynghŷd [...] [...]itha­foedd y ddaiar: ac dymma fyrddiwn Ephraim, îe dymma filoedd Manasseh.

18 Ac am Zabulon y dywedodd efe, ym­lawenycha Zabulon, yn dy fynediad allan, a thi Issachar, yn dy bebyll.

19 Galwant bobloedd i'r mynydd, yna 'r aberthant ebyrth cyfiawnder: canys cyfoeth y moroedd a sugnant, a chuddiedic dryssorau y tywod.

20 Ac am Gad y dywedodd efe, bendigedic yw ehangudd Gad; megis llew y mae efe yn aros, fel y rhwygo efe yr yscwyddoc a'r pen.

21 EdrychoddNeu, iddo ei hun am y rhan gyntaf am dano ei hun yn y de­chreuad, canys yno, yn rhan y cyfraith-wr y [Page] gosodwyd ef: efe a ddaeth gyd â phennaethiaid y bobl; gwnaeth efe gyfiawnder yr Arglwydd, a'i farnedigaethau gyd ag Israel.

22 Am Dan hefyd y dywedodd, Dan yn genew llew a neidia o Basan.

23 Ac am Nephtali y dywedodd, ô Nephta­li, llawn o hawddgarwch, a chyflawn o fendith yr Arglwydd: meddianna di y gorllewin a'r dehau.

24 Ac am Aser y dywedodd, bendithier Aser â phlant: bydded gymeradwy gan ei fro­dyr, ac efe a wlŷch ei droed mewn olew.

25 Haiarn a phrêsNeu, fydd dy escidiau. fydd dan dy escid ti: a megis dy ddyddiau y bydd dy nerth.

26 Nid oes megis DuwJeshu­run. Israel, yr hwn sydd yn marchogaeth y nefoedd, yn gymorth it, a'r wybrennau yn ei fawredd.

27 Dy noddfa yw Duw tragywyddol, ac odditanodd y mae y breichiau tragwyddol: efe a wthia dy elyn o'th flaen, ac a ddywed, di­fetha ef.

28Jer. 23.6. Israel hefyd a drîg ei hun yn ddiogel; ffynnon Jacob a fydd mewn tîr ŷd, a gwîn: ei nefoedd hefyd a ddifera wlith.

29 Gwynfydedic wyto Israel, pwy sydd me­gis ti? ô bobl! gadwedic gan yr Arglwydd ta­rian dy gynhorthwy, yr hwn hefyd yw cleddyf dy ardderchawgrwydd: a'th elynion aNeu, ceir yn g [...]lwyddog. ym­ostyngant i ti, a thi a sethri ar eu huchel­leoedd hwynt,

PEN. XXXIV.

1 Moses oddiar fynydd Nebo yn gweled y wlâd, 5 ac yn marw yno. 6 Ei gladdedigaeth. 7 Ei oedran. 8 Galaru am dano tros ddeg diwrnod ar hugain. 9 Josuah yn dyfod yn ei le ef. 10 Clôd Moses.

A Moses a escynnodd o rossydd Moab, iNeu, fryn. fy­nydd Nebo, i benY bryn. Pisgah, yr hwn sydd ar gyfer Jericho: a'r [...] a ddangosodd iddoPen. 3.27. 2 Mac. 2.4. holl wlâd Gilead, [...] Dan,

2 A holl Nephtali, a thîr Ephraim a Ma­nasseh, a holl dîr Juda, hyd y môr eithaf,

3 Y dehau hefyd, a gwastadedd dyffryn Je­richo, a dinas y palm-wŷdd hyd Zoar.

4 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho,Gen. 12.7. & 13.15. dymma y tîr a fynegais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, gan ddywedyd, i'th hâd ti y rhoddaf ef, perais it ei weled â'th lygaid, ond nid ei di trosodd yno.

5 A Moses gwâs yr Arglwydd a fu farw yno, yn nhir Moab, yn ôl gair yr Arglwydd.

6 Ac efe a'i claddodd ef mewn glyn, yn nhîr Moab, gyferbyn a Beth-Peor: ac nid edwyn neb ei fedd ef hyd y dydd hwn.

7 A Moses ydoedd fab vgain mlwydd a chant, pan fu efe farw: ni thywyllasei ei lygad, ac ni chiliasai ei ireidd-dra ef.

8 A meibion Israel a ŵylasant am Moses, yn rhossydd Moab, ddeng-nhiwrnod ar hu­gain: a chyflawnwyd dyddiau wylofain galar am Moses.

9 A Josuah mab Nun oedd gyflawn o ys­pryd doethineb; o herwydd Moses a roddasei ei ddwylo arno: a meibion Israel a wrandaw­sant arno, ac a wnaethant fel y gorchymynna­sei 'r Arglwydd wrth Moses.

10 Ac ni chododd prophwyd etto yn Israel megis Moses, yr hwn a adnabu 'r Arglwydd wyneb yn wyneb:

11 Ym mhôb rhyw arwyddion, a rhyfeddo­dau, y rhai yr anfonodd yr Arglwydd ef iw gwneuthur yn nhir yr Aipht, ar Pharao, ac ar ei holl weision, ac ar ei holl dir ef,

12 Ac yn yr holl law gadarn, ac yn yr holl ofn mawr, y rhai a wnaeth Moses yngolwg holl Israel.

¶LLYFR JOSUAH.

PEN. I.

1 Yr Arglwydd yn gorchymenyn i Josuah gym­meryd llê Moses. 3 Terfynau gwlâd yr adde­wid. 5, 9 Duw yn addo cynnorthwyo Josuah, 8 Ac yn rhoddi iddo addysc. 10 Yntef yn pa­ratoi y bobl i fyned tros yr Jorddonen. 12 Ac yn dwyn ar gôf i'r ddau lwyth a hanner eu baddewid wrth Moses. 16 Hwythau yn addo vfyddhau iddo ef.

AC wedi marwolaeth Moses gwâs yr Arglwydd, y llefarodd yr Arglwydd wrth Josuah fab Nun,Deut. [...].38 gwenidog Moses, gan ddywedyd,

2 Moses fyngwâs a fu farw: gan hynny cyfot yn awr, dôs tros yr Iorddonen hon, ti a'r holl bobl hyn, i'r wlâd yr ydwyfi yn ei rhoddi iddynt hwy meibion Israel.

3Deut. 1.38. & 11.24. Pen. 14.9. Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi, fel y llefarais wrth Moses.

4 O'r anialwch, a'r Libanus ymma, hyd yr afon fawr, afon Euphrates, holl wlâd yr Hethi­aid, hyd y môr mawr, tua machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi.

5 Ni saif neb o'th flaen di holl ddyddiau dy enioes: megis y bûm gyd â Moses y byddaf gyd â thitheu: ni'thHeb. 13.5. adawaf, ac ni'th wrthodaf.

6Deut. 31.23. Ymgryfha ac ymwrola: canys ti a wnei i'r bobl hyn etifeddu y wlâd, yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt.

7Deut. 31.7. Yn vnic ymgryfhâ ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith a orchymynnodd Moses fyngwâs i ti;Deut. 5.32. & 28.14. na og­wydda oddi wrthi ar y llaw ddehau, nac ar y llaw asswy; fel yNeu, gwnelych yn gall. ffynnech i ba le bynnac yr elych.

8 Nac ymadawedDeut. 31.9. llyfr y gyfraith hon o'th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nôs, fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd scrifennedic ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.

9 Oni orchymmynnais it? ymgryfhâ ac ymwrola, nac arswyda, ac nac ofna:Psal. 118.6. Heb. 13.6. canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi, i ba le bynnac yr elych.

10 Yna Josuah a orchymynnodd i lywo­draethwŷr y bobl, gan ddywedyd,

11 Tramwywch drwy ganol y llu, a gor­chymynnwch i'r bobl, gan ddywedyd, para­towch i chwi lyniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned tros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu 'r wlâd y mae 'r Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi i chwi iw meddiannu.

12 Wrth y Rubeniaid hefyd, ac wrth y Ga­diaid, ac wrth hanner llwyth Manasseh, y lle­farodd Josuah, gan ddywedyd,

13 Cofiwch yNum. 32.20. gair a orchymynnodd Mo­ses gwâs yr Arglwydd i chwi, gan ddywedyd, yr Arglwydd eich Duw a esmwythaodd ar­noch, [Page] ac a roddodd i chwi y wlâd hon.

14 Eich gwragedd, eich plant, a'ch anifeili­aid, a drigant yn y wlâd a roddodd Moses i chwi o'r tu ymma i'r Iorddonen: ond chwy­chwi ewch trosoddyn bum­piau. yn arfogion o flaen eich brodyr, y sawl ydych gedyrn o neith, a chyn­northwywch hwynt:

15 Nes rhoddi o'r Arglwydd lonyddwch i'ch brodyr fel i chwithau, a meddiannu o honynt hwythau y wlâd y mae 'r Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt: yna dychwe­lwch i wlâd eich etifeddiaeth, a meddiennwch hi, yr hon a roddodd Moses gwâs yr Arglwydd i chwi, o'r tu ymma i'r Iorddonen, tua cho­diad yr haul.

16 Hwythau a atebasant Josuah, gan ddy­ [...]edyd, ni a wnawn yr hyn oll a orthymynnaist i ni, awn hefyd i ba le bynnac yr anfonych ni.

17 Fel y gwrandawsom ar Moses ym mhob peth, felly y gwrandawn arnat titheu: yn vnic bydded yr Arglwydd dy Dduw gyd â thi, megis y bu gyd â Moses.

18 Pwy bynnac a anufyddhao dy orchymyn, ac ni wrandawo ar dy ymadroddion, yn yr hyn oll a orchymynnech iddo, rhodder ef i farwo­laeth: yn vnic ymgryfhâ ac ymwrola.

PEN. II.

1 Rahab yn derbyn iw thŷ, ac yn celu y ddau yspiwr a ddanfonesid o Sittim. 8 Y cyfammod rhyngthi hi â hwynt. 23 Eu dychweliad a'u newyddion hwynt.

A Josuah mab Nun a anfonodd oNum. 25.1. Sittim ddau ŵr i chwilio yn ddirgel, gan ddywe­dyd, ewch, edrychwch y wlâd a Jericho: a hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷHeb. 11.31. Iac. 2.25. puttein-wraig, a'i henw Rahab, ac a letteuasant yno.

2 A mynegwyd i frenin Jericho, gan ddywe­dyd, wele, gwŷr a ddaethant ymma heno o feibion Israel, i chwilio y wlâd.

3 A brenin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, dwg allan y gwŷr a ddaeth attat, y rhai a ddaeth i'th dŷ di: canys i chwilio 'r holl wlâd y daethant.

4 Ond y wraig a gymerasei y ddau ŵr, ac a'i cuddiasei hwynt, ac a ddywedodd fel hyn: gwŷr a ddaeth attafi, ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy.

5 A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le 'r aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt, canys chwi a'i goddiweddwch hwynt.

6 Ond hi a barasei iddynt escyn i nen y tŷ, ac a'i cuddiasei hwynt mewn bolldeidiau llîn, y rhai oedd genddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ.

7 A'r gwŷr a ganlynasant ar eu hôl hwynt, tu a'r Iorddonen, hyd y rhydau: a'r porth a gauwyd cyn gynted ac yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hôl hwynt allan.

8 A chyn iddynt hwy gyscu, hi a aeth i fy­nu attynt hwy ar nen y tŷ;

9 A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, mi a wn roddi o 'r Arglwydd i chwi y wlâd, o herwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni; a holl drigolion y wlad aHebr. doddasant. ddigalonnasant rhac eich ofn:

10 Canys ni a glywsom felExod. 14.21. Pen. 4.23. y sychodd yr Arglwydd ddyfroedd y môr côch o'ch blaen chwi, pan ddaethoch allan o'r Aipht: a'r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i'r Iorddonen, sef iNum. 21.24. Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi.

11 A phan glywsom, yna i'n digalonnwyd, fel na safodd mŵyach gyssur yn neb rhac eich ofn: canys yr Arglwydd eich Duw, efe sydd Dduw yn y nefoedd vchod, ac ar y ddaiar isod.

12 Yn awr gan hynny tyngwch attolwg wr­thif myn yr Arglwydd, o herwydd i mi wneu­thur trugaredd â chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad inneu, ac y rhoddwch i mi arwydd gwîr:

13 Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a'm mam, a'm brodyr, a'm chwiorydd, a'r hyn oll sydd ganddynt, ac y gwaredwch ein henioes rhac angeu.

14 A'r gwŷr a ddywedasant wrthi, ein he­nioes a roddwn i farw drosoch, (os chwi ni fyne­gwch ein neges hyn) pan roddo 'r Arglwydd i ni y wlâd hon, oni wnawn â chwi drugaredd a gwirionedd.

15 Yna hi a'i gollyngodd hwynt i wared wrth raff drwy 'r ffenestr: canys ei thŷ hi oedd ar fûr y ddinas, ac ar y mûr yr oedd hi yn trigo.

16 A hi a ddywedodd wrthynt, ewch i'r my­nydd, rhac i'r erlidwŷr gyfarfod â chwi: ac ymguddiwch yno dridiau, nes dychwelyd yr erlidwŷr, ac wedi hynny ewch i'ch ffordd.

17 A'r gwŷr a ddywedasant wrthi, dieuog fyddwn ni oddi wrth dy lw ymma, â'r hwn i'n tyngaist.

18 Wele, pan ddelom ni i'r wlâd; rhwym y llinin ymma o edyf gôch yn y ffenestr y go­llvngaist ni i lawr drwyddi, cascl hefyd dy dad, a'th fam, a'th frodyr, a holl dŷ-lwyth dy dad, atat i'r tŷ ymma.

19 A phwy bynnac a ôl o ddryssau dy dŷ di allan i'r heol, ei waed ef fydd ar ei ben ei hun, a ninneu a fyddwn dieuog: a phwy bynnac fyddo gyd â thi yn tŷ, bydded ei waed ef ar ein pen­nau ni, o bydd llaw arno ef.

20 Ac os mynegi di ein neges hyn, yna y byddwn dieuog oddi wrth dy lw, â'r hwn i'n tyngaist.

21 A hi a ddywedodd, yn ôl eich geiriau, felly y byddo hynny. Yna hi a'i gollyngodd hwynt, a hwy a aethant ymmaith: a hi a rwy­modd y llinin côch yn y ffenestr.

22 A hwy a aethant, ac a ddaethant i'r my­nydd, ac a arhosasant yno dri-diau, nes i'r er­lidwŷr ddychwelyd: a'r erlidwŷr a'i ceisiasant ar hyd yr holl ffordd, ond nis cawsant.

23 Felly y ddau ŵr a ddychwelasant, ac a ddescynnasant o'r mynydd, ac a aethant trosodd, a daethant at Josuah fab Nun; a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddynt.

24 A dywedasant wrth Josuah, yn ddiau 'r Arglwydd a roddodd yr holl wlâd yn ein dwy­lo ni; canys holl drigolion y wlad aHebr. doddasant. ddiga­lonnasant rhac ein hofn ni.

PEN. III.

1 Josuah yn dyfod i'r Iorddonen. 2 Y swyddogion yn dyscu i'r bobl fyned trwodd. 7 Yr Arglwydd yn cyssuro Josuah: 9 Josuah yn cyssuro y bobl. 14 Hollti dyfroedd yr Iorddonen.

A Josuah a gyfododd yn forau, a chychwynna­sant o Sittim, a daethant hyd yr Iorddo­nen, efe a holl felbion Israel: lleteuasant yno cyn iddynt fyned trosodd.

2 Ac ym mhen y tri-diau, y llywiawdwŷr a dramwyasant drwy ganol y llu;

3 Ac a orchymynnasant i'r bobl, gan ddy­wedyd, pan weloch chwi Arch cyfammod yr Arglwydd eich Duw, a'r offeiriaid y Leviaid [Page] yn ei dwyn hi; yna cychwynnwch chwi o'ch lle; ac ewch ar ei hol hi.

4 Etto bydded ennyd rhyngoch chwi a hi­theu, ynghylch dwy-fil o gufyddau wrth fesur: na nessewch atti fel y gwypoch y ffordd y rho­dioch vnddi, canys ni thramwyasoch y ffordd hon Heb. [...]r doe ac echdoe. o'r blaen.

5 A Josuah a ddywedodd wrth y bobl,Levit. 20.7. Num. 11.18. 1 Sam. 16.5. Jos. 7.13. ymsancteiddiwch: canys y foru y gwna 'r Arglwydd ryfeddodau yn eich mysc chwi.

6 Josuah hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, codwch Arch y cyfammod, ac ewch trosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant Arch y cyfammod, ac a aethant o flaen y bobl.

7 A dywedodd yr Arglwydd wrth Josuah, y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng­ŵydd holl Israel: fel y gwypont mai megis y bumJos. 1.5. gyd â Moses y byddaf gyd â thitheu.

8 Am hynny gorchymmyn di i'r offeiriaid sydd yn dwyn Arch y cyfammod, gan ddywe­dyd, pan ddeloch hyd gwrr dyfroedd yr Ior­ddonen, sefwch yn yr Iorddonen.

9 A Josuah a ddywedodd wrth feibion Israel, nessewch ymma, a gwrandewch eiriau yr Ar­glwydd eich Duw.

10 Josuah hefyd a ddywedodd, wrth hyn y cewch ŵybod fod y Duw byw yn eich mysc chwi: a chan yrru y gyrr efe allan y Canaane­aid, a'r Hethiaid, a'r Hefiaid, a'r Phereziaid, a'r Gergesiaid, yr Amoriaid hefyd, a'r Jebusiaid o'ch blaen chwi.

11 Wele Arch cyfammod Arglwydd yr holl ddaiar yn myned o'ch blaen chwi i'r Ior­ddonen.

12 Gan hynny cymmerwch yn awr ddeu­ddeng-ŵr o lwythau Israel; vn gŵr ô bob llwyth

13 A phan orphywyso gwadnau traed yr offeiriaid sydd yn dwyn Arch Arglwydd lôr yr holl fyd, yn nyfroedd yr Iorddonen, yna dy­froedd yr Iorddonen a dorrir ymmaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn descyn oddi vchod: hwyPsal. 114.3. a safant yn ben-twr.

14 A phan gychwynnodd y bobl o'i pebyll i fyned tros yr Iorddonen; a'r offeiriaid oedd yn dwynAct. 7.45. Arch y cyfammod o flaen y bobl:

15 A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr Arch, hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid oedd yn dwyn yr Arch, ynghwrr y dyfroedd, (a'r1 Cron. 12.15. Eccles. 24.26. Iorddonen a lanwai tros ei glannau oll, holl ddyddiau y cynhaiaf.)

16 Yna y dyfroedd y rhai oedd yn descyn oddi vchod a safasant, cyfodasant yn bentwrr ym mhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Zaretan: a'r dyfroedd y rhai oedd yn descyn i fôr y rhôs, sef i'r môr hell, a ddarfuant, ac a dorrwyd ymmaith: felly y bobl a aethant trosodd ar gyfer Jericho.

17 A'r offeiriaid y rhai oedd yn dwyn Arch cyfammod yr Arglwydd a safasant ar dir sych, ynghanol yr Iorddonen yn daclus: a holl Israel oedd yn myned trosodd ar dîr sŷch, nes darfod i'r holl genedl fyned trwy 'r Iorddo­nen.

PEN. IV.

1 Gorchymmyn deuddec ô wyr i gymmeryd deudd [...]c carreg allan o'r Iorddonen er co­ffadwriaeth. 9 Gosod deuddec eraill o ger­ric yrghanôl yr Iorddonen. 10, 19, Y bobl yn myned trwodd. 14 Duw yn an­rhydeddu Josuah. 20 Sefydlu y deuddec car­reg yn Gilgal.

A Phan ddarfu i'r holl genedl fynedDeut. 27.2. trwy yr Iorddonen; yr Arglwydd a lefarodd wrth Josuah, gan ddywedyd,

2Pen. 3.12. Cymmerwch i chwi ddeuddeng-ŵr o'r bobl, vn gŵr o bôb llwyth,

3 A gorchymynnwch iddynt, gan ddywe­dyd, cymmerwch i chwi oddi ymma, o ganol yr Iorddonen, o'r fan y mae traed yr offeiriaid yn sefyll yn daclus, ddeuddec o gerric; a dy­gwch hwynt trosodd gyd â chwi, a go­sodwch hwynt yn y lletty y lleteuoch yn­ddo heno.

4 Yna Josuah a alwodd am y deuddeng-wr a baratoesei efe o feibion Israel, vn gŵr o bob llwyth:

5 A dywedodd Josuah wrthynt, ewch tro­sodd o flaen Arch yr Arglwydd eich Duw, drwy ganol yr Iorddonen; a chodwch i chwi bob vn ei garrec ar ei yscwydd, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel:

6 Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysc chwi; pan ofynno eich meibion chwiHeb. y foru. yn ôl hyn, gan ddywedyd, beth y mae y cerric hyn yn ei arwyddocau i chwi?

7 Yna y dywedwch wrthynt, dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen Arch cyfam­mod yr Arglwydd, pan oedd hi yn myned trwy 'r Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith: y mae 'r cerric hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth.

8 A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchymynnasei Josuah, ac a gymmerasant ddeuddec carrec o ganol yr Iorddonen, fel y llefarasei 'r Arglwydd wrth Josuah, yn ôl rhife­di llwythau meibion Israel, ac a'i dygasant trosodd gyd â hwynt i'r llettŷ, ac a'i cyflea­sant yno.

9 A Josuah a osododd i fynu ddeuddec car­rec ynghanol yr Iorddonen, yn y lle 'r oedd traed yr offeiriaid oedd yn dwyn Arch y cy­fammod, yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.

10 A'r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn yr Arch, a safasant ynghanol yr Iorddonen, nes gorphen pob peth a orchymynnasei 'r Arglwydd i Josuah ei lefaru wrth y bobl, yn ôl yr hyn oll a orchymynnasei Moses wrth Josuah: a'r bobl a fryssiasant, ac a aethant trosodd.

11 A phan ddarfu i'r holl bobl fyned tro­sodd, yna Arch yr Arglwydd a aeth trosodd, a'r offeiriaid yngŵydd y bobl.

12Num. 32.27. Meibion Ruben hefyd a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh a aethant trosodd yn arfogion o flaen meibion Israel, fel y llefara­sei Moses wrthynt.

13 Ynghylch deugain-mil yn arfogion i ry­fel, a aethant trosodd o flaen yr Arglwydd i ryfel, i rossydd Jericho.

14 Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawr­haodd Josuah yngolwg holl Israel, a hwy a'i hofnasant ef, fel yr ofnasent Moses, holl ddy­ddiau ei enioes.

15 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Josuah, gan ddywedyd,

16 Gorchymyn i'r offeriaid sydd yn dwyn Arch y dystiolaeth, ddyfod o honynt i fynu allan o'r Iorddonen.

17 Am hynny Josuah a orchymynnodd i'r offeiriaid, gan ddywedyd, deuwch i fynu allan o'r Iorddonen.

18 A phan ddaeth yr offeiriaid oedd yn dwyn Arch cyfammod yr Arglwydd i fynu o [Page] ganol yr Iorddonen;Heb. thynnu i fynu. a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sych-dir, yna dyfroedd yr Ior­ddonen a ddychwelasant iw lle, ac a aethant megis cynt, dros ei holl geulennydd.

19 A'r bobl a ddaethant i fynu o'r Iorddo­nen y ddecfed dydd o'r mis cyntaf, ac a wer­ssyllasant yn Gilgal, yn eithaf tu dwyrain Je­richo.

20 A'r deuddec carrec hynny, y rhai a ddygasent o'r Iorddonen, a sefydlodd Josuah yn Gilgal.

21 Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, pan ofynno eich meibion chwiHeb. y foru. yn ol hyn iw tadau, gan ddywedyd, beth yw y cerric hyn?

22 Yna yr hyspysswch i'ch meibion, gan ddywedyd, Israel a ddaeth drwy 'r Iorddonen hon ar dîr sych.

23 Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o'ch blaen chwi,Exod. 14.21. nes i chwi fyned trwodd: megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i'r môr côch, yr hwn a sychodd efe o'n blaen ni, nes i ni fyned trwodd:

24 Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaiar law yr Arglwydd, mai nerthol yw: fel yr ofnoch yr Arglwydd eich DuwHeb. yr holl ddyddlau. bob amser.

PEN. V.

1 Arswyd y Canaaneaid. 2 Josuah yn adnewy­ddu yr Enwaediad. 10 Cadw 'r Pasc yn Gil­gal. 12 Y Manna yn darfod. 13 Angel yn ymddangos i Josuah.

PAn glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r Iorddonen, tua 'r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y môr, sychu o'r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy trwodd; yna y digalonnwyd hwynt, fel nad oedd yspryd mwyach ynddynt, rhac ofn meibion Israel.

2 Y pryd hynny y dywedodd yr Arglwydd wrth Josuah,Exod. 4.25. gwna it gyllillNeu, o gallestr. llymmion, ac enwaeda ar feibion Israel drachefn yr ail waith.

3 A Josuah a wnaeth iddo gyllill llymmion, ac a enwaedodd ar feibion IsraelNeu, Gibeah haaraloth. ym mryn y blaen-grwyn.

4 Ac dymma 'r achos a wnaeth i Josuah en­waedu: yr holl bobl sef y gyrfiaid y rhai a ddaethent o'r Aipht, yr holl ryfel-wŷr, a fua­sent feirw yn yr anialwch, ar y ffordd wedi eu dyfod allan o'r Aipht.

5 Canys yr holl bobl a'r a ddaethant allan oedd enwaededic, ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch ar y ffordd, wedi eu dyfod hwy allan o'r Aipht, nid enwaedasent arnynt.

6 Canys deugain mhlynedd y rhodiasei mei­bion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o'r rhyfel-wŷr a ddaethent o'r Aipht, y rhai ni wrandawsent ar lef yr Arglwydd: y rhai y tyngasei yr Arglwydd wrthynt na ddan­gosai efe iddyntNum. 14.23. y wlâd a dyngasei 'r Arg­lwydd wrth eu tadau y rhoddei efe i ni, sef gwlâd yn llifeirio o laeth a mêl.

7 A Josuah a enwaedodd ar eu meibion hwy, y rhai a gododd yn eu lle hwynt; canys dien­waededic oeddynt hwy; am nad eawaedasid arnynt ar y ffordd.

8 A phan ddarfu enwaedu ar yr holl bobl: yna 'r arhosasant yn eu hun-lle, yn y gwerssyll, nes eu hiachau.

9 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josuah, heddyw y treiglais ymmaith wradwydd yr Aipht oddi arnoch: am hynny efe a al­wodd enw y lle hwnnwSef, traigl. Gilgal, hyd y dydd heddyw.

10 A meibion Israel a werssyllasant yn Gil­gal: a hwy a gynhaliasant y Pasc ar y pedwer­ydd dydd ar ddec o'r mîs, bryd nawn, yn rho­ssydd Jericho.

11 A hwy a fwytasant o hên ŷd y wlâd, drannoeth wedi 'r Pasc, fara croyw, a chras­yd, o fewn corph y dydd hwnnw.

12 A'r Manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwytta o hên ŷd y wlâd; a Manna ni chafodd meibion Israel mwyach: eithr bwytta­sant o gynnyrch gwlâd y Canaaneaid y flwy­ddyn honno.

13 A phan oedd Josuah wrth Jericho, yna efe a dderchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac weleExod. 23.23. ŵr yn sefyll gyferbyn ag ef, a'i gleddyf noeth yn ei law: a Josuah a aeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho, ai gyd â ni 'r ydwyt ti, ai gyd a'n gwrth wyneb-wŷr?

14 Dywedodd yntef, nag ê, eithr yn dywy­sog llû 'r Arglwydd yn awr y deuthum. A Jo­suah a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a addo­lodd, ac a ddywedodd wrtho ef, beth y mae fy Arglwydd yn ei ddywedyd wrth ei wâs?

15 A thywysog llû 'r Arglwydd a ddywe­dodd wrth Josuah,Exod. 3.5. Act. 7.33. dattot dy escidiau oddi am dy draed, canys y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd sanctaidd: a Josuah a wnaeth felly.

PEN. VI.

1 Cau Jericho. 2 Duw yn dyscu Josuah pa fôdd y gwarchaei arni. 12 Amgylchu 'r dref, 17 Rhaid iddi fôd yn ddiofryd-beth. 20 Y muriau yn syrthio. 22 Arbed Rahab. 26 Mell­dithio adeiladwr Jericho.

A Jericho oedd gauedic, a gwarchauedic o herwydd meibion Israel: nid oedd neb yn myned allan, nac yn dyfod i mewn.

2 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josuah, gwêl, rhoddais yn dy law di Jericho a'i brenin; gwyr grymmus o nerth.

3 A chwi a amgylchwch y ddinas chwi ryfel­wŷr oll, gan fyned amgylch y ddinas vn waith: gwnewch felly chwe diwrnod.

4 A dyged saith o offeiriaid saith o vdcyrn, o gyrn hyrddod, o flaen yr Arch; a'r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â'r vdcyrn.

5 A phan gener yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr vdcorn, bloe­ddied yr holl bobl â bloedd vchel: a syrth mûr y ddinas tani hi, ac eled y bobl i fynu bawb ar ei gyfer.

6 A Josuah mab Nun a alwodd yr offeiri­aid, ac a ddywedodd wrthynt, codwch Arch y cyfammod; a dyged saith o offeiriaid saith o vdcyrn, o gyrn hyrddod, o flaen Arch yr Arglwydd.

7 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, cer­ddwch, ac amgylchwch y ddinas: a'r hwn sydd arfog, eled o flaen Arch yr Arglwydd.

8 A phan ddywedodd Josuah wrth y bobl, yna y saith offeiriad y rhai oedd yn dwyn y saith vdcorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr Arglwydd, ac a leisiasant â'r vdcyrn: ac Arch cylammod yr Arglwydd oedd yn my­ned ar eu hol hwynt.

9 A'r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid, oedd yn lleisio â'r vdcyrn: a'rHeb. y fyddin gas [...]l. fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr [Page] Arch, a'r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â'r vdcyrn.

10 A Josuah a orchymynnasei i'r bobl, gan ddywedyd, na floeddiwch, ac na edwch gly­wed eich llais, ac nac eled gair allan o'ch ge­nau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych bloe­ddiwch, yna y bloeddiwch.

11 Felly Arch yr Arglwydd a amgylchodd y ddinas, gan fyned o'i hamgylch vnwaith: a daethant i'r gwerssyll, a lleteuasant yn y gwer­ssyll.

12 A Josuah a gyfododd yn forau; a'r offeiriaid a ddygasant Arch yr Arglwydd.

13 A'r saith offeiriad yn dwyn saith o vd­cyrn o gym hyrddod, o flaen Arch yr Arg­lwydd, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â'r vdcyrn: a'r rhai arfog oedd yn my­ned o'i blaen hwynt, a'r fyddin olaf oedd yn myned ar ol Arch yr Arglwydd, a'r offeiriaid yn myned rhagddynt ac yn lleisio a'r vdcyrn.

14 Felly 'r amgylchynasant y ddinas vn waith yr ail dydd, a dychwelasant i'r gwerssyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod.

15 Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn forau ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn vnic y dwthwn hwnnw 'r amgylchasant y ddi­nas seith-waith.

16 A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hud­cyrn y seithfed waith, yna Josuah a ddywedodd wrth y bobl, bloeddiwch, canys rhoddodd yr Arglwydd y ddinas i chwi.

17 A'r ddinas fydd ynFellti­gedic. ddiofryd-beth, hi, a'r hyn oll sydd ynddi, i'r Arglwydd: yn vnic Rahab y buttein-wraig fydd byw, hi a chwbl ac sydd gyd â hi yn tŷ, canysJosuah 2.4. hi a guddiodd y cennadau a anfonasom ni.

18 Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y diofryd-beth, rhac eich gwneuthur eich hun yn ddiofryd-beth, os cymmerwch o'r diofryd-beth:Levit. 27.21. Num. 21.2. Deut. 13.15. felly y gwnaech werssyll Israel yn ddiofryd­beth, ac y trallodech hi.

19 Ond yr holl arian, a'r aur, a'r llestri prês a haiarn, fyddantHeb. s [...]ncteidd­rwydd. gyssegredic i'r Arg­lwydd: deled y rhai hynny i mewn i dryssor yr Arglwydd.

20 A bloeddiodd y bobl, pan leisiasant â'r vdcyrn: a phan glybu y bobl lais yr vdcyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd vchel,Hebr. 11.30. 2 Mac. 12.15. a'r mûr a syrthiodd i lawr oddi tanodd, felly y bobl a aethant i fynu i'r ddinas, pob vn ar ei gyfer, ac a ennillasant y ddinas.

21 A hwy a ddifrodasant yr hyn oll oedd yn y ddinas, yn ŵr ac yn wraig, yn sachgen ac yn henafgwr, yn eidion ac yn ddafad, ac yn assyn, â mîn y cleddyf.

22 A Josuah a ddywedodd wrth y ddau ŵr a fuasei yn edrych ansodd y wlad, ewch i dŷ y buttein-wraig, a dygwch allan oddi yno y wraig, a'r hyn oll sydd iddi,Pen. 2.14. Hebr. 11.31. fel y tyngasoch wrthi.

23 Felly y llangciau a suasei yn edrych an­sodd y wlad a aethant i mewn, ac a ddygasant allan Rahab, a'i thad, a'i mam, a'i brodyr, a chwbl ar a feddei hi; dygasanc allan hefyd ei holl dylwyth hi, a gosodasant hwynt o'r tu allan i werssyll Israel.

24 A lloscasant y ddinas â thân, a'r hyn oll oedd ynddi: yn vnic yr arian, a'r aur, a'r llestri prês a haiarn, a roddasant hwy yn nhry­ssor yr Arglwydd.

25 A Josuah a gadwodd yn fyw Rahab y buttein-wraig, a thylwyth ei thâd, a'r hyn oll oedd genddi; a hi a drigodd ym mysc Israel hyd y dydd hwn: am iddi guddio y cennadau a anfonasei Josuah i chwilio Jericho.

26 A Josuah a'i tyngedodd hwy y pryd hynny, gan ddywedyd,1 Bren. 16.34. melldigedic ger bron yr Arglwydd fyddo 'r gŵr a gyfyd, ac a adai­lado y ddinas hon Jericho: yn ei gyntaf-ane­dic y seilia efe hi, ac yn ei fab ieuangaf y gesyd efe ei phyrth hi.

27 Felly yr Arglwydd oedd gyd â Josuah; ac aeth ei glod ef drwy 'r holl wlâd.

PEN. VII.

1 Taro 'r Israeliaid wrth Ai. 6 Cwyn Josuah. 10 Duw yn dangos iddo beth a wnai. 16 Da­la Achan wrth y coel-bren, 19 ei gyffes, 22 ei ddinistrio ef a'r hyn oll oedd iddo, yn nyffryn Achor.

ONd meibion Israel a wnaethant gamwedd am y diofryd-beth: canysJos. 22.20. 1 Cron. 2.7. Achan mab Charmi, fab Zabdi, fab Zerah, o lwyth Juda a gymmerodd o'r diofryd-beth: ac enynnodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn meibion Is­rael.

2 A Josuah a anfonodd wŷr o Jericho i Ai, yr hon sydd wrth Bethafen, o du 'r dwyrain i Bethel, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, ewch i fynu ac edrychwch y wlâd: a'r gwŷr a aethant i fynu, ac edrychasant ansawdd Ai.

3 A hwy a ddychwelasant at Josuah, ac a ddywedasant wrtho, nac eled yr holl bobl i fynu; onid ynghylch dwy fil o wŷr, neu dair mil o wŷr, a ânt i fynu, ac a darawant Ai; na phoenwch y bobl yno, canys ychydig ydynt hwy.

4 Felly fe a aeth o'r bobl i fynu yno, yng­hylch tair mil o wŷr; a hwy a ffoesant o flaen gwŷr Ai.

5 A gwŷr Ai a darawsant ynghylch vn­gwr ar bymthec ar hugain o honynt; ac a'i hym­lidiasant o flaen y porth hyd Sebarim, a tha­rawsant hwynt ynHeb. Morad. y goriwared: am hynny y toddodd calonnau y bobl, ac yr aethant fel dwfr.

6 A Josuah a rwygodd ei ddillad, ac a syr­thiodd i lawr ar ei wyneb o flaen Arch yr Arglwydd, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lŵch ar eu pennau.

7 A dywedodd Josuah, ah ah ô Arglwydd Jor, i ba beth y dygaist y bobl ymma tros yr Iorddonen i'n rhoddi ni yn llaw 'r Amoriaid i'n difetha? o na buasem fodlon, ac na thriga­sem tu hwnt i'r Iorddonen.

8 O Arglwydd, beth a ddywedaf, pan drŷ Israel ei warr o flaen ei elynion?

9 Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlâd a glywant, ac a'n hamgylchant, ac a dor­rant ymmaith ein henw oddiar y ddaiar: a pha beth a wnei i'th enw mawr?

10 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josuah, cyfod, pa ham yr ydwyt ynHeb. cwympo. gorwedd fel hyn ar dy wyneb?

11 Israel a bechodd, a throseddasant fyng­hyfammod a orchymynnais iddynt: cymme­rasant hefyd o'r diofryd-beth, ie lledrattasant, a gwadasant, gosodasant hefyd hynny ym mysc eu dodrefn eu hun.

12 Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwarr o flaen eu gelynion, am eu bod yn escym­mun-beth: ni byddaf mwyach gyd â chwi, oni ddifethwch yr escymmun-beth o'ch mysc.

13 Cyfot, sancteiddia y bobl, a dywed, ymsancteiddiwch erbyn y foru: canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, diofryd-beth sydd yn dy blith di ô Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymmaith y dio­fryd-beth o'ch mysc.

14 Am hynny nessewch y borau wrth eich llwythau, a'r llwyth a ddalio 'r Arglwydd, ne­ssaed bob yn deulu, a'r teulu a ddalio r' Arg­lwydd, nessaed bob yn dŷ, a'r tŷ a ddalio 'r Arglwydd, nessaed bob yn ŵr.

15 A'r hwn a ddelir a'r diofryd-beth gan­ddo a loscir â thân, efe ac oll sydd ganddo: o herwydd iddo droseddu cyfammod yr Arglwydd, ac o herwydd iddo wneuthurNeu, anwiredd. ynfydrwydd yn Israel.

16 Felly Josuah a gyfododd yn forau, ac a ddug Israel wrth eu llwythau: a llwyth Juda a ddaliwyd.

17 Ac efe a ddynesodd deulu Juda, a da­liwyd teulu y Zarhiaid: ac efe a ddynesodd deulu y Zarhiaid bob yn ŵr, a daliwyd Zabdi.

18 Ac efe a ddynesodd ei dŷed ef bob yn ŵr, a daliwyd Achan mab Charmi, fab Zabdi, fab Zerah, o lwyth Juda.

19 A Josuah a ddywedodd wrth Achan, fy mab, attolwg dyro ogoniant i Arglwydd Dduw Israel, a chyffessa iddo; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost, na chela oddi wrthif.

20 Ac Achan a attebodd Josuah, ac a ddywedodd, yn wîr myfi a bechais yn erbyn Arglwydd Dduw Israel, canys fel hyn ac fel hyn y gwneuthum.

21 Pan welais ym mysc yr yspail fantell Fabilonic dêg, a dau can sicl o arian, ac vnHeb. Tafod. llafn aur, o ddec sicl a deugain ei bwys, yna y chwenychais hwynt, ac a'i cymmerais, ac wele hwy yn guddiedic yn y ddaiar ynghanol fy mhabell, a'r arian tanynt.

22 Yna Josuah a anfonodd gennadau, a hwy a redasant i'r babell, ac wele hwynt yn guddi­edic yn ei babell ef, a'r arian tanynt.

23 Am hynny hwy a'i cymmerasant o ga­nol y babell, ac a'i dygasant at Josuah, ac at holl feibion Israel;Heb. tywall­ [...]asant. ac a'i gosodasant hwy o flaen yr Arglwydd.

24 A Josuah a gymmerth Achan fab Zerah, a'r arian, a'r fantell, a'r llafn aur, ei feibion hefyd, a'i ferched, a'i warthec, a'i assynnod, ei ddefaid hefyd a'i babell, a'r hyn oll a fe­ddei efe: a holl Israel gyd ag ef a'i dygasant hwynt i ddyffryn Achor.

25 A Josuah a ddywedodd, am i ti ein blino ni, yr Arglwydd a'th flina ditheu y dydd hwn: a holl Israel a'i llabyddiasant ef â meini, ac a'i lloscasant hwy â thân, wedi eu llabyddio â meini.

26 A chodasant arno ef garnedd fawr o gerric, hyd y dydd hwn, felly y dychwelodd yr Arglwydd oddi wrth lîd ei ddigofaint: am hynny y gelwir henw y fan honno dyffrynSef Tra­llod. Achor hyd y dydd hwn.

PEN. VIII.

1 Duw yn rhoi cyssur yn Josuah. 3 Y dyfais â'r hwn yr ennillwyd Ai. 29 Crogi ei brenhin hi. 30 Josuah yn adailadu allor, 32 yn scrifennu y gyfraith ar geric, 33 yn datcan bendithion a melltithion.

A'R Arglwydd a ddywedodd wrth Josuah,Deut. 7.18. & 1.21. nac ofna, ac na arswyda, cymmer gyd â thi yr holl bobl o ryfel, a chyfot, dos i fynu i Ai: gwêl, mi a roddais yn dy law di frenin Ai, a'i bobl, ei ddinas hefyd a'i wlâd:

2 A thi a wnei i Ai a'i brenin, megis y gwnaethost iJosua 6.21. Jericho ac iw brenin: ettoDeut. 20.14. ei hanrhaith, a'i hanifeiliaid a sclyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddi­nas, o'r tu cefn iddi.

3 Yna Josuah a gyfododd, a'r holl bobl o ry­fel, i fyned i fynu i Ai: a Josuah a ddetholodd ddeng-mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac a'i hanfonodd ymmaith liw nôs:

4 Ac efe a orchymynnodd iddynt, gan ddy­wedyd, gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas, o'r tu cefn i'r ddinas, nac ewch ym mhell iawn oddi wrth y ddinas, ond by­ddwch bawb oll yn barod.

5 Minneu hefyd, a'r holl bobl sydd gyd â mi, a nessawn at y ddinas: a phan ddelont allan i'n cyfarfod ni, megis y waith gyntaf, yna ni a ffown o'i blaen hwynt;

6 (Canys hwy a ddeuant allan ar ein hôl ni) nes i ni eu tynnu hwynt allan o'r ddinas, o blegit hwy a ddywedant, ffoi y maent o'n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o'i blaen hwynt.

7 Yna chwi a godwch o'r cynllwyn, ac a orescynnwch y ddinas: canys yr Arglwydd eich Duw a'i dyry hi yn eich llaw chwi.

8 A phan ennilloch y ddinas, lloscwch y ddinas â thân, gwnewch yn ôl gair yr Arg­lwydd: gwelwch, mi a orchymynnais i chwi.

9 Felly Josuah a'i hanfonodd, a hwy a ae­thant i gynllwyn, ac a arhosasant rhwng Bethel ac Ai, o du y gorllewyn i Ai: a Josuah a le­teuodd y nosson honno ym mysc y bobl.

10 A Josuah a gyfododd yn forau, ac a gy­frifodd y bobl; ac a aeth i fynu, efe a henuri­aid Israel, o flaen y bobl tuag at Ai.

11 A'r holl bobl o ryfel, y rhai oedd gyd ag ef, a aethant i fynu, ac a nessasant, daethant hefyd gyferbyn a'r ddinas, a gwerssyllasant o du 'r gogledd i Ai: a glynn oedd rhyngddynt hwy ac Ai.

12 Ac efe a gymmerth ynghylch pum mil o wŷr, ac a'i gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du 'r gorllewinNeu, i Ai. i'r ddinas.

13 A'r bobl a osodasant yr holl werssyllau, y rhai oedd o du 'r gogledd i'r ddinas, a'rHeb. cynllwyn. cyn­llwynwyr o du 'r gorllewin i'r ddinas: a Josuah a aeth y nosson honno i ganol y dyffryn.

14 A phan welodd brenin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a fryssiasant, ac a foreu-godasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a'i holl bobl, ar amser nodedic, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddei efe fod cynllwyn iddo o'r tu cefn i'r ddinas.

15 A Josuah, a holl Israel, fel pe tarawsid hwy o'i blaen hwynt, a ffoesant ar hyd yr anialwch.

16 A'r holl bobl, y rhai oedd ynAi y ddinas, a aswyd ynghŷd, i erlid ar eu hôl hwynt: a hwy a erlidiasant ar ôl Josuah, ac a dynnwyd oddiwrth y ddinas.

17 Ac ni adawyd gŵr yn Ai, nac yn Be­thel, a'r nad aethant allan ar ôl Israel: a gadaw­sant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ôl Israel.

18 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jo­suah, estyn y wayw-ffon sydd yn dy law tu­ac at Ai; canys yn dy law di y rhoddaf hi: a Josuah a estynnodd y wayw-ffon oedd yn ei law, tua 'r ddinas.

19 A'r cynllwyn-wŷr a gyfodasant yn ebrwydd o'i lle, ac a redasant pan estynnodd efe ei law; daethant hefyd ir ddinas, ac ennilla­sant hi; ac a fryssiasant, ac a loscasant y ddinas a thân.

20 A gwŷr Ai a droesant yn eu hôl, ac a edrychasant, ac wele, mwg y ddinas a dder­chafodd hyd y nefoedd, ac nid oedd ganddynt hwyHeb. law. nerth i ffoi ymma, nac accw: canys y bobl y rhai a ffoesent i'r anialwch, a ddychwe­lodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid.

21 A phan welodd Josuah a holl Israel, i'r cynllwyn-wŷr ennill y ddinas, a derchafu o fŵg y ddinas, yna hwy a ddychwelasant, ac a darawsant wŷr Ai.

22 A'r leill a aethant allan o'r ddinas iw cyfarfod, felly 'r oeddynt ynghanol Israel, y rhai hyn o'r tu ymma, a'r lleill o'r tu accw: a tharawsant hwynt fel na adawyd vn Deut. 7.2. yng-we­ddill, nac yn ddiangol o honynt.

23 A brenin Ai a ddaliasant hwy yn fyw; a dygasant ef at Josuah.

24 Pan ddarfu i Israel ladd holl bresswylwŷr Ai yn y maes, yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt, a phan syrthiasent hwy oll gan fîn y cleddyf, nes eu darfod; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a tharawsant hi â min y cleddyf.

25 A chwbl a'r a syrthiasant y dwthwn hwnnw, yn wŷr ac yn wragedd, oeddynt ddeuddeng mil; sef holl wyr Ai.

26 Canys ni thynnodd Josuah ei law yn ei hôl yr hon a estynnasei efe gyd â'r wayw­ffon; nes difetha holl drigolion Ai.

27 YnNum. 31.22. vnic yr anifeiliaid, ac anrhaith y ddinas, a sclyfaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun; yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn aVers. 2. orchymynnasei efe i Josuah.

28 A Josuah a loscodd Ai, ac a'i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd, ac yn ddiffaethwch, hyd y dydd hwn.

29 Ac efe a grogodd frenin Ai ar bren, hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul y gorchymyn­nodd Josuah iddyntDeut. 21.23. ddescyn ei gelain ef oddi ar y pren, a'i bwrw i ddrws porth y ddinas,Pen. 7.25. a gosodasant garnedd fawr o gerric arni hyd y dydd hwn.

30 Yna Josuah a adailadodd allor i Arg­lwydd Dduw Israel, ym mynydd Ebal,

31 Megis y gorchymynnasei Moses gwâs yr Arglwydd i feibion Israel, fel y mae yn scri­fennedicExod. 20.25. Deut. 27.5. yn llyfr cyfraith Moses, allor o ger­ric cyfan y rhai ni dderchafasid haiarn arnynt: a hwy a offrymmasant arni boeth offrymmau i'r Arglwydd, ac a aberthasant ebyrth hedd.

32 Ac efe a scrifennodd yno ar y meini gopi o gyfraith Moses, yr hon a scrifennasei efe yngwydd meibion Israel.

33 A holl Israel a'i henuriald, ei swyddogi­on hefyd, a'i barn-wyr, oedd yn sefyll o ddeutu 'r Arch, ger bron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn Arch cyfammod yr Arg­lwydd, yn gystal yr estron a'r priodor: ei hanner oedd ar gyfer mynydd Garizim, a'i hanner ar gyfer mynydd Ebal,Deut. 11.29. & 27.12. fel y gorchy­mynnasei Moses gwâs yr Arglwydd o'r blaen fendithio pobl Israel.

34 Wedi hynny efe a ddarllennodd holl eiriau y gyfraith, y fendith a'r felldith; yn ôl y cwbl sydd scrifennedic yn llyfr y gyfraith.

35 Nid oedd air o'r hyn oll a orchymyn­nasai Moses, a'r nas darllennodd Josuah, ger bron holl gynnulleidfa Israel,Deut. 31.12. a'r gwragedd, a'r plant, a'r dieithr, yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysc hwynt.

PEN. IX.

1 Y Brenhinoedd yn ymwneuthur yn erbyn Is­rael. 3 Y Gibeoniaid trwy dwyll yn cael cyfam­mod. 16 Am yr hyn y condemnwyd hwy i gae­thiwed tragwyddol.

WEdi clywed hyn o'r holl frenhinoedd, y rhai oedd o'r tu yma i'r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lan­nau y môr mawr, ar gyfer Libanus: sef yr He­thiaid, a'r Amoriaid, a'r Canaaneaid, a'r Phe­reziaid, a'r Hefiaid, a'r Jebusiaid:

2 Yna hwy a ymgasclasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josuah, ac yn erbyn Israel oHeb. vn genau. vn-frŷd.

3 A2 Sam. 21.1. thrigosion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethei Josuah i Jericho ac i Ai.

4 A hwy a wnaethant yn gyfrwys, ac a ae­ [...]ant, ac a ymddangosasant fel cennadon: cym­me [...]sant hefyd hên sach-lennau ar eu hassyn­nod, a hên gostrelau gwîn, wedi eu hollti hefyd, ac wedi eu rhwymo,

5 A hên escidiau baglog am eu traed, a hên ddillad am danynt; a holl fara eu llynniaeth oedd sych a brith-lwyd.

6 Ac aethant at Josuah i'r gwerssyll i Gil­gal; a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Is­rael; o wlad bell y daethom; ac yn awr gwnewch gyfammod â ni.

7Pen. 11.19. A gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Hefiaid; nid hwyrach dy fod yn ein mysc yn trigo, pa fodd gan hynny y gwnâf gyfammod â thi?

8 A hwy a ddywedasant wrth Josuah, dy weision di ydym ni: a Josuah a ddywedodd wrthynt, pwy ydych? ac o ba le y daethoch?

9 A hwy a ddywedasant wrtho, dy weision a ddaethant o wlâd bell iawn, o herwydd enw yr Arglwydd dy Dduw: canys ni a glywsom ei glod ef, a'r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aipht.

10 A'r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r lor­ddonen; i Sehon brenin Hesbon, ac i Og brenin Basan, yr hwn oedd yn Astaroth.

11 Am hynny ein henuriaid ni, a holl bres­wylwŷr ein gwlâd, a lefarasant wrthym ni, gan ddywedyd, cymmerwch lyniaethHeb. yn eich llaw. gyd â chwi i'r daith, ac ewch iw cyfarfod hwynt, a dywedwch wrthynt, eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfammod â ni.

12 Dymma ein bara ni, yn frŵd y cym­merasom ef yn llyniaeth o'n tai, y dydd y cych­wynnasom i ddyfod attoch: ac yn awr wele sŷch, a brith-lwyd yw.

13 Dymma hefyd y costrelau gwîn a lan­wasom yn newyddion, ac wele hwynt wedi hollti: ein dillad hyn hefyd, a'n hescidiau, a heneiddiasant rhag meithied y daith.

14 A'r gwŷr aNeu, dderby­niasant y gwyr er mwyn eu hymb. gymmerasant o'i hym­borth hwynt, ac nid ymgynghorasant â genau 'r Arglwydd.

15 Felly Josuah a wnaeth heddwch â hwynt, ac a wnaeth gyfammod â hwynt, ar eu cadw hwynt yn fyw: tywysogion y gynnulleidfa he­fyd a dyngasant wrthynt.

16 Ond ym mhen y tri-diau wedi iddynt wneuthur cyfammod a hwynt, hwy a glyw­sant mai cymydogion iddynt oeddynt hwy, ac mai yn eu mysc yr oeddynt yn aros.

17 A meibion Israel a gychwynnasant, ac a ddaethant iw dinasoedd hwynt, y trydydd [Page] dydd: a'i dinasoedd hwy oedd Gibeon, a Che­phira, Beeroth hefyd, a Chiriath Jearim.

18 Ond ni tharawodd meibion Israel mo honynt hwy, o blegit tywysogion y gynnulleid­fa a dyngasei wrthynt myn Arglwydd Dduw Is­rael; a'r holl gynnulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion.

19 A'r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynnulleidfa, ni a dyngasom wrthynt i Arglwydd Dduw Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt.

20 Hyn a wnawn ni iddynt hwy, cadwn hwynt yn fyw, fel na byddo digofaint arnom ni, o herwydd y llw a dyngasom wrthynt.

21 A'r tywysogion a ddywedasant wrthynt, byddant fyw; (ond byddant yn torri cynnyd, ac yn tynnu dwfr i'r holl gynnulleidfa,) fel yVers. 15. dywedasei y tywysogion wrthynt.

22 Yna Josuah a alwodd arnynt, ac a lefar­odd wrthynt, gan ddywedyd, pa ham y twylla­soch ni, gan ddywedyd, pell iawn ydym ni oddi wrthych, a chwithau yn presswylio yn ein mysc ni?

23 Yn awr gan hynny melldigedic ydych; ac ni ddiangc vn o honoch rhag bod yn gaeth weision, ac yn torri cynnyd, ac yn tynnu dwfr, i dŷ fy Nuw.

24 A hwy a attebasant Josuah, ac a ddywe­dasant, yn ddiau gan fynegi y mynegwyd i'th weision, ddarfod i'r Arglwydd dy Dduw orch­ymmynDeut. 7.1. i Moses ei wâs roddi i chwi yr holl wlâd hon, a difetha holl drigolion y wlâd o'ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddir­fawr rhagoch am ein henioes, ac y gwnaethom y peth hyn.

25 Ac yn awr wele ni yn dy law di: fel y byddo da ac vnion yn dy olwg wneuthur i ni, gwna.

26 Ac felly y gwnaeth efe iddynt; ac a'i gwa­redodd hwynt o law meibion Israel, fel na la­ddasant hwynt.

27 A Josuah a'i rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymmyn-wŷr coed, ac yn wahen­wŷr dwfr, i'r gynnulleidfa, ac i allor yr Ar­glwydd, hyd y dydd hwn, yn y lle a ddewisei efe.

PEN. X.

1 Pum brenhin yn rhyfela yn erbyn Gibeon. 6 Josuah yn ei hachub hi. 10 Duw yn ym­ladd yn ei herbyn hwynt â chenllysc. 12 Yr Haul a'r Lleuad yn sefyll, ar air Josuah. 16 Cau ar y pum brenin mewn ogof. 21 Eu dwyn allan. 24 Eu diystyru, 26 a'u crogi. 28 Gorch­fygu saith brenhin y chwanec. 43 Josuah yn dychwelyd i Gilgal.

A Phan glybu Adonizedec brenin Jerusalem i Josuah ennill Ai, a'i difrodi hi, (fel yJosuah. [...].15. gwnelsei efe i Jericho, ac iw brenin, felly y gwnaethei efeJosuah. [...].3. i Ai, ac iw brenin) a heddychu o drigolion Gibeon ag Israel,Josuah. [...].16. a'i bod yn eu mysc hwynt,

2 Yna yr ofnasant yn ddirfawr, o blegit di­nas fawr oedd Gibeon, fel vn o'r dinasoeddHeb. [...]dinas­ [...]edd y [...]rehini­ [...]th. bren­hinawl; ac o herwydd ei bod yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn.

3 Am hynny Adonizedec brenin Jerusalem a anfonodd at Hoham brenin Hebron, ac at Pi­ram brenin Jarmuth, ac at Japhia brenin Lachis, ac at Debir brenin Eglon, gan ddywedyd,

4 Deuwch i fynu attafi, a chynnorthwywch fi, fel y tarawom ni Gibeon: canys hi a heddych­odd â Josuah, ac â meibion Israel.

5 Am hynny pum brenin yr Amoriaid a ym­gynnullasant, ac a ddaethant i fynu, sef brenin Jerusalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, bre­nin Lachis, a brenin Eglon, hwynthwy a'i holl fyddinoedd, ac a werstyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.

6 A gwyr Gibeon a anfonasant at Josuah i'r gwerssyll i Gilgal, gan ddywedyd, na thynn ym­maith dy ddwylo oddi wrth dy weision; tyret i fynu yn fuan attom ni, achub ni hefyd a chyn­northwya ni; canys holl frenhinoedd yr Amo­riaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd-dir, a ymgynnullasant i'n herbyn ni.

7 Felly Josuah a escynnodd o Gilgal, efe a'r holl bobl o ryfel gyd ag ef, a'r holl gedyrn nerthol.

8 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josuah, nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt: ni saif neb o honynt yn dy wyneb di.

9 Josuah gan hynny a ddaeth yn ddiatrec attynt hwy: canys ar hŷd y nos yr aeth efe i fynu o Gilgal.

10 A'r Arglwydd a'i drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a'i tarawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon; ac a'i hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fynu i Beth-horon, ac a'i tarawodd hwynt hyd Azecah, ac hyd Maccedah.

11 A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, a hwy yngoriwared Beth-horon, yr Arglwydd a fwriodd arnynt hwy gerric mawrion o'r ne­foedd hyd Azecah, a buant feirw: amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerric cenllysc, nâ'r rhai a laddodd meibion Israel â'r cleddyf.

12 Llefarodd Josuah wrth yr Arglwydd, y dydd y rhoddodd yr Arglwydd yr Amoriaid o flaen meibion Israel; ac efe a ddywedodd yngo­lwg Israel:Esa. 28.21. Eccles. 46.4. ô haul,Heb. di­stawa. aros yn Gibeon, a thithau leuad yn nyffryn Aialon.

13 A'r haul a arhosodd, a'r lleuad a safodd, nes i'r genhedl ddial ar ei gelynion; onid yw hyn yn scrifennedic2 Sam. 1.18. yn llyfrIasher. yr vniawn? felly yr haul a safodd ynghanol y nefoedd, ac ni fryssiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.

14 Ac ni bu y fath ddiwrnod a hwnnw o'i flaen ef, nac ar ei ôl ef, fel y gwrandawei yr Arglwydd ar lef dŷn: canys yr Arglwydd a ymladdodd dros Israel.

15 A Josuah a ddychwelodd, a holl Israel gyd ag ef, i'r gwerssyll i Gilgal.

16 Ond y pum brenin hynny a ffoesant, ac a ymguddiasant mewn ogof ym Maccedah.

17 A mynegwyd i Josuah, gan ddywedyd, y pum brenin a gafwyd ynghudd mewn ogof ym Maccedah.

18 A dywedodd Josuah, treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof; a gosodwch wrthi wŷr iw cadw hwynt.

19 Ac na sefwch chwi, erlidiwch ar ôl eich gelynion, aHeb. chynffon­dorrwch hwynt. tharewch y rhai olaf o honynt; na adewch iddynt fyned iw dinasoedd; canys yr Arglwydd eich Duw a'i rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi.

20 A phan ddarfu i Josuah, a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid o honynt, a aethant i'r dinasoedd caeroc.

21 A'r holl bobl a ddychwelasant i'r gwer­ssyll at Josuah, ym Maccedah, mewn heddwch; heb symmud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel.

22 A Josuah a ddywedodd, agorwch enau [Page] yr ogof, a dygwch allan y pum brenin hynny attafi o'r ogof.

23 A hwy a wnaethant felly, ac a ddyga­sant allan y pum brenin atto ef o'r ogof, sef bre­nin Jerusalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon.

24 A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josuah, yna Josuah a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwŷr, y rhai a aethei gyd ag ef, nessewch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn: a hwy a nessasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt.

25 A Josuah a ddywedodd wrthynt, nac ofnwch, ac nac arswydwch; eithr ymwrolwch ac ymegniwch, canys fel hyn y gwna 'r Ar­glwydd i'ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd iw herbyn.

26 Ac wedi hyn Josuah a'i tarawodd hwynt, ac a'i rhoddodd i farwolaeth, ac a'i crogodd hwynt ar bum pren: a buant ynghrôg ar y prennau hyd yr hwyr.

27 Ac ym mhryd machludo haul, yDeut. 21.23. Jos. 8.29. gorch­ymynnodd Josuah iddynt eu descyn hwynt oddi ar y prennau, a'i bwrw hwynt i'r ogof, yr ymguddiasent ynddi; a bwriasant gerric maw­rion yngenau 'r ogof, y rhai sydd yno hyd gorph y dydd hwn.

28 Josuah hefyd a ennillodd Maccedah, y dwthwn hwnnw, ac a'i tarawodd hi â mîn y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenin hi, hwynt hwy, a phob enaid ac oedd ynddi, ni adawodd efe vn gweddill: canys efe a wnaeth i frenin MaccedahJosua. 6.21. fel y gwnaethei i frenin Jericho.

29 Yna yr aeth Josuah a holl Israel gyd ag ef o Maccedah i Libnah, ac a ymladdodd yn er­byn Libnah.

30 A'r Arglwydd a'i rhoddodd hithau, a'i brenin, yn llaw Israel, ac yntef a'i tarawodd hi â mîn y cleddyf, a phob enaid a'r oedd ynddi, ni adawodd ynddi vn yngweddill: canys efe a wnaeth iw brenin hi fel y gwnelsei i frenin Jericho.

31 A Josuah a dramwyodd a holl Israel gyd ag ef o Libnah i Lachis, ac a werssyllodd wrthi, ac a ymladdodd iw herbyn.

32 A'r Arglwydd a roddodd Lachis yn llaw Israel, yr hwn a'i ennillodd hi yr ail dydd, ac a'i tarawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid ac oedd ynddi; yn ôl yr hyn oll a wnaethei efe i Libnah.

33 Yna Horam brenin Gezer a ddaeth i fynu i gynnotthwyo Lachis: a Josuah a'i tarawodd ef a'i bobl, fel na adawyd iddo ef vn yngwe­ddill.

34 A Josuah a dramwyodd a holl Israel gyd ag ef, o Lachis i Eglon; a hwy a werssyllasant wrthi, ac a ymladdasant iw herbyn.

35 A hwy a'i hennillasant hi y diwrnod hwnnw, ac a'i tarawsant hi â min y cleddyf, ac efe a ddifrododd bob enaid a'r oedd ynddi y dwthwn hwnnw; yn ôl yr hyn oll a wnaethei efe i Lachis.

36 A Josuah a escynnodd, a holl Israel gyd ag ef, o Eglon i Hebron; a hwy a ryfelasant iw herbyn.

37 A hwy a'i hennillasant hi, ac a'i taraw­sant hi â min y cleddyf, a'i brenin a'i holl ddi­nasoedd, a phob enaid ac oedd ynddi, ni adaw­odd efe vn yngweddill, yn ôl yr hyn oll a wnae­thei efe i Eglon: canys efe a'i difrododd hi, a phob enaid ac oedd ynddi.

38 A Josuah a ddychwelodd, a holl Israel gyd ag ef, i Debir; ac a ymladdodd iw herbyn.

39 Ac efe a'i hennillodd hi, ei brenin, a'i holl ddinasoedd, a hwy a'i tarawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ac oedd yn­ddi, ni adawodd efe vn yngweddill: fel y gwnae­thei efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir ac iw brenin, megis y gwnelsei efe i Libnah ac iw brenin.

40 Felly y tarawodd Josuah yr holl fynydd­dir, a'r dehau, y gwastadedd hefyd a'rNeu, ffynhon­nau. bron­nydd, a'i holl frenhinoedd, ni adawodd efe vn yngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perch­en anadl,Deut. 20.16. fel y gorchymynnasei Arglwydd Dduw Israel.

41 A Josuah a'i tarawodd hwynt o Cades Bar­nea hyd Gaza, a holl wlâd Gosen hyd Gibeon.

42 Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a'i gwle­dydd a ennillodd Josuah ar vn-waith: canys Arglwydd Dduw Israel oedd yn ymladd tros Israel.

43 Yna y dychwelodd Josuah, a holl Israel gyd ag ef, i'r gworssyll yn Gilgal.

PEN. XI.

1 Gorchfygu amryw frenhinoedd wrth ddyfroedd Merom. 10 Ennill Hazor a'i llosci. 16 Josuah yn gorescyn yr holl wlâd, 21 ac yn torri ymaith yr Anaciaid.

A Phan glybu Jabin brenin Hazor y pethau hynny; efe a anfonodd at Jobab brenin Madon, ac at frenin Simron, ac at frenin Acsaph,

2 Ac at y brenhinoedd oedd o du 'r gogledd yn y mynydd-dir, ac yn y rhosdir tua 'r dehau i Cinneroth, ac yn y dyffryn, ac yn ardaloedd Dor tua 'r gorllewin;

3 At y Canaaneaid o'r dwyrain, a'r gor­llewin, ac at yr Amoriaid, a'r Hethiaid, a'r Phe­reziaid, a'r Jebusiaid, yn y mynydd-dir; ac at yr Hefiaid tan Hermon yngwlad Mispah.

4 A hwy a aethant allan, a'i holl fyddinoedd gyd â hwynt, pobl lawer fel y tywod sydd ar fîn y môr o amldra: meirch hefyd, a cherby­dau lawer iawn.

5 A'r holl frenhinoedd hyn aHeb. a ym­bwynt­manne­sant. ymgyfarfu­ant; daethant hefyd a gwerssyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.

6 A dywedodd yr Arglwydd wrth Josuah, nac ofna rhacddynt hwy, canys y foru ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri, a'i cerbydau a llosci di â thân.

7 Felly Josuah a ddaeth, a'r holl bobl o ryfel gyd ag ef, yn ddisymmwth arnynt hwy wrth ddyfroedd Merom, a hwy a ruthrasant arnynt.

8 A'r Arglwydd a'i rhoddodd hwynt yn llaw Israel, a hwy a'i tarawsant hwynt, ac a'i herlidi­asant hyd SidonNeu, Rabbah. fawr, ac hydNeu, Pylleu halen. Heb. ll [...] ­ciad dyf­roedd. Misrephoth­maim, ac hyd glyn Mispah, o du 'r dwyrain: a hwy a'i tarawsant hwynt fel na adawodd efe o honynt vn yngweddill.

9 A Josuah a wnaeth iddynt fel yr archasei 'r Arglwydd iddo: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe, a'i cerbydau a loscodd â thân.

10 A Josuah y pryd hynny a ddychwelodd, ac a ennillodd Hazor, ac a darawodd ei brenin hi â'r cleddyf: canys Hazor o'r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny.

11 Tarawsant hefyd bob enaid a'r oedd yn­ddi â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: ni adawyd vn perchen anadl: ac efe a loscodd Hazor â thân.

12 A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny, a'i holl frenhinoedd hwynt a ennillodd Josuah ac a'i tarawodd â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt;Num. [...].52. [...] 7. [...] & 20. [...] 17. megis y gorchymynnasei Moses gwâs yr Arglwydd.

13 Ond ni loscodd Israel yr vn o'r dinas­oedd oedd yn sefyll Heb. [...]yn eu cadernyd: namyn Hazor yn vnic a loscodd Josuah.

14 A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a'r anifeiliaid, a sclyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn vnic pob dŷn a darawsant hwy â min y cleddyf, nes iddynt eu difetha, ni adaw­sant berchen anadl.

15Exod. [...].11. Fel y gorchymynnasei 'r Arglwydd i Moses ei wâs, Deut. [...] 2.felly y gorchymynnodd Moses i Josuah, ac felly y gwnaeth Josuah; ni Heb. [...] adawodd efe ddim o'r hyn oll a orchymynnasei yr Ar­glwydd i Moses.

16 Felly Josuah a ennillodd yr holl dir hwn­nw, y mynyddoedd, a'r holl ddehau, a holl wlâd Gosen, a'r dyffryn, a'r gwastadedd, a mynydd Israel, a'i ddyffryn:

17Neu, [...] myn­ [...]d llyfn. O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myn­ed i fynu i Seir, hyd Baal Gad ynglynn Libanus, tan fynydd Hermon: a'i holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe, tarawodd hwynt hefyd ac a'i rhoddodd i farwolaeth.

18 Josuah a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer.

19Pen. [...].3. Nid oedd dinas a'r a heddychodd â meibion Israel, heb law 'r Hefiaid presswylwyr Gibeon; yr holl rai eraill a ennillasant hwy drwy ryfel.

20 Canys o'r Arglwydd yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod ag Israel mewn rhyfel, fel y difrodei efe hwynt, ac na fydde iddynt drugaredd; onid fel y difethai efe hwynt, fel y gorchymynnasei 'r Arglwydd wrth Moses.

21 A'r pryd hynny y daeth Josuah ac a dor­rodd yr Anaciaid ymaith o'r mynydd-dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Juda, ac o holl fynyddoedd Israel: Josuah a'i difrododd hwynt, a'i dinasoedd.

22 Ni adawyd vn o'r Anaciaid yngwlâd meibion Israel: yn vnic yn Gaza, yn Gath, ac yn Asdod y gadawyd hwynt.

23 Felly Josuah a ennillodd yr holl wlâd, yn ôl yr hyn oll a lefarasei yr Arglwydd wrth Moses, a Josuah a'i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel,Num. [...] 53. yn ôl eu rhannau hwynt, drwy eu llwythau: a'r wlâd a orphywysodd heb ryfel.

PEN. XII.

1 Y ddau frenin a ennillodd Moses eu gwledydd ac a'u rhannodd. 7 Yr xxxi o frenhiroedd o'r tu arall i'r Iorddonen, y rhai a darawodd Josuah.

DYmma frenhinoedd y wlâd, y rhai a da­rawodd meibion Israel, ac a feddianna­sant eu gwlad hwynt, o'r tu hwnt i'r Iorddo­nen, tua chodiad yr haul: o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a'r holl wastadedd tua 'r dwyrain.

2Num. [...]. 24. [...]eut. 3. [...] Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mrô meibion Ammon:

3 Ac o'r gwastadedd hyd fôr Cinneroth, o du 'r dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr hêli, o du 'r dwyrain, tua Bethiesimoth; ac o du 'r Neu, [...]man dehau Deut. [...]. 17. & [...]. 49. tan Neu, fynhon­ [...]u Pis­ [...]ah, neu, [...] bryn Asdoth Pisgah.

4 A goror Og brenin Basan yr hwn oedd Deut. 3.11. Pen. 13.12. o weddill y cawri, ac oedd yn trigo yn Asta­roth ac yn Edrai.

5 Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym myn­ydd Hermon, ac yn Salcah, ac yn holl Basan, hyd terfyn y Gessuriaid, a'r Maachathiaid; a hanner Gilead, terfyn Sehon brenin Hezbon.

6 Moses gwâs yr Arglwydd a meibion Israel, a'i tarawsant hwy: aNum. 32.29. Deut. 3.12. Pen. 13.8. Moses gwâs yr Ar­glwydd a'i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i'r Ru­beniaid, ac i'r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasseh.

7 Dymma hefyd frenhinoedd y wlâd, y rhai a darawodd Josuah a meibion Israel o'r tu ymma i'r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal Gad, ynglynn Libanus, hydPen. 11.17. fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fynu i Seir: a Josuah a'i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau:

8 Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn yffynhon­nau. 1 bronnydd, ac yn yr ani­alwch, ac yn y dehau: yr Hethiaid, yr Amori­aid, a'r Canaaneaid, y Pereziaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid.

9Pen. 6.2. Brenin Jericho, yn vn:Pen. 8.29. brenin Ai, yr hwn oedd o ystlys Bethel, yn vn.

10Pen. 10.24. Brenin Jerusalem, yn vn: brenin Heb­ron, yn vn.

11 Brenin Jarmuth, yn vn: brenin Lachis, yn vn.

12 Brenin Eglon yn vn: breninPen. 10.33. Gezer, yn vn.

13 BreninPen. 10.39. Debir, yn vn: brenin Geder, yn vn.

14 Brenin Hormah, yn vn: brenin Arad, yn vn.

15 BreninPen. 10.30. Libnah, yn vn: brenin Adulam, yn vn.

16 BreninPen. 10.28. Maccedah, yn vn: brenin Bethel, yn vn.

17 Brenin Tapuah, yn vn: brenin Hepher, yn vn.

18 Brenin Aphec, yn vn: breninNeu, Saron. Lassaron, yn vn.

19 Brenin Madon, yn vn: breninPen. 11.10. Hazor, yn vn.

20 Brenin Simron Meron, yn vn: brenin Achsaph, yn vn.

21 Brenin Taanach, yn vn: brenin Megido, yn vn.

22 Brenin Cades, yn vn: brenin Jocneam o Garmel, yn vn.

23 Brenin Dor yn ardal Dor, yn vn:Gene. 14.1. bre­nin y cenhedloedd o Gilgal, yn vn.

24 Brenin Tirzah, yn vn: yr holl frenhin­oedd oedd vn ar ddec ar hugain.

PEN. XIII.

1 Terfynau y wlâd ni orchfygesid etto. 8 Etife­ddiaeth y ddau lwyth â hanner.14, 33 Yr Arglwydd a'i aberthau yw etifeddiaeth Levi. 15 Terfynau etifeddiaeth Ruben. 22 Llâdd Balaam. 24 Terfynau etifeddiaeth Gad, 29 a hanner llwyth Manasseh.

A Phan heneiddiodd Josuah a phwyso o ho­naw mewn oedran, dywedodd yr Ar­glwydd wrtho ef, tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau oedrannus, a thîr lawer iawn sydd etto iw feddiannu.

2 Dymma y wlâd sydd etto yn ôl; holl derfynau y Philistiaid, a holl Gessuri,

3 O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aipht, hyd derfyn Ecron, tu a'r gogledd, yr hwn a gyfrifir [Page] i'r Canaaneaid: pum tywysog y Philistiaid; y Gazathiaid, a'r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Gi­thiaid, yr Ecroniaid, yr Afiaid.

4 O'r dehau, holl wlâd y Canaaneaid, a'rMe [...]rah. ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid, hyd Aphec, hyd terfyn yr Amoriaid.

5 A gwlâd y Gibliaid, a holl Libanus, tua chyfodiad haul o Baal Gad, tan fynydd Her­mon; nes dyfod i Hamath.

6 Holl bresswylwŷr y mynydd-dir o Libanus hydPen. 11.8. Misrephothmaim, a'r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymmaith o flaen meibion Israel: yn vnic rhan di hi wrth goelbren i Is­rael yn etifeddiaeth, fel y gorchymynnais i ti.

7 Ac yn awr rhan di y wlâd hon yn etifeddia­eth i'r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasseh.

8 Gydâ 'r rhai y derbyniodd y Reubeniaid ar Gadiaid eu hetifeddiaeth,Num. 32.33. Deut. 3.13. Pen. 22.4. yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o'r tu hwnt i'r Iorddonen, tua 'r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwâs yr Arglwydd iddynt:

9 O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a'r ddinas sydd ynghanolYr afon. y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon.

10 A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amo­riaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon.

11 Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salcah.

12 Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrai; efe a adawydDeut. 3.11. Pen. 12.4. o weddill y cawri, canys Moses a'i tarawsei hwynt, ac a'i gyrrasai ymaith.

13 Ond meibion Israel ni yrrasant allan y Gessuriaid nâ'r Maachathiaid: eithr trigodd y Gessuriaid a'r Maachathiaid, ym mlhith Israel hyd y dydd hwn.

14 Yn vnic i lwyth LefiNum. 18.21. ni roddodd efe etifeddiaeth: aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasei efe wrtho.

15 A Moses a roddasei i lwyth meibion Ru­ben etifeddiaeth drwy eu teuluoedd.

16 A'i terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon fydd ar fîn afon Arnon, a'r ddinas sydd yngha­nolYr afon. y dyffryn, a'r holl wastadedd wrth Mede­bah.

17 Hesbon a'i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd: Dibon aNeu, uchel­feudd Baal a rhai Baal meon. Bamoth Baal, a Beth-Baal meon.

18 Jahaza hefyd a Chedemoth, a Mephaah.

19 Ciriathaim hefyd a Sibmah, a Sareth Sa­har ym mynydd-dir y glyn:

20 Beth-Peor hefyd, acNeu, ffynhon­neu Pis­gah, neu, y bryn. Deut. 3.17. Asdoth Pisgah, a Beth Jesimoth.

21 A holl ddinasoedd y gwastadedd, a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon; yr hwn a ddarfua­sei i Moses ei daro, gyd âNum. 31.8. thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Zur, a Hur, a Rebah, dugiaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlâd.

22 Balaam hefyd fab Beor y dewin a ladd­odd meibion Israel â'r cleddyf, ym mhlith eu lladdedigion hwynt.

23 A therfyn meibion Ruben oedd yr Ior­ddonen a'i goror: dymma etifeddiaeth meibi­on Ruben yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd a'i trefi.

24 Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, drwy eu teuluoedd.

25 A Jazer oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlâd meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rab­bah.

26 Ac o Hesbon hyd Ramath, Mispah, a Betonim: ac o Mahanaim hyd gyffinidd Debir.

27 Ac yn y dyffryn, Betharam, a Bethnim­rah, a Succoth, a Saphon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon, yr Iorddonen a'i therfyn, hyd gwrr môr Cineroth, o'r tu hwnt i'r Ior­ddonen, o du 'r dwyrain.

28 Dymma etifeddiaeth meibion Gad yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd a'i trefydd.

29 Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i han­ner llwyth Manasseh: a bu etifeddiaeth i han­ner llwyth meibion Manasseh yn ôl eu teulu­oedd.

30 A'i terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, tri vgain di­nas;

31 A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrai, dinasoedd brehiniaeth Og yn BasanNum. 32.39. a roddodd efe i feibion Machir mab Manasseh, sef i hanner meibion Machir, yn ôl eu teuluoedd.

32 Dymma y gwledydd a roddodd Moses iw hetifeddu yn rhossydd Moab, am yr Iorddonen a Jericho, o du 'r dwyrain.

33 OndPen. 18.7. i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: Arglwydd Dduw Israel yw eu he­tifeddiaeth hwynt, felNum. 18.20. y llefarodd efe wrth­ynt.

PEN. XIV.

1 Y naw llwyth a hanner i gael eu hetifeddi­aeth wrth goel-bren. 6 Caleb trwy ragor­fraint yn cael Hebron.

DYmma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yngwlâd Canaan:Num. 34.17. y rhai a rannodd Eleazar yr offeiriad, a Josuah mab Nun, a phennau cenedl llwythau meibion Israel, iddynt hwy iw hetifeddu.

2Num. 26.55. & 33.54. Wrth goel-bren yr oedd eu hetifeddi­aeth hwynt; fel y gorchymynnasei 'r Arglwydd drwy law Moses eu rhoddi i'r naw llwyth, ac i'r hanner llwyth.

3 Canys Moses a roddasei etifeddiaeth i ddau lwyth, ac i hanner llwyth, o'r tu hwnt i'r Ior­ddonen, ond i'r Lefiaid ni roddasei efe etifeddi­aeth yn eu mysc hwynt.

4 Canys meibion Joseph oedd ddau lwyth, Manasseh, ac Ephraim: am hynny ni roddasant ran ir Lefiaid yn y tir, onid dinasoedd i drigo, â'i meusydd pentrefol iw hanifeiliaid, ac iw go­lud.

5Num. 35.2. Pen. 21.1. Fel y gorchymynnasei yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth meibion Israel, a hwy a rannasant y wlâd.

6 Yna meibion Juda a ddaethant at Josuah yn Gilgal, a Chaleb mab Jephunneh y Cenezi­ad a ddywedodd wrtho ef, tydi a wyddost y gair a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses gŵr Duw o'm plegit i, ac o'th blegit ditheu, yn Ca­des Barnea.

7 Mab deugain mlwydd oeddwn i pan an­fonodd Moses gwâs yr Arglwydd fi, o Cades Barnea, i edrych ansodd y wlâd, ac mi a ddugum air iddo ef trachefn, fel yr oedd yn fynghalon.

8 Ond fy mrodyr, y rhai a aethant i fynu gyd â mi, a ddigalonnasant y bobl: ettoNum. 14.24. myfi a gyflawnais fyned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw.

9 A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, diau y bydd y wlâd y sathrodd dy droed arni yn etifeddiaeth i ti, ac i'th feibion [Page] hyd byth; am it gyflawni myred ar ôl yr Ar­glwydd fy Nuw.

10 Ac yn awr, wele 'r Arglwydd a'm cad­wodd yn fyw, fel y llefarodd efe, y pum mlhy­nedd a deugain hyn, er pan lefarodd yr Ar­glwydd y gair hwn wrth Moses, tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch: ac yn awr, welefi he­ddyw yn fab pum mlwydd a phedwar vgain.

11Ecclus. 6.9. Yr ydwyf etto morr gryf heddyw, a'r dydd yr anfonodd Moses fi; fel yr oedd fy nerth i y pryd hynny, felly y mae fy nerth i yn awr, i ryfela, ac i fyned allan, ac i ddyfod i mewn.

12 Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd ymma, am yr hwn y llefarodd yr Arglwydd y dwthwn hwnnw (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog) ond odid yr Arglwydd fydd gyd â mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr Arglwydd.

13 A Josuah a'i bendithiodd ef, ac a roddodd Hebron i Galeb fab Jephunneh yn etifeddiaeth.

14 Am hynnyPen. 21.12. [...] Mac. 2. [...]6. y mae Hebron yn etifeddi­aeth i Galeb fab Jephunneh y Ceneziad hyd y dydd hwn: o herwydd iddo ef gwplau myned ar ôl Arglwydd Dduw Israel.

15 Ac enwJosua. 15.13. Hebron o'r blaen oedd Caer Arba, yr Arba hwnnw oedd wr mawr ym mysc yr Anaciaid: a'r wlâd a orphywysodd heb ryfel.

PEN. XV.

1 Terfynau rhandir Juda. 13 Rhan Caleb a'i orescyniad. 16 Othniel am ei wroliaeth yn cael Achsah merch Caleb yn wraig. 18 Hithau yn cael rhodd gan ei thâd. 21 Dinasoedd Ju­dah. 63 Y Jebusiaid heb ei gorchfygu.

A Rhandir llwyth meibion Juda, yn ôl eu teuluoedd ydoedd,Num. [...]4.3. tua therfyn Edom; anialwch Num. [...].36. Zin tua 'r dehau oedd eithaf y ter­fyn dehau.

2 A therfyn y dehau oedd iddynt hwy o gwrr y môr hêli; o'r Heb, [...]afod. graig sydd yn wynebu tua 'r dehau.

3 Ac yr oedd yn myned allan o'r dehau hyd Maal­ [...]crab­ [...]. riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Zin, ac yn myned i fynu o du 'r dehau i Ca­des Barnea: ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn escyn i Adar, ac yn amgylchynu i Garcaa.

4 Ac yr oedd yn myned tuag Azmon, ac yn myned allan i afon yr Aipht, ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn dehau.

5 A'r terfyn tua 'r dwyrain yw 'r môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a'i terfyn o dû 'r gogledd sydd o graig y môr yn eithaf yr Ior­ddonen.

6 A'r terfyn hwn oedd yn myned i fynu i Beth-hogla, ac yn myned o'r gogledd hyd Beth-Arabah; a'r terfyn hwn oedd yn myned i fynu at faen Bohan mab Ruben.

7 A'r terfyn hwn sydd yn myned i fynu i Debir o ddyffryn Achor, a thua 'r gogledd yn edrych tua Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y dehau i'r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd Ensemes, a'i gwrr eithaf sydd wrth1 Bren. [...].9. En-rogel.

8 A'r terfyn sydd yn m [...]d i fynu drwy ddy­ffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du 'r dehau, honno yw Jerusalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fynu i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hynnom tua 'r gorllewin, yr hwn sydd ynghwrr glynn y cawri, tua 'r gogledd.

9 A'r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nephtoah, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Ephron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baa­lah, honno yw Ciriath-Jearim.

10 A'r terfyn sydd yn amgylchu o Baalah tua 'r gorllewin, i fynydd Seir, ac sydd yn myned rhacddo at ystlys mynydd Jearim o du 'r gogledd, (honno yw Chesalon) ac y mae yn descyn i Bethsemes, ac yn myned i Thimnah.

11 A'r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron tua 'r gogledd; a'r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhacddo i fynydd Baalah, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel: a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr.

12 A therfyn y gorllewin yw 'r môr mawr a'i derfyn: dymma derfyn meibion Juda, o amgylch wrth eu teuluoedd.

13 Ac i Galeb fab Jephunneh y rhoddodd efe ran ym mysc meibion Juda, yn ol gair yr Ar­glwydd wrth Josuah; sefNeu, Ciriath-Arba. Pen. 14.15. caer Arba tad yr Anaciaid, honno yw Hebron.

14 A Chaleb aBarn. 1.1 [...]. yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac.

15 Ac efe a aeth i fynu oddi yno at drigolion Debir: ac enw Debir o'r blaen oedd Ciriath Sepher.

16 A dywedodd Caleb, pwy bynnac a da­rawo Ciriath Sepher, ac a'i hennillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsah fy merch yn wraig.

17 Ac Othniel mab Cenaz brawd Caleb a'i hennillodd hi: yntef a roddodd Achsah ei ferch iddo ef yn wraig.

18Barn. 1.14. A phan ddaeth hi i mewn atto ef, yna hi a'i hannogodd ef i geisio gan ei thâd faes, ac a ddescynnodd oddi ar yr assyn; a dywedodd Caleb wrthi, beth a fynni di?

19 A hi a ddywedodd, dyro i mi rôdd, canys gwlâd y dehau a roddaist i mi, dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd: ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau vchaf, a'r ffynhonnau isaf.

20 Dymma etifeddiaeth llwyth meibion Juda wrth eu teuluoedd.

21 A'r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Juda, tua therfyn Edom, ar du 'r dehau, oedd­ynt Cabzeel, ac Eder, a Jagur,

22 Cinah hefyd, a Dimonah, ac Adadah,

23 Cedes hefyd, a Hazor, ac Ithnan,

24 A Ziph, a Thelem, a Bealoth,

25 A Hazor, Hadattah, a Chiriath, a Hesron▪ honno yw Hazor,

26 Ac Amam, a Sema, a Moladah,

27 A Hazar-Gadah, a Hesmon, a Bethpalet.

28 A Hasarsual, a Beer-seba, a Biziothiah.

29 Baalah, ac Jim, ac Azem,

30 Ac Eltolad, a Chesil, a Hormah,

31 A Siclag, a Madmannah, a Sansannah,

32 A Lebaoth, a Silhim, ac Ain, a Rimmon: yr holl ddinasoedd oedd naw ar hugain, a'i pen­trefydd.

33 Ac yn y dyffryn, Esthaol, a Zoreah, ac Asnah,

34 A Zanoah, ac Engannim, Tapuah, ac Enam,

35 Jarmuth, ac Adulam, Socoh, ac Azecah,

36 A Saraim, ac Adithaim, a Gederah,Neu, neu. a Gederothaim: pedair ar ddec o ddinasoedd, a'i pentrefydd.

37 Zenan, a Hadasah, a Migdal-gad,

38 A Dilean, a Mispeh, ac Joctheel,

39 Lachis, a Bozcath, ac Eglon,

40 Cabbon hefyd, a Lahman, a Chithlis,

41 A Gederoth, Beth-dagon, a Naamah, a Maccedah: vn ddinas ar bymthec a'i pentre­fydd.

42 Libnah, ac Ether, ac Asan,

43 Jiphtah, ac Asnah, a Nezib,

44 Ceilah hefyd, ac Achzib, a Maresah: naw o ddinasoedd, a'i pentrefi.

45 Ecron, a'i threfi a'i phentrefydd.

46 O Ecron hyd y môr, yr hyn oll oedd ger llaw Asdod; a'i pentrefydd.

47 Asdod a'i threfydd a'i phentrefydd, Gaza a'i threfydd a'i phentrefydd, hyd afon yr Aipht; a'r môr mawr, a'i derfyn.

48 Ac yn y mynydd-dir; Samir, a Jattir, a Socoh,

49 A Dannah, a Chirjath Sannath, honno yw Debir,

50 Ac Anab, ac Asthemoh, ac Anim,

51 A Gosen, a Holon, a Giloh: vn ddinas ar ddec a'i pentrefydd.

52 Arab, a Dumah, ac Esan,

53 ANeu, Janus. Janum, a Bethtappua, ac Aphecah,

54 A Humtah, aPen. 14.15. chaer Arba (honno yw Hebron) a Sior: naw dinas a'i trefydd.

55 Maon, Carmel, a Ziph, a Jutta,

56 A Jezrael, a Jocdeam, a Zanoah,

57 Cain, Gibea, a Thimnah: dec o ddinas­oedd a'i pentrefydd.

58 Halhul, Bethsur, a Gedor,

59 A Naarah, a Bethanoth, ac Eltecon: chwech o ddinasoedd a'i pentrefydd.

60 Ciriath Baal, honno yw Ciriath Jearim, a Rabbah: dwy ddinas a'i pentrefydd.

61 Yn yr anialwch Beth-harabah, Midin a Secacah,

62 A Nibsan, a dinas yr halen, ac Engedi: chwech o ddinasoedd a'i pentrefydd.

63 Ond ni allodd meibion Judah yrru allan y Jebusiaid trigolion Jerusalem: am hynny y trig y Jebusiaid gyd â meibion Juda yn Jerusa­lem, hyd y dydd hwn.

PEN. XVI.

1 Terfynau cyffredinawl meibion Joseph. 5 Ter­fyn etifeddiaeth Ephraim. 10 Y Canaaneaid heb eu llwyr orescyn.

A Rhandir meibion Joseph oedd yn myned o'r Iorddonen wrth Jericho, i ddyfroedd Jericho o du 'r dwyrain; i'r anialwch sydd yn myned i fynu o Jericho i fynydd Bethel;

2Barn. 1.26. Ac yn myned o Bethel i Luz: ac yn myned rhagddo i derfyn Archi i Attaroth,

3 Ac yn descyn tua 'r gorllewin i ardal Japhleti, hyd derfyn Beth-horon isaf, ac hyd Gezer: a'i gyrrau eithaf sydd hyd y môr.

4 Felly meibion Joseph; Manasseh, ac Ephra­im, a gymmerasant eu hetifeddiaeth.

5 A therfyn meibion Ephraim oedd yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt ô du 'r dwyrain, oedd Ataroth-Adar, hyd Beth­horon vchaf.

6 A'r terfyn sydd yn myned tua 'r môr, i Michmethah o du 'r gogledd, a'r terfyn sydd yn amgylchu o du 'r dwyrain i Taanath Siloh; ac yn myned heibio iddi o du 'r dwyrain i Jano­hah:

7 Ac yn myned i wared o Janohah i Ata­roth, a Naarath; ac yn cyrhaeddyd i Jericho, ac yn myned allan i'r Iorddonen.

8 O Thappuah y mae y terfyn yn myned tua 'r dwyrain i afon Canah, a'i gyrrau eithaf sydd wrth y môr: dymma etifeddiaeth llwyth meibion Ephraim yn ôl eu teuluoedd.

9 A dinasoedd nailltuedic meibion Ephraim oedd ym mysc etifeddiaeth meibion Manasseh; yr holl ddinasoedd a'i pentrefydd.

10 Ond ni orescynnasant hwy y Canaaneaid, y rhai oedd yn trigo yn Gezer: am hynny y trigodd y Canaaneaid ym mhlith yr Ephrami­aid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanae­thu tan dreth.

PEN. XVII.

1 Rhandir Manasseh, 8 a'i derfynau. 11 Y Canaaneaid heb eu gyrru allan. 14 Meibion Joseph yn cael rhandir arall.

AC yr oedd rhandir llwyth Manasseh (canys efe oedd Gen. 46.20. & 41.51. & 50.23. Num. 32.39. gyntafanedic Joseph) i Machir cyntafanedic Manasseh, tad Gilead; o herwydd ei fod efe yn rhyfelwr, yr oedd Gilead, a Basan yn eiddo ef.

2Num. 26.29. Ac yr oedd rhandir i'r rhan arall o feibi­on Manasseh, yn ôl eu teuluoedd; sef i feibion Abiezer, ac i feibion Helec, ac i feibion Asriel, ac i feibion Sichem, ac i feibion Hepher, ac i fei­bion Semida; dymma feibion Manasseh fab Jo­seph, sef y gyrfiaid, yn ôl eu teuluoedd.

3Num. 26.33. & 27.1. & 36.2. Ond Zalphaad fab Hepher, fab Gilead, fab Machir, fab Manasseh, nid oedd iddo feibion, onid merched: ac dymma enwau ei ferched ef, Mahlah, a Noah, Hoglah, Milchah, a Thir­sah:

4 Y rhai a ddaethant o flaen Eleazar yr offeiriad, ac o flaen Josuah mab Nun, ac o flaen y tywysogion, gan ddywedyd, yr Arglwydd a orchymynnodd i Moses roddi i ni etifeddiaeth ym mysc ein brodyr: am hynny efe a roddodd iddynt etifeddiaeth yn ôl gair yr Arglwydd ym mysc brodyr eu tâd.

5 A dec rhan-dir a syrthiodd i Manasseh, heb law gwlâd Gilead, a Basan, y rhai sydd tu hwnt i'r Iorddonen:

6 Canys merched Manasseh a etifeddasant etifeddiaeth ym mysc ei feibion ef: a gwlad Gilead oedd i'r rhan arall o feibion Manasseh.

7 A therfyn Manasseh oedd o Aser i Mich­methah, yr hon sydd gyferbyn a Sichem: a'r terfyn oedd yn myned ar y llaw ddehau hyd bresswyl-wyr Entappuah.

8 Gwlâd Tappuah oedd eiddo Manasseh: ond Tappuah yr hon oedd ar derfyn Manasseh oedd eiddo meibion Ephraim.

9 A'r terfyn sydd yn myned i wared i afonNeu, yr besg [...]. Canah o du dehau 'r afon; y dinasoedd hyn eiddo Ephraim oedd ym mhlith dinasoedd Manasseh: a therfyn Manasseh sydd o du 'r gog­ledd i'r afon, a'i ddiwedd oedd y môr.

10 Y dehau oedd eiddo Ephraim, a'r gog­ledd eiddo Manasseh, a'r môr oedd ei derfyn ef: ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod o'r gogledd, ac yn Issachar o'r dwyrain.

11 Yn Issachar hefyd, ac yn Aser yr oedd gan Manasseh Bethsean a'i threfydd, ac Ibleam a'i threfydd, a thrigolion Dor a'i threfydd, a thrigolion Endor a'i threfydd, a phresswyl-wŷr Thaanach a'i threfydd, a thrigolion Megido a'i threfydd: tair talaith.

12 Ond ni allodd meibion Manasseh yrru ymmaith drigolion y dinasoedd hynny; eithr mynnodd y Canaaneaid bresswylio yn y wlâd honno.

13 Etto pan gryfhaodd meibion Israel, hwy a osodasant y Canaaneaid tan drêth: ni yrrasant hwynt ymmaith yn llwyr.

14 A meibion Joseph a lefarasant wrth Jo­suah gan ddywedyd, pa ham y rhoddaist i mi [Page] yn etifeddiaeth vn afel, ac vn rhan, a minneu yn bobl aml, wedi i'r Arglwydd hyd yn hynGen. 48.19. fy mendithio?

15 A Josuah a ddywedodd wrthynt, os pobl aml ydwyt, dos i fynu i'r coed, a thorr goed it yno yngwlâd y Phereziaid a'rNeu, R [...]phai­ [...]iaid. cawri; od yw mynydd Ephraim yn gyfyng i ti.

16 A meibion Joseph a ddywedasant, ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd y mae cerbydau heirn gan yr holl Canaaneaid sy yn trigo yn y dyffryn-dir, gan y rhai sydd yn Bethsean, a'i threfi, a chan y rhai sydd yn­glynn Jezreel.

17 A Josuah a ddywedodd wrth dŷ Joseph, wrth Ephraim ac wrth Manasseh, gan ddywe­dyd, pobl aml ydwyt, a nerth mawr sydd gen­nit; ni sydd it vn rhan yn vnic.

18 Eithr bydd y mynydd eiddo ti, canys coe­doc yw, arloesa ef; a bydd ei eithafoedd ef ei­ddo ti: canys ti a yrri ymmaith y Canaaneaid, er bod cerbydau heirn ganddynt, ac er eu bod yn gryfion.

PEN. XVIII.

1 Gosod y Tabernacl i fynu yn Siloh. 2 Do­sparthu y rhan arall o'r tir, a'i gyfrannu yn saith ran. 10 Josuah yn ei rannu wrth goel­bren. 11 Rhandir a therfyn Benjamin. 21 Eu dinasoedd.

A Holl gynnulleidfa meibion Israel a ymgyn­nullasant i Siloh, ac a osodasant yno babell y cyfarfod; a'r wlâd oedd wedi ei darostwng o'i blaen hwynt.

2 A saith lwyth oedd yn aros ym mysc meibion Israel, i'r rhai ni rannasent eu heti­feddiaeth etto.

3 A Josuah a ddywedodd wrth feibion Isra­el, pa hŷd yr ydych yn esculuso myned i ore­scyn y wlâd a roddes Arglwydd Dduw eich tadau i chwi?

4 Moeswch o honoch dry-wŷr o bob llwyth, fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodont, ac y rhodiont y wlad, ac y dosparthont hi yn ôl eu hetifeddiaeth hwynt, ac y delont attaf drachefn.

5 A hwy a'i rhannant hi yn saith ran: Juda a saif ar ei derfyn o du 'r dehau, a thŷ Jo­seph a safant ar eu terfyn o du'r gogledd.

6 A chwi a ddosperthwch y wlad yn saith ran, a dygwch y dosparthiadau attafi ymma, fel y bwriwyf goel-bren trosoch yma, o flaen yr Arglwydd ein Duw.

7 Ond ni bydd rhan i'r Lefiaid yn eich mysc chwi, o herwydd offeiriadaeth yr Arglwydd fydd eu hetifeddiaeth hwynt: Gad hefyd, a Ruben, a hanner llwyth Manasseh, a dderbyni­asant eu hetifeddiaeth o'r tu hwnt i'r Iorddo­nen, o du 'r dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwâs yr Arglwydd iddynt.

8 A'r gwŷr a gyfodasant ac a aethant; a Josuah a orchymmynnodd i'r rhai oedd yn myned i rannu y wlâd, gan ddywedyd, ewch a rhodiwch drwy 'r wlâd, a dosperthwch hi, a dychwelwch attafi, ac ymma y bwriaf drosoch chwi goel-bren ger bron yr Argl­wydd yn Siloh.

9 A'r gwŷr a aethant ymaith, ac a gerdda­sant drwy 'r wlâd, ac a'i dosparthasant hi bob yn ddinas, yn saith ran, mewn llyfr; a dae­thant at Josuah i'r gwerssyll yn Siloh.

10 A Josuah a fwriodd goel-bren drostynt hwy ger bron yr Arglwydd yn Siloh: a Josuah a rannodd yno y wlâd i feibion Israel yn ôl eu rhannau.

11 A choel-bren llwyth meibion Benjamin a ddaeth i fynu yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibi­on Juda, a meibion Joseph.

12 A'r terfyn oedd iddynt hwy tua 'r go­gledd o'r Iorddonen; y terfyn hefyd oedd yn myned i fynu gan ystlys Jericho o du 'r go­gledd, ac yn myned i fynu drwy'r mynydd tua'r gorllewin, a'i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Bethasen.

13 Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi yno i Luz, gan ystlys Luz tua 'r dehau, honno yw Bethel: a'r terfyn sydd yn descyn i Ataroth Adar, i'r mynydd sydd o du 'r dwyrain i Beth-ho­ron isaf.

14 A'r terfyn sydd yn tueddu, ac yn amgyl­chu cilfach y môr tua 'r dehau, o'r mynydd sydd ar gyfer Beth-horon tua 'r dehau; a'i gyr­rau eithaf ef sydd wrth Ciriath-Baal, honno yw Ciriath-Jearim, dinas meibion Juda: dymma du y gorllewin.

15 A thu y dehau sydd o gwrr Ciriath Jea­rim; a'r terfyn sydd yn myned tua 'r gorllewin, ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Neph­toah.

16 Y terfyn hefyd sydd yn descyn tua chwrr y mynydd sydd ar gyfer glynn mab Hinnom, yr hwn sydd yn nyffryn y cawri tua 'r gogledd; ac y mae efe yn descyn i ddy­ffryn Hinnom gan ystlys y Je [...]usiaid tua 'r de­hau, ac yn dyfod i wared iEn­rogel. ffynnon Rogel.

17 Ac y mae yn tueddu o'r gogledd, ac yn myned i Ensemes, ac yn cyrhaeddyd tua Geli­loth, yr hon sydd gyferbyn a rhiw Adummim, ac yn descyn at Pen. 15.6. faen Bohan mab Ruben.

18 Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Arabah tua 'r gogledd, ac yn descynNeu, i'r gwa­stadedd. i Arabah.

19 Y terfyn hefyd sydd yn myned rhacddo i ystlys Beth-hoglah tua'r gogledd: a chwrr ei­thaf y terfyn oeddHeb. dafod. wrth lan y môr heli tua 'r gogledd, hyd gwrr yr Iorddonen tua 'r dehau: dymma derfyn y dehau.

20 Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain: dymma etifeddiaeth meibion Benjamin drwy eu terfynau o amgylch, yn ôl eu teuluoedd.

21 A dinasoedd llwyth meibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd oedd Jericho, a Beth-hoglah, a glynn Ceziz,

22 A Beth-Arabah, a Semaraim, a Beth-el,

23 Ac Asim, a Pharah, ac Ophrah,

24 A Chephar Haammonai, ac Ophni, a Ga­ba; deuddec o ddinasoedd a'i pentrefydd.

25 Gibeon, a Ramah, a Beeroth,

26 A Mispeh, a Cephirah, a Mosah,

27 A Recem, ac Irpeel, a Tharalah,

28 A Zela, Eleph, a Jebusi (honno yw Jerusa­lem) Gibeath a Chiriath, pedair ar ddeg o ddi­nasoedd, a'i pentrefydd; dymma etifeddiaeth meibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd.

PEN. XIX.

1 Rhandir Simeon, 10 Zabulon, 17 Issachar, 24 Aser, 32 Nephtali, 40 Dan, 49 Plant Is­rael yn rhoddi etifeddiaeth i Josuah.

A'R ail coel-bren a aeth allan i Simeon, dros lwyth meibion Simeon, yn ôl eu teu­luoedd: a'i hetifeddiaeth hwynt oedd o fewn etifeddiaeth meibion-Juda.

2 Ac yr oedd ganddynt hwy yn eu heti­feddiaeth, Beerseba, a Seba, a Mola­dah,

3 A Hasar-shual, a Balah, ac Asem,

4 Ac Eltolad, a Bethul, a Hormah,

5 A Ziclag, a Beth-marcaboth, a Hazarsusah,

6 A Beth-lebaoth, a Saruhen: tair dinas ar ddeg a'i pentrefydd.

7 Ain, Rimmon, ac Ether, ac Asan: pedair o ddinasoedd a'i pentrefydd.

8 A'r holl bentrefydd y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn, hyd Baalath-beer, Ramath o'r dehau: dymma etifeddiaeth llwyth meibion Si­meon, yn ôl eu teuluoedd.

9 O ran-dir meibion Juda yr oedd etifeddi­aeth meibion Simeon: canys rhan meibion Ju­da oedd ormod iddynt; am hynny meibion Si­meon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu he­tifeddiaeth hwynt.

10 A'r trydydd coel-bren a ddaeth i fynu dros feibion Zabulon, yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid.

11 A'i terfyn hwynt sydd yn myned i fynu tua 'r môr, a Maralah, ac yn cyrhaeddyd i Dabaseth: ac yn cyrheuddyd i'r afon sydd ar gyfer Jocneam.

12 Ac yn troi o Sarid o du'r dwyrain tua chysodiad haul hyd derfyn Cisloth Tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn escyn i Japhia,

13 Ac yn myned oddi yno ym mlaen tua 'r dwyrain i Gittah Hepher, i Ittah Cazin; ac yn myned allan i RimmonNeu, 'r hwn a dynnwyd. Me­thoar i Neah.

14 A'r tersyn sydd yn amgylchu o du 'r gogledd i Hanathon; a'i ddiweddiad ynglyn Jiphtahel.

15 Cattath hefyd a Nahalal, a Simron, ac Idalah, a Bethlehem: deuddeg o ddinasoedd, a'i pentrefydd.

16 Dymma etifeddiaeth meibion Zabulon, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd ymma, a'i pentrefydd.

17 Y pedwerydd coel-bren a ddaeth allan dros Issachar; dros feibion Issachar yn ôl eu reuluoedd.

18 A'i terfyn hwynt oedd tu ag Izreel, a Chesuloth, a Shunem,

19 A Hapharaim, a Sion, ac Anaharath,

20 A Rabbith, a Chision, ac Abez,

21 A Remeth, ac Engannim, ac Enhadah, a Beth-pazez.

22 A'r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor, a Shahazimah, a Bethsemes, a'i cyrrau eithaf hwynt yw 'r Iorddonen: vn dinas ar bymthec a'i pentrefydd.

23 Dymma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a'i pentrefydd.

24 A'r pummed coel-bren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd.

25 A'i terfyn hwynt oedd, Helcath, a Hali, a Beten, ac Achshaph,

26 Ac Alammelec, ac Amad, a Misal; ac yn cyrheuddyd i Carmel tua 'r gorllewin, ac i Si­hor Libnah,

27 Ac yn troi tua chyfodiad haul i Beth-da­gon, ac yn cyrhaeddyd i Zabulon, ac i ddyffryn Jiphthahel tua 'r gogledd i Beth Emec, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw asswy i Chabul,

28 A Hebron, a Rehob, a Hamon, a Chanah; hyd Sidon fawr:

29 A'r terfyn sydd yn troi i Ramah, ac hydTyrus. Zor y ddinas gadarn: a'r terfyn sydd yn troi i Hosah, a'i gyrrau eithaf sydd wrth y môr o [...]andir Achzib.

30 Vmma hefyd, ac Aphec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain a'i pentrefydd.

31 Dymma etifeddiaeth llwyth meibion Aser yn ol eu teuluoedd: y dinasoedd hyn a'i pentre­fydd.

32 Y chweched coel-bren a ddaeth allan i feibion Nephtali: dros feibion Nephtali yn ôl eu teuluoedd.

33 A'i terfyn hwy oedd o Heleph, o Alon i Zaanannim, ac Adami, Neceb, a Jabneel hyd Lacum: a'i gyrrau eithaf oedd wrth yr Ior­ddonen.

34 A'r terfyn sydd yn troi tua 'r gorllewin i Aznoth Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Zabulon o du 'r dehau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du 'r gorllewin, ac i Juda a'r Iorddonen tua chyfodiad haul.

35 A'r dinasoedd caeroc, Zidim, Zer, a Ham­math, Raccath, a Chinereth,

36 Ac Adamah, a Ramah, a Hasor,

37 A Chedes, ac Edrai, ac Enhasor,

38 Ac Iron, a Migdal-el, Horem, a Betha­nah, a Bethsemes: pedair dinas ar bymthec a'i pentrefydd.

39 Dymma etifeddiaeth llwyth meibion Nephtali yn ôl eu teuluoedd: y dinasoedd a'i pentrefydd.

40 Y seithfed coel-bren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd.

41 A therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd Sorah, ac Estaol, ac Ir Semes,

42 A Saalabbin, ac Aialon, ac Ithlah,

43 Ac Elon, a Themnatha, ac Ecron,

44 Ac Elteceh, a Gibbethon, a Baalah,

45 A Jehud, a Beneberac, a Gath-rimmon,

46 A Meiarcon, a Raccon, gyd â'r terfyn ar gyferJoppa, Act. 9. [...] Japho.

47 A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fy­chan iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fynu i ymladd yn erbyn Lesem, ac a'i hennilla­sant hi; tarawsant hefyd hi â mîn y cleddyf, a meddiannasant hi, a thrigasant ynddi, a gal­wasant LesemBarn. 18.29. yn Dan, yn ôl henw Dan eu tad.

48 Dymma etifeddiaeth llwyth meibion Dan yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd hyn a'i pentrefydd.

49 Pan orphennasant rannu y wlâd yn eti­feddiaethau yn ôl ei therfynau, meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josuah fab Nun yn eu mysc.

50 Wrth orchymyn yr Arglwydd y rhodda­sant iddo ef y ddinas a ofynnodd efe, sefPen. 24.30. Tim­nath Serah ym mynydd Ephraim: ac efe a adai­ladodd y ddinas, ac a drigodd ynddi.

51Num. 34.17. Dymma yr etifeddiaethau a roddodd Eleazar yr offeiriad, a Josuah mab Nun, a phen­nau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddi­aeth, wrth goel-bren yn Siloh, o flaen yr Ar­glwydd wrth ddrws pabell y cyfarfod: felly y gorphennasant rannu 'r wlâd.

PEN. XX.

1 Duw yn gorchymmyn, 7 a phlant Israel yn ordeinio y chwe dinas noddfa.

A Llefarodd yr Arglwydd wrth Josuah, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, gan ddy­wedyd;Ex [...] 21.13. Num. [...] 6.11. [...] Deut. 19. 2. moeswch i chwi ddinasoedd nodded, am y rhai y lleferais wrthych drwy law Moses:

3 Fel y ffo yno y llofrudd a laddo neb mewn amryfusedd neu mewn anwybod: a byddant i chwi yn noddfa rhac dialudd y gwaed.

4 A phan ffo efe i vn o'r dinasoedd hynny, a sefyll wrth ddrws porth y ddinas, a mynegi ei achosion lle y clywo henuriaid y ddinas honno; cymmerant ef attynt i'r ddinas, a rhoddant lê iddo, fel y trigo gyd â hwynt.

5 Ac os dialudd y gwaed a erlid ar ei ôl ef, na roddant y lleiddiad yn ei law ef: canys mewn anwybod y tarawodd efe ei gymmydog, ac nid oedd gâs ganddo ef o'r blaen.

6 Ac efe a drig yn y ddinas honno, nes iddo sefyll o flaen y gynnulleidfa i farn, ac Num. 35.25. nes marw yr arch-offeiriad fyddo yn y dyddiau hynny: yna dychweled y llofrudd, a deued iw ddinas ac iw dŷ ei hun, sef y ddinas yr hon y ffoesei efe o honi.

7 Am hynny y cyssegrasant Cedes yn Gali­le, ym mynydd Nephtali, a Sichem ym my­nydd Ephraim; a chaer Arbah (hon yn Hebron) ym mynydd Juda.

8 Ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o du 'r dwy­rain i Jericho y rhoddasantDeut. 4.43. 1 Cron. 6.78. Beser (yn yr anialwch ar y gwastadedd) o lwyth Ruben; a Ramoth yn Gilead o lwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasseh.

9 Y rhai hyn oedd ddinasoedd gosodedig i holl feibion Israel, ac i'r dieithr a ymdeithiei yn eu mysc hwynt, fel y ffoai pawb iddynt a'r a laddei neb mewn amryfusedd; ac na byddei marw drwy law dialudd y gwaed, nes iddo sefyll o flaen y gynnulleidfa.

PEN. XXI.

1 Rhoddi wyth ddinas a deugain i'r Lefiaid wrth goelbren, allan o'r llwythau eraill. 43 Duw yn rhoddi y wlad, a llonyddwch i'r Israeliaid, yn ol ei addewid.

YNa pennau tadau y Lefiaid a nessasant at Eleazar yr offeiriad, ac at Josuah fab Nun, ac at bennau tadau llwythau meibion Israel,

2 Ac a lefarasant wrthynt yn Siloh o fewn gwlâd Canaan, gan ddywedyd, yr Arglwydd aNum. 35.2. orchymynnodd drwy law Moses, [...]ddi i ni ddinasoedd i drigo, a'i meusydd pentrefol i'n hanifeiliaid.

3 A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid o'i hetifeddiaeth wrth orchymyn yr Arglwydd, y dinasoedd hyn a'i meusydd pentrefol.

4 A daeth y coel-bren allan dros deuluoedd y Cohathiaid: ac yr oedd i feibion Aaron yr offeiriad, y rhai oedd o'r Lefiaid, allan o lwyth Juda, ac o lwyth Simeon, ac o lwyth Benjamin, dair dinas ar ddec, wrth goel-bren.

5 Ac i'r rhan arall o feibion Cohath yr oedd o deuluoedd llwyth Ephraim, ac o lwyth Dan, ac o hanner llwyth Manasseh ddec dinas wrth goel-bren.

6 Ac i feibion Gerson yr oedd o deuluoedd llwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nephtali, ac o hanner llwyth Manasseh yn Ba­san, dair dinas ar ddec wrth goel-bren.

7 I feibion Merari wrth eu teuluoedd, yr oedd o lwyth Ruben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Zabulon, ddeuddec o ddinasoedd.

8 A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid y dinasoedd hyn, a'i meusydd pentrefol, (fel y gorchymynnasei 'r Arglwydd drwy law Moses) wrth goel-bren.

9 A hwy a roddasant o lwyth meibion Juda, ac o lwyth meibion Simeon, y dinasoedd hyn a henwir erbyn eu henwau,

10 Fel y byddent i feibion Aaron o deulu­oedd y Cohathiaid, o feibion Lefi: canys iddynt hwy 'r oedd y coel-bren cyntaf.

11 A rhoddasant iddyntNeu, Kiriath­ [...]rbah. gaer Arbah tâd Anac (honno yw Hebron) ym mynydd-dir Juda, a'i meusydd pentrefol oddi amgylch.

12 Ond maes y ddinas a'i phentrefydd, a roddasant iJos. 14.14. 1 Cron. 6.56. Galeb fab Jephunneh, yn etife­ddiaeth iddo ef.

13 Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rho­ddasant Hebron, a'i meusydd pentrefol, yn ddi­nas nodded i'r llofrudd, a Libnah a'i meusydd pentrefol,

14 A Jattir, a'i meusydd pentrefol, ac Este­moah, a'i meusydd pentrefol,

15 A Holon, a'i meusydd pentrefol, a Debir a'i meusydd pentrefol,

16 Ac Ain, a'i meusydd pentrefol, a Jutta a'i meusydd pentrefol, a Bethsemes, a'i meu­sydd pentrefol; naw dinas o'r ddau lwyth hynny.

17 Ac o lwyth Benjamin, Gibeon a'i meu­sydd pentrefol; a Geba a'i meusydd pentre­fol,

18 Anathoth a'i meusydd pentrefol, ac Almon a'i meusydd pentrefol: pedair dinas.

19 Holl ddinasoedd meibion Aaron yr offei­riaid, oedd dair dinas ar ddec, a'i meusydd pentrefol.

20 A chan deuluoedd meibion Cohath y Lefiaid, y rhan arall o feibion Cohath, yr oedd dinasoedd eu coel-bren o lwyth Ephraim.

21 A hwy a roddasant iddynt yn ddinas no­dded y lleiddiad, Sichem, a'i meusydd pen­trefol, ym mynydd Ephraim: a Gezer a'i meu­sydd pentrefol,

22 A Chibsaim a'i meusydd pentrefol, a Beth-Horon a'i meusydd pentrefol: pedair o ddi­nasoedd.

23 A o lwyth Dan, Elteceh a'i meusydd pen­trefol, Gibethon a'i meusydd pentrefol.

24 Aialon a'i meusydd pentrefol, Gath-Rim­mon a'i meusydd pentrefol: pedair o ddina­soedd.

25 Ac o hanner llwyth Manasseh, Tanach a'i meusydd pentrefol, a Gath-Rimmon a'i meu­sydd pentrefol: dwy ddinas.

26 Yr holl ddinasoedd y rhai oedd eiddo y rhan arall o deuluoedd meibion Cohath oedd ddec, a'i meusydd pentrefol.

27 Ac i feibion Gerson o deuluoedd y Lefiaid y rhoddasid o hanner arall llwyth Manasseh, yn ddinas nodded y llofrudd, Golan yn Ba­san a'i meusydd pentrefol, a Beesterah a'i meu­sydd pentrefol: dwy ddinas.

28 Ac o lwyth Issachar, Cison a'i meu­sydd pentrefol, Daberah a'i meusydd pen­trefol,

29 Jarmuth a'i meusydd pentrefol, Engan­nim a'i meusydd pentrefol: pedair dinas.

30 Ac o lwyth Aser, Misal ai meusydd pen­trefol, Abdon a'i meusydd pentrefol,

31 Helcah a'i meusydd pentrefol, a Rehob a'i meusydd pentrefol: pedair dinas.

32 Ac o lwyth Nephtali yn ddinas nodded y lleiddiad, Cedes yn Galile a'i meusydd pen­trefol, a Hammoth dor a'i meusydd pen­trefol, a Chartan a'i meusydd pentrefol: tair dinas.

33 Holl ddinasoedd y Gersoniaid, yn ol eu teuluoedd oedd dair dinas ar ddec, a'i meusydd pentrefol.

34 Ac i deuluoedd meibion Merari, y rhan arall o'r Lefiaid, y rhoddasid o lwyth Zabulon Jocneam a'i meusydd pentrefol, a Chartah a'i meusydd pentrefol,

35 Dimnah a'i meusydd pentrefol, Nahalal a'i meusydd pentrefol: pedair dinas.

36 Ac o lwyth Ruben, Beser a'i meusydd pentrefol, a Jahaza a'i meusydd pentrefol,

37 Cedemoth a'i meusydd pentrefol, Me­phaath a'i meusydd pentrefol: pedair dinas.

38 Ac o lwyth Gad yn ddinas noddfa y llo­frudd, Ramoth yn Gilead ai meusydd pentrefol, a Mahanaim, a'i meusydd pentrefol,

39 Hesbon a'i meusydd pentrefol, Jazer a'i meusydd pentrefol: pedair dinas o gwbl.

40 Holl ddinasoedd meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd (sef y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid,) oedd wrth eu coel-bren ddeuddeng­nhinas.

41 Holl ddinasoedd y Lefiaid ym meddiant meibion Israel oedd wyth dinas a deugain, a'i meusydd pentrefol.

42 Y dinasoedd hyn oedd bob vn a'i meu­sydd pentrefol o'i hamgylch: felly'r oedd yr holl ddinasoedd hyn.

43 A'r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlâd a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu ta­dau hwynt: a hwy a'i meddiannasant hi, ac a wladychasant ynddi.

44 Yr Arglwydd hefyd a roddodd lony­ddwch iddynt hwy o amgylch, yn ôl yr hyn oll a dyngasei efe wrth eu tadau hwynt: ac ni safodd neb yn eu hwyneb hwynt o'i holl elynion; ei holl elynion a roddodd yr Arglwydd yn eu dwylo hwynt.

45Josuah 23.14. Ni phallodd dim o'r holl bethau da a lefarasei 'r Arglwydd wrth dŷ Israel: daeth y cwbl i ben.

PEN. XXII.

1 Anfon y ddau lwyth a hanner adref, a'i ben­dithio. 9 Hwythau yn adailadu Allor y dy­stiolaeth ar y ffordd. 11 Yr Israeliaid yn an­foddlon iddi. 21 Hwythau yn eu boddloni hwynt yn helaeth.

YNa Josuah a alwodd y Rubeniaid, a'r Ga­diaid, a hanner llwyth Manasseh,

2 Ac a ddywedodd wrthynt, chwi a gadwa­soch yr hyn oll a orchymynnedd Moses gwâs yr Arglwydd i chwi; ac a wrandawsoch ar fy llais yn yr hyn oll a orchymynnais i chwi.

3 Ni adawsoch eich brodyr er ys llawer o ddyddiau bellach, hyd y dydd hwn, ond ca­dwasoch reol gorchymyn yr Arglwydd eich Duw.

4 Ac yn awr yr Arglwydd eich Duw a ro­ddes esmwythdra i'ch brodyr, fel y llefarodd wrthynt; yn awr gan hynny trowch, ac ewch rhagoch i'ch pebyll i wlâd eich meddiant, yr hon aNum. 32.33. Josuah 13.8. roddodd Moses gwâs yr Arglwydd i chwi, o'r tu hwnt i'r Iorddonen.

5 Yn vnic cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn, a'r gyfraith a orchymynnodd Moses gwâs yr Arglwydd i chwi, sef Deut. 10.12. caru 'r Arglwydd eich Duw, a rhodio yn ei holl ffyrdd ef, a chadw ei orchymynion ef, a glynu wytho ef, a'i wasanaethu ef â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid.

6 A Josuah a'i bendithiodd hwynt, ac a'i gollyngodd ymmaith: a hwy a aethant iw pebyll.

7 Ac i hanner llwyth Manasseh y rho­ddasei Moses etifeddiaeth yn Basan, ac i'r hanner arall y rhoddodd Josuah, gyd a'i brodyr, tu ymma 'r Iorddonen, tua 'r gorllewin; hefyd pan ollyngodd Josuah hwynt iw pebyll, yna efe a'i bendithiodd hwynt.

8 Ac efe a lefarodd wrthynt, gan ddywe­dyd, dychwelwch â chyfoeth mawr i'ch pe­byll, ag anifeiliaid lawer iawn, ag arian, ac ag aur, â phrês hefyd, ac â haiarn, ac â gwis­coedd lawer iawn: rhennwch â'ch brodyr an­rhaith eich gelynion.

9 A meibion Ruben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh a ddychwelasant, ac a aethant ymmaith oddi wrth feibion Israel o Siloh, yr hon sydd yngwlâd Canaan, i fyned i wlâd Gilead, i wlâd eu meddiant hwy, yr hon a feddiannasant wrth orchymyn yr Ar­glwydd drwy law Moses.

10 A phan ddaethant i gyffiniau 'r Ior­ddonen, y rhai sydd yngwlâd Canaan, mei­bion Ruben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh, a adailadasant yno allor, wrth yr Iorddonen, allor fawr mewn go­lwg.

11 A chlybu meibion Israel ddywedyd, wele, meibion Ruben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh, a adailadasant allor ar gyfer gwlâd Canaan, wrth derfynau 'r Iorddonen,Wrth rydle. gan ystlys meibion Israel:

12 A phan glybu meibion Israel hynny, yna holl gynnulleidfa meibion Israel a ymgynnu­llasant i Siloh, i ddyfod i fynu yn eu herbyn hwynt i ryfel.

13 A meibion Israel a anfonasant at fei­bion Ruben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasseh, i wlâd Gilead, Phinees mab Eleazar yr offeiriad,

14 A deg o dywysogion gyd ag ef, vn ty­wysog o bob tŷ pennaf drwy holl lwythau Is­rael: a phob vn oedd ben yn nhŷ eu tadau, ym mysc miloedd Israel.

15 A hwy a ddaethant at feibion Ruben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasseh, i wlâd Gilead, ac a ymddiddanasant â hwynt, gan ddywedyd,

16 Fel hyn y dywed holl gynnulleidfa 'r Arglwydd, pa gamwedd yw hwn a wnaethoch yn erbyn Duw Israel, gan ddychwelyd heddyw oddi ar ôl yr Arglwydd; pan adailadasoch i chwi allor, i wrthryfela heddyw yn erbyn yr Arglwydd?

17 Ai bychan gennym niNum. 25.4. anwiredd Peor, yr hwn nid ymlanhasom oddi wrtho etto, hyd y dydd hwn: (er bod pla ym mysc cynnulleidfa yr Arglwydd.)

18 Ond bod i chwi droi ymaith heddyw oddi ar ôl yr Arglwydd? ac am i chwi wrth­ryfela heddyw yn erbyn yr Arglwydd, efe a lidia y foru yn erbyn holl gynnulleidfa Israel.

19 Ac od yw gwlâd eich meddiant chwi yn aflan, dewch drosodd i wlad meddiant yr Arglwydd, yr hon y mae tabernacl yr Ar­glwydd yn aros ynddi, a chymmerwch feddi­ant yn ein mysc ni: ond na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac na childynnwch i'n herbyn ninnau, drwy adailadu o honoch i chwi eich hun allor, heb law allor yr Arglwydd ein Duw.

20 Oni wnaethPen. 7.1, 5. Achan mab Zerah gam­wedd o herwydd y diofryd-beth, fel y bu di­gofaint yn erbyn holl gynnulleidfa Israel? ac efe oedd vn gŵr, etto nid efe yn vnic a fu farw am ei anwiredd.

21 Yna meibion Ruben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh a attebasant, ac a [Page] lefarasant wrth bennaethiaid miloedd Israel,

22 Arglwydd Dduw y duwiau, Arglwydd Dduw y duwiau, efe sydd yn gwybod, ac Israel yntef a gaiff wybod; os mewn gwrth­ryfel, neu mewn camwedd yn erbyn yr Arglwydd y bu hyn, na wareder ni y dydd hwn.

23 Os adailadasom i ni allor i droi oddi ar ôl yr Arglwydd; neu os offrymmasom arni boeth offrwm, neu fwyd offrwm; neu os aber­thasom arni ebyrth hedd, yr Arglwydd ei hun a'i gofynno.

24 Ac onid rhac ofn y peth ymma y gwnae­thom hyn, gan ddywedyd,Heb. y farn. yn ol hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninneu, gan ddywedyd, beth sydd i chwi a wneloch ag Arglwydd Dduw Israel?

25 Canys yr Arglwydd a roddodd yr Ior­ddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi, meibion Ruben a meibion Gad, nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd: felly y gwnai eich mei­bion chwi i'n meibion ni beidio ag ofni 'r Arglwydd.

26 Am hynny y dywedasom, gan adailadu gwnawn yn awr i ni allor; nid i boethoffrwm, nac i aberth,

27 Eithr i fodGen. 31.48. Pen. 24.27. vers. 34. yn dŷst rhyngom ni a chwi, a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hôl, i gael o honom wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd ger ei fron ef, â'n poeth offrymmu ac â'n he­byrth, ac â'n offrymmau hedd: fel na ddy­wedo eich meibion chwi yn ol hyn wrth ein meibion ni, nid oes i chwi ran yn yr Ar­glwydd.

28 Am hynny y dywedasom, pan ddywe­dont hwy felly wrthym ni, neu wrth ein heppil yn ol hyn, yna y dywedwn ninneu, gwelwch lun allor yr Arglwydd, yr hon a wnaeth ein tadau ni, nid i boeth offrwm, nac i aberth, ond i fod yn dŷst rhyngom ni a chwi.

29 Na atto Duw i ni wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd, a dychwelyd heddyw oddi ar ôl yr Arglwydd, gan adailadu allor i boeth offrwm, i fwyd offrwm, neu i aberth, heb law allor yr Arglwydd ein Duw yr hon sydd ger bron ei dabernacl ef.

30 A phan glybu Phinees yr offeriad a thywysogion y gynnulleidfa, a phennaethiaid miloedd Israel, y rhai oedd gyd ag ef, y geiriau a lefarasei meibion Ruben, a meibion Gad, a meibion Manasseh, da oedd y peth yn eu go­lwg hwynt.

31 A Phinees mab Eleazar yr offeiriad a ddywedodd wrth feibion Ruben, ac wrth feibion Gad, ac wrth feibion Manasseh, he­ddyw y gwybuom fod yr Arglwydd yn ein plith, o herwydd na wnaethoch y cam­wedd hwn yn erbyn yr Arglwydd:Heb. yna. yn awr gwaredasoch feibion Israel o law 'r Ar­glwydd.

32 Am hynny y dychwelodd Phinees mab Eleazar yr offeiriad, a'r tywysogion, oddi wrth feibion Ruben, ac oddi wrth fei­bion Gad o wlâd Gilead, i wlâd Canaan at feibion Israel, ac a ddygasant trachefn air iddynt.

33 A da oedd y peth yngolwg meibi­on Israel, a meibion Israel a fendithiasant Dduw, ac ni soniasant am fyned i fynu yn eu herbyn hwynt i ryfel, i ddifetha y wlâd yr oedd meibion Ruben, a mei­bion Gad yn presswylio ynddi.

34 A meibion Ruben, a meibion Gad a al­wasant yr allorSef, Tyst. Ed: canys tŷst fydd hi rhyn­gom ni, mai 'r Arglwydd sydd Dduw.

PEN. XXIII.

1 Josuah yn annoc y bobl cyn ei farwolaeth, 3 trwy gofio bendithion o'r blaen, 5 trwy addewidion, 11 a thrwy fygythion.

A Darfu yn ôl dyddiau lawer wedi i'r Ar­glwydd roddi llonyddwch i Israel gan ei holl elynion o amgylch, i Josuah heneiddio a myned mewn dyddiau.

2 A Josuah a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu pennaethiaid, ac am eu barnwŷr, ac am eu swyddogion, ac a ddywe­dodd wrthynt, myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus,

3 Chwitheu hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i'r holl gen­hedloedd hyn er eich mwyn chwi:Exod. 14.14. canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hw [...] a ymla­ddodd trosoch.

4 Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i'ch llwythau chwi, o'r Iorddonen, a'r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymmaith hyd y môr mawr tuaHeb. machlud haul. 'r gorllewin.

5 A'r Arglwydd eich Duw a'i hymlid hwynt o'ch blaen chwi, ac a'i gyrr hwynt ymaith allan o'ch gŵydd chwi: a chwi a feddiennwch eu gwlâd hwynt, megis y dywedodd yr Ar­glwydd eich Duw wrthych.

6 Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd scrifennedic yn llyfr cyfraith Moses,Deut. 5.32. & 28.14. fel na chilioch oddi wrthynt tua 'r llaw ddehau, na thu a'r llaw asswy,

7 Ac na chyd-ymgyfeilloch â'r cenhedloedd ymma, y rhai a adawyd gyd â chwi; ac naPs. 16.4. chofioch enw eu duwiau hwynt, ac na thyng­och iddynt, na wasanaethoch hwynt y chwaith, ac nac ymgrymmoch iddynt:

8Neu, oblegid os glymwch. Onid glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn.

9Neu, yna 'r Arglwydd a yrr, &c. Canys yr Arglwydd a yrrodd allan o'ch blaen chwi genhedloedd mawrion, a nerthol: ac am danoch chwi, ni safodd neb yn eich wy­nebau chwi hyd y dydd hwn.

10Lev. 26.8. Deut. 32.30. Vn gŵr o honoch a erlid fil, canys yr Arglwydd eich Duw yw 'r hwn sydd yn ym­ladd trosoch, fel y llefarodd wrthych.

11 Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu 'r Arglwydd eich Duw.

12 Canys os gan ddychwelyd y dychw­elwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd ymma, y rhai a adawyd gyd â chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn attynt hwy, a hwyntau at­toch chwithau,

13 Gan wybod gwybyddwch na yrr yr Arglwydd eich Duw y cenhedloedd hyn mwy­ach allan o'ch blaen chwiExod. 23.33. Num. 33.55. Deut. 7.16. onid byddant i chwi yn fagl, ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o'r wlâd dda ymma, 'r hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.

14 Ac wele fi yn myned heddyw i ffordd yr holl ddaiar, a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, naPen. 1.45. pha­llodd dim o'r holl bethau daionus, a efarodd yr [Page] Arglwydd eich Duw am danoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ac ni phallodd dim o honynt.

15 Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych, felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o'r wlâd dda ymma, a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi:

16 Pan drosseddoch gyfammod yr Arglwydd eich Duw a orchymynnodd efe i chwi, a my­ned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrym­mu iddynt; yna y llidia digofaint yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd, o'r wlâd dda ymma a roddodd efe i chwi.

PEN. XXIV.

1 Josuah yn cynnull y llwythau yn Sichem. 2 Histori ferr o fendithion Duw er amser Terah. 14 Mae efe yn adnewyddu cyfammod rhyng­ddynt hwy a Duw. 26 Carrec yn dyst o'r cy­fammod. 29 Oedran Josuah, ei farwolaeth, a'i gladdedigaeth. 32 Claddu escyrn Joseph; 33 Marwolaeth Eleazar.

A Josuah a gynnullodd holl lwythau Israel i Sichem, ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu pennaethiaid, ac am eu barnwŷr, ac am eu swyddogion, a hwy a safasant ger bron Duw.

2 A dywedodd Josuah wrth yr holl bobl, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, tu hwnt ir afonGen. 11.31. Judeth. 5.7. y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Terah tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dieithr.

3 Ac mi a gymmerais eich tâd Abraham ym­maith o'r tu hwnt i'r afon, ac ai harweiniais ef drwy holl wlâd Canaan, ac a amlheais hefyd ei hâd ef, ac a roddais iddo Isaac.

4Gen 21.2. & 25.26 Ac i Isaac y rhoddais Jacob ac Esau, acGen. 36.8. i Esau y rhoddais fynydd Seir iw etifeddu;Gen. 46.6. ond Jacob a'i feibion a aethant i wared i'r Aipht.

5 Ac miExod. 3.10. a anfonais Moses ac Aaron, ac a darewais yr Aiphtiaid, yn ol yr hyn a wneu­thum yn eu mysc; ac wedi hynny y dugum chwi allan:

6Exod. 12.37. Ac a ddugum eich tadau chwi allan o'r Aipht: a chwi a ddaethoch at y môr, a'r Aiph­tiaid a erlidiodd ar ôl eich tadau â cherbydau, ac â gwŷr meirch, hyd yExod. 14.9. môr côch.

7 A phan waeddasant ar yr Arglwydd, efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a'r Aiphti­aid, ac a ddûg y môr arnynt hwy, ac a'i gorch­guddiodd, eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aipht; trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer.

8 Ac mi a'ch dygais i wlâd yr Amoriaid, y rhai oedd yn trigo o'r tu hwnt i'r Iorddonen,Num. 21.33. a hwy a ymladdasant i'ch erbyn; ac myfi a'i rhoddais hwynt yn eich llaw chwi; fel y me­ddiannasoch eu gwlâd hwynt, a minne a'i di­fethais hwynt o'ch blaen chwi.

9Num. 22.5. Deut. 23.4. Yna Balac mab Zippor brenin Moab a gyfododd, ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a anfonodd, ac a alwodd am Balaam fab Beor i'ch melldigo chwi.

10 Ond ni fynnwn i wrando ar Balaam; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi; felly y gwaredais chwi o'i law ef.

11 A chwi a aethoch tros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladd­odd i'ch erbyn, yr Amoriaid, a'r Phereziaid, a'r Canaaneaid, a'r Hethiaid; a'r Girgaziaid, yr Hefiaid a'r Jebusiaid; ac mi a'i rhoddais hwynt yn eich llaw chwi.

12Exod. 23.28. Deut. 7.20. Jos. 11.20. Ac mi a anfonais gaccwn o'ch blaen chwi, a'r rhai hynny a'i gyrrodd hwynt allan o'ch blaen chwi; sef dau frenin yr Amoriaid: nid â'th gleddyf di, ac nid â'th fwa.

13 A mi a roddais i chwi wlâd ni lafuria­soch am dani, a dinasoedd y rhai nid adailada­soch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o'r gwin­llannoedd, a'r olew-lannoedd ni phlannasoch, yr ydych yn bwytta o honynt.

14 Yn awr gan hynny, ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef, mewn perffeithrwydd, a gwirionedd, a bwriwch ymmaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o'r tu hwnt i'r afon, ac yn yr Aipht; a gwasanaethwch chwi yr Ar­glwydd.

15 Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasa­naethu 'r Arglwydd, dewiswch iwch heddyw pa vn a wasanaethoch, ai 'r duwiau a wasanae­thodd eich tadau, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r afon; ai ynte duwiau 'r Amoriaid, y rhai 'r ydych yn trigo yn eu gwlâd: ond myfi, mi a'm tŷlwyth a wasanaethwn yr Arglwydd.

16 Yna 'r attebodd y bobl, ac y dywedodd, na atto Duw i ni adel yr Arglwydd, i wasanae­thu duwiau dieithr.

17 Canys yr Arglwydd ein Duw yw 'r hwn a'n dûg ni i fynu a'n tadau o wlâd yr Aipht, o dŷ 'r caethiwed; a'r hwn a wnaeth y rhyfeddo­dau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a'n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom yn­ddi, ac ym mysc yr holl bobloedd y tramwya­som yn eu plith.

18 A'r Arglwydd a yrrodd allan yr holl bo­bloedd, a'r Amoriaid, presswylwŷr y wlâd, o'n blaen ni: am hynny ninneu a wasanaethwn yr Arglwydd, canys efe yw ein Duw ni.

19 A Josuah a ddywedodd wrth y bobl, ni ellwch wasanaethu 'r Arglwydd: canys Duw sancteiddiol yw efe: Duw eiddigus yw, ni ddio­ddef efe eich anwiredd na'ch pechodau.

20 O gwrthodwch yr Arglwydd, a gwasa­naethu duwiau dieithr;Pen. 23.15. yna efe a drŷ, ac a'ch dryga chwi, ac efe a'ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni.

21 A'r bobl a ddywedodd wrth Josuah, nagê, eithr ni a wasanaethwn yr Arglwydd.

22 A dywedodd Josuah wrth y bobl, tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis o ho­noch i chwi 'r Arglwydd iw wasanaethu, Dy­wedasant hwythau, tystion ydym.

23 Am hynny yn awr eb efe bwriwch ym­maith y duwiau dieithr sydd yn elch mysc, a gostyngwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel.

24 A'r bobl a ddywedasant wrth Josuah, yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandawn.

25 Felly Josuah a wnaeth gyfammod â'r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau, a barnedigaethau, yn Sichem.

26 A Josuah a scrifennodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Dduw, ac a gymmerth faen mawr, ac a'i gosododd i fynu yno tan dderwen oedd yn agos i gyssegr yr Arglwydd.

27 A Josuah a ddywedodd wrth yr holl bobl, wele y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau 'r Arglwydd, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhac i chwi wadu eich Duw.

28 Felly Josuah a ollyngodd y bobl, bob vn iw etifeddiaeth.

29 Ac wedi y pethau hyn y bu farw Josuah mab Nun, gwâs yr Arglwydd, yn fab deng­mlwydd a chant.

30 A hwy a'i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewnPen. 19.50. Barn. 2.9. Timnath-serah, yr hon sydd ym mynydd Ephraim, o du 'r gogledd i fynydd Gaas.

31 Ac Israel a wasanaethodd yr Arglwydd holl ddyddiau Josuah, a holl ddyddiau 'r henu­riaid Heb. efi ynna­sant eu dyddiau. a fu fyw ar ôl Josuah, ac a wybuasent holl waith yr Arglwydd, a wnaethei efe er Israel.

32 AcGen. 50.25. Exod. 13 19. escyrn Joseph, y rhai a ddyga­sei meibion Israel i fynu o'r Aipht, a gladdasant hwy yn Sichem, mewn rhan o'r maes a brynna­sei Jacob gan feibionGen. 33.19. Hemor tad Sichem, er cantNeu, o wyn. darn o arian; a bu i feibion Joseph yn etifeddiaeth.

33 Ac Eleazar mab Aaron a fu farw, a chla­ddasant ef ym mryn Phinees ei fab, yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Ephraim.

¶LLYFR Y BARN-WYR.

PEN. I.

1 Gweithredoedd Juda a Simeon. 4 Adonibe­zec yn cael talu y pwyth iddo yn union. 8 Ennill Jerusalem. 10 Ennill Hebron. 11 Othniel yn cael Achsah yn wraig, am ennill Debir. 16 Y Cene­aid yn preswylio yn Juda. 17 Ennill Hormah, Gaza, Ascalon, ac Ecron, 21 Gweithredoedd Benjamin. 22 Am dŷ Joseph, yr hwn a en­nillodd Bethel. 30 Am Zabulon, 31 Aser, 33 Nephtali, 34 a Dan.

AC wedi marw Josuah, meibion Israel aExod. 28.30. Num. 27.21. 1 Sam. 28.6. ymofynnasant a'r Arglwydd, gan ddywedyd; pwy â i fynu drosom ni yn erbyn y Canaaneaid yn flaenaf, i ymladd â hwynt?

2 A dywedodd yr Arglwydd, Juda â i fynu: wele rhoddais y wlâd yn ei law ef.

3 A Juda a ddywedodd wrth Simeon ei frawd, tyret i fynu gyd â mi i'm rhan-dir, fel yr ymladdom yn erbyn y Canaaneaid, a minneu a âf gyd â thi i'th ran-dir ditheu: felly Si­meon a aeth gyd ag ef.

4 A Juda a aeth i fynu, a'r Arglwydd a roddodd y Canaaneaid, a'r Phereziaid, yn eu llaw hwynt: a lladdasant o honynt yn Bezec, ddeng-mil o wyr.

5 A hwy a gawsant Adonibezec yn Bezec, ac a ymladdasant yn ei erbyn, ac a laddasant y Canaaneaid, a'r Phereziaid.

6 Ond Adonibezec a ffôdd, a hwy a erlidia­sant ar ei ôl ef, ac a'i daliasant ef, ac a dorra­sant fodiau ei ddwylaw ef, a'i draed.

7 Ac Adonibezec a ddywedodd, dêc a thrugain o frenhinoedd wedi torri bodiau eu dwylo, a'i traed, a fu ynNeu, [...]ffa. casclu eu bwyd dan fy mwrdd i; fel y gwneuthum, felly y talodd Duw i mi. A hwy a'i dygasant ef i Jerusalem, ac efe a fu farw yno.

8 (A meibion Juda a ymladdasant yn erbyn Jerusalem, ac a'i hennillasant hi, ac a'i tarawsant â mîn y cleddyf; a lloscasant y ddinas a thân.)

9Jos. 10. [...]6. & 11.21. & 15. [...]3. Wedi hynny meibion Juda a aethant i wared i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn y mynydd, ac yn y dehau, ac yn y gwastadedd.

10 A Juda a aeth yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn Hebron, (ac enw Hebron o'r blaen oedd Josuah [...]5.13. Caer Arba:) a hwy a laddasantNum. [...].21. Sessai, ac Ahiman, a Thalmai.

11 Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir: ac enw Debir o'r blaen oedd Ciriath­sepher.

12 A dywedodd Caleb, yr hwn a darawo Giriath sepher, ac a'i hennillo hi, mi a roddaf Achsah fy merch yn wraig iddo.

13 AcJosuah [...].17. Othniel mab Cenaz, brawd Caleb, ieuangach nag ef, a'i hennillodd hi: yntef a roddes Achsah ei ferch yn wraig iddo.

14 A phan ddaeth hi i mewn atto ef, hi a'i annogodd ef i geisio gan ei thâd ryw faes; a hi a ddescynnodd oddi ar yr assyn, a dywedodd Caleb wrthi beth a fynni di?

15 A hi a ddywedodd wrtho, dyro i mi fen­dith, canys gwlâd y dehau a roddaist i mi, dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd: a Chaleb a roddodd iddi y ffynhonnau vchaf, a'r ffyn­honnau isaf.

16 A meibion Ceni chwegrwn Moses a ae­thant i fynu o ddinas y palm-wŷdd, gyd â mei­bion Juda i anialwch Juda, yr hwn sydd yn nehau Arad, a hwy a aethant, ac a drigasant gyd a'r bobl.

17 A Juda a aeth gyd â Simeon ei frawd, a hwy a darawsant y Canaaneaid oedd yn pre­sswylio yn Sephath; ac a'i difrodasant hi, ac efe a alwodd enw 'r ddinasNum. 21.3. Hormah.

18 Juda hefyd a ennillodd Gaza, a'i ther­fynau, ac Ascalon a'i therfynau, ac Ecron a'i therfynau.

19 A'r Arglwydd oedd gyd â Juda, ac efe a orescynnodd y mynydd: ond ni allei efe yrru allan drigolion y dyffryn, canys cerbydau heiyrn oedd ganddynt.

20 Ac i Caleb y rhoesant Hebron, fel yNum. 14.24. Jos. 14.13. & 15.14. & 5.15. lle­farasei Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac.

21 Ond meibion Benjamin ni yrrasant allan y Jebusiaid, y rhai oedd yn preswylio yn Jerusa­lem: ond y mae y Jebusiaid yn trigo yn Jeru­salem, gyd â meibion Benjamin, hyd y dydd hwn.

22 A thŷ Joseph, hwythau hefyd a ae­thant i fynu yn erbyn Bethel: a'r Arglwydd oedd gyd â hwynt.

23 A thŷ-lwyth Joseph a barasant chwilio Bethel: ac enw y ddinas o'r blaen oedd Gen. 28.19. Luz.

24 A'r yspiwŷr a welsant ŵr yn dyfod allan o'r ddinas, ac a ddywedasant wrtho, dangos i ni attolwg y ffordd yr air i'r ddinas,Jos. 2.14. ac ni a wnawn drugaredd â thi.

25 A phan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i'r ddinas, hwy a darawfant y ddinas â mîn y cleddyf: ac a ollyngasant ym­maith y gŵr a'i holl deulu.

26 A'r gŵr a aeth i wlâd yr Hethiaid, ac a adailadodd ddinas, ac a alwodd ei henw Luz; dymma ei henw hi hyd y dydd hwn.

27 Ond niJo [...]. 17.11. orescynnodd Manasseh Beth­sean, na'i threfydd, na Thaanah na'i threfydd, na thrigolion Dor, na'i threfydd, na thrigo­lion Ibleam na'i threfydd, na thrigolion Megido na'i threfydd: eithr mynnodd y Ca­naaneaid breswylio yn y wlâd honno.

28 Ond pan gryfhaodd Israel, yna efe a oso­dodd y Canaaneaid tan dreth ond nis gyrrodd hwynt ymaith yn llwyr.

29Jos. 16.10. Ephraim hefyd ni yrrodd allan y Ca­naaneaid oedd yn gwladychu yn Gezer: eithr y Canaaneaid a bresswyliasant yn eu mysc hwynt yn Gezer.

30 A Zabulon ni yrrodd ymmaith drigo­lion Citron, na phresswylwyr Nahalol: eithr y Canaaneaid a wladychasant yn eu mysc hwynt, ac a aethant tan dreth.

31 Ac Aser ni yrrodd ymmaith drigolion Accho, na thrigolion Sidon, nac Ahlab, nac Achzib, na Helbah, nac Aphic, na Rehob.

32 Ond Aser a drigodd ym mysc y Canaa­neaid, trigolion y wlâd: canys ni yrrasant hwynt allan.

33 A Nephtali ni yrrodd allan bresswylwŷr Beth-semes, na thrigolion Beth-anath, eithr efe a wladychodd ym mysc y Canaaneaid, trigolion y wlâd: er hynny presswylwŷr Beth-semes a Beth-anath, oedd tan drêth iddynt.

34 A'r Amoriaid a yrrasant feibion Dan i'r mynydd: canys ni adawsant iddynt ddyfod i wared i'r dyffryn.

35 A'r Amoriaid a fynnei bresswylio ym my­nydd Heres, yn Aialon, ac yn Saalbim: etto llaw tŷ JosephHeb. a fu arwm. a orthrechodd, a'r Amoriaid fuant tan drêth iddynt.

36 A therfyn yr Amoriaid oedd oNeu, Maale Acrab­bim. riw Acrabbim, o'r graig, ac vchod.

PEN. II.

1 Angel yn ceryddu y bobl yn Bochim. 6 Dry­gioni yr oes newydd ar ol Josuah. 14 Digllo­nedd Duw a'i drugaredd tuac attynt. 20 Gadel y Canaaneaid i brofi Israel.

ACNeu, cennad. angel yr Arglwydd a ddaeth i fynu o Gilgal i Bochim, ac a ddywedodd, dugum chwi i fynu o'r Aipht, ac arweiniais chwi i'r wlâd, am yr hon y tyngais wrth eich tadau, ac a ddywedais, ni thorraf fynghyfammod â chwi byth.

2 NaDeut. 7.2. wnewch chwithau gyfammod â thrigolion y wlâd hon, ond Deut. 12.3. bwriwch i lawr eu hallorau: etto ni wrandawsoch ar fy llef; pa ham y gwnaethoch hyn?

3 Am hynny y dywedais, ni yrraf hwynt allan o'ch blaen chwi: eithr byddant i chwiJosuah 23.13. yn ddrain yn eich ystlysau, a'i duwiau fydd ynExod. 23.33. & 34 12. fagl i chwi.

4 A phan lefarodd angel yr Arglwydd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel; yna y bobl a dderchafasant eu llef, ac a ŵylasant.

5 Ac a alwasant enw y lle hwnnwHynny yw, Rhai yn wylo. Bo­chim: ac yna 'r aberthasant i'r Arglwydd.

6 A Josuah a ollyngodd y bobl ymmaith; a meibion Israel a aethant bôb vn iw etifeddi­aeth, i feddiannu y wlâd.

7 A'r bobl a wasanaethasant yr Arglwydd holl ddyddiau Josuah, a holl ddyddiau 'r henu­riaid y rhai aHeb. estynna­sant ddy­ddiau. fu fyw ar ôl Josuah, y rhai a welsent holl fawr-waith yr Arglwydd, yr hwn a wnaethei efe er Israel.

8 A bu farw Josuah mab Nun gwâs yr Arg­lwydd, yn fab deng-mlwydd a chant.

9 A hwy a'i claddasant ef yn nherfyn ei eti­feddiaeth, o fewnJosua 24.30. Timnath-Heres ym my­nydd Ephraim, o du 'r gogledd i fynydd Gaas.

10 A'r holl oes honno hefyd a gasclwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hol hwynt, y rhai nid adwaenent yr Arglwydd, na'i weithredoedd a wnaethei efe er Israel.

11 A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yngolwg yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Ba­alim:

12 Ac a wrthodasant Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a'i dygasei hwynt o wlâd yr Aipht, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o'i hamgylch, ac a ymgrymmasant iddynt, ac a ddigiasant yr Arglwydd.

13 A hwy a wrthodasant yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baal, ac Astaroth.

14 A llidiodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel, ac efe a'i rhoddodd hwynt yn llaw 'r anrheith-wŷr, y rhai a'i hanrheithiasant hwy; ac efe a'i gwerthodd hwyPsal. 44.12. Esa. 50.1. i law eu ge­lynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion.

15 I ba le bynnac yr aethant, llaw 'r Arg­lwydd oedd er drwg yn eu herbyn hwynt, fel y llefarasei 'r Arglwydd, ac fel yLeu. 26 Deut. 28. tyngasei 'r Arglwydd wrthynt hwy: a bu gyfyng iawn arnynt.

16 Etto 'r Arglwydd a gododd farn-wŷr, y rhai a'i hachubodd hwynt o law eu hanrheith­wyr.

17 Ond ni wrandawent ychwaith ar eu barn-wŷr, eithr putteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymmasant iddynt: ciliasant yn ebrw­ydd o'r ffordd y rhodiasei eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchymynion yr Arg­lwydd: ond ni wnaethant hwy felly.

18 A phan godei yr Arglwydd farn-wŷr arnynt hwy, yna 'r Arglwydd fyddei gyd â'r barn-wr, ac a'i gwaredei hwynt o law eu gely­nion holl ddyddiau y barn-wr: (canys yr Arg­lwydd a dosturiei wrth eu griddfan hwynt, rhac eu gorthrym-wŷr, a'i cystuddwŷr.)

19 A phan fyddeiPen. 3.12. farw y barn-wyr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy nâ'i ta­dau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, iw gwa­sanaethu hwynt, ac i ymgrymmu iddynt: niHeb. ni ollyn­gasant ddim i gwympo oi, &c. pheidiasant a'i gweithredoedd eu hunain, nac a'i ffordd wrthnysig.

20 A digllonedd yr Arglwydd a lidiei yn erbyn Israel, ac efe a ddywedei, o blegit i'r genhedl hon drosseddu fy nghyfammod a or­chymynnais iw tadau hwynt, ac na wrandaw­sant ar fy llais,

21 Ni chwanegaf inneu yrru ymmaith o'i blaen hwynt, neb o'r cenhedloedd a adawodd Josuah pan fu farw:

22 I brofi Israel drwyddynt hwy, a gadwent hwy ffordd yr Arglwydd gan rodio ynddi, fel y cadwodd eu tadau hwynt, neu beidio.

23 Am hynny yr Arglwydd aNeu, a oddi­fedd. adawodd y cenhedloedd hynny heb eu gyrru ymmaith yn ebrwydd, ac ni roddodd hwynt yn llaw Josuah.

PEN. III.

1 Y cenhedloedd a adawyd i brofi Israel. 6 Ac Israel wrth ymgyfeillach â hwynt yn addoli eu duwiau hwy. 8 Othniel yn eu gwaredu hwy oddiwrth Chusan-Risathaim, 12 Ehud oddi­wrth Eglon, 31 A Samgar oddiwrth y Philisti­aid.

DYmma y cenhedloedd a adawodd yr Arg­lwydd i brofi Israel drwyddynt, (sef y rhai oll ni wyddynt gwbl o ryfeloedd Canaan;

2 Yn vnic i beri i genhedlaethau meibion Israel ŵybod, iw dyscu hwynt i ryfel; y rhai yn ddiau ni wyddent hynny o'r blaen:)

3 Pum tywysog y Philistiaid, a'r holl Ganaa­neaid, a'r Sidoniaid, a'r Hefiaid, y rhai oedd [Page] yn aros ym mynydd Libanus, o fynydd Baal­hermon hyd y ffordd y deuir i Hamath.

4 A hwy a fuant i brofi Israel drwyddynt, i wybod a wrandawent hwy ar orchymynion yr Arglwydd, y rhai a orchymynnasei efe iw tadau hwynt, trwy law Moses.

5 A meibion Israel a drigasant ym mysc y Canaaneaid, yr Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd a'r Jebusiaid,

6 Ac a gymmerasant eu merched hwynt iddynt yn wragedd, ac a roddasant eu merched iw meibion hwythau, ac a wasanaethasant eu duwiau hwynt.

7 Felly meibion Israel a wnaethant ddry­gioni yngolwg yr Arglwydd, ac a anghofiasant yr Arglwydd eu Duw, ac a wasanaethasant Baa­lim, a'r llwyni.

8 Am hynny digllonedd yr Arglwydd a li­diodd yn erbyn Israel, ac efe a'i gwerthodd hwynt i law Chusan Risathaim breninHeb. Aram­naharaim. Meso­potamia: a meibion Israel a wasanaethasant Chu­san Risathaim wyth mlynedd.

9 A meibion Israel a waeddasant ar yr Ar­glwydd, a'r Arglwydd a gododd achub-ŵr i fei­bion Israel, yr hwn a'i hachubodd hwynt, sef Othniel mab Cenaz, brawd Caleb, ieuangach nag ef.

10 Ac Yspryd yr ArglwyddHeb. oedd. a ddaeth arno ef, ac efe a farnodd Israel, ac a aeth allan i ryfel, a'r Arglwydd a roddodd yn ei law ef Chusan Ri­sathaim breninHeb. Aram. Mesopotamia: a'i law ef oedd drêch nâ Chusan Risathaim.

11 A'r wlâd a gafodd lonydd ddeugain mlhy­nedd: a bu farw Othniel mab Cenaz.

12 A meibion Israel a chwanegasant wneu­thur yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arg­lwydd: a'r Arglwydd a nerthodd Eglon brenin Moab yn erbyn Israel, am iddynt wneuthur drygioni yngolwg yr Arglwydd.

13 Ac efe a gasclodd atto feibion Ammon, ac Amalec, ac a aeth, ac a darawodd Israel, a hwy a feddiannasant ddinas y palm-wŷdd.

14 Felly meibion Israel a wasanaethasant Eg­lon brenin Moab ddau naw mlhynedd.

15 Yna meibion Israel a lefasant ar yr Arg­lwydd, a'r Arglwydd a gododd achubŵr iddynt, sef Ehwd mab Gera, fab Gemini, gwrHeb. anafus oi law dde­heu. llaw-chwith: a meibion Israel a anfonasant anrheg gyd ag ef i Eglon brenin Moab.

16 Ac Ehwd a wnaeth iddo ddager ddau finiawc o gufydd ei hŷd, ac a'i gwregy­sodd tan ei ddillad, ar ei glûn ddehau.

17 Ac efe a ddug yr anrheg i Eglon brenin Moab: ac Eglon oedd ŵr tew iawn.

18 A phan ddarfu iddo ef gyflwyno 'r an­rheg; efe a ollyngodd ymmaith y bobl a ddy­gasei yr anrheg.

19 Ond efe ei hun a drôdd oddi wrth yNeu, ddelwau cerfiedic. chwarelau oedd yn Gilgal, ac a ddywedodd, y mae i mi air o gyfrinach â thi ô frenin: dywe­dodd yntef, gosteg: a'r holl rai oedd yn sefyll yn ei ymyl ef a aethant allan oddi wrtho ef.

20 Ac Ehwd a ddaeth i mewn atto ef, ac yntef oedd yn eistedd mewn stafellHeb. ymoeri. hâf, yr hon oedd iddo ef ei hunan; a dywedodd Ehwd, gair oddiwrth Dduw sydd gennif attat ti. Ac efe a gyfododd oddi ar ei orseddfa.

21 Ac Ehwd a estynnodd ei law asswy, ac a gymmerth y ddager oddi ar ei glûn ddehau, ac a'i brathodd hi yn ei botten ef.

22 A'r carn a aeth i mewn ar ôl y llafn, a'r brasder a ymgaeodd am y llath fel na allai dynnu y ddager allan o'i botten: a'r dom a ddaeth allan.

23 Yna Ehwd a aeth allan trwy 'r cyntedd, ac a gaeodd ddrysau yr ystafell arno, ac a'i cloawdd.

24 Pan aeth efe ymmaith, ei weision a ddae­thant, a phan welsant, wele fôd drysau yr ystafell yn gloiedic, hwy a ddywedasant, diauHeb. cuddio ei draed. esmwy­thau ei gorph y mae efe yn yr ystafell hâf.

25 A hwy a ddisgwiliasant nes cywilyddio o honynt; ac wele nid oedd efe yn agori dry­sau yr ystafell; yna hwy a gymmerasant agor­iad, ac a agorasant, ac wele eu harglwydd hwy wedi cwympo i lawr yn farw.

26 Ac Ehwd a ddiangodd tra fuant hwy yn aros; ac efe a aeth y tu hwnt i'r chware­lau, ac a ddiangodd i Seirah.

27 A phan ddaeth, efe a vdcanodd mewn vdcorn ym mynydd Ephraim; a meibion Israel a ddescynnasant gyd ag ef o'r mynydd, ac yntef o'i blaen hwynt.

28 Ac efe a ddywedodd wrthynt, canlyn­wch fi, canys yr Arglwydd a roddodd eich gelynion chwi, sef Moab, yn eich llaw chwi: a hwy a aethant i wared ar ei ôl ef, ac a en­nillasant rydau yr Jorddonen, tu a Moab, ac ni adawsant i neb fyned trwodd.

29 A hwy a darawsant o'r Moabiaid y pryd hynny, ynghylch deng-mil o wŷr, pawb ynHeb. freision. rymmus, a phawb yn wŷr nerthol: ac ni ddiangodd neb.

30 Felly y darostyngwyd Moab y dwthwn hwnnw tan law Israel; a'r wlâd a gafodd lo­nydd bedwar vgain mlhynedd.

31 Ac ar ei ôl ef y bu Samgar mab Anath, ac efe a darawodd o'r Philistiaid chwechan-wr agJerthi. irai ychen: yntef hefyd a waredodd Israel.

PEN. IIII.

1 Debora a Barac yn eu gwaredu hwy oddiwrth Jabin a Sisara. 18 Jael yn lladd Sisara.

A Meibion Israel a chwanegasant wneuthur drygioni yngolwg yr Arglwydd, wedi marw Ehwd.

2 A'r Arglwydd a'i gwerthodd hwynt i law Jabin brenin Canaan, yr hwn oedd yn teyrnasu yn Hazor: a thywysog ei lû ef oedd Sisara, ac efe oedd yn trigo yn Haroseth y cen­hedloedd.

3 A meibion Israel a lefasant ar yr Arg­lwydd; canys naw can cerbyd haiarn oedd ganddo ef, ac efe a orthrymmodd feibion Is­rael yn dôst, vgain mlhynedd.

4 A Debora y brophwydes gwraig Lapidoth, y hi oedd yn barnu Israel yr amser hwnnw.

5 Ac yr oedd hi yn trigo tan balm-wydden Debora, rhwng Ramah a Bethel, ym mynydd Ephraim: a meibion Israel a ddeuent i fynu atti hi am farn.

6 A hi a anfonodd, ac a alwodd am Barac fab Abinoam, o Cedes Nephtali; ac a ddywe­dodd wrtho, oni orchymynnodd Arglwydd Dduw Israel gan ddywedyd, dôs, a thyn tua mynydd Tabor; a chymmer gyd â thi ddeng­mil o wŷr, o feibion Nephtali, ac o feibion Zabulon.

7 A mi a dynnaf attat i afonPsal 83.10 Cison, Sisara tywysog llû Jabin, a'i gerbydau, a'i llaws, ac a'i rhoddaf ef yn dy law di.

8 A Barac a ddywedodd wrthi, od ai di gyd â mi, minneu a âf, ac onid ai gyd â mi, nid âf.

9 A hi a ddywedodd, gan fyned yr âf gyd â thi, etto ni bydd gogoniant i ti yn y daith [Page] yr wyt yn myned iddi, canys yn llaw gwraig y gwerth yr Arglwydd Sisara. A Debora a gy­fododd, ac a aeth gyd a Barac i Cedes.

10 A Barac a gynhullodd Zabulon, a Nephta­li i Cedes, ac a aeth i fynu a deng-mil o wŷr wrth ei draed; a Debora a aeth i fynu gyd ag ef.

11 A Heber y Cenead, o feibionNum. 10.29. Hobab chwegrwn Moses, a ymnailltuasai oddiwrth y Ceneaid, ac a ledasai ei babell hyd wastadedd Zaanaim, yr hwn sydd yn ymyl Cedes.

12 A mynegasant i Sisara fyned o Barac mab Abinoam, i fynu i fynydd Tabor.

13 A Sisara aHeb. gafclodd crwy gri. gynhullodd ei holl gerby­dau, sef naw can cerbyd haiarn, a'r holl bobl y rhai oedd gyd ag ef, o Haroseth y cenhedloedd hyd afon Cison.

14 A Debora a ddywedodd wrth Barac, cyfot, canys hwn yw 'r dydd y rhoddodd yr Arglwydd Sisara yn dy law di; onid aeth yr Arglwydd allan o'th flaen di? felly Barac a ddescynnodd o fynydd Tabor, a deng-mil o wŷr ar ei ôl.

15Psal. 83.10. A'r Arglwydd a ddrylliodd Sisara, a'i holl gerbydau, a'i holl fyddin, â mîn y cleddyf o flaen Barac: a Sisara a ddescynnodd oddi ar ei gerbyd, ac a ffôdd ar ei draed.

16 Ond Barac a erlidiodd ar ôl y cerbydau, ac ar ôl y fyddin, hyd Haroseth y cenhedlo­edd: a holl lû Sisara a syrthiodd ar fin y cle­ddyf; ni adawydHeb. Hyd yn [...]. vn o honynt.

17 Ond Sisara a ffôdd ar ei draed i babell Jael gwraig Heber y Cenead: canys yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hazor, â thŷ Heber y Cenead.

18 A Jael a aeth i gyfarfod a Sisara, ac a ddy­wedodd wrtho, trô i mewn fy arglwydd, trô i mewn attafi, nac ofna. Yna efe a drôdd atti i'r babell, a hi a'i gorchguddiodd ef â gwrth­ban.

19 Ac efe a ddywedodd wrthi, dioda fi at­tolwg ag ychydig ddwfr, canys sychedic wyf. Yna hi a agoroddPen. 5.25. gynnoc o laeth, ac a'i dio­dodd ef, ac a'i gorchguddiodd.

20 Dywedodd hefyd wrthi, saf wrth ddrws y babell; ac os daw neb i mewn, a gofyn i ti, a dywedyd, a oes ymma neb? yna dywed titheu, nac oes.

21 Yna Jael gwraig Heber a gymmerth hoel o'r babell, ac a gymmerodd forthwyl yn ei llaw, ac a aeth i mewn atto ef yn ddistaw, ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef, ac a'i gwthiodd i'r ddaiar: (canys yr oedd efe yn cyscu, ac yn lluddedic;) ac felly y bu efe farw.

22 Ac wele, a Barac yn erlid Sisara, Jael aeth iw gyfarfod ef, ac a ddywedodd wrtho, tyret, ac mi a ddangosaf i ti y gŵr yr wyt ti yn ei geisio; ac efe a ddaeth i mewn atti, ac wele Sisara yn gorwedd yn farw, a'r hoel yn ei arlais.

23 Felly y darostyngodd Duw y dwthwn hwnnw Jabin brenin Canaan, o flaen meibion Israel.

24 A llaw meibion Israel aHeb. gan fyned a a [...]th, ac a f [...] dost yn [...]rbyn Jabin. lwyddodd, ac a orchfygodd Jabin brenin Canaan; nes iddynt ddestrywio Jabin brenin Canaan.

PEN. V.

1 Cân Debora a Barac.

YNa y canodd Debora, a Barac mab Abino­am, y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd,

2 Am ddial dialeddau Israel, ac ymgym­mell o'r bobl, bendithiwch yr Arglwydd.

3 Clywch ô frenhinoedd, gwrandewch ô dywysogion; myfi, myfi a ganaf i'r Arglwydd, canaf fawl i Arglwydd Dduw Israel.

4 Oh Arglwydd pan aethost allanDeut. 4.11. o Seir, pan gerddaist o faes Edom, y ddaiar a grynodd, a'r nefoedd a ddiferasant, a'r cwmylau a ddef­nynnasant ddwfr.

5 YPsal. 97.3. mynyddoedd a doddasant o flaen yr Arglwydd, sefExod. 19.18. Sinai hwnnw o flaen Arg­lwydd Dduw Israel.

6 Yn nyddiauPen. 3.31. Samgar mab Anath, yn ny­ddiauPen. 4.18. Jael, y llwybrau aeth yn anhygyrch, a'r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion.

7 Y maes-drefi a ddarfuant yn Israel; dar­fuant nes i mi Debora gyfodi, nes i mi gyfodi yn fam yn Israel.

8 Dewisasant dduwiau newyddion; yna rhy­fel oedd yn y pyrth: a welpwyd tarian, na gwaywffon ym mysc deugain mil yn Israel?

9 Fynghalon sydd tu ag at ddeddf-wŷr Israel, y rhai fu ewyllyscar ym mhlith y bobl: ben­dithiwch yr Arglwydd.

10 Y rhai sy yn marchogaeth ar assynnod gwynion, y rhai sy yn eistedd mewn barn, ac yn rhodio ar hyd y ffordd,Neu, myfyri­wch. lleferwch.

11 Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethy­ddion yn y lleoedd y tynner dwfr, yno 'r adro­ddant gyfiawnderau 'r Arglwydd, cyfiawnderau tu ag at y trefydd yn Israel: yna pobl yr Arg­lwydd a ânt i wared i'r pyrth.

12 Deffro, deffro Debora; deffro, deffro, traetha gân: cyfot Barac, a chaethgluda dy gaethglud, ô fab Abinoam.

13 Yna y gwnaeth i'r hwn a adewir lywo­draethu ar bendefigion y bobl: yr Arglwydd a roddes i mi lywodraeth ar gedyrn.

14 O Ephraim yr oedd eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec, ar dy ôl di Benjamin, ym mysc dy bobl: y deddf-wyr a ddaeth i wared o Machir,Heb. rhai a dynnant a phin. yr scrifenyddion o Zabulon.

15 A thywysogion Issachar oedd gyd â De­bora; îe Issachar, a Barac; efe a anfonwyd ar ei draed i'r dyffryn:Neu, yn. am naillduaeth Ruben yr oedd mawr ofal calon.

16 Pa ham yr arhosaist rhwng y corlannau, i wrando brefiadau y defaid?Neu, yn. am naillduaeth Ruben yr oedd mawr ofal calon.

17 Gilead a drigodd o'r tu hwnt i'r Iorddo­nen: a pha ham yr erys Dan mewn llongau? Aser a drigodd wrthNeu, lan. borthladd y môr, ac a arhosodd ar eiNeu, aheroedd. adwyau.

18 Pobl Zabulon aHeb. ddirmy­gasant. roddes eu henioes i farw, felly Nephtali ar vchel-fannau y maes.

19 Y brenhinoedd a ddaethant, ac a ymla­ddasant, yna brenhinoedd Canaan a ymla­ddasant yn Taanach, wrth ddyfroedd Megido: ni chymmerasant elw o arian.

20 O'r nefoedd yr ymladdasant; y sêr yn euHeb. llwybrau. graddau a ymladdodd yn erbyn Sisara.

21 Afon Cison a'i hysgubodd hwynt, yr hên afon, yr afon Cison: fy enaid, ti a fethraist gadernid.

22 Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlammau, carlammau ei gryfion ef.

23 Melldigwch Meroz, (eb angel yr Arg­lwydd) gan felldigo meildigwch ei thrigolion: am na ddaethant yn gynorthwy i'r Arglwydd, yn gynorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn.

24 Bendithier Jael gwraig Heber y Cenead goruw [...]h gwragedd: bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell.

25 Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hitheu: mewn phiol ardderchog y dûg hi ymenyn.

26 Ei llaw a estynnodd hi at yr hoel, a'i llaw ddehau at forthwyl y gweithwŷr: a hi aHeb. forthwy­liodd. bwyodd Sisara, ac a dorrodd ei ben ef; gwa­nodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef.

27 Wrth ei thraed yr ymgrymmodd efe, syrthiodd, gorweddodd: wrth ei thraed yr ym­grymmodd efe, y syrthiodd; lle 'r ymgrym­modd yno y syrthiodd ynHeb. ddistry­wiedig. farw.

28 Mam Sisara a edrychodd drwy ffenestr, ac a waeddodd drwy 'r dellt, pa ham yr oeda ei gerbyd ddyfod? pa ham yr arafodd olwy­nion ei gerbydau?

29 Ei harglwyddesau doethion a'i hatteba­sant, hithe hefyd aHeb. ddych­welodd eiriau atti ei hun. attebodd iddi ei hun.

30 Oni chawsant hwy? oni rannasant yr anrhaith, llangces neu ddwy i bobHeb. pen. gŵr? anrhaith o wiscoedd symmud-liw i Sisara, an­rhaith o wniadwaith symud-liw: symud-liw o wniadwaith o'r ddautu, cymmwys i yddfau yrHeb. Anrhaith. anrhaithwyr.

31 Felly y darfyddo am dy holl elynion ô Arglwydd; a bydded y rhai a'i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A'r wlâd a gafodd lonydd ddeugain mhlynedd.

PEN. VI.

1 Midian yn gorthrymmu 'r Israeliaid am eu pechod. 8 Prophwyd yn eu ceryddu hwynt. 11 Angel yn anfon Gedeon iw gwaredu hwynt. 17 Tân yn yssu anrheg Gedeon. 24 Gedeon yn bwrw i lawr allor Baal, ac yn offrymmu aberth ar yr allor Jehova Shalom. 28 Joas yn amddiffyn ei fab, ac yn ei alw ef Jerubbaal. 33 Llu Gedeon, 36 a'i arwyddion.

A Meibion Israel a wnaethant ddrwg yngolwg yr Arglwydd: a'r Arglwydd a'i rhoddodd hwynt yn llaw Midian saith mlynedd.

2 A llaw Midian a orthrechodd Israel: a rhac y Midianiaid, meibion Israel a wnaethant iddynt y llochesau sydd yn y mynyddoedd, a'r ogfeydd, a'r amddeffynfaoedd.

3 A phan hauasai Israel, yna Midian a ddaeth i fynu, ac Amalec, a meibon y dwyrain, hwy a ddaethant i fynu yn eu herbyn hwy:

4 Ac a werssyllasant yn eu herbyn hwynt, ac a ddinistriasant gnwd y ddaiar, hyd oni ddelych i Gaza; ac ni adawsant ddim ymborth yn Isra­el, naNeu, [...]fr. dafad, nac eidion, nac assyn.

5 Canys hwy a ddaethant i fynu a'i hanifei­liaid, ac a'i pebyll, a daethant fel locustiaid o amldra, ac nid oedd rifedi arnynt hwy, nac ar eu camelod: a hwy a ddaethant i'r wlâd iw distry­wio hi.

6 Ac Israel a aeth yn dlawd iawn, o achos y Midianiaid: a meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd.

7 A phan lefodd meibion Israel ar yr Ar­glwydd, o blegit y Midianiaid,

8 Yr Arglwydd a anfonodd brophwydwr at feibion Israel, yr hwn a ddywedodd wrthynt; fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, myfi a'ch dugum chwi i fynu o'r Aipht, ac a'ch arweiniais chwi o dŷ y caethiwed,

9 Ac a'ch gwaredais chwi o law 'r Aiphtiaid, ac o law eich holl orthrym-wŷr; gyrrais hwynt allan o'ch blaen chwi, a rhoddais eu tîr hwynt i chwi;

10 A dywedais wrthych, myfi yw yr Ar­glwydd eich Duw chwi,2 Bren. 17.35. [...]er. 1 [...].2. nac ofnwch dduwiau yr Amoriaid, y rhai 'r ydych yn trigo yn eu gwlâd: ond ni wrandawsoch ar fy llais i.

11 Ac angel yr Arglwydd a ddaeth ac a eiste­ddodd tan dderwen oedd yn Ophrah, yr hon oedd eiddo Joas yr Abi-Esriad: aHebr. 11.32. Gedeon ei fab ef oedd yn dyrnu gwenith wrth y gwin­wryf,Heb. i beri iddo ddiangc. i'w guddio rhac y Midianiaid.

12 Ac angel yr Arglwydd a ymddango­sodd iddo ef, ac a ddywedodd wrtho, yr Ar­glwydd sydd gyd â thi, ŵr cadarn nerthol.

13 A Gedeon a ddywedodd wrtho, ô fy Arglwydd, od yw'r Arglwydd gyd â ni, pa ham y digwyddodd hyn oll i ni? a pha le y mae ei holl ryfeddodau ef, y rhai a fynegodd ein tadau i ni, gan ddywedyd, oni ddûg yr Arglwydd ni i fynu o'r Aipht? ond yn awr yr Arglwydd a'n gwrthododd ni, ac a'n rhoddodd i law y Midianiaid.

14 A'r Arglwydd a edrychodd arno ef, ac a ddywedodd, dos yn dy rymmusdra ymma, a thi a waredi Israel o law y Midianiaid: oni anfonais i dy di?

15 Dywedodd yntef wrtho ef, ô fy Arg­lwydd, pa fodd y gwaredaf fi Israel? wele fyHeb. mil sy waelaf. nheulu yn dlawd ym Manasseh, a minneu 'n lleiaf yn nhŷ fy nhâd.

16 A dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, diau y byddafi gyd â thi; a thi a darewi y Mi­dianiaid fel vn gŵr.

17 Ac efe a ddywedodd wrtho, o chefais yn awr ffafor yn dy olwg, gwna crofi arwydd mai ti sydd yn llefaru wrthif.

18 Na chilia attolwg oddi ymma? hyd oni ddelwyf attat, ac oni ddygwyf fyNeu, fy mwyd offrwm. anrheg a'i gosod ger dy fron: dywedodd yntef, myfi a ar­hosaf nes it ddychwelyd.

19 A Gedeon a aeth i mewn, ac a baratôdd fynn gafr, ac Epha o beillied yn fara croyw; y cig a osododd efe mewn basced, a'r iscell a oso­dodd efe mewn crochan; ac a'i dug atto ef tan y dderwen, ac a'i cyflwynodd.

20 Ac angel Duw a ddywedodd wrtho, cymmer y cîg, a'r bara croyw, a gosod ar y graig hon, a thywallt yr iscell: ac efe a wna­eth felly.

21 Yna angel yr Arglwydd a estynnodd flaen y ffon oedd yn ei law, ac a gyffyrddodd â'r cîg âc â'r bara croyw, a'r tân a dderchasodd o'r graig, ac a yssodd y cîg, a'r bara croyw: ac angel yr Arglwydd a aeth ymmaith o'i olwg ef.

22 A phan welodd Gedeon mai angel yr Arglwydd oedd efe, y dywedodd Gedeon, Och, ôh Arglwydd Dduw: o herwyddExod. 33.20. Pen. 13.22. i'm weled angel yr Arglwydd wyneb yn wyneb.

23 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, tangneddyf it, nac ofna, ni byddi farw.

24 Yna Gedeon a adailadodd yno allor i'r Arglwydd, ac a'i galwoddHynny yw, yr Argl. a roddo he­ddwch. Jehofa Shalom: hyd y dydd hwn y mae hi etto yn Ophrah eiddo 'r Abi-Esriaid.

25 A'r noson honno y dywedodd yr Arg­lwydd wrtho ef, cymmer y bustach sydd eiddo dy dâd,Neu a'r ail. sef yr ail bustach saith mlwydd oed; a bwrw i lawr allor Baal, yr hon sydd eiddo dy dâd, a thorr i lawr y llwyn sydd yn ei hym­myl hi:

26 Ac adailada allor i'r Arglwydd dy Dduw ar ben yHeb. Cadarn-le hwn. graig hon,Neu, mewn modd. yn y lle trefnus, a chymmer yr ail bustach, ac offrym­ma boeth offrwm â choed y llwyn, yr hwn a dorri di.

27 Yna Gedeon a gymmerodd ddeng­ŵr o'i weision, ac a wnaeth fel y llefarasei 'r [Page] Arglwydd wrtho: ac o herwydd ei fod yn of­ni teulu ei dâd, a gwŷr y ddinas, fel nas gallei wneuthur hyn liw dydd, efe a'i gwnaeth liw nos.

28 A phan gyfododd gwŷr y ddinas y borau, yna wele allor Baal wedi ei bwrw i lawr, a'r llwyn yr hwn oedd yn ei hymyl wedi ei dorri, a'r ail bustach wedi ei offrymmu ar yr allor a adeiladasid.

29 A dywedodd pawb wrth ei gilydd, pwy a wnaeth y peth hyn? ac wedi iddynt ymofyn a chwilio, y dywedasant, Gedeon mab Joas a wnaeth y peth hyn.

30 Yna gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Joas, dŵg allan dy fâb, fel y byddo marw: am iddo fwrw i lawr allor Baal, ac am iddo dorri y llwyn oedd yn ei hymyl hi.

31 A Joas a ddywedodd wrth y rhai oll a oeddynt yn sefyll yn ei erbyn ef, a ddadleuwch chwi dros Baal? ai chwi a'i ceidw ef? yr hwn a ddadleuo drosto ef, bydded farw y bore hwn: os Duw yw efe, dadleued drosto ei hun, am fwrw ei allor ef i lawr.

32 Ac efe a'i galwodd ef y dwthwn hwnnw Jerubbaal, gan ddywedyd, dadleued Baal drosto ei hun am fwrw ei allor i lawr.

33 Yna y Midianiaid oll, a'r Amaleciaid, a meibion y dwyrain a gasclwyd ynghyd, ac a aethant trosodd, ac a werssyllasant yn nyffryn Jezreel.

34 Ond Yspryd yr Arglwydd aHeb. wiscodd [...]. ddaeth ar Gedeon, ac efe aPen. 3.27. Num. 10.3. vdcanodd mewn vdcorn, ac Abiezer aHeb. Alwyd. aeth ar ei ôl ef.

35 Ac efe a anfonodd gennadau drwy holl Manasseh, yr hwn hefyd a'i canlynodd ef: anfonodd hefyd gennadau i Aser, ac i Zabulon, ac i Nephtali, a hwy a ddaethant i fynu iw cy­farfod hwynt.

36 A Gedeon a ddywedodd wrth Dduw, o gwaredi di Israel drwy fy llaw i, megis y llefer­aist,

37 Wele fi yn gosod cnû o wlân yn y llawr dyrnu: os gwlith y fydd ar y cnû yn vnic, a sychder ar yr holl ddaiar, yna y caf wybod y gwaredi di Israel drwy fy llaw i, fel y lleferaist.

38 Ac felly y bu; canys cyfododd yn foreu dranoeth, ac a syppiodd y cnû ynghŷd, ac a wascodd wlith o'r cnû, loneid phiol o ddwfr.

39 A Gedeon a ddywedodd wrth Dduw, na lidied dy ddigllonedd i'm herbyn,Gene. 18.32. a mi a le­faraf vnwaith etto: profaf yn awr y waith hon yn vnic drwy 'r cnû: bydded attolwg sychder ar y cnû yn vnic, ac ar yr holl ddaiar bydded gwlith.

40 A Duw a wnaeth felly y nosson honno: canys yr oedd sychder ar y cnû yn vnic, ac ar yr holl ddaiar yr oedd gwlith.

PEN. VII.

1 Dwyn llu Gedeon o ddeuddeg mil ar hugain i drychant. 9 Ei gyssuro drwy freuddwyd a deongliad y dorth haidd. 16 Ei ddyfais yng­hylch yr vdcyrn a'r lampau mewn pisserau. 24 Yr Ephraimiaid yn dal Oreb a Zeeb.

YNaPen. 8.35. Jerubbaal (hwnnw yw Gideon) a gy­fododd yn foreu, a'r holl bobl y rhai oedd gyd ag ef, ac a werssyllasant wrth ffynnon Ha­rod: a gwerssyll y Midianiaid oedd o du 'r gog­ledd iddynt, wrth fryn Moreh, yn y dyffryn.

2 A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, rhy luosog yw 'r bobl sydd gyd â thi, i mi i roddi y Midianiaid yn eu dwylo, rhac i Israel ymogoneddu i'm herbyn, gan ddywedyd, fy llaw fy hun a'm gwaredodd.

3 Am hynny yn awr, cyhoedda lle y clywo 'r bobl, gan ddywedyd,Deut. 20.8. 1 Mac. 3. 56. yr hwn sydd ofnus ac arswydus, dychweled ac ymadawed y bo­reu o fynydd Gilead: a dychwelodd o'r bobl ddwy fîl ar hugain, a deng-mil a arhosasant.

4 A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, etto y mae gormod o bobl; dŵg hwynt i wa­red at y dyfroedd, a mi a'i profaf hwynt yno i ti: ac am yr hwn y dywedwyf wrthit, hwn a â gyd â thi, eled hwnnw gyd â thi; ac am bwy bynnac y dywedwyf wrthit, hwn nid â gyd â thi, nac eled hwnnw gyd â thi.

5 Felly efe a ddygodd y bobl i wared at y dyfroedd; a dywedodd yr Arglwydd wrth Ge­deon, pob vn a leppio â'i dafod o'r dwfr fel y lleppio cî, gosot ef o'r nailltu, a phob vn a ym­grymmo ar ei liniau i yfed.

6 A rhifedi y rhai a godasant y dwfr a'i llaw at eu genau, oedd drychan-wr: a'r holl bobl er­aill a ymgrymmasant ar eu gliniau i yfed dwfr.

7 A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, drwy 'r trychan-wr a leppiasant y dwfr y gwa­redaf chwi, ac y rhoddaf y Midianiaid yn dy law di: ac eled yr holl bobl eraill bob vn iw fangre ei hun.

8 Felly y bobl a gymmerasant fwyd yn eu dwylo, a'i hudcyrn; a Gedeon a ollyngodd ym­maith holl wŷr Israel, bob vn iw babell, a'r trychan-wr a attaliodd efe: a gwerssyll y Midi­aniaid oedd oddi tanodd iddo yn y dyffryn.

9 A'r nosson honno y dywedodd yr Ar­glwydd wrtho ef, cyfot, dos i wared i'r gwer­ssyll, canys mi a'i rhoddais yn dy law di.

10 Ac od wyt yn ofni myned i wared, dos di a Phurah dy langc, i wared i'r gwerssyll:

11 A chei glywed beth a ddywedant, fel yr ymnertho wedi hynny dy ddwylo, ac yr elych i wared i'r gwerssyll: yna efe â aeth i wared, a Phurah ei langc, i gwrr yHeb. pumpiau. rhai arfogion oedd yn y gwerssyll.

12 A'r Midianiaid, a'r Amaleciaid, a hollPen. 6.33. feibion y dwyrain, oedd yn gorwedd yn y dyffryn fel locustiaid o amldra: a'i camelod oedd heb rîf fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra.

13 A phan ddaeth Gedeon, wele ŵr yn my­negi iw gyfeill freuddwyd, ac yn dywedyd, wele breuddwyd a freuddwydiais, ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i werssyll y Midiani­aid, a hi a ddaeth hyd at babell, ac a'i taraw­odd fel y syrthiodd, a hi a'i hymchwelodd fel y syrthiodd y babell.

14 A'i gyfeill a atebodd, ac a ddywedodd, nid yw hyn ddim onid cleddyf Gedeon mab Joas, gwr o Israel, Duw a roddodd Midian a'i holl fyddin yn ei law ef.

15 A phan glybu Gedeon adroddiad y breu­ddwyd, a'iHeb. dorriad. ddirnad, efe a addolodd, ac a ddychwelodd i werssyll Israel, ac a ddywedodd, cyfodwch, canys rhoddodd yr Arglwydd fyddin y Midianiaid yn eich llaw chwi.

16 Ac efe a rannodd y trychan-wr yn dair byddin, ac a roddodd vdcyrn yn llaw pawb o honynt, a phisser gwâg, aNeu, th [...]wy­nion. lampau ynghanol y pisserau.

17 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, ed­rychwch arnafi, a gwnewch yr vn ffunyd; ac wele, pan ddelwyf i gwrr y gwerssyll, yna fel y gwnelwyfi, gwnewch chwithau.

18 Pan vdcanwyfi mewn vdcorn, myfi a'r holl rai sydd gyd â mi, vdcenwch chwithau mewn vdcyrn o amgylch yr holl werssyll, a dy­wedwch, cleddyf yr Arglwydd a Gedeon.

19 Felly Gedeon a ddaeth i mewn a'r can­wr oedd gyd ag ef, i gwrr y gwerssyll, yn nechreu y wiliadwriaeth ganol, a'r gwilwŷr wedi eu newydd osod, ac a vdcanasant mewn vdcyrn, ac a ddrylliasant y pisserau oedd yn eu dwylaw.

20 A'r tair byddin a vdcanasant mewn vdcyrn, ac a ddrylliasant y pisserau, ac a ddaliasant y lampau yn eu llaw asswy, a'r vdcyrn yn ei llaw ddehau, i vdcanu: a hwy a lefasant, cleddyf yr Arglwydd a Gedeon.

21 A safasant bob vn yn ei lê, o amgylch y gwerssyll: a'r holl werssyll a redodd, ac a wae­ddodd, ac a ffôdd.

22 A'r trychant a vdcanasant ag vdcyrn,Esai. 9.4. a'r Arglwydd a osododd gleddyf pob vn yn erbyn ei gilydd, trwy yr holl werssyll: felly y gwerssyll a ffôdd hyd Beth-sittahNeu, tat. yn Zererath, hyd fin Abel Meholah hyd Tabbath.

23 A gwŷr Israel a ymgasglasant, o Neph­tali, ac o Aser, ac o holl Manasseh, ac a erlidias­ant ar ôl y Midianiaid.

24 A Gedeon a anfonodd gennadau trwy holl fynydd Ephraim, gan ddywedyd, deuwch i wared yn erbyn y Midianiaid, ac achubwch o'i blaen hwynt y dyfroedd hyd Bethbarah a'r Ior­ddonen: a holl wyr Ephraim a ymgasclasant, ac a ennillasant y dyfroedd hyd Bethbarah, a'r Iorddonen.

25 A daliasant ddau oPsal. 83.11. Esa. 10. [...]6. dywysogion Midian, Oreb a Zeeb, a lladdasant Oreb ar graig Oreb, a lladdasant Zeeb wrth wînwrŷf Zeeb, ac a erli­diasant Midian, ac a ddygasant bennau Oreb a Zeeb, at Gedeon i'r tu arall i'r Iorddonen.

PEN. VIII.

1 Gedeon yn llonyddu gwyr Ephraim. 4 Succoth a Penuel yn gwrthod porthi llu Gedeon. 10 Dala Zebah a Salmunna. 13 Dinystr Suc­coth a Penuel. 17 Gedeon yn dial marwolaeth ei frodyr ar Zebah a Salmunna, 22 yn gwrthod llywodraethu. 24 Ei Ephod ef yn achos o dde­lw-addoliaeth. 28 Gorescyn Midian. 29 Plant Gedeon a'i farwolaeth. 33 Gaudduwiaeth ac aniolchgarwch yr Israeliaid.

A Gwŷr Ephraim a ddywedasant wrtho ef,Heb. [...]a beth [...]w hyn [...] wnae­ [...]ost a [...]i? pa ham y gwnaethost y peth hyn â ni, heb alw arnom ni pan aethost i ymladd yn er­byn y Midianiaid? a hwy a'i dwrdiasantef ynHeb. [...]ryf. dôst.

2 Ac efe a ddywedodd wrthynt, beth a wneuthum i yn awr wrth a wnaethoch chwi? onid gwell yw lloffiad grawn-win Ephraim, nâ chascliad grawn-win Abiezer.

3 Duw a roddodd yn eich llaw chwi dywyso­gion Midian, Oreb a Zeeb; a pheth a allwn i ei wneuthur wrth a wnaethoch chwi? yna 'r ara­fodd euHe [...]. [...]ys [...]ryd. dig hwynt tu ag atto ef, pan lefarodd efe y gair hwn.

4 A daeth Gedeon i'r Iorddonen; ac a aeth trosti hi, efe a'r trychan-wr oedd gyd ag ef, yn ddeffygiol, ac etto vn eu herlid hwy.

5 Ac efe a ddywedodd wrth wŷr Succoth, rhoddwch attolwg dorthau o fara i'r bobl sydd i'm canlyn i: canys lluddedic ydynt hwy, a minneu yn erlid ar ôl Zebah a Salmunna, bren­hinoedd Midian.

6 A dywedodd tywysogion Succoth, a yw llaw Zebah a Salmunna 'n awr yn dy law di, fel y rhoddem ni fara i'th lû di?

7 A dywedodd Gedeon, o herwydd hynny pan roddo 'r Arglwydd Zebah a Salmunna yn fy llaw i; yna yHeb. dyrnaf. drylliaf eich cnawd chwi â drain yr anialwch, ac a mieri.

8 Ac efe a aeth i fynu oddi yno i Penuel, ac a lefarodd wrthynt hwythau yn yr vn modd: a gwŷr Penuel a'i hattebasant ef, fel yr atteba­sei gwŷr Succoth.

9 Ac efe a lefarodd hefyd wrth wŷr Penuel, gan ddywedyd, pan ddychwelwyf mewn he­ddwch mi a ddestrywiaf y tŵr ymma.

10 A Zebah a Salmunna oedd yn Carcor, a'i lluoedd gyd â hwynt, ynghylch pymtheng-mil, yr hyn oll a adawsid o holl fyddin meibion y dwyrain: canys lladdwyd cant ac vgain mîl o wŷr yn tynnu cleddyf.

11 A Gedeon a aeth i fynu ar hyd ffordd y rhai oedd yn trigo mewn pebyll, o'r tu dwy­rain i Nobah, a Jogbehah: ac efe a darawodd y fyddin: canys y fyddin oedd yscafala.

12 A Zebah a Salmunna a ffoesant, ac efe a erlidiodd ar eu hôl hwynt, ac a ddaliodd ddau frenin Midian, Zebah a Salmunna, ac a darfodd yr holl lû.

13 A Gedeon mab Joas a ddychwelodd o'r rhyfel cyn codi 'r haul.

14 Ac efe a ddaliodd langc o wŷr Succoth ac a ymofynnodd ag ef: ac yntef a scrifennodd iddo dywysogion Succoth a'i henuriaid, sef dauwr ar bymtheg a thrugain.

15 Ac efe a ddaeth at wŷr Succoth, ac a ddywedodd, wele Zebah a Salmunna; drwy y rhai y dannodasoch i mi, gan ddywedyd, a ydyw llaw Zebah a Salmunna yn awr yn dy law di, fel y rhoddem fara i'th wŷr lluddedic?

16 Ac efe a gymmerth henuriaid y ddinas, a drain yr anialwch, a miêri, ac aHeb. wnaeth & wyr Sac­adnabod. ddyscodd wŷr Succoth â hwynt.

17 Tŵr1 Bren. 12.25. Penuel hefyd a ddinistriodd efe, ac a laddodd wŷr y ddinas.

18 Yna efe a ddywedodd wrth Zebah a Sal­munna, pa fath wŷr oedd y rhai a laddasoch chwi yn Tabor? a hwy a ddywedasant, tebyg i ti, pob vn o ddull meibion brenin.

19 Ac efe a ddywedodd, fy mrodyr, meibion fy mam oeddynt hwy: fel mai byw 'r Ar­glwydd, pe gadawsech hwynt yn fyw, ni laddwn chwi.

20 Ac efe a ddywedodd wrth Jether ei gyn­tafanedic, cyfot, lladd hwynt; ond ni thynnei y llangc ei gleddyf: o herwydd efe a ofnodd, canys bachgen oedd efe etto.

21 Yna y dywedodd Zebah a Salmunna, cy­fot ti a rhuthra i ni, canys fel y byddo 'r gŵr felly y bydd ei rym. A Gedeon a gyfododd, ac a laddodd Zebah a Salmunna, ac a gymmerth yNeu, lloer-aly­sau. colêrau oedd am yddfau eu camelod hwynt.

22 A gwŷr Israel a ddywedasant wrth Gede­on, arglwyddiaetha arnom ni, tydi a'th fab, a mab dy fab hefyd: canys gwaredaist ni o law Midian.

23 A Gedeon a ddywedodd wrthynt, ni ar­glwyddiaethafi arnoch, ac ni arglwyddiaetha fy mab arnoch: eithr yr Arglwydd a arglwyddi­aetha arnoch.

24 Dywedodd Gedeon hefyd wrthynt, go­fynnaf ddymuniad gennwch, ar roddi o bob vn o honoch i mi glustdlysau ei ysglyfaeth: canys clust-dlysau aur oedd ganddynt hwy, o herwydd mal Ismaeliaid oeddynt hwy.

25 A dywedasant, gan roddi y rhoddwn hwynt: a lledasant ryw wisc, a thaflasant yno bob vn glust-dlws ei ysclyfaeth.

26 A phwys y clust-dlysau aur a ofynnasei efe, oedd fîl, a saith gant o sielau aur, heb law 'rNeu, per-dly­sau. colerau, a'r arogl-bellenau, a'r gwiscoedd [Page] porphor, y rhai oedd am frenhinoedd Midian, ac heb law y tyrch oedd am yddfau eu camelod hwynt.

27 A Gedeon a wnaeth o honynt Ephod, ac a'i gosododd yn ei ddinas ei hun Ophrah: a holl Israel a butteiniasant ar eu hôl hi yno: a bu hynny yn dramgwydd i Gedeon, ac iw dŷ.

28 Felly y darostyngwyd Midian o flaen meibion Israel, fel na chwanegasant godi eu pennau: a'r wlâd a gafodd lonydd ddeugain mhlynedd, yn nyddiau Gedeon.

29 A Jerubbaal mab Joas a aeth, ac a drigodd yn ei dŷ ei hun.

30 Ac i Gedeon yr oedd deng-mab a thru­gain a ddaetheiHeb. yn myn­ed allan o'i for­ddwyd. o'i gorph ef: canys gwragedd lawer oedd iddo ef.

31 A'i ordderch-wraig ef, yr hon oedd yn Si­chem, a ymddug hefyd iddo fab: ac efe a oso­dodd ei henw ef yn Abimelech.

32 Felly Gedeon mab Joas a fu farw mewn oedran têg, ac a gladdwyd ym meddrod Joas ei dad yn Ophrah yr Abiesriaid.

33 A phan fu farw Gedeon, yna meibion Is­rael a ddychwelasant, ac a butteiniasant ar ôl Baalim; ac a wnaethant Baal-berith yn dduw iddynt.

34 Felly meibion Israel ni chofiasant yr Ar­glwydd eu Duw, yr hwn a'i gwaredasei hwynt o law eu holl elynion o amgylch.

35 Ac ni wnaethant garedigrwydd â thŷ Je­rubbaal sef Gedeon, yn ôl yr holl ddaioni a wnaethei efe i Israel.

PEN. IX.

1 Abimelec trwy gyd-fwriadu â gwyr Sichem, a lladd ei frodyr, yn myned yn frenhin. 7 Jo­tham trwy ddammeg yn eu ceryddu, ac yn rhag fynegi eu cwymp hwy. 22 Gaal yn cyd-fwriadu a'r Sichemiaid yn ei erbyn ef. 30 Zebul yn dat­cuddio eu bwriad hwy. 34 Abimelech yn eu gorchfygu hwynt, ac yn hau y ddinas â halen, 46 Yn llosci amddiffynfa duw Berith. 50 Ei ladd yntau yn Thebez â darn o faen melin. 56 Cyflawni melldith Jotham.

AC Abimelech mab Jerubbaal a aeth i Si­chem, at frodyr ei fam, ac a ymddiddan­odd â hwynt, ac â holl dylwyth tŷ tâd ei fam, gan ddywedyd,

2 Dywedwch attolwg lle y clywo holl wŷr Sichem, pa vnHeb. fy dda. oreu i chwi ai arglwyddiaethu arnoch o ddeng-wr a thrugain, sef holl feibion Jerubbaal, ai arglwyddiaethu o vn gŵr arnoch? cofiwch hefyd mai eich ascwrn a'ch cnawd chwi ydwyfi.

3 A brodyr ei fam a ddywedasant am dano ef, lle y clybu holl wŷr Sichem, yr holl eiriau hyn, a'i calonnau hwynt a drôdd ar ôl Abime­lech, canys dywedasant ein brawd ni yw efe.

4 A rhoddasant iddo ddec a thrugain o arian o dŷ Baal-berith: ac Abimelech a gyflogodd â hwynt ofer-wŷr gwammal, y rhai a aethant ar ei ôl ef.

5 Ac efe a ddaeth i dŷ ei dad i Ophrah, ac a laddodd ei frodyr meibion Jerubbaal, y rhai oedd ddeng-wr a thrugain, ar vn garrec: ond Jotham mab ieuangaf Jerubbaal a adawyd; canys efe a ymguddiasei.

6 A holl wŷr Sichem, a holl dŷ Milo a ym­gasclasant, ac a aethant, ac a vrddasant Abime­lech yn frenin, wrthNeu, dderwen. ddyffrynJosua. 34.26. y golofn, yr hwn sydd yn Sichem.

7 A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth, ac a safodd ar'ben mynydd Garizim, ac a dderchafodd ei lêf, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, gwrandewch arnafi o wŷr Si­chem, fel y gwrandawo Duw arnoch chwithau.

8 Y prenniau gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt, a dywedasant wrth yr oliwydd­en, teyrnasa arnom ni.

9 Ond yr oliwydden a ddywedodd wrthynt, a ymadawafi â'm braster, â'r hwn drwofi 'r an­rhydeddant Dduw a dŷn, a mynedNeu, i fynu ac i wared tros. i lywod­raethu ar y prennau eraill?

10 A'r prennau a ddywedasant wrth y ffigys-bren; tyret ti, teyrnasa arnom ni.

11 Ond y ffigys-bren a ddywedodd wrthynt, a ymadawafi a'm melysdra, ac a'm ffrwyth da, ac a âfi i lywodraethu ar y prennau eraill?

12 Yna 'r prennau a ddywedasant wrth y winwydden; tyret ti, teyrnasa arnom ni.

13 A'r win-wydden a ddywedodd wrthynt hwy, a ymadawafi â'm melys-win, yr hwn sydd yn llawenhau Duw a dyn, a myned i ly­wodraethu ar y prennau eraill?

14 Yna 'r holl brenniau a ddywedasant wrth yNeu, yr yscal­en. fieren; tyret ti, teyrnasa arnom ni.

15 A'r fieren a ddywedodd wrth y prennau, os mewn gwirionedd yr enneiniwch fi yn fre­nin arnoch, dewch ac ymddiriedwch yn fynghyscod i: ac onid ê, eled tân allan o'r fieren, ac yssed gedrwydd Libanus.

16 Yn awr gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch, yn gosod Abimelech yn frenin, ac os gwnaethoch yn dda â Jerub­baal, ac a'i dŷ; ac os yn ôl haeddedigaeth ei ddwylaw y gwnaethoch iddo:

17 (Canys fy nhâd a ymladdodd drosoch chwi, ac aNeu, fwriodd anturiodd ei enioes ym mhell, ac a'ch gwaredodd chwi o law Midian:

18 A chwithau a gyfodasoch yn erbyn tŷ fy nhâd i heddyw, ac a laddasoch ei feibion ef, sef deng-wr a thrugain, ar vn garrec, ac a osoda­soch Abimelech mab ei lawforwyn ef, yn fre­nin ar wŷr Sichem, o herwydd ei fod ef yn frawd i chwi.)

19 Gan hynny os mewn gwirionedd, a phurdeb y gwnaethoch â Jerubbaal, ac â'i dŷ ef y dydd hwn; llawenychwch yn Abimelech, a llawenyched yntef ynoch chwithau.

20 Ac onid ê, eled tân allan o Abimelech, ac yssed wŷr Sichem, a thŷ Milo: hefyd eled tân allan o wŷr Sichem, ac o dŷ Milo, ac yssed Abimelech.

21 A Jotham a giliodd, ac a ffôdd, ac a aeth ymmaith i Beer, ac a drigodd yno rhac ofn Abimelech ei frawd.

22 Ac Abimelech a deyrnasodd ar Israel dair blynedd.

23 A Duw a ddanfonodd yspryd drwg rhwng Abimelech a gwŷr Sichem: a gwŷr Si­chem aethant yn anghywir i Abimelech:

24 Fel y delei y traha a wnelsid â deng-mab a thrugain Jerubbaal, ac y gosodid eu gwaed hwynt ar Abimelech eu brawd, yr hwn a'i lladdodd hwynt, ac ar wŷr Sichem, y rhaiHeb a gryf [...] ­sant ei ddwylo ef. a'i cynorthwyasant ef i ladd ei frodyr.

25 A gwŷr Sichem a osodasant iddo ef gyn­llwyn-wŷr ar ben y mynyddoedd, a hwy a ys­peiliasant bawb a'r a oedd yn tramwy heibio iddynt ar hyd y ffordd: a mynegwyd hynny i Abimelech.

26 A Gaal mab Ebed a ddaeth, ef a'i frodyr, ac a aethant trosodd i Sichem: a gwŷr Sichem a roesant eu hyder arno.

27 A hwy a aethant i'r maesydd ac a gas­clasant [Page] eu gwin-llannoedd, ac a sangasant eu grawnwin, ac a wnaethantNeu, ganeuau, yn llawen, ac a aeth­ant i mewn i dŷ eu duw, ac a fwyttasant, ac a yfasant, ac a felldithiasant Abimelech.

28 A Gaal mab Ebed a ddywedodd, pwy yw Abimelech, a phwy yw Sichem, fel y gwasanae­them ef? onid mab Jerubbaal yw efe? ond Zebul yw ei swyddog? gwasanaethwch wŷr Hamor tad Sichem: canys pa ham y gwasanaethem ni ef?

29 O na byddei 'r bobl hyn tan fy llaw i, fel y bwriwn ymmaith Abimelech. Ac efe a ddywedodd wrth Abimelech, amlhâ dy lû a thyret allan.

30 A phan glybu Zebul llywodraethwr y ddinas, eiriau Gaal mab Ebed, yHeb. poethodd. llidiodd ei ddigllonedd ef.

31 Ac efe a anfonodd gennadau at AbimelechHeb. ddichell­gar, neu, i Tormah. yn ddirgel, gan ddywedyd; wele Gaal mab Ebed a'i frodyr wedi dyfod i Sichem, ac wele hwynt yn Cadarnhau y ddinas i'th erbyn.

32 Gan hynny cyfot yn awr liw nos, ti a'r bobl sydd gyd â thi, a chynllwyn yn y maes.

33 A chyfot yn foreu ar godiad yr haul, a rhuthra yn erbyn y ddinas: ac wele pan ddelo efe a'r bobl sydd gyd ag ef, allan i'th erbyn, yna gwna iddoHeb. fel y caffo dy law. yr hyn a ellych.

34 Ac Abimelech a gyfododd, a'r holl bobl y rhai oedd gyd ag ef, liw nôs, ac a gynllwyna­sant yn erbyn Sichem, yn bedair byddin.

35 A Gaal mab Ebed a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws porth y ddinas: ac Abimelech a gyfododd, a'r bobl y rhai oedd gyd ag ef, o'r cynllwyn.

36 A phan welodd Gaal y bobl, efe a ddy­wedodd wrth Zebul, wele bobl yn dyfod i wared o ben y mynyddoedd. A dywedodd Zebul wrtho, cyscod y mynyddoedd yr ydwyt ti 'n ei weled, fel dynion.

37 A Gaal a chwanegodd etto lefaru, ac a ddywedodd, wele bobl yn dyfod i wared oHeb. fogeil. ganol y tîr, a byddin arall yn dyfod o ffordd gwastadeddNeu, ystyrwyr amser­oedd. Meonenim.

38 Yna y dywedodd Zebul wrtho ef, pa le yn awr y mae dy enau di, â'r hwn y dywedaist, pwy yw Abimelech pan wasanaethem ef? ond dymma y bobl a ddirmygaist di? dos allan at­tolwg yn awr, ac ymladd iw herbyn.

39 A Gaal a aeth allan o flaen gwŷr Sichem, ac a ymladdodd ag Abimelech.

40 Ac Abimelech a'i herlidiodd ef, ac efe a ffôdd o'i flaen ef; a llawer a gwympasant yn archolledic hyd ddrws y porth.

41 Ac Abimelech a drigodd yn Arumah: a Zebul a yrrodd ymmaith Gaal a'i frodyr, o bresswylio yn Sichem.

42 A thranoeth y daeth y bobl allan i'r maes: a mynegwyd hynny i Abimelech.

43 Ac efe a gymmerth y bobl, ac a'i rhan­nodd yn dair byddin, ac a gynllwynodd yn y maes, ac a edrychodd, ac wele y bobl wedi dy­fod allan o'r ddinas, ac efe a gyfododd yn eu herbyn, ac a'i tarawodd hwynt.

44 Ac Abimelech, a'r fyddin oedd gyd ag ef, a ruthrasant, ac a safasant wrth ddrws perth y ddinas; a'r ddwy fyddin eraill a ruthrasant ar yr holl rai oedd yn y maes, ac a'i tarawsant hwy.

45 Ac Abimelech a ymladdodd yn erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw, ac efe a enill­odd y ddinas, ac a laddodd y bobl oedd ynddi, ac a ddestrywiodd y ddinas, ac a'i hauodd â halen.

46 A phan glybu holl wŷr tŵr Sichem hyn­ny: hwy a aethant i amddeffynfa tŷ duw Be­rith.

47 A mynegwyd i Abimelech ymgasclu o holl wŷr tŵr Sichem.

48 Ac Abimelech a aeth i fynu i fynydd Zalmon, efe a'r holl bobl oedd gyd ag ef, ac Abi­melech a gymmerth fwyall yn ei law, ac a dor­rodd gangen o'r coed, ac a'i cymmerth hi, ac a'i gosododd ar ei yscwydd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd gyd ag ef, yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur, brysiwch, gwnewch fel finneu.

49 A'r holl bobl a dorrasant bob vn ei gang­en, ac a aethant ar ôl Abimelech, ac a'i goso­dasant wrth yr amddeffynfa, ac a loscasantNeu, arnynt hwy. â hwynt yr amddeffynfa â thân: felly holl wŷr tŵr Sichem a fuant feirw, yng-hylch mil o wŷr a gwragedd.

50 Yna Abimelech a aeth i Thebez, ac a wer­ssyllodd yn erbyn Tebez, ac a'i hennillodd hi.

51 Ac yr oedd tŵr cadarn ynghanol y ddi­nas, a'r holl wŷr a'r gwragedd, a'r hôll rai o'r ddinas a ffoesant yno, ac a gaeasant arnynt, ac a ddringasant ar nen y tŵr.

52 Ac Abimelech a ddaeth at y tŵr, ac a ym­laddodd yn ei erbyn, ac a nesaodd at ddrws y tŵr, iw losci ef â than.

53 A rhyw wraig2 Sam. 11.21. a daflodd ddarn o faen melin ar ben Abimelech, ac a ddrylliodd ei ben­glog ef.

54 Yna efe a alwodd yn fuan ar y llangc oedd yn dwyn ei arfau ef, ac a ddywedodd wrtho, tynn dy gleddyf a lladd fi, fel na ddywe­dant am danaf, gwraig a'i lladdodd ef: a'i langc a'i trywanodd ef, ac efe a fu farw.

55 A phan welodd gwŷr Israel farw o Abi­melech, hwy a aethant bob vn iw fangre.

56 Felly y talodd Duw ddrygioni Abime­lech, yr hwn a wnelsei efe iw dâd, gan ladd ei ddec brawd a thrugain.

57 A holl ddrygioni gwŷr Sichem a dalodd Duw ar eu pen hwynt: a melldith Jotham mab Jerubbaal a ddaeth arnynt hwy.

PEN. X.

1 Tolah yn barnu Israel yn Samir. 3 Jair a'i ddec mab ar hugain, i'r rhai yr oedd dec dinas ar hugain. 6 Y Philistiaid a'r Ammoniaid yn gorthrymmu Israel. 10 Duw yn eu cyfyngdra yn eu danfon hwy at eu gau-dduwiau. 15 Ac ar eu hedifeirwch yn tosturio wrthynt.

AC ar ôl Abimelech y cyfododd iHeb. achub. waredu Israel, Tolah, mab Puah, mab Dodo, gŵr o Issachar; ac efe oedd yn trigo yn Samir ym mynydd Ephraim.

2 Ac efe a farnodd Israel dair blynedd ar hu­gain, ac a fu farw, ac a gladdwyd yn Samir.

3 Ac ar ei ôl ef y cyfododd Jair, Gileadiad, ac efe a farnodd Israel, ddwy flynedd ar hugain.

4 Ac iddo ef yr oedd deng-mab ar hugain yn marchogaeth ar ddec ar hugain o ebolion assyn­nod, a dec dinas ar hugain oedd ganddynt: y rhai a elwydDeut. 3.14. Neu, trefl. Hauoth Jair hyd y dydd hwn, y rhai ydynt yngwlâd Gilead.

5 A Jair a fu farw, ac a gladdwyd yn Camon.

6 A meibion IsraelPen. 2.11. & 3.7 & 4.1. & 6.1. & 13.1. a chwanegasant wneu­thur yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Ar­glwydd, ac a wasanaethasant Baalim, acPen. 2.13. Astar­oth, a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid; a gwrthodasant yr Arglwydd, ac ni wasanaethasant ef.

7 A llidiodd digllonedd yr Arglwydd yn er­byn [Page] Israel, ac efe a'i gwerthodd hwynt yn llaw y Philistiaid, ac yn llaw meibion Ammon.

8 A hwy a flinasant, ac a yssigasant feibion Israel, y flwyddyn honno: tair blynedd ar bymthec, holl feibion Israel y rhai oedd tu hwynt i'r Iorddonen, yngwlâd yr Amoriaid, yr hon sydd yn Gilead.

9 A meibion Ammon a aethant trwy 'r Ior­ddonen, i ymladd hefyd yn erbyn Juda, ac yn erbyn Benjamin, ac yn erbyn tŷ Ephraim; fel y bu gyfyng iawn ar Israel.

10 A meibion Israel a lefasant ar yr Ar­glwydd, gan ddywedyd, pechasom yn dy er­byn, o herwydd gwrthod o honom ein Duw, a gwasanaethu Baalim hefyd.

11 A dywedodd yr Arglwydd wrth feibion Israel, oni waredais chwi rhac yr Aiphtiaid, a rhac yr Amoriaid, a rhac meibion Ammon, a rhac y Philistiaid?

12 Y Sidoniaid hefyd, a'r Amaleciaid, a'r Ma­oniaid a'ch gorthrymmasant chwi; a llefasoch arnaf, a minneu a'ch gwaredais chwi o'i llaw hwynt.

13 Etto chwiDeut. 32.15. Jer. 2.13. a'm gwrthodasoch i, ac a wasanaethasoch dduwiau dieithr: am hynny ni waredaf chwi mwyach.

14 Ewch, a llefwch at y duwiau a ddewisa­soch: gwaredant hwy chwi yn amser eich cy­fyngdra.

15 A meibion Israel a ddywedasant wrth yr Arglwydd, pechasom, gwna di i niHeb. yr hyn fo da'n d'olwg. fel y gwe­lych yn ddâ: etto gwared ni attolwg y dydd hwn.

16 A hwy a fwriasant ymmaith y duwiauHeb. dieithraid dieithr o'i mysc, ac a wasanaethasant yr Ar­glwydd: a'i enaid ef aHeb. gwttog­wyd. dosturiodd o her­wydd adfyd Israel.

17 Yna meibion Ammon aHeb. griwyd ynghyd. ymgynnullasant, ac a werssyllasant yn Gilead: a meibion Israel a ymgasclasant, ac a werssyllasant ym Mispah.

18 Y bobl hefyd a thywysogion Gilead a ddy­wedasant wrth ei gilydd, pa ŵr a ddechreu ymladd yn erbyn meibion Ammon? efe a fyddPen. 11.6. yn bennaeth ar drigolion Gilead.

PEN. XI.

1 Yr ammod rhwng Jephthah a gwyr Gilead, y cai efe fod yn ben arnynt. 12 Oferedd yr ymddi­ddan am heddwch rhyngddo ef a'r Ammoniaid. 29 Adduned Jephthah. 32 Jephthah yn gorchfygu yr Ammoniaid. 34 Ac yn cwplau ei adduned ar ei ferch.

AHebr. 11.32. Jephthah y Gileadiad oedd ŵr cadarn nerthol, ac efe oedd fab i wraig o buttain­wraig: a Gilead a genhedlasei y Jephthah hwn­nw.

2 A gwraig Gilead a ymddug iddo feibion: a meibion y wraig a gynnyddasant, ac a fwriasant ymmaith Jephthah, ac a ddywedasant wrtho, nid etifeddi di yn nhŷ ein tâd ni, canys mab gwraig ddieithr ydwyt ti.

3 Yna Jephthah a ffoddNeu, o wyneb. rhac ei frodyr, ac a drigodd yngwlâd Tob: a dynion ofer a ym­gasclasant at Jephthah, ac a aethant allan gyd ag ef.

4 Ac wedi talm o ddyddiau, meibion Ammon a ryfelasant yn erbyn Israel.

5 A phan oedd meibion Ammon yn rhyfela yn erbyn Israel, yna henuriaid Gilead a aethant i gyrchu Jephthah o wlâd Tob:

6 Ac a ddywedasant wrth Jephthah, tyret a bydd yn dywysog i ni fel yr ymladdom yn erbyn meibion Ammon.

7 A Jephthah a ddywedodd wrth henutiaid Gilead, oni chasasoch chwi fi, ac a'm gyrrasoch o dŷ fy nhâd: a pha ham y dewch attafi yn awr, pan yw gyfyng arnoch?

8 A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jephthah, am hynny y dychwelasom yn awr attat ti, fel y delit gyd â ni, ac yr ymladdit yn erbyn meibion Ammon, ac y byddit i ni yn ben ar holl drigolion Gilead.

9 A Jephthah a ddywedodd wrth henu­riaid Gilead, o dygwch fi yn fy ôl, i ymladd yn erbyn meibion Ammon, a rhoddi o'r Arglwydd hwynt o'm blaen i, a gâf fi fôd yn ben arnoch chwi?

10 A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jephthah, yr Arglwydd a fyddo 'nHeb. wranda­wudd. dyst rhyng­om ni, oni wnawn ni felly yn ôl dy air di.

11 Yna Jephthah a aeth gyd â henuriaid Gi­lead, a'r bobl a'i gosodasant ef yn ben, ac yn dywysog arnynt: a Jephthah a adroddodd ei holl eiriau ger bron yr Arglwydd yn Mis­pah.

12 A Jephthah a anfonodd gennadau at frenin meibion Ammon, gan ddywedyd, beth sydd i ti a wnolych â mi, fel y delit yn fy erbyn i ymladd yn fy ngwlâd i?

13 A brenin meibion Ammon a ddywedodd wrth gennadau Jephthah, oNum. 21.13. herwydd i Israel ddwyn fyngwlâd i, pan ddaeth i fynu o'r Aipht; o Arnon hyd Jabboc, a hyd yr Iorddonen: yn awr gan hynny dôd hwynt adref mewn he­ddwch.

14 A Jephthah a anfonodd drachefn genna­dau at frenin meibion Ammon,

15 Ac a ddywedodd wrtho, fel hyn y dy­wed Jephthah,Deut. 2.9. ni ddûg Israel dîr Moab, na thîr meibion Ammon.

16 Ond pan ddaeth Israel i fynu o'r Aipht, a rhodio trwy 'r anialwch, hyd y môr côch, a dyfod i Cades;

17 YnaNum. 20.14. Israel a anfonodd gennadau at frenin Edom, gan ddywedyd, gâd i mi dramwy attolwg drwy dy wlâd ti. Ond ni wrandaw­odd brenin Edom. A hwy a anfonasant hefyd at frenin Moab, ond ni fynnei yntef: felly Is­rael a arhosodd yn Cades.

18 Yna hwy a gerddasant yn yr anialwch, ac a amgylchynasant wlâd Edom a gwlâd Moab, ac a ddaethant o du codiad haul i wlâd Moab, ac a werssyllasant tu hwnt i Arnon,Num. 21.13. [...] 22.36. ac ni ddaethant o fewn terfyn Moab; canys Arnon oedd derfyn Moab.

19 Ac Israel aDeut. 2.26. anfonodd gennadau at Sehon brenin yr Amoriaid, brenin Hesbon; ac Israel a ddywedodd wrtho, gâd i ni dramwy attolwg drwy dy wlâd ti, hyd fy mangre.

20 Ond nid ymddyriedodd Sehon i Israel fyned trwy ei derfyn ef; eithr Sehon a gasclodd ei holl bobl, a hwy a werssyllasant yn Jahaz, ac efe a ymladdodd yn erbyn Israel.

21 Ac Arglwydd Dduw Israel a roddodd Sehon a'i holl bobl, yn llaw Israel, a hwy a'i tarawsant hwynt: felly Israel a feddiannodd holl wlâd yr Amoriaid, trigolion y wlâd honno.

22 Meddiannasant hefydDeut. 2.26. holl derfynau 'r Amoriaid, o Arnon hyd Jabboc, ac o'r anialwch hyd yr Iorddonen.

23 Felly yn awr, Arglwydd Dduw Israel a fwriodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel: gan hynny a'i tydi a'i meddiannit hi?

24 Oni feddienni yr hyn a roddo Chamos dy [Page] dduw i ti iw feddiannu? Felly 'r hynoll a ores­cynno 'r Arglwydd ein Duw o'n blaen ni, a fe­ddiannwn ninnau?

25 Ac yn awr, a wyt ti yn well nâNum. 22.2. Deut. 23.4. Josuah 24.9. Ba­lac mab Zippor brenin Moab? a ymrysonodd efe erioed ag Israel, neu gan ymladd a ymla­ddodd efe iw herbyn hwy?

26 Pan oedd Israel yn trigo yn Hesbon, a'i threfydd, ac yn Aroer a'i threfydd, ac yn yr holl ddinasoedd y rhai sydd wrth derfynau Ar­non, drychan-mhlynedd; paham nad achuba­soch hwynt y pryd hynny?

27 Am hynny ni phechais i yn dy erbyn di, ond yr ydwyt ti 'n gwneuthur cam âmi, gan ymladd yn fy erbyn i: yr Arglwydd farn-wr a farno heddyw, rhwng meibion Israel a mei­bion Ammon.

28 Er hynny ni wrandawodd brenin mei­bion Ammon ar eiriau Jephthah, y rhai a an­fonodd efe atto.

29 Yna y daeth Yspryd yr Arglwydd ar Jephthah, ac efe a aeth tros Gilead, a Manas­seh; ac a aeth tros Mispah Gilead, ac o Mispah Gilead yr aeth efe trosodd at feibion Ammon.

30 A Jephthah a addunedodd adduned i'r Arglwydd, ac a ddywedodd, os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i,

31 Yna 'rHeb. yr hyn a ddelo allan a ddaw allan. hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i'm cyfarfod, pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon, a fydd eiddo 'r Arglwydd, a mi a'i hoffrymmaf ef yn boeth offrwm.

32 Felly Jephthah a aeth trosodd at fei­bion Ammon i ymladd yn eu herbyn, a'r Arglwydd a'i rhoddodd hwynt yn ei law ef.

33 Ac efe a'i tarawodd hwynt o Aroer hyd oni ddelych di i Mennith, sef vgain dinas, a hydNeu, Abel. wastadedd y gwinllannoedd, â lladdfa fawr iawn: felly y darostyngwyd meibion Ammon o flaen meibion Israel.

34 A Jephthah a ddaeth i Mispah iw dŷ ei hun, ac wele ei ferch yn dyfod allan iw gyfarfod â thympanau, ac â dawnsiau, a hi oedd ei vnic etifedd ef; nid oedd ganddoNeu, o'r eiddo ei hun, na mab, na merch. Heb. o ho­no ei hun. na mâb na merch ond y hi.

35 A phan welodd efe hi, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ddywedodd, ahah fy merch, gan ddarostwng y darostyngaist fi, ti hefyd wyt vn o'r rhai sydd yn fy molestu; canys myfi a agorais fyngenau wrth yr Arglwydd, ac ni allaf gilio.

36 A hi a ddywedodd wrtho, fy nhad, od agoraist dy enau wrth yr Arglwydd, gwna i mi yn ôl yr hyn a aeth allan o'th enau; gan i'r Arglwydd wneuthur trosot ti ddialedd ar dy elynion, meibion Ammon.

37 Hi a ddywedodd hefyd wrth ei thâd, gwneler i mi y peth hyn; paid â mi ddau fîs fel yr elwyfHeb. a myned i wared. i fynu ac i wared ar y mynyddoedd, ac yr ŵylwyf o herwydd fy morwyndod, mi a'm cyfeillesau.

38 Ac efe a ddywedodd, dôs. Ac efe a'i gollyngodd hi tros ddau fis. A hi a aeth a'i chyfeillesau, ac a ŵylodd o herwydd ei mor­wyndod ar y mynyddoedd.

39 Ac ym mhen y ddau fîs, hi a ddych­welodd at ei thad, ac efe a wnaeth â hi 'r adduned a addunasei efe: a hi ni adnabuasei ŵr; a bu hyn yn ddefod yn Israel,

40 Fyned o ferched IsraelHeb. o flwyddyn i flwy­ddyn. bôb blwyddyn iNeu, ymddi­ddan a merch. alaru am ferch Jephthah y Gileadiad, bed­war diwrnod yn y flwyddyn.

PEN. XII.

1 Yr Ephraimiaid yn cwerylu â Jephthah, a gwyr Gilead yn eu lladd hwynt, ac yn eu hadnabod wrth y gair Shibboleth. 7 Mar­wolaeth Jephthah. 8 Ibsan a'i ddec mâb ar hugain, a'i ddec merch ar hugain, 11 ac Elon, 13 ac Abdon a'i ddeugain mab a'i ddeg ŵyr ar hugain.

A Gwŷr Ephraim aHeb. alwyd ynghyd. ymgasclasant, ac a ae­thant tua 'r gogledd, ac a ddywedasant wrth Jephthah, pa ham yr aethost ti drosodd i ymladd yn erbyn meibion Ammon, ac na el­waist arnom ni i fyned gyd â thi? dy dŷ di a loscwn ni am dy ben â thân.

2 A Jephthah a ddywedodd wrthynt hwy, myfi a'm pobl oeddem yn ymryson yn dôst yn erbyn meibion Ammon: ac mi a'ch gel­wais chwi, ond ni waredasoch fi o'i llaw hwynt.

3 A phan welais i nad oeddych yn fy achub, mi a osodais fy enioes yn fy llaw, ac a euthym yn erbyn meibion Ammon, a'r Argl­wydd a'i rhoddodd hwynt yn fy llaw i: pa ham gan hynny y daethoch i fynu attafi y dydd hwn, i ymladd i'm herbyn?

4 Yna Jephthah a gasclodd ynghŷd holl wŷr Gilead, ac a ymladdodd ag Ephraim: a gwŷr Gilead a darawsant Ephraim, am ddywedyd o honynt hwy, ffoaduriaid Ephraim ym mysc yr Ephraimiaid, ac ym mysc Manasseh ydych chwi y Gileadiaid.

5 A'r Gileadiaid a ennillasant rydau 'r Ior­ddonen o flaen yr Ephraimiaid; a phan ddy­wedei yr Ephraimiaid a ddiangasent, gedwch i mi fyned trwodd, yna gwŷr Gilead a ddywe­dent wrtho, ai Ephratead ydwyt ti? os dywedel yntef, nagê,

6 Yna y dywedent wrtho, dywet yn awr Shibboleth; dywedei yntef Sibboleth: canys ni fedre efe lefaru felly. Yna y dalient ef, ac y lladdent ef wrth rydau 'r Iorddonen: a chwym­podd y pryd hynny o Ephraim, ddwy fil a deugain.

7 A Jephthah a farnodd Israel chwe blynedd; yna y bu farw Jephthah y Gileadiad, ac a gla­ddwyd yn vn o ddinasoedd Gilead.

8 Ac ar ei ôl ef Ibsan o Bethlehem a farnodd Israel.

9 Ac iddo ef yr oedd dengmab ar hugain, a deng-merch ar hugain, y rhai a anfonodd efe allan, a deng-merch ar hugain a ddûg efe iw feibion oddi allan: ac efe a farnodd Israel saith mlynedd.

10 Yna y bu farw Ibsan, ac a gladdwyd yn Bethlehem.

11 Ac ar ei ôl ef Elon y Zabuloniad a farnodd Israel; ac efe a farnodd Israel ddeng mlhynedd.

12 Ac Elon y Zabuloniad a fu farw, ac a gladdwyd yn Aialon yngwlâd Zabulon.

13 Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad, a farnodd Israel ar ei ôl ef.

14 Ac iddo ef yr oedd deugain o feibion, a dec ar hugain o ŵyrion, yn marchogaeth ar ddec a thrugain o ebolion assynnod: ac efe a farnodd Israel wyth mlynedd.

15 Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a fu farw; ac a gladdwyd yn Pirathon, yngwlad Ephraim, ym mynydd yr Amaleciaid.

PEN. XIII.

1 Israel yn llaw y Philistiaid. 2 Angel yn ymddangos i wraig Manoah, 8 ac we­di hynny i Manoah. 15 Offrwm Manoah, ac adnabod yr Angel. 24 Ganedigaeth Samson.

A Meibion Israel aPen. 2.11. & 3.7. & 4.1. & 6.1. & 10.6. chwanegasant wneu­thur yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Ar­glwydd: a'r Arglwydd a'i rhoddodd hwynt yn llaw y Philistiaid, ddeugain mlhynedd.

2 Ac yr oedd rhyw ŵr yn Zorah, o dylwyth y Daniaid, a'i enw ef oedd Manoah, a'i wraig ef oedd amhlantadwy, heb escor.

3 Ac Angel yr Arglwydd a ymddangosodd i'r wraig, ac a ddywedodd wrthi, wele yn awr amhlantadwy ydwyt ti, ac heb escor: ond ti a feichiogi, ac a escori ar fab.

4 Ac yn awrNum. 6.2, 3. attolwg ymochel, ac nac ŷf wîn, na diod gadarn; ac na fwytta ddim aflan.

5 Canys wele, ti a feichiogi, ac a escori ar fab, acNum. 6.5. 1 Sam. 1.11. ni ddaw ellyn ar ei ben ef; canys Na­zaread i Dduw fydd y bachgen o'r grôth: ac efe a ddechreu waredu Israel o law y Phi­listiaid.

6 Yna y daeth y wraig, ac a fynegodd iw gŵr, gan ddywedyd, gŵr Duw a ddaeth at­tafi, a'i brŷd ef oedd fel prŷd angel Duw, yn ofnadwy iawn: ond ni ofynnais iddo o ba le yr oedd, ac ni fynegodd yntef i mi ei henw.

7 Ond efe a ddywedodd wrthif, wele, ti a feichiogi ac a escori ar fab; ac yn awr, nac ŷf wîn na diod gadarn, ac na fwytta ddim aflan: canys Nazaread i Dduw fydd y bachgen, o'r grôth hyd ddydd ei farwolaeth.

8 Yna Manoah a weddiodd ar yr Arglwydd, gâd i ŵr Duw 'r hwn a anfonaist ddyfod eil­waith attom ni, a dyscu i ni beth a wnelom i'r bachgen a enir.

9 A Duw a wrandawodd ar lef Manoah; ac angel Duw a ddaeth eilwaith at y wraig a hi yn eistedd yn y maes; ond Manoah ei gŵr nid oedd gyd â hi.

10 A'r wraig a fryssiodd, ac a redodd, ac a fynegodd iw gŵr, ac a ddywedodd wrtho; wele, ymddangosodd y gŵr i mi, yr hwn a ddaeth attafi y dydd arall.

11 A Manoah a gyfododd, ac a aeth ar ôl ei wraig, ac a ddaeth at y gwr, ac a ddywe­dodd wrtho, ai ti yw 'r gwr a leferaist wrth y wraig? dywedodd yntef, ie myfi.

12 A dywedodd Manoah, deled yn awr dy eiriau i ben: paHeb. pa fath fydd ar y b. fodd y trinwn y bachgen,Neu, a pha beth a wna ef? Heb. Beth fydd ei waith ef? ac y gwnawn iddo ef?

13 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoah; rhac yr hyn oll a ddywedais wrth y wraig, ymocheled hi.

14 Na fwyttaed o ddim a ddel allan o'r winwydden, nac yfed wîn na diod gadarn, ac na fwyttaed ddim aflan: cadwed yr hyn oll a orchymynnais iddi.

15 A dywedodd Manoah wrth angel yr Arglwydd, gâd attolwg i ni dy attal, tra y paratôm fynn gafr ger dy fron di.

16 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoah, ped attelit fi, ni fwyttawn o'th fara di; os gwnei boeth offrwm, gwna ef i'r Arglwydd: canys ni wyddei Manoah mai an­gel yr Arglwydd oedd efe.

17 A Manoah a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, beth yw dy enw; fel i'th anrhyde­ddom di, pan ddelo dy eiriau i ben?

18 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, pa ham yr ymofynni am fy enw, gan ei fod yn rhyfeddol?

19 Felly Manoah a gymmerth fynn gafr, a bwyd offrwm, ac a'i hoffrymmodd ar y graig i'r Arglwydd: a'r angel a wnaeth yn rhyfedd, a Manoah a'i wraig oedd yn edrych.

20 Canys pan dderchafodd y fflam oddi ar yr allor tu a'r nefoedd, yna angel yr Argl­wydd a dderchafodd yn fflam yr allor: a Manoah a'i wraig oedd yn edrych ar hynny, ac a syrthiasant i lawr ar eu hwynebau.

21 (Ond ni chwanegodd angel yr Arglwydd ymddangos mwyach i Manoah, nac iw wraig:) yna y gwybu Manoah mai angel yr Arglwydd oedd efe.

22 A Manoah a ddywedodd wrth ei wraig,Exod. 33.20. Pen. 6.22. gan farw y byddwn feirw, canys gwelsom Dduw.

23 Ond ei wraig a ddywedodd wrtho ef, pe mynnasei 'r Arglwydd ein lladd ni, ni dderby­niasei efe boeth offrwm, a bwyd offrwm o'n llaw ni, ac ni ddangosasei efe i ni 'r holl bethau hyn; ac ni pharasei efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau.

24 A'r wraig a ymddug fab, ac a alwodd ei enw ef Samson: a'r bachgen a gynnyddodd, a'r Arglwydd a'i bendithiodd ef.

25 Ac yspryd yr Arglwydd a ddechreuodd ar amseroeddRhuf. 8.14. ei gynnhyrfu ef yngwerssyll Dan; rhwng Sorah ac Esthaol.

PEN. XIV.

1 Samson yn deisyf cael gwraig o'r Philistiaid, 6 Yn llâdd llew yn ei daith, 8 ac wrth ddych­welyd yn cael mêl yn ei scerbwd ef. 10 Gwledd briodas Samson. 12 Ei wraig yn datcuddio ei ddychymmyg ef. 19 Yntef yn yspeilio dec ar hugain o'r Philistiaid. 20 Ei wraig ef yn priodi vn arall.

A Samson a aeth i wared i Timnath, ac a ganfu wraig yn Timnath, o ferched y Phi­listiaid.

2 Ac efe a ddaeth i fvnu, ac a fynegodd iw dâd ac iw fam, ac a ddywedodd, mi a welais wraig yn Timnath oferched y Philistiaid: cym­merwch yn awr honno yn wraig i mi.

3 Yna y dywedodd ei dad a'i fam wrtho, onid oes ym mysc merched dy frodyr, nac ym mysc fy holl bobl wraig, pan ydwyt ti yn my­ned i geisio gwraig o'r Philistiaid dienwae­dedic? a dywedodd Samson wrth ei dâd, cym­mer hi i mi, canys y mae hiHeb. yn vnion yn fy ngho­lwg i. wrth fy modd i.

4 Ond ni wyddei ei dâd ef na 'i fam mai oddi wrth yr Arglwydd yr oedd hyn, mai cei­sio achos yr oedd efe yn erbyn y Philistiaid: canys y Philistiaid oedd y pryd hynny yn ar­glwyddiaethu ar Israel.

5 Yna Samson a aeth i wared, a'i dâd a'i fam, i Timnath; ac a ddaethant hyd winllanno­edd Timnath; ac wele genew llew yn rhuo yn ei gyfarfod ef.

6 Ac Yspryd yr Arglwydd a ddaeth yn rym­mus arno ef, ac efe a holltodd y llew fel yr holl­tid mynn, ac nid oedd dim yn ei law ef: ond ni fynegodd efe iw dad, nac iw fam yr hyn a wnelsei.

7 Ac efe a aeth i wared, ac a ymddidda­nodd â'r wraig, ac yr oedd hi wrth fodd Samson.

8 Ac yn ôl ychydig ddyddiau efe a ddych­welodd iw chymmeryd hi, ac a drôdd i edrych [Page] yscerbwd y llew; ac wele haid o wenin a mêl ynghorph y llew.

9 Ac efe a'i cymmerth yn ei law, ac a ger­ddodd dan fwytta, ac a ddaeth at ei dâd a'i fam, ac a roddodd iddynt, a hwy a fwyttasant: ond ni fynegodd iddynt hwy mai ogorph y llew y cymmerasei efe y mel.

10 Felly ei dad ef a aeth i wared at y wraig, a Samson a wnaeth yno wlêdd: canys felly y gwnai y gwŷr ieuaingc.

11 A phan welsant hwy ef, yna y tymme­rasant ddec ar hugain o gyfeillion i fod gyd ag ef.

12 A Samson a ddywedodd wrthynt, rho­ddaf i chwi ddychymmyg yn awr; os gan fynegi y mynegwch ef i mi, o fewn saith niwr­nod y wlêdd, ac a'i cewch; yna y rhoddaf i chwi ddec ar hugain oNeu, grysau. lenlliennau, a dec par ar hugain o ddillad.

13 Ond os chwi ni fedrwch ei fynegi i mi, yna chwi a roddwch i mi ddec ar hugain o Ienlliennau, a dec pâr ar hugain o wiscoedd: hwy­thau a ddywedasant wrtho, traetha dy ddych­ymmyg fel y clywom ef.

14 Ac efe a ddywedodd wrthynt, allan o'r bwyttawr y daeth bwyd, ac o'r cryf y daeth allan felustra. Ac ni fedrent ddirnad y dy­chymmyg mewn tri diwrnod.

15 Ac yn y seithfed dydd y dywedasant wrth wraig Samson, huda dy ŵr fel y mynego efe i ni y dychymmyg, rhac i ni dy losci di, a thŷ dy dâd â thân: ai i'nNeu, meddian­nu. tlodi ni i'n gwa­hoddasoch? ond felly y mae?

16 A gwraig Samson a ŵylodd wrtho ef, ac a ddywedodd, yn ddiau y mae yn gâs gennit fi, ac nid wyt yn fyngharu: dychymmyg a ro­ddaist i feibion fy mhobl, ac ni's mynegaist i mi. A dywedodd yntef wrthi, wele nis myne­gais i'm tad nac i'm mam, ac ai mynegwn i ti?

17 A hi a wylodd wrtho ef y saith niwr­nod hynny, tra yr oeddid yn cynnal y wlêdd; ac ar y seithfed dydd y mynegodd efe iddi hi: canys yr oedd hi yn ei flino ef; a hi a fy­negodd y dychymmyg i feibion ei phobl.

18 A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho ef y seithfed dydd cyn machludo yr haul, beth sydd felusach nâ mêl? a pheth gryfach nâ llew? dywedodd yntef wrthynt, oni buasei i chwi aredic â'm anner i, ni chawsech allan fy ny­chymmyg.

19 Ac Yspryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef, ac efe a aeth i wared i Ascalon, ac a darawodd o honynt ddec ar hugain, ac a gymmerth euNeu, [...]llad. hyspail, ac a roddodd y parau dillad i'r rhai a fynegasent y dychymmyg: a'i ddigllo­nedd ef a lidiodd, ac efe aeth i fynu idŷ ei dâd.

20 A rhoddwyd gwraig Samson iw gyfeill ef ei hun, yr hwn a gymmerasei efe yn gy­faill.

PEN. XV.

1 Samson yn cael nâg am ei wraig. 3 Yntef yn llosci ŷd y Philistiaid â llwynogod ac â ffaglau. 6 Y Philistiaid yn llosci ei wraig ef a'i thâd. 7 Samson yn eu taro hwynt glûn a morddwyd. 9 Gwyr Judah yn ei rwymo ef, ac yn ei dra­ddodi i'r Philistiaid. 14 Yntef yn eu llâdd hwynt â gên assyn. 18 Duw yn gwneuthur y ffynnon En haccore iddo ef yn Lehi.

AC wedi talm o ddyddiau yn amser cynhaiaf y gwenith, Samson a aeth i ymweled â'i wraig â mynn gafr, ac a ddywedodd, mi a âf i mewn at fyngwraig i'r ystafell? Ond ni chanhiadei ei thâd hi iddo ef fyned i mewn.

2 A'i thâd a lefarodd, gan ddywedyd, ty­biaswn it ei chasau hi, am hynny y rhoddais hi i'th gyfeill di: onid yw ei chwaer ieuangaf yn lanach nâ hi? bydded honno i ti attolwg yn ei lle hi.

3 A Samson a ddywedodd wrthynt,Neu, difai, &c. oddi wrth. difei­ach ydwyf y waith hon nâ 'r Philistiaid; er i mi wneuthur niwed iddynt.

4 A Samson a aeth ac a ddaliodd drychant o lwynogod, ac a gymmerthNeu, bentewy­nion. ffaglau ac a drôdd gynffon at gynffon, ac a osododd vn ffagl rhwng dwy gynffon yn y canol.

5 Ac efe a gynneuodd dân yn y ffaglau, ac a'i gollyngodd hwynt i ydau y Philistiaid, ac a loscodd hyd yn oed y dasau, a'r ŷd ar ei droed, y gwinllannoedd hefyd a'r oliwydd.

6 Yna y Philistiaid a ddywedasant, pwy a wnaeth hyn? hwythau a ddywedasant, SamsonMab ynghy­fraith. daw y Timniad, am iddo ddwyn ei wraig ef, a'i rhoddi iw gyfeill ef. A'r Philistiaid a aethant i fynu, ac a'i lloscasant hi a'i thâd, â thân.

7 A dywedodd Samson wrthynt, er i chwi wneuthur fel hyn, etto mi a ymddialaf arnoch chwi, ac wedi hynny y peidiaf.

8 Ac efe ai tarawodd hwynt glûn a mor­ddwyd â lladdfa fawr: ac efe a aeth i wared, ac a arhosodd ynghoppa craig Etam.

9 Yna y Philistiaid a aethant i fynu, ac a werssyllasant yn Juda, ac a ymdanasant yn Lehi.

10 A gwyr Juda a ddywedasant, pa ham y daethoch i fynu i'n herbyn ni? dywedasant hwythau, i rwymo Samson y daethom i fynu, i wneuthur iddo ef, fel y gwnaeth ynteu i ninnau.

11 Yna tair mîl o wyr o Juda aHeb. ddiscyn­nasant. aethant i goppa craig Etam, ac a ddywedasant wrth Samson, oni wyddost ti fod y Philistiaid yn arglwyddiaethu arnom ni? pa ham gan hyn­ny y gwnaethost hyn â ni? dywedodd yntef wrthynt, fel y gwnaethant hwy i mi, felly y gwneuthum inneu iddynt hwy­thau.

12 Dywedasant hwythau wrtho, i'th rwymo di y daethom i wared, ac i'th roddi yn llaw y Philistiaid. A Samson a ddywedodd wrthynt, tyngwch wrthif na ruthroch arnafi eich hu­nain.

13 Hwythau a'i hattebasant ef, gan ddy­wedyd, na ruthrwn: eithr gan rwymo i'th rwymwn di, ac i'th roddwn yn eu llaw hwynt; ond nith laddwn di. A rhwymasant ef â dwy raff newydd, ac a'i dygasant ef i fy­nu o'r graig.

14 A phan ddaeth efe i Lehi, y Phili­stiaid a floeddiasant wrth gyfarfod ag ef: ac Yspryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef, a'r rhaffau oedd am ei freichiau a aethant fel llîn a loscasid yn tân, a'r rhwymau aHeb. doddasant. ddatoda­sant oddi am ei ddwylaw ef.

15 Ac efe a gafodd ên assyn îr, ac a estyn­nodd ei law, ac a'i cymmerodd, ac a laddodd â hi fïl o wŷr.

16 A Samson a ddywedodd, â gên assynHeb. pentwr, dau ben­twr. pentwrr ar ben-twrr: â gên assyn y lle­ddais fîl o wŷr.

17 A phan orphennodd efe lefaru, yna efe a [Page] daflodd yr ên o'i law, ac a alwodd y lle hwn­nwSef, cy­ [...]odiad yr en, neu, tafliad y [...]n. Ramath Lehi.

18 Ac efe a sychedodd yn dôst, ac a lefoddd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, tydi a ro­ddaist yn llaw dy wâs yr ymwared mawr ym­ma; ac yn awr a fyddafi farw gan syched, a syrthio yn llaw y rhai dienwaededic?

19 Ond Duw a holltodd y cilddant oedd ynNeu, Lehi. yr ên, fel y daeth allan ddwfr o honaw, ac efe a yfodd, a'i yspryd a ddychwelodd, ac efe a adfywiodd: am hynny y galwodd efe ei henw,ffynnon y geilwad. En haccore, yr hon sydd yn Lehi hyd y dydd hwn.

20 Ac efe a farnodd Israel yn nyddiau y Philistiaid, vgain mlhynedd.

PEN. XVI.

1 Samson yn diangc yn Gaza, ac yn dwyn ymaith ddrysau porth y ddinas. 4 Dalilah wedi ei gwo­bri gan y Philistiaid, yn hudo Samson. 6 Yn­tau yn ei thwyllo hi deir-gwaith. 15 Hitheu o'r diwedd yn ei orchfygu ef. 21 Y Philistiaid yn ei ddala, ac yn tynnn ei lygaid ef. 22 Yntau wedi adnewyddu ei gryfder, yn tynnu 'r ty i lawr am ben y Philistiaid, ac yn marw.

YNa Samson a aeth i Gaza, ac a gansu yno butein-wraig, ac a aeth i mewn atti hi.

2 A mynegwyd i'r Gaziaid, gan ddywedyd, daeth Samson ymma; a hwy a gylchynasant, ac a gynllwynasant iddo, ar hŷd y nos, ym­mhorth y ddinas, ac a fuant ddistaw ar hyd y nos gan ddywedyd, y boreu pan oleuo hi, ni a'i lladdwn ef.

3 A Samson a orweddodd hyd hanner nos, ac a gyfododd ar hanner nos, ac a ymaflodd yn nryssau porth y ddinas, ac yn y ddau bost, ac a aeth ymmaith â hwynt ynghyd â'r barr, ac a'i gosododd ar ei yscwyddau, ac a'i dûg hwynt i fynu i ben bryn sydd gyferbyn a Hebron.

4 Ac wedi hyn efe a garodd wraig yn ny­ffryn Sorec, a'i henw Dalilah.

5 Ac arglwyddi y Philistiaid a aethant i fy­nu atti hi, ac a ddywedasant wrthi, huda ef, ac edrych ymmhaBeth. le y mae ei fawr nerth ef, a pha fodd y gorthrechwn ef, fel y rhwymom ef iwNeu, ddaro­stwng. gystuddio: ac ni a roddwn i ti bôb vn fil a chant o arian.

6 A Dalilah a ddywedodd wrth Samson, mynega i mi attolwg, ym mhaBeth. fan y mae dy fawr nerth di, ac â pha beth i'th rwymid i'th gystuddio.

7 A Samson a ddywedodd wrthi, pe rhwy­ment fi â saithNeu, reffynnau. o ŵdyn irion y rhai ni sycha­sei, yna y gwanhychwn, ac y byddwn felHeb. vn. gŵr arall.

8 Yna arglwyddi y Philistiaid a ddygasant i fynu atti hi saith o ŵdyn irion y rhai ni sycha­sent; a hi a'i rhwymodd ef â hwynt.

9 A chynllwynwŷr oedd yn aros geuddi mewn stafell: a hi a ddywedodd wrtho ef, y mae y Philistiaid arnati, Samson: ac efe a dorrodd v gwdyn; fel y torrir edef garth wediHeb. arogli. cyffwrdd a'r tân, felly ni wybuwyd ei gryfder ef.

10 A dywedodd Dalilah wrth Samson, ti a'm twyllaist, ac a ddywedaist gelwydd wrthif; yn awr mynega i mi attolwg, â pha beth y ge­llid dy rwymo.

11 Ac efe a ddywedodd wrthi, pe gan rwymo y rhwyment fi â rhaffau newyddion, y rhai ni wnaethpwyd gwaith â hwynt; yna y gwanhychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.

12 Am hynny Dalilah a gymmerth raffau newyddion, ac a'i rhwymodd ef â hwynt, ac a ddywedodd wrtho, y mae y Philistiaid arnat ti Samson. (Ac yr oedd cynllwynwyr yn aros mewn stafell.) Ac efe a'i torrodd hwynt oddi am ei freichiau fel edef.

13 A Dalilah a ddywedodd wrth Samson, hyd yn hyn y twyllaist fi, ac y dywedaist gel­wydd wrthif; mynega i mi â pha beth i'th rwy­mid: dywedodd yntef wrthi hi, pe plethit ti saith gudyn fy mhen ynghŷd â'r wê.

14 A hi a'i gwnaeth yn siccr â'r hoel, ac a ddywedodd wrtho ef, y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o'i gwsc, ac a aeth ymmaith â hoel y garfan, ac â'r wê.

15 A hi a ddywedodd wrtho ef, pa fodd y dywedi, cu gennif dy di, a'th galon heb fod gyd â mi? teirgwaith bellach i'm twyllaist, ac ni fynegaist i mi ym mha fan y mae dy fawr nerth.

16 Ac o herwydd ei bod hi yn ei flîno ef â'i geiriau beunydd, ac yn ei boeni ef; ei enaid aHeb. ymfyrha­odd. ymofidiodd i farw:

17 Ac efe a fynegodd iddi ei holl galon, ac a ddywedodd wrthi, ni ddaeth ellyn ar fy mhen i; canys Nazaread i Dduw ydwyfi o grôth fy mam: ped eillid fi, yna y ciliei fy nerth oddi wrthif, ac y gwanhychwn, ac y byddwn fel gwr arall.

18 A phan welodd Dalilah fynegi o honaw ef iddi hi ei holl galon, hi a anfonodd, ac a al­wodd am bendefigion y Philistiaid, gan ddy­wedyd, deuwch i fynu vn-waith, canys efe a fynegodd i mi ei holl galon. Yna arglwyddi y Philistiaid a ddaethant i fynu atti hi, ac a ddygasant arian yn eu dwylo.

19 A hi a wnaeth iddo gyscu ar ei gliniau, ac a alwodd ar ŵr, ac a barodd eillio saith gudyn ei ben ef; a hi a ddechreuodd ei gystuddio ef, a'i nerth a ymadawodd oddi wrtho.

20 A hi a ddywedodd, y mae y Philistiaid ar­nat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o'i gwsc, ac a ddywedodd, âf allan y waith hon fel cynt, ac ymescydwaf. Ond ni wyddei efe fod yr Ar­glwydd wedi cilio oddi wrtho.

21 Ond y Philistiaid a'i daliasant ef, ac aHeb. dyllasant. dynnasant ei lygaid ef, ac a'i dygasant ef i wa­red i Gaza, ac a'i rhwymasant ef â gefynnau pres, ac yr oedd efe yn malu yn y car­chardy.

22 Eithr gwallt ei ben ef a ddechreuodd dy­fu drachefn,Neu, fel pan eilliwyd ef. ar ôl ei eillio.

23 Yna arglwyddi y Philistiaid a ymgascla­sant i aberthu aberth mawr i Ddagon eu duw, ac i orfoleddu: canys dywedasant, ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein llaw ni.

24 A phan welodd y bobl ef, hwy a ganmo­lasant ei duw: canys dywedasant, ein duw ni a roddodd ein gelyn yn ein dwylo ni, yr hwn oedd yn anrheithio ein gwlad ni, yr hwn aHeb. amlhaodd ein lla­ddedigion. laddodd lawer o honom ni.

25 A phan oedd eu calon hwynt yn llawen, yna y dywedasant, gelwch am Samson, i beri i ni chwerthin. A hwy a alwasant am Samson o'r carchar-dŷ, fel y chwarâe o'i blaen hwynt, a hwy a'i gosodasant ef rhwng y colofnau.

26 A Samson a ddywedodd wrth y llangc oedd yn ymaflyd yn ei law ef, gollwng, a gâd i mi gael gafel ar y colofnau y mae y tŷ yn sefyll arnynt, fel y pwyswyfaruynt.

27 A'r tŷ oedd yn llawn o wŷr a gwragedd, a holl arglwyddi y Philistiaid oedd yno: ac ar y nen yr oedd ynghylch tair mîl o wŷr a gwragedd yn edrych tra ydoedd Samson yn chware.

28 A Samson a alwodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, ô Arglwydd Jôr, cofia fi at­tolwg, a nertha fi attolwg, yn vnic y waith hon, ô Dduw, fel y dialwyf ag vn dialedd ar y Phi­listiaid am fy nau lygad.

29 A Samson a ymaflodd yn y ddwy golofn ganol, y rhai yr oedd y tŷ yn sefyll amynt, ac a ymgynhaliodd wrthynt; vn yn ei ddeheu­law, a'r llall yn ei law asswy.

30 A dywedodd Samson, bydded farw fy enioes gyd a'r Philistiaid; ac efe a ymgrymmodd â'i holl nerth: a syrthiodd y tŷ ar y pendefigi­on, ac ar yr holl bobl oedd ynddo: a'r meirw y rhai a laddodd efe wrth farw, oedd fwy nag a laddasei efe yn ei fywyd.

31 A'i frodyr ef, a holl dŷ ei dad ef a ddae­thant i wared, ac a'i cymmerasant ef, ac a'i dy­gasant i fynu, ac a'i claddasant ef rhwng Sorah ac Esthaol, ym meddrod Manoah ei dad: ac efe a farnasei Israel vgain mlhynedd.

PEN. XVII.

1 Ei fam yn gwneuthur delwau o'r arian a lla­drattasai Micah, ac a roesai yn eu hôl. 5 Yntef yn gwneuthur gwiscoedd iddynt, 6 ac yn cyflogi Leviad i fod yn offeiriad iddo.

AC yr oedd gŵr o fynydd Ephraim, a'i enw Micah.

2 Ac efe a ddywedodd wrth ei fam, y mil a'r can sicl arian a dducpwyd oddi armt, ac y rhegaist am danynt, ac y dywedaist hefyd lle y clywais, wele yr arian gyd â mi, myfi a'i cymmerais. A dywedodd ei fam, bendigedic fyddych fy mab, gan yr Arglwydd.

3 A phan roddodd efe y mîl a'r can sicl arian adref iw fam, ei fam a ddywedodd, gan gyssegru y cyssegraswn yr arian i'r Arglwydd o'm llaw, i'm mab, i wneuthur delw gerfiedic a thoddedic; am hynny yn awr mi a'i rhoddaf eil-waith i ti.

4 Etto efe a dalodd yr arian iw fam: a'i fam a gymmerth ddau can sicl o arian, ac a'i rho­ddodd i'r toddudd, ac efe a'i gwnaeth yn ddelw gerfiedic a thoddedic: a hwy a fuant yn nhŷ Micah.

5 A chan y gŵr hwn Micah yr oedd tŷ du­wiau, ac efe aPen. [...].27. wnaeth Ephod aGen. 31.19. Ose. 3. 4. Theraphim, ac aHeb. l [...]nwodd ddwylo. gyssegrodd vn o'i feibion i fod yn offeiriad iddo.

6Pen. 18.1. & [...]1.25. Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel, ond pôb vn a wnai yr hyn oedd vnion yn ei olwg ei hun.

7 Ac yr oedd gwr ieuangc o Bethlehem Ju­da, o dylwyth Juda, a Lefiad oedd efe, ac efe a ymdeithiai yno.

8 A'r gŵr a aeth allan o'r ddinas o Bethle­hem Juda, i drigo pa le bynnac y caffei lê: ac efe a ddaeth i fynydd Ephraim i dŷ Micah, yn ei ymdaith.

9 A Micah a ddywedodd wrtho, o ba le y daethost ti? dywedodd yntef wrtho, Lefiad yd­wyf o Bethlehem Juda, a myned yr ydwyf i drigo lle caffwyf lê.

10 A Micah a ddywedodd wrtho, trig gyd â mi, a bydd i mi yn dâd ac yn offeiriad, ac mi a roddaf i ti ddec sicl o arian bob blwyddyn, aHebr. threfn. phâr o ddillad, a'th lyniaeth: felly y Lefiad a aeth i mewn.

11 A'r Lefiad a fu fodlon i aros gyd â'r gwr, a'r gwr ieuangc oedd iddo fel vn o'i fei­bion.

12 A Micah a vrddodd y Lefiad, a'r gŵr ieu­angc fu yn offeiriad iddo, ac a fu yn nhŷ Micah.

13 Yna y dywedodd Micah, yn awr y gwn y gwna 'r Arglwydd ddaioni i mi; gan fod Lefiad gennif yn offeiriad.

PEN. XVIII.

1 Meibion Dan yn anfon pum-wr i geisio iddynt etifeddiaeth. 3 Hwythau wrth dy Micah yn ymgynghori â Jonathan, ac yn cael cyssur i fyned rhagddynt, 7 Yn chwilio Lais, ac yn dwyn newyddion gobeith-fawr. 11 Danfon chwe chant o wyr i osod ar y dref. 14 A'r rhai hynny ar y ffordd yn yspeilio Micah am ei offeiriad â'u greiriau, 27 ac yn ynnill Lais, ac yn ei galw hi Dan, 30 Ac yn gosod i fynu ddelw-addoliaeth, lle y cafodd Jonathan yr offeiriadeth yn etifeddiaeth iddo.

YN yPen. 17.6. & 21.25. dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel: ac yn y dyddiau hynny llwyth y Daniaid oedd yn ceisio iddynt etifeddiaeth i drigo; canys ni Josuah 19.47. syrthiasei iddynt hyd y dydd hwnnw etifeddlaeth ym mysc llwythau Israel.

2 A meibion Dan a anfonasant o'i tŷlwyth, bump o wŷr o'i bro,Heb. meibion. gwŷr grymmus, o Sorah ac o Esthaol, i yspio y wlâd, ac iw chwilio, ac a ddywedasant wrthynt, ewch, chwiliwch y wlâd: a phan ddaethant i fynydd Ephraim i dŷ Micah, hwy a letteuasant yno.

3 Pan oeddynt hwy wrth dŷ Micah, hwy a adnabuant lais y gwr ieuangc y Lefiad, ac a droesant yno, ac a ddywedasant wrtho, pwy a'th ddûg di ymma? a pheth yr ydwyt ti yn ei wneuthur ymma? a pheth sydd i ti ymma?

4 Ac efe a ddywedodd wrthynt, fel hyn ac fel hyn y gwnaeth Micah i mi, ac efe a'm cy­flogodd i, a'i offeiriad ef ydwyfi.

5 A hwy a ddywedasant wrtho ef, ymgyng­hora attolwg â Duw, fel y gwypom a lwydda ein ffordd yr ydym ni yn rhodio arni.

6 A'r offeiriad a ddywedodd wrthynt, ewch mewn heddwch: ger bron yr Arglwydd y mae eich ffordd chwi, yr hon a gerddwch.

7 Yna y pum-wr a aethant ymmaith, ac a ddaethant i Lais, ac a welsant y bobl oedd yn­ddi yn trigo mewn diogelwch, yn ôl arfer y Sidoniaid, yn llonydd ac yn ddiofal, ac nid oeddHebr. meddion­nedd, neu eti­fedd gwa­harddiad. swyddwr yn y wlad, yr hwn a allei eu gyr­ru hwynt i gywilydd mewn dim, a phell oeddynt oddiwrth y Sidoniaid, ac heb negesau rhyngddynt a neb.

8 A hwy a ddaethant at eu brodyr i Sorah ac Esthaol: a'i brodyr a ddywedasant wrthynt, beth a ddywedwch chwi?

9 Hwythau a ddywedasant, cyfodwch ac awn i fynu arnynt; canys gwelsom y wlâd, ac wele da iawn yw hi: ai tewi 'r ydych chwi? na ddiogwch fyned i ddyfod i mewn i feddian­nu y wlâd.

10 Pan eloch, chwi a ddeuwch at bobl ddio­fal, a gwlâd ehang: canys Duw a'i rhoddodd hi yn eich llaw chwi: sef lle, nid oes ynddo ei­siau dim a'r y sydd ar y ddaiar.

11 Ac fe aeth oddi yno, o dylwyth y Da­niaid, o Sorah ac o Esthaol, chwechan-wr wedi ymwregyssu ag arfau rhyfel.

12 A hwy a aethant i fynu, ac a werssyllasant yn Ciriath-Jearim, yn Juda: am hynny y gal­wasant y fan honno Mahaneh Dan, hyd [Page] y dydd hwn; wele y mae o'r tu ôl i Ciriath-Jearim.

13 A hwy a aethant oddi yno i fynydd Ephraim, ac a ddaethant hyd tŷ Micah.

14 Ar pum-wr, y rhai a aethent i chwilio gwlâd Lais, a lefarasant, ac a ddywedasant wrth eu brodyr, oni ŵyddoch chwi fod yn y tai hyn Ephod, a Theraphim, a delw gerfie­dic, a thoddedic? gan hynny ystyriwch yn awr beth a wneloch.

15 A hwy a droesant tu ac yno, ac a ddaethanc hyd dŷ y gwr ieuangc y Lefiad, i dŷ Micah: ac aHeb. ymofyna­sant a [...] ef am h [...]dd­wch. gyfarchasant well iddo.

16 A'r chwe chan wr, y rhai oedd wedi eu gwregyssu ag arfau rhyfel, oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, sef y rhai oedd o feibion Dan.

17 A'r pum-wr, y rhai a aethent i chwilio y wlâd, a escynnasant, ac a aethant i mewn yno, ac a ddygasant ymmaith y ddelw gerfiedic a'r Ephod, a'r Teraphim, a'r ddelw doddedic: a'r offeriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, gyd â'r chwe-chan-wr, oedd wedi ymwregyssu ag arfau rhyfel.

18 A'r rhai hyn aethant i dŷ Micah, ac a ddygasant ymmaith y ddelw gerfiedic, yr Ephod, a'r Teraphim, a'r ddelw doddedic: yna 'r offeiriad a ddywedodd wrthynt, beth yr ydych chwi yn ei wneuthur?

19 Hwyntau a ddywedasant wrtho, taw-sôn, gosot dy law ar dy safn, a thyret gyd â ni, a bydd i ni yn dâd ac yn offeiriad: a'i gwell i ti fod yn offeiriad i dŷ vn gŵr, na'th fod yn offeiriad i lwyth, ac i deulu yn Israel?

20 A da fu gan galon yr offeiriad, ac efe a gymmerth yr Ephod, a'r Teraphim, a'r ddelw gerfiedic, ac a aeth ym mysc y bobl.

21 A hwy a droesant, ac a aethant ymmaith, ac a osodasant y plant, a'r anifeiliaid, a'r clud o'i blaen.

22 A phan oeddynt hwy ennyd oddi wrth dŷ Micah, y gwŷr oedd yn y tai wrth dŷ Mi­cah, a ymgasclasant, ac a erlidiasant feibion Dan.

23 A hwy a waeddasant ar feibion Dan: hwythau a droesant eu hwynebau, ac a ddy­wedasant wrth Micah, beth a ddarfu i ti pan wytHeb. wedi ym­gasclu ynghyd. yn dyfod â'r fâth fintai?

24 Yntef a ddywedodd, fy nuwiau y rhai a wneuthum i, a ddygasoch chwi ymmaith, a'r offeiriad, ac a aethoch i ffordd; a pheth sydd genifi mwyach? a pha beth yw hyn a ddywe­dwch wrthif, beth a ddarfu i ti?

25 A meibion Dan a ddywedasant wrtho, na âd glywed dy lef yn ein mysc ni, rhac i wŷrHeb. shwerw eu henaid. digllon ruthro arnat ti, a cholli o ho­not dy enioes, ac enioes dy deulu.

26 A meibion Dan a aethant iw ffordd: a phan welodd Micah eu bod hwy yn gryfach nag ef, efe a drôdd, ac a ddychwelodd iw dŷ.

27 A hwy a gymmerasant y pethau a ŵnae­thei Micah, a'r offeiriad oedd ganddo ef, ac a ddaethant i Lais, at bobl lonydd a diofal, ac a'i tarawsant hwy â mîn y cleddyf, ac a los­casant y ddinas â thân.

28 Ac nid oedd waredudd, canys pell oedd hi oddi wrth Sidon, ac nid oedd negesau rhyng­ddynt a nêb; hefyd yr oedd hi yn y dyffryn oedd wrth Beth-Rehob: a hwy a adeiladasant ddi­nas, ac a drigasant ynddi.

29 A hwy a alwasantJos. 19.47. enw y ddinas Dan, yn ôl henw Dan eu tad, yr hwn a anesid i Isra­el: er hynny Lais oedd henw y ddinas ar y cyntaf.

30 A meibion Dan a osodasant i fynu iddynt y ddelw gerfiedic: a Jonathan mab Gerson mab Manasseh, efe a'i feibion fuant offeiriaid i lwyth Dan, hyd ddydd caeth­gludiad y wlâd.

31 A hwy a osodasant i fynu iddynt y ddelw gerfiedic a wnaethai Micah, yr holl ddyddiau y bu tŷ Dduw yn Silo.

PEN. XIX.

1 Leviad yn myned i Bethlehem i gyrchu ei wraig adref. 16 Hen wr yn i grosawu ef iw dy yn Gibeah. 22 Y Gibeoniaid yn gwneuthur cam a'i ordderch ef fel y bu hi farw. 29 Yntef yn ei rhannu hi yn ddeuddec darn iw danfon at y deuddec llwyth.

AC yn y dyddiau hynny,Pen. 17.6. & 18.1. & 21.25. pan nad oedd fre­nin yn Israel, yr oedd rhyw Lefiad yn aros yn ystlysau mynydd Ephraim, ac efe a gymmerodd iddoGen. 25.6. ordderch-wraig o Beth­lehem Judah.

2 A'i ordderchwraig a butteiniodd yn ei erbyn ef, ac a aeth ymmaith oddi wrtho ef i dŷ ei thâd, i Bethlehem Judah, ac yno y bu hiNeu, flwyddyn a phed­war mis. bedwar mîs o ddyddiau.

3 A'i gŵr hi a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl i ddywedyd ynHeb. wrth fodd ei chalon hi. dêg wrthi hi, ac iw throi adref, a'i langc oedd gyd ag ef, a chwpl o assynnod: a hi a'i dûg ef i mewn i dŷ ei thad, a phan welodd tad y llangces ef, bu lawen ganddo gyfarfod ag ef.

4 A'i chwegrwn ef, tâd y llangces, a'i da­liodd ef yno, ac efe a dariodd gyd ag ef dridiau: felly bwytasant ac yfasant, a lleteuasant yno.

5 A'r pedwerydd dydd y cyfodasant yn fo­rau, yntef a gyfododd i fyned ymmaith: a thad y llangces a ddywedodd wrth ei ddaw, nertha dy galon â thammeid o fara, ac wedi hynny ewch ymaith.

6 A hwy a eisteddasant, ac a fwytasant ill dau ynghŷd, ac a yfasant: a rhâd y llangces a ddywedodd wrth y gŵr, bydd fodlon at­tolwg, ac aros dros nôs, a llawenyched dy galon.

7 A phan gyfododd y gwr i fyned ymmaith, ei chwegrwn a fu daer arno: am hynny efe a drôdd, ac a leteuodd yno.

8 Ac efe a gyfododd yn forau y pummed dydd i fyned ymmaith, a thâd y llangces a ddywedodd, cyssura dy galon attolwg; a hwy a drigasantHeb, nes go­stwng y dydd. hyd bryd nawn, ac a fwyta­sant ill dau.

9 A phan gyfododd y gwr i fyned ymmaith, efe a'i ordderch, a'i langc; ei chwegrwn, tâd y llangces, a ddywedodd wrtho, wele yn awr y dydd a laesodd i hwyrhau; arhoswch tros nôs attolwg; weleHeb Amser llett [...] ydyw. yr haul yn machludo; trig ymma, fel y llawenycho dy galon, a cho­dwch yn forau y foru i'ch taith, fel yr elych i'th babell.

10 A'r gŵr ni fynnei aros tros nos, eithr cyfododd ac aeth ymmaith, a daeth hyd ar gyfer Jebus, hon yw Jerusalem: a chyd ag ef gwpl o assynnod llwythoc, a'i ordderch­wraig gyd ag ef.

11 A phan oeddynt hwy wrth Jebus, yr oedd y dydd ar ddarfod, a'r llangc a ddywedodd wrth ei feistr, dyred attolwg, trown i ddinas hon y Jebusiaid, a lleteuwn ynddi.

12 A'i feistr a ddywedodd wrtho, ni thrown ni i ddinas estron nid yw o feibion Israel; eithr nyni a awn hyd Gibeah.

13 Ac efe a ddywedodd wrth ei langc, ty­red a nessawn i vn o'r lleoedd hyn, i leteû tros nôs, yn Gibeah, neu Ramah.

14 Felly y cerddasant, ac yr aethant; a'r haul a fachludodd arnynt wrth Gibeah eiddo Benjamin.

15 A hwy a droesant yno, i fyned i mewn i leteû i Gibeah: ac efe a ddaeth i mewn, ac a eisteddodd yn heol y ddinas: canys nid oedd neb a'i cymmerei hwynt iw dŷ i leteû.

16 Ac wele ŵr liên yn dyfod o'i waith o'r maes yn yr hwyr, a'r gŵr oedd o fynydd E­phraim, ond ei fod ef yn ymdaith yn Gibeah; a gwŷr y lle hwnnw oedd feibion Jemini.

17 Ac efe a dderchafodd ei lygaid, ac a gan­fu ŵr yn ymdaith yn heol y ddinas; a'r hên wr a ddywedodd, i ba le yr ei di? ac o ba le y daethost?

18 Yntef a ddywedodd wrtho, tramwyo 'r ydym ni o Bethlehem Juda i ystlys mynydd E­phraim, o'r lle i'm henyw; a mi a euthum hyd Bethlehem Juda; a myned yr ydwyf i dŷ yr Arglwydd, ac nid oes neb a'mHeb. cascl. derbyn i dŷ.

19 Y mae gennym ni wellt, ac ebran hefyd i'n hassynnod; a bara hefyd, a gwin i mi ac i'th law-forwyn, ac i'r llangc sydd gyd â'th wei­sion: nid oes eisiau dim.

20 A'r hen-wr a ddywedodd, tangneddyf i ti, bydded dy holl eisiau arnafi, yn vnic na letteua yn yr heol.

21 Felly efe a'i dûg ef i mewn iw dŷ, ac a borthodd yr assynnod: a hwy a olchasant eu traed, ac a fwyttasant ac a yfasant.

22 A phan oeddynt hwy yn llawenhau ei calon, wele gwŷr y ddinas, rhai o feibion Beli­al a amgylchynasant y tŷ, a gurasant y drws, ac a ddywedasant wrth berchen y tŷ, sef yr henwr, gan ddywedyd, dŵg allan y gŵr a ddaeth i mewn i'th dŷ, fel yr adnabyddom ef.

23 A'r gŵr perchen y tŷ aGen. 19.6. aeth allan at­tynt, ac a ddywedodd wrthynt, nāgê fy mro­dyr, nagê, attolwg na wnewch mor ddrygio­nus; gan i'r gŵr hwn ddyfod i'm tŷ i, na wnewch yr scelerder hyn.

24 Wele fy merch, yr hon sydd forwyn, a'i ordderch yntef, dygaf hwynt allan yn awr, a darostyngwch hwynt, a gwnewch iddynt yr hyn fyddo da yn eich golwg: ond i'r gŵr hwn na wnewchHeb. beth mor ynfyd. mor sceler.

25 Ond ni wrandawei 'r gwŷr arno; am hynny y gŵr a ymaflodd yn ei ordderch, ac a'i dug hi allan attynt hwy, a hwy a'i hadnabu­ant hi, ac a wnaethant gam â hi 'r holl nos hyd y borau; a phan gyfododd y wawr, hwy a'i gollyngasant hi ymmaith.

26 Yna 'r wraig a ddaeth pan ymddango­sodd y borau, ac a syrthiodd wrth ddrws tŷ 'r gŵr yr oedd ei harglwydd ynddo, hyd oleu­ni y dydd.

27 A'i harglwydd a gyfododd y boreu, ac a agorodd ddryssau 'r tŷ, ac a aeth allan i fy­ned iw daith: ac wele ei ordderch-wraig ef wedi cwympo wrth ddrws y tŷ, a'i dwy law ar y trothwy.

28 Ac efe a ddywedodd wrthi, cyfot, fel yr elom ymmaith: ond nid oedd yn atteb: yna efe a'i cymmerth hi ar yr assyn, a'r gŵr a gy­fododd, ac a aeth ymmaith iw fangre.

29 A phan ddaeth iw dŷ, efe a gymmerth gyllell, ac a ymaflodd yn ei ordderch, ac a'i darniodd hi, ynghŷd â'i hescyrn, yn ddeuddec darn, ac a'i hanfonodd i holl dei fynau Israel.

30 A phawb a'r a welodd hynny, a ddywe­dodd, ni wnaethpwyd, ac ni welpwyd y fath beth, er y dydd y daeth meibion Israel o wlâd yr Aipht, hyd y dydd hwn: ystyriwch ar hynny, ymgynghorwch, a thraethwch eich meddwl.

PEN. XX.

1 Y Leviad mewn cymanfa gyffredinawl yn dan­gos ei gam ar gyhoedd. 8 Barn y gymanfa. 12 Gwyr Benjamin wedi eu dyfyn yn ymgasclu yn erbyn yr Israeliaid. 18 Yr Israeliaid mewn dwy gâd yn colli deugein-mil. 26 Hwythau trwy ddichell yn difetha holl wyr Benjamin onid chwe chant.

YNaOse. 10.9. holl feibion Israel a aethant allan, a'r gynnulleidfa a ymgasclodd ynghyd fel vn dŷn, o Dan hyd Beerseba, a gwlad Gilead, at yr Arglwydd i Mispah.

2 A phennaethiaid yr holl bobl o holl lwy­thau Israel a safasant ynghynnulleidfa pobl Dduw: sef pedwar can mîl o wŷr traed yn tynnu cleddyf.

3 (A meibion Benjamin a glywsant fyned o feibion Israel i Mispah:) yna meibion Israel a ddywedasant, dywedwch pa fodd y bu y dry­gioni hyn?

4 A'r gwr y Lefiad, gŵr y wraig a laddesid a attebodd, ac a ddywedodd, i Gibeah eiddo Benjamin y deuthum i, mi a'm gordderch i leteua.

5 A gwŷr Gibeah a gyfodasant i'm herbyn, ac a amgylchynasant y tŷ yn fy erbyn liw nôs, ac a amcanasant fy lladd i, aHeb. darosty­ngasant. threisiasant fyng­ordderch fel y bu hi farw.

6 Ac mi a ymaflais yn fyngordderch, ac a'i derniais hi,Pen. 19.29. ac a'i hanfonais hi trwy holl wlad etifeddiaeth Israel: canys gwnaethant ffieidd­dra, ac ynfydrwydd yn Israel.

7 Wele meibion Israel ydych chwi oll, moe­sswch rhyngoch air a chyngor ymma.

8 A'r holl bobl a gyfododd megis vn gwr, gan ddywedyd, nac eled nêb o honom iw ba­bell, ac na throed nêb o honom iw dŷ:

9 Ond yn awr, hyn yw 'r peth a wnawn ni i Gibeah, nyni a awn i fynu iw herbyn wrth goel-bren:

10 Ac ni a gymmerwn ddengwr o'r cant drwy holl lwythau Israel, a chant o'r mil, a mil o'r dengmil, i ddwyn llyniaeth i'r bobl, i wneu­thur (pan ddelont i Gibeah Benjamin) yn ôl yr holl ffieidd-dra a wnaethant hwy yn Israel.

11 Felly 'r ymgasclodd holl wŷr Israel yn erbyn y ddinas, ynHeb. yn gyfei­llion. gydtun fel vn gŵr.

12 A llwythau Israel a anfonasant wŷr trwy holl lwythau Benjamin, gan ddywedyd, beth yw 'r drygioni ymma a wnaethpwyd yn eich mysc chwi?

13 Ac yn awr rhoddwch y gwyr, meibion Belial, y rhai sydd yn Gibeah, fel y lladdom hwynt, ac y deleom ddrygioni o Israel; ond ni warandawei meibion Benjamin ar lais eu bro­dyr meibion Israel.

14 Eithr meibion Benjamin a ymgynnulla­sant o'r dinasoedd i Gibeah, i fyned allan i ry­fel yn erbyn meibion Israel.

15 A chyfrifwyd meibion Benjamin y dydd hwnnw, o'r dinasoedd, yn chwe mil ar hugain o wŷr, yn tynnu cleddyf, heb law trigolion Gibeah, y rhai a gyfrifwyd yn saith gant o wŷr etholedic.

16 O'r holl bobl hyn yr oedd saith gant o wŷr etholedicPen. 3.15. yn chwithig: pob vn o ho­nynt a ergydiei â charreg at y blewyn heb fethu.

17 Gwŷr Israel hefyd a gyfrifwyd heb law Benjamin yn bedwar can mil yn tynnu cleddyf, pawb o honynt yn rhyfel-wŷr.

18 A meibion Israel a gyfodasant, ac a ae­thant i fynu i dŷ Dduw, ac a ymgynghorasant â Duw, ac a ddywedasant, pwy o honom ni â i fynu yn gyntaf i'r gâd yn erbyn meibion Ben­jamin? a dywedodd yr Arglwydd, Juda â yn gyntaf.

19 A meibion Israel a gyfodasant y borau, ac a werssyllasant yn erbyn Gibeah.

20 A gwyr Israel aethant allan i ryfel yn er­byn Benjamin, a gwŷr Israel a ymosodasant i ymladd iw herbyn hwy wrth Gibeah.

21 A meibion Benjamin a ddaethant allan o Gibeah, ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugain o wŷr, hyd lawr.

22 A'r bobl gŵyr Israel a ymgryfhasant, ac a ymosodasant drachefn i ymladd, yn y lle yr ymosodasent ynddo y dydd cyntaf.

23 (A meibion Israel a aethent i fynu, ac a ŵylasent ger bron yr Arglwydd hyd yr hwyr, ymgynghorasent hefyd â'r Arglwydd, gan ddy­wedyd, âf fi drachefn i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd? a dywedasei 'r Arglwydd, dos i fynu yn ei erbyn ef.)

24 A meibion Israel a nessasant yn erbyn meibion Benjamin yr ail dydd.

25 A Benjamin a aeth allan o Gibeah, iw herbyn hwythau yr ail dydd, a hwy a ddifetha­sant o feibion Israel eil-waith dair mil ar bym­thec o wŷr, hyd lawr: y rhai hyn oll oedd yn tynnu cleddyf.

26 Yna holl feibion Israel a'r holl bobl a ae­thant i fynu, ac a ddaethant i dŷ Dduw, ac a ŵylasant, ac a arhosasant yno ger bron yr Ar­glwydd, ac a ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr, ac a offrymmasant boeth offrymmau, ac offrymmau hedd, ger bron yr Arglwydd.

27 A meibion Israel a ymgynghorasant â'r Arglwydd, (canys yno 'r oedd Arch cyfammod Duw yn y dyddiau hynny;

28 A Phinees mab Eleazar, mab Aaron oedd yn sefyll ger ei bron hi yn y dyddiau hynny,) gan ddywedyd, a chwanegafi mwyach fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd, neu a beidiafi? a dywedodd yr Arg­lwydd, ewch i synu, canys y foru y rhoddaf ef yn dy law di.

29 Ac Israel a osododd gynllwyn-wyr o am­gylch Gibeah.

30 A meibion Israel a aethant i fynu yn erbyn meibion Benjamin y trydydd dydd, ac a ymosodasant wrth Gibeah fel cynt.

31 A meibion Benjamin a aethant allan yn erbyn y bobl, a thynnwyd hwynt oddiwrth y ddinas; a hwy a ddechreuasant daro rhai o'r bobl yn archolledic fel cynt, yn y priffyrdd, o'r rhai y mae i naill yn myned i fynu iNeu, Bethel. dy Dduw, a'r llall i Gibeah, yn y maes, ynghylch deng-wr ar hugain o Israel.

32 A meibion Benjamin a ddywedasant, cwympwyd hwynt o'n blaen ni fel ar y cyntaf: ond meibion Israel a ddywedasent, ffown fel y tynnom hwynt oddiwrth y ddinas i'r pri­ffyrdd.

33 A holl wŷr Israel a gyfodasant o'i lle, ac a fyddinasant yn Baal-tamar: a'r sawl a oedd o Israel yn cynllwyn, a ddaeth allan o'i mangre, sef o wyr-gloddiau Gibeah.

34 A daeth yn erbyn Gibeah ddeng-mil o wyr etholedic o holl Israel, a'r gâd a fu dost: ond ni ŵyddent fod drwg yn agos attynt.

35 A'r Arglwydd a darawodd Benjamin o flaen Israel, a difethodd meibion Israel o'r Ben­jaminiaid y dwthwn hwnnw, bum-mil ar hu­gain a chan-wr; a'r rhai hyn oll yn tynnu cleddyf.

36 Felly meibion Benjamin a welsant mai eu lladd yr oeddid: canys gwŷr Israel a rodda­sant lê i'r Benjaminiaid, o herwydd hyderu yr oeddynt ar y cynllwyn-wyr, y rhai a osodasent yn ymyl Gibeah.

37 A'r cynllwyn-wyr a fryssiasant, ac a ru­thrasant ar Gibeah; a'r cynllwyn-wyr aNeu, aethant rhag­ddynt. vd­canasant yn hirllaes, ac a darawsant yr holl ddinas â min y cleddyf.

38 Ac yr oeddArwyd. amser nodedic rhwng gwŷr Israel a'r cynllwyn-wŷr, sef peri o honynt iHeb. Dercha­fiad. fflam fawr a mwg dderchafu o'r ddinas.

39 A phan drôdd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel, Benjamin a ddechreuodd daroNeu, yr. yn ar­cholledic o wŷr Israel yngylch deng-wr ar hu­gain; canys dywedasant, diau gan daro eu ta­ro hwynt o'n blaen ni, fel yn y cyntaf.

40 A phan ddechreuoddHeb. Holl yssiad. y fflam ddercha­fu o'r ddinas a cholofn o fŵg, Benjamin a edrychodd yn ei ol, ac wele fflam y ddinas yn derchafu i'r nefoedd.

41 Yna gwŷr Israel a droesant drachefn, a gŵyr Benjamin a frawychasant; o herwydd hwy a ganfuant fod drwg wedi Heb. cyfwrdd a hwynt. dyfod arnynt.

42 Am hynny hwy a droesant o flaen gwŷr Israel, tua ffordd yr anialwch, a'r gâd a'i go­ddiweddodd hwynt: a'r rhai a ddaethe o'r dinasoedd, yr oeddynt yn eu difetha yn eu canol.

43 Felly 'r amgylchynasant y Benjaminiaid, erlidiasant hwynt, a sathrasant hwyntNeu, o Menu­chah. yn hawdd hyd ynghyfer Gibeah tua chodiad haul.

44 A lladdwyd o Benjamin dair mil ar bymthec o wŷr; y rhai hyn oll oedd wŷr nerthol.

45 A hwy a droesant, ac a ffoesant tua 'r anialwch i graig Rimmon, a'r Israeliaid a loffa­sant o honynt ar hŷd y priffyrdd bum-mil o wŷr: erlidiasant hefyd ar eu hol hwynt hyd Gidom, ac a laddasant o honynt ddwy fil o wŷr.

46 A'r rhai oll a gwympodd o Benjamin y dwthwn hwnnw, oedd bum-mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf: hwynt oll oedd wŷr nerthol.

47Pen. 21.13. Etto chwe chan-wr a droesant, ac a ffoesant i'r anialwch i graig Rimmon, ac a ar­hosasant ynghraig Rimmon bedwar mis.

48 A gwŷr Israel a ddychwelasant ar feibion Benjamin, ac a'i tarawsant hwy â mîn y cle­ddyf, yn ddŷn o bob dinas, ac yn anifail, a pheth bynnac a gafwyd: yr holl ddinasoedd hefyd a'r a gafwyd a loscasant hwy â thân.

PEN. XXI.

1 Y bobl yn galaru am ddinistr Benjamin, 8 a thrwy ddifetha Jabes Gilead yn cael iddynt bed­war-cant o wragedd. 16 Ac yn eu canghori hwynt i osod ar y gwyryfon oedd yn dawnfio yn Siloh.

A Gwŷr Israel a dyngasent ym Mispah, gan ddywedyd, ni ddyry neb o honom ni ei ferch i Benjaminiad yn wraig.

2 A daeth y bobl i dŷ Dduw, ac a arhosa­sant yno hyd yr hwyr, ger bron Duw, ac a dder­chafasant eu llef, ac a ŵylasant ag wylofain mawr.

3 Ac a ddywedasant, ô Arglwydd Dduw Israel, pa ham y bu y peth hyn yn Israel, fel y bydde heddyw vn llwyth eisiau yn Israel?

4 A thrannoeth y bobl a foreu-godasant, ac a adailadasant yno allor, ac a offrymmasant boeth offrymmau, ac offrymmau hedd.

5 A meibion Israel a ddywedasant, pwy o holl lwythau Israel, ni ddaeth i fynu gyd â'r gynnulleidfa at yr Arglwydd? canys llŵ mawr oedd yn erbyn yr hwn ni ddelsei i fynu at yr Arglwydd i Mispah, gan ddywedyd, rhoddir ef i farwolaeth yn ddiau.

6 A meibion Israel a edifarhasant o herwydd Benjamin eu brawd, a dywedasant, torrwyd ymmaith heddyw vn llwyth o Israel.

7 Bêth a wnawn ni am wragedd i'r rhai a adawyd, gan dyngu o honom ni i'r Arglwydd, na roddem iddynt yr vn o'n merched ni yn wragedd?

8 Dywedasant hefyd, pwy vn o lwythau Israel ni ddaeth i fynu at yr Arglwydd i Mis­pah? ac wele ni ddelsei neb o Jabes Gilead i'r gwersyll, at y gynnulleidfa.

9 Canys y bobl a gyfrifwyd, ac wele nid oedd yno neb o drigolion Jabes Gilead.

10 A'r gynnulleidfa a anfonasant yno ddeu­ddeng-mil o wŷr grymmus, ac a orchymynna­sant iddynt, gan ddywedyd, ewch a tharewch bresswylwŷr Jabes Gilead â mîn y cleddyf, y gwragedd hefyd a'r plant.

11Num. 21.17. Dymma hefyd y peth a wnewch chwi, difethwch bob gwryw, a phob gwraig aHeb. wybu or­wedd. or­weddodd gyd â gŵr.

12 A hwy a gawsant ym mhlith trigolion Jabes Gilead bedwar cant o langcesau yn wery­fon, y rhai nid adnabuasent ŵr drwy gydor­wedd â gŵr: a dygasant hwynt i'r gwerssyll i Siloh, yr hon sydd yngwlâd Canaan.

13 A'r holl gynnulleidfa a anfonasantHeb. ac a lefa­rasant. i lefaru wrth feibion Benjamin, y rhai oedd ynghraig Rimmon, ac i gyhoeddi heidwch iddynt.

14 A'r Benjaminiaid a ddychwelasant yr am­ser hwnnw, a hwy a roddasant iddynt hwy y gwragedd a gadwasent yn fyw o wragedd Jabes Gilead: ond ni chawsant hwy ddigon felly.

15 A'r bobl a edifarhaodd dros Benjamin, o herwydd i'r Arglwydd wneuthur rhwygiad yn llwythau Israel.

16 Yna henuriaid y gynnulleidfa a ddywe­dasant, beth a wnawn ni am wragedd i'r lleill gan ddestrywio y gwragedd o Benjamin?

17 Dywedasant hefyd, rhaid yw bod etife­ddiaeth i'r rhai a ddiangodd o Benjamin, fel na ddeleer llwyth allan o Israel.

18 Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o'n merched ni: canys meibion Israel a dyngasant, gan ddywedyd, melldigedic fyddo 'r hwn a roddo wraig i Benjamin.

19 Yna y dywedasant, wele y mae gŵyl i'r ArglwyddHeb. o flwydd­yn i flwy­ddyn. bob blwyddyn yn Siloh, o du 'r gogledd i Bethel, tua chyfodiad haulNeu, ar y. i'r bri­ffordd y sydd yn myned i fynu o Bethel i Sichem, ac o du 'r dehau i Libanus.

20 Am hynny y gorchymynnasant hwy i feibion Benjamin, gan ddywedyd, ewch a chynllwynwch yn y gwin-llannoedd.

21 Edrychwch hefyd; ac wele, os merched Siloh a ddaw allan i ddawnsio mewn dawnsi­au, yna deuwch chwithau allan o'r gwinllan­noedd, a chippiwch i chwi bob vn ei wraig o ferched Siloh, ac ewch i wlâd Benjamin.

22 A phan ddelo eu tadau, neu eu brodyr hwynt i achwyn attom ni, yna y dywedwn wrthynt, byddwch dda iddynt er ein mwyn ni; o blegit na chadwasom i bob vn ei wraig yn y rhyfel: o achos na roddasoch chwi hwynt iddynt y pryd hyn, ni byddwch chwi euog.

23 A meibion Benjamin a wnaethant felly, a chymmerasant wragedd yn ôl eu rhyfedi, o'r rhai a gippiasent, ac a oeddynt yn dawn­sio: a hwy a aethant ymmaith, a dychwela­sant iw hetifeddiaeth, ac a adcyweiriasant y di­nasoedd, ac a drigasant ynddynt.

24 A meibion Israel a ymadawsant oddi yno y pryd hynny, bob vn at ei lwyth, ac at ei deulu, ac a aethant oddi yno bob vn iw etifeddiaeth.

25Pen. 17.6. & 18.1. & 19.1. Yn y dyddiau hynny nid oedd bre­nin yn Israel: pob vn a wnai 'r hyn oedd vniawn yn ei olwg ei hun.

¶LLYFR RUTH.

PEN. I.

1 Elimelech wedi i yrru gan newyn i Moab, yn marw yno. 4 Mahlon a Chilion, wedi priodi gwragedd o Moab, yn marw hefyd. 6 Naomi wrth ddychwelyd adref, 8 yn ceisio gan ei dwy waudd na ddeuent gydâ hi. 14 Orpah yn ei gadel hi, a Ruth yn ddianwadal yn ei dilyn hi. 19 Hwynt ill dwyedd yn dyfod i Bethlehem, ac yn cael yno groeso.

A Bu yn y dyddiau yr oedd y brawd­wŷr yn barnu, fod newyn yn y wlâd: a gŵr o Bethlehem Juda aeth i ym­deithio yngwlâd Moab, efe a'i wraig, a'i ddau fab.

2 Ac enw y gŵr oedd Elimelech, ac enw ei wraig Naomi, ac enw ei ddau fab Mahlon, a Chilion, Ephrateaid o Bethlehem Juda: a hwy a ddaethant i wlâd Moab, ac a fuant yno.

3 Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw, a hithe a'i dau fab a adawyd.

4 A hwy a gymmerasant iddynt wragedd o'r Moabiesau; enw y naill oedd Orpah, ac enw y llall Ruth: a thrigasant yno ynghylch deng­mhlynedd.

5 A Mahlon, a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau, a'r wraig a adawyd yn ymddifad o'i dau fab, ac o'i gŵr.

6 A hi a gyfododd a'i merched ynghyfraith, i ddychwelyd o wlâd Moab: canys hi a glyw­sei yngwlâd Moab, ddarfod i'r Arglwydd ym­weled â'i bobl, gan roddi iddynt fara.

7 A hi a aeth o'r lle yr oedd hi ynddo, a'i dwy waudd gyd â hi: a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlâd Juda.

8 A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, ewch, dychwelwch bob vn i dŷ ei mam: gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi â'r meirw, ac â minneu.

9 Yr Arglwydd a ganiadhao i chwi gael gorphywysdra bob vn yn nhŷ ei gŵr. Yna y cussanodd hi hwynt, a hwy a dderchafasant eu llef, ac a ŵylasant.

10 A hwy a ddywedasant wrthi, diau y dychwelwn ni gyd â thi at dy bobl di.

11 A dywedodd Naomi, dychwelwch fy merched; i ba beth y deuwch gyd â mi? a oes gennifi feibion etto yn fynghrôthDeut. 25.5. Mat. 22.24. Mar. 12.19. Luc. 20.28. i fod yn wŷr i chwi?

12 Dychwelwch fy merched, ewch ymaith, canys yr ydwyfi yn rhy hên i briodi gŵr: pe dywedwn y mae gennif obaith, a bod heno gyd â gŵr, ac ymddwyn meibion hefyd,

13 A arhosech chwi am danynt hwy hyd oni gynnyddent hwy? aHeb. obeithiech. ymarhosech chwi am danynt hwy heb ŵra? nagê fy merched: ca­nys y mae mawrHeb. chwerw­der. dristwch i mi o'ch plegit chwi, am i law 'r Arglwydd fyned i'm herbyn.

14 A hwy a dderchafasant eu llef, ac a ŵy­lasant eilwaith: ac Orpah a gussanodd ei chwegr, ond Ruth a lynodd wrthi hi.

15 A dywedodd Naomi, wele dy chwaer yng­hyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau; dychwel ditheu ar ôl dy chwaer yng­hyfraith.

16 A Ruth a ddywedodd,Neu, na fydd i'm her­byn. nac erfyn arnafi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di: canys pa le bynnac yr elych di yr âf inneu, ac ym mha le bynnac y lletteuech di y lletteuaf inneu, dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw di fy Nuw inneu:

17 Lle y byddych di marw y byddaf inneu farw, ac yno i'm cleddir: fel hyn y gwnelo 'r Arglwydd i mi, ac fel hyn y chwanego, os dim onid angeu a wna yscariaeth rhyngofi a thitheu.

18 Pan welodd hi ei bod hi wediHeb. ymgryf­hau. ymro­ddi i fyned gyd â hi, yna hi a beidiodd a dy­wedyd wrthi hi.

19 Felly hwynt ill dwy a aethant nes iddynt ddyfod i Bethiehem: a phan ddaethant i Beth­lehem, yr holl ddinas a gyffrôdd o'i herwydd hwynt, a dywedasant, ai hon yw Naomi?

20 A hi a ddywedodd wrthynt hwy, na elwch fiPryd­ferth. Naomi; gelwch fiChwe­rw. Mara; canys yr Holl-alluog a wnaeth yn chwerw iawn â mi.

21 Myfi a euthum allan yn gyflawn, a'r Arglwydd a'm dûg i eilwaith yn wâg: pa ham y gelwch chwi fi Naomi, gan i'r ArglwyddDystio­laethu i'm her­byn. fy narostwng, ac i'r Holl-alluog fy nrygu?

22 Felly y dychwelodd Naomi, a Ruth y Moabies ei gwaudd gyd â hi, yr hon a ddych­welodd o wlad Moab: a hwy a ddaethant i Bethlehem yn nechreu cynhaiaf yr heiddiau.

PEN. II.

1 Ruth yn lloffa ym meusydd Boaz. 4 Boaz yn cymmeryd cydnabod arni, 8 ac yn dangos iddi garedigrwydd mawr, 18 a hithau yn dwyn ac Naomi yr hyn a gawsei.

AC i ŵr Naomi 'r ydoedd câr, o ŵr cadarn nerthol, o dylwyth Elimelech, a'i enw Booz.

2 A Ruth y Moabies a ddywedodd wrth Naomi, gâd i mi fyned yn awr i'r maes a lloffa twyfennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafor yn ei olwg: hitheu a ddywedodd wrthi, dos fy merch.

3 A hi aeth, ac a ddaeth, ac a loffodd yn y maes ar ôl y medel-ŵyr: a digwyddodd wrth ddamwain fod y rhan honno o'r maes yn eiddoMatth. 1.5. Booz, yr hwn oedd o dŷlwyth Elimelech.

4 Ac wele Booz a ddaeth o Bethlehem, ac a ddywedodd wrth y medel-wŷr, yr Arglwydd a fyddo gyd â chwi; hwythau a ddywedasant wrtho ef, yr Arglwydd a'th fendithio.

5 Yna y dywedodd Booz wrth ei wâs, yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medel-wŷr, pwy pieu 'r llangces hon?

6 A'r gwâs yr hwn oedd yn sefyll wrth y medel-wŷr a attebodd, ac a ddywedodd, y llangces o Moab ydyw hi, yr hon a ddych­welodd gyd â Naomi o wlâd Moab.

7 A hi a ddywedodd, attolwg yr ydwyf gael lloffa, a chasglu ym mysg yr ysgubau ar ôl y medel-wŷr: a hi a ddaeth, ac a arhosodd er y boreu hyd yr awr hon, oddieithr arhos o honi hi ychydig yn tŷ.

8 Yna y dywedodd Booz wrth Ruth, oni chlywi di fy merch? na ddos i loffa i faes arall, ac na cherdda oddi ymma: eithr aros ymma gyd â'm llangcesau i.

9 Bydded dy lygaid ar y maes y byddont hwy yn ei fedi, a dôs ar eu hôl hwynt; oni orchymynnais i'r llangciau na chyffyrddent â thi? a phan sychedech, dos at y llestri, ac ŷf o'r hwn a ollyngodd y llangciau.

10 Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymmodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, pa ham y cefais ffafor yn dy olwg di, fel y cymmerit gydnabod arnaf, a minneu yn all­tudes?

11 A Booz a attebodd, ac a ddywedodd wrthi, gan fynegi y mynegwyd i mi 'r hyn oll a wnaethost i'th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr: ac fel y gadewaist dy dâd, a'th fam, a gwlâd dy anedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o'r blaen.

12 Yr Arglwydd a dalo am dy waith, a by­dded dy obrwy yn berffaith gan Arglwydd Dduw Israel, yr hwn y daethost i obeithio tan ei adenydd.

13 Yna hi a ddywedodd, caffwyf ffafor yn dy olwg di fy Arglwydd, gan i ti fy-nghyssuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasana­eth-ferch, er nad ydwyf fel vn o'th lawforwy­nion di.

14 A dywedodd Booz wrthi hi, yn amser bwyd tyred ymma, a bwytta o'r bara, a gwlŷch dy dammeid yn y finegr. A hi a eisteddodd wrth ystlys y medel-wŷr, ac efe a estynnodd iddi grasŷd, a hi a fwyttaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill.

15 A hi a gyfododd i loffa, a gorchymyn­nodd Booz iw weision gan ddywedyd, lloffed hefyd ym mysc yr yscubau, ac naHeb chywily­ddiwch hi. feiwch arni.

16 A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi beth o'r yscubau: a gadewch hwynt fel y lloffo hi hwynt, ac na cheryddwch hi.

17 Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr hwyr, a hi a ddyrnodd yr hyn a loffasai, ac yr oedd ynghylch Ephah o haidd.

18 A hi a'i cymmerth, ac a aeth i'r ddinas; a'i chwegr a ganfu 'r hyn a gasclasei hi; hefyd hi a dynnodd allan; ac a roddodd iddi 'r hyn a weddillasei hi, wedi cael digon.

19 A dywedodd ei chwegr wrthi hi, pa le y lloffaist heddyw, a pha le y gweithiaist? bydded yr hwn a'th adnabu yn fendigedic. A hi a fy­negodd iw chwegr pwy y gweithiasei hi gyd ag ef, ac a ddywedodd, enw 'r gwr y gweithiais gyd ag ef heddyw yw Booz.

20 A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd, bendigedic fyddo efe gan yr Arglwydd, yr hwn [Page] ni pheidiodd â'i garedigrwydd tua 'r rhai byw, a'r rhai meirw: dywedodd Naomi hefyd wrthi hi, agos i ni yw 'r gŵr hwnnw,Neu, vn ydyw sydd iawn iddo oll­wng. o'n cy­fathrach ni y mae efe.

21 A Ruth y Moabies a ddywedodd, efe a ddywedodd hefyd wrthif, gyd â'm llangciau i yr arhosi, nes gorphen o honynt fy holl gynhai­af i.

22 A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd, da yw fy merch i ti fyned gyd â'i langcesi ef, fel na ruthront i'th erbyn mewn maes arall.

23 Felly hi a ddilynodd langcesau Booz i loffa, nes darfod cynhaiaf yr haidd, a chynhaiaf y gwenith, ac a drigodd gyd â'i chwegr.

PEN. III.

1 Ruth trwy addysc Naomi, 5 yn gorwedd wrth draed Boaz. 8 Boaz yn cydnabod rhan cyfath­rachwr, 14 ac yn ei danfon hi ymaith a chwe mesur o haidd gydâ hi.

YNa Naomi ei chwegr a ddywedodd wrthi, fy merch, oni cheisiafi orphwysdra i ti, fel y byddo da i ti?

2 Ac yn awr onid yw Boaz o'n cyfathrach ni, yr hwn y bûosti gyd a'i langcesi? wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr dyrnu.

3 Ymolch gan hynny, acPsal. 104.15. Mat. 6.17. ymîra, a gosot dy ddillad am danat, a dos i wared i'r llawrdyrnu: na fydd gydnabyddus i'r gŵr nes darfod iddo fwytta ac yfed.

4 A phan orweddo efe, yna dal ar y fan y gorweddo efe ynddi, a dôs aNeu, cyf d y aillad cadi ar ei araed ef. dinoetha ei draed ef, a gorwedd, ac efe a fynega i ti yr hyn a wnelych.

5 A hi a ddywedodd wrthi, gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi.

6 A hi a aeth i wared i'r llawr dyrnu, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchymynnasei ei chwegr iddi.

7 Ac wedi i Boaz fwytta ac yfed, fel y llaw­enhaodd ei galon, efe a aeth i gyscu i gwrr yr yscafn: hithe a ddaeth yn ddistaw, ac a ddi­noethodd ei draed ef, ac a orweddodd.

8 Ac ynghanol y nôs y gŵr a ofnodd, ac aHeb. ymafae­ [...]odd. ymdrôdd: ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef.

9 Ac efe a ddywedodd, pwy ydwyt ti? a hi a ddywedodd, myfi yw Ruth dy lawforwyn; lleda gan hynny dy aden tros dy lawforwyn, canys fy nghyfathrachwr i ydwyt ti.

10 Ac efe a a ddywedodd, bendigedic fyddech fy merch gan yr Arglwydd, dangosaist mwy o garedigrwydd yn y diwedd nag yn y dechrau, gan nad aethost ar ol gwŷr ieuaingc, na thlawd na chyfoethog.

11 Ac yn awr fy merch nac ofna, yr hyn oll a ddywedaist a wnaf it: canys hollHeb. b [...]th. ddinas fy mhobl a ŵyr mai gwraig rinweddol ydwyt ti.

12 Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfath­rachwr agos: er hynny y mae cyfathrachwr nes nâ myfi.

13 Aros heno, a'r boreu os efe a wna ran cyfathrachwr â thi, da, gwnaed ran cyfathrach­wr; ond os efe ni wna ran cyfathrachwr â thi, yna myfi a wna ran cyfathrachwr â thi, fel mai byw yr Arglwydd: cwsc hyd y boreu.

14 A hi a orweddodd wrth ei draed ef hyd y boreu: a hi a gyfododd cyn yr adwaenei neb ei gilydd: ac efe a ddywedodd, na chaffer gwy­bod dyfod y wraig i'r llawr dyrnu.

15 Ac efe a ddywedodd, moes dyNeu, gynfas, neu, ar­ffedog. fantell sydd am danat, ac ymafel ynddi, a hi a ymaflodd ynddi, ac efe a fesurodd chwe mesur o haidd, ac a'i gosododd arni; a hi aeth i'r ddinas.

16 A phan ddaeth hi at ei chwegr, hi a ddywe­dodd, pwy ydwyt ti fy merch? a hi a fynegodd iddi 'r hyn oll a wnaethei y gŵr iddi hi.

17 A hi a ddywedodd, y chwe mesur hyn o haidd a roddodd efe i mi, canys dywedodd wrthif, nid ai yn wâg-law at dy chwegr.

18 Yna y dywedodd hithe, aros fy merch, oni ŵypech pa fodd y digwyddo y peth hyn: canys ni orphwys y gŵr nes gorphen y peth hyn heddyw.

PEN. IV.

1 Boaz yn galw y cyfathrachwr nessaf ger bron. 6 Yntef yn gwrthod rhyddhau yr etifeddiaeth yn ol y ddefod yn Israel. 9 Boaz yn prynu yr etifeddiaeth, 11 ac yn priodi Ruth. 13 Hi­thau yn dwyn Obed taid Dafydd. 18 Cen­hedlaeth Pharez.

YNa Booz a aeth i fynu i'r porth, ac a eiste­ddodd yno; ac wele y cafathrachwr yn my­ned heibio am yr hwn y dywedasci Booz, ac efe a ddywedodd wrtho, hô hwn a hwn, tyret yn nes, eistedd ymma: ac efe a nesaodd ac a ei­steddodd.

2 Ac efe a gymmerth ddeng-wr o henuriaid y ddinas, [...] a ddywedodd, eisteddwch ymma. A hwy a eisteddasant.

3 Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrach­wr: y rhan o'r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi, yr hon, a ddychwelodd o wlâd Moab.

4 A dywedais yHeb. datcu­ddiwn dy glust. mynegwn it, gan ddywe­dyd, pryn ef ger bron y trigolion a cher bron henuriaid fy mhobl. Os rhyddhei rhyddhâ ef, ac oni ryddhei, mynega i mi fel y gwypwyf: canys nid oes onid ti iw rhyddhau, a minneu sydd ar dy ôl di. Ac efe a ddywedodd, myfi a'i rhyddhâf.

5 Yna y dywedodd Booz, y diwrnod y pryn­ech di 'r maes o law Naomi, ti a'i pryni he­fyd gan Ruth y Moabites gwraig y marw, i gy­fodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef.

6 A'r cyfathrachwr a ddywedodd, ni allaf ei ryddhau i mi, rhac colli fy etifeddiaeth fy hun: ryddhâ di it dy hun fy rhan i, canys ni allafi ei ryddhau.

7Deut. 25.7, 9. A hyn oedd ddefod gynt yn Israel am ryddhâd, ac am gyfnewid, i siccrhau pob peth; gŵr a ddioscei ei escid, ac a'i rhoddei iw gymy­dog: a hyn oedd dystiolaeth yn Israel.

8 Am hynny y dywedodd y cyfathrach-wr wrth Booz, pryn it dy hun: ac efe a ddioscodd ei escid.

9 A dywedodd Booz wrth yr henuriaid ac wrth yr holl bobl, tystion ydych chwi heddyw, i mi brynu 'r hyn oll oedd eiddo Elimelech, a'r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon, o law Naomi.

10 Ruth hefyd y Moabites gwraig Mahlon a brynais i'm yn wraig, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na thorrer ymmaith enw y marw o blith ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre: tystion ydych chwi heddyw.

11 A'r holl bobl y rhai oedd yn y porth, a'r henuriaid, a ddvwedasant, yr ydym yn dystion: yr Arglwydd a wnelo 'r wraig sydd yn dyfod i'th dŷ di, fel Rahel, ac fel Leah, y rhai a adeiladasant ill dwy dŷ Israel;Neu, cais it gyfoeth, neu, rym. a gwna di rymmustra yn Ephrata, bydd enwog yn Beth­lehem.

12 Bydded hefyd dy dŷ di fel tŷ Pharez, [Page] (Gene. 38.29. 1 Chron. 2.4. Matth. 1.3. yr hwn a ymddug Tamar i Juda:) o'r hâd yr hwn a ddyry 'r Arglwydd it o'r llangces hon.

13 Felly Booz a gymmerodd Ruth, a hi a fu iddo yn wraig; ac efe aeth i mewn atti hi, a'r Arglwydd a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddug fab.

14 A'r gwragedd a ddywedasant with Na­omi, bendigedic fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni'th adawodd di heb gyfathrach-wr heddyw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel.

15 Ac efe fydd i't yn adferŵr enioes, ac yn ymgeleddwr ith ben-wynni: canys dy waudd yr hon a'th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon fydd well i ti nâ saith o feibion.

16 A Naomi a gymmerth y plentyn, ac a'i gosododd ef yn ei monwes, ac a fu fammaeth iddo.

17 A'i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, ganwyd mab i Naomi, ac a al­wasant ei enw ef Obed: hwn oedd dâd Jesse tâd Dafydd.

18 Dymma genhedlaethau Pharez:1 Chron. 2.4. Mat. 1.3. Pha­rez a genhedlodd Hezron.

19 A Hezron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab.

20 Ac Aminadab a genhedlodd Nahson, a Nahson a genhedloddNeu, Salmeth. Salmon.

21 A Salmon a genhedlodd Booz, a Booz a genhedlodd Obed.

22 Ac Obed a genhedlodd Jesse, a Jesse a genhedlodd Ddafydd.

¶LLYFR CYNTAF SAMUEL, YR HWN A ELWIR hefyd Llyfr cyntaf y Brenhinoedd.

PEN. I.

1 Eleanah Lefiad oedd iddo ddwy wraig, yn addoli bôb blwyddyn yn Siloh: 4 Yn mawrhau Hannah er ei bôd yn amhlantadwy, ac er i Pen­inuch ei chythruddo. 9 Hannah yn wylofus, yn gweddio am blentyn. 12 Eli yn ei chery­ddu hi yn gyntaf, at ar ôl hynny yn ei bendithio hi. 19 Hannah wedi dwyn Samuel, yn aros gartref nes ei ddiddyfnu ef. 24 Yn ei gyflwyno ef i'r Arglwydd yn ôl ei hadduned.

AC yr oedd rhyw wr o Ramathaim Zophim, o fynydd Ephraim, a'i enw Elcanah, mab Jeroham, fab Elihu, fab Tohu, fab Zuph, Ephrataewr:

2 A dwy wragedd oedd iddo; enw y naill oedd Hannah, ac enw y llall Peninnah: ac i Peninnah yr ydoedd plant, ond i Hannah nid oedd plant.

3Deut. 16.16. A'r gŵr hwn a ai i fynu o'i ddinasHeb. o flwyddyn i flwy­ddyn. bôb blwyddyn i addoli, ac i aberthu i Arglwydd y llu [...]edd yn Siloh; a dau fab Eli, Hophni a Phinees, oedd offeiriaid i'r Arglwydd, yno.

4 Bu hefyd y diwrnod yr aberthodd Elca­nah, roddi o honaw ef i Peninnah ei wraig ac iw meibion, a'i merched oll, rannau.

5 (Ond i Hannah y rhoddes efe un rhanNeu, ddau ddy­blyg. hardd: canys efe a garei Hannah, ond yr Ar­glwydd a gaeasei ei chroth hi.

6 A'i gwrthwyneb-wraig a'iHeb. eigiodd. cyffrôdd hi iw chythruddo, am i'r Arglwydd gau ei brû hi.)

7 Ac felly y gwnaeth efe bôb blwyddynHeb. o'r pen [...]. pan escynnei hi i dŷ yr Arglwydd, hi a'i cythruddei hi felly, fel yr ŵylei, ac na fwyt­taei.

8 Yna Elcanah ei gŵr a ddywedodd wrthi, Hannah pa ham yr ŵyli? a pha ham na fwyt­tei? a pha ham y mae yn flin ar dy galon? onid ŵyfi well i ti nâ dêc o feibion?

9 Felly Hannah a gyfododd wedi iddynt fwytta ac yfed yn Siloh: (ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar faingc, wrth bôst teml yr Arglwydd.)

10 Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddiodd ar yr Arglwydd, a chan ŵylo hi a ŵy [...]odd.

11 Hefyd hi addunodd adduned, ac a ddy­wedodd, ô Arglwydd y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy law-forwyn, ac a'm cofi i, ac nid anghofi dy law-forwyn, onid rho­ddi i'th law-forwynHeb. had. gwyr. fâb, yna y rhoddaf ef i'r Arglwydd holl ddyddiau ei enioes, acNum. 6.5. Barn. 13.5. ni ddaw ellyn ar ei ben ef.

12 A bu fel yr oedd hi ynHeb. amlhau. gweddio. parhau yn gwe­ddio ger bron yr Arglwydd, i Eli ddal sulw ar ei genau hi.

13 A Hannah oedd yn llefaru yn ei chalon, yn vnic ei gwefusau a symmudent, a'i llais ni chlywid; am hynny Eli a dybiodd ei bod hi yn feddw.

14 Ac Eli a ddywedodd wrthi hi, pa hŷd y byddi feddw? bwrw ymmaith dy wîn oddi wrthyt.

15 A Hannah a attebodd, ac a ddywedodd, nid felly fy arglwydd, gwraig galedHeb. o yspryd. arni ydwyf fi, gwîn hefyd na diod gadarn nid yfais, eithrPsal. 42.5. tywelltais fy enaid ger bron yr Arglwydd.

16 Na chyfrif dy law-forwyn yn ferch Beli­al: canys o amldra fy myfyrdod, a'm blinder, y llefarais hyd yn hyn.

17 Yna yr attebodd Eli, ac a ddywedodd, dôs mewn heddwch: a Duw Israel a roddo dy ddymuniad, yr hwn a ddymunaist ganddo ef.

18 A hi a ddywedodd, cafed dy law-forwyn ffafor yn dy olwg: felly yr aeth y wraig iw thaith, ac a fwyttaodd, ac ni bu athrist mwy.

19 A hwy a gyfodasant yn foreu, ac a addo­lasant ger bron yr Arglwydd, ac a ddychwela­sant, ac a ddaethant iw tŷ i Ramah: ac Elcanah a adnabu Hannah ei wraig, a'r Arglwydd a'i co­fiodd hi.

20 A bu pan ddaethHeb cylchoedd dyddiau. yr amser o amgylch, wedi beichiogi o Hannah, escor o honi ar fab, a hi a alwodd ei enw efSef, y hwn a ar [...]hwy [...] gan y Arglwydd Samuel; canys gan yr Arglwydd y dymunais ef eb y hi.

21 A'r gŵr Elcanah aeth i fynu, a'i holl dy­lwyth, i offrymmu i'r Arglwydd yr aberth blynyddawl, a'i adduned.

22 Ond Hannah nid aeth i fynu; canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr, ni ddeuafi hyd oni ddiddyfner y bachgen; yna y dygaf ef, fel yr ymddangoso ef o flaen yr Arglwydd, ac y trigo byth.

23 Ac Elcanah ei gŵr a ddywedodd wrthi, gwna yr hyn a welych yn dda, aros hyd oni ddiddyfnech ef; yn vnic yr Arglwydd a gyf­lawno ei air; felly yr arhôdd y wraig, ac a fa­godd ei mab, nes iddi ei ddiddyfnu ef.

24 A phan ddiddyfnodd hi ef, hi a'i dûg ef i fynu gyd â hi, a thri o fustych, acExod. 16.36. vn Ephah o beilied, a chostreleid o win, a hi a'i dûg ef i [Page] dŷ yr Arglwydd yn Siloh, a'r bachgen yn ieuangc.

25 A hwy a laddasant fustach, ac a ddyga­sant y bachgen at Eli.

26 A hi a ddywedodd,Neu, [...] adferais [...] hwn [...] gefais [...]rwy we­ [...]di, i'r Arglwydd oh fy Arglwydd, fel y mae dy enaid yn fyw, Arglwydd, myfi yw 'r wraig oedd yn sefyll ymma yn dy ymyl di, yn gweddio ar yr Arglwydd.

27 Am y bachgen hwn y gweddiais, a'r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddy­munais ganddo.

28 Minneu hefyd a'i rhoddais ef i'r Ar­glwydd, yr holl ddyddiau y byddo efe byw, y Neu, [...]ferir yr hwn a [...]fais [...]rwy we­ [...]di. rhoddwyd ef i'r Arglwydd. Ac efe a addolodd yr Arglwydd yno.

PEN. II.

1 Cân Hannah yn dangos ei diolchgarwch. 12 Anwiredd meibion Eli. 18 Gweinido­gaeth Samuel. 20 Hannah trwy weddi Eli yn cael mwy o ffrwyth. 22 Eli yn ceryddu ei feibion. 28 Prophwydoliaeth yn erbyn tŷ Eli.

A Hannah a weddiodd, ac a ddywedodd, llawenychodd fynghalon yn yr Arglwydd, fynghorn a dderchafwyd yn yr Arglwydd: fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion: canys llawenychais yn dy iechydwriaeth di.

2 Nid sanctaidd neb fel yr Arglwydd; ca­nys nid dim hebot ti: ac nid oes graig megis ein Duw ni.

3 Na chwanegwch lefaru yn vchel vchel, na ddeued allan ddimHeb. [...]led. balch o'ch genau: canys Duw gwybodaeth yw yr Arglwydd, a'i amca­nion ef a gyflawnir.

4 Bwaau y cedyrn a dorrwyd, a'r gweini­aid a ymwregysasant â nerth.

5 Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a'r rhai newynoc a beidiasant, hyd onid escor­odd yr amlhantadwy ar saith, a llescau yr aml ei meibion.

6Deut. [...].39. [...]oeth. [...].13. [...]ob. 13. [...] Yr Arglwydd sydd yn marwhau, ac yn bywhau, efe sydd yn dwyn i wared i'r bedd ac yn dwyn i fynu.

7 Yr Arglwydd sydd yn tlodi, ac yn cyfoe­thogi; yn darostwng, ac yn derchafu.

8Psal. [...].7. Efe sydd yn cyfodi y tlawd o'r llŵch, ac yn derchafu 'r anghenus o'r tommennau, iw gosod gyd â thywysogion; ac i beri iddynt eti­feddu teyrngader gogoniant: canys eiddo yr Ar­glwydd golofnau y ddaiar, ac efe a osododd y bŷd arnynt.

9 Traed ei sainct a geidw efe, a'r annuwo­lion a ddistawant mewn tywyllwch; canys nid trwy nerth y gorchfyga gwr.

10 YPen. 10. rhai a ymrysonant â'r Arglwydd a ddryllir; efe a darâna yn eu herbyn hwyntô'r nefoedd: yr Arglwydd a farn derfynau y ddaiar, ac a ddyry nerth iw frenin, ac a dderchafa gorn ei eneiniog.

11 Ac Elcanah aeth i Ramah iw dŷ; a'r bachgen a fu wenidog i'r Arglwydd ger bron Eli yr offeiriad.

12 A meibion Eli oedd feibion Belial, nid adwaenent yr Arglwydd.

13 A defod yr offeiriad gyd â'r bobl oedd, pan offrymmei neb aberth, gwâs yr offeiriad a ddeuei pan fyddei y cîg yn berwi, a chigwain dridaint yn ei law,

14 Ac a'i tarawei hi yn y badell, neu yn yr efyddyn, neu yn y crochan, neu yn y pair; yr hyn oll a gyfodei y gigwain a gymmerei yr offeiriad iddo: felly y gwnaent yn Siloh i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno.

15 Hefyd cyn arogl-losci o honynt y brasder, y deuei gwâs yr offeiriad hefyd, ac a ddywedei wrth y gwr a fyddei yn aberthu, dyro gîg iw rostio i'r offeiriad, canys ni fynn efe gennit gîg berw, onid amrwd.

16 Ac os gŵr a ddywedei wrtho, gan losci lloscantHeb. megis heddyw. yn awr y brasder, ac yna cymmer fel yr ewyllysio dy galon: yntef a ddywedei wrtho, nagê, yn awr y rhoddi ef, ac onidê, mi a'i cymmeraf drwy gryfder.

17 Am hynny pechod y llangciau oedd fawr iawn ger bron yr Arglwydd: canys ffieiddlodd dynion offrwm yr Arglwydd.

18 A Samuel oedd yn gweini o flaen yr Ar­glwydd, yn fachgen wedi ymwregysu agExod. 28.4. Ephod liain.

19 A'i fam a wnai iddo fantell fechan, ac a'i dygei iddo o flwyddyn i flwyddyn, pan ddele hi i fynu gyd â'i gŵr i aberthu yr aberth blynyddawl.

20 Ac Eli a fendithiodd Elcanah a'i wraig, ac a ddywedodd, rhodded yr Arglwydd i ti hâd o'r wraig hon, am yNeu, benthyg a fenthy­giwyd i'r Ar­glwydd. dymuniad a ddymu­nodd gan yr Arglwydd: a hwy a aethant iw mangre eu hun.

21 A'r Arglwydd a ymwelodd â Hannah, a hi a feichiogodd, ac a escorodd ar dri o feibi­on, a dwy o ferched: a'r bachgen Samuel a gynnyddodd ger bron yr Arglwydd.

22 Ac Eli oedd hên iawn, ac efe a glybu yr hyn oll a wnelsei ei feibion ef i holl Israel, a'r modd y gorweddent gyd â'r gwragedd oedd yn ymgasclu yn finteiodd wrth ddrws pabell y cy­farfod.

23 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, pa ham y gwnaethoch y pethau hyn? canys clyw­af gan yr holl bobl hyn ddryg-air i chwi.

24 Nagê, fy meibion; canys nit dâ y gair yr ydwyfi yn ei glywed; eich bod chwi yn peri i bobl yr ArglwyddNeu, w [...]ia [...]. droseddu.

25 Os gŵr a becha yn erbyn gŵr, y swy­ddogion a'i barnant ef: ond os yn erbyn yr Arglwydd y pecha gŵr, pwy a eiriol trosto e [...]? ond ni wrandawsant ar lais eu tâd, am y myn­nei yr Arglwydd eu lladd hwynt.

26 (A'r bachgen Samuel a gynnyddodd, ac a aeth yn dda gan Dduw, a dynion hefyd.)

27 A daeth gŵr i Dduw at Eli, ac a ddy­wedodd wrtho, fel hyn y dywed yr Arglwydd, onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dâd, pan oeddynt yn yr Aipht, yn nhŷ Pharao?

28 Gan ei ddewis ef hefyd o holl lwythau Israel yn offeiriad i mi, i offrymmu ar fy allor, i losci arogl-darth, i wisco Ephod ger fy mron:Levit. 10.14. oni roddais hefyd i dŷ dy dâd ti holl ebyrth tanllyd meibion Israel.

29 Pa ham y sethrwch chwi fy aberth a'm bwyd offrwm, y rhai a orchymynnais, yn fy nhrigfa, ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy nâ myfi, gan eich pesci eich hunain â'r goreu o holl offrymmau fy mhobl Israel?

30 Am hynny medd Arglwydd Dduw Is­rael, gan ddywedyd y dywedais, dy dŷ di, a thŷ dy dâd a rodiant o'm blaen i byth: eithr yn awr medd yr Arglwydd, pell fydd hynny oddi wrthifi: canys fy anrhydedd wŷr a an­rhydeddafi, a'm dirmyg-wŷr a ddirmygir.

31 Wele y dyddiau yn dyfod pan dorrwyf dy fraich di, a braich tŷ dy dâd, fel na byddo henwr yn dy dŷ di.

32 A thi a gei weledNeu, gystudd y babell, yn lle 'r holl ddaioni a roesai Duw i Israel. gelyn yn fynhrigfa yn [Page] yr hyn oll a wna Duw o ddaioni i Israel: ac ni bydd henwr yn dy dŷ di bŷth.

33 A'r gwr o'r eiddot yr hwn ni thorraf ym­maith oddi wrth fy allor, fydd i beri i'th lygaid ballu, ac i beri i'th galon ofidio: a holl gyn­nyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr.

34 A hyn fydd i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw ar dy ddau fab, ar Hophni a Phinees: yn yr vn dydd y byddant feirw ill dau.

35 A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlon a wna yn ôl fy nghalon, a'm meddwl; a mi a adaila­daf iddo ef dŷ siccr, ac efe a rodia ger bron fy eneiniog yn dragywydd.

36 A bydd i bob vn a adewir yn dy dŷ di ddy­fod ac ymgrymmu iddo ef am ddernyn o arian, a thammaid o fara; a dywedyd,Heb. cyssyllta. gosot fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth i gael bwytta tammeid o fara.

PEN. III.

1 Y môdd y datcuddiwyd gair yr Arglwydd gyntaf i Samuel. 11 Duw yn dangos i Samuel ddinistr ty Eli. 15 Samuel o'i led-anfodd yn mynegi i Eli y weledigaeth. 19 Samuel yn tyfu mewn cymmeriad.

A'R bachgen Samuel a wasanaethodd yr Ar­glwydd ger bron Eli: a gair yr Arglwydd oedd werthfawr yn y dyddiau hynny; nid oedd weledigaeth eglur.

2 A'r pryd hynny pan oedd Eli yn gorwedd yn ei fangre, wedi iw lygaid ef ddechreu ty­wyllu, fel na allei weled,

3 A chyn i lamp Duw ddiffoddi yn nheml yr Arglwydd, lle yr oedd Arch Dduw, a Samuel oedd wedi gorwedd i gyscu:

4 Yna y galwodd yr Arglwydd ar Samuel; dywedodd yntef, wele fi.

5 Ac efe a redodd at Eli ac a ddywedodd, wele fi, canys gelwaist arnaf; yntef a ddywe­dodd, ni elwais i; dychwel a gorwedd; ac efe a aeth, ac a orweddodd.

6 A'r Arglwydd a alwodd eil-waith, Sa­muel. A Samuel a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, wele fi, canys gelwaist arnaf: yntef a ddywedodd, na elwais, fy mab, dych­wel a gorwedd.

7Neu, fel hyn y gwnai Sam. cyn iddo ad­nabod yr Arglwydd a chyn eg­luro gair yr Ar­glwydd iddo. Ac nid adwaenei Samuel etto yr Ar­glwydd, ac nid eglurasid iddo ef air yr Arglwydd etto.

8 A'r Arglwydd a alwodd Samuel drachefn y drydedd waith; ac efe a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, wele fi, canys gelwaist arnaf. A deallodd Eli mai yr Arglwydd a alwa­sei ar y bachgen.

9 Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel, dôs, gorwedd, ac os geilw efe arnat, dywed, llefara Arglwydd, canys y mae dy wâs yn cly­wed: felly Samuel a aeth, ac a orweddodd yn ei le.

10 A daeth yr Arglwydd, ac a safodd, ac a alwodd megis o'r blaen, Samuel, Samuel. A dy­wedodd Samuel, llefara, canys y mae dy wâs yn clywed.

11 A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, wele fi yn gwneuthur pêth yn Israel, yr hwn pwy bynnac a'i clywo, fe2 Bren. 21.12. a ferwina ei ddwy glust ef.

12 Yn y dydd hwnnw y dygaf i ben yn erbyn Eli, yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef, gan ddechreu a diweddu ar vnwaith.

13Pen. 2.29, 30, 31, &c. Neu, Mynegaf. Mynegais hefyd iddo ef y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd a ŵyr efe; o herwydd iw feibion haeddu iddynt fell­dith, acNeu, ni chuch [...] ­odd ar­nynt. nas gwaharddodd efe iddynt.

14 Ac am hynny y tyngais wrth dŷ Eli na wneir iawn am anwiredd tŷ Eli ag aberth, nac â bwyd offrwm byth.

15 A Samuel a gyscodd hyd y boreu, ac a agorodd ddrysau tŷ yr Arglwydd: a Samuel oedd yn ofni mynegi y weledigaeth i Eli.

16 Ac Eli a alwodd ar Samuel, ac a ddywe­dodd, Samuel fy mab: yntef a ddywedodd, wele fi.

17 Ac efe a ddywedodd, beth yw 'r gair a lefarodd yr Arglwydd wrthit? na chela attolwg oddi wrthif:Ruth. 1.17. fel hyn y gwnelo Duw i ti, ac fel hyn y chwanego, os celi oddi wrthif ddim o'r hollNeu, eiriau. bethau a lefarodd efe wrthit.

18 A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo: dywedodd yntef, yr Arglwydd yw efe; gwnaed a fyddo da yn ei olwg.

19 A chynnyddodd Samuel, a'r Arglwydd oedd gyd ag ef, ac ni adawodd i vn o'i eiriau ef syrthio i'r ddaiar.

20 A gwybu holl Israel o Dan hyd Beer­seba,Neu, Sicrhau Samuel yn bro­phwyd i'r Ar­glwydd. mai prophwyd ffyddlon yr Arglwydd oedd Samuel.

21 A'r Arglwydd a ymddangosodd trachefn yn Siloh: canys yr Arglwydd a ymeglurhaodd i Samuel yn Siloh, drwy air yr Arglwydd.

PEN. IV.

1 Y Philistiaid yn gorchfygu 'r Israeliaid yn Eben-ezer. 3 Hwythau yn cyrchu yr Arch i ddychrynu y Philistiaid. 10 Y Philistiaid yn eu taro hwynt eilwaith, yn dal yr Arch, ac yn lladd Hophni a Phinees. 12 Eli wrth glywed y newyddion, yn syrthio yngwysc ei gefn ac yn torri ei wddf. 19 Gwraig Phinees wedi di­galonni, wrth Escor ar Ichabod yn marw.

ANeu, daeth i ben. Hê­oedd. Daeth gair Samuel i holl Israel: ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel, a gwerssyllasant ger llaw Eben-ezer: a'r Philisti­aid a werssyllasant yn Aphec.

2 A'r Philistiaid a ymfyddinasant yn erbyn Israel, a'r gâd a ymgyfarfu, a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid: a hwy a laddasant o'r fydd­in yn y maes, ynghylch pedair mil o wŷr.

3 A phan ddaeth y bobl i'r gwerssyll, henu­riaid Israel a ddywedasant, pa ham y tarawodd yr Arglwydd ni heddyw o flaen y Philistiaid? cymerwn attom o Siloh Arch cyfammod yr Ar­glwydd, a deled i'n mysc, fel y cadwo hi ni o law ein gelynion.

4 Felly y bobl a anfonodd i Siloh, ac a ddy­gasant oddi yno Arch cyfammod Arglwydd y lluoedd, yr hwnExod. 25.17. sydd yn aros rhwng y Ceru­biaid; ac yno yr oedd dau fab Eli, Hophni a Phinees, gyd ag Arch cysammod Duw.

5 A phan ddaeth Arch cyfammod yr Ar­glwydd i'r gwerssyll, holl Israel a floeddiasant â bloedd fawr, fel y dadseiniodd y ddaiar.

6 A phan glybu y Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, pa peth yw llais y floedd fawr hon yngwerssyll yr Hebræaid? a gwybuant mai Arch yr Arglwydd a ddaethei i'r gwerssyll.

7 A r Philistiaid a ofnasant, o herwydd hwy a ddywedasant, daeth Duw i'r gwerssyll: dywe­dasant hefyd, gwae ni, canys ni bu y fath bethHeb. ddoe, [...] o flaen hyn.

8 Gwae ni, pwy a'n gwared ni o law y Duwi­au nerthol hyn? dymma y Duwiau a daraw­sant yr Aiphtiaid â'r holl blaau yn yr anialwch.

9 Ymgryfhewch, a byddwch wŷr, ô Philisti­aid, [Page] rhac i chwi wasanaethu yr Hebræaid,Barn. 13.1. fel y gwasanaethasant hwy chwi: byddwch wŷr, ac ymleddwch.

10 A'r Philistiaid a ymladdasant, a lladdwyd Israel, a ffoawdd pawb iw babell, a bu lladdfa fawr iawn: canys syrthiodd o Israel ddengmil ar hugain o wŷr traed.

11 Ac Arch Duw a ddaliwyd, a dau fab Eli, Hophni a Phinees a fuant feirw.

12 A gŵr o Benjamin a redodd o'r fyddin, ac a ddaeth i Siloh y diwrnod hwnnw a'i ddill­ad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben.

13 A phan ddaeth efe, wele Eli yn eistedd ar eisteddfa ger llaw yr ffordd yn disgwil; ca­nys yr oedd ei galon ef yn ofni am Arch Dduw. A phan ddaeth y gŵr i'r ddinas, a myne­gi hyn, yr holl ddinas a waeddodd.

14 A phan glywodd Eli lais y waedd, efe a ddywedodd, beth yw llais y cynnwrf ymma? a'r gŵr a ddaeth i mewn ar frys ac a fynegodd i Eli.

15 Ac Eli oedd fab tair blwydd ar bymthec a phedwar vgain, aHeb. safasei. Pen. 3. 2. phallasei ei lygaid ef fel na allei efe weled.

16 A'r gŵr a ddywedodd wrth Eli, myfi sydd yn dyfod o'r fyddin, myfi hefyd a ffoes heddyw o'r fyddin. A dywedodd yntef, pa bethHeb. yw 'r peth. a ddigwyddodd, fy mab?

17 A'r gennad a attebodd, ac a ddywedodd, Israel a ffoawdd o flaen y Philistiaid, a bu hefyd laddfa fawr ym mysc y bobl, a'th ddau fab he­fyd Hophni a Phinees a fuant feirw, ac Arch Dduw a ddaliwyd.

18 A phan grybwyllodd efe am Arch Dduw, yntef a syrthiodd oddi ar yr eisteddle yngŵysc ei gefn ger llaw y porth, a'i wddf a dorrodd, ac efe a fu farw; canys y gŵr oedd hên a thrwm, ac efe a farnasei Israel ddeugain mlhynedd.

19 A'i waudd ef, gwraig Phinees oedd fei­chlog yn agos iNeu, waeddi. escor; a phan glybu sôn ddar­fod dal Arch Dduw, a marw o'i chwegrwn a'i gŵr, hi a ymgrymmodd, ac a glefychodd, ca­nys ei gwewyr aHeb. ymdroe­s [...]t yn­ddi. ddaeth arni.

20 Ac ynghylch y prŷd y bu hi farw, y dy­wedodd y gwragedd oedd yn sefyll gyd â hi, nac ofna, canys escoraist ar fâb. Ond nid attebodd hi, acHeb. [...]i osododd ei chalon. nid ystyriodd.

21 A hi a alwodd y bachgenSef, pa le y mae'r gogo­ [...]nt? Ichabod, gan ddywedyd, y gogoniant a ymadawodd o Israel, (am ddal Arch Dduw, ac am ei chwegrwn a'i gŵr.)

22 A hi a ddywedodd, y gogoniant a yma­dawodd o Israel; canys Arch Dduw a ddali­wyd.

PEN. V.

1 Y Philistiaid yn dwyn yr Arch i Asdod, ac yn ei gosod yn nhy Dagon. 3 Bwrw Dagon i lawr a'i dorri yn ddarniau, a tharo gwyr As­dod â chlwyf y marchogion. 8 Dun yn gwneuthur felly i wyr Gath, pan ddygwyd hi yno, 10 ac felly i wyr Ecron.

A'R Philistiaid a gymmerasant Arch Dduw, ac a'i dygasant hi o Eben-ezer i Asdod.

2 A'r Philistiaid a gymmerasant Arch Dduw, ac a'i dygasant i mewn i dŷ Dagon, ac a'i go­sodasant yn ymyl Dagon.

3 A'r Asdodiaid a gyfodasant yn foreu dran­noeth, ac wele Ddagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, ger bron Arch yr Arglwydd; a hwy a gymmerasant Ddagon, ac a'i gosodasant eil­waith yn ei le.

4 Codasant hefyd yn foreu drannoeth, ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, ger bron Arch yr Arglwydd; a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo, oedd wedi torri ar y trothwy,Neu, y rhaw ffiaidd o Dag. corph Dagon yn vnic a adawyd iddaw ef.

5 Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon na neb a ddelo i mewn i dŷ Ddagon, ar drothwy Dagon yn Asdod, hyd y dydd hwn.

6 A thrwm fu llaw 'r Arglwydd ar yr As­dodiaid, ac efe a'i destrywiodd hwynt,Psal. 78.66. ac a'i tarawodd hwynt, sef Asdod a'i therfynan, â chlwyf y marchogion.

7 A phan welodd gwŷr Asdod mai felly 'r oedd, dywedasant, ni chaiff Arch Duw Israel aros gyd â ni; canys caled yw ei law ef arnom, ac ar Ddagon ein duw.

8 Am hynny yr anfonasant, ac y casclasant holl arglwyddi y Philistiaid attynt, ac a ddywe­dasant, beth a wnawn ni i Arch Duw Israel? a hwy a attebasant, dyger Arch Duw Israel o amgylch i Gath. A hwy a ddygasant Arch Duw Israel oddi amgylch yno.

9 Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch, bu llaw yr Arglwydd yn erbyn y ddinas â dinistr mawr iawn; ac efe a darawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr, a chlwyf y marchogion oedd yn eu dirgel-leoedd.

10 Am hynny yr anfonasant hwy Arch Duw i Ecron, a phan ddaeth Arch Dduw i Ec­ron, yr Ecroniaid a waeddasant, gan ddywedyd, dygasant attom ni o amgylch Arch Duw 'r Isra­el, i'n lladd ni a'n pobl.

11 Am hynny yr anfonasant, ac y casclasant holl arglwyddi y Philistiaid, ac a ddywedasant, danfonwch ymmaith Arch Duw Israel, a dych­weler hi adref, fel na laddo hi ni a'n pobl: ca­nys dinistr angeuol oedd drwy yr holl ddinas: trom iawn oedd law Duw yno.

12 A'r gwŷr, y rhai ni buant feirw a dar­awyd â chlwyf y marchogion; a gwaedd y ddi­nas; a dderchafodd i'r nefoedd.

PEN. VI.

1 Y Philistiaid ar ôl saith o fisoedd yn ymgyng­hori am anfon yr Arch yn ei hôl, 10 ac yn ei dwyn hi gydag offrwm ar fen newydd i Beth­semes. 19 Taro y bobl am edrych yn yr Arch. 21 Hwythau yn anfon at wyr Ciriathiearim iw chyrchu hi.

A Bu Arch yr Arglwydd yngwlad y Philisti­aid saith o fisoedd.

2 A'r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid, ac am y dewiniaid, gan ddywedyd, beth a wnawn ni i Arch yr Arglwydd? hyspysswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref.

3 Dywedasant hwythau, os ydych ar ddan­fon ymmaith Arch Duw Israel, nac anfonwch hi yn wâg; onid gan roddi rhoddwch iddo offrwm tros gamwedd; yna i'ch iacheir, ac y bydd hyspys iwch pa ham nad ymadawodd ei law ef oddi wrthych chwi.

4 Yna y dywedasant hwythau, beth fydd yr offrwm tros gamwedd a roddwn iddo? a hwy a ddywedasant, pump o ffolennau aur, a phump o lygod aur, yn ôl rhif arglwyddi y Philistiaid: canys yr vn bla oedd Heb. arnynt hwy. arnoch chwi oll, ac ar eich arglwyddi.

5 Am hynny y gwnewch luniau eich ffo­lennau, a lluniau eich llygod sydd yn difwyno y tir, a rhoddwch ogoniant i Dduw Israel; osgatfydd efe a yscafnhâ ei law oddi arnoch, ac oddi ar eich duwiau, ac oddi ar eich tir.

6 A pha ham y caledwch chwi eich calon­nau, [Page] [...] [Page] [...] [Page] megis y caledodd yr Aiphtiaid,Exod. 12.31. a Pharao eu calon? pan wnaeth efe ynNeu, wrad­wyddus. rhyfeddol yn eu plith hwy, oni ollyngasant hwy hwynt i fyned ymaith?

7 Yn awr gan hynny gwnewch fenn newydd, a chymmerwch ddwy fuwch flith, y rhai nid aeth iau arnynt: a deliwch y buchod dan y fenn, a dygwch eu lloi hwynt oddi ar eu hôl, i dŷ

8 A chymmerwch Arch yr Arglwydd a rho­ddwch hi ar y fen, a'r tlyssau aur, y rhai a ro­ddasoch iddi yn offrwm dros gamwedd, a oso­dwch mewn cîst wrth ei hystlys hi, a gollyng­wch hi i fyned ymaith.

9 Ac edrychwch os â hi i fynu ar hyd ffordd ei bro ei hun i Bethsemes, yna efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn: ac onid ê, yna y cawn wybod nad ei law ef a'n tarawodd ni, ond mai damwain oedd hyn i ni.

10 A'r gwŷr a wnaethant felly, ac a gym­merasant ddwy fuwch flithion, ac a'i daliasant hwy tan y fenn, ac a gauasant eu lloi mewn tŷ:

11 Ac a osodasant Arch yr Arglwydd ar y fenn, a'r gist, a'r llygod aur, a lluniau eu ffo­lennau hwynt.

12 A'r buchod a aethant ar hyd y ffordd vni­on i ffordd Bethsemes, ar hyd y briffordd yr ae­thant, dan gerdded a brefu, ac ni throesant tua 'r llaw ddehau, na thu a'r asswy: ac arglwyddi y Philistiaid a aethant ar eu hôl, hyd derfyn Bethsemes.

13 A thrigolion Bethsemes oedd yn medi eu cynhaiaf gwenith yn y dyffryn; ac a ddercha­fasant eu llygaid, ac a ganfuant yr Arch, ac a lawenychasant wrth ei gweled.

14 A'r fenn a ddaeth i faes Josuah y Bethse­mesiad, ac a safodd yno, ac yno 'r oedd maen mawr, a hwy a holltasant goed y fenn, ac a offrymmasant y buchod, yn boeth offrwm i'r Arglwydd.

15 A'r Lefiaid a ddescynnasant Arch yr Ar­glwydd, a'r gist yr hon oedd gyd â hi, yr hon yr oedd y tlyssau aur ynddi, ac a'i gosodasant ar y maen mawr: a gwŷr Bethsemes a off­rymmasant boeth offrymmau, ac a aberthasant ebyrth i'r Arglwydd y dydd hwnnw.

16 A phum Arglwydd y Philistiaid pan welsant hynny, a ddychwelasant i Ecron y dydd hwnnw.

17 Ac dymma y ffolennau aur, y rhai a roddodd y Philistiaid yn offrwn tros gamwedd î'r Arglwydd; dros Afdod vn, dros Gaza vn, dros Ascalon vn, dros Gath vn, dros Ecron vn.

18 A'r llygod aur yn ôl rhifedi holl ddinas­oedd y Philistiaid, yn perthynu i'r pum Ar­glwydd, yn gystal y dinasoedd caeroc, a'r trefi heb gaerau, hyd yNeu, maen mawr. maen mawr Abel, yr hwn y gosodasant arno Arch yr Arglwydd, yr hwn sydd hyd y dydd hwn ym maes Josuah y Beth­semesiad.

19 Ac efe a darawodd wŷr Bethsemes,Num. 4.15, 20. am iddynt edrych yn Arch yr Arglwydd, ie taraw­odd o'r bobl ddeng-wr a thrugain, a deng-mil a deugain o wŷr: a'r bobl a alarasant, am i'r Arglwydd daro y bobl â lladdfa fawr.

20 A gwŷr Bethsemes a ddywedasant, pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr Arglwydd Dduw sanctaidd hwn? ac at bwy yr ai efe oddi wrthym ni?

21 A hwy a anfonasant gennadau at drigoli­on Ciriathiearim, gan ddywedyd, y Philistiaid a ddygasant adref Arch yr Arglwydd; dewch i wared, a chyrchwch hi i fynu attoch chwi.

PEN. VII.

1 Gwyr Ciriathiearim yn dwyn yr Arch i dy Abinadab, ac yn cyssegru Eleazar ei fab ef iw chadw hi. 2 Ym mhen vgain mhlynedd, 3 yr Israeliaid trwy waith Samuel yn edifarhau ar gyhoedd yn Mispah. 7 Tra 'r ydoedd Samuel yn gweddio ac yn aberthu, yr Arglwydd yn dryllio y Philistiaid â tharanau yn Eben-ezer. 13 Darostwng y Philistiaid. 15 Samuel yn barnu Israel yn heddychlawn ac yn dduwiol.

A GwŷrJosua. 15.60. Ciriathiearim a ddaethant, ac a gyrchasant i fynu Arch yr Arglwydd, ac a'i dygasant hi i dŷ Abinadab yn y bryn, ac a sancteiddiasant Eleazar ei fab ef, i gadw Arch yr Arglwydd.

2 Ac o'r dydd y trigodd yr Arch yn Ciriath­iearim, y bu ddyddiau lawer; nid amgen nag vgain mhlynedd, a holl dŷ Israel a alara­sant ar ôl yr Arglwydd.

3 A Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel, gan ddywedyd, os dychwelwch chwi at yr Ar­glwydd â'ch holl galon,Josua. 24.15, 23. bwriwch ymmaith y duwiau dieithr o'ch mysc, acBarn. 2.13. Astaroth, a pha­ratowch eich calon at yr Arglwydd, aDeut. 6.4, 13. Mat. 4.10. Luc. 4.8. gwa­sanaethwch ef yn vnic; ac efe a'ch gwared chwi o law y Philistiaid.

4 Yna meibion Israel a fwriasant ymmaithBarn. 2.11. Baalim, ac Astaroth, a'r Arglwydd yn vnic a wasanaethasant.

5 A dywedodd Samuel, cesclwch holl Israel i Mispah, ac mi a weddiaf trosoch chwi at yr Arglwydd.

6 A hwy a ymgasclasant i Mispah, ac a dyn­nasant ddwfr, ac a'i tywylltasant ger bron yr Arglwydd, ac a ymprydiasant y diwrnod hwn­nw, ac a ddywedasant yno, pechasom yn erbyn yr Arglwydd. A Samuel a farnodd feibion Is­rael ym Mispah.

7 A phan glybu y Philistiaid fod meibion Israel wedi ymgasclu i Mispah, arglwyddi y Philistiaid a aethant i fynu yn erbyn Israel: a meibion Israel a glywsant, ac a ofnasant rhac y Philistiaid.

8 A meibion Israel a ddywedasant wrth Sa­muel, na thaw di a gweiddi trosom ni at yr Arglwydd ein Duw, ar iddo ef ein gwared ni o law y Philistiaid.

9 A Samuel a gymmerth laeth-oen, ac a'i hoffrymmodd ef i gyd yn boeth-offrwm i'r Arglwydd; a Samuel a waeddodd ar yr Ar­glwydd dros Israel, a'r Arglwydd a'iNeu, attebodd gwran­dawodd ef.

10 A phan oedd Samuel yn offrymmu y poeth offrwm, y Philistiaid a nessasant i ryfel yn erbyn Israel; a'r Arglwydd a daranodd â tha­ranau mawr yn erbyn y Philistiaid y diwrnod hwnnw, ac a'i drylliodd hwynt, a lladdwyd hwynt o flaen Israel.

11 A gwŷr Israel a aethant o Mispah, ac a erlidiasant y Philistiaid, ac a'i tarawsant hyd oni ddaethant tan Bethcar.

12 A chymmerodd Samuel faen, ac a'i go­sododd rhwng Mispah a Sen, ac a alwodd ei enw efSef, M [...]en y cym­morth. Eben-ezer, ac a ddywedodd, hyd ym­ma y cynnorthwyodd yr Arglwydd nyni.

13 Felly y darostyngwyd y Philistiaid, ac ni chwanegasant mwyach ddyfod i derfyn Is­rael: a llaw 'r Arglwydd a fu yn erbyn y Phi­listiaid holl ddyddiau Samuel.

14 A'r dinasoedd y rhai a ddygasei y Phi­listiaid oddi ar Israel, a roddwyd adref i Israel, [Page] o Ecron hyd Gath; ac Israel a ryddhaodd eu terfynau o law y Philistiaid: ac yr oedd he­ddwch rhwng Israel a'r Amoriaid.

15 A Samuel a farnodd Israel holl ddyddiau ei fywyd.

16 Aeth hefyd o flwyddyn i flwyddynHeb. ac a am­gylchodd. oddi amgylch i Bethel, a Gilgal, a Mispah, ac a far­nodd Israel yn yr holl leoedd hynny.

17 A'i ddychwelfa ydoedd i Ramah; canys yno yr oedd ei dŷ ef; yno hefyd y barnai efe Israel; ac yno 'r adailadodd efe allor i'r Ar­glwydd.

PEN. VIII.

1 Yr Israeliaid, o achos anllywodraeth meibion Sa­muel, yn gofyn brenhin. 6 Duw yn cyssuro Sa­muel, ac yntau yn gweddio yn gystuddiol. 10 Yn mynegi dull brenhin. 19 Duw yn ewy­llysio i Samuel ymroi i daerni meibion Israel.

AC wedi heneiddio Samuel, efe a osododd ei feibion yn farnwŷr ar Israel,

2 A henw ei fab cyntafanedic ef oedd1 Cron. 6.28. Joel, ac enw yr ail Abiah; y rhai hyn oedd farnwŷr yn Beersheba.

3 A'i feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef, eithr troesant ar ôl cybydd-dra, aDeut. 16.19. chymmera­sant obrwy, a gŵyrasant farn.

4 Yna holl henuriaid Israel a ymgasclasant, ac a ddaethant at Samuel i Ramah,

5 Ac a ddywedasant wrtho ef, wele, ti a henei­ddiaist, a'th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di:Osca 13.10. Act. 13.21. yn awr gosot arnom ni frenin i'n barnu, megis yr holl genhedloedd.

6 A'r ymadrodd fu ddrwgHeb. yngolwg. gan Samuel, pan ddywedasant, dyro i ni frenin i'n barnu: a Sa­muel a weddiodd ar yr Arglwydd.

7 A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywe­dant wrthit: canys nid ti y maent yn ei wrthod, onid myfi a wrthodasant, rhac i mi deyrnasu arnynt.

8 Yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethant o'r dydd y dygum hwynt o'r Aipht hyd y dydd hwn, ac fel y gwrthodasant fi, ac y gwasanae­thasant dduwiau dieithr: felly y gwnant hwy hefyd i ti.

9 Yn awr gan hynnyNeu, ufyddha [...]. gwrando ar eu llais hwynt, etto gan destiolaethu testiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenin a deyr­nasa arnynt.

10 A Samuel a fynegodd holl eiriau 'r Argl­wydd wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio bre­nin ganddo.

11 Ac efe a ddywedodd, dymma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi: efe a gymmer eich meibion, ac a'i gesyd iddo yn ei gerbydau, ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef:

12 Ac a'i gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion dec a deugain, ac i aredic ei âr, ac i fedi ei gynhaiaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau.

13 A'ch merched a gymmer ef yn Apothe­caresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau.

14 Ac efe a gymmer eich meusydd a'ch gwin­llannoedd, a'ch olew-lannoedd goreu, ac a'i dyry iw weision.

15 Eich hadau hefyd, a'ch gwin-llannoedd a ddegymma efe, ac a'i dyry iwHeb. Eunuchi­ [...]. stafellyddion, ac iw weision.

16 Eich gweision hefyd, a'ch morwyni­on, eich gwŷr ieuangc goreu hefyd, a'ch assynnod, a gymmer efe, ac a'i gesyd iw waith.

17 Eich defaid hefyd a ddegymma efe, chwi­thau hefyd fyddwch yn weision iddo ef.

18 A'r dydd hwnnw y gwaeddwch rhac eich brenin a ddewisasoch i chwi; ac ni wren­dy yr Arglwydd arnoch yn y dydd hwnnw.

19 Er hynny y bobl a wrthodasant wrando ar lais Samuel, ac a ddywedasant, nagê, eithr brenin fydd arnom ni:

20 Fel y byddom ninnau hefyd fel yr holl genhedloedd: a'n brenin a'n barna ni, efe a â allan hefyd o'n blaen ni, ac efe a ymladd ein rhyfeloedd ni.

21 A gwrandawodd Samuel holl eiriau y bobl, ac a'i hadroddodd hwynt lle y clybu 'r Arglwydd.

22 A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, gwrando ar eu llais hwynt, a gosot frenin ar­nynt: a dywedodd Samuel wrth wŷr Israel, ewch bob vn iw ddinas ei hun.

PEN. IX.

1 Saul yn anobeithio cael assynnod ei dad, 6 trwy gyngor ei was, 11 a chyfarwyddiad llangce­sau, 15 yn dyfod trwy ddatcuddiad Duw, 18 at Samuel. 19 Samuel yn croesafu Saul yn y wledd. 25 Ac ar ol ymddiddan ag ef o'r nailltu, yn hebrwng Saul ar ei ffordd.

AC yr oedd gŵr o Benjamin a'i enwPen. 14.51. 1 Cron. 8.33. Cis mab Abiel, fab Zeror, fab Becorath, fab Aphiah, mab i wr o Jemini, yn gadarn oNeu, o olud. nerth.

2 Ac iddo ef yr oedd mab a'i enw Saul, yn ŵr ieuangc, dewisol a glân: ac nid oedd neb o feibion Israel lanach nag ef: o'i yscwydd i fy­nu yr oedd yn vwch nâ'r holl bobl.

3 Ac assynnod Cis tad Saul a gyfrgollasent; a dywedodd Cis wrth Saul ei fab, cymmer yn awr vn o'r llangciau gyd â thi, a chyfot; dôs, cais yr assynnod.

4 Ac efe a aeth trwy fynydd Ephraim, ac a dramwyodd drwy wlâd Salisa, ac nis cawsant hwynt; yna y tramwyasant trwy wlâd Salim, ac nis cawsant hwynt; ac efe a aeth trwy wlâd Jemini, ond nis cawsant hwynt.

5 Pan ddaethant i wlâd Zaph, dywedodd Saul wrth ei langc oedd gyd ag ef, tyret a dychwelwn, rhac i'm tâd beidio a'r assynnod, a gofalu am danom ni.

6 Dywedodd yntef wrtho ef, wele yn awr y mae yn y ddinas hon ŵr i Dduw, a'r gŵr sydd anrhydeddus; yr hyn oll a ddywedo efe, gan ddyfod a ddaw: awn yno yn awr, nid hwy­rach y mynega efe i ni y ffordd y mae i ni fyned iddi.

7 Yna y dywedodd Saul wrth ei langc, wele, od awn ni, pa beth a ddygwn ni i'r gŵr? canys y bara aHeb. a aeth allan o'n. ddarfu yn ein llestri ni, a gwobr arall nid oes iw ddwyn i ŵr Duw: beth sydd gennym?

8 A'r llangc a attebodd eilwaith i Saul, ac a ddywedodd, wele, cafwydHeb. yn fy llaw i. gyd â mi bedwa­redd ran sicl o arian; mi a roddaf hynny i ŵr Duw er mynegi i ni ein ffordd.

9 (Gynt yn Israel, fel hyn y dywedei gŵr wrth fyned i ymgynghori â Duw, deuwch, ac awn hyd at y gweledudd: canys y prophwyd heddyw, a elwyd gynt yn weledudd.)

10 Yna y dywedodd Saul wrth ei langc, daHeb. yw dy air. y dywedi, tyret, awn: felly yr aethant i'r ddinas yr oedd gŵr Duw ynddi.

11 Ac fel yr oeddynt yn myned i riw y ddinas, hwy a gawsant langcesau yn dyfod allan i dynnu dwfr, ac a ddywedasant wrthynt, a yw 'r gweledudd ymma?

12 Hwythau a'i hattebasant hwynt, ac a ddywedasant, ydyw, wele efe o'th flaen, bryssia yr awr hon, canys heddyw y daeth efe i'r ddinas; o herwyddNeu, gwdedd. aberth sydd heddyw gan y bobl yn yr vchelfa.

13 Pan ddeloch gyntaf i'r ddinas, chwi a'i cewch ef cyn ei fyned i fynu i'r vchelfa i fwyt­ta; canys ni fwytty y bobl hyd oni ddelo efe, o herwydd efe a fendiga yr aberth, ar ôl hynny y bwytty y rhai a wahoddwyd; am hynny ewch i fynu, canysHeb. heddyw. ynghylch y pryd hyn y cewch ef.

14 A hwy a aethant i fynu i'r ddinas; a phan ddaethant i ganol y ddinas, wele Samuel yn dyfod iw cyfarfod, i fyned i fynu i'r vchelfa.

15Pen. 15.1. Act 13.21. A'r Arglwydd aHeb. ddateu­ddiasei glust Sam. fynegasei ynghlust Samuel, ddiwrnod cyn dyfod Saul, gan ddy­wedyd,

16 Ynghylch y pryd hyn y foru 'r anfonaf attat ti ŵr o wlad Benjamin, a thi a'i heneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel, ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid: canys edry­chais ar fy mhobl, o herwydd daeth eu gwaedd attaf.

17 A phan ganfu Samuel Saul, yr Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, wele y gŵr, am yr hwn y dywedais wrthit, hwn aHeb. attal fy mhobl. lywodraetha ar fy mhobl.

18 Yna Saul a nessaodd at Samuel ynghanol y porth, ac a ddywedodd, mynega i mi attolwg pa le ymma y mae tŷ y gweledudd.

19 A Samuel a attebodd Saul, ac a ddywe­dodd, myfi yw y gweledudd; dos i fynu o'm blaen i'r vchelfa, canys bwyttewch gyd â myfi heddyw, a mi a'th ollyngaf y boreu, ac a fyne­gaf i ti yr hyn oll y sydd yn dy galon.

20 Ac am yr assynnod a gyfrgollasant or ys tri-dieu, na ofala am danynt, canys cafwyd hwynt:ar bwy y mae holl ddymuni­ad Israel ond arnat ti, ac ar. ac i bwy y mae holl bethau dymu­nol Israel? onid i ti, ac i holl dŷ dy dad?

21 A Saul a attebodd ac a ddywedodd, onid mab Jemini ydwyfi, o'r lleiaf o lwythau Israel? a'm teulu sydd leiaf o holl deuluoedd llwyth Benjamin? a pha ham y dywedi wrthifHeb. yn ol y gair hwn. y modd hyn?

22 A Samuel a gymmerth Saul a'i langc, ac a'i dûg hwynt i'r stafell, ac a roddes iddynt le o flaen y gwahoddedigion, a hwy oeddynt ynghylch deng-wr ar hugain.

23 A Samuel a ddywedodd wrth y côg, moes y rhan a roddais attat ti, am yr hon y dywedais wrthit, cadw hon gyd â thi.

24 A'r côg a gyfododd yr ysgwyddoc, a'r hyn oedd arni, ac a'i gosodes ger bron Saul, a Samuel a ddywedodd, wele yr hyn aneu, gadwyd. adawyd, gosot ger dy fron, a bwytta; canys hyd y pryd hyn y cadwyd ef i ti, er pan ddywedais, y bobl a wahoddais i: a bwyttaodd Saul gyd â Samu­el y dydd hwnnw.

25 A phan ddescynnasant o'r vchelfa i'r ddinas, Samuel a ymddiddanodd a Saul ar ben y tŷ.

26 A hwy a gyfodasant yn foreu: ac yng­hylch codiad y wawr, galwodd Samuel ar Saul i ben y tŷ, gan ddywedyd, cyfot fel i'th he­bryngwyf ymmaith: a Saul a gyfododd, ac efe a Samuel a aethant ill dau allan.

27 Ac fel yr oeddynt yn myned i wared i gwrr eithaf y ddinas, Samuel a ddywedodd wrth Saul, dywed wrth y llangc am fyned o'n blaen ni, (felly 'r aeth efe) ond saf di Heb. Heddyw. yr awr hon, a mynegaf i ti air Duw.

PEN. X.

1 Samuel yn eneinio Saul, 2 ac yn ei siccrhau ef trwy dri arwydd. 9 Troi calon Saul, ac yntef yn prophwydo. 14 Yn celu chwedl y fren­hiniaeth rhag ei ewythr. 17 Dewis Saul trwy goel-bren ym Mispah. 26 Amryw feddyliau ei ddeiliaid am dano ef.

YNa Samuel a gymmerodd phioleid o olew, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef, ac a'i cusanodd ef, ac a ddywedodd, onid yr Ar­glwydd a'th eneiniodd di yn flaenor ar ei eti­feddiaeth?

2 Pan elych di heddyw oddi wrthif, yna y cei ddau ŵr wrthGen. 35.20. fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Zelzah; a hwy a ddywedant wrthit, cafwyd yr assynnod yr aethost iw ceisio; ac wele dy dad a ollyngodd heibioNeu, ofalu [...] chwedl yr assynnod, a gofalu y mae am danoch chwi, gan ddywedyd, beth a wnaf am fy mab?

3 Yna yr ai di ym mhellach oddi vno, ac y deui hyd wastadedd Tabor, ac yno i'th gyfer­fydd try-wyr yn myned i fynu at Dduw i Be­thel; vn yn dwyn tri o fynnod, ac vn yn dwyn tair torth o sara, ac vn yn dwyn costreleid o wîn

4 A hwy aHeb. ymofyn­nant a thi am hedd­wch. gyfarchant well i ti, ac a roddant i ti ddwy dorth o fara y rhai a gymme­ri o'i llaw hwynt.

5 Yn ôl hynny y deuiPen. 7.1. i fryn Duw, yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid: a phan dde­lych yno i'r ddinas, ti a gyfarfyddi â thyrfa o brophwydi yn descyn o'r vchelfa, ac o'i blaen hwynt nabl, a thympan, a phibell, a thelyn, a hwythau yn prophwydo.

6 Ac Yspryd yr Arglwydd a ddaw arnat ti, a thi a brophwydi gyd â hwynt, ac a droir yn ŵr arall.

7 A phan ddelo yr argoelion hyn i ti, gwna fel yHeb. Caffo dy law. byddo 'r achos, canys Duw sydd gyd â thi.

8 A dos i wared o'm blaen i Gilgal, ac wele mi a ddeuaf i wared attat ti, i offrymmu offrymmau poeth, ac i aberthu ebyrth hedd:Pen. 13.8. arhos am danaf saith niwrnod, hyd oni dde­lwyf attat, ac mi a hyspyssaf i ti yr hyn a wnelych.

9 A phan drôdd efe eiHeb. ysc [...]ydd. gefn i fyned oddi wrth Samuel, Duw aHeb. Dread. rodd iddo galon arall: a'r holl argoelion hynny a ddaethant y dydd hwnnw i ben.

10 A phan ddaethant yno i'r bryn, wele fin­tai o brophwydi yn ei gyfarfod ef; ac Yspryd Duw a ddaeth arno yntef, ac efe a brophwy­dodd yn eu mysc hwynt.

11 A phawb a'r a'i hadwaenei ef o'r blaen a edrychasant, ac wele efe gyd â'r prophwydi yn prophwydo: yna y bobl a ddywedasant bawb wrth ei gilydd, beth yw hyn a ddaeth i fab Cis?Pen. 19.24. a ydyw Saul hefyd ym mysc y pro­phwydi?

12 Ac vn oddi yno a attebodd, ac a ddy­wedodd, etto pwy yw eu tâd hwy? am hynny yr a [...]th yn ddihareb, a ydyw Saul hefyd ym mysc y prophwydi?

13 Ac wedi darfod iddo brophwydo, efe a ddaeth i'r vchelfa.

14 Ac ewythr Saul a ddywedodd wrtho ef, ac wrth ei langc ef, i ba le yr aethoch? ac efe a ddywedodd, i geisio 'r assynnod: a phan welsom nas ceid, ni a ddaethom at Samuel.

15 Ac ewythr Saul a ddywedodd, mynega attolwg i mi beth a ddywedodd Samuel wrth­ych chwi.

16 A Saul a ddywedodd wrth ei ewythr; gan fynegi mynegodd i ni fod yr assynnod we­di eu cael: ond am chwedl y frenhiniaeth yr hwn a ddywedasei Samuel, nid yngenodd efe wrtho.

17 A Samuel a alwodd y bobl ynghyd at yr Arglwydd i Mispah;

18 Ac a ddywedodd wrth feibion Israel, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, myfi a ddygais i fynu Israel o'r Aipht, ac a'ch gwaredais chwi o law 'r Aiphtiaid, ac o law 'r holl deyrnasoedd, a'r rhai a'ch gorthrymment chwi.

19 A chwi heddyw a wrthodasoch eich Duw, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddryg-fyd, a'ch helbul, ac a ddywedasoch wrtho ef,Pen. 8.19. nid felly, eithr gosot arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon ger bron yr Arglwydd wrth eich llwy­thau, ac wrth eich miloedd.

20 A Samuel a barodd i holl lwythau Israel nessau, a daliwyd llwyth Benjamin.

21 Ac wedi iddo beri i lwyth Benjamin ne­ssau yn ôl eu teuluoedd, daliwyd teulu Matri, a Saul mab Cis a ddaliwyd; a phan geifiasant ef, nis caid ef.

22 Am hynny y gofynnasant etto i'r Argl­wydd, a ddae 'r gŵr yno etto: a'r Arglwydd a ddywedodd, wele efe yn ymguddio ym mhlith y dodrefn.

23 A hwy a redasant, ac a'i cyrchasant ef oddi yno, a phan safodd ynghanol y bobl, yr oedd efe, o'i yscwydd i fynu, yn vwch nâ'r holl bobl.

24 A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl, a welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr Argl­wydd, nad oes neb tebyg iddo ym mysc yr holl bobl? a'r holl bobl a floeddiasant, ac a ddyweda­sant, byw fyddo 'r brenin.

25 Yna Samuel a draethoddDeut. 17.15. gyfraith y deyr­nas wrth y bobl, ac a'i scrifennodd mewn llyfr, ac a'i gosododd ger bron yr Arglwydd; a Sa­muel a ollyngodd ymmaith yr holl bobl, bob vn iw dŷ.

26 A Saul hefyd a aeth iw dŷ ei hun i Gi­beah, a byddin o'r rhai y cyffyrddasei Duw â'i calon, a aeth gyd ag ef.

27 Ond meibion Belial a ddywedasant, pa fodd y gwared hwn ni? A hwy a'i dirmyga­sant ef, ac ni ddygasant anrheg iddo ef: eithr ni chymmerodd efe arno glywed hyn.

PEN. XI.

1 Nahas yn cynnyg i wyr Jabes Gilead ammo­dau gwradwyddus. 4 Hwythau yn anfon cen­nadon, ac yn cael cynnorthwy gan Saul. 12 Yn­tef wrth hynny yn cael ei gadarnhau, ac adne­wyddu ei frenhiniaeth.

YNa Nahas yr Ammoniad a ddaeth i fynu, ac a werssyllodd yn erbyn Jabes Gile­ad: a holl wŷr Jabes a ddywedasant wrth Nahas, gwna gyfammod â ni, ac ni a'th wa­sanaethwn di.

2 A Nahas yr Ammoniad a ddywedodd wrthynt, tan yr ammod hyn y cyfammolaf â chwi, i mi gael tynnu pob llygad dehau i chwi, fel y gosodwyf y gwradwydd hyn ar holl Is­rael.

3 A henuriaid Jabes a ddywedasant wrtho,Heb. Cyd­ [...]dwg. caniada i ni saith niwrnod, fel yr anfonom gennadau i holl derfynau Israel; ac oni bydd a'n gwaredo, ni a ddeuwn allan attat ti.

4 A'r cennadau a ddaethant i Gibeah Saul, ac a adroddasant y geiriau lle y clybu y bobl: a'r holl bobl a dderchafasant eu llef, ac a ŵyla­sant.

5 Ac wele Saul yn dyfod ar ôl y gwartheg o'r maes, a dywedodd Saul, beth sydd yn peri i'r bobl ŵylo? yna yr adroddasant iddo eiriau gwŷr Jabes.

6 Ac Yspryd Duw a ddaeth ar Saul, pan glybu efe y geiriau hynny; a'i ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr.

7 Ac efe a gymmerth bâr o ŷchen, ac a'i drylliodd, ac a'i danfonodd drwy holl derfynau Israel yn llaw y cennadau, gan ddywedyd, yr hwn nid elo ar ôl Saul, ac ar ôl Samuel, fel hyn y gwneir iw wartheg ef: ac ofn yr Arglwydd a syrthiodd ar y bobl, a hwy a ddaethant allanHeb. Megis vn gwr. yn vnfryd.

8 A phan gyfrifodd efe hwynt yn Bezec, meibion Israel oedd dry-chan mil, a gwŷr Ju­da yn ddeng-mil ar hugain.

9 A hwy a ddywedasant wrth y cennadau a ddaethei, fel hyn y dywedwch wrth wŷr Ja­bes Gilead, y foru erbyn gwressogi 'r haul, y bydd i chwi ymwared. A'r cennadau a ddae­thant, ac a fynegasant hynny i wŷr Jabes, a hwytheu a lawenychasant.

10 Am hynny gwŷr Jabes a ddywedasant, y foru y deuwn allan attoch chwi, ac y gwnewch i ni yr hyn oll a weloch yn dda.

11 A bu dranoeth i Saul osod y bobl yn dair byddin, a hwy a ddaethant i ganol y gwer­ssyll yn y wiliadwriaeth foreu, ac a laddasant yr Ammoniaid, nes gwressogi o'r dydd: a'r gweddillion a wascarwyd, fel na thrigodd o honynt ddau ynghyd.

12 A dywedodd y bobl wrth Samuel, pwy yw yr hwn a ddywedodd, a deyrnasa Saul arnom ni? moeswch y gwŷr hynny, fel y rhoddom hwynt i farwolaeth.

13 A Saul a ddywedodd, ni roddir neb i farwolaeth heddyw: canys heddyw y gwnaeth yr Arglwydd ymwared yn Israel.

14 Yna Samuel a ddywedodd wrth y bobl, deuwch fel yr elom i Gilgal, ac yr adnewyddom y frenhiniaeth yno.

15 A'r holl bobl a aethant i Gilgal, ac yno y gwnaethant Saul yn frenin, ger bron yr Ar­glwydd yn Gilgal; a hwy a aberthasant yno e­byrth hedd, ger bron yr Arglwydd: a Saul a lawenychodd yno, a holl wŷr Israel, yn ddir­fawr.

PEN. XII.

1 Samuel yn tystiolaethu ei ddiniweidrwydd, 6 ac yn ceryddu anniolchgarwch y bobl, 16 yn eu dy­chrynu hwynt â tharanau yn amser cynhaiaf, 20 ac yn eu cyssuro hwy â thrugaredd Duw.

A Samuel a ddywedodd wrth holl Israel, wele, gwrandewais ar eich llais yn yr hyn oll a ddywedasoch wrthif, a gosodais frenin arnoch.

2 Ac yr awr hon wele, y brenin yn rhodio o'ch blaen chwi; a minne a heneiddiais, ac a benwynnais, ac wele fy meibion hwythau gyd â chwi: a minne a rodiais o'ch blaen chwi o'm mebyd hyd y dydd hwn.

3 Wele fi,Ecclus. 46.19. testiolaethwch i'm herbyn ger bron yr Arglwydd, a cher bron ei eneiniog; ŷch pwy a gymmerais? neu assyn pwy a gym­merais? neu pwy a dwyllais? neu pwy a or­thrymmais i? neu o law pwy y cymmeraisHeb. brid­werth. wobrHeb. fel y cu­ddiwn fy llygaid oddiwr­tho. i ddallu fy llygaid ag ef? ac mi a'i talaf i chwi.

4 A hwy a ddywedasant, ni thwyllaist ni, ni orthrymmaist ni ychwaith, ac ni chymmeraist ddim o law neb.

5 Dywedodd yntef wrthynt, yr Arglwydd sydd dyst yn eich erbyn chwi, ei eneiniog ef hefyd sydd dŷst y dydd hwn, na chawsoch ddim yn fy llaw i: a'r bobl a ddywedasant, tŷst ydyw.

6 A Samuel a ddywedodd wrth y bobl, yr Arglwydd yw yr hwn aHeb. a wnaeth. fawrhaodd Moses ac Aaron, a'r hwn a ddûg i fynu eich tadau chwi o dir yr Aipht.

7 Yn awr gan hynny sefwch, fel yr ymre­symmwyf â chwi ger bron yr Arglwydd, a'n holl gyfiawnderau yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efeHeb. a chwi. i chwi, ac i'ch tadau.

8Gen. 46.6, 6. Wedi i Jacob ddyfod i'r Aipht, a gwei­ddi o'ch tadau chwi ar yr Arglwydd, yna yr Arglwydd aExod. 4.16. anfonodd Moses ac Aaron, a hwy a ddygasant eich tadau chwi o'r Aipht, ac a'i cyfleasant hwy yn y lle hwn.

9Barn. 4.2. A phan anghofiasant yr Arglwydd eu Duw, efe a'i gwerthodd hwynt i law Sisara tywysog milwriaeth Hazor, ac i law y Philisti­aid, ac i law brenin Moab, a hwy a ymladda­sant iw herbyn hwynt.

10 A hwy a waeddasant ar yr Arglwydd, ac a ddywedasant, pechasom, am i ni wrthod yr Arglwydd, a gwasanaethu Baalim ac Asta­roth; er hynny gwaret ni yr awr hon o law ein gelynion, a nyni a'th wasanaethwn di.

11 A'r Arglwydd a anfonodd Jerubbaal, a Bedan, aBarn. 11.1. Jephthah, a Samuel, ac a'ch gware­dodd chwi o law eich geiynion o amgylch, a chwi a bresswyliasoch yn ddiogel.

12 A phan welsoch fod Nahas brenin meibion Ammon yn dyfod yn eich erbyn, dywedasoch wrthif, nagê, onid brenin a deyrnasa arnom ni, a'r Arglwydd eich Duw yn frenin i chwi.

13 Ac yn awr wele 'r brenin a ddewisasoch chwi, a'r hwn a ddymunasoch; ac wele, yr Arglwydd a roddes frenin arnoch chwi.

14 Os ofnwch chwi yr Arglwydd, a'i wasa­naethu ef, a gwrando ar ei lais, heb anufydd­hauHeb. genau. gair yr Arglwydd, yna y byddwch chwi, a'r brenin hefyd a deyrnasa arnoch, ar ôl yr Arglwydd eich Duw.

15 Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr Arglwydd, eithr anufyddhau gair yr Argl­wydd, yna y bydd llaw 'r Arglwydd yn eich erbyn chwi, fel yn erbyn eich tadau.

16 Sefwch gan hynny yn awr, a gwelwch y peth mawr hyn, a wna 'r Arglwydd o flaen eich llygaid chwi.

17 Onid cynhaiaf gwenith yw heddgw? gal­waf ar yr Arglwydd, ac efe a ddyry daranau, a glaw, fel y gwybyddoch ac y gweloch, mai mawr yw eich drygioni chwi, yr hwn a wnae­rhoch yngolwg yr Arglwydd, yn gofyn i chwi frenin.

18 Felly Samuel a alwodd ar yr Arglwydd, a'r Arglwydd a roddes daranau a glaw y dydd hwnnw: a'r holl bobl a ofnodd yr Arglwydd a Samuel, yn ddirfawr.

19 A'r holl bobl a ddywedasant wrth Samu­el, gweddia tros dy weision at yr Arglwydd dy Dduw, fel na byddom feirw: canys chwane­gasom ddrygioni ar ein holl bechodau, wrth gei­sio i ni frenin.

20 A dywedodd Samuel wrth y bobl, nac ofnwch, (chwi a wnaethoch yr holl ddrygioni hyn, etto na chiliwch oddi ar ôl yr Arglwydd, onid gwasanaethwch yr Arglwydd â'ch holl galon:

21 Ac na chiliwch, canys felly 'r aech ar ôl oferedd, y rhai ni lesânt, ac ni'ch gwaredant, canys ofer ydynt hwy.)

22 Canys ni wrthyd yr Arglwydd ei bobl, er mwyn ei enw mawr: o herwydd rhyngodd bodd i'r Arglwydd eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun.

23 A minneu, na atto Duw i mi bechu yn erbyn yr Arglwydd, trwy beidio a gweddio trossoch; eithr dyscaf i chwi y ffordd dda ac vnion.

24 Yn vnic ofnwch yr Arglwydd, a gwasa­naethwch ef, mewn gwirionedd, â'ch holl galon; canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch.

25 Ond os dilynwch ddrygioni, chwi a'ch brenin a ddifethir.

PEN. XIII.

1 Dewis fyddin Saul. 3 Saul yn galw 'r Hebra­aid i Gilgal yn erbyn y Philistiaid, y rhai y ta­rawsai Jonathan eu sefyllfa. 5 Mawr lu y Phi­listiaid. 6 Cyfyngdra 'r Israeliaid. 8 Saul yn blino yn aros am Samuel, ac yn aberthu. 11 Sa­muel yn ei geryddu ef. 17 Tair byddin an­rhaith y Philistiaid. 19 Dyfais y Philistiaid, na ddioddefent vn gôf yn Israel.

SAulHeb. oedd fan blwydd yn ei deyr­nas. a deyrnasodd vn flwyddyn, ac wedi iddo deyrnasu ddwy flynedd ar Israel,

2 Saul a ddewisodd iddo dair mil o Israel: dwy fil oedd gyd â Saul yn Micmas, ac ym mynydd Bethel, a mîl oedd gyd â Jonathan yn Gibeah Benjamin: a'r bobl eraill a anfonodd efe, bawb iw babell ei hun.

3 A Jonathan a darawodd sefyllfa y Phili­stiaid, yr hon oedd ynNeu, y Bryn. Geba, a chlybu y Phi­listiaid hynny: a Saul a ganodd mewn vdcorn drwy 'r holl dir, gan ddywedyd, clywed yr Hebræaid.

4 A holl Israel a glywsant ddywedyd, daro o Saul sesyllfa y Philistiaid, a bôd Israel ynHeb. arewi. ffieidd gan y Philistiaid: a'r bobl a ymgasclodd ar ôl Saul i Gilgal.

5 A'r Philistiaid a ymgynnullasant i ymladd ag Israel, deng-mil ar hugain o gerbydau, a chwe mil o wŷr meirch, a phobl eraill cyn amled a'r tywod sydd ar fîn y môr; a hwy a ddaethant i fynu, ac a werssyllasant ym Micmas, o du 'r dwyrain i Bethalen.

6 Pan welodd gwŷr Israel fod yn gyfyng ar­nynt (canys gwascasid ar y bobl:) yna y bobl a ymguddiasant mewn ogfeudd, ac mewn dy­rysni, ac mewn creigiau, ac mewn tyrau, ac mewn pydewau.

7 A rhai o'r Hebreaid a aethant tros yr Ior­ddonen i dir Gad a Gilead; a Saul oedd etto yn Gilgal, a'r holl bobl aHeb. a gryn [...]dd ar ei ol ef. aethant ar ei ôl ef, dan grynu.

8Pen. 10.8. Ac efe a arhosodd saith niwrnod hyd yr amser gosodedic a nodasei Samuel; ond ni dda­eth Samuel i Gilgal; a'r bobl a ymwascarodd oddi wrtho ef.

9 A Saul a ddywedodd, dygwch attafi boeth offrwm, ac offrymmau hedd; ac efe a offrym­modd y poeth offrwm.

10 Ac wedi darfod iddo offrymmu y poeth offrwm, wele Samuel a ddaeth, a Saul a aeth allan iw gyfarfod ef ac Heb. iw fendi­thi [...] ef. i gyfarch gwell iddo,

11 A dywedodd Samuel, beth a wnaethost di? a Saul a ddywedodd, o herwydd gweled o [Page] honof i'r bobl ymwascaru oddi wrthif, ac na ddaethost dithe o fewn y dyddiau gosodedic, ac i'r Philistiaid ymgasclu i Micmas:

12 Am hynny y dywedais, y Philistiaid yn awr a ddeuant i wared attafi i Gilgal, ac niHeb. ni ymbili­a [...] ag wy­n [...]b yr Argl­wydd. weddiais ger bron yr Arglwydd; am hynny'r anturiais i, ac yr offrymmais boeth offrwm.

13 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, yn­fyd y gwnaethost; ni chedwaist orchymyn yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a orchy­mynnodd efe i ti: canys yr Arglwydd yn awr a gadarnhasei dy frenhiniaeth di ar Israel, yn dragywydd.

14 Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di; yr Arglwydd a geisiodd iddo ŵr wrth fodd ei galon ei hun, yr Arglwydd hefyd a orchymyn­nodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl, o herwydd na chedwaist di yr hyn a orchymynnodd yr Arglwydd i ti.

15 A Samuel a gyfododd, ac a aeth i fynu o Gilgal i Gibeah Benjamin; a chyfrifodd Saul y bobl a gafwyd gyd ag ef, ynghylch chwe chant o wŷr.

16 A Saul a Jonathan ei fab, a'r bobl a gaf­wyd gyd â hwynt, oedd yn aros yn Gibeah Benjamin: a'r Philistiaid a werssyllasant ym Micmas.

17 A daeth allan o werssyll y Philistiaid anrhaith-wŷr, yn dair byddin, vn fyddin a drodd tua ffordd Ophrah, tua gwlad Sual.

18 A'r fyddin arall a drôdd tua ffordd Beth-horon; a'r drydedd fyddin a drodd tua ffordd y terfyn sy 'n edrych tua dyffryn Zeboim, tua 'r anialwch.

19 Ac ni cheid gôf drwy holl wlâd Israel; canys dywedasei y Philistiaid, rhac gwneuthur o'r Hebræaid gleddyfau neu waywffyn.

20 Ond holl Israel a aent i wared at y Phili­stiaid, i flaen-llymmu bob vn ei sŵch, a'i gwll­twr, a'i fwyall, a'i gaib.

21 Ond yr oedd llif-ddur i wneuthur min ar y ceibiau, ac ar y cwlltyrau, ac ar y pig­ffyrch, ac ar y bwyill, ac iHeb. osod. flaen-llymmu y swmbylau.

22 Felly yn nydd y rhyfel ni chaed na chle­ddyf na gwaywffon yn llaw 'r vn o'r bobl oedd gyd â Saul a Jonathan: ond a gaed gyd â Saul a Jonathan ei fab.

23 A sefyllfa y Philistiaid a aeth allan i fwlch Micmas.

PEN. XIV.

1 Jonathan heb wybod iw dad ac i'r offeiriad a'r bobl, yn myned ac yn taro amddiffynfa y Phili­stiaid yn rhyfeddol. 15 Dychryn Duw yn eu gyrru hwynt i ladd ei gilydd. 17 Saul heb aros am atteb yr offeiriad, yn gosod arnynt. 21 Yr Hebreaid caethion a'r Israeliaid oedd yn llethu, yn troi yn eu herbyn hwy. 24 Ehud addimed Saul yn rhwystro 'r oruwchafiaeth. 32 Saul yn gwahardd i'r bobl fwytta gwaed, 35 ac yn adailadu allor. 36 Y bobl yn achub Jonathan wedi ei ddal wrth goel-bren. 47 Cryfdwr Saul a'i deulu.

A Bu ddyddgwaith i Jonathan fab Saul ddy­wedyd wrth y llangc oedd yn dwyn ei ar­fau ef, tyred, ac awn trosodd i amddiffynfa y Philistiaid, yr hon sydd o'r tû hwnt: ond ni fynegodd efe iw dâd.

2 A Saul a arhosodd ynghwrr Gibeah, tan bren pomgranad, yr hwn oedd ym Migron: a'r bobl oedd gyd ag ef, oedd ynghylch chwe­chan-wr.

3 Ac Ahiah mab Ahitob frawdPen. 4.21. Ichabod fab Phinees, fab Eli, offeiriad yr Arglwydd yn Siloh, oedd yn gwisco Ephod: ac ni wyddei y bobl i Jonathan fyned ymmaith.

4 A rhwng y bylchau lle ceisiodd Jonathan fyned trosodd at amddiffynfa y Philistiaid, yr oedd craig serth o'r naill du i'r bwlch, a chraig ferth o'r tu arall i'r bwlch, ac enw y naill oedd Bozez, ac enw y llall Seneh.

5 AHeb. daint. safiad y naill oedd oddi wrth y gogledd ar gyfer Micmas, a'r llall oddi wrth y dehau ar gyfer Gibeah.

6 A dywedodd Jonathan wrth y llangc oedd vn dwyn ei arfau ef, tyred, ac awn tro­sodd i amddiffynfa y rhai dienwaededic hyn; nid hwyrach y gweithia 'r Arglwydd gyd â ni: canys nid oes rwystr i'r Arglwydd2 Cron. 14.11. waredu, drwy lawer neu drwy ychydig.

7 A'r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef a ddy­wedodd wrtho, gwna 'r hyn oll sydd yn dy ga­lon: cerdda rhagot, wele fi gyd â thi, fel y mynno dy galon.

8 Yna y dywedodd Jonathan, wele ni a awn trosodd at y gwŷr hyn, ac a ymddangoswn iddynt.

9 Os dywedant fel hyn wrthym,Heb. Distewch. arho­swch nes i ni ddyfod atoch chwi: yna y safwn yn ein lle, ac nid awn i fynu attynt hwy.

10 Ond os fel hyn y dywedant, deuwch i fynu attom ni; yna 'r awn i fynu; canys yr1 Mac. 4.30. Arglwydd a'i rhoddes hwynt yn ein llaw ni: a hyn fydd yn argoel i ni.

11 A hwy a ymddangosasant ill dau i am­ddiffynfa y Philistiaid, a'r Philistiaid a ddywe­dasant, wele 'r Hebreaid yn dyfod allan o'r tyllau y llechasant ynddynt.

12 A gwŷr yr amddiffynfa a attebasant Jo­nathan, a'r hwn oedd yn dwyn ei arfau, ac a ddywedasant, deuwch i fynu attom ni, ac ni a ddangoswn beth i chwi: a dywedodd Jona­than wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau, ty­red i fynu ar fy ôl: canys yr Arglwydd a'i rhoddes hwynt yn llaw Israel.

13 A Jonathan a ddringodd i fynu ar ei ddwylo, ac ar ei draed, a'r hwn oedd yn dwyn ei arfau ar ei ôl, a hwy a syrthiasant o flaen Jonathan: ei eswyn hefyd oedd yn llâdd ar ei ôl ef.

14 A'r lladdfa gyntaf honno a wnaeth Jo­nathan a'r hwn oedd yn dwyn ei arfau, oedd ynghylch vgain-wr: megis o fewn ynghylch hanner cyfer dau ychen o dir.

15 A bu fraw yn y gwerssyll, yn y maes, ac ym mysc yr holl bobl; yr amddiffynfa a'r anrheithwyr hwythau hefyd a ddychrynasant: y ddaiar hefyd a grynodd, a bu dychrynNeu, mawr. Duw.

16 A gwil-wŷr Saul yn Gibeah Ben­jamin a edrychasant, ac wele y lliaws yn ymwascaru, ac yn myned dan ym­guro.

17 Yna y dywedodd Saul wrth y bobl oedd gyd ag ef, cyfrifwch yn awr, ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni. A phan gy­frifasant, wele Jonathan a chlududd ei arsau nid oeddynt yno.

18 A Saul a ddywedodd wrth Ahiah, dwg ymma Arch Dduw: (canys yr oedd Arch Dduw y pryd hynny gyd â meibion Israel.)

19 A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan [Page] a'r offeiriad, y terfysc yr hwn oedd yngwerssyll y Philistiaid, gan fyned a aeth ac a angwhane­godd; a Saul a ddywedodd wrth yr offeiriad, tyn attat dy law.

20 A Saul a'r holl bobl oedd gyd ag efHeb. a griwyd ynghyd. a ymgynnullasant, ac a ddaethant i'r rhyfel: ac weleBarn. 7.22. 2 Cron. 10.23. gleddyf pob vn yn erbyn ei gyfnesaf, a dinistr mawr iawn oedd yno.

21 Yr Hebræaid hefyd y rhai oedd gyd â'r Philistiaid o'r blaen, y rhai a aethent i fynu gyd â hwynt i'r gwerssyll o'r wlâd oddi amgylch; hwythau hefyd a droesant i fod gyd â'r Israeli­aid oedd gyd â Saul a Jonathan.

22 A holl wŷr Israel, y rhai oedd yn llechu ym mynydd Ephraim, a glywsant ffoi o'r Phi­listiaid; hwythau hefyd a'i herlidiasant hwy o'i hôl yn y rhyfel.

23 Felly yr achubodd yr Arglwydd Israel y dydd hwnnw; a'r ymladd a aeth trosodd i Beth-afen.

24 A gwŷr Israel oedd gyfyng arnynt y dydd hwnnw, o herwydd tynghedasei Saul y bobl, gan ddywedyd, melldigedic fyddo y gŵr a fwyttao fwyd hyd yr hwyr, fel y dialwyf ar fy ngelynion: felly nid archwaethodd yr un o'r bobl ddim bwyd.

25 A'r rhai o'r holl wlâd a ddaethant i goed, lle 'r oedd mêl ar hyd wyneb y tîr.

26 A phan ddaeth y bobl i'r coed, wele y mêl yn diferu; etto ni chododd vn ei law at ei enau, canys ofnodd y bobl y liw.

27 Ond Jonathan ni chlywsei pan dynghe­dasei ei dad ef y bobl; am hynny efe a estyn­nodd flaen y wialen oedd yn ei law, ac a'i gwly­chodd yn nil y mêl, ac a drôdd ei law at ei enau, a'i lygaid a oleuasant.

28 Yna vn o'r bobl a attebodd, ac a ddywe­dodd, gan dyngedu y tyngedodd dy dad y bobl, gan ddywedyd, melldigedic fyddo 'r gŵr a fwyttao fwyd heddyw. A'r bobl oedd ludde­dig.

29 Yna y dywedodd Jonathan, fy nhâd a fiinodd y wlâd, gwelwch yn awr fel y goleuodd fy llygaid i, o herwydd i mi archwaethu ychy­dig o'r mêl hwn:

30 Pa faint mwy, pe bwyttasei 'r bobl yn ddiwarafun heddyw o anrhaith eu gelynion, yr hon a gawsant hwy, oni buasei yn awr fwy y lladdfa ym mysc y Philistiaid?

31 A hwy a darawsant y Philistiaid y dydd hwnnw o Micmas hyd Aialon: a'r bobl oedd ddeffygiol iawn,

32 A'r bobl a ruthrodd at yr anrhaith, ac a gymmerasant ddefaid, a gwarthec, a lloi, ac a'i lladdasant ar y ddaiar, a'r bobl a'i bwyttaoddLevit. 7.26. & 19.26. Deut. 12.16. gyd â'r gwaed.

33 Yna y mynegasant hwy i Saul, gan ddy­wedyd, wedyd, wele, y bobl sy 'n pechu yn erbyn yr Arglwydd, gan fwytta ynghyd â'r gwaed. Ac efe a ddywedodd,Neu, wnaeth­och yn fradw­raidd. trosseddasoch; treiglwch attafi heddyw faen mawr.

34 Dywedodd Saul hefyd, ymwascerwch ymmysc y bobl, a dywedwch wrthynt, dygwch attafi bob vn ei ŷch, a phob vn ei lwdn dafad, a lleddwch hwynt ymma, a bwyttewch, ac na phechwch yn erbyn yr Arglwydd, gan fwytta ynghyd â'r gwaed. A'r bobl oll a ddygasant bob vn ei ŷch yn ei law y noswaith honno, ac a'i lladdasant yno.

35 A Saul a adeiladodd allor i'r Arglwydd: hon oedd yr allor gyntaf a adeiladodd efe ir Arglwydd.

36 A dywedodd Saul, awn i wared ar ôl y Philistiaid liw nôs, ac anrheithiwn hwynt hyd oni oleuo 'r boreu, ac na adawn vn o honynt; hwythau a ddywedasant gwna yr hyn oll fyddo da yn dy olwg. Yna y dy­wedodd yr offeiriaid, nessawn ymma at Dduw.

37 Ac ymofynnodd Saul â Duw, a âfi i wa­red ar ôl y Philistiaid? a roddi di hwynt yn llaw Israel? ond nid attebodd efe ef y dydd hwnnw.

38 A dywedodd Saul, dynesswch ymmaBarn. 20.2. hollHeb. gonglau. bennaethiaid y bobl: mynnwch ŵy­bod hefyd, ac edrychwch ym mhwy y bu y pechod hwn heddyw.

39 Canys megis mai byw yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwaredu Israel, pe byddei hyn yn Jonathan fy mab, diau y llwyr roddir ef i far­wolaeth. Ac nid attebodd neb o'r holl bobl ef.

40 Yna y dywedodd efe wrth holl Israel, chwi a fyddwch ar y naill du, minneu hefyd, a Jonathan fy mab, fyddwn ar y tu arall. A dywedodd y bobl wrth Saul, gwna a fyddo da yn dy olwg.

41 Am hynny y dywedodd Saul wrth Ar­glwydd Dduw Israel,Neu, dangos y gwirion. dod oleufynag. A dali­wyd Jonathan, a Saul; ond y bobl aHeb. aethant ymaith. ddian­godd.

42 Dywedodd Saul hefyd, bwriwch goel­bren rhyngofi a Jonathan fy mab: a daliwyd Jonathan.

43 Yna y dywedodd Saul wrth Jonathan, mynega i mi beth a wnaethost; a Jonathan a fynegodd iddo, ac a ddywedodd, gan archwaithu yr archwaithais ychydig o fêl ar flaen y wi­alen oedd yn fy llaw, ac wele, a fyddafi farw?

44 Dywedodd Saul hefyd; felly gwneled Duw i mi ac felly chwaneged, onid gan farw y byddi di farw, Jonathan.

45 A dywedodd y bobl wrth Saul, a leddir Jonathan, yr hwn a wnaeth yr ymwared mawr hyn yn Israel? na atto Duw: fel mai byw yr Arglwydd ni syrth vn o wallt ei ben ef i'r ddaiar; canys gyd â Duw y gweithiodd efe heddyw. A'r bobl a waredâsant Jonathan, fel na laddwyd ef.

46 Yna Saul a aeth i fynu oddi ar ôl y Phi­listiaid; a'r Philistiaid a aethant iw llê eu hun.

47 Felly y cymmerodd Saul y frenhiniaeth ar Israel, ac a ymladdodd yn erbyn ei holl elynion oddiamgylch, yn erbyn Moab ac yn erbyn meibion Ammon, ac yn erbyn Edom, ac yn er­byn brenhinoedd Zobah, ac yn erbyn y Phili­stiaid; ac yn erbyn pwy bynnac yr ŵynebodd, efe a orchfygodd.

48Neu, Gweithi­odd yn rymm [...]s. Cynnullodd lû hefyd, a tharawodd Amalec, ac a waredodd Israel o law ei an­rheith-wyr.

49 A meibion Saul oedd Jonathan, ac Issui, a Malchisuah: dymma henwau ei ddwy fer­ched ef; enw yr hynaf oedd Merab, ac enw yr ieuangaf Michal.

50 Ac enw gwraig Saul oedd Ahinoam merch Ahimaaz; ac enw tywysog ei filwriaeth ef oedd Abner mab Ner, ewythr frawd ei dad i Saul.

51 Cis hefyd oedd dâd Saul, a Nêr tâd Abner oedd fab Abiel.

52 A bu ryfel caled yn erbyn y Philistiaid [Page] holl ddyddiau Saul: a phan welei Saul ŵr glew, a nerthol, efe a'i cymmerei atto ei hun.

PEN. XV.

1 Samuel yn danfon Saul i ddinistrio Amalec. 6 Yntef yn arbed y Ceneaid, 8 ac Agag, i'r hyn goreu o'r ysclyfaeth. 10 Samuel yn cyhoeddi i Saul, (ac efe yn ei ganmol ac yn ei escusodi ei hun,) ddarfod i Dduw ei wrthod ef am ei anu­fydd-dod. 24 Ymostyngiad Saul. 32 Samuel yn llâdd Agag. 34 Samuel a Saul yn ymadel.

A Samuel a ddywedodd wrth Saul,Pen. 9.16. yr Ar­glwydd a'm hanfonodd i, i'th eneinio di yn frenin ar ei bobl, sef ar Israel; ac yn awr gwrando ar lais geiriau yr Ar­glwydd.

2 Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd, cofiais yr hyn a wnaeth Amalec i Israel,Exod. 17.8. Num. 24.20. y modd y gosododd efe iw erbyn ar y ffordd, pan ddaeth efe i fynu o'r Aipht.

3 Dos yn awr a tharo Amalec, a dinistria yr hyn oll sydd ganddo, ac nac eiriach ef: ond lladd hwynt yn ŵr, ac yn wraig, yn ddyn bach, ac yn blentyn sugno, yn ŷch, ac yn oen, yn gamel, ac yn assyn.

4 A Saul a gynhullodd y bobl, ac a'c cyfri­fodd hwynt yn Telaim, dau can mil o wŷr traed, a deng-mil o wŷr Juda.

5 A Saul a ddaeth hyd ddinas i Amalec, ac aNeu, ymla­ddodd. gynllwynodd yn y dyffryn.

6 Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid, cerddwch, ciliwch, ewch i wared o fysc yr Amaleciaid, rhac i mi eich destrywio chwi gyd â hwynt; herwydd ti a wnaethost drugaredd a holl feibion Israel, pan ddaethant i fynu o'r Aipht. A'r Ceneaid a ymadawsant o fysc yr Amaleciaid.

7 A Saul a darawodd yr Amaleciaid o Hafi­lah, ffordd y delech di i Sur, yr hon sydd ar gyfer yr Aipht.

8 Ac a ddaliodd Agag brenin yr Amaleci­aid yn fyw, ac a laddodd yr holl bobl â mîn y cleddyf.

9 Ond Saul a'r bobl a arbedasant Agag, a'rNeu, ailgoreu. goreu o'r defaid, a'r ŷchen, a'r brasaf, a'r ŵyn, a'r hyn oll ydoedd ddâ, ac ni ddistrywient hwynt: a phôb peth gwael, a salw, hwnnw a ddifrodasant hwy.

10 Yna y bu gair yr Arglwydd with Sa­muel, gan ddywedyd,

11 Edifar yw gennif osod Saul yn frenin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyflawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr Arglwydd ar hŷd y nôs.

12 A phan gyfododd Samuel yn foreu i gyfarfod Saul, mynegwyd i Samuel, gan ddywe­dyd, daeth Saul i Garmel, ac wele, efe a oso­dodd iddo lê, efe a amgylchodd hefyd, ac a dramwyodd, ac a aeth i wared i Gilgal.

13 A Samuel a ddaeth at Saul, a Saul a ddywedodd wrtho ef, bendigedic fyddech di gan yr Arglwydd; mi a gyflawnais air yr Arglwydd.

14 A dywedodd Samuel, beth yntau yw brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau, a bei­chiad y gwarthec, yr hwn yr ydwyf yn ei glywed?

15 A Saul a ddywedodd, oddi ar yr Ama­leciaid y dygasant hwy; canys y bobl a arbe­dodd y defaid goreu, a'r ychen, [...] aberthu i'r Arglwydd dy Dduw, a'r rhan arall a ddifroda­som ni.

16 Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, Ar­hos, a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr Arglwydd wrthifi neithwyr. Yntef a ddywe­dodd wrtho, llefara.

17 A Samuel a ddywedodd, ond pan oeddit fychan yn dy olwg dy hun y gwnaed ti yn ben ar lwythau Israel, ac yr eneiniodd yr Arglwydd di yn frenin ar Israel?

18 A'r Arglwydd a'th anfonodd di i daith, ac a ddywedodd, dos, a difroda y pechaduriaid, yr Amaleciaid, ac ymladd iw herbynHeb. Nes idd­ynt eu di­fa, &c. nes eu difa hwynt.

19 Pa ham gan hynny na wrandewaist ar lais yr Arglwydd, eithr troaist at yr anrhaith, a gwnaethost ddrwg yngolwg yr Arglwydd?

20 A Saul a ddywedodd wrth Samuel, yn wîr mi a wrandewais ar lais yr Arglwydd, ac a rodiais yn y ffordd i'm anfonodd yr Ar­glwydd iddi, a dugym Agag brenin Amalec, ac a ddifrodais yr Amaleciaid.

21 Ond y bobl a gymmerth o'r yspail, dde­faid, a gwarthec, blaenion y ddifrodaeth, i a­berthu i'r Arglwydd dy Dduw yn Gilgal.

22 A Samuel a ddywedodd, a yw ewyllys yr Arglwydd ar boeth offrymmau, neu ebyrth, megis at wrando ar lais yr Arglwydd? welePreg. 5.1. Ose. 6.7 Mat. 9.13. & 12 7. gwrando sydd well nag aberth, ac vfyddhau nâ brasder hyrddod.

23 Canys anufydd-dod sydd fel pechod de­winiaeth, a throseddiad sydd anwiredd, a deiw­addoliaeth: o herwydd it fwrw ymmaith air yr Arglwydd, yntau a'th fwrw dithau ymmaith o fod yn frenhin.

24 A Saul a ddywedodd wrth Samuel, pe­chais; canys troseddais air yr Arglwydd, a'th eiriau ditheu; o herwydd i'm ofni y bobi, a gwrando ar eu llais hwynt.

25 Ond yn awr maddeu attolwg fy mhe­chod, a dychwel gyd â mi, fel yr addolwyf yr Arglwydd.

26 A Samuel a ddywedodd with Saul, ni ddychwelaf gyd â thi; canys bwriaist ymmaith air yr Arglwydd, a'r Arglwydd a'th fwriodd ditheu ymmaith o fod yn frenin ar Israel.

27 A phan drôdd Samuel i fyned ymmaith, efe a ymaflodd ynghwrr ei fantell ef, a hi a rwygodd.

28 A Samuel a ddywedodd wrtho, yr Ar­glwydd a rwygodd frenhiniaeth Israel oddi wrthit ti heddyw, ac a'i rhoddes i gymydogi ti, gwell nâ thy di.

29 A hefyd,Neu, Tragywy­ddoldeb, neu, Bu­ddu [...]li­aeth. cadernid Israel ni ddywed gelwydd, ac nid edifarhâ: canys nid dŷn yw efe i edifarhau.

30 Yna y dywedodd Saul, pechais, anrhy­dedda fi attolwg yn awr ger bron henuriaid fy mhobl, a cher bron Israel, a dychwel gyd â mi, fel yr addolwyf yr Arglwydd dy Dduw.

31 Felly Samuel a ddychwelodd ar ôl Saul, a Saul a addolodd yr Arglwydd.

32 Yna y dywedodd Samuel, cyrchwch at­tafi Agag brenin yr Amaleciaid: ac Agag a ddaeth atto ef yn hoyw, ac Agag a ddywedodd, chwerwder marwolaeth yn ddiau a aeth ym­maith.

33 A Samuel a ddywedodd,Exod. 17. 11. Num. 14 45. fel y diblan­todd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithe ym mysc gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag ger bron yr Arglwydd yn Gil­gal.

34 Yna Samuel a aeth i Ramah, a Saul a aeth i fynu iw dŷ yn Gibeah Saul.

35 Ac nid ymwelodd Samuel mwyach â Saul hyd ddydd ei farwolaeth ef: onid Samuel a ala­rodd am Saul:Gen. 6.6. ac edifar fu gan yr Arglwydd osod Saul yn frenin ar Israel.

PEN. XVI.

1 Samuel wedi ei ddanfon gan Dduw, tan rith aberthu, yn dyfod i Bethlehem. 6 Ceryddu ei farn ddynawl ef. 11 Efe yn eneinio Dafydd. 15 Saul yn danfon am Ddafydd i lonyddu ei yspryd drwg.

A'R Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel, pa hyd y galeri di am Saul, gan i mi ei fwrw ef ymaith o deyrnasu ar Israel? llanw dy gorn ag olew, a dos, mi a'th anfonaf di at Jesse y Bethlehemiad; canys ym mysc ei feibion ef y darperais i'm frenin.

2 A Samuel a ddywedodd, pa fodd yr âfi? os Saul a glyw, efe a'm lladd i. A dywedodd yr Arglwydd, cymmer anner-fuwchHeb. yn dy law. gyd â thi, a dywed, deuthum i aberthu i'r Arglwydd.

3 A galw Jesse i'r aberth, a mi a yspyssaf i ti yr hyn a wnelych; a thi a enneini i mi yr hwn a ddywedwyf wrthit.

4 A gwnaeth Samuel yr hyn a archasei yr Arglwydd, ac a ddaeth i Bethlehem; a henuri­aid y ddinas a ddychrynasant wrth gyfarfod ag ef, ac a ddywedasant; a'i heddychlon dy ddy­fodiad?

5 Ac efe a ddywedodd heddychlon: deuthum i aberthu i'r Arglwydd; ymsancteiddiwch a deuwch gyd â mi i'r aberth: ac efe a sancteiddi­odd Jesse, a'i feibion, ac a'i galwodd hwynt i'r aberth.

6 A phan ddaethant, efe a edrychodd ar Eliab, ac a ddywedodd, diau fod eneiniog yr Arglwydd ger ei fron ef.

7 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel, nac edrych ar ei wyneb-pryd ef, nac ar vchter ei gorpholaeth ef, canys gwrthodais ef; o her­wydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn;Cron. [...] 9. [...]er. 11.20. & 17.10. & 20.12. Psal. 7.9. ca­nys dŷn a edrych ar y golygiad, ond yr Ar­glwydd a edrych ar y galon.

8 Yna Jesse a alwodd Abinadab, ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel: a dywedodd yn­tef, ni ddewisodd yr Arglwydd hwn y chwaith.

9 Yna y gwnaeth Jesse i2 Sam. 21.21. Sammah ddyfod; a dywedodd yntef, ni ddewisodd yr Arglwydd hwn ychwaith.

10 Yna y parodd Jesse iw saith mab ddyfod ger bron Samuel; a Samuel a ddywedodd wrth Jesse, ni ddewisodd yr Arglwydd y rhai hyn.

11 Dywedodd Samuel hefyd wrth Jesse, ai dymma dy holl blant? yntef a ddywedodd, yr ienangaf etto sydd yn ôl, ac wele mae efe yn2 Sam. 7.8. Psal. 78.71. bugeilio y defaid. A dywedodd Samuel wrth Jesse, danfon, a chyrch ef; canys nid eisteddwn ni i lawr, nes ei ddyfod ef ymma.

12 Ac efe a anfonodd, ac a'i cyrchodd ef: ac efe oedd wrid-coch, a thôg yr olwg, a hardd o wedd: a dywedodd yr Arglwydd, cyfot, enei­ [...] ef; canys dymma efe.

13 Yna y cymmerth Samuel gorn yr olew, [...] henneiniodd ef ynghanol ei frodyr: a [...]aethAc [...] [...] 45. [...] Yspryd yr Arglwydd ar Ddafydd, o'r dydd hwnnw allan: yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Ramah.

14 Ond Yspryd yr Arglwydd a giliodd oddi wrth Saul, ac yspryd drwg oddi wrth yr Ar­glwydd a'iNeu, dychry­nodd. blinodd ef.

15 A gweision Saul a ddywedasant wrtho ef, wele yn awr drwg yspryd oddi wrth Dduw sydd yn dy flino di.

16 Dyweded attolwg ein meistr ni wrth dy weision sydd ger dy fron, am iddynt geisio gŵr yn medru canu telyn; a bydd pan ddelo drwg yspryd oddiwrth Dduw arnat ti, yna iddo ef ganu â'i law, a da fydd i ti.

17 A dywedodd Saul wrth ei weision, edrychwch yn awr i mi am ŵr yn medru canu yn dda, a dygwch ef attafi.

18 Ac vn o'r llangciau a attebodd, ac a ddy­wedodd, wele, gwelais fab i Jesse y Bethlehemi­ad yn medru canu, ac yn rymmus o nerth, ac yn rhyfel-wr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn ŵr lluniaidd, a'r Arglwydd sydd gyd ag ef.

19 Yna yr anfonodd Saul gennadau at Jesse, ac a ddywedodd, anfon attafi Ddafydd dy fab, yr hwn sydd gyd â'r praidd.

20 A Jesse a gymmerth assyn lwythoc o fara, a chostreleid o wîn, a mynn gafr, ac a'i han­fonodd gyd â Dafydd ei fab at Saul.

21 A Dafydd a ddaeth at Saul, ac a safodd ger ei fron ef; yntef a'i hoffodd ef yn fawr, ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef.

22 A Saul a anfonodd at Jesse, gan ddywe­dyd, arhosed Dafydd attolwg ger fy mron i; canys efe a gafodd ffafor yn fyngolwg.

23 A phan fyddei y drwg yspryd oddiwrth Dduw ar Saul, y cymmerei Dafydd delyn, ac y canei â'i ddwylaw; a byddei esmwythdra i Saul, a dâ oedd hynny iddo, a'r yspryd drwg a giliei oddi wrtho.

PEN. XVII.

1 Pan ydoedd lluoedd yr Israeliaid a'r Philisti­aid yn barod i ymladd, 4 y mae Goliah yn dy­fod allan yn rhyfygus, ac yn gofyn vn i ymladd ag ef. 12 Dafydd wedi iw dad ei ddanfon ef i ymweled â'i frodyr, yn cynnyg ymladd ag ef. 28 Eliab yn ei stwrdio ef. 30 Ei ddwyn ef ger bron Saul. 32 Yntef yn dangos yr achos yr oedd ef mor hyderus. 38 Y mae efe heb ddim arfau, ond ffydd, yn lladd y cawr. 55 Saul yn cymmeryd cydnabod o Ddafydd.

YNa y Philistiaid a gasclasant eu byddinoedd i ryfel, ac a ymgynnullasant yn Sochoh yr hon sydd yn Juda, ac a wersyllasant rhwng Sochoh ac Azecah,Ephes. Dammin ynghwr Dammim.

2 Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasclasant, ac a werssyllasant yn nyffryn Elah, ac a drefna­sant y fyddin i ryfel yn erbyn y Philistiaid.

3 A'r Philistiaid oedd yn sefyll ar fynydd o'r naill du, ac Israel yn sefyll ar fynydd o'r tu arall; a dyffryn oedd rhyngddynt.

4 A daeth gŵr rhyngddynt hwy allan o werssylloedd y Philistiaid, a'i enw Goliath o Gath: ei vchder oedd chwe chufydd a rhych­want.

5 A helm o brês ar ei ben, a lluric emmoc a wiscai; a phwys y lluric oedd bum mil o siclau prês.

6 A bottassan prês oedd am ei draed ef, aNeu, ch [...]ler. tharian prês rhwng ei yscwyddau.

7 A phaladr ei wayw-ffon ef oedd fel car­fan gwehydd, a blaen ei wayw-ffon ef oedd chwe-chan sicl o haiarn: ac vn yn dwyn ta­rian oedd yn myned o'i flaen ef.

8 Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddi­noedd Israel, ac a ddywedodd wrthynt; i ba beth y deuwch i drefnu eich byddinoedd? onid ydroyf fi Philistiad, a chwithau yn weision i Saul? dewiswch i chwi ŵr i ddyfod i wared attafi.

9 Os gall efe ymladd â mi, a'm lladd i, yna y byddwn ni yn weision i chwi; ond os myfi [Page] a'i gorchfygaf ef, ac a'i lladdaf ef, yna y by­ddwch chwi yn weision i ni, ac y gwasanaeth­wch ni.

10 A'r Philistiad a ddywedodd, myfi a wradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn, moeswch attafi ŵr fel yr ymladdom ynghyd.

11 Pan glybu Saul, a holl Israel y geiriau hynny gan y Philistiad, yna y digalonnasant ac yr ofnasant yn ddirfawr.

12 A'r Dafydd hwn oedd fab iPen. 16.1. Ephratewr o Bethlehem Juda, a'i enw Jesse, ac iddo ef yr oedd ŵyth o feibion: a'r gŵr yn nyddiau Saul a ai yn henafgwr ymmysg gwyr.

13 A thri mab hynaf Jesse a aethant ac a ddilynasant ar ôl Saul i'r rhyfel: ac enw ei dri mab ef, y rhai aethant i'r rhyfel, oedd Eliab y cyntafanedic, ac Abinadab yr ail, a Sammah y trydydd.

14 A Dafydd oedd ieuangaf: a'r tri hynaf a aeth ar ôl Saul.

15 Dafydd hefyd aPen. 15.19. aeth, ac a ddychwe­lodd oddi wrth Saul i fugeilio defaid ei dad, yn Bethlehem.

16 A'r Philistiad a nessaodd foreu a hwyr, ac a ymddangosodd ddeugain nhiwrnod.

17 A dywedodd Jesse wrth Ddafydd ei fab, cymmer yn awr i'th frodyr Epha o'r crâsŷd hwn, a'r dêc torth hyn, ac ar redeg dwg hwynt i'r gwerssyll at dy frodyr.

18 Dŵg hefyd y dêc cossynHeb. llaeth. îr hyn i dywy­sog y mîl, ac ymwel â'th frodyr a ydynt hwy yn iach, a gollwng yn rhydd eu gwystl hwynt.

19 Yna Saul, a hwythau, a holl wŷr Israel oe­ddynt yn nyffryn Elah yn ymladd â'r Philistiaid.

20 A Dafydd a gyfododd yn foreu, ac a ada­wodd y defaid gyd â cheidwad, ac a gymmerth, ac a aeth megis y gorchymynnasei Jesse iddo ef; ac efe a ddaeth i'r gwerssyll, a'r llu yn myned allan i'rNeu, ymladdle. gâd, ac yn bloeddio i'r frwydr.

21 Canys Israel a'r Philistiaid a ymfyddina­sent fyddin yn erbyn byddin.

22 A Dafydd a adawodd yHeb. ll [...]s [...]ri. mûd oddi wrtho, tan law ceidwad y dodrefn, ac a redodd i'r llu, ac a ddaeth, ac a gyfarchodd well iw frodyr.

23 A thra 'r oedd efe yn ymddiddan â hwynt, wele yr gŵr (oedd yn sefyll rhwng y ddeu-lu) yn dyfod i fynu o fyddinoedd y Phi­listiaid (Goliath y Philistiad o Gath wrth ei enw,) ac efe a ddywedodd yr vn fath eitiau, fel y clybu Dafydd.

24 A holl wŷr Israel pan welsant y gŵr hwnnw, a ffoesantHeb. rhac ei [...]yn [...]b ef. rhagddo ef, ac a ofna­sant yn ddirfawr.

25 A dywedodd gwŷr Israel, oni welsoch chwi y gwr hwn a ddaeth i fynu? diau i wrad­wyddo Israel y mae yn dyfod i fynu: a'r gŵr a'i lladdo ef, y brenin a gyfoethoga hwnnwJos. 15.15. â chyfoeth mawr, ei ferch hefyd a rydd efe iddo ef, a thŷ ei dâd ef a wnâ efe yn rhydd yn Israel.

26 A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyl, gan ddywedyd, beth a wneir i'r gŵr a laddo y Philistiad hwn, ac a dynno ymmaith y gwradwydd oddi ar Israel? canys pwy yw y Philistiad dienwaededic hwn, pan wradwyddei efe fyddinoedd y Duw byw.

27 A'r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn, gan ddywedyd, felly y gwneir i'r gŵr a'i lladdo ef.

28 Ac Eliab ei frawd hynaf a'i clybu pan oedd efe yn ymddiddan â'r gwŷr, a digter Eliab a enynnodd yn erbyn Dafydd, ac efe a ddywedodd, pa ham y daethost i wared ym­ma? a chyd â phwy y gadewaist yr ychydic ddefaid hynny yn yr anialwch? myfi a adwen dy falchder di, a drygioni dy galon, canys i we­led y rhyfel y daethost di i wared.

29 A dywedodd Dafydd, beth a wneuthum i yn awr? onid oes achos?

30 Ac efe a droes oddi wrtho ef at vn arall, ac a ddywedodd yr vnHeb. gair. modd; a'r bobl a'i hattebasant ef air yngair fel o'r blaen.

31 A phan glybuwyd y geiriau a lefarodd Dafydd, yna y mynegwyd hwynt ger bron Saul; ac efeHeb. a'i cym­merth [...]f. a anfonodd am dano ef.

32 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, na lwfrhaed calon neb o'i herwydd ef; dy wâs di a â, ac a ymladd â'r Philistiad hwn.

33 A dywedodd Saul wrth Ddafydd, ni elli di fyned yn erbyn y Philistiad hwn i ymladd ag ef; canys llangc ydwyt ti, ac yntef sydd yn rhyfelwr o'i febyd.

34 A Dafydd a ddywedodd with Saul, bu­gail oedd dy wâs di ar ddefaid ei dâd, a daeth llew, ac arth, ac a gymmerasantNeu, fyn. oen o'r praidd.

35 A mi a euthum ar ei ôl ef, ac a'i tare­wais ef, ac a'i hachubais o'i safn ef, a phan gy­fododd ef i'm herbyn i, mi a ymaflais yn ei farf ef, ac a'i tarewais, ac a'i lleddais ef.

36 Felly dy wâs di a laddodd y llew, a'r arth: a'r Philistiad dienwaededic hwn fydd megis vn o honynt, gan iddo amherchi byddinoedd y Duw byw.

37 Dywedodd Dafydd hefyd, yr Arglwydd yr hwn a'm hachubodd i o grafangc y llew, ac o balf yr arth, efe a'm hachub i o law y Philistiad hwn. A dywedodd Saul wrth Dda­fydd, dos, a'r Arglwydd fyddo gyd â thi.

38 A Saul a wiscodd Ddafydd â'iHeb. ddillad. arfau ei hun, ac a roddodd helm o brês ar ei ben ef: ac a'i gwiscodd ef mewn lluric.

39 A Dafydd a wregysodd ei gleddyf ar ei arfau, ac a geisiodd gerdded, am na phrofasei efe; a dywedodd Dafydd wrth Saul, ni allafi gerdded yn y rhai hyn, canys ni phrofais i: a Dafydd a'i dioscodd oddi am dano.

40 Ac efe a gymmerth ei ffon yn ei law, ac a ddewisodd iddo bump o gerric llyfnion o'rNeu, dyffryn. afon, ac a'i gosododd hwyntHeb. yn llestr. ynghôd y bu­geiliaid, yr hon oedd ganddo, sef yn yr screpan; a'i ffon dafl oedd yn ei law, ac efe a nessaodd at y Philistiad.

41 A'r Philistiad a gerddodd, gan fyned, a nessau at Ddafydd, a'r gwr oedd yn dwyn y darian o'i flaen ef.

42 A phan edrychodd y Philistiad o am­gylch, a chanfod Dafydd, efe a'i diystyrodd ef: canys llangc oedd efe, a gwrid-coch, a thêg yr olwg.

43 A'r Philistiad a ddywedodd wrth Dda­fydd, ai ci ydwyfi, gan dy fod yn dyfod atafi â ffyn? a'r Philistiad a regodd Ddafydd drwy ei dduwiau ef.

44 Y Philistiad hefyd a ddywedodd wrth Ddafydd, tyret attafi, a rhoddaf dy gnawd i ehe­diaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y maes.

45 Yna y dywedodd Dafydd wrth y Phili­stiad, ti ydwyt yn dyfod attafi, â chleddyf, ac â gwayw-ffon, ac â tharian: a minne ydwyf yn dyfod attat ti yn enw Arglwydd y lluoedd, Duw byddinoedd Israel, yr hwn a geblaist ti.

46 Y dydd hwn yHeb. cae. dyry yr Arglwydd dydi yn fy llaw i, a mi a'th darawaf di, ac a gymme­raf [Page] ymmaith dy ben oddi arnat, ac a roddaf gelanedd gwerssyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i fwyst-filod y ddaiar; fel y gwypo 'r holl ddaiar fod Duw yn Israel.

47 A'r holl gynnulleidfa hon a gânt ŵybod, nad â chleddyf, nac â gwayw-ffon y gwa­red yr Arglwydd: (canys eiddo yr Arglwydd yw y rhyfel) ac efe a'ch rhydd chwi yn ein llaw ni.

48 A phan gyfododd y Philistiad, a dyfod a nessau i gysarfod Dafydd, yna y bryssiodd Dafydd, ac a redodd tu a'r fyddin i gyfarfod a'r Philistiad.

49 A Dafydd a estynnodd ei law i'r gôd, ac a gymmerth oddi yno garrec, ac a daflodd, ac a darawodd y Philistiad yn ei dalcen; a'r garrec a soddodd yn ei dalcen ef, ac efe a syrthiodd i lawr ar ei wyneb.

50 FellyEccl. 47.4. 1 Mac. 4.30. y gorthrechodd Dafydd y Phili­stiad, â ffon dafl, ac â charrec, ac a darawodd y Philistiad, ac a'i lladdodd ef; er nad oedd cleddyf yn llaw Dafydd.

51 Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y Philistiad, ac a gymmerth ei gleddyf ef, ac a'i tynnodd o'r wain, ac a'i lladdodd ef, ac a dorrodd ei ben ef ag ef. A phan welodd y Phi­listiaid farw o'i cawr hwynt, hwy a ffoesant.

52 A gwŷr Israel a Juda a gyfodasant, ac a floeddiasant, ac a erlidiasant y Philistiaid hyd y ffordd y delych i'r dyffryn, a hyd byrth Ecron; a'r Philistiaid a syrthiasant yn archolledic ar hyd ffordd Saaraim, sef hyd Gath, a hyd Ecron.

53 A meibion Israel a ddychwelasant o ymlid ar ôl y Philistiaid, ac a anrheithiasant eu gwerssylloedd hwynt.

54 A Dafydd a gymmerodd ben y Philisti­ad, ac a'i dûg i Jerusalem, a'i arfau ef a oso­dodd efe yn ei babell.

55 A phan welodd Saul Ddafydd yn my­ned i gyfarfod â'r Philistiad, efe a ddywedodd wrth Abner tywysog y filwriaeth, mab i bwy yw 'r llangc hwn, Abner? Ac Abner a ddy­wedodd, fel y mae yn fyw dy enaid, ô fre­nin nis gŵn i.

56 A dywedodd y brenin, ymofyn mab i bwy yw 'r gwr ieuangc hwn.

57 A phan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, Abner a'i cymmerodd ef, ac a'i dûg o flaen Saul, a phen y Philistiad yn ei law.

58 A Saul a ddywedodd wrtho ef, mab i bwy wyt ti y gwr ieuangc? A dywedodd Da­fydd, mab i'th wâs Jesse y Bethlehemiad.

PEN. XVIII.

1 Jonathan yn caru Dafydd. 5 Saul yn cynfigen­nu wrth ei glod ef, 10 yn ceisio ei ladd ef yn ei gynddaredd, 12 yn ei ofni ef, o herwydd ei fod mor llwyddiannus, 17 yn cynnyg iddo ei ferched i fod yn fagl iddo. 22 Dafydd wedi ei berswadio i fod yn fab ynghyfraith i'r brenin, yn rhoddi deucant o flaen-grwyn y Philistiaid yn lle cynnyscaeth Michal. 28 Digassedd Saul, a gogoniant Dafydd, yn cynnyddu.

AC wedi darfod iddo ymddiddan â Saul, enaid Jonathan a ymgylymmodd wrth enaid Dafydd; a Jonathan a'i carodd ef, megis ei enaid ei hun.

2 A Saul a'i cymmerth ef atto y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dâd.

3 Yna Jonathan a Dafydd a wnaeth gyfam­mod, o herwydd efe a'i carei megis ei enaid ei hun.

4 A Jonathan a ddioscodd y fantell oedd am dano ei hun, ac a'i rhoddes i Ddafydd, a'i wis­coedd, ie hyd yn oed ei gleddyf, a'i fwa, a'i wregys.

5 A Dafydd a aeth i ba le bynnac yr anfo­nodd Saul ef, ac aNeu, lwyddodd. ymddûg yn ddoeth: a Saul a'i gosododd ef ar y rhyfel-wŷr, ac efe oedd gymmeradwy yngolwg yr holl bobl, ac yn­golwg, gweision Saul hefyd.

6 A bu (wrth ddyfod o honynt) pan ddy­chwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, ddyfod o'r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel dan ganu, a dawnsio i gyfarfod â'r brenin Saul, â thympanau, â gorfoledd, ac offer Heb. trithant. cerdd dannau.

7 A'r gwragedd wrth ganu a ymattebent, ac a ddywedent,Pen. 21.11. & 29.5. Eccles. 47.6, 7. lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn.

8 A digiodd Saul yn ddirfawr, a'r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef; ac efe a ddy­wedodd, rhoddasant i Ddafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: beth mwy a roddent iddo ef, ond y frenhiniaeth?

9 A bu Saul a'i lygad ar Ddafydd o'r dydd hwnnw allan.

10 Bu hefyd drannoeth i'r drwg yspryd oddi­wrth Dduw ddyfod ar Saul, ac efe a broph­wydodd ynghanol y tŷ, a Dafydd a ganodd â'i law, fel o'r blaen: a gwayw-ffon oedd yn llaw Saul.

11 A Saul a daflodd y wayw-ffon, ac a ddywedodd, tarawaf trwy Ddafydd yn y pared: a Dafydd a giliodd ddwywaith o'i ŵydd ef.

12 A Saul oedd yn ofni Dafydd, o herwydd bod yr Arglwydd gyd ag ef, a chilio o honaw oddi wrth Saul.

13 Am hynny Saul a'i gyrrodd ef ymmaith oddi wrtho, ac a'i gosododd ef yn dywysog ar fil: ac efe a aeth i mewn ac allan o flaen y bobl.

14 A Dafydd aNeu, lwyddodd. ymddûg yn ddoeth yn ei holl ffyrdd; a'r Arglwydd oedd gyd ag ef.

15 A phan welodd Saul ei fod ef yn ddoeth iawn, efe a'i hofnodd ef.

16 Eithr holl Israel a Juda a garodd Dda­fydd, am ei fod ef yn myned i mewn ac allan o'i blaen hwynt.

17 A dywedodd Saul wrth Ddafydd, wele, Merab fy merch hynaf, hi a roddafi i ti yn wraig; yn vnic bydd i mi yn fab nerthol; ac ymladd ryfeloedd yr Arglwydd: (canys dy­wedasei Saul, ni bydd fy llaw i arno ef, onid llaw y Philistiaid fydd arno ef.)

18 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, pwy ydwyf fi? a pheth yw fy mywyd, neu dŷlwyth fy nhâd i yn Israel, fel y byddwn ynFab yng hyfraith. ddaw i'r brenin?

19 Eithr yn yr amser y dylesid rhoddi Merab merch Saul i Ddafydd, hi a roddwyd i Adriel y Maholathiad yn wraig.

20 A Michal merch Saul a garodd Ddafydd: a mynegasant hynny i Saul, a'r peth fuHeb. vni [...]n yn ei [...]lwg ef. fodlon ganddo.

21 A dywedodd Saul, rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo 'n fagl, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef: felly Saul a ddywe­dodd wrth Ddafydd, drwy vn o'r ddwy y byddi fab ynghyfraith i mi heddyw.

22 A Saul a orchymynnodd iw-weision fel hyn, ymddiddenwch â Dafydd yn ddirgel, gan ddywedyd, wele y brenin sydd hoff ganddo dydi, a'i holl weision ef a'th garant di: yn awr [Page] gan hynny ymgyfathracha â'r brenin.

23 A gweision Saul a adroddasant wrth Ddafydd y geiriau hyn: a Dafydd a ddywe­dodd, a'i yscafn yw yn eich golwg chwi ym­gyfathrachu â brenin, a minneu yn ŵr tlawd a gwael?

24 A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd,Heb. yn ol y geiriau [...]yn. fel hyn y llefarodd Dafydd.

25 A dywedodd Saul, fel hyn y dywedwch wrth Ddafydd, nid yw y brenin yn ewyllysio cynhyscaeth, onid cael cant o flaen-grwyn y Philistiaid i ddial ar elynion y brenin: ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd drwy law y Philistiaid.

26 A'i weision ef a fynegasant i Ddafydd y geiriau hyn, a'r ymadrodd fu fodlon gan Ddafydd am ymgyfathrachu â'r brenin: ac niHeb. c [...]yflaw­nasid y dyddiau. ddaethei yr amser etto.

27 Am hynny y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth, a'i wŷr, ac a darawodd ddau can-wr o'r Philistiaid; a Dafydd a ddygodd eu blaen­grwyn hwynt, a hwy a'i cwbl dalasant i'r bre­nin, i ymgyfathrachu o hono ef â'r brenin: a Saul a roddes a Michal ei ferch yn wraig iddo ef.

28 A Saul a welodd, ac a wybu fod yr Ar­glwydd gyd â Dafydd, a bod Michal merch Saul yn ei garu ef.

29 A Saul oedd yn ofni Dafydd yn fwy etto; a bu Saul yn elyn i Ddafydd byth.

30 Yna tywysogion y Philistiaid aent allan: a phan elent hwy, Dafydd a fyddei ddoethach nâ holl weision Saul; a'i enw ef aeth ynNeu, werth­fawr. an­rhydeddus iawn.

PEN. XIX.

1 Jonathan yn datcuddio amcan ei dâd am ladd Dafydd: 4 ac yn annoc ei dâd i gymmodi ag ef. 8 Maleisus gynddaredd Saul yn torri allan yn erbyn Dafydd, o herwydd ei lwyddiant ef mewn rhyfel newydd. 12 Michal yn swmmi ei thâd â delw yngwely Dafydd. 18 Dafydd yn dyfod at Samuel yn Naioth. 20 Saul yn danfon cennadau i ddal Dafydd, 22 a Saul ei hun yn prophwydo.

A Saul a ddywedodd wrth Jonathan ei fab, ac wrth ei holl weision, am ladd Dafydd.

2 Ond Jonathan mab Saul oedd hôffiawn ganddo Ddafydd. A mynegodd Jonathan i Dda­fydd, gan ddywedyd, Saul fy nhâd sy yn ceisio dy ladd di: ac yn awr ymgadw attolwg hyd y boreu, ac aros mewn lle dirgel, ac ymgu­ddia.

3 A mi a âf allan, ac a safaf ger llaw fy nhâd yn y maes y byddych di ynddo, ac mi a ym­ddiddanaf â'm tâd o'th blegit ti, a hyn a wel­wyf, mi a'i mynegaf i ti.

4 A Jonathan a ddywedodd yn dda am Ddafydd wrth Saul ei dâd, ac a ddywododd wrtho, na pheched y brenin yn erbyn ei wâs, yn erbyn Dafydd: o herwydd ni phechodd efe i'th erbyn di, ac o herwydd bod ei weithredo­edd ef yn dda iawn i ti.

5 Canys efe a osodes eiBarn. 9.17. & 12.3. Pen. 28.21. Psal. 119.109. enioes yn ei law, ac a darawodd y Philistiad, a'r Arglwydd a wnaeth iechydwriaeth mawr i holl Israel; ti a'i gwelaist, ac a lawenychaist: pa ham gan hynny y pechi yn erbyn gwaed gwirion, gan ladd Dafydd yn ddiachos?

6 A Saul a wrandawodd ar lais Jonathan; a Saul a dyngodd, fel mai byw 'r Arglwydd, ni leddir ef.

7 A Jonathan a alwodd ar Ddafydd, a Jona­than a fynegodd iddo ef yr holl eiriau hyn: a Jonathan a ddug Ddafydd at Saul, ac efe a fu ger ei fron ef megisHeb. doe ac echdoe. cynt.

8 A bu chwaneg o ryfel, a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid, ac a'i tarawodd hwynt â lladdfa fawr, a hwy a ffoesantHeb. rhag ei wyneb ef. rhagddo ef.

9 A'r drwg yspryd oddiwrth yr Arglwydd oedd ar Saul, pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ, a'i waywffon yn ei law: aPen. 16.23. Dafydd oedd yn canu â'i law.

10 A cheisiodd Saul daro â'i waywffon drwy Ddafydd, yn y pared; ond efe a giliodd o ŵydd Saul, ac yntef a darawodd y wayw-ffon yn y pared; a Dafydd a ffoawdd, ac a ddiangodd y nos honno.

11 Saul hefyd a anfonodd gennadau i dŷ Ddafydd iw wilied ef, ac iw ladd ef y boreu: a Michal ei wraig a fynegodd i Ddafydd, gan ddywedyd, onid achubi dy enioes heno, y foru i'th leddir.

12 Felly Michal a [...]lyngodd Ddafydd i lawr drwy ffenestr; ac efe a aeth, ac a ffodd, ac a ddiangodd.

13 A Michal a gymmerodd ddelw, ac a'i gosododd yn y gwely, a chlustog o flew geifr a osododd hi yn obennydd iddi; ac a'i gorchgu­ddiodd â dillad.

14 A phan anfonodd Saul gennadau i ddala Dafydd, hi a ddywedodd, y mae efe yn glâf.

15 A Saul a anfonodd eilwaith gennadau i edrych Dafydd, gan ddywedyd: dygwch ef i fynu attafi yn ei wely, fel y lladdwyf ef.

16 A phan ddaeth y cennadau, wele y ddelw ar y gwely, a chlustog o flew geifr yn oben­nydd iddi.

17 A dywedodd Saul wrth Michal, pa ham y twyllaist fi fel hyn, ac y gollyngaist fy ngelyn i ddiangc? a Michal a ddywedodd wrth Saul, efe a ddywedodd wrthif, gollwng fi, onid ê mi a'th laddaf di.

18 Felly Dafydd a ffoawdd, ac a ddiang­odd, ac a ddaeth at Samuel i Ramah, ac a fy­negodd iddo yr hyn oll a wnaethei Saul iddo ef; ac efe a aeth at Samuel, a hwy a drigasant yn Naioth.

19 A mynegwyd i Saul, gan ddywedyd, wele, y mae Dafydd yn Naioth o fewn Ramah.

20 A Saul a anfonodd gennadau i ddala Da­fydd; a phan welsant gynnulleidfa y proph­wydi yn prophwydo, a Samuel yn sefyll, wedi ei osod arnynt hwy; yr oedd ar gennadau Saul Yspryd Duw, fel y prophwydasant hwy­thau hefyd.

21 A phan fynegwyd hyn i Saul, efe a anfo­nodd gennadau eraill, a hwythau hefyd a brophwydasant: a thrachefn danfonodd Saul gennadau y drydedd waith, a phrophwydasant hwythau hefyd.

22 Yno ynteu hefyd a aeth i Ramah, ac a ddaeth hyd y ffynnon fawr sydd yn Sechu; ac efe a ofynnodd, ac a ddywedodd, pa le y mae Samuel a Dafydd? ac vn a ddywedodd, wele y maent yn Naioth o fewn Ramah.

23 Ac efe a aeth yno i Naioth yn Ramah: ac arno ynteu hefyd y daeth Yspryd Duw, a chan fyned yr aeth ac y prophwydodd, nes ei ddyfod i Naioth yn Ramah.

24 Ac efe a ddioscodd ei ddillad, ac a broph­wydodd hefyd ger bron Samuel, ac a syrthiodd i lawr yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw, a'r holl nôs: am hynny y dywedent,Pen. 10.11. A ydyw Saul hefyd ym mysc y prophwydi?

PEN. XX.

1 Dafydd yn ymgynghori a Jonathan am ei ddio­gelwch. 11 Jonathan a Dafydd yn adnew­yddu eu cyfammod trwy lŵ. 18 Arwydd Jo­nathan i Ddafydd. 24 Saul eisieu cael gafael ar Ddafydd yn ceisio llâdd Jonathan. 35 Jo­nathan yn gariadus yn canu yn iach i Ddafydd.

A Dafydd a ffoawdd o Naioth yn Ramah, ac a ddaeth, ac a ddywedodd ger bron Jo­nathan, beth a wneuthum i? beth yw fy an­wiredd? a pheth yw fy mhechod o flaen dy dad ti, gan ei fod efe yn ceisio fy enioes i?

2 Ac efe a ddywedodd wrtho, na atto Duw; ni byddi farw; wele, ni wna fy nhâd ddim, na mawr na bychan, heb ei fynegi i mi: pa ham gan hynny y celai fy nhâd y peth hyn oddi wrthifi? nid felly y mae.

3 A Dafydd a dyngodd eilwaith, ac a ddy­wedodd, dy dâd a ŵyr yn hyspys i mi gael ffa­for yn dy olwg di, am hynny y dywed, na chaed Jonathan ŵybod hyn, rhac ei dristau ef: cyn wired a bod yr Arglwydd yn fyw, a'th enaid ditheu yn fyw, nid oes ond megis cam rhyngofi ac angeu.

4 Yna y dywedodd Jonathan wrth Ddafydd, dywed beth yw dy ewyllys, a mi a'i cwplhâf i ti.

5 A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, wele, y dydd cyntaf o'r mis yw y foru, a min­neu gan eistedd a ddylwn eistedd gyd â'r brenin i fwytta: ond gollwng fi fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brydnawn y trydydd dydd.

6 Os dy dâd a ymofyn yn fanwl am d [...]af; yna dywed, Dafydd gan ofyn a ofynnodd gen­nad gennifi, i redeg i Bethlehem ei ddinas ei hun: canysPen. 6.21. Gwledd. aberth blynyddawl sydd yno i'r holl genedl.

7 Os fel hyn y dywed efe, da, heddwch fydd i'th wâs; ond os gan ddigio y digia efe, gwy­bydd fod ei fryd ef ar ddrwg.

8 Gwna gan hynny drugaredd â'th wâs,Pen. 18.3. & 23.18. canys i gyfammod yr Arglwydd y dygaist dy wâs gyd â thi: ac od oes anwiredd ynofi, lladd di fi, canys i ba beth y dygi fi at dy dâd?

9 A dywedodd Jonathan, na atto Duw hyn­ny i ti: canys os gan wybod y cawn wybod fod malis wedi ei baratoi gan fy nhâd i ddyfod i'th erbyn, onis mynegwn i ti?

10 A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, pwy a fynega i mi? neu beth os dy dâd a'th ettyb yn arw?

11 A dywedodd Jonathan wrth Ddafydd, tyret ac awn i'r maes: a hwy a aethant ill dau i'r maes.

12 A Jonathan a ddywedodd wrth Dda­fydd; oh Arglwydd Dduw Israel, wedi i mi chwilio meddwl fy nhâd, ynghylch y pryd hyn y foru neu drennydd, ac wele os daioni fydd tu ag at Ddafydd, ac oni anfonaf yna attati,Heb. a datcu­ddio dy glust. a'i fynegi i ti,

13 Fel hyn y gwnel yr Arglwydd i Jonathan ac ychwaneg: os da fydd gan fy nhâd wneu­thur drwg i ti, yna y mynegaf it, ac a'th oll­yngaf ymaith, fel yr elech mewn heddwch; a bydded yr Arglwydd gyd â thi, megis y bu gyd â'm tâd i.

14 Ac nid yn vnic tra fyddwyfi byw, y gwnei drugaredd yr Arglwydd â mi, fel na byddwyf fi marw:

15 Ond hefyd na thorr ymmaith dy dru­garedd oddi wrth fy nhŷ i byth, nac chwaith pan ddestrywio 'r Arglwydd elynion Dafydd, bob vn oddi ar wyneb y ddaiar.

16 Felly y cyfammododd Jonathan â thŷ Da­fydd, ac efe a ddywedodd, gofynned yr Arglwydd hyn ar law gelynion Dafydd.

17 A Jonathan a wnaeth i Ddafydd ynteu dyngu, o herwydd efe a'i carei ef: canys fel y carei ei enaid ei hun y carei efe ef.

18 A Jonathan a ddywedodd wrtho ef, y foru yw 'r dydd cyntaf o'r mis, ac ymofynnir am danat, o herwydd fe fydd dy eistedle yn wâg.

19 Ac wedi i ti arhos dridieu, yna tyred i wared ynNeu, ddiwyd. Hebr. fawr. fuan, a thyred i'r lle yr ymguddi­aist ynddo,1 Sam. 19.2. Heb. yn nydd y gwaith. pan oedd y peth ar waith, ac aros wrth faen Ezel.

20 A mi a saethaf dair o saethau, tua'i ystlys ef, fel pes gollyngwn hwynt at nôd.

21 Wele hefyd mi a anfonaf langc gan ddy­wedyd dôs, cais y saethau: os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llangc, wele y saethau o'r tu ymma i ti, dwg hwynt: yna tyret ti, canys heddwch sydd i ti, ac nid oes dim niwed, fel mai byw yw 'r Arglwydd.

22 Ond os fel hyn y dywedaf wrth y llangc, wele y saethau o'r tu hwnt i ti; dôs ymmaith, canys yr Arglwydd a'th anfonodd ymmaith.

23 Ac am y peth a leferais i, mi a thi, wele 'r Arglwydd fyddo rhyngofi a thi, yn dragywydd.

24 Felly Dafydd a ymguddiodd yn y maes: a phan ddaeth y dydd cyntaf o'r mis, y brenin a eisteddodd i fwytta bwyd.

25 A'r brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa, megis ar amseroedd eraill, sef ar yr eisteddfa, wrth y pared; a Jonathan a gyfododd, ac Ab­ner a eisteddodd wrth ystlys Saul: a lle Dafydd oedd wâg.

26 Ac nid yngenodd Saul ddim y diwrnod hwnnw: canys meddyliodd mai damwain oedd hyn, nad oedd efe lân, a'i fod yn aflan.

27 A bu dranoeth yr ail dydd o'r mis, fod lle Dafydd yn wâg: a dywedodd Saul wrth Jo­nathan ei fâb, pa ham na ddaeth mab Jesse at y bwyd, na doe na heddyw?

28 A Jonathan a attebodd Saul, Dafydd gan ofyn a ofynnodd i mi am gael myned hyd Beth­lehem.

29 Ac efe a ddywedodd, gollwng fi attolwg, o herwydd i'n tylwyth ni y mae aberth yn y ddinas, a'm brawd yntef a archodd i mi fod yno: ac yn awr o chefais ffafor yn dy olwg, gad i mi fyned attolwg, fel y gwelwyf fy mro­dyr: o herwydd hyn, ni ddaeth efe i fwrdd y brenin.

30 Yna y llidiodd digter Saul yn erbyn Jo­nathan, ac efe a ddywedodd wrtho, ti fabNeu, cyndyn gwrth­nysig. Heb. cyn­dyn wrth­nysi erw­ydd. y gyndyn wrthnyssic, oni wn i ti ddewis mab Jesse yn wradwydd it, ac yn gywilydd i noeth­der dy fam?

31 Canys tra fyddo mab Jesse yn fyw ar y ddaiar, ni'th sicrheir di na'th deyrnas: yn awr gan hynny, anfon, a chyrch ef attaf, canysHeb. mab an­gen yw efe. marw a gaiff efe.

32 A Jonathan a attebodd Saul ei dâd, ac a ddywedodd wrtho, pa ham y bydd efe marw? beth a wnaeth efe?

33 A Saul a ergydiodd wayw-ffon atto ef, iw daro ef; wrth hyn y gwybu Jonathan fod ei dâd ef wedi rhoi ei fryd ar ladd Dafydd.

34 Felly Jonathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid digllawn, ac ni fwyttaodd fwyd yr ail dydd o'r mis, canys drwg oedd gantho dros Ddafydd; o herwydd iw dâd ei wradwyddo ef.

35 A'r borau yr aeth Jonathan i'r maes er­byn yr amser a osodasei ef i Ddafydd, a bach­gen bychan gyd ag ef.

36 Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen, rhêd, cais yn awr y saethau yr ydwyfi yn eu saethu: a'r bachgen a redodd, yntef a saethodd saethHeb. i fyned [...]ros [...]o ef. y tu hwnt iddo ef.

37 A phan ddaeth y bachgen hyd y fan yr oedd y saeth a saethasei Jonathan, y llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, ac a ddywedodd, onid yw y saeth o'r tu hwnt i ti?

38 A llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, cy­flymma, bryssia, na saf: a bachgen Jonathan a gasclodd y saethau, ac a ddaeth at ei feistr.

39 A'r bachgen ni ŵyddei ddim; yn vnic Jonathan a Dafydd a wyddent y peth.

40 A Jonathan a roddes ei offer at ei fach­gen, ac a ddywedodd wrtho, dôs, dŵg y rhai hyn i'r ddinas.

41 A'r bachgen a aeth ymmaith, a Dafydd a gyfododd oddi wrth y dehau, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymmodd dair gwaith: a hwy a gusanasant bob vn ei gilydd, ac a ŵylasant y naill wrth y llall, a Dafydd a ra­gorodd.

42 A dywedodd Jonathan wrth Ddafydd, dôs mewn heddwch; yr hyn a dyngasom ni ein dau yn enw 'r Arglwydd, gan ddywedyd, yr Arglwydd fyddo rhyngofi â thi, a rhwngfy hâd i â'th hâd ditheu, safed hynny yn dragy­wydd. Ac efe a gyfododd ac a aeth ymmaith: a Jonathan a aeth i'r ddinas.

PEN. XXI.

1 Dafydd yn Nob yn cael gan Ahimelech fara cyssegredic, 7 a Doeg yno yn bresennol. 8 Da­fydd yn cymmeryd cleddyf Goliath, 10 yn cymmeryd arno ynfydu yn Gath.

YNa y daeth Dafydd i Nob at Ahimelech yr offeiriad, ac Ahimelech a ddychrynodd wrth gyfarfod â Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, pa ham yr ydwyt ti yn vnic, ac heb neb gyd â thi?

2 A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech yr offeiriad, y brenin a orchymynnodd i mi beth, ac a ddywedodd wrthif, na chaed neb ŵybod dim o'r peth am yr hwn i'th anfonais, ac y gorchymynnais i ti: a'r gweision a gyfarwydd­ais i i'r lle a'r lle.

3 Ac yn awr beth sydd dan dy law? dod i mi bum torth yn fy llaw, neu 'r peth sy iw gael.

4 A'r offeiriad a attebodd Ddafydd, ac a ddywedodd, nid oes fara cyffredin tan fy llaw i; eithr y maeExod. [...].30. Levit. 24. [...] bara cyssegredic: os y llangciau a ymgadwasant o'r lleiaf oddi wrth wragedd.

5 A Dafydd a attebodd yr offeiriad, ac a ddy­wedodd wrtho,Matth. 12. [...] diau attal gwragedd oddi wrthym ni er ys dau ddydd neu dri, er pan gychwynnais i, llestri y llangciau hefyd ydynt sanctaidd, a'r bara sydd megis cyffredin,Neu, [...]n enwe­ [...]c gan [...] he­ [...]yw fa­ [...] arall [...]di ei [...]ssegru [...] y [...]. ie pettai wedi ei gyssegru heddyw yn y llestr.

6 Felly yr offeiriad a roddes iddo ef y bara sanctaidd; canys nid oedd yno fara, onid y bara gosod, yr hwn a dynnasid ymmaith oddi ger bron yr Arglwydd, i osod bara brŵd, yn y dydd y tynnid ef ymmaith.

7 Ac yr oedd yno y diwrnod hwnnw vno weision Saul yn aros ger bron yr Arglwydd, a'i enw Doeg, o Edomiad, y pennaf o'r bu­geiliaid oedd gan Saul.

8 A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech, onid oes ymma tan dy law di wayw ffon, neu gle­ddyf; canys ni ddygais fy nghleddyf, na'm harfau ychwaith i'm llaw, o herwydd bod gorchymmyn y brenin ar frŵst.

9 A dywedodd yr offeiriad, cleddyf Goliath y Philistiad, yr hwn a leddaist di yn nyffrynPen. 17.2. Elah, wele ef wedi ei oblygu mewn brethyn o'r tu ôl i'r Ephod: o chymmeri hwnnw i ti, cymmer; canys nid oes ymma yr vn arall onid hwnnw. A Dafydd a ddywedodd, nid oes o fath hwnnw, dyro ef i mi.

10 Dafydd hefyd a gyfododd, ac a ffôdd y dydd hwnnw rhag ofn Saul, ac a aeth at Achis brenin Gath.

11 A gweision Achis a ddywedasant wrtho ef, onid hwn yw DafyddPen. 17.9. & 18.7. & 29.6. Ecclus. 47.6. brenin y wlâd? onid i hwn y canâsant yn y dawnsiau, gan ddywe­dyd, Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn?

12 A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon, ac a ofnodd yn ddirfawr rhac Achis brenin Gath.

13 Ac efe a newidiodd ei wedd yn ei golwg hwynt, ac a gymmerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt, ac a gripiodd ddrysau y porth, ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf.

14 Yna y dywedodd Achis wrth ei weision, wele gwelwch y gŵr yn gwallgofi, pa ham y dygasoch ef attafi?

15 Ai eisieu ynfydion sydd arnafi, pan ddy­gasoch hwn i ynfydu o'm blaen i? a gaiff hwn ddyfod i'm tŷ i?

PEN. XXII.

1 Minteioedd yn cyrchu at Ddafydd i Adulam. 3 Ynteu yn Mispah yn gorchymmyn ei dâd â'i fam i frenin Moab, 5 ac wedi cael rhybydd gan Gad, yn dyfod i Hareth. 6 Saul wrth ei erlid ef, yn achwyn rhag anffyddlondeb ei wei­sion. 9 Doeg yn cyhuddo Ahimelech. 11 Saul yn gorchymmyn lladd yr offeiriaid. 17 Y rhe­degwyr yn naccau, a Doeg yn gwneuthur ei orchymmyn ef. 20 Abiathar yn diangc, ac yn dwyn y newyddion i Ddafydd.

A Dafydd a aeth ymmaith oddi yno, ac a ddiangodd i ogof Adulam: a phan glybu ei frodyr a holl dŷ ei dad ef hynny, hwy a aethant i wared atto ef yno.

2 Ymgynnullodd hefyd atto ef bob gŵr helbulus, a phob gŵr a oeddHeb. iddo ddy­ledwr. mewn dylêd, a phob gŵrHeb. Chwerw ei enaid. cystuddiedic o feddwl, ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy: ac yr oedd gyd ag ef ynghylch pedwar cant o wŷr.

3 A Dafydd a aeth oddi yno i Mispah Mo­ab, ac a ddywedodd wrth frenin Moab, deled attolwg fy nhâd, a'm mam i aros gyd â chwi, hyd oni wypwyf beth a wnêl Duw i mi.

4 Ac efe a'i dûg hwynt ger bron brenin Moab: ac arhosasant gyd ag ef yr holl ddyddiau y bu Dafydd yn yr amddeffynfa.

5 A Gad y prophwyd a ddywedodd wrth Ddafydd, nac aros yn yr amddeffynfa; tlôs ymmaith, a cherdda rhagot i wlâd Juda: felly Dafydd a ymadawodd, ac a ddaeth i goed Hareth.

6 A phan glybu Saul gael gwybodaeth am Ddafydd, a'r gwŷr oedd gyd ag ef; (a Saul oedd yn aros yn Gibeah tanNeu, llwyn mewn vchelfa. bren yn Ramah, a'i wayw-ffon yn ei law, a'i holl weision yn sefyll o'i amgylch.)

7 Yna Saul a ddywedodd wrth ei weision oedd yn sefyll o'i amgylch, clywch attolwg feibion Jo­mini; a ddyry mab Jesse i chwi oll seufydd, a gwin-llannoedd? a esyd efe chwi oll yn dy­wysogion [Page] ar filoedd, ac yn dywysogion ar gantoedd?

8 Gan i chwi oll gyd-fwriadu i'm herbyn i, ac nad oes a fynego i mi, wnaethyd o'm mab i gyngrair â mab Jesse, ac nid oes neb o honoch yn ddrwg cantho o'm plegit i, nac yn datcuddioHeb. fy nghlust i. i mi ddarfod i'm mab annog fy ngwâs i gynllwyn i'm herbyn, megis y dydd hwn?

9 Yna yr attebodd Doeg yr Edomiad, (yr hwn oedd wedi ei osod ar weision Saul,) ac a ddywedodd, gwelais fab Jesse yn dyfod i Nob at Ahimelech fab Ahitob.

10 Ac efe a ymgynghorodd trosto ef â'r Ar­glwydd, ac a roddes fwyd iddo ef, cleddyf Go­liath y Philistiad a roddes efe hefyd iddo.

11 Yna 'r anfonodd y brenin i alw Ahime­lech yr offeiriad mab Ahitob, a holl dŷ ei dâd ef, sef yr offeiriaid oedd yn Nob: a hwy a ddae­thant oll at y brenin.

12 A Saul a ddywedodd, gwrando yn awr mab Ahitob, dywedodd yntef, wele fi fy Ar­glwydd.

13 A dywedodd Saul wrtho ef, pa ham y cydfwriadasoch i'm herbyn i, ti a mab Jesse, gan it roddi iddo fara, a chleddyf, ac ymgyng­hori â Duw trosto ef, fel y cyfodei yn fy erbyn i gynllwyn, megis heddyw.

14 Ac Ahimelech a attebodd y brenin, ac a ddywedodd, pwy ym mysc dy holl weision di sydd mor ffyddlon â Dafydd, ac yn ddaw i'r brenin, ac yn myned wrth dy orchymmyn, ac yn anrhydeddus yn dy dŷ di?

15 Ai 'r dydd hwnnw y dechreuais i ym­gynghori â Duw trosto ef? na atto Duw i mi: na osoded y brenin ddim yn erbyn ei wâs, nac yn erbyn neb o dŷ fy nhâd; canys ni ŵybu dy wâs di ddim o hyn oll, nac ychydic na llawer.

16 A dywedodd y brenin, gan farw y byddi farw, Ahimelech, tydi, a holl dŷ dy dâd.

17 A'r brenin a ddywedodd wrth y rhedeg­wyr oedd yn sefyll o'i amgylch ef, trowch, a lleddwch offeiriaid yr Arglwydd, o herwydd bod eu llaw hwynt hefyd gyd â Dafydd, ac o her­wydd iddynt ŵybod ffoi o honaw ef, ac na fy­negasant i mi. Ond gweision y brenin nid estyn­nent eu llaw i ruthro ar offeiriaid yr Arglwydd.

18 A dywedodd y brenin wrth Ddoeg, tro di, a rhuthra ar yr offeiriaid. A Doeg yr Edomiad a drôdd, ac a ruthrodd ar yr offeiriaid, ac a laddodd y diwrnod hwnnw bump a phed­war vgain o wŷr yn dwyn Ephod liain.

19 Efe a darawodd hefyd Nob dinas yr offeiriaid, â min y cleddyf, yn ŵr, ac yn wraig, yn ddyn bâch, ac yn blentyn sugno, ac yn ŷch, ac yn assyn, ac yn oen, â min y cleddyf.

20 Ond vn mab i Ahimelech fab Ahitob, a'i enw Abiathar, a ddiangodd, ac a ffôd ar ôl Dafydd.

21 Ac Abiathar a fynegodd i Ddafydd ddar­fod i Saul ladd offeiriaid yr Arglwydd.

22 A dywedodd Dafydd wrth Abiathar, gwybûm y dydd hwnnw pan oedd Doeg yr Edomiad yno, gan fynegi y mynegei efe i Saul: myfi a fum achlysur marwolaeth i holl dylwyth tŷ dy dâd ti.

23 Aros gyd â mi, nac ofna: canys yr hwn sy 'n ceisio fy einioes i, sy 'n ceisio dy eini­oes ditheu? ond gyd â mi y byddi di gadwe­dig.

PEN. XXIII.

1 Dafydd wedi ymofyn â'r Arglwydd trwy A­biathar, yn gwaredu Ceilah, 7 a chwedi i Dduw ddangos iddo ddyfodiad Saul, a bradwriaeth y Ceiliaid, yn diangc o Ceilah. 14 Jonathan yn dyfod i Ziph ac yn ei gysuro ef. 19 Y Ziphiaid yn dangos i Saul ple 'r oedd ef. 25 Yntau yn diangc rhac Saul yn Maon trwy ddyfod o'r Philistiaid i'r wlad, 29 ac yn trigo yn Engedi.

YNa y mynegasant i Ddafydd, gan ddywe­dyd, wele y Philistiaid yn ymladd yn er­byn Ceilah, ac y maent hwy yn anrheithio 'r yscuboriau.

2 Am hynny y gofynnodd Dafydd i'r Ar­glwydd, gan ddywedyd, a âfi a tharo y Philisti­aid hyn? a'r Arglwydd a ddywedodd wrth Ddafydd, dôs, a tharo y Philistiaid, ac achub Ceilah.

3 A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, wele ni yn ofnus ymma yn Juda: pa faint mwy os awn i Geilah yn erbyn byddinoedd y Philistiaid?

4 Yna Dafydd eilwaith a ymgynghorodd â'r Arglwydd; a'r Arglwydd a'i hattebodd ef, ac a ddywedodd, cyfot, dos i wared i Geilah: canys myfi a roddaf y Philistiaid yn dy law di.

5 A Dafydd a'i wŷr a aeth i Geilah, ac a ym­laddodd â'r Philistiaid, ac a ddug eu gwartheg hwynt, ac a'i tarawodd hwynt â lladdfa fawr: felly y gwaredodd Dafydd drigolion Ceilah.

6 A bu panPen. 22.20. ffoawdd Abiathar mab Ahi­melech at Ddafydd i Geilah, ddwyn o honaw ef Ephod yn ei law.

7 A mynegwyd i Saul ddyfod Dafydd i Geilah: a dywedodd Saul, Duw a'i rhoddes ef yn fy llaw i; canys caewyd arno ef, pan ddaeth i ddinas a phyrth ac â barrau iddi.

8 A Saul a alwodd yr holl bobl ynghyd i ryfel, i fyned i wared i Geilah, i warchae ar Ddafydd, ac ar ei wŷr.

9 A Gwybu Dafydd fod Saul yn bwriadu drwg iw erbyn ef, ac efe a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad, dŵg yr Ephod.

10 Yna y dywedodd Dafydd, o Arglwydd Dduw Israel, gan glywed y clybu dy wâs, fod Saul yn ceisio dyfod i Geilah, i ddestrywio y ddinas er fy mwyn i.

11 A ddyry arglwyddi Ceilah fi yn ei law ef? a ddaw Saul i wared megis y clybu dy wâs, ô Arglwydd Dduw Israel? mynega attolwg i'th wâs: a'r Arglwydd a ddywedodd, efe a ddaw i wared.

12 Yna y dywedodd Dafydd, aHeb. gae. ddyry ar­glwyddi Ceilah fyfi a'm gwŷr yn llaw Saul? a'r Arglwydd a ddywedodd, rhoddant.

13 Yna y cyfododd Dafydd a'i wyr, y rhai oedd ynghylch chwe chant, ac a aethant o Gei­lah, ac a rodiasant lle y gallent: a mynegwyd i Saul fod Dafydd wedi diangc o Geilah, ac efe a beidiodd a myned allan.

14 A Dafydd a arhosodd yn yr anialwch mewn amddeffynfeudd, ac a arhôdd mewn mynydd, yn anialwch Ziph: a Saul a'i ceisiodd ef bob dydd, ond ni roddes Duw ef yn ei law ef.

15 A gwelodd Dafydd fod Saul wedi myned allan i geisio ei enioes ef: a Dafydd oedd yn ani­alwch Ziph, mewn coed.

16 A Jonathan mab Saul a gyfododd, ac a aeth at Ddafydd i'r coed, ac a gryfhaodd ei law ef yn Nuw.

17 Dywedodd hefyd wrtho ef, nac ofna; canys llaw Saul fy nhâd ni'th gaiff di, a thi a deyrnesi ar Israel, a minneu a fyddaf yn nessaf attat ti: a Saul fy nhâd sydd yn gŵybod hyn hefyd.

18 A hwy ill dau a wnaethant gyfammod ger bron yr Arglwydd: a Dafydd a arhosodd yn y coed, a Jonathan a aeth iw dŷ ei hun.

19 Yna y daeth y Ziphiaid i fynu at Saul i Gibeah, gan ddywedyd, onid yw Dafydd yn ymguddio gyd â ni mewn amddeffynfeudd yn y coed, ym mryn Hachilah, yr hwn sydd Heb. ar y llaw ddehau. o'r tu dehauJesimon. i'r diffaethwch?

20 Ac yn awr ô frenin tyred i wared yn ôl holl ddymuniad dy galon, a bydded arnom ni ei roddi ef yn llaw y brenin.

21 A dywedodd Saul, bendigedic fyddoch chwi gan yr Arglwydd; canys tosturiasoch wrthif.

22 Ewch attolwg, paratowch etto, myn­nwch wybod hefyd, ac edrychwch am eiHeb. droed-le. gyn­niwerfa ef, lle y mae efe yn tramwy, a pawy a'i gwelodd ef yno: canys dywetpwyd i mi ei fod efe yn gyfrwys iawn.

23 Edrychwch gan hynny, a mynnwch wybod yr holl lochesau y mae efe yn ymgu­ddio ynddynt, a dychwelwch attafi â siccrwydd, fel yr elwyf gyd â chwi: ac os bydd efe yn y wlâd, mi a chwiliaf am dano ef drwy holl fil­oedd Juda.

24 A hwy a gyfodasant, ac a aethant i Ziph o flaen Saul: ond Dafydd a'i wŷr oedd yn ani­alwch Maon, yn y rhos o'r tu dehauJesimon. i'r di­ffaethwch.

25 Saul hefyd a'i wŷr a aeth iw geisio ef, a my­negwyd i Ddafydd; am hynny efe a ddaeth i wared i graig, ac a arhosodd yn anialwchJosuah. 15.55. Ma­on: a phan glybu Saul hynny, efe a erlidiodd ar ôl Dafydd yn anialwch Maon.

26 A Saul a aeth o'r naill du i'r mynydd, a Dafydd a'i wŷr o'r tu arall i'r mynydd: ac yr oedd Dafydd yn bryssio i fyned ymmaith rhag ofn Saul: canys Saul a'i wŷr a amgylchynasent Ddafydd a'i wŷr, iw dala hwynt.

27 Ond cennad a ddaeth at Saul, gan ddy­wedyd, bryssia a thyred, canys y Philistiaid a ymdanasant ar hyd y wlad.

28 Am hynny y dychwelodd Saul o erlid ar ôl Dafydd, ac efe a aeth yn erbyn y Philistiaid; o herwydd hynny y galwasant y fan honnoCraig y gwaha­niadau. Sela Hammahlecoth.

29 A Dafydd a aeth i fynu oddi yno, ac a arhosodd yn amddeffynfeuddJosua. 15.62. En-gedi.

PEN. XXIIII.

1 Dafydd mewn ogof yn Engedi, yn torri cwrr mantell Saul ac yn arbed ei enioes ef, 8 ac wrth hynny yn dangos ei ddiniweidrwydd. 16 Saul yn cydnabod â'i fai, ac yn cymmeryd llw gan Ddafydd, ac yn ymadel.

A Phan ddychwelodd Saul oddi ar ôl y Phi­listiaid, mynegwyd iddo gan ddywedyd, wele Ddafydd yn anialwch En-gedi.

2 Yna y cymmerth Saul dair mil o wŷr etho­ledig o holl Israel: ac efe a aeth i geisio Dafydd a'i wŷr, ar hŷd coppa creigiau y geifr gwyll­tion.

3 Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid ar y ffordd, ac yno yr oedd ogof, a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorph: a Dafydd a'i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof.

4 A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, wele 'r dydd am yr hwn y dywedodd yr Ar­glwydd wrthit, wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg: yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul, yn ddirgel.

5 Ac wedi hyn calon Dafydd a'i tarawodd ef, o herwydd iddo dorri cwrr mantell Saul.

6 Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, na atto 'r Arglwydd i mi wneuthur y peth hyn i'm meistr, eneiniog yr Arglwydd, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; o blegit eneiniog yr Arglwydd yw efe.

7 Felly yr attaliodd Dafydd ei wŷr â'r gei­riau hyn, ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul: a Saul a gododd i fynu o'r ogof, ac a aeth i ffordd.

8 Ac yn ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o'r ogof, ac a lefodd ar ôl Saul, gan ddywedyd, fy Arglwydd frenin. A phan edrych­odd Saul o'i ôl, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua 'r ddaiar, ac a ymgrymmodd.

9 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, pa ham y gwrandewi eiriau dynion, gan ddywe­dyd, wele y mae Dafydd yn ceisio niwed i ti?

10 Wele dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i'r Arglwydd dy roddi di yn fy llaw i heddyw yn yr ogof, a dywetpwyd wrthif am dy ladd di, ond fy enaid a'th arbedodd di, a dywedais, nid estynnaf fy llaw yn erbyn fy meistr, canys eneiniog yr Arglwydd yw efe.

11 Fy nhâd hefyd, gwêl, ie gwêl gwrr dy fantell yn fy llaw i: canys pan dorrais ym­maith gwrr dy fantell di heb dy ladd, gwybydd a gwêl nad oes yn fy llaw i ddrygioni, na chamwedd, ac na phechais i'th erbyn, etto 'r wyt ti yn hêla fy enioes i, iw dala hi.

12 Barned yr Arglwydd rhyngofi a thitheu, a dialed yr Arglwydd fi arnat ti; ond ni bydd fy llaw i arnat ti.

13 Megis y dywed yr hên ddihareb, oddi­wrth y rhai anwir y daw anwiredd: ond ni bydd fy llaw i arnat ti.

14 Ar ôl pwy y daeth brenin Israel allan? ar ôl pwy 'r ydwyt ti 'n erlid? ar ôl cî marw, ar ôl chwannen.

15 Am hynny bydded yr Arglwydd yn farn-wr a barned rhyngofi a thi; edryched hefyd a dadleued fy nadl, acHeb. barned- achubed fi o'th law di.

16 A phan orphennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, ai dy lêf di yw hon, fy mab Dafydd? a Saul a dderchasodd ei lêf, ac a wylodd.

17 Efe a ddywedodd hefyd wrth Ddafydd, cyfiawnach wyt ti nâ myfi: canys ti a delaist i mi dda, a minne a delais i ti ddrwg.

18 A thi a ddangosaist heddyw wneuthud o honot â mi ddaioni: o herwyddHeb. Caeodd. rhoddes yr Arglwydd fi yn dy law di, ac ni'm lleddaist.

19 O blegit os caffei gwr ei elyn, a ollyngei efe ef mewn ffordd dda? am hynny yr Ar­glwydd a dalo i ti ddaioni am yr hyn a wnae­thost i mi y dydd hwn.

20 Ac wele yn awr, mi a wn gan deyrnasu y teyrnesi di: ac y siccrheir brenhiniaeth Israel yn dy law di.

21 Twng ditheu wrthifi yn awr i'r Arglwydd, na thorri ymmaith fy hâd i ar fy ôl; ac na ddifethi fy enw i, o dŷ fy nhâd.

22 A Dafydd a dyngodd wrth Saul; a Saul a aeth iw dŷ; Dafydd hefyd a'i wŷr a aethant i fynu i'r amddeffynfa.

PEN. XXV.

1 Marwolaeth Samuel. 2 Dafydd yn Paran yn danfon at Nabal, 10 a chwedi ei gyffroi trwy daiogrwydd Nabal, ar fedr ei ddifetha ef. 14 Abigail yn cael gwybod hynny, 23 ac yn cyhuddo Dafydd. 36 Nabal wedi clywed hynny yn marw. 39 Dafydd yn priodi Abigail ac [Page] Ahinoam. 44 Rhoddi Michal i Phalti.

APen. 28.3. Ecclus. 46.13, 20. Bu farw Samuel, a holl Israel a ymgyn­nullasant, ac a alarasant am dano ef, ac a'i claddasant ef yn ei dŷ yn Ramah, a Dafydd a gyfododd, ac a aeth i wared i anialwch Paran.

2 Ac yr oedd gŵr ym Maon, a'iNeu, negeseuau. gyfoeth yn Carmel, a'r gŵr oedd fawr iawn, ac iddo ef yr oedd dair mil o ddefaid, a mil o eifr: ac yr oedd efe yn cneifio ei ddefaid yn Carmel.

3 Ac enw 'r gŵr oedd Nabal, ac enw ei wraig Abigail: a'r wraig oedd yn dda ei deall, ac yn dêg ei gwêdd; a'r gŵr oedd galed, a drwg ei weithredoedd, a Chalebiad oedd efe.

4 A chlybu Dafydd yn yr anialwch fod Na­bal yn cneifio ei ddefaid.

5 A Dafydd a anfonodd ddêc o langciau, a Dafydd a ddywedodd wrth y llangciau, cerdd­wch i fynu i Garmel, ac ewch at Nabal, a chy­ferchwch well iddo yn fy enw i.

6 Dywedwch hefyd fel hyn wrtho ef sy 'n byw mewn llwyddiant, caffech di heddwch, a'th dŷ heddwch, a'r hyn oll sydd eiddo ti heddwch.

7 Ac yn awr clywais fod rhai yn cneifio i ti: yn awr y bugeiliaid sydd genit a fuant gyd â ni, ni wnaethom sarhaed arnynt hwy, ac ni bu ddim yn eisiau iddynt, yr holl ddyddiau y bu­ant hwy yn Carmel.

8 Gofyn i'th langciau, a hwy a fynegant it; gan hynny caed y llangciau hyn ffafor yn dy olwg di; (canys ar ddiwrnod da y daeth [...] ni) dyro attolwg yr hyn a ddelo i'th law, [...]th weision, ac i'th fab Dafydd.

9 Ac wedi dyfod llangciau Dafydd, hwy a ddywedasant with Nabal yn ôl yr holl eiriau hynny, yn enw Dafydd, ac aHeb. a fuant lonyad. dawsant.

10 A Nabal a attebodd weision Dafydd, ac a ddywedodd, pwy yw Dafydd, a phwy yw mab Jesse? llawer sydd o weision heddyw yn torri ymmaith bob vn oddi wrth ei feistr.

11 A gymmerafi fy mara, a'm dwfr, a'mHeb. Haddfa. cîg, a leddais i'm cneif-wŷr, a'i rhoddi i wŷr nis gwn o ba le y maent?

12 Felly llangciau Dafydd a droesant iw ffordd, ac a ddychwelasant, ac a ddaethant, ac a fynegasant iddo ef yr holl eiriau hynny.

13 A Dafydd a ddywedodd wrth ei wŷr, gwregyswch bob vn ei gleddyf. Ac ymwregys­odd pob vn ei gleddyf, ymwregysodd Dafydd hefyd ei gleddyf: ac ynghylch pedwar cant o wŷr a aeth i fynu ar ôl Dafydd, a dau cant a drigasant gyd â'r dodrefn.

14 Ac vn o'r llangciau a fynegodd i Abigail gwraig Nabal, gan ddywedyd, wele, Dafydd a anfonodd gennadau o'r anialwch i gyfarch gwell i'n meistr ni; ond efeHeb. a ruth­rodd ar­nynt. a'i disenwodd hwynt.

15 A'r gwŷr fu dda iawn wrthym ni, ac ni wnaed sarhaed arnom ni, ac ni bu i ni ddim yn eisieu yr holl ddyddiau y rhodiasom gyd â hwynt, pan oeddym yn y maes.

16 Mûr oeddynt hwy i ni nôs a dydd, yr holl ddyddiau y buom gyd â hwynt yn cadw y defaid.

17 Yn awr gan hynny gŵybydd, ac ystyria beth a wnelech; canys paratowyd drwg yn er­byn ein meistr ni, ac yn erbyn ei holl dŷ ef: canys efe sydd fab i Belial, fel na ellir ymddi­ddan ag ef.

18 Yna Abigail a fryssiodd, ac a gymmerth ddau cant o fara, a dwy gostrêleid o wîn, a phump o ddefaid wedi ei gwneuthur yn barod, a phum hobeid o grasŷd, a chan swp o resin, a dau can teisen o ffigys, ac a'i gosododd ar assyn­nod.

19 A hi a ddywedodd wrth ei gweision, cerddwch o'm blaen i, wele fi yn dyfod ar eich ôl: ond wrth Nabal ei gŵr nid yngênodd hi.

20 Ac a hi yn marchogaeth ar assyn, ac yn dy­fod i wared ar ystlys hŷd y mynydd, yna wele Ddafydd a'i wŷr yn dyfod i wared iw herbyn, a hi a gyfarfu â hwynt.

21 A dywedasai Dafydd, diau gadw o ho­nofi yn ofer yr hyn oll oedd gan hwn yn yr anialwch, fel na bu ddim yn eisieu o'r hyn oll oedd ganddo ef, canys efe a dalodd i mi ddrwg dros dda.

22 Felly y gwnelo Duw i elynion Dafydd, ac y chwaneg, os gadawaf o'r hyn oll sydd gan­ddo ef erbyn goleuni y boreu, vn a bisso ar bared.

23 A phan welodd Abigail Ddafydd, hi a fryssiodd, ac a ddescynnodd oddi ar yr assyn, ac a syrthiodd ger bron Dafydd ar ei hwyneb, ac a ymgrymmodd hyd lawr,

24 Ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ddywedodd, arnafi fy arglwydd, arnafi bydded yr anwiredd, a llefared dy wasanaeth-ferch at­tolwgHeb. yn dy glustiau. wrthit, a gwrando eiriau dy law-for­wyn.

25 Attolwg na osoded fy arglwydd ei galon yn erbyn y gŵr Belial hwn, sef Nabal, canys fel y mae ei enw ef, felly y mae yntef; Nabal yw ei enw ef, ac ynfydrwydd sydd gyd ag ef: a minneu dy wasanaethferch ni welais weision fy arglwydd, y rhai a anfonaist.

26 Ac yn awr fy arglwydd, fel y mae yr Arglwydd yn fyw, ac mai byw dy enaid ti, gan i'r Arglwydd dy luddias di rhac dyfod i dywallt gwaed, ac iHeb. i'th a­chub dy hun. ymddial â'th law dy hun, yn awr bydded dy elynion di, a'r sawl a geisiant niwed i'm harglwydd, megis Nabal.

27 Ac yn awr yr anrheg ymma, yr hon a ddûg dy wasanaeth-ferch i'm harglwydd, rho­dder hi i'r llangciau sy ynHeb. rhodio wrth dra [...]d. canlyn fy ar­glwydd.

28 A maddeu attolwg gamwedd dy wasa­naeth-ferch: canys yr Arglwydd gan wneuthur a wna i'm harglwydd dŷ siccr, o herwydd fy arglwydd sy yn ymladd rhyfeloedd yr Ar­glwydd, a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau.

29 Er cyfodi o ddyn i'th erlid ti, ac i geisio dy enaid: etto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd, gyd â'th Arglwydd dy Dduw, ac enaid dy elynion a chwyrndeifl efe, fel o ganol caudab y ffon dafl.

30 A phan wnelo 'r Arglwydd i'm har­glwydd, yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe o ddai­oni am danat, a phan i'th osodo di yn flaenor ar Israel;

31 Yna ni bydd hyn ynHeb. syfrd [...] ­dod. ochenaid i ti, nac yn dramgwydd calon i'm harglwydd, ddarfod i ti dywallt gwaed heb achos, neu ddial o'm harglwydd ef ei hun: ond pan wnelo Duw ddaioni i'm harglwydd, yna cofia di dy lawfor­wyn.

32 A dywedodd Dafydd wrth Abigail, ben­digedic fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a'th anfonodd di y dydd hwn i'm cyfarfod i.

33 Bendigedic hefyd fo dy gyngor, a ben­digedic fyddych dithe, yr hon a'm lluddiaist y dydd hwn rhac dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â'm llaw fy hun.

34 Canys yn wîr fel y mae Arglwydd Dduw [Page] Israel yn fyw, yr hwn a'm hattaliodd i rhac dy ddrygu di; oni buasei i ti frysio a dyfod i'm cyfarfod, diau na adawsid i Nabal erbyn go­leuni y boreu, vn a bissei ar bared.

35 Yna y cymmerodd Dafydd o'i llaw hi yr hyn a ddygasei hi iddo ef, ac a ddywedodd wr­thi hi, dos i fynu mewn heddwch i'th dŷ; gwêl, mi a wrandewais ar dy lais, ac a dderbyniais dy wyneb.

36 Ac Abigail a ddaeth at Nabal, ac wele yr oedd gwlêdd ganddo ef yn ei dŷ, fel gwlêdd brenin; a chalon Nabal oedd lawen ynddo ef, canys meddw iawn oedd efe: am hynny nid yngênodd hi wrtho ef air, na bychan na mawr, nes goleuo yr boreu.

37 A'r boreu pan aeth ei feddwdod allan o Nabal, mynegodd ei wraig iddo ef y geiriau hynny, a'i galon ef a fu farw o'i fewn, ac efe aeth fel carreg.

38 Ac ynghylch pen y deng-nhiwrnod, y tarawodd yr Arglwydd Nabal, fel y bu efe farw.

39 A phan glybu Dafydd farw Nabal, efe a ddywedodd, bendigedic fyddo yr Arglwydd, yr hwn a ddadleuodd achos fy sarhaed i oddiar law Nabal, ac a attaliodd ei wâs rhac drwg; canys yr Arglwydd a drôdd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun. Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan ag Abigail am ei chymmeryd hi yn wraig iddo.

40 A phan ddaeth gweision Dafydd at Abi­gail i Garmel, hwy a lefarasant wrthi, gan ddy­wedyd, Dafydd a'n hanfonodd ni attat ti, i'th gymmeryd ti yn wraig iddo.

41 A hi a gyfododd, ac a ymgrymmodd ar ei hwyneb hyd lawr, ac a ddywedodd, wele dy forwyn yn wasanaeth-ferch i olchi traed gweision fy Arglwydd.

42 Abigail hefyd a fryssiodd, ac a gyfo­dodd, ac a farchogodd ar assyn, a phump o'i llangcesauHeb. [...]rth ei [...]a [...]d. yn ei chanlyn; a hi a aeth ar ôl cennadau Dafydd, ac a aeth yn wraig iddo ef.

43 A Dafydd a gymmerth Ahinoam oJosuah [...]5. 56. Jezreel, a hwy a fuant ill dwyoedd yn wra­gedd iddo ef.

44 A Saul a roddasei2 Sam. [...].14. Michal ei ferch, gwraig Dafydd, i Phalti fab Lais, o Galim.

PEN. XXVI.

1 Saul wedi i'r Ziphiaid ddatcuddio Dafydd, yn dyfod i Hachilah yn ei erbyn ef. 4 Dafydd yn dyfod i'r wersyllfa, ac yn rhwystro i Abisai ladd Saul, etto yn cymmeryd ei wayw-ffon ef a'i ddwfr-lestr. 13 Dafydd yn ceryddu Abner, 18 ac yn cynghori Saul. 21 Saul yn cydna­bod ei fai.

A'R Ziphiaid a ddaethant at Saul i Gibeah, gan ddywedyd,Pen. [...]3.19. onid ydyw Dafydd yn llechu ym mryn Hachilah, ar gyferJesimon. y di­ffaethwch?

2 Yna y cyfododd Saul, ac a aeth i wared i anialwch Ziph, a thair mil o etholedigion gwŷr Israel gyd ag ef, i geisio Dafydd yn anialwth Ziph.

3 A Saul a werssyllodd ym mryn Hachilah, yr hwn sydd ar gyfer y diffaethwch, wrth y ffordd: a Dafydd oedd yn aros yn yr aria­lwch, ac efe a welodd fod Saul yn dyfod ar ei ôl ef i'r anialwch.

4 Am hynny Dafydd a anfonodd spi-wŷr, ac a ŵybu ddyfod o Saul yn siccr.

5 A Dafydd a gyfododd, ac a ddaeth i'r lle y gwerssyllasei Saul ynddo; a chanfu Da­fydd y lle yr oedd Saul yn gorwedd ynddo, acPen. 14.50. & 17.55. Abner mab Ner tywysog ei lu: a Saul oedd yn gorweddNeu, ynghanod ei glud. yn y werssyllfa, a'r bobl yn gwerssyllu o'i amgylch ef.

6 Yna y llefarodd Dafydd, ac y dywedodd wrth Ahimelech yr Hethiad, ac wrth Abisai fab Serfiah brawd Joab, gan ddywedyd, pwy a â i wared gyd â mi at Saul i'r gwerssyll? a dywe­dodd Abisai, myfi a âf i wared gyd â thi.

7 Felly y daeth Dafydd ac Abisai at y bobl liw nos, ac wele Saul yn gorwedd, ac yn cyscu yn y werssyllfa, a'i waywffon wedi ei gwthio i'r ddaiar wrth ei obennydd ef: ac Abner, a'r bobl oedd yn gorwedd o'i amgylch ef.

8 Yna y dywedodd Abisai wrth Ddafydd, Duw aHeb. gaeodd. roddes heddyw dy elyn yn dy law di: yn awr gan hynny gâd i mi ei daro ef, attolwg, â gwayw-ffon hyd y ddaiar vn waith, ac nis ail tarawaf ef.

9 A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, na ddifetha ef; canys pwy a estynnei ei law yn erbyn eneiniog yr Arglwydd, ac a fyddei ddieuog?

10 Dywedodd Dafydd hefyd, fel y mae yr Arglwydd yn fyw, naill ai yr Arglwydd a'i tery ef, ai ei ddydd ef a ddaw i farw, ai efe a ddescyn i'r rhyfel, ac a ddifethir.

11 Yr Arglwydd a'm cadwo i rhac estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd: ond yn awr, cymmer attolwg y wayw-ffon sydd wrth ei obennydd ef, a'r llestr dwfr, ac awn ymmaith.

12 A Dafydd a gymmerth y wayw-ffon, a'r dwfr oddi wrth obennydd Saul, a hwy a ae­thant ymmaith, ac nid oedd neb yn gweled, nac yn gwybod, nac yn neffro; canys yr oe­ddynt oll yn cyscu, o herwydd trymgwsc oddi wrth yr Arglwydd a syrthiasei arnynt hwy.

13 Yna Dafydd a aeth i'r tu hwnt, ac a sa­fodd ar ben y mynydd o hir-bell, (ac encyd fawr rhyngddynt:)

14 A Dafydd a lefodd ar y bobl, ac ar Abner fab Ner, gan ddywedyd, onid attebi di, Abner? yna Abner a attebodd, ac a ddywedodd, pwy ydwyt ti sy 'n llefain ar y brenin?

15 A Dafydd a ddywedodd wrth Abner, onid gŵr ydwyt ti? a phwy sydd fel ti yn Is­rael? a pha ham na chedwaist dy arglwydd frenin? canys daeth vn o'r bobl i ddifetha y bre­nin dy arglwydd di.

16 Nit da y peth hyn a wnaethost di, fel y mae'r Arglwydd yn fyw, meibion euog o far­wolaeth ydych chwi, am na chadwasoch eich meistr, eneiniog yr Arglwydd: ac yn awr edry­chwch pa le y mae gwayw, ffon y brenin, a'r llestr dwfr oedd wrth ei obennydd ef.

17 A Saul a adnabu lais Dafydd, ac a ddy­wedodd, ai dy lais di yw hwn, fy mab Dafydd? a dywedodd Dafydd, fy llais i ydyw, fy argl­wydd frenin.

18 Dywedodd hefyd, pa ham y mae fy argl­wydd fel hyn yn erlid ar ôl ei wâs? canys beth a wneuthum? neu pa ddrygioni sydd yn sy llaw?

19 Yn awr gan hynny, attolwg gwranda­wed fy arglwydd frenin eiriau ei wasanaeth­wr: os yr Arglwydd a'th annogodd di i'm herbyn, arogled offrwm: ond os meibion dyni­on, melldigedic fyddant hwy ger bron yr Argl­wydd, o herwydd hwy am gyrrasant i allan heddyw, fel nad ydwyf yn cael glynu yn [Page] etifeddiaeth yr Arglwydd, gan ddywedyd, dos, gwasanaetha dduwiau dieithr.

20 Yn awr gan hynny na syrthied fyngwa­ed i i'r ddaiar o flaen wyneb yr Arglwydd: canys brenin Israel a ddaeth allan i geisio chwannen, megis vn yn hela petris yn y mynyddoedd.

21 Yna Saul a ddywedodd, pechais, dych­wel, Dafydd fy mab, canys ni'th ddrygaf mwy, o herwydd gwerth-fawr fu fy enioes i yn dy olwg di y dydd hwn: wele, ynfyd y gwneuthum, ac mi a gyfeiliornais yn ddirfawr.

22 A Dafydd a attebodd, ac a ddywedodd, wele wayw-ffon y brenin, deled vn o'r llang­ciau trosodd, a chyrched hi.

23 A'r Arglwydd a dalo i bôb vn ei gyfi­awnder, a'i ffyddlondeb: canys yr Arglwydd a'th roddes di heddyw yn fy llaw i, ond nid estynnwn i fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd.

24 Ac wele, megis y bu werthfawr dy ei­nioes di heddyw yn fy ngolwg i: felly gwerth­fawr fyddo fy einioes innau yngolwg yr Argl­wydd, a gwareded fi o bob cyfyngdra.

25 Yna y dywedodd Saul wrth Ddafydd, bendigedic fŷch di, fy mab Dafydd; hefyd ti a wnei fawredd, ac a orchfygi rhag llaw. A Dafydd a aeth i ffordd; a Saul a ddychwelodd iw fangre ei hun.

PEN. XXVII.

1 Saul yn clywed bod Dafydd yn Gath, ac heb ei geisio ef mwyach. 5 Dafydd yn cael Siclag gan Achis, 8 a chan yspeilio gwledydd eraill, yn peri i Achis goelio mai yn erbyn Juda 'r ymladdasai ef.

A Dafydd a ddywedodd yn ei galon, yn awr difethir fi ryw ddydd drwy law Saul: nid oes dim well i mi nâ diangc i dîr y Philistiaid; fel yr anobeithio Saul ddyfod i mi, ac na'm cei­sio mwy yn holl dersynau Israel: felly y diang­af o'i law ef.

2 A Dafydd a gyfododd, ac a dramwyodd, efe a'r chwe chan-ŵr oedd gyd ag ef, at Achis fab Maoch brenin Gath.

3 A Dafydd a arhosodd gyd ag Achis yn Gath, efe, a'i wŷr, pôb vn gyd â'i deulu, Dafydd a'i ddwy wragedd, Ahinoam y Jezreelites, ac Abigail gwraig Nabal, y Garmelites.

4 A mynegwyd i Saul ffoi o Ddafydd i Gath, ac ni chwanegodd efe ei geisio ef mwy.

5 A Dafydd a ddywedodd wrth Achis, o che­fais yn awr ffafor yn dy olwg di, rhodder i mi le yn vn o'r maes-drefi, fel y trigwyf yno: ca­nys pa ham yr erys dy wâs di yn ninas y bre­nin gyd â thi?

6 Yna Achis a roddes iddo ef y dydd hwn­nw Siclag; am hynny y mae Siclag yn eiddo brenhinoedd Juda hyd y dydd hwn.

7 A rhisedi y dyddiau yr arhosodd Dafydd yngwlâd y Philistiaid, oedd flwyddyn a phed­war mis.

8 A Dafydd a'i wŷr a aethant i fynu, ac a ruthrasant ar y Gesuriaid, a'r Girziaid, a'r Ama­leciaid: canys hwynt hwy gynt oedd yn pres­wylio yn y wlad, ffordd yr elych i Sur, ie hyd wlad yr Aipht.

9 A Dafydd a darawodd y wlâd, ac ni ada­wodd yn fyw ŵr, na gwraig, ac a ddûg y defaid, a'r gwarthec, a'r assynnod, a'r camêlod, a'r gwis­coedd, ac a ddychwelodd, ac a ddaeth at Achis.

10 Ac Achis a ddywedoddNeu, A wnae­thoch chwi yr­ [...]a r i ba le y rhu­thrasoch chwi heddyw? a dywedodd Dafydd, yn erbyn tu dehau Juda, ac yn erbyn tu dehau y1 Cron. 2.9. Jerameeliaid, ac yn erbyn tu dehau y Ce­neaid.

11 Ac ni adawsei Dafydd yn fyw ŵr na gwraig, i ddwyn chwedlau i Gath, gan ddywe­dyd, rhag mynegi o honynt i'n herbyn, gan ddywedyd, fel hyn y gwnaeth Dafydd, ac felly y bydd ei arfer ef, yr holl ddyddiau yr arhoso efe yngwlâd y Philistiaid.

12 Ac Achis a gredodd Ddafydd, gan ddy­wedyd, efe a'i gwnaeth ei hunHeb. i ddrewi. yn ffiaidd gan ei bobl ei hun Israel, am hynny y bydd efe yn wâs i mi yn dragywydd.

PEN. XXVIII.

1 Achis yn hyderu ar Ddafydd. 3 Saul wedi difetha y dewiniaid, 4 yn ei ofn, wedi i Dduw ei wrthod, 7 yn myned at ddewines, 9 a hon­no yn codi i fynu Samuel. 15 Saul wrth gly­wed ei ddinystr yn llewygu, 22 a'r wraig a'i weision yn ei nerthu ef â bwyd.

A'R Philistiaid yn y dyddiau hynny a gynnu­llasant eu byddinoedd yn llu, i ymladd yn erbyn Israel: a dywedodd Achis wrth Ddafydd, gwybydd di yn yspys yr ai di gyd â mi allan i'r gwerssylloedd, ti a'th wŷr.

2 A dywedodd Dafydd wrth Achis, yn ddiau ti a gei ŵybod beth a all dy wâs ei wneuthur. A dywedodd Achis wrth Ddafydd, yn wîr minneu a'th osodaf di yn geidwad ar fy mhen i byth.

3 APen. 25.1. Samuel a fuasei farw, a holl Israel a alarasent am dano ef, ac a'i claddasent yn Ra­mah, sef yn ei ddinas ei hun: a Saul aExod. 22.18. Deut. 18▪10, 11. yrra­sei ymmaith y swynyddion, a'r dewiniaid o'r wlâd.

4 A'r Philistiaid a ymgynnullasant, ac a ddaethant, ac a werssyllasant yn Sunem: a Saul a gasclodd holl Israel ynghŷd, a hwy a werssy­llasant yn Gilboa.

5 A phan welodd Saul werssyll y Philistiaid, efe a ofnodd, a'i galon a ddychrynodd yn ddir­fawr.

6 A phan ymgynghorodd Saul â'r Argl­wydd, nid attebodd yr Arglwydd iddo, na thrwy freuddwydion, na thrwyExod. 28.30. Vrim, na thrwy brophwydi.

7 Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, cei­siwch i mi wraig o berchen yspryd dewiniaeth, fel yr elwyf atti, ac yr ymofynnwyf â hi. A'i weision a ddywedasant wrtho, wele y mae gwraig o berchen yspryd dewiniaeth yn Endor.

8 A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wiscodd ddillad eraill, ac efe a aeth a dau ŵr gyd ag ef, a hwy a ddaethant at y wraig liw nôs, ac efe a ddywedodd, dewinia attolwg i mi drwy yspryd dewiniaeth, a dwg i fynu attafi yr hwn a ddy­wedwyf wrthit.

9 A'r wraig a ddywedodd wrtho ef, wele ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul, yr hwn a ddifethodd y swynyddion a'r dewiniaid o'r wlâd: pa ham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magl yn erbyn fy einioes i, i beri i mi farw?

10 A Saul a dyngodd wrthi hi i'r Arglwydd, gan ddywedyd, fel mai byw yr Arglwydd ni ddigwydd i ti niwed am y peth hyn.

11 Yna y dywedodd y wraig, pwy a ddygafi i fynu attat ti? ac efe a ddywedodd, dwg i mi Samuel i fynu.

12 A'r wraig a ganfu Samuel, ac a lefodd â llef vchol: a'r wraig a lefarodd wrth Saul, gan ddywedyd, pa ham y twyllaist fi? canys ti yw Saul.

13 A'r brenin a ddywedodd wrthi hi, nac osna; canys beth a welaisti? a'r wraig a ddy­wedodd wrth Saul, duwiau a welais yn der­chafu o'r ddaiar.

14 Ynteu a ddywedodd wrthi, pa ddull sydd arno ef? a hi a ddywedodd, gŵr hên sydd yn dyfod i fynu, a hwnnw yn gwisco mantell. A gwybu Saul mai Samuel oedd efe, ac efe a ostyng­odd ei wyneb i lawr ac a ymgrymmodd.

15 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, pa ham yr aflonyddaist arnaf, gan beri i mi ddyfod i fynu? a dywedodd Saul, y mae yn gyfyng iawn arnafi, canys y mae y Philistiaid yn rhyfe­la yn fy erbyn i, a Duw a giliodd oddi wrthifi, ac nid yw yn fy atteb mwyach, na thrwy law prophwydi, na thrwy freuddwydion; am hyn­ny y gelwais arnat ti, i yspyssu i mi beth a wnawn.

16 Yna y dywedodd Samuel, pa ham gan hynny yr ydwyt ti yn ymofyn â mi, gan i'r Ar­glwydd gilio oddi wrthit, a bôd yn elyni ti?

17 Yr Arglwydd yn ddiau a wnaethNeu, trosto ei hun. iddo megis y llefarodd drwyPen. 15.28. fy llaw i: canys yr Arglwydd a rwygodd y frenhiniaeth o'th law di, ac a'i rhoddes hi i'th gymmydog, i Ddafydd.

18 O herwydd na wrandewaist di ar lais yr Arglwydd, ac na chyflawnaist lidiawgrwydd ei ddigter ef yn erbyn Amalec, am hynny y gwnaeth yr Arglwydd y peth hyn i ti y dydd hwn.

19 Yr Arglwydd hefyd a ddyry Israel gyd â thi, yn llaw y Philistiaid; acPen. 31.6. y foru y by­ddi di a'th feibion gyd â mi: a'r Arglwydd a ddyry werssylloedd Israel yn llaw y Phili­stiaid.

20 Yna Saul a fryssiodd, ac a syrthiodd o'i hŷd gyhyd ar y ddaiar, ac a ofnodd yn ddir­fawr o herwydd geiriau Samuel, a nerth nid oedd ynddo; canys ni fwytasei fwyd yr holl ddiwr­nod, na'r holl noson honno.

21 A'r wraig a ddaeth at Saul, ac a ganfu ei fod ef yn ddychrynedig iawn: a hi a ddywe­dodd wrtho ef, wele gwrandawodd dy lawfor­wyn ar dy lais di, a gosodais fy enioesHeb. yn fy llaw. mewn enbydrwydd, ac vfyddheais dy eiriau a lefe­raist wrthif.

22 Yn awr gan hynny gwrando ditheu at­tolwg ar lais dy wasanaeth-ferch, a gâd i mi osod ger dy fron di dammeid o fara, a bwytta, fel y byddo nerth ynot, pan elech i'th ffordd.

23 Ond efe a wrthododd, ac a ddywedodd, ni fwyttâf. Etto ei weision a'r wraig hefyd a'i cymmellasant ef; ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt; ac efe a gyfododd oddi ar y ddaiar, ac a eisteddodd ar y gwely.

24 Ac yr oedd gan y wraig lô brâs yn tŷ, a hi a fryssiodd, ac a'i lladdodd ef, ac a gym­merth beillied, ac a'i tylînodd, ac a'i pobodd yn grî.

25 A hi a'i dûg ger bron Saul, a cher bron ei weision, a hwy a fwyttasant. Yna hwy a gy­fodasant, ac a aethant ymmaith y noson honno.

PEN. XXIX

1 Dafydd wrth fyned gyda 'r Philistiaid yn cael ei wrthod gan y Tywysogion. 6 Achis yn ei ollwng ef ymaith, ac yn canmol ei ffyddlondeb ef.

YNa y Philistiaid a gynnullasant eu holl fy­ddinoedd i Aphec: a'r Israeliaid oedd yn gwerssyllu wrth ffynnon sydd yn Jezreel.

2 A thywysogion y Philistiaid oedd yn tram­wy yn gantoedd, ac yn filoedd: ond Dafydd a'i wŷr oedd yn cerdded yn olaf gyd ag Achis.

3 Yna tywysogion y Philistiaid a ddyweda­sant, beth a wna yr Hebræaid hyn ymma? ac Achis a ddywedodd wrth dywysogion y Phili­stiaid, onid dymma Ddafydd gwâs Saul brenin Israel, yr hwn a fu gyd â mi y dyddiau hyn, neu yr blynyddoedd hyn, ac ni chefais ddim bai yntho ef, er y dydd y syrthiodd efe attaf, hyd y dydd hwn?

4 A thywysogion y Philistiaid a lidiasant wrtho, a thywysogion y Philistiaid a ddyweda­sant wrtho,1 Cron. 12.19. gwna i'r gŵr hwn ddychwelyd iw le a osodaist iddo, ac na ddeled i wared gyd â ni i'r rhyfel: rhac ei fod yn wrthwyneb-ŵr i ni yn y rhyfel: canys â pha beth y rhyngai hwn fôdd iw feistr? onid â phennau y gwŷr hyn?

5 Onid hwn yw Dafydd, am yr hwn y ca­nasant wrth ei gilydd yn y dawnsiau, gan ddy­wedyd,Pen. 18.7. & 21.11. Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn?

6 Yna Achis a alwodd Ddafydd, ac a ddywe­dodd wrtho, fel mai byw yr Arglwydd, diau dy fod ti yn vnion, ac yn dda yn fy-ngolwg i, pan elit allan, a phan ddelit i mewn gyd â mi yn y gwerssyll: canys ni chefais ynot ddrygi­oni o'r dydd y daethost attafi hyd y dydd hwn: eithr nid wyt tiHeb. dda yng­olwg. wrth fodd y ty­wysogion.

7 Dychwel yn awr gan hynny, a dos mewn heddwch, ac naHeb. wna ddrwg yng-olwg tywyso­gion. anfodlona dywysogion y Philistiaid.

8 A dywedodd Dafydd wrth Achis, ond beth a wneuthum i? a pheth a gefaist di yn dy wâs o'r dydd y daethum o'th flaen di hyd y dydd hwn, fel na ddelwn i ymladd yn erbyn gelynion fy arglwydd frenin?

9 Ac Achis a attebodd, ac a ddywedodd wrth Ddafydd, gwn mai da wyt ti yn fy ngo­lwg i, megis angel Duw: ond tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, ni ddaw efe i fynu gyd â ni i'r rhyfel.

10 Am hynny yn awr cyfod yn foreu, a gweision dy feistr y rhai a ddaethant gŷd â thi: a phan gyfodoch yn foreu, a phan oleuo i chwi, ewch ymmaith.

11 Felly Dafydd a gyfododd, efe a'i wŷr i fyned ymmaith y boreu, i ddychwelyd i dîr y Philistiaid, a'r Philistiaid a aethant i fynu i Jezreel.

PEN. XXX.

1 Yr Amaleciaid yn yspeilio Siclag. 4 Dafydd yn ymofyn â Duw, ac yn cael cyssur iw herlid hwy, 11 a thrwy waith Aiphtiad yn cael ei ddwyn at y gelynion, ac yn ynnill adref yr holl yspail. 22 Cyfraith Dafydd am rannu 'r yspail yn vniawn rhwng yr ymladd-wyr, a'r rhai a gadwent yr yspail. 26 Ef yn anfon anrhe­gion iw gyfeillon.

A Phan ddaeth Dafydd a'i wŷr i Siclag y try­dydd dydd, yr Amaleciaid a ruthrasent ar du y dehau, ac ar Siclag, ac a darawsent Sic­lag, ac a'i lloscasent hi â thân.

2 Caeth-gludasent hefyd y gwragedd oedd ynddi; o fychan hyd fawr ni laddasent hwy nêb, eithr dygasent hwy ymmaith, ac aethent iw ffordd.

3 Felly y daeth Dafydd a'i wŷr i'r ddinas, ac wele hi wedi ei llosci â thân: eu gwrage [...]d hwynt hefyd, a'i meibion, a'i merched a gaeth­gludasid.

4 Yna derchafodd Dafydd, a'r bobl oedd gyd [Page] ag ef eu llef, ac a ŵylasant hyd nad oedd nerth ynddynt i ŵylo.

5 Dwy wragedd Dafydd hefyd a gaethglu­dasid, Ahinoam y Jezreelies, ac Abigail gwraig Nabal y Carmeliad.

6 A bu gyfyng iawn ar Ddafydd, canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef, o herwydd chwerwasei enaid yr holl bobl, oôb vn am ei feibion, ac am ei ferched: ond Dafydd a ym­gyssurodd yn yr Arglwydd ei Dduw.

7 A Dafydd a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad, mab Ahimelech, dŵg i mi attolwg yr Ephod: ac Abiathar a ddug yr Ephod at Ddafydd.

8 A Dafydd a ymofynnodd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, a erlidiafi ar ôl y dorf hon? a oddiweddafi hi? ac efe a ddywedodd wrtho; erlid, canys gan oddiweddyd y goddiweddi, a chan waredu y gwaredi.

9 Felly Dafydd a aeth efe a'r chwe chan-wr oedd gyd ag ef, a hwy a ddaethant hyd afon Be­sor, lle yr arhosodd y rhai a adawyd yn ôl.

10 A Dafydd a erlidiodd, efe a phedwar cant o wŷr: (canys dau can-wr a arhosasant yn ôl, y rhai a flinasent fel na allent fyned tros afon Besor.)

11 A hwy a gawsant Aipht-ddyn yn y maes, ac a'i dygasant ef at Ddafydd, ac a roddasant iddo fara, ac efe a fwyttâodd, a hwy a'i diodasant ef â dwfr.

12 A hwy a roddasant iddo ddarn offigys, a dau swp o ressyng; ac efe a fwyttâodd, a'i ys­pryd a ddychwelodd atto; canys ni fwyttasei fara, ac nid yfasei ddwfr, dridiau a thair nôs.

13 A Dafydd a ddywedodd wrtho, gwas i bwy wyt ti ac o ba le y daethost ti? ac efe a ddy­wedodd, llangc o'r Aipht ydwyf fi, gwâs i ŵr o Amalec, a'm meistr a'm gadawodd, o blegit i mi glefychu er ys tridiau bellach.

14 Nyni a ruthrasom ar du dehau y Cere­thiaid, a'r hyn sydd eiddo Juda, a thu dehau Caleb, Siclag hefyd a loscasom ni â thân.

15 A Dafydd a ddywedodd wrtho, a fedri di fyned â mi i wared at y dorf hon? yntef a ddy­wedodd, twng wrthifi i Dduw, na leddi fi, ac na roddi fi yn llaw fy meistr, ac mi a âf â thi i wared at y dorf hon.

16 Ac efe a'i dûg ef i wared, ac wele hw­ynt wedi ymwascaru ar hŷd wyneb vr holl dir, yn bwytta, ac yn yfed, ac yn dawnsio, o her­wydd yr holl yspail fawr a ddygasent hwy o wlâd y Philistiaid, ac o wlâd Juda.

17 A Dafydd a'i tarawodd hwynt o'r cyfnos hyd bryd nawnHeb. [...]u trano­ [...]th. drannoeth: ac ni ddiangodd vn o honynt, oddi eithr pedwar cant o wŷr ienaingc, y rhai a farchogasant ar gamelod, ac a ffoesant.

18 A Dafydd a achubodd yr hyn oll a ddy­gasei yr Amaleciaid: Dafydd hefyd a ware­dodd ei ddwy wragedd.

19 Ac nid oedd yn eisieu iddynt, na bychan, na mawr, na mab, na merch, na 'r anrhaith, na dim ac a ddygasent hwy ganddynt: hyn oll a ddûg Dafydd adref.

20 Dûg Dafydd hefyd yr holl ddefaid, a'r gwartheg, y rhai a yrrasant o flaen yr anifeili­aid eraill, ac a ddywedasant, dymma anrhaith Dafydd.

21 A Dafydd a ddaeth at y ddau can-ŵr a flinasent fel nad allent ganlyn Dafydd, ac a bara­sid iddynt aros wrth afon Besor; a hwy a ae­thant i gyfarfod Dafydd, ac i gyfarfod a'r bobl oedd gyd ag ef: a phan nessaodd Dafydd at y bobl, efe a gyfarchodd well iddynt.

22 Yna 'r attebodd pob gŵr drygionus, ac eiddo 'r fall, o'r gwŷr a aethei gyd â Dafydd, ac a ddywedasant, o herwydd nad aethant hwy gyd â ni, ni roddwn ni iddynt hwy ddim o'r anrhaith a achubasom ni; eithr i bob vn ei wraig, a'i feibion: dygant hwynt ymmaith, ac ymadawant.

23 Yna y dywedodd Dafydd, ni wnewch chwi felly, fy mrodyr, am yr hyn a roddes yr Ar­glwydd i ni, yr hwn a'n cadwodd ni, ac a roddes y dorf a ddaethei i'n herbyn yn ein llaw ni.

24 Canys pwy a wrendy arnoch chwi yn y peth hyn? canys vn fath fydd rhan yr hwn a elo i wared i ryfel, a rhan yr hwn a arhoso gyd â'r dodrefn; hwy a gyd-rannant.

25 Ac o'r dydd hwnnw allan efe a osododd hyn yn gyfraith, ac yn farnedigaeth yn Israel, hyd y dydd hwn.

26 A phan ddaeth Dafydd i Siclag, efe a an­sonodd o'r anrhaith i henuriaid Juda, sef iw gy­feillion (gan ddywedyd, wele i chwiHeb. fendith. anrheg o anrhaith gelynion yr Arglwydd.)

27 Sef i'r rhai oedd yn Bethel, ac i'r rhai oedd yn Ramoth tu a'r dehau, ac i'r rhai oedd yn Jattir,

28 Ac i'r rhai oedd yn Aroer, ac i'r rhai oedd yn Siphmoth, ac i'r rhai oedd yn Estemoa,

29 Ac i'r rhai oedd yn Rachal, ac i'r rhai oedd yn ninasoedd y Jerahmeeliaid, ac i'r rhai oedd yn ninasoedd y Ceneaid,

30 Ac i'r rhai oedd yn Hormah, ac i'r rhai oedd yn Corasan, ac i'r rhai oedd yn Athach,

31 Ac i'r rhai oedd yn Hebron, ac i'r holl leoedd y buasei Dafydd a'i wyr yn cynniweir ynddynt.

PEN. XXXI.

1 Saul wedi colli ei wyr, a lladd ei feibion, yn ei ladd ei hun. 7 Y Philistiaid yn perchennogi y dinasoedd a adawsei'r Israeliaid, 8 ac yn gor­foleddu ar y cyrph meirw. 11 Gwyr Jabes Gi­lead yn ynnill y cyrph liw nos, ac yn eu llosci hwy yn Jabes, ac yn eu claddu yn alarus.

A'R1 Cron 10.1. Philistiaid oedd yn ymladd yn erbyn Israel, a gwŷr Israel a ffoesant rhac y Phi­listiaid, ac y syrthiasant yn archolledic ym my­nydd Gilboa.

2 A'r Philistiaid a erlidiasant ar ol Saul a'i feibion, a'r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malcissua, meibion Saul.

3 A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul, a'r gwŷr bwâu a'i cawsant ef, ac efe a archollwyd yn dôst, gan y saethyddion.

4 Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a oedd yn dwyn ei arfau ef, tynn dy gleddyf, a thry­wana fi ag ef, rhac i'r rhai dienwaededic ymma ddyfod a'm trywanu i, a'mNeu, gwatwor. gwradwyddo. Ond ni fynnei ei eswyn ef, canys efe a ddychry­nasei yn ddirfawr: am hynny Saul a gymme­rodd gleddyf, ac a syrthiodd arno.

5 A phan welodd ei eswyn farw o Saul, yn­teu hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu fa­rw gyd ag ef.

6 Felly y bu farw Saul, a'i dri mab, a'i eswyn, a'i holl wŷr, y dydd hwnnw ynghŷd.

7 A phan welodd gwŷr Israel y rhai oedd o'r tu hwnt i'r dyffryn, a'r rhai oedd o'r tu hwnt i'r Iorddonen, ffoi o wŷr Israel, a marw Saul a'i feibion, hwy a adawsant y dinasoedd, ac a ffoe­sant, a'r Philistiaid a ddaethant, ac a drigasant ynddynt.

8 A'r borau pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a'i dri mab, yn gorwedd ym mynydd Gilboa.

9 A hwy a dorrasant ei ben ef, ac a ddiosca­sant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlâd y Phi­listiaid o bob parth, i fynegi yn nhŷ eu delwau­hwynt, ac ym mysc y bobl.

10 A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Asta­roth: a'i gorph ef a hoeliasant hwy ar fûr Bethsan.

11 A phan glybu trigolion Jabes Gilead, yr hyn a wnaethei y Philistiaid i Saul:

12 Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant, ac a gerddasant ar hŷd y nôs, ac a ddygasant ym­maith gorph Saul, a chyrph ei feibion ef, oddi ar lûr Bethsan, ac a ddaethant i Jabes, ac a'iJer. 34.5. lloscasant hwynt yno.

13 A hwy a gymmerasant eu hescyrn hwynt, ac a'i2 Sam. 2.4. claddasant tan bren yn Jabes, ac a ym­prydiasant saith niwrnod.

¶YR AIL LLYFR I SAMUEL, YR HWN A ELWIR hefyd, Ail Llyfr y Brenhinoedd.

PEN. I.

1. Yr Amaleciad a ddygasei newyddion o'r gyfla­fan, ac a'i cyhuddasei ei hun o farwolaeth Saul, yn cael ei ladd. 17 Dafydd yn gwneuthur ma­rwnad i Saul a Jonathan.

AC yn ôl marwolaeth Saul, pan ddy­chwelasei Dafydd1 Sam. 30.17. o ladd yr Ama­leciaid, wedi aros o Ddafydd ddeu­ddydd yn Siclag,

2 Yna y trydydd dydd, wele wr yn dy­fod o'r gwerssyll oddi wrth Saul, a'i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben: a phan ddaeth efe at Ddafydd, efe a syrthiodd i lawr, ac a ymgrymmodd.

3 A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, o ba le y daethost di? yntef a ddywedodd wrtho, o werssyll Israel y diengais i.

4 A dywedodd Dafydd wrtho ef, PaHeb. beth a fu. fodd y bu? mynega attolwg i mi: yntef a ddywe­dodd, y bobl a ffoawdd o'r rhyfel, a llawer hefyd o'r bobl a syrthiodd, ac a fuant feirw, a Saul a Jonathan ei fab a fuant feirw.

5 A Dafydd a ddywedodd wrth y llangc oedd yn mynegi iddo, pa fodd y gwyddost di farw Saul, a Jonathan ei fab?

6 A'r llangc yr hwn oedd yn mynegi iddo, a ddywedodd, digwyddodd i mi ddyfod i fy­nydd Gilboah, ac wele Saul oedd yn pwyso ar ei wayw-ffon: wele hefyd y cerbydau a'r mar­chogion yn erlid ar ei ol ef.

7 Ac efe a edrychodd o'i ôl, ac a'm canfu i, ac a alwodd arnafi, minneu a ddywedais, wele fi.

8 Dywedodd yntef wrthifi, pwy wyt ti? minneu a ddywedais wrtho, Amaleciad yd­wyf fi.

9 Ac efe a ddywedodd wrthifi, saf attolwg arnaf, a llâdd fi; canysNeu, fy lluryg sy i'm rhwystro, fod fy h [...]ll, &c. cyfyngder a ddaeth arnaf, o herwydd bod fy holl einioes ynofi etto.

10 Felly mi a sefais arno ef, ac a'i lleddais ef, canys mi a wyddwn na byddei efe byw ar ôl ei gwympo: a chymmerais y goron oedd ar ei ben ef, a'r fraichled oedd am ei fraich ef, ac a'i dygum hwynt ymma at fy Arglwydd.

11 Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad, acPen. 3.31. & 13.31. a'i rhwygodd hwynt: a'r holl wŷr hefyd y rhai oedd gyd ag ef.

12 Galarasant hefyd, ac ŵylasant, ac ym­prydiasant hyd yr hwyr, am Saul ac am Jona­than ei fab, ac am bobl yr Arglwydd, ac am dŷ Israel, o herwydd iddynt syrthio trwy y cleddyf.

13 A Dafydd a ddywedodd wrth y llangc oedd yn mynegi hyn iddo, o ba le i'th henyw di? yntef a ddywedodd, mab i ŵr dieithr o Amaleciad ydwyfi.

14 A dywedodd Dafydd wrtho,Psal. 105.15. pa fodd nad ofnaist di estyn dy law i ddifetha eneiniog yr Arglwydd?

15 A Dafydd a alwodd ar vn o'r gweision, ac a ddywedodd, nessâ, rhuthra iddo ef. Ac efe a'i tarawodd ef, fel y bu efe farw.

16 A dywedodd Dafydd wrtho ef, bydded dy waed ti ar dy ben dy hun: canys dy enau dy hun a destiolaethodd yn dy erbyn, gan ddywedyd, myfi a leddais eneiniog yr Argl­wydd.

17 A Dafydd a alar-nadodd yr alar-nad hon am Saul, ac am Jonathan ei fab.

18 (Dywedodd hefyd am ddyscu meibion Juda i saethu â bŵa: wele, y mae yn scritenne­dicJos. 10.13. yn llyfrNeu, yr vnion▪ Jaser.)

19 Oh ardderchawgrwydd Israel, efe a ar­chollwyd ar dy vchelfaoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn?

20 NacMic. 1.10. adroddwch hyn yn Gath, na fyne­gwch yn heolydd Ascelon: rhac llawenychu merched y Philistiaid, rhac gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededic.

21 Oh fynyddoedd Gilboah, na ddescyned ar­noch chwi wlith na glaw, na meusydd offrym­mau: canys yno y bwriwyd ymaith darian y cedvrn yn ddirmygus, tarian Saul, fel pe bua­sei heb ei eneinio ag olew.

22 Oddi wrth waed y lladdedigion, oddi wrth frasder y cedyrn, ni thrôdd bŵa Jonathan yn ôl, a chleddyf Saul ni ddychwelodd yn wâg.

23 Saul a Jonathan oedd gariadus acNeu, hyfryd, neu be­raidd. an­wyl yn eu bywyd, ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt: cynt oeddynt nâ 'r eryrod, a chryfach oeddynt nâ 'r llewod.

24 Merched Israel, ŵylwch am Saul, yr hwn oedd yn eich dilladu chwi ag yscarlat, gyd ag hyfrydwch, yr hwn oedd yn gwisco addurn­wisc aur ar eich dillad chwi.

25 Pa fodd y cwympodd y cedyrn yngha­nol y rhyfel! Jonathan, ti a laddwyd ar dy v­chelfaoedd.

26 Gofid sydd arnaf am danati, fy mrawd Jonathan, cû iawn fuost gennyfi: rhyfeddol oedd dy gariad tu ag attafi, tu hwnt i gariad gwragedd,

27 Pa fodd y syrthiodd y cedyrn, ac y dife­thwyd arfau rhyfel!

PEN. II.

1 Dafydd ar archiad Duw, yn myned gyd a'i wyr i Hebron, lle y gwnaed ef yn frenhin ar Judah, 5 yn canmol gwyr Jabes Gilead am eu caredigrw­ydd i Saul. 8 Abner yn gwneuthur Isboseth yn frenhin ar Israel. 12 Ymladd creulon rhwng denddec o wyr Abner, a deuddeg o wyr Joab. 18 Lladd Asahel. 25 Joab ar ddeisyfiad Abner yn galw y bobl yn ol. 32 Claddedigaeth Asahel.

AC yn ol hyn yr ymofynnodd Dafydd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, a â fi i fynu [Page] i'r vn o ddinasoedd Juda? a'r Arglwydd a ddy­wedodd wrtho ef, dos i fynu. A dywedodd Dafydd, i ba le yr âf i fynu? dywedodd yntef, i Hebron.

2 A Dafydd a aeth i fynu yno, a'i ddwy wragedd hefyd, Ahinoam y Jezreelites, ac Abi­gail gwraig Nabal y Carmeliad.

3 A Dafydd a ddug i fynu ei wŷr y rhai oedd gyd ag ef, pob vn a'i deulu: a hwy a arhosasant yn ninasoedd Hebron.

41 Mac. 2.57. A gwŷr Juda a ddaethant, ac a eneinia­sant Ddafydd yno yn frenin ar dŷ Juda: a my­negasant i Ddafydd, gan ddywedyd, mai gwŷr Jabes Gilead1 Sam. [...]1.13. a gladdasent Saul.

5 A Dafydd a anfonodd gennadau at wŷr Jabes Gilead, ac a ddywedodd wrthynt, bendi­gedic ydych chwi gan yr Arglwydd, y rhai a wnaethoch y drugaredd hon â'ch arglwydd Saul, ac a'i claddasoch ef.

6 Ac yn awr yr Arglwydd a wnelo â chwi drugaredd, a gwirionedd: minne hefyd a dalaf i chwi am y daioni hwn, o blegit i chwi wneu­thur y peth hyn.

7 Yn awr gan hynny, ymnerthed eich dwy­lo, a byddwch feibion grymmus: canys marw a fu eich arglwydd Saul, a thŷ Juda a'm heneini­asant inneu yn frenin arnynt.

8 Ond Abner mab Ner tywysog y filwriaeth oedd gan Saul, a gymmerth Isboseth fab Saul, ac a'i dug ef trosodd i Mahanaim.

9 Ac efe a'i gosododd ef yn frenin ar Gilead, ac ar yr Assuriaid, ac ar Jezreel, ac ar Ephraim, ac ar Benjamin, ac ar holl Israel.

10 Mab deugain-mlwydd oedd Isboseth mab Saul, pan ddechreuodd deyrnasu ar Israel, a dwy flynedd y teyrnasodd efe: tŷ Juda yn vnic oedd gyd â Dafydd.

11 (A rhifedi y dyddiau y bu Dafydd yn frenin yn Hebron ar dŷ Juda, oedd saith mly­nedd, a chwe mis.)

12 Ac Abner mab Ner, a gweision Isbo­seth fab Saul, a aethant allan o Mahanaim i Gibeon.

13 Joab hefyd mab Serfiah, a gweision Da­fydd a aethant allan, ac a gyfarfuant ynghyd wrth lyn Gibeon: a hwy a eisteddasant wrth y llyn, rhai er naill du, a'r lleill wrth y llyn o'r ru arall.

14 Ac Abner a ddywedodd wrth Joab, cy­foded yn awr y llangciau, a chwarânt ger ein bronnau ni: a dywedodd Joab, cyfodant.

15 Yna y cysodasant, ac yr aethant trosodd dan rif, deuddec o Benjamin, sef oddi wrth Is­boseth fab Saul, a deuddec o weision Dafydd.

16 A phob vn a ymaflodd ym mhen ei gi­lydd, ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfeill, felly y cyd-syrthiasant hwy: am hynny y galwyd y lle hwnnwMaes y cedyrn. Helcath Hazzurim, yn Gibeon.

17 A bu ryfel caled iawn y dwthwn hwn­nw; a tharawyd Abner, a gwŷr Israel, o flaen gweision Dafydd.

18 A thri mab Serfiah oedd yno, Joab, ac Abisai, ac Asahel: ac Asahel oedd mor fuan ar ei draed ag vn o'r iyrchod sydd yn y maes.

19 Ac Asahel a ddliynodd ar ôl Abner, ac wrth fyned ni thrôdd ar y tu dehau, nac ar y tu asswy, oddi ar ôl Abner.

20 Yna Abner a edrychodd o'i ôl ac a ddy­wedodd, ai tydi yw Asahel? a dywedodd yntef, ie myfi.

21 A dywedodd Abner wrtho ef, trô ar dy law ddehau, neu ar dy law asswy, a dal it vn o'r llangciau, a chymmer it eiNeu, yspail. arfau ef. Ond ni fynnei Asahel droi oddi ar ei ôl ef.

22 Ac Abner a ddywedodd eil-waith wrth Asahel, cilia oddi ar fy ôl i: pa ham y tarawaf di i lawr? canys pa fodd y codwn fyngolwg ar Joab dy frawd ti wedi hynny?

23 Ond efe a wrthododd ymado, am hynny Abner a'i tarawodd ef â bôn y wayw-ffon tan y bummed ais, a'r wayw-ffon a aeth allan o'r tu cefn iddo, ac efe a syrthiodd yno, ac a fu farw yn ei lê: a phawb a'r oedd yn dyfod i'r lle y syrthiasei Asahel ynddo, ac y buasei farw, a safasant.

24 Joab hefyd, ac Abisai a erlidiasant ar ôl Abner: pan fachludodd yr haul, yna y daethant hyd fryn Ammah, yr hwn sydd gyferbyn a Gi­ah, tu ac anialwch Gibeon.

25 A meibion Benjamin a ymgasclasant ar ôl Abner, ac a aethant yn vn fintai, ac a safa­sant ar ben bryn.

26 Yna Abner a alwodd ar Joab, ac a ddy­wedodd, a'i byth y difa 'r cleddyf? oni wy­ddost ti y bydd chwerwder yn y diwedd? hyd ba bryd gan hynny y byddi heb ddywedyd wrth y bobl am ddychwelyd oddi ar ôl eu brodyr?

27 A dywedodd Joab, fel mai byw Duw, oni buasei yr hyn a ddywedaist, diau ynaHeb. er y b [...]reu. y borau 'r aethei y boblNeu, ymaith. i fynu, bob vn oddi ar ôl ei frawd.

28 Felly Joab a vdcanodd mewn vdcorn, a'r holl bobl a safasant, ac nid erlidiasant mwy­ach ar ôl Israel, ac ni chwanegasant ymladd mwyach.

29 Ac Abner a'i wŷr a aethant drwy 'r gwa­stadedd ar hyd y nôs honno, ac a aethant tros yr Iorddonen, ac a aethant trwy holl Bithron, a daethant i Mahanaim.

30 A Joab a ddychwelodd oddi ar ôl Abner, ac wedi iddo gasclu yr holl bobl ynghyd, yr oedd yn eisieu o weision Dafydd bedwar gŵr ar bymthec, ac Asahel.

31 A gweision Dafydd a darawsent o Ben­jamin, ac o wŷr Abner, dry-chant, a thri vgain gŵr, sel y buant feirw.

32 A hwy a gymmerasant Asahel; ac a'i claddasant ef ym meddrod ei dâd, yr hwn oedd yn Bethlehem: a Joab a'i wŷr a gerddasant ar hŷd y nôs, ac yn Hebron y goleuodd ar­nynt.

PEN. III.

1 Dafydd yn myned yn gryfach tra y parha­odd y rhyfel. 2 Geni chwe mâb iddo ef yn Hebron. 6 Abner yn anfoddlon i Isboseth, 12 yn cilio at Ddafydd. 13 Dafydd yn ei dder­byn ef, tan ammod iddo ef ddwyn iddo ei wraig Michal. 17 Abner wedi ymddiddan â'r Israe­liaid, yn cael gwledd gan Ddafydd, a'i ollwng ymaith. 22 Joab yn dychwelyd o'r rhyfel yn anfoddlawn i Ddafydd, ac yn lladd Abner. 28 Dafydd yn melltithio Joab, 31 ac yn ga­laru am Abner.

A Bu ryfel hîr rhwng tŷ Saul a thŷ Dda­fydd: a Dafydd oedd yn myned gryfach gryfach, ond tŷ Saul oedd yn myned wan­nach wannach.

2 A meibion a anwyd i Ddafydd yn He­bron: a'i gyntafanedic ef oedd Amnon o Ahinoam y Jezreelites.

3 A'i ail mab oedd 1 Cron. [...] 3. Chileab, o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad: a'r trydydd, Ab­salom mab Maacah ferch Talmai brenin Gesur:

4 A'r pedwerydd, Adoniah mab Haggith: a'r pummed Sephatiah mab Abital:

5 A'r chweched, Ithream o Eglah gwraig Ddafydd: y rhai hyn a anwyd i Ddafydd yn Hebron.

6 A thra 'r ydoedd rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Ddafydd, yr oedd Abner yn ymegnio dros dŷ Saul.

7 Ond i Saul y buasei ordderch-wraig, a'i henwPen. 21.10. Rispah, merch Aiah: ac Isboseth a ddywedodd wrth Abner, pa ham yr aethost i mewn at ordderch-wraig fy nhâd?

8 Yna y digiodd Abner yn ddirfawr o her­wydd geiriau Isboseth, ac a ddywedodd, aipen cî ydwyfi, yr hwn ydwyf heddyw 'n erbyn Ju­da yn gwneuthur trugaredd â thŷ Saul dy dâd ti, â'i frodyr, ac â'i gyfeillion, a heb dy roddi di yn llaw Dafydd, pan osodaist i'm herbyn fai am y wraig hon heddyw.

9 Fel hyn y gwnelo Duw i Abner, ac fel hyn y chwanego iddo, onid megis y tyngodd yr Arglwydd wrth Ddafydd, felly y gwnaf iddo ef:

10 Gan droi y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Saul, a derchafu gorsedd-faingc Dafydd ar Is­rael, ac ar Juda, o Dan hyd Beerseba.

11 Ac ni feiddiodd efe mwyach atteb gair i Abner, rhac ei ofn ef.

12 Ac Abner a anfonodd gennadau at Dda­fydd trosto ei hun, gan ddywedyd, eiddo pwy yw 'r wlâd? a chan ddywedyd, gwna gyngrair â mi, ac wele fy llaw i fydd gyd â thi, i droi at­tat ti holl Israel.

13 A dywedodd yntef, da, myfi a wnaf gyfammod â thi: etto vn peth yr ydwyfi yn ei geisio gennit, gan ddywedyd, ni weli fy wyneb oni ddygi di yn gyntaf Michal ferch Saul, pan ddelech i edrych yn fy wyneb.

14 A Dafydd a anfonodd gennadau at Isbo­seth fab Saul, gan ddywedyd, dyro i mi syng­wraig Michal, yr hon a ddyweddiais i mi am1 Sam. 18.25, 27. gant o flaen-grwyn y Philistiaid.

15 Ac Isboseth a anfonodd, ac a'i dug hi oddi wrth1 Sam. 25.44. Phalti. ei gŵr, sef oddi wrth Phaltiel fab Lais.

16 A'i gŵr a aeth gyd â hi, gan fyned ac wylo ar ei hol hi hyd Bahurim: yna y dywe­dodd Abner wrtho ef, dos, dychwel. Ac efe a ddychwelodd.

17 Ac Abner a lefarodd wrth henuriaid Is­rael, gan ddywedyd,Heb. doe ac [...]. cyn hyn yr oeddych chwi 'n ceisio Dafydd yn frenin arnoch.

18 Ac yn awr gwnewch hynny: canys yr Arglwydd a lefarodd am Ddafydd, gan ddywe­dyd, drwy law Dafydd fy ngwâs y gwaredaf fy mhobl Israel o law y Philistiaid, ac o law eu holl elynion.

19 Dywedodd Abner hefyd wrth Benjamin: ac Abner a aeth i ymddiddan â Dafydd yn Hebron, am yr hyn oll oedd dda yngolwg Is­rael, ac yngolwg holl dŷ Benjamin.

20 Felly Abner a ddaeth at Ddafydd i He­bron, ac vgain-wr gyd ag ef: a Dafydd a wnaeth wledd i Abner, ac i'r gwŷr oedd gydag ef.

21 A dywedodd Abner wrth Ddafydd, mi a gy­sodaf, ac a âf, ac a gasclaf holl Israel at fy arglwydd frenin, fel y gwnelont gyfammod â thi, ac y teyrnasech di ar yr hyn oll a chwennych dy galon. A Dafydd a ollyngodd Abner ymmaith, ac efe a aeth mewn heddwch.

22 Ac wele weision Dafydd a Joab yn dy­fod oddi wrth y dorf, ac anrhaith fawr a ddy­gasent hwy ganddynt; (ond nid oedd Abner gyd â Dafydd yn Hebron, canys efe a'i goll­yngasei ef ymmaith, ac yntef a aethei mewn he­ddwch.)

23 Pan ddaeth Joab a'r holl lu oedd gyd ag ef, mynegwyd i Joab, gan ddywedyd, Abner mab Ner a ddaeth at y brenin, ac efe a'i goll­yngodd ef ymmaith, ac efe a aeth mewn heddwch.

24 A Joab a ddaeth at y brenin, ac a ddy­wedodd, beth a wnaethosti? wele daeth Abner attati, pa ham y gollyngaist ef i fyned ym­maith?

25 Ti a adwaenit Abner fab Ner, mai i'th dwyllo di y daeth efe, ac i ŵybod dy fynediad allan, a'th ddyfodiad i mewn, ac i ŵybod yr hyn oll yr wyt ti yn ei wneuthur.

26 A Joab a aeth allan oddi wrth Ddafydd, ac a anfonodd gennadau ar ôl Abner, a hwy a'i dygasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Siriah, heb ŵybod i Ddafydd.

27 A phan ddychwelodd Abner i Hebron,1 Bren. 2.5. Joab a'i trôdd ef o'r nailldu yn y porth, i ymddidan ag ef mewn heddwch: ac a'i ta­rawodd ef yno, tan y bummed ais fel y bu efe farw, o herwyddPen. 2.23. gwaed Asahel ei frawd ef.

28 Ac wedi hynny y clybu Dafydd, ac y dywedodd, dieuog ydwyfi, a'm brenhiniaeth ger bron yr Arglwydd byth, oddi wrth waed Abner fab Ner.

29 Syrthied ar ben Joab, ac ar holl dŷ ei dad ef, fel naHeb. thorrer ymmaith. phallo fod vn o dŷ Joab yn ddiferllyd, neu yn wahan-glwyfus, neu 'n ym­gynnal wrth fagl, neu yn syrthio ar gleddyf, neu mewn eisieu bara.

30 Felly Joab ac Abisai ei frawd ef a laddasant Abner, o herwydd lladd o honaw efPen. 2.23. Asahel eu brawd hwynt, mewn rhyfel yn Gibeon.

31 A Dafydd a ddywedodd wrth Joab, ac wrth yr holl bobl oedd gyd ag ef, rhwygwch eich dillad, ac ymwregysswch mewn sach-liain, a galerwch o flaen Abner. A'r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôlHeb. y gwely. yr elor.

32 A hwy a gladdasant Abner yn Hebron, a'r brenin a ddyrchafodd ei lêf ac a ŵylodd wrth fedd Abner; a'r holl bobl a ŵylasant.

33 A'r brenin a alar-nadodd am Abner, ac a ddywedodd, ai fel y mae 'r ynfyd yn marw y bu farw Abner?

34 Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi mewn eg­wydydd; syrthiaist fel y syrthiei vn o flaen meibion enwir. A'r holl bobl a chwanegasant ŵylo am dano ef.

35 A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dda­fydd fwytta bara, a hi etto yn ddydd, Da­fydd a dyngodd, gan ddywedyd, fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os archwaethaf fara, na dim oll, nes machlu­do 'r haul.

36 A'r holl bobl a ŵybuant hynny, a da oedd hyn yn eu golwg hwynt: a'r hyn oll a wnai y brenin oedd dda yngolwg y bobl.

37 A'r holl bobl, a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasei o fodd y brenin ladd Abner fab Ner.

38 A'r brenin a ddywedodd wrth ei weisi­on; oni wyddoch chwi i dywysog, ac i ŵr mawr syrthio heddyw yn Israel.

39 A minnau ydwyfHeb. dyner. eiddil heddyw, er fy enneinio yn frenhin, a'r gwyr hyn meibion Serviah sy ry galed i mi: yr Arglwydd a dâl i'r hwn a wnaeth y drwg, yn ôl ei ddrygi­oni.

PEN. IV.

1 Tra 'r oedd yr Israeliaid yn ddychrynedic o achos marwolaeth Abner, 2 Baanah a Re­chab yn llâdd Isboseth, ac yn dwyn ei ben ef i Hebron. 9 Dafydd yn peri eu lladd hwythau, a chladdu pen Isboseth.

A Phan glybu mab Saul farw o Abner yn Hebron, ei ddwylo a laesasant, a holl Israel aNeu, drallo­dwyd. ofnasant.

2 A dau wr oedd gan fab Saul yn dywyso­gion ar dorfoedd, enw vn oedd Baanah, ac enw 'r ail Rechab, meibion Rimmon y Beerothiad, o feibion Benjamin: (canys Beeroth hefyd a gyfrifid i Benjamin:

3 A'r Beerothiaid a ffoesent i Gittaim, ac a fuasent yno yn ddieithriaid hyd y dydd hwn.)

4 Ac i Jonathan fab Saul yr oedd mab clôff o'i draed: mab pum mlwydd oedd efe, pan ddaeth y gair am Saul a Jonathan o Jez­reel, a'i fammaeth a'i cymmerth ef, ac a ffôdd: a bu wrth fryssio o honi i ffoi, iddo ef syrthio, f [...]l y cloffodd efe, a'i enw ef oedd Mephibo­seth.

5 A meibion Rimmon y Beerothiad, Re­chab a Baanah, a aethant, ac a ddaethant, pan wresogasei y dydd, i dŷ Isboseth, ac efe oedd yn gorwedd ar wely ganol dydd.

6 Ac wele, hwy a ddaethant i mewn i ga­nol y tŷ, fel rhai yn prynu gwenith, a hwy a'i tarawsant ef tan y bummed asen; a Rechab, a Baanah ei frawd a ddiangasant.

7 A phan ddaethant i'r tŷ, yr oedd efe yn gorwedd ar ei wely o fewn stafell ei wely, a hwy a'i tarawsant ef, ac a dorrasant ei ben of, ac a gymmerasant ei ben ef, ac a ger­ddasant trwy y gwastadedd ar hyd y nôs.

8 A hwy a ddygasant ben Isboseth at Dda­fydd i Hebron, ac a ddywedasant wrth y bre­nin, wele ben Isboseth fab Saul dy elyn di, 'r hwn a geisiodd dy einioes di, a'r Arglwydd a roddes i'm harglwydd frenin ddial y dydd hwn ar Saul, ac ar ei hâd.

9 A Dafydd a attebodd Rechab, a Baanah ei frawd, meibion Rimmon y Beerothiad, ac a ddywedodd wrthynt, fel mai byw 'r Arglwydd, yr hwn a ryddhaodd fy enaid o bob cyfyng­dra.

10 PanPen. 1.15. fynegodd vn i mi, gan ddywedyd, wele bu farw Saul, (ac yr oedd yn ei olwg ei hun, megis vn yn dwyn llawen-chwed!) mi a ymaflais ynddo, ac a'i lleddais ef yn Siclag,Neu, yr hyn oedd y gwo [...]r a roddais iddo am, &c. yr hwn a dybiasei y rhoddaswn iddo obrwy am ei chwedl.

11 Pa feint mwy y gwnaf i ddynion annu­wiol a laddasant ŵr cyfion yn ei dŷ, ar ei wely? yn awr gan hynny oni cheisiaf ei waed ef ar eich llaw chwi? ac oni thorraf chwi ymmaith oddiar y ddaiar?

12 A Dafydd a orchymynnodd iw langciau, a hwy a'i lladdasant hwy, ac a dorrasant eu dwylo hwynt a'i traed, ac a'i crogasant hwy vwch ben y llyn yn Hebron: ond pen Isboseth a gymmerasant hwy, ac a'i claddasant ym meddrodPen. 3 32. Abner yn Hebron.

PEN. V.

1 Y llwythau yn dyfod i Hebron i eneinio Dafydd yn frenhin ar Israel. 4 Oedran Dafydd. 6 Da­fydd yn ennill Sion oddiar y Jebusiaid, ac yn trigo ynddi. 11 Hiram yn anfon at Ddafydd. 13 Geni meibion iddo yn Jerusalem. 17 Da­fydd drwy gyfarwyddyd Duw, yn taraw y Philistiaid yn Baal perazim, 22 ac wrth y mor-wydd.

YNa holl lwythau Israel a ddaethant at Ddafydd i Hebron, ac a lefarasant,1 Cron. 11.1. gan ddywedyd, wele, dy ascwrn di, a'th gnawd ydym ni.

2 Cyn hyn hefyd pan oedd Saul yn frenin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr Arg­lwydd wrthit ti, tiPsal. 78.71. a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel.

3 Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a brenin Dafydd a wnaeth gyfammod â hwynt yn Hebron, ger bron yr Arglwydd: a hwy a eneiniasant Ddafydd yn frenin ar Israel.

4 Mab deng miwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu, a deugain mhl­ynedd y teyrnasodd ese.

5 Yn HebronPen. 2.11. y teyrnasodd efe ar Juda saith mlynedd, a chwe mîs: ac yn Jerusalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddec ar hugain, ar holl Israel a Juda.

6 A'r brenin a'i wŷr a aethant i Jerusalem, at y Jebusiaid presswyl-wyr y wlâd: y rhai a lefa­rasant wrth Ddafydd gan ddywedyd, ni ddeui di ymma oni thynni ymmaith y deillion, a'r cloffion; ganNeu, ddywedyd. dybied, ni ddaw Dafydd ymma.

7 Ond Dafydd a ennillodd amddiffynfa Si­on: honno yw dinas Dafydd.

8 A dywedodd Dafydd y dwthwn hwnnw, pwy bynnac a elo i fynu i'r gwtter, ac a dara­wo y Jebusiaid, a'r cloffion, a'r deillion, y rhai sy gâs gan enaid Dafydd,1 Cron. 11.6. hwnnw fydd bla­enor: Neu, am iddy [...] ddywe­dyd, sef y dall a'r cloff, ni ddaw efe i mewn, &c. am hynny y dywedasant, y dall a'r cloff ni ddaw i mewn i'r tŷ.

9 A Dafydd a drigodd yn yr amddiffynfa, ac a'i galwodd hi dinas Dafydd, a Dafydd a adaila­dodd oddi amgylch, o Milo, ac oddi mewn.

10 A Dafydd a aeth rhagddo,He [...]. gan fyned a chynny­ddu. ac a gyn­nyddodd yn fawr, ac Arglwydd Dduw y lluo­edd oedd gyd ag ef.

11 A1 Cron. 14.1. Hiram brenin Tyrus a anfonodd gennadau at Ddafydd; a choed cedr, a seiri pren­nau, aHeb. naddwyr maeni y mur. seiri meini; a hwy a adailadasant dŷ i Ddafydd.

12 A gwybu Dafydd i'r Arglwydd ei sicrhau ef yn frenin ar Israel, a derchafu o hono ei fren­hiniaeth ef, er mwyn ei bobl Israel.

13 A Dafydd a gymmerodd etto1 Cron. 3.9. ordderch­wragedd, a gwragedd o Jerusalem, wedi iddo ddyfod o Hebron, a ganwyd etto i Ddafydd feibion a merched.

14 Ac1 Cron. 3.5. dymma henwau y rhai a anwyd iddo ef yn Jerusalem, Sammuah, a Sobab, a Nathan, a Salomon:

15 Ibhar hefyd, ac Elisuah, a Nepheg, a Ja­phia,

16 Elisamah hefyd, ac Eliada, ac Eliphalet.

171 Cron. 14.8. & 11.16. Ond pan glybu y Philistiaid iddynt ennei­nio Dafydd yn frenin ar Israel, yr holl Philisti­aid a ddaethant i fynu i geisio Dafydd: a Dafydd [Page] a glybu, ac a aeth i wared i'r amddeffynfa.

18 A'r Philistiaid a ddaethant; ac a ym­danasant yn nyffryn Rephaim.

19 A Dafydd a ymofynnodd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, a âfi i fynu at y Philistiaid? a roddi di hwynt yn fy llaw i? a'r Arglwydd a ddywedodd wrth Ddafydd, dos i fynu; canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di.

20 AEsa. 18.21. Dafydd a ddaeth i Baal Perazim, a Dafydd a'i tarawodd hwynt yno, ac a ddywe­dodd, yr Arglwydd a wahanodd fy ngelynion o'm blaen i, megis gwahanu dyfroedd. Am hynny y galwodd efe henw y lle hwnnwMaes y gwaha­niadau. Baal-Perazim.

21 Ac yno y gadawsant hwy eu delwau, a Dafydd a'i wŷr1 Cron. 14.12. a'iNeu, dug hwynt ymaith. lloscodd hwynt.

22 A'r Philistiaid etto a chwanegasant ddyfod i fynu, ac a ymdanasant yn nyffryn Rephaim.

23 A Dafydd a ymofynnodd â'r Arglwydd, ac ef a ddywedodd, na ddôs i fynu: amgylch­yna o'r tu ôl iddynt, a thyred arnynt hwy gy­ferbyn a'r mor-wŷdd.

24 A phan glywech drwst cerddediad ym­mrig y môr-wŷdd, yna ymegnia: canys yna yr Arglwydd a â allan o'th flaen di, i daro gwerssyll y Philistiaid.

25 A Dafydd a wnaeth megis y gorchymyn­nasei 'r Arglwydd iddo ef, ac a darawodd y Philistiaid o Geba, hyd oni ddelech i Gazer.

PEN. VI.

1 Dafydd yn cyrchu 'r Arch o Ciriath iearim ar fen newydd. 6 Taro Vzzah yn Perez Vzzah. 9 Duw yn bendithio Obed Edom o achos yr Arch. 12 Dafydd yn dwyn yr Arch i Sion gyd ag aberthau, ac yn dawnsio o'i blaen hi, a Michal yn ei ddirmygu ef am hynny. 17 Efe yn gosod yr Arch mewn Pabell gydâ llawenydd mawr a gwledda. 20 Michal am geryddu Dafydd am ei lawenydd duwiol, yn amlhantad­wy hyd farwolaeth.

A Chasclodd Dafydd etto 'r holl etholedigion yn Israel, sef deng-mil ar hugain;

21 Cron. 13.5, 6. A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a'r holl bobl oedd gyd ag ef, o Baale Juda, i ddwyn i fynu oddi yno Arch Dduw,Neu, wrth yr h [...]n y gal­wyd ar yr Enw, sef enw Arg. &c. enw 'r hon a elwir ar enw Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y Cerubiaid.

3 A hwy aHeb. wnaeth­ant i Arch D. farcho­ga [...]th. osodasant Arch Dduw ar fen newydd, ac a'i dygasant hi o dŷ Abinadab ynNeu, y bryn. Gibeah: Vzza hefyd, ac Ahio meibion Abi­nadab oedd yn gyrru y fen newydd.

4 A hwy a'i dygasant hi1 Sam. 7.2. o dŷ Abinadab yn Gibeah, gyd ag Arch Dduw, ac Ahio oedd yn myned o flaen yr Arch.

5 Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chware ger bron yr Arglwydd, â phob offer o goed ffynnidwydd, sef â thelynau, ac â Nab­lau, ac â thympanau, ac ag vdcyrn, ac â cym­balau.

6 A phan ddaethant i lawr dyrnu1 Cron. 13.9. Na­chon, Vzzah a estynnodd ei law at Arch Dduw, ac a ymaflodd ynddi hi; canys 'r ŷchenNeu, a aram­gwydda­sant. oedd yn ei hysgwyd.

7 A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Vzzah, a Duw a'i tarawodd ef yno amNeu, ehudrw­ydd. yr amrysusedd hyn, ac efe a fu farw yno wrth Arch Dduw.

8 A bu ddrwg gan Ddafydd am i'r Ar­glwydd rwygo rhwygiad ar Vzzah; ac efe a al­wodd y lle hwnnw,S [...]f, rhwyg Vzzah. Perez Vzzah, hyd y dydd hwn.

9 A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnnw, ac a ddywedodd, pa fodd y daw Arch yr Arglwydd attafi?

10 Ac ni fynnei Dafydd fudo Arch yr Ar­glwydd atto ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a'i trôdd hi i dŷ Obed Edom y Gethiad.

11 Ac Arch yr Arglwydd a arhosodd yn nhŷ Obed Edom y Gethiad, dri mis: a'r Arglwydd a fendithiodd Obed Edom, a'i holl dŷ.

12 A mynegwyd i'r brenin Dafydd, gan ddywedyd, yr Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed Edom, a'r hyn oll oedd ganddo,1 Cron. 15.25. er mwyn Arch Dduw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddûg i fynu Arch Dduw, o dŷ Obed Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd.

13 A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn Arch yr Arglwydd chwech o gamrau, yna efe a offrymmodd ŷchen, a phascedigion.

14 A Dafydd a ddawnsiodd â'i holl egni, ger bron yr Arglwydd: a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag Ephod liain.

15 Felly Dafydd, a holl dŷ Israel a ddyga­sant i fynu Arch yr Arglwydd, drwy floddest, a sain vdcorn.

16 Ac fel yr oedd Arch yr Arglwydd yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd drwy ffenestr, ac a gan­fu y brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemmein o flaen yr Arglwydd, a hi a'i dirmygodd ef yn ei chalon.

17 A hwy a ddygasant i mewn Arch yr Ar­glwydd, ac a'i gosodasant yn ei lle, vnghanol y babell, yr hon aHeb. estynna­sei. osodasei Dafydd iddi. A Da­fydd a offrymmodd boeth offrymmau, ac off­rymmau hedd, ger bron yr Arglwydd.

18 Ac wedi gorphen o Ddafydd offrymmu poeth offrwm ac offrymmau hedd,1 Cron. 16.2. efe a fen­dithiodd y bobl yn enw Arglwydd y lluoedd.

19 Ac efe a rannodd i'r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr, ac yn wraig, i bob vn, dei­sen o fara, ac vn dryll o gîg, ac vn gostrêleid o wîn: felly 'r aeth yr holl bobl, bawb iw dŷ ei hun.

20 Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd, ac a ddywedodd, oh mor ogoneddus oedd brenin Israel heddyw, yr hwn a ymddi­oscodd heddyw yngŵydd llawforwynion ei weision, fol yr ymddioscei vn o'r ynfydion gan ymddiosc.

21 A dywedodd Dafydd wrth Michal, ger bron yr Arglwydd yr hwn a'm dewisodd i o flaen dy dâd ti, ac o flaen ei holl dŷ ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr Ar­glwydd, ar Israel, y chwareais: a mi a chwarâf ger bron yr Arglwydd.

22 Byddaf etto waelach nâ hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyd â'r llawforwynion (am y rhai y dywedaist wrthif) i'm gogoneddir.

23 Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd, hyd ddydd ei marwolaeth.

PEN. VII.

1 Nathan yn canmol amcan Dafydd ar adailadu tŷ i'r Arglwydd, 4 ac ar ol hynny trwy air Duw yn gwarafun iddo. 12 Yn addo iddo ddaioni a bendithion yn ei had. 18 Gwe­ddi a diolch Dafydd.

A1 Cron. 17.2. Phan eisteddodd y brenin yn ei dŷ, a rhoddi o'r Arglwydd lonydd iddo ef, rhac ei holl elynion oddi amgylch;

2 Yna y dywedodd y brenin wrth Nathan y prophwyd, wele yn awr fi yn preswylio mewn tŷ o gedr-wŷdd, ac Arch Dduw yn aros o fewn y cortynnau.

3 A Nathan a ddywedodd wrth y brenin, dos, gwna'r hyn oll sydd yn dy galon; canys yr Arglwydd sydd gyd â thi.

4 A bu y nosson honno, i air yr Arglwydd ddyfod at Nathan, gan ddywedyd;

5 Dos, a dywed wrth fy ngwâs Dafydd, fel hyn y dywed yr Arglwydd, ai ty di a adailedi i mi dŷ, lle y cyfanneddwyfi.

6 Canys nid arhosais mewn tŷ, er y dydd yr arweiniais blant Israel o'r Aipht, hyd y dydd hwn, eithr bum yn rhodio mewn pabell ac mewn Tabernacl.

7 Ym mha le bynnac y rhodiais gyd â holl feibion Israel, a yngenais i air wrth vn oA elwir Barn-wyr lwy­thau Israel, i'r rhai y gorchymynnais borthi fy mhobl Israel,1 Cron. 17.6. gan ddywedyd, pa ham nad adai­ladasoch i mi dŷ o gedr-wŷdd.

8 Ac yn awr, fel hyn y dywedi wrth fyng­wâs Dafydd; fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd,1 Sam. 16.12. Psal. 78.70. myfi a'th gymmerais di o'r gorlan, oddiar ôl y praidd, i fod yn flaenor ar fy mhobl, ar Israel.

9 A bum gyd â thi ym mha le bynnac y rhodiaist, torrais ymaith hefyd dy holl elynion di o'th flaen, a gwneuthum enw mawr i ti, megis enw y rhai mwyaf ar y ddaiar.

10 (Gosodaf hefyd i'm pobl Israel lê, a phlan­naf ef, fel y trigo efe yn ei le ei hun, ac na symmudo mwyach; a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef, megis gynt:

111 Cron. 17.10. Sef er v dydd yr ordeiniais i farnwŷr ar fy mhobl Israel, ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion:) a'r Arglwydd sydd yn mynegi i ti, y gwnaHeb. yr Arg­lwydd. efe dŷ i ti.

12 A phan1 Bren. 8.20. gyflawner dy ddyddiau di, a huno o honot gyd a'th dadau, mi a gyfodaf dy hâd ti ar dy ôl, yr hwn a ddaw allan o'th ym­yscaroedd di, a mi a gadarnhâf ei frenhiniaeth ef.

13 Efe1 Bren. 5.5. & 6.12. 1 Cron. 22.10. a adailada dŷ i'm enw i, min­ne a gadarnhaf orseddfaingc ei frenhiniaeth ef byth.

14Heb. 1.5. Myfi a fyddaf iddo ef yn dâd, ac yntef fydd i mi yn fab: osPsal. 89.30.31, 32. trosedda efe, mi a'i cery­ddaf â gwialen ddynawl, ac â dyrnodiau mei­bion dynion.

15 Ond fy nhrugaredd nid ymedy ag ef, megis ac y tynnais hi oddi wrth Saul, yr hwn a fwriais ymmaith o'th flaen di.

16 A'th dŷ di a siccrheir, a'th frenhiniaeth yn dragywydd o'th flaen di: dy orsedd-faingc a siccrheir byth.

17 Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Ddafydd.

18 Yna 'r aeth y brenin Dafydd i mewn, ac a eisteddodd ger bron yr Arglwydd, ac a ddy­wedodd, pwy ydwyfi ô Arglwydd Dduw? a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd ymma?

191 Cron. 17.17. Ac etto bychan oedd hyn yn dy olwg di▪ ô Arglwydd Dduw; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy wâs dros hîr amser: ai dymmaHeb. gyfraith. ar­fer dŷn, ô Arglwydd Dduw?

20 A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ŷchwaneg wrthit? canys ti a adwaenost dy wâs, ô Arglwydd Dduw.

21 Er mwyn dy air di, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i beri i'th was eu gwybod.

22 Am hynny i'th fawrhawyd, o Arglwydd Dduw: canys nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â'n clustiau.

23 ADeut. 4.7. pha vn genedl ar y ddaiar sydd me­gis dy bobl, megis Israel, yr hon yr aeth Duw iw gwaredu yn bobl iddo ei hun, ac i osod iddo enw, ac i wneuthur eroch chwi bethau mawr ac ofnadwy tros dy dir,1 Cron. 17.21. ger bron dy bobl, y rhai a waredaist i ti o'r Aipht, oddiwrth y cen­hedloedd a'u duwiau?

24 Canys ti a siccrheaist i ti dy bobl Israel, yn bobl i ti byth: a thi Arglwydd, ydwyt iddynt hwy yn Dduw.

25 Ac yn awr ô Arglwydd Dduw, cwplâ byth y gair a leferaist am dy wâs, ac am ei dŷ ef, a gwna megis y dywedaist.

26 A mawrhaer dy enw yn dragywydd, gan ddywedyd, Arglwydd y lluoedd sydd Dduw ar Israel; a bydded tŷ dy wâs Dafydd wedi ei siccrhau ger dy fron di.

27 Canys ti, ô Arglwydd y lluoedd, Duw Israel,Heb. agoraist glust dy was. a fynegaist i'th wâs, gan ddywedyd, adai­ladaf dŷ i ti: am hynny dy wâs a gafodd yn ei galon weddio attati y weddi hon.

28 Ac yn awr, ô Arglwydd Dduw, ty di sydd Dduw,Jo. 17.17. a'th eiriau di sydd wirionedd, a thi a leferaist am dy wâs y daioni hwn.

29 Yn awr gan hynny rhynged boddHeb. a bendiga. it fendigo tŷ dy wâs, i fod ger dy fron di yn dragy­wydd: canys ti ô Arglwydd Dduw a leferaist, ac â'th fendith di y bendithier tŷ dy wâs yn dragywydd.

PEN. VIII.

1 Dafydd yn darostwng y Philistiaid a'r Moabi­aid. 3 Yn taro Hadadezer a'r Syriaid. 9 Yn cyssegru anrhegion Toi i Dduw. 14 Yn gosod pennaethiaid yn Edom. 16 Swyddogion Da­fydd.

AC wedi1 Cron. 18.1. hyn tarawodd Dafydd y Phili­stiaid, ac a'i darostyngodd hwynt: a Da­fydd a ddug ymmaithNeu, ffrwyn Ammah. Metheg Ammah o law y Philistiaid.

2 Ac efe a darawodd Moab, ac a'i mesurodd hwynt â llinyn, gan eu cwympo hwynt i lawr: ac efe a fesurodd â dau linyn i ladd, ac â llinyn llawn i gadw yn fyw: felly y Moabiaid fuant i Ddafydd yn weision yn dwyn trêth.

3 Tarawodd Dafydd hefyd Hadadezer fab Rehob breninPsal. 60.2. Zobah, pan oedd efe yn myned i ynnill ei derfynau wrth afon Euphrates.

4 A Dafydd a ennilloddNeu, o'r eiddo. oddi arno ef fil o1 Cron. 18.4. gerbydau, a saith gant o farchogion, ac vgain mil o wŷr traed: a thorrodd Dafydd linynnau garr meirch pob cerbyd, ac efe a adawodd o ho­nynt gan cerbyd.

5 A phan ddaeth y Syriaid o Damascus, i gynnorthwyo Hadadezer brenin Zobah, Dafydd a laddodd o'r Syriaid ddwy fîl ar hugain o wŷr.

6 A Dafydd a osododd swyddogion yn Syria Damascus, a'r Syriaid a fuant weision i Ddafydd, yn dwyn trêth: a'r arglwydd a gadwodd Dda­fydd ym mha le bynnac yr aeth efe.

7 Dafydd hefyd a gymmerth y tariannau aur oedd gan weision Hadadezer, ac a'i dûg hwynt i Jerusalem.

8 O Betah hefyd, ac o Berothai, dinasoedd Hadadezer, y dûg y brenin Dafydd lawer iawn o brês.

9 Pan glvbu1 Cron. 18.9. Toi brenin Hamath, daro o Ddafydd holl lu Hadadezer.

10 Yna Toi a anfonodd [...] [...]ron. [...] Joram ei fab at y brenin Dafydd i [...] am [...]wch gyfarch gwell iddo, ac iw fendithio, am iddo ymladd yn erbyn Hadade­zer, a'i faeddu ef, (canys gŵr rhyfelgar oedd Hadadezer yn erbyn Toi) a llestri arian, a llestri aur, a llestri prês [...]b. [...] law ganddo:

11 Y rhai hefyd a gyssegrodd y brenin Da­fydd i'r Arglwydd, gyd â'r arian, a'r aur a gy­ssegrasei efe o'r holl genhedloedd a orescyn­nasei efe:

12 Oddi ar Syria, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec, ac o anrhaith Hadadezer mab Rehob brenin Zobah.

13 A Dafydd a ennillodd iddo enw, pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid, yn nyffryn yr halen, sef tair mil ar bymthec.

14 [...] Cron. [...] [...]3. Ac efe a osododd bennaethiaid ar Edom, ar holl Edom y gosododd efe bennaethi­aid, a bu holl Edom yn weision i Ddafydd: a'r Arglwydd a gadwodd Ddafydd i ba le byn­nac yr aeth efe.

15 A theyrnasodd Dafydd ar holl Israel, ac yr oedd Dafydd yn gwneuthur barn a chyfi­awnder iw holl bobl.

16 A Joab mab Serfiah oedd ben ar y llû, a Jehosaphat mab Ahilud yn gofiadur.

17 A Zadoc mab Ahitob, ac1 Cron. [...].16. Ahimelech mab Abiathar oedd offeiriaid, a Seraiah yn scri­fennydd.

18 Benaiah hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid, a'r Pelethiaid; a1 Cron. [...].17. meibion Dafydd oedd dywysogion.

PEN. IX.

1 Dafydd trwy law Ziba yn danfon am Mephi­boseth. 7 Ac er mwyn Jonathan yn ei dderbyn ef iw fwrdd, ac yn edfryd iddo gwbl ac oedd eiddo Saul: 9 ac yn gwneuthur Ziba yn oruch­wiliwr iddo ef.

A Dafydd a ddywedodd, a oes etto vn weli ei adel o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd ag ef, er mwyn Jonathan?

2 Ac yr oedd gwas o dŷ Saul a'i enw Ziba: a hwy a'i galwasant ef at Ddafydd, a'r brenin a ddywedodd wrtho ef, ai tydi yw Ziba? a dy­wedodd yntef, dy wâs yw efe.

3 A dywedodd y brenin, a oes neb etto o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd Duw ag ef? a dywedodd Ziba wrth y brenin, y mae etto fâb i Jonathan,Pen. [...] 4. yn gloff o'r draed.

4 A dywedodd y brenin wrtho, pa le y mae efe? a Ziba a ddywedodd wrth y brenin, wele ef yn nhŷ Machir fab Ammiel yn Lo-debar▪

5 Yna y brenin Dafydd a anfonodd, ac a'i cyrchodd ef o dŷ Machir fab Ammiel o Lo­debar.

6 A phan ddaeth Mephiboseth mab Jona­than, mab Saul, at Ddafydd, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymgrymmodd: a Dafydd a ddy­wedodd, Mephiboseth: dywedodd yntef, wele dy wâs.

7 A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, nac ofna; canys gan wneuthur y gwnaf drugaredd â thi, er mwyn Jonathan dy dâd, a mi a ro­ddaf yn ei ôl i ti holl dir Saul dy dâd, a thi a fwyttei fara ar fy mwrdd i yn wastadol.

8 Ac efe a ymgrymmodd, ac a ddywedodd, beth ydyw dy was di, pan edrychit ar gî marw o'm bath i?

9 Yna y brenin a alwodd ar Ziba gwâs Saul, ac a ddywedodd wrtho, yr hyn oll oedd eiddo Saul, ac eiddo ei holl dŷ ef, a roddais i fab dy feistr di.

10 A thi a erddi y tir iddo ef, ti a'th feibi­on, a'th weision, ac a'i dygi i mewn, fel y byddo bara i fab dy feistr di, ac y bwytao efe; a Me­phiboseth mab dy feistr di a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i. Ac i Ziba 'r oedd pymthec o feibion, ac vgain o weision.

11 Yna y dywedodd Ziba wrth y brenin, yn ôl yr hyn oll a orchymynnodd fy Arglwydd y brenin i'w wâs, felly y gwna dy wâs: yna y dywedodd Dafydd, Mephiboseth a fwyty ar fy mwrdd i, fel vn o feibion y brenin.

12 Ac i Mephiboseth yr oedd mab bychan, a'i enw oedd Micha; a phawb a'r a oedd yn cy­fanneddu tŷ Ziba oedd weision i Mephiboseth.

13 A Mephiboseth a drigodd yn Jerusalem: canys ar fwrdd y brenin yr oedd efe yn bwyta yn wastadol; ac yr oedd efe yn glôff o'i ddeu­droed.

PEN. X.

1 Y dirmyg a wnaed a'r cennadon a anfonasai Da­fydd i gyssuro Hanon fab Nahas. 6 Joab ac A­bisai yn gorchfygu 'r Ammoniaid, er bôd y Sy­riaid yn eu cynnorthwyo. 15 Sobach yn ail casclu y Syriaid, a Dafydd yn ei ladd ef yn Helam.

AC yn ôl hyn y bu i1 Cron. 19.1. frenin meibion Am­mon farw, a Hanon ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

2 Yna y dywedodd Dafydd, mi a wnaf ga­redigrwydd a Hanon mab Nahas, megis y gwnaeth ei dâd ef garedigrwydd â mi. A Da­fydd a anfonodd gyd â'i weision iw gyssuro ef am ei dâd: a gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon.

3 A thywysogion meibion Ammon a ddy­wedasant wrth Hanon eu harglwydd,Heb. yn dy ol­wg di ai anrh. wyt ti yn tybied mai anrhydeddu dy dâd ti y mae Dafydd, o herwydd iddo ddanfon cyssurwŷr attati? onid er mwyn chwilio 'r ddinas a'i throedio, a'i difetha, yr anfonodd Dafydd ei weision attat ti?

4 Yna Hanon a gymerth weision Dafydd, ac a eilliodd hanner eu barfau hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, hyd eu clu­niau, ac a'i gollyngodd hwynt ymaith.

5 Pan fynegwyd hyn i Ddafydd, efe a anfo­nodd iw cyfarfod hwynt, canys y gwyr oedd wedi cywilyddio yn fawr: a dywedodd y bre­nin, arhoswch yn Jericho hyd oni dyfo eich barfau chwi, yna dychwelwch.

6 A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Ddafydd,1 Cron. 19.6. a meibion Ammon a an­fonasant, ac a gyflogasant y Syriaid o Beth Re­hob, a'r Syriaid o Zobah, vgain mîl o wŷr traed, a chan frenin Maacah fîl o wŷr, ac o Istob ddeuddeng-mil o wŷr.

7 A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab; a holl lu y cedyrn.

8 A meibion Ammon a ddaethant, ac a lu­niaethasant ryfel wrth ddrws y porth; a'r Sy­riaid, o Zobah, a Rehob, ac o Istob a Maachah oedd o'r naill-du yn y maes.

9 Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef, ym mlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid.

10 A gweddill y bobl a roddes efe tan law Abisai ei frawd, iw byddino yn erbyn meibi­on Ammon.

11 Ac efe a ddywedodd, os trôch fydd y Sy­riaid nâ mi, yna bydd di i mi yn gynnorthwy: ond os meibion Ammon fyddant trêch nâ thi, yna y deuaf i'th gynnorthwyo dithau.

12 Bydd bybyr, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw: a gwnaed yr Ar­glwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.

13 A nessaodd Joab, a'r bobl oedd gyd ag ef, yn erbyn y Syriaid i'r rhyfel, a hwy a ffoesant o'i flaen ef.

14 A phan welodd meibion Ammon ffoi o'r Syriaid, hwythau a ffoesant o flaen Abisai, ac a aethant i'r ddinas: a dychwelodd Joab oddi wrth feibion Ammon, ac a ddaeth i Jerusalem.

15 A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a ymgynnullasant ynghyd.

16 A Hadarezer a anfonodd, ac a ddug y Syriaid oedd o'r tû hwnt i'r afon, a hwy a ddaethant i Helam; a1 Cron. 16.16. Sobach tywysog llu Hadarezer o'i blaen.

17 A phan fynegwyd i Ddafydd hynny, efe a gasclodd holl Israel, ac a aeth tros yr Iorddo­nen, ac a ddaeth i Helam; a'r Syriaid a ymfy­ddinasant yn erbyn Dafydd, ac a ymladdasant ag ef.

18 A'r Syriaid a ffoesant o flaen Israel, a Dafydd a laddodd o'r Syriaid, wŷr saith gant o gerbydau, a deugain mîl o wŷr meirch: ac efe a darawodd Sobach tywysog eu llû hwynt, fel y bu efe farw yno.

19 A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadarezer eu lladd hwynt o flaen Is­rael, hwy a heddychasant ag Israel, ac a'i gwa­sanaethasant hwynt: a'r Syriaid a osnasant gynnorthwyo meibion Ammon mwyach.

PEN. XI.

1 Dafydd, tra 'r ydoedd Joab yn gwarchae ar Rabbah, yn godinebu gyda Bathseba. 6 Yn anfon am Vrias adref i geisio coluro ei odineb. 14 Yn anfon llythyr gyd ag ef at Joab i beri iddo farw. 18 Joab yn danfon newyddion o'i farwolaeth ef i Ddafydd. 26 Dafydd yn cymmeryd Bathseba yn wraig iddo.

AcHeb. yn nych­weliad. wedi pen y flwyddyn yn yr amser y byddei y brenhinoedd yn myned allan i ryfel, danfonodd Dafydd1 Cron. [...]0.1. Joab a'i weision gyd ag ef, a holl Israel, a hwy a ddestrywiasant fei­bion Ammon, ac a warchaeasant ar Rabbah: ond Dafydd oedd yn aros yn Jerusalem.

2 A Bu ar bryd-nawn-gwaith gyfodi o Dda­fydd oddi ar ei wely, a rhodio ar nen tŷ y bre­nin; ac oddi ar y nen efe a ganfu wraig yn ymoichi; a'r wraig oedd dêg iawn yr olwg.

3 A Dafydd a anfonodd, ac a ymofynnodd am y wraig: ac vn a ddywedodd, onid hon yw Bathseba merch Eliam, gwraig Vrias yr He­thiad?

4 A Dafydd a anfonodd gennadau, ac a'i cymmerth hi, a hi a ddaeth i mewn atto ef, ac efe a orweddodd gyd â hi, (acLevit. 15.19. & 28.19. yr oedd hi wedi ei glanhau oddi wrth ei haflendid) a hi a ddychwelodd iw thŷ ei hun.

5 A'r wraig a feichiogodd, ac a anfonodd, ac a fynegodd i Ddafydd, ac a ddywedodd, yr ydwyfi yn feichiog.

6 A Dafydd a anfonodd at Joab, gan ddywe­dyd, danfon attafi Vrias vr Hethiad. A Joab a anfonodd Vrias at Ddafydd.

7 A phan ddaeth Vrias atto ef, Dafydd a ymofynnodd amHeb. [...]eddwch. lwyddiant Joab, ac am lwy­ddiant y bobl, ac am ffyniant y rhyfel.

8 Dywedodd Dafydd hefyd wrth Vrias, dos i wared i'th dŷ, a golch dy draed. Ac Vrias a aeth allan o dŷ 'r brenin, a saig y brenin aeth ar ei ol ef.

9 Ond Vrias a gyscodd wrth ddrws tŷ y bre­nin gyd â holl weision ei arglwydd, ac nid aeth i wared iw dŷ ei hun.

10 Yna y mynegasant i Ddafydd, gan ddy­wedyd, nid aeth Vrias i wared iw dŷ ei hun: a Dafydd a ddywedodd wrth Vrias, onid o'th daith yr ydwyt ti yn dyfod: pa ham nad ait ti i wared i'th dŷ dy hun?

11 A dywedodd Vrias wrth Ddafydd, yr Arch, ac Israel hefyd, a Juda sydd yn aros mewn pebyll, a Joab fy Arglwydd, a gweision fy ar­glwydd sydd yn gwerssyllu ar hŷd wyneb y maes; âfi gan hynny i'm tŷ fy hun, i fwytta, ac i yfed, ac i orwedd gyd â'm gwraig▪ fel mai byw di, ac fel mai byw dy enaid di, ni wnaf y peth hyn.

12 A Dafydd a ddywedodd wrth Vrias, aros ymma etto heddyw, ac y forn i'th ollyngaf di: ac Vrias a arhosodd yn Jerusalem, y dwthwn hwnnw a thrannoeth.

13 A Dafydd a'i galwodd ef, i fwytta, ac i yfed ger ei fron ef, ac a'i meddwodd ef: ac yn yr hwyr efe a aeth i orwedd ar ei wely, gyd â gweision ei arglwydd, ac nid aeth i wared iw dŷ ei hun.

14 A'r boreu yr yscrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a'i anfonodd yn llaw Vrias.

15 Ac efe a scrifennodd yn ei lythyr, gan ddywedyd, gosodwch Vrias ar gyfer wyneb y rhyfel-wŷr glewaf, a dychwelwch oddi ar ei ol ef, fel y tarawer ef, ac y byddo marw.

16 A phan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, efe a osodes Vrias yn y lle y gwyddei efe fod gwŷr nerthol ynddo.

17 A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymladdasant â Joab; a syrthiodd rhai o'r bobl o weision Dafydd, ac Vrias yr Hethiad a fu farw hefyd.

18 Yna Joab a anfonodd, ac a fynegodd i Ddafydd holl hanes y rhyfel.

19 Ac a orchymynnodd i'r gennad, gan ddywedyd, pan orphennech lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin;

20 Os cyfyd llidiawgrwydd y brenin, ac os dywed wrthit, pa ham y nessasoch at y ddinas i ymladd? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer?

21 Pwy a darawoddBa [...] ▪ 9.53. Abimelech fab Je­rubbeseth? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mûr, fel y bu efe farw yn Thebez? pa ham y nessasoch at y mûr? yna y dywedi, dy wâs Vrias yr Hethiad a fu farw hefyd.

22 Felly y gennad a aeth, ac a ddaeth, ac a fynegodd i Ddafydd, yr hyn oll yr anfonasei Joab es o'i blegit.

23 A'r gennad a ddywedodd wrth Ddafydd, yn ddiau y gwŷr oeddynt drech nâ ni, ac a ddaethant attom ni i'r maes, a ninneu a aethom arnynt hwy hyd ddrŵs y porth.

24 A'r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mûr, a rhai o weision y brenin a fu­ant feirw, a'th wâs Vrias yr Hethiad a fu farw hefyd.

25 Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad, fel hyn y dywedi di wrth Joab, na fydded hyn ddrwg yn dy olwg di, canysHe [...]. fel hyn [...] fel hyn. y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf: cadarnhâ dy ryfel yn er­byn y ddinas, a destrywiwch hi, a chyssura ditheu ef.

26 A phan glybu gwraig Vrias farw Vrias ei gŵr, hi a alarodd am ei phriod.

27 A phan aeth y galar heibio, Dafydd a [Page] anfonodd, ac a'i cyrchodd hi iw dŷ, i fod iddo yn wraig, a hi a ymddug iddo fab: a drwg yngolwg yr Arglwydd oedd y peth a wnaethei Dafydd.

PEN. XII.

1 Dammeg Nathan am yr oenig, yn peri i Ddafydd fôd yn farnwr arno ei hun. 7 Dafydd wedi i Nathan ei geryddu, yn cyfaddef ei bechod ac yn cael maddeuant, 15 yn galaru ac yn gwe­ddio tros y plentyn tra oedd fyw. 24 Geni Salomon a'i henwi Jedidiah. 26 Dafydd yn ennill Rabbah, ac yn arteithio ei phobl hi.

A'R Arglwydd a anfonodd Nathan at Dda­fydd: ac efe a ddaeth atto ef, ac a ddywe­dodd wrtho, dau ŵr oedd yn yr vn ddinas, y naill yn gyfoethog, a'r llall yn dlawd.

2 Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawn o ddefaid, a gwartheg.

3 A chan y tlawd nid oedd dim onid vn oenie sechan yr hon a brynasei efe, ac a fagasei, a hi a gynnyddasse gyd ag ef, a chyd â'i blant: o'i dammeid ef y bwyttaei hi, ac o'i gwppan ef yr ŷfei hi, ac yn ei fonwes ef y gorweddei hi, ac yr oedd hi iddo megis merch.

4 Ac ymdeithudd a ddaeth at y gŵr cyfoe­thog, ond efe a arbedodd gymmeryd o'i ddefaid ei hun, ac o'i wartheg ei hun, i arlwyo i'r ym­deithudd a ddaethei atto, ond efe a gymmerth oenic y gŵr tlawd, ac a'i paratôdd i'r gŵr a ddaethei atto.

5 A digofaint Dafydd a ennynnodd yn ddir­fawr wrth y gŵr; ac efe a ddywedodd wrth Nathan, fel mai byw yr Arglwydd, euog o farwolaeth yw yr gŵr a wnaeth hyn.

6 A'r oenic a dâl efe adref [...]xod. 1. yn bedwar dyb­lig, o herwydd iddo wneuthur y peth hyn, ac nad arbedodd.

7 A dywedodd Nathan wrth Ddafydd, ti yw yr gŵr: fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel,Sam. [...]. [...]3▪ myfi a'th eneiniais di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a'th waredais di o law Saul.

8 Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd, a gwragedd dy arglwydd yn dy fonwes, ac mi a roddais i ti dŷ Israel a Juda, a phe rhy fychan frasei hynny, myfi a roddaswn i ti fwy o lawer.

9 Pa ham y dirmygaist air yr Arglwydd i wneuthur drwg yn ei olwg ef? Vrias yr He­thiad a darewaist di â'r cleddyf, a'i wraig ef a gymmeraist i ti yn wraig, a thi a'i lleddaist ef â chleddyf meibion Ammon.

10 Yn awr gan hynny nid ymêdy 'r cleddyf â'th dŷ di byth, o herwydd i ti fy nirmygu i, a chymmeryd gwraig Vrias yr Hethiad, i fod yn wraig i ti.

11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele myfi a gyfodaf i'th erbyn ddrwg o'th dŷ dy hun, ac [...]e [...]t. [...] [...].16. [...] mi a ddygaf dy wragedd di yngŵydd dy lygaid, ac a'i rhoddaf hwynt i'th gymydog, ac efe a orwedd gyd â'th wragedd di, yng­olwg yr haul hwn.

12 Er i ti wneuthur mewn dirgelwch; etto myfi a wnaf y peth hyn ger bron holl Israel, a cher bron yr haul.

13 A dywedodd Dafydd wrth Nathan, [...]lus. 11. pech­ais yn erbyn yr Arglwydd. A Nathan a ddywe­dodd wrth Ddafydd, yr Arglwydd hefyd a dyn­nodd ymmaith dy bechod ti, ni byddi di marw.

14 Etto, o herwydd i ti beri i elynion yr Arglwydd gablu trwy yr peth hyn, y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau.

15 A Nathan a aeth iw dŷ: a'r Arglwydd a darawodd y plentyn a blantasei gwraig Vrias i Ddafydd, ac efe aeth yn glaf iawn.

16 Dafydd am hynny a ymbiliodd â Duw dros y bachgen, a Dafydd a ymprydiodd ym­pryd, ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaiar, ar hyd y nôs.

17 A henuriaid ei dŷ ef a gyfodasant atto ef, i beri iddo godi oddi ar y ddaiar: ond ni fynnei efe, ac ni fwyttac fara gyd â hwynt.

18 Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plen­tyn. A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen: canys dywedasent, wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho, ond ni wrandawei ar ein llais, pa fodd gan hynnyHeb. y gwna niweid. yr ymofidia, os dywedwn wrtho farw y plentyn?

19 Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd, deallodd Dafydd farw y plentyn: a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision, a fu farw y plentyn? a hwy a ddywedasant, efe a fu farw.

20 Yna Dafydd a gyfododd oddiar y ddaiar, ac a ymolchodd, ac a ymeneiniodd, ac a newi­diodd ei ddillad, ac a ddaeth i dŷ 'r Arglwydd, ac a addolodd: wedi hynny y daeth efe iw dŷ ei hun, ac a ofynnodd, a hwy a roddasant iddo fara, ac efe a fwyttâodd.

21 Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef, pa beth yw hyn a wnaethost di? dros y plentyn byw 'r ymprydiaist, ac yr wylaist, ond pan fu y plentyn farw, ti a gyfodiaist, ac a fwyteaist fara.

22 Ac efe a ddywedodd tra yr ydoedd y plentyn yn fyw 'r ymprydiais, ac yr wylais: canys mi a ddywedais, pwy a ŵyr a drugarhâ yr Arglwydd wrthif, fel y byddo byw y plen­tyn?

23 Ond yn awr efe fu farw, i ba beth yr ym­prydiwn? a allafi ei ddwyn ef yn ei ôl mwy­ach, myfi a âf atto ef, ond ni ddychwel efe attafi.

24 A Dafydd a gyssurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth i mewn atti hi, ac a orweddodd gyd â hi: a hi a ymddug fab, ac1 Cron. 22.9. Mat. 1.6. efe a al­wodd ei enw ef Salomon, a'r Arglwydd a'i carodd ef.

25 Ac efe a anfonodd drwy law Nathan y prophwyd, ac efe a alwodd ei enw efAnwyl. gan yr Arglwydd Jedidi­ah1 Cron. 22.10. o blegit yr Arglwydd.

26 A Joab a ymladdodd yn erbyn Rabbah meibion Ammon, ac a enillodd y frenhinawl ddinas.

27 A Joab a anfonodd gennadau at Ddafydd, ac a ddywedodd, rhyfelais yn erbyn Rabbah, ac a ennillais ddinas y dyfroedd.

28 Yn awr gan hynny cascl weddill y bobl, a gwerssylla yn erbyn y ddinas, ac ennill hi: rhac i mi ennill y ddinas, a galw fy henw i arni hi.

29 A Dafydd a gasclodd yr holl bobl, ac a aeth i Rabbah, ac a ymladdodd yn e [...] [...]erbyn, ac a'i hennillodd hi.

30 Ac1 Cron. 20.2. efe a gymmerodd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben (a'i phwys hi oedd da­lent o aur, gŷd a'r main gwerthfawr,) a hi a osodwyd ar ben Dafydd, ac efe a ddûg ymmaith o'r ddinas anrhaith fawr iawn.

31 Ac efe a ddûg ymmaith y bobl oedd yn­ddi, ac a'i gosododd tan lifiau, a than ogau heirn, a than fwyill heirn, ac a'i bwriodd hwynt i'r odynau calch; ac felly y gwnaeth i holl ddi­nasoedd meibion Ammon. A dychwelodd Da­fydd a'r holl bobl i Jerusalem.

PEN. XIII.

1 Amnon yn caru Tamar, a thrwy gyngor Jo­nadab yn cymmeryd arno fôd yn glaf, ac yn ei [Page] threisio hi: 15 ac yno yn ei chasau hi, ac yn ei throi ymmaith yn gwilyddus. 19 Absalom yn ei derbyn hi, ac yn celu ei amcan, 23 ac wrth gneifio ei ddefaid, yn lladd Amnon. 30 Dafydd yn pruddhau wrth glywed hynny, a Jonadab yn ei gyssuro ef. 37 Absalom yn ffo at Talmai i Gesur.

AC yn ôl hyn yr oedd gan Absalom fab Da­fydd chwaer dêg, a'i henw Tamar: ac Amnon mab Dafydd a'i carodd hi.

2 Ac yr oedd mor flin ar Amnon, fel y cla­fychodd efe o herwydd Tamar ei chwaer; ca­nys gwyryf oedd hi; acHeb. rhyfedd­ol, neu, guddiedig yngolwg Amnon oedd wne. anhawdd y gwelei Amnon wneuthur dim iddi hi.

3 Ond gan Amnon yr oedd cyfaill, a'renw Jonadab mab Simeah frawd Dafydd: a Jona­danb oedd ŵr call iawn.

4 Ac efe a ddywedodd wrtho ef, ti fab y brenin, pa ham yr ydwyt ynHeb. deneu. curio fel hynHeb. o foreu beunydd? oni fynegi di i mi? Ac Amnon a ddywedodd wrtho ef, caru yr ydwyfi Tamar chwaer Absalom fy mrawd.foreu.

5 A Jonadab a ddywedodd wrtho ef, gor­wedd ar dy wely, a chymmer arnat fod yn glaf, a phan ddelo dy dâd i'th edrych, dywed wrtho ef, deued attolwg Tamar fy chwaer i roddi bwyd i mi, ac i arlwyo 'r bwyd yn fy ngolwg, fel y gwelwyf, ac a bwyttawyf o'i llaw hi.

6 Felly Amnon a orweddodd, ac a gymmerth arno fod yn glâf: a'r brenin a ddaeth iw ed­rych ef, ac Amnon a ddywedodd wrth y bre­nin, deued attolwg Tamar fy chwaer i grassu dwy deisen yn fy ngolwg i, fel y bwytawyf o'i llaw hi.

7 Yna Dafydd a anfonodd adref at Tamar, gan ddywedyd, dôs yn awr i dŷ Amnon dy frawd, a pharatoa fwyd iddo.

8 Felly Tamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd, (ac efe oedd yn gorwedd) a hi a gymmerth beillied,Neu, does. ac a'i telînodd, ac a wnaeth deisen­nau yn ei ŵydd ef, ac a grasodd y teisennau.

9 A hi a gymmerth badell, ac a'i tywalltodd hwynt ger ei fron ef, ond efe a wrthododd fwyt­ta: ac Amnon a ddywedodd, gyrrwch allan bawb oddi wrthifi, a phawb a aethant allan oddi wrtho ef.

10 Yna Amnon a ddywedodd wrth Ta­mar, dŵg y bwyd i'r stafell, fel y bŵytawyf o'th law di. A Thamar a gymmerth y teisen­nau a wnaethei hi, ac a'i dûg at Amnon ei brawd i'r ystafell.

11 A phan ddûg hi hwynt atto ef i fwytta, efe a ymaflodd ynddi hi, ac a ddywedodd wrthi hi, tyret, gorwedd gyd â mi, fy chwaer.

12 A hi a ddywedodd wrtho, paid fy mrawd, naHeb. ddaro­stwng. threisia fi; canysLevit. 18.9. ni wneir fel hyn yn Israel: na wna di yr ynfydrwydd hyn.

13 A minnau, i ba le y bwriaf ymmaith fyngwarth? a thi a fyddi fel vn o'r ynfydion yn Israel: yn awr gan hynny, ymddiddan atto­lwg â'r brenin, canys ni ommedd efe fi i ti.

14 Ond ni fynne efe wrando ar ei llais hi: eithr efe a fu drêch nâ hi, ac a'i treisiodd, ac a orweddodd gyd â hi.

15 Yna Amnon a'i casâodd hi â châs mawr iawn: canys mwy oedd y câs â'r hwn y casasai efe hi, nâ'r cariad â'r hwn y carasai efe hi: ac Amnon a ddywedodd wrthi hi, cyfod, dôs ymmaith.

16 A hi a ddywedodd wrtho ef, nid oes achos: y drygioni hwn sef fy ngyrru ymmaith, sydd fwy nâ'r llall a wn thost â mi: ond ni wrandawai efe arni hi.

17 Eithr efe [...] [...]lwodd ar ei langc, ei weni­dog, ac a ddywedodd, gyrrwch hon yn awr allan oddi wrthifi: a chlôa y drŵs ar ei hôl hi.

18 Ac am dani hi yr oedd mantell symmud­liw: canys â'r cyfryw fentyll y dilledid merch­ed y brenin, y rhai oedd forŵynion: yna ei wenidog ef a'i dûg hi allan, ac a glôdd y drws ar ei hôl hi.

19 A Thamar a gymmerodd ludw ar ei phen, ac a rwygodd y fantell symmud-liw oedd am dani, ac a osododd ei llaw ar ei phen, ac a aeth ymmaith dan weiddi.

20 Ac Absalom ei brawd a ddywedodd wrthi hi, ai Amnon dy frawd a fu gyd â thi? er hynny yn awr taw a sôn fy chwaer, dy frawd ti yw efe, na osod dy galon ar y peth hyn. Felly Tamar a drigodd yn ymddifad yn nhŷ Absalom ei brawd.

21 Ond pan glybu y brenin Dafydd yr holl bethau hynny, efe a ddigiodd yn aruthr.

22 Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon, na drwg, na dâ: canys Absalom a gasaodd Amnon, o herwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef.

23 Ac ar ôl dwy flynedd o ddyddiau, yr oedd gan Absalom rai yn cneifio yn Baal Ha­zor, yr hwn fydd wrth Ephraim: ac Absalom a wahoddodd holl feibion y brenin.

24 Ac Absalom a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, wele yn awr rai yn cneifio i'th wâs di, deued attolwg y brenin a'i weision gyd â'th wâs.

25 A dywedodd y brenin wrth Absalom, nagê fy mâb, ni ddeuwn ni i gyd yn awr, rhag i ni ormesu arnat ti. Ac efe a fu daer arno; ond ni fynne efe fyned, eithr efe a'i bendithi­odd ef.

26 Yna y dywedodd Absalom, oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyd â ni? a'r bren­hin a ddywedodd wrtho ef, i ba beth yr â efe gyd a thi?

27 Etto Absalom a fu daer arno, fel y goll­yngodd efe Amnon gyd ag ef, a holl feibion y brenin.

28 Ac Absalom a orchymynnodd iw langci­au, gan ddywedyd, edrychwch attolwg pan fyddo llawen calon Amnon gan wîn, a phan ddywedwyf wrthych, tarewch Amnon, yna lleddwch ef, nac ofnwch:N [...] oni w [...] ­wch [...], yn [...] i chw [...]. oni orchymynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion.

29 A llangciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchymynnasei Absalom: a holl feibion y brenin a gyfodasant, a phôb vn a farchogodd ar ei fûl, ac a ffoesant.

30 A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd, y daeth y chwedl at Ddafydd, gan ddywedyd, Ab­salom a laddodd holl feibion y brenin, ac ni adawyd yn o hynynt.

31 Yna y brenin a gyfododd, ac a rwygodd ei ddillad, ac a orweddodd ar y ddaiar: a'i holl weision oedd yn sefyll ger llaw, a'i gwis­coedd yn rhwygedic.

32 A Jonadab mab Simeah frawd Dafydd, a attebodd ac a ddywedodd, na thybied fy Ar­glwydd iddynt hwy ladd yr holl langciau, sef meibion y brenin; canys Amnon yn vnic a fu farw: canys yr oeddN [...] hyn [...] ei [...] (n [...] trwy [...] ­n [...]) [...] ­sa [...]m ym mryd Absalom hynny, er y dydd y treisiodd efe Tamar ei chwaer ef.

33 Ac yn awr na osoded fy arglwydd frenin y peth at ei galon, gan dybied farw holl feibion y brenin: canys Amnon yn vnic a fu farw.

34 Ond Absalom a ffôdd; a'r llangc yrhwn oedd yn gwilio a dderchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele bobl lawer yn dyfod rhyd y ffordd o'i ôl ef, ar hŷd ystlys y mynydd.

35 A Jonadab a ddywedodd wrth y brenin, wele feibion y brenin yn dyfod;Heb. yn ol gair. fel y dywe­dodd dy wâs, felly y mae.

36 A phan orphennasei efe ymddiddan, wele, meibion y brenin a ddaethant, ac a dder­chafasant eu llef, ac a ŵylasant; a'r brenin he­fyd, a'i holl weision a ŵylasant ag ŵylofain mawr iawn.

37 Ac Absalom a ffoawdd, ac a aeth atPen. 2 3. Talmai fabNeu, A [...]mi­h [...]r. Ammihud brenin Gesur: a Da­fydd a alarodd am ei fab bob dydd.

38 Ond Absalom a ffoawdd, ac a aeth i Ge­sur, ac yno y bu efe dair blynedd.

39 Ac enaid Dafydd y brenin aNeu, ddarfu. hiraethodd am fyned at Absalom: canys efe a gyssurasid am Amnon, gan ei farw efe.

PEN. XIV.

1 Joab yn gosod gwraig weddw o Tecoah trwy ddammeg i droi calon y brenin i gyrchu ei fab adref, ac yn ei ddwyn ef i Jerusalem. 25 Te­gwch, gwallt, a phlant Absalom. 28 Joab ym­mhen dwy flynedd yn dwyn Absalom i wydd y brenin.

YNa Joab mab Serfiah a wybu fod calon y brenin tu ag at Absalom.

2 A Joab a anfonodd i Tecoah, ac a gyrch­odd oddi yno wraig ddoeth, ac a ddywedodd wrthi, cymmer arnat attolwg alaru, a gwisc yn awr alar-wisc, ac nac ymira ag olew, eithr bydd fel gwraig yn galaru er ys llawer o ddy­ddiau, am y marw.

3 A thyred at y brenin, a llefara wrtho yn ôl yr ymadrodd hyn: a Joab a osododd yr ymadroddion yn ei genau hi.

4 A'r wraig o Tecoah pan ddywedodd wrth y brenin, a syrthiodd i lawr ar ei hwyneb, ac a ymgrymmodd, ac a ddywedodd,Heb. gwared. cynnorth­wya ô frenin.

5 A dywedodd y brenin wrthi hi, beth a ddarfu i ti? a hi a ddywedodd, yn wîr gwraig weddw ydwyfi, a'm gwr a fu farw.

6 Ac i'th lawforwyn yr oedd dau fab, a hwynt ill dau a ymrysonasant yn y maes, ond nid oedd Heb. gwared­wr. athrywyn-wr rhyngddynt hwy; ond y naill a darawodd y llall, ac a'i lladdodd ef.

7 Ac wele yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn, a hwy a ddywedasant, dyro yr hwn a darawodd ei frawd, fel y lla­ddom ni ef am enioes ei frawd a laddodd efe, ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffo­ddent fy marworyn, yr hwn a adawyd, heb adel i'm gŵr, nac enw nac eppil, ar wyneb y ddaiar.

8 A'r brenin a ddywedodd wrth y wraig, dôs i'th dŷ; a mi a roddaf orchymmyn o'th blegit di.

9 A'r wraig o Tecoah a ddywedodd wrth y brenin, bydded y camwedd hwn arnafi, fy ar­glwydd frenin, ac ar dŷ fy nhâd i: a'r brenin a'i orsedd-faingc ef yn ddieuog.

10 A'r brenin a ddywedodd, dwg attafi yr hwn a yngêno wrthit, ac ni chaiff mwyach gyffwrdd â thi.

11 Yna hi a ddywedodd, cofied attolwg y brenin dy Arglwydd Dduw, rhac amlhau dial­wŷr y gwaed i ddestrywio, a rhac difetha o honynt hwy fy mab i: ac efe a ddywedodd, fel mai byw yr Arglwydd, ni syrth vn o wallt pen dy fab di i lawr.

12 Yna y dywedodd y wraig, attolwg, gâd i'th law-sorwyn ddywedyd gair wrth fy ar­glwydd frenin: yntef a ddywedodd, dywed.

13 A'r wraig a ddywedodd, pa ham gan hynny y meddyliaist fel hyn yn erbyn pobl Dduw? canys y mae yr brenin yn llefaru y gair hwn megis vn beius, gan na ddûg y brenin adref ei herwr.

14 Canys gan farw yr ydym ni yn marw, ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaiar, y rhai ni chesclir: gan na ddug Duw ei enioes, efe a feddyliodd foddion, fel na yrrer ymmaith ei herwr oddi wrtho.

15 Ac yn awr mi a ddaethum i ymddiddan â'm harglwydd frenin am y peth hyn, o blegit i'r bobl fy nychrynu i: am hynny y dywedodd dy law-forwyn, ymddiddanaf yn awr â'r bre­nin; ond odid efe a wna y brenin ddymuniad ei law-forwyn.

16 Canys y brenin a wrendy, fel y gwaredo efe ei law-forwyn o law y gŵr a fynnei fy ni­fetha i, a'm mab hefyd, o etifeddiaeth Dduw.

17 A'th law-forwyn a ddywedodd, bydded attolwg gair fy arglwydd freninHeb. yn or­phwysfa. yn gyssur: canys fel angel Duw yw fy arglwydd frenin, i wrando y da a'r drwg: a'r Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi.

18 Yna 'r attebodd y brenin, ac y dywe­dodd wrth y wraig, na chêla attolwg oddi wrthifi y peth yr ydwyf yn ei ofyn i ti. A dy­wedodd y wraig, llefared yn awr fy arglwydd frenin.

19 A'r brenin a ddywedodd, a ydyw llaw Joab gyd â thi yn hyn oll? a'r wraig a atte­bodd, ac a ddywedodd, fel mai byw dy enaid ti, fy arglwydd frenin, nid gwiw troi ar y llaw ddehau, nac ar y llaw asswy oddi wrth yr hyn oll a ddywedodd fy arglwydd frenin, canys dy wâs Joab a orchymynnodd i mi, ac a osododd yr holl eiriau hyn yngenau dy law-forwyn.

20 Ar fedr troi y chwedl y gŵnaeth dy wâs Joab y peth hyn: ond fy arglwydd sydd ddoeth fel doethineb angel Duw, i ŵybod yr hyn oll sydd ar y ddaiar.

21 A'r brenin a ddywedodd wrth Joab, wele yn awr, gwneuthum y peth hyn: dôs, a dwg y llangc Absalom yn ei ôl.

22 A Joab a syrthiodd i lawrar ei wyneb, ac a ymgrymmodd, ac a fendithiodd y brenin: a Joab a ddywedodd, heddyw y gwybu dy wâs di gael o honof ffafor yn dy olwg di (fy arglwydd frenin) am i'r brenin gyflawni dy­muniadNeu, dy. ei wâs.

23 A Joab a gyfododd, ac a aeth i Gesur, ac a ddug Absalom i Jerusalem.

24 A'r brenin a ddywedodd, troed iw dŷ ei hun, ac nac edryched yn fy wyneb i: felly Absalom a drôdd iw dŷ ei hun, ac ni welodd wyneb y brenin.

25Heb. Ac fel Absalom nid oedd wr glan yn holl Israel, i'w gan­mol yn fawr. Ac nid oedd ŵr mor glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl Israel: o wadn ei droed hyd ei goryn, nid oedd wrthuni ynddo ef.

26 A phan gneifiei efe ei ben, (canys vn waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt; o herwydd ei fod yn drwm arno, am hynny efe a'i torrai ef) efe a bwysei wallt ei ben yn ddau can sicl, wrth bwys y brenin.

27 A thri mab a anwyd i Absalom, ac vn ferch, a'i henw hi oedd Tamar: yr oedd hi yn wraig dêg yr olwg.

28 Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerusalem, ac ni welodd wyneb y brenin.

29 Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab, iw anfon ef at y brenin, ond ni ddeuei efe atto ef: ac efe a anfonodd etto 'r ail waith, ond ni ddeuei efe ddim.

30 Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision, gwelwch randir Joab ger fy llaw i, a haidd sydd ganddo ef yno; ewch a lloscwch hi â thân: a gweision Absalom a loscasant y rhan­dîr â thân.

31 Yna Joab a gyfododd, ac a ddaeth at Ab­salom iw dŷ, ac a ddywedodd wrtho, pa ham y lloscodd dy weision di fy rhan-dîr i â thân?

32 Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab, wele mi a anfonais attat ti, gan ddywedyd, tyred ymma fel i'th anfonwyf at y brenin, i ddywedyd, i ba beth y daethum i o Gesur? gwell fuasei i mi fy mod yno etto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin, ac od oes gamwedd ynof, lladded fi.

33 Yna Joab a ddaeth at y brenin, ac a fy­negodd iddo ef, ac efe a alwodd am Absalom, yntef a ddaeth at y brenin, ac a ymgrymmodd iddo, i lawr ar ei wyneb, ger bron y brenin: a'r brenin a gusanodd Absalom.

PEN. XV.

1 Absalom trwy ei fwyneidd-dra yn lledratta ca­lonnau Israel, 7 ac yn rhîth talu adduned, yn cael cennad i fyned i Hebron. 10 Ac yn gwneuthur cydfwriad mawr yno. 13 Dafydd wrth glywed hynny yn ffoi o Jerusalem. 19 It­tai heb ymadel ag ef. 24 Danfon Zadoc ac Abiathar yn eu bôl a'r Arch. 30 Dafydd a'i gyfeillion yn myned i fynydd yr Olewydd tan wylo, 31 yn melltigo cyngor Ahitophel, 32 ac yn anfon Husai yn ei ôl.

AC wedi hyn y paratôdd Absalom iddo ei hun gerbydau, a meirch, a deng-wr a deu­gain i redeg o'i flaen.

2 Ac Absalom a gyfodei yn foreu, ac a safei ger llaw ffordd y porth: ac Absalom a alwei atto bob gŵr yr oedd iddo fatter i ddyfod at y brenin am farn, ac a ddywedei, o ba ddinas yr ydwyt ti? yntef a ddywedei, o vn o lwythau Israel y mae dy wâs.

3 Ac Absalom a ddywedei wrtho ef, wele y mae dy fatterion yn dda, ac yn vnion; ond nid oes neb tan y brenin a wrandawo arnat ti.

4 Dywedei Absalom hefyd, oh na'm gosodid i yn farn-wr yn y wlâd, fel y dele attafi bob gŵr a fyddei ganddo hawl neu gynghaws, myfi a wnawn gyfiawnder iddo.

5 A phan nessâei neb i ymgrymmu iddo ef, efe a estynne ei law, ac a ymaflei ynddo ef, ac a'i cussanei.

6 Ac fel hyn y gwnai Absalom i holl Israel y rhai a ddeuent am farn at y brenin: felly Ab­salom a ledrattodd galon holl wŷr Israel.

7 Ac ym mhen deugain mhlynedd y dywe­dodd Absalom wrth y brenin, gâd i mi fyned attolwg, a thalu sy adduned a addunedais i'r Arglwydd yn Hebron.

8 Canys dy wâs a addunedodd adduned, pan oeddwn i yn aros o fewn Gesur yn Syria, gan ddywedyd, os gan ddychwelyd y dychwel yr Arglwydd fi i Jerusalem, yna y gwasanaethaf yr Arglwydd.

9 A'r brenin a ddywedodd wrtho ef, dos mewn heddwch: felly efe a gyfododd, ac a aeth i Hebron.

10 Eithr Absalom a anfonodd yspiwyr drwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, pan glyw­och lais yr vdcorn; yna dywedwch, Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron.

11 A dau cant o wŷr a aethant gyd ag Ab­salom o Jerusalem ar wahodd, ac yr oeddynt yn myned yn eu gwiriondeb, ac heb wybod dim oll.

12 Ac Absalom a anfonodd am Ahitophel y Giloniad, cynghor-ŵr Dafydd, o'i ddinas, o Gilo, tra oedd efe yn offrymmu aberthau: a'r cydfradwriaeth oedd grŷf, a'r bobl oedd yn amlhau gyd ag Absalom yn wastadol.

13 A daeth cennad at Ddafydd, gan ddywe­dyd, y mae calon gwŷr Israel ar ôl Absalom.

14 A dywedodd Dafydd wrth ei holl weision, y rhai oedd gyd ag ef yn Jerusalem, cyfodwch, a ffown; canys ni ddiangwn ni gan Absalom: bryssiwch i fyned, rhac iddo ef fryssio a'n dala ni, aGwthio. dwyn drwg arnom ni, a tharo y ddinas â mîn y cleddyf.

15 A gweision y brenin a ddywedasant wrth y brenin, wele dy weision yn barod, ar ôl yr hyn oll a ddewiso fy arglwydd frenin.

16 A'r brenin a aeth, a'i holl dŷlwythWrth ei draed. ar ei ôl: a'r brenin a adawodd ddeg o ordderch­wragedd i gadw 'r tŷ.

17 A'r brenin a aeth ymaith a'r holl bobl ar ei ôl; a hwy a arhosasant mewn lle o hirbell.

18 A'i holl weision ef oedd yn cerdded ger ei law ef, yr holl Gerethiaid, a'r holl Pelethiaid, a'r holl Gethiaid, y chwe chan-wr a ddaethei ar ei ôl ef o Gath, oedd yn cerdded o flaen y bre­nin.

19 Yna y dywedodd y brenin wrth Ittai y Gethiad, pa ham yr ei di hefyd gyd â ni? dych­wel, a thrig gyd â'r brenin; canys alltud ydwyt ti, a dieithr hefyd allan o'th frô dy hun.

20 Doe y daethost ti, a fudwn i di heddyw i fyned gyd â ni? myfi a âf; dychwel di a dŵg dy frodyr gyd â thi: trugaredd, a gwirionedd fyddo gyd â thi.

21 Ac Ittai a attebodd y brenin, ac a ddy­wedodd, fel mai byw 'r Arglwydd, ac mai byw fy arglwydd frenin, yn ddiau yn y lle y byddo fy arglwydd frenin ynddo, pa vn bynnac ai mewn angeu, ai mewn enioes, yno y bydd dy wâs hefyd.

22 A Dafydd a ddywedodd wrth Ittai, dôs, a cherdda trosodd. Ac Ittai y Gethiad a aeth trosodd a'i holl wŷr, a'r holl blant oedd gydag ef.

23 A'r holl wlâd oedd yn wylofain â llef vchel; a'r holl bobl a aethant trosodd: a'r brenin aeth tros afonIoan. 18.1. Cidron, a'r holl bobl aeth trosodd tua ffordd yr anialwch.

24 Ac wele Zadoc, a'r holl Lefiaid oedd gyd ag ef, yn dwyn Arch cyfammod Duw, a hwy a osodafant i lawr Arch Dduw; ac Abiathar a aeth i fynu, nes darfod i'r holl bobl ddyfod allan o'r ddinas.

25 A dywedodd y brenin wrth Zadoc, dychwel ag Arch Dduw i'r ddinas: os cafi ffafor yngolwg yr Arglwydd, efe a'm dwg i eilwaith, ac a bâr i mi ei gweled hi, a'i babell.

26 Ond os fel hyn y dywed efe, nid wyf fodlon it; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg.

27 A'r brenin a ddywedodd wrth Zadoc yr offeiriad, onid1 Sam. 9.9. gweledudd ydwyt ti? dych­wel i'r ddinas mewn heddwch, a'th ddau fab gyd â thi, sef Ahimaaz dy fâb, a Jonathan mab Abiathar.

28 Gwelwch, mi a drigaf yngwastadedd yr anialwch, nes dyfod gair oddi wrthych iw fynegi i mi.

29 Felly Zadoc, ac Abi [...]thar a ddygasant yn [Page] ei hôl Arch Dduw i Jerusalem, ac a arhosasant yno.

30 A Dafydd a aeth i fynu i fryn yr oliwŷdd, ac yr oedd yn myned i fynu, ac yn ŵylo, a'i ben wedi ei orchguddio, ac yr oedd efe yn myned yn droed noeth; a'r holl bobl, y rhai oedd gyd ag ef, a orchguddiasant bawb ei ben, ac a aethant â fynu, gan fyned ac ŵylo.

31 A mynegwyd i Ddafydd, gan ddywedyd, y mae Ahitophel ym mysc y cydfwriad-wyr, gyd ag Absalom: a Dafydd a ddywedodd, ô Arglwydd, tro attolwg gyngor Ahitophel yn ffolineb.

32 A phan ddaeth Dafydd i ben y bryn yr addolodd efe Dduw ynddo, wele Husai yr Ar­ciad yn ei gyfarfod ef, wedi rhwygo ei bais, a phridd ar ei ben.

33 A Dafydd a ddywedodd wrtho, od ai trosodd gyd â mi, ti a fyddi yn faich arnaf.

34 Ond os dychweli i'r ddinas, a dywedyd wrth Absalom, dy wâs di ô frenin fyddafi, gwas dy dâd fum hyd yn hyn, ac yn awr dy wâs ditheu fyddaf: ac felly y diddymmi i mi gyn­gor Ahitophel.

35 Oni bydd gyd â thi yno Zadoc, ac Abia­thar yr offeiriaid? am hynny pob gair a gly­wech o dŷ 'r brenin, mynega i Zadoc, ac i Abi­athar yr offeiriaid.

36 Wele y mae yno gyd â hwynt eu dau fab, Ahimaaz mab Zadoc, a Jonathan mab Abia­thar; danfonwch gan hynny gyd â hwynt at­ [...]afi, bob peth a'r a glywoch.

37 Felly Husai cyfeill Dafydd a ddaeth i'r ddinas, ac Absalom a ddaeth i Jerusalem.

PEN. XVI.

1 Ziba trwy anrhegion a chelwyddau, yn cael etifeddiaeth ei feistr. 5 Simei yn melltithio Dafydd yn Bahurim. 9 Dafydd trwy amynedd yn ei gadw ei hun ac eraill rhag dial. 16 Husai yn ymlusco i mewn i gyfrinach Absalom. 20 Cyngor Ahitophel.

AC wedi myned o Ddafydd ychydig trosben y bryn, wele Ziba gwas Mephiboseth yn ei gyfarfod ef, a chwpl o assynnod wedi eu cy­frwyo, ac arnynt hwy 'r oedd dau can torth ô fara, a chan swp o resynnau, a chant o ffrwy­thydd hâf, a chostreleid o wîn.

2 A dywedodd y brenin wrth Ziba, beth yw y rhai hyn sydd gennit? A Ziba a ddywedodd, assynnod i dŷlwyth y brenin i farchogaeth, a bara, a ffrwythydd hâf i'r llangciau iw bwytta, a gwîn i'r lluddedig iw yfed yn yr anialwch, ydynt hwy.

3 A'r brenin a ddywedodd, a pha le y mae mab dy feistr? a Ziba a ddywedodd wrth y brenin, wele y mae efe yn aros yn Je­rusalem; canys efe a ddywedodd, tŷ Israel a roddant drachefn i mi heddyw frenhiniaeth fy nhâd.

4 Yna y dywedodd y brenin wrth Ziba, wele, eiddo ti 'r hyn oll oedd eiddo Mephibo­seth. A Ziba a ddywedodd, yr ydwyf ynHe [...]. Ymgrym­ [...] i. attolwg gael o honof ffafor yn dy olwg di, fy arglwydd frenin.

5 A phan ddaeth y brenin Dafydd hyd Ba­hurim, wele vn o dylwyth tŷ Saul yn dyfod allan oddi yno, a'i enw ef oedd Simei mab Gera: efe a ddaeth allan dan gerdded a melldigo.

6 Ac efe a daflodd Ddafydd â cherric, a holl weision y brenin Dafydd: ac yr oedd yr holl bobl, a'r holl gedyrn, ar ei law ddehau, ac ar ei law asswy ef.

7 Ac fel hyn y dywedei Simei wrth felldi­thio, tyret allan, tyret allan, ŵr gwaedlyd, a gŵr i'r fall.

8 Yr Arglwydd a drôdd arnat ti holl waed tŷ Saul, yr hwn y teyrnesaist yn ei le, a'r Ar­glwydd a roddodd y frenhiniaeth yn llaw Ab­salom dy fab: ac wele di wedi dy ddal yn dy ddrygioni, canys gŵr gwaedlyd wyt ti.

9 Yna y dywedodd Abisai mab Serfiah wrth y brenhin, pa ham y melldithia y ci1 Sam. 24.15. Pen. 9.8. marw hwn fy arglwydd frenin? gâd i mi fyned tro­sodd attolwg, a thorri ei ben ef.

10 A'r brenin a ddywedodd, beth sydd i mi a wnelwyf â chwi meibion Serfiah? felly mell­dithied, o herwydd yr Arglwydd a ddywe­dodd wrtho, melldithia Ddafydd. Am hynny pwy a ddywed, pa ham y gwnai fel hyn?

11 A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, ac wrth ei holl weision, wele fy mab yr hwn a ddaeth allan o'm ymyscaroedd i, yn ceisio fy enioes; ac yn awr pa feint mwy y cais y Benja­miniad hwn? gedwch iddo, a melldithied; canys yr Arglwydd a archodd iddo.

12 Fe a allai yr edrych yr Arglwydd arNeu, fy nagraui Heb. lly­gad. fy nghystudd i, ac y dyry yr Arglwydd i mi ddai­oni am ei felldith ef y dydd hwn.

13 Ac fel yr oedd Dafydd a'i wŷr yn my­ned rhyd y ffordd, Simei yntau oedd yn my­ned ar hŷd ystlys y mynydd, ar ei gyfer ef; ac fel yr oedd efe yn myned, efe a felldithiei, ac a daflai gerric, ac aHeb. a'i llych­winodd ef a llwch. fwriai lŵch iw erbyn ef.

14 A daeth y brenin, a'r holl bobl oedd gyd ag ef, yn lluddedig, ac a orphywysodd yno.

15 Ac Absalom a'r holl bobl, gwŷr Israel, a ddaethant i Jerusalem, ac Ahitophel gyd ag ef.

16 A phan ddaeth Husai 'r Arciad, cyfeill Dafydd, at Absalom, Husai a ddywedodd wrth Absalom, byw fo'r brenin, byw fyddo 'r bre­nin.

17 Ac Absalom a ddywedodd wrth Husai, ai dymma dy garedigrwydd di i'th gyfeill? pa ham nad aethost ti gyd â'th gyfeill?

18 A Husai a ddywedodd wrth Absalom, Nagê, eithr yr hwn a ddewiso 'r Arglwydd, a'r bobl ymma, a holl wŷr Israel, eiddo ef fyddafi, a chyd ag ef yr arhosaf fi.

19 A phwy hefyd a wasanaethaf? onid ger bron ei fab ef? megys y gwasanaethais ger bron dy dâd ti, felly y byddaf ger dy fron ditheu.

20 Yna y dywedodd Absalom wrth Ahito­phel, moeswch eich cyngor beth a wnawn ni.

21 Ac Ahitophel a ddywedodd wrth Absa­lom, dôs i mewn at ordderch-wragedd dy dâd, y rhai a adawodd efe i gadw y tŷ; pan glywo holl Israel dy fod yn ffiaidd gan dy dad, yna y cryfheir llaw y rhai oll sydd gyd â thi.

22 Felly y tanasant i Absalom babell ar nen y tŷ:Pen. 12.11. ac Absalom a aeth i mewn at ordderch­wragedd ei dâd yngŵydd holl Israel.

23 A chyngor Ahitophel, yr hwn a gyngho­rai efe yn y dyddiau hynny, oedd fel ped ymo­fynnei vn â gair Duw; felly 'r oedd holl gyngor Ahitophel, gyd â Dafydd a chyd ag Absalom.

PEN. XVII.

1 Cyngor Husai, trwy ewyllys Duw yn difwyno cyngor Ahitophel. 15 Danfon dirgel gydnaby­ddiaeth i Ddafydd. 23 Ahitophel yn ymgrogi. 25 Gwneuthur Amaza yn gapten. 27 Dafydd yn cael ymborth ym Mahanaim.

DYwedodd Ahitophel hefyd wrth Absalom, gâd i mi yn awr ddewis deuddeng-mil o wŷr, ac mi a gyfodaf, ac a erlidiaf ar ôl Dafydd y nos hon.

2 A mi a ddeuaf arno, tra fyddo efe yn llu­ddedic, ac vn wan ei ddwylaw, ac a'i brawy­chaf ef; a ffy 'r holl bobl sydd gydag ef; ac mi a darawaf y brenin yn vnic.

3 A throaf yr holl bobl attat ti: megis pe dychwele pob vn, yw y gwr yr ydwyt ti 'n ei geisio: felly yr holl bobl fydd mewn he­ddwch.

4 A da fu 'r peth yngolwg Absalom, ac yngolwg holl henuriaid Israel.

5 Yna y dywedodd Absalom, galw yn awr hefyd ar Husai yr Arciad; a gwrandawn bethHeb. sy 'n ei enau yn­tau. a ddywedo yntef hefyd.

6 A phan ddaeth Husai at Absalom, llefarodd Absalom wrtho ef, gan ddywedyd, fel hyn y dywedodd Ahitophel; a wnawn niHeb. yn ol ei air ef. ei gyngor ef? onid ê, dywed ti.

7 A dywedodd Husai wrth Absalom, nid da y cyngor a gynghorodd Ahitophel y waith hon.

8 Canys, eb Husai, ti a wyddost am dy dâd a'i wŷr, mai cryfion ydynt hwy, aHeb. chwerw eu benaid. chreulon eu meddwl, megis arth wedi colli ei chenawon yn y maes: dy dad hefyd sydd ryfel-wr, ac nid erys efe tros nos gyd â'r bobl.

9 Wele yn awr y mae efe yn llechu, mewn rhyw ogof, neu mewn rhyw le: a phan syr­thio rhai o honynt yn y dechreu, yna y bobl a glyw, ac a ddywed, bu laddfa ym mysc y bobl sydd ar ôl Absalom.

10 Yna 'r vn grymmus, yr hwn y mae ei galon fel calon llew, a lwfrhâ: canys gŵyr holl Israel mai glew yw dy dâd ti, ac mai gwŷr grymmus yw y rhai sydd gyd ag ef.

11 Am hynny y cynghoraf lwyr gasclu at­tat ti holl Israel, o Dan hyd Beerseba, fel y ty­wod wrth y môr o amldra, a myned o'th wy­neb di dy hun i'r rhyfel.

12 Felly y deuwn arno ef i vn o'r lleoedd yr hwn y ceffir ef ynddo, ac a ruthrwn arno ef, fel y syrth y gwlith ar y ddaiar: ac ni adewir dim o honaw ef, nac vn ychwaith o'r gwŷr sydd gyd ag ef.

13 Ond os i ddinas yr ymgascl ef, yna holl Israel a ddygant raffau at y ddinas honno; ac ni a'i tynnwn hi i'r afon, fel na cheffir yno vn garregan.

14 A dywedodd Absalom, a holl wŷr Israel, gwell yw cyngor Husai yr Arciad, nâ chyngor Ahitophel: canys yr Arglwydd aHeb. orchym­ynnasci. ordeiniasei ddiddymmu cyngor da Ahito­phel, fel y dygei yr Arglwydd ddrŵg ar Ab­salom.

15 Yna y dywedodd Husai wrth Zadoc, ac wrth Abiathar yr offeiriaid, fel hyn ac fel hyn y cynghorodd Ahitophel i Absalom, ac i he­nuriaid Israel; ac fel hyn ac fel hyn y cyngho­rais inneu.

16 Yn awr gan hynny anfonwch yn fuan a mynegwch i Ddafydd, gan ddywedyd, nac aros tros nôs yngwastadedd yr anialwch, onid gan fyned dos, rhac difa y brenin, a'r holl bobl sydd gyd ag ef.

17 Jonathan hefyd, ac Ahimaaz oedd yn sefyll wrth En-Rogel, ac fe aeth llangces ac a fynegodd iddynt, hwythau a aethant ac a fy­negasant i'r brenin Dafydd: canys ni allent hwy ymddangosify ned i'r ddinas.

18 Etto llangc a'i gwelodd hwynt, ac a fyne­godd i Absalom; ond hwy a aethant ymaith ill dau yn fuan, ac a ddaethant i dŷ gŵr yn Ba­hurim, ac iddo ef yr oedd pydew yn ei gyntedd, a hwy a aethant i wared yno.

19 A'r wraig a gymmerth, ac a ledoddG [...]. glawr ar wyneb y pydew, ac a dânodd arno falurion ŷd, fel na ŵybuwyd y peth.

20 A phan ddaeth gweision Absalom at y wraig i'r tŷ, hwy a ddywedasant, pa le y mae Ahimaaz a Jonathan? a'r wraig a ddywedodd wrthynt, hwy a aethant tros yr aber ddwfr: a phan geisiasant, ac nas cawsant hwynt, yna y dychwelasant i Jerusalem.

21 Ac ar ôl iddynt hwy fyned ymmaith, yna y lleill a ddaethant i fvnu o'r pydew, ac a aethant, ac a fynegasant i'r brenin Dafydd, ac a ddyweda­sant wrth Ddafydd, cyfodwch, ac ewch yn fu­an tros y dwfr; canys fel hyn y cynghorodd Ahitophel yn eich erbyn chwi.

22 Yna y cododd Dafydd, a'r holl bobl, y rhai oedd gyd ag ef, ac a aethant tros yr Iorddo­nen; erbyn goleuo 'r boreu, nid oedd vn yn eisieu, a'r nad aethai tros yr Iorddonen.

23 A phan welodd Ahitophel na wneuthid ei gyngor ef, efe a gyfrwyodd ei assyn, ac a gy­fododd, ac a aeth iw dŷ ei hun, iw ddinas, ac a wnaeth drefn ar ei dŷ, ac a ymgrogodd, ac a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dâd.

24 Yna Dafydd a ddaeth i Mahanaim: ac Absalom a aeth tros yr Iorddonen, efe a holl wŷr Israel gyd ag ef.

25 Ac Absalom a osododd Amasa yn lle Jo­ab ar y llu: ac Amasa oedd fâb i ŵr a'i enw Ithra, yr hwn oedd Israeliad, yr hwn a aeth i mewn at Abigail ferch Nahas, chwaer Serfiah, mam Joab.

26 Felly y gwerssyllodd Israel ac Absalom yngwlad Gilead.

27 A phan ddaeth Dafydd i Mahanaim, So­bi mab Nahas o Rabbath meibion Ammon, a Machir mab Ammiel o Lodebar, a Barzilai y Gileadiad o Rogelim,

28 A ddygasant welâu, aNeu, phiolau. chawgiau, a lle­stri prîdd, a gwenith, a haidd, a blawd, a chra­syd, a ffâ, a ffacbys, a chrasbys,

29 A mêl, ac ymenyn, a defaid, a chaws gwarthec, i Ddafydd, ac i'r bobl oedd gyd ag ef, iw bwytta: canys dywedasant, y mae 'r bobl yn newynoc, yn flîn hefyd, ac yn syche­dic yn yr anialwch.

PEN. XVIII.

1 Dafydd yn edrych ar y lluoedd yn myned allan, ac yn rhoddi gorchymmyn ynghylch Ab­salom. 6 Laddfa fawr ar yr Israeliaid yng­hoed Ephraim. 9 Absalom ynghrog wrth ei wallt mewn derwen, a Joab yn ei ladd ef, ac yn ei fwrw mewn pydew. 18 Lle Absalom. 19 Ahimaaz a Chusi yn dwyn newyddinn i Ddafydd. 33 Dafydd yn galaru am Absalom.

A Dafydd a gyfrifodd y bobl oedd gyd ag ef; ac a osododd arnynt hwy filwriaid, a chan­wriaid.

2 A Dafydd a anfonodd o'r bobl, y drydedd ran tan law Joab, a'r drydedd ran tan law Abi­fai fab Serfiah brawd Joab, ar drydedd ran tan law Ittai y Gethiad: a'r brenin a ddywedodd wrth y bobl, gan fyned yr âf finneu hefyd gyd â chwi.

3 Ond y bobl a attebodd, nid ei di allan; canys os gan ffoi y ffown ni, ni osodant hwy eu meddwl arnom ni, ac os bydd marw ein han­ner ni, ni osodant eu Heb. calon. meddwl arnom; ond yn awr yr ydwyti fel deng-mîl o honom ni: yn awr gan hynny gwell yw i ti fod i'n cynnor­thwyo ni o'r ddinas.

4 A dywedodd y brenin wrthynt hwy, gwnaf yr hyn fyddo da yn eich golwg chwi. A'r brenin a safodd ger llaw 'r porth, a'r holl bobl a aethant allan, yn gantoedd, ac yn filoedd.

5 A'r brenin a orchymynnodd i Joab, ac Abisai, ac lttai, gan ddywedyd, byddwch esm­wyth er fy mwyn i wrth y llangc Absalom: a'r holl bobl a glywsant pan orchymynnoid y brenin i'r holl flaenoriaid yn achos Absalom.

6 Felly 'r aeth y bobl i'r maes i gyfarfod Is­rael; a'r rhyfel fu ynghoed Ephraim.

7 Ac yno y lladdwyd pobl Israel o flaen gweision Dafydd: ac yno y bu lladdfa fawr y dwthwn hwnnw, sef vgain mîl.

8 Canys y rhyfel oedd yno wedi gwascaru ar hŷd wyneb yr holl wlâd; a'r coed aHeb. amlhaodd [...]difetha. ddi­fethodd fwy o'r bobl, nag a ddifethodd y cle­ddyf, y diwrnod hwnnw.

9 Ac Absalom a gyfarfu â gweision Dafydd yn eu hwyneb: ac Absalom oedd yn marcho­gaeth ar fûl, a'r mûl aeth tan dewfrig derwen fawr, a'i ben ef a lynodd yn y dderwen; felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a'r ddaiar, a'r mûl oedd tano ef a aeth ymmaith.

10 A rhyw vn a ganfu hynny, ac a fynegodd i Joab, ac a ddywedodd, wele, gwelais Absa­lom ynghrog mewn derwen.

11 A dywedodd Joab wrth y gŵr oedd yn mynegi iddo, ac wele, ti a'i gwelaist ef, pa ham na's tarewaist ef yno i'r llawr, ac arnafi roddi i ti ddeg sicl o arian, ac vn gwregys?

12 A dywedodd y gŵr wrth Joab, pe cawn bwyso ar fy llaw fil o siclau arian, nid estynnwn fy llaw yn erbyn mâb y brenin; canys gor­chymynnodd y brenin lle y clywsom ni, wr­thit ti, ac wrth Abisai, ac wrth Ittai, gan ddy­wedyd,Heb. gwiliwch pwy [...]yn­ [...]g foch rhag y llangc Abs. gwiliwch gyffwrdd o neb â'r llangc Absalom.

13 Os amgen, mi a wnaethwn ffalster yn erbyn fy enioes; canys nid oes dim yn guddi­edic oddi wrth y brenin: tithe hefyd a safasit yn fy erbyn.

14 Yna y dywedodd Joab, nid arhoaf fel hynHeb. o'th flaen di. gydâ thi: ac efe a gymmerth dair o biccellau yn ei law, ac a'i brathodd trwy galon Absalom, ac efe etto yn fywHeb. y [...]ghalon. ynghanol y dderwen.

15 A'r deg llangc y rhai oedd yn dwyn ar­fau Joab, a amgylchynasant, ac a darawsant Ab­salom, ac a'i lladdasant ef.

16 A Joab a vdcanodd mewn vdcorn, a'r bobl a ddychwelodd o erlid ar ôl Israel: canys Joab a attaliodd y bobl.

17 A hwy a gymmerasant Absalom, ac a'i bwriasant ef mewn ffôs fawr yn y coed, ac a osodasant arno garnedd gerric fawr iawn: a holl Israel a ffoesant bob vn iw babell.

18 Ac Absalom a gymmerasei, ac a osodasei iddo yn ei fywyd golofn,Gen. 14.17. yn nyffryn y bre­nin; canys efe a ddywedodd, nid oes fab gennif i wneuthur coffa am fy enw: ac efe a alwodd y golofn ar ei enw ei hun, a hi a elwir lle Ab­salom, hyd y dydd hwn.

19 Yna Ahimaaz mab Zadoc a ddywedodd, gâd i mi redeg yn awr, a mynegi i'r brenin ddar­fod i'r Arglwydd eiHe [...]. f [...]nu ef o law. ddial ef ar ei elynion.

20 A Joab a ddywedodd wrtho ef, ni byddi di yn gennadwr y dydd hwn, eithr mynegi ddiwrnod arall: ond heddyw ni byddi di gen­nad, o herwydd marw mab y brenin.

21 Yna y dywedodd Joab wrth Chusi, dôs, dywed i'r brenin yr hyn a welaist. A Chusi a ymgrymmodd i Joab, ac a redodd.

22 Yna Ahimaaz mab Zadoc a ddywedodd eilwaith wrth Joab,Heb. bydded a fyddo. beth bynnac a fyddo, gâd i minneu attolwg redeg ar ôl Chusi: A dywe­dodd Joab, i ba beth y rhedi di, fy mab, gan nad oes gennit gennadwriaeth addas?

23 Ond beth bynnac a fyddo, eb efe gâd i mi redeg; a dywedodd yntef wrtho, rhêd. Felly Ahimaaz a redodd rhyd y gwastadedd, ac a aeth heibio i Chusi.

24 A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth: a'r gwiliedudd aeth ar nen y porth ar y mûr, ac a dderchafodd ei lygaid, ac a edry­chodd, ac wele ŵr yn rhedeg ei hunan.

25 A'r gwiliedudd a waeddodd, ac a fynegodd i'r brenin; a'r brenin a ddywedodd, os ei hun y mae efe, cennadwriaeth sydd yn ei enau ef: ac efe a ddaeth yn fuan, ac a nesaodd.

26 A'r gwiliedudd a ganfu ŵr arall yn rhe­deg; a'r gwiliedudd a alwodd ar y porthor, ac a ddywedodd, wele ŵr arall yn rhedeg ei hunan: a dywedodd y brenin, hwn hefyd sydd gennad.

27 A'r gwiliedudd a ddywedodd, yr ydwyf fi yn gweled rhediad y blaenaf, fel rhediad Ahi­maaz mab Zadoc. A dywedodd y brenin, gŵr da yw hwnnw, ac â chennadwriaeth dda y daw efe.

28 Ac Ahimaaz a alwodd, ac a ddywedodd wrth y brenin, heddwch, ac a ymgrymmodd i lawr ar ei wyneb ger bron y brenin, ac a ddywe­dodd, bendigedic fyddo 'r Arglwydd dy Dduw, 'r hwn a warchaeodd ar y gwŷr a gyfodasant eu llaw yn erbyn fy Arglwydd frenin.

29 A'r brenin a ddywedodd,Heb oes hedd­wch i'r llangc. ai diangol y llangc Absalom? A dywedodd Ahimaaz, gwe­lais gythryfwl mawr, pan anfonodd Joab wâs y brenin, a'th wâs ditheu, ond ni wybûm i beth ydoedd.

30 A'r brenin a ddywedodd, trô heibio, saf ymma: ac efe a drôdd heibio ac a safodd.

31 Ac wele Chusi a ddaeth, a dywedodd Chusi, Cennadwri, Arglwydd frenhin: canys yr Arglwydd a'th ddialodd di heddyw ar bawb ar a ymgyfododd i'th erbyn.

32 A dywedodd y brenin wrth Chusi, a ddi­angodd y llangc Absalom? a dywedodd Chusi, fel y llangc hwnnw y byddo gelynion fy Argl­wydd frenin, a'r holl rai a ymgyfodant i'th er­byn di, er niweid i ti.

33 A'r brenin a gyffrôdd, ac a aeth i fynu i stafell y porth, ac a ŵylodd; ac fel hyn y dywedodd efe wrth fyned, ô fv mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom: ô na buaswn farw tro­sot ti, Absalom fy mab, fy mab.

PEN. XIX.

1 Joab yn peri i'r brenhin beidio a galaru. 9 Yr Israeliaid yn daer am ddwyn y brenhin adref. 11 Dafydd yn anfon at yr offeiriaid i gynhyr­fu gwŷr Juda. 18 Simei yn cael ei bardwn, 24 a Mephiboseth ei escusodi. 32 Barzilai yn cael cennad i fyned adref, a chymmeryd Chimham ei fab ef i dŷ 'r brenhin. 41 Yr Israeliaid yn ymsennu a gwŷr Juda am ddwyn y brenhin adref hebddynt hwy.

A Mynegwyd i Joab, wele y brenin yn ŵylo, ac yn galaru am Absalom.

2 A'rHeb. ymwared. fuddugoliaeth a aeth y dwthwn hwn­nw yn alar i'r holl bobl: canys clywodd y bobl y diwrnod hwnnw ddywedyd, dristau o'r bre­nin am ei fab.

3 A'r bobl a aethant yn lledradaidd y di­wrnod hwnnw i mewn i'r ddinas, fel pobl a fy­ddei yn myned yn lledradaidd, wedi eu cy­wilyddio wrth ffoi o ryfel.

4 Ond y brenin a orchguddiodd ei wyneb; a'r brenin a waeddodd a llêf vchel, ô fy mab Absalom, Absalom fy mab, fy mab.

5 A Joab a ddaeth i mewn i'r tŷ at y bre­nin, ac a ddywedodd, gwradwyddaist heddyw wynebau dy holl weision, y rhai a amddeffyn­nasant dy enioes di heddyw, ac enioes dy feibi­on, a'th ferched, ac enioes dy wragedd, ac enioes dy ordderch-wragedd:

6 Gan garu dy gaseion, a chasau dy garedi­gion: canys dangosaist heddyw nad oedd ddim gennit dy dywysogion, na'th weision; o her­wydd mi a wn heddyw pe Absalom fuasei byw, a ninneu i gyd yn feirw heddyw, mai da fuasei hynny yn dy olwg di.

7 Cyfod yn awr gan hynny, cerdda allan, a dywedHeb. wrth fodd ca­lon. yn dêg wrth dy weision: canys yr wyf fi yn tyngu i'r Arglwydd, os ti nid ei allan, nad erys neb gyd â thi y nôs hon, a gwaeth fydd hyn i ti, nâ'r holl ddrwg a ddaeth i'th erbyn di, o'th febyd hyd yr awr hon.

8 Yna y brenin a gyfododd, ac a eisteddodd yn y porth: a mynegwyd i'r holl bobl, gan ddy­wedyd, wele y brenin yn eistedd yn y porth; a'r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin, ca­nys Israel a ffoesei bob vn iw babell.

9 Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson drwy holl lwythau Israel gan ddywedyd, y brenin a'n gwaredodd ni o law ein gelynion, ac efe a'n gwaredodd ni o law y Philistiaid, ac yn awr efe a ffodd o'r wlâd rhac Absalom.

10 Ac Absalom yr hwn a eneiniasom ni ar­nom, a fu farw mewn rhyfel: ac yn awr pa ham yr ydych heb sôn am gyrchu yr brenin trachefn?

11 A'r brenin Dafydd a anfonodd at Zadoc, ac at Abiathar yr offeiriaid, gan ddywedyd, lle­ferwch wrth henuriaid Juda, gan ddywedyd, pa ham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ei ôl iw dŷ? (canys gair holl Israel a ddaeth at y brenin hyd ei dŷ.)

12 Fy mrodyr ydych chwi; fy ascwrn a'm cnawd ydych chwi: pa ham gan hynny 'r ydych yn olaf i ddwyn y brenin adref?

13 Dywedwch hefyd wrth Amasa; onid fy ascwrn i, a'm cnawd wyt ti? fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid tywysog y llu fyddi di ger fy mron i, yn lle Joab byth.

14 Ac efe a drôdd galon holl wŷr Juda, fel calon vn gŵr; a hwy a anfonasant at y brenin, gan ddywedyd, dychwel di a'th holl weision.

15 Felly y brenin a ddychwelodd, ac a dda­eth i'r lorddonen: a Juda a ddaeth i Gilgal i fyned i gyfarfod â'r brenin, i ddwyn y brenin tros yr Iorddonen.

16 A1 Bren. 2.8. Simei mab Gera, mab Jemini, yr hwn oedd o Bahurim, a fryssiodd, ac a ddaeth i wared gyd â gwŷr Juda, i gyfarfod â'r bre­nin Dafydd.

17 A mîl o wŷr o Benjamin oedd gvd ag ef,Pen. 16.1. Ziba hefyd gwâs tŷ Saul, a'i bymtheng mab, a'i vgain gwâs gyd ag ef; a hwy a aethant tros yr lorddonen o flaen y brenin.

18 Ac yscraff aeth trosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin, ac i wneuthur yr hyn fyddei da yn ei olwg ef: a Simei mab Gera a syrthiodd ger bron y brenin, pan ddaeth efe tros yr Iorddonen;

19 Ac a ddywedodd wrth y brenin, na ddan­noded fy arglwydd i mi anwiredd, ac na cho­fia yr hyn aPen. 16.5. wnaeth dy wâs yn anwir, y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Jerusalem; i osod o'r brenin hynny at ei galon.

20 Canys dy wâs sydd yn cydnabod bechu o honofi: ac wele deuthum heddyw yn gyntaf o holl dŷ Joseph, i ddyfod i wared, i gyfar­fod a'm harglwydd frenin.

21 Ac Abisai mab Serfiah a attebodd, ac a ddywedodd, ai o herwydd hyn ni roddir Simei i farwolaeth; am iddo felldithio eneiniog yr Arglwydd?

22 A dywedodd Dafydd, beth sydd i mi a wnelwyf â chwi, meibion Serfiah, fel y byddych i mi yn wrthwyneb-wŷr heddyw? a roddir i farwolaeth heddyw neb yn Israel? canys oni wn i mae heddyw 'r ydwyfi yn frenin ar Israel?

23 A'r brenin a ddywedodd wrth Simei, ni byddi di farw: a'r brenin a dyngodd wrtho ef.

24 Mephiboseth mab Saul hefyd a ddaeth i wared i gyfarfod â'r brenin; ac ni olchasei efe ei draed, ac ni thorrasai ei farf, ac ni olchasei ei ddi­llad, er y dydd yr aethei yr brenin, hyd y dydd y daeth efe drachefn mewn heddwch.

25 A phan ddaeth efe i Jerusalem i gyfar­fod â'r brenin, yna y dywedodd y brenin wr­tho ef, pa ham nad aethost ti gŷd â mi, Me­phiboseth?

26 Ac efe a ddywedodd, fy Arglwydd frenin, fy ngwâs a'm twyllodd i; canys dywedodd dy wâs, cyfrwyaf i mi assyn fel y marchogwyf arni, ac yr elwyf at y brenin, o herwydd cloff yw dŷ wâs:

27Pen. 16.3. Ac efe a enllibiodd dy was wrth fy Arglwydd frenin: ond fy Arglwydd frenin sydd fel angel Duw: am hynny gwna yr hyn fyddo da yn dy olwg.

28 Canys nid oedd holl dŷ fy nhad i onid dynionHeb. marwo­laeth. meirw ger bron fy Arglwydd y brenin; etto tydi a osodaist dy wâs ym mhlith y rhai oedd yn bwytta ar dy fwrdd dy hun: pa gyfi­awnder gan hynny sydd i mi bellach i waeddi mwy ar y brenin?

29 A'r brenin a ddywedodd wrtho, i ba beth yr adroddi dy fatterion ym mhellach? dywedais, ti a Ziba rhennwch y tîr.

30 A Mephiboseth a ddywedodd wrth y bre­nin, îe cymmered efe y cwbl, gan ddyfod fy Arglwydd frenin iw dŷ mewn heddwch.

31 A Barzilai y Gileadiad a ddaeth i wared o Rogelim, ac a aeth tros yr Iorddonen gyd â'r brenin, iw hebrwng ef tros yr Iorddonen.

32 A Barzilai oedd hên iawn, yn fab pedwar vgain mlwydd;Pen. 17.27. efe oedd yn darparu lluniaeth i'r brenin, tra 'r ydoedd efe ym Mahanaim; ca­nys gŵr mawr iawn oedd efe.

33 A'r brenin a ddywedodd wrth Barzilai, tyred trosodd gyd â mi, a mi a'th borthaf di gyd â mi yn Jerusalem.

34 A Barzilai a ddywedodd wrth y brenin, pa feint yw dyddiau blynyddoedd fy enioes i, fel yr elwn i fynu gyd â'r brenin i Jerusalem?

35 Mab pedwar vgain mlwydd ydwyfi heddyw: a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy wâs di archwaethu yr hyn a fwytâf, neu 'r hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion, a cherddoresau? pa ham gan hynny y bydd dy wâs mwyach yn faich ar fy arglwydd frenin?

36 Dy wâs â ychydig tu hwnt i'r Iorddonen gyd â'r brenin: a pha ham y tâlai y brenin i mi gyfryw daledigaeth?

37 Gâd attolwg i'th wâs ddychwelyd yn fy ôl, fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun, ac fel i'm cladder ym meddrod fy nhad, a'm mam: ac wele Chimham dy was, efe a â trosodd gyd â'm harglwydd frenin, a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg.

38 A dywedodd y brenin, Chimham a â gyd â mi, ac mi a wnaf iddo ef yr hyn fyddo da yn dy olwg di: a pheth bynnac aHeb. ddewisech gennif. erfyni­ech di arnafi, mi a'i gwnaf erot.

39 A'r holl bobl a aethant tros yr Iorddo­nen; y brenin hefyd a aeth trosodd; a'r brenin a gussanodd Barzilai, ac a'i bendithiodd ef, ac efe a ddychwelodd iw fangre ei hun.

40 Yna y brenin a aeth i Gilgal, a Chimham a aeth gyd ag ef: a holl bobl Juda a hebrynga­sant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd.

41 Ac wele holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, pa ham y lledrataodd ein brodyr ni gwŷr Juda dy di, ac y dygasant y brenin a'i dylwyth tros yr Iorddo­nen, a holl wŷr Dafydd gyd ag ef?

42 Ac attebodd holl wŷr Juda i wŷr Israel, o blegid câr agos yw 'r brenin i ni: pa ham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn? a fwy­tasom ni ddim ar draul y brenin? neu a anrhe­godd efe ni ag anrheg?

43 A gwŷr Israel a attebasant wŷr Juda, ac a ddywedasant, dêc rhan sydd i ni yn y brenin, hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi, pa ham gan hynny y diystyraist fi? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? ac ymadrodd gwŷr Juda oedd gale­dach nag ymadrodd gwŷr Israel.

PEN. XX.

1 Seba o achos yr ymrafael yn codi plaid yn Israel. 3 Dec gordderch-wraig Dafydd mewn tarchar tragwyddol. 4 Gwneuthur Amasc yn bennaeth ar Judah, a Joab yn ei lâdd ef. 14 Joab yn erlid Seba i Abel. 16 Gwraig ddoeth yn achub y ddinas trwy dorri pen Seba. 23 Swyddogion Dafydd.

AC yno y digwyddodd bod gŵr i'r fall, a'i enw Seba mab Bichri, gŵr o Jemini: ac efe a vdcanodd mewn vdcom, ac a ddywedodd, nid oes i ni ddim rhan yn Dafydd, nac etifeddiaeth i ni ym mab Jesse: pawb iw babell, ô Israel.

2 Felly holl wŷr Israel a aethant i fynu oddi ar ôl Dafydd, ar ôl Seba mab Bichri: ond gwŷr Juda a lynasant wrth eu brenin, o'r Iorddonen hyd Jerusalem.

3 A daeth Dafydd iw dŷ ei hun i Jerusalem, â'r brenin a gymmerthPen. 16.22. y dêc gordderch-wraig a adawsei efe i gadw y tŷ, ac a'i rhoddes hwynt mewn cadwraeth, ac a'i porthodd hwynt, ond nid aeth efe i mewn attynt hwy, eithr buant yn rhwym hyd ddydd eu marwolaethHeb. mewn gweddw­dod by­wyd. yn byw mewn gweddwdod.

4 Yna y dywedodd y brenin wrth Amasa,Hebr. Galw a [...]taf. Cynnull i mi wŷr Juda erbyn y trydydd dydd; a bydd ditheu ymma.

5 Felly Amasa a aeth i gynnull Juda; ond efe a drigodd yn hwy nâ'r amser terfynedic a o­sodasei efe iddo.

6 A dywedodd Dafydd wrth Abisai, Seba mab Bichri a'n dryga ni yn waeth nag Absalom: cymmer di weision dy arglwydd, ac erlid ar ei ôl ef, rhac iddo gael y dinasoedd caeroc, ac ymachub o'n golwg ni.

7 A gwŷr Joab, a'rPen. 8.18. Cerethiaid, y Pelethi­aid hefyd, a'r holl gedyrn a aethant ar ei ôl ef: ac a aethant allan o Jerusalem, i erlid ar ôl Seba mab Bichri.

8 Pan oeddynt hwy with y maen mawr sydd yn Gibeon, Amasa a aeth o'i blaen hwynt; a Joab oedd wedi gwregysu ei gochl oedd am dano, ac arni yr oedd gwregys, a chleddyf we­di ei rwymo ar ei lwynau ef yn ei wain, a phan gerddai efe, y cleddyf a syrthiei.

9 A dywedodd Joab wrth Amasa, a wyt ti yn llawen, fy mrawd? a llaw ddehau Joab a ymaflodd ym marf Amasa iw gussanu ef.

10 Ond ni ddaliodd Amasa ar y cleddyf oedd yn llaw Joab; felly efe a'i tarawodd ef ag ef, dan y bummed ais, ac a ollyngodd ei ber­fedd ef i'r llawr, ac nid ail tarawodd ef, ac efe a fu farw: felly Joab, ac Abisa i ei frawd a gan­llynnodd ar ôl Seba mab Bichri.

11 Ac vn o weision Joab oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, ac a ddywedodd, pwy bynnac a ewyllysio yn dda i Joab, a phwy bynnac sydd gyd â Dafydd, eled ar ôl Joab.

12 Ac Amasa oedd yn ymdrybaeddu mewn gwaed ynghanol y briffordd: a phan welodd y gŵr yr holl bobl yn sefyll, efe a symmudodd Amasa oddi ar y briffordd i'r maes, ac a daflodd gadach arno, pan welodd efe bawb ar a oedd yn dyfod atto ef yn sefyll.

13 Pan symmudwyd ef oddi ar y briffordd, yr holl wyr a aethant ar ôl Joab, i erlid ar ôl Seba mab Bichri.

14 Ac efe a dramwyodd drwy holl lwythau Israel i Abel, ac i Beth-maachah, ac i holl le­oedd Berim: a hwy a ymgasclasant ac a aethant ar ei ôl ef.

15 Felly y daethant hwy, ac a warchauasant arno ef yn Abel Beth-maachah, ac a fwriasant glawdd yn erbyn y ddinas yr hon a safodd ar y rhagfur: a'r holl bobl y rhai oedd gyd â Joab, oedd ynHeb. difwyno. curo y mûr iw fwrw i lawr.

16 Yna gwraig ddoeth o'r ddinas a lefodd, clywch, clywch, dywedwch attolwg wrth Joab, nessâ hyd ymma, fel yr ymddiddanwyf â thi.

17 Pan nessaodd efe atti hi, y wraig a ddy­wedodd, ai ti yw Joab? dywedodd yntef ie my­fi: a hi a ddywedodd wrtho ef, gwrando eiriau dy law-forwyn; dywedodd yntef, yr ydwyf yn gwrando.

18 Yna hi a ddywedodd,Deut. 20.11▪ hwy a lefarentHeb. yn y de­chrenad. gynt, gan ddywedyd, Diau yr ymofynnant ag Abel, ac felly y dibennent.

19 Myfi wyf vn o heddychol ffyddloniaid Israel: yr wyti yn ceisio difetha dinas a mam yn Israel; pa hain y difethi di etifeddiaeth yr Arglwydd?

20 A Joab a attebodd, ac a ddywedodd, na atto Duw, na atto Duw i mi, na difetha na di­nistrio.

21 Nid felly y mae 'r peth; eithr gŵr o fy­nydd Ephraim (Seba mab Bichri tan ei enw) a dderchafodd ei law yn erbyn y brenin, yn erbyn Dafydd; rhoddwch ef yn vnic, ac mi a âf ym­maith oddi wrth y ddinas. A dywedodd y wraig wrth Joab, wele ei ben ef a fwrir attat ti dros y mûr.

22 Yna yr wraig o'i doethineb a aeth at yr holl bobl, a hwy a dorrasant ben Seba mab Bi­chri, ac a'i taflasant allan i Joab; ac efe a vdca­nodd mewn vdcorn, a hwy a wascarwyd oddi wrth y ddinas, bôb vn iw pabellau: a Joab a ddychwelodd i Jerusalem at y brenin.

23 YnaPen. 16. Joab oedd ar holl luoedd Israel, a [Page] Benaiah mab Jehoiada ar y Cerethiaid, ac ar y Pelethiaid.

24 Ac Adoram oedd ar y drêth, a Josaphat mab Ahilud yn gofiadur.

25 Sesa hefyd yn scrifennydd, a Zadoc, ac Abiathar yn offeiriaid.

26 Ira hefyd y Jairiad oeddNeu, dywysog. benllywydd ynghylch Dafydd.

PEN. XXI.

1 Y tair blynedd newyn o achos y Gibeoniaid, yn peidio trwy grugi saith o feibion Saul. 10 Ca­redigrwydd Rispah tuac at y marw. 12 Dafydd yn claddu escyrn Saul a Jonathan. 15 Pedair câd yn erbyn y Philistiaid, lle y lladdodd ped­war o gedyrn Dafydd bedwar o gawri.

A Bu newyn yn nyddiau Dafydd dair bly­nedd ôl ynol, a Dafydd aHeb­geisiodd wyneb yr Argl. ymofynnodd ger bron yr Arglwydd: a'r Arglwydd a ddy­wedodd, o herwydd Saul, ac o herwydd ei dŷ gwaedlyd ef y mae hyn, o blegit lladd o honaw ef y Gibeoniaid.

2 Ar brenin a alwodd am y Gibeoniaid, ac a ymddiddanodd â hwynt; (a'r Gibeoniaid hyn­ny nid oeddynt o feibion Israel, onidJos. 9.3.16.17. o weddill yr Amoriaid, a meibion Israel a dyngasei iddynt hwy; etto Saul a geisiodd eu lladd hwynt, o'i serch i feibion Israel, a Juda.)

3 A Dafydd a ddywedodd wrth y Gibeoni­aid, beth a wnaf i chwi? ac â pha beth y gw­naf gymod fel y bendithioch chwi etifeddiaeth yr Arglwydd?

4 A'r Gibeoniaid a ddywedasant wrtho, ni fynnwn ni nac arian nac aur gan Saul, na chan ei dŷ ef, ac ni fynnwn ni ladd neb yn Israel: ac efe a ddywedodd, yr hyn a ddywedoch chwi a wnaf i chwi.

5 A hwy a ddywedasant wrth y brenin, y gŵr a'n difethodd ni, acNeu, a'n tor­rodd ym­maith. a swriadodd i'n her­byn ni, i'n dinistrio ni rhac arhos yn vn o derfynau Israel,

6 Rhodder i ni saith o wŷr o'i feibion ef, fel y crogom ni hwynt i'r Arglwydd yn Gibeah Saul, dewisedic yr Arglwydd. A dywedodd y brenin, myfi a'i rhoddaf.

7 Ond y brenin a arbedodd Mephiboseth fab Jonathan, fab Saul, o herwydd1 Sam. 18.3. & 20.8.42. llŵ yr Argl­wydd yr hwn oedd rhyngddynt hwy, rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul.

8 Ond y brenin a gymmerth ddau fab Ris­pah merch Aiah, y rhai a ymddug hi i Saul, sef Armoni a Mephiboseth, a phum mab1 Sam. 6.23. Neu, Chwaer Michal. Mi­chal merch Saul, y rhai a blantodd hi i Adriel fab Barzilai y Maholathiad.

9 Ac efe a'i rhoddes hwynt yn llaw y Gi­beoniaid, a hwy a'i crogasant hwy yn y mynydd ger bron yr Arglwydd: a'r saith hyn a gyd gwympasant, ac a roddwyd i farwolaeth, yn y dyddiau cyntaf o'r cynhaiaf, yn nechreuad cynhaiaf yr haidd.

10 APen. 3.7. Rispah merch Aiah a gymerth sach­liain, a hi a'i estynnodd ef iddi ar y graig, o ddechreu y cynhaiaf, nes difêru dwfr arnynt hwy o'r nefoedd, ac ni adawodd hi i ehedi­aid y nefoedd orphywys arnynt hwy y dydd, na bwyst-fil y maes liw nôs.

11 A mynegwyd i Ddafydd yr hyn a wnae­thei Rispah merch Aiah, gordderch-wraig Saul,

12 A Dafydd a aeth ac a ddûg escyrn Saul, ac escyrn Jonathan ei fab, oddi wrth berchen­nogion Jabes Gilead, y rhai a'i lledratasent hwy o heol Bethsan, yr hon1 Sam. 31.10. y crogasei y Philistiaid hwynt ynddi, y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa.

13 Ac efe a ddûg i fynu oddi yno escyrn Saul ac escyrn Jonathan ei fab; a hwy a gas­clasant escyrn y rhai a grogasid.

14 A hwy a gladdasant escyrn Saul, a Jona­than ei fab, yngwlad Benjamin, yn Zelah, ym meddrod Cis ei dad; a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchymynnasei yr brenin: a bu Duw fod­lon i'r wlâd ar ôl hyn.

15 A bu eil-waith ryfel rhwng y Philistiaid ag Israel, a Dafydd a aeth i wared a'i weision gyd ag ef, ac a ymladdasant a'r Philistiaid, a deffygiodd Dafydd.

16 Ac Isbibenob, yr hwn oedd o feibionNeu, Rapha. y cawr, (a phwysHeb. Paladr, neu flaen ei wayw­ffon. ei waywffon yn drychan sicl o brês) ac wedi ei wregysu â chleddyf newydd, a feddyliodd ladd Dafydd.

17 Ond Abisai mab Serfiah a'i helpiodd ef, ac a darawodd y Philistiad, ac a'i lladdodd ef: yna gwŷr Dafydd a dyngasant wrtho ef, gan ddy­wedyd, nid ai di allan mwyach gyd â ni i ryfel, rhac it ddiffoddiHeb. canwyll, n [...]u lamp. goleuni Israel.

18 Ac ar ôl hyn fe fu eil-waith ryfel yn1 Cron. 20.4. Gob yn erbyn y Philistiaid: yna Sibbechai yr Husiad a laddodd Saph, yr hwn oedd o feibi­on yNeu, Rapha. cawr.

19 A bu etto ryfel yn Gob yn erbyn y Phili­stiaid, ac Elhanan mab1 Cron. 20.5. Jaare Oregim y Beth­lehemiad a darawodd frawd Goliath y Gethi­ad: a phren ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd.

20 A bu etto ryfel yn Gath, ac yr oedd gŵr corphol, a chwech o fysedd ar bôb llaw iddo, a chwech o fysedd ar bôb troed iddo, pedwar ar hugain o rifedi; efe hefyd oedd fab i'rNeu, Rapha. cawr.

21 Ac efe aNeu, dd [...]fen­wodd. amharchodd Israel, a Jonathan mab1 Sam. 16.9. Simea brawd Dafydd a'i lladdodd ef.

22 Y pedwar hyn a aned i'r cawr yn Gath, ac a gwympasant drwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.

PEN XXII.

1 Psalm o ddiolchgarwch am alluog ymwared Duw, a'i amryw fendithion.

A Dafydd a lefarodd wrth yr Arglwydd ei­riau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul.

2 Ac efe a ddywedodd,Psal. 18.2, &c. Yr Arglwydd yw fy nghraig, a'm hamddeffynfa, a'm gwa­redudd i,

3 Duw fy nghraig, ynddo ef yr ymddirie­daf: fy nharian, a chorn fy iechydwriaeth, fy vchel-dŵr a'm noddfa, fy achubwr; rhac trais i'm hachubaist.

4 Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly i'm cedwir rhac fy ngelynion.

5 CanysNeu, gloes, n [...] donnau. gofidion angau a'm cylchynasant: afonydd yHeb. Belial. fall a'm dychrynasant i.

6Neu, Rheffyn­nau. Doluriau vffern a'm hamgylchynasant: maglau angau a'm rhacflaenasant.

7Psal. 18.6. Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr Ar­glwydd, ac y gwaeddais at fy Nuw: ac efe a glybu fy llef o'i deml, a'm gwaedd a aeth iw glustiau ef.

8 Yna y cynnyrfodd, ac y crynodd y ddaiar, seiliau y nefoedd a gyffroesant, ac a ymsigla­sant, am iddo ef ddigio.

9 Derchafodd mwg o'i ffroenau ef, a thân o'i enau ef a yssodd: glô a enynnasant gan­ddo ef.

10 Efe a ogwyddodd y nefoedd, ac a ddes­cynnodd: a thywyllwch oedd tan ei draed ef.

11 Marchogodd efe hefyd ar y Cerub, ac a chedodd: îe efe a welwyd ar adenydd y gwynt.

12 Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o'i amgylch: sefcascliad y dyfroedd, a thew gym­mylau yr awyr.

13 Gan y discleirdeb ger ei fron ef yr enyn­nodd y marwor tanllyd.

14 Yr Arglwydd a daranodd o'r nefoedd: a'r Goruchaf a roddes ei lef.

15 Ac efe a anfonodd ei saethau, ac a'i gwascarodd hwynt; mêllt, ac a'i drylliodd hwynt.

16 Gwaelodion y môr a ymddangosodd, a seiliau y byd a ddinoethwyd, gan gerydd yr Arglwydd, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef.

17 Efe a anfonodd oddi vchod; cymmer­odd fi, tynnodd fi o ddyfroeddNeu, [...]rion. lawer.

18 Gwaredodd fi rhac fy ngelyn cadarn: a rhac fy nghaseion; am eu bôd yn drêch nâmi.

19 Achubasant fy mlaen yn nydd fyngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi.

20 Efe a'm dûg i ehangder: efe a'm gware­dodd i, am iddo ymhoffi ynof.

21 Yr Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y tal­odd efe i mi.

22 Canys mi a gedwais ffyrdd yr Arglwydd: ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw.

23 O herwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i; ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i.

24 Bum hefyd berffaithHeb. [...]. ger ei fron ef: ac ymgedwais rhac fy anwiredd.

25 A'r Arglwydd a'm gobrwyodd inneu yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef.

26 A'r trugarog y gwnei drugaredd: â'r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.

27 A'r glân y gwnei lendid: ac â'r cyn­dyn yr ymgyndynni.

28 Y bobl gystuddiedig a waredi: ond y mae dy lygaid ar y rhai vchel, iw darostwng.

29 Canys ti yw fy nghanwyll i ô Arglwydd: a'r Arglwydd a lewyrcha fy nhywyllwch.

30 O blegit ynot ti yNeu, [...]raf. rhedaf drwy fyddin: trwy fy Nuw y llammaf dros fûr.

31 Duw sydd berffaith ei ffordd: ymadrodd yr Arglwydd sydd buredic; tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.

32 Canys pwy sydd Dduw heb law yr Ar­glwydd? a phwy sydd graig eithr ein Duw ni?

33 Duw yw fynghadernid a'm nerth: ac a rwyddhaodd fy ffordd i yn berffaith.

34 Efe sydd yn gwnaethyd fy nhraed fel traed ewigod: ac efe sydd yn fyngosod ar fy vchelfaoedd.

35 Efe sydd yn dyscu fy nwylo i ryfel: fel y dryllir bŵa dûr yn fy mreichiau.

36 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iechy­dwriaeth:Neu, [...]th fwy­ [...]der a'm [...]oso­ [...]dd. ac â'th fwynder y lluosogaist fi.

37 Ehengaist fy ngherddediad tanaf: fel na lithrodd fy sodlau.

38 Erlidiais fy ngelynion, a difethais hwynt: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.

39 Difeais hwynt hefyd, a thrywenais hwynt fel na chyfodant: a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i.

40 Canys ti am gwregysaist i â nerth i ry­fel: y rhai a ymgyfodent i'm herbyn a ddaro­styngai [...]t tanaf.

41 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngely­nion; fel y difethwn fy nghaseion.

42 Disgwiliasant, ond nid oedd achubudd: sef am yr Arglwydd, ond nid attebodd hwynt.

43 Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddai­ar: melais hwynt fel tom yr heolydd, a the­nais hwynt.

44 Gwaredaist fi rhac cynhennau fy mhobl; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd; pobl nid adnabûm a'm gwasanaethant.

45 Meibion dieithr a gymmerant arnynt ymddarostwng i mi: pan glywant, gwranda­want arnaf i.

46 Meibion dieithr a ballant: ac a ddych­rynant o'i carchar-dai.

47 Byw fyddo yr Arglwydd, a bendigedic fyddo fynghraig, a derchafer Duw, craig fy ie­chydwriaeth.

48 Duw sydd ynHeb. rhoddi dial rro­sof. fy nial i: ac sydd yn da­rostwng pobloedd tanaf i:

49 Ac sydd yn fy nhywys i o blith fyngely­nion: ti hefyd a'm derchefaist vwch law y rhai a gyfodent i'm herbyn; rhac y gŵr traws i'm hachubaist i.

50 Am hynny y moliannaf di ô Arglwydd, ym mhlithRhuf. 15.9 y cenhedloedd: ac y canaf i'th enw.

51 Efe sydd dŵr iechydwriaeth iw frenin: ac yn gwneuthur trugaredd iw eneiniog, i Dda­fydd, ac iw hâd,Pen. 7.12. yn dragywydd.

PEN. XXIII.

1 Dafydd yn ei eiriau diweddaf yn dangos fôd ei ffydd ef yn addewidion Duw, tu hwnt i bôb deall dynol. 6 Anghyffelyb gyflwr yr annuwiol. 8 Henwau cedyrn Dafydd.

DYmma eiriau diweddaf Dafydd: dywed­odd Dafydd mab Jesse, a dywedodd y gŵr a osodwyd yn vchel, eneiniog Duw Jacob, a pheraidd ganiadudd Israel,

2 Yspryd yr Arglwydd a lefarodd ynofi, a'i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod.

3 Duw Israel a ddywedodd wrthifi, craig Israel a ddywedodd:Neu, bydd. bydded llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn, yn llywodraethu mewn ofn Duw;

4 Ac efe a fydd fel y boreu oleuni, pan gy­fodo haul foregwaith heb gymmylau: fel egin­yn a dŷf o'r ddaiar, gan lewyrchiad yn ôl glaw.

5 Er nad yw fy nhŷ i felly gyd â Duw: etto cyfammod tragywyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollawl, ac yn siccr: ca­nys fy holl iechydwriaeth, a'm holl ddymuni­ad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro.

6 A'r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio: canys mewn llaw nis cymmerir hwynt.

7 Ond y gŵr a gyffyrddo â hwynt aHeb. gyflawnir dde­ffynnir â haiarn, ac â phaladr gwaywffon, ac â thân y lloscir hwynt yn eu lle.

8 Dymma enwau y cedyrn oedd gan Dda­fydd,Joseb­bassabet y Tachmo­niad pen y tri. y Tachmoniad a eisteddai yn y gadeir yn bennaeth y tywysogion, (hwnnw oedd Adino yr Esniad)1 Cron. 11.11. efe a ruthrodd yn erbyn wyth-gant, y rhai a laddodd efe ar vn-waith.

9 Ac ar ei ôl ef yr oedd 1 Cron. 11.12. Eleazar mab Dodo, fab Ahohi, ym mhlith y tri cedyrn gyd â Da­fydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynnullasent yno i ryfel, a phan aeth gŵyr Israel ymaith.

10 Efe a gyfododd, ac a darawodd ar y Phi­listiaid nes deffygio ei law ef, a glynu o'i law [Page] ef wrth y cleddyf; a'r Arglwydd a wnaeth iechydwriaeth mawr y diwrnod hwnnw: a'r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn vnic i an­rheithio.

11 Ac ar ei ôl ef yr oedd 1 Cron. 11.27. Sammah mab Age yr Harariad: a'r Philistiaid a ymgynnulla­santNeu, i ysclyfa­ethu. yn dorf, ac yr oedd yno ran o'r maes yn llawn o ffacbys; a'r bobl a ffoawdd o flaen y Philistiaid.

12 Ond efe a safodd ynghanol y rhandir, ac a'i hachubodd, ac a laddodd y Philistiaid: felly y gwnaeth yr Arglwydd ymwared mawr.

13Neu, a'r tri pennaeth ar. 1 Cron. 11.15. A thri o'r dêg pennaeth ar hugain a ddescynnasant, ac a ddaethant y cynhaiaf at Ddafydd i ogof Adulam: a thorf y Philistiaid oedd yn gwerssyllu yn nyffryn Rephaim.

14 A Dafydd oedd yna mewn amddeffyn­fa; a sefyllfa y Philistiaid ydoedd yna yn Beth­lehem.

15 A blyssiodd Dafydd, a dywedodd, pwy a'm dioda i â dwfr o bydew Bethlehem, yr hwn fydd wrth y porth?

16 A'r tri chedyrn a ruthrasant trwy wer­syll y Philistiaid, ac a dynnasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a'i cymmerasant hefyd, ac a'i dygasant at Dda­fydd: ond ni fynnei efe ei yfed, eithr efe a'i diod-offrymmodd ef i'r Arglwydd;

17 Ac a ddywedodd,1 Cron. 11.19. na atto yr Arg­lwydd i mi wneuthur hyn; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heni­oes yw hwn? am hynny ni fynnei efe ei yfed. Hyn a wnaeth y tri chedyrn hynny.

18 Ac1 Cron. 11.20. Abisai brawd Joab, mab Serfiah, oedd bennaf o'r tri, ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn try-chant,Heb. o ladde­digion. ac a'i lladdodd hwynt: ac iddo ef yr oedd yr enw ym mhlith y tri.

19 Onid anrhydeddusaf oedd efe o'r tri? a bu iddynt yn dywysog: etto ni chyrrhaeddodd efe y tri cyntaf.

20 A Benaiah mab Jehoiada, mab gŵr grymmus o Cabzeel, aml ei weithredoedd, efe a laddodd ddau oHeb. lew Duw o Mo. gedyrn Moab; ac efe a aeth i wared, ac a laddodd lew mewn pydew, yn amser eira.

21 Ac efe a darawodd Aipht-ddyn, gŵr1 Cron. 11.23. golygus o faint; ac yn llaw yr Aiphtiad yr oedd gwaywffon, eithr efe a ddaeth i wared atto ef â ffon, ac a ddug y wayw-ffon o law yr Aiphtiad, ac a'i lladdodd ef, â'i wayw-ffon ei hun.

22 Hyn a wnaeth Benaiah mab Jehoiada: ac iddo yr oedd yr enw ym mhlith y tri cedyrn.

23Neu, Anrhy­deddus oedd ym mysc y 30. Anrhydeddusach oedd nâ'r dêc ar hu­gain, ond ni chyrhaeddodd efe y tri cyntaf: a Dafydd a'i gosododd ef arNeu, ei gyngor. Heb. ei or­chymmyn. ei wŷr o gard.

24Pen. 2.18. Asahel brawd Joab oedd yn o'r dêc ar hugain; Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad,

25 Sammah 'r Harodiad, Elica yr Harodiad,

26 Helez y1 Cron. 11.27. Paltiad, Ira mab Icces y Tecoiad,

27 Abieser yr Anathothiad, Mebunnai yr Hu­sathiad,

28 Zalmon yr Ahohiad, Maharai y Neto­phathiad,

291 Cron. 11.30. Heleb mab Baanah y Netophathiad, Ittai mab Ribai o Gibeah meibion Benjamin,

30 Benaiah y Pirathoniad,1 Cron. 11.27. Hidai oNeu, ddyffryn­no [...]dd. afo­nydd Gaas,

311 Cron. 11.32. Abi-albon yr Arbathiad, Azmafeth1 Cron. 11.32, 33. y Barhumiad,

32 Elihaba y Sa [...]lboniad, o feibion Jasen, Jonath [...]n,

33 Sammah yr Harariad, Ahiam mab Sarar yr Arariad,

34 Eliphelet mab Ahasbai, mab y Maacha­thiad, Eliam mab Ahitophel y Giloniad,

35 Hezrai y Carmeliad, Paarai yr Arbiad,

36 Igal mab Nathan o Zobah, Bani y Gadiad,

37 Selec yr Ammoniad, Naharai y Beero­thiad, yn dwyn arfau Joab mab Serfiah,

38 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,

39 Vrias yr Hethiad; dau ar bymthec ar hugain o gwbl.

PEN. XXIV.

1 Satan yn temptio Dafydd, ac yntau yn gyrru Joab i rifo y bobl. 5 Y capteniaid, ym mhen y naw mîs a'r vgain nhiwrnod, yn dwyn cyfrif o drychan mil ar ddêg o ryfel-wŷr. 10 Dafydd yn cael ei ddewis o dair pla, ac yn dewis tridiau o'r nodau, 15 ac wedi lladd deng mil a thru­gain o'r bobl, yn edifarhau, ac wrth hynny ye achub dinistr Jerusalem. 18 Dafydd trwy gyngor Gad yn prynu llawr dyrnu Arafnah, a'r bla yn peidio, wedi iddo ef aberthu.

A Thrachefn digllonedd yr Arglwydd a en­ynnodd yn erbyn Israel,Sata [...], 1 Cron. 21.1. ac efe a anno­godd Ddafydd yn eu herbyn hwynt, i ddywe­dyd, dos, cyfrif Israel, a Juda.

2 Canys y brenin a ddywedodd wrth Joab tywysog y llû oedd ganddo ef,Neu, cylchyn [...] dos yn awr drwy holl lwythau Israel, o Dan hyd Beerseba, a chyfrif y bobl, fel y gwypwyf rifedi y bobl.

3 A Joab a ddywedodd wrth y brenin, yr Arglwydd dy Dduw a chwanego yr bobl yn gan cymmeint ac y maent, fel y gwelo llygaid fy arglwydd frenin: ond pa ham yr ewyllysia fy arglwydd frenin y peth hyn?

4 A gair y brenin fu drech nâ Joab, ac nâ thywysogion y llû: Joab am hynny a aeth all­an, a thywysogion y llu, o ŵydd y brenin, i gyfrif pobl Israel.

5 A hwy a aethant rros yr Iorddonen, ac a wersyllasant yn Aroer, o'r tu dehau i'r ddinas sydd ynghanolNeu, afon. dyffryn Gad, a thua Jazer.

6 Yna y daethant i Gilead, acNeu, i'r issaf wla [...] newydd gyfane­ddu. i wlad Tachtim Hodsi; daethant hefyd i Dan Iaan, ac o amgylch i Sidon.

7 Daethant hefyd i amddiffynfa Tyrus, ac i holl ddinasoedd yr Hefiaid, a'r Canaaneaid: a hwy a aethant i du dehau Juda i Beer­seba.

8 Felly y cylchynasant yr holl wlâd, ac a ddaethant ym mhen naw mis, ac vgain nhiwr­nod i Jerusalem.

9 A rhoddes Joab nifer cyfrif y bobl at y brenin: ac Israel ydoedd wyth gan mil o wŷr grymmus yn tynnu cleddyf; a gwŷr Juda oedd bump can mîl o wŷr.

10 A chalon Dafydd a'i tarawodd ef, ar ôl iddo gyfrif y bobl: a dywedodd Dafydd wrth yr Arglwydd, pechais yn ddirfawr yn yr hyn a wneuthum; ac yn awr delea, attolwg, ô Ar­glwydd, anwiredd dy wâs, canys ynfyd iawn y gwneuthum.

11 A phan gyfododd Dafydd y boreu, daeth gair yr Arglwydd at Gad y prophwyd, gwele­dudd Dafydd, gan ddywedyd,

12 Dos, a dywed wrth Ddafydd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, yr ydwyfi yn go­sod tri pheth o'th flaen di; dewis it vn o honynt, a gwnaf hynny i ti.

131 Cro [...] 21.11. Felly Gad a ddaeth at Ddafydd, ac a fynegodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, a [Page] fynni ddyfod it saith mlynedd o newyn yn dy wlâd, neu ffoi dri mîs o flaen dy elynion, a hwy yn dy erlid, ai ynteu bod haint yn y wlâd dri diwrnod? yn awr ymgynghora, ac edrych pa beth a attebaf i'r hwn a'm anfon­odd i.

14 A dywedodd Dafydd wrth Gad, y mae yn gyfyng iawn arnafi; bîd i mi syrthio yn awr yn llaw yr Arglwydd (canys aml yw ei drugareddau ef) ac na chwympwyf yn llaw dŷn.

15 Yna y rhoddes yr Arglwydd haint yn Israel, o'r boreu hyd yr amser nodedic: a bu farw o'r bobl, o Dan hyd Beerseba, ddeng mîl a thrugain o wŷr.

16 A phan estynnasei yr angel ei law at Jerusalem iw dinistrio hi,1 Sam. 15.11. edifarhaodd ar yr Arglwydd y drwg hwn, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio yr bobl, digon bell­ach, attal dy law: ac angel yr Arglwydd oedd wrth lawr dyrnu1 Cron. [...]1.15. Arafnah y Jebusiad.

17 A llefarodd Dafydd wrth yr Arglwydd, pan ganfu efe yr angel a darawsei y bobl, a dywedodd, wele myfi a bechais, ac a wneu­thum yn ddrygionus, ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? bydded attolwg dy law arnafi, ac ar dŷ fy nhâd.

18 A Gad a ddaeth at Ddafydd y dwthwn hwnnw, ac a ddywedodd wrtho, dos i fynu, cyfot allor i'r Arglwydd yn llawr dyrnu Araf­nah y Jebusiad.

19 A Dafydd a aeth i fynu yn ôl gair Gad, fel y gorchymynnasei yr Arglwydd.

20 Ac Arafnah a edrychodd, ac a ganfu y brenin a'i weision yn dyfod tu ag atto: ac Arafnah a aeth allan, ac a ostyngodd ei wy­neb i lawr ger bron y brenin.

21 Ac Arafnah a ddywedodd, pa ham y daeth fy arglwydd frenin at ei wâs? A dy­wedodd Dafydd, i brynu gennit ti y llawr dyrnu i adailadu allor i'r Arglwydd, fel yr at­talier y bla oddi wrth y bobl.

22 A dywedodd Arafnah wrth Ddafydd, cymmered, ac offrymmed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg: wele yr ychen yn boeth offrwm, a'r ffustiau, ac offer yr ychen yn lle cynnyd.

23 Hyn oll a roddodd Arafnah, megis bre­nin, i'r brenhin: a dywedodd Arafnah wrth y brenin, yr Arglwydd dy Dduw a fyddo bod­lon i ti.

24 A dywedodd y brenin wrth Arafnah, nagê, eithr gan brynu y prynaf ef mewn prîs gennit, ac nid offrymmaf i'r Arglwydd fy Nuw boeth-offrymmau rhâd. Felly Dafydd a bry­nodd y llawr dyrnu a'r ychen, er dec a deu­gain o siclau arian.

25 Ac yno 'r adailadodd Dafydd allor i'r Arglwydd, ac a offrymmodd boeth-offryni­mau, ac offrymmau hedd: a'r Arglwydd a gymmododd a'r wlâd, a'r blâ a attaliwyd oddi wrth Israel.

¶LLYFR CYNTAF Y BRENHINOEDD, yr hwn a elwir hefyd, Trydydd llyfr y Brenhinoedd.

PEN. I.

1 Abisag yn ymgeleddu Dafydd. 5 Adoniah, anwylyd Dafydd, yn ei wneuthur ei hun yn frenhin. 11 Nathan yn cynghori 15 i Bath­seba ddywedyd i'r brenin, 22 ac yn dywedyd gyd û hi. 28 Dafydd yn adnewyddu ei lw i Bathseba. 32 Zadoc a Nathan, drwy archiad Dafydd, yn enneinio Salomon yn frenhin, a'r bobl yn gorfoleddu. 41 Jonathan yn adrodd hynny, a gwahoddwyr Adoniah yn ffo. 50 A­doniah yn cymmeryd noddfa wrth gyrn yr allor, a than ammod yn cael ei ollwng yn rhydd.

A'R brenin Dafydd oedd hên, ae a aethei mewnHeb. dyddiau. oedran, er iddynt ei anhuddo ef mewn dillad, etto ni chynhesei efe.

2 Am hynny ei weision a ddywedasant wrtho,Heb. ceisiant. ceisier i'm harglwydd frenin lan­gees o forwyn, a safed hi o flaen y brenin, a bydded yn gwneuthur ymgeledd iddo, a gor­wedded yn dy fonwes, fel y gwresogo fy ar­glwydd frenin.

3 A hwy a geisiasant langces dêg drwy holl frô Israel, ac a gawsant Abisag y Sunamites, ac a'i dygasant hi at y brenin.

4 A'r llangces oedd dêg iawn, ac oedd yn ymgeleddu 'r brenin, ac yn ei wasanaethu ef: ond ni bu i'r brenin a wnaeth â hi.

5 Ac Adoniah mab Haggith a ymddercha­fodd, gan ddywedyd, myfi aHeb. dernasaf. fyddaf frenin: ac efe a ddarparodd iddo gerbydau a gwŷr meirch, a2 Sam. 15.1. deng-wr a deugain i redeg o'i flaen.

6 A'i dâd nid anfodlonasei efHeb. [...]. yn ei ddy­ddiau, gan ddywedyd, pa ham y gwnaethost fel hyn? yntef hefyd oedd dêg iawn o brŷd, ac efe a anesid wedi Absalom.

7Heb. Ai eiriau ef oedd gyda Joab. Ac o'i gyfrinach y gwnaeth efe Joab fab Serfiah, ac Abiathar yr offeiriad: a hwy a gyn­northwyasant ar ôl Adoniah.

8 Ond Zadoc yr offeiriad, a Benaiah mab Jehoiada, a Nathan y prophwyd, a Simei, a Rei, a'r gwŷr cedyrn a fuasei gyd â Dafydd, nid oeddynt gyd ag Adoniah.

9 Ac Adoniah a laddodd ddefaid, a gwar­theg, a phascedigion, wrth faen Zoheleth, yr hwn sydd wrthNeu, ffynnon. En Rogel, ac a waho­ddodd ei holl frodyr meibion y brenin, a holl wŷr Juda, gweision y brenin.

10 Ond Nathan y prophwyd, a Benaiah, a'r gwŷr cedyrn, a Salomon ei frawd, ni waho­ddodd efe.

11 Am hynny y dywedodd Nathan wrth Bathseba mam Salomon, gan ddywedyd, oni chlywaisti fod Adoniah mab2 Sam. 3.4. Haggith yn teyrnasu, a'n harglwydd Dafydd heb wybod hynny?

12 Tyred gan hynny yn awr attolwg, rho­ddaf it gyngor, fel yr achubech dy enioes dy hun, ac enioes Salomon dy fab.

13 Dos a cherdda i mewn at y brenin Da­fydd, a dywed wrtho, oni thyngaist di fy ar­glwydd frenin wrth dy wasanaeth-wraig, gan ddywedyd, Salomon dy fab di a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngor­fedd-faingc i? pa ham gan hynny y mae Ado­niah yn teyrnasu?

14 Wele tra fyddech yno etto yn llefaru wrth y brenin, minneu a ddeuaf i mewn ar dy ôl di, ac aHeb. gyflaw­naf. siccrhâf dy eiriau di.

15 A Bathseba a aeth i mewn at y brenin, i'r ystafell, a'r brenin oedd hên iawn, ac Abisag y Sunamites oedd yn gwasanaethu y brenin.

16 A Bathseba a ostyngodd ei phen, ac a ymgrymmodd i'r brenin: a'r brenin a ddywe­dodd, beth a fynni di?

17 Hitheu a ddywedodd wrtho, fy arg­lwydd, ti a dyngaist i'r Arglwydd dy Dduw wrth dy wasanaethyddes, Salomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorsedd-faingc i:

18 Ac yn awr, wele, Adoniah sydd frenin; ac yr awr hon fy arglwydd frenin, nis gwy­ddost di hyn.

19 Ac efe a laddodd wartheg, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer iawn, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, ac Abiathar yr offeiriad, a Joab tywysog y filwriaeth: ond dy wâs Salo­mon ni wahoddodd efe.

20 Titheu fy arglwydd frenin, y mae lly­gaid holl Israel arnat ti, am fynegi iddynt pwy a eistedd ar orsedd-faingc fy arglwydd y bre­nin, ar ei ôl ef.

21 Os amgen, pan orweddo fy arglwydd frenin gyd â'i dadau, yna y cyfrifir fi a'm mab Salomon yn bechaduriaid.

22 Ac wele tra 'r oedd hi etto yn ymddi­ddan â'r brenin, y daeth Nathan y prophwyd hefyd i mewn.

23 A hwy a fynegasant i'r brenin, gan ddy­wedyd, wele Nathan y prophwyd. Ac efe a aeth i mewn o flaen y brenin, ac a ymgrym­modd i'r brenin, a'i wyneb hyd lawr.

24 A dywedodd Nathan, fy Arglwydd fre­nin, a ddywedaist di, Adoniah a deyrnasa ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fyngorsedd-faingc?

25 Canys efe a aeth i wared heddyw, ac a laddodd ŷchen, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, a thywysogion y filwriaeth, ac Abiachar yr offei­riad: ac wele hwynt yn bwytta ac yn yfed o'i flaen ef, ac y maent yn dywedyd, bydded fyw y brenin Adoniah.

26 Ond myfi dy wâs, a Zadoc yr offeiriad, a Benaiah mab Jehoiada, a'th wâs Salomon, ni wahoddodd efe.

27 Ai trwy fy arglwydd frenin y bu y peth hyn, heb ddangos o honot i'th wâs, pwy a eiste­ddei ar orsedd-faingc fy arglwydd y brenin, ar ei ôl ef?

28 A'r brenin Dafydd a attebodd, ac a ddy­wedodd, gelwch Bathseba attafi; a hi a ddaeth o flaen y brenin, ac a safodd ger bron y brenin.

29 A'r brenin a dyngodd, ac a ddywedodd, fel y mae 'r Arglwydd yn fyw, yr hwn a ware­dodd fy enaid i allan o bob cyfyngder:

30 Yn ddiau megis y tyngais wrthit ti, i Ar­glwydd Dduw Israel, gan ddywedyd, Salomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfaingc i, yn fy lle i; felly y gwnaf, y dydd hwn.

31 Yna Bathseba a oftyngodd ei phen, a'i hwyneb i lawr, ac a ymgrymmodd i'r brenin, ac a ddywedodd, bydded fy arglwydd frenin Dafydd fyw byth.

32 A'r brenin Dafydd a ddywedodd, gelwch attafi Zadoc yr offeiriad, a Nathan y prophwyd, a Benaiah fab Jehoiada. A hwy a ddaethant o flaen y brenin.

33 A'r brenin a ddywedodd wrthynt, cym­merwch weision eich arglwydd gyd â chwi, a pherwch i Salomon fy mab farchogeth ar fy mules fy hun, a dygwch ef i wared i Gihon.

34 Ac eneinied Zadoc yr offeiriad, a Na­than y prophwyd ef yno yn frenin ar Israel: ac vdcenwch mewn vdcorn, a dywedwch, by­dded fyw y brenin Salomon.

35 Deuwch chwithau i fynu ar ei ôl ef, a deued efe i fynu, ac eistedded ar fy ngorseddfa i, ac efe a deyrnasa yn fy lle i; canys ef a or­deiniais i fod yn flaenor ar Israel, ac ar Juda.

36 A Benaiah mab Jehoiada a attebodd y brenin, ac a ddywedodd, Amen; yr vn modd y dywedo Arglwydd Dduw fy arglwydd frenin.

37 Megis y bu 'r Arglwydd gyd a'm harg­lwydd y brenin, felly bydded gyd â Salomon, a gwnaed yn fwy ei orsedd-faingc ef, nâ gorsedd-faingc fy arglwydd y brenin Dafydd.

38 Felly Zadoc yr offeiriad a Nathan y prophwyd, a Benaiah mab Jehoiada, a'r Cere­thiaid, a'r Pelethiaid, aethant i wared, ac a wnaethant i Salomon farchogaeth ar fules y brenin Dafydd, ac a aethant ag ef i Gihon.

39 A Zadoc yr offeiriad a gymmerodd gorn o olew allan o'r babell, ac a eneiniodd Salo­mon: a hwy a vdcanasant mewn vdcorn; a'r holl bobl a ddywedasant, bydded fyw brenin Salomon.

40 A'r holl bobl a aethant i fynu ar ei ôl ef, yn canu pibellau, ac yn llawenychu â llawen­ydd mawr, fel y rhwygei 'r ddaiar gan eu sŵn hwynt.

41 A chlybu Adoniah a'i holl wahoddedigi­on, y rhai oedd gyd ag ef, pan ddarfasei iddynt fwytta: Joab hefyd a glywodd lais yr vdcorn, ac a ddywedodd, pa ham y mae twrwf y ddi­nas yn derfyscol?

42 Ac efe etto yn llefaru, wele daeth Jona­than mab Abiathar yr offeiriad, a dywedodd Adoniah, tyret i mewn, canys gŵr grymmus ydwyt ti, a daioni a fynegi di.

43 A Jonathan a attebodd ac a ddywedodd wrth Adoniah, yn ddiau ein harglwydd brenin Dafydd a osododd Salomon yn frenin.

44 A'r brenin a anfonodd gyd ag ef Zadoc yr offeiriad, a Nathan y prophwyd, a Benaiah fab Jehoiada, a'r Cerethiaid, a'r Pelethiaid, a hwy a barasant iddo ef farchogaeth ar fules y brenin.

45 A Zadoc yr offeiriad, a Nathan y proph­wyd a'i heneiniasant ef yn frenin yn Gihon: a hwy a ddaethant i fynu oddi yno yn llawen, a'r ddinas a derfyscodd: dyna 'r twrwf a glyw­soch chwi.

46 Ac y mae Salomon yn eistedd ar orsedd­faingc y frenhiniaeth.

47 A gwesion y brenin a ddaethant hefyd i fendithio ein harglwydd brenin Dafydd, gan ddywedyd, dy Dduw a wnelo enw Salomon yn well nâ'th enw di, ac a wnelo yn fwy ei orsedd-faingc ef nâ'th orsedd-faingc di. A'r bre­nin a ymgrymmodd ar y gwely.

48 Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin, bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a roddodd heddyw vn i eistedd ar fyng­orsedd-faingc, a'm llygaid innau yn gweled hynny.

49 A'r holl wahoddedigion, y rhai oedd gyd ag Adoniah, a ddychrynasant, ac a gyfo­dasant, ac a aethant bob vn ei ffordd.

50 Ac Adoniah oedd yn ofni rhac Salomon, ac a gyfododd, ac a aeth, ac a ymaflodd yng­hyrn yr allor.

51 A mynegwyd i Salomon, gan ddywedyd, wele y mae Adoniah yn ofni y brenin Salo­mon: canys wele, efe a ymaflodd ynghyrn yr allor, gan ddywedyd, tynged y brenin Salomon i mi heddyw, na ladd efe ei wâs â'r cleddyf.

52 A dywedodd Salomon, os bydd efe yn wr-da, ni syrth vn o'i wallt ef i lawr; ond os ceir drygioni ynddo ef, efe a fydd marw.

53 A'r brenin Salomon a anfonodd, a hwy a'i dygasant ef oddiwrth yr allor, ac efe a ddaeth, ac a ymgrymmodd i'r brenin Salomon: a dywedodd Salomon wrtho, dôs i'th dŷ.

PEN. II.

1 Dafydd yn rhoi cyngor i Salomon, 3 i fod yn ddumiol, 5 ynghylch Joab, 7 Barzilai, 8 a Simei: 10 ac yn marw. 12 Salomon yn fre­nin ar ei ol ef. 13 Adoniah yn ceisio gan Bath­seba ddywedyd wrth Salomon am Abisag, ac yn cael ei ddihenydd. 26 Abiathar yn cael ei hoedl, ac yn colli yr offeiriadaeth. 28 Joab yn ffo at gyrn yr allor, a'i ladd ef. 35 a gosod Benaiah yn lle Joab, a Zadoc yn lle Abiathar. 36 Simei yn cael gorchymyn i arhos yn Jerusalem, ac am fyned i Gath, yn gorfod arno farw.

YNa dyddiau Dafydd a nessasant i farw, ac efe a orchymynnodd i Salomon ei fab, gan ddywedyd,

2 Myfi wyf yn myned ffordd yr holl ddaiar, am hynny ymnertha, a bydd ŵr.

3 A chadw gadwriaeth yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, i gadw ei ddedd­fau ef, a'i orchymynnion, a'i farnedigaethau, a'i dystiolaethau; fel yr yscrifennwyd ynghy­fraith Moses; felNeu, gwnelych yn gall. yDeut. 29.9. Jos. 1.7. llwyddych yn yr hyn oll a wnelych, ac i ba le bynnac y troech:

4 Fel y cyflawno 'r Arglwydd ei air, a lefa­rodd efe wrthif, gan ddywedyd, os dy feibion a gadwant eu ffyrdd, i rodio ger fy mron mewn gwirionedd, â'i holl galon, ac â'i holl enaid,2 Sam. 7.12. ni thorrir (eb efe) na byddo o honoi ŵr ar orsedd-faingc Israel.

5 Tithe hefyd a wyddost yr hyn a wnaeth Joab mab Serfiah â mi, a'r hyn a wnaeth efe i ddau o dywysogion lluoedd Israel, i2 Sam. 3.27. Abner fab Ner, ac2 Sam. 20.10. i Amasa fab Jether, y rhai a laddodd efe, ac aHeb. osododd. ollyngodd waed rhyfel mewn hedd­wch, ac a roddodd waed rhyfel ar ei wregys oedd am ei lwynau, ac yn ei escidiau oedd am ei draed.

6 Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb, ac na âd iw ben-llwydni ef ddescyn i'r beddmewn heddwch.

7 Ond i feibion2 Sam. [...]9.31. Barzilai y Gileadiad y gwnei garedigrwydd, a byddant ym mysc y rhai a fwyttânt ar dy fwrdd di: canys felly y daethant attafi pan oeddwn yn ffoi rhac Absa­lom dy frawd ti.

8 Wele hefyd2 Sam. 6.5. Simei fab Gera, fab Jemini, o Bahurim, gyd â thi, yr hwn a'm melldithi­odd i â melldithHeb. galed. dôst, y dydd yr euthum i Mahanaim: ond efe a ddaeth i wared i'r lor­ddonen i gyfarfod â mi, ac mi a dyngais i'r Ar­glwydd wrtho ef, gan ddywedyd,2 Sam. 19.23. ni'th la­ddaf â'r cleddyf.

9 Ond yn awr na âd ti ef heb gospedigaeth, canys gŵr doeth ydwyt ti, a gwyddost beth a wnei iddo: dŵg dithe ei ben-wynni ef i wared i'r bêdd mewn gwaed.

10 FellyAct. 2.29. & 13. [...]6. Dafydd a hunodd gyd â'i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd.

11 A'r dyddiau2 Sam. 5.4. 1 Cron. 29.26. y teyrnasodd Dafydd ar Is­rael, oedd ddeugain mhlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddec ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerusalem.

12 A Salomon2 Cron. [...]9.23. a eisteddodd ar orsedd-faingc Dafydd ei dâd, a'i frenhiniaeth ef a sicr­hawyd yn ddirfawr.

13 Ac Adoniah mab Haggith a ddaeth at Bathseba mam Salomon, a hi a ddywedodd, ai heddychlon dy ddyfodiad? yntef a ddywedodd, heddychlon.

14 Ac efe a ddywedodd, y mae i mi air â thi: hitheu a ddywedodd, dywed.

15 Yntef a ddywedodd, ti a wyddost mai eiddofi oedd y frenhinlaeth, ac i holl Israel osod eu hwynebau ar fy ngwneuthur i yn frenin, eithr trôdd y frenhiniaeth, ac a aeth i'm brawd; canys trwy yr Arglwydd yr aeth hi yn eiddo ef.

16 Ond yn awr, dymunaf gennit vn dy­muniad, naHeb. thro hei­bio fy wyneb. ommedd fi; hitheu a ddywe­dodd wrtho, dywed.

17 Yntef a ddywedodd, dywed attolwg wrth y brenin Salomon (canys ni ommedd efe dy di) am roddi o honaw ef Abisag y Suna­mites yn wraig i mi.

18 A dywedodd Bathseba, dâ, mi a ddy­wedaf drosot ti wrth y brenin.

19 Felly Bathseba a aeth at y brenin Salo­lomon, i ddywedyd wrtho ef tros Adoniah: a'r brenin a gododd iw chyfarfod hi, ac a ostyng­odd iddi, ac a eisteddodd ar ei orsedd-faingc, ac a barodd osod gorsedd-faingc i fam y brenin, a hi a eisteddodd ar ei ddeheulaw ef.

20 Yna hi a ddywedodd, vn dymuniad by­chan yr ydwyfi yn ei ddymuno gennit, na om­medd fi: a'r brenin a ddywedodd wrthi hi, gofyn, fy mam, canys ni'th ommeddaf.

21 A hi a ddywedodd, rhodder Abisag y Sunamites yn wraig i Adoniah dy frawd.

22 A'r brenin Salomon a attebodd, ac a ddywedodd wrth ei fam, pa ham y ceisi di Abisag y Sunamites i Adoniah? gofyn hefyd y frenhiniaeth iddo ef, (canys fy mrawd hŷn nâ mi ydyw efe) a chyd ag ef y mae Abiathar yr offeiriad, a Joab mab Serfiah.

23 A'r brenin Salomon a dyngodd i'r Ar­glwydd, gan ddywedyd, fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid yn erbyn ei enioes y llefarodd Adoniah y gair hyn.

24 Yn awr gan hynny, fel mai byw 'r Ar­glwydd, yr hwn a'm siccrhaodd i, ac a wnaeth i mi eistedd ar orsedd-faingc Dafydd fy nhâd, yr hwn hefyd a wnaeth i mi dŷ, megis y2 Sam. 7.12, 13. dy­wedasei efe; heddyw yn ddiau y rhoddir Ado­niah i farwolaeth.

25 A'r brenin Salomon a anfonodd gyd â Benaiah mab Jehoiada, ac efe a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw.

26 Ac wrth Abiathar yr offeiriad y dywe­dodd y brenin, dos i Anathoth, i'th frô dy hun, canys gŵr yn heuddu marwolaeth ydwyt ti: ond ni laddaf di y pryd hyn, o herwydd dwyn o honot Arch yr Arglwydd Dduw o flaen fy nhâd Dafydd, ac am dy gystuddio yn yr hyn oll y custuddiwyd fy nhâd.

27 Felly y bwriodd Salomon Abiathar ym­maith o fod yn offeiriad i'r Arglwydd, fel y1 Sam. 2.31, 35. cyflawnai air yr Arglwydd, yr hwn a ddy­wedasei efe am dŷ Eli yn Siloh.

28 A'r chwedl a ddaeth at Joab (canysPen. 1.7. Joab a ŵyrasei ar ôl Adoniah, er na ŵyrasei efe ar ôl Absalom) a ffôdd Joab i babell yr Ar­glwydd, ac a ymaflodd ynghyrn yr allor.

29 A mynegwyd i'r brenin Salomon, ffoi o Joab i babell yr Arglwydd, ac wele y mae efe wrth yr allor; a Salomon a anfonodd Be­naiah fab Jehoiada, gan ddywedyd, dos, rhu­thra arno ef.

30 A daeth Benaiah i babell yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrtho ef, fel hyn y dywed y brenin, tyred allan; yntef a ddywedodd, na ddeuaf, eithr ymma y byddaf farw: a Benaiah a ddug drachefn air at y brenin, gan ddywedyd, fel hyn y dywedodd Joab, ac fel hyn i'm hatte­bodd.

31 A dywedodd y brenin wrtho ef, gwna fel y dywedodd efe, a rhuthra arno ef, a chladd ef, fel y tynnech y gwaed gwirion a dywalltodd Joab, oddi arnafi, ac oddi ar dŷ fy nhâd i.

32 A'r Arglwydd a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun; o herwydd efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach, a gwell nag ef ei hun, ac a'i lladdodd hwynt â'r cleddyf, a Dafydd fy nhâd heb ŵybod, sef2 Sam. 3.27. Abner fab Ner tywysog lla Israel, ac2 Sam. 20.10. Amasa fab Jether tywysog llu Juda.

33 A'i gwaed hwynt a ddychwel ar ben Joab, ac ar ben ei hâd ef yn dragywydd; ond i Ddafydd, ac iw hâd, ac iw dŷ, ac iw orsedd-faingc, y bydd heddwch yn dragywydd gan yr Arglwydd.

34 Felly 'r aeth Benaiah mab Jehoiada i fynu, ac a ruthrodd arno, ac a'i lladdodd, ac efe a gladdwyd yn ei dŷ ei hun yn yr anialwch.

35 A'r brenin a osododd Benaiah fab Jehoi­ada yn ei le ef ar y filwriaeth, a'r brenin a oso­dodd Zadoc yr offeiriad yn lle Abiathar.

36 A'r brenin a anfonodd, ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho: adeilada it dŷ yn Jerusalem, ac aros yno, ac na ddôs allan oddi yno, nac ymma na thraw.

37 Canys bydd, y dydd yr elych allan, ac yr elych dros afon Cidron, gan ŵybod y cei di ŵybod y lleddir di yn farw: dy waed fydd ar dy ben dy hun.

38 A dywedodd Simei wrth y brenin, da yw 'r gair; fel y dywedodd fy Arglwydd fre­nin, felly y gwnâ dy wâs. A Simei a drigodd yn Jerusalem ddyddiau lawer.

39 Eithr ym mhen tair blynedd y ffôdd dau wâs i Simei at Achis fab Maachah brenin Gath; a mynegwyd i Simei, gan ddywedyd, wele dy weision di yn Gath.

40 A Simei a gyfododd, ac a gyfrwyodd ei assyn, ac a aeth i Gath at Achis, i geisio ei wei­sion: ie Simei a aeth, ac a gyrchodd ei weisi­on o Gath.

41 A mynegwyd i Salomon fyned o Simei o Jerusalem i Gath, a'i ddychwelyd ef.

42 A'r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho, oni pherais i ti dyngu i'r Arglwydd, ac oni thystiolaethais wrthit, gan ddywedyd, yn y dydd yr elych allan, ac yr elych nac ymma, nac accw, gan ŵybod gŵybydd y lleddir di yn farw? a thi a ddywe­daist wrthif, da yw 'r gair a glywais.

43 Pa ham gan hynny na chedwaist lŵ yr Arglwydd, a'r gorchymyn a orchymynnais i ti?

44 A dywedodd y brenin wrth Simei, ti a wyddost yr holl ddrygioni a ŵyr dy galon, yr hwn a wnaethost di yn erbyn Dafydd fy nhâd: yr Arglwydd am hynny a ddychwelodd dy ddrygioni di ar dy ben dy hun.

45 A bendigedic fydd y brenin Salomon, a gorsedd-faingc Dafydd a siccrheir o flaen yr Ar­glwydd yn dragywydd.

46 Felly y gorchymynnodd y brenin i Be­naiah fab Jehoiada, ac efe a aeth allan, ac a ruth­rodd arno ef, fel y bu efe farw: a'r frenhihiaeth2 Cron. 1.1. a siccrhawyd yn llaw Salomon▪

PEN. I [...]I.

1 Salomon yn priodi merch Pharao, 2 ac wrth aberthu yn vchelfa Gibeon, 5 yn cael gan Dduw i ddewis rôdd, ac yn dewis doethineb: ac yn cael doethineb, a chyfoeth, ac anrhydedd. 16 Barn Salomon rhwng y ddwy buttain, yn ei wneuthur ef yn enwog.

A Salomon aPen. 7.8. ymgyfathrachodd â Pharao brenin yr Aipht, ac a briododd ferch Pha­rao, ac a'i dûg hi i ddinas Dafydd, nes darfod iddo adeiladu ei dŷ ei hun, a thŷ yr Arglwydd, a mûr Jerusalem oddi amgylch.

2 Etto y bobl oedd yn aberthu mewn vchel­faoedd, o herwydd nad adeiladasid tŷ i enw 'r Arglwydd hyd y dyddiau hynny.

3 A Salomon a garodd yr Arglwydd, gan rodio yn neddfau Dafydd ei dâd: etto mewn vchelfaoedd yr oedd efe yn aberthu, ac yn arogl­darthu.

4 A'r brenin a aeth i Gibeon i aberthu yno; canys honno oedd vchelfa fawr; mîl o boeth­offrymmau a offrymmodd Salomon ar yr allor honno.

5 Yn Gibeon yr ymddangosodd yr Ar­glwydd i Salomon mewn breuddwyd liw nos, a dywedodd Duw, gofyn beth a roddaf i ti.

6 A dywedodd Salomon, ti a wnaethost â'th wâs Dafydd fy nhâd fawrNeu, haelioni. drugaredd, megis y rhodiodd efe o'th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn vniondeb calon gyd â thi; îe cedwaist iddo y drugaredd fawr hon, a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orsedd-faingc, fel y gwelir heddyw.

7 Ac yn awr, o Arglwydd fy Nuw, ti a wnaethost i'th wâs deyrnasu yn lle Dafydd fy nhâd, a minhe yn fachgen bychan: ni fedraf fyned nac allan nac i mewn.

8 A'th wâs sydd ym mysc dy bobl, y rhai a ddewisaist ti, pobl aml, y'rhai ni rifir, ac nis cyfrifir gan luosogrwydd.

9 Am hynny2 Cron. 1.10. dyro i'th wâs galonNeu, vfydd. Heb. yn elyned. dde­allus i farnu dy bobl, i ddeall rhagor rhwng da a drwg: canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn?

10 A'r peth fu dda yngolwg yr Arglwydd, am ofyn o Salomon y peth hyn.

11 A Duw a ddywedodd wrtho, o herwydd gofyn o honot y peth hyn, ac na ofynnaist it ddyddiau lawer, ac na ofynnaist it olud, ac na cheisiaist einioes dy elynion, eithr gofynnaist it ddeall i wrando barn:

12 Wele gwneuthum yn ôl dy eiriau, wele, rhoddais it galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fâth o'th flaen, ac na chyfyd dy fâth ar dy ôl.

13 ADoeth. 7.11. Mat. 6.33. rhoddais it hefyd yr hyn nis gofyn­naist, golud, a gogoniant hefyd; fel naNeu, bu. byddo vn o'th fâth ym mysc y brenhinoedd, dy holl ddyddiau di.

14 Ac os rhodi yn fy ffyrdd i, gan gadw fy neddfau a'm gorchymynion,Pen. 15.5. megis y rhodiodd Dafydd dy dâd, estynnaf hefyd dy ddyddiau di.

15 A Salomon a ddeffrôdd, ac wele, breu­ddwyd oedd; ac efe a ddaeth i Jerusalem ac a safodd o flaen Arch cyfammod yr Arglwydd, ac a offrymmodd offrymmau poeth, ac a aberth­odd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd iw holl weision.

16 Yna dwy wragedd o butteiniaid a ddae­thant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef.

17 A'r naill wraig a ddywedodd, ô fy Ar­glwydd, myfi a'r wraig hon oeddym yn trigo yn yr yn tŷ, ac mi a escorais yn tŷ gyd â hi.

18 Ac ar y trydydd dydd wedi escor o ho­nofi, yr escorodd y wraig hon hefyd; ac yr oeddem ni ynghyd, heb arall yn tŷ gyd â ni, ond nyni ein dwyoedd yn tŷ.

19 A mab y wraig hon a fu farw llw nôs: o herwydd hi a orweddodd arno ef.

20 A hi a gododd ynghanol y nôs, ac a gymmerodd fy mab i o'm hymyl, tra yr ydoedd dy lawforwyn yn cyscu, ac a'i gosododd ef yn ei monwes hi, a'i mab marw hi a osododd hi yn fy monwes inneu.

21 A phan godais i y boreu i beri i'm mab fugno: wele marw oedd efe: ac wedi i mi ddal arno y boreu, wele, nid fy mab i, yr hwn a escoraswn i, ydoedd efe.

22 A'r wraig arall a ddywedodd, nagê, eithr fy mab i yw y byw, a'th fab dithe yw y marw. A hon a ddywedodd, nagê, eithr dy fab di yw y marw, a'm mab i yw y byw: fel hyn y lle­farasant o flaen y brenin.

23 Yna y dywedodd y brenin, hon sydd yn dywedyd, dymma fy mab i sydd fyw, a'th fab dithe yw 'r marw, a hon accw sydd yn dywe­dyd, nagê, eithr dy fab di yw 'r marw, a'm mab inne yw 'r byw.

24 A dywedodd y brenin, dygwch i mi gleddyf. A hwy a ddygasant gleddyf o flaen y brenin.

25 A'r brenin a ddywedodd, rhennwch y hachgen byw yn ddau, a rhoddwch yr hanner i'r naill, a'r hanner i'r llall.

26 Yna y dywedodd y wraig bioedd y mab byw wrth y brenin (canys ei hymyscaroedd a gynnesasei wrth ei mab,) ac a lefarodd, ô fy Arglwydd, rhoddwch iddi hi y bachgenbyw, ac na leddwch ef ddim: ond y llall a ddywe­dodd, na fydded eiddo fi, na thitheu, eithr rhennwch ef.

27 Yna yr attebodd y brenin, ac y dywe­dodd, rhoddwch y bachgen byw iddi hi, ac na leddwch ef ddim: dyna ei fam ef.

28 A holl Israel a glywsant y farn a farna­sei 'r brenin, a hwy a ofnasant y brenin; ca­nys gwelsant fod doethineb Duw ynddo ef i wneuthur barn.

PEN. IV.

1 Tywysogion Salomon, 7 a deuddeg swyddog ei lys ef, 20 a heddwch, a helaethrwydd ei fren­hiniaeth, 22 ac arlwy ei fwrdd, 26 a'i stablau, 29 a'i ddoethineb, 32 a'i lyfrau.

A'R brenin Salomon oedd frenin ar holl Israel.

2 Ac dymma y tywysogion oedd ganddo ef, Azariah mab Zadoc yrNeu, [...]en-swy­ [...]dog. offeiriad;

3 Elihoreph, ac Ahiah, meibion Sisa, oedd scri­fennyddion; Jehosaphat mab Ahilud yngofiadur:

4 A Benaiah mab Jehoiada oedd ar y llu; a Zadoc ac Abiathar yn offeiriaid:

5 Ac Azariah mab Nathan oedd ar y swy­ddogion; a Zabud mab Nathan oedd benlly­wydd, ac yn gyfeill i'r brenin:

6 Ac Ahisar oedd ben-teulu:Pen. [...].14. ac Adoniram mab Abda ar yNeu, [...]. deyrnged.

7 A chan Salomon yr ydoedd deuddec o swyddogion ar holl Israel, y rhai a barotoent luniaeth i'r brenin a'i dŷ: mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob vn ddarparu.

8 Dymma eu henwau hwynt;Neu, [...]en-hur. mab Hur ym mynydd Ephraim.

9Neu, [...]en-De­ [...]. Mab Decar ym Macas, ac yn Saalbim, a Bethsemes, ac Elon-Bethanan.

10Neu, [...]n-He­ [...]d. Mab Hesed yn Aruboth, iddo ef yr oedd Sochoh, a holl dir Hepher.

11Neu, Ben-Abi­nadab. Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor, Taphath merch Salomon oedd yn wraig iddo ef.

12 Baanah mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd ger llaw Sartanah, îs law Jezreel; o Bethsean hyd Abel­mehola, hyd y tu hwnt i Jocmeam.

13Neu, Ben-Ge­ber. Mab Geber oedd yn Ramoth Gilead, iddo ef yr oedd Num. 32.41. trefydd Jair mab Manasseh, y rhai sydd yn Gilead: eiddo ef oedd ardal Ar­gob, yr hon sydd yn Basan, sef tri vgain o ddinasoedd mawrion, a chaerau a barrau prês.

14 Ahinadab mab Ido oedd ym Mahanaim.

15 Ahimaaz oedd yn Nepthali, yntef a gym­merodd Basmath merch Salomon yn wraig.

16 Baanah mab Husai oedd yn Aser, ac yn Aloth.

17 Jehosaphat mab Paruah oedd yn Issa­char.

18 Simei mab Elah oedd o fewn Benja­min.

19 Geber mab Vri oedd yngwlâd Gilead, gwlâd Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan; a'r vnic swyddog oedd yn y wlâd ydoedd efe.

20 Juda ac Israel oedd aml, fel y tywod sydd ger llaw 'r môr o amldra, yn bwytta ac yn yfed, ac yn gwneuthur yn llawen.

21 AEccles. 47.13. Salomon oedd yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd, o'r afon hyd wlâd y Philisti­aid, ac hyd derfyn yr Aipht: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Salo­mon holl ddyddiau ei enioes ef.

22 AHeb. bara. bwyd Salomon beunydd oedd ddêc Corus ar hugain o beillied, a thri vgain Corus o flawd:

23 Dêc o ŷchen pascedic, ac vgain o ŷchen porfadwy, a chant o ddefaid, heb law ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision.

24 Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i'r afon oll, o Tiphsah, hyd Azzah, ar yr holl frenhinoedd o'r tu yma i'r afon: ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o am­gylch.

25 Ac yr oedd Juda ac Israel yn presswylio ynHeb. hyderus. ddiogel, bob vn tan ei wîn-wŷdden, a than ei ffigys-bren, o Dan hyd Beerseba, holl ddyddiau Salomon.

26 Ac2 Cron. 9.25. yr oedd gan Salomon ddeugain mîl o bresebau meirch iw gerbydau, a deuddeng-mil o wŷr meirch.

27 A'r swyddogion hynny a baratoent lu­niaeth i Salomon y brenin, ac i bawb a ddele i fwrdd y brenin Salomon, pob vn yn ei fîs; ni adawsant eisieu dim.

28 Haidd hefyd, a gwellt a ddygasant hwy i'r meirch, ac i'r cyflym gamelod, i'r fan lle y byddei y swyddogion, pob vn ar ei ran.

29 AEccles. 47.14, 15, 16. Duw a roddodd ddoethineb i Salo­mon, a deall mawr iawn, a helaethdra calon, fel y tywod sydd ar fîn y môr.

30 A doethineb Salomon oedd fwy nâ doe­thineb holl feibion y dwyrain, ac nâ holl ddoe­thineb yr Aipht.

31 Ie doethach oedd efe nag vn dŷn; nag Ethan yr Ezrahiad, nâ Heman, nâ Chalcol, nâ Darda, meibion Mahol: a'i enw ef oedd ym mhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch.

32 Ac efe a lefarodd dair mil o ddiharebion, a'i ganiadau ef oedd fil, a phump.

33 Llefarodd hefyd a'm brennau, o'r cedr­wŷdd [Page] sydd yn Libanus, hyd yr yssop a dŷf allan o'r pared. Ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusciaid, ac am byscod.

34 Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wran­do doethineb Salomon, oddi wrth holl frenhi­noedd y ddaiar, y rhai a glywsent am ei ddoe­thineb ef.

PEN. V.

1 Hiram yn gyrru i gyfarch Salomon, ac yn cael gwybod ei fod ef a'r fedr adeiladu y Deml, ac yn addaw defnyddiau i'r gwaith. 7 Hiram yn bendithio Duw tros Salomon, yn cael ymborth iw deulu, ac yn gyrru coed i Salomon. 13 Rhi­fedi gweith-wyr Salomon.

HIram hefyd brenin Tyrus a anfonodd ei weision at Salomon: (canys clybu enei­nio o honynt hwy ef yn frenin yn lle ei dâd) canys hoff oedd gan Hiram Ddafydd bob amser.

21 Cron. 2.3. A Salomon a anfonodd at Hiram, gan ddywedyd,

3 Ti a ŵyddost am Ddafydd fy nhâd, na allei efe adailadu tŷ i enw'r Arglwydd ei Dduw, gan y rhyfeloedd oedd o'i amgylch ef, nes rho­ddi o'r Arglwydd hwynt dan wadnau ei draed ef.

4 Eithr yn awr yr Arglwydd fy Nuw a rôdd i mi lonydd oddi amgylch, fel nad oes na gwrthwynebydd, nac ymgyfarfod niweidiol.

5 Ac wele fiHeb. yn dywe­dyd am. a'm bryd ar adailadu tŷ i enw 'r Arglwydd fy Nuw;2 Sam. 7.13. 1 Cron. 22.10. megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Ddafydd fy nhâd, gan ddywe­dyd, dy fab, yr hwn a osodafi yn dy lê di ar dy orsedd-faingc di, efe a adailada dŷ i'm henw i.

6 Yn awr gan hynny gorchymyn dorri o honynt i mi cedr-wydd o Libanus, a'm gwei­sion i a fyddant gyd â'th weision di; a rhoddaf attat gyflog dy weision, yn ôl yr hyn a ddy­wedych: canys ti a wyddost nad oes yn ein plith ni ŵr a fedro gymmynu coed, megis y Sidoniaid.

7 A bu, pan glybu Hiram eiriau Salomon, lawenychu o honaw ef yn ddirfawr, a dywe­dyd, bendigedig yw 'r Arglwydd heddyw, yr hwn a roddes i Ddafydd fab doeth ar y bobl luosog ymma.

8 A Hiram a anfonodd at Salomon, gan ddywedyd, gwrandewais ar yr hyn a anfonaist attaf: mi a wnaf dy holl ewyllys di am goed cedr-wŷdd, a choed ffynnidwŷdd.

9 Fy ngweision a'i dygant i wared o Liba­nus hyd y môr: ac mi a'i gyrraf hwynt yn glu­deiriau ar hyd y môr, hyd y fan aHeb. anfonych. osodych di i mi: ac yno y dattodaf hwynt, a chymmer di hwynt; ond ti a wnei fy ewyllys inneu, gan roddi ymborth i'm teulu i.

10 Felly yr oedd Hiram yn rhoddi i Salo­mon o goed cedr-wŷdd, ac o goed ffynnid­wŷdd, ei holl ddymuniad.

11 A Salomon a roddodd i Hiram vgain mil Corus o wenith yn gynheliaeth iw dŷ, ac vgain Corus o olew coeth: felly y rhoddei Sa­lomon i Hiram bob blwyddyn.

12 A'r Arglwydd a roddes ddoethineb i Sa­lomon, felPen. 3.12. y dywedasei wrtho: a bu heddwch rhwng Hiram a Salomon, a hwy a wnaethant gyfammod ill dau.

13 A'r brenin Salomon a gyfododdNeu, deyrnged o wyr. drêth o holl Israel, a'r drêth oedd ddengmil ar hugain o wŷr.

14 Ac efe a'i hanfonodd hwynt i Libanus, deng-mil yn y mîs ar gylch; mîs y byddent yn Libanus, a dau fis gartref;Pen. 4.6. ac Adoniram oedd ar y drêth.

15 Ac yr oedd gan Salomon ddeng-mil a thrugain yn dwyn beichiau, a phedwar vgain mil yn naddu cerrig yn y mynydd.

16 Heb law pen swyddogion Salomon, y rhai oedd ar y gwaith, sef tair mîl a thrychant, yn llywodraethu y bobl a weithient yn y gwaith.

17 A'r brenin a orchymynnodd ddwyn o honynt hwy feini mawr, a meini costus, a meini nâdd, i sylfaenu y tŷ.

18 Felly seiri Salomon, a seiri Hiram, a'rEze [...] 27.9. Gibliaid, a naddasant, ac a ddarparasant goed a cherrig i adeiladu 'r tŷ.

PEN. VI.

1 Adeiladu Teml Salomon, 5 a'i stafelloedd. 11 Addewid Duw i'r Deml. 15 Byrddio ac addurno 'r Deml. 23 Y Cerubiaid. 31 Y dorau. 36 Y cyntedd. 37 Yr hyd y buwyd yn adeiladu y Deml.

AC2 Cr [...] 3.1. yn y bedwar-vgeinfed, a phedwar cant o flynyddoedd, wedi dyfod meibion Is­rael allan o'r Aipht, yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Salomon ar Israel, yn y mîs Zif, hwnnw yw 'r ail mîsHeb. yr [...]d [...]i­ladodd. y dechreuodd efe adai­ladu tŷ 'r Arglwydd.

2 A'r tŷ a adailadodd y brenin Salomon i'r Arglwydd oedd dri vgain cufydd ei hŷd, ac vg­ain cufydd ei lêd, a dêc cufydd ar hugain ei vchter.

3 A'r porth o flaen teml y tŷ oedd vgain cu­fydd ei hŷd, yn vn hŷd a llêd y tŷ, ac yn ddêc cufydd ei lêd, o flaen y tŷ.

4 Ac efe a wnaeth i'r tŷ ffenestri,Neu, ar osgo ac yn gaead. yn lly­dain oddi fewn, ac yn gyfyng oddi allan.

5 Ac efe a adailadoddNeu, ar. wrth fur y tŷHeb. loriau. sta­felloedd oddi amgylch mur y tŷ, ynghylch y deml, a'r gafell: ac a wnaethHeb. ais. gelloeddd o amgylch.

6 Yr ystafell isaf oedd bum cufydd ei llêd, a'r ganol chwe chufydd ei llêd, a'r drydydd yn saith gufydd ei llêd: canys efe a roddasei atte­gion o'r tu allan i'r tŷ oddi amgylch, fel na rwymid y trawstiau ym mur y tŷ.

7 A'r tŷ pan adeiladwyd ef, a adeiladwyd o gerric wedi eu cwbl naddu cyn eu dwyn yno: fel na chlybuwyd na morthwylion, na bwyill, nac vn offeryn haiarn yn y tŷ, wrth ei adei­ladu.

8 Drws y gell ganol oedd arHeb. yscwydd ddehau. ystlys dehau y tŷ, ac ar hŷd grisieu troedic y dringid i'r ganol, ac o'r ganol i'r drydedd.

9 Felly yr adeiladodd efe y tŷ, ac a'i gor­phennodd: ac a fyrddiodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedr-wydd.

10 Ac efe a adeiladodd stafelloedd wrth yr holl dŷ, yn bum cufydd ei huchder: ac â choed cedr yr oeddynt yn pwyso ar y tŷ.

11 A daeth gair yr Arglwydd at Salomon, gan ddywedyd,

12 Am y tŷ yr wyt ti yn ei adeiladu, os rhodi di yn fy neddfau i, a gwneuthur fy mar­nedigaethau, a chadw fy holl orchymynion, gan rodio ynddynt: yna y cyflawnaf â thi fy ngair2 Sa [...] 7.13. 1 Cron. 22.10. a leferais wrth Ddafydd dy dâd.

13 Ac mi a brefswyliafExod 25.22. ym mysc meibion Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel.

14 Felly yr adeiladodd Salomon y tŷ, ac a'i gorphennodd.

15 Ac efe a fyrddiodd barwydydd y tŷ oddi fewn ag ystyllod cedr-wŷdd, o lawr y tŷ hyd y [Page] llogel y byrddiodd efe ef â choed oddi fewn: byrddiodd hefyd lawr y tŷ â phlangciau o ffynnidwŷdd.

16 Ac efe a adeiladodd vgain cufydd ar yst­lyssau 'r tŷ ag ystyllodd cedr, o'r llawr hyd y parwydydd: felly 'r adeiladodd iddo o fewn, sef i'r gafell, i'r cessegr sancteiddiolaf.

17 A'r tŷ, sef y Deml, o'i flaen ef, oedd ddeugain cufydd ei hŷd.

18 A chedr-wŷdd y tŷ oddi-fewn oedd wedi eu cerfio yn gnappiau, ac yn flodau agored: y cwbl oedd gedr-wydd, ni welid carrec.

19 A'r gafell a ddarparodd efe yn y tŷ o fewn; i osod yno Arch cyfammod yr Ar­glwydd.

20 A'r gafell yn y pen blaen, oedd vgain cu­fydd o hŷd, ac vgain cufydd o lêd, ac vgain cu­fydd ei huchter: ac efe a'i gwiscodd ag aur pûr, felly hefyd y gwiscodd efe 'r allor o gedr­wŷdd.

21 Salomon hefyd a wiscodd y tŷ oddi fewn ag aurHeb. cauedic. pûr, ac a roddes farrau ar draws, wrth gadwyni aur, o flaen y gafell, ac a'i gwis­codd ag aur.

22 A'r holl dŷ a wiscodd efe ag aur, nes gorphen yr holl dŷ: yr allor hefyd oll, yr hon oedd wrth y gafell, a wiscodd efe ag aur.

23 Ac efe a wnaeth yn y gafell ddau o Ge­rubiaid, o brenHeb. olew. oliwydd, pob vn yn ddêc cu­fydd ei vchter.

24 A'r naill aden i'r Cerub oedd bum cufydd, a'r aden arall i'r Cerub oedd bum cufydd: dêc cufydd oedd o'r naill gwrr iw adenydd ef, hyd y cwrr arall iw adenydd ef.

25 A'r ail Cerub oedd o ddêc cufydd: vn fesur ag vn agwedd oedd y ddau Gerub,

26 Vchder y naill Gerub oedd ddêc cufydd: ac felly 'r oedd y Cerub arall.

27 Ac efe a osododd y Cerubiaid yn y tŷ oddi fewn,Neu, a'r Ceru­biaid a le­dasant eu hade­nydd. acExod. 25.20. adenydd y Cerubiaid a ym­ledasant, fel y cyffyrddodd aden y naill â'r naill bared, ac aden y Cerub arall oedd yn cyffwrdd â'r pared arall: a'i hadenydd hwy ynghanol y tŷ, oedd yn cyffwrdd â'i gilydd.

28 Ac efe a wiscodd y Cerubiaid ag aur.

29 A holl barwydydd y tŷ o amgylch a gerfiodd efe â cherfiedic luniau Cerubiaid, a phalm-wŷdd, a blodau agored, o fewn ac oddi allan.

30 Llawr y tŷ hefyd a wiscodd efe ag aur, oddi fewn ac oddi allan.

31 Ac i ddrŵs y gafell y gwnaeth efe ddô­rau o goed oliwŷdd; cappan y drws a'r gor­singau oedd Neu, [...]um [...]gwar. bummed ran y pared.

32 Ac arNeu, ddolen­ [...]au y do­ [...]. y ddwy ddôr o goed oliwydd y cerfiodd efe gerfiadau Cerubiaid, a phalm­wŷdd, a blodau agored, ac a'i gwiscodd ag aur, ac a ledodd aur ar y Cerubiaid, ac ar y palm­wŷdd.

33 Ac felly y gwnaeth efe i ddrws y deml orsingau o goed oliwŷdd, y rhai oedd Neu, [...]edeir­ [...]. bed­waredd ran y pared.

34 Ac yr oedd y ddwy ddôr o goed ffynnid­wŷdd; dwy ddalen blygedic oedd i'r naill ddôr, a dwy ddalen blygedic i'r ddôr arall.

35 Ac efe a gerfiodd Gerubiaid a phalm­wŷdd, a blodau agored arnynt, ac a'i gwiscodd ag aur, yr hwn a gymhwyswyd ar y cerfiad.

36 Ac efe a adeiladodd y cyntedd nessaf i mewn â thair rhês o gerric nâdd, ac â rhês o drawstiau cedr-wydd.

37 Yn y bedwaredd flwyddyn y sylfaen­wŷd tŷ 'r Arglwydd, ym mis Zif.

38 Ac yn yr vnfed flwyddyn ar ddêc, ym mis Bul (dyna yr wythfod mis) y gorphen­nwyd y tŷ, a'i holl rannau a'i hollNeu, ordeini­adau. berthyna­sau: felly mewn saith mlynedd yr adailadodd efe ef.

PEN. VII.

1 Adeiladu tŷ Salomon, 2 a thŷ coed Libanus, 6 a'r porth colofnau, 7 a phorth y frawdle, 8 a thy merch Pharaoh. 13 Gwaith Hiram ar y ddwy golofn. 23 Y môr tawdd. 27 Y x ystol. 38 Y dêg noe brês. 40 A'r holl lestri.

EIthr ei dŷ ei hun a adeiladodd Salomon mewnPen. 9.10. tair blynedd ar ddêc, ac a orphen­nodd ei holl dŷ.

2 Efe a adeiladodd dŷ coedwic Libanus, yn gan cufydd ei hŷd, ac yn ddêc cufydd a deu­gain ei lêd, ac yn ddêc cufydd ar hugain ei vch­der; ar bedair rhês o golofnau cedr-wydd, a thrawstiau cedr-wydd ar y colofnau.

3 Ac efe a dowyd â chedr-wŷdd oddi ar­nodd arHeb. yr ais. y trawstiau oedd ar y pum colofn a deugain, pymthec yn y rhês.

4 Ac yr oedd tair rhês o ffenestri,Heb. golwg ar gyfer golwg. goleu ar gyfeir goleu, yn dair rhengc.

5 A'r holl ddryssau a'r gorsingau oedd ys­gwâr, felly 'r oedd y ffenestri: a goleu a'r gyfer goleu yn dair rhengc.

6 Hefyd efe a wnaeth borth o golofnau, yn ddêc cufydd a deugain ei hŷd, ac yn ddêc cu­fydd ar hugain ei lêd; a'r porth oedd o'i blaen hwynt; a'r colofnau eraill a'r swmmerau, oedd o'i blaen hwythau.

7 Porth yr orseddfa hefyd, yr hwn y barnei efe ynddo, a wnaeth efe yn borth barn: ac efe a wiscwyd â chedr-wŷddHeb. o lawr i lawr. o'r naill gwrr i'r llawr hyd y llall.

8 Ac iw dŷ ei hun, yr hwn y trigei efe yn­ddo, yr oedd cyntedd arall o fewn y porth, o'r vn fath waith: gwnaeth hefyd dŷ i ferch Pha­raoPen. 3.1. 'r hon a briodasei Salomon, fel y porth hwn.

9 Hyn oll oedd o feini costus, wedi eu naddu wrth fesur, a'i lladd â llif oddi fewn, ac oddi allan: a hynny o'r sylfaen hyd y llogel: ac felly o'r tu allan hyd y cyntedd mawr.

10 Ac efe a sylfaenesid â meini costus a meini mawr, â meini o ddêc cufydd, ac â meini o wyth gufydd.

11 Ac oddi arnodd yr oedd meini costus, (wedi eu naddu wrth fesur) a chedr-wŷdd.

12 Ac i'r cyntedd mawr yr oedd o amgylch, dair rhês o gerric nâdd, a rhês o drawstiau cedr-wŷdd; i gyntedd tŷ 'r Arglwydd oddi fewn, ac i borth y tŷ.

13 A'r brenin Salomon a anfonodd, ac a gyrchodd Hiram o Dyrus.

14 Mab gwraig weddw oedd hwn, o lwyth Nephtali, a'i dâd yn ŵr ô Dyrus: gôf prês ydoedd efe: a llawn ydoedd o ddoethineb, a deall, a gwybodaeth, i weithio pob gwaith o brês, ac efe a ddaeth at y brenin Salomon, ac a weithiodd ei holl waith ef.

15 Ac efe aHeb. luniodd. fwriodd ddwy golofn o brês, deunaw cufydd oedd vchder pob colofn, a llinyn o ddeuddec cufydd a amgylchei bob vn o'r ddwy.

16 Ac efe a wnaeth ddau gnapp o brês tawdd, iw rhoddi ar bennau y colofnau: pum cufydd oedd vchder y naill gnapp; a phum cu­fydd vchder y cnapp arall.

17 Efe a wnaeth rwyd-waith, a phlethiadau o gadwyn-waith i'r cnappiau oedd ar ben y co­lofnau: [Page] saith i'r naill gnapp, a saith i'r cnapp arall.

18 Ac efe a wnaeth y colofnau, a dwy rês o bomgranadau o amgylch, ar y naill rwydwaith, i guddio y cnappiau oedd vwch ben: ac felly y gwnaeth efe i'r cnapp arall.

19 A'r cnappiau y rhai oedd ar y colofnau, oedd o waith lili, yn y porth, yn bedwar cu­fydd.

20 Ac i'r cnappiau ar y ddwy golofn oddi arnodd, ar gyfer y canol, yr oedd pomgranadau, y rhai oedd wrth y rhwyd-waith: a'r pomgra­nadau oedd ddau cant, yn rhesau o amgylch, ar y cnapp arall.

212. Cron. 3.17. Ac efe a gyfododd y colofnau ym­mhorth y deml; ac a gyfododd y golofn ddehau, ac a alwodd ei henw hiHynny yw, efe a siccrha. Jachin; ac efe a gy­fododd y golofn asswy, ac a alwodd ei henw hiSef, yn­ddo y mae nerth. Boaz.

22 Ac ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili: felly y gorphennwyd gwaith y colofnau.

23 Ac efe a wnaeth fôr tawdd yn ddec cu­fydd o ymyl i ymyl; yn grwn oddi amgylch; ac yn bum cufydd ei vchder; a llinyn o ddêg cufydd ar hugain a'i hamgylchei oddi amgylch.

24 A chnappiau a'i hamgylchent ef tan ei ymyl o amgylch, dêc mewn cufydd oedd yn amgylchu y môr2 Cron. 4.3. o amgylch: y cnappiau oedd yn ddwy rês, wedi ei bwrw pan fwriwyd yntau.

25 Sefyll yr oedd ar ddeuddec o ŷchen, tri oedd yn edrych tua 'r gogledd, a thri yn edrych tua 'r gorllewin, a thri yn edrych tua 'r dehau, a thri yn edrych tua 'r dwyrain; a'r môr ar­nynt oddi arnodd, a'i pennau ôl hwynt oll o fewn.

26 Ei dewder hefyd oedd ddyrnfedd, a'i ymyl fel gwaith ymyl cwppan; a blodeu lili, dwy fil o Bathau a annei ynddo.

27 Hefyd efe a wnaeth ddêc o ystolion prês, pedwar cufydd oedd hŷd pob ystôl, a phedwar cufydd eu llêd, a thri chufydd eu huchder.

28 Ac dymma waith yr ystolion, ystlysau oedd iddynt, a'r ystlysau oedd rhwng y dellten­nau.

29 Ac ar yr ystlysau oedd rhwng y delltennau, yr oedd llewod, ychen, a Cherubiaid: ac ar y dellt yr oedd ystôl oddi arnodd; ac oddi tan y llewod a'r ŷchen yr oedd cyssylltiadau o waith teneu.

30 A phedair olwyn brês oedd i bôb ystôl, a phlangciau prês: ac yn eu pedair congl yr oedd yscwyddau iddynt: tan y noe yr oedd ys­cwyddau, wedi eu toddi argyfer pôb cyssyll­tiad.

31 A'i genau oddi fewn y cwmpas, ac oddi arnodd, oedd gufydd; a'i genau hi oedd grwn, ar waith yr ystôl, yn gufydd a hanner: ac ar ei hymyl hi yr oedd cerfiadau, a'i hystlysau yn bedwar ochroc, nid yn grynion.

32 A'r pedair olwyn oedd tan yr ystlysau, ac echelau yr olwynion yn yr ystôl: ac vchder pôb olwyn, yn gufydd a haner cufydd.

33 Gwaith yr olwynion hefyd oedd fel gwaith olwynion menn, eu hechelau, a'i both­au, a'i cammegau, a'i hadenydd, oedd oll yn doddedig.

34 Ac yr oedd pedair yscwydd wrth b [...]dair congl pôb ystôl; o'r ystôl yr oedd ei hyscwy­ddau hi.

35 Ac ar ben yr ystôl yr oedd cwmpas o am­gylch, o hanner cufydd o vchder; ar ben yr ystôl hefyd yr oedd oi hymylau, a'i thaleithiau o'r vn.

36 Ac efe a gerfiodd ar ystyllod ei hymmy­lau hi, ac ar ei thaleithiau hi, Gerubiaid, llewod, a phalm-wŷdd, wrth noethder pob vn, a chyss­ylltiadau oddi amgylch.

37 Fel hyn y gwnaeth efe y dêc ystôl; vn doddiad; vn fesur, ac vn agwedd, oedd iddynt hwy oll.

38 Gwnaeth hefyd ddeng noe brês, deugain Bath a ddaliei pôb noe, yn bedwar cufydd bôb noe, ac vn noe ar bob vn o'r dec ystôl.

39 Ac efe a osodes bump ystôl arHeb. yscwydd▪ ystlys dehau y tŷ, a phump ar yr ystlys asswy i'r tŷ: a'r môr a osododd efe ar y tu dehau i'r tŷ, tua 'r dwyrain, ar gyfer y dehau.

40 Gwnaeth Hiram hefyd y noeau, a'r rhawiau, a'r cawgiau; a Hiram a orphennodd wneuthur yr holl waith, yr hwn a wnaeth efe i'r brenin Salomon, yn nhŷ yr Arglwydd.

41 Y ddwy golofn, a'r cnappiau coronoc, y rhai oedd ar ben y ddwy golofn; a'r ddau rwyd-waith, i guddio y ddau gnapp goronoc, oedd ar ben y colofnau:

42 A phedwar cant o bomgranadau i'r ddau rwydwaith; dwy rês o bomgranadau i vn rhwyd-waith i guddio y ddau gnapp goronoc oedd arNeu, ar wyneb y colof­nau. y colofnau:

43 A'r dêc ystôl, a'r dêc noe ar yr ystolion:

44 Ac vn môr, a deuddec o ŷchen tan y môr:

45 A'r crochanau, a'r rhawiau, a'r caw­giau: a'r holl lestri a wnaeth Hiram i'r brenin Salomon, i dŷ yr Arglwydd, oedd o brês gloyw.

46 Yngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt,Heb. yn nhew­dwr y tir mewn clei-dir, rhwng Suc­coth, a Zarthan.

47 A Salomon a beidiodd â phwyfo yr holl lestri, o herwydd ei lluosogrwydd anfeidrol hwynt: ac niHeb. chwili­wyd. wybuwyd pwys y prês chwaith.

48 A Salomon a wnaeth yr holl ddodrefn a berthynei i dŷ yr Arglwydd: yr allor aur, a'r bwrdd aur, yr hwn yr oedd y bara gosod arno:

49 A phum canhwyll-bren o'r tu dehau, a phump o'r tu asswy, o flaen y gafell, yn aur pur, a'r blodau, a'r lucernau, a'r gefeiliau, o aur:

50 Y phiolau hefyd, a'r psaltringau, a'r cawgiau, a'r llwyau, a'rHeb. pedyll lludw. thusserau, o aur coeth; a bachau dorau y tŷ o fewn y cyssegr sanctei­ddiaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.

51 Felly y gorphennwyd yr holl waith a wnaeth y brenin Salomon i dŷ yr Arglwydd: a Salomon a ddûg2 Cr [...]. 5.1. i mewn yr hyn a gysse­grasei Dafydd ei dâd; yr arian, a'r aur, a'r dodrefn, a roddodd efe ym mhlith tryssorau tŷ yr Arglwydd.

PEN. VIII.

1 Gwyl cyssegriad y Deml. 12 & 54 Bendith Salomon, 22 a'i weddi, 62 a'i hedd aberth.

YNa2 Cr [...] 5.1. Salomon a gasclodd henuriad-Israel, a holl bennau y llwythau, a thywysogion tadau meibion Israel, at y brenin Salomon yn Jerusalem, i ddwyn i fynu Arch cyfammod yr Arglwydd o ddinas Dafydd, honno yw Sion.

2 A holl wŷr Israel a ymgynnullasant at y brenin Salomon, ar yr ŵyl, ym mis Ethanim, hwnnw yw y feithfed mîs.

3 A holl henuriaid Israel a ddaethant, a'r offeiriaid a godasant yr Arch i fynu.

4 A hwy â ddygasant i fynu Arch yr Ar­glwydd, [Page] a phabell y cyfarfod, a host lestri y cyssegr, y rhai oedd yn y babell, a'r offeiriaid a'r Lefiaid a'i dygasant hwy i fynu.

5 A'r brenin Salomon, a holl gynnulleidfa Israel, y rhai a ymgynnullasei atto ef, oedd gyd ag ef o flaen yr Arch, yn aberthu defaid, a gwartheg, y rhai ni rifid, ac ni chyfrifid gan luosogrwydd.

6 Felly yr offeiriaid a ddygasant Arch cy­fammod yr Arglwydd iw lle ei hun, i gafell y tŷ, i'r cyssegr sancteiddiaf, tan adenydd y Cerubiaid.

7 Canys y Cerubiaid oedd yn lledu eu ha­denydd tros le yr Arch; a'r Cerubiaid a oruch­guddient yr Arch, a'i barrau, oddi arnodd.

8 A'r barrau a estynnasant fel y gwelid pen­nau y barrau o'rNeu, Arch, 2 Cron. 5.9. cyssegr, o flaen y gafell, ond nis gwelid oddi allan: yno y maent hwy hyd y dydd hwn.

9 Nid oedd dim yn yr ArchDeut. 10.5. onid y ddwy lêch faen a osodasei Moses yno, yn Horeb;Neu, pan gy­fam. lle y cyfammododd yr Arglwydd â meibion Israel, pan oeddynt yn dyfod o wlâd yr Aipht.

10 A phan ddaeth yr offeiriaid allan or cyssegr,Exod. 40.34. y cwmŵl a lanwodd dŷ yr Arglwydd,

11 Fel na allei yr offeiriaid sefyll i wasana­ethu o herwydd y cwmwl; canys gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ yr Arglwydd.

12 Yna y dywedodd Salomon, yr Argl­wydd a2 Cron. 6.1. ddywedodd y presswyliei efe yn y tywyllwch.

13 Gan adailadu yr adailedais dŷ yn bre­swylfod i ti; trig-le i ti i aros yn dragywydd ynddo.

14 A'r brenin a drôdd ei wyneb, ac a fen­dithiodd holl gynnulleidfa Israel: (a holl gyn­nulleidfa Israel oedd yn sefyll.)

15 Ac efe a ddywedodd, bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefarodd â'i enau, wrth Ddafydd fy nhâd, ac a'i cwplaodd â'i law, gan ddywedyd,

16 Er y dydd y dygum fy mhobl Israel allan o'r Aipht, ni ddewisais ddinas o holl lwythau Israel i adailadu tŷ, fel y byddei fy enw i yno;2 Sam. 7.8. eithr dewisais Ddafydd i fod ar fy mhobl Israel.

17 Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhâd, adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.

18 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Dda­fydd fy nhâd, o herwydd bôd yn dy frŷd ti adeiladu tŷ i'm henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon.

19 Etto nid adeiledi di y tŷ; ond dy fâb di, yr hwn a ddaw allan o'th lwynau di, efe a adei­lada y tŷ i'm henw i.

20 A'r Arglwydd a gywirodd ei air a le­farodd efe, a mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhâd, ac a eisteddais ar deyrn-gader Israel, megis y llefarodd yr Arglwydd, ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.

21 A mi a osodais yno le i'r Arch, yr hon y mae ynddi gyfammod yr Arglwydd, yr hwn a gyfammododd efe â'n tadau ni, pan ddûg efe hwynt allan o wlâd yr Aipht.

22 A Salomon a safodd2 Cron. 8.12. o flaen allor yr Arglwydd, yngwydd holl gynnulleidfa Israel; ac a estynnodd ei ddwylo tua 'r nefoedd.

23 Ac efe a ddywedodd,2 Mac. 2.8. ô Arglwydd Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi, yn y nefoedd oddi vchod, nac ar y ddaiar oddi issod, yn cadw cy­fummod, a thrugaredd â'th weision, sydd yn rhodio ger dy fron di, a'i holl galon.

24 Yr hwn a gedwaist a'th wâs Dafydd fy nhâd yr hyn a leferaist wrtho: traethaist hefyd â'th enau, a chwpleaist â'th law, megis heddyw y mae.

25 Ac2 Cron. 1.19. yn awr ô Arglwydd Dduw Israel, cadw â'th wâs Dafydd fy nhâd yr hyn a lese­raist wrtho, gan ddywedyd,Pen. 2.4. 2 Sam. 7.12. ni thorrir ym­maith oddi wrthit na byddo gwr ger fy niron i yn eistedd ar deyrn-gader Israel; os dy fei­bion a gadwant eu ffordd i rodio ger fy mron i, megis y rhodiaist di ger fy mron.

26 Ac yn awr, ô Dduw Israel, poed gwîr attolwg fyddo dy air a leferaist wrth dy wâs Dafydd fy nhâd.

27 Ai gwîr yw y presswylia Duw ar y ddaiar? wele y nefoedd, a nefoedd y nefoedd ni allant dy gynhwys di, pa feint llai y dichon y tŷ hwn a adailedais i?

28 Etto edrych ar weddi dy wâs, ac ar ei ddeisyfiad ef, o Arglwydd fy Nuw, i wrando ar y llef a'r weddi y mae dy wâs yn ei weddio heddyw ger dy fron di:

29 Fel y byddo dy lygaid yn agored tua 'r tŷ ymma, nôs a dydd, tua 'r lle y dywedaist am dano,Deut. 12.11. fy enw a fydd yno: i wrando ar y weddi a weddio dy wâs yn y lle hwn.

30 Gwrando gan hynny ddeisyfiad dy wâs, a'th bobl Israel pan weddiant yn y lle hwn: clyw hefyd o le dy bresswylfa sef o'r nefoedd, a phan glywech, maddeu.

31 Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn gantho raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn:

32 Yna clyw di yn y nefoedd, gwna hefyd, a barna dy weision, gan ddamnio y drygionus i ddwyn ei ffordd ef ar ei ben, a chan gyfiawn­hau y cyfiawn, drwy roddi iddo ef yn ôl ei gyfiawnder.

33 Pan darawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn di, os dychwelant attat ti, a chyfaddef dy enw, a gweddio, ac ymbil â thiNeu, tuac at. yn y tŷ hwn:

34 Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddeu bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i'r tir a roddaist iw tadau hwynt.

35 Pan gauer y nefoedd fel na byddo glaw, o herwydd pechu o honynt i'th erbyn; os gweddiant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystu­ddiech di hwynt:

36 Yna gwrando di yn y nefoedd, a ma­ddeu bechod dy weision, a'th bobl Israel, fel y dyscech iddynt y ffordd oreu y rhodiant yn­ddi, a dyro law ar dy dir a roddaist i'th bobl yn etifeddiaeth.

37 Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, lloscfa, malldod, locustiaid, os bydd y lindis:2 Cron. 6.28. pan warchaeo ei elyn arno ef, yngwlâd eiHeb. byrth. ddinasoedd, pa blâ bynnag, pa glefyd byn­nag a fyddo;

38 Pôb gweddi, pôb deisyfiad, a fyddo gan vn dyn, neu gan dy holl bobl Israel, y rhai a wyddant bawb blâ ei galon ei hun, ac a estyn­nant eu dwylo tua 'r tŷ hwn,

39 Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy bresswylfod, a maddeu, gwna hefyd, a dyro i bôb vn yn ôl ei holl ffyrdd, yr hwn yr ad­waenost ei galon; (canys ti yn vnic a adwaenost galonnau holl feibion dyni­on.)

40 Fel i'th ofnont di yr holl ddyddiau y [Page] byddont byw, ar wyneb y tir a roddaist i'n tadau ni.

41 Ac am y dieithr-ddyn hefyd ni byddo o'th bobl Israel, onid dyfod o wlâd bell er mwyn dy enw;

42 (Canys clywant am dy enw mawr di, a'th law gref, a'th fraich estynnedic,) pan ddel a gweddio tua 'r tŷ hwn:

43 Gwrando di yn y nefoedd, mangre dy bresswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a'r a lefo y dieithr-ddyn arnat am dano: fel yr ad­waeno holl bobl y ddaiar dy enw di, i'th ofni di, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypontHeb. y gelwir dy enw di ar y ty hwn. mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn, a adeiledais i.

44 Os â dy bobl di allan i ryfel yn erbyn eu gelyn, ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddiant ar yr ArglwyddDan. 6.10. tua ffordd v ddi­nas a ddewisaisti, a'r tŷ yr hwn a adeiledais i'th enw di;

45 Yna gwrando yn y nefoedd ar eu gweddi hwynt, ac ar eu deisyfiad, a gwna farn iddynt.

46 Os pechant i'th erbyn, (2 Cron. 6.36. Eccles. 7.20. 1 Ioan. 1.8.10. canys nid oes dyn ni phecha) a digio o honot wrthynt, a'i rhoddi hwynt o flaen eu gelynion, fel y caeth-gludont hwynt yn gaethion i wlâd y gelyn, ymmhell neu yn agos;

47 Os dychwelant at eu calon, yn y wlâd y caeth-gludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac erfyn arnat yngwlâd y rhai a'i caeth-gludasant, gan ddywedyd, pechasom, troseddasom hefyd, a gwnaethom yn annuwiol;

48 A dychwelyd attat ti â'i holl galon, ac â'i holl enaid, yngwlad eu gelynion a'i caeth-glu­dasant hwynt, a gweddio arnat ti tua 'u gwlâd a roddaist i'w tadau, a'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a adeiledais i'th enw di,

49 Yna gwrando di yn y nefoedd, mangre dy bresswylfod, eu gweddi hwynt, a'i deisyfiad, a gwna farn iddynt,

50 A maddeu i'th bobl a bechâsant i'th er­byn, a'i holl gamweddau yn y rhai y trosedda­sant i'th erbyn, a phâr iddynt gael trugaredd ger bron y rhai a'i caeth-gludasant, fel y tru-garhaout wrthynt hwy.

51 Canys dy bobl di a'th etifeddiaeth ydynt hwv, y rhai a ddugosti allan o'r Aipht, o ganol y ffwrn haiarn;

52 Fel y byddo dv lygaid yn agored i ddei­syfiad dy wâs, a deisyfiad dy bobl Israel, i wrando arnynt hwy, pa bryd bynnac y gal­wont arnat ti.

53 Canys ti a'i neilltuaist hwynt, yn etife­ddiaeth i ti, o holl bobl y ddaiar, fel y llefe­raist drwy law Moses dy wâs, pan ddygaist ein tadau niExod. 19.6. allan o'r Aipht, ô Arglwydd Dduw.

54 Ac wedi gorphen o Salomon weddio ar yr Arglwydd, yr holl weddi, a'r deisyfiad ym­ma, efe a gyfododd oddi ger bron allor yr Ar­glwydd, o ostwng ar ei liniau, ac o estyn ei ddwylo tu a'r nefoedd.

55 Ac efe a safodd, ac a fendithiodd holl gynnulleidfa Israel, â llef vchel, gan ddywe­dyd,

56 Bendigedic fyddo yr Arglwydd, yr hwn a roddes lonyddwch iw bobl Israel, yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe: ni svrthiodd vn gair o'i holl addewidion da ef, y rhai a addawodd efe trwy law Moses ei wâs.

57 Yr Arglwydd ein Duw fyddo gyd â ni fel y bu gyd â'n tadau; na wrthoded ni, ac na'n gadawed ni:

58 I ostwng ein calonnau ni iddo ef, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i gadw ei orchymynion ef, a'i ddeddfau, a'i farnedigaethau, y rhai a orchymynnodd efe i'n tadau ni.

59 A bydded fy ngeriau hyn, y rhai a ddei­syfiais ger bron yr Arglwydd, yn agos at fy Arglwydd Dduw, ddydd a nôs, i wneuthur barn â'i wâs, a barn â'i bobl Israel,Heb. gwaith dydd yn ei daydd. beunydd, fel y byddo yr achos.

60 Fel y gŵypo holl bobl y ddaiar mai yr Ar­glwydd sydd Dduw, ac nad oes arall.

61 Bydded gan hynny eich calon yn ber­ffaith gyd â'r Arglwydd ein Duw ni, i rodio yn ei ddeddfau ef, ac i gadw ei orchymynion ef fel heddyw.

62 A'r2 Cron 7.4. brenin a holl Israel gyd ag ef, a aberthasant aberth ger bron yr Arglwydd.

63 A Salomon a aberthodd aberth hedd, yr hwn a offrymmodd efe i'r Arglwydd, sef dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech vgain mîl o ddefaid: felly y brenin a holl feibion Israel a gyssegrasant dŷ yr Arglwydd.

64 Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr Ar­glwydd; canys yno yr offrymmodd efe y poeth­offrymmau, a'r bwyd offrymmau, a brasder yr offrymmau hedd: o herwydd yr2 Cron. 7.7. allor brês, yr hon oedd ger bron yr Arglwydd, oedd ry fechan i dderbyn y poeth offrymmau, a'r bwyd offrymmau, a brasder yr offrym­mau hedd.

65 A Salomon a gadwodd y pryd hynny wŷl; a holl Israel gyd ag ef, cynnulleidfa fawr, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aipht, ger bron yr Arglwydd ein Duw, saith o ddy­ddiau, a saith o ddyddiau, sef pedwar diwr­nod ar ddêc.

66 A'r wythfed dydd y gollyngodd efe ymmaith y bobl, a hwy aNeu, ddiolcha­sant i'r fendithiasant y brenin, ac a aethant iw pebyll yn hyfryd, ac â chalon lawen, am yr holl ddaioni a wnaethei yr Arglwydd i Ddafydd ei wâs, ac i Israel ei bobl.

PEN. IX.

1 Ammod Duw â Salomon mewn gweledigaeth. 10 Salomon a Hiram yn anrhegu ei gilydd. 15 Y cenhedloedd yn gaethion, a'r Israeliaid yn weision parchedig, yngwaith Salomon. 24 Merch Pharao yn symmudo iw thŷ. 25 Cyhoedd aber­thau blynyddawl Salomon. 26 A'i lynges ef yn cyrchu aur o Ophir.

A Phan orphennodd2 Cron. 7.11. Salomon adailadu tŷ yr Arglwydd, a thŷ 'r brenin, a chwbl o ddymuniad Salomon, yr hyn a ewyllysiodd efe ei wneuthur.

2 Yr Arglwydd a ymddangosodd i Salomon yr ail waith; fel yrPen. 3.5. ymddangosasei iddo yn Gibeon.

3 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, gwran­dewais dv weddi di, a'th ddeisyfiad ti, yr hwn a ddeisyfiaist ger fv mron i, cyssegrais y tŷ ymma a adailedaist,Pen. 8.29. Deut. 12.11. i osod fy enw ynddo byth: fy llygaid hefyd, a'm calon fydd yno yn wastadol.

4 Ac os rhodi di ger fy mron i, megis y rhodiodd Dafydd dy dâd, mewn perffeithrwydd calon, ac vniondeb, i wneuthur yn ôl yr hyn oll a orchymynnais i ti, ac os cedwi fy nedd­fau, a'm barnedigaethau:

5 Yna mi a siccrhâf orsedd-faingc dy fren­hiniaeth di ar Israel yn dragywydd, fel y lle­ferais wrth Ddafydd dy dâd, gan ddywedyd, [Page] 2 Sam. 7.12. 1 Cron. 22.10. ni phalla i ti ŵr ar orsedd-faingc Israel.

6 Os gan ddychwelyd y dychwelwch chwi a'ch meibion oddi ar fy ôl i, ac heb gadw fyng­orchymynion a'm deddfau, y rhai a roddais o'ch blaen chwi, eithr myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymmu iddynt hwy,

7 Yna y torraf Israel oddi ar ŵyneb y tir a roddais iddynt hwy; a'r tŷ hwnJere. 7.14. a gyssegrais i'm enw, a fwriaf allan o'm golwg; ac Israel fydd yn ddihareb ac yn wawd ym mysc yr holl bobloedd.

8 A'r tŷ vchel hwn, pawb a gynniwero hei­bio iddo, a synna wrtho, ac a chwibiana; dy­wedant hefyd,Deut. 29.24. Jere. 22.8. pa ham y gwnaeth yr Argl­wydd fel hyn i'r wlâd hon, ac i'r tŷ ymma?

9 A hwy a ddywedant, am iddynt wrthod yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a ddûg eu tadau hwynt allan o dîr yr Aipht, ac ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymmu iddynt, a'i gwa­sanaethu hwynt: am hynny y dûg yr Argl­wydd arnynt hwy yr holl ddrwg hyn.

10 Ac2 Cron. 8 1. ym mhen yr vgain mhlynedd wedi adailadu o Salomon y ddau dŷ, sef tŷ yr Ar­glwydd, a thŷ yr brenin,

11 (Am i Hiram brenin Tyrus ddwyn i Salomon goed cedr, a choed ffynnidwydd, ac aur, yn ôl ei holl ewyllys ef) y brenin Salo­mon a roddes i Hiram vgain nhinas yngwlâd Galilee.

12 A Hiram a ddaeth o Dyrus i edrych y dinasoedd a roddasei Salomon iddo ef, ac nid oeddyntHeb. [...]nion yn [...] olwg ef. wrth ei sodd ef.

13 Ac efe a ddywedodd, pa ddinasoedd yw y rhai hyn, a roddaist i mi, fy mrawd? ac efe a'i galwodd hwynt gwlâdSef, b [...]wlyd. Cabul, hyd y dydd hwn.

14 A Hiram a anfonodd i'r brenin chwech vgain talent o aur.

15 Ac dymmaAchos. swmm y drêth a gododd y brenin Salomon i adailadu tŷ yr Arglwydd, a'i dŷ ei hun, a Milo, a mur Jerusalem, a Ha­zor, a Megido, a Gezer.

16 Pharao brenin yr Aipht a aethe ifynu, ac a enillasei Gezer, ac a'i lloscasai hi â thân, ac a laddasei y Canaaneaid oedd yn trigo yn y ddinas, ac a'i rhoddasei hi yn aurheg iwferch, gwraig Salomon.

17 A Salomon a adailadodd Gezer, a Beth­horon issaf,

18 A Baalath, a2 Cron. [...].4. Thadmor yn yr anialwch, o fewn y wlad.

19 A holl ddinasoedd y tryssorau, y rhai oedd gan Salomon, a dinasoedd y cerbydau, a dinasoedd y gwŷr meirch,Heb. a dymuni­ad Salo­mon yr hwn a ddym [...] ­ [...]d. a'r hyn oedd ewyllys gan Salomon ei adailadu yn Jerusalem, ac yn Libanus, ac yn holl dîr ei lywodraeth.

20 Yr holl bobl y rhai a adawyd o'r Amorl­aid, Hethiaid, Pereziaid, Hefiaid, a'r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o feibion Israel:

21 Sef eu meibion hwy, y rhai a adawsid ar eu hôl hwynt yn y wlâd, y rhai ni allodd meibion Israel eu lladd; ar y rhai hynny y cy­fododd Salomon drêth warrogaeth, hyd y dydd hwn.

22 Ond o feibion Israel,Levit. 25.39. ni wnaeth Salo­mon vn yn gaeth-wâs: rhyfel-wŷr iddo ef oeddynt, a gweision iddo, a thywysogion iddo, a chapteniaid iddo, a thywysogion ei gerbydau, a'i wŷr meirch.

23 Y rhai hyn oedd bennaf ar y swyddogion oedd ar waith Salomon, pum cant a dêc a deu­gain, oedd yn llywodraethu 'r bobl oedd yn gweithio yn y gwaith.

24 A2 Cron. 8.11. merch Pharao a ddaeth i fynu o ddinas Dafydd iw thŷ ei hun, yr hwn a adei­ladasei Salomon iddi hi: yna efe a adeiladodd Milo.

25 A thair gwaith yn y flwyddyn yr offrymmai Salomon boeth offrymmau, ac offrymmau hedd, ar yr allor a adeiladasei efe i'r Arglwydd, ac efe a arogl-darthoddHeb. arni hi. ar yr allor oedd ger bron yr Arglwydd; felly efe a orphennodd y tŷ.

26 A'r brenin Salomon a wnaeth longau yn Ezion Gaber, yr hon sydd wrth Eloth, ar fîn y môr côch yngwlâd Edom.

27 A Hiram a anfonodd ei weision yn y llongau, y rhai oedd long-wyr yn medru oddi wrth y môr gyd â gweision Salomon.

28 A hwy a ddaethant i Ophir ac a ddyga­sanfoddi yno bedwar cant ac vgain o dalentau aur, ac a'i dygasant at y brenin Salomon.

PEN. X.

1 Brenhines Saba yn rhyfedd genthi ddoethineb Salomon. 14 Swm ei aur ef. 16 Ei darian­nau. 18 Ei orsedd-faingc Ifori. 21 Ei lestri. 24 Ei anrhegion. 26 Ei gerbydau a'i feirch. 28 Ei deyrn-ged.

A Phan glybu brenhines2 Cron. 9.1. Mat. 12.42. Luc. 11.31. Saba glôd Salo­mon, am enw 'r Arglwydd, hi a ddaeth iw brofi ef â chwestiwnau caled.

2 A hi a ddaeth i Jerusalem â llu mawr iawn, â chamêlod yn dwyn aroglau, ac aur lawer iawn, a meini gwerthfawr: a hi a ddaeth at Salomon, ac a lefarodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon.

3 A Salomon a fynegodd iddi hi ei hollHeb. ciriau. ofynion: nid oedd dim yn guddiedic rhac y brenin, a'r na fynegodd efe iddi hi.

4 A phan welodd brenhines Saba holl ddoe­thineb Salomon, a'r tŷ a adeiladasei efe,

5 A bwyd ei fwrdd, ar eisteddiad ei weision, a threfn ei wenidogion, a'i dillad hwynt, a'i drulliadau ef, a'i escynfa, ar hyd yr hon yr ai efe i fynu i dŷ 'r Arglwydd: nid oedd mwy­ach yspryd ynddi.

6 A hi a ddywedodd wrth y brenin, gwîr yw 'r gair a glywais yn fy ngwlâd am dy yma­droddion di, ac am dy ddoethineb.

7 Etto ni chredais y geiriau, nes i'm ddyfod, ac i'm llygaid weled; ac wele ni fynegasid i mi 'r hanner:Heb. chwane­gaist ddo­eth. a daioni [...] y glod. mwy yw dy ddoethineb, a'th ddaioni, nâ 'r glôd a glywais i.

8 Gwynfŷd dy wŷr di, gwynfŷd dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron di, yn clywed dy ddoethineb.

9 Bendigedic fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th hoffodd di, i'th roddi ar deyrn­gader Israel; o herwydd cariad yr Argl­wydd tu ag at Israel yn dragywydd, y go­sododd efe di yn frenin, i wneuthur barn a chyfiawnder.

10 A hi a roddes i'r brenin chwech vgain talent o aur, a phêr aroglau lawer iawn, a mei­ni gwerth-fawr: ni ddaeth y fath bêraroglau mwyach, cyn amled â'r rhai a roddes brenhines Saba i'r brenin Salomon.

11 A llongau Hiram hefyd, y rhai a gludent aur o Ophir, a ddygasant o Ophir lawer iawn o goed2 Cron. 9.10. & 2.8. Almugim, ac o feini gwerthfawr.

12 A'r brenin a wnaeth o'r coed Almugim annelau i dŷ 'r Arglwydd, ac i dŷ 'r brenin, a thelŷnau, a psaltringau i gantorion: ni ddaeth y fath goed Almugim, ac ni welwyd hyd y dydd hwn.

13 A'r brenin Salomon a roddes i frenhines Saba ei holl ddymuniad, yr hyn a ofvnnodd hi, heb law 'r hyn a roddodd Salomon iddi hiHeb. yn ol llaw brenhin Salomon. o'i frenhinol haelioni: felly hi a ddychwelodd, ac a aeth iw gwlâd, hi a'i gweision.

14 A phwys yr aur a ddoe i Salomon bob blwyddyn, oedd chwe chant, a thri vgain, a chwech o dalentau aur.

15 Heb law 'r hyn a gai efe gan y march­nadwŷr, ac o farsiandiaeth y llyssieu-wŷr, a chan holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlâd.

16 A'r brenin Salomon a wnaeth ddau cant o dariannau aur dilin: chwe chan siel o aur a roddodd efe ym mhob tarian.

17 A thrychant o fwccledi o aur dilin, tair punt o aur a roddes efe ym mhob bwccled: a'r brenin a'i rhoddes hwynt yn nhŷPen. 7.2. coedwig Libanus.

18 A'r brenin a wnaeth2 Cron. 9.17. orsedd-faingc fawr o Ifori, ac a'i gwiscodd hi ag aur o'r goreu.

19 Chwech o risiau oedd i'r orsedd-faingc, a phen crwn oedd i'r orsedd-faingc o'r tu ôl iddi, a chanllawiau o bob tu i'r eistedd-le, a dau lew yn sefyll yn ymyl y canllawiau.

20 A deuddec o lewod oedd yn sefyll yno, ar y chwe grîs o'r ddeutu: ni wnaethpwydHeb. felly. y sath yn vn deyrnas.

21 A holl lestri yfed y brenin Salomon oedd o aur, a holl lestri tŷ coed-wig Libanus oedd aur pur, nid oedd arian ynddynt, ni roddid dim bri arno yn nyddiau Salomon.

22 O herwydd llongau Tharsis oedd gan y brenin ar y môr, gyd â llongau Hiram: vnwaith yn y tair blynedd y deuei llongau Tharsis2 Cron. 21. yn dwyn aur, ac arian, acNeu, Elephan­tiaid. Ifori, ac eppâod, a pheunod.

23 A'r brenin Salomon a ragôrodd ar holl frenhinoedd y ddaiar, mewn cyfoeth a doe­thineb.

24 A'r holl fŷd oedd yn ceisio gweled wy­neb Salomon, i glywed ei ddoethineb ef, a ro­ddasei Duw yn ei galon ef.

25 A hwy a ddygasant bob vn ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwiscoedd, ac arsau, a phêr-aroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwy­ddyn.

26 A2 Cron. 1.14. Salomon a gasclodd gerbydau, a mar­chogion; ac yr oedd ganddo fîl a phedwar cant o gerbydau, a de [...]ddeng-mil o farchogion: y rhai a osododd efe yn ninasoedd y cerbydau, a chydâ 'r brenin yn Jerusalem.

27 A'r brenin aHeb. rodd [...]s. wnaeth yr arian yn Jeru­salem fel cerric, a'r cedr-wŷdd a wnaeth efe fel sycomor-wŷdd yn y dol-dir, o amldra.

28 A2 Cron. 1.16. & 9.28. Heb. mynediad y meirch oedd [...]n Salomon meirch a ddygid i Salomon o'r Aipht, ac edafedd llin: marchnadyddion y bre­nin a gymmerent yr edafedd llin dan bri [...].

29 A cherbyd a ddeue i fynu, ac a ai allan o'r Aipht, am chwech chan s [...]l o arian, a march am gant a dec a deugain: ac fel hyn i holl fren­hinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria, y dygent bwy feirch, trwy eu llaw hwynt.

PEN. XI.

1 Gwragedd a gordderchadon Salomon. 4 Y rhai hynny yn ei henaint yn ei dynnu ef i gaudduw­iaeth. 9 Duw yn ei fygwth ef. 14 Gwrth­wynebwyr Salomon oedd Hadad, a aeth i'r Aipht, 23 Rezon a deyrnasodd yn Damaseus; 26 a Jeroboam, i'r hwn y prophwydodd Ahiah. 41 Gweithredoedd, a theyrnasiad, a marwolaeth Salomen: Rehoboam yn teyrnasu ar ei ôl ef.

ONd y brenin Salomon a garoddDeut. 17.17. Eccles. 47.19. lawer o wragedd dieithr, (Neu, gyda. heb law merch Pha­rao) Moabiesau, Ammoniesau, Edomiesau, Si­doniesau, a Hethiesau,

2 O'r cenhedloedd am y rhai y dywedasei yr Arglwydd wrth feibion Israel,Exod. 34.16. nac ewch i mewn attynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn attoch chwi, diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duwiau hwynt: wrthynt hwy y glynodd Salomon mewn cariad.

3 Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wra­gedd, yn freninesau, a thry chant o ordderch­wragedd: a'i wragedd a droesant ei galon ef.

4 A phan heineiddiodd Salomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duwiau dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyd â'r Argl­wydd ei Dduw, fel y buasei calon Dafydd ei dâd ef.

5 Canys Salomon a aeth ar ôlBarn. 2.13. Astoreth duwies y Sidoniaid, ac ar ôl Milcom ffieidd­dra 'r Ammoniaid.

6 A Salomon a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd; ac ni chyflawnodd fy­ned ar ôl yr Arglwydd, fel Dafydd ei dâd.

7 Yna Salomon a adailadodd vchelfa i Che­mos ffieidd-dra Moab, yn y bryn sydd ar gyfer Jerusalem; ac i Moloch ffieidd-dra meibion Ammon.

8 Ac felly y gwnaeth efe iw holl wragedd dieithr, y rhai a arogl-darthasant, ac a aber­thasant iw duwiau.

9 A'r Arglwydd a ddigiodd wrth Salomon, o herwydd troi ei galon ef oddi wrth Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a ymddangosasai iddo efPen. 3.5. & 9.2. ddwy waith,

10 Ac a orchymynnasei iddoPen. 6.12. am y peth hyn, nad elei efe ar ôl duwiau dieithr: ond ni chad­wodd efe yr hyn a orchymynnasei yr Arglwydd.

11 Am hynny y dywedodd yr Arglwydd wrth Salomon, o herwydd bod hyn ynot ti, ac na chedwaist fy nghyfammod, a'm deddfau a orchymynnais i ti, gan rwygo yPen. 12.15. rhwygaf y frenhiniaeth oddi wrthit ti, ac a'i rhoddaf hi i'th wâs di.

12 Etto yn dy ddyddiau di ni wnâf hyn, er mwyn Dafydd dy dâd: o law dy fab di y rhwy­gaf hi.

13 Ond ni rwygaf yr holl frenhiniaeth; vn llwyth a roddaf i'th fab di er mwyn Dafydd fy ngwâs, ac er mwyn Jerusalem, yr hon a etholais.

14 A'r Arglwydd a gyfododd wrthwynebwr i Salomon, Hadad yr Edomiad: o hâd y brenin yn Edom, yr oedd efe.

15 Canys pan2 Sam. 8.14. oedd Dafydd yn Edom, a Joab tywysog y filwriaeth yn myned i fynu i gladdu y lladdedigion, wedi iddo daro pob gwryw yn Edom:

16 (Canys chwe mîs yr arhosodd Joab yno, a holl Israel, nes difetha pob gwryw yn Edom.)

17 Yr Hadad hwnnw a ffodd, a gwŷr Edom o weision ei dâd gyd ag ef, i fyned i'r Aipht, a Hadad yn fachgen bychan etto.

18 A hwy a gyfodasant o Midian, ac a dda­ethant i Paran, ac a gymmerasant wŷr gyd â hwynt o Paran, ac a ddaethant i'r Aipht, at Pharao brenin yr Aipht, ac efe a roddes iddo ef dŷ, ac a ddywedodd am roddi bwyd iddo, ac a roddodd dîr iddo.

19 A Hadad a gafodd ffafor fawr yngolwg Pharao, ac efe a roddes iddo ef yn wraig chwaer ei wraig ei hun, chwaer Tahpenes y frenhines.

20 A chwaer Tahpenes a ymddug iddo ef Genubath ei fab, a Tahpenes a'i diddyfnodd ef yn nhŷ Pharao: a Genubath fû yn nhŷ Pharao, ym mysc meibion Pharao.

21 A phan glybu Hadad yn yr Aipht, huno o Ddafydd gyd â'i dadau, a marw o Joab tywy­sog y filwriaeth, Hadad a ddywedodd wrth Pharao,Heb. anfon fi ymaith. gollwng fi, fel yr elwyf i'm gwlâd fy hun.

22 A dywedodd Pharao wrtho ef, ond pa beth sydd arnat ei eisieu gyd â mi, pan wyt, wele, yn ceisio myned i'th wlâd dy hun? ac efe a ddywedodd, dim; eithr gan ollwng go­llwng fi.

23 A Duw a gyfododd wrthwyneb-wr arall yn ei erbyn ef, Rezon fab Eliadah, yr hwn a ffoesei oddi wrth Hadadezer brenin Zobah ei arglwydd:

24 Ac efe a gynhullodd wŷr atto, ac a aeth yn dywysog ar fyddin,2 Sam. 8.3. & 10.18. pan laddodd Dafydd hwynt o Zobah: a hwy a aethant i Ddamas­cus, ac a drigasant ynddi, ac a deyrnasasant yn Damascus.

25 Ac yr oedd efe yn wrthwyneb-wr i Is­rael holl ddyddiau Salomon, heb law y drwg a wnaeth Hadad: ac efe a ffieiddiodd Israel, ac a deyrnasodd ar Syria.

26 A2 Cron. 13.6. Jeroboam mab Nebat, Ephratead o Zereda, (ac enw ei fam ef oedd Serfah yr hon oedd wraig weddw) gwâs i Salomon, a ddercha­fodd hefyd ei law yn erbyn y brenin.

27 Ac o achos hyn y derchafodd efe ei law yn erbyn y brenin: Salomon a adeiladodd Milo, ac a gaeodd adwyau dinas Dafydd ei dâd.

28 A'r gŵr Jeroboam oedd rymmus o nerth: a Salomon a ganfu 'r llangc hwnnw yn medru gwneuthur gwaith, ac a'i gwnaeth ef yn oruch­wiliwr ar hollwaith. faich tŷ Joseph.

29 A'r prŷd hynny a Jeroboam yn myned allan o Jerusalem, y prophwyd Ahiah y Siloniad a'i cafodd ef ar y ffordd, ac efe oedd wedi ei wisco mewn gwisc newydd, a hwynt ill dau oeddynt yn vnic yn y maes.

30 Ac Ahiah a ymaflodd yn y wisc newydd oedd am dano ef, ac a'i rhwygodd yn ddeuddec o ddarniau.

31 Ac efe a ddywedodd wrth Jeroboam, cymmer i ti ddeg darn: canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, wele fi yn rhwygo y frenhiniaeth o law Salomon, a rhoddaf ddêc llwyth i ti:

32 (Ond vn llwyth fydd iddo ef, er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerusalem, y ddinas a etholais i o holl lwythau Israel.)

33 O blegit iddynt fy ngwrthod i, ac ym­grymmu i Astoreth duwies y Sidoniaid, ac i Chemos duw y Moabiaid, ac i Milcom duw meibion Ammon, ac na rodiasant yn fy ffyrdd i, i wneuthur yr hyn oedd vnion yn fy ngo­lwg i, ac i wneuthur fy neddfau, a'm barnedi­gaethau, fel Dafydd ei dâd.

34 Ond ni chymmeraf yr holl frenhiniaeth o'i law ef: eithr gwnaf ef yn dywysog holl ddy­ddiau ei einioes, er mwyn Dafydd fy ngwâs, yr hwn a ddewisais i, yr hwn a gadwodd fy ngor­chymynion, a'm deddfau i.

35 EithrPen. 12 15. cymmeraf yr holl frenhiniaeth o law ei fab ef, a rhoddaf o honi i ti ddêc llwyth.

36 Ac iw fab ef y rhoddaf vn llwyth fel y byddoHeb. [...] neu lamp. goleuni i'm gwâs Dafydd, yn wastadol ger fy mron yn Jerusalem, y ddinas a ddewisais i mi, i osod fy enw yno.

37 A thi a gymmerafi fel y teyrnasech yn ôl yr hyn oll a ddymuno dy galon: a thi a fyddi frenin ar Israel.

38 Ac os gwrandewi di ar yr hyn oll a or­chymynnwyf i ti, a rhodio yn fy ffyrdd i, a gwneuthur yr hyn sydd vnion yn fy ngolwg i, i gadw fy neddfau, a'm gorchymynion, fel y gwnaeth Dafydd fy ngwâs, yna mi a fyddaf gyd â thi, ac a adeiladaf i ti dŷ siccr, fel yr adeiledais i Ddafydd, ac mi a roddaf Israel i ti.

39 A mi a gystuddiaf hâd Dafydd o blegit hyn, etto nid yn dragywydd.

40 Am hynny Salomon a geisiodd ladd Jero­boam, a Jeroboam a gyfododd, ac a ffoawdd i'r Aipht, at Sisac brenin yr Aipht, ac efe a fu yn yr Aipht hyd farwolaeth Salomon.

41 A'r rhan arall oNeu, eiriau, neu, be­thau. weithredoedd Salomon, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'i ddoethineb ef, onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr gweithre­doedd Salomon?

42 A'r dyddiau y teyrnasodd Salomon, yn Jerusalem, ar holl Israel, oedd 2 Cron. 9.30. ddeugain mlhy­nedd.

43 A Salomon a hunodd gyd â'i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ei dâd, aA el­wir Mat. 1.7. Roboam. Rehobo­am ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PEN. XII.

1 Yr Israeliaid wedi ymgasclu yn Sichem i goroni Rehoboam, trwy Jeroboam yn ceisio rhyddhad ganddo. 6 Rehoboam yn gwrthod cyngor yr henaf-gwyr, a thrwy gyngor y gwyr ieuaingc, yn eu hatteb hwy yn arw. 16 Deg llwyth yn gwrthryfela, ac yn llâdd Adoram, ac yn gyrru Rehoboam i ffo. 21 Rehoboam yn casclu llu, a Semaiah yn gwarafun iddo. 25 Jeroboam yn ymgadarnhau a threfydd, 26 a thrwy ddelw­addoliaeth y ddau lo.

YNa2 Cron 10.1. Rehoboam a aeth i Sichem: canys i Sichem y daethei holl Israel iw vrddo ef yn frenin.

2 A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac efe etto yn yr Aipht, (canys efePen. 11.40. a ffoesei o wydd Salomon y brenin, a Jeroboam a arhosei yn yr Aipht)

3 Hwy a anfonasant, ac a alwasant arno ef, a Jeroboam a holl gynnulleidfa Israel a dda­ethant, ac a ymddiddanasant â Rehoboam, gan ddywedyd,

4 Dy dâd tiPen. 4.6. a wnaeth ein hiau ni yn drom: ac yn awr yscafnhâ beth o gaethiwed caled dy dâd, ac o'i iau drom ef, a roddes efe arnom ni, ac ni a'th wasanaethwn di.

5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, ewch etto dridiau, yna dychwelwch attafi. A'r bobl a aethant ymaith.

6 A'r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â'r henuriaid a fuasei yn sefyll ger bron Salo­mon ei dâd ef, tra yr ydoedd efe yn fyw, ac a ddywedodd, pa fodd yr ydych chwi yn cyn­ghori atteb i'r bobl hyn?

7 A hwy a lefarasant wrtho ef, gan ddywe­dyd, os byddi di heddyw wâs i'r bobl hyn, a'i gwasanaethu hwynt, a'i hatteb hwynt, a lle­faru wrthynt eiriau têg, yna y byddant weisi­on i ti byth.

8 Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid, yr hwn a gynghorasent iddo ef, ac efe a ymgyn­ghorodd â'r gwyr ieuaingc, a gynnyddasei gyd ag ef, a'r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef.

9 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr attebom y [Page] bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthif, gan ddywe­dyd, yscasuhâ yr iau a roddodd dy dâd ar­nom ni?

10 A'r gwyr ieuaingc, y rhai a gynnydda­sent gyd ag ef, a lefarasant wrtho, gan ddywe­dyd, fel hyn y dywedi di wrth y bobl ymma, y rhai a lefarasant wrthit, gan ddywedyd, dy dâd ti a drymhaodd ein hiau ni, ond yscansnhâ di hi arnom ni; fel hyn y lleferi di wrth­ynt, fy mŷs bach fydd breiscach nâ lwynau fy nhâd.

11 Ac yn awr fy nhâd a'ch llŵythodd ag iau drom, a minne a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhâd a'ch cospodd chwi â ffrewyllau, a mi a'ch cospaf chwi ag scorpionau.

12 A daeth Jeroboam, a'r holl bobl, at Re­hoboam y trydydd dydd, fel y llefarasei yr brenin, gan ddywedyd; dychwelwch attafi y trydydd dydd.

13 A'r brenin a attebodd y bobl ynHeb. galed. arw, ac a wrthododd gyngor yr henuriaid, a gyng­horasent hwy iddo;

14 Ac a lefarodd wrthynt hwy yn ôl cyn­gor y gwŷr ieuaingc, gan ddywedyd,2 Cron. 10.11. fy nhâd a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minne a chwanegaf ar eich iau chwi; fy nhâd a'ch ce­ryddodd chwi â ffrewyllau, a minneu a'ch ceryddaf chwi ag scorpionau.

15 Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl: o herwydd yr achos oedd oddi wrth yr Ar­glwydd, fel y cwpleid ei air ef, yr hwn a lefara­sei yr Arglwydd drwy lawPen. 11.11. Ahiah y Siloniad, wrth Jeroboam fab Nebat.

16 A phan welodd holl Israel na wranda­wei'r brenin arnynt hwy, y bobl a attebasant y brenin, gan ddywedyd, pa ran sydd i ni yn Nasydd? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse; ô Israel dos i'th bebyll; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd: felly Israel a aethant iw pebyll.

17 Ond meibion Israel, y rhai oedd yn pre­sswylio yn ninasoedd Juda, Rehoboam a deyr­nasodd arnynt hwy.

18 A'r brenin Rehoboam a anfonodd Ado­ram, yr hwn oedd ar y drêth, a holl Israel a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw: am hynny 'r brenin Rehoboam aHeb. ymgryf­haodd. bryssurodd i fyned iw gerbyd i ffoi i Jerusalem.

19 Felly Israel aNeu, cwympa­sant oddi wrth dy Ddafydd. wrthryfelasant yn erbyn tŷ Ddafydd, hyd y dydd hwn.

20 A phan glybu holl Israel ddychwelyd o Jeroboam, hwy a anfonasant, ac a'i galwasant ef at y gynnulleidfa, ac a'i gosodasant ef yn fre­nin ar holl Israel: nid oedd yn myned ar ôl tŷ Ddafydd, onid llwyth JudaPen. 11.13. yn vnic.

21 A phan ddaeth Rehoboam i Jerusalem, efe a gasclodd holl dŷ Juda, a llwyth Benjamin, cant a phedwar vgain mîl o wŷr dewisol, cym­mwys i ryfel, i ymladd yn erbyn tŷ Israel, i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam fab Salomon.

22 Ond gair Duw a ddaeth at2 Cron. 11.2. Semaiah gŵr Duw, gan ddywedyd,

23 Adrodd wrth Rehoboam fab Salomon brenin Juda, ac wrth holl dŷ Juda, a Benja­min, a gweddill y bobl, gan ddywedyd,

24 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, nac [...]wch i fynu, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel; dychwelwch bob vn iw dŷ ei hun, canys drwofi y mae y peth hyn: a hwy a wrandawsant ar air yr Arglwydd, ac a ddychwelasant i fyned ymmaith, yn ôl gair Arglwydd.

25 Yna Jeroboam a adeiladodd Sechem ym mynydd Ephraim, ac a drigodd ynddi hi, ac a aeth oddi yno, ac a adeiladodd Penuel.

26 A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon, yn awr y dychwel y frenhiniaeth at dŷ Dda­fydd:

27 Os â y bobl hyn i fynu i wneuthur aber­thau yn nhŷ 'r Arglwydd yn Jerusalem, yna y trŷ calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehobo­am brenin Juda, a hwy a'm lladdant i, ac a ddychwelant at Rehoboam brenin Juda.

28 Yna 'r brenin a ymgynghorodd, ac a wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd wrthynt hwy, gormodd yw i chwi fyned i fynu i Jeru­lem;Exod. 32.8. wele dy dduwiau di, o Israel, y rhai a'th ddug di i fynu o wlâd yr Aipht.

29 Ac efe a osododd vn yn Bethel, ac a oso­des y llall yn Dan.

30 A'r peth hyn a aeth yn bechod: o blegit y bobl a aethant ger bron y naill hyd Dan.

31 Ac efe a wnaeth dŷ vchelfeydd, ac a wnaeth offeiriaid o'r rhai gwaelaf o'r bobl, y rhai nid oedd o feibion Lefi.

32 A Jeroboam a wnaeth vchel-ŵyl yn yr wythfed mîs, ar y pymthecfed dydd o'r mîs, fel yr vchelŵyl oedd yn Juda, ac efe aNeu, aeth i fynu at yr all. offrym­modd ar yr allor (felly y gwnaeth efe yn Bethel)Neu, i aberthu gan aberthu i'r lloi a wnaethei efe: ac efe a osododd yn Bethel offeiriaid yr vchelfaoedd a wnaethei efe.

33 Ac efe aNeu, aeth i fy­nu at yr all. offrymmodd ar yr allor a wnaethei efe yn Bethel, y pymthecfed dydd o'r wythfed mîs, sef yn y mîs a ddychymygasei efe yn ei galon ei hun; ac efe a wnaeth vchelwyl i feibion Israel, ac efe aeth i fynu at yr allor i arogl-darthu.

PEN. XIII.

1 Llaw Jeroboam, yr hon a ystynnasai efe yn erbyn yr hwn a brophwydasai yn erbyn yr allor yn Bethel, yn gwywo, 6 a thrwy weddi 'r Pro­phwyd yn myned yn iach. 7 Y Prophwyd yn gwrthod croesaw y brenin, ac yn myned ymaith o Bethel. 11 Hên Brophwyd yn ei hudo ef, ac yn ei droi yn ei ol. 20 Duw 'n ei geryddu ef, 24 a llew yn ei ladd ef. 26 a'r hen Brophwyd yn ei gladdu ef, 31 ac yn cadarnhau ei brophwy­doliaeth ef. 33 Cyndynrwydd Jeroboam.

AC wele gŵr i Dduw a ddaeth o Juda, drwy air yr Arglwydd, i Bethel: a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor iNeu, offrym [...] arogl-dar­darthu.

2 Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, drwy air yr Arglwydd, ac a ddywedodd, ô allor, allor, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, wele mâb a enir i dŷ Ddafydd, a'i enw2 Bren. 23.16. Josiah, ac efe a a­bertha arnat ti offeiriaid yr vchelfeydd, y rhai sydd yn arogldarthu arnat ti, a hwy a loscant escyrn dynion arnat ti.

3 Ac efe a roddes arwydd y dwthwn hwn­nw, gan ddywedyd, dymma 'r argoel a lefa­rodd yr Arglwydd, wele 'r allor a rwygir, a'r lludw sydd arni, a dywelltir.

4 A phan glybu y brenin air gŵr Duw, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan ddywedyd, deliwch ef: a diffrwy­thodd ei law ef, yr hon a estynnasei efe yn ei erbyn ef, fel na allei efe ei thynnu hi atto.

5 Yr allor hefyd a rwygodd, a'r lludw a dywalltwyd oddi at yr allor, yn ôl yr ar­goel a roddasei gŵr Duw, drwy air yr Ar­glwydd.

6 A'r brenin a attebodd, ac a ddywedodd wrth ŵr Duw, gweddia attolwg ger bron yr Arglwydd dy Dduw, ac ymbil trosofi, fel yr adferer fy llaw i mi: a gŵr Duw a weddiodd ger bron yr Arglwydd, a llaw 'r brenin a ad­ferwyd iddo ef, ac a fu fel cynt.

7 A'r brenin a ddywedodd wrth ŵr Duw, tyred adref gyd â mi, a chymmer luniaeth, ac mi a roddaf rodd i ti.

8 A gŵr Duw a ddywedodd wrth y bre­nin, pe roddit i mi hanner dy dŷ, ni ddeuwn i gyd â thi, ac ni fwytawn fara, ac ni yfwn ddwfr yn y fan hon;

9 Canys fel hyn y gorchymynnwyd i mi drwy air yr Arglwydd, gan ddywedyd, na fwytta fara, ac nac ŷf ddwfr, na ddychwel ychwaith ar hyd y ffordd y daethost.

10 Felly efe a aeth ymmaith ar hyd ffordd arall, ac ni ddychwelodd rhyd y ffordd y dae­thai ar hyd-ddi i Bethel.

11 Ac yr oedd rhyw hên brophwyd yn trigo yn Bethel, a'i fâb a ddaeth, ac a fyne­godd iddo yr holl waith a wnelsei gŵr Duw y dydd hwnnw yn Bethel; a hwy a fynega­sant iw tâd y geiriau a lefarasei efe wrth y brenin.

12 A'i tâd a ddywedodd wrrhynt, pa ffordd yr aeth efe? a'i feibion a welsent y ffordd yr aethei gŵr Duw, yr hwn a ddaethei o Juda.

13 Ac efe a ddywedodd wrth ei feibion, cy­frwywch i mi 'r assyn. A hwy a gyfrwyasant iddo 'r assyn, ac efe a farchogodd arni.

14 Ac efe a aeth ar ôl gŵr Duw, ac a'i cafodd ef yn eistedd tan dderwen, ac a ddy­wedodd wrtho, ai ty di yw gŵr Duw, yr hwn a ddaethost o Juda? ac efe a ddywedodd, ie myfi.

15 Yna efe a ddywedodd wrtho, tyred adref gyd â mi, a bwytta fara.

16 Yntef a ddywedodd, ni allaf ddychwe­lyd gyd â thi, na dyfod gyd â thi: ac ni fwytâf fara, ac nid yfaf ddwfr gyd â thi, yn y fan hon.

17 CanysHeb. bu gair [...]taf. dywetpwyd wrthif drwy yma­drodd yr Arglwydd, na fwytta fara, ac nac ŷf ddwfr yno, ac na ddychwel gan fyned drwy 'r ffordd y daethost ar hyd-ddi.

18 Dywedodd yntef wrtho, prophwyd hefyd ydwyfi fel titheu, ac angel a lefarodd wrthif drwy air yr Arglwydd, gan ddywedyd, dychwel ef gyd â thi i'th dŷ, fel y bwyttao fara, ac yr yso ddwfr? ond efe a ddywedodd gelwydd wrtho.

19 Felly efe a ddychwelodd gyd ag ef, ac a fwyttaodd fara yn ei dŷ ef, ac a yfodd ddwfr.

20 A phan oeddynt hwy yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr Arglwydd at y proph­wyd a barase iddo ddychwelyd.

21 Ac efe a lefodd ar ŵr Duw, 'r hwn a ddaethei o Juda, gan ddywedyd, fel hyn y dywed yr Arglwydd, o herwydd it anufydd­hau i air yr Arglwydd, ac na chedwaist y gorchymyn a orchymynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti,

22 Eithr dychwelaist, a bwytteaist fara, ac yfaist ddwfr yn y lle, am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthit ti, na fwytta fara, ac nac ŷf ddwfr: nid â dy gelain di i feddrod dy dadau.

23 Ac wedi iddo fwytta bara, ac wedi iddo yfed, efe a gyfrwyodd iddo 'r assyn, sef i'r prophwyd a barasei efe iddo ddychwelyd.

24 Ac wedi iddo fyned ymmaith, llew a'i cyfarfu ef ar y ffordd, ac a'i lladdodd ef: a bu ei gelain ef wedi ei bwrw ar y ffordd, a'r assyn oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, a'r llew yn sefyll wrth y gelain.

25 Ac wele wŷr yn myned heibio, ac a ganfuant y gelain wedi ei thaflu ar y ffordd, a'r llew yn sefyll wrth y gelain; a hwy a ddae­thant, ac a adroddasant hynny yn y ddinas yr oedd yr hên brophwyd yn aros ynddi.

26 A phan glvbu y prophwyd, yr hwn a barasei iddo ef ddychwelyd o'r ffordd, efe a ddywedodd, gŵr Duw yw efe, yr hwn a an­nufyddhaodd air yr Arglwydd: am hynny yr Arglwydd a'i rhoddodd ef i'r llew, yr hwn a'i drylliodd ef, ac a'i lladdodd ef, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd efe wrtho ef.

27 Ac efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, cyfrwywch i mi 'r assyn, a hwy a'i cyfrwyasant.

28 Ac efe a aeth, ac a gafodd ei gelain ef wedi ei thaflu ar y ffordd, a'r assyn, a'r llew yn sefyll wrth y gelain, ac ni fwyttase y llew y gelain, ac ni drylliasei efe yr assyn.

29 A'r prophwyd a gymmerth gelain gŵr Duw, ac a'i gosododd hi at yr assyn, ac a'i dug yn ei hôl: a'r hên brophwyd a ddaeth i'r ddinas i alaru, ac iw gladdu ef.

30 Ac efe a osododd ei gelain ef yn ei fe­ddrod ei hun, a hwy a alarasant am dano ef, gan ddywedyd, ôh fy mrawd.

31 Ac wedi iddo ei gladdu ef, efe a lefarodd wrth ei feibion, gan ddywedyd, pan fyddwyf farw cleddwch finne hefyd yn y bedd y cladd­wyd gŵr Duw ynddo; gosodwch fy escyrn i wrth ei escyrn ef.

32 Canys diammau y bydd yr hyn a le­fodd efe drwy air yr Arglwydd yn erbyn yr allor sydd yn Bethel, ac yn erbyn holl dai 'r vchelfeydd sydd yn ninasoedd Samaria.

33 Wedi 'r peth hyn ni ddychwelodd Je­roboam o'i ffordd ddrygionus, onid efe aHeb. a drodd ac a wna­eth. wnaeth drachefn o wehilion y bobl, offeiriaid i'r vchelfeydd: y neb a fynnei, efeHeb. a lanwai ei law ef. a'i cysseg­rei ef, ac efe a gai fod yn offeiriad i'r vchel­feydd.

34 Ar peth hyn aeth yn bechod i dŷ Jero­boam, iw ddiwreiddio hefyd, ac iw ddeleu oddi ar ŵyneb y ddaiar.

PEN. XIV.

1 Jeroboam, pan glafychodd ei fab Abiah, yn gyrru ei wraig yn ddieithr ag anrhegion i'r Prophwyd Ahiah i Siloh. 5 Ahiah, ar ry­bydd Duw, yn cyhoeddi barn Duw. 17 Abiah yn marw, a'i gladdu ef. 19 Nadab yn dyfod ar ôl Jeroboam. 25 Sesac yn anrheithio Jerusa­lem. 29 Abiam yn dyfod ar ôl Rehoboam.

Y Pryd hynny y clafychodd Abiah mab Je­roboam.

2 A Jeroboam a ddywedodd wrth ei wraig, cyfod attolwg, a newid dy ddillad, fel na wy­pont mai ti yw gwraig Jeroboam; a dos i Si­loh; wele, yno y mae Ahiah y prophwyd, yr hwnPen. 11.31. a ddywedodd wrthif y byddwn frenin ar y bobl ymma.

3 A chymmer yn dy law ddêc o fara, a theisennau, a chostreleid o fêl, a dôs atto ef: efe a fynega i ti beth a dderfydd i'r bachgen.

4 A gwraig Jeroboam a wnaeth felly, ac a gyfododd, ac a aeth i Siloh, ac a ddaeth i [Page] dŷ Ahiah: ond ni allei Ahiah weled, o herwydd ei lygaid ef aHeb. safasai gan he­naint. ballasei o blegit ei henaint.

5 A dywedodd yr Arglwydd wrth Ahiah, wele y mae gwraig Jeroboam yn dyfod i geisio peth gennit tros ei mab, canys claf yw efe; fel hyn ac fel hyn y dywedi wrthi hi: canys pan ddelo hi i mewn, hi a ymddieithra.

6 A phan glybu Ahiah drwst ei thraed hi yn dyfod i'r drws, efe a ddywedodd, tyred i mewn, gwraig Jeroboam, i ba beth yr wyti yn ym­ddieithro? canys myfi a anfonwyd attat ti â newyddion caled.

7 Dôs, dywed wrth Jeroboam, fel hyn y dy­wedodd Arglwydd Dduw Israel, yn gymaint a darfod i mi dy dderchafu di o blith y bobl, a'th wneuthur di yn flaenor ar fy mhobl Israel,

8 A thorri ymaith y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Ddafydd, a'i rhoddi i ti: ac na buosti fel fy ngwâs Dafydd, yr hwn a gadwodd fy ngorchymynion, a'r hwn a rodiodd ar fy ôl i â'i holl galon, i wneuthur yn vnic yr hyn oedd vnion yn fy ngolwg i;

9 Onid a wnaethost ddrwg y tu hwnt i bawb a fu o'th flaen di: ac a aethost, ac a wnaethost it dduwiau dieithr, a delwau toddedic, i'm di­gio i, ac a'm teflaist i o'r tu ôl i'th gefn:

10 Am hynnyPen. 15.29. wele fi yn dwyn drwg ar dŷ Jeroboam, a thorraf ymmaith oddi wrth Jeroboam,Pen. 16.11. Pen. 21.21. 1 Sam. 25.22. 2 Brenin. 9.8. yr hwn a bisso ar bared, y gwar­chaedic, a'r gweddilledic yn Israel, a mi a fwriaf allan weddillion tŷ Jeroboam, fel y bwrir allan dom, nes ei ddarfod.

11 Y cwn a fwytty yr hwn fyddo farw o eiddo Jeroboam yn y ddinas; ac adar y ne­foedd a fwyty yr hwn fyddo farw yn y maes: canys yr Arglwydd a'i dywedodd.

12 Cyfot ti gan hynny, dôs i'rh dŷ: a phan ddelo dy draed i'r ddinas, bydd marw y bachgen.

13 A holl Israel a alarant am dano ef, ac a'i claddant ef; canys efe yn vnic o Jeroboam a ddaw i'r bedd, o herwydd cael ynddo ef beth daioni tu ag at Arglwydd Dduw Israel, yn nhŷ Jeroboam.

14 Yr Arglwydd hefyd a gyfyd iddo frenin ar Israel, yr hwn a dyrr ymmaith dŷ Jero­boam, y dwthwn hwnnw: ond pa beth? ie yn awr.

15 Canys yr Arglwydd a dery Israel, megis y siglir y gorsen mewn dwfr, ac a ddiwreiddia Israel o'r wlâd ddâ hon, a ro­ddodd efe iw tadau hwynt, ac a'i gwascar hwynt tu hwnt i'r afon: o herwydd gwneu­thur o honynt eu llwyni, gan annog yr Arg­lwydd i ddigofaint.

16 Ac efe a ddyry heibio Israel, er mwyn pechodau Jeroboam, yr hwn a bechodd, a'r hwn a wnaeth I Israel bechu.

17 A gwraig Jeroboam a gyfododd, ac a aeth ymmaith, ac a ddaeth i Tirzah: ac a hi yn dyfod i drothwy 'r tŷ, bu farw y bachgen.

18 A hwy a'i claddasant ef, a holl Israel a alarasant am dano, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasei efe drwy law ei wâs Ahiah y prophwyd.

19 A'r rhan arall o weithredoedd Jeroboam, fel y rhyfelodd efe, ac fel y teyrnasodd efe, wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhi­noedd Israel.

20 A'r dyddiau y teyrnasodd Jeroboam oedd ddwy flynedd ar hugain: ac2 Cron. 13.20. efe a hunodd gyd a'i dadau, a Nadab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

21 A Rehoboam mab Salomon a deyrnasodd. yn Juda: mab vn mlwydd a deugain oedd 2 Croe. 12.13. Rehoboam pan aeth efe yn frenin, a dwy flynedd ar bymthec y teyrnasodd efe yn Jeru­salem, y ddinas a ddewisasei'r Arglwydd o holl lwythau Israel, i osod ei enw yno: ac enw ei fam ef oedd Naamah, Ammonies.

22 A Juda a wnaeth ddrygioni yngolwg yr Arglwydd; a hwy a'i annogosant ef i eiddi­gedd, rhagor yr hyn oll a wnaethei eu tadau, yn eu pechodau a wnaethent.

23 Canys hwy a adeiladasant iddynt vchel­feydd, a delwau, a llwynau, ar bob bryn vchel, a than bob pren gwyrdd-las.

24 A gwŷr Sodomiaidd oedd yn y wlâd: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd-dra y cen­hedloedd a fwriasei 'r Arglwydd allan o flaen meibion Israel.

25 Ac yn y bummed flwyddyn i'r brenin Rehoboam,2 Cron. 12.9. Sisac brenin yr Aipht a ddaeth i fynu yn erbyn Jerusalem:

26 Ac efe a ddug ymmaith dryssorau tŷ 'r Arglwydd, a thryssorau tŷ 'r brenin, efe a'i dug hwynt ymmaith oll: dûg ymmaith hefyd yr holl dariannau aurPen. 10.16. a wnaethei Salomon.

27 A'r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt dariannau prês: ac a'i rhoddes hwynt i gadw yn llaw tywysogion yGard. rhedeg­wŷr, y rhai oedd yn cadw drŵs tŷ 'r bre­nin.

28 A phan elei 'r brenin i dŷ 'r Arglwydd, y rhedeg-wŷr a'i dygent hwy, ac a'i hadferent i stafell y rhedeg-wŷr.

29 A'r rhan arall o weithredoedd Reho­boam, a'r hyn oll a wnaeth efe,2 Cron. 12.15. onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhi­noedd Juda?

30 A rhyfel fu rhwng Rehoboam, a Jero­boam yr holl ddyddiau.

31 A Rehoboam a hunodd gyd â'i dadau, ac a gladdwyd gyd â'i dadau yn ninas Da­fydd; ac enw ei fam ef oedd Naamah Am­monites: ac Abiam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PEN. XV.

1 Annuwiol deyrnasiad Abiam. 8 Asa ar ei ôl ef, 11 yn teyrnasu yn ddaionus, 16 a'r rhyfel rhyngtho ef a Baasa yn peri iddo wneuthur cyn­grair â Benhadad. 23 Josaphat yn dyfod ar ei ol ef. 25 Drygionus lywodraeth Nadab. 27 Brad Baasa yn ei erbyn ef, yn cyflawni prophwydoliaeth Ahiah. 31 Hanes Nadab a'i farwolaeth. 33 Drygionus lywodraeth Baasa.

AC yn y ddeunawfed flwyddyn i'r brenin Jeroboam mab Nebat, yr aeth2 Cron. 11.21. Abiam yn frenin ar Juda.

2 Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jeru­salem: ac enw ei fam ef oedd Maachah merch Abisalom.

3 Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dâd, y rhai a wnaethei efe o'i flaen ef: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyd â'r Arglwydd ei Dduw, fel calon Dafydd ei dâd.

4 Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr Ar­glwydd ei Ddduw iddo efHeb. ganwyll neu la [...]p. oleuni yn Jerusa­lem: i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef, ac i siccrhau Jerusalem.

5 O herwydd gwneuthur o Ddafydd yr hyn oedd vnion yngolwg yr Arglwydd, ac na chi­liodd oddi wrth yr hyn oll a orchymynnodd efe iddo, holl ddyddiau ei enioes, onid2 Sam. 11.4. & 13.9. yn achos Vriah yr Hethiad.

6 A rhyfel a fu rhwng Rehoboam a Jero­boam holl ddyddiau ei enioes.

7 A'r rhan arall o weithredoedd Abium, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn scri­fennedic yn2 Cron. 13.3. llyfr Cronicl brenhinoedd Juda? a rhyfel a fu rhwng Abiam a Jeroboam.

8 Ac Abiam a hunodd gyd â'i dadau, a hwy a'i claddasant ef yn ninas Dafydd: ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

9 Ac yn yr2 Cron. 14.1. vgeinsed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel, yr aeth Asa yn frenin ar Juda.

10 Ac vn mlynedd a deugain y teymasodd efe yn Jerusalem: ac enwSef ei nain ef. ei fam ef oedd Maachah merch Abisalom.

11 Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd vnion yng­olwg yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad.

12 Ac efe a yrrodd ymmaith y gwŷr Sodo­miaidd o'r wlâd, ac a fwriodd ymmaith yr holl ddelwau a wnaethei ei dadau.

13 Ac efe a symmudodd2 Cron. 15.16. Maachah ei fam o fod yn frenhines, o herwydd gwneuthur o honi hi ddelw mewn llwyn, ac Asa a ddrylli­odd ei delw hi, ac a'i lloscodd wrth afon Ci­dron.

14 Ond ni fwriwyd ymaith yr vchelfeydd: etto calon Asa oedd berffaith gyd â'r Arglwydd ei holl ddyddiau ef.

15 Ac efe a ddûg i mewn gyssegredic bethau ei dad, a'r pethau a gyssegrasei efe ei hun, i dŷ 'r Arglwydd: yn arian, yn aur, ac yn llestri.

16 A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel, eu holl ddyddiau hwynt.

17 A Baasa brenin Israel a aeth I fynu yn erbyn Juda, ac a adeiladodd Ramah, fel na adawei efe i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa frenin Juda.

18 Yna2 Cron. 16.2. Asa a gymmerodd yr holl arian, a'r aur a adawsid yn nhryssorau tŷ 'r Arglwydd, a thryssoru tŷ 'r brenin, ac efe a'i rhoddes hwynt yn llaw ei weision: a'r brenin Asa a anfonodd at benhadad mab Tabrimon, mab He­sion brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Da­mascus, gan ddywedyd,

19 Cyfammod sydd rhyngofi a thi, rhwng fy nhâd i a'th dâd ti: wele mi a anfomis i ti anrheg o arian, ac aur; dyred, diddymma dy gy­fammod â Baasa brenin Israel, felHeb. yr [...]lo i fynu odd. y cilio efe oddi wrthifi.

20 Felly Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y llu­oedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinaso­edd Israel, ac a2 Cron. 16.3. darawodd Hion, a Dan, ac Abel Bethmaachah, a holl Cinneroth, gyd â holl wlâd Nephtali.

21 A phan glybu Baasa hynny, efe a beidi­odd ag adeiladu Ramah; ac a drigodd yn Tirzah.

22 Yna y brenin Asa a gasglodd holl Juda, heb lyssu neb: a hwy a gymmerasant gerric Ramah, a'i choed, â'r rhai yr adailadasei Baasa, a'r brenin Asa a adeiladodd â hwynt Geba Ben­jamin, a Mispah.

23 A'r rhan arall o holl hanes Asa, a'i holl ga­dernid ef, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'r dinaso­edd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn scri­fennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Juda? eithr yn amser ei henaint, efe a glafychodd o'i draed.

24 Ac Asa a hunodd gyd â'i dadau, ac a gla­ddwyd gyd â'i dadau yn ninas Dafydd ei dâd: aMatth. 1.8. Josaphat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

25 A Nadab mab Jeroboam aH [...]b. deyrna­sodd. ddechreu­odd deyrnasu ar Israel, yn yr a'l flwyddyn i Asa brenin Juda, ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd.

26 Ac efe a wnaeth ddrygioni yngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd ei dâd, ac yn ei bechod ef, â 'r hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

27 A Baasa mab Ahiah o dŷ Issachar a gyd­fwriadodd yn ei erbyn ef, a Baasa a'i tarawodd ef yn Gibethon eiddo 'r Philistiaid: canys Nadab, a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gi­bethon.

28 A Baasa a'i lladdodd ef yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Juda, ac a deyrnasodd yn ei le ef.

29 A phan deyrnasodd, efe a darawodd holl dŷ Jeroboam, ni adawodd vn perchen anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôlPen. 14.10. gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasei efe drwy law ei wâs Ahiah y Siloniad;

30 Am bechodau Jeroboam y rhai a be­chasei efe, a thrwy y rhai y gwnaethei efe i Is­rael bechu; o herwydd ei waith ef yn digio Arglwydd Dduw Israel.

31 A'r rhan arall o hanes Nadab, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?

32 A rhyfel a fu rhwng Asa, a Baasa brenin Israel, eu holl ddyddiau hwynt.

33 Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Ju­da, y teyrnasodd Baasa mab Ahiah ar holl Is­rael yn Tirzah, bedair blynedd a'r hugain.

34 Ac efe a wnaeth ddrygioni yngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod ef, drwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

PEN. XVI.

1, 7 Prophwydoliaeth Jehu yn erbyn Baasa. 5 Elah yn dyfod ar ei ol ef, 8 a Zimri trwy frâd, ar ei ol yntau, 11 ac yn dwyn i ben bro­phwydoliaeth Jehu. 15 Ontri yn ei yrru ef iw losci ei hun, 21 a chwedi ymrannu o'r bobl, yn gorthrechu Tibni, 23 yn adeiladu Samaria, 25 yn teyrnasu yn annuwiol. 27 Ahab ar ei ol ef, 29 yn teyrnasu yn ysceler. 34 Melldith Josua yn dyfod i Hiel am adeiladu Jericho.

YNa y daeth gair yr Arglwydd at Jehu fab Hanani, yn erbyn Baasa, gan ddy­wedyd,

2 O herwydd i'm dy dderchafu o'r llwch, a'th wneuthur yn flaenor ar fy mhobl Israel, a rhodio o honot titheu yn ffordd Jeroboam, a pheri i'm pobl Israel bechu, gan fy nigio â'i pechodau:

3 Wele fi yn torri ymmaith hiliogaeth Ba­asa, a hiliogaeth ei dŷ ef: ac mi a wnâf dy dŷ di felPen. 15.29. tŷ Jeroboam mab Nebat.

4Pen. 14.11. Y cŵn a fwytty 'r hwn fyddo marw o'r eiddo Baasa yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwytty yr hwn fyddo marw o'r eiddo ef yn y maes.

5 A'r rhan arall o hanes Baasa, a'r hyn a wnaeth efe, a'i gadernid ef, onid ydynt yn scri­fennedic yn2 Cron. 16.1. llyfr Cronicl brenhinoedd Israel.

6 A Baasa a hunodd gyd â'i dadau, ac a gladdwyd yn Tirzah, ac Elah ei fab a deyr­nasodd yn ei le ef.

7 Hefyd drwy law Jehu fab Hanani y pro­phwyd, y bu gair yr Arglwydd yn erbyn Ba­asa, ac yn erbyn ei dŷ ef, o herwydd yr holl ddrygioni a wnaeth efe yngolwg yr Arglwydd, [Page] gan ei ddigio ef drwy waith [...]i ddwylaw, gan fod fel tŷ Jeroboam, ac o blegit iddo ei ladd ef.

8 Yn y chweched flwyddyn ar hugain i Asa brenin Juda, y teyrnasodd Elah mab Baasa ar Israel yn Tirzah, ddwy flynedd.

9 A Zimri ei wâs ef, tywysog ar hanner y cerbydau, a gyd-fwriadodd yn ei erbyn ef, ac efe yn yfed yn feddw, yn Tirzah, yn nhŷ Ar­zah yr hwn oedd Heb. ar dy Tirzah, ben teulu yn Tirzah.

10 A Zimri a aeth ac a'i tarawodd ef, ac a'i lladdodd, yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Juda, ac a deyrnasodd yn ei le ef.

11 A phan ddechreuodd efe deyrnasu, ac eistedd ar ei deyrn-gader, efe a laddodd holl dŷ Baasa; ni adawodd efe iddo ef vn i bisso yn erbyn y pared, na'i geraint, na'i gyfeillion.

12 Felly Zimri a ddinistriodd holl dŷ Baa­sa, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd efe yn erbyn Baasa, drwy law Jehu y pro­phwyd.

13 O herwydd holl bechodau Baasa, a phe­chodau Elah ei fab ef, drwy y rhai y pechasant hwy, a thrwy y rhai y gwnaethant i Israel bechu, gan ddigio Arglwydd Dduw Israel, â'u gwagedd.

14 A'r rhan arall o hanes Elah, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy'n scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?

15 Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Juda, y teyrnasodd Zimri saith niwrnod yn Tirzah: a'r bobl oedd yn gwerssyllu yn erbyn Gibethon eiddo 'r Philistiaid.

16 A chlybu 'r bobl y rhai oedd yn y gwerssyll ddywedyd, Zimri a gyd-fwriadodd, ac a laddodd y brenin. A holl Israel a goro­nasant Omri, tywysog y llu, yn frenin, y dwthwn hwnnw, ar Israel, yn y gwerssyll.

17 Ac Omri a aeth i fynu, a holl Israel gyd ag ef, o Gibethon: a hwy a warchaeasant ar Tirzah.

18 A phan welodd Zimri fod y ddinas wedi ei hennill, efe a aeth i balâs tŷ y brenin, ac a loscodd dŷ 'r brenin am ei ben â thân, ac a fu farw;

19 Am ei bechodau yn y rhai y pechodd efe, gan wneuthur drygioni yngolwg yr Arg­lwydd, gan rodio yn ffordd Jeroboam ac yn ei bechod a wnaeth efe, i beri i Israel bechu.

20 A'r rhan arall o hanes Zimri, a'i gydfra­dwriaeth a gydfwriadodd efe; onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhin­oedd Israel?

21 Yna yr ymrannodd pobl Israel yn ddwy ran: rhan o'r bobl oedd ar ol Tibni mab Ginath iw osod ef yn frenin, a rhan ar ôl Omri.

22 A'r bobl oedd ar ôl Omri, a orchfygodd y bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath: felly Tibni a fu farw, ac Omri a deyrnasodd.

23 Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hu­gain i Asa brenin Juda, y teyrnasodd Omri ar Israel ddeuddeng mhlynedd: yn Tirzah y teyr­nasodd efe chwe blynedd.

24 Ac efe a brynodd fynydd Samaria gan Semer, er dwy dalent o arian: ac a adeiladodd yn y mynydd, ac a alwodd enw y ddinas a adeiladasei efe, ar ôl enw Semer arglwydd y mynydd,Heb. Someron. Samaria.

25 Ond Omri a wnaeth ddrygioni yngwydd yr Arglwydd, ac a wnaeth yn waeth nâ'r holl rai a fuasei o'i flaen ef.

26 Canys efe a rodiodd yn holl ffordd Je­roboam mab Nebat, ac yn ei bechod ef, drwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu, gan ddigio Arglwydd Dduw Israel â'u gwagedd hwynt.

27 A'r rhan arall o hanes Omri yr hyn a wnaeth efe, a'i rymmusder a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?

28 Ac Omri a hunodd gyd â'i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria, ac Ahab ei fab a deyr­nasodd yn ei le ef.

29 Ac Ahab mab Omri a ddechreuodd deyr­nasu ar Israel, yn y drydedd flwyddyn ar bym­thec ar hugain i Asa brenin Juda: ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria, ddwy flynedd ar hugain.

30 Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddrygi­oni yngolwg yr Arglwydd, y tu hwynt i bawb o'i flaen ef.

31Heb. Ai. Canys yscafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat, ac efe a gym­merth yn wraig, Jezebel merch Ethbaal bre­nin y Sidoniaid, ac a aeth ac a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymmodd iddo.

32 Ac efe a gyfododd allor i Baal yn nhŷ Baal, yr hwn a adailadasei efe yn Samaria.

33 Ac Ahab a wnaeth lwyn, ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio Arglwydd Dduw Israel, nâ holl frenhinoedd Israel a fuasei o'i flaen ef.

34 Yn ei ddyddiau ef Hiel y Betheliad a adeiladodd Jericho: vn Abi [...]am ei gyntafane­dic, y sylfaenodd efe hi▪ ac yn Segub ei fab ieuangaf y gosododd efe ei phyrth hi, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasei efeJos. 6.26. drwy law Josua mab Nun.

PEN. XVII.

1 Elias, wedi prophwydo yn erbyn Ahab, yn cael ei borthi gan gig-frain yn Cerith, 10 a chan wraig weddw yn Sarepta, 14 a honno yn cael rhâd penllâd, 17 a chyfodi ei mab o farw i fyw, 24 ac yn credu Elias.

ACHeb. Eliahu. Luc. 4.25. Elias y Thesbiad, vn o bresswylwŷr Gilead, a ddywedodd wrth Ahab, fel Eccles. 48.3. Jago. 5.17. mai byw Arglwydd Dduw Israel, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni bydd y bly­nyddoedd hyn, na gwlith, na glaw, onid yn ôl fyngair i.

2 A gair yr Arglwydd a ddaeth atto ef, gan ddywedyd,

3 Dôs oddi ymma, â thro tua 'r dwyrain, ac ymguddia wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen.

4 Ac o'r afon yr ŷfi, a mi a berais i'r cig­frain dy borthi di yno.

5 Felly efe a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair yr Arglwydd: canys efe a aeth, ac a arhosodd wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Ior­ddonen.

6 A'r cigfrain a ddygent iddo fara a chîg y boreu, a bara a chîg bryd nawn: ac efe a yfei o'r afon.

7 Ac yn ôl talm o ddyddiau y sychodd yr afon; oblegid na buasei law yn y wlâd.

8 A gair yr Arglwydd a ddaeth atto ef, gan ddywedyd,

9Luc. 4.26. Cyfod, dos i Sarepta, yr hon sydd i Sidon, ac aros yno: wele gorchymynn [...]is i wraig weddw dy borthi di yno.

10 Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Saraepta; a phan ddaeth efe at borth y ddinas, welse yno wraig weddw yn casclu briwydd: ac effe a al­wodd arni, ac a ddywedodd, dŵg attolwg i mi ychydig ddwfr mewn llestr, fel yr yfwyf.

11 Ac a hi yn myned iw gyrchu, efe a al­wodd arni, ac a ddywedodd, dwg attolwg i mi dammeid o fara yn dy law.

12 A hi a ddywedodd, fel mai byw yr Ar­glwydd dy Dduw, nid oes gennif deisen, onid lloneid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ystên: ac wele fi yn casclu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny, i mi ac i'm mab, fel y bwyttaom hynny, ac y byddom feirw.

13 Ac Elias a ddywedodd wrthi, nac ofna, dôs gwna yn ôl dy air: etto gwna i mi o hyn­ny deisen fechan yn gyntaf, a dŵg i mi, a gwna i ti, ac i'th fab yn ôl hynny.

14 Canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, y blawd yn y celwrn ni threulir, a'r olew o'r ystên ni dderfydd, hyd y dydd y rho­ddo yr Arglwydd law ar wyneb y ddaiar.

15 A hi a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair Elias: a hi a fwyttaodd, ac yntef, a'i thŷlwyth,Neu, lawer o ddyddiau. yspaid blwyddyn.

16 Ni ddarfu y celwrn blawd, a'r ystênolew ni ddarfu, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a ddywedasei efe drwy law Elias.

17 Ac wedi y pethau hyn, y clefychodd mab gwraig y tŷ, ac yr oedd ei glefyd ef mor grŷf, fel na thrigodd anadl ynddo.

18 A hi a ddywedodd wrth Elias, beth sydd i mi a wnelwyf â thi, gŵr Duw: a ddaethost ti attaf i goffau fy anwiredd, ac i ladd fy mab?

19 Ac efe a ddywedodd wrthi, Moes i mi dy fab: ac efe a'i cymmerth ef o'i mynwes hi, ac a'i dûg ef i fynu i stafell yr oedd efe yn aros ynddi, ac a'i gosododd ef ar ei wely ei hun.

20 Ac efe a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, ô Arglwydd fy Nuw, a ddrygaist ti y wraig weddw yr ydwyf i yn ymdeithio gyd â hi, gan lâdd ei mab hi?

21 Ac efe aHeb. ymfesu­rodd. ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, ac a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, ô Arglwydd fy Nuw, dychweled attolwg enaid y bachgen hwnHeb. [...] fewn. iddo eil-waith.

22 A'r Arglwydd a wrandawodd ar lef Elias, ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo, ac efe a ddadebrodd.

23 Ac Elias a gymmerodd y bachgen, ac a'i dug ef i wared o'r ystafell i'r tŷ, ac a'i rhoddes ef iw fam: ac Elias a ddywedodd, gwêl, byw yw dy fab.

24 A'r wraig a ddywedodd wrth Elias, yn awr, wrth hyn y gwn mai gŵr Duw ydwyt ti, ac mai gwirionedd yw gair yr Arglwydd yn dy enau di.

PEN. XVIII.

1 Elias, pan oedd dosta 'r newyn, wedi ei yrru at Ahab, yn cyfarfod ag Obadiah. 9 A hwnnw yn dwyn Ahab at Elias: 17 ac yntau yn ar­gyneddi Ahab, a thrwy dân o'r nef, yn cael y enaes ar brophwydi Baal, 41 a thrwy weddi yn cael glaw, ac yn canlyn Ahab i Jezreel.

AC yn ôl dyddiau lawer, daeth gair yr Ar­glwydd at Elias, yn y drydedd flwyddyn, gan ddywedyd, dos, ymddangos i Ahab, a mi a roddaf law ar wyneb y ddaiar.

2 Ac Elias a aeth i ymddangos i Ahab, a'r newyn oedd dôst yn Samaria.

3 Ac Ahab a alwodd Obadiah, yr hwn oedd Heb. ar ei dy ef. ben teulu iddo: (ac Obadiah oedd yn ofni yr Arglwydd yn fawr:

4 Canys pan ddestrywioddHeb. [...]. Jezebel bro­phwydi yr Arglwydd, Obadiah a gymmerodd gant o brophwydi, ac a'i cuddiodd hwynt, bôb yn ddeg a deugain mewn ogof, ac a'i porthodd hwynt â bara, ac â dwfr.)

5 Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadiah, dôs i'r wlâd, at bôb ffynnon ddwfr, ac at yr holl afonydd: ysgatfydd ni a gawn las-wellt fel y cadwom yn fyw y ceffylau a'r mulod, felHeb. nad ym­dorrom oddiwrth yr anifei­liaid. na adawom i'r holl anifeiliaid golli.

6 Felly hwy a rannasant y wlâd rhyngddynt iw cherdded: Ahab a aeth y naill ffordd ei hunan, ac Obadiah a aeth y ffordd arall ei hunan.

7 Ac fel yr oedd Obadiah ar y ffordd, wele Elias yn ei gyfarfod ef: ac efe a'i hadnabu ef, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ddywedodd, onid ti yw fy arglwydd Elias?

8 Yntef a ddywedodd wrtho, ie myfi: dôs, dywed i'th arglwydd, wele Elias.

9 Dywedodd yntef, pa bechod a wneuthum i, pan roddit ti dy wâs yn llaw Ahab i'm lladd?

10 Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes genhedl, na brenhiniaeth, yr hon ni ddan­fonodd fy arglwydd iddi i'th geisio di; a phan ddywedent, nid yw efe ymma, efe a dyngei y frenhiniaeth, a'r genhedl, na chawsent dydi.

11 Ac yn awr, yr wyt ti yn dywedyd, dôs, dywed i'th arglwydd, wele Elias.

12 A phan elwyf fi oddi wrthit ti, Yspryd yr Arglwydd a'th gymmer di llê nis gwn i; a phan ddelwyf i fynegi i Ahab, ac yntef heb dy gael di, efe a'm lladd i: ond y mae dy wâs di yn ofni yr Arglwydd o'm mebyd.

13 Oni fynegwyd i'm harglwydd yr hyn a wneuthum i, pan laddodd Jezebel brophwydi 'r Arglwydd, fel y cuddiais gan-ŵr o bro­phwydi yr Arglwydd, bôb yn ddeng-ŵr a deu­gain mewn ogof, ac y porthais hwynt â bara, ac â dwfr?

14 Ac yn awr ti a ddywedi, dôs, dywed i'th arglwydd, wele Elias, ac efe a'm lladd i.

15 A dywedodd Elias, fel mai byw Ar­glwydd y lluoedd, yr hwn yr wyf yn sefyll ger ei fron, heddyw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef.

16 Yna Obadiah a aeth i gyfarfod Ahab, ac a fynegodd iddo: ac Ahab a aeth i gyfarfod Elias.

17 A phan welodd Ahab Elias, Ahab a ddy­wedodd wrtho, onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel?

18 Ac efe a ddywedodd, ni flinais i Israel, onid ty di, a thŷ dy dâd, am i chwi wrthod gorchymynion yr Arglwydd, ac iti rodio ar ôl Baalim.

19 Yn awr gan hynny anfon, a chascl attaf holl Israel i fynydd Carmel, a phrophwydi Baal, pedwar cant, a dêc a deugain, a phrophwydi y llwynau, pedwar cant, y rhai sydd yn bwytta ar fwrdd Jezebel.

20 Felly Ahab a anfonodd at holl feibion Israel, ac a gasclodd y prophwydi ynghyd i fynydd Carmel.

21 Ac Elias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd, pa hŷd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr Arglwydd sydd Dduw, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntef; a'r bobl nid attebasant iddo air.

22 Yna y dywedodd Elias wrth y bobl, myfi fy hunan wyf yn fyw o brophwydi yr Ar­glwydd; ond prophwydi Baal ydynt bedwar cant a deng-wr a dengain.

23 Rhodder gan hynny i ni ddau fustach, a dewisant hwy iddynt vn bustach, a darniant ef, a gosodant ar goed, ond na osodant dân taro: a minneu a baratoaf y bustach arall, ac a'i gosodaf ar goed, ac ni roddaf dân tano.

24 A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minneu a alwaf ar enw yr Arglwydd; a'r Duw a attebo drwy dân, bydded efe Dduw: a'r holl bobl a attebasant, ac a ddywedasant, da yw yrHeb. gair. pêth.

25 Ac Elias a ddywedodd wrth brophwydi Baal, dewiswch i chwi vn bustach, a phara­towch ef yn gyntaf, canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau, ond na osodwch dân tano.

26 A hwy a gymmerasant y bustach a ro­ddasid iddynt, ac a'i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o'r boreu hyd hanner dydd, gan ddywedyd, BaalNeu, atteb. gwrando ni; ond nid oedd llef, na neb yn atteb: a hwy a lammasantNeu, wrth. ar yr allor a wnelsid.

27 A bu ar hanner dydd, i Elias eu gwatwor hwynt, a dywedyd, gwaeddwch â llef vchel, duw yw efe, naill a'iNeu, myfyrio. ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe, fe a allei ei fod yn cyscu, ac mai rhaid ei ddeffro ef.

28 A hwy a waeddasant âllef vchel, ac a'i torrasant eu hunain yn ôl eu harfer â chyllill, ac ag ellynnod, nes i'r gwaed ffrydio arnynt.

29 Ac wedi iddi fyned tros hanner dydd, a phrophwydo o honynt nesHeb. derchafu. offrymmu yr hwyr offrwm; etto nid oedd llef, na neb yn atteb, nac ynNeu, ymwran­do. ystyried.

30 A Dywedodd Elias wrth yr holl bobl, nessewch attafi, a'r holl bobl a nessasant atto ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, yr hon a ddrylliasid.

31 Ac Elias a gymmerth ddeuddec o gerric, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethei gair yr Arglwydd atto, gan ddywe­dyd,Gen. 32.28. 2 Bren. 17.34. Israel fydd dy enw di.

32 Ac efe a adeiladodd â'r meini allor yn enw yr Arglwydd, ac a wnaeth ffôs o gylch lle dau fesur o hâd, o amgylch yr allor.

33 Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddarniodd y bustach, ac a'i gosododd ar y coed,

34 Ac a ddywedodd, llenwch bedwar ce­lyrneid o ddwfr, a thywelltwch ar y poeth offrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddywedodd, gwnewch eil-waith; a hwy a wnaethant eil­waith. Ac efe a ddywedodd, gwnewch y dry­dedd waith; a hwy a wnaethant y drydedd waith.

35 A'r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffôs o ddwfr.

36 A phan offrymmid yr hwyr offrwm, Elias y prophwyd a nessaodd, ac a ddywedodd, ô Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddyw mai ti sydd Dduw yn Isra­el, a minneu yn wâs i ti, ac mai trwy dy air ôi y gwneuthum i yr holl bethau hyn.

37 Gwrando fi ô Arglwydd, gwrando fi, fel y gŵypo y bobl h [...]n mai tydi yw 'r Arglwydd Dduw; ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn.

38 Yna tân yr Arglwydd a syrthiodd, ac a yssodd y poeth offrwm, a'r coed, a'r cerrig, a'r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffôs.

39 A'r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant; yr Ar­glwydd, efe sydd Dduw, yr Arglwydd, efe sydd Dduw.

40 Ac Elias a ddywedodd wrthynt hwy, de­liwch brophwydi Baal, na ddianged gŵr o hon­ynt; a hwy a'i daliasant; ac Elias a'i dygodd hwynt i wared i afon Cison, ac a'i lladdodd hwynt yno.

41 Ac Elias a ddywedodd wrth Ahab, dôs i fynu, bwytta, ac ŷf, canys wele Neu, swn trw [...] glaw. drwst llawer o law.

42 Felly Ahab a aeth i fynu i fwytta, ac i yfed, ac Elias a aeth i fynu i ben Carmel, ac a ymostyngodd ar y ddaiar, ac a osododd ei wy­neb rhwng ei liniau:

43 Ac a ddywedodd wrth ei langc, dôs i fynu yn awr, edrych tua 'r môr. Ac efe a aeth i fynu ac a edrychodd, ac a ddywedodd, nid oes dim: dywedodd yntef, dôs etto saith waith.

44 A'r seithfed waith y dywedodd efe, wele gwmwl bychan fel cledr llaw gŵr yn derchafu o'r môr. A dywedodd yntef, dôs i fynu, dy­wed wrth Ahab, rhwym dy gerbyd, a dôs i wared, fel na'th rwystro 'r glaw.

45 Ac yn yr ennyd honno, y nefoedd a ddu­odd gan gwmylau a gwynt, a bu glaw mawr. Ac Ahab a farchogodd, ac a aeth i Jezreel.

46 A llaw yr Arglwydd oedd ar Elias, ac efe a wregyssodd ei lwynau, ac a redodd o flaen Ahab, nesHeb. dy. ei ddyfod i Jezreel.

PEN. XIX.

1 Elias wrth fygwth Jezebel, yn ffo i Beerseha, 4 a phan oedd flin gantho ei enioes, yn cael cyssur gan Angel. 9 Duw yn ymddangos iddo yn Horeb, ac yn ei anfon ef i enneinio Hazael, Jehu, ac Eliseus. 19 Eliseus, wedi canu yn iach i'r eiddo, yn canlyn Elias.

AC Ahab a fynegodd i Jezebel yr hyn oll a wnaethei Elias; a chyd â phob peth, y modd y lladdasei efe yr holl brophwydi â'r cleddyf.

2 Yna Jezebel a anfonodd gennad at Elias, gan ddywedyd, fel hyn y gwnelo y duwiau, ac fel hyn y chwanegont, oni wnâf erbyn y prŷd hyn y foru, dy enioes di fel enioes vn o honynt hwy.

3 A phan welodd efe hynny, efe a gyfododd, ac a aeth am ei enioes, ac a ddaeth i Beerseba, yr hon sydd yn Juda, ac a adawodd ei langc yno.

4 Ond efe a aeth i'r anialwch daith diwrn­od, ac a ddaeth ac a eisteddodd tan ferywen: ac a ddeisyfioddHeb. iw enioes. iddo gael marw; dywedodd hefyd, digon yw, yn awr Arglwydd cymmer fy einioes; canys nid ydwyf fi well nâ 'm tadau.

5 Ac fel yr oedd efe yn gorwedd, ac yn cyscu tan ferywen, wele angel a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, cyfot, bwytta.

6 Ac efe a edrychodd, ac wele deisen wedi ei chrasu ar farwor, a phioled o ddwfr wrth eiHeb. obennydd. ben ef: ac efe a fwyttaodd, ac a yfodd, ac a gyscodd drachefn.

7 Ac angel yr Arglwydd a ddaeth drachefn yr ail waith, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddy­wedodd, cyfot a bwytta, canys y mae i ti lawer o ffordd.

8 Ac efe a gyfododd, ac a fwyttaodd, ac a yfodd, a thrwy rym y bwyd hwnnw y cerdd­odd efe ddeugain nhiwrnod a deugain nhôs, hyd Horeb mynydd Duw.

9 Ac yno yr aeth efe i fewn ogof, ac a let­teuodd yno, ac wele air yr Arglwydd atto ef, ac efe a ddywedodd wrtho, beth a wnei di ymma Elias?

10 Ac efe a ddywedodd, dygais fawr zêll dros [Page] Arglwydd Dduw y lluoedd, o herwydd i fei­bion Israel wrthod dy gyfammod ti, a destrywio dy allorau di, a lladd dy brophwydi â'r cleddyf; aRhuf. 11.3. mi fy hunan a adawyd, a cheisio y maent ddwyn fy enioes inneu.

11 Ac efe a ddywedodd, dôs allan, a sâf yn y mynydd ger bron yr Arglwydd. Ac wele, yr Arglwydd yn myned heibio, a gwynt mawr a chrŷf yn rhwygo yr mynyddoedd, ac yn dryllio yr creigiau o flaen yr Arglwydd, ond nid oedd yr Arglwydd yn y gwynt: ac ar ôl y gwynt, daiar-gryn, ond nid oedd yr Arglwydd yn y ddaiar-gryn.

12 Ac ar ôl y ddaiar-gryn, tân; ond nid oedd yr Arglwydd yn y tân: ac ar ôl y tân, llef ddistaw fain.

13 A phan glybu Elias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrŵs yr ogof: ac wele lef yn dyfod atto, yr hon a ddywedodd, beth a wnei di ymma Elias?

14 Dywedodd yntef, dygais fawr zêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd, o herwydd i fei­bion Israel wrthod dy gyfammod ti, a destrywio dy allorau, a lladd dy brophwydi â'r cleddyf, a mi fy hunan a adawyd, a cheisio y maent fy enioes inneu iw dwyn hi ymaith.

15 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, dôs, dychwel i'th ffordd i anialwch Damascus; a phan ddelych, eneinia Hazael yn frenin ar Syria.

16 A2 Bren. 9.1. Eccle. 48.8. Jehu fab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel: acLuc. 4.27. Elisêus fab Saphat, o Abel Me­holah, a eneini di yn brophwyd yn dy lê dy hun.

17 A'r hwn a ddiango rhac cleddyf Ha­zael, Jehu a'i llâdd ef: ac Elisêus a lâdd yr hwn a ddiango rhac cleddyf Jehu.

18Rhuf. 11.4. Ac mi aNeu, [...]dawaf. adewais yn Israel saith o fil­oedd; y gliniau oll ni phlygasant i Baal, a phob genau a'r nis cussanodd ef.

19 Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Elisêus fab Saphat yn aredic, a deuddec cwpl o ychen o'i flaen, ac efe oedd gyd â'r deuddecfed: ac Elias a aeth heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef.

20 Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Elias, ac a ddywedodd, attolwg gâd i mi gussanu fy nhâd a'm mam, ac yna mi a ddenaf ar dy ôl: ac yntef a ddywedodd wrtho, dôs, dychwel; canys beth a wneuthum i ti?

21 Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymmerth gwpl o ychen, ac a'i lladdodd, ac ag offer yr ychen y berwodd efe ei cîg hwynt, ac a'i rhoddodd i'r bobl, a hwy a fwyt­tasant: yna efe a gyfododd, ac a aeth ar ôl Eli­as, ac a'i gwasanaethodd ef.

PEN. XX.

1 Benhadad yn anfoddlon i wrogaeth Ahab, yn gwarchae ar Samaria. 13 Lladd y Syriaid trwy gyngor prophwyd. 22 Y Syriaid, fel y dyweda­sai 'r prophwyd i Ahab, yn dyfod yn ei erbyn ef yn Aphec, 28 a thrwy air y Prophwyd, a barn Duw, yn cael eu taro drachefn, 31 ac yn ymroi, ac Ahab tan ammod yn gillwng ywaith Benhadad. 35 Y Prophwyd trwy ddammeg, yn peri i Ahab ei farnu ei hun, ac yn datcan barn Duw yn ei erbyn ef.

A Benhadad brenin Syria a gasclodd ei holl lû, a deuddec brenin ar hugain gyd ag ef, a meirch, a cherbydau: ac efe a aeth i fynu, ac a warchaeodd ar Samaria, ac a ryfelodd iw he [...]byn hi.

2 Ac efe a anfonodd gennadau at Ahab bre­bin Israel, i'r ddinas,

3 Ac a ddywedodd wrtho, fel hyn y dywed Benhadad, dy arian a'th aur sydd eiddo fi; dy wragedd hefyd a'th feibion glanaf, ydynt eiddo fi.

4 A brenin Israel a attebodd, ac a ddywe­dodd, yn ôl dy air di, fy arglwydd frenin, myfi a'r hyn oll sydd gennif, ydym eiddo ti.

5 A'r cennadau a ddychwelasant, ac a ddy­wedasant, fel hyn yr ymadroddodd Benhadad, gan ddywedyd, er i mi anfon attat ti, gan ddy­wedyd, dy arian, a'th aur, a'th wragedd, a'th feibion, a roddi di i mi,

6 Etto ynghylch y pryd hyn y foru, yr an­fonaf fy ngweision attat ti, a hwy a chwiliant dy dŷ di, a thai dy weision: a phob peth dy­munol yn dy olwg a gymmerant hwy yn eu dwylo, ac a'i dygant ymmaith.

7 Yna brenin Israel a alwodd holl henuriaid y wlâd, ac a ddywedodd, gwybyddwch atto­lwg, a gwelwch mai ceisio drygioni y mae hwn: canys efe a anfonodd attafi, am fy ngwragedd, ac am fy meibion, ac am fy arian, ac am fy aur, ac nisHeb. nis oed­wais oddi wrtho. gommeddais ef.

8 Yr holl henuriaid hefyd, a'r holl bobl, a ddywedasant wrtho ef; na wrando, ac na chyd­tuna ag ef.

9 Am hynny y dywedodd efe wrth genna­dau Benhadad, dywedwch i'm harglwydd y brenin, am yr hyn oll yr anfonaist ti at dy wâs ar y cyntaf, mi a'i gwnaf, ond ni allaf wneu­thur y peth hyn: a'r cennadau a aethant, ac a ddygasant air iddo drachefn.

10 A Benhadad a anfonodd atto ef, ac a ddy­wedodd, fel hyn y gwnelo y duwiau i mi, ac fel hyn y chwanegant, os bydd pridd Samaria ddigon o ddyrneidiau i'r holl bobl syddHeb. neu, wrth fynhraed. i'm canlyn i.

11 A brenin Israel a attebodd, ac a ddywe­dodd, dywedwch wrtho, nac ymffrostied yr hwn a wregysso ei arfau, fel yr hwn sydd yn eu diosc.

12 A phan glywodd efe yHeb. gair hwn. peth hyn (ac efe yn yfed, ef a'r brenhinoedd, yn y pebyll) efe a ddywedodd wrth ei weision, ymofodwch, a hwy a ymosodasant yn erbyn y ddinas.

13 Ac wele, rhyw brophwyd a nessaodd at Ahab brenin Israel, ac a ddywedodd, fel hyn y dywed yr Arglwydd, oni welai ti 'r holl dyrfa fawr hon? wele mi a'i rhoddaf yn dy law di heddyw, fel y gŵypech mai myfi yw yr Ar­glwydd.

14 Ac Ahab a ddywedodd, drwy bwy? dy­wedodd yntef, fel hyn y dywed yr Arglwydd, drwyNeu, w [...]ision. wŷr ieuaingc tywysogion y taleithiau: ac efe a ddywedodd, pwy aHeb. rwym y. drefna 'r fyddin? dywedodd yntef, tydi.

15 Yna efe a gyfrifodd wŷr ieuangc tywy­sogion y taleithiau, ac yr oeddynt yn ddau cant, a deuddec ar hugain: ac ar eu hôl hwynt, efe a gyfrifodd yr holl bobl, cwbl o feibion Is­rael, yn saith mil.

16 A hwy a aethant allan ganol dydd: a Benhadad oedd yn yfed yn feddw yn y pebyll, ef a'r brenhinoedd, y deuddec brenin ar hugain oedd yn ei gynnorthwyo ef.

17 A gwyr ieuaingc tywysogion y taleithiau a aethant allan yn gyntaf; a Benhadad a anfo­nodd allan, a hwy a fynegasant iddo, gan ddy­wedyd, daeth gwŷr allan o Samaria.

18 Ac efe a ddywedodd, os am heddwch y [Page] daethant allan, deliwch hwynt yn fyw; ac os i ryfel y daethant allan, deliwch hwynt yn fyw.

19 Felly 'r aethant hwy allan o'r ddinas, sef gwŷr ieuaingc tywysogion y taleithiau, a'r llu 'r hwn oedd ar eu hôl hwynt.

20 A hwy a laddasant bawb ei ŵr, a'r Syri­aid a ffoesant, ac Israel a'i herlidiodd hwynt: a Benhadad brenin Syria a ddiangodd ar farch, gydâ 'r gwŷr meirch.

21 A brenin Israel a aeth allan, ac a daraw­odd y meirch, a'r cerbydau, ac a laddodd y Syriaid â lladdfa fawr.

22 A'r prophwyd a nessaodd at frenin Is­rael, ac a ddywedodd wrtho, dôs, ymgryfhâ, gwybydd hefyd, ac edrych beth a wnelech: canys ym mhen y flwyddyn brenin Syria a ddaw i fynu i'th erbyn di.

23 A gweision brenin Syria a ddywedasant wrtho ef, duwiau y mynyddoedd yw eu duwi­au hwynt, am hynny trêch fuant nâ ni: ond ymladdwn â hwynt yn y gwastadedd, ac ni a'i gorthrechwn hwynt.

24 A gwna hyn, tyn ymmaith y brenhinoedd bob vn o'i le, a gosod gaptenieid yn eu lle hwynt.

25 Rhifa hefyd it lu, fel y llu aHeb. gwym­podd. gollaist, meirch am feirch, a cherbyd am gerbyd, ac ni a ymladdwn â hwynt yn y gwastadtir, ac a'i gorthrechwn hwynt: ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt, ac a wnaeth felly.

26 Ac ym-mhen y flwyddyn, Benhadad a gyfrisodd y Syriaid, ac a aeth i fynu i Aphec,Heb. i ryfel ag Israel. i ryfela yn erbyn Israel.

27 A meibion Israel a gyfrifwyd, ac oedd­ynt oll yn bresennol, ac a aethant iw cyfarfod hwynt: a meibion Israel a werssyllasant ar eu cyfer hwynt, fel dwy ddiadell fechan o eifr; a'r Syriaid oedd yn llenwi y wlâd.

28 A gŵr i Dduw a nessaodd, ac a lefarodd wrth frenin Israel, ac a ddywedodd, fel hyn y dywed yr Arglwydd, o herwydd dywedyd o'r Syriaid, Duw y mvnyddoedd yw 'r Arglwydd, ac nid Duw 'r dyffrynnoedd yw efe: am hyn­ny y rhoddaf yr holl dyrfa fawr hon i'th law di, a chwi a gewch wybod mai myfi yw 'r Ar­glwydd.

29 A hwy a werssyllasant y naill ar gyfer y llall, saith niwrnod, ac ar y seithfed dydd y rhy­fel a aeth ynghŷd, a meibion Israel a laddasant o'r Syriaid gan mil o wŷr traed, mewn vn di­wrnod.

30 A'r lleill a ffoesant i Aphec, i'r ddinas, a'r mûr a syrthiodd ar saith mîl ar hugain o'r gwŷr a adawsid: a Benhadad a ffôdd, ac a ddaeth i'r ddinas o stafell i stafell.

31 A'i weision a ddywedasant wrtho, wele yn awr, clywsom am frenhinoedd tŷ Israel, mai brenhinoedd trugarog ydynt hwy: gosodwn attolwg sachliain am ein lwynau, a rhaffau am ein pennau, ac awn at frenin Israel, ond odid efe a geidw dy enioes di.

32 Yno y gwregysasant sach-liain am eu lwynau, a rhaffau am eu pennau, ac a ddaethant at frenin Israel, ac a ddywedasant, Benhadad dy wâs a ddywed, attolwg gâd i mi fyw: dywe­dodd yntef, a ydyw efe etto yn fyw? fy mrawd yw efe.

33 A'r gwŷr oedd yn disgwil yn ddyfal a ddeuai dim oddi wrtho ef, ac a'i cippiasant ar frŷs, ac a ddywedasant, dy frawd Benhadad. Dywedodd yntef, ewch dygwch ef: yna Ben­hadad a ddaeth allan atto ef, ac efe a barodd iddo ddyfod i fynu i'r cerbyd.

34 A Benbadad a ddywedodd wrtho, y di­nasoedd a ddûg fy nhâd i oddiar dy dâd ti, a roddaf trachefn, a chei wneuthur heolydd it yn Namascus, fel y gwnaeth fy nhâd yn Sama­ria. A dywedodd Ahab, mi a'th ollyngaf dan yr ammod hwn: felly efe a wnaeth gyfammod ag ef, ac a'i gollyngodd ef ymaith.

35 A rhyw ŵr o feibion y prophwydi a ddywedodd wrth ei gymmydog drwy air yr Arglwydd, taro fi attolwg. A'r gŵr a wrtho­dôdd ei daro ef.

36 Dywedodd yntef wrtho, o herwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd, wele, pan elech oddi wrthif, llew a'th ladd di. Ac efe a aeth oddi wrtho ef, a llew a'i cyfarfu ef, ac a'i lladdodd.

37 Yna efe a gafodd ŵr arall, ac a ddywe­dodd, taro fi attolwg. A'r gŵr a'i tarawodd ef, gan ei daro, a'i archolli.

38 Felly 'r prophwyd a aeth ymaith, ac a sa­fodd o flaen y brenin ar y ffordd, ac a ymddi­eithrodd â lludw ar ei wyneb.

39 A phan ddaeth y brenin heibio, efe a lefodd ar y brenin, ac a ddywedodd, dy wâs a aeth i ganol y rhyfel, ac wele gŵr a drôdd hei­bio ac a ddug ŵr attafi, ac a ddywedodd, cadw y gŵr hwn: os gan golli y cyll ef, yna y bydd dy enioes di yn lle ei enioes ef, neu ti aHeb. bwysi. deli­dalent o arian.

40 A thra yr oedd dy wâs yn ymdroi ymma, ac accw,Heb. nid oedd efe. efe a ddiangodd. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, felly y bydd dy farn di, ti a'i rhoddaist ar lawr.

41 Ac efe a fryssiodd, ac a dynnodd ymmaith y lludw oddiar ei wyneb; a brenin Israel a'i hadnabu ef, mai o'r prophwydi 'r oedd efe.

42 Ac efe a ddywedodd wrtho, fel hyn y dywed yr Arglwydd,Pen. 22.38. o herwydd it ollwng ymmaith o'th law y gŵr a nodais iw ddifetha, dy enioes di fydd yn lle ei enioes ef, a'th bobl di yn lle ei bobl ef.

43 A brenin Israel a aeth iw dŷ ei hun, yn drist, ac yn ddigllon, ac a ddaeth i Samaria.

PEN. XXI.

1 Ahab yn athrist am ei naccau o winllan Na­both. 5 Naboth, ar lythyrau Jezebel, yn cael barn i farw am gabledd, 15 ac Ahab yn per­chennogi ei winllan ef. 17 Elias yn datcan barn Duw yn erbyn Ahab a Jezebel. 25 A Duw ar edifeirwch Ahab yn oedi ei farnedi­gaeth.

A Digwyddodd yn ôl y pethau hyn, fod gwinllan gan Naboth y Jezreeliad, yr hon oedd yn Jezreel, wrth balâs Ahab brenin Sa­maria.

2 Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth, gan ddy­wedyd, dyro i mi dy winllan, fel y byddo hi i mi yn ardd lyssiau, canys y mae hi yn agos i'm tŷ i, ac mi a roddaf i ti am dani hi win­llan well nâ hi: neu os da fyddHeb. yn ay olwg, gennit, rho­ddaf i ti ei gwerth hi yn arian.

3 A Naboth a ddywedodd wrth Ahab, na atto 'r Arglwydd i mi roddi tref-tadaeth fy he­nafiaid i ti.

4 Ac Ahab a ddaeth iw dŷ yn athrist ac yn ddigllon, o herwydd y gair a lefarasei Naboth y Jezreeliad wrtho ef; canys efe a ddywedasei, ni roddaf it dref-tadaeth fy henafiaid: ac efe a orweddodd ar ei wely, ac a drôdd ei wyneb ymaith, ac ni fwyttai fara.

5 Ond Jezebel ei wraig a ddaeth atto ef, [...]c a ddywedodd wrtho, pa ham y mae dy yspryd [Page] mor athrist ac nad wyt yn bwytta bara?

6 Ac efe a ddywedodd wrthi, o herwydd i mi lefaru wrth Naboth y Jezreeliad, adywe­dyd wrtho, dyro i mi dy win-llan er arian, neu, os mynni di, rhoddaf it win-llan am deni: ac efe a ddywedodd, ni roddaf it fy ngwinllan.

7 A Jezebel ei wraig a ddywedodd wrtho, ydwyt ti yn awr yn teyrnasu ar Israel? cyfot, bwytta fara, a llawenhaed dy galon; myfi a roddaf i ti win-llan Naboth y Jezreeliad.

8 Felly hi a scrifennodd lythyrau yn enw Ahab, ac a'i seliodd â'i sêl ef, ac a anfonodd y llythyrau at yr henuriaid, ac at y pennaethiaid oedd yn ei ddinas yn trigo gyd â Naboth.

9 A hi a scrifennodd yn y llythyrau, gan ddywedyd, cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth vwch ben y bobl.

10 Cyflewch hefyd ddau ŵr o feibion y fall gyferbyn ag ef, i dystiolaethau iw erbyn ef, gan ddywedyd, ti a geblaist Dduw a'r brenin: ac yna dygwch ef allan a llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw.

11 A gwŷr ei ddinas, sef yr henuriaid, a'r pennaethiaid, y rhai oedd yn trigo yn ei ddinas ef, a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonasei Jeze­bel attynt hwy, ac yn ôl yr hyn oedd scrifenne­dic yn y llythyrau a anfonasei hi attynt hwy.

12 Cyhoeddasant ympryd, a chyfleasant Naboth vwch ben y bobl.

13 A dau ŵr o feibion y fall a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef: a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth, ger bron y bobl, gan ddywedyd, Na­both a gablodd Dduw a'r brenin. Yna hwy a'i dygasant ef allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw.

14 Yna 'r anfonasant hwy at Jezebel, gan ddywedyd, Naboth a labyddiwyd, ac a fu farw.

15 A phan glybu Jezebel labyddio Naboth, a'i farw, Jezebel a ddywedodd wrth Ahab, cyfot, perchennoga win-llan Naboth y Jezree­liad, yr hwn a wrthododd ei rhoddi i ti er arian, canys nid byw Naboth, eithr marw yw.

16 A phan glybu Ahab farw Naboth, Ahab a gyfododd i fyned i wared i win-llan Naboth y Jezreeliad, i gymmeryd meddiant ynddi.

17 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Elias y Thesbiad, gan ddywedyd,

18 Cyfod, dos i wared i gyfarfod Ahab brenin Israel, yr hwn sydd yn Samaria: wele efe yngwinllan Naboth, yr hon yr aeth efe i wared iddi iw meddiannu.

19 A llefara wrtho ef, gan ddywedyd, fel hyn y dywed yr Arglwydd, a leddaisti, ac a feddiennaist hefyd? llefara hefyd wrtho ef, gan ddywedyd, fel hyn y dywed yr Arglwydd, yn y fan lle y llyfodd y cŵn waed Naboth, y llŷf cŵn dy waed titheu hefyd.

20 A dywedodd Ahab wrth Elias, a gefaisti fi, ô fy ngelyn? dywedodd yntef, cefais, oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yngolwg yr Arglwydd.

21 WelePen. [...]4.10. Bren. [...]. 8. fi yn dwyn drwg arnat ti, a mi a dynnaf ymmaith dy hiliogaeth di, ac a dor­raf oddi wrth Ahab1 Sam. [...]. 22. yr hwn a bisso ar bared, y gwarchaedic hefyd,Pen. [...]4.10. a'r gweddilledic yn Israel.

22 A mi a wnaf dy dŷ diPen. [...]5.29. fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷPen. [...].3. Baasa mab Ahiah, o herwydd y digter drwy 'r hwn i'm digiaist, ac y gwnaethost i Israel bechu.

23 Am Jezebel hefyd y llefarodd yr Ar­glwydd, gan ddywedyd,2 Bren. 9.36. y cŵn a fwyty Jeze­bel wrthNeu, glawdd. fur Jezreel.

24 Y cŵn a fwyty yr hwn a fyddo marw o'r eiddo Ahab yn y ddinas: a'r hwn a fyddo marw yn y maes a fwytty adar y nefoedd.

25 Diau na bu neb fel Ahab, yr hwn a ym­werthodd i wneuthur drwg yngolwg yr Ar­glwydd: o herwydd Jezebel ei wraig a'i han­nogai ef.

26 Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn, gan fyned ar ôl delwau, yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid, y rhai a yrrodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.

27 A phan glybu Ahab y geiriau hyn, efe a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachliain am ei gnawd, ac a ymprydiodd, ac a orweddodd mewn sachliain, ac a gerddodd yn araf.

28 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Elias y Thesbiad, gan ddywedyd,

29 Oni weli di, fel yr ymostwng Ahab ger fy mron i? am iddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef, ond 2 Bren. [...] 26. yn nyddiau ei fab ef, y dygaf y drwg ar ei dŷ ef.

PEN. XXII.

1 Ahab wedi ei dwyllo gan y gau-brophwydi, yn ol gair Michea, yn cael ei ladd yn Ramoth Gi­lead. 37 Y cŵn yn llyfu ei waed ef, ac Aha­ziah yn teyrnasu ar ei ol ef. 41 Daionus ly­wodraeth Jehosaphat, 45 a'i weithredoedd. 50 Jehoram yn frenin ar ei ol ef. 51 Dry­gionus lywodraeth Ahaziah.

A Buant yn aros dair blynedd heb ryfel rhwng Syria ac Israel.

2 Ac yn y drydedd flwyddyn,2 Cron. 18.1. Jehosaphat brenin Juda a ddaeth i wared at frenin Israel.

3 (A Brenin Israel a ddywedodd wrth ei wei­sion, oni wyddoch mai eiddo ni yw Ramoth Gilead, a'n bod ni yn tewi, heb ei dwyn hi o law brenin Syria?)

42 Cron. 18.3. Ac efe a ddywedodd wrth Jehosaphat, a ei di gyd â mi i ryfel i Ramoth Gilead? a Je­hosaphat a ddywedodd wrth frenin Israel,2 Bren. 3.7. yr ydwyfi fel titheu, fy mhobl i fel dy bobl ditheu, fy meirch i fel dy feirch ditheu.

5 Jehosaphat hefyd a ddywedodd wrth fre­nin Israel, ymgynghora attolwg heddyw â gair yr Arglwydd.

6 Yna brenin Israel a gasclodd y prophwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, a âf fi yn erbyn Ramoth Gilead i ry­fel, neu a beidiafi? dywedasant hwythau, dôs i fynu, canys yr Arglwydd a'i dyry hi yn llaw 'r brenin.

7 A Jehosaphat a ddywedodd, onid oes ym­ma vn prophwyd i'r Arglwydd mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef?

8 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jeho­saphat, y mae etto vn gŵr, drwy 'r hwn y ga­llem ymgynghori â'r Arglwydd: eithr câs yw genny fi ef, canys ni phrophwyda efe i mi ddai­oni, namyn drygioni, Michea mab Jimlah yw efe. A dywedodd Jehosaphat, na ddyweded y brenin felly.

9 Yna brenin Israel a alwodd arNeu, Ennuch. vn o'i sta­fellyddion, ac a ddywedodd, pryssura ymma Michea fab Jimlah.

10 A brenin Israel, a Jehosaphat brenin Ju­da, oeddynt yn eistedd bob vn ar ei deyrngader, wedi gwisco eu brenhinawl wiscoedd, mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria, a'r holl brophwydi oedd yn prophwydo ger eu bron hwynt.

11 A Zedeciah mab Cenaanah a wnaeth iddo gyrn heirn; ac efe a ddywedodd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, â'r rhai hyn y corni di y Syriaid, nis it eu difa hwynt.

12 A'r holl brophwydi oedd yn prophwydo fel hyn, gan ddywedyd, dos i fynu i Ramoth Gilead, a llwydda; canys yr Arglwydd a'i dy­ry hi yn llaw yr brenin.

2 Cron. 18.12.13 A'r gennad a aethei i alw Michea, a le­farodd wrtho ef, gan ddywedyd, wele yn awr eiriau y prophwydi yn vn-air yn dda i'r bre­nin: bydded attolwg dy air dithau, fel gair vn o honynt, a dywed y goreu.

14 A dywedodd Michea, fel mai byw 'r Ar­glwydd, yr hyn a ddywedo yr Arglwydd wrth­if, hynny a lefarafi.

15 Felly efe a ddaeth at y brenin, a'r brenin a ddywedodd wrtho, Michea; a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth Gilead, a'i peidio? dywe­dodd yntef wrtho, dôs i fynu, a llwydda, canys yr Arglwydd a'i dyry hi yn llaw 'r bre­nin.

16 A'r brenin a ddywedodd wrtho, pa sawl gwaith i'th dynghedaf di, na ddywedech wrthif onid gwirionedd, yn enw yr Arglwydd?

17 Ac efe a ddywedodd, gwelais holl Israel ar wascar ar hŷd y mynyddoedd, fel defaid ni byddei iddynt fugail. A dywedodd yr Ar­glwydd, nid oes feistr arnynt hwy, dychweled pob vn iw dŷ ei hun mewn heddwch.

18 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jeho­saphat, oni ddywedais i wrthit ti na phrophwy­dei efe ddaioni i mi, eithr drygioni?

19 Ac efe a ddywedodd, clyw gan hynny air yr Arglwydd: gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu y nefoedd yn sefyll yn ei ymyl, ar ei law ddehau, ac ar ei law asswy.

20 A'r Arglwydd a ddywedodd, pwy a dwylla Ahab, fel yr elo efe i fynu, ac y syrthio yn Ramoth Gilead? ac vn a ddywedodd fel hyn, ac arall oedd yn dywedyd fel hyn.

21 Ac yspryd a ddaeth allan, ac a safodd ger bron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, myfi a'i twyllaf ef. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, pa fodd?

22 Dywedodd yntef, mi a âf allan, ac a fyddaf yn yspryd celwyddoc yngenau ei holl brophwydi ef. Ac efe a ddywedodd, twylli a gorchfygi ef; dôs ymmaith a gwna felly.

23 Ac yn awr wele, yr Arglwydd a roddodd yspryd celwyddoc yngenau dy holl brophwydi hyn; a'r Arglwydd a lefarodd ddrwg am danat ti.

24 Ond Zedeciah mab Cenaanah a nessaodd, ac a darawodd Michea tan ei gern, ac a ddy­wedodd,1 Cron. 28.23. pa ffordd yr aeth yspryd yr Ar­glwydd oddi wrthifi i ymddiddan â thydi?

25 A Michea a ddywedodd, wele ti a gai weled, y dwthwn hwnnw, pan elych di o sta­fell i stafell i ymguddio.

26 A brenin Israel a ddywedodd, cymmer Michea, a dŵg ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab y brenin:

27 A dywed, fel hyn y dywed y brenin, rhowch hwn yn y carchar-dŷ, a bwydwch ef â bara cystudd, ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod mewn heddwch.

28 A dywedodd Michea, os gan ddychwe­lyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr Arglwydd ynofi: dywedodd hefyd, gwran­dewch hyn yr holl bobl.

29 Felly brenin Israel▪ a Jehosaphat brenin Juda, a aethant i fynu i Ramoth Gilead.

30 A2 Cron. 18.29. brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaphat,Neu, pan n [...] ­widiodd ei ddi­llad, a myned i'r rhyfel. mi a newidiaf fy nillad, ac a âf i'r rhyfel, ond gwisc di dy ddillad dy hun. A brenin Israel a newidiodd ei ddillad, ac a aeth i'r rhyfel.

31 A brenin Syria a orchymynnasai i dy­wysogion y cerbydau oedd ganddo, (sef deu­ddec ar hugain) gan ddywedyd, nac ymle­ddwch â bychan, nac â mawr, onid â brenin Israel yn vnic.

32 A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaphat, hwy a ddywedasant, diau brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef; a Jehosaphat a waeddodd.

33 A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwela­sant oddi ar ei ôl ef.

34 A2 Cr [...] 18.33. rhyw ŵr a dynnodd mewn bŵaHe [...]. yn ei wi­rionde [...]. ar ei amcan, ac a darawodd frenin Israel rhwngHeb y cyssyl [...]t a'r ddwy­fronn [...]g. cyssylltiadau y lluric: am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, trô dy law, a dwg fi allan o'r fyddin, canys fe a'm clwyf­wyd i.

35 A'r rhyfel aHeb. ddercha­fodd. gryfhaodd y dwthwn hwnnw, a'r brenin a gynhelid i fynu yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid: ac efe a fu farw gyd â'r hwyr: a gwaed yr acholl a ffrydiodd iHeb. fonwes. ganol y cerbyd.

36 Ac fe aeth cyhoeddiad trwy 'r gwerffyll ynghylch machludiad yr haul, gan ddywedyd, eled pob vn iw ddinas, a phob vn iw wlâd ei hun.

37 Felly y bu farw 'r brenin, ac y daeth efe i Samaria; a hwy a gladdasant y brenin yn Samaria.

38 A golchwyd ei gerbyd ef yn llyn Samaria, a'r cŵn a lyfasant ei waed ef, yr arfau hefyd a olchwyd, yn ôlPen. 21.19. gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasei efe.

39 A'r rhan arall o hanession Ahab, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'r tŷ ifori a adailadodd efe, a'r holl ddinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr cronicl brenhino­edd Israel?

40 Felly Ahab a hunodd gyd â'i dadau: ac Ahaziah ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

412 Cron 20.31. A Jehosaphat mab Asa a aeth yn fre­nin ar Juda yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel.

42 Jehosaphat oedd fab pymthengmlwydd ar hugain pan aeth efe yn frenin, a phum mlhy­nedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerusalem: ac enw ei fam ef oedd Azubah merch Silhi.

43 Ac efe a rodiodd yn holl ffordd Asa ei dâd, ni wyrodd efe oddi wrthi hi, gan wneu­thur yr hyn oedd vnion yngolwg yr Arglwydd. Er hynny ni thynnwyd ymmaith yr vchelfeydd; y bobl oedd etto yn offrymmu, ac yn arogl­darthu yn yr vchelfeydd.

44 A Jehosaphat a heddychodd â brenin Israel.

45 A'r rhan arall o hanes Jehosaphat, a'i rymmusdra a wnaeth efe, a'r môdd y rhyfelodd efe, onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr cronicl brenhinoedd Juda?

46 A'r rhan arall o'r Sodomiaid, a'r a ada­wyd yn nyddiau Asa ei dâd ef, efe a'i deleodd o'r wlâd.

47 Yna nid oedd brenin yn Edom: o [...]id rhaglaw oedd yn lle brenin.

48 JehosaphatNeu, oedd gan­ddo ddec llong. a wnaeth longauTarsis. môr i fyned i Ophir am aur, ond nid aethant,2 Cron. 10.37. canys y llongau a ddrylliodd yn Ezion Gaber.

49 Yna y dywedodd Ahaziah mab Ahab, wrth Jehosaphat, eled fy ngweision i gyd â'th weision di yn y llongau: ond ni fynnei Jeho­saphat.

50 A Jehosaphat a hunodd gyd â'i dadau, ac a gladdwyd gyd â'i dadau yn ninas Dafydd ei dâd: a Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

51 Ahaziah mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddwyfed flwyddyn ar bymthec i Jehosaphat brenin Juda, ac a deyr­nasodd ar Israel ddwy flynedd.

52 Ac efe a wnaeth ddrwg yngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd ei dâd, ac yn ffordd ei fam, ac yn ffordd Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

53 Canys efe a wasanaethodd Baal, ac a ym­grymmodd iddo, ac a ddigiodd Arglwydd Dduw Israel, yn ôl yr hyn oll a wnaethei ei dâd.

¶AIL LLYFR Y BRENHINOEDD, YR HWN A elwir hefyd, Pedwerydd llyfr y Brenhinoedd.

PEN. I.

1 Moab yn gwrth-ryfela. 2 Ahaziah yn gyrru at Baal-zebub, ac yn cael ei farnu gan Elias. 5 Elias ddwywaith yn dwyn tân o'r nefoedd, ar y rhai a anfonasai Ahaziah iw ddal ef, 15 yn tosturio wrth y trydydd twysog, a chwedi ei gyssuro gan Angel, yn dangos i'r brenin ei farwolaeth. 17 Jehoram mab Ahab yn teyr­nasu yn lle Ahaziah.

YNa2 Sam. 8.2. Moab a wrthryfelodd yn er­byn Israel, wediPen. 8.5. marwolaeth A­hab.

2 Ac Ahaziah a syrthiodd drwy ddellt o'i lofft, yr hon oedd yn Samaria, ac a glafychodd: ac efe a anfonodd gennadau, ac a ddywedodd wrthynt, ewch, ac ymofynnwch â Baal-zebub duw Ecron, a fyddafi byw o'r clefyd hwn.

3 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Elias y Thesbiad, cyfod, dos i fynu i gy­farfod â chennadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, ai am nad oedd Duw yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn â Baal-zebub duw Ecron?

4 Ac am hynny fel hyn y dywed yr Argl­wydd, ni ddescynni o'r gwely y dringaist ar­no, eithr gan farw y byddi farw. Ac Elias a aeth ymmaith.

5 A phan ddychwelodd y cennadau atto ef, efe a ddywedodd wrthynt, pa ham y dychwe­lasoch chwi?

6 A hwy a ddywedasant wrtho, gŵr a dda­eth i fynu i'n cyfarfod ni, ac a ddywedodd wr­thym ni, ewch, dychwelwch at y brenin a'ch anfonodd, a lleferwch wrtho, fel hyn y dywed yr Arglwydd, ai am nad oes Duw yn Israel yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal-zebub duw Ecron? o herwydd hynny ni ddescynni o'r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.

7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, pa ddull oedd ar y gŵr a ddaeth i fynu i'ch cyfar­fod chwi, ac a lefarodd wrthych yr yma­droddion ymma?

8 A hwy a ddywedasant wrtho, gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregyssu hefyd â gwregys croen am ei lwynau: dywedodd yntef, Elias y Thesbiad oedd efe.

9 Yna efe a anfonodd atto ef dywysog ar ddêg a deugain, ynghyd â'i ddêc a deugain: ac efe a aeth i fynu atto ef, (ac wele ef yn eistedd ar ben bryn) ac a lefarodd wrtho, ti ŵr Duw, y brenin a lefarodd, tyred i wared.

10 Ac Elias a attebodd, ac a ddywedodd [...] dywysog y dêc a deugain, os gŵr Duw, ydwyfi; descynned tân o'r nefoedd, ac yssed di, a'th ddêc a deugain. A thân a ddescyn­nodd o'r nefoedd, ac a'i hyssodd ef, a'i ddêc a deugain.

11 A'r brenin a anfonodd eilwaith atto ef dywysog arall ar ddêc a deugain, a'i ddêc a deugain: ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, ô ŵr Duw, fel hyn y dywedodd y brenin, ty­ret i wared yn ebrwydd.

12 Ac Elias a attebodd, ac a ddywedodd wr­thynt hwy, os gŵr Duw ydwyfi, descynned tân o'r nefoedd, ac yssed di a'th ddêc a deugain. A thân Duw a ddescynnodd o'r nefoedd, ac a'i hyssodd ef, a'i ddêc a deugain.

13 A'r brenin a anfonodd etto y trydydd ty­wysog ar ddêc a deugain, a'i ddêc a deugain: a'r trydydd tywysog ar ddêc a deugain a aeth i fy­nu, ac a ddaeth, ac a ymgrymmodd ar ei liniau ger bron Elias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefa­rodd wrtho, o ŵr Duw, attolwg bydded fy enioes i, ac enioes dy ddêc gwâs a deugain hyn, yn werthfawr yn dy olwg di.

14 Wele descynnodd tân o'r nefoedd, ac yssodd y ddau dywysog gyntaf ar ddêc a deu­gain, a'i dêc a deugeiniau: am hynny yn awr bydded fy enioes i yn werthfawr yn dy olwg di.

15 Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Elias, dos i wared gyd ag ef, nac ofna ef. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i wared gyd ag ef at y brenin.

16 Ac efe a ddywedodd wrtho, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, o herwydd it anfon cennadau i ymofyn â Baal-zebub duw Ecron (a'i am nad oes Duw yn Israel i ymofyn â'i air?) am hynny ni ddescynni o'r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.

17 Felly efe a fu farw yn ôl gair yr Ar­glwydd, yr hwn a leferasei Elias; a Jehoram a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ail flwyddyn i Je­horam fab Jehosaphat brenin Juda, am nad oedd mab iddo ef.

18 A'r rhan arall o hanes Ahaziah, y rhai a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn scrifenne­dic yn1 Bren. 11.41. llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?

PEN. II.

1 Elias wrth ganu yn iach i Eliseus, yn holiti yr Iorddonen â'i fantell, 9 a chwedi rhoi ei ddy­muniad i Eliseus, yn cael ei ddwyn i'r nefo­edd mewn cerbyd tanllyd. 12 Eliseus yn hollti yr Iorddonen a mantell Elias, ac eraill yn gwy­bod wrth hynny ei fod ef yn lle Elias. 16 Meibi­on y prophwydi yn mynnu chwilio am Elias, a heb ei gael ef. 19 Eliseus â halen yn iachau [Page] y dwfr. 23 Eirth yn distrywio 'r plant a felldigasai Eliseus.

A Phan oedd yr Arglwydd ar gymmeryd i fynu Elias mewn corwynt i'r nefoedd, aeth Elias, ac Elisêus allan o Gilgal.

2 Ac Elias a ddywedodd wrth Elisêus, arhos attolwg ymma; canys yr Arglwydd a'm han­fonodd i Bethel; ac Elisêus a ddywedodd, fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid ti­theu, nid ymadawaf â thi; felly hwy a aethant i wared i Bethel.

3 A meibion y prophwydi, y rhai oedd yn Bethel, a ddaethant allan at Elisêus, ac a ddy­wedasant wrtho; a wyddosti mai heddyw y mae 'r Arglwydd yn dwyn dy feistrHeb. oddiar dy ben di? oddi ar­natti? dywedodd yntef, mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â sôn.

4 Ac Elias a ddywedodd wrtho, arhos ymma attolwg, Elisêus; canys yr Arglwydd a'm han­fonodd i Jericho; dywedodd yntef, fel mai byw 'r Arglwydd, ac mai byw dy enaid titheu, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a ddaethant i Jericho.

5 A meibion y prophwydi, y rhai oedd yn Jericho, a ddaethant at Elisêus, ac a ddyweda­sant wrtho, a wyddosti mai heddyw y mae 'r Arglwydd yn dwyn dy feistr oddi arnatti? yn­tef a ddywedodd, mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â sôn.

6 Ac Elias a ddywedodd wrtho, arhos ymma attolwg; canys yr Arglwydd a'm hanfonodd i'r Jorddonen; dywedodd yntef, fel mai byw 'r Arglwydd, ac mai byw dy enaid titheu, nid ymadawaf â thi. A hwy a aethant ill dau rhag­ddynt.

7 A deng-wr a deugain o feibion y pro­phwydi a aethant, ac a safasantNeu, mewn godwg, neu, i [...]rych. ar gyfer o bell: a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen.

8 Ac Elias a gymmerth ei fantell, ac a'i ply­godd ynghyd, ac a darawodd y dyfroedd, a hwy a ymwahanasant ymma, ac accw, fel yr ae­thant hwy trwodd ill dau ar dir sych.

9 Ac wedi iddynt fyned trosodd, Elias a ddywedodd wrth Elisêus, gofyn y peth a wnel­wyf i ti cyn fy nghymeryd oddi wrthit. A dy­wedodd Elisêus, bydded gan hynny attolwg ddau parth o'th yspryd ti arnafi.

10 Dywedodd yntef,Heb. caled y gwnae­thost yn gofyn. gofynnaist beth anhawdd: os gweli fi wrth fy nghymmeryd oddi wrthit, fe fydd it felly, ac onid ê, ni bydd.

11 Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan ro­dio ac ymddiddan, wele gerbyd tanllyd, a meirch tanllyd, a hwy a'i gwahanasant hwynt ill dau.Eccles. 48.9. 1 Mac. 2.58. Ac Elias a dderchafodd mewn corwynt i'r nefoedd.

12 Ac Elisêus oedd yn gweled, ac efe a lefodd,Pen. 13.14. fy nhâd, fy nhâd, cerbyd Israel, a'i farchogion. Ac nis gwelodd ef mwyach: ac efe a ymaflodd yn ei ddillad, ac a'i rhwygodd yn dden-ddam.

13 Ac efe a gododd i fynu fantell Elias, a syrthiasei oddi wrtho ef; ac a ddychwelodd, ac a safodd wrth fîn yr lorddonen.

14 Ac efe a gymmerth fantell Elias, a syr­thiase oddi wrtho ef, ac a darawodd y dyfro­edd, ac a ddywedodd, pa le y mae Arglwydd Dduw Elias? Ac wedi iddo yntau daraw y dy­froedd, hwy a wahanwyd ymma, ac accw. Ac Elisêus a aeth trosodd.

15 A phan welodd meibion y prophwydi ef, y rhai oedd yn Jericho arVers. 7. ei gyfer, hwy a ddywedasant, gorphywysodd yspryd Elias ar Elisêus: a hwy a ddaethant iw gyfarfod ef, ac a ymgrymmasant hyd lawr iddo.

16 A hwy a ddywedasant wrtho, wele yn awr y mae gyd â'th weision ddêc a deugain oHeb. feibion nerth. wŷr cryfion, elont yn awr ni attolygwn, a cheisiant dy feistr; rhac i Yspryd yr Arglwydd ei ddwyn ef, a'i fwrw arHeb. vn o'r mynyddo­edd. ryw fynydd, neu mewn rhyw ddyffryn: dywedodd yntef, na anfonwch.

17 Etto buant daer arno, nes cywilyddio o honaw, ac efe a ddywedodd, anfonwch: a hwy a anfonasant ddeng-wr a deugain, y rhai a'i ceisiasant ef dridiau, ond nis cawsant.

18 A hwy a ddychwelasant atto ef, ac efe oedd yn arhos yn Jericho; ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, oni ddywedais i wrthych, nac ewch?

19 A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Elis [...]us, wele attolwg ansawdd y ddinas, da yw, fel y mae fy arglwydd yn gweled: ond y dy­froedd sydd ddrwg, a'r tir ynHeb. erthylu. ddiffaith.

20 Ac efe a ddywedodd, dygwch i mi phiol newydd, a dodwch ynddi halen. A hwy a'i dygasant atto ef.

21 Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac a ddywedodd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, mi a iache­ais y dyfroedd hyn; ni bydd oddi yno farwo­laeth mwyach na diffrwythdra.

22 Felly 'r iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn, yn ôl gair Elisêus: yr hwn a ddywedasei efe.

23 Ac efe a aeth i fynu oddi yno i Be­thel: ac fel yr oedd efe yn myned i fynu ar hyd y ffordd, plant bychain a ddaeth allan o'r ddinas ac a'i gwatworasant ef, ac a ddyweda­sant wrtho ef, dôs i fynu moelyn, dôs i fy­nu moelyn.

24 Ac efe a drôdd yn ei ôl, ac a edry­chodd arnynt, ac a'i melldithiodd yn enw 'r Arglwydd: a dwy arth a ddaeth allan o'r goed­wic, ac a ddrylliodd o honynt ddau blentyn a deugain.

25 Ac efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel, ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria.

PEN. III.

1 Jehoram yn teyrnasu. 4 Mesa yn gwrthry­felu. 6 Jehoram, a Jehosaphat, a brenin Edom, mewn cyfyngder am ddwfr, trwy Elisêus yn cael dwfr, ac addewid o fuddugoliaeth. 21 Y Moa­biaid wedi eu twyllo gan liw y dwfr, wrth ddy­fod i yspeilio, yn cael eu gorchfygu. 26 Bre­nin Moab, trwy aberthu mab brenhin Edom, yn gyrru Israel i'w gwlad.

A Jehoram mab Ahab a aeth yn frenin ar Is­rael yn Samaria, yn y ddeu-nawfed flwy­ddyn i Jehosaphat brenin Juda, ac a deyrna­sodd ddeu-ddeng mhlynedd.

2 Ac efe a wnaeth ddrwg yngolwg yr Ar­glwydd, ond nid fel ei dâd, nac fel ei fam: ca­nys efe a fwriodd ymmaith ddelw Baal, yr hon a wnelsei ei dâd.

3 Etto efe a lŷnodd wrth bechodau Jerobo­am mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu: ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy.

4 A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid, ac a dalai i frenin Israel gan-mîl o wŷn, a chan­mil o hyrddod gwlânoc.

5 OndPen. 1.1. wedi marw Ahab, brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel.

6 A brenin Jehoram a aeth allan y pryd hynny o Samaria, ac a gyfrisodd holl Israel.

7 Efe a aeth hefyd, ac a anfonodd at Jehos [...] ­phat brenin Juda, gan ddywedyd, brenin [...] [Page] a wrth-ryfelodd i'm herbyn i, a ddeui di gyd â mi i ryfel yn erbyn Moab? dywedodd yntef, mi âf i fynu; myfi1 Bren. 22.4. a fyddaf fel titheu, fy mhobl i fel dy bobl ditheu, fy meirch i fel dy feirch ditheu.

8 Ac efe a ddywedodd, pa ffordd yr awn ni i fynu? dywedodd yntef, ffordd anialwch Edom.

9 Felly yr aeth brenin Israel, a brenin Juda, a1 Bren. 22.8. brenin Edom, ac a aethant o amgylch ar eu taith saith niwrnod: ac nid oedd dwfr i'r fy­ddin, nac i'r anifeiliaid oedd Heb. wrth eu traed. yn eu canlyn hwynt.

10 A brenin Israel a ddywedodd, gwae fi, o herwydd i'r Arglwydd alw y tri brenin hyn ynghŷd, iw rhoddi yn llaw Moab.

11 A Jehosaphat a ddywedodd, onid oes ymma brophwyd i'r Arglwydd fel yr ymofynnom ni â'r Arglwydd drwyddo ef? ac vn o weision brenin Israel a attebodd, ac a ddywedodd, y mae ymma Elisêus mab Saphat, yr hwn a dy­walltodd ddwfr ar ddwylo Elias.

12 A Jehosaphat a ddywedodd, y mae gair yr Arglwydd gyd ag ef. Felly brenin Israel, a Jehosaphat, a brenin Edom, a aethant i wared atto ef.

13 Ac Elisêus a ddywedodd wrth frenin Is­rael, beth sydd i mi a wnelwyf â thi? dôs at brophwydi dy dâd, ac at broyhwydi dy fam. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, nagê: ca­nys yr Arglwydd a alwodd y tri brenin hyn ynghyd, iw roddi yn llaw Moab.

14 Ac Elisêus a ddywedodd, fel mai byw Arglwydd y lluoedd, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaphat brenin Juda, nid edrych­aswn i arnat ti, ac ni'th welswn.

15 Ond yn awr dygwch i mi gerddor. A phan ganodd y cerddor, daeth llaw 'r Ar­glwydd arno ef.

16 Ac efe a ddywedodd, fel hyn y dywe­dodd yr Arglwydd, gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd.

17 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, ni welwch wynt, ac ni welwch law, etto y dyffryn hwn a lenwir o ddwfr; fel yr yfoch chwi, a'ch anifeiliaid, a'ch yscrubli­aid.

18 A pheth yscafn yw hyn yngolwg yr Arglwydd, efe a ddyry Moab yn eich llaw chwi hefyd.

19 A chwi a darewch bob dinas gaeroc, a phob dinas ddetholedic, a phob pren têg a fwriwch chwi i lawr, yr holl ffynhcnnau dy­froedd hefyd a geuwch chwi, a phob darn o dir da a ddifwynwch chwi â cherric.

20 A'r boreu pan offrymmwyd y bwyd offrwm, wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom, a'r wlâd a lanwyd o ddyfroedd.

21 A phan glybu 'r holl Moabiaid fod y bren­hinoedd hynny wedi dyfod i fynu i ymladd yn eu herbyn hwynt, y galwyd ynghyd bawb ar a alleiHeb. ymwre­gysu a gwregys. wisco arfau, ac vchod, a hwy a safa­sant ar y terfyn.

22 A hwy a gyfodasant yn foreu, a'r haul a gyfodasei ar y dyfroedd; a'r Moabiaid a gan­fuant ar eu cyfer y dyfroedd yn gôch fel gwaed.

23 A hwy a ddywedasant, gwaed yw hwn; gan ddifetha y difethwyd y brenhinoedd, a hwy a darawsant bawb ei gilydd: am hynny yn awr, at yr anrhaith, Moab.

24 A phan ddaethant at werssyll Israel, yr Israeliaid a gyfodasant, ac a darawsant y Moa­biaid, fel y ffoesant o'i blaen hwynt; a hwy aNeu, daraw­sant ynddi, gan &c. aethant rhagddynt, gan daro y Moabiaid, yn eu gwlad eu hun.

25 A hwy a ddestrywiasant y dinasoedd, ac i bob darn o dir da y bwriasant bawb ei garrec, ac a'i llanwasant, a phob ffynnon ddwfr a gaeasant hwy, a phob pren da a gwym­pasant hwy i lawr;Heb. nes iddo adel ei cherrig yn Kir-Ha­reseth. yn vnic yn Cir-Ha­reseth y gadawsant ei cherric: etto y rhai oedd yn taflu a'i hamgylchynâsant, ac a'i tarawsant hi.

26 A phan welodd brenin Moab fod y rhy­felwŷr yn drêch nag ef, efe a gymmerth saith gant o wŷr gyd ag ef yn tynnu cleddyf, i ruthro at frenin Edom; ond nis gallasant hwy.

27 Yna efe a gymmerodd ei fab cyntafane­dic ef, yr hwn oedd i deyrnasu yn ei le ef, ac a'i hoffrymmodd ef yn boeth offrwm ar y mur; a bu llid mawr yn erbyn Israel, a hwy a aethant ymmaith oddi wrtho ef, ac a ddychwelasant iw gwlad eu hun.

PEN. IV.

1 Eliseus trwy râd penll [...]d yn amlhau olew y wraig weddw ddyledog. 12 Yn cael mab i'r Suna­namites, 18 ac yn ei gyfodi ef o farw i fyw, 38 yn iachau 'r cawl yn Gilgal. 42 Yn por­thi canwr ag vgain torth o fara.

A Rhyw wraig oPen. 2.3. wragedd meibion y pro­phwydi, a lefodd ar Elisêus, gan ddywe­dyd, dy wâs, fy ngwr a fu farw, a thi a wy­ddost fod dy wâs yn ofni yr Arglwydd: a'r echwyn-wr a ddaeth i gymmeryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo.

2 Ac Elisêus a ddywedodd wrthi, beth a wnafi i ti? mynega i mi, beth sydd gennit ti yn dy dŷ? dywedodd hitheu, nid oes dim gan dy law­forwyn yn tŷ, onid ystêneid o olew.

3 Ac efe a ddywedodd, dôs, cais it lestri oddi allan gan dy holl gymmydogion; sef llestri gweigion,Neu, na phrin­ha. nid ychydig.

4 A phan ddelych i mewn, cae 'r drws arnat, ac ar dy feibion, a thywallt i'r holl lestri hynny, a dôd heibio yr hwn a fyddo llawn.

5 Felly hi a aeth oddi wrtho ef, ac a gaeodd y drws arni, ac ar ei meibion: a hwynthwy a ddygasant y llestri atti hi, a hitheu a dywall­todd.

6 Ac wedi llenwi y llestri, hi a ddywedodd wrth ei mab, dŵg i mi etto lestr; dywedodd yntef wrthi, nid oes mwyach vn llestr. A'r olew a beidiodd.

7 Yna hi a ddaeth, ac a fynegodd i ŵr Duw; dywedodd yntef, dôs, gwerth yr olew, a thâlNeu, i'th ddy­ledwr. dy ddylêd, a bydd di fyw ti a'th feibion, ar y rhan arall.

8 A bu ar ryw ddiwrnod i Elisêus drammwyo i Sunem, ac yno 'r oedd gwraig oludog yr honHeb. ymastodd ynddo. a'i cymhellodd ef i fwyrta bara: a chynnifer gwaith ac y tramwyei efe heibio, efe a droe yno i fwytta bara.

9 A hi a ddywedodd wrth ei gŵr, wele yn awr mi a wn mai gŵr sanctaidd i Dduw ydyw hwn sydd yn cynniwer heibio i ni yn oestadol.

10 Gwnawn attolwg ystafell fechan ar y mûr, a gosodwn iddo yno wely, a bwrdd, ac ystôl, a chanhwyll-bren: fel y trô efe yno pan ddelo efe attom ni.

11 Ac ar ddydd-gwaith efe a ddaeth yno, ac a drôdd i'r ystafell, ac a orphywysodd yno.

12 Ac efe a ddywedodd wrth Gehezi ei was, galw ar y Sunamites hon. Yntef a alwodd arni hi, hitheu a safodd ger ei fron ef.

13 Dywedodd hefyd wrtho, dywed yn awr wrthi hi, wele ti a ofelaist trosom ni â'r holl ofal ymma, beth sydd iw wneuthur erot it? a oes a fynnych di ei ddywedyd wrth y brenin, neu wrth dywysog y llu? hitheu a ddywedodd, ynghanol fy mhobl yr ydwyfi yn trigo.

14 Ac efe a ddywedodd, beth gan hynny sydd iw wneuthur erddi hi? a Gehezi a ddy­wedodd, yn ddiau nid oes iddi fab, a'i gŵr sydd hên.

15 Ac efe a ddywedodd, galw hi: ac efe a'i galwodd hi, a hi a safodd yn y drws.

16 Ac efe a ddywedodd,Gen. 18 10, 14. ynghylchHeb. yr amser nodedic. y pryd hyn wrth amser bywiolaeth, ti a gofleidi fab: hitheu a ddywedodd, nagê, fy arglwydd, gŵr Duw, na ddywed gelwydd i'th law­forwyn.

17 A'r wraig a feichiogodd, ac a ddug fab y pryd hwnnw, yn ôl amser bywiolaeth, yr hyn a lefarasei Elisêus wrthi hi.

18 A'r bachgen a gynnyddodd, ac a aeth ddydd-gwaith allan at ei dâd, at y medelwŷr.

19 Ac efe a ddywedodd wrth ei dâd, fy mhen, fy mhen: dywedodd yntef wrth lange, dŵg ef at ei fam.

20 Ac efe a'i cymmerth, ac a'l dûg ef at ei fam: ac efe a eisteddodd ar ei gliniau hi, hyd hanner dydd, ac a fu farw.

21 A hi a aeth i fynu, ac a'i gosododd ef i orwedd ar wely gŵr Duw, ac a gaeodd y drws arno, ac a aeth allan.

22 A hi a alwodd ar ei gŵr, ac a ddywe­dodd, anfon attolwg gyd â mi vn o'r llangciau, ac vn o'r assynnod; canys mi a redaf hyd at ŵr Duw, ac a ddychwelaf.

23 Dywedodd yntef, pa ham yr ai di atto ef heddyw? nid yw hi na newydd-loer, na Sabboth: hitheu a ddywedodd, pob peth ynHeb. Heddwch. dda.

24 Yna hi a gyfrwyodd yr assyn, ac a ddy­wedodd wrth ei llangc, gyrr, a dôs rhagot: nacHeb. attal erofi farcho­gaeth. aros am danafi i farchogaeth, onid ar­chwyf it.

25 Felly hi a aeth, ac a ddaeth at ŵr Duw i fynydd Carmel: a phan welodd gŵr Duw hi o bell, efe a ddywedodd wrth Gehezi ei wâs, wele y Sunamites honno:

26 Rhêd yn awr attolwg iw chyfarfod, a dywed wrthi hi, a wyt ti yn iach? a ydyw dy ŵr yn iach? a ydyw y bachgen yn iach? dy­wedodd hitheu, iach.

27 A phan ddaeth hi at ŵr Duw i'r mynydd, hi a ymaflodd yn ei draed ef: a Geh [...]i a ne­ssaodd iw gwthio hi ymmaith. A gŵr Duw a ddywedodd, gâd hi yn llonydd, canys ei henaid syddHeb. chwerw. ofidus ynddi, a'r Arglwydd a'i celodd oddi wrthifi, ac nis mynegodd i mi.

28 Yna hi a ddywedodd, a ddymunais i fab gan fy arglwydd? oni ddywedais, na thwylla fi?

29 Yna efe a ddywedodd wrth Gehezi, gw­regysa dy lwynau, a chymmer fy ffon i yn dy law, a dôs ymmaith; o chyfarfyddi â neb, naLuc. 10.4. chyfarch iddo, ac o chyfarch neb di, nac atteb ef: a gosot fy ffon i ar wyneb y bachgen.

30 A mam y bachgen a ddywedodd, fel mai byw 'r Arglwydd, ac mai byw dy enaid ti, nid ymadawafi â thi. Ac efe a gyfododd ac a aeth ar ei hôl hi.

31 A Gehezi a gerddodd o'i blaen hwynt, ac a osododd y ffon ar wyneb y bachgen, ond nid oedd na lleferydd, naHeb. ymwran­do. chlywed: am hynny efe a ddychwelodd iw gyfarfod ef, ac a fyne­godd iddo, gan ddywedyd, ni ddeffrôdd y bachgen.

32 A phan ddaeth Elisêus i mewn i'r tŷ, wele y bachgen wedi marw, yn gorwedd ar ei wely ef.

33 Felly efe a ddaeth i mewn, ac a gaeodd y drws arnynt ill dau, ac a weddiodd ar yr Ar­glwydd.

34 Ac efe1 Bren. 17.21. Act. 20.10. a aeth i fynu, ac a orweddodd ar y bachgen, ac a osododd ei enau ar ei enau yntef, a'i lygaid ar ei lygaid ef, a i ddwylaw ar ei ddwylaw ef, ac efe a ymestynnodd arno ef, a chynhesodd cnawd y bachgen.

35 Ac efe a ddychwelodd, ac a rodiodd yn y tŷHeb. vnwaith yma, ac unwaith accw. i fynu ac i wared, ac aeth i fynu ac a ymestynnodd arno ef: a'r bachgen a disiodd hyd yn saith-waith, a'r bachgen a agorodd ei lygaid,

36 Ac efe a alwodd ar Gehezi, ac a ddywedodd, galw y Sunamites hon. Ac efe a alwodd arni hi; a hi a ddaeth atto ef: dywedodd yntef, cymmer dy fâb.

37 A hi a aeth i mewn ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ymgrymmodd hyd lawr, ac a gymmerodd ei mab, ac a aeth allan.

38 Ac Elisêus a ddychwelodd i Gilgal, ac yr oedd newyn yn y wlâd, a meibion y prophwydi oedd yn eistedd gar ei fron ef: ac efe a ddywedodd wrth ei wâs, trefna y crochan mawr, a berw gawl i feibion y prophwydi.

39 Ac vn a aeth allan i'r maes i gasclu bre­sych, ac a gafodd winwydden wyllt, ac a gas­clodd o honi fresych gwylltion, loneid ei wisc, ac a ddaeth, ac a'i briwodd yn y crochan cawl: canys nid adwaenent hwynt.

40 Yna y tywalltâsant i'r gwŷr i fwytta: a phan fwyttasant o'r cawl, hwy a waeddasant, ac a ddywedasant, ô ŵr Duw, y mae angau yn y crochan; ac ni allent ei fwytta.

41 Ond efe a ddywedodd, dygwch flawd; ac efe a'i bwriodd yn y crochan: dywedodd hefyd, tywallt i'r bobl fel y bwyttaont: ac nid oedd dim niwed yn y crochan.

42 A daeth gŵr o Baal Salisa, ac a ddûg i wr Duw o fara blaen-ffrwyth, vgain torth haidd, a thwyssennau o ŷd newydd yn eiNeu, wisc. gibau: ac efe a ddywedodd, dôd i'r bobl, fel y bwyttaont.

43 A'i wenidog ef a ddywedodd, i ba beth y rhoddaf hyn ger bron can-wr? dywedodd yn­tef, dyro i'r bobl fel y bwyttaont; canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd,Joan. 6.11. hwy a fwyttânt, a bydd gweddill.

44 Felly efe a'i rhoddodd ger eu bron hwynt, a hwy a fwyttasant, ac a weddillasant, yn ôl gair yr Arglwydd.

PEN. V.

1 Naaman wrth chwedl ei gaeth-forwyn, yn my­ned i Samaria iw iachau o'i wahan-glwyf. 8 E­lisêus yn ei yrru ef i'r Iorddonen iw iachau, 15 yn gwrthod ei roddion ef, ac yn rhoi iddo beth o'r ddaiar. 20 Gehezi yn enw ei feistr yn cymmeryd rhoddion Naaman, ac yn cael gwahan­glwyf tragywyddol.

A Naaman tywysog llu brenin Syria oedd ŵr mawr yngolwg ei arglwydd, ac [Page] ynHeb. ddercha­f [...]dic, neu, gymme­radwy ei wyneb. anrhydeddus, canys drwyddo ef y rho­ddasei yr Arglwydd ymwared i Syria: ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol, ond yr oedd yn wahan-glwyfus.

2 A'r Syriaid a aethent allan yn finteioedd, ac a gaeth-gludasent o wlâd Israel langces fechan, a honno oeddHeb. o flaen. yn gwasanaethu gwraig Naa­man.

3 A hi a ddywedodd wrth ei meistres, ô na byddei fy arglwydd o flaen y prophwyd sydd yn Samaria: canys efe a'iHeb. casclai. hiachaei ef o'i wa­han-glwyf.

4 Ac vn a aeth, ac a fynegodd iw arglwydd, gan ddywedyd, fel hyn ac fel hyn y dywedodd y llangces o wlâd Israel.

5 A brenin Syria a ddywedodd, dôs, cerdda, a mi a anfonaf lythyr at frenin Israel: ac efe a aeth ymmaith, ac a ddûgHeb. yn ei law. gyd ag ef ddêc ta­lent o arian, a chwe mil a aur, a dêc pâr o ddillad.

6 Ac efe a ddûg y llythyr at frenin Israel, gan ddywedyd, yn awr pan ddêl y llythyr hwn attat ti, wele anfonais attat ti Naaman fy ngwâs, fel yr iacheit ef o'i wahan-glwyf.

7 A phan ddarllennodd brenin Israel y lly­thyr, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ddywe­dodd, ai Duw ydwyf fi i farwhau, ac i fywhau, pan anfonei efe attafi, i iachau gŵr o'i wahan-glwyf? gwybyddwch gan hynny attolwg, a gwelwch mai ceisio achos y mae efe i'm herbyn i.

8 A phan glybu Elisêus gŵr Duw, rwygo o frenin Israel ei ddillad, efe a anfonodd at y bre­nin, gan ddywedyd, pa ham y rhwygaist dy ddillad? deued yn awr attafi, ac efe a gaiff wybod fod prophwyd yn Israel.

9 Yna Naaman a ddaeth, a'i feirch, ac a'i gerbydau, ac a safodd wrth ddrws tŷ Elisêus.

10 Ac Elisêus a anfonodd atto ef gemad, gan ddywedyd, dôs, ac ymolch saith waith yn yr Jorddonen, a'th gnawd a ddychwel i ti, a thi a lanheir.

11 Ond Naaman a ddigiodd, ac a aeth ym­maith, ac a ddywedodd, wele mi aHeb. ddywedais wrthif fy hun. feddyliais ynof fy hun, gan ddyfod y deuei efe allan, ac y safei efe, ac y galwei ar enw yr Arglwydd ei Dduw, ac yHeb. cyhwfa­nei. gosodei ei law ar y fan, ac yr iachaei y gwahan-glwyfus.

12 Onid gwellNeu, Amana. Abana a Pharpar, afonydd Damascus, nâ holl ddyfroedd Israel? oni allaf ymolchi ynddynt hwy, ac ym [...]anhau? felly efe a drôdd ac a aeth ymmaith mewn digter.

13 A'i weision a nessasant, ac a lefarasant wrtho, ac a ddywedasant, fy nhâd, pe dyweda­sei y prophwyd beth mawr wrthit ti, onis gwnelsit? pa feint mwy gan iddo ddywedyd wrthit, ymolch, a bydd lân?

14 Yna efe a aeth i wared, ac a ymdrochodd saith waithLuc. 4.27. yn yr Iorddonen, yn ôl gair gŵr Duw: a'i gnawd a ddychwelodd fel cnawd dŷn bach, ac efe a lanhawyd.

15 Ac efe a ddychwelodd at ŵr Duw, efe a'i holl fintai, ac a ddaeth, ac a safodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd, wele yn awr y gwn nad oes Duw drwy yr holl ddaiar, onid yn Israel: am hynny cymmer yn awr attolwgHeb. f [...]ndith. rodd gan dy wâs.

16 Ond efe a ddywedo [...]d, fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei [...]on, ni chymmeraf: ac efe a gymhellodd arno [...] [...]meryd, etto efe a'i gwrthododd.

17 A Naaman a ddywedodd, oni roddir yn awr i'th wâs lwyth cwpl o fulod o ddaiar? canys ni offrymma dŷ wâs di mwyach boeth offrwm, nac aberth i dduwiau eraill, onid i'r Arglwydd.

18 Yn y peth hyn yr Arglwydd a faddeuo i'th wâs, pan elo fy arglwydd i dŷ Rimmon i addoli yno, a phwysso ar fy llaw i, a phan ymgrymmwyf inneu yn nhŷ Rimmon: pan ymgrymmwyf yn nhŷ Rimmon, maddeued yr Arglwydd i'th wâs yn y peth hyn.

19 Ac efe a ddywedodd wrtho, dôs mewn heddwch: ac efe aeth oddi wrtho ef encyd oHeb. dir. ffordd.

20 Ond Gehezi, gwâs Elisêus gŵr Duw, a ddywedodd, wele fy meistr a arbedodd Naaman y Siriad hwn, heb gymmeryd o'i law ef yr hyn a ddygasei efe: fel mai byw 'r Arglwydd, mi a redaf ar ei ôl ef, ac a gymmeraf ryw beth ganddo ef.

21 Felly Gehezi a ganllynodd ar ôl Naa­man: a phan welodd Naaman ef yn rhedeg ar ei ôl, efe a ddescynnodd oddi ar y cerbyd iw gyfarfod ef, ac a ddywedodd,Heb. oes he­ddwch. a yw pôb beth yn dda?

22 Dywedodd yntef, y mae pôb peth yn dda; fy meistr a'm anfonodd i, gan ddywedyd, wele yn awr hyn, dau langc o fynydd Ephraim, o feibion y prophwydi, a ddaeth attafi; dyro yn awr iddynt hwy dalent o arian, a dau bâr o ddillad.

23 A Naaman a ddywedodd, bydd fodlon, cymmer ddwy dalent: ac efe a fu daer arno ef, ac a rwymodd ddwy dalent o arian mewn dwy gôd, a deu-bâr o ddillad, ac efe a'i rho­ddodd at ddau o'i weision, iw dwyn o'i flaen ef.

24 A phan ddaeth efe i'rNeu, lle dirg [...]l. bwlch, ef a'i cym­merth o'i llaw hwynt, ac a'i rhoddodd i gadw yn tŷ, ac a ollyngodd ymmaith y gwŷr, a hwy a aethant ymmaith.

25 Ond efe a aeth i mewn, ac a safodd o fla­en ei feistr; ac Elisêus a ddywedodd wrtho ef, o ba lê y daethost ti Gehezi? dywedodd yntef, nid aeth dy wâs nac ymma na thraw.

26 Ac efe a ddywedodd wrtho, onid aeth fy nghalon gyd a thi, pan drôdd y gŵr oddi ar ei gerbyd i'th gyfarfod ti? a ydoedd hi amser i gymmeryd arian, ac i gymmeryd gwisco­edd, ac oliwydd-lannau, a gwinllannau, a defaid, a gwartheg, a gweision, a morwy­nion?

27 Am hynny gwahan-glwyf Naaman a lŷn wrthit ti, ac wrth dy hâd yn dragywydd: ac efe a aeth ymmaith o'i ŵydd ef, yn wahan­glwyfus cyn wynned â'r eira.

PEN. VI.

1 Elisaeus yn canhiadu i feibion y prophwydi gael ehengi eu terfynau, ac yn peri i'r hayarn nofio. 8 yn datcuddio cyfrinach brenin Syria. 13 Y llu a yrrwyd i ddal Elisaeus yn cael eu taro â dallineb, 19 a chwedi eu dwyn i Sama­ria, yn cael eu gollwng ymmaith. 24 Y newyn yn Samaria, yn peri i wragedd fwyta eu plant. 30 Y brenin yn gyrru i ladd Elisaeus.

A Meibion y prophwydi a ddywedasant wrth Eliseus, wele yn awr, y llê yr hwn yr ydvm ni yn trigo ynddo ger dy fron di, sydd ry gy­fyng i ni.

2 Awn yn awr hyd yr Iorddonen, fel y cym­merom oddi yno bawb ei drawst. ac y gwnelom i ni yno le i gyfaneddu ynddo: dywedodd yn-

3 Ac vn a ddywedodd, bydd fodlon attolwg, a thyred gyd â'th weision: dywedodd yntef, mi a ddeuaf.

4 Felly efe a aeth gyd â hwynt: a hwy a ddaethant at yr Iorddonen, ac a dorra­sant goed.

5 A phan oedd vn yn bwrw i lawr drawst, eiHeb. haiarn. fwyall ef a syrthiodd i'r dwfr: ac efe a wa­eddodd, ac a ddywedodd, o'ch fi fy meistr, ca­nys benthyg oedd.

6 A gŵr Duw a ddywedodd, pa lê y syrthi­odd? yntef a ddangosodd iddo yr fan; ac efe a dorrodd bren, ac a'i taflodd yno, a'r haiarn a nofiodd.

7 Ac efe a ddywedodd, cymmer i fynu it: ac efe a estynnodd ei law, ac a'i cymmerodd.

8 A brenin Syria oedd yn rhyfela yn erbyn Israel, ac efe a ymgynghorodd â'i weision, gan ddywedyd, yn y lle â'r lle y bydd fy ngwer­ssyllfa.

9 A gŵr Duw a anfonodd at frenin Israel, gan ddywedyd, ymgadw rhac myned ir lle a'r lle, canys yno y discynnodd y Syriaid.

10 A brenin Israel a anfonodd i'r lle am yr hwn y dywedasei gŵr Duw wrtho, ac y rhy­byddiase ef, ac a ymgadwodd yno, nid vnwaith, ac nid dwy-waith.

11 A chalon brenin Syria a gythryblwyd herwydd y peth hyn, ac efe a alwodd ar ei wei­sion, ac a ddywedodd wrthynt, oni fynegwch i mi pwy o honom ni sydd gyd â brenin Israel?

12 Ac vn o'i weision ef a ddywedodd, nid oes neb fy arglwydd frenin; onid Eliseus y prophwyd, yr hwn sydd yn Israel, a fynega i frenin Israel y geiriau a leferi di ynghanol dy stafell wely.

13 Ac efe a ddywedodd, ewch, ac edrychwch pa le y mae efe, fel yr anfonwyf i'w gyrchu ef. A mynegwyd iddo, gan ddywedyd, wele yn Dothan y mae efe.

14 Am hynny efe a anfonodd yno feirch, a cherbydau, a lluHeb. [...]rwm. mawr? a hwy a ddaethant liw nos, ac a amgylchynasant y ddinas.

15 A phan gododd gwenidog gŵr Duw yn foreu a myned allan, wele lu yn amgylchynu y ddinas, â meirch ac â cherbydau: a'i wâs a ddywedodd wrtho ef, ahâ fy meistr pa fodd y gwnawn?

16 Ac efe a ddywedodd, nac ofna: canys amlach yw 2 Cron. [...].7. y rhai sydd gyd â ni, nâ'r rhai sy gyd â hwynt.

17 Ac Elisêus a weddiodd, ac a ddywedodd, ô Arglwydd, agor attolwg ei lygaid ef, fel y gwelo. A'r Arglwydd a agorodd lygaid y llangc, ac efe a edrychodd, ac wele y mynydd yn llawn meirch, a cherbydau tanllyd, o am­gylch Elisêus.

18 A phan ddaethant i wared atto ef, Elisêus a weddiodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, taro attolwg y genhedl hon â dallineb: ac efe a'i tarawodd hwy â dallineb, yn ôl gair Elisêus.

19 Ac Elisêus a ddywedodd wrthynt, nid hon yw 'r ffordd, ac nid hon yw 'r ddinas: denwch ar fy ôl i, ac mi a'ch dygaf chwi at y gŵr yr ydych chwi yn ei geisio: ond efe a'i harweiniodd hwynt i Samaria.

20 A phan ddaethant hwy i Samaria, Eli­sêus a ddywedodd, ô Arglwydd, agor lygaid y rhai hyn, fel y gwelont. A'r Arglwydd a ago­rodd eu llygaid hwynt, a hwy a welsant, ac wele ynghanol Samaria 'r oeddynt.

21 A brenin Israel a ddywedodd wrth Elisê­us, pan welodd efe hwynt, gan daro a darawaf hwynt fy nhâd?

22 Dywedodd yntef, na tharo, a darewit ti y rhai a gaethiwaist â'th gledd yf, ac â'th fŵa dy hun? gosod fara a dwfr ger eu bron hwynt, fel y bwyttaont, ac yr yfont, ac yr elont at eu harglwydd.

23 Ac efe a arlwyodd iddynt hwy arlwy fawr: a hwy a fwytasant, ac a yfasant, ac efe a'i gollyngodd hwynt ymmaith, a hwy a ae­thant at eu harglwydd: felly byddinoedd Syria ni chwauegasant ddyfod mwyach i wlâd Israel.

24 Ac wedi hyn, Benhadad brenin Syria a gynhullodd ei holl lû, ac aeth i fynu, ac a warchaeodd ar Samaria.

25 Ac yr oedd newyn mawr yn Samaria; ac wele yr oeddynt hwy yn gwarchae arni hi, nes bôd pen assyn er pedwar vgain sicl o arian, a phedwerydd ran Cab o dom colomennod, er pum sicl o arian.

26 Ac fel yr oedd brenin Israel yn myned heibio ar y mûr, gwraig a lefodd arno ef, gan ddywedyd, achub, fy arglwydd frenin.

27 Dywedodd yntef,Neu, na a [...]hu­bed. oni achub yr Ar­glwydd dydi, pa fodd yr achubafi di? ai o'r yscubor, neu o'r gwîn-wryf?

28 A'r brenin a ddywedodd wrthi hi, beth a ddarfu i ti? hitheu a ddywedodd, y wraig hon a ddywedodd wrthif, dyro dy fab, fel y bwyttaom ef heddyw, a'm mab inneu a fwyt­tawn ni y foru.

29 Felly ni a ferwasom fy mab i,Lev. 26.29. Deut. 28.53. Galar. 4.10. Baruc. 2.3. ac a'i bwyttasom ef: a mi a ddywedais wrthi hitheu y diwrnod arall, dyro ditheu dy fab, fel y bwyttaom ef; ond hi a guddiodd ei mab.

30 A phan glybu y brenin eiriau yr wraig, efe a rwygodd ei ddillad, ac a aeth heibio ar y mur, a'r bobl a edrychodd, ac wele sachliain oedd am ei gnawd ef oddi fewn.

31 Ac efe a ddywedodd, fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os sâif pen Elisêus mab Saphat arno ef heddyw.

32 Ond Elisêus oedd yn eistedd yn ei dŷ, a'r henuriaid yn eistedd gyd âg ef: a'r brenin a an­fonodd ŵr o'i flaen: ond cyn dyfod y gennad atto ef, efe a ddywedodd wrth yr henuriaid, a welwch chwi fel yr anfonodd mab1 Bren 21.1. y llofrudd hwn, i gymmeryd ymmaith fy mhen i? edrych­wch pan ddel y gennad i mewn, ceiwch y drws; a deliwch ef wrth y drws; onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef?

33 Ac efe etto yn ymddiddan â hwynt, wele y gennad yn dyfod i wared atto ef: ac efe a ddywedodd, wele y drŵg hyn sydd oddi wrth yr Arglwydd, pa ham y disgwiliaf wrth yr Ar­glwydd mwy?

PEN. VII.

1 Eliseus yn prophwydo helaethrwydd anghre­dadwy yn Samaria. 3 Pedwar gwahau­glwyfus yn myned i werssyll y Syriaid, ac yn dangos iddynt ffoi. 12 Y brenin yn cael hynny yn wir, ac yn yspeilio pebyll y Syriaid. 17 Y pennaeth ni choeliai eiriau y prophwyd, yn cael ei sathru tan draed nes ei farw.

YNa Elisêus▪ ddywedodd, gwrandewch air yr Arglwydd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, ynghylch, pryd hyn y foru y gwer­thir sat o beillied er sic [...], a dau sat o haidd er sicl, ym mhorth Samaria.

2 YnaHeb. tywysog e'r eiddo 'r brenin oedd yn pwyso ar ei law ef. tywysog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei law, a attebodd ŵr Duw, ac a ddy­wedodd, wele, pe gwnai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd, a fyddei y peth hyn? dywedodd yntef, wele, ti a'i gweli â'th lygaid, ond ni fwyttei o honaw.

3 Ac yr oedd pedwar gŵr gwahan-glwy­fus wrth ddrws y porth; a hwy a ddyweda­sant wrth ei gilydd, pa ham yr ydym ni yn aros ymma nes ein meirw?

4 Os dywedwn ni, awn i mewn i'r ddinas, newyn sydd yn y ddinas, ac ni a fyddwn feirw yno; ac os trigwn ymma, ni a fyddwn feirw hefyd. Am hynny deuwch yn awr, ac awn i werssyll y Syriaid, o chadwant ni yn fyw, byw fyddwn, ac os lladdant ni, byddwn feirw.

5 A hwy a gyfodasant ar dorriad dydd i fyned i werssyll y Syriaid. A phan ddaethant ar gwrr eithaf gwerssyll y Syriaid, wele nid oedd neb yno.

6 Canys yr Arglwydd a barasei i werssyll y Syriaid glywed trŵst cerbydau, a thrŵst meirch, trŵst llû mawr: a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, wele brenin Israel a gyflogodd i'n herbyn ni frenhinoedd yr Hethiaid, a bren­hinoedd yr Aipht, i ddyfod arnom ni.

7 Am hynny hwy a gyfodasant, ac a ffoe­sant, ar lasiad dydd, ac a adawsant eu pebyll, a'i meirch, a'i hassynnod, sef y gwerssyll fel yr ydoedd, ac a ffoesant am eu henioes.

8 A phan ddaeth y rhai gwahan-glwyfus hyn hyd gwrr eithaf y gwerssyll, hwy a aethant i vn babell, ac a fwyttasant, ac a yfasant, ac a gymmerasant oddi yno arian, ac aur, a gwiscoedd, ac aethant, ac a'i cuddiasant, ac a ddychwelasant, ac a aethant i babell arall, ac a gymmerasant oddi yno, ac aethant, ac a'i cuddiasant.

9 Yna y dywedodd y naill wrth y llall, nid ydym ni yn gwneuthur yn iawn, y dydd hwn sy ddydd llawen-chwedl, ac yr ydym ni yn tewi a sôn; os arhoswn ni hyd oleuni y boreu,Heb. ni a gawn gospedi­gaeth. rhyw ddrwg a ddigwydd i ni: deuwch gan hynny yn awr, ac awn fel y mynegom i dŷ yr brenin.

10 Felly hwy a ddaethant, ac a waedda­sant ar borthor y ddinas; a hwy a fynega­sant iddynt, gan ddywedyd, daethom i werssyll y Syriaid, ac wele nid oedd yno neb, na llais dŷn, onid y meirch yn rhwym, a'r assyn­nod yn rhwym, a'r pebyll megis yr oeddynt o'r blaen.

11 Ac efe a alwodd ar y porthorion; a hwy a'i mynegasant i dŷ yr brenin oddi fewn.

12 A'r brenin a gyfododd liw nôs, ac a ddywedodd wrth ei weision, mynegaf yn awr i chwi yr hyn a wnaeth y Syriaid i ni: gwy­ddent mai newynoc oeddym ni, am hynny yr aethant ymaith o'r gwerssyll i ymguddio yn y maes, gan ddywedyd, pan ddelont hwy allan o'r ddinas, ni a'i daliwn hwynt yn fyw, ac a awn i mewn i'r ddinas.

13 Ac vn o'r gweision a attebodd, ac a ddywedodd, cymmer yn awr bump o'r meirch a adawyd, y rhai a adawyd yn y ddinas (wele y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a arhosasant ynddi; wele y maent hwy fel holl liaws Israel y rhai a ddarfuant) ac anfonwn, ac edrychwn.

14 Felly hwy a gymmerasant feirch dau gerbyd: a'r brenin a anfonodd ar ôl gwerssyll y Syriaid, gan ddywedyd, ewch, ac edrychwch.

15 A hwy a aethant a'r eu hôl hwynt hyd yr Iorddonen, ac wele yr holl ffordd ydo­edd yn llawn o ddillad, a llestri, y rhai a fwriasei y Syriaid ymmaith wrth fryssio: a'r cennadau a ddychwelasant ac a fynegasant i'r brenin.

16 Ar bobl a aethant allan, ac a anrhaithia­sant werssyll y Syriaid: a bu sat o beillied er sicl, a dau sat o haidd er sicl, yn ôl gair yr Arglwydd.

17 A'r brenin a osododd y tywysog yr oedd efe yn pwysso ar ei law, i wilied ar y porth: a'r bôbl a'i mathrasant ef yn y porth, ac efe fu farw, megis y llefarasei gŵr Duw, yr hwn a ddywedasei hynny, pan ddaeth y brenin i wared atto ef.

18 A bu megis a llefarasei gŵr Duw wrth y brenin, gan ddywedyd, dau sat o haidd er sicl, a sat o beillied er sicl, fydd y prŷd hyn y foru ym mhorth Samaria.

19 A'r tywysog a attebasei ŵr Duw, ac a ddywedasei, wele pe gwnai yr Arglwydd ffe­nestri yn y nefoedd, a fyddei 'r peth hyn? dy­wedodd yntef, wele ti a'i gweli â'th lygaid, ond ni fwyttei o honaw.

20 Ac felly y bu iddo ef: canys y bobl a'i sathrasant ef yn y porth, ac efe a fu farw.

PEN. VIII.

1 Y Sunamites, wedi gadael ei gwlad saith mly­nedd i ffo rhag y newyn, yn cael gan y brenin ei thir yn ei ol, er mwyn gwyrthiau Eliseus. 7 Hazael wedi clywed y brophwydoliaeth, yn lladd ei feistr, ac yn teyrnasu yn ei le ef. 16 An­nuwiol lywodraeth Jehoram ar Juda. 20 E­dom a Libnah yn cilio oddiwrth Juda. 23 A­haziah yn frenin ar ol Jehoram, 25 a'i lywo­draeth annuwiol ef. 28 Ef yn ymweled a Je­horam, oedd friwedic yn Jezreel.

YNa Elisêus a lefarodd wrth y wraig yPen. 4.35. bywhasei efe ei mab, gan ddywedyd, cyfot, dos ti a'th dylwyth, ac ymdeithia lle y gellych ymdeithio: canys yr Arglwydd a al­wodd am newyn, a hwnnw a ddaw ar y wlâd saith mlynedd.

2 A'r wraig a gyfododd, ac a wnaeth yn ôl gair gŵr Duw: a hi a aeth, hi a'i thylwyth, ac a ymdeithiodd yn gwlâd y Philistiaid saith mlynedd.

3 Ac ym mhen y saith mlynedd, y wraig a ddychwelodd o wlâd y Philistiaid: a hi a aeth i weiddi ar y brenin am ei thŷ, ac am ei thîr.

4 A'r brenin oedd yn ymddiddan a Gehezi gwâs gŵr Duw, gan ddywedyd, adrodd i mi attolwg, yr holl bethau mawr a wnaeth Eli­sêus.

5 Ac fel yr oedd efe yn mynegi i'r brenin y modd y bywhasei efe y marw, yna wele y wraig y bywhasei efe ei mab, yn gweiddi ar y brenin am ei thŷ, ac am ei thir. A Gehezi a ddywedodd, fy Arglwydd frenin, dymma yr wraig, ac dymma ei mâb, yr hwn a ddarfu i Elisêus ei fywhau.

6 A'r brenin a ofynnodd i'r wraig, a hitheu a fynegodd iddo ef: a'r brenin a roddodd iddi rywNeu, Eunuch. stafelludd, gan ddywedyd, dôd trach­efn yr hyn oll oedd eiddi hi, a holl gnŵd y maes, o'r dydd y gadawodd hi y wlad, hyd y prŷd hwn.

7 A daeth Elisêus i Ddamascus, a Benhadad brenin Syria oedd glâf; a mynegwyd iddo ef, gan ddywedyd, daeth gŵr Duw ymma.

8 A'r brenin a ddywedodd wrth Hazael, cymmer anrheg yn dy law, a dôs i gyfarfod â gŵr Duw; ac ymofyn â'r Arglwydd drwyddo ef, gan ddywedyd, a fyddafi byw o'r clefyd hwn?

9 Felly Hazael a aeth iw gyfarfod ef, ac a gymmerth anrheg yn ei law, a phôb peth a'r a oedd ddâ o Ddamascus, sef llwyth deugain o gamelod; ac a ddaeth, ac a safodd o'i flaen ef, ac a ddywedodd, Benhadad brenin Syria dy fab a'm hanfonodd attat, gan ddywedyd, a fyddafi byw o'r clefyd hwn?

10 Ac Elisêus a ddywedodd wrtho, dôs a dywed wrtho, diau y gelli fyw: etto yr Ar­glwydd a ddangosodd i mi y bydd efe marw yn ddiau.

11 Ac efe a osododd ei wyneb,Heb. ac a'i go­sododd. ac a ddaliodd fulw arno, nes cywilyddio o honaw ef; a gŵr Duw a ŵylodd.

12 A Hazael a ddywedodd, pa ham y mae fy arglwydd yn ŵylo? dywedodd yntef, am fy mod yn gŵybod y drwg a wnei di i feibion Israel, eu hamddeffynfaoedd hwynt a losci di â thân, a'i gwŷr ieuaingc a ieddi â'r cleddyf, a'i plant a bwyi, a'i gwragedd beichiogion a rwy­gi.

13 A Hazael a ddywedodd, Pa beth? ai ei yw dy wâs, fel y gwnelei efe y mawr beth hyn? ac Elisêus a ddywedodd, yr Arglwydd a ddangosodd i mi y byddi di yn frenin ar Syria.

14 Felly efe a aeth ymmaith oddi wrth Eli­sêus, ac a ddaeth at ei arglwydd, yr hwn a ddy­wedodd wrtho, beth a ddywedodd Elisêus wr­thit ti? ac efe a attebodd, efe a ddywedodd wrthif y byddit ti byw yn ddiau.

15 A thrannoeth efe a gymmerth wrthban, ac a'i gwlychodd mewn dwfr, ac a'i lledodd ar ei wyneb ef, fel y bu efe farw: a Hazael a deyr­nasoedd yn ei lê ef.

16 Ac yn y bummed flwyddyn i Joram fab Ahab frenin Israel, a Jehosaphat yn frenin yn Juda, yHeb. reyrna­sodd. dechreuodd2 Cron. 21.4. Jehoram mab Jehosa­phat brenin juda, deyrnasu.

17 Mab ddeuddeng-mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac wyth mlyn­edd y teyrnasodd efe yn Jerusalem.

18 Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnai tŷ Ahab, canys merch Ahab oedd yn wraig iddo: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd.

19 Ond1 Bren. 11.36 ni fynnei 'r Arglwydd ddifetha Juda, er mwyn Dafydd ei wâs,2 Sam. 7.13. megis yr addawsei efe, y rhoddei iddoHeb. ganwyll, neu lamp. oleuni, ac iw feibion yn dragywydd.

20 Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Juda, ac y gosodasant fre­nin arnynt eu hunain.

21 A Joram a aeth trosodd i Zair, a'r holl gerbydau gyd ag ef, ac efe a gyfododd liw nôs, ac a darawodd yr Edomiaid, oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau; a'r bobl a ffoawdd iw pebyll.

22 Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Juda hyd y dydd hwn: yna y gwrth­ryfelo [...]d Libnah y prŷd hynny.

23 A'r rhan arall o hanes Joram, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn scri­fennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Juda?

24 A Joram a hunodd gyd â'i dadau, ac a gladdwyd gyd â'i dadau yn ninas Dafydd:2 Cron. 22.1. ac Ahazi [...]h ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

25 Yn y ddeuddecfed flwyddyn i Joram fab Ahab frenin Israel, yr aeth Ahaziah mab Jeho­ram brenin Juda, yn frenin.

26 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Aha­ziah pan aeth efe yn frenin, ac vn flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerusalem, ac enw ei fam ef oedd Athaliah merch Omri brenin Israel.

27 Ac efe a rodiodd yn ffordd tŷ Ahab, ac a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canysMab ynghy­fraith. daw tŷ Ahab ydoedd efe.

28 Ac efe a aeth gyd â Joram mab Ahab i ryfel, yn erbyn Hazael brenin Syria, i Ramoth Gilead, a'r Syriaid a darawsant Joram.

29 A Joram y brenin a ddychwelodd i Jezreel i ymiachau o'r briwiauHeb. a'r rhai yr archo­llasai y Syriaid ef. a roesai y Syriaid iddo ef yn Ramah, wrth ymladd o honaw ef yn erbyn Hazael brenin Syria: ac Ahaziah mab Jehoram brenin Juda a aeth i wared i edrych Ioram mab Ahab yn Iezreel, canys clâf ydoedd.

PEN. IX.

Eliseus yn danfon prophwyd ieuangc i enneinio Jehu yn Ramoth Gilead. 4 Y prophwyd wedi gwneuthur ei neges, yn ffo. 11 Jehu wedi ei wneuthur yn frenhin gan y milwyr, yn lladd Joram ym maes Naboth. 27 Lladd Ahaziah yn Gur, a'i gladdu yn Jerusalem. 30 Taflu Jezebel allan drwy ffenestr, a chwn yn ei bwytta hi.

AC Eliseus y prophwyd a alwodd vn o fei­bion y prophwydi ac a ddywedodd wrtho,1 Bren. 19.17. gwregyssa dy lwynau, a chymmer y phioleid olew hon yn dy law, â dôs i Ra­moth Gilead.

2 A phan ddelych yno, edrych yno am Iehu mab Iehosaphat mab Nimsi, a dôs i mewn, a phâr iddo godi o fysc ei frodyr, a dŵg ef i stafellHeb. o fewn stafell. ddirgel.

31 Bren. 19.16. Yna cymmer y phioleid olew a thywallt ar ei ben ef, a dywed, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, mi a'th eneiniais di yn frenin ar Israel: yna agor y drŵs, a ffô, ac nac aros.

4 Felly y llangc, sef llangc y prophwyd, a aeth i Ramoth Gilead.

5 A phan ddaeth efe, wele tywysogion y llu oedd yn eistedd; ac efe a ddywedodd, y mae i mi air â thi ô dywysog: a dywedodd Iehu, â pha vn o honom ni oll? dywedodd yntef, â thydi ô dywysog.

6 Ac efe a gyfododd, ac a aeth i mewn i'r tŷ, ac yntef a dywalltodd yr olew ar ei ben ef, ac a ddywedodd wrtho, fel hyn y dywed Ar­glwydd Dduw Israel, myfi a'th eneiniais di yn frenin ar bobl yr Arglwydd, sef ar Israel.

7 A thi a darewi dŷ Ahab dy arglwydd, fel y dialwyfi waed fy ngweision y prophwydi, a gwaed holl weision yr Arglwydd,1 Bren. 21.15. ar law Iezebel.

8 Canys holl dŷ Ahab a ddifethir, a mi a dorraf ymmaith oddi wrth Ahab,1 Bren. 14.10. & 21.21. yr hwn a bisso ar bared, y gwarchaedic hefyd, a'r hwn a adawyd yn Israel.

9 A mi a wnaf1 Bren. 14.10. & 21.22. dŷ Ahab fel tŷ Ieroboam mab Nebat, ac fel1 Bren. 16.3. tŷ Baasa mab Ahiah.

10 A'r cŵn a fwyttânt Iezebel yn rhandir Iezreel, ac ni bydd a'i claddo hi. Ac efe a agor­odd y drŵs, ac a ffôdd.

11 A Iehu a aeth allan at weision ei ar­glwydd, [Page] a dywedwyd wrtho ef, a yw pob peth yn dda? pa ham y daeth yr ynfyd hwn attat ti? dywedodd yntef wrthynt, chwi a adwae­noch y gŵr, a'i ymadroddion.

12 Dywedasant hwythau, celwydd, my­nega yn awr i ni: dywedodd yntef, fel hyn ac fel hyn y llefarodd wrthif, gan ddywedyd, fel hyn y dywed yr Arglwydd, mi a'th eneini­ais di yn frenin ar Israel.

13 A hwy a fryssiasant, ac a gymmerasant bob vn ei wisc, ac a'i gosodasant tano ef ar ben vchaf y grissiau, ac a ganasant mewn vdcorn, ac a ddywedasant, Iehu syddHeb. yn teyrna­su. frenin.

14 A Iehu mab Iehosaphat, mab Nimsi, a gydfwriadodd yn erbyn Ioram: (a Ioran oedd yn cadw Ramoth Gilead, efe a holl Israel, rhac Hazael brenin Syria:

15 OndHeb. Jehoram. Pen. 8.29. Ioram y brenin a ddychwelasei i ymiachau i Iezreel, o'r archollion, â'r rhai yrHeb. tarawsel. archollasei y Syriaid ef wrth ymladd o honaw yn erbyn Hazael brenin Syria.) a dywedodd Iehu, os mynnwch chwi, nac eled vn diangol o'r ddinas i fyned i fynegi i Iezreel.

16 Felly Iehu a farchogodd mewn cerbyd, ac a aeth i Jezreel, (canys Ioram oedd yn gor­wedd yno) ac Ahaziah brenin Iuda a ddaethei i wared i edrych Ioram.

17 A gwiliwr oedd yn sefyll ar y tŵr yn Iezreel, ac a ganfu fintai Iehu pan oedd efe yn dyfod, ac a ddywedodd, yr ydwyf yn gweled mintai: a Ioram a ddywedodd, cymmer ŵr march ac anfon iw cyfarfod hwynt, a dywe­ded, a'i heddwch?

18 A gŵr march a aeth iw gyfarfod ef, ac a ddywedodd, fel hyn y dywed y brenin, oes heddwch? a dywedodd Iehu, beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i; a'r gwiliwr a fynegodd, gan ddywedyd, y gen­nad a ddaeth hyd attynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd.

19 Yna efe a anfonodd yr ail gŵr march, ac efe a ddaeth attynt hwy, ac a ddywedodd, fel hyn y dywedodd y brenin, oes heddwch? a dywedodd Iehu, beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i.

20 A'r gwiliwr a fynegodd, gan ddywedyd, efe a ddaeth hyd attynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd: arNeu, cerdde­diad. gyrriad sydd fel gyrriad Iehu mab Nimsi; canys y mae efe yn gyrru yn ynfyd.

21 A Ioram a ddywedodd, rhwym y terbyd, yntef a rwymodd ei gerbyd ef: a Ioram bre­nin Israel a aeth allan, ac Ahaziah brenin Ju­da, pob vn yn ei gerbyd, a hwy aethant yn erbyn Jehu, aHeb. chawsant ef. chyfarfuant ag ef yn rhan-dir Naboth y Jezreeliad.

22 A phan welodd Ioram Iehu, efe a ddy­wedodd, a oes heddwch, Iehu? dywedodd yn­tef, pa heddwch, tra fyddo putteindra Iezebel dy fam di, a'i hudoliaeth, mor aml?

23 A Joram a drôdd ei law, ac a ffôdd, ac a ddywedodd wrth Ahaziah, y mae brad­wriaeth, ô Ahaziah.

24 A IehuHeb. l [...]nwodd ei law a bwa. a gymmerth fwa yn ei law, ac a darawodd Ioram rhwng ei yscwyddau, fel yr aeth y saeth drwy ei galon ef, ac efe aHeb. ymgrym­modd. syrthiodd yn ei gerbyd.

25 A Jehu a ddywedodd wrth Bidcar ei dywysog, cymmer, bwrw ef i randir maes Na­both yr lezreeliad; canys cofia pan oeddym ni mi a thi yn marchogeth ynghyd ein dau, ar ôl Ahab ei dad ef, roddi o'r Arglwydd arno ef y baich hwn.

261 Bren. 21.29. Diau meddai yr Arglwydd, gwaed Naboth, a gwaed ei feibion a welais i neith­wyr, ac mi a dalaf i ti yn y rhandir hon, medd yr Arglwydd: gan hynny cymmer, a bwrw ef yn awr yn y rhandir hon, yn ôl gair yr Arglwydd.

27 Ond pan welodd Ahaziah brenin Iuda hynny, efe a ffôdd ar hyd ffordd tŷ 'r ardd: a Iehu a ymlidiodd ar ei ôl ef, ac a ddywe­dodd, tarewch hwn hefyd yn ei gerbyd; a hwy a'i tarawsant ef yn rhiw Cwrr, yr hon sydd wrth Ibleam, ac efe a ffôdd i Megido, ac a fu farw yno.

28 A'i weision a'i dygasant ef mewn cerbyd i Ierusalem, ac a'i claddasant ef yn ei feddrod gyd â'i dadau, yn ninas Dafydd.

29 Ac yn yr vnfed flwyddyn ar ddêc i Ioram fab Ahab, yr aethei Ahaziah yn frenin ar Iuda.

30 A phan ddaeth Iehu i Iezreel, Iezebel a glybu hynny, ac a golurodd eiHeb. llygaid. hwyneb, ac a wiscodd yn wŷch am ei phen, ac a edrych­odd drwy ffenestr.

31 A phan oedd Iehu yn dyfod i mewn i'r porth, hi a ddywedodd, a fu heddwch i Zimri, yr hwn a laddodd ei feistr?

32 Ac efe a dderchafodd ei wyneb at y ffenestr, ac a ddwedodd, pwy sydd gyd â mi, pwy? a dau neu dri o'r stafellyddion a edry­chasant arno ef.

33 Yntef a ddywedodd, teflwch hi i lawr, a hwy a'i taflasant hi i lawr, a thaenellwyd peth o'i gwaed hi ar y pared, ac ar y meirch; ac efe a'i mathrodd hi.

34 A phan ddaeth efe i mewn, efe a fwyt­taodd, ac a yfodd, ac a ddywedodd, edrychwch am y wraig felldigedic honno, a chleddwch hi, canys merch brenin ydyw hi.

35 A hwy aethant iw chladdu hi; ond ni chawsant o honi onid y benglog, a'r traed, a chledrau y dwylo.

36 Am hynny hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant iddo ef: dywedodd yntef, dyna air yr Arglwyddd, yr hwn a lefarodd efe drwy law ei wasanaethwr Elias y Thesbiad, gan ddywe­dyd,1 Bren. 21.23. yn rhan-dir Jezreel y bwytty y cŵn gnawd Jezebel.

37 A chelain Jezebel a fydd fel tommen ar wyneb y maes, yn rhan-dir Jezreel, fel na ellir dywedyd, dymma Jezebel.

PEN. X.

1 Jehu trwy lythyrau yn peri torri pennau deng mab a thrugain Ahab, 8 ac yn ei escusodi ei hun â prophwydoliaeth Elias, 12 yn lladd dau a deugain o frodyr Ahaziah, wrth y ty cneifio, 15 yn cymmeryd Jehonadab atto, 18 a thrwy gyfrwysdra yn difetha holl addol­wyr Baal, 29 yn canllyn pechodau Jeroboam. 32 Hazael yn gorthrymmu Israel. 34 Joachaz yn frenin ar ol Jehu.

AC i Ahab yr oedd deng mab a thrugain yn Samaria: a Jehu a scrifennodd lythyrau, ac a anfonodd i Samaria at dywysogion Jez­reel, ac at yr henuriaid, ac at dadmaethod Ahab, gan ddywedyd,

2 Ac yn awr pan ddêl y llythyr hwn at­toch chwi; canys gyd â chwi y mae meibion eich arglwydd, a chennwch chwi y mae cerbydau, a meirch, a dinasoedd caeroc, ac arfau:

3 Yna edrychwch yr hwn sydd oreu, ac yn gymhwysaf o feibion eich arglwydd, a gosod­wch ef ar deyrn-gader ei dâd, ac ymleddwch dros dŷ eich arglwydd.

4 A hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddy­wedasant, wele dau frenin ni safasant o'i flaen ef: pa fodd gan hynny y safwn ni?

5 Am hynny 'r anfonodd yr hwn oedd ar y tŷ, a'r hwn oedd ar y ddinas, a'r henuriaid, a'r tadmaethod, at Jehu, gan ddywedyd, dy weision di ydym ni, a'r hyn oll a ddywe­dych di wrthym a wnawn ni, ni wnawn ni neb yn frenin; gwna 'r hyn a fyddo da yn dy olwg.

6 Yna efe a scrifennodd yr ail llythr attynt hwy, gan ddywedyd, osHeb. trosof y byddwch. eiddo fi fyddwch, ac os ar fy llais i y gwrandewch, cymmerwch bennau y gwyr, meibion eich arglwydd, a deuwch attafi y pryd hyn y foru, i Jezreel: a meibion y brenin sef deng-nŷn a thrugain oedd gyd â phennaethiaid y ddinas, y rhai oedd yn eu meithrin hwynt.

7 A phan ddaeth y llythr attynt, hwy a gymmerasant feibion y brenin, ac a laddasant ddeng-nŷn a thrugain, ac a osodasant eu pen­nau hwynt mewn bascedau, ac a'i danfonasant atto ef i Jezreel.

8 A chennad a ddaeth, ac a fynegodd iddo ef, gan ddywedyd, hwy a ddygasant bennau meibion y brenin: dywedodd yntef, gosodwch hwynt yn ddau ben-twr wrth ddrws y porth, hyd y boreu.

9 A'r boreu efe a aeth allan, ac a safodd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl, cyfiawn ydych chwi: wele myfi a gyd-fwriedais yn erbyn fy arglwydd, ac a'i lleddais ef; ond pwy a laddodd yr holl rai hyn?

10 Gwybyddwch yn awr na syrth dim o air yr Arglwydd i'r ddaiar, yr hwn a lefarodd yr Arglwydd am dŷ Ahab: canys gwnaeth yr Arglwydd yr hyn a lefarodd efe drwy law1 Bren. 21.29. Elias ei wâs.

11 Felly Jehu a darawodd holl weddillion tŷ Ahab yn Jezreel, a'i holl bennaethiaid ef, a'iNeu, gydnabod. gyfneseifiaid ef, a'i offeiriaid, fel na ada­wyd vn yngweddill.

12 Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith hefyd, ac a ddaeth i Samaria: ac fel yr oedd efe wrth dŷ cneifio y bugeiliaid ar y ffordd,

13 Jehu a gyfarfu â brodyr Ahaziah brenin Juda, ac a ddywedodd, pwy ydych chwi? dy­wedasant hwythau, brodyr Ahaziah ydym ni, ac ni a ddaethom i wared i gyfarch gwell i feibion y brenin, ac i feibion y frenhines.

14 Ac efe a ddywedodd, deliwch hwynt yn fyw. A hwy a'i daliasant hwy yn fyw, ac a'i lladdasant hwy wrth bydew y tŷ cneifio, sef dau­wr a deugain, ac ni adawodd efe ŵr o honynt.

15 A phan aethei efe oddi yno, efe aHeb. gafodd. gy­farfu â Iehonadab fab Rechab yn cyfarfod ag ef, acHeb. a'i bendi­thiodd. a gyfarchodd well iddo, ac a ddywe­dodd wrtho, a yw dy galon di yn vnion fel y mae fy nghalon i gyd â'th galon di? a dywe­dodd Iehonadab, ydyw: od ydyw eb efe moes dy law: rhoddodd yntef ei law, ac efe a barodd iddo ddyfod i fynu atto i'r cerbyd.

16 Ac efe a ddywedodd, tyred gyd â mi, a gwêl fy zêl i tu ac at yr Arglwydd: felly hwy a wnaethant iddo farchogaeth yn ei gerbyd ef.

17 A phan ddaeth efe i Samaria, efe a da­rawodd yr holl rai a adawsid i Ahab yn Sama­ria, nes iddo ei ddinistrio ef, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasei efe wrth E­lias.

18 A Iehu a gynhullodd yr holl bobl yng­hyd, ac a ddywedodd wrthynt, Ahab a wa­sanaethodd Baal ychydig, Iehu a'i gwasanae­tha ef lawer.

19 Ac yn awr gelwch attafi holl broph­wydi Baal, ei holl weision, a'i holl offeiriaid ef, na fydded vn yn eisieu; canys aberth mawr sydd gennif i Baal, pwy bynnac a fyddo yn eisieu, ni bydd efe byw. Ond Iehu a wnaeth hyn mewn cyfrwystra, fel y difethei efe addol­wyr Baal.

20 A Iehu a ddywedodd,Heb. sanctei­dalwch gymanfa i Baal. cyhoeddwch gymmanfa sanctaidd i Baal, a hwy a'i cyhoe­ddasant.

21 A Iehu a anfonodd drwy holl Israel, a holl addolwyr Baal a ddaethant, ac nid oedd vn yn eisieu a'r ni ddaethei: a hwy a ddae­thant i dŷ Baal, a llanwyd tŷ Baal o ben bwy gilydd.

22 Ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd geidwad ar y gwiscoedd, dwg allan wiscoedd i holl addolwyr Baal: ac efe a ddug wiscoedd iddynt.

23 A Iehu aeth i mewn, a Iehonadab mab Rechab, i dŷ Baal, ac a ddywedodd wrth addol­wyr Baal, chwiliwch ac edrychwch rhac bod ymma gyd â chwi neb o weision yr Arglwydd, onid addolwyr Baal yn vnic.

24 A phan ddaethant i mewn i wneuthur aberthau, a phoeth offrymmau, Iehu a osododd iddo allan bedwar vgain-wr, ac a ddywedodd, os diangc yr vn o'r dynion a ddygais i'ch dwy­lo chwi, enioes yr hwn y diango gantho fydd am ei enioes ef.

25 A phan orphennodd efe wneuthur y poeth offrwm, Iehu a ddywedodd wrth y swyddogion, a'r tywysogion, ewch i mewn, lleddwch hwynt, na ddeled neb allan; felly hwynt a'i tarawsant hwy â mîn y cleddyf: a'r swyddogion, a'r tywysogion a'i taflasant hwy allan, ac a aethant i ddinas tŷ Baal.

26 A hwy a ddygasant allan ddelwau tŷ Baal, ac a'i lloscasant hwy.

27 A hwy a ddestrywiasant ddelw Baal, ac a ddinistriasant dŷ Baal, ac a'i gwnaethant ef yn dom-dŷ hyd heddyw.

28 Felly y deleodd Iehu Baal allan o Israel.

29 Etto pechodau Ieroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ni thrôdd Iehu oddi wrthynt hwy, sef oddi wrth y lloi aur oedd yn Bethel, a'r rhai oedd yn Dan.

30 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jehu, o herwydd it wneuthur yn dda, gan wneuthur yr hyn oedd vnion yn fy ngolwg i, yn ôl yr hyn oll a'r a oedd yn fy nghalon i y gwnae­thost i dŷ Ahab, meibion y bedwaredd gen­hedlaeth i ti, a eisteddant ar orseddfaingc Is­rael.

31 OndHeb. ni wiliodd nid edrychodd Iehu am rodio ynghyfraith Arglwydd Dduw Israel â'i holl galon: canys ni thrôdd efe oddi wrth becho­dau Ieroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

32 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Arglwydd dorri cyrrau Israel: a Hazael a'i tarawodd hwynt yn holl derfynau Israel;

33 O'r Iorddonen tua chodiad haul, sef holl wlâd Gilead, y Gadiaid, a'r Rubeniaid, a'r Manassiaid, o Aroer, yr hon sydd wrth afon Arnon,Neu, hyd Gil. Gilead a Basan hefyd.

34 A'r rhan arall o hanes Iehu, a'r hyn oll a'r a wnaeth efe, a'i holl gadernid ef; onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?

35 A Jehu a hunodd gyd a'i dadau, a chladdwyd ef yn Samaria, a loachaz ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

36 A'r dyddiau y teyrnasodd Iehu ar Israel yn Samaria, oedd wyth mlynedd ar hugain.

PEN. XI.

1 Achub Joas gan ei fodryb Joseba, panladdodd Athaliah yr hâd brenhinol, a'i guddio chwe blynedd yn nhy Dduw. 4 Jehoiada, trwy gyn­horthwy 'r tywysogion, ar y seithfed flwyddyn, yn ei wneuthur ef yn frenhin. 13 Lladd Athaliah. 17 Jehoiada yn adferu gwasana­eth Duw.

A Phan welodd2 Cron. 22.10. Athaliah mam Ahaziah farw o'i mab, hi a gyfododd, ac a ddi­fethoddHeb. holl had y frenhi­ [...]iaeth. yr holl hâd brenhinawl.

2 Ond Ioseba merch y brenin Ioram, chwa­er Ahaziah, a gymmerth Ioas fab Ahaziah; ac a'i lladrattaodd ef o fysc meibion y brenin y rhai a laddwyd: a hwy a'i cuddiasant ef a'i fammaeth yn stafell y gwelâu, rhac Athaliah, fel na laddwyd ef.

3 Ac efe a fu gyd â hi ynghudd yn nhŷ 'r Arglwydd chwe blynedd: ac Athaliah oedd yn teyrnasu ar y wlâd.

4 Ac2 Cron. 23.1. yn y seithfed flwyddyn yr anfonodd Iehoiada, ac y cymmerth dywysogion y can­toedd a'r capteniaid, a'r swyddogion, ac a'i dûg hwynt i mewn atto i dŷ 'r Arglwydd, ac a wnaeth â hwynt gyfammod, ac a wnaeth iddynt dyngu yn nhŷ 'r Arglwydd, aca ddan­gosodd iddynt fab y brenin.

5 Ac efe a orchymynnodd iddynt, gan ddywedyd, dymma 'r peth a wnewch chwi: trydedd ran o honoch sy'n dyfod i mewn ar y Sabboth, a gadwant wiliadwriaeth tŷ y brenin:

6 A thrydedd ran fydd 2 Cron. 23.5. ym mhorth Sur, a thrydedd ran yn y porth o'r tu ôl i'r swy­ddogion: felly cedwch wiliadwriaeth y tŷ rhag ei dorri.

7 ANeu, ddwy fin­tai. Heb. dwy law. deu-parth o honoch oll sydd yn myned allan ar y Sabboth, a gadwant wiliad­wriaeth tŷ 'r Arglwydd, ynghylch y brenin.

8 A chwi a amgylchynwch y brenin o bob parth, pob vn â'i arfau yn ei law; a'r hwn a ddelo i'r rhesau, lladder ef: a byddwch gyd a'r brenin pan elo efe allan, a phan ddelo efe i mewn.

9 A thywysogion y cantoedd a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchymynnasei Iehoiada yr offeiriad, a chymmerasant bawb eu gwŷr y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Sabboth, gyd â'r rhai oedd yn myned allan ar y Sabboth, ac a ddaethant at Iehoiada yr offeiriad.

10 A'r offeiriad a roddodd i dywysogion y cantoedd, wayw-ffyn, a thariannau y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd.

11 A'r2 Cron. 23.10. swyddogion a safasant bob vn â'i arfau yn ei law, o'rHeb. ys [...]wydd ddehau. tu dehau l'r tŷ, hyd y tu asswy i'r tŷ, wrth yr allor a'r tŷ, amgylch ogylch y brenhin.

12 Ac efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a'r dystiolaeth, a hwy a'i hurddasant ef yn frenin, ac a'i henei­ [...]iasant ef: curâsant hefyd eu dwylo, a dywe­dasant, byw fyddo 'r brenin.

13 A phan glybu Athaliah drŵst y bobl yn [...]edeg, hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ 'r Arglwydd.

14 A phan edrychodd hi, wele y brenin oedd yn sefyll wrth y golofn yn ôl yr ar­fer, a'r tywysogion a'r vdcyrn, yn ymmyl y brenin, a holl bobl y wlâd yn llawen, ac yn canu mewn vdcyrn. Ac Athaliah a rwygodd ei dillad, ac a waeddodd, bradwriaeth, bradwri­aeth.

15 A Iehoiada yr offeiriad a orchymynnodd i dywysogion y cantoedd, y rhai oedd wedi eu gosod ar y llu, ac a ddywedodd wrthynt, dyg­wch hi o'r tu allan i'r rhesau, a'r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â'r cleddyf: canys dywedasei yr offeiriad, na ladder hi yn nhŷ yr Arglwydd.

16 A hwy a osodasant ddwylo arni hi, a hi a aeth ar hyd y ffordd feirch i dŷ 'r brenin, ac yno y lladdwyd hi.

17 A Jehoiada a wnaeth gyfammod rhwng yr Arglwydd a'r brenin, a'r bobl, i fod o honynt yn bobl i'r Arglwydd: a rhwng y brenin a'r bobl.

18 A holl bobl y wlad a aethant i dŷ Baal, ac a'i dinistriasant ef a'i allorau, ei ddelwau he­fyd a ddrylliasant hwy yn chwilfriw, lladdasant hefyd Mattan offeiriad Baal, o flaen yr allorau: a'r offeiriad a osododd oruwchwil-wŷr ar dŷ 'r Arglwydd.

19 Efe a gymmerth hefyd dywyfogion y cantoedd, a'r capteniaid, a'r swyddogion, a holl bobl y wlâd, a hwy a ddygasant i wared y bre­nin o dŷ 'r Arglwydd, ac a ddaethant ar hyd ffordd porth y swyddogion, i dŷ 'r brenin: ac efe a eisteddodd ar orseddfa y brenhinoedd.

20 A holl bobl y wlâd a lawenychasant, a'r ddinas a lonyddodd: a hwy a laddasant Atha­liah â'r cleddyf, wrth dŷ y brenin.

21 Mab saith mlwydd oedd Joas pan aeth efe yn frenin.

PEN. XII.

1 Joas yn teyrnasu yn dduwiol tra fu fyw Je­hoiada, 4 ac yn peri cyweirio 'r Deml. 17 Troi Hazael oddiwrth Jerusalem ag anreg o'r try­ssorau cyssegredig. 19 Ei weision yn lladd Joas, ac Amasiah yn myned yn frenin ar ei ôl ef.

YN y seithfed flwyddyn i Jehu y dechreu­odd Ioas deyrnasu,2 Cron. 24.1. a deugain mhlynedd y teyrnasodd efe yn Jerusalem, ac enw ei fam ef oedd Zibiah o Beer-seba.

2 A Ioas a wnaeth yr hyn oedd vnion yn­golwg yr Arglwydd, ei holl ddyddiau yn y rhai y dyscodd Iehoiada yr offeiriad ef.

3 Er hynny ni thynnasid ymmaith yr vchel­feydd: y bobl oedd etto yn offrymmu, ac yn arogl-darthu yn yr vchelfeydd.

4 A Ioas a ddywedodd wrth yr offeiriaid, holl arian yHeb. sanctei­ddiadau. pethau cyssegredic a ddyger i mewn i dŷ 'r Arglwydd, arian y gŵr a gyn­niwero, arianHeb. eneidiau ei bris ef. gwerth eneidiau pob vn, a'r holl arian a glywo neb ar ei galon eu dwyn i mewn i dŷ 'r Arglwydd,

5 Cymmered yr offeiriaid hynny iddynt, pawb gan ei gydnabod, a chyweiriant adwyau y tŷ, pa le bynnac y caffer adwy ynddo.

6 Ond yn y drydedd flwyddyn ar hugain i'r brenin Ioas, nid atgyweiriasei yr offeiriaid agennau y tŷ.

7 Yna y brenin Ioas a alwodd am Iehoiada yr offeiriad, a'r offeiriaid eraill, ac a ddywe­dodd wrthynt, pa ham nad ydych chwi yn cyweirio agennau y tŷ? yn awr gan hynny, na dderbyniwch arian gan eich cydnabod, ond rhoddwch hwy at gyweirio adwyau y tŷ.

8 A'r offeiriaid a gydsyniasant na dderbyni­ent arian gan y bobl, ac na chyweirient agennau y tŷ.

9 Eithr Jehoiada yr offeiriad a gymmerth gîst, ac a dyllodd dwll yn ei chaead, ac a'i gosododd hi o'r tu dehau i'r allor, ffordd y delei vn i mewn i dŷ 'r Arglwydd, a'r offeiriaid y rhai oedd yn cadw yHeb. rhiniog. drŵs, a roddent yno 'r holl arian a ddygid i mewn i dŷ 'r Arglwydd.

10 A phan welent fôd llawer o arian yn y gîst, y dae scrifennydd y brenin, a'r arch-offei­riad, i fynu, ac aHeb. rwyment. roent mewn codau, ac a gyf­rifent yr arian a gawsid yn nhŷ 'r Arglwydd.

11 A hwy a roddasant yr arian wedi eu cyfrif, yn nwylo gweith-wŷr y gwaith, gor­uwchwil-wŷr tŷ 'r Arglwydd: a hwy a'iHeb. dy [...]asant allan. ta­lasant i'r seiri pren, ac i'r adailadwŷr oedd yn gweithio tŷ 'r Arglwydd,

12 Ac i'r seiri meini, ac i'r naddwyr cerrig, ac i brynu coed a cherrig nâdd, i gyweirio adwyau tŷ 'r Arglwydd, ac am yr hyn oll a aethei allan i atgyweirio y tŷ.

13 Etto ni wnaed yn nhŷ 'r Arglwydd gwp­panau arian, saltringau, cawgiau, vdcyrn, na llestri aur, na llestri arian, o'r arian a ddygasid i mewn i dŷ 'r Arglwydd:

14 Eithr hwy a'i rhoddasant i weith-wŷr y gwaith; ac a gyweiriasant â hwynt dŷ 'r Arglwydd.

15 Ac ni cheisiasant gyfrif gan y dynion y rhoddasant hwy 'r arian yn eu dwylo iw rho­ddi i weith-wŷr y gwaith: canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.

16 Yr arian dros gamwedd, a'r arian dros bechodau, ni dducpwyd i mewn i dŷ 'r Ar­glwydd: eiddo 'r offeiriaid oeddynt hwy.

17 Yna Hazael brenin Syria a aeth i fynu, ac a ymladdodd yn erbyn Gath, ac a'i hennill­odd hi: a Hazael a osododd ei wyneb i fyned i fynu yn erbyn Jerusalem.

18 A Joas brenin Juda a gymmerth yr holl bethau cyssegredic, a gyssegrasei Jehosaphat, a Jehoram, ac Ahaziah, ei dadau ef brenhinoedd Juda, a'i gyssegredic bethau ef ei hun, a'r holl aur a gafwyd yn nhryssorau tŷ 'r Arglwydd, a thŷ 'r brenin, ac a'i hanfonodd at Hazael bre­nin Syria, ac efe aHeb. aeth i fynu. ymadawodd oddi wrth Jerusalem.

19 A'r rhan arall o hanes Joas, a'r hyn oll a wnaeth efe; onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronici brenhinoedd Juda?

20 A'i weision ef a gyfodasant, ac a gydfw­riadasant fradwriaeth;2 Cron. 24.25. ac a laddasant Joas yn Neu, Beth­milo. nhŷ2 Sam. 5.9. Milo, wrth ddyfod i wared i Sila.

21 A Jozacar mab Simeath, a Jozabad mab Somer ei weision ef, a'i tarawsant ef, ac efe a fu farw; a hwy a'i claddasant ef gyd â'i dadau yn ninas Dafydd: ac Amasiah ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

PEN. XIII.

1 Annuwiol lywodraeth Joachaz, 3 a Hazael yn ei orthrymmu ef, ac ynteu yn cael ymwared trwy weddi. 8 Joas yn teyrnasu yn ei le ef; 10 Ei annuwiol lywodraeth ynteu. 12 Jero­boam yn dyfod ar ei ôl ef. 14 Eliseus wrth farw yn prophwydo y gorchfygai Joas y Syriaid dair gwaith. 20 Y Moabiaid yn dyfod yn er­byn y wl [...], ac es [...]yrn Eliseus yn cyfodi gwr marw. 22 Hazael yn marw, a Joas deirgwaith yn gorchfygu Benhadad.

YN y drydedd flwyddyn ar hugain i Joas fab Ahaziah brenin Juda, y teyrnasodd Jo­achaz mab Jehu ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd ar bymthec y teyrnasodd efe.

2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng­olwg yr Arglwydd, ac a rodiodd ar ôl pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; ni thrôdd oddi wrthynt hwy.

3 A digofaint yr Arglwydd a lidiodd yn er­byn Israel; ac efe a'i rhoddodd hwynt yn llaw Hazael brenin Syria, ac yn llaw Ben-hadad mab Hazael, eu holl ddyddiau hwynt.

4 A Joachaz a erfyniodd ar yr Arglwydd, a gwrandawodd yr Arglwydd arno ef; o her­wydd iddo ganfod gorthrymder Israel, canys brenin Syria a'i gorthrymniai hwynt.

5 (A'r Arglwydd a roddodd achubwr i Is­rael, fel yr aethant oddi tan law y Syriaid: a meibion Israel a drigafant yn eu pebyll felHeb. doe ac echdoe. cynt.

6 Etto ni throesant hwy oddi wrth bechodau tŷ. Jeroboam yr hwn a wnaeth i Israel bechu, eithr Heb. rhodiodd. rhodiasant ynddynt hwy: a'r llwyn he­fyd a safai yn Samaria.)

7 Ac ni adawodd efe i Joachaz o'r bobl, onid dêc a deugain o wŷr meirch, a dêc cerbyd, a deng-mil o wŷr traed: o herwydd brenin Syria a'i dinistriasei hwynt, ac a'i gwnaethei hwynt fel llwch wrth ddyrnu.

8 A'r rhan arall o hanes Joachaz, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'i gadernid, onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?

9 A Joachaz a hunodd gyd â'i dadau, a chladdasant ef yn Samaria, a Joas ei fab a deyr­nasodd yn ei le ef.

10 Yn y ddwyfed flwyddyn ar bymthec ar hugain i Joas frenin Juda, y teyrnasodd Joas mab Joachaz ar Israel yn Samaria: vn mly­nedd ar bymthec y teyrnafodd efe.

11 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd: ni thrôdd efe oddi wrth holl bechodau Ieroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; eithr efe a ro­diodd ynddynt.

12 A'r rhan arall o hanes Ioas, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'i gadernid, drwy 'r hwn yr ym­laddodd efe ag Amasiah brenin Iuda, onid yd­ynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl bren­hinoedd Israel?

13 A Ioas a hunodd gyd â'i dadau, a Iero­boam a eisteddodd ar ei deyrn-gader ef: a Ioas a gladdwyd yn Samaria gyd â brenhinoedd Is­rael.

14 Ac yr oedd Elisêus yn glâf o'r clefyd y bu efe farw o honaw, a Ioas brenin Israel a ddaeth i wared atto ef, ac a ŵylodd ar ei wyneb ef, ac a ddywedodd, ô fy nhâd,Pen. 2.12. fy nhâd, cerbyd Israel, a'i farchogion.

15 Ac Elisêus a ddywedodd wrtho ef, cym­mer fŵa a saethau: ac efe a gymmerth fŵa a saethau.

16 Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, dôd dy law ar y bŵa, ac efe a roddodd ei law: ac Elis [...]us a osododd ei ddwylaw ar ddwylo 'r brenin.

17 Ac efe a ddywedodd, agor y ffenestr tua 'r dwyrain; yntef a'i hagorodd: yna y dywe­dodd Eliseus, saetha; ac efe a saethodd; dywe­doddd yntef, saeth ymwared yr Arglwydd, a saeth ymwared rhag Syria; a thi a darewi y Syriaid yn Aphec, nes eu difa hwynt.

18 Hefyd efe a ddywedodd, cymmer y sae­thau; ac efe a'i cymmerodd. Ac efe a ddywe­dod [...] wr [...]h frenin Israel, taro 'r ddaiar; ac e [...] [Page] a darawodd dair gwaith, ac a beidiodd.

19 A gŵr Duw a ddigiodd wrtho ef, ac a ddywedodd, dylesit daro bump neu chwech o weithiau, yna y tarawsit Syria nes ei difa; ac yn awr tair gwaith y tarewi Syria.

20 Ac Elisêus a fu farw, a hwy a'i claddasant ef: a minteioedd y Moabiaid a ddaethant i'r wlâd y flwyddyn honno.

21 A phan oeddynt hwy yn claddu gŵr, wele hwy a ganfuant dorf, ac a fwriasant y gŵr i feddrod Elisêus: a phan aeth y gŵr i lawr a chyffwrdd ag escyrn Eliseus,Eccles. [...]8.14. efe a dda­debrodd, ac a gyfododd ar ei draed.

22 A Hazael brenin Syria a orthrymmodd Israel holl ddyddiau Ioachaz.

23 A'r Arglwydd a drugarhaodd wrthynt hwy, ac a dosturiodd wrthynt hwy, ac a drôdd attynt hwy, er mwyn ei gyfammod ag Abra­ham, Isaac, ac Jacob, ac ni fynnai eu dinistrio hwynt, ac ni fwriodd efe hwynt allan o'iNeu, wydd. ol­wg hyd yn hyn.

24 Felly Hazael brenin Syria a fu farw, a Benhadad ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

25 A Joas mab Joachaz aHeb. [...]dychwe­ [...]dd ac a e [...]llodd. ennillodd yn ei hôl o law Benhadad mab Hazael, y dinasoedd a ddygasei efe o law Joachaz ei dad ef mewn rhy­fel: Joas a'i tarawodd ef dair gwaith, ac a ddûg adref ddinasoedd Israel.

PEN. XIIII.

1 Amasiah y brenin da. 5 Ei gyfiawnder ar y rhai a laddasai ei dâd ef. 7 A'i oruchafiaeth ar Edom. 8 Amasiah yn annog Joas ac yn cael ei orchfygu a'i yspeilio. 16 Jeroboam yn dyfod yn lle Joas. 19 Lladd Amasiah trwy frad­wriaeth. 21 Azariah yn dyfod ar ei ôl ef. 23 Annuwiol deyrnasiad Jeroboam. 28 A Zachariah yn dyfod yn ei le ynteu.

YN yr ail flwyddyn i Joas fab Joachaz brenin Israel, y teyrnasodd2 Cron. [...].1. Amasiah mab Joas brenin Juda.

2 Mab pum-mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerusalem: ac enw ei fam ef oedd Joadan o Jerusalem.

3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd vnion yng­olwg yr Arglwydd, etto nid fel Dafydd ei dâd: onid efe a wnaeth yn ôl yr hyn oll a wnaethei Joas ei dâd ef.

4 Er hynny ni thynnwyd ymmaith yr vch­elfeydd: y bobl oedd etto yn aberthu, ac yn arogl-darthu yn yr vchelfeydd.

5 A phan siccrhawyd ei deyrnas yn ei law ef,Pen. [...].20. efe a laddodd ei weision y rhai a laddasent y brenin ei dâd ef.

62 Cron. [...]5.4. Ond ni laddodd efe feibion y lleiddiaid, fel y mae yn scrifennedic yn llyfr cyfraith Mo­ses, yn yr hon y gorchymynnasei 'r Arglwydd, gan ddywedyd,Deut. [...]4.16. [...]. 31. [...]. [...]zec. 18. [...]. na ladder y tadau dros y mei­bion, ac na ladder y meibion dros y tadai; onid lladder pob vn am ei bechod ei hun.

7 Efe a darawodd o'r Edomiaid, yn nyffryn yr halen, ddeng-mil, ac a ennilloddSelah y graig mewn rhyfel, ac a alwodd ei henw Joctheel hyd y dydd hwn.

Cron. [...]5.17.8 Yna Amasiah a anfonodd gennadau at Joas fab Joachaz, fab Jehu, brenin Israel, gin ddywedyd, tyret, gwelwn wyneb ei gilydd.

9 A Joas brenin Israel a anfonodd at Ama­siah brenin Juda, gan ddywedyd, yr yscellyn yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden yn li­banus, gan ddywedyd, dyro dy fer [...]h i'm mab i yn wraig. A bwystfil y maes yr hwn oedd yn li­banus a dramwyodd ac a sathrodd yr yscellyn.

10 Gan daro y tarewaist yr Edomiaid, am hynny dy galon a'th falchiodd; ymffrostia, ac eistedd yn dy dŷ; canys i ba beth yr ymyrri ith ddrwg dy hun, fel y syrthit ti, a Juda gyd â thi?

11 Ond ni wrandawai Amasiah; am hyn­ny Joas brenin Israel a aeth i fynu, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amasiah bre­nin Juda, yn Bethsemes, yr hon sydd yn Juda.

12 A Juda a darawyd o flaen Israel; a hwy ffoesant bawb iw pebyll.

13 A Joas brenin Israel a ddaliodd Amasiah brenin Iuda mab Ioas, fab Ahaziah, yn Bethse­mes, ac a ddaeth i Ierusalem, ac a dorrodd i lawr fûr Ierusalem, o borth Ephraim, hyd borth y gongl, bedwar can cufydd.

14 Ac efe a gymmerth yr holl aur, a'r ari­an, a'r holl lestri a'r a gafwyd yn nhŷ 'r Ar­glwydd, ac yn nhryssorau tŷ 'r brenin, a gwystlon, ac a ddychwelodd i Samaria.

15 A'r rhan arall o hanes Ioas, yr hyn a wnaeth efe, a'i gadernid, ac fel yr ymladdodd efe ag Amasiah brenin Iuda, onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?

16 A Ioas a hunodd gyd â'i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria gyd â brenhinoedd Israel, a Ieroboam ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

17 Ac Amasiah mab Ioas brenin Iuda, a fu fyw ar ôl marwolaeth Ioas fab Ioachaz brenin Israel, bymtheng-mhlynedd.

18 A'r rhan arall o hanes Amasiah, onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Iuda?

192 Cron. 25.27. Ond hwy a frâd-fwriadasant yn ei erbyn ef yn Ierusalem; ac efe a ffôdd i Lachis: etto hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a'i lla­ddasant ef yno.

20 A hwy a'i dygasant ef ar feirch, ac efe a gladdwyd yn Ierusalem gyd a'i dadau, yn ninas Dafydd.

21 A holl bobl Iuda a gymmerasantA elwir Ʋzziah. 2 Cron. 26.1. Aza­riah, (ac yntef yn fab vn mlwydd ar bymthec) ac a'i hurddasant ef yn frenin yn llê Amasiah ei dâd.

22 Efe a adeiladodd Elath, ac a'i rhoddodd hi drachefn i Iuda, ar ôl huno o'r brenin gyd â'i dadau.

23 Yn y bymthecfed flwyddyn i Amasiah fab Ioas brenin Iuda, y teyrnafodd Ieroboam mab Ioas brenin Israel, yn Samaria, vn mlynedd a deugain y teyrnasodd efe.

24 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd: ni chiliodd efe oddi wrth holl bechodau Ieroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

25 Efe a ddug adref derfyn Israel o'r lle 'r eir i mewn i Hemath, hyd fôr y rhôs, yn ôl gair Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefa­rasei efe drwy law ei wâs Jonas mab Amittai y prophwyd, yr hwn oedd o Gath Hepher.

26 Canys yr Arglwydd a welodd gystudd Israel yn flîn iawn:1 Bren. 14.10. canys nid oedd neb gwar­chaedic, na neb wedi ei adel, na chynnorthwy­udd i Israel.

27 Ac ni lefarasei yr Arglwydd y deleai efe enw Israel oddi tan y nefoedd: ond efe a'i gwa­redodd hwynt drwy law Ieroboam mab Ioas.

28 A'r rhan arall o hanes Ieroboam, a'r hyn oll a'r a wnaeth efe, a'i gadernid ef, y modd y rhyfelodd efe, a'r nidd y dug efe adref Ddaniascus, a Hemath, i Iuda yn Israel, onid [Page] ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?

29 A Jeroboam a hunodd gyd â'i dadau, sef gyd â brenhinoedd Israel, a Zachariah ei fab a a deyrnasodd yn ei lê ef.

PEN. XV.

1 Daionus deyrnasiad Azariah. 5 Ef yn marw o'r gwahan-glwyf, a Jotham yn dyfod yn ei le ef. 8 Zachariah y diwethaf o genedl Jehu, yn teyrnasu yn ddrygionus, a'i ladd ef gan Salum. 13 Salum yn teyrnasu fis, a Mena­hem yn ei ladd ef. 16 Menahem yn cael nerth gan Pul. 21 Pecahiah yn dyfod yn ei le ef. 23 Pecah yn ei ladd ef. 27 Tiglath Peleser yn gorthrymmu Pecah, a Hosea yn ei ladd ef. 32 Jotham y brenin da. 36 Ahaz yn dyfod ar ei ol ef.

YN y seithfed flwyddyn ar hugain i Jerobo­am brenin Israel, y teyrnasodd2 Cron. 26.1. Azariah mab Amasiah brenin Juda.

2 Mab vn mlwydd ar bymthec ydoedd efe pan ddechreuodd deyrnsu, a deuddeng mhly­nedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerusalem, ac enw ei fam oedd Jecholiah o Jerusalem.

3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd vnion yngo­lwg vr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnelsei Amasiah ei dâd ef;

4 Ond na thynnwyd ymmaith yr vchel­feydd: y bobl oedd etto yn aberthu, ac yn arogl­darthu yn yr vchelfeydd.

5 A'r2 Cron. 26.1. Arglwydd a darawodd y brenin fel y bu efe wahan-glwyfus, hyd ddydd ei farwo­laeth, ac y trigodd mewn tŷ o'r nailltu: a Jo­tham mab y brenin oedd ar y tŷ yn barnu pobl y wlâd.

6 A'r rhan arall o hanes Azariah, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn scrifenne­dic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Juda?

7 Ac Azariah a hunodd gyd â'i dadau, a chladdasant ef gyd a'i dadau, yn ninas Dafydd, a Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

8 Yn y drydydd flwyddyn ar bymthec ar hugain i Azariah frenin Juda, y teyrnasodd Za­chariah mab Jeroboam ar Israel yn Samaria, chwe mîs.

9 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yn­golwg yr Arglwydd, megis y gwnaethei ei da­dau: ni thrôdd efe oddi wrth bechodau Jero­boam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

10 A Salum mab Jabes a frâd-fwriadodd yn ei erbyn ef, ac a'i tarawodd ef ger bron y bobl, ac a'i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei lê ef.

11 A'r rhan arall o hanes Zachariah, wele y mae yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhi­noedd Israel.

12 DymmaPen. 10.30. air yr Arglwydd, yr hwn a lefarasei efe wrth Jehu, gan ddywedyd, meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfa Israel. Ac felly y bu.

13 Salum mab Jabes a ddechreuodd deyr­nasu yn y bedwaredd flwyddyn ar bymthec ar hugain, iMatth. 1.8.9. Vzziah brenin Juda, aHeb. mis o dayddiau. mis cyfan y teyrnasodd efe yn Samaria.

14 Canys Menahem mab Gadi a aeth i fynu o Titzah, ac a ddaeth i Samaria, ac a darawodd Salum mab Jabes yn Samaria, ac a'i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei lê ef.

15 A'r rhan arall o hanes Salum, a'i frad­wriaeth ef, yr hon a frâd-fwriadodd efe, wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhi­noedd Israel.

16 Yna Menahem a darawodd Tiphsah, a'r rhai oll oedd ynddi, a'i therfynau, o Tirzah; o herwydd nad agorasant iddo ef, am hynny y tarawodd efe hi; a'i holl wragedd beichiogion a rwygodd efe.

17 Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymthec ar hugain i Azariah brenin Juda, y teyrnasodd Menahem mab Gadi ar Israel, a deng mlynedd y teyrnasodd efe yn Samaria.

18 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yn­golwg yr Arglwydd: ni thrôdd efe yn ei holl ddyddiau, oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

19 A1 Cron. 5.26. Phul brenin Assyria a ddaeth yn er­byn y wlâd; a Menahem a roddodd i Pul fil o dalentau arian, fel y byddei ei law gyd ag ef, i siccrhau y frenhiniaeth yn ei law ef.

20 A Menahem a gododd yr arian ar Israel, sef ar yr holl rai cedyrn o allu, ar bob vn ddêc sicl a deugain o arian, iw rhoddi i frenin Assy­ria: felly brenin Assyria a ddychwelodd, ac nid arhosodd yno yn y wlâd.

21 A'r rhan arall o hanes Menahem, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn scri­fennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?

22 A Menahem a hunodd gyd â'i dadau, a Phecahiah ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

23 Yn y ddecfed flwyddyn a deugain i Aza­riah brenin Juda, y teyrnasodd Pecahiah mab Menahem ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd y teyrnasodd efe.

24 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd: ni thrôdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

25 A Phecah mab Remaliah ei dywysog ef, a frad-fwriadodd yn ei erbyn ef, ac a'i taraw­odd ef yn Samaria, yn llŷs y brenin, gyd ag Argob, ac Arieh, a chydag ef ddeng-wr a deu­gain o feibion y Gileadiaid: ac efe a'i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei lê ef.

26 A'r rhan arall o hanes Pecahiah, a'r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel.

27 Yn y ddeuddecfed flwyddyn a deugain i Azariah brenin Juda, y teyrnasodd Pecah mab Remaliah ar Israel yn Samaria, ac vgain mhly­nedd y teyrnasodd efe.

28 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd, ni thrôdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

29 Yn nyddiau Pecah brenin Israel1 Cron. 5.26. y daeth Tiglath Peleser brenin Assyria, ac a ennillodd Jion, ac Abel-Beth-maachah, a Jonoah, Cedes hefyd, a Hazor, a Gilead, a Galilee, holl wlâd Nephtali, ac a'i caeth-gludodd hwynt i Assyria.

30 A Hosea mab Elah, a frad-fwriadodd fradwriaeth yn erbyn Pecah mab Remaliah, ac a'i tarawodd ef, ac a'i lladdodd, ac a deyrna­sodd yn ei lê ef, yn yr vgeinfed flwyddyn i Jotham fab Vzziah.

31 A'r rhan arall o hanes Pecah, a'r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel.

322 Cron. 25.7. Yn yr ail flwyddyn i Pecah fab Re­maliah brenin Israel, y dechreuodd Jotham mab Vzziah brenin Juda deyrnasu.

332 Cron. 27.1. Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd devrnasu, ac vn mlwydd ar bymthec y teyrnasodd efe yn Jerusalem: ac enw ei fam ef oedd Jerusa merch Zadoc.

34 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd vnion yn­golwg yr Arglwydd: yn ôl yr hyn oll a'r a wnelsei Vzziah ei dad.

35 Er hynny ni thynnwyd ymmaith yr vch­elfeydd; y bobl oedd etto yn aberthu ac yn arogl-darthu, yn yr vchelfeydd: efe a adeila­dodd y porth vchaf i dŷ 'r Arglwydd.

36 A'r rhan arall o hanes Jotham, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn scrifenne­dic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Juda?

37 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Arglwydd anfon yn erbyn Juda, Rezin brenin Syria, a Phecah mab Remaliah.

38 A Jotham â hunodd gyd â'i dadau, ac a gladdwyd gyd a'i dadau yn ninas Dafydd ei dad, ac Ahaz ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

PEN. XVI.

1 Annuwiol lywodraeth Ahaz. 5 Ahaz yn cyflogi Tiglath Pelezer, yn erbyn Rezin a Phe­cah. 10 Ahaz yn anfon portreiad allor o Ddamascus i Vriah, ac yn mynnu 'r allor brês iddo ei hun i offrymmu arni. 17 Ahaz yn ys­peilio 'r Deml. 19 A Hezeciah yn teyrnasu ar ei ôl ef.

YN2 Cron. 28.1. y ddwyfed flwyddyn ar bymthec i Pecah fab Remaliah, y dechreuodd Ahaz mab Jotham brenin Juda, deyrnasu.

2 Mab vgain mlwydd oedd Ahaz pan ddech­reuodd efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar bymthec y teyrnasodd efe yn Jerusalem, ac ni wnaeth efe yr hyn oedd vnion yngolwg yr Arglwydd ei Dduw, fel Dafydd ei dâd:

3 Eithr rhodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel,Levit. 28.21. Deut. 18.10. 2 Cron. 28.3. ac a dynnodd ei fab drwy 'r tân, yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd a fwriasei yr Ar­glwydd allan o flaen meibion Israel.

4 Ac efe a aberthodd, ac a arogl-darthodd yn yr vchelfeydd, ac ar y brynnau, a than bôb pren gwyrdd-las.

5 Yna y daethEsa. 7.1. Rezin brenin Syria, a Phe­cah mab Remaliah brenin Israel, i fynu i Jeru­salem i ryfel: a hwy a warchaeasant ar Ahaz, ond ni allasant hwy ei orchfygu ef.

6 Yn yr amser hwnnw Rezin brenin Syria, a ddug drachefn Elath at Syria, ac a yrrodd yr Iddewon o Elath: a'r Syriaid a ddaethant i Elath, ac a bresswyliasant yno hyd y dydd hwn.

7 Yna Ahaz a anfonodd gennadau at2 Cron. 8.20. Tig­lath Peleser brenin Assyria, gan ddywedyd, dy wâs di, a'th fab di ydwyfi: tyred i fynu, a gwared fi o law brenin Syria, ac o law brenin Israel y rhai sydd yn cyfodi yn fy erbyn i.

8 Ac Ahaz a gymmerth yr arian, a'r aur a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhryssorau tŷ y brenin, ac a'i hanfonodd yn anrheg i frenin Assyria.

9 A brenin Assyria a wrandawodd arno ef, a brenin Assyria a ddaeth i fynu i Ddamascus, ac a'i hennillodd hi, ac a gaeth-gludodd ei thri­golion i Cir, ac a laddodd Rezin.

10 A'r brenin Ahaz a aeth i Ddamascus i gyfarfod Tiglath Peleser brenin Assyria, ac a welodd allor oedd yn Damascus: a brenin Ahaz a anfonodd at Vriah yr offeiriad, agwedd yr allor a'i phortreiad, yn ôl ei holl wneuthuriad.

11 Ac Vriah yr offeiriad a adeiladodd allor, yn ôl yr hyn oll a anfonasei y brenin Ahaz o Ddamascus, felly y gwnaeth Vriah yr offeiriad, erbyn dyfod y brenin Ahaz o Ddamascus.

12 A phan ddaeth y brenin o Ddamascus, y brenin a ganfu yr allor: a'r brenin a nessaodd at yr allor, ac a offrymmodd arni hi.

13 Ac efe a loscodd ei boeth offrwm, a'i fwyd offrwm, ac a dywalltodd ei ddiod off­rwm, ac a daenellodd waed ei offrymmau hedd, ar yr allor.

14 A'r allor brês, yr hon oedd ger bron yr Arglwydd, a dynnodd efe ymmaith o dalcen y tŷ, oddi rhwng yr allor a thŷ yr Arglwydd, ac a'i rhoddes hi o du gogledd yr allor.

15 A'r brenin Ahaz a orchymynnodd i Vriah yr offeiriad, gan ddywedyd, llosc ar yr allor fawr y poeth offrwm boreuol, a'r bwyd offrwm prydnhawnol, poeth offrwm y brenin hefyd, a'i fwyd offrwm ef, a phoeth offrwm holl bobl y wlâd, a'i bwyd offrwm hwynt, a'i diodydd offrwm hwynt; a holl waed y poeth offrwm, a holl waed yr aberth, a daenelli di arni hi: a bydded yr allor brês i mi i ymofyn.

16 Ac Vriah yr offeiriad a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchymynnasei y brenin Ahaz.

17 A'r brenin Ahaz a dorrodd ddaliadau yr ystolion, ac a dynnodd ymmaith y noe oddi arnynt hwy, ac a ddescynnodd y môr oddi ar yr ychen prês oedd tano, ac a'i rhoddodd ar balmant cerrig.

18 A gorchudd y Sabboth yr hwn a adeila­dasent hwy yn tŷ, a dyfodfa y brenin oddi allan, a drôdd efe oddi wrth dŷ yr Arglwydd, o achos brenin Assyria.

19 A'r rhan arall o hanes Ahaz, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Juda?

20 Ac Ahaz a hunodd gyd â'i dadau, ac a gladdwyd gyd â'i dadau yn ninas Dafydd, a Hezeciah ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

PEN. XVII.

1 Drygionus lywodraeth Hosea. 3 Wedi ei dda­rostwng gan Salmanasar, y mae yn ymgydfwri­adu â So brenin yr Aipht yn ei erbyn ef. 5 Caethgludo Samaria, am ei pechodau. 25 Y cenhedloedd dieithr a blannesid yn Samaria, wedi i lewod eu blino, yn gwneuthur cymmysc a amryw grefydd.

YN y ddeuddecfed flwyddyn i Ahaz frenin Juda, y teyrnasodd Hosea mab Elah yn Samaria ar Israel, naw mlynedd y teyrnasodd efe.

2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd, etto nid fel brenhi­noedd Israel, y rhai a fuase o'i flaen ef.

3 A Salmaneser brenin Assyria a ddaeth i fynu yn ei erbyn ef, a Hosea aeth yn wâs iddo ef, ac aHeb. dal [...]dd. ddug iddoNeu, deyrnged. anrhegion.

4 A brenin Assyria a gafodd fradwriaeth yn Hosea, canys efe a ddanfonasai gennadau at So brenin yr Aipht, ac ni ddanfonasei anrheg i fre­nin Assyria, fel y byddei efe arferol bôb blwy­ddyn: am hynny brenin Assyria a gaeodd arno ef, ac a'i rhwymodd ef mewn carchar-dŷ.

5 Yna brenin Assyria a aeth i fynu drwy yr holl wlâd, ac a aeth i fynu i Samaria, ac a warchaeodd arni hi dair blynedd.

6Pen. 18.10. Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr en­nillodd brenin Assyria Samaria, ac y caeth-glu­dodd efe Israel i Assyria, ac a'i cyfleodd hwynt yn Halah, ac yn Habor, wrth afon Gozan, ac yn ninasoedd y Mediaid.

7 Felly y bu, am i feibion Israel bechu yn erbyn yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a'i dyga­sei hwynt i fynu o wlâd yr Aipht, oddi tan law Pharao brenin yr Aipht, ac am iddynt ofni duwiau dieithr,

8 A rhodio yn neddfau y cenhedloedd, y [Page] rhai a fwriasei yr Arglwydd allan o flaen mei­bion Israel, ac yn y deddfau a wnaethei brenhi­noedd Israel.

9 A meibion Israel a wnaethant yn ddirgel bethau nid oedd vnion, yn erbyn yr Arglwydd eu Duw: ac a adeiladasant iddynt vchelfeydd yn ei holl ddinasoedd, o dŵr y gwil-wŷr, hyd y ddinas gaeroc.

10 Gosodasant hefyd iddynt ddelwau, a llwynau, ar bob bryn vchel, a than bob pren îr-las.

11 Ac a arogl-darthasant yno yn yr holl vchelfeydd, fel y cenhedloedd y rhai a gaeth­gludasei yr Arglwydd o'i blaen hwynt, a gwnae­thant bethau drygionus i ddigio yr Arglwydd.

12 A hwy a wasanaethasant eulynnod, am y rhai y dywedasei yr Arglwydd wrthynt,Deut. 4.19. na wnewch y peth hyn.

13 Er i'r Arglwydd dystiolaethu yn erbyn Israel, ac yn erbyn Juda, drwy law yr holl brophwydi, a phob gweledudd, gan ddywe­dyd,Jere. 18.11. & 25.5. & 35.15. dychwelwch o'ch ffyrdd drygionus, a chedwch fyngorchymynion, a'm deddfau, yn ôl yr holl gyfraith a orchymynnais i'ch tadau, a'r hon a anfonais attoch, drwy law fy ngweision y prophwydi.

14 Etto ni wrandawsant,Deut. 31.27. eithr caledasant eu gwarrau, fel gwarrau eu tadau, y rhai ni chredasant yn yr Arglwydd eu Duw.

15 A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, a'i gyfammod, yr hwn a wnaethei efe â'i tadau hwynt, a'i destiolaethau ef, y rhai a destiolae­thodd efe iw herbyn; a rhodiasant ar ôl ofer­edd, ac a aethant yn ofer: aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd, y rhai oedd o'i hamgylch, am y rhai y gorchymynnasei yr Arglwydd iddynt, na wnelent fel hwynt.

16 A hwy a adawsant holl orchymynion yr Arglwydd eu Duw, ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd,Exod. 32.8. 1 Bren. 12.28. nid amgen dau lo: gwnae­thant hefyd lwyn, ac ymgrymmasant i holl lu y nefoedd, a gwasanaethasant Baal.

17 A hwyPen. 16.3. a dynnasant ei meibion a'i merched drwy yr tân, ac a arferasant ddewini­aeth, a swynion, ac a ymwerthasant i wneu­thur yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Ar­glwydd, i'w ddigio ef.

18 Am hynny yr Arglwydd a ddigiodd yn ddirfawr wrth Israel, ac a'i bwriodd hwynt allan o'i olwg; ni adawyd onid llwyth Juda yn vnic.

19 Ni chadwodd Juda ychwaith orchymy­nion yr Arglwydd eu Duw, eithr rhodiasant yn neddfau Israel y rhai a wnelsent hwy.

20 A'r Arglwydd a ddiystyrodd holl hâd Israel, ac a'i cystuddiodd hwynt, ac a'i rhoddodd hwynt yn llaw anrheith wŷr, nes iddo eu bwrw allan o'i olwg.

21 Canys efe a rwygodd Israel oddi wrth dŷ Ddafydd, a hwy a wnaethant Jeroboam fab Nebat yn frenin, a Jeroboam a yrrodd Israel oddi ar ôl yr Arglwydd, ac a wnaeth iddynt bechu pechod mawr.

22 Canys meibion Israel a rodiasant yn holl bechodau Jeroboam, y rhai a wnaeth efe, heb gilio oddi wrthynt:

23 Nes i'r Arglwydd fwrw Israel allan o'i olwg, fel y llefarasei drwy lawJere. 25.9. ei holl weision y prophwydi: ac Israel a gaethgludwyd allan o'i wlad ei hun i Assyria, hyd y dydd hwn.

24 A brenin Assyria a ddûg bobl o Babilon, ac o Cutha, ac o Afa, o Hamath hefyd, ac o Sepharfaim, ac a'i cyfleodd hwynt yn ninas­oedd Samaria, yn lle meibion Israel. A hwynt a feddiannasant Samaria, ac a drigasant yn ei dinasoedd hi.

25 Ac yn nechreu eu trigias hwy yno, nid ofnasant hwy yr Arglwydd; am hynny 'r Ar­glwydd a anfonodd lewod yn eu plith hwynt, y rhai a laddasant rai o honynt.

26 Am hynny y mynegasant i frenin Assy­ria, dan ddywedyd, y cenhedloedd y rhai a fudaist ti, ac a gyfleaist yn ninasoedd Samaria, nid adwaenant ddefod Duw y wlâd: am hyn­ny efe a anfonodd lewod yn eu mysc hwynt, ac wele, lladdasant hwynt, am na ŵyddent ddefod Duw y wlâd.

27 Yna brenin Assyria a orchymynnodd, gan ddywedyd, dygwch yno vn o'r offeiriaid a ddygasoch oddi yno, i fyned ac i drigo yno; ac i ddyscu iddynt ddefod Duw y wlâd.

28 Felly vn o'r offeiriaid a ddygasent hwy o Samaria, a ddaeth ac a drigodd yn Bethel, ac a ddyscodd iddynt pa fodd yr ofnent yr Ar­glwydd.

29 Etto pob cenhedl oedd yn gwneuthur eu duwiau eu hun: ac yn eu gosod yn nhai yr vchelfeydd a wnaethei y Samariaid, pob cenedl yn eu dinasoedd yr oeddynt yn presswylio ynddynt.

30 A gwŷr Babilon a wnaethant Succoth Benoth, a gwŷr Cuth a wnaethant Nergal, a gwŷr Hamath a wnaethant Asima:

31 A'r Afiaid a wnaethant Nibhaz, a Thar­tac: a'r Sepharfiaid a loscasant eu meibion yn tân i Adrammelech, ac i Hanammelech duwiau Sepharfaim.

32 Felly hwy a ofnasant yr Arglwydd, ac a wnaethant iddynt rai o'i gwehilion yn offei­riaid yr vchelfeydd, y rhai a wnaethant aber­thau iddynt yn nhai 'r vchelfeydd.

33Zeph. 1.5. Yr Arglwydd yr oeddynt hwy yn ei ofni, a gwasanaethu yr oeddynt eu duwiau, yn ôl defod y cenhedloedd y rhaiNeu, a'i dyga­sent. a ddygasent oddi yno.

34 Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hên arferion: nid ydynt yn ofni 'r Arglwydd, ac nid ydynt yn gwneu­thur yn ôl eu deddfau hwynt, nac yn ôl eu harfer, nac yn ôl y gyfraith, na'r gorchymyn, a orchymynnodd yr Arglwydd i feibion Jacob, yr hwn y gosododd efeGene. 32.28. 1 Bren. 18.31. ei enw, Israel.

35 A'r Arglwydd a wnaethei gyfammod â hwynt, ac a orchymynnasei iddynt, gan ddy­wedyd,Barn. 6.10. Jer. 10.1. nac ofnwch dduwiau dieithr, ac nac ymgrymmwch iddynt, ac na wasanaethwch hwynt, ac nac aberthwch iddynt:

36 Ond yr Arglwydd yr hwn a'ch dûg chwi i fynu o wlâd yr Aipht, â nerth mawr, ac â braich estynnedic, ef a ofnwch chwi, ac iddo ef yr ymgrymmwch, ac iddo yr aberthwch.

37 Y deddfau hefyd a'r barnedigaethau, a'r gyfraith, a'r gorchymyn, a scrifennodd efe i chwi, a gedwch chwi, iw gwneuthur byth; ac nac ofnwch dduwiau dieithr.

38 Ac nac anghofiwch y cyfammod a am­modais â chwi ac nac ofnwch dduwiau dieithr.

39 Eithr ofnwch yr Arglwydd eich Duw, ac efe a'ch gwared chwi o law eich holl elynion.

40 Ond ni wrandawsant hwy, eithr yn ôl eu hên arfer y gwnaethant hwy.

41 Felly y cenhedloedd hyn oedd yn ofni yr Arglwydd, ac yn gwa [...]naethu eu delwau cerfiedic; eu plant a'i hwyrion: fel y gwnaeth [Page] eu tadau, y maent hwy yn gwneuthur, hyd y dydd hwn.

PEN. XVIII.

1 Y brenhin duwiol Hezeciah, 4 yn dileu delw­addoliaeth, ac yn llwyddo. 9 Caethgludo Samaria am eu pechodau. 13 Senacherib yn dyfod yn erbyn Juda, a theyrnged yn ei ddyhuddo ef. 17 Senacherib yn danfon Rabsaceh yr ail waith, ac yntau yn difenwi Hezeciah, a thrwy gabl-eiriau yn annog y bobl i droi at frenin Assyria.

AC yn2 Cron. [...]8.27. & [...]9.1. y drydedd flwyddyn i Hosea fab Elah brenin Israel, y teyrnafoddMatth. [...].9. Hezeciah mab Ahaz brenin Juda.

2 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerusalem: ac enw ei fam ef oedd Abi, merch Zachariah.

3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd vnion yn­golwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnae­thei Dafydd ei dâd ef.

4 Efe a dynnodd ymmaith yr vchelfeydd ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwynau, ac a falurioddNumb. [...].9. y sarph brês a wnelsei Moses; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogl-darthu iddi hi, ac efe â'i galwodd hi Nehustan.

5 Yn Arglwydd Dduw Israel yr ymddirie­dodd efe, ac ar ei ôl ef ni bu ei fath ef ym mhlith holl frenhinoedd Juda, nac ym mysc y rhai a fuasei o'i flaen ef.

6 Canys efe a lŷnodd wrth yr Arglwydd, ni thrôdd efe oddi ar ei ôl ef, eithr efe a gadwodd ei orchymynion ef, y rhai a orchymynnasei yr Arglwydd wrth Moses.

7 A'r Arglwydd fu gyd ag ef; i ba le byn­nac yr aeth, efe a lwyddodd: ac efe a wrth­ryfelodd yn erbyn brenin Assyria, ac nis gwa­sanaethodd ef.

8 Efe a darawodd y Philistiaid hydHeb. Azzah. Gaza a'i therfynau,Pen. 17.9. o dŵr y gwil-wŷr, hyd y ddi­nas gaeroc.

9 AcPen. 17.4. yn y bedwaredd flwyddyn i'r brenin Hezeciah (honno oedd y seithfed flwyddyn i Ho­sea fab Elah brenin Israel) y daeth Salmaneser brenin Assyria i fynu yn erbyn Samaria, ac a warchaeodd arni hi.

10 Ac ym mhen y tair blynedd yr ennillwyd hi; yn y chweched flwyddyn i Hezeciah, (hon­no oedd yPen. 17.6. nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel) yr ennillwyd Samaria.

11 A brenin Assyria a gaeth-gludodd Israel i Assyria, ac a'i cyfleodd hwynt yn Halah, ac yn Habor wrth afon Gozan, ac yn ninasoedd y Mediaid;

12 Am na wrandawsent ar lais yr Arglwydd eu Duw, eithr trosseddu ei gyfammod ef, a'r hyn oll a orchymynnasei Moses gwâs yr Ar­glwydd, ac na wrandawent arnynt, ac nas gwna­ent hwynt.

13 Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddec i'r brenin Hezeciah,1 Cron. 32.1. Esa. 36.1. Eccles. 43.18. y daeth Senacherib brenin Assyria i fynu yn erbyn holl ddinasoedd caerog Juda, ac a'i hennillodd hwynt.

14 A Hezeciah brenin Juda a anfonodd at frenin Assyria i Lachis, gan ddywedyd, pechais, dychwel oddi wrthif; dygaf yr hyn a roddych arnaf. A brenin Assyria a osododd ar Hezeciah brenin Juda, dry-chant o dalentau arian, a dêc ar hugain o dalentau aur.

15 A Hezeciah a roddodd iddo yr holl arian a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhrysso­rau tŷ yr brenin.

16 Yn yr amser hwnnw y torrodd Hezeciah yr aur oddiar ddrysau teml yr Arglwydd, ac oddiar y colofnau a orchguddiasei Hezeciah brenin Juda, ac a'i rhoddes hwynt i frenin Assyria.

17 A brenin Assyria a anfonodd Tartan, a Rab­saris, a Rabsaceh, o Lachis, at frenin Hezeciah, â llûHeb. trwm. dirfawr yn erbyn Jerusalem: a hwy a aethant i fynu, ac a ddaethant i Jerusalem; ac wedi eu dyfod i fynu, hwy a ddaethant ac a sa­fasant wrth biftyll y llynn vchaf, yr hwn sydd ym mhrifforddEsay 36.2. maes y pannwr.

18 Ac wedi iddynt alw ar y brenin, daeth allan attynt hwy Eliacim mab Helciah, yr hwn oedd benteulu, a Sobnah yr scrifennydd, a Joah mâb Asaph y cofiadur.

19 A Rabsaceh a ddywedodd wrthynt hwy,Esay 36.4. 2 Cron. 18. dywedwch yn awr wrth Hezeciah, fel hyn y dywedodd y brenin mawr, brenin Assyria, pa hyder yw hwn yr wyt yn ymddiried ynddo?

20Neu, Siarad. Dywedyd yr ydwyt (ond nid ydynt ond geiriauHeb. gwefusau. ofer)Neu, Ond cyn­gor a nerth sydd raid i ryfel. y mae gennyf gyngor a nerth i ryfeliar bwy y mae dy hyder pan wrth­ryfelaist i'm herbyn i?

21 Wele yn awr y mae dy hyder ar y ffon gorsen ddrylliedic hon, ar yr Aipht, yr hon pwy bynnac a bwysso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi hi: felly y mae Pharao brenin yr Aipht i bawb a hyderant arno ef.

22 Ac os dywedwch wrthif, yn yr Argl­wydd ein Duw yr ydym ni yn ymddiried, onid efe yw yr hwn y tynnôdd Hezeciah ym [...]aith ei vchelfeydd, a'i allorau, [...] Juda, ac wrth Jerusalem, o [...] yr ymgrymmwch chwi yn Jerusalem?

23 Yn awr gan hynny dôd wystlon attolwg, i'm harglwydd brenin Assyria, a rhoddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a far­chogo arnynt hwy.

24 A pha fodd y troi di ymmaith wyneb vn capten o'r gweision lleiaf i'm harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aipht am gerbydau a gwŷr meirch?

25 Ai heb yr Arglwydd y deuthum i, i fynu yn erbyn y lle hwn, iw ddinistrio ef? yr Argl­wydd a ddywedodd wrthif, dos i fynu yn er­byn y wlâd hon, a dinistria hi.

26 Yna y dywedodd Eliacim mab Hel­ciah, a Sobna, a Joah, wrth Rabsaceh, llefara attolwg wrth dy weision yn Syrian­aec, (canys yr ydym ni yn ei deall hi) ac nac ymddiddan â ni yn iaith yr Iddewon, lle y clywo yr bobl sydd ar y mur.

27 Ond Rabsaceh a ddywedodd wrthynt, ai at dy feistr di, ac atat titheu yr anfonodd fy meistr fi, i lefaru y geiriau hyn? ond at y dynion sydd yn eistedd ar y mur; fel y bwytaont eu tom eu hun, ac yr yfont euHeb. ddwfr eu traed. trwnge eu hun gyda chwi, yr anfonodd fi?

28 Felly Rabsaceh a safodd, ac a waeddodd â llef vchel yn iaith yr Iddewon, llefarodd hefyd a dywedodd, gwrandewch air y brenin mawr, brenin Assyria.

29 Fel hyn y dywedodd y brenin, na thwy­lied Hezeciah chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi o'm llaw i.

30 Ac na phared Hezeciah i chwi ymddiried yn yr Arglwydd, gan ddywedyd, yr Arglwydd [Page] gan [...] a'n gwared ni, ac ni roddir y ddi­nas hon yn ll [...]w b [...]enin Assyria.

31 Na [...] ar Hezeciah: canys fel hyn y [...] brenin Assyria, gwnewchH [...]. f [...]t [...]. fwyn­der â mi, a dewch allan at [...], ac yna bwy­tewch b [...]b vn o'i win-wydden ei hun, a phob vn o'i ffigy [...]-bren, ac y [...]ed pawb ddwfr eiNeu, byd [...]w. ffynnon ei hun.

32 N [...]s i'm ddyfod a'ch dwyn chwi i wlâd megis eich gwlâd eich hun, gwlad ŷd a gwîn, gwlâd b [...]ra a gwin-lla [...]noedd, gwlad olew oli­wŷdd a mel, fel y byddoch fyw, a [...] na byddoch feirw: ac na wrand [...]w [...]h a [...] Heze [...]iah, pan hu­do ef chwi, gan ddywedyd, yr Arglwydd a'n gwared ni.

33 A lwyr waredodd yr vn o dduwiau y cenhedloedd ei wlâd o law brenin Assyria?

34 Mae duwiau Hamath ac Arpad? mae duwiau Sepharfaim, Hena ac Isah: a achuba­sant hwy Samaria o'm llaw i?

35 Pwy sydd ym mhlith holl dduwiau y gwledydd a waredasant eu gwlâd o'm llaw i; fel y gwaredei yr Arglwydd Jerusalem o'm llaw i?

36 Eithr y bobl a dawsant, ac nid atteba­sant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, nac attebwch ef.

37 Yna y daeth Eliacim mab Helciah, yr hwn oedd benteulu, a Sobna yr scrifennydd, a Joab mab Asaph y cofiadur, at Hezeciah, a'i dillad yn rhwygedic, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsaceh.

PEN. XIX.

1 Hezeciah yn galaru, ac yn anfon at Esay i we­ddio trosto. 6 Esay yn ei gysuro ef. 8 Se­nacherib yn myned i ymladd a Thirhacah, ac yn danfon at Hezeciah lythyr yn llawn cabl-eiriau. 14 Gweddi Hezeciah. 20 Esay yn prophwy­do am falchder a dinistr Senacherib, a daioni Sion. 35 Angel yn lladd yr Assyriaid. 36 Ei feibion ei hun yn lladd Senacherib yn Niniveh.

AEsay 37.1. Phan glybu y brenin Hezeciah hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwiscodd â sachllain, ac a aeth i mewn i dŷ yr Argl­wydd.

2 Ac efe a anfonodd Eliacim, yr hwn oedd benteulu, a Sobna yr scrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisco mewn sach-liain, at Esay y prophwyd mab Amos.

3 A hwy a ddywedasant wrtho ef, fel hyn y dywed Hezeciah, diwrnod cyfyngdra, a che­rydd, aNeu, chyth­r [...]d. chabledd, yw yr dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr anedigaeth, ond nid oes grym i escor.

4 Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw holl eiriau Rabsaceh, yr hwn a anfonodd brenin Assyria ei feistr ef, i gablu y Duw byw, ac y ce­rydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dercha dy weddi dros y gweddill sydd iw gael.

5 Felly gweision y brenin Hezeciah a ddae­thant at Esay.

6 Ac Esay a ddywedodd wrthynt, fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, fel hyn y dywed yr Arglwydd: nac ofna 'r geiriau a glywaist, drwy y rhai y cablodd gweision brenin Assyria fi.

7 Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw fŵn, ac a ddychwel iw wlâd i gwnat hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlâd ei hun.

8 Yna y dychwelodd Rabsaceh, ac a gafodd frenin Assyria yn ymladd yn erbyn Libnah: canys efe a glywsei fyned o honaw ef ymmaith o Lachis.

9 A phan glybu efe am Tirhacah brenin Ethi­opia, gan ddywedyd, wele efe a ddaeth allan i ryfela â thi; efe a anfonodd gennadau dra­chefn at Hezeciah, gan ddywedyd,

10 Fel hyn y lleferwch wrth Hezeciah bre­nin Juda, gan ddywedyd, na thwylled dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ymddiried yn­ddo, gan ddywedyd, ni roddir Jerusalem yn llaw brenin Assyria.

11 Wele ti a glywaist yr hyn a wnaeth bren­hinoedd Assyria i'r holl wledydd, gan eu di­frodi hwynt: ac a waredir di?

12 A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i'm tadau i eu dinistrio, sef Gosan, a Haran, a Rezeph, a meibion Eden, y rhai oedd o fewn Thelassar?

13 Mae brenin Hemath, a brenin Arpad, a brenin dinas Sepharfaim, Hena ac Ifah?

14 A Hezeciah a gymmerodd y llythyrau o law y cennadau, ac a'i darllennodd hwy; a Hezeciah a aeth i fynu i dŷ yr Arglwydd, ac a'i lledodd hwynt ger bron yr Arglwydd.

15 A Hezeciah a weddiodd ger bron yr Ar­glwydd, ac a ddywedodd, o Arglwydd Dduw Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y Cerubi­aid, tydi sydd Dduw, tydi yn vnic, i holl deyrnasoedd y ddaiar; ti a wnaethost y nefo­edd, a'r ddaiar.

16 Gogwydda Arglwydd dy glust, a gwran­do; agor dy Iygaid Arglwydd ac edrych, a gwrando eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw.

17 Gwir yw ô Arglwydd, i frenhinoedd Assyria ddifa 'r holl genhedloedd a'i tîr,

18 A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: ca­nys nid oeddynt hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dŷn, o goed, a maen: am hynny y dinistriasant hwynt.

19 Yn awr gan hynny ô Arglwydd ein Duw ni, achub ni attolwg o'i law ef, fel y gwy­po holl deyrnasoedd y ddaiar, mai tydi yw 'r Arglwydd Dduw, tydi yn vnic.

20 Yna Esay mab Amos a anfonodd at He­zeciah, gan ddywedyd, fel hyn y dywed Ar­glwydd Dduw Israel, gwrandewais ar yr hyn a weddiaist arnafi, yn erbyn Senacherib bre­nin Assyria.

21 Dymma 'r gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef. Y forwyn merch Sion a'th ddirmygodd di, ac a'th watwarodd, merch Jerusalem a escydwodd ben ar dy ôl di.

22 Pwy a ddifenwaist ti, ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y derchefaist di dy lef, ac y co­daist yn vchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel.

23 Trw [...] law dy gennadau y ceblaist ti yr Ar­glwydd [...] dywedaist, a lliaws fy ngherbydau y dringais i vc [...]elder y mynyddoedd, i ystlyfan Libanus; a mi a dorraf vchelder ei gedr-wŷdd ef, a'i ddewis ffynnidwŷdd ef, âf hefyd iw let­tŷ eithaf, ac i goedwig ei ddol-dir ef.

24 Myfi a gloddiais, ac a yfais ddyfroedd di­eithr, ac â gwadnau fy nhraed y diyspyddais holl afonydd yNeu, cauedic. gwarchaedic.

25 Oni chlywaist ti ddarparu o honofi hyn er ystalm, ac i mi Iunio hynny er y dyddiau gynt? yn awrNeu, a ddyg [...], &c. y dygum hynny i ben, fel y byddit i ddinistrio dinasoedd caeroc yn garneddau di­nistriol.

26 Am hynny eu trigolion yn gwttoglaw a ddychrynwyd, ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrdd lyssieu, neu laswelltyn ar bennau tai, neu ŷd wedi de [...]sio cyn addfedu.

27 DyNeu, [...]igf [...]. eisteddiad hefyd, a'th fynediad allan, a'th ddyfodiad i mewn, a adnabum i, a'ch gynddeiriawgrwydd i'm herbyn.

28 Am it ymgynddeiriogi i'm herbyn, ac i'th ddadwrdd ddyfod i fynu i'm clustiau i; am hynny y gosodaf fy mâch yn dy ffroen, a'm ffrwyn yn dy weflau, ac a'th ddychwelaf di ar hŷd yr vn ffordd ac y daethost.

29 A hyn sydd yn argoel i ti ô Heze [...]iah, y flwyddyn hon y bwyttei a dyfo o honaw ei hun, ac yn yr ail flwyddyn yr attwf, ac yn y drydedd flwyddyn hauwch, a medwch plen­nwch winllannoedd hefyd, a bwyttewch eu ffrwyth hwynt.

30 A'rHeb. diang [...]l. gweddill o dŷ Juda 'r hwn a ade­wir, a wreiddia eilwaith i wared, ac a ddŵg ffrwyth i fynu.

31 Canys gweddill a â allan o Jerusalem, a'r rhai diangol o fynydd Sion: zêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn.

32 Am hynny fel hyn y dywedodd yr Ar­glwydd am frenin Assyria, ni ddaw efe i'r ddi­nas hon, ac ni ergydia saeth yno: hefyd ni ddaw efe o'i blaen hi â tharian, ac ni fwrw glawdd iw herbyn hi.

33 Ar hyd yr vn ffordd ac y daeth, y dychwel efe, ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, medd yr Arglwydd.

34 Canys mi a ddeffynnaf y ddinas hon, iw chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwâs.

35 A'r nosson honno 'r aethEsa. 37.36. 2 Cron. 23.21. Tob. 1.21. Eccl. 48.21. 1 Mac. 7.41. 2 Mac. 8.19. Angel yr Arglwydd, ac a darawodd yngwerssyll yr Assy­riaid, bump a phedwar vgain a chant o filoedd: a phan gyfodasant yn foreu dranoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon.

36 Felly Senacherib brenin Assyria a yma­dawodd, ac a aeth ymaith, ac a ddychwelodd ac a drigodd yn Ninifeh.

37 A bu, fel yr oedd efe yn addoli yn nhŷ Nifroch ei dduw,2 Cron. 32.21. Esa. 37.38. i Adramelech a Sarezer ei feibion, ei ladd ef â'r cleddyf; a hwy a ddian­gasant i wlâdHeb. Ara [...]at. Armenia: ac Esarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PEN. XX.

1 Hezeciah, wedi cael rhybydd o'i farwolaeth, trwy weddi yn cael ystyn ei oes. 8 Yr haul yn myned yn ei ôl ddeg o raddau yn argoel o'r addewid hwnnw. 12 Berodach Baladan yn danfon i ym­weled â Hezeciah, o herwydd y rhyfeddod hwnnw, ac felly yn cael gwybodaeth am ei drysorau ef. 14 Esay yn cael gwybod hynny, ac yn rhagfynegi y cae [...]hglud i Babylon. 21 Manasseh yn fre­nin ar ôl Hezeciah.

YN y dyddiau hynny2 Cron. 32.24. Isa. 38. 1. y clafychodd Heze­ciah hyd farw, ac Esay y prophwyd mab Amos a ddaeth atto, ac a ddywedodd wrtho, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd,Heb. [...]d or­ [...]ymmyn [...]m. trefna dy dŷ; canys marw fyddi, ac ni byddi byw.

2 Yna efe a drôdd ei wyneb at y pared, ac a weddiodd at yr Arglwydd, gan ddy­wedyd,

3 Attolwg Arglwydd cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd, ac â chalon berffaith, a gwneuthur o honof yr hyn oedd dda yn dy olwg di: a Hezeciah a wy­ [...]odd ag wylofain mawr.

4 A chyn myned o Esay allan i'rNeu, ddinas. cyntedd canol, daeth gair yr Arglwydd atto, gan ddy­wedyd,

5 Dychwel, a dywed wrth Hezeciah blae­nor fy mhobl i, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad, clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau: wele fi ŷn dy iachau di, y trydydd dydd yr ai di i fynu i dŷ 'r Arglwydd.

6 A mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng-mhlynedd, ac a'th waredaf di a'r ddinas hon, o law brenin Assyria: deffynnaf hefyd y ddinas hon er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.

7 A dywedodd Esay, cymmerwch swp o ffi­gus: a hwy a gymmerasant, ac a'i gosodasant ar y cornwyd, ac efe a aeth yn iach.

8 A Hezeciah a ddywedodd wrth Esay, pa arwydd f [...]dd yr iachâ 'r Arglwydd fi, ac yr afi i fynu i dŷ 'r Arglwydd y trydydd dydd?

9 Ac Esay a ddywedodd, hyn fydd i ti yn argoel oddi wrth yr Arglwydd, y gwna 'r Ar­glwydd y gair a lefarodd efe: a â y cyscod dd [...]c o raddau ym mlaen,Esay 38.8. Ecclus. 48.24. neu a ddychwel efe ddêc o raddau yn ôl?

10 A Hezeciah a ddywedodd, hawdd yw i'r cyscod ogwyddo ddêc o raddau? nid felly, onid dychweled y cyscod yn ei ôl ddêc o ra­ddau.

11 Ac Esay y prophwyd a lefodd ar yr Ar­glwydd, ac efe a drôdd y cyscod ar hŷd y gra­ddau, ar hŷd y rhai y descynnasei efeHeb. yngra­ddau. yn neial Ahaz, ddêc o raddau yn ei ôl.

12 Yn yr amser hwnnw 'r anfonoddEsay 39.1. Be­rodach Baladan, mab Baladan brenin Babylon, lythyrau, ac anrheg, at Hezeciah: canys efe a glywsei fod Hezeciah yn glâf.

13 A Hezeciah a wrandawodd arnynt, ac a ddangosodd iddynt holl dŷ eiNeu, lysieuay. dryssor, yr ari­an, a'r aur, a'r pêr-arogiau, a'r olew goreu, a holl dŷ eiNeu, dlyssau. Heb. ddo­drefn. arfau, a'r hyn oll a gafwyd yn ei dryssorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, ar nas dangosodd Heze­ciah iddynt.

14 Yna Esay y prophwyd a ddaeth at y bre­nin Hezeciah, ac a ddywedodd wrtho, beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant attat ti? a dywedodd Hezeciah, o wlâd bell y daethant hwy, sef o Babilon.

15 Yntef a ddywedodd, beth a welsant hwy yn dy dŷ di? a dywedodd Hezeciah, yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant hwy; nid oes dim yn fy nhryssorau i nas dangosais iddynt hwy.

16 Ac Esay a ddywedodd wrth Hezeciah, gwrando air yr Arglwydd.

17 Wele y dyddiau yn dyfod pan2 Bren. 24.13. & 25.13. Jer. 27.22. ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a'r hyn a gynhilodd dy dadau hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr Arglwydd.

18 Cymmerant hefyd o'th feibion di y rhai a ddaw allan o honot, y rhai a genhedli di, a hwy a fyddant yn stafellyddion yn llŷs brenin Babilon.

19 Yna Hezeciah a ddywedodd wrth Esay, da yw gair yr Arglwydd, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd,Neu, oni bydd heddwch, &c. ond da os bydd heddwch a gwirionedd yn fy-nyddiau i?

20 A'r rhan arall o hanes Hezeciah, a'i holl rym ef, ac fel y gwnaeth efe y llyn, a'r pistyll, ac y dûg efe y dyfroedd i'r ddinas, onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Juda?

21 A Hezeciah a hunodd gyd a'i dadau, a Manasseh ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

PEN. XXI.

1 Teyrnasiad Manasseh, 3 a'i ddelw-addoliaeth. 10 Ei annuwioldeb ef yn achos o brophwydo­liaethau yn erbyn Juda. 17 Amon ar ei ôl ef, 19 A'i annuwioldeb yntef. 23 Ei weision yn ei ladd ef, a'r bobl yn eu lladd hwythau, a Josiah yn myned yn frenhin.

2 Cron. 33.1.MAb deuddeng-mlwydd oedd Manasseh pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phym­theng-mhlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerusalem: ac enw ei fam ef oedd Heph­sibah.

2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngo­lwg yr Arglwydd, yn ôl ffieidd-dra y cenhed­loedd aDeut. 18.9. fwriodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.

3 Canys efe a adeiladodd drachefn yr vchel­feyddPen. 18.4. a ddinistriasei Hezeciah ei dâd ef; ac a gyfododd allorau i Baal, ac a wnaeth lwyn, fel y gwnelfei Ahab brenin Israel, ac a addo­lodd holl lu y nefoedd, ac a'i gwasanaethodd hwynt.

4Jer. 32.34. Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ 'r Arglwydd, am yr hwn y dywedasei 'r Argl­wydd,2 Sam. 7.13. yn Jerusalem y gosodaf fy enw.

5 Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu y nefoedd, yn nau gyntedd tŷ 'r Arglwydd.

6 AcPen. 16.3. 2 Cron. 33.6. efe a dynnodd ei fab drwy dân, ac a ar­ferodd hudoliaeth, a brudiau: ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yngolwg yr Arglwydd, iw ddigio ef.

7 Ac efe a osododd ddelw gerfiedic y llwyn a wnelsei efe, yn y tŷ, am yr hwn y dyweda­sei 'r Arglwydd wrth Ddafydd, ac wrth Salo­mon ei fab,1 Bren. 8.29. & 9.3. Pen. 23.27. & 7.10. yn y tŷ hwn, ac yn Jerusalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodafi fy enw yn dragywydd:

8 Ac ni symmudaf mwyach droed Israel o'r wlâd a roddais iw tadau hwynt: yn vnig os gwiliant ar wneuthur yr hyn oll a orchy­mynnais iddynt, ac yn ôl yr holl gyfraith a orchymynnodd fy ngwâs Moses iddynt.

9 Ond ni wrandawsant hwy: a Manasseh a'i cyfeiliornodd hwynt i wneuthur yn waeth na'r cenhedloedd a ddifethasei yr Arglwydd o flaen meibion Israel.

10 A llefarodd yr Arglwydd drwy law ei weision y prophwydi, gan ddywedyd,

11 OJer. 15.4. herwydd i Manasseh brenin Juda wneuthur y ffieidd-dra hyn, a gwneuthur yn waeth na'r hyn oll a wnaethei yr Amoriaid a fu o'i flaen ef, a pheri o honaw i Judah bechu drwy ei eulynnod:

12 O blegit hynny, fel hyn y dywed Ar­glwydd Dduw Israel, wele fi yn dwyn drwg ar Jerusalem, a Juda,1 Sam. 3.11. fel y merwino dwy-glust y sawl a'i clywant.

13 A mi a estynnaf linyn mesur Samaria ar Jerusalem, a phwys tŷ Ahab: golchaf hefyd Je­rusalem, fel y gylch vn gwppan, yr hwn pan Neu, sycho. olcho, efe a'i trŷ ar ei wyneb.

14 A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth, ac a'i rhoddaf hwynt yn llaw ei gelynion, a hwy a fyddant yn anrhaith, ac yn yspail iw holl elynion.

15 Am iddynt wneuthur yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i, a'i bod, yn fy nigio i, er y dydd y daeth eu tadau hwynt allan o'r Aipht, hyd y dydd hwn.

16 Manasseh hefyd a dywalltodd lawer iawn o waed gwirion, hyd oni lanwodd efe Jeru­salem oHeb. ymyl i ymyl. ben bwy gilydd, heb law ei bechod drwy yr hwn y gwnaeth efe i Juda bechu, gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd.

17 A'r rhan arall o hanes Manasseh, a'r hyn a wnaeth efe, a'i bechod a bechodd efe, onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Juda.

18 A2 Cron. 33.20. Manasseh a hunodd gyd â'i dadau, ac a gladdwyd yngardd ei dŷ ei hun, sef yngardd Vzza, ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

19 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan dechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerusalem: ac enw ei fam ef oedd Mesulemeth merch Haruz o Jotbah.

20 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd, fel y gwnelsei Ma­nasseh ei dâd.

21 Ac efe a rodiodd yn yr holl ffyrdd y rhodiasei ei dad ynddynt, ac a wasanaethodd yr eulynnod a wasanaethasei ei dâd, ac a ym­grymmodd iddynt.

22 Ac efe a wrthododd Arglwydd Dduw ei dadau, ac ni rodiodd yn ffordd yr Arglwydd.

23 A gweision Amon a frad-fwriadasant yn ei erbyn ef, ac a laddasant y brenin yn ei dŷ ei hun.

24 A phobl y wlâd a laddodd yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn brenin Amon: a phobl y wlâd a osodasant Josiah ei fab ef yn frenin yn ei le ef.

25 A'r rhan arall o hanes Amon, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy 'n scrifennedic yn llyfr Chronicl brenhinoedd Juda?

26 A chladdwyd ef yn ei feddrod yngardd Vzza, aMatth. 1.10. Josiah ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

PEN. XXII.

1 Duwioldeb Josiah, 3 a'i ofal am gyweirio 'r Deml. 8 Helciah n cael llyfr y gyfraith, a Josiah yn gyrru at Huldah i ymgynghori a'r Arglwydd. 15 Huldah yn prophwydo di­nystr Jerusalem, ond yr oedid hynny tros am­ser Josiah.

MAb2 Cron. 34.1. wyth mlwydd oedd Josiah pan aeth efe yn frenin, ac un mlynedd ar ddêc ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerusalem: ac enw ei fam ef oedd Jedidah merch Adaiah, o Boscath.

2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd vnion yn­golwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn holl ffyrdd Dafydd ei dâd, ac ni thrôdd ar y llaw ddehau, nac ar y llaw asswy.

3 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Josiah, y brenin a anfonodd Saphan, fab Asa­liah, fab Mesulam, yr scrifennydd, i dŷ 'r Ar­glwydd, gan ddywedyd,

4 Dôs i fynu at Helciah yr arch-offeiriad, fel y cyfrifo efe yr arian a dducpwyd i dŷ 'r Arglwydd, y rhai a gasclodd ceidwaid yHeb. trothny. drws gan y bobl;

5 A rhoddant hwy yn llaw gweithwŷr y gwaith, y rhai sy olygwyr ar dŷ 'r Arglwydd: a rhoddant hwy i'r rhai sydd yn gwneuthur y gwaith sydd yn nhŷ 'r Arglwydd, i gywei­rio agennau y tŷ;

6 I'r seiri coed ac i'r adeiladwŷr, ac i'r seiri main, ac i brynu coed a cherric nâdd, i atgy­weirio y tŷ.

7 Etto ni chyfrifwyd â hwynt am yr arian [Page] a roddwyd yn eu llaw hwynt, am eu bod hwy 'n gwneuthur yn ffyddlon.

8 A2 Cron. 34.14. Helciah 'r arch-offeiriad a ddywe­dodd wrth Saphan yr scrifennydd, cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ 'r Arglwydd: a Helci­ah a roddodd y llyfr at Saphan, ac efe a'i dar­llennodd ef.

9 A Saphan yr scrifennydd a ddaeth at y brenin, ac a adroddodd y peth i'r brenin, ac a ddywedodd, dy weision di aHeb. dodda­s [...]nt. gasclasant yr arian a gafwyd yn tŷ, ac a'i rhoddasant yn llaw gweith-wŷr y gwaith, y rhai sy oly­gwyr ar dŷ 'r Arglwydd.

10 A Saphan yr scrifennydd a fynegodd i'r brenin, gan ddywedyd, Helciah yr offeiriad a roddodd i mi lyfr: a Saphan a'i darllennodd ef ger bron y brenin.

11 A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad.

12 A'r brenin a2 Cron. 34.20. orchymynnodd i Helciah 'r offeiriad, ac i Ahicam fab Saphan, ac i Achbor fab Michaiah, ac i Saphan yr scri­fennydd, ac i Asahiah gwâs y brenin, gan ddywedyd,

13 Ewch, ymofynnwch â'r Arglwydd dro­sofi, a thros y bobl, a thros holl Juda, am eiriau y llyfr hwn a gafwyd: canys mawr yw llid yr Arglwydd, yr hwn a enynnodd i'n herbyn ni, o herwydd na wrandawodd ein tadau ni ar eiriau y llyfr hwn, i wneuthur yn ôl yr hyn oll a scrifennwyd o'n plegit ni.

14 Felly Helciah yr offeriad, ac Ahicam, ac Achbor, a Saphan, ac Asahiah, aethant at Hul­dah y brophwydes, gwraig Salum mab2 Cron. 34.22. Tic­fah, fab Harhas, ceidwad y gwiscoedd; a hi oedd yn trigo yn Jerusalem ynNeu, Ail rhan. yr yscol-dy, a hwy a ymddiddanasant â hi.

15 A hi a ddywedodd wrthynt, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, dywedwch i'r gŵr a'ch anfonodd chwi attafi;

16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele fi yn dwyn drwg ar y llê hwn, ac ar ei drigolion, sef holl eiriau y llyfr a ddarllennodd brenin Juda.

17 Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogl­darthu i dduwiau dieithr, i'm digio i â holl waith eu dwylo: am hynny 'r ennyn fy llid yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir ef.

18 Ond wrth frenin Juda, yr hwn a'ch an­fonodd chwi i ymgynghori â'r Arglwydd, fel hyn y dywedwch wrtho ef, fel hyn y dy­wed Arglwydd Dduw Israel, am y geiriau a glywaist ti.

19 O blegit i'th galon feddalhau, ac i titheu ymostwng o flaen yr Arglwydd, pan glywaist yr hyn a leferais yn erbyn y lle hwn, ac yn er­byn ei drigolion, y byddent yn anghyfannedd ac yn felldith, ac am rwygo o honot dy ddillad, ac ŵylo ger fy mron i; minnau hefyd a wran­dewais, medd yr Arglwydd.

20 O herwydd hynny, wele, mi a'th gym­meraf di ymmaith at dy dadau, a thi a ddygir i'th fedd mewn heddwch, fel na wêlo dy ly­gaid yr holl ddrwg yr ydwyfi yn ei ddwyn ar y fan hon. A hwy a ddygasant air i'r bre­nin drachefn.

PEN. XXIII.

1 Josiah yn peri darllain y gyfraith yngwydd yr holl bobl, 3 yn adnewyddu Cyfammod yr Ar­glwydd. 4 yn difetha 'r eulyn-addolwyr a'i ho­ffeiriaid, 15 yn llosci escyrn y meirw ar allor Bethel, fel y daroganesid, 21 yn cadw Pasc ardderchog, 24 yn difetha y consur-wyr a phob ffieidd-dra. 26 Dygn ddigofaint Duw yn erbyn Juda. 29 Josiah yn cyffroi Pharaoh Nechoh, ac yn cael ei ladd ym Megido. 31 Joachaz yn frenhin ar ei ôl ef, a Pharaoh Nechoh yn ei garcharu ef, ac yn gwneuthur Joacim yn frenhin. 36 Annuwiol lywodraeth Joacim.

A'R brenin a anfonodd,2 Cron. 34.30. a holl henuriaid Ju­da, a Jerusalem a ymgynnullasant at­to ef.

2 A'r brenin a aeth i fynu i dŷ 'r Argl­wydd, a holl wŷr Juda, a holl drigolion Je­rusalem gyd ag ef, yr offeiriaid hefyd a'r pro­phwydi, a'r holl bobl o fychan hyd fawr: ac efe a ddarllennodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfammod, yr hwn a gaw­sid yn nhŷ 'r Arglwydd.

3 A'r brenin a safodd wrthPen. 11.14. y golofn, ac a wnaeth gyfammod ger bron yr Arglwydd ar fyned ar ôl yr Arglwydd, ac ar gadw ei orchy­mynion ef, a'i destiolaethau, a'i ddeddfau, â'i holl galon, ac â'i holl enaid, i gyflawni geiriau y cyfammod hwn, y rhai oedd scrifennedic yn y llyfr hwn: a'r holl bobl a safodd wrth y cyfammod.

4 A'r brenin a orchymynnodd i Helciah yr arch-offeiriad, ac i'r offeriaid o'r ail radd, ac i geidwaid y drws, ddwyn allan o deml yr Ar­glwydd, yr holl lestri a wnelsid i Baal, ac i'r llwyn, ac i holl lu y nefoedd: ac efe a'i llo­scodd hwynt o'r tu allan i Jerusalem, ym meusydd Cidron, ac a ddug eu lludw hwynt i Bethel.

5 Ac efe a ddiswyddodd yrHeb Chema­rim. offeiriaid a osodasei brenhinoedd Juda i arogl-darthu yn yr vchelfeydd, yn ninasoedd Juda, ac yn am­gylchoedd Jerusalem: a'r rhai oedd yn arogl­darthu i Baal, i'r haul, ac i'r lleuad, ac i'rNeu, deuddec arwydd. planedau, ac i holl lû y nefoedd.

6Pen. 21.7. Efe a ddûg allan hefyd y llwyn o dŷ'r Arglw [...]dd, i'r tu allan i Jerusalem, hyd afon Ci­dron, ac a'i lloscodd ef wrth afon Cidron, ac a'i malodd yn llwch, ac a daflodd ei lwch ar fe­ddau meibion y bobl.

7 Ac efe a fwriodd i lawr dai y Sodomiaid, y rhai oedd wrth dŷ 'r Arglwydd, lle yr oedd y gwragedd yn gweuHeb. tai. cortynau i'r llwyn.

8 Ac efe a ddûg yr holl offeiriaid allan o ddinasoedd Juda, ac a halogodd yr vchelfeydd yr oedd yr offeiriaid yn arogl-darthu arnynt, o Geba hyd Beer-seba, ac a ddestrywlodd vchelfeydd y pyrth, y rhai oedd wrth ddrws porth Josua tywysog y ddinas, y rhai oedd ar y llaw asswy i bawb a ddelei i borth y ddinas.

9 Etto offeiriaid yr vchelfeydd ni ddaethant i fynu at allor yr Arglwydd i Jerusalem, ond hwy a fwytasant fara croyw ym mysc eu brodyr.

10 Ac efe a halogodd Topheth yr hon sydd yn nyffryn meibion Hinnom, fel na thynnai neb ei fab na'i ferch drwy dân i Moloch.

11 Ac efe a ddifethodd y meirch a rodda­sei brenhinoedd Juda i'r haul, wrth ddyfodfa tŷ yr Arglwydd, wrth ystafell Nathan-melech yrHeb. Eunuch. ystafellydd, yr hwn oedd yn y pentref, ac a loscodd gerbydau 'r haul yn tân.

12 YrPen. 21.5. allorau hefyd y rhai oedd ar nen ystafell Ahaz, y rhai a wnelsei brenhinoedd Ju­da, a'r allorau a wnelsei Manasseh yn nau gyn­tedd tŷ 'r Arglwydd, a ddestrywiodd y brenin, [Page] acNeu, a red [...]dd oddiyno. a'i bwriodd hwynt i lawr oddi yno, ac a daflodd eu llŵch hwynt i afon Cidron.

13 Y brenin hefyd a ddifwynodd yr vchel­feydd oedd ar gyfer Jerusalem, yn rhai oedd o'r tu dehau iS [...]f, my­nydd yr ol [...]yd [...]. fynydd y llygredi [...]aeth, y rhai a adeiladasei1 [...]ren. 11 7 Salomon brenin [...]ael i Astoreth ff [...]eidd-dra y Sidoniaid, ac i C [...]amos ffieidd-dra y Moabiaid, ac i Mil [...]hom ffieidd-dra mei­bion Ammon.

14 Ac efe a ddrylliodd y delwau, ac a dor­rodd y llwynau, ac a lanwodd eu lle hwynt ag escyrn dynion.

15 Yr allor hefyd,1 [...]ren. 12.23. yr hon oedd yn Bethel, o'r vchel [...]a a wnaethei Jeroboam mab Neb [...]t, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ie 'r allor honno a'r vchelfa a ddestrywiodd efe, ac a los­ [...]odd yr vchel [...]a, ac a'i ma [...]odd yn llŵch, ac a losco [...]d y llwyn.

16 A Josiah a edrychodd, ac a ganfu fe­ddau, y rhai oedd yno yn y mynydd, ac a an­f [...]nodd, ac a gymm [...]th yr escyrn o'r beddau, ac a' [...] [...] ar yr allor, ac a'i halogodd hi, yn ôl1 Bren. 13.2. [...]air yr Arglwydd yr h [...]n a gyhoeddasei gŵr Duw, yr hwn a [...] y geiriau hyn.

17 Yn [...] efe a ddywed [...]dd, pa ditl yw hwn yr ydwyfi yn ei w [...]led▪ a [...]wŷr y ddinas a ddy­wed [...]sant wrtho, bedd gŵr D [...]w, 'r hwn a dda­e [...]h o Juda▪ ac a gyhoeddodd y pethau hyn a wnaethost ti i allor [...], ydyw.

18 Ac e [...]e a ddywedodd, gedwch ef yn llo­nydd; nac ymyrred neb a'i escyrn efe felly 'r achub [...]ant ei escyrn ef gyd ag escyrn1 Bren. 13.31. y pro­phwyd a ddaethei o Sa [...]a [...]ia.

19 Josiah hefyd a dynnodd ymmaith holl dai'r vchelfeydd, y rh [...]i oedd vn ninasoedd Sa­maria, y rhai a wnelsei b [...]e [...]hi [...]oedd Israel i ddi­gio 'r Arglwydd, ac a wnaeth iddynt yn ôl yr holl weit [...]redoedd a wnelsei efe yn Bethel.

20 Ac e [...]eNeu, a [...]er­tho [...]d. a laddodd holl offeiriaid yr vchel­feyd [...] oed [...] yno, ar yr allor [...], ac a loscodd es­cy [...]n dynion arnynt, ac a ddychwelodd i Je­rusalem.

21 A'r brenin2 Cron. 35.1.1 E [...]d. 1.1. a orchymynnodd i'r holl bob [...], g [...]n ddywedyd, gwnewch Ba [...]c i'r Argl­wy [...]d [...] fel y mae y [...] scrifennedic yn lly [...] y [...] hwn.Exod. 12. [...]. Deut. 36.4.

22 Yn ddi [...] ni wna [...] y fath Basc â hwn, e [...] dyddi [...] [...] nac [...], na bren­ [...]n [...] [...].

23 A [...] yn y ddeu-nawfed [...]wyddyn i frenin [...] A [...]glwydd yn Jeru [...]m.

24 Y [...], a'r [...],Neu, [...]ra [...]him. a'r [...] y rhai a welwyd [...] yn Je [...]em, a dynodd Josiah ymmaith, sef y [...] efeLevit. [...].27. Deut. 18.11. eiriau y gyfraith, y [...]hai oedd scri [...]en [...]c yn y llyfr a g [...]fodd [...] yn nhy 'r Arglwydd.

25 Ac ni bu o'i [...] hwn a drôdd at yr Arglwydd a i holl [...] ac â'i holl enaid, ac â'i holl egni, yn [...] gyfraith Moses, ac ar ei ôl ef ni chy [...]dd [...]i fath ef.

26 Er hynny ni thrôdd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint mawr, drwy 'r hwn y ll [...] ­diodd ei ddi [...]llonedd ef yn erbyn Juda : o her­wydd yr holl ddigter drwy yr hwn y dig [...] Manasseh ef.

27 A dywedodd yr Arglwydd, Juda hefyd a fwriaf ymmaith o'm golwg, fel y bw [...]iais ym maith Israel, ac a wrthodaf y ddinas hon Je­rusalem, yr hon a ddetholais, a'r tŷ am yr hwn y dywedais,1 Bren. 8.29. & 9.3. 2 Bren. 21.7. fy enw a fydd yno.

28 A'r rhan arall o hanes Josiah, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn scrifenne­dic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Juda?

292 Cron. 35.20. Yn ei ddyddiau ef y daeth Pharao Ne­choh brenin yr Aipht i fynu yn erbyn brenin Assyria, hyd afon Euphrates: a'r brenin Josiah a aeth iw gyfarfod ef, a Pharao a'i lladdodd ef ym Megido, pan ei gwelodd ef.

30 A'i weision a'i dygasant ef mewn cerbyd yn farw o Megido, ac a'i dygasant ef i Jerusa­lem, ac a'i claddasant ef yn ei feddrod ei hun:2 Cron. 36.1. a phobl y wlâd a gymmerasant Joachaz fab Josiah, ac a'i heneiniasant ef, ac a'i hurddasant yn frenin yn lle ei dad.

31 Mab tair blwydd ar hugain oedd Joachaz pan aeth efe yn frenin, a thri mîs y teyrnasodd efe yn Jerusalem; ac enw ei fam ef oedd Ha­mutal, merch Jeremiah o Libnah.

32 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wna­ethei ei dadau ef.

33 A Pharao Nechoh a'i rhwymodd ef yn Riblah yngwlad Hamath,Neu, am [...]i f [...]d yn teyrn [...]. fel na theyrnasai efe yn Jerusalem; ac a osododd dreth ar y wlâd o gan talent o arian, a thalent o aur.

34 A Pharao Nechoh a osododd Eliacim fab Josiah yn frenin yn lle Josiah ei dâd, ac a drodd ei henw efMath. 1.12. Joachim: ac efe a ddûg ymmaith Joachaz, ac efe a ddaeth i'r Aipht, ac yno y bu efe farw.

35 A Joachim a roddodd i Pharao yr arian, a'r aur, ond efe a drethodd y wlâd i roddi yr arian wrth orchymyn Pharao: efe a gododd yr arian a'r aur, ar bobl y wlâd, ar bob vn yn ol i drêch, iw rhoddi i Pharao Nechoh.

36 Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joachim pan ddechre [...]odd efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar ddec y teyrnasodd efe yn Jerusalem: ac enw ei fam ef oedd Z [...]budah, merch Pedaiah o Ru­mah.

37 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yn­golwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnelsei ei dadau.

PEN. XXIV.

1 Joachim [...] or [...]fygu gan Nabuchodonosor, yn gwrth-ryfela yn ei [...] ef, ac felly yn dwyn din [...]str [...]. 6 [...] yn teyrnasu ar ei ol. 7 [...] yn gorchfygu brenin yr Aipht. 8 [...] lywodraeth Joa­ [...]. 10 Ynnill Jer [...]s [...]l [...]m, a chaethgludo 'r bobl i [...]. 17 G [...]n [...]uthur Zedeciah yn [...] ddrwg lywodraeth ef yn achos o [...] Jerusalem.

Y [...] 2 Cr [...]. 36.6. ei ddyddiau ef y daeth Nabuchodono­sor br [...] Babilon i fynu, a Joachim a fu wâs iddo ef d [...]ir blynedd; y [...]a efe a drôdd, ac a wrth-ry [...]dd yn ei erbyn ef.

2 A'r Arglwydd a anfonodd yn ei erbyn ef dorfoedd o'r C [...]deaid, a th [...]edd o'r Syriaid, a thorfoedd o'r Moabiaid, a thorfoedd o feibion Ammon, ac a'i hanfonodd hwynt yn erbyn Juda iw dinistrio hi,Pen. 20.17 & 23.27. yn ôl g [...]ir yr Arglwydd, yr hwn a le [...]asei efe drwy law ei weision y prophwydi.

3 Yn ddiau drwy [...]rchymyn yr Arglwydd y [...] hyn yn erbyn Juda, iw bwrw allan o'i olwg ef, o ach [...]s [...]hodau Manas [...]eh, yn ôl yr hyn oll a wnaeth [...]i efe:

4 A hefyd o he [...]wydd y gwnei gwirion a oll [...]g [...]d (canys efe a lanwodd Jerusalem [Page] o waed gwirion) a hynny ni fynnei 'r Ar­glwydd ei faddeu.

5 A'r rhan arall o hanes Joachim, a'r hyn oll a'r a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn scrifen­nedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Juda?

6 A JoachimJer. 21. [...] a hunodd gyd â'i dadau, a Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

7 Ac ni ddaeth brenin yr Aipht mwyach o'i wlâd: canys brenin Babilon a ddygasei yr hyn oll a oedd eiddo brenin yr Aipht, o afon yr Aipht, hyd afon Euphrates.

82 Cron. [...].9. Mâb deunaw-mlwydd oedd Joachin pan aeth efe yn frenin, a thri mîs y teyrnasodd efe yn Jerusalem; ac enw ei fam ef oedd Nehusta merch Elnathan o Jerusalem.

9 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng­olwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnae­thei ei dâd.

10 Yn Dan 1.2. yr amser hwnnw y daeth gweision Nabuchodonosor brenin Babilon i fynu yn er­byn Jerusalem,H [...]a'r ddinas a ddaeth [...] a gwarchaewyd ar y ddinas.

11 A Nabuchodonosor brenin Babilon a ddaeth yn erbyn y ddinas, a'i weision ef a warchaeasant arni hi.

12 A Joachin brenin Juda a aeth allan at frenin Babilon, efe, â'i fam, a'i weision, a'i dy­wysogion, a'iN [...]u, E [...]n [...]chi­ [...]id. stafellyddion: a brenin Babi­lon a'i daliodd ef, yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad.

13 AcPen. 2 [...].17. [...]sa. 39.6. efe a ddûg oddi yno holl dryssorau tŷ 'r Arglwydd, a thrys [...]au tŷ y brenin, ac a dorrodd yr holl lestri aur a wnelsei Salomon brenin Israel, yn nheml yr Arglwydd, fel y llefarasei 'r Arglwydd.

14 Ac efe a ddûg ymmaith holl Jerusalem, yr holl dywysogion hefyd, a'r holl gedyrn nerthol, sef deng mil o gaethion, a phôb saer, a gôf: ni adawyd ond pobl dlodion y wlâd yno.

15 Efe2 Cron. 36.10. [...]sther. 2.6. hefyd a ddûg ymmaith Joachin i Babilon, a mam y brenin, a gwragedd y bre­nin, a'iNeu, E [...]nu­ [...]iaid. stafellyddion, a chedyrn y wlâd a ddûg efe i gaethiwed o Jerusalem i Babi­lon.

16 A'r holl wŷr nerthol, sef saith mîl; ac o seiri, a gofaint, mîl, y rhai oll oedd gryfion a rhyfelwŷr: hwynt hwy a ddûg brenin Ba­bilon yn gaeth i Babilon.

17 AJer. 37. [...]. & 52.1. brenin Babilon a osododd Matta­niah brawd ei dâd ef yn frenin yn ei lê ef; ac a drôdd ei henw ef yn Zedeciah.

18 Mab vn mlwydd ar hugain oedd Zede­ciah pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac vn mly­nedd ar ddêc y terynasodd efe yn Jerusalem: ac enw ei fam ef oedd Hamutal merch Je­remiah o Libnah.

19 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethei Joachin.

20 Canys trwy ddigofaint yr Arglwydd y bu hyn yn Jerusalem, ac yn Juda, nes iddo eu taflu hwynt allan o'i olwg, fôd i Zedeciah wrthryfela yn erbyn brenin Babilon.

PEN. XXV.

1 Cy [...]hynu Jerusalem. 4 Dal Zedeciah, a lladd ei feibion, a thynnu ei lyg [...]id ef. 8 Nabuzaradan yn dif [...]odi y ddinas, ac yn dwyn y gweddill, ond ych [...]dig dlodion, i gaethiwed, 13 yn anrheithio ac yn dwyn ymmaith y trysorau. 18 Lladd y bo­neddigion yn Riblah. 22 Wedi lladd Gedaliah a osodasid yn b [...]n arnynt, y mae 'r lleill yn ffo i'r Aipht. 27 Euilmerodach yn derchafu Joachin yn ei lys.

ACJer. 39.1. & 52.4. yn y nawfed flwyddyn o'i deyrnas [...]d ef, yn y decfed mis, ar y decfed dydd o'r mîs, y daeth Nabuchodonosor brenin Ba­bilon, efe a'i holl lû yn erbyn Jerusalem, ac a wersyllodd yn ei herbyn hi, a hwy a adaila­dasant yn ei herbyn hi wrthglawdd o'i ham­gylch hi.

2 A bu y ddinas yngwarchae hyd yr vnfed flwyddyn ar ddêc i'r brenin Zedeciah.

3 Ac ar y nawfedJer. 52.6. dydd o'r pedwerydd mîs, y trymhaodd y newyn yn y ddinas, ac nid oedd bara i bobl y wlâd.

4 A'r ddinas a dorrwyd, a'r holl ryfelwŷr a ffoesant liw nôs ar hyd ffordd y porth, rhwng y ddau sûr, y rhai sydd wrth ardd y brenin, (a'r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch) a'r brenin a aeth y ffordd tu a'r rhôs.

5 A llû y Caldeaid a erlidiasant ar ôl y bre­nin, âc a'i daliasant ef yn rhosydd Jericho: a'i holl lû ef a wascarasid oddi wrtho.

6 Felly hwy a ddaliasant y brenin, ac a'i dygasant ef i fynu at frenin Babilon i Riblah; ac2 Cron. 26.13. aHeb. lefarasant farn gyd­ag ef. roddasant farn yn ei erbyn ef.

7 Lladdasant feibion Zedeciah hefyd o flaen ei lygaid, acH [...]b. ddalla­sant. a dynnasant lygaid Zedeciah, ac a'i rhwymasant ef mewn gefynnau p [...]es, ac a'i dygasant ef i Babilon.

8 Ac yn y pummed mîs, ar y seithfed dydd o'r mîs (honno oedd y bedwared i flwyddyn ar bymthec i frenin Nabuchodonosor b [...]enin Ba­bilon) y daethJer. 52, 12. Nabazaradan y distain, gwas brenin Babilon, i Jerusalem.

9 Ac efe a loscodd dŷ 'r Arglwydd, a thŷ 'r brenin, a holl d [...]i Jerusalem, a phob tŷ mawr a loscodd efe â thân,

10 A holl lû y Caldeaid, y rhai oedd gyd â'r distain, a dorrasant i lawr suroedd Jerusalem oddi amgylch.

11 A Nabuzaradan y distain a ddûg ym­maith y rhan arall o'r bobl, a adaw [...]d yn y ddi­nas, a'r ffoaduriaid a gi [...]ias [...]nt at frenin B [...]bi­lon, gyd â gweddill y dyrf [...].

12 Ac o dl [...]dion y wlâd y gad [...]wodd y di­stain rai, yn winllan-wŷr, ac yn arddw [...]r.

13 Y Pen. 2 [...].17. Jer. 27.22. colofnau pr [...]s he [...]yd, y rhai oedd yn nhŷ 'r Arglwydd, a'r ystolion, a'r mo [...] prês, yr hwn oedd yn nhŷ 'r A [...]lwydd, a ddrylliodd y Caldeaid, a hwy a ddygasant eu prês hwynt i Babilon.

14 YExod. 27.3. crochanau hefyd, a'r rhawiau, a'r psaltringau, y llwyau, a'r holl lestri pres, y rhai 'r oeddid yn gwasanaethu â hwynt, a ddy­gasant hwy ymmaith.

15 Y pedill tân hefyd, a'r cawgiau, y rhai oedd o aur yn aur, a'r rhai oedd o arian yn arian, a ddûg y distain ymmaith.

16 Y ddwy golofn, yr vn môr, a'r ystolion a ŵnelsei Salomon i dŷ 'r Arglwydd; nid oe [...]d bwys ar brês yr holl lestri hyn.

171 Bren. 7.15. Jer. 52.21. 2 Cron. 3.15. Tri chufydd ar bymthec oedd vchter y naill golofn, a chnap pres oedd arni, ac uchter y cnap oedd dri chufydd; ple [...]hwaith h [...]d, a phomgranadau oedd ar y cnap o amgylch, vn brês ei gyd: ac felly 'r oedd yr ail golo [...]n, â phleth-waith.

18 A'r distain a gymmerth Seraiah yr offei­riad pennaf, a Zephaniah yr ail offeiriad, a'r tri oedd yn cadw yHeb. rhiniog. drŵs.

19 Ac o'r ddinas efe a gymmerthNeu, E [...]nuch, stafellydd, yr hwn oedd ar y rhyfel-wŷr, a phum ŵr o'r rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas,Neu, a phen scri­fennydd y llu. ac scrifennydd tywysog [Page] y llû, yr hwn oedd yn byddino pobl y wlâd; a thrugain-ŵr o bobl y wlâd, y rhai a ga­fwyd yn y ddinas.

20 A Nabuzaradan y distain a gymmerth y rhai hyn, ac a'i dûg at frenin Babilon, i Riblah.

21 A brenin Babilon a'i tarawodd hwynt, ac a'i lladdodd hwynt, yn Riblah, yngwlâd Hemath: felly y caeth-gludwyd Juda o'i wlâd ei hun.

22 Ac am yJer. 40. 5. 9. bobl a adawsid yngwlâd Ju­da, y rhai a adawsei Nabuchodonosor brenin Babilon, efe a wnaeth yn swyddog arnynt hwy, Gedaliah fâb Ahicam, fâb Saphan.

23 AJer. 40.7. phan glybu holl dywysogion y lluoedd, hwynthwy a'i gwŷr, wneuthur o fre­nin Babilon Gedaliah yn swyddog, hwy a ddae­thant at Gedaliah i Mispah, sef Ismael mâb Ne­thaniah, a Johanan mâb Careah, a Seraiah mâb Tanhumeth y Netophathiad, a Jaazaniah mâb Maachathiad, hwynt a'i gwŷr.

24 A Gedaliah a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwŷr, ac a ddywedodd wrthynt, nac ofnwch fod yn weision i'r Caldeaid: trig­wch yn y tîr, a gwasanaethwch frenin Babilon, a bydd da i chwi.

25 Ac yn y seithfed mîs,Jer. 41.1. y daeth Ismael mâb Nethaniah, fâb Elisama,Heb. o haed y frenhini­aeth. o'r hâd brenhi­nawl, a deng-ŵr gyd ag ef, a hwy a daraw­sant Gedaliah, fel y bu efe farw: tarawsant he­fyd yr Iddewon, a'r Caldeaid oedd gyd ag ef ym Mispah.

26 A'r holl bobl o fychan hyd fawr, a thy­wysogion y lluoedd a gyfodasant, ac a ddaethant i'r Aipht: canys yr oeddynt yn ofni y Caldeaid.

27 Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymthec ar hugain o gaethiwed Joachin brenin Juda, yn y deuddecfed mîs, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mîs, Efil-merodach brenin Ba­bilon (yn y flwyddyn yr aeth efe yn frenin) a dderchafodd ben Joachin brenin Juda o'r carchar-dŷ,

28 Ac efe a ddywedoddHeb. bethau daionus. yn dêg wrtho, ac a osododd ei gadair ef goruwch cadeiriau y bren­hinoedd oedd gyd ag ef yn Babilon.

29 Ac efe a newidiodd ei garchar-wisc ef: ac efe a fwyttâodd fwyd yn oestadol ger ei fron ef, holl ddyddiau ei enioes.

30 A'i ran ef oedd ran feunyddol, a roddid iddo gan y brenin, dogn dydd yn ei ddydd, holl ddyddiau ei enioes ef.

¶Y LLYFR CYNTAF O'R CRONICL.

BEN. I.

1 Llin Addaf hyd Noah. 5 Meibion Japheth. 8 M [...]n Cham. 17 Meibion Sem. 24 Llin Sem hyd Abraham. 29 Meibion Ismael. 32 Mei­bion Ceturah. 34 Hiliogaeth Abraham o Esau. 43 Brenhinoedd Edom. 51 Dugiaid Edom.

ADda,Gen. 5.3, 9. Seth, Enos,

2 Cenan, Mahalaleel, Jered,

3 Henoch, Methuselah, Lamech,

4 Noah, Sem, Cam, a Japheth.

5 MeibionGen. 10.2. Japheth, Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras.

6 A meibion Gomer, Aschenaz, aNeu, Diphath. Riphath, a Thogarmah.

7 A meibion Jafan, Elisa, a Tharsis, Cittim, aNeu, Rodanim. Dodanim.

8 Meibion Cam: Cus, a Mizraim, Put, a Chanaan.

9 A meibion Cus: Siba, a Hafilah, a Sabta, a Raamah, a Sabteca: a Seba, a Dedan, meibi­on Raamah.

10 A Chus a genhedloddGen, 10.8. Nimrod: hwn a ddechreuodd fôd yn gadarn ar y ddaiar.

11 A Mizrai n a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Naphtuhim:

12 Pathrusim hefyd, a Casluhim, (y rhai y daeth y Philistiaid allan o honynt) aDeut. 2.23. Chaph­torim.

13 A Chanaan a genhedlodd Zidon ei gyn­tafanedic, a Heth:

14 Y Jebusiad hefyd, a'r Amoriad, a'r Gir­gasiad,

15 A'r Hefiad, a'r Arciad, a'r Siniad,

16 A'r Arfadiad, a'r Zamariad, a'r Hema­thiad.

17 MeibionGen. 10.22. & 11.10. Sem? Elam, ac Assur, ac Arphacsad, a Lud, ac Aram, ac Vz, a Hul, a Gether, a Mesech.

18 Ac Arphacsad a genhedlodd Selah, a Se­lah a genhedlodd Eber.

19 Ac i Eber y ganwyd dau o feibion: henw y naill ydoedd Sef, Gwaha­ [...]iad. Peleg, (o herwydd mai yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaiar) ac enw ei frawd oedd Joctan.

20 AGen. 10.26, Joctan a genhedlodd Almodad, a Seleph, a Hazermafeth, a Jerah:

21 Hadoram hefyd, ac Vsal, a Diclah,

22 Ac Ebal, ac Abimael, a Seba:

23 Ophir hefyd, a Hafilah, a Jobab: y rhai hyn oll oedd feibion Joctan.

24Luc. 3.24. Sem, Arphacsad, Selah,

25Gen. 11.15. Eber, Peleg, Rehu,

26 Serug, Nahor, Terah,

27Gen. 17.5. Abram, hwnnw yw Abraham.

28 Meibion Abraham,Gen. 21.2, 3. Isaac, acGen. 16.11. Ismael.

29 Dymma eu cenhedlaethau hwynt:Gen. 25.13. cyn­taf-annedic Ismael oedd Nebaioth, yna Cedar, ac Adbeel, a Mibsam,

30 Misma a Dumah, Massa,Neu, Had [...]r. Gen. 25 15. Hadad, a Thema,

31 Jetur, Naphis, a Chedemah. Dymma feibion Ismael.

32 A meibion Ceturah,Gen. 25.2. gordderch-wraig Abraham: hi a ymddug Zimran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Suah. A meibion Jocsan, Seba, a Dedan.

33 A meibion Midian, Ephah, ac Ephar, a Henoch, ac Abida, ac Eldaah, yGen. 25.4. rhai hyn oll oedd feibion Ceturah.

34 AcGen. 21.2. Abraham a genhedlodd Isaac. Mei­bion Isaac, Esau, ac Israel.

35 Meibion Esau:Gen. 36.4.9, 10. Eliphaz, Revel, a Jeus, a Jaalam, a Chorah.

36 Meibion Eliphaz: Teman, ac Omar,Neu, Zepho. Gen. 36.12. Ze­phi, a Gatam, Cenas, a Thimna, ac Amalec.

37 Meibion Revel: Nahath, Zerah, Sam­mah, a Mizzah.

38 A meibion Zeir: Lotan, a Sobal, a Zibe­on, ac Anah, a Dison, ac Eser, a Disan.

39 A meibion Lotan, Hori, aNeu, Heman. Gen. 36.22. Homam: a chwaer Lotan oedd Timna.

40 Meibion Sobal,Neu, Alvan. Gen. 36.23. Alian, a Manahath, ac Ebal,Neu, Seph▪ Gen. 36.23. Sephi, ac Onam. A meibion Zibeon: Aiah, ac Anah.

41 Meibon Anah,Pen. 2.31. Dison. A meibion Di­son;Neu, Hemdan. Gen. 36.26. Amram, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.

42 Meibion Ezer: Bilhan, a Zafan, aNeu, Achan. Gen. 26.37. Ja­can. Meibion Dison: Vz, ac Aran.

43 Dymma hefyd yGen. 36.31. brenhinoedd a deyr­nasasant yn-nhîr Edom cyn teyrnasu ofrenin ar feibion Israel: Bela mâb Beor: a henw ei ddi­nas ef oedd Dinhabah.

44 A phan fu farw Bela y teyrnasodd yn ei lê ef Jobab mâb Zerah o Bozrah.

45 A phan fu farw Jobab, Husam o wlâd y Temaniaid, a deyrnasodd yn ei lê ef.

46 A phan fu farw Husam, yn ei lê ef y teyr­nasodd Hadad mab Bedad, yr hwn a darawodd Midian ym maes Moab; ac enw ei ddinas ef ydoedd Afith.

47 A phan fu farw Hadad, y teyrnasodd yn ei lê ef, Samlah o Masrecah.

48 A phan fu farw Samlah, Saul o Reho­both wrth yrGen. 36.37. afon, a deyrnasodd yn ei lê ef.

49 A phan fu farw Saul, y teyrnasodd yn ei lê ef Baalhanan mâb Achbor,

50 A bu farw Baalhanan, a theyrnasodd yn ei lê efGen. 36.29. Hadar. Hadad, ac enw ei ddinas ef oedd Gen. 36.39. Pau. Pai: ac enw ei wraig ef Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.

51 A bu farw Hadad. A duwgiaid Edom oedd,Gen. 36, 40. duwc Timna, duwc Aliah, duwc Jetheth,

52 Duwc Aholibamah, duwc Elah, duwc Pinon,

53 Duwc Cenaz, duwc Teman, duwc Mibzar,

54 Duwc Magdiel, duwc Iram. Dymma ddu­giaid Edom.

PEN. II.

1 Meibion Israel. 3. Hiliogaeth Juda o Thamar. 13 Meibion Iesse. 18 Hiliogaeth Caleb fâb Hefron. 21 Hiliogaeth Hesron o ferch Machir. 25 Hiliogaeth Ierahmeel. 34 Hiliogaeth Se­san. 42 Caingc arall o hiliogaeth Caleb. 50 Hi­liogaeth Caleb mab Hur.

DYmma feibionNeu, Jacob. Israel:Gen. 29.32. & 30.5. & 35.18. & 46.8. Ruben, Simeon, Lefi, a Juda, Issachar, a Zabulon,

2 Dan, Joseph, a Benjamin, Nephtali, Gad, ac Aser.

3Gen. 38.3. & 46.12. Pen. 4.1. Meibion Juda: Er, ac Onan, a Selah. Y tri hyn a anwyd iddo ef o ferch Sua yGen. 38.2. Ganaa­nites. Ond Er cyntaf-anedic Juda ydoedd ddry­gionus yngolwg yr Arglwydd, ac efe a'i lla­ddodd ef.

4 AGen. 38.29. Matth. 1.3. Thamar ei waudd ef a ymddug iddo Phares, a Zerah: holl feibion Juda oedd bump.

5 MeibionRuth. 4.18. Pharez: Hefron a Hamul.

6 A meibion Zerah:Neu, Zaldi, Jos. 7.1. Zimri,1 Bren. 4.31. ac Ethan, a Heman, a Chalcol, aNeu, Darda. Dara: hwynt oll oedd bump.

7 A meibion Charmi:Neu, Achan, Jos. 6.19. & 7.1.25. Achar, yr hwn a flinodd Israel, ac a wnaeth gamwedd o blegid y diofryd-beth.

8 A meibion Ethan: Azariah.

9 A meibion Hezron, y rhai a anwyd iddo ef; Jerahmeel, aNeu, Aram, Matth. 1.3. Ram, aNeu, Caleb, gwers 18. Chelubai.

10 A Ram a genhedloddRuth. 4.1 [...]. Aminadab, ac Aminadab a genhedlodd Nahsson, pennaeth meibion Juda.

11 A Nahsson a genhedlodd Salma, a Salma a genhedlodd Boaz.

12 A Boaz a genhedlodd Obed, ac Obed a gedhedlodd Jesse.

13 A1 Sam. 16.6. & 17.12. Jesse a genhedlodd ei gyntaf-anedic Eliab ac Arcinadab yn ail, aNeu, Samma. 1 Sam. 16.9. Simma yn dry­dydd.

14 Nathanael yn bedwerydd, Radai yn bummed,

15 Ozem yn chweched, Dafydd yn seithfed.

16 A'i chwiorydd hwynt oedd Serfiah, ac Abigail. A meibion Serfiah, Abisai, a Joab, ac Asahel: tri.

17 Ac Abigail a ymddug Amaza. A thâd Amaza oedd Jether yr Ismaeliad.

18 A Chaleb mâb Hezron a ennillodd blant o Azubah ei wraig, ac o Jerioth: ac dymma ei meibion hi: Jeser, Sobab, ac Ardon.

19 A phan fu farw Azubah, Caleb a gym­merth iddo Ephrath, a hi a ymddug iddo Hur.

20 A Hur a genhedlodd Vri, ac Vri a gen­hedloddExod. 31.2. Bezaleel.

21 Ac wedi hynny yr aeth Hezron i mewn at ferch Machir,Num. 32.40. tâd Gilead, ac efe a'iHeb. cym­merth. prio­dodd hi pan ydoedd fâb trugain-mlwydd; a hi a ddug iddo Segub.

22 A Segub a genhedlodd Jair: ac yr oedd iddo ef dair ar hugain o ddinasoedd yngwlâd Gilead.

23 Ac efe aNum. 32.41. Deut. 3.14. Jos. 13.30. ennillodd Gesur, ac Aram, a threfydd Jair oddiarnynt, a Chenath a'i phentrefydd, sef trugain o ddinasoedd. Y rhai hyn oll oedd eiddo meibion Machir tâd Gilead.

24 Ac yn ôl marw Hezron o fewn Caleb Ephratah, Abiah gwraig Hezron a ymddug iddo Ashur, tâd Tecoa.

25 A meibion Jerahmeel cyntaf-anedic He­zron, oedd Ram yr hynaf; Bunah, ac Oren, ac Ozen, ac Ahiah.

26 A gwraig arall ydoedd i Jerahmeel, a'i henw Atarah: hon oedd fam Onam.

27 A meibion Ram cyntaf-anedic Jerahmeel, oedd Maaz, a Jamin, ac Ecar.

28 A meibion Onam oedd Sammai, a Jada: a meibion Sammai; Nadab, ac Abisur.

29 Ac enw gwraig Abisur oedd Abihail, a hi a ymdug iddo Ahban, a Molid.

30 A meibion Nadab; Seled, ac Appaim. A bu farw Seled yn ddiblant.

31 A meibion Appaim, Isi: a meibion Isi, Sesan, a meibion Sesan Ahlai.

32 A meibion Jada brawd Sammai, Jether, a Jonathan: a bu farw Jether yn ddiblant.

33 A meibion Jonathan, Peleth, a Zaza. Y rhai hyn oedd feibion Jerahmeel.

34 Ac nid oedd i Sesan feibion, onid mer­ched: ac i Sesan yr oedd gwâs o Aiphtiad, a'i enw Jarha.

35 A Sesan a roddodd ei ferch yn wraig i Jarha ei wâs. A hi a ymddug iddo Attai.

36 Ac Attai a genhedlodd Nathan, a Na­than a genhedloddPen. 11.41. Zabad,

37 A Zabad a genhedlodd Ephlal, ac Ephlal a genhedlodd Obed,

38 Ac Obed a genhedlodd Jehu, a Jehu a genhedlodd Azariah,

39 Ac Azariah a genhedlodd Helez, a Helez a genhedlodd Eleasah,

40 Ac Eleasah a genhedlodd Sisamai, a Sisa­mai a genhedlodd Salum,

41 A Salum a genhedlodd Jecamiah, a Jeca­miah a genhedlodd Elisamah.

42 Hefyd meibion Caleb brawd Jerahmeel oedd Mesa ei gyntaf-anedic, hwn oedd dad Ziph: a meibion Maresa tâd Hebron.

43 A meibion Hebron: Corah, a Thapuah, a Recem, a Sema.

44 A Sema a genhedlodd Raham, tâd Jor­coam: a Recem a genhedlodd Sammai.

45 A mâb Sammai oedd Maon: a Maon oedd dad Bethzur.

46 Ac Ephah gordderch-wraig Caleb a ym­ddug Haran, a Mosa, a Gazez: a Haran a gen­hedlodd Gazez.

47 A meibion Jahdai: Regem, a Jotham, a Gesan, â Phelet, ac Ephah, a Saaph.

48 Gordderch-wraig Caleb, sef Maachah, a ymddug [...]eber, a [...]i [...]hanah.

49 Hefyd hi a ymddug Saaph, tâd Mad­man [...]ah, [...] tâd Machbenah a thad Gibeah: aJos. 15.17. merch Caleb oedd Achs [...]h.

50 Y rhai hyn oedd feibion Caleb fab Hur, cyn [...]f-anedic Ephratah: Sobal tâ [...] Ci [...]iath-Jearim,

51 Salma tâd Bethlehem: Hareph tâd Beth-Gader.

52 A mei [...]ion oedd i Sobal, tâd Ciriath-Jea­rim;Neu, Reai [...]h. Pen. 4.2. Ha [...]eh, aNeu, Chatsi­hamme­nuchoth. hanner yNeu, Menuchi­aid. Manahethiaid.

53 A theuluoedd Ciriath-J [...]rim oedd, yr Ithriaid a'r Puhlaid, a'r Sumathiaid, a'r Misrai­aid: o'r rhai hyn y daeth y Zareathiaid, a'r Est­hauliaid.

54 Me [...]bion Salmah: Bethlehem, a'r Neto­phathiaid,Neu, At [...]ri­aid: neu, goron [...]u ty Jo [...]. [...] tŷ Joab, a hanner y Mana­hethiaid, y [...]iaid.

55 A thylwyth yr scrifennyddion, y rhai a bresswylient yn Jabes; y Tirathi [...] y Num. 10.29. [...]mea­thiaid, y Suchathiaid. Dymma yBarn. 1.16. Ce [...]i [...], y rhai a ddaethant o He [...]a [...]h, tad t [...]l [...]ythJer. 35.1. Rechab.

PEN. III.

1 Meibion Dafydd, 10 a'i lÎn ef hyd Ze [...]eciah. 17 Hilioga [...]th [...]iah.

Y Rhai hyn hefyd oedd feibion [...], y rhai a anwyd iddo ef yn Hebron [...] annedic,2 Sam. 3.3. Amnon, o Ahinoam yJos. 15.56. Je [...]re [...]tes: yr ail Neu, Chilcab, 2 Sam. 3. [...]. Daniel o Abigail y Ga [...]meli [...]es::

2 Y trydydd, Absalom mâb Maa [...]hah, [...] Talmai brenin Gessur: y pedwerydd, Adoniah mab Haggith:

3 Y pummed, Sephatia o Abital: y chweched, Ith [...]eam o 2 Sam. 3.5. [...]glah ei wraig.

4 Chwech a anwyd iddo yn Hebron, ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd, a chwe mis: a thair blynedd ar ddêc ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerusalem.

52 Sam. 5.14. A'r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerusa­lem;Neu, Sammuah 2 Sam. 5.14. Simea, a S [...]bab, a Nathan, a Salomon, Pedwar, oNeu, Bathse [...]a 2 Sam. 11.3. B [...]thsua merchNeu, Eliam. 2 Sam. 11.3. Ammiel:

6 Ibhar hefyd, acNeu, Elisua, 2 Sam. 5.15. Elisama, ac Eliphelet,

7 A Noga, a Nepheg, a Iaphia,

8 Ac ElisamaNeu, Beliad [...], Pen. 14.7. Eliada, ac Eliphelet, naw.

9 Dymma holl feibion Dafydd, heb law mei­bion y gordderch-wragedd, a Thamar2 Sam. 13.1. eu chwaer hwynt.

10 A mâb Salomon ydoedd 1 Bren. 11.43. & 15.6. Rehoboam:Neu, Abiam. 1 Bren. 15.1. Abiah ei fâb y [...]ef; Asa ei fab yntef; a Jeho­saphat ei fab yntef:

11 Ioram ei fab yntef;Neu, Azar [...]h. 2 Cron. 22.6. & 21.17. Ahaziah, ei fâb yntef; Ioas ei fâb yntef;

12 Amaziah ei fab yntef;Neu, Vzziah, 2 Bren. 15.30. Azariah, ei fâb yntef; Jotham, ei fab yntef;

13 Ahaz, ei fab yntef; Hezeciah, ei fâb yn­tef; Manasseh, ei fâb yntef;

14 Amon, ei fab yntef; Josiah, ei fâb yntef.

15 A Meibion Josiah, y cyntaf-anedic oedd Neu, J [...]achaz, 2 Bren. 23.30. Johanan, yr ailNeu, Eliacim, 2 Bren. 23.34. Joacim: y trydyddNeu, Mathaniah. 2 Bren. 2 [...] 17. Ze­deciah, y pedwerydd Salum.

16 A meibionMa [...]th. 1.11. Joacim.N [...]u, J [...]h [...]iacin. 2 Bren. 24.6. Jeconiah ei fâb ef, Zedeciah ei fâb yntef.

17 A meibionN [...]u, C [...]niah, Jer. 22.24, Jeconiah, Assir, Salathiel2 Bren. 24.17 ei ewythr & Matth. 1.12. ei fab yntef,

18 Malchiram hefyd, a Phedaiah, a Senazar, Jecamiah, a Hosama, a Nedabiah.

19 A meibion Pedaiah, Zorobabel, a Semei: a meibion Zorobabel, Mesulam, a Hananiah, a Selomith eu chwaer hwynt.

20 A Hasubah, ac Ohel, a Berechiah, a Ha­zadiah, Jusabhefed, pump.

21 A meibion Hananiah, Pelatiah, a Jesaiah: meibion Rephaiah, meibion Arnan, meibion Obadiah, meibion Sechaniah.

22 A meibion Sechaniah, Semaiah: a mei­bion Semaiah, Hatrus, ac Igeal, a Bariah, a Neariah, a Saphat, chwech.

23 A meibion Neariah: Elioenai, a Hezeciah, ac Azricam, tri.

24 A meibion Elioenai oedd Hodaiah, ac Eli­asib, a Phelaiah, ac Accub, a Johanan, a Da­laiah, ac Anani, saith.

PEN. IV.

1 Heliogaeth Juda o Caleb mab Hur, 5 Aser mab Hefron. 9 Jabes, a'i weddi. 21 Hiliogaeth Se­lah, 24 a Simeon, a'i ddinasoedd. 39 Eu gorfo­daeth ar G [...]dor a'r Amaleciaid yn mynydd Seir.

MEibion Juda:Gen. 38.29. & 46.12. Pen. 2.4. Pharez, Hefron, aNeu, Chelubai. Pen. 2.9. Neu, Ca­leb, Pen. 2.18. Char­ [...]i; a Hur, a Sobal.

2 ANeu, Haroeh. Pen. 2.52. Reaiah mab Sobal a genhedlodd Ja­hath, a Jahath a genhedlodd Ahumai a Lahad. Dymma deuluoedd y Zorathiaid.

3 A'r rhai hyn oedd o dâd Etam: Jezreel, ac [...], ac Idbas: ac enw eu chwaer hwynt oedd Ha [...]lelponi.

4 A Phennel tad Gedor, ac Eser tâd Husah: dymma feibion Hur cyntaf-anedic Ephratah, tâd Bethleh [...]m.

5 Ac iPen. 2.24. Assur tâd Tecoa yr oedd dwy wrag­edd: Helah, a Naarah.

6 A Naarah a ddûg iddo Ahusam, a He­pher, a Themeni, ac Ahastari: dymma feibion Naarah.

7 A meibion Helah oedd Zereth, a Zoar, ac Ethnan,

8 A Choz a genhedlodd Anob, a Zobebah, a theuluoedd Aharhel fâb Harum.

9 Ac yr oeddHynny yw athrist Jabes yn anrhydeddusach nâ'i frodyr: a'i fam a alwodd ei enw ef Jabes, gan ddywedyd, o blegit i mi ei ddwyn ef drwy ofid.

10 A Jabes a alwodd ar Dduw Israel, gan ddywedyd,Heb. os llwys fendithi. o na lwyr frendithit fi, ac na ehengit fy-nherfynau, a bôd dy law gyd â mi,Heb. a gwneu­th [...]r ymwared i mi. a'm cadw oddi wrt [...] ddrwg, fel na'm gofi­dier: a pharodd Duw ddyfod iddo yr hyn a ofynnasei.

11 A Chelub brawd Suah a genhedlodd Me­hir, yr hwn oedd dâd Eston.

12 Ac Eston a genhedlodd Beth-rapha, a Phaseah a Thehinnah, tadNeu, Irn [...]has. dinas Nahas: dym­ma ddynion Rechah.

13 A meibion Cenas, Othniel, a Seraiah: a meibion OthnielNeu, Hath [...] a Meono­thai, yr hwn a genhed­l [...]dd, &c. Hathath.

14 A Meonothai a genhedlodd Ophrah: a Seraiah a genhedlodd Joab, tâdNeu, trigolion dyffryn Chara [...]. glyn y crefft­wŷr, canys crefft-wŷr oeddynt hwy.

15 A meibion Caleb fâb Jephunneh: Iru, Elah, a Naam: a meibion Elah oedd Neu, Ʋknaz. Cenas.

16 A meibion Jehaleleel: Ziph, a Ziphah, Tiria, ac Asareel.

17 A meibion Ezra oedd Jether, a Mered, ac Epher, a Jalon: a hi a ddûg Miriam, a Sam­mai, ac Isbah, tâd Esthemoa.

18 A'i wraig efNeu, Id [...]wes. Jehudiah a ymddug Je­red tâd Gedor, a Heber tâd Socho, a Jecuthi­el tâd Zanoah: ac dymma feibion Bithiah [Page] merch Pharao, yr hon a gymmerth Mered.

19 A meibion ei wraigNeu, [...]diah, [...]nwyt [...] blaen. Hodiah, chwaer Naham, tâd Ceilah y Garmiad, ac Esthemoa y Maachathiad.

20 A meibion Simeon oedd Amnon, a Rin­nah, Benhanan, a Thilon. A meibion Isi oedd Zoheth, a Benzoheth.

21 A Gen. 38.1, 5. meibion Selah fab Juda, oedd Er, tâd Lecah, a Laadah, tâd Maresah, a theuluoedd tylwyth gweithyddion lliain main o dŷ As­beah.

22 A Jocim, a dynion Chozebah, a Joas, a Saraph, y rhai oedd yn arglwyddiaethu ar Mo­ab, a Jasubi Lehem. Ac y mae y pethau hyn yn hen.

23 Y rhai hyn oedd grochenyddion yn cyfanneddu ym mysc plan-wydd, a chaeau: gyd â'r brenin yr arhosasant yno yn ei waith ef.

24 Meibion Simeon oedd Neu, [...]el. [...]en. 46. [...]. Exod. 1.15. Nemuel, a Ja­min, Jarib, Zerah, a Saul:

25 [...]alum ei fab yntef, Mibsam ei fab yntef, Misma ei fab yntef.

26 A meibion Misma; Hamuel ei fab yntef, Zaccur ei fab yntef, Simei ei fab yntef.

27 Ac i Simei yr oedd vn ar bymthec o fei­bion, a chwech o ferched, ond iw frodyr ef nid oedd nemmor o feibion: ac nid amlhasei eu holl deulu hwyntNeu, Hyd fei­ [...]ion. megis meibion Juda.

28 A hwy a breswyliasant ynJos. 19.2. Beerseba, a Moladah, a Hazar Sual.

29 YnNeu, Bela, Jos. 19.3. Bilha hefyd, ac yn Ezein, ac ynNeu, Eltolad, Jos. 19.4. Tolad,

30 Ac yn Bethuel, ac yn Hormah, ac yn Ziclag,

31 Ac yn Beth-marcaboth, ac ynNeu, Ha [...]r S [...]sa, Jos. 19.5. Hazer-Susim, ac yn Beth-birei, ac yn Saaraim. Dymma eu dinasoedd hwynt, nes teyrnasu o Ddafydd.

32 A'i trefydd hwynt oedd, Neu, Et [...]er, Jos. 19.7. Etam, ac Ain, Rimmon, a Thochen, ac Asan: pump o ddina­soedd.

33 A'i holl bentrefydd hwynt hefyd, y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn hydNeu, Baalath­ [...]r, Jos. 19.8. Baal. Dymma eu trigfannau hwynt,Neu, Ac fel yr ymran­n [...]nt yn [...] yn eu my [...]c hwynt a'i hachau.

34 A Mesobab, a Jamlech, a Josa mab Amasiah,

35 A Joel, a Jehu mab Josioia fab Seraia, fab As [...]el,

36 Ac Elioenai, a Jaacobah, a Jesohaiah, ac Asaiah, ac Adiel, a Jesimiel, a Benaiah,

37 A Ziza mab Siphi, fab Aion, fab Jedaiah, fab Simei, fab Semaiah.

38 Y rhai hyn erbyn eu henwau, a aethant yn bennaethlaid yn eu teuluoedd, ac a amlha­sant dylwyth eu tadau yn fawr.

39 A hwy a aethant i flaenau Gedor, hyd at du dwyrain y dyffryn, i geisio porfa iw praidd.

40 A hwy a gawsant borfa frâs, a da, a gwlâd ehang ei therfynau, heddychlon a thangneddy­fus: canys y rhai a breswyliasant yno o'r blaen oedd o Cham.

41 A'r rhai hyn yn scrifennedic erbyn eu henwau, a ddae [...]hant yn nyddiau He [...]eciah brenin Juda, a [...] a darawsant eu pebyll, a'r an­neddau a gafwyd yno, ac a'i difrodasant hwy hyd y dydd hwn, a thrigasant yn eu lle hwynt; am fod porfa iw praidd hwynt yno.

42 Ac o honynt hwy, sef o feibion Simeon, yr aeth pum-ca [...] o ddynion i fynydd [...]ir, a [...]helatiah, a N [...]ar [...]h, a Raphaiah, ac Vzziel, mei­b [...]n Isi, yn b [...]n ar [...]ynt.

43 Tarawsant hefyd y gweddill a ddianga­sei o Amalec, ac a wladychasant yno, hyd y dydd hwn.

PEN. V.

1 Llin Ruben, (yr hwn a gollodd ei enedigaeth-fraint) hyd y Caethgludiad i Babilon. 9 Eu tri­gias, a'i gorfodaeth ar yr Hagariad. 11 Pen­naduriaid a thrig-loedd Gad. 18 Rhifedi a gorfodaeth Euben, a Gad, a hanner llwyth Manasseh. 23 Trig-leoedd a phenaduriaid yr hanner llwyth hwnnw. 25 Eu caethiwed o herwydd eu pechod.

A Meibion Ruben, cyntaf-anedic Israel (Gen. 35.22. & 49.4. ca­nys efe oedd gyntaf-anedic, ond am iddo halogi gwelŷ ei dâd, rhoddwyd ei anedigaeth-fraint ef i feibion Joseph, fab Israel; ac ni chyfrifir ei achau ef yn ôl yr anedigaeth-fraint:

2 CanysGen. 49.9.10. Juda a ragorodd ar ei frodyr, ac o honaw ef y daeth Mic. 5.2. Mat. 2.6. blaenor: a'r anedigaeth-fraint a roddwyd i Joseph.)

3Gen. 46.9. Exod. 6.14. Num. 26.5. Meibion Ruben cyntaf-anedic Israel, oedd Hanoch, a Phalu, Hezron, a Charmi.

4 Meibion Joel: Semaiah ei fab ef, Gog ei fab yntef, Simei ei fab yntef,

5 Micah ei fab yntef, Reaia ei fab yntef, Baal ei fab yntef,

6 Beera ei fab yntef, yr hwn2 Bren. 15.29. & 16.7. a gaeth-glu­doddNeu, Tiglath­pileser. Tilgath-pilneser brenin Assyria: hwn ydo­edd dywysog i'r Rubeniaid.

7 A'i frodyr ef yn eu teuluoedd, wrth gym­meryd eu hachau yn eu cenhedlaethau: y pen­naf oedd Jeiel a Zechariah.

8 A Bela mab Azan, fabNeu, Semaiah, vers. 4. Sema, fab Joel, yr hwn a gyfanneddodd ynJos. 13.15: 16, Aroer, a hyd at Nebo, a Baal-meon.

9 Ac o du yr dwyrain y presswyliodd efe, hyd y lle yr elir i'r anialwch, oddi wrth yr afon Euphrates: canys eu hanifeiliaid hwynt a amlhasei yngwlâd Gilead.

10 Ac yn nyddiau Saul y gwnaethant hwy ryfel yn erbyn yr Hagariaid, y rhai a syrthia­sant trwy eu dwylo hwynt; a thrigasant yn eu pebyll hwynt,Heb. ar holl wyneb tu dwyrain. trwy holl du dwyrain Gilead.

11 A meibion Gad a drigasant gyferbyn â hwynt, yngwlâdJos. 13.11. Basan, hyd at Salchah:

12 Joel y pennaf, a Sapham yr ail, a Jaanai, a Saphat, yn Basan.

13 A'i brodyr hwynt o dŷ eu tadau oedd Michael, a Mesulam, a Seba, a Jorai, a Jachan, a Zia, a Heber, saith.

14 Dymma feibion Abihail fab Huri, fab Ja­roah, fab Gilead, fab Michael, fab Jesisai, fab Jah­do, fab Buz;

15 Ahi mab Abdiel, fab Guni, y pennaf o dŷ eu tadau.

16 A hwy a drigasant yn Gilead, yn Basan, ac yn ei threfydd, ac yn holl bentrefyddPen. 27.29. Saron, wrth euH [...]b. myn [...]diad allan. terfynau.

17 Y rhai hyn oll a gyfrifwyd wrth eu ha­chau, yn nyddiau Jotham2 Bren. 15.5, 32. brenin Juda, ac yn nyddiau Jeroboam brenin Israel.

18 Meibion Ruben, a'r Gadiaid, a hanner llwyth Manasseh, oHeb. feibion. wŷr nerthol, dynion yn dwyn tarian a chleddyf, ac yn tynnu bwa, ac wedi eu dyscu: ryfel, oedd bedair mil a deu­gain, a sai [...]h gant, a thri vgain, yn myned allan i ryfel.

19 A hwy a wnaethant ryfel yn erbyn yr Hagariaid, aGen. 25.15. Jetur, a Nephis, a No­dab.

20 A chynnorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid iw dwy­lo hwynt, a chwbl a'r a ydoedd gyd â hwynt: canys llefasant ar Dduw yn y rhyfel, ac efe a wrandawodd arnynt, o herwydd iddynt obei­thio ynddo.

21 A hwy a gaethgludasant eu hanifeiliaid hwynt, o'i camelod hwynt, ddeng-mil a deu­gain, ac o ddefaid, deucant a dec a deugain o filoedd, ac o assynnod ddwyfil, ac o Heb. Eneidiau dynion, Megis, Numb. 31.35. ddynion gan-mil.

22 Canys llawer yn Archolledic a fuant fei­rw, am fod y rhyfel oddi wrth Dduw; a hwy a drigasant yn eu lle hwynt hyd y caethiwed.

23 A meibion hanner llwyth Manasseh a drigasant yn y tir: o Basan hyd Baal-hermon, a Senir, a mynydd Hermon, yr aethant hwy yn aml.

24 Y rhai hyn hefyd oedd bennau tŷ eu tadau, sef Epher, ac Isi, ac Eliel, ac Azriel, a Jere­miah, a Hodafiah, a Jahdiel, gwŷr cedyrn o nerth, gwŷr enwoc, a phennau tŷ eu tadau.

252 Bren. 17.6. A hwy a droseddasant yn erbyn Duw eu tadau, ac a butteiniasant ar ôl duwiau pobl y wlâd, y rhai a ddinistriasei Duw o'i blaen hwynt.

26 A2 Bren. 15.19. Duw Israel a annogodd yspryd Pul brenin Assyria, ac yspryd Tiglath-Plineser bre­nin Assyria, ac a'i caethgludodd hwynt, (sef y Rubeniaid, a'r Gadiaid, a hanner llwyth Ma­nasseh) ac a'i dug hwynt2 Bren. 17.6. & 18.11. i Halah, a Habor, a Hara, ac i afon Gozan, hyd y dydd hwn.

PEN. VI.

1 Meibion Levi. 4 Lîn yr offeiriaid hyd y Caethgludiad. 16 Teuluoedd Gersom, Merari, a Chohath. 49 Swydd Aaron, a'i lîn hyd Ahimaaz. 54 Dinasoedd yr offeiriaid a'r Lefiaid.

MEibion Lefi:Neu, Gersom, Vers. 16. Gen. 46.11. Exod. 6.16. Cerson, Cohath, a Mera­ri.

2 A meibionPen. 23.12. Cohath: Amram, Izahar, a Hebron, ac Vziel.

3 A phlant Amram, Aaron, a Moses, a Mi­riam: a meibion Aaron,Lev. 10.1. Num. 20.25. Nadab, ac Abihu, Eleazar, ac Ithamar.

4 Eleazar a genhedlodd Phinehes, Phinehes a genhedlodd Abisua,

5 Ac Abisua a genhedlodd Bucci, a Bucci a genhedlodd Vzzi,

6 Ac Vzzi a genhedlodd Zerahiah, a Zera­hiah a genhedlodd Meraioth,

7 Meraioth a genhedlodd Amariah, ac Ama­riah a genhedlodd Ahitub,

8 Ac2 Sam. 15.27. Ahitub a genhedlodd Zadoc, a Zadoc a gedhedlodd Ahimaaz,

9 Ac Ahimaaz a genhedlodd Azariah, ac Aza­riah a genhedlodd Johanan,

10 A Johanan a genhedlodd Azariah, (hwn oedd yn offeiriad yn y2 Cron. 3.1 Bren. 6. tŷ a adeiladodd Salo­mon yn Jerusalem)

11 Ac Azariah a genhedlodd Amariah, ac Amariah a genhedlodd Ahitub,

12 Ac Ahitub a genhedlodd Zadoc, a Zadoc a genhedloddNeu, Mesulam. 1 Cron. 9.11. Salum,

13 A Salum a genhedlodd Heleiah, a Hel­ciah a genhedlodd Azariah,

14 Ac Azariah a genhedloddNehe. 21.11. Saraiah, a Saraiah a genhedlodd Jehozadach,

15 A Jehozadach a ymadawodd,2 Bren. 25.28. pan gaethgludodd yr Arglwydd Juda a Jerusalem, drwy law Nabuchodonosor.

16 Meibion LefiExod. 6.17. Neu, Gerson, Vers. 1. Gersom, Cohath, a Me­rari.

17 Ac dymma enwau meibion Gersom: Libni, a Simei.

18 A meibion Cohath Amram, ac Izhar, a Hebron, ac Vzziel.

19 Meibion Merari, Mahli, a Musi. Ac dym­ma dylwyth y Lefiaid, yn ôl eu tadau.

20 I Gersom Libni ei fab, Jahath ei fab yn­tef,Vers. 42. Zimmah ei fab yntef,

21Neu, Ethan, V. 42. Joah ei fab yntef,Neu, Adaia, V. 41. Ido ei fab yntef, Zerah ei fab yntef, a Jeaterai ei fab yntef,

22 Meibion Cohath:Neu, Izhahar, V. 2. & 18. Aminadab ei fab ef,Num. 16.1. Corah ei fab yntef, Assir ei fab yntef,

23 Elcanah ei fab yntef, ac Ebiasaph ei fab yntef, ac Assir ei fab yntef,

24 Tahath ei fab yntef, Vriel ei fab yntef, Vzziah ei fab yntef, a Saul ei fab yntef.

25 A meibion Elcanah:Gwel. V. 35.36. Amazai, ac Ahi­moth.

26 Elcanah: meibion Elcanah,Neu, Zuph. 1 Sam. 1.1. Zophai ei fab ef, a Nahath ei fab yntef,

27 Eliab ei fab yntef, Jeroham ei fab yntef, Elcanah ei fab yntef.

28 A meibion Samuel; y cyntaf-anedicA elwir Jo [...]l, Ver. 33. & 1 Sa. 8.2. Vasni, yno Abiah.

29 Meibion Merari, Mahli: Libni ei fab yntef, Simei ei fab yntef, Vzza ei fab yntef,

30 Simea ei fab yntef, Haggiah ei fab yntef, Asaiah ei fab yntef.

31 Y rhai hyn a osododd Dafydd yn ganto­rion yn nhŷ yr Arglwydd,Pen. 16.1. ar ôl gorphywys o'r Arch.

32 A hwy a fuant wenidogion mewn cerdd o flaenExod. 27.21. tabernacl pabell y cyfarfod nes adai­ladu o Salomon dŷ yr Arglwydd yn Jerusalem: a hwy a safasant wrth eu defod yn eu gwasa­naeth.

33 A dymma y rhai aHeb. safasant. weinasant, a'i mei­bion hefyd: o feibion y Cohathiaid, Heman y cantor, mab Joel, fab Semuel,

34 Fab Elcanah, fab Jeroham, fab Eliel, fab Toah,

35 Fab Zuph, fab Elcanah, fab Mahath, fab Amasai,

36 Fab Elcanah, fab Joel, fab Azariah, fab Zephaniah,

37 Fab Tahath, fab Assir, fabExod. 6.24. Ebiasaph, fab Corah,

38 Fab Izhar, fab Cohath, fab Lefi, fab Israel.

39 A'i frawd Asaph (yr hwn oedd yn sefyll ar ei law ddehau) sef Asaph mab Barachiah, fab Simea,

40 Fab Michael, fab Baasiah, fab Melchiah,

41 Fab Ethni, fab Zerah, fab Adaiah,

42 Fab Ethan, fab Zimmah, fab Simei,

43 Fab Jahath, fab Gersom, fab Lefi.

44 A'i brodyr hwynt, meibion Metari oedd ar y llaw asswy: Ethan mabNeu, Cusaiah, Pen. 15.17. Cisi, fab Abdi, fab Maluch,

45 Fab Hasabiah, fab Amaziah, fab Helciah,

46 Fab Amzi, fab Bani, fab Samer,

47 Fab Mahli, fab Musi, fab Merari, fab Lefi.

48 A'i brodyr hwynt, yNum. 4.4. Lefiaid, oedd gwedi eu rhoddi ar holl wasanaeth Tabernacl tŷ Dduw.

49 Ond Aaron a'i feibion aLev. 1.9. aberthasant ar allor y poeth offrwm,Exod. 30.7. ac ar allor yr arogl­darth, i gyflawni holl wasanaeth y cyssegr sancteiddiolaf, ac i wneuthur cymmod tros Israel, yn ôl yr hyn oll a orchymynnasei Mo­ses gwâs Duw.

50 Dymma hefyd feibion Aaron: Eleazar ei fab ef, Phinehes ei fab yntef, Abisuah ei fab yntef,

51 Bucci ei fab yntef, Vzzi ei fab yntef, Ze­rahiah ei fab yntef,

52 Meraioth ei fab yntef, Amariah ei fab yntef, Ahitub ei fab yntef,

53 Zadoc ei fab yntef, Ahimaaz ei fab yntef.

54 Ac dymma ei trigleoedd hwynt yn ôl eu palasau, yn eu terfynau; sef meibion Aaron, o dylwyth y Cohathiaid, o blegit eiddynt hwy ydoedd y rhan hon.

55 A rhoddasant iddynt Hebron yngwlâd Juda, a'i meusydd pentrefol o'i hamgylch.

56 Ond maesydd y ddinas, a'i phentrefydd, a roddasant hwy i Caleb fab Jephunneh.

57 Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Juda, ynDeut. 19.2. noddfa; Hebron, a Libnah, a'i meusydd pentrefol, a Jattir, ac Est­hemoa, a'i meusydd pentrefol,

58 ANeu, Holen, Jos. 21.15. & 15.51. Hilen a'i meusydd pentrefol, a De­bir a'i meusydd pentrefol,

59 AcNeu, Ain, Jos. 21.16. Asan a'i meusydd pentrefol, a Beth­semes a'i meusydd pentrefol.

60 Ac o lwyth Benjamin, Geba a'i meusydd pentrefol, acNeu, Almon, Jos. 21.18. Alemeth a'i meusydd pentiefol, ac Anathoth a'i meusydd pentrefol: eu holl ddinasoedd hwynt drwy eu teuluoedd, oedd dair dinas ar ddêc.

61 Ac i'r rhan arall o feibion Cohath o deu­lu y llwyth hwnnw, y rhoddwyd o'r hanner llwyth, sef hanner Manasseh, ddêc dinas,Jos. 21.5. wrth goel-bren.

62 Rhoddasant hefyd i feibion Gersom drwy eu teuluoedd, o lwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nephtali, ac o lwyth Manasseh, yn Basan, dair ar ddêc o ddinasoedd.

63 I feibion Merari drwy eu teuluoedd, o lwyth Ruben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Za­bulon, y rhoddasant drwy goel-bren,Jos. 21.7, 24. ddeu­ddec o ddinasoedd.

64 A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid, y dinasoedd hyn, a'u meusydd pentrefol.

65 A hwy a roddasant drwy goel-bren, o lwyth meibion Juda, ac o lwyth meibion Si­meon, ac o lwyth meibion Benjamin, y dinas­oedd hyn, y rhai a alwasant hwy ar eu hen­wau hwynt.

66 I'r rhai oedd o deuluoedd meibion Co­hath, yr ydoedd dinasoedd eu terfyn, o lwyth Ephraim.

67 A hwy a roddasant iddynt hwyJos. 21.21. ddi­nasoedd noddfa, sef Sichem, a'i meusydd pen­trefol, ym mynydd Ephraim; Gezer hefyd a'i meusydd pentrefol.

68 Jocmeam hefyd a'i meusydd pentrefol, a Bethoron a'i meusydd pentrefol,

69 Ac Aialon a'i meusydd pentrefol, a Gath­rimmon a'i meusydd pentrefol.

70 Ac o hanner llwyth Manasseh, Aner a'i meusydd pentrefol, a Bileam a'i meusydd pen­trefol, i deulu y rhai oedd yngweddill o feibi­on Cohath.

71 I feibion Gersom, o deulu hanner llwyth Manasseh y rhoddwyd Golan yn Basan, a'i meu­sydd pentrefol, Astaroth hefyd a'i meusydd pen­trefol.

72 Ac o lwyth Issachar, Cedes a'i meusydd pentrefol, Daberath a'i meusydd pentrefol,

73 Ramoth hefyd a'i meusydd pentrefol, ac Anem a'i meusydd pentrefol.

74 Ac o lwyth Aser, Masal a'i meusydd pentrefol, ac Abdon a'i meusydd pentrefol,

75 Hucoc hefyd a'i meusydd pentrefol, a Re­hob a'i meusydd pentrefol.

76 Ac o lwyth Nephtali, Cedes yn Galilee a'i meusydd pentrefol, Hammon hefyd a'i meu­sydd pentrefol, a Chiriathaim a'i meusydd pen­trefol.

77 I'r rhan arall o feibion Merari y rhodd­wyd o lwyth Zabulon, Rimmon a'i meusydd pentrefol, a Thabor a'i meusydd pentrefol.

78 Ac am yr IorddonenJos. 20.8. & 21.36. a Jericho, sef o du dwyrain yr Iorddonen, y rhoddwyd o lwyth Ruben,Neu, Bozar, Jos. 21.35. Bezer yn yr anialwch, a'i meusydd pentrefol, Jahzah hefyd a'i meusydd pentrefol.

79 Cedemoth hefyd a'i meusydd pentrefol, a Mephaath a'i meusydd pentrefol.

80 Ac o lwyth Gad, Ramoth yn Gilead, a'i meusydd pentrefol, Mahanaim hefyd a'i meu­sydd pentrefol,

81 Hesbon hefyd a'i meusydd pentrefol, a Jazer a'i meusydd pentrefol.

PEN. VII.

1 Meibion Isachar, 6 Benjamin, 13 Nephtali, 14 Manasseh. 20 24 Ephraim. 21 Adfyd Ephraim gan wyr Gath. 23 Geni Beriah. 28 Trigleoedd Ephraim. 30 Meibion Aser.

A Meibion Issachar oedd Gen. 46.13. Num. 26.23. Tola, a Phuah, Ja­sub, a Simron, pedwar.

2 A meibion Tola, Vzzi, a Rephaiah, a Jeri­el, a Jahmai, a Jibsam, a Semuel, pennnaethiaid ar dŷ eu tadau: o Tola 'r ydoedd gwŷr cedyrn o nerth yn eu cenhedlaethau; eu2 Sam. 24.1. rhîf yn nyddiau Dafydd oedd ddwy fil ar hugain, a chwe chant.

3 A meibion Vzzi, Izrahiah; a meibion Iz­rahiah, Michael, ac Obadiah, a Joel, Isiah, pump: yn bennaethiaid oll.

4 A chyd â hwynt yn eu cenhedlaethau, ac yn ôl tŷ eu tadau yr ydoedd byddinoedd mîl­wyr i ryfel, vn mil ar bymthec ar hugain: ca­nys llawer oedd ganddynt o wragedd, a mei­bion.

5 A'i brodyr cedyrn o nerth, o holl deulu­oedd Issachar, a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn saith mîl a phedwar ugain mil oll.

6 A meibion Gen. 46.21. Benjamin oedd Bela, a Becher, a Jediael; tri.

7 A meibion Bela, Esbon, ac Vzzi, ac Vzziel, a Jerimoth, ac Iri; pump o bennau tŷ eu ta­dau, cedyrn o nerth, a gyfrifwyd wrth eu hach­au, yn ddwy fil ar hugain, a phedwar ar ddec ar hugain.

8 A meibion Becher oedd Zemira, a Joas, ac Eliezer, ac Elioenai, ac Omri, a Jerimoth, ac Abiah, ac Anathoth, ac Alameth: y rhai hyn oll oedd feibion Becher.

9 A hwy a rifwyd wrth eu hachau, yn ôl eu cenedlaethau, yn bennau tŷ eu tadau, yn ge­dyrn o nerth, yn vgain mil a dau cant.

10 A meibion Jediael, Bilhan: a meibion Bilhan, Jeus, a Benjamin, ac Ehud, a Chenaanah, a Zethan, a Tharsis, ac Ahisahar.

11 Y rhai hyn oll oedd feibion Jediael, yn bennau eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn myned allan mewn llu i ryfel, yn ddwy fil ar bymthec, a deu-cant,

12 Suppim hefyd, a Huppim, meibionNeu, Iri, Vers. 7. Ir; Husim meibionNeu, Abiram, Num. 26.38. Aher.

13 Meibion Nephtali, Jahziel, a Guni, a Jezer, a Salum, meibion Bilhah.

14 Meibion Manasseh; Asriel yr hwn a ymddug ei wraig: (ond ei ordderch-wraig o [Page] Syria a ymddug MachirGen. 46.14. tâd Gilead.

15 A Machir a gymmerodd yn wraig chwaer Huppim, a Suppim, a henw eu chwaer hwynt oedd Maachah,) ac enw 'r ail mâb Zalphaad: ac i Zalphaad yr oedd merched.

16 A Maachah gwraig Machir a ymddug fab, a hi a alwodd ei enw ef Peres, ac enw ei frawd ef Seres, a'i feibion ef oedd Vlam, a Re­cem.

17 A meibion Vlam,1 Sam. 12.11. Be lan. Dymma fei­bion Gilead fab Machir, fab Manasseh.

18 A Hammoleceth ei chwaer ef a ymddug Ishod, ac Abieser, a Mahalah.

19 A meibion Semida oedd Ahian, a Sechem, a Licchi, ac Aniham.

20 A meibion Ephraim; Suthelah, a Bered ei fab ef, a Thahath ei fab yntef, ac Eladah ei fab yntef, a Thahath ei fab yntef,

21 A Zabad ei fab yntef, a Suthelah ei fab yntef, ac Eser, ac Elead: a dynion Gath, y rhai a anwyd yn y tîr, a'i lladdodd hwynt, o her­wydd dyfod o honynt i wared i ddwyn eu ha­nifeiliaid hwynt.

22 Ac Ephraim eu tâd a alarodd ddyddiau lawer; a'i frodyr a ddaethant iw gyssuro ef.

23 A phan aeth efe at ei wraig, hi a feichiogodd, ac a escorodd ar fab; ac efe a al­wodd ei enw ef Beriah, am fod dryg-fyd yn ei dŷ ef.

24 (Seera hefyd oedd ei ferch ef, a hi a adei­ladodd Beth-horon yr issaf, a'r vchaf hefyd, ac Vzzen Seera.)

25 A Repha oedd ei fab ef, a Reseph, a The­lah ei fab yntef, a Thahan ei fab yntef,

26 Laadan ei fab yntef, Amihud ei fab yn­tef, Elisama ei fab yntef,

27Num. 13.8.Nun ei fab yntef, Josua ei fab yntef.

28 A'i meddiant, a'i cyfanneddau oedd Bethel a'i phen trefydd; ac o du'r dwyrainJos. 16.7. Naaran, ac o du 'r gorllewin Gazer a'iHeb. merched. phentrefydd; a Se [...]hem a'i phen-trefydd;Neu, Adassa, 1 Mac. 7.45. hyd Gaza a'i phen-trefydd.

29 Ac ar derfynau meibionJos. 17.7. Manasseh, Bethsean a'i phentrefi, Taanach a'i phentrefi,Jos. 17.11. Megido a'i phentrefi, Dor a'i phentrefi, Meibion Joseph mab Israel a drigasant yn y rhai hyn.

30Gen. 46.17. Meibion Aser, Imnah ac Isuah, ac Isuai, a Beriah, a Serah, eu chwaer hwynt.

31 A meibion Beriah, Heber, a Malchiel, hwn yw tâd Birsafith.

32 A Heber a genhedlodd Japhlet, a Somer, a Hotham, a Suah eu chwaer hwynt.

33 A meibion Japhlet, Pasach, a Bimhal, ac Asuath: dymma feibion Japhlet.

34 A meibion Samer, Ahi, a Rohgah, Je­hubbah, ac Aram.

35 A mab ei frawd ef, Heleni: Zophah, ac Imna, a Seles, ac Amal.

36 Meibion Zophah, Suah, a Harnepher, a Sual, a Beri, ac Imrah:

37 Bezer, a Hod, a Samma, a Silsah, ac Ith­ran, a Beera.

38 A meibion Jether: Iephunneh, Pispa hefyd ac Ara.

39 A meibion Vla, Arah, a Haniel, a Rezia.

40 Y rhai hyn oll oedd feibion Aser, pennau eu cenedl, yn ddewis wŷr o nerth, yn bennau capreniaid. A'r cyfrif drwy eu hachau o wyr i ryfel, oedd chwe mil ar hugain o wŷr.

PEN. VIII.

1 Meibion a phennadariaid Benjamin. 33 Hyna­fiaid Saul a Jonathan.

BEnjamin hefyd a genhedloddGen. 46.21. Num. 26.38. Bela ei gyn­tafanedic, Asbel yr ail, ac Aharah y try­dydd,

2 Nohah y pedwerydd, a Rapha y pum­med.

3 A meibion Bela oeddNeu, Ard. Gen. 46.21. Adar, a Gera, ac Abihud,

4 Ac Abisua, a Naaman, ac Ahoa,

5 A Gera, aNeu, Supham. Num. 26.39. Sephuphan, a Huram.

6 Dymma hefyd feibion Ehud; dymma hwynt pennau cenedl presswylwŷr Geba, a hwy a'i madasant hwynt iPen. 2. 52. Manahath.

7 Naaman hefyd, ac Ahiah, a Gera, efe a'i symmudodd hwynt, ac a genhedlodd Vzza, ac Ahihud.

8 Cenhedlodd hefyd Saharaim yngwlâd Moab: gwedi eu gollwng hwynt ymmaith: Husim, a Baara oedd ei wragedd.

9 Ac efe a genhedlodd o Hodes ei wraig, Jobab, a Zibia, a Mesa, a Malcham,

10 A Jeus, a Sachia, a Mirma: dymma ei feibion ef, pennau cenedl.

11 Ac o Husim efe a genhedlodd Ahitub, ac Elpaal.

12 A meibion Elpaal oedd Eber, a Misham, a Samed, yr hwn a adailadodd Ono, a I od a'i phen-trefydd.

13 Beriah hefyd, a Sema oedd bennau cenedl presswylwŷr Aialon: y rhai a ymlidiasant drigolion Gath:

14 Abio hefyd, Sasac, a Jerimoth,

15 Zebadiah hefyd, ac Arad, ac, Ader,

16 Michael hefyd, ac Ispah, a Joha, mei­bion Beriah,

17 Zebadiah hefyd, a Mesuiam, a Hezeci, a Heber,

18 Ismerai hefyd, a Jezliah, a Iobab mei­bion Elpaal;

19 Iacim hefyd, a Zicri, a Zabdi,

20 Elienai hefyd, a Zilthai, ac Eliel,

21 Adaiah hefyd, a Beraiah, a Simrath, meibionNeu, S [...]ma, vers. 13. Simhi;

22 Ispan hefyd, a Heber, ac Eliel,

23 Abdon hefyd, a Zicri, a Hanan,

24 Hananiah hefyd, ac Elam, ac Antothiah,

25 Iphedeiah hefyd, a Phenuel, meibion Sa­sac;

26 Samserai hefyd, a Sehariah, ac Athaliah,

27 Iaresiah hefyd, ac Eliah, a Zicri, meibion Ieroham.

28 Y rhai hyn oedd bennau cenedl, sef pen­naethiaid ar eu cenhedlaethau. Y rhai hyn a gy­fanneddant yn Ierusalem.

29 Yn Gibeon hefyd y presswylioddA elwir Jehiel, Pen. 3. 35. tâd Gibeon, ac enw ei wraig ef oedd Maachah.

30 Ac Abdon ei fab cyntaf-anedic ef, Zur hefyd, a Chis, a Baal, a Nadob,

31 Gidor hefyd, ac Ahio, aNeu, Zachari­ah, Pen. 9. 37. Zacher.

32 Micloth hefyd a genhedloddNeu, Simeam, Pen. 9. 38. Simeah: y rhai hyn hefyd, ar gyfer ei brodyr, a bress­wyliasant yn Ierusalem gyd a'i brodyr.

331 Sam. 14.51. Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Iona­than, a Malchisua, ac Abinadab, acNeu, Is [...] 2 Sa. 2.8. Esbaal.

34 A mab Ionathan oedd Meribbaal, aN [...]u, Me [...] [...]th, 2 Sa. 4.4. Me­ribbaal a genhedlodd Micah.

35 A meibion Micah, Hithon, a Melec, aPen. 9. 41. Tharea, ac Ahaz.

36 Ac Ahaz a genhedlodd Iehoadah, a Ie­hoadah a genhedlodd Alemeth, ac Azmaseth, a Zimri: a Zimri a genhedlodd Moza.

37 A Moza a genhedlodd Binea: Rapha [Page] oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntef, Azel ei fab yn­tef.

38 Ac i Azel y bu chwech o feibion, ac dym­ma eu henwau hwynt, Azricam, Bocheru, ac Ismael, a Seariah, ac Obadiah, a Hanan, y rhai hyn oll oedd feibion Azel.

39 A meibion [...] ei frawd ef oedd Vlam ei gyntaf-anedic ef, Iehus yr ail, ac Eliphelet y trydydd.

40 A meibion vlam oedd ddynion cedyrn o nerth yn saethyddion, ac yn aml eu meibion a'i hŵ yrion, sef cant, a dec a deugain. Y rhai hyn oll oedd o feibion Benjamin.

PEN. IX.

1 Achau Israel a Juda. 2 Yr Israeliaid, 10 yr off [...]iriaid, 14 a'r Leviaid, a'r N [...]hiniaid, oedd yn trigo yn Jerusalem. 27 S [...]ydd rhai o'r L [...]fiaid. 35 Hynaif Saul a Jona [...]an.

A Holl Israel a rifwyd, wrth eu hachau, ac wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr bren­hinoedd Israel, a Iuda; a hwy a gaeth glud­wyd i Babilon am eu camwedd.

2 Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaethau yn eu dinasoedd, oedd yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a'r Nethi [...]i­aid.

3Nehe. 11.1. Ac yn Ierusalem y trigodd rhai o feibi­on Iuda, ac o feibion Benjamin, ac o feibion Ephraim, a Manasseb:

4 Vthai mab Amihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Iuda.

5 Ac o'r Siloniaid: Asaiah y cyntafanedic, a'i feibion

6 Ac o feibion Zerah: Ieuel, a'i brodyr, chwe chant, a dêc a phedwar vgain.

7 Ac o feibion Benjamin: Salu mab Mesu­lam, fab Hodasiah fab Hasenuah:

8 Ibneiah hefyd mab Jeroham, ac Elah mab Vzi, fab Michri, a Mesulam mab Sephatiah, fab Reuel, fab Ibnijah.

9 A'i b [...]odyr yn ôl eu cenhedlaethau; n [...]w cant, dec a deugain, a chwech: y dynion hyn oll oedd bennau cenedl ar dŷ eu tadau.

10 Ac o'r offeiriaid, Jedaiah, a Jehoiarib, a Jachin.

11 Azariah hefyd mab Helciah, fab Mesulam, fab Zadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, tywysog tŷ Dduw.

12 Adaiah hefyd mab Jeroham, fab Passur, fab Malciah; a Maafia mab Adiel, fab Jah­zerah, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer.

13 A'i brodyr, pennaf ar dŷ eu tadau, yn fil, a saith gant, a thrugain; yn wŷr galluod o nerth i waith gwasanaeth tŷ Dduw.

14 Ac o'r Le [...]iaid, Semaiah mab Hasub, fab Africam, fab Hasabiah, o feibion Merari,

15 Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal: a Mat­taniah mab Micah, fab Sicri, fab Asaph:

16 O [...]diah hefyd mâb Semaiah, fab Galal, fab Jeduthun: a Berechiah mab Asa, fab Elca­na [...], yr hwn a drigodd yn-nhrefydd y Neto­ph [...]i [...]id.

17 Y porthorion hefyd oedd Salum, ac Ac­cub, a Tha [...]mon, ac Ahiman, a'i brodyr: Sa­lum ydoedd bennaf.

18 A fyd yn hyn ym-mhorth y brenin o du 'r dwyrain, y rhai hyn o finteioedd meibion Lefi, o [...]dd borthorion.

19 Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaph, fab Corah, a'r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dâd, oedd ar waith y wenidogaeth, yn cadwH [...]. r [...]niogau. pyrth y babell, a'i tadau hwynt ar lu yr Arglwydd, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn.

20 Phinelies hefyd mab Eleazar a fuasei dy­wysog amynt hwy o'r blaen: a'r Arglwydd ydoedd gyd ag ef.

21 Zechariah mab Meselemiah, ydoedd bor­thor drws pabell y cyfarfod.

22 Hwynt oll y rhai a etholasid yn borthori­on wrth y rhiniogau, oedd ddau cant, a deu­ddec. Hwynt hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasei Dafydd a Samuel y gweledydd, y rhai hynny yn euNeu, ymddi­ried. swydd.

23 Felly hwynt a'i meibion a safent wrth byrth tŷ 'r Arglwydd, sef tŷ y babell, i wilied wrth wiliadwriaethau.

24 Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a dehau.

25 A'i brodyr, y rhai oedd yn eu trefydd, oedd i ddyfod ar y seithfed dydd, o amser i amser, gyd â hwynt.

26 Canys tanNeu, ymddi­ried. lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr stafelloedd, a thryssorau tŷ Dduw.

27 Ac o amgylch tŷ Dduw y lletteuent hwy, canys arnynt hwy 'r oedd yr oruchwili­aeth, ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd, o fora [...] i forau.

28 Ac o honynt hwy yr oedd golygwŷr ar lestri y wenidogaeth, ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan.

29 A rhai o honynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefn y cyssegr, ac ar y peillied, a'r gwin, a'r olew, a'r thûs, a'r aroglau peraidd.

30 Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthurExod. 30.23. ennaint o'r aroglau peraidd.

31 A Mattithiah vn o'r Lefiaid (yr hwn oedd gyntafanedic Salum y Corahiad) ydoedd mewnNeu, ymddi­ried. swydd ar wrthExod. 25.30. yNeu, badell. radell.

32 Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y baraNeu, trefn. gosod, iw ddar­paru bob Sabboth.

33 Ac dymma y cantorion, pennau cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn stafelloedd yn ys­cafala; o herwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nôs.

34 Dymma bennau cenedl y Lefiaid, pen­nau drwy eu cenhedlaethau: hwy a drigent yn Ierusalem.

35 Ac yn Gibeon y trigodd tâd Gibeon, Je­hiel, a henw eu wraig ef oedd Pen. 8. 29. Maacha.

36 A'i fab cyntaf-anedic ef oedd Abdon, yno Zur, a Chis, a Baal, a Ner, a Nadab,

37 A Gedor, ac Ahio, a Zachariah, a Mic­loth.

38 A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwyntau hefyd, ar gyfer eu brodyr, a drigasant yn Jerusalem, gyd â'i brodyr.

39 Ner1 Sam. 14.51. Pen. 8. 33. hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd [...]na­than, a Malchisua, ac Abinadab, ac Es [...]al.

40 A mab Jonathan oedd 2 Sam. 9.6. Meribbam, a Me­ribbaal a genhedlodd Micah.

41 A Meibion Micah oedd Pithon, a Me­lech, a Thahrea, ac Pen. 8. 35. Ahaz.

42 Ac Ahaz a genhedlodd Jarah, a Jarah a genhedlodd Alemeth, ac Asmaseth, a Zimri: a Zimri hefyd a genhedlodd Moza.

43 A Moza a genhedlodd Binea; a Rephaiah oedd ei fab ei Eleasah ei fab yntef, Azel ei fab yntef.

44 Ac i Azel yr ydoedd chwech o feibion, [Page] ac dymma ei henwau hwynt; Azricam, Bo­cheru, ac Ismael, a Seariah, ac Obadiah, a Han­an. Dymma feibion Azel.

PEN. X.

1 Cwymp Saul a'i farwolaeth. 8 Gorfoledd y Philistiaid o'r achos hwnnw. 11 Caredig­rwydd Jabes Gilead tu ac at Saul a'i feibion. 13 Pechod Saul, am yr hwn yr aeth y fren­hiniaeth oddiwrtho ef i Ddafydd.

A'R1 Sam. 31.1, 2. Philistiaid a ryfelasant yn erbyn Israel, a ffoawdd gwŷr Israel o flaen y Philisti­aid, ac a gwympasant ynNeu, Aladdedic. archollelic ym my­nydd Gilboa.

2 A'r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul, ac ar ôl ei feibion: a'r Philistiaid a laddasant Jo­nathan, acNeu, Jesui, 1 Sam. 14.49. Abinadab, a Malchisua, meibion Saul.

3 A'r rhyfel a drymhaodd yn erbyn Saul, a'r perchen bwâu a'i cawsant ef, ac efe a archoll­wyd gan y saethyddion.

4 Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef, tyn dy gleddyf, agwân fi ag ef, rhac dyfod y rhai dienwaededig hyn, a'm gwatwar i: ond arweinndd ei arfau ef nis gwnai, canys ofnodd yn ddirfawr. Yna y cym­merth Saul gleddyf, ac a syrthiodd arno.

5 A phan welodd arweinudd ei arfau ef, farw o Saul, syrthiodd yntef hefyd ar y cleddyf, ac a fu farw.

6 Felly y bu farw Saul, a'i dri mab ef, a'i holl dŷ-lwŷth a fuant seirw ynghyd.

7 A phan welodd holl wŷr Israel, y rhai oedd yn y dyffryn, ffoi o honynt hwy, a marw Saul, a'i feibion; hwy a ymadawsant o'i dinas­oedd, ac a ffoesant, a'r Philistiaid a ddaethant, ac a drigasant ynddynt.

8 A thrannoeth pan ddaeth y Philistiaid i ddiosc y lladdedigion, hwy a gawsant Saul, a'i feibion yn feirw ym mynydd Gilboa.

9 Ac wedi iddynt ei ddiosc, hwy a gymme­rasant ei ben ef, a'i arfau, ac a anfonasant i wlâd y Philistiaid, o amgylch, i ddangos iw delwau, ac i'r bobl.

10 A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ eu duwiau, a'i bengloc a grogasant hwy yn-nhŷ Dagon.

11 A phan glybu holl Jabes Gilead yr hyn oll a wnaethei y Philistiaid i Saul,

12 Pob gŵr nerthol a godasant, ac a gym­merasant ymmaith gorph Saul, a chyrph ei fei­bion ef, ac a'i dygasant i Jabes, ac a gladdasant eu hescyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes, ac a ymprydiasant saith niwrnod.

13 Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd aHeb. drosedd­odd. wnaethei efe yn erbyn yr Arglwydd, sef 1 Sam. 15.23. yn erbyn gair yr Arglwydd, yr hwn ni chadwasei efe, ac am iddo ymgynghori â dewines, i1 Sam. 28.7. ym­ofyn â hi:

14 Ac heb ymgynghori â'r Arglwydd, am hynny y lladdodd efe ef, ac y trôdd y frenhini­aeth i Ddafydd fab Jesse.

PEN. XI.

1 Enneinio Dafydd yn lle Saul o gyttundeb cyff­redin, yn Hebron. 4 Ac ynteu yn ynnill twr Sion oddiar y Jebusiaid, trwy wroliaeth Joab. 10 Enwau cedyrn Dafydd.

YNa holl2 Sam. 5.1. Israel a ymgasclasant at Ddafydd i Hebron, gan ddywedyd, wele dy ascwrn, a'th gnawd ti ydym ni.

2 Doe hefyd, ac echdoe, pan ydoedd Saul yn frenin, ty di oedd yn arwain Israel i mewn ac allan, a dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrthit, ti aNeu, lywodrae­thi. borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi dywysog ar fy mhobl Israel.

3 A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a Dafydd a wnaeth gyfam­mod â hwynt yn Hebron, ger bron yr Ar­glwydd, a hwy a eneiniasant Ddafydd yn fre­nin ar Israel,1 Sam. 16.13. yn ôl gair yr Arglwydd, drwy law Samuel.

4 A2 Sam. 5.6. Dafydd a holl Israel aeth i Jerusalem, hon yw Jebus, ac yno y Jebusiaid oedd drigoli­on y tîr.

5 A thrigolion Jebus a ddywedasant wrth Ddafydd, ni ddeui i mewn ymma. Etto Da­fydd a ennillodd dŵr Sion, yr hwn yw dinas Dafydd.

6 A dywedodd Dafydd,1 Sam. 5.8. pwy bynnac a da­rawo y Jebusiaid yn gyntaf, efe a fydd yn ben­naf, ac yn dywysog. Yna 'r escynnodd Joab mab Serfiah yn gyntaf, ac a fu bennaf.

7 A thrigodd Dafydd yn y tŵr: o her­wydd hynny y galwasant efSef, Sion, 2 Sam. 5.7. dinas Dafydd.

8 Ac2 Sam. 5.9. efe a adeiladodd y ddinas oddi am­gylch, o Milo amgylch ogylch: a Joab aHeb. adlywi­odd. ad­gyweiriodd y rhan arall i'r ddinas.

9 A Dafydd a aeth, ac a gynnyddodd fwy­fwy, ac Arglwydd y lluoedd oedd gyd ag ef.

102 Sam. 23.8. Dymma hefyd bennaethiaid y cedyrn oedd gan Ddafydd, yn ymgryfhau gyd ag ef yn ei deyrnas, a chyd â holl Israel, iw wneuthur ef yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr Arglwydd.

112 Sam. 23.8. Ac dymma rif y cedyrn oedd gan Ddafydd: JasobeamNeu, Hachmo­niad. mab Hachmoni, pen y capteniaid: hwn a dderchafodd ei waywffon yn erbyn try-chant, y rhai a laddwyd ar vn­waith ganddo.

12 Ac ar ei ôl ef Eleazar mab Dodo, yr Aho­hiad, hwn oedd vn o'r tri cedyrn.

13 Hwn oedd gyd â Dafydd ynNeu, Epes­dammim. 1 Sam. 17.1. Pasdam­mim; a'r Philistiaid a ymgynnullasant yno i ryfel, ac yr ydoedd rhan o'r maes yn llawn haidd, a'r bobl a ffoesant o flaen y Philistiaid.

14 A hwy aNeu, safasant. ymosodasant ynghanol y rhandir honno, ac a'i hachubasant hi, ac a da­rawsant y2 Sam. 23.13. Philistiaid: felly y gwaredodd yr Arglwydd hwynt ag ymwared mawr.

15Neu, A thri phen­naeth y dec ar hugain. A thri o'r dêc pennaeth ar hugain, a ddescynnasant i'r graig at Ddafydd, i ogof Adu­lam; a llu y Philistiaid oedd yn gwerssyllu yn nyffryn Rephaim.

16 A Dafydd yna ydoedd yn yr amddeffyn­fa, a sefyllfa y Philistiaid yna oedd yn Bethle­hem.

17 A Dafydd a2 Sam. 23.15. flysiodd ac a ddywedodd, o pwy a rydd i mi ddiod ddwfr o bydew Beth­lehem, yr hwn sydd wrth y porth?

18 A'r tri a ruthrasant trwy werssyll y Philistiaid, ac a dynnasant ddwfr o bydew Beth­lehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a'i cym­merasant, ac a'i dygasant i Ddafydd; ac ni fynnei Dafydd ei yfed ef, onid efe a'i diod-off­rymmodd ef i'r Arglwydd.

19 Ac efe a ddywedodd, na atto fy Nuw i mi wneuthur hyn. A vfafi waed y dynion hynHeb. ynghyd a'i heni­oes. a beryglasaut eu henioes? o herwydd mewn enbydrwydd am eu henioes y dygasant ef: am hynny ni fynnei efe ei yfed. Y tri cedyrn a wnaethant hyn.

20 Ac Abisai brawd Joab oedd bennaf o'r tri. A hwn a escydwodd ei wayw-ffon yn er­byn trychant, ac a'i lladdodd hwynt: ac iddo y bu enw ym mhlith y tri.

212 Sam. 23.19. O'r tri, anrhydeddnsach nâ'r ddau evaill, a thywysog iddynt, oedd efe; ond ni ddaeth efe hyd y tri cyntaf.

22 Benaiah mab Jehoiada, mab gŵr grym­mus o Cabzeel, mawr ei weithredoedd: efe a laddodd ddau oHeb. lewod. gedyrn Moab; ac efe a ddescynnodd, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira.

23 Ac efe a laddodd Aipht-ddyn, gŵr pum cufydd o fesur, ac yn llaw 'r Aipht-ddyn yr oedd gwayw-ffon megis carfan gwehydd; acyntef a aeth i wared atto ef â ffonn, ac a ddug y wayw­ffon o law 'r Aipht-ddyn, ac a'i lladdodd ef â'i wayw-ffon ei hun.

24 Hyn a wnaeth Benaiah mab Jehoiada, ac iddo y bu enw ym mhlith y tri cedyrn.

252 Sam. 23.23. VVele, anrhydeddus oedd efe ym mysc y dêc ar hugain, ond at y tri cyntaf ni ddaeth efe: a gosododd Dafydd ef ar ei wyr o gard.

26 A chedyrn y llu oedd Asahel brawd Joab, Elhanan mab Dodo o Bethlehem,

27 Sammoth yrNeu, Harori­ [...]d, 2 Sam. 23.25. Harodiad, Helez y Pe­loniad,

28 Ira mab Icces y Tecoiad, Abiezer yr An­tothiad,

29 Sibecai 'r Husathiad, Ilai 'r Ahohiad,

30 Maharai y Netophathiad,2 Sam. 23.29. Heled mab Baanah y Netophathiad,

31 Ithai mab Ribai o Gibeah meibion Ben­jamin, Benaiah y Pirathoniad,

322 Sam. 23.30. Hurai o afonydd Gaas, Abiel yr Arba­thiad,

33 Azmafeth y Baharumiad, Elihaba y Saal­boniad,

34 Meibion Hassem y Gizoniad, Jonathan mab Sageth yr Harariad,

35 Ahiham mab Sacar yr Harariad, Eliphal mab Vr,

36 Hepher y Mecherathiad, Ahiah y Peloniad,

37 Hezro y Carmeliad, Naarai mab Ezbai,

38 Joel mab Nathan, MibharNeu, yr Hagge­riad. mab Haggeri,

39 Zelec yr Ammoniad, Naharai y Berothi­ad, yr hwn oedd yn dwyn arfau Joab mab Serfiah,

40 Ira 'r Ithriad, Gareb yr Ithriad,

41 Vrias yr Hethiad, Zabad mab Ahlai,

42 Adina mâb Sisa y Rubeniad, penraeth y Rubeniaid, a chyd ag ef ddêc ar hugain,

43 Hanan mab Maacah, a Josaphat y Mith­niad,

44 Vzzia 'r Asterathiad, Sama, a Jehiel, mei­bion Hothan yr Aroeriad,

45 JediaelNeu, y Zimri­ad. mab Zimri, a Joha ei frawd ef, y Tiziad,

46 Eliel y Mahafiad, a Jeribai, a Josauiah, meibion Elnaan, ac Ithma y Moabiad,

47 Eliel, ac Obed, a Jasiel y Mesobaiad.

PEN. XII.

1 Henwau y rhai a ddaeth at Ddafydd i Siclag, 23 a'r lluoedd a ddaeth atto ef i Hebren.

AC1 Sam. 27.2. dymma y rhai a ddaeth at Ddafydd i Siclag, ac efe ettoHeb. wedi cau. yn cadw arno rhac Saul fab Cis: a hwy oedd ymmhlith y rhai cedyrn, cynnorthwyŵyr y rhyfel.

2 Yn arfogion â bwâu, yn medruBarn. 20.16. o dde­hau ac o asswy daflu â cherric, a saethu mewn bwâu: o frodyr Saul, o Benjamin.

3 Y pennaf oedd Ahiezer, yna Joas, meibi­onNeu, Hasmaa. Semaah y Gibeathiad, a Jeziel, a Phe­let meibion Asmafeth, a Berachah, a Jehu yr Antothiad,

4 Ac Ismaiah y Gibeoniad, grymmus oedd efe ym mhlith y dêc ar hugain, a goruwch y dêc ar hugain; Jeremiah hefyd a Jahaziel, a Johanan, a Josabad y Gederathiad,

5 Eleusai, a Jerimoth, a Bealiath, a Semariah, a Sephatiah yr Haruphiad,

6 Elcana, a Jesia, ac Azariel, a Joezer, a Ja­sobeam, y Corhiaid,

7 A Joelah, a Zebadiah, meibion Jeroam o Gedor.

8 A rhai o'r Gadiaid a ymneilltuasant at Ddafydd, i'r amddiffynfa, i'r anialwch, yn ge­dyrn o nerth, gwŷr milwraidd i ryfel yn me­dru trîn tarian a bwccled, ac wynebau llewod oedd eu hwynebau hwynt, ac megis iyrchod ar y mynyddoeddHeb. i brysuro. o fuander oeddynt hwy:

9 Ezer y cyntaf, Obadiah yr ail, Eliab y trydydd,

10 Masmannah y pedwerydd, Jeremiah y pummed,

11 Atthai y chweched, Eliel y seithfed,

12 Johanan yr wythfed, Elsabad y nawfed,

13 Jeremiah y decfed, Machbanai 'r vnfed ar ddêc.

14 Y rhai hyn oedd o feibion Gad, yn gap­teniaid y llu: yr vn lleiafNeu, a wrth­wynebai gant, &c. oedd ar gant, a'r mwyaf ar fîl.

15 Dymma hwy y rhai a aethant tros yr Jorddonen yn y mîs cyntaf, a hi wediHeb. llenwi. llifo tros ei hollJos. 3.15. Doeth; 24.30. dorlannau, ac a yrrasant i ffo holl drigolion y dyffrynnoedd tua 'r dwyrain, a thua 'r gorllewin.

16 A rhai o feibion Benjamin a Juda a dda­ethant i'r amddeffynfa at Ddafydd.

17 A Dafydd a aethHeb. o'i blaen. iw cyfarfod hwynt, ac a lefarodd, ac a ddywedodd wrthynt; os mewn heddwch y daethoch chwi attafi i'm cynhorthwyo, bydd fy nghalon yn vn â chwi: ond os i'm bradychu i'm gelynion, a minnau hebNeu, drais. gamwedd yn fy nwylaw, Duw ein ta­dau ni a edrycho, ac a geryddo.

18 A'r Yspryd aHeb. wiscodd am. ddaeth ar Amasai penna­eth y capteniaid, ac efe a ddywedodd, eiddo ti Dafydd, a chyd â thi fab Jesse y byddwn ni; heddwch, heddwch i ti, a hedd i'th gynhorthwy­wŷr; o herwydd dy Dduw sydd yn dy gym­morth di. Yna Dafydd a'i cresawodd hwynt, ac a'i gosododd hwy yn bennaethiaid ar y fyddin.

19 A rhai o Manasseh a droes at Dda­fydd, pan ddaeth efe gyd a'r Philistiaid yn er­byn Saul i ryfel, ond ni cynnorthwyasant hwynt: canys pennaduriaid y Philistiaid wrth gyngor, a'i gollyngasant ef ymaith, gan ddywe­dyd,1 Sam. 29.4. efe a syrth at ei feistr Saul am ein pen­nau ni.

20 Fel yr oedd efe yn myned i Ziclag, trôdd attaw ef o Manasseh, Adnah, a Jozabad, a Je­diel, a Michael, a Jozabad, ac Elihu, a Zilchai, y rhai oedd bennaethiaid y miloedd yn Ma­nasseh.

21 A'r rhai hyn a gynnorthwyasant DdafyddNeu, gyd a'r. yn erbyn y dorf: canys cedym o nerth oe­ddynt hwy oll, a chapteniaid ar y llu.

22 Canys rhai a ddae at Ddafydd beunydd y pryd hynny, iw gynhorthwyo ef, hyd onid oedd efe yn llu mawr, megis llu Duw.

23 Ac dymma rifedi y pennau, y rhai yn arfogion i ryfel a ddaethant at Ddafydd i He­bron, i droi brenhiniaeth Saul atto ef, yn ôl gair yr Arglwydd.

24 O feibion Juda yn dwyn tarian, a ffon­wayw, chwe mil, ac ŵyth gant, ynNeu, barod. arfog i ryfel.

25 O feibion Simeon yn gedyrn nerthol i ryfel, saith mîl a chant.

26 O feibion Lefi, pedair mîl, a chwe chant.

27 A Jehoiada oedd dywysog ar yr Aaroni­aid, a chyd ag ef dair mîl, a saith gant.

28 Zadoc hefyd llangc grymmus nerthol, ac o dŷ ei dâd ef, dau ar hugain o gapteniaid.

29 Ac o feibion Benjamin brodyr Saul, tair mîl: canys hyd yn hyn llawer o honynt oedd yn dilyn tŷ Saul.

30 Ac o feibion Ephraim vgain mîl, ac ŵyth gant, yn rymmus nerthol, yn wŷr enwoc yn nhŷ eu tadau.

31 Ac o hanner llwyth Manasseh, tair mîl ar bymthec, y rhai a yspyssasid erbyn eu hen­wau, i ddyfod i wneuthur Dafydd yn frenin.

32 Ac o feibion Issachar y rhai a fedrent dde­all yr amseroedd i ŵybod beth a ddylei Israel ei wneuthur, eu pennaethiaid hwynt oedd ddeu­cant, a'i holl frodyr oedd wrth eu gorchymyn hwynt.

33 O Zabulon, y rhai aent allan i ryfel, yn medru rhyfela â phob arfau rhyfel, deng-mîl a deugain, yn medru byddino, a hynnyHeb. heb ga­lon a cha­lon. yn ffyddlon.

34 Ac o Nephtali, mil o dywysogion, a chyd â hwynt, â tharian a gwayw-ffon, ddwy fîl ar bymthec ar hugain.

35 Ac o'r Daniaid, wyth mîl a'r hugain a chwe chant, yn medru rhyfela.

36 Ac o Aser yr oedd deugain mîl yn myned allan mewn byddin, yn medruNeu, byddino. rhyfela,

37 Ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o'r Ru­beniaid, ac o'r Gadiaid, ac o hanner llwyth Manasseh, y daeth chwech vgain mîl, mewn pob rhyw arfau cymmwys i ryfel.

38 Yr holl ryfel-wŷr hyn yn medru byddi­no, a ddaethant mewn calon berffaith i Hebron, i wneuthur Dafydd yn frenin ar holl Israel: a'r rhan arall o Israel oedd hefyd yn vn feddwl, i wneuthur Dafydd yn frenin.

39 A hwy afuant yno gyd â Dafydd dridiau, yn bwytta ac yn yfed: canys eu brodyr a ar­lwyasent iddynt hwy.

40 A hefyd, y rhai oedd agos attynt hwy, hyd Issachar, a Zabulon, a Nephtali, a ddyga­sant fara ar assynnod, ac ar gamelod, ac ar fu­lod, ac ar ychen, ynNeu, ymborth o flawd, &c. fwyd, yn flawd, yn ffi­gus, ac yn resingau, ac vn wîn, ac yn olew, ac yn warthec, ac yn ddefaid yn helaeth: o herwydd yr ydoedd llawenydd yn Israel.

PEN. XIII.

1 Dafydd mewn rhwysc fawr, yn cyrchu'r Arch o Ciriath-jearim, 9 ac o herwydd taro Vzzah, yn gadael yr Arch yn nhy Obed-Edom.

A Dafydd a ymgynghorodd â chapteniaid y miloedd, a'r cantoedd, ac â'r holl dywy­sogion.

2 A Dafydd a ddywedodd wrth holl gynnu­lleidfa Israel, os da gennwch chwi, a bod hyn o'r Arglwydd ein Duw,Heb. [...]orrwn allan a danfo­nwn. danfonwn ar lêd at ein brodyr y rhai a weddillwyd, drwy holl di­roedd Israel, a chyd â hwynt at yr offei­riaid a'r Lenaid o fewnHeb. dinasoedd eu meu­sydd. eu dinasoedd a'i meusydd pentrefol, iw cynnull hwynt at­tom ni.

3 A dygwnHeb. o amgylch. drachefn. Arch ein Duw at­tom ni; canys nid ymofynnasom â hi yn nyddiau Saul.

4 A'r holl dyrfa a ddywedasant am wneu­thur felly: canys vniawn oedd y peth yngolwg yr holl bobl.

5 Felly y1 Sam. 7.1. 2 Sam. 6.2. casclodd Dafydd holl Israel yng­hyd, o Sihor yr Aipht, hyd y ffordd y delir i Hemath, i ddwyn Arch Duw o Giriath-Jearim.

6 A Dafydd aeth i fynu, a holl Israel, iJos. 15.9. Baa­lah, sef Ciriath Jearim, yr hon sydd yn Juda, i ddwyn oddi yno Arch yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn presswylio rhwng y Cerubiaid, ar yr hon y gelwir ei enw ef.

7 A hwy aHeb. wnaethant i'r Arch farchoga­eth ar, &c. ddygasant Arch Dduw ar fenn newydd o dy Abinadab: ac Vzza ac Ahio oedd yn gyrru y fenn.

8 A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarau ger bron Duw, â'i holl nerth, ac â chaniadau, ac â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac â symbalau, ac ag ydcyrn.

9 A phan ddaethant hyd lawr dyrnuA elwir Na [...]hon, 2 Sam. 6.6. Chi­don, Vzza a estynnodd ei law i ddala yr Arch, canys yr ychenNeu, a dram­gwyddent. oedd yn ei hysgwyd hi.

10 Ac enynnodd llîd yr Arglwydd yn erbyn Vzza, ac efe a'i lladdodd ef, o blegit iddo estyn ei law at yrNum. 4.15. Arch; ac yno y bu efe farw ger bron Duw.

11 A bu ddrwg gan Ddafydd am i'r Argl­wydd rwygo rhwygiad yn Vzza, ac efe a al­wodd y lle hwnnwSef, Rhwyg Vzza. Perets Vzza, hyd y dydd hwn.

12 A Dafydd a ofnodd Dduw y dydd hwnnw, gan ddywedyd, pa fodd y dygaf Arch Dduw i mewn attafi?

13 Ac niHeb. symmu­dodd. ddûg Dafydd yr Arch atto ei hun i ddinas Dafydd, ond efe a'i cludodd hi i dŷ Obed-Edom y Gethiad.

14 Ac Arch Dduw a arhosodd gyd â theulu Obed-Edom, yn ei dŷ ef, dri mîs. A'r Argl­wydd aPen. 26. 5. fendithiodd dŷ Obed-Edom, a'r hyn oll ydoedd eiddo.

PEN. XIV.

1 Caredigrwydd Hiram i Ddafydd: 2 Dedwy­ddwch Dafydd o'i bobl, o'i wragedd, ac o'i blant. 8 Y ddwy oruchafiaeth a gafodd efe yn erbyn y Philistiaid.

A2 Sam. 5.11. Hiram brenin Tyrus a anfonodd genna­dau at Ddafydd, a choed cedr, a seiri mei­ni, a seiri prennau, i adailadu iddo ef dŷ.

2 A gwybu Dafydd siccrhau o'r Arglwydd ef yn frenin ar Israel, canys yr oedd ei frenhi­niaeth ef wedi ei derchafu yn vchel, o herwydd ei bobl Israel.

3 A chymmerth Dafydd wrageddHeb. etto. ychwa­nec yn Jerusalem: a Dafydd a genhedlodd fei­bion ychwanec, a merched.

4 Ac dymma henwau y plant oedd iddo ef yn Jerusalem; Sammua, a Sobab, Nathan, a Salomon,

5 Ac Ibhar, ac Elisua, ac Elpalet,

6 A Noga, a Nephec. a Japhia,

7 Ac Elisama, aNeu, Eliada, 2 Sam. 5.16. Beeliada, ac Elipha­let.

8 A phan glybu y Philistiaid fôd2 Sam. 5.17. Dafydd wedi ei enneinio yn frenin ar holl Israel, y Philistiaid oll a aethant i fynu i geisio Dafydd; a chlybu Dafydd, ac a aeth allan yn eu herbyn hwynt.

9 A'r Philistiaid a ddaethant, ac a ymwas­carasant yn nyffryn Rephaim.

10 A Dafydd a ymgynghorodd â Duw, gan ddywedyd, a âfi i fynu yn erbyn y Phili­stiaid? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i? a'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, cerdda i fynu, canys mi a'i rhoddaf hwynt yn dy law di.

11 Felly 'r aethant i fynu iSef, lle rhwy­giadau. Baal-Perazim, a Dafydd a'l tarawodd hwynt yno. A Dafydd a ddywedodd, Duw a dorrodd i mewn ar fy ngelynion drwy fy llaw i, fel rhwygo dyfro­edd, am hynny y galwasant hwy enw'r lle hwn­nw Baal-Perazim.

12 A phan adawsant hwy eu duwiau, dy­wedodd Dafydd am eu llosci hwynt yn tân.

13 A thrachefn etto y Philistiaid a ymwa­scarasant yn y dyffryn.

14 A Dafydd a ymgynghorodd â Duw dra­chefn, a Duw a ddywedodd wrtho, na ddôs i fynu ar eu hôl hwynt, tro ymaith oddi wr­thynt,2 Sam. 5.23. a thyred arnynt ar gyfer y morwŷdd.

15 A phan glywech drŵst cerddediad ym­mrig y morwŷdd, yna dôs allan i ryfel: canys y mae Duw wedi myned o'th flaen di, i daro llu y Philistiaid.

16 A gwnaeth Dafydd megis y gorchy­mynnasei Duw iddo, a hwy a darawsant lû y Philistiaid, ô Gibeon hyd Gazer.

17 Ac enw Dafydd a aeth drwy 'r holl wle­dydd; a'r Arglwydd a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd.

PEN. XV.

1 Dafydd yn parotoi lle i'r Arch, yn trefnu 'r offeiriaid a'r Leviaid i'w chyrchu hi o dy Obed-Edom, 25 Ac yn ei dwyn hi yn ei hel mewn llawenydd mawr. 29 Michal yn ei ddiy­styru ef.

A Dafydd a wnaeth iddo dai yn ninas Da­fydd, ac a baratôdd le i Arch Duw, ac a osododd iddi babell.

2 A Dafydd a ddywedodd, nid yw i neb Num. 4.2.15. ddw­yn Arch Duw onid i'r Lefiaid: canys hwynt a ddewisodd yr Arglwydd i ddwyn Arch Duw, ac i weini iddo ef yn dragywydd.

3 A Dafydd a gynhullodd holl Israel i Je­rusalem, i ddwyn i fynu Arch yr Arglwydd iw lle a baratoesei efe iddi hi.

4 A Dafydd a gynhullodd feibion Aaron, a'r Lefiaid.

5 O feibion Cohath, Vriel y pennaf, a'iNeu, geraint. frodyr, cant ac vgain.

6 O feibion Merari, Asaiah y pennaf, a'i frodyr, dau cant ac vgain.

7 O feibion Gersom, Joel y pennaf, a'i fro­dyr, cant a deg ar hugain.

8 O feibion Elizaphan, Semaiah y pennaf, a'i frodyr, dau cant.

9 O feibion Hebron, Eliel y pennaf, a'i fro­dyr, pedwar vgain.

10 O feibion Vzziel, Aminadab y pennaf, a'i frodyr, cant a deuddec.

11 A Dafydd a alwodd am Zadoc, ac am Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, am Vriel, Asaiah, a Joel, Semaiah, ac Eliel, ac Aminadab,

12 Ac a ddywedodd wrthynt, chwi sydd bennau cenedl ym mlith y Lefiaid: ymsanctei­ddiwch chwi a'ch brodyr fel y dygoch i fynu Arch Arglwydd Dduw Israel, i'r lle a baratoais iddi hi.

13 O herwyddPen. 13. 10. nas gwnaethoch o'r dechreu­ad, y torrodd yr Arglwydd ein Duw arnom ni, o blegit na cheisiasom ef yn y modd y dylesym.

14 Felly yr offeiriaid, a'r Lefiaid a ymsan­cteiddiasant i ddwyn i fynu Arch Arglwydd Dduw Israel.

15 A meibion y Lefiaid a ddygasant Arch Duw ar eu hyscwyddau, wrth drosolion, megis y gorchymynnodd Moses,Exod. 25.14. yn ôl gair yr Arglwydd.

16 A Dafydd a ddywedodd wrth dywyso­gion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y cer­ddorion i leisio ag offer cerdd, nablau, a thely­nau, a symbalau, yn lleisio gan dderchafu llêf mewn gorfoledd.

17 Felly y Lefiaid a osodasantPen. 6. 33. Heman fab Joel; ac o'i frodyr efPen. 6. 39. Asaph fab Berechiah; ac o feibion Merari, eu brodyr,Pen. 6. 44. Ethan fab Cusaiah.

18 A chyd â hwynt eu brodyr o'r ail râdd, Zechariah, Ben, a Jaziel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Vnni, Eliab, a Benaiah, a Maasiah, a Matti­thiah, ac Eliphaleh, a Micniah, ac Obed-Edom, a Jehiel, v porthorion.

19 Felly Heman, Asaph, ac Ethan, y cerddo­rion, oeddynt i leisio â symbalau prês.

20 A Zechariah, ac Aziel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Vnni, ac Eliab, a Maasiah, a Benaiah, a ganent nablau ar Alamoth.

21 A Mattithiah, ac Eliphaleh, a Micniah, ac Obed-Edom, a Jehiel, ac Azaziah, oeddynt N [...]u, ar yr wythfed i oruchwy­lio. â thelynau ar y Sheminith i ragori.

22 Cenaniah hefyd oedd flaenor y Lefiaid ar yNeu, clud. gân, efe a ddyscei eraill am yHeb. dercha­fiad. gân, ca­nys cyfarwydd ydoedd.

23 A Berechiah, ac Elcanah, oedd borthorion i'r Arch.

24 A Sebaniah, a Jehosaphat, a Nathaneel, ac Amasai, a Zechariah, a Benaiah, ac Elie­zer, yr offeiriaid, oedd yn lleisio mewn vdcyrn o flaen Arch Duw: Obed Edom hefyd, a Je­hiah oedd borthorion i'r Arch.

252 Sam. 6.12. Felly Dafydd a henuriaid Israel, a thy­wysogion y miloedd, a aethant i ddwyn i fynu Arch cyfammod yr Arglwydd, o dŷ Obed Edom mewn llawenydd.

26 A phan gynhorthwyodd Duw y Lefiaid oedd yn dwyn Arch cyfammod yr Arglwydd, hwy a offrymmasant saith o fustych, a saith o hyrddod.

27 A Dafydd oedd wedi ymwisco mewn gwisc o liain main; a'r holl Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn yr Arch, a'r cantorion, Cenaniah hefyd meistr yNeu, clud. gân, a'r cerddo­rion. Ac am Ddafydd yr oedd 2 Sam. 6.14. Ephod liain.

28 A holl Israel a ddygasant i fynu Arch cyfammod yr Arglwydd, â bloedd, â llais trwmpet, ag vdcyrn, ac â symbalau, yn lleisio gyd â'r nablau, a'r telynau.

29 A phan ydoedd Arch cyfammod yr Arglwydd yn dyfod i ddinas Dafydd, Michal merch Saul a edrychodd drwy ffenestr, ac a ganfu Ddafydd y brenin yn dawnsio, ac yn chw­arae; a hi a'i dirmygodd ef yn ei chalon.

PEN. XVI.

1 Dafydd yn aberthu, 4 yn ordeinio cantorion i ganu mawl i Dduw, 7 yn gwneuthur Psalm i ddiolch i Dduw, 37 yn gosod gweinidogion, a phorthorion, ac offeiriaid, a cherddorion, i weini i'r Arch yn wastadol.

Felly2 Sam. 6.17. y dygasant hwy Arch Dduw i mewn, ac a'i gosodasant hi ynghanol y babell, a osodasei Dafydd iddi hi: a hwy a offrymma­sant offrymmau poeth, ac ebyrth hedd, ger bron Duw.

2 Ac wedi i Ddafydd orphen aberthu offrymmau poeth, ac ebyrth hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw yr Arglwydd.

3 Ac efe a rannodd i bob vn o Israel, yn wr, ac yn wraig, dorth o fara, a dryll o gîg, a cho­streleid o mîn.

4 Ac efe a osododd ger bron Arch yr Argl­wydd, wenidogion o'r Lefiaid, i gofio ac i fo­liannu, ac i glodfori Arglwydd Dduw Is­rael.

5 Asaph oedd bennaf, ac yn ail iddo ef Ze­chariah, Jeiel, a Semiramoth, a Jehiel, a Matti­thiah, ac Eliab, a Benaiah, ac Obed Edom; a Jeiei ag offer nablau, a thelynau; ac Asaph oedd yn lleisio â symbalau.

6 Benaiah hefyd, a Jahaziel yr offeiriaid, oedd ag vdcyrn yn wastadol o flaen Arch cyfammod Duw.

7 Yna y dydd hwnnw, y rhoddes Dafydd y psalm hon yn gyntaf i foliannu yr Arglwydd, yn llaw Asaph a'i frodyr.

8Psal. 105.1. Esa. 12.4. Moliennwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw ef, hyspyswch ei weithredoedd ef ym mhlith y bobloedd.

9 Cenwch iddo, clodforwch ef, ymadro­ddwch am ei holl ryfeddodau.

10 Ymlawenychwch yn ei enw sanctaidd ef; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr Argl­wydd.

11 Ceisiwch yr Arglwydd, a'i nerth ef, cei­siwch ei wyneb ef yn wastadol.

12 Cofiwch ei wrthiau, y rhai a wnaeth efe, ei ryfeddodau, a barnedigaethau ei enau;

13 Chwi hâd Israel ei wâs ef: Chwi mei­bion Jacob ei etholedigion ef:

14 Efe yw'r Arglwydd ein Duw ni, ei farne­digaethau ef sydd drwy yr holl ddaiar.

15 Cofiwch yn dragywydd ei gyfammod, y gair a orchymynnodd efe i fil o genhedlaethau:

16 YrGen. 22.16. & 17.2. & 26.3. & 28.13. Luc. 1.73. Heb. 6.17. hwn a gyfammododd efe ag Abra­ham, a'i lŵ i Isaac:

17 Ac a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfammod tragywyddol i Israel,

18 Gan ddywedyd, i ti y rhoddaf dîr Ca­naan,Heb. Ilinyn. rhandir eich etifeddiaeth.

19 Pan nad oeddych ondHeb. gwyr rhif. ychydig, ieGen. 34.30. ychydig, a dieithraid ynddi:

20 A phan rodient o genhedlaeth i genhed­laeth, ac o un frenhiniaeth at bobl eraill:

21 Ni adawodd efe i neb eu gorthrymmu: onid efe aGen. 12.17. & 20.3. geryddodd frenhinoedd o'i plegit hwy, gan ddywedyd,

22Psal. 105.15. Na chyssyrddwch â'm eneiniog, ac na ddrygwch fy mhrophwydi.

23Psal. 96.1. Cenwch i'r Arglwydd yr holl ddaiar: mynegwch o ddydd i ddydd ei iechydwriaeth ef.

24 Adroddwch ei ogoniant ef ym mhlith y cenhedloedd; a'i wrthiau ym-mhlith yr holl bobloedd.

25 Canys mawr yw 'r Arglwydd, a chan­moladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe go­ruwch yr holl dduwiau.

26 O he [...]wydd hollLevit. 19. 4. dduwiau y bobloedd ydynt eulynnod; onid yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.

27 Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef.

28 Moeswch i'r Arglwydd, chwi deuluoedd y bobloedd; moeswch i'r Arglwydd, ogoniant a nerth.

29 Moeswch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch ger ei fron ef: ym­grymmwch i'r Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd.

30 Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaiar: y bŷd hefyd a siccrheir, fel na syflo.

31 Ymlawenyched y nefoedd, ac ymhyfry­ded y ddaiar; a dywedant ym mhlith y cen­hedloedd, yr Arglwydd sydd yn teyrnasu.

32 Rhued y môr a'i gyflawnder, llawenha­ed y maes, a'r hyn oll y sydd ynddo.

33 Yna prennau y coed a ganant o flaen yr Arglwydd, am ei fod yn dyfod i farnu y ddaiar.

34Psal. 107.1. & 118.1. & 136.1. Clodforwch yr Arglwydd canys da yw: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

35 A dywedwch, achub ni ô Dduw ein ie­chydwriaeth, cascl ni hefyd, a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd, i foliannu dy enw sancta­idd di, ac i ymogoneddu yn dy foliant.

36 Bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb▪ a dy­wedodd yrDeut. 27.15. holl bobl, Amen, gan foliannu yr Arglwydd.

37 Ac efe a adawodd yno, o flaen Arch cy­fammod yr Arglwydd, Asaph a'i frodyr, i wei­ni ger bron yr Arch yn wastadol, gwaith dydd yn ei ddydd:

38 Ac Obed Edom, a'i brodyr, ŵyth a thri vgain: Obed Edom hefyd mab Jeduthun, a Hosah, i fod yn borthorion.

39 Zadoc vr offeiriad, a'i frodyr yr offeiri­aid, o flaen tabernacl yr Arglwydd, yn yr v­chelfa oedd yn Gibeon,

40 I offrymmu poeth offrymmau i'r Argl­wydd ar allor y poeth offrwm yn wastadol, fo­reu a hwyr: yn ôl yr hyn oll sydd scrifennedic ynghyfraith yr Arglwydd, yr hon a orchy­mynnodd efe i Israel.

41 A chyd â hwynt Heman, a Jeduthun, a'r etholedigion eraill, y rhai a yspysasid wrth eu henwau, i foliannu yr Arglwydd: am fod ei drugaredd ef yn dragywydd.

42 A chyd â hwynt Heman, a Jeduthun, yn lleisio ag vdcyrn, ac â symbalau i'r cerddo­rion, ac offer cerdd Duw: a meibion Jeduthun oedd wrth y porth.

43 A'r holl bobl a aethant, bob vn iw dŷ ei hun: a Dafydd a ddychwelodd i fendigo ei dŷ yntef.

PEN. XVII.

1 Nathan vnwaith yn fodlon i arfeddyd Dafydd ar adailadu ty i Dduw, 3 a chwedi hynny, trwy air Duw, yn gwarafun iddo, 11 yn addo iddo fendithion, a daioni yn ei had. 16 Gweddi Dafydd a'i ddiolch.

A2 Sam. 7.1. Phan oedd Dafydd yn trigo yn ei dŷ, Dafydd a ddywedodd wrth Nathan y pro­phwyd, wele fi yn trigo mewn tŷ o ge­drwŷdd, ac Arch cyfammod yr Arglwydd tan gortynnau.

2 Yna Nathan a ddywedodd wrth Ddafydd, gwna 'r hyn oll sydd yn dy galon, canys y mae Duw gyd â thi.

3 A'r noson honno y daeth gair Duw at Nathan, gan ddywedyd,

4 Dôs, a dywed wrth Ddafydd fy ngwâs, fol hyn y dywed yr Arglwydd, nid adeiledi di i mi dŷ i bresswylio ynddo.

5 Canys ni phresswyliais i mewn tŷ er y dydd y2 Sam. 7.6. dygum i fynu Israel hyd y dydd hwn, ond bûm o babell i babell, ac o dabernacl bwy­gilydd.

6 Ym mha le bynnac y rhodiais gyd â holl Israel, a yngenais i air wrth vn o farnwŷr Israel (i'r rhai y gorchymynnaswn borthi fy [Page] mhobl) gan ddywedyd, pa ham nad adeila­dasoch i mi dŷ o gedr-wydd?

7 Ac yr awr hon, fel hyn y dywedi wrth Ddafydd fy ngwâs; fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, myfi a'th gymmerais di o'r gorlan, oddiar ôl y praidd, i fod yn dywysog ar fy mhobl Israel.

8 A bum gyd â thi, i ba le bynnac y rhodi­aist, torrais ymmaith hefyd dy holl elynion o'th flaen, a gwneuthum enw i ti, megis enw y gwyr mawr sydd ar y ddaiar.

9 Gosodaf hefyd i'm pobl Israel le, ac a'i plan­naf, a hwy a drigant yn eu lle, ac ni symmudir hwynt mwyach, a meibion anwiredd ni chwanegant eu cystuddio, (megis yn y cyntaf,

102 Sam. 7.11. Ac er y dyddiau y gorchymynnais i farnwŷr fod ar fy mhobl Israel) darostyngaf hefyd dy holl elynion di, a mynegaf i ti yr adeilada yr Arglwydd i ti dŷ.

11 A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di, î fyned at dy dadau, y cyfodaf dy hâd ar dy ôl di, yr hwn a fydd o'th feibion di, a mi a siccrhâf ei deyrnas ef.

12 Efe a adeilada i mi dŷ, a minneu a siccr­hâf ei deyrn-gadair ef byth.

132 Sam. 7.14. Myfi a fyddaf iddo ef yn dâd, ac yn­tef fydd i mi yn fâb, a'm trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef, megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o'th flaen di.

14 Ond mi a'i gosodaf ef yn fy nhŷ, ac yn fy nheyrnas byth, a'i deyrn-gadair ef a siccrheir byth.

15 Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Ddafydd.

16 A daeth Dafydd y brenin, ac a eisteddodd ger bron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, pwy ydwyf fi, ô Arglwydd Dduw, a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd ymma?

17 Etto2 Sam. 7.19. bychan yw hyn yn dy olwg di ô Dduw, canys dywedaist am dŷ dy wâs dros hîr o amser: a thi a edrychaist arnaf (ô Arglwydd Dduw) fel ar gyflwr dyn vchel-radd.

18 Pa beth a chwanega Dafydd ei ddywe­dyd wrthit mwyach, am anrhydedd dy wâs? canys ti a adwaenost dy wâs.

19 O Arglwydd, er mwyn dy wâs, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl faw­redd hyn, i ddangos pob mawredd.

20 Oh Arglwydd, nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw onid tydi, yn ôl yr hyn oll a glywsom â'n clustiau.

21 A pha vn genedl ar y ddayar sydd megis dy bobl Israel, yr hon yr aeth Duw iw gware­du yn bobl iddo ei hun, i osod i ti enw mawr ac ofnadwy, gan fwrw allan genhedloedd o fla­en dy bobl, y rhai a waredaist ti o'r Aipht?

22 Ti hefyd a wnaethost dy bobl Israel yn bobl i ti byth, a thi Arglwydd a aethost yn Dduw iddynt hwy.

23 Am hynny yr awr hon Arglwydd, y gair a leferaist am dy wâs, ac am ei dŷ ef, poed siccr fyddo byth: gwna fel y leferaist.

24 A phoed siccr fyddo, fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd, gan ddywedyd; Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, sydd Dduw i Israel: a bydded tŷ Ddafydd dy wâs yn siccr, ger dy fron di.

25 Canys ti, o fy Nuw, aHeb. ddatcu­ddiaist gl [...]t dy was. ddywedaist i'th wâs yr adeiladit ti dŷ iddo ef: am hynny y cafodd dy wâs weddio ger dy fron di,

26 Ac yr awron Arglwydd (ti ydwyt Dduw, a thi a leferaist am dy wâs y daioni hwn)

27 Yn awr gan hynnyNeu, lu. bid wiw gennit fendigo tŷ dy wâs, i fod ger dy fron yn dragy­wydd: am i ti ô Arglwydd ei fendigo, bendi­gedic fydd yn dragywydd.

PEN. XVIII.

1 Dafydd yn darostwng y Philistiaid a'r Moabi­aid, 3 yn taro Hadarezer a'r Syriaid. 9 Tou yn danfon Hadoram ag anrhegion i fendithio Dafydd, 11 ac ynteu yn cysegru 'r anrhegion a'r yspail i Dduw, 13 yn gosod amddiffynfeydd yn Edom. 14 Swyddogion Dafydd.

A Darfu wedi hyn, i Ddafydd daro y Phili­stiaid, a'i darostwng hwynt; a dwyn2 Sam. 8 1. Gath a'i phentrefydd o law y Philistiaid.

2 Hefyd efe a darawodd Moab, a'r Moabiaid a fuant weision i Ddafydd, yn dwyn trêth.

3 Tarawodd Dafydd hefydNeu, Hadade­zer, yn ll [...]fr Sa­muel. Hadarezer bre­nin Zobah hyd Hamath, pan oedd efe yn myned i siccrhau ei lywodraeth wrth afon Euphrates.

4 A Dafydd a ddug oddiarno ef2 Sam. 8.4. fîl o ger­bydau, a saith mîl o wyr meirch, ac vgain mîl o wŷr traed; a thorrodd Dafydd linynnau garr meirch yr holl gerbydau, ond efe a adawodd o honynt gan cerbyd.

5 A phan ddaeth y Syriaid o Ddamascus i gynhorthwyo Hadarezer brenin Zobah, Dafydd a laddodd o'r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr.

6 A gosododd Dafydd amdiffynfeydd yn Syria Damascus: a bu y Syriaid yn weision i Dda­fydd, yn dwyn trêth. A'r Arglwydd a ware­dodd Ddafydd i ba le bynnac yr aeth.

7 A Dafydd a gymmerodd y tariannau aur oedd gan weision Hadarezer, ac a'i dûg hwynt i Jerusalem.

8 Dûg Dafydd hefyd oA elwir yn llyfr Samuel, Beta a B [...]rothal. Tibhath, ac o Chun, dinasoedd Hadarezer, lawer iawn o brês, â'r hwn y gwnaeth Salomon y1 Bren. 7.23. 2 [...]ron. 4.15. Jer. 52.20. môr prês, a'r colofnau, a'r llestri prês.

9 A phan glybuNeu, Toi, 2 Sam. 8.9. Tou brenin Hamath daro o Ddafydd holl lu Hadarezer brenin Zobah:

10 Efe a anfonodd at y brenin DafyddN u, Joram, 2 Sam. 8.10. Ha­doram ei fâb, â phob llestri aur, ac arian, a phrês, gyd ag ef, i ymofyn am ei iechyd ef, ac iw fendithio ef, am iddo ryfela yn erbyn Hada­rezer a'i daro ef: canysHeb. ryfelwr oedd. rhyfela yr oedd Ha­darezer yn erbyn Tou.

11 Y rhai hynny hefyd a gyssegrodd y bre­nin Dafydd i'r Arglwydd, gyd â'r arian, a'r aur, a ddygasei efe oddi ar yr holl genhedloedd, sef oddi ar Edom, ac oddi ar Moab, ac oddi ar fei­bion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec.

12 Ac Abisai mab Serfiah a laddodd o Edom, yn nyffryn yr halen, dair mil ar bymthec.

13 Ac efe a osododd amddiffynfeydd yn Edom, a'r holl Edomiaid a fuant weision i Dda­fydd. A'r Arglwydd a gadwodd Ddafydd, i ba le bynnac yr aeth efe.

14 A Dafydd a leyrnasodd ar holl Israel, ac yr oedd efe yn gwneuthur barn a chyfiawnder iw holl bobl.

15 A Joab mab Serfiah oedd ar y llu, a Je­hosaphat mab Ahilud yn gofiadur,

16 A Zadoc mab Ahitub, ac2 Sam. 8.17. Ahim [...] ­lech. Abimelech mab Abiathar oedd offeiriaid; aA eiwir Saraia yn llyfr Sa­muel, a Sisa, 1 Bren. 4.3. Sausa yn scri­fennydd.

17 Benaiah hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid, a'r Pelethiaid: a meibion Dafydd oedd y rhai pennaf wrth law y brenin.

PEN. XIX.

1 Traha Hunun â'r cennadau a ddanfonasei Da­fydd iw gyssuro ef am ei dâd. 6 Yr Am­moniaid yn cael nerth gan y Syriaid, a Joab ac Abisai yn eu gorchfygu hwynt. 16 So­phach yn cael cymmorth etto gan y Syriaid, a Dafydd yn ei ladd ef.

AC yn ôl hyn y bu i2 Sam. 10.1. Nahas brenin meibi­on Ammon farw, a'i fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

2 A Dafydd a ddywedodd, gwnaf garedi­grwydd âHanon, 2 Sam. 10. Hanun fab Nahas, o herwydd gwnaeth ei dâd â myfi garedigrwydd: ac an­fonodd Dafydd gennadau iw gyssuro ef am ei dâd: a gweision Dafydd a ddaethant i wlâd meibion Ammon, at Hanun, iw gyssuro ef.

3 A thywysogion meibion Ammon a ddy­wedasant wrth Hanun, ai anrhydeddu dy dâd ti y mae Dafydd,Heb. yn dy olwg di. yn dy dŷb di; am iddo an­fon cyssur-wŷr attat ti? onid i chwilio, ac i ddifetha, ac i droedio y wlâd y daeth ei weisi­on ef attat ti?

4 Yna y cymmerth Hanun weision Dafydd, ac a'i heilliodd hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, wrth eu cluniau, a'i gyr­rodd hwynt ymmaith.

5 A hwy a aethant, ac a fynegasant i Dda­fydd am y gwŷr, ac efe a anfonodd iw cyfar­fod hwynt (canys y gwŷr oedd wedi cywi­lyddio yn fawr:) a dywedodd y brenin, tri­gwch yn Jericho, hyd onl dyfo eich barsau, yna dychwelwch.

6 Yna meibion Ammon a welsant ddarfod iddynt eu gwneuthur eu hunainHeb. i ddrewi. yn gâs gan Ddafydd, ac anfonodd Hanun, a meibion Am­mon fîl o dalentau arian i gyfiogi iddynt ger­bydau, a marchogion, o Mesopotamia, ac2 Sam. 10.8. o Syria Maachah, ac o Zobah.

7 A chyflogasant iddynt ddeuddeng-mîl ar hugain o gerbydau, a brenin Maachah a'i bobl; y rhai a ddaethant, ac a werssyllasant o flaen Medeba: a meibion Ammon hefyd a ym­gasclasant o'i dinasoedd, ac a ddaethant i ryfel.

8 A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Jo­ab, a holl lu y cedyrn.

2 Sam. 10.8.9 A meibion Ammon aethant allan, ac a ymfyddinasant wrth borth y ddinas: a'r bren­hinoedd y rhai a ddelsei, oedd o'r nailltu yn y maes.

10 A phan ganfu Joab fod ŵyneb y ryfel yn ei erbyn ef ym mlaen ac yn ôl, efe a etho­lodd o hollNeu, wyr ieu­aingc. etholedigion Israel, ac a'i byddi­nodd hwynt yn erbyn y Syriaid.

11 A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd; a hwy a ymfyddinasant yn erbyn meibion Ammon.

12 Ac efe a ddywedodd, os trêch fydd y Syriaid nâ mi, yna bydd di yn gynhorthwy i mi: ond os meibion Ammon a fyddant trêch nâ thi, yna mi a'th gynnorthwyaf ditneu.

13 Bydd rymmus, ac yn wrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw; a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.

14 Yna y nessaodd Joab, a'r bobl oedd gyd ag ef, yn erbyn y Syriaid Pr rhyfel, a hwy a ffoesant o'i flaen ef.

15 A phan welodd meibion Ammon ffoi o'r Syriaid, hwyntau hefyd a ffoesant o flaen Abi­sai ei frawd ef, ac a aethant i'r ddinas: a Joab a ddaeth i Jerusalem.

16 A phan welodd y Syriaid eu llâdd o flaen Israel, hwy a anfonasant gennadau, ac a ddy­gasant allan y Syriaid y rhai oedd or tu hwnt i'rSef, Euphra­tes. afon; aNeu, Solach, 2 Sam. 10.16. Sophach capten llu Hadarezer oedd o'i blaen hwynt.

17 A mynegwyd i Ddafydd, ac efe a gasclodd holl Israel, ac a aeth tros yr Jorddonen, ac a ddaeth arnynt hwy, ac a ymfyddinodd yn eu herbyn hwynt: a phan ymfyddinodd Da­fydd yn erbyn y Syriaid, hwy a ryfelasant ag ef.

18 Ond y Syriaid a ffoesant o flaen Israel, a lladdodd Dafydd o'r Syriaid saith mîl o wyr yn ymladd mewn cerbydau, a deugein-mîl o wŷr traed, ac a laddodd Sophach, capten y llû.

19 A phan welodd gweision Hadarezer eu lladd o flaen Israel, hwy a heddychasant â Da­fydd, a gwasanaethasant ef: ac ni fynnei y Syriaid gynhorthwyo meibion Ammon mwyach.

PEN. XX.

1 Joab yn gwarchae ar Rabbah, a Dafydd yn ei hanrheithio hi, ac yn arteithio ei phobl. 4 Lladd tri chawr mewn tair câd yn erbyn y Philistiaid.

DArfu hefyd2 Sam. 11.1. Heb. ar ddy­chweliad y flwy­ddyn. wedi gorphen y flwyddyn, yn amser myned o'r brenhinoedd allan i ryfela, arwein o Joab gadernid y llu, ac an­rheithio gwlâd meibion Ammon, ac efe a dda­eth, ac a warchaeodd ar Rabbah: (ond Dafydd a arhosodd yn Jerusalem) a Joab a darawodd Rabbah, ac a'i dinistriodd hi.

2 A2 Sam. 12.30. chymmerth Dafydd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben, a chafodd hi o bwys talent o aur, ac ynddi feini gwerth-fawr, a hi a roed am ben Dafydd: ac efe a ddûg anrhaith fawr iawn o'r ddinas.

3 A'r bobl oedd ynddi a ddûg efe allan, ac a'i torrodd hwynt â llîfiau, ac ag ogau heirn, ac â bwyill: ac fel hyn y gwnaeth Da­fydd â holl ddinasoedd meibion Ammon, a dychwelodd Dafydd a'r holl bobl, i Je­rusalem.

4 Ac yn ôl hyn,2 Sam. 21.18. yNeu, parhaodd. Heb. safodd. cyfododd rhyfel ynNeu, Gob. Gezer yn erbyn y Philistiaid, yna Sibbecai yr Husathiad a laddodd Sippai yr hwn oedd o fei­bionNeu, Rapha. y Cawr; felly y darostyngwyd hwynt.

5 A bu drachefn ryfel yn erbyn y Philistiaid, ac Elhanan mabA elwir Jaare Oregim, 2 Sam. 21.19. Jair a laddodd Lahmi, brawd Goliath y Gethiad, a phaladr ei wayw-ffon ef oedd fel carfan gwehydd.

6 Bu hefyd trachefn ryfel yn2 Sam. 21.20. Gath, ac yr oedd gŵrHeb. O fesur. hîr, a'i fysedd oeddynt bob yn chw­ech a chwech, sef pedwar ar hugain; yntef he­fyd a anesid i'rNeu, Rapha. cawr.

7 Ond pan ddifenwodd efe Israel, Jonathan mabA dub Sammab, 1 Sam. 16.9. Simea frawd Dafydd, a'i lladdodd ef.

8 Y rhai hyn a anwyd i'r cawr yn Gath, ac a laddwyd drwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.

PEN. XXI.

1 Dafydd wedi ei demptio gan Satan, yn gyrru Joab i rifo 'r bobl, 5 A chwedi dwyn cyfrif y bobl atto, yn edifar gantho hynny, 9 ac yn cael ei ddewis o dair pla, ac yn dewis haint y nodau, 14 ac wedi marw deng mil a thrugain o'r bobl, trwy edifeirwch, yn achub dinistr Jerusalem. 18 Dafydd, trwy gyngor Gad, yn prynu llawr dyrnu Ornan, ac yn gwneuthur yno allor, a Duw trwy dan yn rhoi iddo arwydd o'i ffafor; ac yn attal y bla. 28 Dafydd yn aberthu yno, wedi ei attal gan angel rhag myred i Gibeon.

A2 Sam. 24.1. Satan a safodd i fynu yn erbyn Israel, ac a annogodd Ddafydd i gyfrif Israel.

2 A dywedodd Dafydd wrth Joab, ac wrth bennaethiaid y bobl, ewch, cyfrifwch Israel o Beerseba hyd Dan: a dygwch attafi, fel y gwy­pwys eu rhifedi hwynt.

3 A dywedodd Joab, chwaneged yr Ar­glwydd ei bobl yn gan cymmeint ac ydynt: ô fy arglwydd frenin, onid gweision im har­glwydd ydynt hwy oll? pa ham y cais fy ar­glwydd hyn? pa ham y bydd efe yn achos camwedd i Israel?

4 Ond gair y brenin a fu drêch nâ Joab: a Joab a aeth allan, ac a dramwyodd drwy holl Israel, ac a ddaeth i Jerusalem.

5 A rhoddes Joab nifer rhifedi y bobl i Ddafydd; a holl Israel oedd fil o filoedd, a chan mîl, o wŷr yn tynnu cleddyf; a Juda oedd bedwar-can mil a dêc mîl a thrugain, o wŷr yn tynnu cleddyf.

6 Ond Levi, a Benjamin ni chyfrifasei efe yn eu mysc hwynt; canys ffiaidd oedd gan Joab air y brenin.

7 A bu ddrŵgHeb. O her­wydd y peth hyn. y peth hyn yngolwg Duw, ac efe a darawodd Israel.

8 A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw,2 Sam. 24.10. pe­chais yn ddirfawr, o herwydd i'm wneuthur y peth hyn: ac yr awr hon, delea attolwg an­wiredd dy wâs, canys gwneuthum yn ynfyd iawn.

9 A'r Arglwydd a ddywedodd with Gad, Gweledydd Dafydd, gan ddywedyd,

10 Dos, a llefara wrth Ddafydd, gan ddy­wedyd, fel hyn y dywed yr Arglwydd, tri pheth yr ydwyfi yn euHeb. estyn. gosod o'th flaen di, de­wis i ti vn o honynt, ac mi a'i gwnaf i ti.

11 Yna Gad a ddaeth at Ddafydd, ac a ddy­wedodd wrtho, fel hyn y dywed yr Arglwydd, cymmer i ti,

12 Naill ai2 Sam. 24.13. tair blynedd o newyn, ai dy ddifetha dri mîs o flaen dy wrthwyneb-wŷr, a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd; ai ynte cleddyf yr Arglwydd, sef haint y nodau yn y tîr dri diwrnod, ac angel yr Arglwydd yn dinistrio drwy holl derfynau Israel. Ac yr awron edrych pa air a ddygaf drachefn i'r hwn a'm hanfonodd.

13 A Dafydd a ddywedodd wrth Gad, y mae yn gyfyng iawn arnafi; syrthiwyfattolwg yn llaw yr Arglwydd (canys ei drugareddau ef ydynt aml iawn) ac na syrthiwyf yn llaw dŷn.

14 Yna y rhoddes yr Arglwydd haint y nodau ar Israel; a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrugain mîl o wŷr.

15 A Duw a anfonodd angel i Jerusalem iw dinistrio hi; ac fel yr oedd yn ei dinistrio, yr Arglwydd a edrychodd, ac a edifarhaodd am y drwg, ac a ddywedodd2 Sam. 24.16. wrth yr angel oedd yn dinistrio, digon bellach, attal dy law: ac an­gel yr Arglwydd oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu2 Sam. 21.16, 18. Arafnah. Ornan y Jebusiad.

16 A Dafydd a dderchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr Arglwydd yn sefyll rhwng y ddaiar a'i nefoedd, a'i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerusalem. A syrthlodd Da­fydd a'r henuriaid (y rhai oedd wedi ymwisco mewn sach-liain) ar eu hwynebau.

17 A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw, onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl? a mi yw'r hwn a bechais, ac a wneuthum fawr ddrwg, ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? fy Arglwydd Dduw bydded attolwg dy law arnafi, ac ar dŷ fy nhâd, ac nid yn blâ ar dy bobl.

182 Cron. 3.1. Yna angel yr Arglwydd a archodd i Gad ddywedyd wrth Ddafydd, am fyned o Ddafydd i fynu i gyfodi allor i'r Arglwydd yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad.

19 A Dafydd a aeth i fynu, yn ôl gair Gad, yr hwn a lefarasei efe yn enw yr Ar­glwydd.

20Neu, Pan drodd Ornan a chan­fod, &c. yna efe, a'i bedw. &c. Yna y trôdd Ornan, ac a ganfu yr an­gel, a'i bedwar mâb gyd ag ef a ymguddiasant; ac Ornan oedd yn dyrnu gwenith.

21 A Dafydd a ddaeth at Ornan, ac edry­chodd Ornan, ac a ganfu Ddafydd, ac a aeth allan o'r llawr dyrnu, ac a ymgrymmodd i Ddafydd, a'i wyneb tua 'r ddaiar.

22 A dywedodd Dafydd wrth Ornan, moes i mi lê y llawr dyrnu, fel yr adailadwyf ynddo allor i'r Arglwydd: dyro ef i mi am ei lawn werth, fel yr attalier y blâ oddi wrth y bobl.

23 Ac Ornan a ddywedodd wrth Ddafydd, cymmer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg. Wele rhoddaf yr ychen yn boeth offrwm, a'r offer dyrnu yn gynnyd, a'r gwenith yn fwyd offrwm: hyn oll a roddaf.

242 Sam. 24.24 A'r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Ornan, nid felly, onid gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth: canys ni chymmeraf i'r Arglwydd yr eiddo ti, ac nid offrymmaf boeth offrwm yn rhâd.

25 Felly y rhoddes Dafydd i Oman am y lle, chwe chan sicl o aur wrth bwys.

26 Ac yno 'r adeiladodd Dafydd allor i'r Arglwydd, ac a offrymmodd boeth offrymmau, ac ebyrth hêdd, ac a alwodd ar yr Arglwydd, ac efe a'i attebodd ef o'r nefoedd drwy dân ar allor y poeth offrwm.

27 A dywedodd yr Arglwydd wrth yr angel, ac yntef a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn.

28 Y prŷd hynny, pan ganfu Dafydd ddar­fod i'r Arglwydd wrando arno ef yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad, efe a aberthodd yno.

29 Ond tabernacl yr Arglwydd, yr hon a wnelsei Moses yn yr anialwch, ac allor y poeth offrwm, oedd y prŷd hynny yn yr vchelfa ynPen. 16. 39. 2 Cron. 1 3. 1 Bren. 3.4. Gibeon.

30 Ac ni allei Dafydd fyned o'i blaen hi i ymofyn â Duw; canys osnasai rhag cleddyf angel yr Arglwydd.

PEN. XXII.

1 Dafydd wedi gwybod y lle yr adeiledid y Deml, yn paratoi llawer o ddefnyddiau i'w hadeilad hi. 6 Dafydd yn dyscu i Salomon addewidion Duw, a'i ddlêd wrth adeiladu 'r Deml, 17 ac yn gorchymmyn i'r Tywysogion i gyn­northwyo ef.

A Dywedodd Dafydd, hwn yw tŷ 'r Ar­glwydd Dduw, ac dymma allor y poeth offrwm i Israel.

2 Dywedodd Dafydd hefyd am gasclu y dieithriaid oedd yn nhîr Israel; ac efe a oso­dodd seiri meini i naddu cerrig nâdd, i adeila­du tŷ Dduw.

3 A pharatoawdd Dafydd haiarn yn helaeth, tu ag at hoelion dryssau y pyrth, ac i'r cy­ssylltiadau, a phrês mor helaeth ac nad oedd arno bwys.

4 Coed cedr hefyd allan o rîf: canys y Si­doniaid [Page] a'r Tyriaid a ddygent gedr-wŷdd lawer i Ddafydd.

5 A dywedodd Dafydd,Pen. 29. 1. Salomon fy mab sydd ieuangc a thŷner, a'r tŷ a adailadir i'r Arglwydd, rhaid iddo fôd mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn gogo­niant, drwy 'r holl wledydd: paratoaf yn awr tu ag atto ef: felly y paratôdd Dafydd yn he­laeth cyn ei farwolaeth.

6 Ac efe a alwodd ar Salomon ei fâb, ac a orchymynnodd iddo adeiladu tŷ i Arglwydd Dduw Israel.

7 Dywedodd Dafydd hefyd wrth Salomon, fy mâb, yr oedd yn fy mrŷd i adailadu tŷ i enw 'r Arglwydd fy Nuw.

8 Eithr gair yr Arglwydd a ddaeth attafi, gan ddywedyd,Pen. 28. 3. 2 Sam. 7.13. gwaed lawer a dywelltaist ti, a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti; nid adai­ledi di dŷ i'm henw i: canys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaiar yn fy ngŵydd i.

9 Wele, mâb a enir i ti, efe a fydd ŵr llo­nydd, ac mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei holl elynion o amgylch: canysSef he­ddychlon. Salomon fydd ei enw ef, heddwch hefyd a thangneddyf a roddaf i Israel yn ei ddyddiau ef.

102 Sam. 7.13. 1 Bren. 5 5. Efe a adailada dŷ i'm henw, ac efe a fydd i mi yn fab, a minneu yn dâd iddo yntef: siccrhâf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth.

11 Yn awr fy mâb, yr Arglwydd fyddo gyd â thi, a ffynna dithau, ac adeilada dŷ 'r Ar­glwydd dy Dduw, megis ac y llefarodd efe am danat ti.

12 Yn vnic rhodded yr Arglwydd i ti ddoe­thineb, a deall, a rhodded it orchymynnion am Israel, fel y cadwech gyfraith yr Arglwydd dy Dduw.

13 Yna y ffynni, os gwili ar wneuthur y deddfau, a'r barnedigaethau, a orchymynnodd yr Arglwydd i Moses am Israel: ymgryfhâ, ac ymwrola, nac ofna, ac na arswyda.

14 Ac wele, yn fyNeu, nhrallod. nhlodi y paratoais i dŷ 'r Arglwydd, gan mîl o dalentau aur, a mil o filoedd o dalentau arian, ar brês hefyd, ac ar haiarn nid oes Vers. 3. bwys, (canys y mae yn helaeth) coed hefyd, a meini a baratoais i, chwanega di­theu attynt hwy.

15 Hefyd y mae yn aml gyd â thi weithwŷr gwaith, sef cymyn-wŷr, a seiri maen, a phren, a phôb rhai celfydd ym mhob gwaith.

16 Ar aur, ar arian, ar brês, ac ar haiarn, nid oes rifedi: cyfod titheu, a gweithia, a'r Ar­glwydd a fydd gyd â thi.

17 A Dafydd a orchymynnodd i holl dy­wysogion Israel gynnorthwyo Salomon ei fab, gan ddywedyd,

18 Onid yw 'r Arglwydd eich Duw gyd â chwi? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir, a'r tîr a ddarostyngwyd o flaen yr Ar­glwydd, ac o flaen ei bobl ef.

19 Yn awr rhoddwch eich calon, a'ch enaid i geisio yr Arglwydd eich Duw: cyfodwch hefyd, ac adailedwch gyssegr yr Arglwydd Dduw, i ddwyn Arch cyfammod yr Arglwydd, a sanctaidd lestri Duw, i'r tŷ a adeiledir i enw 'r Arglwydd.

PEN. XXIII.

1 Dafydd yn ei henaint yn gwneuthur Salomon yn frenhin. 2 Rhifedi a dosparthiadau y Le­viaid. 7 Teuluoedd y Gersoniaid. 12 Meibion Cohath. 21 Meibion Merari. 24 Swydd y Leviaid.

A Phan oedd Dafydd yn hên, ac yn llawn o ddyddiau,Pen. 28. 5. 1 Bren. 1.30. efe a osododd Salomon ei fâb yn frenin ar Israel.

2 Ac efe a gynnullodd holl dywysogion Isra­el, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid.

3 A'r Lefiaid a gyfrifwyd oNum. 4.3. fâb deng­mlwydd ar hugain, ac vchod: a'i nifer hwy wrth eu pennau, bôb yn ŵr, oedd onid dwy fil deugain.

4 O'r rhai yr oedd pedair mîl ar hugain, i orchwylio ar wraith tŷ 'r Arglwydd: ac yn swyddogion, ac yn farnwŷr, chwe-mil.

5 A phedair mîl yn borthorion, a phedair mîl yn moliannu 'r Arglwydd â'r offer a wnelswn i eb Dafydd i foliannu.

6 APen. 6. 1. Exod. 6.16. 2 Cron. 8.14. & 29.25. dosparthodd Dafydd hwynt yn ddos­parthiadau, ym mysc meibion Lefi, sef Gerson, Cohath, a Merari.

7 O'rPen. 26. 21. Gersoniaid, yr oedd N [...]u, Libni. Pen. 6. 17. Laadan, a Si­mei.

8 Meibion Laadan, y pennaf Jehiel, a Zetham, a Joel, tri.

9 Meibion Simei, Selomith, a Haziel, a Ha­ran; tri. Y rhai hyn oedd bennau cenhedl Laa­dan.

10 Meibion Simei hefyd oedd Jahath,Neu, Ziza. vers. 11. Zi­na, a Jeus, a Beriah. Dymma bedwar mâb Simei.

11 A Jahath oedd bennaf, a Ziza yn ail: ond Jeus a Beriah nidHeb. amlha­sant feibion. oedd nemmor o feibion iddynt: am hynny yr oeddynt hwy yn vn cy­frif, wrth dŷ eu tâd.

12 Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron, ac Vzziel, pedwar.

13 MeibionExod. 2.2. & 6.20. Amram, oedd Aaron, a Moses: acExod. 28.1. Heb. 5.4. Aaron a nailltuwyd i sancteiddio y cyssegr sancteiddiolaf, efe a'i feibion byth, i arogldarthu ger bron yr Arglwydd, iw wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef, yn dragywydd.

14 AExod. 2.22. Moses gŵr Duw, ei feibion ef a al­wyd yn llwyth Lefi.

15 Meibion Moses oedd Exod. 18.3. Gersom, ac Eli­ezer.

16 O feibion Gersom, Sebuel oedd y pen­naf.

17 A meibion Eliezer oeddPen. 26. 25. Rehabiah yNeu, pennaf. cyntaf, ac i Eliezer nid oedd meibion eraill; ond meibion Rehabiah a amlhâsant yn ddir-fawr.

18 O feibion Ishar, Selomith y pennaf.

19 O feibion Hebron, Jeriah y cyntaf, Ama­riah 'r ail, Jahaziel y trydydd, a Jecamiam y pedwerydd.

20 O feibion Vzziel: Micah y cyntaf: a Je­siah 'r ail.

21 Meibion Merari, oedd Mahli, a Musi: Mei­bion Mahli, Eleazar, a Chis.

22 A bu farw Eleazar, a meibion nid oedd iddo ef, onid merched, a meibion Cis euNeu, ceraint. bro­dyr a'i priododd hwynt.

23 Meibion Musi: Mahli, ac Eder, a Jeri­moth, tri.

24 Dymma feibionNum. 10.17.21. Lefi, yn ôl tŷ eu ta­dau, pennau eu cenedl, wrth eu rhifedi, dan ni­fer eu henwau wrth eu pennau, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith i wasanaeth tŷ 'r Arg­lwydd, o fâbNum. 1.3. vgain mlwydd ac vchod.

25 Canys dywedodd Dafydd, Arglwydd Dduw Israel a roddes lonyddwch iw bobl,Neu, ac y m [...] yn aros i aros yn Jerusalem byth:

26 A hefyd i'r Lefiaid: ni ddygant mwy­ach y tabernacl, na dim o'i lestri, iw wasana­eth ef.

27 Canys yn ôl geiriau diweddaf Dafydd, y cyfrifwyd meibion Lefi, o fâb vgain mlwydd, ac vchod.

28 A'iHeb. sefyllfa. gwasanaeth hwynt oedd fod wrth law meibion Aaron yngwenidogaeth tŷ 'r Ar­glwydd, yn y cynteddau, ac yn y celloedd, ac ym mhuredigaeth pôb sancteidd-beth, ac yng­waith gwenidogaeth tŷ Dduw;

29Pen. 9. 29 Leu. 6.20. Yn y bara gosod hefyd, ac ym mheillied y bwyd offrwm, ac yn y teisennau croyw, yn yNeu, badell. radell hefyd, ac yn y badell ffrio, ac ym mhob mesur, a meidroldeb:

30 Ac i sefyll bob borau i foliannu ac i ogo­neddu yr Arglwydd, felly hefyd brŷdnawn:

31 Ac i offrymmu pob offrwm poeth i'r Arglwydd ar y Sabbothau, ar y newydd-loerau, ac ar y gwyliau gosodedig, wrth rifedi, yn ôl y ddefod sydd arnynt, yn wastadol ger bron yr Arglwydd.

32 Ac i gadw gorchwyliaeth pabell y cy­farfod, a gorchwyliaeth y cyssegr, a gorchwyli­aeth meibion Aaron eu brodyr, yngwasanaeth tŷ 'r Arglwydd.

PEN. XXIV.

1 Dosparthu meibion Aaron yn xxiv o ddospar­thiadau wrth goel-bren. 20 Rhanau y Coha­thiaid, 27 a'r Merariaid wrth goel-bren.

DYmma ddosparthiadauLefit. 10.1. meibion Aaron. Meibion Aaron oedd Nadab, ac Abihu, Eleazar, ac Ithamar.

2 A bu farwNum. 3.4. & 26.60. Nadab ac Abihu, o flaen eu tâd, ac nid oedd meibion iddynt: am hynny Eleazar, ac Ithamar a offeiriadasant.

3 A Dafydd a'i dosparthodd hwynt, a Zadoc o feibion Eleazar, ac Ahimelech o feibion Ithamar, yn ôl eu swyddau, yn eu gwasa­naeth.

4 A chafwyd mwy o feibion Eleazar yn llywodraeth-wŷr, nag o feibion Ithamar; ac fel hyn y rhannwyd hwynt. Yr ydoedd o fei­bion Eleazar, yn bennau ar dŷ eu tadau, vn ar bymthec, ac o feibion Ithamar, yn ôl tŷ eu ta­dau, ŵyth.

5 Felly y dosparthwyd hwynt wrth goel­brennau, y naill gyd â'r llall; canys tywyso­gion y cyssegr, a thywysogion Dduw oedd o feibion Eleazar, ac o feibion Ithamar.

6 A Semaiah mâb Nathaneel yr yscrifen­nydd, o lwyth Lefi, a'i scrifennodd hwynt, ger bron y brenin, a'r tywysogion, a Zadoc yr offeiriad, ac Ahimelech mâb Abiathar, a phen cenedl yr offeiriaid, a'r Lefiaid; vnHeb. [...]y tad. teulu a ddaliwyd i Eleazar, ac vn arall a ddaliwyd i Ithamar.

7 A'r coel-bren cyntaf a ddaeth i Jehoiarib, a'r ail i Jedaiah,

8 Y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim,

9 Y pummed i Malchiah, y chweched i miia­min,

10 Y seithfed i Haccos, yr wythfed iLuc. 1.5. Abiah,

11 Y nawfed i Jesua, y decfed i Secaniah,

12 Yr vnfed ar ddêc i Eliasib, y deuddecfed i Jacim,

13 Y trydydd ar ddêc i Huppah: y pedwe­rydd ar ddêc i Jesebeab,

14 Y pymthecfed i Bilgah; yr vnfed ar bym­thec i Immer,

15 Y ddeufed ar bymthec i Hezir, y deu­nawfed i Aphses,

16 Y pedwerydd ar bymthec i Pethahiah, yr vgainfed i Jehesecel,

17 Yr vnfed ar hugain i Jachin, y ddeufed ar hugain i Gamul,

18 Y trydydd ar hugain i Delaiah, y ped­werydd ar hugain i Maasiah.

19 Dymma eu dosparthiadau hwynt yn eu gwasanaeth, i fyned i dŷ 'r Arglwydd yn ôl eu defod, tan law Aaron eu tâd, fel y gorchy­mynnasei Arglwydd Dduw Israel iddo ef.

20 Ar lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn: o feibion Amram, Subael; o feibion Subael Jeh­deiah.

21 Am Rehabiah, Isia oedd ben ar feibion Rehabiah.

22 O'r Izhariaid, Selomoth: o feibion Selo­moth Jahath.

23 APen. 23. 10. & 26.31. meibion Hebron oedd Jeriah y cyn­taf, Amariah yr ail, Jahaziel y trydydd, a Je­cameam y pedwerydd.

24 O feibion Vzziel, Michah: o feibion Michah, Samir.

25 Brawd Michah oedd Issiah; o feibion Issiah Zechariah.

26 Meibion Merari oedd Mahli, a Musi; meibion Jaaziah, Beno.

27 Meibion Merari o Jaaziah, Beno, a So­ham, a Zaccur, ac Ibri.

28 O Mahli y daeth Eleazar, ac ni bu iddo ef feibion.

29 Am Cis: mâb Cis oedd Jerahmeel.

30 A meibion Musi oedd Mahli, ac Eder, a Jerimoth. Dymma feibion y Lefiaid yn ôl tŷ eu tadau.

31 A hwy a fwriasant goel-brennau ar gyfer eu brodyr meibion Aaron, ger bron Dafydd y brenin, a Zadoc, ac Ahimelech, a phennau cenedl yr offeiriaid, a'r Lefiaid, ie y pen cenedl ar gyfer y brawd ieuangaf.

PEN. XXV.

1 Rhyfedi a swyddau y cantorion, 8 Eu dospar­thu hwy yn bedwar dosparthiad ar hugain.

A Nailltuodd Dafydd, a thywysogion y llû, tu ag at y gwasanaeth, o feibion Asaph, a Heman, a Jeduthun, y rhai a brophwydent â thelynau, ac â nablau, ac â symbalau; a nifer y gweith-wŷr yn ôl eu gwasanaeth ydoedd:

2 O feibion Asaph; Zaccur, a Joseph, a Nethaniah,Jezare­lan. vers. 14. Asarelah, meibion Asaph, tan law Asaph yr hwn oedd yn prophwydo wrth law y brenin.

3 O Jeduthun: meibion Jeduthun, Gedali­ah, aNeu, Izri. vers. 11. Zeri, a Jesaiah, a Hasabiah, a Mattithi­ah,Trwy gyfrif Simei. vers. 17. chwech, tan law Jeduthun eu tâd, ar y delyn yn prophwydo, i foliannu, ac i glodfori yr Arglwydd.

4 O Heman: meibion Heman, Bucciah, Mattaniah,Neu, Azareel. vers. 18. Vziel,Neu, Subael vers. 20. Sebuel, a Jerimoth, Ha­naniah, Hanani, Eliatha, Gedalti, a Romamti-Ezer, Josbecasah, Malothi, Hothir, a Mahazi­oth:

5 Y rhai hyn oll oedd feibion Heman, gwe­ledydd y breninNeu, yn acho­sion. yngeiriau Duw, i ddercharfu y corn. Duw hefyd a roddes i Heman bedwar ar ddêc o feibion, a thair o ferched.

6 Y rhai hyn oll oedd tan law eu tâd; yn ca­nu yn nhŷ 'r Arglwydd, â symbalau, â nablau, â thelynau, i wasanaeth tŷ Dduw; yn ôlHeb. llaw. trefn y brenhin i Asaph, a Jeduthun, a Heman.

7 A'i nifer hwynt, yngŷd â'i brodyr dysce­dic ynghaniadau 'r Arglwydd, sef pôb vn cyfarwydd, oedd ddau cant, pedwar vgain, ac ŵyth.

8 A hwy a fwriasant goel-brennau, cylch yn erbyn cylch, bychan a mawr, athro a dis­cybl.

9 A'r coel-bren cyntaf a ddaeth dros Asaph i Joseph, yr ail i Gedaliah, efe a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

10 Y trydydd i Zaccur: efe a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

11 Y pedwerydd i lzri: efe a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeudec.

12 Y pummed i Nethaniah: efe, a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

13 Y chweched i Bucciah: efe, a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

14 Y seithfed i Jesarelah: efe a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

15 Yr wythfed i Jesaiah: efe a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

16 Y nawfed i Mattaniah: efe a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

17 Y decfed i Simei: efe a'i feibion a'i fro­dyr, oedd ddeuddec.

18 Yr vnfed ar ddêc i Azareel: efe a'i fei­bion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

19 Y deuddecfed i Hazabiah: efe a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

20 Y trydydd ar ddêc i Subeal: efe a'i feibi­on a'i frodyr, oedd ddeuddec.

21 Y pedwerydd ar ddêc i Mattithiah: efe a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

22 Y pymthecfed i Jerimoth: efe a'i feibi­on a'i frodyr, oedd ddeuddec.

23 Yr vnfed ar bymthec i Hananiah: efe a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

24 Y ddeufed ar bymthec i Josbecasah: efe a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

25 Y deunawfed i Hanani; efe a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

26 Y pedwe [...]ydd ar bymthec i Malothi: efe, a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

27 Yr vgeinfed i Eliathah: efe, a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

28 Yr vnfed ar hugain i Hothir: efe a'i fei­bion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

29 Y ddeufed ar hugain i Gedalti: efe a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

30 Y trydydd ar hugain i Mahazioth: efe, a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

31 Y pedwerydd ar hugain i Romamti-Ezer: efe a'i feibion a'i frodyr, oedd ddeuddec.

PEN. XXVI.

1 Dosparthiadau y porthorion. 13 Rhannu iddynt y pyrth wrth goel-bren. 20 Y Leuiaid y rhai oedd ar y trysorau. 29 Swyddogion a Barn-wŷr.

AM ddosparthiad y porthorion: o'r Corhi­aid yr oeddNeu, S [...]lemiah, vers. 14. Meselemiah mab Core o feibionNeu, Abiasaph. Pen. 9. 19. & 6. 37. Asaph.

2 A meibion Meselemiah oedd Zechariah y cyntaf-anedic, Jediael yr ail, Zebadiah y try­dydd, Jathniel y pedwerydd,

3 Elam y pummed, Jehohanan y chweched, Elioenai y seithfed.

4 A meibion Obed Edom, Semaiah y cyn­taf-anedic, Jehozabad yr ail, Ioah y trydydd, a Sacar y pedwerydd, a Nethaneel y pummed,

5 Ammiel y chweched, Issachar y seithfed, Peulthai yr ŵythfed; canys Duw a'i bendi­thioddS [...]f, O [...]d Edom. Pen. 13. 14. ef.

6 Ac i Semaiah ei fab ef, y ganwyd meibi­on, y rhai a arglwyddiaethasant ar dŷ eu tâd: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy.

7 Meibion Semaiah; Othni, a Rephael, ac Obed, Elzabad, ei frodyr ef oedd wŷr nerthol, sef Elihu, a Semachiah.

8 Y rhai hyn oll o feibion Obed Edom, hwynt hwy a'i meibion, a'i brodyr, yn wŷr nerthol mewn cryfdwr, tu ag at y wenidogaeth, oedd dri vgain a dau, o Obed Edom.

9 Ac i Meselemiah yn feibion, ac yn frodyr, yr oedd tri ar bymthec o wŷr nerthol.

10 O Hosah hefyd, o feibion Merari, yr oedd meibion, Zimri y pennaf, (er nad oedd efe gyntaf-anedic, etto ei dâd a'i gosododd ef yn ben,)

11 Helciah yr ail, Tebasiah y trydydd, Zechariah y pedwerydd: holl feibion a brodyr Hosah oedd dri ar ddêc.

12 Ymhlith y rhai hyn yr oedd dosparthia­dau y porthorion, sef ymmhlith y pennaethiaid, ac iddynt orchwyliaeth ar gyfer eu brodyr i wasanaethu yn nhŷ 'r Arglwydd.

13 A hwy a fwriasant goel-brennau,Neu, tros fy­chan. fychan a mawr, yn ôl tŷ eu tadau, am bôb porth.

14 A choel-brenNeu, Mesde­miah. vers. 1. Selemiah a syrthiodd tu a'r dwy [...]ain, a thros Zechariah ei fab (cyng­horwr deallgar) y bwriasant hwy goel-bren­nau, a'i goel-bren ef a ddaeth tu a'r gogledd.

15 I obed Edom tu a'r dehau, ac iw feibi­on y daethSef, cynnull­fan. Asuppim.

16 I Suppim, a Hosah, tu a'r gorllewin, gyd â phorth Salecheth, yn ffordd yGwel. 1 Bren. 10.4. 2 Cron. 9.4.11. rhiw, yr oedd y naill orchwyliaeth ar gyfer y llall.

17 Tua 'r dwyrain yr oedd chwech o Lefi­aid, tua 'r gogledd pedwar beunydd, tua 'r de­hau pedwar beunydd, a thuac Asuppim dau a dau.

18 A Pharbar tua 'r gorllewin, pedwar ar y ffordd, a dau vn Pharbar.

19 Dymma ddosparthiadau y porthori­on, o feibion Core, ac o feibion Merari.

20 Ac o'r Lefiaid Ahiah oedd ar dryssorau tŷ Dduw, ac ar dryssorau y pethau cyssegre­dic.

21 Am feibionNeu, Libni. Pen. 6. 17. Laadan; meibion y Gerso­niad Laadan, pennau tylwyth Laadan y Ger­soniad, oedd Neu, Jehiel. Pen. 23. 8. Jehieli.

22 Meibion Jehieli, Zetham a Joel ei frawd, oedd ar dryssorau tŷ 'r Arglwydd.

23 O'r Amramiaid, o'r Izhariaid, o'r He­broniaid, o'r Ozieliaid.

24 A Sebuel mab Gersom, mab Moses, oedd olygwr ar y tryssorau.

25 A'i frodyr ef o Eleazar: Rehabiah ei fab ef, a Jesaiah ei fab yntef, a Joram ei fab yntef, a Zichri ei fab yntef, a Selomith ei fab yntef.

26 Y Selomith hwnnw a'i frodyr oedd ar holl dryssorau y pethau cyssegredic a gyssegra­sai Dafydd frenin, a'r tadau pennaf, a thywy­sogion y miloedd a'r cantoedd, a thywy­sogion y llu:

27 O'r rhyfeloedd, ac o'r yspail y cyssegra­sant bethau i gynnal tŷ 'r Arglwydd.

28 A'r hyn oll a gyssegrodd Samuel y gweledydd, a Saul mab Cis, ac Abner mab Ner, a Joab mab Serfiah, a phwy bynnag a gyssegrasei ddim, yr oedd efe tan law Selomith a'i frodyr.

29 O'r Izhariaid, Cenaniah a'i feibion oedd yn Israel, yn swyddogion, ac yn farnwŷr, ar y gwaith oddi allan.

30 O'r Hebroniaid Hasabiah a'i frodyr, meibion nerthol, mîl a saith gant oedd mewn swydd yn Israel, o'r tu hwnt i'r lorddonen tua 'r gorllewin, yn holl waith yr Arglwydd, ac yngwasanaeth y brenin.

31 O'r Hebroniaid, Jeriah oedd ben o'r He­broniaid, [Page] yn ôl cenhedlaethau ei dadau, yn y ddeugeinfed flwyddyn o deyrnasiad Dafydd y ceisiwyd hwynt, a chafwyd yn eu mysc hwy wŷr cryfion nerthol, yn Jaser Gilead.

32 A'i frodyr ef yn feibion nerthol oedd ddwy fil a saith gant o bennau cenedl: a Da­fydd y brenin a'i gosododd hwynt ar y Rube­niaid, a'r Cadiaid, a hanner llwyth Manasseh, ym mhob gorchwyl Duw, a gorchwyl y brenin.

PEN. XXVII.

1 Y deuddec tywysog am bob mis. 16 Pennae­thiaid y deuddeg-llwyth. 23 Rhwystro cyfrif y bobl. 25 Amryw swyddogion Dafydd.

PEdair mil ar hugain oedd bob dosparthiad o feibion Israel dan eu rhif, yn bennaucenedl, ac yn dywysogion miloedd, a chantoedd, a'i swyddogion yn gwasanaethu 'r brenin ym mhob achos o'r dosparthiadau, yn dyfod i mewn, ac yn myned allan, o fis i fis, drwy holl fisoedd y flwyddyn.

2 Ar y dosparthiad cyntaf, tros y mîs cyn­taf, yr oedd Jasobeam mab Zabdiel, ac yn ei ddosparthiad ef yr oedd pedair mil ar hugain.

3 O feibion Perez yr oedd y pennaf o holl dywysogion y llu, tros y mis cyntaf.

4 Ac ar ddosparthiad yr ail mis yr oedd Neu, Dodo. 2 Sam. 23.9. Dodai 'r Ahohiad, ac o'i ddosparthiad ef yr oedd Micloth hefyd yn gapten; ac yn ei ddos­parthiad ef bedair mil ar hugain.

5 Trydydd tywysog y llu tros y trydydd mis, oedd Benaiah mab Jehoiada yrNeu, Swyddog. offeiriad pennaf, ac yn ei ddosparthiad ef bedair mil ar hugain.

6 Y Benaiah hwn oedd gadarn ym mhlith 2 Sam. 23.20, 22, 23. 1 Cron. 11.22. y dêc ar hugain, ac oddi ar y dêc ar hugain: ac yn ei ddosparthiad ef yr oedd Amizabad ei fab ef.

7 Y pedwerydd, dros y pedwerydd mîs oedd Asahel brawd Joab, a Zebadiah ei fab yn ei ôl ef: ac yn ei ddosparthiad ef, pedair mil ar hugain.

8 Y pummed, dros y pummed mis oedd dy­wysog Samhuth yr Jzrahiad, ac yn ei ddos­parthiad ef, pedair mil ar hugain.

9 Y chweched, dros y chweched mis oedd Ira mab Jcces y Tecoad, ac yn ei ddosparthiad ef, pedair mil ar hugain.

10 Y seithfed, dros y seithfed mis, oedd He­lez y Peloniad, o feibion Ephraim, ac yn ei ddosparthiad ef, pedair mil ar hugain.

11 Yr ŵythfed, dros yr ŵythfed mis, oedd Sibbecai 'r Husathiad, o'r Zarhiaid, ac yn ei ddosparthiad ef, pedair mil ar hugain.

12 Y nawfed, tros y nawfed mis, oedd Abi­ezer yr Anathothiad, o'r Benjaminiaid; ac yn ei ddosparthiad ef, pedair mil ar hugain.

13 Y decfed, dros y decfed mis, oedd Ma­harai y Netophathiad, o'r Zarhiaid; ac yn ei ddosparthiad ef, pedair mil ar hugain.

14 Yr vnfed ar ddec, dros yr vnfed mis ar ddec, oedd Benaiah y Pirathoniad, o feibion Eph­raim; ac yn ei ddosparthiad ef, pedair mil ar hugain.

15 Y deuddecfed, dros y deuddecfed mis, oedd Neu, Heled. Pen. 11. 30. Heldai y Netophathiad, o Othniel; ac yn ei ddosparthiad ef, pedair mil ar hugain.

16 Ac ar lwythau Israel: ar y Rubeniaid, Eliezer mab Zichri oedd dywysog: ar y Sime­oniaid, Sephatiah mab Maachah:

17 Ar y Lefiaid, Hasabiah mab Cemuel: ar yr Aaroniaid, Zadoc:

18 Ar Juda, Elihu vn o frodyr Dafydd: ar Issachar, Omri mab Michael:

19 Ar Zabulon Ismaiah, mab Obadiah: ar Nephtali Jerimoth mab Azriel:

20 Ar feibion Ephraim, Hosea mab Aza­ziah: ar hanner llwyth Manasseh, Joel mab Pedaiah:

21 Ar hanner llwyth Manasseh, yn Gilead, Ido mab Zechariah: ar Benjamin, Jaasiel mab Abner:

22 Ar Dan, Azariel mab Jeroham. Dymma dywysogion llwythau Israel.

23 Ond ni chymmerth Dafydd eu rhifedi hwynt o fab vgain mlwydd ac isod; canys dy­wedasei yr Arglwydd, yr amlhaai efe Israel, megis ser y nefoedd.

24Pen. 21. 7. 2 Sam. 24.15. Joab mab Serfiah a ddechreuodd gyf­rif, ond ni orphennodd efe, am fod o achos hyn lidiawgrwydd yn erbyn Israel, ac nid aeth y cyfrif hwn ym mysc cyfrifon Cronicl y brenin Dafydd.

25 Ac ar dryssorau y brenin, yr oedd Azma­feth mab Adiel: ac ar y tryssordai yn y mae­sydd, yn y dinasoedd, yn y pentrefi hefyd, ac yn y tŷrau, yr oedd Jehonathan mab Vzziah.

26 Ac ar weith-wŷr y maes, y rhai oedd yn llafurio 'r ddaiar, yr oedd Ezri mab Celub.

27 Ac ar y gwinllannoedd yr oedd Simei y Ramathiad, ac ar yr hyn oedd yn dyfod o'r gwinllonnoedd, i'r selêrau gwîn, yr oedd Zabdi y Siphmiad.

28 Ac ar yr oliwŷdd, a'r sycomor-wŷdd, y rhai oedd yn y dyffrynnoedd, yr oedd Baal­hanan y Gederiad: ac ar y selerau olew, yr oedd Joas.

29 Ac ar yr ychen pascedic yn Saron, yr oedd Setrai y Saroniad: ac ar yr ychen yn y dyffrynnoedd, yr oedd Saphat mab Adlai.

30 Ac ar y camêlod, yr oedd Obil yr Isma­eliad, ac ar yr assynnod, Jehdeiah y Merono­thiad.

31 Ac ar y defaid, yr oedd Jaziz yr Hageriad. Y rhai hyn oll oedd dywysogion y golud eiddo brenin Dafydd.

32 A Jehonathan ewythr Dafydd frawd ei dad, oedd gynghorwr, gwr doeth, ac scrifen­nydd: Jehiel hefydNeu, yr Hachmo­niad. mab Hachmoni, oedd gyd â meibion y brenin.

33 Ac Ahitophel oedd gynghorwr y brenin, a Husai 'r Arciad oedd gyfeill y brenin.

34 Ac ar ôl Ahitophel yr oedd Jehoiada mab Benaiah, ac Abiathar: a thywysog llu y brenin oedd Joab.

PEN. XXVIII.

1 Dafydd, yngwydd yr holl bobl, yn datcan dai­oni Duw iddo ef, a'i addewid iw fab Salomon, ac yn eu hannog hwynt i ofni Duw. 9 20I Yn rhoi cyssur yn Salomon i adeiladu y Deml, 11 yn dangos iddo ei dull a'i phortreiad hi, ac yn rhoddi iddo aur ac arian iw gwneuthur hi.

A Dafydd a gynnullodd holl dywysogion Is­rael, tywysogion y llwythau, a thywyso­gion y dosparthiadau, y rhai oedd vn gwasa­naethu 'r brenin: tywysogion y miloedd he­fyd, a thywysogion y cantoedd, a thywysogion holl oludNeu, anifeili­aid. a meddiant y brenin, a'i feibion, gyd â'rNeu, Eunu­chiaid. stafellyddion, a'r cedyrn, a phob vn grym­musol o nerth, i Jerusalem.

2 A chyfododd Dafydd y brenin ar ei draed, ac a ddywedodd, gwrandewch arnaf fi fy mro­dyr, a'm pobl: myfi a feddyliais yn fy nga­lon adeiladu tŷ gorphywysfa i Arch cyfam­mod [Page] yr Arglwydd,Psal. 99.5. ac i stôl draed ein Duw ni, ac mi a baratoais tu ag at adeiladu.

3 Ond Duw a ddywedodd wrthif,2 Sam. 7.13. 1 Bren. 5.5. Pen. 22. 8. nid adeiledi di dŷ i'm enw i, canys rhyfel-wr fuost, a gwaed a dywelltaist.

4 Er hynny Arglwydd Dduw Israel a'm e­tholodd i o holl dŷ fy nhâd, i fod yn frenin ar Israel yn dragywydd: canysGen. 49.8. 1 Sam. 16.13. Psal. 78.68. Juda a dde­wisodd efe yn llywiawdur, ac o dŷ Juda, tŷ fy nhâd i, ac o feibion fy nhâd, efe a fynnei i mi deyrnasu ar holl Israel;

5Pen. 23. 1. Doeth. 9.7. Ac o'm holl feibion inneu (canys llawer o feibion a roddes yr Arglwydd i mi) efe he­fyd a ddewisodd Salomon fy mab, i eistedd ar orseddfa brenhiniaeth yr Arglwydd, ar Is­rael.

6 Dywedodd hefyd wrthif,2 Sam. 7.13. 2 Cron. 1.9. Salomon dy fab, efe a adeilada fy nhŷ a'm cynteddau i; canys dewisais ef yn fab i mi, a minneu a fyddaf iddo ef yn dâd.

7 A'i frenhiniaeth ef a siccrhâf yn dragy­wydd, os efe a ymegnia i wneuthur fy nhorch­ymynion, a'm barnedigaethau i, megis y dydd hwn.

8 Yn awr gan hynny, yngŵydd holl Israel, cynnulleidfa 'r Arglwydd a lle y clywo ein Duw ni, cedwch, a cheisiwch holl orchym­ynion yr Arglwydd eich Duw, fel y meddi­annoch y wlâd dda hon, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i ch meibion ar eich ôl, yn dra­gywydd.

9 A thitheu Salomon fy mab, adnebydd Dduw dy dâd, a gwasanaetha ef â chalon ber­ffaith, ac â meddwl ewyllyscar:1 Sam. 16.7. Psal. 7.9. & 139.2. Jer. 11.20. & 17.10. & 20.12. canys yr Arglwydd sydd yn chwi [...]io vr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau; o cheisi ef, ti a'i chei, ond os gwrthodi ef, efe a'th fwrw di ymmaith yn dragywydd.

10 Gwêl yn awr mai 'r Arglwydd a'th dde­wisodd di, i adeiladu tŷ y cyssegr: ymgryfhâ, a gwna.

11 Yna y rhoddes Dafydd i Salomon ei fab, bortreiad y porth, a'i dai, a'i selerau, a'i gellau, a'i stafelloedd oddi fewn, a thŷ y drugaredd­fa:

12 A phortreiad yr hyn oll a oedd ganddo trwy 'r Yspryd, am gynteddau tŷ 'r Arglwydd, ac am yr holl stafelloedd o amgylch, am dry­ssorau tŷ Dduw, ac am dryssorau y pethau cyssegredic:

13 Ac am ddosparthiadau yr offeiriaid, a'r Lefiaid; ac am holl waith gwenidogaeth tŷ 'r Arglwydd, ac am holl lestri gwasanaeth tŷ 'r Arglwydd.

14 Efe a roddes o aur wrth bwys, i'r pethau o aur tu ag at holl lestri pob gwasanaeth, ac arian i'r holl lestri arian, mewn pwys, tu ag at holl lestri pob math ar wasanaeth:

15 Sef pwys1 Bren. 7.49. y canhwyll-brenni aur, a'i lampau aur, wrth bwys i bob canhwyll-bren ac iw lampau: ac i'r canhwyll-brennau arian wrth bwys, i'r canhwyll-bren ac iw lampau, yn ôl gwasanaeth pob canhwyll-bren.

16 Aur hefyd tan bwys, tu ag at fyrddau y bara gosod, i bob bwrdd, ac arian i'r byrddau arian.

171 Bren. 7.51. Ac aur pur i'r cigweiniau, ac i'r phiolau, ac i'r dysclau, ac i'r gorflychau aur, wrth bwys pob gorflwch: ac i'r gorflychau arian wrth bwys pob gorflwch.

18 Ac i allor yr arogl-darth, aur pur wrth bwys, ac aur i bortreiad cerbyd y1 Sam. 4.4. 1 Bren. 6.23. &c. Cerubiaid oedd yn ymledu, ac yn gorchguddio Arch cy­fammod yr Arglwydd.

19 Hyn oll eb yr Dafydd a wnaeth yr Ar­glwydd i mi ei ddeall mewn scrifen, trwy ei law ef arnafi, sef holl waith y portreiad hwn.

20 A dywedodd Dafydd wrth Salomon ei fab, ymgryfha, ac ymegnia, a gweithia nac ofna, ac na a [...]swyda: canys yr Arglwydd Dduw, fy Nuw i, fydd gyd â thi, nid ymedy efe â thi, ac ni'th wrthyd, nes gorphen holl waith gwa­sanaeth tŷ 'r Arglwydd.

21 Wele hefyd ddosparthiadau 'r offeiriaid a'r Lefiaid, i holl wasanaeth tŷ Dduw, a chyd â thi y maent yn yr holl waith, a phob vn ewyllysgar cywreint i bob gwasanaeth; y tywysogion hefyd, a'r bobl oll fyddant wrth dy orchymyn yn gwbl.

PEN. XXIX.

1 Dafydd trwy ei esampl ei hun, a'i eiriol, 6 yn peri i'r tywysogion ac i'r bobl offrymmu yn ewyllysgar. 10 Diolch Dafydd a'i weddi. 20 Y bobl, wedi bendithio Duw ac aberthu iddo, yn gwneuthur Salomon yn frenin. 26 Yr hyd y teyrnasodd Dafydd, a'i farwolaeth ef.

YNa y dywedodd Dafydd y brenin wrth yr holl dyrfa, Duw a ddewisodd yn vnig fy mab Salomon,Pen. 22. 5. ac y mae efe yn ieuangc, ac vn dyner, a'r gwaith sydd fawr; canys nid i ddyn y mae 'r llŷs, onid i'r Arglwydd Dduw.

2 Ac â'm holl gryfdwr y paratoais i dŷ fy Nuw aur i'r gwaith aur, ac arian i'r ari­an, a phrês i'r pres, a haiarn i'r haiarn, a choed i'r gwaith coed: meini Onix, a meini gosod, meini Carbunculus, ac o amryw liw, a phob maen gwerthfawr, a meini Marmor yn aml.

3 Ac etto am fod fy ewyllys tua thŷ fy Nuw, y mae gennif o'm heiddo fy hun, aur, ac arian, yr hwn a roddaf tu ag at dŷ fy Nuw; heb law yr hyn oll a baratoais tua 'r tŷ sanct­aidd.

4 Tair mil o dalentau aur, o aur1 Bres. 9.28. Ophir: a saith mil o dalentau arian puredic, i oreuro parwydydd y tai.

5 Yr aur i'r gwaith aur, a'r arian i'r arian, a thu ac at yr holl waith, drwy law y rhai celfydd: pwy hefyd a ymrŷdd yn ewy­llyscar iHeb. lenwi ei law. ymgyssegru heddyw i'r Arg­lwydd?

6 Yna tywysogion y teuluoedd, a thywy­sogion llwythau Israel, a thywysogion y mil­oedd a'r cantoedd, a swyddogion gwaith y bre­nin, a offrymmasant yn ewyllyscar.

7 Ac a roddasant tu ag at wasanaeth tŷ Dduw, bum mil o dalentau aur, a deng-mil o sylltau, a deng-mil o dalentau arian, a deunaw mil o dalentau prês, a chan mil o dalentau haiarn.

8 A chyd â'r hwn y caid meini, hwy a'i rhoddasant i dryssor tŷ 'r Arglwydd, drwy law Jehiel y Gersoniad.

9 A'r bobl a lawenhasant pan offrymment o'i gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllyscar yn offrymmu i'r Arglwydd: a Da­fydd y brenin hefyd a lawenychodd â llawen­ydd mawr.

10 Yna y bendithiodd Dafydd yr Arglwydd yngwydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, bendigedic wyt ti Arglwydd Dduw Israel, [Page] ein tad ni, o dragywyddoldeb hyd dragwydd­oldeb.

11 I ti Arglwydd y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruwchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd, ac yn y ddaiar sydd eiddoti,Matth. 6.13. 1 Tim. 1.17. Datc. 5.13. y deyrnas sydd eiddo ti Ar­glwydd, yr hwn hefyd a ymdderchefaist yn ben ar bob peth.

12 Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a dleuant oddi wrthit ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth, a chadernid, yn dy law di hefyd y mae mawrhau, a ne [...]thu bob dim.

13 Ac yn awr ein Duw ni, yr ydym ni yn dy follannu, ac yn clodfori dy enw gogone­ddus.

14 Eithr pwy ydwyfi, a phwy yw fy mho­bl i, fel y caem ni rym i offrymmu vn ewyllys­car fel hyn? canys oddi wrthit ti y mae pob peth, ac o'th law dy hun y rhoesom i ti.

15 O herwydd dieithraid ydym ni ger dy fron di, ac alltudion fel ein holl dadau: felPsal. 39.12. & 90.9. Heb. 11.13. 1 Pet. 2.11. cyscod yw ein dyddiau ni ar y ddaiar, ac nid oesHeb. [...]s [...]wyl. ymaros.

16 Oh Arglwydd ein Duw, yr holl amlder hyn a baratoesom ni i adailadu i ti dŷ, i'th enw sanctaidd, o'th law di y mae, ac eiddo ti ydyw, oll.

17 Gwn hefyd, ô fy Nuw,Pen. 28. 9. 1 Sam. 16.7. mai ti sydd yn profi y galon, ac yn ymfodloni mewn cyfiawn­der. Myfi yn vniondeb fy nghalon, o wirfodd a offrymmais hyn oll, ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd ymma, yn offrymmu yn ewyll­yscar i ti, a hynny mewn llawenydd.

18 Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, ein tadau, cadw hyn yn dragywydd ym mrŷd meddyliau calon dy bobl; aNeu, cadarnha. pharatoa eu calon hwynt attat ti.

19 A dyro i Salomon fy mab galon berffaith, i gadw dy orchymynion, dy destiolaethau, a'th ddeddfau, ac iw gwneuthur hwynt oll, ac i adei­ladu y llŷs yr hwn y darperais iddo.

20 Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, bendithiwch attolwg yr Arglwydd eich Duw. A'r holl dyrfa a fendithiasant Arglwydd Dduw eu tadau, ac a ymgrymmasant i'r Ar­glwydd, ac i'r brenin.

21 Aberthasant hefyd ebyrth i'r Arglwydd, a thrannoeth yn ôl y dŷdd hwnnw, yr aber­thasant yn boeth offrymmau i'r Arglwydd fil o fustych, a mil o hyrddod, mil o ŵyn, a'i diod offrymmau, ac ebyrth yn lluosog, dros holl Israel:

22 Ac a fwyttasant, ac a yfasant ger bron yr Arglwydd y diwrnod hwnnw, mewn llawen­ydd mawr, a gosodasant Salomon fab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac1 Bren. 1.33. eneiniasant ef i'r Arglwydd yn flaenor, a Zadoc yn offei­riad.

23 Felly 'r eisteddodd Salomon ar orseddfa 'r Arglwydd, yn frenin yn lle Dafydd ei dâd, ac a lwyddodd; a holl Israel a wrandawsant arno.

24 Yr holl dywysogion hefyd a'r cedyrn, a chyd â hynny holl feibion y brenin Dafydd, a roddasant eu dwylo ar fod tan Salomon y brenin.

25 A'r Arglwydd a fawrygodd Salomon yn rhagorol yngwydd holl Israel, ac a1 Bren. 3.13. 2 Cron. 1.12. Preg. 2.9. roddes iddo ogoniant brenhinawl, mâth yr hwn ni bu i vn brenin o'i flaen ef yn Israel.

26 Felly1 Bren. 2.11. Dafydd mab Jesse a deyrnasodd ar holl Israel.

27 * A'r dyddiau y teyrnasodd efe ar Israel oedd ddeugain mhlynedd. Saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddec ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerusa­lem.

28 Ac efe a fu farw mewn oedran têg, yn gyflawn o ddyddiau, cyfoeth, ac anrhydedd: a Salomon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

29 Ac am weithredoedd cyntaf a diweddaf y brenin Dafydd, wele y maent yn scrifenne­dic yngeiriau Samuel y gweledydd, ac yngei­riau Nathan y prophwyd, ac yngeiriau Gad y gweledydd.

30 Gyd a'i holl frenhiniaeth ef, a'i gader­nid, a'r amserau a aethant trosto ef, a thros Israel, a thros holl deyrnasoedd y gwle­dydd.

¶AIL LLYFR Y CRONICL.

PEN. I.

1 Salomon yn offrymmu yn Gibeon, 7 yn dewis doethineb, a Duw yn bendithio ei ddewis ef. 13 Ei allu a'i gyfoeth ef.

A Salomon mab Dafydd a ymgadarn­haodd yn ei deyrnas,1 Bren. 2.46. a'r Ar­glwydd ei Dduw oedd gyd ag ef, ac a'i mawrhaodd ef yn ddirfawr.

2 A Salomon a ddywedodd with holl Is­rael, wrth dywysogion y miloedd a'r cantoedd, ac wrth y barn-wŷr, ac wrth bob llywod­raethwr yn holl Israel, sef y pennau cenedl.

3 Felly Salomon a'r holl dyrfa gyd ag ef, a aethant i'r1 Bren. 3.4. 1 Cron. 16.39. & 21.29. vchelfa oedd yn Gibeon: canys yno 'r oedd pabell cyfarfod Duw, yr hon a wnelsei Moses gwâs yr Arglwydd, yn yr ani­alwch.

4 Eithr2 Sam. 6.2, 17. Arch Dduw a ddugasei Ddafydd i fynu o Ciriath-jearim, i'r lle a ddarparasei Da­fydd iddi: canys efe a osodasei iddi hi babell yn Jerusalem.

5 Hefyd, yr allor br [...]s aExod. 38.1. wnelsei Bezaleel mab Vri fab Hur, oedd yno o flaen pabell yr Arglwydd: a Salomon a'r dyrfa a'i hargeisi­odd hi.

6 A Salomon a aeth i fynu yno at yr allor brês, ger bron yr Arglwydd, yr hon oedd ym mhabell y cyfarfod, a1 Bren. 3.4. mil o boeth offrymmau a offrymmodd efe arni hi.

7 Y nosson honno yr ymddangosodd Duw i Salomon, ac y dywedodd wrtho ef, gofyn yr hyn a roddaf i ti.

8 A dywedodd Salomon wrth Dduw, ti a wnaethost fawr drugaredd â'm tâd Dafydd, ac a wnaethost i mi1 Cron. 28.5. deyrnasu yn ei le ef:

9 Yn awr ô Arglwydd Dduw, siccrhaer dy air wrth fy nhâd Dafydd;1 Bren. 3.7. canys gwnaethost i mi deyrnasu ar boblHeb. aml fel llwch. mor lluosog a llwch y ddaiar.

101 Bren. 3.9. Num. 27.17. Yn awr, dyro i mi ddoethineb, a gŵy­bodaeth, fel yr elwyf allan, ac y delwyf i mewn, o flaen y bobl hyn: canys pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn?

11 A dywedodd Duw wrth Salomon, o herwydd bod hyn yn dy feddwl di, ac na ofyn­naist na chyfoeth, na golud, na gogoniant, nac [Page] [...] [Page] [...] [Page] enioes dy elynion, ac na ofynnaist lawer o ddy­ddiau ychwaith; eithr gofyn o honot i ti ddoe­thineb, a gwybodaeth, fel y bernit fy mhobl, i'th osodais yn frenin arnynt:

12 Doethineb, a gwybodaeth a roddwyd it, cyfoeth hefyd, a golud, a gogoniant, a roddaf it,1 Cron. 29.25. Preg. 2.9. 2 Cron. 9.22. y rhai ni bu eu cyffelyb gan y brenhi­noedd a fu o'th flaen di, ac ni bydd y cyffelyb i neb ar dy ôl di.

13 A Salomon a ddaeth o'r vchelfa oedd yn Gibeon, i Jerusalem oddi ger bron pabell y cy­farfod, ac a deyrnasodd ar Israel.

14 A1 Bren. 10.26. & 4.26. Salomon a gasclodd gerbydau, a marchogion; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng-mil o wŷr meirch, ac efe a'i gosododd hwynt yn ninasoedd y cer­bydau, ac yn Jerusalem gyd â'r brenin.

15 A'r brenin aHeb. roddodd. wnaeth yr arian, a'r aur yn Jerusalem cyn amled a'r cerric, a chedr­wŷdd a roddes efe fel y sycomor-wŷdd o aml­dra, y rhai sydd yn tŷfu yn y dol-dir.

16Hebr. Mynediad y meirch oedd gan Salomon oedd o'r Aipht. A1 Bren. 10.27. 2 Cron. 9.28. meirch a ddygid i Salomon o'r Aipht, acEsa. 19.9. Ezec. 27.7. edafedd llin: marchnadwŷr y bre­nin a gymmerent yr edafedd llin dan bris.

17 Canys deuent i fynu, a dygent o'r Aipht, gerbyd am chwe chan darn o arian; a march am gant a hanner; ac felly y dygent i holl fren­hinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd SyriaHeb. trwy eu llaw hwynt. gyd â hwynt.

PEN. II.

1 ac 17 Gweithwyr Salomon wrth adeiladu 'r Deml. 3 Salomon yn gyrru at Hiram am weithwyr a defnyddiau. 11 A Hiram yn ei atteb ef yn garedig.

A Salomon a roes ei fryd ar adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd, a brenhin-dŷ iddo ei hun.

2 A Salomon a rifodd ddeng-mil a thrugain o gludwŷr, a phedwar vgain mil o gymyn-wŷr, yn y mynydd, ac yn oruchwil­wŷr arnynt hwy, dair mil a chwe-chant.

3 A Salomon a anfonodd atNeu, Huram. Hiram brenin Tyrus, gan ddywedyd,1 Bren. 5.1. megis y gwnaethost â Dafydd fy nhâd, ac yr anfonaist iddo gedr­wŷdd i adeiladu iddo dŷ i drigo ynddo, felly gwna â minnau.

4 Wele fi yn adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw, iw gessegru iddo, ac i arogl-darthu arogl-darth llysieuog ger ei fron ef, ac i'r gwast­adol osodiad bara, a'r poeth offrymmau boreu a hwyr; ar y Sabbothau, ac ar y newydd loerau, ac ar osodedic wyliau yr Arglwydd ein Duw ni. Hyd byth y mae hyn ar Israel.

5 A'r tŷ a adeiladafi fydd mawr; canys mwy yw ein Duw ni nâ'r holl dduwiau.

61 Bren. 8.27. Pen. 6. 18. A pwyHeb. a gaiff nerth. sydd abl i adeiladu iddo ef dŷ, gan na all y nefoedd, ie nefoedd y nefoedd ei amgyffred? a phwy ydwyfi, fel yr adeiladwn iddo ef dŷ, ond yn vnic i arogldarthu ger ei fron ef.

7 Felly yn awr anfon i mi ŵr cywraint, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn prês, ac mewn haiarn, ac mewn porphor, ac ys­carlat, a glâs, ac yn medru cerfio cerfiadau gyd â'r rhai celfydd sydd gyd â mi yn Juda, ac yn Jerusalem, y rhai a ddarparodd fy nhâd Da­fydd.

8 Anfon hefyd i mi goed cedr, a ffynnid­wydd, acNeu, almugim. 1 Bren. 10.11. Pen. 9. 10. Algumim-wydd o Libanus: (ca­nys myfi a wn y meidr dy weision di naddu coed Libanus) ac wele, fy ngweision inneu a fyddant gyd â'th weision ditheu:

9 A hynny i ddarparu i mi lawer o goed, ca­nys y tŷ yr ydwyfi ar ei adeiladu, fydd mawr a rhyfeddol.

10 Ac wele i'th weision, i'r seiri a naddant y coed, y rhoddaf vgain-mil Corus o wenith wedi ei guro, ac vgain-mil Corus o haidd, ac vgain-mil Bath o wîn, ac vgain-mil Bath o olew.

11 A Hiram brenin Tyrus a attebodd mewn yscrifen, ac a anfonodd at Salomon; o gariad yr Arglwydd ar ei bobl, y rhoddes efe dydi yn frenin arnynt hwy.

12 Dywedodd Hiram hefyd, bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a wnaeth nef a daiar, yr hwn a roddes i'r brenin Dafydd fab doeth,Heb. yn gwy­bod syn­wyr a deall. gwybodus o synwyr a deall, i adei­ladu tŷ i'r Arglwydd, a brenhin-dŷ iddo ei hun.

13 Ac yn awr mi a anfonais ŵr celfydd, cyw­raint, a deallus, o'r eiddo fy nhâd Hiram:

141 Bren. 7.14. Mab gwraig o ferched Dan, a'i dâd yn ŵr o Dyrus, yn medru gweithio mewn aur, ac mewn arian, mewn prês, mewn haiarn, mewn cerrig, ac mewn coed, mewn porphor, ac mewn glâs, ac mewn lllain main, ac mewn yscarlat; ac i gerfio pob cerfiad, ac i ddychymy­gu pôb dychymyg a roddir atto ef, gyd â'th rai cywraint di, a rhai cywraint fy arglwydd Da­fydd dy dâd.

15 Ac yn awr y gwenith, a'r haidd, yr olew, a'r gwîn, y rhai a ddywedodd fy arglwydd, anfoned hwynt iw weision.

16 Ac ni a gymynwn goed o Libanus, yn ôl dy holl raid, ac a'i dygwn hwynt it yn glud­eiriau ar hŷd y môr iHeb. Japho Joppa: dwg ditheu hwynt i fynu i Jerusalem.

17Meg [...], Ver. 2. A Salomon a rifodd yr holl wŷr dieithr oedd yn nhîr Israel, wedi y rhifiad â'r hon y rhifasei Dafydd ei dâd ef hwynt: a chaed tair ar ddêc a saith vgain o filoedd, a chwe-chant.

18 Ac efe a wnaeth o honynt hwyMegis, Ver. 2. ddeng­mil a thri vgain yn glud-wŷr, a phedwar vgain mil yn nadd-wŷr yn y mynydd, a their-mil a chwe-chant yn oruwchwil-wŷr, i roi y bobl ar waith.

PEN. III.

1 Y lle a'r amser yr adeiladwyd y Deml. 3 Ei mesur a'i haddurn. 11 Y Cerubiaid. 14 Y llen a'r colofnau.

A Salomon1 Bren. 6.1. a dechreuodd adeiladu tŷ 'r Arglwydd yn Jerusalem ym mynydd Mo­riah:Neu, yr hwn a welwyd gan Dda­fydd. lle yr ymddangosasei yr Arglwydd i Ddafydd ei dâd ef, yn y lle a ddarparasei Da­fydd, yn llawr dyrnuNeu, Arafnah. 2 Sam. 24.18. 1 Cro. 21.18. Ornan y Jebusiad.

2 Ac efe a ddechreuodd adeiladu ar yr ail dydd o'r ail mîs, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad.

31 Bren. 6.2. Ac dymmaNeu, yr pethau yr addys­cwyd, (Heb. y sylfa [...]n­wyd) S [...] ­lomon y­ddynt. fesurau sylfaeniad Salo­mon wrth adeiladu tŷ Dduw. Yr hŷd oedd o gufyddau wrth y mesur cyntaf, yn dri vgain cu­fydd, a'r llêd yn vgain cufydd.

41 Bren. 6.3. A'r porth oedd wrth dalcen y tŷ oedd yn hŷd a lled y tŷ, yn vgain cufydd, a'i vchder yn chwech vgain cufydd; ac efe a wiscodd hwn o fewn, ag aur pûr.

5 A'r tŷ mawr a fyrddiodd efe â ffynnid­wŷdd, y rhai a wiscodd efe ag aur dilyn, ac a gerfiodd balm-wydd a chadwynau ar hyd­ddo ef.

6 Ac efe aHeb. orchuddi­odd. addurnodd y tŷ â meini gwerth­fawr yn hardd, a'r aur oedd aur Parfaim,

7 Ie efe a wiscodd y tŷ, y trawstiau, y rhini­ogau, [Page] a'i barwydydd, a'i ddorau, ag aur, ac a gerfiodd Gerubiaid ar y parwydydd.

8 Ac efe a wnaeth dŷ y cyssegr sancteiddio­laf, ei hŷd oedd vn hŷd a llêd y tŷ, yn vgain cufydd, a'i lêd yn vgain cufydd: ac efe a'i gwiscodd ef ag aur da, sef â chwe-chan talent.

9 Ac yr oedd pwys yr hoelion o ddêc sicl a deugain o aur; y llofftydd hefyd a wiscodd efe ag aur.

10 Ac efe a wnaeth yn nhŷ y cyssegr sanct­eiddiolaf ddau Gerub, o waithNeu, [...]elwau, neu, sym­ [...]da­ [...]y. cywraint, ac a'i gwiscodd hwynt ag aur.

11 Ac1 Bren. 6.24. adenydd y Cerubiaid oedd vgain cufydd eu hŷd, y naill aden o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ: a'r aden arall o bum cufydd yn cyrhaeddyd at aden y Cerub arall:

12 Ac aden y Cerub arall o bum cufydd, yn cyrhaeddyd pared y tŷ; a'r aden arall o bum cufydd ynghyd ag aden y Cerub arall.

13 Adenydd y Cerubiaid hyn a ledwyd yn vgain cufydd, ac yr oeddynt hwy yn sefyll ar eu traed, a'i hwynebau tuHeb. a'r ty. ag i fewn.

14 Ac efe a wnaeth yMat. 27.51. wahan-len o sidan glâs, a phorphor, ac yscarlat, a lliain main, ac aHeb. dercha­f [...]dd. weithiodd Gerubiaid ar hynny.

15 Gwnaeth hefyd ddwyJer. 52.21. 1 Bren. 7.15. golofn o flaen y tŷ, yn bymthec cufydd ar hugain o hŷd, a'r cnap ar ben pob vn o honynt, oedd bum cufydd.

16 Ac efe a wnaeth gadwyni fel yn y gafell, ac a'i rhoddodd ar ben y colofnau; ac efe a wnaeth gant o bomgranadau, ac a'i rhoddodd ar y cadwynau:

171 Bren. 7.20. A chyfododd y colofnau o flaen y deml, vn o'r tu dehau, ac vn o'r tu asswy, ac a al­wodd henw y ddehau,Sef, efe a siccrha. Jachin, a henw yr asswySef, ynddo y mae [...]rth. Boaz.

PEN. IIII.

1 Yr allor brês. 2 Y môr tawdd ar ddeuddeg o ychen. 6 Y deg noe, y canhwyllbrenni a'r byrddau. 9 Y cynteddau, a'r dodrefn prês. 19 Yr offer aur.

AC efe a wnaeth allor brês, o vgain cufydd ei hŷd, ac vgain cufydd ei llêd, a dec cu­fydd ei huchder.

21 Bren. 7.23. Gwnaeth hefyd fôr tawdd, yn ddêc cu­fyddHeb. o'i ymyl iw ymyl. o ymyl i ymyl, yn grwn o amgylch, ac yn bum cufydd ei vchter, a llinyn o ddêc cu­fydd ar hugain a'i hamgylchei oddi amgylch.

31 Bren. 7.24. A llun ychen oedd tano yn ei amgylchu o amgylch, mewn dêc cufydd yr oeddynt yn amgylchu y môr oddi amgylch: dwy rês o ychen oedd wedi eu toddi, pan doddwyd yntau.

4 Sefyll yr oedd ar ddeuddec o ychen; tri yn edrych tua 'r gogledd, a thri yn edrych tua 'r gorllewin, a thri yn edrych tua 'r dehau, a thri yn edrych tua 'r dwyrain: a'r môr arnynt oddi arnodd, a'i holl bennau ôl hwynt oedd o fewn.

51 Bren. 7.26. A'i dewder oedd ddyrnfedd, a'i ymyl fel gwaith ymyl cwppan,Neu, fel blo­d [...]yn lili. â blodeu lili: a thair mil o Bathau a dderbyniei, ac a ddaliei.

6 Gwnaeth hefyd ddec o noeau, ac efe a ro­ddodd bump o'r tu dehau, a phump o'r tu asswy, i ymolchi ynddynt: trochent ynddynt ddefnydd y poeth offrwm, ond y môr oedd i'r offeiriaid i ymolchi ynddo.

7Exod. 25.31. Ac efe a wnaeth ddêc canhwyll-bren aur yn ôl eu portreiad, ac a'i gosododd yn y deml, pump o'r tu dehau, a phump o'r tu asswy.

8 Gwnaeth hefyd ddêc o fyrddau, ac a'i go­sododd yn y deml, pump o'r tu dehau, a phump o'r tu asswy; ac efe a wnaeth gant oNeu, phiolau. gawgiau aur.

9 Ac efe a wnaeth gyntedd yr offeiriaid, a'r cyntedd mawr, a dorau i'r cynteddoedd; a'i dorau hwynt a wiscodd efe â phrês.

10 Ac efe a osododd y môr ar yr ystlys de­hau, tua 'r dwyrain, ar gyfer y dehau.

11 Gwnaeth Hiram hefyd y crochanau, a'r rhawiau,Neu, a'r phio­lau. a'r cawgiau: a darfu i Hiram wneu­thur y gwaith a wnaeth efe tros frenin Salo­mon i dŷ Dduw.

12 Y ddwy golofn, a'r cnappiau, a'r coro­nau ar ben y ddwy golofn, a'r ddwy bleth i guddio y ddau gnapp goronoc, y rhai oedd ar ben y colofnau.

13 A phedwar-cant o bomgranadau ar y ddwy bleth; dwy rês oedd o bomgranadau ar pob pleth, i guddio y ddau gnapp goronoc oedd arHeb. wyneb. bennau y colofnau.

14 Ac efe a wnaeth ystolion, ac a wnaethNeu, beiriau. noeau ar yr ystolion;

15 Vn môr, a deuddec o ychen tano:

16 Y crochanau hefyd, a'r rhawiau, a'r eigweiniau, a'i holl lestri hwynt, a wnaeth Hi­ram ei dâd i'r brenin Salomon, yn nhŷ 'r Ar­glwydd, o brês gloyw.

17 Yngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt,Heb. yn nhew­d [...]r y tir. mewn clei-dir, rhwng Suc­coth a Zeredathah.

18 Fel hyn y gwnaeth Salomon yr holl lestri hyn, yn lluosog iawn; canys anfeidrol oedd bwys y prês.

19 A Salomon a wnaeth yr holl lestri oedd yn nhŷ Dduw, a'r allor aur, a'r byrddau oedd a'r bara gosod arnynt;

20 A'r canhwyll-brennau, a'i lampau, i oleuo yn ôl y ddefod o flaen y gafell, o aur pûr;

21 Y blodau hefyd, a'r lampau, a'r gefeili­au, oedd aur, a hwnnwHeb. o berffei­thrwydd aur. yn aur perffaith.

22 Y psaltringau hefyd, a'rNeu, yhiolau. cawgiau, a'r llwyau, a'r thusserau, oedd aur pûr. A drws y tŷ, a'i ddorau, o du fewn y cyssegr sancteiddi­olaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.

PEN. V.

1 Y trysorau cyssegredic. 2 Dwyn Arch Duw yn barchedic i'r cyssegr. 11 Duw yn ôl ei fo­liannu, yn dangos arwydd o'i ffafor.

FElly y1 Bren. 7.51. gorphennwyd yr holl waith a wnaeth Salomon i dŷ yr Arglwydd: a Sa­lomon a ddug i mewn yr hyn a gyssegrasei Da­fydd ei dâd; ac a osododd yn nhryssorau tŷ Dduw, yr arian, a'r aur, a'r holl lestri.

21 Bren. 8.1. Yna y cynhullodd Salomon henuri­aid Israel, a holl bennau y llwythau, pennau cenedl meibion Israel, i Jerusalem, i ddwyn i fynu Arch cyfammod yr Arglwydd, o ddinas Dafydd, honno yw Sion.

3 Am hynny holl wŷr Israel a ymgynnulla­sant at y brenin, ar yr wŷl oedd yn y seithfed mis.

4 A holl henuriaid Israel a ddaethant, a'r Lefiaid a godasant yr Arch.

5 A hwy a ddygasant i fynu 'r Arch, a pha­bell y cyfarfod, a holl lestri y cyssegr, y rhai oedd yn y babell, yr offeiriaid a'r Lefiaid a'i dy­gasant hwy i fynu.

6 Hefyd brenin Salomon, a holl gynnulleid­fa Israel, y rhai a gynullasid atto ef, o flaen yr Arch, a aberthasant o ddefaid, a gwartheg, fwy nac a ellid eu rhifo, na'i cyfrif gan luosog­rwydd.

7 A'r offeiriaid a ddygasant Arch cyfammod yr Arglwydd iw lle, i gafell y tŷ, i'r cyssegr sancteiddiolaf, hyd tan adenydd y Cerubiaid.

8 A'r Cerubiaid oedd yn lledu eu hadenydd tros lê yr Arch: a'r Cerubiaid a gyscodent yr Arch a'i throsolion, oddi arnodd.

9 A thynnasant allan y trosolion, fel y gwe­lid pennau y trosolion o'r Arch o flaen y gafell, ac ni welid hwynt oddi allan. Ac yno yNeu, maent hwy, me­gis, 1 Bren. 8.8. mae hi hyd y dydd hwn,

10 Nid oedd yn yr Arch ond y ddwy lêch, aDeut. 10.2, 5. roddasei Moses ynddi yn Horeb, lle yNeu, pan wna­ethei. gwnaethei yr Arglwydd gyfammod â meibion Israel, pan ddaethent hwy allan o'r Aipht.

11 A phan ddaeth yr offeiriaid o'r cyssegr (canys yr holl offeiriaid, y rhai a gafwyd, a ymsancteiddiasent, heb gadw dosparthiad:

121 Cron. 25.1. Felly y Lefiaid, y rhai oedd gantorion, hwynt hwy oll o Asaph, o Heman, o Jeduthun, a'i meibion hwynt, ac a'i brodyr, wedi eu gwis­co â lliain main, â symbalau, ac â nablau, a the­lynau, yn sefyll o du dwyrain yr allor, a chyd â hwynt chwe vgain o offeiriaid yn vdcanu mewn vdcyrn.)

13 Ac fel yr oedd yr vdcanwyr, a'r can­torion, megis vn, i seinio vn sain i glodfori, ac i foliannu yr Arglwydd: ac wrth dderchafu sain mewn vdcyrn, ac mewn symbalau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu 'r Ar­glwydd, gan ddywedyd, Psal. 136. Canys da yw, ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef: yna y llan­wyd y tŷ â chymmwl, sef tŷ 'r Arglwydd:

14 Fel na allei yr offeiriaid sefyll i wasanae­thu gan y cymmwl; o herwydd gogoniant yr Arglwydd a lanwasei dŷ Dduw.

PEN. VI.

1 Salomon, wedi bendithio 'r bobl, yn bendithio Duw. 12 Gweddi Salomon wrth gyssegru 'r Deml, allan o'r pulpud prês.

YNa y1 Bren. 8.12. llefarodd Salomon, yr Arglwydd a ddywedodd yr arhosei efe yn yLevit. 16.2. tywy­llwch.

2 A minneu a adeiledais dŷ yn drigfa it, a lle i'th bresswylsod yn dragywydd.

3 A'r brenin a drôdd ei wyneb, ac a fen­dithiodd holl gynnulleidfa Israel; (a holl gyn­nulleidfa Israel oedd yn sefyll.)

4 Ac efe a ddywedodd, Bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefarodd â'i enau wrth Ddafydd fy nhâd, ac a gwplaodd â'i ddwylaw, gan ddywedyd,

5 Er y dydd y dugym i fy mhobl allan o wlâd yr Aipht, ni ddetholais ddinas o holl lwythau Israel, i adeiladu tŷ, i fod fy enw yn­ddo, ac ni ddewisais ŵr i fod yn flaenor ar fy mhobl Israel.

6 Ond mi a etholais Jerusalem i fod fy enw yno, ac a ddewisais Ddafydd, i fod ar fy mhobl Israel.

7 Ac yr2 Sam. 7.2. 1 Cro. 28.2. oedd ym mryd Dafydd fy nhâd adeiladu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.

8 Ond dywedodd yr Arglwydd wrth Dda­fydd fy nhâd, o herwydd bôd yn dy fryd di adeiladu tŷ i'm henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon.

9 Er hynny nid adeiledi di y tŷ, onid dy fab di, yr hwn a ddaw allan o'th lwynau, efe a adeilada y tŷ i'm henw i.

10 Am hynny yr Arglwydd a gwplaodd ei air a lefarodd efe: canys mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhâd, ac a eisteddais ar orseddfa Is­rael, fel y llefarodd yr Arglwydd, ac a adeile­dais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.

11 Ac yno y gosodais yr Arch, yn yr hon y mae cyfammod yr Arglwydd, yr hwn a am­mododd efe â meibion Israel.

12 A Salomon a safodd o flaen allor yr Ar­glwydd yngwydd holl gynnulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylaw:

13 (Canys Salomon a wnaethei bulpud prês, ac a'i gosodasei ynghanol y cyntedd, yn bum cufydd ei hŷd, a phum cufydd ei lêd, a thri chufydd ei vchder, ac a safodd arno, ac a ost­yngodd ar ei liniau, ger bron holl gynnulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua 'r ne­foedd)

14 Ac efe a ddywedodd, ô Arglwydd Dduw Israel,Exod. 15.11. 2 Mac. 2.8. nid oes Duw cyffelyb i ti yn y nefoedd, nac ar y ddaiar, yn cadw cyfammod a thru­garedd a'th weision sydd yn rhodio ger dy fron di â'i holl galon:

15 Yr hwn a gedwaist â'th wâs Dafydd fy nhâd, yr hyn a leferaist wrtho, fel y lleferaist â'th enau, felly y cwpleaist â'th law, megis y mae y dydd hwn.

16 Ac yn awr ô Arglwydd Dduw Israel, cadw â'th wâs Dafydd fy nhâd,2 Sam. 7.12. 1 Bren. 8.25. & 2. 4. & 6. 12. yr hyn a le­feraist wrtho, gan ddywedyd, ni thorrir ym­maith oddi wrthit na byddo gwr ger fy mron i, yn eistedd ar deyrn-gadair Israel;Psal. 132.12. os dy fei­bion a wiliant ar eu ffordd, i rodio yn fy nghyf­raith i, fel y rhodiaist ti ger fy mron i.

17 Yn awr gan hynny ô Arglwydd Dduw Israel, poed gwir fyddo dy air a leferaist wrth dy wâs Dafydd.

18 (A'i gwîr yw y presswylia Duw gyd â dyn a'r y ddaiar?1 Bren. 8.27. Pen. 2. 6. Esa. 66.1. Act. 7.49. wele y nefoedd, a nefoedd y nefoedd ni allant dy ymgyffred, pa feint llai y dîchon y tŷ hwn a adeiledais i?)

19 Edrych gan hynny ar weddi dy wâs, ac ar ei ddeisyfiaid ef, ô Arglwydd fy Nuw, i wrando ar y llêf, ac ar y weddi y mae dy wâs yn ei gweddio ger dy fron:

20 Fel y byddo dy lygaid yn agored tua 'r tŷ ymma ddydd a nôs, tua 'r lle am yr hwn y dywedaist, y gosodit dy enw yno, i wrando ar y weddi a weddio dy wâs diNeu, tu a'r fan hon. yn y fan hon.

21 Gwrando gan hynny ddeisyfiadau dy wâs, a'th bobl Israel, y rhai a weddiant yn y lle hwn: gwrando di hefyd o lê dy bresswylfod, sef o'r nefoedd, a phan glywech, maddeu.

221 Bren. 8 31. Os pecha gŵr yn erbyn ei gymmydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn:

23 Yna gwrando di o'r nefoedd, gwna he­fyd, a barna dy weision, gan dalu i'r drygio­nus, drwy roddi ei ffordd ef ar ei ben ei hun, a chan gyfiawnhau y cyfiawn, drwy roddi iddo yntef yn ôl ei gyfiawnder.

24 A phan darawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn, os dych­welant a chyfaddef dy enw, a gweddio ac ymbil ger dy fron di,Neu, tua 'r ty. yn y tŷ hwn;

25 Yna gwrando di o'r nefoedd, a maddeu bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i'r tîr a roddaist iddynt hwy, ac iw tadau.

261 Bren. 17.1. Pan gauer y nefoedd, fel na byddo glaw, o herwydd pechu o honynt i'th erbyn: os gweddiant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystu­ddiech hwynt:

27 Yna gwrando di o'r nefoedd, a maddeu bechod dy weision, a'th bobl Israel, pan ddys­cech iddynt y ffordd dda, yr hon y rhodient ynddi, a dyro law ar dy wlâd a roddaist i'th bobl yn etifeddiaeth.

281 Bren. 8.37. Pen. 20. 9. Os bydd newyn yn y tîr, os bydd haint, deifiad, neu falldod, os bydd locustiaid neu lin­dys, os gwarchae ei elyn arno efHeb. yngwlad eu pyrth. yn ninaso­edd ei wlâd; neu pa blâ bynnac, neu glefyd bynnac a fyddo;

29 Pôb gweddi, pôb deisyfiad a fyddo gan bôb dyn, neu gan holl bobl Israel; pan wypo pawb ei blâ ei hun, a'i ddolur, ac estyn ei ddwylawNeu, [...]n y ty [...]n. tua 'r tŷ hwn:

30 Yna gwrando di o'r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a maddeu, a dyro i bôb vn yn ôl ei holl ffyrdd, yr hwn a adwaenost ei galon ef: (1 Cron. 28.9. canys ty di yn vnic a adwaenost galon meibion dynion:)

31 Fel i'th ofnont gan rodio yn dy ffyrdd di, yr holl ddyddiau y byddont hwy byw ar wyneb y ddaiar, yr hon a roddaist i'n tadau ni.

32 Ac am y dieithr-ddyn hefyd,Joh. 12.2 [...]. Act. 8.27. yr hwn ni byddo o'th bobl di Israel, onid wedi dyfod o wlâd bell, er mwyn dy enw mawr a'th law gadarn, a'th fraich estynnedic: os deuant, a gweddio yn y tŷ hwn:

33 Yna gwrando di o'r nefoedd, o fangre dy bresswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a lefo y dieithr-ddyn arnat; fel yr adwaeno holl bobl y ddaiar dy enw di, ac i'th ofnont, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont maiHeb. dy enw di a elwir ar y ty hwn. ar dy enw di y gelwir y tŷ ymma a adeiledais i.

34 Os â dy bobl allan i ryfel yn erbyn eu gelynion, ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddiant arnat ti tua 'r ddinas ymma, yr hon a ddetholaist, â'r tŷ a adeiledais i'th enw di;

35 Yna gwrando o'r nefoedd ar eu gweddi hwynt, ac ar eu deisyfiad; a gwna farn iddynt.

36 Os pechant i'th erbyn (1 Bren. 8.46. Dihar. 20. 9. Preg. 7.20. Jac. 3.2. 1 Ioan. 1. [...]. canys nid oes dyn ni phecha) a diglloni o honot iw herbyn hwynt, ai rhoddi o flaen eu gelynion,Heb. ac i'r rhai a'i caeth­gludant [...]u caeth­gl [...]do. ac iddynt eu caeth-gludo yn gaethion i wlâd bell, neu agos:

37 Os dychwelant at eu calon yn y wlâd y caeth-gludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac ymbil â thi yngwlâd eu caethiwed, gan ddy­wedyd, pechasom, troseddasom, a gwnaethom yn annuwiol:

38 Os dychwelant attat â'i holl galon, ac â'i holl enaid, yngwlâd ei caethiwed, lle y caeth­gludasant hwynt, a gweddio tu a'i gwlâd, a roddaist iw tadau, a'r ddinas a ddetholaist, a'r tŷ a adeiledais i'th enw di:

39 Yna gwrando di o'r nefoedd, o fangre dy bresswylfod, eu gweddi hwynt, a'i deisyfia­dau, a gwna farn iddynt: a maddeu i'th bobl a bechasant i'th erbyn.

40 Yn awr ô fy Nuw, bydded attolwg dy lygaid yn agored, a'th glustiau yn ymwrando â'r weddi a wneir tua 'r lle ymma.

41 AcPsal. 132.8, 9. yn awr cyfod ô Arglwydd Dduw i'th orphywysfa, ti ac Arch dy gadernid: dilla­der dy offeiriaid, ô Arglwydd Dduw, ag iechydwriaeth, a llawenyched dy sainct mewn daioni.

42 O Arglwydd Dduw, na thro ymmaith wyneb dy eneiniog: cofia drugareddau Dafydd dy was.

PEN. VII.

1 Duw yn testiolaethu gyd a gweddi Salomon, trwy dân o'r nef, a gogoniant yn y Deml; a'r bobl yn ei addoli ef. 4 Cyhoedd ebyrth Salomon. 8 Salomon, yn ôl cadw gwyl y Pebyll, a gwyl cyssegriad yr allor, yn gollwng y bobl ymaith. 12 Duw yn ymddangos i Salomon, ac yn rhoi iddo addewidion tan ammod.

AC wedi gorphen o Salomon weddio,1 Bren. 8.54. Levit. 9.24. 2 Mac. 2 10. tân a ddescynnodd o'r nefoedd, ac a ysodd y poeth offrwm, a'r ebyrth; a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tŷ,

2 Ac ni allei yr offeiriaid fyned i mewn i dŷ yr Arglwydd, o herwydd gogoniant yr Argl­wydd a lanwasei dy 'r Arglwydd.

3 A phan welodd holl feibion Israel y tân yn descyn, a gogoniant yr Arglwydd ar y tŷ; hwy a ymgrymmasant â'i hwynebau i lawr ar y palmant, ac a addolasant, ac a glodforasant yr Arglwydd, canys daionus yw efe, o her­wydd bôd ei drugaredd ef yn dragy­wydd.

41 Bren. 8.65. Yna 'r brenin a'r holl bobl a abertha­sant ebyrth ger bron yr Arglwydd.

5 A'r brenin Salomon a aberthodd aberth o ddwy fil ar hugain o ychen, a chwech vgain mil o ddefaid: felly y brenin, a'r holl bobl a gys­segrasant dŷ Dduw.

61 Cron. 15.16. A'r offeiriaid oedd yn sefyll yn eu gor­chwyliaeth; a'r Lefiaid ag offer cerdd yr Ar­glwydd, y rhai a wnaethei Dafydd y brenin i gyffessu 'r Arglwydd, o herwydd yn dragywydd y mae ei drugaredd ef, pan oedd Dafydd ym moliannu Duw Heb. trwy eu llaw hw­ynt. drwyddynt hwy: a'r offeiri­aid oedd yn vdcanu ar eu cyfer hwynt; a holl Israel oedd yn sefyll.

7 A Salomon a gyssegrodd ganol y cyntedd, yr hwn oedd o flaen tŷ 'r Arglwydd; canys yno yr offrymmodd efe boeth offrymmau, a braster yr aberthau hedd; canys ni allei yr allor brês a wnaethei Salomon dderbyn y poeth offrwm, a'r bwyd offrwm, a'r brasder.

8 A Salomon a gadwodd wŷl y pryd hyn­ny saith niwrnod, a holl Israel gyd ag ef, cyn­nulleidfa fawr iawn, o ddyfodfa HemathJos. 13.3. hyd afon yr Aipht.

9 Gwnaethant hefyd yr wythfed dyddHeb. wahar­ddiad. gym­manfa; canys cyssegriad yr allor a gadwa­sant hwy saith niwrnod, a'r ŵyl saith niwrnod.

10 Ac yn y trydydd dydd ar hugain o'r seithfed mîs, y gollyngodd efe y bobl iw pa­bellau yn hyfryd, ac yn llawen eu calon, am y daioni a wnaethei 'r Arglwydd i Ddafydd, ac i Salomon, ac i Israel ei bobl.

11 Fel hyn y gorphennodd1 Bren. 9 1. Salomon dŷ 'r Arglwydd, a thŷ yr brenin: a'r hyn oll oedd ym mrŷd Salomon ei wneuthur yn nhŷ 'r Ar­glwydd, ac yn ei dŷ ei hun, a wnaeth efe yn llwyddiannus.

12 A'r Arglwydd a ymddangosodd i Salo­mon liw nôs, ac a ddywedodd wrtho, gwran­dewais dy weddi, acDeut. 12.5. mi a ddewisais y fan hon i mi yn dŷ aberth.

13 Os caeaf fi y nefoedd fel na byddo glaw, neu os gorchymynnaf i'r locustiaid ddifa y ddaiar: ac os anfonaf haint ymmysc fy mhobl;

14 Os fy mhobl y rhai y gelwir fy enw ar­nynt, a ymostyngant, ac a weddiant, ac a gei­siant fy wyneb, ac a droant o'i ffyrdd drygi­onus: yna y gwrandawaf o'r nefoedd, ac y maddeuaf iddynt eu pechodau, ac yr iachâf eu gwlâd hwynt.

15 Yn awr fy llygaid a fyddant yn agored, a'mPen. 5 40. clustiau yn ymwrando â'r weddi a wneir yn y fan hon.

16Pen. 6. 6. Ac yn awr mi a ddetholais, ac a san­cteiddiais [Page] y tŷ hwn, i fod fy enw yno hyd byth: fy llygaid hefyd a'm calon a fyddant yno yn wastadol.

17 A thithau os rhodi ger fy mron i, fel y rhodiodd Dafydd dy dâd, a gwneuthur yr hyn oll a orchymynnais i ti, a chadw fy neddfau, a'm barnedigaethau:

18 Yna y siccrhâf deyrn-gader dy frenhini­aeth di, megis yr ammodais â Dafydd dy dâd, gan ddywedyd, ni thorrir ymmaith oddi wrthit na byddo Pen. 6. 16. gŵr yn arglwyddiaethu yn Israel.

19Levit. 26.14. Deut. 28.15. Ond os dychwelwch, ac os gwrtho­dwch fy neddfau, a'm gorchymynion a roddais ger eich bron, ac os ewch a gwasanaethu duwi­au dieithr, ac ymgrymmu iddynt hwy;

20 Yna mi a'i diwreiddiaf hwynt o'm gwlâd a roddais iddynt, a'r tŷ a sancteiddiais i'm he­nw a fwriaf allan o'm golwg, ac mi a'i rhoddaf ef yn ddihareb ac yn wawd, ym mysc yr holl bobloedd.

21 A'r ty ymma 'r hwn sydd vchel, a wna i bawb ar a ei heibio iddo, synnu; fel y dywe­do,Deut. 29.24. Jer. 22.8.9. pa ham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i'r wlâd hon, ac i'r tŷ hwn?

22 Yna y dywedant, am iddynt wrthod Arglwydd Dduw eu tâdau, yr hwn a'i dug hwy allan o wlâd yr Aipht, ac am iddynt yma­flyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymmu iddynt, a'i gwasanaethu hwynt: am hynny y dûg efe yr holl ddrwg ymma arnynt hwy.

PEN. VIII.

1 Adeilad Salomon. 7 Salomon yn dwyn y cen­hedloedd a adawsid, tan deyrnged iddo, ac yn gwneuthur yr Israeliaid yn llywiawdwyr tano. 11 Merch Pharao yn symmudo i'w thy. 12 Cy­hoedd aberthau blynyddawl Salomon. 14 Salo­mon yn gosod yr offeiriaid a'r Lefiaid yn eu lle­oedd, 17 Y llynges yn cyrchu aur o Ophir.

AC1 Bren. 9.10. ym mhen yr vgain mhlynedd, yn y rhai 'r adailadodd Salomon dŷ 'r Argl­wydd, a'i dŷ ei hun.

2 Salomon a adailadodd y dinasoedd aNeu, adferasai. roddasei Hiram i Salomon, ac a wnaeth i feibion Israel drigo yno.

3 A Salomon a aeth i Hamath Zobah, ac a'i gorchfygodd hi.

4 Ac efe a adailadodd Tadmor yn yr ania­lwch,1 Bren. 9.18. a holl ddinasoedd y tryssonau, y rhai a adeiladodd efe yn Hamath.

5 Efe hefyd a adeiladodd Beth-horon vchaf, a Beth-horon isaf, dinasoedd wedi eu cadarn­hau â muriau, pyrth, a barrau:

6 Baalath hefyd, a holl ddinasoedd y trysso­rau oedd gan Salomon, a holl ddinasoedd y cerbydau, a dinasoedd y marchogion,Heb. a holl ddymuni­ad Salo­mon, a ddymu­nodd ef ei adeila­du. a'r hyn oll oedd ewyllys gan Salomon i adeiladu yn Jerusalem, ac1 Bren. 7.2. yn Libanus, ac yn holl dir ei arglwyddiaeth ef.

7 Yr holl bobl y rhai a adawyd o'r Hethi­aid, a'r Amoriaid, a'r Phereziaid, a'r Hefiaid, a'r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o Israel,

8 Ond o'i meibion hwynt y rhai a drigasant ar eu hol hwynt yn y wlâd, y rhai ni ddife­thasei meibion Israel, Salomon a'i gwnaeth hwynt yn drethawl, hyd y dydd hwn.

9 Ond o feibion Israel ni roddodd Salomon neb yn weision yn ei waith: canys hwynt hwy oeddynt ryfel-wŷr, a thywysogion ei gapteni­aid ef, a rhywysogion ei gerbydau, a'i wŷr meirch ef.

10 Ac dymma y rhai pennaf o swyddogion y brenin Salomon: sef dau cant a dêc a deu­gain, yn arglwyddiaethu ar y bobl.

11 A Salomon a ddug1 Bren. 3.1. & 7. 8. ferch Pharao i fynu o ddinas Dafydd i'r tŷ a adeiladasei efe iddi hi: canys efe a ddywedodd, ni thrig fy ngwraig i yn nhŷ Ddafydd brenin Israel, o herwyddHeb. sanctei­ddrwydd. san­ctaidd yw, o blegit i Arch yr Arglwydd ddyfod i mewn iddo.

12 Yna Salomon a offrymmodd boeth offrym­mau i'r Arglwydd arPen. 4. 1. allor yr Arglwydd, yr hon a adeiladasei efe o flaen y porth;

13 IExod. 29.38. boeth-offrymu dogn dydd yn ei ddydd, yn ôl gorchymyn Moses, ar y Sabbo­thau, ac ar y newydd-loerau, ac ar y gŵyliau arbennic,Levit. 23. Exod. 23.14. Deut. 16.16. dair gwaith yn y flwyddyn; sef ar wŷl y bara croyw, ac ar wŷl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll.

14 Ac efe a osododd, yn ôl trefn Dafydd ei dâd,1 Cron. 24.1. ddosparthiadau yr offeiriaid yn eu gwa­sanaeth, a'r Lefiaid yn eu gorchwyliaeth, i fo­liannu, ac i weini ger bron yr offeiriaid, fel yr oedd ddyledus bob dydd yn ei ddydd; a'r1 Cron. 9.17. porthorion yn eu dosparthiadau wrth bob porth; canys felly 'r oedd gorchymyn Da­fydd gŵr Duw.

15 Ac ni throesant hwy oddi wrth orchy­myn y brenin i'r offeiriaid, a'r Lefiaid, am vn peth, nac am y tryssorau.

16 A holl waith Salomon oedd wedi ei ba­rottoi hyd y dydd y seiliwyd tŷ 'r Arglwydd, a hyd oni orphennwyd ef. Felly y gorphennwyd tŷ yr Arglwydd.

17 Yna 'r aeth Salomon i Ezion-Geber, ac iNeu, Elath, Deut. 2.8. Eloth, ar fin y môr, yngwlâg Edom.

18 A Hiram a anfonodd gyd â'i weision longau, a gweision cyfarwydd ar y môr, a hwy a aethant gyd â gweision Salomon i Ophir, ac a gymmerasant oddi yno bedwar cant a dêc a deugain talent o aur, ac a'i dygasant i'r brenin Salomon.

PEN. IX.

1 Brenhines Saba yn rhyfedd genthi ddoethineb Salomon. 13 Aur Salomon, 15 a'i dariannau, 17 a'i orseddfaingc Ifori, 20 a'i lestri, 23 a'i anrhegion, 25 a'i gerbydau, a'i feirch, 26 a'i deyrnged, 29 Pa hyd y teyrnasodd ef, a'i far­wolaeth.

A Phan glybu1 Bren. 10.1. Mat. 12.42. Luc. 11.31. brenhines Saba glôd Salomon, hi a ddaeth i Jerusalem, i brofi Salomon â chwestiwnau caled, a llû mawr iawn, ac â chamêlod yn dwyn aroglau, ac aur lawer, a meini gwerth-fawr: a hi a ddaeth at Salomon, ac a ddywedodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon.

2 A Salomon a fynegodd iddi hi ei holl ofy­nion: ac nid oedd dim yn guddiedic rhac Salo­mon, a'r na fynegodd efe iddi hi.

3 A phan welodd brenhines Saba ddoethineb Salomon, a'r tŷ a adeiladasei efe,

4 A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei wenidogion, a'i dillad, a'i drulliadau ef, a'i gwiscoedd, a'i escynfa ar hyd yr hon yr ai efe i fynu i dŷ'r Arglwydd; nid oedd mwy­ach yspryd ynddi.

5 A hi a ddywedodd wrth y brenin, gwîr yw y gair a glywais yn fy ngwlâd, am dyNeu, ymadr [...] ­ddion. weithredoedd di, ac am dy ddoethineb.

6 Etto ni choeliais iw geiriau hwynt, nes i'm ddyfod, ac i'm llygaid weled, ac wele ni fy­negasid i mi hanner helaethrwydd dy ddoe­thineb: chwanegaist at y glôd a glywais i.

7 Gwynfŷd dy wŷr di, a gwynfydedic yw [Page] dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn oe­stadol ger dy fron, ac yn clywed dy ddoethineb.

8 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th hoffodd di, i'th osod ar ei orseddfa ef, yn frenin tros yr Arglwydd dy Dduw: o herwydd cariad dy Dduw tu ag at Israel iw siccrhau yn dragywydd, am hynny y gwnaeth efe dydi yn frenin arnynt hwy, i wneuthur barn a chyfiawnder.

9 A hi a roddodd i'r brenin chwech vgain talent o aur, a phêr aroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr: ac ni bu y fath bêr aroglau a'r rhai a roddodd brenhines Saba i frenin Salomon.

10 Gweision Hiram hefyd, a gweision Sa­lomon, y rhai a ddygasant aur o Ophir, a ddy­gasant goed1 Bren. 10.11. Pen. 2. 8. Algummim, a meini gwerthfawr.

11 A'r brenin a wnaeth o'r coed AlgummimHeb. brif-ffyrdd. risiau i dŷ 'r Arglwydd, ac i dŷ 'r brenin, a thelynau, a nablau, i'r cantorion: ac ni welsid eu math o'r blaen yngwlâd Juda.

12 A'r brenin Salomon a roddodd i frenhi­nes Saba ei holl ddymuniad, yr hyn a ofynnodd hi, heb law 'r hyn a ddygasei hi i'r brenin: felly hi a ddychwelodd, ac a aeth iw gwlâd, hi a'i gweision.

13 A phwys yr aur a ddoe i Salomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thri vgain a chwech o dalentau aur:

14 Heb law 'r hyn yr oedd y marchnadwŷr, a'r marsiand-wŷr yn eu dwyn: a holl fren­hinoedd Arabia, a thywysogion y wlâd, oedd yn dwyn aur ac arian i Salomon.

15 A'r brenin Salomon a wnaeth ddau can tarian o aur dilin: chwe chan siccl o aur dilin a roddodd efe ym mhob tarian.

16 A thry chant o fwccledi o aur dilin, try­chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob bwc­cled: a'r brenin a'i gosododd hwynt yn nhŷ coed Libanus.

17 A'r1 Bren. 10.18. brenin a wnaeth orseddfa fawr o Ifori, ac a'i gwiscodd ag aur pur.

18 A chwech o risiau oedd i'r orseddfa, a throed-le o aur, ynglŷn wrth yr orseddfa, a chanllawiau o bob tu i'r eistedd-le, a dau lew yn sefyll wrth y canllawiau:

19 A deuddec o lewod yn sefyll yno ar y chwe gris o bob tu: ni wnaethpwyd y fath mewn vn deyrnas.

20 A holl lestri diod y brenin Salomon oedd o aur, a holl lestri tŷ coed Libanus oedd aurHeb. cauedic. pur:Neu, nid oedd arian yn­ddynt. nid oedd yr vn o arian: nid oedd dim bri arno yn nyddiau Salomon.

21 Canys llongau1 Bren. 10.22. y brenin oedd yn my­ned i Tharsis gyd â gweision Hiram: vnwaith yn y tair blynedd y deuei llongau Tharsis yn dwyn aur, ac arian,Neu, a daint, elephant. ac Ifori, ac eppaod, a pheunod.

22 A'r brenin Salomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaiar, mewn cyfoeth, a doethineb.

23 A holl frenhinoedd y ddaiar oedd yn ceisio gweled wyneb Salomon, i wrando ei ddoethi­neb, a roddasei Duw yn ei galon ef.

24 A hwy a ddygasant bob vn ei anrheg, lle­stri arian, a llestri aur, a gwiscoedd, arfau, a phêr-aroglau, meirch a mulod, dogn bob blwy­ddyn.

25 Ac yr oedd gan1 Bren. 4.26. Salomon bedair mîl o bresebau meirch, a cherbydau, a deuddeng-mil o wŷr meirch, ac efe a'i cyfleodd hwynt yn ninasoedd y cerbydau, a chyd â'r brenin yn Jerusalem.

26 Ac yr oedd efe yn arglwyddiaethu ar yr holl frenhinoedd, o'rGen. 15.18. Sef, Eu­phrates. afon hyd wlâd y Phi­listiaid, a hyd derfyn yr Aipht.

27 A'r brenin aHeb. roddes. wnaeth yr arian yn Jeru­salem fel cerric, a'r cedr-wŷdd a wnaeth efe fel y sycomorwydd yn y dol-dir, o amldra.

28 Ac yr oeddynt hwy yn dwyn1 Bren. 10.28. Pen. 1. 16. meirch i Salomon o'r Aipht, ac o bob gwlâd.

29 A'r rhan arall o1 Bren. 11.41. weithredoedd Salo­mon, cyntaf a diwethaf; onid ydynt hwy yn scrifennedic yngeiriau Nathan y prophwyd, ac ym mhrophwydoliaeth Ahiah y Siloniad, ac yngweledigaethauPen. 12. 15. Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam mab Nebat?

30 A Salomon a deyrnasodd yn Jerusalem ar holl Israel ddeugain mhlynedd.

31 A1 Bren. 11.43. Solomon a hunodd gyd â'i dadau, a chladdwyd ef yn ninas Dafydd ei dâd, a Reho­boam ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

PEN. X.

1 Yr Israeliaid yn ymgasclu yn Sichem i goroni Rehoboam, a thrwy Jeroboam yn ceisio ganddo eu rhyddhau hwy. 6 Rehoboam yn gwrthod cyngor yr hynafgwyr, a thrwy gyngor y gwyr ieuaingc, yn eu hatteb hwy yn arw. 16 Dec llwyth yn cilio oddi wrtho ef, yn lladd Hadoram, ac yn ei yrru ynteu i ffo.

A1 Bren. 12.1. Rehoboam a aeth i Sichem: canys i Si­chem y daethei holl Israel iw vrddo ef yn frenin.

2 A phan glybu Jeroboam mab Nebat, (ac yntef yn yr Aipht lle y ffoesei efe o ŵydd Salo­mon y brenin) Jeroboam a ddychwelodd o'r Aipht.

3 Canys hwy a anfonasent, ac a alwasent am dano ef; a Jeroboam a holl Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant â Rehoboam, gan ddy­wedyd,

4 Dy dâd a wnaeth ein iau ni yn drom; yn awr gan hynny yscafnhâ beth o gaethiwed ca­led dy dâd, ac o'i iau drom ef, yr hon a ro­ddodd efe arnom ni, ac ni a'th wasanaethwn di.

5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, ym mhen y tridiau dychwelwch attafi: a'r bobl a aethant ymaith.

6 A'r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â'r henuriaid a fuasei yn sefyll o flaen Salomon ei dâd ef, pan ydoedd efe yn fyw, gan ddy­wedyd, pa fodd yr ydych chwi yn cynghori atteb y bobl hyn?

7 A hwy a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, os byddi yn dda i'r bobl ymma, a'i bodloni hwynt, ac os dywedi wrthynt eiriau têg, hwy a fyddant yn weision i ti byth.

8 Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid, a gyngorasent hwy iddo: ac efe a ymgyngho­rodd â'r gwyr ieuaingc a gynnyddasent gyd ag ef, a'r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef.

9 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr attebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthif, gan ddywedyd, yschafnhâ beth ar yr iau a osododd dy dâd arnom ni?

10 A'r gwyr ieuaingc, y rhai a gynnydda­sent gyd ag ef, a lefarasant wrtho, gan ddywe­dyd, fel hyn y dywedi wrth y bobl a lefarasant wrthit, gan ddywedyd, dy dâd a wnaeth ein hiau ni yn drom, yscafnhâ ditheu hi oddi arnom ni: fel hyn y dywedi wrthynt, fy mŷs bâch fydd ffyrfach nâ lwynau fy nhâd.

11 Ac yn awr1 Bren. 12.14. fy nhâd a'ch llwythodd chwi ag iau drom, minneu hefyd a chwanegaf [Page] ar eich iau chwi: fy nhâd a'ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minneu a'ch ceryddaf ag scorpionau.

12 Yna y daeth Jeroboam, a'r holl bobl, at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llefarasei y brenin, gan ddywedyd, dychwelwch attafi y trydydd dydd.

13 A'r brenin a'i hattebodd hwynt yn arw: a brenin Rehoboam a wrthododd gyngor yr henuriaid.

14 Ac efe a lefarodd wrthynt yn ôl cyngor y gwyr ieuaingc, gan ddywedyd, fy nhâd a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minneu a chwanegaf arni hi: fy nhâd a'ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minneu a'ch ceryddaf chwi ag yscorpionau.

15 Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl; a herwydd yr achos oedd oddi wrth Dduw, fel y cwplâei 'r Arglwydd ei air, a lefarasei efe drwy law1 Bren. 11.29. Ahiah y Siloniad, wrth Jeroboam fab Nebat.

16 A phan1 Bren. 12.16. welodd holl Israel na wranda­wei y brenin arnynt hwy, y bobl a attebasant y brenin, gan ddywedyd, pa ran sydd i ni yn Nafydd? nid oes ychwaith i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: ô Israel aed pawb iw pebyll; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun Dafydd. Felly holl Israel a aethant iw pebyll.

17 Ond mebion Israel, y rhai oedd yn press­wylio yn ninasoedd Juda, Rehoboam a deyr­nasodd arnynt hwy.

18 A'r brenin Rehoboam a anfonodd Hado­ram, yr hwn oedd ar y drêth, a meibion Isra­el a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe fa­rw: ond y brenin Rehoboam aHeb. ymegni­odd. bryssurodd i fyned iw gerbyd, i ffoi i Jerusalem.

19 Ac Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Ddafydd, hyd y dydd hwn.

PEN. XI.

1 Rehoboam yn codi llu i ddwyn Israel tano, a Semaiah yn gwarafun iddo. 5 Rehoboam yn cadarnhau'r deyrnas ag ymddiffynfeydd ac ang­enrheidiau. 13 Yr offeiriaid a'r Lefiaid a'r rhai oedd yn ofni Duw, wedi i Jeroboam eu gwrthod, yn cadarnhau teyrnas Juda. 18 Gwragedd a phlant Rehoboam.

A Phan1 Bren. 12.21. ddaeth Rehoboam i Jerusalem, efe a gasclodd o holl dŷ Juda, ac o Benjamin, gant a phedwar vgain mil o wŷr dewisol, cym­mwys i ryfel, i ymladd ag Israel, ac i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam.

2 Ond gair yr Arglwydd a ddaeth at Semai­ah gŵr Duw, gan ddywedyd,

3 Dywed wrth Rehoboam fab Salomon bre­nin Juda, ac wrth holl Israel yn Juda a Benja­min, gan ddywedyd,

4 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, nac ewch i fynu, ac nac ymleddwch yn erbyn eich bro­dyr; dychwelwch bob vn iw dŷ ei hun, ca­nys drwof fi y gwnaethpwyd y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar eiriau 'r Argl­wydd, ac a ddychwelasant, heb fyned yn er­byn Jeroboam.

5 A Rehoboam a drigodd yn Jerusalem, ac a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Juda.

6 Ac efe a adeiladodd Bethlehem, ac Etam, a Thecoa,

7 A Bethzur, a Soco, ac Adulam,

8 A Gath, a Maresa, a Ziph,

9 Ac Adoraim, a Lachis, ac Azecah,

10 A Zorah, ac Aialon, a Hebron, y rhai oedd yn Juda, ac yn Benjamin; dinasoedd o gadernid.

11 Ac efe a gadarnhaodd yr amddeffynfa­oedd, ac a osododd flaenoriaid ynddynt hwy, a chellau bwyd, ac olew, a gwîn.

12 Ac ym mhob dinas y gosododd efe dari­annau, a gwayw-ffyn, ac a'i cadarnhaodd hwynt yn gadarn lawn, ac eiddo ef oedd Juda, a Benjamin.

13 A'r offeiriaid a'r Lefiaid, y rhai oedd yn holl Israel, a gyrchasant atto ef o'i holl derfynau.

14 (Canys y Lefiaid a adawsant eu meusydd pentrefol, a'i meddiant, ac a ddaethant i Juda, ac i Jerusalem:Pen. 13. 9. canys Jeroboam a'i feibion a'i bwriasei hwynt ymmaith o fod yn offeiriaid i'r Arglwydd.

15 Ac2 Bren. 12.31. efe a osododd iddo offeiriaid i'r vchelfeydd, ac i'rEsay 34.14. cythreuliaid, ac i'r lloi a wnaethei efe.)

16 Ac ar eu hôl hwynt, o holl lwythau Is­rael, y rhai oedd yn rhoddi eu calon i geisio Arglwydd Dduw Israel, a ddaethant i Jeru­salem, i aberthu i Arglwydd Dduw eu tadau.

17 Felly hwy a gadarnhasant frenhiniaeth Juda, ac a gryfhasant Rehoboam fab Salomon, dros dair blynedd: canys hwy a rodiasant yn ffordd Dafydd, a Salomon, dair blynedd.

18 A Rehoboam a gymmerth Mahalath, ferch Jerimoth fab Dafydd, yn wraig iddo, ac Abihail ferch Eliab fab Jesse:

19 A hi a ymddug iddo ef feibion, sef Jeus, a Samariah, a Zaham.

20 Ac ar ei hol hi efe a gymmerth1 Bren. 15.2. Maa­chah ferch Absalom, a hi a ymddug iddo ef Abiah, ac Atthai, a Ziza, a Selomith.

21 A Rehoboam a garodd Maachah ferch Absalom, yn fwy nâ'i holl wragedd a'i ordder­chadon, canys deu-naw o wragedd a gymmerth efe, a thri vgain o ordderchadon, ac efe a gen­hedlodd wyth ar hugain o feibion, a thri vgain o ferched.

22 A Rehoboam a osododd Abiah fab Maa­chah yn ben, yn flaenor ar ei frodyr; canys yr oedd yn ei fryd ei vrddo ef yn frenin.

23 Ac efe a fu gall, ac a wascarodd rai o'i feibion i holl wiedydd Juda, a Benjamin, i bob dinas gadarn, ac a roddes iddynt hwy lyniaeth yn helaeth: ac efe a geisiodd liaws o wra­gedd.

PEN. XII.

1 Rehoboam yn ymwrthod â Duw, a Sisac yn ei gospi ef. 5 Efe a'i dywysogion yn edifarhau wrth bregeth Semaiah, ac yn cael ymwared rhac eu dinistrio, ond nid rhag eu hanrhei­thio. 13 Pa hyd y teyrnasodd Rehoboam, a'i farwolaeth ef.

AC wedi i Rehoboam siccrhau y frenhiniaeth, a'i chadarnhau, efe a wrthododd gyfraith yr Arglwydd, a holl Israel gyd ag ef.

2 Ac yn y bummed flwyddyn i'r brenin Re­hoboam, y daeth Sisac brenin yr Aipht i fynu yn erbyn Jerusalem; (1 Bren. 14.24. o herwydd iddynt wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd)

3 A mil a dau cant o gerbydau, a thri vgein­mil o wŷr meirch; ac nid oedd nifer ar y bobl a ddaeth gyd ag ef o'r Aipht, sef y Lubiaid, y Succiaid, a'r Ethiopiaid.

4 Ac efe a ennillodd y dinasoedd cedyrn, y rhai oedd yn Juda, ac a ddaeth hyd Jerusalem.

5 Yna Semaiah y prophwyd a ddaeth at Re­hoboam, a thywysogion Juda, y rhai oedd wedi ymgasclu yn Jerusalem rhac ofn Sisac, ac a ddywedodd wrthynt, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, [Page] chwi a'm gwrthadosoch i, am hynny myfi a'ch gadewais chwi yn llaw Sisac.

6 Yna tywysogion Israel a'r brenin a ymo­styngasant, ac a ddywedasant, cyfiawn yw 'r Arglwydd.

7 A phan welodd yr Arglwydd iddynt hwy ymostwng, daeth gair yr Arglwydd at Se­maiah, gan ddywedyd, hwy a ymostyngasant, am hynny ni ddifethaf hwynt, onid rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder, ac ni thywelldir fy llid yn erbyn Jerusalem drwy law Sisac.

8 Etto byddant yn weision iddo ef, fel yr ad­nabyddont fy ngwasanaeth i, a gwasanaeth teyrnasoedd y gwledydd.

9 Yna1 Bren. 14.26. Sisac brenin yr Aipht a ddaeth i fynu yn erbyn Jerusalem, ac a gymmerth dryssorau tŷ 'r Arglwydd, a thryssorau tŷ 'r brenin, ac a'i dûg hwynt ymmaith oll: dûg ymmaith hefyd y tariannau aurPen. 9. 15. a wnaethei Salomon.

10 A'r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu llê hwynt dariannau prês, ac a'i rhoddodd hw­ynt i gadw tan law tywysogion gwyr y gard, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin.

11 A phan elei 'r brenin i dŷ 'r Arglwydd, gwŷr y gard a ddeuent, ac a'i cyrchent hwy, ac a'i dygent trachefn i stafell gwŷr y gard.

12 A phan ymostyngodd efe, llid yr Ar­glwydd a ddychwelodd oddi wrtho ef, fel nas dinistriei yn hollawl,Neu, ac etto yn Juda 'r oedd pe­thau ddio­nus. ac yn Juda hefyd yr oedd pob peth yn dda.

131 Bren. 14.21. Felly y brenin Rehoboam a ymgryf­haodd yn Jerusalem, ac a deyrnasodd: a mab un mlwydd a deugain oedd Rehoboam pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd ar bymthec y teyrnasodd efe yn Jerusalem, y ddi­nas a ddewisasei 'r Arglwydd i osod ei enw ef ynddi, o holl lwythau Israel: ac enw ei fam oedd Naamah, Ammonies.

14 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg, ca­nys niNeu, sefydlodd, neu oso­dodd, neu gyfeiri­odd. pharottôdd efe ei galon i geisio 'r Ar­glwydd.

15 Am y gweithredoedd cyntaf a diweddaf i Rehoboam, onid ydynt hwy yn scrifennedic yngeiriau Semaiah y prophwyd, ac Ido y gweledydd, yn yr achau? a bu rhyfeloedd rhwng Rehoboam a Jeroboam yn wastadol.

26 A Rehoboam a hunodd gyd â'i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd, ac Abiah ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

PEN. XIII.

1 Abiah yn dyfod yn lle Rehoboam, ac yn rhyfela â Jeroboam, 4 yn adrodd ddaied oedd ei achos, 13 yn rhoi ei hyder ar Dduw, ac yn gorch­fygu Jeroboam. 21 Gwragedd a phlant Abiah.

AC yn y ddeunawfed flwyddyn i'r brenin Jeroboam, y dechreuodd1 Bren. 15.1. Abiah deyr­nasu ar Juda.

2 Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerusa­lem, ac enw ei fam ef oedd Michaiah merch Vriel o Gibea: ac yr oedd rhyfel rhwng Abiah a Jeroboam.

3 Ac Abiah a gydiodd y rhyfel âllu o ryfel­wŷr grymmus, sef pedwar can mîl o wŷr etholedig: a Jeroboam a luniaethodd y rhyfel yn ei erbyn ef, ag ŵyth gan mil o wyr etholo­dig, grymmus, nerthol.

4 Ac Abiah a gyfododd ar fynydd Zema­raim, yr hwn sydd ym mynydd Ephraim, ac a ddywedodd, ô Jeroboam, a holl Israel, gwran­dewch fi:

5 Oni ddylech chwi ŵybod roddi o Argl­wydd Dduw Israel y frenhiniaeth i Ddafydd, ar Israel yn dragywydd, iddo ef ac iw feibion, drwy gyfammod halen?

6 Etto Jeroboam mab Nebat gwâs Salomon fab Dafydd, a gyfododd ac1 Bren 11. 26. a wrthryfelodd yn erbyn ei Arglwydd.

7 Ac ofer ddynion, sef meibion y fall, a ymgasclasant atto ef, ac a ymgadarnhasant yn erbyn Rehoboam mab Salomon, pan oedd Rehoboam yn1 Bren. 12.31. fachgen, ac yn wan ei ga­lon, ac ni allai ymgadarnhau iw herbyn hwynt.

8 Ac yn awr yr ydych yn meddwl ymga­darnhau yn erbyn brenhiniaeth yr Arglwydd, yr hon sydd yn llaw meibion Dafydd, ac yr ydych yn dyrfa fawr, a chyd â chwi y mae y lloi aur a1 Bren 12.28. wnaeth Jeroboam yn ddu­wiau i chwi.

9Pen. 11. 14. Oni yrrasoch ymmaith offeiriaid yr Arglwydd, meibion Aaron, a'r Lefiaid? ac oni wnaethoch i chwi offeiriaid fel pobl y gwle­dydd eraill? pwy bynnac sydd yn dyfodHeb. i lenwi ei law. iw gyssegru, â bustach ieuangc, ac â saith o hyr­ddod, hwnnw fydd yn offeiriad i'r rhai nid ydynt dduwiau.

10 Ninnau, yr Arglwydd yw ein Duw ni, ac nis gwrthodasom ef; a'r offeiriaid y rhai sydd yn gwasanaethu 'r Arglwydd yw meibion Aaron, a'r Lefiaid sydd yn eu gorchwyl.

11Pen. 2. 4. Ac y maent hwy yn llosci i'r Argl­wydd boeth offrymmau bob boreu, a phob hwyr, ac arogl-darth peraidd; ac yn cadw trefnLevit. 24.6. y bara gosod ar y bwrdd pur, a'r canhwyll­bren aur a'i lampau, i losci bob prydnhawn; canys yr ydym ni yn cadw gorchwyliaeth yr Arglwydd ein Duw, ond chwi a'i gwrtho­dasoch ef.

12 Ac wele, Duw sydd ben gyd â ni, a'i offeiriaid ef ag vdcyrn soniarus i vdcanu yn eich erbyn chwi: ô feibion Israel, nac ymle­ddwch yn erbyn Arglwydd Dduw eich tadau, canys ni lwyddwch chwi.

13 Ond Jeroboam a barodd osod cynllwyn o amgylch, a dyfod o'i hôl hwynt: felly 'r oeddynt hwy o flaen Juda, a'r cynllwyn o'r tu ôl iddynt.

14 A Juda a edrychodd yn ôl, ac wele ry­fel iddynt ym mlaen ac yn ôl, a hwy a wae­ddasant ar yr Arglwydd, a'r offeiriaid a leisia­sant mewn vdcyrn.

15 A gwŷr Juda a floeddiasant: a phan wa­eddodd gwŷr Juda, Duw a darawodd Jerobo­am, a holl Israel, o flaen Abiah a Juda.

16 A meibion Israel a ffoesant o flaen Juda: a Duw a'i rhoddodd hwynt iw llaw hwynt.

17 Ac Abiah a'i bobl a'i tarawsant hwy â lladdfa fawr: a syrthiodd yn archolledic o Is­rael bum can mil o wŷr etholedig.

18 Felly y darostyngwyd meibion Israel y pryd hynny; a meibion Juda a orfuant, o herwydd iddynt bwyso ar Arglwydd Dduw eu tadau.

19 Ac Abiah a erlidiodd ar ôl Jeroboam, ac a ddûg oddi arno ef ddinasoedd, Bethel a'i phentrefydd, a Jesanah a'i phen-trefydd, ac Ephraim a'i phen-trefydd.

20 Ac ni chafodd Jeroboam nerth mwyach yn nyddiau Abiah: ond yr Arglwydd a'i tara­wodd ef, fel y bu efe farw.

21 Ond Abiah a ymgryfhaodd, ac a gym­merth iddo bedair ar ddêc o wragedd, ac a genhedlodd ddau fab ar hugain, ac vn ar bymthec o ferched.

22 A'r rhan arall o hanes Abiah, a'i ffyrdd ef, a'i eiriau, y maent yn scrifennedic ynNeu, Histori. llyfr y prophwydPen. 12. 15. Ido.

PEN. XIV.

1 Asa yn dyfod ar ôl Abiah, ac yn dileu delw­addoliaeth, 6 a chwedi cael heddwch, yn cadarn­hau ei deyrnas ag amddiffynfeydd ac ag arfau: 9 Yn galw ar Dduw, ac yn gorchfygu Zerah, ac yn yspeilio 'r Ethiopiaid.

FElly Abiah a hunodd gyd â'i dadau, a chla­ddasant ef yn ninas Dafydd, ac1 Bren. 15.8. Asa ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef: yn ei ddyddiau ef y cafodd y wlad lonydd ddeng-mhly­nedd.

2 Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd dda ac vni­on, yngolwg yr Arglwydd ei Dduw.

3 Canys efe a fwriodd ymmaithDeut. 26.20. allorau y duwiau dieithr, a'r vchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwynau:

4 Ac a orchymmynnodd i Juda geisio Ar­glwydd Dduw eu tadau, a gwneuthur y gy­fraith, a'r gorchymyn.

5 Ac efe a fwriodd ymmaith o holl ddina­soedd Juda yr vchelfeydd a'rHeb. Haul­ddelwau. delwau, a cha­fodd y frenhiniaeth lonydd o'i flaen ef.

6 Ac efe a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Juda; o herwydd bod y wlâd yn cael llonydd, ac nad oedd rhyfel yn ei erbyn ef yn y blyny­ddoedd hynny, o blegit yr Arglwydd a rodda­sei lonyddwch iddo.

7 Am hynny efe a ddywedodd wrth Juda, adeiladwn y dinasoedd hyn, ac amgylchwn hwynt â mûr, a thŷrau, â dryssau, ac â barrau, tra fyddo y wlâd o'n blaen ni, o herwydd i ni geisio yr Arglwydd ein Duw, ni a'i ceisiasom, ac efe a roddodd lonyddwch i ni o amgylch: felly hwy a adeiladasant, ac a lwydda­sant.

8 Ac yr oedd gan Asa lû o wŷr yn dwyn tariannau a gwayw-ffyn, o Juda trychan mîl, ac o Benjamin dau cant a phedwar vgain-mil yn dwyn tariannau, ac yn tynnu bŵa: y rhai hyn oll oedd wŷr grymmus.

9Pen 16. 8. A Zerah yr Ethiopiad a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt, â llû o fil o filoedd, ac â thry­chant o gerbydau; ac a ddaeth hyd Maresah.

10 Yna Asa a aeth allan yn ei erbyn ef, a hwy a luniaethasant ryfel yn nyffryn Sepha­thah wrth Maresah.

11 Ac Asa a waeddodd ar yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, ô Arglwydd,1 Sam. 14.6. nid yw ddim i ti gynnorthwyo, pa vn bynnac ai gyd â llawer, ai gydâ 'r rhai nid oes ganddynt gryfdwr, cynnorthwya di ni ô Arglwydd ein Duw, canys pwyso 'r ydym ni arnat ti, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dorf hon: ô Arglwydd, ein Duw ni ydwyt ti, na orfydded dŷn i'th erbyn.

12 Felly 'r Arglwydd a darawodd yr Ethio­piaid o flaen Asa, ac o flaen Juda, a'r Ethiopi­aid a ffoesant.

13 Ac Asa, a'r bobl oedd gyd ag ef, a'i her­lidiasant hwy hyd Gerar; a syrthiodd yr Ethio­piaid fel na allent ymadgryfhau, canys dryllia­sid hwynt o flaen yr Arglwydd, ac o flaen ei lu ef, a hwy a ddygasant ymmaith anrhaith fawr iawn.

14 A tharawsant yr holl ddinasoedd o am­gylch Gerar, canys yr oedd dychryn yr Argl­wydd arnynt hwy: a hwy a anrheithiasant yr holl ddinasoedd, canys anrhaith fawr oedd ynddynt.

15 Lluestai yr anifeiliaid hefyd a daraw­sant hwy, ac a gaeth-gludasant lawer o ddefaid, a chamelod, ac a ddychwelasant i Jerusalem.

PEN. XV.

1 Asa a Juda, a llawer o Israel, trwy annoc pro­phwydoliaeth Azariah mab Oded, yn gwneu­thur cyhoedd gyfammod â Duw. 16 Yn symmudo Maachah ei fam o fod yn frenhines, o herwydd ei delw-addoliaeth. 18 Yn dwyn y pethau cyssegredic i dy Dduw, ac yn cael hir heddwch.

AC Yspryd Duw a ddaeth ar Azariah fab Oded.

2 Ac efe a aeth allani gyfar­fod. o flaen Asa, ac a ddy­wedodd wrtho, ô Asa, a holl Juda, a Benjamin, gwrandewch fi, yr Arglwydd sydd gyd â chwi, tra fyddoch gyd ag ef, ac os ceisiwch ef, chwi a'i cewch ef, ond os gwrthodwch chwi ef, yn­tef a'ch gwrthyd chwitheu.

3 Dyddiau lawer y bu Israel heb y gwir Dduw, a heb offeiriad yn ddyscawdur, a heb gyfraith.

4 Ond pan ddychwelent yn eu cyfyngdra at Arglwydd Dduw Israel, a'i geisio ef, efe a gaid ganddynt.

5 Ac yn yr amseroedd hynny nid oedd heddwch i'r hwn oedd yn myned allan, nac i'r hwn oedd yn dyfod i mewn: ond blin­der lawer oedd ar holl bresswyl-wŷr y gw­ledydd.

6 A chenedl aHeb. ddrylli­wyd. ddinistriwyd gan genedl, a dinas gan ddinas: o blegit Duw oedd yn eu poeni hwy â phob aflwydd.

7 Ymgryfhewch gan hynny, ac na laesed eich dwylo: canys y mae gwobr i'ch gwaith chwi.

8 A phan glybu Asa y geiriau hyn, a phro­phwydoliaeth Oded y prophwyd, efe a gryf­haodd, ac a fwriodd ymmaith yHeb. ffieidd­dra. ffiaidd eu­lynnod o holl wlâd Juda, a Benjamin, ac o'r holl ddinasoedd a ennillasei efe o fynydd Ephraim, ac a adnewyddodd allor yr Ar­glwydd, yr hon oedd o flaen porth yr Ar­glwydd.

9 Ac efe a gynhullodd holl Juda, a Benja­min, a'r dieithriaid gyd â hwynt, o Ephra­im a Manasseh ac o Simeon: (canys hwy a syrthiasant atto ef yn aml o Israel, pan welsant fod yr Arglwydd ei Dduw gyd ag ef.)

10 Felly hwy a ymgynnullasant i Jerusa­lem, yn y trydydd mis, yn y bymthecfed flw­yddyn o deyrnasiad Asa.

11 A hwy a aberthasant i'r Arglwydd y dwthwn hwnnw, o'r anrhaith a ddygasent, saith gant o eidionnau, a saith mil o ddefaid.

12 A hwy a aethant dan gyfammod i geisio Arglwydd Dduw eu tadau, â'i holl galon, ac â'i holl enaid:

13Deut. 13.9. A phwy bynnac ni cheisiei Arglwydd Dduw Israel, fod ei roddi ef i farwolaeth, yn fy­chan, ac yn fawr, yn ŵr, ac yn wraig.

14 A hwy a dyngasant i'r Arglwydd â llef vchel, ac â bloedd; ag vdcyrn hefyd, ac â thrwmpêdau.

15 A holl Juda a lawenychasant o herwydd y llŵ; canys â'i holl galon y tyngasent, ac â'i holl ewyllys y ceisiasant ef, a hwy a'i cawsant ef: a'r Arglwydd a roddodd lonyddwch iddynt o amgylch.

16 A'r brenin Asa a symmudodd1 Bren. 15.13. Maachah ei fam o fod yn frenhines, o herwydd gwneu­thur o honiHeb. ddychryn. ddelw mewn llwyn: ac Asa [Page] a dorrodd ei delw hi, ac a'i drylliodd, ac a'i lloscodd wrth afon Cidron.

17 Ond ni thynnwyd ymaith yr vchel­feydd o Israel: etto yr oedd calon Asa yn ber­ffaith ei holl ddyddiau ef.

18 Ac efe a ddûg i mewn i dŷ 'r Arglwydd yr hyn a gyssegrasei ei dâd, a'r hyn a gyssegra­sei efe ei hun, arian, ac aur, a llestri.

19 Ac ni bu ryfel mwyach hyd y bymthec­fed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa.

PEN. XVI.

1 Asa, drwy gymmorth y Syriaid, yn rhwystro i Baasa adeiladu Ramah. 7 Hanani yn ei argy­oeddi ef am hynny, ac yntau yn ei fwrw ef yngharchar. 11 Ym mhlith ei weithredoedd eraill, y mae efe, yn ei glefyd, yn ymgais, nid â Duw, ond â'r physygwyr. 13 Ei farwolaeth ef a'i gladdedigaeth.

YN yr1 Bren. 15.17. vnfed flwyddyn ar bymthec ar hugain o deyrnasiad Asa, y daeth Baasa brenin Israel i fynu yn erbyn Juda, ac a adeila­dodd Ramah, fel na adawei i nêb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Juda.

2 Yna Asa a ddûg allan arian, ac aur, o dryssorau tŷ'r Arglwydd, a thŷ 'r brenin, ac a'i hanfonodd at Benhadad brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo ynHeb. Darme­sec. Damascus, gan ddy­wedyd,

3 Cyfammod sydd rhyngofi â thi, fel y bu rhwng fy nhâd i â'th dâd titheu: wele, anfo­nais attat arian, ac aur, dôs, torr dy gyfam­mod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthifi.

4 A Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion ei luoedd yn erbyn dinasoedd Israel, a hwy a darawsant Jion, a Dan, ac Abel-maim, a holl dryssor-ddinaso­edd Nephtali.

5 A1 Bren. 15.22. phan glybu Baasa hynny, efe a beidi­odd ag adeiladu Ramah: ac a adawodd ei waith i sefyll.

6 Yna Asa 'r brenin a gymmerth holl Juda, a hwy a gludasant ymmaith gerrig Ramah, a'i choed, â'r rhai yr adeiladai Baasa, ac a adeila­dodd â hwynt Geba, a Mispah.

7 Y prŷd hynny y daeth Hanani y gwele­dydd at Asa frenin Juda, ac a ddywedodd wrtho, gan i ti roi dy bwys ar frenin Syria, ac na roddaist dy bwys ar yr Arglwydd dy Dduw, am hynny y diangodd llû brenin Sy­ria o'th law di.

8 Onid oedd yrPen. 12. 3. & 14. 9. 2 Mac. 9.5. & 12.22. Ethiopiaid, a'r Lubiaid ynHeb. lliaws. llû dirfawr, a cherbydau, ac a gwŷr meirch yn aml iawn? ond am it roi dy bwys ar yr Arglwydd, efe a'i rhoddodd hwynt yn dy law di.

9 Canys y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych ar yr holl ddaiar,Heb. i ymgryf­hau. iw ddangos ei hun yn grŷf gyd â'r rhai sydd a'i calon yn berffaith tu ag atto ef. Ynfyd y gwnaethost yn hyn, am hynny rhyfeloedd fydd i'th erbyn o hyn allan.

10 Yna y digiodd Asa wrth y gweledydd, ac a'i rhoddodd ef mewn carchar-dŷ; canys yr oedd efe yn ddigllon wrtho am y peth hyn. Ac Asa aHeb. yssigodd. orthrymmodd rai o'r bobl y pryd hynny.

11 Ac wele, gweithredoedd Asa y rhai cyn­taf, a'r rhai diweddaf; wele, y maent yn scri­fennedic yn llyfr brenhinoedd Juda, ac Israel.

12 Ac Asa a glafychodd o'i draed yn y bed­waredd flwyddyn ar bymthec ar hugain o'i deyrnasiad, nes iw glefyd fyned yn ddirfawr; etto ni cheisiodd efe yr Arglwydd yn ei glefyd, onid y meddygon.

13 Ac Asa a hunodd gyd â'i dadau, ac a fu farw yn yr vnfed flwyddyn a deugain o'i deyrnasiad.

14 A chladdasant ef yn ei feddrod ei hun, yr hwn aHeb. glodia­sei. wnaethei efe iddo yn ninas Dafydd, a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely a lan­wasid â phêr aroglau o amryw rywogaethau, wedi eu gwneuthur drwy waith apothecari; a hwy a gynneuasant iddo ef gynneu mawr iawn.

PEN. XVII.

1 Jehosaphat yn dyfod ar ôl Asa, yn teyrnasu yn ddaionus, ac yn ffynnu, 7 yn anfon Leuiaid gydâ 'r pennaethiaid i ddyscu Juda. 10 Duw yn dychrynu ei elynion ef, a rhai o honynt yn dwyn iddo anrhegion a theyrn-ged. 12 Ei fawredd, a'i gapteniaid, a'i luoedd ef.

A1 Bren. 15.17. Jehosaphat ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef, ac a ymgryfhaodd yn erbyn Israel.

2 Ac efe a roddodd fyddinoedd ym mhôb vn o gaerog ddinasoedd Juda, ac a roddes rag­lawiaid yngwlad Juda, ac yn ninasoedd Ephra­im, y rhai a ennillasei Asa ei dad ef.

3 A'r Arglwydd a fu gyd â Jehosaphat, o herwydd iddo rodio1 Cron. 29.29. yn ffyrdd cyntaf Dafydd ei dâd, ac nad ymofynnodd â Baalim:

4 Eithr Duw ei dad a geisiodd efe, ac yn ei orchymynion ef y rhodiodd, ac nid yn ôl gweithredoedd Israel.

5 Am hynny 'r Arglwydd a siccrhâodd y frenhiniaeth yn ei law ef, a holl Juda a rodda­sant anrhegion i Jehosaphat, ac yr ydoedd iddo olud, ac anrhydedd yn helaeth.

6Neu, A'i ga­lon a ym­gyssurodd. Ac efe a dderchafodd ei galon yn ffyrdd yr Arglwydd: ac efe a fwriodd hefyd yr vchelfeydd a'r llwynau allan o Juda.

7 Hefyd yn y drydedd flwyddyn o'i deyr­nasiad, efe a anfonodd at ei dywysogion, sef Benhail, ac Obadiah, a Zechariah, a Nethaneel, a Michaiah, i ddyscu yn ninasoedd Juda.

8 A chyd â hwynt yr anfonodd efe Lefiaid, Semaiah, a Nethaniah, a Zebadiah, ac Asahel, a Semiramoth, a Jehonathan, ac Adoniah, a Thobiah, a Thob-adoniah, y Lefiaid: a chyd â hwynt Elisama, a Jehoram yr offeiriaid.

9 A hwy a ddyscasant yn Juda, a chyd â hwynt yr oedd llyfr cyfraith yr Arglwydd: felly 'r amgylchasant hwy holl ddinasoedd Ju­da, ac y dyscasant y bobl.

10 Ac arswyd yr Arglwydd oedd ar holl deyrnasoedd y gwledydd oedd o amgylch Juda, fel nad ymladdasant hwy yn erbyn Je­hosaphat.

11 A rhai o'r Philistiaid oedd yn dwyn i Jehosaphat anrhegion, a theyrnged o arian: yr Arabiaid hefyd oedd yn dwyn iddo ef ddia­delloedd, saith mîl a saith gant o hyrddod, a saith mîl a saith gant o fychod.

12 Felly Jehosaphat oedd yn myned rhagddo, ac yn cynnyddu yn vchel, ac efe a adailadodd yn JudaNeu, ge [...]yll. baiâsau, a dinasoedd try­ssorau.

13 A llawer o waith oedd ganddo ef yn ninasoedd Juda, a rhyfel-wŷr cedyrn nerthol yn Jerusalem.

14 Ac dymma eu rhifedi hwynt, yn ôl tŷ eu tadau, o Juda yn dywysogion miloedd, yr oedd Adnah y pennaf, a chyd ag ef drychan mîl o wŷr cedyrn nerthol.

15 A cher ei law ef, Jehohanan y tywysog, [Page] a chyd ag ef ddau cant a phedwar ugain mîl.

16 A cher llaw iddo ef, Amasiah mâb Zi­chri, yr hwn o'i wirfodd a ymroddodd i'r Ar­glwydd, a chyd ag ef ddau can mîl o wŷr ce­dyrn nerthol.

17 Ac o Benjamin, yr oedd Eliada yn ŵr ca­darn nerthol, a chyd ag ef ddau can mîl yn arfogion â bwâu a thariannau.

18 A cher llaw iddo ef, Jehozabad, a chyd ag ef gant a phedwar vgain mîl yn barod i ryfel.

19 Y rhai hyn oedd yn gwasanaethu 'r brenin, heb law y rhai a roddasei y brenin yn y dinasoedd caerog, drwy holl Juda.

PEN. XVIII.

1 Jehosaphat yn ymgyfathrachu ag Ahab, ac yn mynd gyd ag ef i Ramoth Gilead. 4 Gau bro­phwydi yn twyllo Ahab, a'i lâdd ef yn ôl gair Michea.

AC i Jehosaphat yr ydoedd golud, ac anrhy­dedd yn helaeth, ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab.

21 Bren 22.2. Ac ym mhen ennyd o flynyddoedd, efe a aeth i wared at Ahab i Samaria; ac Ahab a laddodd ddefaid, a gwartheg lawer, iddo ef ac i'r bobl oedd gyd ag ef, ac a'i hannogodd ef i fyned i fynu gydag ef i Ramoth Gilead.

3 Ac Ahab brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaphat brenin Juda, a ei di gyd â mi i Ra­moth Gilead? yntef a ddywedodd wrtho, yr ydwyfi fel titheu, a'm pobl i fel dy bobl ditheu, a byddwn gyd â thi yn y rhyfel.

4 Jehosaphat hefyd a ddywedodd wrth fre­nin Israel Ymgynghora attolwg heddyw â gair yr Arglwydd.

5 Am hynny brenin Israel a gasclodd o'r prophwydi bedwar cant o wŷr, ac a ddywe­dodd wrthynt, a awn ni yn erbyn Ramoth Gilead i ryfel, neu a beidiafi? dywedasant hwy­than, dôs i fynu, canys Duw a'i dyry yn llaw y brenin.

6 Ond Jehosaphat a ddywedodd, onid oes ymma vn prophwyd i'r Arglwydd etto mwy­ach, fel yr ymgynghorem ag ef?

7 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jeho­saphat, y mae etto vn gŵr drwy 'r hwn y gallem ymgynghori a'r Arglwydd; ond y mae yn gâs gennifi ef, canys nid yw 'n prophwydo i mi ddaioni, onid drygioni erioed; efe yw Michea mâb Imla. A dywedodd Jehosaphat, na ddy­weded y brenin felly.

8 A brenin Israel a alwodd ar vn o'i Neu, Eunuchi­aid. sta­fellyddion, ac a ddywedodd, pryssura Michea fâb imla.

9 A brenin Israel, a Jehosaphat brenin Juda, oeddynt yn eistedd bôb vn ar ef deyrngader, wedi eu gwisco mewn brenhinawl wiscoedd, ei­stedd yr oeddynt mewn llannerch wrth ddrŵs porth Samaria, a'r holl brophwydi oedd yn prophwydo ger eu bron hwynt.

101 Bren. 22.11. A Zedeciah mâb Chenaanah a wnae­thei iddo ei hun gyrn heirn, ac efe a ddywed­odd, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, â'r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes it eu difa hwynt.

11 A'r holl brophwydi oedd yn prophwydo fel hyn, gan ddywedyd, dôs i fynu i Ramoth Gilead, a ffynna; canys yr Arglwydd a'i dyry hi yn llaw y brenin.

121 Bren. 22.13. A'r gennad a aethe i alw Michen, a le­farodd wrtho ef, gan ddywedyd, wele eiriau y prophwydi ynHeb. vn-enau. vn air yn dda i'r brenin: by­dded gan hynny attolwg dy air ditheu fel vn o'r rhai hynny, a dywed y goreu.

13 A Michea a ddywedodd, fel mai byw 'r Arglwydd, yr hyn a ddywedo fy Nuw, hyn­ny a lefarafi.

14 A phan ddaeth efe at y brenin, y brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth Gilead, neu a beidiafi? dy­wedodd yntef, ewch i fynu a ffynnwch, a rho­ddir hwynt yn eich llaw chwi.

15 A'r brenin a ddywedodd wrtho, pa sawl gwaith ith dynghedaf di, na leferech wrthifi onid gwirionedd, yn enw 'r Arglwydd?

16 Yna efe a ddywedodd, gwelais holl Isra­el yn wascaredic ar y mynyddoedd fel defaid ni bydde iddynt fugail: a dywedodd yr Arglwydd, nid oes feistr arnynt hwy, dychweled pôb vn iw dŷ ei hun mewn tangneddyf.

17 (A brenin Israel a ddywedodd wrth Je­hosaphat, oni ddywedais i wrthit, na prophwy­dei efe ddaioni i mi onidNeu, ei drygioni. drygioni?)

18 Yntef a ddywedodd, gan hynny gwrando air yr Arglwydd, gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lû y nefoedd yn sefyll ar ei ddeheu-law, ac ar ei law asswy.

19 A dywedodd yr Arglwydd, pwy a dwy­lla Ahab brenin Israel, fel yr elo efe i fynu, ac y syrthio yn Ramoth Gilead? ac vn a lefarodd gan ddywedyd fel hyn, ac arall gan ddywe­dyd fel hyn.

20 YnaJob. 1.6. yspryd a aeth allan, ac a safodd ger bron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, myfi a'i twyllaf ef. A dywedodd yr Arglwydd wrtho pa fodd?

21 Dywedodd yntef, myfi a âf allan,2 Thess. 2.10. ac a fyddaf yn yspryd celwyddoc yngenau ei holl brophwydi ef. A dywedodd yr Arglwydd, twylli, a gorchfygi, dôs allan, a gwna felly.

22 Ac yn awr wele 'r Arglwydd a roddodd yspryd celwyddoc yngenau dy brophwydi hyn, a'r Arglwydd a lefarodd ddrwg am danat ti.

23 Yna Zedeciah mâb Chenaanah a nessa­odd, ac a darawodd Michea tan ei gern, ac a ddywedodd, pa ffordd yr aeth Yspryd yr Ar­glwydd oddi wrthifi i ymddiddan a thy di?

24 A Michea a ddywedodd, wele ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elych diHeb. i stafell mewn ystafell. o sta­fell i stafell i ymguddio.

25 A brenin Israel a ddywedodd, cymmer­wch Michea, a dygwch ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mâb y brenin;

26 A dywedwch, fel hyn y dywedodd y brenin, rhowch hwn yn y charchar-dŷ, a bwydwch ef â bara cystudd, ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod eilwaith mewn heddwch.

27 Yna y dywedodd Michea, os gan ddych­welyd y dychweli di mewn heddwch, ni le­farodd yr Arglwydd yno fi: efe a ddywedodd hefyd, gwrandewch hyn yr holl bobl.

28 Felly brenin Israel, a Jehosaphat brenin Juda, a aethant i fynu i Ramoth Gilead.

292 Bren. 22.30. A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaphat, mi a newidiaf fy nillad, ac a âf i'r rhyfel, ond gwisc di dy ddillad. Felly brenin Israel a newidiodd ei ddillad, a hwy a aethant i'r rhyfel.

30 A brenin Syria a orchymynnasei i dywy­sogion y cerbydau, y rhai oedd ganddo ef, gan ddywedyd, nac ymleddwch â bychan nac â mawr, onid â brenin Israel yn vnic.

31 A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaphat, hwy a ddywedasant, brenin Israel yw efe, a hwy aAmgyl­chasam. droesant i ymladd yn ti [Page] erbyn ef: ond Jehosaphat a waeddodd, a'r Ar­glwydd a'i cynnorthwyodd ef, a Duw a'i gyr­rodd hwynt oddi wrtho ef.

32 A phan welodd tywysogion y cerbydau, nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwela­sant oddi ar ei ôl ef.

331 Bren. 12.34. A rhyw ŵr a dynnodd mewn bŵaHeb. yn ei wi­ri [...]ndeb. ar ei amcan, ac a darawodd frenin IsraelHeb. rhwng y cyssyll­tiadau, a rhwng y ddwy­fr [...]nneg. rhwng cyssylidiadan y lluric: am hynny efe a ddywe­dodd wrth ei gerbydwr, trô dy law, a dŵg fi allan o'r gâd, canys fo'm clwyfwyd i.

34 A'r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw; a brenin Israel a gynhelid yn ei ger­byd yn erbyn y Syriaid, hyd yr hwyr: ac efe a fu farw ynghylch machludiad haul.

PEN. XIX.

1 Jehu yn ceryddu Jehosaphat, ac ynteu yn ym­weled â'i deyrnas, 5 ac yn rhoi athrawiaeth i'w farn-wŷr, 8 ac i'r offeiriaid, a'r Leuiaid.

A Jehosaphat brenin Juda a ddychwelodd iw dŷ ei hun i Jerusalem mewn heddwch.

2 A Jehu mâb Hanani y gweledydd a aeth o'i flaen ef, ac a ddywedodd wrth y brenin Je­hosaphat, ai cynnorthwyo yr annuwiol, a charu y rhai oedd yn cassau yr Arglwydd, a wnait ti? am hyn digofaint oddi wrth yr Arglwydd sydd arnat ti.

3 Er hynnyPen. 17. 4. 6. pethau da a gafwyd ynot ti; canys ti a dynnaist ymmaith y llwyni o'r wlâd, ac a baratoaist dy galon i geisio Duw.

4 A Jehosaphat a drigodd yn Jerusalem: ac efe aHeb. ddychwe­lodd ac a [...]th. aeth drachefn trwy yr bobl o Beerseba hyd fynydd Ephraim ac a'i dûg hwynt eil­waith at Arg [...]ydd Dduw eu tadau.

5 Ac efe a osododd farn-wŷr yn y wlad, drwy holl ddinasoedd caerog Juda, o ddinas bwygilydd.

6 Ac efe a ddywedodd wrth y barn-wŷr, edrychwch beth a wneloch, canys nid tros ddŷn yr ydych yn barnu, onid tros yr Ar­glwydd; ac efe a fydd gyd â chwiHeb. yn achos y farn. wrth roddi barn.

7 Yn awr gan hynny bydded ofn yr Ar­glwydd arnoch chwi; gwiliwch, a gwnewch hynny: o herwydd nid oes anwiredd gyd â'r Arglwydd ein Duw,Deut. 10.17. Job 34.19 Act. 10.34. Rhuf. 2.11. Galat. 2.6. Ephe. 6.9. Colos. 3.25. 1 Pet. 1.17. na derbyn wyneb, na chymmeryd gwobr.

8 A Jehosaphat a osododd hefyd yn Jeru­salem rai o'r Lefiaid, ac o'r offeiriaid, ac o ben­nau tadau Israel i drîn barnedigaethau yr Ar­glwydd ac ymrafaelion, pan ddychwelent i Je­rusalem.

9 Ac efe a orchymynnodd iddynt, gan ddy­wedyd, fel hyn y gwnewch mewn ofn yr Arglwydd, mewn ffyddlondeb, ac â chalon berffaith.

10 A pha ymrafael bynnag a ddêl attoch chwi oddiwrth eich brodyr, y rhai sy yn trigo yn eu dinasoedd, rhwng gwaed a gwaed, rhwng cyfraith a gorchymyn, deddfau a barnedigae­thau, rhybyddiwch hwynt na throsseddont yn erbyn yr Arglwydd, a bôd digofaint arnoch chwi, ac ar eich brodyr: felly gwnewch, ac na throsseddwch:

11 Ac wele Amariah 'r arch-offeiriad sydd arnoch chwi ym mhôb peth a berthyn i'r Ar­glwydd, a Zebadiah mab Ismael bhenor tŷ Ju­da, ym mhôb achos i'r brenin; a'r Lefiaid yn swyddogion ger eich bron chwi: ymwrôlwch, a gwnewch hynny, a'r Arglwydd fydd gyd â'r daionus.

PEN. XX.

1 Jehosaphat yn ei ofn, yn cyhoeddi ympryd, 5 ac yn gweddio. 14 Prophwydoliaeth Jaha­ziel. 20 Jehosaphat yn cynghori 'r bobl, ac yn gosod cantorion i foliannu 'r Arglwydd. 22 Mawr ddinistr y gelynion. 26 Y bobl, wedi bendithio Duw yn Berachah, yn dychwelyd mewn gorfoledd. 31 Teyrnasiad Jehosaphat. 35 Ei longau ef ac Ahaziah, yn dryllio.

AC wedi hyn meibion Moab, a meibion Am­mon a ddaethant, a chyd â hwynt eraill heb law 'r Ammoniaid, yn erbyn Jehosaphat, i ryfel.

2 Yna y deuwyd, ac y mynegwyd i Jeho­saphat, gan ddywedyd, tyrfa fawr a ddaeth yn dy erbyn di o'r tu hwnt i'r môr, o Syria; ac wele y maent hwy yn Hazazon Tamar, honno yw Engedi.

3 A Jehosaphat a ofnodd, ac aHeb. roddodd ei wyneb. ymroddodd i geisio 'r Arglwydd: ac a gyhoeddodd ympryd drwy holl Juda.

4 A Juda a ymgasclasant i ofyn cymmorth gan yr Arglwydd: canys hwy a ddaethant o holl ddinasoedd Juda i geisio 'r Arglwydd.

5 A Jehosaphat a safodd ynghynnulleidfa Juda, a Jerusalem, yn nhŷ 'r Arglwydd, o fla­en y cyntedd newydd;

6 Ac a ddywedodd, ô Arglwydd Dduw ein tadau, onid wyt ti yn Dduw yn y nefoedd, ac yn llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhed­loedd? ac onid yn dy law di y mae nerth a chadernid, fel nad oes a ddichon dy wrthwyne­bu di?

7 Onid tydi ein Duw ni, a yrraist ymmaith bresswyl-wŷr y wlâd hon o flaen dy bobl Isra­el, ac a'i rhoddaist hi i hâd Abraham, dy gare­digol, yn dragywydd?

8 A thrigasant ynddi, ac adeiladasant i ti yn­ddi gyssegr i'th enw, gan ddywedyd,

9Pen. 6. 28. 1 Bren. 8.37. Pan ddêl niwed arnom ni, sef cleddyf, barnedigaeth, neu haint y nodau, neu newyn; os safwn o flaen y tŷ hwn, a cher dy fron di (canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn) a gwae­ddi arnat yn ein cyfyngdra, ti a wrandewi, ac a'n gwaredi ni.

10 Ac yn awr wele feibionGen. 36.8. Deut. 2.4. Isod. 23. Ammon, a Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai ni chanhiedaist i Israel fyned attynt, pan ddae­thant o wlad yr Aipht; ond hwy a droesant oddi wrthynt, ac ni ddifethasant hwynt.

11 Etto wele hwynthwy yn talu i ni, gan ddyfod i'n bwrw ni allan o'th etifeddiaeth di, yr hon a wnaethost i ni ei hetifeddu.

12 Oh ein Duw ni, oni ferni di hwynt? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon, sydd yn dyfod i'n herbyn; ac ni ŵyddom ni beth a wnawn; ond arnat ti y mae ein llygaid.

13 A holl Juda oedd yn sefyll ger bron yr Arglwydd; a'i rhai bâch, eu gwragedd, a'i plant.

14 Yna ar Jahaziel mâb Zechariah, fâb Be­naiah, fâb Jehiel, fâb Mattaniah, Lefiad o fei­bion Asaph, y daeth Yspryd yr Arglwydd, yn­ghanol y gynnulleidfa.

15 Ac efe a ddywedodd, gwrandewch holl Juda, a thrigolion Jerusalem, a thitheu frenin Jehosaphat, fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthych chwi, nac ofnwch, ac na ddigalon­nwch rhag y dyrfa fawr hon, canys nid eiddo chwi y rhyfel, eithr eiddo Duw.

16 Y foru ewch i wared yn eu herbyn hwynt; wele hwynt yn dyfod ifynu wrth riw [Page] Ziz? a chwi a'i goddiweddwch hwynt ynghwrrNeu, y dyffryn. yr afon, tu ag anialwch Jeruel.

17 Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn,Exod. 14.13. sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwa­red yr Arglwydd tu ag attoch, ô Juda, a Jeru­salem; nac ofnwch, ac na ddigalonnwch, ewch y foru allan yn eu herbyn hwynt, a'r Arglwydd fydd gyd â chwi.

18 A Jehosaphat a ymgrymmodd i lawr ar ei wyneb: holl Juda hefyd, a holl drigolion Jerusalem a syrthiasant ger bron yr Arglwydd, gan addoli 'r Arglwydd.

19 A'r Lefiaid, o feibion y Cohathiaid, ac o feibion y Corhiaid, a gyfodasant i foliannu Arglwydd Dduw Israel â llef vchel ddercha­fedig.

20 A hwy a gyfodasant yn forau, ac a ae­thant i anialwch Tecoa: ac wrth fyned o ho­nynt, Jehosaphat a safodd, ac a ddywedodd, gwrandewch fi ô Juda, a thrigolion, Jerusa­lem,Esa. 7.9 credwch yn yr Arglwyd eich Duw, a chwi a siccrheir; coeliwch ei prophwydi ef, a chwi a ffynnwch.

21 Ac efe a ymgynghorodd â'r bobl, ac a osododd gantorion i'r Arglwydd, a rhai i foli­annu prydferthwch sancteiddrwydd, pan aent allan o flaen y rhyfelwŷr; ac i ddywedyd,Psal. 136. clodforwch yr Arglwydd, o herwydd ei dru­garedd a bery yn dragywydd.

22 Ac yn yr amser y dechreuasant hwy y gân, a'r moliant, y rhoddodd yr Arglwydd gynllwynwŷr yn erbyn meibion Ammon, Mo­ab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai oedd yn dyfod yn erbyn Juda, a hwyNeu, a d [...]raw­sant. a laddasant bawb ei gilydd.

23 Canys meibion Ammon, a Moab, a gy­fodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir, iw difrodi, ac iw difetha hwynt: a phan orphen­nasent hwy drigolion Seir, hwy a helpiasant ddifetha pawb ei gilydd.

24 A phan ddaeth Juda hydTwr y gwilwyr. Mispah yn yr anialwch, hwy a edrychasant ar y dyrfa, ac wele hwynt yn gelaneddau meirwon, yn gor­wedd ar y ddaiar, acHeb nid oedd diangfa. heb vn diangol.

25 A phan ddaeth Jehosaphat a'i bobl i sclyfaethu eu hyspail hwynt, hwy a gawsant yn eu mysc hwy lawer o olud, gyd a'r cyrph meirw, a thlysau dymunol (yr hyn a sclyfae­thasant iddynt) beth anfeidrol: a thri-diau y y buant yn ysclyfaethu 'r yspail, canys mawr oedd.

26 Ac ar y pedwerydd dydd yr ymgyn­nullasant iJoel. 3.2. ddyffrynBera­chah. y fendith; canys yno y bendithiasant yr Arglwydd: am hynny y gelwir henw y fan honno dyffrynBera­chah. y fendith hyd heddyw.

27 Yna y dychwelodd holl wŷr Juda, a Jerusalem, a Jehosaphat yn flaenor iddynt, i fyned yn eu hôl i Jerusalem mewn llawenydd: canys yr Arglwyd a roddasei lawenydd iddynt hwy ar eu gelynion.

28 A hwy a ddaethant i Jerusalem, â nablau, a thelynau, ac vdcyrn, i dŷ 'r Arglwydd.

29 Ac ofn Duw oedd ar holl deyrnasoedd y ddaiar, pan glywsant hwy fel y rhyfelasei yr Arglwydd yn erbyn gelynion Israel.

30 Felly teyrnas Jehosaphat a gafodd lo­nydd; canys ei Dduw a roddodd iddo lo­nyddwch o amgylch.

31 A Jehosaphat a deyrnasodd ar Juda:2 Bren. 22.41. mâb pymtheng-mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a phum mhlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerusalem; ac enw ei fam ef oedd Azubah merch Silhi.

32 Ac efe a rodiodd yn ffordd Asa ei dâd, ac ni chiliodd oddi wrthi, gan wneuthur yr hyn oedd vnion yngolwg yr Arglwydd.

33 Er hynny, ni thynnwyd yr vchelfeydd ymmaith: canys ni pharatoesei y bobl eu ca­lon etto at Dduw eu tadau.

34 A'r rhan arall o'r gweithredoedd cyn­taf a diweddaf i Iehosaphat, wele hwy yn scri­fennedic ym mysc geiriau Iehu mâb Hanani, 'r1 Bren. 16.1. hwnHeb. a dderchaf­wyd. y crybwyllir am dano yn llyfr bren­hinoedd Israel.

35 Ac wedi hyn, Iehosaphat brenin Iuda a ymgyfeillodd ag Ahaziah brenin Israel, yr hwn a ymroddase i ddrygioni.

36 Ac efe a vnodd ag ef ar wneuthur llong­au i fyned i Tarsis: a gwnaethant y llongau yn Ezion Geber.

37 Yna Eliezer mâb Dodasah o Maresah, a brophwydodd yn erbyn Iehosaphat, gan ddy­wedyd; o herwydd i ti ymgyfeillachu ag Ahaziah, yr Arglwydd a ddrylliodd dy waith di;1 Bren. 22.49. a'r llongau a ddrylliwyd fel na allasant fy­ned i Tarsis.

PEN. XXI.

1 Jehoram yn teyrnasu ar ôl Jehosaphat, ac yn llâdd ei frodyr. 5 Ei annuwioldeb ef. 8 Edom a Libnah yn troi oddiwrtho ef. 12 Prophwy­doliaeth Elias yn ei erbyn ef. 16 Y Philistiaid a'r Arabiaid yn ei orthrymmu ef, 18 Ei ana­ele glefyd ef, a'i wradwyddus farwolaeth, a'i gladdedigaeth.

A1 Bren. 22.50. Iehosaphat a hunodd gyd â'i dadau, ac a gladdwyd gyd â'i dadau yn ninas Dafydd: a Iehoram ei fâb a deyrnasodd yn ei le ef.

2 Ac iddo ef yr oedd brodyr, meibion Ieho­saphat, Azariah, a Iehiel, a Zechariah, ac Aza­riah, a Michael, a Sephatiah: y rhai hyn oll oedd feibion Jehosaphat brenin Israel.

3 A'i tâd a roddodd iddynt roddion lawer, o arian, ac aur, a gwerth-fawr bethau, gyd â dinasoedd caerog yn Juda: ond efe a roddodd y frenhiniaeth i Iehoram, canys efe oedd y cyn­tafanedic.

4 A2 Bren. 8.16. Iehoram a gyfododd ar frenhiniaeth ei dâd, ac a ymgadarnhaodd, ac a laddodd ei holl frodyr â'r cleddyf; a rhai hefyd o dywy­sogion Israel.

5 Mâb deuddeng-mlwydd ar hugain oedd Iehoram pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac ŵyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Ierusalem.

6 Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnelsei tŷ Ahab; canys merchPen. 22. 2. Ahab oedd wraig iddo: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd.

7 Ond ni fynnei 'r Arglwydd ddifetha tŷ Ddafydd, er mwyn2 Sam. 7.12. 1 Bren. 11.36. 2 Bren. 8.19. Psal. 132.11. y cyfammod a ammodasei efe â Dafydd, fel y dywedasei, y rhoddei efe iddoHeb. lamp neu ganwyll. oleuni, ac iw feibion byth.

8 Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Iuda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hun.

9 A2 Bren. 8.21. Iehoram a aeth allan, â'i dywysogion, a'i holl gerbydau gyd ag ef: ac efe a gyfododd liw nôs, ac a darawodd yr Edomiaid, y rhai oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau.

10 Felly Edom a wrthryfelodd oddi tan law Iuda hyd y dydd hwn: a2 Bren. 8.22. gwrthryfelodd Lib­nah y prŷd hynny oddi tan ei law ef, o her­wydd iddo ymwrthod ag Arglwydd Dduw ei dadau.

11 Efe a wnaeth hefyd vchelfeydd ym my­nyddoedd Iuda, ac a wnaeth i drigolion Ierusa­lem butteinio, ac a gymhellodd Iuda i hynny.

12 A daeth yscrifen oddi wrth Elias y pro­phwyd atto ef, gan ddywedyd, fel hyn y dy­wed Arglwydd Dduw Dafydd dy dâd, o her­wydd na rodiaist ti yn ffyrdd Iehosaphat dy dâd, nac yn ffyrdd Asa brenin Juda;

13 Eithr rhodio o honot yn fford brenhi­noedd Israel, a gwneuthur o honot i Iuda, ac i drigolion Ierusalem butteinio, fel y putteiniodd tŷ Ahab, a llâdd o honot dy frodyr hefyd o dŷ dy dâd, y rhai oedd well na thydi:

14 Wele, yr Arglwydd a dery âHeb. dyrnod. phlâ mawr, dy bobl di, a'th blant, a'th wragedd, a'th holl olud.

15 A thi a gei glefyd mawr, clefyd o'th ymyscaroedd, nes myned o'th goluddion allan gan y clefyd, o ddydd i ddydd.

16 Felly 'r Arglwydd a gyffcôdd yn erbyn Iehoram yspryd y Philistiaid, a'r Arabiaid, y rhai oedd ger llaw 'r Ethiopiaid.

17 A hwy a ddaethant i fynu i Juda, ac a'i drylliasant hi, ac a gaeth-gludasant yr holl gy­foeth a gafwyd yn nhŷ 'r brenin, a'i feibion hefyd a'i wragedd; fel na adawyd mâb iddo onidNeu, Ahaziah, Pen. 22. 1. Neu, Azariah, Pen. 22. 6. Iehoahaz yr ieuangaf o'i feibion.

18 Ac wedi hyn oll yr Arglwydd a'i tara­wodd ef yn ei ymyscaroedd â chlefyd anaele.

19 A bu, yn ôl talm o ddyddiau ac wedi darfod yspaid dwy flynedd, ei ymyscaroedd ef a aeth allan, gan ei glefyd; felly y bu efe farw o glefydau drwg. A'i bobl ni wnaethant iddo gynneu megis cynneu ei dadau.

20 Mâb deuddeng-mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac ŵyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Ierusalem; ac efe a ymadawodd heb hiraeth am dano: a chla­ddasant ef yn ninas Dafydd, ond nid ym me­ddrod y brenhinoedd.

PEN. XXII.

1 Ahaziah yn dyfod ar ôl Jehoram, ac yn teyr­nasu yn annuwiol. 5 Ei gyngrair ef a Joram mâb Ahab, a Jehu yn ei lâdd ef. 10 Athaliah yn difetha 'r holl hâd brenhinol ond Joas, yr hwn a guddiasai Josabeah ei fodryb, ac yn cymmeryd arni y frenhiniaeth.

A2 Bren. 8.24. Thrigolion Ierusalem a vrddasant Ahazi­ah ei fâb ieuangaf ef yn frenin yn ei lê ef, canys y fyddin a ddelsei gyd â'r Arabiaid i'r gwersyll, a laddasei y rhaiPen. 21. 17. hynaf oll. Felly Ahaziah mâb Jehoram brenin Iuda a deyrna­sodd.

2 Mâb dwy flwydd a deugain oedd Ahaziah pan ddechreuodd efe deyrnasu: ac vn flwyddyn y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef oedd Pen. 21. 6. Athaliah merch Omri.

3 Ynteu hefyd a rodiodd yn ffyrdd tŷ A­hab: canys ei fam oedd ei gyngor ef i wneu­thur drwg.

4 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yn­golwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canys hwynt hwy oedd gynghoriaid iddo ef, ar ôl marwo­laeth ei dâd, iw ddinistr ef.

5 Ac efe a rodiodd yn ôl eu cyngor hwynt, ac a aeth gyd â Iehoram mâb Ahab brenin Isra­el i ryfel, yn erbyn Hazael brenin Syria, yn Ramoth Gilead: a'r Syriaid a darawsant Io­ram.

6 Ac efe a ddychwelodd i ymiachâu i Iez­reel, o herwydd yr archollion â'r rhai y taraw­sent ef yn Ramah, pan ymladdodd efe â Ha­zael brenin Syria: acAhazia vers. 1. Jehoahaz. Pen. 21. 17. Azariah mâb Iehoram brenin Iuda a aeth i wared i ymweled â Ie­horam mab Ahab i Jezreel, canys claf oedd efe.

7 AHeb. mathrad. dinistr Ahaziah oedd oddi wrth Dduw, wrth ddyfod at Ioram: canys pan ddaeth, efe a aeth gyd â Iehoram yn erbyn Iehu mab Nimsi 'r hwn a2 Bren. 9.27. enneiniasei 'r Arglwydd i dorri ymmaith dŷ Ahab.

8 A phan farnodd Jehu yn erbyn tŷ Ahab, efe a gafodd dywysogion Iuda, a meibion bro­dyr Ahaziah, y rhai oedd yn gwasanaethu A­haziah, ac efe a'i lladdodd hwynt.

92 Bren. 9.27. Ac efe a geisiodd Ahaziah, a hwy a'i da­liasant ef (canys yr oedd efe yn llechu yn Sa­maria) a hwy a'i dygasant ef at Iehu, lladda­sant ef hefyd, a chladdasant ef; canys dyweda­sant, mâb Iehosaphat yw efe, yr hwn a geisiodd yr Arglwydd â'i holl galon: felly nid oedd gan dŷ Ahaziah nerth i lynu yn y deyrnas.

10 Ond pan welodd2 Bren. 11.1. Athaliah mam Aha­ziah farw o'i mâb, hi a gyfododd, ac a ddife­thodd holl frenhinawl hâd tŷ Iuda.

11 Ond Josabeah merch y brenin a gym­merth Ioas fâb Ahaziah, ac a'i lladratâodd ef o fysc meibion y brenin y rhai a laddwyd, ac a'i rhoddodd ef a'i fammaeth yn stafell y gwelâu: felly Iosabeah merch y brenin Iehoram gwraig Iehoiada yr offeiriad, (canys chwaer Ahaziah ydoedd hi) a'i cuddiodd ef rhag Athaliah, fel na laddodd hi ef.

12 Ac efe a fu ynghûdd gyd â hwynt yn nhŷ Dduw, chwe blynedd, ac Athaliah oedd yn teyrnasu ar y wlâd.

PEN. XXIII.

1 Jehoiada, wedi gosod pethau mewn trefn, yn gwneuthur Joas yn frenhin. 12 Lladd Atha­liah. 16 Jehoiada yn edfryd gwasanaeth Duw.

AC yn2 Bren. 11.4. y seithfed flwyddyn yr ymgadarn­haodd Iehoiada, ac y cymmerodd dywyso­gion y cantoedd, Azariah mâb Ieroham, ac Is­mael mâb Iohanan, ac Azariah mâb Obed, a Maasiah mâb Adaiah, ac Elisaphat mâb Zichri, gyd ag ef mewn cyfammod.

2 A hwy a aethant o amgylch yn Iuda, ac a gynnullasant y Lefiaid o holl ddinasoedd Iuda, a phennau cenedl Israel, ac a ddaethant i Ieru­salem.

3 A'r holl gynnulleidfa a wnaethant gy­fammod â'r brenin yn nhŷ Dduw: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, wele, mâb y brenin a deyrnasa,2 Sam. 7.12. 1 Bren. 2.4. & 9.5. 2 Cron. 6.16. & 7.18. fel y llefarodd yr Arglwydd am feibion Dafydd.

4 Dymma y peth a wnewch chwi, y dry­dedd ran o honoch, y rhai a ddeuant i mewn ar y Sabboth, o'r offeiriaid, ac o'r Lefiaid, fydd yn borthorion i'r trothwyau.

52 Bren. 11.6. A'r drydedd ran fydd yn nhŷ 'r brenin, a'r drydedd ran wrth borth y sylfaen, a'r holl bobl ynghynteddau tŷ 'r Arglwydd.

6 Ac na ddeled neb i dŷ 'r Arglwydd, onid yr offeiriaid, a'r gwenidogion o'r Lefiaid, deu­ant hwy i mewn, canys sanctaidd ydynt: ond yr holl bobl a gadwant wiliadwriaeth yr Ar­glwydd.

7 A'r Lefiaid a amgylchant y brenin o bob tu, pôb vn a'i arfau yn ei law, a phwy bynnag arall a ddelo i'r tŷ, lladder ef: ond byddwch chwi gyd â'r brenin, pan ddelo efe i mewn, a phan elo efe allan.

8 A'r Lefiaid a holl Juda a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchymynnasei Jehoiada yr offeiriad, a hwy a gymmerasant bawb eu gwŷr, y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Sabboth, gyd â'r rhai oedd yn myned allan ar y Sabboth: (canys ni ryddhasei Jehoiada 'r offeiriad y dos­parthiadau.)

9 A Jehoiada 'r offeiriad a roddodd i dywy­sogion y cantoedd, y gwayw-ffyn, a'r tarlan­nau, a'r estylch, a fuasei yn eiddo y brenin Da­fydd, y rhai oedd yn nhŷ Dduw.

10 Ac efe a2 Bren. 11.11. gyfleodd yr holl bobl, a phob vn a'i arf yn ei law, o'rHeb. yswydd daehau. tu dehau i'r tŷ, hyd y tu asswy i'r tŷ, ynghylch yr allor a'r tŷ, yn ymyl y brenin oddi amgylch.

11 Yna y dygasant allan fab y brenin, a rho­ddasant y goron arno ef, a'rDeut. 17.18. dystiolaeth, ac a'i hurddasant ef yn frenin: Jehoiada hefyd a'i feibion a'i heneiniasant ef, ac a ddyweda­sant, byw fyddo 'r brenin.

12 A phan glybu Athaliah drŵst y bobl yn rhedeg, ac yn moliannu y brenin; hi a ddaeth at y bobl i dŷ 'r Arglwydd.

13 A hi a edrychodd, ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golosn yn y ddyfodfa, a'r tywy­sogion, a'r vdgyrn yn ymyl y brenin; a holl bobl y wlâd yn llawen, ac yn lleisio mewn vd­cyrn; a'r cantorion ag offer cerdd, a'r rhai a fedrent foliannu. Yna Athaliah a rwygodd ei dillad, ac a ddywedodd, bradwriaeth, brad­wriaeth.

14 A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dy­wysogion y cantoedd, sef swyddogion y llû, ac a ddywedodd wrthynt, dygwch hi allan o'r rhessau, a'r hwn a ddelo ar ei hôl hi lladder ef â'r cleddyf: canys dywedasei 'r offeiriad, na leddwch hi yn nhŷ 'r Arglwydd.

15 A hwy a roddasant ddwylo arni hi, a hi a ddaeth tu a'r porth y deuei y meirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdasant hwy hi.

16 A Jehoiada a wnaeth gyfammod rhyng­ddo ei hun a rhwng yr holl bobl, a rhwng y brenin, i fod yn bobl i'r Arglwydd.

17 Yna 'r holl bobl a aethant i dŷ Baal, ac a'i destrywiasant ef, a'i allorau, ei ddelwau he­fyd a ddrylliasant hwy, ac a laddasantDeut. 13.9. Mattan offeiriad Baal o flaen yr allor.

18 A Jehoiada a osododd swyddau yn nhŷ 'r Arglwydd, tan law yr offeiriaid y Le­fiaid, y rhai a1 Cron. 24.1. ddosparthasei Dafydd yn nhŷ yr Arglwydd, i offrymmu poeth offrymmau 'r Arglwydd,Num. 28.2. fel y mae yn scrifennedic ynghy­fraith Moses, mewn llawenydd a chân:Heb. trwy dawylo. yn ôl trefn Dafydd.

19 Ac efe a1 Cron. 26.10. gyfleodd y porthorion wrth byrth tŷ 'r Arglwydd, fel na ddêle i mewn neb a fyddei aflan mewn dim oll.

20 Cymmerodd hefyd dywysogion y cant­oedd, a'r pendefigion, a'r rhai oedd yn arglwy­ddiaethu ar y bobl, a holl bobl y wlâd, ac efe a ddug y brenin i wared o dŷ 'r Arglwydd; a hwy a ddaethant drwy y porth vchaf i dŷ 'r brenin, ac a gyfleasant y brenin ar orseddfa y frenhiniaeth.

21 A holl bobl y wlâd a lawenychasant, a'r ddinas a fu lonydd wedi iddynt ladd Athaliah â'r cleddyf.

PEN. XXIIII.

1 Joas yn teyrnasu yn ddaionus, tra fu fyw Jeho­iada, 4 yn peri cyweirio 'r Deml. 15 Marwo­laeth Jehoiada a'i barchedic angladd. 17 Joas yn troi at ddelw-addoliaeth, ac yn lladd Ze­chariah mab Jehoiada. 23 Y Syriaid yn ei anrheithio ef, a Zabad a Jozabad yn ei ladd ef. 27 Amaziah yn teyrnasu ar ei ol ef.

MAb2 Bren. 12.1. saith mlwydd oedd Joas pan ddech­reuodd efe deyrnasu, a deugain mhly­nedd y teyrnasodd efe yn Jerusalem: ac enw ei fam ef oedd Zibea o Beer-seba.

2 A Joas a wnaeth yr hyn oedd vnion yngo­lwg yr Arglwydd, holl ddyddiau Jehoiada 'r offeiriad.

3 A Jehoiada a gymmerth iddo ddwy wrag­edd: ac efe a genhedlodd feibion a merched.

4 Ac wedi hyn Joas a roes ei fryd ar adne­wyddu tŷ 'r Arglwydd.

5 Ac efe a gynhullodd yr offeiriaid, a'r Le­fiaid, ac a ddywedodd wrthynt, ewch i ddinas­oedd Juda, a chesclwch gan holl Israel arian i gyweirio tŷ eich Duw, o flwyddyn i flwyddyn: pryssurwch chwithau y peth: ond ni fryssiodd y Lefiaid.

6 A'r brenin a alwodd am Jehoiada yr offeiriad pennaf, ac a ddywedodd wrtho, pa ham na cheisiaist gan y Lefiaid ddwyn o Juda, ac o Jerusalem drêth Moses gwâs yr Arglwydd, a chynnulleidfa Israel, iExod. 30.12. babell y dystio­laeth?

7 Canys meibion Athaliah y wraig ddrygi­onus honno, a rwygasent dŷ Dduw; a holl gyssegredic bethau tŷ 'r Arglwydd a roesant hwy i Baalim.

8 Ac wrth orchymyn y brenin, hwy a wnaethant gîst,2 Bren. 12.9. ac a'i gosodasant hi ym mhorth tŷ 'r Arglwydd oddi allan.

9 A rhoddasantHeb. lef. gyhoeddiad yn Juda, ac yn Jerusalem ar ddwyn i'r Arglwydd drêth Moses gwâs Duw,Exod. 30.13. yr hon a roesid ar Israel yn yr anialwch.

10 A'r holl dywosogion, a'r holl bobl a lawenychasant, ac a ddygasant, ac a fwriasant i'r gîst, nes gorphen o honynt.

11 A bu, yr amser y ducpwyd y gîst at swy­ddog y brenin drwy law y Lefiaid, a phan wel­sant fod llawer o arian, ddyfod o scrifennydd y brenin, a swyddog yr Arch-offeiriad, a thy­wallt y gîst, a'i chymmeryd hi, a'i dwyn dra­chefn iw lle ei hun. Felly y gwnaethant o ddydd i ddydd, a chasclasant arian lawer.

12 A'r brenin, a Jehoiada a'i rhoddodd i'r rhai oedd yn gweithio gwasanaeth tŷ 'r Ar­glwydd, a chyflogasant seiri maen, a seiri pren, i gyweirio tŷ 'r Arglwydd: a gofaint haiarn a phrês, i gadarnhau tŷ 'r Arglwydd.

13 Felly y gweith-wŷr a weithiasant,Heb. a meddi­giniaeth aeth i fynu ar y gwaith. a'r gwaith a orphennwyd drwy eu dwylo hwynt: a hwy a wnaethant dŷ Dduw yn ei drefn ei hun, ac a'i cadarnhasant ef.

14 A phan orphennasant hwy ef, hwy a ddygasant y gwedd ill o'r arian ger bron y bre­nin a Jehoiada, a hwy a wnaethant o honynt lestri i dŷ 'r Arglwydd, sef llestri y wenido­gaeth,Heb. i offrym­mu. a'r morterau, a'r llwyau, a'r llestri aur ac arian, ac yr oeddynt hwy yn offrymmu poeth offrymmau yn nhŷ yr Arglwydd yn oestadol, holl ddyddiau Jehoiada.

15 Ond Jehoiada a heneiddiodd, ac oedd gyfiawn o ddyddiau, ac a fu farw: mab can mlwydd a dêc ar hugain oedd efe pan fu farw.

16 A hwy a'i claddasant ef yn ninas Da­fydd gyd â'r brenhinoedd: canys efe a wnel­sei ddaioni yn Israel, tu ag at Dduw a'i dŷ.

17 Ac wedi marw Jehoiada, tywysogion Juda a ddaethant, ac a ymgrymmasant i'r bre­nin: [Page] yna y brenin a wrandawodd amynt hwy.

18 A hwy a adawsant dŷ Arglwydd Dduw eu tadau, ac a wasanaethasant y llwynau, a'r delwau: a daeth digofaint ar Juda, a Jerusalem, o herwydd eu camwedd hyn.

19 Etto efe a anfonodd attynt hwy bro­phwydi, iw troi hwynt at yr Arglwydd; a hwy a dystiolaethasant yn eu herbyn hwynt ond ni wrandawsant hwy.

20 Ac Yspryd Duw aHeb. [...]scodd [...] ddaeth ar Zechariah fab Jehoiada yr offeiriad, ac efe a safodd oddi ar y bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy, fel hyn y dywedodd Duw, pa ham yr ydych chwi yn trosseddu gorchymynion yr Arglwydd? diau na ffynnwch chwi, canys gwrthodasoch yr Arglwydd, am hynny ynteu a'ch gwrthyd chwithau.

21 A hwy a gyd-fwriadasant yn ei erbyn ef, ac a'i llabyddiasant ef â meini wrth orchymyn y brenin, ynghyntedd tŷ 'r Arglwydd.

22 Ac ni chofiodd Joas y brenin y caredig­rwydd a wnaethei Jehoiada ei dâd ef ag ef, ond efe a laddodd ei fab ef: a phan oedd efe yn marw, efe a ddywedodd, edryched yr Ar­glwydd, a gofynned.

23 AcHeb. y [...] nych­ [...]liad. ymmhen y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fynu yn ei erbyn ef, a hwy a ddae­thant yn erbyn Juda, a Jerusalem, ac a ddi­fethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl, ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt i frenin Damascus.

24 Canys llu y Syriaid a ddaethei ag ychy­dig wŷr, a'r Arglwydd a roddodd yn eu llaw hwynt lu mawr iawn; am iddynt wrthod Ar­glwydd Dduw eu tadau: felly y gwnaethant hwy farn yn erbyn Joas.

25 A phan aethant hwy oddi wrtho ef, (canys hwy a'i gadawsant ef mewn clefydau mawrion) ei weision ei hun a gyd-fwriadodd iw erbyn ef, o herwydd gwaed meibion Jehoi­ada yr offeiriad, ac a'i lladdasant ef ar ei wely, ac efe a fu farw: a hwy a'i claddasant ef yn ninas Dafydd, ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd.

26 Ac dymma y rhai a fradfwriadasant yn ei erbyn ef;Neu, Jozachar. 2 Bren. 12.21. Zabad mab Simeah yr Ammonies, a Jehozabad mabNeu, Somer. 2 Bren. [...]2.21. Simrith y Moabies.

27 Am ei feibion ef, a maint y baich a rodd­wyd arno, a fylfaeniad tŷ Dduw, wele hwy yn scrifennedic yn hystori llyfr y brenhinoedd: ac Amaziah ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

PEN. XXV.

1 Amaziah yn dechreu teyrnasu yn ddaionus. 3 Yn gwneuthur cyfiawnder â'r brâdwyr, 5 yn cyflogi llu o'r Israeliaid yn erbyn yr Edo­miaid, ac ar air y prophwyd yn colli y can talent cyflog, ac yn eu gollwng hwynt ymmaith, 11 yn gorchfygu 'r Edomiaid. 10 13 Yr Israeliaid yn ddigllon am eu gollwng ymmaith, yn yspeilio wrth fyned adref. 14 Amaziah yn balchio am ei oruchafiaeth, ac yn gwasanaethu duwiau Edom, ac yn diystyru rhybydd y Pro­phwyd, 17 yn cyffroi Joas iw ddinistr ei hun. 25 Yr hyd y teyrnasodd ef. 27 Ei ladd ef trwy frâd.

MAb2 Bren. 4.2. pûm-mlwydd ar hugain oedd Ama­ziah pan ddechreuodd efe deyrnasu, a naw mhlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerusalem: ac enw ei fam ef oedd Jehoadan o Jerusalem.

2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd vnion yngo­lwg yr Arglwydd, ond nid â chalon berffaith.

3 A phan siccrhawyd ei deyrnasHeb. arno. iddo ef, efe a laddodd ei weision a laddasent y brenin ei dâd ef.

4 Ond ni laddodd efe eu meibion hwynt, ond efe a wnaeth fel y maeDeut. 24.16. 2 Bren. 14.6. Jer. 31.30. Ezec. 18.20. yn scrifennedic yn y gyfraith yn llyfr Moses, lle y gorchymynna­sei yr Arglwydd, gan ddywedyd, ni bydd ma­rw y tadau dros y meibion, ac ni bydd marw y meibion dros y tadau, onid pob vn a fydd marw am ei bechod ei hun.

5 Ac Amaziah a gynhullodd Juda, ac a'i gwnaeth hwy, yn ôl tŷ eu tadau, yn dywyso­gion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gantoedd, drwy holl Juda, a Benjamin: ac efe a'i cyfrif­odd hwynt o fab vgain mlwydd ac vchod, ac a'i cafodd hwy yn dry-chan mîl o wyr etho­ledig yn gallu myned i ryfel, yn medru trîn gwayw-ffon a tharian.

6 Ac efe a gyflogodd o Israel gan mîl o wŷr cedyrn nerthol, er can talent o arian.

7 Ond gŵr Duw a ddaeth atto ef, gan ddy­wedyd, ô frenin, nac aed llu Israel gyd â thi: canys nid yw 'r Arglwydd gyd ag Israel, sef gyd â holl feibion Ephraim.

8 Ond os myned a fynni, gwna, ymgadarn­hâ i ryfel: ond Duw a wna it syrthio o flaen dy elynion; canys y mae gan Dduw nerth i gynnorthwyo, ac i gwympo.

9 Ac Amaziah a ddywedodd wrth ŵr Duw, ond beth a wneir am y can talent a roddais i dorf Israel? a dywedodd gŵr Duw, y mae ar law yr Arglwydd roddi i ti lawer mwy nâ hynny.

10 Felly Amaziah a'i nailltuodd hwynt, sef y dorf a ddelsei atto ef o Ephraim, i fyned iw mangre ei hun. A llidiodd eu digllonedd hwy yn ddirfawr yn erbyn Juda, a dych­welasant iw mangre eu hun mewn llîd ddig­llon.

11 Ac Amaziah a ymgadarnhaodd, ac a dywysodd allan ei bobl, ac a aeth i ddyffryn yr hâlen, ac a darawodd o feibion Seir ddeng­mil.

12 Meibion Juda hefyd a gaeth-gludasant ddeng-mil yn fyw,2 Bren. 14.7. ac a'i dygasant i ben y graig, ac a'i taflasant hwy o ben y graig, fel y drylliwyd hwynt oll.

13 A'rHeb. meibion y fyddin. rhyfelwyr y rhai a ddarfuasei i Ama­ziah eu troi yn ôl rhac myned gyd ag ef i ryfel, a ruthrasant ar ddinasoedd Juda, o Sa­maria hyd Beth-Horon, ac a darawsant o ho­nynt dair mil, ac a ysclyfaethasant anrhaith fawr.

14 Ac wedi dyfod Amaziah o ladd yr Edo­miaid, efe a ddûg dduwiau meibion Seir, ac a'i gosododd hwynt iddo ef yn dduwiau, ac a addolodd ger eu bron hwynt, ac a arogl­darthodd iddynt.

15 Am hynny y llidiodd digllonedd yr Ar­glwydd yn erbyn Amaziah, ac efe a anfonodd brophwyd atto ef, yr hwn a ddywedodd wrtho ef, pa ham y ceisiaist ti dduwiau y bobl, y rhai nid achubasant eu pobl eu hun o'th law di?

16 A phan oedd efe yn llefaru wrtho ef, y brenin a ddywedodd wrtho yntef, a wnaed ty­di yn gynghor-wr i'r brenin? paid, i ba beth i'th darewid? a'r prophwyd a beidiodd, ac a ddywedodd, mi a wn fod Duw wediHeb. cynghori. arfaethu dy ddinistrio di, am it wneuthur hyn, ac na wrandewaist ar fy nghyngor i.

17 Yna2 Bren. 14.8. Amaziah brenin Juda a ymgyng­horodd, ac a anfonodd at Joas fab Jehoahaz, fab Jehu brenin Israel, gan ddywedyd, tyred, gwelwn wyneb ei gilydd.

18 A2 Bren. 14.9. Joas brenin Israel a anfonodd at Amaziah brenin Juda, gan ddywedyd, yrNeu, eithinen, neu, y ddraenen. ys­cellyn sydd yn Libanus a anfonodd at y gedr­wydden sydd yn Libanus, gan ddywedyd, dyro dy ferch i'm mab i yn wraig: a bwyst-fil y maes, yr hwn oedd yn Libanus a dramwyodd, ac a sathrodd yr yscellyn.

19 Dywedaist, wele tarawaist yr Edomiaid, a'th galon a'th dderchafodd i ymffrostio: eist­edd yn awr yn dy dŷ, pa ham yr wyt yn ym­yrryd er drwg i ti dy hun, fel y syrthit ti, a Juda gyd â thi?

20 Ond ni wrandawai Amaziah, canys oddi wrth Dduw 'r oedd hynny, fel y rhoddid hwynt yn llaw y gelyn, am iddynt geisio duwiau Edom.

21 Felly Joas brenin Israel a aeth i fynu, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Ama­ziah brenin Juda, yn Beth-semes yr hon oedd yn Juda.

22 A Juda a darawyd o flaen Israel, a hwy a ffoesant bawb iw pebyll.

23 A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaziah mab Joas, fab Jehoahaz brenin Juda, yn Beth­semes, ac a'i dûg ef i Jerusalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerusalem, o borth Ephraim hyd borthHeb. yr hwn sydd yn wynebu. y gongl, pedwar can cufydd.

24 Ac efe a gymmerth yr holl aur, a'r arian, a'r holl lestri a gafwyd yn nhŷ Dduw gyd ag Obed Edom, a thryssorau tŷ y brenin, a'r gwystion hefyd, ac a ddychwelodd i Samaria.

25 Ac Amaziah mab Joas brenin Juda a fu fyw, wedi marwolaeth Joas mab Jehoahaz bre­nin Israel, bymtheng mlynedd.

26 A'r rhan arall o'r gweithredoedd cyntaf a diweddaf i Amaziah, wele, onid ydynt hwy yn scrifennedic yn2 Bren. 14.18. llyfr brenhinoedd Juda, ac Israel?

27 Ac wedi yr amser yr ymadawodd Ama­ziah oddi ar ôl yr Arglwydd, hwy a fradfwri­adasant fradwriaeth yn ei erbyn ef yn Jerusa­lem, ac efe a ffoawdd i Lachis: ond hwy a anfo­nasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a'i lladdasant ef yno.

28 A hwy a'i dygasant ef ar feirch, ac a'i claddasant ef gyd â'i dadauSef, dinas Dafydd, 2 Bren. 14.20. yn ninas Juda.

PEN. XXVI.

1 Vzziah yn frenin ar ôl Amaziah, ac yn lly­wodraethu yn dda tra fu fyw Zechariah, ac yn llwyddo. 16 Wedi hynny yn balchio, ac yn cymmeryd arno 'r offeiriadaeth, ac yn cael ei daro â gwahan-glwyf. 22 Efe yn marw, a Jotham yn teyrnasu ar ei ol ef.

YNa holl bobl Juda a2 Bren. 14.21. & 15.1. gymmerasantNeu, Azariah. Vz­ziah, ac yntef yn fab vn mlwydd ar bym­thec; ac a'i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaziah ei dâd.

2 Efe a adeiladodd Eloth, ac a'i dug hi drachefn i Juda, ar ôl huno o'r brenin gyd â'i dadau.

3 Mab vn mlwydd ar bymthec oedd Vzziah pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deuddeng mhlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Je­rusalem; ac enw ei fam ef oedd Jecoliah o Je­rusalem.

4 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd vnion yngo­lwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethei Amaziah ei dâd ef.

5 Ac efe a ymgeisiodd â Duw yn nyddiau Zechariah, yr hwn oedd gantho ddeallHeb. yn gwe­led Duw. yng­weledigaethau Duw: a'r dyddiau y ceisiodd efe yr Arglwydd, Duw a'i llwyddodd ef.

6 Ac efe a aeth allan, ac a ryfelodd yn er­byn y Philistiaid, ac a dorrodd i lawr fur Gath, a mur Jabneh, a mur Asdod, ac a adeiladodd ddinasoedd yn Asdod, ac ym mysc y Philistiaid.

7 A Duw a'i cynnorthwyodd ef yn erbyn y Philistiaid, ac yn erbyn yr Arabiaid, y rhai oedd yn trigo yn Gur-baal, a'r Mehuniaid.

8 A'r Ammoniaid a roesant roddion i Vz­ziah, a'i enw ef a aeth hyd y mynediad i'r Aipht: o herwydd efe a ymgryshaodd yn ddir­fawr.

9 Hefyd Vzziah a adeiladodd dyrau yn Je­rusalemNehe. 3.19, 24. wrth borth y gongl, ac wrth borth y glynn, ac wrth droad y mur, ac a'iNeu, eywetri­odd cadarn­haodd hwynt.

10 Ac efe a adeiladodd dyrau yn yr ania­lwch, ac aNeu, naddodd. gloddiodd bydewau lawer, oblegid yr oedd ganddo lawer o anifeiliaid, yn y dyff­ryndir ac yn y gwastadedd: a llafur-wyr a gwinllan-wyr yn y mynyddoedd, ac ynNeu, maesydd ffrwyth­lawn. Car­mel: canys hoff oedd ganddo goledd y ddaiar.

11 Ac yr oedd gan Vzziah lu o ryfel-wyr, yn myned allan yn fyddinoedd, yn ôl nifer eu cyfrif hwynt trwy law Jeiel yr yscrifennydd, a Maasiah y llywydd, tan law Hananiah vn o dy­wysogion y brenhin.

12 Holl nifer pennau cenedl y rhai cedyrn o nerth, oedd ddwy fil a chwe chant.

13 A than eu llaw hwynt yr oedd llu grym­mus, trychan mil, a saith mil, a phum cant, yn rhyfela â chryfder nerthol, i gynnorthwyo 'r brenin yn erbyn y gelyn.

14 Ac Vzziah a ddarparodd iddynt sef i'r holl lu, dariannau, a gwayw-ffyn, a helmau, a llurigau, a bwâu, aHeb. cherrig tafl. thaflau i daflu cerrig.

15 Ac efe a wnaeth yn Jerusalem offer drwy gelfyddyd rhai cywraint, i fod ar y tyrau ac ar y conglau, i ergydio saethau, a cherrig mawri­on: a'i enw ef aeth ym mhell, canys yn rhy­fedd y cynnorthwywyd ef, nes ei gadarnhau.

16 Ond pan aeth yn gryf, ei galon a dder­chafwyd iw ddinistr ei hun; canys efe a drosse­ddodd yn erbyn yr Arglwydd ei Dduw: ac efe a aeth i mewn i deml yr Arglwydd i arogl-darthu ar allor yr arogl-darth.

17 Ac Azariah 'r offeiriad a aeth i mewn ar ei ôl ef, a chyd ag ef bedwar vgain o offeiriaid yr Arglwydd, yn feibion grymmus.

18 A hwy a safasant yn erbyn Vzziah y bre­nin, ac a ddywedasant wrtho,Num. 18.7. ni pherthyn i ti, Vzziah, arogl-darthu i'r Arglwydd,Exod. 30.7. onid i'r offeiriaid meibion Aaron, y rhai a gyssegrwyd i arogl-darthu: dôs allan o'r cyssegr; canys ti a drosseddaist, ac ni bydd hyn i ti yn ogoni­niant oddiwrth yr Arglwydd Dduw.

19 Yna y llidiodd Vzziah, a'r arogl-darth i arogl-darthu oedd yn ei law ef: a thra ydoedd efe yn llidiog yn erbyn yr offeiriaid, gwahan­glwyf a gyfododd yn ei dalcen ef, yngwydd yr offeiriaid, yn nhŷ 'r Arglwydd, ger llaw allor yr arogl-darth.

20 Ac edrychodd Azariah yr arch-offeiriad a'r holl offeiriaid arno ef, ac wele yr oedd efe yn wahan-glwyfus yn ei dalcen, a gwnaethant iddo fryssio oddi yno: ac yntau hefyd aMegis, Esther. 6.12. fry­siodd i fyned allan, o herwydd i'r Arglwydd ei daraw ef.

21 Ac2 Bren. 15.5. Vzziah y brenin a fu wahan-glwy­fus [Page] hyd ddydd ei farwolaeth, ac a drigodd yn wahan-glwyfusLevit. 13.46. mewn tŷHeb. rhydd. nailltuol, canys efe a dorrasid ymmaith o dŷ 'r Arglwydd: a Jotham ei fab ef oedd ar dŷ 'r brenin, yn barnu pobl y wlâd.

22 A'r rhan arall o weithredoedd cyntaf a diweddaf Vzziah, a scrifennodd Esay y pro­phwyd mab Amos.

23 Felly Vzziah a hunodd gyd â'i dadau, a chladdasant ef gyd â'i dadau ym maes bedd­rod y brenhinoedd; canys dywedasant, gwa­han-glwyfus ydyw efe: a Jotham ei fab a deyr­nasodd yn ei lê ef.

PEN. XXVII.

1 Jotham yn teyrnasu yn dda, ac yn llwyddo. 5 Yn darostwng yr Ammoniaid. 7 Ei deyrna­siad ef. 9 Ac Ahaz yn teyrnasu ar ei ôl ef.

MAb pum mlwydd ar hugain2 Bren. 15.32. oedd Jo­tham pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar bymthec y teyrnasodd efe yn Jerusalem; ac enw ei fam ef oedd Jerusah merch Zadoc.

2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd vnion yngo­lwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnelsei Vzziah ei dâd; eithr nid aeth efe i deml yr Arglwydd: a'r bobl oedd etto yn ymlygru.

3 Efe a adeiladodd y porth vchaf i dŷ 'r Ar­glwydd; ac ar fûrOphel. y tŵr yr adeiladodd efe lawer.

4 Dinasoedd hefyd a adeiladodd efe ym my­nyddoedd Juda, ac yn y coedydd yr adeilad­odd efe balâsau, a thŷrau.

5 Ac efe a ryfelodd yn erbyn brenin meibion Ammon, ac a aeth yn drech nâ hwynt. A mei­bion Ammon a roddasant iddo ef gan talent o arian y flwyddyn honno, a deng-mil Corus o wenith, a deng-mil Corus o haidd. Hyn a ro­ddodd meibion Ammon iddo ef, yr ail flwy­ddyn a'r drydedd.

6 Felly Jotham aeth yn gadam, oblegid efe aNeu, siccrha­odd. baratôdd ei ffyrdd ger bron yr Arglwydd ei Dduw.

7 A'r rhan arall o hanes Jotham, a'i holl ryfeloedd ef, a'i ffyrdd, wele, y maent yn scrifennedic yn llyfr brenhinoedd Israel a Juda.

8 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac vn mlynedd ar bym­thec y teyrnasodd efe yn Jerusalem.

9 A Jotham a hunodd gyd â'i dadau, a chla­ddasant ef yn ninas Dafydd: ac Ahaz ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

PEN. XXVIII.

1 Ahaz yn teyrnasu yn ddrygionus, a'r Syriaid yn ei flino ef. 6 Yr Israeliaid yn caethgludo gwyr Juda, a thrwy gyngor Oded y Prophwyd, yn ei gollwng hwy adref. 16 Ahaz yn gyrru am gymmorth i Assyria, a hynny heb lesu [...]ddo: 22 Yn ei gyfyngder yn chwanegu ei ddelw-addoliaeth: 26 Yn marw, a Hezeciah yn dyfod ar ei ôl ef.

MAb vgain mlwydd oedd 2 Bren. 16.2. Ahaz pan dde­chreuodd efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar bymthec y teyrnasodd efe yn Jerusalem: ond ni wnaeth efe yr hyn oedd vnion yngolwg yr Arglwydd, fel Dafydd ei dâd.

2 Eithr efe a rodiodd yn ffyrdd brenhinoedd Israel, ac a wnaeth i Baalim ddelwau toddedic.

3 Ac efe aNeu, offrym­modd aberth. arogl-darthodd yn nyffrynMab Hinnora. Benhinnom, acLevit. 18 21. Pen. 33. 6. a loscodd ei blant yn tân, yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd a fwriasei yr Ar­glwydd allan o flaen meibion Israel.

4 Efe a aberthodd hefyd, ac a arogl-darthodd yn yr vchelfeydd, ac ar y brynnau, a than bob pren gwyrdd-lâs.

5 Am hynny 'r Arglwydd ei Dduw a'i rho­ddodd ef yn llaw brenin Syria, a hwy a'i ta­rawsant ef, ac a gaethgludasant ymmaith oddi ganddo ef gaethglud fawr, ac a'i dygasant i Ddamascus: ac yn llaw brenin Israel hefyd y rhoddwyd ef, yr hwn a'i tarawodd ef â lladdfa fawr.

6 Canys Pecah mab Remaliah a laddodd yn Juda chwech vgain mil, mewn vn diwrnod, hwynt oll yn feibion grymmus, am wrthod o honynt Arglwydd Dduw eu tadau.

7 A Zichri gwr grymmus o Ephraim a ladd­odd Maaseiah fab y brenin, ac Azricam llywo­draethwr y tŷ, ac ElcanahHeb. yr ail i'r brenhin. y nessaf at y bre­nin.

8 A meibion Israel a gaeth-gludasant o'i brodyr ddau can mil, yn wragedd, yn feibion, ac yn ferched, ac a sclyfaethasant anrhaith fawr oddi arnynt, ac a ddygasant yr yspail i Sa­maria.

9 Ac yno 'r oedd prophwyd i'r Arglwydd a'i enw Oded, ac efe a aeth allan o flaen y llû oedd yn dyfod i Samaria, ac a ddywedodd wrthynt, wele, o herwydd digofaint Arglwydd Dduw eich tadau yn erbyn Juda, y rhoddodd efe hwynt yn eich llaw chwi; a lladdasoch hwynt mewn cynddaredd, yn cyrhaeddyd hyd y nefoedd.

10 Ac yn awr yr ydych chwi yn amcanu darostwng meibion Juda a Jerusalem, yn gaeth­weision, ac yn gaeth forwynion i chwi: onid oes gydâ chwi, ie gydâ chwi bechodau yn er­byn yr Arglwydd eich Duw?

11 Yn awr gan hynny gwrandewch arnafi, a gollyngwch adref y gaeth-glud a gaeth-glu­dasoch o'ch brodyr: oblegid y mae llidiog ddigofaint yr Arglwydd arnoch chwi.

12 Yna rhai o bennaethiaid meibion Eph­raim, Azariah mab Johanan, Berechiah mab Mesilemoth, a Jehizciah mab Salum, ac Amasa mab Hadlai, a gyfodasant yn erbyn y rhai oedd yn dyfod o'r filwriaeth,

13 Ac a ddywedasant wrthynt, ni ddygwch y gaeth-glud ymma; canys gan i ni bechu eusys yn erbyn yr Arglwydd, yr ydych chwi yn amcanu chwanegu ar ein pechodau ni, ac ar ein camweddau: canys y mae ein camwedd ni yn fawr, ac y mae digofaint llidiog yn er­byn Israel.

14 Felly y llu a adawodd y gaeth-glud a'r anrhaith o flaen y tywysogion, a'r holl gynnull­eidfa.

15 A'r gwŷr, y rhai a henwyd wrth eu hen­wau, a gyfodasant, ac a gymmerasant y gaeth­glud, ac a ddilladasant-eu holl rai noethion hwynt â'r yspail, a dilladasant hwynt, a rho­ddasant iddynt escidiau, ac a wnaethant iddynt fwytta ac yfed, eneiniasant hwynt hefyd, a dy­gasant ar assynnod bob vn llesc, ie dygasant hwynt i Jericho,Deut. 34.3. dinas y palmwŷdd, at eu brodyr. Yna hwy a ddychwelasant i Samaria.

16 Yr amser hwnnw yr anfonodd y brenin Ahaz at frenhinoedd Assyria, iw gynnorthwyo ef.

17 A'r Edomiaid a ddaethent etto, ac a darawsent Juda, ac a gaeth-gludasent gaeth­glud.

18 Y Philistiaid hefyd a ruthrasent i ddinas­oedd y gwastadedd, a thû dehau Juda, ac a en­nillasent Beth-semes, ac Aialon, a Gederoth, a [Page] Socho a'i phentrefydd, Timnah hefyd a'i phen­trefydd, a Gimzo a'i phen-trefydd, ac a driga­sant yno.

19 Canys yr Arglwydd a ddarostyngodd Juda o achos Ahaz brenin Israel: o blegit efe a noethodd Juda, gan drosseddu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.

20 A2 Bren. 19.7. Thilgath Pilneser brenin Assyria a ddaeth atto ef: ac a gyfyngodd arno ef, ac ni's cynnorthwyodd ef.

21 Er1 Bren. 16.8. i Ahaz gymmeryd rhan allan o dŷ 'r Arglwydd, ac o dŷ 'r brenin, a chan y tywy­sogion, a'i rhoddi i frenin Assyria; etto ni's cynnorthwyodd efe ef.

22 A'r amser yr oedd yn gyfyng arno, efe a chwanegodd drosseddu yn erbyn yr Ar­glwydd: hwn yw 'r brenin Ahaz.

23 Canys efe a aberthodd i dduwiau Damas­cus, y rhai a'i tarawsent ef; ac efe a ddywed­odd, am i dduwiau brenhinoedd Syria eu cyn­northwyo hwynt, minnau a aberthaf iddynt hwy, fel i'm cynnorthwyont innau: ond hwy a fuant iddo ef, ac i holl Israel yn dramgwydd.

24 Ac Ahaz a gasclodd lestri tŷ Dduw, ac a ddarniodd lestri tŷ Dduw, ac a gaeodd ddryssau tŷ 'r Arglwydd, ac a wnaeth iddo allorau ym mhob congl i Jerusalem.

25 Ac ym mhob dinas yn Juda y gwnaeth efe vchelfeydd iNeu, offrym­mu. arogl-darthu i dduwiau di­eithr, ac a ddigllonodd Arglwydd Dduw ei dadau.

26 A'r rhan arall o'i hanes ef, a'i holl ffyrdd, cyntaf a diweddaf, wele hwy yn scri­fennedic yn llyfr brenhinoedd Juda ac Israel.

27 Ac Ahaz a hunodd gyd â'i dadau, a hwy a'i claddasant ef yn y ddinas yn Jerusalem, ond ni ddygasant hwy ef i feddrod brenhinoedd Israel: a Hezeciah ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

PEN. XXIX.

1 Y brenin duwiol Hezeciah, 3 yn adferu gwir grefydd, 5 yn cynghori y Lefiaid, 12 A hwy­thau yn ymsancteiddio ac yn glanhau tŷ Dduw, 20 Hezeciah yn aberthu ebyrth cyhoedd, lle 'r oedd y Lefiaid yn barottach na 'r offeiriaid.

MAb2 Bren. 18.1. pum mlwydd ar hugain oedd He­zeciah pan ddechreuodd efe deyrnasu, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerusalem: ac enw ei fam ef oedd Abiah merch Zechariah.

2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd vnion yngo­lwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnelsei Dafydd ei dâd.

3 Yn y flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad ef, yn y mîs cyntaf, efe a agorodd ddryssau tŷ 'r Arglwydd, ac a'i cyweiriodd hwynt.

4 Ac efe a ddug i mewn yr offeiriaid, a'r Lefiaid, ac a'i casclodd hwynt ynghŷd i hêol y dwyrain,

5 Ac a ddywedodd wrthynt hwy, gwran­dewch fi ô Lefiaid, ymsancteiddiwch yn awr, a sancteiddiwch dŷ Arglwydd Dduw eich ta­dau, a dygwch yr aflendid allan o'r lle sanct­aidd.

6 Canys ein tadau ni a drosseddasant, ac a wnaethant yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd ein Duw, ac a'i gwrthodasant ef, ac a droesant eu hwynebau oddi wrth babell yr Arglwydd, ac aHeb. roesant. droesant eu gwarrau.

7 Caeasant hefyd ddryssau y porth, ac a ddiffoddasant y lampau, ac nid arogl-darthasant arogl-darth, ac ni offrymmasant boeth offrym­mau yn y cyssegr i Dduw Israel.

8 Am hynny digofaint yr Arglwydd a ddaeth yn erbyn Juda a Jerusalem, ac efe a'i rhoddodd hwynt yn gyffro, yn syndod, ac yn watwar­gerdd, fel yr ydych yn gweled â'ch llygaid.

9 Canys wele, ein tadau ni a syrthiasant drwy 'r cleddyf, ein meibion hefyd, a'n merch­ed, a'n gwragedd, ydynt mewn caethiwed o herwydd hyn.

10 Yn awr y mae yn fy mryd i, wneuthur cyfammod ag Arghwydd Dduw Israel; fel y tro ei ddigofaint llidiog ef oddi wrthym ni.

11 Fy meibion, naNeu, thwyllir chwi. fyddwch ddifraw yn awr: canys yr Arglwydd a'ch dewisodd chwi iNum. 8.14. & 18.2, 6. sefyll ger ei fron ef, i weini iddo ef, ac i fod yn gweini, ac yn arogl-darthu iddo ef.

12 Yna y Lefiaid a gyfodasant, Mahath mab Amasai, a Joel mab Azariah o feibion y coha­thiaid; ac o feibion Merari, Cis mab Abdi, ac Azariah mab Jehaleleel; ac o'r Gersoniaid, Joah mab Zimmah, ac Eden mab Joah:

13 Ac o feibion Elisaphan, Simri, a Jehiel: ac o feibion Asaph, Zechariah, a Mattaniah:

14 Ac o feibion Heman, Jehiel a Simei: ac o feibion Jeduthun, Semaiah ac Vzziel.

15 A hwy a gynnullasant eu brodyr, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddaethant yn ôl gorch­ymyn y brenin,Neu, yn acho­sion. drwy eiriau 'r Arglwydd, i lanhau tŷ 'r Arglwydd.

16 A'r offeiriaid a ddaethant i fewn tŷ 'r Arglwydd iw lanhau ef, ac a ddygasant allan yr holl frynti a gawsant hwy yn nheml yr Ar­glwydd, i gyntedd tŷ 'r Arglwydd. A'r Lefi­aid aid a'i cymmerasant iw ddwyn ymmaith allan i afon Cidron.

17 Ac yn y dydd cyntaf o'r mîs cyntaf y dechreuasant ei sancteiddio, ac ar yr wythfed dydd o'r mîs y daethant i borth yr Arglwydd; ac mewn ŵyth niwrnod y sancteiddiasant dŷ 'r Arglwydd, ac yn yr vnfed dydd ar bymthec o'r mîs cyntaf y gorphennasant.

18 Yna y daethant hwy i mewn at Hezeciah y brenin, ac a ddywedasant, glanhasom holl dŷ 'r Arglwydd, ac allor y poeth offrwm, a'i holl lestri, a bwrdd y bara gosod, a'i holl lestri.

19 A'r holl lestri a fwriasei y brenin Ahaz ymmaith yn ei gamwedd, pan oedd efe yn teyr­nasu, a baratoesom ac a sancteiddiasom ni: ac wele hwy ger bron allor yr Arglwydd.

20 Yna Hezeciah y brenin a gododd yn fo­reu, ac a gasclodd dywysogion y ddinas, ac a aeth i fynu i dŷ yr Arglwydd.

21 A hwy a ddygasant saith o fustych, a saith o hyrddod, a saith o ŵyn, a saith o fychod geifrLevit. 4.14. yn bech-aberth dros y frenhiniaeth, a thros y cyssegr, a thros Juda: ac efe a ddywedodd wrth yr offeiriaid meibion Aaron, am offrym­mu y rhai hynny ar allor yr Arglwydd.

22 Felly hwy a laddasant y bustych, a'r offei­riaid a dderbyniasant y gwaed, ac a'i taenella­sant ar yr allor: lladdasant hefyd yr hyrddod,Exod. 24.8. Levit. 8.14. Hebr. 9.21. a thaenellasant y gwaed ar yr allor; a hwy a laddasant yr ŵyn, ac a daenellasant y gwaed ar yr allor.

23 A hwy aNeu, nesasant. ddygasant fychod y pech­aberth, o flaen y brenin a'r gynnulleidfa, ac a osodasant euLevit. 4.15. dwylo arnynt hwy.

24 A'r offeiriaid a'i lladdasant hwy, ac a wnae­thant gymmod ar yr allor, â'i gwaed hwynt, i wneuthur cymmod dros holl Israel: canys [Page] tros holl Israel yr archasei y brenin wneuthur y poeth offrwm, â'r pêch-aberth.

25 Ac efe a osododd y Lefiaid yn nhŷ 'r Arglwydd, â symbalau, ac â nablau, ac â thely­nau,1 Cron. 16.4. & 25.6. yn ôl gorchymyn Dafydd, a Gad gwele­dydd y brenin, a Nathan y prophwyd: canys y gorchymyn oedd drwy law 'r Arglwydd, trwy law ei brophwydi ef.

26 A'r Lefiaid a safasant ag offer Dafydd; a'r offeiriaid â'r vdcyrn.

27 A Hezeciah a ddywedodd am offrymmu poeth offrwm ar yr allor: a'r amser y dechreu­odd y poeth offrwm, y dechrenodd cân yr Ar­glwydd, â'r vdcyrn, ac ag offer Dafydd brenin Israel.

28 A'r holl gynnulleidfa oedd yn addoli, a'rHeb. caniad. cantorion yn canu, a'r vdcyrn yn llei­sio: hyn oll a barhâodd nês gorphen y poeth­offrwm.

29 A phan orphennasant hwy offrymmu, y brenin a'r holl rai a gafwyd gyd ag ef, a ym­grymmasant, ac a addolasant.

30 A Hezeciah y brenin, a'r tywysogion a ddywedasant wrth y Lefiaid am foliannu yr Arglwydd â geiriau Dafydd, ac Asaph y gwe­ledydd: felly hwy a foliannasant â llawenydd, ac a ymostyngasant, ac a addolasant.

31 A Hezeciah a attebodd, ac a ddywedodd, yn awr yrHeb. llanwa­soch eich llaw. ymgyssegrasoch chwi i'r Arglwydd; nessewch a dygwch ebyrth, ac ebyrth moliant i dŷ 'r Arglwydd: a'r gynnulleidfa a ddyga­sant ebyrth, ac ebyrth moliant, a phôb ewyllys­car o galon, boeth offrymmau.

32 A rhifedi y poeth offrymmau a ddûg y gynnulleidfa, oedd ddêc a thrugain o fustych, cant o hyrddod, dan cant o ŵyn: y rhai hyn oll oedd yn boeth offrwm i'r Arglwydd.

33 A'r pethau cyssegredig oedd chwe chant o fustych, a thair mîl o ddefaid.

34 Ond yr oedd rhŷ fychan o offeiriaid, fel na allent flingo 'r holl boeth offrymmau: am hynny eu brodyr y Lefiaid a'i cynnorthwyasant hwy, nes gorphen y gwaith, ac nes i'r offeiri­aid ymgyssegru, canys y Lefiaid oedd vniawn­ach o galon i ymgyssegru, nâ'r offeiriaid.

35 Y poeth offrymmau hefyd oedd yn aml, gydLev. 3.2. â braster yr hêdd-offrwm, a'r ddiod offrwm i'r poeth offrymmau. Felly y trefnwyd gwasanaeth tŷ 'r Arglwydd.

36 A Hezeciah a lawenychodd, a'r holl bobl, o herwydd paratoi o Dduw y bobl: o ble­git yn ddisymmwth y bu y peth.

PEN. XXX.

1 Hezeciah yn cyhoeddi Pâsc arbennig ar yr ail mîs, i Juda ac i Israel. 13 Y gynnulleidfa wedi distrywio allorau delw-addoliaeth, yn cadw yr ŵyl bedwar diwrnod ar ddêc. 27 Yr offei­riaid a'r Leuiaid yr bendithio 'r bobl.

A Hezeciah a anfonodd at holl Israel a Juda, ac a scrifennodd lythyrau hefyd at Ephraim, a Manasseh, i ddyfod i dŷ 'r Ar­glwydd i Jerusalem, i gynnal Pâsc i Argl­wydd Dduw Israel.

2 A'r brenin a ymgynghorodd, a'i dywy­sogion, a'r holl gynnulleidfa, yn Jerusalem, am gynnal y PâscNum. 9.11. yn yr ail mîs.

3 Canys ni allent ei gynnal ef y prŷd hwn­nw, o blegit nid ymsancteiddiasai 'r offeiriaid ddigon, ac nid ymgasclasei y bobl i Jerusalem.

4Heb. de vnion. A da oedd y peth yngolwg y brenin, ac yngolwg yr holl gynnulleidfa.

5 A hwy a orchymynnasant gyhoeddi drwy holl Israel o Beerseba hyd Dan, am ddyfod i gynnal y Pâsc i Arglwydd Dduw Israel yn Je­rusalem: canys ni wnaethent er ystalm, fel yr oedd yn scrifennedic.

6 Felly y rhedeg-wŷr a aethant â'r llythyrau o law y brenin, a'i dywysogion, drwy holl Is­rael a Juda, ac wrth orchymyn y brenin, gan ddywedyd, ô meibion Israel, dychwelwch at Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, ac efe a ddychwel at y gweddill a ddiangodd o honoch chwi, o law brenhinoedd Assyria.

7 Ac na fyddwch fel eich tadau, nac fel eich brodyr, y rhai a drosseddasant yn erbyn Ar­glwydd Dduw eu tadau: am hynny efe a'i rho­ddodd hwynt yn anghyfannedd megis y gwelwch chwi.

8 Yn awr na chaledwch eich gwarr, fel eich tadau: rhoddwch law i'r Arglwydd, a deuwch iw gyssegr a gyssegrodd efe yn dragywydd; a gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, fel y trô llid ei ddigofaint ef oddiwrthych chwi.

9 Canys os dychhwelwch chwi at yr Argl­wydd, eich brodyr chwi, a'ch meibion a gant drugaredd ger bron y rhai a'i caethgludodd hwynt, fel y dychwelont i'r wlâd ymma: o blegit grasol, aExod. 34.6. thrugarog yw 'r Arglwydd eich Duw, ac ni thrŷ efe ei wyneb oddi wr­thych, os dychwelwch atto ef.

10 Felly y rhedeg-wŷr a aethant o ddinas i ddinas drwy wlâd Ephraim, a Manasseh, hyd Zabulon: ond hwy a wawdiasant, ac a'i gwat­warasant hwy.

11 Er hynny gwŷr o Aser, a Manasseh, ac o Zabulon a ymostyngasant, ac a ddaethant i Jerusalem.

12 Llaw Dduw hefyd fu yn Juda, i roddi iddynt vn galon, i wneuthur gorchymyn y brenin a'r tywysogion, yn ôl gair yr Ar­glwydd.

13 A phobl lawer a ymgasclasant i Jerusa­lem, i gynnal gŵyl y bara croyw, yn yr ail mis; cynnulleidfa fawr iawn.

14 A hwy a gyfodasant, ac a fwriasant ym­maith yrPen. 28.24. allorau oedd yn Jerusalem: bwria­sant ymmaith allorau 'r arogl-darth, a thaflasant hwynt i afon Cidron.

15 Yna y lladdasant y Pâsc ar y pedwerydd dydd ar ddêc o'r ail mîs: yr offeiriaid hefyd a'r Lefiaid a gywilyddiasant, ac a ymsanctei­ddiasant, ac a ddygasant y poeth offrymmau i dŷ 'r Arglwydd.

16 A hwy a safasant yn euHeb. sefyllfa lle, wrth eu harfer, yn ôl cyfraith Moses gŵr Duw: yr offeiriaid oedd yn taenellu y gwaed o law y Lefiaid.

17 Canys yr oedd llawer yn y gynnulleidfa y rhai nid ymsancteiddiasent: ac ar y Lefiaid yr oedd llâdd y Pâsc, dros yr holl rai aflan, iw sancteiddio i'r Arglwydd.

18 O herwydd llawer o'r bobl, sef llawer o Ephraim, a Manasseh, Issachar, a Zabulon, nid ym­lanhasent, etto hwy a fwytasant y Pâsc, yn am­genach nag yr oedd yn scrifennedic. Ond He­zeciah a weddiodd drostynt hwy, gan ddywedyd, yr Arglwydd daionus a faddeuo i bôb vn,

19 A baratodd ei galon i geisio Duw, sef Ar­glwydd Dduw ei dadau, er na lanhawyd ef yn ôl puredigaeth y cyssegr.

20 A'r Arglwydd a wrandawodd ar Heze­ciah, ac a iachaodd y bobl.

21 A meibion Israel, y rhai a gafwyd yn Je­rusalem, a gynhaliasant ŵyl y bara croyw [Page] saith niwrnod, drwy lawenydd mawr: y Lefi­aid hefyd, a'r offeiriaid oedd yn moliannu 'r Arglwydd o ddydd i ddydd, gan ganu ag offerHeb. cryfder. soniarus i'r Arglwydd.

22 A Hezeciah a ddywedodd wrth fôdd ca­lon yr h [...]ll Lefiaid, y rhai oedd yn dyscu gwy­bodaeth ddaionus yr Arglwydd; a hwy a fwyt­asant ar hyd yr ŵyl, saith niwrnod, ac a aber­thasant ebyrth hêdd, ac a gyffessasant i Argl­wydd Dduw eu tadau.

23 A'r holl gynnulleidfa a ymgynghorasant i gynnal saith o ddyddiau eraill: felly y cyn­haliasant saith o ddyddiau eraill drwy law­enydd.

24 Canys Hezeciah brenin Juda aHeb. ddercha­fodd, neu, offrym­modd. roddodd i'r gynnulleidfa fîl o fustych, a saith mîl o dde­faid: a'r tywysogion a roddasant i'r gynnu­lleidfa fîl o fustych, a deng mîl o ddefaid: a llawer o offeiriaid a ymsancteiddiasant.

25 A holl gynnulleidfa Juda a lawenycha­sant, gyd â'r offeiriaid a'r Lefiaid, a'r holl gynnu­lleidfa a ddaeth o Israel, a'r dieithriaid a ddae­thei o wlâd Israel, ac oeddynt yn gwladychu yn Juda.

26 Felly y bu llawenydd mawr yn Jerusa­lem: canys er dyddiau Salomon mâb Dafydd brenin Israel, ni bu y cyffelyb yn Jerusalem.

27 Yna yr offeiriaid a'r Lefiaid a gyfoda­sant, ac a fendithiasant y bobl; a gwrandawyd ar eu llêf hwynt; a'i gweddi hwynt a dda­eth i fynu i'w bresswylfaHeb. ei Sanct­eidarw­ydd ef. sanctaidd ef i'r nefoedd.

PEN. XXXI.

1 Y bobl yn chwannog i ddileu delw-addoliaeth. 2 Hezeciah yn trefnu cylchoedd yr offeiriaid a'r Lefiaid, ac yn paratoi gwaith a chynhaliaeth iddynt. 5 Parodrwydd y bobl i dalu degwm ac offrwm. 11 Hezeciah yn gosod swyddogi­on i ddosparthu 'r degymmau. 20 Purdeb Hezeciah.

AC wedi gorphen hyn i gyd, holl Israel y rhaiHeb. a gafwyd. oedd bresennol, a aethant allan i ddina­soedd Juda,Deut. 7.25. Jos. 7.1. 2 Bren. 18.4. 2 Mac. 12.4. ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorrasant y llwynau, ac a ddestrywiasant yr vchelfeydd, a'r allorau, allan o holl Juda a Benjamin; yn Ephraim hefyd, a Manasseh, nes eu Heb. gorphen. llwyr ddifa. Yna holl feibion Is­rael a ddychwelasant bôb vn iw feddiant, iw dinasoedd.

2 A Hezeciah a osododd ddosparthiadau yr offeiriaid, a'r Lefiaid, yn eu cylchoedd, pôb vn yn ôl ei wenidogaeth, yr offeiriaid a'r Lefiaid i'r poeth offrwm, ac i'r ebyrth hêdd, i weini, ac i soliannu, ac i ganmol, ym mhyrth gwer­sylloedd yr Arglwydd.

3 A rhan y brenin oedd o'i olud ei hun i'r poeth offrymmau, sef i boeth offrymmau y bo­reu a'r hwyr, ac i boeth offrymmau y Sabbo­thau, a'r newydd loerau, a'r gwyliau arben­nic, fel y mae yn scrifennedicNum. 28.3. & 9 ynghyfraith yr Arglwydd.

4 Efe a ddywedodd hefyd wrth y bobl, tri­golion Jerusalem, am rhoddi rhan i'r offeiriaid, a'r Lefiaid, fel yr ymgryfhaent ynghyfraith yr Arglwydd.

5 A phan gyhoeddwyd y gair hwn, meibi­on Israel a ddygasant yn aml, flaen-ffrwyth yr ŷd, y gwîn, a'r olew, a'r mêl, ac o holl gnŵd y maes, a'r degwm o bob peth a ddygasant hwy yn helaeth.

6 A meibion Israel a Juda y rhai oedd yn trigo yn ninasoedd Juda, hwythau a ddygasant ddegwm gwartheg, a defaid, aLevit. 27.30. Deut. 14.28. degwm y pethau cyssegredic a gyssegrasid i'r Arglwydd eu Duw; ac a'i gosodasantHeb. Yn ben­tyrrau yn bentyr­rau. bôb vn bentwrr.

7 Yn y trydydd mîs y dechreuasant hwy seilio y pentyrrau, ac yn y seithfed mîs y gor­phennasant hwynt.

8 A phan ddaeth Hezeciah a'r tywysogion, a gweled y pentyrrau, hwy a fendithiasant yr Arglwydd, a'i bobl Israel.

9 A Hezeciah a ymofynnodd â'r offeiriaid, a'r Lefiaid, o herwydd y pentyrrau.

10 Ac Azariah yr offeiriad pennaf o dŷ Za­doc, a ddywedodd wrtho, ac a lefarodd, er pan ddechreuwyd dwyn offrymmau i dŷ 'r Argl­wydd, bwyttasom a digonwyd ni, gweddilla­som hefyd lawer iawn: canys yr Arglwydd a fendithiodd ei bobl; a'r gweddill yw'r amldra hyn.

11 A Hezeciah a ddywedodd am baratoi celloedd yn nhŷ 'r Arglwydd, a hwy a'i pa­ratoesant.

12 Ac a ddygasant i mewn y blaen ffrwyth, a'r degwm, a'r pethau cyssegredic, yn ffyddlon: a Chonaniah y Lefiad oedd flaenor arnynt hwy, a Simei ei frawd ef yn ail.

13 Jehiel hefyd, ac Azaziah, a Nahath, ac Azahel, a Jerimoth, a Jozabad, ac Eliel, ac Is­machiah, a Mahath, a Benaiah, oedd swyddo­gionNeu, wrth. tan law Conaniah, a Simei ei frawd ef, drwy orchymyn Hezeciah y brenin, ac Aza­riah blaenor tŷ Dduw.

14 A Chore mâb Imnah y Lefiad y porthor tua'r dwyrain, oedd ar y pethau a offrymmid yn ewyllyscar i Dduw: i rannu offrymmau 'r Arglwydd, a'r pethau sancteiddiolaf.

15 Ac wrth ei law ef yr oedd Eden a Minia­min, a Jesua, a Semaiah, Amariah, a Secaniah, yn ninasoedd yr offeiriaid yn euNeu, ymddir­ied. swydd, i roddi iw brodyr yn ôl eu rhan, i fawr, ac i fy­chan:

16 Heb law y gyrfiaid o'i cenedl hwynt ô fab tair blwydd ac vchod, i bawb a'r oedd yn dy­fod i dŷ 'r Arglwydd, ddogn dydd yn ei ddydd, yn eu gwasanaeth hwynt, o fewn eu gorchwy­liaethau, yn ôl eu dosparthiadau.

17 I genedl yr offeiriaid wrth dŷ eu tadau, ac i'r Lefiaid, o fâb vgain mlwydd ac vchod, yn ôl eu gorchwyliaethau, yn eu dospar­thiadau:

18 Ac i genedl eu holl blant hwy, eu gwra­gedd, a'i meibion, a'i merched, trwy 'r holl gynnulleidfa: o blegitNeu, yn eu hym­ddirled yr ymsan­ctieddient yn yr hyn, &c. trwy eu ffyddlondeb y trinent hwy yn sanctaidd, yr hyn oedd san­ctaidd:

19 Ac i feibion Aaron, yr offeiriaid, y rhai oedd ym meusydd pentrefol eu dinasoedd, ym mhôb dinas, y gwŷr a henwasid wrth eu henwau, i roddi rhannau i bôb gwryw ym mysc yr offei­riaid, ac i'r holl rai a gyfrifwyd wrth achau ym-mhlith y Lefiaid.

20 Ac fel hyn y gwnaeth Hezeciah drwy holl Juda, ac efe a wnaeth yr hyn oedd dda, ac vnion, a'r gwirionedd ger bron yr Arglwydd ei Dduw.

21 Ac ym mhôb gwaith a ddechreuodd efe yngwenidogaeth tŷ Dduw, ac yn y gyfraith, ac yn y gorchymyn i geisio ei Dduw, efe a'i gwnaeth a'i holl galon, ac a ffynnodd.

PEN. XXXII.

1 Senacherib yn dyfod yn erbyn Juda, a Hezeciah yn ymgadarnhau, ac yn cyssuro ei bobl. 9 Heze­ciah ac Esay yn gweddio yn erbyn cabledd Se­nacherib. [Page] 21 Angel yn difetha llû 'r Assyriaid, a hynny yn barch i Hezeciah. 24 Hezeciah yn gweddio yn ei glefyd, a Duw yn rhoi iddo ar­goel iechyd. 25 Hezeciah yn balchio, a Duw 'n ei ddarostwng ef. 27 Ei gyfoeth ef, a'i weithredoedd. 31 Ei fai ef ynghylch cennadon Babilon. 32 Efe yn marw, a Manasseh yn teyrnasu ar ei ôl ef.

WEdi y pethau hyn, a'i siccrhau,2 Bren. 18.13. Esa. 36.1. Ecclus. 48.18. y daeth Senacherib brenin Assyria, ac a ddaeth i mewn i Juda; ac a wersyllodd yn erbyn y di­nasoedd caerog, ac a feddyliodd euHeb. torri. hennill hwynt iddo ei hun.

2 A phan welodd Hezeciah ddyfod Senache­rib, a bôd ei wyneb ef i ryfela yn erbyn Jerusa­lem,

3 Efe a ymgynghorodd â'i dywysogion, ac â'i gedyrn, am argau dyfroedd y ffynhonnau, y rhai oedd allan o'r ddinas: a hwy a'i cyn­northwyasant ef.

4 Felly pobl lawer a ymgasclasant, ac a ar­gaeasant yr holl ffynhonnau, a'r afon sydd ynHeb. llifeirio. rhedeg drwy ganol y wlâd, gan ddywedyd, pa ham y daw brenhinoedd Assyria, ac y cânt ddyfroedd lawer?

5 Ac efe a ymgryfhaodd, ac a adeiladodd yr holl fûr drylliedic, ac a'i cyfododd i fynu hyd y tŷrau, a mûr arall oddi allan, ac a gadarnha­odd2 Sam. 5.9. Milo yn ninas Dafydd, ac a wnaeth lawer oNeu, gleddy­fau, neu arfau. biccellau, ac o dariannau.

6 Ac efe a osododd dywysogion rhyfel ar y bobl, ac a'i casclodd hwynt atto i heol porth y ddinas, ac a lefarodd wrth fôdd eu calon hw­ynt, gan ddywedyd,

7 Ymwrolwch, ac ymgadarnhewch, nac of­nwch, ac na ddigalonnwch rhag brenin Assy­ria, na rhag yr holl dyrfa sydd gyd ag ef: ca­nys y mae gyd â ni fwy nâ chyd ag ef.

8Jer. 17.5. Gyd ag ef y mae braich cnawdol, ond yr Arglwydd ein Duw sydd gyd â ni, i'n cynnorth­wyo, ac i ryfela ein rhyfeloedd. A'r bobl aHeb. bwysa­sant. hy­derasant ar eiriau Hezeciah brenin Juda.

9 Wedi hyn, yr anfonodd2 Bren. 18.17. Senacherib bre­nin Assyria ei weision i Jerusalem (ond yr ydo­edd efe ei hun yn rhyfela yn erbyn Lachis, a'i hollHeb. lywodra­eth. allu gyd ag ef) at Hezeciah frenin Juda, ac at holl Juda, y rhai oedd yn Jerusalem, gan ddywedyd,

10 Fel hyn y dywedodd Senacherib brenin Assyria, ar ba beth yr ydych chwi yn hyderu, chwi y rhai sy 'n arosNeu, yn yr am­ddeffynfa. yngwarchae o fewn Je­rusalem?

11 Ond Hezeciah sydd yn eich hudo chwi, i'ch rhoddi chwi i farw drwy newyn, a thrwy syched, gan ddywedyd, yr Arglwydd ein Duw a'n gwared ni o law brenin Assyria?

12 Onid yr Hezeciah hwnnw a dynnodd ymmaith ei vchelfeydd ef, a'i allorau, ac a orchymynnodd i Juda, a Jerusalem, gan ddy­wedyd, o flaen vn allor yr addolwch, ac ar honno yr arogl-derthwch?

13 Oni wyddoch chwi beth a wneuthum mi a'm tadau i holl bobl y tiroedd? ai gan allu y gallei dduwiau cenhedloedd y gwledydd achub eu gwlâd o'm llaw i?

14 Pwy oedd ym mysc holl dduwiau y cen­hedloedd hyn, (y rhai a ddarfu i'm tadau eu di­fetha) a allai waredu ei bobl o'mllaw i, fel y gallei eich Duw chwi eich gwaredu chwi o'm llaw i?

15 Yn awr gan hynny na thwylled Hezeciah chwi, ac na huded mo honoch fel hyn, ac na choeliwch iddo ef; canys ni allodd Duw vn genedl na theyrnas, achub ei bobl o'm llaw i, nac o law fy nhadau: pa faint llai y gwared eich Duw chwychwi o'm llaw i?

16 A'i weision ef a ddywedasant ychwaneg yn erbyn yr Arglwydd Dduw, ac yn erbyn He­zeciah ei wâs ef.

17 Ac efe a scrifennodd lythyrau i gablu Ar­glwydd Dduw Israel, ac i lefaru yn ei erbyn ef, gan ddywedyd, fel nad achubodd duwiau cenhedloedd y gwledydd eu pobl o'm llaw i, felly nid achub Duw Hezeciah ei bobl o'm llaw i.

18 Yna y gwaeddasant hwy â llêf vchel, yn iaith yr Iddewon, ar bobl Jerusalem, y rhai oedd ar y mûr, iw hofni hwynt, ac iw brawychu, fel yr ennillent hwy y ddinas.

19 A hwy a ddywedasant yn erbyn Duw Jerusalem, fel yn erbyn duwiau pobloedd y wlâd, sef gwaith dwylo dŷn.

20 Am hynny y gweddiodd Hezeciah y bre­nin, ac Esay y prophwyd mâb Amos, ac a wae­ddasant i'r nefoedd.

21 A'r Arglwydd a anfonodd angel,2 Bren. 19.35. yr hwn a laddodd bôb cadarn nerthol, a phôb blae­nor a thywysog yngwerssyll brenin Assyria: felly efe a ddychwelodd â chywilydd ar ei wy­neb iw wlâd ei hun. A phan ddaeth efe i dŷ. ei Dduw,Esa. 37.38. y rhai a ddaethant allan o'i ymyscaroedd ei hun a'iHeb. cwympa­sant. lladdasant ef yno â'r cleddyf.

22 Felly y gwaredodd yr Arglwydd Heze­ciah a thrigolion Jerusalem o law Senacherib brenin Assyria, ac o law pawb eraill, ac a'i cad­wodd hwynt oddi amgylch.

23 A llawer a ddygasantNeu, anrhegi­on. roddion i'r Ar­glwydd i Jerusalem, a phethau gwerthfawr i Hezeciah brenin Juda: fel y derchafwyd ef o hynny allan yngŵydd yr holl genhedloedd.

24 Yn2 Bren. 20.1. Esa. 38.1. y dyddiau hynny y clafychodd He­zeciah hyd farw, ac a weddiodd ar yr Argl­wydd; yntef a ddywedodd wrtho, ac a roddes argoel iddo.

25 Ond ni thalodd Hezeciah drachefn yn ôl, yr hyn a roddasid iddo; canys ei galon ef a dderchafodd: a digofaint a ddaeth arno ef, ac ar Juda, a Jerusalem.

26 Er hynny Hezeciah a ymostyngodd o herwydd derchafiad ei galon, efe a thrigolion Jerusalem; ac ni ddaeth digofaint yr Arglwydd arnynt yn nyddiau Hezeciah.

27 Ac yr oedd gan Hezeciah gyfoeth ac an­rhydedd mawr iawn; ac efe a wnaeth iddo dryssorau o arian, ac o aur, ac o feini gwerth­fawr, o bêr-aroglau hefyd, ac o dariannau, ac o bôb llestriHeb. dymuniad. hyfryd.

28 A selerau i gnŵd yr ŷd, a'r gwîn, a'r olew; a phresebau i bôb math ar anifail, a chor­lannau i'r diadellau.

29 Ac efe a wnaeth iddo ddinasoedd, a chy­foeth o ddefaid a gwarthec lawer: canys Duw a roddasei iddo ef gyfoeth mawr iawn.

30 A'r Hezeciah ymma a argaeodd yr aber vchaf i ddyfroedd Gihon, ac a'i dûg hwynt vn vnion oddi tanodd, tua thu 'r gorllewin, i ddinas Dafydd. A ffynnodd Hezeciah yn ei holl waith.

31 Etto yn neges Heb. cyfiai­rhyddion. cennadau tywysogion Ba­bilon, y rhai a anfonwyd atto ef, i ymofyn am y rhyfeddod a2 Bren. 20.12. Esa. 39.1. wnaethid yn y wlâd, Duw a'i gadawodd ef, iw brofi ef, i wybod cwbl ac oedd yn ei galon ef.

32 A'r rhan arall o hanes Hezeciah, a'i ga­redigrwydd ef, wele hwy yn scrifennedic yng­weledigaeth Esay y prophwyd mab Amos, ac yn2 Bren. 8.19, 20. llyfr brenhinoedd Juda ac Israel.

33 A Hezeciah a hunodd gyd â'i dadau, a chladdasant ef yn yr vchaf o feddau meibion Dafydd; a holl Juda a thrigolion Jerusalem a wnaethant anrhydodd iddo ef wrth ei far­wolaeth: a Manasseh ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

PEN. XXXIII.

1 Y brenin annuwiol Manasseh, 3yn gosod i fy­nu ddelw-addoliaeth, ac heb gymmeryd rhybydd. 11 Ei gaeth-gludo ef i Babilon, 12 A'i weddi at Dduw yn achos o'i ryddhâd, ac yntau yn tynnu i lawr ddelw-addoliaeth. 18 Ei-weithredoedd, 20 a'i farwolaeth ef, ac Amon yn dyfod ar ei ôl ef. 21 Annuwiol deyrnasiad Amor, a'i weision yn ei ladd ef. 25 Lladd y lleiddiaid, a Josiah yn myned yn frenin.

MAB2 Bren. 21.1. deuddeng mlwydd oedd Manasseh pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phym­theng mhlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerusalem;

2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yn­golwg yr Arglwydd, yn ôl ffieidd-dra y cen­hedloedd aDeut. 18.9. fwriasei 'r Arglwydd allan o flaen meibion Israel.

3 Canys efe aHeb. ddychwe­lodd ac a ad [...]ila­dodd. adeiladodd drachefn yr vchel­feydd,2 Bren. 18.4. y rhai a ddinistriasei Hezeciah ei dâd ef, acJer. 32.34. a gyfododd allorau i Baalim, ac a wnaeth lwynau, ac a addolodd holl lû y ne­foedd, ac a'i gwasanaethodd hwynt.

4 Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ 'r Ar­glwydd; am yr hwn y dywedasei 'r Arglwydd,Deut. 12.11. 1 Bren. 8.29. & 9.3. 2 Bren. 21.5. 2 Cron. 6.6. & 7.16. yn Jerusalem y bydd fy enw i yn dragy­wydd.

5 Ac efe a adeiladodd allorau i holl lû y nefoedd, yn nau gyntedd tŷ 'r Arglwydd,

6 Ac2 Bren. 16.3. efe a yrrodd ei feibion drwy 'r tân yn nyffryn mab Hinnom, ac a arferodd frûd, a hudoliaeth, a chyfareddion, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yngolwg yr Arglwydd, iw ddigio ef.

7 Ac efe a osododd y ddelw gerfiedic (y ddelw a wnelsei efe) yn nhŷ Dduw, am yr hwn y dywedasei Duw wrth Ddafydd, ac wrth Salomon ei fab,1 Bren. 8.29. & 9.3. 2 Bren. 21.7. Psal. 132.14. yn y tŷ hwn, ac yn Jerusa­lem, (yr hon a ddewisais i o holl lwythau Isra­el) y gosodaf fy enw vn dragywydd.

8 Ac ni chwanegaf2 Sam. 7.10. symmud troed Israel oddi ar y tîr a ordeiniais i'ch tadau chwi; os gwiliant ar wneuthur yr hyn oll a orchymyn­nais iddynt, yn ôl yr holl gyfraith, a'r deddfau, a'r barnedigaethau trwy law Moses.

9 Felly Manasseh a wnaeth i Juda, a thrigo­lion Jerusalem gyfeiliorni, a gwneuthur yn waeth nâ'r cenhedloedd a ddifethasei 'r Ar­glwydd o flaen meibion Israel.

10 Er llefaru o'r Arglwydd wrth Ma­nasseh, ac wrth ei bobl, etto ni wrandaw­sant hwy.

11 Am hynny y dûg yr Arglwydd arnynt hwy dywysogion llû brenin Assyria, a hwy a ddaliasant Manasseh mewn dyrysni, ac a'i rhwy­masant ef âNeu, lly [...]fe­th [...]iriau. dwy gadwyn, ac a'i dygasant ef i Babilon.

12 A phan oedd gyfyng arno ef, efe a we­ddiodd ger bron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei dadau.

13 Ac a weddiodd arno ef, ac efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymuniad ef, ac a'i dûg ef drachefn i Jerusalem iw frenhiniaeth: yna y gwybu Manasseh mai 'r Arglwydd oedd Dduw.

14 Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mûr oddi allan i ddinas Dafydd, o du 'r gorllewin iPen. 32.30. Gihon, yn y dyffryn, hyd y ddyfodfa i borth y pyscod, ac a amgylchoddHeb. y twr. Ophel, ac a'i cyfododd yn vchel iawn, ac a osododd dy­wysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caeroc o fewn Juda.

15 Ac efe a dynnodd ymmaith y duwiau dieithr, a'r ddelw, allan o dŷ 'r Arglwydd, a'r holl allorau a adeiladasei efe ym mynydd tŷ 'r Arglwydd, ac yn jerusalem, ac a'i taflodd allan o'r ddinas.

16 Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, ac a aberthodd arni hi ebyrth hedd a moliant: dywedodd hefyd wrth Juda, am wasanaethu Arglwydd Dduw Israel.

17 Er hynny y bobl oedd etto yn aberthu yn yr vchelfeydd: etto i'r Arglwydd eu Duw yn vnic.

18 A'r rhan arall o hanes Manasseh, a'i weddi ef at ei Dduw, a geiriau y gweledyddion a Iefa­rasant wrtho ef, yn enw Arglwydd Dduw Is­rael, wele hwynt2 Bren. 21. ym mhlith geiriau brenhi­noedd Israel.

19 Ei weddi ef hefyd; a'r modd y cymmo­dodd Duw ag ef, a'i holl bechod ef, a'i gam­wedd, a'r lleoedd yr adeiladodd efe ynddynt vchelfeydd, ac y gosododd lwynau, a delwau cerfiedig, cyn ymostwng o honaw ef; wele hwynt yn srifennedic ym mysc geiriauNeu, Hozal. y gwe­ledyddion.

20 Felly Manasseh a hunodd gyd a'i dadau, a chladdasant ef yn ei dŷ ei hun, ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

212 Bren. 21.19. Mâb dwy flwydd ar hugain oedd Amon, pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerusalem.

22 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yn­golwg yr Arglwydd, fel y gwnaethei Manasseh ei dâd ef: canys Amon a aberthodd i'r holl ddelwau cerfiedig a wnelse Manasseh ei dâd ef, ac a'i gwasanaethodd hwynt.

23 Ond nid ymostyngodd efe ger bron yr Arglwydd, fel yr ymostyngasei Manasseh ei dâd ef: eithr yr Amon ymma aHeb. aml [...]aodd gamwedd. bechodd fwyfwy.

24 A'i weision ef a2 Bren. 21.23. frad-fwriadasant iw erbyn ef, ac a'i lladdasant ef yn ei dŷ ei hun.

25 Ond pobl y wlâd a laddasant yr holl rai a frad-fwriadasent yn erbyn y brenin Amon; a phobl y wlâd a vrddasant Josiah ei fab ef, yn frenin yn ei le ef.

PEN. XXXIV.

1 Josiah yn teyrnasu yn dduwiol, 3 ac yn dini­strio delw-addoliaeth, 8 yn peri adgyweirio y Deml. 14 Helciah yn cael llyfr y gyfraith, a Josiah yn gyrru at Huldah i ymofyn a'r Argl­wydd, 23 A hithau yn prophwydo dinystr Je­rusalem, ond yr oedid hynny tros amser Josiah. 29 Josiah yn peri darllen llyfr y gyfraith yng­ŵydd yr holl bobl, ac yn adnewyddu y cyfam­mod â Duw.

MAb2 Bren 22.1. ŵyth mlwydd oedd Josiah pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac vn mly­nedd ar ddec ar hugain y teyrnasodd e [...]e yn Jerusalem.

2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd vnion yngo­lwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffyrdd Da­fydd ei dâd, ac ni ogwyddodd ar y llaw dde­hau, nac ar y llaw asswy.

3 Canys yn yr wythfed flwyddyn o'i deyr­nasiad (tra'r ydoedd efe etto yn fachgen) efe a ddechreuodd geisio Duw Dafydd ei dâd: ac yn y ddeuddecfed flwyddyn, efe a ddechreuodd1 Bren. 13.2. lanhau Juda a Jerusalem oddiwrth yr vchel­feydd, a'r llwynau, a'r delwau cerfiedic, a'r delwau toddedic.

4Levit. 26.30. Destrywiasant hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalim, a'rNeu, haul­ddelwau. delwau y rhai oedd i fynu oddi ar­nynt hwy a dorrodd efe: y llwynau hefyd, a'r delwau cerfiedic, a'r delwau toddedic, a ddry­lliodd efe, ac a faluriodd, tânodd hefyd eu llŵch hwy ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy.

5 Ac escyrn yr offeiriaid a2 Bren. 23 16. loscodd efe ar eu hallorau, ac a lanhaodd Juda, a Jerusa­lem.

6 Felly y gwnaeth efe yn ninasoedd Manasseh, ac Ephraim, a Simeon, a hyd Nephtali; â'uNeu, gyrdd, neu morth­wylion. ceibiau oddi amgylch.

7 A phan ddinistriasei efe yr allorau, a'r llwy­nau, a dryllio o honaw y delwau cerfiedic, gan eu malurio yn llŵch, a thorri yr eulynnod i gyd trwy holl wlâd Israel, efe a ddychwelodd i Jerusalem.

82 Bren. 22.3. Ac yn y ddeunawfed flwyddyn o'i deyrnasiad ef, wedi glanhau y wlâd, a'r tŷ, efe a anfonodd Saphan fab Azaliah, a Maasiah ty­wysog y ddinas, a Joah fâb Joahaz y cofiadur, i gyweirio tŷ yr Arglwydd ei Dduw.

9 A phan ddaethant hwy at Helciah yr arch­offeiriad, hwy a roddasant yr arian a ddygasid i dŷ Dduw, y rhai a gasclasei y Lefiaid oedd yn cadw y drysau, o law Manasseh, ac Ephra­im, ac oddi gan holl weddill Israel, ac oddi ar holl Juda, a Benjamin, a hwy a ddychwelasant i Jerusalem.

10 A hwy a'i rhoddasant yn llaw y gweith­wŷr, y rhai oedd oruchwilwŷr ar dŷ 'r Ar­glwydd: hwythau a'i rhoddasant i wneuthur­wŷr y gwaith, y rhai oedd yngweithio yn nhŷ 'r Arglwydd, i gyweirio, ac i gadarnhau y tŷ.

11 Rhoddasant hefyd i'r seiri, ac i'r adeilad­wŷr, i brynu cerrig nâdd a choed, tu ag at y cyssylltiadau, ac iNeu, lorio. fyrddu y tai a ddinistriasei brenhinoedd Juda.

12 A'r gwŷr oedd yn gweithio yn y gwaith yn ffyddlon, ac arnynt hwy yn olygwŷr yr oedd Jahath ac Obadiah, y Lefiaid o feibion Merari, a Zechariah, a Mesulam o feibion y Cohathiaid, iw hannog: ac o'r Lefiaid pôb vn 2 oedd gyfarwydd ar offer cerdd.

13 Yr oeddynt hefyd ar y clud-wŷr, ac yn olygwŷr ar yr holl rai oedd yn gweithio ym­mhôb rhyw waith: ac o'r Lefaid yr oedd scri­fennyddion, a swyddogion, a phorthorion.

14 A phan ddygasant hwy allan yr arlan a ddygasid i dŷ 'r Arglwydd,2 Bren. 22.8. Helciah yr offei­riad a gafodd lyfr cyfraith yr Arglwydd, yr hwn a roddasid drwy law Moses.

15 A Helciah a attebodd, ac a ddywedodd wrth Saphan yr scrifennydd, cefais lyfr y gy­fraith yn nhŷ 'r Arglwydd. A Helciah a ro­ddodd y llyfr at Saphan.

16 A Saphan a ddûg y llyfr at y brenin, ac a ddûg air drachefn i'r brenin, gan ddywedyd, yr hyn oll a roddwyd yn llaw dy weision di, y maent hwy yn ei wneuthur.

17 [...]b. tywalltasant, n [...] toddasan [...] Casclasant hefyd yr arian a gafwyd yn nhŷ 'r Arglwydd, a rhoddasant hwynt yn llaw y golyg-wŷr, ac yn llaw y gweith-wŷr.

18 Saphan yr scrifennydd a fynegodd hefyd i'r brenin, gan ddywedyd, Helciah 'r offeirlad a roddodd i mi lyfr. A Saphan a ddarllennodd ynddo ef ger bron y brenin.

19 A phan glybu y brenin eiriau y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad.

20 A'r brenin a orchymynnodd i Helciah, ac i Ahicam fâb Saphan, ac iNeu, Achbor, 2 Bren. 22.12. Abdon fâb Micah, ac i Saphan yr scrifennydd, ac i Asaiah gwâs y brenin, gan ddywedyd,

21 Ewch, ymofynnwch â'r Arglwydd tro­sofi, a thros y gweddill yn Israel ac yn Juda, am eiriau y llyfr a gafwyd: canys mawr yw llid yr Arglwydd, a dywalltodd efe arnom ni, o blegit na chadwodd ein tadau ni air yr Arglwydd, gan wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd scrifennedic yn y llyfr hwn.

22 Yna 'r aeth Helciah, a'r rhai a yrrodd y brenin, at Huldah y brophwydes, gwraig Salum mâb Ticuath, fâbNeu, Harhas, 2 Bren. 22.14. Hasrah, ceidwad y gwisco­edd (a hi oedd yn aros yn Jerusalem yn yrNeu, ail-rhan. yscol-dŷ) ac a ymddiddanasant â hi felly.

23 A hi a ddywedodd wrthynt, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, dywedwch i'r gŵr a'ch anfonodd chwi attafi,

24 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigoli­on, sef yr holl felldithion sydd scrifennedic yn y llyfr a ddarllennasant hwy ger bron brenin Juda:

25 Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogl-dar­thu i dduwiau dieithr, i'm digio i â holl waith eu dwylo: am hynny yr ymdywallt fy llid i ar y lle hwn, ac nis diffoddir ef.

26 Ond am frenin Juda, yr hwn a'ch anfo­nodd chwi i ymofyn â'r Arglwydd, fel hyn y dywedwch wrtho, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel am y geiriau a glywaist:

27 O blegit i'th galon feddalhau, ac i titheu ymostwng o flaen Duw, pan glywaist ei eiriau ef, yn erbyn y fan hon, ac yn erbyn ei thrigolion, ac ymostwng o honot ger fy mron, a rhwygo dy ddillad, ac ŵylo o'm blaen i; am hynny y grandewais inneu, medd yr Arglwydd.

28 Wele mi a'th gymmeraf di ymmaith at dy dadau, a thi a ddygir ymmaith i'r bêdd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid di yr holl ddrwg yr ydwyfi yn ei ddwyn ar y fan hon, ac yn erbyn ei phreswyl-wŷr: felly hwy a ddygasant air i'r brenin drachefn.

292 Bren. 23.1. Yna y brenin a anfonodd, ac a gyn­hullodd holl henuriaid Juda, a Jerusalem.

30 A'r brenin a aeth i fynu i dŷ 'r Argl­wydd, a holl wŷr Juda, a thrigolion Jerusalem, yr offeiriaid hefyd a'r Lefiaid, a'r holl bobl o fawr i fychan, ac efe a ddarllennodd, lle y clyw­sant hwy, holl eiriau llyfr y cyfammod, yr hwn a gawsid yn nhŷ 'r Arglwydd.

31 A'r brenin a safodd yn ei le, ac a wnaeth gyfammod ger bron yr Arglwydd, ar rodio ar ôl yr Arglwydd, ac ar gadw ei orchymyn­nion ef, a'i dystiolaethau, a'i ddefodau, â'i holl galon, ac â'i holl enaid; i gwplau geiriau y cyfammod, y rhai sydd scrifennedic yn y llyfr hwnnw.

32 Ac efe a wnaeth i bawb a'r a gafwyd yn Jerusalem, ac yn Benjamin, sefyll wrth yr am­mod: trigolion Jerusalem hefyd a wnaethant yn ôl cyfammod Duw, sef Duw eu tadau.

33 Felly Josiah a dynnodd ymmaith y ffieidd­dra i gyd o'r holl wledydd, y rhai oedd eiddo meibion Israel, ac efe a wnaeth i bawb a'r a gafwyd yn Israel wasanaethu, sef gwasanaethu 'r Arglwydd eu Duw. Ac yn ei holl ddyddiau ef ni throesant hwy oddi ar ôl Arglwydd Dduw eu tadau.

PEN. XXXV.

1 Josiah yn cadw Pâsc godidog, 20 yn annog Pharao Necho, ac yn cael ei ladd ym Megido. 25 Galar-nâd Josiah.

A2 Bren. 23.21. Josiah a gynhaliodd Bâsc i'r Arglwydd yn Jerusalem: a hwy a laddasant y Pasc, ar y pedwerydd dydd ar ddêc o'rExod. 12.6. mis cyntaf.

2 Ac efe a gyfleodd yr offeiriaid yn eu gor­chwyliaethau; ac a'i annogodd hwynt i weni­dogaeth tŷ 'r Arglwydd.

3 Ac a ddywedodd wrth y Lefiaid, y rhai oedd yn dyscu holl Israel, ac oedd sanctaidd i'r Arglwydd, rhoddwch yr Arch sanctaidd yn y tŷ a adeiladodd Salomon mâb Dafydd brenin Israel; na fydded hi mwyach i chwi yn faich ar yscwyd: gwasanaethwch yn awr yr Arglwydd eich Duw, a'i bobl Israel.

4 Ac ymbaratowch wrth deuluoedd eich ta­dau, yn ôl eich dosparthiadau,1 Cron. 9.10. 1 Cron. 23. & 24. & 25. & 26. yn ôl scrifen Dafydd brenin Israel, ac2 Cron. 8.14. yn ôl scrifen Salo­mon ei fâb ef.

5 A sefwch yn y cyssegr yn ôl dosparthiadauHeb. ty. tŷlwyth tadau eich brodyrHeb. meibion y bobl. y bobl, ac yn ôl dosparthiad tylwyth y Lefiaid.

6 Felly lleddwch y Pasc, ac ymsancteiddlwch, a pharatowch eich brodyr, i wneuthur yn ôl gair yr Arglwydd drwy law Moses.

7 A Josiah aNeu, offrym­modd. Heb. ddercha­fodd. roddodd i'r bobl ddiadell o ŵyn, a mynnod, i gyd tu ag at y Pasc-aber­thau, sef i bawb a'r a gafwyd, hyd rifedi deng­mîl ar hugain, a thair mil o eidionnau; hyn oedd o gyfoeth y brenin.

8 A'i dywysogion ef aNeu, offrymma­sant. Heb. ddercha­fasant. roddasant yn ewy­llyscar i'r bobl, i'r offeiriaid, ac i'r Lefiaid: Hel­ciah, a Zachariah, a Jehiel, blaenoriaid tŷ Dduw, a roddasant i'r osseiriaid tu ag at y Pâsc-aber­thau, ddwy fil a chwechant o ddefaid, a thry­chant o eidionnau.

9 Conaniah hefyd, a Shemaiah, a Nethaneel ei frodyr, a Hashabiah, a Jehiel, a Jozabad, ty­wysogion y Lefiaid, aMegis, vers. 7. & 8. roddasant i'r Lefiaid yn Bâsc-ebyrth, bum mîl o ddefaid a thrychant o eidionnau.

10 Felly y paratowyd y gwasanaeth; a'r o­ffeiriaid a safasant yn eu llê, a'r Lefiaid yn eu dosparthiadau, yn ôl gorchymyn y brenin.

11 A hwy a laddasant y Pâsc: a'r offeiri­aid a daenellasant y gwaed o'i llaw hwynt, â'r Lefiaid oedd yn eu Gwel, Pen. 29.34. blingo hwynt.

12 A chymmerasant ymmaith y poeth offrymmau iw rhoddi yn ôl dosparthiadau teu­luoedd y bobl, i offrymmu i'r Arglwydd, fel y mae yn scrifennedic yn llyfr Moses: ac felly am yr eidionnau.

13 A hwy aExod. 12 8, 9. rostiasant y Pâsc wrth dân, yn ôl y ddefod; a'r cyssegredic bethau eraill a fer­wasant hwy mewn crochanau, ac mewn pedyll, ac mewn peiriau, ac a'i rhahnasant ar redeg i'r holl bobl.

14 Wedi hynny y paratoesant iddynt eu hu­nain, ac i'r offeiriaid, canys yr offeiriaid meibi­on Aaron, oedd yn offrymmu y poeth offrym­mau a'r brasder, hyd y nôs: am hynny y Le­fiaid oedd yn paratoi iddynt eu hunain, ac i'r offeiriaid meibion Aaron.

15 A meibion Asaph y cantorion oedd yn eu sefyllfa1 Cron. 25.1, &c. yn ôl gorchymyn Dafydd, ac Asaph, a Heman, a Jeduthun gweledydd y brenin;1 Cron. 9.17. & 26.14. a'r porthorion ym mhôb porth: ni chaent hwy y­mado o'i gwasanaeth, canys eu brodyr y Lefi­aid a baratoent iddynt hwy.

16 Felly y paratowyd holl wasanaeth yr Ar­glwydd y dwthwn hwnnw, i gynnal y Pâsc, ac i offrymmu poeth offrymmau ar allor yr Arglwydd, yn ôl gorchymyn y brenin Jo­siah.

17 A meibion Israel y rhai a gafwyd, a gyn­haliasant y Pasc yr amser hwnnw, a gwŷl y bara croyw, saith niwrnod.

18 Ac ni chynhaliasid Pâsc fel hwnnw yn Israel, er dyddiau Samuel y prophwyd: ac ni chynhaliodd nêb o frenhinoedd Israel gyffelyb i'r Pâsc a gynhaliodd Josiah, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a holl Juda, a'r neb a gafwyd o Israel, a thrigolion Jerusalem.

19 Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasi­ad Josiah y cynhaliwyd y Pâsc hwn.

202 Bren. 23.29. Wedi hyn oll, pan baratoesei Josiah ySef y Deml. tŷ, Necho brenin yr Aipht a ddaeth i fynu i ryfela yn erbyn Carchemis, wrth Euphrates: a Josiah a aeth allan yn ei erbyn ef.

21 Yntef a anfonodd gennadau atto ef, gan ddywedyd, beth sydd i mi a wnelwyf â thi, ô frenin Juda? nid yn dy erbyn di y daethum i heddyw, ond yn erbyn tŷ arall y mae fy rhyfel i, a Duw a archodd i mi fryssio: paid ti â Duw, yr hwn sydd gyd â mi, fel na ddifetho efe dydi.

22 Ond ni throe Josiah ei wyneb oddi wr­tho ef, eithr newidiodd ei ddillad i ymladd yn ei erbyn ef, ac ni wrandawodd ar eiriau Necho o enau Duw, ond efe a ddaeth i ymladd i ddyffryn Megido.

23 A'r saethyddion a saethasant at y brenin Josiah: a'r brenin a ddywedodd wrth ei weisi­on, dygwch fi ymmaith, canys clwyfwyd fi yn dôst.

24 Felly ei weision a'i tynnasant ef o'r cer­byd; ac a'i gosodasant ef yn yr ail cerbyd, yr hwn oedd ganddo; dygasant ef hefyd i Jerusa­lem, ac efe fu farw, ac a gladdwyd ymNeu, mysc beddau. me­ddrod ei dadau.Zach. 12.11. A holl Juda, a Jerusalem a alarasant am Josiah.

25 Jeremi hefyd a alar-nadodd am Josiah, a'r holl gantorion, a'r cantoresau yn eu galarna­dau a soniant am Josiah hyd heddyw, a hwy a'i gwnaethant yn ddefod yn Israel; ac wele hwynt yn scrifennedic yn y galar­nadau.

26 A'r rhan arall o hanes Josiah, a'iHeb. garedi­grwydd. ddai­oni ef; yn ôl yr hyn oedd scrifennedic ynghy­fraith yr Arglwydd,

27 A'i weithredoedd ef, cyntaf a diweddaf, wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr brenhino­edd Israel, a Juda.

PEN. XXXVI.

1 Joachaz yn frenin ar ôl Josiah, a Pharao yn ei ddiswyddo ef, ac yn ei ddwyn i'r Aipht. 5 Jo­achim yn teyrnasu yn ddrygionus, a'i ddwyn ef yn rhwym i Babilon. 9 Joachin yn teyrnasu yn ddrygionus, a'i ddwyn yntau i Babilon. 11 Ze­deciah y brenin drygionus, yn diystyru y Pro­phwydi, ac yn gwrthryfela yn erbyn Nabu­chodonosor. 14 Llwyr ddifrodi Jerusa­lem am bechodau 'r offeiriaid a'r bobl. 22 Cyrus yn cyhoeddi yr adeiledid y Deml.

YNa pobl y wlâd a gymmerasant2 Bren. 23.30. Joachaz fâb Josiah, ac a'i hurddasant ef yn frenin yn lle ei dâd yn Jerusalem.

2 Mab tair blwydd ar hugain oedd Joachaz pan ddechreuodd efe deyrnasu; a thri mîs y teyrnasodd efe yn Jerusalem.

3 A brenin yr Aipht a'iHeb. symmu­dodd. diswyddodd ef yn Jerusalem; ac a drethodd ar y wlâd gan talent o arian, a thalent o aur.

4 A brenin yr Aipht a2 Bren. 23.34. wnaeth Eliacim ei frawd ef yn frenin ar Juda a Jerusalem, ac a drôdd ei henw ef yn Joachim: a Necho a gymmerodd Joachaz ei frawd ef, ac a'i dûg ef i'r Aipht.

5 Mâb pum mlwydd ar hugain oedd Joa­chim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar ddêc y teyrnasodd efe yn Jerusa­lem: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngo­olwg yr Arglwydd ei Dduw.

62 Bren. 24.1. Nabuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fynu yn ei erbyn ef, ac a'i rhwymodd ef mewnNeu, llyfethei­riau cadwynau prês, iw ddwyn i Babilon.

72 Bren. 24.13. Dan. 1.1, 2. Nabuchodonosor hefyd a ddûg o lestri tŷ 'r Arglwydd i Babilon, ac a'i rhoddodd hwynt yn ei deml, o fewn Babilon.

8 A'r rhan arall o hanes Joachim, a'i ffi­eidd-dra ef y rhai a wnaeth efe, a'r hyn a gaf­wyd arno ef, wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr brenhinoedd Israel, a Juda: aNeu, Jeco­niah. 1 Cron. 3.16. Neu, Coniah, Jere. 22.24. Joachim ei fab, a deyrnasodd yn ei le ef.

9 Mâb wyth mlwydd oedd Joachin pan ddechreuodd2 Bren. 24.8. efe deyrnasu, a thri mîsa deng­nhiwrnod y teyrnasodd efe yn Jerusalem; ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd.

10 AcHeb. yn nych­weliad. ymmhen y flwyddyn vr anfonodd y brenin Nabuchodonosor, ac a'i dûg ef i Babi­lon gyd â llestri dymunol tŷ 'r Arglwydd: ac efe a wnaethNeu, Matta­niah, 2 Bren. 24.17. Jere. 37.1. Zedeciah ei frawd ef yn frenin ar Juda, a Jerusalem.

11Jere. 52.1. 2 Bren. 24.18. Mab vn mlwydd ar hugain oedd Ze­deciah pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar ddêc y teyrnasodd efe yn Jeru­salem.

12 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd ei Dduw, ac nid ymost­yngodd efe o flaen Jeremi y prophwyd, yr hwn oedd yn llefaru o enau 'r Arglwydd.

13 Ond efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Nabuchodonosor, yr hwn a wnaethei iddo dyn­gu i Dduw: ond efe a galedodd ei warr, ac a gryfhâodd ei galon, rhag dychwelyd at Ar­glwydd Dduw Israel.

14 Holl dywysogion yr offeiriaid hefyd, a'r bobl, a chwanegasant gamfucheddu yn ôl holl ffieidd-dra y cenhedloedd; a hwy a haloga­sant dŷ 'r Arglwydd, yr hwn a sancteiddiasei efe yn Jerusalem.

15Dihar. 1.23. Esa. 65.2. Jere. 11.7. & 25.3 & 35.15. Am hynny Arglwydd Dduw eu tadau a anfonodd attynt hwy drwy law ei gennadau, gan forau godi, ac anfon: am ei fôd ef yn tosturio wrth ei bobl, ac wrth ei bresswylfod.

16 Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cen­nadau Duw, ac yn tremygu ei eiriau ef, ac yn gwawdio ei brophwydi ef; nes cyfodi o ddigo­faint yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel nad oedd jachâd.

17 Am hynny efe a2 Bren. 25.1. ddygodd i fynu ar­nynt hwy frenin y Caldeaid, yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaingc hwy â'r cleddyf, yn nhŷ eu cyssegr, ac nid arbedodd na gŵr ieuangc, na morwyn, na hên, na 'r hwn oedd yn cam­mu gan oedran: efe a'i rhoddodd hwynt oll yn ei law ef.

18 Holl lestri tŷ Dduw hefyd, mawrion a bychain, a thryssorau tŷ 'r Arglwydd, a thry­ssorau y brenin a'i dywysogion: y rhai hynny oll a ddûg efe i Babilon.

19 A hwy a loscasant dŷ Dduw, ac a ddest­rywiasant fûr Jerusalem; a'i holl balâsau hi a loscasant hwy â thân, a'i holl lestri dymunol a ddinystriasant.

20Heb. A gwe­ddill y cleddyf. A'r rhai a ddiangasai gan y cleddyf a gaeth-gludodd efe i Babilon: lle y buant hwy yn weision iddo ef, ac iw feibion, nes teyrnasu o'r Persiaid:

21 I gyflawni gair yr Arglwydd drwy enauJere. 25.9, 12. & 29.10. Jeremi, nes mwynhau o'r wlâd eiLevit. 26.34.35.43. Sabbothau: canys yr holl ddyddiau y bu hi yn anghyfannedd y gorphywysodd hi, i gyflaw­ni deng-mhlynedd a thrugain.

22 AcEzra. 1.1. yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, (fel y cyflawnid gair yr Ar­glwydd yr hwn a ddywedwyd drwy enauJer. 25.12.13. & 29.10. 1 Esdr. 2.1, 2. Je­remi) yr Arglwydd a gyffrôdd yspryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe drwy ei holl frenhiniaeth a hynny mewn scrifen, gan ddywedyd,

23 Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, Arglwydd Dduw 'r nefoedd a roddodd holl deyrnasoedd y ddaiar i mi, ac efe a orchym­ynnodd i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerusalem, yr hon sydd yn Juda, pwy sydd yn eich mysc chwi o'i holl bobl ef? yr Arglwyddei Dduw fyddo gyd ag ef, ac eled i fynu.

LLYFR EZRA.

PEN. I.

1 Cyrus yn gorchymyn adeiladu 'r Deml. 5 Y bobl yn ymbaratoi i ddychwelyd yn eu hôl. 7 Cyrus yn rhoi yn ôl lestri y Deml i Sesbaz­zar.

YN y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia (i gyflawni gair yr Arglwydd2 Cron. 36.22. Jer. 25.12. & 29.10. o enau Jeremi) y cyffrôdd yr Ar­glwydd yspryd Cyrus brenin Persia, fel yHeb. gwnaeth i lef dramwy. cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hynny hefyd mewn yscrifen, gan ddywedyd,

2 Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, Arglwydd Dduw 'r nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaiar, ac efe aEsai. 44.28. & 45.13. orchymynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerusalem, yr hon sydd yn Juda.

3 Pwy sydd o honoch o'i holl bobl ef? by­dded ei Dduw gyd ag ef, ac eled i fynu i Jeru­salem, yr hon sydd yn Juda, ac adeiladed dŷ Arglwydd Dduw Israel (dyna 'r Duw) yr hwn sydd yn Jerusalem.

4 A phwy bynnag a adawyd mewn vn man lle y mae efe yn ymdeithio,Heb. cyfoded, n [...]u cyn­halied. cynnorthwyed gwŷr ei wlâd ef ag arian, ac ag aur, ac â golud, ac ag anifeiliaid, gyd ag ewyllyscar offrwm tŷ Dduw, yr hwn sydd yn Jerusalem.

5 Yna y cododd pennau cenedl Juda a Ben­jamin, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, a phôb vn v cy­ffrôdd Duw ei yspryd, i fyned i fynu i adeila­du tŷ yr Arglwydd, yr hwn oedd yn Jerusa­lem.

6 A'r rhai oll o'i hamgylch a'iHeb. cryfha­sant eu dwylo hwy a, &c. cynnorth­wyasant hwy, â llestri arian, ac aur, a golud, ac ag anifeiliaid; ac â phethau gwerthfawr; heb law 'r hyn oll a offrymmwyd yn ewyllysgar.

7 A'r brenin Cyrus a ddûg allan lestri tŷ 'r Arglwydd,2 Bren. 24.13. & 25.13. 2 Cron. 36.7. Jer. 27.19. Dan. 1.2. y rhai a ddygasei Nabuchodono­sor allan o Jerusalem, ac a roddasei efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun.

8 Y rhai hynny a ddûg Cyrus brenin Persia allan trwy law Mithredath y tryssorudd, ac a'i rhifodd hwynt atGwel. Pen. 5.14. Sesbazzar pennaeth Juda.

9 Ac dymma eu rhifedi hwynt; dêc ar hu­gain o gawgiau aur, mîl o gawgiau arian, naw ar hugain o gyllyll:

10 Dec ar hugain o orflychau aur, dêc a phedwar cant o ail fath o orflychau arian, a mîl o lestri eraill.

11 Yr holl lestri yn aur, ac yn arian, oedd bum mîl a phedwar cant. Y rhai hyn oll a ddûg Sesbazzar i fynu gyd a'rHeb. trosclwy­ddiad. gaeth-glud a ddygwyd i fynu o Babilon i Jerusalem.

PEN. II.

1 Rhifedi y bobl a ddychwelodd, 36 a'r offeiri­aid, 40 A'r Leuiaid, 43 a'r Nethiniaid, 55 a gweision Salomon, 62 a'r offeiriaid ni fedrent ddangos eu hachau. 64 Rhifedi y cwbl, a'i golud. 68 Eu hoffrymmau.

ACNehem. 7.6. 1 Esdr. 5.7. dymma feibion y dalaith y rhai a dda­eth i fynu o gaethiwed y gaeth-glud, yr hon a gaethgludasei Nabuchodonosor brenin Babilon i Babilon, ac a ddychwelasant i Jerusa­lem, a Juda, pôb vn iw ddinas ei hun.

2 Y rhai a ddaeth gyd â Zorobabel, Jesua, Nehemiah,Neu, Azariah. Nehem. 7.7. Saraiah, Reelaiah, Mordecai, Bilsan, Mispar, Biguai, Rehum, Baanah; rhifedi gwŷr pobl Israel.

3 Meibion Paros, dwy fil, a deuddec ac wŷth vgain.

4 Meibion Sephatiah, try-chant, a deuddec a thri vgain.

5 Meibion Arah, saith gant, a phymthec a thrugain.

6 MeibionNehem. 7.11. Pahath-Moab, o feibion Jesua a Joab; dwy fil, ŵyth gant, a deuddec.

7 Meibion Elam; mîl, dau cant a phedwar ar ddêc a deugain.

8 Meibion Zattu; naw cant, a phump a deu­gain.

9 Meibion Zaccai; saith gant, a thri­vgain.

10 MeibionNeu, Binui, Nehe. 7.15. Bani; chwe chant, a dau a deugain.

11 Meibion Babai; chwe-chant, a thri ar hu­gain.

12 Meibion Azgad; mîl, dau cant, a dau ar hugain.

13 Meibion Adonicam; chwe-chant, a chwech a thrugain.

14 Meibion Biguai; dwy fil, ac onid ped­war trugain.

15 Meibion Adin, pedwar cant, a phedwar ar ddêc a deugain.

16 Meibion Ater o Hezeciah; onid dau pum hugain.

17 Meibion Bezai, trychant, a thri ar hu­gain.

18 MeibionNeu, Hariph. Nehe. 7.2 [...]. Jora; cant, a deuddec,

19 Meibion Hasum, dau cant, a thri ar hu­gain.

20 MeibionNeu, Gi [...]on, Nehe. 7.25. Gibbar: pymthec a phedwar vga [...].

21 Meibion Bethlehem; cant a thri ar hu­gain.

22 Gwŷr Netophah; onid pedwar trugain.

23 Gwŷr Anathoth; cant, ac wyth ar hugain.

24 MeibionNeu, Beth-Asma­feth, Nehe. 7.28. Asmafeth; dau a deugain.

25 Meibion Ciriatharim, Cephirah, a Beeroth; seith gant, a thri a deugain.

26 Meibion Ramah, a Gaba; chwe-chant, ac vn ar hugain.

27 Gwŷr Michmas; cant, a dau ar hugain.

28 Gwŷr Bethel, ac Ai; dau cant, a thri ar hugain.

29 Meibion Nebo; deuddec a deugain.

30 Meibion Magbis; cant, ac onid pedwar tri vgain.

31 MeibionVers. 7. Elam arall; mîl, dau cant, a phedwar ar ddêc a deugain.

32 Meibion Harim; try-chant, ac vgain.

33 Meibion Lod,Neu, Harid. Hadid, ac Ono; seith­gant a phump ar hugain.

34 Meibion Jericho; try-chant, a phump a deugain.

35 Meibion Senaah; tair mîl, a chwe­chant, a dêc ar hugain.

36 Yr offeiriaid meibion1 Cron. 24.7. Jedaiah, o dŷ Je­sua; naw cant, dêc a thri vgain a thri.

37 Meibion1 Cron. 24.14. Immer; mîl a deuddec a deugain.

38 Meibion1 Cron. 9.12. Pasur; mîl, dau cant, a saith a deugain.

39 Meibion1 Cron. 24.8. Harim; mîl a dau ar bym­thec.

40 Y Lefiaid: meibion Jesua, a Chadmiel, o feibionNeu, Juda, Pen. 3 9. Neu, Ho­defah, Nehe. 7.43. Hodafia; pedwar ar ddêc a thru­gain.

41 Y cantoriaid, meibion Asaph; cant ac ŵyth ar hugain.

42 Meibion y porthorion, sef meibion Sa­lum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hattita, meibion Sobai, oedd oll gant, ac onid vn deugain.

43 YJosua 9.23. Nethiniaid: meibion Ziha, meibion Asupha, meibion Tabbaoth,

44 Meibion Ceros, meibion Siaha, meibion Padon,

45 Meibion Lebanah, meibion Hagabah, meibion Accub,

46 Meibion Hagab, meibionNeu, S [...]lmai. Samlai, mei­bion Hanan,

47 Meibion Gidel, meibion Gahar, meibion Reaiah,

48 Meibion Rezin, meibion Necoda, mei­bion Gazam,

49 Meibion Vzza, meibion Paseah, meibion Besai,

50 Meibion Asnah, meibion Mehunim, mei­bion Nephusim,

51 Meibion Bacbuc, meibion Hacupha, mei­bion Harhur,

52 MeibionNeu, Bazlith, Nehem. Bazluth, meibion Mehida, meibion Harsa,

53 Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thamah,

54 Meibion Nesiah, meibion Hatipha.

55 Meibion gweision Salomon: meibion Sotai, meibion Sophereth, meibionNeu, Perida, Nehem. Peruda,

56 Meibion Jaalah, meibion Darcon, mei­bion Gidel,

57 Meibion Sephatiah, meibion Hattil, mei­bion Pocereth o Zebaim, meibionNeu, Amon, Nehem. Ami.

58 Yr hollJosua. 9.21. 1 Cron. 9.2. Nethiniaid, a meibion1 Bren. 9. 21. gweision [Page] Salomon, oedd drychant, deuddec a phedwar vgain.

59 A'r rhai hyn a aethant i fynu o Telme­lah, Telharsa, Cherub, Adan ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na 'i hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt:

60 Meibion Delaiah, meibion Tobiah, meibion Necoda, chwe-chant, a deuddec a deu­gain.

61 A meibion yr offeiriaid, meibion Hebai­ah, meibion Coz, meibion Barzilai, (yr hwn a gymmerasei wraig o ferched2 Sam. 17.27. Barzilai y Gi­leadiad, ac a alwasid ar eu henw hwynt)

62 Y rhai hyn a geisiasant eu scrifen ym mhiith yr achau, ond ni chafwyd hwynt: am hynnyHeb. yr halog­nyd. y bwriwyd hwynt allan o'r offeiri­adaeth.

63 A'rNeu, llyw [...]dd. Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwyttaent o'r pethau sancteiddiaf hyd oni chy­fodei offeiriad agExod. 28.30. Vrim ac â Thummim.

64 Yr holl dyrfa ynghyd, oedd ddwy fil a deugain, try-chant, a thri vgain:

65 Heb law eu gweision, a'i morwynion, y rhai hynny oedd saith mîl, try-chant, a dau ar bymthêc ar hugain: ac yn eu mysc yr oedd dau cant yn gantorion, ac yn gantoresau.

66 Eu meirch oedd saith gant, ac onid ped­war deugain: eu mulod yn ddau cant, ac yn bump a deugain:

67 Eu camelod yn bedwar cant, ac yn bym­thec ar hugain: eu hassynnod yn chwe mîl, saith gant, ac vgain.

68 Ac o'r pennau cenedl pan ddaethant i dŷ yr Arglwydd, yr hwn oedd yn Jerusalem, rhai a offrymmasant o'i gwaith eu hun tu ag at dŷ 'r Arglwydd, iw gyfodi yn ei lê:

69 Rhoddasant yn ôl eu gallui1 Cron. 26.20. dryssor­dŷ y gwaith vn fil a thriugain o ddracmonau aur, a phum mîl o bunnoedd o arian, a chant o wiscoedd offeiriaid.

70 Yna 'r offeiriaid a'r Lefiaid, a rhai o'r bobl, a'r cantorion, a'r porthorion, a'r Nethini­aid, a drigasant yn eu dinasoedd; a holl Israel yn eu dinasoedd.

PEN. III.

1 Gosod i fynu yr allor. 4 Amled yr offrym­mau. 7 Parotoi gweith-wyr. 8 Gosod sylfeini y Deml gydâ llawenydd mawr, a galar.

A Phan ddaeth3 Esdr. 5 47. y seithfed mîs, a meibion Israel yn eu dinasoedd, y bobl a ymgascla­sant i Jerusalem megis vn gŵr.

2 Yna y cyfododdNeu, Josua, Hag. 1.1. Jesua mâb Jozadac, a'i frodyr yr offeiriaid, aMat. 1.12. Luc. 3.27. Zorobabel mâb Salathi­el a'i frodyr, ac a adeiladasant allor Duw Israel, i offrymmu arni offrymmau poeth, fel yr scri­fennasidDeut. 12.5. ynghyfraith Moses gŵr Duw.

3 A hwy a osodasant yr allor ar ei hystolion (canys yr oedd arnynt ofn pobl y wlâd) ac a offrymmasant arni boeth offrymmau i'r Ar­glwydd, poeth offrymmau borau a hwyr.

4 Cadwasant hefyd ŵyl y pebyll, felExod. 23.16. y mae yn scrifennedic, ac a offrymmisant Num. 29.12. boeth aberth beunydd tan rifedi, yn ôl y ddefod, dogn dydd yn ei ddydd,

5 Ac wedi hynny y poeth offrwm gwa­stadol, ac offrwm y newydd loerau, a holl sanctaidd osodedic ŵyliau 'r Arglwydd; offrwm ewyllyscar pôb vn a offrymmei o honaw ei hun, a offrymmasant i'r Arglwydd.

6 O'r dydd cyntaf i'r seithfed mîs y dechreu­asant offrymmu poeth offrymmau i'r Argl­wydd, ond Teml yr A [...]glwydd ni sylfaenasid etto.

7 Rhoddasant hefyd arian i'r seiri main, ac i'r seiri pren, a bwyd a diod ac olew i'r Sido­niaid, ac i'r Tyriaid, am ddwyn coed cedr o Libanus hyd y môr i Joppa: yn ôl ceniadhâd Cyrus brenin Persia iddynt hwy.

8 Ac yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy i dŷ Dduw i Jerusalem, yn yr ail mîs, y de­chreuodd Zorobabel mâb Salathiel, a Jesua mâb Jozadac, a'r rhan arall o'i brodyr hŵynt, yr offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r rhai oll a ddaethai o'r caethiwed i Jerusalem; ac a osodasant y Lefi­aid, o fab vgain-mlwydd ac vchod, yn olygwyr ar waith tŷ 'r Arglwydd.

9 Yna y safodd Jesua a'i feibion, a'i frodyr, Cadmiel a'i feibion, meibionNeu, Hodauiah. Pen. 2.40 Juda, yn gydtûn i oruchwilio ar weith-wŷr y gwaith yn nhŷ Dduw, meibion Henadad, a'i meibion hwy­thau, a'i brodyr y Lefiaid.

10 A phan oedd y seiri yn sylfaenu Teml yr Arglwydd, hwy a osodasant yr offeiriaid yn eu gwiscoedd ag vdcyrn, a'r Lefiaid meibion A­saph â symbalau, i foliannu 'r Arglwydd,1 Cron. 16.31. 1 Cron. 16.7. & 25.1. yn ôl ordinhâd Dafydd brenin Israel.

11 A hwy a gydganasant wrth foliannu, ac wrth glodsori yr Arglwydd, mai da oedd, mai yn dragywydd yr ydoedd ei drugaredd ef ar Israel: a'r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr, gan foliannu yr Arglwydd, am sylfaenu tŷ 'r Arglwydd.

12 Ond llawer o'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r pennau cenodl y rhai oedd hên, ac a wel­sent y tŷ cyntaf; wrth sylfaenu 'r tŷ hwn yn eu golwg, a ŵylasant â llêf vchel: a llawer oedd yn derchafu llêf mewn bloedd gorfoledd:

13 Fel nad oedd y bobl yn adnabod sain bloedd y llawenydd, oddi wrth sain ŵylofain y bobl: canys y bobl oedd yn bloeddio â bloedd fawr, a'r sŵn a glywid ym mhell.

PEN. IV.

1 Gwrthwyneb-wŷr Juda, am na chynhwyfid iddynt adeiladu 'r Deml gyda 'r Iddewon, yn ceisio llestair ei hadeiladu hi. 7 Eu llythyrau hwy at Artaxerxes. 17 Gorchymyn Artaxerxes. 23 Rhwystro adeiladu y Deml.

YNa gwrthwyneb-wŷr Juda, a Benjamin, a glywsant fôd meibion y gaeth-glud yn adeiladu Teml i Arglwydd Dduw Israel:

2 Ac a ddaethant at Zorobabel, ac at y pen­nau cenedl, ac a ddywedasant wrthynt, adei­ladwn gyd â chwi; canys fel chwithau y cesiwn eich Duw chwi, ac iddo ef yr ydym ni yn a­berthu, er dyddiau Esarhadon brenin Assyria, yr hwn a'n dûg ni i fynu ymma.

3 Eithr dywedodd Zorobabel, a Jesua, a'r rhan arall o bennau cenedl Israel wrthynt, nid yw i chwi ac i ninneu adeiladu tŷ i'n Duw ni: eithr nyni a gyd-adeiladwn i Arglwydd Dduw Israel, megis i'n gorchymynnodd y brenin Cy­rus, brenin Persia.

4 A phobl y wlâd oedd yn anghysuro pobl Juda, ac yn eu rhwystro hwy i adeiladu;

5 Ac yn cyflogi cynghor-wŷr yn eu her­byn hwynt, i ddiddymmu eu cyngor hwynt, holl ddyddiau Cyrus brenin Persia, a hyd deyr­nasiad Darius brenin Persia.

6 Ac yn nheyrnasiad Ahasferus, yn ne­chreuad ei deyrnasiad ef, yr scrifennasant atto achwyn, yn erbyn trigolion Juda a Jerusa­lem.

7 Ac vn nyddiau Artaxerxes yr scrifen­noddNeu, mewn heddwch. Bislam, Mithredath, Tabeel, a'r rhan [Page] arall o'iHeb. cyfeillach. cyfeillion, at Artaxerxes brenin Persia; ac yscrifen y llythr a scrifennwyd yn Syri-aec, ac a eglurwyd yn Syri-aec.

8 Rehum y cofiadur, a Simsai yr yscrifen­nydd, a scrifennasant lythyr yn erbyn Jerusa­lem at Artaxerxes y brenin, fel hyn:

9 Yna yr scrifennodd Rehum y cofiadur, a Simsai yr yscrifennydd, a'r rhan arall o'iChald. cyfeillach. cyfei­llion, y Dinaiaid, yr Apharsathciaid, y Tarpeli­aid, yr Apharsiaid, yr Archeuiaid, y Babiloniaid, y Susanchiaid, y Dehafeaid, yr Elamiaid,

10 A'r rhan arall o'r bobl, y rhai a ddûg Asnappar mawr ac enwoc, ac a osododd efe yn ninasoedd Samaria, a'r rhan arall tu ymma i'r afon,Cheen­eth. a'r amser a'r amser:

11 Dymma ystyr y llythyr a anfonasant atto ef, sef at Artaxerxes y brenin: DY WA­SANAETH-WYR o'r tu ymma i'r afon, a'r amser a'r amser.

12 Bid hyspys i'r brenin fod yr Iddewon a ddaethant i fynu oddi wrthit ti attom ni, wedi dyfod i Jerusalem, ac yn adeiladu y ddinas wrthryfelgar ddrygionus, a'r muroedd a sylfae­nasant hwy, ac a gŷd-wniasant y sylfaenau.

13 Yn awr bydded hysbys i'r brenin, os adeiledir y ddinas hon, a gorphen ei chaerau, na roddant na tholl, na theyrnged, na thrêth; felly y drygiNeu. ardreth, neu, allu. dryssor y brenhinoedd.

14 Ac yn awr o herwydd ein bôd ni yn caelChald. ein hall­tu a halen llys, &c. ein cynhaliaeth o lŷs y brenhin, ac nad oedd weddaidd i ni weled gwarth y brenin, am hyn­ny 'r anfonasom, ac yr yspysasom i'r brenin:

15 Fel y ceisier yn llyfr historiâu dy da­dau, a thi a gei yn llyfr yr historiau, ac a elli ŵybod, fôd y ddinas hon yn ddinas wrthryfel­gar, niweidiol i frenhinoedd, a thaleithiau, a bôd yn gwneuthur brâdfwriad o fewn hon er ystalm, am hynny y dinistriwyd y ddinas hon.

16 Yr ydym yn yspysu i'r brenin, os y ddi­nas hon a adailedir, a'i muriau a sylfaenir, wrth hynny ni fydd i ti ran o'r tu ymma i'r afon.

17 Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur, a Simsai 'r scrifennydd, a'r rhan arall o'iChald. cyfeillach. cyfeillion hwynt, y rhai a drigent yn Samaria; ac at y llaill o'r tu hwnt i'r afon, Tangneddyf, a'r amser a'r amser.

18 Y llythyr a anfonasoch attaf a ddarllen­nwyd yn eglur ger fy mron.

19 Ac mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd, a chafwyd fôd y ddinas hon er ys talm yn ymdderchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneu­thur ynddi anufydd-dod, a gwrthryfel.

20 A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerusalem, yn llywodraethu ar bawb o'r tu hwnt i'r afon, ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a thrêth.

21 Yn awr rhoddwch orchymyn i beri i'r gwŷr hynny beidio, ac nad adeilader y ddinas honno, hyd oni roddwyf fi orchymyn etto.

22 A gwiliwch wneuthur yn amryfus yn hyn: pa ham y tŷf niwed i ddrygu y bren­hinoedd?

23 Yna pan ddarllennwyd ystyr llythyr Ar­taxerxes y brenin o flaen Rehum, a Simsai 'r scrifennydd, a'i cyfeillion, hwy a aethant i fynu ar frŷs i Jerusalem at yr Iddewon, ac a wnae­thant iddynt beidio, drwy fraich a chryfdwr.

24 Yna y peidiodd gwaith tŷ Dduw 'r lawn sydd yn Jerusalem, ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Darius brenin Persia.

PEN. V.

1 Zorobabel a Salathiel, wedi eu hannog gan Haggai a Zechariah, yn rhwyddhau adeiladu 'r Deml. 3 Tatnai a Setharboznai heb allel rhwy­stro yr Iuddewon. 6 Eu llythyr hwy at Ddarius yn erbyn yr Iuddewon.

YNa y prophwydi,Hagg. 1.1. Haggai y prophwyd, aZech. 1.1. Zechariah mâb Ido, a brophwydasant i'r Iddewon oedd yn Juda, ac yn Jerusalem; yn enw Duw Israel y prophwydasant iddynt.

2 Yna Zorobabel mâb Salathiel, a Jesua mâb Jozadac, a godasant, ac a ddechreuasant adei­ladu tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerusalem: a phrophwydi Duw oedd gyd â hwynt yn eu cynnorthwyo.

3 Y prŷd hynny y daeth attynt hwy Tat­nai tywysog y tu ymma i'r afon, a Setharboz­nai, a'i cyfeillion, ac fel hyn y dywedasant wrth­ynt, pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y muriau hyn?

4 Yna fel hyn y dywedasom wrthynt, beth yw henwau y gwŷr a adeiladant yr adeilada­eth ymma?

5 A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon, fel na wnaethant iddynt beidio, nes dyfod yr achos at Ddarius; ac yna 'r atteba­sant drwy lythyr am hyn.

6 Ystyr y llythyr a anfonodd Tatnai tywy­sog y tu ymma i'r afon, a Setharboznai, a'i gyfeillion yr Apharsachiaid, y rhai oedd o'r tu ymma i'r afon, at y brenin Darius.

7 Anfonasant lythyr atto ef, ac fel hyn yr yscrifennasidChald. yn ei ga­nol ef. ynddo; POB heddwch i'r brenin Darius.

8 Bydded hyspys i'r brenin fyned o honom ni i dalaith Judea i dŷ y Duw mawr, a bôd yn ei adeiladu ef â meiniChald. treiglo. mawr, a bôd yn gosod coed yn ei barwydydd ef, a bôd y gwaith yn myned rhagddo ar frŷs, a'i fod yn llwyddo yn eu dwylo hwynt.

9 Yna y gofynnasom i'r henuriaid hynny, ac a ddywedasom wrthynt fel hyn, pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y mûr ymma?

10 Gofynnasom hefyd iddynt eu henwau, fel yr yspyssem i ti, ac fel yr scrifennem hen­wau y gwŷr oedd yn bennau iddynt.

11 A'r geiriau hyn a attebasant hwy i ni, gan ddywedyd, nyni ydym weision Duw nêf a daiar, ac yn adeiladu y tŷ 'r hwn a adailadwyd cyn hyn lawer o flynyddoedd, a1 Bren. 6.1. 2 Cron. 3.2. brenin mawr o Israel a'i hadeiladodd, ac a'i seiliodd ef.

12 Eithr wedi i'n tadau ni ddigio Duw y nefoedd, efe a'i2 Bren. 24.2. & 25.8. rhoddes hwynt yn llaw Na­buchodonosor brenin Babilon y Caldead, a'r tŷ hwn a ddinistriodd efe, ac a gaeth-gludodd y bobl i Babilon.

13 Ond ynPen. 1.1. y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon, y rhoddes y brenin Cyrus or­chymyn i adeiladu y tŷ Dduw hwn.

14 A llestri tŷ Dduw hefyd o aur ac arian, y rhai a ddygasei Nabuchodonosor o'r deml yn Jerusalem, ac a'i dygasei i deml Babilon, y rhai hynny a ddûg y brenin Cyrus allan o deml Babilon, a rhoddwyd hwynt i vn Pen. 1.7, 8. & 6.5. Ses­bazzar wrth ei henw, yr hwn a osodasei efe ynNeu, rhaglar. dywysog.

15 Ac efe a ddywedodd wrtho, cymmer y llestri hyn, dôs, dŵg hwynt i'r deml yn Jerusa­lem, ac adeilader tŷ Dduw yn ei lê.

16 Yna y daeth y Sesbazzar hwnnw, ac a osododd sylf [...]ini tŷ Dduw yn Jerusalem, ac o'r [Page] prŷd hynny hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu, ac nis gorphennwyd ef:

17 Ac yn awr (os dâ gan y brenin) ceisier yn nhryssor-dŷ y brenin yna yn Babilon, a ddarfu i'r brenin Cyrus osod gorchymyn am adeiladu y tŷ Dduw hwn yn Jerusalem; ac an­foned y brenin ei ewyllys attom am y peth hyn.

PEN. VI.

1 Darius, wedi gweled gorchymyn Cyrus, yn rhoi gorchymyn newydd i yrru gwaith y Deml ym-mlaen. 13 Gorphen y Deml, trwy gym­horth y gelynion a chyfarwyddiad y Prophwy­di. 16 Cadw gŵyl y Cyssegriad, 19 a gŵyl y Pâsc.

YNa 'r brenin Darius a osododd orchymyn, a chwiliwyd yn nhŷ y llyfrau, lle yChald. dyrchefid. ced­wid y tryssorau yn Babilon.

2 A chafwyd ynNeu, Echatana, [...], mewn ci [...]. Achmetha yn y llŷs yn nhalaith Media ryw lyfr, ac fel hyn yr yscri­fennasid ynddo yn goffadwriaeth:

3 Yn y flwyddyn gyntaf i'r brenin Cyrus, y gosododd y brenin Cyrus orchymyn, am dŷ Dduw o fewn Jerusalem; adeilader y tŷ, y fan lle yr aberthent aberthau, a gwnaer yn gadarn ei sylfeini, yn dri vgain cufydd ei vchder, ac yn driugain cufydd ei lêd:

4 Yn dair rhês o feini mawr, a rhês o goed newydd; a rhodder y draul o dŷ 'r brenin.

5 A llestri tŷ Dduw hefyd, yn aur ac yn arian, y rhai a ddûg Nabuchodonosor o'r deml yn Jerusalem, ac a ddûg efe adref i Babilon, rhodder hwyntChald. i fyned. i'w dwyn i'r deml yn Jerusa­lem, iw llê, a gosoder hwynt yn nhŷ Dduw.

6 Yn awr Tatnai tywysog y tu hwnt i'r afon, Sethar-boznai a'chChald. cyfeillach. cyfeillion yr Aphar­sachiaid, y rhai ydych o'r tu hwnt i'r afon, ciliwch oddi yno.

7 Gadewch yn llonydd waith tŷ Dduw hwn, adeiladed tywysogion a henuriaid yr Iddewon y tŷ hwn i Dduw yn ei lê.

8 Gosodais hefyd orchymyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iddewon hyn, wrth adeiladu y tŷ Dduw hwn, mai o gyfoeth y bre­nin, sef o'r deyrn-ged o'r tu hwnt i'r afon, y rho­ddir traul i'r gwŷr hyn, fel na pheidio 'r gwaith.

9 A'r hyn a fyddo angen-rheidiol i boeth offrymmau Duw y nefoedd, yn eidionnau, neu yn hyrddod, neu yn ŵyn, yn ŷd, yn hâlen, yn wîn, ac yn olew, yn ôl yr hyn a ddywedo 'r offeiriaid sydd yn Jerusalem, rhodder iddynt bôb dydd yn ddibaid:

10 Fel yr offrymmont aroglauChald. llonydd­wch. peraidd i Dduw 'r nefoedd, ac y gweddiont tros einioes y brenin, a'l feibion.

11 Gosodais hefyd orchymyn, pa ddŷn byn­nac a newidio y gair hwn, tynner coed o'i dŷ ef, a gosoder i sefyll, ac ar hwnnwChald. difether. croger ef, a bydded ei dŷ ef yn dommen am hynny.

12 A'r Duw, yr hwn a wnaeth iw enw bresswylio yno, a ddinistrio bôb brenin a phobl, a estynno ei law i newidio, ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo Duw yn Jerusalem. Myfi Darius a osodais y gorchymyn, gwneler ef yn ebrw­ydd.

13 Yna2 Esd. 7.1. Tatnai tywysog y tu ymma i'r a­fon, Setharboznai a'i cyfeillion, megis yr anfo­nodd brenin Darius, felly y gwnaethant yn ebrwydd.

14 A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant, drwy brophwydoliaeth Haggai [...] prophwyd, a Zechariah fab Ido, ie adeilada­ [...] a gorphennasant, wrth orchymyn Duw Israel, ac wrthChald. gyfraith. orchymyn Cyrus, a Darius, ac Artaxerxes brenin Persia.

15 A'r tŷ hwn a orphennwyd y trydydd dydd o fîs Adar, pan oedd y chweched flwydd­yn o deyrnasiad y brenin Darius.

16 A melbion Israel, yr offeiriaid, a'r Le­fiaid, a'r rhan arall o feibion y gaeth-glud, a gyssegrasant y tŷ hwn eiddo Duw, mewn llaw­enydd;

17 Ac a offrymmasant wrth gyssegru y tŷ hwn elddo Duw, gant o ychen, dau cant o hyr­ddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddec o fychod geifr, yn bêch-aberth tros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel.

18 Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu dosparthiadau, a'r Lefiaid yn eu cylchoedd hwythau, i wasanaeth Duw yn Jerusalem, yn ôl yscrifenNum. 3.6. & 8.9. llyfr Moses.

19 Meibion y gaeth-glud hefyd a gadwasant y Pasc, ar y pedwerydd dydd ar ddêc o'r mis cyntaf:

20 Canys yr offeiriaid a'r Lefiaid a ymlan­hasant yn gydtûn, yn lân i gyd ôll, ac a aber­thasant y Pasc tros holl feibion y gaeth-glud, a thros eu brodyr yr offeiriaid, a throstynt eu hunain.

21 A meibion Israel, y rhai a ddychwelasent o'r gaeth-glud, a phob vn a ymnailltuasei oddi wrth halogedigaeth cenhedloedd y wlâd attynt hwy, i geisio Arglwydd Dduw Israel, a fwyt­tâsant,

22 Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod, mewn llawenydd; canys yr Ar­glwyd a'i llawenhasei hwynt, ac a droesei galon brenin Assyria attynt hwy,Heb. gryfhau eu dwylo hwynt. iw cynnorth­wyo hwynt yngwaith tŷ Dduw, Duw Israel.

BEN. VII.

1 Ezra yn myned i fynu i Jerusalem, 11 wedi cael cennad a gorchymmyn gan Artaxerxes, 27 Ac yn bendithio Duw am ei drugaredd.

AC wedi y pethau hyn, yn nheyrnasiad Ar­taxerxes brenin Persia, Ezra mâb Seraiah, fab Azariah, fab Helciah,

2 Fab Salum, fab Zadoc, fab Ahitub,

3 Fab Amariah, fab Azariah, fab Meraioth,

4 Fab Zeraiah, fab Vzzi, fab Bucci,

5 Fab Abisua, fab Phinehes, fab Eleazar, fab Aaron yr offeiriad pennaf:

6 Yr Ezra hwn a aeth i fynu o Babilon, ac efe oedd scrifennydd cyflym ynghyfraith Mo­ses, yr hon a roddasei Arglwydd Dduw Israel; a'r brenin a roddes iddo ef ei holl ddymuniad, fel yr ydoedd llaw 'r Arglwydd ei Dduw ar­no ef.

7 A rhai a aethant i fynu o feibion Israel, ac o'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r cantorion, a'r por­thorion, a'r Nethiniaid, i Jerusalem, yn y seith­fed flwyddyn i'r brenin Artaxerxes.

8 Ac efe a ddaeth i Jerusalem, yn y pummed mîs, yr hwn oedd yn y seithfed flwyddyn i'r brenin.

9 Canys ar y dydd cyntaf o'r mîs cyntafNeu, efe oedd sylfaen myned i fynu. y dechreuodd efe fyned i fynu o Babylon, ac ar y dydd cyntaf o'r pummed mîs y daeth efe i Jerusalem, fel yr oedd daionus law ei Dduw gyd ag ef.

10 Canys Ezra a barottoesei ei galon i geisio cyfraith yr Arglwydd, ac iw gwneuthur, ac i ddyscu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.

11 Ac dymma ystyr y llythyr a roddodd y bre­nin Artaxerxes i Ezra yr offeiriad a'r yscrifen­nydd, sef yscrifennydd geiriau gorchymynion [Page] yr Arglwydd, a'i ddeddfau ef i Israel.

12 Artaxerxes brenin y brenhinoedd at Ezra yr offeiriad,Neu, fer. f. Perffaith deadf Duw y u foeud tangne­ddyf, &c. scrifennydd deddf Duw y ne­foedd, perffaith dangneddyf, a'r amser a'r am­ser.

13 Myfi a osodais orchymyn, fôd i bwy bynnac yn fy nheyrnas i o bobl Israel, ac o'i osteiriaid ef, a'i Lefiaid, sydd ewyllyscar i fyned i Jerusalem, gael myned gyd â thi.

14 O herwydd dy anfon di oddi wrth y bre­nin a'i saithEsther. 2.14. gynghoriaid i ymweled â Juda, ac â Jerusalem, wrth gyfraith dy Dduw yr hon sydd yn dy law di:

15 Ac i ddwyn yr arian, a'r aur a offrym­modd y brenin a'i gynghoriaid, o honynt eu hunain, i Dduw Israel, yr hwn y mae ei bress­wylfa yn Jerusalem:

16Pen. 2.25. A'r holl arian, a'r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith Babilon, gydag offrymmau gwirfodd y bobl a'r offeiriaid, y rhai a offrym­mant o honynt eu hunain, tu ag at dŷ eu Duw yn Jerusalem:

17 Fel y prynech yn ebrwydd â'r arian hyn­ny ychen, hyrddod, ŵyn, a'i bwyd offrym­mau, a'i diod offrymmau, a'i hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Jerusalem.

18 A'r hyn a fyddo da gennit ti, a chan dy frodyr, ei wneuthur â'r rhan arall i'r arian a'r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich Duw.

19 A'r llestri, y rhai a roddwyd it i wasa­naeth tŷ dy Dduw, dôd adref o flaen dy Dduw yn Jerusalem.

20 A pheth bynnac ychwaneg a fyddo ang­henrhaid i dŷ dy Dduw, yr hyn a ddigwyddo it ei roddi, a roddi di o dryssor-dŷ 'r brenin.

21 A minneu y brenin Artaxerxes ydwyf yn gosod gorchymyn i holl dryssor-wŷr y tu hwnt i'r afon, beth bynnag a geisio Ezra, offei­riad, ac scrifennydd deddf Duw 'r nefoedd, gennych, gwneler yn ebrwydd:

22 Hyd gan talent o arian, a hyd gan Corus o wenith; a hyd gan Bath o wîn, a hyd gan Bath o olew, a hâlen heb fesur.

23 Beth bynnagHeb. sydd wrth gyfraith. yw gorchymyn Duw y ne­foedd, gwneler yn ddyfal i dŷ Duw 'r nefoedd; canys pa ham y byddei llidiawgrwydd yn er­byn teyrnas y brenin a'i feibion?

24 Yr ydym yn yspyssu i chwi hefyd am yr holl offeiriaid, a'r Lefiaid, cantorion, por­thorion, Nethiniaid, a gwenidogion y tŷ Duw hwn, na eliir bwrw arnynt doll, na theyrnged, na thrêth.

25 Titheu Ezra, yn ôl doethineb dy Dduw, yr hon sydd yn dy law, gosod swyddogion a barn-wŷr, i farnu 'r holl bobl o'r tu hwnt i'r afon, y rhai oll a fedrant gyfraith dy Dduw; a dyscwch y rhai nis medrant.

26 A phwy bynnac ni wnelo gyfraith dy Dduw, a chyfraith y brenin, gwneler barn yn ebrwydd arno ef, pa vn bynnag ai i farwolaeth, ai iwCh [...]ld. dd [...]wrei­ddio. ddeol, ai i ddirwy o dda, al i gar­char.

27 Bendigedic fyddo Arglwydd Dduw ein tadau, yr hwn a roddes fel hyn ynghalon y bre­nin, i harddu tŷ 'r Arglwydd, yr hwn sydd yn Jerusalem:

28 Ac a barodd i mi drugaredd, o flaen y brenin, a'i gynghoriaid, ac o flaen holl gedyrn dywysogion y brenin, a mi a gynnorthwywyd, fel yr oedd llaw yr Arglwydd fy Nuw arnafi, a chesclais o Israel bennaethiaid i fyned i fynu gyd â mi.

PEN. VIII.

1 Pa rai a ddychwelasant gydag Ezra o Babilon, 15 Ezra yn danfon at Ido am weinidogion i'r Deml, 21 Yn cadw ympryd, 24 Yn gor­chymyn y tryssorau i gadwraeth yr offeiriaid. 31 Y bobl yn dyfod o Ahaua i Jerusalem. 33 Pwyso 'r tryssor yn y Deml. 36 Rhoi gorchymyn y brenin at y pendefigion.

AC Dymma eu pennau cenedl hwynt,1 Essa. 8.29. a'i hachau, y rhai a aeth i fynu gyd â mi, yn nheyrnasiadPen. 7.1. Artaxerxes y brenin, allan o Ba­bilon.

2 O feibion Phinehes, Gersom; o feibion Ithamar, Daniel; o feibion Dafydd, Hattus;

3 O feibion Sechaniah, o feibion Pharos, Ze­chariah; a chyd ag ef y rhiswyd wrth eu hach­au gant a dêc a deugain o wr-rywiaid.

4 O feibion Pahath-Moab, Elihoenai mâb Zerahiah; a chyd ag ef ddau cant o wr-rywi­aid.

5 O feibion Zechaniah, mâb Jahaziel, a chyd ag ef dry-chant o yrfiaid.

6 O feibion Adin hefyd, Ebed mâb Jonathan, a chyd ag ef ddêc a deugain o wr-rywiaid.

7 Ac o feibion Elam, Jesaiah mâb Athaliah, a chyd ag ef ddêc a thrugain o yrfiaid.

8 Ac o feibion Sephatiah, Zebadiah mâb Michael: a chyd ag ef bedwar vgain o wr­rywiaid.

9 O feibion Joab, Obadiah mâb Jehiel: a chyd ag ef ddau cant a deunaw o wr-rywiaid.

10 Ac o feibion Selomith, mâb Josiphiah, a chyd ag ef wyth vgain o yrfiaid.

11 Ac o feibion Bebai: Zechariah mâb Be­bai: a chyd ag ef ŵyth ar hugain o wr-ry­wiaid.

12 Ac o feibion Azgad, JohananNeu, y mab ieuangaf. mâb Haccatan: a chyd ag ef ddeng mâb a chant.

13 Ac o feibion olaf Adonicam, dymma hefyd eu henwan hwynt, Eliphelet, Jehiel, a Sa­maiah: a chyd â hwynt drugain o yrfiaid.

14 Ac o feibion Bignai, Vthai, aNeu, Zaccur. Zabbud: a chyd â hwynt ddêc a thrugain o yrsiaid.

15 A chesclais hwynt wrth yr afon sydd yn myned i Ahafa, ac yno y gwerssyllasom ni dri­diau: ac mi a ystyriais y bobl, a'r offeiriaid, ond ni chefais yno nêb o feibion Lefi.

16 Yna 'r anfonais am Eliezer, am Ariel, am Semaiah, ac am Llnathan, ac am Jarib, ac am Elnathan, ac am Nathan, ac am Zechariah, ac am Mesulam, y pennaethiaid, ac am Joiarib, ac am Elnathan, y rhai doethion:

17 A rhoddais orchymyn gyd â hwynt at Ido, pennaeth yn y fan a elwir Casiphia: a go­sodais yn eu pennau hwynt eiriau iw traethu wrth Ido, a'i frodyr y Nethiniaid, yn y fan a elwir Casiphia, fel y dygent attom ni wenido­gion i dŷ ein Duw.

18 A hwy a ddygasant attom, (fel yr oedd daionus law ein Duw arnom ni,) ŵr deallgar o feibion Mahli, fab Lefi, fab Israel, a Serabiah, a'i feibion, a'i frodyr, ddeu-naw:

19 A Hasabiah, a chyd ag ef Jesaiah o fei­bion Merari, a'i frodyr, a'i meibion, vgain:

20 Ac o'rPen. 2.43. Nethiniaid a roddasei Dafydd, a'r tywysogion, yngwasanaeth y Lefiaid, dau cant ac vgain o Nethiniaid: hwynt oll a ys­pyssasid erbyn eu henwau.

21 Ac yna wrth afon Ahafa y cyhoeddais ympryd, i ymgystuddio ger bron ein Duw ni, i geisio ganddo ef ffordd vnion i ni, ac i'n plant, ac i'n golud oll.

22 Canys cywilydd oedd gennif geisio gan y brenin fyddin, a gwŷr meirch, i'n cynnorth­wyo rhag y gelyn ar y ffordd: canys llefarasem wrth y brenin, gan ddywedyd, llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a'i ceisiant ef, a'i gryfdwr a'i ddigter yn erbyn pawb a'i gadaw­ant ef.

23 Am hynny yr ymprydiasom, ac yr ym­biliasom â'n Duw am hyn, ac efe a wrandaw­odd arnom.

24 Yna y nailltuais ddeuddec o bennaethi­aid yr offeiriaid; Serebiah, Hasabiah, a dêc o'i brodyr gyd â hwynt;

25 Ac a bwysais attynt hwy yr arian, a'r aur, a'r llestri, sef offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymmasei 'r brenin, a'i gynghoriaid, a'i dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno.

261 Bren. 9.14. Ie pwysais iw dwylo hwynt, chwe­chant a dêc a deugain talent o arian, ac o lestri arian gan talent, a chan talent o aur:

27 A dêc o orflychau aur, o fil oPen. 2.69. ddrac­monau, a dau lestr o brês melyn da, morrHeb. ddymu­nol. brydferth ag aur.

28 A dywedais wrthynt, sanctaidd ydych chwi i'r Arglwydd, a'r llestri ydynt sanctaidd: yr arian hefyd, a'r aur, sydd offrwm gwir­fodd i Arglwydd Dduw eich tadau.

29 Gwiliwch, a chedwch hwynt, hyd oni phwysoch hwynt ger bron pennaethiaid yr offei­riaid, a'r Lefiaid, a phennau cenedl Israel, yn Jeruselem, ynghelloedd tŷ 'r Arglwydd.

30 Felly 'r offeiriaid, a'r Lefiaid a gymme­rasant bwys yr arian, a'r aur, a'r llestri, iw dwyn i Jerusalem i dŷ ein Duw ni.

31 A chychwynnasom oddi wrth afon Aha­fa ar y deuddecfed dydd o'r mîs cyntaf, i fyned i Jerusalem; a llaw ein Duw oedd arnom ni, ac a'n gwaredodd o law y gelyn, a'r rhai oedd yn cynllwyn ar y ffordd.

32 Ac ni a ddaethom i Jerusalem, ac a ar­hosasom yno dridiau.

33 Ac ar y pedwerydd dydd y pwyswyd yr arian, a'r aur, a'r llestri, yn nhŷ ein Duw ni, trwy law Meremoth fab Vriah yr offeiriad, ac Eleazar mâb Phinehes oedd gyd ag ef, a Jo­zabad mâb Jesua, a Noadiah mâb Binnui y Le­fiaid, oedd gyd â hwynt:

34 Wrth rifedi, ac wrth bwys pôb vn; a'r holl bwysau a scrifennwyd y prŷd hynny.

35 Meibion y gaeth-glud y rhai a ddaeth o'r caethiwed a offrymmasant boeth offrym­mau i Dduw Israel, sef deuddec o fustych dros holl Israel, onid pedwar pum hugain o hyrddod, namyn tri pedwar vgain o ŵyn, a deuddec o fychod yn bêch-aberth: y cwbl oedd yn offrwm poeth i'r Arglwydd.

36 A rhoddasant orchymyn y brenin at bendefigion y brenin, a thywysogion y tu hwnt i'r afon: a hwy a gynnorthwyasant y bobl, a thŷ Dduw.

PEN, IX.

1 Ezra yn gofidio am fôd y bobl yn ymgyfath­rachu â dieithraid, 5 Yn gweddio Duw, ac yn cyfaddef eu pechodau hwynt.

AC wedi darfod hynny, y tywysogion a ddaethant attafi gan ddvwedyd, nid ym­nailltuodd pobl Israel, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid, oddi wrth bobl y gwledydd: gnnaethant yn ôl eu ffiaidd-dra hwynt, sef y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Phereziaid, y Jebusiaid, yr Ammo­niaid, y Moabiaid, yr Aiphtiaid, a'r Amo­riaid.

2 Canys cymmerasant o'i merched iddynt eu hun, ac iw meibion; a'r hâd sanctaidd a ymgymmyscodd â phobl y gwledydd, a llaw y pennaethiaid a'r tywysogion fu gyntaf yn y camwedd hyn.

3 Pan glywais inneu hyn, mi a rwygais fy nillad a'm gwisc, ac a dynnais wâllt fy mhen a'm barf, ac a eisteddais yn synn.

4 Yna 'r ymgasclodd attafi bôb vn a'r a of­nodd eiriau Duw Israel, am gamwedd y rhai a gaeth-gludasid, ac myfi a eisteddais yn synn, hyd yr aberthExod. 29.39. Num. 28.2. prydnhawnol.

5 Ac ar yr aberth prydnhawnol, mi a gyfo­dais o'm cystudd, ac wedi i mi rwygo fy nillad, a'm gwisc, mi a ostyngais ar fy ngliniau, ac a ledais fy nwylo at yr Arglwydd fy Nuw:

6 Ac a ddywedais, ô fy Nuw, y mae arnaf gywilydd a gorchwyledd godi fy wyneb attat ti fy Nuw; o herwydct ein hanwireddau ni aethant yn aml tros ben; a'nNeu, euogrw­ydd. camwedd a dy­fodd hyd y nefoedd.

7 Er dyddiau ein tadau 'r ydym ni mewn camweld mawr hyd y dydd hwn, ac am ein hanwireddau y rhoddwyd ni, ein brenhinoedd, a'n hoffeiriaid, i law brenhinoedd y gwiedydd, i'r cleddyf, i gaethiwed, ac i anrhaith, ac i warthrudd wyneb, megis heddyw.

8 Ac yn awr, tros ennyd fechan y daeth grâs oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i adel i ni weddill i ddiangc, ac i roddi i ni hoel yn ei lê sanctaiddd ef; fel y goleuai ein Duw ein llygaid, ac y rhoddei i ni ychydig orphywysdra yn ein caethiwed.

9 Canys caethion oeddym ni, ond ni adaw­odd ein Duw ni yn ein caethiwed; eithr pa­rodd i ni drugaredd o flaen brenhinoedd Persia, i roddi i ni orphwysdra i dderchafu tŷ ein Duw ni, ac i gvfodi ei Ieoedd anghyfannedd ef, ac i roddi i ni fûr yn Juda, a Jerusalem.

10 Ac yn awr, beth a ddywedwn wedi hyn, ô ein Duw? canys gadawsom dy orchymyn­nion di,

11 Y rhai a orchymynnaist drwy law dy weision y prophwydi, gan ddywedyd, yExod. 23.32. & 34.12, 15. Deut. 7.3. wlâd yr ydych yn myned iddi iw meddiannu, gwlâd halogelic yw hi, trwy halogedigaeth pobl y gwledydd, o blegit eu ffieidd-dra hwynt, y rhai a'i llanwasant hi â'i haflendid,Heb. o enau i enau. o gwrr bwy gilydd.

12 Ac yn awr, na roddwch eich merched iw meibion hwynt, ac na chymmerwch eu merched hwynt i'ch meibion chwi, ac na chei­siwch eu heddwch hwynt na'i daioni byth; fel yDeut. 8.13. cryfhaoch, ac y mwynhaoch ddaioni y wlâd, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i'ch meibion byth.

13 Ac wedi yr hyn oll a ddaeth arnom am ein drwg weithredoedd, a'n mawr gamwedd, am i ti ein DuwHeb. attal is­law ein han. ein cospi yn llai nâ'n han­wiredd, a rhoddi i ni ddiangfa fel hyn;

14 A dorrem ni drachefn dy orchymynnion di, ac ymgyfathrachuHeb. a phobl y ffiaidd­ara hyn? â'r ffiaidd bobl hyn? oni ddigit ti wrthym, nes ein difetha, fel na byddei vn gweddill, na diangol?

151 Esdr. 8.89. Arglwydd Dduw Israel, cyfiawn ydwyt ti, eithr gweddill diangol ydym ni, me­gis heddyw: wele ni o'th flaen di yn ein cam­wedddau; canys ni allwn ni sefyll o'th flaen di am hyn.

PEN. X.

1 Sechaniah yn annog Ezra i ddiwygio y prioda­sau dieithr. 6 Ezra yn galaru, ac yn casclu yr [Page] bobl ynghŷd. 9 Y bobl, trwy eiriol Ezra, yn edifarhau, ac yn addaw gwellhau. 15 Ei gofal am gyflawni hynny. 18 Henwau y rhai a briodasai wragedd dieithr.

AC wedi i Ezra weddio a chyffessu, gan ŵylo a syrthio i lawr o flaen tŷ Dduw, tyrfa fawr o Israel a ymgasclasant atto ef, yn wŷr, ac yn wragedd, ac yn blant; canys y bobl a ŵylasant ag ŵylofain mawr.

2 Yna y llefarodd Sechaniah mâb Jehiel, o feibion Elam, ac a ddywedodd wrth Ezra, ni a bechasom yn erbyn ein Duw, ac a gyttaliasom â gwragedd dieithr, o bobl y wlâd: etto yn awr y mae gobaith i Israel am hyn.

3 Yn awr, gan hynny, gwnawn gyfammod â'n Duw, ar ‡ fwrw allan yr holl wragedd, a'i plant, wrth gyngor yr Arglwydd, a'r rhai a osnant orchymynion ein Duw: a gwneler yn ôl y gyfraith.

4 Cyfod, canys arnat ti y mae 'r peth: ac ni a fyddwn gyd â thi, ymwrola, a gwna.

5 Yna y cyfododd Ezra, ac a dyngodd ben­naethiaid yr offeiriaid a'r Lefiaid, a holl Is­rael, ar wneuthur ar ôl y peth hyn; a hwy a dyngasant.

6 Yna1 Esdr. 9.1. y cyfododd Ezra o flaen tŷ Dduw, ac a aeth i stafell Johanan fab Eliasib: a phan ddaeth yno, ni fwytâodd fara, ac nid yfodd ddwfr; canys galâru 'r oedd am gamwedd y gaeth-glud.

7 A chyhoeddasant yn Juda, a Jerusalem, ar i holl feibion y gaeth-glud ymgasclu i Je­rusalem;

8 A phwy bynnag ni ddelei o fewn tridiau, yn ôl cyngor y pennaethiaid, a'r henuriaid, efe a gollai ei holl olud, ac yntef a ddidolid oddi wrth gynnulleidfa y rhai a gaeth-gludasid.

9 Felly holl wŷr Juda, a Benjamin, a ymgas­clasant i Jerusalem o fewn tridiau; hynny oedd y nawfed mîs, ar yr vgeinfed dydd o'r mîs, a'r holl bobl a eisteddasant yn heol tŷ Dduw, yn crynu o achos y peth hyn, ac o achos y glawogydd.

10 Ac Ezra yr offeiriad a gyfododd, ac a ddywedodd wrthynt, chwi a bechasoch, ac a gyttaliasoch â gwragedd dieithr, gan chwanegu ar bechod Israel.

11 Ac ynJos. 7.19. awr, rhoddwch foliant i Ar­glwydd Dduw eich tadau, a gwnewch ei ew­yllys ef, ac yscerwch oddi wrth bobl y tîr, ac oddi wrth y gwragedd dieithr.

12 A holl dyrfa Israel a attebasant, ac a ddy­wedasant â llêf vchel, yn ôl dy air di y mae arnom ni wneuthur.

13 Eithr y bobl sydd lawer, a'r amser yn lawog, ac ni ellir sefyll allan, ac nid gwaith vn diwrnod na dau ydyw: canys pechasomNeu, lawer o honom. yn ddirfawr yn y peth hyn.

14 Safed yn awr ein pennaethiaid o'r holl dyrfa, a deued y rhai o'n dinasoedd, a gyttalia­sant â gwragedd dieithr, ar amseroedd gosode­dic, a henuriaid pôb dinas, a'i barn-wŷr gyd â hwynt, nes troi digter ein Duw oddi wrthymNeu, nes gor­phen y peth hyn. am y peth hyn.

15 Yn vnic Jonathan mâb Afahel, a Jahasiah mâb Ticuah, aHeb. safedd. osodwyd ar hyn: Mesulam hefyd, a Sabbethai y Lefiad a'i cynnorthwya­sant hwy.

16 A meibion y gaeth-glud a wnaethant felly; ac Ezra yr offeiriad, a'r gwŷr oedd ben­nau cenhedl ty eu tadau, a hwynt oll wrth eu henwau, a neilltuwyd, ac a eisteddasant, ar y dydd cyntaf o'r decfed mîs, i ymofyn am y peth hyn.

17 A hwy a wnaethant ben a'r holl wŷr a gyttaliasent â gwragedd dieithr, erbyn y dydd cyntaf o'r mîs cyntaf.

18 A chafwyd o feibion yr offeiriaid, y rhai a gyttaliasent â gwragedd dieithr, o feibion Je­sua fâb Jozadac a'i frodyr, Maaseiah, ac Eliezer, a Jarib, a Gedaliah.

19 A hwy a roddasant eu dwylo ar fwrw allan eu gwragedd; a chan iddynt bechu, a offrymniasant hwrdd o'r praidd dros eu cam­wedd.

20 Ac o feibion Immer, Hanani, a Zebadiah.

21 Ac o feibion Harim; Maaseiah, ac Eliah, a Semaiah, a Jehiel, ac Vzziah.

22 Ac o feibion Pasur; Elioenai, Maaseiah, Ismael, Nethaneel, Jozabad, ac Elasah.

23 Ac o'r Lefiaid, Jozabad, Simei, a Chela­iah, (hwnnw yw Celitah) Pethahiah, Juda, ac Eliezer.

24 Ac o'r cantorion, Eliasib, ac o'r portho­rion, Salum, a Thelem, ac Vri.

25 Ac o Israel, o feibion Paros, Ramaiah, a Jesiah, a Malachiah, a Miamin, ac Eleazar, a Malchiah, a Benaiah.

26 Ac o feibion Elam, Mattaniah, Zechariah, a Jehiel, ac Abdi, a Jeremoth, ac Eliah.

27 Ac o feibion Zattu, Elioenai, Eliasib, Mat­taniah, a Jeremoth, a Zabad, ac Aziza.

28 Ac o feibion Bebai; Jehohanan, Hanani­ah, Zabbai, ac Athlai.

29 Ac o feibion Bani, Mesulam, Maluch, ac Adaiah, Jasub, a Seal, a Ramoth.

30 Ac o feibion Pahath-Moab, Adnah a Chelal, Benaiah, Maaseiah, Mattaniah, Bezaleel, a Binnui, a Manasseh.

31 Ac o feibion Harim, Eliezer, Isiah, Mal­chiah, Semaiah, Simeon,

32 Benjamin, Maluch, Semariah.

33 O feibion Hasum, Mattenai, Mattatha, Zabad, Eliphelet, Ieremai, Manasseh, a Si­mei.

34 O feibion Bani, Maadai, Amram, ac Vel,

35 Banaiah, Bediah, Cheluh,

36 Vaniah: Meremoth, Eliasib,

37 Mattaniah, Mattenai, a Iaasau,

38 A Bani, a Binnui, Simei,

39 A Selemiah, a Nathan, ac Adaiah,

40Neu, Mabna­debal. Machnadebai, Sasai, Sarai,

41 Azareel, a Selemiah, a Semariah,

42 Salum, Amariah, a Ioseph.

43 O feibion Nebo, Iehiel, Mattathiah, Za­bad, Zebina, Iadau, a Ioel, a Benaiah.

44 Y rhai hyn oll a gymmerasent wragedd dieithr; ac yr oedd i rai o honynt wragedd, a ddygasei blant iddynt.

LLYFR NEHEMIAH.

PEN. I.

1 Nehemiah, wrth glywed gan Hanani ddrwg gyflwr Jerusalem, yn galaru, ac yn ymprydio, ac yn gweddio. 5 Ei weddi ef.

GEiriau Nehemiah mâb Hachaliah. A bu ym mîs Cisleu, yn yr vgainfed flwyddyn, pan oeddwn iEsther. 1.1. ym mren­hinllŷs Susan,

2 Ddyfod o Hanani vn o'm brodyr, efe a gwŷr o Juda; a gofynnais iddynt am yr Idd­ewon a ddianghasei, y rhai a adawsid o'r cae­thiwed, ac am Jerusalem.

3 A hwy a ddywedasant wrthif, y gwe­ddillion y rhai a adawyd o'r gaethglud, yno yn y dalaith, ydynt mewn blinder mawr, a gwrad­wydd:2 Bren. 25.9, 10. mûr Jerusalem hefyd a ddrylliwyd, a'i phyrth a loscwyd â thân.

4 A phan glywais y geiriau hyn, myfi a eisteddais, ac a wylais, ac a alêrais, dalm o ddy­ddiau; a bûm yn ymprydio, ac yn gweddio ger bron Duw y nefoedd:

5 A dywedais, attolwgDan. 9.4. Arglwydd Dduw y nefoedd, y Duw mawr ac ofnadwy, yr hwn sydd yn cadw cyfammod a thrugaredd, i'r rhai a'i carant ef, ac a gadwant ei orchymynnion:

6 Bydded attolwg dy glûst yn clywed, a'th lygaid yn agored i wrando ar weddi dy wâs, yr hon yr ydwyfi yn ei gweddio ger dy fron di yr awron ddydd a nôs, dros feibion Israel dy weision; ac yn cyffessu pechodau meibion Is­rael, y rhai a bechasom i'th erbyn; myfi hefyd a thŷ fy nhâd a bechasom.

7 Gwnaethom yn llygredig iawn ith erbyn; ac ni chadwasom y gorchymynnion, na'r dedd­fau, na'r barnedigaethau, a orchymynnaist i Moses dy wâs.

8 Cofia attolwg y gair a orchymynnaist wrth Moses dy wâs, gan ddywedyd, os chwi a drosseddwch,Deut. 4.25. &c. myfi a'ch gwascaras chwi ym mysc y bobloedd.

9 Ond os dychwelwch attafi, a chadw fy ngorchymynion, a'i gwneuthur hwynt,Deut. 30.4. pe gyrrid rhai o honoch chwi hyd eithaf y ne­foedd, etto mi a'i casclaf hwynt oddi yno, ac a'i dygaf i'r lle a etholais i drigo o'm henw ynddo.

10 A hwy ydynt dy weision, a'th bobl; y rhai a waredaist â'th fawr allu, ac â'th law nerthol.

11 Attolwg Arglwydd, bydded yn awr dy glûst yn gwrando ar weddi dy wâs, ac ar we­ddi dy weision y rhai sydd yn ewyllysio ofni dy enw, llwydda hefyd attolwg dy wâs heddyw, a chaniada iddo gael trugaredd ger bron y gŵr hwn: canys myfi oedd drulliad i'r brenin.

PEN. II.

1 Artaxerxes, pan wybu 'r achos yr oedd Nehe­miah yn athrist, yn ei anfon ef a lythyrau ac â gorchymynion i Jerusalem. 9 Nehemiah yn dyfod i Jerusalem, a'r gelynion yn ddrwg ganddynt hynny. 12 Yntau yn gyfrinachol yn golygu adfail y caerau, 17 Ac yn annog yr Iddewon i adeiladu Jerusalem, er gwaethaf eu gelynion.

AC ym mîs Nisan yn yr vgeinfed flwyddyn i Artaxerxes y brenin, yr oedd gwîn o'i flaen ef: a mi a gymmerais y gwîn, ac a'i rho­ddais i'r brenin; ond ni byddwn arferol o fôd yn drist ger ei fron ef.

2 Am hynny y brenin a ddywedodd wrthif, pa ham y mae dy wyneb-prŷd yn drîst, a thi­theu heb fôd yn glâf? nid yw hyn onid trist­wch calon: yna 'r ofnais yn ddirfawr:

3 A dywedais wrth y brenin, byw fyddo 'r brenin yn dragywydd: pa ham na thriftâe fy wyneb pan fyddei y ddinas, tŷ beddrod fy nhadau, wedi ei dinistrio, a'i phyrth wedi eu hyssu â thân.

4 A'r brenin a ddywedodd wrthif, pa beth yr wyt ti yn ei ddymuno? yna y gweddiais ar Dduw y nefoedd:

5 A mi a ddywedais wrth y brenin, o rhynga bôdd i'r brenin, ac od yw dy wâs yn gymme­radwy ger dy fron di, ar it fy anfon i Juda i ddinas beddrod fy nhadau, fel yr adeiladwyf hi.

6 A'r brenin a ddywedodd wrthif, (a'i wraig yn eistedd yn ei ymyl ef) pa hŷd y bydd dy daith di, a pha brŷd y dychweli? a gwelodd y brenin yn dda fy anfon i, a minneu a nodais iddo amser.

7 Yna y dywedais wrth y brenin, o rhynga bôdd i'r brenin, rhodder i mi lythyrau at y tywysogion o'r tu hwnt i'r afon, fel y tros­glwyddont fi nes fy nyfod i Juda;

8 A llythyr at Asaph ceidwad coedwig y brenin, fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawftiau i byrth y palâs, y rhai a berthyn i'r tŷ, ac i fûr y ddinas, ac i'r tŷ yr elwyf iddo: a'r brenin a roddodd i mi, fel yr oedd daionus law fy Nuw arnafi.

9 Yna y daethum at y tywysogion o'r tu hwnt i'r afon, ac a roddes iddynt lythyrau y brenin: (a'r brenin a anfonasei dywysogion y llû, a marchogion gyd â mi.)

10 Pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Tho­biah y gwâs, yr Ammoniad, y peth hyn, bu ddrwg iawn ganddynt, am ddyfod dŷn i geisio daioni i feibion Israel.

11 Felly mi a ddeuthum i Ierusalem, ac a fûm yno dri-diau.

12 A chyfodais liw nôs, myfi ac ychydig wŷr gyd â mi, ac ni fynegais i nêb beth a ro­ddasei fy Nuw yn fy righalon ei wneuthur yn Ierusalem: ac anifail nid oedd gennif, onid yr anifail yr oeddwn yn marchogaeth arno.

13 A mi a euthum allan liw nôs drwy borth y glynn ar gyfer ffynnon y ddraig; ac at borth y dom; a deliais sulw ar furoedd Jerusa­lem y rhai oedd wedi eu dryllio, a'i phyrth y rhai oedd wedi eu hyssu â thân.

14 Yna y tramwyais i borth y ffynnon, ac at byscod-lyn y brenin: ac nid oedd le i'r ani­fail oedd tanaf i fyned heibio.

15 A mi a aethum i fynu gan lan yr afon liw nôs, ac a ddeliais sulw ar y mûr, ac a ddych­welais, ac a ddaethum drwy borth y glyn, ac felly y trois yn ôl.

16 A'r pennaethiaid ni wyddent i ba le 'r aethwn i, na pheth yr oeddwn yn ei wneu­thur, a hyd yn hyn ni fynegaswn ddim i'r lddewon, nac i'r offeiriaid, nac i'r pendefigion, nac i'r pennaethiaid, nac i'r rhan arall oedd yn gwneuthur y gwaith.

17 Yna y dywedais wrthynt, yr ydych yn gweled yr adfyd yr ydym ynddo, fôd Jerusa­lem wedi ei dinistrio, a'i phyrth wedi eu llosci â thân: deuwch, ac adailadwn fûr Jeru­salem, fel na byddom mwyach yn wradwydd.

18 Yna y mynegais iddyntfôd llaw fy Nuw yn ddaionus tu ag attaf, a geiriau y brenin he­fyd y rhai a ddywedasei efe wrthif. A hwy a ddywedasant, cyfodwn, ac adailadwn: felly y cryfhasant eu dwylo i ddaioni.

19 Ond pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobiah y gwâs, yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, hyn, hwy a'n gwatwarasant ni, ac a'n dirmygasant, ac a ddywedasant, pa beth yw hyn yr ydych chwi yn ei wneuthur? a wrth­ryfelwch chwi yn erbyn y brenin?

20 Yna yr attebais hwynt, ac y dywedais wrthynt, Duw y nefoedd, efe a'n llwydda ni, [Page] [...] [Page] [...] [Page] a ninnau ei weision ef a gyfodwyn, ac a adai­ladwn: ond nid oes i chwi ran, na chyfiawn­der, na choffadwriaeth yn Jerusalem.

PEN. III.

1 Enwau a threfn y rhai a adeiladasant gaerau Jerusalem.

YNa Eliasib yr arch-offeiriad a gyfododd, a'i frodyr yr offeiriaid, a hwy a adeilada­sant borth y defaid, hwy a'i cyssegrasant, ac a osodasant ei ddorau ef; ie hyd dŵr Meah y cyssegrasant ef, a hyd dŵrJere. 31.38. Hananeel.

2 A cher llaw iddo ef yr adailadodd gwŷr Jericho: a cher llaw iddynt hwy yr adailadodd Zaccur mab Imri.

3 A meibion Hasenaah a adailadasant borth y pyscod; hwynt hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant ei ddorau, ei glôau, a'i farrau.

4 A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Me­rimoth mab Vriah fab Cos: a cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Mesulam mab Berechiah fab Mesezabeel: a cher eu llaw hwynt y cy­weiriodd Zadoc mab Baana.

5 A cher llaw iddynt hwy y cyweiriodd y Tecoaid; ond eu gwŷr mawr ni osodasant eu gwddf yngwasanaeth eu Harglwydd.

6 A Jehoiada mab Paseah, a Mesulam mab Besodaiah, a gyweiriasant yr hên borth, hwy a osodasant eu drawstiau ef, ac a osodasant i fynu ei ddorau, a'i glôau, a'i farrau.

7 A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Mela­tiah y Gibeoniad, a Jadon y Meronothiad, gwŷr Gibeon a Mizpah, hyd orseddfa y llywydd oedd tu yma i'r afon.

8 Ger llaw iddo ef y cyweiriodd Vzziel mab Harhaiah o'r gofaint aur; ger llaw iddo yn­tef y cyweiriodd Hananiah mab vn o'r apothe­cariaid; a hwy aNeu, adawsant. gyweiriasant Jerusalem hyd y mûr llydan.

9 A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Re­phaiah mab Hur, tywysog hanner rhan Jeru­salem.

10 A cher llaw iddynt hwy v cyweiriodd Jedaiah mab Harumaph ar gyfer ei dŷ: a Hat­tus mab Hasabniah a gyweiriodd ger llaw iddo yntef.

11 Malciah mab Harim, a Hasub mab Pa­hath-Moab, a gyweiriasantHeb. yr [...]il mesur. ran arall, a thŵr y ffyrnau.

12 A cher llaw iddo ef y cyweiriodd S [...]lum mab Halohes, tywysog hanner rhan Jerusalem, efe a'i ferched.

13 Porth y glyn a gyweiriodd Hanun, a thrigolion Zanoah; hwynt hwy a'i hadeilada­sant ef, ac a osodasant ei ddorau ef, ei glôau, a'i farrau; a mîl o gufyddau ar y mûr, hyd borth y dom.

14 Ond Porth y dom a gyweiriodd Mal­chiah mab Rechab tywysog rhan o Beth-hacce­rem: efe a'i hadailadodd, ac a osododd ei ddo­rau, ei glôiau, a'i farrau.

15 A Salum mab Col-hozeh tywysog rhan o Mispah, a gyweiriodd borth y ffynnon, efe a'i hadailadodd, ac a'i tôdd, ac a osododd ei ddo­rau ef, ei glôiau, a'i farrau: a mûr pyscod-lynJo [...]. 9.7. Siloah wrth ardd y brenin, a hyd y grissiau sydd yn dyfod i wared o ddinas Dafydd.

16 Ar ei ôl ef y cyweiriodd Nehemiah mab Azbuc tywysog hanner rhan Beth-zur, hyd ar gyfer beddrod Dafydd, a hyd y2 Bren. 20.20. pyscod-lyn a wnelsid, a hyd dŷ y cedyrn.

17 Ar ei ôl ef y cyweiriodd y Lefiaid, Re­hum mab Bani: ger llaw iddo ef y cyweiriodd Hasabiah, tywysog hanner rhan Ceilah, yn ei frô ei hun.

18 Ar eî ôl ef eu brodyr hwynt a gywei­riasant, Bafai mab Henadad, tywysog hanner rhan Ceilah.

19 A cher llaw iddo ef y cyweiriodd Ezer mab Jesua tywysog Mispah ran arall, ar gyfer y ddringfa i dŷ yr arfau, wrth y drofa.

20 Ar ei ôl ef Baruc mabNeu, Zaccai. Zabbai yn awy­ddus a gyweiriodd y mesur arall, o'r drofa hyd ddrws tŷ Eliasib yr arch-offeiriad.

21 Ar ei ôl ef Merimoth mab Vriah fab Coz a gyweiriodd y mesur arall, o ddrws tŷ Eliasib, hyd dalcen tŷ Eliasib.

22 Ac ar ei ôl ef yr offeiriaid, gwŷr y gwa­stadedd a gyweiriasant.

23 Ar ei ôl ef y cyweiriodd Benjamin, a Hasub, gyferbyn â'i tŷ: wedi yntef Azariah mab Maaseiah, fab Ananiah, a gyweiriodd wrth ei dŷ.

24 Ar ei ôl yntef Binnui mab Henadad a gyweiriodd fesur arall, o dŷ Azariah hyd y drofa, sef hyd y gongl.

25 Palal mab Vzai, ar gyfer y drofa, a'r tŵr sydd yn myned allan o vchel-dŷ 'r brenin,Jere. 32.2. yr hwn sydd wrth gyntedd y carchar: ar ei ôl ef Pedaiah mab Paros.

26 A'rEzra. 2.43. Nethiniaid, y rhai oedd yn trigo yn2 Cron. 27.3. Y tur. Ophel hyd ar gyfer porth y dwfr, tua'r dwyrain, a'r tŵr oedd yn myned allan.

27 Ar ei ôl yntef y Tecoiaid a gweiriasant fesur arall, ar gyfer y tŵr mawr sydd yn myned allan, hyd fûr Ophel.

28 Oddi ar borth y meirch, yr offeiriaid a gyweiriasant bôb vn gyferbyn â'i dŷ.

29 Ar eu hôl hwynt Zadoc mab Immer a gyweiriodd ar gyfer ei dŷ, ac ar ei ôl yntef y cyweiriodd Semaiah mab Secaniah, ceidwad porth y dwyrain.

30 Ar ei ôl ef y cyweiriodd Hananiah mab Selemiah, a Hanun, chweched mab Zalaph, y mesur arall: ar ei ôl yntef Mesulam mab Be­rechiah a gvweiriodd ar gyfer ei stafell.

31 Ar ei ôl yntef Malciah mab y gôf aur a gweiriodd hyd dŷ y Nethiniaid, a'r marchnad­yddion, ar gyfer porth Miphcad, hyd stafell y gongl.

32 A rhwng stafell y gongl a phorth y de­faid, yr eurychod, a'r marchnadyddion a gy­weiriasant.

PEN. IV.

1 Nehemiah yn gweithio, ac yn myned rhagddo yn adeiladu Jerusalem, er bod y gelynion yn ei watwor. 7 A phan wybu eu digllonedd a'i cyf­rinach hwy, yn gosod gwiliadwriaeth, 13 yn ar­fogi y gweithwyr, 19 ac yn dyscu iddynt ryfela.

PAn glybu Sanbalat ein bod ni yn adeiladu 'r mur, efe a gynddeiriogodd ynddo, ac a lidi­odd yn ddirfawr, ac a watworodd yr Iddewon.

2 Ac efe a lefarodd o flaen ei frodyr a llû Sa­maria, ac a ddywedodd, beth y mae 'r Iddewon gweiniaid hyn yn ei wneuthur? a adewir idd­ynt hwy? a aberthant? a orphennant mewn diwrnod? a godant hwy y cerrig o'r tyrrau llwch, wedi eu llosci?

3 A Thobiah yr Ammoniad oedd yn ei ymvl, ac efe a ddywedodd, er eu bod hwy yn adeila­du, etto ped elei lwynog i fynu, efe a fwriai i lawr eu mûr cerric hwynt.

4 Gwrando ô ein Duw, canys yr ydym ynHeb. ddirmyg. ddirmygus: dychwel hefyd eu gwradwydd ar [Page] eu pennau hwynt, a dôd hwynt yn anrhaith yngwlâd y caethiwed.

5 Ac na orchguddia eu hanwiredd hwynt, ac na ddeleer eu pechod hwynt o'th ŵydd di: canys digiasant dydi ger bron yr adeilad­wŷr.

6 Felly nyni a adeiladasom y mûr, a chyfan­nwyd yr holl fûr hyd ei hanner: canys yr oedd gan y bobl galon i weithio.

7 Ond pan glybu Sanbalat, a Thobiah, a'r Arabiaid, a'r Ammoniaid, a'r Asdodiaid,Heb. dderchafu o furoedd. gwbl gyweirio muroedd Jerusalem, a dechreu cau yr adwyau; yna y llidiasant yn ddirfawr.

8 A hwynt oll a fradfwriadasant ynghŷd, ddyfod i ymladd yn erbyn Jerusalem, acHeb. i wneu­thur iddo amryfu­sedd. iw rhwystro.

9 Yna y gweddiasom ar ein Duw, ac y goso­dasom wiliadwriaeth yn eu herbyn hwynt, ddydd a nôs, o'i plegid hwynt.

10 A Juda a ddywedodd, nerth y cludwŷr a wanhâodd, a phrîdd lawer sydd, fel na allwn ni adeiladu 'r mûr.

11 A'n gwrthwynab-wŷr a ddyweddasent, ni chânt wybod, na gweled, nes i ni ddyfod iw mysc hwynt, a'i llâdd, a rhwystro eu gwaith hwynt.

12 A phan ddaeth yr Iddewon oedd yn presswylio yn eu hymmyl hwynt, dywedasant wrthym ddeng-waith,Neu, o bob lle y dych­welwch attom ni. o'r holl leodd drwy y rhai y gallech ddychwelyd attom ni, y by­ddant arnoch chwi.

13 Am hynny mi a osodais rai Heb. o fannau isaf y lle. yn y lleoedd issaf, o'r tu ôl i'r mûr, ac yn y lleoedd v­chaf: yn ôl eu teuluoedd hefyd y gosodais y bobl, â'i cleddyfau, â'i gwayw-ffyn, ac â'i bwâu.

14 Ac mi a edrychais, ac a gyfodais, ac a ddywedais wrth y pendefigion, a'i swyddogion, ac wrth y rhan arall o'r bobl, nac ofnwch rhag­ddynt: cofiwch yr Arglwydd mawr ac ofnad­wy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a'ch merched, eich gwragedd a'ch tai.

15 A phan glybu ein gelynion fôd y peth yn yspys i ni, Duw a ddiddymmodd eu cyngor hwynt: a ninneu oll a ddychwelasom at y mûr, bawb iw waith.

16 Ac o'r dydd hwnnw, hanner fy ngwei­sion oedd yn gweithio yn y gwaith, a'i hanner hwynt oedd yn dal gwayw-ffyn, a thariannau, a bwâu, a llurigau; a'r tywysogion oedd ar ôl holl dŷ Juda.

17 Y rhai oedd yn adeiladu ar y mûr, ac yn dwyn beichiau, a'r rhai oedd ynllwytho, oe­ddynt ag vn llaw yn gweithio yn y gwaith, ac â'r llaw arall yn dal arf.

18 Canys pôb vn o'r adailad-wŷr oedd wedi gwregyssu ei gleddyf ar eiHeb. lwynau. glûn, ac yn adailadu: a'r hwn oedd yn lleisio mewn vdcorn ydoedd yn fy ymyl i.

19 Ac mi a ddywedais wrth y pendefigion, ac wrth y swyddogion, ac wrth y rhan arall o'r bobl, y gwaith sydd fawr a helaeth, a nyni a wascarwyd ar hyd y mûr, ym mhell oddi wrth ei gilydd:

20 Yn y fan lle y clywoch sain yr udcorn, yno ymgesclwch attom: ein Duwni a ymladd erosom.

21 Felly 'r oeddem ni yn gweithio yn y gwaith: a'i hanner hwynt yn dal gwayw-ffyn, o gyfodiad y wawr, hyd gyfodiad y ser.

22 Dywedais hefyd y prŷd hynny wrth y bobl, lletteued pôb vn a'i wâs yn Jerusalem, fel y byddone i ni yn wiliadwriaeth y nôs, a'r dydd mewn gwaith.

23 Felly myfi a'm brodyr, a'm gweision, a'r gwil-wŷr oedd ar fy ôl, ni ddiosgasom ein dillad;Neu, pob vn ai a'i arf i'r dwfr. ond a ddioscai pôb vn iw golchi.

PEN. V.

1 Yr Iddewon yn cwyno rhag eu dyledion, a'i prid, a'i caethiwed. 6 Nehemiah yn ceryddu yr vsur­wŷr, ac yn peri iddynt roi yr occr a'r prid yn ei ôl, 14 yn maddeu ei gynhaliaeth i'r bobl, ac yn cadw tŷ.

AC yr oedd gweiddi mawr gan y bobl, a'i gwragedd, yn erbyn yr Iddewon eu bro­dyr.

2 Canys yr oedd rhai yn dywedyd, y mae llawer o honom ni, ein meibion, a'n merched: am hynny yr ydym yn cymmeryd ŷd, fel y bwytaom, ac y byddom byw.

3 Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd, ein meusydd, a'n gwîn-llannoedd, a'n tai, yr ydym ni yn eu gwystlo, fel y prynom ŷd rhac y newyn.

4 Ac yr oedd rhai eraill yn dywedyd, ben­thygiasom arian i dalu trêth y brenin, a hynny ar ein tiroedd a'n gwîn-llannoedd.

5 Ac yn awr, ein cnawd ni sydd fel cnawd ein brodyr, ein plant ni fel eu plant hwy: ac wele ni yn darostwng ein meibion a'n merched yn weision, ac y mae rhai o'n merched ni wedi eu caethiwo, ac heb fôd gennym iw rhyddhau, canys gan eraill y mae ein meusydd, a'n gwîn­llannoedd hyn.

6 Yna y llidiais yn ddirfawr, pan glywais eu gwaedd hwynt, a'r geiriau hyn.

7 Fy nghalon heryd aHeb. ymayng­horodd. feddyliodd ynof, a mi a ddwrdiais y pendefigion, a'r swyddogion, ac a ddywedais wrthynt, yr ydych chwi yn cym­meryd occreth bôb vn gan ei frawd, a gosodais yn eu herbyn hwynt gynnulleidfa fawr.

8 Dywedais hefyd wrthynt,Levit. 25.48 nyni yn ôl ein gallu a brynasom ein brodyr yr Iddewon, y rhai a werthasid i'r cenhedloedd, ac a ydych chwithau yn gwerthu eich brodyr? neu a werthir hwynt i ni? yna y tawsant, ac ni chaw­sant air i atteb.

9 A mi a ddywedais, nit da'r peth yr ydych chwi yn ei wneuthur: oni ddylech chwi rodio mewn ofn ein Duw ni, o achos gwradwydd y cenhedloedd ein gelynion?

10 Myfi hefyd a'm brodyr, a'm llangciau, ydym yn echwyno iddynt arian, ac ŷd: peidi­wn attolwg â'r occreth ymma.

11 Rhoddwch attolwg iddynt heddyw eu meusydd, eu gwîn-llannoedd, a'i holiwydd­lannoedd, a'i tai drachefn; a chanfed ran yr arian, a'r ŷd, y gwîn, a'r olew, yr ydych chwi yn ei fynnu ganddynt.

12 Hwyntau a ddywedasant, nyni a'i rho­ddwn drachefn, ac ni cheisiwn ddim ganddynt; felly y gwnawn fel yr ydwyt yn llefaru: yna y gelwais yr offeiriaid, ac a'i tyngais hwynt ar wneuthur yn ôl y gair hwn.

13 A mi a escydwais odrau fy ngwisg, ac a ddywedais, felly 'r escydwo Duw bôb gŵr o'i dŷ, ac o'i lafur, yr hwn ni chwplâo y gair hwn, ac felly y byddo efe yn escydwedic, ac yn wâg: a'r holl gynnulleidfa a ddywedasant, Amên, ac a foliannasant yr Arglwydd; a'r bobl a wnaeth yn ôl y gair hwn.

14 Ac o'r dydd y gosodwyd fi yn dywysog îddynt hwy yngwlâd Juda, o'r vgeinfed flwy­ddyn [Page] hyd y ddeuddecfed flwyddyn ar hu­gain i Artaxerxes y brenin, sef deuddeng mhlynedd, ni fwyteais i n'am brodyr fara y tywysog.

15 Ond y tywysogion cyntaf, y rhai a fuasei o'm blaen i, fuasent drymion ar y bobl, ac a gymmerasent ganddynt fara a gwîn, heb law deugain sicl o arian; eu llangciau hefyd a ar­glwyddiaethent ar y bobl: ond ni wneuthum i felly rhag ofn Duw.

16 Eithr myfi a gyweiriais ran yngwaith y mûr hwn, ac ni phrynasom vn maes: a'm holl weision i a ymgynnullasant yno at y gwaith.

17 Ac yr oedd ar fy mwrdd i, o Iddewon, ac o swyddogion, ddeng-ŵr a saith vgain, heb law y rhai oedd yn dyfod attom ni o'r cenhedloedd, y rhai oedd o'n hamgylch.

18 A'r hyn a arlwyid beunydd oedd vn ŷch, chwech o ddefaid dewisol, ac adar wedi eu pa­ratoi i mi, a phôb deng-nhiwrnod y rhoddid gwîn o bôb mâth, yn ddiandlawd: ac er hyn ni cheisiais fara y tywysog, canys trwm oedd y caethiwed ar y bobl ymma.

19Pen. 13.22. Cofia fi, ô sy Nuw, er llês i mi: yn ôl yr hyn oll a wneuthum i'r bobl hyn.

PEN. VI.

1 Sanhalat trwy ddichellion; a chwedlau, a bru­diau gau, yn ceisio dychrynu Nehemiah. 15 Gorphen adeiladu Jerusalem, a hynny yn ddychryn i'r gelynion. 17 Pendefigion Juda, a'i gelynion, yn deall cyfrinach ei gilydd.

A Phan glybu Sanbalat, a Thobiah, a Gesem yr Arabiad, a'r rhan arall o'n gelynion, adeiladu o honofi y mûr, ac nad oedd adwy wedi ei gadel ynddo: (er na osadaswn i y prŷd hynny y dorau ar y pyrth)

2 Yna 'r anfonodd Sanbalat, a Gesem attaf, gan ddywedyd, tyred, ac ymgyfarfyddwn yn­ghŷd yn vn o'r pentrefydd yngwastadedd Ono: ac yr oeddynt hwy yn bwriadu gwneuthur ni­wed i mi.

3 Minnau a anfonais gennadau attynt hwy, gan ddywedyd, gwaith mawr yr ydwyfi yn ei wneuthur, o herwydd hynny ni allaf ddyfod i wared, pa ham y safai y gwaith, pan ymadawn ag ef, a dyfod i wared attoch chwi?

4 Etto hwy a anfonasant attafi yn y wedd hon bedair gwaith, ac yn y môdd hwnnw yr attebais hwynt.

5 Yna Sanbalat a anfonodd ei wâs attafi y bummed waith yr vn ffunyd, a llythyr agored yn ei law.

6 Ynddo 'r oedd yn scrifennedic, Ym mysc y cenhedloedd y mae 'r gair, aGesem, ver. 1. Gasmu sydd yn dywedyd, dy fôd ti a'r Iddewon, yn amcanu gwrthryfela; o herwydd hynny dy fod ti yn adeiladu y mûr, fel y byddit frenin arnynt, yn ôl y geiriau hyn.

7 A'th fôd titheu hefyd wedi gosod prophwy­di i bregethu am danat yn Jerusalem, gan ddywedyd, y mae brenin yn Juda. Ac yn awr y fath ymadroddion a hyn a glyw y brenin: gan hynny tyred yn awr, ac ymgynghorwn ynghŷd.

8 Yna 'r anfonais atto, gan ddywedyd, ni ddarfu yn ôl yr ymadroddion hyn yr ydwyt ti yn eu dywedyd: ond o'th galon dy hun yr ydwyt yn eu dychymygu hwynt.

9 O blegit hwynt hwy oll oedd yn ceisio ein hofni ni, gan ddywedyd, eu dwylo hwy a [...]sant oddi wrth y gwaith fel na's gwneir ef: gan hynny cryfhâ yn awr, ô Dduw, fy nwy­law i.

10 A mi a ddaethum i dŷ Semaiah mâb De­laiah, fâb Mehetabel, yr hwn oedd wedi cau arno; ac efe a ddywedodd, cyfarfyddwn yn nhŷ Dduw, a chaewn ddryssau y deml, canys y maent yn dyfod i'th lâdd di, a lliw nôs y deuant i'th lâdd di.

11 Yna y dywedais, a ffŷ gŵr o'm bâth i? neu pwy sydd fel myfi 'r hwn a elei i'r demi, fel y byddei byw? nid âf i mewn.

12 Ac wele, gwybûm nad Duw a'i hanfona­sei ef; onid llefaru o honaw ef y brophwydoli­aeth hon yn fy erbyn i: canys Tobiah a San­balat a'i cyflogasent ef.

13 O herwydd hyn y cyflogasid ef fel i'm hofnid i, ac y gwnawn felly, ac y pechwn, ac y byddei hynny ganddynt yn enllib i'm herbyn fel i'm gwradwyddent.

14 O fy Nuw, cofia Tobiah, a Sanbalat, yn ôl eu gweithredoedd hynny: a Noadiah y bro­phwydes hefyd, a'r rhan arall o'r prophwydi, y rhai oedd yn fy nychrynu i.

15 A'r mûr a orphennwyd ar y pummed dydd ar hugain o Elul, mewn deuddeng nhiwrnod a deugain.

16 A phan glybu ein holl elynion ni hynny, a gweled o'r holl genhedloedd y rhai nedd o'n hamgylch, hwy a ofnasant, ac a lwfrhasant yn ddirfawr ynddynt eu hun: canys gwybuant mai drwy ein Duw ni y gwnelsid y gwaith hwn.

17 Ac yn y dyddiau hyn, pendefigion Juda oedd yn mynych-ddanfon eu llythyrau at Tobi­ah: a'r eiddo Tobiah oedd yn dyfod attynt hwythau.

18 Canys yr oedd llawer yn Juda mewn cyn­grair ag ef, o herwyddMab ynghy­fraith. daw oedd efe i Secaniah fâb Arah, a Johanan ei fâb ef a gymmerasei ferch Mesulam fâb Berechiah yn wraig iddo.

19 A'i gymmwynasau ef y byddent hwy yn eu mynegi ger fy mron i,Neu, fy matte­rion. fy ngeiriau inneu hefyd y byddent yn eu hadrodd iddo yntef: a Thobiah a anfonodd lythyrau i'm dychrynu i.

PEN. VII.

1 Nehemiah yn gorchymyn Jerusalem i Hanani a Hananiah. 5 Llyfr achau y rhai a ddaeth gyntaf allan o Babilon, 9 O'r bobl, 39 A'r offeiriaid, 43 A'r Leviaid, 46 A'r Nethini­aid, 57 A gweision Salomon. 63 Yr offeiri­aid ni fedrent gael eu hachau. 66 Rhifedi y cwbl, a'i golud, 70 A'i hoffrymmau.

AC wediEcclus. 49.13. adeiladu y mûr, a chifodi o honof y dorau, a gosod y porthorion, a'r cantori­on, a'r Lefiaid:

2 Yna mi a orchymynnais i Hanani fy mrawd, ac i Hananiah tywysog y palâs yn Je­rusalem; (canys efe oedd ŵr ffyddlon, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer)

3 A mi a ddywedais wrthynt, nac agorer pyrth Jerusalem nes gwresogi 'r haul, a thra fyddont hwy yn sefyll yno, caeant y dryssau a phrenniant: ac mi a osodais wilwŷr o drigo­lion Jerusalem, pôb vn yn ei wiliadwriaeth, a phôb vn ar gyfer ei dŷ.

4 A'r ddinas oedd ehang, a mawr, ac ychydig bobl ynddi; a'r tai nid oeddynt wedi eu hadei­ladu.

5 A'm Duw a roddodd yn fy nghalon gyn­null y pendefigion, y tywysogion hefyd, a'r bobl, iw cyfrif wrth eu hachau: a mi a gefais lyfr achau y rhai a ddaethei i fynu yn gyntaf, a chefais yn scrifennedic ynddo;

6Ezra 2.1. Dymma feibion y dalaith, y rhai a dda­eth i fynu o gaethiwed y gaeth-glud a gaeth­gludasei Nabuchodonosor brenin Babilon, ac a ddychwelasant i Jerusalem, ac i Juda, pôb vn iw ddinas ei hun:

7 Y rhai a ddaethant gyd â Zorobabel, Jo­sua, Nehemiah,Neu, Seraiah. Azariah, Raaniah, Nahamani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Biguai, Nahum, Baanah: dymma rifedi dynion pobl Israel.

8 Meibion Paros, dwy fîl, cant, a deuddec a thrugain.

9 Meibion Sephatiah, try-chant, a deuddec a thrugain.

10 Meibion Arah, chwe chant, a deuddec a deugain.

11 Meibion Pahath-Moab: o feibon Jesua a Joab, dwy fil, ac wyth gant, a thri ar bym­thec.

12 Meibion Elam, mîl, dau cant, a phedwar ar ddêc a deugain.

13 Meibion Zattu, wyth gant, a phump a deugain.

14 Meibion Zaccai, saith gant, a thri vgain.

15 MeibionNeu, Bani. Binui, chwe chant, ac ŵyth a deugain.

16 Meibion Bebai, chwe chant, ac ŵyth ar hugain.

17 Meibion Azgad, dwy fil, try-chant, a dau ar hugain.

18 Meibion Adonicam, chwe chant, a saith a thrugain.

19 Meibion Biguai, dwy fîl, a saith a thrugain.

20 Meibion Adin, chwe chant, a phymthec a deugain.

21 Meibion Ater o Hezeciah, tri ar bymthec a phedwar ugain.

22 Meibion Hasum, try-chant, ac ŵyth ar hugain.

23 Meibion Bezai, try-chant, a phedwar ar hugain.

24 MeibionNeu, Jora. Hariph, cant, a deuddec.

25 MeibionNeu, Gibbar. Gibeon, phymthec a phedwar vgain.

26 Gwŷr Bethlehem, a Netophah, cant, wyth a phedwar vgain.

27 Gwŷr Anathoth, cant, ac wyth ar hugain.

28 GwŷrNeu, Azma­veth. Beth-azmafeth, dau a deugain.

29 GwŷrNeu, Ciriath­arim. Ciriath-Jearim, Cephirah, a Beeroth; saith gant, a thri a deugain.

30 Gwŷr Ramah, a Geba, chwe chant, ac vn ar hugain.

31 Gwŷr Micmas, cant, a dau ar hugain.

32 Gwŷr Bethel, ac Ai, cant, a thri ar hu­gain.

33 Gwŷr Nebo arall, deuddec a deugain.

34 MeibionVers. 12. Elam arall, mîl, dau cant, a phedwar ar ddêc a deugain.

35 Meibion Harim, try-chant ac vgain.

36 Meibion Jericho, try-chant, a phump a deugain.

37 Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant, ac vn ar hugain.

38 Meibion Senaah, tair mîl, naw cant, a dêc ar hugain.

39 Yr offeiriaid; meibion1 Cron. 24.7. Jedaiah, o dŷ Jesua, naw cant, a thri ar ddêca thri vgain.

40 Meibion Immer, mîl, a deuddec a deu­gain.

41 Meibion Pasur, mîl, dau cant, a saith a deugain.

42 Meibion Harim, mîl, a dau ar bym [...]hec.

43 Y Lefiaid; meibion Jesua, o Cadmiel, ac o feblonNeu, Hoda­viah, Ezra 2.4. Neu, Juda, Ezra 3.9. Hodesah, pedwar ar ddêc a thru­gain.

44 Y cantorion: meibion Asaph cant, ac ŵyth a deugain.

45 Y porthorion: meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai; cant, a thri ar bymthec ar hugain.

46 Y Nethiniaid; meibion Ziha, meibion Ha­supha, meibion Tabaoth,

47 Meibion Ceros, meibion Sia, meibion Pa­don,

48 Meibion Lebana, meibion Hagaba, mei­bion Salmai,

49 Meibion Hanan, meibion Gidel, meibion Gahar,

50 Meibion Reaiah, meibion Rezin, meibion Necoda,

51 Meibion Gazzam, meibion Vzza, meibion Paseah,

52 Meibion Besai, meibion Meunim, meibion Nephisesim,

53 Meibion Bacbuc, meibion Hacupha, mei­bion Harhur,

54 Meibion Baslith, meibion Mehida, mei­bion Harsa,

55 Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Tamah,

56 Meibion Neziah, meibion Hatipha.

57 Meibion gweision Salomon: meibion So­tai, meibion Sophereth, meibion Perida,

58 Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel,

59 Meibion Sephatiah, meibion Hattil, mei­bion Pochereth Zebaim, meibionNeu, Ami. Amon.

60 Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Salomon, oedd drychant, a deuddec a phedwar vgain.

61Ezra 2.59. A'r rhai hyn a ddaethant i fynu o Tel­melah, Telharesa, Cherub, Adon, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na'iNeu, hachau. hi­liogaeth, ai o Israel yr oeddynt.

62 Meibion Delaiah, meibion Tobiah, meibi­on Necoda; chwe chant, a dau a deugain.

63 Ac o'r offeiriaid, meibion Habaiah, mei­bion Coz, meibion Barzilai, yr hwn a gymmerth vn o ferched Barzilai y Gileadiad yn wraig, ac a alwyd ar eu henw hwynt.

64 Y rhai hyn a geisiasant eu scrifen ym mhlith yr achau, ond nis cafwyd: am hynny yHeb. halogwyd. bwriwyd hwynt allan o'r offeiriadaeth.

65 A'rNeu, llywydd. Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwyttaent o'r pethau sancteiddiolaf, hyd oni chyfodai offeiriad agExod. 28.30. Vrim ac â Thummim.

66 Yr holl gynnulleidfa ynghŷd oedd ddwy fil a deugain, try-chant, a thrugain.

67 Heb law eu gweision hwynt a'i morwy­nion, y rhai hynny oedd saith mîl, try-chant, a dau ar bymthec ar hugain: a chanddynt hwy yr oedd dau cant, a phump a deugain o gantori­on, ac o gantoresau.

68 Eu meirch hwynt oedd saith gant, ac vn ar bymthec ar hugain; a'i mûlod yn ddau cant, a phump a deugain:

69 Y camelod oedd bedwar cant, a phymthec ar hugain: yr assynnod oedd chwe mîl, saith gant, ac vgain.

70 AHeb. rhan. rhai o'r tadau pennaf a roddasant tu ag at y gwaith: y Tirsatha a roddodd i'r tryssor fil o ddracmonau aur, dêc a deugain o phiolau, pum cant a dêc ar hugain o wiscoedd offei­riaid.

71 A rhai o'r tadau pennaf a roddasant i dryssor y gwaith, vgain mîl o ddracmonau aur, a dwy fil, a deucant o bunnau o arian.

72 A'r hyn a roddodd y rhan arall o'r bobl, oedd vgain mîl o ddracmonau aur, a dwy fil o bunnau yn arian, a saith a thrugain o wiscoedd offeiriaid.

73 A'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r porthorion, a'r cantorion, a rhai o'r bobl, a'r Nethiniaid, a holl Israel, a drigasant yn eu dinasoedd. A phan ddaeth y seithfed mîs, yr oedd meibion Israel yn eu dinasoedd.

PEN. VIII.

1 Duwiol arfer gwrando a darllen y gyfraith. 9 Nehemiah, ac Ezra, a'r Leviaid, yn cyssuro 'r bobl. 13 Parodrwydd y bobl i wrando, ac i ddyscu. 16 Cadw gŵyl y Pebyll.

A'R holl bobl a ymgasclasant o vn-frŷd i'r heol oedd o flaen porth y dwfr, ac a ddy­wedasant wrthEzra 3.1. & 7.6. Ezra yr scrifennydd, am ddw­yn llyfr cyfraith Moses, yr hon a orchymynna­sei 'r Arglwydd i Israel.

2 Ac Ezra yr offeiriad a ddûg y gyfraith o flaen y gynnulleidfa o wŷr, a gwragedd, a phawb a'r a oedd ynHebr. deall. medru gwrando yn ddeallus, ar y dydd cyntaf o'r seithled mîs.

3 Ac efe a ddarllennodd ynddo ar wyneb yr heol oedd o flaen porth y dwfr, o'rHeb. golau. borau hyd hanner dydd, ger bron y gwŷr, a'r gwragedd, a'r rhai oedd yn medru deall: a chlustiau 'r holl bobl oedd yn gwrando ar lyfr y gyfraith.

4 Ac Ezra yr scrifennydd a safodd arHeb. dwr. bul­pyd o goed, yr hwn a wnelsid i'r peth hyn, a chyd ag ef y safodd Mattithiah, a Sema, ac Anai­ah, ac Vriah, a Helciah, a Maaseiah, ar ei law ddehau ef: a Phedaiah, a Misael, a Malchiah, a Hasum, a Hasbadana, Zechariah, a Mesulam, ar ei law asswy ef.

5 Ac Ezra a agorodd y llyfrHeb. yngclwg. yngŵydd yr holl bobl, (canys yr oedd efe oddi ar yr holl bobl) a phan agorodd, yr holl bobl a safasant.

6 Ac Ezra a fendithiodd yr Arglwydd, y Duw mawr; a'r holl bobl a attebasant, Amên, Amên, gan dderchafu eu dwylo: a hwy a ym­grymmasant, ac a addolasant yr Arglwydd a'i hwynebau tua 'r ddaiar.

7 Jesua hefyd, a Bani, a Serebiah, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodijah, Maaseiah, Celita, Azariah, Jozabad, Hanan, Pelaiah, a'r Lefiaid, oedd yn dyscu y gyfraith i'r bobl, a'r bobl yn sefyll yn eu lle.

8 A hwy a ddarllennasant yn eglur yn y llyfr, ynghyfraith Dduw; gan osod allan y syn­wyr, fel y deallent wrth ddarllen.

9 A Nehemiah, efe yw yllywydd. Tirsatha, ac Ezra yr offeiriad a'r scrifennydd, a'r Lefiaid y rhai oedd yn dyscu 'r bobl, a ddywedasant wrth yr holl bobl, y mae heddyw yn sanctaidd i'r Ar­glwydd eich Duw, na alêrwch, ac na ŵylwch: canys yr holl bobl oedd yn ŵylo pan glywsant eisiau y gyfraith.

10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, ewch, bŵytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac anfonwch rannau i'r hwn nid oes ganddo ddim yn barod; canys y mae heddyw yn sanctaidd i'n Harglwydd: am hynny na thristewch, canys llawenydd yr Arglwydd yw eich nerth chwi.

11 A'r Lefiaid a ollegasant yr holl bobl, gan ddywedyd, tewch, canys y dydd heddyw sydd sanctaidd, ac na thristêwch.

12 A'r holl bobl a aethant i fwytta, ac i yfed, ac i anfon ymmaith rannau, ac i wneuthur lla­wenydd mawr; o herwydd iddynt ddeall y geiriau a ddyscasent hwy iddynt.

13 A'r ail dydd, tadau pennaf yr holl bobl, yr offeiriaid, a'r Lefiaid, a ymgynnullasant at Ezra yr scrifennydd,Neu, i ddyscu. iw dyscu yngeiriau y gyfraith.

14 A hwy a gawsant yn scrifennedic yn y gyfraith, yr hon a orchymynnasei 'r Arglwydd drwy law Moses, y dylei meibion IsraelLevit. 23.34. Deut. 16.13. drigo mewn bythod, ar ŵyl y seithfed mîs:

15 Ac y dylent gyhoeddi, a gyrru gair trwy eu holl ddinasoedd, a thrwy Jerusalem, gan ddywedyd, ewch i'r mynydd, a dygwch gang­hennau oliwŷdd, a changau pîn-wŷdd, a chan­gau y myrt-wŷdd, a changau y palm-wŷdd, a changhennau o'r prennau caeadfrig, i wneuthur bythod, fel y mae yn scrifennedic.

16 Felly y bobl a aethant allan, ac a'i dyga­sant, ac a wnaethant iddynt fythod, bôb vn ar ei nen, ac yn eu cynteddoedd, ac ynghynte­ddoedd tŷ Dduw, ac yn heol porth y dwfr, ac yn heol porth Ephraim.

17 A holl gynnulleidfa y rhai a ddychwe­lasent o'r caethiwed, a wnaethant fythod, ac a eisteddasant yn y bythod; canys er dyddiau Josua fab Nun hyd y dydd hwnnw ni wnaethei meibion Israel felly: ac yr oedd llawenydd mawr iawn.

18 Ac Ezra a ddarllennodd yn llyfr cyfraith Dduw beunydd, o'r dydd cyntaf hyd y dydd di­weddaf: a hwy a gynhaliasant yr ŵyl saith ni­wrnod, ac ar yr ŵythfed dydd y bu Heb. gwahar­ddiad. cymman­fa yn ôl y ddefod.

PEN. IX.

1 Ympryd cyhoedd, ac edifeirwch y bobl. 4 Y Leviaid yn gwneuthur duwiol gyffes o ddaioni Duw, a drygioni 'r bobl.

AC ar y pedwerydd dydd ar hugain o'rPen. 8.2. 1 Esd. 9.5. mîs hwn, meibion Israel a ymgynnullasant mewn ympryd, ac mewn-sâch-liain, a phridd arnaddynt.

2 A hâd Israel a ymnailltuasant oddi wrth bôbHeb. meibion dieithr. dieithraid, ac a safasant, ac a gyffessasant eu pechodau, ac anwireddau eu tadau.

3 A chodasant i fynu yn eu lle, ac a ddar­llennasant yn llyfr cyfraith yr Arglwydd eu Duw, bedair gwaith yn y dydd; a phedair gwaith yr ymgyffessasant, ac yr ymgrymma­sant i'r Arglwydd eu Duw.

4 Yna y safoddNeu, yn risian. Heb. escynfa. ym mhulpud y Lefiaid, Je­sua, a Bani, Cadmiel, Sebaniah, Bunni, Serebi­ah, Bani, a Chenani; a gwaeddasant â llêf vchel ar yr Arglwydd eu Duw.

5 A'r Lefiaid, Jesua, a Chadmiel, Bani, Ha­sabniah, Serebiah, Hodiah, Sebaniah, Pethahi­ah, a ddywedasant cyfodwch, bendithiwch yr Arglwydd eich Duw o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb, a bendithier dy enw gogo­neddus a derchafedic, goruwch pôb bendith a moliant.

6 Ti yn vnic wyt Arglwydd,Gen. 1.1. ti a wnae­thost y nefoedd, nefoedd y nefoedd, a'i holl lu­oedd hwynt, y ddaiar a'r hyn oll sydd arni, y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt, a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll, a llû y nefoedd sydd yn ymgrymmu i ti.

7 Ti yw 'r Arglwydd Dduw, 'r hwn a dde­tholaistGen. 11.31. & 12.1 & 17.5. Abram, ac a'i dygaist ef allan o Vr y Caldeaid, ac a roddaist iddo enw Abraham.

8 AGen. 15.6. chefaist ei galon ef yn ffyddlawn ger dy fron di, ac aGen. 15.18. & 12.7. & 17.7.9. wnaethost gyfammod ag ef, ar roddi 'n ddiau iw hâd ef wlâd y Canaane­aid, [Page] yr Hefiaid, yr Amoriaid, a'r Phereziaid, a'r Jebusiaid, a'r Gergasiaid; ac a gwpleaist dy ei­riau, o herwydd cyfiawn wyt.

9Exod. 3.7. & 14.10. Gwelaist hefyd gystudd ein tadau yn yr Aipht; a thi a wrandewaist eu gwaedd hwynt wrth y môr côch,

10 A thi aExod. 7, 8, 9, 10, 11, 12, & 14. wnaethost arwyddion, a rhyfe­ddodau ar Pharao, ac ar ei holl weision, ac ar holl bobl ei wlâd ef; canys gwybuost i'r rhai hyn falchio yn eu herbyn hwynt: a gwnae­thost it enw fel y gwelir y dydd hwn.

11 YExod. 14.22. môr hefyd a holltaist o'i blaen hw­ynt, fel y treiddiasant drwy ganol y môr ar hyd sych-dir, a'i herlidwŷr a fwriaist i'r gwaelod, fel maen iExod. 15.10. dyfroedd cryfion:

12 Ac a'iExod. 13.21. harweiniaist hwy liw dydd mewn colofn gwmmwl; a lliw nôs mewn co­lofn dân, i oleuo iddynt hwy y ffordd yr oe­ddynt y myned rhyd-ddi.

13 TiExod. 19.20. & 20.1. a ddescynnaist hefyd ar fynydd Si­nai, ac a ymddiddenaist â hwynt o'r nefoedd; rhoddaist hefyd iddynt farnedigaethau vniawn, a chyfreithiauHeb. gwirio­nedd. gwîr, deddfau a gorchymynni­on daionus.

14 A'th Sabboth sanctaidd a hyspysaist iddynt; gorchymynion hefyd, a deddfau, a chyfreithi­au a orchymynnaist iddynt drwy law Moses dy wâs.

15Exod. 16.15. & 17, 6. Num. 20.11. Bara hefyd o'r nefoedd a roddaist iddynt yn eu newyn, a dwfr o'r graig a dynnaist iddynt yn eu syched; a thiDeut. 1.8. a ddywedaist wrthynt, y deuent i etifeddu y wlâd aHeb. gedasit dy law. dyngasit ar ei rhoddi iddynt.

16 Ond hwynt hwy a'n tadau ni a falchia­sant, ac a galedâsant eu gwarrau, ac ni wran­dawsant ar dy orchymynnion di;

17 Ac a wrthodasant wrando, ac ni chofia­sant dy ryfeddodau, y rhai a wnelsit ti erddynt; caledasant hefyd eu gwarrau, a gosodasantNum. 14.4. ben arnynt i ddychwelyd iw caethiwed yn eu cyn­dynrwydd: etto ti ydwytHeb. Duw y maddeu­ant, Dduw parod i faddeu, grâf-lawn, a thrugarawg, hwyrfrydic i ddigter, ac aml o drugaredd, ac ni wrthodaist hwynt.

18Exod. 32.4. Hefyd pan wnaethent iddynt lô todde­dic, a dywedyd, dymma dy Dduw di 'r hwn a'th ddûg di i fynu o'r Aipht; a chablasent yn ddirfawr:

19 Er hynny yn dy aml dosturiaethau, ni adewaist di hwynt yn yr anialwch:Exod 13.22. Num. 14.14. 1 Cor. 10.1 y golofn gwmmwl ni chiliodd oddi wrthynt drwy 'r dydd, iw harwain hwynt ar hyd y ffordd, na'r golofn dân drwy 'r nôs, i oleno iddynt, ac i ddangos y ffordd y cerddent ynddi.

20 DyNum. 11.17. Yspryd daionus hefyd a roddaist iw dyscu hwynt, ac nid atteliaist dyExod. 16.15 & 17.6. Jos. 5.12. Manna rhag eu genau, dwfr hefyd a roddaist iddynt yn eu syched.

21 Felly deugain mhlynedd y porthaist hw­ynt yn yr anialwch, heb fôd arnynt eisieu dim: Deut. 8.4. eu gwiscoedd ni heneiddiasant, a'i traed ni chwyddasant.

22 A thi a roddaist iddynt frenhiniaethau, a phobloedd, a rhennaist hwynt i gonglau; felly hwy a feddiannasantNum. 21.21. wlâd Sihon, a gwlâd brenin Hesbon, a gwlâd Og brenin Basan.

23 Lluosogaist hefyd eu mebion hwynt fel ser y nefoedd, ac a'i dygaist hwynt i'r wlâd a ddywedasit wrth eu tadau y deuent iddi iw meddiannu.

24 Felly y meibion a aethart i mewn, ac a feddiannasant y wlâd, a thi a ddarostyngaist drigolion y wlâd, y Canaaneaid, o'i blaen hw­ynt, ac a'i rhoddaist yn eu llaw hwynt, eu bren­hinoedd hefyd, a phobloedd y wlâd, fel y gwna­ent iddynt yn ôl eu hewyllys.

25 A hwy a ennillasant ddinasoedd cedyrn, a daiar frâs, ac a feddiannasant dai llawn o bôb daioni, pydewau cloddiedic, gwin-llannoedd, ac oliwydd-lannoedd, a choedHeb. ymborth. ffrwyth-lawn yn aml; a hwy a fwyttasant, ac a ddigonwyd, ac a frassawyd, ac a ymhyfrydasant yn dy fawr ddaioni di.

26 Etto hwy a anufyddhasant, ac a wrth­ryfelasant yn dy erbyn, tastasant hefyd dy gy­fraith o'r tu ôl iw cefn,1 Bren. 19.10. a'th brophwydi a la­ddasant, y rhai a destiolaethasent wrthynt, am ddychwelyd attat; ac a gablasant yn ddirfawr.

27 Am hynny ti a'i rhoddaist hwynt yn llaw eu gorthrym-wŷr, y rhai a'i cystuddiasant; ac yn amser eu cyfyngdra pan waeddasant arnat, a'i gwrandewaist hwynt o'r nefoedd, ac yn ôl dy aml dosturiaethau rhoddaist iddynt achub-wŷr, y rhai a'i hachubasant o law eu gwrthwyneb­wŷr.

28 Ond pan lonyddodd arnynt, dychwela­sant i wneuthur drygioni yn dy ŵydd di: am hynny y gadewaist hwynt yn llaw eu gelynion y rhai a arglwyddiaethasant arnynt; etto pan ddychwelasant, a gwaeddi arnat, titheu o'r ne­foedd a wrandewaist, ac a'i gwaredaist hwynt, yn ôl dy dosturiaethau, lawer o amser­oedd.

29 A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn hw­ynt, iw dychwelyd at dy gyfraith di, ond hwy a falchiasant, ac ni wrandawsant ar dy orchy­mynion, eithr pechasant yn erbyn dy farnedi­gaethau, (y rhai os gwna dŷn hwynt, Levit. 18.5. Ezec. 20.11. Rom. 10.5. Gal. 3.12. efe fydd byw ynddynt) aHeb. rhodda­sant. gwnaethant yscwydd i gilio, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandaw­sant.

30 Er hynny ti a'i hoedaist hwynt flynyddo­edd lawer, ac a2 Bren. 17.13. 2 Cron. 36.15. dystiolaethaist wrthynt drwy dy YsprydHeb. yn llaw. yn dy brophwydi; ond ni wran­dawsant: am hynny y rhoddaist hwynt yn llaw pobl y gwledydd.

31 Etto er mwyn dy fawr drugareddau, ni lwyr ddifethaist hwynt; ac ni wrthodaist hwynt; canys Duw graslawn, a thrugarog ydwyt.

32 Ac yn awr, ô ein Duw ni, y DuwExod. 34.6. mawr, cadarn, ac ofnadwy, yr hwn wyt yn cadw cy­fammodPsal. 143.2. a thrugaredd; na fydded bychan o'th flaen di yr holl flinderHeb. a'n ca­fodd, neu, a'n go­ddiwe­ddodd. a ddigwyddodd i ni, i'n brenhinoedd, i'n tywysogion, ac i'n hoffeiriaid, ac i'n prophwydi, ac i'n tadau, ac i'th holl bobl, er dyddiau brenhinoedd Assyria, hyd y dydd hwn.

33 Titheu ydwyt gyfiawn yn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni: canys gwirionedd a wnaethost ti, a ninneu a wnaethom yn an­nuwiol.

34 Ein brenhinoedd hefyd, ein tywysogi­on, ein hoffeiriaid, a'n tadau, ni chadwasant dy gyfraith, ac ni wrandawsant ar dy orchymyn­nion, na'th dystiolaethau, y rhai a dystiolaethaist wrthynt.

35 A hwy ni'th wasanaethasant yn eu brenhiniaeth, nac yn dy fawr ddaioni a ro­ddaist iddynt, nac yn y wlâd ehang a brâs, yr hon a osodaist o'i blaen hwynt; ac ni ddych­welasant oddi wrth eu drwg weithredoedd.

36 Wele ni heddyw yn weifion; ac am y [Page] wlâd a roddaist i'n tadau ni, i fwytta ei ffrwyth, a'i daioni, wele ni yn weision ynddi.

37 A mawr yw ei thoreth hi i'r brenhino­edd a osodaist arnom ni, am ein pechodau: ac arglwyddiaethu y maent ar ein cyrph, ac ar ein hanifeiliaid yn ôl eu hewyllys; ac yr ydym mewn cyfyngder mawr.

38 Ac o herwydd hyn oll yr ydym yn gwneuthur cyfammod siccr, ac yn ei scrifennu, ac y mae ein tywysogion, ein Lefiaid, a'n hoffei­riaid,Heb. wrth, neu wedi ei selio. yn ei selio.

PEN X.

1 Henwau y rhai a seliasant y Cyfammod rhwng Duw a'r bobl. 29 Pyngciau y Cy­fammod.

A'R rhaiHeb. oedd wrth selio. a seliodd oedd, Nehemiah y Tir­satha, mâb Hachaliah, a Zidciah,

2 Seraiah, Azariah, Jeremiah,

3 Pasur, Amariah, Malchiah,

4 Hattus, Sebaniah, Maluch,

5 Harim, Meremoth, Obadiah,

6 Daniel, Ginnethon, Baruch,

7 Mesulam, Abiah, Mijamin,

8 Maaziah, Bilgai, Semaiah: dymma 'r offei­riaid.

9 A'r Lefiaid: Jesua mâb Azaniah, Binnui, o feibion Henadad, Cadmiel.

10 A'i brodyr hwynt: Sebaniah, Hodiah, Celitah, Pelaiah, Hanan,

11 Micah, Rehob, Hosabiah,

12 Zaccur, Serebiah, Sebaniah,

13 Hodiah, Bani, Beninu.

14 Pennaethiaid y bobl, Paros, Pahath-Moab, Elam, Zatthu, Bani,

15 Bunni, Azgad, Bebai,

16 Adoniah, Biguai, Adin,

17 Ater, Hizciah, Azzur,

18 Hodiah, Hasum, Bezai,

19 Hariph, Anathoth, Nebai,

20 Magpias, Mesulam, Hezir,

21 Mesezabeel, Zadoc, Jadua,

22 Pelatiah, Hanan, Anaiah,

23 Hosea, Hananiah, Hasub,

24 Halohes, Pileha, Sobec,

25 Rehum, Hasabnah, Maaseiah,

26 Ac Ahiah, Chanan, Anan,

27 Maluch, Harim, Baanah.

28Ezra 2.43. A'r rhan arall o'r bobl, yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, y Nethini­aid, a phawb a'r a ymnaillduasent oddi wrth bobl y gwledydd at gyfraith Dduw, eu gwra­gedd hwynt, eu meibion, a'i merched; pawb a'r a oedd a gwybodaeth ac a deall ganddo:

29 Hwy a lynasant wrth eu brodyr, eu pen­naethiaid, ac a aethant mewn rhaith a llŵ ar rodio ynghyfraith Dduw, yr hon a roddasid drwy law Moses gwâs Duw; ac ar gadw, ac ar wneuthur holl orchymynion yr Arglwydd ein harglwydd ni, a'i farnedigaethau, a'i ddedd­sau:

30 Ac ar na roddemExod. 34.16. Deut. 7.3. ein merched i bobl y wlad: ac na chymmerem eu merched hwy i'n meibion ni.

31Exod. 20.10. Lev. 23.3. Deut. 5 12 Pen. 13.23. Ac o byddei pobl y tîr yn dwyn march­nadoedd, neu ddim lluniaeth ar y dydd Sabboth iw werthu, na phrynem ddim ganddynt ar y Sabboth, neu ar y dydd sanctaidd; acLevit. 25.4. y ga­dawem heibio y seithfed flwyddyn, aDeut. 15.2. chodiHeb. llaw. pôb dyled.

32 A ni a osodasom arnom ddeddfau, ar i ni roddi traian sicl yn y flwyddyn, tu ag at wa­sanaeth tŷ ein Duw ni,

33 A thu ag at y bara gosod, a'r bwyd offrwm gwastadol, â thu ag at y poeth offrwm gwastadol, y Sabbothau, y newydd loerau, a'r gŵyliau arbennic, a thu ag at y cyssegredic be­thau, a thu ag at y pêch-ebyrth, i wneuthur cymmod tros Israel; a thu ag at holl waith tŷ ein Duw.

34 Ac ni a fwriasom goel-brennau yr offei­riaid, y Lefiaid, a'r bobl, am goed yr offrwm, fel y dygent hwynt i dŷ ein Duw ni yn ôl tai ein tadau ni, ar amserau nodedic, o flwyddyn i flw­yddyn, iw llosci ar allor yr Arglwydd ein Duw, fel y mae 'n scrifennedic yn yNum. 28.29. & Exod. 23.19. & Lev. 19.23. gyfraith:

35 Ac i ddwyn blaen-ffrwyth ein tîr, a bla­en-ffrwyth o bôb ffrwyth o bôb pren, o flw­yddyn i flwyddyn, i dŷ 'r Arglwydd:

36 A'r rhai cyntaf anedic o'n meibion, ac o'n hanifeiliaid (fel y mae yn scrifennedic yn yExod. 13.2. Levit. 23.17. Num. 15.19. & 18.12. gyfraith) a chyntaf-anedigion ein gwartheg, a'n defaid, iw dwyn i dŷ ein Duw, at yr offei­riaid, sydd yn gwasanaethu yn nhŷ ein Duw ni:

37 A blaenion ein toes, a'n hoffrymmau, a ffrwyth bôb pren, gwîn, ac olew, a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein Duw, a de­gwm ein tir i'r Lefiaid; fel y cai y Lefiaid hwy­thau ddegwm drwy holl ddinasoedd ein lla­fur ni.

38 A bydd yr offeiriad, mâb Aaron, gyd â'r Lefiaid, pan fyddo y Lefiaid ynNum. 18.26. degymmu; a dyged y Lefiaid i fynu ddecfed ran y degwm i dŷ ein Duw ni, i'r celloedd yn y tryssor-dŷ.

39 Canys meibion Israel, a meibion Lefi a ddygant offrwm yr ŷd, y gwîn, a'r olew, i'r sta­felloeddd, lle y mae llestri y cyssegr, a'r offeiri­aid sydd yn gweini, a'r porthorion a'r cantori­on; ac nac ymwrthodwn â thŷ ein Duw.

PEN. XI.

1 Y tywysogion, a'r rhai a ewyllysient, a'r decfect gŵr a ddewisid wrth goel-bren, yn trigo yn Je­rusalem. 3 Rhoi o'i henwau hwynt. 20 Y bobl eraill yn trigo mewn dinasoedd eraill.

A Thywysogion y bobl a drigasant yn Jeru­salem: a'r rhan arall o'r bobl a fwriasant goel-brennau i ddwyn vn o'r dêc i drigo yn Je­rusalem y ddinas sanctaidd, a naw rhan i fod yn y dinasoedd eraill.

2 A'r bobl a fendithiasant yr holl wŷr a ym­roddasent yn ewyllyscar i bresswylio yn Jeru­salem.

3 Ac dymma bennaethiaid y dalaith, y rhai a drigasant yn Jerusalem: ond yn ninasoedd Juda, pawb a drigasant yn eu meddiant o fewn eu di­nasoedd, sef Israel, yr offeiriaid, a'r Le­fiaid, a'r Nethiniaid, a1 Bren. 9.21. meibion gweision Salomon.

4 A rhai o feibion Juda, ac o feibion Benja­min a drigasant yn Jerusalem. O feibion Juda; Athaiah mab Vzziah, fâb Zechariah, fâb Amari­ah, fâb Sephatiah, fâb Mahalaleel, o feibion Perez.

5 Maaseiah hefyd mâb Baruch, fâb Col-hoseh, fâb Hazaiah, fâb Adaiah, fâb Joiarib, fâb Ze­chariah, fâb Siloni.

6 Holl feibion Perez y rhai oedd yn trigo yn Jerusalem, oedd bedwar cant, ac ŵyth a thri vgain o ŵyr grymmus.

7 Ac dymma feibion Benjamin; Salu mâb Mesulam, fâb Joed, fâb Pedaiah, fâb Colaiah, fâb Maaseiah, fâb Ithiel, fâb Esay.

8 Ac ar ei ôl ef Gabbai, Salai: naw cant, ac ŵyth ar hugain.

9 A Joel mab Zichri, oedd swyddog ar­nynt hwy: a Juda mab Senuah yn ail ar y ddinas.

10 O'r offeiriaid, Jedaiah mib Joiarib, Ja­chin,

11 Seraiah mâb Helciah, fâb Mesulam, fâb Zadoc, fâb Meraioth, fâb Ahitub, blaenor tŷ Dduw.

12 A'i brodyr y rhai oedd yn gweithio gwaith y tŷ, oedd ŵyth cant, a dau ar hu­gain: ac Adaiah mâb Jeroham, fâb Pelaliah, fâb Amzi, fâb Zechariah, fâb Pasur, fâb Malchiah,

13 A'i frodyr, pennau cenedl, dau cant, a dau a deugain: ac Amasai mâb Azareel, fâb Ahazai, fâb Mesilemoth, fâb Immer.

14 A'i brodyr hwynt yn gedyrn o nerth oedd gant, ac ŵyth ar hugain: a Zabdiel mâbVn o'r gwyr mawr. Haggedolim yn swyddog arnynt.

15 Ac o'r Lefiaid, Semaiah mâb Hassub, fâb Azricam, fâb Hasabiah, fâb Bunni.

16 Sabbethai hefyd, a Jozalad, o bennae­thiaid y Lefiaid, oedd oruchaf ar y gwaith o'r tu allan i dŷ Dduw.

17 Mattaniah hefyd mâb Micha, fâb Zabdi, fab Asaph, oedd bennaf i ddechreu tâl diolch mewn gweddi; a Bachuciah yn ail o'i frodyr; ac Abda mâb Sammua, fab Galal, fab Jedu­thun.

18 Yr holl Lefiaid yn y ddinas sanctaidd oadd ddau cant, a phedwar, a phedwar vgain.

19 A'r porthorion, Accub, Talmon, a'i bro­dyrHeb. wrth y pyrth. yn cadw y pyrth, oedd gant, a deuddec a thrugain.

20 A'r rhan arall o Israel, o'r offeiriaid, ac o'r Lefiaid, a drigent yn holl ddinasoedd Juda, pôb vn yn ei etifeddiaeth.

21 Ond yPen. 3.26. Nethiniaid oeddynt yn aros ynOphel. y tŵr; a Ziha, a Gispa oedd ar y Nethiniaid.

22 A swyddog y Lefiaid yn Jerusalem oedd Vzzi, mâb Bani, fab Hasabiah, fab Mattaniah, fab Micha: o feibion Asaph, y cantorion oedd ar waith tŷ Dduw.

23 Canys gorchymyn y brenin am danynt hwy, oedd fôd Neu, rhan. ordinhâd safadwy i'r cantori­on, dogn dydd yn ei ddydd.

24 A Phethahiah mâb Mefezabeel o feibion Zerah fab Juda, oedd wrth law 'r brenin ym mhôb peth a berthynei i'r bobl.

25 Ac am y trefydd, a'i meusydd: rhai o feibion Juda a drigasant ynghaer Arba a'i phentrefydd; ac yn Dibon, a'i phentrefydd, ac yn Jecabzeel, a'i phentrefydd,

26 Ac yn Jesuah, ac ym Moladah, ac yn Beth-pelet,

27 Ac yn Hazer-Sual, ac yn Beerseba, a'i phentrefydd,

28 Ac yn Ziclag, ac ym Meconah, ac yn ei phentrefydd,

29 Ac yn En-rimmon, ac yr. Zareah, ac yn Jarmuth,

30 Zanoah, Adulam, a'i trefydd, Lachis a'i meusydd, yn Azecah a'i phentrefydd. A hwy a wladychasant o Beerseba hyd ddyffryn Hin­nom.

31 A meibion Benjamin o Geba a drigasant Neu, hyd. ym Michmas, ac Aia, a Beth-el, a'i pentre­fydd:

32 Yn Anathoth, Nob, Ananiah,

33 Hazor, Ramah, Gittaim,

34 Hadid, Zeboim, Nebalat,

35 Lod, ac Ono, glyn y crefftwyr,

36 Ac o'r Lefiaid yr oedd rhannau yn Juda, ac yn Benjamin.

PEN. XII.

1 Yr offeiriaid, 8 a'r Lefiaid a ddaeth i fynu gyd â Zorobabel. 10 Hilingaeth yr offeiriaid. 22 Rhai o'r Lefiaid pennaf. 27 Cyhoedd gyssegriad muriau Jerusalem. 44 Gosod swyddau i'r offeiriaid ac i'r Lefiaid yn y Deml.

DYmmaEzra. 2.1. hefyd yr offeiriaid a'r Lefiaid, y rhai a ddaethant i fynu gyd â Zoroba­bel mâb Zalathiel, a Jesua: sef Seraiah, Jere­miah, Ezra,

2 Amariah,Neu, Meli [...]u, Vers. 14. Maluch, Hattus,

3Neu, Sebaniah, Vers. 14. Secaniah,Neu, Harim, Vers. 15. Rehum,Neu, Meraioth, Vers. 15. Merimoth,

4 Ido,Neu, Ginne­rhon, Vers. 16. Ginnetho, Abiah,

5Neu, Minia­min, Vers. 17. Miamin,Neu, Moadiah, Vers. 17. Madiah, Bilgah,

6 Semaiah, a Joiarib, Jedaiah,

7Neu, Salai, Vers. 20. Salu, Amoc, Helciah, Jedaiah: dymma bennaethiaid yr offeiriaid, a'i brodyr yn ny­ddiau Jesua.

8 A'r Lefiaid: Jesua, Binnui, Cadmiel, Se­rebiah, Juda; a Mattaniah oedd ar ySef, Psalmau diolch. gerdd, efe a'i frodyr.

9 Bacbuciah hefyd, ac Vnni, eu brodyr hwynt oedd ar eu cyfer yn y gwiliadwriaethau.

10 A Jesua a genhedlodd Joiacim; a Joia­cim a genhedlodd Eliasib, ac Eliasib a genhed­lodd Joiada,

11 A Joiada a genhedlodd Ionathan, a Io­nathan a genhedlodd Iadua.

12 Ac yn nyddiau Ioiacim, yr offeiriaid hyn oedd bennau cenedl: o Seraiah, Meraiah; o Ieremiah, Hananiah:

13 O Ezra, Mesulam: o Amariah, Iehoha­nan:

14 O Melicu, Ionathan; o Sebaniah, Io­seph:

15 O Harim, Adna, o Meraioth, Helcai:

16 O Ido, Zechariah: o Ginnethon, Mesu­lam:

17 O Abiah, Zichri: o Miniamin, o Moadi­ah, Piltai:

18 O Bilgah, Samua; o Semaiah, Iona­than:

19 Ac o Ioiarib, Mattenai; o Iedaiah, Vzzi:

20 O Salai, Calai; o Amoc, Eber:

21 O Helciah, Hasabiah; o Iedaiah, Netha­neel.

22 Y Lefiaid yn nyddiau Eliasib, Ioiada, a Iohanan, a Iadua, oedd wedi eu scrifennu yn bennau cenedl: a'r offeiriaid [...]yd deyrnasiad Darius y Persiad.

23 Meibion Lefi y pennau cenedl oedd wedi eu scrifennu yn1 Cron. 9.14. llyfr y Croniclau, hyd ddy­ddiau Iohanan mâb Eliasib.

24 A phennaethiaid y Lefiaid oedd Hasabi­ah, Serebiah, a Iesua mâb Cadmiel, a'i brodyr ar eu cyfer, i ogoneddu, ac i foliannu, yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw: gwiliadwri­aeth ar gyfer gwiliadwriaeth.

25 Mattaniah, a Bacbuciah, Obadiah, Me­sulam, Talmon, Accub, a oedd borthorion yn cadw gwiliadwriaeth wrthN u, drysso­rau, neu gyman­fau. drothwyau y pyrth.

26 Y rhai hyn oedd yn nyddiau Ioiacim fab Iesua, fab Iozadac: ac yn nyddiau Nehe­miah y tywysog, ac Ezra 'r offeiriad, a'r scri­fennydd.

27 Ac ynghyssegriad mûr Ierusalem y cei­siasant y Lefiaid o'i holl leoedd iw dwyn i Ieru­salem, i wneuthur y cyssegriad, â gorfoledd, [Page] mewn diolchgarwch, ac mewn cân, â symbalau, nablau, ac â thelynau.

28 A meibion y cantorion a ymgynnulla­sant o'r gwastadedd o amgylch i Jerusalem, ac o drefydd Netophathi,

29 Ac o dŷ Gilgal, ac o feusydd Geba, ac Azmafeth: canys y cantorion a adeiladasent ben­trefydd iddynt o amgylch Jerusalem.

30 Yr offeiriaid hefyd, a'r Lefiaid a ymlân­hasant: glanhasant hefyd y bobl, a'r pyrth, a'r mûr.

31 A mi a berais i dywysogion Juda ddrin­go ar y mûr: a gosodais ddwy fintai fawr o rai yn moliannu; a mynediad y naill oedd ar y llaw ddehau, ar y mûr, tua phorth y dom.

32 Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaiah, a hanner tywysogion Juda:

33 Azariah hefyd, Ezra, a Mesulam,

34 Juda, a Benjamin, a Semaiah, a Jere­miah;

35 Ac o feibion yr offeiriaid ag vdcyrn, Zechariah mâb Jonathan, fâb Semaiah, fâb Mattaniah, fâb Michaiah, fâb Zaccur, fâb Asaph:

36 A'i frodyr ef, Semaiah, ac Azareel, Mila­lai, Gilalai, Maai, Nethaneel, a Juda, Hanani, ag offer cerdd Dafydd gŵr Duw: ac Ezra yr scri­fennydd o'i blaen hwynt.

37 Ac wrth borth y ffynnon, yr hon oedd ar eu cyser hwynt, y dringasant ar risiau dinas Dafydd yn nringfa y mûr, oddi ar dŷ Dda­fydd, hyd borth y dwfr tua 'r dwyrain.

38 A'r ail fint ai o'r rhai oedd yn molian­nu, oedd yn myned ar eu cyfer hwynt, a min­neu ar eu hôl: a hanner y bobl oedd ar y mûr, oddi ar dŵr y ffyrnau, hyd y mûr llydan.

39 Ac oddi ar borth Ephraim, ac oddiar yr hên borth, ac oddiar borth y pyscod, a thŵr Hananeel, a thŵr Meah, hyd borth y defaid; a hwy a safasant ym mhorth y wiliadwriaeth.

40 Felly y ddwy fintai, y rhai oedd yn mo­liannu, a safasant yn nhŷ Dduw; a minneu, a hanner y swvddogion gyd â mi:

41 Yr offeiriaid hefyd; Eliacim, Maaseiah, Miniamin, Michaiah, Elioenai, Zachariah, Ha­naniah, ag vdcyrn.

42 Maaseiah hefyd, a Semaiah, ac Eleazar, ac Vzzi, a Jehohanan, a Malchiah, ac Elam, ac Ezer: a'r cantorion aHeb. wnaeth­ant eu clywed. ganasant yn grôch, a Jazrahiah eu blaenor.

43 A'r diwrnod hwnnw 'r aberthasant e­byrth mawrich, ac y llawenhasant, canys Duw a'i llawenychasei hwynt â llawenydd mawr; y gwragedd hefyd, a'r plant a orfoleddasant: fel y clybuwyd llawenydd Jerusalem hyd ym mhell.

44 A'r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y tryssorau, ar yr offrymmau, ar y blaen-ffrwyth, ac ar y degymmau, i gasclu iddynt hwy o feusydd y dinasoedd, y rhannau cyfreithlon i'r offeiriaid, a'r Lefiaid: canys llawenydd Juda oedd ar yr offeiriaid, ac ar y Lefiaid, y rhai oedd yn sefyll yno.

45 Y cantorion hefyd, a'r porthorion a gad­wasant wiliadwriaeth eu Duw, a gwiliadwri­aeth y glanhâd,1 Cron. 24. & 25. yn ôl gorchymyn Dafydd, a Salomon ei fab.

46 Canys1 Cron. 15.16. & 25.1. gynt yn nyddiau Dafydd, ac Asaph, yr oedd y pen-cantorion, a chaniadau can­moliaeth, a moliant i Dduw.

47 Ac yn nyddiau Zorobabel, ac yn nyddiau Nehemiah, holl Israel oedd yn rhodd i rhannau i'r cantorion, a'r porthorion, dogn dydd yn ei ddydd; a hwy a gyssegrasant bethau sanctaidd i'r Lefiaid,Num. 18.26. a'r Lefiaid a'i cyssegrasant i feibi­on Aaron.

PEN. XIII.

1 Darllein y gyfraith, a gyrru 'r bobl gymmysc o blith Israel. 4 Nehemiah, pan ddychwelodd, yn peri glanhau 'r ystafelloedd, 10 yn dwyn swyddau tŷ Dduw i well trefn, 15 yn llestair halogi 'r Sabboth, 23 a phriodi gwragedd o estron genedl.

YDwthwn hwnnw y darllennwyd yn llyfr MosesHeb ynghlu­stiau. lle y clybu y bobl; a chafwyd yn scrifennedic ynddo, na ddylei 'r Ammoniad, na'r Moabiad,Deut. 23.3. Num. 22.5. ddyfod i gynnulleidfa Duw yn dragywydd;

2Josua. 24.9. Am na chyfarfuasent â meibion Israel â bara, ac â dwfr; eithr cyflogasent Baalam yn eu herbyn iw melldigo hwynt; etto ein Duw ni a drôdd y felldith yn fendith.

3 A phan glywsant hwy y gyfraith, hwy a nailltuasant yr holl rai cymmysc oddi wrth Israel.

4 Ac o flaen hyn, Eliasib yr offeiriad, yr hwn a osodasid ar ystafell tŷ ein Duw ni, oedd gyfathrachwr i Tobiah:

5 Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell fawr, ac yno y byddent o'r blaen yn rhoddi y bwyd offrymmau, y thus, a'r llestri, a degwm yr ŷd, y gwîn, o'r olew,Heb. yr hyn oedd orchym­myn y Leuidid. a orchymynnasid ei roddi i'r Lefiaid, a'r cantorion, a'r porthorion; ac offrymmau yr offeiriaid.

6 Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn Je­rusalem: canys yn y ddeuddecfed flwyddyn ar hugain i Artaxerxes brenin Babylon, y deu­thum i at y brenin; ac ym mhen talm o ddy­ddiau yNeu, gofynnait. cesais gennad gan y brenin,

7 Ac a ddaethum i Jerusalem, ac a ddeallais y drygioni a wnaethei Eliasib er Tobiah, gan wneuthur iddo stafell ynghynteddoedd tŷ Dduw.

8 A bu ddrwg iawn gennif; am hynny mi a fwriais holl ddodrefn tŷ Tobiah allan o'r ystafell.

9 Erchais hefyd iddynt lânhau yr ystafell­oedd: a mi a ddygais yno drachefn lestri tŷ Dduw, yr offrwm, a'r thus.

10 Gwybûm hefyd fôd rhannau y Lefiaid heb eu rhoddi iddynt: canys ffoesei y Lefiaid, a'r cantorion, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith, bôb vn iw faes.

11 Yna y dwrdiais y swyddogion, ac y dy­wedais, pa ham y gwrthodwyd tŷ Dduw? a mi a'i cesclais hwynt ynghŷd, ac a'i gosodais yn euHeb. sefyllfa. llê.

12 Yna holl Juda a ddygasant ddegwm yr ŷd, a'r gwîn, a'r olew i'r tryssor-dai.

13 A mi a wneuthum yn dryssor-wŷr ar y tryssorau, Selemiah yr offeiriad, a Zadoc yr scrifennydd, a Phedaiah, o'r Lefiaid: a cher llaw iddynt hwy yr oedd Hanan fâb Zaccur, fâb Mattaniah; canys ffyddlon y cyfrifid hwynt, ac arnynt hwy yr oedd rhannu iw brodyr.

14Vers. 22. Cofia fi fy Nuw o herwydd hyn; ac na ddelea fy ngharedigrwydd a wneuthum i dŷ fy Nuw, ac iw wiliadwriaethau ef.

15 Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Ju­da rai yn sengi gwîn-wryfau ar y Sabboth, ac yn dwyn i mewn yscubau ŷd, ac yn llwy­tho assynnod, gwîn hefyd, a grawnwin, a ffigys, a phôb beichiau, ac yn eu dwyn i [Page] Jerusalem ar y dydd Sabboth: a mi a dystio­laethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth.

16 Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi, ac yn dwyn pyscod, a phôb peth gwerth­adwy, y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwer­thu ar y Sabboth, i feibion Juda, ac yn Je­rusalem.

17 Yna y dwrdiais bendefigion Juda, ac y dywedais wrthynt, pa beth drygionus yw hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur, gan halogi y dydd Sabboth?

18 Ond fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi? ac oni ddûg ein Duw ni 'r holl ddrwg hyn arnom ni, ac ar y ddinas hon? a chwithau ydych yn chwanegu digofaint ar Israel, trwy halogi y Sabboth.

19 A phan dywyllasei pyrth Jerusalem cyn y Sabboth, yr erchais gau y dorau, ac a or­chymynnais nad agorid hwynt, hyd wedi 'r Sabboth; a mi a osodais rai o'm gweision wrth y pyrth, fel na ddelei baich i mewn ar ddydd y Sabboth.

20 Felly y marchnad-wŷr, a gwerth-wŷr pôb peth gwerthadwy, a letteuasant o'r tu allan i Jerusalem, vn-waith neu ddwy.

21 A mi a dystiolaethais yn eu herbyn hwynt, ac a ddywedais wrthynt, pa ham yr ydych chwi yn aros trôs nôs wrth y mûr? os gwnewch eilwaith, mi a estynnaf fy llaw i'ch erbyn. O'r prŷd hwnnw ni ddaethant ar y Sabboth mwyach.

22 A mi a ddywedais wrth y Lefiaid am iddynt ymlanhau, a dyfod i gadw y pyrth, gan sancteiddio y dydd Sabboth: am hyn hefyd cofia fi fy Nuw, ac arbed fi yn ôlNeu, omider. lliaws dy drugaredd.

23 Yn y dyddiau hynny hefyd y gwe­lais IddewonHeb. gyttalia­sci ag. a briodasent Asdodiesau, Ammoniesau, a Moabiesau, yn wragedd iddynt.

24 A'i plant hwy oedd yn llefaru y naill hanner o'r Asdodi-aec, ac heb fedru ymddi­ddan yn iaith yr Iddewon; ond yn ôl tafo­diaithHeb. y bobl a'r bobl. y ddeubâr bobl.

25 Yna 'r ymrysonais â hwynt, ac yNeu, difenwais. melldithiais hwynt, tarewais hefyd rai o ho­nynt, ac a blicciais eu gwallt hwynt: ac mi a'i tyngais hwynt drwy Dduw, gan ddywedyd, na roddwch eich merched iw meibion hwynt, ac na chymmerwch o'i merched hwynt i'ch mei­bion, nac i chwi eich hunain.

26 Ond o achos y rhai hyn y pechodd Salomon brenin Israel? er na bu brenin cy­ffelyb iddo ef ym mysc cenhedloedd lawer, yr hwn oedd hôff gan ei Dduw, a Duw a'i gwnaeth ef yn frenin ar holl Israel: etto1 Bren. 11.1. Ecclus. 47.19. gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef be­chu.

27 Ai arnoch chwi y gwrandawn, i wneu­thur yr holl ddrygioni mawr hwn, gan drosse­ddu yn erbyn ein Duw, drwy briodi gwrag­edd dieithr?

28 Ac vn o feibion Joiada fâb Eliasib yr arch-offeiriad, oedd ddaw i Sanbalat yr Horo­niad: yr hwn a ymlidiais i oddi wrthif.

29 O fy Nuw cofia hwynt, amHeb. halogedi­gaethau. iddynt halogi 'r offeiriadaeth, a chyfammod yr offeiria­daeth a'r Lefiaid.

30 Yna y glanhêais hwynt oddi wrth bôb estron; gosodais hefyd orchwyliaethau i'r offeiriaid, ac i'r Lefaid, pôb vn yn ei waith,

31 Ac at goed yr offrwm mewn amserau nodedic, ac at y blaen-ffrwythau. Cofia fi ô fy Nuw er daioni.

¶LLYFR ESTHER.

PEN. I.

1 Ahasuerus yn gwneuthur gwleddoedd brenhinol. 10 Yn anfon i gyrchu atto y frenhines Vasthi, a hitheu yn gwrthod dyfod. 13 Ahasuerus, trwy gyngor Memucan, yn gwneuthur cyfraith ar fôd o'r gwŷr yn ben ar eu gwragedd.

YN nyddiau Ahasferus, (efe yw Ahas­ferus yr hwn oedd yn teyrnasu o India hyd Ethiopia, sef ar gant, a saith ar hugain o daleithiau)

2 Yn y dyddiau hynny pan eisteddodd y brenin Ahasferus ar orseddfa ei frenhiniaeth, yr hon oedd ynNehe. 1.1. Susan y brenhin-llŷs;

3 Yn y drydedd flwyddyn o'i deyrnasiad, efe a wnaeth wlêdd iw holl dywysogion, a'i wei­sion; cadernid Persia, a Media, y rhaglawi­aid, a thywysogion y taleithiau oedd ger ei fron ef.

4 Fel y dangosei efe gyfoeth a gogoniant ei deyrnas, ac anrhydedd a phrydferthwch ei faw­redd, ddyddiau lawer, sef cant a phedwar v­gain o ddyddiau.

5 Ac wedi gorphen y dyddiau hynny, y brenin a wnaeth i'r holl bobl a gafwyd yn Su­san y brenhin-llys, o'r mwyaf hyd y lleiaf, wlêdd dros saith niwrnod, ynghyntedd gardd palâs y brenin.

6 Lle 'r oedd llenni gwynion, gwyrddion, aNeu, gleifion. rhudd-gochion, wedi eu cylymmu â llinynau sidan, ac â phorphor, wrth fodrwyau arian, a cholofnau marmor: y gwelâu oedd o aur ac arian, ar balmant o faen Grissial, a Marmor, ac Alabaster, a Jasinct.

7 Ac yfed diod yr oeddynt mewn llestri aur, a chyfnewid amryw lestri, a gwîn brenhinawl lawer, yn ôlHeb. llaw. gallu y brenin.

8 Yr yfed hefyd oedd wrth ddefod, nid oedd nêb yn cymhell: canys gosodasei y brenin or­chymyn ar bôb swyddwr o fewn ei dŷ, ar wneu­thur yn ôl ewyllys pawb.

9 Y frenhines Vasthi hefyd a wnaeth wlêdd i'r gwragedd yn y brenhin-dŷ oedd eiddo Ahas­ferus y brenin.

10 Ar y seithfed dydd, pan oedd lawen ca­lon y brenin gan wîn, efe a ddywedodd wrth Mehuman, Biztha, Harbona, Bigtha, ac Abagtha, Zethar, a Charcas, y saithNeu, Eunuch. stafellydd oedd yn gweini ger bron y brenin Ahasferus,

11 Am gyrchu y frenhines Vasthi o flaen y brenin, yn y frenhinawl goron, i ddangos i'r bobloedd, ac i'r tywysogion ei glendid hi; ca­nys glân yr olwg ydoedd hi.

12 Ond y frenhines Vasthi a wrthododd ddy­fod wrth air y brenin drwy law ei ystafellyddi­on: am hynny y llidiodd y brenin yn ddirfawr, a'i ddigllonedd ef a enynnodd ynddo.

13 Yna y dywedodd y brenin wrth y doe­thion oedd yn gŵybod yr amserau: (canys felly yr oedd arfer y brenin tuac at bôb rhai a fyddei yn gŵybod cyfraith a barn,

14 A nesaf atto ef oedd Carsena, Sethar, Admatha, Tarsis, Meres, Marsena, a Memucan,Ezra, 7.14. saith dywysog Persia a Media, y rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, ac yn eistedd yn gyntaf yn y frenhiniaeth,)

15 Beth sydd iw wneuthur wrth y gyfraith i'r frenhines Vasthi, am na wnaeth hi archiad y brenin Ahasferus drwy law 'r ystafelly­ddion?

16 Yna Memucan a ddywedodd ger bron y brenin a'r tywysogion, nid yn erbyn y brenin yn vnic y gwnaeth Vasthi y frenhines ar fai; onid yn erbyn yr holl dywysogion hefyd a'r holl bobloedd sydd drwy holl daleithiau y bre­nin Ahasferus:

17 Canys gweithred y frenhines a â allan at yr holl wragedd, fel y tremygant eu gwŷr yn eu golwg eu hun, pan ddywedont, y brenin Ahasferus a archodd gyrchu Vasthi y frenhines o'i flaen, ond ni ddaeth hi.

18 Arglwyddesau Persia a Media, y rhai a glywsant weithred y frenhines, a ddywedant heddyw wrth holl dywysogion y brenin: felly y bydd mwy na digon o ddirmyg, a digtar.

19 OsHeb. da fydd gan. bydd bodlon gan y brenin, eled brenhinawl orchymyn oddi wrtho, ac scrifen­ner ef ym mysc cyfreithiau y Persiaid a'r Medi­aid, fel na throssedder ef; na ddêl Vasthi mwy ger bron y brenin Ahasferus, a rhodded y brenin ei brenhin-fraint hi iw chyfeillcs yr hon sydd well nâ hi.

20 A phan glywer gorchymyn y brenin yr hwn a wnelo efe, drwy ei holl frenhiniaeth, yr hon sydd fawr; yna 'r holl wragedd a roddant anrhydedd iw gwŷr, o'r mwyat hyd y lleiaf.

21 A da oedd y peth yngolwg y brenin, a'r tywysogion: a'r brenin a wnaeth ar ôl gair Memucan.

22 Canys efe a anfonodd lythyrau i holl daleithiau y brenin, îe i bôb talaith yn ôl ei scri­fen, ac at bôb pobl yn ôl eu tafodiaith eu hun; ar fôd pôb gŵr yn arglwyddiaethu yn ei dŷ ei hun,Heb. a'i [...]yho­eddi o vn yn ol taf­ei bobl. a chyhoeddi hyn yn ôl tafodiaith pob rhyw bobl.

PEN. II.

1 Dewis brenhines i Ahasuerus o fysc y gwyry­fon glanaf. 5 Mordecai tad-maeth Esther. 8 Hegai yn gweled Esther yn well nag yr vn o'r llaill. 12 Y môdd y glanheid y gwyryfon, ac yr aent i mewn at y brenhin. 15 Esther yn rhyngu bodd y brenin yn oreu, ac yn cael ei gwneuthur yn frenhines. 21 Mordecai yn datcuddio bradwriaeth, ac yscrifennu hynny yn y Croniel.

WEdi y pethau hyn, pan lonyddodd digllo­nedd y brenin Ahasferus, efe a gohodd Vasthi, a'r hyn a wnelsei hi, a'r hyn a farna­sid arni.

2 Am hynny gweision y brenin, y rhai oedd yn gweini iddo, a ddywedasant, ceisier i'r bre­nin langcesau têg yr olwg o wyryfon,

3 A gosoded y brenin swyddogion drwy holl daleithiau ei frenhiniaeth, a chasclant hwythau bôb llangces dêg yr olwg, o wyryf, i Susan y brenhin-llys, i dŷ y gwragedd, tan lawHegal, vors. 8. Hego stafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd; a rho­dder iddynt bethau iw glanhau.

4 A'r llangces a fyddo dâ yngolwg y bre­nin, a deyrnasa yn lle Vasthi. A da oedd y peth hyn yngolwg y brenin, ac felly y gwna­eth efe.

5 Yn Susan y brenhin-llys yr oedd rhyw Iddew, a'i enw Mordecai mâb Jair, fâb Simei, fab Cis, gŵr o Jemini,

6 Yr hwn a ddygasid o Jerusalem gyd â'r gaeth-glud2 Bren 24 15. Jer. 24.1. 2 Cron. 36.10. a gaeth gludasid gyd â Jeconiah brenin Juda, yr hwn a ddarfuasei i Nabucho­donosor brenin Babilon ei gaeth-gludo.

7 Ac efe a fagasei Hadastah (honno yw Est­her,) merch ei ewythr ef frawd ei dâd, ca vs nid oedd iddi dâd, na mam: a'r llangces oedd Heb. teg o bryd. weddaidd-lwys, a glân yr olwg, a phan fuasei ei thâd a'i mam hi farw, Mordecai a'i cym­merasei hi yn ferch iddo.

8 A phan gyhoeddwyd gair y brenin, a'i gy­fraith, pan gasclasid hefyd langces [...]u lawer i Susan y brenhin-llys, tan law [...]e [...]ai cymmer­wyd Esther i dŷ y brenin, tan [...]aw Hegai ceid­wad y gwragedd.

9 A'r llangces oeddHeb. dda. dêc yn ei olwg ef, a hi a gafodd ffafor ganddo, am hynny efe ar frŷs a barodd ro [...]i [...]di bethau iw glanhau, a'i rhannau, a rhoddi idd [...] saith o langcesau goly­gus, o dy'r brenin; a [...] efe a iHeb. [...]ewidi­odd. symmudodd hi a'i llangces [...], i'r fan o [...]eu yn nhŷ y gwragedd.

10 Ond ni fynegasai E [...]her ei [...]hobl, a'i chenedl: canys Mordecai a orchymynnasei iddi nad yngenei.

11 A Mordecai a rodiodd beunydd o fl [...]n cyntedd ty 'r gwragedd, i ŵybodHeb. heddwch. llwyddiant Esther, a pheth a wnelid iddi.

12 A phan ddigwyddei amser pôb llangces i fyned i mewn at y brenin Ahasferus, wedi bôd iddi hi yn ôl defod y gwragedd ddeuddeng mîs, (canys felly y cyflawnid dyddiau eu puredigae­thau hwynt, chwe mîs mewn olew myrh, a chwe mîs mewn pêr-aroglau, a phethau eraill i lanhau y gwragedd)

13 Yna fel hyn y deuei y llangces at y bre­nin; pa beth bynnac a ddywedei hi am dano a roddid iddi, i fyned gyd â hi o dŷ 'r gwragedd i dŷ 'r brenin.

14 Gyd a'r hwyr yr ai hi i mewn, a'r borau hi a ddychwelei i dŷ arall y gwragedd tan law Saafgaz stafellydd y brenin, ceidwad y gordder­chadon: ni ddeuei hi i mewn at y brenin mwyach, oddieithr i'r brenhin ei chwennych hi, a'i galw hi wrth ei henw.

15 A phan ddigwyddodd amser Esther merch Abihail ewythr Mordecai, (yr hon a gymmerasei efe yn ferch iddo) i fyned i mewn at y brenin, ni cheisiodd hi ddim ond yr hyn a ddywedasei Hegai stafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd: ac Esther oedd yn cael ffafor yn­golwg pawb a'r oedd yn edrych arni.

16 Felly Esther a gymmerwyd at y brenin Ahasferus iw frenhin-dŷ ef, yn y decfed mîs, (hwnnw yw mîs Tebeth) yn y seithfed flwyddyn o'i deyrnasiad ef.

17 A'r brenin a hoffodd Esther rhagor yr holl wragedd, a hi a gasodd ffafor a charedi­grwydd yn ei ŵydd ef, rhagor yr holl wyry­fon; ac efe a osododd y deyrn-goron ar ei phen hi, ac a'i gwnaeth yn frenhines yn lle Vasthi.

18 Yna y gwnaeth y brenin wlêdd fawr iw holl dywysogion, a'i weision, sef gwlêdd Esther; ac efe a wnaethHeb. lonydd­wch. rydd-did i'r talei­thiau, ac a roddodd roddion yn ôl gallu y brenin.

19 A phan gasclwyd y gwyryfon yr ail waith, yna Mordecai oedd yn eistedd ym mhorth y brenin.

20 Nid oedd Esther yn mynegi ei chenedl, [Page] na'i phobl, megis y gorchymynnasei Mordecai iddi canys Esther oedd yn gwneuthur yr hyn a ddywe lei Mordecai, fel cynt pan oedd hi yn ei meithrin gyd ag ef.

21 Yn y dyddiau hynny (pan oedd Morde­cai yn eistedd ym mhorth y brenin) y llidioddNeu, Bigthana Pen. 6.2. Bigthan, a Theres, dau o stafellyddion y bre­nin, sef o'r rhai oedd yn cadw y trothwy, a cheisiasant estyn llaw yn erbyn y brenin Ahas­forus.

22 A'r peth a wybu Mordecai, ac efe a'i mynegodd i Esther y frenhines; ac Esther a'i dywedodd wrth y brenin, yn enw Mordecai.

23 A phan chwiliwyd y peth, fe a gafwyd felly, am hynny y crogwyd hwynt ill dau ar bren: ac scrifennwyd hynny mewn llyfr Cro­nicl ger bron y brenin.

PEN. III.

1 Ahasuerus yn derchafu Haman, ac ynteu am i Mordecai ei ddiystyru, yn ceisio dial ar yr holl Iddewon, 7 Ac yn bwrw coel-bren, 8 A thrwy enllib yn cael gan y brenin wneuthur cyfraith i ladd yr holl Iddewon.

WEdi y pethau hyn, y brenin Ahasferus a fawrhaodd Haman fâb HammedathaNum. 24.7. 1 Sam. 15.8. yr Agagiad, ac a'i derchafodd ef; gosododd hefyd ei orseddfaingc ef goruwch yr holl dy­wysogion oedd gyd ag ef.

2 A holl weision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, oedd yn ymgrymmu, ac yn ymostwng i Haman, canys felly y gorchymyn­nasei 'r brenin am dano ef: ond nid ymgrym­modd Mordecai, ac nid ymostyngodd.

3 Yna gweision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, a ddywedasant wrth Morde­cai, pa ham yr ydwyt ti yn trosseddu gorchy­myn y brenin?

4 Ac er eu bôd hwy beunydd yn dywedyd wrtho fel hyn, etto ni wrandawei efe arnynt hwy: am hynny y mynegasant i Haman, i e­drych a safei geiriau Mordecai, canys efe a fyne­gasei iddynt mai Iddew ydoedd efe.

5 A phan welodd Haman nad oedd Morde­cai yn ymgrymmu, nac yn ymostwng iddo, Haman a lanwyd o ddigllonedd.

6 Er hynny diystyr oedd ganddo yn ei olwg ei hun estyn llaw yn erbyn Mordecai ei hunan; canys mynegasent iddo bobl Mordecai: am hynny Haman a geisiodd ddifetha 'r holl Idde­won, y rhai oedd drwy holl frenhiniaeth Ahas­ferus, sef pobl Mordecai.

7 Yn y mîs cyntaf, (hwnnw yw mîs Nisan) yn y ddeuddecfed flwyddyn i'r brenin Ahas­ferus, efe a barodd fwrw Pwr (hwnnw yw y coel-bren) ger bron Haman, o ddydd i ddydd, ac ofîs i fîs, hyd y deuddecfed mîs, hwnnw yw mîs Adar.

8 A Haman a ddywedodd wrth y brenin Ahasferus; y mae rhyw bobl wascaredic, a gwahanedic ym mhlith y bobloedd, drwy holl daleithiau dy frenhiniaeth; a'i cyfreithiau hwynt sy yn ymrafaelio oddi wrth yr holl bobl, ac nid ydynt yn gwneuthur cyfreithiau y brenin, am hynnyNeu, cymwys. nid buddiol i'r brenineu dioddef hwynt.

9 O bydd bodlon gan y brenin, scrifennerHe [...]. iw dife­tha. am eu difetha hwynt: a dengmil o dalentau arian aHeb. bwysaf. dalaf ar ddwylo y rhai a wnânt y weithred hon, iw dwyn i dryssorau y bre­nin.

10 A thynnodd y brenin ei fodrwy oddi am ei law; ac a'i rhoddes i Haman fab Ham­medatha yr Agagiad,Neu, gorthrym­mwr. gwrthwyneb-ŵr yr Iddewon.

11 A'r brenin a ddywedodd wrth Haman, rhodder yr arian i ti, a'r bobl i wneuthur â hwynt fel y byddo da yn dy olwg.

12 Yna y galwyd scrifennyddion y brenin yn y mîs cyntaf, ar y trydydd dydd ar ddêc o'r mîs hwnnw, ac yr scrifennwyd yn ôl yr hyn oll a orchymynnasei Haman, at bendenfi­gion y brenin, ac at y dugiaid oedd ar bob talaith, ac at dywysogion pôb pobl, i bôb ta­laith yn ôl ei scrifen, ac at bôb pobl yn ôl eu tafod-iaith; yn enw y brenin Ahasferus yr scrifennasid, ac â modrwy y brenin y seliasid hyn.

13 A'r llythyrau a anfonwyd gyd â'r rhe­degwŷr i holl daleithiau y brenin; i ddinistrio, i lâdd, ac i ddifetha 'r holl Iddewon, yn ieuaingc ac yn hên, yn blant, ac yn wragedd, mewn vn dydd, sef ar y trydydd dydd ar ddêc o'r deuddecfed mîs, (hwnnw yw mîs Adar) ac i sclyfaethu eu hyspail hwynt.

14 Testyn yr scrifen i roi gorchymmyn ym mhôb talaith a gyhoeddwyd i'r holl bobloedd, i fôd yn barod erbyn y diwrnod hwnnw.

15 Y rhedeg-wŷr a aethant wedi eu cym­mell drwy air y brenin, a'r gorchymyn a ro­ddasid yn Susan y brenhin-llvs: y brenin hefyd, a Haman a eisteddasant i yfed, a dinasyddion Susan oedd yn athrist.

PEN. IV.

1 Mawr alar Mordecai a'r Iddewon. 4 Esther pan wybu hynny, yn danfon at Mordecai, ac ynteu yn dangos iddi 'r achos, ac yn ei chynghori hi i eiriol trostynt hwy. 10 Hitheu yn ym­escusodi, a mordecai yn ei bygwth hi. 15 A hitheu yn gosod ympryd, ac yn addaw eiriol trostynt.

PAn wybu Mordecai yr hyn oll a wnelsid, Mordecai a rwygodd ei ddillad, ac a wis­codd sach-liain a lludw, ac a aeth allan i ganol y ddinas, ac a waeddodd â cherw-lêf vchel.

2 Ac efe a ddaeth hyd o flaen porth y bre­nin: ond ni cheid dyfod i borth y brenin mewn gwisc o sâch.

3 Ac ym mhôb talaith, a llê, a'r y daethei gair y brenin a'i orchymyn iddo, yr oedd gaiar mawr gan yr Iddewon, ac ympryd, ac wylo­fain, ac oer-nâd; aHeb. sach-liain a lludw a denid tan lawer. llawer a orweddent mewn sâch-liain, a lludw.

4 Yna llangcesau Esther a'iHeb. Eunuchi­aid. stafellyddion hi a ddaethant, ac a fynegasant hynny iddi hi, a'r frenhines a dristaodd yn ddirfawr, a hi a ddanfonodd wiscoedd i ddilladu Mordecai, ac i dynnu ymmaith ei sâch-liain ef oddi am dano, ond ni chymmerei efe hwynt.

5 Am hynny Esther a alwodd ar Hatach vn o stafellyddion y brenin, yr hwn a osodasci efe i wasanaethu o'i blaen hi; a hi a orchymyn­nodd iddo am Mordecai, fynnu gwybod pa beth oedd hyn, ac am ba beth yr ydoedd hyn.

6 Yna Hatach a aeth allan at Mordecai i heol y ddinas, yr hon sydd o flaen porth y brenin.

7 A Mordecai a fynegodd iddo 'r hyn oll a ddigwyddasei iddo; a swm yr arian y rhai a addawsai Haman eu talu i dryssorau y brenin, am yr Iddewon, iw difetha hwynt.

8 Ac efe a roddodd iddo destyn yscrifen y gorchymyn a osodasid yn Susan iw dinistrio [Page] hwynt, iw ddangos i Esther, ac iw fynegi iddi, ac i orchymyn iddi fyned i mewn at y brenin i ymbil ag ef, ac i ymnhôdd o'i flaen ef dros ei phobl.

9 A Hatach a ddaeth ac a fynegodd i Esther eiriau Mordecai.

10 Ac Esther a ddywedodd wrth Hatach, ac a orchymynnodd iddo ddywedyd wrth Mor­decai;

11 Holl woision y brenin, a phobl taleithiau y brenin, ydynt yn gŵybod, mai pa ŵr byn­nac, neu wraig a ddelo i mewn at y brenin i'r cyntedd nesaf i mewn, heb ei alw, vn o'i gyf­reithiau ef yw ei farwolaethu ef, oddieithr yr hwn yr estynno 'r brenin y deyrn-wialen aur iddo, fel y byddo byw: ac ni'm galwyd i ddy­fod i mewn at y brenin, bellach er ys deng­nhiwrnod ar hugain.

12 A hwy a fynegasant i Mordecai eiriau Esther.

13 Yna Mordecai a ddywedodd am iddynt atteb Esther; na feddwl yn dy galon y diengi yn nhŷ 'r brenin rhagor yr holl Iddewon.

14 O herwydd os tewi â sôn a wnei di y pryd hyn, esmwythder ac ymwared a gyfyd i'r Iddewon o le arall, titheu a thŷ dy dâd a gyfr­gollir: a phwy sydd yn gwybyd ai o herwydd y fath amser a hwn y daethost ti i'r frenhini­aeth:

15 Yna Esther a ddywedodd am atteb Mor­decai fel hyn,

16 Dôs, a chascl yr holl Iddewon a geffer yn Susan, ac ymprydiwch drosofi, na fwytewch hefyd, ac nac yfwch dros dri-diau, nôs na dydd; a minneu a'm llancesau a ymprydiaf felly; ac felly 'r âf i mewn at y brenin, yr hwn beth nid yw gyfreithlon, ac o derfydd am danaf, dar­fydded.

17 Felly Mordecai a aeth ymmaith, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchymynnasei Esther iddo.

PEN. V.

1 Esther wrth anturio ar ffafor y brenin, yn cael ystyn atti y deyrn-wialen aur, ac yn gwa­hodd y brenin a Haman i'r wledd. 6 a chwedi cael cyssur gan y brenin am y peth yr oedd hi yn ei geisio, yn eu gwahodd hwy dranoeth i wledd arall. 9 Haman yn falch o'i godiad, yn ddrwg gantho fod Mordecai yn ei ddiystyru ef, 14 a thrwy gyngor Zeres yn gwneuthur croc-pren iddo ef.

AC ar y trydydd dydd, Esther a ymwiscodd mewn brenhinawl wiscoedd, ac a safodd ynghyntedd tŷ 'r brenin o'r tu fewn, ar gyfer [...]y 'r brenin: a'r brenin oedd yn eistedd ar ei deyrn-gader yn y brenhin-dŷ gyferbyn â drws y tŷ.

2 A phan welodd y brenin Esther y frenhi­nes yn sefyll yn y cyntedd, hi a gafodd ffafor yn ei olwg ef: a'r brenin a estynnoddPen. 4.11. y deyrn­wialen aur oedd yn ei law ef, tu ag at Esther; ac Esther a nesaodd, ac a gyffyrddodd â phen y deyrn-wialen.

3 Yna y brenin a ddywedodd wrthi, beth a fynnit ti, y frenhines Esther? a pha beth yw dy ddeisyfiad?Marc. [...] hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac fe a'i rhoddir it.

4 A dywedodd Esther, o rhynga bodd i'r brenin, deled y brenin a Haman heddyw, i'r wledd a wneuthum iddo.

5 A'r brenin a ddywedodd, perwch i Haman fryssio i wneuthur yn ôl gair Esther: felly y daeth y brenin a Haman i'r wledd a wnaethei Esther.

6 A'r brenin a ddywedodd wrth Esther yng­hyfeddach y gwîn, beth yr wyt ti yn ei ofyn, ac fe a roddir i ti? a pheth yr wyt ti yn ei geisio? gofyn hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac efe a'i cwpleir.

7 Ac Esther a attebodd, ac a ddywedodd, fy nymuniad, a'm deisyfiad yw,

8 O chefais ffafor yngolwg y brenin, ac o rhyglydda bodd i'r brenin roddi fy nymuniad, a gwneuthur fy neisyfiad; deled y brenin a Haman i'r wledd a arlwywyf iddynt, ac y foru y gwnâf yn ôl gair y brenin.

9 Yna Haman a aeth allan y dwthwn hwn­nw yn llawen, ac yn hyfryd ei galon: ond pan welodd Haman Mordecai ym mhorth y brenin, na chyfodasei efe, ac na syffasei erddo ef, Haman a gyflawnwyd o ddigllonedd yn er­byn Mordecai.

10 Er hynny Haman a ymattaliodd, a phan ddaeth iw dŷ ei hun, efe a anfonodd, ac aHeb. wnaeth iw gare­digion ddyfod. al­wodd am ei garedigion, a Zeres ei wraig.

11 A Haman a adroddodd iddynt ogoniant ei gyfoeth, ac amidra ei feibion, a'r hyn oll y mawrhasei y brenin ef ynddynt, ac fel y dercha­fasei y brenin ef goruwch y tywysogion, a gwei­sion y brenin.

12 A dywedodd Haman hefyd, ni wahodd­odd Esther y frenhines neb gyd â'r brenin i'r wledd a wnaethei hi, onid myfi; ac y foru he­fyd i'm gwahoddwyd atti hi gyd â'r brenin.

13 Ond nid yw hyn oll yn llessau i mi, tra fyddwyfi yn gweled Mordecai 'r Iddew yn eist­edd ym mhorth y brenin.

14 Yna y dywedodd Zeres ei wraig, a'i holl garedigion wrtho, paratoer pren o ddec cufydd a deugain o vchder, a'r boreu dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno; yna dôs gyd â'r brenin i'r wledd yn llawen. A da oedd y peth ger bron Haman, am hynny efe a baratôdd y croc-pren.

PEN. VI.

1 Ahasuerus wrth ddarllein yn y Cronicl am y gwasanaeth da a wnaethei Mordecai iddo, yn gofalu am wneuthur tâl iddo. 4 Haman wrth geisio peri crogi Mordecai, mewn anwybod yn rhoi cyngor i beri iddo gael parch, 12 yn cwyno mor druch fuasai, a'r eiddo ei hun yn dangos iddo ei dynged.

Y Noson honno, cwsc y brenin a giliodd ymmaith; am hynny efe a archodd ddwyn llyfr coffadwriaethau hanession yr am­seroedd, a darllennwyd hwynt ger bron y bre­nin.

2 Yna y cafwyd yn scrifennedic yr hyn a fynegasei Mordecai amNeu, Bigthan, Pen. 2.21. Bigthana, a Theres, dan o stafellyddion y brenin, o'r rhai oedd yn cadw y trothwy; sef y rhai a geisiasent estyn llaw yn erbyn brenin Ahasferus.

3 A dywedodd y brenin, pa anrhydedd, neu fawredd, a wnaed i Mordecai am hyn? a gwei­sion y brenin, sef ei wenidogion ef, a ddyweda­sant, ni wnaed dim erddo ef.

4 A'r brenin a ddywedodd, pwy sydd yn y cyntedd? (a Haman a ddaethei i gyntedd nesaf allan tŷ y brenin, i ddywedyd wrth y brenin am grogi Mordecai ar y pren a baratoesei efe iddo.)

5 A gweision y brenin a ddywedasant wrtho, [Page] wele Haman yn sefyll yn y cyntedd. A dy­wedodd y brenin, deled i mewn.

6 A phan ddaeth Haman i mewn, dywe­dodd y brenin wrtho; beth a wneir i'r gŵr y mae y brenin yn ewyllysio eiHeb. anrhy­ [...]dd. anrhydeddu? (yna Haman a ddywedodd yn ei galon, i bwy yr ewyllysia y brenin wneuthur anrhydedd yn fwy nag i mi?)

7 A Haman a ddywedodd wrth y brenin, y gŵr y mae y brenin yn chwennychHeb. [...]nrhy­d [...]dd. ei anrhydeddu,

8 Dygant y wisc frenhinawl iddo yr hon a wisc y brenin; a'r march y merchyg y brenin arno, a rhodder y frenhinawl goron am ei ben ef.

9 A rhodder y wisc, a'r march, ynllaw vn o dywysogion Ardderchoccaf y brenin, a gwis­cant am y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu, a pharant iddo farchogaeth ar y march drwy heol y ddinas, a chyhoeddant o'i flaen ef, fel hyn y gwneir i'r gŵr y mae y bre­nin yn chwennych ei anrhydeddu.

10 Yna y brenin a ddywedodd wrth Ha­man, bryssia, cymmer y wisc a'r march, fel y lleferaist, a gwna felly i Mordecai yr Iddew, yr hwn sydd yn eistedd ym mhorth y brenin: na âdHeb. i ddim gwympo o'r, &c. heb wneuthur ddim o'r hyn oll a leferaist.

11 Felly Haman a gymmerth y wisc a'r march, ac a wiscodd am Mordecai; ac a wnaeth hefyd iddo farchogaeth drwy heol y ddinas, ac a gyhoeddodd o'i flaen ef, Fel hyn y gwneir i'r gŵr y mae y brenin yn mynnu ei anrhydeddu.

12 A dychwelodd Mordecai i borth y bre­nin: a Haman a frysiodd iw dŷ yn alarus wedi gorchuddio ei ben.

13 A Haman a adroddodd i Zeres ei wraig, ac iw holl garedigion, yr hyn oll a ddigwydda­sei iddo. Yna ei ddoethion, a Zeres ei wraig, a ddywedasant wrtho, os o hâd yr Iddewon y mae Mordecai, yr hwn y dechreuait syrthio o'i flaen, ni orchfygi mo honaw, onidgan syr­thio y syrthi o'i flaen ef.

14 Tra 'r oeddynt hwy etto 'n ymddiddan ag ef, ystafellyddion y brenin a ddaethant, ac a gyrchasant Haman ar frŷs i'r wlêdd a wnelsei Esther.

PEN. VII.

1 Esther wrth wneuthur croesaw i'r brenin ac i Haman, yn gofyn ei heinioes ei hun a'i phobl, 5 yn achwyn ar Haman, 7 a'r brenin yn ei ddîg, wrth glywed sôn am y crocpren a wnaethai Haman i Mordecai, yn peri ei grogi ef ar hwnnw.

FElly daeth y brenin a Haman iHeb. yfed. gyfeddach gyd ag Esther y frenhines.

2 A dywedodd y brenin wrth Ether dra­chefn yr ail dydd, wrth gyfeddach y gwîn, beth yw dy ddymuniad Esther y frenhines, ac fe a roddir i ti? a pha beth yw dy ddeisyfiad? gofyn hyd yn hanner y deyrnas, ac fe a'i cwpleir.

3 A'r frenhines Esther a attebodd, ac a ddy­wedodd, o chefais ffafor yn dy olwg di ô fre­nin, ac o rhyglydda bodd i'r brenin, rhodder i mi fy enioes ar fy nymuniad, a'm pobl ar fy neisyfiad.

4 Canys gwerthwyd ni, myfi a'm poblNeu, fel i'n di­nistrient, &c. i'n dinistrio, i'n llâdd, ac i'n difetha: ond pe gwer­thasid ni yn gaeth-weision, ac yn gaeth-for­wynion, mi a dawswn â sôn, er nad yw y gwrthwyneb-ŵr yn cystadlu colled y brenin.

5 Yna y llefarodd y brenin Ahasferus, ac y dy­wedodd wrth Esther y frenhines, pwy yw hwn­nw, a pha le y mae efe, yr hwnHeb. y llan­wodd [...] galon ef i wne. a glywei ar ei galon wneuthur felly?

6 A dywedodd Esther, y gwrthwyneb-ŵr, a'r gelyn yw 'r Haman ddrygionus hwn. Yna Haman a ofnoddNeu, yngwydd. ger bron y brenin, a'r fren­hines.

7 A'r brenin a gyfododd yn ei ddigllonedd o gyfeddach y gwîn, ac a aeth i ardd y palâs: a Haman a safodd i ymbil ag Esther y frenhi­nes am ei einioes; canys efe a welodd fôd drwg wedi ei baratoi yn ei erbyn ef oddi wrth y bre­nin.

8 Yna y dychwelodd y brenin o ardd y pa­lâs i dŷ cyfeddach y gwîn, ac yr oedd Haman wedi syrthio ar y gwelŷ yr oedd Esther arno. Yna y dywedodd y brenin, ai treisio y frenhi­nes hefyd y mae efe yn tŷ gyd â mi? hwy'n gyn­taf ac yr aeth y gair allan o enau y brenin, hwy a orchguddiasant wyneb Haman.

9 A Harbona vn o'r stafellyddion a ddywe­dodd yngŵydd y brenin; wele hefyd y croc­bren a baratôdd Haman i Mordecai, yr hwn a lefarodd ddaioni am y brenin, yn sefyll yn nhŷ Haman, yn ddêc cufydd a deugain o vchder: y­na y dywedodd y brenin, crogwch ef ar hwnnw.

10 Felly hwy a grogasant Haman, ar y pren a barasei efe ei ddarparu i Mordecai. Yna dig­llonedd y brenin a lonyddodd.

PEN. VIII.

1 Cyfodiad Mordecai. 3 Esther yn eiriol am alw llythyrau Haman yn ei hôl. 7 Ahasuerus yn rhoi cennad i'r Iddewon i'w hamddiffyn eu hun. 15 Anrhydedd Mordecai, a llawenydd yr Iddewon.

Y Dwthwn hwnnw y rhoddodd y brenin Ahasuerus i'r frenhines Esther dŷ Haman gwthwyneb-ŵr yr Iddewon; a Mordecai a ddaeth o flaen y brenin; canys Esther â fyne­gaseiPen. 2.7. beth oedd efe iddi hi.

2 A'r brenin a dynnodd ymmaith y fodrwy a gymmerasei efe oddi wrth Haman, ac a'i rhoddodd i Mordecai. Ac Esther a osododd Mordecai ar dŷ Haman.

3 Ac Esther a lefarodd drachefn ger bron y brenin, ac a syrthiodd wrth ei draed ef; ŵy­lodd hefyd, ac ymbiliodd ag ef am fwrw ym­maith ddrygioni Haman yr Agagiad, a'i fwriad yr hwn a fwriadasai efe yn erbyn yr Iddewon.

4 A'r brenin a estynnoddPen. 5.2. y deym-wialen aur tu ag at Esther. Yna Esther a gyfododd, ac a safodd o flaen y brenin,

5 Ac a ddywedodd, o bydd bodlon gan y brenin, ac o chefais ffafor o'i flaen ef, ac od yd­yw y peth yn iawn ger bron y brenin, a minneu 'n gymmeradwy yn ei olwg ef; scrifenner am alw yn ôl lythyrau bwriad Haman fab Ham­medatha 'r Agagiad,Neu, yr hwn a scrifen­nodd i ddin [...]o &c. y rhai a scrifennodd efe i ddifetha 'r Iddewon sydd drwy holl daleithiau y brenin.

6 Canys pa fôdd y gallaf edrych ar y dryg­fyd a gaiff fy mhobl? a pha fodd y gallaf ed­rych ar ddifetha fy nghenedl?

7 A'r brenin Ahasserus a ddywedodd wrth Esther y frenhines, ac wrth Mordecai yr Iddew; wele tŷ Haman a roddais i Esther, a hwy a'i crogasant ef ar y pren, am iddo estyn ei law yn erbyn yr Iddewon.

8 Scrifennwch chwithau hefyd dros yr Idde­won fel y gweloch yn dda, yn enw y brenin, ac inseliwch â modrwy y brenin: canys yr scrifen a scrifennwyd yn enw y brenin, ac a seliwyd â modrwy y brenin,Gw [...] [...] ni all nêb ei datroi.

9 Yna y galwyd scrifennyddion y brenin yr amser hwnnw yn y trydydd mîs (hwnnw yw y mis Sifan) ar y trydydd dydd ar hugain o honaw, ac scrifennwyd (yn ôl yr hyn oll a orchymynnodd Mordecai) at yr Iddewon, ac at y rhaglawiaid, y pennaduriaid hefyd, a thy­wysogion y taleithiau, y rhai oedd o India hyd Ethiopia, sef cant a saith ar hugain o dalei­thiau, i bôb talaith wrth ei scrifen, ac at bôb pobl yn ôl eu tafod-iaith; at yr Iddewon he­fyd yn ôl eu scrifen hwynt, ac yn ôl eu tafod­iaith.

10 Ac efe a scrifennodd yn enw y brenin Ahasferus, ac a'i seliodd â modrwy y brenin; ac a anfonodd lythyrau gyd â'r rhedeg-wŷr yn marchogaeth ar feirch, dromedariaid, mu­lod, ac ebolion cessig:

11 Drwy y rhai y caniadhâodd y brenin i'r Iddewon, y rhai oedd ym mhôb dinas, ymgyn­null, a sefyll am eu henioes, i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha holl allu y bobl a'r dalaith a oso­dai arnynt, yn blant, ac yn wragedd, ac i scly­faethu eu hyspail hwynt:

12 Mewn vn dydd, drwy holl daleithiau y brenin Ahasserus; sef ar y trydydd dydd ar ddêc o'r deuddecfed mîs, hwnnw yw mîsPen. 3.13. Adar.

13 Testyn yr scrifen i roddi gorchymyn ym mhôb talaith, aHeb. ddatcu­ddiwyd. gyhoeddwyd i bôb rhyw bobl; ac ar fôd yr Iddewon yn barod erbyn y diwrnod hwnnw i ymddial ar eu gelynion.

14 Y rhedeg-wŷr, y rhai oedd yn marcho­gaeth y dromedariaid a'r mulod, a aethant ar frŷs, wedi eu gyrru trwy air y brenin; a'r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhin-llys.

15 A Mordecai a aeth allan o ŵydd y bre­nin mewn brenhinawl wisc o rudd-gôch, a gwynn, ac â choron fawr o aur, ac mewn di­llad sidan, a phorphor; a dinas Susan a orfo­leddodd, ac a lawenychodd.

16 I'r Iddewon yr oedd goleuni, a llawen­ydd, a hyfrydwch, ac anrhydedd.

17 Ac ym mhôb talaith, ac ym mhôb dinas, lle y daeth gair y brenin a'i orchymyn, yr oedd llawenydd a hyfrydwch gan yr Iddewon, gwiêdd hefyd a diwrnod daionus: a llawer o bobl y wlâd a aethant yn Iddewon, o blegit arswyd yr Iddewon a syrthiasei arnynt hwy.

PEN. IX.

1 Yr Iddewon (trwy fôd y llywodraeth-wŷr, rhag ofn Mordecai, yn eu helpio hwynt) yn lladd eu gelynion, a deng mâb Haman. 12 A­hasuerus, ar ddymuniad Esther, yn caniattau diwrnod etto i lâdd, ac i grogi meibion Haman. 20 Gwneuthur dau ddiwrnod y Purim yn ŵylian.

FElly yn y deuddecfed mîs (hwnnw yw mîs Adar) ar y trydydd dydd ar ddêc o honaw, pan nessâodd gair y brenin a'i orchy­myn iw cwplau; yn y dydd y gobeithiasai gelynion yr Iddewon y caent fuddugoliaethu arnynt, (ond yn y gwrthwyneb i hynny y bu, canys yr Iddewon a arglwyddiaethasant ar eu caseion)

2 Yr Iddewon a ymgynnullasant yn eu di­nasoedd, drwy holl daleithiau y brenin Ahas­ferus, i estyn llaw yn erbyn y rhai oedd yn ceisio niwed iddynt; ac ni safodd nêb yn eu hwynebau, canys eu harswyd a syrthiasei ar yr holl bobloedd.

3 A holl dywysogion y taleithiau, a'r pen­defigion, a'r duglaid, a'r rhai oedd yn gwneu­thur y gwaith oedd eiddo 'r brenin, oedd yn cynnorthwyo yr Iddewon: canys arswyd Mordecai a syrthiasei arnynt hwy.

4 Canys mawr oedd Mordecai yn nhŷ 'r brenin, a'i glôd ef oedd yn myned drwy 'r holl daleithiau: o herwydd y gŵr hwn Mor­decai oedd yn myned rhagddo, ac yn cynnyddu.

5 Felly 'r Iddewon a darawsant eu holl ely­nion â dyrnod y cleddyf, a lladdedigaeth, a destryw; a gwnaethant iw caseion yn ôl eu hewyllys eu hun.

6 Ac yn Susan y brenhin-llys, yr Iddewon a laddasant, ac a ddifethasant bum cant o wŷr.

7 Parsandatha hefyd, a Dalphon, ac Aspa­tha,

8 Poratha hefyd, ac Adalia, ac Aridatha,

9 Parmasta hefyd, ac Arisai, Aridai hefyd, a Bajezatha:

10 Deng-mâb Haman fab Hammedatha, gwrthwyneb-ŵr yr Iddewon a laddasant hwy: ond nid estynnasant eu llaw ar yr anrhaith.

11 Y dwthwn hwnnw nifer y lladdedigion yn Susan y brenhin-dŷ, a ddaeth ger bron y brenin.

12 A dywedodd y brenin wrth Esther y frenhines, yr Iddewon a laddasant, ac a ddife­thasant yn Susan y brenhin-llys, bum cant o wŷr, a deng-mâb Haman; yn y rhan arall o daleithiau y brenin beth a wnaethant hwy? beth gan hynny yw dy ddymuniad? ac fe a roddir it; a pheth yw dy ddeisyfiad ymmhellach? ac fe a'i gwneir.

13 Yna y dywedodd Esther, o rhyglydda bôdd i'r brenin, caniadhaer y foru i'r Iddewon sydd yn Susan wneuthur yn ôl y gorchymyn heddyw: a chrogant ddeng-mâb Haman ar y pren.

14 A'r brenin a ddywedodd am wneuthur felly, a'r gorchymyn a roddwyd yn Susan: a hwy a grogasant ddeng-mâb Haman.

15 Felly 'r Iddewon, y rhai oedd yn Susan a ymgynnullasant ar y pedwerydd dydd ar ddêc o fîs Adar hefyd, ac a laddasant drychant o wŷr yn Susan: ond nid estynnasant eu llaw ar yr yspail.

16 A'r rhan arall o'r Iddewon, y rhai oedd yn nhaleithiau y brenin a ymgasclasant, ac a safasant am eu henioes, ac a gawsant lonyddwch gan eu gelynion, ac a laddâsant bymtheng-mîl a thri vgain o'i caseion: ond nid estynnasant eu llaw ar yr anrhaith.

17 Ar y trydydd dydd ar ddêc o fîs Adar y bu hyn, ac ar y pedwerydd dydd ar ddêcHeb. ynddo. o honaw y gorphywysasant, ac y cynhaliasant ef yn ddydd gwlêdd a gorfoledd.

18 Ond yr Iddewon, y rhai oedd yn Susan, a ymgynnullasant ar y trydydd dydd ar ddêc o honaw, ac ar y pedwerydd dydd ar ddêc o honaw, ac ar y pymthecfed o honaw y gor­phywysasant, a gwnaethant ef yn ddydd cyfe­ddach a llawenydd.

19 Am hynny Iddewon y pentrefydd, y rhai oedd yn trigo mewn dinasoedd heb gaerau, oedd yn cynnal y pedwerydd dydd ar ddêc o'r mîs Adar, mewn llawenydd a chyfeddach, ac yn ddiwrnod daionus, ac i anfon rhannau iw gilydd.

20 A Mordecai a scrifennodd y geiriau hyn, ac a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon oedd drwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, yn agos ac ym mhell,

21 I ordeinio iddynt gadw y pedwerydd [Page] dydd ar ddêc o fîs Adar, a'r pyrnthecfed dydd o honaw, bôb blwyddyn:

22 Megis y dyddiau y cawsei yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynion, a'r mîs yr hwn a ddychwelasei iddynt o dristwch i law­enydd, ac o al [...]r yn ddydd daionus: gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwlêdd, a llawen­ydd, a phawb yn anfon anrhegion iw gilydd, a rhoddion i'r rhai anghenus.

23 A'r Iddewon a gymmerasant arnynt wneuthur fel y dechreuasent: ac fel y scri­fennasei Mordecai attynt:

24 Canys Haman mâb Hammedatha 'r Aga­giad, gwrthwyneb-ŵr yr holl Iddewon, a arfae­thasei yn erbyn y [...] Iddewon, am eu difetha hwynt; ac ef a fwriasei Pwr (hwnnw yw y coelbren) iwHeb. hyssigo. dinistrio hwynt, ac iw difetha.

25 A [...]han ddaethHeb. [...]i. Esther o flaen y brenin, efe a archodd drwy lythyrau, ddychwelyd ei ddrwg-fwriad ef, yr hwn a fwriadodd efe yn erbyn yr Iddewon, ar ei ben ei hun; a'i grogi ef a'i feibion ar y pren.

26 Am hynny y galwasant y dyddiau hyn­ny Pwrim, ar enw ySef, coel-bren. Pwr: am hynny o her­wydd holl eiriau y llythr hwn, ac o herwydd y peth a welsent hwy am y peth hyn, a'r peth a ddigwyddasei iddynt,

27 Yr Iddewon a ordeiniasant, ac a gymme­rasant arnynt, ac ar eu hâd, ac ar yr holl rai oedd yn vn â hwynt;Heb. n [...]d elai [...]eibio. na phallai bôd cynnal y ddau ddydd hynny, yn ôl eu scrifen hwynt, ac yn ôl eu tymmor, bôb blwyddyn;

28 Ac y byddei y dyddiau hynny iw cofio, ac iw cynnal drwy bôb cenhedlaeth, a phôb teulu, pôb talaith, a phôb dinas: sefHeb. nad cla [...] heibio. na pha­llei y dyddiau Pwrim hynny, o fŷsc yr Idde­won, ac na ddarfyddei eu coffadwriaeth hwy o blîth eu hâd.

29 Ac yscrifennodd Esther y frenhines merch Abihail, a Mordecai yr Iddew drwy eu holl rym: i siccrhau ail llythyr y Pwrim hwn.

30 Ac efe a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon drwy y cant a'r saith dalaith ar hu­gain o frenhiniaeth Ahasserus, â geiriau ho­ddwch a gwirionedd,

31 I siccrhau y-dyddiau Pwrim hynny yn eu tymhorau, fel yr ordeiniasei Mordecai yr Iddew, ac Esther y frenhines, iddynt hwy, ac fel yr ordeiniasent hwythauHeb. tros eu henei­diau. trostynt eu hun, a thros eu hâd, eiriau yr ymprydiau, a'i gwei­ddi.

32 Ac ymadrodd Esther a gadarnhâodd acho­sion y dyddiau Pwrim hynny: ac scrifennwyd hyn mewn llyfr.

PEN. X.

1 Mawredd Ahasuerus, 3 a chyfodiad Mordecai.

A'R brenin Ahasferus a osododd drêth ar y wlâd, ac ar ynysoeddd y môr.

2 A holl weithredoedd ei rym ef, a'i gader­nid, ac yspysrwydd o fawredd Mordecai, â'r hwn y mawrhaodd y brenin ef, onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Me­dia, a Phersia?

3 Canys Mordecai yr Iddew oedd yn nessaf i frenin Ahasferus, ac yn fawr gan yr Iddewon, ac yn gymmeradwy ym mysc lliaws ei frodyr; yn ceisio daioni iw bobl, ac yn dywedyd am heddwch iw hollHad. hiliogaeth,

LLYFR JOB.

PEN. I.

1 Sancteidrwydd Job, a'i gyfoeth, a'i dduwiol ofal tros ei blant. 6 Satan yn ymddargos ger bron Duw, a thrwy enllib yn cael cennad i demptio Job. 13 Job yn ei golled amei olud a'i blant, ac yn ei alar yn bendithio Duw.

YR oedd gŵr yngwlâd Huz a'i enw Job; ac yr oedd y gŵr hwnnw ynPen. 2.3. berffaith, ac yn vniawn, ac yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni.

2 Ac iddo y ganwyd saith o feibion, a thair merched.

3 A'iNeu, [...]nifeili­ [...]id, neu, [...]da. olud oedd saith mîl o ddefaid, a thair mil o gamêlod, a phum cant iau o ŷchen, a phum cant o assynnod, a llawer iawn oNeu, [...]wsmon­ [...]eth. wa­sanaethyddion: ac yr oedd y gŵr hwn yn fwyaf o holl feibion y dwyrain.

4 A'i feibion ef a aent, ac a wnaent wlêdd yn eu tai, bôb vn ar ei ddiwrnod, ac a anfo­nent, ac a wahoddent eu tair chwiorydd, i fwytta, ac i yfed gyd â hwynt.

5 A phan ddaeth dyddiau y wlêdd oddi am­gylch, yna Job a anf [...]nei, ac a'i sancteiddiei hwynt, ac a gyfode 'n foreu, ac a offrymmei boeth offrymmau yn ôl eu rhifedi hwynt oll: canys dywedodd Job, fy meibion ond odid a bechasant, ac1 Bren. [...]1.10, 13. a felldithiasant Dduw yn eu calonnau: felly y gwnai Job yr holl ddyddiau hynny.

6 A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll ger bron yr Arglwydd: aHeb [...] gwrth­ [...]yneb­ [...]r. Satan hefyd a ddaeth yn euHeb. [...]nol. plith hwynt.

7 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, o ba le 'r ydwyt ti yn dyfod? a Satan a atte­bodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd,1 Pe [...] 5.8. o dramwy ar hyd y ddaiar, ac o ymrodio ynddi.

8 A dywedodd yr Arglwydd wrth Satan, aHeb. roddaistt dy galon. ddeliaist ti ar fy ngwâs Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaiar? yn ŵr perffaith, ac vniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni.

9 Yna Satan a attebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, ai yn ddiachos y mae Job yn ofni Duw?

10 Oni chaeaist o'i amgylch ef, ac o am­gylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch? ti a fendithiaist waith ei ddwy­law ef, a'iNeu, olud, neu, anifeili­aid. dda ef a gynnyddodd ar y ddaiar.

11Pen. 2.5. Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â'r hyn oll sydd ganddo;Heb. oni 'th felldiga. ac efe a'th felldiga o flaen dy wyneb.

12 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, wele 'r hyn oll sydd eiddo ef yn dy law di; yn vnic yn ei erbyn ef ei hun nac estyn dy law: felly Satan a aeth allan oddi ger bron yr Ar­glwydd.

13 A dydd a ddaeth, pan oedd ei feibion ef a'i ferched yn bwyta, ac yn yfed gwîn, yn nhŷ eu brawd hynaf:

14 A daeth cennad at Job, ac a ddywedodd, yr ychen oedd yn aredic, a'r assynnod oedd yn pori ger llaw iddynt;

15 A'r Sabeaid a ruthrasant, ac a'i dygasant ymmaith: y llangciau hefyd a darawsant hwy â mîn y cleddyf; a mi fy hunan a ddiengais yn vnic, i fynegi i ti.

16 Tra oedd hwn yn llefaru, vn arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, tânNeu, mawr. Duw a syr­thiodd [Page] o'r nefoedd, ac a loscodd y defaid, a'r gweision, ac a'i hyssodd hwynt; ond myfi fy hunan a ddiengais yn vnic, i fynegi i ti.

17 Tra 'r ydoedd hwn yn llefaru, vn arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, y Caldeaid a osodasant dair byddin, ac a ruthrasant i'r camelod, ac a'i dygasant ymmaith, ac a daraw­sant y llangciau a min y cleddyf: a minneu fy hun yn vnic a ddiengais i fynegi i ti.

18 Tra 'r ydoedd hwn yn llefaru, vn arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd: dy feibion a'th ferched oedd yn bwyta, ac yn yfed gwîn, yn nhŷ eu brawd hynaf;

19 Ac wele gwynt mawr a ddaethHeb. oddi tros. oddi ar yr anialwch, ac a darawodd wrth bedair congl y tŷ, ac efe a syrthiodd ar y llangciau, a buant feirw: ond myfi fy hun yn vnic a ddi­engais i fynegi i ti.

20 Yna y cyfododd Job, ac a rwygodd ei fantell, ac a eilliodd ei ben, ac a syrthiodd i lawr, ac a addolodd,

21 Ac a ddywedodd,Preg. 5.15. 1 Tim. 6.7. noeth y daethum o grôth fy mam, a noeth y dychwelaf yno; yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a ddy­godd ymmaith: bendigedic fyddo enw 'r Ar­glwydd.

22 Yn hyn i gyd ni phechodd Iob, ac ni ro­ddoddNeu, ynfydrw­ydd yn erbyn. yn ynfyd ddim yn erbyn Duw.

PEN. II.

1 Satan yn ymddangos ger bron Duw, ac yn cael cennad etto i demptio Job, 7 ac yn ei daro ef â chornwydydd blîn. 9 Job yn ceryddu ei wraig am geisio gantho felldithio Duw. 11 Ei dri chyfaill yn cŷd-ddolurio ag ef mewn distawrwydd.

A Dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll ger bron yr Arglwydd, a Satan he­fyd a ddaeth yn eu plith hwynt, i sefyll ger bron yr Arglwydd.

2 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, o ba le 'r ydwyti yn dyfod? aPen. 1.7. Satan a atte­bodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, o dram­wy ar hyd y ddaiar, ac o ymrodio ynddi.

3 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, a ddeliaist ti ar fy ngwâs Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaiar? yn ŵr perffaith, ac vniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrygioni, ac yn parhau yn ei berffeithrwydd, er i ti fy annog i yn ei erbyn ef, iwHeb. lyngcu. ddifa ef heb achos.

4 A Satan a attebodd yr Arglwydd, ac a ddy­wedodd, croen am groen, a'i hyn oll sydd gan ŵr, a ddyry efe am ei enioes.

5Pen. 1.11. Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â'i escyrn ef, ac â'i gnawd, ac efe a'th felldiga di o flaen dy wyneb.

6 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, wele ef yn dy law di,Neu, yn vnic. etto cadw ei hoedl ef.

7 Felly Satan a aeth allan oddi ger bron yr Arglwydd, ac a darawodd Job â chornwydydd blîn, o wadn ei droed hyd ei goryn.

8 Ac efe a gymmerth gragen i ymgrafu â hi; ac a eisteddodd yn y lludw.

9 Yna ei wraig a ddywedodd wrtho, a wyt ti etto 'n parhau yn dy berffeithrwydd? mell­dithia Dduw, a bydd farw.

10 Ond efe a ddywedodd wrthi; lleferaist fel y llefarai vn o'r ynfydion: a dderbyniwn ni gan Dduw 'r hyn sy dda, ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg? yn hyn i gyd ni phech­odd Job â'i wefusau.

11 A phan glybu tri chyfeill Iob yr holl ddrwg ymma, a ddigwyddase iddo ef, hwy a ddaethant bôb vn o'i fangre ei hun; Eliphaz y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Zophar y Naamathiad; canys hwy a gyttunasent i ddy­fod i gyd-ofidio ag ef, ac iw gyssuro.

12 A phan dderchafasant eu llygaid o bell, ac heb ei adnabod ef, hwy a dderchafasant eu llêf, ac a ŵylasant; rhwygasant hefyd bôb vn ei fantell, a thanasant lŵch ar eu pennau tua 'r nefoedd.

13 Felly hwy a eisteddasant gyd ag ef ar y ddaiar saith niwrnod, a saith noswaith; ac nid oedd neb a ddywedei air wrtho ef, canys gwe­lent fyned ei ddolur ef yn fawr iawn.

PEN. III.

1 Job yn melldithio dydd ei enedigaeth. 13 Es­mwythder marwolaeth. 20 Job yn flîn gan­tho ei einioes, o achos ei gystudd.

WEdi hyn Iob a agorodd ei enau, ac a fell­digodd ei ddydd.

2 A Iob a lefarodd, ac a ddywedodd,

3Pen. 10.18, 19. Jer. 20.14. Darfydded am y dydd i'm gadwyd yn­ddo, a'r nôs y dywedwyd, ennillwyd gŵr­ryw.

4 Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a Duw oddi vchod heb ei ystyried, ac na thywyn­ned llewyrch arno.

5 Tywyllwch, a chyscod marwolaeth a'i ha­logo, ac arhosed cwmmwl arno;Neu, dychry­nant ef fel rhai chwerw eu diwr­nod. dued y di­wrnod a'i dychryno.

6 Y nôs honno, tywyllwch a'i cymmero, naNa la­wenyched ym mysc dyddiau▪ &c. chydier hi â dyddiau y flwyddyn, ac na ddeu­ed i rifedi y misoedd.

7 Bydded y noswaith honno yn vnic, ac na fydded gorfoledd ynddi.

8 A'r rhai a felldigant y dydd, ac sy barod i gyffroiNeu, Levia­than. eu galar, a'i melldithio hi.

9 A bydded ser ei chyfddydd hi yn dywyll, disgwilied am oleuni, ac na fydded iddi; ac na chaffed weledHeb. amran­tau y wawr. y wawr ddydd:

10 Am na chaeodd ddryssau crôth fy mam, ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid.

11 Pa ham na bûm farw o'r brû? na threng­ais pan ddaethum allan o'r grôth?

12 Pa ham y derbyniodd gliniau fyfi? a pha ham y cefais fronnau i sugno?

13 O herwydd yn awr mi a gawswn or­wedd, a gorphywys, a huno, yna y buasei llo­nyddwch i mi,

14 Gyd â brenhinoedd, a chyngor-wŷr y ddaiar, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd:

15 Neu gyd â thywysogion ac aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian:

16 Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni.

17 Yno yr annuwolion a beidiant â'i cyffro: ac yno y gorphywys y rhaiHeb. lludde­dig o nerth. lluddedic.

18 Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghŷd, ni chlywant lais y gorthrymmudd.

19 Bychan a mawr sydd yno; a'r gwâs a ryddhawyd oddi wrth ei feistr.

20 Pa ham y rhoddir goleuni i'r hwn sydd mewn llafur? a bywyd i'r gofidus ei enaid?

21 Y rhai sy 'n disgwil am farwolaeth ac heb ei chael, ac yn cloddio am dani yn fwy nag am dryssorau cuddiedic:

22 Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant pan gaffont y bêdd.

23 Pa ham y rhoddir goleuni i'r dŷn y mae ei ffordd yn guddiedic,Pen. 19.8. ac y caeodd Duw arno.

24 O blegit o flaen fy mwyd y daw fy [Page] vchenaid; a'm rhuadau a dywelltir megis dy­froedd.

25 CanvsHeb. yr ofn a ofnais. yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a'r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi.

26 Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orphywysais: er hynny daeth cynn­wrf.

PEN. IV.

1 Eliphaz yn ceryddu Job am na bai gantho ffydd, 7 yn dangos nad ar y cyfiawn, ond ar yr anwir y daw barnedigaethau Duw. 12 Ei welediga­gaeth erchyll ef, i ddarostwng godidowgrwydd y creaduriaid ger bron Duw.

YNa Eliphaz y Temaniad a attebodd, ac a ddywedodd,

2 Pe profem ni air wrthit, a fyddei blin gennit ti? ond pwy a all attal ei yma­droddion?

3 Wele ti a ddyscaist lawer, ac a grŷfheaist ddwylo wedi llaesu.

4 Dy ymadroddion a godasant i fynu yr hwn oedd yn syrthio; a thi a nerthaist y gliniau oedd yn cammu.

5 Ond yn awr, daeth arnat titheu, ac y mae 'n flin gennit; cyffyrddodd â thi, a chy­ffroaist.

6 Onid dymma dy ofn di, dy hyder, per­ffeithrwydd dy ffyrdd, a'th obaith?

7 Cofia attolwg, pwy, ac efe 'n ddiniwed, a gollwyd? a pha lê y torrwyd y rhai vniawn ymmaith?

8Dihar. 22.8. Hosea 10.13. Hyd y gwelais i, y rhai a arddant anwiredd, ac a hauant ddrygioni, a'i me­dant.

9 Gan anadl Duw y difethir hwynt, a chanEsa. 30.33. chwythad ei ffroenau ef y darfy­ddant.

10 Rhuad y llew, a llais y llew creu­lon, a dannedd cenawon y llewod, a dor­rwyd.

11 Yr hên lew a fethodd o eisieu scly­faeth; a chenawon y llew mawr a wascar­wyd.

12 Ac attafi y dygwyd gair ynHeb. lledra­daidd. ddirgel: a'm clûst a dderbyniodd ychydig o honaw.

12 Ym mhlith meddyliau yn dyfod o wele­digaethau y nôs, pan syrthio trym-gŵsc ar ddynion:

14 OfnHeb. a gyfarfu a mi. a ddaeth arnaf, a dychryn, ac a wnaethHeb. i liaws fy escyrn. i'm holl escyrn grynu.

15 Yna yspryd a aeth heibio o flaen fy wy­neb: ac a wnaeth i flew fy ngnhawd sefyll.

16 Efe a safodd, ac nid adwaenwn ei ag­wedd ef, drychiolaeth oedd o flaen fy llygaid:Neu, mi a gly­wais lef ddistaw. bu distawrwydd, ac mi a glywais lêf yn dy­wedyd,

17 A fydd dŷn marwol yn gyfiawnach nâ Duw? a fydd gŵr yn burach nâ'i wneu­thur-wr?

18Pen. 15.15. 2 Pet. 2.4. Wele, yn ei wasanaeth-wŷr ni roddes ymddiried,Neu, nac yn ei angelion, yn y rhai y dodes oieuni. ac yn erbyn ei angelion y goso­dodd ynfydrwydd:

19 Pa faint llai ar y rhai sydd yn trigo mewn2 Cor. 3.1. tai o glai, y rhai sy a'i sail mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt nâ gwyfyn?

20 O'r borau hyd hwyr y malurir hwynt, difethir hwynt yn dragywydd heb nib yn ysty­ried.

21 Onid aeth y rhagoriaeth oedd ynddynt ymmaith? hwy a fyddant feirw, ac nid mewn doethineb.

PEN. V.

1 Y niweid a ddaw o eisieu ystyried. 3 Aflwydd yw diwedd yr annuwiol. 6 Rhaid yw cofio Duw mewn adfyd. 17 Dedwydd ddiwedd ce­ryddon Duw.

GAlw yn awr, od oes nêb a ettyb i ti, ac at bwy o'r sainctNeu, yr wynebi. y troi di?

2 Canys digllondeb a lâdd yr ynfyd, aNeu, digllo­nedd. chenfigen a lâdd yr annoeth.

3 Mi a-welais yr ynfyd yn gwreiddio: ac a felldithiais ei drigfa ef yn ddisymmwth.

4 Ei feibion ef a bellheir oddiwrth iechy­dwriaeth: dryllir hwynt hefyd yn y porth, ac nid oes gwaredudd.

5 Yr hwn y bwytty y newynog ei gynhaiaf, wedi iddo ei gymmeryd o blith drain, a'rNeu, ysclyfae­thwr. sychedic a lwngc eu cyfoeth.

6 Er na ddawNeu, anwiredd. cystudd allan o'r prîdd, ac na flagura gofid allan o'r ddaiar:

7 Ond dŷn a aned iNeu, lafar. flinder, felHeb. y mae plant y farwydos yn ymgo­di i hedeg. yr eheda gwreichionen i fynu.

8 Etto myfi a ymgynghorwn â Duw: ac ar Dduw y rhoddwn fy achos.

9Pen 9.10. Psal. 72.18. Rhuf. 11.33. Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy; rhyfeddolHeb. nes bod heb ri­fedi. heb rifedi:

10 Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaiar; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb yHeb. lleoedd oddi all­an, neu, heolydd. meusydd.

11Psal. 113.7. 1 Sam. 2.7. Gan osod rhai isel mewn vchelder; fel y derchefir y galarus i iechydwriaeth.

12 EfeNeh. 4.15. Psal. 33.10. Esa. 8.10. sydd yn diddymmu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben.

131 Cor. 3.19. Efe sydd yn dal y doethion yn eu cy­frwysdra: a chyngor y cyndyn a ddiddymmir.

14Deut. 28.29. Lliw dydd yNeu, rhedant i dywyll­wch. cyfarfyddant â thy­wyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd, megis lliw nôs.

15 Yr hwn hefyd a achub y tiawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn.

16 FellyPsal. 107.41. y mae gobaith i'r tlawd, ac an­wiredd yn cau ei safn.

17Dihar. 3.12. Jac. 1.12. Heb. 12.5. Datc. 3.19. Wele gwyn ei fŷd y dŷn a geryddo Duw; am hynny na ddîystyra gerŷdd yr Holl­alluog.

18Deut. 32.39. 1 Sam. 2.6. Esay 30.26. Hose. 6.1. Canys efe a glwyfa, ac a rwym; efe a archolla, a'i ddwylaw ef a iachânt.

19Psal. 91.3. Mewn chwech o gyfyngdêrau, efe a'th wared ti; ie mewn saith ni chyffwrdd drwg â thi.

20 Mewn newyn efe a'th wared rhag marwolaeth: ac mewn rhyfel rhagHeb. llaw. nerth y cleddyf.

21Neu, Pan ffrewyllio ŷ tafod. Rhag ffrywyll tafod i'th guddir; ac ni ofni rhag dinistr pan ddelo.

22 Mewn dinistr a newyn y chwerddi, ac ni ofni rhag bwyst-filod y ddaiar.

23Psal. 107.41. Hose. 2.18. Canys â cherrig y maes y byddi mewn cyngrair; a bwyst-fil y maes hefyd fydd heddychol â thi.

24 A thi a gei ŵybodNeu, mai heddwch yw dy luest. y bydd heddwch yn dy luest: a thi a ymweli â'th drigfa, ac niNeu, chyfeill­orni. phechi.

25 A chei ŵybod hefyd maiNeu, maur. lluosog fydd dy hâd: a'th hiliogaeth megis gwellt y ddaiar.

26 Ti a ddeui mewn henaint i'r bêdd: fel y cyfyd yscafn o ŷd yn ei hamser.

27 Wele hyn, ni a'i chwiliasom, felly y mae: gwrando hynny, a gwybydd er dy fwyn dy hun.

PEN. VI.

1 Job yn dangos nad heb achos y mae yn cwyno, 8 yn deisyf cael marw, ac felly yn siccr ganddo y caiff gyssur, 14 Yn argyoeddi ei gyfeillion o angharedigrwydd.

A Job a attebodd, ac a ddywedodd,

2 O gan bwysso na phwysid fy ngofid, ac na chŷd-godid fy nhrychineb mewn clorian­nau.

3 Canys yn awr trymmach fyddei nâ thywod y môr: am hynny y pallodd geiriau gennif.

4Psal. 38.2. O herwydd y mae saethau 'r Hollalluog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy yspryd: dychrynfau Duw a ymfyddinasant i'm herbyn.

5 A rûa assyn wyllt vwch ben glas-wellt? a frêf ŷch vwch ben ei borthiant?

6 A fwyteir peth diflas heb hâlen? a oes flâs ar wyn ŵy?

7 Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd, sydd megis bwyd gofidus i mi.

8 O na ddeuei fy nymuniad! ac na roddei Duw 'r hyn yr ydwyf yn ei ddisgwil!

9 [...]ef rhyngu bôdd i Dduw fy nryllio, a goll­wng ei law yn rhŷdd, a'm torri ymmaith.

10 Yna cyssur a fyddei etto i mi, ie mi a ymgaledwn mewn gofid; nac arbeded, canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd.

11 Pa nerth sydd i mi i obeithio? a pha ddi­wedd fydd i mi, fel yr estynnwn fy hoedl?

12 Ai cryfdwr cerrig yw fy nghryfdwr? a ydyw sy ngnhawd o brôs?

13 Onid ydyw fy nghymmorth ynofi? a fw­riwyd doethineb yn llwyr oddi wrthif?

14Heb. i'r hwn fydd yn toddi. I'r cystuddiol y byddei trugaredd oddi wrth ei gyfeill, ond efe a adawodd ofn yr Holl­alluog.

15 Fy mrodyr a'm twyllasant, megis afon: aethant heibio fel llifeiriant afonydd:

16 Y rhai a ddûasant gan rew; ac yr ym­guddiodd eira ynddynt:

17 Yr amser y cynhesant, hwy a dorrir ym­maith:Heb. yn eu ow­res y di­ffoddant. pan wresc go yr hîn hwy a ddarfy­ddant allan o'i llê:

18 Llwybrau eu ffordd hwy a giliant: hwy a ânt yn ddiddim, ac a gollir.

19 Byddinoedd Tema a edrychasant: min­teioedd Seba a ddisgwiliasant am danynt.

20 Hwy a gywilyddiwyd am iddynt obei­thio; hwy a ddaethant hyd yno, ac a wladei­ddiasant.

21 Canys yn awrNeu, tebyg ydych iddynt. Heb. iddo. nid ydych chwi ddim; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr, ac a ofna­soch.

22 A ddywedais i, dygwch i mi? neu o'ch golud rhoddwch roddion trosofi?

23 Neu, gwaredwch fi o law y gelyn; neu, rhyddhewch fi o law y cedyrn?

24 Dyscwch fi, ac myfi a dawaf: a gwne­wch i mi ddeall ym mha beth y cam-gymme­rais.

25 Mor gryfion ydyw geiriau vniondeb? ond pa beth a argyoedda argyoeddiad vn o honoch chwi?

26 Ai argyoeddi ymadroddion a amcenwch chwi, a geiriau vn diobaith, y rhai sy megis gwynt?

27 Chwi aHeb. berwch syrthio ar. ruthrwch hefyd am ben yr ym­ddifad, ac a gloddiwch bwll i'ch cyfaill.

28 Yn awr gan hynny, byddwch fodlon, edrychwch arnafi, canys y mae ynHeb. gerbron eich wy­neb chwi. eglur i chwi os dywedaf gelwydd.

29 Dychwelwch attolwg, na fydded anwi­redd; îe trowch etto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn.

30 A oes anwiredd yn fy nhafod? oni dde­all taflod fy ngenau gam flâs.

PEN. VII.

1 Job yn ei escusodi ei hun am ddeisyfu angeu, 12 yn cwyno anesmwythed yw arno, 17 ac mor wiliadwrus ydyw Duw.

ONid oesNeu, milwri­aeth. amser terfynedic i ddŷn ar y ddaiar? onid yw ei ddyddiau ef megis dy­ddiau gwâs cyflog?

2 Megis y dyheua gwâs am gyscod, ac y dis­gwil cyflog-ddŷn wobr ei waith:

3 Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu mi­soedd o oferedd, a nosweithiau blinion a oso­dwyd i mi.

4 Pan orweddwyf, y dywedaf, pa brŷd y codaf, acHeb. y mesurir yr hwyr. yr ymedy y nôs? canys cafddigon o ymdroi hyd y cysddydd.

5 Fy ngnhawd a wiscodd bryfed, a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac aeth yn ffiaidd.

6Pen. 16.22. Psal. 90.6. & 102.11. & 103.15. & 144.4. Esa. 40.6. Iac. 4.14. Fy nyddiau sydd gynt nâ gwennol gwe­hydd, ac a ddarfuant heb obaith.

7 Cofia mai gwynt yw fy hoedl: niHeb. ddychwel fy llygad i weled daioni. wêl fy llygad ddaioni mwyach.

8 Y llygad a'm gwelodd, ni'm gwêl mwy­ach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf.

9 Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymmaith: felly 'r hwn sydd yn descyn i'r bêdd, ni ddaw i fynu mwyach.

10 Ni ddychwel mwy iw dŷ: a'i lê nid ed­wyn ef mwy.

11 Gan hynny ni orafunaf i'm genau, mi a lefaraf ynghyfyngdra fy yspryd; myfi a gŵy­naf yn chwerwder fy enaid.

12 Ai môr ydwyf, neu for-fil, gan dy fôd yn gosod cadwriaeth arnaf?

13 Pan ddywedwyf, fy ngwely a'm cysiura; fy ngorweddfa a esmwythâ fy nghwynfan:

14 Yna i'm brawychi â breuddwydion: ac a'm dychryni â gweledigaethau.

15 Am hynny y dewisei fy enaid ymdagu: a marwolaeth yn fwy nâ'mHeb. hescyrn. hoedl.

16 Ffieiddiais enioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy ny­ddiau.

17Psal. 8.4. & 144.3. Heb. 2.6. Pa beth ydyw dŷn pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno?

18 Ac ymweled ag ef bôb borau, a'i brofi ar bôb moment?

19 Pa hŷd y byddi heb gilio oddi wrthif? ac na adewi fi yn llonydd tra llyngcwyf fy mho­eryn?

20 Myfi a bechais, beth a wnâf i ti, ô geid­wad dŷn? pa ham y gosodaist fi yn nôd i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun?

21 A pha ham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llŵch y gorweddaf, a thi a'm ceisi yn forau, ond ni byddaf.

PEN. VIII.

1 Bildad yn dangos gyfiawned ydyw Duw, gan ei fôd yn gwneuthur â phawb yn ôl ei weithred, [Page] 8 yn dangos o'r bên oesoedd gynt, mor siccr yw dinistr y rhag-rithiwr, 20 yn bwrw at Job gy­fiawned y gwna Duw â phawb.

YNa Bildad y Suhiad a attebodd, ac a ddy­wedodd,

2 Pa hŷd y dywedi di hynny? ac y bydd gei­riau dy enau megis gwynt crŷf?

3Deut. 32.4. 2 Cron. 19.7. Dan. 9.14 A ŵyra Duw farn? neu a ŵyra 'r Holl-alluog gyfiawnder?

4 Os dy feibion a bechâsant yn ei erbyn ef: a bwrw o hono ef hwynt ymmaithHebr. trwy law eu cam­wedd. am eu cam­wedd:

5Pen. 22.23. Os tydi a foreu-godi at Dduw, ac a we­ddii ar yr Holl-alluog,

6 Os pur, ac vniawn fyddi, yn wîr efe a dde­ffry attat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gy­fiawnder yn llwyddiannus:

7 Er bôd dy ddechreuad yn fychan; etto dy ddiwedd a gynnydda yn ddirfawr.

8Deut. 4.32. O blegit gofyn attolwg i'r oes gynt, ac ymbaratôa i chwilio eu henafiaid hwynt.

9Gwel Pen. 7.6. Gen. 47.9. 1 Cron. 29.15. Psal. 144.4. & 39.5. (Canys er doe 'r ydym ni, ac ni wydd­om ddim, o herwydd cyscod yw eu dyddiau ni ar y ddaiar)

10 Oni ddyscant hwy di, ac oni ddywedant i ti, ac oni ddygant ymadroddion allan o'i calon?

11 A gyfyd brŵynen heb wlyhanieth? a dŷf hâsc heb ddwfr?

12Psal. 129.6. Jer. 17.6. Tra fyddo hi etto yn wyrddlâs, heb ei thorri, hi a wywa o flaen pôb glâs-welltyn.

13 Felly y mae llwybrau pawb a'r sydd yn gollwng Duw dros gôf, ac yPen. 11.20. & 18.14. Psal. 112.10. Dihar. 10.28. derfydd am obaith y rhagrithiwr.

14 Yr hwn y torrir ymmaith ei obaith; ac fel tŷ pryf coppyn y bydd ei hyder ef.

15 Efe a bwyssa ar ei dŷ, ond ni saif: efe a ymeifl ynddo, ond ni phery.

16 Y mae efe yn îr o flaen yr haul: ac yn ei ardd y daw ei frig allan.

17 Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr: ac efe a wêl le cerrig.

18 Os diwreiddia efe ef allan o'i lê: efe a'i gwâd ef gan ddywedyd, ni'th welais.

19 Wele, dymma lawenydd ei ffordd ef: ac o'r ddaiar y blagura eraill.

20 Wele, ni wrthyd Duw y perffaith; ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus,

21 Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin; a'th wefusau âHeb. bloedd gorfoledd. gorfoledd.

22 A gwiscir dy gaseion di â chywilydd, ac ni bydd lluestŷ 'r annuwiol.

PEN. IX.

1 Job yn cydnabod gyfiawned yn Duw, ac yn dangos nad gwiw ymryson ag ef. 22 Nad wrth ei gystudd y mae barnu gwirionder dyn.

YNa Job a attebodd, ac a ddywedodd,

2 Yn wîr mi a wn mai felly y mae: Psal. 143.2. ca­nys pa fodd y cyfiawnheir dŷn, gyd â Duw?

3 Os myn efe ymryson ag ef; ni all atteb iddo am vn peth o fîl.

4 Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth: pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd?

5 Yr hwn sydd yn symmud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint:

6 Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaiar allan o'i lle; fel y cryno ei cholofnau hi:

7 Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y ser.

8Gen. 1.6. Yr hwn yn vnig sydd yn tanu y nefoedd, ac yn sathru ârHeb. vchelde­rau. donnau y môr.

9Amos 5 8. Pen. 38.31, &c. Yr hwn sydd yn gwneuthurHeb. As, Cesil, a Chimah. Arcturus, Orion, a Phleiades, ac stafellodd y dehau.

10Gwel. Pen. 5.9. Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy; a rhyfeddodau aneirif.

11 Wele, efe â heibio i mi, ac nis gwelaf ef; ac efe a â rhagddo, ac ni chanfyddaf ef.

12Esa. 45.9. Jer. 18.6. Rhuf. 9.20. Wele, efe a sclyfaetha, pwy a'iHeb. a'i try yn ol. llu­ddia? pwy a ddywed wrtho, pa beth yr wyt yn ei wneuthur?

13 Oni thrŷ Duw ei ddigllonedd ymmaith; tano ef y crymma cynhorthwy-wŷrNeu, nerth. balch­der.

14 Pa feint llai 'r attebaf iddo ef; ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymmu ag ef?

15 I'r hwn, pe bawn cyfiawn, nid attebwn, eithr ymbiliwn â'm barn-ŵr.

16 Pe galwaswn, a phed attebasei efe i mi, ni chredwn y gwrandawei efe fy lleferydd.

17 Canys efe a'm dryllia â chor-wynt; ac a amlhâ fy archollion yn ddi-achos.

18 Ni ddioddef efe i mi gymmeryd fy anadl: ond efe a'm lleinw â chwerwder.

19 Os soniaf am gadernid, wele ef yn ga­dam: ac os am farn, pwy a ddadleu trosofi?

20 Os myfi a ymgyfiawnhâf, fy ngenau a'm barn yn euog: os perffaith y dywedaffy mod, efe a'm barn yn gildyn.

21 Pe byddwn berffaith, etto nid adwaenwn fy enaid: ffiaidd fyddei gennif fy enioes.

22 Dymma vn peth, am hynny mi a'i dy­wedais: y mae efe yn difetha y perffaith a'r an­nuwiol.

23 Os llâdd y ffrywyll yn ddisymmwth; efe a chwardd am ben profedigaeth y diniweid.

24 Y ddaiar a roddwyd yn llaw 'r annuwiol, efe a fwrw hûg dros wynebau ei barn-wŷr hi: onid ê, pa le y mae, a phwy yw efe?

25 A'm dyddiau i sydd gynt nâ rhedegwr: ffoant ymaith, heb wêled daioni.

26 Aethant heibio megis llongauHeb. dymun [...] ­ad, ne [...] Ebe [...]. buain; megis yr eheda eryr at ymborth.

27 Os dywedaf, gollyngaf fy nghŵyn dros gof; mi a adawaf fy nhrymder, ac a ymgyssu­raf:

28 Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau: gwn na 'm berni yn wirion.

29 Os euog fyddaf: pa ham yr ymflinaf yn ofer?

30 Os ymolchaf mewn dwfr eira, ac os glanhâf fy nwylaw yn lân;

31 Etto ti a'm trochi yn y pwll: a'm dillad a'm ffieiddiant.

32 Canys nid gŵr fel myfi yw efe, fel yr attebwn iddo, ac y delem ynghyd i farn.

33 Nid oes rhyngom niHeb. argy­oeddwr, n [...]u, re­symwr. ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau.

34 Tynned ymmaith ei wialen oddi arnaf; ac na ddychryned ei ofn ef myfi;

35 Yna y dywedwn, ac nid ofnwn ef: ond nid fellyHeb. yr wyf. y mae gyd â myfi.

PEN. X.

1 Job yn cymmeryd rhyddid i achwyn, ac yn ym-ymliw â Duw o achos ei gystudd, 18 yn cw­yno ei fod yn fyw, ac yn erfyn cael ychydig es­mwythdra cyn ei farw.

Y Mae fy enaidNeu, wedi ei dorri ym­a [...]th tra fwyf by [...]. yn blino ar fy eini­oes: arnaf fy hun y gadawaf fynghŵyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf.

2 Dywedaf wrth Dduw, na farn fi yn [Page] euog, gwna i mi ŵybod pa ham yr ymrysoni â mi.

3 Ai da i ti orthrymmu, fel y diystyritHeb. cafur. waith dy ddwylaw, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol?

4 Ai llygaid o gnawd sy i ti? ai fel y gwêl dŷn y gweli di?

5 A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dŷn? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr,

6 Pan geisi fy anwiredd, a phan ymofynni am fy mhechod?

7Heb. Mae ar [...]y wybo­ [...]aeth di. Ti a ŵyddost nad ydwyf annuwiol; ac nid oes a waredo o'th law di.

8 Dy ddwylaw di a'm gweithiasant, ac a'm cyd-luniasant o amgylch; etto fy nifetha yr wyt.

9 Cofia attolwg mai fel clai y gwnaethost fi, ac a ddygi di fi i'r pridd drachefn?

10Psal. 139.14, 15, 16.10 Oni thywelltaist fi fel llaeth, ac oni cheulaist fi fel caws?

11 Ti a'm gwiscaist i â chroen, ac â chnawd; ti a'mHeb. caeaist. diffynnaist i ag escyrn ac â giau.

12 Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi, a'th ymgeledd a gadwodd fy yspryd.

13 A'r pethau hyn a guddiaist di yn dy ga­lon; gwn fôd hyn gyd â thi.

14 Os pechaf, ti a'm gwili, ac ni 'm glanhei oddi wrth fy anwiredd.

15 Os ydwyf annuwiol, gwae fi; ac os cyfi­awn ydwyf, er hynny ni chodaf fy mhen; yr yd­wyf yn llawn o warthrudd, am hynny gwêl fy nghystudd:

16 Canys cynnyddu y mae: fy hela yr yd­wyt fel llew creulon: er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi.

17 Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i'm herbyn, ac yn amlhau dy ddigofaint wrthif; cyfnewidiau a rhyfel sydd i'm herbyn.

18Pen. 3.11. Pa ham gan hynny y dygaist fi allan o'r groth? ô na buaswn farw, ac na 'm gwelsei lly­gad.

19 Mi a fuaswn megis pe na buaswn, a myfi a ddygasid o'r brû i'r bêdd.

20Gwel, Pen. 8.9. & 7.6. Ond ychydig yw fy nyddiau? paid gan hynny, gâd i'm lonydd fel yr ymgyssurwyf y­chydig,

21 Cyn myned o honof lle ni ddychwelwyf, i dir tywyllwch a chyscod angeu.

22 Tîr tywyllwch fel y fagddu, a chyscod angeu, a heb drefn; lle y mae y goleuni fel y tywyllwch.

PEN. XI.

1 Zophar yn ceryddu Job am ei gyfiawnhau ei hun, 5 ac yn dangos mor anchwiliadwy ydyw doethineb Duw. 13 Siccred yw bendith edi­feirwch.

A Zophar y Naamathiad a attebodd, ac a ddywedodd,

2 Oni attebir amlder geiriau? ac a gyfiawn­heir gŵrHeb. gwefusau. siaradus:

3 Ai dyNeu, ddychym­mygion. gelwyddau a wnâ i wŷr dewi? a phanwatwarech, oni bydd a'th wradwyddo?

4 Canys dywedaist, pûr ydyw fy nysceidiaeth, a glân ydwyf yn dy olwg di.

5 Ond, ô na lefarei Duw, ac nad agorei ei wefusau yn dy erbyn,

6 A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bôd yn ddau cymmeint a'r hyn sydd: cyd­nebydd gan hynny i Dduw ofyn gennit lai nac a haeddai dy anwiredd.

7 A elli di wrth chwilio, gael gafael ar Dduw? A elli di gael yr Holl-alluog hyd ber­ffeithrwydd?

8Heb. vchelde­rau y nef. Cyfuwch a'r nefoedd ydyw, beth a wnei di? Dyfnach nag vffern yw, beth a elli di ei wybod?

9 Mae ei fesur ef yn hwy nâ 'r ddaiar, ac yn llêd nâ 'r môr.

10 Os tyrr efe ymmaith, ac os carchara; os cascl ynghŷd, pwy a'iNeu, try heibic. rhwystra ef?

11 Canys efe a edwyn ofer ddynion, ac a wêl anwiredd; ond ystyria efe gan hynny?

12 Dŷn gwâg er hynny a gymmer arno fôd yn ddoeth; er geni dŷn fel llwdn assyn wyllt.

13 Os dydi a baratoi dŷ galon, ac a estynni dy ddwylaw atto ef;

14 Od oes ddrygioni yn dy law, bwrw ef ymmaith ym-mhell, ac na ddioddef i anwiredd drigo yn dy luestai:

15 Canys yna y codi dy wyneb yn ddi-fry­chau, ie byddi safadwy, ac nid ofni:

16 Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gôf: fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef.

17 Dy oedran hefydHeb. gyfyd vwch law. a fydd disclairiach nâ hanner dydd, llewyrchi, a byddi fel y boreu­ddydd.

18 Hyderus fyddi hefyd, o herwydd bôd gobaith: ie ti a gloddi, ac a orweddi mewn diogelwch.

19Levit. 26.5. Ti a orweddi hefyd, ac ni bydd a'th ddychryno, a llawer a ymbiliant â'th wyneb.

20 Ond llygaid yr annuwolion a ddeffygi­ant, metha ganddynt ffoi, a'iPen. 8.14. & 18.14. gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid.

PEN. XII.

1 Job yn ei ymddiffyn ei hun, yn erbyn ei gyfeillion oedd yn ei geryddu, 7 yn cydnabod fôd Duw yn Hôll-alluog.

A Job a attebodd, ac a ddywedodd;

2 Diau mai chwychwi sy bobl; a chyd â chwi y bydd marw doethineb.

3 Eithr y mae gennifiHeb. galon. ddeall fel chwithau, nid ydwyfiHeb. cwympo yn is na, &c. waeth nâ chwithau;Heb. a chyda phwy nid yw y fath hyn? a phwy ni ŵyr y fâth bethau a hyn?

4 Yr ydwyf fel vn a watworid gan ei gym­mydog, yr hwn a eilw ar Dduw, ac efe a'i het­tyb: gwatworgerdd yw y cyfiawn perssaith.

5 Lamp ddiystyr ym meddwl y llwyddian­nus, yw 'r hwn sydd barod i iithro o'i draed.

6 Llwyddiannus yw lluestai yspeil-wŷr, ac y mae diogelwch i'r rhai sydd yn cyffroi Duw, y rhai y cyfoethoga Duw eu dwylo.

7 Ond gofyn yn awr i'r anifeiliaid, a hwy a'th ddyscant, ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti.

8 Neu ddywed wrth y ddaiar, a hi a'th ddŷsc: a physcod y môr a yspysant i ti.

9 Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll, mai llaw yr Arglwydd a wnaeth hyn?

10 Yr hwn y mae Neu, enaid. enioes pôb peth byw yn ei law; ac anadl pôbHeb. cnawd dyn. mâth ar ddŷn.

11Pen. 34.3. Onid y glûst a farna ymadroddion?Heb. a thaflod y genau. a'r genau a archwaetha ei fwyd?

12 Doethineb sydd mewn henuriaid; a de­all mewn hîr ddyddiau.

13 Gyd ag ef y mae doethineb, a chadernid, cyngor a deall sydd ganddo.

14Es. 22.22. Wele, efe a ddestrywia, ac nid adaile­dir,Datc. 3.7. efe a gae ar ŵr, ac nid agorir arno.

15 Wele, efe a attal y dyfroedd, a hwy a sychant: efe a'i denfyn hwynt, a hwy a ddad­ymchwelant y ddaiar.

16 Gyd ag ef y mae nerth a doethineb: efe piau y twylledic, a'r twyllodrus.

17 Efe sydd yn gwneuthur i gynghoriaid fy­ned yn anthaith; ac efe a ynfyda farnwŷr.

18 Efe sydd yn dattod rhwym brenhinoedd, ac yn rhwymo gwregys am eu lwynau hwynt.

19 Efe sydd yn gwneuthur i dywysogion fy­ned yn anrhaith: ac a blyga y rhai cedyrn.

20Pen. 32.9. Efe sydd yn dwyn ymaithHeb. Gwefus y ffydd­lon. ymadrodd y ffyddlon; ac yn dwyn synwyr y rhai hên.

21 Efe sydd yn tywallt diystyrwch ar dywy­sogion: ac ynHeb. dattod gwregis y cryfion. gwanhau nerth y rhai cryfion.

22 Efe sy yn dadcuddio pethau dyfnion, allan o dywyllwch; ac yn dwyn cyscod angeu allan i oleuni.

23 Efe sydd yn amlhau y cenhedloedd, ac yn eu destrywio hwynt: efe sydd yn ehengi ar y cenhedloedd, ac efe a'i dwg hwynt i gyfyng­dra.

24 Efe sydd yn dwyn calon pennaethiaid pobl y ddaiar; ac efe a wna iddyrt grwydro mewn anialwch heb ffordd.

25 Hwy a balfalant yn y tywyllwch, heb oleuni: ac efe a wna iddynt hwy gyfeiliorni fel meddwyn.

PEN. XIII.

1 Job yn argyoeddi ei gyfeillion am eu bod yn dueddol, 14 yn dangos ei ymddiried yn Nuw, 20 ac yn dymuno cael gwybod ei bechodau, ac amcan Duw wrth ei gystuddio ef.

WEle fy llygad a welodd hyn oll: fy nghlust a'i clywodd, ac a'i deallodd,

2 Mi a wn yn gystal a chwithau; nid yd­wyf waeth nâ chwithau.

3 Yn wîr myfi a lefaraf wrth yr Holl-allu­og, ac yr ydwyf yn chwennychu ymresymmu â Duw.

4 Ond rhai yn assio celwydd ydych chwi: meddygon diddim ydych chwi oll.

5 Oh gan dewi na thawech, a hynny a fyddei i chwi yn ddoethineb.

6 Glywch attolwg fy rheswm, a gwrandewch ar ddadl fy ngwefusau.

7 A ddywedwch chwi anwiredd tros Dduw? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef?

8 A dderbyniwch chwi ei wyneb ef? a ym­rysonwch chwi tros Dduw?

9 Ai da fydd hyn pan chwilio efe chwi? a dwyllwch chwi ef fel twyllo dŷn?

10 Gan geryddu efe a'ch cerydda chwi; os derbyniwch wyneb yn ddirgel.

11 Oni ddychryna ei ardderchawgrwydd ef chwi? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch?

12 Cyffelyb i ludw ydyw eich coffadwriaeth chwi; a'ch cyrph i gyrph o glai.

13 Tewch,Heb. eddi wr­thif. gedwch lonydd, fel y llefarwyf inneu; a deued arnaf yr hyn a ddelo.

14 Pa ham y cymmeraffy nghawd â'm dan­nedd? ac y gosodaf fy einioes yn fy llaw?

15 Pe lladdei efe fi, etto mi a obeithiaf ynddo ef: er hynny fy ffyrdd aHeb. brofaf, neu, ar­tyoeddaf. ddiffynnaf ger ei fron ef.

16 Hefyd efe fydd iechydwriaeth i mi: ca­nys ni ddaw rhagrithiwr yn ei ŵydd ef.

17 Gan wrando gwrandewch fy yma­drodd, ac a fynegwyf, â'ch clustiau.

18 Wele yn awr trefnais fy achos, gwn i'm cyfiawnheir.

19 Pwy ydyw 'r hwn a ymddadleu â mi? canys yn awr os tawaf, mi a drengaf.

20 Ond dau beth na wna i mi: yna nid ym­guddiaf rhagot.

21 Pellhâ dy law oddi arnaf: ac na ddychry­ned dy ddychryn fi.

22 Yna galw, ac myfi a attebaf: neu myfi a lefaraf, ac atteb di fi.

23 Pa faint o gamweddau, ac o bechodau sy ynof? par i mi wybod fynghamwedd a'm pechod.

24 Pa ham y cuddi dy wyneb, ac y cym­meri fi yn elyn i ti?

25 A ddrylli di ddeilen escwydedic? a ym­lidi di soflyn sych?

26 Canys yr wyt ti yn scrifennu pethau chwerwon yn fy erbyn;Psal. 25.7. ac yn gwneuthur i mi feddiannu camweddau fy ieuengctid.

27 Ac yr ydwyt ti yn gosod fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwilied ar fy holl lwybrau; ac yn nodiHeb. gwraidd. gwadnau fy nhraed.

28 Ac efe megis pydrni a heneiddia, fel dille­dyn yr hwn a yssa gwyfyn.

PEN. XIV.

1 Job yn ymbil â Duw am ei ffafor, o herwydd byrred oes dyn, a siccred marwolaeth. 7 Er nas gellir cael enioes, wedi ei cholli vnwaith, etto y mae efe yn disgwyl am gael ei newidio. 16 Trwy bechod y mae y creadur tan ly­gredigaeth.

DYn a aned o wraig sydd fyrr o ddyddiau, a llawn o helbui.

2Psal. 102.11. & 103.15. & 144.4. Pen. 8.9. Fel blodeuyn y daw allan, ac y torrir ef ymmaith; ac efe a gilia fel cyscod, ac ni saif.

3 A agori di dy lygaid ar y fath ymma? ac a ddygi di fi i farn gydâ thi?

4 PwyPsal. 51.5. a ddyry beth glân allan o bêth aflan? neb.

5Pen. 7.1. Gan fôd ei ddyddiau ef wedi eu rhag­derfynu, rhifedi ei fisoedd ef gyd â thi, a gosod o honot ei derfynau, fel nad êl trostynt.

6 Trô oddi wrtho, felPeidio. y gorphywyso, hyd oni orphenno, fel gwâs cyflog, ei ddiwrnod.

7 Canys y mae gobaith o bren, er ei dorri, y blagura efe etto, ac na phaid ei flagur ef â thyfu.

8 Er heneiddio ei wreiddyn ef yn y ddaiar, a marweiddio ei fon-cyff ef yn y pridd,

9 Efe a flagura oddi wrth arogl dyfroedd; ac a fwrw ganghennau fel planhigyn.

10 Ond gŵr a fydd marw, ac a dorrir ym­maith, a dŷn a drenga, a pha le y mae?

11 Fel y mae dyfroedd yn pallu o'r môr, a'r afon yn myned yn ddiyspydd, ac yn sychu:

12 Felly gŵr a orwedd ac ni chyfyd, hyd oni byddo heb nefoedd; ni ddihunant, ac ni ddeffroant o'i cwsc.

13 O na chuddit fi yn y bedd; na'm cedwit yn ddirgel, nes troi dy lid ymmaith; na osodit amser nodedig i mi, a'm cofio.

14 Os bydd gŵr marw, a fydd efe byw dra­chefn? disgwiliaf holl ddyddiau fy milwriaeth, hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad.

15 Gelwi, ac myfi a'th attebaf; chwennychi­waith dy ddwylaw.

16 Canys yr awr hon yPsal. 139.2. rhifi fy nghamreu: onid wyt yn gwilied ar fy mhechod?

17 Fy nghamwedd a selied mewn côd; a thi a wniaist i fynu fy anwiredd.

18 Ac yn wir, y mynydd a syrthio a ddi­flanna; a'r graig a symmudir o'i lle.

19 Dyfroedd a dreuliant y cerrig; yr wyt ynHeb. llifei [...]o tro [...] [...] pe [...] golchi ymmaith y pethau sy 'n tyfu o bridd y ddaiar, ac yn gwneuthur i obaith dŷn golli.

20 Yr wyt yn ei orchfygu ef yn dragywydd, [Page] fel yr elo ymmaith: a chan newidio ei wyneb ef, yr wyt yn ei ddanfon ef i ffordd.

21 Ei feibion ef a ddaw i anrhydedd, ac nis gwybydd efe: a hwy a ostyngir, ac ni ŵyr efe oddi wrthynt.

22 Ond ei gnawd arno a ddoluria, a'i enaid ynddo a alara.

PEN. XV.

1 Eliphaz yn ceryddu Job am ei annuwioldeb yn ei gyfiawnhau ei hun, 17 Ac yn profi o bennau yr hên bobl, mor anesmwyth yw yr annuwiol.

YNa Eliphaz y Temaniad a attebodd, ac a ddywedodd,

2 A adrodd gŵr doeth wybodaeth o wynt? ac a leinw efe ei fol â'r dwyreinwynt?

3 A ymresymma efe â gair ni fuddia? neu ag ymadroddion, y rhai ni wna efe lessâd â hwynt.

4 Yn ddiau ti aHeb. ddiddym­maist. dorraist ymmaith ofn: yr ydwyt yn attalNeu, ymadrodd. gweddi ger bron Duw.

5 Canys dy enauHeb. sy yn dy­scis. a draetha dy anwiredd; ac yr wyt yn dewis tafod y cyfrwys.

6 Dy enau di sydd yn dy fwrw yn euog, ac nid myfi: a'th wefusau sydd yn tystiolaethu yn dy erbyn.

7 A aned tydi yn gyntaf dŷn? a lunied tydi o flaen y brynnau?

8Rhuf. 11.34. A glywaist ti gyfrinach Duw? ac a atteli di ddoethineb gyd â thi dy hun?

9 Beth a ŵyddost ti ar n'as gwyddom ni? beth a ddealli di, heb fod hynny hefyd gennym ninnau?

10 Y mae yn ein mysc ni y penllwyd, a'r oedrannus hefyd; hŷn o oedran nâ'th dâd ti.

11 Ai bychan gennit ti ddiddanwch Duw? a oes dim dirgel gyd â thi?

12 Pa beth sydd yn dwyn dy feddwl oddi arnat? ac ar ba beth yr amneidia dy lygaid,

13 Gan i ti droi dy feddwl yn erbyn Duw; a gollwng y fath eiriau allan o'th enau?

14Pen. 14.4. 1 Bren. 8.46. 2 Cron. 6.36. Ps. 8.4. Di­har. 20.9. 1 Io. 1.8. Pa beth yw dŷn i fod yn lân: a'r hwn a aned o wraig i fod yn gyfiawn?

Iob 4.18. Wele ni roddes efe ymddiried yn ei sainct; a'r nefoedd nid ydynt lân yn ei olwg ef.

16 Pa faint mwy ffiaidd, a drewedic y­dyw dŷn, yr hwn sydd yn yfed anwiredd fel dwfr.

17 Dangosaf i ti, gwrando arnaf; a'r hyn a welais a fynegaf.

18 Yr hyn a fynegodd gwŷr doethion oddi­wrth eu tadau; ac nis celasant:

19 I'r rhai yn vnic y rhoddwyd y ddaiar: ac ni ddaeth alltud yn eu plith hwy.

20 Holl ddyddiau 'r annuwiol y bydd efe yn ymofidio: a rhifedi y blynyddoedd a guddiwyd oddi wrth y traws.

21 TrwstHeb. dychryni­adau. ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y daw y dinistrudd arno.

22 Ni chrêd efe y dychwel allan o dywyllwch: ac y mae y cleddyf yn gwi­lied arno.

23 Y mae efe yn crwydro am fara, pa le y byddo: efe a wŷr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law.

24 Cystudd, a chyfyngdra a'i brawycha ef: hwy a'i gorchfygant fel brenin parod i ryfel.

25 Canys efe a estynnodd ei law yn erbyn Duw: ac yn erbyn yr Holl-alluog yr ymner­thodd.

26 Efe a rêd yn y gwddf iddo ef; trwy dew­dwr torrau ei dariannau;

27 Canys efe a dôdd ei wyneb â'i fras­der: ac a wnaeth dyrch o fioneg ar ei dyne­wynnau.

28 A thrigo y mae mewn dinasoedd wedi eu dinistrio, a thai anghyfannedd: y rhai sydd ba­rod i fod yn garneddau.

29 Ni chyfoethoga efe, ni phery ei olud ef ychwaith; ac nid estyn efe eu perffeithrwydd hwy ar y ddaiar.

30 Nid ymedy efe allan o dywyllwch, y fflam a wywa ei frig ef; ac efe a ymedy trwy anadl ei enau ef.

31 Yr hwn a dwylled nac ymddirieded mewn oferedd: canys oferedd fydd ei obr ef.

32 Efe a dorrir ymmaith cyn ei ddydd; a'i gangen ni lassa.

33 Efe a ddihidia ei rawn anaddfed fel gwinwydden; ac a fwrw ei flodeuyn fel oli­wydden.

34 Canys cynnulleidfa rhacrith-wŷr fydd vnic: a thân a yssa luestai gwobr-wŷr.

35 Y maent yn ymddwyn blinder, acEs. 59.4. Psal. 7.14. yn escor arNeu, gamwedd wagedd: a'i bol sydd yn darpar twyll.

PEN. XVI.

1 Job yn beio ar ei gyfeillion, eu hanrhugaroc­ced, 7 yn dangos mor dostur yw ei gyflwr, 17 ac yn ymddiffyn ei ddiniweidrwyd.

A Job a attebodd, ac a ddywedodd,

2 Clywais lawer o'r fath hyn:Pen. 13.4. cyssur­wŷrNeu, traffer­thus. gofidus ydych chwi oll.

3 Oni cheir diwedd ar eiriauHeb. gwynt. ofer? neu pa beth sydd yn dy gryfhau di i atteb?

4 Mi'a fedrwn ddywedyd fel chwithau, pe byddei eich enaid chwi yn lle fy enaid i, medrwn ben-tyrru geiriau i'ch erbyn, ac yscwyd fy mhen arnoch.

5 Ond mi a'ch cryfhawn chwi â'm genau; a symmudiad fy ngwefusau a esmwythaei eich gofid.

6 Os llefaraf i, nid esmwythâ fy nolur; ac os peidiaf,Heb. pa beth sydd yn myned oddi­wrthif? ai llai fy ngofid?

7 Ond yn awr efe a'm blinodd i: anrheithi­aist fy holl gynnulleidfa:

8 A chroen-grychaist fi, a hynny sydd dy­stiolaeth: a'm culni yn codi ynof, a dystiolaetha yn fy wyneb.

9 Yn ei ddigllondeb i'm rhwyga yr hwn a'm casâ, efe a escyrnyga ddannedd arnaf: fy ngwrthwynebwr a flaenllymmodd ei lygaid yn fy erbyn.

10 Hwy a ledasant eu safnau arnaf, tarawsant fy nghernau yn ddirmygus; ymgasclasant yng­hyd yn fy erbyn.

11 Duw a'mHeb. bargae­odd. rhoddes i'r anwir; ac a'm trôdd i ddwylo 'r annuwolion.

12 Yr oeddwn yn esmwyth, ond efe a'm drylliodd, ac a ymaflodd yn fy ngwddf, ac a'm drylliodd yn chwil-friw, ac a'm cododd yn nôd iddo ei hun.

13 Ei saethyddion ef sy yn fy amgylchu, y mae efe yn hollti fy arennau, ac nid ydyw yn arbed, y mae yn tywallt fy mustl ar y ddaiar.

14 Y mae yn fy rhwygo â rhwygiad ar rwy­giad: y mae efe yn rhedeg arnaf, fel cawr.

15 Gwnîais sachlen ar fy nghroen: a halo­gais fy nghorn yn y llwch.

16 Fy wyneb sy fudr gan ŵylo, a chyscod marwolaeth sydd ar fy amrantau;

17 Er nad oes gamwedd yn fy nwylaw: a bod fy ngweddi yn bûr.

18 O ddaiaren, na orchguddia fy ngwaed, ac na fydded lle i'm gwaedd.

19 Wele hefyd yn awr fy nhŷst yn y ne­foedd: a'm tystiolaeth yn yr vchelder.

20 Fy nghyfeillionHeb. yw fyng­wawd­wyr. sydd yn fy ngwawdio: fy llygad a ddiferodd ddagrau wrth Dduw.

21 O na chai vn ymddadleu â Duw dros ddŷn, fel mâb dŷn dros eiNeu, gyfaill. gymydog.

22 Canys pan ddêl Heb. blynydd­oedd rhif. ychydig flynyddoedd, yna mi a rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddych­welaf.

PEN. XVII.

1 Job yn appelio oddiwrth ddynion at Dduw. 6 Y gall anrhugaredd dynion wrth y cystuddiol, beri i'r duwiol synnu, ond nas gall beri iddynt ddigalonni. 11 Nad mewn bywyd, ond mewn marwolaeth, y mae ei obaith ef.

FYNeu, fy yspryd a dreuli­wyd. anadl a lygrwyd, fy nyddiau a ddifodd­wyd, beddau sy barod i mi.

2 Onid oes watwar-wŷr gyd â mi? ac onid yw fy llygad ynHeb. lletteu. aros yn ed chwerwedd hwynt?

3 Dyro i lawr yn awr, dyro i mi feichiau gydâ thi: pwy ydyw efe a dery ei law yn fy llaw i?

4 Canys cuddiaist eu calon hwynt oddi wrth ddeall: am hynny ni dderchefi di hwynt.

5 Yr hwn a ddywed weniaith iw gyfei­llion, llygaid ei feibion ef a ballant.

6 Yn ddiau efe a'm gosododd yn ddihareb i'r bobl, acNeu, o'i bla n hwynt. o'r blaen yr oeddwn megis tym­pan iddynt.

7 Am hynny y tywyllodd fy llygad gan ddigllonedd: ac y mae fyNeu, meddy­llau. aelodau oll fel cyscod.

8 Y rhai vniawn a fynnant am hyn; a'r diniwed a ymgyfyd yn erbyn y rhagrithiwr.

9 Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd; a'r glân ei ddwylaw a chwanega gryfdwr.

10 Ond chwi oll dychwelwch, a deuwch yn awr: am na chafi ŵr doeth yn eich plith chwi.

11 Fy nyddiau aeth heibio, fy amcanion a dynned ymmaith; sef Neu, meddian­nau. meddyliau fy ngha­lon.

12 Gwnânt y nôs yn ddydd,Heb. cyfagos. byrr yw 'r goleuni o herwydd tywyllwch.

13 Os disgwiliaf, y bôdd sydd dŷ i mi: mewn tywyllwch y cyweiriais fy ngwely.

14 Gelwais ar y pwll, ty di yw fy nhâd: ar y prŷf, fy mam a'm chwaer wyt.

15 A pha lê yn awr y mae fy ngobaith? pwy hefyd a genfydd fy ngobaith?

16 Descynnant i farrau y pwll, pan fyddo ein cŷd-orphywysfa yn y llŵch.

PEN. XVIII.

1 Bildad yn beio ar Job am ei ryfyg a'i annio­ddefgarwch. 5 Trueni yr annuwiol.

A Bildad y Suhiad a attebodd, ac a ddywe­dodd,

2 Pa brŷd y derfydd eich ymadrodd? ystyri­wch, wedi hynny ninneu a lefarwn.

3 Pa ham y cyfrifed nyni fel anifeiliaid? ac yr ydym yn wael yn eich golwg chwi?

4 O yr hwn sydd yn rhwygo ei enaid yn ei ddigllondeb, ai er dy fwyn di y gadewir y ddaiar? neu y symmudir y graigallan o'i llê?

5 Ie goleuni 'r annuwolion a ddiffoddir, a gwreichionen ei dân ef ni lewyrcha.

6Neu, ganwyll. Goleuni a dywylla yn ei luestŷ ef: a'i lusern a ddiffydd gyd ag ef.

7 Camrau ei gryfdwr ef a gyfyngir; a'i gyngor ei hun a'i bwrw ef i lawr.

8 Canys efe a deffir i'r rhwyd erbyn ei draed; ac ar faglau y rhodia efe.

9 M [...]gl a ymeifl yn ei sodl ef, a 'r gwilliad fydd trech nag ef.

10 Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaiar; a magl iddo ar y llwybr.

11 Braw a'i brawycha ef o amgylch; ac a'iHeb. gwas­cara. gyrr i gymmeryd ei drael.

12 Ei gryfdwr fydd newynllyd, a dinistr fydd parod wrth ei ystlys.

13 Efe a yssaHeb. farriau. gryfdwr ei groen ef; cyntaf­anedig angeu a fwyty ei gryfdwr ef.

14Pen. 8.14. & 11.20. Psal. 112.10. Dihar. 10.28. Ei hyder ef a dynnir allan o'i luestŷ: a hynny a'i harwain ef at frenin dychryniadau.

15 Efe a drîg yn ei luest ef, am nad eiddo ef ydyw: brwmstan a wascerir ar ei drigfa ef.

16 Ei wraidd a sychant oddi tanodd, a'i frîg a dorrir oddi arnodd.

17Dihar. 2.22. Ei goffadwriaeth a gollir o'r ddaiar, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol.

18Heb. Gyrrant ef allan, &. Efe a yrrir allan o olenni i dywyllwch: efe a ymlidir allan o'r bŷd.

19 Ni bydd iddo fab, nac ŵyr, ym mysc ei bobl; nac vn wedi ei adel yn ei drig-fannau ef.

20 Y rhai a ddel ar ei ôl a synna arnynt o herwydd ei ddydd ef: a'r rhai o'r blaen aHeb. ymafla­sant mewn braw. gawsant fraw.

21 Yn wîr, dymma drigleodd yr anwir; ac dymma lê y dŷn nid edwyn Dduw.

PEN. XIX.

1 Job yn cwyno greuloned yw ei gyfeillion, ac yn dangos fôd yntho ef ddigon o drueni i borthi eu creulondeb hwy. 21 28 Yn ymbil am dosturi, 23 ac yn credu yr ail-gyfodiad.

A Job a attebodd, ac a ddywedodd,

2 Pa hŷd y cystuddiwch fy enaid? ac i'm drylliwch â geiriau?

3 Deng-waith bellach i'm gwradwyddasoch, ac nid cywilydd gennych ymgaledu i'm herbyn.

4 Hefyd pe byddei wîr wneuthur o honofi yn amryfus; gyd â mi y trîg fy amryfusedd.

5 Yn wîr os ymfawrygwch yn fy erbyn, a dadleu fyngwradwydd im herbyn:

6 Gwybyddwch yn awr mai Duw a'm dymchwelodd i, ac a'm hamgylchodd â'i rwyd.

7 Wele, llefaf rhag trawster, ond ni'm atte­bir: gwaeddaf, ond nid oes farn.

8 Efe a gaeodd fy ffordd fel nad elwyf trosodd: y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau.

9 Efe a ddioscodd fy ngogoniant oddi am­danaf; ac a ddygodd ymmaith goron fy mhen.

10 Y mae efe yn fy nestrywio oddi amgylch, ac yr ydwyf yn myned ymmaith: ac efe a symmudodd fy ngobaith fel pren.

11 Gwnaeth hefyd iw ddigofaint gynneu yn fy erbyn; ac a'm cyfrifodd iddo fel vn o'i elynion.

12 Ei dorfoedd sy yn dyfod ynghŷd; ac yn palmantu eu ffyrdd yn fy erbyn, ac yn gwer­syllu o amgylch fy mhabell.

13 Efe a bellhâodd fy mrodyr oddi wrthif, a'r rhai oedd yn fy adnabod hefyd a ymddieith­rasant oddi wrthif.

14 Fy nghyfnesaf â ballasant, a'r rhai oedd o'm cydnabod a'm hanghofiasant.

15 Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ, a'm morwynion, sy 'n fy nghyfrif yn ddieithr: all­tud ydwyf yn eu golwg.

16 Gelwais ar fy ngwasanaeth-ŵr, ac nid attebodd; ymbiliais ag ef â'm genau.

17 Dieithr oedd fy anadl i'm gwraig; er ymbil o honof a hi er mwyn fy mhlant o'mHeb. bol. corph.

18Neu, yr enwir. Plant hefyd a'm diystyrent: cyfodais, a dywedasant i'm herbyn.

19Psal. 41. 9. & 55.13.14. Fy holl gyfrinach-wŷr sy 'n fy ffiei­ddio: a'r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn.

20 Fy escyrn a lynodd wrth fy nghroen,Neu, f [...]d wrth, &c. ac wrth fy ngnhawd; ac â chroen fy nan­nedd y diengais.

21 Trugarhewch wrthif, trugarhewch wrthif, fy nghyfeillion; canys llaw Dduw a gyffyrddodd â mi.

22 Pa ham yr ydych chwi yn fy erlid i fel Duw, heb gael digon ar fy ngnhawd?

23Heb. Pwy a ddyry s [...]rif [...]n­nu fyng. Oh nad scrifennid fy ngeiriau yn awr: ô na argrephid hwynt mewn llyfr!

24 Oh nad scrifennid hwynt yn y graig dros byth; â phin o haiarn, ac â phlwm!

25 Canys myfi a wn fôd fy mhryn-ŵr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaiar:

26 AcNeu, wedi i'm dd [...]ffro, er dinistrio y corph hwn, et­to o'm cnawd y gwelaf Dduw. er yn ôl fynghroen i bryfed ddi­fetha y corph hwn, etto caf weled Duw yn fy ngnhawd.

27 Yr hwn a gâf fi i'm fy hun ei weled; a'm llygaid a'i gwelant, ac nidHeb. dieithr. arall; er i'm arennau ddarfodHeb. yn fy monwes. ynof.

28 Eithr chwi a ddylech ddywedyd, pa ham yr erlidiwn ef?N [...]u, pa wrei­ddyn matter a gaed, &c. canys gwreiddyn y matter a gaed ynof.

29 Ofnwch am danoch rhag y cleddyf: ca­nys y mae digofaint yn dwyn cospedigaethau y cleddyf; fol y gwybyddoch fôd barn.

PEN. XX.

1 Zaphar yn dangos cyflwr a rhan yr annuw­iol.

YNa Zophar y Naamathiad a attebodd, ac a ddywedodd,

2 Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi atteb; ac am hyn y mae brŷsHeb. ynof. arnaf.

3 Yr ydwyf yn clywed cerydd gwradwy­ddus i mi: ac y mae yspryd fy neall yn peri i mi atteb.

4 Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osod­wyd dŷn ar y ddaiar,

5Psal. 37.35.36. MaiHeb. o agos. byrr yw gorfoledd yr annuwo­lion: a llawenydd y rhagrith wŷr dros funud awr?

6 Pe derchafei ei odidawgrwydd ef i'r nefoedd; a chyrhaeddyd o'i ben ef hyd yHeb. wybren. cymmylau,

7 E [...]e a gollir yn dragywydd, fel ei dom: y rhai a'i gwelsant a ddywedant, pa le y mae efe?

8 Efe a cheda ymmaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nôs.

9 Y llygad a'i gwelodd ni wêl ef mwy: a'i lê ni chenfydd mwy o'hono.

10N [...]u, y tl [...]i [...]n a orth­rym­ma ei blant. Ei feibion a gais fodloni y tlodion; a'i ddwylaw a roddai [...]t adref eu go [...]ud hwynt.

11 Ei escyrn sy 'n llawn o bechod ei ieuengc­tid, yr hwn a orwedd gyd ag ef yn y pridd.

12 Er bôd drygioni yn felus yn ei enau ef: ei iddo ei gau dan ei dafod;

13 Er iddo ei arbed, ac heb ei ado, eithr ei attal o fewn taflod ei enau:

14 Ei fwyd a drŷ yn ei ymyscaroedd: bustl aspiaid ydyw, o'i fewn ef.

15 Efe a lyngcodd gyfoeth, ac efe a'i chwy­da; Duw a'i tynn allan o'i fol ef:

16 Efe a sugn wenwyn aspiaid tafod gwi­ber a'i llâdd ef.

17 Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd ô fêl, ac ymenyn.

18 Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a la­furiodd amdano, ac nis llwngc:Heb. yn ol go­lud ei gyfnewid. yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd o ho­naw.

19 Am iddo ddryllio, a gadaw y tlodion: sclyfaethu tŷ nid adeiladodd:

20Preg. 5.13.14. Diau naHeb. wybydd. chaiff lonydd yn ei fol; na weddill o'r hyn a ddymunodd.

21 Ni bydd gweddillNeu, iw fwyd ef. o'i fwyd ef: am hyn­ny ni ddisgwil nêb am ei dda ef.

22 Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno: llaw pôb dŷn blîn a ddaw arno.

23 Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigofaint: ac a'i glawia hi arno ef ym mysc ei fwyd.

24 Efe a ffŷ oddi wrth arfau haiarn: a'r bŵa dûr a'i trywana ef.

25 Efe a dynnir, ac a ddaw allan o'r corph, a gloyw-lafn a ddaw allan o'i fustl ef; dychryn fydd arno.

26 Pôb tywyllwch a fydd cuddiedic yn ei ddirgeloedd ef, tân heb ei chwythu a'i hyssa ef: yr hyn a adawer yn ei luestŷ ef, a ddrygir.

27 Y nefoedd a ddatcuddiant ei anwiredd ef: a'r ddaiar a gyfyd yn ei erbyn ef.

28 Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lisa ymmaith yn nydd ei ddigofaint ef.

29 Dymma ran dŷn annuwiol gan Dduw;Heb. ac etife­ddiaeth ei ordin­had ef gan Dduw. a'r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan Dduw.

PEN. XXI.

1 Job yn dangos fod iddo achos i ofidio, ie ym marn dŷn. 7 Bod yr annuwiol weithiau yn gymmaint eu llwyddiant, ac y pair iddynt ddi­ystyru Duw: 16 A bôd eu dinistr hwy weithi­au yn eglur. 23 Nad oes ragor rhwng y llwy­ddianus a'r truenus yn angeu. 30 Ac mai mewn bŷd arall y mae barnedigaeth yr annuwiol.

A Job a attebodd, ac a ddywedodd;

2 Gan wrando gwrandewch fy ymad­rodd; a bydded hyn yn lle eich cyssur.

3 Dioddefwch fi, a minneu a lefaraf: ac wedi i mi ddywedyd, gwatworwch.

4 A minnau, ydwyfi yn gwneuthur fy nghŵyn wrth ddŷn? ac os ydwyf, pa hamHeb. na fyrheld fy yspryd? na byddai gyfyng ar fy yspryd?

5 Edrychwch arnaf, a synnwch; a gofo­dwch eich llaw ar eich genau.

6 Minneu pan gofiwyf a ofnaf; a dychryn a ymeifl yn fy ngnhawd.

7Psal. 17.10. & 73.12. Jer. 12.1. Habac. 1.16. Pa ham y mae yr annuwolion yn byw, yn heneiddio, ac yn cryfhau mewn cyfoeth?

8 Eu hâd hwy sydd safadwy o'i blaen gyd â hwynt, a'i hiliogaeth yn eu golwg.

9 Eu tai sy mewn heddwch allan o ofn, ac nid ydyw gwialen Duw arnynt hwy.

10 Y mae ei tarw hwynt yn cyfloi, ac ni chyll ei hâd; ei fuwch ef a fwrw lô, ac nid erthyla.

11 Danfonant allan eu rhai bychain fel dia­dell, a'i bechgyn a neidiant.

12 Cymmerant dympan a thelyn, a llawen­ychant wrth lais yr organ.

13 Treuliant eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y descynnant i'r bedd.

14Pen. 22.17. Dywedant hefyd wrth Dduw cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd.

15 Pa beth ydyw 'r Holl-alluog fel y gwasa­naethem ef? a pha fudd fydd i ni os gweddiwn arno?

16 Wele, nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun: pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthif fi.

17 Pa sawl gwaith y diffyddNeu, lamp. canwyll yr annuwolion? ac y daw eu dinistr arnynt hwy? Duw a ran ofidiau yn ei ddig.

18 Y maent hwy fel sofl o flaen gwynt: ac fel mân-us yr hwn aHeb. ledratta. gippia y corwynt.

19 Duw a guddia ei anwiredd ef iw feibion: efe a dâl iddo, ac efe a'i gwybydd.

20 Ei lygaid a welant ei ddinistr ef; ac efe a ŷf o ddigofaint yr Holl-alluog.

21 Canys pa wynfyd sydd ganddo ef yn ei dŷ ar ei ôl, pan hannerer rhifedi ei fisoedd ef?

22 A ddysc neb ŵybodaeth i Dduw? gan ei fod yn barnu y rhai vchel.

23 Y naill sydd yn marw ynNeu, wrth ei berffei­thrwydd. ei gyflawn nerth, ac efe yn esmwyth, ac yn heddychol yn gwbl.

24 EiNeu, gelyrnau. fronnau ef sy yn llawn llaeth; a'i escyrn yn iraidd gan fêr.

25 A'r llall sydd yn marw mewn chwerw­der enaid; ac ni fwytaodd mewn hyfrydwch.

26 Hwy a orweddant ynghŷd yn y pridd, a'r pryfed a'i gorchguddia hwynt.

27 Wele mi a adwen eich meddyliau; a'r bwriadau 'r ydych chwi yn eu dychymmygu ar gam yn fy erbyn.

28 Canys dywedwch, pa lê y mae tŷ y pen­defig? a phâ lê y mae lluesty anneddau 'r an­nuwolion?

29 Oni ofynnasoch chwi i'r rhai oedd yn myned heibio rhyd y ffordd? ac onid adwae­noch chwi eu harwyddion hwy?

30Dihar. 16.4. Mai hyd ddydd dinistr yr arbedir y drygionus: yn nyddHeb. cyndda­reddau. cynddaredd y dygir hwynt allan.

31 Pwy a fynega ei ffordd ef yn ei wyneb ef? a phwy a dâl iddo ef fel y gwnaeth?

32 Etto efe a ddyglr i'rH b. beddau. bedd, ac aHeb. wilia. erys yn y pentwrr.

33 Y mae priddellau y dyffryn yn felus iddo, a phob dŷn a dynn ar ei ôl ef: megis yr aeth aneirif o'i flaen ef.

34 Pa fodd gan hynny y cyssurwch fi ag oferedd; gan fod camwedd yn eich attebion chwi?

PEN. XXII.

1 Eliphaz yn ddangos nad yw daioni dyn yn gw­neuthur dim lles i Dduw, 5 Yn cyhuddo Job o amryw bechodau, 21 yn ei gynghori ef i edifar­hau, trwy addewidion o drugaredd.

YNa Eliphaz y Temaniad a attebodd, ac a ddywedodd,

2 A wna gŵr lessâd i Dduw? fel y gwna y synhwyrol lessâd iddo ei hun.

3 Ai digrifwch ydyw i'r Holl-alluog dy fôd d yn gyfiawn? neu ai clw dy fôd yn perffeithio dy ffyrdd?

4 Ai rhag dy ofn y cerydda efe dydi? neu yr â efe gyd â thi i farn?

5 Onid ydyw dy ddrygioni di yn aml? a'th anwireddau heb derfyn.

6 Canys cymmeraist ŵysil gan dy frawd yn ddiachos; a dioscaist ddillad y rhai noe­thion.

7 Ni roddaist ddwfr iw yfed i'r lludde­dic; a thi a atteliaist fara oddi wrth y ne­wynoc.

8 Ond y gŵrHeb. braich. cadarn, efe bioedd y ddaiar, a'rHeb. vchel, neu, gym­merad­wy ei wyneb. anrhydedus a drigei ynddi.

9 Danfonaist ymmaith wragedd gweddwon yn wag-law; a breichiau y rhai ymddifaid a dorrwyd.

10 Am hynny y mae maglau o'th am­gylch: ac ofn disymmwth yn dy ddychry­nu di;

11 Neu dywyllwch rhag gweled o honot: a llawer o ddyfroedd a'th orchguddiant.

12 Onid ydyw Duw yn vchelder y nefoedd? gwêl hefydHeb. ben. vchder y sôr, mor vchel ydynt.

13 A thi a ddywedi, paNeu, beth a wyr Duw. fôdd y gŵyr Duw? a farn efe drwy y cwmmwl tywyll?

14 Y tew gymmylau sydd loches iddo, ac ni wêl; ac y mae efe yn rhodio ar gylch y nefoedd.

15 A ystyriaist ti yr hên ffordd a sathrodd y gwŷr enwir?

16 Y rhai a dorrwyd pan nid oedd amser: afon a dywalltwyd ar eu fylfaen hwy?

17Pen. 21.14. Hwy a ddywedasant wrth Dduw, cilia oddi wrthym, a pha beth a wna yr Hollalluog iddynt hwy?

18Pen. 21.16. Etto efe a lanwasei eu tai hwy o ddai­oni: ond pell yw cyngor yr annuwolion oddi wrthifi.

19Psal. 107.41. Y rhai cyfiawn a welant, ac a laweny­chant, a'r diniwed a'i gwatwar hwynt:

20 Gan na thorred ymmaith ein sylwedd ni. Eithr y tân a yssodd euNeu, godidow­grwydd. gweddill hwy.

21 Ymarfer attolwg ag ef, a bydd heddych­lon: o hyn y daw i ti ddaioni.

22 Cymmer y gyfraith attolwg o'i enau ef; a gosod ei eiriau ef yn dy galon.

23Pen. 8.5. Os dychweli at yr Holl-alluog, ti a adeiledir; symmudi anwiredd ym mhell oddi wrth dy luestai.

24 Rhoddi aur i gadwNeu, ar y pridd. fel pridd: ac aur Ophir fel cerrig yr afonydd.

25 A'r Holl-alluog fydd ynNeu, aur amddeffyn i ti; a thi a geiHeb. arian cryfder. amldra o arian.

26 Canys yna 'r ymhoffi yn yr Holl-alluog: ac a dderchefi dy wyneb at Dduw.

27 Ti a weddii arno ef, ac efe a'th wrendy; a thi a dêli dy addunedau.

28 Pan ragluniech di beth, efe a siccrheir i ti; a'r goleuni a lewyrcha ar dy ffyrdd.

29 Pan ostynger hwynt, yna y dywedi di, y mae goruchafiaeth: ac efe a achub y gostynge­dic ei olwg.

30Neu, y diniwed a wared a 'r ynys. Efe wareda ynys y diniwed: a thrwy lendid dy ddwylaw y gwaredir hi.

PEN. XXIII.

1 Job yn hiraethu am fyned ger bron Duw, 6 O hyder ar ei drugaredd ef. 8 Ymae Duw, er ei fôd yn anweledig, yn dal ar ein ffyrdd ni. 11 Gwiriondeb Job. 13 Bôd barn Duw yn anghyfnewidiol.

A Job a attebodd, ac a ddywedodd,

2 Y mae fy ymadrodd heddyw yn chwe­rw; fyHeb. llaw. nialedd sydd drymmach nâ'm vche­naid.

3 Oh na wyddwn pa le y cawn ef! fel y deuwn at ei eisteddfa ef!

4 Trefnwn fy matter ger eî fron ef: a llanwn fy ngenau â rhesymmau.

5 Mynnwn ŵybod â pha eiriau i'm hat­tebei: a deall pa beth a ddywedei efe wrthif.

6 A ddadleu efe i'm herbyn â helaethrwydd ei gadernid? na wna: ond efe a osodei nerth ynof.

7 Yno 'r vniawn a ymresymmei ag ef: felly mi a ddiangwn byth gan fy marn­ŵr.

8 Wele ym mlaen yr âf, ond nid ydyw efe yno: yn ôl hefyd, ond ni fedraf ei gan­fod ef:

9 Ar y llaw asswy, lle y mae efe yn gwei­thio, ond ni sedraf ei weled ef: ar y llaw dde­hau y mae yn ymguddio, fel na châf ei we­led.

10 Ond efe a edwynHeb. y ffordd sydd gen­nif. fy ffordd i, wedi iddo fy mhrofi, myfi a ddeuaf allan fel aur.

11 Fy nhroed a ddilynodd ei gerddediad ef: cedwais ei ffordd ef, ac ni ŵyrais.

12 Nid ydwyf ychwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef:Heb. cuddiais. hoffais eiriau ei enau ef yn fwy nâ'mNeu, rhan oso­dedic. ymborth angenrhei­diol.

13 Ond y mae efe yn vn, a phwy a'i trŷ ef? a'r hyn y maePsal. 115.3. ei enaid ef yn ei chwennychu, efe a'i gwna.

14 Canys efe a gyflawna 'r hyn a osodwyd i mi: ac y mae ganddo lawer o'r fath bethau.

15 Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef; ystyriais, ac ofnais ef.

16 Canys Duw a feddalhâodd fy nghalon: a'r Holl-alluog a'm cythrybliodd.

17 O herwydd na thorrwyd fi ymmaith o flaen y tywyllwch: ac na chuddiodd efe y ty­wyllwch o'm gŵydd.

PEN. XXIV.

1 Bôd anwiredd yn fynych yn diangc rhag ei go­spi, 17 A bod barn ddirgel i'r annuwiol.

PA ham gan na chuddiwyd yr amseroedd rhag yr Holl-alluog, na welei y rhai sydd yn ei adnabod ef, ei ddyddiau ef?

2 Y mae rhai yn symmudoDeut. 19.14. & 27.17. terfynau: yn sclyfaethu defaid, ac ynNeu, eu porthi hwynt. ymborthi ar­nynt.

3 Y maent yn gyrru assynnod yr ymddi­fad ymmaith: maent yn cymmeryd ŷch y wraig weddw ar wystl.

4 Maent yn troi 'r anghenog allan o'r ffordd: tlodion y ddaiar a ymgŷd-lechant.

5 Wele y maent fel assynnod gwylltion yn yr anialwch, yn myned allan iw gwaith, gan geisio sclyfaeth yn foreu: y diffaethwch sydd yn dwyn iddynt fwyd, ac iw plant.

6 Medant euHeb. cymmysc­yd. hŷd yn y maes: aHeb. a'r annu­wiol a gaselant y winllan. gwinllan yr annuwiol a gasclant.

7 Gwnânt i'r tlawd leteu yn noeth heb ddi­llad; ac heb wisc mewn oerni.

8 Gwlychant gan lifeiriant y mynydd­oedd; ac o eisieu diddosrwydd y cofleidiant graig.

9 Tynnant yr ymddifad oddi wrth y fron; cymmerant wystl gan y tlawd.

10 Gwnant iddo fyned yn noeth heb ddi­llad: a dygant ddyrneidiau lloffa y rhai newy­nog.

11 Y rhai sy yn gwneuthur olew o fewn eu parwydydd hwynt; ac sy yn sathru eu cafnau gwin, ydynt sychedic.

12 Y mae gwŷr yn griddfan o'r ddinas; ac y mae eneidiau y rhai archolledic yn gwei­ddi; ac nid yw Duw yn rhoi ffolineb yn eu herbyn.

13 Y rhai hynny sy ym mhlith y rhai sydd yn gwrthwynebu goleuni, nid ydynt yn adna­bod ei ffyrdd, nac yn aros yn ei lwybrau.

14 Gyd â'r goleuad y cyfyd y lleiddiad, ac y lladd efe y tlawd, a'r anghenog; a'r nôs y bydd efe fel lleidr.

15 A llygad y godineb-ŵr sydd yn gwilied am y cyfnos, gan ddywedyd, ni chaiff llygad fy ngweled; ac efe a esyd hûg ar ei wyneb.

16 Yn y tywyll y maent yn cloddio trwy dai, y rhai a nodasant iddynt eu hunain liw dydd; nid adwaenant hwy oleuni.

17 Canys megis cyscod marwolaeth ydyw y borau iddynt hwy: dychryn cyscod marwola­eth yw, os edwyn nêb hwynt.

18 Yscafn ydyw ar wyneb y dyfroedd; melitigedic ydyw eu rhan-dîr hwy ar y ddaiar: ni thrŷ efe ei wyneb at ffordd y gwinllan­noedd.

19 Sychdwr a gwrês sydd yn cippio dyfro­edd eira; felly y bêdd y rhai a bechasant.

20 Y grôth a'i gollwng ef dros gôf, melus fydd gan y prŷf ef, ni chofir ef mwy: ac an­wiredd a dorrir fel pren.

21 Y mae efe yn dryllio yr amhlantadwy, yr hon ni phlanta; ac nid ydyw yn gwneuthur daioni i'r weddw.

22 Ac y mae efe yn tynnu rhai cedyrn wrth ei nerth: y mae efe yn codi, acNeu, nid ym­ddiried iw enioes ei hun. nid oes nêb diogel o'i enioes.

23 Er rhoddi iddo fôd mewn diogelwch, ar yr hyn y mae ei bwys, etto y mae ei lygaid ef ar eu ffyrdd hwy.

24 Hwyntwy a dderchafwyd dros ychydig, ond hwyHeb. nid ydynt. a ddarfuant, ac a ostyngwyd; hwy aHeb. gaewyd arnynt. dducpwyd ymmaith fel pawb eraill, ac a dorrwyd ymmaith fel pen twysen.

25 Ac onid ydyw felly yn awr, pwy a'm gwna i yn gelwydoc; ac a esyd fy ymadrodd yn ddiddym?

PEN. XXV.

1 Bildad yn dangos na all neb fod yn gyfiawn ger bron Duw.

YNa Bildad y Suhiad a attebodd, ac a ddy­wedodd,

2 Arglwyddiaeth, ac ofn sydd gyd ag ef: y mae efe yn gwneuthur heddwch yn ei vchel­fannau.

3 A oes gyfrif o'i luoedd ef? ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni?

4Pen. 4.17 &c. & 15.14. &c. Pa fôdd y cyfiawnheir dŷn gyd â Duw? neu pa fôdd y bydd yr hwn a aned o wraig yn lân?

5 Wele hyd yn oed y lleuad, ac ni lewyr­cha hi; a'r sêr nid ydynt bûr yn ei olwg ef:

6 Pa faint llai dŷn, yr hwn sydd brŷf; a mâb dŷn yr hwn sydd Psal. 22.6. abwydyn.

PEN. XXVI.

1 Job yn ceryddu anrhugarog yspryd Bildad, 5 ac yn cydnabod fod gallu Duw yn anfeidrol, ac yn anchwiliadwy.

A Job a attebodd, ac a ddywedodd.

2 Pwy a gynnorthwyaist ti? ai y di­nerth? a achubaist ti y braich sydd heb gadernid?

3 Pa fôdd y cynghoraist ti yr annoeth? ac y mynegaist yn helaeth y peth fel y mae?

4 Wrth bwy y mynegaist ymadroddion? ac yspryd pwy a ddaeth allan o honot ti?

5 Pethau meirw a lunir oddi tan y dyfroedd,Neu, gydd 'r rhal, &c. a'r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy.

6Dihar. 15.11. Y mae vffern yn noeth ger ei fron ef: ac nid oes dô ar ddestryw.

7 Y mae efe yn tanu y gogledd ar y gwagle; y mae efe yn crogi y ddaiar ar ddiddim.

8 Y mae efe yn rhwymo y dyfroedd yn ei gwmylau: ac nid ydyw 'r cwmwl yn hollti tanynt hwy.

9 Y mae efe yn attal wyneb ei orsedd­faingc: y mae efe yn tanu ei gwmwl ar­ni hi.

10 Efe a amgylchodd wyneb y dyfroedd â therfynau,Heb. hyd ddi­weddi ad goleunt gyd a thywy­llwch. nes dibennu goleuni, a thywy­llwch.

11 Y mae colofnau y nefoedd yn crynu, ac yn synnu wrth ei gerydd ef.

12 Efe a ranna y môr â'i nerth: ac a dery falchder â'i ddoethineb.

13 Efe a addurnodd y nefoedd â'i Yspryd; ei law ef a luniodd y sarph dorchoc.

14 Wele dymma rannau ei ffyrdd ef, ond morr fychan ydyw 'r peth yr ydym ni yn ei glywed am dano ef! ond pwy a ddeall dara­nau ei gadernid ef?

PEN. XXVII.

1 Job yn dangos ei burdeb, 8 ac nad oes go­baith i'r rhagrithiwr. 11 Y troir bendithion yr enwir yn felldithion.

A Job aHeb. chwane­godd gymme­ryd ei ddammeg. barablodd eil-waith, ac a ddywe­dodd,

2 Y mae Duw yn fyw, yr hwn a ddûg ym­maith fy marn, a'r Holl-alluog yr hwn aHeb. chwer­wodd. ofidi­odd fy enaid.

3 Tra fyddo fy anadl ynof; ac Yspryd Duw yn fy ffroenau;

4 Ni ddywed fy ngwefusau anwiredd; ac ni thraetha fy nhafod dwyll.

5 Na atto Duw i mi eich cyfiawnhau chwi: oni threngwyf, ni symmudaf fy mherffeith­rwydd oddi wrthif.

6 Yn fy nghyfiawnder y glynais, ac nis goll­yngaf hi: ni wradwydda fy nghalon fi, Heb. ir fy nyddiau. tra fy­ddwyf byw.

7 Bydded fy ngelyn fel yr annuwiol; a'r hwn sydd yn codi yn fy erbyn, fel yr anwir.

8Matth. 16.26. Canys pa obaith sydd i'r rhagrithiwr, er elwa o honaw ef, pan dynno Duw ei enaid ef allan?

9Dih. 1.28. Ezec. 8.18. Joa. 9.31 Jac. 4.3. A wrendy Duw ar ei lêf, pan ddêlo cy­fyngder arno?

10 A ymlawenycha efe yn yr Holl-alluog? a eilw efe ar Dduw bôb amser?

11 Myfi a'ch dyscaf chwi, trwy law Dduw: ni chelaf yr hyn sydd gyd â'r Holl-alluog.

12 Wele, chwychwi oll a'i gwelsoch: a pha ham yr ydych chwi felly yn ofera mewn oferedd?

13 Dymma ran dŷn annuwiol gyd â Duw, ac etifeddiaeth y rhai traws, yr bon a gafant hwy gan yr Holl-alluog.

14 Os ei feibion ef a amlheir, hwy a amlheir i'r cleddyf: a'i hiliogaeth ef ni ddigonir â bara.

15 Ei weddillion ef a gleddir ym marwo­laeth: a'i wrageddPsal. 78.64. gweddwon ni ŵylant.

16 Er iddo bentyrru arian fel llŵch, a dar­paru dillad fel clai,

17 Efe a'i darpara, ond y cyfiawn a'i gwisc: a'r diniweid a gyfranna 'r arian.

18 Efe a adeiladodd ei dŷ fel gwyfyn, ac fel bŵth a wnai gwili-ŵr.

19 Y cyfoethog a hûna, ac nis cesclir ef; efe a egyr ei lygaid, ac nid yw.

20Pen. 18.11. Dychryniadau a'i goddiweddant ef fel dyfroedd: corwynt a'i lladratta ef liw nôs.

21 Y dwyrein-wynt a'i cymmer ef i ffordd, ac efe a â ymmaith; ac a'i teifi ef fel corwynt allan o'i lê.

22 Canys Duw a deifl arno ef, ac nid arbed: gan ffoi, efe a fynnai ffo rhag ei law ef.

23 Curant eu dwylaw arno: ac a'i hyssiant allan o'i lê.

PEN. XXVIII.

1 Bod gwybodaeth am bethau naturiol. 12 Ond mai godidog ddawn Duw yw doethineb.

DIau fôd gwythen i'r arian; a lle i'r aur, lle y coethant ef.

2 Haiarn a dynnir allan o'r prîdd: ac o'r garreg y toddir prês.

3 Duw sydd yn gosod terfyn ar dywyllwch, ac yn chwilio allan bob perffeithrwydd: hyd yn oed meini tywyllwch, a chyscod angeu.

4 Y mae yr afon yn torri allan oddi wrth y trigolion, y dyfroedd a anghofiwyd gan y troed: hwy a sychasant ac a aethant ymmaith oddiwrth ddynion.

5 Y ddaiaren, o honi y daw bara, trowyd megis tân oddi tani.

6 Ei cherrig hi a fyddant lê i Saphir: aNeu, mwyn aur. phri­ddellau aur sydd iddi.

7 Y mae llwybr nid adnabu aderyn: ac ni chanfu llygad barcud.

8 Yr hwn ni sathrodd cenawon llew; nid aeth hên lew trwyddo.

9 Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o'r gwraidd.

10 Y mae efe yn peri i afonydd dorri drwy y caeigiau: ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr.

11 Y mae efe yn rhwymo 'r afonydd rhagHeb. wylo. llifo, ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni.

12 Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall?

13 Ni ŵyr dŷn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw.

14Rhaf. 11.33. Y mae 'r dyfnder yn dywedyd, nid ydyw hi ynofi: ac y mae 'r môr yn dywedyd, nid ydyw hi gyd â myfi.

15Heb. Ni roir. aur pur am dani.NiDih. 8.14. & 8.11.19. & 16.16. cheir hi er aur pûr: ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian:

16 Ni chyffelybir hi i'r aur o Ophir: nac i'r Onix gwerthfawr, nac i'r Saphir.

17 Nid aur a grisial a'i cystadla hi: na llestr o aur dilin sydd gydwerth iddi.

18 Ni chofir yNeu, Ramoth. Cwrel, na'r Gabys, canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemmau.

19 Ni ellir cyffelybu y Topaz o Ethiopia iddi hi: ni chyd-brissir hi ag aur pûr.

20Vers. 12. Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha lê y mae mangre deall?

21 Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pôb dŷn byw: a hi a guddiwyd oddiwrth ehedi­aid y nefoedd.

22 Colledigaeth, a marwolaeth sydd yn dy­wedyd, ni a glywsom â'n clustiau sôn am dani hi.

23 Duw sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi.

24 Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaiar: ac yn gweled dan yr holl nefoedd:

25 I wneuthur pwys i'r gwynt; ac efe a bwysa y dyfroedd wrth fessur.

26 Pan wnaeth efe ddeddf i'r glaw; a ffordd i fellt y taranau:

27 Yna efe a'i gwelodd hi, ac a'iNeu, rhifodd. mynegodd hi; efe a'i paratôdd hi, a hefyd efe a'i chwi­liodd hi allan.

28Psal. 111.10. Dihar. 1.7. & 9.10. Ac wrth ddŷn efe a ddywedodd, wele ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb: a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.

PEN. XXIX.

1 Job yn cwyno iddo ei hun, o herwydd ei lwy­ddiant a'i anrhydedd o'r blaen.

YNa Job aHeb. chwane­godd gym­meryd ei ddammeg. barablodd drachefn, ac a ddy­wedodd,

2 Oh na bawn i fel yn y misoedd o'r blaen; fel yn y dyddiau pan gadwei Duw fi.

3 Pan wnai efe iwNeu, lamp. oleuni lewyrcha ar fy mhen: wrth oleuni yr hwn y rhodiwn drwy dywyllwch:

4 Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch Duw ar fy mhabell:

5 Pan oedd yr Holl-alluog etto gyd â mi; a'm plant o'm hamgylch:

6 Pan olchwn fy nghamrau ag ymenyn: a phan dywalldei y graigHeb. gyd­myfi. i mi afonydd o olew:

7 Pan awn i allan i'r po [...]th trwy 'r drêf: pan baratown fy eisteddfa yn yr heol.

8 Llangciau a'm gwelent, ac a ymguddient, a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fynu.

9 Tywysogion a attalient eu ymadroddion; ac a osodent eu llaw ar eu genau.

10Heb. llais y pend. a guddiwyd. Pendefigion a dawent â sôn: a'i tafod a lynei wrth daflod eu genau.

11 Pan i'm clywai clûst, hi a'm bendithiai, a phan i'm gwelai llygad, efe a destiolaethai gyd â mi:

12 Am fy môd yn gwaredu y tlawd a fyddei yn gweiddi; a'r ymddifad, a'r hwn ni byddei cynnorthwy-ŵr iddo.

13 Bendith yr hwn oedd ar ddarfod am da­no, a ddenei arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu.

14 Gwiscwn gyfiawnder, a hitheu a wiscei am danafi: a'm barn fyddei fel mantell, a choron.

15 Llygaid oeddwn i'r dall; a thraed oedd­wn i'r clôff.

16 Tâd oeddwn i'r anghenog, a'r cŵyn ni wyddwn, a chwiliwn allan.

17 Drylliwn hefyd gil-ddannedd yr anghy­fiawn; ac aH [...]. fwriwn. dynnwn yr ysclyfaeth allan o'i ddannedd ef.

18 Yna y dywedwn, byddaf farw yn fy nŷth: a byddaf morr aml fy nyddiau a'r ty­wod.

19 Fy ngwreiddyn oedd ynH [...]b. agored. ymdanu wrth y dyfroedd; a'r gwlith a arhosodd ar hŷd nôs ar fy mrîg.

20 Fy ngogoniant oeddHeb. newydd. îr ynofi: a'm bŵa aHeb. newidiai. adnewyddei yn fy llaw.

21 Hwy a wrandawent arnaf, ac a ddisgwi­lient; distawent wrth fy nghyngor.

22 Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith: a'm ymadrodd a ddiferei arnynt hwy.

23 A hwy a ddisgwilient amdanaf fel am y glaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar­law.

24 Os chwarddwn arnynt hwy, ni chre­dent; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio.

25 Dewiswn au ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu; megis yr hwn a gyssura rai galarus.

PEN. XXX.

1 Troi anrhydedd Job yn ddygyn ddiystyrwch, 15 A'i hawdd-fŷd yn adfyd.

ONd yn awr, y rhai syHeb. lai o ddy­ddiau na mi. ieuangach nâ mi sy yn fy ngwatwar, y rhai y diystvraswn eu tadau, iw gosod gyd â chŵn fy nefaid.

2 I ba beth y gwasanaethai cryfdwr eu dwy­law hwynt i mi? darfuasei am henaint ynddynt hwy.

3 Gan angen, a newyn, vnig oeddynt; yn ffô i'r anialwchHeb. neithiwyr. gynt, yn ddiffaeth, ac yn wyllt.

4 Y rhai a dorrent yr hoccys mewn brysc­lwyni; a gwraidd meryw yn fwyd iddynt.

5 Hwy a yrrid ymmaith o fysc dynion, (gwaeddent ar eu hôl hwy, fel ar ôl lleidr)

6 I drigo mewn holltauDyffryn­noedd. afonydd: mewn tyllau y ddaiar, yn y creigiau.

7 Hwy a ruent ym mhlith perthi: hwy a ymgasclent dan ddanadl.

8 Meibion yr ynfyd, a meibion rhai an­enwog oeddynt, gwaelach nâ'r ddaiar oe­ddynt.

9Psal. 35.15. & 69.12. Ac yn awr eu cân hwy ydwyfi, ac myfi sydd yn destyn iddynt.

10 Y maent yn fy ffieiddio, yn cilio ym mhell oddi wrthif; ac nidHeb. attaliant boeri o'm hwyn. arbedant boeri yn fy wyneb.

11 O blegid iddo ddattod fy rhâff, a'm cy­studdio; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i.

12 Y rhai ieuaingc sy yn codi ar fy llaw ddeheu, y maent yn gwthio fy nhraed; ac yn farnu i'm herbyn ffyrdd eu dinistr.

13 Anrheithiant fy llwybr, chwanegant fy nhrueni; heb fod help iddynt.

14 Y maent hwy yn dyfod arnaf, megis dwfr trwy adwy lydan: y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith.

15 Dychryniadau a drowyd arnaf: fel gwynt yr erlidiant syHeb. arbennig. enaid: a'm iechydwri­aeth a â heibio fel cwmmwl.

16 Am hynny 'r ymdywallt fy enaid yn awr arnaf; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof.

17 Y nôs y tyllir fy escyrn o'm mewn: a'm gîau nid ydynt yn gorphywys.

18 Trwy fawr nerth fy nghlefyd, fy ngwisc a newidiodd, efe a'm hamgylcha fel coler fy mhais.

19 Efe a'm taflodd yn y clai; ac aethym yn gyffelyb i lŵch a lludw.

20 Yr ydwyf yn llefain arnat ti, ac nid ydwyt yn gwrando: yr ydwyf yn sefyll, ac nid ystyri wrthif.

21 Yr wyt yn troi yn greulon yn fy er­byn, yr wyt yn fy ngwrthwynebu â nerth dy law.

22 Yr wyt yn fy nerchafu i'r gwynt, yr yd­wyt yn gwneuthur i mi farchogaeth arno, ac yr ydwyt yn toddi fyNeu, noethineb. sylwedd.

23 Canys myfi a wn y dygi di fi i far­wolaeth; ac i'r tŷ rhacderfynedic i bôb dŷn byw.

24 Diau nad estyn ef law i'rHeb. pentwrr. bêdd: er bôd gwaedd ganddynt yn ei ddinistr ef.

25Rhuf. 12.15 Psa. 35.13. Oni ŵylais i dros yr hwn oedd galed ei Heb. ddiwrnod. fŷd, on: ofidiodd sy enaid tros yr ang­henog?

26 Pan edrychais am ddaioni, drygfyd a [Page] ddaeth: pan ddisgwiliais am oleuni, tywyll­wch a ddaeth.

27 Fy ymyscaroedd a ferwasant, ac ni or­phywysasant: dyddiau cystudd a'm rhagflae­nasant.

28 Cerddais yn alarus heb yr haul: codais a gwaeddais yn y gynnulleidfa.

29Psal. 102.6. Yr ydwyf yn frawd i'r dreiglau; ac yn gyfaill i gywion yr Estris.

30 Fy nghroen a dduodd am danaf: a'm hescyrn a loscasant gan wrês.

31 Aeth fy nhelyn hefyd yn alar, a'm hor­gan fel llais rhai yn ŵylo.

PEN. XXXI.

Job ar gyhoedd yn dangos ei burdeb mewr amryw bethau.

MYfi a wneuthum ammod â'm llygaid, pa ham gan hynny y meddyliwn am for­wyn?

2 Canys pa ran sydd oddi wrth Dduw oddi vchod, a pha etifeddiaeth sydd oddi wrth yr Holl-alluog o'r vchelder?

3 Onid oes dinistr i'r anwir? a dialedd dieithr i'r rhai sy yn gwneuthur anwiredd?

42 Cron. 16.9. Pen. 34.21. Dihar. 5.21. & 15.3. Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i? ac yn cyfrif sy holl gamrau?

5 Os rhodiais mewn oferedd; ac es prysu­rodd sy nhroed i dwyllo,

6 Pwysed fi mewn cloriannau cyfiawn, a mynned Duw ŵybod fy mherffeithrwydd.

7 Os gŵyrodd fy ngherddediad allan o'r ffordd; a myned o'm calon ar ôl fy llygaid: neu lŷnu dim aflan wrth fy nwylaw:

8 Yna hauwyf fi, a bwytaed arall: îe dad­wreîddier fy hiliogaeth i.

9 Os twylled fy nghalon gan wraig; ac os cynllwynais wrth ddrŵs fy nghymydog,

10 Maled fy ngwraig inneu i wr arall: ac ymgrymmed eraill arni hi.

11 Canys scelerder ydyw hyn, ac anwiredd ydyw, iw chospi gan farnwyr.

12 Canys tân ydyw, a ysla oni antheithio; ac efe a ddadwreidda fy holl ffrwyth.

13 Os diystyrais achos fy ngwâs, a'm gwa­sanaeth-ferch, pan ymrysonent â mi:

14 Pa beth gan hynny a wnâf pan godo Duw? a phan ymwelo efe, pa beth a attebaf iddo?

15 Ond yr hwn a'm gwnaeth i yn y grôth, a'i gwnaeth yntef? acNeu, ond efe a'n lluni­odd ni mewn vn groth? ond yr vn a'n lluniodd yn y bru?

16 Os attelais ddim o ddeisyfiad y tlawd; ac os gwneuthum i lygaid y weddw ddeffy­gio;

17 Ac os bwyteais fyHe [...]. nham­maid. mwyd yn vnic, ac oni fwyttaodd yr ymddifad o honaw;

18 (Canys efe a gynnyddodd gyd â mi, fel gyd â thâd, o'm hieuengctid; ac o grôth fy mam mi a'i tywysaisSef, y weddw. hi)

19 Os gwelais nêb yn marw o eisieu dillad; a'r anghenog heb wisc:

20 Os ei lwynau ef ni'm bendithiasant, ac oni chynhesodd efe gan gnû fy nefaid i:

21 Os codais fy llaw yn erbyn yr ym­ddifad, pan welwn sy nghymmorth yn y porth:

22 Syrthied fy mraich oddi wrth fy ysc­wydd: a thorrer fy mraich oddiwrth y cym­mal.

23 Canys ofn dinistr Duw oedd arnaf: a chan ei vchelder ef ni allwn oddef.

24 Os gosodais fy ngobaith mewn aur: ac os dywedais wrth aur coeth, fy ymddiried wyt:

25 Os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr: ac oblegid im llaw gael llawer:

26 Os edrychais ar yr haul, pan dywynnei: a'r lleuad yn cerdded vn ddisclair:

27 Ac os hudwyd fy nghalon yn guddiedic: ac os fy ngenau a gusanodd fy llaw:

28 Hyn hefyd fuasei anwiredd iw gospi gan y barnwyr: canys gwadaswn Dduw vchod.

29 Os llawenychais i am drychineb yr hwn a'm casâe, ac os ymgodais panHeb. gafodd drwg [...]f. ddigwyddodd drwg iddo:

30 (Ac ni ddioddefais i daflod fy ngenau bechu; gan ofyn ei einioes ef drwy felldigo)

31 Oni ddywedodd dynion fy mhabell, ô na chaem o'i gnawd ef! ni ddigonir ni.

32 Ni letteuodd dieithr ddŷn yn yr heol; agorais fy nrysau i'rNeu, ffordd. fforddolion.

33 Os cuddais fy nghamweddau felNeu, dyn Adda, gan guddio fy anwiredd yn fy monwes:

34 A ofnais i dyrfa luosog, neu a'm dych­rynei dirmyg teulu, fel y tawn heb fyned allan o'm drŵs?

35 Oh am vn a'm gwrandawei; wele, fyN [...]u, arg [...] yw yr ettyb yr Holl­all. fi. nymuniad yw, i'r Holl-alluog fy atteb i, ac scrifennu o'm gwrthwyneb-ŵr lyfr.

36 Diau y dygwn ef ar fy yscwydd; a rhwymwn ef yn lle coron i mi.

37 Mynegwn iddo rifedi fy nghamrau; fel tywysog y nessawn atto.

38 Os ydyw fy nhîr i yn llefain yn fy erbyn; ac os ydyw ei gwysau ef yn cyd-ŵylo;

39 Os bwytteais i eiHeb. gryfdwr. gnwd ef heb ari­an; ac os cystuddiais enaid ei berchenno­gion ef;

40 Tyfed yscall yn llê gwenith, aNeu, chwyn niweidiol. bulwg yn lle haidd. DIWEDDWYD GEI­RIAV JOB.

PEN. XXXII.

1 Elihu yn ddîg wrth Job a'i gyfeillion: 6 Ac am nad yw doethineb yn dyfod o henaint, yn escusodi hyfder ei ieuengctid ei hun: 11 Ac yn beio arnynt hwy nad oeddent yn bodloni Job. 16 Ei z [...]l ef i lefaru.

FElly y tri gŵr ymma a beidiasant ag atteb i Job, am ei fôd ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun.

2 Yna digofaint Elihu mâb Barachel y Buzi­ad, o genedl Ram, a gynneuodd; ei ddigo­faint ef a enynnodd yn erbyn Job, am farnu o honaw ei enaid yn gyfiawn o flaen Duw.

3 A'i ddigofaint ef a gynneuodd yn erbyn ei dri chyfaill, am na chawsent hwy atteb, ac er hynny, farnu o honynt Job yn euog.

4 Elihu hefyd aDdis­gwiliasei Job mewn geiriau. arhosassei ar Job nes darfod iddo lefaru: canys yr oeddynt hwy yn hŷn nag ef oHeb. ddyddiau oedran.

5 Pan welodd Elihu nad oedd atteb gan y try-wŷr hyn, yna y cynneuodd ei ddigofaint ef.

6 Ac Elihu mâb Barachel y Buziad a atte­bodd, ac a ddywedodd,Heb. bychan ydwyf o ddyddiau. ieuangc ydwyf o oe­dran, chwithau ydych hên iawn: am hynny 'r arswydais, ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi.

7 Dywedais, dyddiau a draethant, a lliaws o flynyddoedd a ddyscant ddoethineb.

8Pen. 38.36. Dihar. 2.6. Preg. 2.26. Dan 1.17 & 2.2. Ond y mae yspryd mewn dŷn; ac ys­prydoliaeth yr Holl-alluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall.

9 Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bôb amser: ac nid yw henaf-gwŷr yn deall barn.

10 Am hynny y dywedais, gwrando fi; minneu a ddangosaf fy meddwl.

11 Wele, disgwiliais wrth eich geiriau; clûst-ymwrandewais â'chHeb. deall. rhesymmau, tra y chwiliasoch chwi am eiriau.

12 Ie, mi a ddeliais arnoch, ac wele, nid oedd vn o honoch yn argyoeddi Job gan atteb ei eiriau ef:

13 Rhac dywedyd o honoch, ni a gaw­som ddoethineb: Duw sydd yn ei wthio ef i lawr, ac nid dŷn.

14 Er naNeu, threfnodd. hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i: ac nid attebaf finnau iddo â'ch geiriau chwi.

15 Hwy a synnasant, nid attebasant mwy;Heb. symmu­dasant oddi wrthynt ymadro­ddion. peidiasant â llefaru.

16 Wedi disgwil o honof, (canys ni lefa­rent, eithr sefyll heb atteb mwy)

17 Dywedais, minne a attebaf fy rhan, min­neu a ddangosaf fy meddwl.

18 Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae 'rHeb. yspryd fy mol. yspryd sydd ynof yn fy ngymmell i.

19 Wele, fy mol sydd fel gwîn nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrêlau newy­ddion.

20 Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: ago­raf fy ngwefusau, ac attebaf.

21 Ni dderbyniaf yn awr wyneb nêb: ni wenieithiaf wrth ddŷn.

22 Canys ni fedraf wenieithio, pe gwnawn, buan i'm cymmerei fy ngwneuthur-wr ym­maith,

PEN. XXXIII.

1 Elihu yn ymgynnyg i ymresymmu â Job tros Dduw, mewn purdeb a llarieidd-dra, 8 yn dangos nad yw Duw rwymedig i roi cyfrif o'i ffyrdd i ddŷn. 14 Duw yn galw dŷn i edi­feirwch trwy weledigaethau, 19 trwy gystu­ddiau, 23 a thrwy ei weinidogion. 31 Y mae efe yn annog Job i wrando.

O Herwydd pa ham, Job, clyw attolwg fy ymadroddion; a gwrando fy holl eiriau.

2 Wele 'r ydwyf yn awr yn agoryd fy ngenau; mae fy nhafod yn dywedyd yn nhaflod fy ngenau.

3 O vniondeb fy nghalon y bydd fy ngeiri­au; a'm gwefusau a adroddant ŵybodaeth bûr.

4 Yspryd Duw a'm gwnaeth i; ac anadl yr Holl-alluog a'm bywioccaodd i.

5 Os gelli, atteb fi: ymbaratoa, a saf o'm blaen i.

6Pen. 9.35. & 13.20. Wele fi yn ôl dyHeb. enau. ddymuniad ti yn lle Duw: allan o'r clai y torrwyd finneu.

7 Wele, ni'th ddychryna fy arswyd i; ac ni bydd fy llaw yn drom arnat.

8 Dywedaist yn ddiauHeb. yn fy nghlust­iau. lle y clywais i: ac myfi a glywais lais dy ymadroddion:

9 Pûr ydwyf fi heb gamwedd: glân ydwyf ac heb anwiredd ynof.

10 Wele efe a gafodd achosion yn fy erbyn: y mae efe yn fy nghyfrif yn elyn iddo.

11 Y mae yn gosod fy nhraed yn y cyffion: y mae yn gwilied fy holl lwybrau.

12 Wele yn hyn, nid ydwyt gyfiawn: mi a'th attebaf, mai mwy ydyw Duw na dŷn.

13 Pa ham yr ymrysoni yn ei erbyn ef? o herwydd nid ydyw efe ynHeb. atteb. rhoi cyfrif am ddim o'i weithredoedd.

14 Canys y mae Duw yn llefaru vnwaith, ie ddwy-waith, ond ni ddeall dŷn.

15 Drwy hûn, a thrwy weledigaeth nôs, pan syrthio trym-gŵsc ar ddynion, wrth hep­pian ar welŷ.

16 YnaHeb. y datcu­ddia. yr egyr efe glustiau dynion: ac y selia efe addysc iddynt:

17 I dynnu dŷn oddi wrth ei waith, ac i guddio balchder oddi wrth ddyn.

18 Y mae efe yn cadw ei enaid ef rhag y pwll: a'i hoedl ef, rhag eiHeb. myned ymaith. cholli trwy y cle­ddyf.

19 Ac efe a geryddir trwy ofid ar ei wely: a lliaws ei escyrn ef â gofid caled.

20Psal. 107.18. Fel y ffieiddio ei fywyd ef fara: a'i enaid fwydHeb. dymu­nawl. blasus.

21 Derfydd ei gnawd ef allan o olwg: saif ei escyrn allan, y rhai ni welid o'r blaen.

22 Nessau y mae ei enaid i'r bêdd: a'i fy­wyd i'r dinistr-wŷr.

23 Os bydd gydag ef gennad o ladmerydd, vn o fil, i ddangos i ddŷn ei vniondeb:

24 Yna efe a drugarhâ wrtho, ac a ddywed, gollwng ef, rhag descyn o honaw i'r clawdd, myfi a gefaisNeu, gymmod. iawn.

25 Ireiddiach fydd ei gnawd nâHeb. mabola­eth. bachgen; efe a ddychwel at ddyddiau ei ieuengctid.

26 Efe a weddia ar Dduw, ac yntef a fydd bodlon iddo, ac efe a edrych yn ei wyneb ef mewn gorfoledd: canys efe a dâl i ddŷn ei gyfiawnder.

27 Efe a edrych ar ddynion,Neu, ac a ddy­wed. ac os dywed nêb, mi a bechais, ac a ŵyrais vniondeb, ac ni lwyddodd i mi:

28 Efe aNeu, waredodd fy enaid. wared ei enaid ef rhag myned i'r clawddNeu, a'm by­wyd. a'i fywyd a wêl oleuni.

29 Wele, hyn oll a wna Duw ddwy-waith neu dair, â dyn,

30 I ddwyn ei enaid ef o'r pwll: iw oleuo â goleuni y rhai byw.

31 Gwrando Job, clyw fi; taw, ac mi a le­faraf.

32 Od oes geiriau gennit, atteb fi: llefara, canys chwennychwn dy gyfiawnhau di.

33 Onid ê gwrando arnafi, bydd ddistaw, ac myfi a ddyscaf i ti ddoethineb.

PEN. XXXIIII.

1 Elihu yn beio ar Job am fwrw ar Dduw fôd yn anghyfiawn. 10 Nas gall Duw Holl-alluog fôd yn anghyfiawn. 31 Rhaid i ddŷn ymddarost­wng i Dduw. 34 Elihu yn ceryddu Job.

AC Elihu a lefarodd, ac a ddywedodd,

2 Ha wŷr doethion, gwrandewch fy ymadroddion: a chwychwi y rhai ydych yn gŵybod, clust-ymwrandewch:

3Pen. 12.11. Canys y glûst a farn ymadroddion, fel yr archwaethaHeb. taflod y genau. y genau fwyd.

4 Dewiswn i ni farn, gŵybyddwn rhyngom pa beth sy dda.

5 Canys dywedodd Job cyfiawn ydwyf, a Duw a ddug ymmaith fy marn.

6 A ddywedaf i gelwydd yn erbyn fy matter fy hun? anaele yw fyHeb. saith. archoll heb gamwedd.

7 Pa ŵr sydd fel Job, yr hwn a ŷf watwor­gerdd fel dwfr?

8 Ac a rodio ynghymydeithas gyd â gweith­redŵyr anwiredd: ac sydd yn myned gyd â dynion annuwiol?

9 Canys dywedodd, ni fuddia i ŵr ymhyf­rydu â Duw.

10 Am hynny chwychwi wŷr calonnoc, gwrandewch arnaf,Deut. 32.4. Job. 8.3. & 36.23. Psal. 92.15. Rhuf 9.14. pell oddi wrth Dduw fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddiwrth yr Holl-alluoc weithredu anwiredd.

11Psal. 62.12. Dihar. 24.12. Jer. 32.19 Ezec. 33.20. Matth. 16.27. Rhuf. 2.6 2 Cor. 5.10. 1 Pet. 1.17 Dat. 22.12 Canys efe a dâl i ddŷn ei waith: ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun.

12 Diau hefyd na wna Duw yn annuwiol; [Page] ac na ŵyra 'r Holl-alluoc farn.

13 Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaiar? a phwy a osododdHeb. [...] cwbl o [...]. yr holl fŷd?

14Psal. 104.29. Os gosyd ei galonHeb. arno ef. ar ddŷn: os cascl efe atto ei hun ei yspryd, a'i anadl ef;

15Preg. 11.7. Gen. 3.19. Pôb cnawd a gŷd-drenga: a dŷn a ddychwel i'r prîdd.

16 Ac od oes ddeall ynot gwrando hyn: clûst-ymwrando â llêf fy ymadroddion.

17 A gaiff yr hwn sydd yn cassau barnHeb. rwymo. ly­wodraethu? ac a ferni di yr hwn sydd gyfi­awn odieth, yn annuwiol?

18 A ddywedir wrth frenin, drygionus yd­wyt; ac annuwiol ydych, wrth dywysogion?

19Deut. 10.17. 2 Cro. 19.7. Act. 10.34. Rhuf. 2.11. Gal. 2.6. Eph. 6.9. Col. 3.25. 1 Pet. 1.17. Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludoc o flaen y tlawd: canys gwaith ei ddeheu-law ef ydynt oll.

20 Hwy a fyddant meirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt ym­maith: a'r cadarn aSymmu­dant. symmudir heb waith llaw.

21Dihar. 5.21. & 15.3. Job. 31.4. 2 Cron. 16.9. Jer. 16.17. Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dŷn: ac efe a wêl ei holl gamrau ef.

22 Nid oes dywyllwch, na chyscod angeu; lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd ymguddio.

23 Canys ni esyd Duw ar ddŷn y chwaneg nag a haeddo, fel y gallo efe fyned i gyfraith a Duw.

24 Efe a ddryllia rai cedyrnHeb. anchwili­adwy. yn aneiryf: ac a esyd eraill yn eu lle hwynt.

25 Am hynny efe a edwyn eu gweithred­oedd hwy: a phan newidio efe y nôs, hwy aHeb. yssigir. ddryllir.

26 Efe a'i tery hwynt, megis rhai annuwiol, ynHeb. mangre y rhai sy yn edrych. amlwg:

27 Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef; ac nad ystyrient ddim o'i ffyrdd ef:

28 Gan ddwyn gwaedd y tlawd atto ef, ac efe a wrendy waedd y cystuddiol.

29 Pan esmwythâo efe, pwy a anesmwy­thâ? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a ed­rych arno? pa vn bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dŷn yn vnic:

30 Fel na theyrnasei dŷn ffuantus, ac na rwyder y bobl.

31 Ond wrth Dduw 'r hwn a ddywed, mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd,

32 Heb law a welaf, dysc di fi; o gwneu­thum anwiredd, ni wna fi mwy.

33 AiHeb. oddi gyd a thi. wrth dy feddwl di y byddei: efe a'i tâl, pa vn bynnac a wnelych ai gwrthod ai dewis, ac nid myfi: am hynny dywed yr hyn a ŵyddost.

34 GwŷrHeb. o galon. call, dywedant i mi; a'r gŵr doeth; clywed fi.

35 Job a ddywedodd yn annoeth; a'i eiriau ydynt heb ddoethineb.

36 Fy nhâd, profer Job hyd y diwedd: am roddi attebion tros ddynion anwir.

37 Canys efe a chwanegodd scelerder at ei bechod; efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni, ac a amlhâodd ei eiriau yn erbyn Duw.

PEN. XXXV.

1 Nad oes mor ymgystadlu â Duw, am nad oes na'n daioni ni na'n drygioni, yn dda nac yn ddrwg iddo ef. 9 Bôd llawer yn gwaeddi ar Dduw yn eu cystudd, a heb gael eu gwrando, o eisieu ffydd.

AC Elihu a lefarodd, ac a ddywedodd,

2 A gyfrifaist di yn vnion ddywedyd o honot, y mae fy nghyfiawnder i yn fwy nâ 'r eidd Duw?

3 Canys dywedaist, pa lês a wna hynny i ti? pa beth a ennillafNeu, oddiwr­tho mwy nag oddi­wrth fy mhechod. er fynglanhau oddiwrth fy mhechod?

4 Myfi aHeb ddychwel­af eiriau i ti. attebaf i ti, ac i'th gyfeillion gyd â thi.

5 Edrych ar y nefoedd a gwêl; ac edrych ar y cymmylau, y rhai sydd vwch nâ thi.

6 Os pechi, pa niwed a wnei di iddo ef? os aml fydd dy anwireddau, pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef?

7Psal. 16.2. Rhuf. 11.35. Pen. 22.3. Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef? neu pa beth y mae efe yn ei gael ar dy law di?

8 I ŵr fel tydi, dy annuwioldeb, ac i fâb dŷn, dy gyfiawnder, a all ryw beth.

9 Gan faint y gorthrymder, hwy a wnant i'r gorthrymmedic lefain: hwy a floeddiant rhag braich y cedyrn.

10 Ond ni ddywed nêb, pa lê y mae Duw 'r hwn a'm gwnaeth i? yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nôs.

11 Yr hwn sydd yn ein dyscu yn fwy nag anifeiliaid y ddaiar, ac yn ein gwneuthur yn ddoethach nag ehediaid y nefoedd.

12 Yna hwy a waeddant rhag balchder y rhai drwg, ac ni chlyw efe.

13Pen. 27.9. Dihar. 1.28. Esai. 1.15. Jer. 11.11. Diau na wrendy Duw oferedd; ac nad edrych yr Holl-alluoc arno.

14 Er dywedyd o honot na weli ef, etto y mae barn ger ei fron ef, disgwil ditheu wrtho.

15 Ac yn awr, am nad yw felly,Sef, Duw. efe a ym­welodd yn ei ddigofaint: etto ni ŵyrSef, Job. efe mewn dirfawr galedi.

16 Am hynny y llêda Job ei safn yn ofer: ac yr amlhâ eiriau heb ŵybodaeth.

PEN. XXXVI.

1 Elihu yn dangos bôd Duw yn gyfiawn yn ei ffyrdd. 16 Y môdd y mae pechodau Job yn attal bendithion Duw. 24 Rhaid yw mawr­hau gweithredoedd Duw.

AC Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd,

2 Goddef i mi ychydig, ac myfi a fyne­gaf i ti, fôd gennif ymadroddion etto tros Dduw.

3 O bell y cymmeraf fy ngŵybodaeth: ac i'm gwneuthur-ŵr y rhoddaf gyfiawnder.

4 Canys yn wîr nid celwydd fydd fy ymad­roddion: y perffaith o ŵybodaeth sydd gyd â thi.

5 Wele, cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe nêb: cadarn o gadernid aHeb. chalon. doethineb yw efe.

6 Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd vniondeb i'r Neu, cystu­ddiol. trueniaid.

7Psal. 34.15. Ni thynn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyd â brenhinoedd, ar yr orsedd­faingc, ie efe a'i siccrhâ yn dragywydd, a hwy a dderchefir.

8 Ac os hwy a rwymir â gefynnau, ac a dde­lir â rhaffau gorthrymder,

9 Yna efe a ddengys iddynt hwy ei gwaith a'i hanwireddau, amlhau o honynt:

10 Ac a egyr ei clustiau hwy i dderbyn cer­ydd, ac a ddywed am droi o honynt oddi wrth anwiredd.

11 Os gwrandawant hwy, a'i wasanaethu ef, Pen. 21.13. hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, a'i blynyddoedd mewn hyfrydwch.

12 Ac oni wrandawant,Heb. ant ym­maith. difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb ŵybodaeth.

13 Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwa­negant ddîg: ni waedddant pan rwymo efe hwynt.

14 Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuengctid: a'i bywyd gyd a'rNeu, Sodomi­aid. aflan.

15 Efe a wared yNeu, cystuddi­ol. truan yn ei gystudd: ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder.

16 Felly hefyd efe a'th symmudasai di o enau cyfyngdra i ehengder, lle nid oes gwascfa,Heb. yr hyn a orphwys ar dy fwrad. a saig dy fwrdd di fuasei yn llawn brasder.

17 Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnderNeu, a'th cyn­halient. a ymaflant ynot.

18 O herwydd bôd digofaint, gochel rhag iddo dy gymmeryd ti ymmaith â'i ddyrnod: yna ni'thHeb. dry heibio. wared iawn mawr.

19 A brissia efe ar dy olud ti? na phrissia ar aur, nac ar holl gadernid nerth.

20 Na chwennych y nôs, pan dorrer pobl ymmaith yn eu lle.

21 Ymochel, nac edrych ar anwiredd, canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd.

22 Wele, Duw drwy ei nerth a dderchafa; pwy sydd yn dyscu fel ef?

23 Pwy a orchymynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, gwnaethost anwiredd?

24 Cofia fawrhau ei waith ef; ar yr hwn yr edrych dynion.

25 Pôb dŷn a'i gwêl; a dŷn a'i cenfydd o bell.

26 Wele mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef: ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynydd­oedd ef.

27 Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân, hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth.

28 Yr hwn a ddifera, ac a ddefnynna y cymmylau, ar ddŷn yn helaeth.

29 Hefyd, a ddeall dŷn daniadau y cym­mylau; a thwrwf ei babell ef?

30 Wele, efe a danodd ei oleuni arno, ac a orchguddioddHeb. wraidd. waelod y môr.

31 Canys â hwynt y barn efe y bobloedd, ac y rhydd efe fwyd yn helaeth.

32 Efe a guddia y goleuni â chymmylau: ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmmwl sydd rhyngthynt.

33 Ei dwrwf a fynega am dano, a'r anifei­liaid amHeb. escyniad. y tarth,

PEN. XXXVII.

1 Rhaid yw ofni Duw, o herwydd ei weithred­oedd. 15 Bôd ei ddoethineb ef yn anchwiliad­wy ynddynt hwy.

WRth hyn hefyd y crŷn fy nghalon, ac y dychlamma hi o'i lle.

2 Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef; ac ar y sain a ddaw allan o'i enau ef.

3 Efe a'i hyfforddia dan yr holl nefoedd; a'iHeb. oleuni. fellt hydHeb. esgyll. eithafoedd y ddaiar.

4 Sŵn a rua ar ei ôl ef, efe a wna darânau â llais ei odidawgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrwf ef.

5 Efe a wna daranau â'i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a ŵyddom ni.

6Psal. 147.16.17. Canys efe a ddywed wrth yr eira, bydd ar y ddaiar; ac wrth gawod o law, ac wrthHeb. gawodydd. o law mawr. law mawr ei nerth ef.

7 Efe a selia law pôb dŷn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef.

8 Yna yr â y bwystfil iw loches; ac y trîg yn ei le.

9 O'rHeb. ystafell. dehau y daw corwynt: ac oerni oddi wrth yHeb. gwyn­toedd. gwasca­rog. gogledd.

10 A'i wynt y rhydd Duw rew: a llêd y dyfroedd a gyfyngir.

11 Hefyd efe a flina gwmmwl yn dwfrhau: efe a wascarHeb. gwmwl ei oleuni. ei gwmmwl goleu.

12 Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi am­gylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchymynno efe iô lynt, ar hŷd wyneb y bŷd, ar y ddaiar:

13 Pa vn bynnac ai ynHeb. wialen. gospedigaeth, ai iw ddaiar, ai er daioni, efe a bâr iddo ddyfod.

14 Gwrando hyn Job; saf, ac ystyria ryfe­ddodau Duw.

15 A ŵyddost ti pa brŷd y dosparthodd Duw hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwm­wl lewyrchu?

16 A wyddosti oddi wrth bwysau y cym­mylau? rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith­gwbl o wybodaeth?

17 Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaiar yn dawel â'r deheu-hwynt?

18 A denaist ti gyd ag ef yr wybren, yr hon a siccrhawyd fel drŷch toddedic?

19 Gwna i ni ŵybod pa beth a ddywedŵn wrtho: ni fedrwn ni gyfieu ein geiriau gan dy­wyllwch.

20 A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed nêb, diau y llyngcir ef.

21 Ac yn awr, ni wêl nêb y goleuni disclaer sy 'n y cymmylau: ond myned y mae y gwynt, a'i puro hwynt.

22 O'r gogledd-wynt y dawHeb. aur. hin-dda: ond y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy.

23 Am yr Holl-alluog, ni allwn ni moi gael ef: ardderchawg yw o nerth, a barn, a he­laethrwydd cyfiawnder; ni chystuddia efe.

24 Am hynny yr ofna dynion ef: nid ed­rych efe ar nêb doeth eu calon.

PEN. XXXVIII.

1 Duw yn annog Job i atteb. 4 Duw, trwy ei allung weithredoedd, yn dangos i Job ei anwy­bodaeth, 31 a'r w [...]ndid.

YNa 'r Arglwydd a attebodd Job allan o'r corwynt, ac a ddywedodd,

2 Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth?

3 Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; aHeb. gwna i mi wy­bod mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti.

4Psal. 104.5. Dihar, 30.4. Pa le 'r oeddit ti pan sylfaenais i y ddai­ar? mynega, os medri ddeall.

5 Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwy­ddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi?

6 Ar ba beth yHeb. soddwyd. siccrhawyd eiHeb. morteisi­au, neu, ystolion. sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chongl-faen hi?

7 Pan gŷd-ganodd sêr y boraû; ac y gor­soleddodd holl feibion Duw.

8Psal. 104.9. A phwy a gaeodd y môr â dôrau, pan ruthrodd efe allan megis pe deuei allan o'r grôth?

9 Pan osodais i y cwmmwl yn wisc iddo: a niwl tew yn rhwymyn iddo:

10 Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dôrau,

11 Gan ddywedyd, hyd ymma y deui, ac nid ym-mhellach; ac ymma 'r attelir ym­chŵydd dy donnau di.

12 A orchymynnaist ti y borau, er dy ddy­ddiau? a ddangosaist ti i'r wawr ddydd ei llê?

13 I ymaflyd ynHeb, esgyll. eithafoedd y ddaiar, fel yr escydwer yr annuwiol allan o honi hi?

14 Canys hi a ymnewidia fel clai 'r sêl: a hwy a safant fel dillad.

15 Ac attelir eu goleuni oddi wrth yr annu­wiol: dryllir y braich derchasedic,

16 A ddaethost ti i eigion y môr? ac a ro­diaisti ynghilfachau y dyfnder?

17 A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cyscod angeu?

18 A ystyriaist ti lêd y ddaiar? mynega os adwaenost ti hi i gyd.

19 Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha lê y mae lle y tywyllwch?

20 Fel y cymmerit efNeu, yn, neu wrth. hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau iw dŷ ef.

21 A wyddit ti yna y genid ty di? ac y by­ddei rhifedi dy ddyddlau yn fawr.

22 A aethost ti i dryssorau 'r eira? neu a welaist di dryssorau y cenllysc?

23 Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyng­der; hyd ddydd ymladd a rhyfel.

24 Pa ffordd yr ymranna goleuni? yr hwn a wascar y dwyrein-wynt ar y ddaiar?

25 Pwy a rannodd ddyfrlle i'r llif-ddyfro­edd? a ffordd i fellt y taranau,

26 I lawio ar y ddaiar lle ni byddo dyn: ar yr anialwch sydd heb ddŷn ynddo;

27 I ddigoni y tir diffaeth a gwyllt: ac i beri i gnŵd o las-wellt dyfu?

28 A oes dad i'r glaw? neu pwy a genhed­lodd ddefnynnau 'r gwlith?

29 O grôth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwyd-rew y nefoedd?

30 Y dyfroedd a guddir megis â charreg, ac wyneb y dyfnder aHeb. ddaliwyd. rewodd.

31 A rwymi di hyfrydwchNeu, y vii seren. Heb. Cimah. Pleiades? neu a ddatodi di rwymauHeb. Cesil. Orion?

32 A ddygi di allanNeu, y xii ar­wydd Mazzaroth yn eu hamser? neu a dwysiHeb. di hnynt, Arct. a'i feibion. di Arcturus a'i feibion?

33 A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaiar?

34 A dderchefi di dy lêf ar y cwmwl, fel y gorchguddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi?

35 A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont ac y dywedont wrthit, wele ni?

36Pen. 32.8. Preg. 2.26. Pwy a osododd ddoethineb yn yr ym­yscaroedd? neu pwy a roddodd ddeall Pr ga­lon?

37 Pwy a gyfrif y cymmylau drwy ddoethi­neb? a phwy a allHeb. beri i gos­trelau y nefoedd orwedd. attal costrelau y nefoedd,

38 PanHeb. dywallter. droer y llwch yn dom, fel y glŷno y priddellau ynghyd?

39Psal. 104.25. A elli di hela sclyfaeth ir llew? neu a elli di lenwiHeb. hywyd. gwangc cenawon y llewod,

40 Pan ymgrymmant yn eu llochesau: pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn?

41Psal. 147.9. Mat. 6.26. Pwy a ddarpar i'r gig-fran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar Dduw, gwibiant o eisieu bwyd.

PEN. XXXIX.

1 Am y geifr gwylltion a'r ewigod, 5 yr assyn wyllt, 9 yr vnicorn, 13 y paun, i'r Estrys, 19 y march, 26 y gwalch, 27 a'r eryr.

APsal. 29.9. Wyddost ti yr amser i eifr gwylltion y creigiau lydnu? a fedri di wilied yr amser y bwrw 'r ewigod loi?

2 A gryfrifi di y misoedd a gyflawnant hwy? ac a wyddost ti 'r amser y llydnant?

3 Ymgrymmant, bwriant eu llydnod, ac ymadawant â'i gofid.

4 Eu llydnod a gryfhâ, cynnyddantNeu, gan yd. yn y maes: ânt allan, ac ni ddychwelant at­tynt hwy.

5 Pwy a ollyngodd yr assyn wyllt yn rhydd? neu pwy a ddatododd rwymau 'r assyn wyllt?

6 Yr hwn y gosodais yr anialwch yn dŷ iddo; a'rHeb. halen-dir. diffaethwch yn drigfa iddo.

7 Efe a chwardd am ben lliaws tref: ni wren­dy ar lais yHeb. cymhell­wr. geilwad.

8 Cilfachau y mynyddoedd yw ei borfa ef: ac efe a chwilia am bob glas-welltyn.

9 A gydtuna 'r vnicorn i'th wasanaethu di? a erys efe wrth dy bresebau di?

10 A rwymi di vnicorn â'i dîd mewn rhych? a lyfna efe y dolydd ar dy ôl di?

11 A ymddiriedi wrtho am fod ei gryfdwr yn fawr? a adewi di dy lafur iddo?

12 A goeli di ef, y dŵg efe dy hâd ti dra­chefn? ac y cascl efe ef i'th lawr-dyrnu di?

13 A roddaist ti adenydd hvfryd i'r peu­nod? neuNeu, blu 'r Ci­conia a'r Estris. adenydd a phlû i'r Estris?

14 Yr hon a âd ei hwyau yn y ddaiar; ac a'i cynhesa yn y llwch;

15 Ac y mae hi yn gollwng tros gof y gallei troed eu dryllio hwynt; neu anifail y maes eu sathru.

16 Caled yw hi wrth ei chywion, fel pe na byddent eiddi hi: ei gwaith hi sydd ofer, heb ofn.

17 Oblegid na roddes Duw iddi ddoethineb; ac na chyfrannodd iddi ddeall.

18 Yr amser yr ymgodo hi yn vchel, hi a ddiystyra y march a'i farchog.

19 A roddaist ti gryfdwr i farch, neu aW [...]scaist, ti ei wddf ef a tha­ran? ddyscaist iddo weryru?

20 A ddychryni di ef fel celiog rhedyn? dy­chryn ydyw ardderchawgrwydd ei ffroen ef.

21 Ei draed ef a gloddiant yn y dyffryn, ac efe a lawenycha yn ei gryfdwr: efe a â allan i gyfarfod arfau.

22 Efe a ddiyftyra arswyd; ac ni ddychryna efe; ac ni ddychwel yn ei ôl rhag y cleddyf.

23 Y cawell saethau a drystia yn ei erbyn; y ddisclair wayw-ffon a'r darian.

24 Efe a lwngc y ddaiar gan greulondeb a chynddaredd: ac ni chred mai llais yr vdcorn yw.

25 Efe a ddywed ymmhlith yr vtcyrn, Ha, ha, ac a arogla o bell ryfel, twrf tywysogion, a'r bloeddio.

26 Ai trwy dy ddoethineb di 'r eheda y gwalch, ac y lleda efe ei adenydd tua 'r dehau?

27 Ai wrth dyHeb. enau. orchymyn di'r ymgyfyd yr eryr, ac y gwna efe ei nŷth yn vchel?

28 Y trig efe, ac yr erys mewn craig: ac ar yscithredd y graig, a'r lle cadarn?

29 Oddi yno y chwilia am fwyd: ei lygaid a ganfyddant o bell.

30 Ei gywion hefyd a sugnant waed: a lle y byddo Matth. 24.28. Luc. 17.37. celanedd yno y bydd efe.

PEN. XL.

1 Job yn ymostwng ger bron Duw. 6 Duw yn ei gyffroi ef i ddangos ei gyfiawnder, a'i allu, a'i ddoethineb. 15 Am y Behemoth.

YR Arglwydd hefyd a attebodd Job, ac a ddywedodd,

2 Ai dysceidiaeth yw ymryson â'r Holl-allu­og? A argyoeddo Dduw, attebed i hynny.

3 A Job a attebodd yr Arglwydd, ac a ddy­wedodd,

4 Wele gwael ydwyf, pa beth a attebaf, i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau.

5 Dywedais vnwaith, ond nid attebaf; îe ddwywaith, ond ni chwanegaf.

6 A'r Arglwydd a attebodd Job allan o'r corwynt, ac a ddywedodd,

7Pen. 38.3. Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega ditheu i mi.

8Psal. 51.4. Rhuf. 3.4. A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i'th gyfiawnhau dy hun?

9 A oes i ti fraich fel i Dduw? neu a wnei di daranau â'th lais fel yntef?

10Psal. 104.1. Ymdrwssia yn awr â mawredd, ac â godidawgrwydd: ac ymwisc â gogoniant, ac â phrydferthwch.

11 Gwascara gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr.

12 Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra 'r annuwiol yn eu lle.

13 Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd: a rhw­ym eu hwynebau hwy mewn lle cuddiedic.

14 Yna hefyd myfi a addefaf i ti, y gall dy ddeheu-law dy achub.

15 Yn awr weleNeu, yr Ele­phant. y Behemoth, yr hwn a wneuthum gyd â thi; glas-wellt a fwytty efe fel ŷch.

16 Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau: a'i nerth ym mogel ei fol.

17 Efe a gyfyd ei gynffon fel cedr-wŷdden: gewynnau ei arennau ef sy blethedic.

18 Pibellau pres ydyw ei escyrn ef: ei escyrn sydd fel ffyn heirn.

19 Pennaf o ffyrdd Duw ydyw efe: yr hwn a'i gwnaeth a all beri iw gleddyf nessau atto ef.

20 Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant las­wellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes.

21 Efe a orwedd dan goedydd cyscod-fawr: mewn lloches o gyrs a siglennydd.

22 Coed cyscod-fawr a'i gorchguddiant â'i cyscod: helyg yr afon a'i hamgylchant.

23 Wele, efe aHeb. dreisia. ŷf yr afon, ac ni phryssu­ra, efe a obeithiai y tynnai efe yr lorddonen iw safn.

24 A ddeil neb ef o flaen ei lygaid: a dylla neb ei drwyn ef â bachau?

PEN. XLI.

1 Mawr allu Duw yn y Leuiathan.

A Dynni di ySef, morfil. Lefiathan allan â bâch?Neu, ei dafod ef a rhaff a ollyn [...]ych i lawr. Heb. a fo [...]dych. neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff?

2 A osodi di fâch yn ei drwyn ef? neu a dylli di ascwrn ei ên ef â mynawyd?

3 A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthit ti yn dêg?

4 A wna efe ammod â thi? a gymmeri di ef yn wâs tragywyddol?

5 A chwarei di ag ef, fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i'th langcesau?

6 A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiand-wŷr?

7 A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben a thryferau?

8 Gosot dy law arno ef: cofia y rhyfel; na wna mwy.

9 Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chw­ymp un gan ei olwg ef?

10 Nid oes neb morr hyderus a'i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i?

11 Pwy a roddodd i mi yn gyntaf,Psal. 24.1. & 50.12. 1 Cor. 10.26. beth bynnac sydd dan yr holl nefoedd, eiddofi yw.

12 Ni chelaf ei aelodau ef, na'i gryfder, na gweddeidd-dra ei ystym ef.

13 Pwy a ddatcuddia wyneb ei wisc ef? pwy a ddaw atto ef â'i ffrwyn ddau-ddy-blyg?

14 Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef i ofnad­wy yw amgylchoedd ei ddannedd ef.

15 Ei falchder yw ei Heb. gryfion darian­nau. emmau, wedi eu cau ynghŷd megis â sêl gaeth.

16 Y mae 'r naill morr agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt.

17 Pob vn a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgyssylltant, fel na wahenir hwy.

18 Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a'i lygaid ef sydd fel amrantau y borau.

19 Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o'i enau ef.

20 Mwg a ddaw allan o'i ffroenau, fel o bair, neu grochan berwedic.

21 Ei anadl a wna i'r glo losci: a fflam a ddaw allan o'i enau.

22 Yn ei wddf y trig cryfder: a thristwch aHeb laweny­cha. drŷ yn llawenydd o'i flaen ef.

23 Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun fel na syffo.

24 Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o'r maen issaf i felyn.

25 Rhai cryfion a ofnant pan godo ef: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhânt.

26 Cleddyf yr hwn a'i tarawo, ni ddeil; y wayw-ffon, y biccell, na'rNeu, ddwy­fronneg. llurig.

27 I fe a gyfrif haiarn fel gwellt, a phres fel pren pwdr.

28 Ni phâr saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl.

29 Piccellau a gyfrifir fel soflyn, ac efe a chwardd wrth yscwyd gwaywffon.

30 Tano ef y bydd megis darniau llymion o lestri pridd: efe a dana bethau llymion ar hŷd y clai.

31 Efe a wna i'r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint.

32 I fe a wna lwybr golau ar ei ôl: fel y ty­bygid fod y dyfnder yn frig-wyn.

33 Nid oes ar y ddaiar gyffelyb iddo: yr hwn aNeu, ymddug. wnaethpwyd heb ofn.

34 Efe a edrych ar bob peth vchel; brenin ydyw ar holl feibion balchder.

PEN. XLII.

1 Job yn ymroi i Dduw. 7 A Duw yn barnu achos Job yn oreu, ac yn peri iw gyfeillion ym­roi iddo, ac yn ei dderbyn ef yn gymmeradwy, 10 ac yn ei fawrhau, ac yn ei fendithio. 16 Oe­dran a marwolaeth Job.

A Job a attebodd yr Arglwydd, ac a ddywe­dodd,

2 Myfi a wn y gelli di bob peth: ac naNeu, rwystrir vn o'th feddyliau. at­telir vn meddwl oddi wrthit.

3Pen. 38.2. Pwy ydyw 'r hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth? am hynny y lleferais yr hyn nis deallais; pethau rhy ryfedd i mi, y rhai ni's gwyddwn.

4 Gwrando attolwg, ac myfi a lefaraf: go­fynnaf i ti, dysc ditheu finneu.

5 Myfi a glywais â'm clustiau sôn am danat: ond yn awr fy llygad a'th welodd di.

6 Am hynny y mae yn ffiaidd gennif fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch, a lludw.

7 Ac wedi dywedyd o'r Arglwydd y geiri­au hyn wrth Job; yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eliphaz y Temaniad, fy nigofaint a gyn­neuodd yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy ddau gyfaill, am na ddywedasoch am danafi yn un­iawn fel sy ngwasanaeth-wr Job.

8 Yn awr gan hynny cymmerwch i chwi saith o fustych, a saith o hyrddod, ac ewch at fy ngwasanaeth-wr Job; ac offrymmwch boeth aberth trosoch, a gweddied fy ngwasanaeth­wr [Page] Job trosoch; canys mi a dderbynniaf ei wyneb ef, fel na wnelwyf i chwi yn ôl eich ffolineb, am na ddywedasoch yr vniawn am danafi, fel fy ngwasanaeth-wr Job.

9 Felly Eliphaz y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Sophar y Naamathiad, a aethant ac a wnaethant fel y dywedasei 'r Arglwydd wrthynt: a'r Arglwydd a dderbyniodd wy­neb Job.

10 Yna 'r Arglwydd a ddychwelodd gae­thiwed Job, pan weddiodd efe tros ei gyfeilli­on: a'r Arglwydd a chwanegodd yr hyn oll a fuasei gan Jôb yn ddau ddyblyg.

11 Yna ei holl geraint, a'i holl garesau, a phawb o'i gydnabod ef o'r blaen, a ddaethant atto, ac a fwyttasant fwyd gyd ag ef yn ei dŷ, ac a gwynasant iddo, ac a'i cyssurasant ef, am yr holl ddrwg a ddygasei 'r Arglwydd arno ef: a hwy a roddasant iddo bob vn ddarn o arian, a phob vn dlŵs o aur.

12 Felly yr Arglwydd a fendithiodd ddi­wedd Job yn fwy nâ'i ddechreuad: canys yr oedd ganddo bedair mil ar ddêc o ddefaid, a chwe mil o gamelod, a mil o gyplau ychen, a mil o assynnod.

13 Ac yr oedd iddo saith o feibion, a thair o ferched.

14 Ac efe a alwodd henw y gyntaf, Jemima, a henw yr ail Cezia, a henw y drydedd Ceren­happuch.

15 Ac ni cheid gwragedd morr lân a mer­ched Job, yn yr holl wlâd honno: a'i tâd a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ym mhlith eu brodyr.

16 A Job a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd; ac a welodd o'i feibion, a meibon ei feibion, bedair cenhedlaeth.

17 Felly Job a fu farw yn hên, ac yn llawn o ddyddiau.

¶LLYFR Y PSALMAV.

PSAL. I. Boreuol weddi.

1 Dedwyddwch y Duwiol. 4. Annedwyddwch yr annuwiol.

GWyn ei fŷd yDihar. 4.14. gŵr ni rodia yng­hyngor yr annuwolion, ac si saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwar-wŷr.

2 Onid sydd a'i ewyllys ynghyfraith yr Arglwydd:Deut. 6.6. Josua 1.8. Ps. 119.1. Dih. 6.20 ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef dydd a nôs.

3 Ac efe a fydd felJer. 17.8. pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrw­yth yn ei brŷd; a'i ddalen niHeb. ddiflanna. wywa, a pha beth bynnac a wnêl, efe a lwydda.

4 NidPs. 35.5. & 37.36. Esa. 17.13. felly y bydd yr annuwiol; onid fel mân vs yr hwn a chwâl y gwynt ymmaith.

5 Am hynny yr annuwolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid ynghynnulleidfa y rhai cyfiawn.

6 Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwolion a ddi­fethir.

PSAL. II.

1 Brenhiniaeth Christ, 10 A chynghori bren­hinoedd iw derbyn.

PA ham yAct. 4.25. terfysca y cenhedloedd? ac y myfyria y bobloedd beth ofer?

2 Y mae brenhinoedd y ddaiar yn ymosod, a'r pennaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd,

3 Drylliwn eu rhwymau hwy: a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym.

4Dihar. 1.26. Yr hwn sydd yn presswylio yn y ne­foedd a chwardd: yr Arglwydd ai gwatwar hwynt.

5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lîd, ac yn ei ddigllonrwydd yNeu, blina. dychryna efe hwynt.

6 Minneu aHeb. eneiniais. osodais fy Mrenin ar SionHeb. mynydd fy sanct­eiddrw­ydd. fy mynydd sanctaidd.

7 MynegafNeu, yn lle deddf. y ddeddf: dywedodd yr Ar­glwydd wrthif; fyAct. 13.33. Heb. 1.5. Mab ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais.

8Ps. 72.8. Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti: a therfynau y ddaiar i'th fe­ddiant.

9Dat. 2.27. & 19.15. Drylli hwynt â gwialen haiarn, maluri hwynt fel llestr pridd.

10 Gan hynny 'r awr hon frenhinoedd, by­ddwch synhwyrol: barn-wŷr y ddaiar cymme­rwch ddŷsc.

11 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn; ac ymlawenhewch mewn dychryn.

12 Cussenwch y mâb rhag iddo ddigio, a'ch difetha chwi o'r ffordd, pan gynneuo ei lîd ef ond ychydig;Dih. 16.20. Esa. 30.18. Jer. 17.7. Rhuf. 9.33. & 10.11. 1 Pet. 2.6. gwyn eu bŷd pawb a ymddi­riedant ynddo ef.

PSAL. III.
¶Psalm Dafydd, pan2 Sam. 15.14. frôdd efe rhag Absalom ei fab.

Diogelwch nawdd, ac amddiffyn Duw.

ARglwydd mor aml yw fy nhrallod-wŷr: llawer yw y rhai sy 'n codi i'm her­byn.

2 Llawer yw y rhai sy 'n dywedyd am fy enaid, nid oes iechydwriaeth iddo yn ei Dduw. Selah.

3 Ond tydi, Arglwydd, ydwyt darianNeu, trosofi. i mi: fy ngogoniant, a derchafudd fy mhen.

4 A'm llef y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a'm clybu o'i fynydd sanctaidd. Selah.

5Psal. 4.8. Mi a orweddais, ac a gyscais; ac a ddeffroais; canys yr Arglwydd a'm cynhaliodd.

6Psal. 27.3. Nid ofnaf fyrddiwn o bobl: y rhai o am­gylch a ymosodasant i'm herbyn.

7 Cyfot Arglwydd, achub fi fy Nuw; canys tarewaist fy holl elynion ar garr yr ên: torraist ddannedd yr annuwolion.

8Esa. 43.11. Hose. 13.4. Iechydwriaeth sydd eiddo 'r Arglwydd: dy fendith sydd ar dy bobl. Selah.

PSAL. IV.
¶I'rNeu, golygwr. pen-cerdd ar Neginoth, Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn gweddio ar gael ei wrando. 2 Yn ceryddu, ac yn cynghori ei elynion. 6 Yn ffafor Duw y mae dedwyddwch dyn.

GWrando fi pan alwyf, ô Dduw fy nghy­fiawnder, mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf:Neu, bydd ra­sol i mi. trugarhâ wrthif, ac erglyw fy ngweddi.

2 O feibion dynion, pa hŷd y trowch fy ngo­goniant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Selah.

3 Ond gwybyddwch i'r Arglwydd nailltuo y duwiol iddo ei hun: yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arno.

4 Ofnwch, ac na phechwch, ymddiddenwch â'ch calon ar eich gwely, a thewch. Selah.

5Psal. 50.14. & 51.19. Aberthwch ebyrth cyfiawnder, a gobei­thiwch yn yr Arglwydd.

6 Llawer fy 'n dywedyd, pwy a ddengys i ni ddaioni? Arglwydd, dercha arnom lewyrch dy wyneb.

7 Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy nâ 'r amser yr amlhâodd eu hŷd, a'i gwîn hwynt.

8Psal. 3.5. Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti Arglwydd yn vnic a wnei i mi drigo mewn diogelwch.

PSAL. V.
¶I'r pen-cerdd ar Nehiloth, Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn gweddio, ac yn datcan ei ddiwyd­rwydd yn gweddio. 4 Ni ffafria Duw 'r enwir. 7 Dafydd yn dangos ei ffydd, ac yn gweddio ar Dduw am ei gyfarwyddo ef, 10 a difetha ei elynion, 11 a chadw y duwiol.

GWrando fy ngeiriau Arglwydd: deall fy myfyrdod.

2 Erglyw ar lêffy ngwaedd, fy Mrenin, a'm Duw: canys arnat y gweddiaf.

3Psal. 130.6. Yn foreu Arglwyddd y clywi fy llêf: yn foreu y cyfeiriaf attat, ac yr edrychaf i fynu.

4 O herwydd nid wyt ti Dduw 'n ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyd â thi.

5 Ynfydion ni safantHeb. o flaen dy lygaid. yn dy olwg: caseaist holl weithred-wŷr anwiredd.

6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd, a'r twyllodrus.

7 A minneu a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder [Page] dy drugaredd: ac a addolaf tuHeb. a Theml dy sanct­eiddrw­ydd. a'th Deml san­ctaidd yn dy ofn di.

8 Arglwydd arwain fi yn dy gyfiawnder o achosHeb. fyngwil­wyr. fy ngelynion: ac vniona dy ffordd o'm blaen.

9 Canys nid oes Neu, ffyddlon­deb, neu, sicrwydd. vniondeb ynNeu, [...]i enau. eu genau, eu ceudod sydd anwireddau:Rhuf. 3.13. bedd agored yw eu cêg, gwenieithiant â'i tafod.

10Neu, gwna hw­ynt yn euog. Destrywia hwynt ô Dduw, syrthiant oddi wrth eu cynghorion, gyrr hwynt ym­maith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i'th erbyn.

11 Ond llawenhaed y rhai oll a ymddirie­dant ynot ti: llafar-ganant yn dragywydd, am i ti orchguddio trostynt: a'r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot.

12 Canys ti Arglwydd a fendithi y cyfi­awn: â charedigrwydd megis â tharian y co­roni di ef.

PSAL. VI. Prydnhawnol weddi.
¶I'r pen-cerdd ar Neginoth arYr wythfed. y She­minith, Psalm Dafydd.

1 Achwynion Dafydd yn ei glefyd. 8 Y mae efe trwy ffydd yn ymorfoleddu ar ei elynion.

ARglwyddPs. 38.1. na cherydda fi yn dy lidi­awgrwydd, ac na chospa fi yn dy lîd.

2 Trugarha wrthif Arglwydd, ca­nys llesc ydwyfi: iachâ fi o Argl­wydd, canys fy escyrn a gystuddiwyd.

3 A'm henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: titheu Arglwydd, pa hŷd?

4 Dychwel Arglwydd, gwared fy enaîd: achub fi er mwyn dy drugaredd.

5Psal. 30.9. & 88.11. & 115.17. & 118.17. Esa. 38.18. Canys yn angeu nid oes goffa am danat: yn y bêdd pwy a'th folianna?

6 Deffygiais gan fy ochain, bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddsa: yr ydwyfi 'n gwlychu fy ngorweddfa â'm dagrau.

7 Treuliodd fy llygad gan ddigter: heneiddi­odd o herwydd fy holl elynion.

8Mat. 7.23. & 25.41. Luc. 13.17. Ciliwch oddi wrthif holl weithred-wŷr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lêf fy ŵylofain.

9 Clybu 'r Arglwydd fy neisyfiad: yr Ar­glwydd a dderbyn fy ngweddi.

10 Gwradwydder, a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler, a chywilyddier hwynt yn ddisymmwth.

PSAL. VII.
¶Sigaion Dafydd, yr hwn a ganold efe i'r Arglwydd, oblegitNeu, achosion. geiriau2 Sam. 16.7. Cus fab Jemini.

Dafydd yn gweddio yn erbyn malis ei elynion, ac yn dangos ei wiriondeb, 10 a thrwy ffydd, yn gweled yr amddiffynnid ef, ac y difethid ei elynion.

ARglwydd fy Nuw, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlid-wŷr, a gwared fi.

2 Rhag iddo larpio fy enaid fel llew: gan ei rwygo, pryd na byddo, gwaredudd.

3 O Arglwydd fy Nuw, os gwneuthum hyn, od oes anwiredd yn fy nwylaw:

4 O thelais ddrwg i'r neb oedd heldychol â mi: (ie mi a waredais yr hwn syddelyn i mi heb achos)

5 Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: fathred hefyd fy mywyd i'r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llŵch. Selah.

6 Cyfot Arglwydd yn dy ddiglloneld, ym­ddercha o herwydd llid fy ngelynion: deffro hefyd drosof i'r farn a orchymynnaist.

7 Felly cynnulleidfa y bobloedd a'th am­gylchynant: er eu mwyn dychwel ditheu i'r vchelder.

8 Yr Arglwydd a farn y bobloedd: barn fi, ô Arglwydd,Psal. 18.20. yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof.

9 Darfydded weithian anwiredd yr annuwo­lion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y1 Sam. 16.7. 1 Cron. 28.9. Psal. 139. 1. Jer. 11.20. & 17.10. & 20.12. Duw cyfiawn a chwillia y calonnnau, a'r arennau.

10Heb. Fy nha­rian sydd ar Dduw. Fy amddeffyn sydd o Dduw, iachaw­dur y rhai vniawn o galon.

11 DuwA farna y cyfiawn. sydd farnudd cyfiawn, a Duw sy ddigllon beunydd wrth yr annuwiol.

12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hôga ei gleddyf; efe a annelodd ei fŵa, ac a'i para­tôdd.

13 Paratôdd hefyd iddo arfau anghefol, efe a drefnodd ei saetha [...] yn erbyn yr erlidwyr.

14 Wele efe aJob 15.35. Esa. 59.4. Iac. 1.15. ymddwg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a escorodd ar gelwydd.

15 Torrodd bwll, cloddiodd ef,Psal. 9.15. & 10.2. Dihar. 5.22. syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth.

16 Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun: a'i draha a ddescyn ar ei goppa ei hun.

17 Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawn­der: a chan-molaf enw 'r Arglwydd goruchaf.

PSAL. VIII.
I'r pen-cerdd ar Gittith: Psalm Dafydd.

Mawrygu gogoniant Duw wrth ei weithredoedd, ac wrth ei gariêd tu ac at ddyn.

ARglwydd ein Iôr ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaiar! yr hwn a oso­daist dy ogoniant vwch y nefoedd.

2 OMa [...] [...] enau plant bychain, a rhai yn sugno y [...] peraist nerth, o achos dy elynion: i ostegu y gelyn, a'r ymddialydd.

3 Pan edrychwyf ar dy nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a'r ser, y rhai a ordeiniaist;

4Job [...] 17. Psal 144.3. Heb. 2. [...]. Pa beth yw dŷn i ti iw gofio? a mab dŷr i ti i ymweled ag ef?

5 Canys gwnaethost ef ychydig îs nâ 'r an­gelion: ac a'i coronaist â gogoniant, ac â harddwch:

6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weith­redoedd dy ddwylo;1. Co [...] [...] gosodaist bôb peth dan ei draed ef;

7 Defaid, ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd:

8 Ehediaid y nefoedd, a physcod y mor: ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd.

9 Arglwydd ein lôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaiar!

PSAL. IX. Boreuol weddi.
¶I'r pen-cerdd ar Muth1 Sa [...]. 17.4. Labben, Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn moliannu Duw am wneuthur barn, 11 ac yn annog eraill iw glodfori ef, 13 ac yn gweddio ar iddo gael achos iw foliannu ef.

CLodforaf di ô Arglwydd, â'm holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau.

2 Llawenychaf, a gortoleddaf ynot: canaf i'th enw di, y Goruchaf.

3 Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant, ac a ddifethir o'th flaen di.

4 Canys gwnaethost fy marn a'm matter yn dda eisteddaist ar orsedd-faingc, gan farnuH [...]b. cyfiawn­der yn gyfiawn.

5 Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol: eu henw hwynt a ddelêaist byth bythol.

6Neu, Darfa am ddi­nisir y gelyn yn drag. Hâ elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd, a diwreiddiaist y dinasoedd, darfu eu costadwri­aeth gyd â hwynt.

7 Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd:Psal. 96.13. & 98.9. efe a baratôdd ei orsedd-faingc i farn.

8 Ac efe a farn y bŷd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn yniondeb.

9 YrPsal. 37.39. & 46.1. & 91.2. Arglwydd hefyd fyddNeu, vchelfa. noddfa i'r gorthrymmedig, noddfa yn amser trallod.

10 A'r rhai a adwaenant dy enw a ymddiri­edant ynot: canys ni adewaist, ô Arglwydd, y rhai a'th geisient.

11 Canmolwch yr Arglwydd, yr hwn sydd yn presswylio vn Sion: mynegwch ymmysc y bobloedd ei weithredoedd ef.

12Gen. 9.5. Pan ymofynno efe am waed, efe a'i cofia hwynt: nid anghofia waedd y cysaiddiol.

13 Trugarhâ wrthif Arglwydd, gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nerchafudd o byrth angau:

14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Sion: llawenychaf yn dy ie­chydwriaeth.

15 YPsal. 7.16. cenhedloedd a soddasant yn y ffôs a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y dali­wyd eu troed eu hun.

16 Adweinir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higaion. Selah.

17 Y rhai drygionus a ymchwelant i vffern: a 'r holl genhedloedd a anghofiant Dduw.

18 Canys nid anghôfir y tlawd byth, go­baith y trueniaid ni chollir byth.

19 Cyfot Arglwydd na orfydded dŷn: bar­ner y cenhedloedd ger dy fron di.

20 Cofod Arglwydd ofn arnynt, fel y gŵy­byddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Selah.

PSAL. X.

1 Dafydd yn cwyno wrth Dduw rhac traha yr annuwiol, 12 Ac yn gweddio am ymwared, 16 ac yn dangos et hyder.

PA ham Arglwydd y sefi o bell, yr ymguddi yn amser cyfyngder?

2 Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd:Psal. 7.10. & 9.16. Dihar.5.22. dalier hwynt yn y bwriadau a ddy­chymmygasant.

3 Canys yr annuwiol a ymfrostia am ewy­llys eiHeb. enaid. galon;Neu, o'r cy­bydd a ymfen­dithia, ffieiddio yr Arglwydd y mae. ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio.

4 Yr annuwiol gan vchder ei ffroen ni chais Dduw: Neu, ei holl feddyliau yw nad oes Duw. nidPsal. 14.1. & 53.1. yw Duw yn ei holl feddyliau ef.

5 Ei ffyrdd sydd flîn bôb amser, vchel yw dy farnedigaethau allan o'i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion.

6 Dywedodd yn ei galon, ni 'm symmudir, o herwydd ni byddaf mewn drygfyd, hyd gen­hedlaeth a chenhedlaeth.

7 EiRhuf. 3.14. enau sydd yn llawn melldith, a dichell, a thwyll: tan ei dafod y maeBlinder. camwedd, acGwagedd, Heb. twyll. anwiredd.

8 Y mae efe yn eistedd ynghynllwynfa y pentrefydd, mewn cilfacheu y lladd efe y gwi­rion: ei lygaid aHeb. lechant, neu, a ymguddiant dremiant yn ddirgel ar y tlawd.

9 Efe a gynllwyna mewn dirgelwch, megis llew yn ei ffau; cynllwyn y mae i ddal y tlawd, efe a ddeil y tlawd gan ei dynnu iw rwyd.

10 Efe aHeb. ymddry­llia. ymgrymma, ac a ymostwng: fel y cwympo tyrfa trueniaid gan ei gedyrn ef.

11 Dywedodd yn ei galon, anghofiodd Duw:Psal. 94.7. cuddiodd ei wyneb, ni wêl byth.

12 Cyfot Arglwydd, ô Dduw dercha dy law: nac anghofia y cystuddiol.

13 Pa ham y dirmyga 'r annuwiol Dduw? dywedodd yn ei galon, nid ymofynni.

14 Gwelaist hyn, canys ti a ganfyddi anwi­redd, a cham, i roddi tal â'th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd, ti yw cynnorthwy-wr yr ymddifad.

15 Torr fraich yr annuwiol, a'r drygionus; cais ei ddrygioni ef, hyd na chaffech ddim.

16Psal. 29.10. & 145.13. & 146.10. Jer. 10.10. Galat. 5.19. Yr Arglwydd sydd Frenin byth, ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o'i dîr ef.

17 Arglwydd, clywaist ddymuniad y tlodi­on;Neu, sicrhei. parottoi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt.

18 I farnu yr ymddifad a'r gorthrymmedig: fel na chwanego dŷn daiarolOr­thryra­mu. beri ofn mwyach.

PSAL. XI.
¶ I'r pen-cerdd, Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn ymgyssuro yn Nuw, yn erbyn ei elynion. 4 Rhagddarbodaeth a chyfiawnder Duw.

YN yr Arglwydd yr wyf yn ymddiried, pa fôdd y dywedwch wrth fy enaid, eheda i'ch mynydd fel aderyn?

2 Canys wele, y drygionus a annelant fŵa, paratoesant eu saetheu ar y llinyn, i saethuHeb. mewn tywyll­wch. yn ddirgel y rhai vniawn o galon.

3Os. Canys y seiliau a ddinistriwyd: pa beth a wna y cyfiawn?

4Habac. 2.20. Yr Arglwydd sydd yn Nheml ei sanctei­ddrwydd; gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd; y mae ei lygaid ef yn gweled, ei am­rantau yn profi meibion dynion.

5 Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr câs gan ei enaid ef y drygionus, a'r hwn sydd hoff ganddo drawsder.

6 Ar yr annuwolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoeth-wynt ystormus: dymmaEzec. 23.31. ran eu phiol hwynt.

7 Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfi­awnder: ei wyneb a edrych ar yr vniawn.

PSAL. XII. Prydnhawnol weddi.
¶I'r pen-cerdd arYr wythfed. Sheminith, Psalm Dafydd.

1 Dafydd heb ganddo ddim cyssur dynol, yn erfyn cymmorth gan Dduw, 3 ac yn ymgyssuro â barnedigaethau Duw ar yr enwir, a'i ymddiried ym mrhofedig addenidion Duw.

AChub Arglwydd, canys darfu y truga­rog: o herwydd pallodd y ffyddloni­aid o blith meibion dynion.

2 Oferedd a ddywedant bôb vn wrth ei gymmydog; â gwefus wenhieithgar, ac âHeb. chalon a chalon. chalon ddau ddyblyg y llefârant.

3 Torred yr Arglwydd yr holl wefu­sau gwenhieithus, a'r tafod a ddywedo fawr­hydri.

4 Y rhai a ddywedant, â'n tafod y gorfy­ddwn: ein gwefusau syddHeb. gyda ni. eiddom ni, pwy sydd Arglwydd arnom ni?

5 O herwydd anrhaith y rhai cystuddiedic, o herwydd vchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd: rhoddaf mewn iechydwriaeth yr hwn yChwy­ther arno. magler iddo.

6 Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion; fel 2 Sam. 22.31. Psal. 18.30. & 119.140. Dihar. 30.5. arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seith-waith.

7 Ti Arglwydd a'i cedwi hwynt: cedwiHeb. ef. hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.

8 Yr annuwolion a rodiant o amgylch: pan dderchafer y gwaelaf o feibion dynion.

PSAL. XIII.
¶I'rGoly­gwr. pen-cerdd, Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn cwyno bod yn oedi ei ymwared ef, 3 yn gweddio am râs iw ragflaenu, 5 yn ym­ffrostio yn nrhugaredd Duw.

PA hŷd, Arglwydd, i'm anghofi, ai yn dra­gywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rha­gof.

2 Pa hŷd y cymmeraf gynghorion yn fyenaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hŷd y derchefir fy ngelyn arnaf?

3 Edrych, a chlyw fi, o Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid rhag i'm hûno yn yr angeu.

4 Rhag dywedyd o'm gelyn, gorchfygais ef: ac i'm gwrthwyneb-wŷr lawenychu os gogwyddaf.

5 Minneu hefyd a ymddiriedais yn dy dru­garedd di, fy nghalon a ymlawenycha yn dy iechydwriaeth; canaf i'r Arglwydd am iddo synio arnaf.

PSAL. XIV.
¶I'r pen-cerdd, Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn dangos llygredigaeth natur dyn, 4 yn argyoeddi 'r annuwiol trwy oleuni eu cyd­wybod eu hun, 7 yn ymogoneddu yn iechyd­wriaeth Duw.

YRPsal. 53.1. & 10.4. ynfyd a ddywedodd yn ei galon, nid oes vn Duw? ymlygrasant, ffieidd-waith a wnaethant; nid oes a wnêl ddaioni.

2 Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o'r ne­foedd ar feibion dynion; i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw.

3 Ciliodd pawb, cŷd-ymddifwynâsant,Rhuf. 3.10. nid oes a wnêl ddaioni, nac oes vn.

4 Oni ŵyr holl weithred-wŷr anwiredd? y rhai sy yn bwytta fy mhobl fel y bwyttaent fara; ni alwâsant ar yr Arglwydd.

5 Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw ynghenhedlaeth y cyfiawn.

6 Cyngor y tlawd a wradwyddasoch chwi, am fod yr Arglwydd yn obaith iddo.

7 Pwy a ddyry iechydwriaeth i Israel o Sion? pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenhâ Is­rael.

PSAL. XV.
¶Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn dangos pa fath sydd ar ddinasyddi­on Sion.

ARglwyddPsal. 24.3. pwy aHeb. ymdei­thia. drîg yn dy babell: pwy a bresswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd?

2Esai. 33 15. Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gafiawnder, ac a ddywed wîr yn ei galon:

3 Heb absennu â'i dafod: heb wneuthur drwg iw gymmydog, a heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymmydog.

4 Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg, ond a anrhydedda y rhai a ofnantyr Arglwydd: yr hwn a dwng iw niwed ei hun, ac ni newidia.

5Exod. 22.25. Leu. 25.36. Deu. 23.19. Eze. 22.12. & 18.8. Yr hwn ni roddes ei arian ar vsuriaeth, ac ni chymmer wobr yn erbyn y gwirion: a wnêlo hyn nid yscogir yn dragywydd.

PSAL. XVI.
Psalm euraid. Michtam Dafydd.

1 Dafydd o anymddiried iw haeddedigaethau ei hun, ac o gâs ar ddelw-addoliaeth, yn cyrchu at Dduw am ymwared. 5 Yn dangos gobaith ei alwedigaeth, yr adgyfodiad, a bywyd tragywy­ddol.

CAdw fi ô Dduw, canys ynot yr ymddiriedaf

2 Fy enaid, dywedaist wrth yr Arg­lwydd, fy Arglwydd ydwyt ti:Psal. 50.9. Job. 22.2. & 35.7. fy nâ nid yw ddim i ti:

3 Ond i'r sainct sydd ar y ddaiar, a'r rhai rhagorawl, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch.

4 Gofidiau a amlhânt i'r rhai aNeu, anrhegant eraill. fryssiant ar ôl Duw dieithr: eu diod offrwm o waed nid offrymmaf fi, acExod. 23.13. ni chymmeraf eu henwau yn fy ngwefusau.

5Deut. 32.9. Galat. 3.24. Yr Arglwydd yw rhan fyHeb. rhandir. etifeddiaeth i a'm phiol, ti a gynheli fy nghoelbren.

6 Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie y mae i mi etifeddiaeth dêg.

7 Bendithiaf yr Arglwydd yr hwn a'm cyng­hôrodd: fy arennau hefyd a'm dyscant y nôs.

8Acts 2.25. Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheu-law, ni'm yscogir.

9 O herwydd hynny llawenychodd fy ngha­lon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy ngnhawd hefyd aHeb. breswylia yn ddro­gel. orphywys mewn gobaith,

10 Canys,Act. 2.31. & 13.35. ni adewi fy enaid yn vffern: ac ni oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth.

11 Dangosi i mi lwybr bywyd: digonol­rwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy dde­heu-law y mae digrifwch yn dragywydd.

PSAL. XVII.
¶Gweddi Dafydd.

Dafydd o hyder ar ei wiriondeb, yn gofyn cym­morth Duw yn erbyn ei elynion, 10 yn dangos eu balchder, a'i dichell, a'i creulondeb hwy, 13 yn gweddio yn eu herbyn hwy mewn hyder ar ei obaith.

CLyw Arglwydd gyfiawnder: ystyria fy lle­fain, gwrando fyngweddiHeb. heb wef [...] ­sau twyll. o wefusau didwyll.

2 Deued fy marn oddi ger dy fron, edryched dy lygaid ar vniondeb.

3 Profaist fy nghalon, gofwyaist fi y nôs, chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na thro­seddai fy ngenau.

4 Tu ag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr yspeiludd.

5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel Heb. nad. ys­cogo. na lithro fy nhraed.

6 Mi a elwais arnat, canys gwrandewi arna­fi ô Dduw: gostwng dy glust attaf, ac erglyw fy ymadrodd.

7 Dangos dy ryfedd drugareddau, ô achu­budd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheu-law.

8 Cadw fi fel canwyll llygad: cudd fi dan gyscod dy adenydd,

9 Rhag yr annuwolion, y rhai [...]mH [...] anrhei­th [...]ant. gor­thrymmant: rhag fy ngelynionHeb. yn erbyn yr enaid. marwol, y rhai a'm hamgylchant.

10 Caeasant gan eu brasder, â'i genau y llefa­rant mewn balchder.

11 Ein cynniweirfa ni a gylchynasant hwy yr awr hon, gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i'r ddaiar.

12Heb. Ei ddull. Eu dull sydd fel llew a chwennychei sclyfaethu, ac megis llew ieuangc yn aros mewn lleoedd dirgel.

13 Cyfod Arglwydd, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwaret fy enaid rhag yr annuwiolNeu, a'th gleddyf. yr hwn yw dy gleddyf di.

14 Rhac dynion y rhai yw dy law, O Arg­lwydd, rhag dynion y bŷd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd ymma, a'r rhai y llenwaist eu boliau â'th guddiedic dryssor: llawnNeu, y [...] eu [...]ibion. ydynt o feibi­on, a gadawant eu gweddill iw rhai bychain.

15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cy­fiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â'th ddelw di.

PSAL. XVIII. Prydnhawnol weddi.
¶I'r pen-cerdd, Psalm Dafydd gwâs yr Ar­glwydd, yr hwn a lefarodd wrth yr Arg­lwydd2 Sam. [...]2 eiriau y gân hon, vn y dydd y gwa­redodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd,

Dafydd yn moliannu Duw am ei amryw a'i ry­feddol fendithion.

CAraf di Arglwydd fy nghadernid.

2 Yr Arglwydd yw fy nghraig, a'm hamddeffynfa, a'm gwaredudd; fy Nuw,Heb. fy agôraig. fy nghadernid, ynHebr. 2.13. yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian, a chorn fy iechyd­wriaeth, a'm huchel-dŵr.

3 Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly i'm cedwir rhag fy ngelynion.

4Psal. 16.3. Gofidion angau a'm cylchynâsant: ac afonyddDynion annuwiol Heb. Belial. y fall a'm dychrynâsant i.

5Neu, reffynnau. Gofidiau vffern a'm cylchynâsant: mag­lau angeu a achubasant fy mlaen.

6 Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Ar­glwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o'i Deml, a'm gwaedd ger ei fron a dda­eth iw glustiau ef.

7 Yna y siglodd, ac y crynodd y ddaiar, a seiliau y mynyddoedd a gynnhyrfodd, ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio.

8 Derchafodd mŵgNeu, drwy ei ffr. o'i ffroenau, a thân a yssodd o'i enau: glô a enynnâsant ganddo.

9 Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddes­cynnodd: a thywyllwch oedd tan ei draed ef.

10 Marchogodd hefyd ar y Cerub, ac a ehed­odd: îe efe a ehedodd ar adenydd y gwynt.

11 Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo; a'i babell o'i amgylch oedd dywyllwch dy­froedd, a thow-gwmmylau yr awyr.

12 Gan y discleirdeb oedd ger ei fron, ei gwmylau a aethant heibio: cenllysc a marwor canllyd.

13 Yr Arglwydd hefyd a darânodd yn y nefoedd: a'r Goruchaf a roddes ei lef; cenllysc a marwor tanllyd.

14 Ie efe a anfonodd ei saethau, ac a'i gwas­carodd hwynt: ac a saethodd ei fellt, ac a'i gorchfygodd hwynt.

15 Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y bŷd a ddinoethwyd: gan dy gerydd di ô Ar­glwydd, a chan chwythad anadl dy ffroenau.

16 Anfonodd oddi ychod, cymmerodd fi, tynnodd fi allan o ddyfroeddNeu, mawrion. lawer.

17 Efe a'm gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghascion: canys yr oeddynt yn drech nâ mi.

18 Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi.

19 Dûg fi hefyd i ehengder, gwaredodd fi: canys ymhoffodd ynof.

20 Yr Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y ta­lodd efe i mi.

21 Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd: ac ni chillais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw.

22 O herwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger mron i: a'i ddeddfau ni fwriais oddi wrthif.

23 Bum hefyd yn berffaith gyd ag ef: ac ymgedwais rhag fy anwiredd.

24 A'r Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl purdeb fy nwylo, o flaen ei lygaid ef.

25 A'r trugarog y gwnei drugaredd: â'r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.

26 A'r glân y gwnei lendid: ac â'r cyn­dyn yr ymgyndynni.

27 Canys ti a waredi y bobl gystuddiedic: ond ti â ostyngi olygon vchel.

28 O herwydd ti a oleui fyNeu, lamp. nghanwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch.

29 O blegit ynot ti yNeu, torrais. rhedais trwy fyddin: ac yn fy Nuw y llemmais dros fûr.

30 Duw sydd berffaith ei ffordd,Psal. 12.6. & 119.140. Dihar. 30.5. gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.

31Deut. 32.39. 1 Sam. 2.2. Psal. 86.8. Esay 45.5. Canys pwy sydd Dduw heb law yr Ar­glwydd? a phwy sydd graig ond ein Duw ni?

32 Duw sy 'n fy ngwregyssu â nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith.

33 Gosod y mae efe fy nhraed, fel traed ewi­god: ac ar fy vchel-fannau i'm sefydla.

34 Efe sy yn dyscu fy nwylo i ryfel: fel y dryllir bŵa dûr yn fy mreichiau.

35 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iechyd­wriaeth, a'th ddeheu-law a'm cynhaliodd,Neu, ac a'th fwynder i'm lluc­sogaist. a'th fwynder a'm lluosogodd.

36 Ehengaist fy ngherddediad tanaf; fel na fithrodd fyHeb. fferau, neu, sod­lau. nhraed.

37 Erlidiais fy ngelynion, ac a'i goddiwe­ddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.

38 Archollais hwy, fel na allent godi: syr­thiasant dan fy nhraed.

39 Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel:Heb. plygaist, neu, crym­maist. darostyngaist tanaf y rhai a ymgododd i'm herbyn.

40 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelyni­on: fel y difethwn fy nghaseion.

41 Gwaeddasant, ond nid oedd achubudd: sef ar yr Arglwydd, ond nid attebodd efe hwynt.

42 Maluriais hwynt hefyd fel llŵch o flaen y gwynt: teflais hwynt allan megis tom yr heolydd.

43 Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl, gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid ad­nabûm a'm gwasanaethant.

44Heb. wrth. glywed y glust. Pan glywant am danaf, vfyddhânt i mi: meibion dieithr aHeb. ddywc­dant geb wydd wrthif. gymmerant arnynt ymdda­rostwng i mi.

45 Meibion dieithr a ballant: ac a ddychry­nant allan o'i dirgel fannau.

46 Byw yw 'r Arglwydd, a bendithier fy nghraig: a derchafer Duw fy iechydwriaeth.

47 Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddial: ac aNeu, ddifetha. ddarostwng y bobloedd tanaf.

48 Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion: ie ti a'm derchefi vwch law y rhai a gyfodant i'm herbyn: achubaist fi rhag y gŵrNeu, tr [...]is. traws,

49 Am hynnyRhuf. 15.9. yNeu, cyffesaf. moliannaf di ô Arg­lwydd, ym mhlith y cenhedloedd, ac y cânaf i'th enw.

50 Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared iw frenin, ac yn gwneuthur trugareld iw en­einiog, i Ddafydd, ac iw hâd ef byth.

PSAL. XIX. Boreuol weddi.
¶I'r pen-cerdd. Psalm Dafydd.

1 Bod y creaduriaid yn dangos gogoniant Duw, 7 A'i air yn dangos ei râs ef. 12 Dafydd yn gweddio am ras.

YGene. 1.6. Nefoedd sy yn dadcan gogoniant Duw: a'r ffurfafen sy yn mynegi gwaith ei ddwylaw ef.

2 Dydd i dydd a draetha ymadrodd: a nôs i nôs a ddengys ŵybodaeth.

3 Nid oes iaith nac ymadrodd,Neu, heb y rhai hyn y cly­ [...] eu llef hwynt. Heb. heb glywed eu llefe­rydd. lie ni chly­buwyd eu lleferydd hwynt.

4Rhuf. 10.18. EuNeu, rheol. llinyn aeth drwy 'r holl ddaiar, a'i geiriau hyd eithafoedd bŷd: i'r haul y goso­dodd efe babell ynddynt.

5 Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o'i stafell: ac a ymlawenhâ fel cawr i redeg gyrfa.

6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a'i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wrês ef.

7Neu, Addysc. Cyfraith yr Arglwydd sydd beffaith, ynNeu, edferu. troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd siccr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth.

8 Deddfau yr Arglwydd sydd vniawn, yn llawenhau y galon: gorchymmyn yr Arglwydd sydd bûr, yn goleuo y llygaid.

9 Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd: barnau 'r Arglwydd ydynt wirio­nedd, cyfiawn ydynt i gyd.

10Psal. 119.72.127.103. Dihar. 8.19. Mwy dymunol ŷnt nag aur, îe nag aur coeth lawer: melysach hefyd nâ'r mêl, ac nâ diferiad diliau mêl.

11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy wâs: o'i cadw y mae gwobr lawer.

12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanhâ fi oddi wrth fy meiau cuddiedic.

13 Attal hefyd dy wâs oddi wrth bechodau rhyfygus, na arglwyddiaethant arnaf; yna i'm perffeithir, ac i'm glanheir oddi wrthYr an­wiredd mawr. anw i­redd lawer.

14 Bydded ymadroddion fy ngenau, a my­fyrdod fy nghalon, yn gymmeradwy ger dy fron, ô Arglwydd, fy nghraig, a'm prynwr.

PSAL. XX.
¶I'r pen-cerdd. Psalm Dafydd.

1 Yr eglwys yn bendithio 'r brenin yn ei fawr­hydi. 7 Ei hyder hi ynghymmorth Duw.

GWrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a'thHeb. dderchafo dde­ffynno.

2 AnfonedHeb. dy gym­morth. i ti gymmorth o'r cyssegr: aHeb. atteged, neu, chyn­halied. nerthed di o Sion.

3 Cofied dy holl offrymmau: aHeb. gwnaed yn lludw, neu, yn fras. bydded fodlon i'th boeth offrwm. Selah.

4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon: a chy­flawned dy holl gyngor.

5 Gorfoleddwn yn dy iechydwriaeth di, a derchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau.

6 Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog, efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddcheu-law ef.

7 Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Ar­glwydd ein Duw.

8 Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant: ond nyni a gyfodasom, ac a safasom.

9 Achub Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom, yn y dydd y llefom.

PSAL. XXI.
¶I'r pen-cerdd. Psalm Dafydd.

1 Tal diolch am fuddugoliaeth: 7 A hyder ar gael ychwaneg o lwyddiant.

ARglwydd yn dy nerth y llawenycha y bre­nin: ac yn dy iechydwriaeth di, mor ddirfawr yr ymhyfryda?

2 Deisyfiad ei galon a roddaist iddo: a dy­muniad ei wefusau ni's gommeddaist. Selah.

3 Canys achubaist ei flaen ef â bendithion dai­oni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.

4 Gofynnodd oes gennit, a rhoddaist iddo: ieHeb. hir ddy­ddiau. hir-oes, byth ac dragywydd.

5 Mawr yw ei ogoniant yn dy iechydwri­aeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch.

6 Canys gwnaethoft ef yn fendithion yn dragywyddol, llawenychaist ef â llawenydd âth wyneb-pryd.

7 O herwydd bod y brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd, a thrwy drugaredd y Goruchaf, nid yscogir ef.

8 Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheu-law a gaiff afael ar dy gascion.

9 Ti â'i gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddigllonedd a'i llwngc hwynt, a'r tân a'i hyssa hwynt.

10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaiar: a'i hâd o blith melbion dynion.

11 Canys bwriadasant ddrwg i'th erbyn: me­ddyliasant amcan, heb allu o honynt ei gwplau.

12 Am hynny y gwnei iddynt droi euHeb. yscwydd. cefneu: ar dy linynnau y paratoi di saethau yn erbyn eu hwynebau.

13 Ymddercha Arglwydd yn dy nerth: canwn, a chan-molwn dy gadernid.

PSAL. XXII. Prydnhawnol weddi.
I'r pen-cerdd arEwig y borau Aieleth hashahar. Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn achwyn mewn anghyssur mawr, 9 yn gweddio mewn cyfyngder mawr, 23 ac yn clodfori Duw.

FYMatth. 27.40. Marc. 15.34. Nuw, fy Nuw pa ham i'm gwrtho­daist? pa ham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iechydwriaeth, a geiriau fy llefain?

2 Fy Nuw, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi: y nôs hefyd, acNid wyf yn tewi. nid oes osteg i mi.

3 Ond tydi wyt sanctaidd, ô dydi yr hwn wyt yn cyfanneddu ym moliant Israel.

4 Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithia­sant, a gwaredaist hwynt.

5 Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddiriedasant, ac ni's gwradwyddwyd hwynt.

6 A minneu prŷf ydwyf, ac nid gŵr: gwar­thrudd dynion, a dirmyg y bobl.

7Matth. 27.30. Pawb a'r a'm gwêlant a'm gwatwa­rant:Heb. agorant. llaesant wefl, escydwant ben, gan ddy­wedyd,

8Matth. 2 [...].43. Heb. ymdreig­lodd at yr. Ymddiriedodd yn yr Arglwydd, gwa­reded ef: achubed ef,Neu, os yw. gan ei fod yn dda ganddo.

9 Canys ti a'm tynnaist o'r groth:Neu, diogelaist fi. gwnae­thost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam.

10 Arnat ti i'm bwriwyd o'r brû: o grôth fy mam fy Nuw ydwyt.

11 Nac ymbellhâ oddi wrthif, o herwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynnorth­wy-wr.

12 Teirw lawer a'm cylchynasant: gwrdd deirw Basan a'm hamgylchasant.

13 Agorasant arnaf eu genau: fel llew rheipus, a rhuadwy.

14 Fel dwfr i'm tywalltwyd, a'm hescyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cŵyr, hi a doddodd ynghanol fy mherfedd.

15 Fy nerth a ŵywodd fel pridd-lestr, a'm tafod a lynodd wrth dafiod fy ngenau: ac i lŵch angeu i'm dygaist.

16 Canys cŵn a'm cylchynasant, cynnulle­idfa y drygionus a'm hamgylchasant:Matth. 27.35. Marc. 15.24. Luc. 23.33. Joa. 19 23.37. trywa­nasant fy nwylaw a'm traed.

17 Gallaf gyfrif fy holl escyrn: y maent yn tremio, ac yn edrych arnaf.

18Luc. 23.34. Joa. 19.24. Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysc: ac ar fy ngwisc yn bwrw coelbren.

19 Ond tŷdi Arglwydd nac ymbellhâ: fy nghadernid bryssia i'm cynnorthwyo.

20 Gwaret fy enaid rhag y cleddyf: fy vnic enaid oHeb. law. feddiant y cî.

21 Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cym vnicorniaid i'm gwrandewaist.

22Heb. 2.12. Mynegaf dy enw i'm brodyr: yn­ghanol y gynnulleidfa i'th solaf.

23 Y rhai sy yn ofni 'r Arglwydd, molwch ef, holl hâd Jacob, gogoneddwch ef: a holl hâd Israel, ofnwch ef.

24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd, ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wran­dawodd.

25 Fy mawl fydd o honot ti yn y gynnull­eidfa fawr: fy addunedau a dalaf ger bron y rhai a'i hofnant ef.

26 Y tlodion a fwyttânt, ac a ddiwellir, y rhai a geisiant yr Arglwydd a'i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd.

27Psal. 2.8. & 7 [...].11. & 86.9. Holl derfynau y ddaiar a gofiant, ac a droant at yr Arglwydd: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di.

28 Canys eiddo 'r Arglwydd yw 'r deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ym mhlith y cenhedloedd.

29 Yr holl rai breision ar y ddaiar a fwyt­tânt, ac a addolant: y rhai a ddescynnant i'r llŵch a ymgrymmant ger ei fron ef: ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun.

30 Eu hâd a'i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i'r Arglwydd yn genhedlaeth.

31 Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i'r bobl a enir: mai efe a wnaeth hyn.

PSAL. XXIII.
¶Psalm Dafydd.

1 Hyder Dafydd ar râs Duw.

YREsa. 40.11. Jer. 23.4.5. Ezec. 34.23. Joa. 10.11. 1 Pet. 1.25. Arglwydd yw fy mugail: ni bydd eisieu arnaf.

2 Efe a wna i'm orwedd mewn porfeydd gwelltoc: efe a'm tywys ger llaw y dyfroeddHeb. Ilonydd­wch. tawel.

3 Efe a ddychwel fy enaid, efe a'm harwain ar hŷd llwybrau cyfiawnder, er mwyn ei enw.

4 Ie pe rhodiwn ar hŷd glynn cyscod an­geu,Ps. 3.6. & 118.6. nid ofnaf niwed; canys yr wyt ti gyd â mi: dy wialen, a'th ffon a'm cyssurant.

5 Ti a arlwyi fort ger fy mron, yngwydd fy ngwrthwyneb-wŷr:Heb. iras [...]aist. îraist fy mhen ag olew, fy phiol sydd lawn.

6 Daioni, a thrugaredd yn ddiau a'm can­lynant, oll ddyddiau fy mywyd: a phresswy­liaf yn nhŷ'r ArglwyddHeb. tros hir ddyddiau yn dragywydd.

PSAL. XXIV. Boreuol weddi.
¶Psalm Dafydd.

1 Arglwyddiaeth Duw yn y byd hwn. 3 Dina­syddion ei ysprydol deyrnas ef. 7 Cyngor iw dderbyn ef.

EIddoDeut. 10.14. Job. 41.11 1 Cor. 10.26. Psal. 50.12. yr Arglwydd y ddaiar, a'i chy­flawnder: y bŷd, ac a bresswylia ynddo.

2Job 38.6. Psal. 104.5. & 136.6 Canys efe a'i seiliodd ar y mo­roedd: ac a'i siccrhaodd ar yr afonydd.

3Psal. 15.1. Pwy a escyn i fynydd yr Arglwydd? a phwy a saif yn ei lê sanctaidd ef?

4Esay. 33.15. Y glân ei ddwylo, a'r pur ei galon: yr hwn ni dderchafodd eiHeb. enaid. feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo.

5 Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iechydwriaeth.

6 Dymma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef: y rhai a geisiant dy wyneb diNeu, o Dduw Jacob. ô Jacob. Selah.

7 O byrth, derchefwch eich pennau, ac ym­dderchefwch ddrysau tragywyddol: a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

8 Pwy yw yr brenin gogoniant hwn? yr Arglwydd nerthol, a chadarn: yr Arglwydd ca­darn mewn rhyfel.

9 O byrth, derchefwch eich pennau, ac ym­ddercheswch ddrysau tragywyddol, a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

10 Pwy yw 'r brenin gogoniant hwn? Ar­glwydd y lluoedd, efe yw brenin y gogoniant. Selah.

PSAL. XXV.
Psalm Dafydd.

1 Hyder Dafydd yn ei weddi. 7 Y mae yn gweddio am faddeuant pechodau, 16 ac am gymmorth mewn trallod.

ATtat ti ô Arglwydd, y derchafaf fy enaid.

2 O fy Nuw, ynot ti 'rPsal. 22.5. & 31.1. & 34.8. ymddiriedais, na'm gwradwydder: na orfoledded fy ngely­nion arnaf.

3Esa. 28.16. Rhuf. 10.11. Ie na wradwydder neb sydd yn dis­gwyl wrthit ti: gwradwydder y rhai a drosse­ddant heb achos.

4Psal. 27.11. & 86.11. & 119. Par i mi ŵybod dy ffyrdd ô Arglwydd: dysc i mi dy lwybrau.

5 Tywys fi yn dy wirionedd, a dysc fi: ca­nys ti yw Duw fy iechydwriaeth, wrthit ti y disgwyliaf ar hŷd y dydd.

6Psal 103 17. & 106 1. & 107. 1 Jer. 33.11. Cofia Arglwydd dyHeb. ymysca­roedd. dosturiaethau, a'th drugareddau: canys erioed y maent hwy.

7 Na chofia bechodau fy ieuengctid, n'am camweddau; yn ôl dy drugaredd meddwl di am danaf, er mwyn dy ddaioni Arglwydd.

8 Da ac vniawn yw yr Arglwydd: o herwydd hynny y dysc efe bechaduriaid yn y ffordd.

9 Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a'i ffordd a ddysc efe i'r rhai gostyngedic.

10 Holl lwybrau 'r Arglwydd ydynt dru­garedd, a gwirionedd, i'r rhai a gadwant ei gy­fammod, a'i destiolaethau ef.

11 Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddeu fy anwiredd: canys mawr yw.

12 Pa ŵr yw efe sy 'n ofni yr Arglwydd? efe a'i dysc ef yn y ffordd a ddewiso.

13 Ei enaid ef aHeb. lettena. erys mewn daioni: a'i hâd a etifedda y ddaiar.

14Dihar. 3.32. Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyd â'r rhai a'i hosnant ef: a'i gyfammod hefyd,Heb. i beri iddynt wybod. iw cyfarwyddo hwynt.

15 Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Ar­glwydd: canys efe a ddŵg fy nhraed allan o'r rhwyd.

16 Trô attaf, a thrugarhâ wrthif: canys vnic, a thlawd ydwyf.

17 Cofidiau fy nghalon a helaethwyd: dwg di fi allan o'm cyfyngderau.

18 Gwêl fy nghystudd, a'm helbul: a ma­ddeu fy holl bechodau.

19 Edrych ar fy ngelynion, canys amlhasant: â chasineb traws hefyd i'm cassasant.

20 Cadw fy enaid, ac achub fi: na'm gwra­dwydder, canys ymddiriedais ynot.

21 Cadwed perffeithrwydd, ac vniondeb fi, canys yr wyf yn disgwyl wrthit.

22 O Dduw, gwared Israel o'i holl gyfyng­derau.

PSAL. XXVI.
Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn cyrchu at Dduw mewn hyder o'i ddiniweidrwydd.

BArn fi Arglwydd, canys rhodiais yn fy mher­ffeithrwydd, ymddiriedais hefyd yn yr Ar­glwydd, am hynny ni lithraf.

2Psal. 7.9.10 Hôla fi Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arennau, a'm calon.

3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd.

4Psal. 1.1. Nid eisteddais gyd â dynion coegion, a chyd â'r rhai trofaus nid âf.

5 Casseais gynnulleidfa y drygionus: a chyd â'r annuwolion nid eisteddaf.

6 Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a'th allor ô Arglwydd, a amgylchynaf:

7 I gyhoeddi â llef clodforedd: ac i fynegi dy holl ryfeddodau.

8 Arglwydd, hoffais drigfan dy dŷ: a lleNeu, tabernacl. presswylfa dy ogoniant.

9 Na chascl fy enaid gyd â phechaduriaid: n'am bywyd gyd â dynion gwaedlyd:

10 Y rhai y mae scelerder yn eu dwylo, a'i deheu-law yn llawn gwobrau.

11 Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeith­rwydd: gwared fi, a thrugarhâ wrthif.

12 Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr vnion: yn y cynnulleidfaoedd i'th fendithiaf ô Arg­lwydd.

PSAL. XXVII. Prydnhawnol weddi.
Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn attegu ei ffydd trwy allu Duw, 4 trwy ei serch i wasanaeth Duw, 9 trwy weddi.

YR Arglwydd yw fyMich. 7.8. ngoleuni, a'm hie­chydwriaeth, rhag pwy yr ofnaf?Psal. 118.6. yr Arglwydd yw north fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?

2 Pan nessaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwyneb-wŷr, a'm gelynion i'm herbyn, i fwytta fy ngnhawd: hwy a dramgwydda­sant, ac a syrthiasant.

3Psal. 3.6. Pe gwersyllei llu i'm herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodei câd i'm herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus.

4 Vn peth a ddeisyfiais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf, sef caffel trigo ynnhŷ 'r Ar­glwydd holl ddyddiau fy mywyd: i edrych arHeu, hy­frydwch. brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei Deml.

5 Canys yn y dydd blin i'm cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell im cuddia, ar graig i'm cyfyd i.

6 Ac yn awr y dercha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch: am hynny 'r aberthaf yn ei babell ef ebyrthHeb. bloedd. gorfoledd: ca­naf, ie canmolaf yr Arglwydd.

7 Clyw ô Arglwydd fy lleferydd pan lefwyf, trugarhâ hefyd wrthif, a gwrando arnaf.

8 Pan ddywedaist, ceisiwch fy wyneb, fyng­halon a ddywedodd wrthit, dy wyneb a geisiaf, ô Arglwydd.

9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthif, na fwrw ymmaith dy wâs mewn soriant: fy nghymmorth fuost; na âd fi, ac na wrthod fi, ô Dduw fy iechydwriaeth.

10 Pan yw fy nhâd, a'm mam yn fy ngwr­thod: yr Arglwydd a'mHeb. cascl. derbyn.

11Psal. 25.4. & 86.11. & 119. Dysc i mi dy ffordd Arglwydd: ac ar­wain fi ar hŷd llwybrau vniondeb, o herwydd fyHeb. ngwil­wyr. ngelynion.

12 Na ddyro fi i fynu i ewyllys fy ngelyni­on: canys gau dystion, a rhai a adroddant draw­ster a gyfodasant i'm herbyn.

13 Deffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni 'r Arglwydd yn nhîr y rhai byw.

14Psal. 31.24. Esay 25.9. Haba. 2.3. Disgwil wrth yr Arglwydd, ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl meddaf wrth yr Arglwydd.

PSAL. XXVIII.
Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn gweddio yn daer yn erbyn ei elyni­on, 6 yn bendithio Duw, 9 ac yn gweddio tros y bobl.

ARnat ti Arglwydd y gwaeddaf, fy nghraig na ddistawa wrthif;Psal. 143.7. rhag o thewi wrthif, i'm fôd yn gyffelyb i rai yn descyn i'r pwll.

2 Erglyw lef fy ymbil, pan waeddwyfarnat; pan dderchafwyf fy nwylo tu ag atHeb. gaf [...]ll dy gyssegr. dy gafell sanctaidd.

3 Na thynn fi gyd â'r annuwolion, a chyd â gweithred-wŷr anwiredd, yPsal. 12.2. Jer. 9.8. rhai a lefarant heddwch wrth eu cymmydogion, a drwg yn eu calon.

4 Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychymmygion, dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo: tâl iddynt eu haeddedigaeth.

5 Am nad ystyriant weithredoedd yr Arg­lwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt.

6 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd: canys clybu lêf fy ngweddiau.

7 Yr Arglwydd yw fy nerth am tarian, yn­ddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, ac myfi a gynnorthwywyd: o herwydd hyn y llaw­enychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodfo­raf ef.

8 Yr Arglwydd sydd nerth i'r cyfrywNeu, vn. rai, a chadernid iechydwriaeth ei eneiniog yw efe.

9 Cadw dy bobl, a bendithia dy etifoddia­eth:Neu, llywo­draeth [...]. portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.

PSAL. XXIX.
¶Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn annog tywysogion i roi gogoniant i Dduw, 3 o herwydd ei fawr allu, 11 a'i ym­ddiffyn iw bobl.

MOeswch i'r Arglwydd chwi feibion ce­dyrn: moeswch i'r Arglwydd ogoniant, nerth.

2 Moeswch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ymNeu, yn ei bryd­ferth gyssegr mhrydferthwch ei sancteiddrwydd.

3 Llêf yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd, Duw y gogoniant a darâna: yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion.

4 Llêf yr Arglwydd sydd mewn grym: llêf yr Arglwydd sy mewn prydferthwch.

5 Llêf yr Arglwydd sy yn dryllio y cedr­wŷdd: ie dryllia 'r Arglwydd gedr-wŷdd Libanus.

6 Efe a wna iddynt lammu fel llô: Libanus aDeut. 3.9. Syrion fel llwdn vnicorn.

7 Llêf yr Arglwydd aNeu, dyrr allan. wascâra y fflammau tân.

8 Llef yr Arglwydd a wna i'r anialwchNeu, ofidio. grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu.

9 Llef yr Arglwydd a wna i'r ewigod lyd­nu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei Deml,Neu, y cwbl o honi. pawb a draetha ei ogoniant ef.

10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifei­riant, ie yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd.

11 Yr Arglwydd a ddyry nerth iw bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangneddyf.

PSAL. XXX. Boreuol weddi.
Psalm neu gân o gyssegriad tŷ Dafydd.

1 Dafydd yn moli Duw am ei ymwared, 4 yn annog eraill iw glodfori, wrth weled fel yr oedd Duw yn gwneuthur ag ef.

MAwrygaf di ô Arglwydd, canys derchefaist fi: ac ni lawenhêaist fy ngelynion o'm plegit.

2 Arglwydd fy Nuw, llefais arnat: a thitheu a'm hiachêaist.

3 Arglwydd derchefaist fy enaid o'r bêdd, cedwaist fi yn fyw, rhag descyn o honof i'r pwll.

4 Cenwch i'r Arglwydd ei sainct ef: a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sanct­eiddrwydd ef.

5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lîd, yn ei fodlonrwydd y mae bywyd:Heb. yr hwyr. tros brŷd nawn yr erys ŵylofain, ac erbyn y boreu y bydd Heb. can. gorfoledd.

6 A mi a ddywedais yn fy llwyddiant, ni'm syflir yn dragywydd.

7 O'th ddaioni Arglwydd, y gosodaist gryf­der yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bum helbulus.

8 Arnat ti Arglwydd y llefais: ac â'r Ar­glwydd yr ymbiliais.

9 Pa fudd sydd yn fy ngwaed pan ddes­cynnwyf i'r ffôs?Psal. 6.5. & 88.11. & 115.17. a glodfora y llwch di? a fy­nêga efe dy wirionedd?

10 Clyw Arglwydd, a thrugarhâ wrthif; Arglwydd bydd gynnorthwywr i mi.

11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: dioscaist fy sach-wisc, a gwregysaist fi â llaw­enydd.

12 Fel y cano fyngogoniant i ti, ac na thawo: ô Arglwydd fy Nuw, yn dragywyddol i'th foliannaf.

PSAL. XXXI.
¶I'r pen-cerdd, Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn dangos ei ymddiried yn Nuw, ac yn gofyn ei help ef, 7 yn ymlawenychu yn ei dragaredd ef, 9 yn gweddio yn ei adfyd, 19 ac yn moliannu Duw am ei ddaioni.

YNotPsal. 22.5. Esay 49. [...]3. ti Arglwydd yr ymddiriedais, na'm gwradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfiawnder.

2 Gogwydda dy glust attaf, gwared fi ar frys: bydd i mi yn graigHeb. cadernid. gadarn, yn dŷ amddeffyn, i'm cadw.

3 Canys fy nghraig a'm castell ydwyt, gan hynny er mwyn dy enw, tywys fi, ac arwain fi.

4 Tynn fi allan o'r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth.

5Luc. 23.46. I'th law y gorchymynnaf fy yspryd: gwaredaist fi ô Arglwydd Dduw y gwirionedd.

6 Caseais y rhai sy yn dal ar ofer-wagedd: minneu a obeithiaf yn yr Arglwydd.

7 Ymlawenhâf, ac ymhyfrydaf yn dy dru­garedd: canys gwelaist fy adfyd, adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau.

8 Ac ni warcheaist fi yn llaw y gelyn, onid gosodaist fy nhraed mewn ehangder.

9 Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie fy enaid, a'm bol.

10 Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a'm blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd o herwydd fy anwiredd, a'm hescyrn a byd­rasant.

11 Yn warthrudd yr ydwyf ym mysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymmysc fy nghymmydogion: ac yn ddychryn i'r rhai a'm hadwaenant; y rhai a'm gwelent allan, a gili­ent oddi wrthif.

12 Anghofiwyd fi fel yn marw allan o feddwl, yr ydwyf fel llestr methedic.

13 Canys clywais ogan llaweroedd, dych­ryn oedd o bôb parth: pan gyd-ymgynghora­sant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio.

14 Ond mi a obeithiais ynot ti Arglwydd, dywedais, fy Nuw ydwyt.

15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwar­ed fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy er­lidwŷr.

16 Llewyrcha dy wyneb ar dy wâs: achub fi er mwyn dy drugaredd.

17 Arglwydd na wradwydder fi, canys gel­wais arnat: gwradwydder yr annuwolion, torrer hwynt i'r bedd.

18 Gosteger y gwefusau celwyddoc, y rhai a ddywedant yn galed drwy falchder, a diysty­rwch, yn erbyn y cyfiawn.

19Esa. 64.4. 1 Cor. 2.9. Morr fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i'r sawl a'th ofnant; ac a wnaethost i'r rhai a ymddiriedant ynot, ger bron meibion dynion!

20 Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb, rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell, rhag cynnen tafodau.

21 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd, canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi, mewn dinasNeu, gaerog. gadarn.

22 Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst, fo'm bwriwyd allan o'th olwg: er hynny ti a wran­dewaist lais fy ngweddiau, pan lefais arnat.

23 Cerwch yr Arglwydd ei holl sainct ef: yr Arglwydd a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i'r neb a wna falchder.

24Psal. 27 14. Ymwrôlwch, ac efe a gryfhâ eich ca­lon: chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr Arglwydd.

PSAL. XXXII. Prydnhawnol weddi.
Psalm DafyddMaschil. er athrawiaeth.

1 Ym maddeuant pechodau y mae dedwyddwch yn sefyll. 3 Bod cyfaddef pechodau yn esmwy­thau ar y gydwybod. 8 Addewidion Duw yn dwyn llawenydd.

GWynRhuf. 4.7. ei fyd y neb y maddeuwyd ei drossedd: ac y cuddiwyd ei be­chod.

2 Gwyn ei fyd y dŷn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd: ac ni bo dichell yn ei yspryd.

3 Tra y tewais, heneiddiodd fy escyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd.

4 Canys trymhâodd dy law arnaf ddydd a nôs: fy irder a drowyd yn sychder hâf. Selah.

5 [...]ddefais fy mhechod wrthit, a'm han­wiredd ni chuddiais: dywedais,Dihar. 28.13. Esa. 65.24. 1 Joh. 1.9. cyffessaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i'r Arglwydd, a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Selah.

6 Am hyn y gweddia pob duwiol arnat ti ynHeb. amser caffael. yr amser i'th geffir: yn ddiau yn llifeiri­ant dyfroedd mawrion, ni chânt nessau atto ef.

7Psal. 9.9. Ti ydwyt loches i mi: cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniâdau ymwared. Selah.

8 Cyfarwyddaf di, a dyscaf di yn y ffordd yr elech: a'm llygad arnat i'th gynghoraf.

9Dihar. 26.3. Na fyddwch fel march, reu fûl, heb ddeall, yr hwn y mae rhaid attal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddinesau attat.

10 Gofidiau lawer fydd i'r annuwiol, ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, trugaredd a'i cylchŷna ef.

11 Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyf­ryd yn yr Arglwydd: a'r rhai vniawn o galon oll, cenwch yn llafar.

PSAL. XXXIII.

1 Bod yn rhaid moliannu Duw, am ei ddaioni, 6 am ei allu, 12 am ei ragluniaeth. 20 Ar Dduw y mae hyderu.

YMlawenhewch y rhai cyfiawn, yn yr Ar­glwydd: i'r rhai vniawn gweddus yw mawl.

2 Molwch yr Arglwydd â'r delyn: cênwch iddo â'r nabl, ac â'r dectant.

3 Cenwch iddo ganiad newydd: cenwch yn gerddgar, yn soniarus.

4 Canys vniawn yw gair yr Arglwydd; a'i holl weithredoedd a wnaed mewn ffyddlon­deb.

5Psal. 119.64. Efe a gâr gyfiawnder, a barn: o dru­garedd yr Arglwydd y mae y ddaiar yn gyflawn.

6Gen. 1.6. Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd: a'i holl luoedd hwy trwy yspryd ei enau ef.

7 Casclu y mae efe ddyfroedd y môr yng­hyd, megis pen-twrr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn tryssorau.

8 Ofned yr holl ddaiar yr Arglwydd: holl drigolion y byd arswydant ef.

9 Canys efe a ddywedodd, ac fely y bu: efe a orchymynnodd, a hynny a safodd.

10Esa. 19.3. Yr Arglwydd sydd yn diddymmu cyngor y cenhedloedd: y mae efe yn diddym­mu amcanion pobloedd.

11Dihar. 19.21. Esa. 46.10 Cyngor yr Arglwydd a saif yn dra­gywydd: meddyliau ei galon, o genhedlaeth i genhedlaeth.

12Psal. 65.4. & 144.15. Gwyn ei fyd y genedl y mae yr Ar­glwydd yn Dduw iddi: a'r bobl a ddetholes efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.

13 Yr Arglwydd sy yn edrych i lawr o'r ne­foedd: y mae yn gweled holl feibion dynion.

14 O bresswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaiar.

15 Efe a gyd-luniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd.

16 Ni waredir brenin gan liaws llu; ni ddiangc cadarn drwy ei fawr gryfder.

17 Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb drwy ei fawr gryfder.

18Job. 36.7. Psal. 34.15. 1 Pet. 3.12. Wele y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a'i hofnant ef: sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef,

19 I waredu eu henaid rhag angeu: ac iw cadw yn fyw yn amser newyn.

20 Ein henaid sydd yn disgwil am yr Ar­glwydd: efe yw ein porth a'n tarian.

21 Canys ynddo ef y llawenycha ein calon; o herwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef.

22 Bydded dy drugaredd Arglwydd arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.

PSAL. XXXIIII.
¶Psalm Dafydd pan newidiodd efe ei wêdd o flaenAchi [...]. 1 Sam. 21.11. Abimelech, yr hwn a'i gyrrodd ef ymmaith, ac efe a ymadawodd.

1 Dafydd yn clodfori Duw, ac yn annog eraill i wneuthur hynny, wrth a brofasai ef. 8 Ded­wydd yw y rhai sy yn ymddiried yn Nuw. 11 Cyngor i ofni Duw. 15 Rhagor-fraint y cyfiawn.

BEndithiaf yr Arglwydd bob amser: ei fo­liant fydd yn fy ngenau yn wastad.

2 Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedic a glywant hyn, ac a lawen­ychant.

3 Mawrygwch yr Arglwydd gyd â mi: a chyd-dderchafwn ei enw ef.

4 Ceisiais yr Arglwydd, ac efe a'm gwran­dawodd: gwaredodd fi hefyd o'm holl ofn.

5 Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd: a'i hwynebau ni chywilyddiwyd.

6 Y tlawd hwn a lefodd, a'r Arglwydd a'i clybu, ac a'i gwaredodd o'i holl drallodau.

7 Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a'i hofnant ef, ac a'i gwared hwynt.

8 Profwch, a gwelwch morr dda yw 'r Ar­glwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.

9 Ofnwch yr Arglwydd ei sainct ef: canys nid oes eisieu ar y rhai a'i hofnant ef.

10 Y mae eisieu, a newyn ar y llewod ieuaingc, ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisieu dim daioni.

11 Deuwch blant, gwrandewch arnaf: dys­caf i chwi ofn yr Arglwydd.

121 Pet. 3.10. Pwy yw 'r gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hîr ddyddiau, i weled daioni?

13 Cadw dy dafod rhag drwg: a'th wefu­sau rhag traethu twyll.

14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda: ymgais â thangneddyf, a dilyn hi.

15Joh. 36 7. Psal. 33.18. 1 Pet. 3.12. Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfi­awn: a'i glustiau sydd yn agored iw llefain hwynt.

16 Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg: i dorri eu coffa oddi ar y ddaiar.

17 Y rhai cyfiawn a lefant, a'r Arglwydd a glyw, ac a'i gwared o'i holl drallodau.

18 Agos yw 'r Arglwydd at y rhai dryllie­dic o galon: ac efe a geidw y rhai briwedic o yspryd.

19 Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr Arglwydd a'i gwared ef oddi wrthynt oll.

20 Efe a geidw ei holl escyrn ef: ni thorrir un o honynt.

21 Drygioni a ladd yr annuwol: a'r rhai a gasant y cyfiawn aNeu, a fyddant euog. anrheithir.

22 Yr Arglwydd a wared eneidiau ei [Page] weision: a'r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.

PSAL. XXXV. Boreuol weddi.
Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn gweddio, am ddingelwch iddo ei hun, a gwarth iw elynion, 11 yn achwyn rhac y cam a wnaent ag ef. 22 Ac wrth hynny, yn an­nog Duw yn eu herbyn hwy.

DAdleu fy nadl Arglwydd, yn erbyn y rhai a ddadleuant i'm herbyn: ym­ladd â'r rhai a ymladdant â mi.

2 Ymafael yn y darian a'r astalch, a chyfot i'm cymmorth.

3 Dwg allan y wayw-ffon, ac argaea yn er­byn fy erlid-wŷr: dywed wrth fy enaid, myfi yw dy iechydwriaeth.

4Psal. 40.15. & 70.3. Cywilyddier, a gwradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl, a gwarthaer, y sawl a fwriadant fy nrygu.

5Job. 21.18. Psa. 1.4. Esa. 29.5. Hose. 13.3. Byddant fel vs o flaen y gwynt: ac angel yr Arglwydd yn eu herlid.

6 Bydded eu ffordd yn dywyllwch, ac yn llithrigfa: ac angel yr Arglwydd yn eu hym­lid.

7 Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddi­asant i'm henaid.

8 Deued arno ddestryw ni ŵypo, ai rwyd yr hon a guddiodd a'i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw.

9 A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd: efe a ymhyfryda yn ei iechydwriaeth ef.

10 Fy holl escyrn a ddywedant, ô Arglwydd, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd, rhag yr hwn a fyddo trêch nag ef, y truan hefyd a'r tlawd, rhag y nêb a'i hyspeilio?

11 Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho.

12 Talasant i mi ddrwg dros dda; iHeb. ddifuddio. ys­peilio fy enaid.

13 A minneu pan glafychent hwy, oeddwn a'm gwisc o sach-len,Neu, cystuddi­ais. gostyngais fy enaid ag ympryd: a'm gweddi a ddychwelodd i'm myn­wes fy hun.

14Heb. rhodiais. Ymddygais fel pe buasei 'n gyfaill, neu yn frawd i mi; ymostyngais mewn galar-wisc, fol vn yn galaru am ei fam.

15 Ond ymlawenhasant hwy yn fyHeb. nghloffni. adfyd i, ac ymgasclasant: ymgasclodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient.

16 Ym mysc y gwatwarwyr rhag-rithiol mewn gwleddoedd, yscyrnygasant eu dannedd arnaf.

17 Arglwydd, pa hŷd yr edrychi di ar hyn? gwared fy enaid rhag eu destryw hwynt, fy vnic enaid rhag y llewod.

18Psal. 40.9, 10. & 111.1. Mi a'th glodforaf yn y gynnulleidfa fawr: moliannaf di ym mhlith poblHeb. gedyrn. lawer.

19 Na lawenychant o'm herwydd y rhai sydd elynion i miHeb. ar gam. heb achos: y sawl a'm casant yn ddiachos, nac amneidiant â llygad.

20 Can nad ymddiddanant yn dangneddy­fus: eithr dychymygant eiriau dichellgar, yn erbyn y rhai llonydd yn y tîr.

21 Lledasant eu safn arnaf, gan ddywedyd: Ha, ha, gwelodd ein llygad.

22 Gwelaist hyn Arglwydd, na thaw di­theu: nac ymbellhâ oddi wrthif, ô Arglwydd.

23 Cyfod, a deffro i'm barn, sef i'm dadl, fy Nuw, a'm Harglwydd.

24 Barn fi Arglwydd fy Nuw, yn ôl dy gyfiawnder: ac na lawenhânt o'm plegit.

25 Na ddywedant yn eu calon, ô einHeb, enaid. gwyn­fyd: na ddywedant, llyngcasom ef.

26 Cywilyddier, a gwradwydder hwy i gyd, y rhai sy lawen am fy nryg-fyd: gwiscer â gwarth ac â chywilydd, y rhai a ymfawrygant i'm herbyn.

27 Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghyfiawnder, dywedant hefyd yn wastad, maw­ryger yr Arglwydd, yr hwn a gâr lwyddiant ei wâs.

28 Fy nhafod inneu a lefara am dy gyfi­awnder, a'th foliant, ar hyd y dydd.

PSAL. XXXVI.
¶I'r pen-cerdd, Psalm Dafydd gwâs yr Ar­glwydd.

1 Blîn gyflwr yr annuwiol. 5 Godidawgrwydd trugaredd Duw. 10 Dafydd yn gweddio am ffafor i blant Duw.

Y Mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy ngalon, nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef.

2 O herwydd ymwenhieithio y mae efe iddo ei hun, yn ei olwg ei hunan,Heb. i gael. nes cael ei an­wireddHeb. iw gas­hau. yn atcas.

3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni.

4Neu, wagedd. Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely, efe a'i gefyd ei hun ar ffordd nid yw dda: nid ffiaidd gantho ddrygioni.

5Psal. 57.10. & 108.4. Dy drugaredd Arglwydd sydd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymmylau.

6 Fel mynyddoeddHeb. Duw. cedyrn y mae dy gyfi­awnder, dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dŷn ac anifail a gedwi di, Arglwydd.

7 Morr werth-fawr yw dy drugaredd ô Dduw! am hynny 'r ymddiried meibion dy­nion tan gyscod dy adenydd.

8Heb. meddwir, neu, mwydir. Llawn-ddigonir hwynt â brasder dy dŷ: ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.

9 Canys gyd â thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni.

10 Estyn dy drugaredd i'r rhai a'th adwae­nant, a'th gyfiawnder i'r rhai vniawn o galon.

11 Na ddeued troed balchder i'm herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi.

12 Yno y syrthiodd gweith-wŷr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.

PSAL. XXXVII. Prydnhawnol weddi.
Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn annog i ymmynedd, ac â hydern ar Dduw, o herwydd y rhagor sydd rhwng cyflwr y duwiol a'r annuwiol.

NAcDihar. 23.17. & 24.1. ymddigia o herwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnant anwiredd.

2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i'r llawr fel glas-wellt, ac y gwywant fel gwyrdd lyssiau.

3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda: felly y trigi yn y tîr, a thi a borthir yn ddiau.

4 Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd, ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon.

5Dihar. 16.3. Matth. 6.25. 1 Pet. 5.7. Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo, ac efe a'i dwg i ben.

6 Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y go­leuni: a'th farn fel hanner dydd.

7 Distawa yn yr Arglwydd, a disgwil wrtho, nac ymddigia o herwydd yr hwn a lwyddo [Page] ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneu­thur ei ddrwg amcanion.

8 Paid â digofaint, a gâd ymmaith gyn­ddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg.

9 Canys torrir ymmaith y drwg-ddynion, ond y rhai a ddisgwiliant wrth yr Arglwydd, hwynt hwy a etifeddant y tîr.

10 Canys etto ychydigyn, ac ni welir yr an­nuwiol, a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim o honaw.

11Matth. 5.5. Eithr y rhai gostyngedic a etifeddant y ddaiar, ac a ymhyfrydant gan liaws tangne­ddyf.

12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cy­fiawn, ac a escyrnyga ei ddannedd arno.

13Psal. 2.4. Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef, canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod.

14 Yr annuwiolion a dynnasant eu cleddyf, ac a annelasant eu bŵa, i fwrw i lawr y tlawd, a'r anghenog, ac i ladd y rhai vniawn eu ffordd.

15 Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a'i bwâu a ddryllir.

16 Gwell yw 'r ychydig sydd gan y cyfiawn, nâ mawr olud annuwolion lawer.

17 Canys breichiau 'r annuwolion a dor­rir: ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfi­awn.

18 Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y rhai perffaith, a'i hetifeddiaeth hwy fydd yn dra­gywydd.

19 Nis gwradwyddir hwy yn amser drygfyd, ac yn amser newyn y cânt ddigon.

20 Eithr collir yr annuwolion, a gelynion yr Arglwydd felHeb. gwerth-fawraw­grwydd. braster ŵyn a ddiflannant: yn fŵg y diflannant hwy.

21 Yr annuwiol a echŵyna, ac ni thâl ad­ref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.

22 Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tîr: a'r rhai a felldithio efe, a dorrir ym­maith.

23 Yr Arglwydd aNeu, siccrha. fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef.

24 Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â'i law.

25 Mi a fum ieuangc, ac yr ydwyf yn hên: etto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na'i hâd yn cardotta bara.

26Heb. Ar hyd y dydd, neu, bob dydd Pob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg: a'i hâd a fendithir.

27 Cilia di oddiwrth ddrwg, a gwna dda, a chyfannedda yn dragywydd.

28 Canys yr Arglwydd a gâr farn, ac ni edy ei sainct: cedwir hwynt yn dragywydd, ond had yr annuwiol a dorrir ymmaith.

29 Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaiar, ac a bresswyliant ynddi yn dragywydd.

30 Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a'i dafod a draetha farn.

31 Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef, a'i Neu, gerdde­diad. gamrau ni lithrant.

32 Yr annuwiol a wilia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.

33 Ni âd yr Arglwydd ef yn ei hw ef, ac ni âd ef yn euog pan ei barner.

34 Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a'th dderchafa, fel yr etife­ddech y tîr: pan ddifether yr annuwolion, ti a'i gweli.

35 Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigoc, felNeu, pren gwyrdd­las yn ty­fu o hono ei hun. y lawryf gwyrdd.

36 Er hynny efe a aeth ymmaith, ac wele nid oedd mwy o honaw: a mi a'i ceisiais, ac nid oedd i'w gael.

37 Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr vni­awn, canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tang­neddyf.

38 Ond y trosedd-wyr a gŷd-ddestrywir, diwedd yr annuwolion a dorrir ymmaith.

39 Ac iechydwriaeth y cyfiawn fyd [...] oddi­wrth yr Arglwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod.

40 A'r Arglwydd a'i cymmorth hwynt, ac a'i gwared; efe a' [...] gwared hwynt rhag yr an­nuwolion, ac a'i ceidw hwynt, am iddynt ym­ddiried ynddo.

PSAL. XXXVIII. Boreuol weddi.
¶Psalm Dafydd er coffa.

Dafydd yn erfyn ar Dduw dosturio wrth ei do­stur gyflwr ef.

ARglwydd na cherydda fi yn dy lid: ac na chospa fi yn dy ddigllonedd.

2 Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof: a'th law yn drom arnaf.

3 Nid oes iechyd yn fy ngnhawd, o her­wydd dy ddigllonedd: ac nid oes heddwch i'm hescyrn, o blegit fy mhechod.

4 Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen, megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi.

5 Fy nghleisiau a bydrasant, ac a lygrasant gan fy ynfydrwydd.

6 Crymmwyd a darostyngwyd fi 'n ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus.

7 Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf ac nid oes iechyd yn fy ngnhawd.

8 Gwanhawyd, a drylliwyd fi 'n dramawr: rhuais gan astonyddwch fy nghalon.

9 O'th flaen di Arglwydd y mae fy holl ddymuniad, ac ni chuddiwyd fy vchenaid oddi wrthit.

10 Fy nghalon sydd yn llammu, fy nerth a'm gadawodd, a llewyrch fy llygaid nid yw ychwaith gennif.

11 Fy ngharedigion, a'm cyfeillion a safent oddi ar gyfer fyH [...] nyrnod. mhlâ, a'mNeu cymmy­dogion. cyfneseifiaid a safent o hir-bell.

12 Y rhai hefyd a geisient fy einioes a oso­dasant faglau, a'r rhai a geisient fy niwed a draethent anwireddau, ac a ddychmygent ddi­chellion ar hyd y dydd.

13 A minneu fel byddar ni chlywn, eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau.

14 Felly 'r oeddwn fel gŵr ni chlywei, ac heb argyoeddion yn ei enau.

15 O herwydd i'm obeithio ynot Arglwydd, ti Arglwydd fy Nuw aNeu, attebi. wrandewi.

16 Canys dywedais, gwrando fi, rhag llaw­enychu o honynt i'm herbyn, pan lithrei fy nhroed, ymfawrygent i'm herbyn.

17 Canys parod wyf i gloffi: a'm dolur sydd ger fy mron yn wastad.

18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryd­eraf o herwydd fy mhechod.

19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw ac yn gedyrn, amlhawyd hefyd y rhai a'm cassânt ar gam:

20 A'r rhai a dalant ddrwg dros dda, a'm gwrthwynebant: am fy mod yn dilyn daioni.

21 Na âd fi, â Arglwydd: fy Nuw, nac ymbellhâ oddi wrthif.

22 Bryssia i'm cymmorth, ô Arglwydd fy iechydwriaeth.

PSAL. XXXIX.
¶Psalm Dafydd i'r pen-cerdd, sef i1 Cron. 25.1. Jeduthun.

1 Gofal Dafydd am ei feddyliau. 4 ystyried fyr­red ac ofered oes dyn, 7 parch barnedigaethau Duw, 10 a gweddi, yn ffrwyno ei annioddef­garwch ef.

DYwedais, cadwaf fy ffyrdd rhag pechu â'm tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo 'r annuwiol yn fy ngolwg.

2 Tewais yn ddistaw, ie tewais â daioni: a'm dolur a gyffrôdd.

3 Gwresogodd fy nghalon o'm mewn: tra oeddwn yn myfyrio, enynnodd tan, a mi a lefe­rais â'm tafod.

4 Arglwydd pâr i mi ŵybod sy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau: fel y gwypwyfNeu, mor freu­ol ydwyf. o ba oedran y byddaf fi.

5 Wele, gwnaethost fy nyddian fel dyrn­fedd, a'm henioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau maiPsal. 62.9, & 144.4. cwbl wagedd yw pôb dŷn, pan foHeb. wedi ym­sefydlu. ar y goreu. Selah.

6 Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewnHeb. culyn. cyscod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac ni's gŵyr pwy a'i casol.

7 Ac yn awr, beth a ddisgwiliaf, ô Ar­glwydd: fy ngobaith sydd ynot ti.

8 Gwared fi o'm holl gamweddau; ac na osod fi yn wradwydd i'r ynfyd.

9 Aethum yn fûd, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn.

10 Tyn dy blâ oddi wrthif: ganHeb. frwydr. ddyrnod dy law y darfûm i.

11 Pan gospit ddyn â cheryddon am an­wiredd,Heb. toddit. dattodit fel gŵyfyn ei ardderchawg­rwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pôb dŷn. Selah.

12 Gwrando fy ngwoddi Arglwydd, a chlyw fy llef, na thaw wrth fy wylofain: ca­nysLevit. 25.23. 1 Cron. 29.15. Psal. 119.19. Heb. 11.13. 1 Pet. 2.11. ymdeithudd ydwyf gyd â thi, ac alltud fel fy holl dadau.

13 Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myn­ed: ac na byddwyf mwy.

PSAL. XL.
¶I'r pen-cerdd, Psalm Dafydd.

1 Y lles sydd o hyderu ar Dduw. 6 Vfydd-dod yw yr aberth goreu. 11 Drygau Dafydd yn peri iddo weiddio yn daerach.

DIsgwiliaisHeb. gan ddis­gwyl. yn ddyfal am yr Arglwydd, ac efe a ymostyngodd attaf: ac a glybu fy llefain.

2 Cyfododd fi hefyd o'r pydewHeb. trwst. erchyll, allan o'r pridd tomlyd: ac a osododd fy nhraed ar graig, gan bwyllo fy ngherddediad.

3 A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i'n Duw ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Ar­glwydd.

4 Gwyn ei fyd y gŵr a osodo 'r Arglwydd yn ymddiried iddo: ac ni thrŷ at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd.

5 Lluosog y gwnaethost ti, ô Arglwydd fy Nuw, dy ryfeddodau, a'th amcanion tuag at­tom; ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo.

6Psal. 51.16. Esa. 1.11. & 66.3. Hose. 6.6. Mat. 12.7. Heb. 10. [...]. Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist,Heb. cloddiaist. ago­raist fy nghlustiau: poeth offrwm a phech-ab­erth ni's gofynnaist.

7 Yna y dywedais, wele 'r ydwyf yn dyfod; yn rhol y llyfr yr scrifennwyd am danaf.

8 Da gennif wneuthur dy ewyllys, ô fy Nuw: a'th gyfraith syddHeb. ynghanol fy ymys­caroedd. o fewn fy nghalon.

9 Pregethais gyfiawnder yn y gynnulleidfa fawr: wele, nid atteliais fy ngwefusau, ti Ar­glwydd a'i gwyddost.

10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon, treuthais dy ffyddlondeb a'th iechyd­wriaeth: ni chelais dy drugaredd na'th wiri­onedd, yn y gynnulleidfa luosog.

11 Titheu Arglwydd nac attal dy drugareddau oddi wrthif: cadwed dy drugaredd, a'th wiri­onedd fi bŷth.

12 Canys drygau anifeiriol a'm cylchyna­sant o amgylch, fy mhechodau a'm daliasant, fel na allwn edrych i fynu: amlach ydynt nâ gwallt fy mhen, am hynnyHeb. i'm gwr­thododd fyngha­lon. y pallodd fy ngha­lon gennif.

13 Rhynged bodd it Arglwydd fy ngwa­redu: bryssia Arglwydd i'm cymmorth.

14Psal. 35.4. & 70.3. Cyd-gywilyddier, a gwradwydder y rhai a geisiant fy enioes iw difetha; gyrrer yn eu hôl, a chywilyddier, y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.

15 Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwradwydd, y rhai a ddywedant wrthif, Hâ, ha.

16 Llawenyched, ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a'th geisiant: dyweded y rhai a garant dy iechydwriaeth bôb amser, mawryger yr Ar­glwydd.

17 Ond yr wyf fi yn dlawd, ac yn anghe­nus, etto yr Arglwydd a feddwl am danaf, fy nghymmorth a'm gwaredudd ydwyt ti: fy Nuw na hîr drîg.

PSAL. XLI. Prydnhawnol weddi.
¶I'r pencerdd, Psalm Dafydd.

1 Gofal Duw tros y tlawd. 4 Dafydd yn cwy­no rhag brâd ei elynion, 10 yn cilio at Dduw am gymmorth.

GVVyn ei fyd a ystyria wrthNeu, y llesc. neu, y claf. y tlawd; yr Arglwydd a'i gwared ef ynHeb. nydd drwg. am­ser adfyd.

2 Yr Arglwydd a'i ceidw, ac a'i bywhâ, gwynfydedic fydd ar y ddaiar: na ddod titheu ef wrth ewyllys ei elynion.

3 Yr Arglwydd a'i nertha ef ar ei glaf-wely:Heb. troi. cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.

4 Mi a ddywedais, Arglwydd trugarhâ wrth­if: iachâ fy enaid, canys pechais i'th erbyn.

5 Fy ngelynion a lefarent ddrwg am danaf, gan ddywedyd, pa brŷd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?

6 Ac os daw i'm hedrych, efe a ddywed gel­wydd, ei galon a gascl atti anwiredd: pan êl allan, efe a'i traetha.

7 Fy holl gaseion a gyd-hustyngant i'm her­byn: yn fy erbyn y dychymygant ddrwg i mi.

8Heb. Peth i'r Fall. neu, Belial. Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.

9Ioa. 13.18. Hefyd y gŵr oeddHeb. hiddwch i mi. anwyl gennif, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwyttaodd fy mara, aHeb. fawry­godd. dderchafodd ei sodl i'm herbyn.

10 Eithr ti Arglwydd trugarhâ wrthif; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.

11 VVrth hyn y gwn hoffi o honot fi: am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i'm herbyn.

12 Ond am danaf fi, yn fy mherffeithrwydd i'm cynheli; ac i'm gosodi ger dy fron yn dra­gywydd.

13 Bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Is­rael, o dragywyddoldeb a hyd dragywyddol­deb, Amên, ac Amên.

PSAL. XLII.
¶I'r pen-cerdd,Neu, Psalm yn rhoddi athrawi­aeth mei­bion Co­rah. Maschil i feibion Corah.

1 Zêl Dafydd i weddio Duw yn ei Deml. 5 Y mae yn cynnhyrfu ei enaid i roi ei oglud ar Dduw.

FEl y brefa 'r hŷdd am yr afonydd dyfroedd, felly 'r hiraetha fy enaid am danat ti ô Dduw.

2 Sychedic yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf, ac yr ymddango­saf ger bron Duw?

3Ps. 80.5. Fy nagrau oedd fwyd i'm dydd a nôs: tra dywedant wrthif bôb dydd, pa le y mae dy Dduw?

4 Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyd â'r gynnulleid­fa, cerddwn gyd â hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn ca­dw gwŷl.

5 Pa ham fy enaidHeb. yr ym­grymml. i'th ddarostyngir, ac yr ymderfysci ynof? gobeithia yn Nuw, oblegit moliannaf ef etto,Neu, iechyd­wriaeth. yw ei wy­nepryd. am iechydwriaeth ei wy­neb-pryd.

6 Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dîr yr Jorddonen, a'r Hermoniaid,O'r bryn pychan. o fryn Missar.

7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistyllo [...] [...] : dy holl donnau a'th lifeiriant a aethant [...]

8 Etto yr [...]wydd a orchymmyn ei dru­garedd liw dy [...] [...]'i gân fydd gyd â mi liw nôs; sef gweddi ar Dduw fy enioes.

9 Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, pa ham yr anghofiaist fi? pa ham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymd [...] y gelyn?

10 Megis âNeu, lladdiad. chleddyf yn fy escyrn y mae fy ngwrthwyneb-wŷr yn fy ngwradwyddo, pan ddywedant wrthif bôb dydd, pa le y mae dy Dduw?

11 Pa ham i'th ddarostyngir fy enaid? a pha ham y terfysci ynof? ymddiried yn Nuw, canys etto y moliannaf ef, sef iechydwriaeth fy wyneb, a'm Duw.

PSAL. XLIII.

1 Dafydd yn gweddio am gael ei ddwyn drachefn i'r Deml, ac yn addaw gwasanaethu Duw yn llawen: 5 yn cynnhyrfu ei enaid i ymddiried yn Nuw.

BArn fi ô Dduw, a dadleu fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anrhugarog; gwared fi rhag y dŷn twyllodrus, ac anghyfiawn.

2 Canys ti yw Duw fy nerth, pa ham i'm bwri ymaith: pa ham yr âf yn alarus trwy or­thrymder y gelyn?

3 Anfon dy oleuni, a'th wirionedd, tywysant hwy fi, ac arweiniant fi i fynydd dy sancteidd­twydd, ac i'th bebyll.

4 Yna 'r âf at allor Duw, at Dduw hyfryd­wch fy ngorfoledd, ac mi a'th follannaf ar y delyn, ô Dduw, fy Nuw.

5 Pa ham i'th ddarostyngir fy enaid? a pha ham y terfysci ynof? gobeithia yn Nuw, ca­nys etto y moliannaf ef, sef Psal. 42. [...]5.11. iechydwriaeth fy wyneb, a'm Duw.

PSAL. XLIV. Boreuol weddi.
¶I'r pen-cerdd, i feibion Corah, Maschil.

1 Yr eglwys wrth gofio daioni Duw tuac atti o'r blaen, 7 yn cwyno rhag ei drygfyd pre­sennol, 17 yn dangos ei phurdeb, 24 ac yn gweddio yn ddifrif am gymmorth.

DVw, clywsom â'n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni y weithred a wnae­thost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.

2 Ti â'th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a'i plennaist hwythau; ti a ddrygaist y bo­bloedd, ac a'iGyrraist ymaith. cynnyddaist hwythau.

3 Canys nid â'i cleddyf eu hun y gorescyn­nasant y tîr, nid eu braich a barodd iechyd­wriaeth iddynt; eithr dy ddeheu-law di, a'th fraich, a llewyrch dy wyneb, o herwydd it eu hoffi hwynt.

4 Ti Dduw yw fy Mrenin: gorchymmyn iechydwriaeth i Jacob.

5 Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i'n herbyn.

6 O herwydd nid yn fy mŵa 'r ymddirie­daf: nid fy nghleddyf chwaith a'm hachub.

7 Eithr ti a'n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwyneb-wŷr, ac a wradwyddaist ein cascion.

8 Yn Nuw yr ymffrostiwn bôb dydd: ac ni a glodfôrwn dy enw yn dragywydd. Selah.

9 Ond ti a'n bwriaist ni ymmaith, ac a'n gwradwyddaist, ac nid wyt yn myned allan gyd â'n lluoedd.

10 Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a'n caseion a anrheithiasant iddynt eu hun.

11 Rhoddaist ni fel defaid iw bwytta, a gwasceraist ni ym mysc y cenhedloedd.

12 Gwerthaist dy bobl hebHeb. olud. elw, ac ni chwanêgaist dy olud o'i gwerth hwynt.

13Psal. 79.4. Gosodaist ni yn warthrudd i'n cymmy­dogion, yn watwargerdd, ac yn wawd i'r rhai ydynt o'n hamgylch.

14Jer. 24.9. Gosodaist ni yn ddihareb ym mysc y cenhedloedd, yn rhai i escwyd pen arnynt ym mysc y bobloedd.

15 Fy ngwarthrudd sydd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a'm tôdd:

16 Gan lais y gwarthrudd-ŵr, a'r cabl-wr, o herwydd y gelyn, a'r ymddial-wr.

17 Hyn oll a ddaeth arnom: etto m'th an­ghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfammod.

18 Ni thrôdd ein calon yn ei hôl, ac nid aeth ein cerddediad allan o'th lwybr di.

19 Er i ti ein cûro yn nrhigfa dreigiau, a thoi trosom â chyscod angeu.

20 Os anghofiasom enw ein [...]: neu estyn ein dwylo at Dduw dieithr:

21 Oni chwilia Duw hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon.

22 IeRh [...]. 8.30. er dy fwyn di i'n lleddir beunydd, cyfrifir ni fel defaid iw lladd.

23 Deffro, pa ham y cysci, ô Arglwydd? cyfod, na fwrw ni ymaith yn dragywydd.

24 Pa ham y cuddi dy wyneb; ac yr anghofi ein cystudd, a'n gorthrymder?

25 Canys gostyngwyd ein henaid i'r llwch a glŷnodd ein bol wrth y ddaiar.

26 Cyfod yn gynnorthwy i ni, a gwared ni er mwyn dy drugaredd.

PSAL. XLV.
¶I'r pen-cerdd ar Shosannim, i feibion Corah,Neu, Athra­wiaeth. Maschil, Cân cariadau.

1 Mawrhydi a rhâd brenhiniaeth Christ. 10 Dledswydd yr Eglwys, a'r budd sydd o hynny.

Heb. Mae fy nghalon yn berwi allan beth da.TRaetha fy nghalon beth da, dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthym i'r brenin: fy nhafod sydd bin scrifennud buan.

2 Tegach ydwyt nâ meibion dynion; ty­walltwyd grâs ar dy wefusau, o herwydd hyn­ny i'th fendithiodd Duw yn dragywydd.

3 Gwregysa dy gleddyf ar dy glûn ô gadarn, â'th ogoniant, a'th harddwch.

4 Ac yn dy harddwchHeb. llwydda, marchog. marchog yn llwy­ddiannus, o herwydd gwirionedd, a lledneis­rwydd, a chyfiawnder: a'th ddeheu-law a ddysc i ti bethau ofnadwy.

5 Pobl a syrthiant tanat: o herŵydd dy sae­thau llymion yn glynu ynghalon gelynion y brenin.

6Heb. 1.8. Dy orsedd di ô Dduw, sydd byth, ac yn dragywydd: teyrn-wialen vniondeb yw teyrn­wialen dy frenhiniaeth di.

7 Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni; am hynny i'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy nâ'th gyfei­llion.

8 Arogl Myrr, Aloes, a Chasia sydd ar dy holl wiscoedd: allan o'r palâsau Ifori, â'r rhai i'th lawenhasant.

9 Merched brenhinoedd oedd ym mhlith dy bendefigesau, safei y frenhines ar dy ddeheu­law mewn aur coeth o Ophir.

10 Gwrando ferch, a gwêl, a gostwng dy glust: ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dâd.

11 A'r brenin a chwennych dy degwch: ca­nys efe yw dy lôr di: ymostwng ditheu iddo ef.

12 Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg, a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â'th wy­neb.

13 Merch y brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gem-waith aur yw ei gwisc hi.

14 Mewn gwaith edyf a nodwydd y dygir hi at y brenin; y morwynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir attat ti.

15 Mewn llawenydd, a gorfoledd y dygir hwynt; deuant i lŷs y brenin.

16 Dy feibion fydd yn lle dy dadau: y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir.

17 Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedla­eth, ac oes: am hynny y bobl a'th foliannant byth, ac yn dragywydd.

PSAL. XLVI.
¶I'r pen-cerddI feibi­on. o feibion Corah, cân ar Alamoth.

1 Yr ymddiried sydd gan yr Eglwys yn Nuw. 8 Cyngor i ystyried hynny.

DVw sydd noddfa, a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder.

2 Am hynny nid ofnwn pe symmudai y ddaiar, a phe treiglid y mynyddoedd iHeb. galon y moroedd. ga­nol y môr:

3 Er rhuo a therfyscu o'i ddyfroedd, er cry­nu o'r mynyddoedd gan ei ymchŵydd ef. Selah.

4 Y mae afon, a'i ffrydiau a lawenhânt ddinas Dduw; cyssegr presswylfeydd y Goruchaf.

5 Duw sydd yn ei chanol, nid yscog hi: Duw a'i cynnorthwyaHeb. pan wy­nebo 'r [...]orau. yn fore [...] iawn.

6 Y cenhedloedd a derfyscasant, y teyrna­soedd a yscogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y ddaiar.

7 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni: y mae Duw Jacob ynHeb. vchelfo. amddeffynfa i ni. Selah.

8 Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Argl­wydd; pa anghyfannedd-dra a wnaeth efe ar y ddaiar.

9 Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddai­ar, efe a ddryllia 'r bŵa, ac a dyrr y wayw­ffon, efe a lysc y cerbydau â thân.

10 Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw: derchefir fi ym mysc y cenhedloedd, derchefir fi ar y ddaiar.

11 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni am­ddeffynfa i ni yw Duw Jacob. Selah.

PSAL. XLVII. Prydnhawnol weddi.
¶I'r pen-cerdd, PsalmMeibion. i feibion Corah.

Cynghori y cenhedloedd i groesawu teyrnas Christ yn llawen.

YR holl bobl curwch ddwylo: llafar genwch i Dduw â llef gorfoledd.

2 Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy: brenin mawr ar yr holl ddaiar.

3 Efe a ddwg y bobl tanom ni: a'r cenhed­loedd tan ein traed.

4 Efe a ddethol ein etifeddiaeth i ni, ar­dderchawgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Selah.

5 Derchafodd Duw â llawen-floedd, yr Ar­glwydd â sain vdcorn.

6 Cenwch fawl i Dduw, cenwch: cenwch fawl i'n Brenin, cenwch.

7 Canys Brenin yr holl ddaiar yw Duw: ce­nwch fawlHeb. bob de­allus. yn ddeallus.

8 Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae Duw ar orsedd-faingc ei sanctei­ddrwydd.

9Neu, rhai ewy­llyscar. Pendefigion y bobl a ymgasclâsant yng­hyd,Neu, at bobl. sef pobl Duw Abraham: canys tarian­nau y ddaiar ydynt eiddo Duw, dirfawr y der­chafwyd ef.

PSAL. XLVIII.
¶Cân Psalm i feibion Corah.

Addurn a rhagor-fraint yr Eglwys.

MAwr yw 'r Arglwydd, a thra moliannus yn ninas ein Duw ni, yn ei fynydd sanctaidd.

2 Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaiar yw mynydd Sion yn ystlysau y gogledd: dinas y Brenin mawr.

3 Duw yn ei phalâsau, a adwaenir yn amdde­ffynfa.

4 Canys wele y brenhinoedd a ymgynnulla­sant: aethant heibio ynghyd.

5 Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant: brawychasant, ac aethant ymmaith ar ffrŵst.

6 Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur megis gwraig yn escor.

7 A gwynt y dwyrain y drylli longauTarsis. y môr.

8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni: Duw a'i siccrhâ hi yn dragywydd. Selah.

9 Meddyliasom ô Dduw, am dy drugaredd, ynghanol dy Deml.

10 Megis y mae dy enw ô Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tîr: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheu-law.

11 Llawenyched mynydd Sion: ac ymhy­fryded merched Juda, o herwydd dy farnedi­gaethau.

12 Amgylchwch Sion, ac ewch o'i hmgylch hi; rhifwch ei thŷrau hi.

13Heb. gosodwch eich ca­lonnau ar. Ystyriwch ei rhagfuriau,Neu, derchef­wch. edrychwch ar ei phalâsau, fel y mynegoch i'r oes a ddêlo yn ôl.

14 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth, ac yn dragywydd: efe a'n tywys ni hyd angeu.

PSAL. XLIX.
¶I'r pen-cerdd,Psalm meibion. Psalm i feibion Corah.

1 Eiriol difrif i adeiladu ffydd yr adgyfodiad, nid ar allu bydol ond ar Dduw. 16 Na ddylid rhyfeddu wrth lwyddiant bydol.

CLywch hyn yr holl bobloedd, gwrandewch hyn holl drigolion y bŷd.

2 Yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd.

3 Fy ngenau a draetha ddoethineb: a my­fyrdod fy nghalon fydd am ddeall.

4Matth. 13.35. Psal. 78.2 Gostyngaf fy nghlust at ddihareb, fy nammeg a ddatguddiaf gyd â'r dêlyn.

5 Pa ham yr ofnaf yn amser adfyd, pan i'm hamgylchyno anwiredd fy sodlau?

6 Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosogrwydd eu cysoeth.

7 Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn trosto i Dduw:

8 (Canys gwerth-fawr yw pryniad eu he­naid, a hynny a baid byth)

9 Fel y byddo efe byw byth, ac na welo ly­gredigaeth.

10 Canys efe a wêl fod y doethion yn mei­rw, yr vn ffunyd y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill.

11 Eu meddwl yw y pery eu tai yn dragy­wydd, a'i trigfeydd hyd genhedlaeth a chen­hedlaeth: henwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain.

12 Er hynny dŷn mewn anthydedd nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.

13 Eu ffordd ymma yw eu ynfydrwydd: etto eu hillogaeth ydynt fodlon iwHeb. genau. hyma­drodd. Selah.

14 Fel defaid y gosodir hwynt ynY bedd. vffern, angeu a ymborth arnynt, a'r rhai cyfiawn a ly­wodraetha arnynt y boreu: a'iNeu, gryfder. tegwch a dderfyddNeu, y bedd yw cartref pob vn honynt. yn y bedd o'i cartref.

15 Etto Duw a wared fy enaid i, oHeb. law. feddi­antNeu, y bedd. vffern: canys efe a'm derbyn i. Selah.

16 Nac ofna pan gyfoethogo vn, pan chwa­nego gogoniant ei dŷ ef.

17Job. 27.19. Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddescyn ei ogoniant af ei ôl ef.

18 Er iddo yn ei fywyd fendithio ei enaid: canmolant ditheu o byddi da wrthit dy hun.

19 Efe a â at genhedlaeth ei dadau, ac ni welant oleuni byth.

20 Dŷn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.

PSAL. L. Boreuol weddi.
¶PsalmNeu, i Asaph. Asaph.

1 Mawrhydi Duw yn ei eglwys. 5 Ei drefn ef am gasclu y Sainct ynghyd. 7 Nad oes ewyllys gan Dduw mewn Ceremoniau, 14 ond mewn gwir vfydd-dod.

DVw y duwiau, sef yr Arglwydd a lefa­rodd, ac a alwodd y ddaiar, o godi­ad haul hyd ei fachludiad.

2 Allan o Sion perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw.

3 Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw, tân a yssa o'i flaen ef, a themhestl ddirfawr fydd o'i amgylch.

4 Geilw ar y nefoedd oddi ychod: ac ar y ddaiar, i farnu ei bobl.

5 Cesclwch fy sainct ynghyd attafi, y rhai a wnaethant gyfammod â mi trwy aberth.

6 A'r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef▪ canys Duw ei hun sydd farn-wr. Selah.

7 Clywch fy mhobl, a mi a lefaraf, ô Israel, a mi a dystiolaethaf i'th erbyn: Duw sef dy Dduw di ydwyf fi.

8 Nid am dy aberthau i'th geryddaf, na'th boeth offrymmau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.

9 Ni chymmeraf fustach o'th dŷ, na bychod o'th gorlannau.

10 Canys holl fwyst-filod y coed ydynt ei­ddo fi: a'r anifeiliaid ar fîl o fynyddoedd.

11 Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt Heb. gyd a nil eiddo fi.

12 Os bydd newyn arnaf ni ddywedaf i ti:Exod. 10.5. Deut. 10.14. Psal. 24.1. Job 41.11 1 Cor. 10.26, 2 [...]. canys y bŷd a'i gyflawnder sydd eiddo fi.

13 A fwyttafi gîg teirw? neu a yfaf fi waed bychod?

14 Abertha foliant i Dduw, a thâl i'r Goru­chaf dy adduneddau;

15 A galw arnafi yn nydd trallod; mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi.

16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymmerech ar fy nghyfammod yn dy enau?

17Rhuf. 2.21. Gan dy fod yn cassau addysc, ac yn taflu fy ngeiriau i'th ôl.

18 Pan welaist leidr, cyttunaist ag ef: a'th gyfran oedd gyd â'r godineb-wŷr.

19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a'th da­fod a gyd-bletha ddichell.

20 Eisteddaist, a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam.

21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais; tybi­aist ditheu fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a'th argyoeddaf, ac a'i trefnaf o flaen dylygaid.

22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw, rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredudd.

23 Yr hwn a abertho foliant, a'm gogo­nedda i: a'r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dang­osaf iddo iechydwriaeth Duw.

PSAL. LI.
¶I'r pen-cerdd, Psalm Dafydd, pan ddaeth2 Sam. 12.1. & 11.1. Nathan y prophwyd atto, wedi iddo fy­ned i mewn at Bathseba.

1 Dafydd yn gweddio am faddeuant pechodau, ac yn gwneuthur cyffes ddifrif o honynt. 6 Yn gweddio am ei sancteiddio. 16 Nad oes ewyllys gan Dduw mewn aberth, ond mewn purdeb calon. 18 Y mae yn gweddio tros yr Eglwys.

TRugarh [...] wrthif ô Dduw yn ôl dy drugaro­grwydd; yn ôl lliaws dy dosturiaethau delea fy anwireddau.

2 Golch fi yn llwyr-ddwys oddi wrth fy anwiredd: a glanhâ fi oddi wrth fy mhechod.

3 Canys yr wyf yn cydnabod fy ngham­weddau: a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron.

4 Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pe­chais, ac y gwneuthum y drwg hyn yn dy o­lwg:Rhuf. 3.4. fel i'th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech.

5 Wele mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn pechod yHeb. cynhesodd fy mam. beichiogodd fy mam arnaf.

6 Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi ŵybod doethineb yn y dirgel.

7Levit. 14.6. Num. 19.18, 19. Glanhâ fi ag Yssop, ac mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach nâ'r eira.

8 Pâr i mi glywed gorfoledd, a llawenydd; fel y llawenycho yr escyrn a ddrylliaist.

9 Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhecho­dau: a delea fy holl anwireddau.

10 Crea galon lân ynof ô Dduw; ac adne­wydda ysprydNeu, dianwa­dal. vniawn o'm mewn.

11 Na fwrw fi ymmaith oddi ger dy fron: ac na chymmer dy Yspryd sanctaidd oddi wrthif.

12 Dyro drachefn i mi orfoledd dy iechyd­wriaeth: ac â'th hael Yspryd cynnal fi.

13 Yna y dyscaf dy ffyrdd i rai anwir: a phechaduriaid a droir attat.

14 Gwared fi oddi wrth waed ô Dduw, Duw fy iechydwriaeth: a'm tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.

15 Arglwydd agor fy ngwefusau, a'm ge­nau a fynega dy foliant.

16 Canys ni chwennychi aberth,Neu, fel y rho­ddwn. pe amgen mi a'i rhoddwn; poeth offrwm ni fynni.

17Esa. 17.15. & 66.2. Aberthau Duw ydynt yspryd drylliedic: calon ddryllioc gystuddiedic, ô Dduw, ni ddir­mygi.

18 Gwna ddaioni, yn dy ewyllyscarwch i Sion: adeilada furiau Jerusalem.

19 Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boeth offrwm, ac aberth llosc: yna 'r offrym­mant fustych ar dy allor.

PSAL. LII.
¶I'r pen-cerdd, Maschil, Psalm Dafydd:1 Sam. 22.9. pan ddaeth Doeg yr Edomiad, a mynegi i Saul, a dywedyd wrtho, Daeth Da­fydd i dŷ Ahimelech.

1 Dafydd yn barnu ar goegni Doeg, ac yn proph­wydo ei ddinistr ef, 6 ac y llawenhâ y cyfiawn o'i blegid. 8 Dafydd, o'i hyder ar drugaredd Duw, yn rhoddi diolch.

PA ham yr ymffrosti mewn drygioni, ô ga­darn? y mae trugaredd Duw yn parhau yn wastadol.

2 Dy dafod a ddychymmyg scelerder: fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll.

3 Hoffaist ddrygioni yn fwy nâ daioni: a chelwydd yn fwy nâ thraethu cyfiawnder. Selah.

4 Hoffaist bob geiriau destryw,Neu, a'r tafod. ô dafod twyllodrus.

5 Duw a'thHeb. dery di­theu i lawr. ddestrywia ditheu yn dragy­wydd, efe a'th gipia di ymaith, ac a'th dynn allan o'th babell: ac a'th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Selah.

6 Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben.

7 Wele 'r gŵr ni osododd Dduw yn gader­nid iddo: eithr ymddiriedodd yn lluosogrwydd ei olud, ac a ymnerthodd yn eiNeu, olud. ddrygioni.

8 Ond myfi sydd fel oliwydden werdd yn nhŷ Dduw: ymddiriedaf yn nhrugaredd Duw byth, ac yn dragywydd.

9 Clodforaf di yn dragywydd, o herwydd i ti wneuthur hyn: a disgwiliaf wrth dy enw; canys da yw ger bron dy sainct.

PSAL. LIII. Prydnhawnol weddi.
¶I'r pen-cerdd ar y Mahalath, Maschil, Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn gosod allan lygredigaeth dŷn natu­riol, 4 yn argyoeddi 'r annuwiol wrth oleuni eu cydwybod eu hun, 6 yn ymogoneddu yn iechy­dwriaeth Duw.

DYwedodd yrPs. 14.1. & 10.4. ynfyd yn ei galon nid oes vn Duw: ymlygrasant, a gwna­ethant ffiaidd amwiredd,Rhuf. 3.16. nid oes vn yn gwneuthur daioni.

2 Edrychodd Duw i lawr o'r nefoedd ar fei­bion dynion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw.

3 Ciliasei pob vn o honynt yn ŵysc ei gefn, cyd-ymddifwynasent, nid oes a wnêl ddaioni, nac oes vn.

4Psal. 14.7. Oni ŵyr gweithred-wŷr anwiredd y rhai sydd yn bwytta fy mhobl fel y bwytaent fara, ni alwâsant ar Dduw.

5 Yno 'r ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn: canys Duw a wascarodd escyrn yr hwn a'th warchaeodd, gwradwyddaist hwynt, am i Dduw eu dirmygo hwy.

6Heb. Pwy a rydd, &c? Oh na roddid iechydwriaeth i Israel o Sion: pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, y llawenycha Jacob, ac yr ymhyfryda Israel.

PSAL. LIV.
¶I'r pen-cerdd ar Neginoth, Maschil, Psalm Dafydd, pan ddaeth y Ziphiaid a dywedyd wrth Saul;1 Sam. 23.19. & 26.1. onid ydyw Dafydd yn ymguddio gyd â ni?

1 Dafyddd yn cwyno rhag y Ziphiaid, ac yn gwe­ddio am iechydwriaeth, 4 Ac o hyder ar gym­morth Duw, yn addaw aberth.

AChub fi ô Dduw, yn dy enw: a barn fi yn dy gadernid.

2 Duw, clyw fy ngweddi; gwrando yma­drodd fy ngenau.

3 Canys dieithriaid a gyfodasant i'm herbyn: a'r trawsion a geisiant fy enaid, ni osodasant Dduw o'i blaen. Selah.

4 Wele, Duw sydd yn fy nghynnorthwyo: yr Arglwydd sydd ym mysc y rhai a gynhali­ant fy enaid.

5 Efe a dâl ddrwg i'mHeb. gwilwyr. gelynion: t [...]rr hwynt ymmaith yn dy wirionedd.

6 Aberthaf it yn ewyllyscar: clodsoraf dy enw, ô Arglwydd, canys da yw.

7 Canys efe a'm gwaredodd o bob trallod, a'm llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngely­nion.

PSAL. LV.
¶I'r pen-cerdd ar Neginoth, Maschil, Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn ei weddi yn cwyno ei gyflwr erchyll. 8 Yn gweddio yn erbyn ei elynion, ac yn achwyn rhag eu hanwiredd a'i brad hwy, 16 yn ymgyssuro, o herwydd nawdd Duw yn ei gadw, ac o herwydd gwradwydd ei elynion.

GWrando fy ngweddi ô Dduw, ac nac ym­guddia rhag fy neisyfiad.

2 Gwrando arnaf ac erglyw fi, cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan.

3 Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr an­nuwiol, o herwydd y maent yn bwrw anwi­redd arnaf, ac yn fynghasau yn llidioc.

4 Fy nghalon a ofidia o'm mewn: ac ofn angeu a syrthiodd arnaf.

5 Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf: a dychryn a'm gorchguddiodd.

6 A dywedais, ô na bai i mi adenydd fel colommen; yna 'r ehedwn ymaith, ac y gor­phywyswn.

7 Wele crwydrwn ym mhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Selah.

8 Bryssiwn i ddiangc rhag y gwynt ystor­mus, a'r demhestl.

9 Dinistria ô Arglwydd, a gwahan eu ta­fodau; canys gwelais drawsder a chynnen, yn y ddinas.

10 Dydd a nôs yr amgylchant hi ar ei muri­au; ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.

11 Anwireddau sydd yn ei chanol hi, ac ni chilia twyll a dichell o'i heolydd hi.

12 Canys nid gelyn a'm difenwodd, yna y dioddefaswn: nid fy nghas-ddyn a ymfawry­godd i'm herbyn, yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef.

13 Eithr tydi ddyn, fy nghyd-radd, fy fforddwr, a'm cydnabod.

14 Y rhai oedd felys gennym gyd-gyfrina­chu: ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghŷd.

15 Rhuthred marwolaeth arnynt, a descyn­nant iNeu, bedd. vffern yn fyw; canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.

16 Myfi a waeddaf ar Dduw, a'r Arglwydd a'm hachub i.

17 Hwyr a boreu, a hanner dydd y gwe­ddiaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.

18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i'm herbyn: canys yr oedd llawer gyd â mi.

19 Duw a glyw, ac a'i darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros er joed, Selah: Neu, gyda y rhai nid oes gyfne­widiau. am nad oes gyfnewidiau iddynt,Neu, etto. am hynny nid of­nant Dduw.

20 Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef, efe aHeb. halogodd. dorrodd ei gyfammod.

21 Llyfnach oedd ei enau nagymenyn, a rhyfel yn ei galon; tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.

22Psal. 37.5. Mat. 6.25. Luc. 12.22. 1 Pet. 5.7. Bwrw dyNeu, dy rodd. faich ar yr Arglwydd, ac efe a'th gynnal di; ni âd i'r cyfiawn yscogi byth.

23 Titheu Dduw a'i descynni hwynt i by­dew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus niHeb. hannerant eu dyddi­au. byddant byw hanner eu dyddiau, onid myfi a obeithiaf ynot ti.

PSAL. LVI. Boreuol weddi.
¶I'r pen-cerdd ar Jonath Elem Rechocim,Psalm euraid. Michtam Dafydd: pan ddaliodd y1 Sam. 21.11. Phili­stiaid ef yn Gath.

1 Dafydd wrth weddio Duw o hyder ar ei air, yn cwyno rhag ei elynion. 9 yn d [...]c [...]n ei ymddiri­ed yngair Duw, ac yn addo ei foliannu ef.

TRugarhâ wrthif ô Dduw, canys dŷn a'm llyngcei: beunydd gan ym­ladd, i'm gorthrymma.

2 Beunydd i'm llyngceiHeb. fy ngwil­wyr. fy ngelynion, canys llawer sydd yn rhyfela i'm herbyn, ô Dduw goruchaf.

3 Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddiriedaf ynot ti.

4 Yn Nuw y clodforaf ei air, yn Nuw y gobeithiaf, nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.

5 Beunydd y cam-gymerant fy ngeiriau; eu holl feddyliau sydd i'm herbyn er drwg.

6 Hwy a ymgasclant, a lechant, ac a wili­ant fy nghamrau, pan ddisgwiliant am fy enaid.

7 A ddiangant hwy drwy anwiredd? descyn y bobloedd hyn ô Dduw yn dy lidiaw­grwydd.

8 Ti a gyfrifaist fy symmudiadau, dod fy na­greu yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di?

9 Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthôl: hyn a wn, am fod Duw gyd â mi.

10 Yn Nuw y moliannaf ei air: yn yr Ar­glwydd y moliannaf ei air.

11 Yn Nuw'r ymddiriedais; nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.

12 Arnafi ô Dduw y mae dy addunedau: ta­laf i ti foliant.

13 Canys gwaredaist fy enaid rhag angeu; oni waredi fy nhraed rhag syrthio? fel y rhodi­wyf ger bron Duw yngoleuni y rhai byw.

PSAL. LVII.
¶I'r pen-cerdd, Neu, Na-ddi­fetha. Al-taschith, Mich­tam Dafydd.1 Sam. 24.1. Pan ffôdd rhag Saul i'r ogof.

1 Dafydd yn cilio at Dduw trwy weddi, ac yn cwyno ei enbyd gyflwr, 7 yn ymgyssuro i foli­annu Duw.

TRugarhâ wrthif ô Dduw, trugarhâ wrthif, canys ynot y gobeithiodd fy enaid; îe ynghyscod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hyn heibio.

2 Galwaf ar Dduw goruchaf, ar Dduw a gwplâ â mi.

3 Efe a enfyn o'r nefoedd, acNeu, efe a w [...]r­thruddia yr hwn, &c. am gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a'm llyngcei, Se­lah: denfyn Duw ei drugaredd, a'i wirionedd.

4 Fy enaid sydd ym mysc llewod, gorwedd yr wyf ym mysc dynion poethion; sef meibion dynion, y rhai y mae eu dannodd yn, wayw­ffyn a saethau, a'i tafod yn gleddyf llym.

5 Ymddercha Dduw vwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.

6Psal. 7.16. & 9.15. Darparasant rwyd i'm traed, crymmwyd fy enaid, cloddiasant bydew o'm blaen, syrthi­asant yn ei ganol. Selah.

7Ps. 108.1. Parod yw fy nghalon o Dduw, parod yw fy nghalon: canaf, a chanmolaf.

8 Deffro fy ngogoniant, deffro Nabl a thê­lyn; deffroaf yn foreu.

9 Clodforaf di Arglwydd ym mysc y boblo­edd; can-molaf di ym mysc y cenhedloedd.

10Ps. 36.6. & 108.5. Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.

11 Ymddercha Dduw vwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.

PSAL. LVIII.
¶I'r pen-cerddNeu, [...] eu­raid. Psalm Dafydd. Al-taschith, Michtam Dafydd.

1 Dafydd yn argyoeddi, barn-wyr enwir, 3 yn dangos naturiaeth yr annuwiol, 6 yn ymroi i farnedigaethau Duw, 10 y rhai a bâr i'r cyfiawn lawenychu.

Ai cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi, ô gynnulleidfa? a fernwch chwi vnion­deb, ô feibion dynion?

2 Anwiredd yn hyttrach a weithredwch yn y galon: trawster eich-dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaiar.

3 O'r groth yr ymddieithrodd y rhai annu­wiol; o'r brû y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd.

4 Eu gwenwyn sydd Heb. yn ol cy­ffelybrw­ydd gwen fel gwenwyn sarph: y maent felNeu, yr asp. y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau,

5 Yr hon ni wrendy ar lais y rhin-wŷr, er cyfarwydded fyddo 'r swyn-wr.

6 Dryllia ô Dduw eu dannedd yn eu ge­neuau: torr ô Arglwydd, gil-ddannedd y llewod ieuaingc.

7 Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn [Page] rhedeg yn wastad: pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu torri.

8 Aed ymmaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig: fel na welont yr haul.

9 Cyn i'ch crochanau glywed y mieri, efe a'i cymmer hwynt ymaith megis â chorwynt,Heb. megis byw, me­gis digo­faint. yn fyw, ac yn ei ddigofaint.

10 Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yngwaed yr annuwiol.

11 Fel y dywedo dŷn, diau fod Gwobr. ffrwyth i'r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaiar.

PSAL. LIX. Prydnhawnol weddi.
¶I'r pen-cerddNeu, Na ddi­fetha, Eu­raid Psalm Dafydd. Al-taschith, Michtam Da­fydd.1 Sam. 19.11. Pan yrrodd Saul rai i gadw y tŷ iw ladd ef.

1 Dafydd yn gweddio am gael ei wared oddi­wrth ei elynion, 6 yn cwyno rhag eu creulon­deb hwy, 9 yn ymddiried yn Nuw, 11 yn gweddio yn eu herbyn hwy, 16 ac yn clodfori Duw.

FY Nuw, gwared fi oddi wrth fy ngely­nion:Heb. derchafa fi. amddeffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i'm herbyn.

2 Gwared fi oddi wrth weithred­wŷr anwiredd: ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd.

3 Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid, ymgasclodd cedyrn i'm herbyn: nid ar fy mai na'm pechod i, ô Arglwydd.

4 Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd yno­fi: deffro ditheu i'mHeb. cyfarfod. cymmorth, ac edrych.

5 A thi Arglwydd Dduw 'r lluoedd, Duw Israel, deffro i ymweled â'r holl genhedloedd: na thrugarhâ wrth neb a wnânt anwiredd yn faleisus. Selah.

6 Dychwelant gyd â'r hŵyr, cyfarthant fel cŵn, ac ymgylchant y ddinas.

7 Wele, bytheiriant â'i genau,Psal. 10.11. & 73.11. & 94.7. cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy meddant a glyw?

8 Ond tydi ô Arglwydd, a'i gwatweri hwynt, ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.

9 O herwydd ei nerth ef, y disgwiliaf wrthit ti: canys Duw yw fyHeb. uchelfa. amddeffynfa.

10 Fy Nuw trugarog a'm rhagflaena: Duw a wnâ i mi weled fy ewyllys arHeb. fy ngwil­wyr. fy ngelynion.

11 Na ladd hwynt, rhag i'm pobl anghofio: gwascar hwynt yn dy nerth, a darostwng hw­ynt, ô Arglwydd ein tarian.

12 Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felldith, a'r celwydd a draethant.

13 Difa hwynt yn dy lid, difa, fel na byddont: a gŵybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd eithafoedd y ddaiar. Selah.

14 A dychwelant gyd â'r hwyr, a chyfar­thant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.

15 CyrwydrantHeb. i fwytta. am fwyd, ac onis digonirNeu, hwy a ar­hosant tros nos. grwgnachant.

16 Minneu a ganaf am dy nerth, ie llafar ga­naf am dy drugaredd yn foreu: canys buost yn amddeffynfa i mi, ac yn noddfa, yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.

17 I ti fy nerth y canaf: canys Duw yw fy amddeffynfa, a Duw fy nrhugaredd.

PSAL. LX.
¶I'r pen-cerdd ar Susan-Eduth,Psalm euraid. Michtam Dafydd i ddyscu. Pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Zobah,2 Sam. 8.3.13. 1 Cron. 18.3. pan ddychwelodd Joab, a lladd deuddeng mil o'r Edomiaid, yn nyffryn yr halen.

1 Dafydd yn cwyno wrth Dduw am farnedigae­thau o'r blaen: 4 ac yr awrhon, ar obaith gwell, yn gweddio am ymwared: 6 yn ymgyssuro yn addewidion Duw, ac yn deisyf cael yr help y rhoesai ei hyder arno.

OPsal. 44.10. Dduw bwriaist ni ymaith,Heb. drylliaist. gwasceraist ni, a sorraist: dychwel attom drachefn.

2 Gwnaethost i'r ddaiar grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau, canys y mae yn crynu.

3 Dangosaist i'th bobl galedi: diodaist ni â gwînSynnded. madrondod.

4 Rhoddaist faner i'r rhai a'th ofnant, i'w derchafu o herwydd y gwirionedd. Selah.

5Psal. 108.6. Fel y gwareder dy rai anwyl: achub â'th ddeheu-law, a gwrando fi.

6 Duw a lefârodd yn ei sancteiddrwydd, llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.

7 Eiddo fi yw Gilead, ac eiddo fi Manasseh: Ephraim hefyd yw nerth fy mhen, Juda yw fy neddf-wr.

8 Moab yw fy nghrochan golchi: tros Edom y bwriaf fy escid, Philistia, ymorfoledda diNeu, arnafi. o'm plegid i.

9 Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn? pwy a'm harwain hyd yn Edom?

10Psal. 44.10. & 108.12. Onid tydi Dduw 'r hwn a'n bwrlaist ym­maith? a thydi ô Dduw, yr hwn nid eit allan gyd â'n lluoedd?

11 Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder, canys ofer yw Neu, nedded. ymwared dŷn.

12 Yn Nuw y gwnawn wroldeb, canys efe a sathr ein gelynion.

PSAL. LXI.
¶I'r pen-cerdd ar Neginath. Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn cilio at Dduw, wrth a brofasai o'r blaen, 4 ac yn addunedu ei wasanaethu ef yn wastadol, o herwydd ei addewidion.

CLyw ô Dduw fy llefain, gwrando ar fy ngweddi.

2 O eithaf y ddaiar y llefaf attat, pan llef­meirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo vwch nâ mi.

3 Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn.

4 Presswyliaf yn dy babell byth: a'm ym­ddiried fydd dan orthudd dy adenydd. Selah.

5 Canys ti Dduw a glywaist fy addunedau, rhoddaist etifeddiaeth i'r rhai a ofnant dy enw.

6 Ti aHeb. chwanegi ddyddiau at ddy­ddiau y brenin. estynni oes y brenin, ei flynyddo­edd fyddant felHeb. cenhedla­eth a chenhed­laeth. cenhedlaethau lawer.

7 Efe a erys byth ger bron Duw: darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef.

8 Felly y can-molaf dy enw yn dragywydd: fel y talwyf fy addunedau beunydd.

PSAL. LXII. Boreuol weddi.
¶I'r pen-cerdd, i Jeduthun, Psalm Dafydd.

1 Dafydd wrth ddangos ei hyder ar Dduw, yn digalonni ei elynion, 5 ac yn yr vn hyder, yn rhoi calon yn y Duwiol. 9 Nad yw i neb roi ei og­lud ar bethau bydol. 11 Gallu a thrugaredd a berthyn i Dduw.

WRth DduwNeu, yn ddlau. yn vnic yHeb. distawa. disgwil fy enaid; o honaw y daw fy ie­chydwriaeth.

2 Efe yn vnic yw fy nhraig, a'm hiechydwriaeth: a'mHeb. vchelfa. hamddeffyn, ni'm mawr yscogir.

3 Pa hŷd y bwriedwch aflwydd yn erbyn [Page] gwr? lleddir chwi oll, a byddwch fel magwyr ogwyddedic, neu bared ar ei ogwydd.

4 Ymgynghorasant yn vnic iw fwrw ef i lawr o'i fawredd, hoffasant gelwydd, â'i ge­neuau y bendithiant, ond o'i mewn y mell­dithiant. Selah.

5 Oh fy enaid disgwil wrth Dduw yn vnic: canys ynddo ef y mae fy ngobaith.

6 Efe yn vnic yw fy nghraig a'm hiechyd­wriaeth: efe yw fy amddeffynfa, ni'm hys­cogir.

7 Yn Nuw y mae fy iechydwriaeth a'm go­goniant: craig fy nghadernid, a'm noddfa sydd yn Nuw.

8 Gobeithiwch ynddo ef bôb amser, ô bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef; Duw sydd noddfa i ni. Selah.

9 Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion, geudab yw meibion gwŷr: iw gosod yn y clo­rian, yscafnach ydynt hwy i gyd nâ gwegi.

10 Nac ymddiriedwch mewn trawsder, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynnydda golud, na roddwch eich calon arno.

11 Vn-waith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwy-waith, mai eiddo Duw yw ca­dernid.

12 Trugaredd hefyd sydd eiddo ti, ô Ar­glwydd:Job. 34.11. Dihar. 24.12. Jer. 32.19. Ezec. 7.27. Mat. 16.27. Rhuf. 2.6. 2 Cor. 5.10. Ephes. 6.8. Col. 3.25. 1 Pet. 1.17. Datc. 22.12. canys ti a dôli i bôb dyn yn ôl ei weithred.

PSAL. LXIII.
¶Psalm Dafydd,1 Sam. 23.14. pan oedd efe yn niffaethwch Juda.

1 Hiraeth Dafydd am Dduw. 4 Y modd y ben­dithiai efe Dduw. 9 Ei hyder o ddinistr ei ely­nion, a'i ddiogelwch ei hun.

TI ô Dduw, yw fy Nuw i, yn foreu i'th gei­siaf, sychedodd fy enaid am danat, hi­raethodd fy ngnawd am danat, mewn tîr crâs aHeb. blin. sychêdic heb ddwfr;

2 I weled dy nerth a'th ogoniant, fel i'th welais yn y cyssegr.

3 Canys gwell yw dy drugaredd di nâ'r bywyd, fy ngwefusau a'th foliannant.

4 Fel hyn i'th glodforaf yn fy mywyd, der­chafaf fy nwylo yn dy enw.

5 Megis âHeb. brasder. mêr, ac â brasder y digonir fy enaid: a'm genau a'th fawl â gwefusau llafar:

6 Pan i'th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf am danat yngwiliadwriaethau y nôs.

7 Canys buost gynnorthwy i mi, am hynny ynghyscod dy adenydd y gorfoleddaf.

8 Fy enaid a lŷn wrthit, dy ddeheu-law a'm cynal.

9 Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddestryw, a ânt i isselderau y ddaiar.

10Heb. gwnant iddo li­feirio trwy ddwylo 'r cleddyf. Syrthiant ar fîn y cleddyf: rhan llwynogod fyddant.

11 Ond y brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob vn a dyngo iddo ef; eithr ceuir genau y rhai a ddywedant gelwydd.

PSAL. LXIIII.
¶I'r pen-cerdd, Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn gweddio am ymwared, ac yn cwy­no rhag ei elynion, 7 Yn addaw iddo ei hun y cai weled y fath amlwg ddinistr ar ei elynion, ac a barai i'r cyfiawn lawenychu o'i blegid.

CLyw fy llêf ô Dduw yn fy ngweddi: cadw fy enioes rhag ofn y gelyn.

2 Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus, rhag terfysc gweithredwŷr anwiredd:

3Psal. 11.3. Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwer­won:

4 I seuthu 'r perffaith yn ddirgel, yn ddi­symmwth y saethant ef, ac nid ofnant.

5 Ymwrolant mewn Neu, gair. peth drygionus, ym­chwedleuantHeb. i guddio m [...]glau. am osod maglau yn ddirgel: dywedant, pwy a'i gwêl hwynt?

6 Chwiliant allan anwireddau,Neu, treulia­som gan yr hyn a ddyfal chwilia­sant. gorphen­nant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pôb vn o honynt sydd ddofn.

7 Eithr Duw a'i saetha hwynt: â saeth ddi­symmwthHeb. fydd eu harchod. yr archollir hwynt.

8 Felly hwy a wnant iw tafodau eu hun syrthio arnynt: pob vn a'i gwelo a gilia:

9 A phob dyn a ofna, ac a fynega waith Duw: canys doeth-ystyriant ei waith ef.

10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo: a'r rhai vniawn o galon oll a orfoleddant.

PSAL. LXV. Prydnhawnol weddi.
¶I'r pen-cerdd, Psalm cân Dafydd.

1 Dafydd yn moliannu Duw am ei ras. 4 Ded­wyddwch etholedigion Duw, o blegyd amryw ddoniau.

MAwlHeb. a ddista­wa [...]t. a'th erys di yn Sion, ô Dduw: ac i ti y telir yr adduned.

2 Ti yr hwn a wrandewi weddi, attat ti y daw pob cnawd.

3 Pethau anwir a'm gorchfygasant, ein camweddau ni, ti a'i glânhei.

4 Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nessâech attat; fel y trigo yn dy gynteddoedd; ni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy Deml sanctaidd.

5 Attebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, ô Dduw ein iechydwriaeth: go­baith holl gyrrau y ddaiar, a'r rhai sydd bell ar y môr.

6 Yr hwn a siccrhâ y mynyddoedd drwy ei nerth, ac a wregyssir â chadernid.

7 Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysc y bobloedd.

8 A phresswyl-wŷr eithafoedd y bŷd a of­nant dy arwyddion; gwnei i derfyn boreu a hwyrNeu, ganu. lawenychu.

9 Yr wyt yn ymweled â'r ddaiar,Neu, wedi it beri iddi chwen­nych glaw. ac yn ei dwfrhau hi, yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi.

10 Gan ddwfrhau ei chefnau, a Neu, pheri i'r glaw. ddiscyn yn ei rhy­chau. gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn eiHeb. dattod. mwydo hi â cha­fodau, ac yn bendithio ei chnŵd hi.

11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â'th ddai­oni, a'th lwybrau a ddiferant fraster.

12 Diferant ar borfeydd yr anialwch: a'r bryniau aLawe­nychant o bob tu. ymwregysant â hyfrydwch.

13 Y dolydd a wiscir â defaid, a'r dyffryn­noedd a orchguddir ag ŷd, am hynny y bloe­ddiant, ac y cânant.

PSAL. LXVI.
¶I'r pen-cerdd, Cân neu Psalm.

1 Dafydd yn annog i foliannu Duw, 5 i ddal ar ei weithredoedd ef, 8 iw fendithio am ei ddoniau grasusol: 12 Yn addaw trasto ei hun wasanaeth crefyddol i Dduw: 16 Yn datcan en­wedig ddoniau Duw iddo ef.

LLawen-floeddiwch i Dduw, yr holl ddaiar.

2 Datcenwch ogoniant ei enw: gwne­wch ei foliant yn ogoneddus.

[...]
[...]

3 Dywedwch wrth Dduw, mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! o herwydd maint dy nerth, y cymmer dy elynion arnynt fod yn dda­rostyngedic i ti.

4 Yr holl ddaiar a'th addolant di, ac a ga­nant i ti, ie canant i'th enw. Selah.

5 Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tu ag at feibion dy­nion.

6 Trôdd efe y môr yn sych-dir; aethant drwy 'r afon ar draed; yna y llawenychasom ynddo.

7 Efe a lywodraetha drwy ei gadernid byth, ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd, nac ymdderchafed y rhai anufydd. Selah.

8 Oh bobloedd, bendithiwch ein Duw; a pherwch glywed llais ei fawl ef:

9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni âd i'n troed lithro.

10 Canys profaist ni ô Dduw, coethaist ni fel coethi arian.

11 Dygaist ni i'r rhwyd, gosodaist wascfa ar [...]in lwynau.

12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pen­nau, aethom drwy yr tân, a'r dwfr: a thi a'n dygaist allan i le Heb. dyfradwy. diwall.

13 Deuaf i'th dŷ ag offrymmau poeth, talaf it fy addunedau:

14 Y rhai aHeb. agorodd. adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.

15 Offrymmaf it boeth offrymmauHeb. o fer. breisi­on, ynghyd ag arogl-darth hyrddod: aberthaf ŷchen, a bychod. Selah.

16 Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofn­wch Dduw: a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.

17 Llefais arno â'm genau, ac efe a dder­chafwyd â'm tafod.

18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy ngha­lon, ni wrandawsei 'r Arglwydd.

19 Duw yn ddiau a glybu, ac a wranda­wodd an lais fy ngweddi.

20 Bendigedic fyddo Duw 'r hwn ni thrôdd fy ngweddi oddi wrtho, na'i druga­redd ef oddi wrthif inneu.

PSAL. LXVII.
¶I'r pen-cerdd ar Neginoth. Psalm, neu gân.

1 Gweddi am helaethu teyrnas Duw, 3 er lla­wenydd i'r bobl, 6 ac er amlhau bendithion Duw.

DVw a drugarhao wrthym, ac a'n ben­dithio, a thywynned ei wynebHeb. gyd a ni. arnom. Selah.

2 Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaiar, a'th iechydwriaeth ym mhlith yr holl genhed­loedd.

3 Molianned y bobl di ô Dduw, molian­ned yr holl bobl dydi.

4 Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn vniawn, ac aHeb. dywysi. lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaiar. Selah.

4 Molianned y bobl di ô Dduw: molian­ned yr holl bobl dydi.

6 Yna 'r ddaiar a rydd ei ffrwyth: a Duw, sef ein Duw ni a'n bendithia.

7 Duw a'n bendithia, a holl derfynau 'r ddaiar a'i hofnant ef.

PSAL. LXVIII. Boreuol weddi.
¶I'r pen-cerdd. Psalm neu gân Dafydd.

1 Gweddi wrth symmudo 'r Arch. 4 Cyngor i fo­liannu Duw am ei drugareddau, 7 am ei ofal tros ei Eglwys, 19 am ei fawr drugareddau.

CYfodedNum. 10.36. Duw, gwascarer ei elynion: a ffoed ei gascionHeb. rhag ei wyneb ef. o'i flaen ef.

2 Chweli hwynt fel chwalu mŵg: fel y tawdd cŵyr wrth y tân, dife­ther y rhai annuwiol o flaen Duw.

3 Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfo­leddant ger bron Duw: a byddant hyfryd o lawenydd.

4 Cenwch i Dduw, can-molwch ei enw, derchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a'i enw yn JAH: a gorfoleddwch ger ei fron ef.

5 Tâd yr ymddifaid, a barn-wr y gwedd­won yw Duw, yn ei bresswylfa sanctaidd.

6 Duw sydd yn gosod yr vnig mewn teu­lu; yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau; ond y rhai cyndyn a breswyliant gras-dir.

7 Pan aethost ô Dduw, o flaen dy bobl: pan gerddaist trwy yr anialwch; Selah.

8 Y ddaiar a grynodd, a'r nefoedd a ddifera­sant o flaen Duw: Sinai yntef a grynodd o flaen Duw, sef Duw Israel.

9 Dihidlaist law graslawn ô Dduw, ar dy etifeddiaeth: ti a'i gwrteithiaist wedi ei blino.

10 Dy gynnulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni ô Dduw, yr wyt yn darparu i'r tlawd.

11 Yr Arglwydd a roddes y gair; mawr oedd Heb. llu. mintai y rhai a'i pregethent.

12 Brenhinoedd byddinoc aHeb. ffoesant, ffoesant. ffoesant ar­ffrwst: a'r hon a drigodd yn tŷ a rannodd yr yspail.

13 Er gorwedd o honoch ymmysc y crocha­nau, byddwch fel escyll colommen wedi eu gwisco ag arian, a'i hadenydd ag aur melyn.

14 Pan wascarodd yr Holl-alluog frenhi­noeddNeu, erdai. ynddi, yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon.

15 Mynydd Duw sydd fel mynydd Basan, yn fynydd cribog fel mynydd Basan.

16 Pa ham y llemmwch chwi fynyddoedd cribog? dymma 'r mynydd a chwennychodd Duw ei bresswylio, ie presswylia 'r Arglwydd ynddo byth.

17 Cerbydau Duw ydynt vgain mil, sef Neu, llawer mil. mil­oedd o angelion: yr Arglwydd sydd yn eu plith megis yn Sinai yn y Cyssegr.

18Eph. 4.8. Derchefaist i'r vchelder, caeth-gludaist gaethiwed, derbyniaist roddionHeb. mewn dyn. i ddynion: ie i'r rhai cyndyn hefyd, fel y presswyliai 'r Ar­glwydd Dduw yn eu plith.

19 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd, yr hwn a'n llwytha beunydd â daioni: sef Duw ein iechydwriaeth. Selah.

20 Ein Duw ni sydd Dduw iechydwriaeth: ac i'r Arglwydd Dduw y perthyn diangfâu rhag marwolaeth.

21 Duw yn ddiau a archolla ben ei elynion; a choppa walltoc yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau.

22 Dywedodd yr Arglwydd, dygaf fy mhobl drachefn o Basan; dygaf hwynt drachefn o ddy­fnder y môr.

23 Fel yNeu, cocher, trocher dy droed yngwaed dy elynion, a thafod dy gŵn yn yr vn-rhyw.

24 Gwelsant dy fynediad ô Dduw, mynedi­ad fy Nuw, fy Mrenin, yn y cyssegr.

25 Y cantorion a aethant o'r blaen, a'r cer­ddorion ar ôl: yn eu mysg yr oedd y llangce­sau yn canu tympanau.

26 Bendithiwch Dduw yn y cynnulleidfa­oedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel.

27 Yno y mae Benjamin fychan a'u llywydd, tywysogion Juda a'u cynnulleidfa: tywysogion Zabulon, a thywysogion Nephtali.

28 Dy Dduw a orchymmynnodd dy nerth: cadarnhâ ô Dduw, yr hyn a wnaethost ynom ni.

29 Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg, er mwyn dy Deml yn Jerusalem.

30 CeryddaNeu, anifail y cyrs. dyrfa y gwaywffyn, cyn­nulleidfa y gwrdd-deirw, gydâ lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedic â darnau arian:Neu, efe a wascar. gwascar y bobl sy dda ganddynt ryfel.

31 Pendefigion a ddeuant o'r Aipht, Ethio­pia a estyn ei dwylo 'n bryssur at Dduw.

32 Teyrnasoedd y ddaiar, cênwch i Dduw, canmolwch yr Arglwydd. Selah.

33 Yr hwn a ferchyg ar nêf y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe ynHeb. rhoi. anfon ei lef, a honno yn llef nerthol.

34 Rhoddwch i Dduw gadernid: ei oruchel­der sydd ar Israel, a'i nerth yn yr wybrenau.

35 Ofnadwy wyt ô Dduw o'th gyssegr; Duw Israel yw efe, sydd yn rhoddi nerth, a chadernid i'r bobl; bendigedic fyddo Duw.

PSAL. LXIX. Prydnhawnol weddi.
I'r pen-cerdd ar Shosannim, Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn cwyno ei gystudd, 13 Yn gweddio am ymwared, 22 Yn diofrydu ei elynion i ddi­nistr, 30 Yn molianu Duw gyd â diolch.

AChub fi ô Dduw, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid.

2 SoddaisHeb. yn nhom y dyfnder. mewn tom dyfn, lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dy­froedd, a'r ffrŵd a lifodd trosof.

3 Blinais yn llefain, sychodd fy nghêg; pa­llodd fy llygaid; tra ydwyf yn disgwil wrth fy Nuw.

4 Amlach nâ gwallt fy mhen yw y rhai a'm casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion dia­chos, y rhai a'm difethent: yna y telais yr hyn ni chymmerais.

5 O Dduw ti a adwaenost fy ynfydrwydd, ac nid ywHeb. fy euog­rwydd. fy nghamweddau guddiedic rha­got.

6 Na chywilyddier o'm plegit i, y rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd Dduw y lluoedd; na wradwydder o'm plegit i, y rhai a'th geisi­ant ti, ô Dduw Israel.

7 Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y tôdd cywilydd fy wyneb.

8 Euthym yn ddieithr i'm brodyr, ac fel estron gan blant fy mam.

9 CanysJoa. 2.17. zêl dy dŷ a'm hyssodd, aRhuf. 15.3. gwradwyddiad y rhai a'th wradwyddent di a syrthiodd arnafi.

10 Pan wylais gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn wradwydd i mi.

11 Gwiscais hefyd sach-liain, ac euthym yn ddihareb iddynt.

12 Yn fy erbyn y chwedleuei y rhai a eiste­ddent yn y porth; acHeb. i yfwyr diod ga­darn. i'r meddwon yr oeddwn ynGan. wawd.

13 Ond myfi fy ngweddi sydd attat ti ô Arglwydd, mewn amser cymmeradwy: ô Dduw, yn lluosogrwydd dy drugaredd, gwran­do fi, yngwirionedd dy iechydwriaeth.

14 Gwaret fi o'r dom, ac na soddwyf, gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o'r dy­froedd dyfnion.

15 Na lifed y ffrŵd ddwfr trosof, ac na lyngced y dyfnder fi: na chaued y pydew ych­waith ei safn arnaf.

16 Clyw fi Arglwydd, canys da yw dy dru­garedd: yn ôf lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.

17 Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy wâs, canys y mae cyfyngder arnaf, bryssia, gwrando fi.

18 Nesâ at fy enaid, a gwared ef; achub fi o herwydd fy ngelynion.

19 Ti a adwaenost fy ngwarthruddd, a'm cywilydd, a'm gwradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di.

20 Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon, yr ydwyf mewn gofid: a disgwiliais am rai Heb. i gyd­gwynfan a mi. i do­sturio wrthif, ac nid oedd neb, ac am gyssur­wyr, ac ni chefais neb.

21 Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, acMatth. 27.48. Marc. 15.23. Joa. 19.29. a'm diodasant yn fy syched â finegr.

22Rhuf. 11.9. Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a'i llwyddiant yn dramgwydd.

23 Tywyller eu llygaid fel na welont, a gwna iw lwynau grynu bob amser.

24 Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidiawgrwydd dy ddigofaint hwynt.

25 Bydded euHeb. palas. preswylfod yn angyfannedd, ac na fydded a drigo yn eu pebyll:

26 Canys erlidiasant yr hwn a darawsit ti, ac am ofidHeb. dy archo­lledigion. y rhai a archollaist ti, y chwed­leuant.

27 Dôd tiNeu, gosp an­wiredd. anwiredd at eu hanwiredd hwynt, ac na ddelont i'th gyfiawnder di.

28 Deleer hwynt o lyfr y rhai byw: ac na scrifenner hwynt gyd â'r rhai cyfiawn.

29 Minnau, truan a gofidus ydwyf: dy iechydwriaeth di ô Dduw, a'm derchafo.

30 Mollannaf enw Duw ar gân, a mawry­gaf ef mewn mawl.

31 A hyn fydd gwell gan yr Arglwydd nag ŷch, neu fustach corniog, carnol.

32 Y trueniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch Dduw, a fydd byw.

33 Canys gwrendy 'r Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion.

34 Nefoedd, a daiar, y mor a'r hyn oll a ymlusco ynddo, molant ef.

35 Canys Duw a achub Sion, ac a adeilada ddinasoedd Juda, fel y trigont yno, ac y me­ddiannont hi.

36 A hiliogaeth ei weision a'i meddiannarit hi: a'r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.

PSAL. LXX.
¶I'r pen-cerdd, Psalm Dafydd i goffa.

1 Dafydd yn ymbil â Duw am gyflym ddinistr i'r annuwiol, a'i nawdd i'r duwiol.

OPsal. 40.14. Dduw, pryssura i'm gwaredu, bryssia Ar­glwydd i'm cymmorth.

2Psal. 35.4. & 71.13. Cywilyddier, a gwarthruddier y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl, a gwradwy­dder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi.

3 Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant ha, ha.

4 Lawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a'th geisiant, a dyweded y rhai a ga­rant dy iechydwriaeth yn wastad, mawryger Duw.

5 Minneu ydwyf dlawd ac anghenus, ô Dduw bryssia attaf, fy nghymmorth a'm gwaredudd ydwyt ti, ô Arglwydd, na hîr drig.

PSAL. LXXI. Boreuol weddi.

1 Dafydd mewn hyder ffydd, a phrawf ô ffafor Duw, yn gweddio trosto ei hun, ac yn erbyn gelynion ei enaid: 14 Yn addo bod yn ddian­wadal: 17 yn gweddio am nerth i barhau: 19 Yn moliannu Duw, ac yn addaw gwneu­thur hynny yn llawen.

YNotPsal. 31.1. ti ô Arglwydd, y gobeithiais, na'm cywilyddier byth.

2 Achub fi, a gwared fi yn dy gy­fiawnder: gostwng dy glust attaf, ac achub fi.

3 Bydd i mi 'nHeb. graig gy­fanniâd. drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchymmynnaist fy achub, canys ti yw fy nghraig a'm hamddeffynfa.

4 Gwaret fi ô fy Nuw, o law 'r annuwiol, o law yr anghyfion, a'r traws.

5 Canys ti yw fy ngobaith, ô Arglwydd Dduw, fy ymddiried o'm ieuengctid.

6 Wrthit ti i'm cynhaliwyd o'r bru, ti a'm tynnaist o grôth fy mam: fy mawl fydd yn wastad am danat ti.

7 Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.

8 Llauwer fy ngenau â'th foliant, ac â'th ogoniant beunydd.

9 Na fwrw fi ymmaith yn amser henaint: na wrthot fi pan ballo fy nerth.

10 Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i'm herbyn, a'r rhai a ddisgwiliant am fy enaid, a gyd-ymgynghorant,

11 Gan ddywedyd, Duw a'i gwrthododd ef, erlidiwch, a deliwch ef: canys nid oes gware­dudd.

12 O Dduw, na fydd bell oddi wrthif, fy Nuw, bryssia i'm cymmorth.

13 Cywilyddier, a difether y rhai a wrthwy­nebant fy enaid; â gwarth ac â gwradwydd y gorchguddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.

14 Minneu a obeithiaf yn wastad, ac a'th foliannaf di fwy-fwy.

15 Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder, a'th âechydwriaeth beunydd: canys ni wn rifedi arnynt.

16 Ynghadernid yr Arglwydd Dduw y cer­ddaf, dy gyfiawnder di yn vnic a gofiaf fi.

17 O'm ieuengctid l'm dyscaist ô Dduw, hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.

18 Na wrthod fi ychwaith, ô Dduw,Heb. hyd. mewn henaint, a phen-llwydni: hyd oni fynegwyf dyHeb. fraich. nerth i'r genhedlaeth bon, a'th gadernid i bob vn a ddelo.

19 Dy gyfiawnder hefyd ô Dduw, sydd vchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion; pwy, ô Dduw, sydd debyg i ti?

20 Ti yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a'm bywhei drachefn, ac a'm cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaiar.

21 Amlhei fy mawredd, ac a'm cyssuri oddi amgylch.

22 Minneu a'th folianhaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd ô fy Nuw: canaf it â'r delyn, ô Sanct Israel.

23 Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan gan­wyf i ti, a'm henaid, yr hwn a waredaist.

24 Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd, o herwydd cywilyddiwyd, a gwrad­wyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.

PSAL. LXXII.
Psalm i Salomon.

1 Dafydd, wrth weddio tros Salomon, yn dang­os daioni a gogoniant ei deyrnas ef yn y cys­cod, ond mewn gwirionedd, teyrnas Christ; 18 yn bendithio Duw.

O Dduw, dôd i'r brenin dy farnedigaethau: ac i fab y brenin dy gyfiawnder.

2 Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder: a'th drueniaid â barn.

3 Y mynyddoedd a ddygant heddwch i'r bobl, a'r bryniau, trwy gyfiawnder.

4 Efe a farn drueniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus: ac a ddryllia y gorth­rymmudd.

5 Tra fyddo haul a lleuad i'th osnant, yn oes oesoedd.

6 Efe a ddescyn fel glaw arNeu, ir-wair. gnsi gwlân, fel cawodydd yn dyfrhau y ddaiar.

7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn, ac amlder o heddwch fydd,Heb. hyd oni bo heb lexad. tra fyddo lleuad.

8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd derfynau y ddaiar.

9 O'i flaen ef yr ymgrymma trigolion yr anialwch: a'i elynion a lŷfant y llŵth.

10 Brenhinoedd Tarsis, a'r ynysoedd; a da­lant anrheg; brenhinoedd Sheba a Seba a ddy­gant rodd.

11 Ie 'r holl frenhinoedd a ymgrymmant iddo: yr holl genhedloedd a'i gwasanaethant ef.

12 Canys efe a wared yr anghenog pan wae­ddo: y truan hefyd, a'r hwn ni byddo cyn­northwy-wr iddo.

13 Efe a arbed y tlawd a'r rheidus: ac a achub eneidiau y rhai anghenus.

14 Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll, a thrawsder: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.

15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddiant hefyd trosto efe yn wastad: beunydd y clodforir ef.

16 Bydd dyrned o ŷd ar y ddaiar, ym mhen y mynyddoedd; ei ffrwyth a escwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant, fel gwêllt y ddaiar.

17 Ei enw fydd yn dragywydd, ei enw a bery tra fyddo haul: ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a'i galwant yn wynfyde­dig.

18 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd Dduw, Duw Israel, yr hwn yn vnic sydd yn gwneu­thur rhyfeddodau.

19 Bendigedic hefyd fyddo ei enw gogone­ddus ef yn dragywydd: a'r holl ddaiar a lan­wer o'i ogoniant, Amen, ac Amen.

Gorphen gweddinu Dafydd fab Jesse.

PSAL. LXXIII. Prydnhawnol weddi.
¶Psalm i Asaph.

1 Y Prophwyd wedi gorfod rhyw brofedigaeth, 2 ar yr achlysur hwnnw, yn dangos llwyddiant yr enwir: 13 a'r briw a gafodd ef wrth hynny, sef anymddiried. 15 Ei orfodaeth, sef gwybod amcan Duw, yn difetha yr annuwiol, ac yn cynnal y cyfiawn.

YNNeu, [...]tto. ddiau da yw Duw i Israel; sef i'r rhai glân o galon.

2 Minnau, braidd na lithrodd fy nhraed, prin na thrippiodd fy ngherddediad.

3Job 21.7. Psal. 37.1. Jer. 12.1. Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.

4 Canys nid oes rhwymau yn eu marwola­eth, a'i cryfder sydd Heb. dirf, neu fras. heini.

5 Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill, ac ni ddialeddir arnynt hwy gyd â dy­nion eraill.

6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisc trawsder am danynt fel dilledyn.

7 Eu llygaid a saif allan gan frasder; aethant tros feddwl calon o gyfoeth.

8 Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawsder, yn dywedyd yn vchel.

9 Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd: a'i tafod a gerdd trwy'r ddaiar.

10 Am hynny y dychwel ei bobl ef ymma, ac y gwescir iddynt ddwfr phiol lawn.

11 Dywedant hefyd, pa fodd y gwŷr Duw? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?

12 Wele, dymma y rhai annuwiol, a'r rhai sydd lwyddiannus yn y bŷd; ac a amlhasant olud.

13 Diau mai yn ofer y glanhêais fy ngha­lon, ac y golchais fy nwylo mewn diniwei­drwydd.

14 Canys ar hyd y dydd i'm maeddwyd, fy ngherydd a ddeua. bôb boreu.

15 Os dywedwn, mynegaf fel hyn, wele â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.

16 Pan amcenais wybod hyn, blîn oedd hyn­ny yn fy ngolwg i:

17 Hyd onid euthum i gyssegr Duw: yna y deellais eu diwedd hwynt.

18 Diau osod o honot hwynt mewn lli­thrigfa, a chwympo o honot hwynt I ddinystr.

19 Morr ddisymwth yr aethant yn anghy­fannedd; pallâsant, a darfuant gan ofn.

20 Fel breuddwyd wrth ddihuno vn, felly ô Arglwydd, pan ddeffroech y dirmygi eu gŵedd hwynt.

21 Fel hyn y gofidiodd fy nghalon: ac i'm pigwyd yn fy arennau.

22 Mor ynfyd oeddwn, ac heb ŵybod: anifail oeddwnHeb. gyd a rhi. o'th flaen di.

23 Etto yr ydwyf yn wastad gyd â thi: yma­flaist yn fy llaw ddehau.

24 A'th gyngor i'm harweini: ac wedi hyn­ny i'm cymmeri i ogoniant.

25 Pwy sydd gennifi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaiar neb gyd â thydi.

26 Pallodd fy ngnhawd a'm calon; ondHeb. craig. nerth fy nghalon a'm rhan yw Duw yn dra­gywydd.

27 Canys wele difethir y rhai a bellhânt oddi wrthit; torraist ymaith bôb un a butteinio oddi wrthit.

18 Minneu, nessau at Dduw sydd dda i mi, yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith, i dreuthu dy holl weithredoedd.

PSAL. LXXIV.
Neu, Psalm i Asaph i roddi athra­wiaeth. Maschil i Asaph.

1 Y prophwyd yn cwyno anrheithio y Cyssegr: 10 Yn erfyn cymmorth gan Dduw, wrth ysty­ried ei allu, 18 a'i elynion enllibus, a'i blant, a'i gyfammod.

PA ham Dduw i'n bwriaist heibio yn dragy­wydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?

2 Cofia dy gynnulleidfa yr hon a brynaist gynt, a Ne [...]; gwialen. llwyth dy etifeddiaeth yr hwn a waredaist; mynydd Sion hwn, y presswyli ynddo.

3 Dercha dy draed at anrhaith dragywy­ddol: sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y Cyssegr.

4 Dy elynion a ruasant ynghanol dy gyn­nulleidfaoedd: gosodasant eu banerau yn ar­wyddion.

5 Hynod oedd gwr, fel y codasai fwyîll mewn dyrys-goed.

6 Ond yn awr y maent yn dryllio ei cherfia­dau ar vnwaith, â bwyîll ac â morthwylion.

7 Bwriasant dy gyssegroedd yn tân, hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw.

8 Dywedasant yn eu calonnau;Heb. drylli­wn, neu dorrun. cyd-an­rheithiwn hwynt; lloscasant holl synagogau Duw yn y tîr.

9 Ni welwn ein harwyddion, nid oes broph­wyd mwy, nid oes gennym a wyr pa hŷd.

10 Pa hŷd Dduw, y gwarthrudda'r gwrth­wyneb-wr? a gabla 'r gelyn dy enw yn dra­gywydd?

11 Pa ham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheu-law? tynn hi allan o ganol dy fonwes;

12 Canys Duw yw fy Mrenin o'r dechreu­ad; gwneuthur-wr iechydwriaeth o fewn y tîr.

13 TiExod. 14.21. yn dy nerth aHal­derraist. berthaist y môr, drylliaist bennauNeu, m [...]r­feirch. dreigiau yn y dyfroedd.

14 Ti a ddrylliaist ben Lefiathan, rhoddaist ef yn fwyd i'r bobl yn yr anialwch.

15 TiExod. 17.5. Num. 20.11. Jos. 3.13. a holltaist y ffynnon, a'r afon, ti a ddiyspyddaist afonydd cryfion.

16 Y dydd sydd eiddo ti, y nos hefyd sydd eiddo ti: ti a baratoaist oleuni, a haul.

17 Ti a osodaist holl derfynau 'r ddaiar;Heb. haf a gaiaf, ti a'll llu­niaist. ti a luniaist hâf a gayaf.

18 Cofia hyn, i'r gelyn gablu, ô Arglwydd, ac i'r bobl ynfyd ddifenwi dy enw.

19 Na ddyro enaid dy durtur i gynnulleid­fa y gelynion, nac anghofia gynnulleidfa, dy drueniaid byth.

20 Edrych ar y cyfammod, canys llawn yw tywyll-leoedd y ddaiar o drigfannau trawster.

21 Na ddychweled yGor­thrymme­dic. tlawd yn wradwy­ddus, molianned y truan, a'r anghenus dy enw.

22 Cyfod ô Dduw, dadleu dy ddadl, cofia dy wradwydd gan yr ynfyd beunydd.

23 Nac angofia lais dy elynion; dadwrdd y rhai a godant i'th erbyn, sydd yn dringo yn wastadol.

PSAL. LXXV; Boreuol weddi.
¶I'r pen-cerdd,Neu, Na ddi­fetha. Al-taschith. Psalm neu gân i Asaph.

1 Y prophwyd yn moliannu Duw, 2 yn addaw barnu yn gyfiawn, 4 yn ceryddu 'r beilchion, trwy ystyried rhagluniaeth Duw, 9 yn moliannu Duw, ac yn addaw gwneuthur cyfiawnder.

CLodforwn dydi ô Dduw, clodforwn, canys agos yw dy enw: dy ryfeddo­dau a fynegant hynny.

2 PanNeu, gymaer­wyf am­ser node­dic. dderbyniwyf y gynnull­eidfa, mi a farnaf yn vniawn.

3 Ymddattododd y ddaiar, a'i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Selah.

[...]

712 Sam. 5.2. Oddi ar ôl y defaid cyfebron, y daeth ag ef i borrhi Jacob ei bobl, ac Israel ei etife­ddiaeth.

72 Yntef a'i porthodd hwynt yn ôl per­ffeithrwydd ei galon, ac a'i trinodd wrth gy­farwyddyd ei ddwylo.

PSAL. LXXIX. Boreuol weddi.
¶Psalm i Asaph.

1 Y Psalmudd yn cwyno difrod Jerusalem, 8 yn gweddio am ymwared, 13 ac yn addo diolch.

Y Cennedioedd, ô Dduw, a ddae­thant i'th etifeddiaeth, halogasant dy Demi sanctaidd; gosodasant Je­rusalem yn garneddau.

2 Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd, a chîg dy sainct i fwyft-filod y ddaiar.

3 Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgyich Jerusalem, ac nid oedd a'i claddei.

4Psal. 44.14. Yr ydym ni yn warthrudd i'n cymmy­dogion, dirmyg a gwatwargerdd i'r rhai sydd o'n hamgylch.

5Psal. 89.46. Pa hŷd Arglwydd, a ddigi di 'n dragy­wydd? a lysc dy eiddigedd di fel tân?

6Jer. 10.25. Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni'th adnabuant: ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw.

7 Canys yssasant Jacob, ac a wnaethant ei bresswylfa yn anghyfannedd.

8Esay. [...]4. [...]. Na chofia 'r anwireddau gynt i'n her­byn; bryffia, rhacflaened dy dostur drugare­ddau ni: canys llesc iawn i'n gwnaethpwyd.

9 Cynnorthwya ni, ô Dduw ein iechydwri­aeth, er mwyn gogoniant dy enw: gwared ni hefyd, a thrugarhâ wrth ein pechodau, er mwyn dy enw.

10 Pa ham y dywed y cenhedloedd, pa le y mae eu Duw hwynt? bydded hyspys ym mhli [...]h y cenhedloedd yn ein golwg ni, wrth ddial gwaed dy weision, yr hwn a dywalltwyd.

11 Deued vchenaid y carcharorion ger dy fron, yn ôl mawredd dyHeb. fraich. nerth: cadw blant marwolaeth.

12 A thâl i'n cymmydogion ar y seithfed iw monwes eu cabledd, drwy 'r hon i'th gab­lasant di, ô Arglwydd.

13 A ninneu dy bobl, a defaid dy borfa, a'th foliannwn di yn dragywydd: datcanwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth.

PSAL. LXXX.
¶I'r pen-cerdd ar Soshannim Eduth, Psalm i Asaph.

1 Dafydd yn ei weddi yn cwyno trueni yr Eg­lwys. 8 Daioni Duw o'r blaen, yn troi yn farnedigaethau. 14 Y mae yn gweddio am ymwared.

GWrando ô fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseph fel praidd: ymddiscleiria yr hwn wyt yn eistedd rhwng y Cerubiaid.

2 Cyfod dy nerth o flaen Ephraim, a Ben­jamin, a Manasseh, a thyred yn iechydwriaeth i ni.

3 Dychwel ni ô Dduw, a llewyrcha dy wy­neb, ac ni a achubir.

4 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd, pa hŷd yHeb. mygi. sorri wrth weddi dy bobl?

5 Porthaist hwynt â bara dagrau, a diodaist hwynt â dagrau [...]rth fesur mawn.

6 Gosodaist ni yn gynnen i'n cymmydogion, a'n gelynion a' [...] g [...]rent yn eu mysc eu hun.

7 O Duw 'r lluoedd dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb, ac ni a achubir.

8 Mudaist win-wydden o'r Aipht, bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi.

9 Arloesaist o'i blaen, a pheraist iw gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tîr.

10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chys­cod? a'i changhennau oedd fel cedr-wyddHeb. Duw. rhagorol.

11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a'i blagur hyd yr afon.

12 Pa ham y rhwygaist ei chaeau, fel y tyn­no pawb a elo heibio ar hŷd y ffordd ei grawn hi?

13 Y baedd o'r coed a'i turria, a bwyst-fil y maes a'i pawr.

14 O Dduw 'r lluoedd, dychwel attolwg: edrych o'r nefoedd a chenfydd, ac ymwel â'r win-wydden hon;

15 A'r winllan a blannodd dy ddeheu-law, ac â'r planhigyn a gadarnhetist i ti dy hun.

16 Lloscwyd hi â thân, torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt.

17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheu-law: a thros fab dŷn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun.

18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthit ti; bywhâ ni, ac ni a alwn ar dy enw.

19 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd, dychwel ni: llewyrcha dy wyneb, ac ni a achubir.

PSAL. LXXXI.
¶I'r pen cerdd ar Gittith, Psalm i Asaph.

1 Y mae yn annog i roi cyhoedd ddiolch i Dduw. 4 Bod Duw yn gofyn hynny o ddyled, oblegid ei ddoniau. 8 Duw wrth annog i vfydd-dod, yn cwyno rhag eu hanufydd-dod hwy, yr hon sy niweidiol iddynt.

CEnwch yn llafar i Dduw ein cadernid: ce­nwch yn llawen i Dduw Jacob.

2 Cymmerwch psalm, a moeswch dympan, y delyn fwyn, a'r nabl.

3 Vd-cenwch vdcorn ar y lloer newydd, ar yr amser nodedic, yn nydd ein vchelŵyl.

4 Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Jacob.

5 Efe a'i gosododd yn destiolaeth yn Joseph: pan aeth efe allanNeu. yn erbyn. trwy dîr yr Aipht, lle y clywais iaith ni ddeallwn.

6 Tynnais ei yscwydd oddi wrth y baich; ei ddwylo a ymadawsant â'r crochanau.

7 Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a'th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y dâran, profais di wrth ddyfroeddExod. 17.6. Neu, y gynnen. Meribah. Selab.

8 Clyw fy mhobl, a mi a destiolaethaf i ti Israel, os gwrandewi arnaf,

9 Na fydded ynot Dduw arall, ac nac ym­grymma i Dduw dieithr.

10 Myfi 'r Arglwydd dy Dduw, yw 'r hwn a'th ddûg di allan o dîr yr Aipht: lleda dy safn, ac mi a'i llanwaf.

11 Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef, ac Israel ni'm mynnai.

12Act. 14.16. Yna y gollyngais hwynt ynghyndyn­rwydd eu calon, aethant wrth eu cyngor eu hunain.

13 Oh na wrandawsei fy mhobl arnaf: na rodiasei Israel yn fy ffyrdd.

14 Buan y gostyngaswn eu gelynion: ac y troeswn fy llaw 'n erbyn eu gwrthwyneb-wŷr.

15 Cascion yr Arglwydd aHeb. ddyweda­sent gel­wydd. gymmerasent [Page] arnynt ymostwng iddo ef, a'i hamser hwythau fuasei 'n dragywydd.

16 Bwydasai hwynt hefyd â brasder gwe­nith: ac â mêl o'r graig i'th ddiwallaswn.

PSAL. LXXXII. Prydnhawnol weddi.
¶Psalm i Asaph.

1 Dafydd wedi cynghori y barn-wyr, 5 a che­ryddu eu hesceulusdra hwy, 8 yn erfyn ar Dduw farnu.

DVw sydd yn sefyll ynghynnulleidfa y galluog: ym mhlith y duwiau y barn efe.

2 Pa hŷd y bernwch argam? ac y derbyniwchDeut. 1.17. wyneb y rhai annuwiol? Selah.

3ymddi­ffynnwch. Bernwch y tlawd a'r ymddifad, cyfiawn­hewch y cystuddiedig a'r rheidus,

4Dihar. 24.11. Gwaredwch y tlawd a'r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.

5 Ni ŵyddant, ac ni ddeallant, mewn tyw­yllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaiar a symmudwyd o'i lle.

6 Myfi a ddywedais,Joa. 10.34. duwiau ydych chwi, a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.

7 Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel vn o'r tywysogion y syrthiwch.

8 Cyfod o Dduw, barna 'r ddaiar, canys ti a etifeddi 'r holl genhedloedd.

PSAL. LXXXIII.
¶Cân neu Psalm i Asaph.

1 Achwyn wrth Dduw rhag brad y gelyn. 9 Gweddi yn erbyn y rhai sy yn gorthrymmu yr Eglwys.

O Dduw na ostega, na thaw, ac na fydd lon­ydd, ô Dduw.

2 Canys wele dy elynion sydd yn terfyscu, a'th gaseion yn cyfodi eu pennau.

3 Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn er­byn dy bobl, ac ymgynghorasant yn erbyn dy rai dirgel di.

4 Dywedasant, dewch, a difethwn hwynt, fel na byddont yn genhedl, ac na chofier enw Is­rael mwyach.

5 Canys ymgynghorasant ynHeb. vn galon. vn-fryd, acgwnae­thant gy­fammod. ymwnaethant i'th erbyn.

6 Pebyll Edom, a'r Ismaeliaid, y Moabiaid, a'r Hagariaid:

7 Gebal, ac Ammon, ac Amalec, y Philisti­aid, gyd â phesswyl-wŷr Tyrus.

8 Assur hefyd a ymgwplysodd â hwynt, buant fraich i blant Lot. Selah.

9Barn. 7.22. Gwna di iddynt fel i Midian, megis iBarn. 4.15 24. Sisara, megis i Jabin, wrth afon Cison.

10 Yn Endor y difethwyd hwynt, aethant yn dail i'r ddaiar.

11 Gwna ei bendefigion felBarn. 7.25 & 8.21. Esa. 10.26. Oreb, ac fel Zeeb, a'i holl dywysogion fel Zebah, ac fel Salmunnah.

12 Y rhai a ddywedasant, cymmerwn i ni gyfanneddau Duw iw meddiannu.

13 Gosot hwynt, ô fy Nuw, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt.

14 Fel y llysc tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd:

15 Felly erlit ti hwynt â'th demhestl, a dych­ryna hwynt â'th gorwynt.

16 Llanw eu hwynebau â gwarth, fel y ceisiont dy enw, ô Arglwydd.

17 Cywilyddier, a thralluder hwynt yn dra­gywydd: ie gwradwydder, a difether hwynt;

18 Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn vnic wyt Jehofa wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaiar.

PSAL. LXXXIV.
¶I'r pen cerdd ar Gittith, Psalm i feibion Corah.

1 Dafydd yn hiraethu am gyfundeb y cyssegr, 4 ac yn dangos mor ddedwydd yw y rhai sy yn aros ynddo; 8 Ac yn gweddio ar gael o hono yntau fyned yno drachefn.

MOr hawddgar yw dy bebyll di, ô Ar­glwydd y lluoedd!

2 Fy enaid a hiraetha, ie ac a flysia am gyn­teddau 'r Arglwydd: fy nghalon, a'm cnawd a waeddant am y Duw byw.

3 Aderyn y tô hefyd a gafodd dŷ, a'r wennol nŷth iddi, lle y gesyd ei chywion: sef dy allo­rau di, ô Arglwydd y lluoedd, fy Mrenin a'm Duw.

4 Gwyn fŷd presswylwŷr dy dŷ: yn wastad i'th foliannant. Selah.

5 Gwyn ei fyd y dŷn y mae ei gadernid ynot, a'th ffyrdd yn eu calon.

6 Y rhai yn myned trwy ddyffrynM [...] ­wydd. Baca, a'i gwnânt yn ffynnon, a'r glaw aHeb. orchgu­ddia. leinw y llynnau.

7 Ant oNeu, fintai i fint [...]. nerth i nerth: ymddengys pob vn ger bron Duw yn Sion.

8 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, ô Dduw Jacob. Soleb.

9 O Dduw ein tarian, gwel, ac edrych ar wyneb dy eneiniog.

10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynte­ddau di nâ mîl: dewiswn [...] gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annu­wioldeb.

11 Canys haul, a tharian yw 'r Arglwydd Dduw: yr Arglwydd â rydd râs a gogoniant ni attal efe ddim daioni oddi wrthPsal 34 9. y rhai a rodiant yn berffaith.

12 O Arglwydd y lluoedd, gwynfŷd y dyn aPsal. [...] 12 ymddiried ynot.

PSAL. LXXXV.
¶I'r pen-cerdd, i feibion Corah, Psalm.

1 Dafydd wedi profi trugareddau Duw o'r blaen, yn gweddio ar iddynt barhau, 8 ac o hyder ar ddaioni Duw, yn addo disgwyl wrthynt.

GRas-lawn fuost, ô Arglwydd, i'th dîr;Heb. Bodd­lawn. dychwelaist gaethiwed Jacob.

2Psal. 32. [...]. Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddi aist eu holl bechod. Selah.

3 Tynnaist ymmaith dy holl lid;Heb. tro [...]t dy ddigter rh [...] lli [...] troist oddi wrth lidiawgrwydd dy ddigter.

4 Trô ni ô Dduw ein iechydwriaeth; a thorr ymmaith dy ddigofaint wrthym.

5 Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy sorriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?

6 Oni throi di a'n bywhau ni, fel y llaw­enycho dy bobl ynot ti?

7 Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd: a dôd i ni dy iechydwriaeth.

8 Gwrandawaf beth a ddywed yr Ar­glwydd Dduw; canys efe a draetha heddwch iw bobl, ac iw sainct; ond na throant at yn­fydrwydd.

9 Diau fod ei iechyd ef yn agos i'r rhai a'i hofnant: fel y trigo gogoniant yn ein tîr ni.

10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant: cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant.

11 Gwirionedd a dardda o'r ddaiar; a chy­fiawnder a edrych i lawr o'r nefoedd.

12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni; a'n daiar a rydd ei chnŵd.

13 Cyfiawnder â o'i flaen ef: ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.

PSAL. LXXXVI. Boreuol weddi.
¶Gweddi Dafydd.

1 Dafydd yn cadarnhau ei weddi, trwy wybod fod ganddo ffydd, 5 trwy ddaioni a gallu Duw; 11 yn deisyf parhau o'r grâs cyntaf: 14 Ac wrth gwyno rhag y balch, yn erfyn rhyw ar­wydd o ddaioni Duw.

GOstwng, ô Arglwydd, dy glust, gwran­do fi: canys truan ac anghenus ydwyf.

2 Cadw fy enaid, canysNeu, vn a ga­fodd ffa­for. sanct­aidd ydwyf: achub di dy wâs, ô fy Nuw, yr hwn sydd yn ymddiried ynot.

3 Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys arnat y llefafNeu, trwy 'r dydd. beunydd.

4 Llawenhâ enaid dy wâs, canys attat y der­chafaf fy enaid.

5Joel. 2.13. Canys ti ô Arglwydd ydwyt dda, a ma­ddeugar: ac o fawr drugaredd i'r rhai oll a alwant arnat.

6 Clyw Arglwydd, fy ngweddi: ac ym­wrando â llais fy ymbil.

7 Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: ca­nys gwrandewi fi.

8 Nid oes fel tydi ym mysc y duwiau, ô Ar­glwydd:Deut. 3.24. na gweithredoedd fel dy weithred­oedd di.

9 Yr holl genhedloedd, y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, ô Arg­lwydd: ac a ogoneddant dy enw.

10 Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhy­feddodau:Deut. 6.4.20 32.39. Esa. 37. [...]6 ac 44.6. M [...]rc. 12.29. 1 Cor. 8.4. Eph. 4.6. ti yn unic wyt Dduw.

11Psal. 25.3 ac. 119.33. Dysc i mi dy ffordd ô Arglwydd, mi a rodiaf yn dy wirionedd: vna fy nghalon i ofni dy enw.

12 Moliannaf di ô Arglwydd fy Nuw, â'm holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dra­gywydd.

13 Canys mawr yw dy drugaredd tu ag at­tafi, a gwaredaist fy enaidNeu, o'r bedd. o vffern issod.

14 Rhai beilchion a gyfodasant i'm herbyn, ô Dduw, a chynnulleidfaHeb. yr ofnad­wy. y trawsion a gei­siasant fy enaid, ac ni'th osodasant di ger eu bron.

15Deut. 34.6. Num. 14.18. Psal. 103.8. ac 139.4. ac 145.8. Eithr ti ô Arglwydd, wyt Dduw tru­garog, a gras-lawn; hwyrfrydic i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd.

16 Edrych arnaf, a thrugarhâ wrthif: dyro dy nerth i'th wâs, ac achub fab dy wasanaeth­ferch.

17 Gwna i mi arwydd er daioni, fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwradwydder hwynt: am i ti, ô Arglwydd, fy nghynnorthwyo a'm di­ddanu.

PSAL. LXXXVII.
¶Psalm [...]eu gân i feibion Corah.

1 Naturiaeth a gogoniant yr Eglwys. 4 Cynnydd, a pharch, a diddanwch aelodau 'r Eglwys.

EI sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd.

2 Yr [...] a gâr byrth Sion, yn fwy nâ holl bressw [...]d Jacob.

3 Gog [...] bethau a ddywedir am danat ti, ô ddin [...] [...]. Selah.

4 Co [...] Rahab a Babilon wrth fynghydna­bod: [...] Philistia a Thyrus ynghyd ag Ethi­opia: [...] y ganwyd hwn.

5 [...] Sion y dywedir, y gwr a'r gŵr a anwy [...] [...]ddi, a'r Goruchaf ei hun a'i siccrhâ hi.

6 Yr Arglwydd a gyfrif pan scrifenno y bobl, eni hwn yno. Selah.

7 Y cantorion a'r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.

PSAL. LXXXVIII.
¶Psalm neu gân i feibion Corah, i'r pen­cerdd ar Mahalath Leannoth.Neu, Psalm Hem. &c. yn rhoi athra­wiaeth. Mas­chil Heman yr Ezrahiad.

Gweddi yn cynnwys achwyn chwerw-dost.

O Arglwydd Dduw fy iechydwriaeth, gwae­ddais o'th flaen ddydd a nôs.

2 Deued fy ngweddi ger dy fron, gostwng dy glust at fy llefain.

3 Canys fy enaid a lanwyd o flinderau, a'm henioes a nessa i'r beddrod.

4 Cyfrifwyd fi gyd a'r rhai a ddescynnent i'r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth:

5 Yn rhydd ym mysc y meirw, fel rhai wedi eu llâdd, yn gorwedd mewn bêdd: y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwydNeu, gan. oddi wrth dy law.

6 Gosodaist fi yn y pwll issaf: mewn ty­wyllwch, yn y dyfnderau.

7 Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â'th holl donnau i'm cystuddiaist. Selah.

8 Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthif, gwnaethost fi yn ffieidd-dra iddynt: gwar­chaewyd fi, fel nad awn allan.

9 Fy llygad a ofidiodd gan fynghystudd, llefais arnat Arglwydd beunydd: estynnais fy nwylo attat.

10 Ai i'r meirw y gwnei ryfeddod? a gy­fyd y meirw a'th foliannu di? Selah.

11 A dreuthir dy drugaredd mewn bêdd? a'th wirionedd yn nestruw?

12 A adwaenir dy ryfeddod yn y tywy­llwch? a'th gyfiawnder yn nhîr anghof?

13 Ond myfi a lefais arnat Arglwydd: yn foreu yr achub fy ngweddi dy flaen.

14 Pa ham Arglwydd y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthif?

15 Truan ydwyfi, ac ar drangcedigaeth o'm hieuengctid, dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso.

16 Dy soriant a aeth trosof, dy ddychrynne­digaethau a'm torrodd ymmaith.

17 Fel dwfr i'm cylchynasantNeu, ar hyd y dydd. beunydd: ac i'm cyd-amgylchasant.

18 Câr a chyfaill a yrraist ym mhell oddi wrthif, a'm cydnabod i dywyllwch.

PSAL. LXXXIX. Prydnhawnol weddi.
Neu, Psalm i Ethan, &c. i roi athrawi­aeth. Maschil Ethan yr Ezrahiad.

1 Dafydd yn moliannu Duw am ei gyfammod, 5 am ei ryfeddol allu, 15 am ei ofal tros ei Eglwys, 19 am ei ffafor i frenhiniaeth Da­fydd: 38 Yna yn cwyno am yr hyn a ddigwy­ddasai yn y gwrthwyneb, 46 yn ymymliw â Duw, yn ei weddio, ac yn ei fendithio.

TRugareddau 'r Arglwydd a ddat­canaf byth, â'm genau y mynegaf dy wirionedd, o genhedlaeth hyd genhedlaeth.

2 Canys dywedais, adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y siccrhei dy wiri­onedd.

3 Gwneuthum ammod â'm etholedig,2 Sam. 7.11. tyng­ais i'm gwâs Dafydd.

4 Yn dragywydd y siccrhâf dy hâd ti: ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfaingc di. Selah.

5 A'r nefoedd, ô Arglwydd a foliannant dy [Page] ryfeddod, a'th wirionedd ynghynnulleidfa y sainct.

6 Canys pwy yn y nêf a gystedlir â'r Argl­wydd? pwy a gyffelybir i'r Arglwyd ym mysc meibion y cedyrn?

7 Duw sydd ofnadwy iawn ynghynnulleid­fa 'r sainct: ac iw arswydo yn ei holl amgyl­choedd.

8 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn Ior? a'th wirionedd o'th amgylch?

9 Ti wyt yn llywodraethu ymchŵydd y môr; pan gyfodo ei donnau, ti a'i gostegi.

10 Ti a ddrylliaist yrRahab. Aipht, fel vn lladde­dic: drwyHeb. fraich dy [...]rth. nerth dy fraich y gwasceraist dy elynion.

11Gen. 1.1. Psal. 24.1. & 50.12. Y nefoedd ydynt eiddo ti, a'r ddaiar sydd eiddo ti: ti a seiliaist y bŷd a'i gy­fiawnder.

12 Ti a greaist ogledd a dehau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw.

13 Y mae i ti fraich, a chadernid; cadarn yw dy law, ac vchel yw dy ddeheu-law.

14 Cyfiawnder, a barn yw Neu, siccrhad. trigfa dy or­seddfaingc: trugaredd a gwirionedd a ragflae­nant dy wyneb.

15 Gwyn ei fyd y bobl a adwaenant yrNum. 10.6. hyf­rydlais: yn llewyrch dy wyneb ô Arglwydd y rhodiant hwy.

16 Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd, ac yn dy gyfiawnder yr yrndderchafant.

17 Canys godidawgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y der­chefir ein corn ni.

18 CanysNeu, o'r Argl. y mae ein tor. ac o Sanct Is. y mae ein Brenin. yr Arglwydd yw ein tarian: a Sanct Israel yw ein Brenin.

19 Yna 'r ymddiddenaist mewn gwelediga­eth â'th sainct, ac a ddywedaist, gosodais gym­morth ar vn cadarn: derchefais vn etholedic o'r bobl.

201 Sam. 16.12. Cefais Ddafydd fy ngwasanaeth-wr: enei­niais ef â'm holew sanctaidd.

21 Yr hwn y siccrheir fy llaw gydag ef: a'm braich a'i nertha ef.

22 Ni orthrymma y gelyn ef, a'r mab an­wir nis cystuddia ef.

23 Ac mi a goethaf ei elynion o'i flaen, a'i gaseion a darawaf.

24 Fy ngwirionedd hefyd, a'm trugaredd fydd gyd ag ef: ac yn fy enw y derchefir ei gorn ef.

25 A gosodaf ei law yn y môr, a'i ddeheu­law yn yr afonydd.

26 Efe a lefa arnaf, ti yw fy Nhâd, fy Nuw, a chraig fy iechydwriaeth.

27 Minneu a'i gwnâf yntef yn gynfab, go­ruwch brenhinoedd y ddaiar.

28 Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragy­wydd: a'm cyfammod fydd siccr iddo.

29 Gosodaf hefyd ei hâd yn dragywydd: a'i orsedd-faingc fel dyddiau y nefoedd.

30 Os ei feibion a adawant fy nghyfraith: ac ni rodiant yn fy marnedigaethau;

31 Os fy neddfau a halogant: a'm gorchy­mynion ni chadwant,

32 Yna mi a ymwelaf â'u camwedd i gwia­len, ac â'i hanwiredd â ffrewyllau.

33 Ond ni thorraf fy nghrugaredd oddi wrtho: acHeb. ti ddi­ [...]dymmaf fy ngwi­rionedd. ni phallaf o'm gwirionedd.

34 Ni thorraf fy nghyfammod: ac ni newi­diaf yr hyn a ddaeth allan o'm genau.

35 Tyngais vnwaith i'm sancteiddrwydd, na ddywedŵn gelwydd î Ddafydd.

362 Sam. 7.16. Luc. 1.33. Joa. 12.34. Bydd ei hâd ef yn dragywydd: a'i or­sedd-faingc fel yr haul ger fy mron i.

37 Siccrheir ef yn dragywydd fel y lletiad, ac fel tŷst ffyddlon yn y nef. Selah.

38 Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy eneiniog.

39 Diddymmaist gyfammod dy wâs, ha­logaist ei goron, gan ei thaflu i lawr.

40 Drylliaist ei holl gaeau ef, gwnaethost ei amddeffynfeydd yn adwyau.

41 Yr holl fforddolion a'i hyspeiliant ef: aeth yn warthrudd iw gymmydogion.

42 Derchefaist ddeheu-law ei wrthwyneb­wŷr, llawenheaist ei holl elynion.

43 Troist hefyd fin ei gleddyf, ac ni cha­darnheaist ef mewn rhyfel.

44 Peraist iwHeb. ddiscla­erdeb. harddwch ddarfod, a bwri­aist ei orsedd-faingc i lawr.

45 Byrhêaist ddyddiau ei ieuenctid, toaist gywilydd trosto ef. Selah.

46 Pa hŷd Arglwydd yr ymguddi, ai yn dragywydd? a lŷsc dy ddigofaint ti fel tân?

47 Cofia pa amser sydd i mi: pa ham y creaist holl blant dynion yn ofer?

48 Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared ef ei enaid o law 'r bedd? Selah.

49 Pa lê y mae dy hên drugareddau ô Ar­glwydd, y rhai a dyngaist i Ddafydd yn dy wirionedd?

50 Cofia ô Arglwydd wradwydd dy weisi­on, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion.

51 A'r hwn y gwradwyddodd dy elynion ô Arglwydd; â'r hwn y gwradwyddasant ôl tro­ed dy eneiniog.

52 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd yn dra­gywydd, Amên, ac Amên.

PSAL. XC. Boreuol weddi
¶Gweddi Moses gwr Duw.

1 Moses yn datcan rhagluniaeth Duw, 3 yn cwy­no rhag breuolder dyn, 7 a cheryddon Duw, 10 a byrred yr einioes: 12 Ac yn gweddio am gael gwybodaeth a phrawf o ddaionus rag­luniaeth Duw.

TI Arglwydd fuost yn breswylfa i niHeb. [...] ym mhob cenhedlaeth.

2 Cyn gwneuthur y mynydd­oedd, a llunio o honot y ddaiar, [...] bŷd; ti hefyd wyt Dduw o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb.

3 Troi ddŷn i ddinistr; a dywedi, dych­welwch feibion dynion.

4 [...] Canys mîl o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi 'r êl heibio, ac fel gwi­liadwriaeth nôs.

5 Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hûn: y borau y maent fel llysieuyn a newidir.

6 Y boreu y blodeua, ac y tŷf: pryd nawn y torrir ef ymmaith, ac y gwywa.

7 Canys yn dy ddîg y difethwyd ni, ac yn dy lidiawgrwydd i'n brawychwyd.

8 Gosodaist ein anwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yn goleuni dy wyneb.

9 Canys ein holl ddyddiau ni aHeb. droesant eu hwy­n [...]bau. ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blyny­ddoedd, felNeu, myfyrd [...] chwedl.

10Neu, Dyddiau ein bly­nydd [...] ynddyn [...] i y mae [...] Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mhlynedd a thrugain, ac os o gryf­der y cyrheuddir pedwar vgain mhlynedd, [Page] etto eu nerth sydd boen a blinder: ca­nys ebrwydd y derfydd, ac ni a ehedwn ymmaith.

11 Pwy a edwyn nerth dy sorriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddigter.

12 Dysc i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.

13 Dychwel Arglwydd, pa hŷd? ac edifar­hâ o ran dy weision.

14 Diwalla ni yn foreu â'th drugaredd: fel y gorfoleddom, ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.

15 Llawenhâ ni yn ôl y dyddiau y cystu­ddiaist ni, a'r blynyddoedd y gwelsom ddryg­fyd.

16 Gweler dy waith tu ag at dy weision: a'th ogoniant tu ag at eu plant hwy.

17 A bydded prydferthwch yr Argl­wydd ein Duw arnom ni; a threfna wei­thred ein dwylo ynom ni; ie trefna waith ein dwylo.

PSAL. XCI.

1 Cyflwr y duwiol, 3 a'i diogelwch, 9 a'i tri­gias. 11 Eu gweision, 14 a'i caredig, a diwedd y cwbl.

YR hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Go­ruchaf, aHeb. letteua. erys ynghyscod yr Holl-alluoc.

2 Dywedaf am yr Arglwydd, fy noddfa am hamddeffynfa ydyw; fy Nuw, ynddo yr ymddiriedaf.

3 Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr: ac oddi wrth haint echryslon.

4 A'i ascell y cyscoda efe trosot, a than ei [...]denydd y byddi diogel: ei wirionedd sydd da­rian, ac astalch i ti.

5 Nid ofni rhag dychryn nôs; na rhag y saeth a ehetto 'r dydd:

6 Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch, na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd.

7 Wrth dy ystlys y cwymp mil, a dengmil wrth dy ddeheu-law: ond ni ddaw yn agos attat ti.

8 Yn vnig ti a ganfyddi â'th lygaid, ac a wêli dâl y rhai annuwiol.

9 Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy nodd­fa, sef y Goruchaf, yn bresswylfa i ti:

10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw plâ yn agos i'th babell.

11 Canys efe aMat. 4.6. Luc. 4.10. orchymyn iw angelion am danat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.

12 Ar eu dwylo i'th ddygant: rhag taro dy droed wrth garrec.

13 Ar y llew, a'rNeidr. asp y cerdi: y cenew llew, a'r ddraig a fethri.

14 Am iddo roddi ei serch arnaf: am hyn­ny y gwaredaf ef: am iddo adnabod fy enw.

15 Efe a eilw arnaf, a mi a'i gwrandawaf: mewn ing y byddâf fi gyd ag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef.

16 Digonaf ef â hir ddyddiau: a dangosaf iddo fy iechydwriaeth.

PSAL. XCII.
¶Psalm neu gan ar y dydd Sabboth.

1 Dafydd yn annog i foliannu Duw, 4 am ei fawr weithredoedd, 6 am ei farnedigaethau ar yr enwir, 10 ai ddaioni i'r duwiol.

DA yw moliannu 'r Arglwydd: a chanu mawl i'th enw di, y Goruchaf:

2 A mynegi y boreu am dy drugaredd, a'th weirionedd y nosweithiau.

3 Ar ddec-tant, ac ar nabl, ac ar delynHeb. Hig [...]aion. yn fyfyriol.

4 Canys llawenychaist fi ô Arglwydd, â'th weithred: yngwaith dy ddwylo y gorfole­ddaf.

5 Mor fawredic ô Arglwydd; yw dy wel­thredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau.

6 Gŵr annoeth ni wŷr, a'r ynfyd ni ddeall hyn.

7 Pan flodeuo y rhai annuwiol fel llysieun, a blaguro holl weithredwŷr anwiredd, hynny sydd iw dinistrio byth bythoedd.

8 Titheu Arglwydd wyt dderchafedic yn dragywydd.

9 Canys wele dy elynion ô Arglwydd, wele dy elynion, a ddifethir: gwascerir holl wei­thredwŷr anwiredd.

10 Ond fynghorn i a dderchefi fel vnicorn, ag olew îr i'm enneinir.

11 Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwyneb-wŷr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i'm herbyn.

12Hos. 14.5. Y cyfiawn a flodeua fel palm-wydden, ac a gynnydda fel cedr-wŷdden yn Libanus.

13 Y rhai a blannwyd yn nhŷ 'r Arglwydd, a flodeuant ynghynteddoedd ein Duw.

14 Ffrwythant etto yn eu henaint, tirfion, ac iraidd fyddant:

15 I fynegi mai uniawn yw 'r Arglwydd fy nghraig: ac nad oes anwiredd ynddo.

PSAL. XCIII. Prydnhawnol weddi.

Mawrhydi, gallu, a sancteiddrwydd teyrnas Christ.

YR Arglwydd sydd yn teyrnasu, efe a wis­codd ardderchawgrwydd, gwiscodd yr Arglwydd nerth ac ymwregysodd: y bŷd hefyd a sicrhawyd fel na syflo.

2 Darparwyd dy orseddfaingcCyn. erioed: ti wyt er tragywyddoldeb.

3 Y llifeiriaint, ô Arglwydd, a dder­chafasant, y llifeiriaint a dderchafasant eu twrwf: y llifeiriaint a dderchafant eu ton­nau.

4 Yr Arglwydd yn yr vchelder sydd ga­darnach nâ thwrwf dyfroedd lawer, na che­dyrn donnau y môr.

5 Siccr iawn yw dy dystiolaethau; sanctei­ddrwydd a weddei i'th dŷ, ô Arglwydd,Heb. tros hir ddyddiaeu. byth.

PSAL. XCIV.

1 Y Prophwyd wrth alw am gyfiawnder, yn cwyno rhag trais ac annuwioldeb: 8 yn dyscu rhagluniaeth Duw: 12 yn dangos dedwyddwch cystudd. 16 Mai Duw yw amddiffynnwr y cystuddiedic.

O Arglwydd Dduw 'r dial, ô Dduw 'r dial, ymddiscleiria.

2 Ymddercha farn-wr y bŷd: tâl eu gwobr i'r beilchion.

3 Pa hŷd Arglwydd y caiff yr annuwolion? pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu?

4 Pa hyd y siaradant, ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithred-wŷr an­wiredd?

5 Dy bobl Arglwydd a ddrylliant: a'th eti­feddiaeth a gystuddiant.

6 Y weddw a'r dieithr a laddant, a'r ym­ddifad a ddieneidiant.

7Psal. 10.11, 13. Dywedant hefyd, ni wêl yr Arglwydd ac nid ystyria Duw Jacob hyn.

8 Ystyriwch chwi rai annoeth ym mysc y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?

9Exod. 4.11. Dihar. 20.12. Oni chlyw r [...]wn a blannodd y gl [...] oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?

10 Oni cherydda 'r hwn a gospa y cenhed­loedd? oni wŷr yr hwn sydd yn dyscu gwybo­daeth i ddŷn?

111 Cor. 3.20. Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dŷn, mai gwagedd ydynt.

12 Gwyn ei fŷd y gŵr a geryddi di ô Ar­glwydd: ac a ddysci yn dy gyfraith;

13 I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddi­au drygfyd; hyd oni chloddier ffôs i'r annu­wiol.

14 Canys ni âd yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.

15 Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder, a'r holl rai vniawn o galon a ânt ar ei ôl.

16 I'wy a gyfyd gyd â mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyd â mi yn erbyn gweithredwŷr anwiredd?

17 Oni buasei 'r Arglwydd yn gymmorth i mi, braidd na thrigasei fy enaid mewn distaw­rwydd.

18 Pan ddywedais, llithrodd fy nhroed, dy drugaredd di ô Arglwydd, a'm cynha­haliodd.

19 Yn amlder fy meddyliau o'm mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid.

20 A fydd cydymdeithas i ti â gorsedd­faingc anwiredd: yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?

21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn: a gwaed gwirion a farnant yn euog.

22 Eithr yr Arglwydd sydd yn amddeffyn­fa i mi, a'm Duw yw craig fy nodded.

23 Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a'i tyrr ymmaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a'i tyrrh-wynt ymmaith.

PSA XCV. Boreuol weddi.

1 Cyngor i foliannu Duw, 3 o herwydd ei fawredd, 6 a'i ddaioni: 8 ac na thempti­er ef.

DEuwch, canwn i'r Arglwydd; ym­lawenhawnHeb. yngrhaig. yn nerth ein hie­chyd.

2Heb. Rhagflae­nwn ei wyneb ef. Deuwn ger ei fron ef â di­olch: cânwn yn llafar iddo â psalmau.

3 Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.

4 Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaiar yn ei law; acNeu, nerth. vchelderau y mynyddoedd yn eiddo.

5 Y môr sydd eiddo, ac efe a'i gwnaeth: a'i ddwylo a luniasant y sych-dir.

6 Deuwch, addolwn, ac ymgrymmwn: gostyngwn ar ein gliniau ger bron yr Arglwydd ein gwneuthurwr.

7 Canys efe yw ein Duw ni, a ninneu ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law;Heb. 3.7. & 4.7. heddyw os gw­randewch ar ei leferydd,

8 Na chaledwch eich calonnau,Num. 14.22. megis yn yrHeb. gynnen. ymrysonfa, fel yn nyddExod. 17.1.7. profedigaeth yn yr anialwch:

9 Pan demptiodd eich tadau fi, y profâsant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd.

10 Deugain mhlynedd yr ymrysonais â'r genhedlaeth hon, a dywedais, pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy: ac nid adnabûant fy ffyrdd.

11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llid,Heb. os deuant. na ddelent i'm gorphywysfa.

PSAL. XCVI,

1 Cyngor i glodfori Duw, 4 am ei fawredd, 8 a'i frenhiniaeth, 11 a'i farn gyffredinol.

CEnwch i'r Arglwydd ganiad newydd:1 Cron. 16.23. cen­wch i'r Arglwydd, yr holl ddaiar.

2 Cenwch i'r Arglwydd, bendigwch ei enw: cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iechydwria­eth ef.

3 Dadcenwch ym mysc y cenhedloedd ei ogoniant ef, ym mhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.

4 Canys mawr yw 'r Arglwydd, a chanmo­ladwy iawn, ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.

5 Canys holl dduwiau 'r bobloedd ydynt eu­lynnod: ond yr Arglwydd a wnaeth y ne­foedd.

6 Gogoniant, a harddwch sydd o'i flaen ef, nerth a hyfrydwch sydd yn ei gyssegr.

7 Tylwythau y bobl, rhoddwch i'r Ar­glwydd; rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.

8 Rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch iw gynteddoedd.

9 Addolwch yr ArglwyddNeu, yn y Cys­segr pryd­ferth. mewn pryd­ferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaiar of­nwch ger ei fron ef.

10Ps. 93.1. & 97.1. Dywedwch ym mysc y cenhedloedd, yr Arglwyddd sydd yn teyrnasu: a'r byd a siccrhaodd efe, fel nad yscogo: efe a farna y bobl yn vniawn.

11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaiar: rhûed y môr a'i gyflawnder.

12 Gorfoledded y maes, a'r hyn oll sydd ynddo: yna holl brennau 'r coed a ganant:

13 O flaen yr Arglwydd. Canys y mae yn dyfod, canys y mae 'n dyfod i farnu 'r ddaiar: efe a farna 'r bŷd drwy gyfiawnder, a'r boblo­edd â'i wirionedd.

PSAL. XCVII.

1 Mawrhydi teyrnas Duw. 7 Yr Eglwys yn llawenychu o herwydd barnedigaethau. Duw ar ddelw-addolwyr. 10 Cyngor i duwioldeb a llawenydd.

YR Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfo­ledded y ddaiar, llawenyched ynysoeddHeb. maŵr lawer.

2 Cymmylau a thywyllwch sydd o'i am­glych ef:Ps. 89.14. cyfiawnder, a barn yw Neu, siccrhad. trigfa ei orseddfaingc ef.

3 Tân â allan o'i flaen ef, ac a lŷsc ei elyni­on o amgylch.

4 Ei fellt a lewyrchâsant y byd, y ddaiar a welodd, ac a grynodd.

5 Y mynyddoedd a doddasant fel cŵyr o flaen yr Arglwydd: o flaen Arglwydd yr holl ddaiar.

6 Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef, a'r holl bobl a welant ei ogoniant.

7Exo [...] 20.4 Lev. 26. [...] Deut. 5. Heb. 1. Gwradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedic, y rhai a ymffrostiant mewn eulynnod: addolwch ef yr holl dduwi­au.

8 Sion a glywodd, ac a lawenychodd; a merched Juda a orfoleddasant; o herwydd dy farnedigaethau di, ô Arglwydd.

9 Canys ti Arglwydd, wyt oruchel goruwch yr holl ddaiar: dirfawr i'th dderchafwyd go­ruwch yr holl dduwiau.

10Ps. 31.14. Am [...] 5.15. Rhuf. 9. Y rhai a gerwch yr Arglwydd, casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei sainct, efe a'i gwared o law y rhai annuwiol.

11 H [...]uwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawen­ydd i'r rhai vniawn o galon.

12 Y rhai cyfiawn, llawenychwch yn yr Arglwydd: a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.

PSAL. XCVIII. Prydnhawnol weddi.
¶Psalm.

1 Dafydd yn annog yr Iuddewon, 4 a'r cenhed­loedd, 7 a'r holl greaduriaid, i glodfori Duw.

CEnwch i'r Arglwydd ganiad newydd, canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw, a'i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth.

2Esay 52.10. Yspyssodd yr Arglwydd ei iechydwri­aeth: datcuddiodd ei gyfiawnder yngolwg y cenhedloedd.

3 Cofiodd ei drugaredd, a'i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaiar a welsant ie­chydwriaeth ein Duw ni.

4 Cênwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaiar: llefwch, ac ymlawenhewch, a che­nwch.

5 Cênwch i'r Arglwydd gyd â'r delyn: gyd â'i delyn â llef Psalm.

6 Ar vtcyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin.

7 Rhûed y môr a'i gyflawnder, y bŷd a'r rhai a drigant o'i fewn.

8 Cured y llifeiriaint eu dwylo: a chyd-ga­ned y mynyddoedd;

9 O flaen yr Arglwydd,Psal. [...]6.13. canys y mae 'n dyfod i farnu y ddaiar: efe a farna 'r bŷd â chyfiawnder, a'r bobloedd ag vniondeb.

PSAL. XCIX.

1 Dafydd yn gosod allan deyrnas Duw yn Sion, 5 ac yn annog pawb, wrth esampl yr hên da­dau, i addoli Duw yn ei fynydd sanctaidd.

YR Arglwydd sydd yn teyrnasu, cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y Cerubi­aid, ymgynnhyrfed y ddaiar.

2 Mawr yw 'r Arglwydd yn Sion, a dercha­fedic yw efe goruwch yr holl bobloedd.

3 Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw.

4 A nerth y brenin a hoffa farn, ti a siccr­hei vniondeb; barn, a chyfiawnder a wnai di yn Jacob.

5 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ym­grymmwch o flaen ei stôl-draed ef; canys sanctaidd yw.

6 Moses ac Aaron ym mhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ym mysc y rhai a alwant ar ei enw; galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a'i gwrandawodd hwynt.

7 Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmmwl, cadwasant ei dystiolaethau, a'r ddeddf a ro­ddodd efe iddynt.

8 Gwrandewaist arnynt, ô Arglwydd ein Duw; Duw oeddit yn eu harbed, ie pan ddielit am eu dychymmygion.

9 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymmwch ar ei fynydd sanctaidd; canys sanctaidd yw 'r Arglwydd ein Duw.

PSAL. C.
¶PsalmNeu, o ddiolch. o foliant.

1 Cyngor i foliannu Duw yn llawen hyfryd, 3 am ei fawredd, 4 ac am ei allu.

CEnwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaiar:

2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn lla­wenydd; deuwch o'i flaen ef â chân.

3 Gwybyddwch mai'r Arglwydd [...]ydd Dduw; efe a'n gwnaeth, acNeu, eiddo ef ydym. nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.

4 Ewch i mewn iw byrth ef â diolch, ac iw gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendi­thiwch ei enw.

5 Canys da yw 'r Arglwydd; ei drugaredd sydd yn dragywydd; a'i wirionedd hyd gen­hedlaeth a chenhedlaeth.

PSAL. CI.
¶Psalm Dafydd.

Dafydd yn gweuthur adduned a phroffess o ddu­wioldeb.

CAnaf am drugaredd a barn: i ti Arglwydd y canaf.

2 Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith: pa bryd y deui attaf? rhodiaf mewn perffeith­rwydd fy nghalon, o fewn fy nhŷ.

3 Ni osodaf ddimNeu, i'r fall. Heb. Be­lial. anwir o flaen fy llygaid, câs gennif waith y rhai cildynnus, ni lŷn wr­thif fi.

4 Calon gyndyn a gilia oddi wrthif, nid adnabyddaf ddŷn drygionus.

5 Torraf ymmaith yr hwn a enllibio ei gymmydog yn ddirgel: yr vchel o olwg, a'r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef.

6 Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tîr, fel y trigont gyd â mi: yr hwn a rodioNeu, yn ber­ffaith yn y ffordd. mewn ffordd berffaith, hwnnw a'm gwasanaetha i.

7 Ni thrig o fewn fy nhŷ yr vn a wnelo dwyll: niHeb. siccrheir. thrig yn fy ngolwg yr vn a ddy­wedo gelwydd.

8 Yn foreu y torraf ymmaith holl annuwo­lion y tîr, i ddiwreiddio holl weithred-ŵyr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.

PSAL. CII. Boreuol weddi.
¶Gweddi y cystuddiedic, pan fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn ger bron yr Arglwydd.

1 Y Prophwyd yn ei weddi yn cwyno yn chwerw­dost: 12 Yn cymmeryd cyssur o dragywyddol­deb a thrugaredd Duw. 18 Bod yn rhaid cadw coffa o drugareddau Duw. 23 Y mae yn attegu ei wendid ag anghyfnewidiolder Duw.

ARglwydd clyw fy ngweddi, a deled fy llêf attat.

2 Na chudd dy wyneb oddi wr­thif, yn nydd fy nghyfyngder go­stwng dy glust attaf: yn y dŷdd y galwyf, bryssia, gwrando fi.

3 Canys fy nyddiau a ddarfuantNeu, yn fwg. fel mŵg: am hescyrn a boethasant fel aelwyd.

4 Fy nghalon a darawyd; ac a wywodd fel llyssieun: fel yr anghofiais fwytta fy mara.

5 Gan lais fy nhuchan y glŷnodd fy escyrn wrthFyng­rhoen. fy ngnhawd.

6 Tebyg wyf i belican yr anialwch, ydwyf fel dylluan y diffaethwch.

7 Gwiliais, ac ydwyf fel aderyn y tô, vnic ar ben y tŷ.

8 Fy ngelynion a'm gwradwyddant beu­nydd: y rhai a ynfydant wrthif a dyngasant yn fy erbyn.

9 Canys bwytteais ludw fel bara: a chym­myscais fy niod ag wylofain,

10 O herwydd dy lid ti a'th ddigofaint: canys codaist fi i fynu, a theflaist fi i lawr.

11Esa. 40.6. Jac. 1.10. Fy nyddiau sydd fel cyscod yn cilio; a minneu fel glaswelltyn a wywais.

12 Titheu Arglwydd a barhei yn dragywy­ddol: a'th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Sion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ic yr amser nodedic, a ddaeth.

14 O blegit y mae dy weision yn hoffi ei meini: ac yn tosturio wrth ei llŵch hi.

15 Felly y cenhedloedd a ofnant enw 'r Ar­glwydd: a holl frenhinoedd y ddaiar dy ogo­niant.

16 Pan adeilado yr Arglwydd Sion, y gwe­lir ef yn ei ogoniant.

17 Efe a edrych ar weddi y gwael: ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.

18 Hyn a scrifennir i'r genhedlaeth a ddêl, a'r bobl a greuir a foliannant yr Arglwydd.

19 Canys efe a edrychodd o vchelder ei gys­segr: yr Arglwydd a edrychodd o'r nefoedd ar y ddaiar,

20 I wrando vchenaid y carcharorion: ac i ryddhau plant angeu.

21 I fynegi enw 'r Arglwydd yn Sion, a'i foliant yn Jerusalem:

22 Pan gascler y bobl ynghyd; a'r teyrna­soedd i wasanaethu 'r Arglwydd.

23Heb. Cystuddi­edd. Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd, byrhaodd fy nyddiau.

24 Dywedais, fy Nuw, na chymmer fi ym­maith ynghanol fy nyddiau: dy flynydd­oedd di sydd yn oes oesoedd.

25Heb. 1.10. Yn y dechreuad y seiliaist y ddaiar, a'r nefoedd ydynt waith dy ddwylo.

26 Hwy a ddarfyddant, a thi aHeb. sefi. barhêi, îe hwy oll a heneiddiant fel dilledyn: fel gwisc y newidi hwynt, a hwy a newidir.

27 Titheu 'r vn ydwyt, a'th flynyddoedd ni ddarfyddant.

28 Plant dy weision a barhânt, a'i hâd a siccrheir ger dy fron di.

PSAL. CIII.
Psalm Dafydd.

1 Cyngor i fendithio Duw am ei drugaredd, 15 a'i ddianwadalwch.

FY enaid, bendithia 'r Arglwydd, a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef.

2 Fy enaid, bendithia 'r Arglwydd, ac nac angofia ei holl ddoniau ef.

3 Yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwi­reddau: yr hwn sydd yn iachâu dy holl lescedd.

4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddestryw, yr hwn sydd yn dy goroni â thruga­redd, ac â thosturi.

5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni: fel yr adnewyddir dy ieuengctid fel yr eryr.

6 Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfi­awnder, a barn i'r rhai gorthrymmedic oll.

7 Yspyssodd ei ffyrdd i Moses; ei weithre­doedd i feibion Israel.

8Exod. 34.7. Num. 14.18. Deut. 5.10. Neh. 9.17. Psal. 86.15. Jer. 32.18. Trugarog, a gras-lawn yw 'r Arglwydd: hwyrfrydic i lid, a mawr o drugarogrwydd.

9 Nid byth yr ymrysson efe, ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint.

10 Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni: ac nid yn ôl ein anwireddau y talodd efe i ni.

11 Canys cyfuwch ac yw 'r nefoedd vwch­law 'r ddaiar, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a'i hofnant ef.

12 Cyn belled ac yw 'r dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym.

13 Fel y tosturia tâd wrth ei blant, felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef.

14 Canys efe a edwyn ein defnydd ni: co­fia mai llŵch ydym.

15 Dyddiau dŷn sydd fel glas-welltyn: me­gis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.

16 Canys y gwynt â trosto, ac ni bydd mwy o honaw; a'i le nid edwyn ddim o honaw ef mwy.

17 Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb, ar y rhai a'i hofnant ef: a'i gyfiawnder i blant eu plant:

18Deut. 7.9. I'r sawl a gadwant ei gyfammod ef; ac a gofiant ei orchymynnion iw gwneuthur.

19 Yr Arglwydd a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd: a'i frenhiniaeth ef sydd yn llywo­draethu ar bôb peth.

20 Bendithiwch yr Arglwydd, ei angelion ef: cedyrn o nerth yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.

21 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl luoedd ef: ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.

22 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl wei­thredoedd ef: ym mhôb man o'i lywodraeth. Fy enaid bendithia 'r Arglwydd.

PSAL. CIV. Prydnhawnol weddi.

1 Myfyrdod ar gadarn allu, 7 a rhyfeddol rag­ddarbodaeth Duw. 31 Bod gogoniant Duw yn dragywyddol. 33 Y Prophwyd yn adduno mo­liannu Duw yn ddibaid.

FY enaid bendithia 'r Arglwydd, ô Ar­glwydd fy Nuw tra mawr ydwyt: gwiscaist ogoniant, a harddwch.

2 Yr hwn wyt yn gwisco goleuni fel dilledyn: ac yn tanu y nefoedd fel llen.

3 Yr hwn sy yn gosod rŷlathau ei stafelloedd yn y dyfroedd, yn gwneuthur y cwmylau yn gerbyd iddo: ac yn rhodio ar adenydd y gwynt.

4Heb 1.7. Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genna­don yn ysprydion: ai wenidogion yn dân fflamllyd.

5 Yr hwn a seiliodd y ddaiar ar ei sylfeini: fel na symmudo byth, yn dragywydd.

6 Toaist hi â'r gorddyfnder, megis â gwisc: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd.

7 Gan dy gerydd di y ffoesant; rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith.

8Neu, Y my­nyddoedd a ymgod­ant, a'r dyffrynno­edd a ddes­cynnant. Gan y mynyddoedd yr ymgodant, ar hyd y dyffrynnoedd y descynnant, i'r lle a sei­liaist iddynt.

9 Gosodaist derfyn, fel nad elont trosodd, fel na ddychwelont i orchguddio 'r ddaiar.

10 Yr hwn a yrr ffynhonnau i'r dyffrynno­edd, y rhai a gerddant rhwng y brynan.

11 Diodant holl fwystfilod y maes: yr assynnod gwylltion a dorrant eu syched.

12 Adar y nefoedd a drigant ger llaw iddynt; y rhai a leisiant oddi rhwng y cang­au.

13 Y mae efe yn dwfrhau y bryniau o'i sta­felloedd: y ddaiar a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd.

14 Y mae yn peri i'r gwellt dyfu i'r anifei­liaid, a llyssiau i wasanaeth dŷn: fel y dycco fara allan o'r ddaiar:

15Barn. 9.13. A gwîn, yr hwn a lawenycha galon dŷn, acHeb. i beri iw wyneb ddiscleirio ag olew, neu, yn fwy nag olew. olew i beri iw wyneb ddiscleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dŷn.

16 Prennau 'r Arglwydd sydd lawn sugn: codrwŷdd Libanus y rhai a blannodd efe.

17 Lle y nytha'r adar: y ffynnidwydd yw tŷ y Ciconia.

18 Y mynyddoedd vchel sydd noddfa i'r geifr; a'r creigiau i'r cwnningod.

19 Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedic: yr haul a edwyn ei fachludiad.

20 Gwnei dywyllwch, a nôs sydd:Heb. y mae ei holl fwystfilod yn ym­lusco yn y coed. ynddi yr ymlusca pôb bwyst-fil coed.

21 Y cenawon llewod a rûant am yscly­faeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw.

22 Pan godo haul, ymgasclant, a gorwe­ddant yn eu llochesau.

23 Dŷn a â allan iw waith, ac iw orchwyl hyd yr hwyr.

24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, o Ar­glwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethi­neb, llawn yw 'r ddaiar o'th gyfoeth.

25 Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusciaid heb rifedi, bwyst-filod by­chain a mawrion.

26 Yno 'r â y llongau: yno y mae 'r Levia­than, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo.

27Ps. 145.15. Y rhai hyn oll a ddisgwiliant wrthit, am roddi iddynt eu bwyd yn ei brŷd.

28 A roddech iddynt a gasclant; agori dy law a diwellir hwynt â daioni.

29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallo­dir: dygi ymaith eu hanadl a threngant, a dychwelant iw llwch.

30 Pan ollyngych dy yspryd y creuir hwynt, ac yr adnewyddi wyneb y ddaiar.

31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragy­wydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei wei­thredoedd.

32 Efe a edrych ar y ddaiar, a hi a gryna, efe a gyffwrdd â'r mynyddoedd, a hwy a fygant.

33 Canaf i'r Arglwydd tra fyddwyf fyw, canaf i'm Duw tra fyddwyf.

34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.

35 Derfydded y pechaduriaid o'r tîr, na fydded yr annuwolion mwy: fy enaid bendi­thia di 'r Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.

PSAL. CV. Boreuol weddi.

1 Cyngor i foliannu Duw, ac i chwilio allan ei weithredoedd ef. 7 Histori rhagluniaeth Duw tuac at Abraham, 16 a Joseph, 23 a Jacob yn yr Aipht, 26 a Moses yn gwaredu 'r Is­raeliaid, 37 a'r Israeliaid wedi eu dwyn allan o'r Aipht, yn eu porthi hwy yn yr anialwch, ac yn eu plannu yngwlad Canaan.

1 Cron. 16.8. Esay 12.4. CLodforwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredo­edd ym mysc y bobloedd.

2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef.

3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd; llawenyched calon y rhai a geisiant yr Argl­wydd.

4 Ceisiwch yr Arglwydd a'i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bôb amser.

5 Cofiwch ei ryfeddodau, y rhai a wnaeth efe: ei wrthiau, a barnedigaethau ei enau;

6 Chwi hâd Abraham ei wâs ef: chwi mei­bion Jacob ei etholedigion.

7 Efe yw 'r Arglwydd ein Duw ni, ei farne­digaethau ef sydd trwy 'r holl ddaiar.

8 Cofiodd ei gyfammod byth: y gair a or­chymynnodd efe i fîl o genhedlaethau:

9Gen. 17.2. & 22.16. & 26.3. & 28.13. & 35.11. Luc. 1.73. Heb. 6.17. Yr hyn a ammododd efe ag Abraham, a'i lŵ i Isaac:

10 A'r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfammod tragywyddol i Israel;

11Gen. 13.15. & 15.18. Gan ddywedyd, i ti y rhoddaf dîr Ca­naan,Heb. llinyn. rhandir eich etifeddiaeth.

12 Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie ychy­dig, a dieithriaid ynddi.

13 Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth: o'r naill deyrnas at bobl arall:

14 Ni adawodd i neb eu gorthrymmu, ie ceryddodd frenhinoedd o'i plegit:

15 Gan ddywedyd, na chyffyrddwch â'm rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhrophwydi.

16 Galwodd hefyd am newyn ar y tîr: aTorrodd. dinistriodd hollFfon. gynhaliaeth bara.

17 Anfonodd ŵr o'i blaen hwynt,Gen. 37.28. Joseph yr hwn a werthwyd yn wâs.

18Gen. 33.20. Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid aeth mewn heirn:

19 Hyd yr amser y daeth ei air ef; gair yr Arglwydd a'i profodd ef.

20Gen. 41.14. Y brenin a anfonodd, ac a'i gollyng­odd ef, llywodraeth-wr y bobl, ac a'i rhydd­haodd ef.

21Gen. 41.40. Gosododd ef yn Arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei hollHeb. feddiant. gyfoeth:

22 I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys, ac i ddyscu doethineb iw henuriaid ef.

23Gen. 46.6. Aeth Israel hefyd i'r Aipht, ac Jacob a ymdeithiodd yn nhîr Ham.

24 Ac efe a gynnyddodd ei bobl yn ddir­fawr; ac a'i gwnaeth yn gryfach nâ'i gwrth­wyneb-wŷr.

25Exod. 1.8. Trôdd eu calon hwynt i gasau ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â'i weision.

26Exod. 3.10. Efe a anfonodd Moses ei wâs, ac Aaron yr hwn a ddewisasei.

27Exod. 7.9. Hwy a ddangosasantHeb. eiriau ei arwyddi­on ef. ei arwyddion ef yn eu plith hwynt: a rhyfeddodau yn nhîr Ham.

28Exod. 10.22. Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dy­wyllodd: ac nid anufyddhasant hwy ei air ef.

29Exod. 7.20. Efe a drôdd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pyscod.

30Exod. 8.6. Eu tîr a heigiodd lyffaint, yn stafelloedd eu brenhinoedd.

31Exod. 8, 17.24. Efe a ddywedodd, a daeth cymmysc­bla, a llau yn ei holl frô hwynt.

32Exod. 9.23. Efe aHeb. roddes. wnaeth eu glaw hwynt yn gen­llysc, ac yn fflammau tân yn eu tîr.

33 Tarawodd hefyd eu gwinwŷdd, a'i ffigys­wydd: ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.

34Exod. 10.4. Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a'r lindys yn anneirif,

35 Y rhai a fwytasant yr holl las-wellt yn eu tîr hwynt: ac a ddifasant ffrwyth eu daiar hwynt.

36Exod. 12.29. Tarawodd hefyd bôb cyntaf-anedic yn eu tîr hwynt; blaen ffrwyth eu holl nerth hwynt.

37 Ac a'i dug hwynt allan ag arian, ac ag aur: ac heb vn llesc yn eu llwythau.

38Exod. 12.33. Llawenychodd yr Aipht pan aethant allan, canys syrthiasei eu harswyd arnynt hwy.

39Exod. 13.21. Efe a danodd gwmwl yn dô, a thân i oleuo liw nôs.

40Exod. 16.12. Gofynnasant, ac efe a ddug sofl-ieir, ac a'i diwallodd â bara nefol.

41Exod. 17.6. Num. 20.11. 1 Cor. 10.4. Efe a holltodd y graig, a'r dyfroedd a ddylifodd, cerddasant ar hŷd lleoedd sychion yn afonydd.

42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei wâs.

43 Ac a ddûg ei bobl allan mewn llawen­ydd: ei etholedigion mewnHeb. can. gorfoledd.

44Jos. 13.17. Deut. 6.10, 11. Ac a roddes iddynt diroedd y cenhed­loedd: a meddiannasant lafur y bobloedd.

45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cyn­halient ei gyfreithiau. Molwch yr Arg­lwydd.

PSAL. CVI. Prydnhawnol weddi.

1 Y Psalmudd yn annog i foliannu Duw, 4 yn gweddio am faddeuant pechodau, megis y gwnaeth Duw a'r tadau. 7 Histori o wrth­ryfelgarwch y bobl, a thrugaredd Duw. 47 Y mae efe yn diweddu â gweddi ac â mo­liant.

Heb. Hallelu­iah. MOlwch yr Arglwydd,Psal. 107.1.118. & 136.1. Clodfo­rwch yr Arglwydd, canys da yw: o herwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

2Barn. 13.21. Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef?

3 Gwyn eu byd a gadwant farn: a'r hwn a wnêl gyfiawnder bôb amser.

4 Cofia fi Arglwydd yn ôl dy raslonrwydd i'th bobl, ymwêl â mi â'th iechydwnaeth.

5 Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy gen­hedl di: fel y gorfoleddwyf gyd â'th etife­ddiaeth.

6Barn. 7.19. Pechasom gyd â'n tadau, gwnaethom gamwedd, anwireddus suom.

7 Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aipht, ni chofiasant luosogrwydd dy druga­reddau,Exod. 14.11.12, 21. eithr gwrthryfelgar fuant wrth y môr, sef y môr côch.

8 Etto efe a'i hachubodd hwynt er mwyn ei enw: i beri adnabod ei gadernid.

9 Ac a geryddodd y môr côch, fel y sych­odd efe: a thywysodd hwynt trwy 'r dyfnder megis trwy 'r anialwch:

10 Achubodd hwynt hefyd o law eu diga­sog: ac a'i gwaredodd o law y gelyn.

11Exod. 14.27. & 15.5. A'r dyfroedd a doesant ei gwrthwy­nebwŷr: ni adawyd vn o honynt.

12Exod. 14.31. & 15.1. Yna y credasant ei eiriau ef: canasant ei fawl ef.

13Exod. 15.24. & 17.2. Heb. Hwy a frysiasant ac a ang­hof. &c. Yn y fan yr anghofiasant ei weith­redoedd ef, ni ddisgwiliasant am ei gyngor ef.

14Num. 11. 4. 1 Cor. 10.6. Eithr blyssiasant ynHeb. flys. ddirfawr yn yr anialwch: a themptiasant Dduw yn y diffae­thwch.

15Num. 11.31. Ac efe a rhoddes eu dymuniad iddynt, eithr efe a anfonodd gulni iw henaid.

16Num. 16.2. Cynfigennasant hefyd wrth Moses yn y gwerssyll: ac wrth Aaron sanct yr Ar­glwydd.

17Num. 16.31. Deut. 11.6. Y ddaiar a agorodd, ac a lyngcodd Ddathan, ac a orchguddiodd gynnulleidfa Abi­ram.

18Num. 16.35.46. Cynneuodd tân hefyd yn eu cyn­nulleidfa hwynt: fflam a ioscodd y rhai an­nuwiol.

19Exod. 32.4. Llô a wnaethant yn Horeb: ac ym­grymmasant i'r ddelw dawdd.

20 Felly y troesant eu gogoniant i lûn eidion yn pori glas-wellt.

21 Anghofiasant Dduw eu hachub-wr, yr hwn a wnelsei bethau mawrion yn yr Aipht:

22 Pethau rhyfedd yn nhîr Ham: pethau ofnadwy wrth y môr côch.

23Exod. 32.10. Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buasei i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o'i flaen ef, i droi ymmaith ei lidi­awgrwydd ef, rhag eu dinistrio.

24 Diystyrasant hefyd y tîr dymunol: ni chredasant ei air ef:

25Num. 14.2. Ond grwgnachasant yn eu pebyll: ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd.

26 Yna y derchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt, iw cwympo yn yr anialwch;

27 Ac i gwympo eu hâd ym mysc y cen­hedloedd; ac iw gwascaru yn y tiroedd.

28Num. 25.3. Ymgyssylltasant hefyd â Baal-peor, a bwyttasant ebyrth y meirw.

29 Felly y digiasant ef a'i dychymmygion eu hun: ac y tarawodd plâ yn eu mysc hwy.

30Num. 25.7. Yna y safodd Phinehes, ac a iawn farn­odd: a'r plâ a attaliwyd.

31 A chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder: o genhedlaeth i genhedlaeth byth.

32 Llidiasant ef hefyd wrthNum. 20.13. ddyfroedd y gynnen: fel y bu ddrwg i Moses o'i plegit hwynt:

33 O herwydd cuthruddo o honynt ei ys­pryd ef, fel y cam-ddywedodd â'i wefusau.

34Deut. 7.2. Ni ddinistriasant y bobloedd, am y rhai y dywedasei 'r Arglwydd wrthynt:

35Barn. 1.21. Eithr ymgymmyscasant â'r cenhed­loedd: a dyscasant eu gweithredoeddd hwynt:

36 A gwasanaethasant eu delwau hwynt, y y rhai a fu yn fagl iddynt.

37 Aberthasant hefyd eu meibion, a'i merch­ed i gythreuliaid,

38 Ac a dywalltasant waed gwirion, sef gwaed eu meibion, a'i merched, y rhai a aber­thasant i ddelwau Canaan, a'i tîr a halogwyd â gwaed.

39 Felly 'r ymhalogasant yn eu gweithred­oedd eu hun ac y putteiniasant gyd â'i dych­ymmygion.

40 Am hynny y cynneuodd dîg yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd efe ei etife­ddiaeth.

41 Ac efe a'i rhoddes hwynt yn llaw 'r cen­hedloedd, a'i caseion a lywodraethasant ar­nynt.

42 Eu gelynion hefyd a'i gorthrymma­sant; a darostyngwyd hwynt tan eu dwylo hwy.

43Barn. 2.16. Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt, hwythau a'i digiasant ef â'i cyngor eu hun: a hwy aNeu, dlodwyd. wanhychwyd am eu hanwiredd.

44 Etto efe a edrychodd pan oedd ing ar­nynt: pan glywodd eu llefain hwynt.

45Deut. 30.3. Ac efe a gofiodd ei gyfammod â hwynt, ac a edifarhaodd yn ôl lluosogrwydd ei drugareddau:

46 Ac a wnaeth iddynt gael trugaredd gân y rhai oll a'i caethiwai.

47 Achub ni ô Arglwydd ein Duw, a chyn­null ni o blîth y cenhedloedd, i glodfori dy enw sanctaidd: ac i orfoleddu yn dy foliant.

48 Bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Is­rael, er ioed, ac yn dragywydd: a dywêded yr holl bobl, Amên. Molwch yr Arglwydd.

PSAL. CVII. Boreuol weddi.

1 Dafydd yn annog y gwaredigion, wrth glod­fori Duw, i ystyried ei amryw ragluniaeth ef, 4 tuac at fforddolion, 10 a chaethion, 17 a rhai cleifion, 23 a môr-wŷr, 33 ac yn amrafael ddamweiniau y bywyd hwn.

[...]
[...]

CLodforwchPsal. 100.1. & 118.1. & 136.1. yr Arglwydd canys da yw: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

2 Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd; y rhai a waredodd efe o law y ge­lyn;

3 Ac a gasclodd efe o'r tiroedd, o'r dwy­rain, ac o'r gorllewin, o'r gogledd, ac o'rHeb. mor. dehau.

4 Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr: heb gael dinas i aros ynddi:

5 Yn newynog ac yn sychedig: eu henaid a lewygodd ynddynt.

6 Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cy­fyngder: ac efe a'i gwaredodd o'i gorthrym­derau.

7 Ac a'i tywysodd hwynt ar hyd y ffordd vniawn, i fyned i ddinas gyfanneddol.

8 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddai­oni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.

9 Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.

10 Y rhai a bresswyliant yn y tywyllwch a chyscod angeu, yn rhwym mewn cystudd a haiarn:

11 O herwydd anufyddhau o honynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf:

12 Am hynny yntef a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynnorthwy­wr.

13 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder: efe a'i hachubodd o'i gorthrym­derau.

14 Dug hwynt allan o dywyllwch, a chyscod angeu: a drylliodd eu rhwymau hwynt.

15 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.

16 Canys efe a dorrodd y pyrth prês, ac a ddrylliodd y barrau heirn.

17 Ynfydion o blegit eu camweddau, ac o herwydd eu hanwireddau a gystuddir.

18Job. 33.20. Eu henaid a ffieiddiei bôb bwyd: a daethant hyd byrth angeu.

19 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder: ac efe a'i hachubodd o'i gorth­rymderau.

20 Anfonodd ei air, ac iachâodd hwynt, ac a'i gwaredodd o'i dinistr.

21 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.

22 Aberthant hefyd aberth moliant: a myne­gant ei weithredoedd ef mewnHeb. [...] gorfoledd.

23 Y rhai a ddescynnant mewn llongau i'r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfro­edd mawrion.

24 Hwy a welant weithredoedd yr Arg­lwydd: a'i ryfeddodau yn y dyfnder.

25 Canys efe a orchymyn, a chyfyd tym­hestl-wynt: yr hwn a dderchafa ei donnau ef.

26 Hwy a escynnant i'r nefoedd, descynnant i'r dyfnder, tawdd eu henaid gan fiinder.

27 Ymdroant, ac ymsymmudant fel medd­wyn: a'i holl ddoethineb aHeb. lyngcwyd. bailodd.

28 Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder, ac efe a'i dwg allan o'i gorthrym­derau.

29 Efe a wna yr storm yn dawel; a'i ton­nau a ostegant.

30 Yna y llawenhânt am eu gostêgu, ac efe a'i dwg i'r porthlâdd a ddymunent.

31 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddai­oni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.

32 A derchafant ef ynghynnulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.

33 Efe a wna afonydd yn ddiffaethwch: a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir.

34 A thîr ffrwyth-lawn ynHeb. halltinch. ddiffrwyth: am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.

35Esai. 41.18. Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr: a'r tîr crâs yn ffynhonnau dwfr.

36 Ac yno y gwna i'r newynog aros: fel y darparont ddinas i gyfanneddu:

37 Ac yr hauont feusydd, ac y plannont win-llannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth torei­thiog:

38 Ac efe a'i bendithia hwynt fel yr aml­hânt yn ddirfawr, ac ni âd iw hanifeiliaid leihau.

39 Lleiheir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, dryg-fyd, a chŷni.

40 EfeJob. 12.21. a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt gyrwydro mewnNeu, gwag-le. anialwch heb ffordd.

411 Sam. 2.8. Psal. 113.7.8. Ond efe a gyfyd y tlawdNeu, ar ol cy­studd. o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.

42Job. 22.19. & 5.16 Y rhai vniawn a welant hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn.

43 Y neb sydd ddoeth ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau 'r Arglwydd.

PSAL. CVIII. Prydnhawnol weddi.
¶Cân neu Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn ymwroli i foliannu Duw, 5 yn gwe­ddio am gymmorth Duw yn ol ei addewid. 11 Ei hyder ef ar gynnorthwy Duw.

PArodPsal. 57.7. yw fy nghalon ô Dduw, canaf a chanmolaf â'm gogoniant.

2 Deffro y nabl a'r delyn, minnau a ddeffroaf yn foreu.

3 Clodforaf di Arglwydd ym mysc y bob­loedd: canmolaf di ym mysc y cenhedloedd.

4 Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd, a'th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren.

5 Ymddercha ô Dduw, vwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar;

6Psal. 60.5. Fel y gwareder dy rai anwyl: achub â'th ddeheu-law, a gwrando fi.

7 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd: llawenychaf, rhannaf Sichem, a messuraf ddy­ffryn Succoth.

8 Eiddo fi yw Gilead: eiddo fi Manasseh: Ephraim hefyd yw nerth fy mhen: Juda yw fy neddf-wr.

9Psal. 60.8. Moab yw fy nghrochan golchi, tros Edom y taflaf fy escid; buddugoliaethaf ar Phili­stia.

10 Pwy a'm dŵg i'r ddinas gadarn? pwy a'm dwg hyd yn Edom?

11 Onid tydi o Dduw, yr hwn a'n bwriaist ymmaith, ac onid ei di allan, ô Dduw, gyd â'n lluoedd?

12 Dyro i ni gynnorthwy rhag cyfyngder, canys gau yw ymwared dŷn.

13 Trwy Dduw y gwnawn wroldeb, canys efe a sathr ein gelynion.

PSAL. CIX.
¶I'r pen-cerdd, Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn cwyno rhag enllib ei elynion, ac yn rhith Judas yn eu melldigo hwy. 16 Yn dan­gos eu pechod hwy: 21 Yn cwyno rhag ei drue­eni ei hun, ac yn gweddio am help: 30 Yn addo bod yn ddiolchgar.

NA thaw, ô Dduw fy moliant.

2 Canys genau 'r annuwiol, aHeb. genau twyll. ge­nau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: â tha­fod celwyddog y llefarasant i'm herbyn.

3 Cylchynasant fi hefyd â geiriau câs, ac ymladdasant â mi heb achos.

4 Am fy ngharedigrwydd i'm gwrthwyne­bant: minneu a arferaf weddi.

5 Talasant hefyd i mi ddrwg am dda: a châs am fy nghariad.

6 Gosod titheu vn annuwiolarno ef; a safedNeu, y gwrth­wynebwr. Satan wrth ei ddeheu-law ef.

7 Pan farner ef, eled yn euoc, a bydded ei weddi yn bechod.

8Act. 1.20. Ychydig fyddo ei ddyddiau: a chym­mered arall ei swydd ef.

9 Bydded ei blant yn ymddifaid: a'i wraig yn weddw.

10 Gan gyrwydro hefyd cyrwydred ei blant ef, a chardottant: ceisiant hefyd eu hara o'i hanghyfannedd leoedd.

11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd gan­ddo: ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.

12 Na fydded neb a estynno drugaredd iddo: ac na fydded neb a drugarhâo wrth ei ymddi­faid ef.

13 Torrer ymaith ei hiliogaeth ef, delêer eu henw yn yr oes nessaf.

14 Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Ar­glwydd: ac na ddelêer pechod ei fam ef.

15 Byddant bob amser ger bron yr Arg­lwydd: fel y torro efe ymmaith eu coffadwri­aeth o'r tîr.

16 Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid o honaw y truan a'r tlawd, a'r cy­studdiedic o galon iw ladd.

17 Hoffodd felldith, a hi a ddaeth iddo: ni fynnei fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho.

18 Ie gwiscodd felldith fel dilledyn, a hi a ddaeth fel dwfr iw fewn, ac felolew iw escym.

19 Bydded iddo fel dilledyn, yr hwn a wisco efe, ac fel gwregys a'i gwregyso efe yn oestadol.

20 Hyn fyddo tâl fy ngwrthwyneb-wŷr gan yr Arglwydd; a'r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid.

21 Titheu Arglwydd Dduw, gwna erofi er mwyn dy enw, am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi.

22 Canys truan a thlawd ydwyfi, a'm calon a archollwyd o'm mewn.

23 Euthum fel cyscod pan gilio, fel locust i'm hescydwir.

24 Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ym­pryd, a'm cnawd a guriodd o eisieu brasder.

25 Gwradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau.

26 Cynnorthwya fi ô Arglwydd fy Nuw; achub fi yn ôl dy drugaredd.

27 Fel y gwypont mai dy hw di yw hyn: mai ti Arglwydd a'i gwnaethot.

28 Melldithiant hwy, ond bendithia di; cywilyddier hwynt, pan gyfodant: a llaweny­ched dy wâs.

29 Gwiscer fy ngwrthwyneb-wŷr â gwarth; ac ymwiscant â'u cywilydd megis â chochl.

30 Clodsoraf yr Arglwydd yn ddirfawr â'm genau: iê moliannaf ef ym mysc llawer.

31 O herwydd efe a saif ar ddeheu-law 'r tlawd: iw achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.

PSAL. CX. Boreuol weddi.
¶Psalm Dafydd.

1 Brenhiniaeth, 4 offeiriadaeth, 5 goruchafi­aeth, 7 a dioddefaint Christ.

DYwedodd yrMat. 22.44. Marc. 12.36. Luc. 20.42. Act. 2.34. 1 Cor. 15.25. Heb. 1.13. Arglwydd wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheu-law: hyd oni osodwyf dy elynion yn faingc i'th draed.

2 Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Sion: llywodraetha di ynghanol dy elynion.

3 Dy bobl a fyddant ewyllyscar, yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwyddNeu, yn fwy na chroth y wawr: cei wlith &c. o groth y wawr: y mae gwlith dyIeueng­tid. anediga­eth i ti.

4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarhâ:Heb. 5.6. & 7.17. ti wyt offeiriad yn dragywyddol yn ôl vrdd Melchisedec.

5 Yr Arglwydd ar dy ddeheu-law, a dry­wana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.

6 Efe a farn ym mysc y cenhedloedd, lleinw leoedd â chelaneddau: archolla benNeu, gwledydd mawr. llawer gwlad.

7 Efe a ŷf o'r afon ar y ffordd, am hynny y dercha efe, ei ben.

PSAL. CXI.

1 Y Psalmudd, trwy ei esampl ei hun, yn annog eraill i foliannu Duw am ei ogoneddus, 5 a'i rasusol weithredoedd. 10 Mai ofn Duw sy yn magu gwir ddoethineb.

Heb. Halelu­iah.MOlwch yr Arglwydd. Clodforaf yr Ar­glwydd â'm holl galon: ynghym­manfa y rhai vniawn, ac yn y gynnulleidfa.

2 Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd: wedi ei ceisio gan bawb a'i hoffant.

3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef: a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth.

4 Gwnaeth gofio ei ryfeddodau; graslawn a thrugarog yw 'r Arglwydd.

5 RhoddoddHeb. ysclyfa­eth. ymborth i'r rhai a'i hofnant ef, efe a gofia ei gyfammod yn dragywydd.

6 Mynegodd iw bobl gadernid ei weithre­doedd: i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhed­loedd.

7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylaw ef: ei holl orchymynion ydynt siccr:

8 Wedi eu siccrhau byth ac yn dragywydd, a'i gwneuthur mewn gwirionedd, ac vniawn­der.

9 Anfonodd ymwared iw bobl, gorchy­mynnodd ei gyfammod yn dragywyddol: sancteiddiol, ac ofnadwy yw ei enw ef.

10Job. 28.28. Dihar. 1.7. & 9.10. Ecclus. 1.16. Dechreuad doethineb yw ofn yr Ar­glwydd:Neu, llwyddi­ant. deall da sydd gan y rhai a wnantHeb. hwynt. ei orchymynion ef; y mae ei foliant ef yn par­hau byth.

PSAL. CXII.

1 Duwioldeb sydd iddi addewid o'r bywyd yma, 4 ac o'r bywyd a ddaw. 10 Y bydd drwg gan yr enwir weled llwyddiant y duwiol.

Heb. Hallelu­jah.MOlwch yr Arglwydd. Gwyn ei fyd y gwr a ofna 'r Arglwydd, ac sydd yn hoffi ei orchymynion ef yn ddirfawr.

2 Ei had fydd cadarn ar y ddaiar; cenhed­laeth y rhai vniawn a fendithir.

3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth.

4 Cyfyd goleuni i'r rhai vniawn yn y ty­wyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn yw efe.

5 Gŵr da sydd gymmwynascar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei acho­sion.

6 Yn ddiau nid yscogir ef byth, y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth.

7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg, ei galon sydd ddisigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd.

8 Attegwyd ei galon, nid ofna efe hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion.

92 Cor. 9.9. Gwascarodd, rhoddodd i'r tlodion, a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth: ei gorn a dderchefir mewn gogoniant.

10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia, efe a yscyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ym­maith: derfydd am ddymuniad y rhai an­nuwiol.

PSAL. CXIII.

1 Cyngor i foliannu Duw, o herwydd ei ardder­chawgrwydd, 6 a'i drugaredd.

Heb. Hallelu­iah. MOlwch yr Arglwydd. Gweision yr Ar­glwydd, molwch: îe molwch enw 'r Arglwydd.

2Dan. 2.20. Bendigedic fyddo enw 'r Arglwydd, o hyn allan, ac yn dragywydd.

3Mal. 1.11. O godiad haul hyd ei fachludiad, moli­annus yw enw 'r Arglwydd.

4 Vchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd: a'i ogoniant sydd goruwch y ne­foedd.

5 Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd ynHeb. ymdder­chafu i breswylio. presswylio yn vchel?

6 Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pe­thau yn y nefoedd, ac yn y ddaiar?

71 Sam. 2.8. Psal. 107.41. Efe sydd yn codi y tlawd o'r llwch: ac yn derchafu yr anghenus o'r dommen:

8 Iw osod gyd â phendefigion: îe gyd â phendefigion ei bobl.

9 Yr hwn a wna i'r amhlantadwyHeb. drigo mewn ty. gadw tŷ, â bod yn llawen-fam Plant. Canmolwch yr Arglwydd.

PSAL. CXIV. Prydnhawnol weddi.

Dafydd, trwy esampl y creaduriaid mudion, yn an­nog i ofni Duw yn ei Eglwys.

PAnExod. 13.3. aeth Israel o'r Aipht, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith:

2 Juda oedd ei sancteiddrwydd ac Israel ei arglwyddiaeth.

3Exod. 14.21. Y môr a welodd hyn, ac a giliodd:Jos. 3.13. yr Iorddonen a drôdd yn ôl.

4 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a'r bryniau fel ŵyn defaid.

5 Beth ddarfu i ti ô fôr pan giliaist? titheu Iorddonen pa ham y troaist yn ôl?

6 Pa ham fynyddoedd y neidiech fel hyr­ddod? a'r bryniau fel ŵyn defaid?

7 Ofna di ddaiar rhag yr Arglwydd: rhag Duw Jacob:

8Exod. 17.6. Num. 20.11. Yr hwn sydd yn troi 'r graig yn llynn dwfr, a'r gallestr yn ffynnon dyfroedd.

PSAL. CXV.

1 O herwydd bod Duw yn wir-ogoneddus, 4 ac eulynnod yn wagedd, 9 Y mae yn cynghori rhoi hyder ar Dduw. 12 Y dylid bendithio Duw am ei fendithion.

NId i ni ô Arglwydd, nid i ni, onid i'th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy dru­garedd, er mwyn dy wirionedd.

2Psal. 42.10. & 79.10. Pa ham y [...]ywedai y cenhedloedd, pa le yn awr y mae eu Duw hwynt?

3Psal. 135.6. Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd; efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.

4Psal. 135.15. Eu delwau hwy ydynt o aur, ac arian, gwaith dwylo dynion.

5 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant, lly­gaid sydd ganddynt, ond ni welant.

6 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant, ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant.

7 Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant: traed sy iddynt: ond ni cherddant: ni leisiant chwaith â'i gwddf.

8 Y rhai a'i gwnânt ydynt fel hwythau, a phob vn a ymddiriedo ynddynt.

9 O Israel, ymddiried ti yn yr Arglwydd, efe yw eu porth, a'i tarian.

10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Ar­glwydd; efe yw eu porth, a'i tarian.

11 Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddiri­edwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth, a'i tarian.

12 Yr Arglwydd a'n cofiodd ni, efe a'n bendithia; bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron.

13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arg­lwydd, fychain,Heb. gyda. a mawrion.

14 Yr Arglwydd a'ch chwanega chwi fwy­fwy: chwychwi a'ch plant hefyd.

15 Bendigedic ydych chwi gan yr Arg­lwydd, yr hwn a wnaeth nef a daiar.

16 Y nefoedd, îe 'r nefoedd, ydynt eiddo yr Ar­glwydd: a'r ddaiar a roddes efe i feibion dynion.

17 Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na 'r neb sydd yn descyn i ddistawrwydd.

18Dan. 2.20. Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd, o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.

PSAL. CXVI. Boreuol weddi.

1 Dafydd yn dangos ei gariad a'i ddled tuac at Dduw am ei wared ef: 12 ac yn ymegnio i fod yn ddiolchgar.

DA gennif wrando o'r Arglwydd ar fy llef a'm gweddiau.

2 Am ostwng o honaw ei glust attaf. Am hynny llefaf tros fy ny­ddiau arno ef.

3Psal. 18.5.6. Gofidion angeu a'm cylchynasant, a gofidiau vffern a'mHeb. cawsant. daliasant, ing a blinder a gefais.

4 Yna y gelwais ar enw 'r Arglwydd, attolwg Arglwydd gwared fy enaid.

5 Graslawn yw 'r Arglwydd, a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni.

6 Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai anni­chellgar: tlodais, ac efe a'm hachubodd.

7 Dychwel ô fy enaid i'th orphywysfa, ca­nys yr Arglwydd fu dda wrthit.

8 O herwydd it waredu fy enaid oddi wrth angeu, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a'm traed rhag llithro:

9 Rhodiaf o flaen ŷr Arglwydd yn nhir y rhai byw.

102 Cor. 4.13. Credais, am hynny y lleferais: cystu­ddiwyd fi 'n ddirfawr.

11 Mi a ddywedais yn fy ffrwst,Rhuf. 3.4. pob dyn sydd gelwyddoc.

12 Beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddo­niau i mi?

13 Phiol iechydwriaeth a gymmeraf, ac ar enw 'r Arglwydd y galwaf.

14 Fy addunedau a dalaf i'r Arglwydd, yn awr yngŵydd ei holl bobl ef.

15 Gwerth-fawr yngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei sainct ef.

16 O Arglwydd, yn ddiau dy wâs di ydwyfi, dy wâs di ydwyfi, mab dy wasanaeth-wraig; dattodaist fy rhwymau.

17 Aberthaf i ti aberth moliant: a galwaf ar enw 'r Arglwydd.

18 Talaf fy addunedau i'r Arglwydd: yn awr yngŵydd ei holl bobl;

19 Ynghynteddoedd tŷ 'r Arglwydd: yn dy ganol di ô Jerusalem. Molwch yr Arg­lwydd.

PSAL. CXVII.

Cyngo [...] i foliannu Duw am ei drugaredd a'i wirionedd.

MOlwchRhuf 15.11. yr Arglwydd yr holl genhedlo­edd: clodforwch ef yr holl bobloedd.

2 O herwydd ei drugaredd ef tu ag attom ni sydd fawr: a gwirionedd yr Arglwydd a bery yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.

PSAL. CXVIII.

1 Cyngor i foliannu Duw am ei drugaredd. 5 Y Psalmudd wrth a brofasai efe ei hun, yn dangos mor dda ydyw hyderu ar Dduw. 19 Mynegi dyfodiad Christ yn ei deyrnas, tan rith a chyscod y Psalmudd.

CLodforwchPsal. 106.1. & 107.1. & 136.1. 1 Cron. 16.8. yr Arglwydd, canys da yw, o herwydd ei drugaredd a bery yn dragy­wydd.

2 Dyweded Israel yr awr hon, fod ei dru­garedd ef yn parhau yn dragywydd.

3 Dyweded tŷ Aaron yn awr, fod ei druga­redd ef yn parhau yn dragywydd.

4 Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Ar­glwydd, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dra­gywydd.

5Heb. Allan o ing. Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd; yr Arglwydd a'm clybu, ac a'm gosododd mewn ehangder.

6Heb. 13.6. Psal. 56.4.11. Yr Arglwydd sydd gyd â mi, nid ofnaf: beth a wna dŷn i mi?

7 Yr Arglwydd sydd gyd â mi, ym mhlith fy nghynnorthwy-wŷr: am hynny y câf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.

8 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn dŷn.

9Psal. 146.2. Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn tywysogion.

10 Yr holl genhedloedd am hamgylchyna­sant: ond yn enw 'r Arglwydd, mi [...]i torraf hwynt ymmaith.

11 Amgylchynasant fi, ie amgylchynasant fi, ond yn enw 'r Arglwydd, mi a'i torraf hwynt ymmaith,

12 Amgylchynasant fi fel gwenyn, diffodda­sant fel tân drain: o herwydd yn enw 'r Ar­glwydd, mi a'i torraf hwynt ymmaith.

13 Gan wthio y gwthiaist fi fel y syrthiwn: ond yr Arglwydd a'm cynnorthwyodd.

14Exod. 15.2. Esa. 12.2. Yr Arglwydd yw fy nerth a'm cân: ac sydd iechydwriaeth i mi.

15 Llef gorfoledd, ac iechydwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw 'r Arglwydd sydd yn gwneuthur grymmusder.

16 Deheu-law 'r Arglwydd a dderchafwyd: dehculaw 'r Arglwydd sydd yn gwneuthur grymmusder.

17 Ni byddaf farw, onid byw: a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd.

18 Gan gospi i'm cospodd yr Arglwydd: ond ni'm rhoddodd i farwoheth.

19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder: âf i [...]ewn iddynt, a chlodsoraf yr Arglwydd.

20 Dymma borth yr Arglwydd, y rhai cy­fiawn a ânt i mewn iddo

21 Clodforaf di, o herwydd i ti fy ngwran­do, a'th fod yn iechydwriaeth i mi.

22Matth. 21.42. Marc. 12.10. Luc. 20.17. Act. 4.11. 1 Pet. 2.4. Y maen a wrthododd yr adeilad-wŷr, a aeth yn ben i'r gongl.

23 O'r Arglwydd y daeth hyn, hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni.

24 Dymma 'r dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn, a llawenychwn ynddo.

25 Attolwg Arglwydd, achub yn awr; at­tolwg Arglwydd, par yn awr lwyddiant.

26Matth. 21.9. Bendigedic yw a ddêl yn enw 'r Arg­lwydd: bendithiasom chwi o dŷ 'r Arglwydd.

27 Duw yw 'r Arglwydd, yr hwn a lew­yrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau hyd wrth gyrn yr allor.

28 Fy Nuw ydwyt ti, mi a'th glodforaf, derchafaf di, fy Nuw.

29 Clodforwch yr Arglwydd, canys da yw: o herwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.

PSAL. CXIX. Prydnhawnol weddi

Y Psalm hon sydd yn cynnwys amryw weddieu, a moliannau, ac addewidion vfydd-dod.

Aleph.

GWynfyd y rhai perffaith eu ffordd: y rhai a rodiant ynghyfraith yr Ar­glwydd.

2 Gwynfyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef: ac a'r ceisiant ef â'i holl ga­lon.

3 Y rhai hefyd ni wnant anwiredd; hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.

4 Ti a orchymynnaist gadw dy orchymyni­on yn ddyfal.

5 O am gyfeirio fy ffyrdd, i gadw dy ddeddfau.

6 Yna ni'm gwradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchymynion.

7 Clodforaf di ag vniondeb calon, pan ddy­scwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.

8 Cadwaf dy ddeddfau: na âd fi 'n hollaw.

Beth.

9 PA fodd y glanhâ llangc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.

10 A'm holl galon i'th geisiais, na âd i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchymynion.

11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghaion, fel na phechwn i'th erbyn.

12 Ti Arglwydd wyt fendigedic: dysc i mi dy ddeddfau.

13 A'm gwefusau y treuthais holl famedi­gaethau dy enau.

14 Bu mor llawen gennif ffordd dy dystio­laethau â'r holl olud.

15 Yn dy orchymynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.

16 Yn dy ddeddfau 'r ymddigrifaf, nid ang­hofiaf dy air.

Gimel.

17 BYdd dda wrth dy wâs, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.

18 Dadcuddia fy llygaid, fel y gwelwyf be­thau rhyfedd allan o'th gyfraith di.

19Gen. 47.9. 1 Cron. 29.15. Psal. 39.12. Heb. 11.13. Dieithr ydwyfi ar y ddaiar, na chudd di rhagof dy orchymynion.

20 Drylliwyd fy enaid gan awydd i'th far­nedigaethau bob amser.

21 Ceryddaist y beilchion melltigedic: y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchymynion.

22 Trô oddi wrthif gywilydd a dirmyg, o blegit dy destiolaethau di a gedwais.

23 Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i'm herbyn; dy wâs ditheu a fy­fyriei yn dy ddeddfau.

24 A'th destiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a'm cynghor-wŷr.

Daleth.

25 GLŷnodd fy enaid wrth y llwch, bywhâ fi 'n ôl dy air.

26 Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi:Psal. 25.4. & 27.11. & 86.11. dysc i mi dy ddeddfau.

27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchym­ynion, ac mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.

28 Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi 'n ôl dy air.

29 Cymmer oddi wrthif ffordd y celwydd, ac yn raslawn dôd i mi dy gyfraith.

30 Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o'm blaen.

31 Glynais wrth dy destiolaethau: ô Ar­glwydd, na'm gwradwydda.

32 Ffordd dy orchymynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.

He. Boreuol weddi.

33 DYsc i mi ô Arglwydd, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd.

34 Gwna i mi ddeall, a chad­waf dy gyfraith: ie cadwaf hi â'm holl galon.

35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orch­ymynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.

36 Gostwng fy nghalon at dy destiolaethau: ac nid at gybydd-dra.

37 Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd: a bywhâ fi yn dy ffyrdd.

38 Siccrhâ dy air i'th wâs, yr hwn sy 'n ymroddi i'th ofn di.

39 Tro heibio fy ngwradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.

40 Wele awyddus ydwyf i'th orchym­ynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.

Vau.

41 DEued i mi dy drugaredd Arglwydd, a'th iechydwriaeth yn ôl dy air.

42 YnaNeu, yr attebaf beth i'r hwn a'm ceryddo. yr attebaf i'm cabludd: o herwydd yn dy air y gobeithiais.

43 Na ddwg ditheu air y gwirionedd o'm genau yn llwyr: o herwydd yn dy farnedi­gaethau di y gobeithiais.

44 A'th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd.

45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder, o her­wydd dy orchymynion di a geisiaf.

46 Ac am dy destiolaethau di y llefaraf, o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gen­nif.

47 Ac ymddigrifaf yn dy orchymynion, y rhai a hoffais.

48 A'm dwylo a dderchafaf at dy orchymy­nion v rhai a gerais, ac mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.

Zain.

49 COfia y gair wrth dy wâs, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.

50 Dymma fy nghyssor yn fy nghystudd, canys dy air di a'm byw [...]aodd i.

51 Y beilchion a'm gwatwarasant yn ddir­fawr: er hynny ni [...]roais oddi wrth dy gyf­raith di.

52 Cofiais, o Arglwydd, dy farnedigaethau er ioed, ac ymgyssurais.

53 Dychryn a ddaeth arnaf, o blegit yr an­nuwolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.

54 Dy ddeddfau oedd fy nghân, yn nhŷ fy mhererindod.

55 Cofiais dy enw Arglwydd, y nôs; a chedwais dy gyfraith.

56 Hyn oedd gennif, a'm gadw o honof dy orchymynion di.

Cheth.

57 O Arglwydd fy rhan ydwyt, dywedais y cadwn dy eiriau.

58 Ymbiliais â'th wyneb â'm holl galon: trugarhâ wrthif yn ôl dy air.

59 Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di.

60 Bryssiais, ac nid oedais gadw dy orch­ymynion.

61Neu, Byddl­noedd. Minteioedd yr annuwolion a'm hyspei­liasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di.

62 Hanner nôs y cyfodaf i'th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder.

63 Cyfaill ydwyfi i'r rhai oll a'th ofnant, ac i'r rhai a gadwant dy orchymynion.

64 Llawn yw 'r ddaiar o'th drugaredd, ô Arglwydd: dysc i mi dy ddeddfau.

Teth.

65 Gwnaethost yn dda â'th wâs, ô Arg­lwydd, yn ôl dy air.

66 Dysc i mi iawn ddeall, a gŵybodaeth: o herwydd dy orchymynion di a gredais.

67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cy­feiliorni: ond yn awr, cedwais dy air di.

68 Da ydwyt, a daionus, dysc i mi dy ddedd­fau.

69 Y beilchion a glyttiasant gelwydd i'm herbyn: minneu a gadwaf dy orchymynion â'm holl galon.

70 Cyn frased a'r bloneg yw eu calon: min­neu a ymddigrifais yn dy gyfraith di.

71 Da yw i mi fy nghystuddio, fel y dyscwn dy ddeddfau.

72Psal. 19.10. Dihar. 8.11. Gwell i mi gyfraith dy enau, nâ mil­oedd o aur, ac arian.

Iod. Prydnhawnol weddi.

73 DY ddwylo a'm gwnaethant, ac a'm lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dyscwyf dy orchymynion.

74 Y rhai a'th ofnant a'm gwelant, ac a lwenychant, o blegit gobeithio o honof yn dy air di.

75 Gwn, Arglwydd, maiHeb. cyfiawn­der. cyfiawn yw dy farnedigaethau: ac mai mewn ffyddlondeb i'm cystuddiaist.

76 Bydded attolwg dy drugaredd i'm cyssu­ro, yn ôl dy air i'th wasanaeth-wr.

77 Deued i mi dy drugareddau, fel y bydd­wyf byw: o herwydd dy gyfraith yw fy nig­rifwch.

78 Cywilyddier y beilchion, canys gwnant gam â mi yn ddiachos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchymynion di.

79 Troer attafi y rhai a'th ofnant di, a'r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.

80 Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau, fel na'm cywilyddier.

Caph.

81 DEffygiodd fy enaid am dy iechydwri­aeth: wrth dy air yr ydwyf yn dis­gwil.

82 Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd, pa bryd i'm diddeni?

83 Canys ydwyf fel costrel mewn mŵg: ond nid anghofiais dy ddeddfau.

84 Pa nifer yw dyddiau dy wâs? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a'm herlidiant?

85 Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.

86 Dy holl orchymynion ydynt Neu, fyddlon­ [...]eb. wirion­edd: ar gam i'm herlidiasant, cymmorth fi.

87 Braidd na'm difasant ar y ddaiar, minneu ni adewais dy orchymynion.

88 Bywhâ fi yn ôl dy drugaredd: felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.

Lamed.

89 YN dragywydd ô Arglwydd, y mae dy air wedi ei siccrhau yn y nefoedd.

90 Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaiar, a ni a saif.

91 Wrth dy farnedigaethau y safant heddyw: canys dy weision yw pob peth.

92 Oni bae fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasei yna am danaf yn fy nghystudd.

93 Byth nid anghofiaf dy orchymynion: canys â hwynt i'm bywheaist.

94 Eiddo ti ydwyf, cadw fi; o herwydd dy orchymynion a geisiais.

95 Y rhai annuwiol a ddisgwiliasant am danaf i'm difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriafi.

96 Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra ehang.

Mem.

97 MOr gu gennif dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdodAr hyd y dydd. beunydd.

98 A'th orchymynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na'm gelynion: ca­nys byth yHeb. [...]. maent gyd â mi.

99 Deellais fwy nâ'm holl athrawon: o her­wydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.

100 Deellais yn well nâ'r henariaid, am fy mod yn cadw dy orchymynion di.

101 Atteliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.

102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigae­thau, herwydd ti a'm dyscaist.

103Psal. 19.10. Mor felus yw dy eiriauHeb. [...]flod [...] ngenau. i'm genau! melusach nâ mêl i'm safn.

104 Trwy dy orchymynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.

Nun. Boreuol weddi.

105Neu, [...]nwyll. LLusern yw dy air i'm traed: a llewyrch i'm llwybr.

106 Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.

107 Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi ô Arglwydd, yn ôl dy air.

108 Attolwg, Arglwydd, bydd fodlon i ewyllyscar offrymmau fy ngenau, a dysc i mi dy farnedigaethau.

109 Y mae fy enaid yn fy llaw yn oestadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith.

110 Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchym­ynion.

111 Cymmerais dy orchymynion yn etife­ddiaeth dros byth: o herwydd llawenydd fy nghalon ydynt.

112 Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth hyd y diwedd.

Samech.

113 MEddyliau ofer a gaseais, a'th gyfraith di a hoffais.

114 Fy lloches a'm tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf.

115Matth. 7.23. Ciliwch oddi wrthif rai drygionus: canys cadwaf orchymynion fy Nuw.

116 Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na âd i mi gywilyddio am fy ngobaith.

117 Cynnal fi, a diangol fyddaf, ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol.

118 Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt.

119Heb. Gwnae­tholl i holl &c. ddarfod fel &c. Bwriaist heibio holl annuwolion y tîr fel sothach: am hynny 'r hoffais dy dystiolaethau.

120 Dychrynodd fy ngnhawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.

Ain.

121 GWneuthum farn, a chyfiawnder: na âd fi i'm gorthrym-wŷr.

122 Mechnia dros dy wâs er daioni: na âd i'r beilchion fy ngorthrymmu.

123 Fy llygaid a ballasant am dy iechyd­wriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder.

124 Gwna i'th wâs yn ôl dy drugaredd: a dysc i mi dy ddeddfau.

125 Dy wâs ydwyfi, pâr i mi ddeall: fel y gwypwyf dy dystiolaethau.

126 Amser yw i'r Arglwydd weithio: di­ddymmasant dy gyfraith di.

127Psal. 19.10. Dihar. 8.11. Am hynny 'r hoffais dy orchymynion yn fwy nag aur, ie yn fwy nag aur coeth.

128 Am hynny vniawn y cyfrifais dy orch­ymynion am bob peth: a chaseais bob gau lwybr.

Pe.

129 RHyfedd yw dy dystiolaethau, am hyn­ny y ceidw fy enaid hwynt.

130 Agoriad dy eiriau a rydd oleuni, pair ddeall i rai annichellgar.

131 Agorais fy ngenau a dyheais, oblegit awyddus oeddwn i'th orchymynion di.

132 Edrych arnaf, a thrugarhâ wrthif: yn ôl dy arferNe [...], tuag [...] y rhai. i'r rhai a garant dy enw.

133 Cyfarwydda fy nghamrau yn dy air, ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf.

134 Gwaret fi oddi wrth orthrymder dy­nion: felly y cadwaf dy orchymynion.

135 Llewyrcha dy wyneb ar dy wâs, a dysc i mi dy ddeddfau.

136 Afonydd o ddyfroedd a redant o'm lly­gaid, am na chadwasant dy gyfraith di.

Tsadi.

137 CYfiawn ydwyt ti, ô Arglwydd, ac vni­awn yw dy farnedigaethau.

138 Dy dystiolaethau y rhai a orchymyn­naist, ydyntHeb. gyfiawn­der a ffyddlon­deb. gyfiawn a ffyddlon iawn.

139Psal. 69.9. Jo. 2.17. Fy Zêl a'mHeb. torrodd ymaith. difaodd, o herwydd i'm gelynion anghofio dy eiriau di.

140 Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy wâs yn ei hoffi.

141 Bychan ydwyfi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchymynion.

142 Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth: a'th gyfraith sydd wirionedd.

143 Adfyd a chystuddHeb. cawsant. a'm goddiwedda­sant: a'th orchymynion oedd fy nigrifwch.

144 Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.

Coph. Prydnhawnol weddi.

145 LLefais â'm holl galon, clyw fi ô Arglwydd: dy ddeddfau a gadwaf.

146 Llefais arnat, achub fi:Neu, fel y cad­wyf. a chadwaf dy dystiolaethau.

147 Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwiliais.

148 Fy llygaid a achubasant flaen gwiliad­wriaethau y nôs, i fyfyrio yn dy air di.

149 Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: Ar­glwydd bywhâ fi yn ôl dy farnedigaethau.

150 Y rhai a ddilynant scelerder a nessasant arnaf: ymbellasant oddi wrth dy gyfraith di.

151 Titheu Arglwydd wyt agos: a'th holl orchymynion sydd wirionedd.

152 Er ystalm y gwyddwn am dy dystiolae­thau, seilio o honot hwynt yn dragywydd.

Resh.

153 GWêl fy nghystudd, a gwared fi: ca­nys nid anghofiais dy gyfraith.

154 Dadleu fy nadl, a gwared fi: bywhâ fi yn ôl dy air.

155 Pell yw iechydwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: o herwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.

156 Dy drugareddau Arglwydd sydd aml: bywhâ fi yn ôl dy farnedigaethau.

157 Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu: er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.

158 Gwelais y trosedd-wŷr, a gressynais: am na chadwent dy air di.

159 Gwêl fy mod yn hoffi dy orchymyni­on: Arglwydd, bywhâ fi yn ôl dy drugarog­rwydd.

160Heb. Dechreu­ad dy air fydd wi­rionedd. Gwirionedd o'r dechreuad yw dy air: a phob vn o'th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.

Schin.

161 TYwysogion a'm herlidiasant heb achos, er hynny fy nghalon a gry­nei rhag dy air di.

162 Llawen ydwyfi o blegit dy air: fel vn yn cael sclyfaeth lawer.

163 Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a'th gyfraith di a hoffais.

164 Seith-waith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori: o herwydd dy gyfiawn farnedi­gaethau.

165 Heddwch mawr fydd i'r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.

166 Disgwiliais wrth dy iechydwriaeth di, ô Arglwydd: a gwneuthum dy orchymynion.

167 Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau: a hoff iawn gennif hwynt.

168 Cedwais dy orchymynion a'th dystio­liethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.

Tau.

169 NEssaed fy ngwaedd o'th flaen, Ar­glwydd: gwna i mi ddeall yn ôl dy air.

170 Deued fy ngweddi ger dy fron: gwar­ed fi yn ôl dy air.

171 Fy ngwefusau a draetha foliant: pan ddyscech i mi dy ddeddfau.

172 Fy nhafod a ddatcan dy air: o her­wydd dy holl orchymynion sydd gyfiawnder.

173 Bydded dy law i'm cynnorthwyo: o herwydd dy orchymynion di a ddewisais.

174 Hiraethais ô Arglwydd, am dy iechyd­wriaeth: a'th gyfraith yw fy hyfrydwch.

175 Bydded byw fy enaid fel i'th folianno di: a chynnorthwyed dy farnedigaethau fi.

176 Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy wâs, o blegit nid anghofiais dy orchym­ynion.

PSAL. CXX. Boreuol weddi.
¶Caniad y graddau.

Dafydd yn gweddio yn erbyn Doeg, 3 yn ce­ryddu ei dafod ef, 5 yn cwyno fod yn rhaid iddo gyttal a bucheddu gydâ 'r enwir.

AR yr Arglwydd y gwaeddais yn fy nghyfyngder: ac efe a'm gwran­dawodd i.

2 Arglwydd, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddoc, ac oddi wrth dafod twyllodrus.

3Neu, Beth a rydd ta­fod twy­llodrus it, neu, beth a chwane­ga iti? Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus?

4 Llymmion saethau cawr ynghyd a mar­wor meryw.

5 Gwae fi fy mod yn presswylio ym Mesech: yn cyfanneddu ym mhebyll Cedar.

6 Hir y trigodd fy enaid, gyd â'r hwn oedd yn casau tangneddyf.

7 Heddychol ydwyfi, ond pan lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.

PSAL. CXXI.
¶Caniad y graddau.

Mawr ddiogelwch y duwiol sydd yn hyderu ar nawdd ac amddiffyn Duw.

Neu, A dder­chafafi? DErchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd, o'r lle y daw fy nghymmorth.

2Psal. 124.8. Fy nghymmorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar.

3 Ni âd efe i'th droed lithro, ac ni huna dy geidwad.

4 Wele, ni huna ac ni chwsc ceidwad Is­rael.

5 Yr Arglwydd yw dy geidwad, yr Ar­glwydd yw dy gyscod ar dy ddeheulaw.

6 Ni'th dery 'r haul y dydd, na'r lleuad y nôs.

7 Yr Arglwydd a'th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.

8 Yr Arglwydd a geidw dy fynediad, a'th ddyfodiad, o'r pryd hyn hyd yn dragywydd.

PSAL. CXXII.
¶Caniad y graddau, o'r eiddo Dafydd.

1 Dafydd yn dangos ei lawenydd tros yr Eglwys, 6 ac yn gweddio am heddwch iddi.

LLawenychais pan ddywedent wrthif, awn i dŷ 'r Arglwydd.

2 Ein traed a safant o fewn dy byrth di, ô Jerusalem.

3 Jerusalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgyssylltu ynddi ei hun.

4 Yno 'r escyn y llwythau, llwythau 'r Ar­glwydd, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw 'r Arglwydd.

5 Canys ynoHeb. yr eist­edd. y gosodwyd gorsedd-feingciau barn: gorsedd-feingciau tŷ Dafydd.

6 Dymunwch heddwch Jerusalem: llwy­dded y rhai a'th hoffant.

7 Heddwch fyddo o fewn dy ragfur: a ffyn­niant yn dy balassau.

8 Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion, y dy­wedaf yn awr, heddwch fyddo i ti.

9 Er mwyn tŷ 'r Arglwydd ein Duw, y cei­siaf i ti ddaioni.

PSAL. CXXIII.
¶Caniad y graddau.

1 Y duwiol yn dangos eu hyder ar Dduw, 3 ac yn gweddio ar gael eu gwared oddiwrth ddir­myg.

ATtat ti y derchafaf fy llygaid, ti yr hwn a bresswyli yn y nefoedd.

2 Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistred, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres: felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni.

3 Trugarhâ wrthym Arglwydd, trugarhâ wrthym, canys llanwyd ni â dirmyg yn ddir­fawr.

4 Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwat­wargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.

PSAL. CXXIIII.
¶Caniad y graddau, o'r eiddo Dafydd.

1 Yr Eglwys yn bendithio Duw am ei ryfeddol ymwared.

ONi buasei 'r Arglwydd, yr hwn a fu gyd â ni: y gall Israel ddywedyd yn awr:

2 Oni buasei 'r Arglwydd, yr hwn a fu gyd â ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn;

3 Yna i'n llyngcâsent ni yn fyw, pan enyn­nodd eu llid hwynt i'n herbyn.

4 Yna y dyfroedd a lifasei trosom: y ffrwd a aethei tros ein henaid.

5 Yna 'r aethei tros ein henaid ddyfroeddBeil­chion. chwyddedig.

6 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd, yr hwn ni roddodd ni yn ysclyfaeth iw dannedd hwynt.

7 Ein henaid a ddiangodd, fel aderyn o fagl yr adarwŷr: y fagl a dorrwyd, a ninneu a ddianghasom.

8Psal. 121.2. Ein porth ni sydd yn enw 'r Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar.

PSAL. CXXV.
¶Caniad y graddau.

1 Diogelwch y rhai sy yn ymddiried yn Nuw. 4 Gweddi tros y duwiol, ac yn erbyn yr an­nuwiol.

Y Rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd, fyddant fel mynydd Sion: yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd.

2 Fel y mae Jerusalem a'r mynyddoedd o'i hamgylch; felly y mae 'r Arglwydd o amgylch ei bobl, o'r pryd hyn hyd yn dragywydd.

3 Canys ni orphywys gwialen annuwioldeb, ar randir y rhai cyfiawn: rhag i'r rhai cyfi­awn estyn eu dwylo at anwiredd.

4 Oh Arglwydd gwna ddaioni i'r rhai dai­onus: ac i'r rhai vniawn yn eu calonnau.

5 Ond y rhai a ymdroant iw trofeydd, yr Arglwydd a'i gyrr gyd â gweithred-wŷr an­wiredd: a bydd tangneddyf ar Israel.

PSAL. CXXVI. Prydnhawnol weddi.
¶Caniad y graddau.

1 Yr Eglwys wrth ddangos coffa o'i rhyfeddol ymwared allan o gaethiwed, 4 yn gweddio am lwyddiant, ac yn ei brophwydo.

PAnHeb. ddychwe­lodd ddy­chweliad Sion. ddychwelodd yr Arglwydd gae­thiwed Sion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio.

2 Yna y llanwyd ein genau â chwer­thin, a'n tafod â chanu: yna y dywedasant ym [...]ysc y cenhedloedd, yr Arglwydd aHeb. fawrha­odd wneu­thur i'r &c. wnaeth bethau mawrion i'r rhai hyn.

3 Yr Arglwydd a wnaeth ini bethau maw­rion, am hynny 'r ydym yn llawen.

4 Dychwel Arglwydd ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y dehau.

5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fed­ant mewnNeu, can. gorfoledd.

6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn ŵylo, gan ddwynNeu, had-lestr. hâd gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei yscubau.

PSAL. CXXVII.
¶Caniad y graddau i Salomon.

1 Rhinwedd bendithion Duw. 3 Dawn Duw yw plant rhinweddol.

OS yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeilad-wŷr wrtho: os yr Ar­glwydd ni cheidw 'r ddinas, ofer y gwilia y ceidwaid.

2 Ofer i chwi foreu-godi, myned yn hwyr i gyscu, bwytta bara gofidiau: felly y rhydd efe hûn iw anwylyd.

3 Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Ar­glwydd, ei wobr ef yw ffrwyth y groth.

4 Fel y mae saethau yn llaw y cadarn, felly y mae plant ieuengctid.

5 Gwyn ei fyd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: ni's gwradwyddir hwy, panNeu, ddarost­yngant y gel. Me­gis Psal. 18.44. Neu, ddi­fethant. ymddiddanant â'r gelynion yn y porth.

PSAL. CXXVIII.
¶Caniad y graddau.

Yr amryw fendithion sydd yn canlyn y rhai a of­nant Dduw.

GWyn ei fyd pob vn sydd yn ofni 'r Ar­glwydd: yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.

2 Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd it.

3 Dy wraig fydd fel gwin-wŷdden ffrwyth­lawn, ar hŷd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion oliwydd o amgylch dy ford.

4 Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno 'r Arglwydd.

5 Yr Arglwydd a'th fendithia allan o Sion; a thi a gei weled daioni Jerusalem holl ddy­ddiau dy enioes:

6 A thi a gei weled plant dy blant, a thang­neddyf ar Israel.

PSAL. CXXIX.
¶Caniad y graddau.

1 Y mae 'n annog i foliannu Duw am gadw Isra­el yn ei fawr gystuddiau. 5 Melldithio y rhai a gasânt Eglwys Duw.

LLawer gwaith i'm cystuddiasant o'm hi­euengctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr:

2 Llawer gwaith i'm cystuddiasant o'm hi­euengctid, etto ni'm gorfuant.

3 Yr arddwŷr a arddasant ar fy nghefn, est­ynnasant eu cwysau yn hirion.

4 Yr Arglwydd sydd gyfiawn, efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol.

5 Gwradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Sion.

6 Byddant fel glas-wellt pen tai, yr hwn a wywa cyn yTyfo. tynner ef ymmaith.

7 A'r hwn ni leinw y pladur-wr ei law: na'r hwn fyddo yn rhwymo yr yscubau, ei fonwes.

8 Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, bendith yr Arglwydd arnoch: bendithiwn chwi yn enw 'r Arglwydd.

PSAL. CXXX.
¶Caniad y graddau.

1 Y Psalmudd yn dangos ei obaith mewn gweddi; 5 A'i ddioddefgarwch mewn gabaith. 7 Y mae yn annog Israel i obeithio yn Nuw.

O'R dyfnder ŷ llefais arnat, ô Arglwydd.

2 Arglwydd clyw fy llefain, ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddiau.

3 Os creffi ar anwireddau, Arglwydd: ô Arglwydd, pwy a saif?

4 Onid y mae gydâ thi faddeuant fel i'th of­ner.

5 Disgwiliaf am yr Arglwydd, disgwil fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf.

6 Fy enaid sydd yn disgwil am yr Arglwydd, yn fwy nag y mae y gwil-wyr am y boreu;Neu, y rhai sydd yn gwilied am y borau. yn fwy nag y mae y gwilwyr am y boreu.

7 Disgwilied Israel am yr Arglwydd, o her­wydd y mae trugaredd gyd â'r Arglwydd, ac aml ymwared gyd ag ef.

8 Ac efe a wared Israel, oddiwrth ei holl an­wireddau.

PSAL. CXXXI.
¶Caniad y graddau, o'r eiddo Dafydd.

1 Dafydd yn dangos ei ostyngeiddrwydd, 3 ac yn annog Israel i obeithio yn Nuw.

O Arglwydd nid ymfalchiodd fy nghalon, ac nid ymdderchafodd fy llygaid: ni rodiais ychwaith mewn pethau rhy fawr, a rhyHeb. ryfedd. vchel i mi.

2 Eithr gosodais, a gostegais fy enaid, fel vn wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel vn wedi ei ddiddyfnu.

3 Disgwilied Israel wrth yr Arglwydd, o'rHeb. awr hon. pryd hyn hyd yn dragywydd.

PSAL. CXXXII. Boreuol weddi.
¶Caniad y graddau.

1 Dafydd yn ei weddi yn dangos i Dduw ei ddu­wiol ofal tros yr Arch; 8 Yn gweddio wrth symmudo yr Arch, 11 ac yn ail adrodd adde­widion Duw iddo.

O Arglwydd, cofia Ddafydd, a'i holl flinder:

2 Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd, ac yr addunodd i rym­mus Dduw Jacob.

3 Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely;

4 Ni roddaf gwsc i'm llygaid, na hun i'm amrantau:

5 Hyd oni chaffwyf le i'r Arglwydd;Heb. preswyl­feydd. pres­wylfod i rymmus Dduw Jacob.

6 Wele, clywsom am dani yn Ephrata: cawsom hi ym meusydd y coed.

7 Awn iw bebyll ef, ymgrymmwn o flaen ei faingc draed ef.

82 Cron. 6.41. Num. 10.35. Cyfod Arglwydd i'th orphywysfa, ti ac Arch dy gadernid.

9 Gwisced dy offeiriaid gyfiawnder: a gor­foledded dy sainct.

10 Er mwyn Dafydd dy wâs, na thro ym­maith wyneb dy eneiniog.

112 Sam. 7.12. 1 Bren. 8.25. 2 Cron. 6.16. Luc. 1.69. Act. 2.30. Tyngodd yr Arglwydd mewn gwiri­onedd i Ddafydd, ni thrŷ efe oddiwrth hyn­ny: o ffrwyth dyHeb. fru. gorph y gosodaf ar dy orsedd-faingc.

12 Os ceidw dy feibion fy nghyfammod a'm tystiolaeth, y rhai a ddysowyf iddynt: eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orsedd-faingc.

13 Canys dewisodd yr Arglwydd Sion, ac a'i chwennychodd yn drigfa iddo ei hun.

14 Dymma fy ngorphywysfa yn dragywydd: ymma y trigaf, canys chwennychais hi.

15 Gan fendithio y bendithiaf ei llyniaeth: diwallaf ei thlodion â bara.

16 Ei hoffeiriaid hefyd a wiscaf ag iechyd­wriaeth: a'i sainct dan ganu a ganant.

17Luc. 1.69. Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperaisNeu, ganwyll. lamp i'm heneiniog.

18 Ei elynion ef a wiscaf â chywilydd, arno yntef y blodeua ei goron.

PSAL. CXXXIII.
¶Caniad y graddau, o'r eiddo Dafydd.

Budd cymmundeb y Sainct.

WEle, mor ddaionus, ac mor hyfryd, yw trigo o frodyr ynghyd.

2 Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen, yn descyn ar hŷd y farf, sef barf Aaron: yr hwn oedd yn descyn ar hyd ymyl ei wis­coedd ef.

3 Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn des­cyn ar fynyddoedd Sion: canys yno y gorch­ymynnodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd.

PSAL. CXXXIIII.
¶Caniad y graddau.

Y mae 'n annog i fendithio Duw.

WEle, holl weision yr Arglwydd, bendithi­wch yr Arglwydd: y rhai ydych yn se­fyll yn nhŷ 'r Arglwydd y nôs.

2 Derchefwch eich dwyloNeu, mewn sancteidd­rwydd. yn y cyssegr: a bendithiwch yr Arglwydd.

3 Yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar, a'th fendithio di allan o Sion.

PSAL. CXXXV.

1 Y mae 'n annog i glodfori Duw am ei druga­redd, 5 am ei allu, 8 am ei farnedigaethau. 15 Ofered yw eulynnod. 19 Y mae 'n annog i fendithio Duw.

MOlwch yr Arglwydd. Molwch enw 'r Arglwydd; gweision yr Arglwydd, molwch ef.

2 Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ 'r Ar­glwydd; ynghynteddoedd tŷ ein Duw ni.

3 Molwch yr Arglwydd, canys da yw yr Arglwydd: cenwch iw enw, canys hyfryd yw.

4 O blegit yr Arglwydd a ddetholodd Ja­cob iddo ei hun, ac Israel yn briodoriaeth iddo.

5 Canys mi a wn mai mawr yw 'r Ar­glwydd; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.

6 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnei, yn y nefoedd, ac yn y ddaiar, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.

7Jerem. 10.13. Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaiar, mellt a wnaeth efe ynghyd â'r glaw: gan ddwyn y gwynt allan o'i dryssorau.

8Exod. 12.29. Yr hwn a darawodd gyntaf-anedic yr Aipht,Heb. o ddyn hyd ani­fail. yn ddŷn ac yn anifail.

9 Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i'th ganol di 'r Aipht, ar Pharao, ac ar ei holl wei­sion.

10Num. 21.2, 3, 25, 26, 34, 35. Yr hwn a darawodd genhedloedd law­er, ac a laddodd frenhinoedd cryfion:

11 Sehon brenin yr Amoriaid; ac Og bre­nin Basan: a holl frenhiniaethau Canaan:

12Jos. 12.7. Ac a roddodd eu tîr hwynt yn etife­ddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.

13 Dy enw ô Arglwydd a bery yn dragy­wydd: dy goffadwriaeth, ô Arglwydd,Heb. i genhed­laeth a chenhed­laeth. o gen­hedlaeth i genhedlaeth.

14 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, a bydd edifar gantho o ran ei weision.

15Ps. 115.4, 5, &c. Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dŷn.

16 Geuau sydd iddynt, ond ni lefarant: llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.

17 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant: nid oes ychwaith anadl yn eu genau.

18 Fel hwynt y mae y rhai a'i gwnant, a phob vn a ymddiriedo ynddynt.

19 Tŷ Israel, bendithiwch yr Arglwydd: bendithiwch yr Arglwydd, tŷ Aaron.

20 Tŷ Lefi, bendithiwch yr Arglwydd: y rhai a ofnwch yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd.

21 Bendithier yr Arglwydd o Sion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerusalem. Molwch yr Ar­glwydd.

PSAL. CXXXVI. Prydahawnol weddi.

1 Y mae 'n annog i foliannu Duw, am ei dru­gareddau neilltuol.

Ps. 106.1. & 10 [...] 1. & 118.1.CLodforwch yr Arglwydd, canys da yw, o herwydd ei drugaredd sydd yn dra­gywydd.

2 Clodforwch Dduw y duwiau: o blegit ei drugaredd sydd yn dragywydd.

3 Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

4 Yr hwn yn vnic sydd yn gwneuthur rhy­feddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragy­wydd.

5Gen. 1.1. Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

6Gen. 1.9. Jer. 10.12. Yr hwn a estynnodd y ddaiar oddi ar y dyfroedd: o blegit ei drugaredd sydd yn dragy­wydd.

7Gen. 1.14. Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

8 Yr haul iHeb. lywodra­eth y dydd. lywodraethu 'r dydd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

9 Y lleuad a'r sêr, i lywodraethu 'r nos: ca­nys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

10Exod. 12.29. Yr hwn a darawodd yr Aipht, yn eu cyntaf-anedic: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

11Exod. 13.17. Ac a ddug Israel o'i mysc hwynt: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

12 A llaw gref ac â braich estynnedic: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

13Exod. 14.21, 22. Yr hwn a rannodd y môr côch yn ddwyran: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

14 Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ga­nol: o herwydd ei drugaredd sydd yn dra­gywydd.

15Exod. 14.28. Ac a escyttiodd Pharao a'i lû, yn y môr côch: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

16Exod. 15.22. Ac a dywysodd ei bobl drwy 'r anialwch: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

17 Yr hwn a darawodd frenhinoedd maw­rion: o herwydd ei drugaredd sydd yn dra­gywydd.

18Deut. 20.7. Ps. 135.10, 11. Ac a laddodd frenhinoedd ardder­chog: o herwydd ei drugaredd sydd yn dra­gywydd.

19Num. 21 23. Sehon brenin yr Amoriaid: o her­wydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

20Num. 21.33. Ac Og brenin Basan: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

21Jos. 22.7. Ac a roddodd eu ti hwynt yn etife­ddiaeth: o herwydd ei drugaredd sydd yn dra­gywydd.

22 Yn etifeddiaeth i Israel ei wâs: o her­wydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

23 Yr hwn yn ein hisel-radd a'n cofiodd ni; o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

24 Ac a'n hachubodd ni oddi wrth ein ge­lynion: o herwydd ei drugaredd sydd yn dra­gywydd.

25 Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bôb cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

26 Clodforwch Dduw 'r nefoedd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

PSAL. CXXXVII.

1 Dianwadalwch yr luddewon mewn caethiwed. 7 Y Prophwyd yn melldithio Edom a Babel.

WRth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac ŵylasom, pan feddyliasom am Sion.

2 Ar yr helyg o'i mewn y crogasom ein te­lynau.

3 Canys yno y gofynnodd y rhai a'n caethi­wasent i niHeb. eiriaucan. gân, a'r rhai a'nNeu, gwnae­thant yn carne­ddau, neu, yn ben­tyrrau. anrheithiasei, lawenydd, gan ddywedyd, cenwch i ni rai o ga­niadau Sion.

4 Pa fôdd y canwn gerdd yr Arglwydd, mewn gwlad ddieithr?

5 Os anghofiaf di Jerusalem, anghofied fy neheu-law ganu.

6 Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau; oni chofiaf di, oni chodaf Jerusalem goruwchHebr. fy mh [...]n llawe­nydd. fy llawenydd pennaf.

7 Cofia Arglwydd blant Edom yn nydd Je­rusalem: y rhai a ddywedent, dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen.

8Obad. 12.13. Oh ferch Babilon a anrheithir, gwyn ei fŷd aHeb. a dalo i ti dalediga­eth fel y telaist i ninnau. dalo i ti, fel y gwnaethost i ninnau.

9 [...]s. 13.16. Gwyn ei fyd, a gymmero, ac a darawo dy rai bâch wrth yHebr. graig. meini.

PSAL. CXXXVIII.
Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn moliannu Duw am wirionedd ei air; 4 Yn prophwydo y bydd i frenhinoedd y ddaiar foliannu Duw: 7 Yn dangos ei ymddiri­ed yn Nuw.

Psal. 119.46. CLodforaf di â'm holl galon: yngŵydd y duwiau y canaf it.

2 Ymgrymmaf tu a'th deml sanctaidd: a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a'th wi­rionedd: o blegit ti a fawrheaist dy air vwch­law dy enw oll.

3 Y dydd y llefais i'm gwrandewaist: ac a'm cadarnheaist â nerth yn fy enaid.

4 Holl frenhinoedd y ddaiar a'th glod­forant, ô Arglwydd: pan glywant eiriau dy enau.

5 Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd.

6 Er bod yr Arglwydd yn vchel, etto efe a edrych ar yr issel, ond y balch a edwyn efe o hir-bell.

7 Pe rhodiwn ynghanol cyfyngder, ti a'm byw­hait: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a'th ddeheulaw a'm hachubei.

8 Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy dru­garedd Arglwydd, sydd yn dragywydd; nac esceulusa waith dy ddwylo.

PSAL. CXXXIX. Boreuol weddi.
¶I'r pen-cerdd, Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn moliannu Duw am ei ragluniaeth sydd yn canfod pob peth: 19 Yn ffieiddio yr annuwiol: 23 Yn gweddio am burdeb.

ARglwydd chwifiaist, ac adnabuost fi.

2 Ti a adwaenost fy eisteddiad, a'm [Page] cyfodiad: deelli fy meddwl o bell.

3 Amgylchyni fy llwybr a'm gorweddfa: ac yspys wyt yn fy holl ffyrdd.

4 Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele Arglwydd, ti a'i gŵyddost oll.

5 Amgylchynaist fi yn ôl, ac ym mlaen: a gosodaist dy law arnaf.

6 Dymma ŵybodaeth ry ryfedd i mi: vchel yw, ni fedraf oddi wrthi.

7 I ba le 'r âf oddi wrth dy Yspryd? ac i ba le y ffoaf o'th ŵydd?

8Amos 9.2, 3.4. Os dringaf i'r nefoedd, yno yr wyt ti; os cyweiriaf fyngwely yn vffern, wele di yno.

9 Pe cymmerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr:

10 Yna hefyd i'm tywysei dy law, ac i'm daliai dy ddeheu-law.

11Joh 26.6. Heb. 4.13. Pe dywedwn, diau y tywyllwch a'm cuddia: yna y byddei y nos yn oleuni o'm ham­gylch.

12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti, ond y nôs a oleua fel dydd:Heb. fel y ty­wyllwch, felly y mae y goleuni. vn ffunyd yw tywyll­wch a goleuni i ti.

13 Canys ti a feddiennaist fy arennau, toaist fi ynghrôth fy mam.

14 Clodforaf dydi, canys ofnadwy, a rhy­fedd i'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd, a'm henaid a ŵyr hynny ynHeb. odiaeth. dda.

15 Ni chuddiwyd fyNeu, nerth, neu nghorph, neu escyrn. sylwedd oddi wrthit, pan i'm gwnaethpwyd yn ddirgel, ac i'm cyw­reiniwyd yn isselder y ddaiar.

16 Dy lygaid a welsant fy anelwig ddefnydd, ac yn dy lyfr di yr scrifennwydFy aelo­dau oll. hwynt oll, y dydd yLlunid. lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr vn o honynt.

17Ps. 40.5. Am hynny mor werth-fawr yw dy fe­ddyliau gennif, ô Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt!

18 Fe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt nâ'r tywod: pan ddeffrowyf, gyd â thi 'r ydwyfi yn wastad.

19 Yn ddiau o Dduw, ti a leddi yr annuw­iol: am hynny y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthif:

20 Y rhai a ddywedant scelerder yn dy er­byn, dy elynion a gymmerant dy enw yn ofer.

21 Onid câs gennif ô Arglwydd, dy gaseion di? onid ffiaidd gennif y rhai a gyfodant i'th erbyn?

22 A châs cyflawn y caseais hwynt: cyfri­fais hwynt i mi yn elynion.

23 Chwilia fi ô Dduw, a gŵybydd fy ngha­lon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau.

24 A gwel, a oes fforddHeb. gofid, neu dristwch. annuwiol gennif: a thywys fi yn y ffordd dragywyddol.

PSAL. CXL.
¶I'r pen-cerdd, Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn gweddio am gael ei waredu oddi­wrth Saul a Doeg; 8 yn gweddio yn eu her­byn hwy: 12 Yn ymgyssuro trwy ymddiried yn Nuw.

GWared fi, ô Arglwydd, oddi wrth y dŷn drwg; cadw fi rhag y gŵrHeb. trais. traws.

2 Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasclant beunydd i ryfel.

3Rhuf. 3.13. Psal. 58.4 Golymmasant eu tafodau fel sarph: gwenwyn asp sydd tan eu gwefusau. Selah.

4 Cadw fi, ô Arglwydd, rhag dwylo 'r annuwiol, cadw fi rhag y gwr traws; y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed.

5 Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynnasant rwyd wrth dannau ar ymmyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Selah.

6 Dywedais wrth yr Arglwydd, fy Nuw ydwyt ti; clyw, ô Arglwydd, lef fy ngweddiau.

7 Arglwydd Dduw, nerth fy iechydwriaeth: gorchguddiaist fy mhen yn nydd brwydr.

8 Na chaniadhâ Arglwydd, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei drwg feddwl,Heb. nac ym­ddercha­fant. rhag eu balchio hwynt. Selah.

9 Y pennaf o'r rhai a'm hamgylchyno, blin­der eu gwefusau a'i gorchguddio.

10 Syrthied marwor arnynt, a bwrier hwynt yn tân: ac mewn ceu-ffosydd, fel na chyfodant.

11 Na siccrhaer dŷnHeb. tafod. siaradusNeu, y gwr traws, drwg, ar y dddiar; helier ef iw ddi­stryw. ar y ddaiar: drwg a hêla y gŵr traws iw ddistryw.

12 Gwn y dadleu yr Arglwydd ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion.

13 Y cyfiawn yn ddiau a glodsorant dy enw di: y rhai vniawn a drigant ger dy fron di.

PSAL. CXLI.
¶Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn gweddio ar fôd ei arch ef yn gym­meradwy, 3 a'i gydwybod yn bur, 7 a'i einioes yn ddiogel oddi wrth faglau.

ARglwydd, yr wyf yn gweiddi arnat; bryssia attaf: clyw fy llais pan lefwyf arnat.

2 Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl­darth, a derchafiad fy nwylo fel yr offrwm prydnhawnol.

3 Gosod Arglwydd, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau.

4 Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni, gyd â gwŷr a weithredant anwiredd: ac na âd i mi fwyta o'i danteithion hwynt.

5 Cured y cyfiawn fiNeu, caredeg­rwydd fydd. yn garedig, a che­rydded fi:Neu, olew rha­gorol fydd, yr hwn ni thyrr fy mhen. na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd etto yn eu drygau hwynt.

6 Pan dafler eu barn-wŷr i lawr mewn lle­oedd carregoc, clywant fy ngeiriau, canys melus ydynt.

7 Y mae ein hescyrn ar wascar ar fîn y bedd, megis vn yn torri, neu yn hollti coed ar y ddaiar.

8 Eithr arnat ti ô Arglwydd Dduw, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais,Heb. na noetha fy enaid. na âd fy enaid yn ddiymgeledd.

9 Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi: a hoenynnau gweithred-wŷr anwiredd.

10 Cyd-gwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, tra elwyfi heibio.

PSAL. CXLII. Prydnhawnol weddi.
Neu, Psalm Dafydd yn rhai athraw­iaeth. Maschil Dafydd: gweddi pan oedd efe yn yr ogof.

1 Dafydd yn dangos mai gweddio Duw oedd ei holl gyssur ef mewn trallod.

GWaeddais â'm llef ar yr Arglwydd: â'm llef yr ymbiliais â'r Arglwydd.

2 Tywelltais fy myfyrdod o'i flaen ef: a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef.

3 Pan ballodd fy yspryd o'm mewn, titheu a adwaenit fy llwybr; yn y ffordd y rhodiwn y cuddiasant i mi fagl.

4Neu, Edrych. Edrychais ar y tu dehau, aNeu, gwel. deliais sulw, ac nid oedd neb a'm hadwaenai:Heb. collasai nodded oddi­wrthif. pallodd nodded i mi, nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid.

5 Llefais arnat ô Arglwydd, a dywedais, ti yw fy ngobaith, a'm rhan, yn nhîr y rhai byw.

6 Ystyr wrth fy ngwaedd, canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlid-wŷr, canys trêch ydynt nâ mi.

7 Dŵg fy enaid allan o garchar, fel y moli­annwyf dy enw: y rhai cyfiawn a'm cylchy­nant, canys ti a fyddi da wrthif.

PSAL. CXLIII.
¶Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn gweddio am ffafor mewn barn: 3 Yn cwyno rhag ei ofidiau: 5 Yn cadarnhau ei ffydd trwy fyfyrio a gweddio: 7 Yn gweddio am ras, 9 am ymwared, 10 am sancteiddrwydd, 12 am ddinistr ar ei elynion.

ARglwydd clyw fy ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau: erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy gyfiawnder.

Exod. 34.7. Rhuf. 3.20. Gal. 2.16.2 Ac na ddôs i farn â'th wâs, o herwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.

3 Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid, curodd fy enaid i lawr, gwnaeth i mi drigo mewn ty­wyllwch, fel y rhai a fu feirw er ystalm.

4 Yna y pallodd fy yspryd o'm mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.

5 Cofiais y dyddiau gynt, myfyriais ar dy holl waith: ac yngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.

6 Lledais fy nwylaw attat: fy enaid fel tîr sychedic sydd yn hiraethu am danat. Selah.

7 Oh Arglwydd, gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy yspryd; na chuddia dy wyneb oddi wrthif,Neu, aethym yn gyffe­lyb &c. rhag fy mod yn gyffelyb i'r rhai a ddescynnant i'r pwll.

8 Pâr i mi glywed dy drugarogrwydd y bo­reu: o herwydd ynot ti y gobeithiaf; pâr i mi ŵybod y ffordd y rhodiwyf, o blegit attat ti y derchafaf fy enaid.

9 Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, ô Ar­glwydd:Neu, cuddia fi gyd a thi. gyd â thi 'r ymguddiais.

10 Dysc i mi wneuthur dy ewyllys di: canys ti yw fy Nuw;Neu, daionus yw dy yspryd; tywys fi, &c. tywysed dy Yspryd da­ionus fi i dir vniondeb.

11 Bywhâ fi ô Arglwydd, er mwyn dy enw: dwg fy enaid allan o ing, er mwyn dy gyfiawnder.

12 Ac er dy drugaredd, dinistria fy ngelyni­on; a difetha holl gystudd-wŷr fy enaid: oblegit dy wâs di ydwyfi.

PSAL. CXLIV. Boreuol weddi.
Psalm Dafydd.

1 Dafydd yn bendithio Duw am ei drugaredd tuac atto ef, a thu ac at bob dyn: 5 Yn gweddio ar i Dduw yn alluog ei waredu ef oddiwrth ei elynion: 9 Yn addo bendithio Duw: 11 Yn gweddio tros ddedwydd gyflwr y deyrnas.

BEndigedic fyddo 'r ArglwyddHeb. fy nghraig. fy nerth, yr hwn sydd yn dyscu fy nwylo i ymladd, a'm bysseddi ryfela.

22 Sam. 22.2, 3.35.39. Fy nhrugaredd a'm hamdde­ffynfa, fy nhŵr, a'm gwaredudd, fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl tanaf.

3Job 7.17. Ps. 8.4. Heb. 2.6. Arglwydd, beth yw dŷn, pan gydnaby­ddit ef? neu fab dŷn pan wnait gyfrif o honaw?

4Ps. 39.5. Job 14.2. Dyn sydd debyg i wagedd, ei ddyddiau sydd fel cyscod yn myned heibio.

5 Arglwydd, gostwng dy nefoedd, a descyn: cyffwrdd â'r mynyddoedd, a mygant.

6Psal. 18.13.14. Saetha fellt, a gwascar hwynt: ergydia dy saethau, a difa hwynt.

7 AnfonHeb. dy ddwylo. dy law oddi vchod, achub, a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;

8 Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheu-law yn ddeheu-law ffalsder.

9 Canaf i ti ô Dduw, ganiad newydd: ar y nabl, a'r dectant y canaf i ti.

10 Efe sydd yn rhoddiYm­wared. iechydwriaeth i frenhinoedd, yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei wâs oddi wrth y cleddyf niweidiol.

11 Achub fi, a gwared fi, o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheu-law yn ddeheu-law ffalster.

12 Fel y byddo ein meibion fel plan-wydd yn tyfu yn eu hieuengctid, a'n merched fel congl­fain nadd, wrth gyffelybrwydd palâs.

13 Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth, a'n defaid yn dwyn miloedd, a myrddiwn yn ein heolydd.

14 A'n hychen yn gryfion iddwyn llwythau lafurio, heb na rhuthro i mewn, na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd.

15 Gwyn ei fyd y bobl y mae felly iddynt,Psal. 33.12. & 65.4. gwyn ei fŷd y bobl y mae 'r Arglwydd yn Dduw iddynt.

PSAL. CXLV.
¶Clodforedd Dafydd.

1 Dafydd yn moliannu Duw o herwydd ei enw, 8 ei ddaioni, 11 ei frenhiniaeth, 14 ei rag­ddarbodaeth, 17 a'i drugaredd yn achub.

DErchafaf di fy Nuw, ô Frenhin: a bendith­iaf dy enw byth, ac yn dragywydd.

2 Beunydd i'th fendithiaf, a'th enw a folaf byth, ac yn dragywydd.

3 Mawr yw 'r Arglwydd, a chanmoladwy iawn: a'i fawredd sydd anchwiliadwy.

4 Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid.

5 Ardderchawgrwydd gogoniant dy faw­redd, a'th bethau rhyfedd a draethaf.

6 Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf inneu dy fawredd.

7 Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a drae­thant: a'th gyfiawnder a ddadcanant.

8Exod. 34.6.7. Num. 14.18. Psal. 86.5.15. & 10 [...]. [...] Graslawn, a thugarog yw 'r Arglwydd: hwyrfrydic i ddîg, a mawr ei drugaredd.

9 Daionus yw 'r Arglwydd i bawb: a'i dru­garedd sydd ar ei holl weithredoedd.

10 Dy holl weithredoedd a'th glodforant, ô Arglwydd: a'th sainct a'th fendithiant.

11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth: a thraethant dy gadernid,

12 I beri i feibion dynion adnabod ei gader­nid ef: a gogoniant ardderchawgrwydd ei frenhiniaeth.

13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaethHeb yr oeso [...]d [...] i gyd. dragywyddol: a'th lywodraeth a bery yn oes oesoedd.

14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant: ac sydd yn codi pawb a ddarost­yngwyd.

15 Llygaid pob peth a ddisgwiliant wrthit, ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd;

16 Gan agoryd dy law, adigoni ewllys. pob peth byw. diwallu pob peth byw a'th ewyllys da.

17 Cyfiawn yw 'r Arglwydd yn ei holl ffyrdd: aNeu, thr [...]g [...]rog, neu [...]a [...] ­os. sanctaidd yn ei holl weithredoedd.

18 Agos yw 'r Arglwydd at y rhai oll a alwant arno: at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.

19 Efe a wna ewyllys y rhai a'i hofnant gwrendy hefyd eu llefain, ac a'i hachub hwynt.

20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a'i carant ef, ond yr holl rai annuwiol a ddife­tha efe.

21 Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef, byth ac yn dragywydd.

PSAL. CXLVI.

1 Y Psalmudd yn addunedu moliant gwastadol i Dduw: 3 Yn annog na hyderer ar ddyn. 5 Duw yn vnic, o herwydd ei allu, a'i gyfiawn­der, a'i drugaredd, a'i frenhiniaeth, sydd wiw hyderu arno.

Heb. Halle­lujah.MOlwch yr Arglwydd. Fy enaid mola di 'r Arglwydd.

2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i'm Duw tra fyddwyf.

Psal. [...]18.8, 9.3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iechydwriaeth ynddo.

4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel iw ddaiar: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.

5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymmorth iddo: sydd a'i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw.

6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar, y môr a'r hyn oll sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd.

7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i'r rhai gorthrymmedic, yn rhoddi bara i'r newynoc; yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd.

8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion; yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd; yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.

9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid, efe a gynnal yr ymddifad a'r weddw: ac a ddad­ymchwel ffordd y rhai annuwiol.

10Exod. 15.18. Yr Arglwydd a deyrnasa byth: sef dy Dduw di Sion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.

PSAL. CXLVII. Prydnhawnol weddi.

1 Y Prophwyd yn annog i foliannu Duw, am ei ofal tros ei Eglwys; 4 am ei allu, 6 a'i druga­redd, 7 a'i ragluniaeth, 12 a'i fendithion ar y deyrnas, 15 a'i allu ar y rhew, a'r eira, a phob tywydd arall; 19 a'i ddeddfau yn yr Eglywys.

MOlwch yr Arglwydd, canys da yw canu i'n Duw ni: o herwydd hyf­ryd yw, ie gweddus yw mawl.

2 Yr Arglwydd sydd yn adeiladu Jerusalem, efe a gascl wascaredigion Israel.

3 Efe sydd yn iachau y rhai briwedic o galon; ac yn rhwymo eu doluriau.

4 Y mae efe yn rhifo rhifedi y ser; geilw hwynt oll wrth eu henwau.

5 Mawr yw ein Harglwydd, a mawr ei nerth, anneirif yw ei ddeall.

6 Yr Arglwydd sydd yn derchafu y rhai llar­iaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.

7 Cyd-genwch i'r Arglwydd mewn diolch­garwch: cenwch i'n Duw â'r delyn.

8 Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chwmy­lau: yn paratoi glaw i'r ddaiar: gan beri i'r gwellt dyfu ar y mynyddoedd.

9Job 28.41. Psal 104 27, 28. Efe sydd yn rhoddi i'r anifail ei borth­iant: ac i gywion y gig-fran, pan lefant.

10 Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esceiriau gŵr.

11 Yr Arglwydd sydd hoff ganddo y rhai a'i hofnant ef: sef y rhai a ddisgwiliant wrth ei drugaredd ef.

12 Jerusalem mola di 'r Arglwydd, Sion molianna dy Dduw.

13 O herwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth, efe a fendithiodd dy blant o'th fewn.

14 Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro ynHeb. heddwch. he­ddychol, ac a'th ddiwalla di â braster gwenith.

15 Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaiar: a'i air a rêd yn dra buan.

16 Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân; ac a dana rew fel lludw.

17 Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tammei­diau, pwy a erys gan ei oerni ef?

18 Efe a enfyn ei air, ac a'i tawdd hwynt: â'i wynt y chwyth efe, a'r dyfroedd a lifant.

19 Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob: ei ddeddfau a'i farnedigaethau i Israel.

20 Ni wnaeth efe felly ag vn genedl: ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr Arglwydd.

PSAL. CXLVIII.

1 Y Psalmudd yn annog y creaduriaid nefol, 7 a daiarol, 11 a rhesymmol, i foliannu Duw.

Heb. Hall [...] ­luiah. MOlwch yr Arglwydd. Molwch yr Arg­lwydd o'r nefoedd: molwch ef yn yr vchelderau.

2 Molwch ef ei holl angelion: molwch ef ei holl luoedd.

3 Molwch ef haul a lleuad: molwch ef yr holl sêr goleuni.

4 Molwch ef nef y nefoedd: a'r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.

5 Molant enw 'r Arglwydd: o herwydd efe a orchymynnodd, a hwy a grewyd.

6 A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragy­wydd: gosododd ddeddf, ac nis trosseddir hi.

7 Molwch yr Arglwydd o'r ddaiar, y dreigiau a'r holl ddyfnderau.

8 Tân a chenllysc, eira, a tharth: gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef.

9 Y mynyddoedd a'r bryniau oll, y coed ffrwythlawn a'r holl gedr-wŷdd.

10 Y bwyst-filod, a phob anifail: yr ymlusciaid, ac adar ascelloc.

11 Brenhinoedd y ddaiar a'r holl bobloedd: tywysogion a holl farnwŷr y byd.

12 Gwŷr ieuaingc a gweryfon hefyd: henaf-gwŷr a llangciau.

13 Molant enw 'r Arglwydd: o herwydd ei enw ef yn vnic sydd dderchafadwy: ei ardder­chawgrwydd ef sydd vwch law daiar a nefoedd.

14 Ac efe sydd yn derchafu corn ei bobl, moliant ei holl sainct, sef meibion Israel, pobl agos atto. Molwch yr Arglwydd.

PSAL. CXLIX.

1 Y Prophwyd yn annog i foliannu Duw, am ei gariad tuag at yr Eglwys, 5 ac am y gallu a roddes ef i'r Eglwys, i lywodraethu cydwybo­dau dynion.

Heb. Halle­lujah. MOlwch yr Arglwydd. Cenwch i'r Arg­lwydd ganiad newydd: a'i foliant ef ynghynnulleidfa y sainct.

2 Llawenhaed Israel yn yr hwn a'i gwnaeth: gorfoledded meibion Sion yn eu brenin.

3 Molant ei enw ef ar yNeu, bibell, dawns: canant iddo ar dympan, a thelyn.

4 O herwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais ag iechydwriaeth.

5 Gorfoledded y sainct mewn gogoniant; a chânant ar eu gwelau.

6 Bydded ardderchog foliant Duw yn euHeb. ceg. genau: a chleddyf dau-finioc yn eu dwylo,

7 I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd:

8 I rwymo eu brehinoedd â chadwynau; a'i pendefigion â gefynnau heirn:

9Deut. 7.1.2. I wneuthur arnynt y farn scrifennedic: yr ardderchawgrwydd hyn sydd iw holl sainct ef. Molwch yr Arglwydd.

PSAL. CL.

1 Y mae yn annog i foliannu Duw, 3 â phob math ar offer cerdd.

Heb. Halle­luiah. MOlwch yr Arglwydd, Molwch Dduw yn eigyssegr. sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth.

2 Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd.

3 Molwch ef â llais vdcorn: molwch ef â nabl, ac â thelyn.

4 Molwch ef â thympan, ac âNeu, phibell. dawns: molwch ef â thannau, ac ag organ.

5 Molwch ef â symbalau soniarus: molwch ef â symbalau llafar.

6 Pob perchen anadl molianned yr Arg­lwydd. Molwch yr Arglwydd.

¶DIHAREBION SALOMON.

PEN. I.

1 Arfer y diharebion. 7 Cyngor i ofni Duw, ac i gredu ei air; 10 i ochel hud pechaduriaid. 20 Doethineb yn cwyno fod yn ei diystyru hi, 24 ac yn bygwth y rhai a'i diystyrent.

DIharebion Salomon fab Dafydd bre­nin Israel.

2 I wybod doethineb ac addysc; i ddeall geiriau synnwyr;

3 I gymmeryd athrawiaeth deall, cyfiawn­der, a barn, ac vniondeb;

4 I roi callineb i'r anghall, ac i'r bachgen wŷbodaeth, a synwyr.

5 Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysc, a'r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog:

6 I ddeall dihareb a'i deongl; geiriau 'r doethion, a'i dammegion.

7Job 28.28. Psal. 111.10. Dihar. 9.10. Ofn yr Arglwydd ywNeu, rhan ben­naf. dechreuad gwy­bodaeth: ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb, ac addysc.

8 Fy mab gwrando addysc dy dâd, ac nac ymado â chyfraith dy fam.

9 Canyschwane­giad. cynnydd grâs a fyddant hwy i'th ben, a chadwyni am dy wddf di.

10 Fy mab, os pechaduriaid a'th ddenant, na chydtuna.

11 Os dywedant, tyred gyd â ni, cyn­llwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos:

12 Llyngcwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn descyn i'r pydew:

13 Nyni a gawn bôb cyfoeth gwerth-fawr, nyni a lanwn ein tai ag yspail:

14 Bwrw dy goel-bren yn ein mysc, bydded vn pwrs i ni i gyd:

15 Fy mab, na rodia yn y ffordd gyd â hwynt, attal dy droed rhag eu llwybr hwy.

16Esa. 59.7. Rhuf. 3 15. Canys eu traed a relant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed.

17 Diau gwaith ofer yw tinu rhwyd, yng­olwg pôb perchen aden:

18 Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed ei hun: am eu henioes ei hun y maent yn llechu.

19 Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw: yr hwn â ddwg enioes ei berchennogion.

20H [...]b. Doethi­nebau: sef, Go­didog daoethi­ne [...]. Doethineb sydd yn gweiddi oddi all­an;Dih. 8.1. y mae hi yn adrodd ei lle erydd yn yr heolydd.

21 Y mae hi yn llefain ym-mhrif-leoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth, yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion, gan ddywedyd,

22 Pa hŷd, chwi vnfydion, y cerwch ynfy­drwydd? a chwi watwarwŷr, y bydd hoff gen­nych watwar, ac y casâ ffyliaid ŵybodaeth?

23 Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele mi a dywalltaf fy yspryd i chwi, fy ngeiriau a yspysaf i chwi.

24Esa. 65.12. & 66.4. Jer. 7.13. Ezek. 8.18. Yn gymmeint ac i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod, i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried:

25 Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o'm cerydd:

26 Minneu hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio ar­noch yr hyn yr ydych yn ei ofni.

27 Pan ddêl arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni, megis destryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis cor-wynt, a dyfod arnoch [...]ascfa, a chaledi:

28Job 27.9. Esa. 1.15. Jer. 11.11. & 1 [...] 12. Mic. 3.4. Yna y galwant arnaf, ond ni wran­dawaf; yn foreu i'm ceisiant, ond ni'm cânt.

29 Canvs câs fu ganddynt ŵybodaeth, ac ofn yr Arglwydd ni ddewisasant.

30 Ni chvmmerent ddim o'm cyngor i; dirmygasant fy holl gerydd.

31 Am hynny hwy a gânt fwytta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a'i llenwi â'i cynghorion eu hunain.

32 Canys esmwythdra y rhai anghall a'i lladd: a llwyddiant y rhai ffôl a'i difetha.

33 Er hynny y sawl a wrandawo arnafi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.

PEN. II.

1 Doethineb yn addaw duwioldeb iw phlant, 10 a diogelwch rhag cyfeillach ddrwg, 20 a chyfarwyddyd mewn ffyrdd da.

FY mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchymynion gyd â thi:

2 Fel y parech i'th glûst wrando ar ddoethi­neb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall:

3 Iê os gwaeddi ar ôl gŵybodaeth, osHeb. rhoddi. cyfodi dŷ lef am ddeall:

4Matth. 13.44. Os ceisi hi, fel arian; os chwili am dani, fel am dryssorau cuddiedig:

5 Yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd, ac y cei ŵybodaeth o Dduw.

61 Bren. 3.9. Jac. 1.5. Canys yr Argwydd sydd yn rhoi doethineb, allan o'i enau ef y mae gŵybodaeth a deall yn dyfod.

7 Y mae ganddo ynghadw i'r rhai vniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i'r sawl a rodi­ant yn vniawn.

8 Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei sainct.

9 Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac vniondeb, a phob llwybr daionus.

10 Pan ddelo doethineb i mewn i'th ga­lon, [Page] a phan fyddo hyfryd gan dy enaid ŵybo­daeth;

11 Yna cyngor a'th gynnal, a synwyr a'th geidw:

12 I'th achub di oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dŷn a lefaro drawsedd:

13 Y rhai a ymadawant â llwybrau vn­iawndeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch:

14 Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus:

15 Y rhai sydd a'i ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau:

16 I'th wared oddi wrth y fenyw estron­aidd, oddi wrth yDih. 5.3. & 7.5. ddieithr wenieithus ei geirian:

17 Yr hon a ymedy â llywodraeth-wr ei hieuengctid, ac a ollwng dros gôf gyfammod ei Duw.

18 Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angeu, a'i llwybrau at y meirw.

19 Pwy bynnac a elo i mewn atti hi ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd.

20 Fel y rhodiech di rhyd ffordd gwŷr-da, a chadw llwybrau y cyfiawn.

21Ps. 37.29. Canys y gwŷr cyfiawn a bresswyliant y ddaiar, a'r rhai perffaith a gânt aros ynddi.

22Job 18.17. Psal. 104.35. Ond yr annuwolion a dorrir oddi ar y ddaiar, a'r trossedd-wŷr a ddiwreiddir allan o honi.

PEN. III.

1 Y ma [...] 'n annog i vfydd-dod, y a ffydd,7 a marwhâd, 9 a dwyfolder, 11 ac ymmynedd. 13 Dedwydd elw Doethineb. 19 Gallu, 21 a chymmwynasau Doethineb. 27 Cyngor i fod yn gariadus, 30 yn heddychol, 31 ac yn fod­longar. 33 Cyflwr melldigedic yr enwir.

FY mab, na ollwng fy nghyfraith tros gôf, ondDeut. 8.1. & 30.16. cadwed dy galon fy ngorchymynion.

2 Canys hîr-ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti.

3 Na âd i drugaredd a gwitionedd ymadel â thi:Exod. 13.0. Deut. 6.8. cylymma hwy am dy wddf, scrifenna hwy ar lech dy galon.

4Psal. 111.10. Felly y cei di râs, allwy­ddiant. deall da, ger bron Duw, a dynion.

5 Gobeithia yn yr Arglwydd â'th holl galon, ac nac ymddiried i'th ddcall dy hun.

61 Cron. 28.9. Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyffordda dy lwybrau.

7Rhuf. 12.16. Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun; ofna yr Arglwydd, a thynn ymmaith oddi wrth ddrygioni.

8 Hynny a fyddHeb. meddygi­niaeth. iechyd i'th fogel, aHeb. lleithdra. mêr i'th escyrn.

9Exod. 23.19. & 34.26. Deut. 26.2. Mal. 3.10. Luc. 14.13. Anrhydedda yr Arglwydd â'th gyfoeth, ac â'r peth pennaf o'th holl ffrwyth:

10Deut. 28.8. Felly y llenwir dy yscuboriau â digo­noldeb, a'th win-wryfoedd a dorrant gan wîn newydd.

11Joh. 5.17. Heb. 12.5. Datc. 3.19. Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Ar­glwydd, ac na flina ar ei gospedigaeth ef.

12 Canys y neb a fyddo Duw yn ei garu, efe a'i cerydda, megis tâd ei fab anwyl ganddo.

13 Gwyn ei fyd y dŷn a gaffo ddoethineb, a'r dŷn a ddygo ddeall allan.

14Job 28.15. Ps. 19.10. Dihar. 8.11.19. & 16.16. Canys gwell yw ei marsiandiaeth hi, nâ marsiandiaeth o arian, a'i chynnyrch ni sydd well nag aur coeth.

15 Gwerthfawroccach yw hi nâ gem­mau, a'r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi.

16 Hir-hoedi sydd yn ei llaw ddehau hi; ac yn ei llaw asswy y mae cyfoeth a gogoniant.

17 Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a'i holl lwybrau hi ydynt heddwch.

18 Pren bywyd yw hi i'r neb a ymaflo ynddi: gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi.

19 Yr Arglwydd, trwy ddoethineb, a seili­odd y ddaiar; trwy ddeall yNeu, darpa­rodd. siccrhaodd efe y nefoedd.

20 Drwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.

21 Fy mab, na ollwng hwynt allan o'th olwg, cadw ddoethineb, a phwyll.

22 Yna y byddant yn fywyd i'th enaid, ac yn râs i'th wddf.

23Ps. 37, 24. & 91.11, 1 [...]. Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a'th droed ni thramgwydda.

24 Pan orweddych, nid ofni, ti a orweddi, a'th gwsc fydd melys.

25 Nac ofna rhag braw disymmwth, na rhag dinistr yr annuwiol, pan ddelo.

26 Canys yr Arglwydd a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.

27 Na attal ddaioni oddi wrthHeb. ei berchen­nogion. y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur.

28 Na ddywed wrth dy gymmydog, cerdda ymmaith, a thyred amser arall; ac y foru mi a roddaf, a chennyt beth yn awr.

29 Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymmy­dog, ac yntef yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.

30 Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.

31Psal. 37.1. Na chenfigenna wrth ŵrHeb. trais. traws, ac na ddewis yr vn o'i ffyrdd ef.

32 Canys ffiaidd gan yr Arglwydd y cyn­dyn,Psal. 25.14. ond gyd â'r rhai vniawn y mae ei gyfrinach ef.

33Mal. 2.2. Melldith yr Arglwydd sydd yn nhŷ 'r annuwiol, ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.

34Jac. 4.6. 1 Pet. 5.5. Diau efe a watwar y gwatwarus, ond ei râs a rydd efe i'r gostyngedig.

35 Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarthHeb. a dderchaf [...]. fydd derchafiad ffyliaid.

PEN. IV.

1 Salomon, er mwyn dyscu vfydd-dod i eraill, 3 yn dangos pa athrawiaeth a gafodd ef gan ei rieni, 5 i geisio Doethineb, 14 ac i ochel llwybrau 'r annuwiol. 20 Y mae yn annog i ffydd, 23 ac i sancteiddrwydd.

GWrandewch blant addysc tâd, ac erglywch i ddyscu deall.

2 Canys yr ydwyfi yn rhoddi i chwi addysc dda, na wrthodwch fy nghyfraith.

3 Canys yr oeddwn yn fab im tâd, yn1 Cron. 29.1. dyner, ac yn anwylNeu, ym mysc meibion. yngolwg fy mam.

41 Cron. 28.9. Efe a'm dyscei, ac a ddywedei wrthif, dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchy­mynion, a bydd fyw.

5 Cais ddoethineb, cais ddeall; na âd dros gôf, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau.

6 Nâc ymâd â hi, a hi a'th geidw; câr hi, a hi a'th wared di.

7 Pennaf peth yw doethineb, cais ddoethineb; ac a'th holl gyfoeth, cais ddeall.

8 Derchafa di hi, a hithau a'th dderchafa di; hi a'th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi.

9Pen. 1.9. Hi a rydd ychwaneg o râs i'th ben di; ie hiNeu, a'th am­gylcha a choron gogoni­ant. a rydd i ti goron gogoniant.

10 Gwrando fy mab, a derbyn fy ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir.

11 Yr ydwyf yn dy ddyscu yn ffordd doethi­neb, ac yn dy dywys yn llwybrau vniondeb.

12 Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd cy­fyng; aPsal. 91.11. phan redech ni thramgwyddi.

13 Ymafel mewn addysc, ac na ollwng hi: cadw hi, canys dy fywyd di yw hi.

14Pen. 1.10. Psal. 1.1. Na ddôs i lwybr yr annuwolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus.

15 Gochel hi, na ddôs ar hyd-ddi; cilia oddi wrthi hi, a dôs heibio.

16 Canys ni chyscant, nes gwneuthur drwg; a'i cwsc a gollant, nes iddynt g [...]ympo rhyw ddyn.

17 Canys y maent yn bwytta bara annuw­ioldeb, ac yn yfed gwin trais.

18 Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwy-fwy hyd ganol dydd.

19 Eithr ffordd y drygionus sydd fel y ty­wyllwch; ni ŵyddant wrth ba beth y tram­gwyddant.

20 Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau; go­gŵydda dy glust at fy ymadroddion.

21 Na âd iddynt fyned ymmaith o'th olwg; cadw hwynt ynghanol dy galon.

22 Canys bywyd ydynt i'r neb a'i caffont, acHeb. meddigi­niaeth. iechyd iw holl gnawd.

23 Cadw dy galon yn dra diesceulus; canys allan o honi y mae bywyd yn dyfod.

24 Bwrw oddi wrthitHeb. taiog­rwydd ge­nau. enau tauogaidd: a gwefusau trofaus ym mhell oddi wrthit.

25 Edryched dy lygaid yn vniawn; ac edryched dy amrantau yn vnion o'th flaen.

26 Ystyria lwybr dy draed: aNeu, threfnir threfner dy holl ffyrdd yn vniawn.

27Deut. 5.32. Na thro ar y llaw ddehau, nac ar y llaw asswy; symmud dy droed oddi wrth ddrygioni.

PEN. V.

1 Salomon yn annog i geisio doethineb, 3 yn dangos scelerder putteindra ac anllywodraeth: 15 Yn annog i fodlonrwydd, haelioni, a diweir­deb. 22 Bod eu pechodau eu hun yn goddiwes yr annuwiol.

FY mab, gwrando ar fy noethineb, a gostwng dy glust at fy neall:

2 Fel y gellych ystyried pwyll, a'th wefu­sau gadw gŵybodaeth.

3Pen. 2.16. & 6.24. Canys gwefusau y ddieithr a ddiferant fel y dil mêl,Heb. a thaflod ei genau. a'i genau sydd lyfnach nag olew.

4 Ond ei diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod, yn llym fel cleddyf dau-finiog.

5Pen. 7.27. Ei thraed hi a ddescynnant i angeu, a'i cherddediad a sang vffern.

6 Rhag i ti ystyrio ffordd bywyd, y symmud ei chamrau hi, heb ŵybod i ti.

7 Yr awr hon gan hynny, ô blant gwran­dewch arnaf fi, ac nac ymadewch â geiriau fy ngenau.

8 Cadw dy ffordd ym mhell oddi wrthi hi, ac na nessa at ddrws ei thŷ hi,

9 Rhag i ti roddi dy harddwch i eraill, a'th flynyddoedd i'r creulon:

10 Rhag llenwi 'r estronâ'thHeb. nerth. gyfoeth di, ac i'th lafur fod yn nhŷ y dieithr,

11 Ac o'r diwedd i ti ochain, wedi i'th gnawd a'th gorph gurio,

12 A dywedyd, pa fodd y caseais i addysc? pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd?

13 Ac na wrandewais ar lais fy athrawon, ac na ostyngais fy nghlust i'm dyscawdwŷr?

14 Bûm o fewn ychydig at bôb drwg, yn­ghanol y gynnulleidfa, a'r dyrfa.

15 Yf ddwfr o'th bydew dy hun, a ffrydiau allan o'th ffynnon dy hun.

16 Tardded dy ffynhonnau allan, a'th ffry­diau dwfr yn yr heolydd.

17 Byddant yn eiddo ti dy hun yn vnic, ac nid yn eiddo dieithriaid gyd â thi.

18 Bydded dy ffynnon yn fendigedic; ac ymlawenhâ gyd â gwraig dy ieuengctid.

19 Bydded fel ewig gariadus, ac fel iwrch hawddgar: gâd iw bronnau hi dyHeb. ddyfrhan. lenwi bob amser,Heb. a chyfei­liorna. ac ymfodlona yn ei chariad hi yn oestadol.

20 A pha ham fy mab yr ymddigrifi yn y wraig ddieithr, ac y cofleidi fonwes yr hon nid yw eiddo ti?

21Job 31.4. & 34.21. Pen. 15.3. Jer. 16.17. & 32.19. Canys ffyrdd dŷn fydd yngolwg yr Arglwydd, ac y mae efe yn dal ar ei holl lwy­brau ef.

22 Ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a ddelir â rhaffau ei bechod ei hun.

23 Efe fydd farw o eisieu addysc, a rhag maint ei ffolineb yr â ar gyfeiliorn.

PEN. VI.

1 Yn erbyn mechniaeth, 6 a seguryd, 12 ac ys­celerder. 16 Saith beth câs gan Dduw. 20 Ben­dithion vfydd-dod. 25 Drygioni putteindra.

FY mab, os machniaist dros dy gymmydog, ac os tarewaist dy law yn llaw y dieithr,

2 Ti'a faglwyd â geiriau dy enau, ti a dda­liwyd â geiriau dy enau.

3 Gwna hyn yr awr hon fy mab, a gwared dy hun, gan i ti syrthio i law dy gymmydog; cerdda, ac ymostwng iddo, ac ymbil â'th gym­mydog.

4 Na ddyro gwsc i'th lygaid, na hûn i'th amrantau.

5 Gwaret dy hun, fel yr iwrch o law yr heliwr, ac fel aderyn o law yr adar-wr.

6 Cerdda at y morgrugyn tydi ddiogyn, edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth.

7 Nid oes ganddo neb iw arwain, iw lywo­draethu, nac iw feistroli,

8 Ac er hynny y mae efe yn paratoi ei fwyd yr hâf, ac yn casclu ei lyniaeth y cynhayaf.

9Pen. 13.4. & 20.4. & 24.33. Pa hŷd, ddiogyn, y gorweddi? pa bryd y cyfodi o'th gwsc?

10 Etto ychydig cyscu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylaw i gyscu.

11 Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithudd, a'th angen fel gŵr arfog.

12 Dŷn i'r fail, a gŵr anwir, a rodia â ge­nau cyndyn.

13 Efe a amneidia â'i lygaid, efe a lefara â'i draed, efe a ddysc â'i fysedd.

14 Y mae pob rhyw gyndynrwydd yn ei galon, y mae yn dychymmyg drygioni bob amser, yn peri cynhennau.

15 Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth: yn ddisymmwth y dryllir ef, fel na byddo meddyginiaeth.

16 Y chwe pheth hyn sydd gâs gan yr Arg­lwydd: ie saith beth syddHeb. ffieidd-dra gan ei enaid ef. ffiaidd ganddo ef:

17 Llygaid beilchion, tafod celwyddog; a'r dwylo a dywalltant waed gwirion:

18 Y galon a ddychymmygo feddyliau drwg,Rhuf. 3.15. traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni:

19 Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd, a'r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr.

20Pen. 1.8. Fy mab, cadw orchymyn dy dâd, ac nag ymado â chyfraith dy fam.

21 Rhwym hwynt ar dy galon yn oestadol: [Page] cwlwm hwynt am dy wddf.

22 Pan rodiech, hi a'th gyfarwvdda; pan orweddych hi a'th wilia; pan ddeffroych hi a gŷdymddiddan â thi.

23Ps. 19.8. & 119.105. CanysNeu, lamp. canwyll yw 'r gorchymyn, a goleuni yw 'r gyfraith, a ffordd i fywyd yw ce­ryddon addysc:

24Pen. 2.16. & 5.3. & 7.5. I'th gadw rhag y fenyw ddrwg, a rhag gweniaith tafodNeu, dieithr. y ddieithr.

25Matth. 5.28. Na chwennych ei phrŷd hi yn dy ga­lon, ac na âd iddi dy ddal a'i hamrantau.

26 O blegid y fenyw buteinig y daw dyn i dammaid o fara, a gwraig gŵr arall a hela yr enaid gwerth-fawr.

27 A ddichon gŵr ddwyn tân yn ei fyn­wes, heb losci ei ddillad?

28 A ddichon gŵr rodio ar hyd marwor, ac heb losci ei draed?

29 Felly, pwy bynnac a êl at wraig ei gym­mydog; y neb a gyffyrddo â hi, ni bŷdd glân.

30 Ni ddirmyga neb leidr a ledrattao i ddi­wallu ei enaid, pan fyddo arno newyn.

31 Ond os delir ef, efe a dâi yn saith ddy­blyg, efe a rydd cymaint oll ag a feddo yn ei dŷ.

32 Ond y neb a wnêl odineb â benyw, sydd hebHeb. galon. synwyr; y neb a'i gwnêl a ddifetha ei enaid ei hun.

33 Archoll a gwarth a gaiff efe, a'i gywilydd ni ddeleir.

34 Canys cynddaredd yw eiddigedd gwr, am hynny, nid erbyd efe yn nydd dial.

35 NiHeb. ni dder­byn wy­neb dim iawn. bydd ganddo bris ar ddim iawn, ac ni fodlonir ef, er rhoi rhoddion lawer.

PEN. VII.

1 Salomon yn cynghori bod mewn pur a chariadus gyfeillach â doethineb: 6 Wrth a welsai ef ei hun, yn dangos 10 cyfrwysdra puttain, 22 ac enbyd wiriondeb yr ieuangc nwyfus: 24 Yn cynghori gochelyd y cyfryw annuwioldeb.

FY mab, cadw fy ngeiriau, a chuddia fy ngorchymynion gyd â thi.

2 Cadw fy ngorchymynion, a bydd fyw; a'm cyfraith, fel canwyll dy lygad.

3Deut. 6.8 & 11.18. pen. 3.3. Rhwym hwynt am dy fysedd, scrifenna hwynt ar lech dy galon.

4 Dywed wrth ddocthineb, fy chwaer wyt ti, a galw ddeall yn gares;

5Pen. 5.3. Fel i'th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y fenyw â'r ymadrodd gwenieithus.

6 Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ, mi a edry­chais drwy fy nellt,

7 Ac mi a welais ym mysc y ffyliaid, ie mi a ganfûm ym mhlithHeb. y meibion. yr ieuengctid, ddŷn ieuangc heb ddeall ganddo,

8 Yn myned ar hyd yr heol, ger-llaw ei chongl hi, ac efe a ai ar hŷd y ffordd iw thŷ hi:

9 YnHeb. hwyr y dydd. y cyfnos, gyd â'r hŵyr, pan oedd hi yn nôs du, ac yn dywyll:

10 Ac wele fenyw yn cyfarfod ag ef, a chanthi ymddygiad puttain, ac â chalon ddi­chellgar.

11Pen. 9.13. (Siaradus ac anufydd yw hi, ei thraed nid arhôant yn ei thŷ.

12 VVeithieu yn y drws, weithieu yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.)

13 Hi a ymafaelodd ynddo, ac a'i cussanodd, acHeb. hi a ga­darnha­odd [...]i hwyneb ac &c. ag wyneb digywilydd, hi a ddywedodd wrtho:

14 Yr oedd arnafi aberthau hedd, heddyw y cywirais fy adduned:

15 Ac hynny y daethum allan i gyfarfod â thi, i chwilio am dy wyneb, a chefais afael arnat.

16 Mi a drwsiais fy ngwely â llenni, ac â cherfiadau, a llieiniau yr Aipht.

17 Mi a fwgderthais fy ngwely â myrrh, aloes, a Synamon.

18 Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y boreu, ymhyfrydwn â chariad.

19 Canys nid yw y gwr gartref, efe aeth i ffordd bell.

20 Efe a gymmerth godeid o arian yn ei law, efe a ddaw adref ar yNeu, lloer ne­wydd. dydd ammodol.

21 Hi a'i troes ef â'i haml eiriau têg, ac â gweniaith ei gwefusau hi a'i cymhellodd ef.

22 Efe a'i canlynodd hi arHeb. yn ddi­symmwth. frys, fel yr ŷch yn myned i'r lladdfa, neu fel ynfyd yn myned i'r cyffion iw gospi:

23 Hŷd oni ddryllio y saeth ei afu ef, fel yr aderyn yn pryssuro i'r fagl, heb ŵybod ei bod yn erbyn ei enioes ef.

24 Yn awr, gan hynny, fy meibion, gwran­dewch arnaf [...], ac ystyriwch eiriau fy ngenau.

25 Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi, na chyfelliorna ar hyd ei llwybrau hi.

26 Canys llawer a gwympodd hi yn archo­lledic, gwŷr grymmus lawer â laddodd hi.

27 FforddPen. 2.18. & 5.5. i vffern yw ei thŷ hi, yn descyn i stafelloedd angeu.

PEN. VIII.

1 Enwocced, 6 ac eglured yw Doethineb. 10 Go­didawgrwydd, 12 naturiaeth, 15 gallu, 18 cyfoeth, 22 a thragywyddoldeb Doethineb. 32 Bod Doethineb yn ddymunol, o achos y ded­wyddwch y mae yn ei ddwyn.

Pen. 1.20.ONd yw doethineb yn gweiddi, a deall yn llefain?

2 Ym mhen lleoedd vchel, ger llaw 'r ffordd, lle mae llwybrau lawer, y mae hi yn sefyll.

3 Ger llaw y pyrth ym-mhen y drêf, yn ymyl y drysau y mae hi yn llefain,

4 Arnoch chwi wŷr, yr wyfi yn galw, ac at feibion dynion y mae fy llais.

5 Ha ynfydion, deellwch gyfrwysder; a chwi wŷr angall byddwch o galon ddeallus.

6 Gwrandewch, canys myfi a draethaf i chwi bethau ardderchog, ac a agoraf fy ngwe­fusau ar bethau vnion.

7 Canys, fy ngenau a draetha wirionedd;Heb. ffieidd­dra fy ngwefu­sau yw drygioni. ffiaidd gan fy ngwefusau ddrygioni.

8 Holl eiriau fy ngenau ydynt gyfiawn, nid oes ynddynt na gŵyrni, na thrawsedd.

9 Y maent hwy oll yn amlwg i'r neb a ddeallo, ac yn vniawn i'r rhai a gafodd ŵy­bodaeth.

10 Derbyniwch fy addysc, ac nid arian; a gŵybodaeth o flaen aur etholedig.

11Job. 28.15. psal. 19.10. pen. 3.15. & 16.16. Canys gwell yw doethineb nâ gemmau, nid oes dim dymunol cyffelyb iddi.

12 Myfi doethineb wyf yn trigo gydâ challi­neb: yr ydwyf yn cael allan ŵybodaeth cyngor.

13 Ofn yr Arglwydd yw casâu drygioni: balchder, ac vchder, a ffordd ddrygionus, a'r genau traws, sydd gâs gennifi.

14 Mi piau cyngor, a gwir ddoethineb, deall ydwyfi, mi piau nerth.

15 Drwosi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna y pennaethiaid gysiawnder.

16 Drwofi y rheola tywysogion, a phende­figion, sef holl farn-wŷr y ddaiar.

17 Y sawl a'm carant i, a garaf inneu, a'r sawl a'm ceisiant yn foreu, a'm cânt.

18Pen. 3.16. Gydâ myfi y mae cyfoeth, ac anrhy­dedd, golud parhaus, a chyfiawnder.

19Pen. 3.14. Gwell yw fy ffrwyth i nag aur, ie nag aur coeth: a'm cynnyrch sydd well nâ'r arian detholedig.

20 Ar hyd ffordd cyfiawnderNeu, y rhodiaf. yr arweini­af, ar hŷd canol llwybrau barn:

21 I beri i'r rhai a'm carant etifeddu syl­wedd: ac mi a lanwaf eu tryssorau.

22 Yr Arglwydd a'm meddiannodd i yn nechreuad ei ffordd, cyn ei weithredoedd erioed.

23 Er tragywyddoldeb i'm heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bôd y ddaiar.

24 Prŷd nad oedd dyfnder i'm cenhedlwyd, cyn bôd ffynhonnau yn llawn o ddyfroedd.

25 Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau, i'm cenhedlwyd.

26 Cyn gwneuthur o honaw ef y ddaiar, na'r meusydd,Heb. na phen. nac vchder llwch y bŷd.

27 Pan baratôdd efe y nefoedd, yr oeddwn i yno: pan osododd efe gylch ar wyneb y dyfnder:

28 Pan gadarnhaodd efe y cwmylau vwch ben, a phan nerthodd efe ffynhonnau y dyfnder:

29Gene. 1.10. Job. 38.10. Psal. 104.9. Pan roddes efe ei ddeddf i'r môr, ac i'r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn ef, pan osododd efe sylfeini y ddaiar:

30 Yna yr oeddwn i gyd ag ef, megis vn wedi ei feithrin gyd ag ef: ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser:

31 Ac yn llawenychu yngyfannedd-le ei ddaiar ef, a'm hyfrydwch oedd gydâ meibion dynion.

32 Yr awron gan hynny, o feibion, gwran­dewch arnaf, canysPsal. 119.1. & 128.1.2. Luc. 11.28. gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i.

33 Gwrandewch addvsc, a byddwch ddoe­thion, nac ymwrthodwch â hi.

34 Gwyn ei fŷd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wilio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth bŷst fy mhyrth i.

35 Canys y neb a'm caffo i, a gaiff fywyd, ac aHeb. dyn allan. feddianna ewyllys da gan yr Arglwydd.

36 Ond y neb a becho yn fy erbyn a wna gam â'i enaid ei hun: fy holl gaseion a garant angeu.

PEN. IX.

1 Addysc, 4 ac athrawiaeth Doethineb. 13 Ar­fer, 16 ac amryfusedd ynfydrwydd.

DOethineb a adeiladodd ei thŷ, hi a na­ddodd ei saith golofn.

2 Hi a laddodd eiHeb. lladdfa. hanifeiliaid, hi a gy­myscodd ei gwîn, ac a huliodd ei bwrdd.

3 Hi a yrrodd ei llawforwynion: y mae yn llefain oddi ar fannau vchel y ddinas:

4 Pwy bynac sydd annichellgar, troed i mewn ymma, ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd,

5 Deuwch, a bwytewch o'm bara, ac yfwch o'r gwin a gymmyscais.

6 Ymadewch â'r rhai ffol, a byddwch fyw, a cherddwch yn ffordd deall.

7 Yr hwn a geryddo watwar-wr a gaiff wradwydd iddo ei hun: a'r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf.

8Matth. 7.6. Na cherydda watwar-wr, rhag iddo dy gasau: cerydda y doeth, ac efe a'th gâr di.

9 Dyro addysg i'r doeth, ac efe fydd doe­thach; dysc y cyfiawn, ac efe a chwanega ei ddysceidiaeth.

10Job. 28.28. Psal. 111.10. Pen. 1.7. Dechreuad doethineb yw ofn yr Arg­lwydd; a gŵybodaeth y sanctaidd yw deall.

11Pen. 10.27. Canys drwofi yr amlheir dy ddyddiau, ac y chwanegir blynyddoedd dy enioes.

12 Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun; ond os gwatwar-wr fyddi, tydi dy hun a'i dygl.

13Pen. 7.11. Gwraig ffôl a fydd siaradus; anghall yw, ac ni ŵyr ddim:

14 Canys hi a eistedd ar ddrws ei thŷ, ar faingc, yn y lleoedd vchel yn y ddinas,

15 I alw ar y neb a fyddo yn myned heibio, y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn vniawn:

16 Pwy bynac sydd ehud, troed ymma; a phwy bynac sydd ddisynwyr: a hi a ddywed wrtho,

17 Dyfroedd lledrad sydd felus, a bara cudd sydd beraidd.

18 Ond ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno, a bod ei gwahodd-wŷr hi yn nyfn­der vffern.

PEN. X.

O'r pennod yma hyd y pummed ar hugain, y mae amryw addysc ynghylch rhinweddau da, a'i gwrthwyneb feiau.

DIharebion Salomon.Pen. 15.20. Mâb doeth a wna dâd llawen, a mâb ffôl a dristâ ei fam.

2Pen. 11.4. Ni thyccia tryssorau drygioni, ond cy­fiawnder a wared rhag angeu.

3Psal. 37.25. Ni edy yr Arglwydd i enaid y cyfiawn newynu: ond efe a chwâl ymmaithNeu, y drygio­nus am eu dry­gioni. gyfoeth y drygionus.

4Pen. 12.24. Y neb a weithio â llawddiog. dwyllodrus fydd tlawd: ond llaw y diwyd a gyfoethoga.

5 Mâb synhwyrol yw yr hwn a gascl amser hâf: ond mâb gwradwyddus yw yr hwn a gwsc amser cynhayaf.

6 Bendithion fydd ar ben y cyfiawn,Ver. 11. ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.

7Psal. 112. [...]. Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendige­dic; ond enw y drygionus a bydra.

8 Y galon ddoeth a dderbyn orchymynion; ond y ffôl ei wefusau aNeu, gurir. gwymp.

9Psal. 23.4. Y neb a rodio yn vnion, a rodia vn ddio­gel; ond y neb a gam-drŷ ei ffyrdd a fydd hynod.

10Pen. 6.13. Y neb a amneidio â'i lygaid, a bair flinder, a'r ffôl ei wefusau aNeu, a gurir. gwymp.

11Pen. 13.14. Ffynnon bywyd yw genau y cyfiawn; ond trawsedd a gae ar enau y drygionus.

12 Casineb a gyfyd gynhennau:1 Cor. 13.4. 1 Pet. 4.8. ond ca­riad a guddia bob camwedd.

13 Yngwefusau y synhwyrol y ceir doethineb; ond gwialen a weddei i gefnHeb. hwn sydd heb galon. yr angall.

14 Y doethion a storiant ŵybodaeth, ond dinistr sydd gyfagos i enau y ffol.

15 Cyfoeth y cyfoethog yw dinas ei gader­nid ef, ond dinistr y tlodion yw eu tlodi.

16 Gwaith y cyfiawn a dynn at fywyd, ond ffrwyth y drygionus tu ag at bechod.

17 Ar y ffordd i fywyd y mae 'r neb a gad­wo addysc, ond y neb a wrthodo gerydd sydd yn cyfeiliorni.

18 A guddio gâs â gwefusau celwyddog, a'r neb a ddywed enllib, sydd ffôl.

19 Yn amlder geiriau ni bydd pall ar be­chod, ond y neb a attalio ei wefusau sydd syn­hwyrol.

20 Tafod y cyfiawn sydd fel arian dethole­dig; calon y drigionus ni thâl ond ychydig.

21 Gwefusau y cyfiawn a borthant lawer; ond y ffyliaid, o ddiffycHeb. calon. synwyr, a fyddant feirw.

22 Bendith yr Arglwydd a gyfoethoga; ac ni ddwg flinder gyd â hi.

23Pen. 14.9. Hyfryd gan ffôl wneuthur drwg, a chan ŵr synhwyrol y mae doethîneb.

[...] peth a ofno y drygionus a ddaw iddo: [...] peth a ddeisyfio y rhai cyfiawn, Duw a'i [...]d.

25 Fel y mae 'r corwynt yn myned heibio, felly ni bydd y drygionus mwy: ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth.

26 M [...] [...]egr i'r dannedd, a mŵg i'r lly­gaid, felly y bydd y diog i'r neb a'i gyrrant.

27Pen. 9.11. Ofn yr Arglwydd aHeb. chawnega. estyn ddyddiau: ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir.

28 Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd; ondJob. 8.13. & 11.20. Psal. 112.10. gobaith y drygionus a dderfydd am dano.

29 Ffordd yr Arglwydd sydd gadernid i'r pe [...]: ond dinistr fydd i'r rhai a wnant an­wiredd.

30Psal. 125.1. & 37.22. Y cyfiawn nid yscog byth, ond y dry­gionus ni phresswyliant y ddaiar.

31 Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethi­neb, a'r tafod cyndyn a dorrir ymmaith.

32 Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sy gymmeradwy: ond genau 'r drygionus a lefa­ra drawsedd.

PEN. XI.

Levit. 19.36. Deut. 25.15. Pen. 16.11. & 20.10.23. CLoriannauHeb. twyll. anghywir sydd ffiaidd gan yr Arglwydd, ond carregHeb. berffaith. vnion sydd fod­lon ganddo ef.

2Pen. 16.18. & 15.33. & 18.12. Pan ddêl balchder, fe a ddaw gwarth: ond gyd â'r gostyngedig y mae doethineb.

3Pen. 13.6. Perffeithrwydd yr vniawn a'i tywys hwynt, ond trawsedd yr anffyddloniaid a'i di­fetha hwynt.

4 Ni thycciaPen. 10.2. Ezec. 7.19. Zeph. 1.18. cyfoeth yn nydd digofaint, ond cyfiawnder a wared rhag angeu.

5 Cyfiawnder y perffaithHeb. a vniaw­na ei ffordd ef. a'i hyffordda ef: ond o achos ei ddrygioni, y syrth y drygionus.

6Pen. 6.22. Cyfiawnder y cyfiawn a'i gwared hwynt; ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni.

7Doeth. 6.15. Pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef: a gobaith y traws a gyfrgollir.

8Pen. 21.18. Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a'r drygionus a ddaw yn ei lê ef.

9Job. 8.13. Rhagrithiwr â'i enau a lygra ei gymmy­dog: ond y cyfiawn a waredir drwy ŵybodaeth.

10 Yr holl ddinas a ymlawenhâ o herwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfrgoller y drygionus, y bydd gorfoledd.

11 Trwy fendith y cyfiawn y derchefir y ddinas; ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi.

12 Y neb syHeb. ddigalon. ddisynwyr a ddiystyra ei gymmydog; ond y synhwyrol a daw â sôn.

13 Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddat­guddia gyfrinach, ond y ffyddlon ei galon a gela 'r pêth.

141 Bren. 12.13. Lle ni byddo cyngor, y bobl a syrthi­ant: ond lle y byddo llawer o gynghor-wŷr y bydd diogelwch.

15Heb. Llwyr­ddryllir y neb. Blinder mawr a gaiff y neb a fachnio dros ddieithr-ddyn: ond y neb a gasâoHeb. y rhai a [...]ry law. fach­niaeth fydd diogel.

16 Gwraig rasol a gaiff anrhydedd, a'r galluog a gânt gyfoeth.

17 Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei him: ond y creulon a flina ei gnawd ei hun.

18 Y drygionus a wna waith twyllodrus; ond i'r neb a hauo gyfiawnder; y bydd gwobr siccr.

19 Fel yr arwain cyfiawnder i fywyd: felly dilyn drygioni a dywys i angeu.

20 Ffiaidd [...] Arglwydd y neb sydd gyndyn eu cal [...] eithr hôff ganddo ef y rhai sy berffaith yn eu ffyrdd.

21Er bod llaw yn llaw. Er maint fyddo cymmorth, y drygio­nus ni bydd dieuog: ond hâd y cyfiawn a waredir.

22 Fel modrwy aûr yn nrhwyn hŵch, yw benyw lânHeb. yn cilio oddlwrth synwyt. heb synhwyr.

23 Deisyfiad y cyfiawn sydd ar ddaioni yn vnic: ond gobaith y drygionus sydd ddigter.

24 Rhyw vn a wascar ei dda, ac fe a chwa­negir iddo: a rhyw vn arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi.

252 Cor. 9.9. Yr enaidHeb. bendith. hael a frasheir: a'r neb a ddwfrhâo a ddwfrhêir yntau hefyd.

26 Y neb a attalio ei ŷd, y bobl a'i melldi­thia: ond bendith a fydd ar ben y neb a'i gwertho.

27Psal. 7.16. & 9.16. & 10.2. & 57.6. Y neb a ddyfal geisio ddaioni, a ennill ewyllys da: ond y nêb a geisio ddrwg, iddo ei hûn y daw.

28 Y neb a roddo ei oglud ar ei gyfoeth, a syrth:Psal. 1.3. & 92.13. Jer. 17.8. ond y cyfiawn a flodeuant megis cangen.

29 Y neb a flino ei dŷ ei hun, a berchen­noga 'r gwynt: a'r ffôl a fydd gwâs i'r syn­hwyrol ei galon.

30 Ffrwyth y cyfiawn sydd megis pren y by­wyd: a'r neb aHeb. ddalio. ennillo eneidiau sydd ddoeth.

311 Pet. 4.18. Wele, telir i'r cyfiawn ar y ddaiar: pa faint mwy i'r drygionus, a'r pechadur?

PEN. XII.

Y Neb a garo addysc a gâr ŵybodaeth: ond y neb a gasâo gerydd, anifeiliaidd yw.

2 Gŵr da a gaiff ffafor gan yr Arglwydd: ond gŵr o ddichellion drwg, a ddamna efe.

3 Ni sicrheir dŷn drwy ddrygioni: ondPen. 10.25. gwraidd y cyfiawn nid yscoga.

41 Cor. 11.7. Gwraig rymmus sydd goron iw gŵr: ond y wradwyddus sydd megis pydrni yn ei escyrn ef.

5 Meddyliau y cyfiawn sydd vnion: a chyng­horion y drygionus sydd dwyllodrus.

6Pen. 1.11.18. Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr vniawn a'i gwared hwynt.

7Psal. 37.37. Dihar. 11 21. Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif.

8 Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir.

9 Gwell yw 'r hwn a'i cydnabyddo ei hun yn wael, ac syddA gwas ganddo. wâs iddo ei hun; nâ'r hwn a'i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisieu bara.

10 Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ondHeb. ymysca­roead. tosturi y drygionus sydd greu­lon.

11Pen. 28.19. Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno ofer-wŷr, disynwyr yw.

12 Y drygionus sydd vn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddin y cyfiawn a rydd ffrwyth.

13Pen. 18.7. Heb. yn nhros [...]dd ei wefu­sau mae magl y dryg. Drwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gy­fyngder.

14Pen. 13.2. Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni: a thaledigaeth dwylo dyn, a delir iddo.

15Pen. 3.7. Ffordd yr ynfyd sydd vniawn yn ei olwg ei hun: ond y neb a wrandawo ar gyngor, sydd gall.

16 Mewn vn-dydd y gwybyddir digter yr ynfyd: ond y call a guddia [...]lydd.

17Pen. 14.5. Y neb a ddywedo [...] a ddengys gyfiawnder: ond gau dyst a draetha dwyll.

18Psal. 57.4. & 59.7. Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod y doethion sydd feddigin­iaeth.

19 Gwefus gwirionedd a faif byth: ond tafod celwyddog ni saif funyd awr.

20 Dichell sydd ynghalon y rhai a ddychym­mygant ddrwg: ond i gynghor-wyr heddwch y bydd llawenydd.

21 Ni ddigwydd i'r cyfiawn ddim blinder: ond y drygionus a lenwir â drwg.

22 Ffiaidd gan yr Arglwydd wefusau celwy­ddog: ond y rhai a wnant yn ffyddlon a ryng­ant fodd iddo ef.

23Pen. 13.16. & 15.2. Gŵr pwyllog a gela ŵybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb.

24Pen. 10.4. Llaw 'r diysceulus a deyrnasa: a llaw 'rNeu, diog. twyllodrus a fydd tan deyrnged.

25Pen. 19.13. Gofid ynghalon gŵr a bair iddi grym­mu: ond gair da a'i llawenhâ hi.

26 Y cyfiawn a ragora ar ei gymmydog: ond ffordd y rhai drygionus a'i twylla hwynt.

27 Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth: ond golud y dyn diysceulus sydd werthfawr.

28 Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd: ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth.

PEN. XIII.

MAb doeth a wrendy ar athrawiaeth ei dâd, ond gwatwar-wr ni wrendy ar gerydd.

2Pen. 12.14. Gŵr a fwynhâ ddaioni o ffrwyth ei enau: ac enaid yr anghyfiawn a fwynhâ draw­sedd.

3 Y neb a geidw ei enau, a geidw ei einioes: ond y neb a ledo ei wefusau, a ddinistrir.

4 Enaid y diog a ddeisyf, ac ni chaiff ddim: ond enaid y diwyd a wneir yn frâs.

5 Câs gân y cyfiawn gelwydd: ond y dry­gionus sydd ffiaidd, ac a ddaw i gywilydd.

6Pen. 11.3.5, 6. Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwelHeb. bechod. y pechadur.

7 Rhyw vn a ymffrostia ei fod yn gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd, a chyfoeth lawer iddo.

8 Jawn am enioes gŵr yw ei dda: ond y tlawd ni chlyw gerydd.

9 Goleuni y cyfiawn a lawenhâ:Job. 18.6. & 21.17. ondNeu, lamp. can­wyll y drygionus a ddiffoddir.

10 Drwy falchedd yn vnic y cyffry cynnen: ond gyd â'r pwyllog y mae doethineb.

11Pen. 10.2. & 20.21 Golud a gascler drwy oferedd a leiheir: ond y neb a gasclo â'i law a chwanega.

12 Gobaith a oeder, a wanhâ 'r galon: ond pren y bywyd yw deisyfiad, pan ddêl i ben.

13 Yr hwn a ddirmygo 'r gair, a ddi­fethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, aNeu, fydd mewn heddwch. obrwyir.

14Pen. 14.27. Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gillo oddi wrth faglau angeu.

15 Deall da a ddyry râs: ond ffordd tro­sedd-wŷr sydd galed.

16Pen. 12.23. & 15.2. Pob call a wna bethau trwy ŵybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd.

17 Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni: ond cennad ffyddlon sydd iechyd.

18 Tlodi a gwradwydd fydd i'r hwn a wrthodo addysc: ond yr hwn a gadwo gerydd a anrhydeddir.

19 Dymuniad wedi ei gyflawni sydd fe­lus gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi ŵrth ddrygioni.

20 Yr hwn a rodia gyd â doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i yn [...] aHeb. [...]d [...]llir. gystuddir.

21 Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond dai­oni a delir i'r rhai cyfiawn.

22 Y Gŵr daionus a âd etifeddlaeth i fei­bion ei feibion:Job. 27.17. a golud y pecha [...] a rodd­wyd i gadw i'r cyfiawn.

23Pen. 12.11. Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion: ond y mae a ddinistrir o eisiau barn.

24Pen. 23.13. Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casâu ei fab: ond yr hwn a'i câr ef, a'i ce­rydda mewn amser.

25Psal. 37.3. & 34.10. Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid; ond bol yr annuwolion fydd mewn eisieu.

PEN. XIV.

GWraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a'i tyn ef i lawr â'i dwylo.

2 YrJob. 12.4. hwn sydd yn rhodio yn ei vniawn­der, sydd yn ofni yr Arglwydd; a'r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef.

3 Yngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a'i ceidw hwynt.

4 Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnŵd sydd yn dyfod drwy nerth yr ŷch.

5Exod. 20.16. & 23.1. Pen. 6.19. & 12.17. Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd: ond gau dyst a draetha gelwydda▪

6 Y gwatwar-wr a gais ddoethineb, ac ni's caiff: Pen. 8.9. ond gŵybodaeth sydd hawdd i'r de­allus.

7 Dôs ymmaith oddi wrth ŵr ffol, pan wypech nad oes ganddo wefusau gŵybodaeth.

8 Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll.

9 Y ffyliaid a ymhyfrydant mewnPen. 10.23. cam­wedd: ond ym mhlith y rhai vniawn y mae ewyllys da.

10 Y galon sydd yn gŵybod chwerwder ei henaid ei hun: a'r dieithr ni bydd gyfrannog o'i llawenydd hi.

11 Tŷ yr annuwolion a ddinistrir: ond pa­bell y rhai vniawn a fiodena.

12Pen. 16.25. Y mae ffordd sydd vniawn yngolwg dŷn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angeu.

13 Ie wrth chwerthin y bydd blîn ar y galon: a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch.

14 Y gwrthnysig o galon aPen. 1.31. gaiff ddigon o'i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionusNeu, a ddigo­nir gan­tho ei hun. a gilia oddi wrtho ef.

15 Yr ehud a goelia bob gair: a'r call a ddeil ar ei gamrau.

16 Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom, a hyderus.

17 Gŵr digllon a wna ffollneb: a châs yw 'r gŵr dichellgar.

18 Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gŵybodaeth.

19 Y rhai drygionus a ymostyngant ger bron y daionus: a'r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn.

20Pen. 19.7. Y tlawd a gaseir, ie gan ei gymmy­dog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cy­foethog.

21 A ddirmygo ei gymmydog, sydd yn pechu:Psal. 112.9. ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef.

22 Onid ydyw y rhai a ddychymmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwi­rionedd a fydd i'r sawl a ddychymmygant ddaioni.

23 Ym mhôb llafur y mae elw: ond o ei­riau gwefusau nid oes dim ond tlodi.

24 Coron y doethion yw eu cyfoeth: ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb.

25Vers. 5. Tŷst ffyddlon a weryd eneidiau; ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau.

26 Yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith ca­darn: ac iw blant ef y bydd noddfa.

27Pen. 13.14. Ofn yr Arglwydd yw ffynnon y byw­yd, i ddiangc rhag maglau angeu.

28 Mewn amlder y bobl y mae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y ty­wysog.

29 Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synwyr: ond yHeb. byrr. digllon ei yspryd a dderchafa ynfydrwydd.

30 Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra 'r escyrn.

31Pen. 17.5. Math. 25.40. Y neb a orthrymma 'r tlawd, a gywi­lyddia ei greawdudd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus a'i anrhydedda ef.

32 Y drygionus a yrrir ymmaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw.

33 Doethineb sydd yn gorphywys ynghalon y call: ond yr hyn sydd ynghanol ffyliaid a wybyddir.

34 Cyfiawnder a dderchafa genhedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod.

35 Ewyllys da 'r brenin sydd ar ei wâs syn­hwyrol: ond ei ddigofaint a fydd ar was gwradwyddus.

PEN. XV.

ATteb arafaidd a ddetry lîd: ond gairPen. 25.15. garw a gyffry ddigofaint.

2 Tafod y synnwyrol a draetha ŵybodaeth vn dda: ond genau y ffyliaid aHeb. fytheiria. dywalltVers. 28. & Pen. 12.23. & 13.16. ffolineb.

3Job. 34.21. Pen. 5.21. Ier. 16.17. & 32.19. Heb. 4.13. Ym mhob lle y mae llygaid yr Ar­glwydd, yn canfod y drygionus a'r daionus.

4 Pren y bywyd ywHeb. meddigi­niaeth tafod. tafod iâch: ond trawsedd ynddo, sydd rwyg yn yr yspryd.

5Pen. 10. 1. Dŷn ffôl a ddiystyra addysc ei dâd, ond y neb a ddioddefo gerydd sydd gall.

6 Yn nhŷ 'r cyfiawn y bydd mawr gyfoeth: ond am olud yr annuwiol y mae trallod.

7 Gwefusau y doethion a wascarant ŵybo­daeth: ond calon y ffyliaid ni wna felly.

8Pen. 21.27. Amos. 5.22. Esay. 1.11. & 66.3. Jer. 6.20. & 7.22. Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond gweddi yr vniawn sydd hoff ganddo.

9 Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond efe a gâr y neb a ddilyn gy­fiawnder.

10N u, Addysc. Cerydd sydd flîn gan y neb a drŷ oddi ar y ffordd: a'r neb a gasâo gerydd a fydd marw.

11Job. 26.6. Vffern a dinistr sydd ger bron yr Ar­glwydd: pa faint mwy, calonnau plant dy­nion?

12 Ni châr y gwatwar-ŵr m'or neb a'i ce­ryddo: ac nid â at y doethion.

13Pen. 17.22. Calon lawen a wna wyneb siriol: ond drwy ddolur y galon y torrir yr yspryd.

14 Calon y synhwyrol a ymgais â gwybo­daeth: ond genau y ffyliaid a borthir â ffo­lineb.

15 Holl ddyddiau y cystuddiedic sydd flin: ond gwledd oestadol yw calon lawen.

16Psal. 37.16. 1 Tim. 6.6. Pen. 16.8. Gwell yw ychydig gyd ag ofn yr Ar­glwydd, nâ thryssor mawr â thrallod gyd ag ef.

17Pen. 17.1. Gwell yw prŷd o ddail, lle byddo ca­riad: nag ŷch pascedig a châs gyd ag ef.

18Pen. 26.21. & 29.22. Gŵr digllon a gyffry gynnen: ond gŵr hwyr-frydig i lid a dyrr ymryson.

19 Ffordd y diog sydd fel cae drain: ond ffordd yr vniawnHeb. a godir yn farn. sydd wastad.

20Pen. 10.1. Mab doeth a lawenhâ ei dâd: ond dŷn ffôl a ddiystyra ei fam.

21Pen. 10.23. Ffolineb sydd hyfryd gan yrHeb. hwn sydd heb galon. ynfyd: ond gŵr deallus a rodia yn vniawn.

22Pen. 11.14. Ofer fydd bwriadau, lle ni byddo cyngor: ac mewn amlder cynghorwŷr y sicr­heir hwynt.

23 Llawenydd fydd i ŵr o herwydd ymad­rodd ei enau, ac ô mor dda yw gair yn ei am­ser?

24Phil. 3.20. Col. 3.2. Ffordd y bywyd syddI fynu. frŷ i'r syn­hwyrol, i ochel vffernI wared. obry.

25Pen. 12.7. & 14.11. Yr Arglwydd a ddiwreiddia dŷ 'r beil­chion: ond efe a sicrhâ derfyn y weddw.

26Pen. 6.18. Meddyliau 'r annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond geiriau 'r glân ŷnt be­raidd.

27 Y neb a fyddo dra-chwannog i elw a derfysca ei dŷ: ond y neb a gasâo roddion, fydd byw.

28 Calon y cyfiawn a fyfyria i atteb: ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg.

29Psal. 34.16. & 145.18. Pell yw 'r Arglwydd oddi wrth y rhai annuwiol: ond efe a wrendy weddi y cy­fiawn.

30 Llewyrch y llygaid a lawenhâ 'r galon: a gair da a frassâ 'r escyrn.

31 Y glûst a wrandawo ar gerydd y bywyd, a bresswylia ym mhlith y doethion.

32 Y neb a wrthodoNeu, gerydd. addysc, a ddiystyra ei enaid ei hun: ond y neb a wrandawo ar ge­rydd a feddiannaHeb. galon. ddeall.

33 Addysc doethineb yw ofn yr Arglwydd:Pen. 18.12. ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd.

PEN. XVI.

Vers. 9. & pen. 19.21. & 20.24. Jer. 10.23. PAratoad y galon mewn dyn, ac ymadrodd y tafod oddi wrth yr Arglwydd y mae.

2Pen. 21.2. Holl ffyrdd dŷn ydynt lân yn ei olwg ei hun: ond yr Arglwydd a bwysa yr yspry­dion.

3Psal. 37.5. & 55.22. Mat. 6.25. Luc. 12.22. 1 Pet. 5.7. Treigla dy weithredoedd ar yr Arg­lwydd: a'th feddyliau a safant.

4 Yr Arglwydd a wnaeth bôb peth er ei fwyn ei hûn: a'rJob. 21.30. annuwiol hefyd erbyn y dydd drwg.

5Pen. 6.17. & 8.13. Ffiaidd gan yr Arglwydd bôb dŷn vchel galon:Heb. er bod llaw yn llaw. er maint fyddo ei gymmorth, ni bydd dieuog.

6 Drwy drugaredd a gwirionedd y deleir pechod: a thrwy ofn yr Arglwydd, y mae ymado oddi wrth ddrwg.

7 Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i'r Arglwydd; efe a bair iw elynion fod yn he­ddychol ag ef.

8Pen. 15.16. Psal. 37.16. Gwell yw ychydig drwy gyfiawnder, na chnŵd mawr drwy gam.

9Vers. 1. Calon dŷn a ddychymyg ei ffordd: ond yr Arglwydd a gyfarwydda ei gerddediad ef.

10Heb. Dewini­aeth. Ymadrodd Duw sydd yngwefusau y brenin: ni ŵyra ei enau ef mewn barn.

11Levit. 19.36. Pen. 11.1. Pwys a chloriannau cywir, yr Arg­lwydd a'i piau: ei waith ef yw hôll gerrig y gôd.

12 Ffiaidd yw i frenhinoedd wneuthur an­nuwioldeb: canys drwy gyfawnder y cadarn­heir yr orsedd.

13 Gwefusau cyfiawn sydd gymmeradwy gan frenhinoedd, a'r brenin a gâr a draetho yr vniawn

14 Digofaint y brenin sydd megis cennad angeu; ond gŵr doeth a'i gostega.

15 Yn siriol wynebpryd y brenhin y mae bywyd: a'i ewyllys da ef syddPen. 19.12. megis cwmwl glaw diweddar.

16Pen. 8.11. Cael doethineb, ô mor well yw nag aur coeth! a chael deall, mwy dymunol yw nag arian.

17 Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd a geidw ei enaid.

18Pen. 11.2. & 18.12. Balchder sydd yn myned o flaen di­nistr: ac vchder yspryd o flaen cwymp.

19 Gwell yw bod yn ostynge lig gyd â'r gostyngedig: na rhannu 'r yspail gyd a'r beil­chion.

20 ANeu, ddeallo fatter a gaiff. drino fatter yn ddoeth, a gaiff ddai­oni: a'rPsal. 2.12. & 34.8. & 125.1. Esa. 30.18. Jer. 17.7. neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, ô gwyn ei fyd hwnnw.

21 Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus; a melusder y gwefusau a chwanega ddyscei­diaeth.

22Pen. 13.14. Ffynnon y bywyd yw deall iw pher­chennog: ond addysc ffyliaid yw ffolineb.

23 Calon y doeth a reola ei enau ef yn syn­hwyrol: ac a chwanega addysc i'w wefusau.

24 Geiriau têg ydynt megis dil mêl, yn felus i'r enaid, ac yn iachus i'r escyrn.

25Pen. 14.12. Mae ffordd a dybir ei bod yn vniawn yngolwg dŷn: ond ei diwedd yw ffyrdd mar­wolaeth.

26Heb. Enaid y neb. Y neb a lafurio, a lafuria iddo ei hun: canys ei enauHeb. a ymo­stwng iddo. a'i gofyn ganddo.

27 DŷnHeb. i B [...]lial. i'r fall sydd yn cloddio drwg: ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth.

28Pen. 6.14, 19. & 15.18. & 26.21. & 29.22. Dŷn cyndyn a bair ymryson: a'r hustyngwr a nailltua dywysogion.

29 Gŵr traws a huda ei gymmydog: ac a'i tywys i'r ffordd nid yw dda.

30 Efe a gae ei lygaid i ddychymmyg trawsedd, gan symud ei wefusau, y dwg efe ddrwg i ben.

31 Coron anrhydeddus yw penllwydni, os bydd mewn ffordd cyfiawnder.

32 Gwell yw 'r diog i ddigofaint nâ'r ca­darn: a'r neb a reola ei yspryd ei hun, nâ'r hwn a ennillo ddinas.

33 Y coel-bren a fwrir i'r arffed: ond oddiwrth yr Arglwydd y mae ei holl lywodrae­thiad ef.

PEN. XVII.

GWellPen. 15.17. yw tammeid sŷch, a llonyddwch gyd ag ef; nâ thŷ yn llawn oHeb. fyd da. aberthau gyd ag ymryson.

2 Gwâs synhwyrol a feistrola ar fab gwrad­wyddus: ac a gaiff ran o'r etifeddiaeth ym mhlith y brodyr.

3Psal. 26.2. Pen. 27.21. Jer. 17.10. Mal. 3.3. Y tawdd-lestr sydd i'r arian, a'r ffwrn i'r aûr; ond yr hwn a brawf y calonnau yw 'r Arglwydd.

4 Y drygionus a wrendy ar wefus anwit: a'r celwyddog a rydd glûst i dafod drwg.

5 YPen. 14.31. neb a watwaro y tlawd, sydd yn gwradwyddo ei wneuthurwr ef: a'r neb a ym­ddigrifo mewn cystudd, ni bydd dieuog.

6Psal. 127.4. & 128.3. Coron yr henaf-gwŷr yw eu hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau.

7 Anweddaidd yw i ffolHeb. wefus rhagori­aeth. vmadrodd rha­gorawl: mwy o lawer i bendefig wesusau cel­wyddog.

8Pen. 18.16. Maen gwerth-fawr yw anrheg yngo­lwg ei pherchennog: pa le bynnac y trô, hi a ffynna.

9Pen. 10.12. Y neb a guddia bechod, sydd ynNeu, peri. cei­sio cariad: ond y neb a adnewydda fai, fydd yn nailltuocaredi­gion. tywysogion.

10 Vn senn a ofna y call, yn fwy nâ phe baeddid y ffôl gan-waith.

11 Y dŷn drwg sydd a'i fryd ar derfysc yn vnic: a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn ef.

12 Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon, nag â'r ffôl yn ei ffolineb.

13Rhuf. 12.17. 1 The. 5.15. 1 Pet. 3.9. Y neb a dalo ddrwg dros dda: nid ymedy drwg â'i dŷ ef.

14 Pen y gynnen sydd megis ped agoridHeb. dyfroedd. argae: am hynny gâd ymmaith ymryson, cyn ymyrryd arni.

15Exod. 23.7. Esay. 5.23. Pen. 24.24. Y neb a gyfiawnhao y drygionus, ac a gondemnio y gwirion; ffiaidd gan yr Ar­glwydd ydynt eill dau.

16 Pa ham y bydd gwerth yn llaw 'r ffôl, i berchennogi doethineb, ac yntau heb galon gantho?

17Pen. 18.24. Cydymaith a gâr bob amser: a brawd a anwyd erbyn caledi.

18Pen. 6.1. & 11.15. Dŷn hebHeb. galon. pwyll a dery ei law, ac a fachnia o flaen ei gyfaill.

19 Y neb sydd hoff ganddo ymsennu, sydd hoff ganddo bechod, a'r hwn sydd yn gwneu­thur ei ddrws yn vchel, sydd yn ceisio niwed.

20 Y cyndyn ei galon ni chaiff ddaioni: a'r hwn sydd drofaus yn ei dafod, a syrth i ddrwg.

21Pen. 10.1. Y neb a genhedlo vn ffôl a ennill iddo ei hun dristwch: ac ni bydd llawen tâd yr ynfyd.

22Pen. 15.13. & 12.25. Calon lawen a wna lesN [...]u, i feddi [...]i­niaeth. fel meddy­giniaeth; ond meddwl trwm a sych yr escyrn.

23 Yr annuwiol a dderbyn rodd o'r fyn­wes, i gam-droi llwybrau barn.

24Eccle. 2.14. & 8.1. Doethineb sydd yn wyneb y deallgar: ond llygaid y ffyliaid sydd ynghyrrau 'r bŷd.

25Pen. 10.1. & 15.20. & 19.13. Mab ffôl a bair ddigllonedd iw dâd, a chwerwderHeb. i'r hon a'i hesco­rodd. iw fam.

26 Hefyd nid da cospi 'r cyfiawn: na tharo pennaethiaid, pan fyddant ar yr iawn.

27Jac. 1 19. Gŵr synhwyrol a attal ei ymadro­ddion: a gwr pwyllog syddNeu, oer, neu odidawg. ymarhous ei ys­pryd.

28Joh. 13.5. Y ffôl, tra tawo a gyfrifir yn ddoeth; a'r neb a gaeo ei wefusau, yn ddeallus.

PEN. XVIII.

YNeu, Trwy ddisyfi­ad, y cais y nailltu­ol, ac yr ymmyr a phob doethineb. Nailltuol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun; ac a ymmvr â phob peth.

2 Y ffôl nid hoff ganddo ddeall: ond bod iw galon ei datcuddio ei hun.

3 Wrth ddyfodiad y drygionus y daw di­ystyrwch: a chyd â gogan, gwradwydd.

4Pen. 20.5. Geiriau yngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion: a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo.

5Pen. 24.23. Levit. 19.15. Deut. 1.17. & 16.19. Nit da derbyn wyneb yr annuwiol: i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn.

6 Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen: a'i enau a eilw am ddyrnodiau.

7Pen. 10.14. & 12.13. & 13.3. Genau y ffôl yw ei ddinistr: a'i wefu­sau sydd fagl iw enaid.

8Pen. 12.18. & 26.22. Geiriau 'r hystyng-wr sydd megisNeu, rhai a ar­chollwyd. archollion: ac a ddescynnant iHeb. gelloedd. gilfachau y bol.

9 Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i'r treul-gar.

10Psal. 18.2. & 27.1. & 144.2. Tŵr cadarn yw enw 'r Arglwydd: atto y rhed y cyfiawn, ac y mae ynHeb. ddercha­fedic. ddiogel.

11Pen. 10.15. Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fûr vchel, yn ei dŷb ei hun.

12Pen. 11.2. & 16.18. & 15.33. Cyn dinistr y balchia calon gŵr: a chyn anrhydedd y bydd gostyngeiddrwydd.

13Eccle. 11.8. Y neb aHeb. adfero air. attebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo.

14 Yspryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond yspryd cystuddiedig pwy a'idwg. cyfyd?

15 Calon y pwyllog a berchennoga wybo­daeth: a chlûst y doethion a gais wybo­daeth.

16Pen. 17.8. Rhodd dŷn a ehanga arno: ac a'i dwg ef ger bron pennaethiaid.

17 Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymmydog a ddaw, ac a'i chwilia ef.

18 Y coel-bren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn.

19 Anhaws yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier nâ dinas gadarn: a'i hymryson sydd megis trosol castell.

20Pen. 12.14. & 13.2. A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol: ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef.

21 Angeu a bywyd sydd ym meddiant y tafod: a'r rhai a'i hoffant ef, a fwytânt ei ffrwyth ef.

22Pen. 19.14. Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus: ac yn cael ffafor gan yr Ar­glwydd.

23 Y tlawd a ymbil: a'r cyfoethog a ettybIaco. 2.3. yn erwin.

24 Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad:Pen. 17.17. ac y mae cyfaill a lŷn wrthit yn well na brawd.

PEN. XIX.

GWellPen. 28.6. yw 'r tlawd a rodio yn ei vnion­deb, nâ'r traws ei wefusau, ac yntef yn ffôl.

2 Hefyd, bod yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda; a'r hwn sy brysur ei draed a becha.

3 Ffolineb dŷn a ŵyra ei ffordd ef: a'i ga­lon a ymddigia yn erbyn yr Arglwydd.

4Pen. 14.20. Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeillion: ond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymmy­dog.

5Exod. 23.1. Deut. 19.16. Dihar. 6.19. & 21.28. Tŷst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddiangc.

6 Llawer a ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gyfaillHeb. i wr rho­ddion. i'r hael.

7Pen. 14.20. Holl frodyr y tlawd a'i casânt ef: pa faint mwy yr ymbellhâ ei gyfeillion oddi wrtho: er maint a ymnheddo, ni throant atto.

8 A gaffoHeb. galon. ddoethineb a gâr ei enaid: a gadwo ddeall a ennill ddaioni.

9Vers. 5. Tŷst celwyddog ni bydd dieuog: a thraethwr celwyddau a ddifethir.

10 Nid gweddaidd i ffol hyfrydwch: an­weddeiddiach o lawerEccles. 10.6. Dihar. 30.22. i wâs arglwyddiaethu ar bennaethiaid.

11Pen. 14.29. Neu, Callineb. Synwyr dŷn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned tros gamwedd.

12Pen. 16.15. & 20.2. & 28.15. Llîd y brenin sydd megis rhuad llew ieuangc: ond ei ffafor ef sydd megis gwlith ar las-wellt.

13Pen. 10.1. & 15.20. & 17.21, 25. Mâb ffôl sydd orthrymder iw dâd: ac ymserth gwraig sydd megisPen. 21.9. & 27.15. defni parhaus.

14 Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau: ondPen. 18.22. rhodd yr Arglwydd yw gwraig bwyllog.

15 Syrthni a bair drym-gwsc:Pen. 10.4. & 20.13. ac enaidNeu, segurllyd. twyllodrus a newyna.

16Luc. 11.28. Y neb a gadwo 'r gorchymyn a geidw ei enaid: a'r neb a ysceulusa ei ffyrdd fydd marw.

17Mat. 10.42. & 25.40. 2 Cor. 9.6, 7. Y neb a gymmero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i'r Arglwydd: a'iNeu, waith. rodd a dâl efe iddo drachefn.

18Pen. 13.24 & 23.13. Cerydda dy fab tra fyddo gobaith: ac nac arbeded dy enaid ef,Er iddo weiddi. iw ddifetha.

19 Y mawr ei ddig a ddwg gospedigaeth: canys os ti a'i gwaredi, rhaid itHeb. chwa­negu. wneuthur hynny drachefn.

20 Gwrando gyngor, a chymmer addysc, fel y byddech ddoeth yn dy ddiwedd.

21Job. 23.13. Psal. 33.10, 11. Pen. 16.1, 9. Esay. 46.10. Bwriadau lawer sydd ynghalon dŷn: ond cyngor yr Arglwydd, hwnnw a saif.

22 Deisyfiad dŷn yw ei drugaredd ef: a gwell yw 'r dŷn tlawd na'r gŵr celwyddog.

23 Ofn yr Arglwydd a dywys i fywyd: a'r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall, heb i ddrwg ymweled ag ef.

24Pen. 15.19. & 26.13, 15. Y dŷn swrth a gudd ei law yn ei fyn­wes: ac ni estyn hi at ei enau.

25Pen. 21.11. Taraw watwarwr, a'r ehud fydd cyf­rwysach; a phan geryddech y deallus, efe a ddeall wybodaeth.

26 Mab gwradwyddus gwarthus, a anrhei­thia ei dâd, ac a yrr ei fam ar grwydr.

27 Fy mab, paid a gwrando yr addysc a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybo­daeth.

28 TŷstHeb. Belial. y fall a watwar farn: a genau 'r drygionus a lwngc anwiredd.

29 Barn sydd barod i'r gwatwar-wŷr: a chleisiau i gefn y ffyliaid.

PEN. XX.

GWatwarus yw gwîn, a therfyscaidd yw diod gadarn: pwy bynnac a siommir yn­ddi nid yw ddoeth.

2Pen. 19.12. & 16.14. Megis rhuad llew ieuangc yw ofn y brenin: y mae 'r neb a'i cyffrô ef i ddigofaint, yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun.

3 Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymry­son: ond pob ffôl a fynn ymmyrraeth.

4Pen. 10.4. Y diog nid ardd o herwydd oerder y gaiaf, am hynny y cardotta efe y cynhaiaf, ac ni chaiff ddim.

5Pen. 18.4. Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng­halon gwr: etto 'r gŵr call a'i tynn allan.

6 Llawer dŷn a gyhoedda eiNeu, hacli. ni. drugarog­rwydd ei hun, ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon?

7 Y cyfiawn a rodia yn ei vniondeb; gwyn eu bŷdPsal. 112.2. ei blant ar ei ôl ef.

8 Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wascar â'i lygaid bob drwg.

91 Bren. 8.46. 2 Cron. 6.36. Job. 14.4. Psal. 51.5. Eccles. 7.20. 1 Joh. 1.8. Pwy a ddichon ddywedyd, mi a lan­heais fy nghalon; glân wyf oddi wrth fy mhechod?

10Deut. 25.15. Pen. 11.1. & 16.11. Heb. Carreg a charreg, Ephah ac Ephah. Amryw bwysau, ac amryw fesurau: ffiaidd gan yr Arglwydd bob vn o'r ddau.

11 Bachgen a adweinir wrth ei waith; ai pûr ai vniawn yw ei waith.

12Exod. 4.11. Psal. 94.9. Y glust yn clywed, a'r llygad yn gwel­ed: yr Arglwydd a wnaeth bob vn o'r ddau.

13Pen. 19.15. & 12.11. Na châr gyscu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid fel i'th ddigoner â bara.

14 Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o'r nailltu, efe a ymffrostia.

15 Y mae aur, a gemmau lawer: ond gwe­fusau gwybodaeth sydddlws. ddodrefnyn gwerth­fawr.

16Pen. 27.13. Cymmer wisc y gwr a fachnio dros estron: a chymmer wystl ganddo dros estro­nes.

17Pen. 9.17. Melus gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o'r diwedd ei enau a lenwir â graian.

18Pen. 15.22. Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diysceulus dôs i ryfela.

19Pen. 11.13. Y neb a fyddo athrodwr, a ddatgu­ddia gyfrinach: am hynny nac ymmyr a'r hwn aNeu, ddenc. wenieithio â'i wefusau.

20Exod. 21.17. Levit. 20.9. Matth. 15 4. Y neb a felldithio ei dâd neu ei fam, eiNeu, lamp. ganwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch dû.

21 Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreu­ad, ond ei diwedd ni fendithir.

22 Na ddywed,Deut. 32.35. Pen. 17.13. & 24.29. Rhuf. 12.17. 1 Thes. 5.15. 1 Pet. 3.9. mi a dalaf ddrwg: dis­gwil wrth yr Arglwydd, ac efe a'th achub.

23Vers. 10. Pen. 11.1. Ffiaidd gan yr Arglwydd amryw bwy­sau: a chlorian twyllodrus nid yw dda.

24Pen. 16.9. Psal. 37.23 Jer. 10.23. Oddiwrth yr Arglwydd y mae cerdde­diad gŵr: ond beth a ddeall dŷn o'i ffordd ei hun?

25 Magl yw i ŵr lyngcu peth cyssegre­dig: ac wedi addunedau ymofyn.

26Vers. 8. Psal. 101.5. Brenin doeth a wascar yr annuwiol: ac a drŷ 'r olwyn arnynt.

27Neu, Lamp. Canwyll yr Arglwydd yw yspryd dŷn, yn chwilio holl gelloedd y bol.

28Psal. 101.1. Pen. 29.14. Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin, a'i orseddfa a gadarnheir drwy dru­garedd.

29Pen. 16.31. Gogoniant gwŷr ieuaingc yw eu nerth: a harddwch henafgwŷr yw gwallt gwyn.

30 Cleisiau briwHeb. sydd feddiginiaeth i. a lanhâ ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.

PEN. XXI.

FEl afonydd o ddwfr, y mae calon y brenin yn llaw 'r Arglwydd: efe a'i trŷ hi lle y mynno.

2Pen. 16.2. Pob ffordd gŵr sydd vniawn yn ei olwg ei hun: ond yr Arglwydd a bwysa y calonnau.

31 Sam. 15.22. Esa. 1.11. Hos. 6.6. Mica. 6.8. Pen. 15.8. Gwneuthur cyfiawnder a barn, sydd well gan yr Arglwydd nag aberth.

4Pen. 6.17. Vchder golwg, a balchder calon, acNeu, lamp. âr yr annuwiol, sydd bechod.

5 Bwriadau y diysceulus sydd at helaeth­rwydd yn vnic: ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn vnic.

6Pen. 10.2. & 13.11. Tryssorau a gascler â thafod celwyddog, a chwelir megis gwagedd; gan y neb sydd yn ceisio angeu.

7 Anrhaith yr annuwiol a'iHeb. llifia. neu, ymdeithia gyda hwynt. difetha hwynt: am iddynt wrthod gwneuthur barn.

8 Trofaus a dieithr yw ffordd dŷn: ond y pur sydd vniawn ei waith.

9Pen. 27.15. Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ: nâ bod gyd â gwraig anynad mewn tŷHeb. cyfeillach. ehang.

10Iaco. 4.5. Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg: nid grasol yw ei gymmydog yn ei olwg ef.

11Pen. 19.25. Pan gosper gwatwar-wr, y bydd yr ehud callach: a phan ddyscer y doeth, efe a dderbyn ŵybodaeth.

12 Gall y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol, ond y mae Duw yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni.

13Matth. 18.30. Y neb a gaco ei glust rhag llef y tlawd; a lefain ei hunan, ac ni's gwrandewir ef.

14Pen. 17.8. & 18.16. Rhodd yn y dirgel a dyrr ddigofaint: a gobr yn y fynwes, lîd cryf.

15 Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd.

16 Dŷn yn myned ar gyfeilorn oddi ar ffordd deall, a orphywys ynghynnulleidfa y meirw.

17 Y neb a garoNeu, lawenydd. ddifyrrwch, a ddaw i dlodi: a'r neb a garo wîn ac olew, ni bydd cyfoethog.

18Pen. 11.18. Yr annuwiol a roddir yn iawn dros y cyfiawn, a'r troseddwr dros yr vniawn.

19Vers. 9. Gwell yw arosHeb. yn nhir yr ania­lwch. yn yr anialwch, nâ chyd â gwraig anynad ddigllon.

20 Y mae tryssor dymunol, ac olew, yn nhrigfa y doeth: ond dŷn ffôl a'i llwngc hwynt.

21 Y neb a ddilyno gyfiawnder a thruga­redd, a gaiff fywyd, cyfiawnder, ac anrhydedd.

22Eccles. 9.14. Y doeth a ddring i ddinas y cedyrn, ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hy­deru arno.

23Pen. 12.13. & 18.21. Y neb a gadwo ei enau a'i dafod, a geidw ei enaid rhag cyfyngder.

24 Y balch, a'r gwatwar-wr vchel, yw henw y gŵr a wnelo beth mewn diglloneddHeb. balchder. balch.

25Pen. 13.4. Deisyfiad y diog a'i llâdd: canys ei ddwylo a wrthodant weithio.

26 Yn hŷd y dydd y mae yn fawr ei awydd: ondPsal. 112.9. y cyfiawn a rydd, ac ni arbed.

27Pen. 15.8. Psal. 50.9. Esay. 1.13. & 66.9. Jer. 6.20. Eccles. 34.20. Amos. 5.22. Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd: pa faint mwy, pan offrymmant mewnHeb. soelerder. me­ddwl drwg.

28Pen. 19.5, 9. Tŷst celwyddog a ddifethir: ond y gŵr a wrandawo, a lefara yn wastad.

29 Gŵr annuwiol a galeda ei wyneb: ond yr vniawn aNeu, ystyria. gyfarwydda ei ffordd.

30Jer. 9.23. Nid oes doethineb, na deall, na chyng­or, yn erbyn yr Arglwydd.

31Psal. 33.17. Y march a ddarperir erbyn dydd y frwydr: ondPsal. 3.8. ymwared sydd oddiwrth yr Arglwydd.

PEN. XXII.

MWy dymunolEccles. 7.1. yw enw da, nâ chy­foeth lawer: a gwell yw ffafor dda nag arian, ac nag aur.

2Pen. 29.13. Y tlawd a'r cyfoethog a gyd-gyfar­fyddant: yr Arglwydd yw gwneuthur-wr y rhai hyn oll.

3Pen. 27.12. Y call a genfydd y drwg, ac a ymgudd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac a gospir.

4Psal. 112.3. Gobr gostyngeiddrwydd, ac ofn yr Ar­glwydd yw cyfoeth, anrhydedd, a bywyd.

5 Drain a maglau sydd yn ffordd y cyndyn: y neb a gadwo ei enaid a fydd bell oddi wrth­ynt hwy.

6 Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd: a phan heneiddio nid ymedy â hi.

7 Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd: a gwâs fydd yr hwn a gaffo fenthyg, i'r gŵr a roddo fenthyg.

8Job. 4.8. Hos. 10.13. Y neb a hauo anwiredd a fêd flinder: a gwialen ei ddigofaintHeb. y derfydd am dano. ef a balla.

9Ecclus. 31.23. 2 Cor. 9.6. Heb. Y daionus ei lygad. Yr hael ei lygad a fendithir: canys efe a rydd o'i fara i'r tlawd.

10Psal. 101.5. Bwrw allan y gwatwar-wr, a'r gyn­nen a â allan: ie 'r ymryson, a'r gwarth a dderfydd.

11 Y neb a garo lendid calon,Neu, ac y sydd a gras yn ei wefu­sau. am râs ei wefusau a gaiff y brenin yn garedig iddo.

12 Llygaid yr Arglwydd a gadwant ŵybo­daeth, ac efe a ddinistriaN [...]u, fatterion. eiriau y trosedd-wr.

13Pen. 26.13. Medd y diog, y mae llew allan: fo'm lleddir ynghanol yr heolydd.

14Pen 2.16. & 23.27. & 5.3. & 7.5. Ffôs ddyfn yw genau gwragedd di­eithr: y neb y byddo 'r Arglwydd yn ddig wrtho, a syrth yno.

15 Ffolineb sydd yn rhwym ynghalon plen­tyn:Pen. 13.24. & 19.18. & 23.13. & 29.15, 17. ond gwialen cerydd a'i gyrr ym mhell oddiwrtho.

16 Y neb a orthrymmo y tlawd er chwa­negu ei gyfoeth, a'r neb a roddo i'r cyfoethog, a ddaw i dlodi yn ddiammau.

17 Gogwydda dy glust, a gwrando eiriau y doethion, a gosod dy galon ar fy ngwybo­daeth.

18 Canys peth peraidd yw, os cedwi hwynt yn dyHeb. fol. galon: cymhwysir hwynt hefyd yn dy wefusau.

19 Fel y byddo dy obaith yn yr Arglwydd, yr yspysais i ti heddyw,Neu, gobei­thia ai­theu. ie i ti.

20 Oni scrifennais i ti eiriau ardderchog, o gyngor a gwybodaeth?

21 I beri i ti adnabod siccrwydd geiriau gwirionedd, fel y gallit atteb geiriau y gwir­ionedd, i'r nebNeu, a'th an­fonant. a anfonant attat.

22 Nac yspeilia mo'r tlawd, o herwydd ei fod yn dlawd: acZac. 7.10. na orthrymma y cystuddiol yn y porth.

23 CanysPen. 23.11. Job. 31.21. yr Arglwydd a ddadleu eu dadl hwynt, ac a orthrymma enaid y neb a'i gorth­rymmo hwynt.

24 Na fydd gydymmaith i'r digllon: ac na chyd-gerdd â gŵr llidiog:

25 Rhag i ti ddyscu ei lwybrau ef, a chael magl i'th enaid.

26Pen. 6.1. & 11.15. Na fydd vn o'r rhai a roddant eu dwylo, o'r rhai a fachniant am ddylêd.

27 Oni bydd gennit i dalu, pa ham y cym­merai efe dy wely oddi tanat?

28Deut. 27.17. & 19.14. Pen. 23.10. Na symmud môr hên derfyn, yr hwn a osododd dy dadau.

29 A welaist ti ŵr diysceulus yn ei orchwyl? efe a saif ger bron brenhinoedd, ac ni saif ger bron rhai issel-radd.

PEN. XXIII.

PAn eisteddych i fwytta gyd â thywysog, ystyria yn ddyfal beth sydd ger dy fron:

2 A gosod gyllell ar dy gêg, os byddi dŷn blysig.

3 Na ddeisyf ei ddanteithion ef: canys bwyd twyllodrus ydyw.

41 Tim. 6.9, 10. Nac ymflina i ymgyfoethogi: dôd heibio dy synwyr dy hun.

5 A beri di i'th lygaid ehedeg ar y peth nid yw? canys golud yn ddiau a gymmer adenydd, ac a cheda ymmaith megys eryr tu a'r wybr.

6 Na fwytta fwyd y drwg ei lygad: ac na chwennych mo'i ddainteithion ef.

7 Canys fel y meddylia yn ei galon, felly efe a ddywed wrthit, bwyta, ac ŷf, a'i galon heb fod gyd â thi.

8 Y tammaid a fwytêist a fwri i fynu: a'th eiriau melus a golli.

9 Na lefara lle y clywo y ffôl: canys efe a ddiystyra ddoethineb dy eiriau.

10 NaDeut. 27.17. & 19.14. Pen. 22.28. symmud mo'r hên derfyn, ac na ddôs i feusydd yr ymddifaid.

11Pen. 22.23. Job. 31.21. Canys eu gwared-wr hwynt sydd nerthol: ac a amddeffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di.

12 Gosot dy galon ar addysc, a'th glustiau ar eiriau gwybodaeth.

13Pen. 13.24. & 19.18. & 22.15 Ecclus. 30.1. Na thyn gerydd oddi wrth dy blen­tyn: os curi ef â gwial [...], ni bydd efe farw.

14 Cur ef â gwialen, a thi a achubi ei enaid rhag vffern.

15 Fy mab, os dy galon di fydd doeth, fy nghalon inneu a lawenycha,

16 Ie fy arennau a grych-neidiant, pan draetho dy wefusau di gyfiawnder.

17Pen. 24.1. & 3, 31. Psal. 37.1. & 73 3. Na wynfyded dy galon wrth bechadu­riaid: ond aros yn ofn yr Arglwydd yn hŷd y dydd.

18Pen. 24.14. Canys yn ddiau y mae gwobr; ac ni phalla dy ddisgwiliad.

19 Erglyw fy mab, a bydd ddoeth: a chy­farŵydda dy galon yn y ffordd.

20Rhuf. 13.13. Eph. 5.18. Na fydd ymmysg y rhai sydd yn meddwi ar wîn: ymmysg rhai glythion arHeb. eu cig. gîg.

21 Canys y meddw, a'r glwth a ddaw i dlodi: a chyscuHeb. a ddillada a char­piau. a bair fyned mewn gwisc garpiog.

22Pen. 1.8. Gwrando ar dy dâd a'th genhedlodd: ac na ddiystyra dy fam, pan heneiddio.

23 Pryn y gwir, ac na werth; felly doethi­neb, ac addysc, a deall.

24Pen. 10.1. & 15.20. Tad y cyfiawn a orfoledda yn fawr: a'r neb a genhedlo fab doeth, a lawenhâ o'i blegid.

25 Dy dâd a'th fam a lawenycha: a'r hon a'th ymddug a orfoledda.

26 Fy mab, moes i mi dy galon: dalied dy lygaid ar fy ffyrdd i.

27 CanysPen. 22.14. ffos ddyfn yw puttain: a phy­dew cyfyng yw 'r ddieithr.

28 Ie hiPen. 7.12. a gynllwyn felNeu, am yscly­faeth. gwilliad: ac a chwanega bechaduriaid ym mysc dynion.

29Esa. 5.11. I bwy y mae gwae? i bwy y mae och­ain? i bwy y mae cynnen? i bwy y mae dadwrdd? ac i bwy y mae gweliau heb achos? i bwy y mae llygaid cochion?

30 I'r neb sydd yn aros wrth y gwîn: i'r neb sydd yn myned i ymofyn am wîn cymys­cedig.

31 Nac edrych ar y gwîn pan fyddo côch, pan ddangoso ei liw yn y cwppan: pan ymgyn­nhyrfo yn iawn.

32 Yn y diwedd efe a frâth fel sarph: ac a biga fel neidr.

33 Dy lygaid a edrychant ar wragedd di­eithr: a'th galon a draetha drawsedd.

34 Ti a fyddi megis vn yn cyscuHeb. yngha­lon. yngha­nol y môr: ac fel vn yn cyscu ym mhen yr hwyl-bren.

35 Curent fi meddi, ac ni chlafychais: duli­ent fi, ac nis gwybûm: pan ddeffrowyf, mi a âf rhagof, mi a'i ceisiaf drachefn.

PEN. XXIV.

Pen. 23.17. & 24.19. Psal. 73.3. & 37.1.NA chenfigenna wrth wŷr annuwiol: ac na chwennych fod gyd â hwynt.

2Psal. 10.7. Canys eu calon a fyfyria anrhaith: a'i gwefusau a draetha flinder.

3 Trwy ddoethineb yr adeiledir tŷ, a thrwy ddeall y siccrheir ef.

4 A thrwy wybodaeth y llenwir y celloedd o bob golud gwerth-fawr, a hyfryd.

5 Gŵr doeth sydd nerthol: a gŵr pwyllog aHeb. gryfha nerth. chwanega ei nerth.

6 CanysPen. 20.18. & 11.14. & 15.22. trwy gyngor doeth y gwnei dy ryfel: a thrwy lawer o gynghor-wyr y bydd diogelwch.

7 Rhy vchel yw doethineb i ffol: ni egyr efe ei enau yn y porth.

8 Y neb a fwriada ddrygu, a elwir yn ysceler.

9 Bwriad y ffôl sydd bechod: a ffiaidd gan ddynion y gwatwarus.

10 Os llwfrhêiHeb. yn nydd. mewn amser cyfyngder,Heb. cyfyng. bychan yw dy nerth.

11Psal. 82.4. Gwared y rhai a luscir i angeu: a ymadewit â'r neb sydd barod iw lladd?

12 Os dywedi, wele, ni wyddom ni hyn: onid yw pwyswr y calonnau yn deall? a'r hwn sydd yn cadw dy enaid, oni ŵyr efe? ac oni thâl efe i bob vnJob. 34.11. Psal. 62.12. Jer. 32.19 Rhuf. 2.6 Dat. 22.12. yn ôl ei weithred?

13Psal. 19.10. & 119.103. Fy mab, bwyta fêl, canys da yw: a'r dil mêl, canys melus ywHeb. i daflod dy enau. i'th enau.

14 Felly y dydd gwybodaeth doethineb i'th enaid; os cei di hi,Pen. 23.18. yn ddiau se fydd gwobr, a'th obaith ni phalla.

15 Na chynllwyn di (ô annuwiol) wrth drigfa 'r cyfiawn, na anrheithia ei orphywysfa ef.

16Psal. 34.18. & 37.24. Job. 5.19. Canys seith-waith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn: ond yr annuwolion a syrthiant mewn drygioni,

17Psal. 35.15. Pen. 17.5. Job. 31.29. Pan syrthio dy elyn, na lawenycha: a phan dramgwyddo, na orfoledded dy galon:

18 Rhag i'r Arglwydd weled, a bod hynny yn ddrwg yn ei olwg ef, ac iddo droi ei ddig oddi wrtho ef attat ti.

19Psal. 37.1. Pen. 23.17. NacNeu, ymgyfei­llacha a'r drwg &c. ymddigia o herwydd y drwg­weithredwŷr; na chynfigenna wrth yr an­nuwolion.

20Pen. 13.9. Job. 21.17. Canys ni bydd gwobr i'r drygionus:Neu, lamp. canwyll yr annuwoliona ddiffoddir.

21 Fy mab ofna'r Arglwydd a'r brenin: ac nac ymmyr â'rHeb. newid­wyr. rhai anwastad.

22 Canys yn ddisymmwth y cyfyd eu destryw hwy: a phwy a ŵyr eu dinistr hwy ill dau?

23 Dymma hefyd bethau doethion:Levit. 19.15. pen. 18.5. & 28.21. Deut. 1.17. & 16.19. Joan. 7.24. nit da derbyn wyneb mewn barn.

24 Y neb a ddywedo wrth yr annuwiol,Pen. 17.15. Esay. 5.23. cyfiawn wyt, y bobl a'i melldithiant ef; cen­hedloedd a'i ffieiddiant ef:

25 Ond i'r neb a'l ceryddo, y bydd hyfry­dwch: a bendithHeb. dai mi. dda addigwydd iddynt.

26 Pawb a gusana wefusau 'r neb a attebo eiriau vniawn.

27 Darpara dy orchwyl oddi allan, a dospar­tha ef i ti yn y maes: ac wedi hynny adeilada dy dŷ.

28 Na fydd dŷst heb achos yn erbyn dy gymmydog, ac na huda â'th wefusau.

29Pen. 20.22. Na ddywed, mi a wnaf iddo ef, fel y gwnaeth yntef i minneu; mi a da [...]af i'r gŵr yn ôl ei weithred.

30 Mi a euthym heibio i faes y dŷn diog, a heibio i win-llan yr angall:

31 Ac wele, codasei drain ar hyd-ddo oll: danadl a guddiasci ei wyneb ef; a'i fagwyr ger­rig a syrthiase i lawr.

32 Gwelais hyn, ac mi aHeb. osodais fy nghal [...]n. ystyriais yn ddwys, edrychais arno, a chymmerais addysc.

33Pen. 6.9. Ychydig gyscu, ychydig heppian, ychydig wascu dwylo i gyscu.

34 Felly y daw dy dlodi megis ymdeith­ydd; a'th angen fel gwrHeb, tarian. arfog.

PEN. XXV.

1 Addysc ynghylch brenhinoedd, 8 a gochel a­chosion i ymrafaelio.

DYmma hefyd ddiharebion Salomon, y rhai agop. piodd. gasclodd gwŷr Ezeciah brenin Juda.

2 Anrhydedd Duw yw dirgelu peth, ond an­rhydedd brenin yw chwilio peth allan.

3 Y nefoedd am vchder, y ddaiar am ddyfnder; a chalon brenhinoedd, ni ellir eu chwilio.

4 Tynn yr amhuredd oddi wrth yr arian, a daw i'r gof-arian, lestr.

5Pen. 20.8. Tynn yr annuwiol o olwg y brenin, ei orseddfa ef a gadarnheir drwy gyfiawnder.

6 Nac ymogonedda ger bron y brenin: ac na saf yn lle gwŷr mawr.

7Luc. 14.10. Canys gwell it ddywedyd wrthit, tyret ymma i fynu, nâ'th fwrw yn îs, ger bron pende­fig, yr hwn a welodd dy lygaid.

8 Na ddôs allan i gynhennu ar frŷs: rhag na wypech beth a wnelych yn ei diwedd, wedi dy gywilyddio gan dy gymmydog.

9Matth. 5.25. & 18.15. Ymresymma â'th gymmydog ei hun: ond na ddatcuddia gyfrinachNeu, vn arall. i arall:

10 Rhag i'r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti: ac i'th gywilydd na thro ymaith.

11 Gair a ddywederNeu, yn ei le. Heb. ar ei olwynion. mewn amser, sydd megis afalau aur, mewn gwaith arian cerfiedig.

12 Cerydd-wr doeth, i'r glûst a wran lawo, sydd fel anwyl-dlws euraid, a gwisc o aur rha­gorol.

13Pen. 13.17. Megis oerder eira yn amser cynhaiaf, yw cennad ffyddlon i'r rhai a'i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistred.

14 Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gwmylau, a gwynt, heb law.

15Pen. 15.1. & 16.14. Gen. 32 5 1 Sam. 25.24. Drwy hir-ymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyrr ascwrn.

16 Pan gaffech fêl, bwytta a'th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi o honaw, i ti ei chwydu ef.

17Neu, Bid an­fynych dy droed yn nhy dy &c. Cadw dy droed allan o dŷ dy gym­mydog, rhag iddoHeb. gael digon. flino arnat, a'th gasau.

18 Y neb a ddygoPsal. 120.4. pen. 12.18. gam destiolaeth yn erbyn ei gymmydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem.

19 Hyder ar ffalswr yn nydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu.

20 Fel yr hwn a ddygo ymmaith wisc yn am­ser oerfel, ac fel fineger ar nitr, felly y mae yr hwn sydd yn canu caniadau i galon drift.

21Exod. 23.4. Rhuf. 12.20. Os dy elyn a newyna, portha ef â ba­ra; ac os sycheda, dôd iddo ddiod iw yfed.

22 Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef: a'r Arglwydd a dâl i ti.

23 Gwynt y gogleddHeb. a escor ar y glaw. a yrr y glaw ymaith: felly y gyrr Neu, tafod athrod­gar wyn [...] ­dig. wyneb-pryd digllon dafod athrod­gar.

24Pen. 2.9. & 19. 13. Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ, na chŷd â gwraig anynad mewn tŷ ehang.

25 Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlâd bell.

26 Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr ger bron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymmyscu â gofer budr.

27 Nit da bwyta llawer o fêl, ac fellyEcclus. 3.23. chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydedd yw.

28Pen. 16.32. Y neb ni byddo ganddo attal ar ei yspryd ei hun, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer.

PEN. XXVI.

1 Addysc yngylch ynfydion, 13 a rhai segurllyd; 17 ac ynghylch dynion cynhennus, trafferthus.

MEgis ôd yr hâf, neu law y cynhaiaf, felly nid cymmwys i'r ffôl anrhydedd.

2 Fel yr aderyn wrth grwydro, a'r wen­nol wrth ehedeg: felly y felldith ddiachos, ni ddaw.

3Pen. 110.13. Psal. 32.9 Ffrewyll i farch, ffrwyn i assyn, a gwia­len i gefn yr ynfyd.

4 Na atteb ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag dy fod yn gyffelyb iddo.

5 Atteb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd; rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun.

6 Y neb a yrro negesau gyd ag vn angall, a dyrr ymmaith y traed, ac a ŷfNeu, drais. golled.

7 Nid gogyhyd esceiriau y clôff: felly dam­meg yngenau ffyliaid.

8 Fel vnNeu, yn gosod maen gwerth­fawr mewn carnedd gerrig. yn rhwymo carreg mewn tafl; felly y gwna 'r neb a anthydeddo ffôl.

9 Fel draen yn myned i law dŷn meddw: felly y mae dihareb yngenau yr angall.

10N [...]u, Gwr mawr a gythru­dda bawb, ac sydd yn c [...]flogi y ffol, &c. Y Duw mawr yr hwn a luniodd bob peth, sydd yn gobrwyo y ffôl, ac yn talu i'r troseddwŷr.

112 Pet. 2.22. Megis y mae 'r ci yn dychwelyd at ei chwdfa; felly y mae y ffôl ynHeb. adwn [...] ­thur. dychwelyd at ei ffolineb.

12 A weli di ŵr doeth yn ei olwg ei hun? gwell yw 'r gobaith am ffôl nag am hwnnw.

13Pen. 22.13. Y mae llew mawr ar y ffordd, medd y diog, y mae llew yn yr heolydd.

14 Fel y drws yn troi ar ei golyn, felly y trŷ 'r diog yn ei wely.

15 YPen. 19.24. dîog a guddia ei law yn ei fynwes, blin ganddo ei hestyn at ei enau drachefn.

16 Doethach yw 'r diog yn ei olwg ei hun, nâ seithwŷr yn adrodd rheswm.

17 Y neb wrth fyned heibio aNeu, ymddigio mewn cynnen ni &c. ymmyr­ro â chynnen ni pherthyn iddo, sydd megis vn yn cymmeryd ci erbyn ei glustiau.

18 Fel dŷn gwall-gofus a dafloHeb. wreichion bentewy­nion tân, saethau, ac arfau marwolaeth:

19 Felly y mae 'r gŵr a dwyllo ei gym­mydog, ac a ddywod, ond cellwair yr ydwyf?

20 MegisHeb. heb go [...]d. pan ddarfyddo 'r coed, y diffydd y tân: felly pryd na byddoPen. 22.10. athrodwr,Heb. [...] der­fydd y gynnen.

21 Fel glo i'r marwor, a choed i'r tân, felly y mae gŵr cynhennusPen. 15.10. & 29.27. Ecclus 28.10. i ennyn cynnen.

22Pen. 18.8. Geiriau 'r athrodwr sydd megis archollion, a hwy a ddescynnant i gelloedd y bol.

23 Fel sorod arian wedi eu bwrw dros ddryll o lestr pridd; felly y mae gwefusau poeth, a chalon ddrwg.

24 Y digasog aNeu, adweinir. ragrithia â'i wefusau; ac yn ei galon yn bwriadu twyll.

25 PanHeb. wnelo ei leferydd yn hawdd­gar. ddywedo e [...]e yn dêg, nac ymddi­ried iddo: canys y mae saith [...]fieidd-dra yn ei galon ef.

26Neu, yn y dirgel. Drwy gyfrwysder y cuddir digasedd; ond ei ddrygioni a ddatguddir yn y gynnulleid­fa.

27Psal. 7.15. & 9.15. Eccles. 10.8. Y neb a gloddio bydew a syrth ynddo, a'r neb a dreiglo garreg, atto y dychwel.

28 Y tafod celwyddog a gasâ 'r neb a gystuddio efe, a'r genau gwenieithus a wna ddinistr.

PEN. XXVII.

1 Ynghylch serch arnom ein hunain: 5 Am wir gariad: 11 Gofalu am ochel rhwystrau: 23 A gofalu tros dŷ a thylwyth.

NACJac. 4.13. ymffrostia o'r dydd y foru: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.

2 Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan.

3 Trom yw'r garreg, a phwys-fawr yw 'r tywod, ond digofaint y ffôl sydd drymmach nâ hwy ill-dau.

4 Creulon yw llid, fel llif-ddwfr yw digofaint: a phwy a ddichon sefyll o flaenNeu, eiddigedd. cenfigen?

5 Gwell yw cerydd cyhoedd, nâ chariad cuddiedig.

6Psal. 141.5. Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cussanau y digasog ydyntNeu, daer, neu, aml. dwyllodrus.

7Heb. Yr enaid. Y dŷnJob. 6.7. llawn a fathra 'r dil mêl; ond i'r newynog, pob peth chwerw sydd fêlus.

8 Gŵr yn ymdaith o'i lê ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o'i nŷth.

9 Olew ac arogl-darth a lawenycha y ga­lon, felly y gwna mwynder cyfaill, trwy gyngorHeb. yr enaid. ffyddlon.

10 Nac ymado â'th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dâd: ac na ddôs i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder;Pen. 17.17. & 18.24 canys gwell yw cymmydog yn agos, nâ brawd ym mhell.

11Pen. 10.1. & 23, 24 Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fynghalon, fel y gallwyf atteb i'r neb a'm gwradwyddo.

12Pen. 22.3. Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgudd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gospir.

13Pen. 20.16. Cymmer wisc yr hwn a fachnio dros y dieithr; a chymmer wystl ganddo, dros y ddieithr.

14 Y neb a fendithio ei gydymaith â llef vchel, y boreu pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felldith iddo.

15Pen. 19.13. Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt.

16 Y mae yr hwn a'i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt; ac olew ei ddeheu-law, yr hwn a ymddengys.

17 Hayarn a hoga 'r hayarn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfeill.

18 Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwyty o'i ffrwyth ef; a'r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd.

19 Megis mewn dwfr y mae wyneb yn atteb i wyneb; felly y mae calon dŷn i ddŷn.

20Eccles. 1.8. Ni lenwir vffern na destryw, felly ni lenwir llygaid dŷn.

21Pen. 17.3. Fel y tawdd-lestr i'r arian, a'r ffwrnes i'r aur; felly y mae gwr i'w glod.

22 Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ym mhlith gwenith; etto nid ymedy ei ffolineb ag ef.

23 Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid,Heb. gosod dy galon ar dy braidd. gofala am dy braidd.

24 CanysHeb. nerth. cyfoeth ni phery byth: ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth?

25 Y gwair a flaendardda, a'r glas-wellt a ymddengys, a llysieu y mynyddoedd a gesclir.

26 Yr ŵyn a'th ddillada; ac o'r geifr y cei werth tîr.

27 Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti, yn fwyd i'th dŷlwyth, ac ynHeb. fywyd. gyn­haliaeth i'th langcesau.

PEN. XXVIII.

Athrawiaethau cyffredinol ynghylch annuwioldeb, a duwiol burdeb.

YRLevit. 26.36. annuwiol a ffŷ heb neb yn ei erlid; ond y rhai cyfiawn sydd hŷ megis llew.

2 O herwydd camwedd gwlâd, aml fydd ei phennaethiaid: ondNeu, trwy wyr pwyllog, &c. lle y byddo gwr pwyllog synhwyrol, yNeu, parhant hwy. pery hi yn hir.

3 Gŵr tlawd yn gorthrymmu tlodion, sydd debyg i lif-ddwfr,Heb. a heb lu­niaeth. yr hwn ni âd lynniaeth.

4 Y rhai a ymadawant â'r gyfraith, a gan­molant yr annuwiol: ond y neb a gadwant y gyfraith, a ymladd â hwynt.

5 Dynion annuwiol ni ddeallant farn: ond y neb a geisiant yr Arglwydd a ddeallant bob peth.

6Pen. 19.1. Gwell yw y tlawd a rodio yn ei vn­iawndeb, nâ'r traws ei ffyrdd, er ei fod yn gyfoe­thog.

7Pen. 29.3. Y neb a gadwo 'r gyfraith sydd fab de­allus: ond y nebNeu, a bortho loddest­wyr. a fyddo cydymaith i loddest­wŷr, a gywilyddia ei dâd.

8Pen. 13.22. Eccles. 2.26. Y neb a chwanego ei gyfoeth drwy vsu­riaeth ac occreth, sydd yn casclu i'r neb a fydd trugarog wrth y tlawd.

9 Y neb a drŷ ei glust ymmaith rhag gwran­do 'r gyfraith, fydd ffiaidd ei weddi hefyd.

10Pen. 26.27. Y neb a ddeno 'r cyfiawn i ffordd ddrwg, a syrth yn ei bydew ei hun: ond y cy­fiawn a feddianna ddaioni.

11 Gŵr cyfoethog sydd ddoeth yn ei olwg ei hun: ond y tlawd deallus a'i chwilia ef allan.

12Vers. 28. Pen. 29.2. & 11.10. Eccles. 10.6. Pan fyddo llawen y cyfiawn, y mae anrhydedd mawr: ond pan dderchafer yr an­nuwiolion, y chwilir am ddyn.

13Psal. 32.5. 1 Jo. 1.9.10. Y neb a guddio ei bechodau ni lwy­dda: ond y neb a'i haddefo, ac a'i gadawo, a gaiff drugaredd.

14 Gwyn ei fŷd y dŷn a ofno yn oestadol; ondRhuf. 2.5. y neb a galedo ei galon a ddigwydda i ddrwg.

15 Fel y llew rhuadus, a'r arth wangcus, yw llywydd annuwiol i bobl dlodion.

16 Pennadur heb ddeall, fydd yn fawr ei drawsedd: ond y neb a gasâo gybydd-dra, a estyn ei ddyddiau.

17Gen. 9.6. Exod. 21.14. Dŷn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffŷ i'r pwll, nac attalied neb ef.

18Pen. 10.25. Y neb a rodio yn vniawn a waredir: ond y neb a fyddo traws ei ffyrdd, a syrth ar vnwaith.

19Pen. 12.11. Ecclus. 20.21. Y neb a lafario ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno ofer-wŷr, a gaiff ddigon o dlodi.

20 Gŵr ffyddlon a fydd aml ei fendithion: ond yPen. 13.11. & 23 4. 1 Tim. 6.9. neb a bryssuro i fod yn gyfoethog, ni bydd digerydd.

21Pen. 18.5. & 24.23. Nid da derbyn wyneb; canys y cyf­ryw ŵr am dammaid o fara a wna gam.

22 Gŵr drwg ei lygaid a bryssura i ymgy­foethogi: ond bychan y gŵyr efe, y daw tlodi arno.

23Pen. 27.6. Y neb a geryddo ddyn, a gaiff yn y diwedd fwy o ffafr, nâ'r neb a draetho wen­iaith â'i dafod.

24 Y neb a yspeilio ei dâd neu ei fam, ac a ddywed, nid yw hyngamwedd, sydd gymmar i ddinistriwr.

25Pen. 13.10. Gŵr vchel elfeddwl a ennyn gynnen: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, a wneir yn frâs.

26 Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun sydd ffôl: ond y neb a rodio yn bwyllog a achubir.

27Deut 15.8. Pen. 22.9. Y neb a roddo i'r tlawd, ni bydd angen arno: ond y neb a guddio ei lygaid, a gaiff lawer o felldithion.

28Vers. 12. Pen. 29.2. Pan dderchafer yr annuwiol, dynion a ymguddia; ond wedi darfod am danynt, yr amlhêir y cyfiawn.

PEN. XXIX.

Addysc ynghylch llywodraeth gyffredinol, 15 a nailltuol: 22 ynghylch llid, balchder, llad­rad, llyrfder ac anŵraidd-dra, a llygredigaeth swyddogion.

GWrHeb. ceryddon [...] a gerydder yn fynych ac a galeda ei warr, a ddryllir yn ddisymmwth, fel na byddo meddyginiaeth.

2Pen. 11.10. & 28.28. Eccles: 10.5. Pan amlhaer y cyfiawn, y bobl a lawen­ychant: ond pan fyddo 'r annuwiol yn lly­wodraethu, y bobl a ocheneidia.

3Pen. 10.1. & 15.20. & 27.11. Gŵr a garo ddoethineb a lawenycha ei dâd: ond y neb a fyddoLuc. 15.13. Pen. 5.9. & 28.7. gyfaill i butteiniaid, a ddifa ei dda.

4 Brenin, drwy farn, a gardarnhâ y wlâd, ondHeb. gwr an­rhegion. y neb a garo anrhegion a'i dinistria hi.

5 Y gwr a ddywedo weniaith wrth ei gym­mydog, sydd yn tanu rhwyd iw draed ef.

6 Ynghamwedd dŷn drwg y mae magl, ond y cyfiawn a gân, ac a fydd lawen.

7Job. 29.16. Y cyfiawn a ystyria fatter y tlodion, ond yr annuwiol ni ofala am ei wybod.

8 Dynion gwatwarus aHeb. loscant. faglant ddinas; ond y doethion a droant ymmaith ddigofaint.

9 Os gŵr doeth a ymryson â dŷn ffôl, pa vn bynnac a wnel ai digio, ai chwerthin, etto ni bydd llonyddwch.

10 Gwŷr gwaedlyd a gasant yr vniawn, ond yr vniawn a gais ei enaid ef.

11 Y ffôl a dywallt ei holl feddwl: ond gŵr doeth a'i hattal hyd yn ôl.

12 Os llywydd a wrendy ar gelwydd; ei hôll weision fyddant annuwiol.

13 Y tlawdPen. 22.2. a'rNeu. ocerwr. twyllodrus a gŷd-gyfar­fyddant, a'r Arglwydd a lewyrcha eu llygaid hwy ill dau.

14Pen. 20.28. Y brenin a farno 'r tlodion yn ffydd­lon, ei orsedd a siccrheir.

15Gwel Vers. 17. Y wialen a cherydd a rydd ddoethi­neb:Pen. 10.1. & 17.21, 25. ond mab a gaffo ei rwysc ei hun, a gy­wilyddia ei fam.

16 Pan amlhâo 'r rhai annuwiol, yr amlhâ camwedd:Psal. 37.36. & 58.10. & 91.8. ond y rhai cyfiawn a welant eu cwymp hwy.

17Pen. 13.24. & 22.15. & 23.13. Cerydda dy fab, ac efe a bair i ti lo­nyddwch: ac a bair hyfrydwch i'th enaid.

18 Lle ni byddo gweledigaeth,Neu, y noethir y bobl. methu a wna 'r bobl: ond y neb a gadwo 'r gyfraith, gwyn ei fŷd ef.

19 Ni chymmer gwâs addysc ar eiriau: ca­nys er ei fod yn deall, etto nid ettyb.

20 A weli di ddŷn pryssur yn eiNeu, fatterion. eiriau? gwell yw 'r gobaith am y ffôl nag am dano ef.

21 Y neb a ddygo ei wâs i fynu yn foethus o'i febyd, o'r diwedd efe a fydd fel mab iddo.

22Pen. 15.18. & 26.21. Gŵr digllon a ennyn gynnen, a'r llidiog sydd aml ei gamwedd.

23Pen. 15.33. & 18.12. Job. 22.29. Mat. 23.12. Luc. 14.11. Balchder dŷn a'i gostwng ef, ond y gostyngedig o yspryd a gynnal anrhydedd.

24 Y neb a fo cyfrannog â lleidr, a gasâ ei enaid ei hun: efe a wrendy ar felldith, ac nis mynega.

25 Ofn dŷn sydd yn dwyn magl: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd a dderchefir.

26Pen. 19.6. Llawer a ymgeisiant ag wyneb y llywydd: ond oddiwith yr Arglwydd y mae barn pob dŷn.

27 Ffiaidd gan y cyfiawn ŵr anghyfiawn: a ffiaidd gan yr annuwiol ŵr vniawn ei ffordd.

PEN. XXX.

1 Cyffes Agur o'i ffydd. 7 Dan bwngc ei we­ddi ef. 10 Na ddy [...]id gwneuthur cam â'r rhai gwaelaf. 11 Pedair cenedlaeth ddrygionus. 15 Pedwar peth ni ellir eu digoni. 17 Na ddylid diystyru tâd a mam. 18 Pedwar peth anhawdd eu gwybod. 21 Pedwar peth ni ellir eu dioddef. 24 Pedwar peth doeth dros ben. 29 Pedwar peth mawr-frydig. 32 Rhaid yw achub blaen digofaint.

GEiriau Agur mab Jaceh: sef y brophwy­doliaeth: y gwr a lefarodd wrth Ithiel, wrth Ithiel meddaf, ac Vcal.

2 Yn wîr yr ydwyf yn ffolach nâ neb, ac nid oes deall dŷn gennif.

3 Ni ddyscais ddoethineb, acHeb. ni's gwn wybo­daith. nid oes gen­nif ŵybodaeth y sanctaidd.

4Job. 38.4. Psal. 104.3. Esa. 40.12. Jo. 3.13. Pwy a escynnodd i'r nefoedd, neu a ddes­cynnodd? pwy a gasclodd y gwynt yn ei ddyrnau? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn? pwy a gadarnhâodd ôll derfynau y ddaiar? beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei fab, os gwyddost?

5Psal. 12.6. & 18.30. & 19.8. & 119.140. Holl air Duw syddHeb. buredig. bur: tarian yw efe i'r neb a ymddiriedant ynddo.

6 N [...] Deut. 4.2. & 12.32. Datc. 22.18, 19. ddyro ddim at ei eiriau ef, rhag iddo d [...] [...]yddu, a'th gael yn gelwyddog.

7 [...] beth yr ydwyf yn eu gofyn gennit, Heb. nac attal hwynt oddi wrthif. na ommedd hwynt i mi cyn fy marw.

8 Tynn ym mhell oddi wrthif wagedd a chelwydd, na ddyro i mi na thlodi na chy­foeth; Mat. 6.11. portha fi a'm Heb. dogn. digonedd o fara.

9 Deut. 32.15. Rhag i mi ymlenwi, a'th wadu di, a dy­wedyd, pwy yw 'r Arglwydd? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lledratta, a chymmeryd enw fy Nuw yn ofer.

10 Heb. Na ni­weiddio a'th dafod. Nac achwyn ar wâs wrth ei feistr, rhag iddo dy felldithio, a'th gael yn euog.

11 Y mae cenhedlaeth a felldithia ei thâd, a'i mam ni fendithia.

12 Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddi wrth ei haflendid.

13 Pen. 6.17. Y mae cenhedlaeth, ô mor vchel yw ei llygaid! a'i hamrantau a dderchafwyd.

14 Psa. 51.2. & 57.4. Job. 29.17. Y mae cenhedlaeth, a'i dannedd yn gleddyfau, a'i chil-ddannedd yn gyllill: i ddifa 'r tlodion oddi ar y ddaiar, a'r anghenus o blith dynion.

15 I'r gele y mae dwy ferch, yn llefain, moes, moes. Tri pheth ni ddiwellir, ie pedwar peth ni ddywedant byth,Heb. golud. digon.

16 Y Bedd, y grôth amhlantadwy, y ddaiar ni ddiwellir â dyfroedd; â'r tân ni ddywed, digon.

17 Llygad yr hwn a watwaro ei dâd, ac a ddiystyro vfyddhau ei fam, a dynn cig-frainNeu, yr afon. y dyffryn, a'r cywion eryrod a'i bwyty.

18 Tri pheth sydd guddiedig i mi; ie pe­dwar peth nid adwaen:

19 Ffordd eryr yn yr awyr, ffordd neidr ar graig, ffordd llongHeb. ynghalon. ynghanol y môr, a ffordd gŵr gyd â morwyn.

20 Felly y mae ffordd merch odinebus, hi a fwyty, ac a sych ei safn, ac a ddywed, ni wneu­thum i anwiredd.

21 O herwydd tri pheth y cynnhyrfir y ddaiar, ac o herwydd pedwar, y rhai ni ddi­chon hi eu dioddef:

22Pen. 19.10. O herwydd gwâs pan deyrnaso, ac vn ffol pan lanwer ef o fwyd;

23 O herwydd gwraig atgâs pan brioder hi, a llawforwyn a êlo yn aeres iw meistres.

24 Y mae pedwar peth bychain ar y ddaiar, ac etto y maent yn ddoethHeb. wedi eu gwneu­thur yn ddoeth. iawn:

25Pen. 6.7. Nid yw 'r morgrug bobl nerthol, etto y maent yn darparu eu llynniaeth yr hâf:

26 Y cwningod nid ydynt bobl rymmus, etto hwy a wnânt eu tai yn y graig:

27 Y locustiaid nid oes brenin iddynt, etto hwy a ânt allanHeb. yn gyssyll­tedic. yn dorfeydd:

28 Y prŷf coppyn a ymafaela â'i ddwylaw, ac y mae yn llŷs y brenin.

29 Y mae tri pheth a gerddant yn hardd, ie pedwar peth a rodiant yn weddus;

30 Llew crŷf ym mhlith anifeiliaid, ni thrŷ yn ôl er neb:

31Neu, March. Heb. Gwregy­sedic ei lwynau. Milgi crŷf yn ei feingefn, a bwch, brenin, yr hwn ni chyfyd neb yn ei erbyn.

32Job. 21.5. & 39.37. & 40.4. Os buost ffôl yn ymdderchafu, ac os meddyliaist ddrwg, dyro dy law ar dy enau:

33 Yn diau corddi llaeth a ddwg allan ymenyn, a gwascu ffroenau a dynn allan waed: felly cymmell llid a ddwg allan gynnen.

PEN. XXXI.

1 Addysc Lemuel ynghylch diweirdeb a chymhe­drolder, 6 Bod yn rhaid cyssuro, ac amddiffyn y cystuddiedig. 10 Clod a chynneddfau gwraig dda.

GEiriau Lemuel frenin: y brophwydoliaeth a ddyscodd ei fam iddo.

2 Pa beth fy mab! pa beth mab fynghroth! ie pa beth mab fy addunedau!

3 Na ddyro i wragedd dy nerth: na'th ffyrdd i'r hyn a ddifetha frenhinoedd.

4 Nid gweddaidd i frenhinoedd, o Lemuel, nid gweddaidd i frenhinoedd, yfed gwîn: nac i bennaduriaid ddiod gadarn;

5 Rhag iddo yfed, ac ebargofi y ddeddf: a ne­widio barnHeb. holl fei­bion cy­studd. yr vn o'r rhai gorthrymmedig.

6Psal. 104.15. Rhoddwch ddiod gadarn i'r neb sydd ar ddarfod am dano: a gwîn i'r rhaiHeb. chwerw eu henaid. trwm eu calon.

7 Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na's meddylio am ei flin-fŷd mwy.

8 Agor dy enau dros y mûd; yn achos holl blant dinystr.

9 Agor dy enau, barn yn gyfiawn;Levit. 19.15. Deut. 1.16. a dadleu dros y tlawd a'r anghenus.

10Pen. 12.4. Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerth-fawroccach yw hi nâ'r carbwnci.

11 Calon ei gŵr a ymddiried ynddi: fel na bydd arno eisieu anrhaith.

12 Hi a wna iddo lês, ac nid drwg, hôll ddyddiau ei bywyd.

13 Hi a gais wlân a llin, ac a'i gweithia â'i dwy-law, yn ewyllysgar.

14 Tebyg yw hi i long marsiandwr, hi a ddwg ei hymborth o bell.

15 Hi a gyfyd hefyd liw nôs, ac a rydd fwyd iw thylwyth, a'i dogn iw llangcesau.

16 Hi a feddwl am faes, ac a'iHeb. cymmer. pryn ef; â gwaith ei dwylo, hi a blanna win-llan.

17 Hi a wregysa ei lwynau â nerth: ac a gryfhâ ei breichiau.

18 Hi aH [...]b. archwa [...] ­tha. wêl fôd ei marsiandiaeth yn suddiol; ni ddiffydd ei chanwyll ar hŷd y nôs.

19 Hi a rŷdd ei llaw ar y werthyd, a'i llaw a ddeil y cogeil.

20 Hi aHeb. leda. egyr ei llaw i'r tlawd, ac a estyn ei dwylo i'r anghenus.

21 Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira, canys ei holl dŷ hi a ddilledirNeu. a dillad dan ddy­blyg. ag ysgarlad.

22 Hi a weithia iddi ei hun garpedau, ei gwisc yw sidan a phorphor.

23 Hynod yw ei gwr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyd â henuriaid y wlâd.

24 Hi a wna liain main, ac a'i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr.

25 Nerth ac anrhydedd yw ei gwisc, ac yn yr amser a ddaw, hi a chwardd.

26 Hi a egyr ei genau yn ddoeth, a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi.

27 Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd.

28 Ei phlant a godant, ac a'i galwant yn ddedwydd: ei gŵr hefyd, ac a'i can-mol hi:

29 Llawer merch aNeu, gawsant olud. weithiodd yn rym­mus, ond ti a ragoraist arnynt ôll.

30 Siommedig yw stafr, ac ofer yw tegwch: ond benyw yn ofni yr Arglwydd, hi a gaiff glôd.

31 Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo, a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.

¶ECCLESIASTES, NEV Y PREGETH-WR.

PENNOD I.

1 Y Pregeth-wr yn dangos ofered gorchwylion dyn: 4 O herwydd bod y creaduriaid yn ddior­phwys yn eu cylchoedd, 9 nad ydynt yn dwyn dim newydd, a bod yr hen bethau wedi eu hebr­gofi, 12 ac o herwydd mai felly y cafodd efe wrth chwilio doethineb.

GEiriau y Pregeth-wr mâb Dafydd, frenin yn Jerusalem.

2Pen. 12.8. Ps. 144.4. & 39.6. & 62.9. Gwagedd o wagedd, medd y Pregeth-wr, gwagodd o wagedd, gwagedd yw 'r cwbl.

3Pen. 2.22. & 3.9. Pa fudd sydd i ddyn o'i holl lafur a gymmer efe dan yr haul?

4 Vn genhedlaeth â ymmaith, a chenhed­laeth a ddaw:Ps. 104.5. & 119.90. ond y ddaiar a saif byth.

5 Yr haul hefyd a gyfyd, a'r haul a fachlud, ac aHeb. ddyhea. brysura iw le, lle y mae yn codi:

6 Y gwynt â i'r dehau, ac a amgylcha i'r gogledd: y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol, y mae 'r gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd.

7Ps. 104.9. Job 38.10 Yr hôll afonydd a redant i'r môr, etto nid yw'r môr yn llawn: o'r lle y daeth yr afonydd, yno y dychwelantHeb. i fyned. eil-waith.

8 Pob peth sydd yn llawn blinder, ni ddichon dyn ei draethu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust â chlywed.

9Pen. 3.15. Y pêth a fu a fydd, a'r peth a wnaed a wneir, ac nid oes dim newydd dan yr haul.

10 A oes dim y gellir dywedyd am dano, edrych ar hwn, dymma beth newydd? efe fu eisus, yn yr hên amser o'n blaen ni.

11 Nid oes goffa am y pethau gynt, ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw, gan y rhai a ddaw ar ôl.

12 Myfi y Pregeth-wr, oeddwn frenin ar Israel yn Jerusalem:

13 Ac a roddais fyHeb. nghalon. mrŷd ar geisio, a chwilio drwy ddoethineb, am bôb peth a wnaed tan y nefoedd: y llafur blin yma a roddes Duw ar feibion dynion iNeu, ymgystu­ddio. ymguro ynddo.

14 Mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed tan haul; ac wele, gwagedd a gorth­rymder yspryd yw 'r cwbl.

15Pen. 7.13. Ni ellir vniawni yrhyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ddeffygiol.

16 Mi a ymddiddenais â'm calon fy hun, gan ddywedyd, wele, mi a aethym yn fawr,1. Bren. 4.30. & 10.7.23. ac a gesclais ddoethineb, tu hwnt i bawb a fu o'm blaen i yn Jerusalem, a'm calon aHeb. welodd. ddeallodd lawer o ddoethineb, a gŵybodaeth.

17Pen. 2.12. & 7.23. Mi a roddais fy nghalon hefyd i ŵy­bod doethineb, ac i ŵybod ynfydrwydd, a ffolineb: mi a ŵybûm fod hyn hefyd yn orthrymder yspryd.

18 Canys mewn llawer o ddoethineb, y mae llawer o ddig: a'r neb a chwanêgo ŵy­bodaeth, a chwanega ofid.

PEN. II.

1 Ofered gwaith dyn yn ei ddifyrrwch 12 Er bod y doeth yn well nâ 'r ynfyd, etto yr vn diwedd sydd i bob vn o'r ddau. 18 Ofered llafur dyn, gan fod yn rhaid iddo adael y cwbl, ni wyr i bwy. 24 Nad oes dim well nâ chymeryd llawe­nydd o'n llafur, etto rhodd Duw yw hynny.

MI a ddywedais yn fy nghalon, iddo yn awr, mi a'th brofaf â llawenydd; am hynny cymmer dy fŷd yn ddifyr; a [...] wele, hyn hefyd sydd wagedd.

2 Mi a ddywedais am chwerthin, [...] ac am lawenydd, pa beth a wna?

3Pen. 1. 17. Mi a geisiais yn fy ngh [...] Heb. dynnu fy ngnhawd a gwin [...]roddi i wîn, (etto yn arwain [...] ngalon mewn doethineb,) ac i gofleidio ffolineb, hyd oni welwn beth oedd y da hwnnw i feibion dynion, yr hyn a wnânt hwy tan y nefoedd, hôll ddyddiau eu bywyd,

4 Mi a wneuthum i mi waith mawr,Heb. rifedi dy­ddiau eu henioes. mi a adeiledais i mi dai, mi a blennais i'm win­llannoedd.

5 Mi a wneuthym erddi a pherllannau, ac a blennais ynddynt brennau o bôb ffrwyth.

6 Mi a wneuthym lynnau dwfr, i ddyfrhau â hwynt y llwynau sy 'n dwyn coed.

7 Mi a ddarperais weision, a morwynion hefyd yr oedd i miHeb. feibion ty. gaeth-weision tŷ; îe yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid, tu hwnt i bawb a suasei o'm blaen i yn Jerusalem.

81 Bren. [...].28. & 10.21. Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac au [...] a thryssor pennaf brenhinoedd, a thaleithi [...] mi a ddarperais i mi gantorion a chantores [...] a phôb rhyw offer cerdd, difyrrwch mei [...]ion dynion.

9 A mi a aethym yn fawr, ac a gy [...]yddais yn fwy nâ neb a fuasei o'm blaen i yn Jerusa­lem: a'm doethineb oedd yn sefyll gyd â mi.

10 A pha beth bynnac a ddeisyfiei fy lly­gaid, ni ommeddwn hwynt, ni attaliwn fy nghalon oddi wrth ddim hyfryd: canys fy ngha­lon a lawenychei yn fy holl lafur, a hyn oedd fy rhan i o'm holl lafur.

11 Yna mi a edrychais ar fy holl weithredo­edd a wnaethei fy nwylaw, ac ar y llafur a lafu­riais yn ei wneuthur: ac wele, hyn oll oedd Pen. 1.2. wagedd a gorthrymder yspryd, ac nid oedd dim budd tan yr haul,

12 Ac mi a droais i edrych ar ddoethineb, ac arPen. 1.17. & 7.23. ynfydrwydd, a ffolineb, (canys beth a wnai 'r dyn a ddeuei ar ol y brenin?Neu, yn y pe­thau, &c. y peth a wnaed eusus.)

Heb. [...] rha­ [...]riaeth [...] noethi­ [...]eb, mwy [...]ag mewn [...]n [...]ydrw­ [...]dd.13 Yna mi a welais fôd doethineb yn rhagori ar ffolineb, fel y mae goleuni yn rha­gori ar dywyllwch.

14Diha. [...].24. Pen. 8.1. Y doeth sydd a'i lygaid yn ei ben; ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch; ac etto mi a welais yr vn damwain yn digwydd iddynt oll.

15 Yna y dywedais yn fy nghalon, fel y digwydd i'r ffôl y digwydd i minneu, pa beth gan hynny a dâl i mi fôd yn ddoeth mwyach? yna y dywedais yn fy nghalon, fôd hyn hefyd yn wagedd.

16 Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth, yn dragywydd; y pethau sydd yr awr hon, yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof: a pha fodd y mae y doeth yn marw? fel yr annoeth.

17 Am hynny câs gennif einioes: canys blin gennif y gorchwyl a wneir tan haul, canys gwagedd a gorthrymder yspryd yw 'r cwbl.

18 Ie câs gennif fy holl lafur yr ydwyfi yn eiHeb, lafurio. gymmeryd tan haul, am fod yn rhaid i mi eiPsal. 49.10, &c adel i'r neb a fydd ar fy ôl i.

19 A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth sydd efe? etto efe a sydd feistr ar fy holl lafur, yr hwn a gymmerais, ac yn yr hwn y bum ddoeth tan haul. Dymma wagedd hefyd.

20 Am hynny mi a droais i beri i'm calon anobeithio o'r holl lafur a gymmerais tan yr haul.

21 Canys y mae dŷn yr hwn y mae ei lafur yn bwyllog, yn synhwyrol, ac yn vniawn: ac y mae yn eiHeb. roddi. adel yn rhan i'r neb ni lafuriodd wrtho: hyn hefyd sydd wagedd, a gorthrym­der mawr.

22Pen. 1. 3. & 3.9. Canys beth sydd i ddyn o'i holl lafur a gorthrymder ei galon, yr hwn a gymmerodd efe tan haul?

23 Canys ei holl ddyddiau syJob. 14.1. orthrym­der, a'i lafur yn ofid: ie ni chymmer ei galon esmwythdra y nôs: hyn hefyd sydd wagedd.

24Pen. 3.12, 22. & 5.18. & 8.15. Nid oes daioni mwy i ddŷn nag iddo fwyta ac ŷfed, a pheri iw enaid gael daioni o'i lafur: hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd hyn.

25 Canys pwy a ddichon fwytta? a phwy a'i mwynhae o'm blaen i?

26 Canys i'r dŷn a fyddo daHeb. ger ei fron ef. yn ei olwg ef, y rhydd Duw ddoethineb, a gwybodaeth, a llawenydd: ond i'r pechadur y rhydd efe boen i gasclu, ac i dyrru,Job 27.17. iw roddi i'r neb a fyddo da ger bron Duw: hynny hefyd sydd wagedd, a gorthrymder yspryd.

PEN. III.

1 Bod anghenrhaid gyfnewid yr amseroedd, yn chwanegu gwagedd at lafur dyn. 11 Godi­dowgrwydd gweithredoedd Duw: 16 Ond dyn, Duw a farn ei weithredoedd ef yn y byd a ddaw, ac yma ni bydd ond cyffelyb i anifail.

Y Mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan tan y nefoedd.

2 Amser iHeb. escor. eni, ac amser i farw; amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd;

3 Amser i ladd, ac amser i iachau; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu;

4 Amser i ŵylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio;

5 Amser i daflu cerrig ymaith, ac amser i gasclu cerrig ynghyd; amser i ymgofleidio, ac amser iHeb. b [...]hau oddiwrth ochel ymgofleidio;

6 Amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymmaith;

7 Amser i rwygo, ac amser i wnio; amser i dewi, ac amser i ddywedyd;

8 Amser i garu, ac amser i gasau; amser i ryfel, ac amser i heddwch.

9Pen. 1.3. Pa fudd sydd i'r gweithudd yn yr hyn y mae 'n llafurio?

10 Mi a welais y blinder a roddes Duw ar feibion dynion, i ymflino ynddo.

11 Efe a wnaeth bôb pêth yn dêg yn ei amser: efe a osododd y bŷd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dŷn gael allan y gwaith a wnaeth Duw o'r dechreuad hyd y diwedd.

12 Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fôd yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd.

13 A bod i bob dŷn fwyta, ac yfed, a mwynhau daioni o'i holl lafur; rhodd Duw yw hynny.

14 Mi a wn beth bynnac a wnêl Duw, y bydd hynny byth; ni ellir na bwrw atto, na thynnu dim oddi wrtho: ac y mae Duw yn gwneuthur hyn, fel yr ofnei dynion ger ei fron ef.

15Pen. 1.9. Y peth a fu o'r blaen, sydd yr awron: a'r peth sydd ar ddyfod, a fu o'r blaen: Duw ei hun a ofyn y peth aHeb. yrrwyd ymaith. aeth heibio.

16 Hefyd mi a welais dan yr haul le barn, yno 'r oedd annuwioldeb; a lle cyfiawnder, yno 'r oedd anwiredd.

17 Mi a ddywedais yn fy nghalon, Duw a farn y cyfiawn a'r anghyfiawn:Vers. 1. canys y mae amser i bôb amcan, ac i bôb gwaith yno.

18 Mi a ddywedais yn fy nghalon am gyflwr meibion dynion;Neu, fel y gw­naent Dduw yn bur, ac y gwelent mai, &c. fel y bydde i Dduw eu hamlygu hwynt, ac y gwelent hwy­thau mai anifeiliaid ydynt.

19Psal. 49.20. pen. 2.16 Canys digwydd meibion dynion a ddigwydd i'r anifeiliaid, yr vn digwydd sydd iddynt; fel y mae 'r naill yn marw, felly y bydd marw'r llall: iê yr vn chwythad sydd iddynt oll: fel nad oes mwy rhagoriaeth i ddŷn nag i anifail: canys gwagedd yw 'r cwbl.

20 Y mae y cwbl yn myned i'r vn lle: pob vn sydd o'r pridd, a phob vn a drŷ i'r pridd eilwaith.

21 Pwy a edwyn ysprydHeb. meibion dyn. dŷn, yr hwn sydd yn escyn i fynu, a chwythad anifail, yr hwn sydd yn descyn i wared i'r ddaiar?

22Pen. 2.24. & 5.18. Am hynny mi a welaf nad oes dim well nag i ddyn ymlawenychu yn ei weithre­doedd ei hun, canys hyn yw ei ran ef: canys pwy a'i dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl?

PEN. IV.

1 Bod trais, 4 a chynfigen, 5 a seguryd, 7 a chybydd-dod, 9 a nailltuolrwydd, 13 a gwrth­nysigrwydd, yn chwanegu ar wagedd dyn.

FellyPen. 5.8. &c. mi a ddychwelais, ac a edrychais ar yr hôll orthrymderau sydd tan yr haul; ac wele ddagrau y rhai gorthrymmedig heb nêb iw cyssuro, ac ar law eu treis-wŷr yr oedd gallu, a hwythau heb neb iw cyssuro.

2Job 3.17, &c. Ac mi a ganmolais y meirw y rhai sydd yn barod wedi marw, yn fwy nâ'r byw, y rhai sydd yn fyw etto.

3Job 3.11.16.21. Gwell nâ'r ddau yw 'r neb ni bu erioed, yr hwn ni welodd y gwaith blin sydd tan haul.

4 Ac mi a welais fôd pob llafur, a phob vniondeb gwaith dŷn,Heb. mai hyn yw cynfi­gen dyn gan ei gymmy­dog. yn peri iddo genfigen gan ei gymmydog; hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder yspryd.

5Dih. 6.10. & 24.33. Y ffôl a wasc ei ddwylo ynghŷd, ac a fwyty ei gnawd ei hun.

6Dih. 15.16. & 16.8. Gwell yw lloneid llaw trwy lony­ddwch, [Page] na lloneid dŵy law trwy flinder a gorthrymder yspryd.

7 Yna mi a drois, ac a welais wagedd tan yr haul.

8 Y mae vn yn vnic ac heb ail; îe nid oes iddo na mâb na brawd; ac etto nid oes diwedd ar ei lafur oll: îe ni chaiff ei lygaid ddigon o gyfoeth, ni ddywed efe, i bwy yr ydwyf yn llafu­rio, ac yn difuddio fy enaid oddi wrth hy­frydwch? hyn hefyd sydd wagedd, ac dymma drafferth flin.

9 Gwell yw dau nag vn, o achos bod iddynt wobr da am eu llafur;

10 Canys os syrthiant, y naill a gyfyd y llall; ond gwae yr vnic: canys pan syrthio efe, nid oes ail iw gyfodi.

11 Hefyd os dau a gŷd-orweddant, hwy a ymgynhesant, ond yr vnic, pa fodd y cynnesa efe?

12 Ac os cryfach fydd vn nag ef, dau a'i gwrthwynebant yntef; a rhaff deir-caingc ni thorrir ar frys.

13 Gwell yw bachgen tlawd a doeth, na brenin hên ac ynfyd, yr hwn ni feidr gym­meryd rhybydd mwyach.

14 Canys y naill sydd yn dyfod allan o'r carchar-dŷ i deyrnasu, a'r llall wedi ei eni yn ei frenhiniaeth, yn myned yn dlawd.

15 Mi a welais y rhai byw oll, y rhai sydd yn rhodio dan yr haul, gyd â'r ail mâb, yr hwn a saif yn ei le ef.

16 Nid oes diben ar yr holl bobl, sef ar y rhai oll a fu o'i blaen hwynt, a'r rhai a ddêl ar ôl, ni lawenychant ynddo: gwagedd yn ddiau a blinder yspryd yw hyn hefyd.

PEN. V.

1 Gwagedd yngwasanaeth Duw, 8 mewn grwg­nach yn erbyn trais, 9 ac mewn cyfoeth, 18 Rhodd Duw yw cael llawenydd o'n cyfoeth.

GWilia ar dy droed, pan fyddech yn myned i dŷ Dduw, a bydd barottach i wrando1 Sam. 15.22. Psal. 50.8. Dih. 15.8. & 21.27. nag i roi aberth ffyliaid; canys ni wyddant hwy eu bôd yn gwneuthur drwg.

2 Na fydd ry brysur â'th enau, ac na frysied dy galon i draethuNeu, gair. dim ger bron Duw: ca­nys Duw sydd yn y nefoedd, a thitheu sydd ar y ddaiar; ac am hynnyMat. 6.7 Dih. 10.19. bydded dy eiriau yn anaml.

3 Canys breuddwyd a ddaw o drallod law­er: ac ymadrodd y ffôl o laweroedd o eiriau.

4 PanDeut. 23.21. addunedech adduned i Dduw, nac oeda ei thalu; canys nid oes ganddo flâs ar rai ynfyd; yPsal. 66.13, 14. peth a addunedaist tâl.

5 Gwell i ti fôd heb addunedu, nag i ti addunedu, a bôd heb dalu.

6 Na âd i'th enau beri i'th gnawd bechu, ac na ddywed ger bron yr angel, amryfusedd fu: pa ham y digiai Duw wrth dy leferydd, a dife­tha gwaith dy ddwylo?

7 Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd, ac mewn llawer o eiriau: ond ofna di Dduw.

8 Os gweli dreisio y tlawd, a thraws-wyro barn a chyfiawnder mewn gwlâd; na ryfeddaHeb. wrth yr ewyllys, neu, yr amcan. o achos hyn, canys y mae hwn sydd vwch nâ 'r vchaf yn gwilied, ac y mae vn sydd vwch nâ hwynt.

9 Cynnyrch y ddaiar hefyd sydd i bôb peth: wrth dir llafur y mae y brenin yn byw.

10 Y nêb a garo arian, ni ddigonir ag arian, na'r nêb a hoffo amldra, a chynnyrch: hyn hefyd sydd wagedd.

11 Lle y byddo llawer o dda, y bydd llawer iw ddifa: pa fudd gan hynny sydd i'w perchen­nog, ond ei gweled â'i llygaid?

12 Melus yw hûn y gweith-wr, pa vn byn­nac ai ychydig ai llawer a fwytao: ond llawn­der y cofoethog ni âd iddo gyscu.

13 Y mae trueni blin a welais tan yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed iw perchen­nog.

14 Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin, ac efe a ennill fab, ac nid oes dim yn ei law ef.

15Job. 1.21. 1 Tim. 6.7. Psal. 49.17. Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth, y dychwel i fyned modd y daeth, ac ni ddwg ddim o'i lafur yr hyn a ddygo ymmaith yn ei law.

16 A hyn hefyd sydd ofid blin, yn hollawl y modd y daeth, felly yr â efe ymmaith:Pen. 1.3. a pha fudd sydd iddo ef a lafuriodd am y gwynt?

17 Ei hôll ddyddiau y bwyty efe mewn tywyllwch, mewn digter mawr, gofid, a llid.

18Pen. 2.24. & 3.12. Wele y peth a welais i,Heb. Y mae peth da yr hwn sydd deg. da yw a thêg i ddyn; bwytta, ac yfed, a chymmeryd byd da o'i hôll lafur a lafuria tan yr haul,Heb. rifedi dyddiau. holl ddy­ddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo: canys hynny yw ei ran ef.

19 Ie i bwy bynnac y rhoddos Duw gyfoeth a golud, ac y rhoddes iddo rydd-did i fwyta o honynt, ac i gymmeryd ei ran, ac i lawen­ychu yn ei lafur; rhodd Duw yw hyn.

20Neu, Er na rydd lawer, etto efe a gofia ddyddiau &c. Canys ni fawr gofia efe ddyddiau ei fywyd, am fôd Duw yn atteb i lawenydd ei galon ef.

PEN. VI.

1 Ofered yw cyfoeth heb eu harfer, 3 Plant, 6 Henaint heb gyfoeth. 9 Ofered golwg, a deisyfiadau anwastad. 11 Diweddgwlwm ar bob gwagedd.

Y Mae drwg a welais tan haul, a hwnnw ynaml. fawr ym mysc dynion.

2 Gŵr y rhoddodd Duw iddo gyfoeth, a golud, ac anrhydedd, heb arno eisieu dim iw enaid ar a ddymunei; a Duw heb roi gallu iddo i fwytta o honaw; ond estron a'i bwytty; dymma wagedd, ac y mae yn ofid blin.

3 Os ennill gwr gant o blant, ac a fydd byw lawer o flynyddoedd, fel y bôdyddiau ei flyny­ddoedd yn llawer, os ei enaid ni ddiwellir â daioni, ac oni bydd iddo gladdedigaeth, mi a ddywedaf mai gwell yw erthyl nag ef.

4 Canys mewn oferedd y daeth, ac yn y tywyllwch yr ymedy, a'i enw a guddir â thy­wyllwch.

5 Yntau ni welodd mo'r haul, ac ni wybu ddim: mwy o lonyddwch sydd i hwn nag i'r llall.

6 Pe byddei efe fyw ddwy-fil o flynyddo­edd, etto ni welodd efe ddaioni: onid i'r vn lle yr â pawb?

7 Holl lafur dŷn sydd tros ei enau, ac etto ni ddiwellir ei enaid ef.

8 Canys pa ragoriaeth sydd i'r doeth mwy nag i'r annoeth? beth sydd i'r tlawd a fedr ro­dio ger bron y rhai byw?

9 Gwell yw golwg y llygaid nag ymdaith yr enaid: hyn hefyd sydd wagedd a gorth­rymder yspryd.

10 Beth bynnac fu, y mae henw arno: ac y mae yn hyspys mai dŷn yw efe: ac ni ddichon efe ymryson â'r neb sydd drêch nag ef.

11 Gan fod llawer o bethau yn amihau gwagedd, beth yw dyn well?

12 Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn,Heb. rifedi dy­ddiau by­wyd ei oferedd. ôll ddyddiau ei fywyd ofer, y rhai a dreulia efe felPsal. 144.4. cyscod: canys pwy a ddengys i ddŷn beth a ddigwydd ar ei ôl ef tan yr haul?

PEN. VII.

1 Help yn erbyn gwagedd, yw enw da, 2 marwo­laethu y cnawd, 7 ymmynedd, 11 Doethineb, 23 ac anhawsed ydyw ei chael.

Dihar. 22.1. & 15.30.GWell yw enw da nag ennaint gwerth­fawr, a dydd marwolaeth nâ dydd gene­digaeth.

2 Gwell yw myned i dŷ galar, nâ myned i dŷ gwledd, canys hynny yw diwedd pôb dŷn, a'r byw a'i gesyd at ei galon.

3 Gwell ywNeu, tristwch. digter nâ chwerthin: canys trwy dristwch yr wyneb-prŷd y gwellheir y galon.

4 Calon doethion fydd yn nhŷ y galar: ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd.

5Dihar. 23.18. & 15.31, 32. Gwell yw gwrando sen y doeth, nâ gwrando can ffyliaid.

6 Canys chwerthiniad dŷn ynfyd, sydd fel clindarddach drain tan grochan; dymma wa­gedd hefyd.

7 Yn ddiau trawsedd a ynfyda 'r doeth, aDeut. 16.19. rhôdd a ddifetha yr galon.

8 Gwell yw diweddiad peth nâ'i ddechreu­ad; gwell yw y dioddefgar o yspryd nâ'r balch o vspryd.

9Dihar. 14.17. & 16.32. Na fydd gyfiym yn dy yspryd i ddigio: o blegit dig sydd yn gorphywys ym mynwes ffyliaid.

10 Na ddywed, pa ham y bu 'r dyddiau o'r blaen yn well nâ'r dyddiau hyn? canys nid o ddoethineb yr wyt yn ymofyn am y peth hyn.

11Neu. Cystal yw doethineb ac etife­ddiaeth: ie gwell i'r rhai sydd &c. Da yw doethineb gyd ag etifeddiaeth; ac o hynny y mae elw i'r rhai sydd yn gweled yr haul.

12 Canys cyscod yw doethineb, a chyscod yw arian, ond rhagoriaeth gŵybodaeth, yw bod doethineb yn rhoddi bywyd i'w pherchen­nog.

13Pen. 1.15. Edrych ar orchwyl Duw: canys pwy a all vnioni 'r peth a gammodd efe?

14 Yn amser gwynfyd, bydd lawen; ond yn amser adfyd, ystyria: Duw hefyd a wnaeth y naill ar gyfeir y llall, er mwyn na chai dyn ddim ai ei ôl ef.

15 Hyn ôll a welais yn nyddiau fy ngwa­gedd; y mae vn cyfiawn yn diflannu yn ei gy­fiawnder, ac y mae vn annuwiol yn estyn ei ddyddiau yn ei ddrygioni.

16 Na fydd ry gyfiawn, ac na chymmer arnat fôd yn rhy ddoeth: pa ham i'th ddife­thit dy hun?

17 Na fydd ry annuwiol, ac na fydd ffôl: pa ham y byddit farwHeb, Nid yn dy amser. cyn dy amser.

18 Da i ti ymafel yn hyn, ac oddi wrth hyn na ollwng dy law: canys y neb a ofno Dduw a ddaw allan o honynt oll.

19Dihar. 21.22. & 24.5. pen. 9.16. Doethineb a nertha 'r doeth, yn fwy nâ dêc o gedyrn a fyddant yn y ddinas.

201 Bren. 8.46. 2 Cron. 6.36. Dih. 20.9 1 Joan. 1.8. Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaiar, a wna ddaioni, ac ni phecha.

21 Na Heb. ddod. osod dy galon ar bob gair a ddywe­der; rhag it glywed dy wâs yn dy felldithio.

22 Canys llawer gwaith hefyd y gŵyr dy galon ddarfod i ti dy hun felldithio eraill.

23 Hyn oll a brofais drwy ddoethineb; mi a ddywedais, m [...] a fyddaf ddoeth, a hitheu ym mhell oddi wrthif.

24 Y peth sydd bell a dwfn iawn, pwy a'i caiff?

25 Mi a droaîs â'm calon i wybod, ac i chwilio, ac i geisio doethineb, a rheswm: ac i adnabod annuwioldeb ffolineb, sef ffolineb, ac ynfydrwydd:

26Dihar. 22 14. Ac mi a gefais beth chwerwach nag angeu, y wraig y mae ei chalon yn faglau ac yn rhwydau, a'i dwylo yn rhwymau: y neb sydd ddaHeb. gar bron. gan Dduw, a waredir oddi wrthi hi, ond pechadur a ddelir genddi.

27 Wele, hyn a gefais (medd y pregeth­wr) wrth chwilio o'r naill beth i'r llall, i gael ycyfrif. rheswm:

28 Yr hwn beth etto y chwilia fy enaid am dano, ac ni chefais; vn gŵr a gefais ym mhlith mil, ond vn wraig yn eu plith hwy oll ni's ce­fais.

29 Wele hyn yn vnic a gefais,Gen. 1.27. wneuthur o Dduw ddŷn yn vniawn: ond hwy a chwi­liasant allan lawer o ddychymmygion.

PEN. VIII.

1 Am vfyddhau brenhinoedd. 6 Rhaid yw dal ar ragluniaeth Duw. 12 Gwell yw 'r byd ar y duwiol mewn adfyd, nag ar yr annuwiol mewn hawddfyd. 16 Mor anchwiliadwy yw gwei­thredoedd Duw.

PWy sydd debyg i'r doeth? a phwy a fedr ddeongl peth?Dihar. 17.24. doethineb gŵr a lewyr­cha ei wyneb, a nerth ei wyneb ef a newidir.

2 Yr ydwyf yn dy rybuddio i gadw gor­chymyn y brenin, a hynny o herwydd llw Duw.

3 Na ddôs ar frys allan o'i olwg ef, na saf mewn peth drwg: canys efe a wna a fynno ei hun.

4 Lle y byddo gair y brenin y mae gallu: a phwy a ddywed wrtho, beth yr wyt ti yn ei wneuthur?

5 Y neb a gadwo y gorchymyn, ni wybydd oddiwrth ddrwg: a chalon y doeth a edwyn amser, a barn.

6 Canys y mae amser a barn i bob amcan: ac y mae trueni dyn yn fawr arno.

7 Canys ni ŵyr efe beth a fydd: canys pwy a ddengys iddo paNeu, fodd. bryd y bydd?

8 Nid oes vn dŷn yn arglwyddiaethuJob 14.5. ar yr yspryd, i attal yr yspryd; ac nid oes ganddo allu yn nydd marwolaeth: ac nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw, ac nid achub annu­wioldeb ei pherchennog.

9 Hyn oll a welais i, a gosodais fy nghaion ar bob gorchwyl a wneir dan haul; y mae amser pan arglwyddiaetha dŷn ar ddŷn, er drwg iddo.

10 Ac felly mi a welais gladdu y rhai an­nuwiol, y rhai a ddaethent, ac a aethent o le y Sanctaidd, a hwy a ebergofwyd yn y ddinas, lle y gwnaethent felly: gwagedd yw hyn hefyd.

11 O herwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan; am hynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt, i wneu­thur drwg.

12 Er gwneuthur o bechadur ddrwg gan­waith, ac estyn ei ddyddiau ef;Psal. 37 10, 11, 19. etto mi a wn yn ddiau y bydd daioni i'r rhai a ofnant Dduw, y rhai a arswydant ger ei fron ef.

13 Ond ni bydd daioni i'r annuwiol, ac ni estyn efe ei ddyddiau: y rhai sydd gyffelyb i gyscod, am nad yw yn ofni ger bron Dûw.

14 Y mae gwagedd a wneir ar y ddaiar, bod y cyfiawnPsal. 73, 13, yn damwain iddynt yn ôl [Page] gwaith y drygionus: a bod y drygionus yn digwyddo iddynt yn ôl gwaith y cyfiawn: mi a ddywedais fod hyn hefyd yn wagedd.

15Pen. 3.22. Yna mi a ganmolais lawenydd, am nad oes dim well i ddŷn dan haul, ni bwyta ac yfed, a bod yn llawen: canys hynny a lŷn wrth ddŷn o'i lafur, ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo tan yr haul.

16 Pan osodais i fy nghalon i wybod doe­thineb, ac i edrych ar y drafferth a wneir ar y ddaiar, (canys y mae ni wêl hûn â'i lygaid, na dydd na nôs:)

17 Yna mi a edrychais ar holl waith Duw, na ddichon dŷn ddeall y gwaith a wneir tan haul; oblegid, er i ddyn lafurio i geisio, etto nis caiff, îe pe meddyliei y doeth fynnu gŵy­bod, etto ni allai efe gael hynny.

PEN. IX.

1 Yr vn fath bethau a ddigwydd i'r drwg ac i'r da. 4 Bod yn anghenrhaid i ddynion farw. 7 Cyssur yw eu holl ran hwy yn y fuchedd yma. 11 Bod rhagluniaeth Duw yn llywodraethu pob peth. 13 Gwell yw doethineb na chryfdwr.

ER hyn oll mi aHeb. roddais at fy nghalon. ystyriais yn fy nghalon, i ddangos hyn oll: bod y cyfiawn a'r doethion, a'i gweithredoedd yn llaw Dduw; ni ŵyr dyn gariad, neu gas, wrth yr hyn oll sydd o'i blaen.

2Mal. 3.14.15. Psal. 73.2.3.12.13. Yr vn peth a ddamwain i bawb fel i gilydd; yr vn peth a ddamwain i'r cyfiawn, ac i'r annuwiol, i'r da, ac i'r glân, ac i'r aflân; i'r neb a abertha; ac i'r neb ni abertha; fel y mae 'r da, felly y mae y pechadur, a'r neb a dyngo, fel y neb a ofno dyngu.

3 Dymma ddrwg ymmysc yr holl bethau a wneir tan haul, sef bod yr vn diben i bawb; hefyd calon meibion dynion sydd yn llawn drygioni, ac ynfydrwydd sydd yn eu calon, tra fyddant fyw; ac yn ôl hynny y maent yn myned at y meirw.

4 Canys i'r neb a fo ynghymdeithas y rhai byw oll, y mae gobaith: canys gwell yw ci byw nâ llew marw.

5 O herwydd y rhai byw, a ŵyddant y byddant feirw, ond nid oes dim gŵybodaeth gan y meirw, ac nid oes iddynt wobr mwyach, canys eu coffa hwynt a anghofi­wyd.

6 Eu cariad hefyd a'i câs, a'i cenfigen, a ddarfu yn awr; ac nid oes iddynt gyfran byth mwy o ddim oll a wneir tan yr haul.

7 Dôs, bwyta dy fwyd yn llawen, ac ŷf dy win â chalon hyfryd; canys yn awr cym­meradwy gan Dduw dy weithredoedd.

8 Bydded dy ddillad yn wynion bob amser, ac na fydded diffyg olew ar dy ben.

9Heb. gwd fy­wyd. Dwg dy fŷd yn llawen gyd â'th wraig anwyl holl ddyddiau bywyd dy oferedd, y rhai a roddes efe i ti tan yr haul, holl ddyddiau dy oferedd:Pen. 2.24. & 3.13. & 5. 18. canys dyna dy ran di yn y bywyd yma, ac yn dy lafur a gymmeri tan yr haul.

10 Beth bynnac a ymafel dy law ynddo iw wneuthur, gwna â'th oll egni, canys nid oes na gwaith na dychymmyg, na gwybodaeth, na doethineb, yn y bedd, lle yr wyt ti yn myned.

11 Mi a drois ac a welais tan haul, nad yw y rhedfa yn eiddo 'r cyflym, na 'r rhyfel yn eiddo 'r cedyrn, na 'r bwyd yn eiddo 'r doethion, na chyfoeth yn eiddo 'r pwyllog, na ffafr yn eiddo 'r cyfarwydd: ond amser, a damwain a ddigwydd iddynt oll.

12Dihar. 29.6. Canys ni ŵyr dŷn chwaith ei amser, fel y pyscod a ddelir â'r rhwyd niweidiol, ac fel yr adar a ddelir yn y delm; felly y delir plant dynion yn amser drwg, pan syrthio arnynt yn ddisymmwth.

13 Hefyd y doethineb hyn a welais i tan haul, ac sydd fawr gennif fi.

14 Yr oedd dinas fechan, ac ynddi ychydig wŷr; a brenin mawr a ddaeth yn ei herbyn hi, ac a'i hamgylchynodd, ac a gododd glawdd vchel yn ei herbyn:

15 A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth, ac efe a waredodd y ddinas honno â'i ddoethine [...]; etto ni chofiodd neb y gŵr tlawd hwnnw.

16Dihar. 21.22 pen. 7.19 Yna y dywedais, gwell yw doethineb nâ nerth, er hynny dirmygir doethineb y tlawd, ac ni wrandewir ar ei eiriau ef.

17 Geiriau y doethion a wrandewir mewn distawrwydd, rhagor bloedd yr hwn sy'n lly­wodraethu ym mysc ffyliaid.

18 Gwell yw doethineb nag arfau rhyfel, ond vn pechadur a ddinistria lawer o ddai­oni.

PEN. X.

1 Pethau i ddal arnynt ynghylch doethineb ac ynfydrwydd. 16 Am anllywodraeth, 18 diogi, 19 ac arian. 20 Rhaid i bawb feddwl yn bar­chedig o'r brenin.

GWybedHeb. marwo­laeth. meirw a wnant i ennaint yr apothecari ddrewi: felly y gwna ychydig ffôlineb i wr ardderchog o herwydd doethineb ac anrhydedd.

2 Calon y doeth sydd ar ei ddeheu-law, a chalon y ffôl ar ei law asswy.

3 Ie y ffôl pan rodio ar y ffordd, sydd a'i galon yn pallu, ac y mae yn dywedyd wrth bawb ei fod yn ffôl.

4 Pan gyfodo yspryd pennadur yn dy er­byn, nac ymado â'th lê; canys ymostwng a ostega bechodau mawrion.

5 Y mae drwg a welais tan yr haul, cyffelyb i gyfeiliorni sydd yn dyfod oddi ger bron y llywydd.

6 Gosodir ffolineb mewnHeb. vchel­derau mawr. graddau vchel, a'r cyfoethog a eistedd mewn llê isel.

7 Mi a welais weisionDihar. 30 22. ar feirch, a thywy­sogion yn cerdded fel gweision ar y ddaiar.

8Psal. 7.15. Dihar. 26.27. Ecclus. 27.26. Y sawl a gloddio bwll a syrth ynddo; a'r neb a wascaro gae, sarph a'i brâth.

9 Y sawl a symudo gerrig, a gaiff ddolur oddi wrthynt, a'r nêb a holldo goed, a gaiff niwed oddi wrthynt.

10 Os yr hayarn a bŷla, oni hoga efe y mîn, rhaid iddo roi mwy o nerth; etto doethi­neb sydd ragorol i gyfarwyddo.

11 Os brâth sarph heb swyno, nid gwell ywHeb. perchen tafod. dyn siaradus.

12 GeiriauDihar. 10.31. & 12.13. genau, 'r doeth syddHeb. ras. rasol: ond gwefusau 'r ffôl a'i difetha ef ei hun.

13 Ffolineb yw dechreuad geiriau ei enau ef, a diweddiad geiriau ei enau sydd anfad yn­fydrwydd.

14Dihar. 15.2. Y ffol hefyd sydd aml ei eiriau; ni ŵyr nebPen. 3.22. & 6.12. beth a fydd, a phwy a fynega iddo pa beth fydd ar ei ôl ef?

15 Llafur y ffyliaid a flina bawb o honynt: canys ni feidr efe fyned i'r ddinas.

16Esai. 3.3.4. Gwae di 'r wlâd sydd a bachgen yn frenin i ti, a'th dywysogion yn bwyta yn soreu.

17 Gwyn dy fŷd di y wlad sydd a'th frenin yn fâb i bendefigion, a'th dywysogion yn bwy­ta eu bwyd yn ei hamser, er cryfder, ac nid er meddwdod.

18 Drwy ddiogi lawer yr adfeilia yr adei­lad; ac wrthSeguryd y dwylo laesu 'r dwylo y gollwng y tŷ [...]defni.

19 Arlwyant wledd i chwerthin, a gwin aPsal. 104.15. lawenycha y rhai byw, ond arian sydd yn atteb i bob peth.

20Exod. 22.28. Na felldithia 'r brenin yn dyNeu, gydwy­bod. feddwl, ac yn st [...]ell dy wely na felldithia 'r cyfoethog: cany [...] ehediad yr awyr a gyhoedda y llais, a pherchen aden a fynega y peth.

PEN. XI.

1 Addysc at gariad perffaith. 7 Rhaid yw me­ddwl am angeu mewn bywyd, 9 ac am ddydd 7 farn mewn ieuengctid.

BWrw dy fara ar wyneb y dyfroedd, canys ti a'i ceiDeut. 15.10. Mat. 10.42. Dih. 19.17. yn ôl llawer o ddyddiau.

2 Dyro ran i saith, a hefyd i ŵyth: canys ni ŵyddost pa ddrwg a ddigwydd ar y ddaiar.

3 Os bydd y cwmylau yn llawn glaw, hwy a ddefnynnant ar y ddaiar: ac os tua 'r dehau neu tua 'r gogledd y syrth y pren, lle y syrthio y pren, yno y bydd efe.

4 Y nêb a ddalio ar y gwynt, ni haua: a'r neb a edrycho ar y cwmylau, ni feda.

5 Megis na's gwyddost ffordd yr yspryd; na pha fodd y ffurfheir yr escyrn ynghroth y feichiog: felly ni wyddost waith Duw, yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl.

6 Y boreu haua dy hâd, a phrydnawn nac attal dy law; canys ni wyddost pa vnHeb. sydd vn­iawn. a ffynna ai hyn ymma, ai hyn accw, ai ynteu da fyddant ill dau yn yr vn ffunyd.

7 Molus yn ddiau yw 'r goleuni, a hyfryd yw i'r llygaid weled yr haul.

8 Ond pe byddei dyn fyw lawer o flyny­ddoedd, a bod yn llawen ynddynt oll, etto cofi­ed ddyddiau tywyllwch, canys llawer fyddant: beth bynnac a ddigwydda, oferedd yw.

9 Gwna yn llawen ŵr ieuangc yn dy ieuengctid, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuengctid, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yngolwg dy lygaid; ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn ôll.

10 Am hynny bwrwNeu, dristwch. ddig oddiwrth dy galon, a thro ymaith ddrwg oddiwrth dy gnawd; canys gwagedd yw mebyd ac ieu­engctid.

PEN. XII.

1 Rhaid yw meddwl am ein Gwneuthur-wr mewn pryd. 8 Gofal y pregeth-wr am adeila­du eraill. 13 Ofn Duw yw 'r help pennaf yn erbyn pob gwagedd ac oferedd.

Dihar. 22.6.COfia yn awr dy greawdr yn nyddiau dy ieuengctid, cyn dyfod y dyddiau blin, a nesau o'r blynyddoedd yn y rhai y dywe­di, nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt:

2 Cyn tywyllu 'r haul, a'r goleuni, a'r lleuad, a'r sêr, a dychwelyd y cwmylau ar ôl y glaw:

3 Yr amser y cryna ceidwaid y tŷ, ac y crymma y gwŷr cryfion, ac y metha y rhai sydd yn malu, am eu bod ynNeu, malu ychydig. ychydig, ac y tywylla y rhai sydd yn edrych drwy ffenestri:

4 A chau 'r pyrth yn yr heolydd, pan fo isel sŵn y malu, a'i gyfodi wrth lais yr aderyn, a gostwng i lawr hôll ferched cerdd.

5 Ie yr amser yr ofnant yr hyn sydd vchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua 'r pren Almon, ac y bydd y ceiliog-rhedyn yn faich, ac y palla chwant; pan êlo dŷn i dŷ ei hir gartref, a'r galarwyr yn myned o bôb tu yn yr heol:

6 Cyn torri y llinyn arian, a chyn torri yr cawg aur, a chyn torri 'r piser ger llaw 'r ffynnon, neu dorri 'r olwyn wrth y py­dew.

7 Yna yGen. 3.19. dychwel y pridd i'r ddaiar, fel y bu, ac y dychwel yr yspryd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef.

8Pen. 1.2. Gwagedd o wagedd, medd y pregeth­wr, gwagedd yw 'r cwbl.

9 A hefyd, am fod y pregethwr yn ddoeth, efe a ddyscodd etto wybodaeth i'r bobl, iê efe a ystyriodd ac a1 Bren. 4.32. chwiliodd allan, ac a dref­nodd ddiharebion lawer.

10 Chwiliodd y pregethwr am eiriauHeb. dymunol. cym­meradwy, a'r hyn oedd scrifennedig oedd vnion, sef geiriau gwirionedd.

11 Geiriau 'r doethion sydd megis symby­lau, ac fel hoelion wedi eu siccrhau gan fei­stred y gynnulleidfa, y rhai a roddir oddiwrth vn bugail.

12 Ym mhellach hefyd, fy mâb, cymmer rybydd wrth y rhai hyn; nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, a darllain llawer sydd flinder i'r cnawd.

13Neu, Diwedd y peth, sef y cwbl a glywyd, yw &c. Swm y cwbl a glybuwyd yw, ofna Dduw, a chadw ei orchymmynion: canys hyn yw holl ddyled dŷn.

14Rhuf. 2.16. & 14.10. 1 Cor. 5.10. Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa vn bynnac fyddo ai da ai drwg.

¶CANIAD SALOMON.

PEN. I.

1 Cariad yr Eglwys ar Grist. 5 Y mae hi yn cyfaddef ei gwrthuni, 7 ac yn gweddio am gael ei chyfarwyddo at ei ddiadell ddefaid ef. 8 Christ yn ei chyfarwyddo hi at bebyll y Bugeiliaid: 9 A chan ddangos ei gariad tuac atti, 11 yn gwneuthur iddi addewidion grasusol. 12 Christ a'i Eglwys yn ymgaredigo.

CAn y caniadau eiddo Salomon.

2 Cusaned fi â chusanau ei fin,Pen. 4.10. ca­nys gwell yw dy gariad nâ gwin.

3 O herwydd arogl dy ennaint daionus, ennaint tywalltedic yw dy enw: am hynny y llangcesau a'th garant.

4Joan. 6 44. Tynn fi, ni a redwn ar dy ôl; y brenin a'm dug i iw stafellau; ni a ymhyfrydwn, ac a ymlawenhawn ynot, ni a gofiwn dy gariad yn fwy nâ gwîn,Neu, hwy a'ch garant yn vniawn. y rhai vniawn sydd yn dy garu.

5 Du ydwyf fi, ond hawddgar, (merched Je­rusalem) fel pebyll Cedar, fel llenni Salomon.

6 Nac edrychwch arnaf am fy mod yn ddu, ac am i'r haul edrych arnaf: meibion fy mam a ddigiasant wrthif, gosodasant fi i gadw gwin­llannoedd eraill, fy ngwinllan fy hun ni's cedwais.

7 Mynega i mi, 'r hwn a hoffodd fy enaid, pa lê yr wyt yn bugeilio, pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd? canys pa ham y byddaf megis vnNeu, wedi ei gorchu­ddio. yn troi heibio, wrth ddiadellau dy gyfeillion?

8 Oni ŵyddost ti, y deccaf o'r gwragedd; dôs allan rhagot ar hŷd ôl y praidd, a phor­tha dy fynnod ger llaw pebyll y bugeiliaid

9 I'r meirch yngherbydau Pharao i'th gyffe­lybais, fy anwylyd.

10 Hardd yw dy ruddiau gan dlyssau, a'th wddf gan gadwyni.

11 Tlyssau o aur, a boglynnau o arian, a wnawn i ti.

12 Tra yw y brenin ar ei fwrdd, fy Nardus i a rydd ei arogl.

13 Fy anwylyd sydd i'm yn bwysi myrh, rhwng fy mronnau yr erys tros nôs.

14 Cangen o rawn Camphyr yw fy anwy­lyd i mi, yngwinllannoedd Engedi.

15 Wele di yn dêg,Neu, nghyfei­lles. fy anwylyd, wele di yn dêg, y mae i ti lygaid colomennod.

16Pen. 4.1. & 5.12. Wele di fy anwylyd yn dêg, ac yn hawddgar; ein gwely hefyd sydd iraidd.

17Neu, cei [...]r, n [...]u rh [...]dfeydd. Swmmerau ein tai sydd gedr-wŷdd, ein distiau sydd ffynnid-wŷdd.

PEN. II.

1 Y cariad sydd rhwng Christ a'i Eglwys. 8 Go­baith, 10 a galwedigaeth yr Eglwys, 14 a gofal Christ trosti. 16 Proffess yr Eglwys, a'i ffydd, a'i gobaith.

RHosyn Saron, a lili y dyffrynnoedd yd­wyf fi.

2 Megis lili ym mysc y drain; felly y mae fy anwylyd ym mysc y merched.

3 Megis pren afalau ym mysc prennau 'r coed, felly y mae fy anwylyd ym mhlith y meibion:Heb. deisyfiais. bu dda gennif eistedd dan ei gyscod ef, a'i ffrwyth oedd felusHeb. i daflod fynge­nau. i'm genau.

4 Efe a'm dug i'r gwin-dŷ, a'i faner trosof ydoedd gariad.

5 Cynheliwch fi â phottelau,Heb. tenwch i mi afa­lau. cyssurwch fi ag afalau, canys claf ydwyfi o gariad.

6Pen. 8.3. Ei law asswy sydd tan fy mhen, a'i dde­heu-law sydd yn fy nghofleidio.

7Pen. 3.5. & 8.4. Merched Jerusalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.

8 Dymma lais fy anŵylyd! wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llammu ar y bryniau.

9Ver. 17. Tebyg yw fy anwylyd i iwrch neu lwdn hydd, wele efe yn sefyll y tu ôl i'n pared, yn edrych trwy 'r ffenestri, yn ymddangos trwy 'r dêllt.

10 Fy anwylyd a lefarodd, ac a ddywedodd wrthif, cyfot fy anwylyd, a thyret ti fy mhryd­ferth.

11 Canys wele, y gaiaf a aeth heibio, y glaw a bassiodd, ac aeth ymmaith.

12 Gwelwyd y blodau ar y ddaiar, daeth amser i'r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlâd.

13 Y ffigys-bren a fwriodd allan ei ffigys irion, a'r gwin-wŷdd â'i hegin grawn, a ro­ddasant arogl têg: cyfot ti fy anwylyd, a thyret ti fy mhrydferth.

14 Fy ngholomen, yr hon wyt yn holltau y graig, yn lloches y grisiau, gâd i mi weled dy wyneb, gâd i mi glywed dy lais: canys dy lais sydd beraidd, a'th olwg yn hardd.

15 Deliwch i ni y llwynogod, y llwynogod bychain, y rhai a ddifwynant y gwinllannoedd, canys y mae i'n gwinllannoedd egin grawn­wîn.

16Pen. 6.3. & 7.10. Fy anwylyd sydd eiddo fi, a minneu yn eiddo yntef; y mae efe yn bugeilio ym mysc y lili.

17Pen. 4.6. Hyd oni wawrio 'r dydd, a chilio o'r cyscodau; tro, bydd debyg, fy anwylyd, iPen. 8.14. iwrch, neu lwdn hydd ym mynyddoeddNeu, y gwa­han. Bether.

PEN. III.

1 Ymdrech yr Eglwys, a'i gorfôdaeth mewn pro­fedigaeth. 6 Yr Eglwys yn ymogoneddu yn Ghrist.

LLiw nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid, ceisiais ef, ac ni's cefais.

2 Codaf yn awr ac âf o amgylch y ddi­nas, trwy 'r heolydd a'r strydoedd; ceisiaf yr hwn a hoffa fy enaid; ceisiais ef, ac ni's cefais.

3 Y gwil-wŷr, y rhai aent o amgylch y ddinas, a'm cawsant: gofynnais, a welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid?

4 Nid aethwn i nepell oddi wrthynt, hyd oni chefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid; deliais ef, ac ni's gollyngais, hyd oni ddy­gais ef i dŷ fy mam, ac i ystafell yr hon a'm hymddug.

5Pen. 2.7. & 8.4. Merched Jerusalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.

6Pen. 8.5. Pwy yw hon sydd yn dyfod i fynu o'r anialwch, megis colofnau mwg wedi ei phêr­arogli â Myrrh, ac â thus, ac â phob powdr yr Apothecari?

7 Wele ei wely ef, sef yr eiddo Salomon, y mae tri vgain o gedyrn o'i amgylch, sef o ge­dyrn Israel.

8 Hwynt oll a ddaliant gleddyf, wedi eu dyscu i ryfel, pob vn a'i gleddyf ar ei glun, rhag ofn liw nôs.

9 Gwnaeth y brenin Salomon iddoNeu, wely. ger­byd o goed Libanus.

10 Ei bŷst ef a wnaeth efe o arian, ei lawr o aur, ei lenni o borphor, ei ganol a balmant­wyd â chariad i ferched Jerusalem.

11 Ewch allan merched Sion, ac edrych­wch ar y brenin Salomon, yn y goron â'r hon y coronodd ei fam ef, yn ei ddydd dyweddi ef; ac yn nydd llawenydd ei galon ef.

PEN. IV.

1 Christ yn gosod allan hawddgar ddoniau yr Eglwys: 8 yn dangos ei gariad tu ac atti. 16 Yr Eglwys yn gweddio ar gael ei gwneuthur yn gymmwys i'w bresennoldeb ef.

Pen. 1.15. & 5.12.WEle di yn dêg fy anŵylyd, wele di yn dêg, dy lygaid ydynt golomennaidd, rhwng dy lywethau; dy wallt sydd felPen. 6.5.6. diadell o eifr, y rhai aNeu, borant a [...] fynydd &c. ymddangosant o fynydd Gi­lead.

2 Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid gwastad-gnaif, y rhai a ddaethant i fynu o'r olchfa, y rhai oeddynt bob vn yn dwyn dau oen, ac nid oedd vn ynddynt yn ddi-heppil.

3 Dy wefusau sydd fel edef yscarlad, a'th ba­rabl yn weddus: dy arleisiau rhwng dy lywe­thau sydd fel darn o bomgranad.

4 Dy wddf sydd fel tŵr Dafydd, yr hwn a adeiladwyd yn dŷ arfau, tariannau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y ce­dyrn.

5Pen. 7.3. Dy ddwy fron sydd fel dau lwdn iwrch o efelliaid, yn pori ym mysc lili.

6Pen. 2.17. Hyd oniHeb. anadlo. wawrio 'r dydd, a chilio o'r cyscodau, âf i fynydd y Myrrh, ac i fryn y Thus.

7Ephe. 5.27. Ti ôll ydwyt dêg fy anwylyd: ac nid oes ynot frychewyn.

8 Tyret gyd â mi o Libanus fy nyweddi, gyd â mi o Libanus, edrych o ben Amana, o goppa Senir, aDeut. 3.9. Hermon, o lochesau y llew, o fynyddoedd y llewpardiaid.

9 Dygaist fy nghalon fy chwaer a'm dywe­ddi; dygaist fy nghalon ag vn o'th lygaid, ag vn gadwyn wrth dy wddf.

10 Morr dêg yw dy gariad, fy chwaer, a'm dyweddi! paPen. 1.2. faint gwell yw dy gariad nâ gwin, ac arogl dy olew, nâ'r holl bêr-arog­lau!

11 Dy wefusau fy nyweddi, sydd yn diferu fel dil mêl, y mae mêl a llaeth tan dy dafod, ac arogi dy wiscoedd fel arogl Libanus.

12 GarddHeb. gloedi [...], neu, w [...]di ei barrio. gauedic yw fy chwaer, a'm dy­weddi: ffynnon gloedic, ffynnon seliedic yw.

13 Dy blanhigion sydd b [...]ll [...] o bomgra­nadau, a ffrwyth peraidd, Camphir, a Nar­dus.

14 Ie Nardus, a saphrwn, Calamus a Syna­mwn, a phob pren Thus, Myrrh, ac Aloes, yng­hyd â phob rhagorol ber-lysiau.

15 Ffynnon y gerddi, ffynnon y dyfroedd byw, a ff [...]ydiau o Libanus.

16 Deffro di ogledd-wynt, a thyred dde­heu-wynt, chwyth ar fy ngardd, fel y gwasca­rer ei phêr-aroglau: deued fy anwylyd iw ardd, a bwyttaed ei ffrwyt [...] peraidd ei hun.

PEN. V.

1 Christ yn deffroi yr Eglwys a'i alwad. 2 Yr Eglwys, wedi profi cariad Christ, yn glaf o ga­riad. 9 Portreiadu Christ wrth ei radau.

DEuthym i'm gardd, fy chwaer a'm dywe­ddi, cesclais fy Myrrh gyd â'm pêr-arogl, bwytteais fy nil gyd â'm mêl, yfais fy ngwin gyd â'm llaeth: bwytewch gyfeillion, yfwch, ieNeu, a medd­wer chwi gan ga­riad. yfwch yn helaeth fy rhai anwyl.

2 Myfi sydd yn cyscu, a'm calon yn neffro; llais fy anwylyd yw, yn curo, gan ddywedyd, fy chwaer, fy anwylyd, fy ngholomen, fy nihalog, agor i mi; canys llanwyd fy mhen â gwlith, a'm gwallt â defnynnau 'r nôs.

3 Dioscais fy mhais, pa fodd y gwiscaf hi? golchais fy nhraed, pa fodd y diwynaf hwynt?

4 Fy anwylyd a estynnodd ei law drwy 'r twll, a'm ymyscaroedd a gyffroddNeu, ynof. er ei fwyn.

5 Mi a gyfodais i agori i'm anwylyd, a'm dwylo a ddiferasant gan Fyrrh, â'm byssedd gan Fyrrh yn diferu ar hyd hespennau y clô.

6 Agorais i'm anwylyd, ond fy anwylyd a gi­liasei, ac a aethei ymaith, fy enaid a lewygodd pan lefarodd, ceisiais, ac ni's cefais; gelwais ef, ond ni'm hattebodd.

7 Y gwil-wŷr y rhai a aent o amgylch y ddi­nas, a'm cawsant, a'm tarawsant, a'm harcho­llasant: gwil-wyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddi arnaf.

8 Merched Jerusalem, gorchymynnaf i chwi, os cewch fy anwylyd, fynegi iddo fy mod yn glâf o gariad.

9 Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, y deccaf o'r gwragedd: beth yw dy an­wylyd rhagor anwylyd arall, pan orchymynni i ni felly?

10 Fy anwylyd sydd wynn a gwridoc, ynHeb. fanerog. rhagori ar ddeng-mil;

11 Ei ben fel aur coeth, ei wallt ynNeu, yn gu­dynnog. grych, yn ddu fel y fran.

12Pen. 1.15. & 4.1. Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd, wedi eu golchi â llaeth,Heb. yn elstiad mewn cy­flawnder. wedi eu gosod yn gymmwys.

13 Ei ruddiau fel gwely per-lysiau, fel blo­dau peraidd: ei wefusau fel lili yn diferu Myrrh diferol.

14 Ei ddwylo sydd fel modrwyau aur, wedi eu llenwi o Beril: ei fol fel disclair Ifori, wedi ei wisco a Saphyr.

15 Ei goesau fel colofnau Marmor, wedi eu gosod ar wadnau o aur coeth; ei wynebpryd fel Libanus, morr ddewisol a chedrwydd.

16 Melus odiaeth yw Taflod ei enau. ei enau, ie y mae efe oll yn hawdd-gar. Dymma fy anwylyd, dymma fy nghyfaill, o ferched Jerusalem.

PEN. VI.

1 Yr Eglwys yn gwneuthur proffess o'i ffydd yn Ghrist. 4 Christ yn dangos hawddgar ddoniau yr Eglwys, 10 A'i gariad ef tuac atti.

I Ba le 'r aeth dy anwylyd, y deccaf o'r gwragedd? i ba le y troawdd dy anwylyd, fel y ceisiom ef gydâ thi?

2 Fy anwylyd aeth i wared iw ardd, i welâu y per-lysiau, i ymborth yn y gerddi, ac i gasclu lili.

3Pen. 2.16. & 7.10. Myfi wyf eiddo fy anwylyd, a'm han­wylyd yn eiddo finneu, yr hwn sydd yn bugei­lio ym mysc y lili.

4 Têg ydwyt ti fy anwylyd, megis Tirzah, gweddus megis Jerusalem, osnadwy megis llu baneroc.

5 Tro dy lygaid oddi wrthif, canys hwy a'mNeu, chwy­ddasant. gorchfygasant; dy wallt sydd Pen. 4.1.2. fel diadell o eifr, y rhai a ymddangosant o Gi­lead.

6 Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid a ddae i fynu o'r olchfa; y rhai sydd bob vn yn dwyn dau oen, ac heb vn yn ddi-heppil yn eu mysc.

7 Dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bom-granad.

8 Y mae tri vgain o frenhinesau, ac o or­dderch-wragedd bedwar vgain; a llangcesau heb rifedi.

9 Vn ydyw hi fy ngholomen, fy nihalog, vnic ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a'i hescorodd: y merched a'i gwellant, ac a'i galwasant yn ddedwydd, y brenhinesau a'r gor­dderch-wragedd, a hwy a'i canmolasant hi.

10 Pwy yw hon a welir fel y wawr? yn dêg fel y lleuad, yn bûr fel yr haul, yn ofnad­wy fel llu baneroc?

11 Euthum i wared i'r ardd gnau, i edrych am ffrwythydd y dyffryn, i weled a flodeu­asei y wîn-wydden, a flodeuasei y pom-gra­nadau.

12 Heb wybod i miNeu, fy enaid a'm go­sododd ar gerbydau fy mhobl ewyllys­gar. i'm gwnaeth fy enaid megis cerbydau Ammi-nadib.

13 Dychwel, dychwel, y Sulamithes; dych­wel, dychwel, fel yr edrychom arnat: beth a welwch chwi yn y Sulamithes? megis tyrfaMaha­naim. dau lu.

PEN. VII.

1 Yspysrwydd pellach o radau 'r Eglwys, 10 Yr Eglwys yn gwneuthur proffess o'i ffydd ac o'i dymuniad.

MOr deg yw dy draed mewn escidiau, ferch pendefig! cymmalau dy forddwy­dydd sydd fel tlysau, gwaith dwylo 'r cyw­raint.

2 Dy fogel sydd fel gorflwch crwn, heb eisieuHeb. [...]ymmysc. lleithder: dy fru fel twrr gwenith wedi ei amgylchu â lili.

3Pen. 4. 5. Dy ddwyfron megis dau lwdn iwrch o efelliaid.

4 Dy wddf fel tŵr o Ifori, dy lygaid fel pyscod-lynnoedd yn Hesbon, wrth borth Bath­rabbim; dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus.

5 Dy ben sydd arnat felNeu, yscarlat. Carmel, a gwallt dy ben fel porphor, y brenin fy wedi ei rwymo yn y rhodfeydd.

6 Morr dêg ydwyt, ac morr hawddgar, fy nghariad, a'm hyfrydwch!

7 Dy vchder ymma sydd debyg i balm-wy­dden, a'th fronnau i'r grawn-syppiau.

8 Dywedais, dringaf i'r balm-wydden, ym­atiaf yn ei cheingciau; ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawn-ganghennau y win-wy­dden: ac arogl dy ffroenau megis afalau;

9 A thaflod dy enau megis y gwin goreu i'm anwylyd, yn myned i wared ynHeb. yn vni­awn. felus, ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo ynNeu, ben. cyscu, le­faru.

10Pen. 2.16. & 6.3. Eiddo fy anwylyd ydwyf fi, ac attafi y mae ei ddymuniad ef.

11 Tyret, fy anwylyd, awn i'r maes, a lle­teuwn yn y pen-trefydd.

12 Boreu-godwn i'r gwinllanroedd, ed­rychwn a flodeuodd y win-wydden, aNeu, ymddan­gosodd. ago­rodd egin y grawn-win, a flodeuodd y pomgra­nadau; yno y rhoddaf fy nghariad i ti.

13Gen. 30.14. Y mandragorau a roddasant arogledd, ac wrth ein dryssau y mae pob rhyw odidawg ffrwythau newydd a hên, y rhai a rois i gadw i ti, fy anwylyd.

PEN. VIII.

1 Cariad yr Elgwys tuac at Ghrist. 6 Mor angerddol yw cariad. 8 Galwad y cenhed­loedd. 14 Yr Eglwys yn gweddio am ddy­fodiad Christ.

O Na bait megis brawd i'm, yn sugno bron­nau fy mam; pan i'th gawn allan, cussa­nwn di, etto ni'mHeb. dirmy­gent. dirmygid.

2 Arweiniwn a dygwn di i dŷ fy mam, yr hon a'm dyscei: parwn it yfedDihar. 9.2. gwîn llysieu­og, sugn fy mhomgranadau.

3Pen. 2.6. Ei law asswy fyddei tan fy mhen, a'i law ddehau a'm costeidiai.

4Pen. 3.5. & 2.7. Tynghedaf chwi ferched Jerusalem;Heb. pa ham y cyffro­wch, a Pha ham y deffro­wch? na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.

5Pen. 3.6. (Pwy yw hon sydd yn dyfod i fynu o'r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd?) tan yr afallen i'th gyfodais, yno i'th escorodd dy fam, yno i'th escorodd yr hon a'th ym­ddug.

6 Gosod fi megis sel ar dy galon, fel sel ar dy fraich; canys cariad sydd grŷf fel angeu, eiddigedd syddHeb. galid. greulon fel y bedd: ei far­wor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt.

7 Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddei ŵr holl gyfoeth ei dŷ am gariad, gan ddirmygu y dir­mygid hynny.

8 Y mae i ni chwaer fechan, ac nid oes fron­nau iddi, beth a wnawn i'n chwaer, y dydd y dyweder am dani?

9 Os caer yw hi, ni a adeiladwn arni balâs arian; ac os drws yw hi, ni a'i caewn hi ag ystyllod cedr-wŷdd.

10 Caer ydwyfi, a'm bronnau fel tyrau; yna 'r oeddwn yn ei olwg ef, megis wedi caelEfafor. Matth. 22.33. tangneddyf.

11 Yr oedd gwin-llan i Salomon yn Baal­hamon, efe a osododd y winllan i warcheidwaid; pob vn a ddygei am ei ffrwyth, fil o ddarnau arian.

12 Fy ngwinllan sydd ger fy mron, mil a roddir i ti Salomon, a dau cant i'r rhai a gad­want ei ffrwyth hi.

13 Oh yr hon a drigi yn y gerddi, y cyfei­llion a wrandawant ar dy lais: par i mi ei glywed.

14Heb. ffo ymai [...]. Bryssia fy anwylyd, a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd, ar fynyddoedd y pêr­lysiau.

¶LLYFR Y PROPHWYD ESAY.

PENNOD I.

1 Esay yn achwyn ar Juda am ei hanufydd-dod: 5 Yn gofidio am ei barnedigaeth hi: 10 Yn edliw iddynt eu holl wasanaeth; 16 Yn annog i edifeirwch, trwy addewidion a bygythiau: 21 Yn cwyno eu hannuwioled hwy, ac yn dat­can barnedigaethau Duw: 25 Yn addo gras: 28 Ac yn bygwth dinistr ar yr annuw­iol.

Num. 12.6.GWeledigaeth Esay fab Amos, yr hon a welodd efe am Juda, a Jerusalem,2 Bren. 15.32. yn nyddiau Vzziah, Jotham, Ahaz, a Hezeciah, brenhinoedd Juda.

2Deut. 32.1. Gwrandewch nefoedd, clyw ditheu ddaiar; canys yr Arglwydd a lefarodd; me­gais, a meithrinaisDeut. 10.15. feibion, a hwy a wrthryfe­lasant i'm herbyn.

3Ier. 8.7. Yr ŷcn a edwyn ei feddiannudd, a'r assyn breseb ei berchennog: oed Israel nid ed­wyn, fy mhobl ni ddeall.

4 Oh genhedlaeth bechadurus, pobl lwy­thoc o anwiredd, hâd y rhai drygionus, meibion yn llygru: gwrthodasant yr Arglwydd, digia­sant Sanct Israel,Heb. ymddi­eithra­sant, neu ymwaha­nasant. ciliasant yn ôl.

5 I ba beth i'ch tarewir mwy? cildynrwydd a chwanegwch: y pen oll sydd glwyfus, a'r holl galon yn llesc.

6 O wadn y troed hyd y pen, nid oes dimiach. cyfan ynddo; ond archollion, a chleisiau, a gweliau crawnllyd: ni wascwyd hwynt, ac ni rwymwyd, ac ni thynerwyd ag olew.

7Pen. 5.5. Deut. 28.51, 52. Y mae eich gwlâd yn anrheithiedic, eich dinasoedd wedi eu llosci â thân; eich tîr a dieithriaid yn ei yssu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio felHeb. dymchwe­liad estro­niaid ped ymchwelei estroniaid ef.

8 A merch Sion a adewir megis lluestŷ mewn gwinllan, megis lletŷ mewn gardd cu­cumerau, megis dinas warchaedic.

9 Oni buase i Arglwydd y lluoeddGalar. 3.22. Rhuf. 9.29. adel i ni ychydig iawn weddill; felGene. 19.24. Sodoma y bua­sem, a chyffelyb fuasem i Gomorrah.

10 Gwrandewch air yr Arglwydd, tywyso­gion Sodoma: clywch gyfraith ein Duw ni, pobl Gomorrah.

11 Beth yw Dihar. 15.8. & 21.27. Pen. 66.3. Psal. 50.13. Jer. 6.20. Amos. 5.21. Mich. 6.7. lluosogrwydd eich aberthau i mi, medd yr Arglwydd? llawn ydwyf o boeth aberthau hyrddod, ac o frasder anifeiliaid brei­sion: gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod, nid ymhyfrydais ynddynt.

12 Pan ddelochHeb. i'ch gwe­led. i ymddangos ger fy mron, pwy a geisiodd hyn ar eich llaw, sef sengi fy nghynteddau?

13 Na chwanegwch ddwyn offrwm ofer, arogl-darth sydd ffiaidd gennif: ni allaf oddef y newydd-loerau na'r Sabbothau, cyhoeddi cy­manfa;Neu, gofid. anwiredd ydyw, sef yr vchelwyl gy­farfod.

14 Eich lleuadau newydd, a'ch gwyliau gosodedic, a gasaodd fy enaid; y maent yn faich arnaf, blinais yn eu dwyn.

15 A phan estynnoch eichDihar. 1.28. Jer. 14.12. Mic. 3.4. dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch: hefydHeb. amlhaoch weddi. pan we­ddioch lawer ni wrandawaf:Esay. 59.3. eich dwylo sydd lawn o waed.

16 Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymmaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid;1 Pet. 3.11. peidiwch a gwneuthur drwg,

17 Dyscwch wneuthur daioni, ceisiwch farn, gwnewch vniondeb i'r gorthrymmedic, gwnewch farn i'r ymddifad, dadleuwch tros y weddw.

18 Deuwch yr awr hon, ac ymresymmwn, medd yr Arglwydd, pe byddei eich pechodau fel yscarlad, ânt cyn wynned a'r eira, pe coch­ent fel porphor, byddant fel gwlân.

19 Os byddwch ewyllysgar ac vfydd; daioni y tîr a fwyttewch.

20 Ond os gwrthodwch, ac os anufydd­hewch, â chleddyf i'ch yssir: canys genau yr Arglwydd a'i llefarodd.

21 Pa wedd yr aeth y ddinas ffyddlawn yn buttain? cyflawn fu o farn, lletteuodd cyfiawnder ynddi; ond yr awr hon llei­ddiaid.

22 Dy arian a aeth yn sothach, dy wîn sydd wedi ei gymmyscu â dwfr.

23 Dy dywysogion sydd gyndyn, ac yn gyfrannogion â lladron; pob vn yn caru rho­ddion, ac yn dilyn gwobrau:Jer. 5.28. Zac. 7.10. ni farnant yr ymddifad, a chŵyn y weddw ni chaiff ddyfod attynt.

24 Am hynny, medd yr Arglwydd, Ar­glwydd y lluoedd, cadarn Dduw Israel: Aha, ymgyssuraf ar fy ngwrthwyneb-wŷr, ac ym­ddialaf ar fy ngelynion.

25 Ac mi a ddychwelaf fy llaw arnat, ac aHeb. buraf fel pureiddi­ad. lân-buraf dy sothach; ac a dynnaf ymmaith dy holl alcam.

26 Adferaf hefyd dy farn-wŷr fel cynt, a'th gynghoriaid megis yn y dechreu: wedi hynny i'th elwir yn ddinas cyfiawnder, yn dref ffydd­lon.

27 Sion a waredir â barn, a'r rhai a ddych­welant ynddi â chyfiawnder.

28Job. 31.3. Psal. 1.6. & 5.6. & 73.27. & 92.9. & 104.35. AHeb. drylliad. dinistr y trosedd-wŷr a'r pechadu­riaid fydd ynghŷd: a'r rhai a ymadawant â'r Arglwydd, a ddifethir.

29 Canys cywilyddiant o achos y derw a chwennychasoch: a gwarthruddir chwi am y gerddi a ddetholasoch.

30 Canys byddwch fel derwen a'i dail yn syrthio, ac fel gardd heb ddwfr iddi.

31 A'r cadarn fydd fel carth, a'iNeu, warth. weithudd fel gwreichionen: a hwy a loscant ill dau yng­hyd, ac ni bydd a'i diffoddo.

PEN. II.

1 Esay yn prophwydo dyfodiad brenhiniaeth Christ. 6 Annuwioldeb yw 'r achos y mae Duw yn gwrthod dyn. 10 Y mae yn annog i ofni, o herwydd maint yw gallu mawrhydi Duw.

Y Gair yr hwn a welodd Esay mab Amos, am Juda, a Jerusalem.

2 AMic. 4.1. bydd yn y dyddiau diwethaf, fod mynydd tŷ 'r Arglwydd wedi eiNeu, siccrhau. baratoi ym mhen y mynyddoedd, ac yn dderchafedic gor­uwch y bryniau; a'r holl genhedloedd a ddy­lifant atto.

3 A phobloedd lawer a ânt, ac a ddywe­dant, deuwch, ac escynnwn i fynydd yr Ar­glwydd, i dŷ Duw Jacob, ac efe a'n dysc ni yn ei ffyrdd, ac ni a rodiwn yn ei lwybrau ef: ca­nys y gyfraith a â allan o Sion, a gair yr Ar­glwydd o Jerusalem:

4 Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a'i gwayw-ffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenhedl gleddyf yn erbyn cenhedl, ac ni ddyscant ryfel mwy­ach.

5 Tŷ Jccob, deuwch, a rhodiwn yngoleuni yr Arglwydd.

6 Am hynny y gwrthodaist dy bobl, tŷ Ja­cob, am eu bod wedi eu llenwiNeu, yn fwy na'r dwy rain. allan o'r dwy­rain, a'i bod yn swyn-wŷr, megis y Philistiaid: ac mewn plant dieithriaid yrNeu, yr ymdd­gonant. ymfodlo­nant.

7 A'i tîr sydd gyflawn o arian, ac aur, ac nid oes diben ar eu tryssorau; a'i tîr sydd lawn o feirch, ac nid oes diben ar eu cerby dau.

8 Eu tîr hefyd sydd lawn o eulynnod; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymmant, i'r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun.

9 A'r gwrêng sydd yn ymgrymmu, a'r bon­heddig yn ymostwng: am hynny na faddeu iddynt.

10 Dôs i'r graig, ac ymgudd yn y llwch, rhac ofn yr Arglwydd, a rhac gogoniant ei fawredd ef.

11Pen. 5.15. Vchel-drem dŷn a iselir, ac vchder dynion a ostyngir: a'r Arglwydd yn vnic a dderchefir, yn y dydd hwnnw.

12 Canys dydd Arglwydd y lluoedd fydd ar bôb balch, ac vchel, ac ar bôb derchafedic, ac efe a ostyngir:

13 Ac ar holl vchel, a derchafedic gedrwydd Libanus; ac ar holl dderi Basan;

14 Ac ar yr holl fynyddoedd vchel; ac ar yr holl fryniau derchafedic;

15 A [...] [...] bôb tŵr vchel; ac ar bôb magwyr gadarn;

16 Ac ar holl longau Tarsis; ac ar yr holl luniau dymunol.

17 Yna yr iselir vchelder dŷn, ac y gostyngir vchder dynion: a'r Arglwydd yn vnic a dder­chefir yn y dydd hwnnw.

18 A'r eulynnodNeu, ant ym­maith. a fwrw efe ymmaith yn hollawl.

19 A hwy a ânt iHosea. 10.8. Luc. 23.30. Datc. 6 16. [...] 6. dyllau y creigiau, ac i ogofauHeb. yllwch llychlyd, rhac ofn yr Arglwydd, a rhac gogoniant ei fawredd ef; pan gyfodo efe i gyn­nhyrfu y ddaiar.

20 Yn y dydd hwnnw y teifl dynHeb. [...]lynnod arian. ei eulyn­nod arian, a'i eulynnod aur, (y rhai a wnae­thantNeu, iddo. iddynt iw haddoli) i'r wâdd, ac i'r ystlummod:

21 I fyned i agennau y creigiau, ac i gop­pâu y clogwyni, rhac ofn yr Arglwydd, a rhac gogoniant ei fawredd ef; pan gyfodo efe i gyn­nhyrfu y ddaiar.

22 Peidiwch chwithau â'r dŷn, yr hwn sydd a'i anadl yn ei ffroenau: canys ym mha beth y gwneir cyfrif o honaw?

PEN. III.

1 Y mawr wradwydd sydd yn dyfod o bechu. 9 Digywilydd-dra 'r bobl. 12 Traha a chy­bydd-dod y llywodraethwŷr. 16 Pa ddialedd a ddaw am falchder y gwragedd.

CAnys wele yr Arglwydd, Arglwydd y llu­oedd, a dynn ymmaith o Jerusalem, ac o Juda y cynhaliaeth, a'r ffon: holl gynhaliaeth bara, a holl gynhaliaeth dwfr,

2 Y cadarn, a'r rhyfel-wr, y brawd-wr, a'r prophwyd, y synhwyrol, a'r hên-wr,

3 Y tywysog dêc a deugain, a'rHeb. vchel ei wyneb. anrhy­deddus, a'r cynghor-wr, a'r crefftwr celfydd, a'r araithi-wr hyawdl.

4 A rhoddafEccles. 10.16. blant yn dywysogion iddynt, a bechgyn a arglwyddiaetha arnynt.

5 A'r bobl a orthrymmir y naill gan y llall, a phob vn gan ei gymmydog: y bachgen yn erbyn yr hen-wr, a'r gwael yn erbyn yr anrhy­deddus, a ymfalchia.

6 Pan ymaflo gŵr yn ei frawd o dŷ ei dâd, gan ddywedyd, y mae dillad gennit, bydd dy­wysog i ni; a bydded y cwymp hwn tan dy law di.

7 Yntef aHeb. gyfyd ei law. dwng yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, ni byddafHeb. rwymwr. iachawr; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd, na dillad, na osodwch fi yn dywysog i'r bobl.

8 Canys cwympodd Jerusalem, a syrthiodd Juda; o herwydd eu tafod hwynt, a'i gweith­redoedd sydd yn erbyn yr Arglwydd, i gyffroi llygaid ei ogoniant ef.

9 Dull eu hwynebau hwynt a dystiolaetha yn eu herbyn, a'i pechod felGen. 13.13. & 18.21. & 19.5. Sodoma a fynegant, ac ni chelant: gwae eu henaid, canys talasant ddrwg iddynt eu hunain.

10 Dywedwch mai da fydd i'r cyfiawn: canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwyn­hânt.

11 Gwae yr anwir, drwg fydd iddo: canys gwobr ei ddwy-law ei hun aNeu, roddir. Heb. wneir. fydd iddo.

12 Fy mhobl sydd a'i treis-wŷr yn fechgyn: a gwragedd a arglwyddiaetha arnynt: ô fy mhobl, y rhai a'thNeu, fendi­thiant. dywysant sy 'n peri it gy­feiliorni, a ffordd dy lwybrau aHeb. lyngcant. ddistryw­iant.

13 Yr Arglwydd sy yn sefyll i ymddadleu: ac yn sefyll i farnu y bobloedd.

14 Yr Arglwydd a ddaw i farn â henuriaid ei bobl, a'i tywysogion: canys chwi aNeu, lescasoch. bora­soch y winllan; anrhaith y tlawd sydd yn eich tai.

15 Beth sydd i chwi a guroch ar fy mhobl? ac a faloch ar wynebau y tlodion, medd Ar­glwydd Dduw y lluoedd?

16 A'r Arglwydd a ddywedodd, o her­wydd balchio o ferched Sion, a rhodio â gwddf estynnedic, ac â llygaidNeu, [...] hudo. gwammal, gan ro­dio a rhygyngu wrth gerdded, a thrystio â'i traed:

17 Am hynny y clafra yr Arglwydd goryn­nau merched Sion: a'r Arglwydd a ddinoetha eu gwarthle hwynt.

18 Yn y dydd hwnnw y tynn yr Arglwydd ymmaith addurn yr escidiau, y rhwyd-waith hefyd, a'r lloerawc wiscoedd,

19 YNeu, per-aro­glau. cadwynau, a'r breichledau, a'r mole­dau,

20 Y pen-guwch, ac addurn y coesau, a'r sno­dennau, a'rHeb. tai yr enaid. dwyfronnegau, a'r clust-dlysau,

21 Y modrwyau, ac addurn y trwyn,

22 Y gwiscoedd symmud-liw, a'r mentyll, a'r misyrnau, a'r crych-nodwyddau,

23 Y drychau hefyd, a'r lliain main-wych, a'r coccyllau, a'r gynau.

24 A bydd yn lle per-arogl ddrewi, bydd hefyd yn lle gwregys rwygiad; ac yn lle iawn drefn gwallt, foelni; ac yn lle dwyfronnec, gwregys o sachliain; a lloscfa, yn lle pryd­ferthwch.

25 Dy wyr a syrthiant gan y cleddyf: a'thNeu, gedyrn. gadernid drwy ryfel.

26 A'i phyrth hi a ofidiant, ac a alarant: a hitheu ynNeu, yn wag. Heb. wedi ei glan­hau. anrheithiedig a eistedd ar y ddaiar.

PEN. IIII.

Mewn dygn adfyd, teyrnas Christ a fydd nodded.

AC yn y dydd hwnnw, saith o wragedd a ymaflant mewn vn gŵr, gan ddywedyd, ein bara ein hun a fwyttawn, a'n dillad ein hun a wiscwn, yn vnic galwer dy enw di arnom ni;Neu, i gymme­ryd ym­aith. cymmer ymmaith ein gwarth ni.

2 Y pryd hynny y bydd Blaguryn yr Arg­lwydd yn brydferthwch, ac yn ogoniant: a ffrwyth y ddaiar yn rhagorol, ac yn harddHeb. i ddiang­fa Israel. i'r rhai a ddiangasant o Israel.

3 A bydd, am yr hwn a adewir yn Sion, ac a weddillir yn Jerusalem, y dywedir wrtho, ô sanct: sef pob vn a'r a scrifennwydExod. 31.32. Neu, mewn bywyd. ym mhlith y rhai byw yn Jerusalem:

4 Pan ddarffo i'r Arglwydd olchi budreddi merched Sion, a charthu gwaed Jerusalem o'i chanol, mewn yspryd barn, ac mewn yspryd lloscfa.

5 A'r Arglwydd a grea ar bôb trigfa o fyn­ydd Sion, ac ar ei gymanfaoedd,Exod. 13.21. gwmwl a mŵg y dydd, a llewyrch tân fflamllyd y nôs: canysNeu, vwch ben. ar yr holl ogoniant y bydd Heb. gorchwdd. amddeffyn.

6 A phabell fydd yn gyscod y dydd rhac gwrês, ac yn noddfa, ac yn ddiddos rhac temestl, a rhac glaw.

PEN. V.

1 Trwy ddammeg y winllan, y mae Duw yn escuso­di bod ei farnedigaethau cyn dosted. 8 Ei far­nedigaethau ef yn erbyn cybydd-dod; 11 a thry­thyllwch, 13 ac annuwioldeb, 20 ac anghyfi­awnder. 26 Y rhai a ddialedda tros Dduw.

CAnaf yr awr hon i'm hanwylyd ganiad fy anwylyd am ei winllan:Jer. 2.21. Mat. 21.33. Mar. 21.33. Mar. 12.1. Luc. 20.9. gwinllan sydd i'm hanwylydHeb. ynghorn mab yr olew. mewn bryn tra ffrwyth­lon:

2 Ac efe a'iNeu, cawdd. cloddiodd hi, ac a'i digarre­godd, ac a'i plannodd o'r winwydden oreu, ac a adeiladodd dŵr yn ei chanol, ac a drychodd win-wryf ynddi: ac efe a ddisgwiliodd iddi ddwyn grawnwin, hithau a ddûg rawn gwyll­tion.

3 Ac yr awr hon presswylwŷr Jerusalem, a gwŷr Juda, bernwch attolwg rhyngofi a'm gwinllan.

4 Beth oedd iw wneuthur ychwaneg i'm gwinllan, nag a wneuthum ynddi: paham, a [Page] mi yn disgwil iddi ddwyn grawnwîn, y dûg hi rawn gwylltion?

5 Ac yr awr hon mi a hyspysaf i chwi yr hyn a wnaf i'm gwinllan: tynnaf ymmaith ei chac, fel y porer hi; torraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa.

6 A mi a'i gosodaf hi yn ddifrod, nid yscy­thrir hi, ac ni chloddir hi, onid mieri a drain a gyfyd; ac i'r cwmylau y gorchymynnaf na lawiont law arni.

7 Diau, gwinllan Arglwydd y lluoedd yw tŷ Israel, a gwŷr Juda yw Heb. planhigin ei hyfry­dwch ef. ei blanhigyn hyf­ryd ef: ac efe a ddifgwiliodd am farn, ac weleHeb. grammen. drais, am gyfiawnder, ac wele lef.

8Mic. 2.2. Gwae y rhai fy yn cyssylldu tŷ at dŷ, ac yn cydio maes wrth faes: hyd oni byddo eisieu lle, ac y trigoch chwi yn vnic ynghanol y tîr.

9Neu, hyn sydd yn fyng­hlustiau, medd Arg. &c. Lle y clywais y dywedodd Arglwydd y lluoedd,Heb. oni bydd. yn ddiau bydd tai lawer, mawrion, a thêg, yn anghyfannedd heb ddrigiannudd.

10 Canys dêc cyfeir o winllan a ddygant vn Bath, a lle Gomer a ddwg Ephah.

11 Gwae y rhai a gyfodant yn foreu,Dihar. 23.29. i ddi­lyn diod gadarn, a arhosant hyd yr hwyr, hyd oni Neu, erlidio. enynno y gwîn hwynt.

12 Ac yn eu gwleddoedd hwynt, y mae y delyn, a'r nabl, y tympan, a'r bibell, a'r gwîn: ond am waith yr Arglwydd nid edrychant, a gweithred ei ddwy-law ef nid ystyriant.

13 Am hynny y caeth-gludwyd fy mhobl, am nad oes ganddynt wybodaeth, a'iHeb. hanrhy­dedd sydd wyr new­yn. gwyr anrhydeddus sydd newynog, a'i lliaws a wy­wodd gan syched.

14 Herwydd hynny 'r ymehengodd vffern, ac yr agorodd ei safn yn anferth, ac yno y dis­cyn eu gogoniant, a'i lliaws, a'i rhwysc, a'r hwn a lawenycha ynddi.

15Pen. 2.9. 11.17. A'r gwrêng a grymmir, a'r galluog a ddarostyngir: a llygaid y rhai vchel a isselir.

16 Ond Arglwydd y lluoedd a dderchefir mewn barn; a'r DuwHeb. y Sanct­aidd. sanctaidd a sancteiddir mewn cyfiawnder.

17 Yr ŵyn hefyd a borant yn ôl eu harfer: a dieithriaid a fwyttânt ddiffaithfaoedd y breision.

18 Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rhe­ffynnau oferedd; a phechod megis â rhaffau menn:

192 Pet. 3.4. Y rhai a ddywedant, bryssied, a phry­sured ei orchwyl, fel y gwelom: nesaed hefyd, a deued cyngor Sanct yr Israel, fel y gwypom.

20 Gwae y rhai a ddywedant am y drwg, da yw; ac am y da, drwg yw: gan osod tywy­llwch am oleuni, a goleuni am dywyllwch; y rhai a osodant chwerw am felys, a melys am chwerw.

21 Gwae y rhai syddDihar. 3.7. Rhuf. 12.16. ddoethion yn eu golwg eu hun; a'r rhai deallgar yn eu golwg eu hun.

22 Gwae y rhai cryfion i yfed gwîn, a'r dy­nion nerthol i gymmyscu diod gadarn.

23Dihar. 17.15. Y rhai a gyfiawnhânt yr anwir er gobr, ac a gymmerant ymmaith gyfiawnder y rhai cyfiawn oddi ganddynt.

24 Am hynny megis ac yr yssa yHeb. tafod tan. ffagl dân y sofl, ac y difa y fflam y mân-us: felly y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd, a'i blodeuyn a gyfyd i fynu fel llŵch; am iddynt ddiystyru cyfraith Arglwydd y lluoedd, a dirmygu gair Sanct yr Israel.

25 Am hynny 'r enynnodd llîd yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, ac yr estynnodd efe ei law ar­nynt, ac a'i tarawodd hwynt; a chrynodd y mynyddoedd, a bu eu celanedd hwyntNeu, fel tom. yn rhwygedic ynghanol yr heolydd:Pen. 9.12. 17.21. & 10, 4. er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond etto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan.

26 Ac efe a gyfyd faner i'r cenhedloedd o bell, ac a chwibiana arnynt hwy o eithaf y ddaiar; ac wele, ar frŷs yn fuan y deuant.

27 Ni bydd vn blin, na thramgwyddedic yn eu plith; ni huna 'r vn ac ni chwsc, ac ni ddat­todir gwregys ei lwynau; ac ni ddryllir carrei ei escidiau.

28 Yr hwn sydd a'i saethau yn llymion, a'i holl fwâu yn anneloc: carnau ei feirch ef a gyfrifir fel callestr, a'i olwynion fel corwynt.

29 Ei ruad fydd fel llew, efe a rua fel cenaw­on llew; efe a chwrna hefyd, ac a ymeifl yn yr ysclyfaeth, efe a ddiangc hefyd, ac a'i dwg ymmaith yn ddiogel, ac ni bydd achubudd.

30 Ac efe a rua arnynt y dydd hwnnw, fel rhuad y môr: os edrychir ar y tîr, wele dy­wyllwch, a chyfyngder,Neu, a phan so goleu, ty­wyll fydd yn eu di­nistr. a'r goleuni a dywyllir yn ei nefoedd.

PEN. VI.

1 Esay mewn gweledigaeth yn gweled Duw yn ei ogoniant, 5 a chwedi ofni, yn cael ei gadarn­hau i'w gennadwri. 9 Y mae 'n dangos gwrth­nysigrwydd y bobl, nes eu dinistrio. 13 Y gwe­ddill a fydd cadwedig.

YN y flwyddyn y bu farw y brenin Vzziah, yJoan. 11.41. gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa vchel, a derchafedic; a'i odrau yn llenwi y Deml.

2 Y Seraphiaid oedd yn sefyll oddi ar hyn­ny: chwech aden ydoedd i bôb vn; â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiei ei draed, ac â dwy yr ehedai.

3 A llefoddHeb. hwn ar hwn. y naill wrth y llall, ac a ddy­wedodd:Dat. 4.8. Sanct, Sanct, Sanct, yw Arglwydd y lluoedd,Heb. l'onaid yr holl ddai­ar yw ei ogoniant. yr holl ddaiar sydd lawn o'i ogo­niant ef.

4 A Phŷst y rhiniogau a symmudasant, gan lef yr hwn oedd yn llefain: a'r tŷ a lanwyd gan fŵg.

5 Yna y dywedais, gwae fi, canysHeb. torrwyd fi ymaith, darfu am danaf, o herwydd gŵr halogedic ei wefusau ydwyfi, ac ym mysc pobl halogedic o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, Arglwydd y lluoedd.

6 Yna yr ehedodd atta vn o'r Seraphiaid, ac yn ei law farworyn a gymmerasei efe oddi ar yr allor mewn gefail;

7 Ac a'i rhoes i gyffwrdd â'm genau, ac a ddywedodd, wele, cyffyrddodd hwn â'th wefu­sau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod.

8 Clywais hefyd lêf yr Arglwydd yn dy­wedyd, pwy a anfonaf? a phwy a â trosomGen. 1.26. ni? yna y dywedais, wele fi, anfon fi.

9 Ac efe a ddywedodd, dôs, a dywed wrth y bobl hyn,Mat. 13.14. Mar. 4.12. Luc. 8.10. Joan. 12.40. Act. 28.26. Rhuf. 11.8. gan glywed clywch, ond na dde­ellwch; a chan weled gwelwch, ond na wy­byddwch.

10 Brasshâ galon y bobl hyn, a thrymhâ eu clustiau, a chae eu llygaid: rhag iddynt weled â'i llygaid, a chlywed â'i clustiau, a deall â'i calon, a dychwelyd, a'i meddiginiaethu.

11 Yna y dywedais, pa hyd Arglwydd? ac efe a attebodd, hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd, a'r tai heb ddŷn, a gwneuthur y wiâd yn gwbl anghyfannedd;

12 Ac i'r Arglwydd bellhau dynion, a [Page] bod ymadawiad mawr ynghanol y wlâd.

13 Ac etto bydd ynddi ddegwm,Neu, wedi ei dychwe­lyd, a'i phori. a hi a ddychwel, ac a borir: fel y llwyfen a'r dderwen, y rhai wrth fwrw eu dail, y mae Neu, bon cyff. sylwedd yn­ddynt, felly yr hâd sanctaidd fydd ei sylwedd hi.

PEN. VII.

1 Ahaz pan oedd ofn Rezin i Phecah yn ei flino ef, yn cael cyssur gan Esay. 10 Ahaz wedi cael cennad i ddewis argoel, yn ei wrthod; ac yn cael yn lle arwydd, addewid Grist. 17 Proph­wydo y daw dialedd arno ef o Assyria.

A Bu yn nyddiau2 Bren. 16.5. Ahaz fab Jotham, fab Vzziah frenin Juda, ddyfod o Rezin bre­nin Syria, a Phecah mab Remaliah, brenin Is­rael, i fynu tua Jerusalem, i ryfela arni: ond ni allodd ei gorchfygu.

2 A mynegwyd i dŷ Ddafydd, gan ddywe­dyd, Syria aNeu, orphwys ar Ephra­im. gydsyniodd ag Ephraim; a'i galon ef a gyffrôdd, a chalon ei bobl, megis y cynnhyrfa prennau y coed o flaen y gwynt.

3 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth E­say, dôs allan yr awr hon i gyfarfod Ahaz, ti asef, y gweddill a ddych­wel. Sear-Jasub dy fâb,2 Bren. 18. [...]7. wrth ymyl pistyll y llynn vchaf,Neu, yn farn. ymmhriffordd maes y pann-wr:

4 A dywed wrtho, ymgadw a bydd lonydd; nac ofna, ac na feddalhaed dy galon, rhag dwy gloren y pentewynion myglyd hyn; rhag an­gerdd llid Rezin, a Syria, a mab Remaliah.

5 Canys Syria, ac Ephraim, a mab Rema­liah, a ymgynghorodd gyngor drwg yn dy er­byn, gan ddywedyd;

6 Escynnwn yn erbyn Juda, aNeu, deffrown. blinwn hi, torrwn hi hefyd attom, a gosodwn frenin yn ei chanol hi; sef mab Tabeal.

7 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ni saif, ac ni bydd hyn.

8 Canys pen Syria yw Damascus, a phen Da­mascus yw Rezin; ac o fewn pum mhlynedd a thri vgain y torrir Ephraim rhac bod yn bobl.

9 Hefyd pen Ephraim yw Samaria, a phen Samaria yw mab Remaliah:Neu, oni chre­awchi am na'ch siccrha­wyd, y mae. oni chredwch, diau ni siccrhêir chwi.

10 A'r Arglwydd a chwanegodd lefaru wrth Ahaz, gan ddywedyd,

11 Gofyn it arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw; gofyn o'r dyfnder, neu o'r vchelder oddi arnodd.

12 Ond Ahaz a ddywedodd, ni ofynnaf, ac ni themptiaf yr Arglwydd.

13 A dywedodd yntef, gwrandewch yr awr hon tŷ Ddafydd, ai bychan gennwch flino dyn­ion, oni flinoch hefyd fy Nuw?

14 Am hynny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd:Matth. 1.23. Luc. 1.31. wele morwyn a fydd feichiog, ac a escor ar fab,Neu, a thi for­wyn a elwi. ac a eilw ei enw ef, Immanu-El.

15 Ymenyn a mêl a fwytty efe, fel y medro ymwrthod â'r drwg, ac ethol y da.

16 Canys cyn medru o'r bachgen ymwrthod â'r drwg, ac ethol y da; y gwrthodir y wlâd a ffieiddiaist, gan ei dau frenin.

17 Yr Arglwydd a ddŵg arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dŷ dy dadau, ddyddiau ni ddaethant er y dydd yr ymadawodd Ephraim oddiwrth Juda, sef brenin Assyria.

18 A bydd, yn y dydd hwnnw i'r Ar­glwydd chwibianu am y gwybedyn sydd yn eithaf afonydd yr Aipht, ac am y wenynen sydd yn nhir Assyria:

19 A hwy a ddeuant, ac a orphywysant oll yn y dyffrynnoedd anghyfanneddol, ac ynghromlechydd y creigiau; ac yn yr yspy­ddeid oll, ac yn y perthi oll.

20 Yn y dydd hwnnw yr eillia 'r Arglwydd â'r2 Bren. 19.35. ellyn a gyflogir, sef â'r rhai o'r tu hwnt i'r afon, sef â brenin Assyria, y pen, a blew 'r traed; a'r farf hefyd a ddifa efe.

21 A bydd yn y dydd hwnnw i ŵr fagu anneir-fuwch, a dwy ddafad.

22 Bydd hefyd o amlder y llaeth a roddant, iddo fwytta ymenyn; canys ymenyn a mêl a fwytty pawb a adewirHeb. ynghanol y tir. o fewn y tîr.

23 A bydd y dydd hwnnw, fod pob lle yr hwn y bu ynddo fîl o win-wydd, er mîl o arian bathol, yn fiêri ac yn ddrain y bydd.

24 A saethau, ac â bwâu y daw yno: ca­nys yn fiêri ac yn ddrain, y bydd yr holl wlâd.

25 Eithr yr holl fynyddoedd, y rhai a geibir â cheibiau, ni ddaw yno ofn mieri na drain: ond bydd yn hebryngfa gwarthec, ac yn sathrfa defaid.

PEN. VIII.

1 Ym Maher-shalal-hosh-baz, y mae efe yn prophwydo y darostyngir Syria ac Israel gan Assyria; 5 A Juda hefyd am eu hanffydd­londeb. 9 Nas gellir gwrthwynebu barnedig­aeth Duw. 11 Y bydd cyssur i'r rhai a ofno Dduw. 19 Trallod blin ar ddelw-addolwyr.

A'r Arglwydd a ddywedodd wrthif, cymmer it rol fawr, ac scrifenna arni â phin dyn,Bryssia i'r ysoail, pryssura i'r an­rhaith. arn Maher-shalal-hash-baz.

2 A chymmerais yn dystiolaeth i mi dystion ffyddlon, Vriah yr offeiriad, a Zechariah fab Jeberechiah.

3 Ac mi a nesseais at y brophwydes, a hi a feichiogodd, ac a escorodd ar fab: yna y dywedodd yr Arglwydd wrthif, galw ei enw ef,Bryssia i'r yspail, pryssura i'r an­rhaith. Maher-shalal-hash-baz.

4 Canys cyn y medro 't bachgen alw fy nhâd, neu fy mam,Neu, yr hwn sydd o flaen tre­nin Assy­ria a ddwg ym­maith olud Da­mascus, &c. golud Damascus, ac yspail Samaria, a ddygir ymaith o flaen brenin Assyria.

5 A chwanegodd yr Arglwydd lefaru wrthif drachefn, gan ddywedyd,

6 O herwydd i'r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloah, y rhai sy yn cerdded yn araf, a chymmeryd llawenydd o Rezin, a mab Remaliah:

7 Am hynny wele y mae 'r Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon, yn gryfion, ac yn fawrion, sef brenin Assyria, a'i holl ogo­niant; ac efe a escyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulennydd ef.

8 Ie trwy Juda y treiddia efe, efe a lifa, ac â trosodd, efe a gyrhaedd hyd y gwddf; ac estynniad ei adenydd ef, fydd lloneid llêd dy dîr di, ô Immanu-El.

9 Ymgyfeillechwch bobloedd,Neu, etto. a chwi a ddryllir; gwrandewch holl belledigion y gwledydd: ymwregyswch, a chwi a ddryllir, ymwregyswch, a chwi a ddryllir.

10 Ymgynghorwch gyngor, ac fe a ddi­ddymmir: dywedwch y gair, ac ni saif: canys y mae Duw gyd â ni.

11 Canys fel hyn y dywedodd yr Ar­glwydd wrthifHeb. a chryfde­llaw. â llaw grêf: ac efe a'm dyscodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn, gan ddywedyd;

12 Na ddywedwch, Cydfwriad, wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn, Cydfwriad: nac ofnwch ychwaith eu hofn hwynt, ac nac arswydwch.

13 Arglwydd y lluoedd ei hun a sanctei­ddiwch, [Page] a bydded ef yn ofn i chwi, a bydded ef yn arswyd i chwi:

14 Ac efe a sydd yn noddfa;Esay 28.16. Luc. 2.34. Rhuf. 9.33. 1 Pet. 2.7, 8. ond yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i ddau dŷ Israel; yn fagl, ac yn rhwyd i bresswylwŷr Jerusalem.

15Matt, 21.44. Luc. 20.18. A llawer yn eu mysc a dramgwyddant, ac a syrthiant, ac a ddryllir, ac a rwydlr, ac a ddelir.

16 Rhwym y dystiolaeth, selia y gyfraith ym mhlith fy niscyblion.

17 A minneu a ddisgwiliaf am yr Arglwydd sydd yn cuddio ei wyneb oddi wrth dŷ Jacob, ac a wiliaf am dano.

18Heb. 2.13. Wele fi a'r plant a roddes yr Arglwydd i mi, yn arwyddion ac yn rhyfeddodau yn Israel; oddi wrth Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Sion.

19 A phan ddywedant wrthych, ymofynnwch â'r swynyddion, ac â'r dewiniaid, y rhai sy yn hustyng, ac yn sibrwd: onid â'i Duw 'r ymo­fyn pobl? tros y byw, at y meirw?

20Luc. 16.29. At y gyfraith, ac at y dystiolaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hynny sydd am nad oesHeb. wawr. oleuni ynddynt.

21 A hwy a dramwyant drwyddi, yn galed arnynt, ac yn newynoc: a bydd pan newyn­ont, yr ymddigiant, ac y melldigant eu brenin, a'i Duw, ac a edrychant i fynu.

22 A hwy a edrychant ar y ddaiar, ac wele drallod, a thywyllwch, niwl cyfyngder: a by­ddant wedi ei gwthio i dywyllwch.

PEN. IX.

1 Pa lawenydd a fydd ynghanol blinderau, trwy frenhiniaeth a genedigaeth Christ. 8 Barnedi­gaethau yn erbyn Israel am eu balchder, 13 am eu rhagrith, 18 ac am eu hanedifeirwch.

ETto ni bydd y tywyllwch yn ôl yr hyn a fu yn y gofid; megis yn yr amser cyntaf, y cyffyrddodd yn yscafn â thir Zabulon, a thîr Nephtali, ac wedi hynny yn ddwysach y cystu­ddiodd hi wrth ffordd y môr, tu hwnt i'r Jor­ddonen, yn Galilee,Neu, coblog. y cenhedloedd.

2 YMatt. 4.15.16. Eph. 5.14. bobl a rodiasant mewn tywyllwch, a welsant oleuni mawr: y rhai sydd yn aros yn nhir cyscod angeu, y llewyrchodd goleuni arnynt.

3 Amlheaist y genhedlaeth,Neu, iddi y chwan. &c. ni chwanegaist lawenydd, llawenychasant ger dy fron, megis y llawenydd amser cynhaiaf, ac megis y llaweny­chant wrth rannu yspail.

4Neu, Pan ddrylli­aist. Canys drylliaist iau ei faich ef, a ffon ei yscwydd ef, gwialen ei orthrymmwr, megis yn nyddBarn. 7.22. Pen. 10.26. Midian.

5Neu, Pan oedd holl gad y rhyfel­wr mewn &c. Canys pôb câd y rhyfel-wr sydd mewn trwst, a dillad wedi e [...] trybaeddu mewn gwaed:Neu, a bu. ond bydd hwn drwy losciad a Heb. ymborth. chynnyd tân.

6 Canys bachgen a aned i ni,Joan. 3.16. mab a rodd­wyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei yscwydd ef: a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghor-wr, y Duw cadarn, Tad tragywyddoldeb, Tywysog tangneddyf.

7 Ar helaethrwydd ei lywodraeth, a'i dangne­ddyfLuc. 1.32, 33. ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd, ac ar ei frenhiniaeth ef, iw threfnu hi, ac iw chadarnhau, â barn, ac â chyfiawnder, o'r pryd hyn, a hyd byth:2 Bren. 19.31. pen. 37. [...]2. zêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn.

8 Yr Arglwydd a anfonodd air i Jacob; ac efe a syrthiodd ar Israel.

9 A'r holl bobl a wybydd, sef Ephraim a thrigiannudd Samaria, y rhai a ddywedant mewn balchder, ac mewn mawredd calon;

10 Y priddfeini a syrthiasant, ond â cher­ric nâdd yr adeiladwn: y sycomor-wŷdd a dorrwyd, ond ni a'i newidiwn yn gedrwydd.

11 Am hynny 'r Arglwydd a dderchafa wrthwyneb-wŷr Rezin yn ei erbyn ef, ac aHeb. gymmys­ca. gyssyllta ei elynion ef ynghyd.

12 Y Syriaid o'r blaen, a'r Philistiaid hefyd o'r ôl, a hwy a yssant Israel yn safn—rhwth:Pen. 5.25. & 10.4. er hyn i gyd, ni ddychwelodd ei lid ef, onid etto y mae ei law ef yn estynnedic.

13 A'r bobl ni ddychwelant at yr hwn a'i tarawodd; ac ni cheisiant Arglwydd y lluoedd.

14 Am hynny y tyrr yr Arglwydd oddi­wrth Israel, ben a chynffon, cangen a brwynen, yn yr vn dydd.

15 Yr hen-wr, a'r anrhydeddus yw 'r pen; a'r prophwyd sydd yn dyscu celwydd, efe yw 'r gynffon.

16 CanysNeu, bendith­wyr. cyfarwydd-wyr y bobl hyn fy 'n peri iddynt gyfeiliorni; a llyngcwyd y rhai aNeu, fendithir. gyfarwyddir ganddynt.

17 Am hynny nid ymlawenhâ 'r Arglwydd yn eu gwŷr ieuaingc hwy, ac wrth eu hymddi­faid a'i gweddwon ni thosturia: canys pob vn o honynt sydd ragrithi-wr, a drygionus, a phob genau yn traethuNeu, coegni. ynfydrwydd: er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, onid etto y mae ei law ef yn estynnedic.

18 O herwydd anwiredd a lŷsc fel tân; y miêri a'r drain â yssa efe, ac a gynneu yn nrys­ni y coed; a hwy a dderchafant, fel ymdder­chafiad mŵg.

19 Gan ddigofaint Arglwydd y lluoedd y ty­wylla 'r ddaiar, ac y bydd y bobl fel ymborth tân: nid eiriach neb ei frawd.

20 Ac efe aHeb. dyrr. gippia ar y llaw ddehau, ac a newyna; bwytty hefyd ar y llaw asswy, ac ni's digonir hwynt: bwytânt bawb gig ei fraich ei hun.

21 Manasseh Ephraim; ac Ephraim Manas­seh, hwythau ynghyd yn erbyn Juda: er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond etto y mae ei law ef yn estynnedic.

PEN. X.

1 Gwae y rhai trawsion. 5 Assyria, gwialen rhagrithwyr, am ei falchder a dorrir. 20 Yr achubir gweddill o Israel. 24 Cyssuro Israel, trwy addo iddynt gael eu gwared oddiwrth Assyria.

GWae y rhai sy yn gwneuthur deddfau an­wir, a'r scrifennyddion sydd yn scrifennu blinder;

2 I ymchwelyd y tlodion oddi wrth farn, ac i ddwyn barn anghenogion fy mhobl: fel y byddo gweddwon yn yspail iddynt, ac yr an­rheithiont yr ymddifaid.

3 A pha beth a wnewch yn nydd yr ymwe­liad, ac yn y destryw a ddaw o bell? at bwy y ffowch am gynhorthwy? a pha le y gedwch eich gogoniant?

4 Hebofi y crymmant tan y carcharorion, a than y rhai a laddwyd y syrthiant:Pen. 5.25. & 9.12. er hyn oll ni ddychwelodd ei lîd ef, onid etto y mae ei law ef yn estynnedic.

5Neu, Oh. Gwae Assur, gwialen fy llîd, a'r ffon yn eu llaw hwynt yw fy nigofaint.

6 At genhedl ragrithiol yr anfonaf ef, ac yn erbyn pobl fy nigter y gorchymynnaf iddo yspeilio yspail, ac ysclyfaethu ysclyfaeth; a'i gosod hwynt yn sathrfa, megis tom yr heolydd.

7 Ond nid felly yr amcana efe, ac nid felly y meddwl ei galon, eithr y mae yn ei fryd ddifetha, a thorri ymmaith, genhedloedd nid ychydig.

82 Bren. 18.24.33. & 19.10. &c. Canys efe a ddywed, onid yw fy nhywy­sogion i gyd yn frenhinoedd?

9 Onid fel Carchemis yw Calno? onid fel Arpad yw Hamath, onid fel Damascus yw Sa­maria?

10 Megis y cyrhaeddodd fyllaw deyrnasoedd yr eulynnod; a'r rhai yr oedd eu delwau cer­fiedig yn rhagori ar yr eiddo Jerusalem, a Sa­maria:

11 Ond megis y gwneuthum i Samaria, ac iw heulynnod, felly y gwnaf i Jerusalem ac iw delwau hitheu?

12 A bydd pan gyflawno 'r Arglwydd ei holl waith ym2 Bren. 19.31. mynydd Sion, ac yn Jerusa­lem; yr ymwelaf â ffrwyth mawredd calon brenin Assur, ac â gogoniant vchelder ei ly­gaid ef:

13 Canys dywedodd, drwy nerth fy llaw y gwneuthum hyn, a thrwy fy noethineb, o her­wydd doeth ydwyf: ac mi a symmudais derfy­nau pobloedd, a'i tryssorau a yspeiliais, ac a fwriais i'r llawr y trigolion felNeu, pobl law­er. gwr grym­mus.

14 A'm llaw a gafodd gyfoeth y bobloedd, fel nŷth; ac megis y cesclir ŵyau wedi eu gado, y cesclais yr holl ddaiar, ac nid oedd a sym­mudei aden, nac a agorei safn, nac a ynge­nei.

15 A ymffrostia 'r fwyall yn erbyn yr hwn a gymmyno â hi? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn a'i tynno? megisNeu, ped yscyd­wal y wi­alen y rhai &c. pe ymdderchafei y wialen yn erbyn y rhai a'i codei hi i fynu, neu megis peNeu, derchafal y ffon yr hyn nid yw bren. ymdderchafei y ffon, fel pe na byddei yn bren.

16 Am hynny 'r hebrwng yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, ym mhlith ei freision ef gulni; a than ei ogoniant ei y llysc llosciad, megis llosciad tân.

17 A bydd goleuni Israel yn dân, a'i Sanct ef yn fflam: ac efe a lysc, ac a yssa ei ddrain, a'i fieri mewn vn dydd.

18 Gogoniant ei goed hefyd, a'i ddol-dir, a yssa efe,Heb. o'r enaid hyd y enawd. enaid a chorph: a byddant megis pan lesmeirio baner-wr.

19 A phrennau gweddill ei goed ef a fy­ddant o rifedi, fel y rhifo plentyn hwynt.

20 A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega gweddill Israel, a'r rhai a ddiangodd o dŷ Jacob, ymgynnal mwyach ar yr hwn a'i ta­rawodd: onid pwysant ar yr Arglwydd, Sanct Israel, mewn gwirionedd.

21 Y gweddill a ddychwel, sef gweddill Ja­cob, at y Duw cadarn.

22 Rhuf. 9.27.Canys pe byddei dy bobl di Israel fel tywod y môr, gweddill o honynt a ddychwel: darfodiad terfynedic a lifa drosodd mewn cyf­iawnder.

23 Pen. 28.22. Canys darfodedigaeth, a honno yn derfynedic, a wna Arglwydd Dduw y lluoedd, ynghanol yr holl dir.

24 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, fy mhobl yr hwn a bresswyli yn Sion, nac ofna rhag yr Assyriad: â gwialen i'th dery di, ac efe a gyfyd ei ffonNeu, tr. sot. i'th er­byn, yn ôl fforddExod. 14. yr Aipht.

25 Canys etto ychydig bach, ac fe a dder­fydd y llid, a'm digofaint yn eu dinystr hwy.

26 Ac Arglwydd y lluoedd a gyfyd ffrewyll yn ei erbyn ef, megisBarn. 7.25. Esay 9.4. lladdfa Midian ynghraig Oreb: ac fel y bu ei wialenExod. 14.28. ar y môr, felly y cyfyd efe hi yn ôl ffordd yr Aipht.

27 A bydd, yn y dydd hwnnw y symmu­dir ei faich ef oddi ar dy yscwydd di; a'i iau ef oddi ar dy warr di: a dryllir yr iau, o herwydd yr enneiniad.

28 Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron, ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw.

29 Aethant trwy y rhŷd, yn Geba y lletteua­sant: dychrynodd Ramah; Gibeah Saul a ffoes.

30 Bloeddia â'th lêf, merch Galim: par ei chlywed hyd Lais, ô Anathoth dlawd.

31 Ymbellâodd Madmenah, trigolion Ge­bim a ymgasclasant i ffoi.

32 Etto y dydd hwnnw y saif efe yn Nob, efe a gyfyd ei law yn erbyn mynydd merch Sion, bryn Jerusalem.

33 Wele, yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, yn yscythru y gangen â dychryn: a'r rhai vchel o gyrph a dorrir ymmaith, a'r rhai goruchel a ostyngir.

34 Ac efe a dyrr ymmaith frysclwyni y coed â haiarn: a Libanus drwy vn cryf, a gwymp.

PEN. XI.

1 Heddychol frenhiniaeth y Blaguryn a dardda o wreiddyn Jesse. 10 Gorfodus adnewyddiad Israel, a galwedigaeth y cenhedloedd.

YNa y daw allan wialen o gyffAct. 13.23. Jesse: a blaguryn a dŷf o'i wraidd ef:

2 Ac Yspryd yr Arglwydd a orphywys arno ef; Yspryd doethineb a deall, Yspryd cyngor a chadernid, Yspryd gwybodaeth ac ofn yr Ar­glwydd:

3 Ac a wna eiHeb. drogliad. ddeall ef yn fywiog yn ofn yr Arglwydd, ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe.

4 Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawn­der, ac a argyoedda tros rai llariaidd y ddaiar, mewn vniondeb; acJob 6.4.9. 2 Thess. 2.8. efe a dery y ddaiar â gwialen ei enau, ac ag anadl ei wefusau y lladd efe yr anwir.

5 A chyfiawnder fydd gwregys ei lwynau ef, a ffyddlondeb yn wregys ei arennau.

6Pen. 65.25. A'r blaidd a drig gyd â'r oen, a'r llewpard a orwedd gyd â'r mynn: y llô he­fyd, a cheneu y llew, a'r anifail brâs, fyddant ynghyd, a bachgen bychan a'i harwain.

7 Y fuwch hefyd a'r arth a borant ynghyd, eu llydnod a gyd orweddant: y llew, fel yr ŷch, a bawr wellt.

8 A'r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asp: ac ar ffan y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei law.

9 Ni ddrygant, ac ni ddifethant, yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaiar a fydd llawn o ŵybodaeth yr Arglwydd, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr.

10Rhuf. 15.12. Ac yn y dydd hwnnw y bydd gwrei­ddyn Jesse, yr hwn a saif yn arwydd i'r bob­loedd, ag ef a ymgais â'r cenhedloedd, a'i orphywysfa fydd yn ogoniant.

11 Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i'r Arglwydd fwrw eilwaith ei law feddiannu gweddill ei bobl, y rhai a weddillir gan Assyria, a chan yr Aipht, a chan Pathros, a chan Ethi­opia, a chan Elam, a chan Sinar, a chan Ha­math, a chan ynysoedd y môr.

12 Ac efe a gyfyd faner i'r cenhedloedd, ac a gynnull grwydriaid Israel; ac a gascl wascare­digion Juda, o bedairHeb ascell. congl y ddaiar.

13 Cenfigen Ephraim a ymedy hefyd, a [Page] gwrthwynebwŷr Juda a dorrir ymmaith: ni chenfigenna Ephraim wrth Juda, ac ni chyfynga Juda ar Ephrai n.

14 Ond hwy a ehedant ar yscwyddau y Philistiaid tua 'r gorllewin, ynghyd yr yspei­liant feibion y dwyrain:Heb. Edom a Moah fydd go­sodfa eu dwylo hwynt. hwy a osodant eu llaw ar Edom a Moab, a meibion AmmonHeb. eu hufydd­dod hwy. fydd mewn vfydd-dod iddynt.

15 Yr Arglwydd hefyd a ddifroda dafod môr yr Aipht, ac â'i wynt nerthol efe a gyfyd ei law ar yr afon, ac a'i terv hi yn y saith ffrwd, ac a wna fyned trosodd ynHeb. mewn scidiau. droed­sych.

16 A hi a fydd yn briffordd i weddill ei bobl ef, y rhai a adewir o Assyria, megis ac y bu i Israel, yn y dydd y daeth efe i synu o dir yrExod. 14.29. Aipht.

PEN. XII.

Llawen ddiolch y ffyddloniaid am drugareddau Duw.

YNa y dywedi yn y dydd hwnnw, molaf di ô Arglwydd: er i't sorri wrthif, dych­welir dy lîd, a thi a'm cyssuri.

2 Wele, Duw yw fy iechydwriaeth, gobei­thiaf, ac nid ofnaf, canys yr Arglwydd Dduw yn fyExod. 15.2. Psal. 118.14. nerth a'm cân; efe hefyd yw fy iechyd­wriaeth.

3 Am hynny mewn llawenydd y tynnwch ddwfr o ffynhonnau iechydwriaeth.

4 A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnnw,1 Cron. 16.8. Psal. 111.4 & 105.1. molwch yr Arglwydd,Neu, cyhoe­ddwch ei enw. gelwch ar ei enw, hyspysswch ei weithredoedd ef ym mhlith y bobloedd, cofiwch mai derchafedic yw ei enw ef.

5 Cenwch i'r Arglwydd, canys godidawg­rwydd a wnaeth efe; hyspys yw hyn yn yr holl dir.

6 Bloeddia, a chroch-lefa, presswyl-ferch Sion; canys mawr yw Sanct Israel o'th fewn di.

PEN. XIII.

1 Duw yn byddino lluoedd ei ddigofaint: 6 yn bygwth distrywio Babilon trwy y Mediaid. 19 Difrod Babilon.

BAich Babilon, yr hwn a welodd Esay mab Amoz.

2 Derchefwch faner ar y mynydd vchel, der­chefwch lef attynt, ysgydwch law fel yr elont i fewn pyrth y pendefigion.

3 Myfi a orchymynnais i'm rhai sanctaidd; gelwais hefyd fy nghedyrn i'm digter, y rhai a ymhyfrydant yn fy nerchafiad.

4 Llef tyrfa yn y mynyddoedd,Heb. cyffelyb­rwydd pobl. yn gyffelyb i bobl lawer; sŵn twrwf teyrnasoedd y cen­hedloedd wedi ymgynnull; Arglwydd y llu­oedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel.

5 Dyfod y maent o wlâd bell, o eithaf y nefoedd; sef yr Arglwydd, ac aifau ei lid­iawgrwydd, i ddifa 'r holl dîr.

6 Vdwch, canys agos yw diwrnod yr Ar­glwydd; megis anrhaith oddi wrth yr Holl­alluog y daw.

7 Am hynny 'r holl ddwylo aNeu, gwymp. laesa; a chalon pob dyn a dawdd.

8 A hwy a ofnant; gwewyr, a doluriau a'i deil hwynt; megis gwraig yn escor yr ymofi­diant; pawb wrth eiN [...]u, [...]ilydd. gyfaill a ryfedda; eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd.

9 Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod yn greulon, a digofaint, a digter llidiog, i osod y wlâd yn ddiffaethwch; a'i phechaduriaid a ddifa efe allan o honi.

10 Canys sêr y nefoedd a'i planedau, ni roddant eu llewyrch;Ezec. 32.7. Joel. 3.15. & 2.31. Matt. 24.29. Marc. 13.24. Luc. 21.25. yr haul a dywyllir yn ei godiad, a'r lloer ni oleua â'i llewyrch.

11 A mi a ymwelaf â'r byd am ei ddryg­ioni, ac â'r annuwolion am eu hanwiredd: a gwnaf i falchder y rhai rhyfygus beidio: gost­yngaf hefyd vchder y rhai ofnadwy.

12 Gwnaf ddŷn yn werthfawroccach nag aur coeth; ie dŷn, nâ chŷn o aur Ophir.

13 Am hynny yr yscydwaf y nefoedd, a'r ddaiar a grŷn o'i lle, yn nigofaint Arglwydd y lluoedd, ac yn nydd llîd ei ddigter ef.

14 A hi a fydd megis ewig wedi ei tharfu, ac fel dafad heb neb a'i coleddo; pawb a wy­nebant at eu pobl eu hun, a phawb iw gwlâd eu hun a ffoant.

15 Pob vn a geffir ynddi, a drywenir; a phawb a chwaneger atti, a syrth drwy 'r cle­ddyf.

16 EuPsal. 137.9. plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid; eu tai a yspeilir, a'i gwragedd a drei­ssir.

17 Wele fi yn cyfodi y Mediaid yn eu her­byn hwy; y rhai ni roddant fri ar arian; a'r aur nid ymhyfrydant ynddo.

18 Eu bwâu hefyd a ddryllia y gwyr ieu­aingc, ac wrth ffrwyth bru ni thosturiant; eu llygad nid eiriach y rhai bach.

19 A Babilon, prydferthwch y teyrnasoedd, gogoniant godidowgrwydd y Caldeaid, fydd megis dinistr DuwGen. 19.24. Jer. 50.40. ar Sodoma, a Gomorrah.

20 Ni chyfanneddir hi yn dragywydd, ac ni phresswylir hi o genhedlaeth i genhedlaeth; ac ni phabella yr Arabiad yno, a'r bugeiliaid ni chorlannant yno.

21 OndEsay. 34.14. Jer. 50.39. Zeph. 2.14. Heb. Zijm. anifeiliaid gwylltion yr ania­lwch a orweddant yno, a'i tai hwynt a lenwir oHeb. Ochim. ormessiaid, aHeb. merched. chywion yr estris a drigant yno; a'r ellyllon a lammant yno.

22 A'rHeb. Iim. cathod a gydattebant yn ei gwe­ddwdai hi, a'r dreigiau yn y palasoedd hyfryd: a'i hamser sydd yn agos i ddyfod, a'i dyddiau nid oedir.

PEN. XIIII.

1 Duw yn drugarog yn adnewyddu Israel: 4 A'i gorfoledd hwythau yn erbyn Babilon. 24 Amcan Duw yn erbyn Assyria. 29 By­gwth Palestina.

CAnys yr Arglwydd a dosturia wrth Jacob, ac a ddethol Israel etto, ac a bair iddynt orphwys yn eu tir eu hunain: a'r dieithr a ymgyssyllta â hwynt, a hwy a lynant wrth dŷ Jacob.

2 Y bobl hefyd a'i cymmer hwynt, ac a'i dygant iw llê, a thŷ Israel a'i meddianna hwynt yn2 Cor. 10.5. nhir yr Arglwydd, yn weision, ac yn forwynion: a hwy a gaethiwant y rhai a'i caethiwodd hwythau, ac a lywodraethant ar eu gorthrym-wŷr.

3 A bydd yn y dydd y rhoddo 'r Arglwydd lonyddwch i ti oddi wrth dy ofid, ac oddi wrth dy ofn, ac oddi wrth y caethiwed caled y gwasanaethaist ynddo;

4 I ti gymmeryd y ddihareb hon yn erbyn brenin Babilon, a dywedyd, pa wedd y pei­diodd y gorthrymmwr? ac y peidiodd y dref aur?

5 Yr Arglwydd a ddrylliodd ffon yr an­wiriaid, a theyrn-wialen y llywiawd-wŷr:

6 Yr hwn sydd yn taro y bobloedd mewn digllonedd âNeu, dyrnod. phlâHeb. heb sym­ [...]ud. gwastadol, yr hwn sydd yn llywodraethu y cenhedloedd mewn llid­iawgrwydd, a erlidir heb neb yn lluddias.

7 Gorphywysodd, a llonyddodd yr holl ddaiar, canasant o lawenydd.

8 Y ffynnid-wydd hefyd a chedr-wydd Li­banus a lawenhasant yn dy erbyn, gan ddywe­dyd, er pan orweddaist, nid escynnodd cym­mynydd i'n herbyn.

9Neu, y bedd. Vffern oddi tanodd a gynnhyrfodd o'th achos, i gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad; hi a gyfododd y meirw i ti; sef hollHeb. fychod mawr. dywysogion y ddaiar, cyfododd holl frenhincedd y cenhed­loedd o'i gorseddfaoedd.

10 Y rhai hynny oll a lefarant, ac a ddywe­dant wrthit; a wanhawyd titheu fel ninnau? a aethost ti yn gyffelyb i ni?

11 Discynnwyd dy falchder i'r bedd, a thrwst dy nablau: tanat y tenir prŷf, prysed hefyd a'th doant.

12 Pa fodd y syrthiaist o'r nefoeddNeu, o y seren ddydd. Lusi­ffer, mab y wawr ddydd? pa fodd i'th dor­rwyd ti i lawr, yr hwn a wanheaist y cenhed­loedd?

13 Canys ti a ddywedaist yn dy galon, mi a ddringaf i'r nefoedd, oddi ar sêr Duw y derchafaf fy ngorseddfa, ac mi a eisteddaf ym mynydd y gynnulleidfa,Psal. 48.2. yn ystlyssau y gog­ledd.

14 Dringaf yn vwch nâ'r cwmylau, tebyg fyddaf i'r goruchaf.

15 Er hynny i vffern i'th ddescynnir, i yst­lysau yr ffôs.

16 Y rhai a'th welant a edrychant arnat yn graff, ac a'th ystyriant, gan ddywedyd, a'i dym­ma y gwr a wnaeth i'r ddaiar grynu, ac a gyn­hyrfodd deyrnasoedd?

17 A osododd y byd fel anialwch, ac a ddi­nistriodd ei ddinasoedd, heb dlwng ei garcha­rorion yn rhydd tuag adref?

18 Holl frenhinoedd y cenhedloedd, iê hwy oll a orweddasant mewn gogoniant, bob vn yn ei dŷ ei hun.

19 Eithr tydi a fwriwyd alhn o'th fedd, fel cangen ffiaidd, neu wîsc y lladdedigion, y rhai a drywanwyd â chleddyf; y rhai a ddescynnent i gerric y ffôs, fel celain wedi ei mathru.

20 Ni byddi mewn vn bodd â hwynt, o herwydd dy dîr a ddifethaist, a'th bobl a leddaist;Job. 18.19. Psal. 21.10. & 37.28. & 109 13. ni bydd hâd yr annuwiol enwog bŷth.

21 Darperwch laddfa iw feibion ef,Exod. 20.5. Matth. 23.35. am anwiredd eu tadau, rhac codi o honynt a gores­cyn y tîr, a llenwi wyneb y byd â dinasoedd.

22 Minneu a gyfodaf yn eu herbyn hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, ac a dorraf allan o Babilon henw a gweddill, a mab, ac ŵyr, medd yr Arglwydd:

23 Ac a'i gosodaf hi yn feddiant i aderyn y bwn, ac yn byllau dyfroedd; yscubaf hi he­fyd ag yscubau destryw, medd Arglwydd y lluoedd.

24 Tyngodd Arglwydd y lluoedd, gan ddy­wedyd; diau megis yr amcenais, felly y bydd; ac fel y bwriedais, hynny a saif;

25 Am ddryllio Assur yn fy nhir, canys mathraf ef ar fy mynyddoedd, yna y cilia ei iau ef oddi arnynt, ac y symmudir ei faich ef oddi ar eu hyscwyddau hwynt.

26 Dymma y cyngor a gymmerwyd am yr holl ddaiar, ac dymma y llaw a estynnwyd ar yr holl genhedloedd.

27 O herwydd Arglwydd y lluoedd2 Cron. 20.6. Job. 9.12. Dihar. 21.30. Dan. 4.32. a'i bwriadodd, a phwy a'i diddymma? ei law ef hefyd a estynnwyd, a phwy a'i try yn ôl?

28 Yn y flwyddyn y bu farw brenin Ahaz, y buPen. 13.1. y baich hwn.

29 Palestina, na lawenycha di oll, er torri gwialen dy darawudd: o herwydd o wreiddyn y sarph y daw gwiber allan, a'i ffrwyth hi fydd sarph danllyd hedegoc.

30 A chyn-blant y tlo [...] a ymborthant, a'r rhai anghenus a orweddant mewn diogelwch: ac mi a laddaf dy wreiddyn â newyn, yntef a ladd dy weddill.

31 Vda borth, gwaedda ddinas; Palestina, tî oll a doddwyd; canys mwg sydd vn dyfod o'r gogledd, ac ni bydd vnic yn eiNeu, gymman­faoedd. amseroedd nodedic ef.

32 A pha beth a attebir i gennadau y gen­hedl?Psal. 87.1, 5. & 102.16. seilio o'r Arglwydd Sion, ac yNeu, cyrch. gobei­thia trueniaid ei bobl efNeu, iddi. ynddi.

PEN. XV.

Tostur gyflwr Moab.

Pen. 13.1. BAich Moab: o herwydd y nôs y dinistri­wyd Ar Moab, ac yNeu, torrwyd hi ym­maith. distawyd hi; o herwydd y nôs y dinistriwyd Cir Moab, ac y distawyd hi.

2 Aeth i fynu i Baith, ac i Dibon, i'r vchel­feydd i ŵylo: am Nebo, ac am Medeba yr vda Moab;Jer. 48.37. Ezec. 7.18. bydd moelni ar eu holl bennau, a phob barf wedi ei heillio.

3 Yn eu heolydd yr ymwregysant â sachli­ain; ar bennau eu tai, ac yn eu heolydd yr vda pob vn,Heb. gan ddes­cyn i wy­lo, neu, gydagwy­lofain. gan wylo yn hidl.

4 Gwaedda Hesbon hefyd, ac Elealeh: hyd Jahaz y clywir eu llefain hwynt: am hynny arfogion Moab a floeddiant, pob vn a flina ar ei enioes.

5 Fy nghalon a waedda am Moab,Neu, hyd ei therfynn [...] sef hyd Zoar. ei ffoa­duriaid hi a ânt hyd Zoar,Jer. 48.5.34. fel anner deir­blwydd; mewn wylofain y dringant hyd allt Luith: canys codant waeddHeb. torriad. dinistr ar hŷd ffordd Horonaim.

6 O herwydd dyfroedd Nimrim a fyddant yn anrhaith; canys gwywodd y llyssiau; darfu y gwellt; nid oes gwyrdd-lesni.

7 Am hynny yr helaethrwydd a gawsant, a'r hyn a roesant i gadw, a ddygant iNeu, ddyffryn yr Ara­biaid. afon yr helyg.

8 Canys y gweiddi a amgylchynodd derfyn Moab, eu hudfa hyd Eglaim, a'i hochain hyd Beer-Elim.

9 Canys dyfroedd Dimon a lenwir o waed, canys gosodaf ychwaneg ar Dimon, llewod ar yr hwn a ddiango ym Moab, ac ar weddill y wlâd.

PEN. XVI.

1 Annog Moab i vfyddhau i frenhiniaeth Christ. 6 Bygwth Moab am ei balchder. 9 Y Prophwyd yn cwynfan trosti. 12 Barnedigaeth Moab.

ANfonwch oen i lywodraeth-wr y tîr,Heb. o'r oraig. o Sela i'r anialwch, i fynydd merch Sion.

2 Bydd fel aderyn yn gwibio,Neu, fel nyth wedi ei adel. wedi ei fwrw allan o'r nŷth; felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon.

3Heb. Dwg gyngor. Ymgynghora, gwna farn, gwna dy gys­cod fel nôs ynghanol hanner dydd: cuddia y rhai gwascaredic, na ddatcuddia y cyrwy­drad.

4 Triged fy ngwascaredigion gyd â thi, Moab, bydd di loches iddynt rhag y dinistrudd; canys diweddwyd y gorthrymmudd; yr an­rheithiwr a beidiodd, y mathr-wŷr a ddarfuant o'r tîr.

5 A gorsedd-faingc a ddarperit mewn tru­garedd, ac arni yrDan. 7.14, 27. Mic. 4.7. Luc. 1.33. eistedd efe mewn [Page] gwirionedd, o fewn pabell Dafydd, yn barnu ac yn ceisio barn, ac yn pryssuro cyf­iawnder.

6 ClywsomJer. 48.29. am falchder Moab (balch iawn yw) am ei falchder, a'i draha, a'i ddigllon­edd: ond nid felly y bydd ei gelwyddau.

7 Am hynny 'rJer. 48.20. vda Moab am Moab, pob vn a vda: am sylfeini Cir-Hareseth y gridd­fenwch, yn ddiau hwy a darawyd.

8 Canysmeu­sydd. gwin-wydd Hesbon a wanhasant; ac am win-wydden Sibmah, arglwyddi y cen­hedloedd a escydwasant ei phêr-winwydd hi; hyd Jazer y cyrhaeddasant; cyrwydrasant ar hŷd yr anialwch; ei changhennau aneu, dynnwyd ymaith. ymest-ynnasant, ac a aethant tros y môr.

9 Am hynny y galaraf ag wylofain Jazer, gwin-wydden Sibmah; dwfrhâf di Hesbon, ac Elealch â'm dagrau: canysam. ar dy ffrwythydd hâf, acam. ar dy gynhaiaf y syrthioddy floedd. bloedd.

10Jer. 48.33. Y llawenydd hefyd a'r gorfoledd a ddarfu o'r dolydd; ni chenir, ac ni floeddir yn y gwinllannoedd; ni sathr sathrudd wîn yn y gwryfoedd: gwnaethym iw bloedd gynhayaf beidio.

11 Am hynny y rhûa fy ymyscaroedd am Moab, fel telyn; a'm perfedd am Cir-Hares.

12 A phan weler flino o Moab ar yr vchel-fan, yna y daw efe iw gyssegr i weddio, ond ni thyccia iddo.

13 Dymma yr gair a lefarodd yr Arglwydd am Moab, er yr amser hwnnw.

14 Ond yn awr y llefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd; o fewn tair blynedd, fel blynyddoedd gwâs cyflog, y dirmygir gogo­niant Moab, a'r holl dyrfa fawr, a'r gweddill, fydd ychydig bach,Neu, ac nid llawer. a dirym.

PEN. XVII.

1 Bygwth Syria, ac Israel. 6 Gweddill a ym-wrthyd â delw-addoliaeth: 9 A'r lleill a gânt ddialedd am eu hannuwioldeb. 12 Gwae gely­nion Israel.

BAich Damascus. Wele Ddamascus wedi ei symmud o fod yn ddinas, a charnedd wedi syrthio a fydd hi.

2 Gwrthodwyd dinasoedd Aroer: i ddiade­llau y byddant, y rhai a orweddant, ac ni bydd a'i dychryno.

3 A derfydd amddeffynfa o Ephraim, a brenhiniaeth o Ddamascus, a gweddill Syria: fel gogoniant meibion Israel y byddant, medd Arglwydd y lluoedd.

4 Ac ar y dydd hwnnw y bydd i ogoniant Jacob feinhau, a brasder ei gîg ef a gulhâ.

5 Ac efe a fydd fel pan gasclo y cynhaiafwr vr ŷd, a medi â'i fraich y twysennau: a bydd fel casgludd twyssennau ynglynn Rephaim.

6 (Etto ynddo y gadewir lloffion grawn­wîn, fel escydwad oliwŷdden, sef dau neu dri o rawn ymlaen y brîg, a phedwar neu bump yn ei changhennau ffrwythlawn eithaf, medd Arglwydd Dduw Israel.

7 Yn y dydd hwnnw yr edrych dŷn at ei wneuthur-wr, a'i lygaid a edrychant ar Sanct Israel:

8 Ac nid edrych am yr allorau, y rhai ydynt waith ei ddwylo; îe nid edrych am yr hyn a wnaeth ei fyssedd, na'r llwyni, na'rNeu, haul-ddelwau. de­lwau.)

9 Yn y dydd hwnnw y bydd eu dinasoedd cedyrn, fel cangen wrthodedic, a'r brig, y rhai a adawsant o herwydd meibion Israel: felly y bydd anghyfannedd-dra.

10 O herwydd anghofio o honot Dduw dy iechydwriaeth, ac na chofiaist graig dy gader­nid; am hynny y plenni blanhigion hyfryd, ac yr impi hwynt â changhennau dieithr.

11 Y dydd y gwnei i'th blanhigyn dyfu, a'r boreu y gwnei i'th hâd flodeuo, ond bydd y cynhaiafNeu, wedi ei symudo ar ddydd etifeddi­aeth, a bydd do­lur gofi­dus. yn ben-twrr ar ddydd llescedd, a dolur gofidus.

12 GwaeNeu, dwrf. dyrfa pobloedd lawer, fel twrwf y môr y trystiant, ac i dwrwf y bobloedd a drystiant fel sŵn dyfroedd lawer.

13 Fel sŵn dyfroedd lawer y trystia y bobl; a Duw a'i cerydda hwynt, a hwy a ffoant ym mhell, ac a erlidir fel peiswyn mynydd o flaen y gwynt, ac felNeu, plu yr gweun­ydd. peth yn treiglo ym mlaen corwynt.

14 Ac wele drallod ar bryd nawn, a chyn y boreu ni bydd. Dymma ran y rhai a'n hanrhei­thiant ni, a choel-bren y rhai a'n hyspeiliant ni.

PEN. XVIII.

1 Duw o ofal tros ei bobl, yn addo distrywio yr Ethiopiaid: 7 Ac o hynny y daw cynnydd i'r Eglwys.

GWae 'r tîr sy yn cyscodi ag adenydd, yr hwn sydd tu hwnt i afonydd Ethiopia.

2 Yr hwn a hebrwng gennadau hyd y môr, ac ar hyd wyneb y dyfroedd, mewn llestri brŵyn, gan ddywedyd, ewch gennadon cyflym, at genhedlaeth wascaredic, ac yspailiedic,Deut. 28.37. at bobl ofnadwy, er pan ydynt, ac etto:Neu, cen. yn mesur ac ynsathru, Heb. cen­llinyn a llinyn, a mathrad. cen­hedlaeth wedi ei mesur a'i sathru, yr honNeu, y dirmy­godd. yr yspeiliodd yr afonydd ei thîr.

3 Holl drigolion y byd, a phresswyl-wŷr y ddaiar, gwelwch pan gyfodo efe faner ar y mynyddoedd, a chlywch pan vdcano ag vdcorn.

4 Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthif, byddaf lonydd, a mi a ystyriafNeu, fy annedd­le. yn fy annedd, megis gwrês eglurNeu, ar ol glaw. ar lyssiau, fel niwl gwlîth yngwrês cynhaiaf.

5 Canys o flaen cynhaiaf, pan fyddo y blodeun yn berffaith, a'r grawn-win surion yn addfedu yn y blodeuyn; efe a dyrr y brig â chrymmanau, ac a dynn ymmaith, ac a dyrr y canghennau.

6 Gadewir hwynt ynghyd i adar y myny­ddoedd, ac i anifeiliaid y ddaiar, ac arnynt y bwrw yr adar yr hâf, a holl anifeiliaid y ddaiar a aiafa arnynt.

7 Yr amser hwnnw y dygir rhodd i Ar­glwydd y lluoedd, gan bobl wascaredic, ac yspai­liedic; a chan bobl ofnadwy, er pan ydynt ac etto: cenedl wedi ei mesur a'i sathru, yr hon yr yspeiliodd yr afonydd ei thîr, i le enw Arglwydd y lluoedd, sef i fynydd Sion.

PEN. XIX.

1 Gwradwydd yr Aipht. 11 Ynfydrwydd eu pendefigion hwy. 18 Galw'r Aipht at yr Eglwys. 23 Cyngrair yr Aipht, Assyria, ac Israel.

Pen. 13.1.BAich yr Aipht. Wele 'r Arglwydd yn mar­chogaeth ar gwmwl yscafn, ac efe a ddaw i'r Aipht, ac eulynnod yr Aipht a gynnhyrfant rhagddo ef: a chalon yr Aipht a dawdd yn ei chanol.

2Heb. Cymmys­caf. Gyrraf hefyd yr Aiphtiaid yn erbyn yr Aiphtiaid, a hwy a2 Cron. 20.22. Pen. 49.26. ymladdant bob vn yn erbyn ei frawd, a phob vn yn erbyn ei gym­mydog; dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas.

3 Ac yspryd yr Aipht aHeb. dywelltir. balla yn ei chanol, ac mi aHeb. lyngcaf. ddiddymmaf ei chyngor hi: yna 'r ymofynnant ag eulynnod, ac â swynyddion, ac â dewiniaid, ac â brud-wŷr.

4 Ac mi a gaeaf yr Aipht yn llaw Arglwydd caled, a brenin cadarn a lywodraetha arnynt, medd yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd.

5 A'r dyfroedd a ddarfyddant o'r môr, yr afon hefyd a â yn hesb, ac yn sych.

6 A hwy a droant yr afonydd ym mhell, y ffrydiau ymddiffyn a ddiyspyddir, ac a sy­chant: torrir ymmaith bob corsen, a hescen.

7 Y papur-frwyn wrth yr afon, ar fin yr afon, a phob peth a hauwyd wrth yr afon, a wywa, a chwelir, ac ni bydd mwy.

8 Y pyscod-wŷr hefyd a dristint, a'r rhai oll a fwyriant fachau i'r afonydd a alarant: felly y rhai a danant rwydau ar hŷd wyneb y dyfroedd, a lescânt.

9 Gwradwyddir hefyd y rhal a weithiant fein-llîn, a'r rhai a weuantNeu, waith gwyn. rwyd-waith.

10 A hwy a dorrir yn euHeb. seiliau. bwriadau, y rhai oll a wnânt argaeau aHeb. llynnau i bethau byw. physcod-lynnau.

11 Diau ynfydion yw tywysogion Zoan, cyngor doethion gynghor-wŷr Pharao aeth yn ynfyd: pa fodd y dywedwch wrth Pharao, mab y doethion ydwyfi, mab hên frenhinoedd?

12 Mae hwynt? mae dy ddoethion? a my­negant it yr awr hon, a gwybyddant pa gyngor a gymerodd Arglwydd y lluoedd yn erbyn yr Aipht.

13 Tywysogion Zoan a ynfydasant, twy­llwyd tywysogion Noph, aNeu, llywodra­eth-wyr. Hebr. chonglau. phennaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aipht.

14 Cymmyscodd yr Arglwydd ynddi yspryd gwrthnyssigrwydd, a hwy a wnaethant i'r Aipht gyfeiliorni yn ei holl waith, fel y cyfei­liorna meddwyn yn ei chwdfa.

15 Ac ni bydd gwaith i'r Aipht, yr hwn a wnelo y pen na'r gloren, y gangen na'r frŵynen.

16 Y dydd hwnnw y bydd yr Aipht fel gwragedd; canys hi a ddychryna, ac a ofna rhag escydwad llaw Arglwydd y lluoedd, yr hon a yscydwa efe arni hi.

17 A bydd tir Juda yn arswyd i'r Aipht; pwy bynnac a'i cofio hi, a ofna ynddo ei hun, o herwydd cyngor Arglwydd y lluoedd, yr hwn a gymmerodd efe yn ei herbyn hi.

18 Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhîr yr Aipht yn llefaruHeb. gwefus. iaith Canaan, ac yn tyngu i Arglwydd y lluoedd: dinasNeu, Heres, neu, yr haul. destryw y gelwir vn.

19 Y dydd hwnnw y bydd allor i'r Arg­lwydd ynghanol tîr yr Aipht, a cholofn i'r Arg­lwydd ger llaw ei therfyn hi.

20 Yn arwydd hefyd ac yn destiolaeth y bydd, i Arglwydd y lluoedd yn nhîr yr Aipht; canys llefant ar yr Arglwydd o herwydd y gorthrymwŷr, ac efe a enfyn iddynt Jachawdur, a Phennaeth, ac efe a'i gwared hwynt.

21 A'r Arglwydd a adweinir gan yr Aipht; ie yr Aiphtiaid a adwaenant yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: gwnânt hefyd aberth ac offrwm, ac addunant adduned i'r Arglwydd, ac a'i talant.

22 Yr Arglwydd hefyd a dery yr Aipht; efe a'i tery ac a'i hiachâ, hwythau a droant at yr Arglwydd, ac efe a'i gwrendy hwynt, ac a'i hiachâ hwynt.

23 A'r dydd hwnnw y bydd prif-sfordd o'r Aipht i Assyria, ac yr â yr Assyriad i'r Aipht, a'r Aiphtiad i Assyria: a'r Aiphtiaid gyd â'r Assyriaid a wasanaethant.

24 Y dydd hwnnw y bydd Israel yn dry­dydd gyd â'r Aipht, ac a chyd ag Assyria, sef yn fendith o fewn y tîr.

25 Yr hwn a fendithia Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd; bendigedic yw 'r Aipht fy mhobl i, ac Assyria gwaith fy nwylo; ac Israel fy etifeddiaeth.

PEN. XX.

1 Arwydd a chyscod yn rhag-arwyddoccau cae­thiwed yr Aipht ac Ethiopia.

YN y flwyddyn y daeth2 Bren. 18.7. Tartan i Asdod, (pan ddanfonodd Sargon brenin Assyria ef,) ac yr ymladdodd yn erbyn Asdod, ac a'i hennillodd hi;

2 Yr amser hwnnw y bu gair yr Arglwydd trwy law Esay fâb Amoz, gan ddywedyd, dôs a dattod y sach-liain oddi am dy lwynau, a diosc dy escidiau oddi am dy draed: ac efe a wnaeth felly, gan rodio yn noeth, ac heb escidiau.

3 Dywedodd yr Arglwydd hefyd, megis y rhodiodd fy ngwâs Esay yn noeth, ac heb esci­diau, dair blynedd, yn arwydd, ac yn argoel yn erbyn yr Aipht, ac yn erbyn Ethiopia:

4 Felly yr arwein brenin Assyria gaethiwod yr Aipht, a chaethglud Ethiopia, sef yn llangci­au, a henaf-gwŷr, yn noethion, ac heb escidiau, ac yn din-noeth, ynHeb. n [...]thni. warth i'r Aipht.

5 Brawychant a chywilyddiant o achos Ethiopia, eu gobaith hwynt; ac o achos yr Aipht, eu gogoniant hwy.

6 A'r dydd hwnnw y dywed presswylwŷrNeu, y wlad. yr ynys hon, wele, fel hyn y mae ein go­baith ni, lle y ffoesom am gymmorth i'n gwared rhag brenin Assyria: a pha fodd y diangwn?

PEN. XXI.

1 Y Prophwyd wrth gwyno caethiwed ei bobl, mewn gweledigaeth yn gweled cwymp Babilon gan y Mediaid, a'r Persiaid. 11 Edom yn gwatwar y Prophwyd, a'i hannog i edifarhau. 13 Amser nodedig adfyd Arabia.

BAich anialwch y môr. Fel y mae cor-wynt yn y dehau yn myned trwodd, felly y daw o'r anialwch, o wlâd ofnadwy.

2 Gweledigaeth galed a fynegwyd î mi, yr anffyddlon sydd yn anffyddloni, a'r dini­strudd sydd yn dinistrio: Elam, dring; Me­dia, gwarchae; gwnaethym iw holl riddfan hi ddarfod.

3 Am hynny y llanwyd fy lwynau o ddo­lur, gwewyr a'm daliasant, fel gwewyr gwraig yn escor; syrthiais wrth ei glywed, brawychais wrth ei weled.

4 Cyfeiliornodd fy nghalon, braw a'm dy­chrynodd, efe aHeb. ofododd. drôdd fy nghyfnos ddymu­nol yn ddychryn i mi.

5 Parottoa y bwrdd; gwilia yn y ddis­gwilfa; bwytta, ŷf; cyfodwch dywysogion, enneiniwch y darian.

6 O herwydd fel hvn y dywedodd yr Arg­lwydd wrthif, dôs, gosot wiliedydd, myneged yr hyn a welo.

7 Ac efe a welodd gerbyd, a dau o wŷr meirch; cerbyd assynnod, a cherbyd camelod, ac efe a ystyriodd yn ddyfal iawn dros ben.

8 Ac efe a lefodd,Neu, fel llew. llew: fy Arglwydd,Hab. 2.1. ar y ddisgwilfa yr wyfi 'n sefyll liw dydd yn wastad, ac ar fy nghadwriaeth yr ydwyf yn sefyll bob nôs.

9 Ac wele, ymma y mae yn dyfod gerbyd o wyr, a dau o wŷr meirch; ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, syrthiodd, syrthioddJer. 51.8. Dat. 14.8. & 18.2. Babi­lon: a holl ddelwau cerfiedig ei duwiau hi a ddrylliodd efe i lawr.

[...]
[...]

10 O fy nyrniad, aHeb. mab▪ chnŵd fy llawr dyr­nu; yr hyn a glywais gan Arglwydd y lluo­edd, Duw Israel, a fynegais i chwi.

11 Baich Dumah. Arnafi y mae 'n galw o Seir; y gwiliedydd, beth am y nôs? y gwilie­dydd, beth am y nôs?

12 Dywedodd y gwiliedydd, daeth y boreu a'r nôs hefyd: os ceisiwch, ceisiwch: dych­welwch, deuwch.

13 Baich ar Arabia. Yn y coed yn Arabia y lletteuwch chwi, fforddolion Dedanim.

14Neu, dygasant. Dygwch ddyfroedd i gyfarfod â'r sy­chedig, trigolion tîr Tema,Neu, achuba­sant. achubwch flaen y cyrwydrus â'i fara.

15 O herwydd rhag cleddyfau y ffoesant,Neu, rhag ofn, Heb. rhag wy­neb rhag y cleddyf noeth, a rhag y bŵa anneloc, a rhag trymder rhyfel.

16 O herwydd fel hyn y dywedodd yr Ar­glwydd wrthifi, cyn pen blwyddyn o fath blwyddyn gwâs cyflog, y derfydd hefyd holl anrhydedd Cedar.

17 A'r gweddill o rifediHeb. bwau. saethyddion gwyr cedyrn meibion Cedar, a leiheir: canys Arg­lwydd Dduw Israel a'i dywedodd.

PEN. XXII.

1 Y Prophwyd yn cwyno dyfodiad y Persiaid i Judea: 8 Yn beio ar eu synhwyr ddynol, a'i llawenydd bydol hwy: 15 Yn prophwydo y diswyddid Sobnah, 20 ac y gosodid Eliacim yn ei le ef, yr hwn oedd arwydd o frenhiniaeth Christ.

BAich glyn gweledigaeth. Beth a ddarfu i ti yn awr, pan ddringaist ti oll i nennau y tai?

2 Ti yr hon wyt yn llawn terfysc, yn ddi­nas derfyscol, yn ddinas lawen; dy laddedi­gion ni laddwyd â chleddyf, na'th feirw mewn rhyfel.

3 Dy holl dywysogion a gyd-ffoesant, gan y perchen bwâu y rhwymwyd hwynt: y rhai oll a gafwyd ynot a gyd-rwymwyd, y rhai a ffoesant o bell.

4Jerem. 4.19. & 9.1. Am hynny y dywedais, edrychwch oddi­wrthif,Heb. mi a fy­ddaf chwerw wrth wylo. mi a wylaf yn chwerw, na lafuriwch fy nghyssuro am ddinistr merch fy mhobl.

5 O herwydd diwrnod blinder yw, a ma­thru, a dyryssni, gan Arglwydd Dduw 'r lluo­edd, ynglynn gweledigaeth, yn difurio y gaer, ac yn gweiddi i'r mynydd.

6 Elam hefyd a ddug y cawell saethau, mewn cerbydau dynion, a gwŷr meirch: Cir hefyd a ddinoethodd y darian.

7 A byddHeb. dewis dy ddyffryn­noedd. dy ddyffrynnoedd dewisol yn llawn o gerbydau, a'r gwŷr meirch a ymfy­ddinantNeu, yn y porch. tua 'r porth.

8 Ac efe a ddinoethodd dô Juda, ac yn y dydd hwnnw yr edrychaist ar arfogaeth tŷ y goedwic:

9 A gwelsoch rwygiadau dinas Ddafydd, mai aml oeddynt, a chasclasoch ddyfroedd y pys­codlyn issaf:

10 Rhifasoch hefyd dai Jerusalem, a thyn­nasoch y tai i lawr, i gadarnhau y mûr.

11 A rhwng y ddau fûr y gwnaethoch lynn i ddyfroedd yr hên byscodlyn: ond nid edry­chasoch am ei wneuthurwr, nid ystyriasoch yr hwn a'i lluniodd ef er ystalm.

12 A'r dydd hwnnw y gwahoddodd Arg­lwydd Dduw y lluoedd rai i wylofain, ac i alar­nad, ac i foeledd, ac i ymwregyssu â sach-liain;

13 Ac wele lawenydd, a gorfoledd, gan ladd gwarthec, a lladd defaid, gan fwytta cig, ac yfed gwin:Pen. 56.12. Doeth. 2 6. 1 Cor. 15.32. bwyttawn ac yfwn, canys y foru meddant, y byddwn feirw.

14 A datcuddiwyd hyn lle y clywais gan Arglwydd y lluoedd: yn ddiau ni lanheir yr anwiredd hyn, hyd oni byddoch feirw, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

15 Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluo­edd, cerdda, dôs at y tryssorydd hwn, sef at Sobna, yr hwn sydd ben-teulu, a dywed,

16 Beth sydd i ti ymma? a phwy sydd gen­nit ti ymma, pan drychaist i ti ymma fedd,Neu, o yr hwn &c. fel yr hwn a drychai ei fedd yn vchel, ac a naddai iddo ei hun drigfa mewn craig?

17 Wele 'r ArglwyddNeu, yr hun a'th orch­gudaiedd di a gor­chudd godidawg, a chan wisco a'th wis­codd di▪ vers. 18 gan drei­glo a'th dreigla &c. yn dy fudo di â chaethiwedHeb. gwr. tost, a chan wisco, a'th wisc di.

18 Gan dreiglo i'th dreigla di fel treiglo pêl i wlâd ehang: yno y byddi farw, ac yno y bydd cerbydau dy ogoniant yn warth i dŷ dy feistr.

19 Yna i'th yrraf o'th sefyllfa, ac o'th sefyllfa y dinistria efe di.

20 Ac yn y dydd hwnnw y galwaf ar fy ngwâs Eliacim fab Helciah:

21 A'th wisc di hefyd y gwiscaf ef, ac â'th wregis di y nerthaf ef; a than ei law ef y rho­ddaf dy lywodraeth di, ac efe a fydd yn dâd i bresswylwŷr Jerusalem, ac i dŷ Juda.

22 Rhoddaf hefyd agoriad tŷ Ddafydd ar ei yscwydd ef;Job. 12.14. Date. 3.7. yna yr egyr efe, ac ni bydd a gaeo; ac efe a gae, ac ni bydd a agoro.

23 A mi a'i siccrhâf ef, fel hoel mewn man siccr, ac efe a fydd yn orseddfa gogoniant i dŷ ei dâd.

24 Ac arno ef y crogant holl ogoniant tŷ ei dâd, hil a heppil; yr holl fân lestri; o'r llestri meiliau, hyd yr hollNeu, lestri co­strelau. offer cerdd.

25 Yn y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y symmudir yr hoel a hoeliwyd yn y mann siccr, a hi a dorrir, ac a syrth: torrir hefyd y llwyth oedd arni, canys Arglwydd y lluoedd a'i dywedodd.

PEN. XXIII.

1 Gofidus gwymp Tyrus. 17 Eu trwch ddych­weliad hwy.

BAich Tyrus. Llongau Tarsis, vdwch; canys anrheithlwyd hi, fel nad oes na thŷ, na chyntedd: o dîr Chirtim y dadcuddiwyd iddynt.

2 Distewch drigolion yr ynys, yr hon y mae marchnadyddion Zidon, y rhai sy yn trammwy 'r môr, yn dy lenwi.

3 Ac wrth ddyfroedd lawer, hâd Sihor, cynhaiaf yr afon yw ei chnwd hi: felly march­nadfa cenhedloedd yw hi.

4 Cywilyddia Zidon, canys y môr, ie cryf­der y môr a lefarodd, gan ddywedyd; nid ymddygais, ac nid escorais, ni fegais wŷr ieu­aingc ychwaith, ac ni feithrinais forwynion.

5 Megis wrth glywed sôn am yr Aiphtiaid, yr ymofidiant wrth glywed sôn am Tyrus.

6 Ewch trosodd i Tarsis, vdwch, presswyl­wŷr yr ynys.

7 Ai hon yw eich dinas lawen chwi, yr hon y mae ei hynafiaeth er y dyddiau gynt? ei thraed a'i dygant hi, i ynadaithHeb. o bell. i bell.

8 Pwy a gynghorodd hyn yn erbyn Tyrus goronoc: yr hon yr ydoedd ei marchnattawyr yn dywysogion, a'i marsiand-wŷr yn bendefi­gion y ddaiar?

9 Arglwydd y lluoedd a fwriadodd hyn, i ddifwyno balchder pôb gogoniant, ac i ddirmy­gu holl bendefigion y ddaiar.

10 Dôs drwy dy wlâd fel afon, ô ferch Tar­sis: nid oes Heb. wregys. nerth mwyach.

11 Estynnodd ei law ar y môr; dychrynodd y teyrnasoedd; gorchymynnodd yr ArglwyddNeu, yn erbyn. amHeb. Canaan. ddinas y farsiandiaeth, ddinistrio ei chadernid.

12 Ac efe a ddywedodd, ni chei orfoleddu mwyach, yr orthrymmedic forwyn, merch Zi­don, cyfot dôs i Chittim; yno ychwaith ni bydd llonyddwch.

13 Wele dîr y Caldeaid, nid oedd y bobl hyn nes i Assur ei sylfaenu hi i drigolion yr anialwch: derchafasant ei thyrau, cyfodasant ei phalasau, ac efe a'i tynnodd hi i lawr.

14 Llongau Tarsis, vdwch; canys anrhei­thiwyd eich nerth.

15 A'r dydd hwnnw yr anghofir Tyrus ddeng-mhlynedd a thrugain, megis dyddiau vn brenin: ym mhen y deng-mhlynedd a thru­gain,Heb. y bydd i Tyrus megis can puttain. y cân Tyrus megis puttain.

16 Cymmer y delyn, amgylchyna 'r ddinas, ti buttain anghofiedic; cân gerdd yn dda; cân lawer fel i'th gofier.

17 Ac ym mhen y deng-mhlynedd a thru­gain, yr Arglwydd a ymwel â Tyrus, a hi a ddychwel at ei helw, ac a butteinia â holl deyrnasoedd y bŷd, ar wyneb y ddaiar.

18 Yna y bydd ei marchnad, a'i helw, yn sancteiddrwydd i'r Arglwydd: ni thrysorir ac ni's cedwir; canys eiddo y rhai a drigant o flaen yr Arglwydd fydd ei marsiandiaeth, i fwytta yn ddigonol, ac yn ddilladHeb. hen. parhaus.

PEN. XXIV.

1 Tostur farnedigaethau Duw ar y wlâd. 13 Y llawen glodfora y gweddill Dduw. 16 Y der­chafa Duw ei deyrnas yn ei farnedigaethau.

WEle yr Arglwydd yn gwneuthur y ddaiar yn wâg, ac yn ei difwyno hi; canys efe a ddadymchwel ei hwyneb hi, ac a wascar ei thrigolion.

2 Yna y bydd yr vn ffunyd i'r bobl ac i'rHos. 4.9. Neu, tywysog. offeiriad, i'r gwâs ac iw feistr, i'r llaw­forwyn ac i'w meistres, i'r prynudd ac i'r gwer­thudd, i'r hwn a roddo, ac i'r hwn a gym­mero echwyn, i'r hwn a gymmero lôg, ac i'r hwn a dalo lôg iddo.

3 Gan waghâu y gwagheir, a chan yspeilio 'r yspeilir y wlâd; canys yr Arglwydd a lefa­rodd y gair hwn.

4 Galarodd a diflannodd y ddaiar; llescâodd a dadwinodd y byd; dihoenoddHeb. uchder pobl y ddaiar. pobl feil­chion y ddaiar:

5 Y ddaiar hefyd a halogwyd tan ei phress­wyl-wŷr, canys troseddasant y cyfreithiau, newidiasant y deddfau, diddymmasant y cyfam­mod tragywyddol.

6 Am hynny melldith a yssodd y tîr, a'r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd: am hynny presswyl-wŷr y tîr a loscwyd, ac ychy­dig ddynion a adawyd.

7 Galarodd y gwîn, llescâodd y win-wŷdden, y rhai llawen galon oll a riddfanasant.

8Jer. 7.34. & 16.9. & 25 10. Ezec. 26.13. Hos. 2.11. Darfu llawenydd y tympanau, peidi­odd trwst y gorfoledd-wŷr, darfu hyfrydwch y delyn.

9 Nid yfant win dan ganu, chwerw fydd diod gref i'r rhai a'i hyfant.

10 Drylliwyd y ddinas wagedd, caewyd pôb tŷ, fel na ddeler i mewn.

11 Y mae llefain am wîn yn yr heolydd, ty­wyllodd pôb llawenydd; hyfrydwch y tir a fudodd ymmaith.

12 Yn y ddinas y gadawyd angyfan­neddrwydd, ag anrhaith hefyd y dryllir y porth.

13 Oblegid bydd o fewn y tîr, ynghanol y bobloedd, megis escydwad oliwydden, ac fel grawn lloffa, pan ddarffo cynhaiaf y gwîn.

14 Hwy a dderchafant eu llêf, ac a ganant; o herwydd godidawgrwydd yr Arglwydd, bloeddiant o'r môr.

15 Am hynny gogoneddwch yr Arglwydd, yn yNeu, tan. dyffrynnoedd; enw Arglwydd Dduw Israel, yn ynysoedd y môr.

16 OHeb. ascell. eithafoedd y ddaiar y clywsom ga­niadau, sef gogoniant i'r cyfiawn: a dywedais,Heb. culni imi, neu, fy nghyfri­nach imi. ô fy nghulni, ô fy nghulni, gwae fi, y rhai anffyddlon a wnaethant yn anffyddlon, ie gwnaeth yr anffyddlon o'r fath anffyddlonaf.

17 Dychryn, a ffôs, a magl fydd arnati, bresswyludd y ddaiar.

18 A'r hwn a ffŷ rhag trwst y dychryn, a syrth ynJer. 48.44. y ffôs; a'r hwn a gyfodo o ganol y ffôs, a ddelir yn y fagl: o herwydd ffenestri o'r vchelder a agorwyd, a seiliau y ddaiar sydd yn crynu.

19 Gan ddryllio 'r ymddrylliodd y ddaiar, gan rwygo 'r ymrwygodd y ddaiar; gan sym­mud yr ymsymmudodd y ddaiar.

20 Y ddaiar gan symmud a ymsymmud fel meddwyn, ac a ymsigla megis bŵth; a'i cham­wedd fydd trwm arni, a hi a syrth ac ni chyfyd mwy.

21 Yr amser hwnnw 'r ymwel yr Arg­lwydd â llû 'r vchel, yr hwn sydd yn yr vchel­der; ac â brenhinoedd y ddaiar, ar y ddaiar.

22 A chesclir hwyntHeb. a chascli­ad [...]rch. &c. fel y cesclir carcha­rorion, mewn daiar-dŷ, a hwy a garcherir mewn carchar, ac ym mhen llawer o ddy­ddiauNeu, y ceir hwynt yn dde­ffygiol. yr ymwelir â hwynt.

23 Yna yPen. 13.10. Ezec. 32.7. Joel. 2.31. & 3.15. lleuad a wrîda, a'r haul a gy­wilyddia, pan deyrnaso Arglwydd y lluoedd ym mynydd Sion, ac yn Jerusalem, ac o flaen ei henuriaid,Neu, y bydd gogoniant. mewn gogoniant.

PEN. XXV.

1 Y P [...]phwyd yn moliannu Duw, am ei far­nedigaethau, 6 Am ei ddoniau ymwared, 9 Ac am ei orfoleddus iechydwriaeth.

O Arglwydd, fy Nuw ydwyt, derchafaf di, moliannaf dy enw, canys gwnaethost ry­feddodau; dy gynghorion er ystalm sydd wirio­nedd a siccrwydd.

2 Canys gosodaist ddinas yn bentwrr, a thref gadarn yn garnedd: palâs dieithriaid, fel na byddo ddinas; nid adeiledir hi byth.

3 Am hynny pobl nerthol a'th ogonedda, dinas y cenhedloedd ofnadwy a'th arswyda;

4 Canys buost nerth i'r tlawd, a chadernid i'r anghenog yn ei gyfyngder, yn nodded rhag temheftl, yn gyscod rhag gwrês, pan oedd gwynt y cedyrn fel tymhestl yn erbyn mur.

5 Fel gwrês mewn sychder y darostyngi dwrwf dieithriaid: sef gwrês â chyscod cwmwl; darostyngir cangen yr ofnadwy.

6 Ac Arglwydd y lluoedd a wna i'r holl bobloedd yn y mynydd hwn, wledd o basce­digion, gwledd o loyw-win, o bascedigion brei­sion, a gloyw-win puredig.

7 Ac efe aHeb. lwngc. ddifa, yn y mynydd hwn, y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bob­loedd; a'r llen, yr hon a danwyd ar yr holl genhedloedd.

81 Cor. 15.54. Efe a lwngc angeu mewn buddugoliaeth, a'r Arglwydd DduwDatc. 7.17. & 21.4. a fŷch ymmaith dda­grau oddi ar bôb wyneb: ac efe a dynn ym­maith warthrudd ei bobl, oddi ar yr holl ddai­ar: canys yr Arglwydd a'i llefarodd.

9 A'r dydd hwnnw y dywedir, wele dym­ma ein Duw ni, gobeithiasom ynddo, ac efe a'n ceidw: dymma 'r Arglwydd, gobeithiasom ynddo, gorfoleddwn, a llawenychwn yn ei ie­chydwriaeth ef.

10 Canys llaw 'r Arglwydd a orphwys yn y mynydd hwn, a Moab addyr­nir. sethrir tano, felNeu, fel awnw gwellt yn Madrae­nah sathru gwellt mewn tommen.

11 Ac efe a estyn ei ddwylo yn eu canol hwy, fel yr estyn nofiedydd ei ddwylo i nosio, ac efe a ostwng eu balchder hwynt, ynghyd ag yspail eu dwylo.

12 Felly y gogwydda, y gostwng, ac y bwrw efe i lawr hyd y llwch, gadernid vchel­der dy gaerau.

PEN. XXVI.

1 Cân yn annog i hyderu ar Dduw, 5 o herwydd ei farnedigaethau, 12 a'i ffafor iw bobl. 20 Cyngor i ddisgwyl wrth Dduw.

Y Dydd hwnnw y cenir y gân hon, yn nhîr Juda; Dinas gadarn sydd i ni, Duw a esyd iechydwriaeth yn gaerau, ac yn rhacfur.

2 Agorwch y pyrth, fel y dêl y genhedl gyfiawn i mewn, yr hon a geidw wirionedd.

3 Ti a gedwi mewn tanghneddyfHeb. beddwch. heddy­chol, yr hwn sydd a'i feddyl-fryd arnat ti, am ei fod yn ymddiried ynot.

4 Ymddiriedwch yn yr Arglwydd byth: o herwydd yn yr Arglwydd Dduw y mae Heb. craig cesudd. ca­dernid tragywyddol.

5 Canys efe a ostwng bresswyl-wŷr yr vchelder, tref vchel a ostwng efe: efe ai da­rostwng hi i'r llawr, ac a'i bwrw hi i'r llwch.

6 Troed a'i sathr hi, sef traed y trueniaid, a chamrau y tlodion.

7 Vniondeb yw llwybr y cyfiawn; tydi yr vniawn wyt yn pwyso ffordd y cyfiawn.

8 Ar lwybr dy farnedigaethau hefyd i'th ddisgwiliasom Arglwydd; dymuniad ein henaid sydd at dy enw, ac at dy goffadwri­aeth.

9 A'm henaid i'th ddymunais, liw nôs; â'm hyspryd hefyd o'm mewn i'th foreu geis­iaf: canys presswyl-wŷr y byd a ddyscant gy­fiawnder, pan fyddo dy farnedigaethau ar y ddaiar.

10 Gwneler cymwynas i'r annuwiol, etto ni ddysc efe gyfiawnder; yn nhir vniondeb y gwna ar gam, ac ni wêl vchelder yr Arg­lwydd.

11 Ni welant, Arglwydd pan dderchafer dy law; eithr cânt weled, a chywilyddiant am eu heiddigeddNeu, tuag at dy bobl. wrth y bobl: iê tân dy elynion a'i hyssa hwynt.

12 Arglwydd, ti a drefni i ni heddwch; canys ti hefyd a wnaethost ein holl weithredo­eddTrosom ni. ynom ni.

13 O Arglwydd ein Duw, arglwyddi eraill heb dy law di a arglwyddiaethasant arnom ni; yn vnic ti wot ti y coffawn dy enw.

14 Meirw ydynt, ni byddant fyw; ym­ma iawsant, ni chyfodant; am hynny y go­fwyaist, a difethaist hwynt, dinistriaist hefyd bôb coffa am danynt.

15 Chwanegaist ar y genell; ô Arglwydd, chwanegaist ar y genedl; ti a ogoneddwyd; ti a'i symudasit ym-mhell, i holl gyrrau y ddaiar.

16 Mewn adfyd Arglwydd yr ymwelsant â thi, tywalltasantNeu, ddirgel ymadrodd weddi, pan oedd dy gospe­digaeth arnynt.

17 Fel y gofidia, ac y gwaedda gwraig sei­chiog dan ei gwewyr, pan fyddo agos i escor; felly 'r oeddem o'th flaen di, Arglwydd.

18 Beichiogasom, gofidiasom, oeddym fel ped escorem ar wynt: ni wnaethom ymwared ar y ddaiar, a phresswyl-wŷr y byd ni syr­thiasant.

19 Dy feirw a fyddant byw, fel fy nghorph i yr adgyfodant, deffrowch, a chenwch, press­wylwŷr y llwch: canys dy wlith sydd fel gwlith llysiau, a'r ddaiar a fwrw y meirw allan.

20 Tyred, fy mhobl; dôs i'th stafelloedd: a chae dy ddrysau arnat: llecha megis ennyd bach, hyd onid elo y llid heibio.

21 Canys wele 'r ArglwyddMic. 1.3. yn dyfod allan o'i fangre, i ymweled ag anwiredd presswyl-wŷr y ddaiar: a'r ddaiar a ddadcu­ddia ei gwaed, ac ni chuddia mwyach ei lla­ddedigion.

PEN. XXVII.

1 Gofal Duw tros ei winllan. 7 Y mae rhagor rhwng ei geryddon ef a'i farnedigaethau. 12 Eglwys yr Iddewon a'r Cenhedloedd.

Y Dydd hwnnw yr ymwel yr Arglwydd â'i gleddyf caled, mawr, a chadarn, â Lefia­than y sarph hîr-braff, îe â Lefiathan y sarph dorchoc; ac efe a lâdd y ddraig sydd yn y môr.

2 Yn y dydd hwnnw cenwch iddi, gwin­llan y gwîn coch.

3 Myfi 'r Arglwydd a'i ceidw, ar bob mo­ment y dyfrhâf hi; cadwaf hi, nôs a dydd, rhac i neb ei drygu.

4 Nid oes lidiawgrwydd ynof; pwy a oso­dei fieri a drain yn fy erbyn, mewn rhyfel? my fi aNeu, gerddwn yn eu her­byn. awn trwyddynt, mi a'i lloscwn hwynt ynghyd.

5 Neu ymafled yn fy nerth i, fel y gwnelo heddwch â mi, ac efe a wna heddwch â mi.

6 Efe a wna i hiliogaeth Jacob wreiddio, Israel a flodeua, ac a flaen-dardda; a hwy a lanwant wyneb y byd â chnwd.

7 A darawodd efe ef,Heb. yn ol dyr­nod y rhai a daraw­sai &c. fel y tarawodd y rhai a'i tarawsei ef? a laddwyd ef, fel lladdfa ei laddedigion ef?

8 Wrth fessur, panNeu, anfonych ef allan. ôl allan, yr ymddad­leu ag ef: y mae yn attal ei wynt garw, ar ddydd dwyrein-wynt.

9 Am hynny trwy hyn y glanheir anwi­redd Jacob, ac dymma 'r holl ffrwyth, tynnu ymmaith ei bechod: pan wnelo efe holl gerric yr allor, fel cerric calch briwedic, ni saif y llwyni, na'rNeu, haul-ddel­wau. delwau.

10 Etto, y ddinas gadarn fydd vnic, a'r an­nedd wedi ei adel, a'i wrthod, megis yn anial­wch; yno y pawr y llô, ac y gorwedd; ac y difa ei blagur hi.

11 Pan wywo ei brîg hi, hwy a dorrir: gwragedd a ddaw, ac a'i llosgant hi; canys nid pobl ddeallgar ydynt: am hynny 'r hwn a'i gwnaeth, ni thosturia wrthynt; a'r hwn a'i lluniodd, ni thrugarhâ wrthynt.

12 A'r dydd hwnnw y bydd i'r Arglwydd ddyrnu, o ffrŵd yr afon hyd afon yr Aipht▪ a chwi meibion Israel a gesclir bôb yn vn ac vn.

13 Ac yn y dydd hwnnw 'r vdcenir ag vdcorn mawr; yna y daw y rhaiar ddarfod am [Page] danynt yn nhîr Assyria, a'r rhai a wascarwyd yn nhîr yr Aipht, ac a addolant yr Arglwydd, yn y mynydd sanctaidd, yn Jerusalem.

PEN. XXVIII.

1 Y Prophwyd yn hygwth Ephraim am eu balch­der a'i meddw-dod. 5 Y gweddill a dderchefir yn nheyrnas Christ. 7 Y mae yn argyoeddi eu hamryfusedd hwy, 9 a'i drwg athrylith i ddyscu, 15 a'i diofalwch. 16 Addewid o Ghrist, y sail siccr. 18 Y profir eu diofalwch hwy. 23 Eu hannog hwy i ystyried pwyllog ragluniaeth Duw.

GWae goron balchder, meddwon Ephraim; yr hwn y mae ardderchawgrwydd ei ogo­niant yn flodeuyn diflannedic, yr hwn sydd ar ben y dyffrynnoedd breision, y rhai aHeb. dorrwyd. orch­fygwyd gan win.

2 Wele vn grymmus a nerthol sydd gan yr Arglwydd, fel tymhestl cenllysc, neu gorwynt dinistriol, fel llifeiriant dyfroedd mawrion, yn llifo trosodd, yr hwn a fwrw i lawr â llaw.

3Heb. A thraed. Tan draed y sethrir coron balchder, meddwon Ephraim:

4 Ac ardderchawgrwyddd ei ogoniant, yr hwn sydd ar ben y dyffryn brâs, fydd blodeu­yn distannedig, megis ffigysen gynnar cyn yr hâf, yr hon pan welo 'r hwn a edrycho arni, efe a'i llwngc hi, a hi etto yn ei law.

5 Yn y dydd hwnnw y bydd Arglwydd y lluoedd, yn goron ardderchawgrwydd, ac yn goron gogoniant i weddill ei bobl;

6 Ac yn yspryd barn i'r hwn a eisteddo ar farn, ac yn gadernid i'r rhai a ddychwelant y rhyfel i'r porth.

7 Ac er hynny hwy a gyfeillornasant drwy win, ac a ymryfusasant drwy ddiod gadarn: yr offeiriad a'r prophwyd a gyfeiliornasant drwy ddiod gadarn, difawyd hwy gan win, cyfeiiiornasant trwy ddiod gadarn, amryfusa­sant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant mewn barn.

8 Canys y byrddau oll sydd lawn o chwdfa, a budreddi, heb le glân.

9 I bwy y dysc efe wybodaeth? ac i bwy y pâr efe ddeall yr hyn a glywo? i'r rhai a ddi­ddyfnwyd oddi wrth laeth, y rhai a dynnwyd oddi wrth y bronnau.

10 CanysNeu, rhodd. wyd. rhoddir gorchymyn ar orchy­myn, gorchymyn ar orchymyn, llin ar lin, llin ar lin, ychydig ymma, ac ychydig accw.

11 Canys1 Cor. 14.21. â bloescniHeb. gwefus. gwefusau, ac â tha­fod-iaith ddieithr yNeu, llefarodd. llefara efe wrth y bobl hyn.

12 Y rhai y dywedodd efe wrthynt, dymma orphywysdra, gadewch i'r deffygiol orphy­wyso, a dymma esmwythder; ond ni fynnent wrando:

13 Eithr gair yr Arglwydd oedd iddynt yn orchymyn ar orchymyn, yn orchymyn ar or­chymyn, yn llin ar lin, yn llin ar lin; ychydig ymma, ac ychydig accw, fel yr elent ac y syr­thient yn ôl, ac y dryllier, ac y magler, ac y dalier hwynt.

14 Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd, ddynion gwatwarus; llywodraethwyr y bobl hyn, y rhai sydd yn Jerusalem.

15 Am i chwi ddywedyd, gwnaethom am­mod ag angeu, ac ag vffern y gwnaethom gyn­grair: pan ddêl ffrewyll lifeiriol, ni ddaw attom ni, canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a rhan ffalster y llechasom.

16 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arg­lwydd Dduw, wele fi yn sylfaenuPsal. 118.22. Matth. 21.42. Act. 4.11. Rhuf. 9.33. & 10.11. 1 Pet. 2.6. &c. maen yn Sion, maen profedig, congl-faen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni fryssia 'r hwn a gredo.

17 Ac mi a osodaf farn wrth linyn, a chy­fiawnder wrth bwys; y cenllysc a yscuba noddfa celwydd, a'r dyfroedd a foddant y llo­ches:

18 A diddymmir eich ammod ag angeu, a'ch cyngrair ag vffern ni saif; pan ddel y ffrewyll lifeiriol, byddwch yn sathrfa iddi.

19 O'r amser y delo y cymmer chwi, canys daw bôb boreu, ddydd a nôs; a blinder ŷn vnic fyddNeu, pan baro i chwi ddeall addysc. i beri deall yr hyn a glywir.

20 Canys byrrach yw 'r gwely nag y galler ymestyn ynddo; cûl yw'r cwrlid i ymdroi ynddo.

21 Canys yr Arglwydd a gyfyd megis ym mynydd2 Sam. 5.20. 1 Cron. 14.11. Perazim, efe a ddigia megis ynglynJos. 10.12. 2 Sam. 5.25. 1 Cron. 14.16. Gibeon, i wneuthur ei waith, ei ddieithr­waith; ac i wneuthur ei weithred, ei ddieithr weithred.

22 Ac yn awr na watworwch, rhag ca­darnhau eich rhwymau: canys clywais fod darfodedigaeth derfynol oddi wrth Arglwydd Dduw 'r lluoedd, ar yr holl dîr.

23 Clywch, a gwrandewch fy llais, ysty­riwch, a gwrandewch fy lleferydd.

24 Ydyw yr arddwr yn aredic ar hyd y dydd i hau? ydyw ef yn agoryd, ac yn llyfnu ei dîr?

25 Onid wedi iddo lyfnhau ei wyneb, y tana efe y ffagbys, ac y gwascar y cwmin, ac y bwrwNeu, y gwenith yn y lle pennaf, a'r haidd yn y lle nodedic. y gwenith ardderchawg, a'r haidd nodedig, a'r rhŷg yn eiHeb. derfyn. gyfle?

26Neu, Ac efe a'i rhwym yn y modd y mae Duw yn ei ddyscu. Canys ei Dduw a'i hyfforddia ef mewn synwyr, ac a'i dysc ef.

27 Canys nid ag ôg y dyrnir ffacpys, ac ni throir olwyn men ar gwmin; eithr dyrnir ffacpys â ffonn, a chwmin â gwialen.

28 Yd bara a felir, ond gan ddyrnu ni ddwrn y dyrn-wr ef yn wastadol, ac ni yssiga ef ag olwyn ei fenn, ac nis mâl ef â'i wyr meirch.

29 Hyn hefyd a ddaw oddi wrth Arglwydd y lluoedd: yr hwn sydd ryfedd yn ei gyngor, ac ardderchog yn ei waith.

PEN. XXIX.

1 Gorthrwm farnedigaeth Duw ar Israel. 7 Na ddigonir ei gelynion hi. 9 Anneallgarwch, 13 a rhagrith yr Juddewon. 18 Addaw sancteiddio y duwiol.

GWaeNeu, lew Duw. Ariel, Ariel, y ddinas y trigodd Da­fydd ynddi: chwanegwch flwyddyn at flwyddyn,Heb. torrant bennau. lladdant ebyrth.

2 Etto mi a gyfyngaf ar Ariel, a bydd galar, a griddfan; a hi a fydd i mi fel Ariel.

3 A gwerssyllaf yn grwn i'th erbyn, ac a warchaeaf i'th erbyn mewn gwarch-dŵr, ac a gyfodaf wrth-glawdd yn dy erbyn.

4 A thi a ostyngir, o'r ddaiar y lleferi, ac o'r llwch y bydd issel dy leferydd: dy lais fydd hefyd o'r ddaiar, fel llais swyn-ŵr, a'th ym­adrodd a hustyng o'r llwch.

5 A thyrfa dy ddieithriaid fydd fel llwch mân, a thyrfa y cedyrn fel peiswyn yn myned heibio, iê bydd yn ddisymmwth ddiattrec.

6 Oddi wrth Arglwydd y lluoedd y gof­wyir drwy daranau, a thrwy ddaiar-gryn, a thwrwf mawr; trwy gorwynt, a thymestl, a fflam dân yssol.

7 Yna y bydd tyrfa 'r holl genhedloedd, y rhai a ryfelant yn erbyn Ariel, fel breuddwyd gweledigaeth nôs, sef y rhai oll a ymladdant yn ei herbyn hi a'i hamddeffynfa, ac a war­chânt arni.

8 Ie bydd, megis newynoc a freuddwydio, ac wele ef yn bwytta, a phan ddeffrô, gwâg fydd ei enaid: ac megis y sychedic a freuddwy­dio, ac wele ef yn yfed, a phan ddeffrô, wele ef yn ddeffygiol, a'i enaid yn chwennych diod; felly y bydd tyrfa yr holl genhedloedd a lue­ddant yn erbyn mynydd Sion.

9 Arefwch, a rhyfeddwch, bloeddiwch, a gwaeddwch, meddwasant, ac nid trwy wîn, penfeddwasant, ac nid trwy ddiod gadarn.

10 Canys tywalltodd yr Arglwydd arnoch yspryd trym-gwsc, ac a gaeodd eich llygaid chwi; eich prophwydi, a'ch pennaethiaid, y gweledyddion, a orchguddiodd efe.

11 A gweledigaeth pob vn o honynt sydd i chwi fel geiriauNeu, lythyr. llyfr seliedic, yr hwn os rho­ddant ef at vn a feidr ar lyfr, gan ddywedyd, darllain hwn attolwg, yna y dywed, ni allaf, canys seliwyd ef.

12 Os rhoddir y llyfr at yr hwn ni feidr ar lyfr, gan ddywedyd, darllen hwn attolwg: yna y dywed, ni fedraf ar lyfr.

13Matth. 15.8 Mar. 7.6. Am hynny y dywedodd yr Arglwydd, o herwydd bod y bobl hyn yn nessau attaf â'i genau, ac yn fy anrhydeddu â'i gwefusau, a phellhau eu calon oddi wrthif, a bod eu hofn tu ac attafi, wedi ei ddyscu allan o athrawiaeth dynion;

14 Am hynny wele fi ynHeb. chwane­gu. myned rhagof, i wneuthur yn rhyfedd ym mysc y bobl hyn, sef gwrthiau a rhyfeddod;Jer. 49.7. Obad. 8.1 Cor. 1.19. canys difethir doethineb eu doethion hwynt, a deall eu rhai deallgar hwynt a ymguddia.

15 Gwae y rhai a ddyfn-geisiant, i guddio eu cyngor oddi wrth yr Arglwydd; ac y mae eu gweithredoedd mewn tywyllwch, ac a ddywedant,Ecclus. 23.15. phwy a'n gwêl ni, a phwy a'n hedwyn?

16 Diau fel clai crochenydd y cyfrifir eich trofeydd chwi;Pen. 45.19. canys a ddywed y gwaith am y gweithudd, ni'm gwnaeth i? neu a ddy­wed y peth a luniwyd am yr hwn a'i lluniodd, nid yw ddeallus?

17 Onid ychydig bach fydd etto hyd oni throir Libanus yn ddoi-dir, a'r dol-dir a gyf­rifir yn goed?

18 A'r dydd hwnnw, y rhai byddar a glyw­ant eiriau y llyfr, a llygaid y deillion a welant, allan o niwl, a thywyllwch.

19 A'r rhai llariaidd a chwanegant lawen­ychu yn yr Arglwydd; a'r dynion tlodion a ymhyfrydant yn Sanct Israel.

20 Canys darfu am yr ofnadwy, a difeth­wyd y gwatwarus, a'r rhai oll a wiliant am anwiredd, a dorrir ymaith.

21 Y rhai a wnant ddyn yn droseddwr o herwydd gair, ac a osodant faglau i'r hwn a geryddo yn y porth, ac a wnant i'r cyfiawn ŵyro am beth coeg;

22 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, yr hwn a waredodd Abraham, am dŷ Jacob, weithian ni chywilyddir Jacob, ac ni lassa ei wyneb ef.

23 Eithr pan welo efe ei feibion, gwaith fy nwylo o'i fewn, hwy a sancteiddiant fy enw, ie sancteiddiant Sanct Jacob, ac a ofnant Dduw Israel.

24 A'r rhai cyfeiliornus o yspryd aHeb. fedrant. ddys­cant ddeall, a'r grwgnach-wŷr a ddyscant addysc.

PEN. XXX.

1 Y Prophwyd yn bygwth y bobl am hyderu ar yr Aipht, 8 ac am ddiystyru gair Duw. 18 Tru­gareddau Duw i'w Eglwys. 27 Digofaint Duw, a llawenydd y bobl am ddinistr Assyria.

GWae 'r meibion cyndyn, medd yr Ar­glwydd, a gymmerant gyngor, ond nid gen­nifi; ac a orchguddiant â gorchudd, ac nid o'm Yspryd i, i chwanegu pechod ar bechod:

2 Y rhai sydd yn myned i ddescyn i'r Aipht, (heb ymofyn â mi,) i ymnerthu yn nerth Pha­rao, ac i ymddiried ynghyscod yr Aipht.

3 Am hynny y bydd nerth Pharao yn gywi­lydd i chwi, a'r ymddiried ynghyscod yr Aipht yn wradwydd.

4 Canys bu ei dywysogion yn Zoan, a'i gennadau a ddaethant i Hanes.

5 Hwynt oll a gywilyddiwyd o herwydd y bobl ni fuddia iddynt, ni byddant yn gynnorth­wy nac yn llesâd, eithr yn warth, ac yn wrad­wydd.

6 Baich anifeiliaid y dehau: i dir cystudd, ac ing, lle y daw o honynt yr hên lew, a'r llew ieuangc, y wiber, a'r farph danllyd hedegog; y dygant eu golud ar gefnau assynnod, a'i try­ssorau ar gefnau camelod, at bobl ni wna lês.

7 Canys yn ddiles ac yn ofer y cynnorth­wya yr Aiphtiaid: am hynny y llefais arni, eu nerth hwynt yw aros yn llonydd.

8 Dôs yn awr, scrifenna hyn mewn llech ger eu bron hwynt, ac scrifenna mewn llyfr, fel y byddo hyd y dydd diweddaf, yn oes oe­soedd:

9 Mai pobl wrthryfelgar yw y rhai hyn, plant celwyddoc, plant ni fynnant wrando cyf­raith yr Arglwydd:

10 Y rhai a ddywedant wrth y gweledy­ddion, na welwch; ac wrth y prophwydi, na phrophwydwch i ni bethau vnion: treu­thwch i ni weniaith, prophwydwch i ni siome­digaeth.

11 Ciliwch o'r ffordd; ciliwch o'r llwybr; perwch i Sanct Israel beidio â ni.

12 Am hynny, fel hyn y dywed Sanct Is­rael; am wrthod o honoch y gair hwn, ac ym­ddiried o honoch mewnNeu, trais. twyll, a cham, a phwyso ar hynny;

13 Am hynny y bydd yr anwiredd hyn i chwi, fel rhwygiad chwyddedic, mewn mur vchel ar syrthio: yr hwn y daw ei ddrylliad yn ddisymmwth heb attrec.

14 Canys efe a'i dryllia hi, fel dryllioHeb. costrel. llestr crochenydd, gan guro heb arbed, fel na chaffer ym mysc ei darnau, gragen i gymmeryd tân o'r aelwyd, nac i godi dwfr o'r ffôs.

15 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Sanct Israel, drwy ddychwelyd a gor­phywys y byddwch gadwedic, mewn llony­ddwch a gobaith y bydd eich cadernid, ond ni fynnech.

16 Eithr dywedasoch, nid felly, canys ni a ffown ar feirch, am hynny y ffowch: a mar­chogwn ar feirch buan, am hynny y bydd buan y rhai a'ch erlidio.

17 Mil a ffŷ wrth gerydd vn, ac wrth gerydd pump y ffowch, hyd oni'ch gadawer megis hwyl-bren ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn.

18 Ac am hynny y disgwil yr Arglwydd i drugarhau wrthych, ie am hynny 'r ymdder­chaif i dosturio wrthych: canys Duw cyfi­awnder yw 'r Arglwydd,Psal. 2.12. & 34.8. Dihar. 16.20. Jer. 17.7. gwyn eu byd y rhai oll a ddisgwiliant wrtho.

19 Canys y bobl a drig yn Sion, o fewn Jerusalem: gan ŵylo nid ŵyli; gan drugar­hau efe a drugarhâ wrthit; wrth lef dy waedd, pan ei clywo, efe a'th atteb di.

20 A'r Arglwydd a rydd i chwi fara ing, a dwfr gorthrymder, ond ni chomelir dy ath­rawon mwy, eithr dy lygaid fyddant yn gweled dy athrawon.

21 A'th glustiau a glywant a'r o'th ôl yn dywedyd, dymma 'r ffordd, rhodiwch ynddi, pan bwysoch ar y llaw ddehau, neu pan bwy­soch ar y llaw asswy.

22 Yna 'r halogwch ballHeb. gerf-dde­lw dy arian. dy gerf-ddelw arian, ac Ephod dy dawdd-ddelw aur, gwasceri hwynt fel cadach mis-glwyf, a dywedi wrthynt, dos ymmaith.

23 Ac efe a rydd law i'th hâd, pan hauech dy dir, a bara cnwd y ddaiar, ac efe a fydd yn dew ac yn aml; a'r dydd hwnnw y pawr dy anifelliaid mewn porfa helaeth.

24 Dy ychen hefyd a'th assynnod, y rhai a lafuriant y tîr, a borant ebranNeu, classus. Heb. le­feiniog. pur, yr hwn a nithiwyd â gwyntill, ac â gogr.

25 Bydd hefyd ar bob mynydd vchel, ac ar bob bryn derchafedic, afonydd a ffrydau dyf­roedd, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrthio yr tyrau.

26 A bydd llewyrch y lleuad, fel llewyrch yr haul; a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megis llewyrch saith niwrnod; yn y dydd y rhwyma yr Arglwydd friw ei bobl, ac yr iachâo archoll eu dyrnod hwynt.

27 Wele enw 'r Arglwydd yn dyfod o bell, yn llosci gan ei ddigofaint ef,Neu, toster y ffagl. a'i faich sydd drwm; ei wefusau a lanwyd o ddigter, a'i dafod sydd megis tân yssol.

28 Ei anadl hefyd megis afon lifeiriol, a gyrraedd hyd hanner y gwddf, i nithio y cenhedloedd â gogr oferedd; a bydd ffrwyn yngenau 'r bobloedd, yn eu gyrru ar gyfei­liorn.

29 Y gân fydd gennych megis y noswaith y sancteiddir vchel-ŵyl, a llawenydd calon, megis pan elo vn â phibell, i fyned i fynydd yr Arglwydd, atHeb. graig Israel. gadarn yr Israel.

30 A'r Arglwydd a wna glywed ardder­chawgrwydd ei lais, ac a ddengys ddescyniad ei fraich, mewn digter llidioc, ac â fflam dân yssol, â gwascarfa, ac â thymestl, ac â cherrig cenllysc.

31 Canys â llais yr Arglwydd y destrywir Assur, yr hwn a darawei â'r wlalen.

32Heb. A phob mynediad y wialen, &c. A pha le bynnac yr elo y wialen ddi­yscog, yr hon aHeb. bair yr Argl. iddi er­phywys arno. esyd yr Arglwydd arno ef; gyd â thympanau, a thelynau y bydd: ac â rhyfel tôst yr ymladd efe yn ei erbyn.

33 Canys darparwyd Tophet er doe, ie pa­ratowyd hi i'r brenin, efe a'i dyfnhaodd hi, ac a'i ehengodd; ei chynneuad sydd dân a choed lawer; anadl yr Arglwydd, megis afon o frwmstan, sydd yn ei hennyn hi.

PEN. XXXI.

1 Y Prophwyd yn dangos melldigedig ynfyd­rwydd y bobl, yn hyderu ar yr Aipht, ac yn ymwrthod â Duw. 6 Y mae yn annog i edi­farhau: 8 Ac yn dangos cwymp Assyria.

GWae y rhai a ddescynnant i'r Aipht am gynnorthwy, ac a ymddiriedant mewn meirch; ac a hyderant ar gerbydau, am eu bod yn aml; ac ar wŷr meirch, am eu bod yn nerthol iawn; ond nid edrychant am Sanct Israel, ac ni cheisiant yr Arglwydd.

2 Etto y mae efe yn ddoeth, ac a ddaw â chospedigaeth, ac niHeb. sym [...]uda ei air. eilw ei air yn ôl; eithr cyfyd yn erbyn tŷ y rhai drygionus, ac yn erbyn cynnorthwy y rhai a weithredant an­wiredd.

3 Yr Aiphtiaid hefyd ydynt ddynion, ac nid Duw, a'i meirch yn gnawd, ac nid yn yspryd: pan estynno 'r Arglwydd ei law, yna y syrth y cynnorthwywr, ac y cwymp y cynnorthwy­edic, a hwynt oll a gyd-ballant.

4 Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthif, megis y rhua hên lew, a'r llew ieuangc, ar ei sclyfaeth, yr hwn er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn, ni ddychryn rhac eu llef hwynt, ac nid ymostwng er euNeu, lliaws, neu, tyr­fa. twrwf hwynt: felly y descyn Arglwydd y lluoedd, i ryfela tros fy­nydd Sion, a thros ei fryn ef.

5 Megis adar yn ehedec, felly 'r ymddiffyn Ar­glwydd y lluoedd Jerusalem, gan ymddiffyn a gwared, gan bassio heibio ac achub.

6 Dychwelwch at yr hwn y llwyr giliodd meibion Israel oddi wrtho.

7 O herwydd y dydd hwnnw,Pen. 2.20. gwrtho­dant bob vnHeb. eulynnod ei arian, &c. ei eulynnod arian, a'i eulynnod aur, y rhai a wnaeth eich dwylo eich hun, yn bechod i chwi.

8 A'r Assyriad a syrth, trwy gleddyf nid eiddo gwr grymmus; a chleddyf nid eiddo dyn gwael, a'i difa ef: ac efe a ffŷNeu, rhag ofn, rhac y cleddyf, a'i wŷr ieuaingc a fyddant tan drêth.

9Neu, a'i graig a ym­maith rhag ofn. Ac efe â iw graig, rhac ofn; a'i dywy­sogion a ofnant rhac y faner, medd yr Ar­glwydd, yr hwn y mae ei dân yn Sion, a'i ffwrn yn Jerusalem.

PEN. XXXII.

1 Bendithion teyrnas Christ. 9 Rhagddangos difrod; 15 Ac addaw adnewyddiad yn ôl hynny.

WEle, brenin a deyrnasa mewn cyfiawnder, a thywysogion a lywodraethant mewn barn.

2 A gwr fydd megis yn ymguddfa rhac y gwynt, ac yn lloches rhac y dymhestl: megis afonydd dyfroedd mewn sych-dir; megis cys­cod craigHeb. drom. fawr, mewn tirNeu, blin. sychedic.

3 Yna llygaid y rhai a welant, ni chaeir; a chlustiau y rhai a glywant, a wrandawant.

4 Calon y rhai ehud hefyd a ddeall wybo­daeth, a thafod y rhai bloesc a bryssura lefâru ynNeu, hyawal. eglur.

5 Ni elwir mwy y coeg-ddyn yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cybydd, hael yw.

6 Canys coegwr a draetha goegni, a'i galon a wna anwiredd, i ragrithio, ac i draethu am­ryfusedd yn erbyn yr Arglwydd; i ddiddym­mu enaid y newynog; ac efe a wna i ddiod y sychedic ballu.

7 Arfau y cybydd sydd ddrygionus; efe a ddychymyg ddichellion i ddilwyno y trueniaid, trwy ymadroddion gau: pan draetho yrNeu, yn erhyn y­anghenus mewn barn. ang­henus yr vnion.

8 Ond yr hael a ddychymyg haelioni: ac ar haelioni yNeu, y sicrheir. saif efe.

9 Cyfodwch, wragedd diwaith; clywch fy llais: gwrandewch fy ymadrodd, ferched diofal,

10Dyddiau a blyny­ddo [...]dd lawer. Dyddiau gyd â blwyddyn y trallodir [Page] chwi, wragedd difraw; canys darfu y cynhaiaf gwin, ni ddaw cynnull.

11 Ofnwch, rai difraw; dychrynwch, rai diofal; ymddioscwch, ac ymnoethwch, a gwre­gyswch sach-liain am eich lwynau.

12 Galarant am y tethau, am y meusydd hyfryd, am y win-wydden ffrwythlon.

13 Cyfyd drain, a mieri, ar dîr fy mhobl, seNeu, yn llosci pob ty &c. ar bob tŷ llawenydd yn y ddinas hyfryd.

14 Canys y palasau a wrthodir, lluosog­rwydd y ddinas a adewir, yr amddeffynfeydd a'r tŷrau fyddant yn ogfeydd hyd byth, yn hyfrydwch assynnod gwylltion, yn borfa dia­dellau;

15 Hyd oni thywallter arnom yr yspryd o'r vchelder, a bod yrPen. 29.17. anialwch yn ddol-dir, a chyfrif y dol-dir yn goed-tir.

16 Yna y trig barn yn yr anialwch, a chyfiawnder a erys yn y dol-dir.

17 A gwaith cyfiawnder fydd heddwch, ie gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch, a dio­gelwch, hyd byth.

18 A'm pobl a drig mewn presswylfa he­ddychlon, ac mewn anneddau diogel, ac mewn gorphywysfaoedd llonydd:

19 Pan ddiscynno cenllysc ar y coed, ac y gostyngir y ddinasNeu, yn isel. mewn lle issel.

20 Gwyn eich byd y rhai a hauwch ger llaw pob dyfroedd, y rhai a yrrwch draed yr ŷch a'r assyn yno.

PEN. XXXIII.

1 Barnedigaethau Duw yn erbyn gelynion yr Eglwys. 13 Rhagor-fraint y duwiol.

GWae di anrheithiwr, a thi heb dy anrhei­thio; a thi anffyddlon, er na wnaed yn anffyddlon â thi: pan ddarffo it anrheithio, i'th anrheithir; a phan ddarffo it fod yn an­ffyddlon, byddant anffyddlon i ti.

2 Arglwydd trugarha wrthym, wrthit y disgwiliasom, bydd fraich iddynt bob boreu, a'n iechydwriaeth ninneu yn amser cystudd.

3 Wrth lais y twrwf, y gwibiodd y bobl; wrth ymdderchafu o honot y gwascarwyd y cenhedloedd.

4 A'ch yspail a gynhullir fel cynhulliad lin­dys; fel gwibiad ceiliogod rhedyn y rhêd efe arnynt.

5 Derchafwyd yr Arglwydd, canys presswy­lio y mae yn yr vchelder; efe a lanwodd Sion o farn a chyfiawnder.

6 A siccrwydd dy amserau, a nerth iechyd­w [...]iaeth fydd doethineb, a gwybodaeth: ofn yr Arglwydd yw ei dryssor ef.

7 Wele, euNeu, cennadon. rhai dewrion a waeddant oddi allan; cennadon heddwch a wylant yn chwe­rw.

8 Aeth y priffyrdd yn ddisathr; darfu cyn­niwerydd llwybr; diddymmodd y cyfammod; diystyrodd y dinasoedd; ni wnaeth gyfrif o ddynion.

9 Galarodd a llescaodd y ddaiar, cywilyddi­odd Libanus, a Neu, gwywodd. thorrwyd ef: Saron aeth megis anialwch, escydwyd Basan hefyd a Charmel.

10 Cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd, ymdderchafaf weithian, ymgodaf bellach.

11 Chwi a ymddygwch vs, ac a escorwch ar sofl, eich anadl fel tân a'ch yssa chwi.

12 A'r bobloedd fyddant fel lloscfa calch, fel drain wedi eu torri y lloscir hwy yn tâu.

13 Gwrandewch belledigion, yr hyn a wneuthum, a gwybyddwch gymmydogion, fy nerth.

14 Pechaduriaid a ofnasant yn Sion, dych­ryn a ddaliodd y rhagrithwŷr: pwy o honom a drig gydâ 'r tân yssol? pwy o honom a bress­wylia gydâ lloscfeydd tragywyddol?

15Psal. 15.2. & 24 3. Yr hwn a rodia mewn cyfiawnder, ac a draetha vniondeb, a wrthyd elwNeu, twyll. trawsder, a escydwo ei law rhac derbyn gwobr, a gaeo ei glust rhac clywedHeb. gwaed. celanedd, ac a gaeo ei lygaid rhac edrych ar ddrygioni,

16 Efe a bresswylia 'r vchelderau, cestyll y creigiau fydd ei amddeffynfa ef: ei fara a roddir iddo, ei ddwfr fydd siccr.

17 Dy lygaid a welant y brenin yn ei de­gwch: gwelantHeb. dir y pellder. y tir pell.

18 Dy galon a fyfyria ofn; pa le y mae 'r 1 Cor. 1.20. scrifennydd? pa le y mae yHeb. pwyswr? trysorwr? pa le y mae rhifwr y tyrau?

19 Ni chei weled pobl greulon, pobl o iaith ddyfnach nag a ddeallech di, neu floesc dafod, fel na ddeallech.

20 Gwel Sion, dinas ein cyfarfod; dy lygaid a welant Jerusalem, y bresswylfa lonydd, y ba­bell ni thynnir i lawr, ac ni syflir vn o'i hoe­lion byth, ac ni thorrir vn o'i rhaffau.

21 Eithr yr Arglwydd ardderchawg fydd yno i ni, yn fangre afonydd a ffrydauHeb. eheng-lle, neu cheng-law. llydain: y rhwyf-long nid â trwyddo, a llong odidawg nid â trostaw.

22 Canys yr Arglwydd yw ein barn-wr, yr Arglwydd yw ein deddf-wr, yr Arglwydd yw ein brenin, efe a'n ceidw.

23Neu, Gollyng­wyd. Gollyngasant dy raffau, ni chadarnha­sant eu hwyl-bren yn iawn, ni thanasant yr hwyl, yna y rhennir ysclyfaeth yspail fawr: y cloffion a sclyfaethant yr sclyfaeth.

24 Ac ni ddywed y presswylydd, claf yd­wyf: maddeuir anwiredd y bobl a drigant ynddi.

PEN. XXXIIII.

1 Y barnedigaethau y mae Duw yn dial ei Eg­lwys â hwynt. 11 Difrod ei gelynion hi. 16 Siccred yw y brophwydoliaeth.

NEssewch genhedloedd i glywed, a gwran­dewch bobloedd; gwrandawed y ddaiarHeb. a'i chy­flawnder. ac oll y sydd ynddi, y byd a'i holl gnŵd.

2 Canys llidiawgrwydd yr Arglwydd sydd ar yr holl genhedloedd, a'i soriant ar eu holl lûoedd hwynt: difrododd hwynt, rhoddes hwynt i'r lladdfa.

3 A'i lladdedigion a fwrir allan, a'i drewiant o'i celanedd a gyfyd i fynu, y mynyddoedd hefyd a doddant o'i gwaed hwynt.

4 Holl lu y nefoedd hefyd a ddattodir, a'r nefoeddDatc. 6.14. a blygir fel llyfr: a'i holl lu a syrth, fel y syrthiei deilen o'r win-wydden, ac felDatc. 6.13. ffigysen yn syrthio oddiar y pren.

5 Canys fy nghleddyf a drochir yn y ne­foedd; wele, ar Edom y descyn i farn, ac ar y bobl a escymmunais.

6 Cleddyf yr Arglwydd a lanwyd o waed, tewychodd gan fraster, a chan waed ŵyn a bychod, gan fraster arennau hyrddod: canys mae i'r Arglwydd aberth yn Bozrah, a lladdfa fawr yn nhir Edom.

7 A descyn yr vnicorniaid gyd â hwynt, a'r bustych gyd â'r teirw, a'i tir hwynt a fedd­wa o'i gwaed hwynt, a'i llwch fydd tew o fraster.

8 Canys diwrnodPen. 63.4. dial yr Arglwydd, blwyddyn taledigaeth yn achos Sion, yw.

9 A'i hafonydd a droir yn bŷg, a'i llwch yn frwmstan, a'i daiar yn bŷg llosoedic.

10 Nis diffoddir, nos na dydd; eiDatc. 18.2, 18. & 19.3. mŵg a ddring byth, o genhedlaeth i genhedlaeth y diffeithir hi; ni bydd cynniwerydd trwyddi, byth bythoedd.

11Zeph. 2.14. Datc. 18.2. Y Pelican hefyd a'r draenoc a'i meddi­anna, y dylluan a'r gigfran a drigant ynddi, ac efe a estyn arni linyn annrhefn, a meini gwagedd.

12 Ei phendefigion hi a alwant i'r frenhi­niaeth, ond ni bydd yr vn yno; a'i holl dy­wysogion hi fyddant ddiddym.

13 Cyfyd hefyd yn ei phalasau ddrain, danadl, ac yscall o fewn ei cheurydd; a hi a fydd yn drigfa dreigiau, yn gyntedd iHeb. ferched. gywion yr estris.

14Jer. 50.39. Esay. 13.21. Zeph. 2.14. AcZijni. anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a'rIim. cathod a ymgyfarfyddant, yr ellyll a eilw ar ei gyfaill, yr ŵyll a orphywys yno hefyd, ac a gaiff orphywysfa iddi.

15 Yno y nytha y dylluan, ac y dodwa, ac y dehora, ac a gascl yn ei chyscod; y fulturiaid a ymgasclant yno hefyd, pob vn gyd â'i gym­mar.

16 Ceisiwch allan o lyfr yr Arglwydd, a darllennwch; ni phalla vn o hyn, ni bydd vn heb ei gymmar, canys fy ngenau, ef a orchy­mynnodd, a'i yspryd, ef a'i casclodd hwynt.

17 Efe hefyd a fwriodd y coel-bren iddynt, a'i law ef a'i rhannodd hi iddynt wrth linyn: meddiannant hi hyd byth, a phresswyliant yn­ddi o genhedlaeth i genhedlaeth.

PEN. XXXV.

1 Hyfrydwch a godidowgrwydd teyrnas Christ. 3 Cyssuro y gweniaid trwy rinweddau a brei­niau yr Efengyl.

YR anialwch, a'r anghyfanneddle a lawen­ychant o'i plegid, y diffaethwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhossyn.

2 Gan flodeuo y blodeua, ac y llawenycha hefyd, â llawenydd, ac â chân: gogoniant Li­banus a roddir iddo, godidowgrwydd Carmel a Saron: hwy a welant ogoniant yr Arglwydd, a godidowgrwydd ein Duw ni.

3Hebr. 12.12. Cadarnhewch y dwylo llesc, a chryf­hewch y gliniau gweniaid.

4 Dywedwch wrth y rhaiHeb. prysar. ofaus o galon, ymgryfhewch, nac ofnwch: wele, eich Duw chwi a ddaw â dial, ie Duw â thaledigaeth, efe a ddaw, ac a'ch achub chwi.

5Mat. 9.27. & 11.5. & 12.22 & 20.30. & 21.14. Joan. 9.6, 7. Yna 'r agorir llygaid y deillion, aMat. 11.5. Marc. 7.32. chlus­tiau y byddarion a agorir.

6Mat. 11.5. & 15.30. & 21.14. Joan. 5.8, 9. Act. 3 2. & 8.7. & 14.8. Yna y llamma y cloff fel hŷdd, ac y cânMat. 9.32. & 12.22. & 15.30. tafod y mudan, canysJoan. 7.38, 39. dyfioedd a dyrr allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffae­thwch.

7 Y cras-dir hefyd fydd yn llynn, a'r tîr sychedic yn ffynhonnau dyfroedd; yn nhrigfa y dreigiau a'i gorweddfa, y bydd Neu, Cyntedd. cyfle corsen­nau a brwyn.

8 Yna y bydd prif-ffordd, a ffordd; a ffordd sanctaidd y gelwir hi; yr halogedic nid â ar hyd-ddi, canysNeu, efe a fydd gyda 'r rhai hynny. hi a fydd i'r rhai hynny: a rodio 'r ffordd, pe byddent ynfydion, ni chy­feiliornant.

9 Ni bydd yno lew, a bwyst-fil gormesol ni ddring iddi, ac ni's ceir yno; eithr y rhai gwa­redol a rodiant yno.

10Pen. 51.11. A gwaredigion yr Arglwydd a ddych­welant, ac a ddeuant i Sion, â chaniadau, ac â llawenydd tragywyddol ar eu pen: goddi­weddant lawenydd a hyfrydwch; a chystudd a galar a ffŷ ymmaith.

PEN. XXXVI.

1 Senacherib yn dyfod yn erbyn Juda. 4 Rab­saceb wedi ei anfon gan Senacherib, trwy resym­man cablaidd, yn ceisio gan y bobl droi oddiwrth Hezeciah. 22 Mynegi ei eiriau ef i Hezeciah.

2 Bren. 18.13. 2 Cron. 32.1.AC yn y bedwaredd flwyddyn ar ddêc i'r brenin Hezeciah, y daeth Senacherib bre­nin Assyria i fynu, yn erbyn holl gaeroc ddi­nasoedd Juda, ac a'i gorescynnodd hwynt.

2 A brenin Assyria a anfonodd Rabsaceh o Lachis i Jerusalem, at y brenin Hezeciah, â llû dirfawr, ac efe a safodd wrth bistyll y llynn vchaf, ym mhriffordd maes y pann-wr.

3 Ac aeth atto ef Eliacim mab Helciah, yr hwn oedd ben-teulu, a Sobna yr scrifennydd, a Joah mab Asaph y cofiadur.

4 A dywedodd Rabsaceh wrthynt, dywedwch yn awr wrth Hezeciah; fel hyn y dywed y brenin mawr, brenin Assyria, pa hyder yw hwn, yr ymddiriedi ynddo?

5 Dywedais meddi (ond nid ydynt ond Heb. gwefusa [...]. gei­riau oser:) cyngor a nerth sydd Neu, raid. gennif i ryfel: ar bwy attolwg yr hyderi, pan wyt yn gwrthryfela i'm herbyn?

6 Wele hyderaist ar yEzec. 29.6, 7. ffon gorsen ddryll­iedic honno, ar yr Aipht, yr hon pwy bynnac a bwyso arni, hi â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi: felly y mae Pharao brenin yr Aipht i bawb a hyderant arno.

7 Ond os dywedi wrthif yn yr Arglwydd ein Duw 'r ydym yn ymddiried; onid efe yw 'r hwn y darfu i Hezeciah dynnu i lawr ei vchelfeydd, a'i allorau, a dywedyd wrth Juda, a Jerusalem, o flaen yr allor hon yr addo­lwch?

8 Ac yn awr, dôd wystlon attolwg i'm har­glwydd, brenin Assyria, ac mi a roddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a far­chogo arnynt.

9 A pha fodd y troi di ymmaith wyneb vn capten, o'r gweision lleiaf i'm harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aipht, am gerbydau ac am farchogion?

10 Ai heb yr Arglwydd y daethum i fynu yr awr hon, yn erbyn y wlâd hon, iw dinistrio? yr Arglwydd a ddywedodd wrthif, dôs i fynu yn erbyn y wlâd hon, a dinistria hi.

11 Yna y dywedodd Eliacim, a Sobna, a Joah, wrth Rabsaceh, llefara attolwg wrth dy weision yn Syriaec, canys yr ydym ni yn ei deall: ac na lefara wrthym yn iaith yr Idde­won, lle y clywo 'r bobl sydd ar y mur.

12 Ond Rabsaceh a ddywedodd, ai at dy feistr, ac attat titheu, yr anfonodd fy meistr fi, i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur yr anfonodd fi, fel y bwyt­tâont eu tom eu hun, ac yr yfont eu trwngc eu hun, gyd â chwi?

13 A safodd Rabsaceh, a gwaeddodd â llêf vchel yn iaith yr Iddewon, ac a ddywedodd, gwrandewch eiriau y brenin mawr, brenin Assyria.

14 Fel hyn y dywed y brenin, na thwylled Hezeciah chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi.

15 Ac na phared Hezeciah i chwi ymddiried yn yr Arglwydd, gan ddywedyd, yr Arglwydd [Page] gan waredu a'ch gwared chwi, ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Assyria.

16 Na wrandewch ar Hezeciah; canys fel hyn y dywed brenin Assyria, gwnewchHeb. fendith. fwyn­der â mi, a deuwch allan attaf, a bwyttewch bob vn o'i win-wydden ei hun, a phob vn o'i ffigys-bren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun.

17 Nes i'm ddyfod a'ch dwyn chwi i wlâd megis eich gwlâd eich hun; gwlad ŷd, a gwin: gwlad bara, a gwinllannoedd.

18 Gwiliwch rhac i Hezeciah eich hudo chwi, gan ddywedyd, yr Arglwydd a'n gwared ni. A waredodd vn o dduwiau y cenhedloedd ei wlâd o law brenin Assyria?

19 Mae duwiau Hamath, ac Arphad? mae duwiau Sepharfaim? a waredasant hwy Sama­ria o'm llaw i?

20 Pwy sydd ym mhlith holl dduwiau y gwledydd hyn, a'r a waredasant eu gwlâd o'm llaw i; fel y gwaredai yr Arglwydd Jerusalem o'm llaw?

21 Eithr hwy a dawsant, ac nid attebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, nac attebwch ef.

22 Yna y daeth Eliacim mab Helciah, yr hwn oedd ben-teulu, a Sobna 'r scrifennydd, a Joah mab Asaph y cofiadur, at Hezeciah, â'i dillad yn rhwygedic, ac a fynegasant iddo eiriau Rabiaceh.

PEN. XXXVII.

1 Hezeciah yn ei dristwch yn gyrru at Esay, i gael gantho weddio trosto ef a'i bobl. 6 Esay yn eu cyssuro hwy. 8 Senacherib yn myned i ymladd a Thirhacah, ac yn anfon llythyrau cab­laidd at Hezeciah. 14 Gweddi Hezeciah. 21 Esay yn prophwydo balchder a chwymp Se­nacherib, a llwyddiant Sion. 36 Angel yn lladd yr Assyriaid. 37 Lladd Sennacherib yn Nineueh gan ei feibion ei hun.

A Phan glybu y2 Bren. 19.1. brenin Hezeciah hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwiscodd mewn sachliain, ac a aeth i dŷ 'r Arglwydd.

2 Ac a anfonodd Eliacim y pen-teulu, a Sobna 'r scrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisco mewn sach-liain, at Esay y prophwyd, fâb Amoz.

3 A hwy a ddywedasant wrtho, fel hyn y dywedodd Hezeciah, diwrnod cyfyngder, a cherydd, aNeu, chyffro. chabledd, yw 'r dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr anedigaeth, ond nid oes grym i escor.

4 Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw eiriau Rabsaceh, yr hwn a anfonodd brenin Assyria ei feistr, i gablu y Duw byw, ac y ce­rydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dercha dy weddi dros y gweddill sydd iw gael.

5 Felly gweision y brenin Hezeciah a ddae­thant at Esay.

6 A dywedodd Esay wrthynt, fel hyn y dy­wedwch wrth eich meistr; fel hyn y dywed yr Arglwydd, nac ofna y geiriau a glywaist, drwy y rhai y cablodd gweision brenin Assy­ria fi.

7 Wele fi yn rhoddiNeu. ynddo ef yspryd. arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel iw wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf, yn ei wlad ei hun.

8 Yna y dychwelodd Rabsaceh, ac a gafodd frenin Assyria yn rhyfela yn erbyn Libnah; canys efe a glywsei ddarfod iddo fyned o Lachis.

9 Ac efe a glywodd sôn am Tirhacah fre­nin Ethiopia, gan ddywedyd, efe a aeth allan i ryfela â thi; a phan glywodd hynny, efe a anfonodd gennadau at Hezeciah, gan ddy­wedyd;

10 Fel hyn y dywedwch wrth Hezeciah brenin Juda, gan ddywedyd; na thwylled dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, ni roddir Jerusalem yn llaw brenin Assyria.

11 Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Assyria, i'r holl wledydd, gan eu difrodi hwynt; ac a waredir di?

12 A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i'm tadau eu dinistrio, sef Gosan, a Haran, a Rezeph, a meibion Eden, y rhai oedd o fewn Telassar.

13 Mae brenin Hamath? a brenin Arphad? a brenin dinas Sepharfaim, Hena, ac Ifah?

14 A chymmerth Hezeciah y llythyr o law y cennadau, ac a'i darllennodd, a Hezeciah a aeth i fynu i dŷ 'r Arglwydd, ac a'i lledodd ger bron yr Arglwydd.

15 A Hezeciah a weddiodd at yr Arglwydd, gan ddywedyd,

16 Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y Cerubiaid, ti ydwyt Dduw, ie tydl yn vnic, i holl deyrnasoedd y ddaiar; ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaiar.

17 Gogwydda Arglwydd, dy glust, a gwran­do; agor dy lygaid Arglwydd, ac edrych; gwrando hefyd holl eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw.

18 Gwir yw, ô Arglwydd, i frenhinoedd Assyria ddifa 'r hollHeb. diroedd, genhedloedd a'i gwledydd,

19 A rhoddi eu duwiau hwy yn tân: canys nid oeddynt hwy dduwiau, onid gwaith dwylo dŷn, o goed, a maen; am hynny y dinistriasant hwynt.

20 Yr awr hon gan hynny, ô Arglwydd ein Duw, achub ni o'i law ef; fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaiar, mai ti yw 'r Arglwydd, ty di yn vnig.

21 Yna Esay mab Amoz a anfonodd at He­zeciah, gan ddywedyd; fel hyn y dywed Ar­glwydd Dduw Israel, o herwydd it weddio at­tafi yn erbyn Senacherib brenin Assyria:

22 Dymma 'r gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef; y forwyn merch Sion a'th ddir­mygodd, ac a'th watwarodd; merch Jerusalem a escydwodd ben ar dy ôl.

23 Pwy a ddifenwaist, ac a geblaist; ac yn erbyn pwy y dyrchefaist dy lêf; ac y cyfodaist yn vchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel.

24 Drwy law dy weision y ceblaist yr Ar­glwydd, ac y dywedaist, â lliaws fy ngherbydau y daethum i fynu i vchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus: ac mi a dorraf vchelder ei gedr-wydd, a'i ddewis ffynnid-wydd; âf he­fyd iw gwrr vchaf ac i goed eiCarmel. ddol-dir.

25 Myfi a gloddiais, ac a yfais ddwfr; â gwadnau fy nhraed hefyd y sychais holl afo­nydd y gwarchaedic.

26 Oni chlywaist wneuthur o honof hyn er ystalm, a'i lunio er y dyddiau gynt:Neu, a ddygwn hynny yn awr iw ddestry­wio, a din. caer. i fod yn gar. &c. yn awr y dugym hynny i ben, fel y byddit i ddestrywio dinasoedd caeroc yn garneddau dinistriol.

27 Am hynny eu trigolion yn gwttog-law a ddychrynnwyd, ac a gywilyddiwyd: oe­ddynt megis gwellt y maes, fel gwyrdd lyssiau, a glas-wellt ar bennau tai, neu ŷd wedi deifio cyn addfedu.

28 Dy eisteddiad hefyd, a'th fynediad allan, a'th ddyfodiad i mewn, a adnabûm; a'th gyn­ddeiriogrwydd i'm herbyn.

29 Am it ymgynddeiriogi i'm herbyn, ac i'th ddadwrdd ddyfod i fynu i'm clustiau; am hynny y rhoddaf fy mâch yn dy ffroen di, a'm ffrwyn yn dy weflau, ac a'th ddychwelaf di ar hyd yr vn-ffordd ac y daethost.

30 A hyn fydd yn arwydd i ti Hezeciah, y flwyddyn hon y bwyttei a dyfo o honaw ei hun, ac yn yr ail flwyddyn yr attwf, ac yn y drydedd flwyddyn, hauwch, a medwch, plen­nwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.

31 A'r gweddill o dŷ Juda, yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i wared, ac a ddŵg ffrwyth i fynu.

32 Canys gweddill â allan o Jerusalem, a'r rhai diangol o fynydd Sion:2 Bren. 19.31. Pen. 9.7. zêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn.

33 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd am frenin Assyria, ni ddaw efe l'r ddinas hon, ac nid ergydia efe saeth yno: hefyd ni ddaw o'i blaen â tharian, ac ni fwrw glawdd iw herbyn.

34 Ar hŷd yr vn-ffordd ac y daeth y dych­wel, ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, medd yr Arglwydd.

352 Bren. 20.6. Canys mi a ddeffynnaf y ddinas hon, iw chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwâs.

36 Yna 'r aeth2 Bren. 19.35. Angel yr Arglwydd, ac a darawodd yngwerssyll yr Assyriaid gant a phedwar vgain, a phump o filoedd: a phan gyfodasant yn soreu dranoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon.

37 Felly Senacherib brenin Assyria a yma­dawodd, ac a aeth, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefch.

38 A bu fel yr ydoedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw, i Adramelech, a Sarezer ei feibion, ei daraw ef â'r cleddyf; a hwy a ddiangasant i wladHeb. Ararat. Armenia: ac Esarhadon ei fâb a deyrnasodd yn ei le ef.

PEN. XXXVIII.

1 Hezeciah wedi cael cennadwri o'i farwolaeth, trwy weddi yn cael ystyn ei enioes. 8 Yr haul yn myned ddeg o raddau yn ei ôl, yn argoel o'r addewid hwnnw. 9 Cân diolch Hezeciah.

YN y2 Bren. 20.1. 2 Cron. 32.24. dyddiau hynny y clafychodd Heze­ciah hyd farw: ac Esay y Prophwyd mab Amoz a ddaeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho; fel hyn y dywed yr Arglwydd;Heb. dod orch­ymyn am dy dy. trefna dy dŷ, canys marw fyddi, ac ni byddi byw.

2 Yna Hezeciah a droes ei wyneb at y pared, ac a weddiodd at yr Arglwydd;

3 A dywedodd, attolwg Arglwydd, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di, mewn gwi­rionedd, ac â chalon berffaith, a gwneuthur o honof yr hyn oedd dda yn dy olwg: a Hezeciah a wylodd ag wylofain mawr.

4 Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Esay, gan ddywedyd,

5 Dôs, a dywed wrth Hezeciah, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dâd; clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau, wele mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mhlynedd.

6 Ac o law brenin Assyria i'th waredaf di, a'r ddinas: ac mi a ddeffynnaf y ddinas hon.

7 A hyn fydd i ti yn arwydd oddi wrth yr Arglwydd, y gwna 'r Arglwydd y gair hwn, a lefarodd:

8 Wele fi yn dychwelyd cyscod y graddau, yr hwn a ddescynnoddHeb. yngra­ddau. yn neial Ahaz gyd â'r haul, ddêc o raddau yn ei ôl: felly 'r haul a ddychwelodd ddêc o raddau, ar hŷd y graddau y descynnasei ar hyd-ddynt.

9 Scrifen Hezeciah brenin Juda, pan glafy­chasei, a byw o honaw o'i glefyd.

10 Myfi a ddywedais yn nhorriad fy nyddiau, âf i byrth y bedd; disuddiwyd fi o weddill fy mlynyddoedd.

11 Dywedais, ni châf weled yr Arglwydd lor, yn nhir y rhai byw: ni welaf ddŷn mwyach ym mysc trigolion y byd.

12 FyNeu, oes. nrhigfa a aeth, ac a symmud wyd oddi wrthif, fel lluest bugail: torrais ymmaith fy hoedl megis gwehydd,Neu, oddiwrth yr eddi. â nychdod i'm tyrr ymaith: o ddydd hyd nos y gwnei ben am danaf.

13 Cyfrifais hyd y boreu, mai megis llew y dryllia efe fy holl escyrn: o ddydd hyd nos y gwnei ddiben arnaf.

14 Megis garan neu wennol, felly trydar a wneuthum; griddfenais megis colommen: fy llygaid a dderchafwyd i fynu; ô Arglwydd gorthrymmwyd fi; esmwythâ arnaf.

15 Beth a ddywedaf? canys dywedodd wrthif, ac efe a'i gwna: mi a gerddaf yn araf fy holl flynyddoedd, yn chwerwedd fy enaid.

16 Arglwydd, drwy y pethau hyn yr ydys yn byw, ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd fy yspryd i, felly yr iachei, ac y bywhei fi.

17 WeleN [...]u, ar fy heddwch. yn lle heddwch i mi chwerwder chwerw: ondHeb. ceraist fy enaid o bwll lly­gred. &c. o gariad ar fy enaid y gware­daist ef o bwll llygredigaeth: canys ti a deflaist fy holl bechodau o'r tu ôl i'th gefn.

18 Canys y bedd ni'th fawl di, angeu ni'th glodfora: y rhai sy yn descyn i'r pwll ni obeithiant am dy wirionedd.

19 Y byw, y byw, efe a'th fawl di, fel yr wyfi heddyw: y tâd a hyspyssa i'r plant dy wirionedd.

20 Yr Arglwydd sydd i'm cadw: am hyn­ny y canwn fy nghaniadau, holl ddyddiau ein henioes, yn nhŷ 'r Arglwydd.

21 Canys Esay a ddywedasai, cymmerant swp o ffigys, a rhwymant yn blastr ar y cornwyd, ac efe a fydd byw.

22 A dywedasai Hezeciah, pa arwydd fydd, y câf fyned i fynu i dŷ 'r Arglwydd?

PEN. XXXIX.

1 Merodach-Baladan yn anfon i ymweled a He­zeciah, o herwydd y rhyfeddod, ac wrth hynny yn cael gwybodaeth o'i drysorau ef: 3 Ac Esay yn cael gwybod hynny, ac yn rhagfynegi y caethglud i Babilon.

YN2 Bren. 20.12. yr amser hwnnw Merodach-Baladan, mab Baladan brenin Babilon, a anfonodd lythyrau, ac anrheg, at Hezeciah: canys efe a glywsei ei fod ef yn glaf, a'i fyned yn iach.

2 A Hezeciah a lawenychodd o'i herwydd hwynt, ac a ddangosodd iddyntNeu, lysieu-dy. dŷ ei drysso­rau, yr arian, a'r aur, a'r llysieuau, a'r olew gwerthfawr, a holl dŷ eiNeu, dlysau. Heb. ddo­drefn. arfau, a'r hyn oll a gafwyd yn ei dryssorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a'r na's dangosodd Hezeciah iddynt.

3 Yna y daeth Esay y prophwyd at y bre­nin Hezeciah, ac a ddywedodd wrtho, beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant attat? a dywedodd Hezeciah, o wlâd bell y daethant attafi, sef o Babilon.

4 Yntef a ddywedodd, beth a welsant hwy [Page] yn dy dŷ di? a dywedodd Hezeciah, yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant, nid oes dim yn fy nhryssorau a'r na's dangosais iddynt.

5 Yna Esay a ddywedodd wrth Hezeciah, gwrando air Arglwydd y lluoedd.

6 Wele y dyddiau 'n dyfod, pan ddygir i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a'r hyn a gynhilodd dy dadau di hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr Arglwydd.

7 Cymmerant hefyd o'th feibion di, y rhai a ddaw o honot, sef y rhai a genhedli, fel y byddont stafellyddion yn llys brenin Babilon.

8 Yna y dywedodd Hezeciah wrth Esay, da yw gair yr Arglwydd, yr hwn a leferaist: dy­wedodd hefyd, canys bydd heddwch a gwi­rionedd yn fy nyddiau i.

PEN. XI.

1 Cyhoeddi yr Efengyl. 3 Pregeth Joan Fedy­ddiwr: 9 A'r Apostolion. 12 Y prophwyd, trwy ddangos fod Duw yn Holl-alluog, 18 ac nad oes dim cyffelyb na chyfartal iddo, 26 yn cyssuro 'r bobl.

CYssurwch, cyssurwch fy mhobl, medd eich Duw.

2 DywedwchNeu, yn gyssu­rus wrth Jer. wrth fodd calon Jerusalem, llefwch wrthi hi, gyflawni eiNeu, hamser nodedic. milwriaeth; ddileu ei hanwiredd; o herwydd derbyniodd o law 'r Arglwydd yn ddau ddyblyg am ei holl bechodau.

3Mat. 3.3. Marc. 1.3. Luc. 3.4. Joan. 1.23. Llêf vn yn llefain yn yr anialwch, parat­owch ffordd yr Arglwydd, vnionwch lwybr i'n Duw ni, yn y diffaethwch.

4 Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, y gŵyr a wneir yn vniawn, a'r anwastad yn wastadedd.

5 A gogoniant yr Arglwydd a ddatcuddir, a phob cnawd ynghŷd a'i gwel: canys genau 'r Arglwydd a lefarodd hyn.

6 Y llef a ddywedodd, gwaedda; yntef a ddywedodd, beth a waeddaf?Job 14.2. Psal. 90.5. & 103.15, Jac. 1.10. 1 Pet. 1.24. pob cnawd sydd wellt, a'i holl odidawgrwydd fel blodeuyn y maes.

7 Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; canys Yspryd yr Arglwydd a chwythodd ar­no; gwellt yn ddiau yw 'r bobl.

8 Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn;Joan. 12.34. 1 Pet. 1.25. ond gair ein Duw ni a saif byth.

9 Dring rhagot, yrNeu, hon wyt yn efang­ylu i Si­on, &c. efangyles Sion, i fy­nydd vchel; derchafa dy lef trwy nerth, ô efang­yles Jerusalem: derchafa, nac ofna; dywed wrth ddinasoedd Juda, wele eich Duw chwi.

10 Wele 'r Arglwydd Dduw a ddawNeu, a llaw ga­darn. yn erbyn y cadarn, a'i fraich a lywodraetha trosto; welePen. 62 11. ei wobr gyd ag ef, a'iNeu, dal am ei waith. waith o'i flaen.

11Ezec. 34.23. Joan. 10.11. Fel bugail y portha efe ei braidd, â'i fraich y cascl ei ŵyn, ac a'i dŵg yn ei fonwes, ac a goledda yNeu, cyf. bron. mammogiaid.

12 Pwy a fessurodd y dyfroedd yn ei ddwrn▪ ac a fessurodd y nefoedd â'i rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaiar mewn messur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwysau, a'r bryniau mewn cloriannau?

13Rhuf. 11.34. 1 Cor. 2.16. Doeth. 9.13. Pwy a gyfarwyddodd Yspryd yr Ar­glwydd? ac yn ŵr o'i gyngor a'i cyfarwy­ddodd ef?

14 A phwy 'r ymgynghorodd efe, ie pwy Heb. a wnaeth iddo ddeall. a'i cyfarwyddodd, ac a'i dyscodd yn llwybr barn? ac a ddyscodd iddo ŵybodaeth, ac a ddangosodd iddo ffordd dealldwriaeth?

15 wele, y cenhedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwn ac fel mân-lwch y cloriannau: wele, fel brychewyn y cymmer efe yr ynysoedd i fynu.

16 Ac nid digon Libanus i gynneu tân; nid digon ei fwyst-filod chwaith, yn boeth offrwm.

17 Yr holl genhedloedd ydynt megisDan. 4.32. di­ddim ger er fron ef; yn llai nâ dim, ac nâ gwagedd y cyfrifwyd hwyntwrtho. ganddo.

18 I bwy gan hynny yAct. 17.29. cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch iddo?

19 Y crefftwr a dawdd gerf-ddelw, a'r aurych a'i goreura, ac a dawdd gadwyni arian.

20 Yr hwn sydd dlawd ei offrwm a ddewis bren ni phydra; efe a gais atto saer cywraint, i baratoi cerf-ddelw, yr hon ni syfl.

21 Oni ŵybuoch? oni chlywsoch? oni fy­negwyd i chwi o'r dechreuad? oni ddeallasoch er seiliad y ddaiar?

22 Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaiar, a'i thrigolion sydd fel locustiaid: yr hwn aPsal. 104.2. dana y nefoedd fel llen, ac a'i lleda fel pabell i drigo ynddi.

23 Yr hwn a wnaJob 12.21. Psal. 107.40. lywodraeth-wŷr yn ddi­ddim, fel gwagedd y gwna efe farnwŷr y ddaiar.

24 Ie ni phlennir hwynt, ni's hauir ych­waith; ei foncyff hefyd ni wreiddia yn y ddaiar; ac efe a chwyth arnynt, a hwy a wywant, a chorwynt a'i dwg hwynt ymmaith fel sofl.

25 I bwy gan hynny i'm cyffelybwch, ac i'm cystedlir, medd y Sanct?

26 Derchefwch eich llygaid i fynu, ac edrych­wch pwy a greawdd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi; efe a'i geilw hwynt oll wrth eu henwau: gan amlder ei rym ef, a'i gadarn allu, ni phalla vn.

27 Pa ham y dywedi Jacob, ac y lleferi Is­rael; cuddiwyd fy ffordd oddi wrth yr Ar­glwydd, a'm barn aeth heibio i'm Duw?

28 Oni ŵyddost? oni chlywaist na ddeffy­gia, ac na flina Duw tragywyddoldeb, yr Ar­glwydd creawdr cyrrau 'r ddaiar?Psal. 147.5. ni ellir chwilio allan ei synhwyr ef.

29 Yr hwn a rydd nerth i'r deffygiol, ac a amlhâ gryfder i'r dirym.

30 Canys yr ieuengtid a ddeffygia, ac a fli­na, a'r gwŷr ieuaingc gan syrthio a syrthiant:

31 Eithr y rhai a obeithiant yn yr Ar­glwydd aHeb. newidi­ant. adnewyddant eu nerth, ehedant fel eryrod, rhedant ac ni flinant, rhodiant ac ni ddeffygiant.

PEN. XLI.

1 Duw yn ym-ymliw â'i bobl, ynghylchei druga­reddau iw Eglwys, 10 a'i addewidion; 21 Ac ynghylch oferedd delwau ac eulynnod.

DIstewch ynysoedd, ger fymron, adnewydded y cenhedloedd eu nerth; deuant yn nês, yna llefarant; cydnessawn i farn.

2 Pwy a gyfododdHeb. gyfiawn­der. y cyfiawn o'r dwyrain, a'i galwodd at ei droed, a roddodd y cenhedlo­edd o'i flaen ef, ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd? efe a'i rhoddodd hwynt fel llŵch iw gleddyf, ac fel sofl gwascaredic iw fŵa ef.

3 Y mae efe yn eu herlid hŵynt, ac yn mynedHeb. mewn heddwch. yn ddiogel, ar hyd llwybr ni cherdda­sai efe â'i draed.

4 Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn? gan alw y cenhedlaethau o'r dechreuad? myfi 'r ArglwyddPen. 43.10. & 44.6. & 48.12. Datc. 1.17. & 22.13. y cyntaf, myfi hefyd fydd gyd a'r diweddaf.

5 Yr ynysoedd a welsant, ac a ofnasant, eithafoedd y ddaiar a ddychrynasant, a nessa­sant, ac a ddaethant.

6 Pôb vn a gynnorthwyodd ei gymmydog, ac a ddywedodd wrth ei frawd, ymgryfhâ.

7 Felly y saer [...]yssurodd yrNeu, toddwr. eurych, a'r morthwyl-wr, yr hwn oedd yn taro ar yr einion,Neu, gan ddy­wedyd am yr assiad, Da yw. gan ddywedyd, y mae yn barod iw assio, ac efe a'i siccrhaodd â hoelion, fel nad yscogir.

8 Eithr ti Israel, fy ngwâs ydwyt ti, JacobDeut. 7.6. & 10.15. & 14.2. Psal. 135.4. Pen. 43.1. & 44.1. yr hwn a etholeis, hâd Abraham fy2 Cron. 20.7. Jac. 2.23 an­wylyd.

9 Ti yr hwn a gymmerais o eithafoedd y ddaiar, ac i'th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthit, fy ngwâs wyt ti, dewi­sais di, ac ni'th wrthodais.

10 Nac ofna, canys yr ydwyfi gyd â thi: na lwfrha, canys myfi yw dy Dduw: cadarnhâf di, cynnorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di â de­heulaw fy nghyfiawnder.

11 WeleExod. 23.22. Pen. 60.12. Zec. 12.3. cywilyddir a gwradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthit;Heb. gwyr dy gynnen. dy wrthwyneb-wŷr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir.

12 Ti a'i ceisi, ac ni's cei hwynt, sef Heb. gwyr dy ymryson. y dynion a ymgynhennasant â thi:Heb. gwyr dy ryfel. y gwŷr a ryfelant â thi, fyddant megis diddim, a megis peth heb ddim.

13 Canys myfi 'r Arglwydd dy Dduw, a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthit, nac ofna, myfi a'th gynnorthwyaf.

14 Nac ofna, di brŷf Jacob, gwyr Israel; myfi a'th gynnorthwyaf, medd yr Arglwydd, a'th waredydd, Sanct Israel.

15 Wele, gosodaf di yn fenn ddyrnu newyddHeb. safnau. ddanheddoc; y mynyddoedd a ddyrni, ac a fêli, gosodi hefyd y bryniau felNeu, us. mwlwg.

16 Nithi hwynt, a'r gwynt a'i dwg ym­maith, a'r corwynt a'i gwascar hwynt; a thi a lawenychi yn yr Arglwydd, yn Sanct Israel y gorfoleddi.

17 Pan geisio y trueniaid a'r tlodion ddwfr, ac ni's cânt; pan ballo eu tafod o syched, myfi 'r Arglwydd a'i gwrandawaf hwynt, myfi Duw Israel ni's gadawaf hwynt.

18 AgorafPen. 35.7. & 44.3. afonydd ar leoedd vchel, a ffynhonnau ynghanol y dyffrynnoedd: gwnaf yPsal. 107.35. diffaethwch yn llynn dwfr, a'r crasdir yn ffrydiau dyfroedd.

19 Gosodaf yn yr anialwch y cedr-wŷdd, Shittah, myrt-wydd, ac oliwydd; gosodaf yn y diffaethwch ffynnidwydd, ffawydd, a'r pren box ynghyd:

20 Fel y gwelont, ac y gwybyddont, ac yr ystyriont, ac y deallont ynghyd mai llaw 'r Arglwydd a wnaeth hyn, a Sanct Israel a'i creawdd.

21 Deuwch yn nês a'ch cwyn, medd yr Arglwydd, dygwch eich rhesymmau cadarnaf, medd brenin Jacob.

22 Dygant hwynt allan, a mynegant i ni y pe­thau a ddigwyddant; mynegwch y pethau gynt beth ydynt, felHeb. y gosodom ein calon arnynt. yr ystyriom, ac y gwypom eu diwedd hwynt; neu draethwch i ni y pe­thau a ddaw.

23 Mynegwch y pethau a ddaw yn ôl hyn, fel y gwypom mai duwiau ydych chwi; gwnewch hefyd dda neu ddrwg, fel y synno arnom, ac y gwelom ynghyd.

24 Wele, peth heb ddim ydych chwi, a'ch gwaith syddNeu, waeth na 'r eiddo gwiber. ddiddim: ffiaidd yw 'r gŵr a'ch dewiso chwi.

25 Cyfodais vn o'r gogledd, ac efe a ddaw: o gyfodiad haul y geilw efe ar fy enw, ac efe a ddaw ar dywysogion fel ar glai, ac fel y sathr crochenydd bridd.

26 Pwy a fynegodd o'r dechreuad, fel y gwybyddom? ac ym mlaen llaw, fel y dywe­dom, cyfiawn yw? nid oes a fynega, nid oes a draetha y chwaith, ac nid oes a glyw eich ymadroddion.

27 Y cyntaf a ddywed wrth Sion, wele, wele hwynt, rhoddaf hefyd efangyl-wr i Je­rusalem.

28 Canys edrychais, ac nid oedd neb, ie yn eu plith, ac nid oedd gynghor-wr, pan ofyn­nais iddynt, a fedraiHeb. ddych­welyd. atteb gair.

29 Wele, hwynt oll ydynt wagedd, â'i gweithredoedd yn ddiddim; gwynt a gwagedd yw eu tawdd-ddelwau.

PEN. XLII.

1 Swydd Christ, ynghyd â'i larieidd-dra a'i ddi­anwadalwch. 5 Addewid Duw iddo ef. 10 Y mae yn annog i foliannu Duw am ei Efengyl: 17 Ac yn beio ar y bobl am eu hanghredyniaeth.

Mat. 12.18. WEle fy ngwâs, yr hwn yr ydwyf yn ei gynnal, fy etholedig,Mat. 3.17. & 17.5. Eph. 1.6. i'r hwn y mae fy enaid yn fodlon: rhoddais fy Yspryd arno: efe a ddwg allan farn i'r cenhedloedd.

2 Ni waedda, ac ni dderchafa, ac ni phair glywed ei lef yn yr heol.

3 Ni ddryllia gorsen yssig, ac ni ddiffydd lîn ynNeu, yn llosci yn dywyll. mygu: efe a ddwg allan farn at wirionedd.

4 Ni phalla efe, ac ni ddigalonna, hyd oni osodo farn ar y ddaiar; yr ynysoedd hefyd a ddisgwiliant am ei gyfraith ef.

5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, creawdudd y nefoedd a'i hestynnudd, lledudd y ddaiar a'i chnwd, rhoddudd anadl i'r bobl arni, ac yspryd i'r rhai a rodiant ynddi.

6 Myfi 'r Arglwydd a'th elwais mewn cyf­iawnder, ac ymaflaf yn dy law, cadwaf di hefyd, a rhoddaf di yn gyfammod pobl, ac ynPen. 49.6. Luc. 2.32. Act. [...] 47. oleuni cenhedloedd:

7 I agoryd llygaid y deillion, i [...] ddwyn allan y carcharor o'r carchar, a'r rhai a eisteddant mewn [...] tywyllwch o'r carchar-dŷ.

8 Myfi yw yr Arglwydd; dymma fy enw, [...] a'm gogoniant ni roddaf i arall; na'm mawl i ddelwau cerfiedic.

9 Wele y pethau o'r blaen a ddaetha [...] [...] ben, a mynegi 'r ydwyfi bethau new [...] traethaf hwy i chwi cyn eu tarddu allan.

10 Cenwch i'r Arglwydd gân new [...] a'i fawl ef ô eithaf y ddaiar: y rhai a dde [...] nwch i'r môr,Heb. a'i gyf­lawnder ac sydd ynddo; [...] ynyso [...] a'i trigolion.

11 Y diffaethwch a'i ddinasoedd, derchafant eu llef, y maes-drefi a bresswylia Cedar: caned presswyl-wyr y graig, bloeddiant o ben y my­nyddoedd.

12 Rhoddant ogoniant i'r Arglwydd, a mynegant ei fawl yn yr ynysoedd.

13 Yr Arglwydd â allan fel cawr, fel rhyfel-wr y cyffry eiddigedd: efe a waedda, ie efe a rua, ac aHeb. ymwrola, neu a fydd gwrol yn erbyn ei &c. fydd trech nâ 'i elynion.

14 Tewais er ystalm, distewais, ymatteliais; llefaf fel gwraig yn escor, difwynaf, aHeb llyngcaf. dife­thaf ar vn-waith.

15 Mi a wnaf y mynyddoedd a'r bryniau yn ddiffaethwch, a'i holl wellt a wywaf; ac a wnâf yr afonydd yn ynysoedd, a'r llynnoedd a sychaf.

16 Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuant, a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau ni adnabuant, gwnaf dywyllwch yn oleuni o'i blaen hwynt, a'r pethau ceimion yn vniawn. Dymma y pethau [Page] a wnaf iddynt, ac ni's gadawaf hwynt.

17Psal. 97.7. Pen. 1.29. & 44 11. & 45.16. Troir yn eu hôl, a llwyr wradwyddir y rhai a ymddiriedant mewn delwau cerfiedic, y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd, chwi yw ein duwiau ni.

18 O fyddariaid, gwrandewch, a'r deillion, edrychwch i weled.

19 Pwy sydd ddall onid fy ngwâs i? neu fyddar fel fynghennad a anfonais? pwy morr ddall a'r perffaith, a dall fel gwâs yr Ar­glwydd?

20 Er gweled llawer,Rhuf. 2.22. etto nid ystyri; er agoryd clustiau, etto ni wrendy.

21 Yr Arglwydd sydd fodlon, er mwyn ei gyfiawnder, efe a fawrhâ y gyfraith, ac a'i gwna yn anrhydeddus.

22 Etto dymma bobl a yspeiliwyd, ac a an­rheithiwyd,Neu, yn maglu eu holl wyr ie­uaingc hwynt, mewn carch. &c. hwy a faglwyd oll mewn tyllau, mewn carchar-dai hefyd y cuddiwyd hwynt; y maent yn yspail, ac heb waredudd; ynHeb. sathrfa. anrhaith, ac heb a ddywedei, dyro yn ei ôl.

23 Pwy o honoch a wrendy hyn? pwy a ystyr, ac a glyw erbynHeb. yr amser yn ol. yr amser a ddaw?

24 Pwy a roddes Jacob yn anrhaith, ac Is­rael i'r yspeil-wŷr? onid yr Arglwydd, yr hwn y pechasom iw erbyn? canys ni fynnent ro­dio yn ei ffyrdd, ac nid vfyddhaent iw gyf­raith.

25 Am hynny y tywalltodd efe arno lid­iawgrwydd ei ddigter, a chryfder rhyfel: efe a'i henynnodd oddi amgylch, ond ni wy­bu efe; lloscodd ef hefyd, ond nid ystyr­iodd.

PEN. XLIII.

1 Yr Arglwydd yn cyssuro ei Eglwys â'i adde­widion: 8 yn appelio at y bobl, i fod yn dyst­ion o'i Holl-alluogrwydd: 14 yn rhagfynegi iddynt ddinistr Babilon, 18 a rhyfeddol ym­wared ei bobl: 22 yn argyoeddi 'r bobl megis rhai diescus.

ONd yr awr hon, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, dy greawdr di, Jacob; a'th lun­iwr di, Israel, nac ofna, canys gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw, eiddo fi yd­wyt.

2 Pan elych trwy 'r dyfroedd, myfi a fy­ddaf gyd â thi; a thrwy 'r afonydd, fel na lisant trosot: pan rodiech drwy 'r tân, ni'th ioscir; ac ni ennyn y fflam arnat.

3 Canys myfi yw 'r Arglwydd dy Dduw, Sanct Israel dy waredudd: myfi a roddais yr Aipht yn iawn trosot, Ethiopia, a Seba am danat.

4 Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngo­lwg, i'th ogoneddwyd, a mi a'th hoffais; am hynny y rhoddaf ddynion am danat ti, a phob­loedd tros dy einioes di.

5Pen. 44.1. 2. Jer. 30.10. & 46.27. Nac ofna, canys yr ydwyfi gyd â thi; o'r dwyrain y dygaf dy hâd, ac o'r gorllewin i'th gasclaf.

6 Dywedaf wrth y gogledd, dôd; ac wrth y dehau, nac attal: dŵg fy meibion o bell, a'm merched o eithaf y ddaiar:

7 Sef pôb vn a elwir ar fy enw; canys i'm gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneu­thum ef.

8 Dŵg allan y bobl ddall sydd a llygaid iddynt; a'r byddariaid sydd a chlystiau idd­ynt.

9 Cascler yr holl genhedloedd ynghŷd, a chynhuller y bobloedd,Pen. 41.21, 22. pwy yn eu mysg a fynega hyn? ac a draetha i ni y pethau o'r blaen? dygant eu tystion, fel y cyfiawnhaer hwynt, neu wrandawant, a dywedant, gwir yw.

10 Fy nhystion i ydych chwi, medd yr Ar­glwydd, a'm gwâs yr hwn a ddewisais; fel yr adnabyddoch, ac y credoch fi, ac y dealloch mai myfi yw: Pen. 41.4 & 44.8. o'm blaen nid oedd Neu, dim wedi ei ffurfio gan Dduw. duw wedi ei ffurfio, ac ni bydd ar fy ôl.

11Pen. 45.21. Hos. 13.4. Myfi, myfi yw 'r Arglwydd; ac nid oes geidwad onid myfi.

12 Myfi a fynegais, ac a achubais, ac a ddang­osais, pryd nad oedd duw dieithr yn eich mysc; am hynny chwi ydych fy nhystion (medd yr Arglwydd,) mai myfi sydd Dduw.

13 Ie cyn bod dydd yr ydwyfi: ac nid oes a wared o'm llaw; gwnaf,Job 9.12. Pen. 14.17. a phwy a'iHebr. dychwel. llu­ddia?

14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, eich gwaredudd chwi, Sanct Israel; er eich mwyn chwi 'r anfonais i Babilon, ac y tynnais i lawr eu hollHebr. barrau, neu ffoa­duriaid. bennaduriaid, a'r Caldeaid, sydd a'i bloedd mewn llongau.

15 Myfi 'r Arglwydd yw eich Sanct chwi, creawdudd Israel, eich Brenin chwi.

16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn aExod. 14. wna ffordd yn y môr, aJos. 3. llwybr yn y dyfroedd cryfion:

17 Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a'r march, y llu a'r cryfder: cyd-orweddant, ni chôdant; darfuant, fel llîn y diffoddasant.

18 Na chofiwch y pethau o'r blaen, ac nac ystyriwch y pethau gynt.

192 Cor. 5.17. Datc. 21.5. Wele fi yn gwneuthur peth newydd; yr awr hon y dechreu; oni chewch ei ŵybod? gwnâf ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffaethwch.

20 Bwyst-fil y maes, y dreigiau, aHeb. merched. chywion yr Estrys, a'm gogoneddant, am roddi o honof ddwfr yn yr anialwch, a'r afonydd yn y diffaethwch, i roddi diod i'm pobl, fy ne­wisedic.

21Luc. 1.74, 75. Y bobl hyn a luniais i'm fy hun, fy moliant a fynegant.

22 Eithr ni elwaist arnaf, Jacob; ond bli­naist arnaf, Israel.

23 Ni ddygaist i'mHeb. wyn, n [...]u, fynned. filod dy offrymmau poeth, ac ni'm anrhydeddaist a'th ebyrth: ni pherais it fy ngwasanaethu ag offrwm, ac ni'th flinais ag arogl-darth.

24 Ni phrynaist i'm Galamus ag arian, ac ni'mHeb. meddw­aist, neu, llwyr­fwydaist. llenwaist â braster dy ebyrth; eithr ti a wnaethost i mi wasanaethu â'th bechodau, bli­naist fi â'th anwireddau.

25 Myfi, myfi yw 'r hwn aEzec. 36.22. &c. ddelea dy gamweddau, er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf dy bechadau.

26 Dwg ar gof i'm, cyd-ymddadleuwn, adrodd di, fel i'th gyfiawnhaer.

27 Dy dâd cyntaf a bechodd, a'thHeb. ladme­nyddion. ath­rawon a wnaethant gamwedd i'm herbyn.

28 Am hynny yr halogaisNeu, y tywyso­gion sanc­taidd. dywysogion y cyssegr, ac y rhoddais Jacob yn ddiofryd-beth, ac Israel yn wradwydd.

PEN. XLIIII.

1 Duw yn cyssuro ei Eglwys â'i addewidion. 7 Gwagedd ac oferedd Eulynnod: 9 ac ynfyd­rwydd y rhai a'i gwna. 21 Y mae yn annog i foliannu Duw am ei ymwared, ac am ei Holl­alluogrwydd.

AC yn awr gwrando,Pen. 41.8. & 43.1. Jer. 30.10. & 46.27. Jacob fy ngwâs, ac Israel yr hwn a ddewisais.

2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd. yr hwn [Page] a'th wnaeth, ac a'th luniodd, o'r grôth, efe a'th gynnorthwya; nac ofna, fy ngwâs Jacob, a thi Jesurun, yr hwn a ddewisais.

3Pen. 35.7. Joel 2.28. Joan. 7.38. Act. 2.18. Canys tywalldaf ddyfroedd ar y syche­dic, a ffrydiau ar y sych-dir; tywalldaf fy Ys­pryd ar dy hâd, a'm bendith ar dy hiliogaeth.

4 A hwy a dyfant megis ym mysc glas-wellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd.

5 Hwn a ddywed, eiddo 'r Arglwydd ydwyfi, a'r llall a'i geilw ei hun ar enw Jacob, ac arall a scrifenna â'i law, eiddo 'r Arglwydd ydwyf, ac a ymgyfenwa ar enw Israel.

6 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Brenin Israel a'i waredudd, Arglwydd y lluoedd,Pen. 41.4. & 48.12. Datc. 1.8, 17. & 22.13. myfi yw y cyntaf, diweddaf ydwyf fi hefyd, ac nid oes Duw onid myfi.

7 Pwy hefyd fel fi, a eilw, a fynega, ac a esyd hyn yn drefnus i mi, er pan osodais yr hên bobl? neu mynegant iddynt y pethau sy ar ddyfod, a'r pethau a ddaw.

8 Nac ofnwch, ac nac arswydwch; onid er hynny o amser y treuthais it, ac y myne­gais? a'm tystion ydych chwi: a oes Duw onid myfi? iePen. 45.5. Deut. 4.35, 39. & 32.39. 1 Sam. 2.2. nid oes Heb. graig. duw: nid adwen i yr vn.

9 Oferedd ydynt hwy oll, y rhai a luniant ddelw gerfiedic, ni wna eu pethauNeu, hyfryd. dymunol lesad; tystion ydynt iddynt eu hun,Psal. 115.4. &c. na welant, ac na ŵyddant, fel y byddo cywilydd arnynt.

10 Pwy a luniei dduw, neu a fwriei ddelw gerfiedic, heb wneuthur dim lles?

11 Wele, ei holl gyfeillion aPsal. 97.7. Pen. 1.29. & 42.17. & 45.16. gywilyddir, y seiri hefyd o ddynion y maent: cascler hwynt oll, safant i fynu; etto hwy a ofnant, ac a gyd-gywilyddiant.

12Jer. 10.3. Doeth. 13.11. Y gôfNeu, a werthia fwy [...]ll. â'r efeil a weithia yn y glô, ac a'i llunia â morthwyhon, ac â nerth ei fraich y gweithia efe hi: newynog yw hefyd, a'i nerth a balla, nid ŷf ddwfr, ac y mae yn deffygio.

13 Y saer pren a estyn ei linyn, efe a'i llunia hi wrth linyn côch, efe a'i cymmhwysa hi â bwyill, ac a'i gweithia wrth gwmpas, ac a'i gwna ar ôl delw ddyn, fel prydferthwch dŷn, i aros mewn tŷ.

14 Efe a dyrr iddo gedr-wŷdd, ac a gym­mer y cypres-wydden a'r dderwen, acNeu, a'i ca­darnha. a ymegnia ymmysg prenni 'r coed; efe a blanna onnen, a'r glaw a'i maetha.

15 Yna y bydd i ddyn i gynneu tân; canys efe a gymmer o honi, ac a ymdwymna; ie efe a'i llysc ac a boba fara; gwna hefyd dduw, ac a'i haddola ef, gwna ef yn ddelw gerfiedic, ac a ymgrymma iddo.

16 Rhan o honaw a lŷsc efe yn tân, wrth ran o honaw y bwytty gîg, y rhostia rost, fel y diwaller ef: efe a ymdwymna hefyd, ac a ddywed, aha, ymdwymnais, gwelais dân.

17 A'r rhan arall yn dduw y gwna, yn ddelw gerfiedic iddo, efe a ymgrymma iddo, ac a'i haddola, ac a weddia arno, ac a ddywed, gwared fi, canys fy nuw ydwyt.

18 Ni ŵyddant, ac ni ddeallant, canys Duw aNeu, ddwbbi­odd gaeodd eu llygaid hwynt rhag gweled, a'i calonnau rhag deall.

19 Ie niHeb. esya neb ei galon. feddwl neb yn ei galon, ie nid oes ŵybodaeth, na deall i ddywedyd, lloscais ran o hono yn tân, ac ar ei farwor y pobais fara, y rhostiais gig, ac y bwytteais; ac a wnaf fi y rhan arall yn ffiaidd-beth? a ymgrym­mafHeb. i'r hyn a adaw o bren. i foncyff o bren?

20 Ymborth ar ludw y mae, calon siom­medic a'i gŵyr-drôdd ef, fel na waredo ei enaid, ac na ddywedo, onid oes celwydd yn fy neheu­law?

21 Meddwl hyn Jacob, ac Israel, canys fy ngwâs ydwyt ti: lluniais di, gwâs i mi ydwyt, Israel, ni'th anghofir gennif.

22 Dileais dy gamweddau fel cwmwl, a'th bechodau fel niwl; dychwel attafi, canys myfi a'th waredais di.

23 Cenwch nefoedd, canys yr Arglwydd a wnaeth hyn, bloeddiwch gwaelodion y ddaiar, bloeddiwch ganu fynyddoedd, y coed a phob pren ynddo: canys gwaredodd yr Arglwydd Jacob, ac yn Israel yr ymogonedda efe.

24 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd dy waredydd, a'r hwn a'th luniodd o'r grôth; myfi yw 'r Arglwydd sydd yn gwneuthur pob peth, yn estyn y nefoedd fy hunan, yn lledu y ddaiar o honof fy hun:

25 Yn diddymmu arwyddion y rhai celwy­ddog, ac yn ynfydu dewiniaid, yn troi y doeth­ion yn eu hôl, ac yn gwneuthur eu gŵybo­daeth yn ynfyd:

26 Yr hwn a gyflawna air ei wâs, ac a gwplhâ gyngor ei gennadon, yr hwn a ddywed wrth Jerusalem, ti a bresswylir; ac wrth ddi­nasoedd Juda, chwi a adeiledir; a chyfodaf eiHeb. diffaeth­faeodd. hadwyau:

27 Yr hwn wyf yn dywedyd wrth y dyfn­der, bydd sych; ac mi a sychaf dy afonydd:

28 Yr hwn wyf yn dywedyd wrth Cyrus, fy mugail yw, ac efe a gyflawna fy holl ewy­llys, gan ddywedyd wrth Jerusalem,2 Cron. 36.22. Ezra 1.1. Pen. 45.13. ti a adeiledir, ac wrth y deml, ti a sylfeinir.

PEN. XLV.

1 Duw yn galw Cyrus er mwyn ei Eglwys: 5 Yn gofyn vfydd-dod am ei fod yn Holl­alluog: 20 Yn dangos ofered ydyw eulynnod, wrth ei allu yn ymwared.

FEl hyn y dywed yr Arglwydd wrth ei ennei­niog, wrth Cyrus, yr hwnNeu, y cryf­heais ei dd [...]heu­law. yr ymaflais i yn ei ddeheu-law, i ddarostwng cenhedloedd o'i flaen ef: ac mi a ddattodaf lwyni bren­hinoedd, i agoryd y dorau o'i flaen ef, a'r pyrth ni cheuir.

2 Mi af o'th flaen di, ac a vnionaf y gŵyr­geimion, y dorau prês a dorraf, a'r barrau heirn a ddrylliaf:

3 Ac a roddaf it dryssorau cuddiedic, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech, mai myfi yr Arglwydd, yr hwn a'th alwodd erbyn dy enw, yw Duw Israel.

4 Er mwyn Jacob fy ngwâs, ac Israel fy etholedic i'th elwais erbyn dy enw; mi a'th gyfenwais er na'm hadwaenit.

5Deut. 4.35.39. & 32 39. Pen 44.8. Myfi ydwyf yr Arglwydd, ac nid arall, nid oes Duw onid myfi; gwregysais di er na'm hadwaenit.

6 Fel y gwypont o godiad haul, ac o'r gorllewin, nad neb onid myfi; myfi yw 'r Arglwydd, ac nid arall:

7 Yn llunio goleuni, ac yn creu tywyllwch, yn gwneuthur llwyddiant, ac yn creu dryg­fyd: myfi 'r Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn oll.

8 Defnynnwch nefoedd oddi vchod, a thywall­ded yr wybrennau gyfiawnder, ymagored y ddaiar, ffrwythed iechydwriaeth a cyfiawn­der, cyd-tarddant; myfi 'r Arglwydd a'i creais.

9 Gwae a ymrysono â'i luni-wr, ymrysoned priddell â phriddellau 'r ddaiar: a [Page] Jer. 18.6. Rhuf. 9.20. ddywed y clai wrth ei luni-wr, beth a wnei? neu y mae dy waith heb ddwylo iddo?

10 Gwae a ddywedo with ei dâd, beth a genhedli? neu wrth y wraig, beth a esco­raist?

11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Sanct Israel, a'i luni-wr, gofynnwch i mi y pethau a ddaw am fy meibion, a gorchymynnwch fi am waith fy nwylo.

12 Myfi a wneuthum y ddaiar, ac a greais ddyn arni; myfi, ie fy nwylo i a estynnasant y nefoedd, ac a orchymynnais eu holl luoedd.

13 Myfi a'i cyfodais ef mewn cyfiawnder, a'i holl ffyrdd aNeu, vniawn­af. gyfarwyddaf; efe a2 Cron. 36.22. Ezra 1.1.2. Pen. 44. 28. adeila­da fy ninas, efe a ollwng fy ngharcharorion, heb na gwerth na gobrwy, medd Arglwydd y lluoedd.

14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, llafur yr Aipht, a ma [...]siandiaeth Ethiopia, a'r Sabeaid hirion a ddeuant attat ti, ac eiddo ti fyddant, ar dy ôl y deuant, mewn cadwyni y deuant trosodd; ac ymgrymmant i ti, attat y gweddiant, gan ddywedyd, yn ddiau ynot ti y mae Duw, ac nid oes arall, nac oes duw.

15 Ti yn ddiau wyt Dduw yn ymguddio, ô Dduw Israel yr achubwr.

16 Cywilyddir a gwradwyddir hwynt oll;Pen. 44.11. seiri delwau a ânt ynghyd i wradwydd.

17 Israel a achubir yn yr Arglwydd ag iechydwriaeth dragywyddol: ni'ch cywilyddir, ac ni'ch gwradwyddir byth bythoedd.

18 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, creawdudd y nefoedd, y Duw ei hun a luni­odd y ddaiar, ac a'i gwnaeth; efe a'i siccrhaodd hi, ni chreawdd hi yn ofer, iw phresswylio y lluniodd hi; myfi yw 'r Arglwydd, ac nid neb amgen.

19 Ni leferaisDeut. 30.11. mewn dirgelwch, mewn man tywyll o'r ddaiar, ni ddywedais wrth hâd Jacob, ceisiwch fi yn ofer: myfi 'r Arglwydd wyf yn llefaru cyfiawnder, ac yn mynegi pethau vnion.

20 Ymgesclwch, a deuwch, cyd-nessewch, rai diangol y cenhedloedd, nid oes gwybodaeth gan y rhai a dderchafant goed eu cerf-ddelw, ac a weddiant Dduw nid all achub.

21 Mynegwch, a nessewch hwynt, cyd­ymgynghorant hefyd, pwy a draethodd hyn er cynt? pwy a'i mynegodd er y pryd hynny? onid myn 'r Arglwydd? ac nid oes Duw arall onid myfi; yn Dduw cyfiawn, ac yn achu­budd, nid oes onid myfi.

22 Trowch eich wynebau attafi, holl gyr­rau 'r ddaiar, fel i'ch achuber: canys myfi wyf Dduw, ac nid neb arall.

23 I'm fy hun y tyngais, aeth y gair o'm genau mewn cyfiawnder, ac ni ddychwel, maiRhuf. 14.11. Phil. 2.10. i mi y plŷga pob glin, y twng pob tafod.

24 Yn ddiauNeu, efe a ddy­wed am d [...]naf, yn yr Arg. y mae pob cyf­iawnder. Heb. cyf­iawnder­ [...]. yn yr Arglwydd (medd vn) y mae i mi gyfiawnder, a nerth; atto ef y deuir, a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho.

25 Yn yr Arglwydd y cyfiawnheir, ac yr ymogonedda holl hâd Israel.

PEN. XLVI.

1 Na allai eulynnod Babylon eu hachub eu hunain. 3 Bod Duw yn achub ei bobl hyd y diwedd. 5 Nad yw e [...]lynnod gyffelyb i Dduw mewn gallu, 12 nac mewn ymwared presennol.

CRymmodd Bel, plygodd Nebo; eu delwau o [...]dd ar fŵystfilod, ac ar anifeiliaid: eich clud a lwythwyd yn drwm, llwyth ydynt i'r d [...]ff [...]giol.

2 Gostyngant, cyd-grymmant, ni allent achub y llwyth,Heb. a'i henaid a [...]th mewn &c. ond aethant mewn caethiwed eu hunain.

3 Tŷ Jacob, gwrandewch arnafi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a ddygpwyd gennif o'r groth, ac a arweddwydd o'r brû.

4 Hyd henaint hefyd myfi yw; îe myfi â'ch dygaf hyd oni ben-wynnoch: gwneuthum, arweddaf hefyd, ie dygaf, a gwaredaf chwi.

5 I bwy i'm gwnewch yn debyg, ac i'm cystedlwch,Pen. 40.18, 25. ac i'm cyffelybwch, fel y by­ddom debyg.

6 Hwy a wastraffant aur o'r pwrs, ac a bwysant arian mewn clorian, a gyflogant eurych, ac efe a'i gweithia yn dduw, gostyng­ant, ac ymgrymmant.

7 Dygant ef ar yscwyddau, dygant ef ac a'i gosodant yn ei lê, ac efe a saif; ni syfl o'i le; os llefa vn arno, nid ettyb, ac ni's gwared ef o'i gystudd.

8 Cofiwch hyn, a byddwch wŷr; atco­fiwch, droseddwyr.

9 Cofiwch y pethau gynt er ioed, canys myfi ydwyf Dduw, ac nid neb arall; Duw ydwyf, ac heb fy mâth:

10 Yn mynegi y diwedd o'r dechreuad, ac er cynt yr hyn ni wnaed etto, yn dywe­dyd, fyPsal. 33.11. Dihar. 19.21. & 21.30. Heb. 6.17. nghyngor a saif, a'm holl ewyllys a wnaf:

11 Yn galw aderyn o'r dwyrain, yHeb. fynghyng­horwr. gwr a wna fy-nghyngor, o wlad bell; dywedais, ac mi a'i dygaf i ben, mi a'i lluniais, ac mi a'i gwnaf.

12 Gwrandewch arnafi, y rhai cedyrn ga­lon, y rhai pell oddi wrth gyfiawnder.

13 Nesseais fy nghyfiawnder, ni bydd bell, a'm hiechydwriaeth nid erys: rhoddaf hefyd iechydwriaeth yn Sion, i'm gogoniant Is­rael.

PEN. XLVII.

1 Barnedigaethau Duw ar Babylon a Chaldea, 6 am eu hannrhugarogrwydd, 7 a'i balchder, 10 a'i rhyfyg: 11 Ac nas gellir eu gwrthwynebu.

DEscyn, ac eistedd yn y llwch, ti forwyn, ferch Babilon: eistedd ar lawr, nid oes orseddfaingc, ti ferch y Caldeaid; canys ni'th alwant mwy yn dyner, ac yn foethus.

2 Cymmer y meini melin, a mala flawd, datcuddia dy lywethau, noetha dy sodlau, dinoetha dy forddwydydd, dôs drwy 'r afonydd.

3 Dy noethni a ddatcuddir, dy warth hefyd a welir; dialaf, ac nid fel dŷn i'th gyfar­fyddaf.

4 Ein gwaredydd ni, ei enw yw Arglwydd y lluoedd, Sanct Israel.

5 Eistedd yn ddistaw, a dôs i dywyllwch, ti ferch y Caldeaid; canys ni'th alwant mwy yn arglwyddes y teyrnasoedd.

6 Digiais wrth fy mhobl; halogais fy eti­feddiaeth, a rhoddais hwynt yn dy law di; ni chymmeraist drugaredd arnynt; rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid.

7 A dywedaist, byth y byddafDatc. 18.7. arglwyddes, felly nid ystyriaist hyn, ac ni chofiaist ei di­wedd hi.

8 Am hynny yn awr gwrando hyn, y foethus, yr hon a drigi yn ddiofal, yr hon a ddywedi yn dy galon, myfi sydd, ac nid neb ond myfi: nid eisteddaf yn weddw, ac ni châf wybod beth yw diheppiledd.

9Pen. 51.19. Ond y ddau beth hyn a ddaw it yn [Page] ddisymmwth yr vn dydd, dihepiledd, a gwe­ddwdod; yn gwbl y deuant arnat, am amlder dy hudoliaethau, a mawr nerth dy swynion.

10 Canys ymddiriedaist yn dy ddrygioni, dywedaist, ni'm gwel neb; dy ddoethineb, a'th ŵybodaeth a'thNeu, droant ymaith. hurtiant, a dywedaist yn dy galon, myfi sydd, ac nid neb arall ond myfi.

11 Am hynny y daw arnat ddrygfyd, yr hwn ni chei ŵybod eiHeb. wawr. gyfodiad; a syrth ar­nat ddinistr ni's gelli ei ochelyd: ie, daw ar­nat ddestryw yn ddisymwth, heb ŵybod it.

12 Sâf yn awr gyd â'th swynion, a chyd ag amlder dy hudoliaethau, yn y rhai 'r ymfli­naist o'th ieuengctid; i edrych a elli wneuthur llês, i edrych a fyddi grymmus.

13 Ymflinaist yn amlder dy gynghorion dy hun, safed yn awr astronomyddion y nefoedd, y rhai a dremiant ar y sêr, y rhai a yspysant am y misoedd, ac achubant di oddi wrth y petheu a ddeuant arnat.

14 Wele, hwy a fyddant fel sofl; y tân a'i llysc hwynt, ni waredant euHeb. heneldiau. henioes o feddi­ant y fflam; ni bydd marworyn i ymdwymno, na thân i eistedd ar ei gyfer.

15 Felly y byddant hwy it, gyd â'r rhai yr ymflinaist, sef dy farsiand-wŷr o'th ieuengctid, cyrwydrasant bob vn ar ei duedd, nid oes vn yn dy achub di.

PEN. XLVIII.

1 Duw, i argyoeddi 'r bobl o'i hynod gyndyn­rwydd, yn datcuddio ei brophwydoliaethau. 9 Er ei fwyn ei hun y mae efe yn eu gwared hwy. 12 Y mae yn eu hannog hwy i fod yn vfydd, o herwydd ei allu a'i ragluniaeth ef: 16 Yn cwyno eu cildynrwydd hwy. 20 O'i fawr allu y mae yn gwared ei bobl o Babilon.

GWrandewch hyn tŷ Jacob, y rhai a elwir ar enw Israel, ac a ddaethant allan o ddyf­roedd Juda; y rhai a dyngant i enw yr Ar­glwydd, ac a goffant am Dduw Israel; nid mewn gwirionedd, nac mewn cyfiawnder.

2 Canys hwy a'i galwant eu hunain o'r ddinas sanctaidd, ac a bwysant ar Dduw Israel, enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd.

3 Y pethau gynt a fynegais er y pryd hyn­ny, a daethant o'm genau, ac mi a'i traethais, mi a'i gwnaethum yn ddisymmwth, daethant i ben.

4 O herwydd i'm ŵybod dy fod ti yn galed, a'th warr fel geûyn haiarn, a'th dalcen yn brês:

5 Mi a'i mynegais i ti er y pryd hynny, adroddais it cyn ei ddyfod, rhac dywedyd o honot, fy nelw a'i gwnaeth, fy ngherf-ddelw, a'm tawdd-ddelw, a'i gorchymmynnodd.

6 Ti a glywaist, gwel hyn oll, ac oni fyneg­wch chwitheu ef? adroddais it bethau ne­wyddion o'r pryd hyn, a phethau cuddiedic, y rhai ni wyddit oddi wrthynt.

7 Yn awr y crewyd hwynt, ac nid er y de­chreuad, cyn y dydd ni chlywaist sôn am da­nynt: rhac dywedyd o honot, wele gwyddwn hwynt.

8 Ie nis clywsit, ac nis gwyddit chwaith, nid agorasid dy glust y pryd hynny; canys gwyddwn y byddit lwyr anffyddlon, a'th alw o'r groth yn droseddwr.

9 Er mwyn fy enw 'r oedaf fy llîd, ac er fy mawl yr ymattaliaf oddi wrthit, rhag dy ddifetha:

10 Wele, myfi a'th burais, ond nidNeu, i arian. fel arian; dewisais di mewn pair cystudd.

11 Er fy mwyn fy hun, er fy mwyn fy hun, y gwnaf hyn; canys pa fodd yr halogid fy enw? acPen. 42.8. ni roddaf fy ngogoniant i arall.

12 Gwrando arnafi Jacob, ac Israel yr hwn a elwais;Pen. 41.4. & 44.6. Datc. 1.17. & 22.13. myfi yw, myfi yw y cyntaf, a mi yw y diwethaf.

13 Fy llaw i hefyd a seiliodd y ddaiar, a'm deheulaw i aNeu, ddyrnfe­ddodd. rychwantodd y nefoedd: pan alwyfi arnynt, hwy a gyd-safant.

14 Ymgesclwch oll a gwrandewch; pwy o honynt hwy a fynegodd hyn? yr Arglwydd a'i hoffodd: ef a wna ei ewyllys ar Babilon, a'i fraich a fydd ar y Caldeaid.

15 Myfi, myfi a leferais, ac a'i gelwais ef: dygais ef, ac fe a lwydda ei ffordd ef.

16 Nessewch attaf, gwrandewch hyn; ni leferais o'r cyntaf yn ddirgel; er y pryd y mae hynny 'r ydwyf inneu yno: ac yn awr yr Ar­glwydd Dduw a'i Yspryd a'm hanfonodd.

17 Fel hyn y dywed yr Arglwydd dy ware­dudd, Sanct Israel; myfi yw 'r Arglwydd dy Dduw, yr hwn wyf yn dy ddyscu di i wellhau, gan dy arwein yn y ffordd y dylit rodio.

18 O na wrandawsit ar fy ngorchymmyn­ion, yna y buasei dy heddwch fel afon, a'th gy­fiawnder fel tonnau 'r môr.

19 A buasei dy hâd fel y tywod, ac eppil dy gorph fel ei raian ef: ni thorrasid, ac ni ddini­striasid ei enw, oddi ger fy mron.

20 Ewch allan o Babilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid, â llef gorfoledd; myneg­wch, ac adroddwch hyn, treuthwch ef hyd eithafoedd y ddaiar: dywedwch,Exod. 19.4, 5, 6. gware­dodd yr Arglwydd ei wâs Jacob.

21 Ac ni sychedasant pan arweiniodd hwynt yn yr anialwch,Exod. 17.6. Num. 20.11. gwnaeth i ddwfr bistyllio iddynt o'r graig: holltodd y graig hefyd, a'r dwfr a ddylifodd.

22Pen. 57.21. Nid oes heddwch, medd yr Arglwydd, i'r rhai annuwiol.

PEN. XLIX.

1 Christ wedi ei anfon at yr Juddewon, yn ach­wyn rhagddynt. 5 Ei anfon ef at y Cenhed­loedd ag addewidion grasusol. 13 Bod cariad Duw tuac at ei Eglwys, yn dragwyddol. 18 He­laeth adferu yr Eglwys. 24 Y galluog ym­wared allan o'r caethiwed.

GWrandewch arnaf ynysoedd, ac ystyriwch bobl o bell. Yr Arglwydd a'm galwodd o'r grôth, o ymyscaroedd fy mam y gwnaeth goffa am fy enw.

2 Gosododd hefyd fy ngenau fel cleddyf llym, ynghyscod ei law i'm cuddiodd, a gwna­eth fi yn saeth loyw; cuddiodd fi yn ei gawell saethau:

3 Ac a ddywedodd wrthif, fy ngwâs i yd­wyt ti Israel, yr hwn yr ymogoneddaf ynot.

4 Minneu a ddywedais, yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth: er hynny y mae fy marn gyd a'r Arglwydd, a'mNeu, gwobr. gwaith gyd â'm Duw.

5 Ac yn awr, medd yr Arglwydd, yr hwn a'm lluniodd o'r groth yn wâs iddo, i ddych­welyd Jacob atto ef,Neu, fel yr ym­gasclo Is­rael atto, ac y bydd­wyf yn og­yngolwg &c. er nad ymgasclodd Israel, etto gogoneddus fyddafi yngolwg yr Arglwydd, a'm Duw fydd fy nerth.

6 Ac efe a ddywedodd,Neu, ai gwae­lach wyt nag y by­ddit yn was? &c. gwael yw dy fôd yn wâs i mi, i gyfodi llwythau Jacob, ac i adferuNeu, diffaeth­faoedd. rhai cadwedic Israel, mi a'th [Page] roddaf hefyd ynPen. 42.6. oleuni i'r cenhedloedd, fel y byddych yn iechydwriaerh i mi, hyd eithaf y ddaiar.

7 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, gware­dudd Israel a'i Sanct, wrth y dirmygedicNeu, gan ddyn. o enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genhedl, wrth was llywodraeth-wyr; brenhinoedd a welant, ac a gyfodant, tywysogion hefyd a ymgrymmant, er mwyn yr Arglwydd, yr hwn sydd ffyddlon, Sanct Israel, ac efe a'th ddewi­sodd di.

8 Fel hyn y dywed yr Arglwydd,2 Cor. 6.2 mewn amser bodlon-gar i'th wrandewais, ac yn nydd iechydwriaeth i'th gynnorthwyais, a mi a'th gadwaf yn gyfammod y bobl, iNeu, i gyfodi. siccrhau y ddaiar, i beri etifeddu yr etifeddiaethau anghy­faneddol;

9 Fel y dywedych wrth yPen. 42.7. carcharorion, ewch allan; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch, ymddangoswch; ar y ffyrdd y porant, ac yn yr holl vchelfannau y bydd ei porsa hwynt.

10Datc. 7.16. Ni newynant, ac ni sychedant, ac ni's tery gwrês, na haul hwynt: o herwydd yr hwn a dosturia wrthynt, a'i tywys, ac a'i harwein wrth y ffynhonnau dyfroedd.

11 A mi a wnaf fy holl fynydd yn ffordd, a'm priffyrdd a gyfodir.

12 Wele, y rhai hyn a ddeuant o bell, ac wele, y rhai accw o'r gogledd, ac o'r gorllewin, a'r rhai ymma o dir Sinim.

13 Cenwch nefoedd, a gorfoledda ddaiar, bloeddwch ganu y mynyddoedd; canys yr Arglwydd a gyssurodd ei bobl, ac a drugarhâ wrth ei drueniaid.

14 Etto dywedodd Sion, yr Arglwydd a'm gwrthododd, a'm Arglwydd a'm anghofiodd.

15 A anghofia gwraig ei phlentyn sugno,Heb. rhag to­sturio. fel na thosturio wrth fâb ei chroth? ie hwy a allant anghofio, etto myfi nid anghofiaf di.

16 Wele, ar gledr fy nwylo i'th argreffais, dy suriau sydd ger fy mron bob amser.

17 DyNeu, adeilad­wyr. blant a fryssiant, y rhai a'th ddi­nistriant, ac a'th ddestrywiant, a ânt allan o honot.

18Pen. 60.4. Dercha dy lygaid oddi amgylch, ac edrych; y rhai hyn oll a ymgasclant, ac a ddeu­ant attat: fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, diau y gwisci hwynt oll, fel hardd-wisc, ac y rhwymi hwynt am danat, fel priod-ferch.

19 Canys dy ddiffaithwch, a'th anialwch, a'th dir dinistriol, yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan bresswyl-wŷr; a'r rhai a'th lyngcant a ymbellhânt.

20 Plant dy ddi-heppiledd, a ddywedant etto lle y clywech, cyfyng yw y lle hwn i mi; dôd le i mi fel y presswyliwyf.

21 Yna y dywedi yn dy galon, pwy a gen­hedlodd y rhai hyn i mi; a mi yn ddi-heppil, ac yn vnic, yn gaeth, ac ar grwydr? a phwy a fagodd y rhai hyn? wele, myfi a adawyd fy hunan,Neu, pa le 'r oedd? o ba le y daeth y rhai hyn?

22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele, cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a der­chafaf fy mâner at y bobloedd; a dygant dy feibionNeu, ar eu brei­chiau. yn eu monwes, a dygir dy ferched ar yscwyddau.

23 Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmae [...]hod, a'iHeb. tywyso­gesau. brenhinesau dy fammaethod, crymmant it a'i hwynebau tua 'r llawr,Psal. [...]2.9. a llyfant lwch dy draed, a chei wybod mai myfi yw 'r Arg­lwydd; canys ni chywilyddir y rhai a ddis­gwiliant wrthifi.

24 A ddygir y caffaeliad oddi ar y cadarn? neu a waredirHeb. caethiwed y cyfiawn. y rhai a garcherir yn gyfiawn?

25 Ond fel hyn y dywed yr Arglwydd, ieHeb. caeth-glad carcharorion y cadarn a ddygir, ac anrhaith y creulon a ddiangc: canys myfi a ymryssonaf â'th ymryssonudd, ac myfi a achubaf dy fei­bion.

26 Gwnaf hefyd i'th orthrym-wŷr fwytta eu cig eu hunain, ac ar euDatc. 14.20. & 16.6. gwaed eu hun y meddwant, fel ar winNeu, newydd. melys; a gwybydd pob cnawd mai myfi 'r Arglwydd yw dy achu­bydd, a'th gadarn waredydd di Jacob.

PEN. L.

1 Christ yn dangos nad efe yw 'r achos y gwr­thodwyd yr Juddewon, am ei fod yn abl i'w hachub hwy, 5 am ei fod yn vfydd i wneuthur hynny, 7 ac am ei fod yn ymddiried ynghym­morth Duw. 10 Annog i hyderu ar Dduw, ac nid arnom ein hunain.

FEl hyn y dywed yr Arglwydd, pa le y mae llythyr yscar eich mam,yr hon a yrrais. trwy 'r hwn y gollyngais hi ymmaith? neu pwy o'm dyled­wyr y gwerthais chwi iddo? wele am eich an­wireddau yr ymwerthasoch, ac am eich cam­weddau y gollyngwyd ymmaith eich mam.

2Joan. 1.11. Pa ham pan ddeuthum, nad oedd neb i'm derbyn? pan elwais, nad attebodd neb? Num. 11.23. Pen. 59 1. gan gwttogi a gwttogodd fy llaw, fel na all­ei ymwared? neu onid oes ynof nerth i achub? wele â'm cerydd yExod. 14.21. sychaf y môr; gwneu­thum yrJos. 3.16. afonydd yn ddiffaethwch, eu pyscod a ddrewant o eisieu dwfr, ac a fyddant feirw o syched.

3 Gwiscaf y nefoedd â thywyllwch, a goso­daf sâch-liain yn dô iddynt.

4 Yr Arglwydd Dduw a roddes i'm dafod y dyscedic, i fedru mewn pryd lefaru gair wrth yMatth. 11.28. deffygiol; deffry fi bob boreu, deffry i'm glust i glywed fel y dyscedic.

5 Yr Arglwydd Dduw a agorodd fy nghlust, a minneu niJoan. 14.31. Heb. 10.5, &c. Phil. 2.8. wrthwynebais, ac ni chiliais yn fy ôl.

6 Fy nghorphMatth. 26.67. & 27.26 a roddais i'r cur-wŷr, a'm cernan i'r rhai a dynnai'r blew, ni chuddiais fy wyneb oddi wrth wradwydd, a phoeredd.

7 O herwydd yr Arglwydd Dduw a'm cymmorth, am hynny ni'm cywilyddir; am hynny gosodais fy wyneb fel callestr, a gwn na'm cywilyddir.

8Rhuf. 8.32.33. Agos yw 'r hwn a'm cyfiawnhâ, pwy a ymrysson â mi? safwn ynghyd; pwy ywHeb. meistr fy nadl. fy ngwrthwynebwr? nessaed attaf.

9 Wele 'r Arglwydd Dduw a'm cynnorth­wya, pwy yw 'r hwn a'm bwrw yn euog? wele, hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn, y gwyfyn a'i hyssa hwynt.

10 Pwy yn eich mysc sydd yn ofni 'r Ar­glwydd, yn gwrandaw ar lais ei wâs ef, yn rhodio mewn tywyllwch, ac heb lewyrch iddo? gobeithied yn enw 'r Arglwydd, ac ymddir­ieded yn ei Dduw.

11 Wele, chwi oll y rhai ydych yn cynneu tân, ac yn eich amgvlchu eich hunain â gwrei­chion; rhodiwch wrth lewyrch eich tân, ac wrth y gwreichion a gynneuasoch;Joan. 9.39. o'm llaw i y bydd hyn i chwi; mewn gofid y gor­weddwch.

PEN. LI.

1 Cynghor i hyderu ar Grist, yn ôl esampl A­braham, 3 o herwydd ei addewidion cyssur­fawr, 4 a'i gyfiawn ymwared, 7 a marwoldeb dyn. 9 Bod Christ â'i sanctaidd fraich, yn [Page] ymddiffyn yr eiddo rhag ofn dyn. 17 Y mae yn cwyno adfyd Jerusalem, 21 ac yn addaw ymwared.

Gwrandewch arnafi ddilyn-wŷr cyfiawnder, y rhai a geisiwch yr Arglwydd: edrych­wch ar y graig i'ch naddwyd, ac ar geudod y ffôs i'ch cloddiwyd o honynt.

2 Edrychwch ar Abraham eich tâd, ac ar Sara a'ch escorodd; canys ei hunan y gelwais ef, ac y bendithiais, ac yr amlheais ef.

3 O herwydd yr Arglwydd a gyssura Sion; efe a gyssura ei holl anghyfannedd-leoedd hi, gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden, a'i di­ffaethwch fel gardd yr Arglwydd: ceir ynddi lawenydd a hyfrydwch, diolch, a llais cân.

4 Gwrandewch arnaf fy mhobl, clust-ym­wrandewch â mi, fy nghenedl; canys cyfraith a â allan oddi wrthif, a gosodaf fy marn yn oleuni pobloedd.

5 Agos yw fy nghyfiawnder; fy iechydwr­iaeth aeth allan, fy mreichiau hefyd a farnant y bobloedd: yr ynysoedd a ddisgwiliant wrthif, ac a ymddiriedant yn fy mraich.

6 Derchefwch eich llygaid tua 'r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaiar issod;Psal. 102.26. Matth. 24.35. canys y ne­foedd a ddarfyddant fel mŵg, a'r ddaiar a he­neiddia fel dilledyn, a'i phresswyl-wŷr yr vn modd a fyddant meirw: ond fy iechydwria­eth i a fydd byth, a'm cyfiawnder ni dderfydd.

7 Gwrandewch arnaf, y rhai a adwaenoch gyfiawnder,Psal. 37.31. y bobl sy a'm cyfraith yn eu calon:Matth. 10.28. nac ofnwch wradwydd dynion, ac nac arswydwch rhac eu difenwad.

8 Canys y prŷf a'i bwytty, fel dilledyn; a'r gwyfyn a'i hyssa, fel gwlân: eithr fy nghyf­iawnder a fydd yn dragywydd: a'm iechyd­wriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.

9 Deffro, deffro, gwisc nerth, ô fraich yr Arglwydd, deffro fel yn y dyddiau gynt, yn yr oesoedd gynt: onid ti yw 'r hwn a dorraist Rahab, ac a archollaist yPsal. 74.13.14. Ezec. 29.3. ddraig?

10 Onid ti yw 'r hwn aExod. 14.21. sychaist y môr, dyfroedd y dyfnder mawr, yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr, yn ffordd i'r gwaredigion i fyned trwodd?

11 Am hynny yPen. 35.10. dychwel gwaredigion yr Arglwydd, a hwy a ddeuant i Sion â chanu, ac â llawenydd tragywyddol ar eu pennau, goddi­weddant lawenydd, a hyfrydwch: gofid a griddfan a ffŷ ymmaith.

12 Myfi, myfi, yw yr hwn a'ch diddana chwi; pwy wyt ti fel yrPsal. 118.6. ofnit ddyn, yr hwn fydd marw, a mab dyn yr hwn a wneir fel1 Pet. 1.24. Pen. 40.6. glas-weiltyn?

13 Ac a anghofi yr Arglwydd dy wneuthur­wr, yr hwn a estynnodd y nefoedd, ac a seil­iodd y ddaiar? ac a ofnaist bob dydd yn wastad rhac llid y gorthrymmudd, fel pe darparei i ddinistrio? a pha le y mae llîd y gorthrym­mudd?

14 Y carcharor sydd yn bryssio i gael ei ollwng yn rhydd, fel na byddo farw yn y pwll, ac na phallo ei fara ef.

15 Eithr myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn aJer. 31.35. barthodd y môr, pan ruodd ei don­nau: ei enw yw Arglwydd y lluoedd.

16 Gosodais hefyd fy ngeiriauPen. 49.2.3. yn dy enau, ac ynghyscod fy llaw i'th doais, fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaiar, ac y dywedwn wrth Sion, fy mhobl ydwyt.

17Pen. 52.1. Deffro, deffro, cyfod Jerusalem, yr hon a yfaist o law 'r Arglwydd gwppan ei lidiawgrwydd ef: yfaist waddod y cwppan er­chyll, ie sugnaist ef.

18 Nid oes arweinydd iddi o'r holl feibion a escorodd; ac nid oes a ymaflo yn ei llaw o'r holl feibion a fagodd.

19Pen. 47.9. Y ddau beth hyn a ddigwyddasant it; pwy a ofidia trosot? dinistr, aHeb. drylliad. destryw, a newyn, a chleddyf; trwy bwy i'th gyssuraf?

20 Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mhen pob heol, fel tarw gwyllt mewn magl; llawn ydynt o lidiawgrwydd yr Arglwydd, a cherydd dy Dduw.

21 Am hynny gwrando fi yn awr, y druan, a'r feddw, ac nid trwy wîn.

22 Fel hyn y dywed dy Arglwydd, yr Ar­glwydd a'th Dduw di, yr hwn a ddadleu tros ei bobl, wele, cymmerais o'th law y cwppan erchyll, sef gwaddod cwppan fy llidiawg­rwydd; ni chwanegi ei yfed mwy.

23 Eithr rhoddaf ef yn llaw dy gystuddwŷr, y rhai a ddywedasant wrth dy enaid, gostwng fel yr elom trosot: a thi a osodaist dy gorph fel y llawr, ac fel heol i'r rhai a elent trosto.

PEN. LII.

1 Christ yn perswadio ei Eglwys i gredu ei râd brynedigaeth ef; 7 I dderbyn gwenidogion yr adbrynedigaeth, 9 I lawenychu yn ei gallu hi, 11 Ac iw rhyddhau eu hunain oddiwrth gaethiwed. 13 Y derchefir teyrnas Christ.

DEffro,Pen. 51.17. deffro, gwisc dy nerth, Sion; gwisc wiscoedd dy ogoniant, sanctaidd ddinas Jerusalem: canys ni ddaw o'th fewn mwy ddienwaededic, nac aflan.

2 Ymescwyd o'r llŵch, cyfod, eistedd, Je­rusalem; ymddattod oddiwrth rwymau dy wddf, ti gaeth-ferch Sion.

3 Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, yn rhâd yr ymwerthasoch, ac nid ag arian i'ch gwaredir.

4 Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, fy mhobl aeth i wared i'rPen. 46.6. Aipht yn y dechreuad, i ymdaith yno; a'r Assyriad a'i gorthrymmodd yn ddiachos.

5 Ac yn awr beth sydd ymma i mi, medd yr Arglwydd; pan ddygid fy mhobl ymaith yn rhâd? eu llywodraethwŷr a wna iddynt vdo, medd yr Arglwydd: a phob dydd yn wastad,Ezec. 36.20.23. Rhuf. 2.24. y ceblir fy enw.

6 Am hynny y caiff fy mhobl adnabod fy enw, am hynny y cant wybod y dydd hwnnw, mai myfi yw yr hwn sy'n dywedyd, wele, myfi ydyw.

7Nahum. 1.15. Rhuf. 10.15. Morr weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efangylu, yn cyhoeddi heddwch: a'r hwn sydd yn mynegi daioni, yn cyhoeddi iechydwriaeth, yn dywedyd wrth Sion, dy Dduw di sydd yn teyrnasu?

8 Dy wil-wŷr a dderchafant lef; gyd â'r llêf y cyd-ganant; canys gwelant lygad yn llygad pan ddychwelo yr Arglwydd Sion.

9 Bloeddiwch, cyd-genwch, anialwch Jeru­salem; canys yr Arglwydd a gyssurodd ei bobl, efe a waredodd Jerusalem.

10 Dioscodd yr Arglwydd fraich ei sanctei­ddrwydd yngolwg yr holl genhedloedd,Psal. 93.2. Luc. 3.6. a holl gyrrau 'r ddaiar a welant iechydwriaeth ein Duw ni.

11 Ciliwch, ciliwch, ewch allan oddi yno,2 Cor. 6.17. Datc. 18.4. na chyffyrddwch â dim halogedic, ewch allan o'i chanol, ymlanhewch, y rhai a ddygwch lestri 'r Arglwydd.

12 Canys nid ar frys yr ewch allan, ac nid ar ffô y cerddwch; canys yr Arglwydd â o'ch blaen chwi, a Duw Israel a'ch cascl chwi.

13 Wele, fy ngwâs aNeu, wna'n gall. lwydda, efe a godir, a dderchefir, ac a fydd vchel iawn.

14 Megis y rhyfeddodd llawer wrthit (mor llygredic oedd eiPen. 53.3. wedd yn anad neb, a'i brŷd yn anad meibion dynion!)

15 Felly y taenella efe genhedloedd lawer, brenhinoedd a gaeant eu geneu wrtho ef; ca­nys gwelantRhuf. 15.21. yr hyn ni fynegasid iddynt, a deallant yr hyn ni chlywsent.

PEN. LIII.

1 Y Prophwyd yn cwyno rhag anghredyniaeth, ac yn escusodi rhwystr y Groes, 4 trwy ddangos y daioni a ddaw o ddioddefaint Christ, 10 a ffyniant y groes.

PWyJoan. 12.38. Rhuf. 10.16. a gredodd i'nNeu, addyse, Heb. cly­wed. ymadrodd? ac i bwy y datcuddiwyd braich yr Arglwydd?

2 Canys efe a dŷf o'i flaen ef fel blaguryn, ac fel gwreiddyn o dir sŷch: nid oes na phrŷd na thegwch iddo: pan edrychom arno, ni bydd prŷd fel y dymunem ef.

3Pen. 52.14. Marc. 9.12. Dirmygedic yw a diystyraf o'r gwŷr, gŵr gofidus, a chynnefin â dolur, acNeu, yr oedd megis yn cuddio ei wyneb oddiwrth­ym. Heb. megis cuddio wynebau oddiwr­tho, neu, oddiwr­thym. yr oeddym megis yn cuddio ein wynebau oddi wrtho; dirmygedic oedd, ac ni wnaethom gy­frif o honaw.

4 DiauMatth. 8.17. efe a gymmerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau: etto ni a'i cyfri­fasom ef wedi ei faeddu, ei daro gan Dduw, a'i gystuddio.

5Rhuf. 4.25. 1 Cor. 15.3. Ond efe aN [...]u, boenwyd. archollwyd am ein camwe­ddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwire­ddau ni: cospedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef, a1 Pet. 2.24. thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni.

6 Nyni oll a gyrwydrasom fel defaid, troesom bawb iw ffordd ei hun; a'r Arglwydd aHeb. wnaeth y'n han­wireddau ni i gyd, gyfarfod arno ef. roddes arno ef ein hanwiredd ni i gŷd.

7Mar. 14.61. & 15.5. Matth. 26.63. & 27.12. Joan. 10.17. Efe a orthrymmwyd, ac efe a gystuddi­wyd, ac nid agorei ei enau; fel oen yr ar­weinid ef i'r lladdfa,Act. 8.32. ac fel y tau dafad o flaen y rhai a'i cneifiei, felly nid agorei yntau ei enau.

8 ONeu, gyfyngder. garchar, ac o farn y cymmerwyd ef; a phwy a draetha ei oes ef? canys efe a dorrwyd o dir y rhai byw, rhoddwyd pla arno ef am gamwedd fy mhobl.

9 Ac efe a wnaeth ei fedd gyd â'r rhai an­wir, a chyd â'r cyfoethog yn ei farwolaeth; am na wnaethei gam, ac nad oedd 1 Pet. 2.22. 1 Joan. 3.5. twyll yn ei enau.

10 Eithr yr Arglwydd a fynnei ei ddryllio ef, efe a'i clwyfodd; panNeu, wnelo ei enaid ef aberth. osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod, efe a wêl ei hâd, efe a estyn ei ddyddiau: ac ewyllys yr Arglwydd a lwydda yn ei law ef.

11 O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir; fy ngwâs cyfiawn a gyfiawnhâ lawer trwy ei ŵybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt.

12 Am hynny y rhannaf iddo ran gyd â'r mawrion. llawer, ac efe a ranna 'r yspail gyd â'r ce­dyrn; am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth; ac efe a gyfrifwydMarc. 15.28. Luc. 22.37. gyd â'r trosedd-wŷr: ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac aLuc. 23.34. eiriol­odd dros y trosedd-wŷr.

PEN. LIV.

1 Y Prophwyd, er mwyn cyssuro y cenhedloedd, yn prophwydo helaethrwydd yr Eglwys; 4 Eu diogelwch hwy, 6 A'i siccr ymwared allan o gystudd, 11 A'i hadeilad dêg, 15 A'i diogel gadwedigaeth.

CAn di amhlantadwy nid escorodd, bloe­ddiaGal. 4.27. ganu, a gorfoledda, yr hon nid escorodd: o herwydd amlach meibion yr hon a adawyd, nâ'r hon y mae gwr iddi, medd yr Arglwydd.

2 Helaetha lê dy babell, ac estynnant gor­tynnau dy bresswylfeydd; nac attal, estyn dy raffau, a siccrhâ dy hoelion.

3 Canys ti a dorri allan ar y llaw ddehau, ac ar y llaw asswy, a'th hâd a etifedda y cen­hedloedd, a dinasoedd anrhaithiedic a wnant yn gyfanneddol.

4 Nac ofna; canys ni'th gywilyddir; ac na'th wradwydder, am na'th warthruddir; canys ti a anghofi wradwydd dy ieuengctid, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwy­ach.

5 Canys dy briod yw 'r hwn a'th wnaeth, (Luc. 1.32. Arglwydd y lluoedd yw ei enw:) dy wa­redydd hefyd, Sanct Israel, Duw 'r holl ddaiar y gelwir ef.

6 Canys fel gwraig wrthodedic, a chystu­ddiedic o yspryd, i'th alwodd yr Arglwydd, a gwraig ieuengtyd, pan oeddit wrthodedic, medd dy Dduw.

7 Tros ennyd fechan i'th adewais, ond â mawr drugareddau i'th gasclaf.

8 Mewn ychydig sorriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthit ennyd awr, ond â thrugar­edd dragywyddol y trugarhâf wrthit, medd yr Arglwydd dy waredydd.

9 Canys fel dyfroeddGen. 9.11. Noah y mae hyn i mi; canys megis y tyngais nad elei ddy­froedd Noah mwy dros y ddaiar; felly y tyngais na ddigiwn wrthit, ac na'th gery­ddwn.

10 Canys y mynyddoedd a giliant, a'r bryniau a symmudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddiwrthit, a chyfammod fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau wrthit.

11 Y druan, helbulus gan dymhestl, y ddigyssur, wele,1 Cron. 29.2. mi a osodaf dy gerrig di â Charbuncl, ac a'th sylfaenaf â meini Saphyr.

12 Gwnaf hefyd dy ffenestri o rissial, a'th byrth o feini disclair, a'th holl derfynau o gerric dymunol.

13 Dy holl feibion hefyd fyddant Joan. 6.45. wedi eu dyscu gan yr Arglwydd, a mawr fydd hedd­wch dy feibion.

14 Mewn cyfiawnder i'th siccrheir; byddi bell oddi wrth orthrymder, canys nid ofni; ac oddi wrth ddychryn, canys ni nessâ attat.

15 Wele, gan ymgasclu hwy a ymgasclant, ond nid o honofi: pwy bynnac o honot ti a ymgasclo i'th erbyn, efe a syrth.

16 Wele, myfi a greais y gôf, yr hwn a chwyth y marwor yn tân, ac a ddefnyddia arf iw waith: myfi hefyd a greais y dinistrydd i ddestrywio.

17 Ni lwydda vn offeryn a lunier i'th er­byn, a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i'th erbyn mewn barn; dymma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd, a'i cyfiawnder hwy sydd oddi wrthifi, medd yr Arglwydd.

PEN. LV.

1 Y Prophwyd, trwy addewidion o Grist, yn galw pawb i gredu, 6 ac i edifarhau. 8 Ded­wydd lwyddiant y rhai a gredo.

O [...] Joan. 7.37. deuwch i'r dyfroedd, bob vn y mae sych [...] [...]rno ie yr hwn nid oes arian gan­ddo; deuwch, prynwch, a bwyttewch; ie deuwch, prynwch wîn a llaeth, heb arian, ac heb werth.

2 Pa ham yHeb. pwyswch. gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara? a'ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni? gan wrando gwrandewch arnafi, a bwyttewch yr hyn sy dda; ac ymhyfryded eich enaid mewn brasder.

3 Gogwyddwch eich clust, a deuwch attaf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid; ac mi a wnâf gyfammod tragywyddawl â chwi, sef Psal. 132.11. Act. 13.34. siccr drugareddau Dafydd.

4 Wele, rhoddais ef yn dŷst i'r bobl; yn flaenor, ac yn athro i'r bobloedd.

5 Wele, cenhedl nid adweini, a elwi; a chenhedloedd ni'th adwaenai di, a rêd attat; er mwyn yr Arglwydd dy Dduw, ac o herwydd Sanct Israel; canys efe a'th ogoneddodd.

6 Ceisiwch yr Arglwydd, tra y galler ei gael ef; gelwch arno, tra fyddo yn agos.

7 Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r gŵrHeb. auwiredd. anwir ei feddyliau; a dychweled at yr Ar­glwydd, ac efe a gymmer drugaredd arno; ac at ein Duw ni; o herwydd efe aHeb. amlha arbed. arbed yn helaeth.

8 Canys nid fy meddyliau i, yw eich me­ddyliau chwi; ac nid eich ffyrdd chwi, yw fy ffyrdd i, medd yr Arglwydd.

9 Canys fel y mae 'r nefoedd yn vwch nâ'r ddaiar, felly vwch yw fy ffyrdd i nâ'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i, nâ'ch meddyliau chwi.

10 Canys fel y descyn y glaw, a'r eira, o'r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dwfrhâ y ddaiar, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo hâd i'r hau-wr, a bara i'r bwytta-wr:

11 Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o'm genau; ni ddychwel attaf yn wâg; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o'i blegit.

12 Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd i'ch arweinir; y mynyddoedd a'r brynniau aPen. 35. 1. floeddiant ganu o'ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo.

13 Yn lle drain y cyfyd ffynnid-wŷdd, yn lle mieri y cyfyd myrt-wŷdd; a hyn fydd i'r Arglwydd yn enw, ac yn arwydd tragywyddol, yr hwn ni thorrir ymmaith.

PEN. LVI.

1 Y Prophwyd yn annog i sancteiddrwydd; 3 ac yn addaw y bydd sancteiddiad yn gyff­redinol, heb dderbyn wyneb neb. 9 Y mae efe yn rhoi anglod i'r gwilwyr deillion.

FEl hyn y dywed yr Arglwydd, cedwch farn, a gwnewch gyfiawnder; canys fy iechyd­wriaeth sydd ar ddyfod, a'm cyfiawnder ar ymddangos.

2 Gwyn ei fyd y dyn a wnelo hyn, a mâb y dŷn a ymaflo ynddo: gan gadw 'r Sabboth heb ei halogi, a chadw ei law rhac gwneuthur dim drwg.

3 Ac na lefared y dieithr-fab, yr hwn a lynodd wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, yr Arglwydd gan ddidoli a'm didolodd oddi wrth ei bobl; ac na ddyweded y dispaddedic, wele fi yn bren crîn.

4 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y rhai dispaddedic, y rhai a gadwant fy Sab­bothau, ac a ddewisant yr hyn a ewyllysiwyf, ac a ymaflant yn fy nghyfammod i:

5 Iê rhoddaf iddynt yn fy nhŷ, ac o fewn fy magwyrydd, lê ac enw gwell nâ meibion, ac nâ merched: rhoddaf iddynt enw tragywyddol, yr hwn ni thorrir ymaith.

6 A'r meibion dieithr, y rhai a lynant wrth yr Arglwydd, gan ei wasanaethu ef, a chan garu enw 'r Arglwydd, i fod yn weision iddo ef, pob vn a gadwo y Sabboth heb ei halogi, ac a ymaflo yn fy nghyfammod;

7Pen. 2.2. Dygaf hwythau hefyd i fynydd fy sanct­eiddrwydd, a llawenychaf hwynt ynfy nhy gweddi. nhŷ fy ngweddi: eu poeth offrymmau hefyd a'i hebyrth fyddant gymmeradwy ar fy allor: canysMat. 21.13. Mar. 11.17. Luc. 19.46. fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi, i'r holl bobloedd.

8 Medd yr Arglwydd Dduw, yr hwn a gascl wascaredigion Israel, etto mi a gasclaf eraill atto ef,Heb. at ei gas­cadigi­on ef. gyd â'r rhai sy wedi eu casclu atto.

9 Pob bwystfil y maes, deuwch i ddifa, a phob bwyst-fil yn y coed.

10 Deillion yw ei wiliedyddion; ni wyddant hwy oll ddim, cŵn mudion ydynt hwy oll, heb fedru cyfarth: ynNeu, yn breu­ddwydio, neu, yn siarad trwy eu hun. cyscu, yn gorwedd, ac yn caru heppian.

11 Ie cŵn gwangcus ydynt, ni chydnaby­ddant â'i digon, a bugeiliaid ydynt ni fedrant ddeall, wynebant oll at eu ffordd eu hun; pob vn at ei elw ei hun,yn ei duedd. o'i cwrr.

12 Deuwch meddant, cyrchaf wîn, ac ym­lanwn o ddiod grêf, a bydd y foru megis he­ddyw, a mwy o lawer iawn.

PEN. LVII.

1 Bendigedig farwolaeth y cyfiawn. 3 Duw yn argyoeddi 'r Iuddewon, am eu putteiniaidd ddelw-addoliaeth; 13 Yn rhoi addewidion Efangylaidd i'r edifeiriol.

DArfu am y cyfiawn, ac ni esyd neb at ei galon; a'rPsal. 12.1. Mic. 7.2. gwŷrHeb. truga­redd, neu, duwiol­deb. trugarog a gymme­rir ymmaith, heb neb yn deall, maiNeu, rhac dry­gioni. o flaen drygfyd y cymmerir y cyfiawn ymmaith.

2 Efe âNeu, mewn tangne­ddyf. i dangneddyf, hwy a orphywy­sant yn euGwelau stafelloedd, sef pob vn a rodiaNeu, gar ei fron ef. yn ei vniondeb.

3 Nessewch ymma, meibion yr hudoles, hâd y godinebus, a'r buttain.

4 Yn erbyn pwy 'r ymddigrifwch? yn er­byn pwy y lledwch safn, ac yr estynnwch dafod? onid meibion camwedd, a had ffalsedd ydych chwi?

5 Y rhai a ymwressogwchNeu, ym mhlith y derw. ag eulynnod, tan2 Bren. 16.4. bob pren deilioc, ganLevit. 18.21. ladd y plant yn y glynnoedd, tan gromlechydd y creigiau.

6 Ynghabolfain yr afon y mae dy ran, hwynt hwy yw dy gwttws: iddynt hwy hefyd y ty­welltaist ddiod offrwm, ac yr offrymmaist fwyd offrwm; ai yn y rhai hyn yr ymgyssurwn?

7 Ar fynydd vchel a derchafedic, y goso­daist dy wely; dringaist hefyd yno i aberthu aberth.

8 Ynghîl y drysau hefyd, a'r pŷst y gosodaist dy goffadwriaeth: canys ymddinoethaist i arall heb fy llaw i, a dringaist; helaethaist dy wely, acNeu, a'i ne­ddaist iti yn helae­thach na 'r eidd­ynt hwy. a wnaethost ammod rhyngot â hwynt; ti a hoffaist eu gorweddle hwynt,Neu, gwnaethost le. pa le bynnac y gwelaist.

9 Cyfeiriaist hefyd at y brenin ag ennaint, ac amlheaist dy ber-aroglau: anfonaist hefyd dy gennadau i bell, ac ymostyngaist hyd vffern.

10 Ym maint dy ffordd yr ymflinaist, ac ni ddywedaist, nid oes obaith; cefaist fywyd dy law, am hynny ni chlafychaist.

11 Pwy hefyd a arswydaist, ac a ofnaist, fel y dywedaist gelwydd, ac na chofiaist fi, ac nad ystyriaist yn dy galon? oni thewais i â son er ystalm, a thithau heb fy ofni?

12 Myfi a fynegaf dy gyfiawnder, a'th weithredoedd, canys ni wnant it lês.

13 Pan waeddech, gwareded dy gynnulleid­faoedd di; eithr y gwynt a'i dwg hwynt ym­maith oll, oferedd a'i cymmer hwynt: ond yr hwn a obeithia ynofi a etifedda y tir, ac a fe­ddianna fynydd fy sancteiddrwydd.

14 Ac efe a ddywed,Pen. 40.3. & 62.10. palmentwch, pal­mentwch, paratowch y ffordd, cyfodwch y rhwystr o ffordd fy mhobl.

15 Canys fel hyn y dywed y Goruchel, a'r derchafedic; yr hwn a bresswylia dragywy­ddoldeb, ac y mae ei enw 'n Sanctaidd: y gor­uchelder a'r cyffegr a bresswyliaf; a chyd â'r cystuddiedic a'r issel o yspryd, i fywhau y rhai issel o yspryd, ac i fywhau calon y rhai cystu­ddiedig.

16 Canys nid bvth yr ymrysonaf, ac nid yn dragywydd y digiaf; o herwydd yr ys­pryd a ballei o'm blaen i, a'r eneidiau a wneu­thum i.

17 Am anwiredd ei gybydd-dod ef y dig­iais, ac y tarewais ef, ymguddiais, a digiais, ac efe a aeth rhagddo 'nNeu, drefaus. gildynnus, ar hŷd ffordd ei galon.

18 Ei ffyrdd a welais, ac mi a'i iachâf ef, tywysaf ef hefyd, ac adferaf gyssur iddo, ac iw alarwŷr.

19 Myfi fy 'n creu ffrwyth y gwefusau, he­ddwch, heddwch, i bell, ac i agos, medd yr Arglwydd, ac mi a'i iachaf ef.

20 Ond y rhai anwir sydd fel y môr yn dy­gyfor, pan na allo fod yn llonydd, yr hwn y mae ei ddyfroedd, yn bwrw allan dom, a llaid.

21Pen. 48.22. Ni hydd heddwch, medd fy Nuw, i'r rhai annuwiol.

PEN. LVIII.

1 Y Prophwyd wedi ei yrru i argyoeddi rhag­rith, 3 yn dangos beth yw ympryd ffuantus, a gwir ympryd, 8 yn dangos pa addewidion sy ddledus am dduwioldeb, 13 ac am gadw y Sabboth.

LLefa â'th gêg, nac arbed, derchafa dy lais fel vdcorn, a mynega i'm pobl eu cam­wedd, a'i pechodau i dŷ Jacob.

2 Etto beunydd i'm ceisiant, ac a ewylly­siant wybod fy ffyrdd, fel cenhedl a wnelei gy­fiawnder, ac ni wrthodei farnedigaeth ei Duw: gofynnant i mi farnedigaethau cyfiawnder, ew­yllysiant nessau at Dduw.

3 Pa ham meddant yr ymprydiasom, ac ni's gwelaist? y cystuddiasom ein henaid, ac ni's gwybuost? wele yn y dydd yr ymprydioch, yr ydych yn cael gwynfyd; ac yn mynnuNeu, y p [...]thau y g [...] fid­ioch eraill a hwynt. Heb. go­fidiau. eich holl ddyledion.

4 Wele, i ymryson a chynnen yr vmpry­diwch, ac i daro â dwrn anwiredd:Neu, nid ydych yn ym­prydio. nac ym­prydiwch fel y dydd hwn, i beri clywed eich llais yn yr vchelder.

5Zech. 7.5. A'i dymma 'r ympryd a ddewisais?Levit. 16.29. Neu, cystuddio o ddyneb enaid tros ddi­wrnod? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid? a'i crym­mu ei ben fel brwynen, ydyw? a thanu sach­liain a lludw tano? ai hyn a elwi yn ympryd, ac yn ddiwrnod cymmeradwy gan yr Arglwydd?

6 Onid dymma 'r ympryd a ddewisais, dat­tod rhwymau anwiredd, tynnu ymmaith fei­chiauHeb. yr lau. trymion, a gollwng y rhaiHeb. dryllie­dic. gorthryme­dic yn rhyddion, a thorri o honoch bob iau?

7Ezec. 18.7. Onid torri dy fara i'r newynoc, a dwyn o honot yNeu, y cystu­ddiol. cyrwydraid i dŷ? a phan welych noeth, ei ddilladu, ac nad ymguddiech oddi wrth dy gnawd dy hun?

8 Yna y tyrr dy oleuni allan fel y wawr, a'th iechyd a dardda yn fuan; a'th gyfiawnder â o'th flaen; gogoniant yr Arglwydd a'thHeb. gascl. ddilyn.

9 Yna y gelwi, a'r Arglwydd a ettyb; y gweiddi, ac efe a ddywed, wele fi: os bwri o'th fysc yr iau, estyn bŷs, a dywenyd oferedd:

10 Os tynni allan dy enaid i'r newynoc, a diwallu yr enaid cystuddiedic; yna dy oleuni a gyfyd mewn tywyllwch, a'th dywyllwch fydd fel hanner dydd.

11 A'r Arglwydd a'th arwein yn wastad, ac a ddiwalla dy enald ar sychder, ac a wna dy escyrn yn freision: a thi a fyddi fel gardd wedi ei dwfrhau, ac megis ffynnon ddwfr, yr hon niHeb. thwylla. phalla ei dyfroedd.

12 A'r rhai a fyddant o honot ti, aPen. 61.4. adei­ladant yr hên ddiffaethleoedd, ti a gyfodi sylfei­ni llawer cenhedlaeth: a thi a elwir yn gae-wr yr adwy, yn gyweiri-wr llwybrau, i gyfan­neddu ynddynt.

13 O throi dy droed oddi wrth y Sabboth, heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd sanctaidd, a galw y Sabboth yn hyfrydwch, sanct yr Ar­glwydd yn ogoneddus, a'i anrhydeddu ef, heb wneuthur dy ffyrdd dy hun, heb geisio dy ew­yllys dy hun, na dywedyd dy eiriau dy hun:

14 Yna yr ymhyfrydi yn yr Arglwydd, ac mi a wnaf itDeut. 32.13. farchogaeth ar vchelfeydd y ddaiar, ac a'th borthaf ag etifeddiaeth Jacob dy dâd: canys genau yr Arglwydd a'i lle­farodd.

PEN. LIX.

1 Ysceler naturiaeth pechod. 3 Pechodau yr Iuddewon. 9 Am bechod y daw aflwydd. 16 O Dduw yn vnic y mae iechydwriaeth. 20 Cyfammod y prynwr.

WEle, niNum. 11.23. Pen. 50.2. fyrhawyd llaw 'r Arglwydd, fel na allo achub, ac ni thrymhâodd ei glûst ef, fel na allo glywed.

2 Eithr eich anwireddau chwi a yscarodd rhyngoch chwi a'ch Duw; a'ch pechodau aNeu, wnaeth iddo gu­ddio. guddiasant ei wyneb oddi wrthych, fel na chlywo.

3Pen. 1.15. Canys eich dwylo a halogwyd â gwaed, a'ch byssedd â chamwedd; eich gwefusau a draethasant gelwydd, eich tafod a fyfyriodd anwiredd.

4 Nid oes a alwo am gyfiawnder, nac a ddadleu tros y gwirionedd: y maent yn go­beithio mewn gwagedd, ac yn dywedyd cel­wydd, ynJob. 15.35. Psa. 7.14. beichiogi ar flinder, ac yn escor ar anwiredd.

5 WyauNeu, nadroedd. asp a ddodwasant, a gweoedd y pryf coppyn a weant, yr hwn a swytty o'i hwyau a fydd marw, a'r hwn aNeu, daeneller sydd fel pe torrai allan wi [...]er. sathrer a dyrr allan yn wiber.

6Job. 8.14, 15. Eu gweoed i hwv ni byddant yn wis­coedd, ac nid ymddilladant â'i gweithredoedd; [Page] eu gweithredoedd ydynt weithredoedd an­wiredd, a gwaith trawsder sydd yn eu dwylo.

7Dihar. 1.16. Rhuf. 3.15. Eu traed a redant i ddrygioni, a hwy a fryssiant i dywallt gwaed gwirion; eu meddy­liau sydd feddyliau anwir, destryw aHeb. thorriad. dinistr sydd ar eu ffyrdd hwynt.

8 Ffordd heddwch nid adwaenant, ac nid oes Neu, bern. gafiawnder yn eu llwybrau: gwnaethant iddynt lwybrau ceimion; pwy bynnac a rodio yno, nid edwyn heddwch.

9 Am hynny y ciliodd barnedigaeth oddi wrthym, ac ni'n goddiweddodd cyfiawnder: disgwiliasom am oleuni, ac wele dywyllwch; am ddiscleirdeb, ac yn y fagddu yr ydym yn rhodio.

10 Palfalasom fel deillion â'r pared, ie fel rhai heb lygaid y palfalasom: tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos, oeddem mewn lle­oedd anghyfannedd fel rhai meirw.

11 Nyni oll a ruasom fel eirth, a chan riddfan y griddfanasom fel colomennod: dis­gwiliasom am farn, ac nid oes dim; am iechyd­wriaeth, ac ymbellhaodd oddi wrthym.

12 Canys amlhâodd ein camweddau ger dy fron, a thystiolaethodd ein pechodau i'n her­byn: o herwydd ein camweddau sydd gydâ ni, a'n hanwireddau, ni a'i hadwaenom:

13 Camweddu, a dywedyd celwydd yn erbyn yr Arglwydd, a chilio oddi ar ôl ein Duw, dywedyd trawsder, ac anusydd-dod, my­fyrio a thraethu o'r galon eiriau gau.

14 Barn hefyd a droed yn eu hôl, a chyf­iawnder a safodd o hirbell; canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac vniondeb ni all ddyfod i mewn.

15 Ie gwirionedd sydd yn pallu, a'r hwn sydd yn cilio oddi wrth ddrygioniNeu, a gyfrifir yn ynfyd. a'i gwna ei hun yn yspail; a gwelodd yr Arglwydd hyn, a drwg oedd yn ei olwg, nad oedd barn.

16 Gwelodd hefyd nad oedd gŵr, a rhyfe­ddodd nad oedd eiriol-wr.Pen. 63.5. Am hynny ei fraich a'i hachubodd, a'i gyfiawnder ei hun a'i cyn­haliodd.

17Ephes. 6.17. 1 Thes. 5.8. Canys efe a wiscodd gyfiawnder fel lluric, a helm iechydwriaeth am eu ben; ac a wiscodd wiscoedd dial yn ddillad; ie gwiscodd zêl fel cochl.

18 Yn ôl yPen. 63.6. Neu, taledi­gaethau. gweithredoedd, ie yn eu hôl hwynt, y tâl efe, llîd iw wyrthwyneb-wŷr, ta­ledigaeth iw elynion, taledigaeth i'r ynysoedd a dâl efe.

19 Felly 'r ofnant enw yr Arglwydd, o'r gorllewin, a'i ogoniant ef, o goliad haul: pan ddelo y gelyn i mewnDatc. 12.15. fel afon, Yspryd yr Ar­glwyddNeu, a gyfyd fo­ner yn ei erbyn ef. a'i hymlid ef ymmaith.

20 Ac i Sion y daw y gwaredydd, ac i'r rhai â droant oddi wrth anwiredd yn Jacob, medd yr Arglwydd.

21 A minneu, dymma fy nghyfammod â hwynt, medd yr Arglwydd, fy yspryd yr hwn sydd arnat, a'm geiriau y rhai a osodais yn dy enau, ni chiliant o'th enau, nac o enau dy hâd, nac o enau hâd dy hâd, medd yr Arglwydd, o hyn allan byth.

PEN. LX.

1 Gogoniant yr Eglwys pan ddelo 'r cenhedloedd yn dra aml atti, 15 A'r bendithion mawr a fydd ar ôl ychydig gystudd.

CYfod, llewyrcha, canys daeth dy oleuni, a chyfododd gogoniant yr Arglwydd ar­nat.

2 Canys wele, tywyllwch a orchguddia y ddaiar, a'r fagddu y bobloedd: ond arnat ti y cyfyd yr Arglwydd, a'i ogoniant a welir arnat.

3Datc. 21.24. Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni, a brenhinoedd at ddiscleirdeb dy gyfo­diad.

4Pen. 49.18. Cyfot dy lygaid oddi amgylch, ac ed­rych, ymgasclasant oll, daethant attat: dy fei­bion a ddeuant o bell, a'th ferched a fegir wrth dy ystlys.

5 Yna y cei weled, ac yrNeu, llifebri. ymddiscleiri, dy galon hefyd a ofna ac a helaethir, am droi attatNeu, dwrwf. luosogrwydd y môr, golud y cenhedloedd a ddaw i ti.

6 Iliaws y camelod a'th orchguddiant, sef cyflym gamelod Midian, ac Ephah: hwynt oll o Seba a ddeuant,Pen. 61 6 aur a thus a ddygant, a mo­liant yr Arglwydd a fynegant.

7 Holl ddefaid Cedar a ymgasclant attat ti, hyrddod Nebaioth a'th wasanaethant: hwy a ddeuant i fynu yn gymmeradwy ar fy allor, ac mi a anrhydeddaf dŷ fy ngogoniant.

8 Pwy yw y rhai hyn a chedant fel cwmwl? ac fel colomennod iw ffenestri?

9 Yn ddiau yr ynysoedd a'm disgwiliant, a llongau Tarsis yngyntaf. bennaf,Galat. 4.26. i ddwyn dy fei­bion o bell, eu harian hefyd a'i haur gyd â hwynt, i enw 'r Arglwydd dy Dduw, ac i Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu di.

10 A meibion dieithr a adeiladant dy furiau, a'i brenhinoedd a'th wasanaethant; canys yn fy nîg i'th darewais, ac o'm ewyllys da fy hun y tosturiais wrthit.

11Datc. 21.25 Am hynny dy byrth a fyddant yn agored yn wastad, ni cheuir hwynt na dydd na nôs, i ddwyn attat olud y cenhedloedd, fel y dyger eu brenhinoedd hwynt hefyd.

12 Canys y genhedl a'r deyrnas ni'th wasa­naetho di, a ddifethir; a'r cenhedloedd hynny a lwyr ddinistrir.

13 Gogoniant Libanus a ddaw attat, y ffyn­nid-wŷdd, ffawydd, a box ynghŷd, i harddu lle fy nghyssegr; harddaf hefyd le fy nhraed.

14 A meibion dy gystudd-wŷr a ddeuant attat yn ostyngedic: a'r rhai oll a'th ddiysty­rasant aDatc. 3.9. ymostyngant wrth wadnau dy draed, ac a'th alwant yn ddinas yr Arglwydd, yn Sion Sanct Israel.

15 Lle y buost yn wrthodedic, ac yn gâs, ac heb gynniwerydd trwot, gwnâf di yn ar­dderchawgrwydd tragywyddol, ac yn llawen­ydd i'r holl genhedlaethau.

16 Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie bronnau brenhinoedd a sugni, a chei ŵybod mai myfi 'r Arglwydd yw dy achubudd, a'th waredudd yw cadarn Dduw Jacob.

17 Yn lle prês y dygaf aur, ac yn lle haiarn y dygaf arian, ac yn lle coed, brês, ac yn lle cerrig, haiarn; a gwnaf dy swyddogion yn he­ddychol, a'th dreth-wŷr yn gyfiawn.

18 Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlâd, na destryw, na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn iechydwri­aeth, a'th byrth yn foliant.

19Datc. 21.23. & 22.5. Ni bydd yr haul it mwyach yn oleuni y dydd, a'r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr Arglwydd fydd iti yn oleuni tragy­wyddol, a'th Dduw yn ogoniant it.

20 Ni sachluda dy haul mwyach, a'th leuad ni phalla; o herwydd yr Arglwydd fydd it yn oleuni tragywyddol, a dyddiau dy alar a ddar­fyddant.

21 Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll, etife­ddant [Page] y tîr byth, sef biaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel i'm gogonedder.

22 Y bychan a fydd yn fil, a'r gwael yn gen­hedl grêf; myfi 'r Arglwydd a bryssuraf hynny yn ei amser.

PEN. LXI.

1 Swydd Christ. 4 Parodrwydd, 7 a bendi­thion y ffyddloniaid.

YSpryd yrLuc. 4.18. Arglwydd Dduw sydd arnaf, o herwydd yr Arglwydd a'm heneiniodd, i efangylu i'r rhai llariaidd, efe a'm hanfonodd i rwymo y rhai yssig eu calon, i gyhoeddi rhydd-did i'r caethion, ac agoriad carchar i'r rhai sy 'n rhwym:

2 I gyhoeddi blwyddyn gymmeradwy yr Arglwydd, a dydd dial ein Duw ni, i gyssuro pob galarus;

3 I osod i alarwŷr Sion, ac i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, gwisc moliant yn lle yspryd cystuddiedic; fel y gelwid hwyntMat. 3.8. yn brennau cyfiawnder, yn blanhigyn yr Arglwydd, fel y gogonedder ef.

4Pen. 58.12. Adeiladant hefyd yr hên ddiffaethfa, cyfodant yr anghyfanneddfa gynt, ac adne­wyddant ddinasoedd diffaeth, ac anghyfannedd­dra llawer oes.

5 A dieithriaid a safant, ac a borthant eich praidd, a meibion dieithr fydd arddwŷr a gwin-llanwŷr i chwi.

6 Chwithau a elwir yn offeiriaid i'r Ar­glwydd, gwenidogion ein Duw ni meddir wrth­ych,Pen. 60.5, 6. golud y, cenhedloedd a fwynhewch, ac yn eu gogoniant hwy 'r ymdderchefwch.

7 Yn lle eich cywilydd y cewch ddau ddyb­lyg, ac yn lle gwradwydd, hwy a lawenychant yn eu rhan; am hynny yn y tîr y meddian­nant ran ddwbl; llawenydd tragywyddol fydd iddynt.

8 Canys myfi 'r Arglwydd a hoffaf gyf­iawnder, yr wyf yn cassau trais yn boeth off­rwm, ac a gyfarwyddaf eu gwaith mewn gwi­rionedd, ac a wnaf â hwynt gyfammod tragy­wyddol.

9 Eu hâd hwynt hefyd a adweinir ym mysc y cenhedloedd, a'i hiliogaeth hwynt ynghanol y bobl: y rhai a'i gwelant a'i hadwaenant, mai hwynt hwy yw 'r hâd a fendithiodd yr Ar­glwydd.

10 Gan lawenychu y llawenychaf yn yr Arglwydd, fy enaid a orfoledda yn fy Nuw, canys gwiscodd fi â gwiscoedd iechydwriaeth, gwiscodd fi â mantell cyfiawnder: megis y mae priod-fabHeb. yn ym­harddu fel offei­riad. yn ymwisco â hardd-wisg, ac fel yr ymdrwssia priod-ferch â'i thlyssau.

11 Canys megis y gwna 'r ddaiar iw gwellt dyfu, ac fel y gwna gardd iw hadau egino, felly y gwna 'r Arglwydd lôr i gyfiawnder a moliant darddu ger bron yr holl genhed­loedd.

PEN. LXII.

1 Awyddus chwant y prophwyd i gadarnhau yr Eglwys yn addewidion Duw. 5 Dledswydd y gwenidogion wrth bregethu 'r Efengyl, 10 a pharottoi 'r bobl i'w derbyn.

ER mwyn Sion ni thawaf, ac er mwyn Jeru­salem ni ostegaf, hyd onid elo ei chyfiawn­der hi allan fel discleirdeb, a'i hiechydwriaeth hi fel lamp yn llosci.

2 A'r cenhedloedd a welant dy gyfiawnder, a'r holl frenhinoedd dy ogoniant; yna y gel­wir arnat enw newydd, yr hwn a enwa genau 'r Arglwydd.

3 Byddi hefyd yn goron gogoniant yn llaw 'r Arglwydd, ac yn dafaith frenninawl yn llaw dy Dduw.

4 Ni ddywedir am danat mwy,Hos. 1.10. 1 Pet. 2.10. Gwrtho­dedic; am dy dîr hefyd ni ddywedir mwy, anghyfannedd; eithr ti a elwirsef, y mae fy ewyllys arni. Hephzi-bah: a'th dir,sef, pri­odol. Beuiah: canys y mae 'r Arglwydd yn dy hoffi, a'th dîr a briodir.

5 Canys fel y prioda gŵr ieuangc forwyn, y prioda dy feibion dydi, ac â llawenydd priod­fab am briod-ferch, y llawenycha dy Dduw o'th blegit ti.

6 Ar dy furiau di, Jerusalem, y gosodais geidwaid, y mai ni thawant ddydd na nôs yn wastad; y rhai ydychNeu, gofiadu­riaid yn Argl­wydd. yn cofio yr Arglwydd, na ddistewch:

7 Ac na adewch ddistawrwydd iddo, hyd oni siccrhao, ac hyd oni osodo Jerusalem yn foliant ar y ddaiar.

8 Tyngodd yr Arglwydd iw ddeheu-law, ac iw fraich nerthol,Heb. os rho­ddaf. yn ddiau ni roddaf dy ŷd mwyach yn ymborth i'th elynion, a meibion dieithr nid yfant dy wîn, yr hwn y llafuriaist am dano.

9 Eithr y rhai a'i casclant a'i bwyttânt, ac a foliannant yr Arglwydd; a'r rhai a'i cynnull­asant a'i hyfant, o fewn cynteddoedd fy sanct­eiddrwydd.

10Pen. 40.3. & 57.14. Cynniwerwch, cynniwerwch, trwy 'r pyrth, parattowch ffordd y bobl; palmentwch, palmentwch briffordd; digarregwch hi: cyfo­dwch faner i'r bobloedd.

11 Wele, yr Arglwydd a gyhoeddodd hyd eithaf y ddaiar,Zech. 9.9. Mat. 21.5. Joan. 12.15. dywedwch wrth ferch Sion, wele dy iechydwriaeth yn dyfod, welePen. 40.10. ei gyflog gyd ag ef, a'iHeb. daliad. waith o'i flaen.

12 Galwant hwynt hefyd yn bobl sanctaidd, yn waredigion yr Arglwydd: titheu a elwir, yr hon a geisiwyd, dinas ni's gwrthodwyd.

PEN. LXIII.

1 Christ yn dangos pwy ydyw, 2 A pha beth yw ei oruchafiaeth ar ei elynion. 10 Yn ei gy­fiawn ddigllonedd, y mae yn meddwl am ei hael drugaredd. 15 Yr Eglwys yn ei gweddi, 17 a'i hachwyn, yn gwneuthur proffess o'i ffydd.

PWy yw hwn yn dyfod o Edom, yn gôch ei ddillad o Bozrah? hwn sydd hardd vn ei wisc, yn ymdaith yn amlder ei rym? myfi, yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, ac wyf gadarn i iachau.

2Datc. 19.13. Pa ham yr ydwyt yn gôch dy ddillad, a'th wiscoedd fel hwn a sathrei mewn gwin­wryf?

3 Sethrais y gwin-wryf fy hunan, ac o'r bobl nid oedd vn gyd â mi; canys mi a'i sath­raf hwynt yn fy nig, ac a'i mathraf hwynt yn fy llidiawgrwydd; a'i gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad, a'm holl wiscoedd a lychwinaf.

4Pen. 34.8. Canys dydd dial sydd yn fy nghalon, a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth.

5 Edrychais hefyd, ac nid oedd gynnorth­wywr; rhyfeddais hefyd am nad oedd gvnha­liwr: yna fyPen. 59.16. mraich fy hun a'm hachubodd, a'm llidiawgrwydd a'm cynhaliodd.

6 Ac mi a sathraf y bobl yn fy nig, ac a'i meddwaf hwynt yn fy llidiawgrwydd; a'i cadernid a ddescynnaf ir llawr.

7 Cofiaf drugareddau yr Arglwydd, a mo­liant Duw, yn ôl yr hyn oll a roddodd Duw i [Page] ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei druga [...]eddau.

8 Canys efe a ddywedodd, diau fy mhobl ydynt hwy, meibion ni ddywedant gelwydd; felly efe a aeth yn iachawdur iddynt.

9 Yn eu holl gystudd hwynt, efe a gystu­ddiwyd, ac Angel ei gydrycholdeb a'i hachu­bodd hwynt;Deut. 7.7, 8. yn ei gariad, ac yn ei druga­redd y gwaredodd efe hwynt: efe a'i dygodd hwynt, ac a'i harweiniodd, yr holl ddyddiau gynt.

10Exod. 15.24. Num. 14.11. Psal. 78.56. & 95.9. Hwythau oeddynt wrthryfelgar, ac a ofidiasant ei Yspryd sanctaidd ef; am hynny y trôdd efe yn elyn iddynt, ac yr ym addodd yn eu herbyn.

11 Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a'i bobl, gan ddywedyd, mae 'r hwnExod. 14.30. a'i dygodd hwynt i fynu o'r môr, gydâNeu, bugeili­aid, fel psal. 77.20. bugeil ei braidd? mae 'r hwn a osododd ei Yspryd sanctaidd o'i fewn ef?

12 Yr hwn a'i tywysodd hwynt â deheu-law Moses, ac â'i ogoneddus fraich, ganExod. 14.21, 27. Jos. 3.16. hollti y dyfroedd o'i blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw tragywyddol?

13 Yr hwn a'i harweiniodd hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr anialwch, fel na thramgwyddynt?

14 Fel y descyn anifail i'r dyffryn, y gwna Yspryd yr Arglwydd iddo orphywys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur it enw gogo­neddus.

15Deut. 26.15. Edrych o'r nefoedd, a gwêl; o annedd dy sancteiddrwydd, a'th ogoniant: mae dy zêl, a'th gadernid,Neu, swn dy ymyscar­oedd. lluosogrwydd dy dosturiae­thau, a'th drugareddau tuac attafi? a ymatta­liasant?

16 Canys ti yw ein Tâd ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na'n cydnebydd Israel; ti Ar­glwydd yw ein Tâd ni,Neu, ein gware­dydd er­ioed, yw dy enw. ein gwaredydd; dy enw sydd er ioed.

17 Pa ham Arglwydd y gwnaethost i ni gyfeiliorni allan o'th ffryrdd? ac y caledaist ein calonnau oddi wrth dy ofn? dychwel, er mwyn dy weision, llwythau dy etifeddiaeth.

18 Tros ychydig ennyd y meddiannodd dy bobl sanctaidd, ein gwrthwyneb-wŷr a fath­rasant dy gyssegr di.

19 Nyni ydym eiddo ti, er ioed ni buost yn arglwyddiaethu arnynt hwy, ac Neu, ni elwid hwynt ar dy enw. ni elwid dy enw arnynt.

PEN. LXIIII.

1 Yr Eglwys yn gweddio ar i Dduw egluro ei allu, 5 Ac wrth fawrygu trugaredd Duw, yn cyfaddef ei llygredigaeth naturiol: 9 Yn cwyno rhag ei chystudd.

OH na rwygit y nefoedd, a descyn, fel y toddei y mynyddoedd o'th flaen di,

2 Fel pan losco y tân greision, y pair y tân i'r dwfr ferwi: i yspyssu dy enw i'th wrth­wyneb-wŷr, fel yr ofno y cenhedloedd rha­got.

3 Pan wnaethost bethau ofnadwy ni ddis­gwiliasom am danynt, y descynnaist, a'r my­nyddoedd a doddasant o'th flaen.

4 Ac1 Cor. 2.9. Psal. 31.19, 20. er ioed ni chlywsant, ni dderbynia­sant â chlustiau, ac ni welodd llygad,Neu, Dduw onid tydi. oh Dduw, onid tydi, yr hyn a ddarparodd efe i'r neb a ddisgwil wrtho.

5 Cyfarfyddi â'r hwn sy lawen, ac a wna gyfiawnder; y rhai yn dy ffyrdd a'th gofiant di; wele ti a ddigiaist, pan bechasom; ynddynt hwy y mae para, ac ni a fyddwn cadwedic.

6 Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis brattiau budron yw ein holl gyfiawnde­rau, aPsal. 90.5, 6. megis deilen y syrthiasom ni oll: a'n hanwireddau, megis gwynt, a'n dug ni ym­maith.

7 Ac nid oes a alwo ar dy enw, nac a ym­gyfyd i ymaflyd ynot: canys cuddiaist dy wy­neb oddi wrthym,Heb. toddaist. difeaist ni o herwydd ein hanwireddau.

8 Ond yn awr ô Arglwydd, ein Tâd ni yd­wyt ti, nyni ydym glai, a thitheu yw ein lluni­wr ni; ie gwaith dy law ydym ni oll.

9Psal. 79.8. Na ddigia Arglwydd yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd; wele, ed­rych attolwg; dy bobl di ydym ni oll.

10 Dy sanctaidd ddinasoedd sydd anialwch; Sion sydd yn ddiffaethwch, a Jerusalem yn anghyfannedd.

11 Tŷ ein sancteiddrwydd, a'n harddwch ni, lle y moliannei ein tadau dydi, a loscwyd â thân, a'n holl bethau dymunol sydd yn an­rhaith.

12 A ymatteli di Arglwydd wrth y pethau hyn? a dewi di, ac a gystuddi di ni yn ddir­fawr?

PEN. LXV.

1 Galwedigaeth y cenhedloedd. 2 Gwrthod yr Iuddewon, am eu hanghredyniaeth, a'i delw­addoliaeth, a'i rhagrith. 8 Gweddill a achubir. 11 Barnedigiaethau ar yr enwir, a bendithion ar y duwiol. 17 Dedwydd gyflwr Jerusalem newydd.

Rhuf. 10.20. CEisiwyd fi gan y rhai ni ymofynnasant am danaf, Rhuf. 9.24, 25, 26. Eph. 2.12. cafwyd fi gan y rhai ni'm ceisi­asant: dywedais, wele fi, wele fi, wrth gen­hedlaeth ni alwyd ar fy enw.

2 Estynnais fy llaw ar hŷd y dydd at bobl wrthryfelgar, y rhai a rodient y ffordd nid oedd dda, ar ôl eu meddyliau eu hun.

3 Pobl, y rhai a'm llidient i yn wastad, yn fy wyneb, yn aberthu mewn gerddi, ac yn arogl-darthuHeb. ar bridd-feini. ar allorau pridd-feini.

4 Y rhai a arhoent ym mysc y beddau, ac a letteuent yn y monwentau; y rhai a fwyt­taent gîg moch,Neu, a drylli [...] ac iscell ffiaidd bethau yn eu llestri;

5 Y rhai a ddywedent, saf ar dy ben dy hun, na nessa attafi, canys sancteiddiach ydwyf nâ thi; y rhai hyn sydd fŵg ynNeu, fy­nigofaint. fy ffroenau, tân yn llosci ar hŷd y dydd.

6 Wele, scrifennwyd ger fy mron; ni thawaf; eithr talaf, îe talaf i'w monwes,

7 Eich anwireddau chwi, ac anwireddau eich tadau ynghyd, (medd yr Arglwydd,) y rhai a arogldarthasant ar y mynyddoedd, ac a'm cablasant ar y bryniau: am hynny y messuraf eu hên weithredoedd hwynt iw monwes.

8 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, megis y ceir gwîn newydd mewn swpp o rawn, ac y dywedir, na ddifwyna ef, canys y mae bendith ynddo; felly y gwnaf er mwyn fy ngweision, na ddistrywiwyf hwynt oll.

9 Eithr dygaf hâd allan o Jacob, ac o Juda vn a etifeddo fy mynyddoedd: a'm hetho­ledigion a'i hetifeddant, a'm gweision a drigant yno.

10 Saron hefyd fydd yn gorlan defaid, a glyn Achor yn orweddfa gwarthec, i'm pobl y rhai a'm ceisiasant.

11 Ond chwi yw y rhai a wrthodwch yr [Page] Arglwydd, a anghofiwch fy mynydd sanctaidd, a arlwywch fwrdd i'rNeu, God. llu accw, ac a lenwch ddiod offrwm i'rNeu, Meni. nifeiri accw.

12 Rhifaf chwithau i'r cleddyf, a chwi oll a ymostyngwch i'r lladdedigaeth; oDihar. 1.24. Jer. 7.13. herwydd pan elwais chwi, nid attebasoch; pan leferais, ni wrandawsoch;Pen. 66.4. ond gwnaethoch ddryg­ioni yn fy ngolwg, a dewisasoch yr hyn nid oedd dda gennif.

13 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, wele, fy ngweision a fwyttânt, a chwithau a newynwch; wele, fy ngweision a yfant, a chwithau a sychedwch: wele, fy ngweision a lawenychant, a chwitheu a fydd cywilydd arnoch.

14 Wele, fy ngweision a ganant o hyfry­dwch calon, a chwithau a waeddwch rhac gofid calon, ac a vdwch rhacHeb. drylliad. cystudd yspryd.

15 A'ch enw a adewch yn felldith gan fy etholedigion; canys yr Arglwydd Dduw a'th ladd di, ac a eilw ei weision ar enw arall.

16 Fel y bo i'r hwn a ymfendigo ar y ddai­ar, ymfendigo yn Nuw y gwirionedd; ac i'r hwn a dyngo ar y ddaiar, dyngu i Dduw y gwirionedd: am anghofio y trallodau gynt, ac am eu cuddio hwynt o'm golwg.

17 Canys wele fi ynPen. 66.22. 2 Pet. 3.13. Datc. 21.1. creu nefoedd newydd, a daiar newydd, a'r rhai cyntaf ni chofir, ac niHeb. ddaw i fynu ar y galon. feddylir am danynt.

18 Eithr llawenychwch, a gorfoleddwch yn dragywydd, yn y pethau a grewyfi; canys wele fi yn creu Jerusalem yn orfoledd, a'i phobl yn llawenydd.

19 Gorfoleddaf hefyd yn Jerusalem, a llaw­enychaf yn fy mhobl; ac ni chlywir ynddi mwyachDatc. 21.4. lais wylofain, na llef gwaedd.

20 Ni bydd o hynny allan blentyn o oed, na henaf-gwr, yr hwn ni chyflawnodd ei ddy­ddiau; canys y bachgen fydd marw yn fab can-mlwydd, ond y pechadur yn fab can-mlwydd a felldithir.

21 A hwy a adeiladant dai, ac a'i cyfanne­ddant; plannant hefyd winllannoedd, a bwyt­tânt eu ffrwyth.

22 Nid adeilant hwy, fel y cyfanneddo arall, ac ni phlannant, fel y bwyttao arall: eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl; a'm hetholedigion aNeu, a dreu­liant. hir-fwynhant waith eu dwylo.

23 Ni lafuriant yn ofer, ac ni chenhedlant i drallod; canys hâd rhai bendigedic yr Ar­glwydd ydynt hwy, a'i heppil gyd â hwynt.

24 A byddPsal. 32.5. cyn galw o honynt, i mi atteb, ac a hwy etto yn llefaru, mi a wrandawaf.

25 YPen. 11.6, 7. blaidd a'r oen a borant ynghyd, y llew fel ŷch a bawr wellt: a'r sarph, llwch fydd ei bwyd hi: ni ddrygant, ac ni ddistryw­iant, yn fy holl fynydd sanctaidd, medd yr Arglwydd.

PEN. LXVI.

1 Y myn y gogoneddus Dduw ei wasanaethu mewn gostyngedig burdeb. 5 Y mae yn cyssuro y gostyngedig â rhyfeddol genhedliad, 10 a grasusol ddoniau yr Eglwys. 15 Tost farne­digaethau Duw yn erbyn yr annuwiol. 19 Y bydd i'r cenhedloedd eglwys sanctaidd, 24 Ac y cant weled damnedigaeth yr annuwiol.

FEl hyn y dywed yr Arglwydd,1 Bren. 8.27. 2 Cron. 6.18. Act. 7.49. & 17.24. y nef yw fy ngorsedd-faingc, a'r ddaiar yw lleithic fy nhraed: mae 'r tŷ a adeiledwch i mi? ac mae 'r fan y gorphywysaf?

2 Canys y pethau hyn oll a wnaeth fy llaw, a thrwofi y mae hyn oll, medd yr Arglwydd; ond ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan, a'r cystuddiedic o yspryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair.

3 Yr hwn a laddo ŷch, sydd fel yr hwn a laddo ŵr; yr hwn a aberthoNeu, fynn. oen sydd fel yr hwn a dorfynyglo gî: yr hwn a offrymma offrwm, sydd fel ped offrymmai waed môch: yr hwn a arogl-dartha thus, sydd fel pe bendigei eulyn: ie hwy a ddewisasant eu ffyrdd eu hun, a'i henaid a ymhyfrydodd yn eu ffieidd-dra.

4 Minneu a ddewisaf euNeu, siomme­digaethan. dychymmygion hwynt, ac a ddygaf arnynt yr hyn a ofnant,Dihar. 1.24. Jer. 7.13. am alw o honof, ac nad oedd a attebei; lle­ferais, ac ni wrandawsant:Pen. 65.12. eithr gwnaethant yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg, a'r hyn nid oedd dda gennif, a ddewisasant.

5 Gwrandewch air yr Arglwydd, y rhai a grynwch wrth ei air ef: eich brodyr y rhai a'ch casasant, ac a'ch gyrrasant ar encil, er mwyn fy enw i, a ddywedasant,Pen. 5.19. gogonedder yr Arglwydd: etto i'ch llawenydd chwi y gwe­lir ef, a hwynt a wradwyddir.

6 Llef soniarus o'r ddinas, llef o'r Deml, llef yr Arglwydd yn talu 'r pwyth iw elynion.

7 Cyn ei chlefychu yr escorodd; cyn dyfod gwewyr arni y rhyddhawyd hi ar fab.

8 Pwy a glybu y fath beth a hyn? pwy a welodd y fath bethau a hyn? a wneir i'r ddai­ar dyfu mewn vn-dydd? a enir cenhedl ar vn­waith? pan glefychodd Sion, yr escorodd hefyd ar ei meibion.

9 A ddygaf fi i'r enedigaeth, ac oni pharaf escor, medd yr Arglwydd: a barafi escor, ac a luddiaf, medd dy Dduw?

10 Llawenhewch gyd â Jerusalem, a by­ddwch hyfryd gyd â hi, y rhai oll a'i cerwch hi; llawenychwch gyd â hi yn llawen, y rhai oll a alerwch o'i phlegid hi:

11 Fel y sugnoch, ac i'ch diwaller â bron­nau ei diddanwch hi: fel y godrôch, ac y byddoch hyfryd ganNeu, ddiscleir­deb. helaethrwydd ei gogo­niant hi.

12 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele, mi a estynnaf iddi heddwch, fel afon; a gogoniant y cenhedloedd, fel ffrŵd lifeiriol: yna y sugnwch,Pen. 49.22. & 60.4. ar ei hystlys hi i'ch dygir, ac ar ei gliniau i'ch diddenir.

13 Fel vn yr hwn y diddana ei farn ef, felly y diddanaf fi chwi, ac yn Jerusalem i'ch di­ddenir.

14 A phan weloch hyn y llawenycha eich ca­lon, eich escyrn hefyd a flodeuant fel llyssieun: ac fe adweinir llaw 'r Arglwydd tuag at ei wei­sion, a'i lidiawgrwydd wrth ei elynion.

15 Canys wele 'r Arglwydd a ddaw â thân, ac a'i gerbydau fel trô-wynt, i dalu ei ddig­ter â llidiawgrwydd, a'i gerydd â fflammau tân.

16 Canys yr Arglwydd a ymddadleu â thân, ac â'i gleddyf yn erbyn pôb cnawd, a lladde­digion yr Arglwydd fyddant aml.

17 Y rhai a ymsancteiddiant, ac a ymlan­hânt yn y gerddi,Heb. o'r tu ol i vn pren. yn ôl ei gilydd, yn y canol, gan fwytta cîg môch, a ffieidd-dra, a llygod, a gyd-ddiweddir, medd yr Arglwydd.

18 Canys mi a adwen eu gweithredoedd hwynt, a'i meddyliau: y mae 'r amser yn dyfod, i gasclu 'r holl genhedloedd, a'r ieith­oedd, a hwy a ddoant, ac a welant fy ngogo­niant.

19 A gosodaf yn eu mysc arwydd, ac an­fonaf [Page] y rhai diangol o honynt, at y cenhed­loedd, i Tarsis,Pul, a Lud. Affrica, a Lydia, y rhai a dyn­nant mewn bwa,Tubal, a Iauan. Italia, a Groec, i'r ynysoedd pell, y rhai ni chlywsant sôn am danaf, ac ni welsant fy ngogoniant a mynegant fy ngogo­niant ym mysc y cenhedloedd.

20 A hwy a ddygant eich holl frodyr o blith yr holl genhedloedd, yn offrwrn i'r Arglwydd, ar feirch, ac ar gerbydau, ac ar elorau meirch, ac ar fulod, ac ar anifeiliaid buain, i'm mynydd sanctaidd Jerusalem, medd yr Arglwydd; me­gis y dŵg meibion Israel offrwm, mewn llestr glân, i dŷ 'r Arglwydd.

21 Ac o honynt hwy y cymmeraf rai ynExod. 19.6. Pen 61.6. 1 Pet. 2.9. Datc. 1.6. offeiriaid, ac yn Lefiaid, medd yr Arglwydd.

22 CanysPen. 65.17. 2 Pet. 3.13 Datc. 21.1 megis y saif ger fy mron y ne­foedd newydd, a'r ddaiar newydd, y rhai a wnafi, medd yr Arglwydd; felly y saif eich hâd chwi, a'ch enw chwi.

23 Bydd hefyd o newydd-loerHeb. iw new­ydd-loer. i newydd-loer ac o SabbothHeb. iw Sabboth. i Sabboth, i bob cnawd ddyfod i addoll ger fy mron i, medd yr Ar­glwydd.

24 A hwy a ânt allan, ac a edrychant ar gelanedd y rhai a wnaethint gamwedd i'm herbyn, canys euMarc. 9.44. prŷf ni bydd marw, a'i tân ni ddiffydd; a byddant yn ffieidd-dra gan bob cnawd.

¶LLYFR Y PROPHWYD JEREMI.

PENNOD. I.

1 Amser, 3 a galwad Jeremi: 11 Ei bro­phwydol weledigaeth ef, am y wialen Almon, a'r crochan berwedig. 15 Ei drom gennad­wri ef yn erbyn Juda. 17 Duw yn ei gyssuro ef, trwy addo iddo ei gymmorth.

GEiriau Jeremi fab2 Bren. 22.8. Helciah, o'r offei­riaid, y rhai oedd ynJosua. 21.18. Anathoth, o fewn tîr Benjamin,

2 Yr hwn y daeth gair yr Ar­glŵydd atto, yn nyddiau Josiah fab Amon brenin Juda; yn y drydedd flwyddyn ar ddêc o'i deyrnasiad ef.

3 Ac fe ddaeth yn nyddiau Jehoiacim fab Josiah brenin Juda; nes darfod vn mlynedd ar ddêc i Zedeciah fab Josiah brenin Juda; hyd ddygiad Jerusalem i gaethiwed, yn y pum­med mîs.

4 Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd;

5 Cyn i mi dyEsay. 49.1, 5. lunio di yn y grôth, mi a'th adnabûm; a chyn dy ddyfod o'r grôth,Galat. 1.15. y sancteiddiais di; ac mi a'th roddais yn bro­phwyd i'r cenhedloedd.

6 Yna y dywedaisExod. 3.4. & 4.10. Pen. 6.11. ô Arglwydd Dduw, wele, ni fedraf ymadrodd; canys bachgen ydwyfi.

7 Ond yr Arglwydd a ddywedodd wrthif, na ddywed, bachgen ydwyf; canys ti a ei at y rhai oll i'th anfonwyf, a'r hyn oll a orchym­ynnwyf it, a ddywedi.

8Eze. 3.9. Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt;Exod. 3.12. Deut. 31.6, 8. Jos. 1.5. Heb. 13.6. canys yr ydwyfi gyd â thi, i'th waredu, medd yr Arglwydd.

9 Yna 'r estynnodd yr Arglwydd ei law, ac aEsa. 6.7 gyffyrddodd â'm genau; a'r Arglwydd a ddywedodd wrthif, wele,Pen. 5.14. rhoddais fy ngeir­iau yn dy enau di.

10 Gwel, heddyw i'th osodaisMat. 18.18. 2 Cor. 10.4. Heb. 4.12. ar y cen­hedloedd, ac ar y teyrnasoedd, iPen. 18.7. 2 Cor. 10.4, 5. ddiwrei­ddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddestry­wio, i adeiladu, ac i blannu.

11 Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd, Jeremi, beth a welidi? minneu a ddywedais, gwialen almon a welaf fi.

12 A dywedodd yr Arglwydd wrthif; da y gwelaist, canys mi a bryssuraf fy ngair i'w gyflawni.

13 A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf yr ail waith, gan ddywedyd, beth a weli di? ac mi a ddywedais, mi a welaf grochan berwe­dic, a'i wynebHeb. oddiwrth wyneb y goglead. tua 'r gogledd.

14 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthif:Pen. 4.6. o'r gogleddHeb. yr agorir drwg. y tyrr drwg allan, ar holl dri­golion y tir.

15 Canys wele,Pen. 5.15. & 6.22. & 10.22. myfi a alwaf holl deulu­oedd teyrnasoedd y gogledd, medd yr Ar­glwydd, a hwy a ddeuant, ac a osodant bob vn ei orseddfaingc wrth ddrws porth Jerusalem, ac yn erbyn ei muroedd oll o amgylch, ac yn er­byn holl ddinasoedd Juda.

16 A mi a draethaf fy marnedigaethau yn eu herbyn, am holl anwiredd y rhai a'm ga­dawsant, ac a arogl-darthasant i dduwiau eraill, ac a addolasant weithredoedd eu dwylo eu hunain.

17 Am hynny gwregyssa dy lwynau, a chyfod, a dywed wrthynt yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn it; nac arswyda eu hwyne­bau; rhag i mi dyNeu, ddryllio. ddestrywio di ger eu bron hwynt.

18 Canys wele, heddyw yr ydwyf yn dy roddi di ynJos. 1.5. Esa. 50.7. Ezec. 3.8. Pen. 6.27 & 15.20. Heb 13.5 ddinas gaeroc, ac yn golofn haiarn, ac yn fûr prês, yn erbyn yr holl dîr, yn erbyn brenhinoedd Juda, yn erbyn ei thy­wysogion, yn erbyn ei hoffeiriaid, ac yn erbyn pobl y tîr.

19 Ymladdant hefyd yn erbyn, ond ni'th orchfygant; canys myfi sydd gyd â thi, i'th ymwared, medd yr Arglwydd.

PEN. II.

1 Duw wedi dangos ei garedigrwydd o'r blaen, yn ymliw a'r Iddewon am droi oddiwrtho mor ddiachos, 9 y tu hwnt i bawb eraill, 14 Mai hwynt hwy eu hunain yw 'r achos o'i haflwydd. 20 Pechodau Juda. 31 Gwrthod ei hyder ef.

A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf fi, gan ddywedyd;

2 Cerdda, a llefa ynghlustiau Jerusalem, gan ddywedyd; fel hyn y dywed yr Arglwydd,Ezec. 16.8. Pen. 12.14. cofiaisNeu, er dy fwyn, gared. di, caredigrwydd dy ieuengtid, a serch dy ddyweddi, pan i'm canlynaist yn y diffaethwch, mewn tîr ni hauwyd.

3 Israel ydoedd sancteiddrwydd i'r Ar­glwydd, a blaen-ffrwyth ei gnŵd ef: pawb oll a'r a'i bwyttâo a bechant; drwg a ddigwydd iddynt, medd yr Arglwydd.

4 Gwrandewch air yr Arglwydd tŷ Jacob, a holl deuluoedd tŷ Israel.

5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, pa anwi­redd a gafodd eich tadau chwi ynofi, gan iddynt ymbellhâu oddi wrthif, a rhodio ar ôl ofer­edd, a myned yn ofer?

6 Ac ni ddywedant,Esa. 63.9, 11, 13. Hos. 13.4. pa le y mae 'r Ar­glwydd a'n dûg ni i fynu o dîr yr Aipht? a'n harweiniodd trwy'r anialwch, trwy dîr diffaeth, a phyllau, trwy dîr sychter, a chyscod angeu, [Page] trwy dîr nid aeth gŵr trwyddo, ac ni thrigodd dŷn ynddo?

7 Dygais chwi hefyd i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a'i daioni: eithr pan ddae­thoch i mewn,Psal. 78 58. Psal. 106.38. halogasoch fy nhir i, a gwnae­thoch fy etifeddiaeth? yn ffieidd-dra.

8 Yr offeiriaid ni ddywedasant, pa le y mae 'r Arglwydd?Rhuf. 1.20. a'r rhai sy vn trin y gyfraith nid adnabuant fi; y bugeiliaid hefyd a droseddasant i'm herbyn, a'r prophwydi a brophwydasant yn enw Baal, ac a aethant ar ôl y pethau ni wnaent lesad.

9 O blegit hyn, mi a ddadleuaf â chwi etto, medd yr Arglwydd: îe dadleuaf â meibion eich meibion chwi.

10 Canys ewchNeu, t [...]os [...]dd i. tros ynysoedd Chittim, ac edrychWch; a danfonwch i Cedar, ac ystyriwch yn ddiwyd, ac edrychwch a fu y cyfryw beth.

11 A newidiodd vn genhedl eu duwiau, a hwyPen. 16.20. heb fod yn dduwiau? eithr fy mhobl i a newidiodd eu gogoniant, am yr hyn ni wna lesâd.

12 O chwi nefoedd, synnwch wrth hyn, ac ofnwch yn arnthrol, a byddwch anghyfannedd iawn, medd yr Arglwydd.

13 Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl,Pen. 17.13. & 18.14. Psal. 36.9. Jonah 2.8. Zech. 10.2. hwy a'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, ac a gloddiasant iddynt eu hunain by­dewau, îe bydewau wedi eu torri, ni ddaliant ddwfr.

14 A'i gwas ydyw Israel? ai gwas a anwyd yn tŷ yw efe? pa hamHeb. yr aeth yn yspail. yr yspeiliwyd ef?

15 Y llewod ieuaingc a ruasant arno, ac aHeb. ro [...]sant eu llef. leisiasant; a'i dir ef a ofodasant yn anrhaith, a'i ddinasoedd a loscwyd heb drigiannudd.

16 Meibion Noph hefyd, a Tahapanes, aNeu, ymborth­ant ar. dorrasant dy goryn di.

17 Ond tydi a beraist hyn it dy hun, am wrthod o honot yr Arglwydd dy Dduw, pan ydoedd efe yn dy arwain ar hŷd y ffordd?

18 A'r awr hon, beth sydd i ti a wnelych yn ffordd yrEsay. 31.9. Aipht, i yfed dwfrSihor. Nilus? a pheth sydd i ti yn ffordd Assyria, i yfed dwfr yr afon?

19 Dy ddrygioni dy hun a'thEsay. 3.9. Hos. 5.5. gospa di, a'th wrthdro a'th gerydda: gwybydd ditheu, a gwêl mai drwg, a chwerw ydyw gwrthod o honot yr Arglwydd dy Dduw, ac nad ydyw fy ofn i ynot ti, medd Arglwydd Dduw 'r lluoedd.

20 O blegid er ystalm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau, a thi a ddywe­daist niNeu, wasan­aethaf. throseddaf;Jos. 24.16. Ezec. 10.12. Nehem. 8.6. Esa. 57.5. Jer. 3.6. er hynny ti a wibiaist gan butteinio ar bob bryn vchel, a than bôb pren deilioc.

21Exod. 15.17. Psa. 44.2. & 80.8. Esay. 5.1. Matth. 21.33. Mar. 12 1. Luc. 20.9 Etto myfi a'th blannaswn yn ber­winwŷdden, o'r iawn hâd oll: pa fodd gan hyn­ny i'th drowyd i'm yn blanhigyn afrywiog gwinwŷdden dieithr?

22Job. 9.30. Canys pe byddei it ymolchi â nitr, a chymmeryd it lawer o sebon; etto nodwyd dy anwiredd ger fy mron i, medd yr Arglwydd Dduw.

23 Pa fôdd y dywedi, ni halogwyd fi, ac nid euthym yn ôl Baalim? edrych dy ffordd yn y glyn, gŵybydd beth a wnaethost, N [...]u, o gamel buan, yr yd [...]yt &c. ca­mel buan ydwyt yn amgylchu ei ffyrdd.

24Neu, Oh assyn. Assyn wyllt wedi eiHeb. dyscu. chynnefino â'r aniaiwch, wrth ddymuniad ei chalon yn yfed gwynt: wrth ei hachlysur, pwy a'i try ymaith? pawb a'r a'i ceisiant hi, nid ymflinant; yn ei mîs y cânt hi.

25 Cadw dy droed rhagbod yn ddiarchen. noethni, a'th gêg rhag syched: titheu a ddywedaist,Neu, ai diobaith yw? nid oes obaith, nac oes: canys cerais ddieithriaid, ac ar eu hôl hwynt yr âf fi.

26 Megis y cywilyddia lleidr panHeb. gaffer. ddalier ef; felly y cywilyddia tŷ Israel; hwynt hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, a'i hoffeiriaid, a'i prophwydi;

27 Y rhai a ddywedant wrth bren, tydi yw fy nhâd; ac wrth garrec, ti a'm cenhedlaist: canys hwy a droesant attafi wegil, ac nid wyneb: ond yn amser euEsa. 26.16. hadfyd y dywe­dant, cyfod, a chadw ni.

28 Eithr pa lê y mae dy dduwiau, y rhai a wnaethost i ti? codant, osEsa. 45.20. gallant dy gadw yn amser dyHeb. ddrwg. adfyd: canys wrth Pen. 11.13. rifedi dy ddinasoedd y mae dy dduwiau di, ô Juda.

29 Pa ham yr ymddadleuwch â mi? chwi oll a droseddasoch i'm herbyn, medd yr Ar­glwydd.

30 Yn ofer yEsa. 9.13. Pen. 5.3. tarewais eich plant chwi, ni dderbyniasant gerydd: eich cleddyf eich hunMatth. 23.29. a ddifaodd eich prophwydi, megis llew yn destrywio.

31 Oh genhedlaeth, gwelwch air yr Ar­glwydd;Vers. 5. a fum i yn anialwch i Israel? yn dîr tywyllwch? pa ham y dywed fy mhobl,Heb. arglwy­ddiaethu yr ydym. arglwyddi ydym ni, ni ddeuwn ni mwy attat ti?

32 A anghofia morwyn ei hardd-wisc? neu y briodas-ferch ei thlyssau? etto fy mhobl i a'm anghofiasant ddyddiau aneirif.

33 Pa ham yr wyt ti yn cyweirio dy ffordd i geisio cariad? am hynny hefyd y dyscaist dy ffyrdd i rai drygionus.

34 Hefyd yn dy odrau di y cafwyd gwaed eneidiau y tlodion diniwed; nid wrthHeb. gloddio. chwi­lio y cefais hyn, eithr ar y rhai hyn oll.

35 Etto ti a ddywedi, am fy mod yn ddini­wed, yn ddiau y try ei lîd ef oddi wrthif: wele, dadleuaf â thi am ddywedyd o honot, ni phechais.

36 Pa ham y gwybi di cymmaint i newi­dio dy ffordd? canys ti a wradwyddir o her­wydd yr Aipht, fel i'th wradwyddwyd o her­wydd Assyria.

37 Hefyd ti a ddeui allan oddi wrtho,2 Sam. 13.19. a'th ddwylo ar dy ben: o blegit yr Arglwydd a wrthodes dy hyder di, ac ni lwyddi ynddynt.

PEN. III.

1 Mawr drugaredd Duw yn ysceler butteindra Juda. 6 Mai gwaeth yw Juda nag Israel. 12 Addewidion yr Efengyl i'r edifeiriol. 20 Duw yn argyoeddi, ac yn galw Israel, a hwy­thau yn gwneuthur cyffes gyhoedd o'i pechodau.

Heb. Gan ddy­wedyd.HWy a ddywedant, o gyrr gŵr ei wraig ymmaith, a myned o honi oddi wrtho ef, ac iddi fod yn eiddo gŵr arall,Deut. 24.4. a ddychwel efe atti hi mwyach? oni lwyr halogir y tir hwnnw? ond ti a butteiniaist gyd â chyfeillion lawer, etto dychwel attafi, medd yr Ar­glwydd.

2 Derchafa dy lygaid i'r lleoedd vchel, ac ddrych pa le ni phutteiniaist; ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy, megis Arabiad yn yr anialwch, ac a halogaist y tîr â'th butteindra, ac â'th ddrygioni.

3 Am hynny 'r attaliwydDeut. 28.24. Pen. 9.12. y cafodydd, ac ni bu glaw diweddar;Pen. 6.15. a thalcen puttein­wraig oedd i ti, gwrthodaist gywilyddio.

4 Oni lefi di arnafi o hyn allan, fy nhad, ti yw tywysog fy ieuengtid?

5 A ddeil efe ei ddig byth? a'i ceidw yn dragywydd? wele dywedaist, a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg, hyd y gellaist.

6 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthif, yn amser Josiah y brenin, a welaist ti hyn a wna­eth Israel wrthnyssig? hi aPen. 2.20. aeth i bob my­nydd vchel, a than bob pren deilioc, ac a but­teiniodd yno.

7 A mi a ddywedais wedi iddi wneuthur hyn i gyd, dychwel attafi; ond ni ddychwe­lodd; a Juda ei chwaer anffyddlon hi, a welodd hynny.

8 A gwelais yn dda, am yr achosion oll y putteiniodd Israel wrthnyssic, ollwng o honof hi ymmaith, ac a roddais iddi ei llythyr yscar: er hyn ni ofnodd Juda ei chwaer anffyddlon: eithr aeth a phutteiniodd hitheu hefyd.

9 A chanNeu, air. yscafnder ei phutteindra yr halogodd hi y tîr; canys gyd â'r maen, a'r pren y putteiniodd hi.

10 Ac er hyn oll hefyd, ni ddychwelodd Juda ei chwaer anffyddlon attafi, â'i holl galon, eithr mewnHeb. ffalsder neu cel­wydd. rhagrith, medd yr Arglwydd.

11 A dywedodd yr Arglwydd wrthif, Israel wrthnysig a'i cyfiawnhâodd ei hun rhagor Juda anffyddlon.

12 Cerdda a chyhoedda y geiriau hyn tua 'r gogledd, a dywed, ti Israel wrthnysig, dychwel, medd yr Arglwydd, ac ni adawaf i'm llîd syrthio arnoch:Psal. 86.1 [...]. & 103.8, 9. canys trugarog ydwyfi, medd yr Arglwydd, ni ddaliaf lîd yn dragywydd.

13 Yn vnic cydnebydd dy anwiredd, drose­ddu o honot yn erbyn yr Arglwydd dy Dduw, a gwascaru o honot dy ffyrdd i ddieithriaid, dan bob pren deilioc; ac ni wrandawech ar fy llef, medd yr Arglwydd.

14 Trowch, chwi blant gwrthnysig, medd yr Arglwydd; canys myfi a'ch priodais chwi; ac mi a'ch cymmeraf chwi, vn o ddinas, a dau o deulu, ac a'ch dygaf chwi i Sion:

15 Ac a roddaf i chwiPen. 23.4. fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, y rhai a'ch porthant chwi â gŵybodaeth, ac â deall.

16 Ac wedi darfod iwch amlhau, a chyn­nyddu ar y ddaiar; yn y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, ni ddywedant mwy, Arch cyfammod yr Arglwydd; acHeb. ni escyn ar y galon. nis meddwl calon am dani, ac ni chofir hi; nid ymwe­lant â hi ychwaith, ac ni wneir hynny mwy.

17 Yn yr amser hwnnw y galwant Jerusa­lem yn orseddfa'r Arglwydd, ac y cesclir atti yr holl genhedloedd, at enw 'r Arglwydd i Je­rusalem: ac ni rodiant mwy yn ôl cildyn­rwydd eu calon ddrygionus.

18 Yn y dyddiau hynny y rhodia tŷ JudaNeu, i dy. gyda thŷ Israel, a hwy a ddeuant ynghyd, o dir y gogledd, i'r tîr a roddais yn etifeddiaeth i'ch tadau chwi.

19 Ond mi a ddywedais, pa fodd i'th osodaf ym mhlith y plant, ac y rhoddaf i ti dir dymu­nol, sef etifeddiaethHeb. dymuniad. ardderchawg lluoedd y cenhedloedd? ac a ddywedais, ti a elwi arnafi, fy nhâd, ac ni throi ymaich oddi ar fy ol i.

20 Yn ddiau fel yr anffyddlona gwraig oddi wrth ei chyfaill; felly, tŷ Israel, y buoch anffyddlon i mi, medd yr Arglwydd.

21 Llef a glywyd yn y mannau vchel, wylo­fain a dymuniadau meibion Israel; canys gwyrasant eu ffordd, ac anghofiasant yr Ar­glwydd eu Duw.

22Hos. 14.1. Ymchwelwch feibion gwrthnysig, ac mi a iachâf eich gwrthnysigrwydd chwi: wele ni yn dyfod attat ti, o blegit ti yw yr Ar­glwydd ein Duw.

23 Diau fod yn ofer ymddirried am help o'r bryniau, ac o liaws y mynyddoedd: diau fod iechydwriaeth Israel yn yr Arglwydd ein Duw ni.

24 Canys gwarth a yssodd lafur ein tadau o'n hieuengtid: eu defaid, a'i gwarthec, eu meibion, a'i merched.

25 Gorwedd yr ydym yn ein cywilydd, a'n gwarth a'n tôdd ni: canys yn erbyn yr Ar­glwydd ein Duw y pechasom, nyni a'n tadau, o'n ieuengtid hyd y dydd heddyw, ac ni wran­dawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw.

PEN. IV.

1 Duw yn galw Israel, trwy ei addewid; 3 yn annog Juda i edifarhau, trwy farnedigaethau ofnadwy. 19 Tostur gwynfan am drueni Juda.

ISrael, os dychweli,Joel 2.12. dychwel attafi, medd yr Arglwydd: hefyd os rhoi heibio dy ffieidd­dra oddi ger fy mron, yna ni'th symmudir.

2 A thi a dyngi, byw yw 'r Arglwydd, mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyf­iawnder, a'r cenhedloedd a ymfendithiant ynddo: ie ynddo ef yr2 Cor. 10.17. ymglodforant.

3 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth wŷr Juda, ac wrth Jerusalem;Hos. 10.12. branerwch i chwi franar, ac na heuwch mewn drain.

4 Ymenwaedwch i'r Arglwydd, a rhoddwch heibio ddienwaediad eich calon, chwi gwŷr Juda, a thrigolion Jerusalem: rhag i'm digof­aint ddyfod allan fel tân, a llosci, fel na byddo diffoddudd, o herwydd drygioni eich amcan­ion.

5 Mynegwch yn Juda, a chyhoeddwch yn Jerusalem, a dywedwch, vdcenwch vdcorn yn y tîr, gwaeddwch, ymgesclwch, a dywedwch, ymgynhullwch, ac awn i'r dinasoedd caerog.

6 Codwch faner tua Sion,Neu, ymgesc­lwch, neu, ymgryf­hcwch. ffowch, ac na sefwch; canys mi a ddygaf ddrwg o'rPen. 1.13, 14. & 6.22. gog­ledd, aHeb. thorriad. dinistr mawr.

7 Y2 Bren. 24.1. llew a ddaeth i fynu o'i loches, a difeth-wr y cenhedloedd a gychwynnodd, ac a aeth allan o'i drigle, i wneuthur dy dîr yn orwag; a'th ddinasoedd a ddinistrir heb drigiannudd.

8Pen. 6.26. Am hyn ymwregyswch â lliain sâch; galerwch ac vdwch: canys angerdd llid yr Arglwydd ni throes oddi wrthym ni.

9 Ac yn y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y derfydd am galon y brenin, ac am galon y pennaethiaid: yr offeiriaid hefyd a synnant, a'r prophwydi a ryfeddant.

10 Yna y dywedais, ô Arglwydd Dduŵ, yn siccr gan dwyllo ti a dwyllaist y bobl ymma a Jerusalem, gan ddywedyd,1 Bren. 22.23. Ezec. 14.9 2 Thess. 2.11. bydd heddwch i chwi, ac etto fe ddaeth y cleddyf hyd at yr enaid.

11 Yn yr amser hwnnw y dywedir wrth y bobl hyn, ac wrth Jerusalem; gwynt sŷch yr vchel-leoedd yn y diffaethwch, tua merch fy mhobl, nid i nithio, ac nid i buro;

12 GwyntNeu, llawnach n [...]'r lle­oedd. llawn o'r lleoedd hynny, a ddaw attafi: weithian hefyd myfi a draethaf farn yn eu herbyn hwy.

13 Wele, megis cymylau y daw i fynu, a'i gerbydau megis cor-wynt: ei feirch sy yscafnach nâ'r eryrod; gwae nyni, canys ni a anrheithiwyd.

14 O JerusalemEsa. 1.16. golch dy galon oddi wrth ddrygioni, fel y byddech gadwedic: pa [Page] hyd y lletteui o'th fewn goec amcanion.

15 Canys llef fydd yn mynegi allan oPen. 8.16. Dan, ac yn cyhoeddi cystudd allan o fynydd Ephraim.

16 Coffewch i'r cenhedloedd; wele, cyhoe­ddwch yn erbyn Jerusalem, ddyfod gwil-wŷr o wlâd bell, a llefaru yn erbyn dinasoedd Juda.

17 Megis ceidwaid maes y maent o amgylch yn ei herbyn; am iddi fy niglloni, medd yr Arglwydd.

18Psal. 107.17. Esay. 50.1. Dy ffordd di a'th amcanion a wnaeth­ant hyn i ti, dymma dy ddrygioni di, am ei fod yn chwerw, am ei fod yn cyrhaeddyd hyd at dy galon di.

Esay. 22.4. Pen. 9.1. Fy mol, fy mol, gofidus wyf o barwy­dennau fy nghalon, mae fy nghalon yn terfys­cu ynof: ni allaf dewi, am it glywed sain yr vdcorn, ô fy enaid, a gwaedd rhyfel.

20 Dinistr ar ddinistr a gyhoeddwyd, canys yr holl dîr a anrheithiwyd; yn ddisymmwth y destrywiwyd fy lluestai i, a'm cortenni yn ddiattrec.

21 Pa hyd y gwelaf faner? ac y clywaf fain yr vdcorn?

22 Canys y mae fy mhobl i yn ynfyd heb fy adnabod i: meibion angall ydynt, ac nid deallgar hwynt: y maent yn synhwyrol i wneu­thur drwg, eithr gwneuthur da ni fedrant.

23 Mi a edrychais ar y ddaiar,Esay. 13.10. & 24.23. Ezec. 32.7. Joel 2.31. & 3.15. ac wele, afluniaidd, a gwâg oedd; ac ar y nefoedd, a goleuni nid oedd ganddynt.

24 Mi a edrychais ar y mynyddoedd, ac wele, yr oeddynt yn crynu: a'r holl fryniau a ymescydwent.

25 Mi a edrychais, ac wele, nid oedd dŷn, a holl adar y nefoedd a giliasent.

26 Mi a edrychais, ac wele y dol-dir yn anialwch, a'i holl ddinasoedd a ddestrywiasid o flaen yr Arglwydd, gan lidiawgrwydd ei ddigter ef.

27 Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, y tir oll fydd diffaethwch;Esay. 2.9. Pen. 5.18. ac etto ni wnaf ddiben.

28 Am hynny y galara y ddaiar, ac y tywylla y nefoedd oddi vchod; o herwydd dywedyd o honofi, mi a'i bwriedais, ac ni bydd edifar gennif, ac ni thrôf oddi wrtho.

29 Rhag trŵst y gwyr meirch a'r saeth­yddion, y ffŷ'r holl ddinas; hwy a ânt i'r drysni, ac a ddringant ar y creigiau: yr holl ddinasoedd a adewir, ac heb nêb a drigo ynddynt.

30 A thitheu yr anrhaithiedic, beth a a wnei? er ymwisco o honot ag yscarlad, er it ymdrwssio â thlyssau aur, er i tiNeu, dorri dy lygaid. liwio dy wyneb â lliwiau, yn ofer i'th wnei dy hun yn dêg, dy gariadau a'th ddirmygant, ac a geisiant dy enioes.

31 Canys clywais lef megis gwraig yn escor, cyfyngder fel benyw yn escor ar ei hetifedd cyntaf, llef merch Sion, yn ochein, ac yn lledu ei dwylo, gan ddywedyd, gwae fi yr awr hon, o blegit deffygiodd fy enaid gan leiddiaid.

PEN. V.

1 Barnedigaethau Duw ar yr Iddewon, am eu gwrthnysigrwydd, 7 am eu godineb, 10 am eu hannuwioldeb, 19 am iddynt ddiystyru Duw, 25 am eu mawr lygredigaeth yn eu llywodraeth fydol, 30 ac eglwysig.

RHedwch ymma a thraw, ar hyd heolydd Jerusalem, ac edrychwch yr awr hon, mynnwch ŵybod hefyd, a cheisiwch yn eieheng­leoedd. heolydd hi, o chewch ŵr, a oes a wnêl farn, a gais wirionedd, ac myfi a'i harbedaf hi.

2 Ac er dywedyd o honynt, byw yw 'r Ar­glwydd, etto yn gelwyddog y tyngant.

3 O Arglwydd, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid ti? tiEsay. 9.13. Pen. 2.30. a'i tarewaist hwynt, ac nid ymofidiasant: difeaist hwynt, eithr gwrtho­dasant dderbyn cerydd; hwy a wnaethant eu hwynebau yn galettach nâ chraig, gwrthoda­sant ddychwelyd.

4 Ac mi a ddyweddais, yn siccr tlodion ydyw y rhai hyn, ynfydion ydynt: canys nid adwaenant ffordd yr Arglwydd, na barn eu Duw.

5 Mi a âf rhagof at y gŵyr mawr, ac a ym­ddiddanaf â hwynt, canys hwy a ŵybuant ffordd yr Arglwydd, a barn eu Duw, eithr y rhai hyn a gyd-dorrasant yr iau, ac a ddryll­iasant y rhwymau.

6 O blegit hyn, llew o'r coed a'i tery hwy, blaiddNeu, yr hwyr. o'r anialwch a'i destrywia hwy, llew­pard a wilia ar eu dinasoedd hwy; pawb a'r a ddêl allan o honynt a rwygir, canys eu camwe­ddau a amlhasant, eu gwrthdrofeydd aHeb. a gryfha­odd. chwa­negasant.

7 Pa fodd i'th arbedwn am hyn? dy blant a'm gadawsant i, ac a dyngasant i'r rhai nid ydynt dduwiau: a phan ddiwellais hwynt, gwnaethant odineb, ac a heidiasant i dŷ 'r buttain.

8 Oeddynt fel meirch porthiannus y boreu,Ezec. 22.11. gweryrent bob vn ar wraig ei gymmydog.

9 Onid ymwelaf am y pethau hyn, medd yr Arglwydd? oni ddial fy enaid ar gyfryw gen­hedl a hon?

10 Dringwch ar ei muriau hi, a distryw­iwch, ond na orphennwch yn llwyr: tynnwch ymaith ei mur-ganllawiau hi; canys nid eiddo 'r Arglwydd ydynt.

11 O blegit tŷ Israel, a thŷ Juda a wnae­thant yn anffyddlon iawn â mi, medd yr Ar­glwydd.

12 Celwyddog fuant yn erbyn yr Arglwydd, a dywedasant, nid efe yw,Esay. 28.15. ac ni ddaw dryg­fyd; arnom; ac ni welwn gleddyf, na newyn.

13 A'r prophwydi a fuant fel gwynt, a'r gair nid yw ynddynt: fel hyn y gwneir iddynt hwy.

14 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, am i chwi ddywedyd y gair hwn, wele fi yn rhoddi fy ngeiriau yn dy enau di ynPen. 1.9. dân, a'r bobl hyn yn gynnyd, ac efe a'i difa hwynt.

15 Wele, mi a ddygaf arnoch chwi tŷ Is­rael,Deut. 28.49. Pen. 1.15. & 6.22. genhedl o bell, medd yr Arglwydd, cenhedl nerthol ydyw, cenhedl a fu er ystalm, cenhedl ni ŵyddost ei hiaith, ac ni ddcelli beth a ddywedant.

16 Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored, cedyrn ydynt oll.

17 A hi a fwytty dyLev. 26.16. Deut. 28.31.33. gynhayaf di, a'th fa [...]a, yr hwn a gawsei dy feibion di a'th ferched ei fwytta; hi a fwytty dy ddefaid ti a'th war­theg, hi a fwytty dy winwydd a'th ffigyswydd; dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ym­ddiried ynddynt, a dloda hi â'r cleddyf.

18 Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd,Pen. 4.27. ni wnafi gwbl ben â chwi.

19 A bydd pan ddywedoch,Pen. 16.10. & 13.22. pa ham y gwna yr Arglwydd ein Duw hyn oll i ni? ddywedyd o honot titheu wrthynt, megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr, yn eich tîr eich hun; felly y [Page] gwasanaethwch ddieithriaid, mewn tîr ni byddo eiddo chwi.

20 Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob; a chyhoeddwch hyn yn Juda, gan ddywedyd;

21 Gwrando hyn yn awr,Esay. 6.9. Matth. 13.14. Act. 28.26. Rhuf. 11.8.10. Joan. 12.40. ti bobl ynfyd, a hebHeb. galon. ddeall, y rhai y mae llygaid iddynt, ac ni welant, a chlustiau iddynt, ac ni chly­want.

22 Onid ofnwch chwi fi, medd yr Ar­glwydd? oni chrynwch rhag fy mron; yr hwn a osodais y tyfodJob 38.10, 11. Psal. 104.9. yn derfyn i'r môr, trwy ddeddf dragywyddawl, fel nad elo tros hwnnw, er i'r tonnau ymgyrchu, etto ni thyccia iddynt; er iddynt derfyscu, etto ni ddeuant tros hwnnw?

23 Eithr i'r bobl hyn y mae calon wrthnysig, ac anufyddgar: hwynt hwy a giliasant, ac a aethant ymmaith:

24 Ac ni ddywedant yn eu calon, ofnwn weithian yr Arglwydd ein Duw, yr hwn sydd yn rhoiDeut. 11.14. y glaw cynnar a'r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau cynhaiaf.

25Esay. 59.2. Eich anwireddau chwi a droes heibio y rhai hyn, a'ch pechodau chwi a attaliasant ddaioni oddi wrthych.

26 Canys ym mysc fy mhobl ceir anwi­riaid, y rhai aNeu, a dremiant fel adar­wyr yn cyn­llwyn. wiliant megis vn yn gosod maglau: gosodant offer dinistr, dynion a dda­liant.

27 Fel cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai hwynt yn llawn o dwyll: am hynny y cynnyddasant, ac yr ymgyfoethogasant.

28Deut. 32.15. Tewychasant, discleiriasant, aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus,Esay. 1.23. Zech. 7.10. ni farnant farn, farn yr ymddifad: etto ffynna­sant, ac ni farnant farn yr anghenus.

29 Onid ymwelaf am y pethau hyn, medd yr Arglwydd? oni ddial fy enaid ar gyfryw genhedl â hon?

30Neu, Syndod a brynti. Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tîr.

31 Y prophwydi a brophwydantPen. 14.14. & 23.25. Ezec. 13.6. gelwydd, yr offeiriaid hefyd aHeb. gymerant iw dwylo. lywodraethant trwy eu gwaith hwynt, a'm pobl a hoffant hynny: etto beth a wnewch yn niwedd hyn?

PEN. VI.

1 Y gelynion a yrrwyd yn erbyn Juda, 4 yn ym­gyssuro. 6 Duw yn gosod y gelynion ar waith, o herwydd pechodau ei bobl. 9 Y Prophwyd yn cwyno rhag barnedigaethau Duw, o herwyd eu pechodau hwy: 18 Yn cyhoeddi digofaint Duw, 26 yn galw 'r bobl i alaru, o berwydd barnedi­gaethau Duw, am eu pechodau hwy.

YMgynnullwch i ffoi, meibion Beniamin, o ganol Jerusalem, ac yn Tecoa vdcenwch vdcorn; a chodwch ffaglNeh. 3.14. yn Beth-haccerem, canys drwg a welir o'r gogledd, a dinistr mawr.

2 Cyffelybais ferch Sion i wraig Neu, yn trigo gartref. dêg foethus.

3 Atti hi y daw y bugeiliaid a'i diadellau, yn ei herbyn hi o amgylch y gosodant eu pebyll: porant bob vn yn ei le.

4 Parottowch ryfel yn ei herbyn hi, codwch, ac awn i fynu ar hanner dydd; gwae ni o herwydd ciliodd y dydd, canys cyscodau 'r hŵyr a ymestynnasant.

5 Codwch, ac awn i fynu o hŷd nôs, a destryw­iwn ei phalasau hi.

6 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, torrwch goed, aNeu, [...]hyw llt­wch yr offer saethu. chodwch glawdd yn erbyn Jerusalem, dymma 'r ddinas sydd i ymweled â hi; gorthrymder yw hi oll o'i mewn.

7Esay 57.20. Megis y gwna ffynnon iw dwfr darddu allan, felly y mae hi yn bwrw allan ei drygioni; trais ac yspail a glywir ynddi, gofid a dyrno­diau sy yn wastad ger fy mron.

8 Cymmer addysc, ô Jerusalem, rhag i'm henaid iNeu, ymddat­tod. ymado oddi wrthit; rhag i mi dy osod di yn anrhaith, yn dir anghyfanne­ddol.

9 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, gan loffa y lloffant weddill Israel, fel gwinwy­dden: tro dy law yn ei hôl, megis cascludd grawn-win i'r bascedau.

10 Wrth bwy y dywedaf fi, a phwy a rybu­ddiaf, fel y clywant? wele,Pen. 7.26. eu clusc hwy sy ddienwaededic, ac ni allant wrando: wele, dirmygus ganddynt air yr Arglwydd, nid oes ganddynt ewyllys iddo.

11 Am hynny 'r ydwyfi yn llawn o lid yr Arglwydd, blinais yn ymattal: tywalltaf ef ar y plantNeu, allan. yn yr heol; ac ar gynnulleidfa y gwŷr ieuaingc hefyd: canys y gŵr a'r wraig a ddelir, yr hen-wr a'r llawn o ddy­ddiau.

12 A'i tai a ddigwyddant i eraill, eu meu­sydd a'i gwragedd hefyd: canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad, medd yr Ar­glwydd.

13 O blegit o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf,Esay. 56.11. Pen. 8 10. pob vn sydd yn ymroi i gybydd­dod: ac o'r prophwyd hyd yr offeiriad, pob vn sydd yn gwneuthur ffalster.

14 A hwy aPen. 8.11. Ezec. 13.10. iachasantHeb. dorriad. friw merch fy mhobl i, yn esmwyth, gan ddywedyd, heddwch, heddwch; er nad oedd heddwch.

15Pen. 3.3. & 8.12. A ydoedd arnynt hwy gywilydd pan wnelent ffieidd-dra? nid ydoedd arnynt hwy ddim cywilydd, ac ni fedrent wrido: am hyn­ny y cwympant ym mysc y rhai a gwympant; yn yr amser yr ymwelwyf â hwynt y cwym­pant, medd yr Arglwydd.

16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, sefwch ar y ffyrdd, ac edrychwch, a gofynnwch am yrEsay. 8.20. Mal. 4.4. Luc. 16.29. hên lwybrau, lle mae ffordd dda, a rhod­iwch ynddi; a chwi a gewchMatth. 11.29. orphwysdra i'ch eneidiau: ond hwy a ddywedasant, ni rodiwn ni ynddi.

17 Ac mi a osodais wil-wŷr arnoch chwi, gan ddywedyd, gwandewch ar sain yr vdcorn; hwythau a ddywedasant, ni wrandawn ni ddim.

18 Am hynny, clywch genhedloedd: a thi gynnulleidfa, gŵybydd pa bethau sy yn eu plith hwynt.

19 Gwrando, tydi 'r ddaiar, wele fi yn dwyn dryg-syd ar y bobl hyn, sef ffrwyth eu meddyliau eu hunain; am na wrandawsant ar fy ngeiriau, na'm cyfraith, eithr gwrthodasant hi.

20 I ba beth y daw i miEsay. 1.11. & 66.3. Amos 5 21. Mic. 6.6 thus o Seba, a Chalamus peraidd o wlad bell? eich poeth offrymmau nid ydynt gymmeradwy; ac nid melus eich aberthau gennif.

21 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, wele fi yn rhoddi tramgwyddiadau i'r bobl hyn, fel y tramgwyddo wrthynt y tadau a'r meibion ynghyd; cymmydog a'i gyfaill a ddifethir.

22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele bobl yn dyfod oPen. 1.14. & 5.15. & 10.22. dîr y gogledd; a chenhedl fawr a gyfyd, o ystlysau y ddaiar.

23 Yn y bwa a'r waywffon yr ymaflant, creulon ydynt, ac ni chymm rant drugaredd; eu llais a rua megis y môr, ac ar feirch y marchogant yn daclus, megis gwyr i ryfel yn dy erbyn di, merch Sion.

24 Clywsom sôn am danynt, ein dwylo a laesasant, blinder a'n dasiodd, fel gofid gwraig yn escor.

25 Na ddos allan i'r maes, ac na rodia rhyd y ffordd; canys cleddyf y gelyn, ac arswyd sydd oddi amgylch.

26 Merch fy mhobl,Pen. 4.8. & 25.34. ymwregysa â sachli­ain, ac ymdroa yn y lludw: gwna it gwynsan a galar tost, megis am vnic fab; canys y destry­wi-wr a ddaw yn ddisymmwth arnom ni.

27 Mi a'th roddais di ynPen. 1.18. & 15.20. dŵr, ac yn gadernid ym mysc fy mhobl, i ŵybod, ac i brofi eu ffordd hwy.

28 Cyndyn o'r fâth gyndynnaf ydynt oll, yn rhodio ag enllib:Ezec. 22.18. efydd, a haiarn ŷnt, llygru y maent hwy oll.

29 Lloscodd y fegin, gan dân y darfu 'r plwm; yn ofer y toddodd y toddudd, canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymmaith.

30Esa. 1.22. Yn arian gwrthodedic y galwant hwynt; am wrthod o'r Arglwydd hwynt.

PEN. VII.

1 Anfon Jeremi i alw am wîr edifeirwch, i lu­ddias y caethiwed. 8 y mae yn llysu eu hofer ymddiried hwy, 12 trwy esampl Siloh. 17 Y mae yn eu bygwth am eu delw-addoliaeth: 21 Yn llysu ebyrth yr annfydd; 29 Yn eu hannog i alaru, o achos eu ffieidd-dra yn Tophet, 32 a'r barnedigaethau a ddoe am hynny.

Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremi oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd;

2 Saf di ym mhorth tŷ yr Arglwydd, a chy­hoedda 'r gair hwn yno, a dywed, Gwran­dewch air yr Arglwydd, chwi holl Juda, y rhai a ddeuwch i mewn trwy 'r pyrth hyn, i addoli 'r Arglwydd.

3 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel,Pen. 26.13. & 18.11. gwellhewch eich ffyrdd, a'ch gweithredoedd, ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man ymma.

4 Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwy­ddog, gan ddywedyd; Teml yr Arglwydd, Teml yr Arglwydd, Teml yr Arglwydd ydynt.

5 Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd, a'ch gweithredoedd, os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a'i gymydog;

6 Ac ni orthrymmwch y dieithr, yr ymddi­fad, a'r weddw; ac ni thywelltwch waed gwi­rion yn y fan hon, ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr, i'ch niwed eich hun;

7 Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tîr a ruddais i'ch tadau chwi, yn oes oesoedd.

8 Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt lês.

9 Ai yn lladratta, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogl-darthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch;

10 Y deuwch, ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwnNeu, â elwir ar fy enw. y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch, rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd-dra hyn oll?

11 [...]sa. 56.7. Matth. 21.13. Marc. 11.17. Luc. 19.26. Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ ym­ma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, ger bron eich llygaid? wele minneu a welais hyn, medd yr Arglwydd.

12 Eithr attolwg, ewch i'm lle, yr hwn a fu yn Siloh, lle y gosodais fy enw ar y cyntaf, ac1 Sam. 4.11. Psal. 78.60. Pen. 26.6. edrychwch beth a wneuthym i hwnnw, o herwydd anwiredd fy mhobl Israel.

13 Ac yn awr, am wneuthur o honoch yr holl weithredoedd hyn, medd yr Arglwydd, minneu a leferais wrthych gan godi yn foreu, a llefaru, etto ni chlywsoch; aDih. 1.24. Esa. 65.12. & 66.4. gelwais arnoch, ond nid attebasoch:

14 Am hynny y gwnaf i'r tŷ hwn y gelwir fy enw arno, yr hwn yr ydych yn ymddiried ynddo, ac i'r lle a roddais i chwi, ac i'ch tadau, megis y gwneuthum1 Sam. 4.11. Psal. 78, 60. & 132.6. Pen. 26.6. i Siloh.

15 Ac mi a'ch taflaf allan o'm golwg, fel y teflais eich holl frodyr, sef holl hâd Ephraim.

16 Am hynny,Pen. 11.14. & 14.11. Exod. 32.10. na weddia tros y bobl hyn, ac na dderchafa waedd, na gweddi trostynt; ac nac eiriol arnaf; canys ni'th wrandawaf.

17 Oni weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur, yn ninasoedd Juda, ac yn heolydd Jerusalem?

18 Y plant sy yn casclu cynnyd, a'r tadau yn cynneu tân, a'r gwragedd yn tylino toes i wneuthur teisennau2 Bren. 23.5. Pen. 44.19. iNeu, waith. frenhines y nef, ac i dywallt diod offrymmau i dduwiau dieithr, i'm digio i.

19 Ai fi y maent hwy yn ei ddigio, medd yr Arglwydd? ai hwynt eu hun, er cywilydd iw hwynebau eu hun?

20 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, wele fy llid a'm digofaint a dywelltir ar y man ymma, ar ddyn, ac ar anifail, ar goed y maes, ac ar ffrwyth y ddaiar, ac efe a lŷsc, ac ni's diffoddir.

21 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel;Esa. 1.11. Pen. 6, 20. Amos 5.21. rhoddwch eich poeth-offrym­mau at eich aberthau, a bwyttewch gig.

22 Canys ni ddywedais i wrth eich tadau, ac ni orchymynnais iddynt, y dydd y dugym hwynt o dîr yr Aipht, amHeb. negesau poeth-offr. boeth offrymmau, neu aberthau:

23 Eithr y peth hyn a orchymynnais iddynt, gan ddywedyd;Exod. 19.5 Lev. 26.12. Deut. 6.3. gwrandewch ar fy llêf, ac mi a fyddaf Dduw i chwi, a chwithau fyddwch yn bobl i minneu; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchymynnais i chwi, fel y byddo yn ddaionus i chwi.

24 Eithr ni wrandawsant, ac ni ostyngasant eu clust, onid rhodiasant yn ôl cynghorion,Neu, ac aut­canion. a childynrwydd eu calon ddrygionus, acHeb. oeddynt yn ol. aethant yn ôl, ac nid ym mlaen.

25 O'r dydd y daeth eich tadau chwi allan o wlâd yr Aipht, hyd y dydd hwn,2 Cron. 36.15. mi a ddanfonais attoch fy holl wasanaeth-wŷr y prophwydi, bob dydd gan foreu-godi ac anfon:

26 Er hynny ni wrandawsant arnafi, ac ni ostyngasant eu clust,Pen. 16.12. eithr caledasant eu gwarrau, gwnaethant yn waeth nâ'i tadau.

27 Am hynny ti a ddywedi y geiriau hyn oll wrthynt, ond ni wrandawant arnat; gelwi hefyd arnynt, ond nid attebant di;

28 Eithr ti a ddywedi wrthynt, dymma gen­hedl ni wrendy ar lais yr Arglwydd ei Duw, ac ni dderbynNeu, addysc. gerydd: darfu am y gwirionedd, a thorrwyd hi ymmaith o'i genau hwynt.

29Job. 1.20. Mic. 1.16. Cneifia dy wallt, ô Jerusalem, a bwrw i ffordd, a chyfod gwynfan ar y lleoedd vchel: canys yr Arglwydd a fwriodd i ffordd, ac a wrthododd genhedlaeth ei ddigofaint.

30 Canys meibion Juda a wnaethant ddrwg yn fy ngolwg, medd yr Arglwydd: gosodasant eu ffieidd-dra yn y tŷ, yr hwn y gelwir fy enw arno, i'w halogi ef.

31 A hwy a adeiladasant1 Bren. 23.10. Pen. 19.5. vchelfeydd To­phet, yr hon sydd ynglyn mab Hinnom; i losci eu meibion, a'i merched yn tân, yr hyn ni orchymynnais, ac niHeb. escynnodd ar fy nghalon. feddyliodd fy nghalon.

32 Am hynny,Levit. 18.21. & 20.3. Deut. 18.10. Pen. 19.6. wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, na elwir hi mwy Tophet, na glyn mab Hinnom, namyn glyn lladdedi­gaeth; canys claddant o fewn Tophet, nes bod eisieu lle.

33 A byddPen. 34.20. & 16.4. Psal. 79.2. celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd, ac i anifelliaid y ddaiar, ac ni bydd a'i tarfo.

34Esay 24.7. Pen. 16.9. & 25.10. & 33.11. Ezec. 26.13. Hos. 2.11. Yna y gwnaf i lais llawenydd, a llais digrifwch, llais priod-sab, a llais priod-ferch, ddarfod allan o ddinasoedd Juda, ac o heolydd Jerusalem; canys yn anrhaith y bydd y wlâd.

PEN. VIII.

1 Gofid yr Juddewon, yn fyw ac yn farw. 4 Y mae yn edliw iddynt eu hynfyd a'i digywilydd anedifeirwch: 13 Yn dangos y farn dost a ga­ent hwy, 18 ac yn cwyno eu henbyd gyflwr hwy.

YN yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y dygant hwy escyrn benhinoedd Juda, ac escyrn ei dywysogion, ac escyrn yr offeiriaid, ac escyrn y prophwydi, ac escyrn trigolion Je­rusalem, allan o'i beddau.

2 A hwy a'i tanant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd, y rhai a garasant hwy, a'r rhai a wasanaethasant, a'r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a'r rhai a geisia­sant, a'r rhai a addolasant: ni chesclir hwynt, ac ni's cleddir; yn dommen ar wyneb y ddaiar y byddant.

3 Ac angeu a ddewisir o flaen bywyd, gan yr holl weddillion a adewir o'r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno, medd Arglwydd y lluoedd.

4 Ti a ddywedi wrrhynt hefyd, fel hyn y dywed yr Arglwydd; a gwympant hwy, ac ni chodant? a dry efe ymaith; ac oni ddychwel?

5 Pa ham y ciliodd pobl Jerusalem ymma yn ei hôl, ag encil tragywyddol? glynasant mewn twyll, gwrthodasant ddychwelyd.

6 Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn, nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, beth a wneuthum i? pob vn oedd yn troi iw yrfa, megis march yn rhuthro i'r frwydr.

7 Ie yEsa. 1.3. ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau, y durtur hefyd, a'r aran, a'r wennol, a gadwant amser eu dyfodiad; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr Arglwydd.

8 Pa fodd y dywedwch, doethion ydym ni, a chyfraith yr Arglwydd sydd gyd â ni? wele, yn diauNeu, ffals bin yr yscri­fennydd­ion sydd yn gwei­thio ar ffalsder. ofer y gwnaeth hi; ofer yw pin yr scrifennyddion.

9Pen. 6.15. Y doethionNeu, a wrad. a ddych. ac a adaliwyd hwynt? a wradwyddwyd, a ddy­chrynwyd, ac ddaliwyd; wele, gwrthoda­sant air yr Arglwydd, aHeb. doethineb pa beth's pha ddoethineb sydd ynddynt?

10 Am hynny y rhoddaf eu gwragedd hwynt i eraill, a'i meusydd i'r rhai a'i meddianno:Esa. 56.11. pen. 5.31. & 6.13. canys o'r lleiaf hyd y mwyaf, pob vn sy yn ymroi i gybydd-dod, o'r prophwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster.

11Pen. 6.14. Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn yscafn, gan ddywedyd,Ezec. 13.10. heddwch, hedd­wch, pryd nad oedd heddwch.

12Pen. 3.3. & 6.13. A fu gywilydd arnynt hwy pan wnae­thant ffieidd dra? na fu ddim cywilydd ar­nynt, ac ni sedrasant wrido: am hynny y syrthiant ym mysc y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr Arglwydd.

13 GanNeu, gasclu. ddifa y difaf hwynt, medd yr Ar­glwydd; ni bydd grawn-winEsay 5.1. &c. ar y winwydden, na ffigysMatth. 21.19. Luc. 13.6. ar y ffigys-bren; a'r ddeilen a syrth, a'r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.

14 Pa ham yr ydym ni yn aros? ymges­clwch ynghyd, ac awn i'r dinasoedd cedyrn, a distawn yno: canys yr Arglwydd ein Duw a'n gostegodd, ac a roes i niPen. 9.15. ac. 23.15. ddwfrNeu, gwenwyn. bustl iw yfed, o herwydd pechu o honom yn erbyn yr Arglwydd.

15Jer. 14.19. Disgwil yr oeddym am heddwch, etto ni ddaeth daioni; am amser meddiginiaeth, ac wele ddychryn.

16Jer. 4.15. O Ddan y clywir ffroeniad ei feirch ef, gan lais gweryrfa ei gedyrn ef y crynodd yr holl ddaiar: canys hwy a ddaethant, ac a fwyttasant y tir,Heb. a'i gy­flawnder, ac oll a oedd ynddo; y ddmas a'r rhai sy yn trigo ynddi.

17 Canys wele, mi aJer. 4.19. ddanfonaf seirph, aspiaid i'ch mysc, y rhaiPsal. 58.4.5. nid oes fwyn rhag­ddynt: a hwy a'ch brathant chwi, medd yr Arglwydd.

18 Pan ymgyssurwn yn erbyn gofid, fy nghalon sydd yn gofidioHeb. arnaf. ynof.

19 Wele lais gwaedd merch fy mhobl, o ble [...]idHeb. gwlad y pellenni­gion. y rhai o wlâd bell: ond ydyw yr Ar­glwydd yn Sion? onid yw ei Brenin hi ynddi? pa ham i'm digiasant â'i delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr?

20 Y cynhaiaf aeth heibio, darfu 'r hâf, ac nid ydym ni gadwedic.

21 Am friw merch fy mhobl i'm briwyd i,Heb. duais. galerais, daliodd synder fi.

22 Onid oes driaclPen. 46.11. Ose. 6.8. yn Gilead; onid oes yno physygwr? pa ham naHeb. escyn. wellhâ iechyd merch fy mhobl?

PEN. IX.

1 Jeremiah yn cwynfan o achos amryw bechodau yr Juddewon, a'i barnedigaethau. 12 Anufydd­dod yw achos eu chwerw ofid hwy. 17 Y mae yn eu hannog i gwynfan o achos eu dinistr: 23 ac i hyderu, nid arnynt eu hunain, ond ar Dduw. 25 Y mae yn bygwth Juddewon a chenhedloedd hefyd.

Heb. Pwy a rydd fy mhen yn ddwfr, neu, i'm pen ddwfr?O NaPen. 4.19. Esay 22.4. bai fy mhen yn ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau, fel yr wylwn ddydd a nôs, am laddedigion merch fy mhobl.

2 Oh na byddei i mi yn yr anialwch lettŷ fforddolion, fel y gadawn fy mhobl, ac yr elwn oddi wrthynt; canys hwynt oll ydynt odinebus, a chymanfa anffyddloniaid.

3 A hwy a annelasant eu tafod fel eu bwa, i gelwydd, ac nid at wirionedd yr ymgryf­hasant ar y ddaiar: canys aethant o ddrwg i ddrwg, ac nid adnabuant fi, medd yr Ar­glwydd.

4Pen. 12.6. Mic. 7, 5.6. Gochelwch bawb eiNeu, gyfaill. gymydog, ac na choelied neb ei frawd: canys pôb brawd gan ddisodli a ddisodla, a phob cymydog a rodia yn dwyllodrus.

5 Pôb vn hefyd aNeu, watw [...]r, dwylla ei gymmydog, a'r gwîr ni's dywedant: hwy a ddyscasant eu tafodau i ddywedyd celwydd, ymflinasant yn gwneuthur anwiredd.

6 Dy drigfan sydd ynghanol twyll: o her­wydd [Page] twyll y gwrthodasant fy adnabod i, medd yr Arglwydd.

7 Am hynny, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; wele fi yn eu toddi hwynt, ac yn eu profi hwynt; canys pa wedd y gwnaf o her­wydd merch fy mhobl?

8 SaethNeu, wedi ei saethu. lemPsal. 120.3.4. yw eu tafod hwy, yn dy­wedydPsal. 12.2. & 28.3. twyll, â'i enau y traetha vn heddwch wrth ei gymydog, eithr o'i fewn y gefydNeu, ei gynllwyn. gyn­llwyn iddo.

9Jer. 5.9.29. Onid ymwelaf â hwynt am hyn, medd yr Arglwydd? oni ddial fy enaid ar gyfryw genhedl a hon?

10 Tros y mynyddoedd y codaf wylofain a chwynfan, a galar trosNeu, drigfeydd, neu, bor­feydd. lannerchau yr an­ialwch; am euNeu, hanghy­fannoddu. llosci hwynt, fel na thramwyo neb trwyddynt, ac na clywir llais yscrubliaid;Heb. o ehediad y nef. hyd an. y ci­liasant. adar y nefoedd, a'r anifeliaid hefyd a giliasant, aethant ymmaith.

11 Ac mi a wnaf Jerusalem yn garneddau, ac ynPen. 10.22. drigfan dreigiau, a dinasoedd Juda a wnâf yn ddiffaethwch heb bresswyludd.

12 Pa ŵr sydd ddoeth a ddeall hyn? a phwy y traethodd genau yr Arglwydd wrtho, fel y mynego? pa ham y darfu am y tîr, ac y lloscwyd fel anialwch, heb gynniwerudd?

13 A dywedodd yr Arglwydd, am wrthod o honynt fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eu bron hwynt, ac na wrandawsant ar fy llef, na rhodio ynddi:

14 Eithr myned yn ôlNeu, meddyl­fryd. cyndynrwydd eu calon eu hun, ac yn ôl Baalim, yr hyn a ddys­codd eu tadau iddynt.

15 Am hynny, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; wele, mi a'i bwydaf hwynt, y bobl hyn, âPen 8.14. & 23.15. wermod, ac a'i diodaf hwynt â dwfr bustl.

16Leuit. 26.33. Gwascaraf hwynt hefyd ym mysc cenhedloedd nid adnabuant hwy na'i tadau: ac mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf, hyd oni ddifethwyf hwynt.

17 Fel hyn y dywed Arglwydd y llu­oedd, edrychwch, a gelwch am alar-wragedd i ddyfod, a danfonwch am y rhai cyfarwydd, i beri iddynt ddyfod,

18 A bryssio, a chodi cwynfan am danom ni, fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau, ac y difero ein amrantau ni ddwfr.

19 Canys llais cwynfan a glybuwyd o Sîon, pa wedd i'n hanrheithiwyd? ni a lwyr wrad­wyddwyd; o herwydd i ni adael y tîr, o her­wydd i'n trig-fannau ein bwrw ni allan.

20 Etto gwrandewch air yr Arglwydd, wragedd, a derbynied eich clust air ei enau ef: dyscwch hefyd gwynfan i'ch merched, a galar bôb vn iw gilydd.

21 O herwydd dringodd angeu i'n ffenestri, ac efe a ddaeth i'n palasau, i ddestrywio y rhai bychain oddi allan, a'r gwŷr ieuaingc o'r heolydd.

22 Dywed, fel hyn y dywed yr Arglwydd, celaneddau dynion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes, ac megis y dyrneid ar ôl y medelwr, ac ni chynnull neb hwynt.

23 Fel hyn y dywed yr Arglwydd,2 Cor. 1.31. 2 Cor. 10.17. nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ymffrostied y crŷf yn ei gryfder, ac nac ym­ffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth:

24 Eithr y neb a ymffrostio, ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall, ac yn fy adnabod i, mai myfi yw yr Arglwydd a wna drugar­edd, barn, a chyfiawnder, yn y ddaiar; o herwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais, medd yr Arglwydd.

25 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan ymwelwyf â phob enwaededic ynghyd â'r rhai dienwaededig:

26 A'r Aipht, ac â Juda, ac ag Edom, ac â meibion Ammon, ac â Moab, ac â'r rhai ollHeb. a dorrwyd ymaith i gonglau. neu, a dorrwyd cyrrau eu gwallt. syddPen. 25.23. yn y cyrrau eithaf, a'r rhai a drigant yn yr anialwch: canys yr holl genhedloedd hyn sy ddienwaededic, a holl dŷ Israel sydd âRhuf. 2.28.29. chalon ddienwaededic.

PEN. X.

1 Yr anghyffelybrwydd sydd rhwng Duw ac eu­lynnod. 17 Y mae 'n annog i ochel y gofidiau sydd ar ddyfod: 19 Yn cwyno anrhaith y Tabernacl gan fugeiliaid ynfydion: 23 Yn gwneuthur gweddi ostyngedig.

GWrandewch y gair a ddywed yr Ar­glwydd wrthych chwi, tŷ Israel.

2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, na ddysc­wch ffordd y cenhedloedd, acDeut. 18.10. nac ofnwch arwyddion y nefoedd: canys y cenhedloedd a'i hofnant hwy.

3 CanysDeut. 12.30. deddfau 'r bobloedd sydd ofer­edd: o herwydd cymmyna vn bren o'r coed, (gwaith llaw 'r saer) â bwyall.

4 AgEsa. 44.12. arian, ac ag aur yr harddant ef, â hoelion, ac â morthwylion y siccrhânt ef, fel na sylfo.

5 Megis palm-wydden, syth ydynt hwy,Psal. 115.5. ac ni lefarant: y mae 'nEsa. 46.1.7. rhaid eu dwyn hwy, am na allant gerdded: nac ofnwch hwynt, canysEsa. 41.23. ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes ynddynt.

6 Yn gymmaint ac nad oes neb Psal. 86.8.10. fel tydi Arglwydd, mawr wyt, a mawr yw dy enw mewn cadernid.

7Datc. 15.4. Pwy ni'th ofna di, Brenin y cenhedlo­edd? canys i ti yNeu, perthynal. gweddei: o herwydd ym mysc holl ddoethion y cenhedloedd, ac ym mysc eu holl deyrnasoedd hwy, nid oes neb fel ty di.

8 EithrHeb. yn vn, neu, ar vnwaith yr ynfy­dasant. cyd-ynfydasant, acEsa. 41.29. Hab. 2.18, Zech. 10.2. amhwy­llasant: athrawiaeth oferedd yw cŷff.

9 Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis, ac aur o Vphaz, gwaith y celfydd, a dwylaw 'r toddudd: sidan glâs a phorphor yw eu gwisc hwy, gwaith y celfydd ynt oll.

10 Eithr yr Arglwydd ydyw 'rHeb. Duw y gwirio­nedd. gwîr Dduw, efe yw 'r Duw byw, a'r BreninHeb. tragywy­ddoldeb. tragy­wyddol, rhag ei lîd ef y cryna 'r ddaiar, a'r cen­hedloedd ni allant ddioddef ei sorriant ef.

11 Fel hyn y dywedwch wrthynt; y duwiau ni wnaethant y nefoedd a'r ddaiar, difethir hwynt o'r ddaiar, ac oddi tan y nefoedd.

12Gen. 1.1, 6. Jer. 51.15. Efe a wnaeth y ddaiar trwy ei nerth, efe a siccrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a estynnodd y nefoedd trwy eiynwyr.

13 Pan roddo efe ei lais, y bydd Neu, lliaws. twrwf dy­froedd yn y nefoedd, ac efe a wna i'r tarth dderchafu o eithafoedd y ddaiar: efe a wna felltNeu, i'r glaw. gyd â'r glaw, ac a ddwg y gwynt allan o'i dryssorau.

14Pen. 51.17, 18. Ynfyd yw pôb dŷn yn ei ŵybodaeth, gwradwyddwyd pôb toddudd trwy y ddelw gerfiedig; canys celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt.

15 Oferedd ynt a gwaith cyfelliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt.

16 Nid fel y rhai hyn, ywPen. 51.19. Deut. 32.9. Psal. 16.5. rhan Jacob; canys lluniwr pôb peth yw efe, ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef: Arglwydd y lluoedd yw ei enw.

17 Cascl o'r tîr dy farsiandiaeth, yr hon wyt yn trigo yn yr amddiffynfa.

18 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele fi yn taflu trigolion y tîr y waith hon, a chyfyngaf arnynt, fel y caffont felly.

19 Gwae fi am fy mriw, dolurus yw fy archoll; ond mi a ddywedais, yn ddiau, dym­ma ofid, a mi a'i dygaf.

20 Fy mhabell i a anrheithiwyd, a'm rha­ffau oll a dorrwyd, fy mhlant a aethant oddi wrrhif, ac nid ydynt: nid oes mwy a ledo fy mhabell, nac a gyfyd fy llenni.

21 Canys y bugeiliaid a ynfydasant, ac ni cheisiasant yr Arglwydd, am hynny ni lwy­ddant; a defaid eu porfa hwy oll a wascerir.

22 Wele, trŵst y sôn a ddaeth, a chyn­nwrf mawrPen. 1.15. & 5.15. & 6.22. o dir y gogledd, i osod dinasoedd Juda yn ddiffaethwch, ac ynPen. 9.11. drigfan dreigiau.

23 Gwn Arglwydd,Dih. 16.1. & 20.44. nad eiddo dyn ei ffordd; nid ar law gŵr a rodio, y mae lly­wodraethu ei gerddediad.

24Psal. 6.1. & 38.1. Pen. 30.11. Cospa fi Arglwydd, etto mewn barn, nid yn dy lid, rhag itHeb. fy lleihau. fy ngwneuthur yn ddiddim.

25Ps. 79.6 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd, y rhai ni'th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni al­wasant ar dy enw; canys bwyttasant Jacob, ie bwyttasant ef, difasant ef hefyd, ac anrheithia­sant ei gyfannedd.

PEN. XI.

1 Jeremi yn cyhoeddi Cyfammod Duw; 8 Yn ceryddu yr Iuddewon am fod yn anufydd iddo, 11 yn prophwydo y doe drygau arnynt hwy. 18 ac ar wyr Anathoth, am gydfwriadu lladd Jeremi.

Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremi oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,

2 Gwrandewch eiriau y cyfammod hwn, a dywedwch wrth wyr Juda, ac wrth bresswyl­wŷr Jerusalem:

3 Dywed hefyd wrthynt, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel;Deut. 27.26. Gal. 3.10. melldigedic fyddo 'r gŵr ni wrendy ar eiriau y cyfammod hwn;

4 Yr hwn a orchymynnais i'ch tadau chwi, y dydd y dugym hwynt o wlâd yr Aipht, o'r ffwrn haiarn, gan ddywedyd;Leu. 26.3.12. gwrandewch ar fy llêf, a gwnewch hwynt, yn ôl yr hyn oll a orchymynnwyf i chwi: felly chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minneu a fyddaf yn Dduw i chwithau:

5 Fel y gallwyf gwplauDeut. 7.12. y llw a dyngais wrth eich tadau, ar roddi iddynt dîr yn llifeirio o laeth a mêl, megis y mae heddyw: yna yr attebais, ac y dywedais, ô Arglwydd,Heb. Amen. felly y byddo.

6 Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthif, cyhoedda y geiriau hyn oll yn ninasoedd Juda, ac yn heolydd Jerusalem, gan ddywedyd; gwrandewch eiriau y cyfammod hwn, a gwne­wch hwynt.

7 Canys gan dystiolaethu y tystiolaethais wrth eich tadau, y dydd y dugym hwynt i fynu o dir yr Aipht, hyd y dydd hwn,Jer. 7.13. drwy godi yn foreu, a thystiolaethu, gan ddywedyd, gwrandewch ar fy llais.

8 Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, eithr rhodiasant bawb ar ôlNeu, meddyl­fryd. cyndyn­rwydd eu calon ddryglonus: am hynny y dygaf arnyntLeu. 26.14. Deut. 28.16. holl eiriau y cyfammod hwn, yr hwn a orchymynnais iddynt ei wneuthur, ond ni wnaethant.

9 A dywedodd yr Arglwydd wrthif, cyd­fradwriaeth a gafwyd yngwŷr Juda, ac ym mysc trigolion Jerusalem.

10 Troesant at anwiredd eu tadau gynt, y rhai a wrthodasant wrando fy ngeiriau: a hwy a aethant ar ôl duwiau dieithr iw gwasanae­thu hwy: tŷ Juda, a thŷ Israel a dorrasant fy nghyfammod, yr hwn a wneuthum â'i tadau hwynt.

11 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, wele fi yn dwyn drwg arnynt, yr hwn ni's gallant fyned oddi wrtho,Dih. 1.28. Esa. 1.15. Pen. 14.12. Ezec. 8.18. Mic. 3.4. yna y gwaeddant arnaf, ac ni wrandawaf hwynt.

12 Yna dinasoedd Juda, a thrigolion Jeru­salem a ânt, ac a waeddant ar y duwiau yr arogl-darthant iddynt; ond gan waredu ni allant eu gwared hwynt, yn amser ei dryg­fyd.

13 Canys yn ôl rhifedi dyPen. 2.28. ddinasoedd, yr oedd dy dduwiau ô Juda; ac yn ôl rhifedi heolydd Jerusalem, y gossodasoch allorau i'rHeb. gwrad­wydd. peth gwradwyddus hwnnw; ie allorau i fwg­darthu i Baal.

14 Am hynnyPen. 7.16. na weddia dros y bobl hyn, ac na chyfod waedd, neu weddi trostynt: canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf o herwydd eu drygfyd.

15Heb. Beth sydd i'm anwylyd yn &c. Esa. 1.11. &c. Beth a wna fy anwyl yn fy nhŷ, gan iddi wneuthur scelerder lawer? a'r cîg cysse­gredic a aeth ymmaith oddi wrthit:Heb. pan fyddo dy ddry­gioni. pan wnelit ddrygioni, yna y llawenychit.

16 Oliwydden ddeilioc dêg, o ffrwyth pryd­ferth, y galwodd yr Arglwydd dy enw: trwy drwst cynnwrf mawr y cynneuodd tân ynddi, a'i changhennau a dorrwyd.

17 Canys Arglwydd y lluoedd, yr hwn a'th blannodd, a draethodd ddrwg yn dy erbyn, o herwydd drygioni tŷ Israel, a thŷ Juda, y rhai a wnaethant yn eu herbyn eu hun, i'm digio i, drwy fwg-darthu i Baal.

18 A'r Arglwydd a yspysodd i'm, ac mi a'i gwn; yna y dangosaist i'm eu gweithredoedd hwy.

19 A minneu oeddwn fel oen, neu fustach a ddygid iw ladd, ac ni wyddwn fwriadu o honynt fwriadau yn fy erbyn i, gan ddywedyd, destrywiwn y pren ynghyd â'iHeb. fara. ffrwyth, a difethwn ef o dîr y rhai byw, fel na chofier ei enw ef mwy.

20 Eithr ô Arglwydd y lluoedd, barn-wr cyfiawnder,1 Sam. 16.7. 1 Cron. 28.9. Psal. 7.9. Pen. 17.10. & 20.12. Datc. 2.23. a chwiliwr yr arennau a'r galon; gwelwyf dy ddialedd arnynt; canys i ti y datcuddiais fy nghŵyn.

21 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am wŷr Anathoth, y rhai a geisiant dy enioes, gan ddywedyd; na phrophwyda yn enw yr Arglwydd, rhac dy farw trwy ein dwylo ni:

22 Am hynny, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; wele fi yn ymweled â hwynt: y gwŷr ieuaingc a fyddant feirw trwy 'r cleddyf; eu meibion, a'i merched a fyddant feirw o newyn.

23 Ac ni bydd gweddill o honynt; canys mi a ddygaf ddrygfyd ar wŷr Anathoth, sef blwyddyn eu gofwy.

PEN. XII.

1 Jeremi yn cwyno rhag llwyddiant yr annuwiol, a thrwy ffydd yn gweled eu cwymp hwy. 5 Duw yn ei rybuddio ef o fradwriaeth ei fro­dyr yn ei erbyn. 7 Ac yn gofidio tros ei etife­ddiaeth; [Page] 14 Ac yn addo i'r edifeiriol gael dychwelyd o gaethiwed.

CYfiawn wyt, ô Arglwydd, pan ddadleuwyf â thi: er hynny ymresymmaf â thi am dy farnedigaethau:Job 21.7. Psal. 37.1. & 73.3. Hab. 1.3.4. pa ham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffynna 'r anffyddloniaid oll?

2 Piennaist hwy, ie gwreiddiasant,Heb. ant rhag­ddynt. cyn­nyddant, ie dygant ffrwyth; agos wyt yn eu genau, a phell oddi wrth eu harennau.

3Ps. 17.3. Ond ti Arglwydd, a'm adwaenost i; ti a'm gwelaist, ac a brosaist fy nghalonHeb. gyd a thi. tu ag attat; tynn allan hwynt megis defaid i'r lladdfa, a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa.

4 Pa hŷd y galara y tîr, ac y gwywa gwellt yr holl faes,Psal. 107.34. oblegit drygioni y rhai sy yn tri­go ynddo? methodd yr anifeiliaid a'r adar, o blegit iddynt ddywedyd, ni wêl efe ein di­wedd ni.

5 O rhedaisti gyd â'r gwŷr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdarewi a'r meirch? ac os blinasant di mewn tîr heddychlawn, yn yr hwn yr ymddiriedaist; yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Jorddonen?

6Pen. 9.4. Canys dy frodyr, a thŷ dy dâd, îe y rhai hynny a wnaethant yn anffyddlon â thi, hwynt hwy hefydNeu, alwasant liaws ar dy ol. a waeddasant yn grôch ar dy ôl, na choelia hwy er iddynt ddywedydHeb. bethau da. geiriau têg wrthit.

7 Gadewais fy nhŷ, gadewais fy etifedd­iaeth; mi a roddaisHeb. gariad. anwylyd fy enaid yn llaw ei gelynion.

8 Fy etifeddiaeth sydd i mi, megis llew yn y coed:Neu, llefodd. Heb. rho­ddes ei lef. rhuo y mae i'm herbyn, am hynny caseais hi.

9 Y mae fy etifeddiaeth i mi, fel aderynNeu, crafangog, neu, ewinog. brith, y mae yr adar o amgylch yn ei herbyn hi; deuwch, ymgesclwch, holl fwyst-filod y maes;Neu, perwch iddynt ddyfod. deuwch i ddifa.

10 Bugeiliaid lawer a ddestrywiasant fy ngwinllan; sathrasant fy rhandir, fy rhandir dirion a wnaethant yn ddiffaethwch anrhei­thiol.

11 Gwnaethant hi yn anrhaith, ac wedi ei hanrheithio y galara hi wrthif: y tir i gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn ei gymme­ryd at ei galon.

12 Anrheith-wŷr a ddaethant ar yr holl fryniau, trwy yr anialwch: canys cleddyf yr Arglwydd a ddifetha o'r naill gwrr i'r ddaiar, hyd y cwrr arall i'r ddaiar: nid oes heddwch i vn cnawd.

13Leuit. 26.16. Deut. 28.38. Mic. 6.15. Hag. 1.6. Hauasant wenith, ond hwy a fedant ddrain; ymboenasant, ond ni thyccia iddynt: a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi, o herwydd llid digofaint yr Arglwydd.

14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd yn erbyn fy holl gymydogion drwg, y rhai sy yn cyffwrdd a'r etifeddiaeth a berais i'm pobl Isra­el ei hetifeddu:Deut. 30.3. Pen. 32.37. wele, mi a'i tynnaf hwy allan o'i tîr, ac a dynnaf dŷ Juda o'i mysc hwynt.

15 Ac wedi i mi eu tynnu hwyn [...] allan, mi a ddychwelaf ac a drugarhâf wrthynt; a dy­gaf hwynt drachefn bôb vn iw etifeddiaeth, a phob vn iw dir.

16 Ac os gan ddyscu y dyscant ffyrdd fy mhobl, i dyngu i'm enw, (byw yw 'r Arglwydd, megis y dyscasant fy mhobl i dyngu i Baal,) yna yr adeiledir hwy ynghanol fy mhobl.

17Esa. 60.12. Eithr oni wrandawant, yna gan ddi­wreiddio y diwreiddiafi y genhedl hon, a chan ddifetha myfi a'i dinistriaf hi, medd yr Ar­glwydd.

PEN. XIII.

1 Trwy arwydd y gwregys lliain a guddiwyd yn Euphrates, y mae Duw yn rhagddangos dinistr ei bobl: 12 Trwy ddammeg costrelau a lenwid â gwin, yn rhagfynegi y meddwid hwy a dryg­fyd. 16 Y mae yn eu hannog i ochel y barne­digaethau sydd ar ddyfod; 22 Ac yn dangos mai eu ffieidd-dra hwy oedd yr achos o hynny.

FEl hyn y dywed yr Arglwydd wrthif; dôs a chais it wregys lliain, a dod ef am dy lwynau, ac na ddod ef mewn dwfr.

2 Felly y ceisiais wregys yn ôl gair yr Arglwydd, ac a'i dodais am fy lwynau.

3 A daeth gair yr Arglwydd attaf eilwaith, gan ddywedyd;

4 Cymmer y gwregys a gefaist, ac sydd am dy lwynau, a chyfod, dôs i Euphrates, a chu­ddia ef mewn twll o'r graig.

5 Felly mi a aethum, ac a'i cuddiais ef yn Euphrates, megis y gorchymynnasei yr Ar­glwydd i mi.

6 Ac ar ôl dyddiau lawer, y dywedodd yr Arglwydd wrthif, cyfod, dôs i Euphrates, a chymmer oddi yno y gwregys a orchymyn­nais i ti ei guddio yno.

7 Yna 'r aethum i Euphrates, ac a gloddi­ais, ac a gymmerais y gwregys o'r man lle y cuddiaswn ef; ac wele, pydrasei y gwregys, ac nid oedd efe dda i ddim.

8 A daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddy­wedyd;

9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, felly y gwnaf i falchder Juda, a mawr falchder Je­rusalem bydru.

10 Y bobl ddigionus hyn, y rhai a wrtho­dant wrando fy ngeiriau i, y rhai a rodiant ynghyndynrwydd eu calon, ac a ânt ar ôl duwiau dieithr, iw gwasanaethu hwynt, ac i ymostwng iddynt, a fyddant fel y gwregys ymma, yr hwn nid yw dda i ddim.

11 Canys megis ac yr ymwasc gwregys am lwynau gŵr, felly y gwneuthum i holl dŷ Israel, a holl dŷ Juda lynu wrthif, medd yr Arglwydd, i fod i mi yn bobl, ac yn enw, ac yn foliant, ac yn ogoniant; ond ni wran­dawent.

12 Am hynny y dywedi wrthynt y gair ymma; fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, pôb costrel a lenwir â gwin; a dywe­dant wrthit ti; oni wyddom ni yn siccr y llen­wir pôb costrel â gwîn?

13 Yna y dywedi wrthynt; fel hyn y dy­wed yr Arglwydd; wele fi yn llenwi holl dri­golion y tîr hwn, ie y brenhinoedd sy yn eistedd yn lle Dafydd ar ei orseddfaingc ef, yr offeiriaid hefyd a'r prophwyd, a holl bresswylwŷr Je­rusalem, â meddwdod.

14 Tarawaf hwyHeb. wr wrth ei frawd. y naill wrth y llall, y tadau a'r meibion ynghyd, medd yr Arglwydd; nid arbedaf, ac ni thrugarhâf, ac ni ressynaf,Heb. rhag eu difetha. onid eu difetha hwynt.

15 Clywch, a gwrandewch, na falchiwch; canys yr Arglwydd a lefarodd.

16 Rhoddwch ogoniant i'r Arglwydd eich Duw, cyn iddo ef ddwynEsa. 8.22. tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll, a thra fôch yn disgwil am oleuni, iddo ef ei droi yn gyscod angeu, a i wneuthur yn dywyllwch.

17 Ond oni wrandewch chwi hyn, fy enaid a ŵyla mewn lleoedd dirgel, am eich [Page] balchder;Galar. 1.2, 16. & 2.18. a'm llygaid gan ŵylo a wylant, ac a ollyngant ddagrau, o achos dwyn diadell yr Arglwydd i gaethiwed.

18 Dywed wrth2 Bren. 24.12. y brenin a'r frenhines, ymostyngwch, eisteddwch i lawr; canys des­cynnodd eichNeu, pen-wisc. pendefigaeth, sef coron eich anrhydedd.

19 Dinasoedd y deau a gaeir, ac ni bydd a'i hagoro; Juda i gyd a gaeth-gludir, yn llwyr y dygir hi i gaethiwed.

20 Codwch i fynu eich llygaid, a gwelwch y rhai sy yn dyfod o'r gogledd: pi le y mae y ddiadell a roddwyd i ti, sef dy ddiadell bryd­ferth?

21 Beth a ddywedi, pan ymwelo â thi? (ca­nys ti a'i dyscaist hwynt yn dywysogion, ac yn ben arnat) oni oddiwes gofidiau di, megis gwraig yn escor?

22 Ac o dywedi yn dy galon,Pen. 5.19. & 16.10. pa ham y digwydd hyn i mi; o herwydd amlder dy an­wiredd y noethwyd dy odrau, ac yNeu, dygir ym­aith dy sodlou trwy dr [...]is. dinoeth­wyd dy sodlau.

23 A newidia yr Ethiopiad ei groen? neu 'r llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai aHeb. ddyscwyd. gynnefinwyd a gwneu­thur drwg.

24 Am hynny y chwalaf hwynt megis sofl yn myned ymmaith gyd â gwynt y diffae­thwch.

25 Dymma dy gyfran di, y rhan a fesurais i ti, medd yr Arglwydd, am i ti fy anghofio i, ac ymddiried mewn celwydd.

26 Am hynny y dinoethais inneu dy od­rau di tros dy wyneb, fel yr amlyger dy warth.

27 Gwelais dy odineb, a'th weryrad, brynti dy butteindra; a'th ffieidd-dra, ar y bryniau yn y maefydd: gwae di Jerusalem, a ymlanhei di?Heb. yn ol pa bryd etto? pa bryd bellach?

PEN. XIIII.

1 Y newyn tost, 7 yn peri i Jeremi weddio. 10 Ni fynn yr Arglwydd ymbil ag ef tros y bobl. 13 Nad yw gau-brophwydi yn escus iddynt hwy. 17 Cyffroi Jeremi i gwyno trostynt hwy.

GAir yr Arglwydd, yr hwn a ddaeth at Je­remiHeb. am eiriau y drudan. neu, y gwahar­ddiadau. o achos y drudaniaeth.

2 Galar Juda, a'i phyrth a lescant; y maent yn ddu hyd lawr, a gwaedd Jerusalem a dder­chafodd i fynu.

3 A'i boneddigion a hebryngasant eu rhai bychain i'r dwfr, daethant i'r ffosydd, ni chaw­sant ddwfr; dychwelasant a'i llestri yn weig­ion; cywilyddio, a gwladeiddio a wnaethant, a chuddio eu pennau.

4 O blegit agennu o'r ddaiar, am nad oedd glaw ar y ddaiar, cywilyddiodd y llafurwŷr, cuddiasant eu pennau.

5 Ie yr ewig hefyd a lydnodd yn y maes, ac a'i gadawodd, am nad oedd gwellt.

6 A'r Assynnod gwylltiona safasant yn y lle­oedd vchel; yfasant wynt fel dreigiau: eu lly­gaid hwy a ballasant, am nad oedd gwellt.

7 O Arglwydd, er i'n anwireddau dystio­laethu i'n herbyn, gwna di er mwyn dy enw: canys aml yw ein cildynrwydd ni, pechasom i'th erbyn.

8 Gobaith Israel, a'i Geidwad yn amser ad­fyd, pa ham y byddi megis pererin yn y tîr, ac fel ymdeithydd yn troi i letteua tros nos­waith?

9 Pa ham y byddi megis gŵr wedi synnu? fel gŵr cadarn heb allu achub? etto yr ydwyt yn ein mysc ni Arglwydd, a'th enw di a elwir arnom, na âd ni.

10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y bobl hyn, fel hyn yr hoffasant hwy gyrwydro, ac ni attaliasant eu traed: am hynny ni's myn yr Arglwydd hwy: yr awr hon y cofia efe eu hanwiredd hwy, ac a ymwel â'i pechodau.

11 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthif;Pen. 7.16. & 11.14. Exod. 32.10. na weddia tros y bob, hyn am ddaioni.

12Dihar. 1.28. Esa. 1.15. Pen. 11.11. Ezec. 8.18. Mic. 3.4. Pan ymprydiant ni wrandawaf eu gwaedd hwynt, a phan offrymmant boeth off­rwm a bwyd offrwm, ni byddaf bodlon iddynt: ond â'r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, y difaf­hwym.

13 Yna y dywedais, ô Arglwydd Dduw, wele, mae y prophwydi yn dywedyd wrthynt, ni welwch chwi gleddyf, ac ni ddaw newyn at­toch, eithr mi a roddaf heddwchHeb. gwirio­nedd, neu, siccrwydd. siccr i chwi yn y lle ymma.

14 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthif; y prophwydi sy yn prophwydo celwyddau, yn fy enw i,Pen. 23.21. & 27.15. & 29.8, 9. nid anfonais hwy, ni orchymyn­nais iddynt ychwaith, ac ni leferais wrthynt: gau weledigaeth, a dewiniaeth, a choegedd, a thwyll eu calon eu hun, y maent hwy yn eu prophwydo i chwi.

15 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, am y propwydi sy yn prophwydo yn fy enw i, a minneu heb eu hanfon hwynt, etto hwy a ddywedant, cleddyf a newyn ni bydd yn y tîr hwn; trwy gleddyf a newyn y di­fethir y prophwydi hynny.

16 A'r bobl y rhai y maent yn prophwydo iddynt, a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerusalem, o herwydd y newyn a'r cleddyf, ac ni bydd neb iw claddu, hwynt hwy, na'i gwragedd, na'i meibion, na'i merched: canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni.

17 Am hynny y dywedi wrthynt y gair ymma,Galar. 1.16. & 2.18. Pen. 13.17. difered fy llygaid i ddagrau, nôs a dydd, ac na pheidiant; canys â briw mawr y briwyd y wyryf, merch fy mhobl, ac a phlâ tost iawn.

18 Os âfi allan i'r maes, wele rai wedi eu lladd â'r cleddyf; ac o deuaf i mewn i'r ddi­nas, wele rai llesc o newyn; canys y prophwyd, a'r offeiriad hefyd, sy ynNeu, marsian­diaeth yn erbyn tir a hwy­thau heb ei gydna­bod. Pen. 5.31. amgylchu i dîr nid adwaenant.

19 Gan wrthod a wrthodaist ti Juda? neu a ffieiddiodd dy enaid ti Sion? pa ham y tarew­aist ni, ac nad oes i ni feddiginiaeth?Pen. 8.15. disgwi­liasom am heddwch, ac nid oes daioni, ac am amser iachâd, ac wele flinder.

20 Yr ydym yn cydnabod, Arglwydd, ein camwedd, ac anwiredd ein tadau; o blegitPsal. 106.6. Dan. 9.8. ni a bechasom yn dy erbyn di.

21 Na ffieiddia ni, er mwyn dy enw, ac na fwrw i lawr orseddfa dy ogoniant: cofia, na thor dy gyfammod â ni.

22 A oes neb ym mhlithPen. 10.15, oferedd y cen­hedloedd a wna iddi lawio? neu â rydd y ne­foedd gafodau? ond ti yw efe, ô Arglwydd ein Duw ni? am hynny arnat ti y disgwiliwn ni; canys ti a wnaethost y pethau hyn oll.

PEN. XV.

1 Llwyr wrthodiad, ac amryw farnedigaethau 'r Iuddewon. 10 Jeremi yn cwyno rhag eu hatcasrwydd hwy, ac yn derbyn addewid iddo ei hun, 12 a bygwth arnynt hwythau: 15 yn gweddio, 19 ac yn cael addewid gra­susawl.

A Dywedodd yr Arglwydd wrthif;Ezec. 14.14. pe safeiExod. 32.14. Moses, a1 Sam. 7.9. Samuel, ger fy mron, etto ni byddai fy serch ar y bobl yma, bwrw hwy allan o'm golwg, ac elont ymaith.

2 Ac os dywedant wrthit, i ba le yr awn? titheu a ddywedi wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd,Pen. 43.11. Zech. 11.9. y sawl sydd i angeu, i angeu; a'r sawl i'r cleddyf, i'r cleddyf; a'r sawl i'r newyn, i'r newyn: a'r sawl i gaethiwed, i gae­thiwed.

3 AcLevit. 26.16. mi a osodaf arnynt bedwarHeb. teulu. rhywog­aeth, medd yr Arglwydd, y cleddyf i ladd, a'r cŵn i larpio, ac adar y nefoedd, ac anifeiliaid y ddaiar, i yssu, ac i ddifa.

4Deut. 28.25. Pen. 24.9. Ac a'i rhoddaf hwynt iw symudo i holl deyrnasoedd y ddaiar;2 Bren. 21.11. herwydd Manasseh mab Hezeciah brenin Juda, am yr hyn a wnaeth efe yn Jerusalem.

5 Canys pwy a drugarhâ wrthit ti, ô Jeru­salem? a phwy a gwyna i ti? a phwy a dry i ymofynHeb. am dy heddwch. pa fodd yr wyt ti?

6 Ti a'm gadewaist, medd yr Arglwydd, ac a aethost yn ôl: am hynny yr estynnaf fy llaw yn dy erbyn di, ac a'th ddifethaf, myfi a flinais yn edifarhau.

7 Ac mi a'i chwalaf hwynt â gwintill, ym myrth y wlâd:Heb. difuddiaf, neu, ym­ddifadaf. diblantaf, difethaf fy mhobl, gan na ddychwelant oddi wrth eu ffyrdd.

8 Eu gweddwon a amlhasant i mi, tu hwnt i dywod y môr: dugym arnynt yn erbynNeu, y fam ddinas, wr ieu­angc yn yspeilio, neu, y fam a'r gwr ie­uangc. mam y gwyr ieuaingc, anrheithiwr ganol dydd, perais iddo syrthio yn ddisymmwth arni hi, a dychryn ar y ddinas.

9 Yr hon a blantodd saith, a lescaodd:Neu, ymada­wodd a'r enaid. ei henaid hi a lysmeiriodd,Amos. 8.9. eu haul a fachlu­dodd tra oedd hi yn ddydd; hi a gywilyddi­wyd ac a wradwyddwyd; a rhoddaf y gwe­ddillion o honynt i'r cleddyf, yngwydd eu ge­lynion, medd yr Arglwydd.

10Job 3.1. Pen. 20.14. Gwae fi fy mam, ymddwyn o honot fi, yn ŵr ymryson, ac yn ŵr cynhen i'r holl ddaiar: ni logais, ac ni logwyd i mi; etto pawb o honynt sy yn fy melldigo i.

11 Yr Arglwydd a ddywedodd, yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni: yn ddiauNeu, eiriolaf ar y gelyn trosot. gwnâf i'r gelyn fod yn dda wrthyt, yn amser adfyd, ac yn amser cystudd.

12 A dyrr haiarn yr haiarn o'r gogledd; a'r dur?

13 Dy gyfoeth a'th dryssorau a roddaf ynPen. 17.3. yspail, nid am werth, onid o blegit dy holl bechodau, drwy dy holl derfynau.

14 Gwnaf it fyned hefyd gyd â'th elynion i dîr nid adwaenost: canysDeut. 32.22. tân a enynnodd yn fy nigofaint, arnoch y llŷsc.

15 Ti a wyddost Arglwydd, cofia fi, ac ym­wel â mi, a dial trosof ar fy erlidwŷr, na ddwg fi ymaith yn dy hir-ymaros, gwybydd ddwyn o honof wradwydd er dy fwyn di.

16 Dy eiriau a gaed, a mi a'iEzec. 3.3. Datc. 10.9. bwyteais hwynt, ac yr oedd dy air di i mi yn llawenydd, ac yn hyfrydwch fy nghalon: canys dy enw di a alwyd arnafi, ô Arglwydd Dduw y lluoedd.

17 Nid eisteddais ynghymanfa y gwatwar­wŷr, ac nid ymhyfrydais: eisteddais fy hunan o herwydd dy law di; canys ti a'm llenwaist i o lid.

18 Pa ham y mae fyPen. 30.15. nolur i yn dragy­wyddol; a'm plâ yn anaele, fel na ellir ei iachau? a fyddi di i mi megys celwyddoc, neu fel dyfroeddHeb. nid ydynt ffyddlon. a ballant.

19 Am hynny fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, os dychweli, yna i'th ddygaf eilwaith, a thi a sefi ger fy mron, os tynni ymmaith y gwerthfawr oddi wrth y gwael, byddi fel fy ngenau i: dychwelant hwy attat ti, ond na ddychwel di attynt hwy.

20 Gwnaf di hefyd i'r bobl ymma ynPen. 1.18. & 6.27. fag­wyr efydd gadarn, a hwy a ryfelant yn dy erbyn di, eithr ni'thPen. 20.11. orchfygant; canys yr ydwyfi gyd â thi, i'th achub, ac i'th wared, medd yr Arglwydd.

21 Ac mi a'th waredaf di o law y rhai drygionus; ac a'th ryddhâf di o law yr of, nadwy.

PEN. XVI.

1 Y Prophwyd trwy gyscodion, sef trwy ymat­tal oddiwrth briodas, ac oddiwrth dai galar a gwledda, yn rhagddangos llwyr ddifrod yr Iu­ddewon, 10 am eu bod yn waeth na'i tadau. 14 Y bydd rhyfeddach eu hymwared hwy allan o gaethiwed, nag allan o'r Aipht. 16 Y tâl Duw iddynt eu delw-addoliaeth yn ddau­ddyblyg.

GAir yr Arglwydd a ddaeth hefyd attafi, gan ddywedyd;

2 Na chymmer i ti wraig, ac na fydded i ti feibion na merched, yn y lle hwn.

3 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, am y meibion, ac am y merched a anwyd yn y lle hwn; ac am eu mammau a'i dug hwynt, ac am eu tadau a'i cenhedlodd hwynt yn y wlâd hon:

4Pen. 15.2. O angeu nychlyd y byddant feirw,Pen. 25.32. ni alerir am danynt, ac nis cleddir hwynt; by­ddant fel tail ar wyneb y ddaiar, a darfyddant drwy yr cleddyf, a thrwy newyn: a'iPen. 7.33. & 34.20. Psal. 79.2. cela­neddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaiar.

5 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, na ddôs i dŷNeu, galar­wledd. y galar, ac na ddôs i alaru, ac na chwyna iddynt: canys myfi a gymmerais ym­maith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn, medd yr Arglwydd, sef trugaredd a thosturi.

6 A byddant feirw yn y wlâd hon, fawr a bychan, ni chleddir hwynt, ac ni alerir am danynt; nid ymdorrir, ac nid ymfoelir trostynt.

7Megis Ezec. 24.17. neu, nid ymdor­rant tros­tynt. Levit. 19.28. Deut. 14.1. Ni rannant iddynt fwyd mewn galar, i roi cyssur iddynt am y marw, ac ni pharant iddynt yfed o phiol cyssur, am eu tâd, neu am eu mam.

8 Na ddôs i dŷ gwledd, i eistedd gyd â hwynt, i fwytta, ac i yfed.

9 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y llu­oedd, Duw Israel, wele,Esay. 24.7, 8. Pen. 7.34. & 25.10. Ezec. 26.13. myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd, i lais y priod-fab, ac i lais y briod-ferch, ddarfod o'r lle hwn, o flaen eich llygaid, ac yn eich dyddiau chwi.

10Pen. 5.19. & 13.22. A phan ddangosech i'r bobl ymma yr holl eiriau hyn, ac iddynt hwythau ddywedyd wrthit, am ba beth y llefarodd yr Arglwydd yr holl fawr-ddrwg hyn i'n herbyn ni? neu pa beth yw ein hanwiredd? neu beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw?

11 Yna y dywedi wrthynt; o herwydd i'ch tadau fy ngadel i, medd yr Arglwydd, a myned ar ôl duwiau dieithr, a'i gwasanaethu hwynt, ac ymgrymmu iddynt, a'm gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith:

12 A chwithau a wnaethochPen. 7.26. yn waeth na'ch tadau, (canys wele chwi yn rhodio, bob [Page] vn yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg, heb wrando arnaf.)

13Deut. 4.27. & 28.64, 65. Am hynny mi a'ch taflaf chwi o'r tîr hwn, i wlâd nid adwaenoch, chwi, na'ch ta­dau; ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr, ddydd a nôs, lle ni ddangosaf i chwi ffafor.

14Pen. 23.7, 8. Gan hynny, wele yr dyddiau yn dy­fod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywedir mwyach, byw yw 'r Arglwydd yr hwn a ddug feibion Israel i fynu o dîr yr Aipht:

15 Eithr byw yw 'r Arglwydd, yr hwn a ddug i fynu feibion Israel o dîr y gogledd, ac o'r holl diroedd lle y gyrrasei efe hwynt: a mi a'i dygaf hwynt drachefn i'w gwlâd a roddais iw tadau.

16 Wele fi yn anfon am byscod-wŷr lawer, medd yr Arglwydd, a hwy a'i pyscottant hwy; ac wedi hynny mi a anfonaf am hel-wŷr lawer, a hwy a'i heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac oddi ar bob bryn, ac o ogofeydd y creigiau.

17Job. 34.21. Dihar. 5.21. Pen. 32.19. Canys y mae fy ngolwg ar eu holl ffyrdd hwynt; nid ydynt guddiedic o'm gwydd i: ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedic oddi ar gyfer fy llygaid.

18 Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd a'i pechod hwynt, am iddynt halogi fy nhîr â'i ffiaidd gelanedd; ie â'i ffi­eidd-dra y llanwasant fy etifeddiaeth.

19 O Arglwydd, fy nerth, a'm cadernid, a'm noddfa, yn nydd blinder; attat ti y daw y cenhedloedd o eithasoedd y ddaiar, ac a ddy­wedant, diau mai celwydd a ddarfu i'n tadau ni ei etifeddu, oferedd a phethau heb lês yn­ddynt.

20 A wna dŷn dduwiau iddo ei hun, a hwythauPen. 2.11. heb fod yn dduwiau?

21 Am hynny wele mi a wnaf iddynt wy­bod y waith hon; dangosaf iddynt fy llaw, a'm grym: a chânt wybod mai yr Arglwydd yw fy enw.

PEN. XVII.

1 Caethiwed Juda am eu pechod. 5 Melldithio ymddiried mewn dyn, 7 a bendithio ymddiried yn Nuw. 9 Nas gall y galon dwyllodrus dwyllo Duw. 12 Iechydwriaeth Duw. 15 Y Prophwyd yn cwyno rhag y rhai oedd yn gwat­wor ei brophwydoliaeth ef. 19 Ei anfon ef i adnewyddu 'r Cyfammod, trwy sanctei­ddio 'r Sabboth.

PEchod Juda a scrifennwydIob. 19.24. â phin o haiarn, ag ewin o adamant y cerfiwyd ef ar lech eu calon, ac ar gyrn eich allorau:

2 Gan fod eu meibion yn cofio eu hallorau, a'iBarn. 3.7. Esa. 1.29. llwynau wrth y pren deiliog, ar y bryn­iau vchel.

3 O fy mynyddPen. 15.13. yn y maes, dy olud a'th holl dryssorau di a roddaf yn anrhaith, a'th vchelfeydd i bechod, drwy dy holl derfynau.

4 Ti a adewir hefydHeb. ynot dy hunan. dy hunan, heb dy etifeddiaeth a roddais i ti, ac mi a wnaf i ti wasanaethu dy elynion, mewn tîr nid adwae­nost: canys cynneuasoch dân ynfy nîg, yr hwn a lŷsc bŷth.

5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, melldige­dic fyddo 'r gŵr a hydero mewn dŷn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a'r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr Arglwydd.

6 Canys efe a fydd fel yPen. 48.6. grûg yn y diffae­thwch, ac ni wêl pan ddêl daioni; eithr efe a gyfannedda boeth-fannau yn yr anialwch, mewn tîr hallt ac anghyfanneddol.

7Psal. 2.12. & 34.10. & 125.1. Dihar. 16.20. Esay. 30.18. Bendigedic yw 'r gŵr a ymddiriedo yn yr Arglwydd; ac y byddo yr Arglwydd yn hyder iddo.

8 Canys efe a fydd megisPsal. 1.3. pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ac a estyn ei wraidd wrth yr afon; ac ni wyr oddiwrth ddyfod gwrês, ei ddeilen fydd îr, ac ar flwyddynNeu, attalia­eth. sychder ni ofala, ac ni phaid â ffrwytho.

9 Y galon sydd fwy ei thwyll nâ dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a'i hedwyn?

101 Sam. 16.7. 1 Cron. 28.9. Psal. 7.9. Pen. 11.20. & 20.12. Datc. 2.23. Myfi yr Arglwydd sydd yn chwilio y galon, yn profi yr arennau, i roddi i bôb vn yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithred­oedd.

11 Fel pettris ynNeu, casclu cywion nid esco­rodd bi. eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd.

12 Gorsedd ogoneddus dderchafedic o'r dechreuad, yw lle ein cyssegr ni.

13 O Arglwydd, gobaith Israel,Psal. 73.27. Esa. 1.28. y rhai oll a'th wrthodant a wradwyddir, scrifennir yn y ddaiar y rhai a giliant oddi wrthif: am iddynt adel yr Arglwydd,Pen. 2.13. ffynnon y dyfr­oedd byw.

14 Iachâ fi ô Atglwydd, a mi a iacheir; achub fi, a mi a achubir; canys tydi yw fy moliant.

15 Wele hwynt yn dywedyd wrthif;Esay. 5.19. pa le y mae gair yr Arglwydd? deued bellach.

16 Ond myfi, ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di,Pen. 1.4. &c. ac ni ddymunais y dydd blin; ti a'i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o'm gwefusau yn vnion ger dy fron di.

17 Na fydd yn ddychryn i mi, ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd.

18Psal. 35.4. & 40.14. Gwradwydder fy erlidwŷr ac na'm gwradwydder i; brawycher hwynt, ac na'm brawycher i: dŵg arnynt ddydd drwg,Pen. 11.20. a dryllia hwynt â drylliad dau ddyblyg.

19 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthif, cerdda, a saf ym mhorth meibion y bobl, trwy yr hwn yr â brenhinoedd Juda i mewn, a thrwy yr hwn y deuant allan, ac yn holl byrth Jerusalem;

20 A dywed wrthynt, gwrandewch air yr Arglwydd, brenhinoedd Juda, a holl Juda, a holl bresswyl-wŷr Jerusalem, y rhai a ddeuwch drwy yr pyrth hyn:

21 Fel hyn y dywed yr Arglwydd,Nehem. 13.19. dis­gwiliwch ar eich eneidiau, ac na ddygwch faich ar y dydd Sabboth, ac na ddygwch ef i mewn drwy byrth Jerusalem.

22 Ac na ddygwch faich allan o'ch tai ar y dydd Sabboth, ac na wnewch ddim gwaith; eithr sancteiddiwch y dydd Sabboth,Exod. 20 8. & 23.12. & 31.13. Ezec. 20.12. fel y gorchymynnais i'ch tadau.

23 Ond ni wrandawsant, ac ni ogwydda­sant eu clust, eithr caledasant eu gwarrau rhac gwrando, a rhac derbyn addysc.

24 Er hynny os dyfal wrandewch arnaf, medd yr Arglwydd, heb dddwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Sabboth, ond sancteiddio y dydd Sabboth, heb wneuthur dim gwaith arno:

25Pen. 22.4. Yna y daw drwy byrth y ddinas hon, frenhinoedd, a thywysogion, yn eistedd ar or­sedd Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, hwy a'i tywysogion, gwŷr Juda, a phresswylwŷr Jerusalem: a'r ddinas hon a gy­fanneddir byth.

26 Ac o ddinasoedd Juda, ac o amgylchoedd [Page] Jerusalem, ac o wlâd Benjamin, ac o'r gwasta­dedd, ac o'r mynydd, ac o'r deau, y daw rhai yn dwyn poeth offrymmau, ac aberthau, a bwyd offrymmau, a thus, ac yn dwyn aberthau moliant i dŷ yr Arglwydd.

27 Ond os chwi ni wrendy arnaf, i sanctei­ddio y dydd Sabboth, heb ddwyn baich, wrth ddyfod i byrth Jerusalem, ar y dydd Sabboth; yna mi a gynneuaf dân yn ei phyrth hi, ac efe a yssa balasau Jerusalem, ac ni's diffoddir.

PEN. XVIII.

1 Trwy arwydd o'r crochenydd, y dangosir cy­flawn allu Duw, i wneuthur a phob cenhedl y peth a fynno. 11 Bygwth ar Juda am gilio oddiwrth Dduw. 18 Jeremi yn gweddio yn erbyn y rhai oedd mewn cydfwriad iddo.

Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremi oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,

2 Cyfod, a dôs i wared i dŷ y crochenydd, ac yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau.

3 Yna mi a euthum i wared i dŷ y croche­nydd, ac wele ef yn gwneuthur ei waith arNeu, eistedd­leoedd. droellau.

4 A'r llestr yr hwn yr oedd efe yn ei wneu­thurNeu, a ddif­wynwyd megis clai yn llaw y croche­nydd. o glai a ddifwynwyd yn llaw y croche­nydd: felly efeHeb. a ddych­welodd ac a'i gwnaeth yn llestr &c. a'i gwnaeth ef drachefn yn llestr arall, fel y gwelodd y crochenydd yn dda ei wneuthur ef.

5 Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd,

6Esa. 45.9. Doeth. 15.7. Rhuf. 9.20. Oni allafi, fel y crochenydd hwn, wneu­thur i chwi, tŷ Israel, medd yr Arglwydd? wele, megis ac y mae y clai yn llaw y croche­nydd, felly yr ydych chwithau yn fy llaw i, tŷ Israel.

7 Pa brŷd bynnac y dywedwyf amPen. 1.10. ddi­wreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenhedl neu frenhiniaeth;

8 Os y genhedl honno y dywedais yn ei herbyn, a drŷ oddiwrth ei drygioni, myfi aJonah. 3.10. edifarhâf am y drwg a amcenais ei wneu­thur iddi.

9 A pha brŷd bynnac y dywedwyf am adeiladu, ac am blannu cenhedl, neu frenhin­iaeth;

10 Os hi a wna ddrygioni yn fy ngolwg, heb wrando ar fy llais, minneu a edifarhâf am y daioni â'r hwn y dywedais y gwnawn lês iddi.

11 Yn awr gan hynny attolwg, dywed wrth wŷr Juda, ac wrth bresswyl-wŷr Jeru­salem, gan ddywedyd, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd: wele fi yn llunio drwg i'ch erbyn, ac yn dychymygu dychymyg i'ch erbyn:2 Bren. 17.13. Pen. 7.3. & 25.5. & 35 15. dychwelwch yr awr hon, bob vn o'i ffordd ddrwg, a gwnewch eich ffyrdd, a'ch gweith­redoedd yn dda.

12 Hwythau a ddywedasant,Pen. 2.25. nid oes obaith; ond ar ôl ein dychymygion ein hunain yr awn, a gwnawn bob vn amcan ei ddrwg calon ei hun.

13 Am hynny fel hyn y dywed yr Ar­glwydd,Pen. 2.10. gofynnwch attolwg ym mysc y cen­hedloedd, pwy a glywodd y cyfryw bethau? gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll lawn.

14 A wrthyd dynNeu, fy meusydd am graig, neu am eira Li­banus? a wrthodir y dyfr­oedd rhe­degog, am y dyfr­oedd di­eithr oe­rion? eiria Libanus, yr hwn sydd yn dyfod o graig y maes? neu a wrthodir y dyfroedd oerion rhedegog, sydd yn dyfod o le arall?

15 O herwydd i'm pobl fyPen. 2.13. & 17.13. anghofio i, hwy a arogl-darthasant i wagedd, ac a wnae­thant iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, allan o'rPen. 6.16. hên lwybrau, i gerdded llwybrau ffordd ddisathr,

16 I wneuthur eu tir ynPen. 19.8. & 49.13. & 50.13. anghyfannedd, ac yn chwibaniad byth: pob vn a elo heibio iddo a synna, ac a escwyd ei ben.

17 Megis â gwynt y dwyrain y chwalaf hwynt o flaen y gelyn; fy ngwegil, ac nid fy wyneb a ddangosaf iddynt, yn amser eu dia­ledd.

18 Yna y dywedasant, deuwch a dychy­mygwn ddychymygion yn erbyn Jeremi;Mal. 2.7. canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na'r gair gan y pro­phwyd: deuwch, tarawn efNeu, am y ta­fod. â'r tafod, ac nac ystyriwn yr vn o'i eiriau ef.

19 Ystyria di wrthif ô Arglwydd, a chlyw lais y rhai sydd yn ymryson â mi.

20 A delir drwg dros dda? canys cloddia­sant ffôs i'm henaid: cofia i mi sefyll ger dy fron di, i ddywedyd daioni trostynt, ac i droi dy ddîg oddi wrthynt.

21 Am hynny dyro eu plant hwy i fynu i'r newyn, aPsal. 109.10. thywallt eu gwaed hwynt, drwyHeb. ddwylo. nerth y cleddyf: a bydded eu gwragedd heb eu plant, ac yn weddwon; lladder hefyd eu gwŷr yn feirw, a tharawer eu gwŷr ieuaingc â'r cleddyf yn y rhyfel.

22 Clywer eu gwaedd o'i tai, pan ddygech fyddin arnynt yn ddisymmwth, canys cloddia­sant ffôs i'm dal; a chuddiasant faglau i'm traed.

23 Tithau ô Arglwydd a wyddost eu holl gyngor hwynt i'm herbyn,Heb. i farwo­laeth. i'm llâdd i: na faddeu eu hanwiredd, ac na ddelea eu pechodau o'th ŵydd, eithr byddant dramgwyddedic ger dy fron: gwna hyn iddynt yn amser dy ddi­gofaint.

PEN. XIX.

1 Tan rith torri llestr crochenydd, y mae yn rhag­ddangos distryw yr Iddewon am eu pechodau.

FEl hyn y dywed yr Arglwydd, dôs a chais ystên bridd y crochenydd, a chymmer o henuriaid y bobl ac o henuriaid yr offeiriaid:

2 A dôs allan i ddyffryn mab Hinnom, yr hwn sydd wrth ddrws porthHeb. yr haul. y dwyrain, a chyhoedda yno y geiriau a ddywedwyf wrthit.

3 A dywed, brenhinoedd Juda, a phresswyl­wŷr Jerusalem, clywch air yr Arglwydd; fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, wele fi yn dwyn ar y lle hwn ddrwg, yr hwn1 Sam. 3.11. 2 Bren. 21.12. pwy bynnac a'i clywo, ei glustiau a ferwi­nant.

4 Am iddynt fy ngwrthod i, a dieithro y lle hwn, ac arogl-darthu vnddo i dduwiau di­eithr, y rhai nid adwaenent hwy, na'i tadau, na brenhinoedd Juda; a llenwi o honynt y lle hwn o waed gwirioniaid.

5 Adeiladasant hefyd vchelfeydd Baal, i losci eu meibion â thân, yn boeth offrymmau i Baal;Pen. 7.31, 32. yr hyn ni orchymynnais, ac ni ddywe­dais, ac ni feddyliodd fy nghalon.

6 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na elwir y lle hwn mwyachPen. 7.31. 2 Bren. 23.10. Esay. 30.33. Tophet, na dyffryn mab Hinnom, onid dyff­ryn y lladdfa.

7 A mi a wnaf yn ofer gyngor Juda, a Je­rusalem, yn y lle hwn, a pharaf iddynt syrthio gan y cleddyf, o flaen eu gelynion, a thrwy law y rhai a geisiant eu henioes hwy: rhoddaf he­fyd euPen. 16.4. & 7.33. celaneddau hwynt yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaiar.

8 APen. 18.16. & 49.13. & 50.13. mi a wnaf y ddinas hon yn anghy­fannedd, [Page] ac yn ffiaidd; pob vn a elo heibio iddi, a synna, ac a chwibiana, o herwydd ei holl ddialeddau hi.

9 A mi aLevit. 26.29. Deut. 28.53. Galar. 4.10. baraf iddynt fwytta cnawd eu meibion, a chnawd eu merched, bwytânt he­fyd bob vn gnawd ei gyfaill, yn y gwarchae a'r cyfyngder, â'r hwn y cyfynga eu gelynion, a'r rhai sy yn ceisio eu henioes, arnynt.

10 Yna y torri yr stên yngŵydd y gwŷr a êl gyd a thi;

11 Ac y dywedi wrthynt, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, yn y modd hwn y dry­lliaf y bobl hyn, a'r ddinas hon, fel y dryllia vn lestr pridd, yr hwn ni ellir eiHeb. feddigi­niaethu. gyfannu mwy­ach; ac ynPen. 7.32. Tophet y cleddir hwynt, o eisieu lle i gladdu.

12 Fel hyn y gwnaf i'r lle hwn, medd yr Arglwydd, ac i'r rhai sy yn trigo ynddo; ac mi a wnaf y ddinas hon megis Tophet.

13 A thai Jerusalem, a thai brenhinoedd Juda, a fyddant halogedic, fel mangre Tophet: o herwydd yr hollPen. 32.29. dai, y rhai yr arogldartha­sant ar eu pennau, i holl lu y nefoedd, ac y tywalltasant ddiod offrymmau i dduwiau dieithr.

14 Yna y daeth Jeremi o Tophet, lle yr an­fonasei yr Arglwydd ef i brophwydo, ac a sa­fodd ynghyntedd tŷ yr Arglwydd, ac a ddy­wedodd wrth yr holl bobl,

15 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, wele fi yn dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefydd, yr holl ddrygau a lese­rais iw herbyn, am galedu o honynt eu gwar­rau, rhac gwrando fy ngeiriau.

PEN. XX.

1 Pasur yn taro Jeremi, ac yn cael enw newydd, a barn ofnadwy. 7 Jeremi yn achwyn rhag dirmyg, 10 a bradwriaeth, 14 ac yn ewyno ei eni.

PAn glybu Pasur mab1 Cron. 24.14. Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn ben llywodraethwr yn nhŷ yr Arglwydd, i Jeremi brophwydo y geiriau hyn.

2 Yna Pasur a darawodd Jeremi y pro­phwyd, ac a'i rhoddodd ef yn yCyffion. carchar oedd yn y porth vchaf i Benjamin, yr hwn oedd wrth dŷ yr Arglwydd.

3 A thrannoeth, Pasur a ddug Jeremi allan o'rCyffion. carchar; yna Jeremi a ddywedodd wrtho ef; ni alwodd yr Arglwydd dy enw di Pasur, onidSef, Dychryn o am­gylch. Magor Missabib.

4 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun, ac i'r rhai oll a'th garant: a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion, a'th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Juda yn llaw brenin Babi­lon, ac efe a'i caethgluda hwynt i Babilon, ac a'i lladd hwynt â'r cleddyf.

52 Bren. 20.17. Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon, a'i holl lafur, a phob dim a'r y sydd werthfawr genddi; a holl dryssorau brenhinoedd Juda a roddafi yn llaw eu gelynion, y rhai a'i han­rheithiant hwynt, ac a'i cymerant, ac a'i dy­gant i Babilon.

6 A thitheu Pasur, a phawb a'r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed, a thi a ddeui i Babilon; ac yno y byddi farw, ac yno i'th gle­ddir, ti a'r rhai oll a'th garant, y rhai y pro­phwydaist iddynt yn gelwyddoc.

7 O Arglwydd, ti a'm hudaist, ac mi aNeu, a dde­nwyd. hud­wyd; cryfach oeddit nâ mi, a gorchfygaist: yr ydwyf yn watwargerdd ar hŷd y dydd, pob vn sydd yn fy ngwatwar.

8 Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais, ac anrhaith a lefais; am fod gair yr Arglwydd yn wradwydd, ac yn watwargerdd i mi beu­nydd.

9 Yna y dywedais, ni soniaf am dano ef, ac ni lefaraf yn ei enw ef mwyach: onid ei air ef oedd yn fy nghalonPsal. 39.3. Job. 32.18. yn llosci fel tân, wedi ei gau o fewn fy escyrn, ac mi a flinais yn ymat­tal, ac ni allwn beidio.

10 Canys clywais ogan llawer, dychryn o amgylch, mynegwch meddant, a ninnau a'i mynegwn: pob dynHeb. fy hedd­wch. heddychol â mi, oedd yn disgwil i mi gloffi, gan feddwl, ysgatfydd efe a hudir: ac ni a'i gorchfygwn ef, ac a ymddi­alwn arno.

11 Ond yr Arglwydd oedd gyd â mi, fel vn cadarn ofnadwy,Pen. 17.18. & 15.20. am hynny fy erlidwŷr a dramgwyddant, ac ni orchfygant; gwradwy­ddir hwynt yn ddirfawr, canys ni lwyddant; nid anghofir eu Pen. 23.40. gwarth tragywyddol byth.

12 Ond tydi Arglwydd y lluoedd; yr hwn wyt yn profi y cyfiawn,1 Sam. 16.7. 1 Cron. 28.9. Psal. 7.9. Pen. 11.20. & 17.10. yn gweled yr aren­nau a'r galon, gâd i mi weled dy ddialedd ar­nynt; canys i ti y datguddiais fy nghŵyn.

13 Cenwch i'r Arglwydd, moliennwch yr Arglwydd: canys efe a achubodd enaid y tlawd, o law y drygionus.

14 Melldigedic fyddo y dydd i'm ganwyd arno: na fendiger y dydd i'm hescorodd fy mam.

15Job. 3.3. Pen. 15.10. Melldigedic fyddo y gŵr a fynegodd i'm tâd, gan ddywedyd, ganwyd i ti blentyn gwryw, gan ei lawenychu ef yn fawr.

16 A bydded y gŵr hwnnw fel y dinas­oedd aGen. 19.25. ymchwelodd yr Arglwydd, ac ni bu edifar ganddo: a chaffed efe glywed gwaedd y boreu, a bloedd bryd hanner dydd,

17 Am na laddodd fi wrth ddyfod o'r grôth; neu na buasei fy mam yn fêdd i mi, a'i chrôth yn feichiog arnaf byth.

18Job. 3.20. Pa ham y deuthum i allan o'r grôth, i weled poen a gofid, fel y darfyddei fy nyddiau mewn gwarth?

PEN. XXI.

1 Zedeciah yn anfon at Jeremi, i ymofyn pa beth a ddigwyddai o ryfel Nabuchodonosor. 3 Jeremi yn darogan gwarchae tôst, a chaethiwed gofidus. 8 Y mae yn cynghori 'r bobl i droi at y Chal­deaid: 11 ac yn edliw i dŷ 'r brenin.

Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremi oddi wrth yr Arglwydd, pan anfonodd y bre­nin Zedeciah atto ef Pasur fab Melchiah, a Ze­phaniah fab Maaseiah, yr offeiriad, gan ddy­wedyd;

2 Ymofyn attolwg â'r Arglwydd drosom ni, (canys y mae Nabuchodonosor brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn ni) i edrych a wna yr Arglwydd â ni, yn ôl ei holl ryfeddodau, fel yr elo efe i fynu oddi wrthym ni.

3 Yna y dywedodd Jeremi wrthynt; fel hyn y dywedwch wrth Zedeciah;

4 Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, wele fi yn troi yn eu hôl yr arfau rhyfel sy yn eich dwylo, y rhai yr ydych yn ymladd â hwynt yn erbyn brenin Babilon, ac yn erbyn y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch, o'r tu allan i'r gaer; ac mi a'i casclaf hwynt i ganol y ddinas hon.

5 A mi fy hun a ryfelaf i'ch erbynExod. 6.6. â llaw estynnedic, ac â braich crŷf, mewn sori­ant, a llid, a digofaint mawr.

6 Tarawaf hefyd drigolion y ddinas hon, [Page] yn ddŷn, ac yn anifail, byddant feirw o haint mawr.

7 Ac well hynny, medd yr Arglwydd, y rhoddaf Zedeciah frenin Juda, a'i weision, a'r bobl, a'r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nabuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu ge­lynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu hen­ioes; ac efe a'i tery hwynt â mîn y cleddyf: ni thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chym­mer drugaredd.

8 Ac wrth y bobl hyn y dywedi, fel hyn y dywed yr Arglwydd; wele fi yn rhoddi ger eich bron, ffordd enioes, a ffordd angeu.

9Pen. 38.2. Yr hwn a drigo yn y ddinas hon a le­ddir gan y cleddyf, a chan y newyn, a chan yr haint; ond y neb elo allan, ac a gilio at y Cal­deaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch, a fydd byw, a'i enioes fyddPen. 37.2. & 39.18. & 45.5. yn sclyfaeth iddo.

10 Canys mi a osodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg, ac nid er da, medd yr Arglwydd: yn llaw brenin Babilon y rhoddir hi, ac efe a'i llysc hi â thân.

11 Ac am dŷ brenin Juda, dywed, gwran­dewch air yr Arglwydd.

12 O tŷ Ddafydd, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd;Pen. 22.3. bernwch vniondeb y boreu, ac achubwch y gorthrymmedig o law y gorth­rymmwr, rhac i'm llid dorri allan fel tân, a llosci fel na allo neb ei ddiffodd, o herwydd drygioni eich gweithredoedd.

13 Wele fi yn dy erbyn, yr hon wyt yn presswylio y dyffryn, a chraig y gwastadedd, medd yr Arglwydd; y rhai a ddywedwch, pwy a ddaw i wared i'n herbyn? neu pwy a ddaw i'n hanneddau?

14 Onid mi a ymwelaf â chwi yn ôlDihar. 1.31. ffrwyth eich gweithredoedd, medd yr Ar­glwydd; ac mi a gynneuaf dân yn ei choed­wig, ac efe a yssa bob dim o'i hamgylch hi.

PEN. XXII.

1 Y mae yn annog i edifeirwch, trwy addewi­dion a bygythion. 10 Barn Salum, 13 Jehoi­acim, 20 a Choniah.

FEl hyn y dywed yr Arglwydd, dôs di i wa­red i dŷ brenin Juda, a llefara yno y gair hwn:

2 A dywed, gwrando air yr Arglwydd, frenin Juda, yr hwn wyt yn eistedd ar frenhin­faingc Dafydd, ti a'th weision, a'th bobl y rhai sydd yn dyfod i mewn trwy yr pyrth hyn.

3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd,Pen. 21.12. gwnewch farn a chyfiawnder, a gwaredwch y gorthrym­medig o law y gorthrymmwr: na wnewch gam, ac na threisiwch y dieithr, yr ymddifad, na'r weddw, ac na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn.

4 Canys os gan wneuthur y gwnewch y peth hyn, daw drwy byrth y tŷ hwn, frenhi­noedd yn eisteddHeb. tros Dda­fydd ar ei deyrn­gader ef. ar deyrngader Dafydd,Pen. 17 25. yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, efe a'i weision, a'i bobl.

5 Eithr oni wrandewch y geiriau hyn, i mi fy hun y tyngaf, medd yr Arglwydd, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd.

6 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am dŷ brenin Juda, Gilead wyt i mi, a phen Liba­nus; etto yn ddiau mi a'th wnaf yn ddiffae­thwch, ac yn ddinasoedd anghyfanneddol.

7 Paratoaf hefyd i'th erbyn anrheith-wŷr, pob vn a'i arfau, a hwy a dorrant dy dde­wis gedr-wŷdd, ac a'i bwriant i'r tân.

8 A chenhedloedd lawer a ânt heb law y ddinas hon,Deut. 29.24. 1 Bren. 9.8. ac a ddywedant bob vn wrth ei gilydd; pa ham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn, i'r ddinas fawr hon?

9 Yna yr attebant, am iddynt ymwrthod â chyfammod yr Arglwydd eu Duw, ac addoli duwiau dieithr, a'i gwasanaethu hwynt.

10 Nac wylwch dros y marw, ac na ymofid­iwch am dano; ond gan wylo wylwch am yr hwn sydd yn myned ymmaith: canys ni ddych­wel mwyach, ac ni wêl wlâd ei anedigaeth.

11 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am Salum fab Josiah brenin Juda, yr hwn a deyrna­sodd yn lle Josiah ei dâd; yr hwn a aeth allan o'r lle hwn; ni ddychwel efe yno mwyach.

12 Eithr yn y lle y caeth-gludasant ef iddo, yno y bydd efe marw; ac ni wêl efe y wlâd hon mwyach.

13Levit. 19.13. Deut. 24.14, 15. Hab. 2.9. Gwae yr hwn a adeilado ei dŷ trwy anghyfiawnder, a'i stafellau trwy gam: gan beri iw gymmydog ei wasanaethu yn rhâd, ac heb roddi iddo am ei waith.

14 Yr hwn a ddywed, mi a adeiladaf i mi dŷ ehang, ac ystafellau helaeth, ac a nâdd iddoNeu, fy ffenestri. ffenestri, a llofft o gedr-wŷdd, wedi ei lliwio â fermilion.

15 A gei di deyrnasu, am i ti ymgau mewn cedr-wŷdd? oni fwyttaodd, ac oni yfodd dy dâd, ac oni wnaeth efe farn, a chyfiawnder, ac yna y bu dda iddo?

16 Efe a farnodd gŵyn y tlawd a'r anghe­nus, yna y llwyddodd: ond fy adnabod i oedd hyn, medd yr Arglwydd?

17 Er hynny dy lygaid di a'th galon nid ydynt onid ar dy gybydd-dod, ac ar dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais,Neu, ymgyrch. a cham.

18 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd am Jehoiacim fab Josiah frenin Juda, ni alarant am dano, gan ddywedyd, ô fy mrawd, neu ô fy chwaer: ni alarant am dano ef gan ddywedyd, oh Ior, neu oh ei ogoniant ef.

19 A chladdedigaeth1 Bren. 24.9. assyn y cleddir ef, wedi ei lusco a'i daflu tu hwnt i byrth Jeru­salem.

20 Dring i Libanus a gwaedda, cyfod dy lef yn Basan, a bloeddia o'rrhydau. bylchau; canys dinistriwyd y rhai oll a'th garant.

21 Dywedais wrthit pan oedd esmwyth arnat, titheu a ddywedaist, ni wrandawaf: dym­ma dy arfer o'th ieuengtid, na wrandewaist ar fy llais.

22 A gwynt a yssa dy holl fugeiliaid, a'th gariadau a ânt i gaethiwed: yna i'th gywi­lyddir, ac i'th wradwyddir, am dy holl ddry­gioni.

23 Ti yr hon wyt yn trigo yn Libanus, yn nythu yn y cedr-wŷdd, mor hawddgar fyddi pan ddelo gwewyr arnat, fel cnofeydd gwraig yn escor?

24 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, pe byddei Coniah mab Jehoiacim brenin Juda, yn fodrwy ar fy neheulaw, diau y tynnwn di oddi yno.

25 Ac mi a'th roddaf di yn llaw y rhai sy yn ceisio dy enioes, ac yn llaw y rhai y mae arnat ofn eu hwynebau, sef i law Nabuchod­onosor brenin Babilon, ac i law y Caldeaid.

26 Bwriaf ditheu hefyd, a'th fam a'th es­corodd, i wlâd ddieithr, yr hon ni'ch ganwyd ynddi; ac yno y byddwch farw.

27 Ond i'r wlâd [...]eb. y dercha­fant eu meddy­liau y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi, ni ddychwelant yno.

28 Ai delw ddirmygus ddrylliedic yw y gŵr hwn Coniah? ai llestr yw heb hoffder ynddo? pa ham y bwriwyd hwynt ymaith, efe a'i hâd, ac y taflwyd hwynt i wlâd nid adwaenant?

29 O ddaiar, ddaiar, ddaiar, gwrando air yr Arglwydd.

20 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, scrifen­nwch y gŵr hwn yn ddiblant: gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau; canys ni ffynna o'i hâd ef vn a eisteddo ar orseddfa Dafydd, nac a lywodraetho mwyach yn Juda.

PEN. XXIII.

1 Y mae yn prophwydo yr adferir y praidd gwas­caredig: 5 Yn dangos y teyrnasa Christ, ac y gwared efe hwy. 9 Yn erbyn gau-brophwydi, 33 a gwatworwyr y gwir brophwydi.

GWaeEzec. 34.2. y bugeiliaid sydd yn difetha, ac yn gwascaru defaid fy mhorfa, medd yr Ar­glwydd.

2 Am hynny, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, yn erbyn y bugeiliaid sydd yn bugeilio fy mhobl: chwi a wascarasoch fy nefaid, ac a'i hymlidiasoch, ac nid ymwelsoch â hwynt; wele fi yn ymweled â chwi, am ddrygioni eich gweithredoedd, medd yr Ar­glwydd.

3 Ac mi a gasclaf weddill fy nefaid o'r holl wledydd lle y gyrrais hwynt, ac mi a'i dygaf hwynt drachefn iw corlannau; yna yr amlhânt, ac y chwanegant.

4 Gosodaf hefyd arnyntPen. 3.15. Ezec. 34.11, 12. fugeiliaid, y rhai a'i bugeilia hwynt, ac nid ofnant mwyach, ac ni ddychrynant, ac ni byddant yn eisieu, medd yr Arglwydd.

5Pen. 33.14, 15. Esay 4.2. & 11.1. & 40 11. Dan. 9.24. Joan. 1.45. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Ar­glwydd, y cyfodaf i Ddafydd Flaguryn cyfiawn, a brenin a deyrnasa, ac a lwydda, ac a wna farn, a chyfiawnder ar y ddaiar.

6Deut. 33.28. Yn ei ddyddiau ef yr achubir Juda, ac Israel a bresswylia yn ddiogel; a hyn fŷdd ei enw, ar yr hwn y gelwir ef,Heb. Jehovah­tsidcenu. Yr Arglwydd ein cyfiawnder.

7 Am hynnyPen. 16.14, 15. wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywedant mwyach, byw yw 'r Arglwydd, yr hwn a ddug feibion Israel i fynu o wlad yr Aipht;

8 Eithr byw yw 'r Arglwydd, yr hwn a ddug i fynu, ac a dywysodd hâd tŷ Israel o dir y gogledd, ac o bob gwlad lle y gyrraswn i hwynt; a hwy a gânt aros yn eu gwlad eu hun.

9 O herwydd y Prophwydi y torrodd fy nghalon ynof, fy holl escyrn a grynant: yr ydwyf fel vn meddw, ac fel vn wedi i win ei orchfygu: o herwydd yr Arglwydd, ac o her­wydd geiriau ei sancteiddrwydd ef.

10 Canys llawn yw yr ddaiar o odinebwŷr; canys o herwyddNeu, melldi­thion. llwon y gofidiodd y ddaiar, ac y sychodd tirion leoedd yr anialwch, a'iNeu, trawsder. helynt sydd ddrwg, a'i cadernid nid yw vniawn.

11 Canys y prophwyd a'r offeiriad hefyd a ragrithiasant: yn fy nhŷ hefyd y cefais eu drygioni hwynt, medd yr Arglwydd.

12 Am hynny y bydd eu ffordd yn llithric iddynt yn y tywyllwch: gyrrir hwynt rhag­ddynt, a syrthiant ynddi: canys myfi a ddygaf arnynt ddrygfyd, sef blwyddyn eu gofwy, medd yr Arglwydd.

13 Ar brophwydi Samaria y gwelais hefyd bethneu, direswm diflas: prophwydasant yn Baal, a huda­sant fy mhobl Israel.

14 Ac ar brophwydi Jerusalem y gwelais bethneu, trynti. erchyll; torri priodas, a rhodio mewn celwydd; cynnorthwyant hefyd ddwylo y drygionus, fel na ddychwel neb oddi wrth ei ddrygioni: y mae y rhai hyn oll i mi felEsa. 1.9. So­doma, a'i thrigolion fel Gomorrah.

15 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am y prophwydi; wele, mi a'i bwydaf hwynt â'rPen. 8.14. & 9.15. wermod, ac a'i diodaf hwynt â dwfr bustl: canys oddi wrth brophwydi Jerusa­lem yr aethNeu, anwiredd. lledrith allan i'r holl dir.

16 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, na wrandewch ar eiriau y prophwydi sy yn prophwydo i chwi; y maent yn eich gwneu­thur yn ofer: gweledigaeth eu calon eu hunain a lefarant, ac nid o enau yr Arglwydd.

17Pen. 6.14. & 8.11. Ezec. 13.10. Zech. 10.2. Gan ddywedyd y dywedant wrth fy nirmygwŷr, yr Arglwydd a ddywedodd, bydd i chwi heddwch; ac wrth bob vn sydd yn rhodio wrthneu, gyndyn­rwydd. amcan ei galon ei hun y dywe­dant, ni ddaw arnoch niwed.

18 Canys pwy a safoddNeu, yng­hyngor. ynghyfrinach yr Arglwydd? ac a welodd, ac a glywodd ei air ef? pwy hefyd a ddaliodd ar ei air ef, ac a'i gwrandawodd?

19Pen. 30.23. Wele, corwynt yr Arglwydd aeth allan mewn llidiawgrwydd, sef corwynt anger­ddol a syrth ar ben y drygionus.

20Pen. 30.24. Digofaint yr Arglwydd ni ddychwel, nes iddo wneuthur, a nes iddo gwplau meddwl ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hynny yn eglur.

21Pen. 14.14. & 27.15. & 29.8. Ni hebryngais i y prophwydi hyn, etto hwy a redasant: ni leferais wrthynt, er hynny hwy a brophwydasant.

22 A phe safasent yn fy nghyngor, a phe traethasent fy ngeiriau i'm pobl: yna y gwnae­thent iddynt ddychwelyd o'i ffordd ddrwg; ac oddi wrth ddrygioni eu gweithredoedd.

23 Ai Duw o agos ydwyfi, medd yr Ar­glwydd, ac nid Duw o bell?

24Psal. 139.7. &c. Amos 9.2, 3. A lecha vn mewn dirgel-leoedd, fel na's gwelwyfi ef, medd yr Arglwydd? onid ydwyfi yn llenwi y nefoedd a'r ddaiar, medd yr Arglwydd?

25 Mi a glywais beth a ddywedodd y pro­phvvydi sydd yn prophvvydo celvvydd yn fy envv, gan ddyvvedyd; breuddvvydiais, breu­ddvvydiais.

26 Pa hyd y bydd hyn ynghalon y pro­phvvydi sydd yn prophvvydo celvvydd? ie pro­phvvydi hudoliaeth eu calon eu hunain ydynt.

27 Y rhai sydd yn meddvvl peri i'm pobl anghofio fy envv trvvy eu breuddvvydion a fynegant bob vn ivv gymydog: fel yrBarn. 3.7. & 8.33. anghof­iodd eu tadau fy envv er mvvyn Baal.

28 Y prophvvyd sydd a breuddvvyddHeb. gyd ag ef. ganddo, myneged freuddvvyd; a'r hvvn y mae ganddo fy ngair, llefared fy ngair mewn gvvirionedd: beth yvv 'r vs vvrth y gvvenith, medd yr Arglvvydd?

29 Ond yw fy ngair i megis tân, medd yr Arglwydd, ac fel gordd yn dryllio y graig?

30 Am hynnyDeut. 18.20. Pen. 14, 14.15. wele fi yn erbyn y pro­phwydi, medd yr Arglwydd, y rhai sy'n lle­dratta fy ngeiriau, bob vn oddi ar ei gymydog.

31 Wele fi yn erbyn y prophwydi, medd yr Arglwydd; y rhai a lyfnhânt eu tafodau, ac a ddywedant, efe a ddywedodd.

32 Wele fi yn erbyn y rhai a brophwy­dant [Page] freuddwydion celwyddoc, medd yr Ar­glwydd, ac a'i mynegant, ac a hudant fy mhobl â'i celwyddau, ac â'i gwagedd, a mi heb eu gyrru hwynt, ac heb orchymyn iddynt: am hynny ni wnant ddim lles i'r bobl hyn, medd yr Arglwydd.

33 A phan ofynno y bobl hyn, neu y prophwyd, neu yr offeiriad, i ti, gan ddywedyd, beth yw baich yr Arglwydd? yna y dywedi wrthynt, pa faich? eich gwrthod a wnaf, medd yr Arglwydd.

34 A'r prophwyd, a'r offeiriad, a'r bobl, y rhai a ddywedo, baich yr Arglwydd; myfi a ymwelaf â'r gŵr hwnnw, ac a'i dŷ.

35 Fel hyn y dywedwch bob vn wrth ei gymmydog, a phob vn wrth ei frawd, beth a attebodd yr Arglwydd? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd?

36 Ond am faich yr Arglwydd na wnewch goffa mwyach, canys baich i bawb fydd ei air ei hun: o herwydd chwychwi a ŵyrasoch eiriau y Duw byw, Arglwydd y lluoedd, ein Duw ni.

37 Fel hyn y dywedi wrth y prophwyd; pa atteb a roddodd yr Arglwydd i ti? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd?

38 Ond gan eich bod yn dywedyd, baich yr Arglwydd, am hynny fel hyn y dy­wed yr Arglwydd; am i chwi ddywedyd y gair hwn, baich yr Arglwydd, a mi wedi anfon attoch, gan ddywedyd, na ddywedwch, Baich yr Arglwydd;

39 Am hynny wele, myfi a'ch llwyr anghof­iaf chwi, ac mi a'ch gadawaf chwi, a'r ddinas, yr hon a roddais i chwi, ac i'ch tadau, ac a'ch bwriaf allan o'm golwg.

40Pen. 20.11. Ac mi a roddaf arnoch warthrudd tragywyddol, a gwradwydd tragywydd, yr hwn nid anghofir.

PEN. XXIV.

1 Tan rith ffigys da a drwg, 4 Y mae yn da­rogan yr adferid y rhai aethai ynghaethiwed, 8 ac y destrywid Zedeciah a'r llaill.

YR Arglwydd a ddangysodd i mi, ac wele ddau gawell o ffigys wedi eu gosod ar gyfer teml yr Arglwydd, wedi i Nabuchodono­sor2 Bren. 24.12. &c. 2 Cron. 36.10. brenin Babilon gaethgludo Jeconiah fab Jehoiacim brenin Juda, a thywysogion Juda, gyd â'r seiri a'r gofaint, o Jerusalem, a'i dwyn i Babilon.

2 Vn cawell oedd o ffigys da iawn, fel ffigys yr addfediad cyntaf; a'r cawell arall oedd o ffigys drwg iawn, y rhai ni ellid eu bwyta rhag eu drycced.

3 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthif, beth a we i di, Jeremi? ac mi a ddywedais, ffigys; y ffigys da, vn dda iawn; a'r rhai drwg, yn ddrwg iawn, y rhai ni ellir eu bwyta rhac eu drycced.

4 Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd;

5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Is­rael, fel y ffigys dâ hyn, felly y cydnabyddafi gaeth-glud Juda, y rhai a anfonais o'r lle hwn i wlad y Caldeaid, er daioni.

6 Canys mi a osodaf fy ngolwg arnynt er daioni, ac a'i dygaf trachefn i'r wlad hon, ac a'i hadelladaf hwynt, ac ni thynnaf i lawr; plannaf hefyd hwynt, ac ni's diwreiddiaf.

7 Rhoddaf hefyd iddyntDeut. 30 6. Pen. 32.39. Ezec. 11.19. & 36.26, 27. galon i'm hadnabod, mai yr Arglwydd ydwyf;Pen. 30.22. & 31.33. & 32.38. Heb. 8.10. a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minneu a fyddaf yn Dduw iddynt hwy: canys hwy a droant attafi â'i holl galon.

8 Ac fel yPen. 29.17. ffigys drwg, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu drycced, (diau fel hyn y dywed yr Arglwydd,) felly y rhoddaf Zedeciah frenin Juda, a'i bennaethiaid, a gweddill Jerusalem, y rhai a weddillwyd yn y wlad hon, a'r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aipht.

9Deut. 28.25. Pen. 15.4. Je rhoddaf hwyntHeb. yn symmud­fa, neu, yn gynnwrf. iw symud i holl deyrnasoedd y ddaiar, er drwg iddynt, i fod yn wradwydd ac yn ddihareb, yn watwor­gerdd, ac yn felldith, ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt.

19 Ac mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn, a haint; nes eu darfod oddi ar y ddaiar, yr hon a roddais iddynt, ac iw tadau.

PEN. XXV.

1 Jeremi yn argyoeddi yr Juddewon am eu hanuf­ydd-dod i'r prophwydi, 8 yn rhagfynegi deng­mhlynedd a thrugain o gaethiwed, 12 a chwedi hynny, dinistr Babilon. 15 Tan rith y phiolaid win, y mae 'n darogan dinistr yr holl genhedloedd. 34 Vdfa y bugeiliaid.

Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremi am holl bobl Juda, yn y bedwaredd flwyddyn i Johoiacim fâb Josiah frenin Juda; hon oedd y flwyddyn gyntaf i Nabuchodonosor frenin Ba­bilon;

2 Yr hwn a lefarodd y prophwyd Jeremi wrth holl bobl Juda, ac wrth holl bresswylwŷr Jerusalem, gan ddywedyd;

3 Er y drydedd flwyddyn ar ddêc i Josiah fab Amon frenin Juda, hyd y dydd hwn, (hon­no yw y drydedd flwyddyn ar hugain) y daeth gair yr Arglwydd attaf, ac mi a ddy­wedais wrthychJer. 7.13. Pen. 29.19. gan foreu godi, a llefaru, ond ni wrandawsoch.

4 A'r Arglwydd a anfonodd attoch chwi ei holl weision y prophwydi, gan foreu godi a'i hanfon, ond ni wrandawsoch, ac ni ogwydda­soch eich clust i glywed.

5 Hwy a ddywedent,2 Bren. 17.13. Pen. 18.11. & 35.15. Jonah 3.8. dychwelwch yr awr hon bôb vn oddi wrth ei ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eich gweithredoedd; a thrigwch yn y tîr a roddodd yr Arglwydd i chwi, ac i'ch tadau, byth ac yn dragywydd:

6 Ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, iw gwasanaethu, ac i ymgrymmu iddynt; ac na lidiwch fi â gweithredoedd eich dwylo, ac ni wnaf niwed i chwi.

7 Er hynny ni wrandawsoch arnaf medd yr Arglwydd, fel y digiech fi â gweithredoedd eich dwylo, er drwg i chwi eich hunain.

8 Am hynny, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, o herwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau;

9 Wele, mi a anfonaf, ac a gymmeraf holl deuluoedd y gogledd, medd yr Arglwydd, a Na­buchodonosor brenin Babilon fy ngwâs, ac mi a'i dygaf hwynt yn erbyn y wlâd hon, ac yn erbyn ei phresswyl-wŷr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn syndod, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragy­wyddol.

10 Paraf hefyd i lais hyfrydwch. ac i lais llawenydd, i lais y priod-fab, acPen. 7.34. & 16.9. & 25.10. Ezec. 26.13. Hos. 2.11. i lais y briod-ferch, i sŵn y meini melinau, ac i lewyrch y canhwyllau,Heb. fethu, neu, golli. ballu ganddynt.

11 A'r holl dîr hwn fydd yn ddiffaethwch, ac yn syndod; a'r cenhedloedd hyn a wasanaeth­ant frenin Babilon ddeng-mhlynedd, a thru­gain.

12 A phan gyflawner2 Cron. 36.22. Ezra. 1.1. Pen. 29.10. Dan. 9.2. deng-mhlynedd a thrugain, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â'r genhedl honno, medd yr Arglwydd, am eu hanwiredd, ac â gwlad y Caldeaid; ac mi a'i gwnaf hi yn anghyfannedd tragywyddol.

13 Dygaf hefyd ar y wlâd honno fy holl eiriau, y rhai a leferais i yn ei herbyn, sef cwbl ac sydd scrifennedic yn y llyfr hwn; yr hyn a brophwydodd Jeremi, yn erbyn yr holl genhedloedd.

14 Canys cenhedloedd lawer, a brenhi­noedd mawrion aPen. 27.7. fynnant wasanaeth gan­ddynt hwythau, a mi a dalaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd, ac yn ôl gwaith eu dwylo eu hun.

15 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, wrthifi; cymmerPsal. 75.8. Esay. 51.17. Job. 21.20. phiol win y digofaint ymma o'm llaw, a dôd hi iw hysed i'r holl genhedloedd, y rhai yr wyf yn dy anfon attynt.

16 A hwy a yfant, ac a frawychant, ac a wall­gofant, o herwydd y cleddyf, yr hwn a anfonaf yn eu plîth.

17 Yna mi a gymmerais y phiol o law yr Arglwydd, ac a'i rhoddais iw hyfed i'r holl genhedloedd, y rhai yr anfonasei yr Arglwydd fi attynt:

18 I Jerusalem, ac i ddinasoedd Juda, ac iw brenhinoedd, ac iw thywysogion; iw gwneu­thur hwynt yn ddiffaethwch, yn syndod, yn chwibaniad, ac yn felldith, fel ymae heddyw:

19 I Pharao frenin yr Aipht, ac iw weision, ac iw dywysogion, ac iw holl bobl;

20 Ac i'r holl bobl gymmysc, ac i holl frenhinoedd gwlâdJob. 1.1. Huz, a holl frenhinoedd gwlâd y Philistiaid, ac i Ascelon, ac Azzah, ac Ecron, a gweddill Asdod:

21 IPen. 49.7. &c. Edom, aPen. 48. Moab, a meibionPen. 49.1- Ammon:

22 I holl frenhinoeddPen. 47.4. Tyrus hefyd, ac i holl frenhinoedd Sidon, ac i trenhinoeddNeu, y wlad sy ar lan y mor. yr ynysoedd, y rhai sydd trosPen. 49.23. y mor:

23 IPen. 49.28. Dedan, a Thema, a Buz; ac i bawbHeb. a dorrwyd ymaith i gonglau, neu, a dorrwyd cyrrau eu gwallt. o'r cyrrau eithaf:

24 Ac i holl frenhinoedd Arabia, ac i holl frenhinoedd yPen. 49.31. bobl gymmysc, y rhai sydd yn trigo yn yr anialwch:

25 Ac i holl frenhinoedd Zimri, ac i holl frenhinoeddPen. 49.34. Elam, ac i holl frenhinoedd y Mediaid;

26 Ac i holl frenhinoedd y gogledd, agos a phell, bob vn gyd â'i gilydd; ac i holl deyr­nassoedd y bŷd, y rhai sydd ar wyneb y ddaiar; a breninJer. 51.41. Sesach a ŷf ar eu hôl hwynt.

27 A thi a ddywedi wrthynt, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel: yswch a meddwch, a chwdwch, a syrthiwch, ac na chyfodwch, o herwydd y deddyf, yr hwn a anfonwyf i'ch plith.

28 Ac os gwrthodant dderbyn y phiol o'th law di i yfed, yna y dywedi wrthynt, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, diau yr yfwch.

29 Canys wele fi yn dechreu drygu1 Pet. 4.17. y ddinas y gelwir fy enw arni, ac a ddiengwch chwi yn ddigerydd? na ddiengwch, canys yr ydwyfi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaiar, medd Arglwydd y lluoedd.

30 Am hynny prophwyda yn eu herbyn yr holl eitiau hyn, a dywed wrthynt,Joel. 3.16. Amos. 1.2. yr Ar­glwydd oddi vchod a rua, ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd: gan ruo y rhua efe ar ei drigle, bloedd fel rhai yn sathru grawn­wîn, a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaiar.

31 Daw twrwf hyd eithafoedd y ddaiar, canys y mae cŵyn rhwng yr Arglwydd a'r cenhedloedd; efe a ymddadleu â phob cnawd; y drygionus a ddyry efe i'r cleddyf, medd yr Arglwydd.

32 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, wele ddrwg yn myned allan o genhedl at gen­hedl; aJer. 30.23. chorwynt mawr yn cyfodi o ystly­sau y ddaiar.

33 A lladdedigion yr Arglwydd a fyddant y dwthwn hwnnw, o'r naill gwrr i'r ddaiar, hyd y cwrr arall i'r ddaiar;Pen. 16.4. ni alerir drostynt, ac ni's cesclir, ac ni's cleddir hwynt; fel tom­men y byddant ar wyneb y ddaiar.

34Pen. 4.8. & 6.26. Vdwch fugeiliaid, a gwaeddwch, ac ymdreiglwch mewn lludw, chwi flaenoriaid y praidd, canys cyflawnwydHeb. eich dy­ddiau i laddedi­gaeth. dyddiau eich lladdedigaeth, a'ch gwascarfa, a chwi a syrth­iwch fel llestr dymunol.

35 Metha gan y bugeiliaid flo; a chan flaenoriaid y praidd ddiangc.

36 Clywir llef gwaedd y bugeiliaid, ac vdfa blaenoriaid y praidd; canys yr Arglwydd a anrheithiodd eu porfa hwynt.

37 A'r anneddau heddychlon a ddryllir, gan lîd digofaint yr Arglwydd.

38 Efe a wrthododd ei loches, fel cenew llew: canys y mae eu tîr ynHeb. anghyfan­nedd-dra. anghyfannedd, gan lîd y gorthrymmwr, a chan lîd ei ddi­gofaint ef.

PEN. XXVI.

Jeremi, trwy addewidion a bygythion, yn annog y bobl i edifeirwch, 8 a'i ddal ef am hynny, 10 a'i ddwyn ger bron: 11 Ei atteb ef trosto ei hun, 16 a'i farnu yn ddieuog, trwy esampl Micah, 20 ac Vriah, 24 athrwy ofal Abicam.

YN nechreu teyrnasiad Jehoiacim fab Josi­ah brenin Juda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd;

2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, saf ynghyn­tedd tŷ yr Arglwydd, a llefara wrth holl ddi­nasoedd Juda, y rhai a ddêl i addoli i dy yr Arglwydd, yr holl eiriau a orchymynnwyf i ti eu llefaru wrthynt,Act. 20.27. nac attal air:

3 I edrych a wrandawant, ac a ddychwelant bôb vn o'i ffordd ddrwg; fel yr edifarhawyf innau amPen. 18.8. y drwg a amcenais ei wneuthur iddynt, am ddrygioni eu gweithredoedd.

4 A dywed wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd, oni wrandewch arnaf, i rodio yn fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eich bron,

5 I wrando ar eiriau fy ngweision y prophwydi, y rhai a anfonais attoch, gan godi yn foreu, ac anfon, ond ni wrandawsoch chwi:

6 Yna y gwnaf y tŷ hwn fel1 Sam. 4.12. Pen. 7.12. 14. Psal. 78.60. Siloh, a'r ddinas hon a wnaf yn felldith i holl genhed­loedd y ddaiar.

7 Yr offeiriaid hefyd, a'r prophwydi, a'r holl bobl a glywsant Jeremi yn llefaru y geiriau hyn, yn nhŷ yr Arglwydd.

8 A phan ddarfu i Jeremi lefaru yr hyn oll a orchymynnasei yr Arglwydd ei ddywedyd wrth yr holl bobl; yna yr offeiriaid, a'r prophwydi, a'r holl bobl a'i daliasant ef, gan ddywedyd, ti a syddi farw yn ddiau.

9 Pa ham y prophwydaist yn enw yr Arglwydd, gan ddywedyd, fel Siloh y byddPsal. 132.14. Matth. 26.61. Act. 6.13. y tŷ hwn, a'r ddinas hon a wneir yn anghyfannedd heb presswyliwr? felly ymglas­clodd [Page] yr holl bobl yn erbyn Jeremi yn nhŷ yr Arglwydd.

10 Pan glybu tywysogion Juda y geiriau hyn, yna hwy a ddaethant i fynu o dŷ yr bre­nin i dŷ 'r Arglwydd; ac a eisteddasant ar ddrws porth newyd tŷ yr Arglwydd.

11 Yna yr offeiriaid a'r prophwydi a lefa­rasant wrth y tywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd; barn marwolaeth sydd ddyledus i'r gŵr hwn, canys efe a brophwy­dodd yn erbyn y ddinas hon, megis y clyw­soch â'ch clustiau.

12 Yna y llefarodd Jeremi wrth yr holl dywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddy­wedyd; yr Arglwydd a'm hanfonodd i bro­phwydo yn erbyn y tŷ hwn, ac yn e [...]byn y ddinas hon, yr holl eiriau a glywsoch.

13 Gan hynnyPen. 7.3. gwellhewch yn awr eich ffyrdd, a'ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr Arglwydd eich Duw; ac fe aVers. 19. edi­farhâ yr Arglwydd am y drwg a lefarodd efe i'ch erbyn.

14 Ac amdanafi, wele fi yn eich dwylo; gwnewch i mi, felHeb. y mae yn dda ac yn vnion yn eich go­lwg. y gweloch yn dda, ac yn vniawn.

15 Onid gwybyddwch yn siccr, os chwi a'm lladd, eich bod yn dwyn gwaed gwirion arnoch eich hunain, ac ar y ddinas hon, ac ar ei thrigolion; canys mewn gwirionedd, yr Arglwydd a'm hanfonodd attoch, i lefaruHeb. yn eich clustiau. lle y clywech, yr holl eiriau hyn.

16 Yna y tywysogion, a'r holl bobl, a ddywe­dasant wrth yr offeiriaid a'r prophwydi, ni haeddei y gŵr hwn farn marwolaeth: canys yn enw yr Arglwydd ein Duw y llefarodd efe wrthym.

17 Yna rhai o henuriaid y wlâd a godasant, ac a lefarasant wrth holl gynnulleidfa y bobl, gan ddywedyd;

18 Micah y MorasthiadMic. 1.1. & 3.12. oedd yn prophwy­do yn nyddiau Hezeciah brenin Juda, ac efe a lefarodd wrth holl bobl Juda, gan ddywedyd; fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Sion a erddir fel maes, a Jerusalem a fydd yn garne­ddau, a mynydd y tŷ yn vchelfeydd i goed.

19 A roddodd Hezeciah brenhin Juda, a holl Juda ef i farwolaeth? oni ofnodd efe yr Ar­glwydd, ac oni weddiodd efe ger bron yr Ar­glwydd▪ fel yr edifarhaodd yr Arglwydd am y drwg a draethasei efe yn eu herbyn? fel hyn y gwnaem ddrwg mawr yn erbyn ein heneidiau.

20 Ac yr oedd hefyd ŵr yn prophwydo yn enw yr Arglwydd, Vriah mab Semaiah, o Cir­iathiearim, yr hwn a brophwydodd yn erbyn y ddinas hon, ac yn erbyn y wlâd hon, yn ôl holl eiriau Jeremi.

21 A phan glywodd y brenin Jehoiacim, a'i holl gedyrn, a'r holl dywysogion, ei eiriau ef; y brenin a geisiodd ei ladd ef: ond pan glywodd Vriah, efe a ofnodd, ac a ffôdd, ac a aeth i'r Aipht.

22 A'r brenin Jehoiacim a anfonodd wŷr i'r Aipht, sef Elnathan fab Achbor, a gwŷr gyd ag ef, i'r Aipht.

23 A hwy a gyrchasant Vriah allan o'r Aipht, ac a'i dygasant ef at y brenin Jehoiacim; yr hwn a'i lladdodd ef a'r cleddyf, ac a fwriodd ei gelain ef i feddauHeb. m [...]bion y bobl. y cyffredin.

24 Eithr llaw Ahicam fab Saphan oedd gyd â Jeremi; fel na roddwyd ef i law y bobl, iw ladd.

PEN. XXVII.

1 T [...]n rith r [...]wymau ac ieuau, y mae 'n pro­phwydo y darostyngid tan Nabuchadonosor y brenhinoedd oedd gymydogion iddo. 8 Y mae yn eu hannog i ymroi, ac na chredent y gau-bro­phwydi. 12 Y mae yn gwneuthur yr vn peth i Zedeciah: 19 Yn darogan y dygid yr hyn a adawsid o'r llestri, i Babilon, ac y byddent yno hyd ddydd yr ymweliad.

YN nechreu teyrnasiad Jehoiacim fab Josiah brenin Juda, y daeth y gair hwn at Jeremi oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd;

2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth­if; gwna i ti rwymau, aNeu, ieuau. gefynnau, a dôd hwynt am dy wddf;

3 Ac anfon hwynt at frenin Edom, ac at frenin Moab, ac at frenin meibion Ammon, ac at frenin Tyrus, ac at frenin Sidon, yn llaw y cennadau a ddelo i Jerusalem at Zedeciah fre­nin Juda:

4 A gorchymmyn iddynt ddywedyd wrth eu harglwyddi, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, fel hyn y dywedwchNeu, am. wrth eich arglwyddi:

5 Myfi a wneuthum y ddaiar, y dŷn, a'r anifeil sydd ar wyneb y ddaiar, â'm grym mawr, ac â'm braich estynnedic, ac a'iDan. 4.17.25. rho­ddais hwynt i'r neb y gwelais yn dda.

6 Ac yn awr mi a roddais yr holl diroedd hyn, yn llaw Nabuchodonosor brenin Babilon,Pen. 25.9. & 43.10. fy ngwâs: ac mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes iw wasanaethu ef.

7 A'r holl genhedloedd a'i gwasanaethant ef, a'i fab, a mab ei fab; nes dyfod gwir amser ei wlâd ef; yna cenhedloedd lawer, a brenhi­noedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddo ef.

8 Ond y genhedl a'r deyrnas ni's gwasa­naetho ef, sef Nabuchodonosor brenin Babilon, a'r rhai ni roddant eu gwddf tan iau brenin Babilon; â'r cleddyf, ac â newyn, ac â haint yr ymwelaf â'r genhedl honno, medd yr Ar­glwydd, nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef.

9 Am hynny na wrandewch ar eich proph­wydi, nac ar eich dewiniaid, nac ar eichHeb. breudd­wydion. breu­ddwydwŷr, nac ar eich hudolion, nac ar eich swynyddion y rhai sydd yn llefaru wrthych, gan ddywedyd; nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon:

10 Canys celwydd y mae y rhai hyn yn ei brophwydo i chwi, i'ch gyrru chwi ym mhell o'ch gwlâd, ac fel y bwriwn chwi ymmaith, ac y methoch.

11 Ond y genhedl a roddo ei gwddfdan iau brenin Babilon, ac a'i gwasanaetho ef, y rhai hynny a adawafi yn eu gwlâd eu hun, medd yr Arglwydd, a hwy a'i llafuriant hi, ac a dri­gant ynddi.

12 Ac mi a leferais wrth Zedeciah frenin Ju­da, yn ôl yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd; rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon, a gwasanaethwch ef, a'i bobl, fel y byddoch byw.

13 Pa ham y byddwch feirw, ti a'th bobl, trwy 'r cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint; fel y dywedodd yr Arglwydd yn erbyn y genhedl ni wasanaethei frenin Babilon?

14 Am hynny na wrandewch ar eiriau y prophwydi, y rhai a lefarant wrthych, gan ddy­wedyd, nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Ba­bilon: canys y maent yn prophwydoJer. 14.14. & 23.21. & 29.8. celwydd i chwi.

15 O herwydd nid myfi a'i hanfonodd hwynt, medd yr Arglwydd, er hynny hwy a brophwy­dant [Page] yn fy enw ar gelwydd, fel y gyrrwn chwi ymmaith, ac y darfyddei am danoch chwi, a'r prophwydi sydd yn prophwydo i chwi.

16 Myfi a leferais hefyd wrth yr offeiriaid, a'r holl bobl hyn, gan ddywedyd; fel hyn y dy­wed yr Arglwydd, na wrandewch ar eiriau eich prophwydi, y rhai sydd yn prophwydo i chwi, gan ddywedyd; wele, llestri tŷ yr Arglwydd a ddygir yn eu hôl ô Babilon, bellach ar frŷs; canys celwydd y maent yn ei brophwydo i chwi.

17 Na wrandewch arnynt, gwasanaethwch chwi frenin Babilon, a byddwch fyw: pa ham y byddai y ddinas hon yn ddiffaethwch?

18 Ond os prophwydi ydynt hwy, ac od ydyw gair yr Arglwydd gyd a hwynt,Gen. 20.7. eiri­olant yr awr hon ar Arglwydd y lluoedd, nad elo y llestri a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhŷ brenin Juda, ac yn Jerusalem, i Babilon.

19 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y llu­oedd, am y2 Bren. 25.13. colofnau, ac am y môr, ac am yr ystolion, ac am y rhan arall o'r llestri a adawyd yn y ddinas hon,

20 Y rhai ni ddug Nabuchodonozor brenin Babilon ymmaith,2 Bren. 24.14, 15. pan gaeth-gludodd efe Je­coniah fab Jehoiacim frenin Juda, o Jerusalem i Babilon, a holl bendefigion Juda, a Jerusalem;

21 Ie fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel, am y llestri a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhŷ brenin Juda, a Jerusalem;

22 Hwy a2 Bren. 25.13. 2 Cron. 36.18. ddygir i Babilon, ac yno y byddant hyd y dydd yr2 Cron. 36.22. Pen. 29.10. ymwelwyf â hwynt, medd yr Arglwydd: yna y dygaf hwynt i fynu, ac y dychwelaf hwynt i'r lle hwn.

PEN. XXVIII.

1 Hananiah yn gau-brophwydo y dychwelai y llestri yn eu hôl, a Jeconiab hefyd. 5 Jeremi yn dymuno bod hynny yn wir; ac yn dangos mai 'r diwedd a ddengys pa rai sy wir bro­phwydi. 10 Hananiah yn torri iau Jeremi. 12 Jeremi yn darogan iau hayarn, 15 amar­wolaeth Hananiah.

AC yn y flwyddyn honno, yn nechreu teyr­nasiad Zedeciah brenin Juda, yn y bedwa­redd flwyddyn, ar y pummed mîs, y llefarodd Hananiah mab Azur y prophwyd, yr hwn oedd oJosua. 21.17. Gibeon, wrthifi yn nhŷ yr Arglwydd, yng­ŵydd yr offeiriaid, a'r holl bobl, gan ddywedyd;

2 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd; myfi a dorrais iau brenin Babilon.

3Heb. Ac etto ddwy fly­nedd o ddyddiau. O fewn yspaid dwy flynedd, myfi a ddygaf drachefn i'r lle hwn, holl lestri tŷ yr Ar­glwydd, y rhai a gymmerth Nabuchodonosor brenin Babilon ymmaith o'r lle hwn, ac a'i dug i Babilon.

4 Ac mi a ddygaf Jeconiah fab Jehoiacim frenin Juda, a holl gaeth-glud Juda, y rhai a aethant i Babilon, drachefn i'r lle hwn, medd yr Arglwydd; canys mi a dorraf iau brenin Babilon.

5 Yna Jeremi y prophwyd a ddywedodd wrth Hananiah y prophwyd, yngŵydd yr offeiriaid, ac yngŵydd yr holl bobl, y rhai oedd yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd:

6 Ie 'r prophwyd Jeremi a ddywedodd, Amen, poed felly y gwnelo yr Arglwydd; yr Arglwydd a gyflawno dy eiriau di, y rhai a brophwydaist, am ddwyn drachefn lestri tŷ yr Arglwydd, a'r holl gaeth-glud, o Babilon i'r lle hwn.

7 Etto gwrando di yr awr hon y gair ym­ma, yr hwn a lefarafiHeb. yn dy glu­stiau di, &c. lle y clywech di, a lle clywo yr holl bobl.

8 Y prophwydi y rhai a fuant o'm blaen i, ac o'th flaen ditheu er ioed, a brophwydasant yn erbyn gwledydd lawer, ac yn erbyn teyrnasoedd mawrion, am ryfel, ac am ddryg-syd, ac am haint.

9 Y prophwyd a brophwydo am heddwch, pan ddêl gair y prophwyd i ben, yr adnaby­ddir y prophwyd, mai yr Arglwydd a'i han­fonodd ef mewn gwirionedd.

10 Yna Hananiah y prophwyd, a gymme­roddPen. 27.2. y gefyn oddi am wddf Jeremi y pro­phwyd, ac a'i torrodd ef.

11 A Hananiah a lefarodd yngŵydd yr holl bobl, gan ddywedyd, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, y modd hyn y torrafi iau Nabucho­donosor brenin Babilon, o fewn yspaid dwy flynedd oddi ar warr pob cenhedl; a Jeremi y prophwyd a aeth i ffordd.

12 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jere­mi, (wedi i Hananiah y prophwyd dorri y gefyn oddi am wddf y prophwyd Jeremi) gan ddywedyd;

13 Dôs di a dywed i Hananiah, gan ddy­wedyd, fel hyn y dywed yr Arglwydd; gefyn­nau pren a dorraist ti, ond ti a wnei yn eu lle hwynt efynnau o haiarn.

14 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y llu­oedd, Duw Israel, rhoddaf iau o haiarn, ar warr yr holl genhedloedd hyn, fel y gwasanaethont Nabuchodonosor frenin Babilon, a hwy a'i gwasanaethant ef: mi a roddais hefyd anifeili­aid y maes iddo ef.

15 Yna Jeremi y prophwyd a ddywedodd wrth Hananiah y prophwyd, gwrando yn awr Hananiah, ni anfonodd yr Arglwydd mo ho­noti, ond yr wyt yn peri i'r bobl hyn ymddi­ried mewn celwydd.

16 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, wele, mi a'th fwriaf di oddi ar wyneb y ddaiar, o fewn y flwyddyn hon y byddi farw; o herwydd i ti ddyscuDeut. 13.5. Pen. 29.32. Heb. ymadaw­iad. gwrthryfel yn er­byn yr Arglwydd.

17 Felly Hananiah y prophwyd a fu farw y flwyddyn honno, yn ŷ seithfed mîs.

PEN. XXIX.

1 Jeremi yn anfon llythyr at y rhai oedd yng­haethiwed Babilon, ar fod o honynt yn llonydd yno; 8 ac na choelient freuddwydion eu proph­wydi; 10 ac y caent ddychwelyd yn eu hôl ym mhen lxx o flynyddoedd. 15 Y mae yn rhag-fy­negi dinistr y llaill, am eu hanufydd-dod: 20 ac yn dangos erchyll ddiwedd Ahab a Zedeciah, dan brophwyd c [...]lwyddog. 24 Semaiah yn scrifennu llythyr yn erbyn Jeremi: 30 A Je­remi yn dangos ei farnedigaeth yntau.

DYmma eiriau y llythyr a anfonodd Jere­mi y prophwyd, o Jerusalem, at weddill henuriaid y gaeth-glud, ac at yr offeiriaid, ac at y prophwydi, ac at yr holl bobl, y rhai a gaeth-gludasei Nabuchodonosor, o Jerusalem i Babilon:

2 (Wedi myned2 Bren. 24.12. &c. Pen. 24.1. Jeconiah y brenin, a'r fren­hines, a'rneu, Eunuchi­aid. stafellyddion, tywysogion Juda, a Je­rusalem, a'r seiri, a'r gofaint, allan o Jerusalem)

3 Yn llaw Elasah fab Saphan, a Gemariah fab Helciah, y rhai a anfonodd Zedeciah brenin Juda, at Nabuchodonosor frenin Babilon, i Ba­bilon, gan ddywedyd;

4 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, wrth yr holl gaeth-glud, yr hon a berais ei chaeth-gludo o Jerusalem i Babilon:

5 Adeiledwch dai, a phresswyliwch yn­ddynt, â phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.

6 Cymmerwch wragedd, ac ennillwch feibion, a merched; a chymmerwch wragedd i'ch meibion, a rhoddwch eich merched i wŷr, fel yr escorant ar feibion, a merched; ac yr amlhaoch chwi yno, ac na leihâoch.

7 Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas, yr hon i'ch caeth-gludais iddi, a gweddiwch ar yr Arglwydd drosti hi; canys yn ei heddwch hi, y bydd heddwch i chwithau.

8 O herwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, naPen. 14.14. & 23.21. & 27.15. thwylled eich pro­phwydi, y rhai sydd yn eich mysc chwi mo honoch, na'ch dewiniaid; ac na wrandewch ar eich breuddwydion, y rhai yr ydych chwi yn peri eu breuddwydio:

9 Canys y maent hwy yn prophwydo i chwi ar gelwydd yn fy enw i: ni anfonais i mo honynt, medd yr Arglwydd.

10 O herwydd, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, pan gyflawner yn Babilon2 Cron. 36.22. Ezra 1.1. Pen. 25.12. & 27.22. Dan. 9.2. ddeng-mhlynedd a thrugain, yr ymwelaf â chwi; ac a gyflawnaf a chwi fy ngair daionus, drwy eich dwyn chwi drachefn i'r lle hwn.

11 O blegit myfi a wn y meddyliau yr wyfi yn eu meddwl am danoch chwi, medd yr Arglwydd, meddyliau heddwch ac nid niwed; i roddi i chwiHeb. ddiwedd a disgwi­liad. y diwedd yr ydych chwi yn ei ddisgwil.

12 Yna y gelwch chwi arnaf, ac yr ewch, ac y gweddiwch arnafi, a minneu a'ch gwran­dawaf.

13 Ceisiwch fi hefyd, ac chwi a'm cewch; pan i'm ceisioch â'ch holl galon.

14 Ac mi a adawaf i chwi fynghael, medd yr Arglwydd, ac mi a ddychwelaf eich caeth­iwed, ac a'ch casclaf chwi o'r holl genhedloedd, ac o'r holl leoedd, y rhai i'ch gyrrais iddynt, medd yr Arglvvydd, ac mi a'ch dygaf chvvi drachefn, i'r lle y perais eich caeth-gludo chvvi allan o honavv.

15 O hervvydd i chvvi ddyvvedyd, yr Ar­glvvydd a gyfododd brophvvydi i ni yn Babi­lon.

16 Gwybyddwch mai fel hyn y dyvved yr Arglvvydd am y brenin sydd yn eistedd ar deyrn-gader Dafydd, ac am yr holl bobl sydd yn t [...]igo yn y ddinas hon, ac am eich bro­dyr, y rhai nid aethant allan gyd â chvvi i gaeth-glud [...]

17 Fel hyn y dyvved Arglvvydd y lluoedd, vvele fi yn anfon arnyntPen. 24.8, 10. y cleddyf, a nevvyn, a haint, ac mi a'i gvvn [...]f hvvynt fel yPen. 25. 8. ffigys bryntion, y rhai ni ellir eu bvvytta rhac eu drycced.

18 Ac mi a'i herlidiaf hvvynt â'r cleddyf, â nevvyn, ac â haint; ac mi a'i rhoddaf hvvynt ivv symmud i holl deyrnasoedd y ddaiar,Pen. 26.6. yn felldith, ac yn chwithdra, ac yn chwibaniad, ac yn warth, ym mysc yr holl genhedloedd, lle y gyrrais i hwynt:

19 Am na wrandawsant ar fy ngeiriau, medd yr Arglwydd, y rhai a anfonais i attynt,Pen. 25.4. & 32.33. gyd a'm gweision y prophwydi, gan gyfodi yn foreu, a'i hanfon; ond ni wrandawech, medd yr Arglwydd.

20 Gan hynny gwrandewch air yr Ar­glwydd, chwi oll o'r gaeth-glud a anfonais o Jerusalem i Babilon.

21 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, am Ahab fab Colaiah, ac am Zede­ciah fab Maaseiah, y rhai sy yn prophwydo celwydd i chwi yn fy enw i: wele, myfi a'i rhoddaf hwynt yn llaw Nabuchodonosor bre­nin Babilon, ac efe a'i llâdd hwynt yngŵydd eich llygaid chwi.

22 A holl gaeth-glud Juda, yr hon sydd yn Babilon, a gymmerant y rhêg hon oddi wrth­ynt hwy, gan ddywedyd; gwneled yr Ar­glwydd dydi fel Zedeciah, ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon wrth tân.

23 Am iddynt wneuthur scelerder yn Is­rael, a gwneuthur godineb gyd â gwragedd eu cymydogion, a llefaru o honynt eiriau celwyddoc yn fy enw i, y rhai ni orchymmyn­nais iddynt: a minneu yn gwybod, ac yn dŷst, medd yr Arglwydd.

24 Ac wrth Semaiah yNeu, breudd­wydiwr. Nehelamiad y lleferi, gan ddywedyd;

25 Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd Duw Israel, gan ddywedyd; am i ti anfon yn dy enw dy hun lythyrau at yr holl bobl sy yn Jerusalem, ac at Zephaniah fab Maaseiah yr offeiriad, ac at yr holl offeiriaid, gan ddy­wedyd;

26 Yr Arglwydd a'th osododd di yn offei­riad, yn lle Jehoiada yr offeiriad, i fod yn olygwyr yn nhŷ yr Arglwydd, ar bob2 Bren. 9.11. Act. 26.24. gŵr gorphwylloc, ac yn cymmeryd arno broph­wydo, iw roddi ef mewn carchar a chyffion.

27 Ac yn awr pa ham na cheryddaist di Jeremi o Anathoth, yr hwn sydd yn proph­wydo i chwi?

28 Canys am hynny yr anfonodd attom ni i Babilon, gan ddywedyd, hîr fydd y gaethiwed hon, adeiledwch dai, a presswyliwch yn­ddynt, a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.

29 A Zephaniah yr offeiriad a ddarllennodd y llythyr hwn, lle y clywodd Jeremi y pro­phwyd.

30 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jere­mi, gan ddywedyd;

31 Anfon at yr holl gaeth-glud, gan ddywe­dyd, fel hyn y dywed yr Arglwydd am Se­maiah y Nehelamiad; o herwydd i Semaiah brophwydo i chwi, a minneu heb ei anfon ef, a pheri o honaw i chwi ymddiried mewn celwydd;

32 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, wele mi a ymwelaf â Semaiah y Ne­helamiad, ac â'i hâd ef; ni bydd iddo vn a drigo ym mysc y bobl hyn, ac ni chaiff efe weled y daioni a wnafi i'm pobl, medd yr Ar­glwydd; am iddoPen. 28.16. ddyscuHeb. ym [...]da­wiad. gwrthryfel yn erbyn yr Arglwydd.

PEN. XXX.

1 Duw yn dangos i Jeremi y dychwelai yr Ju­ddewon; 4 ac yn ôl eu trallod y cânt ymwared. 10 Y mae yn cyssuro Jacob. 18 Y bydd eu dychweliad hwy yn rasusol. 20 Y syrth digof­aint ar yr enwir.

Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremi oddiwrth yr Arglwydd, gan ddywedyd;

2 Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd, Duw Israel, gan ddywedyd; scrifenna i ti yr holl eiriau a leferais i wrthit, mewn llyfr.

3 Canys wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, i mi ddychwelyd caethiwed fy mhobl Israel a Juda, medd yr Arglwydd, ac mi a'i dygaf hwynt drachefn i'r wlad a roddais iw tadau, a hwy a'i meddiannant hi.

4 Dymma hefyd y geiriau a lefarodd yr Ar­glwydd am Israel, ac am Juda.

5 O herwydd fel hyn y dywed yr Arg­lwydd,Esa. 13.8. llef dychryn a glywsom ni,Neu, efn sydd ac nid &c. ofn ac nid heddwch.

6 Gofynnwch yr awr hon, ac edrychwch a escora gwr-ryw? pa ham yr ydwyfi yn gweled pob gŵr a'i ddwylo ar ei lwynau, fel gwraig wrth escor, ac y trowyd yr holl wy­nebau yn lesni?

7Joel. 2.11. Amos 5.18. Zeph. 1.15. Och, canys mawr yw y dydd hwn, heb gyffelyb iddo; amser blinder yw hwn i Jacob; ond efe a waredir o honaw.

8 Canys y dydd hwnnw medd Arglwydd y lluoedd, y torrafi ei iau ef oddi ar dy warr di, ac mi a ddrylliaf dy rwymau, ac ni chaiff dieithriaid wneuthur iddo ef eu gwasanaethu hwynt mwyach.

9 Eithr hwy a wasanaethant yr Arglwydd eu Duw,Ezec. 34.23. & 37.24. Hos. 3.5. a Dafydd eu brenin, yr hwn a godafi iddynt.

10Esa. 41.13. & 43.5. & 44.1.2. Pen. 46.28. Ac nac ofna di, ô fy ngwâs Jacob, medd yr Arglwydd, ac na frawycha di, ô Is­rael: canys wele, mi a'th achubaf di o bell, a'th hâd o dir eu caethiwed, ac Jacob a ddych­wel, ac a orphywys, ac a gaiff lonydd, ac ni bydd a'i dychryno.

11 Canys yr ydwyfi gyd â thi, medd yr Arglwydd, i'th achub di: er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd, lle i'th wascerais, etto ni wnaf ben am danat ti,Psal. 6.1. Pen. 10.24. & 46.28. eithr mi a'th geryddaf di mewnN [...]u, mesur. barn, ac ni'th adawaf yn gwbl ddigerydd.

12 O blegit fel hyn y dywed yr Arglwydd, anafus yw dy yssigtod, a dolurus yw dy archoll.

13 Nid oes a ddadleuo dy gŵyn,Heb. i rwymo, neu, i wascu. fel i'th iachaer: nid oes feddiginiaeth iechyd i ti.

14 Dy holl gariadau a'th anghofiasant; ni cheisiant mo honot ti, canys mi a'th darewais â dyrnod gelyn, sef â chospedigaeth y creulon; am amlder dy anwiredd: o blegid dy bechodau a amlhasant.

15Pen. 15.18. Pa ham y bloeddi am dy yssigtod? anafus yw dy ddolur; gan amlder dy anwiredd; o herwydd amlhau o'th bechodau, y gwneu­thum hyn i ti.

16 Am hynny y rhai oll a'th yssant aExod. 23.22. Esa. 41.11. yssir, a chwbl o'th holl elynion a ânt i gaethiwed: a'th anrheith-wŷr di a fyddant yn anrhaith, a'th holl yspeil-wŷr a roddafi yn yspail.

17 Canys myfi a roddaf iechyd i ti, ac a'th iachaf di o'th friwiau, medd yr Arglwydd: o blegid hwy a'th alwasant di, yr hon a yrrwyd ymmaith, gan ddywedyd, Dymma Sion, yr hon nid oes neb yn ei cheisio.

18 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob, ac a gymmeraf drugaredd ar ei anneddau ef: a'r ddinas a adeiledir ar eiNeu, bryncyn. charnedd: a'r llŷs a erys yn ol ei arfer.

19 A moliant a â allan o honynt, a llais rhai yn gorfoleddu; ac mi a'i hamlhâf hwynt, ac ni byddant anaml: ac mi â'i anrhydeddaf hwynt, ac ni byddant wael.

20 Eu meibion hefyd fydd megis cynt, a'i cynnulleidfa a siccrheir ger fy mron; ac mi a ymwelaf â'i holl orthrym-wŷr hwynt.

21 A'i pendefigion fydd o honynt eu hun, a'i llywiawdr a ddaw allan o'i mysc eu hun, ac mi a baraf iddo nessau, ac efe a ddaw attaf: canys pwy yw hwn a lwyr-roddodd ei galon i nessau attafi, medd yr Arglwydd?

22Pen. 24.7. & 31.33. & 32.38. A chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minneu a fyddaf yn Dduw i chwithau.

23 WelePen. 23.19, 20. gorwynt yr Arglwydd yn my­ned allan mewn digter, corwynt parhaus: ar ben annuwolion yr erys.

24 Ni ddychwel digofaint llidioc yr Arg­lwydd, nes iddo ei wneuthur, ac nes iddo gyflawni meddyliau ei galon: yn y dyddiau diweddaf y deellwch hyn.

PEN. XXXI.

1 Adferu Israel: 10 a chyhoeddi hynny. 15 Ra­hel yn galaru am ei phlant. 18 Ephraim yn edifarhau, ac yn cael ei ddwyn adref drachefn. 22 Addewid o Grist. 27 Ei ofal ef tros ei Eglwys. 31 Ei gyfammod newydd ef. 35 Sic­crwydd, 38 a helaethrwydd yr Eglwys.

YR amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y byddaf Dduw i holl deuluoedd Israel; a hwythau a fyddant bobl i mi.

2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, y bobl y rhai a weddillwyd gan y cleddyf, a gafodd ffa­for yn yr anialwch, pan aethym i beri llonydd­wch iddo ef, sef i Israel.

3Heb. O bell. Er ystalm yr ymddangosodd yr Arg­lwydd i mi, gan ddywedyd, â chariad tragywy­ddol i'th gerais; am hynnyNeu, yr est yn­nais dru­gar [...]dd i ti. tynnais di â thru­garedd.

4 Myfi a'th adeiladaf etto, a thi a adeile­dir, ô forwyn Israel; ymdrwssi etto â'thExod. 15.20. Barn. 11.34. dympanau, ac a ai allan gyd â'r chwaryddion dawns.

5 Ti a blenni etto winllannoedd ym myny­ddoedd Samaria; y plan-wŷr a blannant, ac a'iHeb. cyffredi­nant. mwynhânt yn gyffredin.

6 Canys daw 'r dydd y llefa y gwilwyr ym mynydd Ephraim, codwch, ac awn i fynu i Sion, at yr Arglwydd ein Duw.

7 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, cenwch orfoledd i Jacob, a chrechwenwch ymlhith rhai pennaf y cenhedloedd; cyhoedd­wch, molwch, a dywedwch, ô Arglwydd, cadw dy bobl, gweddill Israel.

8 Wele, mi a'i harweiniaf hwynt o dir y gogledd, ac a'i casclaf hwynt o ystlysau y ddaiar, y dall, a'r clôff, y feichiog, a'r hon sydd yn escor, ar vnwaith gyd â hwynt: cyn­nulleidfa fawr a ddychwelant ymma.

9 Mewn wylofain y deuant, ac mewnNeu, ffafor, neu, deisy­fiadau. to­sturiaethau y dygaf hwynt, gwnaf iddynt ro­dio wrth ffrydiau dyfroedd, mewn ffordd vniawn, yr hon ni thrippiant ynddi: o blegit myfi sydd dâd i Israel, ac Ephraim ywExod. 4.22. fy nghyntafanedic.

10 Gwrandewch air yr Arglwydd, ô gen­hedloedd, a mynegwch yn yr ynysoedd o bell, a dywedwch, yr hwn a wascarodd Israel a'i cascl ef, ac a'i ceidw, fel bugail ei braidd.

11 O herwydd yr Arglwydd a waredodd Jacob, ac a'i hachubodd ef o law yr hwn oedd drêch nag ef.

12 Am hynny y deuant, ac y canant yn vchelder Sion, a hwy a redant at ddaioni yr Arglwydd, am wenith, ac am wîn, ac am olew, ac am heppil y defaid, a'r gwarthec: a'i henaid fydd felEsa. 58.11. gardd ddyfradwy, ac ni ofidiant mwyach.

13 Yna y llawenycha y forwyn yn y dawns, a'r gwŷr ieuaingc, a'r henaf-gwŷr yng­hŷd: canys myfi a droaf eu galar yn llaw­enydd, ac a'i diddanaf hwynt, ac a'i llawenychaf o'i tristwch.

14 Ac mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid â braster: a'm pobl a ddigonir â'm daioni, medd yr Arglwydd.

15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd,Matth. 2.18. llef a glywyd yn Ramah, cŵynfan, ac ŵylofain chwerw, Rahel yn ŵylo am ei meibion, ni fynnei ei chyssuro am ei meibion, o herwydd nad oeddynt.

16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, attal dy lêf rhac ŵylo, a'th lygaid rhac dagrau; canys y mae tâl i'th lafur, medd yr Arglwydd, a hwy a ddychwelant o dîr y gelyn:

17 Ac y mae gobaith yn dy ddiwedd, medd yr Arglwydd; y dychwel dy blant iw brô eu hun.

18 Gan glywed y clywais Ephraim yn cwyn­fan fel hyn, cospaist fi, ac mi a gospwyd, fel llo heb ei gynnefino a'r iau: dychwel di fi, ac myfi a ddychwelir; o blegit ti yw yr Arg­lwydd fy Nuw.

19Deut. 30.2. Yn ddiau wedi i mi ddychwelyd, mi a edifarheais, ac wedi i mi ŵybod, mi a da­rewais fy morddwyd: myfi a gywilyddiwyd, ac a wradwyddwyd hefyd, am i mi ddwyn gwarth fy ieuengctid.

20 Ai mab hôff gennif yw Ephraim? a'i plentyn hyfrydwch yw? canys er pan leferais i yn ei erbyn ef, can gofio y cofiaf ef etto; am hynny fy mherfedd a ruant am dano ef: gan drugarhau y trugarhâf wrtho ef, medd yr Ar­glwydd.

21 Cyfod it arwyddion ffordd, gosot i ti garneddau vchel: gosod dy galon tu a'r bri­ffordd, y ffordd yr aethost: dychwel forwyn Israel, dychwel i'th ddinasoedd hyn.

22 Pa hŷd yr ymgyrwydri ô ferch wrth­nysig? o blegit yr Arglwydd a greawdd beth newydd ar y ddaiar; benyw a amgylcha ŵr.

23 Fel hyn y dywed Arglwydd y llu­oedd, Duw Israel, dywedant etto y gair hwn yngwlad Juda, ac yn ei dinasoedd, pan ddych­welwyf eu caethiwed hwynt; Yr Arglwydd a'th fendithio, trigfa cyfawnder, mynydd sancteiddrwydd.

24 Yna ardd-wŷr aHeb. rhai 'n myned allan gyd a diade­llau. bugeiliaid a bresswy­liant ynddi hi Juda, ac yn ei holl ddinasoedd ynghŷd.

25 O herwydd yr enaid deffygiol a ddigo­nais, a phob enaid trist a lenwais.

26 Ar hyn y deffroais, ac yr edrychais, a melys oedd fy hûn gennif.

27 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, yr hauaf dŷ Israel, a thŷ Juda, â hâd dŷn, ac â hâd anifail.

28 Ac megis y gwiliais arnynt i ddiwrei­ddio, ac i dynnu i lawr, ac i ddinistrio, ac i ddifetha, ac i ddrygu; felly y gwiliaf arnynt, i adeiladu, ac i blannu, medd yr Arglwydd.

29 Yn y dyddiau hynny, ni ddywedant mwyach, yEzec. 18.2. tadau a fwytasant rawn-wîn surion, ac ar ddannedd y plant y mae dingcod.

30 Ond pob vn a fydd farw am ei anwiredd ei hun, pob dŷn a'r a fwyttao rawn-wîn surion, ar ei ddannedd ef y bydd dingcod.

31 Wele, yHeb. 8.8. dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y gwnaf gyfammod newydd â thŷ Israel, ac a thŷ Juda:

32 Nid fel y cyfammod a wneuthum a'i ta­dau hwynt, ar y dydd yr ymaflais yn eu llaw hwynt, iw dwyn allan o dîr yr Aipht, yr hwn gyfammod mau fi a ddarfu iddynt hwy ei ddi­ddymmu,Neu, a bar­hawn i yn bri [...]d iddynt i er fy mod vn briod iddynt, medd y [...] Arglwydd:

33 Ond dymma y cyfammod a wnafi â thŷ Israel; Ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; myfi a roddaf fy nghyfraith o'i mewn hwynt, ac a'i scrifennaf hi yn eu calon­nau hwynt, acPen. 24.7. & 30.22. mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwyntau a fyddant yn bobl i mi.

34 Ac ni ddyscant mwyach bob vn ei gy­mydog, a phob vn ei frawd, gan ddywedyd, adnabyddwch yr Arglwydd; o herwyddEsa. 54.13. Joa. 6.45. hwynt hwy oll o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt, a'm hadnabyddant, medd yr Arglwydd; o blegitPen. 33.8. Mic. 7.18. Act. 10.43. mi a faddeuaf eu han­wiredd, a'i pechod ni chofiaf mwyach.

35 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn sydd yn rhoddiGen. 1.16. yr haul yn oleuni dydd, de­fodau y lloer a'r sêr, yn oleuni nôs; yr hwn sydd yn rhwygo yrEsa. 51.15. môr, pan ruo ei donnau; Arglwydd y lluoedd yw ei enw.

36Esa. 54.9. Pen. 33.20. Os cilia y defodau hynny o'm gŵydd i, medd yr Arglwydd, yna hâd Israel a baid a bod yn genhedl ger fy mron i yn dragywydd.

37 Fel hyn y dywed yr Arglwydd,Pen. 33.22. os gellir mesur y nefoedd oddi vchod, a chwilio sylfeini y ddaiar hyd isod, minneu hefyd a wrthodaf hôll hâd Israel, am yr hyn oll a wnaethant hwy, medd yr Arglwydd.

38 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, yrNehe. 1.2. adeiledir y ddinas i'r Arglwydd, o dŵr Hananeel hyd borth y gongl.

39 A'r llinyn mesur â allan etto ar ei gy­feir ef, ar fryn Gareb, ac a amgylcha hyd Goath.

40 A holl ddyffryn y celaneddau, a'r lludw, a'r holl feusydd, hyd afon Cidron, hyd gongl porth y meirch tua 'r dwyrain, a fydd sanct­aidd i'r Arglwydd, ni's diwreiddir, ac ni's dinis­trir mwyach byth.

PEN. XXXII.

1 Jeremi, wedi ei garcharu gan Zedeciah am ei brophwydoliaeth, 6 yn prynu maes Hanameel. 13 Baruch yn rhaid iddo gadw 'r scrifenna­dau, megis yn arwyddion o ddychweliad y bobl. 16 Jeremi, yn ei weddi, yn achwyn wrth Dduw. 26 Duw yn siccrhau y caethiwed am eu pechodau hwy, 36 ac yn addo iddynt rasusol ddychweliad.

Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremi oddi wrth yr Arglwydd yn y ddecfed flwyddyn i Zedeciah frenin Juda; honno oedd y ddeu­nawfed flwyddyn i Nabuchodonosor.

2 Canys y pryd hynny yr oedd llu brenin Babilon yn gwarchae ar Jerusalem, a Jeremi y prophwyd ydoedd wedi cau arnaw ynghyn­tedd y carchar, yr hwn oedd yn nhŷ brenin Juda.

3 Canys Zedeciah brenin Juda a gauasai arno ef, gan ddywedyd, pa ham y prophwydi, gan ddywedyd, fel hyn y dywed yr Arg­lwydd,Pen. 29.16. & 34.2. wele mi a roddaf y ddinas hon yn llaw brenin Babilon, ac efe a'i hennill hi.

4 Ac ni ddiangc Zedeciah brenin Juda o law y Caldeaid, ondPen. 34.3. efe a roddir yn ddiau yn llaw brenin Babilon, ac efe a ymddiddan ag ef enau yngenau, a'i lygaid ef a edrychant yn ei lygaid ynteu.

5 Ac efe a arwain Zedeciah i Babilon, ac yno y bydd efe, hyd oni ymwelwyfi ag ef, medd yr Arglwydd: er i chwi ymladd â'r Caldeaid, ni lwyddwch.

6 A Jeremi a lefarodd, gair yr Arglwydd a ddaeth attafi, gan ddywedyd;

7 Wele Hanameel fab Salum dy ewythr yn dyfod attat, gan ddywedyd, pryn i ti fy maes, yr hwn sydd yn Anathoth,Levit. 25.24. Ruth. 4.4. o blegit i ti y mae cyfiawnder y pryniad iw brynu ef.

8 Felly Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhâd a ddaeth attafi i gyntedd y carchar-dŷ, yn ôl gair yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrthif; pryn attolwg fy maes sydd yn Anathoth yn nhîr Benjamin, canys i ti y mae cyfiawn­der yr etifeddiaeth, ac i ti y perthyn ei ollwng, pryn ef i ti: yna y gwybûm mai gair yr Arglwydd oedd hwn.

9 Ac mi a brynais y maes oedd yn Anathoth, gan Hanameel fab fy ewythr frawd fy nhâd, ac a bwysais iddo yr, arian, saith sicl, a dêc darn o arian.

10 Ac mi a scrifennais hyn mewn llyfr, ac a'i seliais, cymmerais hefyd dystion, a phwy­sais yr arian mewn cloriannau.

11 Yna mi a gymmerais lyfr y pryniad, sef yr hwn oedd wedi ei selio wrth gyfraith a de­fod, a'r hwn oedd yn agored.

12 Ac mi a roddais lyfr y pryniad at Baruch fab Neriah, fab Maaseiah, yngwydd Hanameel mab fy ewythr, ac yngwydd y tystion a scrifennasent lyfr y prynedigaeth, yngwydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd ynghyntedd y carchar-dy.

13 Ac mi a orchymynnais i Baruch yn eu gwydd hwynt, gan ddywedyd;

14 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, cymmer y llyfrau hyn, sef y llyfr hwn o'r pryniad, yr hwn sydd seliedic, a'r llyfr agored hwn, a dôd hwynt mewn llestr pridd, fel y parhaont ddyddiau lawer.

15 O herwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; tai, a meusydd, a gwin­llannoedd a feddiennir etto, yn y wlad hon.

16 Ac wedi i mi roddi llyfr y pryniad at Baruch fab Neriah, myfi a weddiais ar yr Ar­glwydd, gan ddywedyd,

17 O Arglwydd Dduw, wele, ti a wnae­thost y nefoedd a'r ddaiar, â'th fawr allu, ac â'th fraich estynnedic, nid oes dimNeu, cuddi [...]dig rhagot. rhy an­hawdd i ti.

18 Yr wytExod. 34.7. Deut. 5.9.10. yn gwneuthur trugaredd i filo­edd, ac yn talu anwireddau y tadau i fonwes eu meibion ar eu hôl hwynt: y Duw mawr cadarn, Arglwydd y lluoedd yw ei enw.

19 Mawr mewn cyngor, a galluog ar weithred, (Job. 34.21. Dihar. 5.21. pen. 16. 17. canys y mae dy lygaid yn agored ar holl ffyrdd meibion dynion, i roddi i bob vn yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithre­doedd.)

20 Yr hwn a osodaist arwyddion, a rhyfe­ddodau yngwlad yr Aipht, hyd y dydd hwn, ac yn Israel, ac ym mysc dynion eraill, ac a wnaethost i ti henw megis heddyw.

21 Ac aExod. 6.6. 2 Sam. 7.23. 1 Cron. 17.21. ddygaist dy bobl Israel allan o dîr yr Aipht, ag arwyddion, a rhyfeddodau, ac â llaw gref, ac â braich estynnedic, ac ag ofn mawr:

22 Ac a roddaist iddynt y wlâd ymma, yr hon a dyngaist wrth eu tadau y rhoddit iddynt, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.

23 A hwy a ddaethant i mewn, ac a'i meddiannasant hi; ond ni wrandawsant ar dy lais, ac ni rodiasant yn dy gyfraith; ni wnae­thant ddim o'r hyn oll a orchymynnaist iddynt ei wneuthur: am hynny y peraist i'r holl niwed hyn ddigwydd iddynt.

24 Wele,Neu, gwrth­glawdd. peiriannau ergydion a ddaeth at y ddinas, iw gorescyn hi, a'r ddinas a roddir i law y Caldeaid, y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn, o herwydd y cleddyf, a'r newyn, a'r haint; a'r hyn a ddywedaist ti, a gwpl­hawyd, ac wele ti a'i gweli.

25 A thi a ddywedaist writhif, ô Arglwydd Dduw, pryn i ti y maes ag arian, a chymmer dystion: gan fod y ddinas wedi ei rhoddi i law y Caldeaid.

26 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Je­remi, gan ddywedyd;

27 Wele, myfi yw 'rNum. 16.22. Arglwydd, Duw pob cnawd; a oes dimNeu, cuddiedic rhagof? rhy anhawdd i mi?

28 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arg­lwydd, wele fi yn rhoddi y ddinas hon yn llaw y Caldeaid, ac yn llaw Nabuchodonosor brenin Babilon, ac efe a'i hennill hi.

29 A'r Caldeaid y rhai a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, a ddeuant, ac a ffaglant y ddinas hon â thân, ac a'i lloscant hi, a'rPen. 19.13. tai y rhai yr arogl-darthasant ar eu pennau i Baal, ac y ty­walltasant ddiod offrwm i dduwiau dieithr, i'm digio i.

30 O blegit meibion Israel, a meibion Juda oeddynt yn gwneuthur yn vnig yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i, o'i mebyd: o herwydd meibion Israel oeddynt yn vnig yn fy niglloni i â gweithredoedd eu dwylo, medd yr Ar­glwydd.

31 Canys i'm digofaint, ac i'm llid, y bu y ddinas hon i mi, er y dydd yr adeiladasant hi, hyd y dydd hwn, i beri ei symmud oddi ger bron fy wyneb:

32 Am holl ddrygioni meibion Israel, a meibion Juda, y rhai a wnaethant i'm digio i, hwyntwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, a'i prophwydi, a gwŷr Juda, a phresswyl-wŷr Jerusalem.

33 Er i mi eu dyscu,Dihar. 1.24. Pen. 7.13. & 25.3. gan foreu-godi i roddi addysc iddynt, etto ni wrandawsant i gym­meryd athrawiaeth, eithrPen. 2.27. troesant attafi eu gwarrau, ac nid eu hwynebau:

34Pen. 23.11. Eithr gosodasant eu ffieidd-dra yn y tŷ y gelwir fy enw arno, iw halogi ef.

35 A hwy a adeiladasant vchelfeydd Baal, y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom, i wneuthur iwPen 7.31. & 19.5. meibion, a'i merched fyned trwy yr tân iLevit. 18.21. Molech, yr hyn ni orchymynnais iddynt; ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd-dra hyn, i beri i Juda bechu.

36 Ac yn awr am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, am y ddinas hon, am yr hon y dywedwch chwi, rhoddir hi i law brenin Babilon trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint:

37 Wele,Deut 30.3. myfi a'i cynhullaf hwynt, o'r holl diroedd, y rhai yn fy nig a'm llid, a'm sorriant mawr y gyrrais hwynt iddynt; ac a'i dygaf yn eu hôl i'r lle hwn, ac a wnaf iddynt bresswylio yn ddiogel.

38 A hwy a fyddantPen. 24.7. & 30.22. & 31.33. yn bobl i mi, a min­neu a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau.

39 Ac mi a roddaf iddyntEzec. 11.19. vn galon, ac vn ffordd, i'm hofniHeb. yr holl ddyddiau. byth, er lles iddynt, ac iw meibion ar eu hôl.

40 Ac mi a wnaf â hwynt gyfammod tragy­wyddol, na throafHeb. oddiar eu hol hwynt. oddi wrthynt, heb wneu­thur llês iddynt; ac mi a osodaf fy ofn yn eu calonnau, fel na chiliont oddi wrthif.

41 Ie mi a lawenychaf ynddynt, gan wneuthur llês iddynt, ac mi a'i plannaf [Page] hwynt yn y tîr hwnHeb. mewn gwirio­nedd, neu, mewn siccrwydd. yn siccr, â'm holl ga­lon, ac â'm holl enaid.

42 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, megis y dygais i ar y bobl hyn yr holl fawr ddrwg hyn; felly y dygafi arnynt yr holl ddaioni a addewais iddynt.

43 A meusydd a seddiennir yn y wlad ymma, am yr hon yr ydych chwi yn dywe­dyd, anghyfannedd yw hi, heb ddŷn nac ani­fail; yn llaw y Caldeaid y rhoddwyd hi.

44 Meusydd a brynant am arian, ac a scri­fennant mewn llyfrau, ac a seliant, ac a gym­erant dystion yn nhîr Benjamin, ac yn amgyl­choedd Jerusalem, ac yn ninasoedd Juda, ac yn ninasoedd y mynyddoedd, ac yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, medd yr Arglwydd.

PEN. XXXIII.

1 Duw yn addo i'r gaeth-glud rasusol ddychwe­liad, 9 a llawen gyflwr, 12 a llywodraeth ddiyscog, 15 a Christ, blaguryn cyfiawnder; 17 Y parhae eu brenhiniaeth a'i hoffeiriadaeth, 20 a siccrwydd o hâd bendig [...]g.

GAir yr Arglwydd hefyd a ddaeth at Jere­mi yr ail waith (ac efe ettoPen. 32.2, 3. yn garcharor ynghyntedd y carchar-dŷ) gan ddywedyd,

2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a'iEsa. 37.26. gwnaeth, yr Arglwydd yr hwn a'i llun­iodd, iw siccrhau; yr Arglwydd yw ei enw:

3 Galw arnaf, ac mi a'th attebaf, ac a ddan­gosaf i ti bethau mawrion, aNeu, dirgel. chedyrn, y rhai nis gwyddost.

4 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, am dai y ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Juda, y rhai a ddinistriwyd âPen. 32.24. pheiriannau rhyfel, ac â chleddyf:

5 Y maent yn dyfod i ymladd â'r Caldeaid, ond iw llenwi â chelanedd dynion, y rhai a leddais yn fy llid a'm digofaint, ac am i mi guddio fy wyneb oddi wrth y ddinas hon, am ei holl ddrygioni hwynt.

6 Wele, myfi a ddygaf iddi hi iechyd a me­ddiginiaeth, ac mi a'i meddiginiaethaf hwynt, ac a ddadcuddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd.

7 Ac mi a ddychwelaf gaethiwed Juda, a chaethiwed Israel, ac mi a'i hadeiladaf hwynt, megis yn y dechreuad.

8 Ac mi a'i puraf hwynt oddi wrth eu holl anwiredd a bechasant i'm herbyn, acPen. 31.3. Mic 7.18. mi a faddeuaf iddynt eu holl bechodau, drwy y rhai y pechasant i'm herbyn, a thrwy y rhai y [...]ose­ddasant yn fy erbyn.

9 A hyn fydd i mi yn enw llawenydd, yn glod, ac yn ogoniant, o flaen holl genhedlo­edd y ddaiar, y rhai a glywant yr holl ddai­oni yr ydwyfi yn ei wneuthur iddynt: a hwy­thau a ofnant, ac a grynant am yr holl ddaioni, a'r holl lwyddiant yr ydwyfi yn eu gwneuthur i'r ddinas hon.

10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, clywir etto yn y lle hwn, (am yr hwn y dywedwch, anialwch yw efe heb ddŷn, ac heb anifail, yn ninasoedd Juda, ac yn heolydd Jerusalem, y rhai a wnaed yn anghyfannedd, heb ddŷn, a heb bresswylwr, a heb anifail)

11Pen. 7.34. & 16.9. Llef gorfoledd, a llef llawenydd, llef y priodfab, a llef y briodferch, llef rhai yn dywedyd,1 Cron. 16.8. Psal. 105.1. Esa. 12. molwch Arglwydd y lluoedd, o herwydd daionus yw yr Arglwydd, o blegit ei d [...]garedd a bery yn dragywydd; llef rhai yn dwyn offrwm moliant i dŷ 'r Arglwydd: ca­nys mi a ddychwelaf gaethiwed y wlad, megis yn y dechreuad, medd yr Arglwydd.

12 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, bydd etto yn y lle ymma, yr hwn sydd anghy­fanneddol heb ddŷn, a heb anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, drigfa bugeiliaid yn corlannu y praidd.

13 Yn ninasoedd y mynydd, yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau, ac yngwlad Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerusalem, ac yn ninasoedd Juda, yr â defaid etto, tan law yr hwn sy'n eu rhifo, medd yr Arglwydd.

14 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel, ac i dŷ Juda.

15 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, y parafPen. 23.5. Esa. 11.1. & 4.2. i Flaguryn cyfiawnder flagu­ro i Ddafydd, ac efe a wna farn, a chyfiawn­der yn y tir.

16 Yn y dyddiau hynny Juda a waredir, a Jerusalem a bresswylia yn ddiogel, a hwn yw 'r enw y gelwir ef,Jehouah [...]sidcenu. yr Arglwydd ein cyfiawnder.

17 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd,2 Sam. 7.16. 1 Bren. 2.4. niHeb. thorrir ymaith oddiwrth Ddafydd. phalla i Ddafydd wr yn eistedd ar fren­hin-faingc tŷ Israel;

18 Ac ni phalla i'r offeiriaid y Lefiaid, ŵr ger fy mron i, i offrymmu poeth offrwm, ac i offrymmu bwyd offrwm, ac i wneuthur aberth yn dragywydd.

19 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremi, gan ddywedyd,

20 Fel hyn y dywed yr Arglwydd,Pen. 31.36. Esa. 54.9. os gellwch ddiddymmu fy nghyfammod â'r dydd, a'm cyfammod â'r nôs, ac na byddo dydd a nôs yn eu hamser,

21 Yna y diddymmir fy nghyfammod â Da­fydd fy ngwâs, na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrn-gadeir ef, ac â'r Lefiaid yr offeir­iaid fy ngwenidogion.

22 MegisPen. 31.37. na ellir cyfrif llu y nefoedd, ac na ellir mesur tyfod y môr; felly myfi a aml­hâf hâd Dafydd fy ngwâs, a'r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi.

23 Hefyd, gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremi, gan ddywedyd,

24 Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru, gan ddywedyd, y ddau deulu a ddewisodd yr Arglwydd, efe a'i gwrthododd hwynt? felly y dirmygasant fy mhobl, fel nad ydynt mwyach yn genhedl, yn eu golwg hwynt.

25 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, os fy nghyfammod â'r dydd, ac â'r nôs ni saif, ac oni osodais i ddefodau y nefoedd, a'r ddaiar,

26 Yna hâd Jacob a Dafydd fy ngwâs a wrthodafi, fel na chymmerwyf o'i hâd ef lywodraeth-wŷr ar hâd Abraham, Isaac, ac Ja­cob: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhâf wrthynt.

PEN. XXXIV.

1 Jeremi yn prophwydo caethiwed Zedeciah, a'r ddinas. 8 Y tywysogion a'r bobl, wedi idd­ynt ryddhau eu caeth-weision, yngwrth-wyneb i gyfammod Duw, yn eu cymmeryd hwy dra­chefn. 12 Jeremi am eu hanufydd-dod, yn eu rhoddi hwy a Zediciah, yn nwylo eu gelynion.

Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremi oddi wrth yr Arglwydd, (pan oedd2 Bren. 25.1. &c. Pen 52.1. Nabuchodono­sor brenin Babilon a'i holl lû, a holl deyrna­soedd y ddaiar, y rhai oedd tan lywodraeth ei [Page] law ef, a'r holl bobloedd, yn rhyfela yn erbyn Jerusalem, ac yn erbyn ei holl ddinasoedd hi,) gan ddywedyd,

2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, dôs a llefara wrth Zedeciah frenin Juda, a dywed wrtho, fel hyn y dywed yr Arg­lwydd,2 Cron. 36.19. wele fi yn rhoddi y ddinas hon i law brenin Babilon, ac efe a'i llŷsc hi â thân:

3 Ac ni ddiengi ditheu o'i law ef, canys diauPen. 31.4. i'th ddelir, ac i'th roddir iw law ef, a'th lygaid ti a gânt weled llygaid brenin Babilon, a'i enau ef a ymddiddan â'th enau di, a thi­theu ai i Babilon.

4 Er hynny, o Zedeciah, brenin Juda, gwrando air yr Arglwydd; fel hyn y dywed yr Arglwydd am danat ti, ni byddi di farw drwy yr cleddyf:

5 Mewn heddwch y byddi farw, a hwy a loscant ber-aroglau i ti, fel y lloscwyd i'th da­dau, y brenhinoedd gynt, y rhai a fu o'th flaen di, a hwy a alarant am danat ti, gan ddywedyd, ôh arglwydd; canys myfi a ddywedais y gair, medd yr Arglwydd.

6 Yna Jeremi y prophwyd a lefarodd wrth Zedeciah frenin Juda, yr holl eiriau hyn, yn Je­rusalem,

7 Pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerusalem, ac yn erbyn holl ddinasoedd Juda, y rhai a adawsid, yn erbyn Lachis, ac yn erbyn Azecah: canys y dinasoedd caerog hyn a adawsid o ddinasoedd Juda.

8 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremi oddi wrth yr Arglwydd, wedi i'r brenin Zedeciah wneuthur cyfammod â'r holl bobl oedd yn Je­rusalem, am gyhoeddi iddyntExod. 21.2. rydd-did,

9 I ollwng o bob vn ei wasanaeth-wr, a phob vn ei wasanaeth-ferch, y rhai fyddent Hebread, neu Hebrees, yn rhyddion, ac na cheisiei neb wasanaeth ganddynt, sef gan ei frawd o Iddew.

10 A phan glybu yr holl bennaethiaid, a'r holl bobl, y rhai a aethent i'r cyfammod, am ollwng o bob vn ei wasanaeth-wr, a phob vn ei wasanaeth-ferch, yn rhyddion, fel na chei­sient wasanaeth ganddynt mwyach; yna hwy a wrandawsant, ac a'i gollyngasant ymmaith.

11 Ond wedi hynny yr edifarhaodd arnynt, a hwy a ddygasant yn eu hol eu gweision, a'i morwynion, y rhai a ollyngasent yn rhyddion, ac a'i caethiwasant hwy yn weision, ac yn for­wynion.

12 Am hynny y daeth gair yr Arglwydd at Jeremi oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,

13 Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, mi a wneuthum gyfammod â'ch tadau chwi, y dydd y dygais hwynt allan o dîr yr Aipht, o dŷ y caethiwed, gan ddywedyd;

14 Ym mhenExod. 21.2. Deut. 15.12. saith mlynedd, gollyngwch bob vn ei frawd o Hebread, yr hwn aNeu, ymwer­thodd. werthwyd i ti, ac a'th wasanaethodd chwe blynedd; gollwng ef yn rhydd oddi wrthit; ond ni wrandawodd eich tadau arnaf, ac ni ogwyddasant eu clustiau.

15 A chwithau a gymmerasech edifeirwch heddyw, ac a wnaethech yr hyn oedd vniawn yn fy ngolwg, am gyhoeddi rhydd-did bob vn iw gymmydog, a chwi a wnaethech gy­fammod yn fy ngŵydd i, yn y tŷ y gelwir fy enw arno.

16 Ond chwi a ddychwelasoch, ac a haloga­soch fy enw, ac a ddygasoch yn eu hôl bob vn ei wasanaeth-wr, a phob vn ei wasanaeth-ferch, y rhai a ollyngasech yn rhyddion, wrth eu hewyllys eu hun: caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision, ac yn forwynion i chwi.

17 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arg­lwydd, ni wrandawsoch arnafi, gan gyhoeddi rhydd-did bob vn iw frawd, a phob vn iw gymmydog: wele fi yn cyhoeddi i'ch erbyn, medd yr Arglwydd, rydd-did i'r cleddyf, i'r haint, ac i'r newyn, ac miHeb. a'ch rho­ddaf yn symmu­diad. a wnaf eichDeut. 28.64. Pen. 29.18. sym­mud chwi i holl deyrnasoedd y ddaiar.

18 Ac mi a roddaf y dynion a droseddodd fy nghyfammod, y rhai ni chwplasant eiriau y cyfammod a wnaethant ger fy mron, wedi iddynt fyned rhwng rhannau y llô,Gen. 15.10. yr hwn a holltasent yn ddau,

19 Tywysogion Juda, a thywysogion Jeru­salem, yr stafellyddion a'r offeiriaid, holl bobl y wlad, y rhai a aethant rhwng rhannau y llê,

20 Ie mi a'i rhoddaf hwynt yn llaw eu go­lynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu henioes;Pen. 7.33. & 16.4. a'i celain fydd yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaiar.

21 Ac mi a roddaf Zedeciah frenin Juda, a'i dywysogion, i law eu gelynion, ac i law y rhai sy yn ceisio eu henioes, ac yn llaw llû brenin Ba­bilon, y rhai a aethant i fynu oddi wrthych.

22 Wele, mi a orchymynnaf, medd yr Ar­glwydd, ac a wnaf iddynt droi yn ôl at y ddinas hon, a hwy a ryfelant yn ei herbyn hi, ac a'i gorescynnant hi, ac a'i lloscant hi â thân: ac mi a wnaf ddinasoedd Juda yn anghyfan­nedd heb bresswylydd.

PEN. XXXV.

1 Trwy ddangos vfydd-dod y Rechabiaid, 12 Y mae Jeremi yn barnu ar anufydd-dod yr Ju­ddewon. 18 Duw yn bendithio y Rechabiaid am eu hufydd-dod.

Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremi oddi wrth yr ArglwyddPen. 27.1. yn nyddiau Jehoiacim mab Josiah brenin Juda, gan ddywedyd;

2 Dôs di i dŷ y Rechabiaid, a llefara wrth­ynt, a phâr iddynt ddyfod i dŷ yr Arglwydd, i vn o'r stafelloedd, a dôd iddynt win iw yfed.

3 Yna myfi a gymmerais Jaazaniah, fâb Jeremiah, fâb Habaziniah, a'i frodyr, a'i holl feibion, a holl deulu y Rechabiaid.

4 Ac mi a'i dugym hwynt i dŷ yr Arglwydd, i stafell meibion Hanan fâb Igdaliah, gŵr i Dduw; yr hon oedd wrth stafell y tywysogi­on, yr hon sydd goruwch stafell Maaseiah mab Salum ceidwad yHeb. rhiniog, neu, do­dodrefn. drws.

5 Ac mi a roddais ger bron meibion tŷ y Rechabiaid, phiolau yn llawn o wîn, a chw­panau: ac mi a ddywedais wrthynt, yfwch wîn.

6 Ond hwy a ddywedasant, nid yfwn ni ddim gwin, o herwydd Jonadab mab Rechab ein tad, a roddodd i ni orchymyn, gan ddy­wedyd; nac yfwch win, na chwychwi, na'ch plant, yn dragywydd.

7 Nac adeiledwch dŷ, ac na heuwch hâd, ac na phlennwch win-llan, ac na fydded gen­nwch chwi: ond mewn pebyll y presswyl­iwch, eich holl ddyddiau, fel y byddoch chwi fyw ddyddiau lawer ar wyneb y ddaiar, lle yr ydych yn ddieithriaid.

8 Ac nyni a wrandawsom ar lais Jonadab mab Rechab ein tâd, am bob peth a orchy­mynnodd efe i ni; nad yfem ni win ein holl ddyddiau, nyni, ein gwragedd, ein meibion, a'n merched;

9 Ac nad adeiladem i ni dai iw presswylio, ac nid oes gennym na gwin-llan, na maes, na hâd.

10 Eithr trigo a wnaethom mewn pebyll; a gwrandaw, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchymynnodd Jonadab ein tâd i ni.

11 Ond pan ddaeth Nabuchodonosor brenin Babilon i fynu i'r wlâd, nyni a ddywedasom, deuwch, ac awn i Jerusalem, rhac llu y Calde­aid, a rhac llu yr Assyriaid; ac yn Jerusalem yr ydym ni yn presswylio.

12 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jere­mi, gan ddywedyd,

13 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, dôs, a dywed wrth wŷr Juda, ac wrth bresswyl-wŷr Jerusalem; oni chymme­rwch chwi addysc, i wrando ar fy ngeiriau, medd yr Arglwydd?

14 Geiriau Jonadab mab Rechab, y rhai a orchymynnodd efe iw feibion, nad yfent win, a gyfiawnwyd; canys nid yfant hwy wîn hyd y dydd hwn; ond hwy a wrandawant ar or­chymyn eu tâd: a minneu a ddywedais wrth­ych chwi, gan godi yn foreu, a llefaru, ond ni wrandawsoch arnaf.

15 Myfi a anfonais hefyd attoch chwi fy holl weision y prophwydi, gan godi yn foreu ac anfon, gan ddywedyd,Pen. 18.11. & 25.5. dychwelwch yn awr bawb oddi wrth ei ffordd ddrwg, a gwell­hewch eich gweithredoedd, ac nac ewch yn ôl duwiau dieithr, iw gwasanaethu hwynt; a chwi a drigwch yn y wlâd yr hon a roddais i chwi, ac i'ch tadau; ond ni ogwyddasoch eich clustiau, ac ni wrandawsoch arnaf.

16 Gan i feibion Jonadab mab Rechab gyf­lawni gorchymyn eu tâd, yr hwn a orchym­ynnodd efe iddynt; ond y bobl ymma ni wran­dawsant arnafi:

17 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel, wele fi yn dwyn ar Juda, ac ar holl drigolion Jerusalem, yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn: o herwydd i mi ddywedyd wrthynt, ond ni wrandawsant, a galw arnynt, ond nid attebasant.

18 A Jeremi a ddywedodd wrth dŷlwyth y Rechabiaid, fel hyn y dywed Arglwydd y llu­oedd, Duw Israel; o herwydd i chwi wrando ar orchymyn Jonadab eich tad, a chadw ei holl orchymynion ef, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchymynnodd efe i chwi:

19 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel;Heb. ni thorrir ymaith i Jonadab. ni phalla i Jonadab fab Rechab, ŵr i sefyll ger fy mron i yn dra­gywydd.

PEN. XXXVI.

1 Jeremi yn peri i Baruch yscrifennu ei bro­phwydoliaeth ef, 5 a'i darllein ar gyhoedd. 11 Y tywysogion wedi cael gwybodaeth o hynny trwy Micaiah, yn anfon Jehudi i gyrchu y llyfr, ac yn ei ddarllen: 19 Yn erchi i Baruch ym­guddio, ef a Jeremi. 20 Y brenin Jehoiacim wedi clywed s'on am y llyfr, yn gwrando peth o honaw, ac yn ei losci ef. 27 Jeremi yn adrodd ei farn ef. 32 Baruch yn scrifennu y llyfr o newydd.

AC yn yPen. 25.1. bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Josiah frenin Juda, y daeth y gair hwn oddiwrth yr Arglwydd at Jeremi, gan ddywedyd;

2 Cymmer i ti blyg llyfr, ac scrifenna yn­ddo yr holl eiriau a leferais i wrthyt yn erbyn Israel, ac yn erbyn Juda, ac yn erbyn yr holl genhedloedd, o'r dydd y lleferais i wrthit ti, er dyddiau Josiah hyd y dydd hwn.

3 Fe allai pan glywo tŷ Juda yr holl ddrwg, yr ydwyfi yn amcanu ei wneuthur iddynt, y dychwelant bob vn o'i ffordd ddrygionus, fel y maddeuwyf eu hanwiredd a'i pechod.

4 Yna Jeremi a alwodd Baruch fab Neriah, a Baruch a scrifennodd o enau Jeremi holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarasei efe wrtho, mewn plyg llyfr.

5 A Jeremi a orchymynnodd i Baruch, gan ddywedyd; caewyd arnafi, ni allafi fyned i dŷ yr Arglwydd.

6 Am hynny dôs di, a darllein o'r llyfr a scrifennaist o'm genau, eiriau yr Arglwydd, lle y clywo y bobl, yn nhŷ yr Arglwydd, ar y dydd ympryd: a lle y clywo holl Juda hefyd, y rhai a ddelont o'i dinasoedd, y darllenni di hwynt.

7 Fe allei yHeb. y cwymp eu deisy­fiad. daw eu gweddi hwynt ger bron yr Arglwydd, ac y dychwelant bob vn o'i ffordd ddrygionus; canys mawr yw yr llîd, a'r digofaint, a draethodd yr Arglwydd yn er­byn y bobl hyn.

8 Felly Baruch mab Neriah a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchymynnasei Jeremi y pro­phwyd iddo, gan ddarllen o'r llyfr eiriau yr Arglwydd, yn nhŷ yr Arglwydd.

9 Ac yn y bummed flwyddyn i Jehoiacim fab Josiah brenin Juda, ar y nawfed mîs, y cy­hoeddasant ympryd ger bron yr Arglwydd, i'r holl bobl yn Jerusalem, ac i'r holl bobl a ddaethent o ddinasoedd Juda i Jerusalem.

10 Yna Baruch a ddarllennodd o'r llyfr eiriau Jeremi, yn nhŷ 'r Arglwydd, yn stafell Gema­riah mab Saphan yr scrifennydd,Pen. 26.10. yn y cyntedd vchaf, wrth ddrws porth newydd tŷ yr Ar­glwydd, lle y clybu yr holl bobl.

11 Pan glybu Micaiah mab Gemariah fab Saphan, holl eiriau yr Arglwydd allan o'r llyfr;

12 Yna efe a aeth i wared i dŷ y brenin, i stafell yr scrifennydd, ac wele, yr holl dywy­sogion oedd yno yn eistedd; sef Elisama yr scrifennydd, a Delaiah mab Semaiah, ac Elnathan mab Achbor, a Gemariah mab Saphan, a Zede­ciah mab Hananiah, a'r holl dywysogion.

13 A Micaiah a fynegodd iddynt yr holl eiriau a glywsei efe, pan ddarllennasei Baruch y llyfr lle y clybu y bobl.

14 Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi, fab Nethaniah, fab Selemiah, fab Cusi, at Baruch, gan ddywedyd; cymmer yn dy law y llyfr, y darllennaist allan o honaw lle y cly­bu y bobl, a thyred: felly Baruch mab Neriah a gymerodd y llyfr yn ei law, ac a ddaeth attynt.

15 A hwy a ddywedasant wrtho, eistedd yn awr, a darllen ef lle y clywom ni: felly Baruch a'i darllennodd lle y clywsant hwy.

16 A phan glywsant yr holl eiriau, hwy a ofnasant bawb gyd â'i gilydd; a hwy a ddy­wedasant wrth Baruch, gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i'r brenin.

17 A hwy a ofynnasant i Baruch, gan ddywe­dyd, mynega i ni yn awr, pa fodd yr scrifen­naist ti yr holl eiriau hyn o'i enau ef?

18 Yna Baruch a ddywedodd wrthynt, efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthifi â'i enau; a minneu a'i scrifennais hwynt yn y llyfr ag ingc.

19 Yna y tywysogion a ddywedasant wrth Baruch, dôs ac ymguddia, ti a Jeremi, ac na wypo neb pa le y byddoch chwi.

20 A hwy a aethant at y brenin i'r cyntedd, (ond hwy a gadwasant y llyfr yn stafell Elisama yr scrifennydd) ac a fynegasant yr holl eiriau, lle y clybu y brenin.

21 A'r brenin a anfonodd Jehudi, i gyrchu y llyfr; ac efe a'i dug ef o stafell Elisama yr scrifennydd, a Jehudi a'i darllennodd lle y clybu y brenin, a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.

22 A'r brenin oedd yn eistedd yn y gaiaf­dŷ, ar y nawfed mîs, a thân wedi ei gynneu ger ei fron.

23 A phan ddarllennasai Jehudi dair dalen, neu bedair, yna efe a'i torrodd â chyllell scri­fennydd, ac a'i bwriodd i'r tân oedd yn yr ae­lwyd, nes darfod yr holl lyfr gan y tân oedd ar yr aelwyd.

24 Etto nid ofnasant, ac ni rwygasant eu di­llad, na 'r brenin, nac yr vn o'i weision, y rhai a glywsant yr holl eiriau hyn.

25 Etto Elnathan, a Delaiah, a Gemariah, a ymbiliasant â'r brenin na loscei efe y llyfr: ond ni wrandawai efe arnynt.

26 Ond y brenin a orchymynnodd i Jerah­meel fabNeu, y brenhin. Hammelech, a Seraiah fab Azriel, a Selemiah fab Abdiel, ddala Baruch yr scrifen­nydd, a Jeremi y prophwyd: ond yr Ar­glwydd a'i cuddiodd hwynt.

27 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremi, (wedi i'r brenin losci y llyfr, a'r geiriau a scri­fennasei Baruch o enau Jeremi,) gan ddy­wedyd;

28 Cymmer i ti etto lyfr arall, ac scrifen­na arno yr holl eiriau cyntaf, y rhai oedd yn y llyfr cyntaf, yr hwn a loscodd Jehoiacim bre­nin Juda:

29 A dywed wrth Jehoiacim frenin Juda, fel hyn y dywed yr Arglwydd, ti a loscaist y llyfr hwn, gan ddywedyd, pa ham yr scrifennaist ynddo, gan ddywedyd; diau y daw brenin Ba­bilon, ac a anrheithia y wlâd hon: ac efe a wna i ddŷn ac i anifail ddarfod o honi?

30 Am hynny fel hyn y dywel yr Arglwydd am Jehoiacim frenhin Juda; ni bydd iddo ef a eisteddo ar frenhin-faingc Dafydd; a'iJere. 22.19. ge­lain ef a fwrir allan i wrês y dydd, ac i rew y nôs.

31 Ac mi a ymwelaf ag ef, ac â'i hâd, ac â'i weision, am eu hanwiredd; ac mi a ddygaf arnynt hwy, ac ar drigolion Jerusalem, ac ar wŷr Juda, yr holl ddrwg a leferais iw herbyn; ond ni wrandawsant.

32 Yna Jeremi a gymmerth lyfr arall, ac a'i rhoddodd at Baruch fab Neriah yr scrifennydd, ac efe a scrifennodd ynddo o enau Jeremi holl eiriau y llyfr a loscasei Jehoiacim brenin Juda yn tân: a chwanegwyd attynt etto eiriau lawer fel hwythau.

PEN. XXXVII.

1 Wedi darfod i'r Aiphtiaid yrru y Chaldæaid ymaith, o warchae ar Jerusalem, Y mae 'r bre­nin Zedeciah yn anfon at Jeremi i weddio tros y bobl. 6 Jeremi yn prophwydo y dychwelai y Chaldæaid, ac y gorchfygent. 11 Ei ddal ef megis ffoadur, a'i faeddu, a'i garcharu. 16 Y mae efe yn siccrhau Zedeciah o'r caethiwed: 18 Yn ymbil am gael ei ollwng yn rhydd, ac yn cael peth ffafor.

A 'R brenin Zedeciah2 Bren. 24.17. 2 Cron. 36.10. Pen. 22.24. & 52.1. mab Josiah a deyrna­sodd yn lle Coniah fab Jehoiacim, yr hwn a wnaeth Nabuchodonosor brenin Babilon, yn frenin yngwlâd Juda.

2 Ond ni wrandawodd efe, na'i weision, na phobl y tîr, ar eiriau yr Arglwydd, y rhai a draethodd efe trwy law Jeremi y prophwyd.

3 A'r brenin Zedeciah a anfonodd Jehucal fab Selemiah, a Sephaniah fab Maaseiah yr offei­riad, at Jeremi y prophwyd, gan ddywedyd; gweddia atolwg drosom ni ar yr Arglwydd ein Duw.

4 A Jeremi oedd yn myned i mewn ac allan ym mysc y bobl: canys ni roddasent hwy ef etto yn y carchar-dŷ.

5 A llu Pharao a ddaethei allan o'r Aipht; a phan glybu y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerusalem, sôn am danynt, hwy a aethant ym­aith oddi wrth Jerusalem.

6 Yna gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremi y prophwyd, gan ddywedyd,

7 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Is­rael, fel hyn y dywedwch chwi wrth frenin Juda, yr hwn a'ch anfonodd chwi attafi, i ymo­fyn â mi; wele, llu Pharao, yr hwn a ddaeth allan yn gynhorthwy i chwi, a ddychwel iw wlâd ei hun i'r Aipht.

8 A'r Caldeaid a ddychwelant, ac a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, ac a'i hennillant, ac a'i lloscant â thân.

9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, na thwy­llwchHeb. eich en­eidiau. eich hunain, gan ddywedyd; diau yr â y Caldeaid oddi wrthym ni, o blegit nid ânt hwy.

10 Canys pe tarawech chwi holl lu y Cal­deaid, y rhai sydd yn rhyfela i'ch erbyn, fel na weddillid o honynt onid gwŷrHeb. wedi eu trywanu. archolledic, etto hwy a gyfodent bôb vn yn ei babell, ac a loscent y ddinas hon â thân.

11 A phan aeth llu y CaldeaidHeb. i fynu. ymmaith oddi wrth Jerusalem, rhac llu Pharao;

12 Yna Jeremi a aeth allan o Jerusalem, i fyned i wlâd Benjamin, iNeu, ymnaill­tuo. ymlithro oddi yno ynghanol y bobl.

13 A phan oedd efe ym mhorth Benjamin, yr oedd yno ben-swyddog, a'i enw ef oedd Iriah, mab Selemiah, fab Hananiah; ac efe a ddaliodd Jeremi y prophwyd, gan ddywedyd, cilio at y Caldeaid yr wyt ti.

14 Yna y dywedodd Jeremi,Heb. celwydd. nid gwir, nid ydwyfi yn cilio at y Caldeaid; ond ni wran­dawei efe arno: felly Iriah a ymaflodd yn Je­remi, ac a'i dygodd ef at y tywysogion.

15 Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Jeremi, ac a'i tarawsant, ac a'i rhodda­sant yn y carchar-dŷ, yn nhŷ Jonathan yr scri­fennydd; o herwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchar-dŷ.

16 Pan ddaeth Jeremi i'r daiar-dŷ, ac i'rNeu, celloedd. cabanau; ac wedi i Jeremi aros yno ddyddiau lawer:

17 Yna y brenin Zedeciah a anfonodd, ac a'i cymmerodd ef allan; a'r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dŷ ei hun, ac a ddy­wedodd; a oes gair oddi wrth yr Arglwydd? a dywedodd Jeremi, oes; canys tydi, eb efe, a roddir yn llaw brenin Babilon.

18 Jeremi hefyd a ddywedodd wrth y bre­nin Zedeciah, pa bechod a wneuthum i i'th er­byn di, neu yn erbyn dy weision, neu yn er­byn y bobl hyn, pan i'm rhoddasoch yn y carchar-dŷ?

19 Pa le y mae eich prophwydi a brophwy­dasant i chwi, gan ddywedyd, ni ddaw bre­nin Babilon i'ch erbyn, nac yn erbyn y wlâd hon?

20 Ac yn awr gwrando atolwg, ô fy ar­glwydd frenin, atolwgHeb. cwym­ped. deued fy ngweddi ger dy fron: fel na pharech i mi ddychwelyd i dŷ Jonathan yr scrifennydd, rhac fy marw yno.

21 Yna y brenin Zedeciah a orchymynnodd îddynt hwy roddi Jeremi ynghyntedd y car­char-dŷ, a rhoddi iddo ef deisen o fara beu­nydd, o heol y pobyddion, nes darfod vr holl fara yn v ddinas. Felly Jeremi a arhosodd yng­hyntedd y carchar-dŷ.

PEN. XXXVIII.

1 Jeremi ar gam-achwyn yn cael ei fwrw i ddai­ar-dŷ Malchiah; 7 Ac Ebedmelech yn cael peth rhydd-did iddo ef. 14 Jeremi trwy ym­ddiddan cyfrinachol, yn cynghori i'r brenhin achub ei enioes trwy ymroi: 24 A thrwy archiad y brenhin yn celu yr ymddiddan hwn­nw oddiwrth y tywysogion.

YNa Sephatiah mab Mattan, a Cedaliah mab Pasur, a Jucal mab Selemiah, a Phanir mabJere. 21.1. Malchiah, a glywsant y geiriau a drae­thasei Jeremi wrth yr holl bobl, gan ddy­wedyd;

2 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd,Pen. 21.9. yr hwn a arhoso yn y ddinas hon, a sydd farw trwy 'r cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint; ond y neb a elo allan at y Caldeaid, a fydd byw; canys ei enioes fydd yn sclyfaeth iddo, a byw fydd.

3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, y ddinas hon a roddir yn ddiau yn llaw llu brenin Ba­bilon, yr hwn a'i hennill hi.

4 Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin, rhodder attolwg y gŵr hwn i farwo­laeth, o blegit fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo y rhyfel-wŷr a adawyd yn y ddinas hon, a dwylo yr holl bobl, wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn: o herwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisioHeb. heddwch. llwyddiant i'r bobl hyn, onid niwed.

5 A'r brenin Zedeciah a ddywedodd, wele ef yn eich llaw chwi; canys nid yw y brenin wr a ddichon ddim yn eich erbyn chwi.

6 Yna hwy a gymmerasant Jeremi, ac a'i bwriasant ef i ddaiar-dŷ Malchiah mabNeu, y brenin. Ham­melech, yr hwn oedd ynghyntedd y carchar­dŷ: a hwy a ollyngasant Jeremi i wared wrth raffau: ac nid oedd dwfr yn y daiar-dŷ, onid tom; felly Jeremi a lynodd yn y dom.

7 A phan glybu Ebedmelech yr Ethiopiad (vn o'r stafellyddion, yr hwn oedd yn nhŷ y brenin) iddynt hwy roddi Jeremi yn y daiar-dŷ, (a'r brenhin yn eistedd ym-mhorth Benjamin;)

8 Ebedmelech a aeth allan o dŷ 'r brenin, ac a lefarodd wrth y brenin gan ddywedyd;

9 O fy arglwydd frenin, drwg y gwnaeth y gwŷr hyn ynghwbl ac a wnaethant i Jeremi y prophwyd, yr hwn a fwriasant hwy i'r daiar­dŷ, ac efe a fydd marw o newyn yn y fan lle y mae, o herwydd nid oes bara mwyach yn y ddinas.

10 Yna y brenin a orchymynnodd i Ebed­melech yr Ethiopiad, gan ddywedyd; cymmer oddi ymma ddeng-wr ar hugainHeb. yn dy law, neu, gyd a'th law. gyd â thi, a chyfod Jeremi y prophwyd o'r daiar-dŷ, cyn ei farw.

11 Felly Ebedmelech a gymmerodd y gwŷr gyd ag ef, ac a aeth i dŷ 'r brenin, tan y tryssor-dŷ, ac a gymmerodd oddi yno hên garpiau, a hên bwdr-frattiau, ac a'i gollyngodd i wared at Jeremi, i'r daiar-dŷ, wrth raffau.

12 Ac Ebedmelech yr Ethiopiad a ddywe­dodd wrth Jeremi, gosod yn awr yr hên gar­piau, a'r pwdr frattiau hyn, dan dy gesseiliau oddi tan y rhaffau; a Jeremi a wnaeth felly.

13 Felly hwy a dynnasant Jeremi i fynu wrth y rhaffau, ac a'i codasant ef o'r daiar-dŷ: a Jeremi a arhosodd ynghyntedd y carchar-dŷ.

14 Yna y brenin Zedeciah a anfonodd, ac a gymmerodd Jeremi y prophwyd attoNeu, i'r cyn­tedd pe [...] ­naf. i'r trydydd cyntedd, yr hwn sydd yn nhŷ yr Ar­glwydd; a'r brenin a ddywedodd wrth Jere­mi, mi a ofynnaf i ti beth, na chela ddim oddi wrthifi.

15 A Jeremi a ddywedodd wrth Zedeciah, os mynegaf i ti, oni roddi di fi i farwolaeth? ac os rhoddaf i ti gyngor, oni wrandewi di arnaf?

16 Felly y brenin Zedeciah a dyngodd wrth Jeremi yn gyfrinachol, gan ddywedyd, fel mai byw 'r Arglwydd, yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn, ni roddafi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy enioes.

17 Yna y dywedodd Jeremi wrth Zedeciah, fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw y lluoedd, Duw Israel, os gan fyned yr ai di allan at dy­wysogion brenin Babilon, yna y bydd dy enaid fyw, ac ni loscir y ddinas hon â thân, a thitheu a fyddi fyw, ti a'th deulu.

18 Ond onid ai di allan at dywysogion bre­nin Babilon, yna y ddinas hon a roddir i law y Caldeaid, a hwy a'i lloscant hi â thân, ac ni ddiengi ditheu o'i llaw hwynt.

19 A'r brenin Zedeciah a ddywedodd wrth Jeremi, yr ydwyfi yn ofni yr Iddewon a gilia­sant at y Caldeaid, rhac iddynt hwy fy rhoddi i yn eu llaw hwynt, ac i'r rhai hynny fy gwat­war.

20 A Jeremi a ddywedodd, ni roddant ddim: gwrando ar lais yr Arglwydd, yr hwn yr ydwyfi yn ei draethu i ti, felly y bydd yn dda i ti, a'th enaid a fydd byw.

21 Ond os gwrthodi fyned allan, dymma y gair a ddangosodd yr Arglwydd i mi;

22 Ac wele, yr holl wragedd, y rhai a ada­wyd yn nhŷ brenin Juda, a ddygir allan at dywysogion brenin Babilon; a hwy a ddywe­dant,Heb. gwyr dy heddwch. dy gyfeillion a'th hudasant, ac a'th orchfygasant, dy draed a lynasant yn y dom, a hwythau a droesant yn eu hôl.

23 Felly hwy a ddygant allan dy holl wrag­edd a'th blant, at y Caldeaid, ac ni ddiengi ditheu o'i llaw hwynt; canys â llaw brenin Babilon i'th ddelir, a'r ddinas hon a losci â thân.

24 Yna y dywedodd Zedeciah wrth Jeremi, na chaffed neb ŵybod y geiriau hyn, ac ni'th roddir i farwolaeth.

25 Ond os y tywysogion a glywant i mi ymddiddan â thi, ac os deuant attat ti, a dy­wedyd wrthit, mynega yn awr i ni beth a draethaisti wrth y brenin, na chela oddi wrthym ni, ac ni roddwn ni mo honot ti i farwolaeth; a pha beth a draethodd y brenin wrthit titheu?

26 Yna dywed wrthynt, myfi a weddiais yn ostyngedic ger bron y brenin, na yrrei efe fi drachefn i dŷ Jonathan, i farw yno.

27 Yna yr holl dywysogion a ddaethant at Jeremi, ac a'i holasant ef, ac efe a fynegodd iddynt yn ôl yr holl eiriau hyn, y rhai a or­chymynnasei [Page] y brenin: felly hwyHeb. a daw­sant oddi­wrtho. a bei­diasant ag ymddiddan ag ef, canys ni chafwyd clywed y peth.

28 A Jeremi a arhosodd ynghyntedd y carchar-dŷ, hyd y dydd yr ennillwyd Jerusa­lem; ac yno yr oedd efe, pan ennillwyd Je­rusalem.

PEN. XXXIX.

1 Ennill Jerusalem. 4 Tynnu lygaid Zedeciah, a'i anfon i Babilon. 8 Difrodi y ddinas, 9 a chaethiwo 'r bobl. 11 Nabuchodonosor yn rhoi gorchymmyn ar fod yn dda wrth Jeremi. 15 Addewid Duw i Ebed-melech.

YN y2 Bren. 25.1. Pen. 52.4. nawfed flwyddyn i Zedeciah frenin Juda, ar y decfed mis, y daeth Nabu­chodonosor brenin Babilon, a'i holl lu, yn erbyn Jerusalem, ac a warchaeasant arni.

2 Yn yr vnfed flwyddyn ar ddêc i Zedeciah, yn y pedwerydd mîs, ar y nawfed dydd o'r mîs y torrwyd y ddinas.

3 A holl dywysogion brenin Babilon a ddae­thant i mewn, ac a eisteddasant yn y porth ca­nol, sef Nergal-Sarezer, Samgar-Nebo, Sarse­chim, Rabsaris, Nergal-Sarezer, Rabmag, a holl dywysogion eraill brenin Babilon.

4 A phan welodd Zedeciah brenin Juda hwynt, a'r holl ryfel-wŷr,2 Bren. 25.4. hwy a ffoesant, ac a aethant allan o'r ddinas liw nôs, trwy ffordd gardd y brenin, i'r porth rhwng y ddau fûr: ac efe a aeth allan tuaNeu, 'r gwa­stadedd. 'r anialwch.

5 A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt, ac a oddiweddasant Zedeciah yn rhos­sydd Jericho, ac a'i daliasant ef, ac a'i dygasant at Nabuchodonosor frenin Babilon, i Riblah yngwlâd Hamath; lle yHeb. llefarodd wrtho farnedi­gaethau. rhoddodd efe farn arno.

6 Yna brenin Babilon a laddodd feibion Zedeciah yn Riblah, o flaen ei lygaid ef: bre­nin Babilon hefyd a laddodd holl bendefigion Juda.

7 Ac efe a dynnodd lygaid Zedeciah, ac a'i rhwymodd ef âHeb. dwy gad­wyn bres, neu, lly­ffethei­riau. chadwynau, iw ddwyn i Ba­bilon.

8 A'r Caldeaid a loscasant dŷ 'r brenin, a thai y bobl, â thân; a hwy addrylliasant furiau Jerusalem.

9 Yna Nabuzaradan,Heb. y pen lleiddiad, ac f [...]lly vers. 10.11, &c. pennaeth y milwŷr, a gaeth-gludodd i Babilon weddill y bobl, y rhai a adawsid yn y ddinas, a'r encil-wŷr, y rhai a giliasent atto ef, ynghŷd â gweddill y bobl, y rhai a adawsid.

10 A Nabuzaradan pennaeth y milwŷr, a adawodd o dlodion y bobl, y rhai nid oedd dim ganddynt, yngwlâd Juda, ac efe a rodd­odd iddynt win-llannoedd, a meusyddHeb. y dydd hwnnw. y pryd hynny.

11 A Nabuchodonosor brenin Babilon a roddodd orchymyn am Jeremi,Heb. trwy laew Nabuz. i Nabuzara­dan pennaeth y mil-wŷr, gan ddywedyd;

12 Cymmer ef, a bwrw olwg arno, ac na wna iddo ddim niwed; ond megis y dywedo efe wrthit ti, felly gwna iddo.

13 Felly Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr a anfonodd, Nebusazban hefyd, Rabsaris, a Nergal-Sarezer, Rabmag, a holl bennaethiaid brenin Babilon:

14 Ie hwy a anfonasant, ac a gymmerasant Jeremi o gyntedd y carchar-dŷ, ac a'i rhodda­sant ef at Gedaliah fab Ahicam, fab Saphan iw ddwyn adref: felly efe a drigodd ym mysc y bobl.

15 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremi, pan oedd efe wedi cau arno ynghyntedd y car­char, gan ddywedyd;

16 Dôs, a dywed i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd; fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, wele, mi a baraf i'm geiriau ddyfod yn erbyn y ddinas hon, er ni­wed, ac nid er llês, a hwy a gwpleir o flaen dy wyneb y dwthwn hwnnw.

17 Ond myfi a'th waredaf di y dydd hwn­nw, medd yr Arglwydd, ac ni'th roddir yn llaw y dynion yr ydwyt ti yn ofni rhag­ddynt.

18 Canys gan achub mi a'th achubaf, ac ni syrthi drwy 'r cleddyf; eithr bydd dy enioes yn ysclyfaeth i ti, am it ymddiried ynofi, medd yr Arglwydd.

PEN. XL.

1 Jeremi wedi darfod i Nabuzaradan ei ollwng ef yn rhydd, yn myned at Gedaliah: 7 A'r Iuddewon oedd ar wascar, yn ymgasclu atto ef. 13 Johanan yn datcuddio bradwriaeth Ismael, heb gael ei gredu.

Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremi oddi wrth yr Arglwydd, wedi i Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr ei ollwng ef yn rhydd o Ramah, wedi iddo ei gymmeryd ef, ac yntau yn rhwym mewnNeu, gefynnau. cadwyni, ym mysc holl gaeth-glud Jerusalem a Juda, y rhai a gaeth­gludasid i Babilon.

2 A phennaeth y mil-wŷr a gymmerodd Jeremi, ac a ddywedodd wrtho; yr Arglwydd dy Dduw a lefarodd y drwg ymma yn erbyn y lle hwn.

3 A'r Arglwydd a'i dug i ben, ac a wnaeth megis y llefarodd; am i chwi bechu yn erbyn yr Arglwydd, ac na wrandawsoch ar ei lais ef; am hynny y daeth y peth hyn i chwi.

4 Ac yn awr wele, mi a'th ryddheais di heddyw o'r cadwynau oedd am dy ddwylo, os da gennit ti ddyfod gyd â mi i Babilon, tyred, ac myfi aHeb. fwrief olwg arnat. fyddaf da wrthit; ond os drwg y gweli ddyfod gyd â mi i Babilon, paid: wele yr holl dîr o'th flaen di, i'r fan y byddo da a bodlon gennit fyned, yno dôs.

5 Ac yn awr, ac efe etto heb ddychwelyd, efe a ddywedodd, dychwel at Gedaliah fab Ahi­cam, fab Saphan, yr hwn a osododd brenin Ba­bilon ar ddinasoedd Juda, ac aros gyd ag ef ym mhlith y bobl; neu dôs lle y gwelech di yn dda fyned: felly pennaeth y mil-wŷr a rodd­odd iddo ef lyniaeth, a rhodd, ac a'i gollyngodd ef ymmaith.

6 Yna yr aeth Jeremi at Gedaliah fab Ahi­cam i Mispah; ac a arhosodd gyd ag ef, ym mysc y bobl a adawsid yn y wlâd.

7 A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ar hŷd y wlâd, hwynt hwy a'i gwŷr, i frenin Babilon osod Gedaliah fab Ahicam ar y wlâd, ac iddo roddi tan ei law ef wŷr, a gwragedd, a phlant, ac o dlodion y wlâd, o'r rhai ni chaeth-gludasid i Ba­bilon;

8 Yna hwy a ddaethant at Gedaliah i Mis­pah, sef Ismael mab Nethaniah, a Johanan, a Jonathan meibion Careah, a Seraiah mab Tan­humeth, a meibion Ephai y Netophathiad, a Jezaniah mab Maachathiad, hwynt hwy a'i gwŷr.

9 A Gedaliah mab Ahicam fab Saphan2 Bren. 25.24. a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwŷr, gan ddywedyd, nac osnwch wasanaethu y Caldeaid, [Page] trigwch yn y wlâd, a gwasanaethwch frenin Babilon, felly y bydd daioni i chwi.

10 Am danaf finneu, wele, mi a drigaf ym Mispah, i wasanaethu y Caldeaid, y rhai a ddeu­ant attom ni: chwithau cesclwch wîn, a ffrwythydd hâf, ac olew, a dodwch hwynt yn eich llestri, a thrigwch yn eich dinasoedd, y rhai yr ydych yn eu meddiannu.

11 A phan glybu yr holl Iddewon y rhai oedd ym Moab, ac ym mysc meibion Ammon, ac yn Edom, ac yn yr holl wledydd, i frenin Babilon adel gweddill o Juda, a gosod Geda­liah fab Ahicam fab Saphan, yn llywydd ar­nynt hwy:

12 Yna yr holl Iddewon a ddychwelasant, o'r holl leoedd lle y gyrrasid hwynt, ac a ddae­thant i wlâd Juda at Gedaliah i Mispah; ac a gasclasant wîn, a ffrwythydd hâf lawer iawn.

13 Johanan hefyd mab Careah, a holl dy­wysogion y lluoedd, y rhai oedd ar hŷd y wlâd, a ddaethant at Gedaliah i Mispah,

14 Ac a ddywedasant wrtho, a wŷddost ti yn hyspys i Baalis, brenin meibion Ammon, anfon Ismael fab NethaniahHeb. i'th daro yn yr enaid. i'th ladd di? ond ni chredodd Gedaliah mab Ahicam iddynt hwy.

15 Yna Johanan mab Careah a ddywedodd wrth Gedaliah ym Mispah, yn gyfrinachol, gan ddywedyd; gâd i mi fyned atolwg, ac mi a laddaf Ismael fab Nethaniah, ac ni chaiff neb ŵybod: pa ham y lladdei efe di, fel y gwascerid yr holl Iddewon, y rhai a ymgas­clasant attat ti, ac y darfyddei am y gweddill yn Juda?

16 Ond Gedaliah mab Ahicam a ddywe­dodd wrth Johanan fab Careah, na wna y peth hyn, canys celwydd yr ydwyt ti yn ei ddywedyd am Ismael.

PEN. XLI.

1 Ismael trwy fradwriaeth yn lladd Gedaliah ac eraill, ac yn amcanu, ef a'r lleill, ffo at yr Ammoniaid. 11 Johanan yn ennill y cae­thion, ac yn meddwl ffo i'r Aipht.

2 Bren. 25.25.AC yn y seithfed mîs, daeth Ismael mab Nethaniah fab Elisama o'r hâd brenhi­nawl, a phendefigion y brenin, sef deng-wr, gyd ag ef, at Gedaliah fab Ahicam i Mispah: a hwy a fwytasant yno fara ynghyd ym Mis­pah.

2 Ac Ismael mab Nethaniah a gyfododd, efe a'r deng-wr oedd gyd ag ef, ac a darawsant Gedaliah fab Ahicam, fab Saphan, â'r cleddyf, ac a'i lladdasant ef, yr hwn a osodasei brenin Babilon yn llywydd ar y wlâd.

3 Ismael hefyd a laddodd yr holl Iddewon oedd gyd ag ef, sef gyd â Gedaliah ym Mis­pah, a'r Caldeaid y rhai a gafwyd yno, y rhyfel-wŷr.

4 A'r ail dydd wedi iddo ef ladd Gedaliah, heb neb yn gwybod;

5 Yna y daeth gwŷr o Sichem, o Siloh, ac o Samaria, sef pedwar vgein-wr, wedi eillio eu barfau, a rhwygo eu dillad, ac ymdorri, ag offrymau ac â thus yn eu dwylo, iw dwyn i dŷ yr Arglwydd.

6 Ac Ismael mab Nethaniah a aeth allan o Mispah, iw cyfarfod hwynt, gan gerdded rhac­ddo, ac ŵylo; a phan gyfarfu efe â hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, denwch at Gedaliah fab Ahicam.

7 A phan ddaethant hwy i ganol y ddinas, yna Ismael mab Nethaniah a'i lladdodd hwynt, ac a'i bwriodd i ganol y pydew, efe a'r gwŷr oedd gyd ag ef.

8 Ond deng-wr a gafwyd yn eu mysc hwynt, y rhai a ddywedasant wrth Ismael, na lâdd ni, o blegit y mae gennym ni dryssor yn y maes, o wenith, ac o haidd, ac o olew, ac o fel: felly efe a beidiodd, ac ni laddodd hwynt ym mysc eu brodyr.

9 A'r pydew i'r hwn y bwriodd Ismael holl gelaneddau y gwŷr a laddasei efe, [...], gar llaw. Heb. trwy law, neu, wrth yst­lys Ge­daliah. er mwyn Gedaliah, yw yr hwn a wnaethei y brenin Asa, rhac ofn Baasa frenin Israel: hwnnw a ddar­fu i Ismael mab Nethaniah ei lenwi â'r rhai a laddasid.

10 Yna Ismael a gaethgludodd holl weddill y bobl y rhai oedd ym Mispah, sef merched y brenin, a'r holl bobl, y rhai a adawsid ym Mis­pah, ar y rhai y gosodasei Nebuzaradan pen­naeth y mil-wŷr, Gedaliah fab Ahicam yn lly­wydd; ac Ismael mab Nethaniah a'i caeth­gludodd hwynt, ac a ymadawodd i fyned tros­odd at feibion Ammon.

11 Ond pan glybu Johanan mab Careah, a holl dywysogion y llu, y rhai oedd gyd ag ef, yr holl ddrwg a wnaethei Ismael mab Ne­thaniah;

12 Yna hwy a gymmerasant eu holl wŷr, ac a aethant i ymladd ag Ismael mab Netha­niah, ac a'i cawsant ef wrth y dyfroedd mawr­ion, y rhai sydd yn Gibeon.

13 A phan welodd yr holl bobl, y rhai oedd gyd ag Ismael, Johanan fab Careah, a holl dywysogion y llu, y rhai oedd gyd ag ef, yna hwy a lawenychasant.

14 Felly yr holl bobl, y rhai a gaeth-gluda­sei Ismael ymmaith o Mispah, a droesant ac a ddychwelasant, ac a aethant at Johanan fab Careah.

15 Ond Ismael mab Nethaniah a ddiangodd, ynghyd ag wyth-nyn, oddi gan Johanan, ac a aeth at feibion Ammon.

16 Yna Johanan mab Careah a holl dy­wysogion y llu, y rhai oedd gyd ag ef, a gym­merasant holl weddill y bobl, y rhai a ddygasei efe yn eu hôl oddi ar Ismael fab Nethaniah o Mispah, (wedi iddo ef ladd Gedaliah fab Ahî­cam) sef cedyrn ryfel-wŷr, a'r gwragedd, a'r plant, a'r stafellyddion, y rhai a ddygasei efe o Gibeon.

17 A hwy a aethant oddi yno, ac a eistedda­sant yn nrhigfa Chimham, yn agos at Bethle­hem, i fyned i'r Aipht,

18 Rhag y Caldeaid; o herwydd eu bod yn eu hofni hwynt, am i Ismael mab Nethaniah ladd Gedaliah fab Ahicam, yr hwn a roddasei brenin Babilon yn llywydd yn y wlâd.

PEN. XLII.

1 Johanan yn erfyn ar Jeremi ymofyn â Duw, ac yn addo bod yn vfydd i'w ewyllys ef. 7 Je­remi yn dangos iddo y cai efe ddiogelwch yn Judaea, 13 a dinistr yn yr Aipht. 19 Y mae yn beio ar eu rhagrith hwy yn peri ymofyn â'r Arglwydd, am yr hyn nid oedd yn eu bryd ei wneuthur.

FElly holl dywysogion y llu, a Johanan mab Careah, a Jezaniah mab Hosaiah, a'r holl bobl, o fychan hyd fawr, a nesasant,

2 Ac a ddywedasant wrth Jeremi y pro­phwyd,Pen. 36.7. atolwgHeb. cwym­ped [...]in deisyfiad ger dy fron. gwrando ein deisyfiad ni, a gweddia trosom ni ar yr Arglwydd dy Dduw, sef tros yr holl weddill hyn, (canys nyni a [Page] adawyd o lawer yn ychydig, fel y mae dy lygaid yn ein gweled ni)

3 Fel y dangoso yr Arglwydd dy Dduw i ni y ffordd y mae i ni rodio ynddi, a'r peth a wnelom.

4 Yna Jeremi y prophwyd a ddywedodd wrthynt, myfi a'ch clywais chwi: wele mi a weddiaf ar yr Arglwydd eich Duw, yn ôl eich geiriau chwi; a pheth bynnac a ddywedo yr Arglwydd am danoch, myfi a'i mynegaf i chwi, nid ataliaf ddim oddi wrthych.

5 A hwy a ddywedasant wrth Jeremi, yr Arglwydd fyddo tŷst cywir a ffyddlon rhyng­om ni, onis gwnawn yn ôl pôb gair a an­fono yr Arglwydd dy Dduw gyd â thi attom ni.

6 Os da neu os drwg fydd, ar lais yr Ar­glwydd ein Duw (yr hwn yr ydym ni yn dy anfon atto) y gwrandawn ni; fel y byddo da i ni, pan wrandawom ar lais yr Arglwydd ein Duw.

7 Ac ym mhen y deng nhiwrnod y daeth gair yr Arglwydd at Jeremi.

8 Yna efe a alwodd ar Johanan fab Careah, ac ar holl dywysogion y llu, y rhai oedd gyd ag ef, ac ar yr holl bobl, o fychan hyd fawr,

9 Ac a ddywedodd wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, yr hwn yr anfonasoch fi atto, i roddi i lawr eich gwedd­iau ger ei fron ef:

10 Os trigwch chwi yn wastad yn y wlad hon, myfi a'ch adeiladaf chwi, ac ni's tynnaf i lawr, myfi a'ch plannaf chwi, ac ni's diwrei­ddiaf: o blegit y mae yn edifar gennif am y drwg a wneuthum i chwi.

11 Nac ofnwch rhac brenin Babilon, yr hwn y mae arnoch ei ofn; nac ofnwch ef, medd yr Arglwydd: canys myfi a fyddaf gyd â chwi, i'ch achub, ac i'ch gwaredu chwi o'i law ef.

12 Ac mi a roddaf i chwi drugaredd, fel y trugarhao efe wrthych, ac y dygo chwi dra­chefn i'ch gwlad eich hun.

13 Ond os dywedwch, ni thrigwn ni yn y wlad hon; heb wrando ar lais yr Arglwydd eich Duw,

14 Gan ddywedyd nagê, ond i wlad yr Aipht yr awn ni, lle ni welwn ryfel, ac ni chlywn sain vdcorn, ac ni bydd arnom newyn bara, ac yno y trigwn ni:

15 Am hynny, ô gweddill Juda, gwran­dewch yn awr air yr Arglwydd, fel hyn y dy­wed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i'r Aipht, ac a ewch i ymdeithio yno,

16 Yna y bydd i'r cleddyf, yr hwn yr ydych yn ei ofni, eichPen. 46.14. goddiwes chwi yno yn nhir yr Aipht; a'r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo,Heb. a lyn wrthych. a'ch dilyn chwi yn yr Aipht, ac yno y byddwch feirw.

17 Felly y bydd i'r holl wŷr a osodant eu hwynebau i fyned i'r Aipht, i aros yno, hwy a leddir â'r cleddyf, â newyn, ac â haint, ac ni bydd vn o honynt yngweddill, neu yn ddiangol, gan y dialedd a ddygafi arnynt.

18 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, megis y tywalltwyd fy llid, â'm digofaint ar bresswyl-wŷr Jerusalem; felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau, pan ddeloch i'r Aipht: a chwi a fyddwch yn felldith, ac yn syndod, ac yn rhêg, ac yn warth, ac ni chewch weled y lle hwn mwyach.

19 O gweddill Juda, yr Arglwydd a ddy­wedodd amdanoch, nac ewch i'r Aipht; gwy­byddwch yn hyspys i miHeb. dystiolae­thu i'ch erbyn chwi. eich rhybuddio chwi heddyw.

20 CanysHeb. cyfeili­ornasoch yn eich eneidiau, neu twy­llasoch eich en. rhagrithiasoch yn eich calon­nau, wrth fy anfon i at yr Arglwydd eich Duw, gan ddywedyd; gweddia trosom ni ar yr Arglwydd ein Duw, a mynega i ni yn ôl yr hyn oll a ddywedo yr Arglwydd ein Duw, ac nyni a'i gwnawn.

21 Ac mi a'i mynegais i chwi heddyw, ond ni wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw, nac ar ddim oll ar y danfonodd efe fi attoch o'i blegid.

22 Ac yn awr gwybyddwch yn hyspys, mai drwy 'r cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint y byddwch chwi feirw, yn y lle yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo.

PEN. XLIII.

1 Johanan yn anghoelio prophwydoliaeth Jeremi, ac yn ei ddwyn ef ac eraill i'r Aipht. 8 Je­remi, trwy gyscod, yn prophwydo y gorescyn­nid yr Aipht gan y Babiloniaid.

A Phan ddarfu i Jeremi lefaru wrth yr holl bobl, holl eiriau yr Arglwydd eu Duw, am y rhai 'r anfonasei yr Arglwydd eu Duw ef at­tynt; sef yr holl eiriau hyn;

2 Yna y llefarodd Azariah mab Hosaiah, a Johanan Mab Careah, a'r holl ddynion beilchi­on, gan ddywedyd wrth Jeremi, celwydd yr wyt ti yn ei ddywedyd; ni anfonodd yr Ar­glwydd ein Duw ni mo honot ti i ddywedyd, nac ewch i'r Aipht i ymdeithio yno.

3 Eithr Baruch mab Neriah a'th annogodd di i'n herbyn ni, i gael ein rhoddi ni yn llaw y Caldeaid i'n lladd, ac i'n caeth-gludo i Ba­bilon.

4 Ond ni wrandawodd Johanan mab Ca­reah, na holl dywysogion y llu, na'r holl bobl, ar lais yr Arglwydd, i drigo yn nhîr Juda:

5 Eithr Johanan mab Careah a holl dywyso­gion y llu a ddygasant ymmaith holl weddill Juda, y rhai a ddychwelasent oddi wrth yr holl genhedloedd, lle y gyrrasid hwynt, i aros yngwlad Juda,

6 Yn wŷr a gwragedd a phlant, a merched y brenin, a phob enaid a'r a adawsei Nabuza­radan pennaeth y mil-wŷr, gyd â Gedaliah mab Ahicam fab Saphan; y prophwyd Jeremi hefyd, a Baruch fab Neriah.

7 Felly hwy a ddaethant i wlâd yr Aipht, canys ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd; fel hyn y daethant i Tahpanhes.

8 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremi yn Tahpanhes, gan ddywedyd,

9 Cymmer yn dy law gerig mawrion, a chuddia hwynt yn y clai, yn yr odyn bridd­faen, yr hon sydd yn nrws tŷ Pharao, yn Tahpanhes, yngolwg gwŷr Juda;

10 A dywed wrthynt, fel hyn y dywed Ar­glwydd y lluoedd, Duw Israel, wele mi a an­fonaf, ac a gymmeraf Nabuchodonosor frenin BabilonPen 25 9. fy ngwâs, ac a osodaf ei frenhin­faingc ef ar y cerrig hyn, y rhai a guddiais, ac efe a dana ei frenhinol babell arnynt.

11 A phan ddelo, efe a dery wlâd yr Aipht,Pen. 15.2. Zech. 11.9. y rhai sydd i angeu, ag angeu, a'r rhai sydd i gaethiwed â chaethiwed, a'r rhai sydd i'r cleddyf, â'r cleddyf.

12 Ac mi a gynneuaf dân yn nhai duwiau yr Aipht, ac efe a'i llŷsc hwynt, ac a'i caeth­gluda hwynt; ac efe â ymwisc â gwlad yr [Page] Aipht fel y gwisc bugail ei ddillad: ac efe â allan oddi yno mewn heddwch.

13 Ac efe a dyrr ddelwauB [...]th­sh [...]mesh. tŷ yr haul, yr hwn sydd yngwlâd yr Aipht, ac efe a lysc dai duwiau yr Aipht â thân.

PEN. XLIIII.

1 Jeremi yn adrodd dinistr Iuda am eu delw­addoliaeth; 11 Yn prophwydo dinistr y rhai a wnant ddelw-addoliaeth yn yr Aipht. 15 Gwrthnysigrwydd yr Iuddewon; 20 A Ieremi yn eu bygwth hwy o'i herwydd, 29 Ac yn lle arwydd yn prophwydo dinistr yr Aipht.

Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremi, am yr holl Iddewon y rhai oedd yn trigo yng­wlâd yr Aipht, ac yn presswylio ym Migdol, ac yn Tahpanhes, ac yn Noph, ac yngwlâd Pathros, gan ddywedyd,

2 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; chwi a welsoch yr holl ddrwg a ddygais i ar Jerusalem, ac ar holl ddinasoedd Juda, ac wele hwy heddyw yn anghyfannedd, ac heb bresswylydd ynddynt:

3 O achos eu drygioni, yr hwn a wnaethant i'm digio i, gan fyned i arogl-darthu, ac i wa­sanaethu duwiau dieithr, y rhai nid adwaenent, na hwy, na chwithau, na'ch tadau.

4 Er i mi anfon attoch fy holl weision y prophwydi,Pen. 7.25. & 25.3. & 26.5. & 29.19. & 32.33. gan foreu-godi, ac anfon i ddy­wedyd, na wnewch attolwg y ffieidd-beth hyn, yr hwn sydd gâs gennifi:

5 Etto ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, i ddychwelyd oddi wrth eu drygioni, fel nad arogl-darthent i dduwiau dieithr.

6 Am hynny y tywalltwyd fy llîd, a'm di­gofaint, ac y lloscodd efe yn ninasoedd Juda, ac yn heolydd Jerusalem, ac y maent hwy yn anghyfannedd, ac yn ddiffaethwch, fel y gwelir heddyw.

7 Ac yn awr, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel; pa ham y gwnewch y mawr ddrwg hwn yn erbyn eich eneidiau? i dorri ymmaith oddiwrthych ŵr a gwraig, plentyn a'r hwn sydd yn sugno,Heb. o ganol Juda. allan o Juda, fel na adawer i chwi weddill?

8 Gan fy nigio i â gweithredoedd eich dwylo, gan arogl-darthu i dduwiau dieithr yngwlâd yr Aipht, yr hon yr aethoch i aros ynddi, i'ch difetha eich hunain, ac i fod yn felldith, ac yn warth, ym mysc holl genhed­loedd y ddaiar.

9 A anghofiasoch chwiHeb. ddrygau, neu gospe­digaethau. ddrygioni eich tadau, a drygioni brenhinoedd Juda, a drygioni eu gwragedd hwynt, a'ch drygioni eich hunain, a drygioni eich gwragedd, y rhai a wnae­thant hwy yngwlad Juda, ac yn heolydd Je­rusalem?

10 Nid ydy [...]tHeb. ddryll­iedig. wedi ymostwng hyd y dydd hwn, ac nid ofnasant, ni rodiasant ych­waith yn fy nghyfraith, nac yn fy neddfau, y rhai a roddais i o'ch blaen chwi, ac o flaen eich tadau.

11 Am hynny, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel,Amos. 9.4. wele, myfi a osodaf fy wyneb yn eich erbyn chwi, er niwed, ac i ddifetha holl Juda?

12 Ac mi a gymmeraf weddill Juda, y rhai a osodasant eu hwynebau i fyned i wlâd yr Aipht, i aros yno, a hwy a ddifethir oll; yng­wlâd yr Aipht y syrthiant: drwy yr cleddyf, a thrwy newyn y dif [...]thir hwynt: o fychan hyd fawr, trwy 'r cleddyf, a thrwy newyn, y byddant feirw:Pen. 26.6. & 42.18. a hwy a fyddant yn felldith, ac yn syndod, ac yn rhêg, ac yn warth.

13 Canys myfi a ymwelaf â thrigolion gwlâd yr Aipht, fel yr ymwelais â Jerusalem, â chleddyf, â newyn, ac â haint:

14 Fel na byddo vn a ddiango, nac a adawer o weddill Juda, y rhai a aethant i ymdeithio yno i wlâd yr Aipht, i ddychwelyd i wlâd Juda, yr hon yHeb. derchafa­sant eu henaid. mae eu hewyllys ar ddych­welyd i aros ynddi; canys ni ddychwel ond y rhai a ddiangant.

15 Yna yr holl wŷr, y rhai a ŵyddent iw gwragedd arogl-darthu i dduwiau dieithr, a'r holl wragedd y rhai oedd yn sefyll yno, cyn­nulleidfa fawr, yr holl bobl, y rhai oedd yn trigo yngwlâd yr Aipht, yn Pathros, a atteba­sant Jeremi, gan ddywedyd;

16 Am y gair a leferaist ti wrthym ni, yn enw yr Arglwydd, ni wrandawn ni arnat.

17 Onid gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a'r a ddelo allan o'n genau, gan arogl­darthu iPen. 7.18. Neu, waith. frenhines y nefoedd, a thywallt iddi hi ddiodydd offrwm, megis y gwnaethom, nyni a'n tadau, ein brenhinoedd, a'n tywyso­gion, yn ninasoedd Juda, ac yn heolydd Jeru­salem: canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg.

18 Ond er pan beidiasom ag arogl-darthu i frenhines y nefoedd, ac â thywallt diod-off­rwm iddi hi, bu arnom eisieu pob dim: trwy gleddyf hefyd, a thrwy newyn y darfuom ni.

19 A phan oeddem ni yn arogl-darthu i frenhines y nefoedd, ac yn tywallt diod offrwm iddi; ai heb ein gwŷr y gwnaethom ni iddi hi deisennau iw haddoli hi, ac y tywalltasom ddiod offrwm iddi?

20 Yna Jeremi a ddywedodd wrth yr holl bobl, wrth y gwŷr, ac wrth y gwragedd, ac wrth yr holl bobl a'i hattebasent ef felly, gan ddywedyd,

21 Oni chofiodd yr Arglwydd yr arogl-darth a arogl-darthasoch chwi yn ninasoedd Juda, ac yn heolydd Jerusalem, chwychwi a'ch tadau, eich brenhinoedd a'ch tywysogion, a phobl y wlâd? ac oni ddaeth yn ei feddwl ef?

22 Fel na allei yr Arglwydd gyd-ddwyn yn hwy, o achos drygioni eich gweithredoedd, a chan y ffiaidd bethau a wnaethech: am hynny yr aeth eich tîr yn anghyfannedd, ac yn syndod, ac yn felldith, heb bresswylydd, megis y gwelir y dydd hwn.

23 O herwydd i chwi arogl-darthu, ac am i chwi bechu yn erbyn yr Arglwydd, ac na wran­dawsoch ar lais yr Arglwydd, ac na rodiasoch yn ei gyfraith ef, nac yn ei ddeddfau, nac yn ei destiolaethau: am hynny y digwyddodd i chwi yr a [...]lwydd hwn, fel y gwelir heddyw.

24 A Jeremi a ddywedodd wrth yr holl bobl, ac wrth yr holl wragedd; gwrandewch air yr Arglwydd, holl Juda, y rhai ydych yng­wlâd yr Aipht.

25 Fel hyn y llefarodd Arglwydd y llu­oedd, Duw Israel, gan ddywedyd; chwychwi, a'ch gwragedd a lefarasoch â'ch genau, ac a gyflawnasoch â'ch dwylo, gan ddywedyd; gan dalu ni a dalwn ein haddunedau y rhai addu­nasom, am arogl-darthu i frenhines y nefoedd, ac am dywallt diod-offrwm iddi; llwyr y cwblhewch eich addunedau, a llwyr y telwch yr hyn a addunasoch.

26 Am hynny gwrandewch air yr Ar­glwydd, holl Juda, y rhai sy yn aros yngwlad yr Aipht; wele, myfi a dyngais i'm enw mawr, [Page] medd yr Arglwydd, na elwir fy enw i mwyach, o fewn holl wlâd yr Aipht, yngenau vn gŵr o Juda, gan ddywedyd, byw yw'r Arglwydd Dduw.

27 Wele, mi a wiliaf arnynt hwy er niwed, ac nid er daioni, a holl wŷr Juda, y rhai sy yngwlâd yr Aipht, a ddifethir â'r cleddyf, ac â newyn, hyd oni ddarfyddont.

28 A'r rhai a ddiangant gan y cleddyf, ac a ddychwelant o wlâd yr Aipht i wlâd Juda, fyddant ychydig o nifer: a holl weddill Juda, y rhai a aethant i wlâd yr Aipht i aros yno, a gânt wybod gair pwy a saif,Heb. ai oddi wrthifi, ai oddi wrthynt hwy. ai 'r eiddofi, ai yr eiddynt hwy.

29 A hyn fydd yn arwydd i chwi, medd yr Arglwydd, sef yr ymwelaf â chwi yn y lle hwn, fel y gwypoch y saif fy ngeiriau i'ch erbyn chwi, er niwed:

30 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele, myfi a roddaf Pharao Hophra frenin yr Aipht, yn llaw ei elynion, ac yn llaw y rhai sy yn ceisio ei enioes ef, fel y rhoddais i Zedeciah frenin Juda yn llaw Nabuchodonosor brenin Babilon ei elyn, a'r hwn oedd yn ceisio ei enioes.

PEN. XLV.

1 Baruch yn ei anghyssur, 4 yn cael ei ddyscu, a'i gyssuro gan Jeremi.

Y Gair yr hwn a lefarodd Jeremi y pro­phwyd wrth Baruch fab Neriah, pan scri­fennasei efe yPen. 36.10. geiriau hyn o enau Jeremi mewn llyfr, yn y bedwaredd flwyddyn i Je­hoiacim fab Josiah brenin Juda, gan ddywedyd;

2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Is­rael, wrthit ti Baruch;

3 Tydi a ddywedaist, gwae fi yn awr, ca­nys yr Arglwydd a chwanegodd dristwch ar fy ngofid:Psal. 6.6. myfi a ddeffygiais yn fy ochain, ac nid wyf yn cael gorphywystra.

4 Fel hyn y dywedi wrtho ef, yr Arglwydd a ddywed fel hyn, wele, myfi a ddestrywiaf yr hyn a adeiledais, ac mi a ddiwreiddiaf yr hyn a blennais, nid amgen, yr holl wlâd hon:

5 Ac a geisi di fawredd i ti dy hun? na chais: canys wele, myfi a ddygaf ddrwg ar bob cnawd, medd yr Arglwydd; ond mi a roddaf i ti dy enioesPen. 21.9. & 39.18. yn sclyfaeth, ym mha le bynnac yr elych di.

PEN. XLVI.

1 Jeremi yn prophwydo dinistr llu Pharao wrth Euphrates. 13 Ac y gorescynnid yr Aipht gan Nabuchodonosor. 27 Y mae yn cyssuro Jacob yn eu cerydd.

GAir yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Je­remi y prophwyd, yn erbyn y cenhedloedd:

2 Yn erbyn yr Aipht, yn erbynllu2 Bren. 23.29. 2 Cron. 35.20. Pharao Necho brenin yr Aipht, yr hwn oedd wrth afon Euphrates yn Carchemis, yr hwn a ddarfu i Nabuchodonosor brenin Babilon ei daraw, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Josiah, brenin Juda.

3 Tecclwch y darian, a'r astalch, a nesewch i ryfel.

4 Cenglwch y meirch, ac ewch arnynt far­chogion, sefwch yn eich helmau, gloywch y gwayw-ffyn, gwiscwch y llurigau.

5 Pa ham y gwelais hwynt yn ddychryn­nedic, wedi-cilio yn eu hôl, a'i cedyrnHeb. wedi eu dryllio. wedi eu curo i lawr, a ffoi ar ffrwst, ac heb edrych yn eu hôl? dychryn sydd o amgylch, medd yr Arglwydd.

6 Na chaed y buan ffo, na'r cadarn ddiangc: tua 'r gogledd, ger llaw afon Euphrates, y trip­piant, ac y syrthiant.

7 Pwy yw hwn sydd yn ymgodi fel afon? a'i ddyfroedd yn dygysor fel yr afonydd?

8 Yr Aipht sydd fel afon yn ymgodi, a'i dyfroedd sy yn dygyfor fel yr afonydd: a hi a ddywed, mi a âf i fynu, ac a orchguddiaf y ddaiar; myfi a ddifethaf y ddinas, a'r rhai sydd yn trigo ynddi.

9 O feirch, deuwch i fynu, a chwithau ger­bydau, ymgynddeiriogwch, a deuwch allan y cedyrn,Heb. Cus. yr Ethiopiaid, a'rHeb. Pur. Libiaid y rhai sy yn dwyn tarian, a'r Lydiaid y rhai sydd yn teimlo, ac yn anneiu bwa.

10 Canys dydd Arglwydd Dduw y lluoedd yw hwn, dydd dial, fel yr ymddialo efe ar ei elynion, a'r cleddyf a yssa, ac a ddigonir, ac a feddwir â'i gwaed hwynt: canysEsay. 34.6. aberth sydd i Arglwydd Dduw y lluoedd yn nhîr y gog­ledd, wrth afon Euphrates.

11 O forwyn, ferch yr Aipht, dôs i fynu i Gilead, a chymmer driacl: yn ofer yr ar­feri lawer o feddiginiaethau, canys ni bydd iachâd i ti.

12 Y cenhedloedd a glywsant dy wrad­wydd, dy waedd a lanwodd y wlâd; canys cadarn wrth gadarn a dramgwyddodd, a hwy ill dau a gyd-syrthiasant.

13 Y gair yr hwn a lefarodd yr Arglwydd wrth Jeremi y prophwyd, y deuai Nabuchodo­nosor brenin Babilon, ac y tarawai wlad yr Aipht.

14 Mynegwch yn yr Aipht, cyhoeddwch ym Migdol, hyspyswch yn Noph, ac yn Tah­panhes; dywedwch, saf, a bydd barod, o blegid y cleddyf a yssa dy amgylchoedd.

15 Pa hamNeu, yr yscu­bwyd ymaith. y syrthiodd dy rai cryfion? ni safasant am i'r Arglwydd eu gwthio hwynt.

16 Efe aHeb. amlhaodd y cwym­pienig. wnaeth i lawer syrthio, ie pawb a syrthiodd ar ei gilydd, a hwy a ddywedasant, cyfodwch, a dychwelwn at ein pobl, i wlad ein ganedigaeth, rhac cleddyf y gorthrym­mwr.

17 Yno y gwaeddasant, Pharao brenin yr Aipht nid yw ond trwst: aeth tros yr amser nodedic.

18 Fel mai byw fi, medd y Brenin, enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd, cyn siccred a bod Tabor yn mynyddoedd, a Charmel yn y môr, efe a ddaw.

19 O ferch drigiannol yr Aipht, gwna i ti offer caeth-glud; canys Noph a fydd anghy­fannedd, ac a ddiffeithir heb bresswylydd.

20 Yr Aipht sydd anner brydferth, y mae dinistr yn dyfod: o'r gogledd y mae 'n dyfod.

21 Ei gwŷr cyflog hefyd sydd o'i mewn hi, fel lloiHeb. o'r bascfa pascedic, canys hwythau hefyd a droe­sant eu hwynebau, ac a gyd-ffoesant, ac ni safasant, o herwydd dydd eu gofid, ac amser eu gofwy a ddaethei arnynt.

22 Ei llais hi â allan fel sarph, canys â llû yr ânt hwy, ac a bwyill y deuant yn ei herbyn hi, fel cymyn-wŷr coed.

23 Hwy a gymynant i lawr ei choed hi, medd yr Arglwydd, er na ellir ei chwilio: canys amlach fyddant nâ'r ceiliogod rhedyn, ac heb rifedi arnynt.

24 Merch yr Aipht a gywilyddir; hi a roddir yn llaw pobl y gogledd.

25 Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, sydd yn dywedyd, wele, myfi a ymwelaf âNeu, maethydd No, Heb. Amon. lliaws No, ac â Pharao, ac â'r Aipht, ac â'i duwiau hi, ac â'i brenhinoedd, sef â Pharao, ac â'r rhai sydd yn ymddiried ynddo.

26 Ac mi a'i rhoddaf hwynt yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu henioes, ac yn llaw Nabucho­donosor brenin Babilon, ac yn llaw ei weision ef; ac wedi hynny hi a gyfanneddir, megis y dyddiau gynt, medd yr Arglwydd.

27Esa. 41.13. & 43.5. & 44.2. Pen. 30.10. Ond nac ofna di, ô fy ngwâs Jacob, a thitheu Israel na ddychryna, canys wele, myfi a'th gadwaf di o bell, a'th hâd o wlâd eu caeth­iwed; ac Jacob a ddychwel, ac a orphywys, ac a fydd esmwyth arno, ac heb neb a'i dychryno.

28 O fy ngwâs Jacob, nac ofna, medd yr Arglwydd, canys yr ydwyfi gyd â thi, canys mi a wnaf ddiben ar yr holl genhedloedd, y rhai i'th fwriais attynt, ond ni wnafiPen. 10.24. & 30.11. ddiben arnat ti: eithr mi a'th gospaf diNeu, wrth fesur. mewn barn, ac ni'th dorraf ymmaith yn llwyr.

PEN. XLVII.

Dinistr y Philistiaid.

GAir yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Je­remi y prophwyd yn erbyn y Philistiaid, cyn i Pharao daroH [...]b. Azzah. Gaza.

2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele, dy­froedd a gyfodantEsa. 8.7. o'r gogledd, ac a fyddant fel afon lifeiriol, a hwy a lifant tros y wlad,Heb. a'i chy­fiawnder. a'r hyn sydd ynddi; y ddinas, a'r rhai sy yn aros ynddi; yna y dynion a waeddant, a holl bresswyl-wŷr y wlâd a vdant.

3 Rhac sŵn twrwf carnau y meirch cryfion, rhac trwst ei gerbydau, a thrwst ei olwynion ef: y tadau nid edrychant yn ôl ar eu plant, gan wendid dwylo.

4 O achos y dydd sydd yn dyfod i ddestrywio yr holl Philistiaid, ac i ddinistrio o Tyrus a Si­don bob cynhorthwywr ac y sydd yngweddill: o blegit yr Arglwydd a ddinistria y Philistiaid, gweddillNeu, gwlad. ynys Caphtor.

5 Moelni a ddaeth ar Gaza, torrwyd ym­maith Ascelon, gyd â'r rhan arall o'i dyffryn­noedd hwynt:Deut. 14.1. pa hŷd yr ymrwygi di?

6 Oh cleddyf yr Arglwydd, pa hyd ni lo­nyddi?Heb. ymgascl. dychwel i'th wain, gorphywys, a bydd ddistaw.

7 Pa fodd yHeb. llonyddi di &c? llonydda efe, gan i'r Ar­glwydd ei orchymyn ef, yn erbyn Ascelon, ac yn erbyn glan y môr? yno y gosododd ef.

PEN. XLVIII.

1 Barnedigaeth Moab, 7 am eu balchder, 11 a'i diofalwch, 14 a'i hyder cnawdol, 26 a'i diystyrwch ar Dduw, a'i bobl. 47 Adferu Moab.

FEl hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, yn erbyn Moab; gwae Nebo, canys hi a anrheithiwyd, gwradwyddwyd Ciriatha­im, ac ennillwyd hi:Neu, yr vch [...]lfa. Mifgab a wradwydd­wyd, ac a ddychrynwyd.

2 Ni byddN [...]u, clod. ymffrost Moab mwy yn Hes­bon, hwy a ddychymmygasant ddrwg iw her­byn hi; deuwch, dinistriwn hi i lawr, fel na byddo yn genhedl; titheu MadmenNeu, a ddistewir. a dorrir i lawr, y cleddyfHeb. a ar dy ol. a'th erlid.

3 Llef yn gweiddi a glywir o horonaim; anrhaith, a dinistr mawr.

4 Moab a ddestrywiwyd, gwnaeth ei rhai bychain glywed gwaedd.

5Esa. 15 5. Canys yn rhiw Luhith, galar â i fynu mewn ŵylofain, ac yngoriwared Horonaim, y gelynion a glywsant waedd dinistr.

6 Ffowch, achubwch eich enioes; a byddwch felPen. 17.6. yN [...]u, no [...]th­bren. grug yn yr anialwch.

7 O herwydd am i ti ymddiried yn dy weithredoedd, a'th dryssorau dy hun, titheu a ddelir:1 Bren. 11.7. Chamos hefyd â allan i gaethiwed;Pen. 49.3. a'i offeiriaid, a'i dywysogion ynghyd.

8 A'r anrheithiwr a ddaw i bob dinas, ac ni ddiangc vn ddinas; eithr derfydd am y dyffryn, a'r gwastad a ddiswynir; megis y dywedodd yr Arglwydd.

9 Rhoddwch adenydd i Moab, fel yr ehedo, ac yr elo ymaith; canys ei dinasoedd hi a fydd­ant anghyfannedd, heb bresswylydd ynddynt.

10 Melldigedic fyddo yr hwn a wnelo waith yr Arglwydd ynNeu, esceulus. dwyllodrus, a mell­digedic fyddo yr hwn a attalio ei gleddyf oddi­wrth waed.

11 Moab a fu esmwyth arni, er ei hieu­engtid, a hi a orphywysodd ar ei gwaddod, ac ni thywalltwyd hi o lestr i lestr, ac nid aeth hi i gaethiwed; am hynny y safodd ei blâs arni, ac ni newidiodd ei harogl.

12 Am hynny, wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan anfonwyf fud-wŷr, y rhai a'i mudant hi, ac a waghânt ei llestri hi, ac a ddrylliant eu costrelau.

13 A Moab a gywilyddia o blegit Chamos, fel y cywilyddiodd tŷ Israel, o blegit1 Bren. 12.29. Bethel eu hyder hwynt.

14 Pa fodd y dywedwch chwi, cedyrn ydym ni, a gwŷr nerthol i ryfel?

15 Moab a anrheithiwyd, ac aeth i fynu o'i dinasoedd,Heb. a dewis ei gwyr ieu­aingc. a'i dewis wŷr ieuaingc a ddescyn­nasant i'r lladdfa, medd y Brenin, a'i enw Arglwydd y lluoedd.

16 Agos yw dinistr Moab i ddyfod; a'i dialedd hi sydd yn bryssio yn ffest.

17 Alaethwch drosti hi, y rhai ydych o'i hamgylch; a phawb a'r a edwyn ei henw hi, dywedwch pa fodd y torrwyd y ffon grêf, a'r wialen hardd?

18 O bresswyl-ferch Dibon, descyn o'th ogoniant, ac eistedd mewn syched: canys an­rheithi-wr Moab a ddaw i'th erbyn, ac a ddi­nistria dy amddeffynfeydd.

19 Presswyl-ferch Aroer, saf ar y ffordd, a gwilia; gofyn i'r hwn a fyddo yn ffo, ac i'r hon a ddiango, a dywed, beth a ddarfu?

20 Gwradwyddwyd Moab, canys hi a ddi­nistriwyd:Esa. 16.7. vdwch, a gwaeddwch; myne­gwch yn Arnon anrheithio Moab.

21 A barn a ddaw ar y tîr gwastad, ar Ho­lon, ac ar lahazah, ac ar Mephaath,

22 Ac ar Dibon, ac ar Nebo, ac ar Beth-Diblathaim,

23 Ac ar Ciriathaim, ac ar Beth-gamul, ac ar Beth-Meon,

24 Ac ar Cerioth, ac ar Bozrah, ac ar holl ddinasoedd gwlad Moab, ym mhell, ac yn agos.

25 Corn Moab a yscythrwyd, a'i braich hi a dorrwyd, medd yr Arglwydd.

26 Meddwch hi, o blegit hi a ymfawrygodd yn erbyn yr Arglwydd; îe Moab a ymdry­baedda yn ei chwydfa, am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd.

27 Ac oni bu Israel yn watwargerdd i ti? a gafwyd ef ym mysc lladron? canys er pan soniaist am dano, yr ymgynnhyrfaist.

28 Trigolion Moab, gadewch y dinasoedd, ac arhoswch yn y graig, a byddwch megis colommen, yr hon a nytha yn yr ystlysau, ar fin y twll.

29 NyniEsa. 16.6. a glywsom falchder Moab, (y mae hi yn falch iawn,) ei huchder, a'i rhyfyg, a'i hymchwydd, ac vchder ei chalon.

30 Myfi a adwen ei llîd hi, medd yr Ar­glwydd, ond nid felly y bydd:Neu, ei hatte­gion (Heb. barrau) hi ni wnant vniondeb. ei chelwyddau hi ni wnant felly.

31 Am hynny yr vdafi dros Moab, ac y gwaeddaf tros holl Moab: fy nghalon a riddfana dros wŷr Cir-heres.

32 Myfi a ŵylaf drosot ti, gwin-wydden Sibmah, ag wylofain Jazer, dy gangau a aethant dros y mor, hyd fôr Jazer y cyrhaeddant: yr anrheithi-wr a ruthrodd ar dy ffrwythydd hâf, ac ar dy gynhaiaf gwîn.

33 A dygir ymmaithEsay 16.10. lawenydd, a gorfo­ledd o'r dol-dir, ac o wlad Moab, ac mi a wnaf i'r gwîn ddarfod o'r cafnau, ni sathr neb drwy floddest, eu bloddest ni bydd bloddest.

34 O floedd Hesbon hyd Elealeh, a hyd Ja­haz, y llefasant, oEsay 15 5, 6. Zoar hyd Horonaim, fel anner d [...]ir-blwydd: canys dyfroedd Nimrim a fyddantHeb. anghy­fannedd­leoedd. anghyfannedd.

35 Mi a wnaf hefyd ballu ym Moab, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn offrymmu mewn vchelfeydd, a'r hwn sydd yn arogl­darthu iw dduwiau.

36 Am hynny y lleisia fy nghalon am Mo­ab, fel pibellau, ac am wŷr Cir-heres y lleisia fy nghalon, fel pibellau: oblegid darfod y golud a gasclodd.

37 O blegit pobEsay 15.2, 3. pen a fydd moel, a phob barf aHeb. gwttogir. dorrir, ar bob llaw y bydd rhwygiadau, ac am y lwynau, sach-liain.

38 Ar holl bennau tai Moab, a'i heolydd oll, y bydd alaeth: o blegit myfi a dorraf Moab, fel llestr heb hoffter ynddo, medd yr Arglwydd.

39 Hwy a vdant gan ddywedyd, pa fodd y bwriwyd hi i lawr? pa fodd y trôdd Moab ei gwarr trwy gywilydd? felly Moab a fydd yn watwargerdd, ac yn ddychryn i bawb o'i hamgylch.

40 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele, efeJer. 49.22. a eheda fel cryr, ac a ledaei adenydd dros Moab.

41Cerioth. Y dinasoedd a orescynnir, a'r amddi­ffynfeydd a ennillir, a chalon cedyrn Moab fydd y ddyd hwnnw, fel calon gwraig wrth escor.

42 A Moab a ddifethir o fod yn bobl, am iddi ymfawrygu yn erbyn yr Arglwydd.

43Esay 24.17, 18. Ofn, a ffôs, a magl a ddaw arnat ti, trigiannol Moab, medd yr Arglwydd.

44 Y neb a ffŷ rhag yr ofn, a syrth yn y ffôs, a'r hwn a gyfyd o'r ffôs a ddelir yn y fagl, canys myfi a ddygaf arni, sef ar Moab, flwyddyn eu hymweliad, medd yr Arglwydd.

45 Ynghyscod Hesbon y safodd y rhai a ffoe­sant rhac y cadernid; eithrNum. 21.28. tân a ddaw allan o Hesbon, a fflam o ganol Sihon, ac a yssa gongl Moab, a chorynHeb. meibion y trwst. y meibion tryst-fawr.

46 Gwae di Moab, darfu am bobl Chamos; canys cymmerwyd ymmaith dy feibionHeb. mewn caeth­glud. yn gaethion, a'th ferched yn gaethion.

47 Etto myfi a ddychwelaf gaethiwed Moab, yn y dyddiau diwethaf, medd yr Arglwydd. Hyd ymma y mae barn Moab.

PEN. XLIX.

1 Barnedigaeth yr Ammoniaid: 6 a'i hadferiad. 7 Barnedigaeth Edom, 23 Damascus, 28 Cedar, 30 Hazor, 34 ac Elan. 39 Ad­feriad Elam.

N [...]u, yn erbyn meibion &c.AM feibion Ammon, fel hyn y dywed yr Arglwydd, onid oes feibion i Israel? onid oes etifedd iddo? pa ham y maeNeu, Malcom. eu bre­nin hwyntAmos 1.13. yn etifeddu Gad, a'i bobl yn aros yn ei ddinasoedd ef?

2 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, modd yr Arglwydd, pan wnelwyf glywed trwst rhyfel ynAmos 1.14. Rabbath meibion Ammon, a hi a fydd yn garnedd anghyfanneddol, a'i merched hi a loscir â than; yna Israel a feddianna y rhai a'i meddiannasant ef, medd yr Ar­glwydd.

3 Vda Hesbon, am anrheithio Ai, gwae­ddwch chwi merched Rabbah, ymwregyswch mewn sach-liain; alaethwch, a gwibiwch gan y gwrychoedd, o blegitNeu, Malcom. eu brenin â i gaeth­iwed, eiPen. 48.7. offeiriaid, a'i bennaethiaid ynghyd.

4 Pa ham yr ymffrosti di yn y dyffrynoedd? llifodd dy ddyffryn di ymmaith, ô ferch wrth­nysig, yr hon a ymddiriedodd yn ei thryssorau, gan ddywedyd, pwy a ddaw attafi?

5 Wele, myfi a ddygaf arswyd arnat ti, medd Arglwydd Dduw y lluoedd, rhag pawb o'th amgylch; a chwi a yrrir allan bob vn o'i flaen, ac ni bydd a gasclo y crwydrad.

6 Ac wedi hynny, myfi a ddychwelaf gaethiwed meibion Ammon, medd yr Ar­glwydd.

7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am Edom;Obad. ver. 8. onid oes doethineb mwy yn Teman? a fethodd cyngor gan y rhai deallgar? a fethodd eu doethineb hwynt?

8 Ffowch,Neu, troesant eu cefnau. trowch eich cefnau, ewch yn isel i drigo, presswyl-wŷr Dedan: canys mi a ddygaf ddinistr Esau arno, amser ei ofwy.

9Obad, ver. 5. Pe deuei cynhaiaf-wŷr gwin attat ti, oni weddillent hwy loffion grawn? pe lladron liw nôs, hwy a anrheithientHeb. eu digon. nes cael di­gon.

10 Ond myfi a ddinoethais Esau, ac a ddad­cuddiais ei lochesau ef, fel na allo lechu: ei hâd ef a ddifethwyd, a'i frodyr, a'i gymmydogion, ac nid yw efe.

11 Gâd dy ymddifaid, myfi a'i cadwaf hwynt yn fyw: ac ymddirieded dy weddwon ynof fi.

12 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele, y rhai nid oedd eu barn i yfed o'r phiol, gan yfed a yfasant, ac a ddiengi di yn ddiger­ydd? na ddiengi; eithr titheu a yfi yn siccr.

13 Canys i mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, mai yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch, ac yn felldith, y bydd Bozrah; a'i holl ddinasoedd yn ddiffaethwch tragywy­ddol.

14 Myfi a glywaisObad. ver. 1. chwedl oddi wrth yr Arglwydd, bod cennad wedi ei anfon at y cenhedloedd, yn dywedyd ymgesclwch, a deuwch yn ei herbyn hi, a chyfodwch i'r rhyfel.

15 O herwydd wele, myfi a'th wnaf di yn fychan ym mysc y cenhedloedd, ac yn wael ym mlith dynion.

16 Dy erwindeb a'th dwyllodd, a balchder dy galon, ti yr hon ydwyt yn aros ynghrom­lechydd y graig, ac yn meddiannu vchelder y bryn:Obad. ver. 4. er i ti osod dy nŷth cyn vched a'r eryr, myfi a wnaf i ti ddescyn oddi yno, medd yr Arglwydd.

17 Edom hefyd a fydd yn anghyfannedd,Pen. 50.13. pawb a'r a elo heibio iddi a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi.

18 Fel ynGen. 19.25. Pen. 50.40. ninistr Sodoma, a Gomorrah, a'i chymydogesau, medd yr Arglwydd; ni phresswy­lia neb yno, ac nid erys mab dŷn ynddi.

19 Wele,Jer. 50.44. fel llew y daw i fynu oddi wrth ymchwydd yr Jorddonen, i drigfa y cadarn; eithr mi a wnaf iddo redeg yn ddisym­mwth oddi wrthi hi, a phwy sy wr dewisol, a osodwyfi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? [Page] a phwy aJoh. 41.10. Pen 50.44.45. Neu, a'm geilw i farn. esyd i mi amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o'm blaen i?

20 Am hynny gwrandewch gyngor yr Ar­glwydd, yr hwn a gymmerodd efe yn erbyn E­dom, a'i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn presswylwŷr Teman: yn ddiau y rhai lleiaf o'r praidd a'i lluscant hwy; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyd â hwynt.

21 Gan lef eu cwymp hwynt y cryn y ddaiar; llais eu gwaedd hwynt a glybuwydHeb. ym mor y gwmmon. yn y môr côch.

22 Wele, fel eryr y daw i fynu, ac efe a ehe­da, ac a leda ei adenydd tros Bozrah: yna y bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw, fel calon gwraig wrth escor.

23 Am Damascus; Hamath, ac Arphad a wradwyddwyd, o herwydd hwy a glywsant chwedl drwg,Heb. toddasant. llesmeiriasant; y mae gofalNeu, fel ar y mir. ar y môr heb fedru gorphywys.

24 Damascus a lescaodd, ac a ymdry i ffoi, ond dychryn a'i goddiweddodd hi, gwascfa a phoenau a'i daliodd hi, fel gwraig yn escor.

25 Pa fôdd na adewir dinas moliant, caer fy llawenydd?

26 Am hynny ei gwŷr ieuaingc a syrthiant yn ei heolydd: a'r holl ryfel-wŷr a ddifethir y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd.

27 Ac mi a gynneuafAmos 1.4. dân ym mur Da­mascus; ac efe a ddifa lysoedd1 Bren. 20.26. Benhadad.

28 Am Cedar, ac am deyrnasoedd Hazor, y rhai a ddinistria Nabuchodonosor brenin Ba­bilon, fel hyn y dywed yr Arglwydd; cyfodwch, ewch i fynu yn erbyn Cedar, ac anrheithiwch feibion y dwyrain.

29 Eu lluestai, a'i diadellau, a gymmerant ymmaith, eu llenni, a'i holl lestri, a'i camelod, a gymmerant iddynt eu hunain, a hwy a floeddiant arnynt, y mae ofn o amgylch.

30Vers. 8. Ffowch, ciliwchHeb. yn ddir­fawr. ym mhell, ewch yn isel i drigo, presswyl-wŷr Hazor, medd yr Ar­glwydd: o herwydd Nabuchodonosor brenin Babilon a gymmerodd gyngor yn eich erbyn chwi, ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi.

31 Cyfodwch, ac ewch i fynu ac y genhedlNeu, esmwyth arni. oludog, yr hon sydd yn trigo yn ddiofal, medd yr Arglwydd, heb ddorau na barrau iddi; wrthynt eu hunain y maent yn trigo.

32 A'i camelod a fydd yn anrhaith, a'i minteioedd anifeiliaid yn yspail, ac mi a wasca­raf tua phob gwynt, y rhaiHeb. a dorrwyd i gonglau, neu, d [...]r­rwyd cyr­rau eu gwallt. sy yn y conglau eithaf: ac myfi a ddygaf o bob ystlys iddi eu dinistr hwynt, medd yr Arglwydd.

33 Hazor hefyd fydd yn drigfa dreigiau, ac yn anghyfanned byth; ni phresswylia neb yno, ac nid erys mab dŷn ynddi.

34 Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Je­remi y prophwyd yn erbyn Elam, yn nechreu teyrnasiad Zedeciah brenin Juda, gan ddywe­dyd,

35 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, wele fi yn torri bŵa Elam, eu cadernid pennaf hwynt.

36 Ac mi a ddygaf ar Elam bedwar gwynt, o bedwar eithaf y nefoedd, ac mi a'i gwasca­raf hwynt tu a'r holl wyntoedd hyn; ac ni bydd cenhedl, at yr hon ni ddelo rhai o gyrwydraid Elam.

37 Canys mi a yrraf ar Elam ofn eu gelyni­on, a'r rhai a geisiant eu henioes; ac myfi a ddy­gaf arnynt aflwydd, sef angerdd fy nigofaint, medd yr Arglwyddd; ac mi a anfonaf y cleddyf ar eu hôl, nes i mi eu difetha hwynt.

38 Ac mi a osodaf fy nheyrn-gader yn Elam, ac mi a ddifethaf oddi yno y brenin a'r tywysogion, medd yr Arglwydd.

39 OndPen. 48.47. ver. 6. yn y dyddiau diweddaf, myfi a ddychwelaf gaethiwed Elam, medd yr Ar­glwydd.

PEN. L.

1, 9, 21, 35 Barnedigaeth Babilon. 4.17, 33 Ymwared Israel.

Y Gair a lefarodd yr Arglwydd yn erbyn Babilon, ac yn erbyn gwlâd y Caldeaid,Heb. trwy law Jeremi. trwy Jeremi y prophwyd.

2 Mynegwch ym mysc y cenhedloedd, a chyhoeddwch, a chodwch arwydd, cyhoeddwch, na chelwch, dywedwch, gorescynwyd Babilon, gwradwyddwyd Bel, drylliwyd Merodach, ei heulynnod a gywilyddiwyd, a'i delwau a ddrylliwyd.

3 Canys o'r gogledd y daw cenhedl yn ei herbyn hi, yr hon a wna ei gwlâd hi yn anghyfannedd, fel na byddo presswylydd ynddi: yn ddyn ac yn anifail y mudant, ac y ciliant ymmaith.

4 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd,Pen. 31.9. meibion Israel a ddeuant, hwy a meibion Juda ynghyd, dan gerdded ac ŵylo yr ânt, ac y ceisiant yr Ar­glwydd eu Duw.

5 Hwy a ofynnant y ffordd i Sion, tu ag yno y bydd eu hwynebau hwynt: deuwch meddant, a glynwn wrth yr Arglwydd, drwy gyfammod tragywyddol, yr hwn nid anghofir.

6 Fy mhobl a fu fel praidd colledic; eu bugeiliaid a'i gyrrasant hwy ar gyfeiliorn, ar y mynyddoedd y troesant hwynt ymmaith, aethant o fynydd i fryn, anghofiasant eu gor­weddfa.

7 Pawb a'r a'i cawsant a'i difasant, a'i gely­nion a ddywedasant, ni wnaethom ni ar fai, canys hwy a bechasant yn erbyn yr Arglwydd, trigle cyfiawnder; sef yr Arglwydd, gobaith eu tadau.

8Esa. 48.20. Pen. 51.6. Datc. 18.4. Ciliwch o ganol Babilon, ac ewch allan o wlâd y Caldeaid; a byddwch fel bychod o flaen y praidd.

9 O herwydd wele, myfi a gyfodaf, ac a ddy­gaf i fynu yn erbyn Babilon, gynnulleidfa cen­hedloedd mawrion, o dîr y gogledd: a hwy a ymfyddinant yn ei herbyn, oddi yno y gores­cynnir hi, eu saethau fydd fel saethau cadarnNeu, yn dini­strio, neu, yn difu­ddio. cyfarwydd, ni ddychwelant yn ofer.

10 A Chaldea fydd yn yspail; pawb a'r a'i yspeiliant hi a ddigonir, medd yr Ar­glwydd.

11 Am i chwi fod yn llawen, am i chwi fod yn hyfryd, chwi fathr-wyr fy etifeddiaeth, am i chwiNeu, gynnyddu, neu, fyned yn gorph­ol, neu, yn fawr. frashâu fel anner mewn glas-wellt, a beichio fel teirw;

12 Eich mam a gywilyddir yn ddirfawr, a'r hon a'ch ymddug a wradwyddir: wele, yr olaf o'r cenhedloedd yn anialwch, yn gras-dir, ac yn ddiffaethwch.

13 O herwydd digofaint yr Arglwydd ni's presswylir hi, eithr hi a fydd i gyd yn anghy­fannedd:Pen. 49.17. pawb a êl heibio i Babilon a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi.

14 Ymfyddinwch yn erbyn Babilon o am­gylch, yr holl berchen bwâu, saethwch atti, nac arbedwch saethau; o blegit hi a bechodd yn erbyn yr Arglwydd.

15 Bloeddiwch yn ei herbyn hi o amgylch, hi a roddes ei llaw; ei sylfeini hi a syrthia­sant, ei muriau a fwriwyd i lawr, o herwydd dial yr Arglwydd yw hyn: dielwch arni; fel y gwnaeth, gwnewch iddi.

16 Torrwch ymmaith yr hau-wr o Babilon, a'r hwn a ddalioNeu, bladur. grymman ar amser cynhaiaf: rhag cleddyf y gorthrym-wr, y troant bob vn at ei bobl ei hun, ac y ffoant bob vn iw wlâd.

17 Fel dafad ar wasgar yw Israel, llewod a'i hymlidiasant ymmaith: brenin Assyria yn gyntaf a'i hyssodd, a'r Nabuchodonosor ym­ma brenin Babilon, yn olafNeu, a ddry­lliodd ei escyrn. a'i diescyr­nodd.

18 Am hynny, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, wele, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â'i wlâd, fel yr ymwelais â brenin Assyria.

19 Ac mi a ddychwelaf Israel iw drigfa, ac efe a bawr ar Carmel, a Basan; ac ar fynydd Ephraim, a Gilead, y digonir ei enaid ef.

20 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Juda, ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i'r rhai a weddillwyf.

21 Dôs i fynu yn erbyn gwladNeu, y gwrth­ryfelwyr. Meratha­im, ie yn ei herbyn hi, ac yn erbyn trigolionNeu, y gofwy. Pecod: anrheithia di a difroda ar eu hôl hwynt, medd yr Arglwydd, a gwna yn ôl yr hyn oll a orchymynnais i ti.

22 Trwst rhyfel sydd yn y wlad; a dinistr mawr.

23 Pa fodd y drylliwyd, ac y torrwyd gordd yr holl ddaiar? pa fodd yr aeth Babilon yn ddiffaethwch, ym mysc y cenhedloedd?

24 Myfi a osodais fagl i ti, a thitheu Ba­bilon a ddaliwyd, a heb ŵybod i ti: ti a gaf­wyd, ac a ddaliwyd, o herwydd i ti ymryson yn erbyn yr Arglwydd.

25 Yr Arglwydd a agorodd ei dryssor, ac a ddug allan arfau ei ddigofaint: canys gwaith Arglwydd Dduw y lluoedd yw hyn, yngwlâd y Caldeaid.

26 Deuwch yn ei herbyn o'r cwrr eithaf, agorwch ei yscuboriau hi,Neu, pentyr­rwch, neu, sethrwch. dyrnwch hi fel pentwr ŷd, a llwyr ddinistriwch hi, na fydded gweddill o honi.

27 Lleddwch ei holl fustych hi; descynnant i'r lladdfa, gwae hwynt, canys eu dydd a ddaeth, ac amser eu hymweliad.

28 Llef y rhai a ffoant, ac a ddiangant o wlâd Babilon, i ddangos yn Sion ddial yr Ar­glwydd ein Duw ni, dial ei Deml ef.

29 Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon; y perchen bwâu oll, gwerssyllwch i'w herbyn hi o amgylch; na chafed neb ddiangc o honi;Datc. 18.6. telwch iddi yn ôl ei gweithred, ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi, gwnewch iddi: o herwydd hi a fu falch yn erbyn yr Arglwydd, yn erbyn Sanct Israel.

30 Am hynny ei gwŷr ieuaingc a syrthiant yn ei heolydd hi; a'i holl ryfel-wŷr a ddifethir y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd.

31 Wele fi yn dy erbyn di, ôHeb. falchder. falch, medd Arglwydd Dduw y lluoedd, o herwydd dy ddydd a ddaeth, yr amser yr ymwelwyfâ thi.

32 A'r balch a dramgwydda, ac a syrth, ac ni bydd a'i cyfodo: ac mi a gynneuaf dân yn ei ddinasoedd, ac efe a ddifa ei holl amgyl­choedd ef.

33 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, meibion Israel, a meibion Juda, a orthrym­mwyd ynghyd, a phawb a'r a'i caethiwodd hwynt a'i daliasant yn dynn, ac a wrthodasant eu gollwng hwy ymmaith.

34 Eu gwared-wr sydd grŷf, Arglwydd y lluoedd yw ei enw, efe a lwyr ddadleu eu dadl hwynt, i beri llonydd i'r wlad, ac aflonyddwch i bresswyl-wŷr Babilon.

35 Cleddyf sydd ar y Caldeaid, medd yr Ar­glwydd, ac ar drigolion Babilon, ac ar ei thywysogion, ac ar ei doethion.

36 Cleddyf sydd ar yNeu, dewiniaid, neu, atte­gion pen­naf, Heb. barriau. celwyddog, a hwy a ynfydant: cleddyf sydd ar ei chedyrn, a hwy a ddychrynant.

37 Cleddyf sydd ar ei meirch, ac ar ei cherby­dau, ac ar yr holl werin sydd yn ei chanol hi, a hwy a fyddant fel gwragedd; cleddyf sydd ar ei thryssorau, a hwy a yspeilir.

38 Sychder sydd ar ei dyfroedd hi, a hwy a sychant: o herwydd gwlâd delwau cerfiedig yw hi, ac mewn eulynnod y maent yn yn­fydu.

39 Am hynnyEsa. 13.21. anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a chathod a arhosant yno, a chywion yr estrys a drigant ynddi; ac ni phresswylir hi mwyach byth; ac ni's cyfannedir hi, o genhed­laeth i genhedlaeth.

40Gene. 19.25. Esa. 13.19. Pen. 49.18. Fel yr ymchwelodd Duw Sodoma a Gomarrah, a'i chymydogesau, medd yr Arg­lwydd; felly ni presswylia neb yno, ac ni crys mab dŷn ynddi.

41 Wele, pobl a ddaw o'r gogledd, a chen­hedl fawr, a brenhinoedd lawer, a godir o eitha­foedd y ddaiar.

42 Y bŵa a'r waywffon a ddaliant; creu­lon ydynt, ac ni thosturiant; eu llef fel môr, a rûa; ac ar feirch y marchogant yn daclus i'th erbyn di merch Babilon, fel gwr i ryfel.

43 Brenin Babilon a glywodd fôn am da­nynt, a'i ddwylo ef a lescasant: gwascfa a'i da­liodd ef, a gwewyr fel gwraig wrth escor.

44Jerem. 49.19. Wele, fel llew y daw i fynu oddi wrth, ymchwydd yr lorddonen, i drigfa y cadarn: eithr mi a wnaf iddo ef redeg yn ddisymmwth oddi wrthi hi, a phwy sy wr dewisol a osod­wyfi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy aJob. 41.10. Pen. 49.19. esyd i mi yr amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o'm blaen i?

45 Am hynny gwrandewch chwi gyngor yr Arglwydd, yr hwn a gymmerodd efe yn erbyn Babilon, a'i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn gwlâd y Caldeaid: yn ddiau y rhai lleiaf o'r praidd a'i lluscant hwy: yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyd â hwynt.

46 Gan drwst gorescyniad Babilon y cyn­nhyrfa y ddaiar, ac y clywir y waedd ym mysc y cenhedloedd.

PEN. LI.

1 Tost farnedigaeth Duw yn erbyn Babilon, er mwyn dial am Israel. 59 Jeremi yn rhoddi llyfr y Brophwydoliaeth at Seraiah, iw fwrw i Euphrates, a hynny i arwyddoccau y soddai Babilon tros byth.

FEl hyn y dywed yr Arglwydd, wele myfi a godaf wynt dinistriol yn erbyn Babilon, ac yn erbyn y rhai sy'n trigoHeb. ynghalon. ynghanol y rhai a godant yn fy erbyn i.

2 Ac mi a anfonaf i Babilon nith-wŷr, a hwy a'i nithiant hi, ac a waghânt ei thir hi; o herwydd hwy a fyddant yn ei herbyn hi o amgylch, ar ddydd blinder.

3 Yn erbyn yr hwn a ennylo, ennyled y saethydd ei fwa, ac yn erbyn yr hwn sydd yn ymdderchafu yn ei luryg; nac arbedwch ei gwyr ieuaingc, difrodwch ei holl lu hi.

4 Felly y rhai lladdedig a syrthiant yngwlad y Caldeaid, a'r rhai a drywanwyd, yn ei he­olydd hi.

5 Canys Israel ni adawyd, na Juda gan ei Dduw, gan Arglwydd y lluoedd; er bod eu gwlâd hwynt yn llawn o gamwedd, yn erbyn Sanct yr Israel.

6Pen. 50.8. Datc. 18.4. Ffowch o ganol Babilon, ac achubwch bawb ei enaid ei hun, na adewch eich difetha yn ei hanwiredd hi, o blegit amser dial yw hwn i'r Arglwydd, efe a dâl y pwyth iddi hi.

7 Phiol aur oedd Babilon yn llaw yr Arg­lwydd, yn meddwi pôb gwlâd: yr holl gen­hedloedd a yfasant o'i gwîn hi, am hynny y cenhedloedd a ynfydasant.

8Esa. 21.9. & Datc. 14.8. & 18.2. Yn ddisymmwth y syrthiodd Babilon, ac y drylliwyd hi: vdwch drosti, cymmerwch driacl iw dolur hi, i edrych a iachâ hi.

9 Nyni a iachasom Babilon, ond nid aeth hi yn iach, gadewch hi, ac awn bawb iw wlâd: canys ei barn a gyrhaedd i'r nefoedd, ac a dder­chafwyd hyd yr wybrau.

10 Yr Arglwydd a ddug allan ein cyfiawn­der ni: deuwch, a thraethwn yn Sion waith yr Arglwydd ein Duw.

11Heb. Glan­hewch. Gloywch y saethau; cesclwch y tarian­nau; yr Arglwydd a gyfododd yspryd bren­hinoedd Media, o blegit y mae ei fwriad ef yn erbyn Babilon, iw dinistrio hi:Jerem. 50.28. canys dial yr Arglwydd yw hyn, dial ei Deml ef.

12 Derchefwch faner ar furiau Babilon; ca­darnhewch y wiliadwriaeth; gosodwch i fynu y gwil-wŷr; darperwch y cynllwynwŷr; ca­nys yr Arglwydd a fwriadodd, ac efe a wnaeth hefyd yr hyn a lefarodd, yn erbyn trigolion Babilon.

13 Tydi yr hon ydwyt yn aros ar ddyfro­edd lawer, yn aml dy dryssorau, dy ddiwedd di a ddaeth, sef mesur dy gybydd-dod.

14Amos 6.8. Arglwydd y lluoedd a dyngoddHeb. iw enaid ei hun. iddo ei hun, gan ddywedyd, diau i'th lanwaf â dy­nion megis â lindys: a hwy aNeu, ddatca­nant. ganant fio­ddest i'th erbyn.

15Gen. 1.6. Jer. 10.12. Efe a wnaeth y ddaiar drwy ei nerth, ac a siccrhaodd y bŷd trwy ei ddoethineb, ac a danodd y nefoedd drwy ei ddeall.

16 Pan roddo efe ei lêf y maeNeu, lliaws. twrf dyfro­edd yn y nefoedd, ac y mae efe yn codi y niwloedd o eithaf y ddaiar, ac efe sydd yn gwneuthur y mellt gydâ 'r glaw, ac yn dwyn y gwynt allan o'i dryssorau.

17Jerem. 10.14. Ynfyd yw pôb dŷn o ŵybodaeth, gwradwyddwyd pôb toddydd, gan y ddelw gerfiedig: canys celwyddoc yw ei ddelw dawdd, ac nid oes chwythad ynddynt.

18 Oferedd ydynt, gwaith cyfeiliorni, yn amser eu hymweliad y difethir hwynt.

19 Nid fel y rhai hyn, eithr lluni-ŵr y cwbl oll, yw rhan Jacob;Jerem. 10.16. ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef; Arglwydd y lluoedd yw ei enw ef.

20 Ti wyt forthwyl i mi, ac arfau rhyfel; canys â thi y drylliaf y cenhedloedd, ac â thi y dinistriaf deyrnasoedd.

21 A thi hefyd y gwascaraf y march a'r march-ŵr; ac â-thi y drylliaf y cerbyd a'i far­chog.

22 A thi y drylliafi ŵr a gwraig, ac â thi y drylliaf hên ac ieuangc, ac â thi y drylliaf y gŵr ieuangc a'r forwyn.

23 A thi hefyd y drylliafi y bugail a'i braidd, ac â thi y drylliaf yr ardd-wr a'i iau ychen, ac â thi y drylliaf y tywysogion a'r pennae­thiaid.

24 Ac mi a dalaf i Babilon, ac i holl bres­swylwŷr Caldea eu holl ddrwg a wnaethant yn Sion, yn eich golwg chwi, medd yr Ar­glwydd.

25 Wele fi i'th erbyn di, ô fynydd dinistri­ol, yr hwn wyr yn dinistrio yr holl ddaiar, medd yr Arglwydd; ac myfi a estynnaf fy llaw arnat, ac a'th dreiglaf di i lawr o'r creigiau, ac a'th wnaf di yn fynydd llosc:

26 Ac ni chymmerant o honot faen congl, na sylfaen; ond diffaethwch tragywyddol a fyddi di, medd yr Arglwydd.

27 Derchefwch faner yn y tir; lleisiwch vdcorn ym mysc y cenhedloedd; darper­wch y cenhedloedd yn ei herbyn hi; gelwch ynghyd deyrnasoedd Ararat, Minni, ac Asche­naz yn ei herbyn hi: gosodwch dywysog yn ei herbyn hi: gwnewch i feirch ddyfod i fynu, cyn amled a'r lindys blewog.

28 Darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi, gydâ brenhinoedd Media, a'i thywysogion, a'i holl bennaethiaid, a holl wlâd ei lywodra­eth ef.

29 Y ddaiar hefyd a gryna ac a ofidia; ob­legid fe gyflawnir bwriadau yr Arglwydd, yn erbyn Babilon, i wneuthur gwlâd Babilon yn anghyfannedd, heb drigiannol ynddi.

30 Cedyrn Babilon a beidiasant ag ymladd, ac y maent hwy yn aros o fewn eu hamddeff­ynfeydd; pallodd eu nerth hwynt; aethant yn wrageddos; ei hanneddau hi a loscwyd, a'i barrau a dorrwyd.

31 Rhedeg-ŵr a rêd i gyfarfod â rhedeg-ŵr, a chennad i gyfarfod â chennad, i fy­negi i frenin Babilon orescyn ei ddinas ef o'i chwrr:

32 Ac ennill y rhydau, a llosci o honynt y cyrs â than, a synnu ar y rhyfel-wŷr.

33 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; merch Babilon sydd fel llawr dyrnu;Neu, yr amser y dyrna efe hi. amser ei dyrnu hi a ddaeth: ac ar fyrder y daw amser cynhaiaf iddi.

34 Nabuchodonosor brenin Babilon a'm hy­sodd, ac a'm yssigodd i; efe a'm gwnaeth fel llestr gwâg; efe a'm llyngcodd fel draig; ac a lanwodd ei fol o'm dainteithion, efe a'm bw­riodd i allan.

35Heb. Fy nbra­is i. Y cam a wnaed i mi, ac i'mNeu, gwiddell. cnawd, a ddelo ar Babilon, medd presswyl-ferch Sion; a'm gwaed i ar drigolion Caldea, medd Jeru­salem.

36 Am hynny fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, wele, myfi a ddadleuaf dy ddadl di, ac a ddialaf trosot ti; ac mi a ddiyspyddaf ei môr hi, ac a sychaf ei ffynhonnau hi.

37 A bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa dreigiau, yn syndra, ac yn chwibaniad, heb bresswylydd.

38 Cyd-rûant fel llewod;Neu, ymescyd­want. bloeddiant fel cenawon llewod.

39Dan. 5.2. Yn eu gwrês hwynt y gosodaf wleddoedd iddynt, ac mi a'i meddwaf hwynt, fel y llawenychont, ac y cyscont hûn dragywyddol, ac na ddeffrônt, medd yr Ar­glwydd.

40 Myfi a'i dygaf hwynt i wared fel ŵyn i'r lladdfa, fel hyrddod a bychod.

41 Pa fodd y gorescynnwyd Sesach? pa fodd yr ennillwyd gogoniant yr holl ddaiar? pa fodd yr aeth Babilon yn syndod, ym mysc y cenhedloedd?

42 Y môr a ddaeth i fynu ar Babilon: hi a orchguddiwyd ag amlder ei donnau ef.

43 Ei dinasoedd hi a aethant yn arghyfan­nedd, yn gras-dîr, ac yn ddiffaethwch: gwlâd ni thrîg vn gŵr ynddi, ac ni thramwya mab dŷn trwyddi.

44 Ac mi a ymwelaf â Bel yn Babilon, ac mi a dynnaf o'i safn ef yr hyn a lyngcodd; a'r cenhedloedd ni ddylifant atto mwyach, ie mûr Babilon a syrth.

45 Deuwch allan o'i chanol, ô fy mhobl, ac achubwch bôb vn ei enaid, rhac llid digofaint yr Arglwydd,

46 A rhac llwfrhau eich calonnau, ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlâd: a'r naill flwyddyn y daw chwedl newydd, ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn arall; a thrais yn y wlâd, llywodraeth-wr yn erbyn llywodraeth-wr.

47 Am hynny, wele y dyddiau yn dyfod, yr ymwelwyf â delwau Babilon, a'i holl wlâd hi a wradwyddir, a'i holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol.

48 Yna y nefoedd a'r ddaiar, a'r hyn oll sydd ynddynt, a ganant o herwydd Babilon: o blegit o'r gogledd y daw yr anrheith-wŷr atti, medd yr Arglwydd.

49Neu, Babilon sydd i syrthio, chwi la­ddedigion Israel, a chyda Babilon y syrth &c. Fel y gwnaeth Babilon i'r rhai lladde­dic o Israel syrthio; felly yn Babilon y syrth lladdedigion yr hollNeu, wlad. ddaiar.

50 Y rhai a ddiangasoch gan y cleddyf, ewch ymmaith, na sefwch; cofiwch yr Ar­glwydd o bell; a deued Jerusalem yn eich côf chwi.

51 Gwradwyddwyd ni, am i ni glywed cabledd, gwarth a orchguddiodd ein hwynebau: canys daeth estroniaid i gyssegroedd tŷ yr Ar­glwydd.

52 Am hynny, wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan ymwelwyfi â'i del­wau hi; a thrwy ei holl wlâd hi yr archolle­dig a riddfan.

53 Er i Babilon dderchafu i'r nefoedd, ac er iddi gadarnhau ei hamddeffynfa yn vchel; etto anrheith-wŷr a ddaw atti oddi wrthyfi, medd yr Arglwydd.

54 Sain gwaedd a glywir o Babilon; a dinistr mawr o wlâd y Caldeaid;

55 O herwydd yr Arglwydd a anrheithiodd Babilon, ac a ddinistriodd y mawr-air allan o honi hi: er rhuo o'i tonnau fel dyfroedd lawer, a rhoddi twrwf eu llef hwynt.

56 Canys yr anrheithi-ŵr a ddaeth yn ei herbyn hi, sef yn erbyn Babilon, a'i chedyrn hi a ddaliwyd; eu bŵa a dorrwyd: canys Arglwydd Dduw y gwobr a obrwya yn siccr.

57 Ac myfi a feddwaf ei thywysogion hi, a'i doethion, ei phennaethiaid, a'i swyddogion, a'i chedyrn; a hwy a gyscant hûn dragywy­ddol, ac ni ddeffroant, medd y Brenin, enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd.

58 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, ganNeu, ddinoethi y dinoe­thir. ddryllio y dryllirNeu, muriau Babilon lydan. llydan furiau Ba­bilon, a'i huchel byrth a loscir â thân: a'r bobl a ymboenant mewn oferedd, a'r cen­hedloedd mewn tân, a hwy a ddeffygiant.

59 Y gair yr hwn a orchymynnodd Jeremi y prophwyd i Seraiah fab Neriah, fab Maaseiah, pan oedd efe yn mynedNeu, ymmblaid Zedeciah. gyd â Zedeciah fre­nin Juda i Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad ef: a Seraiah oeddNeu, dywysog Menu­chah, neu, ben sta­fellydd. dywysog llonydd.

60 Felly Jeremi a scrifennodd yr holl aflwydd oedd ar ddyfod yn erbyn Babilon, mewn vn llyfr: sef yr holl eiriau a scrifennwyd yn er­byn Babilon.

61 A Jeremi a ddywedodd wrth Seraiah, pan ddelych i Babilon, a gweled a darllen yr holl eiriau hyn,

62 Yna dywed, ô Arglwydd, ti a leferaist yn erbyn y lle hwn, am ei ddinistrio, fel na byddei ynddo bresswylydd, na dŷn nac anifail, eithr ei fod ynHeb. anghy­fanne­ddau. anghyfannedd tragywyddol.

63 A phan ddarfyddo i ti ddarllen y llyfr hwn, rhwym faen wrtho, a bwrw ef i ganol Euphrates,

64 A dywed, fel hyn y soddir Babilon, ac ni chyfyd hi, gan y drwg a ddygafi arni; a hwy a ddeffygiant. Hyd hyn y mae geiriau Jeremi.

PEN. LII.

1 Zedeciah yn gwrth-ryfela. 4 Amgylchynu Jerusalem, a'i gorchfygu. 8 Lladd meibion Zedeciah, a thynnu ei lygaid yntef. 12 Na­buzaradan yn llosci ac yn anrheithio y ddinas, 24 yn dwyn caethion ymaith. 32 Euil­merodach yn derchafu Jehoiacim.

MAb2 Bren. 24.18. 2 Cron. 36.11. vn mlwydd ar hugain oedd Zede­ciah panHeb. deyrna­sodd. ddechreuodd efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar ddêc y teyrnafasodd efe yn Jerusalem, ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremiah, o Libnah.

2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethei Jehoiacim.

3 O herwydd gan ddigofaint yr Arglwydd y bu yn Jerusalem, ac yn Juda, hyd oni fwriodd efe hwynt allan o'i olwg, wrth­ryfela o Zedeciah, yn erbyn brenin Babi­lon.

4 Ac yn y2 Bren. 25.1. Pen. 39.1. nawfed flwyddyn o'i deyrna­siad ef, yn y decfed mîs, ar y decfed dydd o'r mîs, y daeth Nabuchodonosor brenin Babilon, efe a'i holl lu, yn erbyn Jerusalem, ac a wer­syllasant yn ei herbyn hi, ac a adeiladasant gyferbyn â hi amddeffynfa, o amgylch ogylch.

5 Felly y ddinas a fu yngwarchae hyd yr vnfed flwyddyn ar ddêc i'r brenin Zedeciah.

6 Yn y pedwerydd mîs, ar y nawfed dydd o'r mîs, y newyn a drymhaodd yn y ddinas, fel nad oedd bara i bobl y wlâd.

7 Yna y torrwyd y ddinas, a'r holl ryfel­wŷr a ffoesant, ac a aethant allan o'r ddinas liw nôs, ar hyd ffordd y porth, rhwng y ddau fûr, yr hwn oedd wrth ardd y brenin, (a'r Caldeaid oedd wrth y ddinas o am­gylch,) a hwy a aethant ar hyd ffordd y rhôs.

8 Ond llû y Caldeaid a ymlidiasant ar ôl y brenin, ac a oddiweddasant Zedeciah yn rhossydd Jericho, a'i holl lu ef a wascarwyd oddi wrtho.

9 Yna hwy a ddaliasant y brenin, ac a'i dygasant ef at frenin Babilon, i Riblah, yng­wlad Hamath, ac efe a roddodd farn arno ef.

10 A brenin Babilon a laddodd feibion Ze­deciah yngŵydd ei lygaid ef: efe a laddodd hefyd holl dywysogion Juda, yn Riblah.

11 Yna efe aHeb. ddallodd. dynnodd lygaid Zedeciah, ac a'i rhwymodd ef aNeu, llyffeth­ciriau. chadwyni; a brenin Babilon a'i harweiniodd ef i Babilon, ac a'i rhoddodd ef mewn carchar-dŷ, hyd ddydd ei farwolaeth.

12 Ac yn y pummed mîs, ar y decfed dydd o'r mîs, (hon oedd y bedwaredd flwyddyn ar byrnthec i'r brenin Nabuchodonosor, brenin Babilon) y daeth NabuzaradanHeb. y penllei­ddiad. felly ver. 14. pennaeth y milwŷr, (yr hwn a safei ger bron brenin Babi­lon,) i Jerusalem;

13 Ac efe a loscodd dŷ yr Arglwydd, a thŷ yr brenin, a holl dai Jerusalem; a phob tŷ mawr a loscodd efe â thân.

14 A holl lu y Caldeaid, y rhai oedd gyd â phennaeth y mil-wŷr, a ddrylliasant holl furiau Jerusalem o amgylch.

15 Yna Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr a gaeth-gludodd rai o'r bobl wael, a'r gweddill o'r bobl a adawsid yn y ddinas, a'r ffoaduriaid a giliasent at frenin Babilon, a'r gweddill o'r bobl.

16 Ond Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr, a adawodd rai o diodion y wlâd, yn winllan­wŷr, ac yn ardd-wŷr.

17 A'r Caldeaid a ddrylliasant yPen. 27.19. colofnau prês, y rhai oedd yn nhŷ 'r Arglwydd, a'r ysto­lion, a'r môr prês, yr hwn oedd yn nhŷ 'r Ar­glwydd; a hwy a ddygasant eu holl brês hwynt i Babilon.

18 A hwy a ddygasant ymmaith y crocha­nau, a'r rhawiau, a'r psaltringau, a'r cawgiau, a'r thusserau, a'r holl lestri prês, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt:

19 A'r phiolau, a'r pedyll tân, a'r cawgiau, a'r crochanau, a'r canhwyll-brennau, a'r thusserau, a'r cwppanau, y rhai oedd o aur yn aur, a'r rhai oedd o arian yn arian, a gymmerodd pennaeth y mil-wŷr ymmaith:

20 Y ddwy golofn, vn môr, a deu-ddec o ychen prês, y rhai oedd tan yr ystolion, y rhai a wnaethei y brenin Salomon, yn nhŷ 'r Arg­lwydd: nid oedd pwysHeb. ar eu pres hwy, yr holl lestri hyn. ar brês yr holl lestri hyn.

21 Ac am y1 Bren. 7.15. 2 Bren. 25.17. 2 Cron. 3. [...]5. colofnau, deu-naw cufydd oedd vchder vn golofn,Heb. ac edef. a llinyn o ddeuddec cufydd oedd yn ei hamgylchu: a'i thewdwr yn bedair modfedd, ac yn gau yr oedd.

22 A chnap prês oedd arni, a phum cufydd oedd vchder vn cnap; a rhwyd-waith, a phom­granadau ar y cnap o amgylch, yn brês i gyd: ac fel hyn yr oedd yr ail golofn, a'i phomgra­nadau.

23 A'r pomgranadau oeddynt onid pedwar cant ar ystlys: yr holl bomgranadau ar y rhwyd-waith o amgylch, oedd gant.

24 A phennaeth y mil-wŷr a gymmerodd Seraiah yr archoffeiriad, a Zephaniah yr ail offeiriad, a'r tri oedd yn cadw yHeb. rhiniog. drws.

25 Ac efe a gymmerodd o'r ddinas ysta­fellydd, yr hwn oedd swyddog ar y rhyfel-wŷr, a seith-wŷrHeb. o'r rhai oedd yn gweled wyneb y brenin. o weision pennaf y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas,Neu, ac scri­fennydd pennaeth y llu. a phen-scrifennydd y llû, yr hwn a fyddei yn byddino pobl y wlâd, a thri vgein-ŵr o bobl y wlâd, y rhai a gafwyd ynghanol y ddinas.

26 A Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr a gymmerodd y rhai hyn, ac a aeth a hwynt i Riblah, at frenin Babilon.

27 A Brenin Babilon a'i tarawodd hwynt, ac a'i lladdodd hwynt yn Riblah, yngwlad Hamath. Fel hyn y caeth-gludwyd Juda o'i wlâd ei hun.

28 Dymma y bobl a gaeth-gludodd Nabu­chodonosor yn y seithfed flwyddyn, tair mîl, a thri ar hugain o Juddewon.

29 Yn y ddeu-nawfed flwyddyn i Nabu­chodonosor, efe a gaeth-gludodd o Jerusa­lem, wyth gant a deuddec ar hugain oHeb. eneidiau. ddy­nion.

30 Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nabuchodonosor, Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr a gaeth-gludodd saith gant, a phump a deugain o Iddewon: yr holl ddynion hyn oedd bedair mîl, a chwe chant.

31 Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymthec ar hugain, wedi caeth-gludo Jehoiacim frenin Juda, yn y deuddecfed mîs, ar y pummed dydd ar hugain o'r mîs, Esil-merodach brenin Babi­lon (yn y flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad) a dderchafodd ben Jehoiacim brenin Juda, ac a'i dug ef allan o'r carchar-dŷ,

32 Ac aHeb. ymddi­ddanodd ag ef be­thau da. ddywedodd yn dêg wrtho, ac a osododd ei frenhin-faingc ef vwch law gorsedd­feingciau y brenhinoedd, y rhai oedd gyd ag ef yn Babilon.

33 Ac efe a newidiodd ei garchar-wisc ef: ac efe a fwytâodd fara ger ei fron ef, yn oestad, holl ddyddiau ei enioes.

34 Ac am ei lynniaeth ef, llynniaeth gwa­stadol a roddwyd iddo gan frenin Babilon, dogn dydd yn ei ddydd hyd ddydd ei farwolaeth; holl ddyddiau ei enioes.

¶GALAR-NAD JEREMI.

PENNOD I.

1 Gofidus gyflwr Jerusalem o herwydd ei phe­chodau, 12 A hithau yn cwyno rhag ei gofid, 18 Ac yn cyfaddef bod barnedigaethau Duw yn gyfiawn.

PA fodd y mae y ddinas aml ei phobl, yn eistedd ei hunan? pa fodd y mae y luosog ym mhlith y cenhedloedd, megis yn weddw? pa fodd y mae ty­wysoges y taleithiau tan deyrnged?

2Jer. 13.17. Y mae hi yn ŵylo yn hidlJob. 7.3. liw nos, ac y mae ei dagrau ar ei gruddiau, heb neb o'i holl gariadau yn ei chyssuro: ei holl gyfeillion a fuant anghywir iddi, ac a aethant yn elynion ddi.

3 Juda a sudodd ymmaith gan flinder, a chan faint caethiwed; y mae hi yn aros ym mysc y cenhedloedd, heb gael gorphywystra: ei holl erlid-wŷr a'i goddiweddasant hi, mewn lleoedd cyfyng.

4 Y mae ffyrdd Sion yn galaru, o eisieu rhai yn dyfod i'r ŵyl arbennic: ei holl byrth hi sydd anghyfannedd, ei hoffeiriaid yn ocheneidio, ei morwynion yn ofidus, a hitheu ynHeb. chwerw. fiin arni.

5Deut. 28.13. Ei gwrthwyneb-wŷr ydynt bennaf, y mae ei gelynion yn ffynnu; canys yr Arglwydd a'i gofidiodd hi; am amlder ei chamweddau,Jer 52.28. ei phlant a aethant i gaethiwed o flaen y gelyn.

6 A holl harddwch merch Sion a ymada­wodd â hi; y mae ei thywysogion hi fel hy­ddod heb gael porfa, ac yn myned yn ddinerth o flaen yr ymlidiwr.

7 Y mae Jerusalem, yn nyddiau ei blinder a'i chaledi, yn cofio ei hollNeu, bethau dymunol. hyfrydwch, oedd iddi yn y dyddiau gynt, pan syrthiodd ei phobl hi yn llaw yr gelyn, heb neb yn ei chynnorth­wyo hi: y gelynion a'i gwelsant hi, ac a chwar­ddasant am ben ei Sabbothau.

8 Jerusalem a bechodd bechod, am hynnyHeb. yr aeth yn sym­mudiad, neu, yn grwydr. y symmudwyd hi; yr holl rai a'i hanrhyde­ddent, sy yn ei diystyru hi, o herwydd iddynt weled ei noethni hi: îe y mae hi yn vchene­idio, ac yn troi yn ei hôl.

9 Ei haflendid sydd yn ei godreu, nid yw hi yn meddwl am ei diwedd, am hynny y syr­thiodd hi yn rhyfedd, heb neb yn ei chyssuro. Edrych Arglwydd ar fy mlinder, canys ym­fawrygodd y gelyn.

10 Y gwrthwyneb-ŵr a estynnodd ei law ar ei hollNeu, ddymunol, neu, hy­fryd. hoff-bethau hi: hi a welodd y cen­hedloedd yn dyfod i mewn iw chyssegr, i'r rhai yDeut. 23.3. gorchymynnasit ti, na ddelent i'th gynnulleidfa.

11 Y mae ei holl bobl hi yn vcheneidio, yn ceisio bwyd: hwy a roddasant eu hoff bethau am fwyd iHeb. ddychwe­lyd. ddadebru yr enaid; edrych Arglwydd a gwêl, canys dirmygus ydwyfi.

12Neu, Nid gwaeth. Onid gwaeth gennych chwiHeb. y rhai a dramwy­wch y ffordd. y ffor­ddolion oll? gwelwch ac edrychwch a oes y fâth ofid a'm gofid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi? â'r hwn y gofidiodd yr Arglwydd fi, yn nydd angerdd ei ddigter.

13 O'r vchelder yr anfonodd efe dân i'm hescyrn i, yr hwn a aeth yn drech nâ hwynt: efe a ledodd rwyd o flaen fy nhraed, ac a'm dychwelodd yn fy ôl, efe a'm gwnaeth yn an­rheithiedic, ac yn ofidus ar hyd y dydd.

14 Rhwymwyd iau fy nghamweddau â'i law ef, hwy a blethwyd, ac a ddaethant i fynu am fy ngwddf: efe a wnaeth i'm nerth syrthio, yr Arglwydd a'm rhoddodd mewn dwylo, oddi tan y rhai ni allaf gyfodi.

15 Yr Arglwydd a sathrodd fy holl rai grymmus o'm mewn; efe a gyhoeddodd i'm herbyn gymmanfa, i ddifetha fy ngwŷr ieuaingc:Neu, sathrodd yr Arg. winwryf y forwyn. fel gwin-wryf y sathrodd yr Arglwydd y forwyn, merch Juda.

16 Am hyn yr ydwyf yn ŵylo,Jer. 13.17. & 14.17. pen. 2.18. y mae fy llygad, fy llygad yn rhedeg gan ddwfr, o herwydd pellhau oddi wrthif ddiddanwr aHeb. ddych­welai. ddadebrei fy enaid: fy meibion sydd anrhai­thiedic, am i'r gelyn orchfygu.

17 Sion a ledodd ei dwylo, heb neb yn ei diddanu: yr Arglwydd a orchymynnodd am Jacob, fod ei elynion yn ei gylch; Jerusalem sydd fel gwraig fisglwyfus yn eu mysc hwynt.

18Dan. 9.7. Cyfiawn yw 'r Arglwydd, o blegit myfi a fûm anufydd iwNeu, orchym­myn. Heb. enau. air ef; gwrandewch atolwg bobloedd oll, a gwelwch fy ngofid: fy morwynion, a'm gwŷr ieuaingc, a aethant i gaethiwed.

19 Gelwais am fy nghariadau, a hwy a'm twyllasant, fy offeiriaid a'm henaf-gwŷr a drengasant yn y ddinas; tra oeddynt yn ceisio iddynt fwyd i ddadebru eu henaid.

20 Gwêl ô Arglwydd, canys y mae yn gy­fyng arnaf, fyEsa. 16.11. Jer. 48.30. ymyscaroedd a gyffroesant, fy nghalon a drôdd ynof, o herwydd fy mod yn rhy anufydd: y mae y cleddyf yn difetha oddi allan, megis marwolaeth sy gartref.

21 Clywsant fy mod i yn vcheneidio, nid oes a'm diddano: fy holl elynion, pan glyw­sant fy nryg-fyd, a lawenychasant am i ti wneuthur hynny; ond ti a ddygi i ben y dydd a gyhoeddaist, a hwy a fyddant fel finneu.

22 Deued eu holl ddrygioni hwynt o'th flaen di; a gwna iddynt hwy fel y gwnaethost i minneu, am fy holl gamweddau: o blegid y mae fy ycheneidiau yn aml, a'm calon yn ofi­dus.

PEN. II.

1 Jeremi yn galaru am ofid Jerusalem: 20 Ac yn cwyno wrth Dduw faint oedd.

PA fodd y dug yr Arglwydd gwmmwl ar ferch Sion, yn ei sorriant; y bwriodd deg­wch Israel i lawr o'r nefoedd, ac na chofiodd leithic ei draed yn nydd ei ddigofaint?

2 Yr Arglwydd a lyngcodd heb arbed, holl anneddau Jacob; efe a ddifrododd yn ei ddig­ter amddeffynfeydd merch Juda; efeHeb. a wnaeth iddynt gyffwrdd a'r llawr. a i tyn­nodd hwynt i lawr, ac a ddifwynodd y deyrnas, a'i thywysogion.

3 Mewn soriant digllon y torrodd efe holl gorn Israel; efe a dynnodd ei ddeheulaw yn ei hôl oddi wrth y gelyn: ac yn erbyn Jacob y cynneuodd megis fflam danllyd, yr hon a ddifa o amgylch.

4 Efe a annelodd ei fwa fel gelyn, safodd a'i ddeheu-law fel gwrth-wyneb-wr, ac a laddodd bob dim hyfryd i'r golwg, ym mhabell merch Sion; fel tân y tywalltodd efe ei ddigo­faint.

5 Yr Arglwydd sydd megis gelyn, efe a lyngcodd Israel, efe a lyngcodd ei holl balasau hi; efe a ddifwynodd ei hamddeffynfeydd, ac a wnaeth gwynfan a galar yn aml, ym merch Juda.

6Psal. 80.12. & 89.40. Esa. 5.5. Efe a anrheithioddNeu, ei gae. ei babell fel gardd, efe a ddinistriodd leoedd ei gymanfa: yr Ar­glwydd a wnaeth anghofio yn Sion yr vchel-ŵyl a'r Sabboth, ac yn llidiawgrwydd ei soriant, y dirmygodd efe y brenin a'r off­eiriad.

7 Yr Arglwydd a wrthododd ei allor; a ffieiddiodd ei gyssegr;Heb. caeodd. rhoddodd gaerau ei phalasau hi yn llaw y gelyn: rhoddasant flo­edd yn nhŷ yr Arglwydd, megis ar ddydd vchel-wyl.

8 Yr Arglwydd a fwriadodd ddifwyno mûr merch Sion; efe a estynnodd linyn, ac nid attaliodd ei law rhagHeb. llyngcu. difetha: am hynny y gwnaeth efe i'r rhacfur, ac i'r mûr, alaru, cyd­lescasant.

9 Ei phyrth a soddasant i'r ddaiar; efe a ddifethodd, ac a ddrylliodd ei barrau hi; ei brenin a'i thywysogion ydynt ym mysc y cen­hedloedd; heb gyfraith y mae,Psal. 74.9. a'i phroph­wydi heb gael gweledigaeth gan yr Arg­lwydd.

10 Henuriaid merch Sion a eisteddant ar lawr, a dawant â son, gosodasant lwch ar eu pennau, ymwregysasant â sachliain: gwyryfon Jerusalem a ostyngasant eu pennau i lawr.

11 Fy llygaid sy yn pallu gan ddagrau, fy ymyscaroedd a gyffroesant, fy afu a dywallt­wyd ar y ddaiar; o herwydd dinistr merch fy mhobl, pan lewygodd y plant, a'r rhai yn sug­no, yn heolydd y ddinas.

12 Hwy a ddywedant wrth eu mammau, pa le y mae ŷd a gwîn? pan lewygent fel yr archolledic yn heolydd y ddinas; pan dywall­tent eu heneidiau ym mynwes eu mammau.

13 Pa beth a gymmeraf yn ddŷst i ti? beth a gyffelybaf i ti, o ferch Jerusalem? beth a gy­stadlaf â thi, fel i'th ddiddanwyf, ô forwyn, [Page] merch Sion? canys y mae dy ddinistr yn fawr, fel y môr, pwy a'th iachâ di?

14Jere. 2.8. & 5.31. & 14.14. & 23.16. Dy brophwydi a welsant i ti gel­wydd a diflasrwydd, ac ni ddadcuddiasant dy anwiredd, i droi ymaith dy gaethiwed: eithr hwy a welsant i ti feichiau celwyddog, ac achosion deol.

15 Y rhai oll a dramwyent y ffordd, a gurent eu dwylo arnat ti, chwibanent, ac es­cydwent eu pennau ar ferch Jerusalem, gan ddywedyd; ai dymma y ddinas a alwent ynPsal. 48.2. berffeithrwydd tegwch, yn llawenydd yr holl ddaiar?

16 Dy holl elynion a ledasant eu safnau ar­nat ti, a chwibanasant, ac a escyrnygasant ddan­nedd, ac a ddywedasant; llyngcasom hi; yn ddiau dymma y dydd a ddisgwiliasom ni, ni a'i cawsom, ni a'i gwelsom.

17 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn aLevit. 26.16. Deut. 28.15. ddy­chymygodd, ac a gyfiawnodd ei air, yr hwn a orchymynnodd efe er y dyddiau gynt; efe a ddifrododd, ac nid arbedodd; efe a wnaeth i'r gelyn lawenychu yn dy erbyn di, efe a dderchafodd gorn dy wrthwyneb-wŷr di.

18 Eu calon hwynt a waeddodd ar yr Ar­glwydd, ô fûr merch Sion, tywalltJer. 14.17. Pen. 1.16. ddagrau ddydd a nôs, fel afon: na orphywys, ac na pheidied canwyll dy lygad.

19 Cyfod, cyhoedda liw nôs, yn nechreu y wiliadwriaeth, tywallt dy galon fel dwfr, ger bron yr Arglwydd; derchafa dy ddwylo atto ef, am enioes dy blant, y rhai sydd yn llewygu o newyn, ym mhen pob heol.

20 Edrych Arglwydd, a gwêl i bwy y gwnaethost fel hyn: a fwyty y gwragedd eu ffrwyth eu hun, plantNeu, a drinir a duylo. o rychwant o hyd? a leddir yr offeiriad a'r Prophwyd ynghyssegr yr Arglwydd?

21 Ieuangc a hên sydd yn gorwedd ar lawr yn yr heolydd: fy morwynion, a'm gwŷr ieuaingc a syrthiasant drwy yr cleddyf: ti a'i lleddaist hwynt yn nydd dy soriant, lleddaist hwy heb arbed.

22 Gelwaist megis ar ddydd vchel-wyl, fy nychryn o amgylch, fel na ddiangodd, ac na adawyd neb yn nydd soriant yr Arglwydd: y gelyn a ddifethodd y rhai a faethais, ac a fegais i.

PEN. III.

1 Y ffyddloniaid yn cwynfan am eu gofidiau: 22 A thrwy drugareddau Duw, yn cadarnhau eu gobaith. 37 Yn cydnabod cyfiawnder Duw: 55 Yn gweddio am ymwared iddynt eu hunain, 64 a dial ar eu gelynion.

MYfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialên ei ddigofaint ef.

2 I dywyllwch, ac nid i oleuni yr arwei­niodd, ac y tywysodd efe fi.

3 Yn fy erbyn i yn ddiau y trôdd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hŷd y dydd.

4 Efe a wnaeth fy nghnawd a'm croen yn hên, efe a ddrylliodd fy escyrn.

5 Efe a adeiladodd i'm herbyn, ac a'm ham­gylchodd â bustl, ac â blinder.

6 Efe a'm gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm.

7 Efe a gaeodd o'm hamgylch, fel nad el­wyf allan: efe a wnaeth fy llyffetheir i yn drom.

8 Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi.

9 Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nâdd, efe a wŷrodd fy llwybrau.

10 Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau.

11 Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a'm drylliodd, yn anrhaithiedic y gwnaeth fi.

12 Efe a ennylodd ei fŵa, ac a'm gosododd fel nôd i saeth.

13 Efe a wnaeth iHeb. feibion. saethau ei gawell fyned i'm arennau.

14Jer. 20.7. Gwatworgerdd oeddwn i'm holl bobl, a'i cân ar hŷd y dydd.

15 Efe a'm llanwodd â chwerwder, efe a'm meddwodd i â'r wermod.

16 Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a'm trybaeddodd yn y llŵch.

17 A phelleaist fy enaid oddiwrth heddwch, anghofiais ddaioni.

18 Ac mi a ddywedais, darfu am fy nerth a'm gobaith, oddi wrth yr Arglwydd.

19Neu, Wrth gofio. Cofia fy mlinder a'm gofid, y wermod, a'r bustl.

20 Fy enaid gan gofio a gofia, ac aNeu, grym­mwyd. ddarost­yngwyd ynofi.

21 Hyn yr ydwyf yn eiHeb. ddychwe­lyd at fy nghalon. atcofio, am hyn­ny y gobeithiaf.

22 Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu am danom ni: o herwydd ni phalla ei dostu­riaethau ef.

23 Bob boreu y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb.

24Psal. 16.5. & 73.26. & 119.57. Jer. 10.16. Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo.

25 Daionus yw yr Arglwydd i'r rhai a ddisgwiliant wrtho; ac i'r enaid a'i ceisio.

26 Da yw gobeithio, a disgwil yn ddistaw am iechydwriaeth yr Arglwydd.

27 Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuengtid.

28 Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno.

29 Efe a ddyry ei enau yn y llwch, i edrych a oes obaith.

30 Efe a ddyry ei gern i'r hwn a'i tarawo, efe a lenwir â gwradwydd.

31 O blegit nid yn dragywydd y gwrthyd yr Arglwydd:

32 Ond er iddo gystuddio, etto efe a dostu­ria, yn ôl amlder ei drugareddau.

33 Canys nid o'iHeb. galon. fôdd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion,

34 I fathru holl garcharorion y ddaiar tan ei draed,

35 I ŵyro barn gŵr, o flaen wyneb y Gor­uchaf.

36 Nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fatter.

37Psal. 33.9. Pwy a ddywed y bydd dim heb i'r Arglwydd ei orchymmyn?

38Amos. 3.6. Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da?

39 Pa ham yNeu, cwyna. grwgnach dŷn byw; gŵr am gospedigaeth ei bechod?

40 Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dych­welwn at yr Arglwydd.

41 Derchafwn ein calonnau a'n dwylo, ac Dduw yn y nefoedd.

42 Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufydd, titheu nid arbedaist.

43 Gorchguddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist.

44 Ti a'th guddiaist dy hun â chwmwl, fel na ddeuei ein gweddi trwodd.

45 Ti a'n gwnaethost yn1 Cor. 4.13. sorod, ac yn ys­cubion, ynghanol y bobl.

46 Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn.

47Esay. 24.17. Dychryn, a magl, a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr.

48 Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, o herwydd dinistr merch fy mhobl.

49 Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorphywystra:

50 Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr Ar­glwydd o'r nefoedd.

51 Y mae fy llygad yn blino fy emid,Neu, yn fwy na. o herwydd holl ferched fy ninas.

52 Fy ngelynion gan hela a'm heliasant yn ddiachos, fel aderyn.

53 Torrasant ymaith fy enioes yn y pwll; a bwriasant gerrig arnaf.

54 Y dyfroedd a lifasant tros fy mhen, dy­wedais, torrwyd fi ymaith.

55 Gelwais ar dy enw di, ô Arglwydd, o'r pwll isaf.

56 Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhac fy vchenaid a'm gwaedd.

57 Ti a ddaethost yn nês y dydd y gelwais arnat, dywedaist, nac ofna.

58 Ti ô Arglwydd, a ddadleuaist gyd â'm henaid, gwaredaist fy enioes.

59 Ti ô Arglwydd a welaist fy ngham: barn di fy marn i.

60 Ti a welaist eu holl ddial hwynt, a'i holl amcanion i'm herbyn i.

61 Clywaist eu gwradwydd ô Arglwydd, a'i holl fwriadau i'm herbyn:

62 Gwefusau y rhai a godant i'm herbyn, a'i myfyrdod i'm herbyn, ar hŷd y dydd.

63 Edrych ar eu heisteddiad a'i cyfodiad, myfi yw eu cân hwynt.

64 Tâl y pwyth iddynt ô Arglwydd, yn ôl gweithred eu dwylo.

65 Dôd iddyntNeu, gyndyn­rwydd. ofid calon, dy felldith iddynt.

66 Erlid hwynt â digofaint, a difetha hwy oddi tanPsal. 8.3. nefoedd yr Arglwydd.

PEN. IIII.

1 Sion yn cwyno ei thostur gyflwr: 13 Yn cyffessu ei phechodau. 21 Bygythio Edom; 22 A chyssuro Sion.

PA fodd y tywyllodd yr aur? y newidiodd yr aur coeth da? taflwyd cerrig y Cyssegr ym mhen pob heol.

2 Gwerthfawr feibion Sion, a chystal ag aur pur; pa fodd y cyfrifwyd hwynt fel stenau pridd, gwaith dwylo y crochenydd?

3 Y dreigiau a dynnant allan eu bronnau, a roddant sugn iw cenawon; merch fy mhobl a aeth yn greulon,Job. 39.17. fel yr estrisiaid yn yr an­ialwch.

4 Tafod y plentyn sugno sydd yn glynu wrth daflod ei enau gan syched: y plant a ofynnant fara, ond nid oedd a dorrei iddynt.

5 Y rhai a ymborthent yn foethus a ddi­fethwyd yn yr heolydd: y rhai a feithrinwyd mewn scarlad a gofleidiant y tommennydd.

6 Canys mwy ywNeu, cospedi­gaeth. anwiredd merch fy mhobl nâCh [...]spe­gaeth. phechod Sodoma, yr hon aGen. 19.25. ddi­nistriwyd megis yn ddisymmwth, ni safodd llaw arni.

7 Purach oedd ei Nazareaid hi nâ'r eira, gwynnach oeddynt nâ'r llaeth: gwridogach oeddynt o gorph nâ'r cwrel, a'i trwssiad oedd o Saphyr.

8Heb. Tywyll­ach na du. Duach yw 'r golwg arnynt nâ'r gloun; nid adweinir hwynt yn yr heolydd: eu croen a lŷn wrth eu hescyrn, gwywodd, aeth yn de­byg i bren,

9 Gwell yw y rhai a laddwyd â chleddyf, nâ'r rhai a laddwyd â newyn: o blegit y rhai hyn aHeb. lifeiriant. ddihoenant, wedi eu trywanu o eisieu cnwd y maes.

102 Bren. 6.29. Deut. 28.57. Dwylo gwragedd tosturiol a ferwasant eu plant eu hun: eu hymborth oeddynt yn ninistr merch fy mhobl.

11 Yr Arglwydd a gyflawnodd ei ddigter, a dywalltodd lidiawgrwydd ei soriant, ac a gyn­neuodd dân yn Sion, yr hwn a ddifaodd ei seiliau hi.

12 Ni choeliasai brenhinoedd y ddaiar, na holl drigolion y bŷd, y deuei y gwrthwyneb-wr a'r gelyn i mewn i byrth Jerusalem,

13Jer. 5.31. & 23.21. Am bechodau ei phrophwydi, ac an­wiredd ei hoffeiriaid, y rhai a ollyngasant waed y rhai cyfiawn o'i mewn hi.

14 Gwibiasant fel deillion yn yr heolydd, ac ymddifwynasant gan waed,Neu, gan na's gallent na chy­ffyrddent a'i &c. fel na ellid cyffwrdd â'i dillad hwynt.

15 Gwaeddasant arnynt, ciliwch,Neu, o aflan. aflan yw, ciliwch, ciliwch, na chyffyrddwch: pan ffoesant, ac yr aethant ymmaith, dywedent ym mysc y cenhedloedd, ni thrigant hwy ymma mwyach.

16Heb. wyneb. Sorriant yr Arglwydd a'i gwascarodd hwynt, nid edrych efe arnynt mwy; ni phar­chent hwy yr offeiriaid, ni thosturient wrth yr henaf-gwŷr.

17 Ninnau hefyd, ein llygaid a ballasant am ein cynnorthwy ofer: gan ddisgwil disgwil yr oeddem ni wrth genhedlaeth ni allei ein hachub.

18 Hwy a olrheiniant ein cerddediad, fel na allwn fyned ar hŷd ein heolydd; y mae ein diwedd ni yn agos; ein dyddiau ni a gyflawn­wyd, canys daeth ein diwedd ni.

19 Buanach yw ein erlid-wŷr nag eryrod yr awyr, y maent yn ein herlid ni ar y my­nyddoedd, yn ein cynllwyn yn yr anialwch.

20Gen. 2.7. Anadl ein ffroenau, eneiniog yr Ar­glwydd, a ddaliwyd yn euffosydd. rhwydau hwynt: am yr hwn y dywedasem, tan ei gyscod ef y byddwn ni byw ym mysc y cenhedloedd.

21 Bydd lawen a hyfryd, merch Edom, yr hon wyt yn trigo yn nhir Huz: daw y cwppan attat titheu hefyd, ti a feddwi ac a ymnoethi.

22 Gorphennwyd dyNeu, anwiredd. gospedigaeth di, merch Sion, ni chaeth-gluda ef di mwy: efe a ymwel â'th anwiredd di, merch Edom,N [...]u, a'th ga­ethgluda am dy bechodau. efe a ddadcuddia dy bechodau.

PEN. V.

Tostur gwynfan Sion mewn gweddi at Dduw.

COfia ô Arglwydd, beth a ddaeth i ni: ed­rych a gwêl ein gwradwydd.

2 Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid; a'n tai i ddieithriaid.

3 Ymddifaid ydym heb dadau; ein mam­mau sydd megis gweddwon.

4 Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sy yn dyfod am werth.

5Heb. Ar ein gwarrau i'n her­lidir. Ein gwarrau sydd tan erlid: llafurio yr ydym, nid oes gorphywystra i ni.

6 Rhoesom ein llaw i'r Aiphtiaid, i'r Assy­riaid, i gael digon o fara.

7Jer. 31.29. Ezec. 18.2. Ein tadau a bechasant, ac nid ydynt: ninnau sy yn dwyn euAnwi­reddau. cosp hwynt.

8 Gweision sy yn llywodraethu arnom ni, heb fod a'n gwaredo o'i llaw hwynt.

9 Mewn enbydrwydd am ein henioes y dy­gasom ein bara i mewn, o herwydd cleddyf yr anialwch.

10Psal. 119.83. Ein croen a dduodd fel ffwrn,Neu, gan ddy­chrynia­dau, neu, dymhest­loedd y newyn. gan y newyn tôst.

11 Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Sion: a'r morwynion yn ninasoedd Juda.

12 Crogasant dywysogion â'i dwylo; ni pherchid wynebau yr henaf-gwyr.

13 Hwy a gymmerasant y gwŷr ieuaingc i falu; a'r plant a syrthiasant tan y coed.

14 Yr henaf-gwŷr a beidiasant â'r porth: y gwŷr ieuaingc â'i cerdd.

15 Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drôdd yn alar.

16 SyrthioddHeb. coron eln. y goron oddi am ein pen: gwae ni yn awr bechu o honom.

17 Am hyn y mae ein calon yn ofidus, am hyn y tywyllodd ein llygaid,

18 O herwydd mynydd Sion, yr hwn a anrheithiwyd; y mae 'r llwynogod yn rhodio ynddo.

19Psal. 9.7. & 29.10. & 102.12. & 145.13. Ti Arglwydd a barhei byth: dy or­sedd-faingc yn oes oesoedd.

20 Pa ham yr anghofi ni byth; ac y ga­dewi ni dros hîr ddyddiau?

21Jer. 31.18. Dychwel ni ô Arglwydd, attat ti, ac ni a ddychwelir; adnewydda ein dyddiau megis cynt.

22Canys a lwyr wrthodi di nyni? Eithr ti a'n llwyr wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.

¶LLYFR Y PROPHWYD EZECIEL.

PENNOD I.

1 Yr amser y Prophwydodd Ezeciel yn Chebar. 4 Gweledigaeth y pedwar Cherub, 15 Y pedair olwyn; 26 A gogoniant Duw.

A Darfu yn y ddecfed flwyddyn ar hugain, yn y pedwerydd mîs, ar y pummed dydd o'r mîs, (a mi ym myscy rhai a gaeth­gludasid. y gaeth-glud wrth afon Che­bar,) agoryd y nefoedd; a gwelwn weledi­gaethau Duw.

2 Yn y pummed dydd o'r mîs, (honno oedd y bummed flwyddyn o gaeth-gludiad brenin Jehoiacin)

3 Y daeth gair yr Arglwydd yn eglur atHeb. Jehezcel. Ezeciel yr offeiriad mab Buzi, yn nhîr y Cal­deaid, wrth afon Chebar,Pen. 3.22. ac yno y bu llaw 'r Arglwydd arno ef.

4 Yna 'r edrychais, ac wele yn dyfod o'r gogledd gorwynt, a chwmwl mawr, a thân yn ymgymmeryd, a discleirdeb o amgylch iddo; ac o'i ganol, sef o ganol y tân fel lliw ambr.

5 Hefyd o'i ganol y daeth cyffelybrwydd i bedwar peth byw, ac dymma eu hagwedd hwynt; dull dŷn oedd iddynt.

6 A phedwar wyneb i bôb vn, a phedair aden i bob vn o honynt.

7 A'i traed ynHeb. droed. draed vniawn, a gwadn eu traed, fel gwadn troed llô; a gwreichioni yr oeddynt, fel lliw efydd gloyw.

8 Ac yr oedd dwylo dŷn oddi tan eu hade­nydd, ar eu pedwar ystlys; eu hwynebau he­fyd, a'i hadenydd oedd ganddynt ill pedwar.

9 Eu hadenydd hwynt oedd wedi eu cyssylltu y naill wrth y llall: pan gerddent ni throent; aent bob vn yn vnion rhag ei wyneb.

10 Dymma ddull eu hwynebau hwynt, wyneb dŷn, ac wyneb llew, oedd ar y tu de­hau iddynt ill pedwar: ac wyneb ŷch o'r tu asswy iddynt ill pedwar, ac wyneb eryr iddynt ill pedwar.

11 Dymma eu hwynebau hwynt: a'i ha­denydd oedd wedi euNeu, lledu. dosparthu oddi arnodd, dwy i bob vn wedi eu cyssylltu â'i gilydd, a dwy oedd yn cuddio eu cyrph.

12 Aent hefyd bob vn yn vniawn rhag ei wyneb, i'r lle y byddei 'r yspryd ar fyned, yno yr aent: ni throent pan gerddent.

13 Dymma ddull y pethau byw: eu gwe­lediad oedd fel marwor tân yn llosci, ac fel gwelediad ffaglau: yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw, a disclair oedd y tân, a mellt yn dyfod allan o'r tân.

14 Rhedai hefyd a dychwelei 'r pethau byw, fel gwelediad mellden.

15 Edrychais hefyd ar y pethau byw: ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw, vn olwyn gyd â'i bedwar wyneb.

16 Dull yr olwynion, a'i gwaith oedd fel lliw Beril: a'r vn dull oedd iddynt ill pedair, a'i gwedd hwynt, a'i gwaith, fel pe byddei olwyn ynghanol olwyn.

17 Pan elent, aent ar eu pedwar ochr: ni throent pan gerddent.

18 Eu cantau hefyd oedd gyfuwch ac yr oeddynt yn ofnadwy: a'i cantau oedd yn llawn llygaid oddi amgylch ill pedwar.

19 A phan gerddei 'r pethau byw, yr ol­wynion a gerddent wrthynt, a phan ymgodei 'r pethau byw oddi ar y ddaiar, yr ymgodei 'r olwynion.

20 I'r lle y byddei 'r yspryd i fyned, yr aent, yno 'r oedd eu hyspryd ar fyned: a'r ol­wynion a ymgodent ar eu cyfer hwynt, canys ysprydNeu, bywyd. y peth byw oedd yn yr olwynion.

21 Cerddent pan gerddent hwythau, a sa­fent pan safent hwythau; a phan ymgodent hwy oddi ar y ddaiar, yr olwynion a ymgo­dent ar eu cyfer hwythau: canys ysprydNeu, bywyd. y peth byw oedd yn yr olwynion.

22 Ac yr oedd ar bennau 'r pethau byw ddull y ffurfafen, fel lliw Grissial ofnadwy, wedi ei hestyn tros eu pennau hwynt oddi arnodd.

23 A than y ffurfasen yr oedd eu hadenydd hwynt, yn vniawn y naill tuag at y llall: dwy i bob vn, yn eu cuddio o'r naill du, a dwy i bob vn yn cuddio eu cyrph, o'r tu arall.

24 Ac mi a glywn sŵn eu hadenydd hwynt, fel sŵn dyfroedd lawer, fel sŵn yr Holl-alluoc, pan gerddent: sŵn lleferydd, fel sŵn llû: pan safent, llaesent eu hadenydd.

25 Ac yr oedd llais oddi ar y ffurfafen, yr hon oedd ar eu pennau hwynt; pan safent ac y llaesent eu hadenydd.

26 Ac oddi ar y ffurfafen, yr hon oedd ar eu pennau hwynt, yr oedd cyffelybrwydd gorsedd-faingc, fel gwelediad maen Saphir, ac ar gyffe­lybrwydd yr orsedd-faingc yr oedd oddiarnodd arno ef, gyffelybrwydd megis gwelediad dŷn.

27 Gwelais hefyd megis lliw Ambr, fel gwelediad tân o'i fewn o amgylch, o welediad ei lwyni ac vchod, ac o welediad ei lwyni ac issod, y gwelais megis gwelediad tân, a dis­cleirdeb iddo oddi amgylch.

28 Fel gwelediad y bŵa a fydd yn y cwmwl ar ddydd glawoc, fel hyn yr oedd gwelediad y discleirdeb o amgylch: dymma welediad cyffe­lybrwydd gogoniant yr Arglwydd: a phan we­lais, [Page] syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais vn yn llefaru.

PEN. II.

1 Awdurdod Ezeciel; 6 A'i addysc. 9 Plyg llyfr ei orthrwm brophwydoliaeth ef.

AC efe a ddywedodd wrthif, mab dyn, saf ar dy draed, ac mi a lefaraf wrthit.

2 A'r yspryd aeth ynof, pan lefarodd efe wrthif, ac a'm gosododd ar fy nhraed, fel y clywais yr hwn a lefarodd wrthif.

3 Ac efe a ddywedodd wrthif, mâb dŷn, yr ydwyfi yn dy ddanfon di at feibion Israel, atHeb. genhed­loedd. genhedl wrthryfelgar, y rhai a wrthryfela­sant i'm herbyn; hwynt hwy a'i tadau a dro­seddasant i'm herbyn, hyd gorph y dydd hwn.

4 Meibion wyneb-galed hefyd, a chadarn galon yr wyfi yn dy ddanfon attynt: dywed titheu wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw.

5 A pha vn bynnac a wnelont ai gwrando ai peidio, (canys tŷ gwrthryfelgar ydynt,) etto cânt wybod fod prophwyd yn eu mysc hwynt.

6 Titheu fab dŷn,Jere. 1.17. nac ofna rhagddynt, ac na arswydda er eu geiriau hwynt, er bôd Neu, mieri. gwrthryfel-wŷr a drain gyd â thi, a thitheu yn trigo ym mysc scorpionau: nac ofna rhag eu geiriau hwynt, ac na ddychryna gan eu hwynebau hwynt, er mai tŷHeb. gwrth­ryfel. gwrthryfelgar ydynt.

7 Etto llefara di fy ngeiriau wrthynt, pa vn bynnac a wnelont ai gwrando ai peidio, canysHeb. gwrth­ryfel. gwrthryfelgar ydynt.

8 Titheu fab dŷn, gwrando 'r hyn yr yd­ŵyf fi yn ei lefaru wrthit, na fydd di wrthry­felgar fel y tŷ gwrthryfelgar hwn: llêda dy safn, aDatc. 10.9. bwytta 'r hyn yr ydwyfi yn ei roddi i ti.

9 Yna 'r edrychais, ac wele law wedi ei han­fon attaf, ac wele ynddi blŷg llyfr.

10 Ac efe a'i dadblygodd o'm blaen i, ac yr oedd efe wedi ei scrifennu, ŵyneb a chefn, ac yr oedd wedi scrifennu arno, galar, a griddfan, a gwae.

PEN. III.

1 Ezeciel yn bwytta 'r plŷg llyfr: 4 A Duw yn ei nerthu ef: 15 Ac yn dangos iddo reol prophwydoliaeth: 22 Ac yn cau ac yn egori genau y prophwyd.

AC efe a ddywedodd wrthif, mab dŷn bwyt­ta 'r hyn a geffych,Jere. 15.16. Datc. 10.10. bwytta y llyfr hwn, a dôs, a llefara wrth dŷ Israel.

2 Yna mi a agorais fy safn, ac efe a wnaeth i mi fwytta y llyfr hwnnw.

3 Dywedodd hefyd wrthif, bwyda dy fol, a llanw dy berfedd, fab dŷn, â'r llyfr hwn yr ydwyfi yn ei roddi attat: yna yDatc. 10 9. Pen. 2.8. bwytteais, ac yr oedd efe yn fy safn fel mêl o felysder.

4 Ac efe a ddywedodd wrthif, mab dŷn cerdda, dôs at dŷ Israel, a llefara â'm geiriau wrthynt.

5 Canys nid at boblHeb. ddwfn o wefusau, a thrwm o dafod. f [...]lly vers. 6. o iaith ddieithr, ac o dafod-iaith galed i'th anfonir di, onid at dŷ Israel.

6 Nid at bobloedd lawer o iaith ddieithr, ac o dafod-iaith galed, y rhai ni ddeelli eu hymad­roddion:Neu, diau y gwrand. &c. pe i'th anfo­nas. &c. oni wrandawsei y rhai hynny ar­nat, pe i'th anfonaswn attynt?

7 Etto tŷ Israel ni fynnant wrando arnat ti, canys ni fynnant wrando arnaf fi: o blegit tal-gryfion, a chaled galon ydynt hwy, holl dŷ Israel.

8 Wele, gwnaethum dy wyneb yn grŷf yn erbyn eu hwynebau hwynt, a'th dal yn grŷf yn erbyn eu talcennau hwynt.

9 Gwnaethum dy dalcen fel adamant, yn galedach nâ'r gallestr;Jere. 1.8. nac ofna hwynt, ac na ddychryna rhag eu hwynebau, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt.

10 Dywedodd hefyd wrthif, hâ fâb dŷn, derbyn â'th galon, a chlyw â'th glustiau, fy holl eiriau a lefarwyf wrthit.

11 Cerdda hefyd, a dôs at y gaeth-glud, at feibion dy bobl, a llefara hefyd wrthynt, a dywed wrthynt; fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, pa vn bynnac a wnelont ai gwrando ai peidio.

12 Yna yr Yspryd a'm cymerodd, a chlywn sŵn cynnwrf mawr o'm hôl, yn dywedyd, Ben­digedic fyddo gogoniant yr Arglwydd o'i lê:

13 A sŵn adenydd y pethau byw oedd ynHeb. cussanu ei gil [...]dd. cyffwrdd â'i gilydd, a sŵn yr olwynion ar eu cyfer hwynt; a sŵn cynnwrf mawr.

14 A'r yspryd a'm cyfododd, ac a'm cym­merodd ymaith, a mi a aethym yn chwerw yn angerdd fy yspryd, ond llaw 'r Arglwydd oedd grêf arnaf.

15 Ac mi a ddeuthym i Telabib, at y gaeth­glud oedd yn aros wrth afon Chebar, ac mi a eisteddais lle 'r oeddynt hwytheu yn eistedd, ie eisteddais yno saith niwrnod yn synn yn eu plith hwynt.

16 Ac ym mhen y saith niwrnod, y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd,

17 Mab dyn, mi a'th wneuthym di ynPen. 33.7. wi­liedydd i dŷ Israel: am hynny gwrando 'r gair o'm genau, a rhybuddia hwynt oddi wrthifi.

18 Pan ddywedwyf wrth y drygionus, gan farw y byddi farw, oni rybuddi ef, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddryg­ffordd, fel y byddo byw; y drygionus hwn a fydd marw yn ei anwiredd, ond ei waed ef a ofynnafi ar dy law di.

19 Ond os rhybuddi y drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni, na'i ffordd ddrygionus, efe a fydd marw yn ei ddrygioni, onid ti a achubaist dy enaid.

20Pen. 18.24. Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth eiHeb. gyfiawn­derau. gyfiawnder, a gwneuthur canwedd, a rhoddi o honof dramgwydd o'i faen ef; efe fydd marw, am na rybuddiaistef, am ei bechod y bydd efe marw, a'i gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe, ni chofir: o [...]d ei waed ef a ofynnaf ar dy law di.

21 Ond os tydi a rybuddi y cyfiawn, rhag pechu o'r cyfiawn, ac na phecho efe, gan fyw y bydd efe byw, am ei rybuddio: a thithau a achubaist dy enaid.

22 Ac yno y bu llaw 'r Arglwydd arnaf, ac efe a ddywedodd wrthif, cyfod, dôs i'r gwastadedd, ac yno y llefaraf wrthit.

23 Yna y cyfodais, ac yr euthym i'r gwas­tadedd, ac wele ogoniant yr Arglwydd yn sefyll yno, fel y gogoniant a welswnPen. 1.3. wrth afon Chebar; ac mi a syrthiais ar fy wyneb.

24 Yna ydd aeth yr yspryd ynof, ac a'm go­sododd ar fy nhraed, ac a ymddiddanodd â mi, ac a ddywedodd wrthif, dôs, a chae arnat o fewn dy dŷ.

25 Titheu fab dŷn, wele, hwy a roddant rwymau arnat, ac a'th rwymant â hwynt, ac na ddôs allan yn eu plith.

26 A mi a wnaf i'th dafod lynu wrth daflod dy enau, a thi a wneir yn fûd, ac ni byddi iddynt yn geryddwr: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt.

27 Ond pan lefarwyf wrthit yr agoraf dy safn, a dywedi wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, yr hwn a wrandawo, gwran­dawed;Datc. 22.11. a'r hwn a beidio, peidied: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt.

PEN. IIII.

1 Tan rith a chyscod amgylchynu 'r ddinas, y mae yn dangos yr amser o wrthryfel Jeroboam hyd y caethiwed: 9 A thrwy ddarparu llu­niaeth mewn gwarchae, yn dangos dosted fy­ddai 'r newyn.

TItheu fab dŷn cymmer it bridd-lech, a dôd hi o'th flaen, a llunia arni ddinas Jeru­salem.

2 A gwarchae yn eu herbyn hi, ac adeilada wrthiNeu, bennae­ [...]hiaid. warchglawdd, a bwrw o'i hamgylch hi wrthglawdd? dôd hefyd werssylloedd wrthi, a gosot offer rhyfel yn ei herbyn o amgylch.

3 Cymmer it hefyd badellNeu, radell haiarn, a dôd hi yn fûr haiarn rhyngot a'r ddinas, a chyfei­ria dy wyneb atti, a bydd mewn gwarchedi­gaeth, a gwarchae di arni: arwydd fydd hyn i dŷ Israel.

4 Gorwedd hefyd ar dy ystlys asswy, a go­sod anwiredd tŷ Israel arno; wrth rifedi y dyddiau y gorweddych arno, y dygi eu han­wiredd hwynt.

5 Canys rhoddais arnati flynyddoedd eu hanwiredd hwynt, wrth rifedi y dyddiau, try­chan nhiwrnod a dôc a phedwar vgain:Num. 14.34. felly y dygi anwiredd tŷ Israel.

6 A phan orphennych y rhai hynny, gor­wedd eilwaith ar dy ystlys dehau, a thi a ddy­gi anwiredd tŷ Juda ddeugain nhiwrnod:Heb. alwrnod am flwy­ddyn, di­wrnod am flwyddyn. pob diwrnod am flwyddyn a roddais i ti.

7 A chyfeirin dy wyneb at warchaedigaeth Jerusalem, a'th fraich yn noeth: a thi a bro­phwydi yn ei herbyn hi.

8 Wele hefyd rhoddais rwymau arnat, fel na throechHeb. o'th yst­lys i'th ystlys. o ystlys i ystlys; nes gorphen o honot ddyddiau dy warchaedigaeth.

9 Cymmer it hefyd wenith, a haidd, a ffa, a ffacbys, a milet, a chor-bys, a dôd hwynt mewn vn llestr, a gwna hwynt i ti yn fara, tros [...]ifedi y dyddiau y gorweddych ar dy ystlys, try-chan nhiwrnod, a dêc a phedwar vgain, y bwyttei ef.

10 A'th fwyd a fwyttei, a fydd wrth bwys, vgain sicl yn y dydd: o amser i amser y bwyt­tei ef.

11 Y dwfr hefyd a yfi wrth fesur; chweched ran Exod. 29.40. Hin a vfi, o amser i amser.

12 Ac fel teisen haidd y bwyttei ef, ti a'i cresi hi hefyd wrth dail tom dŷn, yn eu gŵydd hwynt.

13 A dywedodd yr Arglwydd, felly y bwytty meibion Israel eu bara halogedic, ym mysc y cenhedloedd, y rhai y gyrraf hwynt attynt.

14 Yna y dywedais, o Arglwydd Dduw, wele ni halogwyd fy enaid, ac ni fwytteais fur­gin neu sclyfaeth, o'm hieuengctid hyd yr awrhon; ac ni ddaeth i'm safn gîg ffiaidd.

15 Yntef a ddywedodd wrthif, wele, mi a roddais it fisweil gwarthec yn lle tom dŷn, ac â hwynt y gwnei dy fara.

16 Dywedodd hefyd wrthif, mab dŷn, wele fi yn torriLevit. 26.26. Esay. 3.1. Pen. 5.16. & 14.13. ffon bara yn Jerusalem, fel y bwyt­tâont fara tan bwys, ac mewn gofal, ac yr yfont ddwfr dan fesur, ac mewn syndod.

17 Fel y byddo arnynt eisieu bara, a dwfr, ac y synnont, vn gyd ag arall; ac y darfyddont yn eu hanwiredd.

PEN. V.

1 Tan rith a chyscod y gwallt, 5 y mae yn dangos barnedigaeth Jerusalem am ei hanu­fydd-dod: 12 A hynny trwy newyn, a chlê­ddyf, a gwascarfa.

TItheu fab dŷn, cymmer it gyllell lem, cymmer it ellyn eillio,Heb. a gwna iddo dra­mwy ar dy ben &c. ac eillia dy ben a'th farf: yna y cymmeri it gloriannau pwys, ac y rhenni hwynt.

2 Traian a losci yn tân, ynghanol y ddinas, pan gyflawner dyddiau y gwarchae: traian a gymmeri hefyd, ac a'i tarewi â'r gyllell o'i am­gylch; a thraian a deni gyd â'r gwynt, ac mi a dynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.

3 Cymmer hefyd oddi yno ychydig o nifer, a chylymma hwynt yn dyHeb. escyll. odreu.

4 A chymmer eilwaith rai o honynt hwy, a thafl hwynt i ganol y tân, a llosc hwynt yn tân; o hono y daw allan dân i holl dŷ Israel.

5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Jerusalem yw hon, gosodais hi ym mysc y cenhedloedd, a'r tiroedd o'i hamgylch.

6 A hi a newidiodd fy marnedigaethau i ddrygioni, yn fwy nâ'r cenhedloedd, a'm dedd­fau yn fwy nâ'r gwledydd sydd o'i hamgylch: canys gwrthodasant fy marnedigaethau, a'm deddfau, ni rodiasant ynddynt.

7 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, am i chwi amlhau yn fwy nâ'r cen­hedloedd sydd o'ch amgylch, heb rodio o ho­noch yn fy neddfau, na gwneuthur fy marne­digaethau, ac na wnaethoch yn ol barnedi­gaethau y cenhedloedd sydd o'ch amgylch:

8 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, wele fi, ie myfi ydwyf yn dy erbyn, a gwnaf yn dy ganol di farnedigaethau, yngolwg y cenhedloedd.

9 A gwnaf ynot yr hyn ni wneuthum, ac nis gwnaf ei fâth mwy; am dy holl ffieidd-dra.

10 Am hynny y tadau aLevit. 26.29. Deut. 28.53. 2 Bren. 6.29. Galar. 4.10. Baruc. 2.3. fwyttant y plant yn dy fysc di, a'r plant a fwytty eu tadau: a gwnaf ynot farnedigaethau, ac mi a danaf dy holl weddill gyd â phob gwynt.

11 Am hynny fel mai byw fi, medd yr Ar­glwydd Dduw, yn ddiau am halogi o honot fy nghyssegr, â'th holl ffieidd-dra, ac â'th holl frynti: am hynny hefyd y prinhâf inneu di,Pen. 7, 4, 9. ac nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf ychwaith.

12 Dy draian fyddant feirw o'r haint, ac a ddarfyddant o newyn yn dy ganol; a thraian a syrthiant ar y cleddyf o'th amgylch, a thraian a danaf gyd â phob gwynt, a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.

13 Felly y gorphennir fy nîg, ac y llonyddaf fy llidiawgrwydd yn eu herbyn hwynt, ac ym­gyssuraf: a hwy a gânt wybod mai myfi 'r Ar­glwydd a'i lleferais yn fy ngwŷn, pan orphen­wyf fy llid ynthynt.

14 A rhoddaf di hefyd yn anrhaith, ac yn warth, ym mysc y cenhedloedd sydd o'th am­gylch, yngolwg pawb a êl heibio.

15 Yna y bydd yDeut. 28.37. gwradwydd a'r gwarth­rudd yn ddysc, ac yn syndod i'r cenhedloedd sydd o'th amgylch; pan wnelwyf ynot far­nedigaethau mewn dîg, a llidiawgrwydd, a cherydd llidioc: myfi 'r Arglwydd a'i lleferais.

16 Pan anfonwyf arnynt ddrwg saethau newyn, y rhai fyddant iw difetha, y rhai a [Page] ddanfonaf i'ch difetha: casclaf hefyd newyn arnoch, aLevit. 26.26. Pen. 4.16. & 14.13. thorraf eich ffon bara.

17 Anfonaf hefyd arnoch newyn,Pen. 26.22. a bwyst­fil drwg, ac efe a'th ddiblanta di: haint hefyd, a gwaed a dramwya trwot ti: a dygaf gleddyf arnat, myfi yr Arglwydd a'i lleferais.

PEN. VI.

1 Barnedigaeth Israel am eu delw-addoliaeth. 8 Gweddill a fendithir. 11 Annog yffyddlon­iaid i gwyno eu gofid.

A Daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywe­dyd;

2 Mab dŷn, gosod dy wyneb tuaPen. 36.1. my­nyddoedd Israel, a phrophwyda yn eu herbyn;

3 A dywed, mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd Dduw; fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd, ac wrth y bryniau, wrth y nentydd, ac wrth y dyffryn­noedd: wele fi, ie myfi 'n dwyn cleddyf ar­noch, ac mi a ddinistriaf eich vchel-leoedd.

4 Eich allorau hefyd a ddifwynir, a'chNeu, delwau. felly vers. 6. haul-ddelwau a ddryllir; a chwympaf eich archolledigion, o flaen eich eulynnod.

5 A rhoddaf gelanedd meibion Israel ger bron eu heulynnod; a thanaf eich escyrn o amgylch eich allorau.

6 Yn eich holl drigfaon, y dinasoedd a an­rheithir, a'r vchelfaon a ddifwynir; fel yr anrheithier, ac y difwyner eich allorau, ac y torrer, ac y peidio eich eulynnod, ac y torrer ymmaith eich haul-ddelwau, ac y deleer eich gweithredoedd.

7 Yr archolledic hefyd a syrth yn eich ca­nol, a chewch wybod mai myfi yw Ar­glwydd.

8 Etto gadawaf weddill, fel y byddo i chwi rai wedi diangc gan y cleddyf, ym mysc y cenhedloedd, pan wascarer chwi trwy 'r gwledydd.

9 A'ch rhai diangol a'm cofiant i ymmysc y cenhedloedd, y rhai y caethgludir hwynt at­tynt, am fy nryllio â'i calon butteinllyd, yr hon a giliodd oddi wrthif, ac â'i llygaid, y rhai a butteiniasant ar ôl eu heulynnod: yna 'r ym­ffieiddiant ynddynt eu hun, am y drygioni a wnaethant yn eu holl ffieidd-dra.

10 A chânt wybod mai myfi yw 'r Ar­glwydd, ac na leferais yn ofer, am wneuthur iddynt y drwg hwn.

11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw,Pen. 21.17. târo â'th law, a chur â'th droed, a dywed, ôh rhac holl ffieidd-dra drygioni tŷ Israel, ca­nys trwy gleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, y syrthiant.

12 Y pellennic a fydd marw o'r haint, a'r cyfagos a syrth gan y cleddyf: y gweddilledic hefyd, a'r gwarchaedic a fydd marw o newyn. Fel hyn y gorphennaf fy llidiawgrwydd wrthynt.

13 A chewch ŵybod mai myfi yw 'r Ar­glwydd, pan fyddo eu harcholledigion hwynt ym mysc eu heulynnod, o amgylch eu hallo­rau, ar bob bryn vchel, ar holl bennau y my­nyddoedd, a than bob pren îr, a than bob derwen gaead-frig, lle y rhoddasant arogl peraidd iw holl eulynnod.

Pen. 5.14.14 Felly 'r estynnaf fy llaw arnynt, a gwnaf y tir yn anrhaith, ie yn fwyNeu, anrh [...]i­thiol o'r anialwch. anrhaithiol nâ 'r anialwch tuâ Diblath, trwy eu holl drig­faon: a chânt ŵybod mai myfi yw 'r Ar­glwydd.

PEN. VII.

1 Llwyr anrhaith Israel. 16 Galarus edifeirwch y rhai a ddiangent. 20 Y gelynion yn halogi y Cyssegr, o herwydd ffieidd-dra yr Israeliaid. 23 Tan rith cadwyn, y mae yn dangos eu gofidus gaethiwed hwy.

A Daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywe­dyd;

2 Titheu fab dyn, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, wrth dir Israel, Diwedd, diwedd a ddaeth ar bedair congl y tîr.

3 Daeth yr awr hon ddiwedd arnat, a mi a anfonaf fy nîg arnati: barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd, a rhoddaf dy holl ffieidd-dra arnat.

4 Fy llygad hefyd ni'th arbed di; ac ni thosturiaf, eithr rhoddaf dy ffyrdd arnati: a'th ffieidd-dra fydd yn dy ganol di, fel y gŵypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Drwg, drwg vnic, wele, a ddaeth.

6 Diwedd a ddaeth, daeth diwedd, y mae yn gwilioHeb. yn dy erbyn. am danat, wele efe a ddaeth.

7 Daeth y boregwaith attat, presswylydd y tîr; daeth yr amser, agos yw y dydd terfysc, ac nid adsain mynyddoedd.

8 Weithian ar fyrder y tywalldaf fy ilid arnat, ac y gorphennaf fy nîg wrthit: barnaf di hefyd yn ol dy ffyrdd, a rhoddaf dy holl ffieidd-dra arnat.

9 A'm llygad nid arbed, ac ni thosturiaf, rhoddaf arnat yn ôl dy ffyrdd, a'th ffiedd-dra a fydd yn dy ganol di, a chewch wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn taro.

10 Wele 'r dydd, wele efe yn dyfod, y boregwaith a aeth allan, blodeuodd y wialen, blagurodd balchder.

11 Cyfododd traha yn wialen drygioni; ni bydd vn o honynt, nac o'iNeu, terfysc­wyr. Heb. terfysc. lliaws, nac o'r eiddynt, na galar drostynt.

12 Yr amser a ddaeth, y dydd a nesaodd, na lawenyched y pryn-wr, ac na thristaed y gwerth-wr; canys mae digllonedd ar ei holl liaws hi.

13 Canys y gwerthudd ni ddychwel at yr hyn a werthwyd,Heb. er bod eu bywyd etto ym mysc y byw. er eu bod etto 'n fyw; o blegit y weledigaeth sydd am ei holl liaws, y rhai ni ddychwolant; ac nid ymgryfhâ nebNeu, sydd a'i fuchedd yn ei an­wiredd. yn anwiredd ei fuchedd.

14 Vdcanasant yr vdcorn, i baratoi pawb; etto nid â neb i'r rhyfel: am fôd sy nigllonedd yn erbyn eu holl liaws.

15 Y cleddyf fydd oddi allan, yr haint hefyd a'r newyn o fewn: yr hwn fyddo yn y maes, a fydd farw gan gleddyf; a'r hwn a fyddo yn y ddinas, newyn, a haint a'i difa ef.

16 Etto eu rhai diangol hwynt a ddiangant, ac ar y mynyddoedd y byddant hwy, i gyd fel colomennod y dyffryn yn griddfan, bob vn am ei anwiredd.

17Esa. 13.7. Ier. 6.24. Yr holl ddwylo a lacsant, a'r holl liniau a ânt yn ddwfr.

18Esa. 15.3. Jer. 48.37. Ymwregysant hefyd mewn sach-liain, ac arswyd a'i toa hwynt, a bydd cywilydd ar bob wyneb, a moelni ar eu holl bennau hwynt.

19 Eu harian a daflant i'r heolydd, a'i haurHeb. a fydd yn nailldu­aeth, neu aflendid. a roir heibio:Dihar. 11.4. Zeph. 1.18. Eccl. 5.8. eu harian, na'i haur ni ddi­chon eu gwared hwynt, yn nydd digter yr Ar­glwydd: eu henaid ni ddiwallant, a'i coluddion ni lanwant, oblegidNeu, eu han­wiredd yw eu tram­gwydd▪ tramgwydd eu hanwir­edd ydyw.

20 A thegwch ei harddwch ef a osododd ef yn rhagoriaeth: ond gwnaethant ynddo ddel­wau eu ffieidd-dra a'i brynti: am hynny yNeu, gwneu­thum [...]f yn beth aflan iddynt. rhoddais ef ymmhell oddi wrthynt.

21 Ac mi a'i rhoddaf yn llaw dieithriaid yn yspail, ac yn anrhaith i rai drygionus y tir, a hwy a'i halogant ef.

22 Troaf hefyd fy wyneb oddi wrthynt, a halogant fy nirgeifa: ieNeu, yspeil­wyr. anrheith-wŷr a ddaw iddi, ac a'i halogant.

23 Gwna gadwyn, canys llanwyd y tir o farn waedlyd, a'r ddinas sydd lawn o drais.

24 Am hynny y dygaf rai gwaethaf y cen­hedloedd, fel y meddiannont eu tai hwynt: gwnaf hefyd i falchder y cedyrn beidio, a'i cyssegroedd aNeu, etifedd­ant. halogir.

25 Y maeHeb. corriad. dinistr yn dyfod, a hwy a gei­siant heddwch, ac ni's cant.

26 Daw trychineb ar drychineb, a bydd chwedl ar chwedl, yna y ceisiant weledigaeth gan y prophwyd: ond cyfraith a gyll gan yr offeiriad, a chyngor gan yr henuriaid.

27 Y brenin a alara, a'r tywysog a wiscir ag anrhaith, a dwylo pobl y tir a drallodir; gwnaf â hwynt yn ôl eu ffordd, ac a'i barne­digaethau y barnaf hwynt, fel y gwybyddont mai myfi yw yr Arglwydd.

PEN. VIII.

1 Ezeciel mewn gweledigaeth, yn Jerusalem, 5 yn cael dangos iddo ddelw eiddigedd, 7 ac ystafelloedd y delwau, 13 a galar-wyr Tam­muz, 15 a'r rhai oedd yn addoli tua 'r Haul. 18 Digofaint Duw am eu delw-addoliaêth hwy.

A Bu yn y chweched flwyddyn, yn y chwe­ched mîs, ar y pummed dydd o'r mîs, a mi yn eistedd yn fy nhŷ, a henuriaid Juda yn eistedd ger fy mron, syrthio o law 'r Arglwydd Dduw arnaf yno.

2 Yna 'r edrychais, ac wele gyffelybrwydd,Pen. 1.27. fel gwelediad tân, o welediad ei lwyni ac issod yn dân; ac o'i lwyni ac vchod, fel gwelediad discleirdeb, megis lliw ambr.

3 Ac efe aDan. 9.5. estynnodd lûn llaw, ac a'm cymerodd erbyn cudyn o'm pen, a chododd yr yspryd fi rhwng y ddaiar a'r nefoedd, ac a'm dug i Jerusalem mewn gweledigaethau Duw, hyd ddrŵs y porth nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua 'r gogledd, lle 'r ydoedd eisteddfa delw 'r eiddigedd, yr hon a wna eiddigedd.

4 Ac wele yno ogoniant Duw Israel, fel y weledigaeth aPen. 1.23. welswn yn y gwastadedd.

5 Ac efe a ddywedodd wrthif, mab dŷn, cyfod yn awr dy lygaid tua ffordd y gogledd; felly y cyfodais fy llygaid tua ffordd y gogledd, ac wele, tua 'r gogledd, wrth borth yr allor, ddelw 'r eiddigedd hon, yn y cyntedd.

6 Ac efe a ddywedodd wrthif, mab dŷn, a weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur, y ffieidd-dra mawr y mae tŷ Israel yn ei wneuthur ymma, i'm gyrru ymmhell oddiwrth fy nghyssegr? ac etto dychwel, cei weled ffieidd-dra mwy.

7 Ac efe a'm dug i ddrŵs y cyntedd, a phan edrychais, wele dwll yn y pared.

8 Ac efe a ddywedodd wrthif, mab dŷn, cloddia yn y pared: â phan gloddiais yn y pared, wele ddrws.

9 Ac efe a ddywedodd wrthif, dôs i mewn, ac edrych y ffieidd-dra drygionus y maent hwy yn eu gwneuthur ymma.

10 Felly mi a euthym, ac a edrychais, ac wele bôb llun ymlusciad, ac anifail ffiaidd, a holl eulynnod tŷ Israel, wedi eu portreio ar y pared, o amgylch ogylch:

11 A deng-ŵr a thrugain o henuriaid tŷ Israel, yn sefyll ar eu cyfer hwynt, a Jaazaniah mab Saphan yn sefyll yn eu canol: pôb vn a'i thusser yn ei law, a chwmwl tew o fwg-darth oedd yn derchafu.

12 Ac efe a ddywedodd wrthif, a weli di fab dŷn, yr hyn y mae henuriaid Israel yn ei wneuthur yn y tywyllwch, bôb vn o fewn ei ddelw-gelloedd? canys dywedant,Pen. 9.9. nid yw 'r Arglwydd yn ein gweled, gadawodd yr Ar­glwydd y ddaiar.

13 Ac efe a ddywedodd wrthif, tro etto, cei weled ffieidd-dra mwy, y rhai y maent hwy yn eu gwneuthur.

14 Ac efe a'm dûg i ddrws porth tŷ 'r Ar­glwydd, yr hwn oedd tua 'r gogledd, ac wele yno wragedd yn eistedd yn ŵylo am Tammuz.

15 Ac efe a ddywedodd wrthif, a weli di hyn fab dŷn? dychwel etto, cei weled ffieidd-dra mwy nâ hyn.

16 Ac efe a'm dûg i gyntedd tŷ 'r Ar­glwydd oddi fewn, ac wele wrth ddrws Teml yr Arglwydd, rhwng y porth a'r allor, ynghylch pum-ŵr ar hugain, a'i cefnau tuag at Deml yr Arglwydd, a'i hwynebau tua 'r dwyrain, ac yr oeddynt hwy yn ymgrymmu i'r haul, tua 'r dwyrain.

17 Ac efe a ddywedodd wrthif, a weli di hyn fab dŷn?Neu, ai yscaf­nach dim gan dy Juda na gwneu­thur &c. ai peth yscafn gan dŷ Juda wneuthur y ffieidd-dra a wnant ymma? canys llanwasant y tîr â thrais, a gwrth-droesant i'm cyffroi i; ac wele hwy yn gosod blaguryn wrth eu trwyn.

18 Minneu hefyd a wnaf mewn llid,Pen. 5.11. & 7.4. nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf: ac er iddyntDihar. 1.28. Esay. 1.15. Jer. 11.11. Mic. 3.4. lefain yn fy nghlustiau â llef vchel, ni wran­dawaf hwynt.

PEN. IX.

1 Gweledigaeth yn dangos yr achubid rhai, 5 ac y distrywid y llaill. 8 Duw yn gwrthod gwrando eiriol trostynt.

LLefodd hefyd â llef ychel lle y clywais, gan ddywedyd; gwnewch i swyddogion y ddinas nesau, a phob vn a'i arf dinistr yn ei law.

2 Ac wele chwech o wŷr yn dyfod o ffordd y porth vchaf, yr hwn sydd ynHeb. wynebu. edrych tua 'r gogledd, a phob vnHeb. ag arf ei ddrylliad. a'i arf dinistr yn ei law: ac yr oedd vn gŵr yn eu mysc hwynt, wedi ei wisco â lliain, a chorn dû scrifennydd wrth eiHeb. lwyni. glun, a hwy a aethant i mewn, ac a safasant wrth yr allor brês.

3 A gogoniant Duw Israel a gyfododd oddi ar y Cherub yr ydoedd efe arno, hyd riniog y tŷ, ac efe a lefodd ar y gŵr oedd wedi ei wisco â lliain, yr hwn yr oedd corn dû scrifennydd wrth ei glun.

4 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, dôs trwy ganol y ddinas, trwy ganol Jerusalem,Exod. 12.7. Datc. 7.3. a noda nôd ar dalcennau y dynion sydd yn vcheneidio, ac yn gweiddi am y ffieidd-dra oll, a wneir yn ei chanol hi.

5 Ac wrth y lleill y dywedodd efe, lle y clywais, ewch trwy 'r ddinas ar ei ôl ef, a tharewch; nac arbeded eich llygad, ac na tho­sturiwch.

6 LleddwchHeb. i ddinistr. yn farw yr hen-ŵr, y gŵr ieuangc, a'r forwyn, y plant hefyd a'r gwra­gedd: [Page] ond na ddeuwch yn agos at vn gŵr y byddo y nôd arno, ac ar fy nghyssegr y de­chreuwch: yna y dechreuasant ar y gwŷr hên, y rhai oedd o flaen y tŷ.

7 Dywedodd wrthynt hefyd, halogwch y tŷ, a llenwch y cynteddoedd o rai lladdedic, ewch allan: felly hwy a aethant allan, ac a darawsant yn y ddinas.

8 A bu, a hwy yn lladd, a'm gado inneu, i mi syrthio ar fy wyneb, a gwaeddi, a dywedyd, ô Arglwydd Dduw, a ddifethi di holl weddill Israel, wrth dywallt dy lîd ar Jerusalem?

9 Ac efe a ddywedodd wrthif, anwiredd tŷ Israel, a thŷ Juda, sydd fawr tros ben; aHeb. llannyd y tir a gwaed. llawn yw y tîr o waed, a llanwyd y ddinas oNeu, wyro barn. gam­wedd: o herwydd dywedant,Pen. 8.12. gwrthododd yr Arglwydd y ddaiar, ac nid yw 'r Arglwydd yn gweled.

10 Ac am danafi,Pen. 5.11. & 7.4. & 8.18. nid erbyd fy llygad, ac ni thosturiaf: rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu pennau.

11 Ac wele, y gŵr wedi ei wisco â lliain, yr hwn yr oedd y corn dû wrth ei glun, yn dwyn gair drachefn, gan ddywedyd; gwneu­thum fel y gorchymynnaist i mi.

PEN. X.

1 Gweledigaeth y marwor tân, a wascerid tros y ddinas. 8 Gweledigaeth y Cherubiaid.

YNa 'r edrychais, ac wele yn yPen. 1.22. ffurfafen, yr hon oedd vwch ben y Cherubiaid, me­gis maen Saphir, fel dull cyffelybrwydd gor­seddfa, a welid arnynt hwy.

2 Ac efe a lefarodd wrth y gŵr a wiscasid â lliain, ac a ddywedodd, dôs i mewn rhwng yr olwynion, hyd tan y Cherub, a llmwHeb. gaudeb dy ddwylo. dy ddwlo o farwor tanllyd, oddi rhwng y Cheru­biaid, a thana ar y ddinas: ac efe a aeth o flaen fy llygaid.

3 A'r Cherubiaid oedd yn sefyll o du deheu y tŷ, pan aeth y gŵr i mewn; a'r twmmwl a lanwodd y cyntedd nesaf i mewn.

4 Yna y cyfododd gogoniant yr Arglwydd oddi ar y Cherub, ac a safodd oddiar rinioc y tŷ, a'r tŷ a lanwyd â'r cwmmwl; a llanwyd y cyntedd o ddiscleirdeb gogoniant yr Arglwydd.

5 APen. 1.24. sŵn adenydd y Cherubiaid a glybu­wyd hyd y cyntedd nesaf allan, fel sŵn Duw Holl-alluog pan lefarei.

6 Bu hefyd wedi iddo orchymyn i'r gŵr a wiscasid â lliain, gan ddywedyd, cymmer dân, oddi rhwng yr olwynion, oddi rhwng y Che­rubiaid; fyned o honaw ef, a sefyll wrth yr olwynion.

7 YnaHeb. vn Che­rub a an­fonodd allan ei law. 'r estynnodd vn Cherub ei law, oddi rhwng y Cherubiaid, i'r tân, yr hwn oedd rhwng y Cherubiaid; ac a gymmerth, ac a roddodd beth yn nwylo 'r hwn a wiscasid â lli­ain: yntef a'i cymmerodd, ac a aeth allan.

8 A gwelid yn y Cherubiaid, lun llaw dŷn, tan eu hadenydd.

9 Edrychais hefyd, ac wele bedair olwyn wrth y Cherubiaid, vn olwyn wrth vn Cherub, ac vn olwyn wrth Gerub arall: a gwelediad yr olwynion oedd felPen. 1.16. lliw maen Beril.

10 A'i gwelediad, vn wedd oedd iddynt ill pedair, fel pe byddei olwyn ynghanol olwyn.

11 Pan gerddent, ar eu pedwar ochr y cerddent, ni throent pan gerddent, ond lle 'r edrychei y pen, y cerddent ar ei ôl ef; ni throent pan gerddent.

12 Eu hollSef. gorph. gnawd hefyd, a'i cefnau, a'i dwylo, a'i hadenydd, a'r olwynion, oedd yn llawn llygaid oddi amgylch: sef yr olwynion oedd iddynt ill pedwar.

13Neu, A'r ol­wynion a alwyd lle y clywais i, Olwyn, neu Gal­gal. Galwyd hefyd lle y clywais, arnynt hwy, sef ar yr olwynion, ô olwyn.

14 A phedwar wyneb oedd i bôb vn; yr wyneb cyntaf yn wyneb Cherub, a'r ail wyneb yn wyneb dŷn, a'r trydydd yn wyneb llew, a'r pedwerydd yn wyneb eryr.

15 A'r Cherubiaid a ymdderchafasant: dym­ma 'rEzec. 1.5. peth byw a welais wrth afon Chebar.

16 A phan gerddei y Cherubiaid, y cerddei 'r olwynion wrthynt, a phan godei y Cheru­biaid eu hadenydd i ymdderchafu oddi ar y ddaiar, yr olwynion hwythau ni throent ychwaith oddi wrthynt.

17 Safent, pan safent hwytheu, a chodent gyd â hwy, pan godent hwytheu, canys ysprydNeu, bywyd. y peth byw oedd ynddynt.

18 Yna gogoniant yr Arglwydd a aeth allan, oddi ar riniog y tŷ, ac a safodd ar y Cherubiaid.

19 A'r Cherubiaid a godasant eu hadenydd, ac a ymdderchafasant oddi ar y ddaiar, o flaen fy llygaid: a'r olwynion oedd yn eu hymyl, pan aethant allan: a safodd pob vn wrth ddrŵs porth y dwyrain i dŷ 'r Arglwydd; a gogo­niant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd.

20 Dymma 'r peth byw a welais tan Dduw Israel, wrth afon Chebar; a gwybûm mai y Cherubiaid oeddynt.

21 Pedwar wyneb oedd i bôb vn, a phedair aden i bôb vn, a chyffelybrwydd dwylo dŷn dan eu hadenydd.

22 Cyffelybrwydd eu hwynebau oedd yr vn wynebau ac a welais wrth afon Chebar, eu dull hwynt, a hwythau: cerddent bôb vn yn vnion rhag ei wyneb.

PEN. XI.

1 Rhyfyg y tywysogion. 4 Eu pechod a'i barne­digaeth. 13 Ezeciel yn cwyno, a Duw yn dangos iddo ei arfaeth wrth achub gweddill, 21 a chospi yr annuwiol. 22 Gogoniant Duw yn gadael y ddinas. 24 Dychwelyd Ezeciel at y gaeth-glud.

YNa i'm cyfododd yr yspryd, ac i'm dûg hyd borth dwyrain tŷ yr Arglwydd, yr hwn sydd yn edrych tua 'r dwyrain; ac wele bum-wr ar hugain yn nrŵs y porth, ac yn eu mysc y gwelwn Jaazaniah fab Azur, a Phelatiah fab Benaiah, tywysogion y bobl.

2 Ac efe a ddywedodd wrthif, ha fab dŷn, dymma y gwŷr sydd yn dychymygu anwi­redd, ac yn cynghori drwg gyngor yn y ddi­nas hon:

3 Y rhai a ddywedant,2 Pet. 3.4. Pen. 12.27. nidNeu, nid yw i ni adei­ladu tai yn agos. yw yn agos, adeiladwn dai; hi yw 'r crochan, ninneu 'r cîg,

4 Am hynny prophwyda iw herbyn hwynt, prophwyda fab dŷn.

5 Yna y syrthiodd yspryd yr Arglwydd arnaf, ac a ddywedodd wrthif; dywed, fel hyn y dywed yr Arglwydd, tŷ Israel, fel hyn y dy­wedasoch; canys mi a wn y pethau sy'n dyfod i'ch meddwl chwi, bob vn o honynt.

6 Amlhasoch eich lladdedigion, o fewn y ddinos hon, a llanwasoch ei heolydd hi â che­laneddau.

7 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, eich lladdedigion, y rhai a osodasoch yn ei chanol hi, yw 'r cîg, a hitheu yw yr crochan; chwithau a ddygaf allan o'i chanol.

8 Y cleddyf a ofnasoch, a'r cleddyf a ddygaf arnoch, medd yr Arglwydd Dduw.

9 Dygaf chwi hefyd allan o'i chanol hi, a [Page] rhoddaf chwi yn llaw dieithriaid, a gwnaf farn yn eich mysc.

10 Ar y cleddyf y2 Bren. 25.7. syrthiwch; ar derfyn Israel y barnaf chwi, fel y gwypoch mai myfi yw 'r Arglwydd.

11 Y ddinas hon ni bydd i chwi yn gro­chan, ni byddwch chwithau yn gîg o'i mewn; ond ar derfyn Israel y barnaf chwi.

12 A chewch ŵybod mai myfi yw yr Ar­glwydd;Neu, y rhai. canys ni rodiasoch yn fy neddfau, ac ni wnaethoch fy marnedigaethau; onid yn ôl defodau y cenhedloedd o'ch amgylch y gwnaethoch.

13 A phan brophwydais, bû farw Pelatiah mab Benaiah: yna syrthiais ar fy wyneb, a gwaeddais â llef vchel, a dywedais; ô Arglwydd Dduw, a wnei di drangc ar weddill Israel?

14 A daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd,

15 Ha fab dŷn, dy frodyr, dy frodyr, dynion dy geraint, a holl dŷ Israel yn gwbl, ydyw y rhai y dywedodd presswylwŷr Jerusalem wrthynt, ymbellhewch oddi wrth yr Arglwydd, i ni y rhodded y tîr hwn yn etifeddiaeth.

16 Dywed am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; er gyrru o honof hwynt ym mhell ym mysc y cenhedloedd, ac er gwas­caru o honof hwynt trwy y gwledydd, etto byddaf yn gyssegr bychan iddynt yn y gwle­dydd lle y deuant.

17 Dywed gan hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, casclaf chwi hefyd o fysc y bobloedd, a chynhullaf chwi o'r gwledydd i'ch gwascarwyd ynddynt, a rhoddaf i chwi dîr Israel.

18 A hwy a ddeuant yno, ac a symmudant ei holl frynti hi, a'i holl ffieidd-dra allan o honi hi,

19Jer. 32.39. Pen. 36.26. A rhoddaf iddynt vn galon, ac yspryd newydd a roddaf ynoch: tynnaf hefyd y galon garrec ymaith o'i cnawd hwynt, a rhoddaf iddynt galon gîg:

20 Fel y rhodiont yn fy neddfau, ac y cad­wont fy marnedigaethau, ac y gwnelont hwynt: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a min­neu a fyddaf Dduw iddynt hwy.

21 Ond am y rhai y mae eu calon yn my­ned ar ôl meddwl eu brynti, a'i ffieidd-dra, rhoddaf eu ffordd hwynt ar eu pennau eu hun, medd yr Arglwydd Dduw.

22 Yna y Cherubiaid a gyfodasant eu ha­denydd, a'r olwynion yn eu hymyl, a gogoni­ant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd.

23 A gogoniant yr Arglwydd a ymdder­chafodd oddi ar ganol y ddinas, ac a safodd ar y mynydd sydd o'r tu dwyrain i'r ddinas.

24 Yna 'r yspryd a'm cododd i, ac a'm dûg hyd Caldea at y gaeth-glud, mewn gweledi­gaeth, drwy Yspryd Duw: a'r weledigaeth a welswn a dderchafodd oddi wrthif.

25 Yna y lleferais wrth y rhai o'r gaeth­glud, holl eiriau 'r Arglwydd, y rhai a ddango­sasei efe i mi.

PEN. XII.

1 Rhith ac arwydd symmudiad Ezeciel, 8 yn dangos caethiwed Zedeciah. 17 Dychryn Eze­ciel yn dangos anghyfannedd-dra yr Juddewon. 22 Beio ar ryfygus ddihareb yr Juddewon. 26 Ebrwydded y weledigaeth.

A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddy­wed [...]d;

2 Trigo 'r wyt ti, fab dyn, ynghanol tŷ gwrthryfelgar, y rhai y mae llygaid iddynt i weled, ac ni welant; clustiau iddynt i glywed, ac ni chlywant: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt.

3 A thitheu, fab dŷn, gwna itNeu, ddedrefn. offer caeth­glud, a muda liw dydd o flaen eu llygaid hwynt, ie muda o'th le dy hun i le arall, yngŵydd eu llygaid hwynt: nid hwyrach y gwelant, er eu bod yn dŷ gwrthryfelgar.

4 A dŵg allan dy ddodrefn liw dydd yngŵydd eu llygaid, fel dodrefn caeth-glud: a dôs allan yn yr hŵyr, yngwydd eu llygaid, felHeb. mynediad o gaethi­wed. rhai yn myned allan i gaeth-glud.

5 Cloddia i mi o flaen eu llygaid hwynt drwy y mûr, a dŵg allan trwy hwnnw.

6 Ar dy yscwydd y dygi, yngŵydd eu lly­gaid hwynt, yn y tywyll y dygi allan; dy wyneb a guddi, fel na welech y ddaiar; canys yn arwydd i'th roddais i dŷ Israel.

7 Ac mi a wnaethum felly, fel i'm gorchy­mynnwyd; dygais fy offer allan liw dydd, fel offer caeth-glud: ac yn yr hwyr y cloddiais drwy y mûr â'm llaw: yn y tywyll y dygais allan, ar fy yscwydd y dugym, o flaen eu lly­gaid hwynt.

8 A'r boreu y daeth gair yr Arglwydd at­taf, gan ddywedyd;

9 Ha fab dŷn, oni ddywedodd tŷ Israel, y tŷ gwrthryfelgar, wrthit, beth yr wyt ti yn ei wneuthur?

10 Dywet ti wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; i'r tywysog yn Jerusalem y mae y baich hwn, ac i holl dŷ Israel, y rhai sydd yn eu mysc.

11 Dywet, eich arwydd chwi ydwyfi; fel y gwnaethum i, felly y gwneir iddynt hwy: mewn caeth-glud yr ânt i gaethiwed.

12 A'r tywysog, yr hwn sydd yn eu canol, a ddwg ar ei yscwydd, yn y tywyll, ac a â allan: cloddiant trwy 'r mûr i ddwyn allan trwyddo, ei wyneb a guddia, fel na welo efe y ddaiar â'i lygaid.

13 Ac mi a danaf fy rhwydPen. 17.20. & 32.3. arno ef, fel y dalier ef yn fy rhwyd, a dygaf ef i Babilon, tîr y Caldeaid, ac ni wêl efe hi, etto yno y bydd efe marw.

14 A gwascaraf yr holl rai sydd yn ei gylch ef i'w gynnhorthwyo, a'i holl fyddinoedd, tu a phob gwynt; a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.

15 A hwy a gânt ŵybod mai myfi yw yr Arglwydd, wedi gwascaru o honof hwynt ym mysc y cenhedloedd, a'i tanu ar hŷd y gwledydd.

16 Etto gweddillaf o honyntHeb. ddynlon rhif. ychydig ddynion, oddi wrth y cleddyf, oddi wrth y newyn, ac oddi wrth yr haint; fel y myne­gont eu holl ffieidd-dra ym mysc y cenhed­loedd, lle y delont: a gŵybyddant mai myfi yw yr Arglwydd.

17 Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth attaf, gan ddywedyd;

18 Ha fâb dŷn, bwyttei dy fara tan grynu, a'th ddwfr a yfi mewn dychryn, a gofal.

19 A dywed wrth bobl y tîr, fel hyn y dywod yr Arglwydd Dduw, am drigolion Je­rusalem, ac am wlâd Israel: eu bara a fwytânt mewn gofal, a'i dwfr a yfant mewn syndod, fel yr anrheithir ei thîr o'i chyfiawnder, am drais y rhai oll a drigant ynddi.

20 A'r dinasoedd cyfanneddol a anghyfan­neddir, a'r tîr a fydd anrhaithiol; felly y gŵy­byddwch mai myfi yw yr Arglwydd.

21 A daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddy­wedyd;

22 Ha fab dŷn, beth yw y ddihareb hon gennych am dîr Israel, gan ddywedyd, ydyddiau a estynnwyd, a darfu am bôb gweledigaeth?

23 Am hynny dywed wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, gwnaf i'r ddihareb hon beidio, fel nad arferont hi yn ddihareb mwy yn Israel: ond dywed wrthynt, y dydd­iau sydd agos, a sylwedd pob gweledigaeth.

24 Canys ni bydd mwy vn weledigaeth ofer, na dewiniaeth weniaithus, o fewn tŷ Israel.

25 Canys myfi yw 'r Arglwydd, mi a lefa­raf, a'r gair a lefarwyf a wneir, nid oedir ef mwy: o herwydd yn eich dyddiau chwi, ô dŷ gwrthryfelgar, y dywedaf y gair, ac a'i gwnaf, medd yr Arglwydd Dduw.

26 A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddywedyd;

27 Ha fab dŷn, wele dŷ Israel yn dywedyd,2 Pet. 3.4. Pen. 11.3. y weledigaeth a wêl efe fydd wedi dyddiau lawer, a phrophwydo y mae efe am amseroedd pell.

28 Am hynny dywed wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, nid oedir dim o'm geiriau mwy, ond y gair a ddywedais a wneir, medd yr Arglwydd Dduw.

PEN. XIII.

1 Argyoeddi prophwydi celwyddog, 10 a'i priddgist heb dymmheru. 17 Y prophwydesau a'i clustogau.

A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddywedyd;

2 Prophwyda, fab dŷn, yn erbyn prophwydiPen. 14.9. Israel, y rhai sydd yn prophwydo; a dywed wrth y rhaiHeb. sy broph­wydi. a brophwydant o'iJer. 23.16. calon eu hun, gwrandewch air yr Arglwydd.

3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, gwae 'r prophwydi ynfyd, y rhai a rodiant yn ôl eu hyspryd eu hun,Neu, a phethau nis gwel­sant. ac heb weled dim.

4 Dy bropwydi Israel ydynt fel llwynogod yn yr anialwch.

5 Ni safasoch ynNeu, y rhwyg­iadau. yr adwyau, ac ni chaea­soch y cae i dŷ Israel; i sefyll yn y rhyfel, ar ddydd yr Arglwydd.

6 Gwagedd, a gau-ddewiniaeth a welsant, y rhai a ddywedant, dywedodd yr Arglwydd, a'r Arglwydd heb eu hanfon hwynt: a phara­sant i eraill ddisgwil am gyflawni y gair.

7 Onid ofer weledigaeth a welsoch, a gau­ddewiniaeth a draethasoch, pan ddywedasoch, yr Arglwydd a ddywedodd, a minneu heb ddywedyd?

8 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, am lefaru o honoch wagedd, a gweled o honoch gelwydd; am hynny wele fi i'ch erbyn, medd yr Arglwydd Dduw.

9 A bydd fy llaw yn erbyn y prophwydi sydd yn gweled gwagedd, ac yn dewino celwydd;Neu, ynghyn­nulleidf [...]. ynghyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn scrifen tŷ Israel ni scrifennir hwynt; i dîr Israel hefyd ni ddeuant, a gŵybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.

10 O achos, ie o achos hudo o honynt fy mhobl, gan ddywedyd,Jer. 6.14. heddwch, ac nid oedd heddwch: vn a adeiladeiNeu, bared salw. bared, ac wele eraill yn ei briddo â chlai heb ei dymmheru.

11 Dywed wrth y rhai a'i priddant â phridd rhydd, y syrth efe: canys cur-law a fydd, a chwithau gerric cenllysc a syrthiwch; a gwynt temhestlog a'i rhwyga.

12 Wele, pan syrthio 'r pared, oni ddywe­dir wrthych, mae 'r clai â'r hwn y priddasoch ef?

13 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, minneu a'i rhwygaf â gwynt temhestlog yn fy llid; a chur-law fydd yn fy nig; a cherric cenllysc yn fy llidiawgrwydd, iw ddifetha.

14 Felly y bwriaf i lawr y pared a bridda­soch â phridd heb ei dymmheru, ac a'i tynnaf hyd lawr, fel y dinoether ei sylfaen, ac efe a syrth, a chwithau a ddifethir yn ei ganol ef, a chewch wybod mai myfi yw 'r Arglwydd.

15 Fel hyn y gorphennaf fy llid ar y pared, ac ar y rhai a'i priddasant â phridd heb dym­mheru, a dywedaf wrthych, y pared nid yw, na'r rhai a'i priddasant:

16 Sef prophwydi Israel, y rhai a brophwy­dant am Jerusalem, ac a welant iddi wele­digaethau heddwch, ac nid oes heddwch, medd yr Arglwydd Dduw.

17 Tithau fâb dŷn, gosod dy wyneb yn erbyn merched dy bobl, y rhai a brophwydant ô'i calon eu hun; a phrophwyda yn eu herbyn hwynt,

18 A dywed, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, gwae y gwniadyddesau clustogau tan hollNeu, gescillau. ben elinoedd fy mhobl; a'r rhai a wei­thiant foledau am ben pob corpholaeth, i hela eneidiau. Ai eneidiau fy mhobl a heliwch chwi, ac a gedwch chwi yn fyw yr eneidiau a ddêl attoch?

19 Ac a halogwch chwi fi ym-mysg fy mhobl, er dyrneidiau o haidd, ac am dammei­diau o fara, i ladd yr eneidiau ni ddylent farw, a chadw yn fyw yr eneidiau ni ddylent fyw, gan ddywedyd o honoch gelwydd wrth fy mhobl, y rhai a wrandawent gelwydd?

20 Am hynny fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, wele fi yn erbyn eich clustogau chwi, â'r rhai yr ydych yno yn hela eneidiau,Neu, i erddi i beri iddynt ehedec, a rhwygaf hwynt oddi wrth eich breichiau; a gollyngaf yr eneidiau, sef yr eneidiau yr ydych yn eu hela, i beri iddynt ehedeg.

21 Rhwygaf hefyd eich moledau chwi, a gwaredaf fy mhobl o'ch llaw, ac ni byddant mwy yn eich llaw chwi yn helfa, a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

22 Am dristau calon y cyfiawn drwy gel­wydd, a minneu heb ei ofidio ef; ac am gadarn­hau dwylo 'r annuwiol, fel na ddychwelei o'i ffordd ddrygionus,Neu, fel yr achubwn ei enioes. Heb. i'w fynhau. trwy addo iddo einioes:

23 O herwydd hynny, ni welwch wagedd, ac ni ddewinwch ddewiniaeth mwy; canys gwaredaf fy mhobl o'ch llaw chwi, a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

PEN. XIV.

1 Duw yn atteb delw-addolwyr yn ôl meddwl eu calon eu hun. 6 Eu hannog hwy i edifarhau, rhag ofn barnedigaethau, o herwydd gau­brophwydi. 12 Sicer farn Duw ar ddanfon newyn, 15 a bwystfilod niweidiol, 17 a chle­ddyf, 19 a haint y nodau. 22 Gweddill a achu­bir er esampl i eraill.

YNa y daeth attaf wŷr o henuriaid Israel, ac a eisteddasant o'm blaen.

2 A daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddy­wedyd;

3 Y gwŷr hyn, ô fâb dŷn, a dderchafasant eu heulynnod yn eu calonnau, ac a roddasant dramgwydd eu hanwiredd ar gyfer eu hwyne­bau: gan ymofyn a ymofyn y cyfryw â myfi?

4 Am hynny ymddiddan â hwynt, a dywed wrthynt; fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, pob vn o dŷ Israel, yr hwn a dderchafo ei eulynnod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddaw at y prophwyd; myfi yr Arglwydd a attebaf yr hwn a ddelo, yn ôl amlder ei eulynnod,

5 I ddal tŷ Israel yn eu calonnau, am idd­ynt ymddieithro oddi wrthif oll, trwy eu heulynnod.

6 Am hynny, dywed wrth dŷ Israel; fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; trowch aNeu, a throwch eraill. dychwelwch oddi wrth eich eulynnod, a throwch eich wynebau oddi wrth eich holl ffieidd-dra.

7 Canys pob vn o dŷ Israel, ac o'r dieithr a ymdeithio o fewn Israel, a ymneillduo oddi ar fy ôl i, ac a dderchafo ei eulynnod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddêl at brophwyd i ymolyn â myfi trwyddo ef; myfi 'r Arglwydd a attebaf iddo trwof fy hun.

8 Gosodaf hefyd fy wyneb yn erbyn y gŵr hwnnw,Deut. 28.37. Pen. 5.15. a gwnaf ef yn arwydd, ac yn ddiha­reb, a thorraf ef ymmaith o fysc fy mhobl, fel y gŵypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

9 Ac os twyllir y prophwyd pan lefaro air,1 Bren. 22.23. myfi 'r Arglwydd a dwyllodd y prophwyd hwnnw; ac mi a estynnaf hefyd fy llaw arno ef, ac a'i difethaf o fysc fy mhobl Israel.

10 A hwy a ddygant eu hanwiredd, vn fath fydd anwiredd yr ymofynnydd, ac anwiredd y prophwyd:

11 Fel na chyfeiliorno tŷ Israel mwy oddi ar fy ôl; ac na haloger hwynt mwy â'i holl droseddau, ond bod o honynt i mi yn bobl, a minneu iddynt hwy yn Dduw, modd yr Ar­glwydd Dduw.

12 A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf dra­chefn, gan ddywedyd;

13 Ha fab dŷn, pan becho gwlad i'm her­byn, trwy wneuthur camwedd, yna 'r estyn­naf fy llaw arni,Levit. 26.26. Pen. 4.16. & 5.16. Esa. 3.1. a thorraf ffon ei bara hi, ac anfonaf arni newyn, ac a dorraf ymmaith o honi ddyn ac anifail.

14Jer. 15.1. Pe byddei yn ei chanol y trŷ-wŷr hyn, Noah, Daniel, a Job, hwynt hwy yn eu cyfiawnder a achubent eu henaid eu hun yn vnig, medd yr Arglwydd Dduw.

15 Os bwyst-fil niweidiol a yrraf trwy 'r wlad, a'iNeu, difuddio. difa o hwnnw, fel y byddo yn ang­hyfannedd, heb gynniwerydd, rhag ofn y bwyst­fil,

16 Pe byddei y try-wyr hyn yn ei chanol, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni waredent na meibion, na merched: hwynt hwy yn vnic a waredid, a'r tîr a syddel yn anghyfannedd.

17 Neu os cleddyf a ddygaf ar y tîr hwnnw, a dywedyd o honof, cynniwer gleddyf trwy 'r tîr, fel y torrwyf ymmaith o honaw ddyn, ac anifail,

18 A'r try-wŷr hyn yn ei ganol, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni achubent na meibion, na merched; ond hwynt hwy yn vnic a achubid.

19 Neu os haint a anfonaf i'r wlâd honno, a thywalld o honof fy llid arni mewn gwaed, gan dorri ymmaith o honi ddyn ac anifail,

20 A Noah, Daniel, a Job vn ei chanol hi, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni wa­redent na mab, na merch; hwynt hwy yn eu cyfiawnder a waredent eu heneidiau eu hun yn vnig.

21 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw,Neu, hefyd pan anfonwyf. pa faint mwy pan anfonwyfPen. 5.17. fy mhe­dair dryg-farn, cleddyf, a newyn, a bwyst-fil niweidiol, a haint, ar Jerusalem, i dorri ym­maith o honi ddyn, ac anifail?

22 Etto wele, bydd ynddi weddill diangol, y rhai a ddygir allan, yn feibion a merched: wele hwynt yn dyfod allan attoch, a chewch weled eu ffyrdd hwynt, a'i gweithredoedd, fel yr ym­gyssuroch, o herwydd yr adfyd a ddygais ar Jerusalem, sef yr hyn oll a ddygais arni.

23 Je cyssurant chwi, pan weloch eu ffordd, a'i gweithredoedd; a chewch ŵybod nad heb achos y gwneuthum yr hyn oll a wneuthum iw herbyn hi, medd yr Arglwydd Dduw.

PEN. XV.

1 Trwy ddangos mor anghymmmys i wneuthur defnydd o honi, ydyw 'r winwydden, 6 y dang­osir y llysid ac y gwrthodid Jerusalem.

A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddy­wedyd;

2 Ha fâb dŷn, beth yw coed y win-wy­dden, fwy nâ phob coed arall, neu gaingc, yr hon sydd ym mysc prennau y coed?

3 A gymmerir o honi goed i wneuthur gwaith? a gymmerant o honihoel, i grogi vn offerynarni?

4 Wele, yn ymborth i'r tân y rhoddir hi; difaodd y tân ei deu-pen hi, ei chanol a olos­cwyd, aHeb. lwydda, neu, dyo­cia. wasanaetha hi mewn gwaith?

5 Wele, pan oedd gyfan nidHeb. ni weithid hi mewn gwaith, &c. oedd gymmwys i ddim gwaith, pa faint llai, gan ei difa o dân â'i golosci, y bydd hi etto gymmwys i waith?

6 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, megis pren y win-wŷdden ym mysc prennau y coed, yr hon a roddais yn ymborth i'r tân; felly y rhoddaf drigolion Jerusalem.

7 A gosodaf fy wyneb yn eu herbyn hwynt, o'r naill dân y deuant allan, a thân arall a'i difa hwynt, fel y gŵypoch mai myfi yw Arglwydd, pan osodwyf fy wyneb iw herbyn hwynt.

8 Gwnaf hefyd y wlâd yn anrhaith, amHeb. gamwe­ddu. wneuthur o honynt gamwedd, medd yr Ar­glwydd Dduw.

PEN. XVI.

1 Trwy gyffelybrwydd o ddyn bâch mewn gofidus gyflwr, y dangosir cyflwr naturiol Jerusalem. 6 An­feidrol gariad Duw tuac atti hi: 15 A'i hanferth butteindra hithau; 35 a'i barn dost. 44 Bod ei phechod hi yn gymmaint a'r eiddo ei mam, ac yn fwy nâ 'r eiddo ei chwiorydd Sodoma a Gomor­rah, ac am hynny yn galw am farnedigaethau. 60 Addaw trugaredd iddi yn y diwedd.

A Daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddy­wedyd;

2 Ha fab dŷn, gwna i Jerusalem adnabod ei ffieidd-dra,

3 A dywed, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Jerusalem; dyNeu, dorriad, neu, gych­wyniad. drigfa, a'th enedi­gaeth sydd oEsa. 1.4. & 57.3. wlâd Canaan, dy dâd oedd Amo­riad, a'th fam yn Hitties.

4 Ac am dy enedigaeth, ar y dydd i'th anwyd, ni thorrwyd dy fogail, ac mewn dwfr ni'th olchwydNeu, pan edry­chais ar­nat. i'th feddalhau, ni'th gyweiriwyd ych­waith â halen, ac ni'th rwymwyd â rhwymyn:

5 Ni thosturiodd llygad wrthit, i wneuthur it vn o hyn, i dosturio wrthit: ond ar wyneb y maes i'th daflwyd, i ffieiddio dy enioes, ar y dydd i'th aned.

6 A phan dramwyais heibio it, a'th weledNeu, wedi dy halogi, neu, dy fathru. yn ymdrybaeddu yn dy waed, dywedais wrthit [Page] yn dy waed, bydd fyw; ie dywedais wrthit yn dy waed, bydd fyw.

7 Yn fyrddiwn i'th wneuthum, fel gwellt y maes, a thi a gynnyddaist, ac a aethost yn fawr, ac a ddaethost iHeb. addurn addurnau. harddwch godidog; dy fron­nau a chwyddasant, a'th wallt a dyfodd, a thi yn llom ac yn noeth o'r blaen.

8 Pan euthum heibio it, ac edrych arnat, wele dy amser yn amser serchawgrwydd, yna lledais fy aden drosot, a chuddiais dy noethni: tyngais hefyd it, ac euthym mewn cyfammod â thi, medd yr Arglwydd Dduw, a thi a aethost yn eiddof fi.

9 Yna mi a'th olchais â dwfr, le golchais dy waed oddi wrthit, ac irais di ag olew.

10 Mi a'th wiscais hefyd â gwaith edef a nodwydd, rhoddais it hefyd escidiau o groen daiar-foch; a gwregysais di â lliain main, a gorchguddiais di â sidan.

11 Mi a'th herddais hefyd â harddwch, a rhoddais freichledau am dy ddwylo, a chadwyn am dy wddf.

12 Rhoddais hefyd dlws ar dy dalcen, a thlysau wrth dy glustiau; a choron hardd am dy ben.

13 Felly i'th harddwyd ag aur, ac arian, â'th wisc oedd liain main, a sidan, a gwaith edef a nodwydd: peillied, a mêl, ac olew a fwyteit, têg hefyd odieth oeddit, a ffynnaist yn frenhi­niaeth.

14 Aeth allan hefyd it enw ym mysc y cen­hedloedd, am dy degwch: canys cyflawn oedd, gan fy harddwch, yr hwn a osodaswn arnat, medd yr Arglwydd Dduw.

15 Ond ti a ymddiriedaist i'th degwch, a phutteiniaist o herwydd dy enw: a thywelltaist dy butteindra ar bob cynniwerydd; eiddo ef ydoedd.

16 Cymmeraist hefyd o'th ddillad, a gwnae­thost it vchel-feydd brithion, a phutteiniaist ar­nynt: y fath ni ddaw, ac ni bydd felly.

17 A chymmeraist offer dy harddwch o'm haur, ac o'm harian i, y rhai a roddaswn i ti, a gwnaethost it ddelwauHeb. gwrryw. gwŷr; a phutteiniaist gyd â hwynt.

18 Cymmeraist hefyd dy wiscoedd o waith edef a nodwydd, ac a'i gwiscaist hwynt; fy o­lew hefyd a'm harogl-darth a roddaist o'i blaen hwynt.

19 Felly fy mŵyd, yr hwn a roddaswn i ti, yn beillied, ac yn olew, ac yn fêl, â'r rhai i'th borthaswn di; rhoddaist hynny hefyd o'i blaen hwynt, yn aroglHeb. gorphy­wysdra. peraidd: fel hyn y bû, medd yr Arglwydd Dduw.

20 Cymmeraist hefyd dy feibion a'th ferch­ed, y rhai a blantasit i mi,Lev. 18.21. 2 Bren. 23.10. y rhai hyn a aber­thaist iddynt iw bwytta: ai bychan hyn o'th butteindra di,

21 Ladd o honot fy mhlant, a'i rhoddi hwynt iw tynnu trwy 'r tân iddynt?

22 Ac yn dy holl ffieidd-dra, a'th buttein­dra, ni chofiaist ddyddiau dy ieuengtid, pan oeddit lom, a noeth, a'th fod yn ymdrybaeddu yn dy waed.

23 A bu ar ôl dy holl ddrygioni (gwae, gwae it, medd yr Arglwydd Dduw)

24 Adeiladu o honot it vchelfa, a gwneuthur itN [...]u, butteindy. vchelfa ym mhob heol.

25 Ym mhen pob ffordd yr adeiledaist dy vchelfa, a gwnaethost dy degwch ynffiaidd; ac a ledaist dy draed i bob cynniwerydd, ac aml­heaist dy butteindra.

26 Putteiniaist hefyd gyd â meibion yr Aipht, dy gymydogion mawr eu cnawd; ac a amlheaist dy butteindra i'm digio i.

27 Am hynny wele, estynnais fy llaw arnat, a phrinheais dy ran, a rhoddais di wrth ewyllys dy gaseion,Neus trefi. merched y Philistiaid; y rhai sydd gywilydd ganddynt dy ffordd ysceler.

28 Putteiniaist hefyd gyd â meibion Assur, o eisieu cael dy ddigon: a hefyd wedi puttei­nio gyd â hwynt, ni'th ddigonwyd.

29 Amlheaist hefyd dy butteindra yngwlâd Canaan hyd Caldea; ac etto ni'th ddigonwyd â hyn.

30 Morr llesc yw dy galon, medd yr Ar­glwydd Dduw, gan it wneuthur hyn oll, sef gwaith puttein-wraig yn llywodraethu.

31Neu, yn dy fer­ched y mae dy vchelfa. Pan adeiledaist dy vchelfa ym mhen pob ffordd, ac y gwnaethost dy vchelfa ym mhob heol, ac nid oeddit fel puttain, gan dy fod yn dirmygu gwobr:

32 Ond fel gwraig a dorrai ei phriodas, ac a gymmerai ddieithraid yn lle ei gŵr.

33 I bob puttain y rhoddant wobr, ond tydi a roddi dy wobr i'th holl gariadau; ac a'i gobrwyi hwynt i ddyfod attat oddi amgylch, i'th butteindra.

34 Ac ynot ti y mae y gwrthwyneb i wra­gedd eraill yn dy butteindra, gan na phut­teiniodd neb ar dy ôl di: canys lle y rhoddi wobr, ac na roddir gwobr it, yna 'r wyt yn y gwrthwyneb.

35 Gan hynny, ô buttain, clyw air yr Ar­glwydd.

36 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, am dywallt dy frynti, a datcuddio dy noeth­ni, trwy dy butteindra gyd â'th gariadau, a chyd â holl eulynnod dy ffieidd-dra, a thrwy waed dy feibion y rhai a roddaist iddynt;

37 Am hynny wele fi yn cascluEzec. 23.9. dy holl gariadau gyd â'r rhai yr ymddigrifaist; a'r rhai oll a geraist, gyd â'r rhai oll a gaseaist; ie cas­glaf hwynt i'th herbyn oddi amgylch, ac a ddinoethaf dy noethni iddynt, fel y gwelont dy holl noethni.

38 Barnaf di hefydNeu, fel barnu. â barnedigaethau putteiniaid, a'r rhai a dywalltant waed: a rhoddaf i ti waed mewn llidiawgrwydd, ac eiddigedd.

39 Ie rhoddaf di yn eu dwylo hwynt, a hwy a ddinistriant dy vchelfa, ac a fwriant i lawr dy vchel-leoedd: dioscant di hefyd o'th ddillad, a chymmerant ddodrefn dy harddwch, ac a'th adawant yn llom ac yn noeth.

40 Dygant hefyd dyrfa i'th erbyn, ac a'th labyddiant â meini, ac â'i cleddyfau i'th dry­wanant.

412 Bren. 25.9. Jer. 52 13. Lloscant hefyd dy dai â thân, a gwnant arnat farnedigaethau, yngolwg gwra­gedd lawer: ac mi a wnaf it beidio â phuttei­nio, a hefyd ni roddi wobr mwy.

42 Felly y llonyddaf fy llidi i'th erbyn, a symmud fy eiddigedd oddi wrthit, mi a lonyddaf hefyd, ac ni ddigiaf mwy.

43 Am na chofiaist ddyddiau dy ieuengctid, onid annogaist fi i lid yn hyn oll, am hynny wele, myfi a roddaf dy ffordd ar dy ben, medd yr Arglwydd Dduw; fel na wnelech yr scelerder hyn, am ben dy holl ffieidd-dra.

Wele, pob diharebudd a ddihareba [Page] am danat, gan ddywedyd; fel y fam y mae yr ferch.

45 Merch dy fam, yr hon a ffieiddiodd ei gŵr a'i meibion ydwyt ti; a chwaer dy chwi­orydd ydwyt, y rhai a ffieiddiasant eu gwŷr a'i meibion: eich mam oedd Hitties, a'ch tâd yn Amoriad.

46 A'th chwaer hynaf yw Samaria, hi a'i merched, yn trigo ar dy law asswy: a'th chwaerHeb. lai na thi. ieuangach nâ thi, yr hon sydd yn trigo ar dy law ddehau, yw Sodoma a'i mer­ched.

47 Etto ni rodiaist yn eu ffyrdd hwynt, ac nid yn ôl eu ffieidd-dra hwynt y gwnaethost;N [...]u, alarwyd ar hynny, megis peth by­chan. megis pettai hynny ychydig bach; ymlyg­raist yn fwy nâ hwy yn dy holl ffyrdd.

48 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni wnaeth Sodoma dy chwaer, na hi na'i merched, fel y gwnaethost ti a'th serched.

49 Wele, hyn oedd anwiredd dy chwaer Sodoma, balchder, digonedd bara, ac amlder o seguryd oedd ynddi, ac yn ei merched, ac ni chryfhaodd hi law yr anghenog a'r tlawd.

50 A hwy a ymdderchasasant, ac a wnae­thant ffieidd-dra o'm blaen i: am hynny yGene. 19.24. symmudais hwynt, fel y gwelais yn dda.

51 Samaria hefyd ni phechodd fel hanner dy bechod ti, ond tydi a amlheaist dy ffieidd-dra yn fwy nâ hwynt, ac a gyfiawn­heaist dy chwiorydd yn dy holl ffieidd-dra a wnaethost.

52 Titheu yr hon a sernaist ar dy chwi­prydd, dwg dy wradwydd am dy bechodau, y rhai a wnaethost yn ffieiddiach nâ hwynt: cyfiawnach ydynt nâ thi: cywilyddia ditheu, a dwg dy wradwydd, gan gyfiawnhau o honot dy chwiorydd.

53 Pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt, caethiwed Sodoma a'i merched, a chaethiwed Samaria a'i merched; yna y dychwelaf gae­thiwed dy gaethion ditheu a'th ferched, yn eu canol hwynt;

54 Fel y dygech dy warth, ac i'th wrad­wydder, am yr hyn oll a wnaethost, gan gyssuro o honot hwynt.

55 Pan ddychwelo dy chwiorydd, Sodoma a'i merched, iw hên gyflwr, a phan ddych­welo Samaria a'i merched iw hên gyflwr, yna titheu a'th ferched a ddychwelwch i'ch hên gyflwr.

56 CanysHeb. nid oedd dy chwa­er Sod. yn chwedl, neu, yn son yn dy enau. nid oedd mo'r sôn am Sodoma dy chwaer yn dy enau, yn nydd dy falchder:

57 Cyn2 Cron. 28.19. datcuddio dy ddrygioni, megis yn amser dy wradwydd gan ferchedHeb. Aram. Syria, a'r holl rai o'i hamgylch, merched y Philistiaid, y rhai a'thNeu, anrhei­thiant. ddiystyrant o bob-parth.

58 Dy scelerder, a'th ffieidd-dra hefyd, ti a'i dygaist hwynt, medd yr Arglwydd.

59 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, felly y gwnaf â thi fel y gwnaethost, yr hon a ddiystyraist lŵ, i ddiddymmu y cy­fammod.

60 Etto mi a gofiaf fy nghyfammod â thi, yn nyddiau dy ieuengtid, ac a siccrhâf it gyfam­mod tragywyddol.

61 Yna y cofi dy ffyrdd, ac y cywilyddi, pan dderbyniech dy chwiorydd hŷn nâ thi, gyd â'r rhai ieuangach nâ thi: a rhoddaf hwyntGal. 4. [...]. yn ferched it, a hynny nid wrth dy ammod ti.

62 Ac mi a siccrhâf fy nghyfammod â thi, a chei ŵybod mai myfi yn yr Arglwydd:

63 Fel y cofiech di, ac y cywilyddiech, ac na byddo it mwy agoryd safn gan dy wrad­wydd, pan ddyhudder fi tu ac attat, am yr hyn oll a wnaethost, medd yr Arglwydd Dduw.

PEN. XVII.

1 Trwy ddammeg o ddau eryr a gwin-wydden, 11 y dangosir barnedigaeth Duw ar Jerusalem, am droi oddiwrth Babilon at yr Aipht. 22 Duw yn addaw plannu cedr-wydden yr Efengyl.

A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddywedyd,

2 Mâb dyn, traetha ddychymmyg, a diha­reba ddihareb wrth dŷ Israel;

3 A dywed, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, eryr mawr, mawr ei adenydd, hîr ei ascell, llawn plû, yr hwn oedd iddoHeb. wniad­waith. amryw liwiau, a ddaeth i Libanus, ac a gymmerth frigyn vchaf y gedr-wŷdden.

4 Torrodd frig ei blagur hi, ac a'i dug i dîr marsiandiaeth, yn ninas marchnadyddion y gosododd efe ef.

5 A chymmerth2 Bren. 24.17. Jer. 37.1. o hâd y tîr, ac a'i bwriodd mewn maesHeb. had. ffrwythlon, efe a'i gosododd ef wrth ddyfroedd lawer, ac a'i plannodd fel helygen.

6 Ac efe a dyfodd, ac aeth yn win-wŷ­dden wascaroc, issel o dŵf, a'i changau yn troi atto ef: a'i gwraidd oedd tano ef: felly yr aeth yn win-wŷdden, ac y dug geingciau, ac y bwriodd frîg.

7 Yr oedd hefyd ryw eryr mawr, mawr ei escyll, ac â llawer o blu, ac wele y win­wŷdden hon yn plygu ei gwraidd tuag atto ef, ac yn bwrw ei cheingciau tu ag atto, iw dyfrhau ar hyd rhigolau ei phlanniad.

8 Mewn maes da wrth ddyfroedd lawer y plannasid hi, i fwrw brîg, ac i ddwyn ffrwyth, fel y byddai yn win-wŷdden hardd-deg.

9 Dywed, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, a lwydda hi? oni thynn efe ei gwraidd hi? ac oni thyrr efe ei ffrwyth hi fel y gwy­wo? sych holl ddail ei brig, ac nid trwy fraich mawr, na thrwy bobl lawer, iw thynnu hi o'i gwraidd.

10 Ie wele, wedi ei phlannu, a lwydda hi? gan ŵywo, oni ŵywa, pan gyffyrddo gwynt y dwyrain â hi? yn rhigolau ei thŵf y gwywa.

11 Daeth hefyd gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd;

12 Dywed yr awr hon wrth y tŷ gwrth­ryfelgar, oni ŵyddoch beth yw hyn? dywed, wele, daeth brenin Babilon i Jerusalem, ac efe a gymmerodd2 Bren. 24.15. ei brenin hi, a'i thywysogion, ac a'i dûg hwynt gydag ef i Babilon:

13 Ac a gymmerodd o'r hâd brenhinol, ac a wnaeth ag ef gyfammod, ac a'i dûg ef tan lw; cymmerodd hefyd gedyrn y wlâd,

14 Fel y byddei y deyrnas yn issel, heb ym­dderchafu, eithr Heb. trwy ga­dw ei gyf ef, i sefyll wrtho. sefyll o honi trwy gadw ei gyfammod ef.

15 Onid gwrthryfelodd iw erbyn, gan anfon ei gennadau i'r Aipht, fel y rhoddid iddo feirch, a phobl lawer: a lwydda efe? a ddiangc yr hwn a wnelo hyn? neu a ddiddymma efe y cyfammod, ac a waredir ef?

16 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ynghartref y brenin yr hwn a'i gwnaeth ef yn frenin, yr hwn y diystyrodd efe ei lw, a'r hwn y diddymmodd efe ei gyfammod, gyd ag ef y bydd efe marw ynghanol Babilon.

17 Ac ni wna Pharao â'i lu mawr, ac â'i fintai liosog, ddim gyd ag ef mewn rhyfel, wrth godi clawdd, ac wrth adeiladu cestyll, i dorri ymmaith lawer enioes.

18 Gan ddiystyru o honaw y llw, gan ddiddymmu y cyngrair, (canys wele, efe a ro­ddasei ei law) a gwneuthur o honaw hynny oll, ni ddiangc.

19 Am hynny fel hyn y dywed yr Arg­lwydd Dduw, fel mai byw fi, fy llw yr hwn a ddiystyrodd efe, a'm cyfammod, yr hwn a ddi­ddymmodd efe, hwnnw a roddafi ar ei ben ef.

20 CanysPen. 12.13. & 32.3. tanaf fy rhwyd arno, ac efe a ddelir yn fy rhwyd, a dygaf ef i Babilon, ac yno yr ymddadleuaf ag ef, am ei gamwedd a wnaeth i'm herbyn.

21 A'i holl ffoaduriaid ynghyd â'i holl fy­ddinoedd a syrthiant gan y cleddyf, a'r gwe­ddill a wascerir gyd â phob gwynt; fel y gŵy­poch mai myfi 'r Arglwydd a'i lleferais.

22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, mi a gymmeraf hefyd frig y gedr-wŷdden vchel, ac a'i gosodaf: o frig ei blagur y torraf vn tyner, ac mi a'i plannaf ar fynydd vchel, a derchafedig.

23 Ar fynydd vchelder Israel y plannaf ef, ac efe a fwrw frig, ac a ddwg ffrwyth, ac a fydd yn gedr-wŷdden hardd-deg, a phob aderyn o bob rhyw asgell a drig tani, tan gyscod ei changhenni y trigant.

24 A holl brennau 'r maes a gânt wybod mai myfi 'r Arglwydd a ostyngais y pren vchel, ac a dderchefais y pren issel, a sychais y pren îr, ac a ireiddiais y pren crin: myfi 'r Arg­lwydd a'i lleferais, ac a'i gwneuthum.

PEN. XVIII.

1 Duw yn argyoeddi anghyfiawn ddihareb y grawn-win surion; 5 yn dangos y modd y gwna efe â thâd cyfiawn: 10 ac â mâb anghyfiawn i dâd cyfiawn: 14 ac â mab cyfiawn i dâd anghyfiawn: 19 ac â'r annuwiol a edifarhao: 24 ac a'r duwiol a ymadawo â'i dduwioldeb. 25 Y mae yn ymddiffyn ei gyfiawnder, 31 ac yn annog i edifeirwch.

A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddy­wedyd;

2 Pa ham gennych arferu y ddihareb hon am dîr Israel, gan ddywedyd,Jer. 31.29. y tadau a fwyrtasant rawn-wîn surion, ac ar ddannedd y plant y mae dingcod?

3 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Ddvw, ni bydd i chwi mwy arferu y ddihareb hon yn Israel.

4 Wele, yr holl eneidiau, eiddo fi ydynt, fel enaid y tâd, felly hefyd enaid y mâb, eiddo fi ydynt: yr enaid a becho, hwnnw a fydd marw.

5 Canys os bydd gŵr yn gyfiawn, ac yn gwneuthur barn, a chyfiawnder;

6 Heb fwytta ar y mynyddoedd, na chyfo­di ei lygaid at eulynnod tŷ Israel, a hebLev. 18.20. ha­logi gwraig ei gymmydog, na nessau atLev. 20.18. & 18.19. wraig fis-glwyfus;

7 NaExod. 22.21. Lev. 19.15. & 25.14. gorthrymmu neb, ond aDeut. 24.12. Exod. 22.26. roddes ei ŵystl i'r dyledwr yn ei ôl, ni threisiodd drais,Deut. 15.7. Esa. 58.7. Matt. 25.35. ei fara a rôdd i'r newynog, ac a ddi­lladodd y noeth:

8 Ni roddesExod. 22.25. Lev. 25.36, 37. Deut. 23.19. Psal. 15.5. ar vsuriaeth, ac ni chymme­rodd ychwaneg, ei law a dynnodd yn ei hôl oddi wrth anwiredd, gwîr farn a wnaeth rhwng gŵr a gŵr;

9 Yn fy neddfau y rhodiodd, a'm barnedig­aethau a gadwodd, i wneuthur gwirionedd; cyfiawn yw, gan fyw efe a fydd byw, medd yr Arglwydd Dduw.

10 Os cenhedla efe fab ynNeu, dorrwr tai. lleidr, ac yn tywallt gwaed; ac a wnaNeu, iw frawd yn erbyn y pethau hyn. gyffelyb i'r vn o'r pethau hyn,

11 Ac ni wna yr vn o'r pethau hynny, onid ar y mynyddoedd y bwytty, a gwraig ei gym­mydog a haloga;

12 Yr anghenus a'r tlawd a orthrymma, trais a dreisia, gwystl ni rydd drachefn, ac at eulynnod y cyfyd ei lygaid, a wnaeth ffieidd­dra;

13 Ar vsuriaeth y rhoddes, ac ychwaneg a gymmer, gan hynny a fydd efe byw? ni bydd byw: gwnaeth yr holl ffieidd-dra hyn, gan farw y bydd farw, ei waed a fydd arno ei hun.

14 Ac wele, os cenhedla fâb a wêl holl be­chodau ei dâd, y rhai a wnaeth efe, ac a ystyria, ac ni wna felly;

15 Ar y mynyddoedd ni fwytty, a'i lygaid ni chyfyd at eulynnod tŷ Israel, ni haloga wraig ei gymmydog;

16 Ni orthrymma neb ychwaith, niHeb. wystla wystl, neu, chym­mer yng­wystl. attal wystl, ac ni threisia drais, ei fara a rydd i'r newynoc, a'r noeth a ddillada;

17 Ni thrŷ ei law oddi wrth yr anghenoc, usuriaeth na llôg ni chymmer, fy marnau a wna, yn fy neddfau y rhodia; hwnnw ni bydd farw am anwiredd ei dâd, gan fyw y bydd efe byw.

18 Ei dâd am orthrymmu yn dôst, a threisio ei frawd trwy orthrech, a gwneuthur yr hyn nid oedd dda ym mysc ei bobl, wele, efe a fydd marw yn ei anwiredd.

19 Etto chwi a ddywedwch, pa ham? oni ddŵg y mab anwiredd y tâd? pan wnelo y mâb farn a chyfiawnder, a chadw fy holl ddeddfau, a'i gwneuthur hwynt: gan fyw efe a fydd byw.

20 YrDeut. 24.16. 2 Bren. 14.6. 2 Cron. 25.4. Jer. 31.29. enaid a becho, hwnnw a fydd marw; y mab ni ddŵg anwiredd y tâd, a'r tâd ni ddwg anwiredd y mâb: cyfiawnder y cyfiawn fydd arno ef; a drygioni y drygionus fydd arno yntef.

21 Ond os yr annuwiol a ddychwel oddi wrth ei holl bechodau, y rhai a wnaeth, a chadw fy holl ddeddfau, a gwneuthur barn a chyfiawnder, efe gan fyw a fydd byw, ni bydd efe marw.

22 Ni chofir iddo yr holl gamweddau a wnaeth, yn ei gyfiawnder a wnaeth y bydd efe byw.

23Pen. 33.11. Gan ewyllysio a ewyllysiwn i farw yr annuwiol, medd yr Arglwydd Dduw, ac na ddychwelai oddi wrth ei ffyrdd, a byw?

24 Ond pan ddychwelo y cyfiawn oddi­wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a gwneuthur yn ôl yr holl ffieidd-dra a wnelo 'r annuwiol; a fydd efe byw? ni chofir yr holl gyfiawnderau a wnaeth efe: yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth, ac yn ei bechod a bechodd, ynddynt y bydd efe marw.

25 Etto chwi a ddywedwch,Pen. 33.20. nid cym­mwys yw ffordd yr Arglwydd; gwrandewch yr awr hon tŷ Israel, onid yw gymmwys fy ffordd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymmwys?

26 Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a marw ynddynt, am ei anwiredd a wnaeth, y bydd efe marw.

27 A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth, a gwneu­thur barn a chyfiawnder, hwnnw a geidw yn fyw ei enaid.

28 Am iddo ystyried a dychwelyd oddi wrth ei holl gamweddau y rhai a wnaeth, gan fyw y bydd byw, ni bydd marw.

29 Etto tŷ Israel a ddywedant, nid cym­mwys yw ffordd yr Arglwydd, tŷ Israel, onid cymmwys fy ffyrdd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymmwys?

30 Am hynny barnaf chwi tŷ Israel bob vn yn ôl ei ffyrdd ei hun, medd yr Arglwydd Dduw:Mat. 3.2. dychwelwchNeu, a throwch eraill. a throwch oddiwrth eich holl gamweddau, fel na byddo anwiredd yn dramgwydd i chwi.

31 Bwriwch oddi wrthych eich holl gam­weddau y camweddasoch ynddynt, a gwnewch iwchJer. 32.39. Pen. 11.19. & 36.26. Psal. 51.10. galon newydd, ac yspryd newydd: canys pa ham, tŷ Israel, y byddwch feirw?

32Pen. 33.11. 2 Pet. 3.9. Canys nid oes ewyllys gennif i far­wolaeth y marw, medd yr Arglwydd Dduw;Neu, trowch eraill. dychwelwch gan hynny, a byddwch fyw.

PEN. XIX.

1 Cwynfan am dywysogion Israel, trwy ddam­meg o genawon llew a ddelid mewn pydew: 10 Ac am Jerusalem, trwy ddammeg o win­wydden anrheithiedig.

CYmmer ditheu alar-nâd am dywysogion Israel,

2 A dywed, Beth yw dy fam? llewes: gor­weddodd ym mysg llewod: ynghanol y llewod ieuaingc y maethodd hi ei chenawon.

3 A hi a ddug i fynu vn o'i chenawon; efe aeth yn llew ieuangc, ac a ddyscodd ysclyfae­thu ysclyfaeth, bwyttaodd ddynion.

4 Yna y cenhedloedd a glywsant sôn am dano, daliwyd ef yn eu ffôs hwynt, a dygasant ef mewn cad wynau, i dîr yr2 Bren. 23.33 34. Jer. 22.11. Aipht.

5 A phan welodd iddi ddisgwil, a darfod am ei gobaith, hi a gymmerodd vn arall o'i chenawon, ac a'i gwnaeth ef yn llew ieuangc.

6 Yntef a dramwyodd ym mysc y llewod, efe aeth yn llew ieuangc, ac a ddyscodd yscly­faethu sclyfaeth, bwyttâodd ddynion.

7 Adnabu hefyd euNeu, llyso [...]dd anghyfan­nedd, neu gweddw­dai. gweddwon hwynt, a'i dinasoedd a anrheithiodd efe; ie anrhei­thiwyd y tîr a'i gyflawnder, gan lais ei ruad ef.

8 Yna y cenhedloedd a ymosodasant yn ei erbyn ef o amgylch, o'r taleithiau, ac a dana­sant eu rhwyd arno; ac efe a ddaliwyd yn eu ffôs hwynt.

9 A hwy a'i rhoddasant ef yngharchar mewnNeu, bachau. cadwyni, ac a'i dygasant at frenin Babilon; dygasant ef i ymddiffynfeydd, fel na chlywid ei lais ef mwy ar fynyddoedd Israel.

10 Dy fam sydd fel gwinwydden yn dyNeu, lonydd­wch, neu, gyffelyb­rwyad. waed di, wedi ei phlannu wrth ddyfroedd, ffrwythion a brigoc oedd, o herwydd dyfroedd lawer.

11 Ac yr oedd iddi wiail cryfion, yn deyrn-wiail llywodraethwŷr, a'i huchder oedd vchel ymmysg y tew-frîg: fel y gwelid hi yn ei hu [...]hder, yn amlder ei changhennau.

12 Ond hi a ddiwreiddiwyd mewn llidiawg­rwydd: bwriwyd hi i'r llawr: aHos. 13.15. gwynt y dwyrain a wywodd ei ffrwyth hi; ei gwiail cryfion a dorrwyd, ac a wywasant, tan a'i hyssodd.

13 Ac yr awr hon hi a blannwyd mewn anialwch, mewn tîr crâs, a sychedic.

14 A thân a aeth allan o wialen ei chang­hennau, yssodd ei ffrwyth hi, fel nad oedd ynddi wialen grêf, yn deyrn-wialen i lywod­raethu. Galar-nad yw hyn; ac yn alar-nad y bydd.

PEN. XX.

1 Duw yn gwrthod gadael i henuriaid Israel ymgynghori ag ef: 5 Yn adrodd histori eu hanufydd-dod hwy yn yr Aipht, 10 yn yr anialwch, 27 ac yn eu gwlad: 33 Yn addaw eu cynnull hwy trwy yr efengyl. 45 Tan enw coed-wig, y mae yn dangos dinistr Jerusalem.

YN y seithfed flwyddyn, o fewn y pummed mîs, ar y decfed dydd o'r mîs, y daeth gwŷr o henuriaid Israel i ymgynghori â'r Arglwydd, ac a eisteddasant ger fy inron i.

2 Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd;

3 Ha fab dŷn, llefara wrth henuriaid Israel a dywed wrthynt, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw: ai i ymofyn â mi yr ydych chwi yn dyfod? fel mai byw fi, medd yr Ar­glwydd Dduw, ni fynnaf gennych ymofyn â mi.

4Neu, a ddad­leui di trostynt hwy. APen. 22.2. & 23.36. ferni di hwynt? mab dŷn, a fer­ni di hwynt? gwna iddynt ŵybod ffieidd-dra eu tadau:

5 A dywed wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ar y dydd y dewisais Israel, ac yHeb. codais fy llaw, ac felly ver. 6, &c. tyngais wrth hâd tŷ Jacob, ac i'mExod. 4.31. & 3.8. gwneuthym yn hyspys iddynt yn nhîr yr Aipht, pan dyngais wrthynt, gan ddywedyd; myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi,

6 Yn y dydd y tyngais wrthynt, ar eu dwyn hwynt allan o dîr yr Aipht, i wlad yr hon a ddarparaswn iddynt, yn llifeirio o laeth, a mêl, yr hon yw gogoniant yr holl diroedd:

7 Yna y dywedais wrthynt, bwriwch ym­maith bob vn ffieidd-dra ei lygaid,Exod. 23 13. Psal. 16.4. ac nac ymhalogwch ag eulynnod yr Aipht, myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

8 Er hynny gwrthryfelasant i'm herbyn, ac ni fynnent wrando arnaf; ni fwriasant ym­maith ffieidd-dra eu llygaid bob vn, ac ni adaw­sant eulynnod yr Aipht: yna y dywedais, ty­walltaf arnynt fy llidiawgrwydd, i gyflawni fy nig arnynt, ynghanol gwlâd yr Aipht.

9 Etto gwneuthum er mwyn fy enw, rhac ei halogi yngolwg y cenhedloedd, y rhai yr oeddynt hwy yn eu mysc: yngŵydd pa rai yr ymyspyssais iddynt hwy, wrth eu dwyn hwynt allan o dîr yr Aipht.

10 Am hynnyExod. 13.18. y dygais hwynt allan o dir yr Aipht, ac a'i dygais hwynt i'r ania­lwch:

11 A rhoddais iddynt fy neddfau,Heb. a gwneu­thum idd­ynt wy­bod. ac yspys­ais iddynt fy marnedigaethau:Levit. 18.5. Rhui. 10.5. Gal. 3.12. y rhai y bydd byw ynddynt, y dŷn a'i gwna hwynt.

12 Rhoddais hefyd iddyntExod. 20.8. & 31.13. & 35.2. Deut. 5.12. fy Sabbothau, i fod yn arwydd rhyngofi a hwynt, i wybod mai myfi yw yr Arglwydd a'i sancteiddiodd hwynt.

13 Er hynny tŷ Israel a wrthryfelasant i'm herbyn yn yr anialwch, ni rodiasant yn fy neddfau, onid diystyrasant fy marnedigaethau, y rhai y bydd byw ynddynt, y dŷn a'i gwnelo hwynt: fy Sabbothau hefyd aExod. 16.27. halogasant yn ddirfawr: yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt yn yrNum. 14.29. & 26.65. anfialwch, iw difetha hwynt.

14 Etto gwneuthum er mwyn fy enw, fel na halogid ef yngolwg y cenhedloedd, y rhai y dygais hwynt allan yn ei gŵydd.

15 Ac etto mi a dyngaswn iddynt yn yr anialwch, na ddygwn hwynt i'r wlâd rodda­swn iddynt, yn llifeirio o laeth a mêl: honno yw gogoniant yr holl wledydd:

16 O herwydd iddynt ddiystyru fy marne­digaethau, ac na rodiasant yn fy neddfau, ond halogi fy Sabbothau: canys eu calon oedd yn myned ar ôl eu heulynnod.

17 Etto tosturiodd fy llygaid wrthynt, rhac eu dinistrio, ac ni wneuthum ddiben am danynt yn yr anialwch.

18 Ond mi a ddywedais wrth eu meibion hwynt yn yr anialwch, na rodiwch yn neddfau eich tadau, ac na chedwch eu barnedigaethau hwynt, nac ymhalogwch ychwaith â'u heulyn­nod hwynt.

19 Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi; rhodiwch yn fy neddfau, a chedwch fy mar­nedigaethau, a gwnewch hwynt:

20 Sancteiddiwch hefyd fy Sabbothau, fel y byddont yn arwydd rhyngofi a chwithau, i ŵybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

21 Y meibion hwythau a wrthryfelasant i'm herbyn, yn fy neddfau ni rodiasant, a'm barnedigaethau ni chadwasant, drwy eu gwneuthur hwynt, y rhai y bydd byw yn­ddynt y dyn a'i gwnelo hwynt: halogasant fy Sabbothau; yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt, i gyflawni fy nig wrthynt yn yr anialwch.

22 Etto troais heibio fy llaw, a gwneuthum er mwyn fy enw, fel na halogid ef yngolwg y cenhedloedd, y rhai y dygaswn hwynt allan yn eu gŵydd.

23 Hefyd mi a dyngaswn wrthynt yn yr anialwch, ar eu gwascaru hwynt ym mysc y cenhedloedd, a'i tanu hwynt ar hyd y gwle­dydd.

24 O herwydd fy marnedigaethau ni wnae­thent, ond fy neddfau a ddiystyrasent, fy Sabbo­thau hefyd a halogasent, a'i llygaidoedd ar ôl eulynnod eu tadau.

25 Minneu hefyd a roddais iddynt ddeddfau nid oeddynt dda, a barnedigaethau ni byddent fyw ynddynt:

26 Ac a'i halogais hwynt yn eu hoffrymmau, wrth dynnuPen. 16.21. trwy dan bob peth a egoro yr groth, fel y dinistriwn hwynt; fel y gwyby­ddent mai myfi yw yr Arglwydd.

27 Am hynny, fab dŷn, llefara wrth dŷ Is­rael, a dywed wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, etto yn hyn i'm cablodd eich tadau, ganHeb. gamwe­ddu o ho­nynt gam­wedd. wneuthur o honynt gamwedd i'm herbyn.

28 Canys dygais hwynt i'r tîr, a dyngaswn ar ei roddi iddynt, a gwelsant bob bryn vchel, a phob pren brigoc, ac aberthasant yno eu he­byrth, ac yno y rhoddasant eu hoffrymmau digllonedd: yno hefyd y gosodasant eu harogl peraidd, ac yno y tywalltasant eu diod offrym­mau.

29 Yna y dywedaisNeu, iddynt, beth oedd yr vchel­fa, neu, y Bamah &c. wrthynt, beth yw yr vchelfa yr ydych chwi yn myned iddi? a Ba­mah y galwyd ei henw hyd y dydd hwn.

30 Am hynny dywed wrth dŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ai ar ffordd eich tadau yr ymhalogwch chwi? ac a buttein­iwch chwi ar ôl eu ffieidd-dra hwynt?

31 Canys pan offrymoch eich offrymau, gan dynnu eich meibion drwy 'r tân, yr ym­halogwch wrth eich holl eulynnod hyd he­ddyw: a fynnafi gennych ymofyn â mi, tŷ Is­rael? fel mai byw fi medd yr Arglwydd Dduw, nid ymofynnir â mi gennych.

32Heb. a'r hyn a escynno ar eich yspryd. Eich bwriad hefyd ni bydd ddim, yr hyn a ddywedwch, byddwn fel y cenhedloedd, fel teuluoedd y gwledydd, i wasanaethu pren a maen.

33 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, yn ddiau â llaw gadarn, ac â braich estynnedic, ac â llidiawgrwydd tywalltedic, y teyrnasaf arnoch.

34 A dygaf chwi allan o fysc y bobloedd, a chasclaf chwi o'r gwledydd, y rhai i'ch gwas­carwyd ynddynt, â llaw gadarn, ac â braich estynnedic, ac â llidiawgrwydd tywalltedic.

35 A dygaf chwi i anialwch y bobloedd, ac ymddadleuaf â chwi yno wyneb yn wyneb.

36 Fel yr ymddadleuais â'ch tadau, yn an­ialwch tir yr Aipht, felly yr ymddadleuaf â chwithau, medd yr Arglwydd Dduw.

37 A gwnaf iwch fyned tan y wialen; a dygaf chwi iNeu, draddo­diad. rwym y cyfammod.

38 A charthaf o honoch y rhai gwrthryfel­gar, a'r rhai a droseddant i'm herbyn, dygaf hwynt o wlâd eu hymdaith, ac i wlad Israel ni ddeuant: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

39 Chwithau tŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ewch, gwasanaethwch bob vn ei eulynnod, ac yn ôl hyn hefyd, oni wran­dewch arnafi: ond na halogwch mwy fy enw sanctaidd â'ch offrymmau, ac â'ch eulynnod.

40 Canys yn fy mynydd sanctaidd, ym my­nydd vchelder Israel, medd yr Arglwydd Dduw, yno i'm gwasanaetha holl dŷ Israel, cwbl o'r wlâd: yno y byddaf fodlon iddynt, ac yno y gofynnaf eich offrymmau,Neu, a'r pennaf o'ch off­rymmau. a blaen-ffrwyth eich offrymmau, gyd â'ch holl sanctaidd bethau.

41 Byddaf fodlon i chwi gyd â'ch aroglHeb. gorphy­wysara. peraidd, pan ddygwyf chwi allan o blith y bobloedd, a'ch casclu chwi o'r tiroedd i'ch gwascarwyd ynddynt, ac mi a sancteiddir ynoch yngolwg y cenhedloedd.

42 Hefyd cewch ŵybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan ddygwyf chwi i dîr Israel, i'r tîr y tyngais am ei roddi i'ch tadau.

43 Ac yno y cofiwch eich ffyrdd, a'ch holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasoch ynddynt, fel yr alaroch arnoch eich hun, am yr holl ddrygioni a wnaethoch.

44 A chewch ŵybod mai myfi yw yr Ar­glwydd, pan wnelwyf a chwi, er mwyn fy enw: nid yn ôl eich ffyrdd drygionus chwi, nac yn ôl eich gweithred [...]edd llygredic, ô tŷ Israel, medd yr Arglwydd Dduw.

45 Daeth drachefn air yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd;

46 Gosod dy wyneb fab dŷn, tua 'r debau, ie difera eiriau tua 'r deau, a phrophwyda yn erbyn coed maes y deau;

47 A dywed wrth goed y deau, gwrando air yr Arglwydd, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn cynneu ynot ti dân, ac efe a yssa ynot ti bob pren îr, a phob pren sŷch, ffagl y fflam ni ddiffydd, a'r holl wynebau, o'r deau hyd y gogledd, a loscir ynddo.

48 A phob cnawd a welant, mai myfi yr Arglwydd a'i cynneuais, ni's diffoddir ef.

49 Yna y dywedais, ô Arglwydd Dduw, y [Page] maent hwy yn dywedyd am danaf; onid dam­megion y mae hwn yn eu traethu?

PEN. XXI.

1 Ezeciel yn prophwydo yn erbyn Jerusalem trwy arwydd ocheneidio. 8 Y cleddyf gloyw­lym, 18 yn erbyn Jerusalem, 25 yn erbyn y frenhiniaeth, 28 ac yn erbyn yr Ammoniaid.

A Daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddy­wedyd,

2 Gosot dy wyneb, fab dŷn, tu a Jerusalem, a difera dy eiriau tua 'r cyssegroedd, a phro­phwyda yn erbyn gwlâd Israel.

3 A dywed wrth wlâd Israel, fel hyn y dy­wed yr Arglwydd; wele fi i'th erbyn, tynnaf hefyd fy nghleddyf o'i wain, a thorraf o honot gyfiawn ac anghyfiawn.

4 O herwydd y torraf o honot gyfiawn ac anghyfiawn; am hynny y daw fy nghleddyf allan o'i wain, yn erbyn pob cnawd, o'r deau hyd y gogledd;

5 Fel y gwypo pob cnawd i mi yr Arglwydd dynnu fy nghleddyf allan o'i wain: ni ddych­wel efe mwy.

6 Ochain ditheu, fab dŷn, gydag yssigtod lwyni, ie ochain yn chwerw, yn eu golwg hwynt.

7 A bydd, pan ddywedant wr [...] [...] beth yr ydwyt yn o [...]hain [...] honot, am y chw [...]dl newyd [...] [...] [...]fod, fel y toddo pob [...] oll, ac y pallo pob y [...]p [...] [...] Heb. yn ddwfr. fel dwfr; wele efe yn [...] medd yr Arglwydd Dduw.

8 A gair yr Arglwy [...]d a dda [...] [...] ddywedyd;

9 Prophwyda, fab dŷn, a dywed, [...] dywed yr Arglwydd, dywed, cleddyf cl [...] a hogwyd, ac loywyd.

10 Efe a hogwyd i ladd lladdfa, efe a loy­wyd, fel y byddei ddiscleir: a lawenychwn ni? Neu, gwialen fy mab yw; dir­mygu pob pren y mae. y mae efe 'n dirmygu gwialen fy mab, fel pob pren.

11 Ac efe a'i rhoddes i'w loywi, iw ddal mewn llaw, y cleddyf hwn a hogwyd, ac a loywyd, iw roddi yn llaw y lleiddiad.

12 Gwaedda ac vda, fab dŷn, canys hwn fydd ar fy mhobl, hwn fydd yn erbyn holl dy­wysogion Israel;Neu, gwthi­wyd hwynt i lawr i'r cleddyf gyda'm pobl. dychryn gan y cleddyf fydd ar fy mhobl: am hynnyJer. 3 [...].19. taro law ar for­ddwyd.

13Neu, wedi bod profi [...]d, beth yna? oni by­ddant i'r wialen sy'n diy­styru? Canys profiad yw; a pheth os y cle­ddyf a ddiystyra y wialen? ni bydd efe mwy, medd yr Arglwydd Dduw.

14 Titheu, fab dŷn, prophwyda, a tharo law wrth law, a dybler y cleddyf y drydedd waith: cleddyf y lladdedigion, cleddyf lladde­digaeth y gwyr mawr ydyw, yn myned iw stafelloedd hwynt.

15 RhoddaisN [...]u, loywd [...]r, neu, ofn. flaen y cleddyf yn erbyn eu holl byrth hwynt, i doddi eu calon, ac i amlhau eu tramgwyddiadau; oh, gwnaed ef yn loyw,Neu, goblyg­wyd. hogwyd ef i ladd.

16 Dôs ryw ffordd, naill ar y llaw ddehau,H [...]b. y [...]osod, dos ar y llaw asswy. ai ar y llaw asswy, lle y tueddo dy wyneb.

17 Minneu hefyd a darawaf y naill law yn y llall, ac a lonyddaf fy llid: myfi yr Arglwydd a'i lleferais.

18 A daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd:

19 Titheu, fab dŷn, gosot i ti ddwy ffordd, fel y delo cleddyf brenin Babilon; o vn tîr y deuant ill dwy; a dewis lê, ym mhen ffordd y ddinat y dewisi ef.

20 Gosod ffordd i ddyfod o'r cleddyf tua Rabbath meibion Ammon, a thu a Juda, yn erbyn Jerusalem gaeroc.

21 Canys safodd brenin BabilonHeb. ar fam y ffordd. ar y groes­ffordd, ym mhen y ddwy ffordd, i ddewino dewiniaeth, gloywodd eiNeu, gyllyll. saethau, ymofyn­noddHeb. Teraphin. â delwau, edrychodd mewn afu.

22 Yn ei law ddehau yr oedd dewiniaeth Jerusalem, am osodNeu, offer rhy­fel. Heb. hyrddod. capteniaid i agoryd safn mewn lladdedigaeth, i dderchafu llef gydâ bloedd, i osod offer rhyfel yn erbyn y pyrth, i fwrw clawdd, i adeiladu ymddiffynfa.

23 A hyn fydd ganddynt, fel dewino dewi­niaeth gwagedd yn eu golwg hwynt,Neu, am y llwon a dyngwyd iddynt. i'r rhai a dyngasant lwon: ond efe a gofia yr anwir­edd, iw dal hwynt.

24 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, am beri o honoch gofio eich anwiredd, gan amlygu eich camweddau, fel yr ymddengys eich pechodau yn eich holl weith­redoedd: am beri o honoch eich cofio, i'ch delir â llaw.

25 Titheu halogedic annuwiol dywysog Is­rael, yr hwn y daeth ei ddydd, yn amser diwedd a [...]wiredd,

26 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, [...]mud y meitr, a thynn ymaith y goron, nid [...] vn fydd hon: cyfod yr isel, a gostwng yr [...]

27Heb. yn ddymch­weledig, ddymch­weledig, ddym [...]h­weledig, y gosodaf hi. Dymchwelaf, dymchwelaf, dymchwe­ [...] ac ni bydd mwyach, hyd oni ddelo yr [...] y mae yn gyfiawn iddo, ac iddo ef y rho­ [...] hi.

28 Prophwyda ditheu, fab dŷn, a dywed, [...] y dywed yr Arglwydd Dduw am fei­ [...] [...]mmon, ac am eu gwradwydd hwynt; [...] ti, y cleddyf, y cleddyf a dynnwyd, i [...] y gloywyd ef, i ddifetha o herwydd y [...].

29 Wrth weled gwagedd i ti, wrth dde­ [...]n [...] it gelwydd, i'th roddi ar yddfau y lladde­digion, y drygionus, y rhai y daeth eu dydd yn amser diwedd eu hanwiredd.

30Neu, Dychwel ef. A ddychwelafi ef iw wain? yn y lle i'th grewyd, yn nhir dy gynnefin i'th farnaf.

31 A thywalltaf fy nigllonedd arnat, â thân fy llidi [...]grwydd y chwythaf arnat, a rhoddaf di yn llaw dynionNeu, yn fydion. poethion, cywraint i ddi­nistrio.

32 I'r tân y byddi yn ymborth, dy waed fydd ynghanol y tîr, ni'th gofir mwyach, canys myfi yr Arglwydd a'i dywedais.

PEN. XXII.

1 Rhestr o bechodau Jerusalem. 13 Y llysc Duw hwynt megis sothach yn ei ffwrn. 23 Lly­gredigaeth yr holl brophwydi a'r offeiriaid, a'r tywysogion, a'r bobl.

GAir yr Arglwydd a ddaeth attaf drachefn, gan ddywedyd,

2 Titheu fab dŷn,Neu, a ddad­leut di tros &c. Pen. 20.4. & 23.36. a ferni di? a ferni ddinas y gwaed? ie ti a wnei iddi ŵybod ei holl ffieidd-dra.

3 Dywed titheu, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, tywallt gwaed y mae yr ddinas yn ei chanol, i ddyfod o'i hamser, ac eulynnod a wnaeth hi yn ei herbyn ei hun i ymhalogi.

4 Euog wyt yn dy waed, yr hwn a2 Bren. 21.16. dy­welltaist, a halogedig yn dy eulynnod, y rhai a wnaethost: a thi a nesseaist dy ddyddian, a daethost hyd at dy flynyddoedd, am hynny i'th wneuthum yn waith i'r cenhedloedd, ac yn watwargerdd i'r holl wledydd.

5 Y rhai agos a'r rhai pell oddi wrthit a'th watwarant, yr halogedic o enw, ac aml dy drallod.

6 Wele, tywysogion Israel oeddynt ynot, bôb vn yn eiHeb. fraich. allu, i dywallt gwaed.

7 Dirmygasant ynot dâd a mam, gwnaethant ynNeu, draehaus, neu, draws. dwyllodrus â'r dieithr o'th fewn: gorth­rymmasant ynot yr ymddifad a'r weddw.

8 Dirmygaist fy mhethau sanctaidd, a ha­logaist fy Sabbothau.

9 Athrod-wŷr oedd ynot i dywallt gwaed; ar y mynyddoedd hefyd y bwyttasant ynot ti: gwnant scelerder o'th fewn.

10 Ynot ti yLevit. 20.11. & 18.8. datcuddient noethni eu tâd:Levit. 18.19. yr aflan o fis-glwyf a ddarostyngent ynot.

11 Gwnai ŵr hefyd ffieidd-dra âLevit. 18.20. Jer. 5.8. gwraig ei gymmydog, a gŵr a halogei ei waudd ei hun mewn scelerder: ie darostyngei gŵr ynot eiLevit. 18.9. chwaer ei hun, merch ei dâd.

12 Gwobr a gymmerent ynot am dywallt gwaed; cymmeraist usuriaeth ac occraeth, ac elwaist ar dy gymmydogion trwy dwyll, ac anghofiaist fi, medd yr Arglwydd Dduw.

13 Am hynny wele,Pen. 21.17. tarewais fy llaw wrth dy gybydd-dod, yr hwn a wnaethost, ac am y gwaed oedd o'th fewn.

14 A bery dy galon? a gryfhâ dy ddwylo yn y dyddiau y bydd i mi a wnelwyf â thi? myfi yr Arglwydd a'i lleferais, ac a'i gwnaf.

15 Canys gwascaraf di ym mysc y cenhed­loedd, a thanaf di ar hŷd y gwledydd; a gwnaf i'th aflendid ddarfod allan o honot.

16 A thi aNeu, ymhalogl. etifeddi ynot dy hun yng­ŵydd y cenhedloedd, a chei ŵybod mai myfi yw yr Arglwydd.

17 A gair yr Arglwydd a ddaethattaf, gan ddywedyd;

18 Ha fab dŷn, tŷ Israel aeth gennif yn ammhuredd; prês, ac alcam, a haiarn, a phlwm ydynt oll, ynghanol y pair: ammhu­redd arian ydynt.

19 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, am eich bod chwi oll yn ammhuredd, am hynny, wele fi yn eich casclu chwi i ganol Jerusalem.

20 Fel casclu arian, a phrês, a haiarn, a phlwm, ac alcam i ganol y ffwrn, i chwythu tân arnynt iw toddi: felly yn fy llid, a'm dig, y casclaf chwi, ac a'ch gadawaf yno, ac a'ch toddaf.

21 Ie casclaf chwi, a chwythaf arnoch â thân fy llidiawgrwydd, fel y todder chwi yn ei chanol hi.

22 Fel y toddir arian ynghanol y pair, felly y toddir chwi yn ei chanol hi: fel y gŵypoch mai myfi yr Arglwydd a dywelltais fy llid­iawgrwydd arnoch.

23 A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddywedyd;

24 Dywed wrthi hi, fab dŷn, ti yw y tir fy heb ei buro, heb lawio arno, yn nydd dig­ter.

25 Cydfradwriaeth ei phrophwydi o'i mewn, sydd fel llew rhuadwy yn sclyfaethu sclyfaeth,Mat. 23.14. eneidiau a yssasant, tryssor a phethau gwerthfawr a gymmerasant; ei gweddwon hi a amihasant hwy o'i mewn.

26 Ei hoffeiriaid a dreisiasant fy nghyfraith, ac a halogasant fy mhethau sanctaidd: ni wnaethant ragor rhwng cyssegredic a halogedic, ac ni wnaethant ŵybod rhagor rhwng yr aflan a'r giân: cuddiasant hefyd eu llygaid oddi wrth fy Sabbothau, a halogwyd fi yn eu mysc hwynt.

27 EiMic. 3.11. Zeph. 3.3. phennaethiaid oedd yn ei chanol, fel bleiddiaid yn sclyfaethu sclyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw.

28 EiPen. 13.4, 6. phrophwydi hefyd a'i priddasant hwy â chlai annhymherus, gan-weled gwagedd, a dewino iddynt gelwydd, gan ddywedyd, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, a'r Ar­glwydd heb ddywedyd.

29 Pobl y tîr a arferasantNeu, drais. dwyll, ac a dreisiasant drais, ac a orthrymmasant y truan, a'r tlawd: y dieithr hefyd a orthrymmasantHeb. heb farn, neu, vn­iondeb. yn anghyfiawn.

30 Ceisiais hefyd ŵr o honynt i gau y cae, ac i sefyll ar yr adwy o'm blaen, tros y wlâd, rhag ei dinistrio, ac ni's cefais.

31 Am hynny y tywelltais fy nigofaint ar­nynt, â thân fy llidiawgrwydd y difethais hwynt, eu ffordd eu hun a roddais ar eu pen­nau hwynt, medd yr Arglwydd Dduw.

PEN. XXIII.

1 Putteindra Aholab ac Aholibah. 22 Diale­ddu ar Aholibah gan ei chariadau. 36 Y Pro­phwyd yn argyoeddi eu godineb hwy ill dwyoedd, 45 ac yn dangos eu barn hwy.

YNa y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd;

2 Ha fab dŷn, dwy wraig oedd ferched i'r vn fam:

3 A phutteiniasant yn yr Aipht, yn eu hieuengtid y putteiniasant; yno y pwyswyd ar eu bronnau, ac yno yr yssigasant ddidennau eu morwyndod.

4 A'i henwau hwynt oedd Aholah yr hynaf, ac Aholibah ei chwaer: ac yr oeddynt yn eiddo fi, a phlantasant feibion, a merched: dymma eu henwau; Samaria yw Aholah, a Jerusalem Aholibah.

5 Ac Aholah a butteiniodd pan oedd eiddo fi, ac a ymserchodd yn ei chariadau, ei chym­mydogion yr Assyriaid:

6 Y rhai a wiscid â glâs, yn ddugiaid, ac yn dywysogion, o wŷr ieuaingc dymunol i gyd: yn farchogion yn marchogaeth meirch.

7 Fel hyn yHeb. rhoddes. gwnaeth hi ei phutteindra â hwynt, â dewis feibion Assur oll, a chyd â'r rhai oll yr ymserchodd ynddynt, â'i holl eu­lynnod hwynt yr ymhalogodd hi.

8 Ac ni adawodd ei phutteindra a ddygasei hi o'r Aipht: canys gorweddasent gyd â hi yn eu hieuengtid, a hwy a yssigasent fronnau ei morwyndod hi; ac a dywalltasent eu put­teindra arni.

9 Am hynny y rhoddais hi yn llaw ei cha­riadau, sef yn llaw2 Bren. 17.23. meibion Assur, y rhai yr ymserchodd hi ynddynt.

10 Y rhai hynny a ddatcuddiasant eu noeth­ni hi, hwy a gymmerasant ei meibion hi a'i merched, ac a'i lladdasant hitheu â'r cleddyf; a hi a aeth ynHeb. enw. enwoc ym mysc gwragedd, ca­nys gwnaethent farn arni.

11 A phan welodd ei chwaer Aholibah, hi a lygrodd ei thraserch yn fwy nâ hi, a'i phut­teindra yn fwy nâ phutteindra ei chwaer.

12 Ymserchodd ym2 Bren. 16.7. meibion Assur, y dugi­aid a'r tywysogion o gymmydogion, wedi eu gwisco yn wych iawn, yn farchogion yn mar­chogaeth meirch, yn wŷr ieuaingc dymunol i gyd.

13 Yna y gwelais ei halogi hi: a bod vn ffordd ganddynt ill dwy;

14 Ac iddi hi chwanegu ar ei phutteindra, canys pan welodd wŷr wedi eu llunio ar y pared, delwau y Caldeaid wedi eu llunio â fermilion,

15 Wedi eu gwregysu a gwregys am eu lwyni, yn rhagori mewn lliwiau am eu pen­nau, mewn golwg yn dywysogion oll, o ddull meibion Babilon yn Caldea, tir eu ganedi­gaeth:

16 Hi a ymserchodd ynddyntHeb. wrth we­lediad ei llygaid. pan eu gwelodd â'i llygaid, ac a anfonodd gennadau attynt i Caldea.

17 A meibion Babilon a ddaethant atti, i wely cariad, ac a'i halogasant hi â'i putteindra, a hi a ymhalogodd gydâ hwynt, a'i meddwl a giliodd oddi wrthynt.

18 Felly y datcuddiodd hi ei phutteindra, ac y datcuddiodd ei noethni, yna y ciliodd fy meddwl oddi wrthi, felHeb. y dat to­dasei, neu, yr ymoll­yngasai. y ciliasei fy meddwl oddi wrth ei chwaer hi.

19 Etto hi a chwanegodd ei phutteindra, gan gofio dyddiau ei hieuengtid, yn y rhai y putteiniasai hi yn nhir yr Aipht.

20 Canys hi a ymserchodd yn ei gordderch­wŷr, y rhai yr oedd eu cnawd fel cnawd assyn­nod, a'i diferlif fel diferlif meirch.

21 Felly y cofiaist scelerder dy ieuengtid, pan yssigwyd dy ddidennau gan yr Aiphtiaid, am fronnau dy ieuengtid.

22 Am hynny Aholibah, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn cyfodi dy gariadau i'th erbyn, y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt, a dygaf hwynt i'th erbyn o amgylch,

23 Meibion Babilon, a'r holl Galdeaid, Pecod, a Soa, a Choa, holl feibion Assur gyd â hwynt, yn wŷr ieuaingc dymunol, yn ddu­gaid, a thywysogion i gyd, yn bennaethiaid, ac yn enwoc, yn marchogaeth meirch, bawb o honynt.

24 A deuant i'th erbyn â menni, cerbydau, ac olwynion, ac â chynnulleidfa o bobl; go­sodant i'th erbyn oddi amgylch astalch, a tha­rian, a helm: a rhoddaf o'i blaen hwynt far­nedigaeth, a hwy a'th farnant â'i barnedigae­thau eu hun.

25 Ac mi a osodaf fy eiddigedd yn dy er­byn, a hwy a wnant â thi yn llidiog: dy drwyn a'th glustiau a dynnant ymmaith, a'th weddill a syrth gan y cleddyf; hwy a dda­liant dy feibion a'th ferched: a'th weddill a yssir gan y tân.

26 Dioscant hefyd dy ddillad, a dygantHeb. ddodrefn dy hardd­wch. dy ddodrefn hysryd.

27 Felly y gwnaf i'th scelerder, a'th buttein­dra o dir yr Aipht, beidio â thi; fel na cho­dech dy lygaid attynt, ac na chofiech yr Aipht mwy.

28 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn dy roddi yn llaw y rhai a gascaist, yn llaw y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt.

29 A gwnant â thi yn atcas, ac a gymme­rant dy holl lafur, ac a'th adawant di yn llom, ac yn noeth, a datcuddir noethni dy butteindra; îe dy scelerder, a'th butteindra.

30 Mi a wnaf hyn i ti, am butteinio o honot ar ôl y cenhedloedd, am dy halogi gyd â'i heulynnod hwynt.

31 Ti a rodiaist yn ffordd dy chwaer, am hynny y rhoddaf inneu ei chwppan hi yn dy law di.

32 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, dwfn a helaeth gwppan dy chwaer a yfi; ti a fyddi i'th watwar, ac i'th dremygu: y mae llawer yn genni ynddo.

33 Ti a lenwir â meddwdod, ac â gofid; o gwppan syndod, ac anrhaith, o gwppan dy chwaer Samaria.

34 Canys ti a yfi, ac a sugni o honaw, drylli hefyd ei ddarnau ef, ac a dynni ymaith dy fronnau dy hun: canys myfi a'i lleferais, medd yr Arglwydd Dduw.

35 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw; o herwydd it fy anghofio, a'm bwrw o honot tu ôl i'th gefn; am hynny dwg ditheu dy scelerder, a'th butteindra.

36 Dywedodd yr Arglwydd hefyd wrthif;Neu, a ddadleui di, fab dyn tros &c. a ferni di, fab dŷn,Pen. 20.4. & 22.2. Aholah, ac Aholibah? ic mynega iddynt eu ffieidd-dra;

37Pen. 16. Iddynt dorri priodas, a bod gwaed yn eu dwylo, îe gyd â'i helynnod y putteiniasant, eu meibion hefyd y rhai a blantasant i mi, a dynnasant drwy dân iddynt, i'w hyssu.

38 Gwnaethant hyn ychwaneg i mi, fy nghyssegr a aflanhasant yn y dydd hwnnw, a'm Sabbothau a halogasant.

39 Canys pan laddasant eu meibion iw heu­lynnod, yna y daethant i'm cyssegr yn y dydd hwnnw, iw halogi ef, ac wele,2 Bren. 21 4. fel hyn y gwnaethant ynghanol fy nhŷ.

40 A hefyd gan anfon o honoch am wŷrHeb. yn dyfod. i ddyfod o bell, y rhai yr anfonwyd cennad attynt, ac wele daethant; er mwyn pa rai yr ymolchaist, y lliwiaist dy lygaid, ac yr ym­herddaist â harddwch.

41 Eisteddaist hefyd ar wely anrhydeddus, a bord drefnus o'i flaen,Dihar. 7.17. a gosodaist arno fy arogl-darth, a'm holew i,

42 A llais tyrfa heddychol nedd gydâ hi, a chydâ 'rHeb. rhai o amlder dynion. cyffredin y dygwyd yNeu, meddwon. Sabeaid o'r anialwch, y rhai a roddasant freichledau am eu dwylo hwynt, a choronau hyfryd am eu pen­nau hwynt.

43 Yna y dywedais wrth yr hên ei phut­teindra; a wnânt hwy yn awr butteindra gydâ hi, a hithau gyd â hwythau?

44 Etto aethant atti fel myned at buttein­wraig, felly yr aethant at Aholah, ac Aholibab, y gwragedd sceler.

45 A'r gwŷr cyfiawn hwythau a'i barnant hwy â barnedigaethEzec. 16.38. putteiniaid, ac â barne­digaeth rhai yn tywallt gwaed: canys puttei­nio y maent, a gwaed sydd yn eu dwylo.

46 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, dygaf i fynu dyrfa arnynt hwy, a rho­ddaf hwyntHeb. yn sym­mudfa ac yn an­rhaith. i'w mudo ac i'w anrheithio.

47 A'r dyrfa a'i llabyddiant hwy â meini, ac a'iNeu, nailltu­ant, neno yscyth­rant. torrant hwy â'i cleddyfau: eu mei­bion a'i merched a laddant, a'i tai a loscant â thân.

48 Fel hyn y gwnaf inneu i scelerder beidio o'r wlâd, fel y dyscir yr holl wragedd, na wne­lont yn ôl eich scelerder chwi.

49 A hwy a roddant eich scelerder i'ch er­byn, a chwi a ddygwch bechodau eich eulyn­nod, ac a gewch ŵybod mai myfi yw yr Ar­glwydd Dduw.

PEN. XXIIII.

1 Trwy ddammeg o grochan berwedig, 6 y dang­osir siccr ddinistr Jerusalem. 15 Trwy fod Ezeciel heb alaru am farwolaeth ei wraig, 19 y dangosir bod gofid yr Iuddewon y tu hwnt i bob tristwch.

DRachefn yn y nawfed flwyddyn, yn y decfed mîs, ar y decfed dydd o'r mîs, y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd,

2 Scrifenna it henw y dydd hwn, (fab dŷn) fe corph y dydd hwn: ymosododd brenin Ba­bilon yn erbyn Jerusalem, o fewn corph y dydd hwn.

3 A thraetha ddihareb wrth y tŷ gwrthry­felgar, a dywed wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, gosod y crochan, gosod, a thywallt hefyd ddwfr ynddo.

4 Cascl ei ddrylliau iddo, pob dryll têg, y morddwyd, a'r yscwyddoe, llanw ef â'r dewis escyrn.

5 Cymmer ddewis o'r praidd, aNeu, phen­tyrra. chynneu yr escyrn tano, a berw ef yn ferwedic, îc ber­wed ei escyrn o'i fewn.

6 Am hynny yr Arglwydd Dduw a ddywed fel hyn, gwae ddinas y gwaed, y crochan, yr hwn y mae ei scum ynddo, ac nid aeth ei scum allan o honaw, tyn ef allan bôb yn ddryll; na syrthied coel-bren arno.

7 O herwydd ei gwaed sydd yn ei chanol; ar goppa craig y gosododd hi ef, ni's tywall­todd ar y ddaiar, i fwrw arno lwch:

8 I beri i lid godi, î wneuthur dial; rho­ddais ei gwaed hi ar goppa craig, rhag ei gu­ddio.

9 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw,Nahu. 3.1. Hab. 2.12. gwae ddinas y gwaed, minneu a wnaf ei thân-llwyth yn fawr.

10 Amlhâ y coed, cynneu yr tân, difa y cîg, a gwna goginiaeth, a lloscer yr escym.

11 A dôd ef ar ei farwor yn wâg, fel y twymno, ac y llosco ei brês, ac y toddo ei aflendid ynddo; ac y darfyddo ei scum.

12 Ymflinodd â chelwyddau, ac nid aeth ei scum mawr allan o honi; yn tân y bwrir ei scum hi.

13 Yn dy aflendid y mae scelerder, o her­wydd glanhau o honof di, ac nid wyt lân, o'th affendid ni'th lanheir mwy, hyd oni phar­wyf i'm llîd orphywys arnat.

14 Myfi yr Arglwydd a'i lleferais, daw, a gwnaf, nid âf yn ôl, ac nid arbedaf, ac nid edi­farhâf, yn ôl dy ffyrdd, ac yn ôl dy weithred­oedd y barnant di, medd yr Arglwydd Dduw.

15 A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddywedyd;

16 Wele, fab dŷn, fi yn cymmeryd oddi wrthit ddymuniant dy lygaid, â dyrnod: etto nac alara ac nac ŵyla, ac na ddeued dy ddagreu.

17 Taw â llefain, na wna farw-nîd, rhwym dy gap am dy ben, a dôd dy escidiau am dy draed, ac na chae ar dy Heb. wefus vchaf. ac felly vers. 22. enau, na fwytta ych­waith fara dynion.

18 Felly y lleferais wrth y bobl y boreu, a bu farw fy ngwraig yn yr hŵyr, a gwneuthum y boreu drannoeth fel y gorchymynnasid i mi.

19 A'r bobl a ddywedasant wrthif, oni fy­negi i ni beth yw hyn i ni, gan it wneuthur felly?

20 Yna y dywedais wrthynt; gair yr Ar­glwydd a ddaeth attaf, gan ddywedyd,

21 Dywed wrth dŷ Israel, fel hyn y dy­wed yr Arglwydd Dduw; wele fi yn halogi fy nghyssegr, godidowgrwydd eich nerth, dymu­niant eich llygaid,Heb. a tho­sturi. ac anwyldra eich enaid; a'ch meibion, a'ch merched, y rhai a adawsoch, a syrthiant gan y cleddyf.

22 Ac fel y gwneuthum i, y gwnewch chwi­theu; ni chaewch ar eich geneuau, ac ni fwyt­tewch fara dynion.

23 Byddwch a'ch cappiau am eich pennau, a'ch escidiau am eich traed: ni alerwch, ac ni ŵylwch, onid am eich anwiredd y dihoenwch: ac ocheneidiwch bob vn wrth ei gilydd.

24 Felly y mae Ezeciel yn arwydd i chwi; yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe y gwnewch chwithau, a phan ddelo hyn, chwi a gewch ŵybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.

25 Titheu fab dŷn, onid yn y dydd y cym­meraf oddi wrthynt eu nerth, llawenydd eu gogoniant, dymuniant eu llygaid,Heb. dercha­fiad. ac anwyl­dra eu henaid, eu meibion, a'i merched,

26 Y dydd hwnnw y daw yr hwn a ddiango, attat, i beri it ei glywed â'th glustiau?

27 Yn y dydd hwnnw yr agorir dy safn wrth yr hwn a ddiango, lleferi hefyd, ac ni byddi fûd mwy; a byddi iddynt yn arwydd, fel y gŵypont, mai myfi yw yr Arglwydd.

PEN. XXV.

1 Dial Duw ar yr Ammoniaid am eu rhyfyg yn erbyn yr Iuddewon: 8 Ac ar Moah, a Seir; 12 Ac ar Edom, 15 Ac ar y Philistiaid.

A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddywedyd;

2 Ha fab dŷn,Jere. 49.2. gosod dy wyneb yn erbyn meibion Ammon; a phrophwyda yn eu herbyn hwynt,

3 A dywed wrth feibion Ammon, gwrandewch air yr Arglwydd Dduw, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, am ddywedyd o honot, haha, yn erbyn fy nghyssegr, pan halogwyd, ac yn erbyn tîr Israel, pan anrheithiwyd, ac yn erbyn tŷ Juda, pan aethant mewn caeth-glud:

4 Am hynny, wele fi yn dy roddi di yn etifeddiaeth i feibion y dwyrain, fel y gosodant eu palasau ynot, ac y gosodant eu pebyll o'th fewn; hwy a yssant dy ffrwyth, a hwy a yfant dy laeth.

5 Rhoddaf hefyd2 Sam. 12.27. Rabbah yn drigfa ca­melod; a meibion Ammon yn orweddfa de­faid: fel y gŵypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

6 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, o herwydd taro o honotHeb. dy law. dy ddwylaw, a churo o honot â'thHeb. droed. draed, a llawenychu o honot yn dyHeb. enaid. galon â'th holl ddirmyg yn erbyn tir Israel:

7 Am hynny wele, mi a estynnaf fy llaw arnat, ac a'th roddaf ynNeu, yspail. fwyd i'r cenhedloedd, ac a'th dorraf ymaith o fysc y bobloedd, ac a'th ddifethaf o'r tiroedd: dinistriaf di, fel y gŵypech mai myfi yw yr Arglwydd.

8 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw,Jer. 48.1. &c. am ddywedyd o Moab a Seir, wele dŷ Juda fel yr holl genhedloedd:

9 Am hynny wele fi yn agoriHeb. yscwydd. ystlys Moab o'r dinasoedd, o'i ddinasoedd ef, y rhai sydd yn ei gyrrau: gogoniant y wlâd, Beth-iesi­moth, Baal-meon, a Chiriathaim,

10 I feibion y dwyrain,Neu, yn erbyn meibion Ammon. ynghŷd â meibion Ammon, a rhoddaf hwynt yn etifeddiaeth; fel na chofier meibion Ammon ym mysc y cenhedloedd.

11 Gwnaf farn hefyd ar Moab, fel y gwy­pont mai myfi yw yr Arglwydd.

12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, am i Edom wneuthur yn erbyn tŷ Juda, wrthHeb. ddial dial. wneuthur dial, a gwneuthur camwedd mawr, ac ymddial arnynt:

13 Am hynny, medd yr Arglwydd Dduw, yr estynnaf inneu fy llaw ar Edom, a thorraf o honi ddŷn, ac anifail; a gwaaf hi yn anrhaith o Teman;Neu, hyd De­dan y syrthiant &c. a'r rhai o Dedan a syrthiant gan y cleddyf.

14 A rhoddaf fy nialedd ar yr Edomiaid, trwy law fy mhobl Israel, a hwy a wnant ag Edom yn ôl fy nigllonedd, ac yn ôl fy llîd; fel y gwypont fy nialedd, medd yr Arglwydd Dduw.

15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, am wneuthur o'r Philistiaid trwy ddial, a dialu dial drwy ddirmyg calon, iw dinistrioNeu, a chas tragywy­ddol. am yr hên gâs:

16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn estyn fy llaw ar y Philistiaid, a thorraf ymmaith y Cerethiaid, a difethaf weddill porthladd y môr.

17 A gwnaf arnyntHeb. ddiale­ddau. ddialedd mawr, trwy gerydd llidioc: a chânt wybod mai myfi yw 'r Arglwydd, pan roddwyf fy nialedd arnynt.

PEN. XXVI.

1 Bygwth Tyrus am ei rhyfyg yn erbyn Jerusa­lem. 7 Gallu Nabuchodonosor yn ei herbyn hi. 15 Cwynfan a syndod y môr, o herwydd ei chwymp hi.

AC yn yr vnfed flwyddyn ar ddêc, ar y dydd cyntaf o'r mîs, y daeth gair yr Ar­glwydd attaf, gan ddywedyd,

2 Ha fab dŷn, o herwydd dywedyd o Tyrus am Jerusalem, aha, torrwyd hi, pyrth y bobl­o [...]dd, trôdd attafi, fo'm llenwir, aurheithiedic yw hi.

3 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi i'th erbyn ô Tyrus, a chodaf genhedloedd lawer i'th erbyn, fel y cyfyd y môr ei donnau.

4 A hwy a ddinistriant geurydd Tyrus, a'i thyrau a ddinistriant; minneu a grafaf ei llwch o honi, ac a'i gwnaf yn goppa craig.

5 Yn danfa rhwydau y bydd, ynghanol y môr, canys myfi a lefarodd hyn, medd yr Ar­glwydd Dduw; a hi a fydd yn yspail i'r cen­hedloedd.

6 Ei merched hefyd, y rhai sydd yn y maes, a leddir â'r cleddyf; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

7 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn dwyn ar Tyrus o'r gogledd, Nabuchodonosor brenin Babilon, brenin bren­hinoedd, â meirch, ac â cherbydan, ac â mar­chogion, a thorfoedd, a phobl lawer.

8 Dy ferched a ladd efe yn y maes â'r cle­ddyf, ac aNeu, dywallt offer er­gydio. esyd wrth-glawdd i'th erbyn, ac a fwrw glawdd i'th erbyn, ac a gyfyd darian i'th erbyn.

9 Ac efe a esyd beiriannau rhyfel yn erbyn dy geurydd, a'th dyrau a fwrw efe i lawr â'i fwyill.

10 Gan amlder ei feirch ef, eu llwch a'th doa, dy geurydd a gynhyrfant gan sŵn y marchogion, a'r olwynion, a'r cerbydau, pan ddelo trwy dy byrth di, fel dyfod i ddinas adwyog.

11 A charnau ei feirch y sathr efe dy heo­lydd oll; dy bobl a ladd efe â'r cleddyf; a'th sefyll-fannau cedyrn a ddescyn i'r llawr.

12 A hwy a anrheithiant dy gyfoeth, ac a yspeiliant dy farchnadaeth, ac a ddinistriant dy geurydd, a'th dai dymunol a dynnant i lawr, a'th gerric, a'th goed, a'th bridd, a osodant ynghanol y dyfroedd.

13Esa. 24.8. Jer. 7.34. & 16.9. A gwnaf i sŵn dy ganiadau beidio, ac ni chlywir mwy lais dy delynau.

14 A gwnaf di yn goppa craig, tanfa rhwy­dau fyddi, ni th adeiledir mwy: canys myfi yr Arglwydd a'i lleferais, medd yr Arglwydd Dduw.

15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Tyrus, oni chryn yr ynysoedd gan sŵn dy gwymp, pan waeddo yr archolledic, pan ladder lladdfa yn dy ganol?

16 Yna holl dywysogion y môr a ddescyn­nant o'i gorsedd-feingciau, ac a fwriant ym­maith eu manteiloedd, ac a ddioscant eu gwisc­oedd symmud-liw;Heb. dychryn­iadau. dychryn a wiscant, ar y ddaiar yr eisteddant, ac a ddychrynant ar bob moment, ac a synnant wrthit.

17 Codant hefydDate. 18.9. alar-nad am danat, a dy­wedant wrthit; pa fodd i'th ddifethwyd, yr hon a bresswylirHeb. gan y moroedd. gan fôrwyr, y ddinas ganmo­ladwy, yr hon oedd gref ar y môr, hi a'i thri­golion, y rhai a roddasant eu harfwyd ar ei holl ymdeith-wŷr hi?

18 Yr awr hon yr ynysoedd a ddychrynant yn nydd dy gwymp, ie yr ynysoedd y rhai sydd yn y môr a drallodir wrth dy fynediad di ymmaith.

19 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, pan roddwyf di yn ddinas antheithie­dic, fel y dinasoedd ni's cyfanneddir, gan ddwyn arnat y dyfnder, fel i'th guddio dyfroedd lawer,

20 A'th ddescyn o honof gyd â'r rhai a ddescynnant i'r pwll, at y bobl gynt, a'th osot yn iselderau y ddaiar, yn yr hên anrhaith, gyd â'r rhai a ddescynnant i'r pwll, fel na'th bress­wylier, a rhoddi o honof ogoniant yn nhir y rhai byw;

21 Gwnaf di ynHeb. ddychry­niadau. ddychryn, ac ni byddi, er dy geisio ni'th geir mwy, medd yr Arglwydd Dduw.

PEN. XXVII.

1 Cyfoeth Tyrus, 26 A'i hanfad gwymp.

GAir yr Arglwydd a ddaeth attaf drachefn, gan ddywedyd;

2 Titheu fab dyn, cyfod alar-nad am Tyrus;

3 A dywed wrth Tyrus, ô dydi yr hon wyt yn trigo wrth borthladdoedd y môr, marchnad­yddes y bobloedd i ynysoedd lawer, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Tyrus, ti a ddy­wedaist, myfi wyf berffaith o degwch;

4 Dy derfynau sydd Heb. ynghalon. ynghanol y môr, dy adeilad-wŷr a berffeithiasant dy degwch.

5 Adeiladasant dy holl ystyllod o ffynnid­wŷdd o Senir, cymmerasant gedr-wŷdd o Li­banus, i wneuthur hwyl-bren i ti.

6 Gweithiasant rwyfau o dderw o Basan;Heb merch yr Assu­riaid. Neu, gwnae­thant dy fyrddia­dau o Ifo­ri wedi ei fathru yn dda. mintai 'r Assuriaid a wnaethant dy feingciau o Ifori o ynysoedd Chittim.

7 Lliain main o'r Aipht o symmud-liw, oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl it:Neu, porphor ac yscar­lad. glâs, a phophor o ynysoedd Elisah oedd dy dô.

8 Trigolion Sidon, ac Arfad oedd dy rwyf­wŷr? dy ddoethion di Tyrus, o'th fewn oedd dy long-lywiawd-wŷr.

9 Henuriaid Gebal, a'i doethion oedd ynot, ynHeb. cadarn­hau dy rwygla­dau. cau dy agennau, holl longau y môr, a'i llong-wŷr oedd ynot ti, i farchnatta dy farch­nad.

10 Y Persiaid, a'r Lydiaid, a'r Phutiaid, oedd ryfel-wŷr it yn dy luoedd: tarian a helm a grogasant ynot, hwy a roddasant it har­ddwch.

11 Meibion Arfad oedd gyd â'th luoedd, ar dy gaerau oddi amgylch, a'r Gammadiaid yn dy dyrau: crogasant eu tariannau ar dy gaerau oddi amgylch; hwy a berffeithiasant dy degwch.

12 Tarsis oedd dy farchnadyddes, o her­wydd amldra pob golud; ag arian, haiarn, al­cam, a phlwm, y marchnattasant yn dy ffeiriau.

13 Jafan, Tubal, a Mesech, hwythau oedd dy farchnadyddion; marchnattasant yn dyNeu, farsian­diaith. farchnad am ddynion, a llestri prês.

14 Y rhai o dŷ Togarmah a farchnattasant yn dy ffeiriau, â meirch, a marchogion, a mûlod.

15 Meibion Dedan oedd dy farchnad­wyr; ynysoedd lawer oedd farchnadoedd dy law: dygasant gyrn Ifori, a Hebenus yn anrheg iti.

16Syria. Aram oedd dy farchnadudd, o her­wydd amled pethau o'th waith di: am Gar­buncl, porphor, a gwaith edef a nodwydd, a lliain mein-llin, a chwrel, a gemmau, y march­nattasant yn dy ffeiriau.

17 Juda, a thîr Israel, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnattasant yn dy farch­nad, am wenith Minnith, a Phannag, a mêl, ac olew, aNeu, balm, neu, ystor. thriacl.

18 Damascus oedd dy farchnadudd, yn amlder dy waith o herwydd lliaws pob golud, am wîn Helbon, a gwlân gwyn.

19 Dan hefyd, a IafanNeu, Meuzal. yn cynniwer, a farchnattasant yn dy farchnadoedd: haiarn wedi ei weithio, Cassia, a'r Calamus oedd yn dy farchnad.

20 Dedan oedd dy farchnadudd mewn bre­thynnauHeb. rhydd-did gwerth-fawr i gerbydau.

21 Arabia, a holl dywysogion Cedar oedd hwythauHeb. farchnae­dyddion dy law. farchnadyddion it am ŵyn, hyr­ddod, a bychod; yn y rhai hyn yr oedd dy farchnadyddion.

22 Marchnadyddion Sebah, a Ramah, hwythau oedd dy farchnadyddion: march­nattasant yn dy ffeiriau, am bob prif bêr-arog­lau, ac am bob maen gwerth-fawr, ac aur.

23 Haran, a Channeh, ac Eden, marchnady­ddion Sebah, Assur, a Chilmad oedd yn march­natta â thi.

24 Dymma dy farchnadyddion,Neu, am bethau godidog, neu, am bob math ar bethau. am bethau perffaith, am frethynnauHeb. plyaiadau gleision, a gwaith edef a nodwydd, ac am gistiau gwiscoedd gwerth-fawr, wedi eu rhwymo â rhaffau, a'i gwneuthur o gedrwydd ym mysc dy farch­nadaeth.

25 Llongau Tarsis oeddNeu, bennaf yn dy farch­nad. yn canu amda­nat yn dy farchnad, a thi a lanwyd, ac a ogo­neddwyd yn odieth ynghanol y moroedd.

26 Y rhai a'th rwyfasant, a'th ddygasant i ddyfroedd lawer: gwynt y dwyrain a'th ddryllioddHeb. ynghalon. ynghanol y moroedd.

27Datc. 18.9, &c. Dy olud, a'th ffeiriau, dy farchnadaeth, dy for-wŷr, a'th feistred llongau, cyweirwyr dy agennau, a marchnadwŷr dy farchnad, a'th ryfel-wŷr oll, y rhai fydd ynot,Neu, gyd a'th holl &c. a'th holl gynnulleidfa, yr hon sydd yn dy ganol, a syrthiantHeb. yhghalon. ynghanol y môr, ar ddydd dy gwymp di.

28 Wrth lêf gwaedd dy feistred llongau, yNeu, pentre­fydd. tonnau a gyffroant.

29 Yna pob thwyf-wr, y mor-wŷr, holl lywyddion y moroedd, a ddescynnant o'i llongau, ar y tîr y safant.

30 A gwnant glywed eu llêf amdanat, a gwaeddant yn chwerw, a chodant lŵch ar eu pennau, ac ymdrybaeddant yn y lludw.

31 A hwy a'i gwnant eu hunain yn foelion am danat, ac a ymwregysant â sach-liain, ac a wylant am danat â chwerw alar, mewn chwer­wedd calon.

32 A chodant amdanat alar-nad yn eu cwynfan, a galarant amdanat, gan ddywedyd; pwy oedd fel Tyrus, fel yr hon a ddinistriwyd ynghanol y môr?

33 Pan ddelei dy farchnadaeth o'r moro­edd, diwellit bobloedd lawer: ag amlder dy olud, a'th farchnadoedd, y cyfoethogaist fren­hinoedd y ddaiar.

34 Y pryd i'th dorrwyd gan y môr, yn nyfnderau y dyfroedd, dy farchnad, a'th holl gynnulleidfa, a syrthiasant yn dy ganol.

35 Holl bresswyl-wŷr yr ynysoedd a syn­nant amdanat, a'i brenhinoedd a ddychrynant ddychryn; hwy a drallodir yn eu hwynebau.

36 Y marchnadyddion ym mysc y bobl­oedd a chwibanant arnat,Heb. dychryn­iadau. dychryn fyddi: ac ni byddi bŷth mwyach.

PEN. XXVIII.

1 Barnedigaeth Duw ar dywysog Tyrus, am ei falchder yn erbyn Duw. 11 Cwynfan am fod ei fawr ogoniant ef wedi ei lygru gan bechod. 20 Barnedigaeth Zidon. 24 Adferu Israel.

DAeth gair yr Arglwydd attaf drachefn, gan ddywedyd;

2 Ha fab dŷn, dywed wrth dywysog Tyrus, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; am falchio dy galon, a dywedyd o honot, Duw ydwyf fi, eistedd yr ydwyf yn eisteddfa Duw,Heb. ynghalon. ynghanol y moroedd, a thi ynEsa. 31.3. ddyn, ac nid yn Dduw, er gosod o honot dy galon fel calon Duw:

3 Wele di yn ddoethach nâ Daniel; ni chuddir dim dirgelwch oddi wrthit.

4 Trwy dy ddoethineb a'th ddeallgarwch y cefaist gyfoeth it, îe y cefaist aur ac arian i'th dryssorau.

5 TrwyHeb. amlder dy ddoe­thineb. dy fawr ddoethineb, ac wrth dy farchnadaeth, yr amlheaist dy gyfoeth, a'th ga­lon a falchiodd o herwydd dy gyfoeth.

6 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, am osod o honot dy galon fel calon Duw:

7 O herwydd hynny, wele fi yn dwyn i'th erbyn ddieithriaid, y trawsaf o'r cenhedloedd; a thynnant eu cleddyfau ar degwch dy ddoe­thineb, a halogant dy loywder.

8 Descynnant di i'r ffôs, a byddi farw o farwo­laeth yr archolledic ynghanol y mor.

9 Gan ddywedyd a ddywedi di o flaen dy leiddiad, Duw ydwyf fi, a thi a fyddi yn ddŷn, ac nid yn Dduw, yn llaw dyNeu. archoll­ydd. leiddiad.

10 Byddi farw o farwolaeth y dienwaededic drwy law dieithriaid; canys myfi a'i dywe­dais, medd yr Arglwydd Dduw.

11 Gair yr Arglwydd a ddaeth attafdrachefn, gan ddywedyd;

12 Cyfod, fab dŷn, alar-nad a'm frenin Tyrus, a dywed wrtho, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ti seliwr nifer, llawn o ddoethineb, a chyflawn o degwch:

13 Ti a fuost yn Eden, gardd Duw; pob maen gwerth-fawr a'th orchuddiei,Neu, Rhuli. Sardius, Tophas, ac Adamant, Beril, Onix, a Iaspis; Saphir, Rubi, ac Smaragdus, ac aur: gwaith dy dympanau, a'th bibellau, a baratowyd ynot, ar y dydd i'th grewyd.

14 Cherub eneinioc ydwyt yn gorchguddio: ac felly i'th roddaswn; oeddit ar sanctaidd fynydd Duw: ymrodiaist ynghanol y cerric tanllyd.

15 Perffaith oeddit ti yn dy ffyrdd, er y dydd i'th grewyd, hyd oni chaed ynot anwiredd.

16 Yn amlder dy farchnadaeth y llanwa­sant dy ganol â thrais, a thi a bechaist: am hynny i'th halogaf allan o fynydd Duw, ac i'th ddifethaf di, Gerub yn gorchguddio, o ganol y cerric tanllyd.

17 Balchiodd dy galon yn dy degwch, lly­graist dy ddoethineb o herwydd dy loywder: bwriaf di i'r llawr; o flaen brenhinoedd i'th osodaf, fel yr edrychont arnat.

18 Trwy amlder dy anwiredd, ag anwiredd dy farchnadaeth yr halogaist dy gyssegroedd: am hynny y dygaf dân allan o'th ganol, hwnnw a'th yffa: a gwnaf di yn lludw ar y ddaiar, yngolwg pawb a'th welant.

19 Y rhai a'th adwaenent oll ym mysc y bobloedd, a synnant o'th achos:Heb. dychry­niddau. dychryn fyddi, ac ni byddi byth.

20 Yna gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddywedyd;

21 Gosot fab dyn, dy wyneb yn erbyn Zi­don, a phrophwyda yn ei herbyn hi,

22 A dywed, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; wele fi i'th erbyn Zidon, fel i'm gogone­dder yn dy ganol, ac y gŵypont mai myfi yw yr Argl [...]ydd; pan wnelwyf ynddi farnedigae­thau, ac i'm sancteiddier ynddi.

23 Canys anfonaf iddi haint, a gwaed iw heolydd; a bernir yr archolledic o'i mewn â'r cleddyf, yr hwn fydd arni oddi amgylch; a chânt ŵybod mai myfi yw yr Arglwydd.

24 Ac ni bydd mwy i dŷ Israel, o'r holl rai o'i hamgylch a'r a'i dirmygasant, yspyddaden bigog, na draenen ofidus, a chânt ŵybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.

25 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, pan gasclwyf dŷ Israel o fysc y bobloedd, y rhai y gwascarwyd hwy yn eu plith, ac yr ymsancteiddiwyf ynddynt yngolwg y cenhed­loedd; yna y trigant yn eu gwlâd, a roddais i'm gwâs Jacob.

26 Ie trigant ynddiNeu, mewn hyder. yn ddiogel, ac adeila­dant dai, a phlannant winllannoedd, a phress­wyliant mewn diogelwch: pan wnelwyf far­nedigaethau â'r rhai oll a'iNeu, anrhei­chiant. dirmygant hwy o'i hamgylch, fel y gŵypont mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw.

PEN. XXIX.

1 Barnedigaeth Pharaoh am ei fradwriaeth i Israel. 8 Dinistr yr Aipht, 13 A'i hadferu ym mhen deugain mhlynedd. 17 Nabuchodono­sor yn cael yr Aipht yn gyflog ac yn wobr am gospi Tyrus. 21 Yr adferir Israel.

YN y decfed mîs o'r ddecfed flwyddyn, ar y deuddecfed dydd o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd;

2 Gosod, fab dŷn, dy wyneb yn erbyn Pha­rao brenin yr Aipht, a phrophwyda yn ei erbyn ef, ac yn erbyn yr Aipht oll.

3 Llefara, a dywed, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, wele fi i'th erbyn, Pharao bre­nin yr Aipht,Psal. 74.13.14. Esa. 51.9. & 27.1. y ddraig fawr, yr hwn sydd yn gorwedd ynghanol ei afonydd, yr hwn a ddy­wedodd, eiddofi yw fy afon, ac mi a'i gwneu­thum hi i mi fy hun.

4 Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau, a gwnaf i byscod dy afonydd lynu yn dy emmau, a chodaf di o ganol dy afonydd, îe holl byscod dy afonydd a lynant wrth dy emmau.

5 Ac mi a'th adawaf yn yr anialwch, ti a holl byscod dy afonydd; syrthi ar wyneb y maes, ni'th gesclir, ac ni'th gynhullir: i fwyst­filod y maes, ac i ehediaid y nefoedd, i'th roddais yn ymborth.

6 A holl drigolion yr Aipht a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd; am iddynt fod2 Bren. 18 21. Esa. 36.6. yn ffon gorsen i dŷ Israel.

7 Pan ymaflasant ynot erbyn dy law, ti a dorraist, ac a rwygaist eu holl yscwydd: a phan bwysasant arnat, ti a dorraist, ac a wnaethost iw holl arennau sefyll.

8 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; wele fi yn dwyn arnat gleddyf, a thor­raf ymmaith o honot ddŷn, ac anifail.

9 A bydd tir yr Aipht yn ddinistr, ac yn an­rhaith, a chânt ŵybod mai myfi yw yr Ar­glwydd: am iddo ddywedyd, eiddo fi yw yr afon, ac myfi a'i gwneuthum.

10 Am hynny wele fi yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy afonydd, a gwnaf dir yr Aipht ynHeb. ddiffaith­faoedd diffeith­fa. ddiffaethwch anrhaithiedic, ac yn anghyfan­nedd, o dŵrHeb. Seueneh. Syene, hyd yn nherfyn Ethiopia.

11 Ni chynniwer troed dŷn trwyddi, ac ni chynniwer troed anifail trwyddi, ac ni's cyfan­neddir hi, ddeugain mhlynedd.

12 Ac mi a wnaf wlad yr Alpht yn anghy­fannedd ynghanol gwledydd anghyfanneddol, a'i dinasoedd fyddant yn anghyfannedd, ddeu­gain mihynedd, ynghanol dinasoedd anrhaith­iedic, ac mi a wascaraf yr Aiphtiaid ym mysc y cenhedloedd, ac a'i tanaf hwynt ar hyd y gwledydd.

13 Etto fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw,Esay. 19.23. Jer. 46.26. ym mhen deugain mhlynedd y casclaf yr Aiphtiaid o fysc y bobloedd, lle y gwas­carwyd hwynt.

14 A dychwelaf gaethiwed yr Aipht, îe dychwelaf hwynt i dîr Pathros, i dîr euNeu, genedi­gaeth. press­wylfa; ac yno y byddant yn frenhiniaeth issel.

15 Issaf fydd o'r brenhiniaethau, ac nid ym­ddyrchaif mwy oddiar y cenhedloedd, canys lleihâf hwynt, rhag arglwyddiaethu ar y cen­hedloedd.

16 Ac ni bydd hi mwy i dŷ Israel yn hy­der, yn dwyn ar gof eu hanwiredd, pan edrychont hwy ar eu hôl hwythau: eithr cânt ŵybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.

17 Ac yn y mîs cyntaf, o'r seithfed flwydd­yn ar hugain, ar y dydd cyntaf o'r mîs, y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd;

18 Ha fab dŷn, Nabuchodonosor brenin Babilon a wnaeth iw lu wasanaethu gwasanaeth mawr yn erbyn Tyrus: pob pen a foelwyd, a phob yscwydd a ddinoethwyd, ond nid oedd am Dyrus gyflog iddo, ac iw lu, am y gwasa­naeth a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi:

19 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw; wele fi yn rhoddi tir yr Aipht i Nabuchodonosor brenin Babilon, ac efe a gymmer ei lliaws hi, ac a yspeilia ei hyspail hi, ac a ysclyfaetha ei ysclyfaeth hi, fel y byddo hi yn gyflog iw lû ef.

20Neu, Yn lle ei gyflog am yr hyn a &c. Am ei waith yr hwn a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi, y rhoddais iddo dîr yr Aipht, o herwydd i mi y gweithiasant, medd yr Arglwydd Dduw.

21 Yn y dydd hwnnw y gwnaf i gorn tŷ Israel flaguro, a rhoddaf i titheu agoriad genau yn eu canol hwynt, a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

PEN. XXX.

1 Dinistr yr Aipht a'i chynnorthwy-wyr, 20 Y cadarnheir braich Babilon, i dorri braich yr Aipht.

A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddywedyd;

2 Prophwyda, fab dŷn, a dywel, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; vdwch, ôch o'r diwrnod.

3 Cynys agos dydd, îe agos dydd yr Ar­glwydd; dydd cwmyloc, amser y cenhedloedd fydd efe.

4 A'r cleddyfa ddaw ar yr Aipht, a byddNeu, ofn. gofid blin yn Ethiopia, pan syrthio yr archoll­edic yn yr Aipht, a chymmeryd o honynt ei lliaws hi, a dinistrio ei seiliau.

5 Ethiopia, aHeb. Phut. Libia, a Lydia, a'i gwerin oll, Chub hefyd, a meibion y tir sydd yn y cyfammod, a syrthiant gyd â hwynt gan y cleddyf.

6 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, y rhai sy'n cynnal yr Aipht a syrthiant hefyd; a balchder ei nerth hi a ddescyn, syrthiant ynddi gan y cleddyf o dŵr Syene, medd yr Ar­glwydd Dduw.

7 A hwy a wneir yn Anghyfannedd ym mhlith y gwledydd anghyfanneddol, a'i dinaso­edd fydd ynghanol y dinasoedd anrhaithiedic.

8 A chânt ŵybod mai myfi yw yr Ar­glwydd, pan roddwyf dân yn yr Aipht, ac y torrer ei holl gynnorthwywyr hi.

9 Y dydd hwnnw cennadau a ânt allan oddiwrthifi mewn llongau, i ddŷchrynu Ethi­opia ddiofal, a bydd gofid blin arnynt fel yn nydd yr Aipht; canys wele ef yn dyfod.

10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, gwnaf hefyd i liaws yr Aipht ddarfod, trwy law Nabuchodonosor brenin Babilon.

11 Efe a'i bobl gyd ag ef, y rhai trawsion o'r cenhedloedd, a ddygir i ddifetha 'r tîr: a hwy a dynnant eu cleddyfau ar yr Aipht, ac a lanwant y wlâd â chelanedd.

12 Gwnaf hefyd yr afonydd yn sychder, a gwerthaf y wlâd i law y drygionus, îe anrhei­thiaf y wlad a'i chyflawnder, trwy law diei­thriaid: myfi 'r Arglwydd a'i dywedodd.

13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw,Zech. 13.2. difethaf hefyd y delwau, a gwnaf i'r eulyn­nod ddarfod o Noph, ac ni bydd tywysog mwyach o dir yr Aipht; ac ofn a roddaf yn nhir yr Aipht.

14 Pathros hefyd a anrheithiaf, a rhoddaf dân ynNeu, Tanis. Zoan; a gwnaf farnedigaethau yn No.

15 A thywalltaf fy llid arNeu, Pelusium. Sin, cryfder yr Aipht; ac a dorraf ymmaith liaws No.

16 Ac mi a roddaf dân yn yr Aipht, gan ofidio y gofidia Sin, a No a rwygir, a bydd ar Noph gyfyngderau bennydd.

17 Gwŷr ieuaingcNeu, Heliopolis Afen, aNeu, Phubas­tum. Phibeseth, a syrthiant gan y cleddyf; ac i gaethiwed yr ânt hwy.

18 Ac ar TehaphnehesNeu, yr attelir. y tywylla y diwrnod, pan dorrwyf yno ieuau yr Aipht: a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi: cwmwl a'i cuddia hi, a'i merched a ânt i gaethiwed.

19 Felly y gwnaf farnedigaethau yn yr Aipht, fel y gwypont mai myfi yw yr Ar­glwydd.

20 Ac yn y mîs cyntaf o'r vned flwyddyn ar ddîc, ar y seithfed dydd o'r mîs y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd;

21 Ha fâb dŷn, torrais fraich Pharao bre­nin yr Aipht: ac wele, nîs rhwymir, i roddi meddiginiaethau wrtho, i osod rhwymyn i rwymo, i'w gryfhau i ddal y cleddyf,

22 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, wele fi yn erbyn Pharao bre­nin yr Aipht, ac mi a dorraf ei freichiau ef, y cryf, a'r hwn oedd ddrylliedic, ac a wnaf i'r cleddyf syrthio o'i law ef.

23 Ac mi a wascaraf yr Aiphtiaid ym mysc y cenhedloedd, ac a'i tanaf hwynt ar hŷd y gwledydd.

24 Ac mi a gadarnhâf freichiau brenin Ba­bilon, ac a roddaf fy nghleddyf yn ei law ef: ond mi a dorraf freichiau Pharao, efe a ochain o'i flaen ef ag ocheneidiau vn archolledig.

25 Ond mi a gadarnhâf freichiau brenin Ba­bilon, a breichiau Pharao a syrthiant, fel y gwy­pont mai myfi yw yr Arglwydd, wedi i mi roddi fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac iddo ynteu ei estyn ef ar wlâd yr Aipht.

26 Ac mi a wascaraf yr Aiphtiaid ym mysc y cenhedloedd, ac a'i tanaf hwynt ar hŷd y gwledydd, fel y gwypont mai myfi yw yr Ar­glwydd.

PEN. XXXI.

1 Adrodd i Pharao 3 ogoniant Assyria, 10 a'i chwymp am ei balchder: 18 A'r vn dinistr ar yr Aipht.

AC yn y trydydd mîs o'r vnfed flwyddyn ar ddêc, ar y dydd cyntaf o'r mîs, y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd;

2 Dywed, fab dyn, wrth Pharao frenin yr Aipht, ac wrth ei liaws, i bwy yr ydwyt debyg yn dy fawredd?

3 Wele, Assur oedd gedr-wŷdden yn Liba­nus, yn dêg ei cheingciau, a'i brig yn cyscodi, ac yn vchel ei huchder, a'i brigyn oedd rhwng y tewfrig.

4 Dyfroedd a'i maethasei hi, y dyfnder a'iNeu, dygasal i fynu. derchafasei, â'i hafonydd yn cerdded o am­gylch ei phlanfa, bwriodd hefyd ei ffrydiau at holl goed y maes:

5 Am hynny yr ymdderchafodd ei huchder hi goruwch holl goed y maes, a'i cheingciau a amlhasant, a'i changhennau a ymestynnasant, o herwydd dyfroedd lawer, panNeu, yrrodd hi hwynt allan. fwriodd hi allan.

6Dan. 4.12. Holl ehediaid y nefoedd a nythent yn ei cheingciau hi, a holl fwyst-filod y maes a lydnent dan ei changhennau hi, îe yr holl gen­hedloedd lluosog a eisteddent dan ei chyscod hi.

7 Felly têg ydoedd hi yn ei mawredd, yn hŷd ei brig, o herwydd ei gwraidd ydoedd wrth ddyfroedd lawer.

8 Y cedr-wŷddGen. 2. yngardd Duw ni allent ei chuddio hi, y ffynnid-wŷdd nid oeddynt debyg iw cheingciau hi, a'r ffawydd nid oedd­ynt fel ei changhennau hi, ac vn pren yngardd yr Arglwydd nid ydoedd debyg iddi hi, yn ei thegwch.

9 Gwnaethwn hi yn dêg gan liaws ei changhennau, a holl goed Eden, y rhai oedd yngardd Duw, a genfigennasant wrthi hi.

10 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, o herwydd ymdderchafu o honot mewn vchder, a rhoddi o honi ei brig ym-mysc y tewfrig, ac ymdderchafu o'i cha­lon yn eu huchder:

11 Am hynny y rhoddais hi yn llaw cadarn y cenhedloedd; gan wneuthur y gwna efe iddi: am ei drygioni y bwriais hi allan.

12 A dieithraid, rhai ofnadwy y cenhedlo­edd a'i torrasant hi ymmaith, ac a'i gadawsant hi ar y mynyddoedd, ac yn yr holl ddyffryn­noedd y syrthiodd ei brig hi, a'i changhennau a dorrwyd yn holl afonydd y ddaiar: a holl [Page] bobloedd y tîr a ddescynnasant o'i chyscod hi, ac a'i gadawsant hi.

13 Holl ehediaid y nefoedd a drigant ar eiHeb. chwymp. chyff hi: a holl fwyst-filod y maes a fydd­ant ar ei changhennau hi;

14 Fel nad ymdderchafo holl goed y dy­froedd yn eu huchder, ac na roddont eu brigyn rhwng y tew-frig, ac na safo 'r holl goed dyf­radwyHeb. arnynt eu hunain am ei huchder. yn eu huchder: canys rhoddwyd hwynt oll i farwolaeth yn y tîr issaf, ynghanol meibion dynion, gyd â'r rhai a ddescynnant i'r pwll.

15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, yn y dydd y descynnodd hi i'r bedd, gwneuthum alaru, toais y dyfnder am dani hi: ac atteliais ei hafonydd, fel yr attaliwyd dyfroedd lawer:Heb. duais neu, tywyllais Libanus am dani hi. gwneuthum i Libanus alaru am dani hi, ac yr ydoedd ar holl goed y maes lesmair am dani hi.

16 Gan sŵn ei chwymp hi y cynnhyrfais y cenhedloedd, pan wneuthum iddi ddescyn i vffern, gyd â'r rhai a ddescynnant i'r pwll: a holl goed Eden, y dewis a'r goreu yn Li­banus, y dyfradwy oll, a ymgyssurant yn y tîr issaf.

17 Hwythau hefyd gyd â hi a ddescynnant i vffern, at laddedigion y cleddyf, a'r rhai oedd fraich iddi, y rhai a drigasant tan ei chyscod hi ynghanol y cenhedloedd.

18 I bwy felly ym-mysc coed Eden yr oeddit debyg mewn gogoniant, a mawredd? etto ti a ddescynnir gyd â choed Eden i'r tir issaf: gorweddi ynghanol y rhaiPen. 28.10. dienwaede­dic, gyd â lladdedigion y cleddyf: dymma Pha­rao a'i holl liaws, medd yr Arglwydd Dduw.

PEN. XXXII.

1 Cwynfan am erchyll gwymp yr Aipht. 11 Cleddyf Babilon a'i dinistria hi. 17Y dygir hi i wared i vffern, ym mhlith y cen­hedloedd dienwaededig.

AC yn y deuddecfed mîs o'r ddeuddecfed flwyddyn, ar y dydd cyntaf o'r mîs, y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddy­wedyd,

2 Ha fab dŷn, cyfod alar-nad am Pharao brenin yr Aipht, a dywed wrtho; tebygaist i lew ieuangc y cenhedloedd, ac yr ydwyt ti felNeu, draig. morfil yn y moroedd: a daethost allan gyd â'th afonydd, cythryblaist hefyd y dyfroedd â'th draed, a methraist eu hafonydd hwynt.

3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, minneu aPen. 12.13. & 17, 20. danaf fy rhwyd arnat â chynnulleid­fa pobloedd lawer; a hwy a'th godant yn fy rhwyd i.

4 Gadawaf di hefyd ar y tir, taflaf di ar wyneb y maes, a gwnaf i holl ehediaid y ne­foedd drigo arnat ti; ie o honot ti y diwallaf fwyst-filod yr holl ddaiar.

5 Rhoddaf hefyd dy gîg ar y mynyddoedd, a llanwaf y dyffrynnoedd â'th vchder di.

6 Mwydaf hefyd â'th waedHeb. dir dy nofiad. y tir yr wyt yn nofio ynddo, hŷd y mynyddoedd, a llenwir yr afonydd o honot.

7 IeEsay. 13 10. Joel. 2.31. & 3.15. Matth. 24.29. cuddiaf y nefoedd wrth dy ddiffo­ddi, a thywyllaf eu sêr hwynt, yr haul a gudd­iaf â chwmwl, a'r lleuad ni wna iw goleuni oleuo.

8 Tywyllaf arnat holl lewyrch goleuadau y n [...]edd; a rhoddaf dywyllwch ar dy dîr, [...] yr Arglwydd Dduw.

9 A digiaf galon pobloedd lawer, pan ddy­gwyf dy ddinistr ym mysc y cenhedloedd, i diroedd nid adnabuost.

10 A gwnaf i bobloedd lawer ryfeddu wrthit, a'i brenhinoedd a ofnant yn fawr o'th blegid, pan wnelwyf i'm cleddyf ddiscleirio o flaen eu hwynebau hwynt, a hwy ar bob mu­nyd a ddychrynant bob vn am ei enioes, yn nydd dy gwymp.

11 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, cleddyf brenin Babilon a ddaw arnat ti.

12 A chleddyfau y rhai cedyrn y cwympaf dy liaws, byddant oll yn gedyrn y cenhedloedd, a hwy a anrheithiant falchder yr Aipht; a'i holl liaws hi a ddinistrir.

13 Difethaf hefyd ei holl anifeiliaid hi oddi wrth ddyfroeddNeu, mawrion. lawer, ac ni sathr troed dŷn hwynt mwy, ac ni fathra carnau anifeiliaid hwynt.

14 Yna y gwnaf yn ddyfnion eu dyfroedd hwynt, a gwnaf i'w hafonydd gerdded fel olew, medd yr Arglwydd Dduw.

15 Pan roddwyf dîr yr Aipht yn anrhaith, ac anrheithio 'r wlad o'i llawnder, pan darawyf y rhai oll a bresswyliant ynddi, yna y cânt ŵybod mai myfi yw yr Arglwydd.

16 Dymma y galar a alarant am dani hi; merched y cenhedloedd a alarant am dani hi: galarant am dani hi, sef am yr Aipht, ac am ei lliaws oll, medd yr Arglwydd Dduw.

17 Ac yn y ddeuddecfed flwyddyn, ar y pymthecfed dydd o'r mîs, y daeth gair yr Ar­glwydd attaf, gan ddywedyd,

18 Cŵyna, fab dŷn, am liaws yr Aipht, a discyn hi, hi a merched y cenhedloedd enwog, i'r tîr issaf, gyd â'r rhai a ddiscynnant i'r pwll.

19 Tegach nâ phwy oeddit? discyn a gor­wedd gyd a'r rhai dienwaededic.

20 Syrthiant ynghanol y rhai a laddwyd â'r cleddyf:Neu, gosodwyd y cleddyf. i'r cleddyf y rhoddwyd hi: lluscwch hi a'i lliaws oll.

21 Llefared cryfion y cedyrn wrthi hi o ganol vffern, gyd â'i chynnorthwy-wŷr: des­cynnasant, gorweddant yn ddienwaededic, wedi eu lladd â'r cleddyf.

22 Yno y mae Assur a'i holl gynnulleidfa, a'i feddau o amgylch, wedi eu lladd oll, a syrthio drwy 'r cleddyf.

23 Yr hon y rhoddwyd ei beddau yn ystlyssau y pwll, a'i chynnulleidfa ydoedd o amgylch ei bedd; wedi eu lladd oll, a syrthio drwy y cleddyf: y rhai a barasant arswyd yn nhîr y rhai byw.

24 Yno y mae Elam, a'i holl lliaws o am­gylch ei bedd, wedi eu lladd oll a syrthio drwy y cleddyf, y rhai a ddescynnasant yn ddien­waededic i'r tîr issaf, y rhai a barasent eu harswyd yn nhir y rhai byw; etto hwy a ddygasant eu gwradwydd gyd â'r rhai a ddes­cynnant i'r pwll.

25 Ynghanol y rhai lladdedic y gosodasant iddi wely ynghyd a'i holl liaws; a'i beddau o'i amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededic a laddwyd â'r cleddyf, er peri eu harswyd yn nhîr y rhai byw: etto dygasant eu gwradwydd gyd â'r rhai a ddescynnent i'r pwll; ynghanol y lladdedigion y rhoddwyd ef.

26 Yno y mae Mesech, Tubal, a'i holl liaws, a'i beddau o'i amgylch, y rhai hynny oll yn ddienwaededic wedi eu lladd â'r cleddyf; er peri o honynt eu harswyd yn nhîr y rhai byw.

27 Ac ni orweddant gyd â'r cedyrn a syrth­iasant o'r rhai dienwaededic, y rhai a ddis­cynnasant i vffernHeb. ag arfau eu rhyfel. â'i harfau rhyfel; a rho­ddasant eu cleddyfau tan eu pennau; eithr eu [Page] hanwireddau fydd ar eu hescyrn hwy, er eu bod yn arswyd i'r cedyrn yn nhîr y rhai byw.

28 A thitheu a ddryllir ym mysc y rhai dienwaededic, ac a orweddi gyd â'r rhai a laddwyd â'r cleddyf.

29 Yno y mae Edom a'i brenhinoedd, a'i holl dywysogion, y rhai a roddwyd â'i cadernid gyd â'r rhai a laddwyd â'r cleddyf: hwy a orweddant gyd â'r rhai dienwaededic, a chyd â'r rhai a ddescynnant i'r pwll.

30 Yno y mae holl dywysogion y gogledd, a'r holl Zidoniaid, y rhai a ddescynnant gyd â'r lladdedigion; gyd â'i harswyd y cywilyddiant am eu cadernid; gorweddant hefyd yn ddi­enwaededic gyd â'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, ac a ddygant eu gwradwydd gyd â'r rhai a ddescynnant i'r pwll.

31 Pharao a'i gwêl hwynt, ac a ymgyssura yn ei holl liaws: Pharao a'i holl lu, wedi eu lladd â'r cleddyf, medd yr Arglwydd Dduw.

32 Canys rhoddais fy ofn yn nhîr y rhai byw, a gwnair iddo orwedd ynghanol y rhai dienwaededic, gyd â lladdedigion y cleddyf, sef i Pharao ac iw holl liaws, medd yr Ar­glwydd Dduw.

PEN. XXXIII.

1 Yn ôl dled gwiliwr yn rhybuddio 'r bobl, 7 y dygir ar gôf i Ezeciel ei ddled yntau. 10 Duw yn Dangos mor vnion ydyw ei ffyrdd ef, tuac at yr edifeiriol, a thu ac at y rhai a gilio oddi­wrtho: 17 Yn ymddiffyn ei gyfiawnder. 21 Wrth glywed darfod ynnill Jerusalem, y mae yn prophwydo dinistr y wlâd. 30 Barne­digaethau Duw yn erbyn y rhai a watwarent y Prophwydi.

A Daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddy­wedyd;

2 Llefara, fab dŷn, wrth feibion dy bobl, a dywed wrthynt;Heb. gwlad pau ddy­gwyf gleddyf arni. pan ddygwyf gleddyf ar wlâd, a chymmeryd o bobl y wlâd ryw ŵr o'i chyrrau, a'i roddi yn wiliedydd iddynt:

3 Os gwêl efe gleddyf yn dyfod ar y wlâd, ac udcanu mewn vdcorn, a rhybuddio y bobl,

4 Yna hwnHeb. gan gly­wed a glywo. a glywo lais yr vdcorn, ac ni chymmer rybydd, eithr dyfod o'r cleddyf a'i gymmeryd ef ymaith, ei waed fydd ar ei ben ei hun.

5 Efe a glybu lais yr vdcorn, ac ni chym­merodd rybydd, ei waed fydd arno: ond yr hwn a gymmero rybydd a wared ei enaid.

6 Ond pan welo y gwiliedydd y cleddyf yn dyfod, ac ni vdcana mewn vdcorn, a'r bobl heb eu rhybuddio; eithr dyfod o'r cleddyf a chy­meryd vn o honynt, efe a ddaliwyd yn ei anwiredd, ond mi a ofynnaf ei waed ef ar law y gwiliedydd.

7Pen. 3.17. Felly ditheu, fâb dŷn, yn wiliedydd i'th roddais i dŷ Israel; fel y clywech air o'm genau, ac y rhybuddiech hwynt oddi wrthif fi.

8 Pan ddywedwyf wrth yr annuwiol, ti annuwiol gan farw a fyddi farw; oni leferi di i rybuddio yr annuwiol o'i ffordd; yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwir­edd; ond ar dy law di y gofynnaf ei waed ef.

9 Ond os rhybuddi di yr annuwiol o'i ffordd, i ddychwelyd o honi; os efe ni ddych­wel o'i ffordd, efe fydd marw yn ei anwiredd, a thitheu a waredaist dy enaid.

10 Llefara hefyd wrth dŷ Israel, ti fab dŷn, fel hyn gan ddywedyd y dywedwch, os yw ein hanwireddau a'n pechodau arnom, a ninneu yn dihoeni ynddynt, pa fodd y byddem ni byw?

11 Dywed wrthynt, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw,Pen. 18.32. 2 Sam. 14.14. nid ymhoffaf ym mar­wolaeth yr annuwiol, onid troi o'r annuwiol oddi wrth ei ffordd, a byw: dychwelwch, dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus; canys, (tŷ Israel)Pen. 18.31. pa ham y byddwch feirw?

12 Dywed hefyd, fab dŷn, wrth feibion dy bobl;Pen. 18.24. cyfiawnder y cyfiawn ni's gwared ef, yn nydd ei anwiredd: felly am annuwioldeb yr annuwiol, ni syrth efe o'i herwydd, yn y dydd y dychwelo oddiwrth ei anwiredd: ni ddichon y cyfiawn ychwaith fyw o blegit ei gyfiawnder yn y dydd y pecho.

13 Pan ddywedwyf wrth y cyfiawn, gan fyw y caiff fyw, os efe a hydera ar ei gyf­iawnder, ac a wna anwiredd, ei holl gyfiawn­derau ni chofir, onid am ei anwiredd a wnaeth, amdano y bydd efe marw.

14 A phan ddywedwyf wrth yr annuwiol, gan farw y byddi farw; os dychwel ef oddi wrth ei bechod, a gwneuthur barn, a chyf­iawnder;

15 Os yr annuwiol a ddadrydd ŵystl, ac a rydd yn ei ôl yr hyn a dreisiodd, a rhodio yn neddfau y bywyd, heb wneuthur anwiredd; gan fyw y bydd efe byw, ni bydd marw.

16 Ni choffeir iddo yr holl bechodau a bechodd, barn a chyfiawnder a wnaeth, efe gan fyw a fydd byw.

17 A meibion dy bobl a ddywedant, nid yw vniawnPen. 18.24. ffordd yr Arglwydd, eithr eu ffordd hwynt nid yw vnion.

18 Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd; efe a fydd marw ynddynt.

19 A phan ddychwelo 'r annuwiol oddi­wrth ei annuwioldeb, a gwneuthur barn a chyfiawnder, yn y rhai hynny y bydd efe byw.

20 Etto chwi a ddywedwch nad vniawnPen. 18.25. ffordd yr Arglwydd; barnaf chwi tŷ Israel bob vn yn ôl ei ffyrdd ei hun.

21 Ac yn y decfed mîs o'r ddeuddecfed flwy­ddyn o'n caethgludiad ni, ar y pummed dydd o'r mîs, y daeth vn a ddiangasei o Jerusalem attaf fi, gan ddywedyd,2 Bren. 25. tarawyd y ddinas.

22 A llaw 'r Arglwydd a fuasei arnaf yn yr hŵyr, cyn dyfod y diangudd, ac a agorasai fy safn, nes ei ddyfod attaf y boreu; îe ymago­rodd fy safn, ac ni bûmPen. 24.27. fud mwyach.

23 Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd;

24 Ha fab dŷn, presswyl-wŷr y diffaethwch hyn yn nhir Israel, ydynt yn llefaru gan ddy­wedyd; Abraham oedd vn, ac a feddiannodd y tîr; ninnau ydym lawer, i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth.

25 Am hynny dywed wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, yr ydych yn bwyta ynghyd â'r gwaed, ac yn derchafu eich llygaid at eich gau dduwiau, ac yn tywallt gwaed; ac a feddiennwch chwi y tîr?

26 Sefyll yr ydych ar eich cleddyf, gwnaeth­och ffieidd-dra, halogasoch hefyd bob vn wraig ei gymydog; ac a feddiennwch chwi y tîr?

27 Fel hyn y dywedi wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, fel mai byw fi, drwy y cledd­yf y syrth y rhai sydd yn y diffaethwch; a'r hwn sydd ar wyneb y maes, i'r bwyst-fil y rhoddaf ef iw fwytta: a'r rhai sydd yn yr amddiffynfeydd, ac mewn ogofeydd, a fyddant feirw o'r haint.

28 Canys gwnaf y tîr yn anrhaith, îe yn anrhaith; aPen. 7.24. & 24.21. & 30.6.7. balchder ei nerth ef a baid, ac [Page] anrheithir mynyddoedd Israel, heb gynniwer­udd ynddynt.

29 A chânt ŵybod mai myfi yw yr Ar­glwydd, pan wnelwyf y tir yn anrhaith, ie yn anrhaith, am eu holl ffieidd-dra a wnaethant.

30 Titheu fab dŷn, meibion dy bobl sydd yn siarad i'th erbyn, wrth y parwydydd, ac o fewn dryssau y tai, ac yn dywedyd y naill wrth y llall, pob vn wrth ei gilydd, gan ddywe­dyd, deuwch attolwg, a gwrandewch beth yw 'r gair sydd yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd.

31 Deuant hefyd attat, felHeb. dyfodiad y bobl. y daw y bobl, ac eisteddant o'th flaen, fel fy mhobl, gwran­dawant hefyd dy eiriau, ond ni's gwnant hwy: canys â'i geneuau y dangosant gariad, a'i calon sydd yn myned ar ôl eu cybydd-dod.

32 Wele di hefyd iddynt fel cân cariad vn hyfryd-lais, ac yn canu yn dda; canys gwran­dawant dy eiriau, ond ni's gwnant hwynt.

33 A phan ddelo hyn (wele ef yn dyfod) yna y cânt ŵybod fod prophwyd yn eu mysc.

PEN. XXXIV.

1 Argyoeddi y bugeiliaid; 7 A barn Duw yn eu herbyn hwy; 11 A'i ragluniaeth tros ei ddi­adell. 20 Brenhiniaeth Christ.

A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddy­wedyd,

2 Prophwyda, fab dyn, yn erbynJer. 23.1. bugeiliaid Israel; prophwyda, a dywed wrthynt, wrth y bugeiliaid, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, gwae fugeiliaid Israel, y rhai sydd yn eu porthi eu humain: oni phortha y bugeiliaid y praidd?

3 Y brasder a fwyttewch, â'r gwlân a wiscwch, y brâs a leddwch, ond ni phorthwch y praidd.

4 Ni chryfhasoch y rhai llesc, ac ni feddi­giniaethasoch y glaf, ni rwymasoch y ddryllie­dic ychwaith, a'r gyfeiliornus ni ddygasoch adref; a'r golledic ni cheisiasoch, eithr1 Pet. 5.3. llywodraethasoch hwynt â thrais ac â chreu­londeb.

5 A hwy a wascarwydHeb. heb fa­gail: felly vers. 8. o eisieu bugail, a buant yn ymborth i holl fwystfilod y maes, pan wascarwyd hwynt.

6 Fy nefaid a gyrwydrasant ar hŷd yr holl fynyddoedd, ac ar bob bryn vchel: ie gwascar­wyd fy mhraidd ar hŷd holl wyneb y ddaiar, ac nid oedd a'i ceisiei, nac a ymofynnei amdanynt.

7 Am hynny fugeiliaid, gwrandewch air yr Arglwydd.

8 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, am fod fy mhraidd yn yspail, a bod fy mhraidd yn ymborth i holl fwystfilod y maes o eisieu bugail, ac na cheisiodd fy mugeiliaid fy mhraidd, eithr y bugeiliaid a'i porthasant eu hun, ac ni phorthasant fy mhraidd:

9 Am hynny, o sugeiliaid, gwrandewch air yr Arglwydd:

10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn erbyn y bugeiliaid, a gofynnaf fy mhraidd ar eu dwylo hwynt, a gwnaf idd­ynt beidio a phorthi y praidd; a'r bugeiliaid ni phorthant eu hun mwy; canys gwaredaf fy mhraidd o'i safn hwy, fel na byddont yn ym­borth iddynt.

11 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele myfi, ie myfi a ymofynnaf am fy mhraidd, ac a'i ceisiaf hwynt.

12 Fel y cais bugail ei ddiadell, ar y dydd y byddo ym mysc ei ddefaid gwascaredic, felly y ceisiaf finnau fy nefaid, ac a'i gwaredaf hwynt o bob lle y gwascarer hwynt iddo, ar y dydd cwmyloc a thywyll.

13 A dygaf hwynt allan o fysc y bobloedd, a chasclaf hwynt o'r tiroedd, a dygaf hwynt iw tir eu hun, a phorthaf hwynt ar fynyddoedd Is­rael, wrth yr afonydd, ac yn holl drigfannau y wlâd.

14 Mewn porfa dda y porthaf hwynt, ac ar vchel fynyddoedd Israel y bydd eu corlan hwynt: yno y gorweddant mewn corlan dda, ie mewn porfa frâs y porant ar fynyddoedd Israel.

15 Myfi a borthaf fy mhraidd, a myfi a'i gor­weddfâaf hwynt, medd yr Arglwydd Dduw.

16 Y golledic a geisiaf, a'r darfedic a ddych­welaf, a'r friwedic a rwymaf, a'r lesc a gryfhâ­af: eithr dinistriaf y frâs a'r gref, â barn y porth­af hwynt.

17 Chwithau fy mhraidd, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; wele fi yn barnu rhwng milyn a milyn, rhwng yr hyrddod a'r bychod.

18 Ai bychan gennych bori o honoch y borfa dda, oni bydd i chwi sathru dan eich traed y rhan arall o'ch porfeydd? ac yfed o honoch y dyfroedd dyfnion, oni bydd i chwi sathru y rhan arall â'ch traed?

19 A'm praidd i, y maent yn pori sathrfa eich traed chwi; a mathrfa eich traed a yfant.

20 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw wrthynt hwy, wele myfi, myfi a farnaf rhwng milyn brâs, a milyn cûl.

21 O herwydd gwthio o honoch ag ystlys, ac ag yscwydd, a chornio o honoch â'ch cyrn y rhai llesc oll, hyd oni wascarasoch hwynt allan:

22 Am hynny y gwaredaf fy mhraidd, fel na byddont mwy yn yspail, a barnaf rhwng milyn a milyn.

23 Cyfodaf hefydEsay. 40.11. Joan. 10.11. Jer. 30.9. Osc. 3.5. vn bugail arnynt, ac efe a'i portha hwynt, sef fy ngwâs Dafydd; efe a'i portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt.

24 A minneu yr Arglwydd, a fyddaf yn Dduw iddynt, a'm gwâs Dafydd yn dywysog yn eu mysc: myfi yr Arglwydd a leferais hyn.

25 Gwnaf hefyd â hwynt gafammod hedd­wch, a gwnaf i'r bwyst-fil drwg beldio o'r tîr; a hwy a drigant yn ddiogel yn yr anialwch, ac a gyscant yn y coedydd.

26 Hwynt hefyd, ac amgylchoedd fy mryn a wnaf yn fendith, a gwnaf i'r glaw ddiscyn yn ei amser; cawodydd bendith a fydd.

27 A rhydd pren y maes ei ffrwyth, a'r tîr a rydd ei gynnyrch, a byddant yn eu tîr eu hun mewn diogelwch, ac a gânt ŵybod mai myfi yw yr Arglwydd; pan dorrwyf rwymau eu hiau hwynt, a'i gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt.

28 Ac ni byddant mwyach yn yspail i'r cenhedloedd, a bwyst-fil y tir nis bwytty hwynt; eithr trigant mewn diogelwch, ac ni bydd a'i dychryno.

29 Cyfodaf iddynt hefydEsa. 11.1. Jer. 23.5. blanhigynHeb. yn enw. enwoc, ac ni byddant mwy wediHeb. eu cym­meryd ymaith. trengi o newyn yn y tîr, ac ni ddygant mwy wrad­wydd y cenhedloedd.

30 Fel hyn y cânt ŵybod mai myfi 'r Ar­glwydd eu Duw sydd gyd â hwynt, ac mai hwythau, tŷ Israel, yw fy mhobl i, medd yr Ar­glwydd Dduw.

31 Chwithau fyJoan. 10.11. mhraidd, defaid fy mhor­fa, dynion ydych chwi, myfi yw eich Duw chwi, medd yr Arglwydd Dduw.

PEN. XXXV.

Barnedigaeth mynydd Seir, am eu câs tuac at Israel.

A Daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddy­wedyd;

2 Gosod dy wyneb, fab dŷn, tu ag at fy­nydd Seir, a phrophwyda yn ei erbyn,

3 A dywed wrtho, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, wele fi i'th erbyn di mynydd Seir, estynnaf hefyd fy llaw i'th erbyn, aHeb. rhoddaf. gwnaf di yn anghyfannedd, ac yn ddiffaethwch.

4 Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffaethwch, a thitheu a fyddi yn anghyfannedd, fel y gwy­pech mai myfi yw yr Arglwydd.

5 Am fod gennit alanastraNeu, er cynt. tragywyddol, a thywallt o honot waed meibion Israel âHeb. dwylo. mîn y cleddyf, yn amser eu gofid, yn amser di­wedd eu hanwiredd hwynt:

6 Am hynny fel mai byw fi, medd yr Ar­glwydd Dduw, mi a'th wnaf di yn waed, a gwaed a'th ymlid di, gan na chasei waed, gwa­ed a'th ddilyd.

7 Gwnaf hefyd fynydd Seir yn anrhaith, ac yn ddiffaethwch, a thorraf ymmaith o honaw yr hwn a elo allan, a'r hwn a ddychwelo.

8 Llanwaf hefyd ei fynyddoedd ef â'i ladde­digion; yn dy fryniau, a'th ddyffrynnoedd, a'th holl afonydd, y syrth y rhai a laddwyd â'r cleddyf.

9 Gwnaf di yn anrhaith tragywyddol, a'th ddinasoedd ni ddychwelant, fel y gŵypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

10 Am ddywedyd o honot, y ddwy gen­hedl, a'r ddwy wlad hyn fyddant eiddo fi: a nyni a'iPsal. 83.4.12. meddiannwn, er bod yr Arglwydd yno:

11 Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, gwnaf yn ôl dy ddîg, ac yn ôl dy gynfigen, y rhai o'th gâs yn eu herbyn hwynt a wnaethost; fel i'm hadwaener yn eu mysc hwynt, pan i'th farnwyf di.

12 A chei ŵybod mai myfi yw 'r Arg­lwydd, ac i mi glywed dy holl gabledd a drae­thaist yn erbyn mynyddoedd Israel, gan ddy­wedyd; anrheithiwyd hwynt, i ni y rhodd­wyd hwynt i'wHeb. cwyta. difa.

13 Ymfawrygasoch hefyd â'ch geneuau yn fy erbyn i, ac amlhasoch eich geiriau i'm her­byn: mi a'i clywais.

14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, pan lawenycho 'r holl wlâd, mi a'th wnaf di yn anghyfannedd.

15 Yn ôl dy lawenydd di am feddiant tŷ Israel, o herwydd ei anrheithio, felly y gwnaf i titheu: anrhaith fyddi di mynydd Seir, ac Edom oll i gyd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

PEN. XXXVI.

1 Cyssuro gwlad Israel, trwy ddinistr y cenhed­loedd a wnaent yn drahaus â hi, 8 a thrwy add­aw bendithion Duw iddi. 16 Mai am eu pe­chodau y gwrthodwyd Israel, 21 ond yr adfe­rir hwy drachefn, heb iddynt ei haeddu. 25 Bendithion brenhiniaeth Christ.

TItheu fab dŷn, prophwyda wrth fynyddo­edd Israel, a dywed, gwrandewchPen. 6.2. fyny­ddoedd Israel, air yr Arglwydd.

2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, o herwydd dywedyd o'r gelyn hyn am danoch chwi, aha, aeth yr hên vchelfaon hefyd yn etifeddiaeth i ni:

3 Am hynny prophwyda, a dywed, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw;Heb. o herwydd o herwydd o herwydd iddynt eich anrheithio, a'ch llyng [...]u o amgylch, i fod o honoch yn etifeddiaeth i weddill y cen­hedloedd, aHeb. gwneuth [...] i ch [...]i cy­cyn ar fin y tafod. myned o honoch yn watwargerdd tafodau, ac yn ogan pobloedd:

4 Am hynny mynyddoedd Israel, gwran­dewch air yr Arglwydd Dduw, fel hyn y dy­wed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd, ac wrth y bryniau, wrthNeu, y glynnoedd. yr afonydd, ac wrth y dyffrynnoedd, wrth y diffaethwch anghyfan­neddol, ac wrth y dinasoedd gwrthodedic, y rhai aeth yn yspail, ac yn watwar, i'r rhan arall o'r cenhedloedd o'i hamgylch:

5 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, diau yn angerdd fy eiddigedd y llefe­rais yn erbyn y rhan arall o'r cenhedloedd, ac yn erbyn holl Edom; y rhai a roddasant fy nhir i yn etifeddiaeth iddynt eu hun, â llawen­ydd eu holl galon, trwy feddwl dirmygus, i'w yrru allan yn yspail.

6 Am hynny prophwyda am dîr Israel, a dywed wrth y mynyddoedd, ac wrth y bryn­iau, wrth yr afonydd, ac wrth y dyffrynnoedd, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; wele, yn fy eiddigedd, ac yn fy llid y lleferais, o herwydd dwyn o honoch wradwydd y cenhedloedd;

7 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, myfi a dyngais, diau y dwg y cenhedlo­edd sydd o'ch amgylch chwi eu gwradwydd.

8 A chwithau, mynyddoedd Israel, a fwri­wch allan eich ceingciau, ac a ddygwch eich ffrwyth i'm pobl Israel; canys agos ydynt ar ddyfod.

9 Canys wele fi attoch, se troaf attoch, fel i'ch coledder, ac i'ch hauer.

10 Amlhâf ddynion ynoch chwi hefyd, holl dŷ Israel i gyd, fel y cyfannedder y dinasoedd, ac yr adeilader y diffaethwch.

11 Ie amlhâf ynoch ddŷn ac anifail, a hwy a chwanegant, ac a ffrwythant, a gwnaf i chwi bresswylio fel yr oeddych gynt: ie gwnaf i chwi well nag yn eich dechreuad, fel y gwy­poch mai myfi yw yr Arglwydd.

12 Ie gwnaf i ddynion rodio arnoch, sef fy mhobl Israel, a hwy a'th etifeddant di, a byddi yn etifeddiaeth iddynt, ac ni chwanegi eu gwneuthur hwy yn ymddifaid mwy.

13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, o herwydd eu bod yn dywedyd wrthych, yr wyt ti yn difa dynion, ac yn gwneuthur dy genhedloedd yn ymddifaid;

14 Am hynny ni fwyttei ddynion mwy, ac ni wnaiNeu, i'th gen­hedl. mwyach gwympo. dy genhedloedd mwyach yn ymddi­faid, medd yr Arglwydd Dduw.

15 Ac ni adawaf glywed gwradwydd y cen­hedloedd ynot ti mwy; ni ddygi ychwaith warth y cenhedloedd mwyach, ac ni wnei mwy i'th genhedloedd syrthio, medd yr Arglwydd Dduw.

16 Daeth hefyd gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd,

17 Ha fab dŷn, pan oedd tŷ Israel yn trigo yn eu tir eu hun, hwy a'i halogasant ef â'i ffordd, ac â'i gweithredoedd eu hun: eu ffordd ydoedd ger fy mron i, fel aflendid gwraig fis-glwyfus.

18 Yna y tywelltais fy llid arnynt, am y gwaed a dywalltasent ar y tir, ac am eu delwau drwy y rhai yr halogasent ef;

19 Ac a'i gwascerais hwynt ym mhlith y cenhedloedd, a hwy a chwalwyd ar hŷd y gwledydd; yn ôl eu ffyrdd, ac yn ôl eu gwei­thredoedd, y bernais hwynt.

20 A phan ddaethant at y cenhedloedd, y rhai yr aethant attynt, hwy aEsa. 52.5. Rhuf. 2.24. halogasant [Page] fy enw sanctaidd, pan ddywedid wrthynt, dym­ma bobl yr Arglwydd, ac o'i wlâd ef yr ae­thant allan.

21 Er hynny arbedais hwynt, er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogodd tŷ Israel ym mysc y cenhedloedd, y rhai yr aethant attynt.

22 Am hynny dywed wrth dŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; nid er eich mwyn chwi tŷ Israel, yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, ond er mwyn fy enw sanct­aidd, yr hwn a halogasoch chwi ym mysc y cenhedloedd, lle yr aethoch.

23 A mi a sancteiddiaf fy enw mawr, yr hwn a halogwyd ym mysc y cenhedloedd, yr hwn a halogasoch chwi yn eu mysc hwynt, fel y gŵypo y cenhedloedd mai myfi yw yr Ar­glwydd, medd yr Arglwydd Dduw; pan ym­sancteiddiwyf ynoch o flaenNeu, eu llygaid hwynt. eich llygaid.

24 Canys mi a'ch cymmeraf chwi o fysc y cenhedloedd, ac a'ch casclaf chwi o'r holl wle­dydd, ac a'ch dygaf i'ch tîr eich hun:

25 Ac a daenellaf arnoch ddwfr glân, fel y byddoch lân; oddi wrth eich holl frynti, ac oddi wrth eich holl eulynnod y glanhâf chwi.

26 AJer. 32.39. Pen. 11.19. rhoddaf i chwi galon newydd, ys­pryd newydd hefyd a roddaf o'ch mewn chwi, a thynnaf y galon garrec o'ch cnawd chwi, ac mi a roddaf i chwi galon gig.

27 Rhoddaf hefyd fyPen. 11.19. Yspryd o'ch mewn, a gwnaf i chwi rodio yn fy neddfau, a chadw fy marnedigaethau, a'i gwneuthur.

28 Cewch drigo hefyd yn y tîr a roddais i'ch tadau; a byddwch yn bobl i mi, a minneu a fyddaf Dduw i chwithau.

29 Achubaf chwi hefyd oddi wrth eich holl aflendid, a galwaf am yr ŷd, ac a'i hamlhâf, ac ni roddaf arnoch newyn.

30 Amlhâf hefyd ffrwyth y coed, a chyn­nyrch y maes, fel na ddygoch mwy wradwydd newyn, ym mysc y cenhedloedd.

31 Yna y cofiwch eich ffyrdd drygionus, a'ch gweithredoedd nid oeddynt dda, a bydd­wch yn ffiaidd gennych eich hunain, am eich anwireddau, ac am eich ffieidd-dra.

32 Nid er eich mwyn chwi yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, medd yr Arglwydd Dduw; bydded hyspys i chwi: tŷ Israel, gwridwch, a chywilyddiwch am eich ffyrdd eich hun.

33 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, yn y dydd y glanhawyf chwi o'ch holl an­wireddau, y paraf hefyd i chwi gyfanneddu y dinasoedd, ac yr adeiledir yr anghyfannedd­leoedd.

34 A'r tîr anrheithiedic a goleddir, lle y bu yn anrhaith, yngolwg pôb cynniwerydd.

35 A hwy a ddywedant, y tîr an­rheithiedic hwn aeth fel garddPen. 28.13. Eden, a'r dinasoedd anghyfannedd, ac anrheithiedic, a dinistriol, a aethant yn gaeroc, ac a gy­fanneddir.

36 Felly y cenhedloedd y rhai a weddillir o'ch amgylch, a gânt ŵybod mai myfi 'r Arglwydd sydd yn adeiladu y lleoedd dini­striol, ac yn plannu eich mannau anrheithie­dic:Pen. 17.24. & 22.14. & 37.14. myfi yr Arglwydd a'i lleferais, ac a'i gwnaf.

37 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ymofynnir â myfi etto gan dŷ Israel, i wneu­thur hyn iddynt: amlhâf hwynt â dynion, fel praidd.

38 FelHeb. praidd sancteidd bethau. y praidd sanctaidd, fel praidd Jeru­salem, yn eu huchel-wyliau, felly y dinasoedd anghyfannedd fyddant lawn o finteioedd o ddynion, fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

PEN. XXXVII.

1 Trwy adgyfodi escyrn sychion, 11 yr adfyw­iocceir marw obaith Israel. 15 Trwy gydio dau bren, 18 yr arwyddocceir cyssyltu Israel at Juda. 20 Addewidion brenhiniaeth Christ.

BV llaw 'r Arglwydd arnaf, ac a'm dûg all­an yn Yspryd yr Arglwydd, ac a'm goso­dodd ynghanol dyffryn, a hwnnw oedd yn llawn escyrn.

2 Ac efe a wnaeth i'm fyned heibio iddynt, o amgylch ogylch, ac wele hwynt yn aml iawn ar wyneb y dyffryn, wele hefyd sychion iawn oeddynt.

3 Ac efe a ddywedodd wrthif, ha fâb dŷn, a fydd byw 'r escyrn hyn? a mi a ddywedais, ô Arglwydd Dduw, ti a'i gwyddost.

4 Ac efe a ddywedodd wrthif, prophwyda am yr escyrn hyn, a dywed wrthynt; ô escyrn sychion, clywch air yr Arglwydd.

5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth yr escyrn hyn, wele fi yn dwyn anadl i'ch mewn, fel y byddoch byw.

6 Giau hefyd a roddaf arnoch, a pharaf i gîg gyfodi arnoch, gwiscaf chwi hefyd â chroen, a rhoddaf anadl ynoch, fel y by­ddoch byw, ac y gŵypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

7 Yna y prophwydais, fel i'm gorchymyna­sid; ac fel yr oeddwn yn prophwydo, bu sŵn, ac wele gynnwrf, a'r escyrn a ddaethant ynghyd, ascwrn at ei ascwrn.

8 A phan edrychais, wele cyfodasei giau a chig arnynt, a gwiscasei croen amdanynt, ond nid oedd anadl ynddynt.

9 Ac efe a ddywedodd wrthif, prophwyda tua 'rNeu, anadl. gwynt, prophwyda, fab dyn, a dywed wrth y gwynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ô anadl tyred oddi wrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw.

10 Felly y prophwydais, fel i'm gorchy­mynnasid, a'r anadl a ddaeth ynddynt, a bu­ant fyw, a safasant ar eu traed, yn llu mawr iawn.

11 Yna y dywedodd wrthif, ha fab dŷn, yr escyrn hyn ydynt dŷ Israel oll: wele, dywe­dant, ein hescyrn a wywasant, a'n gobaith a gollodd, torrwyd ni ymmaith, o'n rhan ni.

12 Am hynny prophwyda, a dywed wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl, codaf chwi hefyd o'ch beddau, a dygaf chwi i dir Israel.

13 A chewch ŵybod mai myfi yw yr Ar­glwydd, pan agorwyf eich beddau, a phan gy­fodwyf chwi i fynu o'ch beddau, fy mhobl:

14 Ac y rhoddwyf fy Yspryd ynoch, ac y byddoch byw; ac y gosodwyf chwi yn eich tîr eich hun, yna y cewch ŵybod mai myfi 'r Arglwydd a leferais, ac a wneuthum hyn, medd yr Arglwydd.

15 A gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddywedyd,

16 Titheu, fab dŷn, cymmer it vn pren, ac scrifenna arno, I Juda, ac i feibion Israel ei gy­feillion; a chymmer it bren arall, ac scrifenna arno, I Joseph pren Ephraim, ac i holl dŷ Israel ei gyfeillion:

17 A chydia hwynt y naill wrth y llall, yn vn pren i ti, fel y byddont yn vn yn dy law di.

18 A phan lefaro meibion dy bobl wrthit, gan ddywedyd, oni fynegi i ni beth yw hyn gennit?

19 Dywet wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn cymmeryd pren Joseph, yr hwn sydd yn llaw Ephraim, a llwy­thau Israel ei gyfeillion, ac mi a'i rhoddaf hwynt gydag ef, sef gydâ phren Juda, ac a'i gwnaf hwynt yn vn pren, fel y byddont yn fy llaw yn vn.

20 A bydded yn dy law o flaen eu llygaid hwynt, y prennau yr yscrifennych arnynt;

21 A dywed wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn cymmeryd mel­bion Israel o fysc y cenhedloedd yr aethant attynt, ac mi a'i casclaf hwynt o amgylch, ac a'i dygaf hwynt iw tîr eu hun.

22 A gwnaf hwynt yn vn genhedl o fewn y tîr ym mynyddoedd Israel, ac vnJoa. 10.16. Brenin fydd yn frenin iddynt oll: ni byddant hefyd mwy yn ddwy genhedl, ac ni rennir hwynt mwyach yn ddwy frenhiniaeth.

23 Ac ni ymhalogant mwy wrth eu heu­lynnod, na thrwy eu ffieidd-dra, nac yn eu holl anwireddau: eithr cadwaf hwynt o'i holl drig­faon, y rhai y pechasant ynddynt, ac mi a'i glanhâf hwynt, fel y byddont yn bobl i mi, a minneu a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau.

24 A'mEsa. 40.11. Jer. 23.5. & 30.9. Pen. 34.23. gwâs Dafydd fydd brenin arnynt, îe vn bûgail fydd iddynt oll: yn fy marne­digaethau hefyd y rhodiant, a'm deddfau a gadwant, ac a wnant.

25 Trigant hefyd yn y tîr a roddais i'm gwâs Jacob, yr hwn y trigodd eich tadau ynddo, a hwy a drigant ynddo, hwy a'i meibion, a meibion eu meibion byth; a Dafydd fy ngwâs fydd dywysog iddynt yn dragywydd.

26Psal. 89.3. Pen. 34.25. Gwnaf hefyd â hwynt gyfammod hêdd, ammod tragywyddol a fydd â hwynt; a gosodaf hwynt, ac a'i amlhâf, a rhoddaf2 Cor. 6.16. fy nghyssegr yn eu mysc hwynt yn dragywydd.

27 A'm tabernacl fydd gyd â hwynt, ie my­fi a fyddaf iddynt ynPen. 11.20. & 14.11. Dduw, a hwythau a fyddant i mi yn bobl.

28 A'r cenhedloedd a gânt ŵybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn sancteiddio Israel: gan fod fy nghyssegr yn eu mysc hwynt yn dragy­wydd.

PEN. XXXVIII.

1 Llu, 8 a malis Gog. 14 Barn Duw yn ei erbyn ef.

A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf, gan ddywedyd;

2 Gosod dy wyneb, fab dyn, yn erbynGen. 10.2. Dat. 20.8. Gog, tîr Magog,Neu, tywysog pennaeth Mesech. pen-tywysog Mesech, a Thubal, a phrophwyda yn ei erbyn;

3 A dywed, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn dy erbyn di, Gog pen-tywy­sog Mesech a Thubal:

4 Dychwelaf di hefyd, aPen. 39.2. rhoddaf fachau yn dy foch-gernau, ac mi a'th ddygaf allan, a'th holl lû; y meirch a'r marchogion, wedi eu gwisco i gyd â phôb rhyw arfau, yn gyn­nulleidfa fawr, â thariannau ac estylch, hwynt oll yn dwyn cleddyfau:

5 Persia, Ethiopia, aNeu, [...]hut. Libia, gyd â hwynt, hwynt oll yn dwyn tarian a helm:

6 Gomer a'i holl fyddinoedd, tŷ Togarmah, o ystlyssau y gogledd, a'l holl fyddinoedd, a phobl lawer gyd â thi.

7 Ymbarattoa, îe parattoa i ti dy hun, ti a'th holl gynnulleidfa, y rhai a ymgynhullasant at­tat, a bydd yn gadwraeth iddynt.

8 Wedi dyddiau lawer yr ymwelir â thi; yn y blynyddoedd dywethaf y deui i dir wedi ei ddwyn yn ei ôl oddi wrth y cleddyf, wedi ei gasclu o bobloedd lawer, yn erbyn mynyddoedd Israel, y rhai a fuant yn anghyfannedd bôb amser: eithr efe a ddygwyd allan o'r boblo­edd, a hwynt oll a drigant mewn diogelwch.

9 Dringi hefyd fel temhestl, deui, a byddi fel cwmwl, i guddio 'r ddaiar, ti a'th holl fyddinoedd, a phobloedd lawer gyd â thi.

10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i bethau ddyfod i'th feddwl, a thi aNeu, fwriedl amcan sceler. feddyli feddwl drwg.

11 A thi a ddywedi, mi a âf i fynu i wlâd maes-drefydd, âf at y rhai llonydd, y rhai sydd yn presswylioNeu, yn hyde­rus. yn ddiogel, gan drigo oll heb gaerau, ac heb drossolion na dorau iddynt;

12 I yspeilio yspail, i sclyfaethu sclyfaeth, i ddychwelyd dy law ar anghyfannedd leoedd y rhai a gyfanneddir yr awr hon, ac ar y bobl a gasclwyd o'r cenhedloedd, y rhai a ddarpara­sant anifeiliaid, a golud, ac ydynt yn trigoHeb. ym mo­geil. ynghanol y wlâd.

13 Seba, a Dedan, a marchnadyddion Tatsis hefyd, a'i holl lewod ieuaingc, a ddywedent wrthit, ai i yspeilio yspail y daethost di? ai i sclyfaethu sclyfaeth y cesclaist y gynnulleid­fa? ai i ddwyn ymmaith arian, ac aur, i gym­meryd anifeiliaid, a golud, i yspeilio yspail fawr?

14 Am hynny prophwyda fab dŷn, a dy­wed wrth Gog, fel hyn y dywed yr Arg­lwydd Dduw; y dydd hwnnw, pan bress­wylio fy mhobl Israel yn ddiofal, oni chei di wybod?

15 A thi a ddeui o'th fangre dy hun, o ystlysau y gogledd, ti a phobl lawer gyd â thi, hwynt oll yn marchogaeth ar feirch, yn dyrfa fawr, ac yn llû lluosoc.

16 A thi ai i fynu yn erbyn fy mhobl Israel, fel cwmwl i guddio y ddaiar; yn y dyddiau diwethaf y bydd hyn; a mi a'th ddygaf yn erbyn fy nhîr, fel yr adwaeno y cenhedloedd fi, panPen. 36.23. & 37.28. ymsancteiddiwyf ynot ti Gog, o flaen eu llygaid hwynt.

17 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ai tydi yw 'r hwn y lleferais am dano, yn y dyddiau gynt, trwy law fy ngweision, proph­wydi Israel, y rhai a brophwydasant y dyddiau hynny flynyddoedd lawer, y dygwn di yn eu herbyn hwynt?

18 A bydd yn y dydd hwnnw, yn y dydd y delo Gog yn erbyn tîr Israel, medd yr Arg­lwydd Dduw, i'm llid gyfodi yn fyNeu, wyneb. sorriant.

19 Canys yn fy eiddigedd, ac yn angerdd fy nigllonedd y dywedais; yn ddiau bydd yn y dydd hwnnw ddychryn mawr yn-nhir Israel.

20 Fel y cryno pyscod y môr, ac ehediaid y nefoedd, a bwyst-filod y maes, a phob ym­lusciad a ymlusco ar y ddaiar, a phob dŷn ar wyneb y ddaiar, ger fy mron i; a'r mynydd­oedd a ddryllir i lawr, a'rNeu, lleoedd diffwys, neu, ty­ran. grissiau a syrthiant, a phob mur a syrth i lawr.

21 Ac mi a alwaf am gleddyf yn ei erbyn, trwy fy holl fynyddoedd, medd yr Arglwydd Dduw: cleddyf pôb vn fydd yn erbyn ei frawd.

22 Mi a ddadleuaf hefyd yn ei erbyn ef â haint, ac â gwaed: glawiaf hefyd gur-law, a cherrig cenllysc, tân a brwmstan, arno ef, ac ar ei holl fyddinoedd, ac ar y bobloedd lawer sydd gyd ag ef.

23 Fel hyn yrPen. 36.23. & 37.28. ymfawrygaf, ac yr ym­sancteiddiaf, a pharaf fy adnabod yngolwg cen­hedloedd lawer, fel y gŵypont mai myfi yw yr Arglwydd.

PEN. XXXIX.

1 Barn Duw yn erbyn Gog. 8 Buddugoliaeth Israel. 11 Claddu Gog yn Hamon-Gog. 17 Gwledd yr adar. 23 Wedi dial ar Israel am ei bechodau, efe a gesclir drachefn, drwy ffafor dragywyddol.

PRophwyda hefyd, fab dŷn, yn erbyn Gog, a dywed; fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn dy erbyn di Gog, pen-tywy­sog Mesech, a Thubal.

2 Ac mi a'th ddychwelaf, acNeu, a'th da­rawaf a chwe phla: neu, a'th dynnaf a ba [...]h chwe­dant: fel Pen. 38.4. Heb. mi a'th chwe­chaf di. ni adawaf o honot ond y chweched ran, ac a'th ddygaf i fynu o ystlysau y gogledd, ac a'th ddygaf ar fynyddoedd Israel:

3 Ac a darawaf dy sŵa o'th law asswy, a gwnaf i'th saethau syrthio o'th law ddehau.

4 Ar fynyddoedd Israel y syrthi, ti a'th holl fyddinoedd, a'r bobloedd sydd gyd â thi: i'r ehediaid,Heb. i'r rderyn o bob ascell. i bob rhyw aderyn, ac i fwyst­filod y maes i'th roddafHeb. i ddifa. i'th ddifa.

5 Ar wyneb y maes y syrthi, canys myfi a'i dywedais, medd yr Arglwydd Dduw.

6 Anfonaf hefyd dân ar Magog, ac ym mysc y rhai a bresswyliant yr ynysoedd ynNeu, yn hyde­ras. ddifraw, fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

7 Felly y gwnaf adnabod fy enw sanctaidd, ynghanol fy mhobl Israel, ac ni adawaf halogi fy enw sanctaidd mwy; a'r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, y Sanct yn Israel.

8 Wele efe a ddaeth, ac a ddarfu, medd yr Arglwydd Dduw, dymma 'r diwrnod am yr hwn y dywedais.

9 A phresswyl-wŷr dinasoedd Israel a ânt allan, ac a gynneuant, ac a loscant yr arfau, a'r tarian, a'r astalch, y bŵa, a'r saethau, a'r llaw­ffon, a'r wayw-ffon; îeNeu, cynn [...]uant dan a hwynt. lloscant hwynt yn tân saith mlynedd.

10 Ac ni ddygant goed o'r maes, ac ni thorrant ddim o'r coedydd: canys â'r arfau y cynneuant dân, a hwy a yspeiliant eu hyspeil­wŷr, ac a sclyfaethant oddi ar eu sclyfaeth-wŷr, medd yr Arglwydd Dduw.

11 Bydd hefyd yn y dydd hwnnw i'm roddi i Gog le bedd yno yn Israel, dyffryn y fforddolion o du dwyrain y môr: ac efe a gaeNeu, safnau. ffroenan y fforddolion, ac yno y claddant Gog a'i holl dyrfa, a galwant ef dyffrynS [...]f lliaws Gog. Ha­mon-Gog.

12 A thŷ Israel fydd yn eu claddu hwynt saith mîs, er mwyn glanhâu y tîr.

13 Ie holl bobl y tîr a'i claddant, a hyn fydd enwoc iddynt, y dydd i'm gogonedder, medd yr Arglwydd Dduw.

14 A hwy a naillduant wŷr gwastadol, y rhai a gynniwerant trwy 'r wlâd, i gladdu gyd â'r fforddolion, y rhai a adawyd ar wyneb y ddaiar, iw glanhâu hi: ym mhen saith mîs y chwiliant.

15 A'r tramwy-wŷr a gynniwerant trwy 'r tîr: pan welo vn ascwrn dŷn, efe aHeb. adeilada. gy­fyd nôd wrtho, hyd oni chladdo y claddwŷr ef, yn nyffrynSef, lliaws Gog. Hamon-Gog.

16 A henw y ddinas hefyd fydd Sef, y lliaws. Hamo­nah: felly y glanhânt y wlâd.

17 Titheu fab dŷn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; dywed wrthHeb. yr aderyn o bob ascell. bob rhyw aderyn, ac wrth holl fwyst-filod y maes, ymges­clwch, a deuwch, ymgynhullwch oddi amgylch, at syNeu, lladdfa. aberth yr ydwyfi yn ei aberthu i chwi, aberth mawr ar fynyddoedd Israel; fel y bwyttaoch gîg, ac yr yfoch waed.

18 Cîg y cedyrn a fwyttewch, a chwi a yfwch waed tywysogion y ddayar, hyrddod, ŵyn, a bychod, bustych, yn bascedigion Basan oll.

19 Bwyttewch hefyd frasder hyd ddigon, ac yfwch waed hyd onifeddwoch, o'm haberth a aberthais i chwi.

20 Felly i'ch diwellir ar fy mwrdd i, â meirch a cherbydau, â gwyr cedyrn, a phob rhyfel-ŵr, medd yr Arglwydd Dduw.

21 A gosodaf fy ngogoniant ym mysc y cenhedloedd, a'r holl genhedloedd a gânt we­led fy marnedigaeth, yr hon a wneuthum, a'm llaw yr hon a osodais arnynt.

22 A thŷ Israel a gânt ŵybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt, o'r dydd hwnnw allan.

23 Y cenhedloedd hefyd a gânt ŵybod mai am eu hanwiredd eu hun y caeth-gludwyd tŷ Israel, o herwydd gwneuthur o honynt gam­wedd i'm herbyn, am hynny y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt, ac y rhoddais hwynt yn llaw eu gelynion; felly hwy a syrthiasant oll trwy 'r cleddyf.

24 Yn ôl eu haflendid eu hun, ac yn ôl eu hanwireddau, y gwneuthum â hwynt, ac y cu­ddiais fy wyneb oddi wrthynt.

25 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arg­lwydd Duw, yr awr hon y dychwelaf gaethi­wed Jacob, tosturiaf hefyd wrth holl dŷ Israel, a gwynfydaf dros fy enw sanctaidd:

26 Wedi dwyn o honynt eu gwradwydd, a'i holl gamweddau a wnaethant i'm herbyn; pan drigent yn eu tîr eu hun yn ddifraw, a heb ddychrynudd;

27 Pan ddychwelwyf hwynt oddi wrth y bobloedd, a'i casclu hwynt o wledydd eu gelyn­ion, ac i'mEzec. 36.23. sancteiddier ynddynt yngolwg cenhedloedd lawer;

28 Yna y cânt ŵybod mai myfi yw yr Ar­glwydd eu Duw hwynt,Heb. wrth gaeth­gludo o honof hwynt. yr hwn a'i caethglu­dais hwynt ym-mysc y cenhedloedd, ac a'i ces­clais hwynt iw tîr eu hun, ac ni adewais mwy vn o honynt yno.

29 Ni chuddiaf ychwaith fy wyneb mwy oddi wrthynt, o herwyddJoel. 2.28. Act. 2.17. tywelltais fy Yspryd ar dŷ Israel, medd yr Arglwydd Dduw.

PEN. XL.

1 Amser, a dull, a diben y weledigaeth. 6 Por­treiad porth y dwyrain, 20 a phorth y gog­ledd, 24 a phorth y dehau, 32 a phorth y dwyrain, 35 a phorth y gogledd. 39 Yr wyth mwrdd. 44 Yr ystafelloedd. 48 Porth y tŷ.

YN y bummed flwyddyn ar hugain o'n caeth-gludiad ni, yn nechreu y flwyddyn, ar y decfed dydd o'r mîs, yn y bedwaredd flwy­ddyn ar ddêc, wedi taro y ddinas, o fewn corph y dydd hwnnw, y daeth llaw 'r Arg­lwydd arnaf, ac a'm dûg yno.

2 Yngweledigaethau Duw y dûg efe fi i dîr [...]el, ac a'm gosododd ar fynydd vchel [Page] iawn, acNeu, wrtho. arno yr oedd megis adail dinas, o du 'r dehau.

3 Ac efe a'm dûg yno, ac wele wr a'i we­lediad fel gwelediad prês, ac yn ei law linyn llîn, a chorsen fessur, ac yr ydoedd efe yn sefyll yn y porth.

4 A dywedodd y gŵr wrthif, ha fab dŷn, gwel â'th lygaid, gwrando hefyd â'th glustiau, a gosot dy galon ar yr hyn oll a ddangoswyf it: o herwydd er mwyn dangos i ti hyn, i'th ddygwyd ymma: mynega i dŷ Israel yr hyn oll a weli.

5 Ac wele fûr o'r tu allan i'r tŷ o amgylch ogylch; a chorsen fessur yn llaw 'r gŵr, yn chwe chufydd o hŷd, wrth gufydd a dyrnfedd: ac efe a fesurodd lêd yr adeiladaeth yn vn gor­sen, a'r vchder yn vn gorsen.

6 Ac efe a ddaeth i'r porth oedd a'i wyneb tua 'r dwyrain, ac a ddringodd ar hŷd ei rissiau ef, ac a fesurodd riniog y porth yn vn gorsen o lêd, a'r rhiniog arall yn vn gorsen o lêd.

7 A phob ystafell oedd vn gorsen o hŷd, ac vn gorsen o lêd, a phum cufydd oedd rhwng yr stafelloedd; a rhiniog y porth, wrth gyntedd y porth o'r tu mewn, oedd vn gorsen.

8 Efe a fesurodd hefyd gyntedd y porth oddi fewn, yn vn gorsen.

9 Yna y mesurodd gyntedd y porth yn wyth gufydd, a'i bŷst yn ddau gufydd, a chyn­tedd y porth oedd o'r tu mewn.

10 Ac ystafelloedd y porth tu a'r dwyrain, oedd dair o'r tu ymma, a thair o'r tu accw, vn fessur oeddynt ill tair, ac vn messur oedd i'r pŷst o'r tu yma, ac o'r tu accw.

11 Ac efe a fesurodd lêd drŵs y porth yn ddêc cufydd, a hŷd y porth yn dri chufydd ar ddêc.

12 A'r terfyn o flaen yr ystafelloedd oedd vn cufydd o'r naill du, a'r terfyno'r tu arall yn vn cufydd, a'r ystafelloedd oedd chwe chufydd o'r tu ymma, a chwe chufydd o'r tu accw.

13 Ac efe a fesurodd y porth o nen y naill ystafell hyd nen vn arall, yn bum cufydd ar hugain o lêd, ddrws ar gyfer drws.

14 Ac efe a wnaeth bŷst o dri vgain cufydd, a hynny hyd bost y cyntedd, amgylch ogylch y porth.

15 Ac o wyneb porth y dyfodiad i mewn, hyd wyneb cyntedd y porth oddimewn, yr oedd dec cufydd a deugain.

16 A ffenestriHeb. cauedig. cyfyng oedd i'r ystafelloedd, ac iw pŷst, o fewn y porth o amgylch ogylch; ac felly yr oedd i'rNeu, cynte­ddau. bwâu meini, a ffenestri oedd o amgylch ogylchNeu, tuac i mewn. o fewn, ac yr oedd palm-wŷdd ar bob pôst.

17 Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf allan, ac wele yno stafelloedd, a phalmant wedi ei wneuthur i'r cyntedd o amgylch ogylch: dêc stafell ar hugain oedd ar y palmant.

18 A'r palmant, gan ystlys y pyrth, ar gyfer hŷd y pyrth, oedd y palmant oddi tanodd.

19 Ac efe a fesurodd y llêd o wyneb y porth issaf, hyd wyneb y cyntedd oddi fewn, yn gan cufydd oddi allan, tua 'r dwyrain a'r gogledd.

20 A'r porth yr hwn oedd a'i wyneb tua 'r gogledd, ar y cyntedd nesaf allan, a fesurodd efe ei hŷd, a'i lêd.

21 A'i stafelloedd ef oedd dair o'r tu ymma, a thair o'r tu accw, ac yr ydoedd ei bŷst, a'i fwâu meini, wrth fessur y porth cyntaf, yn ddêc cufydd a deugain eu hŷd, a'r llêd yn bum cufydd ar hugain.

22 Eu ffenestri hefyd a'i bwâu meini, a'i palm-wŷdd, oedd wrth fesur y porth oedd a'i wyneb tua 'r dwyrain; ar hŷd saith o rissiau hefyd y dringent iddo; a'i fwâu meini oedd o'i blaen hwynt.

23 A phorth y cyntedd nesaf i mewn oedd ar gyfer y porth tua 'r gogledd a thua 'r dwy­rain: ac efe a fesurodd o borth i borth gan cufydd.

24 Wedi hynny efe a'm dûg i tua 'r deau, ac wele borth tua 'r deau, ac efe a fe­surodd ei bŷst a'i fwâu meini, wrth y mesurau hyn.

25 Ffenestri hefyd oedd iddo ac iw fwâu meini, o amgylch ogylch, fel y ffenestri hynny, yn ddêc cufydd a deugain o hŷd, ac yn bum cufydd ar hugain o lêd.

26 Saith o rissiau hefyd oedd ei escynfa ef, a'i fwâu meini o'i blaen hwynt; yr oedd he­fyd iddo balm-wŷdd, vn o'r tu yma, ac vn o'r tu accw, ar ei bŷst ef.

27 Ac yr oedd porth yn y cyntedd nessaf i mewn tua 'r deau, ac efe a fesurodd o borth i borth, tua 'r deau, gan cufydd.

28 Ac efe a'm dug i'r cyntedd nessaf i mewn, trwy borth y deau, ac a fesurodd borth y deau wrth y messurau hyn,

29 A'i stafelloedd, a'i bŷst, a'i fwâu meini, wrth y messurau hyn; ac yr oedd ffenestri yn­ddo, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch; dêc cufydd a deugain oedd yr hŷd, a phum cufydd ar hugain y llêd.

30 A'r bwâu meini o amgylch ogylch oedd bum cufydd ar hugain o hŷd, a phum cufydd o lêd.

31 A'i fwâu meini oedd tua 'r cyntedd nessaf allan, a phalm-wŷdd oedd ar ei bŷst, ac ŵyth o rissiau oedd ei escynfa ef.

32 Ac efe a'm dûg i i'r cyntedd nesaf i mewn tua 'r dwyrain, ac a fesurodd y porth wrth y messurau hyn:

33 A'i stafelloedd, a'i bŷst, a'i fwâu meini oedd wrth y messurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo ef, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch; yr hŷd oedd ddêc cufydd a deugain, a'r llêd yn bum cufydd ar hugain.

34 A'i fwâu meini oedd tua 'r cyntedd nes­saf allan, a phalm-wŷdd oedd ar ei bŷst o'r tu yma, ac o'r tu accw, a'i escynfa oedd wyth o rissiau.

35 Ac efe am dûg i borth y gogledd, ac a'i mesurodd wrth y messurau hyn:

36 Ei stafelloedd, ei bŷst, a'i fwâu meini; a'r ffenestri iddo o amgylch ogylch; yr hŷd oedd ddêc cufydd a deugain, a'r llêd oedd bum cufydd ar hugain.

37 A'i bŷst oedd tua 'r cyntedd nesaf allan, a phalm-wŷdd ar ei bŷst o'r tu yma, ac o'r tu accw, a'i escynfa oedd wyth o rissiau.

38 A'r celloedd a'i drysau oedd wrth bŷst y pyrth, lle y golchent y poeth offrwm.

39 Ac ynghyntedd y porth yr oedd dau fwrdd o'r tu ymma, a dau fwrdd o'r tu accw, i ladd y poeth offrwm, a'r pech-aberth, a'r aberth tros gamwedd, arnynt.

40 Ac ar yr ystlys oddi allan,Neu, wrth ri­siau drws porth &c. lle y dringir i ddrws porth y gogledd, yr oedd dau fwrdd; a dau fwrdd ar yr ystlys arall, yr hwn oedd wrth gyntedd y porth.

41 Pedwar bwrdd oedd o'r tu ymma, a phed­war bwrdd o'r tu acew, ar ystlys y porth: wyth bwrdd; ar y rhai y lladdent eu haberthau.

42 A'r pedwar bwrdd i'r poeth offrwm, oedd o gerric nâdd, yn vn cufydd a hanner o hŷd, ac yn vn cufydd a hanner o lêd, ac yn vn cufydd o vchder: arnynt hwy hefyd y go­sodent yr offer, y rhai y lladdent yr offrwm poeth, a'r aberth, â hwynt.

43 Hefyd yr oedd Neu, dau faen aelwyd. bachau o vn ddyrnfedd, wedi eu paratoi o fewn, o amgylch ogylch, a chig yr offrwm oedd ar y byrddau.

44 Ac o'r tu allan i'r porth nessaf i mewn yr oedd stafelloedd y cantorion, o fewn y cyn­tedd nesaf i mewn, yr hwn oedd ar ystlys porth y gogledd; a'i hwynebau oedd tua 'r deau: vn oedd ar ystlys porth y dwyrain a'i wyneb tua 'r gogledd.

45 Ac efe a ddywedodd wrthif, yr stafell hon, yr hon sydd a'i hwyneb tua 'r deau, sydd i'r offeiriaid, ceidwaidNeu, ordinhad. felly ver. 46. cadwraeth y tŷ.

46 A'r stafell yr hon sydd a'i hwyneb tua 'r gogledd, sydd i'r offeiriaid ceidwaid cadwraeth yr allor: y rhai hyn yw meibion Zadoc, y rhai ydynt o feibion Lefi, yn nessau at yr Ar­glwydd, i weini iddo.

47 Felly efe a fesurodd y cyntedd yn gan cufydd o hŷd, ac yn gan cufydd o lêd, yn bedeir-ongl, a'r allor oedd o flaen y tŷ.

48 Ac efe a'm dûg i borth y tŷ, ac a fesu­rodd bôb post i'r porth, yn bum cufydd o'r naill du, ac yn bum cufydd o'r tu arall; a llêd y porth oedd dri chufydd o'r naill du, a thri chufydd o'r tu arall.

49 Y cyntedd oedd vgain cufydd o hŷd, ac vn cufydd ar ddêc o lêd, ac efe a'm dug ar hyd y grissiau, ar hŷd y rhai y dringent iddo: hefyd yr ydoedd colofnau wrth y pŷst, vn o'r naill du, ac vn o'r tu arall.

PEN. XLI.

Mesur, a rhannau, ac ystafelloedd, ac addurn y Deml.

AC efe a'm dûg i i'r Deml, ac a fesurodd y pŷst yn chwe chufydd o lêd o'r naill du, ac yn chwe chufydd o lêd o'r tu arall, fel yr oedd llêd y babell.

2 Llêd y drws hefyd oedd ddêc cufydd, ac ystlysau y drŵs yn bum cufydd o'r naill du, ac yn bum cufydd o'r tu arall: ac efe a fesurodd ei hŷd ef yn ddeugain cufydd, a'r llêd yn vgain cufydd.

3 Ac efe a aeth tuag i mewn, ac a fesurodd bôst y drŵs yn ddau gufydd, a'r drŵs yn chwe chufydd, a llêd y drŵs yn saith gufydd.

4 Ac efe a fesurodd ei hŷd ef yn vgain cu­fydd, a'r llêd yn vgain cufydd, o flaen y Deml; ac efe a ddywedodd wrthif, dymma y cyssegr sancteiddiolaf.

5 Ac efe a fesurodd bared y tŷ yn chwe chu­fydd, a llêd pob ystlys-gell yn bedwar cufydd, o amgylch ogylch i'r tŷ.

6 A'r celloedd oedd dair, cell ar gell, ac yn ddêc ar hugain oNeu, o droed­seddau. weithiau, ac yr oeddynt yn cyrheuddyd at bared y tŷ, yr hwn oedd i'r ystafelloedd o amgylch ogylch, fel y byddent ynglŷn, ac nid oeddynt ynglŷn o fewn pared y tŷ.

7 Ac fe a ehangwyd, ac oedd yn mynedNeu, yn grwn. ar drô vwch-uwch i'r celloedd, o herwydd trô y tŷ oedd yn myned i fynu o amgylch y tŷ, am hynny y tŷ oedd ehengach oddi arnodd: ac felly y dringid o'r issaf i'r vchaf trwy 'r ganol.

8 Gwelais hefyd uchter y tŷ o amgylch ogylch, seiliau y celloedd oedd gorsen helaeth o chwe chufydd mawrion.

9 A thewder y mûr, yr hwn oedd i'r gell o'r tu allan, oedd bum cufydd, a'r gweddill oedd le i'r celloedd y rhai oedd o fewn.

10 A rhwng yr stafelloedd yr oedd llêd vgain cufydd ynghylch y tŷ, o amgylch ogylch.

11 A dryssau yr ystlys-gell oedd tua 'r llannerch weddill; vn drŵs tua 'r gogledd, ac vn drŵs tua 'r deau, a llêd y fan a weddillasid oedd bum cufydd o amgylch ogylch.

12 A'r adeiladaeth yr hon oedd o flaen y llannerch naillduol, ar y cwrr tua 'r gorllewin, oedd ddêc cufydd a thrugain o lêd, a mur yr adeiladaeth oedd bum cufydd o dewder o am­gylch ogylch, a'i hŷd oedd ddêc cufydd a phedwar vgain.

13 Ac efe a fesurodd y tŷ yn gan cufydd o hŷd, a'r llannerch naillduol, a'r adeiladaeth, a'i pharwydydd, yn gan cufydd o hŷd.

14 A llêd wyneb y tŷ, a'r llannerch naill­duol, tua 'r dwyrain, oedd gan cufydd.

15 Ac efe a fesurodd hŷd yr adeiladaeth, ar gyfer y llannerch naillduol, yr hon oedd o'r tu cefn iddo, a'iNeu, rodfeydd a cholof­nau idd­ynt. stafelloedd o'r naill du, ac o'r tu arall, yn gan cufydd, gyd â'r Deml oddi fewn, a dryssau y cyntedd.

16 Y gorsingau, a'r ffenestri cyfyng, a'r stafelloedd o amgylch, ar eu tri vchder, ar gyfer y rhiniog a ystyllennasid â choed o amgylch ogylch;Neu, a'r llawr. ac o'r llawr hyd y ffenestri, a'r ffenestri hefyd a ystyllennasid;

17 Hyd uwch ben y drws, a hyd y tŷ o fewn ac allan, ac ar yr holl bared, o amgylch ogylch, o fewn ac allan, wrth fesurau.

18 A Cherubiaid hefyd, ac â phalm-wŷdd y gweithiasid ef, palm-wydden rhwng pob dau Gerub, a dau wyneb oedd i bob Che­rub.

19 Canys wyneb dŷn oedd tua 'r balm­wydden o'r naill du, ac wyneb llew tua 'r balm-wydden o'r tu arall; yr oedd wedi ei weithio ar hŷd y tŷ, o amgylch ogylch.

20 Cherubiaid a phalm-wŷdd a weithiasid o'r ddaiar hyd oddi ar y drws; ac ar bared y Deml.

21 Pedwar ochroc oedd Heb. post. pŷst y Deml, ac wyneb y cyssegr, gwelediad y naill fel gwe­ledi [...]d y llall.

22 Yr allor bren oedd dri chufydd ei huch­der, a'i hŷd yn ddau gufydd; a'i chonglau, a'i huchder, a'i pharwydydd oedd o bren: ac efe a ddywedodd wrthif, dymma y bwrdd sydd ger bron yr Arglwydd.

23 Ac yr ydoedd dau ddrws i'r Deml, ac i'r cyssegr:

24 A dwy ddôr i'r dryssau, sef dwy ddôr blygedic, dwy ddôr i'r naill ddrws, a dwy ddôr i'r llall.

25 A gwnaethid arnynt ar ddryssau y Deml, Gerubiaid a phalm-wŷdd, fel y gwneuthid ar y parwydydd: ac yr oedd trawstiau coed ar wy­neb y cyntedd o'r tu allan.

26 Ffenestri cyfyng hefyd, a phalm-wŷdd oedd o bob tu, ar ystlysau y porth, ac ar ysta­felloedd y tŷ, a'r trawstiau.

PEN. XLII.

1 Ystafelloedd yr offeiriaid; 13 a'r defnydd a wneid â hwynt. 19 Mesurau y cyntedd nesaf allan.

AC efe a'm dûg i'r cyntedd nesaf allan, y ffordd tua 'r gogledd, ac a'm dûg i'r stafell oedd ar gyfer y llannerch neillduol, yr hon oedd ar gyfer yr adail, tua 'r gogledd.

2 Drws y gogledd oedd ar gyfer hŷd y can cufydd, a llêd y dêc cufydd a deugain.

3 Ar gyfer yr vgain cufydd, y rhai oedd i'r cyntedd nesaf i mewn, ac ar gyfer y palmant, yr hwn oedd i'r cyntedd nesaf allan, yr ydoedd stafell ar gyfer stafell yn dri vchder.

4 Ac o flaen yr stafelloedd yr oedd rhodfa yn ddec cufydd o lêd oddi fewn, ffordd o vn cu­fydd, a'i dryssau tua 'r gogledd.

5 A'r stafelloedd vchaf oedd gulion; o her­wydd yr stafelloeddNeu, oedd yn bwytta, neu, yn llyngcu y rhai hyn, &c. oeddynt uwch nâ'r rhai hyn,Neu, a'r adel­ladaeth oedd o'r rhai isaf, a'r rhai canol. nâ'r rhai isaf, nâ'r rhai canol o'r adei­ladaeth.

6 Canys yn dri vchder yr oeddynt hwy, ac heb golofnau iddynt, fel colofnau y cyn­teddoedd: am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach nâ'r rhai isaf, ac nâ'r rhai canol, o'r llawr i fynu.

7 A'r mur yr hwn oedd o'r tu allan, ar gyfer yr stafelloedd, tua 'r cyntedd nesaf allan, o flaen yr stafelloedd, oedd ddêc cufydd a deu­gain ei hŷd.

8 O herwydd hŷd yr stafelloedd, y rhai oedd yn y cyntedd nesaf allan, oedd ddêc cu­fydd a deugain: ac wele, o flaen y Deml, yr oedd can cufydd.

9 AcNeu, o le yr ysta­felloedd. oddi tan yr ystafelloedd hyn yr ydoedd Neu, yr hwn a'm dug i m [...]wn. mynediad i mewn, o du 'r dwyrain,Neu, ac efe yn dy­fod. ffordd yr elid iddynt hwy o'r cyntedd nesaf allan.

10 O fewn tewder mur y cyntedd tua 'r dwyrain, ar gyfer y llannerch neillduol, ac ar gyfer yr adeiladaeth, yr oedd yr stafelloedd.

11 A'r ffordd o'i blaen hwynt oedd fel gwe­lediad yr ystafelloedd y rhai oedd tua 'r gog­ledd, vn hŷd â hwynt oeddynt, ac vn llêd â hwynt; a'i holl fynediad allan oedd yn ôl eu dull hwynt, ac yn ôl eu dryssau hwynt.

12 Ac fel drysau yr ystafelloedd, y rhai oedd tua 'r deau, yr oedd drws ym mhen y ffordd, y ffordd ym mhen y mur yn vniawn, tua 'r dwyrain, yn y ddyfodfa i mewn.

13 Ac efe a ddywedodd wrthif, stafelloedd y gogledd, ac stafelloedd y deau, y rhai sydd ar gyfer y llannerch neillduol, stafelloedd sanctaidd yw y rhai hynny; lle y bwytty 'r offeiriaid, y rhai a nessant at yr Arglwydd, y pethau sanc­taidd cyssegredic; yno y gosodant y sanctaidd betheu cyssegredic, a'r bwyd offrwm, a'r pech­aberth, a'r aberth tros gamwedd, canys y lle sydd sanctaidd.

14 A phan elo yr offeiriaid i mewn iddynt, nid ânt allan o'r cyssegr, i'r cyntedd nesaf allan, eithr yno y gosodant eu dillad, y rhai y gwa­sanaethant ynddynt; am eu bod yn sanctaidd; ac a wiscant wiscoedd eraill, ac a nessânt at yr hyn a berthyn i'r bobl.

15 Pan orphennasai efe fesuro y tŷ oddi fewn, efe a'm dug i tua 'r porth sydd a'i wyneb tua 'r dwyrain, ac a'i mesurodd ef o amgylch ogylch.

16 Efe a fesuroddHeb. wynt y dwyrain. du 'r dwyrain â chorsen fessur, yn bum cant o gorsennau, wrth y gorsen fessur, oddi amgylch.

17 Efe a fesurodd du 'r gogledd yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur, oddi amgylch.

18 Y tu deau a fesurodd efe yn bum can corsen, wrth y gorsen sesur.

19 Efe a aeth o amgylch i du y gorllewin, ac a fessurodd bum can corsen, wrth y gorsen fessur.

20 Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef, mûr oedd iddo ef o amgylch ogylch, yn bum can corsen o hŷd, ac yn bum can corsen o lêd, i wa­hanu rhwng y cyssegr a'r digyssegr.

PEN. XLIII.

1 Gogoniant Duw yn dychwelyd i'r Deml. 7 Pechod Israel yn rhwystro cynnyrcholdeb Duw. 10 Y Prophwyd yn eu hannog hwy i edifarhau, ac i gadw cyfraith y tŷ. 13 Mesu­rau, 18 a defodau yr Allor.

AC efe a'm dug i'r porth, sef y porth sydd yn edrych tua 'r dwyrain.

2 Ac wele ogoniant Duw Israel yn dyfod o ffordd y dwyrain; a'i lais fel sŵnPen. 1.24. dyfroedd lawer, a'r ddaiar yn discleirio o'i ogoni­ant ef.

3 Ac yr oedd yn ôl gwelediad y weledig­aethPen. 1.4. & 8.4. & 9.3. a welais, sef yn ôl y weledigaeth a we­lais pan ddaethymNeu, i brophwy­do y dife­thid y ddinas. gwel pen. 9.2, 5. i ddifetha y ddinas: a'r gweledigaethau oedd fel y weledigaeth a welswn wrth afon Chebar: yna y syrthiais ar fy wy­neb.

4 APen. 10.4. & 11.22. gogoniant yr Arglwydd a ddaeth i'r tŷ; ar hyd ffordd y porth sydd a'i wyneb tua 'r dwyrain.

5 Felly yr yspryd a'm cododd, ac a'm dûg i'r cyntedd nessaf i mewn, ac wele, llanwasei gogoniant yr Arglwydd y tŷ.

6 Clywn ef hefyd yn llefaru wrthif o'r tŷ, ac yr oedd y gŵr yn sefyll yn fy ymyl.

7 Ac efe a ddywedodd wrthif, ha fab dŷn, dymma le fy ngorseddfa, a lle gwadnau fy nhraed, lle y trigaf ym mysc meibion Israel yn dragywydd, a'm henw sanctaidd ni haloga tŷ Israel mwy, na hwynt hwy, na'i brenhinoedd, trwy eu putteindra, na thrwy gyrph meirw eu brenhinoedd yn eu huchel-leoedd,

8 Wrth osod eu rhiniog wrth fy rhiniog i, a'i gorsin wrth fy ngorsin i,Neu, canys nid oedd ond pared rhyngofi a &c. a phared rhyngof fi â hwynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd â'i ffieidd-dra, y rhai a wnaethant: am hynny mi a'i hyssais hwy yn fy llid.

9 Pellhânt yr awr hon eu putteindra, a che­lanedd eu brenhinoedd, oddi wrthif fi, ac mi a drigaf yn eu mysc hwy yn dragywydd.

10 Ti fab dŷn, dangos y tŷ i dŷ Israel, fel y cywilyddiont am eu hanwireddau, a mesu­rantNeu, y swm, neu, y rhifedi. y portreiad.

11 Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnae­thant, yspyssa iddynt ddull y tŷ, a'i osodiad, a'i fynediadau allan; a'i ddyfodiadau i mewn, a'i holl ddull, a'i holl ddeddfau, a'i holl ddull, a'i holl gyfreithiau; ac yscrifenna o flaen eu lly­gaid hwynt, fel y cadwont ei holl ddull ef, a'i holl ddeddfau, ac y gwnelont hwynt.

12 Dymma gyfraith y tŷ, ar ben y my­nydd y bydd ei holl derfyn ef, yn gyssegr sanc­teiddiolaf o amgylch ogylch: wele, dymma gyfraith y tŷ.

13 Ac dymma fesurau 'r allor wrth gu­fyddau; y cufydd sydd gufydd a dyrnfedd;Heb. y fonwes. y gwaelod fydd yn gufydd, a'r llêd yn gufydd, a'i ymylwaith ar ei min o amgylch fydd vn rhych­want: ac dymma le vchaf yr allor.

14 Ac o'r gwaelod, ar y llawr, hyd yr ystôl issaf, y bydd dau gufydd, ac vn cufydd o lêd, a phedwar cufydd o'r ystôl leiaf hyd yr ystôl fwyaf, a chufydd o lêd.

15 FellyH [...]b. Harel, sef mynydd Duw. yr allor fydd bedwar cufydd, ac o'rHeb. Ariel. sef llew Duw. allor y bydd hefyd tu ag i fynu, bedwar o gyrn.

16 A'r allor fydd ddeuddec cufydd o hŷd, a deuddec o lêd, yn scwâr yn ei phedwar ystlys.

17 A'r ystôl fydd bedwar cufydd ar ddêc o hŷd, a phedwar ar ddêc o lêd, yn ei phedwar ystlys; a'r ymyl-waith o amgylch iddi yn hanner cufydd, a'i gwaelod yn gufydd o am­gylch; a'i grissiau yn edrych tua 'r dwyrain.

18 Ac efe a ddywedodd wrthif, ha fab dŷn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; dymma ddeddfau 'r allor, yn y dydd y gwneler hi, i boeth-offrymmu poeth offrwm arni, ac i dae­nellu gwaed arni.

19 Yna y rhoddi at yr offeiriaid y Lefiaid, (y rhai sydd o hâd Zadoc, yn nessau attafi, medd yr Arglwydd Dduw, i'm gwasanaethu) fustach ieuangc yn bech-aberth.

20 A chymmer o'i waed ef, a dyro ar ei phedwar corn hi, ac ar bedair congl yr ystôl, ac ar yr ymyl o amgylch: fel hyn y glanhei, ac y cyssegri hi.

21 Cymmeri hefyd fustach y pech-aberth, ac efe a'i llŷsc ef yn y lle nodedig i'r tŷ, o'r tu allan i'r cyssegr.

22 Ac ar yr ail dydd, ti a offrymmi fwch geifr perffeith-gwbl, yn bech-aberth, a hwy a lanhânt yr allor, megis y glanhasant hi â'r bustach.

23 Pan orphennych ei glanhau, ti a offrymmi fustach ieuangc perffaith-gwbl, a hwrdd per­ffaith-gwbl o'r praidd.

24 Ac o flaen yr Arglwydd yr offrymmi hwynt, a'r offeiriaid a fwriant halen arnynt, ac a'i hoffrymmant hwy yn boeth offrwm i'r Arglwydd.

25 Saith niwrnod y darperi fwch yn bech­aberth bob dydd: darparant hefyd fustach ieuangc, a hwrdd o'r praidd, o rai perffaith-gwbl.

26 Saith niwrnod y cyssegrant yr allor, ac y glanhânt hi, acHeb. y llan­want eu dwylo. yr ymgyssegrant.

27 A phan ddarffo y dyddiau hyn, bydd ar yr wythfed dydd, ac o hynny allan, i'r offeir­iaid offrymmu ar yr allor eich poeth offrym­mau, a'ch ebyrthNeu, diolch. hedd, ac mi a fyddaf fodlon i chwi, medd yr Arglwydd Dduw.

PEN. XLIIII.

1 Porth y dwyrain a berthyn yn vnic i'r ty­wysog. 4 Ceryddu yr offeiriaid am halogi y Cyssegr. 9 Na chaiff delw-addolwyr swydd yr offeiriad, 15 ond meibion Zadoc a'i caiff. 17 Ordeiniadau i'r offeiriaid.

AC efe a wnaeth i'm ddychwelyd ar hyd ffordd porth y cyssegr nessaf allan, yr hwn sydd yn edrych tua 'r dwyrain, ac yr oedd yn gaead.

2 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthif, y porth hwn fydd gaead, nid agorir ef, ac nid â neb i mewn trwyddo ef, o herwydd Ar­glwydd Dduw Israel aeth i mewn trwyddo ef, am hynny y bydd yn gaead.

3 I'r tywysog y mae; y tywysog, efe a eistedd ynddo, i fwytta bara o flaen yr Ar­glwydd: ar hŷd ffordd cyntedd y porth hwn­nw y daw efe i mewn, a hyd ffordd yr vn yr â efe allan.

4 Ac efe a'm dûg i ffordd porth y gogledd, o flaen y tŷ, a mi a edrychais, ac wele, llanwasei gogoniant yr Arglwydd dŷ yr Arglwydd; a mi a syrthiais ar fy wyneb.

5 A dywedodd yr Arglwydd wrthif,Sef, ystyria yn dda. gosot dy galon fab dŷn, a gwêl â'th lygaid, clyw hefyd â'th glustiau 'r hyn oll yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthit, am holl ddeddfau tŷ 'r Ar­glwydd, ac am ei holl gyfreithiau,Ac ystyrla. a gosod dy feddwl ar ddyfodfa y tŷ, ac ar bob mynedfa allan o'r cyssegr.

6 A dywed wrth y gwrthryfelgar, sef tŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, digon i chwi hyn, tŷ Israel, o'ch holl ffieidd-dra;

7 Gan ddwyn o honochPen. 23.40. Heb. feibion dleithr. ddieithriaid di­enwaededic o galon, a dienwaededic o gnawd, i fod yn fy nghyssegr, iw halogi ef, sef fy nhŷ i, pan offrymmasoch fy mara, y brasder, a'r gwaed; a hwy a dorrasant fy nghyfammod, o herwydd eich holl ffieidd-dra chwi.

8 Ac ni chadwasoch gadwriaeth fy mhethau cyssegredic; eithr gossodasoch i chwi eich hunain geidwaid ar Neu, fy ordinhad. felly ver. 14. & 16. fy nghadwriaeth yn fy nghyssegr.

9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ni ddaw i'm cyssegr vn mab dieithr dienwae­dedic o galon, a dienwaededic o gnawd, o'r holl feibion dieithr, y rhai sydd ym mysc mei­bion Israel.

10 A'r2 Bren. 23.9. Lefiaid, y rhai a giliasant ym mhell oddi wrthif, pan gyfeiliornodd Israel, y rhai a gyrwydrasant oddi wrthif ar ôl eu delwau, hwy a ddygant eu hanwiredd.

11 Etto hwy a fyddant yn fy nghyssegr, yn wenidogion mewn swydd ym mhyrth y tŷ, ac yn gweini i'r tŷ: hwy a laddant yr offrwm poeth, ac aberth y bobl, a hwy a safant o'i blaen hwy, iw gwasanaethu hwynt:

12 O herwydd gwasanaethu o honynt hwy o flaen eu heulynnod, a bod o honynt i dŷ Israel yn dramgwydd i anwiredd, am hynny y derchefais fy llaw yn eu herbyn hwynt, medd yr Arglwydd Dduw, a hwy a ddygant eu han­wiredd.

13 Ac ni ddeuant yn agos attafi, i offeiriadu i mi, nac i nessau at yr vn o'm pethau sanctaidd, yn y cyssegr sancteiddiolaf: eithr dygant eu cywilydd, a'i ffieidd-dra a wnaethant.

14 Eithr gwnaf hwynt yn geidwaid cad­wriaeth y tŷ, yn ei holl wasanaeth, ac yn yr hyn oll a wneir ynddo.

15 Yna yr offeiriaid y Lefiaid, meibion Za­doc, y rhai a gadwasant gadwriaeth fy nghys­segr, pan gyfeiliornodd meibion Israel oddi wrthif, hwynt hwy a nessant attafi i'm gwasa­naethu, ac a safant o'm blaen, i offrymmu i mi y braster, a'r gwaed, medd yr Arglwydd lôr.

16 Hwy a ânt i mewn i'm cyssegr, a hwy a nessânt at fy mwrdd, i'm gwasanaethu, ac a gadwant fy nghadwriaeth.

17 A phan ddelont i byrth y cyntedd nessaf i mewn, gwiscant wiscoedd lliain, ac na ddeued gwlân am danynt, tra y gwasanaethant ym mhyrth y cyntedd nessaf i mewn, ac o fewn.

18 Cappiau lliain fydd am eu pennau hwynt, a llawdrau lliain fydd am eu lwynau hwynt: nac ymwregysantNeu, mewn lle­oedd chwyslyd [...] Heb. mewn chwys, neu, yng­hyd a chwys. â dim a baro chwŷs.

19 A phan elont i'r cyntedd nessaf allan, (sef at y bobl i'r cyntedd oddi allan) dioscant eu gwiscoedd, y rhai y gwasanaethasant ynddynt, a gosodant hwynt o fewn celloedd y cyssegr, a gwiscant ddillad eraill, ac na chyssegrant y bobl â'i gwiscoedd.

20 Eu pennau hefyd ni eilliant, ac ni oll­yngant eu gwallt yn llaes, gan dalgrynnu tal­grynnant eu pennau.

21 Hefyd, nac yfed vn offeiriad wîn, pan ddelont i'r cyntedd nessaf i mewn.

22 Na chymerant ychwaith yn wragedd iddynt wraig weddw, neuHeb. yr hon a yrrwyd allan. yscaredic; eithrLevit. 21.13. morwynion o hâd tŷ Israel, neu'r weddw a fyddo gweddw offeiriad, a gymmerant.

23 A dyscant i'm pobl ragor rhwng y sanc­taidd a'r halogedig, a gwnant iddynt wybod gwahan rhwng aflan a glân.

24 Ac mewn ymrafael, hwy a safant mewn barn, ac a farnant yn ôl fy marnedigaethau i: cadwant hefyd fy nghyfreithiau, a'm deddfau, yn fy holl vchel-wyliau, a sancteiddiant fy Sabbothau.

25 Ni ddeuant ychwaithLevit. 21.1, 11. at ddŷn marw i ymhalogi, eithr wrth dâd, ac wrth fam, ac wrth fab, ac wrth ferch, wrth frawd, ac wrth chwaer, yr hon ni bû eiddo gŵr, y gallant ymhalogi.

26 Ac wedi ei buredigaeth y cyfrifir iddo saith niwrnod.

27 A'r dydd yr elo i'r cyssegr, o fewn y cyntedd nessaf i mewn, i weini yn y cyssegr, offrymmed ei bech-aberth, medd yr Arglwydd Dduw.

28 A bydd yn etifeddiaeth iddynt hwy;Num. 18.20. Deut. 10.9. & 18.1, 2. Jos. 13.14, 33. myfi yw eu etifeddiaeth hwy, ac na roddwch berchennogaeth iddynt hwy yn Israel, myfi yw eu perchennogaeth hwy.

29 Y bwyd offrwm, a'r pech-aberth, a'r aberth tros gamwedd, a fwyttânt hwy, a phobNeu, atofryd­beth. peth cyssegredic yn Israel, fydd eiddynt hwy.

30Neu, a'r cyntaf, neu, a'r pennas. AExod. 13.2. & 22.29. & 34.19. Num. 3.13. & 18.12. blaenion pob blaenffrwyth o bob peth, a phob offrwm pob dim oll, o'ch holl offrymmau, fydd eiddo 'r offeiriaid: blaen­ffrwyth eich toes hefyd a roddwch i'r offeiriad, i osod bendith ar dy dŷ.

31Exod. 22.31. Lefit. 22.8. Na fwyttaed yr offeiriaid ddim a fu farw ei hun, neu ysclyfaeth o aderyn, neu o anifail.

PEN. XLV.

1 Rhandir y Cyssegr, 6 a'r eiddo 'r ddinas, 7 a'r tywysog. 9 Ordeiniadau i'r tywysog.

AHeb. phan ba­roch i'r tir syrthio yn etif. Phan rannoch y tîr wrth goel-bren yn etifeddiaeth, yr offrymmwch i'r ArglwyddHeb. sancteidd­rwydd, neu, gys­segr. offrwm cyssegredic o'r tîr, yr hŷd fydd pum mil ar hugain o gorsennau o hŷd, a deng-mil o lêd: cyssegredic fydd hynny yn ei holl der­fyn, o amgylch.

2 O hyn y bydd i'r cyssegr bum cant ar hŷd, a phum cant ar lêd, yn bedeir-ongl oddi amgylch; a dêc cufydd a deugain, ynNeu, llennyr [...]h gweigion. faes pentrefol iddo, o amgylch.

3 Ac o'r messur hwn y messuri bum mîl ar hugain o hŷd, a deng-mîl o lêd, ac yn hwn­nw y bydd y cyssegr, a'r lle sancteiddiolaf.

4 Y rhan gyssegredic o'r tir fydd i'r offeiriaid, y rhai a wasanaethant y cyssegr, y rhai a nes­sant i wasanaethu yr Arglwydd; ac efe a fydd iddynt yn lle tai, ac yn gyssegrfa i'r cyssegr.

5 A'r pum mîl ar hugain o hŷd, a'r deng­mîl o lêd, fydd hefyd i'r Lefiaid, y rhai a wa­sanaethant y tŷ, yn etifeddiaeth vgain o stafell­oedd.

6 Rhoddwch hefyd bum mîl o lêd, a phum mil ar hugain o hŷd, yn berchennogaeth i'r ddinas, ar gyfer offrwm y rhan gyssegredic: i holl dŷ Israel y bydd hyn.

7 A rhan fydd i'r tywysog, o'r tu yma ac o'r tu accw i offrwm y rhan gyssegredic: ac i berchennogaeth y ddinas, ar gyfer y rhan gysse­gredic, ac ar gyfer etifeddiaeth y ddinas, o du 'r gorllewin tua 'r gorllewin, ac o du 'r dwy­rain tua 'r dwyrain: a'r hŷd fydd ar gyfer pob vn o'r rhannau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain.

8 Yn y tîr y bydd ei etifeddiaeth ef yn Is­rael, ac ni orthrymma fy nhywysogion fy mhobl i mwy, a'r rhan arall o'r tîr a roddant i dŷ Israel, yn ôl eu llwythau.

9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, digon i chwi hyn, tywysogion Israel; bwriwch ymmaith drawsder a difrod, gwnewch hefyd farn a chyfiawnder, tynnwch ymaith eichNeu, cymmhe­llion. Heb. gwthio allan. trethau oddi ar fy mhobl, medd yr Arglwydd Dduw.

10Levit. 19.35, 36. Bydded gennwch gloriannau vniawn, ac1 Bren. 5.31. Ephah vniawn, a Bath vniawn.

11 Bydded yr Ephah a'r Bath vn fesur, gan gynnwys o'r Bath ddecfed ran Homer: a'r Ephah ddecfed ran Homer: wrth yr Homer y bydd eu messur hwynt.

12Exod. 30.13. Levit. 27.25. Num. 3.47. Y Sicl fydd vgain Gerah; vgain Sicl, a phum sicl ar hugain, a phymthec Sicl, fydd Maneh i chwi.

13 Dymma 'r offrwm a offrymmwch, chweched ran Ephah o Homer o wenith, felly y rhoddwch chweched ran Ephah o Homer o haidd.

14 Am ddeddf yr olew, Bath o olew, dec­fed ran Bath a roddwch o'r Corus: yr hyn yw Homer o ddeg Bath: o herwydd dêc Bath yw Homer.

15 VnNeu, oen, neu, fyn. milyn hefyd o'r praidd a offrym­mwch o bob deucant, allan o ddolydd Israel, yn fwyd offrwm, ac yn boeth offrwm, ac yn aber­thauNeu, diolch. hedd, i wneuthur cymmod trostynt, medd yr Arglwydd Dduw.

16 Holl bobl y tîr fyddant tan yr offrwm hwnNeu, gyd a'r. i'r tywysog yn Israel.

17 Ac ar y tywysog y bydd poeth offrwm, a bwyd offrwm, a diod offrwm, ar yr vchel-wyl­iau, a'r newydd-loerau, a'r Sabbothau, drwy holl osodedic wyliau tŷ Israel: efe a ddarpara bech-aberth, a bwyd offrwm, a phoeth offrwm, ac aberthauNeu, diolch. hedd, i wneuthur cymmod tros dŷ Israel.

18 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, o fewn y mîs cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mîs, y cymeri fustach ieuangc perffaith-gwbl, ac y puri y cyssegr.

19 Yna y cymmer yr offeiriad o waed y pech-aberth, ac a'i rhŷdd ar orsingau y tŷ, ac ar bedair congl ystôl yr allor, ac ar orsingau porth y cyntedd nessaf i mewn.

20 Felly y gwnei hefyd ar y seithfed dydd o'r mîs, tros y neb a becho yn amryfus, a thros yr ehud; felly y purwch y tŷ.

21 Yn y mîs Exod. 12.18. Levit. 23.5. cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddêc o'r mîs, y bydd i chwi y Pasc, gŵyl fydd i chwi saith niwrnod, bara croyw a fwyt­tewch.

22 A'r tywysog a ddarpara ar y dydd hwn­nw drosto ei hun, a thros holl bobl y wlad, fustach yn bech-aberth.

23 A saith niwrnod yr ŵyl y darpara efe yn offrwm poeth i'r Arglwydd, saith o sustych, a saith o hyrddod perffaith-gwbl, bob dydd o'r saith niwrnod, a bwch geifr yn bech-aberth bob dydd.

24 Bwyd offrwm hefyd a ddarpara efe, sefExod. 29.40. Ephah gyd â phob bustach, ac Ephah gy [...] â phob hwrdd; a hin o olew gyd â'r Ephah.

25 Yn y seithfed mîs, ar y pumtheosed dydd o'r mîs, y gwna y cyffelyb ar yrNum. 29.12. wyl, [Page] [...] [Page] [...] [Page] tros saith niwrnod: sef fel y pech-aberth, fel y poeth offrwm, ac fel y bwyd offrwm, ac fel yr olew.

PEN. XLVI.

1 Ordeiniadau i'r Tywysog pan addolo, 9 ac i'r bobl. 16 Trefn am etifeddiaeth y Tywysog. 19 Y cyntedd i ferwi ac i bobi.

FEl hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, porth y cyntedd nessaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua 'r dwyrain, fydd yn gaead y chwe diwrnod gwaith; ond ar y dydd Sabboth yr agorir ef; ac efe a agorir ar ddydd y newydd­loer.

2 A'r tywysog a ddaw ar hŷd ffordd cyn­tedd y porth oddi allan, ac a saif wrth orsing y porth, a'r offeiriaid a ddarpara ei boeth offrwm ef, a'i aberthau hedd, ac efe a addola wrth riniog y porth; ac â allan, a'r porth ni cheuir hyd yr hwyr.

3 Pobl y tîr a addolant hefyd wrth ddrws y porth hwnnw, ar y Sabbothau, ac ar y new­ydd-loerau o flaen yr Arglwydd.

4 A'r offrwm poeth a offrymmo 'r tywysog i'r Arglwydd ar y dydd Sabboth, fydd chwech o wŷn perffaith-gwbl, a hwrdd perffaith-gwbl:

5 A bwyd offrwm o Ephah gyd â'r hwrdd, a rhodd ei law o fwyd offrwm gyd â'r ŵyn, a Hin o olew gyd â'r Ephah.

6 Ac ar ddydd y newydd-loer, bustach ieuangc perffaith-gwbl, a chwech o ŵyn, a hwrdd: perffaith-gwbl fyddant.

7 Ac efe a ddarpara Ephah gyd â'r bustach, ac Ephah gyd â'r hwrdd, yn fwyd offrwm; a chyd â'r ŵyn, fel y cyrhaeddo ei law ef, a Hin o olew gyd â phob Ephah.

8 A phan ddelo yr tywysog i mewn, ar hŷd ffordd cyntedd y porth y daw i mewn, ac ar hŷd y ffordd honno yr â allan.

9 A phan ddelo pobl y tîr o flaen yr Ar­glwydd, ar y gwyliau gosodedic, yr hwn a ddelo i mewn ar hyd ffordd porth y gogledd i addoli, â allan i ffordd porth y deau: a'r hwn â ddelo ar hyd ffordd porth y deau, â allan ar hyd ffordd porth y gogledd; na ddychweled i ffordd y porth y daeth i mewn trwyddo, eithr eled allan ar ei gyfer.

10 A phan ddelont hwy i mewn, y daw y tywysog yn eu mysc hwy, a phan elont allan yr â yntef allan.

11 Ac ar y gwyliau, a'r vchel-wyliau hefyd, y bydd y bwyd offrwm o Ephah gyd â phob bustach, ac Ephah gyd â phob hwrdd, a rhodd ei law gyd â'r ŵyn, a Hin o olew gyd â'r Ephah.

12 A phan ddarparo y tywysog boeth off­rwm gwirfodd, neu aberthau hedd gwirfodd, i'r Arglwydd, yna 'r egyr vn iddo 'r porth sydd yn edrych tua 'r dwyrain, ac efe a ddar­para boeth offrwm, a'i aberthau hedd, fel y gwnaeth ar y dydd Sabboth; ac â allan, ac vn a gae 'r porth ar ôl ei fyned ef allan.

13 OenHeb. mab ei flwy­ddyn. blwydd perffaith-gwbl hefyd a ddarperi yn boeth offrwm i'r Arglwydd beun­ydd: o foreu i foreu y darperi ef.

14 Darperi hefyd yn fwyd offrwm gyd ag ef o foreu i foreu, chweched ran Ephah, a thrydedd ran Hin o olew, i gymmyscu 'r pei­llied, yn fwyd offrwm i'r Arglwydd, trwy ddeddfau tragywyddol byth.

15 Fel hyn y darparant yr oen, a'r bwyd offrwm, a'r olew, o foreu i foreu, yn boeth offrwm gwastadol.

16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, os rhydd y tywysog rodd i neb o'i feibion o'i etifeddiaeth, eiddo ei feibion fydd hynny, eu perchennogaeth fydd hynny wrth etifeddiaeth.

17 Ond pan roddo efe rodd o'i etifeddiaeth i vn o'i weision, bydd hefyd eiddo hwnnw hyd flwyddyn yLevit. 25.9. rhydd-did, yna y dychwel i'r tywysog, etto ei etifeddiaeth fydd eiddo ei fei­bion, iddynt hwy.

18 Ac naPen. 45.8. chymmered y tywysog o etife­ddiaeth y bobl, iw gorthrymmu hwynt allan o'i perchennogaeth, eithr rhodded etifeddiaeth iw feibion o'i berchennogaeth ei hun, fel na wascarer fy mhobl, bob vn allan o'i berchen­nogaeth.

19 Ac efe a'm dûg trwy 'r ddyfodfa oedd ar ystlys y porth, i ystafelloedd cyssegredic yr offeiriaid, y rhai oedd yn edrych tua 'r gog­ledd: ac wele yno le ar y ddau ystlys, tua 'r gorllewin.

20 Ac efe a ddywedodd wrthif, dymma 'r fan lle y beirw 'r offeiriaid yr aberth tros gam­wedd, a'r pech-aberth, a lle y pobant y bwyd offrwm, fel na ddygont hwynt i'r cyntedd nessaf allan, i sancteiddio 'r bobl.

21 Ac efe a'm dûg i'r cyntedd nessaf allan, ac a'm tywysodd heibio i bedair congl y cyn­tedd, ac weleHeb. gyntedd ynghongl cyntedd, a chyn­tedd yng­hongl cyntedd. gyntedd ym mhob congl i'r cyntedd.

22 Ym mhedair congl y cyntedd yr ydoedd gynteddauNeu, wedi eu gwneu­thur a simneiau. cyssylltedic, o ddeugain cufydd o hŷd, a dêc ar hugain o lêd: vn fessur oedd yHeb. conglog. conglau ill pedair.

23 Ac yr ydoedd adail newydd o amgylch ogylch iddynt ill pedair, a cheginau wedi eu gwneuthur oddi tan y muroedd oddi amgylch.

24 Ac efe a ddywedodd wrthif, dymma dŷ y cogau, lle y beirw gwenidogion y tŷ aberth y bobl.

PEN. XLVII.

1 Gweledigaeth y dyfroedd sanctaidd, 6 A'i rhinwedd. 13 Terfynau 'r wlâd, 22 A'i rhannu wrth goel-bren.

AC efe a'm dug i drachefn i ddrws y tŷ, ac wele ddwfr yn dyfod allan oddi tan riniog y tŷ, tua 'r dwyrain; o herwydd wyneb y tŷ oedd tua 'r dwyrain; a'r dyfroedd oedd yn descyn oddi tanodd o ystlys dehau 'r tŷ, o du 'r deau i'r allor.

2 Ac efe a'm dug i ar hŷd ffordd y porth tua 'r gogledd, ac a wnaeth i'm amgylchu y ffordd oddi allan, hyd y porth nessaf allan, ar hŷd y ffordd sydd yn edrych tua 'r dwyrain; ac wele ddyfroedd yn tarddu ar yr ystlys dehau.

3 A phan aeth y gŵr, yr hwn oedd â'r llinyn yn ei law, allan tua 'r dwyrain, efe a fessurodd fil o gufyddau, ac a'm tywysodd i trwy y dyfroedd,Heb. dyfroedd y fferau. a'r dyfroedd hyd y fferau.

4 Ac efe a fessurodd fil eraill, ac a'm tywy­sodd trwy y dyfroedd, a'r dyfroedd hyd y gli­niau; ac a fessurodd fil eraill, ac a'm tywysodd trwodd, a'r dyfroedd hyd y lwyni:

5 Ac a fessurodd fil eraill, ac afon oedd, yr hon ni allwn fyned trwyddi; canys codassei y dyfroedd yn ddyfroeddHeb. nofio. nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi.

6 Ac efe a ddywedodd wrthif, a welaist di hyn fab dŷn? yna i'm tywyfodd, ac i'm dych­welodd hyd glan yr afon.

7 Ac wedi i mi ddychwelyd, weleDatc. 22.1. ar fin yr afon goed lawer iawn, o'r tu ymma, ac o'r tu accw.

8 Ac efe a ddywedodd wrthif, y dyfroedd hyn sydd yn myned allan tua brô y dwyrain, ac a ddescynnant i'rNeu, anialwch. gwastad, ac a ântZech. 14.8. i'r môr; ac wedi eu myned i'r môr, yr iachêir y dyfroedd.

9 A bydd i bob peth byw, yr hwn a ym­lusco pa le bynnag y deloHeb. y ddwy afon. 'r afonydd, gael byw, ac fe fydd pyscod lawer iawn, o her­wydd dyfod y dyfroedd hyn yno: canys iachêir hwynt, a phob dim, lle y delo 'r afon, fydd byw.

10 A bydd i'r pyscod-wŷr sefyll arni o En-Gedi, hyd En-Eglaim, hwy a fyddant yn danfa rhwydau; eu pyscod fydd yn ôleu rhyw, fel pyscod y môr mawr, yn llawer iawn.

11 Ei lleoedd lleidiog a'i chorsyddNeu, a'r hyn ni iacheir. ni iachêir, i halen y rhoddir hwynt.

12 Ac wrth yr afon y cyfyd ar ei min o'r ddeutu, bob pren ymborth, ei ddalen ni syrth, a'i ffrwyth ni dderfydd; yn ei fisoedd y dwg ffrwythNeu, arbennig. newydd: o herwydd ei ddyfroedd, hwy a ddaethant allan o'r cyssegr: am hynny y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a'i ddalenNeu, i yssigiod, neu, ddo­luriau. ynDatc. 22.2. feddiginiaeth.

13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, dymma y terfyn, wrth yr hwn y rhennwch y tir yn etifeddiaeth i ddeuddec llwyth Israel,Gene. 48.22. Joseph a gaiff ddwy o rannau.

14 Hefyd chwi a'i hetifeddwch ef, bob vn cystal a'i gilydd, am yr hwn yGene. 12.7. & 13.15. & 15.18. & 26.3. & 17.8. & 28.13. Deut. 34.4. Heb. codais fy llaw. tyngais ar ei roddi i'ch tadau; a'r tir hwn a syrth i chwi yn etifeddiaeth.

15 A dymma derfyn y tîr o du 'r gogledd, o'r môr mawr tua Hethlon, ffordd yr eir i Zedad:

16 Hamath, Berothah, Sibrain, yr hwn sydd rhwng terfyn Damascus a therfyn Ha­math;Neu, y ganol­dref. Hazar Hatticon, yr hwn sydd ar derfyn Hauran.

17 A'r terfyn o'r môr fydd Hazar-Enan, terfyn Damascus, a'r gogledd tua 'r gogledd, a therfyn Hamath: ac dymma du 'r gogledd.

18 Ac ystlys y dwyrain a fesurwch o Hauran, acHeb. oddi rhwng Damas­cus. o Ddamascus, ac o Gilead, ac o dîr Israel wrth yr Iorddonen, o'r terfyn hyd fôr y dwy­rain: ac dymma du 'r dwyrain.

19 A'r ystlys deau tua 'r deau, o Tamar hyd ddyfroeddNeu, Meribah yn Cades. cynnen Cades,Neu, y dyffryn. yr afon hyd y môr mawr: ac dymma 'r ystlys deau tuaNeu, 'r deau. Thernan.

20 A thu y gorllewyn fydd y môr mawr, o'r terfyn hyd oni ddeuer ar gyfer Hamath: dymma du 'r gorllewin.

21 Felly y rhennwch y tîr hwn i chwi, yn ôl llwythau Israel.

22 Bydd hefyd i chwi ei rannu ef wrth goelbren yn etifeddiaeth i chwi; ac i'r dieith­riaid a ymdeithiant yn eich mysc, y rhai a gen­hedla blant yn eich plith, a byddant i chwi fel vn wedi ei eni yn y wlad, ym mysc meibion Israel; gyd â chwi y cânt etifeddiaeth ym mysc llwythau Israel.

23 A bydd ym mha lwyth bynnac yr ym­deithio y dieithr, yno y rhoddwch ei etifedd­iaeth ef, medd yr Arglwydd Dduw.

PEN. XLVIII.

1 23 Rhandiredd y deuddeg llwyth. 8 Rhan­dir y Cyssegr, 15 a'r ddinas, a'i phentrefydd, 21 a'r tywysog. 30 Mesurau pyrth y ddinas.

A Dymma henwau y llwythau; o gwrr y gogledd, ar duedd ffordd Hethlon, ffordd yr eir i Hamath, Hazar-Enan, terfyn Damas­cus, tua 'r gogledd i duedd Hamath, (canys y rhai hyn oedd ei derfynau dwyrain a gorllewin) rhan i Dan.

2 Ac ar derfyn Dan, o du 'r dwyrain hyd du 'r gorllewin, rhan i Aser.

3 Ac ar derfyn Aser, o du 'r dwyrain hyd du yr gorllewin, i Nephtali ran.

4 Ac ar derfyn Nephtali, o du 'r dwyrain hyd du 'r gorllewin, i Manasseh ran.

5 Ac ar derfyn Manasseh, o du 'r dwyrain hyd du 'r gorllewin, i Ephraim ran.

6 Ac ar derfyn Ephraim, o du 'r dwyrain hyd du 'r gorllewin, i Ruben ran.

7 Ac ar derfyn Ruben, o du 'r dwyrain hyd du 'r gorllewin, i Juda ran.

8 Ac ar derfyn Juda, o du 'r dwyrain hyd du 'r gorllewin, y bydd yr offrwm a offrym­moch, yn bum mil ar hugain o gorsennau o lêd, ac o hŷd fel vn o'r rhannau, o du 'r dwyrain hyd du 'r gorllewin; a'r cyssegr fydd yn ei ganol.

9 Yr offrwm a offrymmoch i'r Arglwydd fydd bum mil ar hugain o hŷd, a deng-mil o lêd.

10 Ac eiddo y rhai hyn fydd yr offrwm cyssegredic, sef eiddo 'r offeiriaid fydd pum mil ar hugain tua 'r gogledd o hŷd, a deng-mil tua 'r gorllewin o lêd: felly deng-mil tua 'r dwyrain o lêd, a phum-mil ar hugain tua 'r dehau o hŷd: a chyssegr yr Arglwydd fydd yn ei ganol:

11Neu, Y rhan gyssegre­dig fydd i'r offei­riaid o feibion Zadoc. i'r offeiriaid cyssegredic o feibionPen. 44.15. Zadoc y bydd, y rhai a gadwasantNeu, fy ordin­had. fy nghadwriaeth, y rhai ni chyfeiliornasant pan gyfeiliornodd plant Israel, megis y cyfeiliornodd y Lefiaid.

12 A bydd eiddynt yr hyn a offrymmir o offrwm y tir, yn sancteidd-beth cyssegredic, wrth derfyn y Lefiaid.

13 A'r Lefiaid a gânt ar gyfer terfyn yr offeiriaid, bum mil ar hugain o hŷd, a deng­mil o lêd: pob hŷd fydd bum mil ar hugain, a'r llêd yn ddeng-mil.

14 Hefyd ni werthant ddim o honaw, ac ni chyfnewidiant, ac ni thorsclwyddant flaen­ffrwyth y tîr; o herwydd cyssegredic yw i'r Arglwydd.

15 A'r pum mil gweddill o'r llêd, ar gyfer y pum mil ar hugain, fydd digyssegredic, yn drigfa ac yn faes pentrefol i'r ddinas, a'r ddinas fydd yn ei ganol.

16 Ac dymma ei fessurau ef, vstlys y gog­ledd fydd bum cant, a phedair mil, ac ystlys y deau yn bum cant, a phedair mil: felly o du 'r dwrain, yn bum cant, a phedair mil; a thu 'r gorllewin yn bum cant, a phedair mil.

17 A maes pentrefol y ddinas fydd hefyd tua 'r gogledd, yn ddeucant a dêc a deugain, ac yn ddeucant a dêc a deugain tua 'r deau, ac yn ddeucant a dêc a deugain tua 'r dwyrain, ac yn ddeucant a dêc a deugain tua 'r gorllewin.

18 A'r gweddill o'r hŷd, ar gyfer offrwm y rhan gyssegredic, fydd yn ddeng-mil tua 'r dwyrain, ac yn ddeng-mil tua 'r gorllewin; ac ar gyfer offrwm y rhan gyssegredic y bydd, a'i gnwd fydd yn ymborth i wenidogion y ddinas.

19 A gwenidogion y ddinas a'i gwasanae­thant o holl lwythau Israel.

20 Yr holl offrwm fydd bum mîl ar hugain; wrth bum mil ar hugain: yn bedeir-ongl [Page] yr offrymmwch yr offrwm cyssegredic, gyd â perchennogaeth y ddinas.

21 A'r hyn a adewir fydd i'r tywysog, o ddeu-tu 'r offrwm cyssegredic, ac o berchenno­gaeth y ddinas, ar gyfer y pum mil ar hugain, o'r offrwm tua therfyn y dwyrain, a thua 'r gorllewin, ar gyfer y pum mil ar hugain, tua therfyn y gorllewin; gyferbyn a rhannau y tywysog; a'r offrwm cyssegredic fydd, a chyssegrfa 'r tŷ fydd ynghanol hynny.

22 Felly o berchennogaeth y Lefiaid, ac o berchennogaeth y ddinas, ynghanol yr hyn sydd i'r tywysog, rhwng terfyn Juda, a therfyn Beniamin, eiddo 'r tywysog fydd.

23 Ac am y rhan arall o'r llwythau, o du 'r dwyrain hyd du yr gorllewin, y bydd Heb. [...]n rhan. rhan i Beniamin.

24 Ac ar derfyn Beniamin, o du 'r dwyrain hyd du 'r gorllewin y bydd rhan i Simeon.

25 Ac ar derfyn Simeon, o du 'r dwyrain hyd du 'r gorllewin, rhan i Issachar.

26 Ac ar derfyn Issachar, o du 'r dwyrain yd du 'r gorllewin, rhan i Zabulon.

27 Ac ar derfyn Zabulon, o du 'r dwyrain hyd du 'r gorllewin, rhan i Gad.

28 Ac ar derfyn Gad, ar y tu dehau tua 'r deau, y terfyn fydd o Tamar hyd ddyfr­oeddNeu, Meribah. cynnen Cades, a hyd yr afon tua 'r môr mawr.

29 Dymma y tîr a rennwch wrth goel-bren, yn etifediaeth i lwythau Israel, ac dymma eu rhannau hwynt, medd yr Arglwydd Dduw.

30 Dymma hefyd fynediad allan y ddinas, o du 'r gogledd pum cant, a phedair mîl o fessurau.

31 A phyrth y ddinas fydd ar henwau llwy­thau Israel, tri phorth tua 'r gogledd, porth Ru­ben yn vn, porth Juda yn vn, porth Lefi yn vn.

32 Ac ar du yr dwyrain pum cant a phe­dair mîl, a thri phorth; sef porth Joseph yn vn, porth Beniamin yn vn, porth Dan yn vn.

33 A thua 'r deau pum cant, a phedair mîl o fessurau: a thri phorth; porth Simeon yn vn, a phorth Issachar yn vn, a phorth Zabulon yn vn.

34 Tua 'r gorllewin y bydd pum cant a phe­dair mîl, a'i tri phorth: porth Gad yn vn, porth Aser yn vn, a phorth Nephtali yn vn.

35 Deu-naw mîl o fesurau oedd hi o amgylch, a henw y ddinas o'r dydd hwnnw allan fydd Jehovah Sammah. YR ARGLVVYDD SYDD YNO.

¶LLYFR DANIEL.

PENNOD I.

1 Caethiwed Jehoiacim. 3 Aspenaz yn cymmeryd Daniel, Hananiah, Misael, ac Azariah, i'w dyscu yngwybodaeth y Caldeaid: 8 A hwythau yn gwrthod rhan o fwyd y brenin, ac wrth fwytta ffa ac yfed dwfr ym myned yn dda arnynt. 17 Eu godidog ddoethineb hwy.

YN y drydedd flwyddyn o deyrna­siad2 Bren. 24.1. 2 Cron. 36.6. Jer. 25.1. Jehoiacim brenin Juda, y daeth Nabuchodonosor brenin Ba­bilon i Jerusalem, ac a warchaeodd arni.

2 A'r Arglwydd a roddes iw law ef Jehoia­cim brenin Juda, a rhan o lestri tŷ Dduw, yntef â'i dûg hwynt i wlâd Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i dryssor-dŷ ei dduw y dûg efe y llestri.

3 A dywedodd y brenin wrth Aspenaz ei ben-stafellydd, am ddwyn o feibion Israel, ac o'r hâd brenhinawl, ac o'r tywysogion,

4 Fechgyn y rhai ni byddei ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn gŵybod gŵybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, a'r rhai y byddei grym ynddynt, i sefyll yn llŷs y brenin, iw dyscu ar lyfr, ac yn iaith y Caldeaid.

5 A'r brenin a ddognodd iddynt ran beu­nydd o fwyd y brenin,Heb. ac o win ei ddiod ef. ac o'r gwîn a yfei efe; felly iw maethu hwynt dair blynedd; fel y safent yn ôl hynny ger bron y brenin.

6 Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt o feibion Juda, Daniel, Hananiah, Misael, ac Azariah.

7 A'r pen-stafellydd a osododd arnynt enwau, canys ar Ddaniel y gosododd efe Belte­sazzar, ac ar Hananiah Sadrach, ac ar Misael Mesach, ac ar Azariah Abednego.

8 A Daniel a roddes ei frŷd nad ymhalogei efe drwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwîn a ysei efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen­stafellydd, na byddei raid iddo ymhalogi.

9 A Duw a roddes Ddaniel mewn ffafor a thiriondeb gyd â'r pen-stafellydd.

10 A'r pen-stafellydd a ddywedodd wrth Ddaniel, ofni yr ydwyfi fy arglwydd y brenin, yr hwn a osododd eich bwyd chwi, a'ch diod chwi: o herwydd, pa ham y gwelei efe eich wynebau ynNeu, waeth. Heb. dri­stach. gulach nâ'r bechgyn syddNeu, o'ch dull, neu, o'ch am­ser chwi. fel chwithau? felly y parech fy mhen yn ddy­ledus i'r brenin.

11 Yna y dywedodd Daniel wrthNeu, y goruch­wiliwr. Melzar, yr hwn a osodasei y pen-stafellydd ar Ddaniel, Hananiah, Misael, ac Azariah:

12 Prawf attolwg dy weision ddêc diwrnod, a rhoddant i niHeb. o ffa. ffaHeb. ac ni a fwyttawn iw bwytta, a dwfr iw yfed.

13 Yna edrycher ger dy fron di ein gwêdd ni, a gwêdd y bechgyn sydd yn bwytta rhan o fwyd y brenin; ac fel y gwelych, gwna â'th weision.

14 Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a'i profodd hwynt ddêc o ddyddiau.

15 Ac ym mhen y deng nhiwrnod y gwe­lid eu gwêdd hwynt yn degach, ac yn dewach o gnawd, nâ'r holl fechgyn oedd yn bwytta rhan o fwyd y brenin.

16 Felly Melzar a gymmerodd ymmaith ran eu bwyd hwynt, a'r gwîn a yfent, ac a roddes iddynt ffa.

17 A'r bechgyn hynny ill pedwar, Duw a roddes iddynt ŵybodaeth, a deall ym mhob dŷsc a doethineb: a DanielNeu, oedd dde­allus. a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth, a breuddwydion.

18 Ac ym mhen y dyddiau y dywedasei y brenin am eu dwyn hwynt i mewn; yna y pen­stafellydd a'i dûg hwynt ger bron Nabuchodo­nosor.

19 A'r brenin a chwedleuodd â hwynt; ac ni chafwyd o honynt oll vn fel Daniel, Hana­niah, Misael, ac Azariah: am hynny y safasant hwy ger bron y brenin.

20 Ac ym mhob rhywHeb. ddoethi­neb deall. ddoethineb a deall, a'r a ofynnai y brenin iddynt, efe a'i cafodd hwynt yn ddec gwell nâ 'r holl ddewiniaid a'r astrono­myddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef.

21 A bu Daniel, hyd y flwyddyn gyntaf i'r brenin Cyrus.

PEN. II.

1 Nabuchodonosor yn anghofio ei freuddwyd, a thrwy addewidion a bygythion, yn ceisio gan y Caldeaid ei ddangos iddo. 10 Hwythau yn cydnabod nas gallent, ac yn cael barn marwo­laeth. 14 Daniel, wedi cael peth yspaid, yn cael allan y breuddwyd; 19 Yn bendithio Duw; 24 Yn attal y farn, ac yn dyfod ger bron y brenin. 31 Y breuddwyd, 36 a'i ddeongliad; 46 A chyfodiad Daniel.

AC yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Nabu­chodonosor, y breuddwydiodd Nabucho­donosor freuddwydion, a thrallodwyd ei yspryd ef, a'i gwsc a dorrodd oddiwrtho.

2 A'r brenin a archodd alw am y dewin­iaid, ac am yr astronomyddion, ac am yr hu­dolion, ac am y Caldeaid, i fynegi i'r brenin ei freuddwydion; a hwy a ddaethant, ac a safa­sant ger bron y brenin.

3 A'r brenin a ddywedodd wrthynt, breudd­wydiais freuddwyd, a thrallodwyd fy yspryd am ŵybod y breuddwyd.

4 Yna y Caldeaid a lefarasant wrth y bre­nin yn Syri-aec;Pen. 3.9. ô frenin, bydd fyw yn dragywydd; adrodd dy freuddwyd i'th wei­sion, a mynegwn y deongliad.

5 Attebodd y brenin a dywedodd wrth y Caldeaid; aeth y peth oddi wrthif; oni fyneg­wch y breuddwyd i'm, a'i ddeongliad,Pen. 3.29 gwneir chwi yn ddrylliau, a'ch tai a osodir yn dommen.

6 Ond os y breuddwyd a'i ddeongliad a ddangoswch, cewch roddion, a gwobrau, ac anrhydedd mawr o'm blaen i: am hynny dangoswch y breuddwyd a'i ddeongliad.

7 Attebasant eil-waith a dywedasant; dywe­ded y brenin y breuddwyd iw weision, ac ni a ddangoswn ei ddeongliad ef.

8 Attebodd y brenin a dywedodd, mi a wn yn hysbys maiCald. prynu. oedi 'r amser yr ydych chwi; canys gwelwch fyned y peth oddi wrthif.

9 Ond oni wnewch i'm ŵybod y breudd­wyd, vn gyfraith fydd i chwi; canys gair celwyddoc, a llygredic a ddarparasoch ei ddy­wedyd o'm blaen, nes newid yr amser; am hynny dywedwch i'm y breuddwyd, ac mi a gâf wybod y medrwch ddangos i mi ei ddeongliad ef.

10 Y Caldeaid a attebasant o flaen y bre­nin, ac a ddywedasant, nid oes dyn ar y ddaiar a ddichon ddangos yr hyn y mae 'r brenin yn ei ofyn: ac ni cheisiodd vn brenin, na phenna­eth, na llywydd y fath beth a hwn gan vn dewin, nac astronomydd, na Chaldead.

11 Canys dieithr yw 'r peth a gais y brenin, ac nid oes neb arall a feidr ei ddangos o flaen y brenin, onid y duwiau y rhai nid yw eu trigfa gyd â chnawd.

12 O achos hyn y digiodd y brenin, ac y creulonodd yn ddirfawr, ac a orchymmyn­nodd ddifetha holl ddoethion Babilon.

13 Yna 'r aeth y gyfraith allan, am ladd y doethion, ceisiasant hefyd Ddaniel, a'i gyfeillion iw lladd.

14 YnaCald. y trodd. yr attebodd Daniel trwy gyngor, a doethineb i AriochNeu, tywysog y filwr­i [...]eth. Cald. pen­lleiddiad. pen-distain y brenin, yr hwn a aethei allan i ladd doethion Babilon.

15 Efe a lefarodd, ac a ddywedodd wrth Arioch distain y brenin, pa ham y mae yr gyfraith yn myned ar y fath frŷs oddi wrth y brenin? yna Arioch a fynegodd y peth i Ddaniel.

16 Yna Daniel a aeth i mewn, ac a ym­biliodd â'r brenin am roddi iddo amser, ac y dangosai efe y deongliad i'r brenin.

17 Yna 'r aeth Daniel iw dŷ, ac a fynegodd y peth iw gyfeillion Hananiah, Misael, ac Aza­riah:

18 Fel y ceisient drugareddauCald. o flaen Duw, neu, oddi ger bron Duw. gan Dduw y nefoedd, yn achos y dirgelwch hyn, fel na ddifethid Daniel a'i gyfeillion, gyd â'r rhan arall o ddoethion Babilon.

19 Yna y datcuddiwyd y dirgelwch i Dda­niel mewn gweledigaeth nôs: yna Daniel a fendithiodd Dduw 'r nefoedd.

20 Attebodd Daniel, a dywedodd;Psal. 113.2. & 115.18. bendi­gedic fyddo enw Duw, o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb: canys doethineb, a nerth ydynt eiddo ef:

21 Ac efe sydd yn newid amserau, a thym­horau; efe sydd yn symmud brenhinoedd, ac yn gosod brenhinoedd: efe sydd yn rhoddi doethineb i'r doethion, a gŵybodaeth i'r rhai a fedrant ddeall.

22 Efe sydd yn datcuddio y pethau dyfnion, a chuddiedic; efe a ŵyr beth sydd yn y tywyll­wch, a chyd ag ef y mae y goleuni yn trigo.

23 Tydi Dduw fy nhadau yr ydwyfi yn diolch iddo, ac yn ei foliannu, o herwydd rhoddi o honot ddoethineb, a nerth i mi; a pheri i mi ŵybod yn awr yr hyn a geisiasom gennit: canys gwnaethost i ni ŵybodCald. ymad­rodd, neu, fat­ter y bre­nin. yr hyn a ofynnodd y brenin.

24 O herwydd hyn yr aeth Daniel at Ari­och, yr hwn a osodasei y brenin, i ddifetha doethion Babilon: efe a aeth, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; na ddifetha ddoethion Babi­lon; dŵg fi o flaen y brenin, ac mi a ddan­gosaf i'r brenin y deongliad.

25 Yna y dûg Arioch Ddaniel o flaen y brenin ar frŷs, ac a ddywedodd wrrho fel hyn;Cald. gael o honof wr. cefais ŵr o blant caethiwed Juda, yr hwn a fynega i'r brenin y deongliad.

26 Attebodd y brenin, a dywedodd wrth Ddaniel, (yr hwn yr oedd ei henw Beltesazzar) a elli di fynegi i mi y breuddwyd a welais, a'i ddeongliad?

27 Attebodd Daniel o flaen y brenin, a dywedodd; ni all doethion, astronomyddion, dewiniaid, na brud-wŷr ddangos i'r brenin y dirgelwch y mae 'r brenin yn ei ofyn.

28 Ond y mae Duw yn y nefoedd yn dat­cuddio dirgeledigaethau, ac a fynegodd i'r bre­nin Nabuchodonosor beth a fydd yn y dydd­iau diweddaf: dy freuddwyd, a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn ymma.

29 Ti frenin, dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely, beth oedd i ddyfod ar ôl hyn; a'r hwn sydd yn datcuddio dirgeledigaethau a fynegodd i ti beth a fydd.

30 Minneu hefyd, nid o herwydd y doeth­ineb sydd ynof fi, yn fwy nâ neb byw, y dat­cuddiwyd i'm y dirgelwch hwn; ond o'i hachos hwynt y rhai a fynegant y deongliad i'r brenin, ac fel y gwybyddit feddyliau dy galon.

31 Ti frenin oeddit yn gweled, ac wele ryw ddelw fawr: y ddelw fawr hon, yr oedd ei discleirdeb yn rhagorol, oedd yn sefyll gyferbyn a thi, a'r olwg arni ydoedd ofnadwy.

32 Pen y ddelw hon ydoedd o aur da, ei dwyfron a'i breichiau o arian, ei bol a'iNeu, hystlysan. morddwydydd o brês.

33 Ei choefau o haiarn, ei thraed oedd beth o honynt o haiarn, a pheth o honynt o bridd.

34 Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garrec,Neu, nid oedd mewn dwylo. fel vers. 45. nid trwy waith dwylo, a hi a darawodd y ddelw ar ei thraed o haiarn a phridd, ac a'i maluriodd hwynt.

35 Yna 'r haiarn, y pridd, y prês, yr arian, a'r aur, a gyd-faluriasant, ac oeddynt fel man­us yn dyfod o'r lloriau dyrnu hâf; a'r gwynt a'i dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt: a'r garrec, yr hon a darawodd y ddelw, a aeth yn fynydd mawr, ac a lanwodd yr holl ddaiar.

36 Dymma 'r breuddwyd, dywedwn hefyd ei ddeongliad o flaen y brenin.

37 Ti frenin wyt frenin brenhinoedd; canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant;

38 A pha le bynnac y presswylia plant dynion, efe a roddes dan dy law fwyst-filod y maes, ac ehediaid y nefoedd, ac a'th osododd di yn arglwydd arnynt oll; ti yw y pen aur hwnnw.

39 Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall îs nâ thi, a thrydedd frenhiniaeth arall ô brês, yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaiar.

40 Bydd hefyd y bedwaredd frenhiniaeth yn gref fel haiarn; canys yr hayarn a ddryllia, ac a ddofa bob peth; ac fel haiarn yr hwn a ddryllia bôb peth, y maluria ac y dryllia hi.

41 A lle y gwelaist y traed a'r byssedd, peth o honynt o bridd crochenydd, a pheth o ho­nynt o haiarn, brenhiniaeth rannedig fydd, a bydd ynddi beth o gryfder haiarn, o herwydd gweled o honot haiarn wedi ei gymmyscu â phrîdd clailyd.

42 Ac fel yr ydoedd bysedd y traed, peth o haiarn, a pheth o bridd; felly y bydd y fren­hiniaeth, o ran yn grêf, ac o ran yn frau.

43 A lle y gwelaist haiarn wedi ei gym­myscu â phrîdd cleilyd, ymgymmyscant â hâd dŷn; ond ni lynant y naill wrth y llall, me­gis nad ymgymmysca haiarn â phrîdd.

44 Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth yr honPen. 4.3.34. & 6.26. & 7.14.27. Mic. 4.7. Luc. 1.33. ni ddistrywir byth, a'r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria, ac a dreulia 'r holl frenhiniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd.

45 Lle y gwelaist dorri carrec o'r mynydd, yr hon ni thorrwyd â llaw, a malurio o honi yr haiarn, y prês, y pridd, yr arian, a'r aur; hyspysodd y Duw mawr i'r brenin beth a fydd wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wîr, a'i ddeongliad yn ffyddlon.

46 Yna y syrthiodd Nabuchodonosor y brenin ar ei ŵyneb, ac a addolodd Ddaniel; gorchymmynnodd hefyd am offrymmu iddo offrwm, ac arogl-darth.

47 Attebodd y brenin a dywedodd wrth Ddaniel, mewn gwirionedd y gwn mai eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Arglwydd y brenhinoedd, a datcuddiud dirgeledigaethau, o herwydd medru o honot ddatcuddio y dirgelwch hyn.

48 Yna y brenin a fawrygodd Ddaniel, ac a roddes iddo roddion mawrion lawer; ac efe a'i gwnaeth ef yn bennaeth ar holl dalaith Babilon, ac ynPen. 4.9. ben i'r swyddogion ar holl ddoethion Babilon.

49 Yna Daniel a ymbiliodd â'r brenin, ac yntef a osododd Sadrach, Mesach, ac Abednego, ar lywodraeth talaith Babilon: ond Daniel a eisteddodd ym mhorth y brenin.

PEN. III.

1 Nabuchodonosor yn cyssegru delw fawr yn Dura. 8 Achwyn ar Sadrach, Mesach, ac Abedne­go, am nad addolent y ddelw; 13 A chwedi eu bygwth, yn gwneuthur cyffes ddaionus. 19 Duw yn eu gwared hwy allan o'r ffwrn dân. 26 Na­buchodonosor wrth weled y rhyfeddod yn ben­dithio Duw.

NAbuchodonosor y brenin a wnaeth ddelw aur, ei huchder oedd yn dri vgain cufydd, ei llêd yn chwe chufydd; ac efe a'i gosododd hi i fynu yngwastadedd Dura, o fewn talaith Babilon.

2 Nabuchodonosor y brenin a anfonodd i gasclu ynghyd y tywysogion, dugiaid, a phende­figion, y rhaglawiaid, y tryssor-wŷr, y cyfreith-wŷr, y treth-wŷr, a holl lywodraeth-wŷr y taleithiau, i ddyfod wrth gyssegru y ddelw a gyfodasei Nabuchodonosor y brenin.

3 Yna y tywysogion, dugiaid, a phendefig­ion, rhaglawiaid, y trysor-wŷr, y cyfreith-wŷr, y treth-wŷr, a holl lywodraeth-wŷr y taleith­iau, a ymgasclasant ynghyd wrth gyssegru y ddelw a gyfodasei Nabuchodonosor y brenin; a hwy a safasant o flaen y ddelw a gyfodasei Nabuchodonosor.

4 A chyhoedd-wr a lefoddCald. a nerth. yn grôch, wrthych chwi bobloedd, genhedloedd, ac ieith­oedd,Cald. y maent yn dywe­dyd. y dywedir:

5 Pan glywoch sŵn y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulcimer,Neu, y canu. y psaltring, y symphon, a phob rhyw gerdd, y syrthiwch, ac yr addolwch y ddelw aur a gyfododd Nabuchodonosor y brenin:

6 A'r hwn ni syrthio ac ni addolo, yr awr honno a fwrir i ganol ffwrn o dân poeth.

7 Am hynny 'r amser hwnnw pan glywodd yr holl bobloedd fain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulcimer, y psaltring, a phob rhyw gerdd, y bobloedd, y cenhedloedd, a'r ieithoedd oll a syrthiasant, ac a addolasant y ddelw aur a gyfodasei Nabuchodonosor y brenin.

8 O ran hynny, yr amser hwnnw y daeth gwŷr o Caldea, ac a gyhuddasant yr Iddewon.

9 Adroddasant a dywedasant wrth Nabu­chodonosor y brenin, bydd fyw frenin, yn dra­gywydd.

10 Ti frenin a osodaist orchymmyn, ar i bwy bynnac a glywei sain y cornet, y chwiba­nogl, y delyn, y dulcimer, y psaltring, a'r sym­phon, a phob rhyw gerdd, syrthio, ac ymgrym­mu i'r ddelw aur:

11 A phwy bynnac ni syrthiei, ac nid ym­grymmei, y teflid ef i ganol ffwrn o dân poeth.

12 Y mae gwŷr o Iddewon a osodaist di ar orchwyliaeth talaith Babilon, Sadrach, Mesach, ac Abednego: y gwŷr hyn ô frenin, niCald. osodasant fri arnat ti. wnaethant gyfrif o honot ti, dy dduwiau nid addolant, ac nid ymgrymmant i'r ddelw aur a gyfodaist.

13 Yna Nabuchodonosor mewn llidiawg­rwydd a digter a ddywedodd am gyrchu Sa­drach, Mesach, ac Abednego: yna y dycpwyd y gwŷr hyn o flaen y brenin.

14 Adroddodd Nabuchodonosor a dywedodd wrthynt,Neu, ai o'r gwaith goddef y mae hyn? fel Exod. 21.14. ai gwir hyn Sadrach, Mesach, ac Abednego? oni addolwch chwi fy nuwiau i, ac oni ymgrymmwch i'r ddelw aur a gyfo­dais i?

15 Yr awr hon wele, os byddwch chwi barod pan glywoch sain y cornet, y chwiban­ogl, [Page] y delyn, y dulcimer, y psaltring, â'r sym­phon, a phob rhyw gerdd, i syrthio, ac i ym­grymmu i'r ddelw a wneuthum, da: ac onid ymgrymmwch, yr awr honno y bwrir chwi i ganol ffwrn o dân poeth, a pha Dduw yw efe a'ch gwared chwi o'm dwylo i?

16 Sadrach, Mesach, ac Abednego a atteba­sant, ac a ddywedasant wrth y brenin; Nabu­chodonosor, nid ydym ni yn gofalu am atteb it yn y peth hyn.

17 Wele, y mae ein Duw ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli, yn abl i'n gwared ni allan o'r ffwrn danllyd boeth; ac efe a'n gwared ni o'th law di, ô frenin.

18 Ac onid-ê, bydded hyspys it frenin, na addolwn dy dduwiau, ac nad ymgrymmwn i'th ddelw aur a gyfodaist.

19 Yna y llanwyd Nabuchodonosor o lidiawg­rwydd, a gwêdd ei wyneb ef a newidiodd yn erbyn Sadrach, Mesach, ac Abednego, am hynny y llefarodd ac y dywedodd am dwymno 'r ffwrn seithwaith mwy nag y byddid arfer o'i thwymno hi.

20 Ac efe a ddywedodd wrth wŷr cryfionCald. o nerth. nerrhol, y rhai oedd yn ei lu ef, am rwymo Sadrach, Mesach, ac Abednego, iw bwrw i'r ffwrn o dân poeth.

21 Yna y rhwymwyd y gwŷr hynny, yn euNeu, mentyll. peisiau, eu llodrau, a'i cwccyllau, a'i dillad eraill, ac a'i bwriwyd i ganol y ffwrn o dân poeth.

22 Gan hynny o achos bod Cald. gair. gyrchymyn y brenin yn gaeth, a'r ffwrn yn boeth ragorawl,Neu, gwrei­chion. fflam y tân a laddodd y gwŷr hynny a fwriasant i fynu Sadrach, Mesach, ac Abednego.

23 A'r try-wŷr hyn Sadrach, Mesach, ac Abednego, a syrthiasant ynghanol y ffwrn o dân poeth yn rhwym.

24 Yna y synnodd ar Nabuchodonosor y brenin, ac y cyfododd ar frŷs, attebodd hefyd a dywedodd wrth eiNeu, lywodra­eth-wyr. gynghoriaid, onid try-wŷr a fwriasom ni i galon y tân, yn rhwym? hwy a attebasant ac a ddywedasant wrth y bre­nin, gwîr ô frenin.

25 Attebodd a dywedodd yntef, wele fi yn gweled pedwar-gwŷr rhyddion yn rhodio ynghanol y tân, ac nid oes niwed arnynt; a dull y pedwerydd sydd debyg i fab Duw.

26 Yna y nessaodd Nabuchodonosor atCald. ddrws. enau y ffwrn ô dân poeth, ac a lefarodd, ac a ddywedodd, ô Sadrach, Mesach. ac Abednego, gwasanaeth-wŷr y Duw goruchaf, deuwch allan, a deuwch ymma: yna Sadrach, Mesach, ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân.

27 A'r tywysogion, dugiaid, a phendefigion, a chynghoriaid y brenin, a ymgasclasant yng­hyd, ac a welsant y gwŷr hyn, y rhai ni finiasei y tân ar eu cyrph, ac ni ddeifiasai flewyn o'i pen; ni newidiasei eu peisiau ych­waith, ac nid aethei sawyr y tân arnynt.

28 Attebodd Nabuchodonosor, a dywedodd, bendigedic yw Duw Sadrach, Mesach, ac Abed­nego, yr hwn a anfonodd ei Angel, ac a wared­odd ei weision a ymddiriedasant ynddo, ac aCald. newidia­sant air. dorrasant orchymyn y brenin, ac a roddasant eu cyrph, rhag gwasanaethu nac ymgrymmu o honynt i vn duw, onid iw Duw eu hun.

29 Am hynny y gosodir gorchymyn gen­nifi, pob pobl, cenhedl, ac iaith, yr hon a ddywe­doCald. amry­fusedd. ddim ar fai yn erbyn Duw Sadrach, Me­sach, ac Abednego,Pen. 2, 5. a wneir yn ddrylliau, a'i tai a wneir yn dommen: o herwydd nad oes Duw arall a ddichon wared fel hyn.

30 Yna yCald. llwydd­odd. mawrhaodd y brenin Sadrach, Mesach, ac Abednego, o fewn talaith Babilon.

PEN. IV.

1 Nabuchodonosor yn cyfaddef brenhiniaeth Dduw, 4 yn adrodd ei freuddwydion, a'r dewi­niaid heb fedru mo'i deongl. 8 Daniel yn gwrando y breuddwyd, 19 Ac yn ei ddeongl. 28 Histori o'r hyn a ddigwyddodd.

NAbuchodonosor frenin at yr holl boblo­edd, cenhedloedd, ac ieithoedd, y rhai a drigant yn yr holl ddaiar, aml fyddo heddwch i chwi.

2Cald. Gweddus oedd o'm blaen i. Mi a welais yn dda fynegi yr arwydd­ion a'r rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf Dduw â mi.

3 Mor fawr yw ei arwyddion ef! ac morr gedyrn yw ei ryfeddodau! ei deyrnas ef sydd Pen. 2.44. deyrnas dragywyddol, a'i lywodraeth ef sydd o genhedlaeth i genhedlaeth.

4 Myfi Nabuchodonosor oeddwn esmwyth arnaf yn fy nhŷ, ac yn hoyw yn fy llŷs.

5 Gwelais freuddwyd, yr hwn a'm hofnodd, meddyliau hefyd yn fy ngwely, a gweledigae­thau fy mhen a'm dychrynasant.

6 Am hynny y gosodwyd gorchymyn gennyfi, ar ddwyn ger fy mron holl ddoethi­on Babilon, fel yr yspyssent i mi ddeongliad y breuddwyd.

7 Yna y dewiniaid, yr astronomyddion, y Caldeaid, a'r brud-wŷr, a ddaethant; a mi a ddywedais y breuddwyd o'i blaen hwynt, ond ei ddeongliad nid yspyssasant i mi.

8 Ond o'r diwedd daeth Daniel o'm blaen i (yr hwn yw ei henw Beltesazzar, yn ôl henw fy nuw i, yr hwn hefyd y mae yspryd y duwiau sanctaidd ynddo) a'm breuddwyd a dreuthais o'i flaen ef, gan ddywedyd,

9 BeltesazzarPen. 2.48. pennaeth y dewiniaid, o her­wydd i'm ŵybod fod yspryd y duwiau sanct­aidd ynot ti, ac nad oes vn dirgelwch yn an­hawdd i ti; dywed weledigaethau fy mreudd­wyd yr hwn a welais, a'i ddeongliad.

10 Ac dymma weledigaethau fy mhen ar fy ngwely: edrych yr oeddwn, ac wele bren ynghanol y ddaiar, a'i vchder yn fawr.

11Neu, Tyfodd y pren a chryfha­odd. Mawr oedd y pren a chadarn, a'i vchder a gyrhaeddei hyd y nefoedd, yr ydoedd hefyd iw weled hyd yn eithaf yr holl ddaiar.

12 Ei ganghennau oedd dêg, a'i ffrwyth yn aml, ac ymborth arno i bob peth, tano yr ymgyscodei bwyst-filod y maes, ac adar y nefoedd a drigent yn ei ganghennau ef; a phob cnawd a fwyttaei o honaw.

13 Edrych yr oeddwn yngweledigaethau fy mhen ar fy ngwely, ac wele wiliedydd, a Sanct yn descyn o'r nefoedd,

14 Yn llefainCald. a nerth yn grôch, ac yn dywedyd fel hyn, torrwch y pren, ac yscythrwch ei wrysc ef, escydwch ei ddail ef, a gwascerwch ei ffrwyth, cilied y bwyst-fil oddi tano, a'r adar o'i ganghennau.

15 Er hynny gadewch fôn-cyff ei wraidd ef yn y ddaiar, mewn rhwym o haiarn a phrês, ym mhlith gwellt y maes, gwlycher ef hefyd â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyd â'r bwyst-filod yngwellt y ddaiar.

16 Newidier ei galon ef o fod yn galon dŷn, a rhodder iddo galon bwyst-fil, a chyfne­widier saith amser arno.

17 O ordinhâd y gwiliedyddion y mae y [Page] peth hyn, a'r dymuniad wrth ymadrodd y rhai sanctaidd, fel y gŵypo y rhai byw mai yr Goruchaf a lywodraetha ym mrenhiniaeth dynion, ac a'i rhydd i'r neb y mynno efe, ac a esyd arni y gwaelaf o ddynion.

18 Dymma yr breuddwyd a welais i Na­buchodonosor y brenin, titheu Beltesazzar, dywed ei ddeongliad ef: o herwydd nas gall holl ddoethion fy nheyrnas yspyssu y deongliad i mi, eithr ti a elli, am fod yspryd y duwiau sanctaidd ynot ti.

19 Yna Daniel, yr hwn ydoedd ei henw Beltesazzar, a synnodd tros vn awr, a'i feddy­liau a'i dychrynasant ef; attebodd y brenin; a dywedodd; Beltesazzar, na ddychrynned y breuddwyd ti, na'i ddeongliad; attebodd Bel­tesazzar a dywedodd, fy arglwydd, deued y breuddwyd i'th gaseion, a'i ddeongliad i'th elynion.

20 Y pren a welaist, yr hwn a dyfasei, ac a gryfhasei, ac a gyrhaeddasei ei vchter hyd y nefoedd, ac oedd iw weled ar hŷd yr holl ddaiar:

21 A'i ddail yn dêg, a'i ffrwyth yn aml, ac ymborth i bob peth ynddo, tan yr hwn y trigei bwyst-filod y maes, ac y presswyliei adar y nefoedd yn ei ganghennau;

22 Ti frenin yw efe, Tydi a dyfaist, ac a gryfheaist; canys dy fawredd a gynnyddodd, ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd, a'th lywo­draeth hyd eithaf y ddaiar.

23 A lle y gwelodd y brenin wiliedydd, a Sanct, yn descyn o'r nefoedd, ac yn dywedyd torrwch y pren, a dinistriwch ef, er hynny gadewch fon-cyff ei wraidd ef yn y ddaiar, mewn rhwym o haiarn a phrês, ym mhlith gwellt y maes, a gwlycher ef â gwlith y ne­foedd, a bydded ei ran gyd â bwyst-fil y maes, hyd oni gyfnewidio saith amser arno ef.

24 Dymma 'r deongliad ô frenin, ac dym­ma ordinhâd y Goruchaf, yr hwn sydd yn dyfod ar fy arglwydd frenin.

25 CanysPen. 5. 21. &c. gyrrant ti oddi wrth ddynion, a chyd â bwyst-fil y maes y bydd dy drigfa, â gwellt hefyd i'th borthant fel eidionnau, ac a'th wlychant â gwlith y nefoedd, a saith amser a gyfnewidia arnat ti, hyd oni ŵypech mai yr Goruch [...]f sy yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i'r neb a fynno.

26 A lle y dywedasant am adel bon-cyff gwraidd y pren, dy frenhiniaeth fydd siccr it, wedi i ti ŵybod mai y nefoedd sy'n llywod­raethu.

27 Am hynny frenin, bydded fodlon gennit fy nghyngor, a thorr ymmaith dy bechodau trwy gyfiawnder, a'th anwireddau trwy dru­garhau wrth drueniaid, i edrych a fyddNeu, Jachad a'th am­ryfusedd. est­yniad ar dy heddwch.

28 Daeth hyn oll ar Nabuchodonosor y brenin.

29 Ym mhen deuddeng mîs yr oedd efe yn rhodioNeu, aylys. yn llŷs brenhiniaeth Babilon.

30 Llefarodd y brenin a dywedodd, onid hon yw Babilon fawr, yr hon a adeiledais i yn frenhin-dŷ, ynghryfder fy nerth, ac er gogoni­ant fy mawrhydi?

31 A'r gair etto yngenau y brenin, syrth­iodd llef o'r nefoedd yn dywedyd, wrthit ti fre­nin Nabuchodonosor y dywedir, aeth y fren­hiniaeth oddi wrthit.

32 A thi a yrrir oddi wrth ddynion, a'th drigfa fydd gyd â bwyst-filod y maes; â gwellt i'th borthant fel eidionnau, a chyfnewidir saith amser arnat; hyd oni ŵypech mai yr Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrhenhin­iaeth dynion, ac yn ei rhoddi i'r neb y mynno.

33 Yr awr honno y cyflawnwyd y gair ar Nabuchodonosor, ac y gyrrwyd ef oddi wrth ddynion, ac y porodd wellt fel eidionnau, ac y gwlychwyd ei gorph ef gan wlith y nefoedd, hyd oni thyfodd ei flew ef fel plû eryrod, a'i ewinedd fel ewinedd adar.

34 Ac yn niwedd y dyddiau, myfi Nabucho­donosor a dderchefais fy llygaid tua 'r nefoedd, a'm gwybodaeth a ddychwelodd attaf, a ben­dithiais y Goruchaf, a moliennais a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth, am fod eiDan. 7.14. Mic. 4.7. Luc. 1.33. lywo­draeth ef yn llywodraeth dragywyddol, a'i fren­hiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

35 A holl drigolion y ddaiar a gyfrifir megis yn ddiddim: ac yn ôl ei ewyllys ei hun y mae yn gwneuthur â llû y nefoedd, ac â thrigolion y ddaiar; ac nid oes a attalio ei law ef, neu a ddywedo wrtho,Job. 9.12. Esay. 45.9. beth yr wyt yn ei wnaethyd?

36 Yn yr amser hwnnw y dychwelodd fy synwyr attafi, a deuthym i ogoniant fy mrenhin­iaeth, fy harddwch a'm hoywder a ddych­welodd attafi; a'm cynghoriaid, a'm tywysog­ion a'm ceisiasant, felly i'm siccrhawyd yn fy nheyrnas, a chwanegwyd i'm fawredd rhagorol.

37 Yr awr hon myfi Nabuchodonosor ydwyf yn moliannu, ac yn mawrygu, ac yn gogoneddu Brenin y nefoedd, yr hwn y mae ei holl weithredoedd yn wirionedd, a'i lwybrau yn farn, ac a ddichon ddarostwng y rhai a rodiant mewn balchder.

PEN. V.

1 Annuwiol wledd Belsazzar. 5 Y scrifen law, yr hon ni fedrai y dewiniaid mo'i darllain, yn blino 'r brenin. 10 Dwyn Daniel gar bron, ar air y frenhines. 17 Yntau yn ceryddu 'r brenin am ei falchder a'i ddelw-addoliaeth, 25 ac yn darllain, ac yn dirnad yr yscrifen. 30 Trosi y llywodraeth at y Mediaid.

BElsazzar y brenin a wnaeth wledd fawr i fîl o'i dywysogion, ac a yfodd wîn yngŵydd y mîl.

2 Wrth flâs y gwîn y dywedodd Belsazzar am ddwyn y llestri aur, ac arian, a ddygasei Na­buchodonosor ei dâd ef o'r Deml yr hon oedd yn Jerusalem, fel yr yfei y brenin a'i dywysog­ion, ei wragedd, a'i ordderchadon, ynddynt.

3 Yna y dygwyd y llestri aur a ddygasid o'r Deml, Tŷ Dduw, yr hwn oedd yn Jerusalem, a'r brenin a'i dywysogion, ei wragedd, a'i ordderchadon, a yfasant ynddynt.

4 Yfasant wîn, a moliannasant y duwiau o aur ac o arian, o brês, o haiarn, o goed, ac o faen.

5 Yr awr honno byssedd llaw dŷn a ddaeth­ant allan, ac a scrifennasant ar gyfer y canhŵyll­bren, ar galchiad pared llŷs y brenin, a gwelodd y brenin ddarn y llaw a scrifennodd.

6 Yna y newidioddCald. discleir­deb, neu, gloywder y. lliw 'r brenin, a'i feddy­liau a'i cyffroesant ef, fel y dattododdNeu, gwregy­sau. Cald. cylym­mau, neu, rhwymau. rhwy­mau ei lwynau ef, ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall.

7 Gwaeddodd y breninCald. a nerth. yn grôch am ddwyn i mewn yr astronomyddion, y Caldeaid, a'r brudwŷr, a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth ddoethion Babilon; pa ddyn bynnac a ddarllenno yr scrifen hon, ac a ddangoso i mi ei deongliad, efe a wiscirNeu, ag yscar­lad. â phorpor, ac a gaiff gadwyn aur am ei wddf, a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.

8 Yna holl ddoethion y brenin a ddaethant [Page] i mewn, ond ni fedrent ddarllen yr scrifen, na mynegi i'r brenin ei deongliad.

9 Yna y mawr gyffrôdd y brenin Belsazzar, a'iNeu, ddiscleir­deb, neu, loywder. wêdd a ymnewidiodd ynddo, a'i dywy­sogion a synnasant.

10 Y frenhines, o herwydd geiriau y brenin a'i dywysogion, a ddaeth i dŷ 'r wledd, a lle­farodd y frenhines, a dywedodd; bydd fyw byth frenin, na chyffroed dy feddyliau di, ac na newidied dy wêdd.

11 Y maePen. 2.48. gŵr yn dy deyrnas, yr hwn y mae yspryd y duwiau sanctaidd ynddo, ac yn nyddiau dy dâd y caed ynddo ef oleuni, a deall, a doethineb, fel doethineb y duwiau: a'r brenin Nabuchodonosor dyNeu, daid. dâd a'i gosododd ef ynPen. 4.9. bennaeth y dewiniaid, astronomyddion, Cal­deaid, a brud-wŷr, sef y brenhin dy dad ti.

12 O herwydd cael yn y Daniel hwnnw, yr hwn y rhoddes y brenin iddo enw Beltesaz­zar, yspryd rhagorol, a gŵybodaeth, aNeu, deall de­onglwr breudd­wydion. deall, deongl breuddwydion, ac egluro dammegion, aNeu, dattodwr. dattod cylymmau: galwer Daniel yr awron, ac efe a ddengys y deongliad.

13 Yna y ducpwyd Daniel o flaen y brenin, a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Ddaniel, ai tydi yw Daniel, yr hwn wyt ofeibion caeth­glud Juda, y rhai a ddug y breninNeu, fy nhaid. fy nhâd i o Juda?

14 Myfi a glywais sôn am danat, fod yspryd y duwiau ynot, a chael ynot ti oleuni, a deall, a doethineb ragorawl.

15 Ac yr awr hon, dygwyd y doethion, yr astronomyddion o'm blaen, i ddarllen yr scrifen hon, ac i fynegi i'm ei deongliad: ond ni fe­drent ddangos deongliad y peth.

16 Ac mi a glywais am danat ti, y medri ddeongl deongliadau, a dattod cylymmau; yr awr hon os medri ddarllen yr scrifen, ac hys­pyssu i mi ei deongliad, tydi a wiscir â phorphor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gai ly­wodraethu yn drydydd yn y deyrnas.

17 Yna yr attebodd Daniel, ac y dywedodd o flaen y brenin; bydded dy roddion i ti, a dôd dy anrhegion i arall; er hynny yr scrifen a ddarllennaf i'r brenin, a'r deongliad a yspyssaf iddo.

18 O frenin, y Duw goruchaf a roddes i Nabuchodonosor dy dâd ti, frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd.

19 Ac o herwydd y mawredd a roddasei efe iddo, y bobloedd, y cenhedloedd, a'r ieith­oedd oll, oedd yn crynu ac yn ofni rhagddo ef: yr hwn a fynnei, a laddei, a'r hwn a fyn­nei a gadwei yn fyw, hefyd y neb a fynnei a gyfodei, a'r neb a fynnei a ostyngei.

20 Eithr pan ymgododd ei galon ef, a cha­ledu o'i yspryd efNeu, i wneuthur yn falch, neu, traha mewn balchder,Cald. gwnaed iddo ddys­eyn. efe a ddescynnwyd o orseddfa ei frenhiniaeth, a'i ogoniant a dynnasant oddi wrtho.

21Pen. 4.32. Gyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion, aNeu, gwnaeth ei g [...]lon yn o-gystal a'r buysif Cald. go­sodwyd, neu, go­sododd ei galon ar y bwystf. neu, gyda 'r bwyst. gwnaethpwyd ei galon fel bwyst-fil, a chyd â'r assynnod gwylltion yr oedd ei drigfa: â gwellt y porthasant ef fel eidion, a'i gorph a wlychwyd gan wlith y nefoedd, hyd oni ŵybu mai yr Duw goruchaf oedd yn llywo­draethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn gosod arni y neb a fynno.

22 A thitheu Belsazzar ei fab ef, ni ddar­ostyngaist dy galon, er gwybod o honot hyn oll:

23 Eithr ymdderchefaist yn erbyn Arg­lwydd y nefoedd, a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di; a thitheu a'th dywysogion, dy wragedd a'th ordderchadon, a yfasoch wîn yn­ddynt; a thi a foliennaist dduwiau o arian, ac o aur, o brês, haiarn, pren, a maen; y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni ŵyddant ddim: ac ni anrhydeddaist y Duw y mae dy anadl di yn ei law, a'th holl ffyrdd yn eiddo.

24 Yna 'r anfonwyd darn y llaw oddi ger ei fron ef, ac yr scrifennwyd yr scrifen hon.

25 Ac dymma yr yscrifen a scrifennwyd, MENE, MENE, TECEL VPHAR­SIN.

26 Dymma ddeongliad y peth, MENE, Duw a rifodd dy frenhiniaeth, ac a'i gorphen­nodd.

27 TECEL, ti a bwyswyd yn y clorian­nau, ac a'th gaed yn brin.

28 PERES, rhannwyd dy frenhiniaeth, a rhoddwyd hi i'r Mediaid, a'r Persiaid.

29 Yna y gorchymmynnodd Belsazzar, a hwy a wiscasant Ddaniel â phorphor, ac â chadwyn aur am ei wddf, a chyhoeddwyd am dano, y byddei efe yn drydydd, yn llywodrae­thu yn y frenhiniaeth.

30 Y nosson honno y lladdwyd Belsazzar brenin y Caldeaid.

31 A Darius y Meliad a gymmerodd y frenhiniaeth, ac efeCald. yn fab dwyflwydd &c. yn ddwy flwydd a thri vgain oed.

PEN. VI.

Gwneuthur Daniel yn ben ar y rhaglawiaid. 4 Hwythau yn cyd-fwriadu yn ei erbyn ef, ac yn cael gan y brenin osod cyfraith annuwiol. 10 Achwyn ar Ddaniel am dorri y gyfraith honno, a'i fwrw i ffau y llewod; 18 A Duw yn ei gadw ef: 24 Y llewod yn difa ei wrth­wynebwyr ef: 25 A gosod cyfraith i orchymmyn moliannu Duw.

GWelodd Darius yn dda osod ar y deyrnasEst. 1.1. chwe vgain o dywysogion, i fod ar yr holl deyrnas.

2 Ac arnynt hwy yr oedd tri rhaglaw, (y rhai yr oedd Daniel yn bennaf o honynt) i'r rhai y rhoddei y tywysogion gyfrif, fel na byddei y brenin mewn colled.

3 Yna y Daniel hwn oedd yn rhagori ar y rhaglawiaid, a'r tywysogion, o herwydd bod yspryd rhagorawl ynddo ef; a'r brenin a fe­ddyliodd ei osod ef ar yr holl deyrnas.

4 Yna y rhaglawiaid a'r tywysogion oedd yn ceisio cael achlysur yn erbyn Daniel o ran y frenhiniaeth, ond ni fedrent gael vn achos na bai, o herwydd ffyddlon oedd efe, fel na cheid ynddo nac amryfusedd na bai.

5 Yna y dywedodd y gwŷr hyn, ni chawn yn erbyn y Daniel hwn ddim achlysur, oni chawn beth o ran cyfraith ei Dduw yn ei er­byn ef.

6 Yna y rhaglawiaid a'r tywysogion hyn, aNeu, ddaethant yn derfys­us. aethant ynghyd at y brenin, ac a ddywe­dasant wrtho fel hyn; Darius frenin, bydd fyw byth.

7 Holl rhaglawiaid y deyrnas, y swyddog­ion, a'r tywysogion, y cynghoriaid, a'r dugiaid, a ymgynghorasant am osod deddf frenhinol, a chadarnhauNeu, gwahar­ddiad. gorchymyn, fod bwrw i ffau y llewod pwy bynnac a archei arch gan vn duw na dyn, tros ddeng nhiwrnod ar hugain, onid gennit ti, ô frenin.

8 Yr awr hon, ô frenin, siccrhâ y gorchy­myn, a selia 'r scrifen, fel na's newidier, yn ôlEsth. 1.19 & 8.8. cyfraith y Mediaid a'r Persiaid, yr honCald. nid a heibio. ni newidir.

9 O herwydd hyn y seliodd brenin Darius yr scrifen a'r gorchymyn.

10 Yna Daniel, pan ŵybu selio 'r scrifen, a aeth iw dŷ, a'i ffenestri yn agored yn ei stafell1 Bren. 8.48. tua Jerusalem,Psal. 55.17. tair gwaith yn y ddydd y gostyngei efe ar ei liniau, ac y gweddiai, ac y cuffessei o flaen ei Dduw, megis y gwnai efe cyn hynny.

11 Yna y gwŷr hyn a ddaethant ynghyd, ac a gawsant Ddaniel yn gweddio, ac yn ymbil o flaen ei Dduw.

12 Yna y nessasant, ac y dywedasant o flaen y brenin am orchymyn y brenin; oni seliaist ti orchymyn, mai i ffau y llewod y bwrid pa ddyn bynnac a ofynnei gan vn duw, na dyn ddim tros ddengnhiwmod ar hugain, onid gen­nit ti, o frenin? attebodd y brenin, a dywedodd, y mae yr peth yn wir, yn ôl cyfraith y Med­iaid, a'r Persiaid, yr hon ni newidir.

13 Yna 'r attebasant, ac y dywedasant o flaen y brenin; y Daniel yr hwn sydd o feibion caeth-glud Juda, ni wnaeth gyfrif o honot ti frenin, nac o'r gorchymyn a seliaist; eithr tair gwaith yn y dydd y mae yn gwe­ddio ei weddi.

14 Yna 'r brenin, pan glybu 'r gair hwn, a aeth yn ddrwg iawn gantho, ac a roes ei frŷd gyd â Daniel, ar ei waredu ef, ac a fu hyd fachludiad haul yn ceisio ei achub ef.

15 Yna y gwŷr hynny a ddaethant ynghyd at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, gwŷbydd frenin, mal cyfraith y Mediaid a'r Persiaid yw, na newidier vn gorchymyn na deddf a osodo y brenin.

16 Yna yr archodd y brenin, a hwy a ddy­gasant Ddaniel, ac a'i bwriasant i ffau y llewod: yna y brenin a lefarodd, ac a ddywedodd wrth Ddaniel; dy Dduw yr hwn yr ydwyt yn ei wasanaethu yn wastad, efe a'th achub di.

17 A dygwyd carrec, ac a'i gosodwyd ar enau y ffau, a'r brenin a'i seliodd hi â'i sêl ei hun, ac â fel ei dywysogion, fel na newidid yr ewyllys am Ddaniel.

18 Yna yr aeth y brenin iw lŷs, ac a fu y nosson honno heb fwyd; ac ni adawodd ddwynNeu, bwrdd difyrrwch o'i flaen, ei gŵsc hefyd a giliodd oddi wrtho.

19 Yna y cododd y brenin yn foreu iawn ar y wawr ddydd, ac a aeth ar frŷs at ffau y llewod:

20 A phan nessaodd efe at y ffau, efe a lefodd ar Ddaniel â llais trîst, llefarodd y bre­nin, a dywedodd wrth Ddaniel, Daniel gwa­sanaeth-wr y Duw byw, A all dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn oestad, dy gadw di rhag y llewod?

21 Yna y dywedodd Daniel wrth y brenin, ô frenin bydd fyw byth.

22 Fy Nuw a anfonodd ei Angel, ac a gae­odd safnau y llewod, fel na wnaethant i'm niwed; o herwydd puredd a gaed ynof ger ei fron [...]f; a hefyd ni wnaethym niwed o'th flaen ditheu frenin.

23 Yna y brenin fu dda iawn ganddo o'i achos ef, ac a archodd gyfodi Daniel allan o'r ffau, yna y codwyd Daniel o'r ffau, ac ni chaed niwed arno, o herwydd credu a honaw yn ei Dduw.

24 Yna y gorchymmynnodd y brenin, a hwy a ddygasant y gwŷr hynny a gyhuddasent Ddaniel, ac a'i bwriasant i ffau y llewod, hwy, a'i plant, a'i gwragedd: ac ni ddaorhent i waelod y ffau, hyd oni orchfygodd y llewod hwynt, a dryllio eu holl escyrn.

25 Yna yr scrifennodd y brenin Darius at y bobloedd, at y cenhedloedd, a'r ieithoedd oll, y rhai oedd yn trigo yn yr holl ddaiar; Hedd­wch a amlhaer i chwi.

26 Gennyfi y gosodwyd cyfraith ar fod trwy holl lywodraeth fy nheyrnas, i bawb grynu, ac ofni rhag Duw Daniel, o herwydd efe sydd Dduw byw, ac yn parhau byth: a'i frenhin­iaeth ef yw yrPen. 2.44. &. 4.3. & 7.14. 27. Luc. 1.33. hon ni ddifethir, a'i lywodra­eth fydd hyd y diwedd.

27 Y mae yn gwaredu, ac yn achub, ac yn gwneuthur arwyddion, a rhyfeddodau, yn y nefoedd, ac ar y ddaiar; yr hwn a waredodd DdanielCald. o law. o feddiant y llewod.

28 A'r Daniel hwn a lwyddodd yn nheyr­nasiad Darius, ac yn nheyrnasiadPen. 1.21. Cyrus y Persiad.

PEN. VII.

1 Gweledigaeth y pedwar anifail. 9 Brenhin­iaeth Dduw. 15 Dirnad y weledigaeth.

YN y flwyddyn gyntaf i Belsazzar frenin Ba­bylon, y gwelodd Daniel freuddwyd, a gweledigaethau ei ben ar ei wely: yna efe a scrifennodd y breuddwyd, ac a draethodd swm yNeu, pethau. geiriau.

2 Llefarodd Daniel, a dywedodd, mi a welwn yn fy ngweledigaeth y nos, ac wele bedwar gwynt y nefoedd yn ymryson ar y môr mawr.

3 A phedwar bwyst-fil mawr a ddaethant i fynu o'r môr, yn amryw y naill oddi wrth y llall.

4 Y cyntaf oedd fel llew, ac iddo adenydd eryr; edrychais, hyd oni thynnwyd ei adenydd,Neu, a'r rhal y cyfod­wyd ef oddiwrth &c. a'i gyfodi oddi wrth y ddaiar, a sefyll o ho­naw ar ei draed fel dŷn, a rhoddi iddo ga­lon dyn.

5 Ac wele anifail arall, yr ail, yn debyg i arth, ac efe aNeu, gyfododd vn llywo­draeth. ymgyfododd ar y naill ystlys, ac yr oedd tair assen yn ei safn ef, rhwng ei ddannedd, ac fel hyn y dywedent wrtho; cy­fod, bwytta gig lawer.

6 Wedi hyn yr edrychais, ac wele vn arall megis llewpard, ac iddo bedair aden aderyn ar ei gefn; a phedwar pen oedd i'r bwyst-fil, a rhoddwyd llywodraeth iddo.

7 Wedi hyn y gwelwn mewn gweledigae­thau nôs, ac wele bedwerydd bwyst-fil, ofnad­wy, ac erchyll, a chryf ragorol, ac iddo yr oedd dannedd mawrion o haiarn: yr oedd yn bwytta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill tan ei draed; hefyd yr ydoedd efe yn amryw oddi wrth y bwyst-silod oll, y rhai fuasei o'i flaen ef, ac yr oedd iddo ddêg o gyrn.

8 Yr oeddwn yn ystyried y cyrn, ac wele cyfododd corn bychan arall yn eu mysg hwy, a thynnwyd o'r gwraidd dri o'r cyrn cyntaf o'i flaen ef: ac wele lygaid fel llygaid dyn yn y corn hwnnw, a genau yn traethu mawrhydri.

9 Edrychais hyd oni fwriwyd i lawr y gor­seddfeydd, a'r Hên ddihenydd a eisteddodd, ei wisc oedd cyn wynned a'r eira, a gwallt ei ben fel gwlân pûr; ei orseddfa yn fflam dân, a'i olwynion yn dân poeth.

10 Afon danllyd oedd yn rhedeg, ac yn dy­fod allan oddi ger ei fron ef;Datc. 5.11. mil o filoedd a'i gwasanaethent; a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron: y farn a eisteddodd, acDatc. 20.22. agorwyd y llyfrau.

11 Edrychais yna o achos llais y geiriau maw­rion a draethodd y corn, ie edrychais hyd oni laddwyd y bwyst-fil, a difetha ei gorph ef, a'i roddi iw losci yn tân.

12 A'r rhan arall o'r bwyst-filod, eu llywo­draeth a dducpwyd ymaith,Cald. ac estyn­niad mewn enioes a roddwyd iddynt tros &c. a rhoddwyd iddynt enioes tros yspaid, ac amser.

13 Mi a welwn mewn gweledigaethau nôs, ac wele megis mab y dŷn oedd yn dyfod gyd â chwmmylau y nefoedd, ac at yr Hên ddi­henydd y daeth, a hwy a'i dygasant ger ei fron ef.

14 Ac efe a roddes iddo lywodraeth, a go­goniant, a brenhiniaeth, fel y byddai i'r holl bobloedd, cenhedloedd, ac ieithoedd ei wasanae­thu ef: ei lywodraeth sydd Pen. 2.44. Mic. 4.7. Luc. 1.33. lywodraeth dra­gywyddol yr hon nid â ymaith, a'i frenhin­iaeth ni ddifethir.

15 Myfi Daniel a ymofidiais yn fy yspryd ynghanolCald. fy ngwain. fy nghorph, a gweledigaethau fy mhen a'm dychrynasant.

16 Nesseais at vn o'r rhai a safent ger llaw, a cheisiais ganddo y gwirionedd am hyn oll: ac efe a ddywedodd i mi, ac a wnaeth i mi wy­bod deongliad y pethau.

17 Y bwyst-filod mawrion hyn, y rhai sy bedwar, ŷnt bedwar brenin, y rhai a gyfodant o'r ddaiar.

18 Eithr sainctCald. gorucha­fion. y goruchaf a dderbyniant y frenhiniaeth, ac a feddiannant y frenhiniaeth hyd byth, a hyd byth bythoedd.

19 Yna 'r ewyllysiais wybod y gwirionedd, am y pedwerydd bwyst-fil, yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll, yn ofnadwy iawn, a'i ddannedd o haiarn, a'i ewinedd o brês, yn bwytta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill â'i draed:

20 Ac am y dêc corn oedd ar ei ben ef, a'r llall yr hwn a gyfodasei, ac y syrthiasei tri o'i flaen, sef y corn yr oedd llygaid iddo, a genau yn traethu mawrhydri, a'r olwg amo oedd yn arwach nâ'i gyfeillion.

21 Edrychais, a'r corn hwn a wnaeth ryfel ar y sainct, ac a fu drêch nâ hwynt,

22 Hyd oni ddaeth yr Hên ddihenydd, a rhoddi barn i sainct y Goruchaf, a dyfod o'r amser y meddiannai y sainct y frenhiniaeth.

23 Fel hyn y dywedodd efe; y pedwerydd bwyst-fil fydd y bedwaredd frenhiniaeth ar y ddaiar, yr hon a fydd amryw oddi wrth yr holl frenhiniaethau, ac a ddifa yr holl ddaiar, ac a'i sathr hi, ac a'i dryllia.

24 A'r dêc corn o'r frenhiniaeth hon fydd dêc brenin, y rhai a gyfodant, ac vn arall a gyfyd ar eu hôl hwynt, ac efe a amrywia oddi wrth y rhai cyntaf, ac a ddarostwng dri brenin.

25 Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Go­ruchaf, ac a ddifa sainct y Goruchaf: ac a feddwl newidio amseroedd, a chyfreithiau, a hwy a roddir yn ei law efMatth. 24.22. hyd amser, ac amseroedd, a rhan amser.

26 Yna yr eistedd y farn, a'i lywodraeth a ddygant, iw difetha ac i'w dinistrio, hyd y diwedd.

27Luc. 1.33. A'r frenhiniaeth, a'r llywodraeth, a mawredd y frenhiniaeth tan yr holl nefoedd, a roddir i bobl sainct y Goruchaf, yr hwn y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragywy­ddol, a phôbNeu, llywodra­eth-wyr. llywodraeth a wasanaethant, ac a vfyddhânt iddo.

28 Hyd ymma y mae diwedd y peth; fy meddyliau i Daniel a'm dychrynodd yn ddir­fawr, a'm gwêdd a newidiodd ynof; eithr mi a gedwais y peth yn fy nghalon.

PEN. VIII.

1 Gweledigaeth yr Hwrdd, a'r Bwch: 13 MMCCC o ddyddiau aberth. 15 Gabriel yn cyssuro Daniel, ac yn dirnad y weledigaeth.

YN y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Bel­sazzar y brenin, yr ymddangosodd i mi weledigaeth; sef i myfi Daniel, wedi yr hon a ymddangosasei i mi ar y cyntaf.

2 Gwelais hefyd mewn gweledigaeth (a bu pan welais, mai yn Susan y brenhin-llys, yr hwn sydd o fewn talaith Elam, yr oeddwn i) îe gwelais mewn gweledigaeth, ac yr oeddwn i wrth afon Vlai.

3 Yna y cyfodais fy llygaid, ac a welais, ac wele ryw hwrdd yn sefyll wrth yr afon, a deugorn iddo, a'r ddau gorn oedd vchel, ac vn yn vwch nâ'rHeb. ail. llall; a'r vchaf a gyfodasei yn olaf.

4 Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua 'r gor­llewin, tua 'r gogledd, a thua 'r deau, fel na safei vn bwyst-fil o'i flaen ef, ac nid oedd a achu­bei o'i law ef; ond efe a wnaeth yn ôl ei ewyllys ei hun, ac a aeth yn fawr.

5 Ac fel yr oeddwn yn ystyried, wele hefyd fŵch geifr yn dyfod o'r gorllewin, ar hyd wyneb yr holl ddaiar,Neu, ac nid oedd a'i cyffyr­ddai yn y ddaiar. ac heb gyffwrdd a'r ddaiar; ac i'r bwch yr oedd cornNeu, amlwg. Heb. go­lwg. hynod rhwng ei lygaid.

6 Ac efe a ddaeth hyd at yr hwrdd deugorn a welswn i yn sefyll wrth yr afon, ac efe a re­dodd atto ef yn angerdd ei nerth.

7 Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd, ac efe a fu chwerw wrtho, ac a daraw­odd yr hwrdd, ac a dorrodd ei ddau gorn ef, ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll o'i flaen ef, eithr efe a'i bwriodd ef i lawr, ac a'i sathrodd ef, ac nid oedd a allai achub yr hwrdd o'i law ef.

8 Am hynny y bŵch geifr a aeth yn fawr iawn, ac wedi ei gryfhâu, torrodd y corn mawr, a chododd pedwar o rai hynod yn ei lê ef,Pen. 11.4. tua phedwar gwynt y nefoedd.

9 Ac o vn o honynt y daeth allan gorn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol, tua 'r deheu, a thua 'r dwyrain, a thua 'rPsal. 48.2. Ezec. 20.6. hy­fryd-wlad.

10 Aeth yn fawr hefydNeu, yn erbyn llu y nefoedd. hyd lu y nefoedd, a bwriodd i lawr rai o'r llu, ac o'r sêr, ac a'i sathrodd hwynt.

11 Ymfawrygodd hefydNeu, yn erbyn ty­wysog. hyd at dywysog y llu, a dygwyd ymmaith yr offrwm gwasta­dolNeu, ganddo. oddi arno ef, a bwriwyd ymmaith le ei gyssegr ef.

12Neu, Y llu a roddwyd i fynu, am y cam­wedd yn erbyn yr offrwm beunyddol. A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddol, o herwydd camwedd, ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr; felly y gwnaeth, ac y llwyddodd.

13 Yna y clywais ryw sanct yn llefaru, a dywedodd rhyw sanct arall wrthY rhif­wr dirgel­ion, neu, y rhifwr rhyfeddol. Heb. Pal­moni. y rhyw sanct hwnnw oedd yn llefaru; pa hŷd y bydd y weledigaeth am yr offrwm gwastadol, a cham­weddNeu, yn anrheith. anrhaith, i roddi y cyssegr a'r llu yn sathrfa?

14 Ac efe a ddywedodd wrthif, hyd ddwy fil a thry-chant oHeb. hwyr a boreu. ddiwrnodiau: yna yNeu, cy­fiawnheir. purir y cyssegr.

15 A phan welais i Daniel y weledigaeth, a cheisio o honof y deall, yna wele, safodd ger fy mron megis rhith gŵr.

16 A chlywais lais dyn rhwng glannau Vlai, ac efe a Iefodd, ac a ddywedodd,Pen [...]. 21. Gabriel, gwna i hwn ddeall y weledigaeth.

17 Ac efe a ddaeth yn agos i'r lle y safwn, a phan ddaeth, mi a ddychrynais, ac a syrth­iais ar fy wyneb; ac efe a ddywedodd wrthif; deall fab dŷn, o herwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd.

18 A thra oedd efe yn llefaru wrthif, syrth­iais mewn trym-gwsc i lawr ar fy wyneb, ac efe a gyffyrddodd â mi, ac a'm cyfododd yn fy sefyll.

19 Dywedodd hefyd; wele fi yn yspyssu it yr hyn a fydd yn niwedd y digter; canys ar yr amser gosodedic y bydd y diwedd.

20 Yr hwrdd deugorn a welaist, yw brenhi­noedd Media, a Phersia.

21 A'r bwch biewog yw brenin Groec, a'r corn mawr, yr hwn sydd rhwng ei lygaid ef, dyna y brenin cyntaf.

22 Lle y torrwyd ef, ac y cyfododd pedwar yn ei le, pedair brenhiniaeth a gyfodant o'r vn genhedl, ond nid yn nerth ag ef.

23 A thua diwedd eu brenhiniaeth hwynt, pan gyflawner y trossedd-wŷr, y cyfyd brenin wyneb-greulon, ac yn deall dammegion.

24 A'i nerth ef a gryfhâ, ond nid trwy ei nerth ei hun; ac efe a ddinistria yn rhyfedd, ac a lwydda, ac a wna, ac a ddinistria y cedyrn,Heb. a phobl y rhai sanctaidd. a'r bobl sanctaidd.

25 A thrwy ei gyfrwystra, y ffynna ganddo dwyllo, ac efe a ymfawryga yn ei galon; a thrwyNeu, lwyddiant. 2 heddwch y dinistria efe lawer, ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion, ondMac. 9.9. efe a ddryllir heb law.

26 A gweledigaeth yr hwyr, a'r boreu, yr hon a draethwyd, sydd wirionedd; selia ditheu y weledigaeth, o herwydd dros ddy­ddiau lawer y bydd.

27 Minneu Daniel a aethym yn llesc, ac a fûm glaf ennyd o ddyddiau; yna y cyfodais, ac y gwneuthum orchwyl y brenin, ac a fyn­nais o herwydd y weledigaeth, ond nid oedd neb yn deall.

PEN. IX.

1 Daniel yn ystyried amser y caethiwed; 3 Ac yn cyffessu ei bechodau; 16 Ac yn gweddio am adnewyddu Jerusalem. 20 Gabriel yn dangos iddo y deg wythnos a thrugain.

YN y flwyddyn gyntaf i Ddarius fab Ahas­ferus o hâd y Mediaid,Neu, yn yr hon y gwnaed ef yn fren. yr hwn a wnae­thid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid:

2 Yn y flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad ef, myfi Daniel a ddeellais wrth lyfrau, rifedi y blynyddoedd, am y rhai y daethei gair yr Ar­glwydd atJer. 25.12. & 29.20. Jeremi y prophwyd, y cyflawnai efe ddeng-mlhynedd a thrugain, yn anghyfan­nedd-dra Jerusalem.

3 Yna y troais fy wyneb at yr Arglwydd Dduw, i geisio trwy weddi ac ymbil, ynghyd ag ympryd, a sach-liain, a lludw.

4 A gweddiais ar yr Arglwydd fy Nuw, a chyffessais, a dywedais, attolwgNehem. 1, 5. Deut. 7.9. Arglwydd Dduw mawr ac ofnadwy, ceidwad cyfammod a thrugaredd, i'r rhai a'i carant, ac i'r rhai a gadwant ei orchymynion:

5Baruch. 1.17. Pechasom, a gwnaethom gamwedd, a buom anwir, gwrthryfelasom hefyd, sef trwy gilio oddi wrth dy orchymynion, ac oddiwrth dy farnedigaethau.

6 Ni wrandawsom ychwaith ar y proph­wydi dy weision, y rhai a lefarasant yn dy enw di, wrth ein brenhinoedd, ein tywysogion, ein tadau, ac wrth holl bobl y tîr.

7Neu, Genniti Argl. y mae, neu, Ti Argl. biau cyf­iawnder. I ti Arglwydd y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wynebau, megis heddyw: i wŷr Juda, ac i drigolion Jerusalem, ac i holl Israel, yn agos ac ym mhell, trwy yr holl wledydd lle y gyrraist hwynt, am eu camwedd a wnaethant i'th erbyn.

8 Arglwydd y mae Baruch. 1.15. cywilydd wynebau i ni, i'n brenhinoedd, i'n tywysogion, ac i'n ta­dau, o herwydd i ni bechu i'th erbyn.

9 Gan yr Arglwydd ein Duw y mae truga­reddau a maddeuant, er gwrthryfelu o honom iw erbyn.

10 Ni wrandawsom ychwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ei gyfreithiau ef, y rhai a roddodd efe o'n blaen ni, trwy law ei weision y prophwydi.

11 Ie holl Israel a drosseddasant dy gyfraith di, sef drwy gilio rhag gwrando ar dy lais di: am hynny y tywalltwyd arnom ni y felldith a'r llw a scrifennwydLeu. 26.14. &c. Deut. 28.15. &c. & 29.20. &c. & 30.17.18. & 31.17. &c. & 31.19. &c. yngyfraith Moses, gwa­sanaeth-wr Duw, am bechu o honom yn ei erbyn ef.

12 Ac efe a gyflawnodd ei eiriau, y rhai a lefarodd efe yn ein herbyn ni, ac yn erbyn ein barn-ŵyr, y rhai a'n barnent, gan ddwyn arnom ni ddialedd mawr, canys ni wnaethbwyd tan yr holl nefoedd, megis y gwnaethbwyd ar Je­rusalem.

13Leu. 26.14. Deut. 28.15. Galar-nad 2.17. Megis y mae yn scrifennedig ynghy­fraith Moses, y daeth yr holl ddryg-fyd hyn arnom ni: etto nid ymbiliasomHeb. ag wyneb. o flaen yr Arglwydd ein Duw, gan droi oddi wrth ein hanwiredd, a chan ddeall dy wirionedd di.

14 Am hynny y gwiliodd yr Arglwydd ar y dialedd, ac a'i dûg arnom ni; o herwydd cyfiawn yw 'r Arglwydd ein Duw, yn ei holl weithredoedd y mae yn ei wneuthyd: canys ni wrandawsom ni ar ei lais ef.

15Exod. 14.18. Etto yr awr hon, ô Arglwydd ein Duw, yr hwn a ddygaist dy bobl allan o wlâd yr Aipht â llaw gref, ac a wnaethost i ti enw megis heddyw, nyni a bechasom, ni a wnae­thom anwiredd.

16 O Arglwydd, yn ôl dy holl gyfiawnde­rau, attolwg troer dy lidiawgrwydd a'th ddig­ter oddi wrth dy ddinas Jerusalem, dy fy­nydd sanctaidd; o herwydd am ein pecho­dau, ac am anwireddau ein tadau, y mae Jerusalem a'th bobl yn wradwydd i bawb o'n hamgylch.

17 Ond yr awr hon, gwrando, ô ein Duw ni, ar weddi dy wâs, ac ar ei ddeisyfiadau, a llewyrcha dy wyneb ar dy gyssegr anrhaith­iedic, er mwyn yr Arglwydd.

18 Gostwng dy glust, ô fy Nuw, a chlyw; agor dy lygaid a gwêl ein hanrhaith ni, a'r ddinas y gelwir dy enw di arni: oblegid nid o herwydd ein cyfiawnderau ein hun, yr ydym ni ynHeb. gwneu­thur i'n deisyfia­dau gwym­po ger &c. tywallt ein gweddiau ger dy fron, eithr o herwydd dy aml drugareddau di.

19 Clyw Arglwydd, arbed Arglwydd, ystyr ô Arglwydd a gwna, nac oeda er dy fwyn dy hun, ô fy Nuw: o herwydd dy enw di a al­wyd ar y ddinas hon, ac ar dy bobl.

20 A mi etto yn llefaru ac yn gweddio, ac yn cyffessu fy mhechod, a phechod fy mhobl Israel, ac yn tywallt fy ngweddi ger bron yr Arglwydd fy Nuw, tros fynydd sanctaidd fy Nuw.

21 Ie a mi etto yn llefaru mewn gweddi, yna y gŵrPen. 8.16. Gabriel, yr hwn a welswn mewn gweledigaeth yn y dechreuad, gan ehedec yn fuan a gyffyrddodd â mi ynghylch pryd yr offrwm prydnhawnol.

22 Ac efe a barodd i'm ddeall, ac a ymddi­ddanodd â mi, ac a ddywedodd, Daniel, dae­thum yn awr allan i beri it fedrudeall.

23 Yn nechreu dy weddiau yr aeth yHeb. gair. gorchymyn allan, ac mi a ddeuthum iw fy­negi i ti: canysHeb. gwr dy­munia­dau. anwyl ydwyt ti: ystyr di­theu y peth, a deall y weledigaeth.

24 Deng-hwythnos a thri vgain a derfyn­wyd ar dy bobl, ac ar dy ddinas sanctaidd, iNeu, attal. ddibennu camwedd, ac iNeu, orphen. selio pechodau, ac i wneuthur cymmod tros anwiredd, ac i ddwyn cyfiawnder tragywyddawl; ac i selio 'r weledigaeth a'rHeb. prophwyd. brophwydoliaeth, ac i en­einio y Sancteiddiolaf.

25 Gŵybydd gan hynny, a deall y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu, ac am adeiladu Jerusalem, hyd y blaeror Messiah, saith wythnos, a dwy wythnos a thrugain, yr heol aHeb. ddychwel ac a a­deiledir. adeiledir drachefn, a'rNeu, adwy, neu, clawdd. mûr, sefHeb. ynghyfyng­der am­seroedd. mewn amseroedd blinion.

26 Ac wedi dwy wythnos a thrugain y lle­ddir y Messiah, ondNeu, ni bydd dim ganddo. Neu, ni bydd neb gydag ef. nid o'i achos ei hun, a phobl y tywysog yr hwn a ddaw, a ddinistria y ddinas a'r cyssegr, a'i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd ddiwedd y rhyfelNeu, yr ordei­niwyd anrhaith. Neu, y torrir ef ymaith trwy anrhaith. y bydd di­nistr anrheithiol.

27 Ac efe a siccrhâ y cyfammod â llawer dros vn wythnos, ac yn hanner yr wythnos y gwna efe i'r aberth, a'r bwyd offrwm beidio;Neu, o herwydd ymledu o ffieidd-dra. Heb. o herwydd ascell ffieidd-dra. a thrwy luoedd ffiaidd yrMat. 24.15. Mar. 13.14. Luc. 21.20. anrheithia efe hi, hyd oni dywallter y diben terfynedig ar yr an­rhaithiedic.

PEN. X.

1 Daniel, wedi ymddarostwng, yn gweled gwe­ledigaeth: 10 Dychryn yn ei flino ef, a'r Ang­el yn ei gyssuro.

YN y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Per­sia, y datcuddiwyd peth i Ddaniel, (yr hwn y gelwid ei enw Beltesazzar) a'r peth oedd wir, ond yr amser nodedig oedd Heb. fawr. hir; ac efe a ddeallodd y peth, ac a gafodd ŵybod y weledigaeth.

2 Yn y dyddiau hynny y galerais i Daniel, dair wythnos o ddyddiau.

3 Ni fwytteais fara blasus, ac ni ddaeth cig na gwin yn fy ngenau; gan ymîro hefyd nid ymîrais, nes cyflawni tair ŵythnos o ddy­ddiau.

4 Ac yn y pedwerydd dydd ar hugain o'r mîs cyntaf fel yr oeddwn i wrth ymyl yr afon fawr, honno yw Gen. 2.14. Hidecel;

5 Yna y cyfodais fy llygaid, ac yr edrychais, ac weleHeb. vn gwr. ryw ŵr wedi ei wisco â lliain, a'i lwyni wedi euDatc. 1.13, 14, 15. gwregyssu ag aur coeth o Vphaz.

6 A'i gorph oedd fel maen Beril a'i wyneb fel gwelediad mellten, a'i lygaid fel lampau tân, a'i freichiau a'i draed fel lliw prês gloyw, a sain ei eiriau fel sain tyrfa.

7 A mi Daniel yn vnic a welais y weledig­aeth; canys y dynion, y rhai oedd gyd â mi, ni welsant y weledigaeth: eithr syrthiodd ar­nynt ddychryn mawr, fel y ffoesant i ym­guddio.

8 A mi a adawyd fy hunan, ac a welais y weledigaeth fawr hon, ac ni thrigodd nerth ynof; canysNeu, fy nerym. fy ngwedd aPen. 7.28. drôdd ynof yn llygredigaeth, ac nid atteliais nerth.

9 Etto mi a glywais sain ei eiriau ef, a phan glywais sain ei eiriau ef, yna yr oeddwn mewn trymgwsc ar fy wyneb, a'm hwyneb tua 'r ddaiar.

10 Ac wele, llaw a gyffyrddodd â mi, acHeb. a wnaeth i mi sym­mud ar fy ngli­niau. a'm gosododd ar fy ngliniau, ac ar gledr fy nwylo.

11 Ac efe a ddywedodd wrthif; Daniel ŵrHeb. dymun­iadau. anwyl, deall y geiriau a lefaraf wrthit, a sâf yn dy sefyll; canys attat ti i'm hanfonwyd yr awr hon, ac wedi iddo ddywedyd y gair hwn, sefais gan grynu.

12 Yna efe a ddywedodd wrthif, nac ofna Daniel, o herwydd er y dydd cyntaf y rho­ddaist dy galon i ddeall, ac i ymgystuddio ger bron dy Dduw, y gwrandawyd dy eiriau, ac o herwydd dy eiriau di y daethum i.

13 Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn, vn diwrnod ar hugain; ond wele Michael,Neu, y blaenaf. vn o'r tywysogion pennaf, a ddaeth i'm cynhorthwyo; a mi a arhoais yno gyd â brenhinoedd Persia.

14 A mir a ddaethum i beri it ddeall yr hyn a ddigwydd i'th bobl yn y dyddiau diweddaf; o herwydd y mae y weledigaeth etto tros ddyddiau lawer.

15 Ac wedi iddo lefaru wrthif y geiriau hyn, gosodais fy wyneb tua 'r ddaiar, ac a aethym yn fud.

16 Ac wele, tebyg iHeb. feibion dynion. ddyn a gyffyrddodd a'm gwefusau; yna yr agorais fy safn, ac y lleferais, ac y dywedais wrth yr hwn oedd yn sefyll ar fy nghyfer, ô fy Arglwydd, fy ngofi­diau a droesant arnaf gan y weledigaeth, ac nid atteliais nerth.

17 A pha fodd y dichonNeu, gwas­yma fy Argl­wydd. gwasanaeth-wr fy Arglwydd ymma, lefaru wrth fy Arglwydd ymma? a minnau yna ni safodd nerth ynof, ac nid arhôdd ffûn ynof.

18 Yna y cyffyrddodd eil-waith â mi fel dull dyn, ac a'm cryfhaodd i;

19 Ac a ddywedodd, nac ofna ŵr anwyl; heddwch it, ymnertha, ie ymnertha: a phan lefarasai efe wrthif, ymnerthais a dywedais; llefared fy Arglwydd; o herwydd cryfhe­aist fi.

20 Ac efe a ddywedodd, a ŵyddosti pa ham y deuthum attat? ac yn awr dychwelaf i ry­fela â thywyfog Persia: ac wedi i mi fyned allan, wele tywysog tir Groec a ddaw.

21 Eithr mynegaf it yr hyn a yspysswyd yn scrythur gwirionedd; ac nid oes vn ynNeu, dal. ymeg­nio gyd â mi yn hyn, onid Michael eich tywy­sog chwi.

PEN. XI.

1 Dinistr Persia gan frenhin Groeg. 5 Y cyn­greiriau a'r cadau rhwng brenhin y Dehau a brenin y Gogledd.

AC yn y flwyddyn gyntaf i Ddarius y Me­diad, y sefais i iw gryfhau ac iw ner­thu ef.

2 Ac yr awr hon y gwirionedd a fynegaf i ti, wele, tri brenin etto a safant o fewn Persia, a'r pedwerydd a fydd cyfoethogach nâ hwynt oll: ac fel yr ymgadarnhao efe yn ei gyfoeth, y cyfyd efe bawb yn erbyn teyrnas Groec.

3 A brenin cadarn a gyfyd, ac a lywodraetha â llywodraeth fawr, ac a wna fel y mynno.

4 A phan safo efe, dryllir ei deyrnas, ac a'l rhennir tua phedwar gwynt y nefoedd; ac nid iw hillogaeth ef, nac fel ei lywodraeth a lvwo­draethodd efe: o herwydd ei frenhiniaeth ef a ddiwreiddir i eraill heb law y rhai hynny.

5 Yna y cryfhâ brenin y deau, ac vn o'i dy­wysogion, ac efe a gryfhâ vwch ei law ef, ac a lywodraetha: llywodraeth fawr fydd ei ly­wodraeth ef.

6 Ac yn niwedd blynyddoedd yrHeb. ymgyfei­llachant. ymgys­sylltant, canys merch brenin y deau a ddaw at frenin y gogledd i wneuthurHeb. vniondeb. neu, yr iawn. cymmod, ond ni cheidw hi nerth y braich, ac ni saif yntef na'i fraich: eithr rhoddir hi i fynu, a'r rhai a'i dygasant hi, a'r hwnNeu, a escorodd hi. a'i cenhedlodd hi, a'i chymhorth-wr, yn yr amseroedd hyn.

7 Eithr yn ei le ef y saif vn allan o flaguryn ei gwraidd hi, yr hwn a ddaw â llu, ac â i am­ddiffynfa brenin y gogledd, ac a wna yn eu her­byn hwy, ac a orchfyga;

8 Ac a ddwg hefyd i gaethiwed i'r Aipht, eu duwiau hwynt, a'i tywysogion, a'i dodrefn anwyl, o arian ac aur, ac efe a bery fwy o fly­nyddoedd nâ brenin y gogledd.

9 A brenin y deau a ddaw iw deyrnas, ac a ddychwel iw dîr ei hun.

10 A'i feibion aNeu, ryfelant. gyffroir, ac a gasclant dyrfa o luoedd mawrion; a chan ddyfod y daw vn, ac a lifeiria, ac a â trosodd: yna efe a ddychwel, ac a gyffroir hyd ei amddeffyn­fa ef.

11 Yna y cyffry brenin y deau, ac yr â allan, ac a ymladd ag ef, sef â brenin y gogledd; ac efe a gyfyd dyrfa fawr, ond y dyrfa a roddir iw law ef.

12 Pan gymmerer ymmaith y dyrfa, yr ym­dderchafa ei galon; ac efe a gwympa fyrddiwn, er hynny ni bydd efe crŷf.

13 Canys brenin y gogledd a ddychwel, ac a gyfyd dyrfa fwy na'r gyntaf, acHeb. yn niwedd amser­o [...]dd, bly­nyddoedd. ym mhen ennyd o flynyddoedd, gan ddyfod y daw â llu mawr, ac â chyfoeth mawr.

14 Ac yn yr amseroedd hynny, llawer a safant yn erbyn brenin y deau;Heb. a meibion yspeilwyr o'th bobl. a'r yspeilwyr o'th bobl a ymdderchafant i siccrhau 'r wele­digaeth, ond hwy a syrthiant.

15 Yna y daw brenin y gogledd, ac a fwrw glawdd, ac a ennillHeb. ddinas yr amddi­ffynfa­oedd. y dinasoedd caeroc, ond breichiau y deau ni wrthsafant,Heb. na phobl ei ddewis ef. na'i bobl ddewisol ef; ac ni bydd nerth i sefvll.

16 A'r hwn a ddaw yn ei erbyn ef, a wna fel y mynno, ac ni bydd a safo o'i flaen, ac efe a saifHeb. yn wlad hardd­wch, neu, addurn. yn y wlâd hyfryd, a thrwy ei law ef y difethir hi.

17 Ac efe a esyd ei wyneb ar fyned â chryf­der ei holl deyrnas,Neu, ac vniond [...]. a rhai vniawn gyd ag ef; fel hyn y gwna, ac efe a rydd iddo ferch gwra­gedd,He [...] iw lly [...]ru hi. gan ei llygru hi, ond ni saif hi ar ei du ef, ac ni bydd hi gydag ef.

18 Yna y trŷ efe ei wyneb at yr ynysoedd, ac a ennill lawer, ond pennaeth a bair iw warth ef beidio,Heb. iddo ei hun, neu, tros [...]o ei hun. er ei fwyn ei hun,Heb. hab ei warth. heb warth iddo ei hun: efe a'i dettry arno ef.

19 Ac efe a drŷ ei wyneb at amddiffynfeydd ei dir ei hun, ond efe a dramgwydda, ac a syrth, ac ni's ceir ef.

20 Ac yn ei le ef y saif vnHeb. a baro i drethwr fyned tro­sodd. a gyfyd drethau yngogoniant y deyrnas, ond o fewn ychydig ddyddiau y destrywir ef; ac nid mewn dig, nac mewn rhyfel.

21 Ac yn ei le yntef y saif vn dirmygus, ac ni roddant iddo ogoniant y deyrnas; eithr efe a ddaw i mewn yn heddychol, ac a ymeifl yn y frenhiniaeth trwy weniaith.

22 Ac â breichiau llifeiriant y llifir trostynt o'i flaen ef, ac y dryllir hwynt, a thywysog y cyfammod hefyd.

23 Ac wedi ymgyfeillach ag ef, y gwna efe dwyll, canys efe a ddaw i fynu, ac a ymgryfhâ ag ychydig bobl.

24Neu, yn heddychol y daw efe i leoedd brasaf y dalaith. I'r dalaith heddychol a brâs y daw efe, ac a wna yr hyn ni wnaeth ei dadau, na thadau ei dadau: ysclyfaeth, ac yspail, a golud, a dana efe yn eu mysc, ac ar gestyll y bwriada efe ei fwriadau, sef tros amser.

25 Ac efe a gyfyd ei nerth a'i galon, yn erbyn brenin y deau, â llu mawr, a brenin y deau a ym­esyd i ryfel â llu mawr, a chrŷf iawn: ond ni saif efe, canys bwriadant fwriadau yn ei erbyn ef.

26 Y rhai a fwyttânt ran o'i fwyd ef, a'i di­fethant ef, a'i lu ef a lifeiria, a llawer a syrth yn lladdedig.

27Heb. A'r ddau frenin hyn, eu ca­lon hwy a fydd &c. A chalon y ddau frenin hyn fydd ar wneuthur drwg, ac ar vn bwrdd y traethant gelwydd; ond ni thyccia: canys etto y bydd y diwedd ar yr amser nodedic.

28 Ac efe a ddychwel iw dîr ei hun, â chy­foeth mawr; a'i galon fydd yn erbyn y cyfam­mod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel iw wlâd.

29 Ar amser nodedic y dychwel, ac y daw tua'r deau, ac ni bydd fel y daith gyntaf, neu fel yr olaf.

30 Canys llongau Chittim a ddeuant yn ei erbyn ef, am hynny 'r ymofidia, ac y dych­wel, ac y digia yn erbyn y cyfammod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel, ac efe a ym­gynghora â'r rhai a adawant y cyfammod sanctaidd.

31 Breichiau hefyd a safant ar ei du ef, ac a halogant gyssegr yr amddeffynfa, ac a ddygant ymmaith y gwastadol aberth, ac a osodant yno y ffieidd-draNeu, a bair synnu. anrheithiol.

32Neu, ac i dros. y cyf. y gwna efe ragrithio: eithr &c. A throsseddwŷr y cyfammod a lygra efe trwy weniaith: eithr y bobl a adwaenant eu Duw, a fyddant gryfion, ac a ffynnant.

33 A'r rhai synhwyrol ym mysc y bobl a ddyscant lawer; etto syrthiant trwy 'r cleddyf, a thrwy dân, trwy gaethiwed, a thrwy yspail, ddyddiau lawer.

34 A phan syrthiant, â chymmorth bychan y cymhorthir hwynt; eithr llawer a lŷn wrth­ynt hwy trwy weniaith.

35 A rhai o'r deallgar a syrthiantNeu, i buro a hwynt, ac i lanhau, ac i gan­nu, &c. iw puro, ac iw glanhau, ac iw cannu, hyd amser y di­wedd: canys y mae etto tros amser nodedic.

36 A'r brenin a wna wrth ei ewyllys ei hun, ac a ymddercha, ac a ymfawryga ywch law pôb duw; ac yn erbyn Duw y duwiau y trae­tha efe bethau rhyfedd, ac a lwydda nes diweddu y digter, canys yr hyn a ordeinwyd a fydd.

37 Nid ystyria efe Dduw ei dadau, na serch ar wragedd, îe nid ystyria vn duw: canys gor­uwch pawb yr ymfawryga.

38Neu, Ac am y Duw Hollall­uog yn ei orsedd yr anrhydedda, ie efe a anrhydedda Dduw nid ad­waenai ei dadau ef, ag aur, &c. Ac efe a anrhydedda DduwNeu, yr am­dd [...]ffynfeydd. Heb. Mauzzin. y nerth­oedd yn ei le ef, îe duw yr hwn nid adwaenei ei dadau a ogonedda efe, ag aur, ac ag arian, ac â meini gwerthfawr, ac â phethauNeu, hyfryd. dy­munol.

39 Fel hyn y gwna efeHeb. ynghader­nid ym­ddiffyn­feydd. yn yr amddiffyn­feydd cryfaf, gyd â duw dieithr, yr hwn a gydnebydd efe, ac a chwanega ei ogoniant: ac a wna iddynt lywodraethu ar lawer, ac a ranna y tir amNeu, elw. werth.

40 Ac yn amser y diwedd yr ymgornia brenin y deau ag ef, a brenin y gogledd a ddaw fel corwynt yn ei erbyn ef, â cherbydau, ac â marchogion, ac â llongau lawer, ac efe a ddaw i'r tiroedd, ac a lifa, ac â trosodd.

41 Ac efe a ddawNeu, i wlad hardd­wch, neu, addurn. i'r hyfryd-wlad, a llawer o wledydd a syrthiant; ond y rhai hyn a ddiangant o'i law ef, Edom, a Moab, a phennaf meibion Ammon.

42 Ac efeHeb. a enfyn all­an ei law. a estyn ei law ar y gwledydd, a gwlad yr Aipht ni bydd diangol.

43 Eithr efe a lywodraetha ar dryssorau aur ac arian, ac ar holl anwyl bethau yr Aipht: y Libiaid hefyd, a'r Ethiopiaid fyddant ar ei ôl ef.

44 Eithr chwedlau o'r dwyrain, ac o'r gog­ledd a'i trallodant ef; ac efe a â allan mewn llid mawr i ddifetha, ac i ddifrodi llawer.

45 Ac efe a esyd bebyll ei lŷs rhwng y mor­oedd,Heb. ar fynydd harddwch, neu, add­urn sanct­eiddrw­ydd. ar yrNeu, hardd. hyfryd fynydd sanctaidd, etto efe a ddawiw ddi­wedd. hyd ei derfyn, ac ni bydd cyn­northwy-wr iddo.

PEN. XII.

1 Michael a wared Israel o'i flinderiu. 5 Dang­os yr amseroedd i Ddaniel.

AC yn yr amser hwnnw y saif Michael y tywysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll tros feibion dy bobl: yna y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenhedlhyd yr am­ser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl, y rhai a gaffer ynscrifennedic yn y llyfr.

2 A llawer o'r rhai sydd yn cyscu yn llwch y ddaiar a ddeffroant,Matth. 25.46. Joan. 5.29. rhai i fywyd tragy­wyddol, a rhai i warth a dirmyg tragywyddol.

3 A'rNeu, athra­won. doethion aMatth. 13.43. ddiscleiriant fel discleir­deb y ffurfafen, a'r rhai a droant lawer i gyf­iawnder a fyddant fel y sêr, byth yn dragy­wydd.

4 Titheu Daniel, cae ar y geiriau, a selia y llyfr, hyd amser y diwedd; llawer a gynni­werant; a gŵybodaeth a amlheir.

5 Yna myfi Daniel a edrychais, ac wele ddau eraill yn sefyll, vn o'r tu ymma, ar fin yr afon, ac vn arall o'r tu arall, ar fin yr afon.

6 Ac vn a ddywedodd wrth yr hwn a wis­casidPen. 10.5. â lliain, yr hwn ydoedd Heb. addlar. ar ddyfroedd yr afon; pa hŷd fydd hyd ddiwedd y rhyfe­ddodau hyn?

7 Clywais hefyd y gŵr a wiscasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon; panDatc. 10.5. dderchafodd efe ei law ddehau, a'i asswy, tua 'r nefoedd, ac y tyngodd i'r hwn sydd yn byw yn dragywydd, y bydd dros amser, amserau, aNeu, rhan. hanner; ac wedi darfod gwascaru nerth y bobl sanctaidd y gorphennir hyn oll.

8 Yna y clywais, ond ni ddeellais, eithr dy­wedais, ô fy Arglwydd, beth fydd diwedd y pethau hyn?

9 Ac efe a ddywedodd, dôs, Daniel: canys caewyd, a seliwyd y geiriau, hyd amser y di­wedd.

10 Llawer a burir, ac a gennir, ac a brofir: eithr y rhai drygionus a wnant ddrygioni, ac ni ddeall yr vn o'r rhai drygionus: ond y rhai doethion a ddeallant.

11 Ac o'r amser y tynner ymaith y gwas­tadol aberth, Heb. i ddodi y ffieidd­dra &c. ac y gosoder i fynu y ffieidd-draNeu, a bair synnu. anrheithiol, y bydd mîl, dau cant, a dêc a phedwar vgain o ddyddiau.

12 Gwyn ei fyd a ddisgwilio, ac a ddêl hyd y mil, try-chant, a phymthec ar hugain o ddyddiau.

13 Dôs ditheu hyd y diwedd;Neu, a gorphy­wysi. canys gor­phywysi, a sefi yn dy ran, yn niwedd y dyddiau.

¶LLYFR HOSEA.

PENNOD I.

1 Hosea er mwyn dangos barn Duw am but­teindra ysprydol, yn cymmeryd Gomer yn wraig, 4 ac yn cenhedlu Jezreel, 6 a Lo-ruhamah, 8 a Loammi. 10 Edfryd Juda ac Israel.

GAir yr Arglwydd, yr hwn a ddaeth at Hosea fab Beeri, yn nyddiau Vzziah, Jotham, Ahaz, a Hezeciah brenhin­oedd Juda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas, brenin Israel.

2 Dechreu ymadrodd yr Arglwydd drwy Hosea: yr Arglwydd a ddywedodd wrth Hosea, dôs, cymmer it wraig o odineb, a phlant o odineb: o herwydd y mae y wlâd gan buttei­nio yn putteinio oddi ar ôl yr Arglwydd.

3 Ac efe a aeth, ac a gymmerodd Gomer merch Diblaim, a hi a feichiogodd, ac a ddug iddo ef fâb.

4 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, galw ei enw ef2 Bren. 10.11. Jezreel: canys ar fyrder yHeb. ymwelaf a gwaed. dialaf waed Jezreel ar dŷ Jehu, ac y gwnaf i frenhi­niaeth tŷ Israel ddarfod.

5 A'r dydd hwnnw y torraf fŵa Israel, ynglyn Jezreel.

6 A hi a feichiogodd eil-waith, ac a escorodd ar ferch, a dywedodd yr Arglwydd wrtho, galw ei henw hiSef, heb gael tru­garedd. Lo-ruhamah; am na chwa­negaf drugarhau wrth dŷ Israel;Neu, fel y cwbl fa­ddeuwn iddynt. eithr dygaf hwynt ymmaith yn llwyr.

7 Ac etto mi a drugarhâf wrth dŷ Juda, ac a'i cadwaf hwynt drwy yr Arglwydd eu Duw; ac nid â bwa, nac â chleddyf, nac â rhyfel, nac â meirch, nac â marchogion, y cadwaf hwynt.

8 A hi a ddiddyfnodd Lo-ruhamah, ac a feichiogodd, ac a escorodd ar fâb.

9 A Duw a ddywedodd, galw ei enw efSef, nid fy mhobl i. Lo-ammi, canys nid ydych bobl i mi, ac ni byddaf i chwithau yn Dduw.

10 Etto bydd nifer meibion Israel fel ty­wod y môr, yr hwn ni's mesurir, ac ni's cyf­rifir; a bydd,Neu, yn lle yr hyn a ddywet­pwyd wr­thynt. yn y man lle y dywedwyd wrthynt,Rhuf. 9.25, 26. nid pobl i mi ydych chwi, y dywedir yno wrthynt, meibion y Duw byw ydych.

11 Yna meibion Juda, a meibion Israel aJer. 3.18. Ezec. 34.23. gesclir ynghyd, a hwy a osodant iddynt vn pen; a deuant i fynu o'r tîr: canys mawr fydd dydd Jezreel.

PEN. II.

Delw-addoliaeth y bobl. 6 A barn Duw yn eu herbyn hwy. 14 Y mae yn addo cymmodi â hwynt.

Dywedwch wrth eich brodyr,Sef, fy mhobl i. Ammi, ac wrth eich chwiorydd,Sef, yr hon o drugarhawyd wrthi. Ruhamah.

2 Dadleuwch â'ch mam, dadleuwch,Esa. 50.1. canys nid fyngwraig yw hi, ac nid ei gŵr hi ydwyf finneu: bwried hithau ymmaith ei phuttein­dra o'i golwg, a'i godinebEzec. 16.25. oddi rhwng ei bronnau:

3 Rhag i mi ei diosc hi yn noeth-lymmun, a'i gosod fel y dydd yEzec. 16.4. ganed hi, a'i gwneuthur fel anialwch, a'i gosod fel tîr diffaeth, a'i lladd â syched.

4 Ac ar ei phlant ni chymmeraf drugaredd; am eu bod yn blant godineb.

5 Canys eu mam hwynt a butteiniodd; gwradwyddus y gwnaeth yr hon a'i hymddug hwynt: canys dywedodd hi, âf ar ôl fy ngha­riadau, y rhai sydd yn rhoi fy mara a'm dwfr, fy ngwlân, a'm llîn, fy olew, a'm diodydd.

6 Am hynny wele, mi a gaeaf i fynu dy ffordd di â drain, ac a furiaf fûr, fel na chaffo hi ei llwybrau.

7 A hi a ddilyd ei chariadau, ond ni's go­ddiwes hwynt; a hi a'i cais hwynt, ond ni's caiff: yna y dywed, âf, a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf, canys gwell oedd arnafi yna, nag yr awr hon.

8 Ac ni ŵyddei hi mai myfi a roddais iddi ŷd, aHeb. gwin newydd. gwîn, ac olew; ac a amlheais ei harian, a'i haur, y rhai Neu, a weithia­sant yn Baal. a ddarparasant hwy i Baal.

9 Am hynny y dychwelaf, a chymmeraf fy ŷd yn ei amser, a'm gwîn yn ei dymmor; aNeu, go­roscynnaf. dygaf ymmaith fy ngwiân, a'm llîn a gu­ddiei ei noethni hi,

10 Ac mi a ddatcuddiaf bellach eiNeu, sce­lerder, neu, hyn­fydrwydd. brynti hi, yngolwg ei chariadau, ac ni's gwared neb hi o'm llaw i.

11 Gwnaf hefyd iw holl orfoledd hi, ei gwyliau, ei newydd-leuadau, a'i Sabbothau, a'i holl vchel-wyliau beidio.

12 A mi a anrheithiaf ei gwin-wŷdd hi, a'i ffigys-wŷdd, am y rhai y dywedodd, dym­ma fy ngobrwyon, y rhai a roddodd fy ngha­riadau i mi: ac mi a'i gosodaf yn goedwic, a bwyst-filod y maes a'i difa hwynt.

13 Ac mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim, yn y rhai y lloscodd hi arogl-darth iddynt, ac y gwiscodd ei chlust-fodrwyau, a'i thlyssau, ac yr aeth ar ôl ei chariadau, ac yr anghofiodd fi, medd yr Arglwydd.

14 Am hynny wele, mi a'i denaf hi, ac a'i dygaf i'r anialwch, ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon.

15 Ac mi a roddaf iddi ei gwin-llannoedd o'r fan honno, a dyffrynJos. 7.26. Achor yn ddrws gobaith, ac yno y cân hi, fel yn nyddiau ei hieuengtid, ac megis yn y dydd y daeth hi i fynu o wlâd yr Aipht.

16 Y dydd hwnnw medd yr Arglwydd, i'm gelwiSef, fy ngwr. Issi, ac ni'm gelwi mwyachSef, fy Argl. Baali.

17 Canys bwriaf henwau Baalim allan o'i genau hi; ac ni's coffeir hwy mwyach wrth eu henwau.

18 A'r dydd hwnnw y gwnafJob. 5.23. ammod drostynt ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd, ac ag ymlusciaid y ddaiar: a'r bwa, a'r cleddyf, a'r rhyfel, a dorraf ymmaith o'r ddaiar, a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel.

19 A mi a'th ddyweddiaf â mi fy hun yn dragywydd, ie dyweddiaf di â mi fy hun, mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau.

20 A dyweddiaf di â mi mewn ffyddlon­deb, a thi a adnabyddi yr Arglwydd.

21 A'r dydd hwnnw y gwrandawaf, medd yr Arglwydd, ar y nefoedd y gwrandawaf, a hwythau a wrandawant ar y ddaiar,

22 A'r ddaiar a wrendy ar yr ŷd, a'r gwîn, a'r olew; a hwythau a wrandawant ar Jezreel.

23 A mi a'i hauaf hi i'm fy hun yn y ddaiar, ac a drugarhâf wrth yr hon ni chawsei druga­redd, ac a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i'm,Rhuf. 9.26. 1 Pet. 2.10. fy mhobl wyt ti, a hwythau a ddywe­dant, ô fy Nuw.

PEN. III.

1 Trwy lanhau godineb-wraig, 4 y dangosir anghyfannedd-dra Israel o flaen ei adferiad.

YNa yr Arglwydd a ddywedodd wrthif, dôs etto, câr wraig (hoff gan ei chyfaill, a hitheu wedi torri ei phriodas) yn ôl cariad yr Arglwydd ar feibion Israel, a hwythau yn ed­rych ar ôl duwiau dieithr, ac yn hoffi costrelauHeb. grawn­win. gwin.

2 A mi a'i prynais hi i mi er pymthec o arian, ac er Homer o haidd,Heb. l thech. a hanner Homer o haidd.

3 A dywedais wrthi,Deut. 21 13. aros am danaf lawer o ddyddiau, na phutteinia, ac na fydd i ŵr arall, a minneu a fyddaf felly i titheu.

4 Canys llawer o ddyddiau 'r erys mei­bion Israel heb frenin, a heb dywysog, a heb aberth, a hebHeb. sefylileth. ddelw, a heb Ephod, a heb Te­raphim.

5 Wedi hynny y dychwel meibion Israel, ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw,Jer. 30.9. Eze. 34.23. Psal. 72.17. a Dafydd eu brenin; ac a barchant yr Arglwydd a'i ddaioni, yn yEsa. 2.2. dyddiau diweddaf.

PEN. IV.

1 Barnedigaethau Duw yn erbyn pechodau 'r bobl, 6 a'r offeiriaid: 12 Ac yn erbyn eu delw-addoliaeth hwy. 15 Annog Juda i gymmeryd rhybydd wrth ofidiau Israel.

MEibion Israel, gwrandewch air yr Ar­glwydd,Esa. 7.13. Mic. 6.2. Zac. 12.10 canys y mae cŵyn rhwng yr Arglwydd a thrigolion y wlâd, am nad oes gwirionedd, na thrugaredd, na gwybodaeth o Dduw, yn y wlâd.

2 Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lladratta, a thorri priodas, y maent yn torri allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed.

3 Am hynny y galara y wlâd, ac y llescâ oll sydd yn trigo ynddi, ynghyd â bwyst-silod y maes, ac ehediaid y nefoedd; pyscod y môr hefyd a ddarfyddant.

4 Er hynny nac ymrysoned, ac na cherydded neb ei gilydd, canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â'r offeiriad.

5 Am hynny ti a syrthi y dydd, a'r pro­phwyd hefyd a syrth gyd â thi y nôs; a miHeb. dorraf ymmaith. a ddifethaf dy fam.

6 Fy mhobl aHeb. dorrir ymmaith. ddifethir o eisieu gŵybo­daeth, am it ddiystyru gŵybodaeth, minneu a'th ddiystyraf ditheu, fel na byddech offeiriad i mi; ac am it anghofio cyfraith dy Dduw, minneu a anghofiaf dy blant ditheu hefyd.

7 Fel yr amlhasant, felly y pechasant i'm her­byn: am hynny eu gogoniant a newidiaf yn warth.

8 Bwytta y maent bechod fy mhobl, ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn derchafuHeb. eu henaid. eu calon.

9Esa. 24.2. A bydd yr vn fâth bobl ac offeiriad, ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd: aHeb. dychwe­laf. thalaf iddynt eu gweithredoedd.

10 Bwyttânt, ac ni's diwellir; putteiniant, ac nid amlhânt, am iddynt beidio â disgwyl wrth yr Arglwydd.

11 Godineb, a gwîn, a gwîn newydd, a ddwg y galon ymmaith.

12 Fy mhobl a ofynnant gyngor iw cyffion, a'i ffon a ddengys iddynt; canys yspryd go­dineb a'i cyfeiliornodd hwynt; a phutteiniasant oddi wrth eu Duw.

13 Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y bryniau y lloscant arogl-darth, tan y dderwen, a'r boplysen, a'r llwyfen; am fod yn dda eu cyscod; am hynny y putteinia eich merched chwi, a'ch gwragedd a dorrant briodas.

14Neu, onid ym­welaf &c? Nid ymwelaf â'ch merched pan but­teiniont; nac â'ch gwragedd pan dorront brio­das: am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyd â phutteiniaid, ac aberthasant gyd â dihirogod, a'r bobl ni ddeallant,Neu, a gospir. a dramgwyddant.

15 Er i ti Israel butteinio, etto na pheched Juda, nac ewch i Gilgal, nac ewch i fynu i1 Bren. 12.29. Bethafen; ac na thyngwch, byw yw 'r Ar­glwydd.

16 Fel anner anhywaith yr anhyweithiodd Israel; yr Arglwydd yr awr hon a'i portha hwynt, fel oen mewn ehengder.

17 Ephraim a ymgysylltodd ag eulynnod: gâd iddo.

18Neu. Chwai­thodd. Surodd eu diod hwy, gan butteinio y putteiniasant; hoff yw Moeswch, trwy gywi­lydd gan eiHeb. rharian­nau. llywodraeth-wŷr hi.

19 Y gwynt a'i rhwymodd hi yn ei hade­nydd, a bydd arnynt gywilydd o herwydd eu haberthau.

PEN. V.

1 Barnedigaethau Duw yn erbyn yr Offeiriaid, a phobl, a Thywysogion Israel, am eu hamryw bechodau, 15 Nes iddynt edifarhau.

CLywch hyn chwi offeiriaid, gwrandewch tŷ Israel, a thŷ y brenin, rhoddwch glust; canys y mae barn tu ac attoch, am eich bod yn fagl ar Mizpah, ac yn rhwyd wedi ei lledu ar Tabor.

2 Y rhai a wyrant i ladd, a ânt i'r dwfn,Neu, ac mi a'i ceryddais hwynt oll. er i mi eu ceryddu hwynt oll.

3 Myfi a adwaen Ephraim, ac nid yw Israel guddiedic oddiwrthif: canys yn awr ti Ephraim a butteiniaist, ac Israel a halogwyd.

4Neu, Ni daio­ddef eu gwaith iddynt droi. Ni roddant eu gwaith ar droi at eu Duw; am fod yspryd godineb o'i mewn, ac nid ad­nabuant yr Arglwydd.

5 A balchder Israel a ddwg dystiolaeth yn ei wyneb: am hynny Israel ac Ephraim a syrth­iant yn eu hanwiredd: Juda hefyd a syrth gyd â hwynt.

6 A'i defaid, ac â'i gwarthec y deuant i geisio yr Arglwydd, ond nis cânt ef; ciliodd efe oddi wrthynt.

7 Yn erbyn yr Arglwydd y buant anffydd­lon; canys cenhedlasant blant dieithr: mîs bellach a'i dyfa hwynt ynghŷd â'i rhannau.

8 Cenwch y corn yn Gibeah, yr vd-corn yn Ramah; bloeddiwch yn Bethafen: ar dy ôl di Benjamin.

9 Ephraim fydd yn anrhaith yn nydd y ce­rydd; ym mysc llwythau Israel y perais wybod yr hyn fydd yn siccr.

10 Bu dywysogion Juda fel symud-wŷr terfyn; am hynny y tywalldaf arnynt fy llîd fel dwfr.

11 Gorthrymmwyd Ephraim, drylliwyd ef mewn barn: am iddo yn ewyllysgar fyned ar ôl y gorchymyn.

12 Am hynny y byddaf fel gwyfyn i Eph­raim, ac felNeu, pryf. pydredd i dŷ Juda.

13 Pan welodd Ephraim ei lescedd, a Juda ei archoll; yna 'r aeth Ephraim at yr Assyriad, ac a hebryngoddNeu, at y brenin a ddadleuai. at frenin Jareb; etto ni allei efe eich meddiginiaethu, na'ch iachâu o'ch archoll.

14 Canys mi a fyddaf i Ephraim fel llew, ac i dŷ Juda fel cenew llew: myfi a sclyfae­thaf, ac a âf ymmaith; dygaf ymmaith, ac ni bydd a achubo.

15 Af a dychwelaf i'm lle, hyd oniHeb. byddont euog o'i. chyd­nabyddont eu bai, a cheisio fy wyneb: pan fyddo adfyd arnynt i'm boreu-geisiant.

PEN. VI.

1 Annog i edifeirwch, 4 achwyn mor anhy­naws, ac mor annuwiol ydynt.

DEuwch, a dychwelwn at yr Arglwydd, canys efe a'n drylliodd, ac efe a'n hiachâ ni; efe a darawodd, ac efe a'n meddiginiaetha ni.

21 Cor. 15.4. Efe a'n bywhâ ni ar ôl deu-ddydd, a'r trydydd dydd y cyfyd ni i fynu; a byddwn fyw ger ei fron ef.

3 Yna 'r adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr Arglwydd: ei fynediad a ddarperir fel y boreu, ac efe a ddaw fel glaw attom, fel y di­weddar-law a'r cynnar-law i'r ddaiar.

4 Beth a wnaf i ti Ephraim? beth a wnaf i ti Juda? eichNeu, ddioni, neu, tru­garedd. mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y boreu, ac fel gwlith boreuol.

5 Am hynny y tarewais hwynt trwy y prophwydi, lleddais hwynt â geiriau fy ngenau;Neu, fel y by­ddei dy farned. fel gol. a'th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan.

6Mat. 9.13. & 12.7. Eccl. 5.1. 1 Sa. 15.22. Canys ewyllysiais drugaredd, ac nid aberth; a gŵybodaeth o Dduw, yn fwy nâ phoeth offrymmau.

7 A'r rhai hyn felNeu, Addaf. dynion a dorrasant y cy­fammod: yno y buant anffyddlon i'm herbyn.

8 Dinas gwithred-wŷr anwiredd yw Gilead;Neu, cy­farwydd, neu, cy­frwys am waed. wedi ei halogi gan waed.

9 Ac fel y mae mintai o ladron yn disgwyl gwr, felly y mae cynnulleidfa yr offeiriaid yn lladd ar y fforddNeu, ag vn yscw­ydd, neu, i Sichem. yn gyttûn: canys gwnant scelerder.

10 Gwelais yn nhŷ Israel beth erchyll: yno y mae godineb Ephraim, halogwyd Israel.

11 Gosododd hefyd gynhaiaf i titheu Juda, a mi yn dychwelyd caethiwed fy mhobl.

PEN. VII.

1 Argyoeddi amryw bechodau. 11 Digofaint Duw yn eu herbyn hwy am eu rhagrith.

A Mi 'n ewyllysio iachau Israel, datcuddi­wyd anwiredd Ephraim, a drygioni Sama­ria: canys gwnant ffalsder: a'r lleidr a ddaw i mewn, a mintai o yspeil-wŷr a anrheithia oddi allan.

2 Ac nid ydynt ynHeb. dywedyd wrth eu ca. meddwl yn eu calon­nau, fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a'i hamgylchynodd, y maent ger bron fy wyneb.

3 Llawenhânt y brenin â'i drygioni, a'r tywysogion â'i celwyddau.

4 Pawb o honynt sydd yn torri priodas, fel ffwrn wedi ei thwymno gan y pobydd:Neu, paid y cy­fodydd. yr hwn a baid aNeu, deffroi chodi, wedi iddo dylino y toes, hyd oni byddo wedi ei lefeinio.

5 Yn niwrnod ein brenin, y tywysogion a'i gwnaethant yn glafNeu, a gwres gan win. â chostrelau gwin, estyn­nodd ei law gydâ gwatwar-wŷr.

6 Fel yr oeddynt yn cynllwyn, darparasant eu calon fel ffwrn; eu pobydd a gŵsc ar hŷd y nôs, y boreu y llŷsc fel fflam dân.

7 Pawb o honynt a wresogant fel y ffwrn, ac a yssant eu barn-wŷr: eu holl frenhinoedd a gwympasant, heb vn o honynt yn galw arnafi.

8 Ephraim a ymgymmyscodd â'r bobloedd, Ephraim sydd fel teisen heb ei throi.

9 Estroniaid a fwyttânt ei gryfder, ac ni's gŵyr efe: ymdanodd pen-wynni ar hyd-ddo, ac nis gŵybu efe.

10 Ac y maePen. 5.5. balchder Israel yn tystiolae­thu yn ei wyneb, ac er hyn oll ni throant at yr Arglwydd eu Duw, ac ni's ceisiant ef.

11 Ephraim sydd fel colommen ynfyd heb galon, galwant ar yr Aipht, ânt i Assyria.

12 Pan elont, tanaf fy rhwyd trostynt, a thynnaf hwynt i lawr fel ehediaid y ne­foedd: cospaf hwynt, fel y clybu eu cynnu­lleidfa hwynt.

13 Gwae hwynt, canys ffoesant oddi wrthif;Neu, anrhaith. dinistr arnynt, o herwydd gwnaethant gam­wedd i'm herbyn: er i mi eu gwared hwynt, etto hwy a ddywedasant gelwydd arnafi.

14 Ac ni lefasant arnaf â'i calon, pan vda­sant ar eu gwelâu: am ŷd a melys-wîn yr ymgasclant, ciliasant oddi wrthif.

15 Er i miNeu, geryddu. rwymo a nerthu eu breichiau hwynt: etto meddyliasant ddrwg i mi.

16 Dychwelasant nid at y Goruchaf; y maent fel bŵa twyllodrus; eu tywysogion a syrthiant gan y cleddyf, amPsal. 73.9. gynddaredd eu tafod: dymma eu gwatwor hwynt yngwlad yr Aipht.

PEN. VIII.

1 12 Bygwth dimstr am annuwioldeb y bobl, 5 a'i gaudduwiaeth.

AT dyHeb. daflod dy enau. safn â'r vdcorn: fel yr eryr y daw yn erbyn tŷ 'r Arglwydd; am iddynt drosseddu fy nghyfammod, a phechu yn erbyn fy nghyfraith.

2 Israel a lefant arnaf, fy Nuw, nyni a'th adwaenom di.

3 Israel a fwriodd heibio ddaioni: y gelyn a'i herlid yntef.

4 Hwy a wnaethant frenhinoedd, ac nid trwofi, gwnaethant dywysogion, ac nis gwy­buym: o'i harian, a'i haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, fel y torrer hwynt ymmaith.

5 Samaria, dy lô a'th fwriodd heibio; fy nîg a gynneuodd i'w herbyn, pa hŷd ni fed­rant ddilyn diniweidrwydd?

6 Canys o Israel y mae y saer a'i gwnaeth, am hynny nid yw efe Dduw, ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria.

7 Canys gwynt a hauasant, a chorwynt a fedant;Neu, yd ar ei droed. corsen ni bydd iddo, y dwyfen ni wna flawd; ac os gwna, dicithriaid a'i llwngc.

8 Israel a lyngcwyd, bellach y byddant ym mysc y cenhedloedd, fel dodrefnyn heb hoffder ynddo.

9 Canys hwy a aethant i fynu i Assyria, yn assyn wyllt vnic iddo ei hun: Ephraim a gyf­logodd gariadau.

10 Hefyd er iddynt gyflogi rhai ym mysc y cenhedloedd, yn awr mi a'i casclaf hwynt: canysNeu, de­chreuant ychydig. tristânt ychydig, o herwydd baich bro­nin y tywysogion.

11 O herwydd amihau o Ephraim allorau i bechu; allorau fydd ganddo i bechu.

12 Mi a scrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithr-beth y cyfrifwyd.

13Neu, yn ebyrth &c. Yn lle ebyrth fy offrymmau, cîg a aberthant, ac a fwytânt; yr Arglwydd nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu han­wiredd, ac efe a ofwya eu pechodau; dychwe­lant i'r Aipht.

14 Canys anghofiodd Israel ei wneuthurwr, ac a adeiladodd demlau, a Juda a amlhaodd ddinasoedd caeroc: ond myfi a anfonaf dân iw ddinasoedd, ac efe a yssa ei balasau.

PEN. IX.

Cyfyngder a chaethiwed Israel, am eu pechodau, a'i gau-dduwiaeth.

ISrael, na orfoledda gan lawenydd, fel pob­loedd eraill, canys putteiniaist oddi wrth dy Dduw,Jer. 44.17. gwobrau a hoffaistNeu, yn mhob. ar bob llawr dyrnu ŷd.

2 Y llawr dyrnu na'rNeu, gwin­lestr. gwin-wryf ni's por­tha hwynt, a'r gwîn newydd a'i twylla hi.

3 Ni thrigant yngwlâd yr Arglwydd; ond Ephraim a ddychwel i'r Aipht; ac yn Assyria y bwytânt beth aflan.

4 Nid offrymmant wîn i'r Arglwydd; a'i haberthau ni bydd melus ganddo; byddant iddynt fel bara galar-wyr: pawb a fwytâo o honaw a halogir: o herwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr Arglwydd.

5 Beth a wnewch ar ddydd yr vchel-ŵyl, ac ar ddydd gŵyl yr Arglwydd?

6 Canys wele, aethant ymaith ganNeu, anrhaith. ddinistr; yr Aipht â'i cascl hwynt, Memphis a'i cladd hwynt;Neu, eu harian a ddeify­fir, da­nadl a'i gorescyn. Heb. dy­muniad eu har. &c. danadl a orescyn hyfryd leoedd eu harian hwynt, drain a dŷf yn eu pebyll.

7 Dyddiau i ymweled a ddaethant; dyddiau talu 'r pwyth a ddaethant: Israel a gânt ŵy­bod hyn: y prophwyd sydd ffôl, ynfyd yw 'r gwr ysprydol: am amlder dy anwiredd, a'r câs mawr.

8 Gwiliedydd Ephraim a fu gyd â'm Duw; aeth y prophwyd yn fagl adar-wr yn ei holl lwybrau, ac yn gasinebNeu, yn erbyn ty &c. yn nhŷ ei Dduw.

9 Ymlygrasant yn ddwfn megis yn amserBarn. 19.28. Gibeah: efe a goffa eu hanwiredd, efe a ymwel â'i pechod.

10 Cefais Israel fel grawn-win yn yr ania­lwch, gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigys-bren, yn ei dechreuad: ond hwy a aethant atNum. 25.3. Baal Peor, ymddidola­sant at y gwarth hwnnw, a bu ei ffieidd-dra fel y carasant.

11 Am Ephraim, eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn, o'r anedigaeth, o'r grôth, ac o'r beichiogi.

12 Er iddynt fagu eu plant, gwnaf hwynt yn ymddifaid o ddynion: a gwae hwynt, pan ymadawyf oddiwrthynt.

13 Ephraim, fel y gwelais Tyrus, a blan­nwyd mewn hyfryd gyfannedd: etto Ephraim a ddwg ei blant allan at y lleiddiad.

14 Dyro iddynt Arglwydd: beth a roddi? dyro iddynt grôth yn erthylu, a bronnau hys­pion.

15 Eu holl ddrygioni sydd Pen. 12.11. yn Gilgal: ca­nys yno y caseais hwynt: am ddrygioni eu gweithredoedd y bwriaf hwynt allan o'm tŷ: ni chwanegaf eu caru hwynt: eu holl dywy­sogion sydd wrthryfelgar.

16 Ephraim a darawyd, eu gwraidd a wy­wodd, dwyn ffrwyth ni's gwnant; ac os cen­hedlant, [Page] etto lladdafHeb. ddymu­niadau. anwyl-blant eu cro­thau.

17 Fy Nuw a'i gwrthyd hwynt, am na wrandawsant arno ef: am hynny y byddant gyrwydraid ym mhlith y cenhedloedd.

PEN. X.

1 Argyoeddi Israel am eu pechodau, a'i gau­dduwiaeth.

Neu, Gwinwy­dden yn gwaghau y ffrwyth a rotho.GWinwydden wâg yw Israel; efe a ddwg ffrwyth iddo ei hun: yn ôl amlder ei ffrwyth yr amlhaodd efe allorau; yn ôl daloni ei dîr, gwnaethantHeb. sefyll be­thau. ddelwau têg.

2Neu, Efe a rannodd eu calon hwynt. Eu calon a ymrannodd; yn awr y ceir hwy yn feius, efe a dyrr i lawr eu hallorau hwynt, efe aHeb. dorfy­nygla. ddestrywia eu delwau.

3 Canys yr awr hon y dywedant, nid oes i ni frenin, am nad ofnasom yr Arglwydd; a pheth a wnai brenin i ni?

4 Dywedasant eiriau, gan dyngu anudon wrth wneuthur ammod; tarddodd barn megis wermod yn rhychau y meusydd.

5 Presswyl-wyr Samaria a ofnant o herwydd lloiau Bethafen; canys ei bobl a alara drosto, a'i1 Bren. 18.27. 2 Bren. 23.5. Neu, Chema­rim. offeiriaid y rhai a lawenychant ynddo, o achos ei ogoniant, am iddo ymadaw oddi wrtho ef.

6 Hefyd efe a ddygir i Assyria yn anrheg iPen. 5.13. frenin Jareb: Ephraim a dderbyn gywil­ydd, ac Israel a fydd cywilydd gantho ei gyngor ei hun.

7 Samaria, ei brenin a dorrir ymmaith, fel ewyn ar wyneb y dwfr.

8 A destrywirPen. 4.15. vchelfeydd Afen, pechod Israel, dring drain a mieri ar eu hollorau; aEsay 2.19. Luc. 23.30. Datc. 6.16. & 9.6. dywedant wrth y mynyddoedd, gorch­guddiwch ni, ac wrth y bryniau, syrthiwch arnom.

9 O Israel, ti a bechaist er dyddiau Gibeah; yno y safasant; a'r rhyfel yn Gibeah yn erbyn plant anwiredd ni oddiweddodd hwynt.

10 Wrth fy ewyllys y cospaf hwynt, a phobl a gesclir yn eu herbyn,Neu, pan rwy­mwyf hwynt am eu dau drosedd, neu, yn eu dwy drigfa. pan ymrwy­mont yn eu dwy gwys.

11 Ac Ephraim sydd anner wedi ei dyscu, yn dda genddi ddyrnu; a minneu a aethym dros degwch ei gwddf hi; paraf i Ephraim far­chogaeth; Juda a ardd, a Jacob a lyfna iddo.

12 Heuwch iwch mewn cyfiawnder, medwch mewn trugaredd:Jere. 43. brynerwch iwch frynar; canys y mae yn amser i geisio yr Arglwydd, hyd oni ddelo a glawio cyfiawnder arnoch.

13 Arddasoch iwch ddrygioni, medasoch anwiredd, bwyttasoch ffrwyth celwydd; am it ymddiried yn dy ffordd dy hun, ynlluosog­rwydd dy gedyrn.

14 Am hynny y cyfyd terfysc ymmysc dy bobl, a'th holl amddiffynfeydd a ddinistrir, fel y darfu i Salman ddinistrio2 Bren. 18.34. & 19.13. Beth-Arbel yn am­ser rhyfel: lle y drylliwyd y fam ar y plant.

15 Fel hynny y gwna Bethel i chwi,Heb. am ddrygioni eich ary­gioni. am eich mawr-ddrwg: gan ddifetha y difethir brenin Israel ar foregwaith.

PEN. XI.

1 Anniolchgarwch Israel i Dduw am ei ddoniau. 5 Eu barnedigaeth hwy; 8 A thrugaredd Duw tuac attynt.

PAn oedd Israel yn fachgen mi a'i cerais ef,Matth. 2.15. ac a elwais fy mab o'r Aipht.

2 Fel y galwent arnynt, felly hwythau a aent o'i gwydd hwy: aborthasant i Baalim, llosca­sant arogl-darth i ddelwau cerfiedic.

3 Myfi hefyd a ddyscais i Ephraim gerdded, gan eu cymmeryd erbyn eu breichiau, ond ni chydnabuant mai myfi a'i meddiginiaethodd hwynt.

4 Tynnais hwynt â rheffynnau dynol, â rhwymau cariad, ac oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu boch-gernau hwynt; a bwriais attynt fwyd.

5 Ni ddychwel efe i wlâd yr Aipht; onid yr Assuriad fydd ei frenin, am iddynt wrthod troi.

6 A'r cleddyf a erys ar ei ddinasoedd ef, ac a dreulia ac a yssa ei geingciau ef, am eu cyng­horion eu hun.

7 A'm pobl i sydd ar feddwl cilio oddiwr­thifi; er iddynt eu galw at y Goruchaf,Heb. ynghyd ni dder­chafodd. etto ni dderchafai neb ef.

8 Pa fodd i'th roddaf ymaith Ephraim? i'th roddaf i fynu Israel? pa fodd i'th wnâf felGene. 19.24. Deut. 29.23. Amos 4.11. Admah; ac i'th osodaf megis Zeboim? trôdd fy nghalon ynof, a'm hedifeirwch a gyd­gynneuwyd.

9 Ni chyflawnaf angerdd fy llid, ni ddych­welaf i ddinistrio Ephraim; canys Duw ydwyfi, ac nid dŷn, y Sanct yn dy ganol di, ac nid âf i mewn i'r ddinas.

10 Ar ôl yr Arglwydd yr ânt; efe a rua fel llew; pan ruo efe, yna meibion o'r gorllewin a ddychrynant.

11 Dychrynant fel aderyn o'r Aipht, ac fel colomen o dir Assyria: ac mi a'i gosodaf hwynt yn eu tai, medd yr Arglwydd.

12 Ephraim a'm hamgylchynodd â chel­wydd, a thŷ Israel â thwyll; ond y mae Juda etto yn llywodraethu gyd â Duw, ac yn ffydd­lon gyd â'rNeu, Sanctei­ddiolaf. Sainct.

PEN. XII.

1 Argyoeddi Ephraim, Juda, ac Jacob. 3 Y mae yn eu hannog i edifarhau, o herwydd y daioni a gawsent. 7 Pechodau Ephraim yn cyffroi Duw.

EPhraim sydd yn ymborthi ar wynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain; ar hŷd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr; ammod a wnaethant â'r Assyriaid; ac olew a ddygwyd i'r Aipht.

2 Ac y mae gan yr Arglwydd gŵyn ar Juda, ac efe a ymwel â Jacob yn ôl ei ffyrdd; yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth.

3 Yn ei groth y daliodd efeGene. 25 26. sodl ei frawd, ac yn ei nerthHeb. y bu dy­wysog, neu yr ymddug yn dywy­sog [...]idd. Gene. 32.24. y cafodd allu gyd â Duw.

4 Ie cafodd nerth ar yr angel, a gorch­fygodd, wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef ynGene. 35.9, 10. Bethel, ac yno 'r ymddiddanodd â ni.

5 Sef Arglwydd Dduw y lluoedd; yr Ar­glwydd yw eiExod. 3.15. goffadwriaeth.

6 Trô ditheu at dy Dduw; cadw drugaredd, a barn, a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.

7Neu, Canaan. Marsiandwr yw efe, yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddoNeu, dwyllo. orthrym­mu.

8 A dywedodd Ephraim, etto mi a gyf­oethogais, cefais i'm olud;Neu, fy holl Lafurian ni'm di­gonant: efe a gaiff gosp an­wiredd yr hwn y mae pe­chod yn­ddo. ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai be­chod.

9 A mi, yr hwn yw 'r Arglwydd dy Dduw, a'th ddûg o dir yr Aipht, a wnaf it dri­go etto mewn pebyll, megis ar ddyddiau vchel-ŵyl.

10 Ymddiddenais trwy y prophwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffely­biaethau trwy law y prophwydi.

11 A oes anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt: ynPen. 4.15. & 9.15. Gilgal yr aberthant ychen, eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y maesydd.

12Gen. 28.5. Ffôdd Jacob hefyd i wlad Syria, a gwasanaethodd Israel amGen. 29 20, 28. wraig, ac am wraig y cadwodd ddefaid.

13Exod. 12.50.51. & 13.3. A thrwy brophwyd y dug yr Arglwydd Is­rael o'r Aipht: a thrwy brophwyd y cadwyd ef.

14 Ephraim a'i cyffrôdd ef i ddig, ynghyd â chwerwedd: am hynny y gâd efe ei waed ef arno: a'i Arglwydd a dâl iddo ei wradwydd.

PEN. XIII.

1 Gogoniant Ephraim, o herwydd eu gaudduwieth, yn diflannu. 5 Digofaint Duw wrthynt am eu hangharedigrwydd hwy. 9 Addewid o druga­redd Duw. 15 Barnedigaeth am anufydd-dod.

PAn lefarodd Ephraim, dychryn, ymddercha­fodd efe yn Israel; onid pan bechodd gyd â Baal, y bu farw.

2 Ac yr awr hon chwanegasant bechu, ac o'i harian y gwnaethant iddynt ddelwau tawdd, ac eulynnod, yn ôl eu deall eu hun, y cwbl o waith y crefftwyr, am y rhai y maent yn dy­wedyd, y rhaiNeu, a aber­thant adyn. a aberthant cusanant y lloi.

3 Am hynny y byddant fel y boreu gwm­mwl, ac megis y gwlith yr ymedy yn foreu, fel man-us a chwaler gan gorwynt allan o'r llawr dyrnu, ac fel mŵg o'r ffumer.

4 Etto myfi yw 'r Arglwydd dy Dduw, a'th ddug di oEsay. 43.11. Pen. 12.9. dîr yr Aipht: ac ni chei gydnabod Duwonid myfi: ac nid oes iachawdur onid myfi.

5 Mi a'th adnabûm yn y diffaethwch, yn nhir sychdwr mawr.

6 Fel yr oedd eu porfa, y cawsant eu gwala, cawsant eu gwala, a chodasant eu calonnau, ac anghofiasant fi.

7 Ond mi a fyddaf fel llew iddynt, megis llewpard ar y ffordd y disgwiliaf hwynt.

8 Cyfarfyddaf â hwynt fel arth wedi colli ei chenawon, rhwygaf orchudd eu calon hwynt; ac yna fel llew y difaf hwynt; bwyst-fil y maes a'i llarpia hwynt.

9 Oh Israel, tydi a'th ddinistriaist dy hun: ond ynofi y mae Heb. yn dy gym­morth dy gymmorth.

10 Dy frenin fyddaf: pa le y mae arall a'th waredo di yn dy holl ddinasoedd? a'th frawd­wŷr, am y rhai y dywedaist, dyro i mi fre­nin, a thywysogion?

11 Rhoddais it1 Sam. 8.5. & 15.23. & 16.1. frenin yn fy nîg: a dygais ef ymmaith yn fy llid.

12 Rhwymwyd anwiredd Ephraim, cuddi­wyd ei bechod ef.

13 Gofid vn yn escor a ddaw arno; mab anghall yw efe, cynys ni ddylasei efe sefyllHeb. amser. yn hir yn escoreddfa 'r plant.

14 O law, y bedd yr achubaf hwynt: oddi wrth angeu y gwaredaf hwynt;1 Cor. 15.54.55. byddafNeu, blaau. angeu i ti, ô angeu, byddaf drangc i ti y bedd: cuddir edifeirwch o'm golwg.

15 Er ei fod yn ffrwythlon ym mysc ei frodyr, dawEzec. 19.12. gwynt y dwyrain, sef gwynt yr Arglwydd o'r anialwch a dderchafa, a'i ffyn­honnell a sych, a'i ffynnon â yn hesp: efe a yspeilia dryssor pob llestr dymunol.

16 Diffeithir Samaria am ei bod yn anufydd iw Duw; syrthiant ar y cleddyf; eu plant a ddryllir, a'i gwragedd beichiogion a rwygir.

PEN. XIV.

1 Annog i edifeirwch. 4 Addewid o fendithion Duw.

YMchwel Israel at yr Arglwydd dy Dduw; canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd.

2 Cymmerwch eiriau gyd â chwi, a dych­welwch at yr Arglwydd, dywedwch wrtho, maddeu yr holl anwiredd;Neu, dyro ddaiont. derbyn ni yn ddaionus, a thalwn it Heb. 13.15. loi ein gwefusau.

3 Ni all Assur ein hachub ni, ni farchogwn ar feirch, ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo, ô ein duwiau, o herwydd ynot ti y caiff yr ymddifad drugaredd.

4 Meddiginiaethaf eu hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn rhâd, canys trôdd fy nig oddi wrtho.

5 Byddaf fel gwlith i Israel; efe aNeu. dardda. flodeua fel y lili, ac aHeb. dery. leda ei wraidd megis Libanus.

6 Ei geingciau aNeu, ymwas­carant. gerddant, a bydd ei deg­wch fel yr oliwydden, a'i arogl fel Libanus.

7 Y rhai a arhosant dan ei gyscod ef a ddychwelant, adfywiant fel ŷd,Neu, tarddant. blodeuant hefyd fel y win-wŷdden, bydd eiNeu, arogl. goffad­wriaeth fel gwin Libanus.

8 Ephraim a ddywaid, beth fydd i mi mwyach a wnelwyf ag eulynnod? gwran­dewais, ac edrychais arno: myfi sydd fel ffyn­nid-wydden îr; o honofi y ceir dy ffrwyth di.

9 Pwy sydd ddoeth, ac efe a ddeall hyn, a deallgar, ac efe a'i gwybydd: canys vniawn yw ffyrdd yr Arglwydd, a'r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt: ond y troseddwyr a dram­gwyddant ynddynt.

¶LLYFR JOEL.

PENOD I.

1 Joel yn datean amryw farnedigaethau Duw, ac yn annog i ddal arnynt, 8 ac i alaru: 14 Yn gosod ympryd i gwynfan.

GAir yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Joel fab Pethuel.

2 Grandewch hyn chwi henur­iaid, a rhoddwch glust holl drigol­ion y wlâd: a fu hyn yn eich dyddiau; i eu yn nyddiau eich tadau?

3 Mynegwch hyn i'ch plant, a'ch plant iw plant hwythau, a'i plant hwythau i genhed­laeth arall.

4 Gweddill y lindys a fwyttaodd y ceiliog rhedyn, a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd prŷf y rhwd, ag weddill prŷf y rhwd a yssodd y locust.

5 Deffrowch fedd-wŷr, ac ŵylwch, ac vdwch holl yf-wŷr gwîn, am y gwin newydd; canys torrwyd ef oddi wrth eich mîn.

6 O herwydd cenhedlaeth grêf anifeiriol a ddaeth i fynu ar fy nhîr, dannedd llew yw ei dannedd, a chil-ddannedd hen lew sydd iddi.

7 Gosododd fy ngwinwydden yn ddifrod, a'm ffigys-brenHeb. yn ddi­riscliad. a ddirisclodd, gan ddinoethi dinoethodd hi, a thaflodd hi ymmaith, ei changau a wynnasant.

8 Vda fel gwyryf wedi ymwregysu mewn sach-liain, am briod ei hieuengtid.

9 Torrwyd oddi wrth dŷ 'r Arglwydd yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod: y mae 'r offeiriaid, gwenidogion yr Arglwydd, yn galaru.

10 Difrodwyd y maes, y ddaiar a alara; canys gwnaethpwyd difrawd ar yr ŷd,Neu, cywily­ddiodd. sy­chodd y gwîn newydd, llescaodd yr olew.

11 Cywilyddiwch y llafur-wŷr, vdwch y gwinwydd-wŷr, am y gwenith, ac am yr haidd: canys darfu am gynhaiaf y maes.

12 Gwywodd y win-wydden, llescaodd y ffigys-bren, y pren pomgranat, y balm-wydden hefyd, a'r afallen, a holl brennau y maes, a wywasant: am wywo llawenydd oddi wrth feibion dynion.

13 Ymwregyswch a griddfenwch chwi offeiriaid, vdwch wenidogion yr allor; deuwch wenidogion fy Nuw, gorweddwch ar hyd y nos mewn sach-liain, canys attelir oddi wrth dŷ eich Duw yr offrwm bwyd, a'r offrwm diod.

14Pen. 2.15 Cyssegrwch ympryd, gelwchNeu, ddydd gwahar­ddlad gym­manfa, cesclwch yr henuriaid, a holl drigolion y wlad, i dŷ 'r Arglwydd eich Duw, a gwae­ddwch ar yr Arglwydd.

15 Och o'r diwrnod, canysEsai. 13.6. dydd yr Ar­glwydd sydd yn agos, ac fel difrod oddiwrth yr Holl-alluawg y daw.

16 Oni thorrwyd yngŵyddEich. ein llygaid ni oddi wrth dŷ ein Duw, y bwyd, y llawenydd, a'r digrifwch?

17 PydroddHeb. y grawn. yr hâdau dan eu priddellau, yr yscuboriau a anrheithiwyd, yr yd-lannau a fwriwyd i lawr, canys yr ŷd a wywodd.

18 Oh o'r griddfan y mae 'r anifeiliaid! y mae yn gyfyng ar y minteioedd gwaithec, am nad oes borfa iddynt; y diadellau defaid hefyd a anrheithiwyd.

19 Arnat ti Arglwydd y llefaf, canys y tân a ddifaoddNeu, drigfe­ydd. borfeydd yr anialwch, yr fflam a oddeithiodd holl breniau y maes.

20 Anifeiliaid y maes hefyd sydd yn brefu arnat, canys sychodd y ffrydiau dwfr, a'r tân a yssodd borfeydd yr anialwch.

PEN. II.

1 Y mae yn dangos i Sion mor ofnadwy ydyw barnedigaethau Duw; 12 Yn annog i edifeirwch; 15 yn gorchymmyn ympryd: 18 ac yn addaw bendith arno. 21 Y mae yn cyssuro Sion â bendithion presennol, 28 ac â rhai a ddeuai.

CEnwch yr vdcorn yn Sion, a bloeddiwch arfynydd fy sancteiddrwydd: dychryned holl bresswyl-wŷr y wlâd; canys daeth dydd yr Arglwydd, canys y mae yn agos.

2 Diwrnod tywyll du, diwrnod cwmmyloc, a niwloc, fel y wawr wedi ymwascaru ar y mynyddoedd: pobl fawr a chryfion, ni bu ei fâth er ioed, ac ni bydd eilwaith ar ei ôl, hyd flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth.

3 O'i flaen y difa y tân, ac ar ei ôl y fflam, mae 'r wlad o'i flaen fel gardd baradwys, ac ar ei ôl yn ddiffaethwch anrheithiedic; a hefyd ni ddiangc dim ganddo.

4 Yr olwg arno sydd megis golwg o feirch, ac fel marchogion, felly y rhedant.

5 Megis sŵn cerbydau ar bennau y myny­ddoedd y llammant, fel sŵn tân yssol yn difa y sofl, ac fel pobl gryfion wedi ymosod i ryfel.

6 O'i flaen yr ofna y bobl,Nahum. 2.10. pob wyneb a gascl barddu.

7 Rhedant fel glewion, dringant y mûr fel rhyfelwyr, a cherddant bob vn yn ei ffordd ei hun, ac ni wyrant oddiar eu llwybrau.

8 Ni wthiant y naill y llall; cerddant bob vn ei lwybr ei hun: ac er eu syrthio ar yNeu, gwayw. cleddyf, nid archollir hwynt.

9 Gwibiant ar hyd y ddinas; rhedant ar y mûr; dringant i'r tai, ânt i mewn trwy 'r ffenestri, fel lleidr.

10 O'i flaen ef y crŷn y ddaiar, y nefoedd a gynnhyrfir,Esay. 13.10. Ezec. 32.7. Matth. 24.29. vers. 31. yr haul a'r lleuad a dywyllir, a'r sêr a attaliant eu llewyrch.

11 A'r Arglwydd a rydd ei lêf o flaen ei lû, canys mawr iawn yw ei werssyll ef, canys cryf yw 'r hwn sydd yn gwneuthur ei air ef,Jere. 30.7. & 39.5. Amos 5.18. Zeph. 1.15. o herwydd mawr yw dydd yr Arglwydd, ac ofnadwy iawn; a phwy a'i herys?

12 Ond yr awr hon, medd yr Arglwydd,Jer. 4.1. dychwelwch attafi â'ch holl galon, ag ympryd hefyd, ac ag ŵylofain, ac â galar.

13 A rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw: o herwyddExod. 34.6. Psal 86.5. Jonah. 4.2. graslawn, a thrtigarog yw ese, hwyrfrydic i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.

14Jonah 3.9. Pwy a ŵyr a drŷ efe, ac edifarhau, a gweddill bendith ar ei ôl, sef bwyd offrwm, a diod offrwm i'r Arglwydd eich Duw?

15 Cenwch vdcorn yn Sion,Pen. 1.14. cyssegrwch ympryd, gelwch gymmanfa:

16 Cesclwch y bobl; cyssegrwch y gyn­nulleidfa: cynhullwch yr henuriaid; cesclwch y plant, a'r rhai yn sugno bronnau: deued y priod-fab allan o'i stafell, a'r briod-ferch allan o stafell ei gwely:

17 Wyled yr offeiriaid, gwenidogion yr Arglwydd, rhwng y porth a'r allor, a dywe­dant; arbed dy bobl ô Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth;Neu, iw gwat­wor o'r cenhed­loedd. i lywodraethu o'r cenhedloedd arnynt;Psal. 79.10. & 42.10. & 115.2. pa ham y dywedent ym mhlith y bobloedd, pa le y mae eu Duw hwynt?

18 Yna 'r Arglwydd a eiddigedda am ei dîr; ac a arbed ei bobl.

19 A'r Arglwydd a ettyb, ac a ddywed wrth ei bobl; wele fi vn anfon i chwi ŷd, a gwîn, ac olew, a diwellir chwi o honaw; ac ni wnaf chwi mwyach yn wradwydd ym mysc y cenhedloedd.

20 Eithr bwriaf yn bell oddi wrthych y gog­ledd-lu, a gyrraf ef i dir sych diffaeth, a'i wyneb tua môr y dwyrain, a'i ben ôl tua 'r môr eithaf, a'i ddrewi a gyfyd, a'i ddryg-fawr a â i fynu, am iddoHeb. fawrygu gneuthur. wneuthur mawrhydri.

21 Nac ofna di ddaiar, gorfoledda, a llawe­nycha; canys yr Arglwydd a wna fawredd.

22 Nac ofnwch, anifeiliaid y maes, canys tarddu y mae porfeydd yr anialwch: canys y pren a ddwg ei ffrwyth, y ffigys-bren, a'r win-wydden, a roddant eu cnwd.

23 Chwithau plant Sion, gorfoleddwch, ac ymlawenhewch yn yr Arglwydd eich Duw: canysDeut. 11.14 Lefit. 26.14. efe a roddes i chwiNeu, athraw cyfiawn­der. y cyn­har-lawHeb. yn ol cyfiawn­der. yn gymmedrol, ac a wna i'r cyn­har-law, a'r diweddar-law ddescyn i chwi yn y mîs cyntaf.

24 A'r scuboriau a lenwir o ŷd, a'r gwîn newydd, a'r olew, â tros y llestri.

25 A mi a dalaf i chwi y blynyddoedd a ddifaodd y ceiliog rhedyn, prŷf y rhwd, a'r locust, a'r lindys, fy llu mawr i, yr hwn a anfonais yn eich plith.

26 Yna y bwyttewch, gan fwytta ac ymddi­goni; ac y moliennwch enw 'r Arglwydd eich Duw, yr hwn a wnaeth â chwi yn rhyfedd; ac ni wradwyddir fy mhobl byth.

27 A chewch ŵybod fy mod i ynghanol Is­rael, ac mai myfi yw yr Arglwydd [...]ich Duw, ac [Page] nid neb arall: a'm pobl ni's gwradwyddir byth.

28 A bydd ar ôl hynnyEsai. 44.3. Acts [...].17. y tywalltaf fy Yspryd ar bob cnawd, a'ch meibion, a'ch merched a brophwydant, eich henuriaid a welant freuddwydion, eich gwŷr ieuaingc a welant weledigaethau;

29 Ac ar y gweision hefyd, ac ar y mor­wynion y tywalltaf fy Yspryd, yn y dyddiau hynny.

30 A gwnaf ryfeddodau yn y nefoedd, ac yn y ddaiar, gwaed, a thân, a cholofnau mwg.

31Esai. 13.10. Joel 2.10. & Pen. 3.15. Yr haul a droir yn dywyllwch, a'r llenad yn waed, o flaen dyfod mawr, ac ofnad­wy ddydd yr Arglwydd.

32 A bydd yrRhuf. 10.13. achubir pob vn a alwo ar enw 'r Arglwydd: canys bydd ymwared, fel y dywedodd yr Arglwydd, ym mynydd Sion, ac yn Jerusalem, ac yn y gweddillion a alwo 'r Arglwydd.

PEN. III.

1 Barnedigaethau Duw yn erbyn gelynion ei bobl: 9 Ac y bydd rhaid ei adnabod ef yn ei farne­digaeth. 18 Ei fendithion ef ar yr Eglwys.

CAnys wele yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, pan ddychwelwyf gaeth­iwed Juda, a Jerusalem,

2 Casclaf hefyd yr holl genhedloedd, a dy­gaf hwynt i wared i ddyffryn Jehoshaphat, a dadleuaf a hwynt yno dros fy mhobl, a'm he­tiseddiaeth Israel, y rhai a wascarasant hwy ym mysc y cenhedloedd, a rhannasant fy nhîr.

3 Ac ar fy mhobl y bwriasant goel-brennau, a rhoddasant y bachgen er puttain, a gwertha­sant fachgennes er gwîn, fel yr yfent.

4 Tyrus hefyd, a Sidon, a holl ardaloedd Palestina, beth sydd i chwi a wneloch â mi? a delwch i mi y pwyth? ac os telwch i mi, buan iawn y dychwelaf eich tâl ar eich pen eich hunain.

5 Am i chwi gymmeryd fy arian a'm haur, a dwyn i'ch temlau fy nhlyssauNeu, hyfryd. dymunol.

6 Gwerthasoch hefyd feibion Juda, a meib­ion Jerusalem i'r Groegiaid; iw pellhau oddi wrth eu hardaloedd.

7 Wele mi a'i codaf hwynt o'r lle y gwerthasoch hwynt iddo; ac a ddatroaf eich tâl ar eich pen eich hunain.

8 A minneu a werthaf eich meibion, a'ch merched i law meibion Juda, a hwythau a'i gwerthant i'r Sabeaid, i genhedl o bell; canys yr Arglwydd a lefarodd hyn.

9 Cyhoeddwch hyn ym mysc y cenhed­loedd,Heb. Cyssegr­wch, neu sanctei­ddiwch. gosodwch ryfel, deffrowch y gwŷr cryfion, nesaed y gwŷr o ryfel, deuant i fynu.

10Esay 1.4. Gyrrwch eich sychau yn gleddyfau, a'chNeu, crym­manau. pladuriau yn wayw-ffyn: dyweded y llesc, crŷf ydwyf.

11 Ymgesclwch, a deuwch y cenhedloedd o amgylch ogylch, ac ymgynhullwch:Neu, yno y dis­cyn yr Argl. yno descyn, ô Arglwydd, dy gedyrn.

12 Deffroed y cenhedloedd, a deuant i fynu i ddyffryn Jehosaphat: o herwydd yno 'r ei­steddaf i farnu 'r holl genhedloedd o amgylch.

13Datc. 14.15. Rhowch i mewn y crymman, canys addfedodd y cynhaiaf; deuwch, ewch i wared, o herwydd y gwrŷf a lanwodd, a'r gwasc­gafnau a aethant trosodd, am amlhau eu dryg­ioni hwynt.

14 Torfeydd, torfeydd, a fydd ynglynnNeu, drylliad, neu, dyr­niad. terfyniad: canys agos yw dydd yr Ar­glwydd ynglynn terfyniad.

15Pen. 2.31. Yr haul, a'r lloer a dywyllant, a'r sêr a attaliant eu llewyrch.

16 A'r Arglwydd aJer. 25.30. Amos 1.2. rua o Sion, ac a rydd ei lêf o Jerusalem, y nefoedd hefyd, a'r ddaiar a grynant; ond yr Arglwydd fydd Heb. cyrchfa, neu, nodd­fa. gobaith ei bobl, a chadernid meibion Israel.

17 Felly y cewch ŵybod mai myfi yw 'r Arglwydd eich Duw, yn trigo yn Sion fy mynydd sanctaidd: yna y bydd Jerusalem ynHeb. sanctei­ddrwydd. sanctaidd, acDatc. 21.27. nid â diethriaid trwyddi mwyach.

18 A'r dydd hwnnw y bydd i'r mynydd­oeddAmos 9.13. ddefnynnu melyf-wîn, a'r bryniau a lif­eiriant o laeth, a holl ffrydiau Juda aHeb. gerddant. redant gan ddwfr, aEzec. 47.1. ffynnon a ddaw allan o dŷ 'r Arglwydd, ac a ddyfrhâ ddyffryn Sittim.

19 Yr Aipht a fydd anghyfannedd, ac Edom fydd anialwch anghyfanneddol, am y traha yn erbyn meibion Juda, am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu tir hwynt.

20 Etto Juda aNeu, a erys. drig byth, a Jerusalem o genhedlaeth i genhedlaeth.

21 Canys glanhâf waed y rhai ni's glan­heais;Neu, ie myfi yr Arglwydd yr hwn sydd &c. canys yr Arglwydd sydd yn trigo yn Sion.

¶LLYFR AMOS.

PENNOD I.

1 Amos yn dangos barnedigaethau Duw ar Syria, 6 ac ar y Philistiaid, 9 ac ar Tyrus, 11 ac ar Edom, 13 ac ar Ammon.

GEiriau Amos (yr hwn oedd ym mysc bugeiliaid Tecoa) y rhai a welodd efe am Israel, yn nyddiau Vzziah brenin Juda, ac yn nyddiau Jero­boam fab Joas brenin Israel, ddwy flynedd o f [...]aen yZech. 14.5. ddaiar-gryn.

2 Ac efe a ddywedodd,Jer. 25 30. Joel 3.16. yr A [...]glwydd a rua o Sion, ac a rydd ei lêf o Jerusalem; a chyfanneddau y bugeiliaid a alarant, a phen Carmel a wywa.

3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, o her­wydd tair o anwireddau Damascus, ac o her­wydd pedair, ni'sNeu, dy [...]hwelaf ef, neu, llonyddaf ef, fe [...]ly [...]ers. 6, &c. trôf ymaith ei chasp hi, am iddynt ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o heirn.

4 Ond anfonaf dân i dŷ Hazael, ac efe a ddifa balasau Benhadad.

5 Drylliaf drossol Damascus, a thorraf ymaith y presswylwr oNeu, Bicath-Afen. ddyffryn Afen, a'r hwn sy'n dal teyrn-wialenNeu, a Beth E­den. o dŷ Eden; a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir, medd yr Ar­glwydd.

6 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, am dair o anwireddau2 Cron. 28.8. Gaza, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chospi hi, am iddynt gaeth-gludoNeu, a chaethi­wed gyf­lawn. y gaethiwed gyflawn, iw r [...] i fynu i Edom.

7 Eithr anfonaf dân ar fûr Gaza; ac efe a ddifa ei phalasau hi.

8 Ac mi a dorraf y presswyl-wr o Asdod; a'r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascelon, a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr Arglwydd Dduw.

9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf [Page] ymaith ei chosp hi: o herwydd iddynt hwy roddi i fynu gwbl o'r gaethiwed i Edom; ac na chofiasantHeb. gy­fammod frodyr. y cyfammod brawdol.

10 Eithr anfonaf dân i fûr Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi.

11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, am dair o anwireddau Edom, ac am bedair ni throaf ymaith ei chosp hi, am iddo erlid ei frawd â'r cleddyf, aNeu, bwrw ymaith bob tostu­ri. llygru ei drugaredd, a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol, a'i fod yn cadw ei lid yn dragywyddol.

12 Eithr anfonaf dan i Teman, yr hwn a ddifa balasau Bozrah.

13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, am dair o anwireddau meibion Ammon, ac am be­dair, ni throaf ymaith ei chosp hi; am iddynt hwy rwygoNeu, mynydd­oedd Gi­lead. gwragedd beichiogion Gilead, er mwyn helaethu eu terfynau.

14 Eithr cynneuaf dân ym mur Rabbah, ac efe a ddifa ei phalasau gydâ gwaedd, ar ddydd y rhyfel, gydâ themhestl, ar ddydd corwynt.

15 A'i brenin â yn gaeth, efe a'i bennaeth­iaid ynghŷd; medd yr Arglwydd.

PEN. II,

1 Digofaint Duw yn erbyn Moab, 4 ac ar Juda, 6 ac ar Israel. 9 Duw yn achwyn rhag eu hanniolchgarwch hwy.

FEl hyn y dywed yr Arglwydd, am dair o anwireddau Moab, ac am bedair, ni throaf ymmaith ei chosp hi, am iddo2 Bren. 3.27. losci escyrn brenin Edom yn galch.

2 Eithr anfonaf dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a Moab fydd marw mewn terfysc, gweiddi, a llais vdcorn.

3 Ac mi a dorraf ymmaith y barn-wr o'i chanoi hi, a'i holl bendefigion aladdaf gyd ag ef, medd yr Arglwydd.

4 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, am dair o anwireddau Juda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosp hi; am iddynt ddirmygu cyf­raith yr Arglwydd, ac na's cadwasant ei ddeddfau ef: a'i celwyddau a'i cyfeiliornodd hwynt, y rhai 'r aeth eu tadau ar eu hôl.

5 Eithr anfonaf dân i Juda, ac efe a ddifa balasoedd Jerusalem.

6 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, am dair o anwireddau Israel, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosp hi; am iddyntPen. 8.6. wer­thu y cyfiawn am arian, a'r tlawd er pâr o escidiau.

7 Y rhai a ddyheuant ar ol llwch y ddaiar ar ben y tlodion; ac a ŵyrant ffordd y go­styngedig: a gŵr, a'i dad â at yr vn llangces, i halogi fy enw sanctaidd.

8 Ac ar ddillad wedi eu rhoi yngŵystl y gorweddant wrth bob allor; a gwinNeu, y rhai a [...]ondem­nwyd. y dir­wyol a yfant yn nhŷ eu Duw.

9 Etto myfi a ddinistriais yrNum. 21.24. Deut. 2.31. Jos. 24.8. Amoriad o'i blaen hwynt, yr hwn yr oedd ei vchder fel vchder y cedr-wŷdd, ac efe oedd gryf fel derw; etto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd, a'i wraidd oddi tanodd.

10 Myfi hefyd a'ch dugym chwi i fynu o wladExod. 12.51. yr Aipht, ac a'ch a [...]einiais chwi ddeugain mhlynedd trwy 'r anialwch, i fedd­iannu gwlad yr Amoriad.

11 A mi a gyfodais o'ch meibion chwi rai yn brophwydi, ac o'ch gwŷr ieuaingc rai yn Nazareaid: oni bu hyn, ô meibion Israel, medd yr Arglwydd?

12 Ond chwi a roesoch i'ch Nazareaid wîn iw vfed, ac a orchymynnasoch i'ch prophwydi,Pen. 7.12.13. gan ddywedyd; na phrophwydwch.

13 WeleNeu, gwascaf eich lle chwi fel y cwasc menn lawn o yscabau. fi wedi fy llethu tanoch, fel y llethir y fen lawn o yscubau.

14 A metha gan y buan ddiangc, a'r crŷf ni chadarnhâ ei rym, a'r cadarn ni wared eiNeu, enioes. enaid ei nun.

15 Ni saif a ddalio y bŵa, ni ddiangc y buan o draed, nid achub marchog march ei enioes ei hun.

16 A'r cryfaf ei galon o'r cedyrn a ffŷ y dwthwn hwnnw yn noeth-lymmun, medd yr Arglwydd.

PEN. III.

1 Mor anghenrhaid yw barnedigaethau Duw yn erbyn Israel. 9 Cyhoeddi hynny, a'i achos hefyd.

GWrandewch y gair a lefarodd yr Ar­glwydd i'ch erbyn chwi, plant Israel; yn erbyn yr holl deulu a ddugym i i fynu o wlâd yr Aipht, gan ddywedyd;

2 Chwi yn vnic a adnabûm o holl deulu­oedd y ddaiar: am hynny ymwelaf â chwi am eich holl anwireddau.

3 A rodia dau ynghyd, heb fod yn gyttûn?

4 A rua y llew yn y goedwic, heb ganddo ysclyfaeth?Heb. a rydd y c [...]n [...]w llew ei lais? a leisia cenew llew o'i ffau, heb ddal dim?

5 A syrth yr aderyn yn y fagl ar y ddaiar, heb fod crog-lath iddo? a gyfyd vn y fagl oddi ar y ddaiar heb ddal dim?

6 A genir vdcorn yn y ddinas hebNeu, redeg o'r bobl yng­hyd. ddych­rynu o'r bobl? a tydd niwed yn y ddinasNeu, ac oni wna 'r Arglwydd rywbeth? heb i'r Arglwydd ei wneuthur?

7 Canys ni wna yr Arglwydd ddim, a'r na's dangoso ei gyfrinach iw weision y prophwydi.

8 Rhuodd y llew, pwy nid ofna? yr Ar­glwydd lor a lefarodd, pwy ni phrophwyda?

9 Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod; ac yn y palasau yngwlad yr Aipht, a dywed­wch, deuwch ynghyd ar fynyddoedd Samaria, a gwelwch derfyscoedd lawer o'i mewn, a'r gorthrymmedigion yn ei chanol hi.

10 Canys ni fedrant wneuthur vniondeb, medd yr Arglwydd: pentyrru y maent drais, acNeu. anrhaith. yspail yn eu palasau.

11 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, gelyn fydd o amgylch y tir; ac efe a dynn i lawr dy nerth oddi wrthit, a'th balasoedd a yspeilir.

12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, fel yr achub y bugail o safn y llew, y ddwy goes, neu ddarn o glust; felly 'r achubir meibion Israel y rhai sydd yn trigo yn Samaria mewn cwrr gwely,Neu, ac yn nhraed y gwely. ac yn Damascus mewn gorweddie.

13 Gwrandewch a thystiolaethwch yn nhŷ Jacob, medd yr Arglwydd Dduw, Duw y lluoedd,

14 Mai y dyddNeu, y cofpaf Israel am anwiredd. yr ymwelaf ag anwiredd Israel arno ef, y gofwyaf hefyd allorau Bethel: a chyrn yr allor a dorrir, ac a syrthiant i'r llawr.

15 A mi a darawaf y gaiaf-dŷ, a'r haf-dy, a derfydd am y tai Ifori; a bydd diben ar y teiau mawrion, medd yr Arglwydd.

PEN. IV.

1 Y mae yn ceryddu Israel am eu trais, 4 a'i delw-addoliaeth, 6 ac am nad oeddynt yn gwellhau wrth eu ceryddu.

GWrandewch y gair hwn, gwartheg Basan, y rhai ydych ym mynydd Samaria, y rhai ydych yn gorthrymmu y tlawd, yn yssigo 'r anghenog, yn dywedyd wrth eu meistred, Dygwch, ac yfwn.

2 Tyngodd yr Arglwydd Dduw iw sa nct­eiddrwydd, y daw wele, y dyddiau arnoch, y dŵg efe chwi ymmaith â drain, a'ch hilio­gaeth â bachau pyscotta.

3 A chwi ewch allan i'r adwyau, bob vn ar ei chyfer, a chwiNeu, a a [...]flwch ymaith bethau 'r palas. a'i teflwch hwynt i'r palâs, medd yr Arglwydd.

4 Deuwch i Bethel a throsseddwch, i Gil­gal a throsseddwch fwy-fwy, dygwch bob boren eich aberthau, a'ch degymmauDeut. 14.28. wedi tair blynedd o ddyddiau.

5 AcHeb. llosc­aberth­wch. offrymmwchLevit. 7.13. o surdoes aberth diolch, cyhoeddwch ac yspyswch aberthau gwir-fodd; canysHeb. felly yr hoffwch. hyn a hoffwch meibion Israel, medd yr Arglwydd Dduw.

6 A rhoddais iwch lendid dannedd yn eich holl ddinasoedd, ac eisieu bara yn eich holl leoedd; etto ni ddychwelasoch atafi, medd yr Arglwydd.

7 Myfi hefyd a atteliais y glaw rhagoch, pan oedd etto dri mîs hyd y cynhaiaf, glawiais he­fyd ar vn ddinas, ac ni lawiais ar ddinas arall; vn rhan a gafodd law, a'r rhan ni chafodd law a wywodd.

8 Gwibiodd dwy ddinas neu dair, i vn ddi­nas i yfed dwfr, ond ni's diwallwyd; etto ni ddychwelasoch attafi, medd yr Arglwydd.

9 Tarewais chwi â diflanniad, ac â mallder;Neu, amlair eich ger­ddi &c. a yssodd y lindys. pan amlhaodd eich gerddi, a'ch gwinllan­noedd, a'ch ffigyswydd, a'ch oliwydd, y lindys a'i hyssodd: etto ni throesoch attafi, medd yr Arglwydd.

10 Anfonais yr haint yn eich mysg, megisNeu, ar ddull. yn fforddExod. 9.10. yr Aipht; eich gwŷr ieuaingc a leddais â'r cleddyf, gyd âHeb. caeth­glud. chaeth-gludo eich meirch: a chodais ddrewi eich gwerssylloedd i'ch ffroenau; etto ni throesoch attafi, medd yr Arglwydd.

11 Mi a ddymchwelais rai o honoch, fel yr ymchwelodd DuwGene. 19.24.25. Sodoma, a Gomorrah, ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei achub o'r gynneu dân: etto ni throesoch attafi, medd yr Arglwydd.

12 O herwydd hynny, yn y modd ymma y gwnafi ti Israel, ac o herwydd mai hyn a wnaf it, bydd barod Israel i gyfarfod â'th Dduw.

13 Canys wele, lluniwr y mynyddoedd, a chreawdrNeu, yr Yspryd. y gwynt, yr hwn a fynega i ddyn beth yw ei feddwl, ac a wna y boreu yn dy­wyllwch, ac a gerdd ar vchelderau 'r ddaiar, yr Arglwydd, Duw y lluoedd, yw ei enw.

PEN. V.

1 Cwynfan tros Israel. 4 Annog i edifeirwch. 21 Duw yn gwrthod eu rhagrithiol wasanaeth hwy.

GWrandewch y gair hwn, a godaf i'ch er­byn, sef galar-nâd, ô dŷ Israel.

2 Y wyryf Israel a syrthiodd, ni chyfyd mwy: gadawyd hi ar ei thîr, nid oes a'i cyfyd.

3 Canys y modd hyn y dywed yr Ar­glwydd Dduw, y ddinas a aeth allan â mîl, a weddill gant, a'r hon a aeth allan ar ei chanfed, a weddill ddêc i dŷ Israel.

4 O herwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth dŷ Israel, ceisiwch fi, a byw fyddwch.

5 Ond nac ymgeisiwch âPen. 3.4. Bethel, ac nac ewch i Gilgal, ac na thramwywch i Beerseba: o herwydd gan gaeth-gludo y caeth-gludir Gil­gal, a Bethel a sydd yn ddiddim.

6 Ceisiwch yr Arglwydd a byw fyddwch, rhac iddo dorri allan yn nhŷ Joseph fel tân, a'i ddifa, ac na byddo a'i diffoddo yn Bethel.

7 Y rhai a drowch farn yn wermod, ac a adewch gyfiawnder ar y llawr,

8 Ceisiwch yr hwn aJob 9.9. & 38.31. wnaeth y saith seren, ac Orîon, ac a drŷ gyscod angeu yn foreu­ddydd, ac a dywylla y dydd yn nôs:Pen. 9.6. yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac a'i tywallt ar wyneb y ddaiar: yr Arglwydd yw ei enw.

9 Yr hwn sydd yn nerthu yrHeb. yr anrhaith. anrheithiedig yn erbyn y cryf: fel y delo yr anrheithiedig yn erbyn yr amddiffynfa.

10 Câs ganddynt a geryddo yn y porth; a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith.

11 O herwydd hynny am iwch sathru y tlawd, a dwyn y beichiau gwenith oddi arno,Zeph. 1.13. chwi a adeiladasoch dai o gerric nâdd, ond ni thrigwch ynddynt: plannasoch winllan-noeddHeb. dy­muniant. hyfryd, ac nid yfwch eu gwîn hwynt.

12 Canys mi a adwen eich anwireddau lawer, a'ch pechodau cryfion: y maent yn bli­no y cyfiawn, yn cymmerydNeu, gwobr. iawn, ac yn troi heibio y tlawd yn y porth.

13 Am hynny y neb a fyddo call a ostega 'r amser hwnnw, canys amser drwg yw.

14 Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni, fel y byddoch fyw, ac felly yr Arglwydd, Duw y lluoedd, fydd gyd â chwi, fel y dywedasoch.

15Psal. 34.14. & 97.10. Rhuf. 12.9. Casewch ddrygioni, a hoffwch ddaioni, a gosodwch farn yn y porth: fe allei y bydd Arglwydd Dduw y lluoedd yn raslawn i weddill Joseph.

16 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, Duw y lluoedd, yr Arglwydd; ym mhob heol y bydd cwynfan, ac ym mhob pri­ffordd y dywedant, oh, oh, a galwant yr arddwr i alaru, a'r neb a fedro alaru i gwynfan.

17 Ac ym mhob gwinllan y bydd cwynfan: canys tramwyaf trwy dy ganol di, medd yr Arglwydd.

18Esay 5.19. Jer. 30.7. Joel. 2.2. Zeph. 1.15. Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr Arglwydd; beth yw hwnnw i chwi? tywyll­wch ac nid goleuni yw dydd yr Arglwydd.

19 Megis pe ffoei gŵr rhag llew, ac arth yn cyfarfod ag ef, a myned i'r tŷ, a phwyso ei law ar y pared, a'i frathu o sarph.

20 Oni bydd dydd yr Arglwydd yn dy­wyllwch, ac nid yn oleuni? yn dywyll iawn, ac heb lewyrch ynddo?

21Esay 1.11. Jer. 6.20. Caseais, a ffieiddiais eich gwyliau, ac nid aroglafNeu, eich vch­el-wyl­iau. yn eich cymmanfaoedd.

22 Canys er i chwi offrymmu i mi boeth offrymmau, a'ch offrymmau bwyd, ni fyddaf fodlon iddynt; ac nid edrychaf arNeu, offrwm diolch. hedd offrwm eich pascedigion.

23 Symmud oddi wrthif drwst dy ganiadau: canys ni wrandawaf buroriaeth dy nablau.

24 OndHeb. ymdrei­gled. rheded barn fel dyfroedd, a chyf­iawnder fel ffrŵd grêf.

25Act. 7.42. A offrymmasoch chwi i mi aberthau, a bwyd offrymmau, yn y diffaethwch ddeu­gain mlhynedd, tŷ Israel?

26 Ond dygasochSiccuth eich bre­nin. Babell eich Moloch, Chiwn eich delwau, seren eich duw, a wnaethoch iwch eich hunain.

27 Am hynny y caeth-gludaf chwi i'r tu hwnt i Ddamascus, medd yr Arglwydd, Duw y lluoedd yw ei enw.

PEN. VI.

1 Y cospir nwysiant Israel 7 ag anghyfannedd­rwydd. 12 Mor anhawdd ganddynt wellhau.

Luc. 6.24. GWae y rhaiNeu, diofal, neu, difraw. esmwyth arnynt yn Sion, ac sydd yn ymddiried ym mynydd Samaria, y [Page] rhai a enwirExod. 19.5. ynNeu, flaen­ffrwyth y. bennaf o'r cenhedloedd; y rhai y daeth tŷ Israel attynt.

2 Tramwywch i Calneh, ac edrychwch, ac ewch oddi yno i Hemath fwyaf; yna discyn­nwch i Gath y Philistiaid; ai gwell ydynt nâ'r teyrnasoedd hyn? ai helaethach eu terfyn hwy nâ'ch terfyn chwi?

3Ezec. 12.27. Y rhai ydych yn pellhau y dyddPen. 5.18. drwg, ac yn nesauNeu, trig-le. eisteddle trais.

4 Gorwedd y maent ar welâu Ifori, acNeu, amlhau mewn gormo­dedd. ymestyn ar eu glythau, a bwyta yr ŵyn o'r praidd, a'r lloi o ganol y cutt.

5 Y rhai aNeu, byngciant ddatcanant gyd â llais y nabl, dychymygasant iddynt eu hun offer cerdd, megis Dafydd.

6 Y rhai a yfantNeu, mewn phi [...]lau gwin. win mewn phiolau, ac a ymîrant â'r ennaint pennaf; ond nid ymofid­iant am ddryllio Joseph.

7 Am hynny 'r awr hon hwy a ddygir yn gaeth gyd â'r cyntaf a ddygir yn gaeth; a gwledd y rhai a ymestynnant a symmudir.

8Jer. 51.14. Tyngodd yr Arglwydd Dduw iddo ei hun, ffiaidd gennif odidowgrwydd Jacob, a chaseais ei balasau, am hynny yrhoddaf i fynu y ddinasHeb. a'i chy­flawnder. ac sydd ynddi, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

9 A bydd os gweddillir mewn vn tŷ ddêc o ddynion, y byddant feirw.

10 Ei ewythr a'i cyfyd i fynu, a'r hwn a'i llŷsc, i ddwyn yr escyrn allan o'r tŷ, ac a ddywed wrth yr hwn a fyddo wrth ystlysau y tŷ, a oes etto neb gyd â thi? ac efe a ddywed, nac oes: yna y dywed yntef,Pen. 5.13. taw, am na wasanaetha cofio enw 'r Arglwydd.

11 O herwydd wele 'r Arglwydd yn gor­chymyn, ac efe a dery y tŷ mawrNeu, a defni. ag agen­nau, a'r tŷ bychan â holltau.

12 A rêd meirch ar y graig? a ardd neb hi ag ychen? canys troesoch farn yn fustl, a ffrwythPen. 5.7. cyfiawnder yn wermod.

13 O chwi y rhai sy'n llawenychu mewn peth diddim, yn dywedyd, ond o'n nerth ein hun y cymmerasom i niHeb. gyrn grysder?

14 Ond wele, mi a gyfodafi'ch erbyn chwi, tŷ Israel, medd Arglwydd Dduw y lluoedd, genhedl; a hwy a'ch cystuddiant chwi, o'r ffordd yr ewch i Hemath, hydNeu, ddyffryn. afon y diff­aethwch.

PEN. VII.

1 Troi heibio farnedigaethau y ceiliogod rhedyn, 4 a'r tân, trwy weddi Amos. 7 Trwy wele­digaeth o fur a llinyn mesur, y dangosir gwrth­odiad Israel. 10 Amaziahyn achwyn ar A­mos. 14 Amos yn dangos ei alwodigaeth ei hun, 16 A barnedigaeth Amaziah.

FEl hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi; ac wele ef yn ffurfioNeu, glas-bry­fed. ceiliogod rhedyn, pan ddechreuodd yr adladd godi, ac wele adladd wedi lladd gwair y brenin oeld.

2 A phan ddarfu iddynt fwytta glaswellt y tîr, yna y dywedais, arbed Arglwydd attolwg,Neu, trwy bwy y cyfyd Jacob? neu, pwy o (neu, tros) Jacob a gyfyd? pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.

3 Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn: ni bydd hyn, eb yr Arglwydd.

4 Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Dduw i mi, ac wele 'r Arglwydd Dduw yn galw iNeu, gynnau. farn trwy dân: a difaodd y tân y dyfnder mawr, ac a yssodd beth.

5 Yna y dywedais, Arglwydd Dduw, paid attolwg, pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.

6 Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn, ni bydd hyn chwaith, eb yr Arglwydd Dduw.

7 Fel hyn y dangosodd efe i mi, ac wele 'r Arglwydd yn sefyll ar gaer a wnaethpwyd wrth linyn, ac yn ei law linyn.

8 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthif, beth a weli di, Amos? a mi a ddywedais, llinyn: a'r Arglwydd a ddywedodd, wele, gosodaf linyn ynghanol fy mhobl Israel, ac ni chwanegaf fy­ned heibio iddynt mwyach.

9 Vchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghy­fannedd, a chyssegrau Israel a ddifethir, a mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â'r cleddyf.

10 Yna Amaziah offeiriad Bethel a anfon­odd at Jeroboam frenin Israel, gan ddywedyd; cydfwriadodd Amos i'th erbyn ynghanol tŷ Israel; ni ddichon y tîr ddwyn ei holl eiriau ef.

11 Canys fel hyn y dywed Amos; Jerobo­am a fydd farw trwy 'r cleddyf, ac Israel a gaeth-gludir yn llwyr allan o'i wlad.

12 Dywedodd Amaziah hefyd wrth Amos, ti weledydd, dôs, ffô ymmaith i wlâd Juda, a bwytta fara yno, a phrophwyda yno.

13 Na chwanega brophwydo yn Bethel mwy, canysNeu, cysse [...]r. cappel y brenin,Heb. ty y fren­hiniaeth yw. a llŷs y brenin yw.

14 Yna Amos a attebodd, ac a ddywedodd wrth Amaziah, nid prophwyd oeddwn i, ac nid mab i brophwyd oeddwn i; namyn bugail oeddwn i, a chascluddNeu, ffrwyth y Sycomor­wydd. ffigys gwylltion.

15 A'r Arglwydd a'm cymmerodd oddi ar ôl y praidd, a'r Arglwydd a ddywedodd wrthif, dôs, a phrophwyda i'm pobl Israel.

16 Yr awr hon gan hynny gwrando air yr Arglwydd, ti a ddywedi, na phrophwyda yn erbyn Israel, acEzec. 21.2. nacHeb. ddef­nynna air. yngan yn erbyn tŷ Isaac.

17Jere. 28.16. & 29.21. Am hynny fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, dy wraig a butteinia yn y ddinas, dy feibion a'th ferched a syrthiant gan y cleddyf; a'th dîr a rennir wrth linyn, a thitheu a fyddi farw mewn tîr halogedic, a chan gaeth-gludo y caeth-gludir Israel allan o'i wlad.

PEN. VIII,

1 Wrth gawell o ffrwythydd hâf y dangosir mor agos yw diwedd Israel. 4 Argybeddi trais a thraha. 11 Bygwth newyn gair Duw.

FEl hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi, ac wele gawelleid o ffrwythydd hâf.

2 Ac efe a ddywedodd, beth a weli di, A­mos? a mi a ddywedais, cawelleid o ffrwyth­ydd hâf. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthif, daeth y diwedd ar fy mhobl Israel, nid âf hebio iddynt mwyach.

3 Caniadau y deml hefydHeb. a vdant. a droir yn vdo ar y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd Dduw: llawer o gelaneddau a fydd ym mhob lle; bwrir hwynt allanHeb. distawa. yn ddistaw.

4 Gwrandewch hyn y sawl ydych yn llyng­cu yr anghenog, i ddifa tlodion y tîr,

5 Gan ddywedyd, pa bryd yr â yNeu, newydd­loer. mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a'r Sabboth, felHeb. yr agorom y dygom allan y gwenith, gan brinhau yr Ephah, a helaethu y Sicl,Heb. a gwyro clorian­nau twyll. ac anghyfiawni y cloriannau drwy dwyll?

6 I brynu y tlawd erPen. 2.6. arian, a'r anghenus er pâr o escidiau, ac i werthu gwehilion y gwenith?

7 Tyngodd yr Arglwydd i ragor-fraint Ja­cob; diau nid anghofiaf byth yr vn o'i gweithredoedd hwynt.

8 Oni chryn y ddaiar am hyn? ac oni alara ei holl bresswyl-wŷr? cyfyd hefyd i gyd fel llif, a bwrir hi ymmaith, a hi a foddir, me­gis gan afon yr Aipht.

9 A'r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd [Page] Dduw, y gwnaf i'r haul fachludo hanner dydd, a thywyllaf y ddaiar liw dydd goleu.

10 Trôf hefyd eich gwyliau yn alar, a'ch holl ganiadau yn oer-nad, dygaf sach-liain ar yr holl lwynau, a moelni ar bôb pen: ac mi a'i gwnaf fel galar am vn-mab, a'i ddiwedd fel dydd chwerw.

11 Wele, y mae dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd Dduw, yr anfonaf newyn i'r tîr, nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, onid am wrando geiriau 'r Arglwydd.

12 A hwy a gyrwydrant o fôr i fôr, ac a wibiant o'r gogledd hyd y dwyrain, i geisio gair yr Arglwydd, ac nis cânt.

13 Y diwrnod hwnnw, y gwyryfon glân, a'r meibion ieuaingc, a ddiffoddant o syched.

14 Y rhai a dyngant i bechod Samaria, ac a ddywedant, byw yw dy Dduw di, ô Dan: a byw yw ffordd Beerseba; hwy a syrthiant, ac ni chodant mwy.

PEN. IX.

1 Mor siccr fydd y dinistr. 11 Adferu Ta­bernacl Dafydd.

GWelais yr Arglwydd yn sefyll ar yr allor, ac efe a ddywedodd, taro gapan y drws, fel y siglo y gorsingau;Neu, ac archolla. a thorr hwynt oll yn y pen: minneu a laddaf y rhai olaf o ho­nynt â'r cleddyf, ni ffy ymaith o honynt a ffô, ac ni ddiangc o honynt a ddiango.

2Psal. 139.8. &c. Pe cloddient hyd vffern, fy llaw a'i tyn­nei hwynt oddi yno, a phe dringent i'r nefo­edd, mi a'i descynnwn hwynt oddi yno:

3 A phe llechent ar ben Carmel, chwiliwn a chymmerwn hwynt oddi yno; a phe ym­guddient o'm golwg yngwaelod y môr, oddi yno y gorchymynnaf i'r sarph eu brathu hwynt.

4 Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion, oddi yno y gorchymynnaf i'r cleddyf, ac efe a'i lladd hwynt: aJere. 44.11. gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn, er drwg, ac nid er da iddynt.

5 Ac Arglwydd Dduw y lluoedd a gyffwrdd â'r ddaiar, a hi a dawdd; a galara pawb a'r a drig ynddi, a hi a gyfyd oll fel llifeiriant, ac a foddir megis gan afon yr Aipht.

6 Yr hwn a adeiladaPsal. 104.3. ei escynfeydd yn y nefoedd, ac a sylfaenodd eiNeu, yscub. fintai ar y ddaiar, yr hwn aPen. 5.8. eilw ddyfroedd y môr, ac a'i tywallt ar wyneb y ddaiar; yr Arglwydd yw ei enw.

7 Onid ydych chwi meibion Israel i mi fel meibion yr Ethiopiaid, medd yr Arglwydd? oni ddygais i fynu feibion Israel allan o dîr yr Aipht, a'rJere. 47.4. Philistiaid o Caphtor, a'r Syriaid o Cir?

8 Wele lygaid yr Arglwydd ar y deyrnas bechadurus, ac mi a'i difethaf oddi ar wyneb y ddaiar: ond na lwyr ddifethaf dŷ Jacob, medd yr Arglwydd.

9 Canys wele, myfi a orchymynnaf, ac aHeb. gyhw­fanaf. ogrynnaf dŷ Israel, ym mysc yr holl genhed­loedd; fel y gogrynnir ŷd mewn gogr; ac ni syrthHeb. graienyn i'r llawr. y gronyn lleiaf i'r llawr.

10 Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw gan y cleddyf, y rhai a ddywedant, ni oddiwes drwg ni, ac ni achub ein blaen.

11 Y dydd hwnnw y codafActs. 15.16. babell Da­fydd yr hon a syrthiodd, ac a gaeaf ei bylchau, ac a godaf ei hadwyau, ac a'i hadeiladaf, fel yn y dyddiau gynt.

12 Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt, weddill Edom, a'r holl genhedloedd, medd yr Arglwydd, yr hwn a wna hyn.

13 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd,Lefit. 26.5. y goddiwes yr ardd-wr y me­delwr, a sathrudd y grawn-wînHeb. yr hwn a ddygo 'r had allan. yr hau-wr hâd,Joel. 3.18. a'r mynyddoedd a ddefnynnantNeu, win new­ydd. felys­wîn, a'r holl fryniau a doddant.

14 A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel; a hwy a adeiladant y dinasoedd angyfannedd, ac a'i presswyliant, a hwy a blannant win­llannoedd, ac a yfant o'i gwîn, gwnant hefyd erddi, a bwyttânt eu ffrwyth hwynt.

15 Ac mi a'i plannaf hwynt yn eu tîr, ac ni's diwreiddir hwynt mwyach o'i tîr a roddais i iddynt, medd yr Arglwydd dy Dduw.

¶LLYFR OBADIAH.

1 Dinistr Edom, 3 am eu balchder, 10 ac am y cam a wnaethent i Jacob. 17 Jechydwriaeth a buddugoliaeth Jacob.

GWeledigaeth Obadiah: fel hyn y dy­wed yr Arglwydd Dduw am Edom:Jere. 49.14. clywsom sôn oddi wrth yr Ar­glwydd, a chennad a hebryngwyd ym-mysc y cenhedloedd; codwch, a chy­fodwn i ryfela yn ei herbyn hi.

2 Wele, mi a'th wneuthum yn fychan ym mysc y cenhedloedd; dibris iawn wyt.

3 Balchder dy galon a'th dwyllodd, ti yr hwn wyt yn trigo yn holldau y graig, yn vchel ei drigfa, yr hwn a ddywed yn ei galon, pwy a'm tyn i'r llawr?

4Iere. 49.16. Ped ymdderchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nŷth ym mhlith y sêr, mi a'th ddescyn­nwn oddi yno, medd yr Arglwydd.

5 Pe denaiJere. 49.9. lladron attat, neu yspeilwŷr nôs, (pa fodd i'th dorrwyd ymmaith?) oni la­drattasent hwy eu digon? pe daethei cyn­hull-wŷr grawn-win attat, oni weddillasentNeu, leffion. rawn?

6 Pa fodd y chwiliwyd Esau; ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef?

7 Yr holl wŷr, y rhai 'r oedd cyfammod rhyngot â hwynt, a'th yrrasant hyd y terfyn;Heb. gwyr dy heddwch. y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot â hwynt, â'th dwyllasant, ac a'th orfuant; bwyttawŷr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deallNeu, o hono. ynddo.

8Esa. 29.14. Jere. 49.7. Oni ddinistriaf y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y doethion allan o Edom, a'r deall allan o fynydd Esau?

9 Dy gedyrn di Teman a ofnant, fel y tor­rer ymmaith bôb vn o fynydd Esau, trwy laddfa.

10 Am dyGen. 27.41. Ezec. 35.5. Amos 1.11. draha yn erbyn dy frawd Jacob, gwarth a'th orchguddia, a thi a dorrir ym­maith bŷth.

11 Y dydd y sefaist o'r tu arall, y dydd y caeth-gludodd estroniaid eiNeu, lu. olud ef, a myned o ddieithraid iw byrth ef, a bwrw coel-brennau ar Jerusalem, titheu hefyd oeddit megis vn o honynt.

12Neu, Nac edrych ar &c. Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dieithrwyd ef, ac ni ddy­lesit lawenychu o achos plant Juda, y dydd y difethwyd, hwynt; ac ni ddylesitHeb. fawrygu. ledu dy safn ar ddydd y cystudd.

13 Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl, yn nydd eu haflwydd: ie ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac [Page] ni ddylesit estyn dy law ar euNeu, llu. golud, yn nydd eu difethiad hwynt.

14 Ac ni ddylesit sefyll ar y croes-ffyrdd, i dorri ymmaith y rhai a ddiangai o hono; ac ni ddylesitNeu, gau. roi i fynu y gweddill o honaw, ar ddydd yr adfyd.

15 Canys agos yw dydd yr Arglwydd ar yr holl genhedloedd;Ezec. 35.15. fel y gwnaethost y gwneir i titheu; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun.

16 Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly 'r holl genhedloedd a yfant yn oestad; ie yfant, a llyngcant, a byddant fel pe na buasent.

17 Ond ar fynydd Sion y byddNeu, rhai di­angol. ymwar­ed,Neu, a bydd yn sanctaidd. ac y bydd sancteiddrwydd: a thŷ Jacob a barchennogant eu perchenogaeth hwynt.

18 Yna y bydd tŷ JacobEsa. 10.17. Deut. 4.24. Heb. 12.29. yn dân, a thŷ Joseph yn fflam, a thŷ Esau yn sofl, a chynneuant ynddynt, a difant hwynt, ac ni bydd vn gweddill o dŷ Esau; canys yr Arglwydd a'i dywedodd.

19 Gorescyn y dehau hefyd fynydd Esau, a'r gwastadedd y Philistiaid; a pherchennogant feusydd Ephraim, a meusydd Samaria, a Benja­min a feddianna Gilead.

20 A chaeth-glud y llû hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Zarephath, a chaethion Jerusalem,Neu, a berchen­nogant yr hyn sydd yn Seph. y rhai sydd yn Sephar­ad, a feddiannant ddinasoedd y dehau.

21 A1 Tim. 4.16. Jac. 5.20. gwaredwŷr a ddeuant i fynu ar fy­nydd Sion, i farnu mynydd Esau,Luc. 1.33. a'r frenhin­iaeth fydd eiddo 'r Arglwydd.

¶LLYFR JONAH.

PENNOD. I.

1 Danfon Jonah i Nineveh, ac yntau yn ffo i Tarsis. 4 A thymhestl yn ei gyhuddo ef. 11 Ei daflu ef i'r môr, 17 a physcodyn yn ei lyngcu ef.

A Gair yr Arglwydd a ddaeth atA el­wir, Mat. 12.39. Jonas. Jo­nah fab Amittai, gan ddywedyd;

2 Cyfod, dôs i NinefehGen. 10.11.12. Pen. 3.3. y ddi­nas fawr, a llefa yn ei herbyn; canys eu drygioni hwynt a dderchafodd ger fy mron.

3 A Jonah a gyfododdPen. 4.2. i ffoi i Tarsis, oddi ger bron yr Arglwydd, ac efe a aeth i wared i Joppa, ac a gafodd long yn myned i Tarsis, ac a dalodd ei llong-lôg hi, ac a aeth i wared iddi, i fyned gyd â hwynt i Tarsis, oddi ger bron yr Arglwydd.

4 Ond yr Arglwydd aHeb. fwriodd allan. gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr dymhestl fawr, felHeb. yr amca­nodd y llong ddryllio. y tybygwyd y drylliei y llong.

5 Yna 'r mor-wŷr a ofnasant, ac a lefasant bôb vn ar ei dduw, a bwriasant y dodrefn oedd yn y llong i'r môr; i ymyscafnhau o honynt: ond Jonah a aethei i wared i ystlysau y llong, ac a orweddasei, ac a gyscasei.

6 A meistr y llong a ddaeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho; beth a ddarfu iti gysca­dur? cyfod, galw ar dy Dduw: fe allai 'r ystyr y Duw hwnnw wrthym, fel na'n coller.

7 A dywedasant bôb vn wrth ei gyfaill, deuwch, a bwriwn goel-brennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom: a bwriasant goel-brennau, a'r coel-bren a syrth­iodd ar Jonah.

8 A dywedasant wrtho, attolwg dangos i ni, er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn: beth yw dy gelfyddyd di? ac o bale y dae­thost? pa le yw dy wlâd? ac o ba bobl yr wyt ti?

9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebræad ydwyfi, ac ofni 'r wyfi Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr, a'r sych­dîr.

10 A'r gwŷr a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, pa ham y gwnaethost hyn? (canys y dynion a ŵyddent iddo ffoi oddi ger bron yr Arglwydd, o herwydd efe a fyneg­asei iddynt.)

11 A dywedasant wrtho, beth a wnawn i ti, fel y gostego 'r môr oddi wrthym? (canysHeb. myned. gweithio 'r oedd y môr, a therfyscu.)

12 Ac efe a ddywedodd wrthynt, cymmer­wch fi, a bwriwch fi i'r môr, a'r môr a ostega i chwi, canys gwn mai o'm hachos i y mae y dymhestl fawr hon arnoch chwi.

13 Er hyn y gwŷr aHeb. gloddia­sant. rwyfasant i'w dy­chwelyd i dîr, ond ni's gallent, am fod y môr yn gweithio, ac yn terfyscu yn eu herbyn hwy.

14 Llefasant gan hynny ar yr Arglwydd, a dywedasant, attolwg Arglwydd, attolwg, na ddifether ni am enioes y gŵr hwn, ac na ddyro i'n herbyn waed gwirion: canys ti, ô Arglwydd, a wnaethost fel y gwelaist yn dda.

15 Yna y cymmerasant Jonah, ac a'i bwria­sant ef i'r môr, aHeb. safodd. pheidiodd y môr â'i gyffro.

16 A'r gwŷr a ofnasant yr Arglwydd ag ofn mawr, ac a aberthasant aberth i'r Arglwydd, ac a addunasant addunedau.

17 A'r Arglwydd a ddarparasei byscodyn mawr, i lyngcu Jonah, aMatth. 12.40. & 16.4. Luc. 11.30. Jonah a fuHeb. yn ymys­caroedd. ym mol y pyscodyn dri diwrnod, a thair nôs.

PEN. II.

1 Gweddi Jonah: 10 A'i wared ef o fol y pyscodyn.

A Jonah a weddiodd ar yr Arglwydd ei Dduw, o fol y pyscodyn,

2 Ac a ddywedodd,Neu, a herwydd fy ing. o'm hing yPsal. 120.1. gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a'm hattebodd; o folNeu, y bedd. vffern y gwaeddais, a chlywaist fy llêf.

3 Ti a'm bwriaist i'r dyfnder, iHeb. galon. ganol y môr, a'r llanw a'm hamgylchodd, dy holl donnau a'th liferiaint a aethant drosof.

4 A minneu a ddywedais, bwriwyd fi o ŵydd dy lygaid; er hynny mi a edrychaf etto tu a'th Deml sanctaidd.

5 YPsal. 69.1.2. dyfroedd a'm hamgylchasant hyd yr enaid, y dyfnder a ddaeth o'm hamgylch, ym­glymmoddNeu, gwmmon. yr hêsc am fy mhen.

6 Descynnais iHeb. dorriadau odrau y mynyddoedd, y ddaiar a'i throsolion oedd o'm hamgylch yn dragywydd: etto ti a dderchefaist fy enioesNeu, o lygredi­gaeth. o'r ffôs, o Arglwydd fy Nuw.

7 Pan lewygodd fy enaid ynof, cofiais yr Arglwydd, a'm gweddi a ddaeth i mewn attat i'th Deml sanctaidd.

8 Y neb a gadwant ofereddNeu, celwy­ddog. celwydd, a wrthodant eu trugaredd eu hun.

9 A minneu mewnPsal. 50.14.23 & 116.17. Hos. 14.2 Heb. 13.15 llais clodforedd a aber­thaf i ti, talaf yr hyn a addunedais:Psal. 3.8. iechyd­wriaeth sydd eiddo 'r Arglwydd.

10 A dywedodd yr Arglwydd wrth y pys­codyn, ac efe a fwriodd Jonah ar y tîr sŷch.

PEN. III.

1 Danfon Jonah yr ail waith, ac yntau yn pre­gethu i'r Nineveaid, 5 Ar eu hedifeirwch hwy, 10 y mae Duw yntau yn edifarhau.

A Gair yr Arglwydd a ddaeth yr ail waith at Jonah, gan ddywedyd,

2 Cyfod, dôs i Ninefeh y ddinas fawr, a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthit.

3 A Jonah a gyfododd, ac a aeth i Ninefeh, yn ôl gair yr Arglwydd; a Ninefeh oeddHeb. ddinas fawr i Dduw. ddi­nas fawr iawn, o daith tri diwrnod.

4 A Jonah a ddechreuodd fyned i'r ddinas daith vn diwrnod, ac efe a lefodd, ac a ddywe­dodd; deugain nhiwrnod fydd etto, a Nineueh a gwympir.

5Mat. 12.41. Luc. 11.31. A gwŷr Ninefeh a gredasant i Dduw, ac a gyhoeddasant ympryd, ac a wiscasant sach­liain, o'r mwyaf hyd y lleiaf o honynt.

6 Canys gair a ddaeth at frenin Ninefeh, ac efe a gyfododd o'i frenhin-faingc, ac a ddi­oscodd oddi am dano ei frenhin-wisc, ac a roddes am dano liain sâch, ac a eisteddodd mewn lludw.

7 Ac efe a barodd gyhoeddi, a dywedyd trwy Ninefeh (drwy orchymyn y brenin a'iHeb. wyr mawr. bendefigion,) gan ddywedyd; dŷn, ac anifail, eidion, a dafad, na phrofant ddim, na phorant, ac nac yfant ddwfr.

8 Gwiscer dyn, ac anifail â sach-len, a gal­want ar Dduw yn lew, ie dychwelant bob vn oddi wrth ei ffordd ddrygionus, ac oddi wrth y trawsder sydd yn eu dwylo.

9Joel. 2.14. Pwy a wŷr a dry Duw, ac edifarhau, a throi oddi wrth angerdd ei ddîg, fel na ddi­fether ni?

10 A gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt, droi o honynt o'i ffyrdd drygionus, ac edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedasei y gwnai iddynt, ac ni's gwnaeth.

PEN. IV.

1 Jonah yn anfodlon i drugaredd Duw, 4 ac yn cael ei geryddu tan rith pren Cicaion.

A Bu ddrwg iawn gan Jonah hyn, ac efe a ddigiodd yn fawr.

2 Ac efe a weddiodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd; attolwg it Arglwydd, oni ddy­wedais i hyn pan oeddwn etto yn fy ngwlâd? am hynny 'r achubais flaen i ffoi iPen. 1.3. Tarsis, am y gwyddwnExod. 34.6. Psal. 86.5. Joel 2.13. dy fod ti yn Dduw graslawn, a thrugarog, hwyr-frydig i ddîg, aml o drugar­edd, ac edifeiriol am ddrwg.

3 Am hynny yn awr o Arglwydd, cymmer attolwg fy enioes oddi wrthif; canys gwell i mi farw nâ byw.

4 A'r Arglwydd a ddywedodd,Neu, wyt ti yn ddig iawn? ai da yw yr gwaith ymddigio o honot?

5 A Jonah a aeth allan o'r ddinas, ac a eist­eddodd o'r tu dwyrain i'r ddinas, ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun, ac a eisteddodd dano yn y cyscod, hyd oni welei beth a fyddei yn y ddinas.

6 A'r Arglwydd Dduw a ddarparoddPalm crist. Ci­caion, ac a wnaeth iddo dyfu tros Jonah, i fod yn gyscod vwch ei ben ef, iw waredu ef o'i ofid: a bu Jonah lawen iawn am yPalm crist. Cicaion.

7 A'r Arglwydd a baratôdd brŷf ar godiad y wawr dranoeth, ac efe a darawodd yPalm crist. Cica­ion, ac yntef a wywodd.

8 A phan gododd haul, bu i Dduw ddar­paruNeu, dwyrein­wynt di­staw. poeth-wynt y dwyrain; a'r haul a dara­wodd ar ben Jonah fel y llewygodd, ac y deisy­fiodd farw o'i enioes, ac a ddywedodd, gwell i mi farw nâ byw.

9 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Jonah,Neu, wyt ti yn ddigiawn? ai da yw 'r gwaith ymddigio o honot am yPalm crist. Cicaion? ac efe a ddywedodd:Neu, yr wyf yn daig iawn hyd angeu. da yw i mi ymddigio hyd angeu.

10 A'r Arglwydd a ddywedodd, ti aNeu, ar [...]edaist y Cicaion. dostu­riaist wrth y Cicaion ni lafuriaist wrtho, ac ni's peraist iddo dyfu:Heb. mab nos­waith oedd. mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu.

11 Ac oni arbedwn i Ninefeh y ddinas fawr, yr hon y mae ynddi mwy nâ deuddeng mŷrdd o ddynion, y rhai ni ŵyddant ragor rhwng eu llaw ddehau a'i llaw asswy, ac ani­feiliaid lawer?

¶LLYFR MICAH.

PENNOD. I.

1 Micah yn dangos digofaint Duw yn erbyn Jacob, am eu gau-dduwiaeth; 10 Ac yn annog i alaru.

GAir yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Micah y Morasthiad yn nyddiau Jotham, Ahaz, a Hezeciah brenhi­noedd Juda; yr hwn a welodd efe am Samaria, a Jerusalem.

2Deut. 32.1. Esa. 1.2. Gwrandewch boblHeb. hwynt oll. oll, clyw ditheu y y ddaiarHeb. a'i chy­flawnder. ac sydd ynddi, a bydded yr Arg­lwydd Dduw yn dŷst i'ch erbyn, yr Arglwydd o'i Deml sanctaidd.

3 CanysEsa. 26.21. Psal. 115.3. wele 'r Arglwydd yn dyfod o'i le, efe hefyd a ddescyn, acDeut. 32.13. & 33.20. a sathr ar vchel­derau y ddaiar.

4Psal. 97.5. A'r mynyddoedd a doddant tano ef, a'r glynnoedd a ymholldant fel cŵyr o flaen y tân, ac fel y dyfroedd a dywelldir ar y goriwared.

5 Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob, ac am bechodau tŷ Israel; beth yw anwiredd Jacob? onid Samaria? pa rai yw vchel-leoedd Juda? onid Jerusalem?

6 Am hynny y gosodaf Samaria yn garnedd faes dda i blannu gwin-llan, a gwnaf iw cherric dreiglo i'r dyffryn, a datcuddiaf ei sylfaeni.

7 A'i holl ddelwau cerfiedic a gurir yn ddrylliau, a'i holl wobrau a loscir yn tân, a'i holl eulynnod a osodaf yn anrheithiedic: o herwydd o wobr puttein y casclodd hi hwynt, ac yn wobr puttein y dychwelant.

8 O herwydd hyn, galaraf, ac vdaf, cer­ddaf yn noeth ac yn llwm, gwnaf alar fel dreigiau, a gofid felHeb. merched. cywion y dylluan.

9 O herwydd dolurus ywNeu, o'i har­chollion. ei harcholl, canys daeth hyd at Juda; daeth hyd borth fy mhobl, hyd Jerusalem.

102 Sam. 1.20. Na fynegwch hyn yn Gath, gan ŵylo na ŵylwch ddim:Jer. 6.26. ymdreigla mewn llŵch yn nhŷJos. 18.23. Sef. llwch. Aphrah.

11 Dos heibio,Neu, yr bon a breswyli yn deg. presswyl-ferch Saphir, ynEsa. 47.3. noeth dy warth: ni ddaeth presswyl-ferchNeu, y ddiadell­wlad. Zaanan allan yngalarNeu, lle agos. Bethezel: efe a dderbyn gennwch ei sefyll-fan.

12 Canys trig-ferch Maroth aNeu, fu ddrwg genthi. ddisgwy­liodd yn ddyfal am ddaioni, eithr drwg a ddescynnodd oddi wrth yr Arglwydd hyd at borth Jerusalem.

13 Presswyl-ferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buan-farch; dechreuad pechod yw hi i ferch Sion; canys ynot ti y cafwyd anwire­ddau Israel.

14 Am hynny y rhoddi anrhegionNeu, am. i Mo­reseth Gath: taiSef, celwydd. Achzib a fydlant yn gel­wydd i frenhinoedd Israel.

15 Etto mi a ddygaf etifedd i ti, presswyl­ferch Maresah,Neu, daw gogo­niant Israel hyd A­dulam. daw hyd Adulam, gogoniant Israel.

16Esa. 22.12. Ymfoela, ac ymeillia am dy blant moethus: helaetha dy foelder fel eryr; canys caethgludwyd hwynt oddi wrthit.

PEN. II.

1 Yn erbyn trais. 5 Cwynfan, 7 ceryddu ang­hyfiawnder a delw-addoliaeth. 12 Addaw adferu Jacob.

GWae a ddychymygo anwiredd, ac a wnelo ddrygioni ar eu gwelâu; pan oleuo y bo­reu y gwnant hyn; am ei fod ar eu dwylo.

2Esa. 5.8. Meusydd a chwennychant hefyd, ac a ddygant drwy drais; a theiau, ac a'i dygant:Neu, twyllant. gorthrymmant hefyd ŵr a'i dŷ, dŷn a'i eti­feddiaeth.

3 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arg­lwydd, wele yn erbyn y teulu hwn y dychym­mygais ddrwg, yr hwn ni thynnwch eich gyddfau o honaw, ac ni rodiwch yn falch; canys amser drygfyd yw.

4 Yn y dydd hwnnw y cyfyd vn ddammeg am danoch chwi, ac a alaraHeb. alar ga­larau. alar gofidus, gan ddywedyd; dinistriwyd ni yn llwyr: newid­iodd ran fy mhobl; pa fodd y dug ef oddi arnaf?Neu, yn lle adf [...]ru. gan droi ymaith, efe a rannodd ein meusydd.

5 Am hynny ni bydd i ti aDeut. 32.8.9. fwrio reffyn coel-bren yngynnulleidfa 'r Arglwydd.

6Esay. 30.10. NaHeb. ddefnyn­nwch &c. phrophwydwchNeu, fel y proph­wydant hwy. neddant wrth y rhai a brophwydant: ond ni phrophwydant iddynt na dderbyniont gywilydd.

7 Oh yr hon a elwir tŷ Jacob, aNeu, gyfyng­wyd. fyrhawyd Yspryd yr Arglwydd? ai dymma ei weithred­oedd ef? oni wna fy ngeiriau lês i'r neb a ro­dio yn vniawn?

8 Y rhai oedd fy mhobl ddoe, a godasant yn elyn, dioscwch y ddilledynHeb. gyferbyn a'r wisc. gyd â'r wisg, oddi am y rhai a ânt heibio yn ddiofal, fel rhai yn dychwelyd o ryfel.

9 Gwragedd fy mhobl a fwnasoch allan o dŷ eu hyfrydwch, a dygasoch oddi ar eu plant hwy fy harddwch bŷth.

10 Codwch, ac ewch ymmaith, canys nid dyma eich gorphywysfa: am ei halogi y di­nistria hi chwi â dinistr tost.

11 Os vnNeu, a rodia gyd a'r gwynt, ac a ddy­wed gel­wydd yn gel, gan ddywe­dyd, pro­phwydaf &c. yn rhodio yn yr yspryd, a chel­wydd a ddywed yn gelwyddoc, prophwydaf it a'm win a diod gadarn, efe a gaiff fod yn broph­wyd i'r bobl hyn.

12 Gan gasclu i'th gasclaf Jacob oll; gan gynnull cynnhullaf weddill Israel; gosodaf hwynt ynghyd fel defaid Bozrah, fel y praidd ynghanol eu corlan: trystiant rhag amled dŷn.

13 Daw y rhwygudd i fynu o'i blaen hwynt; rhwygasant, a thramwyasant trwy y porth, ac aethant allan trwyddo, a thramwya eu brenin o'i blaen; a'r Arglwydd ar eu pen­nau hwynt.

PEN. III.

1 Creulondeb y tywysogion. 5 Ffalsedd y proph­wydi. 8 A diofalwch pob vn o'r ddau.

DYwedais hefyd, gwrandewch attolwg pen­naethiaid Jacob, a thywysogion tŷ Israel, onid i chwi y perthyn gŵybod barn?

2 Y rhai ydych yn casâu y da, ac yn hoffi y drwg, gan flingo eu croen oddi am danynt, a'i cig oddi wrth eu hescyrn.

3 Y rhai hefyd a fwytânt gig fy mhobl, a'i croen a flingant oddi am danynt, a'i hescyrn a ddrylliant ac a friwant, megis i'r crochan, ac fel cîg yn y badell.

4Esa. 1.15. Ezec. 8.18. Jac. 2.13. 1 Pet. 3.11.12. Yna y llefant ar yr Arglwydd, ac ni's ettyb hwynt, efe a guddia ei wyneb oddi wrthynt y pryd hwnnw, fel y buant ddrwg yn eu gweithredoedd.

5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd am y prophwydi sydd yn cefeiliorni fy mhobl,Pen. 2.11. y rhai a frathant â'i dannedd, ac a lefant, hedd­wch: a'r neb ni roddo yn eu pennau hwynt, darparant ryfel yn ei erbyn.

6 Am hynny y bydd nôs i chwiHeb. oddiwrth weledig­aeth. fel na cha­ffoch weledigaeth, a thywyllwch i chwiHeb. oddiwrth ddewinio. fel na chaffoch ddewiniaeth: yr haul hefyd a fachluda ar y prophwydi, a'r dydd a ddua ar­nynt.

7 Yna y gweledyddion a gywilyddiant, a'r dewiniaid a wradwyddir, ie pawb o honynt a gaeant ar euHeb. gwefus vchaf. genau; am na rydd Duw atteb.

8 Ond yn ddiau llawn wyfi o rym gan Yspryd yr Arglwydd, ac o farn a nerth, i ddang­os ei anwiredd i Jacob, a'i bechod i Israel.

9 Gwrandewch hyn attolwg pennaethiaid tŷ Jacob, a thywysogion tŷ Israel; y rhai sy ffiaidd ganddynt farn, ac yn gŵyro pob vniondeb.

10 Adeiladu Sion y maentEzec. 22.27. Zeph. 3.3. â gwaed, a Je­rusalem ag anwiredd.

11 Ei phennaethiaid a roddant farn er gwobr, a'i hoffeiriaid a ddyscant er cyflog, a'r proph­wydi a ddewiniant er arian: etto wrth yr Arglwydd yr ymgynhaliant, gan ddywedyd; onid yw 'r Arglwydd i'n plith? ni ddaw drwg arnom.

12 Am hynny o'ch achos chwi 'rJerem. 26.18. erddir Sion fel maes, a Jerusalem a fydd yn garne­ddau, a mynydd y tŷ, fel vchel-leoedd y goedwic.

PEN. IV.

1 Gogoniant, 3 heddwch, 8 teyrnas, 11 a bu­ddugoliaeth yr Eglwys.

A Bydd yn niwedd y dyddiau;Esa. 2.2, &c. i fynydd tŷ 'r Arglwydd fod wedi ei siccrhau ym mhen y mynyddoedd; ac efe a dderchefir goru­wch y bryniau; a phobloedd a ddylifant atto.

2 A chenhedloedd lawer a ânt, ac a ddy­wedant, deuwch, ac awn i fynu i fynydd yr Arglwydd, ac i dŷ Dduw Jacob, ac efe a ddysc i ni ei ffyrdd, ac yn ei lwybrau y rho­diwn: canys y gyfraith â allan o Sion, a gair yr Arglwydd o Jerusalem.

3 Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ym mhell, a thorrant euEsa. 2.4. Joel 3.10. cleddyfau yn sychau, a'i gwayw-ffyn ynNeu, grym­manau. bladuriau; ac ni chyfyd cenhedl gleddyf yn erbyn cenhedl, ac ni ddys­cant ryfel mwyach.

4 Onid eisteddant bob vn dan ei win­wydden, a than ei ffigysbren, heb neb iw dychrynu; canys genau Arglwydd y lluoedd a'i llefarodd.

5 Canys yr holl bobloedd a rodiant bob vn yn enw ei dduw ei hun, a ninneu a rodiwn yn enw 'r Arglwydd ein Duw, byth ac yn dragy­wydd.

6 Yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd, y casclaf y gloff, ac y cynhullaf yr hon a yrrwyd allan, a'r hon a ddrygais.

7 A gwnaf yZeph. 3.19. gloff yn weddill, a'r hon a daflwyd ym mhell yn genhedl gref; a'r Ar­glwydd aDan. 7.14. Luc. 1. [...]3. deyrnasa arnynt ym mynydd Sion, o hyn allan byth.

8 A thitheu tŵr y praidd, castell merch Sion, hyd attat y daw, ie y daw 'r arglwyddi­aeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerusalem.

9 Pa ham gan hynny y gweiddi waedd? onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gyng­horydd? canys gwewyr a'th gymmerodd, megis gwraig yn escor.

10 Ymofidia a griddfana, merch Sion, fel gwraig yn escor; o herwydd yr awr hon yr ei di allan o'r ddinas, a thrigi yn y maes; ti a ei hyd Babilon; yno i'th waredir, yno 'r achub yr Arglwydd di o law dy elynion.

11 Yr awr hon hefyd llawer o genhed­loedd a ymgasclasant i'th erbyn, gan ddywe­dyd; haloger hi, a gweled ein llygaid hynny ar Sion.

12 Ond ni ŵyddant hwy feddyliau yr Arglwydd, ac ni ddeallant ei gyngor ef: ca­nys efe a'i cascl hwynt fel yscubau i'r llawr dyrnu.

13 Cyfod merch Sion, a dyrna; canys gwnaf dy gorn yn haiarn, a'th garnau yn brês, a thi a ddrylli bobloedd lawer; a chyssegraf a'r Arglwydd eu helw hwynt, a'i golud i Ar­glwydd yr holl ddaiar.

PEN. V.

1 Genedigaeth Christ, 4 a'i frenhiniaeth, 8 a'i fuddugoliaeth.

YR awr hon, ymfyddina merch y fyddin, gosododd gynllwyn i'n herbyn: tarawant farn-wr Israel â gwialen ar ei gern.

2 AMat. 2.6. Ioan. 7.42. thitheu Beth-Iehem Ephratah, er dy fod yn fechan ym mhlith miloedd Juda, etto o honot ti y daw allan i mi, vn i fod yn lly­wydd yn Israel: yr hwn yr oedd ei fynediad allan o'r dechreuad, er dyddiau tragywyddol­deb.

3 Am hynny y rhydd efe hwynt i fynu, hyd yr amser y darffo i'r hon a escoro escor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel.

4 Ac efe a saif, ac aNeu, lywo­draetha. bortha â nerth yr Arglwydd, yn ardderchowgrwydd enw 'r Ar­glwydd ei Dduw, a hwy a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddai­ar.

5 A hwn fydd yr heddwch pan ddêl yr Assyriad i'n tir ni, a phan sathro o fewn ein palasau: yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wythHeb. o bennae­thiaid dy­nion. o'r dynion pennaf.

6 A hwy aHeb. yssant. ddinistriant dîr Assyria â'r cleddyf, a thîr NimrodNeu, yn ei byrth. â'i gleddyfau noe­thion ei hun: ac efe a'n hachub-rhag yr Assy­riad, pan ddêl i'n tîr, a phan sathro o fewn ein terfynau.

7 A bydd gweddill Jacob ynghanol llawer o bobl, fel y gwlith oddi wrth yr Arglwydd, megis cawodydd ar y gwellt-glâs, yr hwn nid erys ar ddyn, ac ni ddisgwil wrth feibion dyn­ion.

8 A gweddill Jacob a fydd ym mysc y cenhedloedd, ynghanol pobl lawer, fel llew ym mysc bwyst-filod y goedwic, ac fel cenew llew ym mhlith y diadellauNeu, geifr. defaid; yr hwn pan ei trwodd a sathr, ac a sclyfaetha, ac ni bydd achubudd.

9 Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrth­wyneb-wŷr; a'th holl elynion a dorrir ym­maith.

10 A bydd y dwthwn hwnnw, medd yr Arglwydd, i mi dorri ymaith dy feirch o'th ganol di, a dinistrio dy gerbydau.

11 Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlâd, a dymchwelaf dy holl ymddiffynfeydd.

12 A thorraf ymmaith o'th law y swynion, ac ni bydd it ddewiniaid.

13 Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedic, a'thNeu, sefyll­bethau. ddelwau o'th blith: ac ni chei ymgrym­mu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun.

14 Diwreiddiaf dy lwyni o'th ganol hefyd: a dinistriaf dyNeu, elynion. ddinasoedd.

15 Ac mewn dig a llîd y gwnaf ar y cen­hedloedd y fath ddialedd ac na chlywsant.

PEN. VI.

1 Ymrafael Duw o herwydd angharedigrwydd, 6 ac anwybodaeth, 10 ac anghyfiawnder, 16 a delw-addoliaeth ei bobl.

GWrandewch attolwg y peth a ddywed yr Arglwydd; cyfod, ymddadleuNeu, o flaen y mynydd­oedd. â'rEsa. 1.2. my­nyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais.

2 Gwrandewch y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaiar, gŵyn yr Arglwydd, canys y mae cŵyn rhwng yr Arglwydd a'i bobl, ac efe a ymddadleu ag Israel.

3 Fy mhobl, beth a wneuthym i ti? ac ym-mha beth i'th flinais? tystiolaetha i'm herbyn.

4 Canys mi a'th ddygaisExod. 12.51. & 14.30. o dir yr Aipht, ac a'th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfo­nais o'th flaen Moses, Aaron, a Miriam.

5 Fy mhobl, cofia attolwg beth a fwriad­oddNum. 22.5. & 23.7. Balac brenin Moab, a pha atteb a roddes Balaam mab Beor iddo, oNum. 25. Jos. 5. Sittim hyd Gilgal, fel y galloch ŵybod cyfiawnder yr Arglwydd.

6 A pha beth y deuaf ger bron yr Arglwydd, ac yr ymgrymmaf ger bron yr vchel Dduw? a ddeuafi ger ei fron ef â phoeth offrymmau, ac âHeb. lloiau, meibion blwydd. dyniewid?

7 A fodlonir yr Arglwydd â miloedd o fyheryn; neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddafi fy nghyntaf-anedic dros fy anwiredd? ffrwythNeu, fy nghorph. fy nghrôth dros bechod fy enaid?

8Deut. 10.12. Dangosodd efe it ddŷn beth sydd dda; a pha beth a gais yr Arglwydd gennit; onid gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ym­ostwng i rodio gyd â'th Dduw?

9 Llef yr Arglwydd a lefa ar y ddinas,Neu, a'th enw a wyl yr hyn sy ddoeth. a'r doeth a wêl dy enw; gwrandewch y wialen, a phwy a'i hordeiniodd.

10 A oesNeu, etto i bob gwr dy yr anwir, tryssorau anwiredu? etto dryssorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir,Heb. a mesur culni. a'r mesur prin, peth ffiaidd?

11 ANeu, fyddafi lan a chlorian­nau &c. gyfrifwn yn lân vn â chloriannau anwir, ac â chôd o gerric twyllodrus?

12 Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a'i tafod sydd dwyllodrus yn eu genau.

13 A minneu hefyd a'th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau.

14 Ti a fwyttei, ac ni'th ddigonir, a'th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun, ti a ymafli, ac nid achubi; a'r hyn a achubech a roddaf i'r cleddyf.

15Deut. 28.38. Hag. 1.6. Ti a haui, ond ni fedi; ti a sethri 'r oliwŷdd, ond nid ymîri ag olew; a gwîn newydd, ond nid yfi wîn.

16Neu, Cadw y mae yn ddyfal ddeddfau Omri. Cadwr 'r ydys ddeddfau1 Bren. 16.25, 26. Omri, a holl weithredoedd1 Bren. 16.30. Ahab, a rhodio 'r ydych yn eu cynghorion; fel i'th wnawn ynNeu, syndod. anghyf­annedd, a'i thrigolion iw hwttio: am hynny y dygwch warth fy mhobl.

PEN. VII.

1 Yr Eglwys yn cwyno leied yw o rifedi, 3 mor gyffredin yw llygredigaeth, 5 ac yn rhoi ei gog­lud a'i hyder, nid ar ddyn, ond ar Dduw: 14 A Duw yn ei chyssuro hi trwy addewidion; 16 a thrwy wradwyddo ei gelynion; 18 a thrwy ei drugareddau.

GWae fi, canys ydwyf felHeb. casclia­dau haf. cascliadau ffrwythydd hâf, fel lloffion grawn-win y cynhaiaf gwin; nid oes swp o rawn iw bwytta; fy enaid a flyfiodd yr addfed ffrwyth cyntaf.

2Psal. 12.1. Esa 57.1. Darfu am yNeu, daionus, neu tru­garog. duwiol oddi ar y ddaiar, ac nid oes vn vniawn ym mhlith dynion; cyn­llwyn y maent oll am waed; pob vn sydd yn hela ei frawd â rhwyd.

3 I wneuthur drygioni â'r ddwy ddwylo yn egniol, y tywylog a ofyn, a'r barn-wr am wobr; a'r hwn sydd fawr a ddywedNeu, ei sceler feddwl. Heb. sce­lerder ei enaid. ly­gredigaeth ei feddwl; felly y plethant ef.

4 Y goreu o honynt sydd fel mierien, yr vnionaf yn arwach nâ chae drain; dydd dy wilwŷr, a'th ofwy sydd yn dyfod; bellach y bydd eu penbleth hwynt.

5 Na chredwch i gyfaill, nac ymddiriedwch i dywysog: cadw ddrws dy enau rhac yr hon a orwedd yn dy fonwes.

6 CanysMat. 10.21, 35, 36. Luc. 12.53. mab a amharchi ei dâd, y ferch a gyfyd yn erbyn ei mam; a'r waudd yn erbyn ei chwegr; a gelynion gŵr yw dynion ei dŷ.

7 Am hynny mi a edrychaf ar yr Arglwydd, disgwiliaf wrth Dduw fy iechydwriaeth: fy Nuw a'm gwrendy.

8 Na lawenycha i'm herbyn fy ngelynes; pan syrthiwyf, cyfodaf; pan eisteddwyf mewn tywyllwch, yr Arglwydd a lewyrcha i mi.

9 Dioddefaf ddîg yr Arglwydd, canys pechais iw erbyn; hyd oni ddadleuo fy nghŵyn, a gwneuthur i mi farn; efe a'm dwg allan i'r goleuad, a mi a welaf ei gyfiawnder ef.

10Neu, A thi a weli fy ngely­nes, ac a'i gorchou­ddi a chy­wilydd, yr hon &c. A'm gelynes a gaiff weled, a chywi­lydd a'i gorchguddia hi yr hon a ddywedodd wrthif,Psal. 79.10. & 115.2. Joel. 2.17. mae 'r Arglwydd dy Dduw? fy lly­gaid a'i gwelant hi; bellach y bydd hi yn sathr­fa, megis tom yr heolydd.

11 Y dydd yr adeiledir dyAmos. 9.11, &c. furiau, y dydd hwnnw yr ymbellhâ y ddeddf.

12 Y dydd hwnnw y daw efe hyd attat o Assyria,Neu, ie hyd y dinas. ac o'r dinasoedd cedyrn, ac o'r ca­dernid hyd yr afon, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd.

13Neu, wedi bod y wlad yn anrhaith. Etto y wlâd a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion, am ffrwyth eu gweithred­oedd.

14Neu, Llywo­draetha. Portha dy bobl â'th wialen, defaid dy etifeddiaeth, y rhai sydd yn trigo yn y coed yn vnic ynghanol Carmel: porant yn Basan, a Gilead, megis yn y dyddiau gynt.

15 Megis y dyddiau y daethost allan o dîr yr Aipht, y dangosaf iddo ryfeddodau.

16 Y cenhedloedd a welant, ac a gywi­lyddiant, gan eu holl gryfder hwynt; rhoddant eu llaw ar eu genau; eu clustiau a fyddarant.

17 Llyfant yPsal. 72.9. llŵch fel sarph, felNeu, ym­lusciaid. pryfed y ddaiar y symudant o'i llochesau, arswydant rhac yr Arglwydd ein Duw ni, ac o'th achos di yr ofnant.

18 Pa Dduw sydd fel tydi, ynExod. 34.6.7. maddeu anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd.

19 Efe a ddychwel, efe a drugarhâ wrthym, efe a ddarostwng ein hanwireddau, a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr.

20 Ti a gyflawni y gwirionedd i Jacob, y drugaredd hefyd i Abraham, yr hwn a dyngaist i'n tadau, er y dyddiau gynt.

¶LLYFR NAHVM.

PENNOD I.

Mawredd Duw yn ei ddaioni tu ac at ei bobl, a'i doster yn erbyn ei elynion.

BAichEsay. 13.1. Ninefeh: llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad.

2Neu, yr Ar­glwydd sydd Dduw eiddigus, a dialudd. Duw sydd Exod. 20.5. eiddigus, a'r Ar­glwydd sydd yn dial; yr Arglwydd fydd yn dial ac yn berchen llid: dial yr Ar­glwydd ar ei wrthwyneb-wŷr, a dal dig y mae efe iw elynion.

3 Yr Arglwydd sydd Exod. 34.6, 7. hwyrfrydig i ddîg, a mawr ei rym, ac ni ddieuoga 'r anwir, yr Ar­glwydd sydd a'i lwybr yn y corwynt, ac yn y rhyferthwy, a'r cwmylau yn llwch ei draed ef.

4 Efe a gerydda y môr ac a'i sŷch, yr holl afonydd a ddiyspydda efe: llescaodd Basan, a Charmel, a llescaodd blodeuyn Libanus.

5 Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a'r bryniau a doddant, a'r ddaiar a lysc gan ei olwg, a'r bŷd hefyd, a chwbl ac a drigant yn­ddo.

6 Pwy a saif o flaen ei lid ef? a phwy a gyfyd ynghynddaredd ei ddigofaint ef? ei lid a dywelltir fel tân, a'r creigiau a fwrir i lawr ganddo.

7 Daionus yw 'r Arglwydd,Neu, c [...]dernid. ymddiffynfa yn nydd blinder, ac efe a edwyn y rhai a ym­ddiriedant ynddo.

8 A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe drangc ar ei lle hi, a thywyllwch a erlid ei elynion ef.

9 Beth a ddychymygwch yn erbyn yr Ar­glwydd? efe a wna drangc; ni chyfyd blinder ddwy-waith.

10 Canys tra 'r ymddyrysont fel drain, a thra meddwont fel meddwon, yssir hwynt fel sofl wedi llawn wywo.

11 O honot y daeth allan a ddychymmyga ddrwg yn erbyn yr Arglwydd; cynghorwrHeb. Belial. drygionus.

12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd,Neu, pe bua­sent he­ddychol, felly y buasent aml, ac felly y cneifi­sid, hwy, ac efe aethai heibio. pe byddent heddychol, ac felly yn aml, etto fel hyn yHeb. cneifir hwynt pan elo &c. torrir hwynt i lawr, pan elo efe heib­io: er i'm dy flino ni'th flinaf mwyach.

13 Canys yr awron y torraf ei iau ef oddi arnat, drylliaf dy rwymau.

14 Yr Arglwydd hefyd a orchymynnodd o'th blegit, na hauer o'th enw mwyach: torraf o dŷ dy dduwiau, y gerfiedic a'r dawdd ddelw, gwnaf dy fedd, canys gwael ydwyt.

15 Wele ar yEsay. 52.7. Rhuf. 10, 15. mynyddoedd draed yr efangylwr, cyhoeddwr heddwch: cadw di ô Juda, dy ŵyliau, tâl dy adduneddau: canys nid âHeb. Belial. y drygionus trwot mwy; cwbl-dor­rwyd ef ymmaith.

PEN. II.

Ofnadwy a buddugawl luoedd Duw yn erbyn Nineveb,

DAeth yNeu, arylliur. chwalwr i fynu o flaen dy wyneb; cadw yr ymddiffynfa; gwilia y ffordd, nertha dy lwyni, cadarnhâ dy nerth yn fawr.

2Esay. 10.12. Canys dychwelodd yr ArglwyddNeu, falchder. ar­dderchawgrwydd Jacob,Neu, a balchder. fel ardderchawg­rwydd Israel: canys y diyspydd-wŷr a'i diys­pyddodd hwynt, ac a lygrasant eu cangau gwin-wŷdd.

3 Tarian ei wŷr grymmus a liwiwyd yn gôch, ei wŷr o ryfel a wiscwyd ag yscarlad; y cerbydau fyddant gydâHeb. rhan lampau. lampau tanllyd, y dydd y byddo ei arlwy, a'r ffynnidwŷdd a escydwir yn aruthrol.

4 Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heo­lydd, tarawant wrth ei gilydd yn y priffyrdd; eu gwelediad fydd fel fflammau, ac fel mellt y saethant.

5 Efe a gyfrif ei weision gwychion; tram­gwyddant wrth gerdded; prysurant at ei chaer hi, a'rHeb. gorchudd, neu, gor­chuddiwr. amddiffyn a barotoir.

6 Pyrth y dwfr a agorir, a'r palâs aNeu, dawdd. ym­ddettyd.

7Neu, A'r hyn a sefyd­lwyd, neu, safwyd, a chaeth­gludir hi, &c. A Huzzab aNeu, ddateu­adir. gaeth-gludir, dygir hi i fynu, â'i morwynion yn ei harwain, megis â llais colomennod yn curo ar eu dwyfronnau.

8 A Ninifeh syddNeu, ar y dy­ddiau y bu. er ys dyddiau fel llyn o ddwfr: ond hwy a ffoant; sefwch, sefwch, meddant, ac ni byddNeu, a'i dych­w [...]lo. a edrycho yn ôl.

9 Ysclyfaethwch arian, ysclyfaethwch aur;Neu, a'i hanfeidrol heiniar. canys nid oes diben ar ystôr, a'r gogoniant o bob dodrefn dymunol.

10 Gwâg, a gorwag, ac anrhaithiedic yw hi, a'rEs. 13.7, 8. galon yn toddi, a'r gliniau yn taro ynghyd, ac anhwyl ar bob lwyni,Joel. 2.6. a'i hwynebau oll a gasclant barddu.

11 Pa le y mae trigfa y llewod? a phorfa cenawon y llewod? Ile y rhodiai y llew, sef yr hên lew, a'r ceneu llew, ac nid oedd a'i tarfai.

12 Y llew a ysclyfaethodd ddigon iw genaw­on, ac a dagodd i'w lewesau, ac a lanwodd ag ysclyfaeth ei ffau, a'i loches ag yspail.

13 Wele fi yn dy erbyn, medd Arglwydd y lluoedd, ac mi a loscaf ei cherbydau yn y mŵg, a'r cleddyf a ddifa dy lewod ieuaingc; a thorraf ymmaith o'r ddaiar dy ysclyfaeth, ac ni chlywir mwy lais dy gennadau.

PEN. III.

Gofidus gwymp Nineveh.

GWae ddinasEzec. 24.9. Heb. 2.12 y gwaed, llawn celwydd ac yspail ydyw i gyd, a'r ysclyfaeth heb ymado.

2 Bydd sŵn y ffrywyll, a sŵn cynnwrf ol­wynion, a'r march yn prangcio, a'r cerbyd yn neidio.

3 Y marchog sydd yn codiHeb. fflammy­chiad y cleddyf, a mellten­niad y wayw­ffon. ei gleddyf gloyw, a'i ddisclair waiw-ffon: lliaws o la­ddedigion, ac aneirif o gelanedd; a heb ddi­wedd ar y cyrph, trippiant wrth eu cyrph hwynt.

4 O herwydd aml butteindra y buttein dêg, meistres swynion, yr hon a werth genhedloedd trwy ei phutteindra, a theuluoedd trwy ei swynion.

5 WeleEsay. 47.3. Ezec. 16.37. fi i'th erbyn, medd Arglwydd y lluoedd, a datcuddiaf dy odran ar dy wyneb, a gwnaf i genhedloedd weled dy noethni, ac i deyrnasoedd dy warth.

6 A thaflaf ffiaidd bethau arnat, a gwnaf di yn wael, a gosodaf di yn ddrych.

7 A bydd i bawb a'th welo ffoi oddi wrthit, a dywedyd, anrheithiwyd Ninefch, pwy a gwyna iddi? o ba le y ceisiaf ddiddanwyr it?

8 Ai gwell ydwyt nâ NoNeu, fagai. Heb. No Amon. dylwythoc, yr hon a osodir rhwng yr afonydd, ac a amgylchir â dyfroedd, i'r hon y mae y môr yn rhagfur, a'i mûr o'r môr?

9 Ethiopia oedd ei chadernid, a'r Aipht, ac aneirif: Put a Lubim oedd yn gynhorthwy i ti.

10 Er hynny hi a ddygpwyd ymaith, hi a gaethgludwyd; a'i phlant bychain a ddrylliwyd ym mhen pob heol; ac am ei phendefigion y bwriasant goel-brennau, a'i holl wyr mawr a rwymwyd mewn gefynnau.

11 Titheu hefyd aJer. 25.17. feddwi; byddi gudd­iedic, ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn.

12 Dy holl ymddiffynfeydd fyddant fel ffigys-wŷdd, a'i blaen-ffrwyth arnynt, os ys­cydwir hwynt, syrthiant yn safn y bwyttawr.

13 Wele dy bobl yn wragedd yn dy ganol di: pyrth dy dîr a agorir i'th elynion, tân a yssodd dy farrau.

14 Tyn it ddwfr i'r gwarchae, cadarnhâ dy ymddiffynfeydd, dôs i'r dom, sathr y clai, cryfhâ yr odyn briddfaen.

15 Yno y tân a'th ddifa, y cleddyf a'th dyrr ymaith, efe a'th yssa di fel prŷf y rhŵd; ymliossoga fel prŷf y rhŵd, ymliossoga fel y celiog rhedyn.

16 Amlheaist dy farchnad-wŷr rhagor ser y nefoedd:Neu, ymwas­carodd. difwynodd pryf y rhŵd, ac ehe­dodd ymaith.

17 Y rhai coronog sydd fel y locustiaid, a'th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn mawr, y rhai a werssyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog, ond pan gyfodo yr haul, hwy a hedant ymaith, ac ni adwaenir eu man lle y maent.

18 Dy fugeiliaid, brenin Assyria, a hep­piant, a'thNeu, ddewrion. bendefigion aNeu, a drigant yn y llwch. orweddant; gwas­cerir dy bobl ar y mynyddoedd, ac ni bydd a'i casclo.

19 Ni thynnir dy archoll ynghyd, clwyfus yw dy weli; pawb a glywo sôn am danat a gurant eu dwylo arnat; o herwydd pwy nid aeth dy ddrygioni trosto bob amser?

LLYFR HABACCVC.

PENNOD I.

1 Habaccuc yn achwyn rhag anwiredd y wlad, 5 ac yn cael dangos iddo y dialedd erchyll a ddoe trwy 'r Caldeaid: 12 Ac yn cwyno bod yn dialeddu ar y bobl, trwy rai oedd lawer gwaeth nâ hwynt hwy eu hunain.

Y Baich a welodd y prophwyd Habaccuc.

2 Pa hŷd Arglwydd y gwae­ddaf, ac ni's gwrandewi? y bloe­ddiar arnat rhag trais, ac nid achubi?

3 Pa ham y gwnei i'm vreled anwiredd, ac y peri i'm edrych ar flinder? anrhaith, a thrais sydd o'm blaen i, ac y mae a gyfyd ddadl, ac ymryson.

4 Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth, am fodJob. 21.7. Jer. 12.1. y drygionus yn am­gylchu y cyfiawn; am hynny cam farn â allan.

5 GwelwchAct. 13.41. ym mysc y cenhedloedd, ac edrychwch, rhyfeddwch yn aruthrol: canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau, ni choeliwch er ei mynegi i chwi.

6 Canys wele fi yn codi y Caldeaid, cen­hedl chwerw a phrysur, yr hon a rodia ar hŷd llêd y tîr, i feddiannu cyfanneddoedd nid yw eiddynt.

7 Y maent iw hofni, ac iw harswydo,Neu, o honynt hwy y d [...]w allan farn y rhai hyn, a chaeth­glud y rhai hyn. o honynt eu hun y daw allan eu barn, a'i rhag­oriaeth.

8 A'i meirch sydd fuanach nâ'r llewpard­iaid,Zeph. 3.3. a llymmach ydynt nâ bleiddiau 'r hŵyr: eu marchogion hefyd a ymdanant, a'i marchogion a ddeuant o bell, ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd.

9 Hwy a ddeuant oll i dreisio;Neu, eu hwyne­bau a lymmei­dia fel gwynt &c. Heb. cy­feiriad eu hwyne­bau tu a gwynt &c. neu, eu hwyne­bau a edrych tua 'r dwyrain. ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain, a hwy a gasclant gaethion fel y tywod.

10 A hwy a watwarant frenhinoedd, a thy­wyssogion a fyddant watwargerdd iddynt, hwy a watwarant yr holl gestyll, ac a gasclant lŵch, ac a'i gorescynnant.

11 Yna y newidia ei feddwl, ac yr â trosodd, ac a drosedda, gan ddiolch am ei rym ymma iw dduw ei hun.

12 Onid wyt ti er tragywyddoldeb, o Ar­glwydd fy Nuw, fy Sanctaidd? ni byddwn fei­rw; ô Arglwydd, ti a'i gosodaist hwy i farn, ac a'iHeb. sylfae­naist. siccrheaist, ôHeb. Gr [...]ig. Dduw, i gospedigaeth.

13 Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych arNeu, ofid. an­wiredd: pa ham yr edrychi ar yr anffyddlon­iaid, ac y tewi pan lyngco 'r anwir vn cyf­iawnach nag ef ei hun?

14 Ac y gwnei ddynion fel pyscod y môr, [...] yrNeu, ymsym­mudiaid. ymlusciaid heb lywydd arnynt?

15 Cyfodant hwynt oll â'r bâch; casclant hwynt yn eu rhwyd, a chynnullant hwynt yn eu ballegrwydd: am hynny hwy a laweny­chant, ac a ymddigrifant.

16 Am hynny 'r aberthant iw rhwyd, ac y lloscant arogl-darth iw ballegrwydd: canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew, a'i bwyd yn frâs.

17 A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd, ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn wasta­dol?

PEN. II.

1 I Habaccuc, yn disgwyl am atteb, y dangosir y bydd rhaid iddo ddisgwyl trwy ffydd. 5 Y barnedigaethau a ddaw ar y Caldeaid, am eu hannigonolrwydd, 9 a'i trachwant, 12 a'i creulondeb, 15 a'i meddwdod, 18 a'i delw­addoliaeth.

Esa. 21.8. SAfaf ar fy nisgwilfa, ac ymsefydlaf arHeb. yr ymddi­ffynfa. y tŵr, ac a wiliaf, i edrych beth a ddywed efeNeu, ynof. wrthif, a pha beth a attebafNeu, pan dda­dleuer a mi. Heb. ar fy neherydd, neu, fy argyoe­ddiad. pan i'm cerydder.

2 A'r Arglwydd a attebodd, ac a ddywe­dodd; scrifenna y weledigaeth, a gwna hi yn eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a'i darllenno.

3 Canys y weledigaeth sydd etto tros am­ser gosodedic, ond hi a ddywed o'r diwedd, ac ni thwylla; os erys, disgwil am deni; canysHebr. 10.37. gan ddyfod y daw, nid oeda.

4 Wele, yr hwn a ymchwydda nid yw vniawn ei enaid ynddo, ondJoan. 3.36. Rhuf. 1.17. Heb. 10.38. Gal. 3.11. y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffŷdd.

5Neu, Pa faint mwy. A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win, gwr balch yw efe, ac heb aros gartref, yr hwn a helaetha ei feddwl fel vffern, ac y mae fel angeu, ac ni's digonir; ond efe a gascl atto 'r holl genhedloedd, ac a gynnull atto 'r holl bobloedd.

6 Oni chyfyd y rhai hyn oll yn ei erbyn ddihareb, a gair du yn ei erbyn, a dywedyd,Neu, Ho, yr hwn sy yn helae­thu. gwae a helaetho y peth nid yw eiddo: pa hŷd? a'r neb a lwytho arno ei hun y clai tew.

7 Oni chyfyd yn ddisymmwth y rhai a'th frathant? ac oni ddeffry y rhai a'th gyftudd­iant? a thi a fyddi ynNeu, ysclyfaeth wasarn iddynt?

8 Am it yspeilio cenhedloedd lawer, holl weddill y bobloedd a'th yspeilia ditheu: am waed dynion, ac am y trais ar y tîr, ar y ddi­nas, ac ar oll a drigant ynddi.

9Jerem. 22.13. Gwae aNeu, chwen­nycho ddryg­chwant. elwo elw drwg iw dŷ, i osod ei nyth yn vchel, i ddiangc oHeb. gledr llaw y drwg. law y drwg.

10 Cymmeraist gyngor gwarthus i'th dŷ, wrth ddestrywio pobloedd lawer, pechaist yn erbyn dy enaid.

11 O herwydd y garrec a lefa o'r mûr, a'rNeu, darn, neu, cyssyll­tiad. trawstNeu, a dystio­laetha iw herbyn. a'i hettyb o'r gwaith coed.

12 Gwae a adeilado drefEzec. 24.9. Nah. 3.1. trwy waed, ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd.

13 Wele, onid oddi wrth Arglwydd y lluoedd y mae, bod i'r bobl ymflino yn y tân, ac i'r cenhedloedd ymddeffygioNeu, yn ofer. am wir wagedd?

14 Canys y ddaiarEsa. 11.9. a lenwirNeu, trwy ad­nabod. o ŵybod­aeth gogoniant yr Arglwydd, fel y tôa y dyf­roedd y môr.

15 Gwae a roddo ddiod iw gymydog: yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel, ac yn ei feddwi hefyd, er cael gweled eu noethni hwynt.

16 Llanwyd ti o warthNeu, yn fwy nag o ogoniant. yn lle gogoniant;Jer. 25.20. ŷf ditheu hefyd, a noether dy flaen-groen: ymchwel cwppan deheulaw 'r Arglwydd at­tat ti, a chwdiad gwarthus fydd ar dy ogo­niant.

17 Canys trais Libanus a'th orchguddia, ac anrhaith yr anifeiliaid yr hwn a'i dychrynodd hwynt; o achos gwaed dynion, a thrais y tîr, y ddinas, ac oll a drigant ynddi.

18 Pa lês a wnâ i'r ddelw gerfiedig ddar­fod iw lluniwr ei cherfio, i'r ddelw dawdd, acJer. 10.8, 14. Zec. 10.2. athro celwydd, fod lluni-wr eiHeb. lun. waith yn ymddiried ynddo, i wneuthur eulynnod mudion.

19 Gwae a ddywedo wrth bren, deffro; wrth garrec fud, cyfod, efe a rydd addysc; wel [...], gwiscwyd ef ag aur, ac arian; a dim anadl nid oes o'i fewn.

20Psal. 11.4. Ond yr Arglwydd sydd yn ei Deml sanctaidd: y ddaiar oll,N [...]u, go­steged ger ei &c. gostega di ger ei fron ef.

PEN. III.

1 Habaccuc yn ei weddi, yn crynu gan fawr­hydi Duw. 17 Hyder ei ffydd ef.

GWeddi Habaccuc y prophwydNeu, yn ol ca­neuan, (neu, do­nau) cyf­newidiol, a elwir Sigionoth. ar Sig­ionoth.

2 Clywais ô Arglwydd, dyNeu, son. Heb. wranda­wiad. air, ac ofnais, ô ArglwyddNeu, cadw yn fyw. bywhâ dy waith ynghanol y blynyddoedd, par ŵybod ynghanol y blynydd­oedd, yn dy lid cofia drugaredd.

3 Duw a ddaethNeu, o'r deau. o Teman, a'r Sanctaidd o fynydd Paran, Selah. Ei ogoniant a doodd y nefoedd, a'r ddaiar a lanwyd o'i fawl.

4 A'i lewyrch oedd fel goleuni; yr oedd Neu, disclair belydr iddo. cyrn iddo yn dyfod allan o'iNeu, ystlys. law; ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder.

5 Aeth yr haint o'i flaen ef, ac aethNeu, cryd poeth, neu, clefydau gwres. mar­wor tanllyd allan wrth ei draed ef.

6 Safodd, a mesurodd y ddaiar; edrychodd, a gwascarodd y cenhedloedd: y mynyddoedd tragywyddol hefyd a ddrylliwyd, a'r bryniau oesol a grymmasant, llwybrau tragywyddol sydd iddo.

7 TanNeu, Ethiopia. gystudd y gwelais wersyllauNeu, Ethiopia. Cuw­san: cryned llenni tir Midian.Neu, ddiddym, neu, wagedd.

8 A sorrodd yr Arglwydd wrth yr afon­ydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan it far­chogaeth ar dy feirch,Neu, a'th ger­bydau oedd ie­chydwr­iaeth. ac ar gerbydau dy iechydwriaeth.

9 Llwyr noethwyd dy fŵa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Selah. Num. 20.11. HolldaistNeu, afonydd y ddaiar. y ddaiarNeu, yn afonydd. ag afonydd.

10 Y mynyddoedd a'th welsant, ac a gryna­sant; y llifeiriant dwfr a aeth heibio; y dyfnder aHeb. a roddes ei lef. wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn vchel.

11Jos. 10.12. Yr haul a'r lleuad a safodd yn eu pres­swylfa;Neu, yn y gol. y rhodiodd dy saeth­au. wrth oleuadJos. 10.11. dy saethau yr aethant, ac wrth lewyrch dy wayw-ffon ddisclair.

12 Mewn llid y cerddaist y ddaiar, a dyrnaist y cenhedloedd mewn digter.

13 Aethost allan er iechydwriaeth i'th bobl, er iechydwriaeth ynghyd â'th Enneiniog, tor­raist y pen allan o dŷ 'r anwir, gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf. Selah.

14 Trywenaist ben ei faes-drefydd â'i ffyn ei hun;Neu, daethant allan fel corwynt i'm gwas­caru. rhyferthwyasant i'm gwascaru; ymlawenhasant, megis i fwytta y tlawd mewn dirgelwch.

15 Rhodiaist â'th feirch trwy y môr, trwyNeu, laid. ben-twrr o ddyfroedd mawrion.

16 Pan glywais, fy mol a ddychrynodd, fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pyd­redd i'm hescyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorphwyswn yn nydd trallod; pan ddêl efe i fynu at y bobl, efe a'iNeu, dryllia. difetha hwynt â'i fyddinoedd.

17 Er i'r ffigys-bren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwin-wŷdd; gwaith yr oliwyddHeb. a ddywed gelwydd. a balla, a'r meusydd ni roddant fwyd; tor­rir ymmaith y praidd o'r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beu-dai:

18 Etto mi a lawenychaf yn yr Arglwydd, byddaf hyfryd yn Nuw fy iechydwriaeth.

19 Yr Arglwydd Dduw yw fy nerth, a'm traed a wna efe fel2 Sam. 22.34. Psal. 18.33. traed ewigod; ac efe a wna i'm rodio ar fy vchel-leoedd. I'r pen­cerdd ar fyHeb. Neginoth. offer tannau.

¶LL YFR ZEPHANIAH.

PENNOD I.

Dirgel farn Duw ar Juda am amryw bechodau.

GAir yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Zephaniah fab Cusi, fab Geda­liah, fab Amariah, fab Hezeciah, yn amser2 Bren. 22.1. Josiah fab2 Bren. 21.19. Amon brenin Juda.

2 Gan ddestrywio y destrywiaf bôb dim oddi ar wyneb y ddaiar, medd yr Arglwydd.

3 Destrywiaf ddŷn, ac anifail; destrywiaf adar yr awyr, a physcod y môr, a'r tramgwy­ddiadau ynghyd â'r annuwolion, a thorraf ymmaith ddyn oddi ar wyneb y ddaiar, medd yr Arglwydd.

4 Estynnaf hefyd fy llaw ar Juda, ac ar holl bresswylwŷr Jerusalem; a thorraf ymmaith o'r lle hwn weddill Baal, ac enw y2 Bren. 23.5. Hos. 10.5. Chema­riaid, a'r offeiriaid.

5 A'r neb a ymgrymmant ar bennau y tai i lû y nefoedd, a'r addolwŷr y rhai a dyngantNeu, myn yr Argl. i'r Arglwydd, a hefyd a dyngant i Mal­cham.

6 A'r rhai a giliant oddi ar ôl yr Arglwydd, a'r rhai ni cheisiasant yr Arglwydd, ac nid ymofynnasant am dano.

7 Distawa ger bron yr Arglwydd Dduw; canys agos yw dydd yr Arglwydd; o herwydd arlwyodd yr Arglwydd aberth:Heb. sanctei­ddiodd, neu, pa­rottodd. gwahoddodd ei wahoddedigion.

8 A bydd, ar ddydd aberth yr Arglwydd, i mi ymweled â'r tywysogion, ac â phlant y brenin, ac â phawbEzec. 23.14. a wiscant wiscoedd dieithr.

9 Ymwelaf hefyd a phawb a neidiant ar y rhinioc y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais, ac â thwyll.

10 A'r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y bydd llais gwaedd o borth y pyscod, ac vdfa o'r ail, a drylliad mawr o'r bryniau.

11 Vdwch bresswylwŷr Mactes; canys torrwyd ymaith yr holl bobl o farchnadydd­ion; a holl glud-wŷr allan a dorrwyd ym­maith.

12 A'r amser hwnnw y chwiliaf Jerusalem â llusernau, ac yr ymwelaf a'r [...]ynion sydd yn ceulo ar eu sorod, y r [...]ai a [...]ywedant yn eu calon, ni wna yr Arglwydd dda, ac ni wna ddrwg.

13 Am hynny eu cyfo [...]h â y [...] yspail, a'i [Page] teiau yn anghyfannedd;Deut. 28.30. Amos 5.11. adeiladant hefyd dai, ond ni's presswyliant ynddynt; a phlannant winllannoedd, ond nid yfant o'r gwîn.

14 Agos yw mawr ddydd yr Arglwydd, agos a phrysur iawn, sef llais dydd yr Ar­glwydd; yno y bloeddia y dewr yn chwerw.

15Jer. 30.7. Joel 2.11. Amos 5.18. Diwrnod llidioc yw 'r diwrnod hwnnw, diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr ac anghyfannedd-dra: di­wrnod tywyll a du, diwrnod cwmylau, a thywyllni.

16 Diwrnod vdcorn ac alarwm, yn er­byn y dinasoedd caeroc, ac yn erbyn y tyrau vchel.

17 Ac mi a gyfyngaf ar ddynion, a hwy a rodiant megis deillion, am bechu o honynt yn erbyn yr Arglwydd, a'i gwaed a dywelltir fel llŵch, a'i cnawd fel tom.

18 NidDihar. 11.4. Ezec. 7.19. eu harian, na'i haur ychwaith, a ddichon eu hachub hwynt, ar ddiwrnod llid yr Arglwydd; ond â thân ei eiddigedd efPen. 3.8. yr yssir yr holl dîr: canys gwna yr Arglwydd ddiben pryssur ar holl bresswylwŷr y ddaiar.

PEN. II.

1 Annog i edifeirwch. 4 Barn y Philistiaid, 8 a'r Moabiaid, ac Ammon, 12 ac Ethiopia, ac Assyria.

YMgesclwch, ie deuwch ynghyd, genhedlNeu, anhygar, neu, heb chwen­nychu. anhawddgar:

2 Cyn i'r ddeddf escor, cyn i'r dydd fyned heibio fel peisswyn, cyn dyfod arnoch lid digofaint yr Arglwydd, cyn dyfod arnoch ddydd soriant yr Arglwydd.

3 Ceisiwch yr Arglwydd, holl rai llary­eidd y ddaiar, y rhai a wnaethant ei farn ef, ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch laryeidd-dra, fe allei y cuddir chwi yn nydd digofaint yr Arglwydd.

4 Canys bydd Gaza yn wrthodedig, ac Asce­lon yn anghyfannedd; gyrrant allan Asdod hanner dydd, a diwreiddir Ecron.

5 Gwae bresswylwŷr glan ymôr, cenhedl y Cerethiaid; y mae gair yr Arglwydd i'ch er­byn: ô Canaan gwlâd y Philistiaid, mi a'th ddifethaf, fel na byddo cyfanneddwr.

6 A bydd glan y môr yn drigfaau ac yn fythod i fugeiliaid, ac yn gorlannau defaid.

7 A bydd y fro yn rhan i weddill tŷ Juda, porant arnynt, yn nheiau Ascelon y gorwedd­ant yn yr hwyr:Neu, pan ym­welo yr Arglwydd eu Duw a hwynt, a dychwe­lyd &c. canys yr Arglwydd eu Duw a ymwel â hwynt, ac a ddychwel eu caethiwed.

8 Clywais wradwyddiad Moab, a chabledd meibion Ammon, â'r hwn y gwradwyddasant fy mhobl, ac yr ymfawrygasant yn erbyn eu terfynau hwynt.

9 Am hynny fel mai byw fi, medd Ar­glwydd y lluoedd, Duw Israel, fel Sodoma y bydd Moab, a meibion Ammon fel Gomorrah; danhadl-dir, a phylleu halen, ac anghyfan­neddle tragywyddol; gweddill fy mhobl a'i difroda, a gweddill fy nghenedl a'i meddian­na hwynt.

10 Hyn a ddaw iddynt am eu balchder, am iddynt wradwyddo, ac ymfawrygu yn erbyn pobl Arglwydd y lluoedd.

11 Ofnadwy a fydd yr Arglwydd iddynt; canys efe aHeb. gulha. newyna holl dduwiau y ddaiar, ac addolant ef bôb vn o'i fan, sef holl ynysoedd y cenhedloedd.

12 Chwithau hefyd yr Ethiopiaid, a leddir â'm cleddyf.

13 Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd, ac a ddifetha Assyria, ac a wna Ninefeh yn Anghyfannedd, ac yn sych fel diffaethwch.

14 A diadellau a orweddant yn ei chanol hi, holl anifeiliaid y cenhedloedd; yEsa. 34.11. &c. pelican, a'r dylluan hefyd a letteuant ar gap y drŵs, eu llais a gân yn y ffenestri, anghyfannedd-dra a fydd yn y gorsingau;Neu, pan ddi­noetho. canys efe a ddinoetha y cedr-waith.

15 Hon yw 'r ddinas hoyw oedd yn trigo yn ddiofal, yn dywedyd yn ei chalon,Esay. 47.8. myfi sydd ac nid oes ond myfi; pa fodd yr aeth yn anghyfannedd, yn orweddfa anifeiliaid? pawb a'r a êl heibio iddi, a'i hwttia, ac a escwyd ei law arni.

PEN. III.

1 Tost-lym gerydd Jerusalem am amryw bechodau, 8 Annog i ddisgwyl am adferiad Israel, 14 ac i lawenychu o achos eu hymwared gan Dduw.

GVVae 'rNeu, loth. Heb. gromhil. fudr a'r halogedic, y ddinas or­thrymmus,

2 Ni wrandawodd ar y llef, ni dderbynioddNeu, athra­wiaeth. gerydd, nid ymddiriedodd yn yr Arglwydd, ni nesaodd at ei Duw.

3 Ei thywysogion o'i mewn sydd ynEzec. 22.27. Mic. 3.9. Hab. 1.8. llewod rhuadwy, ei barn-wŷr yn fleiddiau yr hwyr,Neu, ni chno­ant yr escyrn hyd y boreu. ni adawant ascwrn erbyn y boreu.

4 EiJer. 23.11. Hos. 9.7. phrophwydi sydd yscafn, yn wŷr an­ffyddlon, ei hoffeiriaid a hologasant y cyssegr,Ezec. 22.26. treisiasant y gyfraith.

5 Yr Arglwydd cyfiawn sydd yn ei chanol: ni wna efe anwiredd:Neu, bob boreu. yn foreu y dwg ei farn i oleuni, ni phalla; onid yr anwir ni fedr gywilyddio.

6 Torrais ymaith y cenhedloedd: euNeu, conglau. ty­rau sydd anghyfannedd, diffeithiais eu heolydd, fel nad elo neb heibio; eu dinasoedd a ddifwyn­wyd, heb ŵr, a heb drigiannol.

7 Dywedais, yn ddiau ti a'm hofni; der­byni gerydd: felly ei thrigfa ni thorrid ymaith, pa fodd bynnac yr ymwelais â hi: etto boreu godasant, a llygrasant eu holl weithred­oedd.

8 Am hynny disgwiliwch arnafi, medd yr Arglwydd, hyd y dydd y cyfodwyf i'r ysclyfaeth; canys fyNeu, fy mryd. marn sydd ar gynnull y cenhedloedd, ar gasclu y teyrnasoedd, i dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint: canys â thân fyPen. 1.18. eiddigedd yr yssir yr holl ddaiar.

9 O herwydd yna yr adferaf i'r bobl wefus bûr, fel y galwo pôb vn o honynt ar enw 'r Arglwydd, iw wasanaethu ef ag vn yscwydd.

10 O'r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dŵg fy ngweddiwyr, sef merch fy ngwascaredic, fy offrwm.

11 Y dydd hwnnw ni'th wradwyddir am dy holl weithredoedd, yn y rhai y pechaist i'm herbyn; canys yna y symudaf o'th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder, fel nad ymdderchafech mwyach yn fy mynydd sanct­aidd.

12 Gadawaf ynot hefyd bobl druain d'od­ion, ac yn enw 'r Arglwydd y gobeithiant hwy.

13 Gweddill Israel ni wna anwiredd, ac ni ddywedant gelwydd; ac ni cheir yn eu geneu­au dafod twyllodrus; canys hwy a borant, ac a orweddant, ac ni bydd a'i tarfo.

14Esai. 12.6. & 54.1. Merch Sion, cân; Israel crechwenna, merch Jerusalem ymlawenycha, a gorfoledda a'th holl galon.

15 Tynnodd yr Arglwydd ymaith dy far­nau, bwriodd allan dy elynion: yr Arglwydd Brenin Israel sydd yn dy ganol, nid ofni ddrŵg mwyach.

16 Y dydd hwnnw y dywedir wrth Jerusa­lem, nac ofna; wrth Sion, na laesed dy ddwylo.

17 Yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn, efe a achub, efe a lawenycha o'th blegid gan lawenydd, efe a lonydda yn ei gar­iad, efe a ymddigrifa ynot dan ganu.

18 Casclaf y rhai sydd brudd am y gym­manfa, y rhai sydd o honot, i'r rhai yr oeddHeb. y baich arno yn wrad­wydd. ei gwradwydd yn faich.

19 Wele, mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a'th flinant, ac aMic. 4.7. achubaf y gloff, a chasclaf y wascaredic, ac a'i gosodaf yn glod­fawr, ac yn enwoc, yn holl dîr eu gwarth.

20 Yr Amser hwnnw y dygaf chwi drachefn, yr amser i'ch casclaf; canys gwnaf chwi yn enwoc, ac yn glodfawr ym mysc holl bobl y ddaiar, pan ddychwelwyf eich caethiwed o flaen eich llygaid, medd yr Arglwydd.

¶LLYFR HAGGAI.

PENNOD I.

1 Haggai yn beio ar y bobl am esceuluso adei­ladu y tŷ: 7 yn eu hannog hwy iw adeiladu ef: 12 Ac yn addo cymmorth Duw iddynt os gwnaent hynny yn ewyllysgar.

YN yr ail flwyddyn i'r brenin Da­rius, yn y chweched mîs, ar y dydd cyntaf o'r mîs, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y prophwyd, at Zorobabel fab Salathiel, tywysog Juda; ac at Josua fab Jo­fedech yr arch-offeiriad, gan ddywedyd;

2 Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, y bobl hyn a ddywedant, ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ 'r Ar­glwydd.

3 Yna y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y prophwyd, gan ddywedyd;

4 Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedic, a'r tŷ hwn yn anghyfan­nedd?

5 Fel hyn gan hynny yn awr y dywed Ar­glwydd y lluoedd;Heb. gosodwch eich ca­lonnou ar eich ffyrdd. ystyriwch eich ffyrdd.

6Deut. 28.38. Mic. 6.14, 15. Hauasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwytta yr ydych ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwiscasoch, ac nid hyd glydwr i neb; a'r hwn a ennillo gyflog, sydd yn casclu cyflog i gôd dylloc.

7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, ystyriwch eich ffyrdd.

8 Escynnwch i'r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ;1 Bren. 8.21.29. mi a ymfodlonaf ynddo, ac i'm gogoneddir, medd yr Arglwydd.

9 Edrychasoch am lawer, ac wele yr oedd yn ychydig; a phan y dygasoch adref,Neu, chwy­thais ef ymaith. chwy­thais arno: am ba beth, medd Arglwydd y lluoedd? am y tŷ mau fi, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb iw dŷ ei hun.

10 Am hynny gwaharddwyd i'rDeut. 28.23. nefoedd oddiarnoch wlitho, a gwaharddwyd i'r ddaiar roddi ei ffrwyth.

11 Gelwais hefyd am sychder ar y ddaiar, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷd, ac ar y gwîn, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaiar allan; ar ddŷn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylo.

12 Yna y gwrandwodd Zorobabel mab Salathiel, a Josua mab Josedech yr arch­offeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr Ar­glwydd eu Duw, ac ar eiriau Haggai y pro­phwyd; (megis yr anfonasai eu Harglwydd Dduw hwynt ef) a'r bobl a ofnasant ger bron yr Arglwydd.

13 Yna Haggai cennad yr Arglwydd, a ddywedodd trwy gennadwri yr Arglwydd wrth y bobl, gan ddywedyd; yr wyf fi gyd â chwi, medd yr Arglwydd.

14 Felly y cynnhyrfodd yr Arglwydd yspryd Zorobabel fab Salathiel, tywysog Juda, ac yspryd Josua fab Josedech yr arch-offeiriad, ac yspryd holl weddill y bobl, a hwy a ddae­thant, ac a weithiasant y gwaith yn nhŷ Ar­glwydd y lluoedd, eu Duw hwynt;

15 Y pedwerydd dydd ar hugain o'r chweched mîs, yn yr ail flwyddyn i Ddarius y brenhin.

PEN. II,

1 Y mae yn rhoi calon yn y bobl i weithio, trwy addaw gogoniant mwy i'r ail Deml, nag oedd yn y gyntaf. 10 Tan rith pethau sanctaidd a phethau aflan, y mae yn dangos fod eu pecho­dau hwy yn rhwystro 'r gwaith. 20 Addewid Duw i Zorchabel.

YN y seithfed mîs, ar yr vnfed dydd ar hugain o'r mîs, y daeth gair yr Ar­glwydd trwy law y prophwyd Haggai, gan ddywedyd;

2 Dywed yn awr wrth Zorobabel fab Sala­thiel tywysog Juda, ac wrth Josua fâb Josedech yr arch-offeiriad, ac wrth weddill y bobl, gan ddywedyd;

3 Pwy yn eich plith a adawyd, yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon? onid yw wrth hwnnw yn eich golwg, fel peth heb ddim?

4 Etto yn awr ymgryfhâ Zorchabel, medd yr Arglwydd, ac ymgrythâ Josua mab Jose­dech yr arch-offeiriad, ac ymgryfhewch holl bobl y tir, medd yr Arglwydd, a gweithiwch; canys yr ydwyf fi gyd â chwi,, medd Arglwydd y lluoedd.

5 Yn ôl y gair a ammodais â chwi, pan ddaethoch allan o'r Aipht, felly yr erys fy Yspryd yn eich mysg: nag ofnwch.

6 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd,Heb. 12.26. vnwaith etto, ennyd fechan yw, a mi a escydwaf y nefoedd, a'r ddaiar, a'r môr, a'r sychdir.

7 Yscydwaf hefyd yr holl genhedloedd, a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw; llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant, medd Arglwydd y lluoedd.

8 Eiddo fi 'r arian, eiddo fi 'r aur, medd Arglwydd y lluoedd.

9 Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn, nâ'r cyntaf, medd Arglwydd y lluoedd; ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnheddyf, medd Ar­glwydd y lluoedd,

10 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mîs, yn yr ail flwyddyn i Ddarius, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y prophwyd, gan ddywedyd;

11 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, gofyn yr awr hon i'r offeiriaid y gyfraith, gan ddywedyd;

12 Os dwg vn gîg sanctaidd ynghwrr ei wisc, ac â'i gwrr a gyffwrdd â'r bara, neu â'r cawl, neu a'r gwîn, neu â'r olew, neu â dim o'r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? a'r offei­riaid a attebasant, ac a ddywedasant, na fyddant.

13 A Haggai a ddywedodd, os vn a fo aflan gan gorph marw a gyffwrdd â dim o'r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? a'r offeiriaid a at­tebasant, ac a ddywedasant, byddant aflan.

14 Yna 'r attebodd Haggai, ac addywe­dodd, felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr Ar­glwydd; ac felly y mae holl waith eu dwylo, a'r hyn a aberchant yno, yn aflan.

15 Ac yr awr hon meddyliwch atolwg, o'r diwrnod hwn allan, a chynt, cyn gosod carrec ar garrec yn Nheml yr Arglwydd;

16 Er pan oedd y dyddiau hynny, pan dde­lid at dwrr o vgain llestreid, dêc fyddei; pan ddelid at y gwin-wryf i dynnu dêc llestreid a deugain o'r cafn, vgain a fyddei yno.

17Amos 4.9. Tarewais chwi â diflanniad, ac â mallder, ac â chenllysc, yn holl waith eich dwylo, a chwithau ni throesoch attafi, medd yr Arglwydd.

18 Ystyriwch yr awr hon, o'r dydd hwn, ac er cynt, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mîs; ac ystyriwch o'r dydd y sylfaen­wyd Teml yr Arglwydd.

19 A yw 'r hâd etto yn yr yscubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a'r pomgra­nad, a'r pren oliwydd, ni ffrwythasant: o'r dydd hwn allan y bendithiaf chwi.

20 A gair yr Arglwydd a ddaeth eilwaith at Haggai, ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r mîs, gan ddywedyd,

21 Llefara wrth Zorobabel tywysog Juda, gan ddywedyd; myfi a escydwaf y nefoedd a'r ddaiar.

22 Ac mi a ymchwelaf deym-gadeir teyr­nasoedd, ac a ddinistriaf gryfder brenhiniae­thau y cenhedloedd, ymchwelaf hefyd y cerbydau, a'r rhai a eisteddant ynddynt: a'r meirch a'i marchogion a syrthiant bob vn gan gleddyf ei frawd.

23 Y diwrnod hwnnw medd Arglwydd y lluoedd, i'th gymmeraf di, fy ngwâs Zoroba­bel mab Salathiel, medd yr Arglwydd, ac i'th wnaf fel sêl; canys mi a'th ddewisais di, medd Arglwydd y lluoedd.

¶LLYFR ZECHARIAH.

PENNOD I.

1 Zechariah yn annog i edifeirwch. 7 Gweled­igaeth y meirch. 12 Trwy weddi yr Angel y gwneir addewidion cyssurol i Jerusalem. 18 Gwe­ledigaeth y pedwar corn, a'r pedwar saer.

YN yr wythfed mîs o'r ail flwyddyn i Ddarius, y daeth gair yr Ar­glwydd at Zechariah, fâb Barachiah, fab Ido y prophwyd, gan ddy­wedyd;

2 Llwyr ddigiodd yr Arglwydd wrth eich tadau.

3 Am hynny dywed wrthynt, fel hyn y dy­wed Arglwydd y lluoedd;Jer 31.18. Esa. 31.6. & 45.22. Mal. 3.7. dychwelwch attaf fi, medd Arglwydd y lluoedd, a mi a ddychwelaf attoch chwithau, medd Arglwydd y lluoedd.

4 Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y prophwydi o'r blaen arnynt, gan ddywedyd,Jer. 3.12. & 18.11. Ezec. 18.30. Hosc. 14.2. Joel. 2.12. fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg, ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wranda­went arnaf, medd yr Arglwydd.

5 Eich tadau, pa le y maent hwy? a'r pro­phwydi, ydynt hwy yn fywbyth?

6 Oni ddarfu er hynny i'm geiriau, a'm deddfau, y rhai a orchymynnais wrth fy ngweision y prophwydi,Neu, ymaflyd yn eich tadau? oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelasant, ac a ddywedasant,Galar. 1.18. me­gis y meddyliodd Arglwydd y lluoedd wneu­thur i ni yn ôl ein ffyrdd, ac yn ôl ein gwei­thredoedd ein hun, felly y gwnaeth efe â ni.

7 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r vnfed mîs ar ddêc, hwnnw yw mîs Sebat, o'r ail flwy­ddyn i Ddarius, y daeth gair yr Arglwydd at Zechariah fab Barachiah, fab Ido y prophwyd, gan ddywedyd,

8 Gwelais noswaith, ac wele wr yn mar­chogeth ar farch côch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrt-wŷdd, y rhai oedd yn y pant, ac o'i ôl ef feirch cochion,Neu, gwincuon. brithion, a gwynion.

9 Yna y dywedais, beth yw y rhai hyn, fy Arglwydd? a dywedodd yr Angel oedd yn ymddiddan â mi, wrthif, mi a ddangosaf it beth yw y rhai hyn.

10 A'r gŵr, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrt-wŷdd, a attebodd, ac a ddywedodd, dymma y rhai a hebryn [...]dd yr Arglwydd i ymrodio trwy 'r ddaiar.

11 A hwythau a attebasant Angel yr Ar­glwydd, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, rhodiasom trwy 'r ddaiar, ac wele 'r holl ddaiar yn eistedd, ac yn llonydd.

12 Ac Angel yr Arglwydd a attebodd, ac a ddywedodd, ô Arglwydd y lluoedd, pa hŷd ni thrugarhei wrth Jerusalem, a dinasoedd Juda, wrth y rhai y digiaist y deng-mhlynedd a thru­gain hyn?

13 A'r Arglwydd a attebodd yr Angel oedd yn ymddiddan â mi, â geirlau daionus, a geiriau comfforddus.

14 A'r Angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a ddywedodd wrthif; gwaedda gan ddywedyd, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd,Pen. 8.2. deliais eiddigedd mawr dros Jerusa­lem, a thros Sion:

15 A digiais yn ddirfawr wrth y cenhed­loedd difraw, y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynnorthwyasant y niwed.

16 Am hynny, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, dychwelais at Jerusalem â thrugaredd­au; fy nhŷ a adeiledir ynddi, medd Arglwydd y lluoedd, a llinyn a estynnir ar Jerusalem.

17 Gwaedda etto gan ddywedyd, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, fy ninasoedd a ymchengant gan ddaioni, a'r Arglwydd a rydd gyssur i Sion etto, ac a ddewis Jerusalem etto.

18 A chodais fy llygaid, ac edrychais, ac wele bedwar corn.

19 A dywedais wrth yr Angel oedd yn ymddiddan â mi, beth yw y rhai hyn? dy­wedodd ynteu wrthif, y rhai hyn yw 'r cyrn a wascarasant Juda, Israel, a Jerusalem.

20 A'r Arglwydd a dangosodd i mi bed­war saer hefyd.

21 Yna y dywedais, i wneuthur pa beth y daw y rhai hyn? ac efe a lefarodd, gan ddywedyd, y rhai hyn yw 'r cyrn a wascarasant Juda, fel na chodei vn ei ben: ond y rhai hyn a ddaethant iw tarfu hwynt, i daflu allan gyrn y cenhedloedd, y rhai a godasant eu cyrn ar wlâd Juda, iw gwascaru hi.

PEN. II.

1 Duw o'i ofal tros Jerusalem yn anfon iw me­suro hi. 6 Gwared Sion. 10 Addewid o bre­sennoldeb Duw.

DErchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele wr, ac yn ei law linyn mesur.

2 A dywedais, i ba le 'r ei di? ac efe a ddy­wedodd wrthif, i fesuro Jerusalem, i weled beth yw ei llêd hi, a pheth yw ei hŷd hi.

3 Ac wele yr Angel a oedd yn ymddiddan â mi, yn myned allan, ac Angel arall yn my­ned allan iw gyfarfod ef.

4 Ac efe a ddywedodd wrtho, rhêd, llefara wrth y llangc hwn, gan ddywedyd, Jerusalem a gyfanneddir fel Neu, trefi heb gaerau. maesdrefi, rhac amled dŷn, ac anifail o'i mewn.

5 Canys byddaf iddi yn fûr o dân o am­gylch, medd yr Arglwydd, a byddaf yn ogon­iant yn ei chanol.

6 Hô, hô, deuwch allan, a ffowch o wlad y gogledd, medd yr Arglwydd; canys tenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr Ar­glwydd.

7 O Sion, ymachub, yr hon wyt yn pres­wylio gyd â merch Babilon.

8 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, ar ôl y gogoniant i'm anfonodd at y cenhedloedd, y rhai a'ch yspeiliasant chwi:Deut. 32.10. Psal. 17.8. canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â chanwyll ei lygad ef.

9 Canys wele fi yn escwyd fy llaw arnynt, a byddant yn sclyfaeth iw gweision: a chânt wybod mai Arglwydd y lluoedd a'm hanfonodd.

10Esai. 12.6. & 54.1. Cân a llawenycha, merch Sion; canys wele fi yn dyfod; aLefit. 26.12. Ezec. 37.27. 2 Cor. [...].16. mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr Arglwydd.

11 A'r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr Arglwydd, ac a fyddant bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di, a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a'm han­fonodd attat.

12 A'r Arglwydd a etifedda Juda, ei ran yn y tîr sanctaidd, ac a ddewis Jerusalem drachefn.

13 Pob Cnawd, taw yngwŷdd yr Ar­glwydd, canys cyfododd o drigsa ei sancteidd­rwydd.

PEN. III.

1 Tan rith Josua y dangosir adferiad yr Eglwys. 8 Addaw Christ y Blaguryn.

AC efe a ddangosodd i mi Josua 'r Arch­offeiriad, yn sefyll ger bron Angel yr Ar­glwydd, aSef, gwrth­wyneb­wr. Satan yn sefyll ar ei ddeheu-law ef, iw wrthwynebu ef.

2 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan,Jud. 9. cerydded yr Arglwydd dydi Satan, sef yr Ar­glwydd yr hwn a ddewisodd Jerusalem, a'th geryddo. Onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o'r tân?

3 A Josua ydoedd wedi ei wisco â dillad budron, ac yn sefyll yngŵydd yr Angel.

4 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger ei fron, gan ddywedyd, cymmerwch ymmaith y dillad budron oddi am dano ef: wrtho yntef y dywedodd, wele symudais dy anwiredd oddi wrthit, a gwiscaf di hefyd â newid dillad.

5 A dywedais hefyd, rhoddant feitr têg ar ei ben ef; a rhoddasant feitr têg ar ei ben ef, ac a'i gwiscasant â dillad, ac Angel yr Ar­glwydd oedd yn sefyll ger llaw.

6 Ac Angel yr Arglwydd a dystiolaeth [...]dd wrth Josua, gan ddywedyd;

7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, os rhodi di yn fy ffyrdd, ac os cedwiNeu, fy ordin­had. fy nghad­wriaeth, titheu hefyd a ferni fy nhŷ, ac a gedwi fy nghynteddoedd, rhoddaf it hefydHeb. rodf [...]ydd i rodio. leoedd i rodio ym mysc y rhai hyn sydd yn sefyll ymma.

8 Gwrando attolwg Josua 'r Arch-offeiriad, ti a'th gyfeillion sydd yn eistedd ger dy fron; canys gwŷr rhyfedd yw y rhai hyn: o her­wydd wele dygaf allan fy ngwas yEsai. 11.1. Jer. 23.5. & 33.15. Pen. 6.12. Luc. 1.78. Blaguryn.

9 Canys wele y garrec a roddais ger bron Josua, ar vn garrec y bydd saith o lygaid, wele fi yn naddu ei naddiad hi, medd Arglwydd y lluoedd: a mi a symmudaf ymmaith anwiredd y tîr hwnnw mewn vn diwrnod.

10 Y dwthwn hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y gelwch bob vn ei gymmydog tan yEsai. 2.2, 3. Mic. 4.4. winwydden, a than y ffigyf-bren.

PEN, IV.

1 Trwy weledigaeth y canwyllbren aur y dangosir y llwyddiant a gai sylfaeniad Zorobabel. 11 Ac wrth y ddwy oliwydden, yr arwyddocceir y ddau enneiniog.

A'R Angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a ddychwelodd, ac a'm deffrôdd, fel y deffroir vn o'i gwsc:

2 Ac a ddywedodd wrthif, beth a weli di? a mi a ddywedais; edrychais, ac wele ganhwyll­bren i gyd o aur, a'i badell ar ei ben, a'i saith lusern arno,Neu, a saith, saith me­ddaf, o bi­bellau i'r llusernau. a saith o bibellau i'r saith lusern oedd ar ei ben ef.

3 A dwy oliwydden wrtho, y naill o'r tu dehau i'r badell, a'r llall o'r tu asswy iddi.

4 A mi a attebais, ac a ddywedais wrth yr Angel oedd yn ymddiddan â mi, gan ddy­wedyd, beth yw y rhai hyn, fy Arglwydd?

5 A'r Angel oedd yn ymddiddan â mi, a attebodd, ac a ddywedodd wrthif; oni wyddost beth yw y rhai ymma? yna y dywedais, na wn, fy Arglwydd.

6 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wr­thif, gan ddywedyd; hyn yw gair yr Ar­glwydd at Zorobabel, gan ddywedyd; nid trwyNeu, allu. lu, ac nid trwy nerth, onid trwy fy Yspryd, medd Arglwydd y lluoedd.

7 Pwy wyt ti, y mynydd mawr? ger bron Zorobabel y byddi yn wastadedd; ac efe a ddŵg allan y maen pennaf, gan weiddi, Rhâd, rhâd iddo.

8 Daeth gair yr Arglwydd attaf drachefn, gan ddywedyd;

9 Dwylo Zorobabel a sylfaenasant y tŷ hwn, a'i ddwylo ef a'i gorphen, a chei ŵy­bod mai Arglwydd y lluoedd a'm hebryngodd attoch.

10 Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain? canys llawenychant, a gwel­ant yNeu, plwm. garrec alcam yn llaw Zorobabel, gydâ 'r saith hynny:Pen. 3.9. llygaid yr Arglwydd [Page] ydynt, y rhai sy'n cynniwer trwy 'r holl ddaiar.

11 A mi a attebais, ac a ddywedais wrtho, beth yw y ddwy oliwydden hyn, ar y tu dehau i'r canhwyll-bren, ac ar ei asswy?

12 Ac mi a attebais drachefn, ac a ddywedais wrtho, beth yw y ddau bingcyn oliwydden, y rhaiHeb. trwy law y ddwy bibell. trwy y ddwy bibell aur, sydd yn tywallt allan o honynt eu hunainNeu, olew i'r aur. Heb. yr aur. yr dew euraid?

13 Ac efe a lefarodd wrthif, gan ddywe­dyd, oni ŵyddosti beth yw y rhai hyn? a dywedais, na wn fy Arglwydd.

14 Ac efe a ddywedodd, dymmaHeb. ddau fab yr olew, sef, y ddau en­neinlog. y ddwy gaingc oliwydden sydd yn sefyll ger bron Arglwydd yr holl ddaiar.

PEN. V.

1 Wrth y llyfr yn ehedeg y dangosir melldith lladratta a thyngu. 5 Yn rhith gwraig yn eistedd mewn Ephah, a thalent o blwm, y dangosir damnedigaeth Babilon.

YNa y troais, a chodais fy llygaid, ac edrychais, ac wele blŷg llyfr yn hedeg.

2 Ac efe a ddywedodd wrthif, beth a weli di? a dywedais, mi a welaf blŷg llyfr yn hedeg, a'i hŷd yn vgain cufydd, a'i lêd yn ddêc cufydd.

3 Ac efe a ddywedodd wrthif, dymma 'r felldith sydd yn myned allan ar wyneb yr holl ddaiar, canysNeu, pob vn o'r bobl hyn a ledratto, a'l cyfrif ei hun yn ddieuog, fel y gwna hi­thau; &c. pob vn a ledratto a dorrir ymaith, fel o'r tu yma, yn ei hôl hi; a phob vn a dyngo a dorrir ymaith, fel o'r tu accw, yn ei hôl hi.

4 Dygaf hi allan, medd Arglwydd y lluoedd, a hi a ddaw i dŷ y lleidr, ac i dŷ y neb a dyngo i'm henw i ar gam, a hi a erys yngha­nol ei dŷ ef, ac a'i difa ef, a'i goed, a'i gerric.

5 Yna yr Angel oedd yn ymddiddan â mi a aeth allan, ac a ddywedodd wrthif, cyfod yn awr dy lygaid, ac edrych beth yw hyn sydd yn myned allan.

6 Ac mi a ddywedais, beth ydyw? ac efe a ddywedodd, Ephah ydyw sydd yn myned allan: ac efe a ddywedodd, dymma eu gweled­iad yn yr holl ddaiar.

7 Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fynu; a dymma wraig yn eistedd ynghanol yr Ephah.

8 Ac efe a ddywedodd, anwiredd yw hon, ac efe a'i taflodd hi i ganol yr Ephah, a bwr­iodd y pwys plwm ar ei enau ef.

9 A chyfodais fy llygaid, ac edrychais, ac wele ddwy wragedd yn dyfod allan, a gwynt yn eu hescyll, (canys escyll oedd ganddynt, fel escyll y Ciconia) a chyfodasant yr Ephah rhwng y ddaiar a'r nefoedd.

10 Yna y dywedais wrth yr Angel oedd yn ymddiddan â mi, i ba le y mae y rhai hyn yn myned â'r Ephah?

11 Dywedodd ynteu wrthif, i adeiladu iddi dŷ yngwlad Sinar: a hi a siccrheir, ac a osodir yno ar ei stôl ei hun.

PEN. VI.

1 Gweledigaeth y pedwar cerbyd. 9 Tan rith coronau Josua y dangosir Teml a brenhiniaeth Christ y Blaguryn.

HEfyd mi a droais, ac a dderchefais fy llygaid, ac a edrychais, ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd: a'r mynyddoedd oedd fynyddoedd o brês.

2 Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch coch­ion, ac yn yr ail cerbyd meirch duon,

3 Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwyn­ion, ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brith­ion, a Neu, chryfion. gwineuon.

4 Yna 'r attebais, ac y dywedais wrth yr Angel oedd yn ymddiddan â mi; beth yw y rhai hyn, fy Arglwydd?

5 A'r Angela attebodd, ac a ddywedodd; dymma bedwarNeu, gwynt. yspryd y nefoedd, y rhai sy'n myned allan o sefyll ger bron Arglwydd yr holl ddaiar.

6 Y meirch duon sydd ynddo, a ânt allan i dîr y gogledd, a'r gwynion a ânt allan ar eu hôl hwythau, a'r brithion a ânt allan i'r de­heu-dîr.

7 A'r gwineuon a aethant allan, ac a geisia­sant fyned i gynniwer trwy 'r ddaiar, ac efe a ddywedodd, ewch, cyniwerwch trwy y ddaiar; felly hwy a gyniwerasant trwy 'r ddaiar.

8 Yna efe a waeddodd arnaf, ac a lefarodd wrthif, gan ddywedyd; edrych, y rhai a aeth­ant i dîr y gogledd, a lonyddasant fy Yspryd yn nhîr y gogledd.

9 A daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddy­wedyd,

10 Cymmer gan y gaethglud, gan Heldai, gan Tobiah, a chan Jedaiah, y rhai a ddaethant o Babilon, a thyred y dydd hwnnw, a dôs i dŷ Josiah fab Zephaniah;

11 Yna cymmer arian, ac aur, a gwna goronau, a gosod ar ben Josua fab Josedech yr Arch-offeiriad;

12 A llefara wrtho gan ddywedyd, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, wele y gŵr a'i enwPen. 3.8. Blaguryn,Neu, oddi tano ef. o'i lê hefyd y blagura, ac efe a adellada Deml yr Ar­glwydd:

13 Ie Teml yr Arglwydd a adeiliada efe, ac efe a ddŵg y gogoniant, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhin-faingc, bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhin-faingc, a chyngor hedd a fydd rhyngddynt ill dau.

14 A'r coronau fydd i Helem, ac i Tobiah, ac i Jedaiah, ac i Hen fab Zephaniah; er coffadwriaeth yn Nheml yr Arglwydd.

15 A'r pellennigion a ddeuant, ac a adeilad­ant yn Nheml yr Arglwydd, a chewch wybod mai Arglwydd y lluoedd a'm anfonodd attoch; a hyn a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr Arglwydd Dduw.

PEN. VII.

1 Y Caethion yn ymofyn am ympryd. 4 Zecha­rich yn argyoeddi eu hympryd hwy. 8 Pechod yw 'r achos o'i caethiwed hwy.

AC yn y bedwaredd flwyddyn i'r brenin Darius, y daeth gair yr Arglwydd at Ze­chariah, ar y pedwerydd dydd o'r nawfed mîs, sef Cisleu;

2 Pan anfonasent Sareser, a Regem-melech, a'i gwŷr i dŷ Dduw, iHeb. ymbil a [...] wyneb yr Arglwydd. weddio ger bron yr Arglwydd:

3 Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhŷ Arglwydd y lluoedd, ac wrth y prophwydi, gan ddywedyd, a wylaf fi y pummed mîs, gan ymnaillduo, fel y gwneu­thym weithian gymmaint o flynyddoedd?

4 Yna gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth attaf, gan ddywedyd;

5 Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru, panEsay. 58.5. oeddych yn ym­prydio, ac yn galaru y pummed, a'r seithfed [Page] mîs, y dêng mhlynedd a thrugain hynny, ai i mi 'r ymprydiasoch chwi ympryd, i mi?

6 A phan fwyttasoch, a phan yfasoch,Neu, ond chwi yw y rhai oedd yn bwytta? &c. onid oeddych yn bwytta i chwi eich hunain, ac yn yfed i chwi eich hunain?

7Neu, onid dym­ma 'r geiriau? &c. Oni ddylech wrando y geriau a gyhoedd­odd yr Arglwydd trwy law y prophwydi gynt, pan oedd Jerusalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a'i dinasoedd o'i hamgylch, a phobl yn cyfanneddu y deheu-dir, a'r dyffryn­dir?

8 A daeth gair yr Arglwydd at Zechariah, gan ddywedyd,

9 Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd; bernwch farnHeb. gwirio­nedd. gywir, gw­newch drugaredd a thosturi bob vn iw frawd.

10 Ac na orthrymmwchExod. 22.21.22. Esai. 1.23. Jer. 5.28. y weddw, a'r ymddifad, y dieithr a'r anghenoc; ac na feddyliwch ddrwg bob vn iw gilydd, yn eich calonnau.

11 Er hyn gwrthodasant wrando, a rhodda­sant yscwydd anhydyn, a thrymhasant eu clu­stiau rhac clywed.

12 Gwnaethant hefyd eu calonnau yn Ada­mant, rhac clywed y gyfraith a'r geiriau a an­fonodd Arglwydd y lluoedd drwy ei yspryd, yn llaw y prophwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddi wrth Arglwydd y lluoedd.

13 A bu megis y galwodd efe, ac na wran­dawent hwy; fellyDihar. 1.28. Esai. 1.15. Jer. 11.11. & 14.12. y galwasant hwy, ac ni's gwrandawn innau, medd Arglwydd y lluoedd.

14 Onid gwascerais hwynt â chorwynt, i blith yr holl genhedloedd, y rhai nid adwae­nent; a'r tîr a anghyfanneddwyd ar eu hôl hwynt, fel nad oedd a'i tramwyai, nac a ddychwelai: felly y gosodasant y wlad ddy­munol yn ddiffaethwch.

PEN. VIII,

1 Adnewyddu Jerusalem. 9 Eu cyssuro hwy i adeiladu, trwy fod ffafor Duw tuac attynt. 16 Gweithredoedd da y mae Duw yn eu gofyn ganddynt. 18 Addaw llawenydd a rhyddhâd.

DRachefn y daeth gair Arglwydd y lluoedd attaf, gan ddywedyd,

2 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd,Pen. 1.14. eiddigeddais eiddigedd mawr dros Sion, ac â llid mawr yr eiddigeddais drosti.

3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, dychwe­lais at Sion, a thrigaf ynghanol Jerusalem, a Je­rusalem a elwir dinas y gwirionedd, a mynydd Arglwydd y lluoedd; y mynydd sanctaidd.

4 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, hên wŷr, a hên wragedd a drigant etto yn heolydd Jerusalem, a phob gŵr a'i ffon yn ei law, o herwydd amlder dyddiau.

5 A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod, yn chwarae yn ei heolydd hi.

6 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, osNeu, rhyfedd. anhawdd yw hyn yn y dyddiau hyn, yngo­lwg gweddill y bobl hyn, aiNeu, rhyfedd. anhawdd fyddei hefyd yn fy ngolwg i, medd Arglwydd y lluoedd?

7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, wele fi yn gwaredu fy mhobl o dîr y dwyrain, ac o dir machludiad haul.

8 A mi a'i dygaf hwynt fel y presswyliont ynghanol Jerusalem: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a byddaf innau iddynt hwythau yn Dduw, mewn gwirionedd, ac mewn cyf­iawnder.

9 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, cryfhaer eich dwylo chwi, y rhai ydych yn clywed yn y dyddiau hyn y geiriau hyn o enau y prophwydi, y rhai oedd yn y dydd y sylfaenwyd tŷ Arglwydd y lluoedd, fel yr adeiledid y Deml.

10 Canys cyn y dyddiau hynNeu, y cyflog hwn i ddyn, aeth yn ddi­ddim, ac nid oedd llog am &c. nid oedd naHag. 16. chyflog i ddŷn, na llog am anifail, na he­ddwch i'r vn a elei allan, nac a ddelei i mewn, gan y gorthrymder: o blegit gyrrais yr holl ddynion, bob vn ym mhen ei gymydog.

11 Ond yn awr ni byddaf fi i weddill y bobl hyn, megis yn y dyddiau gynt, medd Ar­glwydd y lluoedd.

12 Canys bydd yr hâdHeb. yn hedd­wch. yn ffynnadwy, y winwydden a rydd ei ffrwyth, a'r ddaiar a ddŷd ei chynnyrch, a'r nefoedd a roddant eu gwlith, a pharaf i weddill y bobl hyn feddian­nu yr holl bethau hyn.

13 A bydd mai megis y buoch chwi tŷ Juda, a thŷ Israel, yn felldith ym mysc y cen­hedloedd, felly i'ch gwaredaf chwi, a byddwch yn fendith: nac ofnwch, ond cryfhaer eich dwylo.

14 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, fel y meddyliais eich drygu chwi, pan i'm digiodd eich tadau, medd Arglwydd y lluoedd, ac nid edifarheais:

15 Felly drachefn y meddyliais yn y dyddiau hyn wneuthur llês i Jerusalem, ac i dŷ Juda; nac ofnwch.

16 Dymma y pethau a wnewch chwi,Ephes. 4.25. dywedwch y gwîr bawb wrth ei gymydog, bernwch farnHeb. a gwir­ionedd tangnhe­ddyf. gwirionedd a thangneddyf yn eich pyrth.

17 Ac na fwriedwch ddrwg neb iw gilydd yn eich calonnau, ac na hoffwch lw celwy­ddoc: canys yr holl bethau hyn a geseais, medd yr Arglwydd.

18 A gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth at­taf, gan ddywedyd;

19 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; ympryd y pedwerydd mîs, ac ympryd y pum­med, ac ympryd y seithfed, ac ympryd y dec­fed, a fydd i dŷ Juda yn llawenydd a hyfryd­wch, ac ynHeb. amserau gosodedig. vchel-wyliauNeu, hyfryd. daionus: gan hyn­ny cerwch wirionedd, a heddwch.

20 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, bydd etto, y daw pobloedd, a phresswylwŷr dinasoedd lawer:

21 Ac yr â presswylwŷr y naill ddinas i'r llall, gan ddywedyd;Esai. 2.2.3. Mic. 4.1.2. awn gan fyned i weddio ger bron yr Arglwydd, ac i geisio Arglwydd y lluoedd, minneu a âf hefyd.

22 Ie pobloedd lawer, a chenhedloedd cryfion a ddeuant i geisio Arglwydd y lluoedd yn Jerusalem; acHeb. ymbil ag wyneb yr Argl­wydd. i weddio ger bron yr Ar­glwydd.

23 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, yn y dyddiau hynny y bydd i ddêc o ddynion, o bob tafod-iaith y cenhedloedd, ymaflyd, ymaflyd meddaf yngodrau gwr o Iddew, gan ddywedyd; awn gyd â chwi, canys clywsom fod Duw gydâ chwi.

PEN. IX.

1 Duw yn amddiffyn ei Eglwys. 9 Annog Si­on i lawenychu am ddyfodiad Christ, a'r heddy­chol frenhiniaeth. 12 Duw yn addaw buddugoliaeth ac amddiffyn.

BAich gair yr Arglwydd yn nhîr Hadrach, a Damascus fydd ei orphwysfa ef: pan [Page] fyddo llygaid dyn ar yr Arglwydd, fel yr eiddo holl lwythau Israel.

2 A Hamath hefyd a derfyna wrthi: Tyrus, a Sidon hefyd, er ei bod ynEzec. 28.3. &c. ddoeth iawn.

3 A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun ym­ddiffynfa, ac a bentyrrodd arian fel llwch, ac aur coeth fel tom yr heolydd.

4 Wele 'r Arglwydd a'i bwrw hi allan, ac a dery ei nerth hi yn y môr, a hi a yssir â thân.

5 Ascelon a'i gwel, ac a ofm, a Gaza, ac a ymofidia yn ddirfawr; Ecron hefyd, am ei chywilyddio o'i gobaith; difethir hefyd y brenin allan o Gaza, ac Ascelon ni chyfan­neddir.

6Heb. Mab ordderch. Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid.

7 A mi a gymmeraf ymmaith ei waed o'i enau, a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd, ac efe a weddillir i'n Duw ni, fel y byddo megis pennaeth yn Juda, ac Ecron megis Jebusiad.

8 A gwerssyllaf o amgylch fy nhŷ rhac y llu, rhac a êl heibio, a rhac a ddychwelo, fel nad elo gorthrymmwr trwyddynt mwyach; canys yn awr gwelais â'm llygaid.

9Esa. 62.11. Mat. 21.5. Joan. 12.15. Bydd lawen iawn, ti ferch Sion; a chre­chwenna, ha ferch Jerusalem; wele dy frenin yn dyfod attat: cyfiawnNeu, a'i a­chubudd ti hun yw efe. ac achubudd yw efe, y mae efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar assyn, ac ar ebol, llwdn assyn.

10 Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth E­phraim, a'r march oddi wrth Jerusalem; a'r bwa rhyfel a dorrir, ac efe a lefara heddwch i'r cenhedloedd, a'i lywodraeth fydd Psal. 72.8. o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd eithafoedd y ddaiar.

11 A thitheu,Neu, yr hon y mae ei chyfam­mod trwy waed, go­llyngais &c. trwy waed dy ammod y gollyngais dyEsa. 61.1 garcharorion o'r pydew heb ddwfr ynddo.

12 Trowch i'r amddiffynfa chwi garchar­orion gobeithiol, heddyw 'r ydwyf yn dangos y talaf it yn ddau ddyblyg:

13 Pan annelwyf Juda i mi, ac y llanwyf y bwa ag Ephraim, ac y cyfodwyf dy feibion di Sion, yn erbyn dy feibion di Groeg, ac i'th wnelwyf fel cleddyf gwr grymmus.

14 A'r Arglwydd a welir trostynt, a'i saeth ef â allan fel mellten; a'r Arglwydd Dduw a gân ag vdcorn, ac a gerdd â chorwynt­oedd y dehau.

15 Arglwydd y lluoedd a'i hamddiffyn hwynt, a hwy a yssant, ac a ddarostyngantNeu, a cherrig. gerric y dafl, yfant a therfyscant megis mewn gwin, aNeu, l [...]anwant y meiliau, a chon­glau 'r ellor hefyd. llenwir hwynt fel meiliau, ac fel conglau 'r allor.

16 A'r Arglwydd eu Duw a'i gwared hwynt y dydd hwnnw, fel praidd ei bobl: canys fel meini coron y byddant wedi ei derchafu yn fanerau ar ei dîr ef.

17 Canys pa feint yw ei ddaioni ef, a pha feint ei degwch ef? ŷd aNeu, a wna i wyr ieu­aingc dy­fu, neu, l [...]faru. lawenycha y gwŷr ieuaingc, a gwin y gwyryfon.

PEN. X.

1 Duw sy raid ymgais ag ef, ac nid eulynnod. 5 Megis yr ymwelodd ef a'i ddiadell am eu pechod, felly yr achub, ac yr adfera efe hwy.

ERchwch gan yr Arglwydd law mewn pryd diweddar-law; a'r Arglwydd a bairNeu, fel [...]t, neu, lucheden­n [...]u. ddis­clair gwmylau, ac a ddŷd iddynt gawod o law, i bob vn las-wellt yn y maes.

2Jer. 10.8. Hab. 2.18. Canys yHeb. Tera­phim delwau a ddywedasant wag­edd, a'r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer, rhoddasant ofer gyssur: am hynny yr aethant fel defaid,Neu, atteba­sant nad oedd bu­gail. cystuddiwyd hwynt am nad oedd bugail.

3 Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid, a mi a gospais y bychod: canys Arglwydd y lluoedd a ymwelodd â'i braidd tŷ Juda, ac a'i gwnaeth fel ei hardd-farch yn y rhyfel.

4 Y gongl a ddaeth allan o honaw, yr hoel o hono, y bwa rhyfel o hono, a phob gorthrym­mwr ynghyd a ddaeth o hono.

5 A byddant fel cawri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd, yn y rhyfel: a hwy a ymladdant am fod yr Arglwydd gyd â hwynt, aNeu, chywily­ddiant farcho­gion. chywilyddir marchogion meirch.

6 A nerthaf dŷ Juda, a gwaredaf dŷ Joseph, a pharaf iddynt ddychwelyd i'w cyfle, canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe na's gwrthodaswn hwynt: o herwydd myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt, ac a'i gwrandawaf hwynt.

7 Bydd Ephraim hefyd fel cawr, a'i calon­nau a lawenychant fel trwy win: a'i meibion a gânt weled, ac a lawenychant, bydd eu calon yn hyfryd yn yr Arglwydd.

8 Chwibianaf arnynt, a chasclaf hwynt, ca­nys gwaredais hwynt; ac amlhânt, fel yr aml­hasant.

9 A hauaf hwynt ym mysc y bobloedd, ac mewn gwledydd pell i'm cofiant, a byddant fyw gyd â'i plant, a dychwelant.

10 A dychwelaf hwynt o dîr yr Aipht, a chasclaf hwynt o Assyria, ac arweiniaf hwynt i dîr Gilead a Libanus; ac ni cheir lle iddynt.

11 Ac efe a dramwya trwy 'r môr mewn blinder, ac a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddispydd: a descynnir balchder Assyria, a theyrn-wialen yr Aipht a gilia ymaith.

12 Nerthaf hwynt hefyd yn yr Arglwydd, ac yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr Ar­glwydd.

PEN. XI.

1 Dinistr Jerusalem. 3 Gofalu am yr ethole­digion, a gwrthod y lleill. 10 Torri ffon Tegwch a Rhwymau, trwy wrthod Christ. 15 Ar­wydd a melldith y bugail ynfyd.

LIbanus, agor dy ddorau; fel yr ysso y tân dy gedr-wŷdd.

2 Y ffynnidwydd, vdwch, canys cwym­podd y cedrwydd, difwynwyd y rhaiNeu, cedyrn, neu, gwy­chion. ar­dderchoc; vdwch dderw Basan, canys syrth­iodd coedwicNeu, gauedic. y gwin gynhayaf.

3 Y mae llêf y vdfa y bugeiliaid; am ddifwy­no eu hardderchawgrwydd; llef rhuad y llewod ieuaingc; am ddifwyno balchder yr Jorddonen.

4 Fel hyn y dywed yr Arglwydd fy Nuw, portha ddefaid y lladdfa;

5 Y rhai y mae eu perchennogion yn eu lladd, heb dybied eu bod yn euog; a'i gwerth­wŷr a ddywedant, bendigedic fyddo 'r Arg­lwydd am fy nghyfoethogi; a'i bugeiliaid nid arbedant hwynt.

6 Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlâd, medd yr Arglwydd; ond wele fiHeb. yn pericael y dynion, bob wn yn llaw &c. yn rhoddi y dynion, bob vn i law ei gymmydog, ac i law ei frenin; a hwy a darawant y tîr, ac nid achubaf hwynt o'i llaw hwy.

7 A mi a borthaf ddefaid y lladdfa,Neu, yn ddiau druen­iaid &c. sef chwi drueniaid y praidd: a chymmerais i'm [Page] ddwy ffon; vn a elwais Hyfrydwch, a'r llall a elwaisNeu, Rhwym­wyr. Rhwymau; a mi a borthais y praidd.

8 A thorrais ymmaith dri bugail mewn vn mîs, a'm henaid aHeb. gy­fyngwyd o'l hachos. larodd arnynt hwy, a'i henaid hwytheu a'm ffieiddiodd inneu.

9 Dywedais hefyd, ni phorthaf chwi;Jer. 15.2. a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i'w dorri ymaith, torrer ef ymaith; a'r gweddill, yssant bob vn gnawd eiHeb. gyfaill, neu, gym­mydog. gilydd.

10 A chymmerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfammod, yr hwn a ammodaswn â'r holl bobl.

11 A'r dydd hwnnw y torrwyd hi;Neu, a thrue­niaid y praidd y rhai &c. a wybu­ant yn siccr mai &c. ac felly y gwybu trueniaid y praidd, y rhai oedd yn disgwyl wrthyfi, mai gair yr Arglwydd oedd hyn.

12 A dywedais wrthynt, osHeb. da yw yn eich golwg. gwelwch yn dda dygwch fy ngwerth, ac onid ê, peidi­wch: a'm gwerthMatth. 26.15. a bwysasant yn ddêc ar hugain o arian.

13 A dywedodd yr Arglwydd wrthif, bwrw ef i'rMatth. 27.9.10. crochenydd: pris têg, â'r hwn i'm prissiwyd ganddynt. A chymmerais y dêc ar hugain arian, a bwriais hwynt i dŷ 'r Ar­glwydd, i'r crochenydd.

14 Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef Neu, Rhwym­wyr. rhwy­mau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Juda ac Israel.

15 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthif, cymmer etto it offer bugail ffôl.

16 Canys wele fi yn codi bugail yn y tîr, yr hwn ni ofwyaNeu, yr hyn a dorrwyd ymaith. y cuddiedic, ni chais yr ieuaingc, ni feddiginiaetha y briwedic; a fy­ddo yn sefyll niNeu, chynnal, neu, ddwg. phortha, onid bwytty gîg y brâs, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt.

17Jer. 23.1. Ezec. 34.2. Jo. 10.12. Gwae 'r culun bugail, yn gadel y praidd, y cleddyf fydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deheu: ei fraich gan wywo a wywa, a'i lygad deheu gan dywyllu a dywylla.

PEN. XII.

1 Jerusalem yn phiol gwsc a dychryn iddi ei hun, 3 ac yn faen pwys-fawr iw gwrthwyneb­wyr. 6 Buddugawl adferiad Juda. 9 Edifeir­wch Jerusalem.

BAich gair yr Arglwydd i Israel, medd yr Arglwydd yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaiar, ac yn llunio yspryd dŷn ynddo.

2 Wele fi yn gwneuthur Jerusalem yn phiolNeu, crynfa, neu, gwen­wyn. gwsc i'r bobloedd oll o amgylch:Neu, ac yn erbyn Juda he­fyd y bydd yr hwn a warchaeo yn erbyn Jerusa­lem, neu, y bydd wrth warchae yn erbyn &c. pan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Juda, ac yn erbyn Jerusalem.

3 A bydd y dwthwn hwnnw, i'm wneuthur Jerusalem yn faen trwm i'r holl bobloedd: pawb a ymlwytho ag ef yn ddiau a rwygir, er ym­gasclu o holl genhedloedd y ddaiar yn ei erbyn ef.

4 Y diwrnod hwnnw, medd yr Arglwydd, y tarawaf bob march â syndra, a'i farchog ag ynfydrwydd, ac agoraf fy llygaid ar dŷ Juda, a tharawaf holl feirch y bobl â dallineb.

5 A thywysogion Juda a ddywedant yn eu calon,Neu, nerth fydd i mi ac i bres­wylwyr &c. nerth i mi fydd presswylwŷr Jerusa­lem, yn Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt.

6 Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Juda fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn yscub o wellt, ac ysant ar y llaw ddeheu, ac ar yr asswy, yr holl bobloedd o am­gylch: a Jerusalem a gyfanneddir drachefn yn ei llê ei hun, yn Jerusalem.

7 Yr Arglwydd a geidw bebyll Juda yn gyntaf, megis nad ymfawrygo gogoniant tŷ Ddafydd, a gogoniant presswylwŷr Jerusalem, yn erbyn Juda.

8 Y dydd hwnnw 'r amddiffyn yr Arg­lwydd bresswylwŷr Jerusalem, a bydd yHeb. cwympe­dig. llescaf o honynt y dydd hwnnw fel Dafydd: a thŷ Ddafydd fydd fel Duw, fel Angel yr Ar­glwydd o'i blaen hwynt.

9 Y dydd hwnnw y bydd i'm geisio di­fetha 'r holl genhedloedd y sy yn dyfod yn er­byn Jerusalem.

10 A thywalltaf ar dŷ Ddafydd, ac ar bresswylwŷr Jerusalem yspryd grâs a gwe­ddiau, a hwy aJo. 19.34.37. Dat. 1.7. edrychant arnafi, yr hwn a wanasant, galarant hefyd am dano, fel vn yn galaru am ei vniganedic,Heb. a chwerw fyddant. ac ymofidiant am dano ef, megis vn yn gofidio am ei gyn­taf-anedig.

11Act. 2.37. Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Jerusalem, megis galar2 Cron. 35.22.24. Hadadrim­mon yn nyffryn Megidon.

12 A'r wlâd a alara,Heb. yn deulu­oedd, yn deuluoedd. pob teulu wrtho ei hun, teulu tŷ Ddafydd wrtho ei hun, a'i gwragedd wrthynt eu hunain, teulu tŷ Nathan wrtho ei hunan, a'i gwragedd wrthynt eu hu­nain:

13 Teulu tŷ Lefi wrtho ei hunan, a'i gwragedd wrthynt eu hunain; teulu tŷ Simei wrtho ei hunan, a'i gwragedd wrthynt eu hu­nain:

14 Yr holl deuluoedd eraill, pob teulu wrtho ei hun; a'i gwragedd wrthynt eu hunain.

PEN. XIII.

1 Ffynnon i lanhau Jerusalem, 2 oddiwrth dde­lw-addoliaeth, a gau-brophwydoliaeth. 7 Mar­wolaeth Christ, a phrofi y drydedd ran.

Y Dydd hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dŷ Ddafydd, ac i breswyl-wŷr Jerusalem, i bechodHeb. a naill­duaeth o herwydd aflendid. ac aflendid.

2 A bydd y dwthwn hwnnw, medd Ar­glwydd y lluoedd, i'mEzec. 30.13. dorri enwau 'r eu­lynnod allan o'r tîr, ac ni's cofir hwynt mwy­ach; a gyrraf hefyd y prophwydi, ac yspryd aflendid, allan o'r wlâd.

3 A bydd pan brophwydo vn mwyach, y dywed ei dâd a'i fam a'i cenhedlasant ef, wrtho, ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw 'r Arglwydd: a'i dad a'i fam a'i cen­hedlasant ef, a'iDeut. 13.6.9. gwanant ef, pan fyddo yn prophwydo.

4 A bydd y dydd hwnnw, i'r prophwydi gywilyddio bob vn am ei weledigaeth, wedi iddo brophwydo, ac ni wiscantHeb. wisc. grŷs o rawnHeb. 1 ddywe­dyd cel­wydd. i dwyllo.

5 Ond efe a ddywed, nid prophwyd ydwyf fi, llafur-wr y ddaiar ydwyfi: canys dŷn a'm dyscodd i gadw anifeiliaid o'm ieuengtid.

6 A dywed vn wrtho, beth a wna y gwe­liau hyn yn dy ddwylo? yna efe a ddywed, dymma y rhai i'm clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion.

7 Deffro, gleddyf, vn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gŵr sydd gysaill i mi, medd Arglwydd y lluoedd:Matth. 26.31. Marc. 14.27. taro y bugail, a'r praidd a wasce­rir, a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain.

8 A bydd yn yr holl dir, medd yr Arglwydd, y torrir ymaith, ac y bydd marw dwy ran yn­ddo, a'r drydedd a adewir ynddo.

9 A dygaf y drydedd ran drwy 'r tân, a phuraf hwynt fel puroarian, a1 Pet. 1.6.7. choethaf hwynt fel coethi aur; hwy a alwant ar fy enw, a min­neu a'i gwrandawaf: dywodaf, fy mhobl yw efe, ac yntef a ddywed; yr Arglwydd yw fy Nuw.

PEN. XIV.

1 Distrywio dinistr-wyr Jerusalem. 4 Dyfodiad Christ, a rhadau ei frenhiniaeth ef. 12 Pla ge­lynion Jerusalem. 16 Y gweddill a dry at yr Arglwydd, 20 a sanctaidd fydd eu hanrhaith.

WEle ddydd yr Arglwydd yn dyfod, a rhennir dy yspail yn dy ganol di.

2 Canys mi a gasclaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Jerusalem, a'r ddinas a orescyn­nir, y tai a anrheithir, a'r gwragedd a dreisir, a hanner y ddinas a â allan i gaethiwed, a'r rhan arall o'r bobl ni's torrir ymaith o'r ddinas.

3 A'r Arglwydd â allan, ac a ryfela yn erbyn y cenhedloedd hynny, megis y dydd y rhy­felodd efe yn nydd y gâd.

4 A'i draed a safant y dydd hwnnw ar fyn­ydd yr oliwydd, yr hwn sydd ar gyfer Jerusa­lem, o du 'r dwyrain; a mynydd yr oliwydd a hyllt ar draws ei hanner, tua 'r dwyrain, a thua 'r gorllewin, a bydd dyffryn mawr iawn: a hanner y mynydd a symmud tua 'r gogledd, a'i hanner tua 'r dehau.

5 A chwi a ffowch i ddyffrynNeu, fy mynydd­oedd. y mynyddo­edd:Neu, pan gy­ffyrddo a dyffryn y mynydd­oedd, i'r lle a naill­duwyd. canys dyffryn y mynyddoedd a gyr­raedd hyd Azal; a ffowch fel y ffoesoch rhacAmos. 1.1. y ddaiargryn, yn nyddiau Vzziah brenin Ju­da: a daw 'r Arglwydd fy Nuw, a'r holl sainct gyd â thi.

6 A'r dydd hwnnw y daw i ben, na byddo goleuniHeb. gweth­fawr. disclair,Heb. na chwe­di ceulo. Neu, na thewder. na thywyll.

7 OndNeu, y diwrnod fydd vn. byddDat. 22.5. vn diwrnod, hwnnw a adweinir gan yr Arglwydd, niddydd, ac nid nôs, onid byddEsa. 60.19. Dat. 21.23. goleuni yn yr hwyr.

8 A bydd y dwthwn hwnnw y daw allan o JerusalemEzec. 47.1. Joel. 3.18. Dat. 22.1. ddyfroedd bywiol: eu hanner hwyntNeu, tu a'r mor blaenaf. tua môr y dwyrain, a'i hanner tua 'r môr eithaf; hâf, a gaiaf y bydd hyn.

9 A'r Arglwydd a fydd yn Frenin ar yr holl ddaiar: y dydd hwnnw y bydd vn Arglwydd, a'i henw yn vn.

10Neu, Amgylch­ir. Troir yr holl dir megis yn wastad, o Geba hyd Rimmon, o'r tu deheu i Jerusalem, hi a dderchefir, ac aNeu, crys. gyfanneddir yn ei lle, o borth Benjamin hyd le y porth cyntaf, hyd borth y gongl, ac o dŵr Hananeel hyd win­wryfau y brenin.

11 Yno y trigant ynddi, ac ni bydd yn ddifrod mwyach: onid Jerusalem aNeu, erys. gyfan­neddir yn ddienbyd.

12 A hyn fydd y blâ â'r hon y tery 'r Ar­glwydd yr holl bobloedd a ryfelant yn erbyn Jerusalem: eu cnawd a dderfydd, er eu bod yn sefyll ar eu traed, a'i llygaid a ddar­fyddant yn eu tyllau, a'i tafod a dderfydd yn eu safn.

13 Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysc oddiwrth yr Arglwydd yn eu plith hwynt, a phob vn a ymafael yn llaw ei gymydog, a'i law a gyfyd yn erbyn llaw ei gymy­dog.

14Neu, A rhithau Juda a ryfell. A Juda hefyd a ryfelaNeu, yn erbyn Je­rusalem. yn Jerusalem: a chesclir golud yr holl genhedloedd o amgylch, aur ac arian, a gwiscoedd lawer iawn.

15 Ac felly y bydd pla y march, y mûl, y camel, yr assyn, a phob anifail a fyddo yn y gwerssylloedd hyn, fel y bla hon.

16 A bydd i bob vn a adawer o'r holl genhedloedd a ddaethant yn erbyn Jerusalem, fyned i fynu o flwyddyn i flwyddyn, i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd, ac i gadw gŵyl y pebyll.

17 A phwy bynnac nid êl i fynu o deulu­oedd y ddaiar i Jerusalem, i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd, ni bydd glaw arnynt.

18 Ac os teulu 'r Aipht nid â i fynu, ac ni ddaw, y rhai nid oes glaw arnynt: yno y bydd y blâ, â'r hon y tery 'r Arglwydd y cenhedloedd, y rhai nid escynnant i gadw gŵyl y pebyll.

19 Hyn a fydddNeu, pechod. cosp yr Aipht, a chosp yr holl genhedloedd nid elont i fynu i gadw gŵyl y pebyll.

20 Y dydd hwnnw y bydd arNeu, glych. ffrwynau y meirch, SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD: a bydd y chrochanau yn nhŷ 'r Arglwydd, fel meiliau ger bron yr allor.

21 Bydd pob crochan yn Jerusalem, ac yn Juda yn sancteiddrwydd i Arglwydd y llu­oedd: a daw pob aberth-wr, ac a gymmerant o honynt, ac a ferwant ynddynt: ac ni byddEsa. 35.8. Joel. 3.17. Dat. 21.27. & 22.15. Canaanead mwyach yn-nhŷ Arglwydd y llu­oedd y dydd hwnnw.

¶LLYFR MALACHI.

PENNOD I.

1 Malachi yn achwyn rhag angharedigrwydd Israel; 6 A'i hangrhefydd, 12 a'i halogr­wydd.

BAichEsa. 13.1. gair yr Arglwydd at Israel drwy law Malachi.

2 Hoffais chwi medd yr Arglwydd, a chwi a ddywedwch, ym mha beth yr hoffaist ni? onid brawd oedd Esau i Jacob, medd yr Arglwydd? ettoRhuf. 9.13. Jacob a hoffais,

3 Ac Esau a gasseais, ac a osodais ei fynydd­oedd yn ddiffaethwch, a'i etifeddiaeth i ddrei­glau yr anialwch.

4 Lle y dywed Edom, tlodwyd ni, etto dychwelwn, ac adeiladwn yr anghyfannedd leoedd; fel hyn y dywed Arglwydd y llu­oedd, hwy a adeiladant, ond minneu a fwriaf i lawr, a galwant hwynt yn ardaldrygioni, a'r bobl, wrth y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd.

5 Eich llygaid hefyd a welant, a chwitheu a ddywedwch, mawrygir yr Arglwydd oddi ar derfyn Israel.

6 Mab a anrhydedda ei dâd, a gwenidog ei feistr: ac os ydwyf fi dâd, pa le y mae fy an­rhydedd? ac os ydwyf fi feistr, pa le y mae fy ofn, medd Arglwydd y lluoedd, wrthych chwi 'r offeiriaid, y rhai ydych yn dirmygu fy enw? a chwi a ddywedwch, ym mha beth y dirmy­gasom dy enw di?

7Neu, Dwyn. Offrymmu yr ydych ar fy allor fara halogedic; a chwi a ddywedwch, ym mha both yr halogasom di? am i chwi ddywedyd, dirmygus yw bwrdd yr Arglwydd.

8 Ac os offrymmu 'r ydych y dallHeb. i'w aber­thu. yn aberth, onid drwg hynny? ac os offrvmmwch y cloff, a'r clwyfus, onid drwg hynny? cvnnyg ef yr awron i'th dywysog, a fydd efe bodlon it? neu a dderbyn efe dy wyneb, medd Arglwydd y lluoedd?

9 Ac yn awrHeb. ymbili­wch ag wyneb Duw. gweddiwch attolwg ger bron Duw, fel y trugarhao wrthym: o'chGwaith. llaw chwi y bu hyn; a dderbyn efe wyneb vn o honoch, medd Arglwydd y lluoedd?

10 A phwy hefyd o honoch a gauei y dô­rau, neu a oleuei fy allot yn rhâd? nid oes gennif fodlonrwydd ynoch chwi, medd Ar­glwydd y lluoedd: acEsa. 1.11. Jer. 6.20. Amos. 5.21. ni dderbyniaf offrwm o'ch llaw.

11 Canys o gyfodiad haul hyd ei fachlud­iad hefyd, mawr fydd fy enw ym mysc y cen­hedloedd; ac ym mhob lle arogldarth a offrym­mir i'm henw, ac offrwm pûr: canys mawr fydd fy enw ym mhlith y cenhedloedd, medd Arglwydd y lluoedd.

12 Ond chwi a'i halogasoch ef, pan ddywe­dasoch, bwrdd yr Arglwydd sydd halogedic, a'i ffrwyth, sef ei fwyd, sydd ddirmygus.

13 Chwi hefyd a ddywedasoch, wele, pa flinder yw,Neu, lle y gall­esych ei chwythu ymaith a ffroenassoch arno, medd Ar­glwydd y lluoedd; a dygasoch yr hyn a scly­faethwyd, a'r cloff, a'r clwyfus: fel hyn y dy­gasoch offrwm; a fyddaf fi fodlon i hynny o'ch llaw chwi, medd yr Arglwydd?

14 Ond melldigedic yw y twyllodrus, yr hwn y mae yn ei ddiadell wr-ryw, ac a addu­na, ac a abertha vn llygredic i'r Arglwydd: canys Brenin mawr ydwyfi, medd Arglwydd y lluoedd, a'm henw sydd ofnadwy ym-mhlith y cenhedloedd.

PEN. II.

1 Y mae yn ceryddu yr offeiriaid yn dost am esceuluso eu cyfammod, 11 A'r bobl am eu gau-dduwiaeth, 14 a'i godineb, 17 a'i han­ffyddlondeb.

AC yr awr hon, chwi offeiriaid, i chwi y mae y gorchymyn hwn.

2 Oni wrandewch, ac oni ystyriwch, i roddi anrhydedd i'm henw i, medd Arglwydd y llu­oedd; yna mi a anfonafLeu. 26.14. Deut. 28.15. felldith arnoch chwi, ac a felldigaf eich bendithion chwi: iê myfi a'i melldigais eusus, am nad ydych yn ysty­ried.

3 Wele fi ynNeu, ar­gyo [...]ddi. llygru eich hâd chwi, aHeb. gwasca­raf. thanaf dom ar eich wynebau, sef tom eich vchel wyliau, acNeu, efe. vn a'ch cymmer chwiNeu, gydag ef. atto ef.

4 Hefyd cewch ŵybod mai myfi a anfonais attoch y gorchymyn hwn, fel y byddei fy nghyfammod â Lefi, medd Arglwydd y lluo­edd.

5 Fy nghyfammod ag ef oedd am fywyd, a heddwch; a mi a'i rhoddais hwynt iddo am yr ofn â'r hwn i'm hofnodd, ac yr arswydodd o flaen fy enw.

6 Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau: mewn hedd ac vniondeb y rhodiodd gyd â mi, a llaweroedd a drôdd efe oddi wrth anwiredd.

7 Canys gwefusau 'r offeiriad a gadwant ŵybodaeth, a'r gyfraith a geisiant o'i enau ef: o herwydd cennad Arglwydd y lluoedd yw efe.

8 Ond chwi a giliasoch allan o'r ffordd, ac a barasoch i laweroeddNeu, gwympo yn. dramgwyddo wrth y gyfraith; llygrasoch gyfammod Lefi, medd Ar­glwydd y lluoed [...]

9 Am hynny minneu hefyd a'ch gwneuthym chwi yn ddirmygus; ac yn ddiystyr gan yr holl bobl; megis na chadwasoch fy ffyrdd i, ond bôdNeu, yn dueddol yn y gyf. neu, der­chafu wynehau. yn derbyn wynebau yn y gyfraith.

10Eph. 4.6. Onid vn tâd sydd i ni oll? onid vn Duw a'n creawdd ni? pam y gwnawn yn an­ffyddion bob vn yn erbyn ei frawd; gan ha­logi cyfammod ein tadau?

11 Juda a wnaeth yn anffyddlon, a ffaeidd­dra a wnaethpwyd yn Israel, ac yn Jerusalem: canys Juda a halogodd sancteiddrwydd yr Ar­glwydd, yr hwnNeu, a ddylasei ei hoffi. a hoffasei, ac a briododd ferch duw dieithr.

12 Yr Arglwydd a dyrr ymmaith y gŵr a wnel hyn;Neu, y gwiliwr a'r atte [...] ­wr. yr athro a'r discybl, o bebyll Jacob; ac offrymmudd offrwm i Arglwydd y lluoedd.

13 Hyn hefyd eilwaith a wnaethoch, gan orchguddio â dagrau allor yr Arglwydd drwy wylofain, a gweiddi; fel nad edrych efe mwyach ar yr offrwm, ac na chymmer ef yn fodlon o'ch llaw chwi.

14 Er hynny chwi a ddywedwch, pa her­wydd? o herwydd mai 'r Arglwydd a fu dŷst rhyngot ti, a rhwng gwraig dy ieuengtid, yr hon y buostNeu, fradw­raidd. anffyddlon iddi, er ei bod yn gymmar it, ac yn wraig dy gyfammod.

15 Onid vn a wnaeth efe? a'r ysprydNeu, yn odidog. yng­weddill ganddo; a pha ham vn? i geisioHeb. had Duw. hâd duwiol: am hynny gwiliwch ar eich yspryd, ac na fydded neb anffyddlon yn erbyn gwraig ei ieuengtid.

16Neu, Canys dy­wed yr Argl. Duw Is­rael, mai cas gan­ddo oll­wng ymaith. Pan gasaech di hi, gollwng hi ym­maith, medd yr Arglwydd, Duw Israel: canys gorchguddio y mae efe drais â'i wisc, medd Ar­glwydd y lluoedd: gan hynny gwiliwch ar eich yspryd, na fyddoch anffyddlon.

17 Blinasoch yr Arglwydd â'ch geiriau; a chwi a ddywedwch, ym mha bêth y blinasom ef? am iwch ddywedyd, pob gwneuthurwr drŵg sydd dda yngolwg yr Arglwydd, ac iddynt y mae efe yn fodlon: neu pa lê y mae Duw y farn?

PEN. III.

1 Cennad, a Mawrhydi, a Grâs Christ, 7 Anu­fydd-dod, 8 a chyssegr-ladrad, 13 ac anffydd­londeb y bobl. 16 Addaw bendith iddynt oddiwrth Dduw.

WEle fi yn anfonMat. 11.10. Mar. 1.2. Luc. 1.76. & 7.27. fy nghennad, ac efe aBarotoa. arloesa y ffordd o'm blaen i: ac yn ddisymmwth y daw 'r Arglwydd, yr hwn yr ydych yn ei geisio, iw Deml; sefCennad. angel y cy­fammod, yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd Arglwydd y llu­oedd.

2 Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a phwy a saif pan ymddangoso efe? canys y mae efe fel tân y toddydd, ac fel sebon y golch­yddion.

3 Ac efe a eistedd fel purwr, a glanhawr arian; ac efe a bura feibion Lefi, ac a'i coe­tha hwynt fel aur, ac fel arian: fel y byddont yn offrymmu i'r Arglwydd offrwm mewn cy­fiawnder.

4 Yna y bydd melys gan yr Arglwydd offrwm Juda, a Jerusalem; megis yn y dy­ddiau gynt, ac felNeu, yr hen flyn­yddoedd. y blynyddoedd gynt.

5 A mi a nesâf attoch chwi i farn, a byddaf dŷst cyflym yn erbyn yr hudolion, ac yn erbyn y godineb-wŷr, ac yn erbyn yr anudon-wŷr, ac yn erbyn camattal-wŷr cyflog y cyfiogedic, a'r rhai sy'n gorthrymmu y weddw, a'r ym­ddifad, a'r dieithr, ac heb fy ofni i, medd Ar­glwydd y lluoedd.

6 Canys myfi 'r Arglwydd ni'm newidir: am hynny ni ddifethwyd chwi, meibion Ja­cob.

7 Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddi wrth fy neddfau, ac ni chadwasoch hwynt: Zech. 1.3. dychwelwch attaf fi, a mi a ddychwelaf at­toch chwitheu, medd Arglwydd y lluoedd: [Page] ond chwi a ddywedwch, ym-mha beth y dych­welwn?

8 A yspeilia dyn Dduw? etto chwi a'm hy­speiliasoch i: ond chwi a ddywedwch, ym­mha beth i'th yspeiliasom? yn y degwm, a'r offrwm.

9 Melldigedic ydych drwy felldith, canys chwi a'm hyspeiliasoch i, sef yr holl genhedl hon.

10 Dygwch yr holl ddegwm i'r tryssor-dŷ, fel y byddo bwyd yn fy nhŷ; a phrofwch fi 'r awr hon yn hyn, medd Arglwydd y llu­oedd; onid agoraf i chwiGen. 7.11. ffenestri y nefo­edd, a thywallt i chwi fendith, fel na bo digon o le i'w dderbyn.

11 Myfi hefyd a argyoeddaf er eich mwyn chwi 'r ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaiar; a'r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd Arg­lwydd y lluoedd.

12 A'r holl genhedloedd a'chgalwant chwi yn wynfydedig: canys byddwch yn wlâd hy­fryd, medd Arglwydd y lluoedd.

13 Eich geiriau chwi aJob 21.14. ymgryfhaodd i'm herbyn, medd yr Arglwydd: etto chwi a ddy­wedwch, pa beth a ddywedasom ni yn dy erbyn di?

14 Dywedasoch, oferedd yw gwasanaethu Duw, a pha lesiant sydd er i ni gadw eiHeb. gadwr­deth. or­chymynion ef, ac er i ni rodioHeb. mewn du. yn alarus ger­bron Arglwydd y lluoedd?

15 Ac yr awr hon yr ydym ni yn galw y beilchion yn wynfydedig, ie gweithred-wŷr drigioni a adeiladwyd; iê,Psal. 95.9. y rhai a demp­tiant Dduw a waredwyd.

16 Yna 'r rhai oedd yn ofni 'r Arglwydd, a lefarasant bôb vn wrth ei gymydog; a'r Arglwydd a wrandawodd, ac a glybu, ac scri­fennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef, i'r rhai oedd yn ofni 'r Arglwydd, ac i'r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef.

17 A byddant eiddo fi, medd Arglwydd y lluoedd, y dydd y gwnelwyfNeu, drysor naillduol, neu, aly­sau. briodoledd: arbedaf hwynt hefyd, fel yr arbed gŵr ei fâb sydd yn ei wasanaethu.

18 Yna y dychwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn, a'r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw, a'r hwn ni's gwa­sanaetho ef.

PEN. IV.

1 Barn Duw ar yr enwir, 2 a'i fendith ar y daionus. 4 Y mae yn eu hannog i fyfyrio ar y Gyfraith, 5 ac yn adrodd iddynt ddyfodiad a swydd Elias.

CAnys wele y dydd yn dyfod yn llosci me­gis ffwrn, a'r holl feilchion, a holl wei­thred-wŷr anwiredd a fyddant sofl: a'r dydd sydd yn dyfod a'i llysc hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, fel nas gadawo iddynt na gwrei­ddyn na changen.

2 OnidLuc. 1.78. haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, a meddiginiaeth yn ei escyll; a chwi a ewch allan, ac a gyn­nyddwch megis lloi pascedic.

3 A chwi a fethrwch yr annuwolion; canys byddant yn lludw tan wadnau eich traed chwi: yn y dydd y gwnelwyf hyn, medd Arglwydd y lluoedd.

4 CofiwchExod. 20.3. gyfraith Moses fy ngwâs, yr hon a orchymynnais iddo ef yn Horeb, i holl Israel, y deddfau, a'r barnedigaethau.

5 Wele mi a anfonaf i chwiMatth. 11.14. Mar. 9.11. Luc. 1.17. Elias y prophwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ofnad­wy yr Arglwydd.

6 Ac efe a drŷ galon y tadau at y plant, a chalon y plant at eu tadau, rhag i mi ddyfod a tharo y ddaiar â melldith.

Terfyn y Prophwydi.
TESTAMENT NEW YDD EI …

TESTAMENT NEW YDD EIN HARGLWYDD A'N HIACHAWDWR IESU GRIST.

RHVF. 1.16.

Nid oes arnaf gywilydd o Efengyl GRIST, oblegid gallu Duw yw hi, er Iechydwriaeth i bob vn a'r sydd yn credu.

Printiedig yn Llundain gan John Bill, Christopher Barker, Tho. Newcomb, a Henry Hills, Printwyr i Ardderchoccaf fawrhydi y Brenhin: ac a werthir gan John Hancock, tan lûn y tri Bibl yn Popes-Head Alley, yn Cornhil. 1678.

YR EFENGYL YN OL SANCT MATTHEW.

PENNOD I.

1 Achau Christ o Abraham i Joseph. 18 Ei genhedlu ef o'r Yspryd glân, alieni o Fair for­wyn, wedi ei dyweddio hi â Joseph. 19 Yr angel yn bodloni camdybus feddyliau Joseph, ac yn de­ongl enwau Christ.

LLyfrLuc. 3.23. cedhedliad Jesu Christ, fâb Dafydd, fâb Abraham.

2Gen. 21.3. Abraham a genhedlodd Isaac, acGen. 25.26. Isaac a genhedlodd Jacob, acGen. 29.35. Jacob a genhedlodd Judas a'i frodyr.

3 AGen. 38.27. Judas a genhedlodd Phares a Zara o Thamar, a1 Cron. 2.5. Ruth. 4.18. Phares a genhedlodd Esrom, ac Esrom a genhedlodd Aram.

4 Ac Aram a genhedlodd Aminadab, ac Ami­nadab a genhedlodd Naasson, a Naasson a gen­hedlodd Salmon.

5 A Salmon a genhedlodd Boos o Rachab, a Boos a genhedlodd Obed o Ruth, ac Obed a gen­hedlodd Jesse.

6 A1 Sam. 16.1. & 17.12. Jesse a genhedlodd Ddafydd frenin, a2 Sam. 12.24. Dafydd frenin a genhedlodd Solomon, o'r hon a fuasei wraig Vrias.

7 A1 Cron. 3.10. Solomon a genhedlodd Roboam, a Ro­boam a genhedlodd Abia, ac Abia a genhed­lodd Asa.

8 Ac Asa a genhedlodd Josaphat, a Josaphat a genhedlodd Joram, a Joram a genhedlodd Ozias.

9 Ac Ozias a genhedlodd Joatham, a Joa­tham a genhedlodd Achaz, ac Achaz a genhed­lodd Ezecias.

10 Ac2 Bren. 20.21. 1 Cron. 3.13. Ezecias a genhedlodd Manasses, a Manasses a genhedlodd Amon, ac Amon a genhedlodd Josias.

11 A Josias a genhedlodd Jechonias a'i fro­dyr, ynghylch amser y symmudiad i Babilon.

12 Ac wedi y symmudiad i Babilon1 Cron. 3.16, 17. Je­chonias a genhedlodd Salathiel, a Salathiel a genhedlodd Zorobabel.

13 A Zorobabel a genhedlodd Abiud, ac A­biud a genhedlodd Eliacim, ac Eliacim a gen­hedlodd Azor.

14 Ac Azor a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Achim, ac Achim a genhedlodd Eliud.

15 Ac Eliud a genhedlodd Eleazar, ac Elea­zar a genhedlodd Matthan, a Matthan a genhed­lodd Jacob.

16 Ac Jacob a genhedlodd Joseph, gŵr Mair, o'r hon y ganed Jesu, yr hwn a elwir Christ.

17 Felly yr holl genhedlaethau o Abraham hyd Ddafydd sydd bedair cenhedlaeth ar ddêg, ac o Ddafydd hyd y symmudiad i Babilon pe­dair cenhedlaeth ar ddêg, ac o'r symmudiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddêg.

18 ALuc. 1.27. genedigaeth yr Jesu Grist oedd fel hyn: wedi dyweddio Mair ei fam ef â Joseph, cyn eu dyfod hwy ynghŷd, hi a gafwyd yn feichiog o'r Yspryd glân.

19 A Joseph ei gŵr hi, gan ei fod yn gyf­iawn, ac heb chwennych ei gwneuthur hî yn siampl, a ewyllysiodd eu rhoi hi ymmaith yn ddirgel.

20 Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseph mab Dafydd; nac ofna gymmeryd Mair dy wraig, oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi, sydd o'r Yspryd glân.

21 A hi a escor ar fab,Luc. 1. [...] a thi a elwi ei enw ef Jesu, oblegid efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau.

22 (A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr hyn a ddywetpwyd gan yr Arglwydd trwy'r prophwyd, gan ddywedyd,

23Esa. 7.14. Wele, Morwyn a fydd feichiog, ac a escor ar fâb, aNeu, gelwir e [...] enw ef. hwy a alwant ei enw ef Emma­nuel, yr hyn o'i gyfieithu, yw, Duw gyd â ni.)

24 A Joseph pan ddeffroes o gwsc, a wnaeth megis y gorchymynasei Angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ei wraig.

25 Ac nid adnabu efe hi, hyd oni escorodd hi ar ei mâb cyntaf-anedig, a galwodd ei enw ef Iesu.

PEN. II.

1 Y doethion yn cael eu cyfarwyddo at Grist drwy weinidogaeth seren; 11 yn ei addoli ef, ac yn cyflwyno eu hanrhegion. 14 Joseph yn ffo i'r Aipht, efe, ac Iesu a'i fam. 16 Herod yn lladd y plant: 20 Ac yn marw. 23 Dwyn Christ yn ei ôl i Galilee i Nazareth.

ACLuc. 2.6. wedi geni yr Iesu ym-Methlehem Ju­daea, yn nyddiau Herod frenin, wele, doe­thion a ddaethant o'r dwyrain i Jerusalem;

2 Gan ddywedyd, pa le y mae 'r hwn a an­wyd yn frenin yr Iddewon? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i'w addoli ef.

3 Ond pan glybu Herod frenin, efe a gyff­rowyd, a holl Jerusalem gyd ag ef.

4 A chwedi dwyn ynghŷd yr holl Arch­offeriaid, ac scrifennyddion y bobl, efe a ymo­fynnodd â hwynt pa le y genid Christ.

5 A hwy a ddywedasant wrtho, Ym-Meth­lehem Judaea, canys felly 'r scrifennwyd trwy 'r prophw [...]d,

6 AMic. 5.2. Joan. 7.42. thitheu Bethlehem tir Juda, nid lleiaf wyt ym mhlith tywysogion Juda, canys o honot ti y daw tywysog yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.

7 Yna Herod wedi galw y doethion yn ddir­gel, a'u holodd hwynt yn sanwl am yr amser yr ymddangosasei y seren.

8 Ac wedi eu danfon hwy i Bethlehem, efe a [Page] ddywedodd, Ewch, ac ymofynnwch yn fanwl am y mâb bychan, a phan gaffoch ef, myne­gwch i mi, fel y gallwyf finneu ddyfod, a'i addoli ef.

9 Hwythau wedi clywed y brenin, a aethant, ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain, a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mâb bychan.

10 A phan welsant y seren, llawenhasant â llawenydd mawr dros ben.

11 A phan ddaethant i'r tŷ, hwy aGaw­sant. welsant y mab bychan gyd â Mair ei fam, a hwy a syr­thiasant i lawr, ac a'i haddolasant ef: ac wedi agoryd eu trysorau, a offrymmasant iddo an­rhegion; aur, a thus, a myrrh.

12 Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aethant drachefn iw gwlad ar hyd ffordd arall.

13 Ac wedi iddynt ymado, wele Angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseph mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymmer y mâb bychan a'i fam, a ffo i'r Aipht, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti; canys ceisio a wna Herod y mâb bychan, i'w ddifetha ef.

14 Ac ynteu pan gyfododd a gymmerth y mâb bychan a'i fam o hŷd nôs, ac a giliodd i'r Aipht.

15 Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedpwyd gan yr Ar­glwydd trwy 'r prophwyd, gan ddywedyd,Hose. 11.1. O'r Aipht y gelwais fy mâb.

16 Yna Herod pan weles ei siommi gan y doethion, a ffrommodd yn aruthr, ac a ddan­fonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethlehem, ac yn ei holl gyffiniau o ddwy­flwydd oed, a than hynny, wrth yr amser yr ymofynnasei efe yn fanwl â'r doethion.

17 Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid ganJer. [...]1.15. Jeremias y prophwyd, gan ddywedyd,

18 Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wy­lofain, ac ochain mawr, Rachel yn ŵylo am ei phlant, ac ni fynnei ei chyssuro, am nad oedd­ynt.

19 Ond wedi marw Herod, wele Angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos i Joseph yn yr Aipht,

20 Gan ddywedyd, Cyfod a chymmer y mâb bychan a'i fam, a dôs i dir Israel: canys y rhai oedd yn ceisio enioes y mâb bychan a fu­ant feirw.

21 Ac wedi ei gyfodi, efe a gymmerth y mâb bychan a'i fam, ac a ddaeth i dir Israel.

22 Eithr pan glybu efe fod Archelaus vn teyrnasu ar Judaea, yn lle ei dâd Herod, efe a ofnodd fyned yno, ac wedi ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd, efe a giliodd i bar­thau Galilæa.

23 A phan ddaeth, efe a drigodd mewn di­nas a elwid Nazareth: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy y prophwydi, y gelwid ef yn Nazarêad.

PEN. III.

1 Pregeth Ioan, a'i swydd, a'i fuchedd, a'i fe­dydd: 7 y mae yn ceryddu y Pharisæaid, 13 ac yn bedyddio Crist yn yr Iorddonen.

AC yn y dyddiau hynny y daethMar. 1.4. Luc. 3.2. Ioan Fe­dyddiwr, gan bregethu yn niffaethwch Judaea,

2 A dywedyd, Edifarhewch, canys nessaodd teyrnas nefoedd.

3 Oblegid hwn yw efe, yr hwn y dywedwyd am dano gan Esaias y Prophwyd, gan ddywe­dyd,Esa. 40.3. Mar. 1.3. Llef vn yn llefain yn y diffaethwch, Pa­ratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn vniawn ei lwybrau ef.

4 A'r Ioan hwnnw oedd a'i ddillad o flew ca­mel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau: a'i fwyd oedd locustiaid, a mêl gwyllt.

5 Yna yr aeth allan atto ef Jerusalem, a holl Judaea, a'r holl wlâd o amgylch yr Iorddonen:

6 A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Ior­ddonen, gan gyffessu eu pechodau.

7 A phan welodd efe lawer o'r pharisæaid, ac o'r Saducæaid yn dyfod iw fedydd ef, efe a ddywedodd wrthynt hwy,Pen. 12.34. O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhagrybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?

8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edi­feirwch.

9 Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain,Joan. 8.39. y mae gennym ni Abraham yn dâd i ni; canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, ie o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham.

10 Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyall we­di ei gosod ar wreiddyn y prennau:Pen. 7.19. pôb pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.

11Mar. 1.8. Luc. 3.16. Joan. 1.26. Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedydd­io chwi â dwfr i edifeirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, sydd gryfach na myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei escidiau, efe a'ch bedyddia chwi â'r Yspryd glân, ac â thân.

12 Yr hwn y mae ei wyntill yn ei law, ac efe a lwyr lanhâ ei lawr dyrnu, ac a gascl ei wenith i'w yscubor, eithr yr vs a lysc efe â thân anniffoddadwy.

13 Yna y daeth yrMar. 1.9. Luc. 3.21. Iesu o Galilæa i'r Ior­ddonen at Ioan, i'w fedyddio ganddo:

14 Eithr Ioan a orafunodd iddo ef, gan ddy­wedyd, y mae arnaf fi eisieu fy medyddio gen­nit ti; ac a ddeui di attaf fi?

15 Ond yr Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho ef, Gâd yr awrhon, canys fel hyn y mae yn weddus i ni gyflawni pôb cyfiawnder; yna efe a adawodd iddo.

16 A'r Iesu wedi ei fedyddio a aeth yn y fan i fynu o'r dwfr: ac wele, y nefoedd a agor­wyd iddo, ac efe a welodd Yspryd Duw yn descyn fel colommen, ac yn dyfod arno ef.

17 Ac wele lef o'r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl fâb, yn yr hwn i'm bod­lonwyd.

PEN. IIII.

1 Ympryd Christ, a'i demtiad. 11 Yr Angyl­ion yn gweini iddo. 13 Efe yn trigo yn Ca­pernaum, 17 yn dechreu pregethu, 18 yn galw Pedr ac Andreas, 21 Iaco ac Ioan: 23 ac yn iachau yr holl gleifion.

YNa yrMar. 1.12. Luc. 4.1. Iesu a arweiniwyd i fynu i'r an­ialwch gan yr Yspryd, iw demptio gan ddiafol.

2 Ac wedi iddo ymprydio ddeugain nhi­wrnod a deugain nôs, yn ôl hynny efe a ne­wynodd.

3 A'r temptiwr pan ddaeth atto, a ddywe­dodd, Os mâb Duw wyt ti, arch i'r cerrig hyn fôd yn fara.

4 Ac yntef a attebodd, ac a ddywedodd, Scrifennwyd,Deut. 8.3. Nid trwy fara yn vnig y bydd byw dŷn, ond trwy bôb gair a ddaw allan o enau Duw.

5 Yna y cymmerth diafol ef i'r ddinas sanctaidd, ac a'i gofododd ef ar binacl y deml;

6 Ac a ddywedodd wrtho, Os mâb Duw wyti, bwrw dy hun i lawr; canys scrifennwyd,Psal. 91.11. y rhydd efe orchymmyn i'w angelion am danat, a hwy a'th ddygant yn eu dwylo, rhag taro o honot vn amser dy droed wrth garreg.

7 Yr Jesu a ddywedodd wrtho, Scrifennwyd drachefn,Deut. 6.16. Na themptia yr Aglwydd dy Dduw.

8 Trachefn y cymmerth diafol ef i fynydd tra vchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrna­soedd y bŷd, a'u gogoniant.

9 Ac a ddywedodd wrtho, Hyn oll a roddaf î ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i.

10 Yna yr Jesu a ddywedodd wrtho, ym­maith Satan; canys scrifennwyd,Deut. 6.13. & 10.20. yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn vnig a wasanaethi.

11 Yna y gadawodd diafol ef: ac wele, angelion a ddaethant, ac a weinasant iddo.

12 AMar. 1.14. Luc. 4.14. Joan. 4.43. phan glybu 'r Jesu draddodi Joan, efe a aeth i Galilæa.

13 A chan ado Nazareth, efe a aeth ac a arhosodd yn Capernaum, yr hon sydd wrth y môr, ynghyffiniau Zabulon a Nephthali:

14 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedpwyd trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd,

15Esai. 9.1. Tîr Zabulon, a thir Nephthali, wrth ffordd y môr, o'r tu hwnt i'r Iorddonen, Ga­lilaea y cenhedloedd.

16 Y bobl oedd yn eistedd mewn tywy­llwch, a welodd oleuni mawr: ac i'r rhai a eisteddent ym-mro a chyscod angeu, y cyfod­odd goleuni iddynt.

17Mar. 1.14. O'r prŷd hynny y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch: canys nessaodd teyrnas nefoedd.

18Mar. 1.16. A'r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilæa, efe a ganfu ddau frodyr, Simon yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; (canys pyscod-wŷr oeddynt)

19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dowch ar fy ôl i, ac mi a'ch gwnaf yn byscod-wŷr dynion.

20 A hwy yn y fan, gan adel y rhwydau, a'i canlynasant ef.

21 Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iaco fab Zebedaeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gydâ Zebedaeus eu tâd, yn cyweirio eu rhwydau: ac a'u galwodd hwy.

22 Hwythau yn ebrwydd gan adel y llong a'u tâd, a'i canlynasant ef.

23 A'r Iesu a aeth o amgylch holl Galilæa, gan ddyscu yn eu Synagogau, a phregethu Efengyl y deyrnas, ac iachau pôb clefyd a phôb afiechyd ym-mhlith y bobl.

24 Ac aeth sôn am dano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant atto yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai yr oedd amryw glefydau a chno­feydd yn eu dala, a'r rhai cythreulig, a'r rhai lloerig, a'r sawl oedd a'r parlys arnynt, ac efe a'u hiachaodd hwynt.

25 A thorseydd lawer a'i canlynasant ef o Galilæa, a Decapolis, a Jerusalem, a Judaea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen.

PEN. V.

1 Christ yn dechreu ei bregeth ar y mynydd: 3 ac yn dangos pwy sydd ddedwydd, 13 Pwy yw halen y ddaiar, 14 goleuni y hyd, dinas ar fryn, 15 y ganwyll: 17. Ei ddyfod ef i gyf­lawni y gyfraith. 21 Beth yw lladd, 27 a godinebu, 33 a thyngu 38 Y rhai yn annog i ddioddef cam, 44 i garu ie ein gelynion, 48 ac i ymegnio at berffeithrwydd.

A Phan welodd yr Iesu y tyrfaodd, efe a escyn­nodd i'r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddiscyblion a ddaethant atto.

2 Ac efe a agorodd ei enau, ac a'u dyscodd hwynt, gan ddywedyd,

3Luc. 6.20. Gwyn eu bŷd y tlodion yn yr yspryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.

4 Gwyn eu bŷd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir.

5Psal. 37.11. Gwyn eu bŷd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaiar.

6 Gwyn eu bŷd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder:Esai. 65.13. canys hwy a ddi­wellir.

7 Gwyn eu bŷd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd.

8Psal. 24.4. Gwyn eu bŷd y rhai pûr o galon: ca­nys hwy a welant Dduw.

9 Gwyn eu bŷd y tangneddyf-wŷr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw.

101 Pet. 3.14. Gwyn eu bŷd y rhai a erlidir o achos cyflawnder: canys eiddynt yw teyrnas ne­foedd.

11 Gwyn eich bŷd1 Pet. 4.14. pan i'ch gwradwydd­ant, ac i'ch erlidiant, ac y dywedant bob dryg­air yn eich erbyn, er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog.

12 Byddwch lawen a hyfryd, canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy y prophwydi a fu o'ch blaen chwi.

13 Chwi yw halen y ddaiar:Marc. 9.50. Luc. 14.34. eithr o difla­sodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim onid i'w fwrw allan, a'i sathru gan ddynion.

14 Chwi yw goleuni y bŷd: dinas a osodir ar fryn ni ellir ei chuddio.

15 Ac niM [...] [...].21 Luc. 8. [...] & 11. [...] oleuant ganwyll, a'i dodi dan lestr, ond mewn canhwyll-bren: a hi a oleua i bawb sy yn y tŷ.

16 Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, [...] fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd.

17 Na thybiwch fy nyfod i dorri 'r gy­fraith, neu 'r prophwydi, ni ddaethym i dorri, ond i gyflawni.

18 Canys yn wir meddaf i chwi, [...] Hyd onid êl y nef a'r ddaiar heibio, nid â vn iot nac vn tippyn o'r gyfraith heibio, hyd oni chwplaer oll.

19 Pwy [...] bynnag gan hynny a dorro vn o'r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysco i ddy­nion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nef­oedd: ond pwy bynnag a'i gwnelo, ac a'i dysco i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas ne­foedd.

20 Canys meddaf i chwi, oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach nâ chyfiawnder yn Scrifennyddion, a'r Pharisæaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.

21 Clywsoch ddywedydNeu [...] gan y rhai gynt,Exod. 20.13. De [...]. 5. 17. Na ladd: a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn.

22 Eithr yr ydwyfi yn dyw [...]dyd i chwi, pôb vn a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo o ynfyd, a fydd euog o dân vffern.

23 Gan hynny, os dygi dy rodd i'r allot, ac [Page] yno dyfod i'th gof fôd gan dy frawd ddim yn dy erbyn,

24 Gâd yno dy rodd ger bron yr allor, a dôs ymmaith: yn gyntaf cymmoder di â'th frawd, ac yno tyred, ac offrwm dy rodd.

25Luc. 12.58. Cytuna â'th wrthwyneb-ŵr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gyd ag ef: rhag vn amser i'th wrthwyneb-ŵr dy roddi di yn llaw 'r barn-ŵr, ac i'r barn-ŵr dy roddi at y swyddog, a'th daflu yngharchar.

26 Yn wir meddaf i ti, ni ddeui di allan oddi-yno hyd oni thalech y ffyrling eithaf.

27 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt,Exod. 20.14. Na wna odineb.

28 Eithr yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, fod pob vn sydd yn edrych ar wraig, i'w chwenny­chu hi, wedi gwneuthur eusys odineb â hi yn ei galon.

29Pen. 18.8. Marc. 9.47. Ac os dy lygad dehau a'th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddi wrthit, canys da i ti golli vn o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorph i vffern.

30 Ac os dy law ddehau a'th rwystra, torr hi ymmaith, a thafl oddi wrthit, canys da i ti golli vn o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorph i vffern.

31 A dywetpwyd,Deut. 24.1. Luc. 10.18. 1 Cor. 7.10. Pwy bynnag a ollyngo ymmaith ei wraig, rhoed iddi lythyr yscar.

32 Ond yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, fôd pwy bynnag a ollyngo ymmaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godi­neb: a phwy bynnag a briodo yr hon a yscar­wyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.

33 Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt,Exod. 20.7. Lev. 19. [...] Na thwng anudon: eithr tâl dy Iwon i'r Arglwydd.

34 Ond yr ydwyfi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nag i'r nef, canys gorseddfa Duw ydyw:

35 Nac i'r ddaiar, canys troed-fainc ei draed ydyw: nac i Jerusalem, canys dinas y brenin mawr ydyw.

36 Ac na thwng i'th ben, am na elli wneuthur vn blewyn yn wynn, neu yn ddu.

37Jac. 5.12. Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, Ie, nag ê nag ê: oblegid beth bynnag sydd tros ben hyn, o'r drwg y mae.

38 Clywsoch ddywedyd,Exod. 21.24. Lev. 24.20. Deut. 19.21. Llygad am lygad, a dant am ddant.

39 Eithr yr ydwyfi yn dywedyd wrthych chwi,Luc. 6.29. Rhuf. 12.17. 1 Cor. 6.7. Na wrthwynebwch ddrwg, ond pwy bynnag a'th darawo ar dy rudd ddehau, tro 'r llall iddo hefyd.

40 Ac i'r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gâd iddo dy gochl hefyd.

41 A phwy bynnag a'th gymmhello vn filltir, dos gyd ag ef ddwy:

42Deut. 15.8. Dyro i'r hwn a ofynno gennit: ac na thro oddiwrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwyna gennit.

43 Clywsoch ddywedyd,Lev. 19.18. Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.

44 Eithr yr ydwyfi yn dywedyd wrthych chwi,Luc. 6.27. Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melldithiant: gwnewch dda i'r sawl a'ch casant, aLuc. 23 34. Act. 7.60. gweddiwch tros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a'ch erlidiant:

45 Fel y byddoch blant i'ch tâd yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i'w llaul godi ar y drwg a'r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn.

46Luc. 6.32. Oblegid os cerwch y sawl a'ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna 'r Publicanod hefyd yr vn peth?

47 Ac os cyferchwch well i'ch brodyr yn vnig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw y Publicanod hefyd yn gwneuthur felly?

48 Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, yn berffaith.

PEN. VI.

1 Crist yn myned rhagddo yn ei bregeth ar y my­nydd, gan draethu am Elusen, 5 a Gweddi, 14 maddeu i'n brodyr, 16 ac ympryd, 19 p'le y mae i ni roddi ein tryssor i gadw, 24 ynghylch gwasanaethu Duw a Mammon: 25 yn annog na bydder gofalus am bethau bydol: 33 ond am geisio teyrnas Dduw.

GOchelwch rhag gwneuthur eich elusen yngŵydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt, os amgen, ni chewch dâl gan eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd.

2 Am hynnyRom. 12.8. pan wnelych elusen, na vdca­na o'th flaen, fel y gwna 'r rhagrith-wŷr yn y synagogau, ac ar yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion: yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr.

3 Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law asswy pa beth a wna dy law ddehau:

4 Fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a'th Dâd yr hwn a wêl yn y dirgel, efe a dâl i ti yn yr amlwg.

5 A phan weddiech, na fydd fel y rhagrith­wŷr, canys hwy a garant weddio yn sefyll yn y synagogau ac ynghonglau yr heolydd, fel yr ymddangosont i ddynion: yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr.

6 Ond tydi pan weddiech, dôs i'th stafell, ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dâd yr hwn sydd yn y dirgel: a'th Dâd yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.

7 A phan weddioch na fyddwchEccl. 7.14. siara­dus, fel y cenhedloedd: canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrandaw am eu haml eiriau.

8 Na fyddwch gan hynny debyg iddynt hwy: canys gŵyr eich Tâd pa bethau sy ar­noch eu heisieu, cyn gofyn o honoch ganddo.

9 Am hynny gweddiwch chwi fel hyn,Luc. 11.2. Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sanct­eiddier dy Enw.

10 Deled dy deyrnas: gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaiar hefyd.

11 Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol.

12 A maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyled-wŷr.

13 Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg: canys eiddot tryw 'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.

14Marc. 11.25. Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tâd nefol a faddeu hefyd i chwithau.

15 Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddeu eich Tâd eich cam­weddau chwithau.

16 Hefyd pan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrith-wŷr, yn wyneb-drist: canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion eu bôd yn ymprydio, yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr.

17 Eithr pan ymprydiech di, enneinia dy ben, a golch dy wyneb,

18 Fel nad ymddangosech i ddynion dy [Page] fôd yn ymprydio, ond i'th Dâd yr hwn sydd yn y dirgel; a'th Dâd yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.

19 Na thryssorwch i'wch dryssorau ar y ddaiar, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd, ac yn lladratta.

20Luc. 12.33. 1 Tim. 6.19. Eithr tryssorwch i'wch dryssorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn lly­gru, a lle ni's cloddia lladron trwodd, ac ni's lladrattânt.

21 Canys lle y mae eich tryssor, yno y bydd eich calon hefyd.

22Luc. 11.34. Canwyll y corph yw 'r llygad: am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorph fydd yn oleu.

23 Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorph fydd yn dywyll. Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot, yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch?

24Luc. 16.13. Ni ddichon neb wasanaethu dau ar­glwydd, canys naill a'i efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall, ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a esceulusa 'r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mammon.

25 Am hynny meddafi chwi,Luc. 12.22. Psal. 55.22. 1 Pet. 5.7. na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch: nac am eich corph, pa beth a wiscoch; onid yw 'r bywyd yn fwy nâ'r bwyd, a'r corph yn fwy nâ'r dillad?

26 Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i yscuboriau, ac y mae eich Tâd nefol yn eu porthi hwy: onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?

27 A phwy o honoch gan ofalu a ddichon chwanegu vn cufydd at ei faintioli?

28 A pha ham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? ystyriwch lili 'r maes, pa fôdd y maent yn tyfu: nid ydynt nac yn llafurio, nac yn nyddu;

29 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wiscwyd Solomon yn ei holl ogoniant, fel vn o'r rhai hyn.

30 Am hynny os dillada Duw felly lysieun y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y foru a fwrir i'r ffwrn: oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, ô chwi, o ychydig ffydd?

31 Am hynny na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwyttawn, neu beth a yfwn, neu â pha beth yr ymddilladwn?

32 (Canys yr holl bethau hyn y mae y cen­hedloedd yn eu ceisio) oblegid gŵyr eich Tâd nefol fôd arnoch eisieu yr holl bethau hyn.

33 Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg.

34 Na ofelwch gan hynny tros drannoeth: canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun, digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun.

PEN. VII.

1 Crist yn gorphen ei bregeth ar y mynydd, ac yn gwahardd barn ehud, 6 a bwrw pethau sanc­taidd i gwn, 7 yn [...]og i weddio, 13 i fyned i mewn i'r porth cyfyng, 15 i ymgadw rhac gau brophwydi, 21 na byddom wrandd-wyr, ond gwneuthur-wyr y gair, 24 a chyffelyb i dai wedi eu hadeiladu ar graig, 26 ac nid ar y tywod.

NALuc. 6.37. Rhuf. 2.1. fernwch, fel na'ch barner.

2 Canys â pha farn y barnoch, i'ch bernir:Mar. 4.24. Luc. [...].38. ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau.

3 ALuc. 6.41. pha ham yr wyt yn edrych ar y bry­cheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?

4 Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gâd i mi fwrw allar y brycheuyn o'th lygad; ac wele drawst yn dy lygad dy hun?

5 Oh ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur fwrw y brycheu yn allan olygad dy frawd.

6 Na roddwch y peth sydd sanctaidd i'r cŵn, ac na theflwch eich gemmau o flaen y môch: rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi, a'ch rhwygo chwi.

7Pen. 21.22. Mar. 11.24. Luc. 11.9. Joan. 16.24. Jac. 1.6. Gofyrinwch, a rhoddir i chwi: ceisiwch, a chwi a gewch: curwch, ac fe agorir i chwi.

8 Canys pob vn sy'n gofyn sy'n derbyn, a'r neb sy'n ceisio, sy'n cael, ac i'r hwn sydd yn curo yr agorir.

9 Neu a oes vn dŷn o honoch, yr hwn os gofyn ei fâb iddo fara, a rydd iddo garreg?

10 Ac os gofyn efe byscodyn, a ddyry efe sarph iddo?

11 Os chwy-chwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd, bethau da i'r rhai a ofyn­nant iddo?

12 Am hynnyLuc. 6.31. pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw 'r gyfraith a'r prophwydi.

13Luc. 13.24. Ewch i mewn trwy 'r porth cyfyng: canys ehang yw 'r porth, a llydan yw 'r ffordd sydd yn arwain i ddestryw; a llawer yw y rhai sydd yn myned i mewn trwyddi.

14 Oblegid cyfyng yw 'r porth, a chul yw 'r ffordd sydd yn arwain i'r bywyd, ac ychy­dig yw y rhai sydd yn ei chael hi.

15 Ymogelwch rhag y gau brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yngwiscoedd defaid, ond oddi-mewn bleiddiaid rheipus ydynt hwy.

16 Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. [...] A gascl rhai rawn-win oddiar ddrain, neu ffigys oddiar yscall?

17 Felly pôb pren da sydd yn dwyn ffrwy­thau da, ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg.

18 Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da.

19Pen. [...] 10. Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorric i lawr, ac a deflir yn tân.

20 O herwydd pa ham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.

21Rom. 2.13. Jac. 1.22. Nid pob vn sydd yn dywedyd wrthif, Arglvvydd, Arglvvydd, a ddavv i mevvn i deyrnas nefoedd, ond yr hvvn sydd yn gvvneuthur evvyllys fy Nhâd, yr hvvn sydd yn y nefoedd.

22 Llawer a ddywedant vvrthif yn y dydd hvvnnvv, Arglvvydd, Arglvvydd, oni phro­phwydasom yn dy envv di? ac oni fvvriasom allan gythreuliaid yn dy envv di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di?

23 Ac yna yr addefaf iddyntLuc. 13.27. Ni's adna­bûm chvvi erioed;Psal. 6.8. evvch ymmaith oddi vvrthif, chvvi vveithred-vvŷr anvviredd.

24 Gan hynnyLuc. 6.47. pvvy bynnag sy'n gvvrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gvvneu­thur, mi a'i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hvvn a adeiladodd ei dŷ ar y graig:

25 A'r glavv a ddescynnodd, a'r llifeiriaint a dilaethant, a'r gvvyntoedd a chvvythasant, ac [Page] a ruthrasant ar y tŷ hwnnw, ac ni syrthiodd, oblegid sylfaenesid ef ar y graig.

26 A phôb vn a'r sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffe­lybir i ŵr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod.

27 A'r glaw a ddescynnodd, a'r llif-ddyf­roedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwytha­fant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw, ac efe a syrthiodd, a'i gwymp a fu fawr.

28 A bu, wedi i'r Iesu orphen y geiriau hyn,Mar. 1.2. Luc. 4.32. y torfeydd a synnasant wrth ei ddys­ceidiaeth ef.

29 Canys yr oedd efe yn eu ddyseu hwynt, fel vn ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr Scri­fennyddion.

PEN. VIII.

1 Crist yn glanhau y gwahan-glwyfus, 5 yn iachâu gwas y Canwriad, 14 a mam gwraig Petr, 16 a llawer o rai clwyfus eraill: 18 yn dangos pa fodd y mae ei ddilyn ef: 23 yn go­stegu y dymesti ar y môr: 28 yn gyrru cythreu­liaid allan o ddau gythreulig, 31 ac yn can­hiadu iddynt fyned i'r môch.

AC wedi ei ddyfod ef i wared o'r mynydd, torfeydd lawer a'i canlynasant ef.

2Marc. 1.40. Luc. 5.12. Ac wele, vn gwahan-glwyfus a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i.

3 A'r Iesu a estynnodd ei law, ac a gyffyr­ddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahan-glwyf ef a lanhawyd.

4 A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwêl na ddywedych wrth neb: eithr dôs, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrymma y rhodd a orchymynnoddLevit. 14.4. Moses, er tystiolaeth iddynt.

5Luc. 7.1. Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Caper­naum, daeth atto ganwriad, gan ddeisyfu arno,

6 A dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwâs yn gorwedd gartref yn glaf o'r parlys, ac mewn poen ddir-fawr.

7 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Mi a ddeu­af, ac a'i hiachâf ef.

8 A'r canwriad a attebodd, ac a ddywe­dodd, Arglwydd nid ydwyfi deilwng i ddyfod o honot tan fy nghronglwyd: eithr yn vnig dywed y gair, a'm gwâs a iachêir.

9 Canys dŷn ydwyf finneu tan awdurdod, a chennif filwŷr tanaf: a dywedaf wrth hwn, cerdda, ac efe â: ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw: ac wrth fy ngwâs, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.

10 A'r Iesu pan glybu a ryfeddodd, ac a ddy­wedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, ni chefais gymmaint ffydd, na ddo yn yr Israel.

11 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin, ac a eistedd­ant gyd ag Abraham, ac Isaac, a Iacob, yn nheyrnas nefoedd:

12 Ond plant y deyrnas a deflir i'r tywyll­wch eithaf: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

13 A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, dôs ymmaith, a megis y credaist bydded i ti. A'i wâs a iachawyd yn yr awr honno.

14Marc. 1.29. Luc. 4.28. A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Petr, efe a weloddFam ei wraig ef. ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o'r crŷd.

15 Ac efe a gyffyrddodd â'i llaw hi: a'r crŷd a'i gadawodd hi: a hi a gododd, ac a wa­sanaethodd arnynt.

16Marc. 1.32. Luc. 4.40. Ac wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddyga­sant atto lawer o rai cythreulig: ac efe a fwr­iodd allan yr ysprydion a'i air, ac a iachaodd yr holl gleifion:

17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd,Esay. 53.4. 1 Pet. 2.24. Efe a gymmerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau.

18 A'r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o'i amgylch, a orchymynnodd fyned trosodd i'r lan arall.

19 ALuc. 9.57. rhyw Scrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.

20 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffaeau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod: ond gan fab y dŷn nid oes le i roddi ei ben i lawr.

21 Ac vn arall o'i ddiscyblion a ddywe­dodd wrtho, Arglwydd gâd i mi yn gyntaf fyned, a chladdu fy nhâd.

22 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, canlyn fi, a gâd i'r meirw gladdu eu meirw.

23 Ac wedi iddo fyned i'r llong, ei ddiscy­blion a'i canlynasant ef.

24Marc. 4.37. Luc. 8.23. Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hŷd oni chuddiwyd y llong gan y ton­nau: eithr efe oedd yn cyscu.

25 A'i ddiscyblion a ddaethant atto, ac a'i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd cadw ni, darfu am danom.

26 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych yn ofnus, ô chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwynt­oedd a'r môr; a bu dawelwch mawr.

27 A'r dynion a ryfeddasant, gan ddywe­dyd, Pa ryw vn yw hwn, gan fôd y gwyntoedd hefyd a'r môr yn vfyddhau iddo?

28Marc. 5.1. Luc. 8.26. Ac wedi ei ddyfod ef i'r lan arall, i wlâd y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o'r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno.

29 Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywe­dyd, Iesu fâb Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti ymma i'n poeni ni cyn yr amser?

30 Ac yr oedd ym-mhell oddi wrthynt genfaint o fôch lawer yn pori.

31 A'r cythreuliaid a ddeisyfiasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniadhâ i ni fyned ymmaith i'r genfaint fôch.

32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant i'r genfaint fôch. Ac wele, yr holl genfaint fôch a ruthrodd tros y dibyn i'r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd.

33 A'r meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i'r ddinas, hwy a fynegasant bôb peth, a pha beth a ddarfuasei i'r rhai dieflig.

34 Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â'r Iesu: a phan ei gwelsant, attolyga­sant iddo ymadel o'u cyffiniau hwynt.

PEN. IX.

2 Crist yn iachau vn claf o'r parlys, 9 yn galw Matthew o'r dollfa, 10 yn bwytta gyda phub­licanod a phechaduriaid, 14 yn ymddiffyn ei ddiscyblion am nad ymprydient, 20 yn iachau y difer-lif gwaed, 23 yn cyfodi: merch Jairus o farw, 27 yn rhoddi eu golwg i ddau ddyn dall, 32 yn iachau mudan cythreulig, 36 ac yn tosturio wrth y dyrfa.

AC efe a aeth i mewn i'r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth iw ddinas ei hun.

2Mar. 2.3. Luc. 5.18. Ac wele, hwy a ddygasant atto ŵr claf o'r parlys, yn gorwedd mewn gwely; a'r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o'r parlys, Ha fâb, cymmer gyssur, maddeuwyd i ti dy bechodau.

3 Ac wele, rhai o'r Scrifennyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, y mae hwn yn cablu.

4 A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Pa ham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau?

5 Canys pa vn hawsaf, ai dywedyd, maddeu­wyd i ti dy bechodau, ai dywedyd, cyfod a rhodia?

6 Eithr fel y gwypoch fôd awdurdod gan fâb y dŷn ar y ddaiar i faddeu pechodau (yna y dywedodd efe wrth y claf o'r parlys) cyfod, cymmer dy wely i fynu, a dôs i'th dŷ.

7 Ac efe a gyfodes, ac a aeth ymmaith i'w dŷ ei hun.

8 A'r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesei gyfryw awdurdod i ddynion.

9Marc. 2.14. Luc. 5.27. Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, efe a ganfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Matthew, ac a ddywedodd wrtho, canlyn fi. Ac efe a gyfodes, ac a'i canlynodd ef.

10 A bu ac efe yn eistedd i fwytta yn y tŷ, wele hefyd, publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant, ac a eisteddasant gyd â'r Iesu a'i ddiscyblion.

11 A phan welodd y Pharisæaid, hwy a ddy­wedasant wrth ei ddiscyblion ef, Pa ham y bwytty eich Athro chwi gyd â'c publicanod a'r pechaduriaid?

12 A phan glybu 'r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion.

13 Ond ewch, a dyscwch pa beth yw hyn, Hosc. 6.6. Pen. 12.7 Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth: canys ni ddaethym i alw rhai cyf­iawn,1 Tim. 1.15. ond pechaduriaid i edifeirwch.

14 Yna y daeth discyblion Ioan atto, gan ddywedyd,Marc. 2.18. Luc. 5.33. Pa ham yr ydym ni a'r Pharisae­aid yn ymprydio yn fynych, ond dy ddiscy­blion di nid ydynt yn ymprydio?

15 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all plant yr ystafell briodas alaru tra fo y priod­fab gyd â hwynt? ond y dyddiaua ddaw, pan ddyger y priod-fâb oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant;

16 Hefyd, ni ddŷd neb lain o frethyn newydd at hên ddilledyn: canys y cyflawn­iad a dynn oddi wrth y dilledyn, a'r rhwyg a wneir yn waeth.

17 Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hên: os amgen, y costrelau a dyrr, a'r gwin a rêd allan, a'r costrêlau a gollir: eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newyddion, ac felly y cedwir y ddau.

18Marc. 5.22. Luc. 8.41. Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrth­ynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a'i haddo­lodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon: eithr tyred a gosod dy law arni, a byw fydd hi.

19 A'r Iesu a godes, ac a'i canlynodd ef, a'i ddiscyblion.

20 (Ac wele, gwraig y buasei gwaed-lif arni ddeuddeng mhlynedd, a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisc ef.

21 Canys hi a ddywedasei ynddi ei hun, Os câf yn vnig gyffwrdd â'i wisc ef, iach fyddaf.

22 Yna 'r Iesu a drôdd, a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ha ferch bydd gyssurus, dy ffydd a'th iachaodd. A'r wraig a iachawyd o'r awr honno.)

23 A phan ddaeth yr Iesu i dŷ 'r pennaeth, a gweled y cerddorion, a'r dyrfa yn terfyscu,

24 Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch: canys ni bu farw 'r llangces, ond cyscu y mae hi. A hwy a'i gwatwarasant ef.

25 Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi: a'r llang­ces a gyfodes.

26 A'r gair o hyn a aeth tros yr holl wlâd honno.

27 A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a'i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mâb Dafydd, trugarhâ wrthym.

28 Ac wedi iddo ddyfod i'r tŷ, y deillion a ddaethant atto, a'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn credu y gallafi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym Arglwydd.

29 Yna y cyffyrddodd efe â'u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ôl eich ffydd bydded i chwi.

30 A'u llygaid a agorwyd; a'r Iesu a orchy­mynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch na's gwypo neb.

31 Ond wedi iddynt ymado, hwy a'i clodforasant ef trwy 'r holl wlâd honno.

32Luc. 11.14. Ac a hwy yn myned allan, wele rhai a ddygasant atto ddyn mud cythreulig.

33 Ac wedi bwrw y cythrael allan, llefa­rodd y mudan: a'r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb er ioed yn Israel.

34 Ond y Pharisæaid a ddywedasant,Pen. 12.24. Marc. 3.22. Luc. 11.15. Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.

35Marc. 6 6. Luc. 13.22. A'r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a'r trefydd, gan ddyscu yn eu sy­nagogau hwynt, a chan bregethu Efengyl y deyrnas, ac iachau pôb clefyd, a phôb afiechyd ym-mhlith y bobl.

36 AMarc. 6.34. phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bôd wedi blino, a'u gwascaru felNum. 27.17. defaid heb ganddynt fugail.

37 Yna y dywedodd efe wrth ei ddiscyb­lion, YLuc. 10. [...]. cynhaiaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweith-wŷr yn anaml.

38 Am hynny attolygwch i Arglwydd y cynhaiaf anfon gweith-wŷr i'w gynhaiaf.

PEN. X.

1 Crist yn anfon ei ddeuddec Apostl, gan roddi gallu iddynt i wneuthur rhyfeddodau: 5 yn rhoddi gorchymyn iddynt, ac yn eu dyscu, 16 ac yn eu cyssuro yn erbyn erlidiau: 40 ac yn addo bendith i'r rhai a'i derbynio hwynt.

ACMarc. 3.14. Luc. 9.1. wedi galw ei ddeuddeg discybl atto, efe a roddes iddynt awdurdodar. yn erbyn ysprydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iachau pôb clefyd a phôb afiechyd.

2 A henwau y deuddeg Apostolion yw y rhai hyn: y cyntaf, Simon yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd: Iaco mâb Zebedæus, ac Ioan ei frawd:

3 Philip, a Bartholomaeus: Thomas, a Mat­thew y publican: Iaco mâb Alphaeus, a Leb­baeus yr hwn a gyf-enwid Thadaeus:

4 Simon y Cananead, a Iudas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef.

5 Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a [Page] orchymynnodd iddynt, gan ddywedyd, Nag ewch i ffordd y cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn.

6 EithrAct. 13 46. ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel.

7 Ac wrth fyned pregethwch, gan ddywe­dyd, fôdLuc. 10.9. teyrnas nefoedd yn nessau.

8 Iachewch y cleifion, glanhewch y rhai gwahan-glwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhâd, rhoddwch yn rhâd.

9 NaMarc. 6.8. Luc. 9.3. & 22.35. feddwch aur, nac arian, nac efydd i'ch pyrsau:

10 Nac yscrepan i'r daith, na dwy bais, nac escidiau, na ffonn:1 Tim. 5.18. Luc. 10.7. canys teilwng i'r gweithi-ŵr ei fwyd.

11Luc. 10.8. Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi: ac yno trigwch hyd onid eloch ymmaith.

12 A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo.

13 Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangneddyf arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangneddyf attoch.

14Marc. 6.11. A phwy bynnag ni'ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o'r tŷ hwnnw, neu o'r ddinas honno,Act. 13.51. escyd­wch y llwch oddiwrth eich traed.

15 Yn wir meddaf i chwi, esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a'r Gomorriaid yn nydd y farn, nag i'r ddinas honno.

16 Wele, yrLuc. 10.3. ydwyfi yn eich danfon fel defaid ynghanol bleiddiaid: byddwch chwithau gall fel y seirph, a diniwed fel y colomennod.

17 Eithr ymogelwch rhag dynion: canys hwy a'ch rhoddant chwi i fynu i'r cyngor, ac a'ch ffrewyllant chwi yn eu Synagogau,

18 A chwi a ddygir at lywiawd-wŷr, a brenhinoedd o'm hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy, ac i'r cenhedloedd.

19Mar. 13.11. Luc. 12.11. Eithr pan eich rhoddant chwi i fynu, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno, pa beth a lefaroch.

20 Canys nid chwy-chwi yw 'r rhai sy yn llefaru, onid Yspryd eich Tâd yr hwn sydd yn llefaru ynoch.

21Luc. 21.16. A brawd a rydd frawd i fynu i far­wolaeth, a thâd ei blentyn: a phlant a godant i fynu yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu mar­wolaeth hwynt.

22 A châs fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ondMar. 13.13. yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig.

23 A phan i'ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i vn arall: canys yn wîr y dywedaf wrthych, na orphennwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mâb y dŷn.

24Luc. 6.40. Joan. 13 16. Nid yw 'r discybl yn vwch nâ'i athro, na'r gwâs yn vwch nâ'i arglwydd.

25 Digon i'r discybl fôd fel ei athro, a'r gwâs fel ei arglwydd: os galwasant berchen y tŷ yn Beelzebub, pa faint mwy ei dylwyth ef?

26 Am hynny nac ofnwch hwynt: o blegidMarc. 4.22. Luc. 8.17. & 12.2. nid oes dim cuddiedig a'r nas datcuddir, na dirgel, a'r nas gwybyddir.

27 Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a'r hyn a glywch yn y glust, pre­gethwch ar bennau y tai.

28Luc. 12.4. Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corph, ac ni allant ladd yr enaid: eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddestry­wio enaid a chorph yn yffern.

29 Oni werthir dau aderyn y tô er ffyr­ling? ac ni syrth vn o honynt ar y ddaiar heb eich Tâd chwi.

302 Sam. 14.11. Act. 27.34. Ac y mae, iê holl wallt eich pen wedi eu cyfrif.

31 Nac ofnwch gan hynny; chwi a delwch fwy nâ llawer o adar y tô.

32Luc. 12.8. Pwy bynnag gan hynny a'm cyffeso i yngŵydd dynion, minneu a'i cyffesaf ynteu yngŵydd fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd:

33Marc. 8.38. Luc. 9.26. 2 Tim. 2.12. A phwy bynnag a'm gwado i yng­ŵydd dynion, minneu a'i gwadaf ynteu yng­ŵydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd.

34Luc. 12.51. Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangneddyf ar y ddaiar: ni ddaethym i ddan­fon tangneddyf, onid cleddyf.

35 Canys mi a ddaethym i osod dŷn i ymra­faelio yn erbyn ei dâd, a'r ferch yn erbyn ei mam, a'r wauddMic. 7.6. yn erbyn ei chwegr.

36 A gelynion dŷn fydd tŷ-lwyth ei dŷ ei hun.

37 YrLuc. 14.26. hwn sydd yn caru tâd neu fam yn fwy nâ myfi, nid yw deilwng o honofi: a'r neb sydd yn caru mâb neu ferch yn fwy nâ myfi, nid yw deilwng o honofi.

38Pen. 16.24. Luc. 9.23. Mar. 8.34. A'r hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng o honofi.

39Joan. 12.25. Y neb sydd yn cael ei einioes, a'i cyll: a'r neb a gollo ei einioes o'm plegid i, a'i caiff hi.

40Luc. 10.16. Joan. 13.20. Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i: a'r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.

41 Y neb sydd yn derbyn prophwyd yn enw prophwyd, a dderbyn wobr prophwyd; a'r neb sydd yn derbyn vn cyfiawn yn enw vn cyfiawn, a dderbyn wobr vn cyfiawn.

42Mar. 9.41. A phwy bynnag a roddo i'w yfed i vn o'r rhai bychain hyn, phioleid o ddwfr oer yn vnic, yn enw discybl, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr.

PEN. XI.

2 Joan yn anfon ei ddiscyblion at Grist. 7 Tyst­iolaeth Crist am Joan. 18 Tyb y bobl am Joan, a Christ. 20 Crist yn dannod anniolchgarwch a diedifeirwch Chorazin, Bethsaida, a Chaper­naum: 25 a chan foliannu doethineb ei Dad yn egluro yr Efengyl i'r rhai gwirion, 28 yn galw atto y rhai sydd yn clywed baich eu pechodau.

A Bu, pan orphennodd yr Iesu orchymyn i'w ddeuddeg discybl, efe a aeth oddi yno i ddyscu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy.

2Luc. 7.18. Ac Joan, pan glybu yn y carchar weithredoedd Christ, wedi danfon dau o'i ddiscyblion,

3 A ddywedodd wrtho, Ai tydi yw 'r hwn sy 'n dyfod, ai vn arall yr ydym yn ei ddisgwil?

4 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrth­ynt, Ewch, a mynegwch i Joan y pethau a glywch ac a welwch.

5Esa. 35.6. Y mae 'r deillion yn gweled eil-waith, a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a'r byddariaid yn clywed: y mae y meirw yn cyfodi, a'rEsa. 61.1. tlodion yn cael pregethu yr Efengyl iddynt.

6 A dedwydd yw 'r hwn ni rwystrir ynofi.

7 Ac a hwy yn myned ymmaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych am dano? ai corsen yn yscwyd gan wynt?

8 Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai dŷn wedi ei wisco â dillad esmwyth? wele, y rhai sy yn gwisco dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent.

9 Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai prophwyd? îe meddaf i chwi, a mwy nâ phrophwyd.

10 Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr scrifennwyd,Mal. 3.1. Wele, yr ydwyfi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a bara­toa dy ffordd o'th flaen.

11 Yn wir meddaf i chwi, ym-mlith plant gwragedd ni chododd neb mwy nag Ioan Fe­dyddiwr: er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyr­nas nefoedd, sydd fwy nag ef.

12Luc. 16.16. Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd, a threiswŷr sy yn ei chippio hi.

13 Canys yr holl brophwydi a'r gyfraith a brophwydasant hyd Ioan.

14 Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe ywMal. 4.5. Elias yr hwn oedd ar ddyfod.

15 Y neb sydd ganddo glustiau i wrando gwrandawed.

16Luc. 7.31. Eithr i ba beth y cyffelybafi y gen­hedlaeth hon? cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion:

17 Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch: canasom alar-nâd i chwi, ac ni chwynfanasoch.

18 Canys daeth Ioan heb na bwytta, nac yfed, ac meddant, y mae cythrael ganddo.

19 Daeth mâb y dŷn yn bwytta ac yn yfed, ac meddant, Wele ddŷn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod, a phechaduriaid. A doethi­neb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.

20Luc. 10.13. Yna y dechreuodd efe edliw i'r dina­soedd, yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o'i weithredoedd nerthol ef, am nad edifar­hasent.

21 Gwae di Chorazin, gwae di Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gwei­thredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sach-liain a lludw.

22 Eithr meddaf i chwi, esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn nydd farn, nag i chwi.

23 A thydi Capernaum, yr hon a dderchaf­wyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn vffern: canys pe gwnaethid yn Sodom y gweithre­doedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hi a fuasai yn aros hyd heddyw.

24 Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y bydd esmwythach i dir Sodom yn nydd farn, nag i ti.

25Luc. 10.21. Yr amser hynny yr attebodd yr Iesu, ac y dywedodd, i ti yr ydwyf yn diolch, o Dâd, Arglwydd nef a daiar, am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a'u datcuddio o honot i rai bychain.

26 Ie o Dâd, canys felly y rhyngodd bodd i ti.

27Ioan. 3.35. Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhâd: ac nid edwyn neb y Mâb, ond y Tâd:Ioan. 6.46. ac nid edwyn neb y Tâd, ond y Mâb, a'r hwn yr ewyllysio y Mâb ei ddatcuddio iddo.

28 Dewch attafi bawb ac y sydd yn flinde­rog, ac yn llwythog; ac mi a esmwythâf arnoch.

29 Cymmerwch fy iau arnoch, a dyscwch gennif, canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon:Jer. 6 16. a chwi a gewch orphywystra i'ch eneidiau.

301 Joan. 5.3. Canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd yscafn.

PEN. XII.

1 Crist yn ceryddu dallineb y Pharisæaid, o ran torri y Sabboth, 3 trwy Scrythyrau, 9 trwy reswm, 13 a thrwy ryfeddod: 22 yn iachau y dyn cythreulig, mûd, a dall. 31 Ni faddeuir byth gabledd yn erbyn yr Yspryd glân. 36 Y rhoddir cyfrif am eiriau segur. 38 Y mae yn ceryddu yr anffyddloniaid a geisient arwydd, 49 ac yn dan­gos pwy yw ei frawd, a'i chwaer, a'i fam.

YR amser hynnyMar. 2.23. Luc. 6.1. Deut. 23.25. yr aeth yr Iesu ar y dydd Sabbath trwy 'r ŷd; ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddiscyblion, a hwy a dde­chreuasant dynnu tywys, a bwytta.

2 A phan welodd y Pharisæaid, hwy a ddy­wedasant wrtho, Wele, y mae dy ddiscyblion yn gwneuthur yr hyn nid ywgyfraith-lawn. rydd ei wneu­thur ar y Sabbath.

3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddar­llennasoch1 Sam. 21.6. pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd ag ef,

4 Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwyttaoddTorthau dangos, y rhai nid oedd gy­fraith-lawn. y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwytta, nac i'r rhai oedd gyd ag ef,Exod. 29.33. Leu. 8.31. & 24.9. ond yn vnic i'r offeiriaid?

5 Neu oni ddarllennasochNum. 28.9. yn y gyfraith, fôd yr offeiriaid ar y Sabbathau yn y Deml yn halogi y Sabbath, a'u bôd yn ddigerydd?

6 Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi fôd ymma vn mwy nâ'r Deml.

7 Ond pe gwybasech beth yw hyn, Hos. 6.6. Pen. 9.13. Truga­redd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed.

8 Canys Arglwydd ar y Sabbath hefyd yw Mâb y dŷn.

9Mar. 3.1. Luc. 6.6. Ac wedi iddo ymadel oddi yno, efe a aeth i'w synagog hwynt.

10 Ac wele, yr oedd dŷn a chanddo law wedi gwywo: a hwy a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, AiCyfr­aithlawn. rhydd iachau ar y Sabbathau? fel y gallent achwyn arno.

11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddŷn o honoch fydd a chanddo vn ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Sabbath, nid ymeist ynddi, a'i chodi allan?

12 Pa faint gwell gan hynny ydyw dŷn nâ dafad? fellyCyfr­aithlawn. rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabbathau.

13 Yna y dywedodd efe wrth y dŷn, Estyn dy law. Ac efe a'i hestynnodd: a hi a wnaed yn iach fel y llall.

14 Yna 'r aeth y Pharisæaid allan, ac aNeu, gymmera­sant gyng­or. ym­gynghorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y dife­thent ef.

15 A'r Iesu gan wybod, a giliodd oddi yno: a thorfeydd lawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachâodd hwynt oll;

16 Ac a orchymynnodd iddynt naChyhoe­ddent ef. wnaent ef yn gyhoedd.

17 Fel y oyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd,

18Esa. 42.1. Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais, fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy Yspryd arno, [Page] ac efe a draetha farn i'r cenhedloedd.

19 Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.

20 Corsen yssig ni's tyrr, a llîn yn mygu ni's diffydd: hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth.

21 Ac yn ei enw ef y gobeithia y cenhedl­oedd.

22Luc. 11.14. Yna y ducpwyd atto vn cythreulig, dall a mud: ac efe a'i hiachaodd ef, fel y llefar­odd, ac y gwelodd y dall a mud.

23 A'r holl dorfeydd a synnasant, ac a ddy­wedasant, Ai hwn yw mâb Dafydd?

24Pen. 9.34. Eithr pan glybu y Pharisæaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gy­threuliaid, onid trwy Beelzebub pennaeth y cy­threuliaid.

25 A'r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pôb teyrnas wedi ym­rannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir: a phôb dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif.

26 Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef?

27 Ac os trwy Beelzebub yr ydwyfi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farn-wŷr arnoch chwi.

28 Eithr os ydwyfi yn bwrw allan gythreul­iaid trwy Yspryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw attoch.

29 Neu pa fodd y dichon nêb fyned i mewn i dŷ vn cadarn, a llwyr yspeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo y cadarn, ac yna yr yspeilia efe ei dŷ ef?

30 Y nêb nid yw gyd â mi, sydd yn fy erbyn: a'r nêb nid yw yn casclu gyd â mi, sydd yn gwascaru.

31 Am hynny y dywedaf wrthych chwi,Mar. 3.28. Luc. 12.10. 1 Joan. 5.16. pôb pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: onid cabledd yn erbyn yr Yspryd, ni faddeuir i ddynion.

32 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mâb y dŷn, fe a faddeuir iddo: ond pwy byn­nag a ddywedo yn erbyn yr Yspryd glân, ni's maddeuir iddo, nac yn y bŷd hwn, nac yn y bŷd a ddaw.

33 Naill ai gwnewch y pren yn dda, a'i ffrwyth yn dda: ai gwnewch y pren yn ddrwg, a'i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth.

34 Oh eppil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg?Luc. 6.45. canys o helaethrwydd y galon y llefara y genau.

35 Y dŷn da, o dryssor da y galon, a ddwg allan bethau da: a'r dŷn drwg, o'r tryssor drwg, a ddwg allan bethau drwg.

36 Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, mai am bôb gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn-nydd farn.

37 Canys wrth dy eiriau i'th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau i'th gondemnir.

38Pen. 16.1. Luc. 11.20. 1 Cor. 1.22. Yna 'r attebodd rhai o'r Scrifennydd­ion a'r Pharisæaid, gan ddywedyd, Athro, ni a chwennychem weled arwydd gennit.

39 Ac efe a attebodd, ac a dywedodd wrth­ynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd: ac arwydd ni's rhoddir iddi, onid arwydd y Prophwyd Jonas.

40Jonah, [...].17. Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nôs ym-mol y mor-fil, felly y bydd Mâb y dŷn dri­diau a thair nôs ynghalon y ddaiar.

41 Gwyr Ninefe a gyfodant yn y farn gyd â'r genhedlaeth hon, ac a'i condemnant hi: am iddynt hwyJona. 2.5. edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele fwy nâ Jonas ymma.

421 Bren. 10.1. Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyd â'r genhedlaeth hon, ac a'i condemna hi: am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaiar, i gly­wed doethineb Solomon: ac wele fwy nâ So­lomon ymma.

43Luc. 11.24. A phan êl yr Yspryd aflan allan o ddŷn, efe a rodia ar hŷd lleoedd sychion, gan geisio gorphwysdra, ac nid yw yn ei gael.

44 Yna medd efe, Mi a ddychwelaf i'm tŷ, o'r lle y daethym allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wâg, wedi ei yscubo, a'i drwsio.

45 Yna y mae efe yn myned, ac yn cym­meryd gyd ag ef ei hun saith yspryd eraill, gwaeth nag ef ei hun: ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanneddant yno:Heb. 6.4. & 10.26. 2 Pet. 2.20. ac y mae diwedd y dŷn hwnnw yn waeth nâ'i ddechreu­ad. Felly y bydd hefyd i'r genhedlaeth ddrwg hon.

46 Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y tor­feydd,Mar. 3.31. Luc. 8.20. Wele, ei fam a'i frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef.

47 A dywedodd vn wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan â thi.

48 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasei wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i?

49 Ac efe a estynnodd ei law tu ag at ei ddiscyblion, ac a ddywedodd, wele fy mam i, a'm brodyr i.

50 Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam.

PEN. XIII.

1 Dammeg yr hau-wr, a'r hâd, 18 a'i ddeong­liad. 24 Dammeg yr efrau, 31 Yr hâd mws­tard, 33 y surdoes, 44 y tryssor cuddiedig, 45 Y perl, 47 a'r rhwyd. 53 Y modd y dirmygir Crist gan ei wladwyr ei hun.

Y Dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o'r tŷ,Marc. 4.1. ac yr eisteddodd wrth lan y môr.

2 A thorfeydd lawer a ymgynnullasant atto ef, fel yr aeth efe i'r llong, ac yr eisteddodd: a'r holl dyrfa a safodd ar y lan.

3 Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau drwy ddamhegion, gan ddywedyd,Luc. 8.5. Wele, yr hauwr a aeth allan i hau.

4 Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrth­iodd ar fin y ffordd: a'r adar a ddaethant, ac a'i difasant.

5 Peth arall a syrthiodd ar greig-leoedd, lle ni chawsant fawr ddaiar: ac yn y man yr egina­sant, can nad oedd iddynt ddyfnder daiar.

6 Ac wedi codi 'r haul y poethasant, ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant.

7 A pheth arall a syrthiodd ym-mhlith y drain: a'r drain a godasant, ac a'u tagasant hwy.

8 Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tîr da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei driugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain.

9 Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

10 A daeth y discyblion, ac a ddywedasant wrtho, Pa ham yr wyti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion?

11 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrth­ynt, Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy.

12Pen. 25.29. Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie yr hyn sydd ganddo.

13 Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion, canys a hwy yn gweled nid ydynt yn gweled, ac yn clywed nid ydynt yn clywed, nac yn deall.

14 Ac ynddynt hwy y cyflawnir prophwy­doliaeth Esaias, yr hon sydd yn dywedyd,Esa. 6.9. Mar. 4.12. Luc. 8.10. Joan. 12.40. Act. 28.26. Rhuf. 11.8. Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch: ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch.

15 Canys brassawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â'u clustiau yn drwm, ac a gauasant eu llygaid: rhag canfod â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'r galon, a throi, ac i mi eu hiachau hwynt.

16 Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bôd yn gweled: a'ch clustiau, am eu bôd yn clywed.

17 O blegid yn wîr y dywedaf i chwi,Luc. 10.24. chwennychu o lawer o brophwydi, a rhai cyfiawn, weled y pethau a welwch chwi, ac ni's gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac ni's clywsant.

18 Gwrandewch chwithau gan hynny ddammeg yr hau-ŵr.

19 Pan glywo nêb air y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae y drwg yn dyfod, ac yn cippio 'r hyn a hauwyd yn ei galon ef: dymma yr hwn a hauwyd ar fin y ffordd.

20 A'r hwn a hauwyd ar y creig-leoedd, yw 'r hwn sydd yn gwrando y gair, ac yn eb­rwydd drwy lawenydd yn ei dderbyn.

21 Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir.

22 A'r hwn a hauwyd ym-mhlith y drain, yw 'r hwn sydd yn gwrando y gair: ac y mae gofal y bŷd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu y gair, ac y mae yn mynod yn ddiffrwyth.

23 Ond yr hwn a hauwyd yn y tîr da, yw'r hwn sydd yn gwrando y gair, ac yn ei ddeall: sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei driugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.

24 Dammeg arall a osodes efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddŷn a hauodd hâd da yn ei faes.

25 A thra yr oedd y dynion yn cyscu, daeth ei elyn ef, ac a hauodd efrau ym-mhlith y gwenith, ac a aeth ymmaith.

26 Ac wedi i'r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna 'r ymddangosodd yr efrau hefyd.

27 A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni hauaist ti hâd da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae'r efrau ynddo?

28 Yntef a ddywedodd wrthynt, y gelyn ddŷn a wnaeth hyn. A'r gweision a ddyweda­sant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned, a'u casclu hwynt?

29 Ac efe a ddywedodd, na fynnaf: rhag i chwi wrth gasclu 'r efrau, ddiwreiddio 'r gwe­nith gyd â hwynt.

30 Gadewch i'r ddau gŷd-tyfu hyd y cyn­haiaf: ac yn amser y cynhaiaf y dywedaf wrth y medel-wŷr, Cesclwch yn gyntaf yr esrau, a rhwymwch hwynt yn yscubau, i'w llwyr­losci, ond cesclwch y gwenith i'm yscubor.

31 Dammeg arall a osodes efe iddynt, gan ddywedyd,Mar. 4.30. Luc. 13.19. Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o hâd mwstard, yr hwn a gymmerodd dŷn, ac a'i hauodd yn ei faes.

32 Yr hwn yn wîr sydd leiaf o'r holl ha­dau: ond wedi iddo dyfu, mwyaf vn o'r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren: fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.

33Luc. 13.20. Dammeg arall a lefarodd efe wrthynt, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i sur-does, yr hwn a gymmerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri phecceid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.

34Mar. 4.33. Hyn oll a lefarodd yr lesu trwy ddam­hegion wrth y torfeydd: ac heb ddammeg ni lefarodd efe wrthynt:

35 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedpwyd trwy y prophwyd, gan ddywedyd,Psal. 78.2. Agoraf fy ngenau mewn damhegion: mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y bŷd.

36 Yna yr anfonoddd yr Iesu y torfeydd ymmaith, ac yr aeth i'r tŷ: a'i ddiscyblion a ddaethant atto, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau y maes.

37 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau yr hâd da, yw Mâb y dŷn:

38 A'r maes yw 'r bŷd: a'r hâd da, hwynt hwy yw plant y deyrnas: a'r efrau yw plant y drŵg:

39 A'r gelyn yr hwn a'u hauodd hwynt, yw diafol:Joel. 3 13. Datc. 14.15. a'r cynhayaf yw diwedd y bŷd: a'r medel-wŷr yw 'r angelion.

40 Megis gan hynny y cynhullir yr efrau, ac a'u llwyr loscir yn tân, felly y bydd yn ni­wedd y bŷd hwn.

41 Mâb y dŷn a ddenfyn ei angelion, a hwy a gynhullant allan o'i deyrnas ef yr holl dram­gwyddiadau, a'r rhai a wnant anwiredd;

42 Ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

43Dan. 12.3. Yna y llewyrcha y rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tâd. Yr hwn sydd gan­ddo glustiau i wrando, gwrandawed.

44 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes, yr hwn wedi i ddŷn ei gaffael, a'i cuddiodd, ac o la­wenydd am dano, sydd yn myned ymmaith, ac yn gwerthu yr hyn oll a fedd, ac yn prynu y maes hwnnw.

45 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i sarchnatta-ŵr, yn ceisio perlau têg:

46 Yr hwn wedi iddo gaffael vn perl gwerth­fawr, a aeth, ac a werthodd gymmaint oll ac a feddei, ac a'i prynodd ef.

47 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac a gasclodd o bôb rhyw beth:

48 Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i'r lan, ac a eisteddasant, ac a gasclasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg.

49 Felly y bydd yn niwedd y bŷd: yr angelion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn:

50 Ac a'i bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

51 Iesu a ddywedodd wrthynt, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? Hwythau a ddywedasant wrtho, Do Arglwydd.

52 A dywedodd yntau wrthynt, Am hyn­ny pôb Scrifennydd wedi ei ddyscu i deyrnas nefoedd, sydd debyg i ddŷn o berchen tŷ, yr [Page] hwn sydd yn dwyn allan o'i dryssor bethau newydd a hên.

53 A bu, wedi i'r Iesu orphen y dammheg­ion hyn, efe a ymadawodd oddi yno.

54Marc. 6.1. Ac efe a ddaeth i'w wlâd ei hun, ac a'u dyscodd hwynt yn eu Synagog: fel y syn­nodd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y daeth y doethineb hyn, a'r gweithredoedd nerthol, i'r dŷn hwn?

55Joan. 6.42. Ond hwn yw mab y saer? ond Mair y gelwir ei fam ef, ac Jaco, a Joses, a Simon, a Judas, ei frodyr ef?

56 Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyd â ni? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll?

57 A hwy a rwystrwyd ynddo ef. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt,Mar. 6.4. Luc. 4.24. Joan. 4.44. Nid yw prophwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlâd ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.

58 Ac ni wnaeth efe nemmor o weithred­oedd nerthol yno, oblegid eu hanghrediniaeth hwynt.

PEN. XIV.

3 Tyb Herod am Grist. 3 Carthar Joan, a'i ddihenydd. 13 Yr Iesu yn ymado i le anial: 15 lle y mae ef yn porthi pum mîl o bobl â phum torth, ac â dau byscodyn: 22 yn rhodio ar y môr at ei ddiscyblion: 34 ac wedi tirio yn Genesareth yn iachâu y cleifion a gyffyrddai ag ymyl ei wisc ef.

Y Pryd hynny y clybuMar. 6.14. Luc. 9.7. Herod y Tetrarch sôn am yr Iesu.

2 Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Joan Fedyddi-ŵr: efe a gyfodes o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.

3Luc. 3.19.20. Canys Herod a ddaliasei Joan, ac a'i rhwymasei, ac a'i dodasei yngharchar, oblegid Herodias gwraig Philip ei frawd ef.

4 Canys Joan a ddywedodd wrtho,Leuit. 18.16. & 20.21. NidRhydd. cyfreithlawn i ti ei chael hi.

5 Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwol­aeth, a ofnodd y dyrfa,Pen. 21.26. canys hwy a'i cym­merent ef megis prophwyd.

6 Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth He­rod, y dawnsiodd merch Herodais ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod.

7 O ba herwydd efe a addawodd drwy lŵ, roddi iddi beth bynnag a ofynnei.

8 A hithau wedi ei rhag-ddyscu gan ei mam, a ddywedodd, dyro i mi ymma ben Joan Fedyddi-ŵr mewn dyscl.

9 A'r brenin a fu drist ganddo: eithr o herwydd y llw, a'r rhai a eisteddent gyd ag ef wrth y ford, efe a orchymmynodd i roi ef iddi.

10 Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Joan yn y carchar.

11 A ducpwyd ei ben ef mewn dyscl, ac a'i rhoddwyd i'r llangces: a hi a'i dug ef i'w mam.

12 A'i ddiscyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorph ef, ac a'i claddasant: ac a aethant, ac a fynegasant i'r Iesu.

13Mar. 6.32. Luc. 9.10. A phan glybu 'r Iesu, efe a ymada­wodd oddi yno mewn llong, i anghyfannedd­le o'r naill tu: ac wedi clywed o'r torfeydd, hwy a'i canlynasant ef ar draed allan o'r dina­soedd.

14 A'r Iesu a aeth allan, ac a weloddBobl lawer. dyr­fa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, ac efe a iacha­odd eu cleifion hwynt.

15Joan. 6.5. Mar. 6.35. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddiscyblion atto, gan ddywedyd, Y lle sydd angyfannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymmaith, fel yr elont i'r pen­trefi, ac y prynont iddynt fwyd.

16 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymmaith: rhoddwch chwi iddynt beth iw fwytta.

17 A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni ymma onid pum torth, a dau byscodyn.

18 Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt ymma i mi.

19 Ac wedi gorchymmyn i'r torfeydd eistedd ar y gwellt-glâs, a chymmeryd y pum torth a'r ddau byscodyn, efe a edrychodd i fynu [...] a'r nêf, ac a fendithiodd, ac a dorrodd, ac a roddes y torthau i'r discyblion, a'r discyblion i'r torfeydd.

20 A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o'r briw-fwyd oedd yngweddill, ddeuddeg bascedaid yn llawn.

21 A'r rhai a fwytasent oedd ynghylch pum-mîl o wŷr, heb law gwragedd a phlant.

22 Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddis­cyblion i fyned i'r llong, ac i fyned i'r lan arall o'i flaen ef, tra fyddai efe yn gollwng y tor­feydd ymmaith.

23Marc. 6.46. Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ym­maith, efe a escynnodd i'r mynydd wrtho ei hun, i weddio.Joan. 6.16. Ac wedi ei hwyrhau hi, yr oedd efe yno yn vnig.

24 A'r llong oedd weithian ynghanol y môr, yn drallodus gan donnau. Canys gwynt gwrth­wynebus ydoedd.

25 Ac yn y bedwaredd wylfa o'r nôs, yr aeth yr Iesu attynt, gan rodio ar y môr.

26 A phan welodd y discyblion ef yn rhodio ar y môr, dychrynasant, gan ddywedyd, Dry­chiolaeth ydyw: a hwy a waeddasant rhag ofn.

27 Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrth­ynt, gan ddywedyd, Cymmerwch gyssur, myfi ydyw, nac ofnwch.

28 A Phetr a'i attebodd, ac a ddywedodd, ô Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod at­tat ar y dyfroedd.

29 Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Petr ddescyn o'r llong, efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu.

30 Ond pan welodd efe y gwynt yn grŷf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi.

31 Ac yn y man yr estynnodd yr Iesu, ei law, ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, pa ham y petru­saist?

32 A phan aethant hwy i mewn i'r llong, peidiodd y gwynt.

33 A daeth y rhai oedd yn y llong, ac a'i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wîr Mâb Duw ydwyti.

34Marc. 6.53. Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dîr Gennesaret.

35 A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i'r holl wlâd honno o amgylch, ac a ddygasant atto y rhai oll oedd mewn anhwyl:

36 Ac a attolygasant iddo gael cyffwrdd yn vnic ag ymyl ei wisc ef: a chynnifer ac a gy­ffyrddodd, a iachawyd.

PEN. XV.

1 Christ yn aygyoeddi yr Scrifennyddion a'r Pha­risæaid, am dorri gorchymynion Duw trwy eu [Page] traddodiadau eu hunain: 11 yn dyscu nad yw y pêth sydd yn myned i mewn i'r gerau, yn ha­logi dyn: 21 yn iachau merch y wraig o Cana­an, 30 a thorfoedd eraill lawer: 32 ac â saith dorth, ac ychydic byscod bychain, yn porthi saith mîl o wŷr, heb law gwragedd a phlant.

YNa 'r Scrifennyddion a'r Pharisæaid, y rhai oedd o Jerusalem,Mar. 7.1. a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd,

2 Pa ham y mae dy ddiscyblion di yn trose­ddu traddodiad yr henafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwyttâont fara.

3 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, A pha ham yr ydych chwi yn tro­seddu gorchymyn Duw, trwy eich traddodiad chwi?

4 Canys Duw a orchymynnodd, gan ddy­wedyd,Exod. 20.12. Deut. 5.16. Anrhydedda dy dâd, a'th fam:Exod. 21.17. Leuit. 20.9. Dihar. 20.20. a'r hwn a felldithio dâd neu fam, lladder ef yn farw:

5 Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei Dâd neu ei fam,Mar. 7.11.12. Rhodd yw pa beth bynnag y ceit lês oddi wrthifi, ac ni anrhydeddo ei dâd neu ei fam, di-fai fydd.

6 Ac fel hyn y gwnaethoch orchymmyn Duw yn ddi-rym, trwy eich traddodiad eich hun.

7 Oh ragrith-wŷr, da y prophwydodd Esaias am danoch chwi, gan ddywedyd,

8Esai. 29.13. Nesau y mae y bobl hyn attaf â'i genau, a'm anrhydeddu â'u gwefusau: a'u calon sydd bell oddi wrthif.

9 Eithr yn ofer i'm anrhydeddant i, gan ddyscu gorchymynion dynion yn ddysceidiaeth.

10Marc. 7.14. Ac wedi iddo alw y dyrfa atto, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch a deellwch.

11 Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i'r genau, sydd yn halogi dŷn, ond yrhyn sydd yn dyfod allan o'r genau, hynny sydd yn ha­logi dŷn.

12 Yna y daeth ei ddiscyblion atto, ac a ddywedasant wrtho, a wyddosti ymrwystro o'r Pharisæaid wrth glywed yr ymadrodd hyn?

13 Ac yntef a attebodd, ac a ddywedodd,Joan. 15.2. Pôb planhigyn yr hwn ni's plannodd fy Nhâd nefol, a ddiwreiddir.

14 Gadewch iddynt:Luc. 6.39. tywysogion deillion i'r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffôs.

15Marc. 7.17. A Phetr a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni y ddammeg hon.

16 A dywedodd yr Jesu, A ydych chwithau etto heb ddeall?

17 Onid ydych chwi yn deall etto, fôd yr hyn oll sydd yn myned i mewn i'r genau yn cilio i'r bola, ac y bwrir ef allan i'r gau-dŷ?

18 Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau, sy yn dyfod allan o'r galon, a'r pethau hynny a halogant ddŷn.

19Gene. 6.5. & 8.21. Canys o'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, tor-prioda­sau, godinebau, lladradau, cam-desticlaethau, cablau.

20 Dymma y pethau sy yn halogi dŷn: eithr bwytta â dwylo heb olchi, ni haloga ddŷn.

21 A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon.

22Marc. 7.24.26. Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o'r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarhâ wrthif, o Arglwydd, Fâb Da­fydd, y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythrael,

23 Eithr nid attebodd efe iddi vn gair. A daeth ei ddiscyblion atto, ac a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymmaith, canys y mae hi yn llefain ar ein hôl.

24 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd,Pen. 10.6. Ni'm danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel.

25 Ond hi a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd cymmorth fi.

26 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, Nid da cymmeryd bara y plant, a'i fwrw i'r cŵn.

27 Hitheu a ddywedodd, Gwîr yw Arglwydd: canys y mae 'r cŵn yn bwytta o'r briwsion sy'n syrthio oddi ar swrdd eu harglwyddi.

28 Yna yr attebodd yr Iesu, ac a ddywe­dodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A'i merch a iachawyd o'r awr honno allan.

29Marc. 7.31. A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth ger llaw môr Galilæa; ac a escynnodd i'r myn­ydd, ac a eisteddodd yno.

30Esa. 35.5.6. A daeth atto dorfeydd lawer, a chan­ddynt gyd â hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a'u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a'u hiacha­odd hwynt:

31 Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn dywedyd, y rhai ana­fus yn iach, y cloffion yn rhodio, a'r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Is­rael.

32Marc. 8.1. A galwodd yr Iesu ei ddiscyblion atto, ac a ddywedodd, yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa, canys y maent yn aros gyd â mi dri-diau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwytta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymmaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd.

33 A'i ddiscyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymmaint o fara yn y diff­aethwch, fel y digonid tyrfa gymmaint?

34 A'r Iesu a ddywedei wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig byscod bychein.

35 Ac efe a orchymynnodd i'r torfeydd eistedd ar y ddaiar.

36 A chan gymmeryd y saith dorth a'r pyscod, a diolch, efe a'u torrodd, ac a'u rhoes iw ddiscyblion, a'r discyblion i'r dyrfa.

37 A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant eu digon: ac a godosant o'r briw-fwyd oedd yngweddill saith fascedaid yn llawn.

38 A'r rhai a fwyttasent, oedd bedair mîl o wŷr, heb law gwragedd a phlant.

39 Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ym­maith, efe a aeth i long, ac a ddaeth i barthau Magdala.

PEN. XVI.

1 Y Pharisæaid yn gofyn arwydd. 6 Iesu yn rhybuddio ei ddiscyblion am lefain y Pharisæaid, a'r Saducæaid. 13 Tyb y bobl am Grist, 16 a chyffes Petr am dano. 21 Iesu yn rhagfynegi ei farwolaeth, 23 yn ceryddu Petr am ei gynghori i'r gwrth-wyneb: 24 Ac yn rhy­buddio y sawl a fynnent ei galyn ef, i ddwyn y groes.

ACMarc. 8.11. Luc. 12.54. wedi i'r Pharisæaid a'r Saducæaid ddy­fod atto, a'i demtio, hwy a attolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nêf.

2 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrth­ynt, Pan fyddo yr hwyr y dywedwch, Tywydd têg, canys y mae 'r wybr yn gôch.

3 A'r boreu, Heddyw dryg-hîn: canys y mae 'r wybr yn gôch, ac yn bruddaidd. O rag­rith-wŷr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren, ac oni fedrwch arwyddion yr amserau?

4 Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd, ac arwydd ni's rhoddir iddi, onid arwydd y prophwyd Jonas. Ac efe a'u gadaw­odd hwynt, ac a aeth ymmaith.

5 Ac wedi dyfod ei ddiscyblion ef i'r lan arall, hwy a ollyngasent tros gof gymmeryd bara centhynt.

6 A'r Jesu a ddywedodd wrthynt, Edrych­wch ac ymogelwch rhag sur-does y Pharisæaid, a'r Saducæaid.

7 A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chym­merasom fara cennym.

8 A'r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrth­ynt, Chwy-chwi o ychydig ffydd, pa ham yr ydych yn ymresymmu yn eich plith eich hu­nain, am na chymmerasoch fara gyd â chwi?

9Pen. 14.17. Onid ydych chwi yn deall etto, nac yn cofio pum torth y pum-mil, a pha sawl basced­aid a gymmerosoch i fynu?

10Pen. 15.34. Na saith dorth y pedeir-mîl, a pha sawl cawelleid a gymmerasoch i fynu?

11 Pa fodd nad ydych yn deall nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd rhag sur­does y Pharisæaid, a'r Saducæaid?

12 Yna y deallasant na ddywedasei efe am ymogelyd rhag surdoes bara, ond rhag athraw­iaeth y Pharisæaid, a'r Saducæaid.

13 Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cae­sarea Philippi, efe a ofynnodd iw ddiscyblion, gan ddywedyd,Marc. [...] 27. Luc. 9 18. Pwy y mae dynion yn dywe­dyd fy môd i, Mâb y dŷn?

14 A hwy a ddywedasant, Rhai mai Ioan Fedyddi-ŵr, a rhai mai Elias, ac eraill mai Je­remias, neu vn o'r prophwydi.

15 Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyfi?

16 A Simon Petr a attebodd, ac a ddywe­dodd,Joan. 6.69. Ti yw Christ, mâb y Duw byw.

17 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fŷd ti Simon mab Iona: canys nid cig a gwaed a ddatcuddiodd hyn i ti, ond fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd.

18 Ac yr ydwyf finneu yn dywedyd i ti,Joan. 1.42. mai ti yw Petr, ac ar y graig hon yr adeila­daf daf fy Eglwys: a phyrth vffern ni's gorchfy­gant hi.

19Joan. 20.23. A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas ne­foedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaiar, a fydd rhwymedig yn y nefoedd: a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaiar, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.

20 Yna y gorchymynnodd efe i'w ddiscybl­ion na ddywedent i nêb mai efe oedd Jesu Grist.

21 O hynny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i'w ddiscyblion fôd yn rhaid iddo fyned i Jerusalem, a dioddef llawer gan yr He­nuriaid, a'r Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion, a'i ladd, a chyfodi y trydydd dydd.

22 A Phetr wedi ei gymmeryd ef atto, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Ar­glwydd trugarhâ wrthit dy hun; ni's bydd hyn i ti.

23 Ac efe a drôdd, ac a ddywedodd wrth Petr; Dôs yn fy ôl i, Satan, rhwystr ydwyt ti i mi: am nad ydwyt yn synied y pethau sy o Dduw, ond y pethau sy o ddynion.

24Pen. 10.38. Marc. 8.34. Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddiscyblion, Os myn nêb ddyfod ar fy ol i, ym­waded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi.

25 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a'i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o'm plegit i, a'i caiff.

26 Canys pa lesâd i ddŷn os ynnill efe yr holl fŷd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dŷn yn gyfnewid am ei enaid?

27 Canys Mab y dŷn a ddaw yngogoniant ei Dâd gyd â'i Angelion,Psal. 62.12. Rhuf. 2.6. ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred.

28 Yn wîr y dywedaf wrthych, yMar. 9.1. Luc. 9.27. mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll ymma, a'r ni phro­fant angeu, hyd oni welont Fâb y dŷn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.

PEN. XVII.

1 Gwedd-newidiad Christ. 14 Y mae ef yn iach­au y lloerig, 22 yn rhag-fynegi ei ddioddefaint, 24 ac yn talu teyrnged.

ACMar. 9.2. Luc. 9.28. yn ôl chwe diwrnod, y cymmerodd yr Iesu Petr, ac Iaco, ac Ioan ei frawd, ac a'u dug hwy i fynydd vchel, o'r naill-tu.

2 A gwedd-newidwyd ef ger eu bron hwy: a'i wyneb a ddiscleiriodd fel yr haul, a'i ddillad oedd cyn wynned a'r goleuni.

3 Ac wele, Moses ac Elias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef.

4 A Phetr a attebodd, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O Arglwydd, da yw i ni fod ymma: ôs ewyllysi, gwnawn ymma dair pabell; vn i ti, ac vn i Moses, ac vn i Elias.

52 Pet. 1.17. Ac efe etto yn llefaru, wele, cwmwl goleu a'u cyscododd hwynt: ac wele lef o'r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy anwylfâb, yn yr hwn i'm bodlonwyd: gwrandewch arno ef.

6 A phan glybu y discyblion hynny, hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr.

7 A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch.

8 Ac wedi iddynt dderchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn vnic.

9 Ac fel yr oeddynt yn descyn o'r mynydd, gorchymynnodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni adgyfodo Mâb y dŷn o feirw.

10 A'i ddiscyblion a ofynnasant iddo, gan ddywedyd,Pen. 11.14. Marc. 9.11. Pa ham gan hynny y mae 'r Scri­fennyddion yn dywedyd, fôd yn rhaid dyfod o Elias yn gyntaf?

11 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Elias yn wîr a ddaw yn gyntaf, ac a edfryd bob peth.

12 Eithr yr ydwyfi yn dywedyd i chwi ddy­fod o Elias eusus, ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur o honynt iddo beth bynnag a fyn­nasant: felly y bydd hefyd i Fâb y dŷn ddio­ddef ganddynt hwy.

13 Yna y deallodd y discyblion mai am Ioan Fedyddiŵr y dywedasei efe wrthynt.

14Marc. 9 17. Luc. 9.38. Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth atto ryw ddŷn, ac a ostyngodd iddo ar ei liniau,

15 Ac a ddywedodd, Arglwydd trugarhâ wrth fy mâb, oblegid y mae efe yn lloerig, ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych.

16 Ac mi a'i dugym ef at dy ddiscyblion di, ac ni allent hwy ei iachau ef.

17 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, O gen­hedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyd â chwi? pa hyd y dioddefaf chwi? dygwch ef ymma attafi.

18 A'r Iesu a geryddodd y cythrael, ac efe a aeth allan o honaw: a'r bachgen a iachawyd o'r awr honno.

19 Yna y daeth y discyblion at yr Iesu o'r nailltu, ac y dywedasant, Pa ham na allem ni ei fwrw ef allan?

20 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wîr y dywedaf i chwi,Luc. 17.6. pe bai gennych ffydd megis gronyn o hâd mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symmud oddi ymma draw, ac efe a symmudai, ac ni bydd dim amhossibl i chwi.

21 Eithr nid â y rhywogaeth hyn allan, onid trwy weddi ac ympryd.

22Pen. 20.17. Marc. 9.31. Luc. 9.44. Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yn Ga­lilaea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mâb y dŷn a draddodir i ddwylo dynion:

23 A hwy a'i lladdant, a'r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn.

24 Ac wedi dyfod o honynt i Capernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrn-ged, a ddaethant at Petr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athro chwi yn talu teyrn-ged?

25 Yntef a ddywedodd, Ydyw, Ac wedi ei ddyfod ef i'r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymmer brenhinoedd y ddaiar deyrn-ged, neu drêth? gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid?

26 Petr a ddywedodd wrtho, Ganestroniaid. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae y plant yn rhyddion.

27 Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dôs i'r môr, a bwrw fâch, a chymmer y pysco­dyn a ddêl i fynu yn gyntaf: ac wedi i ti ago­ryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymmer hwnnw, a dyro iddynt drosofi a thitheu.

PEN. XVIII.

1 Christ yn rhybuddio ei ddiscyblion, i fôd yn ostyngedic, ac yn ddiniwed; 7 i ochelyd rhwyst­rau, ac na ddirmygent y rhai bychain: 15 yn dyscu pa fodd y mae i ni ymddwyn tuac at ein brodyr, pan wnelont i'n herbyn: 21 a pha sawl gwaith y maddeuwn iddynt: 23 yr hyn beth y mae yn ei osod allan drwy ddammeg y brenin a gymmerai gyfrif gan ei weision, 32 ac a gospodd yr hwn ni wnaethei drugaredd â'i gydymmaith.

ARMarc. 9.33. Luc. 9.46. yr awr honno y daeth y discyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?

2 A'r Iesu a alwodd atto fachgennyn, ac a'i gosodes yn eu canol hwynt,

3 Ac a ddywedodd, Yn wîr y dywedaf i chwi,Pen. 19.14. 1 Cor. 14.20. oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneu­thur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.

4 Pwy bynnag gan hynny a'i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw 'r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.

5 A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fach­gennyn yn fy enw i, a'm derbyn i.

6Marc. 9.42. Luc. 17.1.2. A phwy bynnag a rwystro vn o'r rhai bychain hyn a gredant ynofi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr.

7 Gwae 'r bŷd oblegid rhwystrau: canys ang­enrhaid yw dyfod rhwystrau: er hynny gwae y dŷn hwnnw drwy 'r hwn y daw y rhwystr.

8Pen. 5.30. Marc. 9.45 Am hynny, os dy law, neu dy droed a'th rwystra, torr hwynt ymmaith, a thafl oddi wrthit: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag â chennit ddwy law neu ddau droed, dy daflu i'r tân tragywyddol.

9 Ac os dy lygad a'th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddi wrthit: gwell yw i ti yn vn-llygeid­iog fyned i mewn i'r bywyd, nag â dau lygad gennit, dy daflu i dân vffern.

10 Edrychwch na ddirmygoch yr vn o'r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangelion hwy yn y nefoedd, bôb amser yn gweled wyneb fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd.

11Luc. 19.10. Canys daeth Mâb y dŷn i gadw yr hyn a gollasid.

12Luc. 15.4. Beth dybygwch chwi? o bydd gan ddŷn gant o ddefaid, a myned o vn o honynt ar ddisperod, oni âd efe yr am yn vn cant, a my­ned i'r mynyddoedd, a cheisio yr hona aeth ar ddisperod?

13 Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am honno, mwy nag am yr amyn vn cant, y rhai nid aethant ar ddisperod.

14 Felly nid yw ewyllys eich Tâd, yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli 'r vn o'r rhai bych­ain hyn.

15Levit. 19.17. Luc. 17.3. Ac os pecha dy frawd i'th erbyn, dôs, ac argyoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun: os efe a wrendy arnat, ti a ennillaist dy frawd:

16 Ac os efe ni wrendy, cymmer gyd â thi etto vn neu ddau,Deut. 19.15. Joa. 8.17 2 Cor. 13.1. Heb. 10.28. fel yngenau dau neu dri o dystion, y byddo pôb gair yn safadwy.

17 Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r Eglwys: ac os efe ni wrendy ar yr Eglwys chwaith,1 Co [...]. 5.9. 2 Thes. 3.14. bydded ef i ti megis yr ethnic a'r Publican.

18 Yn wîr meddaf i chwi,Joan. 20.23. 1 Cor. 5.4. pa bethau byn­nag a rwymoch ar y ddaiar, fyddant wedi eu rhwymo yn y nef: a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaiar, a fyddant wedi eu rhyddhau yn y nef.

19 Trachefn meddaf i chwi, os cydsynnia dau o honoch ar y ddaiar, am ddim oll, beth bynnag a'r a ofynnant, efe a wneir iddynt gan fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd.

20 Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.

21 Yna y daeth Petr atto ef, ac a ddy­wedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i'm herbyn, ac y maddeuaf iddo?Luc. 17.4. ai hyd seith-waith?

22 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthit, hyd seith-waith, onid hyd ddeng-waith a thrugain seith-waith.

23 Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin, a fynnei gael cyfrif gan ei weision.

24 A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddug­pwyd atto vn a oedd yn ei ddylêd ef o ddeng­mîl o dalentau.

25 A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchymynnodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a chwbl a'r a feddei, a thalu 'r ddylêd.

26 A'r gwâs a syrthiodd i lawr, ac a'i ha­ddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthif, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.

27 Ac Arglwydd y gwâs hwnnw a dostur­iodd wrtho; ac a'i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo y ddylêd.

28 Ac wedi myned o'r gwâs hwnnw allan, efe a gafodd vn o'i gyd-weision, yr hwn oedd yn ei ddylêd ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd [Page] ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.

29 Yna y syrthiodd ei gyd-wâs wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthif, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.

30 Ac ni's gwnai efe: ond myned a'i fwrw ef yngharchar, hyd oni thalei yr hyn oedd ddyledus.

31 A phan weles ei gyd-weision y pethau a wnelsid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant, ac a fynegasant i'w harglwydd yr holl bethau a fuasei.

32 Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef atto, a ddywedodd wrtho, Ha wâs drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am i ti ymbil â mi:

33 Ac oni ddylesit titheu drugarhau wrth dy gyd-wâs, megis y trugarheais inneu wrthit ti?

34 A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i rhoddes ef i'r poen-wŷr, hyd oni thalei yr hyn oll oedd ddyledus iddo.

35 Ac felly y gwna fy Nhâd nefol i chwi­thau, oni faddeuwch o'ch calonnau bob vn i'w frawd eu camweddau.

PEN. XIX.

2 Crist yn iachau y cleifion: 3 yn atteb y Pha­risæaid am Yscariaeth: 10 yn dangos pa bryd y mae Priodas yn angenrheidiol: 13 yn derbyn plant bychain: 16 yn dyscu i'r gwr ieuangc y modd i gael bywyd tragywyddol, 20 ac i fôd yn berffaith: 23 yn dywedyd i'w ddiscyblion mor anhawdd ydyw i'r goludoc fyned i mewn i deyrnas Dduw: 27 ac yn addo gwobr i'r sawl a ymadawant â dim er mwyn ei ganlyn ef.

A Bu,Mar. 10.1. pan orphennodd yr Iesu yr ymad­roddion hyn, efe a ymadawodd o Galilæa, ac a ddaeth i derfynau Judaea, tu hwnt i'r Ior­ddonen.

2 A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef: ac efe a'u hiachaodd hwynt yno.

3 A daeth y Pharisæaid atto gan ei demtio, a dywedyd wrtho, AiRhydd. cyfraithlawn i ŵr yscar â'i wraig am bôb achos?

4 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrth­ynt, Oni ddarllennasochGen. 1.27. i'r hwn a'i gwnaeth o'r dechreu eu gwneuthur hwy yn wrryw a benyw?

5 Ac efe a ddywedodd,Gen. 2.24. Ephes. 5.31. Oblegid hyn y gâd dŷn dâd a mam, ac y glŷn wrth ei wraig:1 Cor. 6.16. a'r ddau fyddant yn vn cnawd.

6 O herwydd pa ham, nid ydynt mwy yn ddau, onid yn vn cnawd. Y peth gau hynny a gyssylltodd Duw, nac yscared dŷn.

7 Hwythau a ddywedasant wrtho,Deut. 24.1. Pa ham gan hynny y gorchymynnodd Moses roddi llythyr yscar, a'i gollwng hi ymmaith?

8 Yntef a ddywedodd wrthynt, MosesAt ga­ledrwydd. o herwydd caledrwydd eich calonnau a oddefodd i chwi yscar â'ch gwragedd: eithr o'r dechreu nid felly yr oedd.

9Pen. 5.32. Marc. 10.11. Luc. 16.18. 1 Cor. 7.11. Ac meddaf i chwi, pwy bynnag a ys­caro â'i wraig, ond am odineb, ac a briodo vn arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae yr hwn a briodo yr hon a yscarwyd, yn torri priodas.

10 Dywedodd ei ddiscyblion wrtho, Os felly y mae 'r achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica.

11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt.

12 Canys y mae Eunuchiaid a aned felly o groth eu mam: ac y mae Eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn Eunuchiaid: ac y mae Eunu­chiaid a'u gwnaethant eu hun yn Eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.

13 YnaMarc. 10.13. Luc. 18.15. y dygpwyd atto blant bychain, fel y rhoddei ei ddwylo arnynt, ac y gweddiei: a'r discyblion a'u ceryddodd hwynt.

14 A'r Iesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod attafi: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.

15 Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymmaith oddi yno.

16Mar. 10.17. Luc. 18.18. Ac wele, vn a ddaeth, ac a ddywe­dodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragywyddol?

17 Yntef a ddywedodd wrtho, Pa ham y geiwi fi yn dda? nid da neb ond vn, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i'r bywyd, cadw 'r gorchymynion.

18 Efe a ddywedodd wrtho yntef, Pa rai? A'r Iesu a ddywedodd,Exod. 20.13. Na ladd, na odineba, na ledratta, na ddwg gam dystiolaeth,

19 Anrhydedda dy dâd a'th fam, a Châr dy gymmydog fel di dy hun.

20 Y gŵr ieuangc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o'm hieuengtid: beth sydd yn eisieu i mi etto?

21 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dôs, gwerth yr hyn sydd gen­nit, a dyro i'r tlodion: a thi a gei dryssor yn y nef: a thyred, canlyn fi.

22 A phan glybu y gŵr ieuangc yr ymad­rodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer.

23 Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddis­cyblion, Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anhawdd yr â goludog i mewn i deyrnas ne­foedd.

24 A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grau y nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

25 A phan glybu ei ddiscyblion ef hyn, syn­nu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fôd yn gadwedig?

26 A'r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddy­wedodd wrthynt, Gyd â dynion ammhossibl yw hyn, ond gyd â Duw pôb peth sydd bossibl.

27Marc. 10.28. Luc. 18.28. Yna Petr a attebodd ac a ddywe­dodd wrtho, Wele, nyni a adawsom bôb peth, ac a'th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni?

28 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi y rhai a'm can­lynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dŷn ar orsedd ei ogoniant,Luc. 22.30. eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deu­ddeg-llwyth Israel.

29 A phôb vn a'r a adawodd dai, neu fro­dyr, neu chwiorydd, neu dâd, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymmaint, a bywyd tragywyddol a etifedda efe.

30Pen. 20.16. Marc. 10.31. Luc. 13.30. Ond llawer o'r rhai blaenaf a fyddant yn olaf; a'r rhai olaf yn flaenaf.

PEN. XX.

1 Crist trwy ddammeg y gweithwyr yn y win­llan, yn dangos nad ydyw Duw yn ddyled-wr i neb: 17 yn rhagfynegi ei ddioddefaint: 20 Trwy atteb i fam meibion Zebedaeus, yn [Page] dyscu iw ddiscyblion fôd yn ostyngedic; 30 ac yn rhoddi i ddau ddyn dall eu golwg.

CAnys teyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan athi yn dyddhau, i gyflogi gweith-wŷr i'w win-llan.

2 Ac wedi cytuno â'r gweith-wŷr er cein­iog y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w win­llan.

3 Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa:

4 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwi­thau i'r win-llan, a pha beth bynnag a fyddô cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi.

5 A hwy a aethant ymmaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr vn modd.

6 Ac efe a aeth allan ynghylch yr vnfed awr ar ddêg, ac a gafas eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Pa ham y sefwch chwi ymma ar hŷd y dydd yn segur?

7 Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntef wrthynt, Ewch chwithau i'r win-llan, a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a'i cewch.

8 A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y win-llan a ddywedodd wrth ei oruchwiliŵr, Galw 'r gweith-wŷr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechreu o'r rhai diweddaf, hyd y rhai cyntaf.

9 A phan ddaeth y rhai a gyflogasid yng­hylch yr vnfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob vn geiniog.

10 A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dyb­iasant y caent fwy: a hwythau a gawsant bob vn geiniog.

11 Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnae­thant yn erbyn gŵr y tŷ,

12 Gan ddywedyd, Vn awrNeu, yr arho­sodd. y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a'u gwnaethost hwynt yn gystal a ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd a'r gwrês.

13 Yntef a attebodd, ac a ddywedodd wrth vn o honynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneu­thur cam â thi: onid er ceiniog y cytunaist â mi?

14 Cymmer yr hyn sydd eiddot, a dôs ym­maith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn, megis i titheu.

15 Ai nidRhydd. cyfreithlawn i mi wneuthur a fynnwyf â'r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad ti yn ddrwg, am fy môd i yn dda?

16 FellyPen. 19.30. y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a'r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sy wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

17Marc. 10.32. Luc. 18.31. Ac a'r Jesu yn myned i fynu i Jerusa­lem, efe a gymmerth y deuddeg discybl o'r nailltu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt,

18 Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Jerusalem, a mâb y dŷn a draddodir i'r Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion, a hwy a'i con­demniant ef i farwolaeth:

19Joan. 18.32. Ac a'i traddodant ef i'r cenhedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellu, ac i'w groeshoelio: a'r trydydd dydd efe a adgyfyd.

20Marc. 10.35. Yna y daeth mam meibion Zebedaeus atto, gyd â'i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo.

21 Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fyn­ni? Dywedodd hitheu wrtho, Dywed am gael o'm dau fâb hyn eistedd, y naill ar dy law dde­hau, a'r llall ar dy law asswy, yn dy frenhiniaeth.

22 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o'r cwppan yr ydwyfi ar yfed o honaw, a'ch bedyddio â'r bedydd y be­dyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn.

23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o'm cwppan, ac i'ch bedyddir â'r bedydd i'm bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw dde­hau, ac ar fy llaw asswy, nid eiddof ei roddi, ond i'r sawl y darparwyd gan fy Nhâd.

24 A phan glybu y dêg hyn, hwy a sorra­sant wrth y ddau frodyr.

25 A'r Iesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd,Luc. 22.25. Chwi a wyddoch fôd pennae­thiaid y cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai mawrion yn tra-awdurdodi arnynt hwy.

26 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fôd yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn wenidog i chwi.

27 A phwy bynnag a fynno fôd yn bennaf yn eich plith, bydded yn wâs i chwi.

28 Megis na ddaethPhil. 2.7. Mab y dŷn i'w wa­sanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei ein­ioes yn brid-werth dros lawer.

29 Ac a hwyMar. 10.46. Luc. 18.35. yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a'i canlynodd ef.

30 Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fôd yr Iesu yn myned heibio, a lefasant gan ddywedyd, Arglwydd, fâb Dafydd, trugarhâ wrthym.

31 A'r dyrfa a'u ceryddodd hwynt, fel y tawent; hwythau a lefasant fwy-fwy, gan ddy­wedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarhâ wrth­ym.

32 A'r Iesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur o honof i chwi?

33 Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.

34 A'r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyff­yrddodd â'u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a'i canlynasant ef.

PEN. XXI.

1 Crist yn marchogaeth ar assyn i Jerusalem, 12 yn gyrru y prynwyr a'r gwerthwyr o'r Deml, 17 yn melltithio y ffigys-bren, 23 yn gostegu yr offeiriaid a'r henuriaid, 28 ac yn eu ceryddu trwy gyffelybrwydd y ddau fab, 35 a'r llafur­wyr a laddasant y rhai a anfonwyd attynt.

AMarc. 11.1. Luc. 19.29. Phan ddaethant yn gyfagos i Jerusalem, a'u dyfod hwy i Bethphage, i fynydd yr olewŷdd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddis­cybl:

2 Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch assyn yn rhwym ac ebol gyd â hi: gollyngwch hwynt, a dygwch attafi.

3 Ac os dywed neb ddim wrthych, dywe­dwch, Y mae 'n rhaid i'r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a'u denfyn hwynt.

4 A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy 'r prophwyd, yn dywedyd,

5Esa. 62.11. Zech. 9.9. Joan. 12.15. Dywedwch i ferch Sion, Wele, dy fre­nin yn dyfod i ti yn addfwyn, ac yn eistedd ar assyn, ac ebol llwdn assyn arferol â'r iau.

6 YMarc. 11.2. discyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchymynnasei 'r Iesu iddynt.

7 A hwy a ddygasant yr assyn a'r ebol: ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a'i gosodasant ef i eistedd ar hynny.

8 A thyrfa ddirfawr a danasant eu dillad ar y ffordd: eraill a dorrasant gangau o'r gwŷdd, ac a'u tanasant ar hŷd y ffordd.

9 A'r torfeydd, y rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna i fâb Dafydd, Bendi­gedig yw 'r hwn sydd yn dyfod yn enw 'r Ar­glwydd, Hosanna yn y goruchafion.

10Mar. 11.15. Luc. 19.45. Joa. 2.13. Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jeru­salem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywe­dyd, pwy yw hwn?

11 A'r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Iesu y prophwyd o Nazareth yn Galilæa.

12 A'r Iesu a aeth i mewn i Deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a'r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml: ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau y newid-wŷr arian, a chadeir­iau y rhai oedd yn gwerthu colommennod;

13 Ac a ddywedodd wrthynt, Scrifennwyd,Esa. 56.7. Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i; eithrIer. 7.11. Mar. 11.17. Luc. 19.46. chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.

14 A daeth y deillion a'r cloffion atto, yn y Deml, ac efe a'u iachaodd hwynt.

15 A phan welodd yr Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a'r plant yn llefain yn y Deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fâb Dafydd, hwy a lidiasant:

16 Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywe­dyd? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllennasoch chwi erloed,Psal. 8.2. O enau plant bychain, a rhai yn sugno, y perffeithiaist foliant?

17 Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o'r ddinas, i Bethania, ac a letteuodd yno.

18 A'r boreu, fel yr oedd efe yn dychwelyd i'r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd:

19Marc. 11.13. A phan welodd efe ffigys-bren ar y ffordd, efe a ddaeth atto, ac ni chafodd ddim arno, onid dail yn vnig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigys-bren.

20 A phan welodd y discyblion, hwy a ry­feddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymmwth y crinodd y ffigys-bren?

21 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, os bydd gen­nych ffydd, ac heb ammau, ni wnewch yn vnig hyn a wnaethym i i'r ffigys-bren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fynu, a bwrier di i'r môr, hynny a fydd.

22 A pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch.

23Mar. 11.27. Luc. 20.1. Ac wedi ei ddyfod ef i'r Deml, yr Arch-offeiriaid a Henuriaid y bobl a ddaethant atto, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywe­dyd, Trwy ba awdurdod yr wyti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdur­dod hon?

24 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Minneu a ofynnaf i chwithau vn gair, yr hwn os mynegwch i mi, minneu a fy­negaf i chwithau drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

25 Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o'r nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed wrthym, Pa ham gan hynny, na's credasoch ef?

26 Ond os dywedwn, O ddynion; y mae arnom ofn y bobl:Pen. 4.5. canys y mae pawb yn cymmeryd Ioan megis prophwyd.

27 A hwy a attebasant i'r Iesu, ac a ddywe­dasant, Ni wyddom ni. Ac yntef a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finneu yn dywedyd i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

28 Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan ŵr ddau fâb, ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, fy mâb, dôs, gweithia heddyw yn fy ngwinllan.

29 Ac yntef a attebodd, ac a ddywedodd, Nid âf. Ond wedi hynny efe a edifarhaodd ac a aeth.

30 A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddy­wedodd yr vn modd. Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, Myfi a âf Arglwydd, ac nid aeth efe.

31 Pa vn o'r ddau a wnaeth ewyllys y tâd? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywe­dodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â 'r Publicanod a'r putteinieid i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.

32 CanysPen. 3.8. daeth Ioan attoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef: ond y publi­canod a'r putteiniaid a'i credasant ef: chwithau yn gweled nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.

33 Clywch ddammeg arall. Yr oedd rhyw ddŷn o berchen tŷ,Esa. 5.1. Jer. 2.21. Mar. 12.1. Luc. 20.9. yr hwn a blannodd win­llan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi win-wrŷf, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafur-wŷr, ac a aeth oddi cartref.

34 A phan nessaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafur-wŷr, i dder­byn ei ffrwythau hi.

35 A'r llafur-wŷr a ddaliasant ei weision ef, ac vn a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.

36 Trachefn efe a anfonodd weision eraill fwy nâ'r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant idd­ynt yr vn modd.

37 Ac yn ddiweddaf oll efe a anfonodd attynt ei fâb ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mâb i.

38 A phan welodd y llafur-wŷr y mâb, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, HwnPen. 26.3. Joan. 11.53. yw 'r etifedd, deuwch lladdwn ef, a daliwn ei etife­ddiaeth ef.

39 Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a'i bwria­sant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant.

40 Am hynny pan ddêl arglwydd y win­llan, pa beth a wna efe i'r llafurwŷr hynny?

41 Hwy a ddywedasant wrtho, Efe a ddi­fetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y win-llan i lafur-wŷr eraill, y rhai a dalant iddo y ffrwythau yn eu hamserau.

42 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt,Psal. 118.22. Act. 4.11. Oni ddarllennasoch chwi erioed yn yr Scrythyrau? Y maen a wrthododd yr adeilad-wŷr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein go­lwg ni.

43 Am hynny meddaf i chwi y dygir teyr­nas Dduw oddi arnoch chwi, ac a'i rhoddir i genhedl a ddygo ei ffrwythau.

44Rhuf. 9.33. 1 Pet. 2.7. Esa 8.14.15. A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syr­thio, efe a'i mâl ef yn chwilfriw.

45 A phan glybu 'r Arch-offeiriaid a'r Pha­risæaid ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai am danynt hwy y dywedai efe.

46 Ac a hwy yn ceisio ei ddala, hwy a ofna­sant [Page] y torfedd; am eu bôd yn ei gymmeryd ef fel prophwyd.

PEN. XXII.

1 Dammeg priodas mâb y brenin. 9 Galwediga­eth y Cenhedloedd. 12 Cospedigaeth yr hwn nid oedd ganddo y wisc briodas. 15 Y dylid talu ternged i Cesar. 23 Crist yn cau safnau y Saducæaid ynghylch yr adgyfodiad, 34 yn atteb y Cyfreithiwr, pa vn yw yr gorchymmyn cyntaf, a'r mawr: 41 ac yn holi y Pharisæaid ynghylch y Messias.

A'R Iesu a attebodd,Luc. 14.16. Datc. 19.9. ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddy­wedyd,

2 Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw fre­nin a wnaeth briodas i'w fâb:

3 Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i'r broidas, ac ni fynnent hwy ddyfod.

4 Trachefn efe anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahodd­wyd, Wele, paratoais fy nghinio, fy ychen a'm pascedigion a laddwyd, a phôb peth sydd barod, deuwch i'r briodas.

5 A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymmaith, vn i'w faes, ac arall iw fasnach.

6 A'r llaill a ddaliasant ei weision ef, ac a'u hammharchasant, ac a'u lladdasant.

7 A phan glybu y brenin, efe a lidiodd, ac a ddanfonodd eu luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a loscodd eu dinas hwynt.

8 Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng.

9 Ewch gan hynnyI benneu y ffyrdd. i'r prif-ffyrdd, a chyn­nifer ac a gaffoch, gwahoddwch i'r briodas.

10 A'r gweision hynny a aethant allan i'r prif-ffyrdd, ac a gasclasant ynghŷd gynnifer oll ac a gawsant, drwg a da: a llanwyd y bri­odas o wahoddedigion.

11 A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddŷn heb wisc priodas am dano.

12 Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn ymma, heb fod gennit wisc priodas? Ac yntef a aeth yn fud.

13 Yna y dywedodd y brenin wrth y gwenidogion, Rhwymwch ei draed a'i ddwylo, a chymmerwch ef ymmaith, a theflwch i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

14Pen. 20.16. Canys llawer sy wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

15 YnaMarc. 12.13. Luc. 20.20. 'r aeth y Pharisæaid ac a gym­merasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd.

16 A hwy a ddanfonasant atto eu discybl­ion ynghŷd â'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fôd yn eir-wir, ac yn dyscu ffordd Dduw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyti yn edrych ar wyneb dynion.

17 Dywed i ni gan hynny, beth yr wyt ti yn ei dybied: ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cæsar, ai nid yw?

18 Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Pa ham yr ydych yn fy nhemp­tio i, chwi ragrith-wŷr?

19 Dangoswch i mi arian y deyrn-ged. A hwy a ddygasant atto geiniog.

20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r argraph?

21 Dywedasant wrtho, Eiddo Cæsar. Yna y dywedodd wrthynt, TelwchRom. 13.7. chwithau yr eiddo Cæsar i Cæsar, a'r eiddo Duw i Dduw.

22 A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a'i adel ef a myned ymmaith.

23Marc. 12.18. Luc. 20.27. Y dydd hwnnw y daeth atto y Sadu­cæaid,Act. 23.8. y rhai sy'n dywedyd nad oes adgy­fodiad, ac a ofynnasant iddo,

24 Gan ddywedyd; Athro,Deut. 25.5. dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded hâd i'w frawd.

25 Ac yr oedd gyd â ni saith o frodyr: a'r cyntaf a briododd wraig, ac a fu farw: ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig i'w frawd.

26 Felly hefyd yr ail, a'r trydydd, hyd y seithfed.

27 Ac yn ddiweddaf oll, bu farw y wraig hefyd.

28 Yn yr adgyfodiad gan hynny, gwraig i bwy o'r saith fydd hi? canys hwynt-hwy oll a'i cawsant hi.

29 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr Scrythyrau, na gallu Duw.

30 Oblegid yn yr adgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra: eithr y maent fel angelion Duw yn y nef.

31 Ac am adgyfodiad y meirw, oni ddar­llennasoch yr hyn a ddywedpwyd wrthych gan Dduw, yn dywedyd,

32Exod. 3.6. Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Iacob? nid yw Duw, Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw.

33 A phan glybu y torfeydd hynny, hwy a synnasant wrth ei athrawiaeth ef.

34Marc. 12.28. Ac wedi clywed o'r Pharisæaid ddar­fod i'r Iesu ostegu y Saducæaid, hwy a ymgyn­nullasant ynghyd i'r vn lle.

35 Ac vn o honynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo gan ei demtio, a dywedyd,

36 Athro, pa vn yw 'r gorchymyn mawr yn y gyfraith?

37 A'r Iesu y ddywedodd wrtho,Deut. 6.5. Luc. 10.27. Ceri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl.

38 Hwn yw'r cyntaf, a'r gorchymyn mawr.

39 A'r ail sydd gyffelyb iddo,Levit. 19.18. Car dy gŷmydog fel ti dy hun.

40 Ar y ddau orchymmyn hyn, y mae 'r holl gyfraith a'r prophwydi yn sefyll.

41 AcMarc. 12.35. Luc. 20.41. wedi ymgasclu o'r Pharisæaid ynghŷd, yr Iesu a ofynnodd iddynt,

42 Gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mâb i bwy ydyw? dywedent wrtho, Mâb Dafydd.

43 Dywedai yntef wrthynt, Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr Yspryd yn ei alw ef yn Arglwydd? gan ddywedyd,

44 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Ar­glwydd,Psal. 110.1. Eistedd ar fy neheu-law, hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i'th draed ti.

45 Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fâb iddo?

46 Ac ni allodd neb atteb gair iddo: ac ni feiddiodd neb o'r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach.

PEN. XXIII.

1 Christ yn rhybuddio y bobl i ddilyn athrawiaeth dda, ac nid esamplau drwg yr Scrifennyddion a'r Pharisæaid. 5 Rhaid i ddiscyblion Christ ochelyd eu rhyfyg hwy. 13 Mae efe yn cyhoeddi wyth wae yn erbyn eu rhagrith a'i dallineb hwy, 34 ac yn prophwydo dinistr Jerusalem.

YNa y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a'i ddiscyblion,

2 Gan ddywedyd, Ynghadair Moses yr eistedd yr Scrifennyddion a'r Pharisæaid.

3 Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrth­ych am eu cadw, cedwch a gwnewch, eithr ar ôl eu gweithredoedd na wnewch, canys dy­wedant ac ni's gwnânt.

4Luc. 11.46. Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion, ac anhawdd eu dwyn, ac yn eu gosod ar yscwyddau dynion: ond ni ewyllysiant eu syflyd hwy ag vn o'i bysedd.

5 Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddyn­ion:Num. 15.38. Deut. 22.12. canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymyl-waith eu gwiscoedd yn helaeth:

6 AMarc. 12.38.39. Luc. 11.43. charu y maent y lle vchaf mewn gwleddoedd, a'r prif-gadeiriau yn y Syna­gogau:

7 A chyfarch yn y marchnadoedd, a'u galw gan ddynion Rabbi, Rabbi.

8Jac. 3.1. Eithr na'ch galwer chwi Rabbi: canys vn yw eich athro chwi, sef Christ: chwithau oll brodyr ydych.

9 Ac na elwch neb yn dâd i chwi ar y ddaiar:Mal. 1.6. canys vn Tâd sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd.

10 Ac na'ch galwer yn athrawon: canys vn yw eich athro chwi, sef Christ.

11 A'r mwyaf o honoch, a fydd yn weini­dog i chwi.

12 ALuc. 14.11. ac 18.14. phwy bynnag a'i derchafo ei hun, a ostyngir: a phwy bynnag a'i gostyngo ei hun, a dderchefit.

13 EithrLuc. 11.52. gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid, ragrith-wŷr, canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a'r rhai sy yn myned i mewn, ni's gadewch i fyned i mewn.

14Mar. 12.40. Luc. 20.47. Gwae chwi Scrifennyddion a Phari­sæaid, ragrithwŷr, canys yr ydych yn llwyr­fwytta tai gwragedd gweddwon, a hynny yn rhith hir weddio: am hynny y derbyniwch farn fwy.

15 Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid, ragrith-wŷr, canys amgylchu yr ydych y môr a'r tir, i wneuthur vn proselyt: ac wedi y gwneler, yr, ydych yn ei wneuthur ef yn fâb vffern, yn ddau mwy nâ chwi eich hunain.

16 Gwae chwi dywysogion deillion, y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynnag a dwng i'r Deml, nid yw ddim: ond pwy bynnag a dwng i aur y Deml, y mae efe mewn dylêd.

17 Ffyliaid a deillion: canys pa vn sydd fwyaf, yr aur, ai'r Deml sydd yn sancteidd­io 'r aur?

18 A Phwy bynnag a dwng i'r allor, nid yw ddim: ond pwy bynnag a dyngo i'r rhodd sydd arni, y mae efe mewn dyl [...]d.

19 Ffyllaid a deillion: canys pa vn fwyaf, y rhodd, ai'r allor sydd yn sancteiddio y rhodd?

20 Pwy bynnag gan hynny a dwng i'r allor, sydd yn tyngu iddi, ac i'r hyn oll sydd arni.

21 A phwy bynnag a dwng i'r Deml, sydd yn tyngu iddi, ac i'r hwn sydd yn preswylio ynddi.

22 A'r hwn a dwng i'r nef, sydd yn tyngu i orsedd-faingc Duw, ac i'r hwn sydd yn eistedd arni.

23 Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisae­aid, ragrith-wŷr,Luc. 11.42. canys yr ydych yn deg­ymmu y mintys, a'r anys, a'r cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymmach o'r gy­fraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd wneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio.

24 Tywysogion deillion, y rhai ydych yn hidlo gwybedyn, ac yn llyngcu camel.

25 Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid, ragrith-wŷr,Luc. 11.39. canys yr ydych yn glanhau y tu allan i'r cwppan a'r ddyscl, ac o'r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd, ac anghymedroldeb.

26 Ti Pharisaead dall, glanhâ yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i'r cwppan a'r ddyscl, fel y by­ddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi allan iddynt.

27 Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid, ragrith-wŷr, canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn dêg oddi-allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o escyrn y meirw, a phôb aflendid.

28 Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith, ac anwiredd.

29 Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid, ragrith-wŷr, canys yr ydych yn adeiladu beddau 'r prophwydi, ac yn addurno beddau y rhai cyfiawn:

30 Ac yr ydych yn dywedyd, Pe buasem ni yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni gyfran­nogion â hwynt yngwaed y prophwydi.

31 Felly yr ydych yn tystiolaethu am danoch eich hunain, eich bôd yn blant i'r rhai a laddasant y prophwydi.

32 Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau.

33 Oh seirph, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddiangc rhag barn vffern?

34 Am hynny wele, yr ydwyf yn anfon attoch brophwydi, a doethion, ac Scrifennydd­ion: a rhai o honynt a leddwch, ac a groes­hoeliwch, a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich Synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref:

35 Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyf­iawn, a'r a ollyngwyd ar y ddaiar,Gen. 4.8. o waed Abel gyfiawn, hyd waed Zacharias fab Barachias, yr hwn a laddasoch rhwng y Deml a'r allor.

36 Yn wir meddaf i chwi, daw hyn oll arYr oes hon. y genhedlaeth hon.

37Luc. 13.34. Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi,2 Cron. 24.21. ac yn llabyddio y rhai a ddanfonir attat, pa sawl gwaith y mynnaswn2 Esd. 1.30. gasclu dy blant ynghŷd, megis y cascl iâr ei chywion tan ei hadenydd, ac ni's mynnech?

38 Wele, yr ydys yn gadel eich tŷ i chwi yn anghyfannedd.

39 Canys meddaf i chwi, Ni'm gwelwch yn ôl hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.

PEN. XXIV.

1 Christ yn rhag-ddywedyd dinistr y Deml: 3 pa fâth, a pha faint o gystuddiau a fydd o'r blaen. 29 Arwyddion ei ddyfodiad ef i farn. 36 Ac o ran bôd y dydd a'r awr yn anyspys, 42 y dylem ni wilied fel gweision da, yn disgwyl bob amser am ddyfodiad ein meistr.

A'RMar. 13.1. Luc. 21.5. Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o'r deml: a'i ddiscyblion a ddaethant atto, i ddangos iddo adeiladau y Deml.

2 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? yn wir meddaf i chwi, Luc. 19.44. ni adewir ymma garreg ar garreg, a'r ni ddattodir.

3 Ac efe yn eistedd ar fynydd yr olewydd, y discyblion a ddaethant atto o'r naill-tu, gan ddywedyd, Mynega i ni pa bryd y bydd y pe­thau hyn, a pha arwydd fydd o'th ddyfodiad, ac o ddiwedd y bŷd?

4 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrth­ynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi.

5 Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddy­wedyd, myfi yw Christ; ac a dwyllant lawer.

6 A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi; canys rhaid yw bôd hyn oll: eithr nid yw y diwedd etto.

7 Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daiar-grynfaau, mewn mannau.

8 A dechreuad gofidiau yw hyn oll.

9 YnaPen. 10.17. Luc. 21.12. Joa [...] 16.2. i'ch traddodant chwi i'ch gorth­rymmu, ac a'ch lladdant, a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd, er mwyn fy enw i.

10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y brad­ychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd.

11 A gau-brophwydi lawer a godant, ac â dwyllant lawer.

12 Ac o herwydd yr amlhâ anwiredd, fe a oera cariad llawer.

13 Eithr y neb a barhâo hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.

14 A'r Efengyl hon am y deyrnas a bregeth­ir trwy 'r holl fŷd, er tystiolaeth i'r holl gen­hedloedd: ac yna y daw y diwedd.

15 Am hynnyMarc. 13.14. pan weloch y ffieidd-dra anghyfanneddol, a ddywedpwyd trwyDan. 9.27. Dda­niel brophwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarllenno ystyried)

16 Yna y rhai a fyddant yn Iudaea, ffoant i'r mynyddoedd.

17 Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddiscyn­ned i gymmeryd dim allan o'i dŷ.

18 A'r hwn a fyddo yn y maes, na ddych­weled yn ei ôl, i gymmeryd ei ddillad.

19 A gwae y rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny.

20 Eithr gweddiwch na byddo eich ffoedig­aeth y gaiaf, nac ar y dydd Sabbath.

21 Canys y prŷd hynny y bydd gorthrym­der mawr, y fath ni bu o ddechreu y bŷd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith.

22 Ac oni bai fyrrhau y dyddiau hynny, ni buasei gadwedig vn cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion, fe fyrrheir y dyddiau hynny.

23Mar. 13.21. Luc. 17.2 [...]. Yna os dywed nêb wrthych, Wele, llymma Grist, neu llymma: na chredwch.

24 Canys cyfyd gau-Gristiau, a gau-bro­phwydi, ac a roddant arwyddion mawrion, a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddei bossibl, ie yr etholedigion.

25 Wele, rhag-ddywedais i chwi.

26 Am hynny os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffaethwch, nac ewch allan: Wele, yn yr stafelloedd, na chredwch.

27 Oblegid fel y daw y fellten o'r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin, felly hefyd y bydd dyfodiad Mâb y dŷn,

28Luc. 17.37. Canys pa le bynnag y byddo y gelain, yno 'r ymgascl yr eryrod.

29 Ac yn y fan, wedi gorthrymder y dyddiau hynny,Mar. 13.24. Luc. 21.25. Esai. 13.10. Joel 2.31. Ezec. 32.7. y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni rydd ei goleuni, a'r sêr a syrth o'r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.

30 Ac yna yr ymddengys arwydd Mâb y dŷn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau 'r ddaiar, aDatc. [...].7. hwy a welant Fâb y dŷn yn dyfod ar gymmylau 'r nef, gyd â nerth a go­goniant mawr.

31 Ac1 Cor. 15.52. 1 Thes. 4.16. efe a ddenfyn ei AngylionNeu, ag udcorn a sain mawr. â mawr sain vd-corn: a hwy a gasclant ei etholedigion ef ynghŷd, o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd, hyd eu heithafoedd hwynt.

32 Ond dyscwch ddammeg oddiwrth y ffigys-bren: pan yw ei gangen eusys yn dyner, a'i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fôd yr hâf yn agos:

33 Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fôd yn agos, wrth y drysau.

34 Yn wir meddaf i chwi, nid â y genhedl­aeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll.

35Marc. 13.31. Nef a daiar a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

36 Ond am y dydd hwnnw a'r awr, ni's gŵyr neb, nac Angelion y nefoedd, onid fy Nhâd yn vnig.

37 Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mâb y dŷn.

38 OblegidGen. 7. Luc. 17.26. fel yr oeddynt yn y dyddiau ym-mlaen y diluw, yn bwytta, ac yn yfed, yn priodi, ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch:

39 Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y diluw, a'u cymmeryd hwy oll ymmaith: felly hefyd y bydd dyfodiad Mâb y dŷn.

40 Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.

41 Dwy a fydd yn malu mewn melin: vn a gymmerir, a'r llall a adewir.

42Mar. 13.35. Gwiliwch gan hynny, am na wydd­och pa awr y daw eich Arglwydd.

43 ALuc. 12.39 1 Thes. 5.2. Datc. 16.15. gwybyddwch hyn, pe gwybasei gŵr y tŷ pa wiliadwriaeth y deuai y lleidr, efe a wiliasei, ac ni adawsei gloddio ei dŷ trwodd.

44 Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch, y daw Mâb y dŷn.

45 PwyLuc. 12.42. gan hynny sydd wâs ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd?

46 Gwyn ei fŷd y gwâs hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef pan ddelo, yn gwneuthur felly.

47 Yn wir meddaf i chwi, ar ei holl dda y gesyd efe ef.

48 Ond os dywed y gwâs drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod:

49 A dechreu curo ei gŷd-weision, a bwyt­ta ac yfed gyd â'r meddwon:

50 Arglwydd y gwâs hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwil am dano, ac mewn awr ni's gŵyr efe:

51 Ac efe a'i gwahana ef, ac a efyd ei ran ef gyd â'r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain, a rhingcian dannedd.

PEN. XXV.

1 Dammeg y dêc morwyn, 14 a'r Talentau, 31 a dull y farn ddiweddaf.

YNa tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddêg o forwynion, y rhai a gymmerasant eu lam­pau, ac a aethant allan i gyfarfod â'r priod-fab.

2 A phump o honynt oedd gall, a phum yn ffôl.

3 Y rhai oedd ffôl a gymmerasant eu lam­pau, ac ni chymmerasant olew gyd â hwynt:

4 A'r rhai call a gymmerasant olew yn eu llestri, gŷd â'u lampau.

5 A thra 'r oedd y priod-fâb yn aros yn hir, yr hepiasant oll, ac yr hunasant.

6 Ac ar hanner nôs y bu gwaedd, Wele, y mae y priod-fâb yn dyfod, ewch allan i gyfarfod ag ef.

7 Yna y cyfododd yr holl forwynion hyn­ny, ac a drwsiasant eu lampau.

8 A'r rhai ffôl a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o'ch olew chwi, canys y mae ein lampau yn diffoddi.

9 A'r rhai call a attebasant, gan ddywedyd, Rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain.

10 A thra 'r oeddynt yn myned ymmaith î brynu, daeth y priod-fâb: a'r rhai oedd barod a aethant i mewn gyd ag ef i'r briodas, a chaewyd y drŵs.

11 Wedi hynny y daeth y morwynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Ar­glwydd, agor i ni.

12 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Yn wîr meddaf i chwi, nid adwaen chwi.

13Pen. 24.42. Marc. 13.33. Gwiliwch gan hynny, am na wyddoch na'r dydd na'r awr y daw Mâb y dŷn.

14Luc. 19.12. Canys fel dŷn yn myned i wlâd ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda attynt:

15 Ac i vn y rhoddes efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall vn: i bob vn yn ôl ei allu ei hun: ac yn y fan, efe a aeth oddi cartref.

16 A'r hwn a dderbyniasei y pum talent, a aeth, ac a farchnattaodd â hwynt, ac a wna­eth bum talent eraill.

17 A'r vn modd yr hwn a dderbyniasei y ddwy, a ennillodd yntef ddwy eraill.

18 Ond yr hwn a dderbyniasei vn, a aeth, ac a gloddiodd yn y ddaiar, ac a guddiodd arian ei arglwydd.

19 Ac wedi llawer o amser, y mae ar­glwydd y gweision hynny yn dyfod, ac yn cyfrif â hwynt.

20 A daeth yr hwn a dderbyniasei bum talent, ac a ddug bum talent eraill, gan ddy­wedyd, Arglwydd, pum talent a roddaist attaf: wele, mi a ennillais bum talent eraill attynt.

21 A dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, wâs da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer: dôs i mewn i lawen­ydd dy Arglwydd.

22 A'r hwn a dderbyniasei ddwy dalent, a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist attaf: wele, dwy eraill a en­nillais attynt.

23 Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, wâs da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi ath osodaf ar lawer: dôs i mewn i lawen­ydd dy arglwydd.

24 A'r hwn a dderbyniasei 'r vn talent, a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, mi a'th adwaenwn di, mai gŵr caled ydwyt, yn medi lle ni's ha [...]aist, ac yn casclu lle ni wasceraist:

25 Ac mi a ofnais, ac a aethym, ac a [...]ddiais dy dalent yn y ddaiar: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun.

26 A'i arglwydd a attebodd, ac a ddywe­dodd wrtho, O wâs drwg, a diog, ti a wyddit fy môd yn medi lle ni's hauais, ac yn casclu lle ni's gwascerais:

27 Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewid-wŷr, a mi pan ddaethwn, a gaws­wn dderbyn yr eiddof fy hun gyd â llôg.

28 Cymmerwch gan hynny y talent oddi wr­tho, a rhoddwch i'r hwn sydd ganddo ddeg talent.

29Pen. 13.12. Marc. 4.25. Luc. 8.18. (Canŷs i bob vn y mae ganddo y rho­ddir, ac efe a gaiff helaethrwydd; ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie yr hyn sydd ganddo.)

30 A bwriwch allan y gwâs anfuddiol i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain, a rhingcian dannedd.

31 A Mâb y dŷn pan ddêl yn ei ogoniant, a'r holl Angelion sanctaidd gŷd ag ef, yna yr eistedd ar orsedd-faingc ei ogoniant.

32 A chyd-gesclir ger ei fron ef yr holl gen­hedloedd: ac efe a'u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola y bugail y defaid oddi­wrth y geifr:

33 Ac a esyd y defaid ar ei ddeheu-law, ond y geifr ar yr asswy.

34 Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheu-law, Deuwch chwi fendigedigion fy Nhâd, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y bŷd.

35Esa. 58.7. Ezec. 18.7. Canys bûm newynog, a chwi a roesoch i mi fwyd: bu arnaf-syched, a rhoesoch i mi ddiod: bûm ddieithr, a dygasoch fi gŷd â chwi:

36 Noeth, a dilladasoch fi: bum glaf, ac ymwelsoch â mi: bûm yngharchar, a daeth­och attaf.

37 Yna yr ettyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa brŷd i'th welsom yn newynog, ac i'th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom i ti ddiod?

38 A pha brŷd i'th welsom yn ddieithr, ac i'th ddygasom gyd â ni? neu yn noeth, ac i'th ddilladasom?

39 A pha brŷd i'th welsom yn glaf, neu yngharchar, ac y daethom attat?

40 A'r Brenin a ettyb, ac a ddywed wrth­ynt, Yn wîr meddaf i chwi, yn gymmaint a'i wneuthur o honoch i vn o'r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch.

41 Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw asswy,Psal. 6.8. Pen. 7.23. Ewch oddi wrthif rai melldigedig i'r tân tragwyddol, yr hwn a bararowyd i ddiafol, ac i'w angylion.

42 Canys bûm newynog, ac ni roesoch i mi swyd: bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod:

43 Bum ddieithr, ac ni'm dygasoch gyd â chwi: noeth, ac ni'm dilladasoch: yn glâf, ac yngharchar, ac ni ymwelsoch â mi.

44 Yna yr attebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa brŷd i'th wel­som yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yng­harchar, ac ni weinasom i ti?

45 Yna 'r ettyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, yn gymmaint ac na's gwnaethoch i'r vn o'r rhai llelaf hyn, ni's gwnaethoch i minneu.

46 A'rDan. 12.2. Joan. 5.29. rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.

PEN. XXVI.

3 Y llywodraeth-wyr yn cyd-fwriadu yn erbyn [Page] Christ. 6 Y wraig yn enneinio ei ben ef. 14 Ju­das yn ei werthu ef. 17 Christ yn bwytta y Pasc: 26 yn ordeinio ei swpper sanctaidd: 36 yn gweddio yn yr ardd: 47 ac wedi ei fradychu â chusan, 57 yn cael ei arwain at Caiaphas, 69 a'i wadu gan Petr.

A Bu wedi i'r Iesu orphen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion,

2Marc. 14.1. Luc. 22.1. Joan. 13.1. Chwi a wyddoch mai gwedideu-ddydd y mae 'r Pâsc, a Mâb y dŷn a draddodir i'w groes-hoelio.

3Joan. 11.47. Yna yr ymgasclodd yr Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion, a Henuriaid y bobl, i lŷs yr Arch-offeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas:

4 A hwy a gyd-ymgynghorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef.

5 Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr wyl, rhag bôd cynnwrf ym mhlith y bobl.

6Marc. 14.3. Joan. 11.1. Ac a'r Iesu yn Bethania, yn nhŷ Simon y gwahan-glwyfus,

7 Daeth atto wraig a chenddi flŵch o en­naint gwerth-fawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben, ac, efe yn eistedd wrth y ford.

8 A phan welodd ei ddiscyblion, hwy a sor­rasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu y golled hon?

9 Canys fe a allasid gwerthu yr ennaint hwn er llawer, a'i roddi i'r tlodion.

10 A'r Iesu a wybu, ac a ddywelodd wrth­ynt, Pa ham yr ydych yn gwneuthur blinder i'r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf.

11Deut. 15.11. Oblegid y mae gennych y tlodion bôb amser gŷd â chwi: a mi nid ydych yn ei gael bôb amser.

12 Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorph, a wnaeth hyn i'm claddu i.

13 Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregether yr Efengyl hon yn yr holl fŷd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa am dani hi.

14Marc. 14.10. Luc. 22.3. Yna 'r aeth vn o'r deuddeg, yr hwn a elwid Iudas Iscariot, at yr Arch-offeiriaid,

15 Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, ac mi a'i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian.

16 Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i'w fradychu ef.

17Marc. 14.12. Luc. 22.7. Ac ar y dydd cyntaf o wŷl y bara croyw, y discyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwytta 'r Pasc?

18 Ac yntef a ddywedodd, Ewch i'r ddinas atHwn a hwn. y cyfryw vn, a dywedwch wrtho, Y mae 'r Athro yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyd â thi y cynhaliaf y Pâsc, mi a'm discyblion.

19 A'r discyblion a wnaethant y modd y gorchymynnasei 'r Iesu iddynt, ac a baratoesant y Pâsc.

20Marc. 14.18. Luc. 22.14. Joan. 13.21. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyd a'r deuddeg.

21 Ac fel yr oeddynt yn bwytta, efe a ddy­wedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi,Neu, y brady­cha vn o honoch fi. mai vn o honoch chwi a'm bradycha i.

22 A hwythau yn drist iawn, a ddechreua­sant ddywedyd wrtho, bôb vn o honynt, Ai myfi yw, Arglwydd?

23 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd,Psal. 41.9. Yr hwn a wlŷch ei law gyd â mi yn y ddyscl, hwnnw a'm bradycha i.

24 Mâb y dŷn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn scrifennedig am dano: eithr gwae 'r dŷn hwnnw trwy 'r hwn y bradychir Mâb y dŷn: da a fuasei i'r dŷn hwnnw pe na's ganesid ef.

25 A Iudas yr hwn a'i bradychodd ef a attebodd, ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntef a ddywedodd wrtho, Ti a ddy­wedaist.

26 Ac fel yr oeddynt yn bwytta,1 Cor. 11.23.24. yr Iesu a gymmerth y bara, ac wedi iddoNeu, ddiolch. fendithio, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddodd i'r discyblion, ac a ddywedodd; Cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph.

27 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a diolch, ef a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn.

28 Canys hwn yw fy ngwaed o'r Testament newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer, er maddeuant pechodau.

29 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y win-wydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyd â chwi yn newydd, yn nheymas fy Nhâd.

30 Ac wedi iddynt ganuNeu, mawl­neu, Psalm. hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.

31 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt,Marc. 14.27. Joan 16.32. Chwy-chwi oll a rwystrir heno o'm plegid i: canys scrifennedig yw,Zech. 13.7. Tarawaf y bugail, a defaid y praidd a wascerir.

32 Eithr wedi fy adgyfodi,Marc 14.28. & 16.7. mi a âf o'ch blaen chwi i Galilæa.

33 A Phetr a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o'th blegid ti, etto ni'm rhwystrir i byth.

34 Yr Iesu a ddywedodd wrtho,Joan. 13.38. Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai 'r nôs hon, cyn canu o'r ceiliog, i'm gwedi deir-gwaith.

35 Petr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddei i mi farw gyd â thi, ni'th wadaf ddim. Yr vn modd hefyd y dywedodd yr holl ddiscybl­ion.

36Marc. 14.32. Luc. 22.39. Yna y daeth yr Iesu gyd â hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Eisteddwch ymma, tra 'r elwyf, a gweddio accw.

37 Ac efe a gymmerth Petr, a dau fâb Zebe­daeus, ac a ddechreuodd dristâu, ac ymofidio.

38 Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angeu, arhoswch ymma, a gwiliwch gyd â mi.

39 Ac wedi iddo fyned ychydig ym-mlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddio, a dywedyd, Fy Nhâd, os yw bossibl, aed y cwp­pan hwn heibio oddi wrthif: etto nid fel yr ydwyfi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti.

40 Ac efe a ddaeth at y discyblion, ac a'u cafas hwy yn cyscu, ac a ddywedodd wrth Petr, Felly, oni ellych chwi wilied vn awr gŷd â mi?

41 Gwiliwch a gweddiwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wann.

42 Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddiodd, gan ddywedyd, Fy Nhâd, oni's gall y cwppan hwn fyned heibio oddi wrthif, na byddo i mi yfed o hono, gwneler dy ewyllys di.

43 Ac efe a ddaeth, ac a'u cafas hwy yn cyscu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau.

44 Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac aeth ymmaith drachefn, ac a weddiodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr vn geiriau.

45 Yna y daeth efe at ei ddiscyblion, ac a [Page] ddywedodd wrthynt, Cyscwch bellach, a gorphwyswch: wele y mae 'r awr wedi nessau, a Mâb y dŷn a draddodir i ddwylo pechaduriaid.

46 Codwch, awn: wele, nessaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.

47 AcMarc. [...]. 43. [...] [...]7. [...] 3. efe etto yn llefaru, wele Iudas vn o'r deuddeg, a ddaeth, a chŷd ag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffynn, oddi wrth yr Arch­offeiriaid, a Henuriaid y bobl.

48 A'r hwn a'i bradychodd ef, a roesei arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa vn bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe, deliwch ef.

49 Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well Athro, ac a'i cusanodd ef.

50 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef.

51 Ac wele, vn o'r rhai o [...]dd gŷd â'r I [...]su, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ei glust ef.

52 Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dych­wel dy gleddyf i'w le:Gene. 9.6. Datc. 13.10. canys pawb a'r â gymmerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf.

53 A ydwyt ti yn tybied na's gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhâd, ac e [...]e a rydd yn y fan i mi fwy nâ deuddeg lleng o Angelion?

54 Pa fodd ynteu y cyflawnid yr Scrythy­rau,Esai. 53.10. mai felly y gorfydd bôd?

55 Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â cleddyfau a ffynn i'm dal i? yr oeddwn i beunnydd gŷd a chwi yn eistedd yn dyscu yn y Deml, ac ni 'm daliasoch.

56 A hyn oll a wnaethpwydGalar. 4.20. fel y cyflawnid Scrythyrau y Prophwydi. Yna 'r holl ddiscyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoesant.

57 A'rMarc. 14.53. Luc. 22.54. Joan. 18.23. rhai a ddaliasent yr Iesu a'i dyga­sant ef ymmaich at Caiaphas yr Arch-offeiriad, lle 'r oedd yr Scrifennyddion a'r Henuriaid wedi ymgasclu ynghŷd.

58 A Phetr a'i canlvnodd ef o hir-bell, hyd yn llŷs yr Arch-offeiriad; ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gŷd â'r gweision, i weled y diwedd.

59 A'r Arch-offeiriaid, a'r Henuriaid, a'r holl gyngor, a geisiasant gau dystiolaeth yn er­byn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth,

60 Ac ni's cawsant: ie er dyfod yno gau­dystion lawer, ni chawsant: eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau gau-dyst,

61 Ac a ddywedasant, Hwn a ddywedodd,Joan. 2.19. Mi a allaf ddinistrio Teml Dduw, a'i hadeila­du mewn tri diwrnod.

62 A chyfododd yr Arch-offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, a attebi di ddim: Beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?

63 Ond yr Iesu a dawodd. A'r Arch-offeir­iad gan atteb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy 'r Duw byw, ddywedyd o honot i niOs. ai tydi yw y Christ Mab Duw.

64 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywe­daist: eithr meddaf i chwi,Pen. 16.27.1 Thes. 4.16. ar ôl hyn y gwel­wch Fâb y dŷn yn eistedd ar ddeheu-law 'r gallu, ac yn dyfod ar gymmylau'r nef.

65 Yna y rhwygodd yr Arch-offeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, efe a gablodd. Pa raid i ni [...] [...]. 10. [...] mwy wrth dystion? wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef,

66 Beth dybygwch chwi? Hwythau gan atteb a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth.

67Esai. 50.6. Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a'i cernodiasant: eraill a'i tarawsant ef â gwiail,

68 Gan ddywedyd, Prophwyda i ni, ô Christ, pwy yw'r hwn a'th darawodd.

69 AMarc. 14.66. Luc. 22.55. Joan. 18.25. Phetr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig atto, ac a ddywedodd, A thitheu oeddit gŷd ag Iesu y Galilæad.

70 Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Ni's gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd.

71 A phan aeth efe allan i'r porth, gwelodd vn arall ef: a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, yr oedd hwn hefyd gŷd â'r Iesu o Nazareth.

72 A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dŷn.

73 Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll ger llaw, ac a ddywedasant wrth Petr, Yn wîr yr wyt titheu yn vn o honynt, canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo.

74 Yna y dechreuodd efe regu, a thyngu, Nid adwaen i y dŷn. Ac yn y man y canodd y ceiliog.

75 A chofiodd Petr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasei wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, ti a'm gwedi deir-gwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wyloddYn dost. yn chwerw-dost.

PEN. XXVII.

1 Rhoddi Christ yn rhwym at Pilat. 3 Iudas yn ymgrogi. 19 Pilat wedi ei rybuddio gan ei wraig, 24 yn golchi ei ddwy-law: 29 Coroni Christ â drain, 34 a'i groeshoelio, 40 a'i ddi­fenwi, 50 yntef yn marw: ei gladdu ef. 66 Se­lio a gwilio ei fêdd ef.

A Phan ddaeth y boreu, cyd-ymgynghoroddMar. 15.1. Luc. 22.66. Joan. 18.28. yr holl Arch-offeiriaid, a Henuriaid y bobl, yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth.

2 Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a'i dyga­sant ef ymmaith, ac a'i traddodasant ef i Pon­tius Pilat y rhaglaw.

3 Yna pan weles Iudas, yr hwn a'i bra­dychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i'r Arch-offeiriaid, a'r Henuriaid,

4 Gan ddywedyd, Pechais gan fradychu gwaed gwirion. Hwytheu a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di.

5 Ac wedi iddo daflu 'r arian yn y Deml,Acts 1.18. efe a ymadawodd, ac a aeth, ac a ymgrogodd.

6 A'r Arch-offeiriaid a gymmerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlawn i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa: canysNeu, pris. gwerti, gwaed ydyw.

7 Ac wedi iddynt gyd-ymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithraid.

8 Am hynny y galwyd y maes hwnnw,Act. 1.19. Maes y gwaed, hyd heddyw.

9 (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywed­pwyd trwy Jeremias y prophwyd, gan ddy­wedyd, AZec. 11.13. hwy a gymmerasant y deg ar hugain arian,Neu, gwerth y gwerthe­dig. pris y prisiedig, yr hwnNeu, a trisia­sal mei­bion Is­rael. a brynasent gan feibion Israel,

10 Ac a'u rhoesant hwy am faes y crochen­ydd, megys y gosodes yr Arglwydd i mi.)

11 A'r Iesu a safodd ger bron y rhaglaw: a'r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A'r Iesu a ddy­wedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.

12 A phan gyhuddid ef gan yr Arch-offeir­iaid a'r Henuriaid, nid attebodd efe ddim.

13 Yna y dywedodd Pilat wrtho, Oni chly­wi di faint o bethau y maent hwy yn eu tyst­iolaethu yn dy erbyn di?

14 Ac nid attebodd efe iddo i vn gair: fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr.

15Luc. 23.17. Ac ar yr ŵyl honno yr arferei y rhag­law ollwng yn rhydd i'r bobl vn carcharor, yr hwn a fynnent.

16 Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas.

17 Wedi iddynt gan hynny ymgasclu yng­hŷd, Pilat a ddywedodd wrthynt, Pa vn a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Bar­abbas, ai yr Iesu, yr hwn a elwir Christ?

18 Canys efe a wyddei mai o genfigen y traddodasent ef.

19 Ac efe yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ei wraig a ddanfonodd atto, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â'r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddyw mewn breu­ddwyd o'i achos ef.

20Joan. 18.40. Acts. 3.14. A'r Arch-offeiriaid a'r Henuriaid a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barab­bas, ac y difethent yr Iesu.

21 A'r rhaglaw a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Pa vn o'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwytheu a ddywe­dasant, Barabbas.

22 Pilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i'r Iesu, yr hwn a elwir Christ? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croes-hoelier ef.

23 A'r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwytheu a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croes-hoelier ef.

24 A Philat, pan welodd nad oedd dim yn tyccio, ond yn hytrach bôd cynnwrf, a gym­merth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo ger bron y bobl, gan ddywedyd, Di-euog ydwyfi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi.

25 A'r holl bobl a attebodd, ac a ddywe­dodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.

26 Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: ond yr Iesu a fflangelodd efe, ac a'i rhoddes i'w groes-hoelio.

27Joan. 19.1. Yna mil-wŷr y rhaglaw a gymmera­sant yr IesuNeu, i dy y rhaglaw. i'r dadleu-dŷ, ac a gynnullasant atto yr holl fyddin.

28 A hwy a'i dioscasant ef, ac a roesant am dano fantell o scarlat.

29 A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddehau, ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, Brenin yr Iddewon.

30 A hwy a boerasant arno, ac a gymmera­sant y gorsen, ac a'i tarawsant ar ei ben.

31 Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i dioscasant ef o'r fantell, ac a'i gwiscasant â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant ef ymmaith i'w groes-hoelio.

32Mar. 15.21. Luc. 23 26. Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddŷn o Cyrêne, a'i enw Simon, hwn a gymmhellasant i ddwyn ei groes ef.

33Joan. 19.17. A phan ddaethant i le a elwid Golgo­tha, yr hwn a elwir Lle 'r benglog,

34 Hwy a roesant iddo iw yfed fnegr yn gymmyscedig â bustl; ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed.

35 Ac wedi iddynt ei groes-hoelio ef, hwy a rannasant ei ddillad, gan fwrw coel-bren: er cyflawni y peth a ddywetpwyd trwy 'r prophwyd,Psal. 22.18. Hwy a rannasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisc y bwriasant goel-bren.

36 A chan eistedd hwy a'i gwiliasant ef yno.

37 A gosodasant hefyd vwch ei ben ef, ei achos yn scrifennedig, HWN YW IESV, BRENIN YR IDDEWON.

38 Yna y croes-hoeliwyd gyd ag ef ddau leidr, vn ar y llaw ddehau, ac vn ar yr asswy.

39 A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cab­lasant ef, gan yscwyd eu pennau,

40 A dywedyd, Ti yr hwn a ddinistri 'r Demi, ac a'i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun: os ti yw Mâb Duw, descyn oddi ar y groes.

41 A'r vn modd yr Arch-offeiriaid hefyd, gan watwar, gŷd â'r Scrifennyddion a'r Henur­iaid, a ddywedasant,

42 Efe a waredodd eraill, ei hunan ni's gall efe ei waredu: os brenin Israel yw, des­cynned yr awron oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo.

43Psal. 22.8. Doeth. 2.10.17.18. Ymddiriedodd yn Nuw: gwareded efe ef yr awron, os efe a'i mynn ef: canys efe a ddywedodd, Mâb Duw ydwyf.

44 A'r vn peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groes-hoeliasid gyd ag ef.

45 Ac o'r chweched awr y bu tywyllwch ar yr hollDir. ddaiar, hyd y nawfed awr.

46 Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef vchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, Lama Sabachthani? hynny yw,Psal. 22.1. Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist?

47 A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Elias.

48 Ac yn y fan vn o honynt a redodd, ac a gymmerth yspwrn,Psal. 69.21. ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddes ar gorsen, ac a'i dio­dodd ef.

49 Ar llaill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Elias i'w waredu ef.

50 A'r Iesu, wedi llefain drachefn â llef vchel, a ymadawodd â'r yspryd.

51 Ac wele, llen y Deml a rwygwyd yn ddau, oddi fynu hyd i wared: a'r ddaiar a grynodd, a'r main a holltwyd:

52 A'r beddau a agorwyd: a llawer o gyrph y sainct a hunafent, a gyfodasant:

53 Ac a ddaethant allan o'r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac a ymddangofasant i lawer.

54 Ond y canwriad, a'r rhai oedd gŷd ag ef yn gwilied yr Iesu, wedi gweled y ddaiar­gryn, a'r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wîr Mâb Duw ydoedd hwn.

55 Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hir-bell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilæa, gan weini iddo ef:

56 Ym-mhlith y rhai yr oedd Mair Magda­len, a Mair mam Jaco a Joses, a mam meibion Zebedaeus.

57Marc. 15.42. Luc. 23.50. Joan. 19.38. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathaea, a'i enw Joseph, yr hwn a fuasei ynteu yn ddiscybl i'r Iesu;

58 Hwn a aeth at Pilat, ac a ofynnodd gorph yr Iesu. Yna y gorchymynnodd Pilat roddi 'r corph.

59 A Joseph wedi cymmeryd y corph, a'i hamdôdd â lliain glân:

60 Ac a'i gosododd ef yn ei fêdd newydd ei hun, yr hwn a dorrasei efe yn y graig, ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymmaith.

61 Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a Mair arall, yn eistedd gyferbyn a'r bêdd.

62 A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y dar­par-wyl, yr ymgynhullodd yr Arch-offeiriaid a'r Pharisæaid at Pilat,

63 Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gôf gynnym ddywedyd o'r twyllwr hwnnw, ac efe etto yn fyw, Wedi tri-diau y cyfodaf.

64 Gorchymmyn gan hynny gadw y bêdd yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag dyfod ei ddiscyblion o hŷd nos, a'i ladratta ef, a dy­wedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diweddaf yn waeth nâ'r cyntaf.

65 A dywedodd Pilat wrthynt, Y mae gennych wiliadwriaeth, ewch, gwnewch mor ddiogel ac y medroch.

66 A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gŷd â'r wiliadwriaeth.

PEN. XXVIII.

1 Dangos adgyfodiad Christ i'r gwragedd gan Angel. 9 Christ ei hun yn ymddangos iddynt hwy. 11 Yr Arch-offeiriaid yn rhoddi arian i'r milwyr, i ddywedyd ddarfod ei ladratta ef allan o'r bedd. 16 Christ yn ymddangos iw ddiscyblion, 19 ac yn eu hanfon i fedyddio, ac i ddyscu yr holl genhedloedd.

AC ynMarc. 16.1. Joan. 20.1. niwedd y Sabbath, a hi yn dyddhau i'r dydd cyntaf o'rSabba­thau. wythnos, daeth Mair Magdalen, a'r Fair arall, i edrych y bêdd.

2 Ac wele,Neu, buusai. bu daiar-gryn mawr: canys descynnodd angel yr Arglwydd o'r nêf, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno.

3 A'i wyneb-pryd oedd fel mellten, a'i wisc yn wen fel eira.

4 A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac aethant megis yn feirw.

5 A'r Angel a attebodd, ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch; canys mi a wn mai ceisio 'r ydych yr Iesu, yr hwn a groes-hoeliwyd.

6 Nid yw efe ymma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd.

7 Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i'w ddis­cyblion gyfodi o hono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilæa: yno y gwelwch ef: wele, dywedais i chwi.

8 Ac wedi eu myned ymmaith ar frys oddi wrth y bedd, gyd ag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i'w ddiscyblion ef.

9 Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i'w ddiscyblion ef, wele yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffwch well. A hwy a ddae­thant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a'i haddolasant.

10 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i'm brodyr, fel yr elont i Galilæa, ac yno i'm gwelant i.

11 Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o'r wiliadwriaeth a ddaethant i'r ddinas, ac a fynegasant i'r Arch-offeiriaid yr hyn oll a wnaethid.

12 Ac wedi iddynt ymgasclu ynghŷd gŷd â'r Henuriaid, a chŷd-ymgynghori, hwy a roesantSwrn o arian. arian lawer i'r mil-wŷr,

13 Gan ddywedyd, Dywedwch, ei ddiscy­blion a ddaethant o hŷd nôs, ac a'i lladrattasant ef a nyni yn cyscu.

14 Ac os clyw y rhaglaw hyn, niA barwn iddo goe­llo. a'i perswadiwn ef, ac a'ch gwnawn chwi yn ddio­fal.

15 A hwy a gymmerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addyscwyd hwynt:A chy­hoeddwyd. a than­wyd y gair hwn ym mhlith yr iddewon, hyd y dydd heddyw.

16 A'r vn discybl ar ddeg a aethant i Ga­lilaea, i'r mynydd lle 'r ordeiniasei 'r Iesu iddynt.

17 A phan welsant ef, hwy a'i haddolasant ef: ond rhai a amheuasant.

18 A'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bôb awdur­dod, yn y nef, ac ar y ddaiar.

19Marc. 16.15. Ewch gan hynny, a dyscwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw 'r Tad, a'r Mâb, a'r Yspryd glân:

20 Gan ddyscu iddynt gadw pôb peth a'r a orchymynnais i chwi; ac wele, yr ydwyfi gŷd â chwi bôb amser, hyd ddiwedd y bŷd. Amen.

¶YR EFENGYL YN OL SANCT MARC.

PENNOD. I.

1 Swydd Joan Fedyddiwr. 9 Bedyddio yr Iesu, 12 a'i demtio. 14 Efe yn pregethu, 16 yn galw Peter, Andreas, Jaco, ac Joan: 23 yn iachau dyn ac yspryd aflan ynddo, 29 a mam gwraig Petr, 32 a llawer o gleifion: 41 ac yn glanhau y gwahan-glwyfus.

DEchreu Efengyl Iesu Grist, fab Duw:

2 Fel yr scrifennwyd yn y proph­wydi,Malach. 3.1. Wele, yr ydwyfi yn an­fon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o'th flaen.

3Esa 40.3. Luc. 3.4. Joan. 1 23. Llef vn yn llefain yn y diffaethwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn vniawn ei lwybrau ef.

4 YrM [...]t. 3.4. oedd Joan yn bedyddio yn y diff­aethwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch, er maddeuant pechodau.

5 AcMat. 3.5. aeth allan atto ef holl wlâd Judaea, a'r Hierosolymitiaid, ac a'u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffessu eu pechodau.

6 Ac Joan oedd wedi eiMat. 3.4. wisco â blew camel, a gwregys croen ynghylch ei lwynau, ac yn bwytta locustiaid a mêl gwyllt.

7 Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ôl i vn cryfach nâ myfi, carrai escidiau yr hwn nid wyfi deilwng i ym­ostwng, ac iw dattod.

8 Myfi yn wir a'ch bedyddiais chwi â dwfr, eithr efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysprd glân.

9Mat. 3.13. A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o'r Iesu o Nazareth yn Galilæa, ac efe a fedyddi­wyd gan Joan yn yr Iorddonen.

10 Ac yn ebrwydd wrrh ddyfod i fynu o'r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a'r Yspryd yn descyn arno, megys colommen.

11 A llef a ddaeth o'r nefoedd, Tŷdi yw fy anwyl fâb, yn yr hwn i'm bodlonwyd.

12 AcMat. 4.1. yn ebrwydd y gyrrodd yr Yspryd ef i'r diffaethwch.

13 Ac efe a fu yno yn y diffaethwch ddeu­gain nhiwrnod, yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gŷd â'r gwylltfilod, a'r Angelion a weinasant iddo.

14 Ac yn ôl traddodi Joan, yrMat. 4.12. Iesu a ddaeth i Galilæa, gan bregethu Efengyl teyrnas Dduw:

15 A dywedyd, yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nessaodd: edifarhewch, a chredwch yr Efengyl.

16 AcMat. 4.13. fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilæa, efe a ganfu Simon ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pyscod­wyr oeddynt.)

17 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a gwnaf i'wch fôd yn byscod-wŷr dynion.

18 Ac yn ebrwydd gan adel eu rhwydau, y canlynasant ef.

19 Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Jaco fâb Zebedaeus, ac Joan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cy­weirio y rhwydau:

20 Ac yn y man efe a'u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tâd Zebedaeus yn y llong gyd â'r cyflog-ddynion, ac a aethant ar ei ôl ef.

21Mat. 4.13. A hwy a aethant i mewn i Caperna­um: ac yn ebrwydd ar y dydd Sabbath, wedi iddo fyned i mewn i'r Synagog, efe a athraw­iaethodd.

22 AMat. 7.28. synnasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dyscu hwy, megis vn ac awdurdod ganddo, ac nid fel yr Scrifenny­ddion.

23Luc. 4.33. Ac yr oedd yn eu Synagog hwy ddŷn ac ynddo yspryd aflan, ac efe a lefodd,

24 Gan ddywedyd,Paid. Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nazareth? a ddaethost ti i'n difetha ni? mi a'th adwaen pwy ydwyt: Sanct Duw.

25 A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywe­dyd, Taw, a dôs allan o honaw.

26 Yna wedi i'r yspryd aflan ei rwygo ef a gwaeddi â llef vchel, efe a ddaeth allan o honaw.

27 Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymo­fynnasant yn eu mysc eu hun, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon, canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchym­myn, ie yr ysprydion aflan, a hwy yn vfyddhau iddo?

28 Ac yn ebrwydd yr aeth sôn am dano tros yr holl wlâd o amgylch Galilæa.

29 AcMat. 8.14. yn y man wedi iddynt fyned allan o'r Synagog, hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas, gŷd ag Jaco, ac Joan.

30 Ac yr oeddMam gwraig Simon. chwegr Simon yn gor­wedd yn glaf o'r crŷd: ac yn ebrwydd y dy­wedasant wrtho am dani hi.

31 Ac efe a ddaeth, ac a'i cododd hi i fynu, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a'r crŷd a'i gada­wodd hi yn y man, a hi a wasanaethodd ar­nynt hwy.

32 Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant atto yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai cythreulig.

33 A'r holl ddinas oedd wedi ymgasclu wrth y drws.

34 Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawodd i'r cy­threuliaid ddywedyd yr adwaenent ef.

35 A'r boreu yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfan­nedd, ac yno y gweddiodd.

36 A Simon, a'r rhai oedd gyd ag ef, a'i dilynasant ef.

37 Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddy­wedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di.

38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn i'r trefydd nessaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y daethym allan.

39 Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu syna­gogau hwynt, trwy holl Galilæa, ac yn bwrw allan gythreuliaid.

40Mat. 9.2. A daeth atto ef vn gwahan-glwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dy­wedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglânhau.

41 A'r Iesu gan dosturio, a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân.

42 Ac wedi iddo ddywedyd hynny, ymada­wodd y gwahan-glwyf ag ef yn ebrwydd, a glanhawyd ef.

43 Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, ef a'i hanfonodd ef ymmaith yn y man;

44 Ac a ddywedodd wrtho, Gwêl na ddy­wedych ddim wrth neb: eirhr dôs ymmaith, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrymma dros dy lanhâd, y pethau a orchymynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy.

45Luc. 5.15. Eithr efe a aeth ymmaith, ac a ddech­reuodd gyhoeddi llawer, a thanu 'r gair ar lêd: fel na allei 'r Iesu fyned mwy yn amlwg i'r ddinas: eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd, ac o bôb parth y daethant atto ef.

PEN. II.

3 Christ yn iachau vn clâf or pariys, 14 yn galw Matthew o'r dollfa, 15 yn bwytta gydâ Phub­licanod a phechaduriaid, 18 yn escusodi ei ddiscyblion am nad ymprydient, 23 ac am dynnu y tywys yd ar y dydd Sabboth.

AC efeMat. 9.1. a aeth drachefn i Capernaum, wedi rhai dyddiau, a chlybuwyd ei fôd efe yn tŷ.

2 Ac yn y man, llawer a ymgasclasant yng­hyd, hyd na annent, hyd yn oed yn y lleoedd yngylch y drws: ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy.

3 A daethant atto, gan ddwyn vn claf o'r pariys, yr hwn a ddygid gan bedwar:

4 A chan na allent nesau atto gan y dyrfa, didoi y tô a wnaethant lle 'r oedd efe: ac wedi iddynt dorri trwodd, hwy a ollyngasant i wa­red y gwely, yn yr hwn y gorweddei y claf o'r parlys.

5 A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf o'r parlys, Ha fâb, maddeuwyd i ti dy bechodau.

6 Ac yr oedd rhai o'r Scrifennyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymmu yn eu calonnau,

7 Beth a wna hwn fel hyn yn dywedyd cabledd?Job. 14.4. Esa. 43.25. pwy a all faddeu pechodau, Onid Duw yn vnig?

8 Ac yn ebrwydd, pan wybu 'r Iesu yn ei Ys­pryd eu bod hwy yn ymresymmu felly ynddynt [Page] eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych yn ymresymmu am y pethau hyn yn eich calonnau?

9 Pa vn sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o'r parlys, Maddeuwyd i ti dy bechodau: ai dywedyd, Cyfod, a chymmer i fynu dy wely, a rhodia?

10 Eithr fel y gwypoch fôd gan fâb y dŷn awdurdod i faddeu pechodau ar y ddaiar, (eb efe wrth y claf o'r parlys)

11 Wrthit ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, a chymmer i fynu dy wely, a dôs i'th dŷ.

12 Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cym­merth i fynu ei wely, ac a aeth allan yn eu gwydd hwynt oll: hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn.

13 Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y môr: a'r holl dyrfa a ddaeth atto, ac efe a'u dyscodd hwynt.

14 AcMatth. 9.9. efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi fab Alphaeus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a go­dodd, ac a'i canlynodd ef.

15 A bu, a'r Iesu yn eistedd i fwytta yn ei dŷ ef, i lawer hefyd o Bublicanod a phecha­duriaid eistedd gyd â'r Iesu, a'i ddiscyblion: canys llawer oeddynt, a hwy a'i canlyna­sent ef.

16 A phan welodd yr Scrifennyddion a'r Pharisæaid ef yn bwytta gŷd â'r Publicanod a'r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddiscyblion ef, Pa ham y mae efe yn bwyt­ta ac yn yfed gŷd â'r Publicanod a'r pecha­duriaid?

17 A'r Iesu pan glybu, a ddywedodd wrth­ynt, Y rhai sy iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg, ond y rhai cleifion: ni ddaethym i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch.

18Matth. 9.14. Luc. 5, 33. A discyblion Joan a'r Pharisæaid oeddynt yn ymprydio: a hwy a ddaethant, ac a ddywe­dasant wrtho, Pa ham y mae discyblion Joan a'r Pharisæaid yn ymprydio, ond dy ddiscyblion di nid ydynt yn ymprydio?

19 A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all plant yr stafell briodas ymprydio, tra fyddo y priodas-fab gŷd â hwynt? tra fyddo ganddynt y priodas-fâb gŷd â hwynt, ni allant ym­prydio:

20 Eithr y dyddiau a ddaw pan ddyger y priodas-fâb oddi arnynt, ac yna 'r ympryd­iant, yn y dyddiau hynny.

21 Hefyd ni wnia neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen: os amgen, ei gy­flawniad newydd ef a dynn oddi wrth yr hen, a gwaeth fydd y rhwyg.

22 Ac ni rydd neb win newydd mewn hên gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddry­llia 'r costrelau, a'r gwin a rêd allan, a'r costre­lau a gollir: eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion.

23Matth. 12.1. A bu iddo fyned trwy 'r ŷd ar y Sabbath: a'i ddiscyblion a ddechreuasant ym­daith tau dynnu 'r tywys.

24 A'r Pharisæaid a ddywedasant wrtho, Wele, pa ham y gwnânt ar y Sabbath yr hyn nid yw gyfreithlawn?

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddar­llennasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a'r rhai oedd gŷd ag ef?

26 Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw tan Abiathar yr Arch-offeiriad, ac y bwyttaodd yTorthais dangos. bara gosod, y rhai nid cyfreithlon eu bwytta, ond i'r offeiriaid yn vnig, ac a'u rhoddes hefyd i'r rhai oedd gŷd ag ef.

27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Sabbath a wnaethpwyd er mwyn dŷn, ac nid dŷn er mwyn y Sabbath.

28 Am hynny y mae Mab y dŷn yn Ar­glwydd hefyd ar y Sabbath.

PEN. III.

1 Christ yn iachau y llaw wedi gwywo, 10 a llawer o glefydau eraill: 11 Yn ceryddu yr ysprydion aflan: 13 Yn dewis ei ddeuddec Apostol: 22 Yn atteb cabledd y rhai a ddy­wedent ei fôd ef yn bwrw allan gythreuliaid trwy Beelzebub: 31 ac yn dangos pwy ydyw ei frawd, a'i chwaer, a'i fam.

ACMatth. 12.9. efe aeth i mewn drachefn i'r Synagog: ac yr oedd yno ddŷn a chanddo law wedi gwywo.

2 A hwy a'i gwiliasant ef, a iachae efe ef ar y dydd Sabbath, fel y cyhuddent ef.

3 Ac efe a ddywedodd wrth y dŷn yr oedd ganddo y llaw wedi gwywo, Cyfod i'r canol.

4 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Sabbath, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn.

5 Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddigllon, gan dristau am gaiedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dŷn, Estyn allan dy law. Ac efe a'i hestynnodd; a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.

6 A'r Pharisæaid a aethant allan, ac a ym­gynghorasant yn ebrwydd gŷd â'r Herodian­iaid, yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.

7 A'r Iesu gŷd â'i ddiscyblion a giliodd tu a'r môr, a lliaws mawr a'i canlynodd ef, o Galilæa, ac o Judaea,

8 Ac o Jerusalem, ac o Idumaea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen: a'r rhai o gylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, pan glywsant gymmaint a wnaethei efe, a ddaethant atto.

9 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion am fôd llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wascu ef.

10 Canys efe a iachasei lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cyn­nifer ac oedd a phlâau arnynt.

11 A'r ysprydion aflan pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waedda­sant, gan ddywedyd, Ti yw Mâb Duw.

12 Yntef a orchymynnodd iddynt yn gaeth na chyhoeddent ef.

13 AcMatth. 10.1. efe a escynnodd i'r mynydd, ac a alwodd atto y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant atto.

14 Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y by­ddent gŷd ag ef, ac fel y danfonei efe hwynt i bregethu:

15 Ac i fôd ganddynt awdurdod i iachau clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid.

16 Ac i Simon y rhoddes efe enw Petr.

17 Ac Jaco fab Zebedaeus, ac Joan brawd Jaco: (ac efe a roddes iddynt henwau Boaner­ges, yr hyn yw, meibion y daran)

18 Ac Andreas, a Philip, a Bartholomaeus, a Matthew, a Thomas, ac Jaco fab Alphaeus, a Thadaeus, a Simon y Cananêad,

19 A Judas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bra­dychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ.

20 A'r dyrfa a ymgynnullodd drachefn, fel na allent gymmaint a bwytta bara.

21 A phan glybu yr eiddo ef, hwy a aethant i'w ddal ef: canys dywedasant, y mae efe allan o'i bwyll.

22 A'r Scrifennyddion, y rhai a ddaethent i wared o Jerusalem, a ddywedasant fôdMatth. 8.34. Beel­zebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cy­threuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreu­liaid.

23 Ac wedi iddo eu galw hwy atto, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?

24 Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll:

25 Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei er­byn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll:

26 Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd.

27 Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ y cadarn, ac yspeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo 'r cadarn, ac yna yr yspeilia ei dŷ ef.

28 YnMatth. 12.31. wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant.

29 Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ys­pryd glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd.

30 Am iddynt ddywedyd, y mae yspryd aflan ganddo.

31Matth. 12.46. Daeth gan hynny ei frodyr ef a'i fam; a chan sefyll allan hwy a anfonasant atto, gan ei alw ef.

32 A'r bobl oedd yn eistedd o'i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr allan yn dy geisio.

33 Ac efe a'u hattebodd hwynt, gan ddy­wedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy mrodyr i?

34 Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywe­dodd, Wele fy mam i, a'm brodyr i.

35 Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam i.

PEN. IV.

1 Dammeg yr hau-wr, 14 a'i ddeongliad. 21 Rhaid i ni gyfrannu goleuni ein gwybodaeth i eraill. 26 Dammeg yr hâd yn tyfu yn ddiar­wybod, 30 a'r gronyn mwstard. 35 Christ yn gostegu y dymestl ar y môr.

AC efeMatth. 13.1. a ddechreuodd drachefn athrawiae­thu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ym­gasclodd atto, hyd oni bu iddo fyned i'r llong, ac eistedd ar y môr: a'r holl dyrfa oedd wrth y môr ar y tîr.

2 Ac efe a ddyscodd iddynt lawer ar ddam­hegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddys­ceidiaeth ef,

3 Gwrandewch, Wele, hau-wr a aeth allan i hau:

4 A darfu wrth hau, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant, ac a'i difasant.

5 A pheth a sytthiodd ar greig-le, lle ni chaf­odd fawr ddaiar: ac yn y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daiar.

6 A phan gododd yr haul y poethwyd ef, ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd.

7 A pheth a syrthiodd ym-mhlith drain: a'r drain a dyfasant, ac a'i tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth.

8 A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchol, ac a ddug vn ddeg ar hugain, ac vn driugain, ac vn gant.

9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, y nêb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

10 A phan oedd efe wrtho ei hun, y rhai oedd yn ei gylch ef, gŷd â'r deuddeg, a ofyn­nasant iddo am y ddammeg.

11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw: eithr i'r rhai sy allan, ar ddamhegion y gwneir pôb peth:

12Matth. 13.14. Fel yn gweled y gwelant, ac na chan­fyddant: ac yn clywed y clywant, ac ni dde­allant: rhag iddynt ddychwelyd, a maddeu iddynt eu pechodau.

13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi y ddammeg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?

14 Yr hau-wr, sydd yn hau y gair:

15 A'r rhai hyn yw y rhai ar fin y ffordd, lle 'r hauir y gair, ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymmaith y gair a hauwyd yn eu ca­lonnau hwynt.

16 A'r rhai hyn yr vn ffunyd yw y rhai a hauir ar y creigle: y rhai wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen:

17 Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr tros amser y maent: yna pan ddêl blinder, neu erlid, o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt.

18 A'r rhai hyn yw y rhai a hauwyd ym­mysc y drain, y rhai a wrandawant y gair,

19 Ac y mae gofalon y bŷd hwn, a1 Tim. 6.17. hu­doliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu 'r gair, a myned y mae yn ddiffrwyth.

20 A'r rhai hyn yw y rhai a hauwyd mewn tir da, y rhai sydd yn gwrando y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, vn ddeg ar hu­gain, ac vn driugain, ac vn gant.

21Matth. 5.15. Ac efe a ddywedodd wrthynt, a ddaw canwyll iw dodi tan lestr, neu tan wely? ac nid iw gosod ar ganhwyll-bren?

22Matth. 10.26. Canys nid oes dim cuddiedig a'r ni's amlygir, ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delei i eglurdab.

23 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.

24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrych­wch beth a wrandawoch: âMatth. 7.2. pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau, a chwanegir i chwi y rhai a wrandewch.

25Matth. 13.12. Canys yr hwn y mae ganddo, y rho­ddir iddo: a'r hwn nid oes ganddo, ie yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.

26 Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn hâd i'r ddaiar:

27 A chyscu, a chodi nôs a dydd, a'r hâd yn egino, ac yn tyfu, y modd ni's gŵyr efe.

28 Canys y ddaiar addwg ffrwyth o honi ei hun, yn gyntaf yr eginyn, yn ôl hynny y dywysen, yna 'r ŷd yn llawn yn y dywysen.

29 A phan ymddangoso 'r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y crymman ynddo, am ddyfod y cynhayaf.

30 Ac efe a ddywedodd, IMatth. 13.31. ba beth y cyffe­lybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddammeg y gwnaem gyffelybrwydd o honi?

31 Megis gronyn o hâd mwstard ydyw: yr hwn pan hauer yn y ddaiar sydd leiaf o'r holl hadau sydd ar y ddaiar.

32 Eithr wedi 'r hauer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy nâ'r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion, fel y gallo ehediaid yr awyr nythu tan ei gyscod ef.

33Matth. 13.34. Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando.

34 Ond heb ddammeg ni lefarodd wrth­ynt: ac o'r nailltu i'w ddiscyblion efe a eglur­odd bôb peth.

35 Ac efe a ddywedodd wrthyntMatth. 8.23. y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn trosodd i'r tu draw.

36 Ac wedi iddynt ollwng ymmaith y dyr­fa, hwy a'i cymmerasant ef, fel yr oedd yn y llong: ac yr [...]dd hefyd longau eraill gyd ag ef.

37 Ac fe [...] gyfodes tymestl fawr o wynt, a'r tonnau [...] [...]flasant i'r llong, hy [...] [...] oedd hi yn llawn weithian.

38 Ac yr oedd efe yn y pen [...] llong, yn cyscu ar obe [...]ydd: a hwy a'i deffroisant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, a'i difatter gen­nit ein colli ni?

39 Ac efe a gododd i fynu, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Goste­ga, distawa. A'r gwynt a ostegodd, a bu tawe­lwch mawr.

40 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd?

41 Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan fôd y gwynt a'r môr yn vfyddhau iddo?

PEN. V.

1 Crist yn gwaredu y dyn yr oedd ynddo leng o gythreuliaid: 13 Hwythau yn myned i'r môch. 25 Y mae efe yn iachau y wraig o'r difer-lif gwaed, 35 ac yn cyfodi merch Jairus o farw i fyw.

AMatth. 8.28. Hwy a ddaethant i'r tu hwnt i'r môr, i wlâd y Gadareniaid.

2 Ac ar ei ddyfodiad ef allan o'r llong, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau, ddŷn ac yspryd aflan ynddo,

3 Yr hwn oedd a'i drigfan ym-mhlith y beddau, ac ni allei nêb, ie â chadwynau ei rwy­mo ef:

4 O herwydd ei rwymo ef yn fynych â lly­ffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio o hono 'r cadwynau, a dryllio y llyffetheiriau: ac ni allei nêb ei ddofi ef.

5 Ac yn oestad nôs a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ym-mhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig.

6 Ond pan ganfu efe yr Iesu o hir-bell, efe a redodd, ac a'i haddolodd ef:

7 A chan waeddi â llef vchel, efe a ddywe­dodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi Iesu Fâb y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.

8 (Canys dywedasei wrtho, yspryd aflan, dôs allan o'r dŷn.)

9 Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntef a attebodd gan ddywedyd, Lleng yw fy enw: am fôd llawer o honom.

10 Ac efe a fawr-ymbiliodd ag ef, na yrrei efe hwynt allan o'r wlâd.

11 Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd gen­faint fawr o foch yn pori.

12 A'r holl gythreuliaid a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i'r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.

13 Ac yn y man y caniattaodd yr Iesu iddynt. A'r ysprydion aflan, wedi myned allan, aethant i mewn i'r môch: a rhuthrodd y genfaint tros y dibyn i'r môr (ac ynghylch dwy-fil oedd­ynt) ac a'u boddwyd yn y môr.

14 A'r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlâd. A hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.

15 A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a wel­sant y cythreulig, yr hwn y buasei y lleng yn­ddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll, ac a ofnasant.

16 A'r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasei i'r cythreulig, ac am y moch.

17 A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymmaith o'u goror hwynt.

18 Ac efe yn myned i'r llong, yr hwn y buasei y cythrael ynddo, a ddymunodd arno gael bôd gŷd ag ef.

19 Ond yr Iesu ni adawodd iddo, eithr dywe­dodd wrtho, dôs i'th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhau wrthit.

20 Ac efe a aeth ymmaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethei 'r Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.

21 Ac wedi i'r Iesu drachefn fyned mewn llong i'r lan arall, ymgasclodd tyrfa fawr atto: ac yr oedd efe wrth y môr.

22Matth. 9.18. Ac wele, vn o bennaethiaid y Synagog a ddaeth, a'i enw Jairus: a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef.

23 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, gan ddy­wedyd, Y mae fy merch fechan ar drangc: at­tolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi, a byw fydd.

24 A 'r Iesu a aeth gyd ag ef: a thyrfa fawr a'i canlynodd ef, ac a'i gwascasant ef.

25 A rhyw wraig, yr hon a fuasei mewn difer-lif gwaed ddeuddeng mhlynedd,

26 Ac a oddefasei lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasei gymmaint ac oedd ar ei helw, ac ni chawsei ddim llessâd, eithr yn hytrach myned waeth-waeth.

27 Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o'r tu ôl, ac a gyffyrddodd â'i wisc ef.

28 Canys hi a ddywedasei, Os cyffyrddaf â'i ddillad ef, iach fyddaf.

29 Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorph ddar­sod ei hiachau o'r pla.

30 Ac yn y fan, yr Jesu gan wybod ynddo ei hun fyned rhinwedd allan o honaw, efe a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyff­yrddodd â'm dillad?

31 A'i ddiscyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli y dyrfa yn dy wascu, ac a ddywedi di, Pwy a'm cyffyrddodd?

32 Ac yntef a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wnaethei hyn.

33 Ond y wraig gan ofni a chrynu, yn gwy­bod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo 'r holl wirionedd.

34 Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a'th iachaodd, dôs mewn heddwch, a bydd iach o'th bla.

35 Ac efe etto yn llefaru, daeth rhai o Pennaeth y Synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth etto 'r aflonyddi 'r Athro?

36 A'r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth ben­naeth y Synagog, Nac ofna, crêd yn vnig.

37 Ac ni adawodd efe neb i'w ddilyn, ond Petr, ac Iaco, ac Ioan brawd Iaco.

38 Ac efe a ddaeth i dŷ pennaeth y Syna­gog, ac a ganfu y cynnwrf, a'r rhai oedd yn wylo, ac yn ochain llawer.

39 Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddy­wedodd wrthynt, pa ham y gwnewch gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw yr eneth, eithr cys­cu y mae.

40 A hwy a'i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymmerth dâd yr eneth a'i mam, a'r rhai oedd gŷd ag ef, ac a aeth i mewn lle 'r oedd yr eneth yn gorwedd.

41 Ac wedi ymaflyd yn llaw 'r eneth, efe a ddywedodd wrthi, Talitha cumi: yr hyn o'i gyfieithu yw, Yr eneth, (yr wyf yn dywedyd wrthit) cyfod.

42 Ac yn y fan y cyfodes yr ereth, ac a rodiodd: canys deuddeng-mlwydd oed ydoedd hi: a synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr.

43 Ac efe a orchymynnodd iddynt yn gaeth, na chai nêb wybod hyn: ac a ddywedodd am roddi peth iddi i'w fwytta.

PEN. VI.

1 Diystyru Christ gan ei wlad-wyr ei hun. 7 Y mae efe yn rhoddi i'r deuddec awdurdod ar ys­prydion aflan. 14 Amryw dyb am Grist. 18 Torri pen Ioan Fedyddiwr: 29 a'i gladdu. 30 Yr Apostolion yn dychwelyd o bregethu. 34 Gwyrthiau y pum torth bara a'r ddau bys­codyn. 48 Christ yn rhodio ar y môr: 53 ac yn iachau pawb a gyffyrddai ag ef.

ACMatth. 13.54. efe a aeth ymmaith oddi yno, ac a ddaeth i'w wlâd ei hun: a'i ddiscyblion a'i canlynasant ef.

2 Ac wedi dyfod y Sabbath, efe a ddech­reuodd athrawiaethu yn y Synagog: a synnu a wnaeth llawer a'i clywsant, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo, fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylo ef?

3 Ond hwn yw 'r saer, mab Mair, brawd Iaco, a Joses, a Judas, a Simon? ac onid yw ei chwiorydd ef ymma yn ein plith ni? a hwy a rwystrwyd o'i blegid ef.

4 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, nadIoan. 4.44. yw prophwyd yn ddibris ond yn ei wlad ei hun, ac ym-mhlith ei genhedl ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.

5 Ac ni allei efe yno wneuthyd dim gwyr­thiau, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a'i hiachau hwynt.

6 Ac efe a ryfeddodd o herwydd eu hang­rhediniaeth:Matth. 9.35. Luc. 13.22. ac a aeth i'r pentrefi oddi am­gylch, gan athrawiaethu.

7 AcMatth. 10.1. efe a alwodd y deuddeg, ac a ddech­reuodd eu danfon hwynt bôb yn ddau a dau, ac a roddes iddynt awdurdod ar ysprydion aflan,

8 Ac a orchymynnodd iddynt na chymme­rent ddim i'r daith, ond llaw-ffon yn vnig: nac yscreppan, na bara, nac arian yn eu pyrsau.

9 Eithr eu bôd a sandalau am eu traed, ac na wiscent ddwy bais.

10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba le bynnac yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch ymmaith oddi yno.

11 AMatth. 10.14. pha rai bynnag ni'ch derbyniant, ac ni'ch gwrandawant, pan eloch oddi yno,Act. 13, 51. es­cydwch y llwch a fyddo tan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn wîr meddaf i chwi, y bydd esmwythach i Sodoma a Gomorrha, yn nydd y farn, nac i'r ddinas honno.

12 A hwy a aethant allan, ac a bregethasant ar iddynt edifarhau.

13Iac. 5.14. Ac a fwriasant allan lawer o gythreul­iaid, ac a eliasant ag olew lawer o gleifion, ac au hiachasant.

14 A'rMatth. 14.1. brenin Herod a glybu, (canys cy­hoedd ydoedd ei enw ef) ac efe a ddywedodd, Ioan Fedyddiwr a gyfodes o feirw, ac am hyn­ny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.

15 Eraill a ddywedasant, Mai Elias yw: ac eraill a ddywedasant, Mai prophwyd yw, neu megis vn o'r prophwydi.

16 OndLuc. 3.19. Herod pan glybu, a ddywedodd, Mai 'r Ioan a dorrais i ei ben yw hwn, efe a gyfodes o feirw.

17 Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a'u rhwymasai ef yn y car­char, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd, am iddo ei phriodi hi.

18 Canys Ioan a ddywedasei wrth Herod,Lefit. 18.16. Nid cyfreithlawn i ti gael gwraig dy frawd.

19 Ond Herodias a ddaliodd ŵg iddo, ac a chwennychodd ei ladd ef, ac ni's gallodd.

20 Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wy­bod ei fôd ef yn ŵr cyfiawn, ac yn sanctaidd, ac a'i parchei ef: ac wedi iddo ei glywed ef, efe a wnai lawer o bethau, ac a'i gwrandawai ef yn ewyllysgar.

21 Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan wnaeth Herod, ar ei ddydd genedigaeth, swpper i'w bennaethiaid, a'i flaenoriaid, a goreu-gwŷr Galilæa:

22 Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhau Herod, a'r rhai oedd yn eistedd gydag ef, y brenin a ddywed­odd wrth y llangces, Gofyn i mi y peth a fyn­nech, ac mi a'i rhoddaf i ti.

23 Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynnech i mi, mi a'i rhoddaf i ti, hyd hanner fy nheyrnas.

24 A hitheu a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynnaf? A hitheu a ddywedodd, Pen Ioan Fedyddiwr.

25 Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynnodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddyscl, ben Ioan Fedyddiwr.

26 A'r brenin yn drist iawn, ni chwennychei ei bwrw hi heibio, o herwydd y llwon, a'r rhai oedd yn eistedd gyd ag ef.

27 Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddi­enyddwr, ac a orchymynnodd ddwyn ei ben ef.

28 Ac yntef a aeth ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar, ac a ddug ei ben ef ar ddyscl, ac a'i rhoddes i'r llangces, a'r llangces a'i rhoddes ef i'w mam.

29 A phan glybu ei ddiscyblion ef, hwy a ddaethant, ac a gymmerasant ei gorph ef, ac a'i dodasant mewn bedd.

30Luc. 9.10. A'r Apostolion a ymgasclasant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent,Ynghyd. hefyd a'r rhai a athrawiaetha­sent.

31 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o'r nailltu, a gor­phwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod, ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd, cymmaint ac i fwytta.

32Matth. 24.13. A hwy a aethant i le anghyfannedd, mewn llong o'r nailltu.

33 A'r bobloedd a'u gwelsant hwy yn myn­ed ymmaith, a llawer a'i hadnabuant ef, ac a redasant yno ar draed o'r holl ddinasoedd, ac a'u rhag-flaenasant hwynt, ac a ymgasclasant atto ef.

34Matth. 9.36. A'r Iesu wedi myned allan a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, am eu bôd fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreu­odd ddyscu iddynt lawer o bethau.

35 Ac ynaMatth. 14.15. wedi ei myned hi yn llawer o'r dydd, y daeth ei ddiscyblion atto ef gan ddywedyd, Y lle sydd anial, ac weithian y mae hi yn llawer o'r dydd.

36 Gollwng hwynt ymmaith, fel yr elont i'r wlâd oddi amgylch, ac i r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fara: canys nid oes ganddynt ddim i'w fwytta.

37 Ond efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyt­ta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deu-can ceiniog o fara, a'i ro­ddi iddynt iw fwytta?

38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? ewch ac edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, hwy a ddywedasant, Pump, a dau byscodyn.

39 Ac efe a orchymynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau, ar y glaswellt.

40 A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd, o fesur cannoedd, ac o sesur dêg a deugeiniau.

41 Ac wedi cymmeryd y pum torth a'r ddau byscodyn, gan edrych i fynu tu a'r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a'i rhoddes at ei ddiscyblion, iw gosod ger eu bronnau hwynt: a'r ddau byscodyn a rannodd efe rhyngddynt oll.

42 A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant ddi­gon.

43 A chodasant ddeuddeg bascedaid yn llawn o'r briw fwyd, ac o'r pyscod.

44 A'r rhai a fwyttasent o'r torthau, oedd ynghylch pum-mil o wŷr.

45 Ac yn y man, efe a gymmhellodd ei ddiscyblion i fyned i'r llong, a myned o'r blaen i'r lan arallAr cy­fer Beth­saida. i Bethsaida, tra fyddei efe yn gollwng ymmaith y bobl.

46 Ac wedi iddo eu danfon hwynt ym­maith, efe a aeth i'r mynydd i weddio.

47 AMatth. 14.23. phan aeth hi yn hwyr, yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntef ei hun ar y tir.

48 Ac efe a'u gwelei hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo: (canys y gwynt oedd yn eu her­byn) ac ynghylch y bedwaredd wŷlfa o'r nôs, efe a ddaeth attynt, gan rodio ar y môr, ac a fynnasei fyned heibio iddynt.

49 Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant mai drychiolaeth yd­oedd: a hwy a waeddasant.

50 (Canys hwynt oll a'i gwelsant ef, ac a ddychrynasant) Ac yn y man yr ymddiddan­odd efe â hwynt, ac y dywedodd wrthynt, Cymmerwch gyssur, myfi yw, nac ofnwch.

51 Ac efe a aeth i fynu attynt i'r llong, a'r gwynt a dawelodd: a hwy a synnasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant.

52 Oblegid ni ddeallasant am y torthau hynny: canys yr oedd eu calon hwynt wedi caledu.

53 AcMatth. 14.34. wedi iddynt ddyfod trosodd, hwy a ddaethant i dir Genesareth, ac a laniasant.

54 Ac wedi eu myned hwynt allan o'r llong, hwy a'i hadnabuant ef yn ebrwydd.

55 Ac wedi iddynt redeg trwy gwbl o'r goror hwnnw, hwy a ddechreuasant ddwyn oddi amgylch mewn gwelâu rai cleifion, pa le bynnag y clywent ei fôd ef.

36 Ac i ba le bynnag yr elai efe i mewn i bentrefi, neu ddinasoedd, neuFeu­sydd. wlâd, hwy a osodent y cleifion yn yr heolvdd, ac a attoly­gent iddo gael o honynt gyffwrdd cymmaint ac ag ymyl ei wisc ef: a chynnifer ac a gyffyr­ddasant ag ef, a iachawyd.

PEN. VII.

1 Y Pharisæaid yn beio ar y discyblion, am fwytta heb ymolchi: 8 yn torri gorchymyn Duw trwy draddodiadau dynion. 14 Nad yw bwyd yn halogi dyn. 24 Christ yn iachâu merch y wraig o Syrophenicia, oddiwrth yspryd aflan, 31 ac vn oedd fyddar, ac ag attal dywedyd arno.

YNa yrMatth. 15.1. ymgasclodd atto 'r Pharisæaid, a rhai o'r Scrifennyddion, a ddaethei o Je­rusalem.

2 A phan welsant rai o'i ddiscyblion ef â dwylo cyffredin (hynny ydyw heb olchi) yn bwytta bwyd, hwy a argyoeddasant.

3 Canys y Pharisæaid, a'r holl Iddewon, oni bydd iddynt olchi eu dwylo yn fynych, ni fwyttânt, gan ddal traddodiad yr hynafiaid.

4 A phan ddelont o'r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi, ni fwyttânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymmerasant iw cadw, megis golchi cwppanau, ac ystenau, ac efydden­nau, aGwelan. byrddau.

5 Yna y gofynnodd y Pharisæaid a'r Scri­fennyddion iddo, Pa ham nad yw dy ddiscybl­ion di yn rhodio yn ôl traddodiad yr hynafiaid, ond bwytta eu bwyd â dwylo heb olchi?

6 Ond efe a attebodd ac a ddywedodd wrth­ynt, Da y prophwydodd Esaias am danoch chwi ragrithwŷr: fel y mae yn scrifennedig, YEsa. 29.13. Matth. 15.8. mae y bobl hyn yn fy anrhydeddu i â'u gwefusau, ond eu calon sydd bell oddi wrthif.

7 Eithr ofer y maent yn fy addoli, gan ddys­cu yn lle dysceidiaeth, orchymynion dynion.

8 Canys gan adel heibio orchymmyn Duw, yr ydych yn dal traddodiad dynion, sef golch­iadau stenau a chwppanau: a llawer eraill o'r cyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneu­thur.

9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwŷch yr ydych yn rhoi heibio orchymmyn Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain.

10 Canys Moses a ddywedodd, Anrhyde­dda dy dâd a'th fam; a'r hwn a felldigo dâd neu fam, bydded farw 'r farwolaeth.

11 Ac meddwch chwithau, Os dywed dŷn wrth ei dâd neu ei fam,Matth. 15.5. Corban, (hynny yw, rhodd) trwy ba beth bynnag y ceit lês oddi wrthi fi, difai fydd.

12 Ac nid ydych mwyach yn gadel iddo wneuthur dim i'w dâd neu i'w fam:

13 Gan ddirymmu gair Duw â'ch traddod­iad eich hunain, yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau a hynny yr ydych yn eu gwneuthur.

14 AMatth. 15.10. chwedi galw atto yr holl dyrfa, efe [Page] a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch chwi oll arnaf, a deellwch.

15 Nid oes dim allan o ddŷn yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pe­thau fy yn dyfod allan o honaw, y rhai hynny yw 'r pethau sy yn halogi dŷn.

16 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwran­dawed.

17 A phan ddaeth efe i mewn i'r tŷ, oddi wrth y bobl, ei ddiscyblion a ofynnasant iddo am y ddammeg.

18 Yntef a ddywedodd wrthynt, Ydych chwithau hefyd mor ddi-ddeall? oni wyddoch am bôb peth oddi allan a êl i mewn i ddŷn, na all hynny ei halogi ef?

19 Oblegid nid yw yn myned i'w galon ef, ond i'r bol: ac yn myned allan i'r gau-dŷ, gan garthu yr holl fwydydd.

20 Ac efe a ddywedodd, yr hyn sydd yn dyfod allan o ddŷn, hynny sydd yn halogi dŷn.

21Gen. 6.5. & 8.21. Matth. 15.19. Canys oddi mewn, allan o galon dyn­ion y daw drwg feddyliau, torr-priodasau, put­teindra, llofruddiaeth,

22 Lledradau, cybydd-dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg lygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd.

23 Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dŷn.

24 AcMatth. 15.21. efe a gyfodes oddi yno, ac a aeth i gyffiniau. Tyrus a Sidon: ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynnasei i nêb wybod: eithr ni allei efe fôd yn guddiedig.

25 Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ac yspryd aflan ynddi, sôn am dano, hi a ddaeth, ac a syrthiodd wrth ei draed ef.

26 (A Groeges oedd y wraig, Syrophaenic­iad o genedl) a hi a attolygodd iddo fwrw 'r cythrael allan o'i merch.

27 A'r Iesu a ddywedodd wrthi, Gâd yn gyntaf i'r plant gael eu digoni: canys nid cym­mwys yw cymmeryd bara 'r plant, a'i daflu i'r cenawon cŵn.

28 Hithau a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Gwir o Arglwydd: ac etto y mae y cenawon tan y bwrdd, yn bwytta o friwsion y plant.

29 Ac efe a ddywedodd wrthi, Am y gair hwnnw dôs ymmaith: aeth y cythrael allan o'th ferch.

30 Ac wedi iddi fyned i'w thŷ, hi a gafodd fyned o'r cythrael allan, a'i merch wedi ei bw­rw ar y gwely.

31 Ac efe a aeth drachefn ymmaith o due­ddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd fôr Ga­lilaea, trwy ganol terfynau Decapolis.

32 A hwy a ddygasant atto vn byddar ag at­tal dywedyd arno, ac a attolygasant iddo ddodi ei law arno ef.

33 Ac wedi iddo ei gymmeryd ef o'r nailltu allan o'r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef, ac wedi iddo boeri, efe a gyffyr­ddodd â'i dafod ef:

34 A chan edrych tua 'r nef, efe a ocheneid­iodd, ac a ddywedodd wrtho, Ephphatha, hyn­ny yw, ymagor.

35 Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddattodwyd, ac efe a le­farodd yn eglur.

36 Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb: ond pa mwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant.

37 A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i'r byddair glywed, ac i'r mudion ddywedyd.

PEN. VIII.

1 Christ yn porthi y bobl yn rhyfeddol: 10 yn naccau rhoddi arwydd i'r Pharisæaid: 14 yn rhybuddio ei ddiscyblion i ochelyd surdoes y Pharisæaid, a sur-does Herod: 22 yn rhoddi ei-olwg i ddyn dall: 27 yn cydnabod mai efe yw Christ yr hwn a ddioddefei, ac a gyfodei eil­waith: 34 ac yn annog i fod yn ddioddef­gar mewn erlid o achos proffessu yr Efengyl.

YN y dyddiau hynny,Matth. 15.32. pan oedd y dyrfa yn fawr iawn, ac heb ganddynt ddim i'w fwytta, y galwodd yr Iesu ei ddiscyblion atto, ac a ddywedodd wrthynt,

2 Yr wyfi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gyd â mi, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwytta:

3 Ac os gollyngaf hwynt ymmaith ar eu cythlwng, i'w teiau eu hunain, hwy a lewy­gant ar y ffordd: canys rhai o honynt a ddaeth o bell.

4 A'i ddiscyblion ef a'i hattebasant, O ba le y gall nêb ddigoni y rhai hyn â bara, ymma yn yr anialwch?

5 Ac efe a ofynnodd iddynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith.

6 Ac efe a orchymynnodd i r dyrfa eistedd ar y llawr, ac a gymmerodd y saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a'u torrodd hwynt, ac a'u rho­ddes iw ddiscyblion, fel y gosodent hwynt ger eu bronnau: a gosodasant hwynt ger bron y bobl.

7 Ac yr oedd ganddynt ychydig byscod by­chain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi y rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt.

8 A hwy a fwyttasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o'r briw-fwyd gweddill, saith fascedaid.

9 A'r rhai a fwyttasent oedd ynghylch pe­dair mil: ac efe a'u gollyngodd hwynt ym­maith.

10 Ac yn y man wedi iddo fyned i long gyd â'i ddiscyblion, efe a ddaeth i barthau Dalma­nutha.

11Matth. 16.1. A'r Pharisæaid a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymholi ag ef, gan geisio ganddo arwydd o'r nef, gan ei demtio.

12 Yntef gan ddwys ocheneidio yn ei yspryd, a ddywedodd, Beth a wna 'r genhedlaeth ymma yn ceisio arwydd? yn wir meddaf i chwi, ni roddir arwydd i'r genhedlaeth ymma.

13 Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth i'r llong drachefn, ac a dynnodd ymmaith i'r lan arall.

14 A'rMatth. 16.5. discyblion a adawsent yn angof gym­meryd bara, ac nid oedd ganddynt gyd â hwynt onid vn dorth yn y llong.

15 Yna y gorchymynnodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwiliwch, ymogelwch rhag surdoes y Pharisæaid, a surdoes Herod.

16 Ac ymresymmu a wnaethant y naill wrth y llall, gan ddywedyd, Hyn sydd Matth. 16.7. oblegid nad oes gennym fara.

17 A phan wybu 'r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ymresymmu 'r ydych, am nad oes gennych fara? ond ydych chwi etto yn ystyried, nac yn deall? ydyw eich calon etto gennwch wedi caledu?

18 A chennych lygaid, oni welwch? a chen­nych glustiau, oni chlywch? ac onid ydych yn cofio?

19 Pan dorrais y pum torth hynny, ym mysc y pum mîl, pa sawl bascedaid yn llawn o friw-fwyd a godasoch i fynu? Dywedasant wrtho, Deuddeg.

20 A phan dorrais y saith ym-mhlith y pedair mîl, lloneid pa sawl basced o friw-fwyd a godasoch i fynu? A hwy a ddywedasant, Saith.

21 Ac efe ddywedodd wrthynt, Pa fodd nad ydych yn deall?

22 Ac efe a ddaeth i Bethsaida: a hwy a ddygasant atto vn dall, ac a ddeisyfiasant arno, ar iddo gyffwrdd ag ef.

23 Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, efe a'i twysodd ef allan o'r dref: ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a dodi ei ddwylo arno, efe a ofynnodd iddo, a oedd efe yn gweled dim.

24 Ac wedi edrych i fynu efe a ddywedodd, yr ydwyf yn gweled dynion megis preniau yn rhodio.

25 Wedi hynny y gosodes efe ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef, ac a barodd iddo edrych i fynu: ac efe a gafodd ei olwg, ac efe a welai bawb o bell, ac yn eglur.

26 Ac efe a'i hanfonodd ef adref i'w dŷ, gan ddywedyd, Na ddôs i'r dref, ac na ddywed i neb yn y drêf.

27Matth. 16.13. A'r Iesu a aeth allan ef a'i ddiscyblion, i drefi Cæsarea Philippi: ac ar y ffordd, efe a ofynnodd iw ddiscyblion, gan ddywedyd wrthynt, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?

28 A hwy a attebasant, Ioan Fedyddiwr: a rhai, Elias: ac eraill, vn o'r prophwydi.

29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phetr a artebodd, ac a ddywedodd wrtho, Ti yw 'r Christ.

30 Ac efe a orchymmynnodd iddynt na ddywedent i nêbHynny. am dano.

31 Ac efe a ddechreuodd eu dyscu hwynt, fôd yn rhaid i Fâb y dŷn oddef llawer, a'i wrthod gan yr Henuriaid, a'r Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion, a'i ladd, ac wedi tridiau adgyfodi.

32 A'r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn eglur. A Phetr a ymaflodd ynddo, ac a ddechreuodd ei geryddu ef.

33 Eithr wedi iddo droi, ac edrych ar ei ddis­cyblion, efe a geryddodd Petr, gan ddywedyd, Dôs ymmaith yn fy ôl i Satan; am nad wyt yn synnied y pethau sy o Dduw, ond y pethau sy o ddynion.

34 Ac wedi iddo alw atto y dyrfa gŷd â'i ddiscyblion, efe a ddywedodd wrthynt, YMatth. 10.38. neb a fynno ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi.

35 Canys pwy bynnag a fynno gadw ei en­ioes, a'i cyll hi: ond pwy bynnag a gollo ei enioes er fy mwyn i a'r Efengyl, hwnnw a'i ceidw hi.

36 Canys pa lesâd i ddŷn os ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?

37 Neu pa beth a rydd dŷn yn gyfnewid am ei enaid?

38 CanysMatth. 10.33. pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau, yn yr odinebus a'r becha­durus genhedlaeth hon, bydd cywilydd gan Fâb y dŷn yntef hefyd, pan ddêl yngogoniant ei Dâd, gŷd â'r Angelion sanctaidd.

PEN. IX.

2 Gwedd-newidiad yr Iesu. 12 Efe yn dyscu ei ddiscyblion ynghylch dyfodiad Elias: 14 yn bwrw allan yspryd mûd, a byddar: 30 Yn rhagfynegi ei farwolaeth a'i adgyfodiad: 33 yn annog ei ddiscyblion i ostyngeiddrwydd: 38 gan erchi iddynt, na luddient y rhai did ydynt yn eu herbyn, ac na roddent rwystr i neb o'r ffydd­loniaid.

AC efe a ddywedodd wrthynt, YnMatth. 16.28. wîr yr wyf yn dywedyd i chwi, fôd rhai o'r rhai sy yn sefyll ymma, ni phrofant angeu, hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.

2 AcMatth. 17.1. wedi chwe diwrnod y cymmerth yr Iesu Betr, ac laco, ac Ioan; ac a'u dug hwynt i fynydd vchel, eu hunain o'r nailltu; ac efe a wedd-newidiwyd yn eu gŵydd hwynt.

3 A'i ddillad ef a aethant yn ddisclair, yn gannaid iawn fel eira, y fath ni feidr vn pannwr ar y ddaiar eu cannu.

4 Ac ymddangosodd iddynt Elias gŷd â Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â'r Iesu.

5 A phetr a attebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fôd ymma: a gw­nawn dair pabell, i ti vn, ac i Foses vn, ac i Elias vn.

6 Canys ni's gwyddei beth yr oedd yn ei ddywedyd: canys yr oeddynt wedi dychrynu.

7 A daeth cwmmwl yn cyscodi trostynt hwy: a llef a ddaeth allan o'r cwmmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy anwyl Fâb, gwran­dewch ef.

8 Ac yn ddisymmwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Iesu yn vnig gyd â hwynt.

9 A phan oeddynt yn dyfod i wared o'r mynydd, efe a orchymynnodd iddynt na ddang­osent i neb y pethau a welsent, hyd pan ad­gyfodei Mâb y dŷn o feirw.

10 A hwy a gadwasant y gair gŷd â hwynt eu hunain, gan gŷd-ymholi beth yw 'r adgy­fodi o feirw.

11 A hwy a ofynnasant iddo, gan ddywe­dyd, Pa ham y dywed yr Scrifennyddion, fôd yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf?

12 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrth­ynt, Elias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf, a edfryd bôb peth:Esay. 53.24. a'r modd yr scrifennwyd am Fâb y dŷn, y dioddefai lawer o bethau, ac y dirmygid ef.

13 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddy­fod Elias yn ddiau, a gwneuthur o honynt iddo 'r hyn a fynnasant, fel yr scrifennwyd am dano.

14 AMatth. 17.14. phan ddaeth efe at ei ddiscyblion, efe a welodd dyrfa fawr yn eu cyich hwynt, a'r Scrifennyddion yn cyd-ymholi â hwynt.

15 Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan gan­fuant ef, a ddychrynasant, a chan redeg atto, a gyfarchasant iddo.

16 Ac efe a ofynnodd i'r Scrifennyddion, Pa gyd-ymholi yr ydycha hwynt. yn eich plith?

17 Ac vn o'r dyrfa a attebodd, ac a ddy­wedodd, Athro, mi a ddugym fy mâb attat, ac yspryd mud ynddo:

18 A pha le bynnag y cymmero ef, efe a'i rhwyga; ac yntef a fwrw ewyn, ac a yscyrny­ga ddannedd, ac y mae yn dihoeni: ac mi a ddywedais wrth dy ddiscyblion, ar iddynt ei fwrw ef allan, ac ni's gallasant.

19 Ac efe a attebodd iddynt, ac a ddywe­dodd, O genhedlaeth anffyddlon, pa hŷd y [Page] byddaf gŷd â chwi? pa hŷd y goddefaf chwi? dygwch ef attafi.

20 A hwy a'i dygasant ef atto: a phan we­lodd ef, yn y man yr yspryd a'i drylliodd ef, a chan syrthio ar y ddaiar, efe a ymdreiglodd tan falu ewyn.

21 A gofynnodd yr Iesu i'w dâd ef, Beth sydd o amser, er pan ddarfu fel hyn iddo? Yntef a ddywedodd, Er yn fachgen.

22 A mynych y taflodd efe ef yn tân, ac i'r dyfroedd, fel y difethai efe ef: ond os gelli di ddim, cymmorth ni, gan dosturio wrthym.

23 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli di gredu, pôb peth a all fôd i'r neb a gredo.

24 Ac yn y fan tâd y bachgen, tan lefain ag wylofain, a ddywedodd, Yr wyfi yn credu o Arglwydd; cymmorth fy anghrediniaeth i.

25 A phan welodd yr Iesu fôd y dyrfa yn cŷd-redeg atto, efe a geryddodd yr yspryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Tydi yspryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymmyn i ti, Tyred allan o honaw, ac na ddôs mwy iddo ef.

26 Ac wedi i'r yspryd lefain a dryllio llawer arno ef, efe a aeth allan: ac yr oedd efe fel vn marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef.

27 A'r Iesu a'i cymmerodd ef erbyn ei law, ac a'i cyfododd, ac efe a safodd i fynu.

28 Ac wedi iddo fyned i mewn i'r tŷ, ei ddiscyblion a ofynnasant iddo o'r nailltu, Pa ham na allem ni ei fwrw ef allan?

29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac ympryd.

30Matth. 17.22. Ac wedi ymadel oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilæa: ac ni fynnai efe wybod o nêb.

31 Canys yr oedd efe yn dyscu ei ddiscyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodid Mâb y dŷn i ddwylo dynion, ac y lladdent ef, ac wedi ei ladd, yr adgyfodai y trydydd dydd.

32 Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac ofni yr oeddynt ofyniddo.

33 AcMatth. 18.1. efe a ddaeth i Capernaum: a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynnodd iddynt, Beth yr oeddych yn ymddadleu yn eich plith eich hunain ar y ffordd?

34 Ond hwy a dawsant â sôn: canys ymddadleuasent â'u gilydd ar y ffordd, pwy a fyddei fwyaf.

35 Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fôd yn gyntaf, efe a fydd olaf o'r cwbl, a gwenidog i bawb.

36 Ac efe a gymmerth fachgennyn, ac a'i gosododd ef yn eu canol hwynt, ac wedi iddo ei gymmeryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt,

37 Pwy bynnag a dderbynio vn o'r cyfryw fechgyn, yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a'm derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a'm dan­fonodd i.

38 AcLuc. 9.49. Ioan a'i hattebodd ef, gan ddywe­dyd, Athro, ni a welsom vn yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni, ac ni a waharddasom iddo, am nad yw yn ein dilyn ni.

39 A'r Iesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo:1 Cor. 12.3. canys nid oes nêb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi dryg-air i mi.

40 Canys y neb nid yw i'n herbyn, o'n tu ni y mac.

41Matth. 10.42. Canys pwy bynnag a roddo i chwi i'w yfed gwppaneid o ddwfr yn fy enw i, am eich bôd yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe ei obrwy.

42 AMatth. 18.6. phwy bynnag a rwystro vn o'r rhai bychain hyn sy yn credu ynofi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a'i daflu i'r môr.

43 AcMatth. 5.29. & 18.8. os dy law a'th rwystra, torr hi ymmaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r by­wyd yn anafus, nag a dwy law gennit, fyned i vffern, i'r tân anniffoddadwy:

44Esai. 66.24. Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na 'r tân yn diffodd.

45 Ac os dy droed a'th rwystra, torr ef ymmaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag â dau droed gennit dy daflu i vffern, i'r tân anniffoddadwy:

46 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

47 Ac os dy lygad a'th rwystra, bwrw ef ymmaith, gwell yw i ti fyned i mewn i deyr­nas Dduw yn vn-llygeidiog, nag â dau lygad gennit dy daflu i dân vffern:

48 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

49 Canys pôb vn â helltir a thân,Levit. 2.13. a phôb aberth a helltir â halen.

50Matth. 5.13. Da yw 'r halen: ond os bydd yr halen yn ddihallt, a pha beth yr helltwch ef? Bid gen­nwch halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn â'i gilydd.

PEN. X.

2 Crist yn ymresymmu â'r Pharisæaid ynghylch yscar: 13 yn bendithio y plant a ddycpwyd atto: 17 yn atteb i wr goludoc, pa fodd y cai etifeddu bywyd tragwyddol: 23 yn dangos i'w ddiscyblion berygl golud: 28 yn addo gwobrau i'r sawl a ymadawo â dim er mwyn yr Efengyl: 32 yn rhag-fynegi ei farwolaeth a'i adgy­fodiad: 35 yn gorchymmyn i feibion Zebedaus a geisient barch gantho, feddwl yn hytrach am ddioddef gydag ef; 46 ac yn rhoddi ei olwg i Bartimaeus.

ACMatth. 19.1. efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Iudaea, trwy 'r tu hwnt i'r Ior­ddonen: a'r bobloedd a gŷd-gyrchasant atto ef drachefn: ac fel yr oedd yn arferu, efe a'u dyscodd hwynt drachefn.

2 A'r Pharisæaid wedi dyfod atto, a ofynna­sant iddo, ai rhydd i ŵr roi ymmaith ei wraig? gan ei demtio ef.

3 Yntef a attebodd, ac a ddywedodd wrth­ynt, Beth a orchymynnodd Moses i chwi?

4 A hwy a ddywedasant, Moses a ganhia­dodd scrifennu llythyr yscar, a'i gollwng hi ymmaith.

5 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrth­ynt, O achos eich calon-galedwch chwi, yr scrifennodd efe i chwi y gorchymmyn hwnnw:

6 Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wr­ryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt.

7 Arn hyn y gâd dŷn ei dâd a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig.

8 A hwy ill dau a fyddant vn cnawd, fel nad ydynt mwy ddau, onid vn cnawd.

9 Y peth gan hynny a gyssylltodd Duw, na wahaned dŷn.

10 Ac yn y tŷ drachefn, ei ddiscyblion a ofynnasant iddo am yr vn peth.

11 Ac efe a ddywedodd wrthynt,Matth. 5.32. & 19.9. Pwy byn­nag a roddo ymmaith ei wraig, ac a briodo vn arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi.

12 Ac os gwraig a ddyry ymmaith ei gŵr, a phriodi vn arall, y mae hi yn godinebu.

13 AMatth. 19.13. hwy a ddygasant blant bychain atto, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r discybl­ion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt.

14 A'r Iesu pan welodd hynny fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gedwch i blant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw.

15 Yn wir meddaf i chwi, pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dŷn-bach, nid â efe i mewn iddi.

16 Ac efe a'u cymmerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo arnynt, ac a'u bendithiodd.

17Matth. 19.16. Ac wedi iddo fyned allan i'r ffordd, rhedodd vn atto, a gostyngodd iddo, ac a ofyn­nodd iddo, O athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol?

18 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Pa ham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond vn, sef Duw.

19 Ti a wyddost y gorchymmynion, Na odineba, Na ladd, Na ledratta, Na cham dystiolaetha, Na cham-golleda, Anrhydedda dy dâd a'th fam.

20 Yntef a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gŷd a gedwais o'm hieu­engtid.

21 A'r Iesu gan edrych arno, a'i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Vn peth sydd ddyffygiol i ti: dôs, gwerth yr hyn sydd gennit, a dyro i'r tlodion, a thi a gei drysor yn y nef: a thy­red, a chymmer i fynu y groes, a dilyn fi.

22 Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymmaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.

23 A'r Iesu a edrychodd o'i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt, i deyrnas Dduw!

24 A'r discyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a attebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anhawdd yw i'r rhai sy a'u hymddiried yn eu golud, fyned i deyrnas Dduw!

25 Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau 'r nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

26 A hwy a synnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A phwy a all fôd yn gadwedig?

27 A'r Iesu wedi edrych arnynt, a ddywe­dodd, Gyd â dynion ammhossibl yw, ac nid gyd â Duw: canys pôb peth sydd bossibl gyd â Duw.

28Matth. 19.27. Yna y dechreuodd Petr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bôb peth, ac a'th ddilynasom di.

29 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, nid oes neb a'r a adaw­odd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dâd, neu sam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o'm hachos i a'r Efengyl,

30 A'r ni dderbyn y can cymmaint, yr awron y pryd hyn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mam­mau, a phlant, a thiroedd, ynghŷd ag erlidiau, ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol.

31Matth. 19.30. Ond llawer rhai cyntaf, a fyddant ddiweddaf: a'r diweddaf fyddant gyntaf.

32 AcMatth. 20.17. yr oeddynt ar y ffordd, yn myned i fynu i Jerusalem: ac yr oedd yr Iesu yn myned o'u blaen hwynt; a hwy a frawychasant, ac fel yr oeddynt yn canlyn yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymmeryd y deuddeg, efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef:

33 Canys wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Jerusalem, a Mâb y dŷn a draddodir i'r Arch-offeiriaid, ac i'r Scrifennyddion, a hwy a'i condemnant ef i farwolaeth, ac a'i traddod­ant ef i'r cenhedloedd:

34 A hwy a'i gwatwarant ef, ac a'i fflang­ellant, ac a boerant arno, ac a'i lladdant: a'r trydydd dydd yr adgyfyd.

35 AMatth. 20.20. daeth atto Iaco ac Ioan meibion Zebedaeus, gan ddywedyd, Athro, ni a fynnem wneuthur o honot i ni yr hyn a ddymunem.

36 Yntef a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi?

37 Hwythau a ddywedasant wrtho, can­hiadâ i ni eistedd, vn ar dy ddeheu-law, a'r llall ar dy asswy yn dy ogoniant.

38 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o'r cwppan yr wyfi yn ei yfed, a'ch bedyddio â'r bedydd i'm bedyddir i ag ef?

39 A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o'r cwppan yr yfwyfi; ac i'ch bedyddir â'r bedydd y bedyddir finneu:

40 Ond eistedd ar fy neheu-law a'm hasswy, nid eiddo fi ei roddi, ond i'r rhai y darparwyd.

41 A phan glybu y dêg, hwy a ddechreu­asantSorrî wrth. fôd yn anfodlon ynghylch Iaco ac Ioan.

42 A'r Iesu a'i galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd wrthynt,Luc. 22.25. Chwi a wyddoch fôd y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y cenhedloedd, yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a'u gwŷr mawr hwynt, yn tra-awdurdodi arnynt.

43 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fôd yn fawr yn eich plith,Gr. a fydd. bydded wenidog i chwi;

44 A phwy bynnag o honoch a fynno fôd yn bennaf,Gr. a fydd. bydded wâs i bawb.

45 Canys ni ddaeth Mab y dŷn i'w wa­sanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei enioes yn bridwerth tros lawer.

46 AMatth. 20.29. hwy a ddaethant i Iericho, ac fel yr oedd efe yn myned allan o Iericho, efe, a'i ddiscyblion, a bagad o bobl, Bartimaeus ddall mâb Timaeus, oedd yn eistedd ar fîn y ffordd, yn cardotta.

47 A phan glybu mai 'r Iesu o Nazareth ydoedd, efe a ddechreuodd lefain, a dywedyd, Iesu fâb Dafydd, trugarhâ wrthif.

48 A llawer a'i ceryddasant ef i geisio ganddo dewi: ond efe a lefodd yn fwy o lawer, Mâb Dafydd, trugarhâ wrthif.

49 A'r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef: a hwy a alwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymmer gaion, cyfod, y mae efe yn dy alw di.

50 Ond efe wedi taflu ei gochl ymmaith, a gyfododd, ac a ddaeth ar yr Iesu.

51 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A'r dall a ddywedodd wrtho,Rabbonl. gwel Joan. 20.16. Athro, caffael o honof fy ngolwg.

52 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dôs ymmaith, dy ffydd a'th iachaod [...] Ac yn y [Page] man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hŷd y ffordd.

PEN. XI.

1 Christ yn marchogaeth mewn goruchafiaeth i Ierusalem: 12 yn melltithio y pren deiliog diffrwyth: 15 yn glanhau y Deml: 20 yn annoc ei ddiscyblion i fôd yn ddisigl mewn ffydd, ac i faddeu iw gelynion: 27 ac yn am­ddiffyn fôd ei weithredoedd ef yn gyffreithlon, trwy dystiolaeth Ioan, yr hwn oedd wr wedi ei ddanfon oddiwrth Dduw.

ACMatth. 21.1. wedi eu dyfod yn agos i Ierusalem, i Bethphage a Bethania, hyd fynydd yr Ole­wydd, efe a anfones ddau o'i ddiscyblion,

2 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymmaith i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb: gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymma.

3 Ac os dywed nêb wrthych, Pa ham y gwnewch hyn? dywedwch, Amfôd yn rhaid i'r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a'i denfyn ymma.

4 A hwy a aethant ymmaith, ac a gaw­sant yr ebol yn rhwym, wrth y drws oddi allan, mewn croes-ffordd, ac a'i gollyngasant ef yn rhydd.

5 A rhai o'r rhai oedd yn sefyll yno a ddy­wedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi yn gollwng yr ebol yn rhydd?

6 A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchymynnasei 'r Iesu: a hwy a adawsant iddynt fyned ymmaith.

7 A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno: ac efe a eisteddodd arno.

8 A llawer a danasant eu dillal ar hŷd y ffordd: ac eraill a dorrasant gangau o'r gwydd, ac a'u tanasant ar y ffordd.

9 A'r rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddy­wedyd, Hosanna, bendigedig fyddo yr hwn sydd yn dyfod yn enw 'r Arglwydd:

10 Bendigedig yw y deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tâd Dafydd: Hosanna yn y goruchaf.

11 A'r Iesu a aeth i mewn i Ierusalem, ac i'r Deml, ac wedi iddo edrych ar bôb peth o'i amgylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i Bethania gyd â'r deuddeg.

12 A thrannoeth wedi iddynt ddyfod allan o Bethania, yr oedd arno chwant hwyd.

13Matth. 21.19. Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigys­bren, ac arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno: a phan ddaeth atto, ni chafodd efe ddim ond y dail, canys nid oedd amser ffigys.

14 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwyttaed neb ffrwyth o honot byth mwy. A'i ddiscyblion ef a glywsant.

15Matth. 21.12. A hwy a ddaethant i Ierusalem: a'r Iesu aeth i'r Deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y Deml: ac a ymchwelodd drestelau 'r arian-wŷr, a chadeiriau y gwerth-wŷr colommennod.

16 Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy 'r Deml.

17 Ac efeA ath­rawiaeth­odd. a'u dyscodd gan ddywedyd wrthynt, Onid yw yn scrifennedig, * Y gelwir fy nhŷ i, yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd? ond chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.

18 A'r Scrifennyddion, a'r Arch-offeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fôd yr holl bobl yn synnu oblegid ei athra­wiaeth ef.

19 A phan aeth hi yn hŵyr, efe a aeth allan o'r ddinas.

20Matth. 21.19. A'r boreu wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigys-bren wedi crino o'r gwraidd.

21 A Phetr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigys-bren a felldithiaist, wedi crino.

22 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennychffydd. Duw. ffydd yn Nuw.

23 Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymmaith, a bwrier di i'r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo a fydd iddo.

24 Am hynny meddaf i chwi,Matth. 7.7. beth byn­nag oll a geisioch wrth weddio, credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi.

25 A phan safoch i weddio,Matth. 6.14. maddeuwch o bydd gennych ddim yn erbyn neb: fel y maddeuo eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau.

26 Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd, ni faddeu chwaith eich camweddau chwithau.

27 A hwy a ddaethant drachefn i Ierusa­lem:Matth. 21.23. ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y Deml, yr Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion, a'r Henuriaid, a ddaethant atto:

28 Ac a ddywedasant wrtho, Trwy ba awdurdod yr wyti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon, i wneuthur y pethau hyn?

29 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau vn gair, ac attebwch fi, ac mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn:

30 Bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o ddynion? attebwch fi.

31 Ac ymresymmu a wnaethant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, o'r nef, efe a ddywed, Pa ham gan hynny na chredech iddo?

32 Eithr os dywedwn, o ddynion, yr oedd arnynt ofn y bobl; canys pawb oll a gyfrifent Ioan, mai prophwyd yn ddiau ydoedd.

33 A hwy a attebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu, Ni wyddom ni. A'r Iesu a at­tebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau, Ac ni ddywedaf finneu i chwithau trwy ba awdur­dod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

PEN. XII.

1 Trwy ddammeg y winllan a logwyd i lafur-wyr annioichgar, y mae Christ yn rhag-ddangos gwrthodiad yr Iddewon, a galwad y cenhedl­oedd: 13 Y mae yn gochelyd magl y Pharisæaid, a'r Herodianiaid, ynghylch talu teyrnged i Cæsar. 18 Yn argyoeddi amryfusedd 7 Sadducæaid, y rhai a wadent yr adgyfodiad: 28 yn atteb yr Scrifennydd oedd yn ymofyn am y gorchymyn cyntaf: 35 yn beio ar dyb yr Scrifennyddion am Grist: 38 ac yn gorchymyn i'r bobl ochelyd ei huchder a'i rhagrith hwy: 41 Ac yn can­mol y weddw dlawd am ei dwy hatling, yn fwy nâ nêb.

AC efeMatth. 21.33 a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion, Gŵr a blannodd win­llan, ac a ddodes gae o'i hamgylch, ac a [Page] gloddiodd le i'r gwin-gafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafur-wŷr, ac a aeth oddi cartref.

2 Ac efe a anfonodd wâs mewn amser at y llafur-wŷr, i dderbyn gan y llafur-wŷr o ffrwyth y win-llan.

3 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i baeddasant, ac a'i gyrrasant ymmaith yn wag-law.

4 A thrachefn yr antonodd efe attynt wâs arall: a hwnnw y taflasant gerrig atto, ac yr archollasant ei ben, ac a'i gyrrasant ymmaithWedi ei amherchi. yn amharchus.

5 A thrachefn yr anfonodd efe vn arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill, gan faeddu rhai, a lladd y lleill.

6 Am hynny etto, a chanddo vn mâb, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd attynt yn ddiweddaf, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mâb i.

7 Ond y llafur-wŷr hynny a ddywedafant yn eu plith eu hunain, Hwn yw 'r etifedd, deuwch, lladdwn ef, a'r etifeddiaeth fydd eiddom ni.

8 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i lladdasant, ac a'i bwriasant allan o'r win-llan.

9 Beth gan hynny a wna arglwydd y win­llan? efe a ddaw, ac a ddifetha y llafur-wŷr, ac a rydd y win-llan i eraill.

10Psal. 118.22. Oni ddarllennafoch yr Scrythur hon? Y maen a wrthododd yr adeilad-wŷr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl:

11 Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.

12 A hwy a geisiasant ei ddala ef: ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa: canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddammeg: a hwy a'i gadawsant ef, ac a aethant ymmaith.

13Matth. 22.15. A hwy a anfonasant atto rai o'r Pha­risæaid ac o'r Herodianiaid, i'w rwydo ef yn ei ymadrodd.

14 Hwythau pan ddaethant a ddywedasant wrtho, Athro, ni a wyddom dy fôd ti yn eir­wir, ac nad oes arnat ofal rhag neb: canys nid wyti yn edrych ar wyneb dynion, ond yr wyt yn dyscu ffordd Dduw mewn gwirion­edd: ai cyfreithlawn rhoi teyrn-ged i Cæsar, ai nid yw? a roddwn, ai ni roddwn hi?

15 Ond efe, gan wybod eu rhagrith hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pa ham y temtiwch fi? dygwch i mi geniog, fel y gwelwyf hi.

16 A hwy a'i dygasant. Ac efe a ddywe­dodd wrthynt, Eiddo pwy yw 'r ddelw hon a'r argraph? A hwy a ddywedasant, eiddo Cæsar.

17 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt,Telwch. Rhoddwch yr eiddo Cæsar i Cæsar, a'r eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu a wnaeth­ant o'i blegid.

18Matth. 22.23. Daeth y Saducæaid hefyd atto, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad: a gofyn­nasant iddo, gan ddywedyd,

19 Athro, Moses a scrifennodd i ni, o bydd marw brawd neb, a gadu ei wraig, ac heb adu plant, am gymmeryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi hâd i'w frawd.

20 Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerth wraig, a phan fu farw, ni adawodd hâd.

21 A'r ail a'i cymmerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntef hâd: a'r trydydd yr un modd.

22 A hwy a'i cymmerasant hi eill saith, ac ni adawsant hâd; yn ddiweddaf o'r cwbl, bu farw y wraig hefyd.

23 Yn yr adgyfodiad gan hynny, pan ad­gyfodant, gwraig i ba vn o honynt fydd hi? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.

24 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ond am hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am nad ydych yn gwybod yr Scrythyrau na gallu Duw?

25 Canys pan adgyfodant o feirw, ni wreic­cant, ac ni wrant: eithr y maent fel yr ange­lion sydd yn y nefoedd.

26 Ond am y meirw, yr adgyfodir hwynt, oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gan ddywe­dyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Iacob?

27 Nid yw efe Dduw 'r meirw, ond Duw y rhai byw: am hynny yr ydych chwi yn cyfeiliorni yn fawr.

28Matth. 22.35. Ac vn o'r Scrifennydion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn ymresymmu, a gwybod atteb o honaw iddynt yn gymmwys, ac a ofynnodd iddo, Pa vn yw 'r gorchymmyn cyntaf o'r cwbl?

29 A'r Iesu a attebodd iddo, Y cyntaf o'r holl orchymmynion yw, Clyw Israel, yr Ar­glwydd ein Duw, vn Arglwydd yw:

30 A châr yr Arglwydd dy DduwO'th. â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl, ac â'th holl nerth: hwn yw 'r gor­chymmyn cyntaf.

31 A'r ail sydd gyffelyb iddo, Câr dy gym­mydog fel ti dy hun: nid oes orchymmyn arall mwy nâ'r rhai hyn.

32 A dywedodd yr Scrifennydd wrtho, Da, athro, mewn gwirionedd y dywedaist, mai vn Duw sydd, ac nad oes arall ond efe:

33 A'i garu efO'r. â'r holl galon, ac â'r holl ddeall, ac â'r holl enaid, ac â'r holl nerth, a charu ei gymmydog megis ei hun, fydd fwy nâ'r holl boeth-offrymmau a'r aberthau.

34 A'r Iesu pan welodd iddo atteb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddicdd neb mwy ymofyn ag ef.

35Matth. 22.41. A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, wrth ddyscu yn y Deml, Pa fodd y dywed yr Scrifennyddion fôd Crist yn fâb Dafydd?

36 Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy 'r Yspryd glân, Yr Arglwydd a ddywe­dodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheu­law, hyd oni osodwyf dy elynion yn droed­faingc i'th draed.

37 Y mae Dafydd ei hun gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd: ac o ba le y mae efe yn fâb iddo? A llawer o bobl a'i gwrandawent ef yn ewyllysgar.

38 Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth,Matth. 23.5. Ymogelwch rhag yr Scrifennydd­ion, y rhai a chwennychant rodio mewn gwis­coedd llaesion, a chael cyfarch yn y marchnad­oedd,

39 A'r prif-gadeiriau yn y Synagogau, a'r prif-eisteddleoedd mewn swpperau:

40 YMatth. 23 14. rhai sydd yn llwyr-fwytta tai gwra­gedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddio; y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy.

41Luc. 21.1. A'r Iesu a eisteddodd gyferbyn a'r drysor-fa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i'r drysor-fa: a chyfoeth­ogion lawer a fwriasant lawer.

42 A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling,

43 Ac efe a alwodd ei ddiscyblion atto, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dy­wedyd i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn, mwy nâ'r rhai oll afwriasant i'r drysor-fa.

44 Canys hwynt hwy oll a fwriasant o'r hyn a oedd yngweddill ganddynt: ond hon o'i heisieu a fwriodd i mewn yr hyn oll a fedddei, sef ei holl fywyd.

PEN. XIII.

1 Christ yn rhag-fynegi dinistr y Deml: 9 yr erlidiau o achos yr Efengyl: 10 y bydd rhaid pregethu yr Efengyl i'r Cenhedloedd oll: 14 y mawr gyscuddiau a ddigwyddai i'r Iddewon: 24 a dull ei ddyfodiad ef i'r farn: 32 o ran na ŵyr nêb yr awr, y dylai bôb dyn wil­ied a gweddio, rhac ein cael yn ammharod pan ddêl ef at bôb vn trwy farwolaeth.

ACMatth. 24.1. fel yr oedd efe yn myned allan o'r Deml, vn o'i ddiscyblion a ddywedodd wrtho, Athro, edrych pa ryw feini, a pha fath adeiladau sy ymma.

2 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, A weli di yr adeiladau mawrion hyn? ni edir maen ar faen a'r ni's dattodir.

3 Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, gyferbyn a'r Deml, Petr, ac Iaco, ac Ioan, ac Andreas, a ofynnasant iddoTn ddir­gel. o'r nailltu:

4Matth. 24.3. Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn, a pha arwydd fydd pan fo y pethau hyn oll ar ddibennu?

5 A'r Iesu a attebodd iddynt, ac a ddechreu­odd ddywedyd, Edrychwch rhag twyllo o neb chwi.

6 Canys llawer vn a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw: ac a dwyllant lawer.

7 Ond pan glywoch am ryfebedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffroer chwi: canys rhaid i hynny fôd, ond nid yw y diwedd etto.

8 Canys cenedl a gyfyd yn eibyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a daiar-grynfâu fyddant mewn mannau, a newyn a thrallod fyddant.

9 Dechreuad gofidiau yw y pethau hyn: eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i'r cyngoreu, ac i'r Synagogau: chwi a faeddir, ac a ddygir ger bron rhaglawiaid a Brenhinoedd, o'm hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy.

10 Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu yr Efengyl ym mysc yr holl genhedloedd.

11Matth. 10.19. Ond pan ddygant chwi a'th traddodi, na ragofelwch beth a ddywettoch, ac na fy­fyriwch: eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch: canys nid chwy-chwi sy yn dywedyd, ond yr Yspryd glân.

12 A'r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thâd ei blentyn: a phlant a gyfyd yn erbyn rhieni, ac a'u rhoddant hwy i farwolaeth.

13 A chwi a fyddwch gâs gan bawb, er mwyn fy enw i: eithr y neb a barhâo hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.

14Matth. 24.15. Ond pan weloch chwi y ffieidd-dra anghyfanneddol, yr hwn a ddywetpwyd gan Ddaniel y prophwyd, wedi ei osod lle ni's dylid, (y neb a ddarllenno dealled) yna y rhai fy­ddant yn Judaea, ffoant i'r mynyddoedd.

15 A'r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddescyn­ned i'r tŷ, ac nac aed i mewn i gymmeryd dim o'i dŷ.

16 A'r neb a fyddo yn y maes, na throed yn ei ôl, i gymmeryd ei wisc.

17 Ond gwae y rhai beichiog, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny.

18 Ond gweddiwch na byddo eich ffoedi­gaeth yn y gayaf.

19 Canys yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu y fath o ddechreu y creaduriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd chwaith.

20 Ac oni bai fôd i'r Arglwydd fyrhau y dyddiau, ni chadwesid vn cnawd: eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, efe a fyr­haodd y dyddiau.

21Matth. 24.23. Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, llymma y Christ, neu wele accw, na chredwch.

22 Canys gau Gristiau, a gau brophwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfe­ddodau,I ddidroi pe possi [...]l. i hudo ymmaith, pe byddai bossibl, ie yr etholedigion.

23 Eithr ymogelwch chwi: wele, rhagddy­wedais i chwi bôb peth.

24Matth. 24.29. Ond yn y dyddiau hynny, wedi 'r gorth­rymder hwnnw, y tywylla 'r haul, a'r lloer ni rydd ei goleuni.

25 A sêr y nef a syrthiant, a'r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir.

26 Ac yna y gwelant Fab y dŷn yn dyfod yn y cwmmylau, gyd â gallu mawr, a gogon­iant.

27 Ac yna yr enfyn efe ei Angelion, ac y cynnull ei etholedigion, oddi wrth y pedwar gwynt, o eithaf y ddaiar hyd eithaf y nef.

28 Ond dyscwch ddammeg oddi wrth y ffi­gys-bren, pan fo ei gangon eusus yn dyner, a'r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fôd yr hâf yn agos:

29 Ac felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau.

30 Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, nad â yr oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll.

31 Nef a daiar a ânt heibio, ond y geiriau mausi nid ânt heibio ddim.

32 Eithr am y dydd hwnnw a'r awr, ni ŵyr neb, na 'r angelion sydd yn y nef, na'r Mâb, ond y Tâd.

33Matth. 24.42. Ymogelwch, gwiliwch, a gweddiwch: canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser.

34 Canys mâb y dŷn sydd fel gŵr yn ym­daith i beil, wedi gadel ei dŷ, a rhoi awdurdod i'w weision, ac i bôb vn ei waith ei hun, a gorchymmyn i'r drysor wilio.

35 Gwiliwch gan hynny, (canys ni's gwy­ddoch pa brŷd y daw meistr y tŷ, yn yr hŵyr, ai hanner nôs, ai ar ganiad y ceiliog, ai 'r bo­reu-ddydd)

36 Rhag iddo ddyfod yn ddisymmwth, a'ch cael chwi yn cyscu.

37 A'r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrth­ychwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwiliwch.

PEN. XIIII.

1 Cyd-fwriad yn erbyn Christ. 3 Gwraig yn tywallt ennaint gwerth-fawr ar ei ben ef. 10 Judas yn gwerthu ei feistr ans arian. 12 Christ ei hun yn rhag-ddywedyd y brad­ychai vn o'i ddiscyblion ef. 22 Wedi darparu a bwytta y Pasc, y mae yn ordeinio ei Swpper: 26 yn yspysu ymlaen llaw, y ffoai ei holl ddis­cyblion, ac y gwadai Petr ef. 43 Judas yn ei fradychu ef â chusan. 46 Ei ddala ef yn yr ardd. 53 Cynnulleidfa yr Iddewon [Page] yn achwyn arno ef ar gam, ac yn ei farnu yn annuwiol, 65 ac yn ei ammherchi yn gywil­yddus. 66 Petr yn ei wadu ef deir-gwaith.

AC wediMatth. 26.2. deu-ddydd yr oedd y Pasc, a gwyl y bara croyw: a'r Arch-offeiriaid a'r Scri­fennyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef.

2 Eithr dywedasant, Nid ar yr wŷl, rhag bôd cynnwrf ym-mhlith y bobl.

3Matth. 26.6. A phan oedd efe yn Bethania, yn-nhŷ Simon y gwahan-glwyfus, ac efe yn eistedd i fwytta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint, o nard gwlyb gwerth-fawr, a hi a dorrodd y blwch, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef.

4 Ac yr oedd rhai ynSorre­dig. anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwna­ethpwyd y golled hon o'r ennaint?

5 Oblegid fe a allasid gwerthu hwn vwch­law trychan ceiniog, a'u rhoddi i'r tlodion. A hwy a ffrommasant yn ei herbyn hi.

6 A'r Iesu a ddywedodd, Gedwch iddi, pa ham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda arnafi.

7 Canys bôb amser y cewch y tlodion gyd â chwi, a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser.

8 Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorph erbyn y claddedigaeth.

9 Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregether yr Efengyl hon, yn yr holl fyd, vr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa am deni.

10Matth. 26.14. A Judas Iscariot, vn o'r deuddeg, a aeth ymmaith at yr Arch-offeiriaid, i'w fra­dychu ef iddynt.

11 A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a addawsant roi arian iddo. Yntef a geisiodd pa fodd y gallai yn gymmwys ei fradychu ef.

12Matth. 26.17. A'r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan aberthent y Pasc, dywedodd ei ddiscyblion wrtho; I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti, i fwyttâ y Pasc?

13 Ac efe a anfonodd ddau o'i ddiscyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r ddinas, a chyferfydd â chwi ddŷn yn dwyn steneid o ddwfr; dilynwch ef.

14 A pha le bynnag yr êl i mewn, dywe­dwch wrth ŵr y tŷ, Fôd yr Athro yn dywe­dyd, Pa le y mae 'r llettŷ, lle y gallwyf, mi a'm discyblion, fwytta 'r Pasc?

15 Ac efe a ddengys i chwi oruwch-stafell fawr wedi ei thanu, yn barod: yno paratowch i ni.

16 A'i ddiscyblion a aethant, ac a ddaethant i'r ddinas, ac a gawsant megis y dywedasei efe wrthynt, ac a baratoesant y Pasc.

17 A phan aeth hi yn hwyr, efe a ddaeth gyd â'r deuddeg.

18Matth. 26.20. Ac fel yr oeddynt yn eistedd, ac yn bwytta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, vn o bonoch, yr hwn sydd yn bwytta gyd â myfi, a'm bradycha i.

19 Hwythau a ddechreuasant dristâu, a dy­wedyd wrtho bôb vn ac vn, Ai myfi? ac arall, Ai myfi?

20 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrth­ynt, Vn o'r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyd â mi yn y ddyscl yw efe.

21 Mab y dŷn yn wir sydd yn myned ym­maith, fel y mae yn scrifennedig am dano: ond gwae 'r dŷn hwnnw trwy 'r hwn y brad­ychir Mâb y dŷn: da fuasai i'r dŷn hwnnw pe na's ganesid.

22Matth. 26.26. Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr Iesu a gymerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i tor­rodd, ac a'i rhoddes iddynt, ac a ddywedodd, Cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph.

23 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoi diolch, efe a'i rhoddes iddynt: a hwynt oil a yfasant o honaw.

24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i o'r Testament newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer.

25 Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y win-wŷdden, hyd y dydd hwnnw, pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.

26 Ac wedi iddynt ganuHymn. mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.

27Matth. 26.31. A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o'm plegid i, y nos hon; canys scrifennedig yw, Tarawaf y bugail, a'r defaid a wascerir.

28 Eithr wedi i mi adgyfodi, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilæa.

29Matth. 26.33. Ond Petr a ddywedodd wrtho, Pe byddai bawb wedi eu rhwystro, etto ni byddaf fi.

30 A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, heddyw o fewn y nos hon, cyn canu o'r ceiliog ddwy-waith, y gwedi fi deir-gwaith.

31 Ond efe a ddywedodd yn halaethach o lawer, I'e gorfyddai i mi farw gyd â thi, ni'th wadaf ddim. A'r vn modd y dywedasant oll.

32Matth. 26.36. A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Eisteddwch ymma tra fyddwyf yn gweddio.

33 Ac efe a gymmerth gydag ef Petr, ac Iaco, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristau yn ddirfawr.

34 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angeu: arhoswch ym­ma, a gwiliwch.

35 Ac efe a aeth ychydig ym mlaen, ac a syrthiodd ar y ddaiar, ac a weddiodd, o bai bossibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho.

36 Ac efe a ddywedodd, Abba Dad, pob peth sydd bossibl i ti: tro heibio y cwppan hwn oddi wrthif: eithr nid y peth yr ydwyfi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti.

37 Ac efe a ddaeth, ac a'u cafodd hwy yn cyscu, ac a ddywedodd wrth Petr, Simon, ai cyscu yr wyti? oni allit wilio vn awr?

38 Gwiliwch, a gweddiwch, rhag eich myned mewn temtasiwn: yr yspryd yn ddiau sydd barod; ond y cnawd sydd wan.

39 Ac wedi iddo fyned ymmaith drachefn, efe a weddiodd, gan ddywedyd yr vn ymadrodd.

40 Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a'u cafodd hwynt drachefn yn cyscu, (canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau) ac ni wyddent beth a attebent iddo.

41 Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cyscwch weithian, a gorphwyswch: digon yw, daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dŷn i ddwylo pechaduriaid.

42 Cyfodwch, awn; wele, y mae yr hwn sydd yn fy mradychu yn agos.

43Matth. 26.47. Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, [Page] daeth Judas, vn o'r deuddeg, a chyd ag ef dyrfa fawr â chleddyfau, a ffynn, oddi wrth yr Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion, a'r He­nuriaid.

44 A'r hwn a'i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, I'wy bynnac a gufanwyf, hwnnw yw; deliwch ef, a dygwch ymmaith yn siccr.

45 A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth atto, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi, ac a'i cusanodd ef.

46 A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a'i daliasant ef.

47 A rhyw vn o'r rhai oedd yn sefyll ger llaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ef.

48 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau, ac â ffynn i'm dala i?

49 Yr oeddwn i beunydd gyd â chwi yn athrawiaethu yn y Deml, ac ni 'm daliasoch: ond rhaid yw cyfiawni 'r Scrythyrau.

50 A hwynt oll a'i gadawsant ef, ac a ffoe­fant.

51 A rhyw ŵr ieuangc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisco â lliain main ar ei gorph noeth, a'r gwŷr ieuaingc a'i daliasant ef.

52 A hwn a adawodd y lliain, ac a ffôdd oddi wrthynt yn noeth.

Matth. 26.57.53 A hwy a ddygasant yr Iesu at yr Arch­offeiriad: a'r holl Arch-offeiriaid, a'r He­nuriaid, a'r Scrifennyddion, a ymgasclasant gyd ag ef.

54 A Phetr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr Arch-offeiriad: ac yr oedd efe yn eistedd gyd â'r gwasanaeth-wŷr, ac yn ym­dwymno wrth y tân.

55Matth. 26, 59. A'r Arch-offeiriaid, a'r holl gyngor, a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i'w roi ef i'w farwolaeth, ac ni chawsant.

56 Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef, eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gysson.

57 A rhai a gyfodasant, ac a ddygasant gam-dystiolaeth yn ei erbyn ef, gan ddywedyd,

58 Ni a'i clywsom ef yn dywedyd, mi a ddinistriaf y Deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall, heb fôd o waith llaw.

59 Ac etto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gysson.

60 A chyfododd yr Arch-offeiriad yn y canol, ac a ofynnodd i'r Iesu, gan ddywedyd, oni attebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?

61 Ac efe a dawodd, ac nid attebodd ddim. Drachefn yr Arch-offeiriad a ofynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Christ, Mâb y Bendigedig?

62 A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw:Matth. 14.30. a chwi a gewch weled Mab y dŷn yn eistedd ar ddeheu-law y gallu, ac yn dyfod ynghwm­mylau y nef.

63 Yna 'r Arch-offeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, I'a raid i ni mwy wrth dystion?

64 Chwi a glywsoch y gabledd: beth dy­bygwch chwi? A hwynt oll a'i condemnasant ef, ei fôd yn euog o farwolaeth.

65 A dechreuodd rhai boeri arno, a chu­ddio ei wyneb, a'i gernodio, a dywedyd wrtho, Prophwyda. A'r gweinidogion a'i ta­rawsant ef â gwiail.

66Matth. 26.69. Ac fel yr oedd Petr yn y llys i wared, daeth vn o forwynion yr Arch-offeiriad:

67 A phan ganfu hi Petr yn ymdwymno, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Titheu hefyd oeddit gyd â'r Iesu o Nazareth.

68 Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddy­wedyd. Ac efe a aeth allan i'r porth: a'r ceil­iog a ganodd.

69 A phan welodd y llangces ef drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn vn o honynt.

70 Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll ger llaw a ddywe­dasant wrth Petr drachefn, Yn wir yr wyti yn vn o honynt, canys Galilæad wyt, a'th leferydd sydd debyg.

71 Ond efe a ddechreuodd regu, a thyngu, Nid adwaen i y dŷn ymma yr ydych chwi yn dywedyd am dano.

72Matth. 26.75. A'r ceiliog a ganodd yr ail waith: a Phetr a gofiodd y gair a ddywedasei 'r Iesu wrtho, Cyn canu o'r ceiliog ddwy-waith, ti a'm gwedi deir-gwaith. A chan ystyried hynny efe a wylodd.

PEN. XV.

1 Dwyn yr Iesu yn rhwym, ac achwyn arno, ger bron Pilat. 15 Wrth floedd y bobl gyffredin, gollwng Barabbas y llofrudd yn rhydd, a thra­ddodi yr Iesu iw groes-hoelio. 17 Ei goroni ef â drain, 19 poeri arno, a'i watwar: 21 Ef yn deffygio yn dwyn ei groes: 27 Ei grogi ef rhwng dau leidr. 29 Y mae yn dioddef difenwad yr [...]ddewon: 39 Etto y Canwriad yn cyffesu ei fod ef yn fâb Duw: 43 A Joseph yn ei gladdu ef yn barchedig.

ACMatth. 27.1. yn y fan y boreu, yr ymgynghorodd yr Arch-offeiriaid gyd â'r Henuriaid, a'r Scrifennyddion, a'r holl gyngor, ac wedi iddynt rwymo 'r Jesu, hwy a'i dygasant ef ym­maith, ac a'i traddodasant at Pilat.

2 A gofynnodd Pilat iddo, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? yntef a attebodd, ac a ddywe­dodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.

3 A'r Arch-offeiriaid a'i cyhuddasant efAm l [...]wer. o lawer o bethau, eithr nid attebodd efe ddim.

4Matth. 27.13. A Philat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid attebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn.

5 Ond yr Iesu etto nid attebodd ddim; fel y rhyfeddodd Pilat.

6 Ac ar yr wyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt vn carcharor, yr hwn a ofyn­nent iddo.

7 Ac yr oedd vn a elwid Barabbas yr hwn oedd yn rhwym gyd â i gyd-terfysc-wŷr, y rhai yn y derfysc a wnaethent lofruddiaeth.

8 A'r dyrfa gan groch-lefain, a ddechreuodd ddeisif arno wneuthur fel y gwnaethai bôb am­ser iddynt.

9 A Philat a attebodd iddynt, gan ddywe­dyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon?

10 (Canys efe a wyddai mai o gynfigen y traddodasai yr Arch-offeiriaid ef)

11 A'r Arch-offeiriaid a gynhyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt.

12 A Philat a attebodd, ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon?

13 A hwythau a lefasant drachefn, Croes­hoelia ef.

14 Yna Pilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwy-fwy, Croes-hoelia ef.

15 A Philat yn chwennych bodloni 'r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas, a'r Iesu wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i'w groes-hoelio.

16 A'r milwŷr a'i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Praetorium: a hwy a alwasant ynghŷd yr holl fyddin.

17 Ac a'i gwiscasant ef â phorphor, ac a ble­thasant goron o ddrain, ac a'i dodasant am ei ben:

18 Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Han­ffych well, Brenin yr Iddewon.

19 A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau: lawr, a'i haddolasant ef.

20 Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddioscasant y porphor oddi am dano, ac a'i gwiscasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant allan iw groes-hoelio.

21 AMatth. 27.32. hwy a gymmellasant yn Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o'r wlâd, sef tâd Alexander a Rusus, i ddwyn ei groes ef.

22 A hwy a'i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha: yr hyn o'i gyfieithu yw, lle 'r ben­glog:

23 Ac a roesant iddo i'w yfed win myrh­llyd; eithr efe ni's cymmerth.

24 Ac wedi iddynt ei groes-hoelio, hwy a rannasant ei ddillad ef, gan fwrw coel-bren arnynt, beth a gai bob vn.

25 A'r drydedd awr oedd hi, a hwy a'i croes-hoeliasant ef.

26 Ac yr oedd yscrifen ei achos ef wedi ei hargraphu, BRENIN YR IDDEWON.

27 A hwy a groes-hoeliasant gyd ag ef ddau leidr; vn ar y llaw ddeheu, ac vn ar yr asswy iddo.

28 A'r Scrythur a gyflawnwyd, yr hon a ddywed,Esai. [...]3.12. Ac efe a gyfrifwyd gyd â'r rhai an­wir.

29 A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cab­lasant ef, gan yscwyd eu penneu, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio y Deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau;

30 Gwared dy hun, a descyn oddi ar y groes.

31 Yr vnffunyd yr Arch-offeiriaid hefyd yn gwatwar, a ddywedasant wrth ei gilydd, gyd â'r Scrifennyddion, Eraill a waredodd, ei hun ni's gall ei wared.

32 Descynned Christ Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A'r rhai a groes-hoeliesid gyd ag ef, a'i difenwasant ef.

33 A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr hollDir. ddaiar, hyd y nawfed awr.

34 Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef vchel, gan ddywedyd,Matth. 27.46. Eloi, Eloi, lam­ma sabachthani? yr hyn o'i gyfieithu yw; Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist?

35 A rhai o'r rhai a safent ger llaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Elias.

36 Ac vn a redodd, ac a lanwodd yspwrn yn llawn o finegr, ac a'i dododd ar gorsen, ac a'i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr.

37 A'r Iesu a lefodd â llef vchel, ac a yma­dawodd â'r yspryd.

38 A llen y Deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i wared.

39 A phan welodd y Canwriad, yr hwn oedd yn sefyll ger llaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado a'r yspryd, efe a ddywedodd, Yn wîr, Mab Duw oedd y dŷn hwn.

40 Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hir-bell: ym-mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Jaco fychan, a Jose, a Salome:

41 Y rhai hefyd pan oedd efe yn Galilæa,Luc. 8.3. a'i dilynasant ef, ac a weinasant iddo: a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gyd ag ef i fynu i Jerusalem.

42Matth. 27 57. Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bôd hi yn ddarpar-ŵyl, sef y dydd cyn y Sabbath)

43 Daeth Joseph o Arimathaea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntef yn disgwil am deyrnas Dduw; ac a aeth yn hŷ i mewn at Pilat, ac a ddeisyfodd gorph yr Iesu.

44 A rhyfedd oedd gan I'ilat o buasei efe farw eusys: ac wedi iddo alw y Canwriad atto, efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw er ysmeityn.

45 A phan wybu gan y Canwriad, efe a roddes y corph i Joseph.

46 Ac efe a brynodd liain main, ac a'i tynnodd ef i lawr, ac a'i hamdôdd yn y lliain main, ac a'i dodes ef mewn bêdd a naddasid o'r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd.

47 A Mair Fagdalen a Mair mam Iose, a edry­chasant pa le y dodid ef.

PEN. XVI.

1 Angel yn mynegi adgyfodiad Christ i dair o wragedd. 9 Christ ei hun yn ymddangos i Fair Fagdalen, 12 i ddau oedd yn myned i'r wlâd: 14 Yna i'r Apostolion, 15 y rhai y mae efe yn eu hanfon allan i bregethu 'r Efengyl: 19 ac yn escyn i'r nefoedd.

AC wedi darfod y dydd Sabbath, Mair Fagdalen, a Mair mam Jaco, a Salôme, a brynasantLysieu. ber-aroglau, i ddyfod i'w enneinio ef.

2Luc. 24.1. Joan. 20.1. Ac yn foreu iawn, y dydd cyntafO'r Sab­bathau. o'r wythnos, y daethant at y bêdd, a'r haul wedi codi.

3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, I'wy a dreigla i ni y maen ymmaith oddi wrth ddrws y bedd?

4 (A phan edrychasant, hwy a ganfuant fôd y maen wedi ei dreiglo ymmaith) canys yr oedd efe yn fawr iawn.

5 AcJoan 20.11. wedi iddynt fyned i mewn i'r bêdd, hwy a welsant fab ieuangc yn eistedd o'r tu dehau, wedi ei ddilladu â gwisc wen-llaes, ac a ddychrynasant.

6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddych­rynwch; ceisio yr ydych yr Iesu o Nazareth, yr hwn a groes-hoeliwyd: efe a gyfodes, nid yw efe ymma: wele 'r man y dodasant ef.

7 Eithr ewch ymmaith, dywedwch i'w ddiscyblion ef, ac i Petr, ei fôd efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilæa: yno y tewch ei weled ef,Matth. 26.3 [...]. fel y dywedodd i chwi.

8 Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoe­sant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syn­dod oedd arnynt: ac ni ddywedasant ddim wrth neb: Canys yr oeddynt wedi ofni.

9 A 'r Iesu wedi adgyfodi y boreu, y dydd cyntaf o'r wythnos,Joan. 20.14. efe a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Fagdalen,Luc. 8.2. o'r hon y bwr­iasei efe allan saith o gythreuliaid.

10 Hitheu a aeth ac a fynegodd i'r rhai a fuasent gyd ag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain.

11 A hwytheu pan glywsant ei fôd ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.

12 Ac wedi hynny yrLuc. 24.13. ymddangosodd efe mewn gwedd arall, i ddau o honynt, a hwynt yn ymdeithio, ac yn myned i'r wlâd.

13 A hwy a aethant ac a fynegasant i'r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau.

14Luc. 24.36. Joan. 20.19. Ac yn ôl hynny, efe a ymddangosodd i'r vn ar ddêg, a hwynt yn eistedd i fwytta, ac a ddannododd iddynt eu hanghrediniaeth, a'u calon-galedwch: am na chredasent y rhai a'i gwelsent ef wedi adgyfodi.

15Matth. 28.19. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r holl fŷd, a phregethwch yr Efengyl i bob creadur.

16 Y neb a gredo, ac a fedyddier a fydd cadwedig:Joan. 12.48. eithr y neb ni chredo a gon­demnir.

17 A'r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant,Act. 16.18. Yn fy enw i y bwriant allan gy­threuliaid: acAct. 2.4. â thafodau newyddion y lle­farant:

18Act. 28.5. Seirph a godant ymmaith, ac of yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed:Act. 28.8. ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.

19 Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymmerwyd i fynu i'r nef,Luc. 24.51. ac a eisteddodd ar ddeheu-law Dduw.

20 A hwythau a aethant allan, ac a brege­thasant ym-mhôb man, a'r Arglwydd yn cyd­weithio,Heb. 2.4. ac yn cadarnhau 'r gair, trwy arwy­ddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.

¶YR EFENGYL YN OL SANCT LVC.

PENNOD I.

1 Rhag-ymadrodd yr holl Efengyl. 5 Cenhed­liad Joan Fedyddiwr, 26 a Christ. 39 Proph­wydoliaeth Elizabeth a Mair, am Grist. 57 Ge­nedigaeth ac enwaediad Joan. 67 Proph­wydoliaeth Zacharias am Grist, 76 ac Joan,

YN gymmaint a darfod i lawer gy­meryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddiammeu yn ein plith,

2 Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o'r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair;

3 Minneu a welais yn dda, wedi i mi ddil­yn pob peth yn ddyfal o'r dechreuad, scrifennu mewn trefn attat, o ardderchoccaf Theophi­lus,

4 Fel y ceit wybod siccrwydd am y pethau i'th ddyscwyd ynddynt.

5 YR oedd yn nyddiau Herod frenin Judaea, ryw offeiriad a'i enw Zacharias, oGylch­ddydd. ddydd-gylch Abia: a'i wraig oedd o ferched Aaron, a'i henw Elizabeth.

6 Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymmynion a deddfau 'r Arglwydd, yn ddiargyoedd.

7 Ac nid oedd plentyn iddynt, am fôd Elisabeth yn am-mhlantadwy, ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran.

8 A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad ger bron Duw, yn nhrefn eiGylch­ddydd. ddydd­gylch ef,

9 Yn ôl arfer swydd yr offeiriad, ddyfod o ran iddo arogidarthu, yn ôl ei fyned i Deml yr Arglwydd:

10 AExod. 30.7. Leuit. 16.17. holl liaws y bobl oedd allan yn gweddio, ar awr yr arogi-darthiad.

11 Ac ymddangosodd iddo Angel yr Ar­glwydd, yn sefyll o'r tu dehau i allor yr arogl-darth.

12 A Zacharia; pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno.

13 Eithr yr Angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna Zacharias, canys gwrandawyd dy weddi: a'th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Joan.

14 A bydd i ti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef.

15 Canys mawr fydd efe yngolwg yr Ar­glwydd, ac nid ŷf na gwin na diod gadarn, ac efe a gyflawnir o'r Yspryd glân, îe o groth ei fam:

16Malac. 4.6. A llawer o blant Israel a drŷ efe at yr Arglwydd eu Duw.

17 Ac efe â o'i flaen ef yn yspryd a nerth Elias, i droi calonnau y tadau at y plant, a'r anufydd i ddoethineb y cyfiawn: i ddarparu i'r Arglwydd bobl barod.

18 A dywedodd Zacharias wrth yr Angel, Pa fodd y gwybyddafi hyn? canys henaf­gŵr ŵyfi, a'm gwraig hefyd mewn gwth o oedran.

19 A'r Angel gan atteb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll ger bron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthit, acI efang­ylu i ti hyn. i fynegi i ti y newyddionda hyn.

20 Ac wele, ti a fyddi fud, ac heb allu llefaru, hyd y dŷdd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i'm geiriau i, y rhai a gyflaw­nir yn eu hamser.

21 Ac yr oedd y bobl yn disgwil am Za­charias: a rhyfeddu a wnaethant ei fôd ef yn aros cyhyd yn y Deml.

22 A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt: a hwy a wybuant weled o honaw weledigaeth yn y Deml, ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt: ac efe a arhosodd yn fud.

23 A bu, cyn gynted ac y cyflawnwyd dy­ddiau ei weinidogaeth ef, fyned o hono i'w dŷ ei hun.

24 Ac yn ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymgudd­iodd bum mis, gan ddywedyd,

25 Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi, yn y dyddiau 'r edrychodd arnaf, i dynnu ymmaith fy ngwradwydd ym-mhlith dy­nion.

26 Ac yn y chweched mîs, yr anfonwyd yr Angel Gabriel oddiwrth Dduw, i ddinas yn Galilæa, a'i henw Nazareth,

27 At forwyn wedi ei dyweddio i ŵr a'i enw Joseph, o dŷ Ddafydd: ac enw 'r forwyn oedd Mair.

28 A'r Angel a ddaeth i mewn atti, ac a ddywedodd, Hanffych well, yr hon a gefaist râs, yr Arglwydd sydd gyd â thi: bendigaid wyt ym-mhlith gwragedd.

29 A hitheu pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef: a meddylio a wnaeth, pa fath gysarch oedd hwn.

30 A dywedodd yr Angel wrthi, Nac osna, Mair: canys ti a gefaist ffafor gyd â Duw.

31Esa. 7.14. Matth. 1.21. Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a escori ar fâb, ac a elwi ei enw ef Iesu.

32 Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fâb y Goruchaf, ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei Dâd Dafydd.

33Dan. 7.14. Mic. 4.7. Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dra­gywydd, ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd.

34 A Mair a ddywedodd wrth yr Angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i ŵr?

35 A'r Angel a attebodd, ac a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd glan a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchat a'th gyscoda di: am hynny hefyd, y peth sanctaidd a aner o honoti, a elwir yn Fâb Duw.

36 Ac wele, Elisabeth dy gares, y mae hi­thau wedi beichiogi ar fâb yn ei henaint: a hwn yw'r chweched mis iddi hi, yr hon a el­wid yn am-mhlantadwy.

37 Canys gyd â Duw ni bydd dim yn ammhossibl.

38 Adywedodd Mair, Wele wasanaethy­ddes yr Arglwydd, bydded i mi yn ôl dy air di. A'r Angel a aeth ymmaith oddi wrthi hi.

39 A Mair a gyfododd yn y dyddiau hyn­ny, ac a aeth i'r mynydd-dir ar frys, i ddinas o Juda:

40 Ac a aeth i mewn i dŷ Zacharias, ac a gyfarchodd well i Elisabeth.

41 A bû, pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i'r plentyn yn ei chroth hi lammu: ac Elisabeth a lanwyd o'r Yspryd glân.

42 A llefain a wnaeth â llef vchel, a dywe­dyd, Bendigedig wyt ti ym mhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di.

43 Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delti mam fy Arglwydd attafi?

44 Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i'm clustiau, y plentyn a lam­modd o lawenydd yn fy nghroth.

45 A bendigedig yw 'r honNeu, a gredodd y bydd cyfl. a gredodd: canys bydd cyflawniad o'r pethau a ddywet­pwyd wrthi gan yr Arglwydd.

46 A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau yr Arglwydd,

47 A'm hyspryd a lawenychodd yn Nuw fy Jachawdr.

48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid wele, o hyn allan yr holl genhedlaethau a'm geilw yn wynfyde­dig:

49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd, a sanctaidd yw ei enw ef.

50 A'i drugaredd sydd yn oes oesoedd, ar y rhai a'i hofnant ef.

51Esa. 51.9. Efe a wnaeth gadernid â'i fraich:Psal. 33.10. efe a wascarodd y rhai bellchion ym mwriad eu calon.

52 Ese1 Sam. 2.6. a dynnodd i lawr y cedyrn o'u heistedfâu, ac a dderchafodd y rhai isel-radd.

53 YPsal. 34.10. rhai newynog a lanwodd efe â phe­thau da, ac efe a anfonodd ymmaith y rhai goludog yn weigion.

54 Efe a gynnorthwyodd ei wâs Israel,Jere 31.3, 20. gan gofio ei drugaredd,

55Psal. 132.11. Gen. 17.19. Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a'i hâd yn dragywydd.

56 A Mair a arhosodd gyd â hi yngylch tri mis, ac a ddychwelodd i'w thŷ ei hun.

57 A chyflawnwyd tymp Elisabeth i escor, a hi a escorodd ar fab.

58 A'i chymydogion a'i chenedl a glybu fawrhau o'r Arglwydd ei drugaredd arni: a hwy a gyd-lawenychasant â hi.

59 A bu, ar yr wythfed dydd, hwy a ddae­thant i enwaedu ar y dŷn bach, ac a'i galwasant ef Zacharias, ar ôl enw ei dâd.

60 A'i fam a attebodd ac a ddywedodd, Nid felly: eithr Joan y gelwir ef.

61 Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o'th genedl a elwir ar yr enw hwn.

62 A hwy a wnaethant amnaid ar ei dâd ef, pa fodd y mynnei efe ei henwi ef.

63 Yntef a alwodd am argraph-lech, ac a scrifennodd, gan ddywedyd, Joan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll.

64 Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a'i dafod ef, ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw.

65 A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd-dir Judaea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll.

66 A phawb a'r a'u clywsant a'u goso­dasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw 'r Arglwydd oedd gyd ag ef.

67 A'i dâd ef Zacharias a gyflawnwyd o'r Yspryd glân, ac a brophwydodd, gan ddywe­dyd,

68 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Is­rael, canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ym­wared iw bobl:

69 AcPsal. 132.17. efe a dderchafodd gorn iechyd­wriaeth i ni, yn-nhŷ Ddafydd ei wasanaethŵr:

70Jere. 23.6. & 30.10. Megis y llefarodd trwy enau ei sanct­aidd brophwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd,

71 Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o'n cascion:

72 I gwplau y drugaredd â'u tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfammod:

73 YGene. 22.16. llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni,

74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddiofn,

75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl ddyddiau ein bywyd.

76 A thitheu sachgennyn, a elwir yn broph­wyd i'r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef;

77 I roddi gwybodaeth iechydwriaeth i'w bobl, trwy faddeuant o'u pechodau,

78 O herwyddYmysca­roedd. tiriondeb trugaredd ein Duw, trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r ychelder,

79 I lewyrchu i'r rhai sy yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angeu, i gyfeirio ein traed i ffordd tangneddyf.

80 A'r bachgen a gynnyddodd, ac a gryf­hawyd yn yr yspryd, ac a fu yn y diffaethwch hyd y dydd yr ymddangosodd ef i'r Israel.

PEN. II.

1 Augustus yn trethu holl Ymerodraeth Rufain. 6 Genedigaeth Christ. 8 Vn Angel yn ei fyn­egi i'r bugeiliaid, 13 a llawer yn canu moli­ant i Dduw am dano. 21 Enwaedu Christ. 22 Puredigaeth Mair. 28 Simeon ac Anna yn prophwydo am Grist: 40 ac ynteu yn cynyddu mewn doethineb, 46 yn ymresymu â'r Doctor­iaid yn y Deml, 51 ac yn vfydd iw rieni.

BV hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gor­chymmyn allan oddiwrth Augustus Cæsar, i drethu yr holl fyd.

2 (Y trethiad ymma a wnaethpwyd gyntaf, pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria)

3 A phawb a aethant i'w trethu, bôb vn i'w ddinas ei hun.

4 A Joseph hefyd a aeth i fynu o Galilæa o ddinas Nazareth, i Judæa,Joan. 7.42. i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem, (am ei fôd o dŷ a thŷlwyth Dafydd)

5 Iw drethu gŷd â Mair yr hon a ddywe­ddiasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog.

6 A bu, tra 'r oeddynt hwy yno, cyflawn­wyd y dyddiau i escor o honi.

7 A hi a escorodd ar ei mabY cyn­tafane­dig. cyntafanedig, ac a'i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a'i dodes ef yn y preseb: am nad oedd iddynt le yn y lletty.

8 Ac yr oedd yn y wlâd honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwilied eu praidd liw nos.

9 Ac wele, Angel yr Arglwydd a safodd ger llaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddiscleiriodd o'u hamgylch, ac ofni yn ddirfawr a wnaethant.

10 A'r Angel a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch; canys wele yr wyfi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl:

11 Canys ganwyd i chwi heddyw geidwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Christ yr Ar­glwydd.

12 A hyn fydd arwydd i chwi, Chwi a gewch y dŷn bach wedi ei rwymo mewn ca­dachau, a'i ddodi yn y preseb.

13 Ac yn ddisymmwth yr oedd gyd â'r Angel liaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd,

14 Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaiar tangneddyf, i ddynion ewyllys da.

15 A bu, pan aeth yr Angelion ymmaith oddi wrthynt i'r nef, y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Awn hyd Beth­lehem, a gwelwn y peth hyn a wnaethpwyd, yr hwn a yspysodd yr Arglwydd i ni.

16 A hwy a ddaethant ar frys, ac a gaw­sant Mair a Joseph, a'r dŷn bach yn gorwedd yn y preseb.

17 A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn.

18 A phawb a'r a'u clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt.

19 Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon.

20 A'r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw, am yr holl be­thau a glywsent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt.

21 AGene. 17.12. phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dŷn bach,Matth. 1.21. galwyd ei enw ef Iesu, yr hwn a henwasid gan yr Angel, cyn ei ymddwyn ef yn y groth.

22 Ac wedi cyflawni dyddiau ei phure­digaeth hi, yn ôl deddf Moses, hwy a'i dyga­sant ef i Jerusalem, iwBre­sentio. gyflwyno i'r Ar­glwydd,

23 (Fel yr scrifennwyd yn neddf yr Ar­glwydd,Exod. 13.2. Num. 18.15. Pob gwr-rywYn agor­yd y groth. cyntaf-anedig, a elwir yn sanctaidd i'r Arglwydd)

24 Ac i roddi aberth, yn ôl yr hyn a ddy­wetpwydLeuit. 12.2, 6. yn neddf yr Arglwydd, pâr o dur­turod, neu ddau gyw colommen.

25 Ac wele, yr oedd gŵr yn Jerusalem, a'i enw Simeon, a'r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a'r Yspryd glân oedd arno.

26 Ac yr oedd wedi ei yspyfu iddo gan yr Yspryd glân, na welai efe angeu, cyn iddo we­led Christ yr Arglwydd.

27 Ac efe a ddaeth trwy 'r Yspryd i'r Deml: a phan ddûg ei rieni y dŷn bach Iesu, i wneuthur trosto yn ôl defod y gyfraith;

28 Yna efe a'i cymmerth ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd,

29 Yr awrhon Arglwydd, y gollyngi dy wâs mewn tangneddyf, yn ôl dy air:

30 Canys fy llygaid a welsant dy iechyd­wriaeth,

31 Yr hon a baratoaist ger bron wyneb yr holl bobloedd:

32 Goleuni i oleuo y cenhedloedd, a gogon­iant dy bobl Israel.

33 Ac yr oedd Joseph a'i fam ef, yn rhy­feddu am y pethau a ddywedwyd am dano ef.

34 A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Fair ei fam ef, Wele, hwn a osodwydEsa. 2.14. Rhuf. 9.32. yn gwymp, ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn:

35 (A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf) fel y datcuddier meddyliau llawer o galonnau.

36 Ac yr oedd Anna brophwydes, merch Phanuel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyd â gŵr saith mlynedd, o'i morwyndod:

37 Ac a fuasai yn weddw yngylch pedair a phedwar vgain mhlynedd, yr hon nid ai allan o'r Deml, ond gwasanaethu Duw mewn ym­prydiau, a gweddiau, ddydd a nôs.

38 A hon hefyd yn yr awr honno, gan se­fyll ger llaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd am dano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwil ymwared yn Jerusalem.

39 Ac wedi iddynt orphen pôb peth, yn ôl deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilæa, i'w dinas eu hun Nazareth.

40 A'r bachgen a gynnyddodd, ac a gryf­haodd yn yr Yspryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.

41 A'i rieni ef a aent i JerusalemDeut. 16.1. bôb blwyddyn, ar ŵyl y Pasc.

42 A phan oedd efe yn ddeuddeng-mlwydd oed, hwynt hwy a aethant i fynu i Jerusalem, yn ôl defod yr ŵyl.

43 Ac wedi gorphen y dyddiau, a hwy yn [Page] dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Je­rusalem, ac ni wyddai Joseph a'i fam ef.

44 Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod, ac a'i ceisiasant ef ym-mhlith eu cenhedl a'i cydnabod.

45 A phryd na chawsant ef, hwy a ddych­welasant i Jerusalem, gan ei geisio ef.

46 A bu, yn ôl tri-diau, gael o honynt hwy ef yn y Deml, yn eistedd ynghanol y doctor­iaid, yn gwrando arnynt, ac yn ei holi hwynt.

47 A synnu a wnaeth ar bawb a'r a'i clyw­sant ef, o herwydd ei ddeall ef a'i attebion.

48 A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt: a'i fam a ddywedodd wrtho, Fy mâb, pa ham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dâd a minneu yn ofidus a'th geisiasom di.

49 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham y ceisiech fi? oni ŵyddech fôd yn rhaid i mi fôd ynghylch y pethau a berth yn i'm Tâd?

50 A hwy ni ddeallasant y gair a ddywe­dasei efe wrthynt.

51 Ac efe a aeth i wared gyd â hwynt, ac a ddaeth i Nazareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A'i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon.

52 A'r Iesu a gynnyddodd mewn doethineb, a chorpholaeth, a ffafor gyd â Duw a dynion.

PEN. III.

1 Pregeth a bedydd Ioan: 15 a'i dystiolaeth ef am Grist. 20 Herod yn carcharu Ioan. 21 Christ wedi ei fedyddio yn derbyn tystio­laeth o'r nef. 23 Oedran ac achau Christ, o Joseph i fynu.

YN y bymthegfed flwyddyn o ymmerod­raeth Tiberius Cæsar, a Phontius Pilat yn rhag-law Judæa, a Herod yn detrarch Galilæa, a'i frawd Philip yn detrarch Ituræa, a gwlad Trachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene,

2 Tan yr Arch-offeiriaid Annas a Chaiaphas, y daeth gair Duw at Ioan fab Zacharias, yn y diffaethwch.

3Matth. 3.1. Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch, er maddeuant pechodau:

4 Fel y mae yn scrifennedig yn llyfr ymad­roddion Esaias y prophwyd, yr hwn sydd yn dywedyd,Esa. 40.3. Llef vn yn llefain yn y diffae­thwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn vniawn.

5 Pôb pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a'r gŵyt-geimion a wneir yn vn­iawn, a'r geirwon yn ffyrdd gwastad.

6 A phob cnawd a wêl iechydwriaeth Duw.

7 Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl­oedd yn dyfod i'w bedyddio ganddo,Matth. 5.7. O gen­hedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhagrybuddiodd chwi, i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod?

8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch, ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dâd: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o'r cerrig hyn godi plant i Ab­raham.

9 Ac yr awrhon y mae'r fwyall wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a'r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymmynir i lawr, ac a fwrir yn tân.

10 A'r bobloedd a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hynny a wnawn ni?

11 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrth­ynt,Jac. 2.15. 1 Ioan. 3.17. Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i'r neb sydd heb yr vn: a'r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr vn modd.

12 A'r publicanod hefyd a ddaethant i'w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athro, beth a wnawn ni?

13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.

14 A'r milwŷr hefyd a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch ar neb, a byddwch fodlon i'ch cyflogau.

15 Ac fel yr oedd y bobl yn disgwil, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan, ai efe oedd y Christ;

16 Ioan a attebodd, gan ddywedyd wrth­ynt oll,Matth. 3.11. Myfi yn ddiau ŵyf yn eich bedyddio chwi â dwfr, ond y mae vn cryfach nâ myfi yn dyfod, yr hwn nid ŵyfi deilwng i ddattod carrei ei escidiau, efe a'ch bedyddia chwi â'r Yspryd glân, ac â thân.

17 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lŵyr-lanhâ ei lawr dyrnu, ac a gascl y gwcnith i'w yscubor, ond yr vs a lŷsc efe â thân anniffoddadwy.

18 A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i'r bobl.

19Matth. 14.3. Ond Herod y tetrarch, pan gerydd­wyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod,

20 A chwanegodd hyn hefyd, heb law 'r cwbl, ac a gaeodd ar Ioan yn y carchar.

21Matth. 3.13. A bu, pan oeddid yn bedyddio yr holl bobl, a'r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddio, agoryd y nef:

22 A descyn o'r yspryd glân mewn rhith corphorawl, megis colommen, arno ef: a dy­fod llef o'r nef, yn dywedyd, Ti yw fy anwyl Fab, ynot ti i'm bodlonwyd.

23 A'r Iesu ei hun oedd ynghylch dechreu ei ddeng-mlwydd ar hugein oed, mab (fel y tybid) i Joseph fab Eli,

24 Fab Matthat, fab Lefi, fab Melchi, fab Janna, fab Joseph,

25 Fab Mattathias, fab Amos, fab Naum, fab Esli, fab Naggai,

26 Fab Maatn, fab Mattathias, fab Semei, fab Joseph, fab Juda,

27 Fab Joanna, fab Rhesa, fab Zorobabel, fab Salathiel, fab Neri,

28 Fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab El­modam, fab Er,

29 Fab Jose, fab Eliezer, fab Jorim, fab Mat­that, fab Lefi,

30 Fab Simeon, fab Juda, fab Joseph, fab Jonan, fab Eliacim,

31 Fab Melea, fab Mainan, fab Mattatha, fab Nathan, fab Dafydd,

32 Fab Jesse, fab Obed, fab Booz, fab Sal­mon, fab Naasson,

33 Fab Aminadab, fab Aram, fab Esrom, fab Phares, fab Juda,

34 Fab Jacob, fab Isaac, fab Abraham, fab Thara, fab Nachor,

35 Fab Saruch, fab Ragau, fab Phalec, fab Heber, fab Sala,

36 Fab Cainan, fab Arphaxad, fab Sem, fab Noe, fab Lamech,

37 Fab Mathusala, fab Enoch, fab Jared, fab Maleleel, fab Cainan,

38 Fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw.

PEN. IIII.

1 Temtiad, ac ympryd Christ. 13 Y mae efe yn gorchfygu y cythrael: 14 Yn dechreu pre­gethu: 16 Pobl Nazareth yn rhyfeddu am ei eiriau grasusol ef: 33 y mae efe yn iachau vn cythreulig, 38 a mam gwraig Petr, 40 a llawer o gleifion eraill. 41 Y cythreuliaid yn cydnabod Christ, ac yn cael cerydd am hynny. 43 Y mae ef yn pregethu trwy y dinasoedd.

A'RMatth. 4.1. Iesu yn llawn o'r Yspryd glân, a ddych­welodd oddi wrth yr lorddonen, ac a ar­weinwyd gan yr Yspryd i'r anialwch,

2 Yn cael ei demtio gan ddiafol ddeugain nhiwrnod; ac ni fwyttaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny: ac wedi eu diweddu hwynt, yn ôl hynny y daeth arno chwant bwyd.

3 A dywedodd diafol wrtho, Os mab Duw ydwyti, dywed wrth y garreg hon, fel y gwne­ler hi yn fara.

4 A'r Iesu a attebodd iddo, gan ddywedyd, Scrifennedig yw, nad ar fara yn vnic y bydd dŷn fyw, ond ar bôb gair Duw.

5 A diafol wedi ei gymmeryd ef i fynu i fynydd vchel, a ddangosodd iddo holl deyrnas­oedd y ddaiar mewn munyd awr.

6 A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rho­ddaf yr awdurdod hon oll, a'u gogoniant hwynt, canys i mi y rhoddwyd, ac i bwy byn­nag y mynnwyf, y rhoddaf finneu hi.

7 Os tydi gan hynny a addoli o'm blaen, eiddo ti fyddant oll.

8 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith Satan yn fy ôl i: canys scrifennedig yw, Addoli yr Arglwydd dy Dduw, ac ef yn vnic a wasanaethi.

9 Ac efe a'i dug ef i Jerusalem, ac a'i goso­des ar binacl y Deml, ac a ddywedodd wrtho, Os mâb Duw ydwyt, bwrw dy han i lawr oddi ymma.

10 Canys scrifennedig yw, Y gorchymmyn efe i'w Angelion o'th achos di, ar dy gadw di:

11 Ac y cyfodant di yn eu dwylo, rhag i ti vn amser daro dy droed wrth garreg.

12 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedpwyd, Na themptia 'r Arglwydd dy Dduw.

13 Ac wedi i ddiafol orphen yr holl dem­tasiwn, efe a ymadawodd ag efHyd amser cyfaddas. tros amser.

14 A'r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr Yspryd i Galilæa: a sôn a aeth am dano ef trwy 'r holl fro oddi amgylch.

15 Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu Synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.

16 Ac efe a ddaeth iMatth. 13.54. Nazareth, lle y ma­gesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i'r Syna­gog ar y Sabbath, ac a gyfododd i fynu i ddar­llein.

17 A rhodded atto lyfr y prophwyd Esaias: ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn scrifennedig,

18Esa. 61.1. Yspryd yr Arglwydd arnafi,O her­wydd pa ham i'm eneinlodd. o her­wydd iddo fy eneinio i: i bregethu i'r tlodion yr anfonodd fi, i iachau y drylliedig o galon; i bregethu gollyngdod i'r caethion, a chaffael­iad golwg i'r deillion, i ollwng y rhai yssig mewn rhydd-deb,

19 I bregethu blwyddyn gymmeradwy 'r Arglwydd.

20 Ac wedi iddo gau 'r llyfr, a'i roddi i'r gweinidog, efe a eisteddodd: a llygaid pawb oll yn y Synagog oedd yn craffu arno.

21 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrth­ynt, Heddyw y cyflawnwyd yr Scrythur hon yn eich clustiau chwi.

22 Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grafusol a ddae allan o'i enau ef, a hwy a ddy­wedasant, Onid hwn yw mab Joseph?

23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, yn holl­awl y dywedwch y ddihareb hon wrthif, Y meddyg, iachâ di dy hun: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yn Capernaum, gwna ymma hefyd yn dy wlâd dy hun.

24 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi,Matth. 13.57. nad yw vn prophwyd yn gymmera­dwy yn ei wlâd ei hun.

25 Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi,1 Bren. 17.9. llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Elias, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy 'r holl dir:

26 Ac nid at yr vn o honynt yr anfonwyd Elias, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig we­ddw.

27 A2 Bren. 5.14. llawer o wahan-gleifion oedd yn Is­rael yn amser Elisaeus y prophwyd, ac ni lan­hawyd yr vn o honynt, ond Naaman y Syriad.

28 A'r rhai oll yn y Synagog, wrth glywed y pethau hyn, a lanwyd o ddigofaint,

29 Ac a godasant i fynu, ac a'i bwriasant ef allan o'r ddinas, ac a'i dygasant ef hyd ar ael y bryn, yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendra­mwnwgl i lawr.

30 Ond efe, gan fyned drwy eu canol hwynt, a aeth ymmaith:

31 Ac a ddaeth i wared i Capernaum, dinas yn Galilæa: ac yr oedd yn eu dyscu hwynt ar y dyddiau Sabbath.

32 A bu aruthr ganddynt wrth ei athraw­iaeth ef,Matth. 7.29. canys ei ymadrodd ef oedd gyd ag awdurdod.

33Marc. 1.23. Ac yn y Synagog yr oedd dŷn a chan­ddo yspryd cythrael aflan, ac efe a waeddodd â llêf vchel,

34 Gan ddywedyd,Paid. Och, beth sydd i ni a wnelom a thi, Iesu o Nazareth? a ddaethost ti i'n difetha ni? myfi a'th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw.

35 A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywe­dyd, Distawa, a dôs allan o honaw. A'r cyth­rael, wedi ei daflu ef i'r canol, a aeth allan o honaw, heb wneuthur dim niwed iddo.

36 A daeth braw arnynt oll: a chŷd-ym­ddiddanasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Pa ymadrodd yw hwn, gan ei fôd ef trwy aw­durdod a nerth yn gorchymmyn yr ysprydion aflan, a hwythau yn myned allan?

37 A sôn am dano aeth allan i bôb man ô'r wlâd oddi amgylch.

38Matth. 8.14. A phan gyfododd yr Iesu o'r Syna­gog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon: ac yr oeddMam ei wraig [...]f. chwegr Simon yn glâf o grŷd blîn: a hwy a attolygasant arno trosti hi.

39 Ac efe a safodd vwch ei phen hi, ac a geryddodd y crŷd: a'r crŷd a'i gadawodd hi, ac yn y fan hi a gyfodes, ac a wasanaethodd arnynt hwy,

40 A phan fachludodd yr haul, pawb a'r oedd ganddynt rai cleifion, o amryw glefydau, a'u dygasant hwy atto ef: ac efe a roddes ei ddwylo ar bob vn o honynt, ac a'u hiachaodd hwynt.

41Mar. 1.34. A'r cythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer, dan lefain a dywedyd, Ti yw Christ Mab Duw. Ac efe a'u ceryddodd hwynt, ac ni adawai iddynt ddywedydNeu, canys gwyddent. y gwyddent mai efe oedd y Christ.

42 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, efe a aeth allan, ac a gychwynnodd i le diffaeth, a'r bobloedd a'i ceisiasant ef, a hwy a ddaethant hyd atto, ac a'i hattaliasant ef rhag myned ymmaith oddi wrthynt.

43 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd: canys i hyn i'm dan­fonwyd.

44 Ac yr oedd efe yn pregethu yn Syna­gogau Galilæa.

PEN. V.

1 Christ yn dyscu y bobl allan o long Petr: 4 Trwy helfa ryfeddol o byscod, yn dangos pa fodd y gwnai efe ef a'i gyfeillion yn byscodwyr dynion: 12 yn glanhau y gwahan-glwyfus: 16 yn gweddio yn y diffaethwch: 18 yn iachau vn claf o'r parlys: 27 yn galw Matthew y Pub­lican: 29 Megis Physygwr eneidiau yn bwytta gydâ phechaduriaid: 34 Yn rhag-fynegi ym­prydiau a chystuddiau i'r Apostolion, ar ôl ei dderchafiad ef: 36 ac yn cyffelybu discyblion llwrf gweniaid, i gostrelau hên, a dillad wedi treulio.

BVMatth. 4.18. hefyd a'r bobl yn pwyso atto i wrando gair Duw, yr oedd yntef yn sefyll yn ymyl llyn Genesareth;

2 Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a'r pyscod-wyr a aethent allan o hon­ynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau.

3 Ac efe a aeth i mewn i vn o'r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tîr: ac efe a eisteddodd, ac a ddyscodd y bobloedd allan o'r llong.

4 A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywe­dodd wrth Simon, Gwthia i'r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa.

5 A Simon a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, O feistr, er i ni boeni ar hŷd y nôs, ni ddaliasom ni ddim: etto ar dy air di, mi a fwriaf y rhwyd.

6 Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o byscod: a'u rhwyd hwynt a rwygodd.

7 A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion oedd yn y llong arall, i ddyfod iw cynnorthwyo hwynt: a hwy a ddaethant, a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar foddi.

8 A Simon Petr pan welodd hynny, a syr­thiodd wrth liniau 'r Iesu, gan ddywedyd, Dôs ymmaith oddi wrthif, canys dŷn pechadurus wyfi, o Arglwydd.

9 O blegid braw a ddaethei arno ef, a'r rhai oll oedd gyd ag ef, o herwydd yr helfa byscod a ddaliasent hwy:

10 A'r vn ffunyd ar Iaco ac Ioan hefyd, meibion Zebedaeus, y rhai oedd gyfrannogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion.

11 Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a'i dilynasant ef.

12 AMatth. 8.2. bu fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o'r gwahan-glwyf: a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywe­dyd, O Arglwydd, os ewyllyssi, ti a elli fyng­lânhau.

13 Yntef a estynnodd ei law, ac a gyffyrdd­odd ag ef, gan ddywedyd, yr ŵyf yn ewyllyssio, bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahan-glwyf a aeth ymmaith oddi wrtho.

14 Ac efe a orchymmynnodd iddo na ddy­wedei i neb: eithr dôs ymmaith a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrwm tros dy lanhâd, fel y gorchymmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.

15 A'r gair am dano a aeth yn fwy ar lêd: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghŷd i'w wrando ef, ac iw hiachau ganddo o'u clefydau.

16 Ac yr oedd efe yn cilio o'r nailltu yn y diffaethwch, ac yn gweddio.

17 A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fôd Pharisæaid, a Doctor­iaid y gyfraith, yn eistedd yno, y rhai a ddae­thent o bôb pentref yn Galilæa, a Judæa, a Jerusalem: ac yr oedd gallu yr Arglwydd i'w hiachau hwynt.

18Matth. 9.2. Ac wele wŷr yn dŵyn mewn gwely ddŷn a oedd glaf o'r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a'i ddodi ger ei fron ef.

19 A phan na fedrent gael pa ffordd y dy­gent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddring­asant ar nen y tŷ, ac a'i gollyngasant ef i wared yn y gwely, trwy y pridd-lechau, yn y canol, ger bron y Iesu.

20 A phan welodd efe ei ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dŷn, maddeuwyd i ti dy bechodau.

21 A'r Scrifennyddion a'r Pharisæaid a ddechreuasant ymresymmu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddeu pechodau ond Duw yn vnig?

22 A'r Iesu yn gwybod euMeddy­liau. hymresymmia­dau hwynt, a attebodd ac a ddywedodd wrth­ynt, Pa resymmu yn eich calonnau yr ydych?

23 Pa vn hawsaf, a'i dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau, ai dywedyd, Cyfod a rhodia?

24 Ond fel y gwypoch fôd gan Fab y dŷn awdurdod ar y ddaiar i faddeu pechodau, (eb efe wrth y claf o'r parlys) Yr ŵyf yn dywe­dyd wrthit, Cyfod, a chymmer dy wely, a dôs i'th dŷ.

25 Ac yn y man y cyfodes efe i fynu yn eu gwydd hwynt, ac efe a gymmerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymmaith i'w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.

26 A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddyw.

27Matth. 9.9. Ac yn ôl y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd Bublican a'i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa, ac efe a ddywedodd wrtho, Dilyn fi.

28 Ac efe a adawodd bôb peth, ac a gyfo­des i fynu, ac a'i dilynodd ef.

29 A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ: ac yr oedd tyrfa fawr o Bublicanod, ac eraill, yn eistedd gyd â hwynt ar y bwrdd.

30 Eithr eu Scrifennyddion a'u Pharisæaid hwynt a furmurasant yn erbyn ei ddiscyblion ef, gan ddywedyd, Pa ham yr ydych chwi yn bwytta ac yn yfed gyd â Phublicanod a phecha­duriaid?

31 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion.

32 Ni ddaethym i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch.

33Matth. 9.14. A hwy a ddywedasant wrtho, Pa ham y mae discyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddiau, a'r vn modd yr eiddo y Pharisæaid; ond yr eiddo ti yn bwytta ac yn yfed?

34 Yntef a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo 'r priodas-fab gyd â hwynt?

35 Ond y dyddiau a ddaw pan ddyger y priodas-fâb oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.

36 Ac efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt, Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hên ddilledyn: os amgen, y mae y newydd yn gwneuthur rhwygiad, a'r llain o'r newydd ni chydûna â'r hên.

37 Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hên gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia 'r costrelau, ac efe a rêd allan, a'r cost­relau a gollir.

38 Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau newyddion; a'r ddau a gedwir.

39 Ac nid oes neb gwedi iddo yfed gwin hên, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw 'r hên.

PEN. VI.

1 Christ yn argyoeddi dallineb y Pharisæaid yng­hylch cadw y Sabboth, trwy Scrythyrau, a rhe­swm, a gwrthiau: 13 yn dewis deuddec Apostl, 17 Yn iachau y cleifion: 20 a cher bron y bobl, yn pregethu iw ddiscyblion fendithion a melltithion. 27 Pa fodd y mae i ni garu ein gelynion: 46 achysylltu vfydd-dod gweith­redoedd dâ ynghyd a gwrandaw y gair; rhag yn nryg-ddydd profedigaeth, ini syrthio fel tŷ wedi ei adeiladu ar wyneb y ddaiar, heb ddim sylfaen.

AMath. 12.1. Bu ar yr ail prif Sabbath, fyned o ho­naw trwy 'r ŷd: a'r discyblion a dynna­sant y tywys, ac a'u bwyttasant, gwedi eu rhwb­io â'u dwylo.

2 A rhai o'r Pharisæaid a ddywedasant wrth­ynt, Pa ham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y Sabbathau?

3 A'r Iesu gan atteb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllennasoch hyn ychwaith, yr hyn a wnaeth Dafydd pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gydag ef?

4 Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y cymmerth, ac y bwyttaodd yTorthau dangos. bara go­sod, ac a'i rhoddes hefyd i'r rhai oedd gyd ag ef:Y rhai. yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwytta, ond i'r offeiriaid yn vnig?

5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, y mae Mab y dŷn yn Arglwydd ar y Sabbath hefyd.

6Matth. 12.9. A bu hefyd ar Sabbath arall, iddo fyned i mewn i'r Synagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddŷn, a'i law ddehauIn ddi­ffrwyth. wedi gwywo.

7 A'r Scrifennyddion a'r PharisæaidA dda­liasant arno. a'i gwiliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Sabbath: fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef.

8 Eithr efe a ŵybu eu meddyliau hwynt, ac a ddywedodd wrth y dŷn oedd â'r llawDdi­ffrwyth. wedi gwywo, Cyfod i fynu, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fynu, ac a safodd.

9 Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynnaf i chwi, Beth sydd gyfreith­lon ar y Sabbathau; gwneuthur da, ynteu gwneuthur drwg? cadw enioes, a'i colli?

10 Ac wedi edrych arnynt oll oddi am­gylch, efe a ddywedodd wrth y dŷn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.

11 A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i'r Iesu.

12 A bu yn y dyddiau hynny, fyned o honaw ef allan i'r mynydd i weddio; a phar­hau ar hŷd y nôsGr. mewn gweddi ar Dduw. yn gweddio Duw.

13 A phan aeth hi yn ddydd, efe a al­wodd atto ei ddiscyblion: acMatth. 10.1. o honynt efe a etholes ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn Apostolion:

14 Simon, (yr hwn hefyd a henwodd efe Petr) ac Andraeas ei frawd, Iaco ac Ioan, Phi­lip a Bartholomeus,

15 Matthew a Thomas, Iaco fab Alphaeus, a Simon a elwir Zelôtes,

16 JudasJude. 1. brawd Iaco, a Judas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.

17 Ac efe a aeth i wared gyd â hwynt, ac a safodd mewn gwastattir: a'r dyrfa o'i ddis­cyblion, a lliaws mawr o bobl, o holl Judaea a Jerusalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaethIw gly­wed ef. i wrando arno, ac i'w hiachau o'u clefydau:

18 A'r rhai a flinid gan ysprydion aflan; a hwy a iachawyd.

19 A'r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef: am fôd nerth yn myned o honaw allan, ac yn iachau pawb.

20 Ac efe a dderchafodd ei olygon ar ei ddiscyblion, ac a ddywedodd,Matth. 5.3. Gwyn eich bŷd y tlodion: canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw.

21 Gwyn eich bŷd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awrhon, canys chwi a ddigonir. Gwyn eich bŷd y rhai ydych yn wylo yr awrhon, canys chwi a chwerddwch.

22 Gwyn eich bŷd pan i'ch casâo dynion, a phan i'ch didolant oddi wrthynt, ac i'ch gwradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg,O achos. er mwyn Mab y dŷn.

23 Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llem­mwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr vn ffunyd y gwnaeth eu tadau hwynt i'r Prophwydi.

24Amos. 6.1. Eithr gwae chwi 'r cyfoethogion, ca­nys derbyniasoch eich diddanwch.

25Esai. 65.13. Gwae chwi y rhai llawn: canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awrhon: canys chwi a alerwch, ac a ŵylwch.

26 Gwae chwi pan ddywedo pob dŷn yn dda am danoch: canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i'r gau brophwydi.

27Matth. 5.44. Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi, y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion, gwnewch dda i'r rhai a'ch casant:

28 Bendithiwch y rhai a'ch melldithiant: a gweddiwch tros y rhai a'ch drygant.

29Matth. 5.30. Ac i'r hwn a'th darawo ar y naill gern, cynnyg y llall hefyd:1 Cor. 6.7 ac i'r hwn a ddy­go ymmaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd.

30 A dyro i bob vn a geisio gennit; a chan y neb a fyddo yn dwyn yr eiddot, na chais eilchwel.

31Matth. 7.12. Ac fel y mynnech wneuthur o ddyn­ion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr vn ffunyd.

32Matth. 5.46. Ac os cerwch y rhai a'ch carant chwi­thau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru y rhai a'u câr hwythau.

33 Ac os gwnewch dda i'r rhai a wnânt dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oble­gid y mae 'r pechaduriaid hefyd yn gwneu­thur yr vn peth.

34Matth. 5.42. Ac os rhoddwch echwyn i'r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau gan­ddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae 'r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb.

35 Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a'ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i'r Goruchaf: canys daionus yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.

36 Byddwch gan hynny drugarogion, me­gis ac y mae eich Tâd yn drugarog.

37 AcMatth. 7.1. na fernwch, ac ni'ch bernir: na chondemnwch, ac ni'ch condemnir: maddeu­wch, a maddeuir i chwithau:

38 Rhoddwch, a rhoddir i chwi: mesur da, dwysedig, ac wedi ei escwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys â'r vn mesur ac y mesuroch, y mesurir i chwi dra­chefn.

39 Ac efe a ddywedodd ddammeg wrth­ynt,Matth. 15.14. A ddichon y dall dwyso 'r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd?

40Matth. 10.24. Nid yw 'r discybl vwch law ei athro: eithr pob vnNeu, a fydd perffaith fel &c. perffaith a fydd fel ei athro.

41Matth. 7.3. A pha ham yr wyti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?

42 Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gâd i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o'th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dyn­nu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd.

43 CanysMatth. 7.16. nid yw pren da, yn dwyn ffrwyth drwg: na phren drwg yn dwyn ffrwyth da.

44 Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casclant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawn-win.

45 Y dŷn da o ddaionus dryssor ei galon, a ddwg allan ddaioni: a'r dŷn drwg o ddryg­ionus dryssor ei galon, a ddwg allan ddryg­ioni: canys o helaethrwydd y galon y mae ei eneu yn llefaru.

46Matth. 7.21. P [...] ham hefyd yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd?

47 Pwy bynnag a ddêl attafi, ac a wrendy fy ngeiriau, ac a'u gwnelo hwynt, mi a ddang­osaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb.

48 Cyffelyb yw i ddŷn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sail ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y llif-ddyfroedd a gurodd ar y tŷ hwnnw, ac ni allai ei siglo: canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig.

49 Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, cy­ffelyb yw i ddŷn a adeiladai dŷ ar y ddaiar, heb sail; ar yr hwn y curodd y llif-ddyfroedd, ac yn y fan y syrthiodd, a chwymp y tŷ hwn­nw oedd fawr.

PEN. VII.

1 Christ yn caffael mwy o ffydd yn y Canwr­iad, vn o'r cenhedloedd, nag yn yr vn o'r Iuddewon: 10 yn iachau ei wâs ef yn ei absen: 11 yn cyfodi o farw i fyw fab y wraig weddw o Nain: 19 Yn atteb cennadon Ioan, trwy ddangos ei wrthiau: 24 yn tystiolaethu i'r bobl ei feddwl am Ioan: 30 yn bwrw bai ar yr Iddewon, y rhai ni ellid ei hynnill na thrwy ymarweddiad Ioan, na'r eiddo 'r Iesu: 36 ac yn dangos trwy achlysyr Mair Magda­len, pa fodd y mae efe yn gyfaill i bechadur­iaid, nid iw maentumio mewn pechodau, ond i faddeu iddynt eu pechodau, ar eu ffydd a'i he­difeirwch.

AC wedi iddo orphen ei holl ymadroddion, lle y clywei y bobl,Matth. 8.5. efe a aeth i mewn i Capernaum.

2 A gwâs rhyw Ganwriad, yr hwn oedd anwyl ganddo, oedd yn ddrwg ei hwyl, ym mron marw.

3 A phan glybu efe sôn am yr Iesu, efe a ddanfonodd atto henuriaid yr Iddewon, gan attolwg iddo ddyfod ac iachau ei wâs ef.

4 Y rhai pan ddaethant at yr Iesu, a atto­lygasant arno yn daer, gan ddywedyd, oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur o honot hyn iddo.

5 Canys y mae yn caru ein cenedl ni, ac efe a adeiladodd i ni Synagog.

6 A'r Iesu a aeth gyd â hwynt. Ac efe weithian heb fôd neppell oddi wrth y tŷ, y Canwriad a anfonodd gyfeillion atto, gan ddy­wedyd wrtho, Arglwydd, na phoena, canys nid wyfi deilwng i ddyfod o honot tan fy nghrong­lwyd.

7 O herwydd pa ham ni'm tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod attat: eithr dywed y gair, ac iach fydd fy ngwâs.

8 Canys dŷn wyf finneu wedi fy ngosod tan awdurdod, a chennif filwŷr tanaf, ac meddaf wrth hwn, dôs, ac efe a â: ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw: ac wrth fy ngwâs, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.

9 Pan glybu 'r Iesu y pethau hyn, efe a ry­feddodd wrtho, ac a drôdd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn, yr ydwyf yn dywedyd i chwi, ni chefais gymmaint ffydd, na ddo yn yr Israel.

10 A'r rhai a anfonasid, wedi iddynt ddy­chwelyd i'r tŷ, a gawsant y gwâs a suasei glâf, yn holliach.

11 A bu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain: a chyd ag ef yr aethBagad. llawer o'i ddiscyblion, a thyrfa fawr.

12 A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele vn marw a ddygid allan, yr hwn oedd vnig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyd â hi.

13 A'r Arglwydd pan y gwelodd hi, a gymmerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wŷla.

14 A phan ddaeth attynt, efe a gyffyrddodd â'r elor: (a'r rhai oedd yn ei dwyn a safasant) ac efe a ddywedodd, Y mab ieuangc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod.

15 A'r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru: ac efe a'i rhoddes i'w fam.

16 Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, prophwyd mawr a gyfododd yn ein plith; ac Ymwelodd Duw a'i bobl.

17 A'r gair hwn a aeth allan am dano drwy holl Iudæa, a thrwy gwbl o'r wlâd oddi amgylch.

18 A'iMatth. 11.2. ddiscyblion a fynegasant i Ioan hyn oll.

19 Ac Ioan wedi galw rhyw ddau o'i ddis­cyblion atto, a anfonodd at yr Iesu, gan ddy­wedyd, A'i ti yw 'r hwn sy'n dyfod, ai vn arall yr ŷm yn ei ddisgwil?

20 A'r gwyr pan ddaethant atto, a ddywe­dasant, Ioan Fedyddiwr a'n danfonodd ni attat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw'r hwn sy'n dyfod, ai arall yr ŷm yn ei ddisgwil?

21 A'r awr honno efe a iachâodd lawer oddi wrth glefydau, a phlaau, ac ysprydion drwg: ac i lawer o ddeillion y rhodles efe eu golwg.

22 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch, ac a glywsoch; fôd y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwa­han-glwyfus wedi eu glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr Efengyl.

23 A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynofi.

24 Ac wedi i gennadau Ioan fyned ym­maith, efe a ddechrenodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Beth yr aethoch allan i'r diffaethwch iw weled? Ai corsen yn siglo gan wynt?

25 Ond pa beth yr aethoch allan i'w weled? Ai dŷn wedi ei ddilladu â dillad esmwyth? wele, y rhai sy yn arfer dillad anrhydeddus a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent.

26 Eithr beth yr aethoch allan i'w weled? Ai prophwyd? yn ddiau meddaf i chwi, a llawer mwy nâ phrophwyd.

27 Hwn yw efe am yr vn yr scrifennwyd, Wele, yr wyfi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o'th flaen.

28 Canys meddaf i chwi, ym mhlith y rhai a aned o wragedd nid oes brophwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef.

29 A'r holl bobl a'r oedd yn gwrando, a'r Publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan.

30 Eithr y Pharisæaid a'r cyfreith-wŷr,Neu, ynddynt eu hu­nain. yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.

31 A dywedodd yr Arglwydd, IMatth. 11.16. bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg?

32 Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth ei gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawn­siasoch: cwynfanasom i chwi, ac nid wy­lasoch.

33 Canys daeth Ioan Fedyddiwr, heb na bwytta bara, nac yfed gwin: a chwi a ddywe­dwch, Y mae cythrael ganddo.

34 Daeth Mâb y dŷn yn bwytta ac yn yfed, ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddŷn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill Publicanod a phechadur­iaid.

35 A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawb o'i phlant.

36Marc. 14.3. Ac vn o'r Pharisæaid a ddymunodd arno fwytta gyd ag ef: ac yntef a aeth i dŷ 'r Pharisæad, ac a eisteddodd i fwytta.

37 Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fôd yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ 'r Pharisæad, a ddug flwch o ennaint:

38 A chan sefyll wrth ei draed ef o'r tu ôl, ac ŵylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a'u hirodd â'r en­naint.

39 A phan welodd y Pharisæad, yr hwn a'i gwahoddasai efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pe bai hwn brophwyd, efe a wybasei pwy, a pha fath wraig yw 'r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi.

40 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennit beth i'w ddywedyd wrthit. Yntef a ddywedodd, Athro, dywed.

41 Dau ddyledwr oedd i'r vn echwynwr: y naill oedd arno bum can ceiniog o ddylêd, a'r llall, ddêg a deugain.

42 A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efo a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o'r rhai hyn a'i câr ef yn fwyaf?

43 A Simon a attebodd ac a ddywedodd, Yr wyfi yn tybied mai 'r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntef a ddywedodd wrtho, Vniawn y bernaist.

44 Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddywe­dodd wrth Simon, A weli di y wraig hon? mi a ddaethym i'th dŷ di, ac ni roddaist i mi ddwfr i'm traed: ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen.

45 Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddaethym i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed.

46 Fy mhen ag olew nid iraist: ond hon a irodd fy nhraed ag ennaint.

47 O herwydd pa ham, y dywedaf wrthit, maddeuwyd ei haml bechodau hi; oblegid hi a garodd yn fawr: ond y neb y maddeuer ychydig iddo, a gâr ychydig.

48 Ac efe a ddywedodd wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau.

49 A'r rhai oedd yn cyd-eistedd i fwytta, a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hu­hain, Pwy yw hwn sydd yn maddeu pecho­dau hefyd?

50 Ac efe a ddywedodd wrth y wraig, dy ffydd a'th gadwodd: dôs mewn tangneddyf.

PEN. VIII.

1 Y gwragedd yn gweini i Grist â'i g [...]ud. 4 Christ wedi iddo bregeth [...] [...] fan i fan, a'i Apostolion yn ei ganlyn, yn gosod allan ddammeg yr hauwr: 16 a'r ganwyll: 21 yn dangos pwy ydyw ei fam a'i frodyr: 22 yn ceryddu y gwyntoedd: 26 yn bwrw y lleng gythreuliaid allan o'r dyn, i'r genfaint foch. 37 Y Gadareniaid yn ei wrthod ef: 43 Yntau yn iachau y wraig o'i diferlif gwaed, 49 ac yn bywhau merch Iairus.

A Bu wedi hynny, iddo fyned [...]rwy bôb dinas a thref, gan bregethu, [...] [Page] efangylu teyrnas Dduw: a'r deuddeg oedd gyd ag ef:

2 A gwragedd rai, a'r a iachesid oddi wrth ysprydion drwg a gwendid, Mair yr hon a elwid Magdalen,Marc. 16.9. o'r hon yr aethai saith gythrael allan:

3 Joanna, gwraig Chusa, goruchwiliwr Herod: a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gweini iddo o'r pethau oedd ganddynt.

4Matth. 13.2. Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull yng­hŷd, a chyrchu atto o bôb dinas, efe a ddywe­dodd ar ddammeg,

5 Yr hauwr a aeth allan i hau ei hâd: ac wrth hau, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a sathrwyd, ac ehediaid y nef a'i bwyt­taodd.

6 A pheth arall a syrthiodd ar a graig, a phan eginodd y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr.

7 A pheth arall a syrthiodd ym mysc drain, a'r drain a gyd-tyfasant, ac a'i tagasant ef.

8 A pheth arall a syrthiodd ar dir da, ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn efe a lefodd, Y neb sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.

9 A'i ddiscyblion a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddammeg oedd hon?

10 Yntef a ddywedodd, I chwi y rhodd­wyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw, eithr i eraill ar ddamhegion, fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant.

11 AcMatth. 13.18. dymma 'r ddammeg: Yr hâd yw gair Duw.

12 A'r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw y rhai sy yn gwrando: wedi hynny y mae diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymmaith y gair o'u calon hwynt, rhag iddynt gredu a bôd yn gadwedig.

13 A'r rhai ar y graig, yw y rhai pan gly­want, a dderbyniant y gair yn llawen: a'r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu tros amser, ac yn amser profedi­gaeth yn cilio.

14 A'r hwn a syrthiodd ym mysc drain, yw y rhai a wrandawsant, ac wedi iddynt fyned ymmaith, hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd.

15 A'r hwn ar y tîr da, yw y rhai hyn, y rhai â chalonOnest. hawddgar a da, ydynt yn gwrando y gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd.

16 NidMatth. 3.15. yw neb wedi goleu canwyll, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei dodi tan wely: eithr yn ei gosod ar ganhwyll­bren, fel y caffo y rhai a ddêl i mewn weled y goleuni.

17Matth. 10.26. Canys nid oes dim dirgel, a'r ni bydd amlwg: na dim cuddiedig, a'r ni's gwybyddir, ac na ddaw i'r goleu.

18 Edrychwch am hynny pa fodd y cly­woch:Matth. 13.12. canys pwy bynnag y mae ganddo y rhoddir iddo; a'r neb nid oes ganddo, ie yr hyn y mae yn tybied ei fôd ganddo, a ddygir oddi arno.

19Matth. 12.6. Daeth atto hefyd ei fam a'i frodyr, ac ni allentY [...]i­dd [...]n ag ef. ddyfod hyd atto gan y dorf.

20 A mynegwyd iddo gan rai yn dywe­dyd, Y mae dy fam a'th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled.

21 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrth­ynt, Fy mam i, a'm brodyr i yw y rhai hyn sy 'n gwrando gair Duw, ac yn ei wneuthur.

22 AMatth. 8.23. bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i long, efe a'i ddiscyblion: a dywedodd wrth­ynt, Awn trosodd i'r tu hwnt i'r llynn. A hwy a gychwynnasant.

23 Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a chafod o wynt a ddescynnodd ac y llynn: ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr, ac mewn enbydrwydd.

24 A hwy a aethant atto, ac a'i deffroesant ef, gan ddywedyd, O feistr, feistr, darfu am danom. Ac efe a gyfododd, ac a geryddodd y gwynt a'r tonnau dwfr: a hwy a beidiasant, a hi a aeth yn dawel.

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni a ryfe­ddasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fôd yn gorchymyn i'r gwynt­oedd ac i'r dwfr hefyd, a hwynteu yn vfyddhau iddo?

26 AMatth. 8.28. hwy a hwyliasant i wlâd y Gadaren­iaid, yr hon sydd o'r tu arall, ar gyfer Galilæa.

27 Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyfarfu ag ef ryw ŵr o'r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid, er ys talm o amser; ac ni wiscai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau.

28 (Hwn gwedi gweled yr Iesu, a dolefain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywed­odd â llef vchel, Beth sydd i mi â thi, o Iesu, fâb Duw goruchaf? yr wyf yn attolwg i ti na'm poenech.)

29 Canys efe a orchymynnasai i'r yspryd aflan ddyfod allan o'r dŷn, canys llawer o am­serau y cippiasai ef: ac efe a gedwid yn rhwym â chadwynau, ac â llyffetheiriau; ac wedi dryllio y rhwymau, efe a yrrwyd gan y cythrael i'r diffaethwch.

30 A'r Iesu a ofynnodd iddo, gan ddywe­dyd, Beth yw dy enw di? Yntef a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethant iddo ef.

31 A hwy a ddeisyfiasant arno, na orchy­mynnai iddynt fyned i'r dyfnder.

32 Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer, yn pori ar y mynydd: a hwynt hwy a attol­ygasant iddo adel iddynt fyned i mewn i'r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt.

33 A'r cythreuliaid a aethant allan o'r dŷn, ac a aethant i mewn i'r moch: a'r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i'r llyn, ac a foddwyd.

34 A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoesant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad.

35 A hwy a aethant allan, i weled y peth a wnelsid, ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dŷn, o'r hwn yr aethai y cythreuliaid allan, yn ei ddillad a'i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: a hwy a ofnas [...]nt.

36 A'r rhai a welsent a fynegasant hefyd iddynt, pa fodd yr iachaesid y cythreulig.

37 A'r holl liaws o gylch gwlad y Gadare­niaid, a ddymunasant arno fyned ymmaith oddi wrthynt, am eu bôd mewn ofn mawr: ac efe wedi myned i'r llong, a ddychwelodd.

38 A'r gŵr o'r hwn yr aethai y cythreuliaid allan, a ddeisyfiodd arno gael bôd gyd ag ef: eithr yr Iesu a'i danfonodd ef ymmaith, gan ddywedyd,

39 Dychwel i'th dŷ, a dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth tan [Page] bregethu trwy gwbl o'r ddinas, faint a wnaeth­ai 'r Iesu iddo.

40 A bu, pan ddychwelodd yr Iesu, dderbyn o'r bobl ef: canys yr oeddynt oll yn disgwil am dano ef.

41Matth. 9.18. Ac wele, daeth gŵr a'i enw Iairus, ac efe oedd lywodraethwr y Synagog, ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu, ac a attolygodd iddo ddyfod i'w dŷ ef:

42 O herwydd yr oedd iddo ferch vnic­anedig ynghylch deuddeng-mlwydd oed, a hon oedd yn marw. (Ond fel yr oedd efe yn myned, y bobloedd a'i gwascent ef.

43 A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mhlynedd, yr hon a dreuliasai ar physygwyr ei holl fywyd, ac ni's gallai gael gan neb ei hiachau,

44 A ddaeth o'r tu cefn, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisc ef: ac yn y fin y safodd diferlif ei gwaed hi.

45 A dywedodd yr Iesu, Pwy yw a gyffyr­ddodd â mi? Ac a phawb yn gwadu, y dywe­dodd Petr, a'r rhai oedd gyd ag ef, O feistr, y mae y bobloedd yn dy wascu, ac yn dy flino; ac a ddywedi di, Pwy yw a gyffyr­ddodd â mi?

46 A'r Iesu a ddywedodd, Rhyw vn a gyffyrddodd â mi: canys mi a wn fynedNerth. rhinwedd allan o honof.

47 A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth tan grynu, ac a syrth­iodd ger ei fron ef, ac a fynegodd iddo yngwŷdd yr holl bobl, am ba achos y cyffyr­ddasai hi ag ef, ac fel yr iachasid hi yn eb­rwydd.

48 Yntef a ddywedodd wrthi, Cymmer gyssur ferch, dy ffydd a'th iachâodd: dôs mewn tangneddyf.)

49 Ac efe etto yn llefaru, daeth vn o llywodraethwr y Synagog, gan ddywedyd wrtho, Bu farw dy ferch; na phoena mo'r Athro.

50 A'r Iesu pan glybu hyn, a'i attebodd ef, gan ddywedyd, Nac ofna: cred yn vnig, a hi a iacheir.

51 Ac wedi ei fyned ef i'r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn, ond Petr, ac Iaco, ac Ioan, a thâd yr eneth a'i mam.

52 Ac ŵylo a wnaethant oll, aGalaru. chwynfan am dani: eithr efe a ddywedodd, Nac ŵylwch: nid marw hi, eithr cyscu y mae.

53 A hwy a'i gwatwarasant ef, am iddynt ŵybod ei marw hi.

54 Ac efe a'u bwriodd hwynt oll allan, ac a'i cymmerth hi erbyn ei llaw, ac a lefodd, gan ddywedyd, Herlodes, cyfod.

55 A'i hyspryd hi a ddaeth drachefn, a hi a gyfododd yn ebrwydd: ac efe a orchymyn­nodd roi bwyd iddi.

56 A synnu a wnaeth ar ei rhieni hi: ac efe a orchymmynnodd iddynt na ddywedent i nob y peth a wnaethid.

PEN. IX.

1 Christ yn anfon ei Apostolion i wneuthur rhy­feddodau, ac i bregethu. 7 Herod yn chwen­nych gweled Christ: 17 Christ yn porthi pum mil: 18 yn ymofyn beth yr oedd y byd yn ei dybied am dano: yn rhag-fynegi ei ddioddef­eint: 23 yn gosod allan i bawb siampl o'i ddioddefgarwch. 28 Ei wedd-newidiad ef. 37 Mae efe yn iachau y lloerig: 41 a thrachefn yn rhag rybuddio ei ddiscyblion am ei ddioddef­aint: 46 yn canmol gostyngeiddrwydd: 51 yn gorchymmyn iddynt ddangos llarieidd-dra tuac at bawb, heb chwennych dial. 57 Rhai yn chwennych ei ganlyn ef, ond tan ammod.

ACMatth. 10.1. efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg discybl, ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iachau clefydau.

2 Ac efe a'u hanfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i iachau y rhai cleifion.

3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chym­merwch ddim i'r daith, na ffyn, nac yscreppan, na bara, nac arian: ac na fydded gennych ddwy bais bob vn.

4 Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch.

5 A pha rai bynnag ni'ch derbyniant, pan eloch allan o'r ddinas honno, escydwch hyd yn oed y llwch oddiwrth eich traed, ŷn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt.

6 Ac wedi iddynt fyned allan, hwy a aethant trwy 'r trefi, gan bregethu 'r Efengyl, ac iachau ym mhob lle.

7Matth. 14.1. A Herod y Tetrarch a glybu y cwbl oll a wnaethid ganddo: ac efe a betrusodd, am fôd rhai yn dywedyd gyfodi Ioan o feirw:

8 A rhai eraill, ymddangos o Elias: a rhai eraill, mai prophwyd, vn o'r rhai gynt, a adgyfodasai.

9 A Herod a ddywedodd, Ioan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau am dano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef.

10 A'r Apostolion wedi dychwelyd, a fynegasant iddo y cwbl a wnaethent. AcMatth. 14.13. efe a'u cymmerth hwynt, ac a aeth o'r nailltu, i le anghyfannedd yn perthynu i'r ddinas a elwir Bethsaîda.

11 A'r bobloedd pan wybuant, a'i dilyna­sant ef: ac efe a'i derbyniodd hwynt, ac a le­farodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iacha­odd y rhai oedd arnynt eisieu eu hiachau.

12Matth. 14.15. A'r dydd a ddechreuodd hwyrhau: a'r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymmaith, fel y gallont fyned i'r trefi, ac i'r wlâd oddi amgylch i letteu, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni ym­ma mewn lle anghyfannedd.

13 Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhodd­wch chwi iddynt beth i'w fwytta. A hwythan a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pum torth a dau byscodyn, oni bydd i ni fyned a phrynu bwyd i'r bobl hyn oll.

14 Canys yr oeddynt ynghylch pum-mîl o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscybl­ion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bôb yn ddeg a deugain.

15 Ac felly y gwnaethant, a hwy a wnaeth­ant iddynt oll eistedd.

16 Ac efe a gymmerodd y pum torth, a'r ddau byscodyn, ac a edrychodd i fynu i'r nef, ac a'u bendithiodd hwynt, ac a'u torrodd, ac a'u rhoddodd i'r discyblion, i'w gosod ger bron y bobl.

17 A hwynt hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant ddigon: a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friw-fwyd, ddeuddeg bascedaid.

18Matth. 16.13. Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddio ei hunan, fôd ei ddiscyblion gyd ag ef: ac efe a ofynnodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae 'r bobl yn dywedyd fy mod i?

19 Hwythau gan atteb a ddywedasant, [Page] Ioan Fedyddiwr: ond eraill, mai Elias, ac eraill, mai rhyw brophwyd o'r rhai gynt a adgyfododd.

20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phetr gan atteb a ddywedodd, Christ Duw.

21 Ac efe a roes orchymmyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb,

22 Gan ddywedyd,Matth. 17.22. Mae yn rhaid i Fab y dŷn oddef llawer, a'i wrthod gan yr Henu­riaid, a'r Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd adgyfodi.

23Matth. 10.38. Ac efe a dywedodd wrth bawb, Os ewyilysia neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi.

24 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei enioes, a'i cyll, ond pwy bynnag a gollo ei enioes o'm hachos i, hwnnw a'i ceidw hi.

25Matth. 16.26. Marc. 8.36. Canys pa lesâd i ddŷn er ennill yr holl fŷd, a'i ddifetha ei hun, neu fôd wedi ei golli?

26Matth. 10.33. Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dŷn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a'r Tâd, a'r Angelion sanctaidd.

27Matth. 16.28. Eithr dywedaf i chwi yn wîr, y mae rhai o'r sawl sy yn sefyll ymma, a'r ni arch­waethant angeu, hyd oni welont deyrnas Dduw.

28 AMatth. 17.1. bu ynghylch wyth niwrnod wedi y geiriau hyn, gymmeryd o honaw ef Petr, ac Ioan, ac Iaco, a myned i fynu i'r mynydd i weddio.

29 Ac fel yr oedd efe yn gweddio, gwedd ei wyneb-pryd ef a newidiwyd, a'i wisc oedd yn wenn ddisclair.

30 Ac wele, dau ŵr a gŷd-ymddiddanodd ag ef, y rhai oedd Moses, ac Elias.

31 Y rhai a ymddangosasant mewn gogo­niant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Ierusalem.

32 A Phetr a'r rhai oedd gyd ag ef, oeddynt wedi trymhau gan gyscu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a'r ddau ŵr, y rhai oedd yn sefyll gyd ag ef.

33 A bu, a hwy yn ymadaw oddi wrtho ef, ddywedyd o Petr wrth yr Iesu, O feistr, da yw i ni fôd ymma: a gwnawn dair pabell, vn i ti, ac vn i Moses, ac vn i Elias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.

34 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl ac a'i cyscododd hwynt: a hwynt hwy a ofnasant wrth fyned o honynt i'r cwmwl.

35 A daeth llef allan o'r cwmwl, gan ddywe­dyd, Hwn yw fy Mab anwyl, gwrandewch ef.

36A clyd a bod &c. Ac wedi bôd y llef, cafwyd yr Iesu yn vnic: a hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny, ddim o'r pethau a welsent.

37 AMatth. 17.14. darfu drannoeth, pan ddaethent i wared o'r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef.

38 Ac wele gwr o'r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr ŵyf yn attolwg i ti, edrych ar fy mab, canys fy vnig-anedig yw.

39 Ac wele, y mae yspryd yn ei gymmeryd ef, ac yntef yn ddisymmwth yn gwaeddi, ac y mae yn ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn: a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei yssigo ef.

40 Ac mi a ddeisyfiais ar dy ddiscyblion di ei fwrw ef allan, ac ni's gallasant.

41 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hŷd y byddaf gyd â chwi, ac i'ch goddefaf? dwg dy fâb ymma.

42 Ac fel yr oedd efe etto yn dyfod, y cythrael a'i rhwygodd ef, ac a'i drylliodd: a'r Iesu a geryddodd yr yspryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a'i rhoddes ef i'w dad.

43 A brawychu a wnaethant oll gan fawr­dd Duw: ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai yr Iesu, efe a ddywe­dodd wrth ei ddiscyblion,

44Matth. 17.22. Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: canys Mab y dŷn a dra­ddodir i ddwylo dynion.

45 Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel na's deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymo­fyn ag ef am y gair hwn.

46Matth. 18.1. Marc. 9.34. A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddei fwyaf o honynt.

47 A'r Iesu wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymmerth fachgennyn, ac a'i goso­dodd yn ei ymyl,

48 Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy byn­nag a dderbynio y bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a'm derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a'm anfon­odd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw a fydd mawr.

49Matth 9.38. Ac Ioan a attebodd ac a ddywedodd, O feistr, ni a welsom ryw vn yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyd â ni.

50 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waher­ddwch iddo: canys y neb nid yw i'n herbyn, trosom ni y mae.

51 A bu, pan gyflawnwyd y dyddiau y cymmerid ef i fynu, yntefA oso­dodd ei wyneb i fyned. a roddes ei fryd ar fyned i Ierusalem.

52 Ac efe a ddanfonodd gennadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i baratoi iddo ef.

53 Ac ni's derbyniasant hwy ef, oblegid fôd ei wyneb efGr. yn myned. yn tueddu tu a Ierusalem.

54 A'i ddiscyblion ef, Iaco, ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di ddywedyd o honom am ddyfod tân i lawr o'r nef, a'u difa hwynt,2 Bren. 1.10. megis y gwnaeth Elias?

55 Ac efe a drôdd, ac a'u ceryddodd hwynt, ac a ddywedodd, ni ŵyddoch o ba yspryd yr ydych chwi.

56 Canys ni ddaeth Mâb y dŷn i ddestry­wio eneidiau dynion, ond i'w cadw. A hwy a aethant i dref arall.

57Matth. 8 19. A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw vn ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.

58 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffauau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y dŷn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr.

59 AcMatth. 8.21. efe a ddywedodd wrth vn arall, Dilyn fi. Ac yntef a ddywedodd, Arglwydd, gâd i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.

60 Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gâd i'r meirw gladdu eu meirw, ond dôs di a phregetha deyrnas Dduw.

61 Ac vn arall hefyd a ddywedodd, Mi a'th ddilynaf di, ô Arglwydd; ond gâd i mi yn gyntaf ganu yn iach i'r rhai sy yn fy nhŷ.

62 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes [Page] neb ac sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ôl, yn gymmwys i deyrnas Dduw.

PEN. X.

1 Christ yn anfon allan ar vn-waith ddêg discybl a thrugain, i wneuthur gwrthiau, ac i bregethu: 17 Yn eu rhybuddio hwy i fôd yn ostyngedic, ac ymmha beth y gorfoleddent: 21 Yn diolch iw dad am ei ras: 23 yn mawrygu dedwydd gyflwr ei Eglwys: 25 yn dyscu, cyfreithiwr y modd i gael bywyd tragywyddol, ac i gymmeryd pawb yn gymmydoc iddo, a'r a fo ac eisieu ei drugaredd ef arno: 41 yn argyoeddi Martha, ac yn canmol Mair ei chwaer hi.

WEdiMatth. 10.1. y pethau hyn yr ordeiniodd yr Arglwydd ddêg a thrugain eraill hefyd, ac a'u danfones hwynt bob yn ddau, o flaen ei wyneb, i bôb dinas a man, lle'r oedd efe ar fedr dyfod.

2 Am hynny efe a ddywedodd wrthynt, YMatth. 9.37. cynhayaf yn wîr sydd fawr, ond y gweith­wŷr yn anaml: gweddiwch gan hynny ar Ar­glwydd y cynhayaf am ddanfon allan weith­wŷr i'w gynhayaf.

3 Ewch:Matth. 10.16. wele, yr ŵyfi yn eich danfon chwi fel ŵyn ym mysc bleiddiaid.

4 Na ddygwch gôd, nac yscreppan, nac esci­diau: ac na chyferchwch well i neb ar y ffordd.

5Matth. 10.11. Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangneddyr i'r tŷ hwn.

6 Ac o bydd yno fab tangneddyf, eich tang­neddyf a orphywys arno: os amgen, hi a ddychwel attoch chwi.

7 Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwytta ac yfed y cyfryw bethau ac a gaffoch ganddynt: canys teilwng yw i'r gweithwr ei gyflog. Na threiglwch o dŷ i dŷ.

8 A pha ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy yn eich derbyn, bwyttowch y cyfryw bethau ac a rodder ger eich bronnau:

9 Ac iachewch y cleifion a fyddo ynddi, a dywedwch wrthynt, Daeth teyrnas Dduw yn agos attoch.

10 Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i'w heolydd, a dywedwch,

11 Hyd yn oed y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o'ch dinas, yr ydym yn ei sychu ym­maithYn eich erbyn chwi; fel pen. 9.5. i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fôd teyrnas Dduw wedi nesau attoch.

12 Eithr dywedaf wrthych, mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw, nag i'r ddi­nas honno.

13Matth. 11.21. Gwae di Chorazin, gwae di Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon,Y nerth­oedd. y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachliain, a lludw.

14 Eithr esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi.

15 A thitheu Capernaum yr hon a dderchaf­wyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn vffern.

16 YMatth. 10.40. neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i, a'r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i, a'r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu yr hwn a'm hanfonodd i.

17 A'r dêg a thrugain a ddychwelasant gyd a stawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni yn dy enw di.

18 Ac efe a ddywedodd wrthynt, mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o'r nef.

19 Wele, yr ydwyfi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirph, ac yscorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn: ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi.

20 Eithr yn hyn na lawenhewch, fôd yr ysprydion wedi eu darostwng i chwi, ond llawenhewch yn hytrach, am fôd eich henwau yn scrifennedig yn y nefoedd.

21 Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr yspryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti ô Dad, Arglwydd nef a daiar, am guddio o honot y pethau hyn oddi wrth y doethion a'r deallus, a'u datcuddio o honot i rai bychain: yn wîr ô Dad, oblegid fellyGr. yr oedd bod­lonrwydd. y gwelid yn dda yn dy olwg di.

22 Pôb peth a roddwyd i mi gan fy Nhâd: ac ni ŵyr neb pwy yw 'r Mâb, ond y Tâd; na phwy yw 'r Tâd, ond y Mâb, a'r neb y mynno 'r Mâb ei ddatcuddio iddo.

23 Ac efe a drôdd at ei ddiscyblion, ac a ddywedodd o'r nailltu,Matth. 13 16. Gwyn fyd y llygaid sy yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled.

24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, ewyllysio o lawer o brophwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac ni's gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac ni's clywsant.

25 Ac wele, rhyw gyfreithwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Athro,Matth. 22.35. pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol?

26 Yntef a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd Scrifennedig yn y gyfraith? pa fodd y dar­llenni?

27 Ac efe gan atteb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac â'th holl feddwl: a'th gymmydog fel di dy hun.

28 Yntef a ddywedodd wrtho, Ti a attebaist yn vniawn: gwna hyn, a byw fyddi.

29 Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymmydog?

30 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd, Rhyw ddŷn oedd yn myned i wared o Ierusalem i Iericho, ac a syrthiodd ym mysc lladron, y rhai wedi ei ddiosc ef a'i archolli, a aethant ym­maith, gan ei adael yn hanner marw.

31 Ac ar ddamwain, rhyw offeiriad a ddaeth i wared y ffordd honno, a phan ei gwe­lodd, efe a aeth o'r tu arall heibio.

32 A'r vn ffunyd Lefiad hefyd, wedi dyfod i'r fan, a'i weled ef, a aeth o'r tu arall heibio.

33 Eithr rhyw Samariad wrth ymdaith, a ddaeth atto ef, a phan ei gwelodd, a dosturiodd:

34 Ac a aeth atto, ac a rwymodd ei archoll­ion ef, gan dywallt ynddynt olew a gwin: ac a'i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a'i dug ef i'r llettŷ, ac a'i ymgeleddodd.

35 A thrannoeth wrth fyned ymmaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a'u rhoddes i'r lletteu-wr, ac a ddywedodd wrtho, Cym­mer ofal trosto: a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, pan ddelwyf drachefn mi a'i talaf i ti.

36 Pwy gan hynny o'r tri hyn yr ydwyt ti yn tybied ei fôd yn gymmydog i'r hwn a syrthiasai ym-mhlith y lladron?

37 Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A'r Iesu am hynny a ddy­wedodd wrtho, Dôs, a gwna ditheu yr vn [...].

38 A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod o honaw i ryw dref, a rhyw wraig a'i henw Mar­tha, a'i derbyniodd ef i'w thŷ.

39 Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd a eisteddodd wrth draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef.

40 Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll ger llaw, hi a ddywedodd, Arglwydd, onid oes ofal gennit am i'm chwaer fy ngadael i fy hun i wasanae­thu; dywed wrthi gan hynny am fy help­io.

41 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus, a thrafferthus wyt, ynghylch llawer o bethau:

42 Eithr vn peth sydd angenrheidiol, a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddi arni.

PEN. XI.

1 Christ yn dyscu gweddio, a hynny heb ddyffyg­io: 11 gan sicrhau y rhydd Duw felly i ni be­thau da. 14 Wrth fwrw allan gythrael mûd, y mae efe yn ceryddu y Pharisæaid cablaidd: 28 ac yn dangos pwy sydd fendigedig: 29 ac yn pregethu i'r bobl, 37 ac yn argyoeddi ffûg sancteiddrwydd y Pharisæaid, a'r Srifennydd­ion, a'r cyfreithwyr.

A Bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddio, pan beidiodd, ddywedyd o vn o'i ddis­cyblion wrtho, Arglwydd, dysc i ni weddio, megis ac y dyscodd Ioan i'w ddiscyblion.

2 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan we­ddioch, dywedwch,Matth. 6.9. Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw: deued dy deyrnas: gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaiar hefyd.

3 Dyro i niNeu, tros y diwrnod. o ddydd i ddydd ein bara beu­nyddiol.

4 A maddeu i ni ein pechodau, canys yr ydym ninnau yn maddeu i bawb fy yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg.

5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy o honoch fydd iddo gyfaill, ac â atto hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn.

6 Canys cyfaill i mi a ddaeth attaf wrth ymdaith, ac nid oes gennif ddim i'w ddodi ger ei fron ef.

7 Ac yntef oddi mewn a ettyb ac a ddy­wed, Na flina fi: yn awr y mae 'r drws yn gaead, a'm plant gyd â mi yn y gwely: ni allaf godi a'u rhoddi i ti.

8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fôd yn gyfaill iddo, etto o herwydd ei daerni, efe a gyfyd ac a rydd iddo gynnifer ac y sydd arno eu heisieu.

9Matth. 7.7. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Go­fynnwch a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch: curwch, ac fe a agorir i chwi.

10 Canys pôb vn sydd yn gofyn, sydd yn derbyn, a'r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael: ac i'r hwn sydd yn curo, yr agorir.

11Matth. 7.9. Os bara a ofyn mab i vn o honoch chwi sy dâd, a ddyry efe garreg iddo? ac os pyscodyn, a ddyry efe iddo sarph yn lle pysco­dyn?

12 Neu os gofyn efe ŵy, a ddyry efe scor­pion iddo?

13 Os chwy-chwi gan hynny, y rhai yd­ych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i'ch plant chwi, pa faint mwy y rhydd eich Tâd o'r nef yr Yspryd glân, i'r rhai a ofynno gan­ddo?

14 Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythrael, a hwnnw oedd fud: a bu wedi i'r cythrael fy­ned allan, i'r mudan lefaru: a'r bobloedd a ry­feddasant.

15 Eithr rhai o honynt a ddywedasant,Matth. 9.34. & 12.24. Trwy Beelzebub pennaeth y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.

16 Ac eraill gan ei demtio, a geisiasant gan­ddo arwydd o'r nef.

17 Yntef yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pôb teyrnas wedi ym­rannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir: a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth.

18 Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bôd yn dywedyd, mai trwy Beel­zebub yr wyfi yn bwrw allan gythreuliaid.

19 Ac os trwy Beelzebub yr wyfi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farn-wŷr arnoch chwi.

20 Eithr os myfi trwy fŷs Duw, ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diammau ddyfod teyrnas Dduw attoch chwi.

21 Pan fyddo vn cryf arfog yn cadw ei neu­add, y mae yr hyn sydd ganddo mewn heddwch.

22 Ond pan ddêl vn cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymmaith ei holl ar­fogaeth ef, yn yr hon yr oedd yn ymddir­ied, ac a ran ei anrhaith ef.

23 Y neb nid yw gyd â mi, sydd yn fy er­byn: a'r neb nid yw yn casclu gyd â mi, sydd yn gwascaru.

24Matth. 12.43. Pan êl yr yspryd aflan allan o ddŷn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorphywysdra: a phryd na chaffo, efe a ddy­wed, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y daethum allan.

25 A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei yscubo a'i drefnu:

26 Yna yr â efe ac y cymmer atto saith ys­pryd eraill, gwaeth nag ef ei hun, a hwy a ânt i mewn, ac a arhossant yno: a diwedd y dŷn hwnnw fydd gwaeth nâ'i ddechreuad.

27 A bu fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd eu llêf, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fŷd y grôth a'th ddug di, a'r bronnau a sugnaist.

28 Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fŷd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.

29Matth. 12.38. Ac wedi i'r bobloedd ymdyrru yng­hyd, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y genhed­laeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio ar­wydd, ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Ionas y prophwyd.

30 Canys fel y bu Ionas yn arwydd i'r Ninifeaid, felly y bydd Mâb y dŷn hefyd i'r genhedlaeth hon.

31 Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyd â gwŷr y genhedlaeth hon, ac a'u condemna hwynt: am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddai­ar i wrando doethineb Solomon: ac wele, vn mwy nâ Solomon ymma.

32 Gwŷr Ninife a godant-i fynu yn y farn gyd â'r genhedlaeth hon, ac a'i condemnant hi: am iddynt edifarhau wrth bregeth Ionas: ac wele, vn mwy nâ Jonas ymma.

33Matth. 5.15. Ac nid yw neb wedi goleu canwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr: eithr [Page] ar ganhwyll-bren, fel y gallo y rhai a ddelo i mewn weled y goleuni.

34Matth. 6.22. Canwyll y corph yw 'r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorph hefyd sydd oleu: ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorph hefyd fydd tywyll.

35 Edrych am hynny rhag i'r goleuni sydd ynot, fôd yn dywyllwch.

36 Os dy holl gorph gan hynny sydd oleu, heb vn rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn oleu, megis pan fo canwyll â'i llewyrch yn dy oleuo di.

37 Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pha­risæad a ddymunodd arno giniawa gyd ag ef, ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwytta.

38 A'r Pharisæad pan welodd, a ryfe­ddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen ciniaw.

39Matth. 23.25. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi 'r Pharisæaid ydych yn glânhau y tu allan i'r cwppan a'r ddyscl, ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.

40 O ynfydion, ond yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd o fewn hefyd?

41 Yn hytrach rhoddwch elusen o'r pethau sy gennych: ac wele, pôb peth sydd lân i chwi.

42 Eithr gwae chwi 'r Pharisæaid, canys yr ydych chwi yn degymmu y mintys, a'r ryw, a phôb llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur.

43Matth. 23.6. Gwae chwi 'r Pharisæaid, canys yr ydych yn caru y prif-gadeiriau yn y Synago­gau, a chyfarch yn y marchnadoedd.

44 Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid ragrith-wŷr, am eich bôd fel beddau anamlwg, a'r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt.

45 Ac vn o'r cyfreithwŷr a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Athro, wrth ddywedyd hyn yr wyti yn ein gwradwyddo ninnau hefyd.

46Matth. 23.4. Yntef a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd y cyfreith-wŷr, canys yr ydych yn llwy­tho dynion â beichiau anhawdd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd â'r beichiau, ag vn o'ch bysedd.

47Matth. 2 [...].29. Gwae chwy-chwi, canys yr ydych yn adeladu beddau 'r prophwydi, a'ch tadau chwi a'u lladdodd hwynt.

48 Yn wîr yr ydych yn tystiolaethu, ac yn gyd-fodlon i weithredoedd eich tadau: canys hwynt hwy yn wîr a'u lladdasant hwy, a chwithau ydych yn adeiladu eu beddau hwynt.

49 Am hynny hefyd y dywedodd doethineb Duw, Anfonaf attynt brophwydi, ac Apostolion, a rhai o honynt a laddant, ac a erlidiant:

50 Fel y gofynner i'r genhedlaeth hon, waed yr holl brophwydi, yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y bŷd;

51Gen. 4.8. O waed Abel hyd waed Zacharias, yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a'r Deml. Diau, meddaf i chwi, gofynnir ef i'r genhedlaeth hon.

52Matth. 23.13. Gwae chwy-chwi y cyfreith-wŷr, canys chwi a ddygasoch ymmaith agoriad y gŵybodaeth: nid aethoch i mewn eich hu­nain, a'r rhai oedd yn myned aNeu, rwy [...]tra­soch. wahardda­soch chwi.

53 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, y dechreuodd yr Scrifennyddion a'r Pharisæaid, fôd yn daer iawn arno, a'i annog i ymadrodd am lawer o bethau:

54 Gan ei gynllwyn ef, a cheisio hela rhyw beth o'i ben ef, i gael achwyn arno.

PEN. XII.

1 Christ yn pregethu iw ddiscyblion am ochel rhagrith, ac ofn wrth ddatcan ei athrawiaeth ef: 13 yn rhybuddio y bobl i ochelyd cybydd­dra, trwy ddammeg y gwr goludog a adeiladodd yscuboriau mwy. 22 Ni wasanaetha i ni fôd yn rhy ofalus am bethau bydol, 31 ond ceisio teyrnas Dduw, 33 a rhoddi elusen, 36 a bôd yn barod i agôryd i'n Harglwydd pan guro, pa bryd bynnag i delo. 41 Y dylai gweinidogion Christ edrych ar ei siars, 49 a disgwyl am erlid. 54 Rhaid ir bobl dderbyn yr amser hwn o râs, 58 oblegid peth ofnadwy yw marw heb gymmodi.

YNMatth. 16.6. y cyfamser, wedi i fyrddiwn o bobl ymgasclu ynghŷd, hyd oni ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddiscyblion, Yn gyntaf gwiliwch arnoch rhag surdoes y Pharisæaid, yr hwn yw rhag­rith.

2Matth. 10.26. Canys nid oes dim cuddiedig a'r na's datcuddir: na dirgel, a'r ni's gŵybyddir.

3 Am hynny pa bethau bynnag a ddyweda­soch yn y tywyllwch, a glywir yn y goleu: a'r peth a ddywedasoch yn y glust mewn stafell­oedd, a bregethir ar bennau tai.

4Matth. 10.28. Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sy yn lladd y corph, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy iw wneuthur.

5 Ond rhag-ddangosaf i chwi pwy a ofn­wch: ofnwch yr hwn wedi y darffo iddo ladd, sydd ac awdurdod ganddo i fwrw i vffern; ie meddaf i chwi, hwnnw a ofnwch.

6 Oni werthir pump o adar y tô er dwy ffyrling, ac nid oes vn o honynt mewn angof ger bron Duw?

7 Ond y mae hyd yn oed blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll, am hynny nac ofnwch: yr ydych chwi yn well nâ llawer o adar y tô.

8Matth. 10.32. 2 Tim. 2.12. Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a'm ha­ddefo i ger bron dynion, Mab y dŷn hefyd a'i haddef ynteu ger bron Angelion Duw.

9 A'r hwn a'm gwado i ger bron dynion, a wedir ger bron Angelion Duw.

10 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dŷn, fe a faddeuir iddo: eithr i'r neb a gablo yn erbyn yr Yspryd glân, ni fa­ddeuir.

11Matth. 10.19. A phan i'ch dygant i'r Synagogau, ac at y llywiawdwŷr, a'r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a atteboch, neu beth a ddywedoch:

12 Canys yr Yspryd glân a ddŷsc i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddy­wedyd.

13 A rhyw vn o'r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athro, dywed wrth fy mrawd am ran­nu â myfi 'r etifeddiaeth.

14 Yntef a ddywedodd wrtho, Y dŷn, pwy a'm gosododd i yn farn-wr, neu yn rhann­wr arnoch chwi?

15 Ac efe a ddywedodd wrthynt; Edrych­wch, ac ymogelwch rhag cybydd-dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pe­thau sydd ganddo.

16 Ac efe a draethodd wrthynt ddammeg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnyd­iodd yn dda.

17 Ac efe a ymresymmodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gen­nif le i gasclu fy ffrwythau iddo?

18 Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: mi a dynnaf i lawr fy yscuboriau, ac a adeiladaf rai mwy: ac yno y casclâf fy holl ffrwythau, a'm da:

19 A dywedaf wrth fy enaid, fy enaid, y mae gennit dda lawer wedi eu rhoi i gadw tros lawer o flynyddoedd: gorphywys, bwytta, ŷf, bydd lawen.

20 Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthit, ac eiddo pwy fydd y pethau a bara­toaist?

21 Felly y mae 'r hwn sydd yn tryssori iddo ei hun, ac nid yw gyfoethog tu ag at Dduw.

22 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscybl­ion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych,Matth. 6.25. Na chymmerwch ofal am eich bywyd, beth a fwyttaoch, nac am eich corph, beth a wiscoch.

23 Y mae 'r bywyd yn fwy nâ'r ymborth, a'r corph yn fwy nâ'r dillad.

24 Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau, nac yn medi: i'r rhai nid oes gell, nac yscubor, ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well nâ'r adar?

25 A phwy o honoch gan gymeryd gofal a ddichon chwanegu vn cufydd at ei faintioli?

26 Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, pa ham yr ydych yn cymmeryd gofal am y lleill?

27 Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wiscwyd So­lomon yn ei holl ogoniant, fel vn o'r rhai hyn.

28 Ac os yw Duw felly yn dilladu y lly­fieuyn, yr hwn sydd heddyw yn y maes, ac y foru a destir i'r ffwrn, pa faint mwy y dillada efe chwy-chwi, ô rai o ychydig ffydd?

29 Chwithau na cheisiwch beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch: ac na fyddwch amheus.

30 Canys y pethau hyn oll, y mae cen­hedloedd y bŷd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gŵybod fod arnoch chwi eisieu 'r pethau hyn.

31 Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw, a'r pethau hyn oll a roddir i chwi yn ychwaneg.

32 Nac ofna, braidd bychan: canys rhyng­odd bodd i'ch Tad roddi i chwi y deyrnas.

33 Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rho­ddwch elusen.Matth. 6.20. Gwnewch i chwi byrsau, y rhai ni heneiddiant, tryssor yn y nefoedd yr hwn ni dderfydd: lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra prŷf.

34 Canys lle y mae eich tryssor chwi, yno y bydd eich calon hefyd.

351 Pet. 1.13. Bydded eich lwynau wedi eu hamwre­gysu, a'ch canhwyllauYn llosci. wedi eu goleu:

36 A chwithau yn debyg i ddynion yn dis­gwll eu harglwydd, pa brŷd y dychwel o'r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd.

37 Gwyn eu bŷd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd pan ddêl, yn neffro: yn wir meddaf i chwi, efe a ym-wregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwytta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy.

38 Ac os daw efe ar yr ail wiliadwriaeth, ac os ar y drydedd wiliadwriaeth y daw, a'u cael hwynt felly, gwyn eu bŷd y gweision hynny.

39Matth. 24.43. A hyn gwybyddwch, pe gwybasai gŵr y tŷ pa awr y deuai 'r lleidr, efe a wiliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.

40 A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mâb y dŷn.

41 A Phetr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyti yn dywedyd y ddam­meg hon, ai wrth bawb hefyd?

42 A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw y goruchwiliwr ffyddlawn, a phwyllog, yr hwn a efyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyflyniaeth iddynt mewn prŷd.

43 Gwyn ei fŷd y gwâs hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef pan ddêl, yn gwneuthur felly.

44 Yn wîr meddaf i chwi, efe a'i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl ac sydd eiddo.

45 Eithr os dywed y gwâs hwnnw yn ei galon, y mae fy arglwydd yn oedi dyfod: a dechreu curo y gweision a'r morwynion, a bwytta, ac yfed, a meddwi:

46 Daw arglwydd y gwâs hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwil, ac ar awr nad yw efe yn gŵybod, ac a'iTyrr ef ymmaith. gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyd â'r anffyddloniaid.

47 A'r gwâs hwnnw, yr hwn a ŵybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbaratôdd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod:

48 Eithr yr hwn ni ŵybu, ac a wnaeth be­thau yn haeddu ffonnodiau, a gurir ag ychydig ffonnodiau: ac i bwy bynnag y rhoddwyd llaw­er, llawer a ofynnir ganddo: a chyd â'r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynnant ganddo.

49 Mi a ddaethym i fwrw tân ar y ddaiar, a pheth a fynnaf os cynneuwyd ef eusus?

50 Eithr y mae gennif fedydd i'm bedyddio ag ef, ac mor gyfyng yw arnaf, hyd oni or­phenner.

51Matth. 10.34. Ydych chwi yn tybieid mai heddwch y daethym i i'w roddi ar y ddaiar? nag ê, me­ddaf i chwi, ond yn hytrachYmblei­dio. ymrafael.

52 Canys bydd o hyn allan, bump yn yr vn tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri.

53 Y tâd a ymranna yn erbyn y mâb, a'r mâb yn erbyn y tâd: y fam yn erbyn y ferch, a'r ferch yn erbyn y fam: y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.

54 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd,Matth. 16.2. Pan weloch gwmwl yn codi o'r gorllewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cafod yn dyfod: ac felly y mae.

55 A phan weloch y deheu-wynt yn chwy­thu, y dywedwch, Y bydd gwrês: ac fe fydd.

56 O ragrith-wŷr, chwi a fedrwch ddeall wyneb-prŷd y ddaiar a'r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall?

57 A pha ham nad ydych, îe o honoch eich hunain, yn barnu yr hyn sydd gyfiawn?

58Matth. 5.25. Canys tra fyddech yn myned gyd â'th wrthwynebwr at lywodraeth-wr, gwna dy oreu ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho: rhag iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i'r barnwr dy roddi ac y swyddog, ac i'r swy­ddog dy daflu yngharchar.

59 Yr wyf yn dywedyd i ti, nad ai di ddim oddi yno, hyd oni thelych, îe 'r hatling eithaf.

PEN. XIII.

1 Christ yn pregethu edifeirwch, wrth gospedi­gaeth y Galileaid ac eraill. 6 Y ffigys-bren diffrwyth ni chaiff sefyll. 11 Christ yn iachau y wraig oedd wedi crymmu: 18 yn dangos galluog weithrediad y gair ynghalonnau ei etho­ledigion, trwy ddammeg y gronyn mustard, a'r sur-does: 24 yn annoc i fyned i mewn i'r porth cyfyng, 31 ac yn argyoeddi Herod, a Jerusalem.

AC yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw, rai yn mynegi iddo am y Galilæaid, y rhai y cymmyscasei Pilat eu gwaed ynghyd â'u haberthau.

2 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fôd y Galilæaid hyn, yn bechaduriaid mwy nâ'r holl Galilæaid, am iddynt ddioddef y cyfryw bethau?

3 Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr vn modd.

4 Neu 'r deu-naw hynny, ar y rhai y syr­thiodd y tŵr yn Siloam, ac a'u lladdodd hwynt; a ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn be­chaduriaid mwy nâ'r holl ddynion oedd yn cyfanneddu yn Jerusalem?

5 Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr vn môdd.

6 Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon, Yr oedd gan vn ffigys-bren wedi ei blannu yn ei winllan, ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac ni's cafodd.

7 Yna efe a ddywedodd wrth y gwin-llan­nudd, Wele, tair blynedd yr ydwyf yn dyfod, gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, ac nid ydwyf yn cael dim: torr ef i lawr: pa ham y mae efe yn diffrwytho 'r tîr?

8 Ond efe gan atteb a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o'i amgylch, a bwrw tail:

9 Ac os dwg efe ffrwyth, da: onid ê, gwe­di hynny torr ef i lawr.

10 Ac yr oedd efe yn dyscu yn vn o'r Sy­nagogau ar y Sabbath.

11 Ac wele, yr oedd gwraig ac ynddi ys­pryd gwendid ddeu-naw mlynedd: ac oedd wedi cyd-grymmu, ac ni allai hi mewn môdd yn y bydNeu, ymddad­grymau. ym-vniawni.

12 Pan welodd yr Iesu hon, efe a'i galwodd hi atto, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, rhyddhawyd ti oddi wrth dy wendid.

13 Ac efe a roddes ei ddwylo arni; ac yn ebrwydd hi a vniawnwyd, ac a ogoneddodd Dduw.

14 A'r Arch-synagogydd a attebodd yn ddigllon, am i'r Iesu iachau ar y Sabbath, ac a ddywedodd wrth y bobl, Chwe diwrnod sydd yn y rhai y dylid gweithio; ar y rhai'n gan hynny deuwch, ac iachhâer chwi, ac nid ar y dydd Sabbath.

15 Am hynny yr Arglwydd a'i attebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, oni ollwng pôb vn o honoch ar y Sabbath ei ŷch neu ei asyn o'r preseb, a'u harwain i'r dwfr?

16 Ac oni ddylei hon, a hi yn ferch i Abra­ham, yr hon a rwymodd Satan, wele ddeu­naw mlynedd, gael ei rhyddhau o'r rhwym hwn, ar y dydd Sabbath?

17 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pe­thau hyn, ei holl wrthwyneb-wŷr ef a gywily­ddiasant: a'r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogoneddus a wnaid ganddo.

18Matth. 13.31. Ac efe a ddywedodd, I ba beth y mae teyrnas Dduw yn debyg? ac i ba beth y cyffe­lybaf hi?

19 Tebyg yw i ronyn o hâd mwstard, yr hwn a gymmerodd dŷn, ac a'i hauodd yn ei ardd, ac efe a gynnyddodd, ac a aeth yn bren mawr, ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef.

20 A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?

21 Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gym­merodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri me­sur o flawd, hyd oni surodd y cwbl oll.

22Matth. 9.35. Ac efe a dramwyodd drwy ddinasoedd a threfi, gan athrawiaethu, ac ymdeithio tua Jerusalem.

23 A dywedodd vn wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywe­dodd wrthynt,

24Matth. 7.13. Ymdrechwch am fyned i mewn trwy 'r porth cyfyng: canys ilawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac ni's gallant.

25 Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau y drws, a dechreu o honoch sefyll oddi allan, a chu­ro 'r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Ar­glwydd, agor i ni: ac iddo yntef atteb a dy­wedyd wrthych, Nid adwaen ddim o honoch o ba le yr ydych:

26 Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwyttasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddyscaist yn ein heolydd ni.

27Matth. 7.23. Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywe­dyd i chwi, nid adwaen chwi o ba le yr ydych: ewch ymmaith oddi wrthif, chwi holl weithred­wyr anwiredd.

28 Yno y bydd wylofain, a rhingcian dan­nedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, ac Jacob, a'r holl brophwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan.

29 A daw y rhai o'r dwyrain, ac o'r gor­llewin, ac o'r gogledd, ac o'r dehau, ac a eiste­ddant yn pheyrnas Dduw.

30Matth. 19.30. Ac wele, olaf ydyw y rhai a fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw y rhai a fyddant olaf.

31 Y dwthwn hwnnw y daeth atto ryw Pharisæaid, gan ddywedyd wrtho, Dôs allan, a cherdda oddi ymma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.

32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dywedwch i'r cadnaw hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iachâu, heddyw ac y foreu, a'r trydydd dydd i'm perffeithir.

33 Er hynny, rhaid i mi ymdaith heddyw, ac y foru, a thrennydd: canys ni all fôd y derfydd am brophwyd allan o Jerusalem.

34Matth. 23.37. O Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a anfonir attat, pa sawl gwaith y mynnaswn gasclu dy blant ynghŷd, y modd y cascl yr iâr eiNythaid chywion tan ei hadenydd, ac ni's mynnech?

35 Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn an­ghyfannedd. Ac yn wîr yr wyf yn dywedyd wrthych, na welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywettoch, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.

PEN. XIV.

2 Christ yn iachâu y dropsi ar y Sabbath: 7 yn dyscu gostyngeiddrwydd: 12 a gwneuthur ei­niawau i'r tlodion: 16 wrth ddammeg y [Page] Swpper mawr, yn dangos pa fodd i cauir dynion â meddyliau bydol, y rhai a ddiystyrant air Duw, allan o'r nef. 25 Rhaid i'r rhai a fynnai fod yn ddiscyblion iddo, i ddwyn eu croes, wneuthur eu cyfrifon ymlaenllaw, rhag iddynt trwy gywilydd syrthio oddiwrtho ar ôl hynny, 34 a myned yn gwbl ddiles, mal halen wedi colli ei flas.

BV hefyd, pan ddaeth efe i dŷ vn o bennae­thiaid y Pharisæaid ar y Sabbath, i fwytta bara, iddynt hwythau ei wilied ef.

2 Ac wele, 'r oedd ger ei fron ef ryw ddŷn yn glaf o'r dropsi.

3 A'r Iesu gan atteb a lefarodd wrth y cy­fieith-wŷr, a'r Pharisæaid, gan ddywedyd, Ai rhydd iachau ar y Sabbath?

4 A thewi a wnaethant. Ac efe a'i cym­merodd atto, ac a'i iachaodd ef, ac a'i gollyng­odd ymmaith:

5 Ac a attebodd iddynt hwythau, ac a ddy­wedodd, Assyn neu ŷch pa vn o honoch a syrth i bwll, ac yn ebrwydd ni's tynn ef allan ar y dydd Sabbath?

6 Ac ni allent roi atteb yn ei erbyn ef am y pethau hyn.

7 Ac efe a ddywedodd wrth y gwahodde­digion ddammeg, pan yffyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd vchaf; gan ddywe­dyd wrthvnt,

8 Pan i'th wahodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle vchaf, rhag bôd vn anrhyde­ddusach na thi, wedi ei wahodd ganddo:

9 Ac i hwn a'th wahoddodd di ac yntef, ddyfod a dywedyd wrthit, Dyro le i hwn; ac yna dechreu o honot ti trwy gywilydd gym­meryd y lle isaf.

10Dihar. 25.6.7. Eithr pan i'th wahodder, dôs ac eistedd yn y lle isaf, fel pan ddelo 'r hwn a'th waho­ddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Y cy­faill, eistedd yn vwch i fynu: yna y bydd i ti glôd yngŵydd y rhai a eisted lant gŷd â thi ar y bwrdd.

11Matth. 23.12. Canys pôb vn a'i derchafo ei hun, a ostyngir: a'r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.

12 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a'i gwahoddasei ef, Pan wnelych ginio neu swpper, na aiw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th geraint, na'th gymmydogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwel dy wahodd ditheu, a gwneuthur taledigaeth i ti.

13 Eithr pan wnelych wledd,Tob. 4.7. galw y tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion:

14 A dedwydd fyddi, am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn adgy­sodiad y rhai cyfiawn.

15 A phan glywodd rhyw vn o'r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho,Dat. 19.9. Gwyn ei fŷd y neb a fwyttao fara yn nheyrnas Dduw.

16 AcMatth. 32.2. yntef a ddywedodd wrtho, Rhyw ŵr a wnaeth swpper mawr, ac a wahoddodd lawer:

17 Ac a ddanfonodd ei wâs brŷd swpper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch, canys weithian y mae pôb peth yn barod.

18 A hwy oll a ddechreuasant yn vn-fryd ymescusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais dyddyn, ac y mae yn rhaid i mi fyned a'i weled: attolwg i ti, cymmer fi yn escusodol.

19 Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychen, ac yr ydwyf yn myned i'w profi hwynt: attolwg i ti, cymmer fi yn escusodol.

20 Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig, ac am hynny ni's gallafi ddyfod.

21 A'r gwâs hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i'w arglwydd. Yna gŵr y tŷ wedi digio, a ddywedodd wrth ei wâs, dôs allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn ymma y tlodion, a'r anafus, a'r cloffion, a'r deillion.

22 A'r gwâs a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynnaist, ac etto y mae lle.

23 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth y gwâs, Dôs allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau, a chymmell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ.

24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr vn o'r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o'm swpper i.

25 A llawer o bobl a gyd-gerddodd ag ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt,

26Matth. 10.37. Os daw neb attafi, ac ni chasâo ei dâd, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, fe a'i enioes ei hun hefyd, ni all efe fôd yn ddiscybl i mi.

27 A phwy bynnag ni ddycco ei groes, a dyfod ar fy ôl i, ni all efe fôd yn ddiscybl i mi.

28 Canys pwy o honoch chwi a'i frŷd ar adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a bwrw 'r draul, a oes ganddo a'i gorphenno?

29 Rhac wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orphen, ddechreu o bawb a'i gwelant, ei watwar ef,

30 Gan ddywedyd, Y dŷn hwn a ddechreu­odd adeiladu, ac ni allodd ei orphen.

31 Neu pa frenin yn myned i ryfel yn er­byn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe â deng mil, gyfarfod â'r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag vgain mil?

32 Ac os amgen, tra fyddo efe ym mhell oddi wrtho, efe a ensyn gennadwri, ac a ddeisyf ammodau heddwch.

33 Felly hefyd, pob vn o honoch chwithau, nid ymwrtho [...]o â chymmaint oll ac a feddo, ni all fôd yn ddiscybl i mi.

34Matth. 5.13. Da yw 'r halen: eithr o bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef?

35 Nid yw efe gymmwys nac i'r tîr, nac i'r dommen, ond ei fwrw ef allan y maent. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwranda­wed.

PEN. XV.

1 Dammeg y ddafad a gollesid, 8 y darn arian, 11 a'r mab afradlon.

AC yr oedd yr holl Bublicanod a'r pechadu­riaid yn nessau atto ef, i wrando arno.

2 A'r Pharisæaid a'r Scrifennyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwytta gyd â hwynt.

3 Ac efe a adroddodd wrthynt y ddammeg hon, gan ddywedyd,

4Matth. 18.12. Pa ddŷn o honoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll vn o honynt, nid yw yn gadel yr amyn vn pum vgain yn yr anialwch, ac yn myned ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi?

5 Ac wedi iddo ei chaei, efe a'i dŷd hi ar ei yscwyddau ei hun yn llawen.

6 A phan ddêl adref, efe a eilw ynghŷd ei gyfeillion a'i gymmydogion, gan ddywedyd [Page] wrthynt, Llawenhewch gyd â mi, canys cefais fy nafad a gollasid.

7 Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nêf am vn pechadur a edifarhao, mwy nag am onid vn pum vgain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edi­feirwch.

8 Neu pa wraig, a chanddi ddêgO ddra­chmonau. dryll o arian, os cyll hi vn dryll, ni oleu ganwyll, ac yscubo 'r tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis caffo ef?

9 Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghŷd ei chyfeillesau a'i chymydogesau, gan ddywe­dyd, Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais y dryll a gollaswn.

10 Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yngwydd Angelion Duw am vn pechadur a edifarhao.

11 Ac efe a ddywedodd, Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab:

12 A'r ieuangaf o honynt a ddywedodd wrth ei dâd, Fy nhâd, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da. Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd.

13 Ac yn ôl ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasclodd y cwbl ynghŷd, ac a gym­merth ei daith i wlâd bell: ac yno efe a was­carodd ei dda, gan fyw yn afradlon.

14 Ac wedi iddo dreulio 'r cwbl, y cododd newynGr. cryf. mawr trwy 'r wlâd honno: ac yntef a ddechreuodd fôd mewn eisieu.

15 Ac efe a aeth, ac a lynodd wrth vn o ddinas-wŷr y wlâd honno: ac efe a'i anfonodd ef iw faesydd i borthi môch.

16 Ac efe a chwenychai lenwi ei fol â'r cibau a fwyttai 'r môch, ac ni roddodd neb iddo.

17 A phan ddaeth atto ei hun, efe a ddy­wedodd, Pa sawl gwâs cyflog o'r eiddo fy nhâd sydd yn cael eu gwala a'i gweddill o fara, a minneu yn marw o newyn?

18 Mi a godaf, ac a âf at fy nhâd; ac a ddywedaf wrtho, Fy nhâd, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau;

19 Ac mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fâb i ti: gwna fi fel vn o'th weision cyflog.

20 Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dâd. A phan oedd efe etto ym-mhell oddi wrtho, ei dâd a'i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusan­odd.

21 A'r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhâd, pechais yn erbyn y nêf, ac o'th flaen ditheu, ac nid ydwyf mwy deilwng i'm galw yn fâb i ti.

22 A'r tâd a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch allan y wisc oreu, a gwiscwch am dano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac es­cidiau am ei draed.

23 A dygwch y llo pascedig, a lleddwch ef: a bwyttawn, a byddwn lawen.

24 Canys fy mâb hwn oedd farw, ac aeth yn fyw drachefn, ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddehreuasant fôd yn llawen.

25 Ac yr oedd ei fâb hynaf ef yn y maes, a phan ddaeth efe a nesâu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd, a dawnsio:

26 Ac wedi iddo alw vn o'r gweision, efe a ofynnodd beth oedd hyn.

27 Yntef a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth, a'th dâd a laddodd y llo pascedig, am iddo ei dderbyn ef yn iâch.

28 Ond efe a ddigiodd, ac nid ai i mewn, Am hynny y daeth ei dâd allan, ac a ymbil­iodd ag ef.

29 Yntef a attebodd ac a ddywedodd wrth ei dâd, Wele, cynnifer o flynyddoedd yr yd­wyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i vn amser dy orchymmyn, ac ni roddaist fynu erioed i mi, i fod yn llawen gyd a'm cyfeill­ion:

30 Eithr pan ddaeth dy fâb hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywyd ti gyd â phutteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llô pascedig.

31 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mâb, yr wyt ti yn oestadol gŷd â mi, a'r eiddof fi oll ydynt eiddot ti.

32 Rhaid oedd lawenychu a gorfoleddu, oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn, ac a fu golledig, ac a gaf­wyd.

PEN. XVI.

1 Dammeg y goruchwiliwr anghyfiawn. 14 Christ yn ceryddu rhag-rith y Pharisæaid cybydd. 19 Y glwth goludog, a Lazarus y Cardottyn.

AC efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddiscyb­lion, Yr oedd rhyw ŵr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwiliwr, a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fôd efe megis yn afradlo­ni ei dda ef.

2 Ac efe a'i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? dyro gyfrif o'th oruchwiliaeth: canys ni elli fôd mwy yn oruchwiliwr.

3 A'r goruchwiliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf, canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwiliaeth oddi arnaf? cloddio ni's gallaf, a chardotta sydd gywilyddus gen­nif.

4 Mi a wn beth a wnaf, fel pan i'm bwrier allan o'r oruchwiliaeth, y derbyniont fi i'w tai.

5 Ac wedi iddo alw atto bôb vn o ddyled­wŷr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnati o ddyled i'm harglwydd?

6 Ac efe a ddywedodd, Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy scrifen, ac eistedd ar frys, ac scrifenna ddeg a deugain.

7 Yna y dywedodd wrth vn arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy scrifen, ac scrifenna bedwar vgain.

8 A'r Arglwydd a ganmolodd y goruch­wiliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y bŷd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth, nâ phlant y goleuni.

9 Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o'rGolud. Mammon anghyfiawn: fel pan fo eisieu arnoch, i'ch derbyniont i'r tragwyddol bebyll.

10 Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon hefyd mewn llawer; a'r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer.

11 Am hynny, oni buoch ffyddlon yn yGolud. Mammon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwîr olud?

12 Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun?

13Matth. 6.24. Ni ddichon vn gwâs wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasâ y naill, [Page] ac a gâr y llall; ai efe a lyn wrth y naill, ac a ddirmyga 'r llall: ni ellwch wasanaethu Duw aGolud. Mammon.

14 A'r Pharisæaid hefyd, y rhai oedd ar­ian-gar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a'i gwatwarasant ef.

15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwy­chwi yw y rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain ger bron dynion; eithr Duw a ŵyr eich calonnau chwi: canys y peth sydd vchel gyd â dynion, sydd ffiaidd ger bron Duw.

16Matth. 11.11. Y gyfraith a'r prophwydi oedd hyd Ioan: er y prŷd hynny y pregethir teyrnas Dduw, a phob dŷn sydd yn ymwthio iddi.

17Matth. 5.18. A haws yw i nêf a daiar fyned heibio, nag i vn tippyn o'r gyfraithSirthio. ballu.

18Matth. 5.32. Pwy bynnag a ollyngo ymmaith ei wraig, ac a briodo vn arall, y mae efe yn go­dinebu; a phwy bynnag a briodo yr hon a ollyngwyd ymmaith oddi wrth ei gŵr, y mae efe yn godinebu.

19 Yr oedd rhyw wr goludog, ac a wiscid â phorphor aSidan. lliain main, ac yr oedd yn cym­meryd bŷd da yn helaeth-wych beunydd:

20 Yr oedd hefyd ryw gardottyn, a'i enw Lazarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd:

21 Ac yn chwennychu cael ei borthi â'r briwsion a syrthiei oddi ar fwrdd y gwr cyfoe­thog, ond y cŵn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef.

22 A bu, i'r cardottyn farw, a'i ddwyn gan yr Angelion i fynwes Abraham: a'r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd.

23 Ac yn vffern, efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hir­bell, a Lazarus yn ei fynwes.

24 Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O dâd Abraham, trugarhâ wrthif, a danfon Laza­rus, i drochi pen ei fŷs mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod: canys fe a'm poenir yn y fflam hon.

25 Ac Abraham a ddywedodd, Hâ fâb, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lazarus ei adfyd, ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir ditheu.

26 Ac heb law hyn oll, rhyngom ni a chwi­thau y siccrhawyd gagendor mawr: fel na allo y rhai a fynnent, drammwy oddi yma attoch chwi, na'r rhai oddi yna, drammwy attom ni.

27 Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn atto­lwg i ti, gan hynny, o dâd, ddanfon o honot ef i dŷ fy nhâd:

28 Canys y mae i mi bump o frodyr; fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod o hon­ynt hwythau hefyd i'r lle poenus hwn.

29 Abraham a ddywedodd wrtho, Y mae ganddynt Moses a'r Prophwydi; gwrandawant arnynt hwy.

30 Yntef a ddywedodd, Nag ê, y tâd Ab­raham; eithr os â vn oddi wrth y meirw at­tynt, hwy a edifarhânt.

31 Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a'r prophwydi, ni chredant chwaith, pe codei vn oddi wrth y meirw.

PEN. XVII.

1 Christ yn dyscu gochelyd achosion rhwystr. 3. Am faddeu bawb iw gilydd. 6 Gallu ffydd. 7 Pa fodd yr ydym ni yn rhwymedig i Dduw, ac nid efe i ni. 11 Y mae yn iachai: dêc o wahan-gleifion. 22 Am deyrnas Dduw, a dyfodiad mâb y dyn.

AC efe a ddywedodd wrth y discyblion,Matth. 18.7. Ni all na ddêl rhwystrau, ond gwae efe trwy 'r hwn y deuant.

2 Gwell fyddei iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef, a'i daflu i'r môr, nac iddo rwystro vn o'r rhai bychain hyn.

3 Edrychwch arnoch eich hunain.Matth. 18.21. Cs pecha dy frawd yn dy erbyn, cerydda ef, ac os edifarhâ efe, maddeu iddo.

4 Ac os pecha yn dy erbyn seith-waith yn y dydd, a seith-waith yn y dydd droi attat, gan ddywedyd, Y mae yn edifar gennif, maddeu iddo.

5 A'r Apostolioh a ddywedasant wrth yr Ar­glwydd, Anghwanega ein ffydd ni.

6Matth. 17.20. A'r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddei gennych ffydd gymmaint a gronyn o hâd mwstard, chwi a ellych ddywedyd wrth y sycamor-wydden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a vfuddhae i chwi.

7 Eithr pwy o honoch chwi ac iddo wâs yn aredig, neu yn bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o'r maes, dôs ac eistedd i lawr i fwytta?

8 Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Arlwya i mi i swpperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha ar­nafi, nes i mi fwyta ac yfed, ac wedi hynny y bwyttei, ac yr yfi ditheu.

9 Oes ganddo ddiolch i'r gwâs hwnnw, am wneuthur o hono y pethau a orchymmynnasid iddo? nid wyf yn tybied.

10 Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ac a orchymynnwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.

11 Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerusalem, fyned o hono ef trwy ganol Samaria a Galilæa.

12 A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahan­gleifion, y rhai a safasant o hirbell:

13 A hwy a godasant eu llêf, gan ddywe­dyd, Iesu feistr, trugarhâ wrthym.

14 A phan welodd efe hmynt, efe a ddywed­odd wrthynt,Lefit. 14.2. Ewch a dangoswch eich hunain i'r offeiriaid. A bu fel yr oeddynt yn myned, fe a'i glânhawyd hwynt.

15 Ac vn o honynt, pan welodd ddarfod ei iachâu, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llêf vchel.

16 Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo: a Samariad oedd ef.

17 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd, Oni lânhawyd y dêg? ond pa le y mae 'r naw?

18 Ni chaed a ddychwelasant i roi gogon­iant i Dduw, ond yr estron hwn.

19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dôs ymmaith, dy ffydd a'th iachaodd.

20 A phan ofynnodd v Pharisæaid iddo pa brŷd y deuei deyrnas Dduw, efe a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwil.

21 Ac ni ddywedant, Wele ymma, neu wele accw: canys wele, teyrnas Dduw,Neu, yn eich plith chwi. o'ch mewn chwi y mae.

22 Ac efe a ddywedodd wrth y discyblion, Y dyddiau a ddaw, pan chwennychoch weled vn o ddyddiau Mâb y dŷn, ac ni's gwelwch.

23Matth. 24.23. A hwy a ddywedant wrthych, Wele ymma, neu wele accw: nac ewch, ac na chan­lynwch hwynt.

24 Canys megis y mae y fellten a fellenna o'r naill ran tan y nêf, yn disclairio hyd y rhan arall tan y nêf; felly y bydd Mâb y dŷn hefyd yn ei ddydd ef.

25 Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a'i wrthod gan y genhedlaeth hon.

26Gene. 7. Ac megis y bu yn nyddiau Noe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mâb y dŷn.

27 Yr oeddynt yn bwytta, yn yfed, yn gwreica, yn gwra; hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch; a daeth y diluw, ac a'u di­fethodd hwynt oll.

28Gene. 19. Yr vn modd hefyd ac y bu yn nydd­ian Lot; yr oeddynt yn bwytta, yn yfel, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu:

29 Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodoma, y glawiodd tân a brwmstan o'r nêf, ac a'u di­fethodd hwynt oll.

30 Fel hyn y bydd yn y dydd y dadcu­ddir Mâb y dŷn.

31 Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, a'i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddes­cynned iw cymmeryd hwynt: a'r hwn a fyddo yn y maes, yr vn ffunyd na ddychweled yn ei ôl.

32Gene. 19.26. Cofiwch wraig Lot.

33Matth. 16.26. Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a'i cyll; a phwy bynnag a'i cyll, a'i bywhi hi.

34Matth. 24.40. Yr wyf yn dywedyd i chwi, y nôs honno y bydd dau yn yr vn gwely: y naill a gmmerir, a'r llall a adewir.

35 Dwy a fydd yn malu yn yr vn lle: y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.

36 Dau a fyddant yn y maes: y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.

37 A hwy a attebasant ac a ddywedasant wrtho,Matth. 24.28. Pa le Arglwydd? ac efe a ddywe­dodd wrthynt, Pa le bynnag y byddo 'r corph, yno yr ymgasgl yr eryrod.

PEN. XVIII.

3 Am y weddw daer. 9 Am y Pharisæad a'r Publican. 15 Dwyn plant at Grist. 18 Y llywydd a fynnei ganlyn Christ, ond a rwystrir gan ei gyfoeth. 28 Gwobr y rhai a yma­dawant a'r cwbl oll, er ei fwyn ef. 31 Y mae efe yn rhag-fynegi ei farwolaeth, 35 ac yn rhoddi i ddyn dall ei olwg.

AC efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrth­ynt, fôd yn rhaid gweddio1 Thess. 6.17. yn wastad, ac heb ddeffygio;

2 Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw fam-ŵr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofnei Dduw, ac ni pharchei ddŷn.

3 Yr oedd hefyd yn y deinas honno wraig weddw, a hi a ddaeth atto ef, gan ddywe­dyd, Dial fi ar fy ngwrthwyneb-wr.

4 Ac efe ni's gwnai dros amser: eithr wedi hynny, efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddŷn:

5 Etto am fôd y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a'i dialaf hi; rhag iddi yn y di­wedd ddyfod a'm syfrdanu i.

6 A'r Arglwydd a ddywedodd, Gwran­dewch beth a ddywed y barn-wr anghyfiawn.

7 Ac oni ddial Duw ei etholedigion, sy yn llefain arno ddydd a nos, er ei lôd yn hir oedi trostynt?

8 Yr wyf yn dywedyd i chwi y dial efe hwynt ar frŷs: eithr Mâb y dŷn pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaiar?

9 Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon hefyd, wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bôd yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill:

10 Dau ŵr a aeth i fynu i'r Deml I weddio: vn yn Pharisæad, a'r llall yn Bublican.

11 Y Pharisæad o'i sefyll a weddiodd rhyng­ddo ac ef ei hun fel hyn, O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyfi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwŷr; neu fel y Publican hwn chwaith.

12 Yr wyf yn ymprydio ddwy-waith yn yr wyth-nos, yr wyf yn degymmu cymmaint oll ac a seddaf.

13 A'r Publican gan sefyll o hirbell, ni fyn­nei cymmaint a chodi ei olygon tu a'r nêf, eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw bydd drugarog wrthif bechadur.

14 Dywedaf i chwi, aeth hwn i wared iw dŷ, wedi ei gyfiawnhau yn fwy nâ'r llall:Matth. 23.12. canys pôb vn ac sydd yn ei dderchafu ei hun, a ostyngir: a phôb vn ac sydd yn ei ostwng ei hun, a dderchefir.

15 A hwy a ddygasant atto blant bychain hefyd, fel y cyffyrddei efe â hwynt: a'r dis­cyblion pan welsant, a'u ceryddasant hwy.

16 Eithr yr Iesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, Gadewch i'r plant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch hwynt; ca­nys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw.

17 Yn wîr meddaf i chwi, pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dŷn bâch, nid â efe i mewn iddi.

18Matth. 19.16. A rhyw Lywodraeth-wr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddafi fywyd tragwyddol?

19 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Pa ham i'm gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond vn, sef Duw.

20 Ti a wyddost y gorchymynion, Na odi­neba, Na ladd, Na ledratta, Na ddwg gam dyst­iolaeth, Anrhydedda dy dâd a'th fam.

21 Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o'm ieuengtid.

22 A'r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae vn peth etto yn ôl i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennit, a dyro i'r tiodion, a thi a gai drysor yn y nêf: a thyred, canlyn fi.

23 Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoe­thog iawn.

24 A'r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athr'st, a ddywedodd, Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyr­nas Dduw!

25 Canys haws yw i gamel fyned trwy grau y nodwydd ddur, nac i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

26 A'r rhai a glywsent a ddywedas [...] A phwy a all fôd yn gadwedig?

27 Ac efe a ddywedodd. Y pethau [...] [...]m­mhossibl gyd â dynion, sydd bossibl gyd â Duw.

28Matth. 19.27. A dywedodd Petr, Wele, nyni a adaw­som bôb peth, ac a'th ganlynasom di.

29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wîr meddaf i chwi, nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,

30 A'r ni's derbyn lawer cymmaint yn y prŷd hwn, ac yn y bŷd a ddaw fywyd tragwyddol.

31Matth. 20.17. Ac efe a gymmerodd y deuddeg atto, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydyrn ni yn myned i fynu i Jerusalem, a chyflawnir pôb [Page] peth a'r sydd yn scrifennedig trwy'r prophwydi am Fâb y dŷn.

32 Canys efe a draddodir i'r cenhedloedd, ac a watwerir, ac a amherchir, ac a boerir arno:

33 Ac wedi iddynt ei fflangellu y lladdant ef, a'r trydydd dydd efe a adgyfyd.

34 A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn, a'r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywetpwyd.

35Matth. 20.29. A bu, ac efe yn nesau at Jericho, i ryw ddŷn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardotta.

36 A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn.

37 A hwy a ddywedasant iddo mai Iesu o Nazareth oedd yn myned heibio.

38 Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu fâb Dafydd trugarhâ wrthif.

39 A'r rhai oedd yn myned o'r blaen a'i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mâb Dafydd trugarhâ wrthif.

40 A'r Iesu a safodd, ac a orchymynnodd ei ddwyn ef atto: a phan ddaeth yn agos, efe a ofynnodd iddo,

41 Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntef a ddywedodd, Ar­glwydd, cael o honof fy ngolwg.

42 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymmer dy olwg; dy ffydd a'th iachaodd.

43 Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw: a'r holl bobl pan welsant, a roesant foliant i Dduw.

PEN. XIX.

1 Am Zaccheus y Publican. 11 Y dêc darn o arian. 28 Christ yn marchogaeth i Jerusa­lem mewn gorfoledd: 41 yn wylo trosti: 45 yn gyrru y prynwyr a'r gwerthwyr allan o'r Deml: 47 gan athrawiaethu beunydd ynddi. Y llywodraeth-wyr a fynnent ei ddi­fetha ef, oni bai rhag ofn y bobl.

A'R Iesu a aeth i mewn, ac a aeth trwy Iericho.

2 Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Zacchae­us, ac efe oedd Ben-publican, a hwn oedd gy­foethog.

3 Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd: ac ni allei gan y dyrfa, am ei fôd yn fychan o gorpholaeth.

4 Ac efe a redodd o'r blaen, ac a ddringodd i sycomorwydden, fel y gallei ei weled ef: oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno.

5 A phan ddaeth yr Iesu i'r lle, efe a edrych­odd i fynu, ac a'i canfu ef, ac a ddywedodd wrtho, Zacchaeus, discyn ar frŷs; canys rhaid i mi heddyw aros yn dy dŷ di.

6 Ac efe a ddescynnodd ar frŷs, ac a'i der­byniodd ef yn llawen.

7 A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned o hono ef i mewn i letteua at ŵr pechadutus.

8 A Zacchaeus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, o Ar­glwydd, yr ydwyf yn ei roddi i'r tlodion, ac os dugym ddim o'r eiddo neb drwy gam­achwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwe­rydd.

9 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddyw y daeth iechydwriaeth i'r tŷ hwn, o herwydd ei fôd yntef yn fâb i Abraham.

10Matth. 18.11. Canys Mâb y dŷn a ddaeth i geisio, ac i gadw yr hyn a gollasid.

11 Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd ac a ddywedodd ddammeg, am ei fôd efe yn agos at Jerusalem, ac am idd­ynt dybied yr ymddangosei teyrnas Dduw yn y fan.

12Matth. 25.14. Am hynny y dywedodd efe, Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlâd bell, i dderbyn teyrnas iddo ei hun, ac i ddychwelyd.

13 Ac wedi galw ei ddêg gwâs, efe a roddes iddynt ddêg punt, ac a ddywedodd wrthynt, Marchnattewch hyd oni ddelwyf.

14 Eithr ei ddinas-wŷr a'i casasant ef, ac a ddanfonasant gennadwri ar ei ôl ef, gan ddy­wedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom.

15 A bu, pan ddaeth efe yn ei ôl wedi der­byn y deyrnas, erchi o hono ef alw y gweision hyn atto, i'r rhai y rhoddasei efe yr arian, fel y gwybyddei beth a elwasei bôb vn wrth farch­natta.

16 A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Ar­glwydd, dy bunt a ynnillodd ddêg punt.

17 Yntef a ddywedodd wrtho, Da wâs da, am i ti fôd yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddêg dinas.

18 A'r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Ar­glwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt.

19 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd ditheu ar bum dinas.

20 Ac vn arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennif wedi ei dodi mewn napcyn.

21 Canys mi a'th ofnais, am dy fôd yn ŵr tôst: yr wyt ti yn cymmeryd i fynu y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist.

22 Yntef a ddywedodd wrtho, O'th enau dy hun i'th farnaf, tydi wâs drwg: ti a wy­ddit fy môd i yn ŵr tôst, yn cymmeryd i fynu y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais:

23 A pha ham na roddaist fy arian i i'r bwrdd cyfnewid, fal pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyd â llôg?

24 Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger llaw, Dygwch oddl arno ef y bunt, a rhoddwch i'r hwn sydd a dêg punt ganddo.

25 A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt.

26 Canys yr wyfi yn dywedyd i chwi,Matth 13.12. Mai i bôb vn y mae ganddo y rhoddir iddo: eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, îe yr hyn sydd ganddo.

27 A hefyd, fy ngelynion hynny, y rhai ni fynnasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt ymma, a lleddwch ger fy mron i.

28 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o'r blaen, gan fyned i fynu i Jerusa­lem.

29Matth. 21.1, 2. Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethphage a Bethania, i'r mynydd a elwir Oliwydd, efe a anfonodd ddau o'i ddis­cyblion,

30 Gan ddywedyd, Ewch i'r pentref ar eich cyfer: yn yr hwn gwedi eich dyfod i mewn, chwi a g [...]wch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dŷn erioed: gollyngwch ef, a dygwch ymma.

31 Ac os gofyn neb i chwi, Pa ham yr yd­ych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wr­tho, Am fôd yn rhaid i'r Arglwydd wrtho.

32 A'r rhai a ddanfonasid a aethant ym­maith, ac a gawsant fel y dywedasei efe wrthynt.

33 Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchennogion a ddywedasant wrthynt, Pa ham yr ydych yn gollwng yr ebol?

34 A hwy a ddywedasant, Mae ynrhaid i'r Arglwydd wrtho ef.

35 A hwy a'i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno.

36 Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a danasant eu dillad ar hŷd y ffordd.

37 Ac weithian, ac efe yn nesau at ddescyn­fa mynydd yr Oliwydd, dechreuodd yr holl liaws ddiscyblion lawenhau, a chlodfori Duw â llef vchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent,

38 Gan ddywedyd, Bendigedig yw 'r bre­nin sydd yn dyfod yn enw 'r Arglwydd: tang­neddyf yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf.

39 A rhai o'r Pharisæaid o'r dyrfa a ddywe­dasant wrtho, Athro, cerydda dy ddiscyblion.

40 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrth­ynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, pe tawai y rhai hyn, y llefei y cerrig yn y fan.

41 Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan we­lodd efe y ddinas, efe a wylodd trosti,

42 Gan ddywedyd, Pe gwybasit ditheu, ie yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i'th heddwch: eithr y maent yn awr yn gudd­iedig oddi wrth dy lygaid.

43 Canys daw y dyddiau arnat, a'th elyn­ion a fwriant glawdd o'th amgylch, ac a'th am­gylchant, ac a'th warchaeant o bôb parth;

44 Ac a'th wnânt yn gyd-wastad â'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen: o herwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.

45Matth. 22.12. Ac efe a aeth i mewn i'r Deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwer­thu thu ynddi, ac yn prynu:

46 Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn scri­fennedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.

47 Ac yr oedd efe beunvdd yn athrawiaethu yn y Deml: a'r Arch-offeiriaid, a'r Scrifen­nyddion, a phennaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef:

48 Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: ca­nys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho, i wran­do arno.

PEN. XX.

1 Christ yn profi ei awdurdod, trwy ymofyn am fedydd Ioan. 9 Dammeg y winllan. 19 Am roddi teyrnged i Cæsar. 27 Y mae efe yn gorchfygu y Saducæaid, y rhai a wadent yr Adgyfodiad. 41 Y modd y mae Christ yn fâb Dafydd. 45 Y mae efe yn rhybuddio ei ddiscyblion i ochelyd yr Srifennyddion.

AMatth. 21.23. Digwyddodd ar vn o'r dyddiau hynny, ac efe yn dyscu y bobl yn y Deml, ac yn pregethu yr Efengyl, ddyfod arno yr Arch­offeiriaid a'r Scrifennyddion, gyd â'r Henur­iaid,

2 A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni drwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw yr hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon?

3 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrth­ynt, A minneu a ofynnaf i chwithau vn gair; a dywedwch i mi:

4 Bedydd Ioan, a'i o'r nef yr ydoedd, ai o ddynion?

5 Eithr hwy a ymresymmasant yn eu piith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef, efe a ddywed, Pa ham gan hynny na chredech ef?

6 Ac os dywedwn, O ddynion, yr holl bobl a'n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gredu fôd Ioan yn brophwyd.

7 A hwy a attebasant na's gwyddent o ba le.

8 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finneu yn dywedyd i chwi, trwy ba aw­durdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

9 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddam­meg hon wrth y bobl;Matth. 21.33. Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a'i gosododd i lafur-wŷr, ac a aeth oddi cartref tros dalm o amser.

10 Ac mewn amser efe a anfonodd wâs at y llafur-wŷr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafur-wŷr a'i curasant ef, ac a'i hanfonasant ymmaith yn wag-law.

11 Ac efe a chwanegodd anfon gwâs arall; eithr hwy a gurasant, ac a amharchasant hwn­nw hefyd, ac a'i hanfonasant ymmaith yn wâg-law.

12 Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a'i bwriasant ef allan.

13 Yna y dywedodd Arglwydd y winllan, Pa beth a wnâf? mi a anfonaf fy anwyl fâb: fe allai pan weiant ef y parchant ef.

14 Eithr y llafur-wŷr, pan welsant ef, a ymresymmasant â'u gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo yr etifeddiaeth yn eiddom ni.

15 A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna ar­glwydd y winllan iddynt hwy?

16 Efe a ddaw ac a ddifetha y llafur-wŷr hyn, ac arydd ei winllan i eraill. A phan glyw­sant hyn, hwy a ddywedasant, Na atto Duw.

17 Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywed­odd, Beth gan hynny yw hyn a scrifennwyd,Psal. 118.22. Y maen a wrthododd yr adeilad-wyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl?

18 Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwn­nw, a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef.

19 A'r Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion, a geisiasant roddi dwylo arno yr awr honno; ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybu­ant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasei efe y ddammeg hon.

20 A hwy a'i gwiliasant ef, ac a yrrasant gynllwyn-wŷr, y rhai a gymmerent arnynt eu bôd yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ym­adrodd, iw draddodi ym-meddiant ac awdur­dod y rhaglaw.

21 A hwy a ofynnasant iddo ef, gen ddy­wedyd,Matth. 22.16. Athro, ni a wyddom mai vniawn yr ydwyt ti yn dywedyd, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dyscu ffordd Dduw mewn gwirionedd.

22 A'i cyfreithlon i ni roi teyrnged i Cæsar, ai nid yw?

23 Ac efe a ddeallodd eu cyfrwystra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Pa ham y temtiwch fi?

24 Dangoswch i mi geiniog: llun ac ar­graff pwy sydd arni? A hwy a attebasant ac a ddywedasant, Yr eiddo Cæsar.

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwithau yr eiddo Cæsar i Cæsar, a'r eiddo Duw i Dduw.

26 Ac ni allasant feio ar ei eiriau ef ger bron y bobl: a chan ryfeddu wrth ei atteb ef, hwy a dawsant â fôn.

27Matth. 22.23. A rhai o'r Saducæaid, (y rhai sy yn gwadu nad oes adgyfodiad) a ddaethant atto ef, ac a ofynnasant iddo,

28 Gan ddywedyd, Athro, Moses a scrifen­nodd i ni, Os byddei farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw o hono yn ddiblant, ar gym­meryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi hâd iw frawd.

29 Yr oedd gan hynny saith o frodyr; a'r cyntaf a gymmerodd wraig, ac a fu farw yn ddi-blant.

30 A'r ail a gymmerth y wraig, ac a fu­farw yn ddi-blant.

31 A'r trydydd â'i cymmerth hi: ac yr vn ffunyd y saith hefyd, ac ni adawsant blant, ac a fuant feirw.

32 Ac yn ddiweddaf oll, bu farw y wraig hefyd.

33 Yn yr adgyfodiad gan hynny, gwraig i bwy vn o honynt yw hi? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.

34 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrth­ynt, Plant y bŷd hwn sydd yn gwreica, ac yn gwra.

35 Eithr y rhai a gyfrifer yn deilwng i gael y bŷd hwnnw, a'r adgyfodiad oddi wrth y meirw, nid ydynt nac yn gwreica nac yn gwra.

36 Canys ni's gallant farw mwy: oblegid cyd-stad ydynt â'r Angelion: a phlant Duw ydynt, gan eu bod yn blant yr adgyfodiad.

37 Ac y cyfyd y meirw,Exod. 3.6. Moses hefyd a yspysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob.

38 Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef.

39 Yna rhai o'r Scrifennyddion, gan atteb a ddywedasant, Athro, da y dywedaist.

40 Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dim iddo ef.

41 Ac efe a ddywedodd wrthynt,Matth. 22.42. Pa fodd y maent yn dywedyd fôd Christ yn fâb i Dda­fydd?

42 Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Psalmau, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheu-law,

43 Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed­fainc i'th draed ti.

44 Y mae Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, a pha fodd y mae efe yn fab iddo?

45 Ac a'r holl bobl yn clywed, efe a ddy­wedodd wrth ei ddiscyblion,

46Matth. 23.5. Ymogelwch rhag yr Scrifennyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad lleision, ac a garant gysarchiadau yn y Marchnadoedd, a'r prif-gadeiriau yn y Synagogau, a'r prif­eisteddleoedd yn y gwleddoedd.

47 Y rhai sydd yn llwyr-fwytta tai gwrag­edd gweddwon, ac mewn rhith yn hir-weddio, y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.

PEN. XXI.

2 Christ yn canmol y weddw dlawd: 5 Yn rhag­fynegi dinystr y Deml, a dinas Jerusalem. 25 a'r arwyddion a fydd o flaen y dydd di­waethaf: 34 yn eu hannoc hwy i fôd yn wil­iadwrus. 37 Arfer Christ tra fû yn Jerusalem.

AC wedi iddo edrych i fynu, efeMarc. 12.41. a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r drysorfa.

2 Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling.

3 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy nâ hwynt oll.

4 Canys y rhai hyn oll o'r hyn oedd we­ddill ganddynt a fwriasant at offrymmau Duw: eithr hon o'i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi.

5Matth. 24.1. Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y Deml, ei bôd hi wedi ei harddu â meini têg a rhoddion, efe a ddywedodd,

6 Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw y dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen a'r ni's dattodir.

7 A hwy a ofynnasant iddo, gan ddywe­dyd, Athro, pa brŷd gan hynny y bydd y pe­thau hyn, a pha arwydd fydd pan fo 'r pethau hyn ar ddyfod?

8 Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Christ, a'r amser a nefaodd: nac ewch gan hynny ar eu hôl hwynt.

9 A phan glywoch sôn am ryfeloedd a ther­fyscoedd, na chymmerwch fraw: canys rhaid i'r pethau hyn fôd yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man.

10Matth. 24.7. Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn er­byn teyrnas:

11 A daiar-grynfau mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau, a phethau osnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o'r nêf.

12 Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a'ch erlidiant, gan eich tra­ddodi i'r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn ger bron brenhinoedd a llywodraeth­wŷr, o achos fy enw i.

13 Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystio­laeth.

14Matth. 10.19. Am hynnyGoso­dwch yn eich ca­lonnau na &c. rhoddwch eich brŷd, ar na rag-fyfyrioch beth a atteboch.

15 Canys myfi a roddaf i chwi enau, a doethineb, yr hyn ni's gall eich holl wrth­wyneb-wŷr na dywedyd yn ei herbyn, na'i gwrth-sefyll.

16 A chwi a fradychir, ie gan rieni, a bro­dyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai o honoch y parant farwolaeth.

17 A châs fyddwch gan bawb o herwydd fy enw i.

18Matth. 10.30. Ond ni chyll blewin o'ch pen chwi.

19 Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau.

20Matth. 24.15. A phan weloch Jerusalem wedi ei h [...]gyl [...]hu gan luoedd, yna gwybyddwch fôd ei anghyfannedd-dra hi wedi nesau.

21 Yna y rhai fyddant yn Judæa, ffoant i'r mynyddoedd: a'r rhai a f [...]ddant yn ei chanol hi, ymadawant: a'r rhai a fyddant yn y meusydd, nac elont i mewn iddi:

22 Canys dyddiau dial yw y rhai hyn, i gyflawni yr holl bethau a scrifennwyd.

23 Eithr gwae y rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny: ca­nys bydd angen mawr yn y tîr, a digofaint ar y bobl hyn.

24 A hwy a syrthiant drwy fin y cleddyf, a chaeth-gludir hwynt at bôb cenhedlaeth: a Jerusalem a fydd wedi ei mathru gan ŷ cen­hedloedd, [Page] hyd oni chyflawner amser y cen­hedloedd.

25 AMatth. 24.29. bydd arwyddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r sêr, ac ar y ddaiar ing cenhedloedd gan gyfyng-gyngor; a'r môr a'r tonnau yn rhuo.

26 A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwil am y pethau sy yn dyfod ar y ddaiar: oblegid nerthoedd y nefoedd a yscydwir.

27 Ac yna y gwelant Fâb y dŷn yn dyfod mewn cwmmwl, gydâ gallu a gogoniant mawr.

28 A phan ddechreuo 'r pethau hyn ddy­fod, edrychwch i fynu, a chodwch eich pen­nau: canys y mae eich ymwared yn nesau.

29 Ac efe a ddywedodd ddammeg iddynt, Edrychwch ar y ffigys-bren, a'r holl bren­iau;

30 Pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch, ac a ŵyddoch o honoch eich hun, fôd yr hâf yn agos.

31 Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fôd teyrnas Dduw yn agos.

32 Yn wîr meddaf i chwi, nid â yr oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben.

33 Y nêf a'r ddaiar a ânt heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

34 Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i'ch calonnau vn amser drymhau drwy loth­ineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth.

35 Canys efe a ddaw fel magl, ar wartha pawb oll a'r sy yn trigo ar wyneb yr holl ddaiar.

36 Gwiliwch gan hynny a gweddiwch bôb amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddiangc rhag y pethau hyn oll sy ar ddyfod, ac i sefyll ger bron Mâb y dŷn.

37 A'r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y Deml, a'r nôs yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd, a elwid yr Oliwydd.

38 A'r holl bobl a foreu-gyrchent atto ef yn y Deml, iw glywed ef.

PEN. XXII.

1 Yr Iddewon yn cyd-fwriadu yn erbyn Christ. 3 Satan yn paratoi Iudas iw fradychu ef. 7 Yr Apostolion yn arlwyo y Pasc. 19 Christ yn or­deinio ei Swpper sanctaidd, 21 yn guddiedic yn rhagddywedyd am y bradychwr, 24 yn annoc y rhan arall o'i Apostolion i ochelyd rhyfyg, 32 yn siccrhau Petr na phallei ei ffydd ef, 34 ac er hynny y gwadei efe ef dair gwaith: 39 yn gweddio yn y mynydd, ac yn chwysu 'r gwaed, 47 yn cael ei fradychu â chusan, 50 yn iachâu clust Malchus, 54 yn cael ei wadu dair gwaith gan Petr, 63 a'i am­herchi yn gywilyddus, 66 ac yn cyfeddef ei fod yn Fab Duw.

AMatth. 26 2. Nessaodd gŵyl y bara croyw, yr hon a elwir y Pasc.

2 A'r Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.

3Matth. 26.14. A Satan a aeth i mewn i Iudas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi 'r deuddeg.

4 Ac efe a aeth ymmaith, ac a ymddidda­nodd a'r Arch-offeiriaid, a'rCapren­iaid. blaenoriaid, pa fodd y bradychei efe ef iddynt.

5 Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gyttunasant ar roddi arian iddo.

6 Ac efe a addawodd: ac a geisiodd amser cyfaddas iw fradychu ef iddynt, yn absen y bobl.

7Matth. 26.17. A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y Pasc.

8 Ac efe a anfonodd Petr ac Ioan, gan ddy­wedyd, Ewch, paratowch i ni 'r Pasc, fel y bwyttaom.

9 A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni baratoi o honom?

10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i'r ddinas, cyferfydd â chwi ddŷn yn dwyn steneid o ddwfr: canlyn­wch ef i'r tŷ lle yr êl efe i mewn.

11 A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae 'r Athro yn dywedyd wrthit, Pa le y mae 'r llet­ty, lle y gallwyf fwytta 'r Pasc gyd â'm discyblion?

12 Ac efe a ddengys i chwi oruwch-ystafell fawr, wedi ei thanu: yno paratowch.

13 A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dy­wedasei efe wrthynt, ac a baratoesant y Pasc.

14Matth. 26.20. A phan ddaeth yr awr, efe a eistedd­odd i lawr, a'r deuddeg Apostol gŷd ag ef.

15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, MiGan chwenŷch a chwe­nychais. a chwennychais yn fawr fwytta 'r Pasc hwn gyd â chwi, cyn dioddef o honof.

16 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwyttâf fi mwyach o honaw, hyd oni chyf­lawner yn nheyrnas Dduw.

17 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith.

18 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw.

19Matth. 26.26. Ac wedi iddo gymmeryd bara, a rhoi diolch, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorph, yr hwn yr ydys yn ei roddi trosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf.

20 Yr vn modd y cwppan hefyd wedi swp­peru, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw 'r Testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt trosoch.

21Matth. 26.21. Eithr wele law 'r hwn sydd yn fy mradychu, gŷd â mi ar y bwrdd.

22 Ac yn wîr, y mae Mâb y dŷn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae 'r dŷn hwnnw, trwy 'r hwn y bradychir ef.

23 Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hun, pwy o honynt oedd yr hwn a wnai hynny.

24 A bu ymryson yn eu plith: pwy o honynt a dybygid ei fôd yn fwyaf.

25Matth. 20.25. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt: a'r rhai sy mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion.

26 Ond na fyddwch chwifelly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf, a'r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini.

27 Canys pa vn fwyaf, ai 'r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai 'r hwn sydd yn gwa­sanaethu? ond yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyfi yn eich mysc, fel vn yn gwasanaethu.

28 A chwy-chwi yw y rhai a arhosasoch gŷd â mi yn fŷ mhrofedigaethau.

29 Ac yr wyfi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhâd i minneu,

30 Fel y bwyttaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas,Matt. 19.18 ac yr eisteddoch ar [Page] orseddfeydd, yn barnu deuddeg-llwyth Israel.

31 A'r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Si­mon, wele,1 Pet. 5.8. Satan a'ch ceisiodd chwi, i'ch nithio fel gwenith:

32 Eithr mi a weddiais tro [...] [...] ddiffygiei dy ffydd di: ditheu pan i'th d [...] cadarnhâ dy frodyr.

33 Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyfi yn barod i fyned gyd â thi i garchar, ac i angeu.

34Matth. 26.34. Yntef a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti Petr, Na chân y ceiliog heddyw, nes i ti wadu dair gwaith yr adweini fi.

35Matth. 10.9. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan i'ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac escidiau; a fu arnoch eisieu dim? a hwy a ddyweda­sant, Na ddo ddim.

36 Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr, y neb sydd ganddo bwrs, cymmered, a'r vn modd gôd: a'r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf.

37 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fôd yn rhaid etto gyflawni ynofi y peth hyn a scrifennwyd, sef,Esai. 53.12. A chyd â'r anwir y cyfrif­wyd ef. Canys y mae diben i'r pethau am danafi.

38 A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf ymma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.

39Matth. 26.36. Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd: a'i ddiscy­blion hefyd a'i canlynasant ef.

40Matth. 26.41. A phan ddaeth efe i'r man, efe a ddy­wedodd wrthynt, Gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth.

41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tu ag ergyd carreg, ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddiodd,

42 Gan ddywedyd, O Dâd, os ewyllysi droi heibio y cwppan hwn oddi wrthif: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.

43 Ac Angel o'r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef.

44 Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddi­odd yn ddyfalach, a'i chwys ef oedd fel def­nynnau gwaed, yn descyn ar y ddaiar.

45 A phan gododd efe o'i weddi, a dyfod at ei ddiscyblion, efe a'u cafodd hwynt yn cyscu gan dristwch:

46 Ac a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych yn cyscu? codwch a gweddiwch nad eloch mewn prosedigaeth.

47 Ac efe etto yn llefaru,Matth. 26.47. wele dyrfa, a hwn a elwir Iudas, vn o'r deuddeg, oedd yn myned o'i blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, iw gufanu ef.

48 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Iudas, ai â chusan yr wyti yn bradychu Mâb yn dŷn?

49 A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef, y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a darawn ni â chleddyf?

50 A rhyw vn o honynt a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ddehau ef.

51 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn. Ac efe a gyffyrddodd â'i glust, ac a'i iachaodd ef.

52 A'r Iesu a ddywedodd wrth yr Arch­offeiriaid, aChap­teini [...]id. blaenoriaid y Deml, a'r henur­iaid, y rhai a ddaethent atto, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan â chleddyfau, ac â ffyn?

53 Pan oeddwn beunydd gyd â chwi yn y Deml, nid estynnafoch ddwylo i'm herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu 'r tywyllwch.

54Matth. 26.57. A hwy a'i daliasant ef, ac a'i harwei­niasant, ac a'i dygasant i mewn i dŷ 'r Arch­offeiriad. A Phetr a ganlynodd o hirbell.

55Matth. 26.69. Ac wedi iddynt gynneu tân ynghanol y neuadd, a chyd-eistedd o honynt, eisteddodd Petr yntef yn eu plith hwynt.

56 A phan ganfu rhyw langces ef yn eistedd wrth y tân, a dal fulw arno, hi a ddywedodd, yr oedd hwn hefyd gyd ag ef.

57 Yntef a'i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef.

58 Ac ychydig wedi, vn arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt titheu hefyd yn vn o honynt. A Phetr a ddywedodd, O ddŷn, nid ydwyf.

59 Ac ar ôl megis yspaid vn awr, rhyw vn arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwir­ionedd, yr oedd hwn hefyd gyd ag ef: canys Galilæad yw.

60 A Phetr a ddywedodd, Y dyn, ni's gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, canodd y ceiliog.

61 A'r Arglwydd a drôdd, ac a edrychodd ar Betr: a Phetr a gofiodd ymadrodd yr Ar­glwydd, fel y dywedasei efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, y gwedi fi deir-gwaith.

62 A Phetr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.

63 A'r gwŷr oedd yn dal yr Iesu, a'i gwat­warasant ef, gan ei daro.

64 Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a'i tarawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Prophwyda, Pwy yw 'r hwn a'th darawodd di?

65 A llawer o bethau eraill gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef.

66Matth. 27.1. A phan aeth hi yn ddydd, ymgyn­nullodd Henuriaid y bobl, a'r Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion, ac a'i dygasant ef iwSynedar. Cyn­gor hwynt,

67 Gan ddywedyd,Os ti yw Christ. Ai ti yw Christ? dy­wed i ni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim:

68 Ac os gofynnaf hefyd i chwi, ni'm hat­tebwch, ac ni'm gollyngwch ymmaith.

69 Yn ôl hyn y bydd Mâb y dŷn yn eistedd ar ddeheu-law gallu Duw.

70 A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt,Marc. 14.6. Yr ydych chwi yn dywedyd fy môd.

71 Hwythau a ddywedasant, Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth? canys clywsom ein humain o'i enau ef ei hun.

PEN. XXIII.

1 Cyhuddo 'r Iesu ger bron Pilat, a'i anfon at Herod; 8 A Herod yn ei watwar ef. 12 He­rod a Philat yn cymmodi â'i gilydd. 18 Y bobl yn deisyf cael Barabbas, a Philat yn ei ollwng ef iddynt, ac yn rhoddi yr Iesu iw groes-hoelio. 27 Yntef yn mynegi i'r gwragedd a alarent o'i blegid ef, ddinystr Ierusalem: 34 yn gweddio tros ei elynion. 39 Crogi dau ddrwg-weithred­wr gyd ag ef. 46 Ei farwolaeth, 50 a'i gladdedigaeth ef.

A'R holl liaws o honynt, a gyfodasant, ac a'i dygasant ef at Pilat:

2 Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyrdroi 'r bobl, ac yn gwahardd rhof teyrnged i [Page] Cæsar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Christ frenin.

3 AMatth. 27.11. Philat a ofynnodd iddo, gan ddywe­dyd, Ai ti yw brenin yr Iddewon? Ac efe a attebodd iddo ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd.

4 A dywedodd Pilat wrth yr Arch-offeir­iaid a'r bobl, Nid wyfi yn cael dimAchos yn. bai ar y dŷn hwn.

5 A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffroi 'r bobl, gan ddyscu trwy holl Iudæa, wedi dechreu o Galilæa hyd ymma.

6 A phan glybu Pilat sôn am Galilæa, efe a ofynnodd a'i Galilæad oedd y dŷn.

7 A phan wybu efe ei fôd ef o lywodraeth Herod, efe a'i hanfonodd ei at Herod, yr hwn oedd yntef yn Ierusalem y dyddiau hynny.

8 A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenych­odd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ystalm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer am dano ef: ac yr ydoedd yn gobei­thio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef.

9 Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eir­iau: eithr efe nid attebodd ddim iddo.

10 A'r Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion a safasant gan ei gyhuddo ef yn haerllyg.

11 A Herod a'i filwŷr, wedi iddo ei ddi­ystyru ef, a'i watwar, a'i wisco â gwis [...] glaer­wen, a'i danfonodd ef drachefn at Pilat.

12 A'r dythwn hwnnw yrAeth. cymmod rhwng Pilat a Herod. aeth Pilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'i gilydd.

13Matth. 27.23. A Philat, wedi galw ynghŷd yr Arch-offeiriaid, a'r llywiawd-wŷr, a'r bobl,

14 A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddyga­soch y dŷn hwn attafi, fel vn a fyddai yn gŵyr-droi 'r bobl: ac wele, myfi a'i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni thefais yn y dŷn hwn ddimAchos. bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef am danynt:

15 Na Herod chwaith: canys anfonais chwi atto ef, ac wele, dim yn haeddu marwolaeth ni's gwnaed iddo.

16 Am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf ymmaith.

17 Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng vn yn rhydd iddynt ar yr ŵyl.

18 A'r holl liaws a lefasant ar vnwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymmaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd:

19 (Yr hwn, am ryw derfysc a wnelsid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar)

20 Am hynny Pilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd.

21 Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywe­dyd, Croes-hoelia, croes-hoelia ef.

22 Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo, am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf yn rhydd.

23A hwy a bwysa­sant arno. Hwythau a fuant daerion â llefau vchel gan ddeisyfu ei groes-hoelio ef: a'u llefau hwynt a'r Arch-offeiriaid a orfuant.

24 A Philat a farnodd wneuthur eu deisy­fiad hwynt.

25 Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysc a llofruddiaeth a swriafid yngharchar, yr hwn a ofynnasant: eithr yr Iesu a draddododd efe iw hewyllys hwynt.

26M 27.32 Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ym­maith, hwy a ddaliasant vn Simon o Cyrene, yn dyfod o'r wlâd, ac a ddodasant y groes ar­no ef, iw dwyn ar ôl yr Iesu.

27 Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd: y rhai hefyd oedd yn cwynfan, ac yn galaru o'i blegid ef.

28 A'r Iesu wedi troi attynt, a ddywedodd, Merched Ierusalem, nac ŵylwch o'm plegid i, eithr ŵylwch o'ch plegid eich hun, ac oblegid eich plant:

29 Canys wele, y mae 'r dyddiau yn dy­fod yn y rhai y dywedant, Gwyn eu bŷd y rhai amhlantadwy, a'r crothau ni heppiliasant, a'r bronnau ni roesant sugn.

30Esai. 10. Hos. 1.8. Datc. 6.16. Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom: ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni.

311 Pet. 4.17. Canys os gwnant hyn yn y pren îr, pa beth a wneir yn y crîn?

32Matt [...] 27.38. Ac arweinwyd gyd ag ef hefyd ddau ddrwg-weithred-wŷr eraill, iw rhoi iw marwo­laeth.

33 A phan ddaethant i'r lle a elwirLle'r benglog. Calua­ria, yno y croes-hoeliasant ef, a'r drwg­weithred-wyr: vn ar y llaw ddehau, a'r llall ar yr asswy.

34 A'r Iesu a ddywedodd, O Dâd, maddeu iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a rannasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren.

35 A'r bobl a safodd yn edrych: a'r pen­naethiaid hefyd gŷd â hwynt, a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe, gware­ded ef ei hun, ôs hwn yw Christ, etholedig Duw.

36 A'r milwŷr hefyd a'i gwatwarasant ef, gan ddyfod atto, a chynnyg iddo finegr,

37 A dywedyd, Os tydi yw brenin yr Iddewon, gwared dy hun.

38 Ac yr ydoedd hefyd arscrifen wedi ei scrifennu vwch ei ben ef, â llythyrennau Groeg, a Lladin, ac Ebrew, HWN YW BRENIN YR IDDEWON.

39 Ac vn o'r drwg-weithred-wŷr a g [...] ­gasid, a'i cablodd ef, gan ddywedyd, Os [...]yd [...] yw Christ, gwared dy hun a ninnau.

40 Eithr y llall a attebodd, ac a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fôd dan yr vn ddamnedigaeth?

41 A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr yd­ym yn derbyn yr hyn a haeddei y pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o'i lê.

42 Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Ar­glwydd cofia fi, pan ddelych i'th deyrnas.

43 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddyw y byddi gŷd â mi ym­mharadwys.

44 Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr hollDir. ddaiar hyd y nawfed awr.

45 A'r haul a dywyllwyd, a llen y Deml a rwygwyd yn ei chanol.

46 A'r Iesu gan Iefain â llef vchel a ddywe­dodd,Psal. 31.5. O Dâd, i'th ddwylo di y gorchymyn­naf fy yspryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd.

47 A'r Canwriad pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddy­wedyd, Yn wîr yr oedd hwn yn wr cyfiawn.

48 A'r holl bobloedd, y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau.

49 A'i holl gydnabod ef a safasant o hir­bell, a'r gwragedd, y rhai a'i canlynasent ef o Galilæa, yn edrych ar y pethau hyn.

50Math. 7.57. Ac wele, gŵr a'i enw Ioseph, yr hwn oedd gynghôrwr, gŵr da a chyfiawn,

51 (Hwn ni chyttunasei â'u cyngor, ac â'u gweithred hwynt) o Arimathæa dinas yr Idde­won, (yr hwn oedd yntef yn disgwil hefyd am deyrnas Dduw)

52 Hwn a ddaeth at Pilat, ac a ofynnodd gorph yr Iesu.

53 Ac efe a'i tynnodd i lawr, ac a'i ham­dôdd mewn lliain main, ac a'i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasidNeb. dŷn erioed.

54 A'r dydd hwnnw oedd ddarparwyl, a'r Sabbath oedd yn nesau.

55 A'r gwragedd hefyd, y rhai a ddaeth­ent gyd ag ef o Galilæa, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorph ef.

56 A hwy a ddychwelasant, ac a baratoesant bêr-aroglau ac ennaint, ac a orphwysasant ar y Sabbath, yn ôl y gorchymmyn.

PEN. XXIV.

1 Y ddau Angel yn mynegi adgyfodiad Christ i'r gwragedd, oedd yn dyfod at y bedd; 9 a'r rhai hynny yn ei adrodd i eraill. 13 Christ ei hun yn ymddangos i'r ddau ddiscybl oedd yn myned i Emmaus: 36 ac wedi hynny i'r Apostolion, ac yn ceryddu eu hangrediniaeth hwy: 47 yn rhoddi gorchymmyn iddynt: 49 ac yn addo yr Yspryd glân: 51 ac felly yn escyn i'r nefoedd.

A'RMatth. [...]8. [...]. dydd cyntaf o'r wythnos, ar y cyn­ddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y pêr-aroglau a baratoesent, a rhai gŷd â hwynt.

2 A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymmaith oddi wrth y bedd.

3 Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorph yr Arglwydd Iesu.

4 A bu, a hwy yn petruso am y peth hyn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwiscoedd disclair.

5 Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwy­nebau tu a'r ddaiar, hwy a ddywedasant wrth­ynt, Pa ham yr ydych yn ceisio y byw ym mysc y meirw?

6 Nid yw efe ymma, ond efe a gyfododd.Matth. 17.23. Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe etto yn Galilæa,

7 Gan ddywedyd,, Rhaid yw rhoi Mâb y dŷn yn nwylo dynion pechadurus, a'i groes­hoelio, a'r trydydd dydd adgyfodi.

8 A hwy a gofiasant ei eiriau ef:

9 Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i'r vn ar ddeg, ac i'r lleill oll.

10 A Mair Fagdalen, a Ioanna, a Mair mam Iaco, a'r lleill gŷd â hwynt, oedd y rhai a ddy­wedasant y pethau hyn wrth yr Apostolion.

11 A'u geiriau a welid yn eu golwg hwynt, fel gwegi, ac ni chredasant iddynt.

12Joan. [...]0.6. Eithr Petr a gododd i fynu, ac a redodd ar y bedd: ac wedi ymgrymmu efe a ganfu y llieiniau wedi eu gosod o'r nailltu, ac a aeth ymmaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun, am y peth a ddarfuasei.

13 Ac wele,Marc. 16.12. dau o honynt oedd yn my­ned y dydd hwnnw i dref a'i henw Emmaus, yr hon oedd ynghylch trugain stâd oddi wrth Ierusalem:

14 Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â'i gilydd, am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent.

15 A bu, fel yr oeddynt yn ymddidan, ac yn ymofyn â'i gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyd â hwynt.

16 Eithr eu llygaid hwynt a attaliwyd, fel na's adwaenent ef.

17 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw y rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wynebdrist?

18 Ac vn o honynt a'i enw Cleopas, gan at­teb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn vnig yn ymdeithydd yn Ierusalem, ac ni wybuo [...] y pethau a wnaethpwyd ynddi hi, yn y dy­ddiau hyn?

19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nazareth, yr hwn oedd ŵr o brophwyd, galluog mewn gweithred a gair, ger bron Duw a'r holl bobl.

20 A'r modd y traddodes yr Arch-offeir­iaid a'n llywodraeth-wŷr ni ef, i farn marwol­aeth, ac a'i croes-hoeliasant ef.

21 Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredei 'r Israel: ac heb law hyn oll, heddyw yw 'r trydydd dydd, er pan wnaethpwyd y pethau hyn.

22 A hefyd rhai gwragedd o honom ni, a'n dychrynasant ni, gwedi iddynt fôd yn foreu wrth y bedd:

23 A phan na chawsant ei gorph ef, hwy a ddaerhant, gan ddywedyd weled o honynt weledigaeth o Angelion, y rhai a ddywedent ei fôd efe yn fyw.

24 A rhai o'r rhai oedd gyd â nyni, a aeth­ant at y bêdd, ac a gawsant felly, fel y dywe­daiei y gwragedd; ond ef ni's gwelsant.

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfyd­ion, a hwyr-frydig o galon, i gredu 'r holl bethau a ddywedodd y prophwydi.

26 Ond oedd raid i Grist ddioddef y pe­thau hyn, a myned i mewn iw ogoniant?

27 A chan ddechreu ar Moses, a'r holl brophwydi, efe a esponiodd iddynt yn yr holl Scrythyrau, y pethau am dano ei hun.

28 Ac yr oeddynt yn nesau i'r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntef a gymmerth arno ei fôd yn myned ym-mhellach.

29 A hwy a'i cymmellasant ef, gan ddywe­dyd, Aros gŷd â ni, canys y mae hi yn hwyr­hau, a'r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gŷd â hwynt.

30 A darfu, ac efe yn eistedd gyd â hwynt, efe a gymmerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt.

31 A'u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a'i hadnabuant ef: ac efeNeu, aeth yn anweledig iddynt. a ddifannodd allan o'i golwg hwynt.

32 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosci ynom, tra ydo­edd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra 'r ydoedd efe yn agoryd i ni 'r Scrythyrau?

33 A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Ierusalem, ac a gawsant yr yn ar ddêg wedi ymgasclu ynghŷd, a'r sawl oedd gŷd â hwynt,

34 Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac a ymddangosodd i Simon.

35 A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethesid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabu­wyd ef ganddynt, wrth dorriad y bara.

36Marc. 16.14. Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangneddyf i chwi.

37 Hwythau wedi brawychu, ac ofni, a dybiasant weled o honynt yspryd.

38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham i'ch trallodir, a pha ham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau?

39 Edrychwch fy nwylo a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch, canys nid oes gan yspryd gnawd ac escyrn, fel y gwelwch fôd gennifi.

40 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed.

41 Ac a hwy etto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi ymma ddim bwyd?

42 A hwy a roesant iddo ddarn o bysco­dyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl.

43 Yntef a'i cymmerodd, ac a'i bwytta­odd yn eu gŵydd hwynt.

44 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dymma 'r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn etto gŷd â chwi, bôd yn rhaid cyflawni pôb peth a scrifennwyd ynghyfraith Moses, a'r Prophwydi, a'r Psalmau, am danafi.

45 Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr Scrythyrau.

46 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr Scrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd:

47 A phregethu edifeirwch, a maddeuant pechodau yn ei enw ef, ym-mhlith yr holl gen­hedloedd, gan ddechreu yn Ierusalem.

48 Ac yr ydych chwi yn dystion o'r pethau hyn.

49Ioan. 15.26. Act 1. Ac wele, yr ydwyfi yn anfon adde­wid fy Nhâd arnoch; eithr arhoswch chwi yn ninas Ierusalem, hyd oni wiscer chwi â nerth o'r vchelder.

50 Ac efe a'u dug hwynt allan hyd yn Bethania; ac a gododd ei ddwylo, ac a'i ben­dithiodd hwynt.

51Marc. 16.19. Act. 1.9 Ac fe a ddarfu, tra 'r oedd efe yn eu ben­dithio hwynt, ymadel o honaw ef oddi wrth­ynt, ac efe a ddugpwyd i fynu i'r nêf.

52 Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Ierusalem, gyd â llawenydd mawr.

53 Ac yr oeddynt yn wastadol yn y Deml, yn moli, ac yn bendithio Duw. Amen.

¶YR EFENGYL YN OL SANCT IOAN.

PENNOD. I.

1 Duwdab, dyndab, a swydd Iesu Grist. 15 Te­stiolaeth Ioan. 39 Galwad Andreas, Petr, Philip, a Nathanael.

YN y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gŷd â Duw, a Duw oedd y Gair.

2Gen 1.1. Hwn oedd yn y dechreuad gŷd a Duw.

3Col. 1.16. Trwyddo ef y gwnaethpwyd pôb peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a'r a wnaethpwyd.

4 Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd oedd oleuni dynion:

5 A'r goleuni sydd yn llewyrchu yn y ty­wyllwch, a'r tywyllwch nid oedd yn eigynnwys. amgyffred.

6Matth. 3.1. Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan:

7 Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiol­aethei am y goleuni, fel y credei pawb trwy­ddo ef.

8 Nid efe oedd y goleuni, eithr efe a anfo­nasid fel y tystiolaethei am y goleuni.

9 Hwn ydoedd y gwir oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pôb dŷn a'r y sydd yn dyfod i'r bŷd.

10 Yn y bŷd yr oedd efe,Heb. 11.3. a'r bŷd a wna­ethpwyd trwyddo ef; a'r bŷd nid adnabu ef.

11 At ei eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun ni dderbyniasant ef.

12 Ond cynnifer ac a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddyntNeu, fraint. allu i fôd yn feibion i Dduw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef.

13 Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw.

14Matth. 1.16. A'r gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr vnig-anedig oddiwrth y Tâd) yn llawn grâs a gwirio­nedd.

15 Ioan a dystiolaethodd am dano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr vn y dywedais am dano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.

16 Ac o'iCol. 1.19. gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a grâs am râs.

17 Canys y gyfraith a roddwyd trwy Mo­ses, ond y grâs a'r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.

181 Io [...] 4.12. 1 Tim. 6.16. Ni welodd neb Dduw erioed: yr vnig­anedig Fâb, yr hwn sydd ym-monwes y Tad hwnnw a'i hyspysodd ef.

19 A hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfo­nodd yr Iddewon o Ierusalem offeiriaid a Lefiaid, i ofyn iddo, Pwy wyt ti?

20 Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd, a chyffesod, Nid myfi yw 'r Christ.

21 A hwy a ofynnasant iddo, Beth ynteu? ai Elias wyt ti? Yntef a ddywedodd, Nagê. Ai'r Prophwyd wyt ti? Ac efe a attebodd, Nagê.

22 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti: fel y rhoddom atteb i'r rhai a'n danfonodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am danat dy hun?

23Matth. 3.3. Eb efe, Myfi yw llêf vn yn gwaeddi yn y diffaethwch, Vniawnwch ffordd yr Ar­glwydd; fel y dywedodd Esay y Prophwyd.

24 A'r rhai a anfonasid, oedd o'r Pharisae­aid.

25 A hwy a ofynnasant iddo, ac a ddywe­dasant wrtho, Pa ham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti na'r Christ, nac Elias, na'r Prophwyd?

26 Ioan a attebodd iddynt, gan ddywedyd; Myfi sy yn bedyddio â dwfr, ond y mae vn yn sefyll yn eich plith chwi, yr hwn nid adwae­noch chwi:

27Matth. 3.11. Act. 1 [...]. Efe yw 'r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn a aeth o'm blaen i: yr hwn nid yd­wyfi deilwng i ddattod carrei ei escid.

28 Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Beth­abara, y tu hwnt i'r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.

29 Trannoeth, Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod atto, ac efe a ddywedodd, Wele oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymmaith becho­dau 'r bŷd.

30 Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod, yr hwn a aeth o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.

31 Ac myfi nid adwaenwn ef: eithr fel yr amlygid ef i Israel, i hynny y daethym i, gan fedyddio â dwfr.

32Matth. 6. Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywe­dyd, Mi a welais yr Yspryd yn descyn megis colommen o'r nêf, ac efe a arhosodd arno ef.

33 A myfi nid adwaenwn ef, eithr yr hwn a'm hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywe­dodd wrthif, Ar yr hwn y gwelych yr Yspryd yn descyn ac yn aros arno, hwnnw yw 'r vn sy 'n bedyddio â'r Yspryd glân.

34 Ac mi a welais, ac a dystiolaethais, mai hwn yw Mâb Duw.

35 Trannoeth drachefn y safodd Ioan, a dau o'i ddiscyblion:

36 A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, VVele oen Duw.

37 A'r ddau ddiscybl a'i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu.

38 Yna 'r Iesu a droes, a phan welodd hwynt yn canlyn, efe a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddyweda­sant wrtho ef, Rabbi (yr hyn o'i gyfieithu yw, Athro) pa le yr wyt ti yn trigo?

39 Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch a gwelwch. A hwy a ddaethant, ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arhosasant gŷd ag ef y diwrnod hwnnw, ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr.

40 Andreas brawd Simon Petr, oedd vn o'r ddau a glywsent hynny gan Ioan, ac a'i dilynasent ef.

41 Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddywedodd wrtho, Nyni a gawsom y Messias, yr hyn o'i ddeongl yw, y Christ.

42 Ac efe a'i dug ef at yr Iesu. A'r Iesu we­di edrych arno ef, a ddywedodd, Ti yw Si­mon mab Iona, ti a elwir Cephas, yr hwn a gyfieithirNeu, Petr. carreg.

43 Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fy­ned allan i Galilæa, ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, Dilyn fi.

44 A Philip oedd o Bethsaida, o ddinas An­dreas a Phetr.

45 Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywe­dodd wrtho, Cawsom yr hwn yr scrifennoddGen. 49.10. Deut. 18.18. Moses yn y gyfraith, a'rEsai. 4.2. prophwydi am dano, Iesu o Nazareth mâb Ioseph.

46 A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nazareth? Philip a ddywedodd wrtho, Tyred a gwêl.

47 Iesu a ganfu Nathanael yn dyfod atto, ac a ddywedodd am dano, VVele Israeliad yn wîr, yn yr hwn nid oes dwyll.

48 Nathanael a ddywedodd wrtho, Pa fodd i'm hadwaenost? Iesu a attebodd, ac a ddywe­dodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigys-bren, mi a'th welais di.

49 Nathanael a attebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, ai vw Mab Duw; ti yw bre­ [...] Is [...]

50 Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho ef, O herwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a'th welais di tan y ffigys-bren, a ydwyt ti yn credu? ti a gei weled pethau mwy nâ'r rhai hyn.

51 Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch y nêf yn agored, ac Angelion Duw yn escyn, ac yn descyn ar Fâb y dŷn.

PEN. II.

7 Christ yn troi y dwfr yn wîn 12 yn myned i wared i Capernaum a Ierusalem, 14 ac yno yn hwrw y prynwyr a'r gwerthwyr allan o'r Deml: 19 Yn rhag-fynegi ei farwolaeth, a'i adgyfo­diad. 23 Llawer yn credu ynddo, o herwydd ei wrthiau, ond er hynny nid ymddiriedei ef iddynt am dano ei hun.

A'R trydydd dydd yr oedd priodas yn Cana Galilæa: a mam yr Iesu oedd yno.

2 A galwyd yr Iesu hefyd a'i ddiscyblion i'r briodas.

3 A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho efe, Nid oes granddynt mo'r gwin.

4 Iesu a ddywedodd wrthi,Beth yw i mi ac i ti wraig? Beth sydd i mi a wnelwyf â thi wraig? ni ddaeth fy awr i etto.

5 Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasa­naeth-wŷr, Beth bynnag a ddywedo efe wrth­ych, gwnewch.

6 Ac yr oedd yno chwech o ddyfr-lestri meini, wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bôb vn ddau ffircyn neu dri.

7 Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfr-lestri o ddwfr. A hwy a'u llanwasant hyd yr ymyl.

8 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyng­wch yn awr, a dygwch at lywodraeth-ŵr y wledd. A hwy a ddygasant.

9 A phan brofodd llywodraeth-ŵr y wledd y dwfr a wnaethid yn wîn, (ac ni wyddei o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaeth-wŷr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent) llywod­raeth-wr y wledd a alwodd ar y priod-fab,

10 Ac a ddywedodd wrtho, Pôb dŷn a esyd y gwin da yn gyntaf, ac wedi iddynt yfed yn dda, yna vn a fo gwaeth: titheu a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.

11 Hyn o ddechreu gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yn Cana Galilæa, ac a eglurodd ei ogon­iant, a'i ddiscyblion a gredasant ynddo.

12 VVedi hyn, efe a aeth i wared i Caperna­um, efe a'i fam, a'i frodyr, a'i ddiscyblion; ac yno nid arhosasant nemmor o ddyddiau.

13 A Phasc yr Iddewon oedd yn agos, a'r Iesu a aeth i fynu i Ierusalem:

14 Ac a gafodd yn y Deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a'r newid­wŷr arian yn eistedd:

15 Ac wedi gwneuthur fflangell o fân re­ffynnau, efe a'i gyrrodd hwynt oll allan o'r Deml; y defaid hefyd a'r ychen, ac a dy­walltodd allan arian y newid-wŷr, ac a ddymchwelodd y byrddau;

16 Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi ymma, na wnewch dŷfy Nhâd i, yn dŷmarchnad

17 A'i ddiscyblion a gofiasant fod yn scri­fennedig,Psal. 69.9. Zêl dy dŷ di a'm hysodd i.

18 Yna 'r Iddewon a attebasant, ac a ddy­wedasant wrtho ef, Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y [...]

19 Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt,Matth. 26.61. Dinistriwch y Deml hon, ac mewn tri-diau y cyfodaf hi.

20 Yna 'r Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y Deml hon, ac a gyfodi di hi mewn tri-diau?

21 Ond efe a ddywedasei am Deml ei gorph.

22 Am hynny, pan gyfododd efe o feirw, ei ddiscyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr Scry­thur, a'r gair a ddywedasei yr Iesu.

23 Ac fel yr oedd efe yn Jerusalem, ar y Pasc, yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethei efe.

24 Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt am dano ei hun, am yr adwaenei efe hwynt oll;

25 Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddŷn: o herwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dŷn.

PEN. III.

1 Christ yn dyscu Nicodemus mor angenrheidiol yw adenedigaeth. 14 Am ffydd yn ei farwo­laeth ef. 16 Mawr gariad Duw tuac at y byd. 18 Condemniad am anghrediniaeth. 23 Bedydd, tystiolaeth, ac athrawiaeth Joan am Grist.

AC yr oedd dŷn o'r Pharisæaid, a'i enw Nicodemus, pennaeth yr Iddewon:

2 Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nôs, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a ŵyddom mai dyscawdur ydwyt ti, wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allei neb wneuthur y gwrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fôd Duw gyd ag ef.

3 Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, oddi eithr geni dŷnOddi fynn. drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw.

4 Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dŷn ei eni, ac efe yn hên? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a'i eni?

5 Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, oddi eithr geni dŷn o ddwfr ac o'r Yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw.

6 Yr hyn a aned o'r cnawd, sydd gnawd: a'r hyn a aned o'r Yspryd, sydd yspryd.

7 Na ryfedda ddywedyd o honofi wrthit, Y mae yn rhaid eich geni chwiOddi fynu. drachefn.

8 Y mae 'r gwynt yn chwythu lle y mynno: a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wŷddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: Felly y mae pôb vn a'r a aned o'r Yspryd.

9 Nicodemus a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fôd?

10 Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ddyscawdur yn Israel, ac ni ŵy­ddost y pethau hyn?

11 Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a'r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a'n tyst­iolaeth ni nid ydych yn ei derbyn.

12 Os dywedais i chwi bethau daiarol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch:

13 Ac ni escynnodd nêb i'r nêf, oddi eithr yr hwn a ddescynnodd o'r nêf, sef Mâb y dŷn, yr hwn sydd yn y nêf.

14Num. 21.9. Ac megis y derchafodd Moses y sarph yn y diffaethwch, felly y mae yn rhaid der­chafu Mâb y dŷn:

15 Fel na choller, pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw fywyd tra­gwyddol.

161 Joan. 4.9. Canys felly y carodd Duw y bŷd, fel y rhoddodd efe ei vnig-anedig Fâb, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw fywyd tragywyddol.

17Pen. 12.47. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fâb i'r bŷd, i ddamnio 'r bŷd, ond fel yr achubid y bŷd trwyddo ef.

18 Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamnwyd eusys: o herwydd na chredodd yn enw vnig-anedig Fâb Duw.

19 A hon yw 'r ddamnedigaeth,Pen. 1.4. ddyfod goleuni i'r bŷd, a charu o ddynion y tywyll­wch yn fwy nâ 'r goleuni: canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrŵg.

20 O herwydd pôb vn a'r sydd yn gwneu­thur drŵg, sydd yn casâu y goleuni, ac nid yw yn dyfod i'r goleuni, felNeu, na ddat­cuddier. nad argyoedder ei weithredoedd ef:

21 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwir­ionedd, sydd yn dyfod i'r goleuni, fel yr eglur­haer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.

22 VVedi y pethau hyn, daeth yr Iesu a'i ddiscyblion i wlâd Judæa; ac a arhosodd yno gŷd â hwynt,Pen. 4.2 ac a fedyddiodd.

23 Ac yr oedd Joan hefyd yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Salim, canys dyfroedd lawer oedd yno: a hwy a ddaethant ac a'u bedyddi­wyd.

24 Canys ni fwriasid Joan etto yngharchar.

25 Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddiscyb­lion Joan a'r Iddewon, ynghylch puredigaeth.

26 A hwy a ddaethant at Joan, ac a ddywe­dasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gŷd â thi y tu hwnt i'r Iorddonen,Pen. 1.7.34. am yr hwn y tystiol­aethaist di, wele y mae hwnnw yn bedyddio, a phawb yn dyfod atto ef.

27 Joan a attebodd ac a ddywedodd,Heb. 5.4. Ni ddichon dŷn dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o'r nef.

28 Chwy-chwi eich hunain ydych dystion i mi, ddywedyd o honofi,Pen. 1.20. Nid myfi yw y Christ, eithr fy môd wedi fy anfon o'i flaen ef.

29 Yr hwn sydd ganddo y briod-ferch, yw 'r priod-fab: ond cyfaill y priod-fab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llaweny­chu yn ddirfawr oblegid llef y priod-fab; y lla­wenydd hwn maufi gan hynny a gyflawnwyd.

30 Rhaid ydyw iddo ef gynnyddu, ac i minneu leihau.

31 Yr hwn a ddaeth oddi vchod, sydd goruwch pawb oll: yr hwn sydd o'r ddayar, sydd o'r ddayar, ac am y ddayar y mae yn lle­faru: yr hwn sydd yn dyfod o'r nef, sydd goruwch pawb.

32 A'r hyn a welodd efe ac a glywodd, hynny y mae efe yn ei dystiolaethu: ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef.

33 Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef,Rhuf. 3.4. a seliodd mai geirwir yw Duw.

34 Canys yr hwn a anfonnodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw: oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Yspryd.

35Matth 11.27. Y mae y Tâd yn caru y Mâb, ac efe a roddodd bôb peth yn ei law ef.

36Hab. [...] 4. 1 Joan. 5.10. Yr hwn sydd yn credu yn y Mâb, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a'r hwn sydd heb gredu i'r Mab, ni wêl fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.

PEN. IV.

1 Christ yn ymddiddan â gwraig o Samaria, ac yn ei ddatcuddio ei hun iddi. 27 Ei ddiscyb­lion yn rhyfeddu. 31 Ac ynteu yn yspysu idd­ynt ei zêl tuac at ogoniant Duw. 39 llawer o'r Samariaid yn credu ynddo. 43 Ac ynteu yn myned ymaith i Galilea, ac yn iachau mâb y llywydd oedd yn gorwedd yn glaf yn Caper­naum.

PAn wybu 'r Arglwydd gan hynny, glywed o'r Pharisæaid fôd yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddiscyblion nag Joan:

2 (Er na fedyddiasei yr Iesu ei hun, eithr ei ddiscyblion ef)

3 Efe a adawodd Judæa, ac a aeth drachefn i Galilæa.

4 Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria.

5 Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Sa­maria a elwid Sichar, ger llaw y rhandirGen. 33.19. & 48.22. Jos. 34.32. a roddasei Jacob iw fab Joseph.

6 Ac yno yr oedd ffynnon Jacob. Yr Iesu gan hynny yn ddeffygiol gan y daith, a eiste­ddodd felly ar y ffynnon: ac yngylch y chwe­ched awr ydoedd hi.

7 Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a'r Iesu a ddywedodd wrthi, Dyro i mi i yfed.

8 (Canys ei ddiscyblion ef a aethent i'r ddinas i brynu bwyd)

9 Yna 'r wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennifi, a myfi yn wraig o Sa­maria? oblegid nid yw 'r Iddewon yn ymgy­feillach â'r Samariaid.

10 Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw 'r hwn sydd yn dywedyd wrthit, Dyro i mi i yfed, tydi a a ofynnasit iddo ef, ac efe a rhoddasei i ti ddwfr bywiol.

11 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arg­lwydd, nid oes genniti ddim i godi dwfr, a'r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae genniti y dwfr bywiol hwnnw?

12 A'i mwy wyt ti nâ'n Tâd Jacob, yr hwn a roddodd i ni y pydew, ac efe ei hun a yfodd o honaw, a'i feibion, a'i anifeiliaid?

13 Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o'r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn:

14 Ond pwy bynnag a yfo o'r dwfr a rodd­wyfi iddo, ni sycheda yn dragywydd: eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr, yn tarddu i fywyd tragywyddol.

15 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf ymma i godi dwfr.

16 Iesu a ddywedodd wrthi, Dôs, galw dy ŵr, a thyred ymma.

17 Y wraig a attebodd, ac a ddywedodd, Nid oes gennif ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi, Da y dywedaist, nid oes gennif ŵr:

18 Canys pump o wŷr a fu i ti, a'r hwn sydd gennit yr awron, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wîr.

19 Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arg­lwydd, Mi a welaf mai prophwyd wyt ti.

20 Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn, ac yr ydych chwi yn dywedyd maiDeut. 12.5. yn Jerusalem y mae 'r man lle y mae 'n rhaid addoli.

21 Iesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, crêd fi, y mae 'r awr yn dyfod, prŷd nad addoloch y Tâd, nac yn y mynydd hwn, nac yn Jerusalem.

22 Chwy-chwi ydych yn addoli y peth ni wyddoch, ninnau ydym yn addoli y peth a wyddom: canys iechydwriaeth sydd o'r Idde­won:

23 Ond dyfod y mae 'r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo y gwir addol-wŷr y Tâd mewn yspryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae 'r Tâd yn eu ceisio iw addoli ef.

242 Cor. 3.17. Yspryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef, addoli mewn yspryd a gwirion­edd.

25 Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fôd y Messias yn dyfod, yr hwn a elwir Christ: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth.

26 Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw.

27 Ac ar hyn y daeth ei ddiscyblion, a bu ryfedd ganddynt ei fôd ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geifi? neu, pa ham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?

28 Yna 'r wraig a adawodd ei dwfr-lestr, ac a aeth i'r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion,

29 Deuwch, gwelwch ddŷn, yr hwn a ddy­wedodd i mi yr hyn oll a wneuthum, onid hwn yw'r Christ?

30 Yna hwy a aethant allan o'r ddinas, ac a ddaethant atto ef.

31 Yn y cyfamser, y discyblion a attolyga­sant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwytta.

32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennifi fwyd iw fwytta, yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho.

33 Am hynny y discyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, A ddug neb iddo ddim iw fwytta?

34 Iesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a'm hanfon­odd, a gorphen ei waith ef.

35 Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae etto bedwar-mis, ac yna y daw'r cynhayaf? Wele, yr ydwyfi yn dywedyd wrthych, Der­chefwch eich llygaid ac edrychwch ar y meu­sydd:Matth. 9.37. canys gwynion ydynt eusus i'r cyn­hayaf.

36 A'r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn casclu ffrwyth i fywyd tragwy­ddol: fel y byddo i'r hwn sydd yn hau, ac i'r hwn sydd yn medi, lawenhau ynghyd.

37 Canys yn hyn y mae 'r gair yn wîr, mai arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi.

38 Myfi a'ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn iw llafur hwynt.

39 A llawer o'r Samariaid o'r ddinas honno a gredasant ynddo, o herwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, Efe a ddywedodd i mi 'r hyn oll a wneuthum.

40 Am hynny pan ddaeth y Samariaid atto ef, hwy a attolygasant iddo aros gyd â hwynt: ac efe a arhosodd yno ddeu-ddydd.

41 A mwy o lawer a gredasant ynddo ef, oblegid ei air ei hun.

42 A hwy a ddywedasant wrth y wraig, [Page] Nid ydym ni weithian yn credu oblegyd dy ymadrodd di: canys ni a'i clywsom ef ein hu­nain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw 'r Christ, Jachawdur y bŷd.

43Matth. 13.57. Ac ym mhen y ddeu-ddydd, efe a aeth ymmaitn oddi yno, ac a aeth i Galilæa.

44 Canys yr Iesu ei hun a dystiolaethodd nad ydyw Prophwyd yn cael amhydedd yn ei wlâd ei hun.

45 Yna pan ddaeth efe i Galilæa, y Gali­læaid a'i derbyniasant ef, wedi iddynt weled yr holl bethau a wnaeth efe yn Jerusalem ar yr ŵyl: canys hwythau a ddaethant i'r ŵyl.

46 Felly yr Iesu a ddaeth drachefn i Cana yn Galilæa,Pen. 2.1. lle y gwnaeth efe y dwfr yn wîn. Ac yr oedd rhyw bendefig yr hwn yr oedd ei fab yn glâf yn Capernaum.

47 Pan glybu hwn ddyfod o'r Iesu o Judæa i Galilæa, efe a aeth atto ef, ac a attolygodd iddo ddyfod i wared, ac iachau ei fab ef: canys yr oedd efe ym-mron marw.

48 Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch.

49 Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, O Arg­lwydd, tyred i wared cyn marw fy machgen.

50 Iesu a ddywedodd wrtho ef, Dôs ym­maith; y mae dy fab yn fyw. A'r gŵr a gre­dodd y gair a ddywedasei Iesu wrtho, ac efe a aeth ymmaith.

51 Ac fel yr oedd efe yr awron yn myned i wared, ei weision a gyfarfuant ag ef, ac a fy­negasant, gan ddywedyd, Y mae dy fachgen yn fyw.

52 Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhasei arno. A hwy a ddywedasant wrtho, Doe, y seithfed awr y gadawodd y crŷd ef.

53 Yna y gwybu 'r Tâd mai yr awr honno oedd, yn yr hon y dywedasei Iesu wrtho ef, Y mae dy fâb yn fyw. Ac efe a gredodd, a'i holl dŷ.

54 Yr ail arwydd ymma drachefn a wnaeth yr Iesu, wedi dyfod o Judæa i Galilæa.

PEN. V.

1 Yr Iesu ar y dydd Sabboth yn iachau 'r hwn a fuasei glâf namyn dwy flynedd deugain: 10 A'r Juddewon am hynny yn cwerylu, ac yn ei erlid ef. 17 Ac yntef yn atteb trosto ei hun, ac yn eu hargyoeddi hwy, gan ddangos pwy ydyw ef, trwy dystiolaeth ei Dâd, 32 ac Joan, 36 a'i weithredoedd ei hun, 39 a'r Scrythyrau.

WEdi hynny yr oeddLefit. 23.2. Deut. 16. gŵyl yr Iddewon, a'r Iesu a aeth i fynu i Jerusalem.

2 Ac y mae yn Jerusalem, wrthBorth. farchnad y defaid, lynn a elwir yn Hebreaeg Bethesda, ac iddo bum Porth:

3 Yn y rhai y gorweddei lliaws mawr o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion, yn disgwil am gynnhyrfiad y dwfi.

4 Canys Angel oedd ar amserau yn descyn i'r llynn, ac yn cynnhyrfu 'r dwfr: yna yr hwn a elei i mewn yn gyntaf ar ôl cynhyrfu y dwfr, a ai yn iach o ba glefyd bynnag a fy­ddei arno.

5 Ac yr oedd rhyw ddŷn yno, yr hwn a fuaseiMewn gwendid. glâf namyn dwy flynedd deugain:

6 Yr Iesu pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fôd ef felly yn hîr o amser bellach, a ddywedodd wrtho, A fynni di dy wneuthur yn iach?

7 Y clâf a attebodd iddo, Arglwydd, nid oes gennif ddŷn i'm bwrw i'r llyn, pan gyn­hyrfer y dwfr: ond tra fyddwyfi yn dyfod, arall a ddescyn o'm blaen i.

8 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Cyfod, cym­mer dy wely i fynu, a rhodia.

9 Ac yn ebrwydd y gwnaed y dŷn yn iach: ac efe a gododd ei wely, ac a rodiodd: a'r Sab­bath oedd y diwrnod hwnnw.

10 Am hynny yr Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach, y Sabbath yw hi:Jere. 17.22. nid cyfraithlon i ti godi dy wely.

11 Efe a attebodd iddynt, Yr hwn a'm gwna­eth i yn iach, efe a ddywedodd wrthif, Cyfod dy wely, a rhodia.

12 Yna hwy a ofynnasant iddo, Pwy yw 'r dŷn a ddywedodd wrthit ti, Cyfod dy wely, a rhodia?

13 A'r hwn a iachasid ni ŵyddei pwy oedd efe: canys yr Iesu a giliaseiNeu, er bod tyr­fa (neu, a thyrfa) yn y fan honno. o'r dyrfa oedd yn y fan honno.

14 Wedi hynny 'r Iesu a'i cafodd ef yn y Deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ti a wna­ethpwyd yn iach: na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth.

15 Y dŷn a aeth ymmaith, ac a fynegodd i'r Iddewon mai 'r Iesu oedd yr hwn a'i gwnaethei ef yn iach.

16 Ac am hynny yr Iddewon a erlidiasant yr Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, oblegid iddo wneuthur y pethau hyn ar y Sabbath.

17 Ond yr Iesu a'u hattebodd hwynt, Y mae fy Nhâd yn gweithio hyd yn hyn, ac yr yd­wyf finneu yn gweithio.

18 Am hyn gan hynny yr Iddewon a gei­siasant yn fwy ei ladd ef, oblegid nid yn vnig iddo dorri 'r Sabbath, ond hefyd iddo ddywe­dyd fôd Duw yn Dâd iddo, gan ei wneuthur ei hun yn gystal a Duw.

19 Yna 'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, ni ddichon y Mâb wneuthur dim o honaw ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tâd yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae y Mâb yr vn ffunyd yn ei wneuthur.

20 Canys y Tâd sydd yn caru y Mâb, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur, ac efe a ddengys iddo ef weith­redoedd mwy nâ 'r rhai hyn, fel y rhyfe­ddoch chwi.

21 Oblegid megis y mae y Tâd yn cyfodi y rhai meirw, ac yn eu bywhau, felly hefyd y mae 'r Mab yn bywhau y rhai a fynno.

22 Canys y Tâd nid yw yn barnu neb, eithr efe a roddes bob barn i'r Mab:

23 Fel yr anrhydeddei pawb y Mab, fel y maent yr anrhydeddu y Tâd. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu y Mab, nid yw yn an­rhydeddu y Tâd, yr hwn a'i hanfonodd ef.

24 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwy­ddol: ac ni ddaw i farn, eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.

25 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, y mae 'r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo y meirw lef Mab Duw: a'r rhai a glywant a fyddant byw.

26 Canys megis y mae gan y Tâd fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i'r Mab hefyd fôd ganddo fywyd ynddo ei hun:

27 Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur [Page] barn hefyd, o herwydd ei fôd yn fab dŷn.

28 Na ryfeddwch am hyn: canys y mae 'r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a'r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef.

29 A hwy a ddeuant allan,Matth. 25.46. y rhai a wnae­thant dda, i adgyfodiad bywyd, ond y rhai a wnaethant ddrwg, i adgyfodiad barn.

30 Ni allaf fi wneuthur dim o honof fy hunan: fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a'm barn i sydd gyfiawn: canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad, yr hwn a'm hanfonodd i.

31Pen. 8.14. Os ydwyfi yn tystiolaethu am danaf fy hunan, nid yw fy nhystiolaeth i wîr.

32Matth. 3.17. Arall sydd yn tystiolaethu am danafi, ac mi awn mai gwîr yw y dystiolaeth y mae efe yn ei dystiolaethu am danafi.

33 Chwy chwi a anfonasoch at Joan,Pen. 1.7. ac efe a ddug dystiolaeth i'r gwirionedd.

34 Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystio­laeth gan ddŷn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi.

35 Efe oedd ganwyll yn llosci, ac yn goleuo: a chwithau oeddych ewyllys-gar i orfoleddu tros amser yn ei oleuni ef.

36 Ond y mae gennyfi dystiolaeth fwy nag Joan: canys y gweithredoedd a roddes y Tad i mi iw gorphen, y gweithredoedd hynny, y rhai yr ydwyfi yn eu gwneuthur, sy 'n tyst­iolaethu am danafi, mai 'r Tâd a'm han­fonodd i.

37 A'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd i,Matth. 3.17 & 17.5. efe a dystiolaethodd am danafi. Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef vn amser,Deut. 4.12. ac ni welsoch ei wedd ef.

38 Ac nid oes gennych chwi mo'i air ef yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnnw nid ydych chwi yn credu iddo.

39 Chwiliwch yr Scrythyrau, canys yn­ddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol: a hwynt hwy yw y rhai sy 'n tystiolaethu am danafi.

40 Ond ni fynnwch chwi ddyfod attafi, fel y caffoch fywyd.

41 Nid ydwyfi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion.

42 Ond myfi a'ch adwaen chwi, nad oes gennychgariad Duw ynoch.

43 Myfi a ddaethym yn enw fy nhâd, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch.

44Pen. 22.43. Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan ei gilydd, ac heb geisio y gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn vnig?

45 Na thybiwch y cyhuddafi chwi wrth y Tâd: y mae a'ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio.

46 Canys pe credasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minneu: oblegidGen. 3.15. Deut. 28.15. am danafi yr yscrifennodd efe.

47 Ond os chwi ni chredwch iw Scrifen­nadau ef, pa fodd y credwch i'm geiriau i?

PEN. VI.

1 Christ yn porthi pum mil o bobl â phum torth a dau byscodyn. 15 A'r bobl a herwydd hyn­ny yn ceisio ei wneuthur ef yn frenin. 16 Ac yntau yn cilio o'r nailltu, ac yn rhodio ar y môr at ei ddiscyblion: 26 Ac yn cerydda y bobl oedd yn heidio ar ei ôl, a holl gnawdol wran­dawyn [...] air: 32 ac yn dangos mai efe yw bara y bywyd i'r ffyddloniaid. 66 Llawer o ddiscyblion yn ymadel ag ef. 68 Petr yn ei gyffesu ef. 70 Bôd Judas yn gythrael.

WEdi y pethau hyn yr aeth yr Iesu tros fôr Galilæa, hwnnw yw môr Tiberias.

2 A thyrfa fawr a'i canlynodd ef, canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wnac­thei efe ar y cleifion.

3 A'r Iesu a aeth i fynu i'r mynydd, ac a eisteddodd yno gyd â'i ddiscyblion.

4Leuit. 23.5. Deut. 16.1. A'r Pasc, gŵyl yr Iddewon, oedd yn agos.

5Matth 14.15. Yna 'r Iesu a dderchafodd ei lygaid, ac a welodd fôd tyrfa fawr yn dyfod atto, ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwytta?

6 (A hyn a ddywedodd efe iw brofi ef: canys efe a wyddei beth yr oedd efe ar fedrei wneuthur)

7 Philip a'i hattebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pôb vn o honynt gymmeryd ychydig.

8 Vn o'i ddiscyblion a ddywedodd wrtho, Andreas brawd Simon Petr,

9 Y mae ymma ryw fachgennyn, a chan­ddo bum torth haidd, a dau byscodyn: ond beth yw hynny rhwng cynnifer?

10 A'r Iesu a ddywedodd, Perwch i'r dy­nion eistedd i lawr. Ac yr oedd glas-wellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eiste­ddasant i lawr, ynghylch pum mîl o nifer.

11 A'r Iesu a gymmerth y torthau, ac we­di iddo ddiolch, efe a'u rhannodd i'r discy­blion, a'r discyblion i'r rhai oedd yn eistedd: felly hefyd o'r pyscod, cymmaint ac a fynna­sant.

12 Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddy­wedodd wrth ei ddiscyblion, Cesclwch y briw­fwyd gweddill, fel na choller dim.

13 Am hynny hwy a'i casclasant, ac a lan­wasant ddeuddeg bascedaid o'r briw-fwyd, o'r pum torth haidd, a weddillasei gan y rhai a fwyttasent.

14 Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethei 'r Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Prophwyd oedd ar ddyfod i'r bŷd.

15 Yr Iesu gan hynny, pan ŵybu eu bôd hwy ar fedr dyfod, a'i gippio ef i'w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i'r mynydd, ei hunan yn vnig.

16Matth. 14.23. A phan hwyrhaodd hi, ei ddiscyblion a aethant i wared at y môr.

17 Ac wedi iddynt ddringo i long, hwy a aethant tros y môr i Capernaum: ac yr oedd hi weithian yn dywyll: a'r Iesu ni ddae­thei attynt hwy.

18 A'r môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd.

19 Yna, wedi iddynt rwyfo yngylch pump a'r hugain, neu ddeg a'r hugain o stadiau, hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesau at y llong: ac a ofnasant.

20 Ond efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw, nac ofnwch.

21 Yna y derbyniasant ef yn chwannog i'r llong: ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tîr yr oeddynt yn myned iddo.

22 Trannoeth pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i'r môr, nad oedd vn llong arall vno, ond yr vn honno, i'r hon yr aethei ei ddiscyblion ef, ac nad aethei 'r Iesu gyd a'i [Page] ddiscyblion i'r llong, ond myned o'i ddiscyb­lion ymmaith eu hunain:

23 Eithr llongau eraill a ddaethent o Tiberias yn gyfagos i'r fan, lle y bwyttasent hwy fara, wedi i'r Arglwydd roddi diolch:

24 Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno, na'i ddiscyblion, hwythau a aethant i longau, ac a ddaethant i Capernaum, dan geisio 'r Iesu.

25 Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i'r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa brŷd y daethosti ymma?

26 Yr Iesu a attebodd iddynt, ac a ddywe­dodd, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr yd­ych chwi yn fy ngheisio i, nid o herwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr o herwydd i chwi fwytta o'r torthau, a'ch digoni.

27 Llafuriwch nid am y bwyd aGyll. dder­fydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwy­ddol, yr hwn a ddyry Mâb y dŷn i chwi:Matth. 3.17. canys hwn a seliodd Duw Tâd.

28 Yna y dywedasant wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw?

29 Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrth­ynt,1 Joan. [...].23. Hyn yw gwaith Duw, credu o honoch yn yr hwn a anfonodd efe.

30 Dywedasant gan hynny wrtho ef, Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwe­lom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu?

31Exod. 16.15. Num. 11.7. Ein tadau ni a fwyttasant y Manna yn yr anialwch, fel y mae yn scrifennedig,Psal. 78 25. Efe a roddodd iddynt fara o'r nêf i'w fwytta.

32 Yna 'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, nid Moses a ro­ddodd i chwi y bara o'r nêf: eithr fy Nhâd sydd yn rhoddi i chwi y gwîr fara o'r nêf.

33 Canys bara Duw, ydyw yr hwn sydd yn dyfod i wared o'r nêf, ac yn rhoddi bywyd i'r bŷd.

34 Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arg­lwydd, dyro i ni y bara hwn yn oestadol.

35 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara 'r bywyd: yr hwn sydd yn dyfod attafi, ni newyna: a'r hwn sydd yn credu ynofi, ni sycheda vn amser.

36 Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu.

37 Yr hyn oll y mae 'r Tâd yn ei roddi i mi, a ddaw attafi: a'r hwn a ddêl attafi, ni's bwriaf ef allan ddim.

38 Canys myfi a ddescynnais o'r nêf, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd.

39 A hyn yw ewyllys y Tâd a'm hanfonodd i, o'r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim o honaw, eithr bod i mi ei adgyfodi ef yn y dydd diweddaf.

40 A hyn yw ewyllys yr hwn a'm hanfo­nodd i, cael o bôb vn sydd yn gweled y Mâb, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragwyddol: ac myfi a'i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf.

41 Yna yr Iddewon a rwgnachasantAm hynny. yn ei erbyn ef, o herwydd iddo ddywedyd, Myfi yw 'r bara a ddaeth i wared o'r nêf.

42 A hwy a ddywedasant,Matth. 13.55. Ond hwn yw Iesu mâb Joseph, tâd a mam yr hwn a adwae­nom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dy­wedyd, O'r nêf y descynnais?

43 Yna 'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na furmurwch wrth ei gilydd.

44 Ni ddichon neb ddyfod attafi, oddieithr i'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a'i hadgyfodaf ef y dydd diweddaf.

45Esai. 54.13. Jer. 31.34. Y mae yn scrifennedig yn y prophwy­di, A phawb a fyddant wedi eu dyscu gan Dduw. Pôb vn gan hynny a glywodd gan y Tâd, ac a ddyscodd, sydd yn dyfod attafi.

46 Nid o herwydd gweled o neb y Tâd,Matth. 11.27. ond yr hwn sydd o Dduw, efe a welodd y Tâd.

47 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu ynofi, sydd ganddo fywyd tragwyddol.

48 Myfi yw bara 'r bywyd.

49 Eich tadau chwi a fwyttasant y Manna yn yr anialwch, ac a fuant feirw.

50 Hwn yw 'r bara sydd yn dyfod i wared o'r nêf, fel y bwyttao dŷn o honaw, ac na by­ddo marw.

51 Myfi yw 'r bara bywiol, yr hwn a dda­eth i wared o'r nêf: os bwytty nêb o'r bara hwn, efe a sydd byw yn dragywydd: a'r bara a ro­ddafi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddafi tros fywyd y bŷd.

52 Yna 'r Iddewon a ymrysonasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd iw fwytta?

53 Yna 'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, oni fwyttewch gnawd Mâb y dŷn, ac oni yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch.

54 Yr hwn sydd yn bwytta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwyddol: ac myfi a'i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf.

55 Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wîr, a'm gwaed i sydd ddiod yn wîr.

56 Yr hwn sydd yn bwytta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynofi, a minneu ynddo yntef.

57 Fel yr anfonodd y Tâd byw fi, ac yr yd­wyfi yn byw drwy 'r Tâd: felly yr hwn sydd yn fy mwytta i, yntef a fydd byw trwofi.

58 Dymma 'r bara a ddaeth i wared o'r nêf: nid megis y bwyttaodd eith tadau chwi y Manna, ac y buant feirw: y neb sydd yn bwyt­ta 'r bara hwn, a fydd byw yn dragywydd.

59 Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y Synagog, wrth athrawiaethu yn Capernaum.

60 Llawer gan hynny o'i ddiscyblion, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw 'r yma­drodd hwn: pwy a ddichon wrando arno?

61 Pan ŵbu 'r Iesu ynddo ei hun fôd ei ddiscyblion yn grwgnach am hyn, efe a ddy­wedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich rhwy­stro chwi?

62Pen. 3.13. Beth gan hynny os gwelwch Fâb y dŷn yn derchafu lle 'r oedd efe o'r blaen?

63 Yr Yspryd yw 'r hyn sydd yn bywhau, y cnawd nid yw yn llesau dnn: y geiriau yr ydwyfi yn eu llefaru wrthych, Yspryd ydynt, a bywyd ydynt.

64 Ond y mae o honoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys yr Iesu a ŵyddei o'r dechreu­ad, pwy oedd y rhai nid oedd yn credu, a phwy oedd yr hwn a'i bradychei ef.

65 Ac efe a ddywedodd, Am hynny y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod attafi, oni bydd wedi ei roddi iddo oddi-wrth fy Nhâd.

66 O hynny allan, llawer o'i ddiscyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gyd ag ef.

67 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth y deuddeg, A fynnwch chwithau hefyd fyned ymmaith?

68 Yna Simon Petr a'i hattebodd ef, O Ar­glwydd, at bwy yr awn ni? gennit ti y mae geiriau bywyd tragwyddol.

69Matth. [...]6.16. Ac yr ydym ni yn credu, ac yn gwybod, mai tydi yw y Christ, Mâb y Duw byw.

70 Iesu a'u hattebodd hwynt, Oni ddewisais i chwy-chwi y deuddeg, ac o honoch y mae vn yn ddiafol?

71 Eithr efe a ddywedasei am Judas Iscariot, mab Simon: canys hwn oedd ar fedr ei fra­dychu ef: ac efe yn vn o'r deuddeg.

PEN. VII.

1 Iesu yn argyoeddi rhyfyg a hyfder ei geraint: 10 yn myned i fynu ô Galilæa i wyl y Pebyll, 14 yn dyscu yn y Deml. 40 Amryw dyb am dano ef ymhlith y bobl. 45 Y Pharisæaid yn ddigllon am na ddaliasai eu swyddogion hwy ef, ac yn rhoddi seu i Nicodemus am gymme­ryd ei blaid ef.

A'R Iesu a rodiodd ar ôl y pethau hyn, yn Galilæa: canys nid oedd efe yn chwen­nych rhodio yn Judæa, oblegid bôd yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef.

2Levit. 23.34. A gŵyl yr Iddewon, sef gŵyl y Pe­byll oedd yn agos.

3 Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ymmaith oddi ymma, a dôs i Judæa, fel y gwelo dy ddiscyblion dy weithred­oedd di, y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur.

4 Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntef yn ceisio bôd yn gyhoedd: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, am­lyga dy hun i'r byd.

5 Canys nid oedd ei frodyr yn credu yn­ddo.

6 Yna 'r Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i etto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod.

7 Ni ddichon y bŷd eich casâu chwi, ond myfi y mae yn ei gasau, o herwydd fy môd i yn tystiolaethu am dano, fôd ei weithredoedd ef yn ddrwg.

8 Ewch chwi i fynu i'r ŵyl hon: nid wyfi etto yn myned i fynu i'r ŵyl hon,Pen. 8. 20. o blegid ni chyflawnwyd fy amser i etto.

9 Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yn Galilæa.

10 Ac wedi [...] ef i fynu, yna yntef hefyd a [...] wyl, nid yn am­lwg, ond megis yn [...].

11 Yna 'r Iddewon a'i ceis [...]sant ef yn yr ŵyl, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe?

12 A murmur mawr oedd am dano ef ym mysc y bobl: canys rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nagê, eithr twyllo y bobl y mae;

13 Er hynny ni lefarodd neb yn eglur am dano ef, rhag ofn yr Iddewon.

14 Ac yr awron y [...]hylch canol yr ŵyl, yr Iesu a aeth i fynu i'r Deml, ac a athrawiaeth­odd.

15 A'r Iddewon a ryfeddasant, gan ddywe­dyd, Pa fodd yGwyr hwn ly­thyr [...]n­nau. meidr hwn ddysceidiaeth, ac ynteu heb ddyscu?

16 Yr Iesu a attebodd iddynt, ac a ddywe­dodd, Fy nysceidiaeth, nid eiddo fi yw, eithr eiddo yr hwn a'm hanfonodd i.

17 Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff ŵybod am y ddysceidiaeth, pa vn ai o Dduw y mae hi, ai myfi o honof fy hun sydd yn llefaru.

18 Y mae 'r hwn sydd yn llefaru o honaw ei hun, yn ceisio ei ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a'i han­fonodd, hwnnw sydd eir-wîr, ac anghyfiawn­der nid oes ynddo ef.

19Exod. 24.3. Oni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb o honoch yn gwneuthur y gyf­raith?Pen. 5.18. pa ham yr ydych yn ceisio fy lladd i?

20 Y bobl a attebodd, ac a ddywedodd, Y mae gennit ti gythrael: pwy sydd yn ceisio dy ladd di?

21 Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Vn weithred a wneuthum, ac yr yd­ych oll yn rhyfeddu.

22Levit. 12.3. Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad, (nid o herwydd ei fôd o Mo­ses,Gene. 17.10. eithr o'r tadau) ac yr ydych yn enwae­du ar ddŷn, ar y Sabbath.

23 Os yw dŷn yn derbyn enwaediad ar y Sabbath, heb dorri cyfraith Moses, a ydych yn llidiog wrthifi, am i mi wneuthur dŷn yn holliach ar y Sabbath?

24Deut. 1.16. Na fernwch wrth y golwg, eithr bern­wch farn gyfiawn.

25 Yna y dywedodd rhai o'r Jerosolymitan­iaid, Ond hwn yw 'r vn y maent hwy yn ceisio ei ladd?

26 Ac wele y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a ŵybu y Pennaethiaid mewn gwirionedd, mai hwn yw Christ yn wîr?

27 Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae; eithr pan ddêl Christ, ni's gwŷr neb o ba le y mae.

28 Am hynny yr Iesu wrth athrawiaethu yn y Deml a lefodd, ac a ddywedodd, Chwi a'm hadwaenoch i, ac a ŵyddoch o ba le yr ydwyfi; ac ni ddaethym i o honof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn a'm hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi.

29 Ond myfi a'i hadwen, oblegid o honaw ef yr ydwyfi, ac efe a'm hanfonodd i.

30 Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddaethei ei awr ef etto.

31 A llawer o'r bobl a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo Christ, a wna efe fwy o arwyddion, nâ'r rhai hyn a wnaeth hwn?

32 Y Pharisæaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn am dano ef; a'r Pha­risæaid, a'r Arch-offeiriaid, a anfonasant swy­ddogion iw ddal ef.

33 Am hynny y dywedodd yr Iesu wrth­ynt hwy, Yr ydwyfi ychydig amser etto gyd â chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd.

34Pen. 13.33. Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr ydwyfi, ni ellwch chwi ddyfod.

35 Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysc eu hun, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at y rhai sydd ar wascar ymmhlithY cen­hedloedd. y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dyscu 'r Groegiaid?

36 Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle 'r ydwyfi, ni ellwch chwi ddyfod.

37Levit. 23.36. Ac ar y dydd diweddaf, y dydd mawr o'r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddy­wedyd, [Page] Od oes ar neb syched, deued attafi, ac yfed.

38Deut. 18.15. Yr hwn sydd yn credu ynofi, megis y dywedodd yr Scrythyr, afonydd o ddwfr bywiol a ddylisant o'i grôth ef.

39 (Joel. 2.18. Esa. 44.3. A hyn a ddywedodd efe am yr Ys­pryd, yr hwn a gai y rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys etto nid oedd yr Yspryd glân wedi ei roddi, o herwydd na ogoneddasid yr Iesu etto)

40 Am hynny llawer o'r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wir, hwn yw 'r prophwyd.

41 Eraill a ddywedasant, Hwn yw Christ: eraill a ddywedasant, Ai o Galilæa y daw Christ?

42Matth. 2.5. Oni ddywedodd yr Scrythyr mai o hâd Dafydd, ac o Bethlehem, y dref lle y bu Ddafydd, y mae Christ yn dyfod?

43 Felly yr aeth ymrasael ym-mysc y bobl o'i blegid ef.

44 A rhai o honynt a fynnasent ei ddal ef: ond ni osododd neb ddwylo arno.

45 Yna y daeth y swyddogion at yr Arch-offeiriaid, a'r Pharisæaid: a hwy a ddywe­dasant wrthynt hwy, Pa ham na ddygasoch chwi ef?

46 A'r swyddogion a attebasant, Ni lefar­odd dŷn er ioed fel y dŷn hwn.

47 Yna y Pharisæaid a attebasant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd?

48 A gredodd neb o'r pennaethiaid ynddo ef, neu o'r Pharisæaid?

49 Eithr y bobl hyn, y rhai ni ŵyddant y gyfraith, melldigedig ydynt.

50 Nicodemus (Pen. 3.2. yr hwn a ddaetheiAtto ef. at yr Iesu o hŷd nôs, ac oedd vn o honynt) a ddywedodd wrthynt,

51Deut. 17.8, 10. & 19.15. A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dŷn, oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gŵy­bod beth a wnaeth efe?

52 Hwythau a attebasant, ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt titheu o Galilæa? chwilia a gwêl, na chododd prophwyd o Galilæa.

53 A phob vn a aethiw dŷ ei hun.

PEN. VIII.

1 Christ yn gwaredu y wraig a ddaliesid mewn godineb: 12 Yn pregethu ei fôd ef ei hun yn oleuni y byd, ac yn gwirio ei athrawiaeth: 33 Yn atteb 'r Iddewon a wnaent ei bôfl o Ab­raham, 59 ac yn gochelyd ei creulondeb hwy.

A'R Iesu a aeth i fynydd yr Oliwydd:

2 Ac a ddaeth drachefn y boreu i'r Deml, a'r holl bobl a ddaeth atto ef: yntef a eisteddodd, ac a'u dyscodd hwynt.

3 A'r Scrifennyddion a'r Pharisæaid a ddy­gasant atto ef wraig, yr hon a ddaliasid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol,

4 Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn go­dinebu.

5Levit. [...]9.10. A Moses yn y gyfraith a orchymynnodd i ni labyddio y cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd?

6 A hyn a ddywedasant hwy gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu wedi ymgrymmu tu a'r llawr, a scrifennodd â'i fys ar y ddaiar, heb gymmeryd arno eu clywed.

7 Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ymvniawnodd, ac a ddywe­dodd wrthynt,Deut. 17.7. Yr hwn sydd ddi-bechod o honoch, tafled yn gyntaf garreg atti hi.

8 Ac wedi iddo eilwaith ymgrymmu tua 'r llawr, efe a scrifennodd ar y ddaiar.

9 Hwythau pan glywsant hyn, wedi hefyd eu hargyoeddi gan eu cydwybod, a aethant allan o vn i vn, gan ddechreu o'r hynaf, hy yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn vnig, a'r wraig yn sefyll yn y canol.

10 A'r Iesu wedi ymvniawni, ac heb weled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhudd-wyr di? oni chondemnodd neb di?

11 Hitheu a ddywedodd, Na ddo neb, Ar­glwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finneu yn dy gondemno di: dôs, ac na phecha mwyach.

12 Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt dra­chefn, gan ddywedyd,Pen. 1.5. & 9.5. Goleuni y bŷd ydwyf fi: yr hwn a'm dilyno i, ni rodia mewn ty­wyllwch, eithr efe a gaiff oleuni y bywyd.

13 Am hynny y Pharisæaid a ddywedasant wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu am danat dy hun, nid yw dy dystiolaeth di wîr.

14 Yr Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt hwy,Pen. 5.31. Er fy mod i yn tystiolaethu am danaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: oblegid mi a wn o ba le y daethym, ac i ba le yr ydwyf yn myned, chwithau ni's gwyddoch o ba le yr wyfi yn dyfod, nac i ba le yr wyfi yn myned.

15 Chwy-chwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd, nid ydwyf fi yn barnu neb.

16 Ac etto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegid nid wyfi yn vnig, ond myfi a'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd i.

17Deut. 17.6. Matth. 18.16. Y mae hefyd yn scrifennedig yn eich cyfraith chwi, mai gwir yw tystiolaeth dau ddŷn.

18 Myfi yw 'r hwn sydd yn tystiolaethu am danaf fy hun, ac y mae 'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd i, yn tystiolaethu am danafi.

19 Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy dâd ti? Yr Iesu a attebodd, Nid adwaenoch na myfi na'm Tâd: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd.

20 Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y tryssor-dŷ, wrth athrawiaethu yn y Deml: ac ni ddaliodd neb ef, am na ddaethei ei awr ef etto.

21 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn, yr wyfi yn myned ymmaith, a chwi a'm ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyfi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.

22 Am hynny y dywedodd yr Iddewon, A ladd efe ef ei hun? gan ei fôd yn dywedyd, lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.

23 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Chwy-chwi sydd oddifod, minneu sydd oddi vchod, chwy-chwi sydd o'r bŷd hwn, minneu nid wyf o'r bŷd hwn.

24 Am hynny y dywedais wrthych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: oble­gid oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau.

25 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o'r dechreuad.

26 Y mae gennifi lawer o bethau iw dy­wedyd, ac iw barnu am danoch chwi: eithr cywir yw 'r hwn a'm hanfonodd i: a'r pethau [Page] a glywais i ganddo, y rhai hyn yr ydwyfi yn eu dywedyd i'r bŷd.

27 Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy.

28 Am hynny y dywedodd yr Iesu wrth­ynt, Pan dderchafoch chwi Fab y dŷn, yna y cewch wybod mai myfi yw efe, ac nad wyfi yn gwneuthur dim o honof fy hun, ond megis y dyscodd fy Nhâd fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn.

29 A'r hwn a'm hanfonodd i sydd gyd â myfi: ni adawodd y Tâd fi yn vnic, oblegid yr wyfi yn gwneuthur bôb amser y pethau fy fodlon ganddo ef.

30 Fel yr oedd efe yn llefaru y pethau hyn, llawer a gredasant ynddo ef.

31 Yna y dywedodd yr Iesu wrth yr Idde­won a gredasent ynddo, Os arhoswch chwi yn fy ngair i, discyblion i mi ydych yn wir:

32 A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a'r gwirionedd a'ch rhyddhâ chwi.

33 Hwythau a attebasant iddo, Hâd Abra­ham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion?

34 Yr Iesu a attebodd iddynt, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi,Rhuf. 6.20. 2 Pet. 2.19. pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn wâs i be­chod.

35 Ac nid yw y gwâs yn aros yn tŷ byth: y mab sydd yn aros byth.

36 Os y mab gan hynny a'ch rhyddhâ chwi, rhyddion fyddwch yn wîr.

37 Mi a wn mai hâd Abraham ydych chwi: ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, amNad oes de l'm gair i ynoch chwi. nad yw fy ngair i yn genni ynoch chwi.

38 Yr wyfi yn llefaru yr hyn a welais gyd â'm Tad i: a chwitheu sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyd â'ch tâd chwithau.

39 Hwythau a attebasant, ac a ddywedasant wrtho, Lin tâd ni yw Abraham. Yr Iesu a ddy­wedodd wrthynt, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech.

40 Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dŷn a ddywedais i chwi y gwir­ionedd, yr hwn a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham.

41 Yr ydych chwi yn gwneuthur gweith­redoedd eich tad chwi. Am hynny y dyweda­sant wrtho, Nid trwy butteindra y cenhedlwyd ni: vn Tâd sydd gennym ni, sef Duw.

42 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Pe Duw fyddei eich Tâd, chwi a'm carech i: canys oddiwrth Dduw y deilliais, ac y dae­thym i: oblegid nid o honof fy hun y daethym i, ond efe a'm hanfonodd i.

43 Pa ham nad ydych yn deall fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i.

441 Joan. 3 8. O'ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tâd a fynnwch chwi eu gwneuthur: lleiddiad dŷn oedd efe o'r dech­reuad, ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dy­wedyd celwydd, o'r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo.

45 Ac am fy môd i yn dywedyd y gwir­ionedd, nid ydych yn credu i mi.

46 Pwy o honoch a'm argyoedda i o bech­od? ac od wyfi yn dywedyd y gwir, pa ham nad ydych yn credu i mi?

471 Ioan. 4.6. Y mae yr hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw; am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw.

48 Yna 'r attebodd yr Iddewon, ac y dy­wedasant wrtho ef, Ond da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bôd gen­nit gythrael?

49 Yr Iesu a attebodd, Nid oes gennif gyth­rael, ond yr wyfi yn anrhydeddu fy Nhâd, ac yr ydych chwithau yn fy ni-anrhydeddu inneu.

50 Ac nid wyfi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a'i cais, ac a farn.

51 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, os cei­dw neb fy ymadrodd i, ni wel efe farwolaethByth. yn dragywydd.

52 Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Yr awron y gwyddom fod gennit gythrael: bu Abraham farw, a'r Prophwydi, ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid arch­waetha efe farwolaethByth. yn dragywydd.

53 Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn a fu farw? a'r prophwydi a fuant fei­rw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun?

54 Yr Iesu a attebodd, Os wyfi yn fy ngo­goneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhad yw 'r hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd mai eich Duw chwi yw.

55 Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a'i hadwaen ef: ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwy­ddog: ond mi a'i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef.

56 Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i: ac efe a'i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd.

57 Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ti ddeng-mlwydd a deugain etto, ac a welaist ti Abraham?

58 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, cyn bôd Abraham, yr wyf fi.

59 Yna hwy a godasant gerrig iw taflu atto ef. A'r IesuOedd guddied [...] a ymguddiodd, ac a aeth allan o'r Deml, gan fyned trwy eu canol hwynt: ac felly yr aeth efe heibio.

PEN. IX.

1 Y dyn a anesid yn ddall, yn cael ei olwg: 8 a'i ddwyn ef at y Pharisæaid; 13 Hwythau yn ymrwystro, ac yn ei escymmuno ef: 35 Ac yntau yn cael ei dderbyn gan yr Iesu, ac yn ei gyffesu ef. 39 Pwy yw y rhai y mae Christ yn eu goleuo.

AC wrth fyned heibio, efe a ganfu ddŷn dall o'i enedigaeth.

2 A'i ddiscyblion a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall?

3 Yr Iesu a attebodd, Nid hwn a bechodd, na'i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef.

4 Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd, tra ydyw hi yn ddydd: y mae y nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio.

5 Tra yr ydwyf yn y bŷd,Pen. 1.9. goleuni y byd ydwyf.

6 Wedi iddo ef ddywedyd hyn, efe a boe­rodd ar lawr, ac a wnaeth glai o'r poeryn, ac a irodd y clai ar lygaid y dall:

7 Ac a ddywedodd wrtho, Dôs, ac ymolch yn llyn Siloam, (yr hwn a gyfieithir, anfone­dig.) Am hynny efe a aeth ymmaith, ac a ym­olchodd, ac a ddaeth yn gweled.

8 Y cymmydogion gan hynny, a'r rhai a'i gwelsent ef o'r blaen, mai dall oedd efe, a ddy­wedasant, Onid hwn yw 'r vn oedd yn eistedd, ac yn cardotta?

9 Rhai a ddywedasant, Hwn yw efe: ac eraill, Y mae efe yn debyg iddo. Yntef a ddy­wedodd, Myfi yw efe.

10 Am hynny y dywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di?

11 Yntef a attebodd ac a ddywedodd, Dŷn a elwir Iesu a wnaeth glai, ac a irodd fy llygaid i, ac a ddywedodd wrthif, Dôs i lyn Siloam, ac ymolch. Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg.

12 Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Yntef a ddywedodd, Ni wn i.

13 Hwythau a'i dygasant ef at y Pharisæaid, yr hwn gynt a fuasei yn ddall.

14 A'r Sabbath oedd hi, pan wnaeth yr Iesu y clai, a phan agorodd efe ei lygaid ef.

15 Am hynny y Pharisæaid hefyd a ofyn­nasant iddo drachefn, pa fodd y cawsei efe ei olwg. Yntef a ddywedodd wrthynt, clai a osododd efe ar fy llygaid i, ac mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled.

16 Yna rhai o'r Pharisæaid a ddywedasant, Nid yw y dŷn hwn o Dduw, gan nad yw efe yn cadw y Sabbath. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dŷn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymrafael yn eu plith.

17 Hwy a ddywedasant drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am dano ef, am agoryd o honaw dy lygaid di? Yntef a ddywedodd, Mai Prophwyd yw efe.

18 Am hynny ni chredei yr Iddewon am dano ef, mai dall fuasei, a chael o honaw ef ei olwg, nes galw o honynt ei rieni ef, yr hwn a gawsei ei olwg:

19 A hwy a ofynnasant iddynt, gan ddy­wedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr?

20 Ei rieni ef a attebasant iddynt hwy, ac a ddywedasant, Nyni a wyddom mai hwn yw ein mâb ni, ac mai yn ddall y ganwyd ef:

21 Ond pa fodd y mae efe yngweled yr awron, ni's gwyddom ni, neu pwy a agorodd eu lygaid ef, ni's gwyddom ni: y mae efe mewn oedran, gofynnwch iddo ef, efe a ddy­wed am dano ei hun.

22 Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am eu bôd yn ofni yr Iddewon: oblegid yr Iddewon a gyd-ordeiniasent eusus, os cyfaddefei neb ef yn Grist,Yr es­cymmu­nid ef. y bwrid ef allan o'r Synagog.

23 Am hynny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran, gofynnwch iddo ef.

24 Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dŷn a fuasei yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro 'r gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw y dŷn hwn.

25 Yna yntef a attebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw, ni's gwn i; vn peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyfi yn awr yn gweled.

26 Hwythau a ddywedasant wrtho dra­chefn, Beth a wnaeth efe i ti? pa fodd yr agor­odd efe dy lygaid di?

27 Yntef a attebodd iddynt, mi a ddywe­dais i chwi cusys, ac ni wrandawsoch: pa ham yr ydych yn ewyllysio clywed trachefn? a ydych chwithau yn ewyllysio bôd yn ddiscybl­ion iddo ef?

28 Hwythau a'i difenwasan [...] ef, ac a ddy­wedasant, Tydi sydd ddiscybl id [...]o ef; eithr discyblion Moses ydym ni.

29 Nyni a wyddom lefaru o Duw wrth Moses; eithr hwn ni's gwyddom o ba le y mae efe.

30 Y dŷn a attebodd, ac a ddyw [...]odd wrthynt; Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyf [...]dd, na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac efe a agorodd fy llygaid i.

31 Ac ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriald: ond os yw neb yn addol-wr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae yn ei wrando.

32 Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb ly­gaid vn a anesid yn ddall.

33 Oni bai fôd hwn o Dduw, ni allei efe wneuthur dim.

34 Hwy a attebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti oll: ac a wyt ti yn ein dyscu ni? A hwy a'iNeu, escymmu­nasant ef. bwria­sant ef allan.

35 Clybu yr Iesu ddarfod iddynt eiEscym­muno. fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym-Mâb Duw?

36 Yntef a attebodd ac a ddywedodd, Pwy yw efe o Arglwydd, fel y credwyf ynddo?

37 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a'i gwelaist ef, a'r hwn sydd yn ymddiddan â thi hwnnw ydyw efe.

38 Yntef a ddywedodd, yr wyfi yn credu, o Arglwydd, ac efe a'i haddolodd ef.

39 A'r Iesu a ddywedodd, I farn y daethyn i'r bŷd hwn: fel y gwelei y rhai nid ydynt yn gweled, ac yr olei y rhai sy yn gweled, yn ddeillion.

40 A rhai o'r Pharisæaid a oedd gyd ag ef, a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, Ydym ninnau hefyd yn ddeillion?

41 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe deill­ion fyddech, ni byddei arnoch bechod: eithr yn awr meddwch chwi, Yr ydym ni yn gwel­ed: am hynny y mae eich pechod yn aros.

PEN. X.

1 Christ yw 'r drws, a'r bugail da. 19 Amryw dŷb am dano. 24 Y mae efe yn profi trwy ei weithredoedd, mai efe yw Christ Mab Duw: 39 ac yn diangc rhag yr Iddewon, 40 ac yn myned trachefn tros yr Iorddonen, lle y cre­dodd llawer ynddo ef.

YN wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr hwn nîd yw yn myned i mewn drwy 'r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac yspeiliwr yw.

2 Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy 'r drws, bugail y defaid ydyw.

3 I hwn y mae y dryssor yn agoryd, ac y mae y defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan.

4 Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o'u blaen hwy: a'r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn ad­nabod ei lais ef.

5 Ond y dieithr ni's canlynant, eithr ffoant oddi wrtho, oblegid nad adwaenant lais diei­thriaid.

6 Y ddammeg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrth­ynt.

7 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yr wîr, yn wîr meddaf i chwi, myfi yw drws y defaid.

8 Cyn [...]ifer oll ac a ddaethant o'm blaen i, lladron ac yspeil-wŷr ŷnt: eithr ni wrandaw­odd y defaid arnynt.

9 Myfi yw y drws: os â neb i mewn drwofi, efe a fydd cadwedig: ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa.

10 Nid yw lleidr yn dyfod ond i ledratta, ac i ladd, ac i ddestrywio, myfi a ddaethym fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach.

11Esa. 40.11. Ezec. 34.23. Myfi yw 'r bugail da: y bugail da sydd yn rhoddi ei enioes dros y defaid.

12 Eithr y gwâs cyflog, a'r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadel y de­faid, ac yn ffoi: a'r blaidd sydd yn ei sclyfio hwy, ac yn tarfu y defaid.

13 Y mae 'r gwâs cyflog yn ffoi, oblegid mai gwâs cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid.

14 Myfi yw y bugail da: ac a adwaen yr eiddof fi, as a'm hadweinir gan yr eiddofi.

15 Fel yr edwyn y Tâd fyfi, felly yr ad­waen inneu y Tâd: ac yr ydwyf yn rhoddi fy enioes dros y defaid.

16 A defaid eraill sy gennif, y rhai nid ŷnt o'r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sy raid i mi eu cyrchu, a'm llais i a wrandawant,Esay. 37.22. a bydd vn gorlan, ac vn bugail.

17 Am hyn y mae y Tâd yn fy ngharu iEsay. 53.7, 8. am fy mod i yn dodi fy enioes, fel y cym­merwyf hi drachefn.

18 Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnafi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr o honof fy hun: y mae gennif feddiant iw dodi hi i lawr, ac y mae gennif feddiant iw chymme­ryd hi drachefn:Act. 2.24. y gorchymmyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.

19 Yna y bu drachefn ymrafael ym mysc yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn.

20 A llawer o honynt a ddywedasant, Y mae cythrael ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: pa ham y gwrandewch chwi arno ef?

21 Eraill a ddywedasant, Nid yw y rhai hyn eiriau vn a chythrael ynddo: a all cythrael agoryd llygaid y deillion?

22 Ac yr oedd1 Mac. 4.59. y Gyssegr-ŵyl yn Jeru­salem, a'r gayaf oedd hi:

23 Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y Deml, ym-mhorth Solomon:

24 Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef, as a ddywedasant wrtho, Pa hyd yr wyt yn peri i ni ammeu? os tydi yw y Christ, dywed i ni yn eglur.

25 Yr Iesu a attebodd iddynt, mi a ddy­wedais i chwi, ac nid ydych yn credu, y gweithredoedd yr wyfi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhâd, y mae y rhai hyn yn tystiolae­thu am danafi.

26 Ond chwi nid ydychyn credu: canys nid ydych chwi o'm defaid i, fel y dywedais i chwi.

27 Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i, ac mi a'u hadwen hwynt, a hwy a'm can­lynant i.

28 A minneu ydwyf yn rhoddi iddynt fy­wyd tragwyddol: ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i.

29 Fy Nhâd i, yr hwn a'u rhoddes i mi, fydd fwy na phawb: ac ni's gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhâd i.

30 Myfi a'r Tâd vn ydym.

31 Am hynny y cododd yr Iddewon ger­rig drachefn, iw labyddio ef.

32 Yr Iesu a attebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhâd: am ba vn o'r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i?

33 Yr Iddewon a attebasant iddo, gan ddy­wedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fôd ti, a thitheu yn ddŷn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw,

34 Yr Iesu a attebodd iddynt,Psal. 82.6. Onid yw yn scrifennedig yn eich cyfraith chwi, Mi a ddywedais, duwiau ydych?

35 Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, a'r Scrythur ni's gellir ei thorri:

36 A ddywedwch chwi am yr hwn a sanc­teiddodd y Tâd, ac a'i hanfonodd i'r bŷd, Yr wyti yn cablu; am i mi ddywedyd, Mâb Duw ydwyf?

37 Onid wyfi yn gwneuthur gweithred­oedd fy Nhâd, na chredwch i mi.

38 Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, er nad ydych yn credu i mi, credwch y gweith­redoedd, fel y gwybyddoch ac y credoch, fôd y Tâd ynofi, a minneu ynddo yntef.

39 Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef; ac efe a ddiangodd allan o'u dwylo hwynt.

40 Ac efe a aeth ymaith drachefn tros yr Iorddonen i'r man lle y buasei Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno.

41 A llawer a ddaethant atto ef, ac a ddy­wedasant, Ioan yn wir ni wnaeth vn arwydd: ond yr holl bethau a'r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wîr.

42 A llawer yno a gredasant ynddo.

PEN. XI.

1 Christ yn cyfodi Lazarus, yr hwn â gladdesid er ys pedwar diwrnod. 45 Llawer o Iddewon yn credu. 47 Yr Arch-offeiriaid a'r Phari­sæaid yn casclu cyngor yn erbyn Christ. 49 Cai­aphas yn prophwydo, 54 Iesu yn ymguddio: 55 Hwythau ar y Pasc yn ymofyn am dano, ac yn gosod cynllwyn iddo.

AC yr oedd vn yn glâf, Lazarus o Bethania, o dref Mair a'i chwaer Martha.

2 (Matth. 26.7. A Mair ydoedd yr hon a enneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt; yr hon yr odd ei brawd Laza­rus yn glâf)

3 Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant atto ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae yr hwn sydd hoff genniti yn glâf.

4 A'r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw y clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mâb Duw trwy hynny.

5 A hoff oedd gan yr Iesu Fartha, a'i chwaer, a Lazarus.

6 Pan glybu ef gan hynny, ei fôd ef yn glâf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddi­wrnod:

7 Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disclyblion, Awn i Judæa drachefn.

8 Y discyblion a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy la­byddio di, ac a wyt ti yn myned yno drachefn?

9 Yr Iesu a attebodd, Onid oes deuddeg awr o'r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fôd yn gweled goleuni y bŷd hwn:

10 Ond os rhodia neb y nôs, efe a dram­gwydda: am nad oes goleuni ynddo.

11 Hyn a Iefarodd efe: ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lazarus yn huno: ond yr wyfi yn myned i'w ddihuno ef.

12 Yna ei ddiscyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach.

13 Ond yr Iesu a ddywedasei am ei farwol­aeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hûn cwsc yr oedd efe yn dywedyd.

14 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lazarus;

15 Ac y mae yn llawen gennif nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi (fel y credoch:) ond awn atto ef.

16 Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddiscyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gyd ag ef.

17 Yna yr Iesu wedi dyfod, a'i cafodd ef wedi bôd weithian bedwar diwrnod yn y bedd.

18 A Bethania oedd yn agos i Ierusalem, ynghylch pymtheg stâd oddi wrthi:

19 A llawer o'r Iddewon a ddaethent at Martha a Mair, iw cyssuro hwy am eu brawd.

20 Yna Martha, cyn gynted ac y clybu hi fôd yr Iesu yn dyfod, a aeth iw gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ.

21 Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti ymma, ni buasei farw fy mrawd.

22 Eithr mi a wn hefyd yr awron, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti.

23 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Adgyfodir dy frawd drachefn.

24 Dywedodd Martha wrtho,Luc. 14.14. Pen. 5.29. Myfi a wn yr adgyfodir ef yn yr adgyfodiad, y dydd diweddaf.

25 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw yr adgyfodiad,Pen. 6.35. a'r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynofi, er iddo farw, a fydd byw.

26 A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynofi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti yn credu hyn?

27 Dywedodd hithau wrtho, Ydwyf Ar­glwydd: yr ŵyfi yn credu mai ti yw y Christ, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i'r bŷd.

28 Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymmaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw am danat.

29 Er cynted ac y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth atto ef.

30 A'r Iesu ni ddaethei etto i'r dref; ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasei Mar­tha ag ef.

31 Yna yr Iddewon, y rhai oedd gŷd â hi yn y tŷ, ac yn ei chyssuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frŷs, ac yn myned allan, a'i canlynasant hi, gan ddywedyd, Y mae hi yn myned at y bedd, i ŵylo yno.

32 Yna Mair, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu, a'i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti ymma, ni buasei fy mrawd farw.

33 Yr Iesu gan hynny, pan welodd hi yn wylo, a'r Iddewon y rhai a ddaethei gyd â hi, yn wylo, a riddfanodd yn yr yspryd, ac aCr. ym­gynnhyr­fodd. gynhyrfwyd;

34 Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, tyred a gwêl.

35 Yr Iesu a wylodd.

36 Am hynny dywedodd yr Iddewon, Wele fel yr oedd efe yn ei garu ef.

37 Eithr rhai o honynt a ddywedasant, Oni allasei hwn,Pen. 9.6. yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasei hwn farw chwaith?

38 Yna 'r Iesu drachefn a riddfanodd ynddo ei hun, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno.

39 Yr Iesu a ddywdodd, Codwch ymmaith y maen. Martha chwaer yr hwn a fuasei farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod.

40 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywe­dais i ti, pes credit, y cait ti weled gogoniant Duw?

41 Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A'r Iesu a gododd ei olwg i fynu, ac a ddywedodd, Y Tâd, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf.

42 Ac myfi a wyddwn dy fôd ti yn fy ngwrando bôb amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch, y dywedais, fel y cre­dont mai tydi a'm hanfonaist i.

43 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef vchel, Lazarus, tyred allan.

44 A'r hwn a fuasei farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a'i ddwylo mewn amdo: a'i wyneb oedd wedi ei rwymo â napcin. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Goll­yngwch ef yn rhydd, a gedwch iddo fyned ymmaith.

45 Yna llawer o'r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent: y pethau a wnaethei yr Iesu, a gredasant ynddo ef.

46 Eithr rhai o honynt a aethant ymmaith at y Pharisæaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethei yr Iesu.

47 Yna yr Arch-offeiriaid a'r Pharisæaid, a gasclasant gyngor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae y dŷn ymma yn gwneuthur llawer o arwy­ddion.

48 Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo, ac fe a ddaw y Rhufein­iaid, ac a ddifethant ein lle ni, a'n cenedl hefyd.

49 A rhyw vn o honynt, Caiaphas, yr hwn oedd Arch-offeiriad y flwyddyn honno, a ddy­wedodd wrthynt, Nid ydych chwi yn gwybod dim oll:

50Pen. 18.14. Nac yn ystyried mai buddiol yw i ni farw o vn dŷn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl.

51 Hyn ni ddywedodd efe o honaw ei hun, eithr ac efe yn Arch-offeiriad y flwyddyn honno, efe a brophwydodd y byddei yr Iesu farw dros y genedl:

52 Ac nid tros y genedl yn vnic, eithr fel y casclei efe ynghyd yn vn, blant Duw hefyd, y rhai a wascarasid.

53 Yna, o'r dydd hwnnw allan, y cyd­ymgynghorasant, fel y lladdent ef.

54 Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ym mysc yr Iddewon, ond efe a aeth oddi yno i'r wlâd yn agos i'r anialwch, i ddi­nas a elwir Ephraim: ac a arhosodd yno gyd â'i ddiscyblion.

55 A Phasc yr Iddewon oedd yn agos: a llawer a aethant o'r wlâd i fynu i Ierusalem, o flaen y Pasc, i'w glanhau eu hunain.

56 Yna y ceisiasant yr Iesu, a dywedasant [Page] wrth ei gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y Deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i'r ŵyl?

57 A'r Arch-offeiriaid, a'r Pharisæaid, a roesent orchymmyn, os gwyddei neb pa le yr oedd efe, ar fynegi o hono, fel y gallent ei ddal ef.

PEN. XII.

1 Yr I [...]su yn escusodi Mair am enneinio ei draed ef. 9 Y bobl yn ymgasclu i weled Lazarus. 10 Yr Arch-offeiriaid yn ymgynghori iw ladd ef. 12 Christ yn marchogaeth i Ierusalem. 20 Groeg-wyr yn ewyllysio gweled yr Iesu. 23 Y mae efe yn rhagfynegi ei farwolaeth. 37 Yr Iddewon i gyd gar-mwyaf wedi eu dallu: 42 Er hynny llawer o bennaethiaid yn credu, ond heb ei gyffesu ef: 44 Yr Iesu gan hynny yn galw yn daer am gyffessu ffydd.

YNa 'r Iesu, chwe diwrnod cyn y Pasc, a ddaeth i Bethania, lle yr oedd Lazarus, yr hwn a fuasei farw, yr hwn a godasei efe o feirw.

2 Ac yno y gwnaethant iddo swpper. A Martha oedd yn gwasanaethu: a Lazarus oedd vn o'r rhai a eisteddent gyd ag ef.

3 Yna y cymmerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a enneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt: a'r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint.

4 Am hynny y dywedodd vn o'i ddiscyb­lion ef, Iudas Iscariot mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef,

5 Pa ham na werthwyd yr ennaint hwn er trychan ceiniog, a'i roddi i'r tlodion?

6 Eithr hyn a ddywedodd efe, nid o her­wydd bôd arno ofal dros y tlodion, ond am ei fod yn lleidr, aPen. 13.29. bôd ganddo y pwrs, a'i fod ynArwedd. dwyn yr hyn a fwrid ynddo.

7 A'r Iesu a ddywedodd, Gâd iddi: erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn.

8 Canys y mae gennych y tlodion gyd â chwi bôb amser, eithr myfi nid oes gennych bôb amser.

9 Gwybu gan hynny dyrfa fawr o'r Idde­won ei fôd efe yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn vnic, ond fel y gwelent La­zarus hefyd, yr hwn a godasei efe o feirw.

10 Eithr yr Arch-offeiriaid a ymgynghora­sant, fel y lladdent Lazarus hefyd.

11 Oblegid llawer o'r Iddewon a aethant ymmaith o'i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu.

12Matth. 21.8. Trannoeth, tyrsa fawr, yr hon a ddaethei i'r ŵyl, pan glywsant fôd yr Iesu yn dyfod i Ierusalem,

13 A gymmerasant gangau o'r palm­wŷdd, ac a aethant allan i gyfarsod ag ef, ac a lefasant, Hosanna, bendigedigNeu, yw 'r hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd, yn Bre­nin yr Israel. yw brenin Israel yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Ar­glwydd.

14 A'r Iesu wedi cael assynnan, a eisteddodd arno, megis y mae yn scrifennedig,

15Zach. 9.9. Nac ofna, serch Sion; wele y mae dy frenin yn dyfod, yn eistedd ar ebol aslyn.

16 Y pethau hyn ni wybu ei ddiscyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna y cofiasant fôd y pethau hyn yn scrifen­nedig am dano, ac iddynt wneuthur hyn iddo.

17 Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gyd ag ef,Alw o honaw ef Laz. o'r bedd, a'i godi o feirw. pan alwodd efe Lazarus o'r bedd, a'i godi ef o feirw.

18 Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gy­farfod ag ef, am glywed o honynt iddo wneu­thur yr arwydd hwn.

19 Y Pharisæaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, A welwchwi nad ydych yn tyccio ddim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef.

20 Ac yr oedd rhai Groegiaid ym mhlith y rhai a ddaethei i fynu i addoli ar yr ŵyl:

21 Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Bethsaida yn Galilæa, ac a ddymunasant arno, gan ddywedyd, Syre, ni a ewyllysiem weled yr Iesu.

22 Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas: a thrachefn Andreas a Philip a ddy­wedasant i'r Iesu.

23 A'r Iesu a attebodd iddynt, gan ddywe­dyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dŷn.

24 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaiar, a marw, hwnnw a erys yn vnic: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer.

25Matth. 10.39. Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a'i cyll hi; a'r hwn sydd yn casâu ei einioes yn y byd hwn, a'i ceidw hi i fywyd tragywyddol.

26 Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tâd a'i han rhyde­dda ef.

27 Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dâd, gwared fi allan o'r awr hon: eithr o herwydd hyn y daethym i'r awr hon.

28 O Dâd, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o'r nef, Mi a'i gogoneddais, ac a'i gogone­ddaf drachefn.

29 Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho.

30 Yr Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, Nid o'm hachos i y bu y llef hon, ond o'ch achos chwi.

31 Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn.

32 A minneu, os dyrchefir fi oddi ar y ddaiar, a dynnaf bawb attaf fy hun.

33 (A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angeu y byddei farw.)

34 Y dyrfa a attebodd iddo,Psal. 110.4. Ni a glyw­som o'r ddeddf, fôd Christ yn aros yn dragy­wyddol; a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd fôd yn rhaid derchafu Mâb y dyn? Pwy ydyw hwnnw Mab y dŷn?

35 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Etto ychydig ennyd y mae 'r goleuni gyd â chwi: rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio 'r tywyllwch chwi: a'r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae yn myned.

36 Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.

37 Ac er gwneuthur o honaw ef gymmaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, ni chreda­sant ynddo:

38 Fel y cyflawnid ymadrodd Esaias y Pro­phwyd, yr hwn a ddywedodd efe,Esay. 53.1. Rhuf. 10.16. Arglwydd, pwy a gredodd i'n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?

39 Am hynny ni allent gredu, oblegid dy­wedyd o Esaias drachefn,

40Matth. 13.14. Efe a ddallodd eu llygaid, ac a [Page] galedodd eu calon; fel na welent â'u llygaid, a deall â'u calon, ac ymchwelyd o honynt, ac i mi eu hiachâu hwynt.

41 Y pethau hyn a ddywedodd Esaias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd am dano ef.

42 Er hynny llawer o'r pennaethiaid hefyd a gredasant ynddo: ond oblegid y Pharisæaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o'r Sy­nagog.

43Pen. 5.44. Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion, yn fwy nâ gogoniant Duw.

44 A'r Iesu a lefodd, ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a'm danfonodd i.

45 A'r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a'm danfonodd i.

46Pen. 3.19. Mi a ddaethym yn oleuni i'r byd, fel y bo i bôb vn sydd yn credu ynof fi, nad ar­hoso yn y tywyllwch.

47Pen. 3.17. Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid ŵyf yn ei farnu ef. Canys ni ddaethym i farnu 'r byd, eithr i achub y byd.

48 Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo vn yn ei far­nu:Marc. 16.16. y gair a leferais i, hwnnw a'i barn ef yn y dydd diweddaf.

49 Canys myfi ni Ieferais o honof fy hun, ond y Tad yr hwn a'm hanfonodd i, efe a rhoddes orchymmyn i mi beth a ddywedwn, a pheth a lefarwn.

50 Ac mi a wn fôd ei orchymmyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyfi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tâd wrthif, felly yr wyf yn llefaru.

PEN. XIII.

1 Yr Iesu yn golchi traed ei ddiscyblion: yn eu hannoc i ostyngeiddrwydd, a chariad perffaith: 18 yn rhag-ddywedyd, ac yn datcuddio i Ioan trwy arwydd, y bradychei Iudas ef: 31 yn gorchymmyn iddynt garu ei gilydd: 36 ac yn rhybuddio Petr y gwadai efe ef.

AMatth. 26.2. Chyn gŵyl y Pasc, yr Iesu yn gŵy­bod ddyfod ei awr ef i ymadel a'r bŷd hwn at y Tad, efe yn caru yr eiddo, y rhai oedd yn y bŷd, a'u carodd hwynt hyd y diwedd.

2 Ac wedi darfod swpper, (wedi i ddiafol eusus roi ynghalon Iudas Iscariot, fab Simon, ei fradychu ef)

3 Yr Iesu yn gŵybod roddio'r Tâd bôb peth oll yn ei ddwylo ef, a'i fôl wedi dyfod oddiwrth Dduw, ac yn myned at Dduw:

4 Efe a gyfododd oddiar swpper, ac a roes heibio ei gochl-wisc, ac a gymmerodd dywel, ac a ymwregysodd.

5 Wedi hynny efe a dywalltodd ddwfr i'r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y dis­cyblion, a'u sychu â'r tywel, â'r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu.

6 Yna y daeth efe at Simon Petr; ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, wyt ti yn gol­chi fy nhraed i?

7 Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost di yr awron: eithr ti a gei wybod yn ôl hyn.

8 Petr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Iesu a attebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyf ran gyd â myfi.

9 Simon Petr a ddywedodd wrtho, Ar­glwydd, nid fy nhraed yn vnic, eithr fy nwylo a'm pen hefyd.

10 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll.

11 Canys efe a wyddei pwy a'i bradychei ef; am hynny y dywedodd, Nid ydych chwi yn lân bawb oll.

12 Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymmeryd ei gochl-wisc, efe a eisteddodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, A wydd­och chwi pa beth a wnaethum i chwi?

13 Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athro, a'r Arglwydd: a da y dywedwch: canys felly yr ydwyf.

14 Am hynny os myfi yn Arglwydd ac yn Athro, a olchais eich traed chwi, chwithau a ddylech olchi traed ei gilydd.

15 Canys rhoddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau, megis y gwneuthum i chwi.

16Matth. 10.24. Pen. 15.20. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, nid yw 'r gwâs yn fwy nâ'i arglwydd, na'r hwn a ddan­fonwyd, yn fwy nâ'r hwn a'i danfonodd.

17 Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich bŷd ôs gwnewch hwynt.

18 Nid wyfi yn dywedyd am danoch oll: mi a wn pwy a etholais, ond fel y cyflawnid yr Scrythur,Psal. 41.9. yr hwn sydd yn bwytta bara gyd â mi, a gododd ei sodl yn fy erbyn.

19Neu, O'r awr hon. Yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch mai myfi yw efe.

20Matth. 10.40. Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyfi, sydd yn fy nerbyn i: a'r hwn sydd yn fy ner­byn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.

21Matth. 26.21. Wedi i'r Iesu ddywedyd y pethau hyn, ef a gynhyrfwyd yn yr yspryd, ac a dyst­iolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wîr, yn wîr y dywedaf wrthych, y bradycha vn o honoch fi.

22 Yna y discyblion a edrychasant ar ei gilydd, gan ammeu am bwy yr oedd efe yn dywedyd.

23 Ac yr oedd vn o'i ddiscyblion yn pwyso ar fonwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu.

24 Am hynny yr amneidiodd Simon Petr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd efe, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd.

25 Ac yntef yn pwyso ar ddwyfron yr Iesu a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe?

26 Yr Iesu a attebodd, Hwnnw yw efe, i'r hwn y rhoddaf fi dammaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu y tammaid, efe a'i rhoddodd i Iudas Iscariot fab Simon.

27 Ac ar ôl y tammaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys.

28 Ac ni wyddei neb o'r rhai oedd yn eist­edd, i ba beth y dywedasei efe hyn wrtho.

29 Canys rhai oedd yn tybied, am fôd Iudas a'r gôd ganddo, fôd yr Iesu yn dywe­dyd wrtho, Prŷn y pethau sy arnom eu heis­ieu erbyn yr ŵyl: neu ar roi o honaw beth i'r tlodion.

30 Ynteu gan hynny wedi derbyn y tam­maid, a aeth allan yn ebrwydd: ac yr oedd hi yn nos.

31 Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a [Page] ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mâb y dŷn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef.

32 Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a'i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a'i gogonedda ef yn ebrwydd.

33 O blant bychain, etto yr wyf ennyd fechan gyd â chwi. Chwi a'm ceisiwch; acPen. 7.34. megis y dywedais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron.

34Pen. 15.17. Lev. 19.18. 1 Ioan. 4.21. Gorchymmyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, ar garu o honoch ei gilydd: fel y cerais i chwi, ar garu o honoch chwithau bawb ei gilydd.

35 Wrth hyn y gwybydd pawb mai dis­cyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad iw gilydd.

36 A Simon Petr a ddywedodd wrtho, Ar­glwydd, i ba le yr wyt ti yn myned? Yr Iesu a attebodd id lo, Lle yr ydwyfi yn myned, ni elli di yr awron fy nghanlyn: eithr yn ol hyn i'm calyni.

37 Petr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pa ham na allafi dy ganlyn yr awron? mi aMatth. 26.33. roddaf fy einioes drosot.

38 Yr Iesu a attebodd iddo, A roddi di dy einioes drosof fi? Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith.

PEN. XIV.

1 Christ yn cyssuro ei ddiscyblion â gobaith teyrn­nas nêf: 6 yn proffesu mai efe yw 'r ffordd, a'r gwirionedd, a'r bywyd; a'i fôd yn vn a'r Tâd: 13 yn gwarantu y bydd ei gweddiau hwy yn ei enw ef yn ffrwyth-lawn: 15 yn dymuno cariad ac vfydd-dod: 16 yn addo yr Yspryd glân y Diddanudd, 27 ac yn gadel ei dangne­ddyf gyd â hwynt.

NA thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finneu hefyd.

2 Yn nhŷ fy Nhâd y mae llawer o drigfan­nau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi, yr wyfi yn myned i baratoi lle i chwi.

3 Ac os myfi a âf, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a'ch cymmeraf chwi attaf fy hun: fel lle yr wyfi, y byddoch chwi­thau hefyd.

4 Ac i ba le yr wyfi yn myned, chwi a ŵyddoch, a'r ffordd a ŵyddoch.

5 Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni ŵyddom ni i ba le yr wyt ti vn myned; a pha fôdd y gallwn ŵybod y ffordd?

6 Yr Iesu a ddyvvedodd vvrtho ef, Myfi yvv 'r ffordd, a'r gvvirionedd, a'r byvvyd: nid yw neb yn dyfod at y Tâd, ond trwof fi.

7 Ped adnabasech fi, fy Nhad hefyd a ad­nabasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a'i gvvelsoch ef.

8 Dyvvedodd Philip vvrtho, Arglvvydd, dangos i ni y Tâd, a digon yvv i ni.

9 Yr Iesu a ddyvvedodd vvrtho, A ydyvvf gyhyd o amser gyd â chvvi, ac nid adnabuost fi, Philip: y neb a'm gvvelodd i, a vvelodd y Tâd: a pha fodd yr vvyt ti yn dyvvedyd, Dangos i ni y Tâd?

10 Onid vvyt ti yn credu fy môd i yn y Tâd, a'r Tâd ynof finneu? y geiriau yr wyfi yn eu llefaru vvrthych, nid o honof fy hun yr vvyf yn eu llefaru; ond y Tâd yr hvvn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gvvneuthur y gvveith­redoedd.

11 Credwch fi, fy môd i yn y Tad, a'r Tâd ynof finneu: ac onid ê, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hun.

12 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu ynofi, y gweithredoedd yr wyfi yn eu gwneuthur, ynteu hefyd a'u gwnâ, a mwy nâ'r rhai hyn a wnâ efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhâd.

13Matth. 7.7. A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf: fel y gogonedder y Tâd yn y Mâb.

14 Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a'i gwnaf.

15 O cherwch fi, cedwch fy ngorchym­mynion.

16 A mi a weddiaf ar y Tâd, ac efe a rydd i chwi Ddiddanudd arall, fel yr arhoso gyd â chwi yn dragywyddol:

17 Yspryd y gwirionedd, yr hwn ni ddi­chon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a'i hadwaen­och ef, o herwydd y mae yn aros gyd â chwi, ac ynoch y bydd efe.

18 Nis gadawaf chwi yn ymddifaid: mi a ddeuaf attoch chwi.

19 Etto ennyd bach, a'r byd ni'm gwêl mwy: eithr chwi a'm gwelwch, canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd.

20 Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy môd i yn fy Nhâd, a chwithau ynofi, a minneu ynoch chwithau.

21 Yr hwn sydd a'm gorchymynion i gan­ddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw 'r hwn sydd yn fy ngharu i: a'r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhâd i: a minneu a'i caraf ef, ac a'm hegluraf fy hun iddo.

22 Dywedodd Iudas wrtho, (nid yr Isca­riot) Arglwydd, pa beth yw 'r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i'r byd?

23 Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair, a'm Tâd a'i câr yntef, a nyni a ddeuwn atto, ac a wnawn ein trigfa gyd ag ef.

24 Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: a'r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddofi ydyw, ond eiddo y Tâd a'm hanfonodd i.

25 Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyd â chwi.

26 Eithr y Diddanudd, yr Yspryd glân, yr hwn a enfyn y Tâd yn fy enw i, efe a ddŷsc i chwi yr holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi yr holl bethau a ddywedais i chwi.

27 Yr wyf yn gadel i chwi dangnheddyf, fy nhangheddyf yr ydwyf yn ei rhoddi i chwi: nid fel y mae y bŷd yn rhoddi, yr wyfi yn rhoddi i chwi: na thralloder eich calon, ac nac ofned.

28 Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymmaith, ac mi a ddeuaf at­toch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tâd: canys y mae fy Nhad yn fwy nâ myfi.

29 Ac yr awron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddel, y credoch.

30 Nid ymddiddanaf â chwi nemmawr bellach: canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynofi.

31 Ond fel y gwypo 'r bŷd fy môd i yn caru y Tâd, ac megis y gorchymynnodd y Tâd [Page] i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi ymma.

PEN. XV.

1 Y diddanwch, a'r caredigrwydd sydd rhwng Christ a'i aelodau, trwy ddammeg y winllan. 18 Cyssur mewn casineb, ac erlid bydol. 26 Swydd yr Yspryd glân, a'r Apostolion.

MYfi yw y wîr win-wydden, a'm Tad yw 'r llafurwr.

2Matth. 15.13. Pôb cangen ynofi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymmaith: a phôb vn a ddygo ffrwyth, y mae efe yn ei glanhau, fel y dygo fwy o ffrwyth.

3Pen. 13.10. Yr awron yr ydych chwi yn lân, trwy 'r gair a leferais i wrthych.

4 Arhoswch ynofi, a mi ynoch chwi: megis na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, onid erys yn y win-wydden: felly ni ellwch chwithau, onid arhoswch ynofi.

5 Myfi yw 'r win-wydden, chwithau yw 'r canghennau: yr hwn sydd yn aros ynofi, a minneu ynddo yntef, hwnnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: oblegid hebofi ni ellwch chwi wneuthur dim.

6 Onid erys vn ynofi, efe a dastwyd allan megis cangen, ac a wywodd, ac y maent yn eu casclu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a loscir.

7 Os arhoswch ynofi, ac aros o'm geiriau ynoch, beth bynnag a ewyllysioch, gofynnwch, ac fe a fydd i chwi.

8 Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhâd, ar ddwyn o honoch ffrwyth lawer; a discyblion fyddwch i mi.

9 Fel y carodd y Tâd fi, felly y cerais inneu chwithau: arhoswch yn fy nghariad i.

10 Os cedwch fy ngorchymynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad: fel y cedwais i orchymynion fy Nhâd, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef,

11 Hyn a ddywedais wrthych, fel yrArhoso. arhosei fy llawenydd ynoch, ac yByddo. byddei eich llawenydd yn gyflawn.

12Pen. 13.34. 1 Thes. 4.9. 1 Ioan [...].11. Dymma fy ngorchymyn i, ar i chwi garu ei gilydd, fel y cerais i chwi.

13 Cariad mwy nâ hwn nid oes gan neb, sef bôd i vn roi ei einioes dros ei gyfeillion.

14 Chwy-chwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymmyn i chwi.

15 Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision: oblegid y gwâs ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a'ch gel­wais chwi yn gyfeillion, oblegid pôb peth a'r a glywais gan fy Nhad, a yspysais i chwi.

16 Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch dewisais chwi, ac a'chMatth. 28.19. ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosei eich ffrwyth, megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tâd yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.

17 Hyn yr wyf yn ei orchymmyn i chwi, garu o honoch ei gilydd.

18 Os yw 'r bŷd yn eich casau chwi,Gwyby­ddwch. chwi a wyddoch gasau o honaw fyfi o'ch blaen chwi.

19 Pe byddech o'r bŷd, y bŷd a garei 'r eiddo: ond oblegid nad ydych o'r bŷd, eithr i mi eich dewis allan o'r bŷd, am hynny y mae 'r bŷd yn eich casau chwi.

20Pen. 13.16. Matth. 10.2 [...] Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych, Nid yw 'r gwâs yn fwy nâ'i Ar­glwydd: os erlidiasant fi, hwy a'ch erlidiant chwithau: os cadwasant f [...] [...]ir i, yr eiddoch chwithau hefyd a [...]

21 Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a'm hanfonodd i.

22 Oni bai fy fod a llefaru wrthynt, ni buasei arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt escus am ei pechod.

23 Yr hwn sydd yn fy nghasâu i, sydd yn casâu fy Nhâd hefyd.

24 Oni bai wneuthur o honof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasei arnynt bechod: ond yr awron hwy a wel­sant, ac a'm casasant i, a'm Tâd hefyd.

25 Eithr fel y cyflawnid y gair sydd scri­fennedig yn eu cyfraith hwynt,Psal. 35.19. Hwy a'm casâsant yn ddiachos.

26Pen. 14.20. Luc. 24.49. Eithr pan ddêl y Diddanudd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tâd, (sef Yspryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn deilliaw oddi wrth y Tâd,) efe a dystiolaetha am danafi.

27 A chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bôd o'r dechreuad gyd â mi.

PEN. XVI,

1 Christ yn cyssuro ei ddiscyblion yn erbyn blin­der, trwy addewid o'r Yspryd glân, a thrwy ei Ail-gyfodiad, a'i escyniad: 23 yn eu siccrhau y bydd eu gweddiau hwy yn ei enw ef, yn gym­meradwy gan ei Dâd. 33 Tangneddyf ynghrist, ac yn y byd gorthrymder.

Y Pethau hyn a ddywedais i chwi, fel na rwystrer chwi.

2 Hwy a'ch bwriant chwi allan o'r Syna­gogau: ac y mae 'r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a'ch lladdo, ei fôd yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw.

3 A'r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tâd, na myfi.

4 Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a'r pethau hyn ni ddywedais i chwi o'r dechreuad, am fy môd gyd â chwi.

5 Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd, ac nid yw neb o honoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti yn myned?

6 Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon.

7 Ond yr wyfi yn dywedyd gwirionedd i chwi, buddiol yw i chwi fy myned i ym­maith: canys onid âfi, ni ddaw y Diddan­udd attoch: eithr os mi a âf, mi a'i hanfonaf ef attoch.

8 A phan ddêl, efe a argyoedda y bŷd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn:

9 O bechod, am nad ydynt yn credu ynofi.

10 O gyfiawnder, am fy môd yn myned at fy Nhâd, ac ni'm gwelwch i mwyach:

11 O farn, oblegid tywysog y bŷd hwn a farnwyd.

12 Y mae gennif etto lawer o bethau iw dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron.

13 Ond pan ddêl efe, sof Yspryd y gwirionedd, efe a'ch tywys chwi i bôb gwirionedd: canys ni lefara o honaw ei hun, ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe, a'r pethau sy i ddyfod a fynega efe i chwi.

14 Efe a'm gogonedda i, canys efe a gym­mer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi.

15 Yr holl bethau sy eiddo 'r Tâd, ydynt eiddofi: o herwydd hyn y dywedais mai o'r eiddofi y cymmer, ac y mynega i chwi.

[...]
[...]

16 Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch: a rhrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwel­wch, am fy môd yn myned at y Tâd.

17 Am hynny y dywedodd rhai o'i ddiscyb­lion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch: a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch: ac, Am fy môd yn myned at y Tâd?

18 Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd.

19 Yna y gwybu 'r Iesu eu bôd hwy yn ewyllysio gofyn iddo, ac a ddywedodd wrth­ynt, Ai ymofyn yr ydych â'i gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch, a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch?

20 Yn wir, yn wîr, meddaf i chwi, chwi a wŷlwch ac a alerwch, a'r bŷd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion, ond eich trist­wch a droir yn llawenydd.

21 Gwraig wrth escor, sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni y plen­cyn, nid yw hi yn cofio ei gofid mwyach, gan lawenydd geni dŷn i'r bŷd.

22 A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a'ch calon a lawenycha, a'ch llawen­ydd ni ddwg neb oddi arnoch.

23 A'r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi,Matth. 7.7. Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, pa bethau bynnag a ofynnoch i'r Tâd yn fy enw, efe a'u rhydd i chwi.

24 Hyd yn hyn ni ofynnasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch, fel y byddo eich llawenydd yn gyslawn.

25 Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae yr awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tâd.

26 Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gwe­ôdiafi ar y Tâd trosoch:

27 Canys y sâd ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw.

28 Mi a ddaethym allan oddi wrth y Tâd, ac a ddaethym i'r bŷd: trachefn yr wyf yn gadel y bŷd, ac yn myned at y Tâd.

29 Ei ddiscyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd vn ddammeg.

30 Yn awr y gwyddom y gwyddost bôb peth, ac nad rhaid it ymofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod o honot allan oddi wrth Dduw.

31 Yr Iesu a'u hattebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu?

32Matth. 26.31. Wele, y mae yr awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwascerir chwi bôb vn at yr eiddo, ac y gadewch fi yn vnic: ac nid wyf yn vnic, oblegid y mae y Tad gyd â myfi.

33 Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangneddyf ynof. Yn y bŷd gorthrymder a gewch: eithr cymmerwch gysur, myfi a orchfygais y bŷd.

PEN. XVII.

1 Christ yn gweddio ar ei Dad am ei ogoneddu ef, 6 am gadw ei Apostolion 11 mewn vndeb, 17 a gwirionedd: 20 am eu gogoneddu hwy, a'r holl ffyddloniaid eraill gydâ hwynt, yn y nefoedd.

Y Pethau hyn a lefarodd yr Iesu: ac efe a go­dodd ei lygaid i'r nef, ac a ddywedodd, Y Tâd, daeth yr awr: gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab ditheu.

2Matth. 28.18. Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bôb cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddei efe iddynt fywyd tragywyddol.

3 A hyn yw 'r bywyd tragywyddol, iddynt dy adnabod di yr vnic wîr Dduw, a'r hwn a anfonaisti Iesu Grist.

4 Mi a'th ogoneddais di ar y ddaiar: mi a gwplheais y gwaith a roddaist i mi iw wneu­thur.

5 Ac yr awron, o Dâd, gogonedda di fyfi gyd â thi dy hun, â'r gogoniant oedd i mi gyd â thi, cyn bôd y bŷd.

6 Mi a eglurais dy enw i'r dynion a roddaist i mi allan o'r bŷd: eiddot ti oeddynt, a thi a'i rhoddaist hwynt i mi, a hwy a gadwasant dy air di.

7 Yr awron y gwybuant, mai oddi wrthit ti y mae 'r holl bethau a roddaist i mi:

8 Canys y geiriau a roddaist i mi, a ro­ddais iddynt hwy: a hwy a'u derbyniasant,Pen. 16.27. ac a wybuant yn wîr mai oddi wrthit ti y daeth ym i allan, ac a gredasant mai tydi a'm hanfonaist i.

9 Trostynt hwy yr ŵyfi yn gweddio: nid tros y bŷd yr wyf yn gweddio, ond tros y rhai a roddaist i mi; canys eiddoti ydynt.

10 A'r eiddofi oll sy eiddot ti, a'r eiddot ti sy eiddo fi: ac mi a ogoneddwyd ynddynt.

11 Ac nid wŷf mwyach yn y bŷd, ond y rhai hyn sy yn y bŷd, a myfi sydd yn dyfod attat ti. Y Tâd sancteiddiol, cadw hwyntYn. trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi: fel y byddont vn, megis ninnau.

12 Tra fum gyd â hwynt yn y bŷd, mi a'u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi a gedwais, ac ni chollwyd o honynt ond mâb y golledigaeth:Psal. 109.8. fel y cyflawnid yr Scrythur.

13 Ac yr awron yr wyf yn dyfod attat: a'r pethau hyn yr ŵyf yn eu llefaru yn y bŷd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain.

14 Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a'r bŷd a'u casaodd hwynt, oblegid nad ydynt o'r bŷd, megis nad ydwyf finneu o'r bŷd.

15 Nid ŵyf yn gweddio ar i ti eu cym­meryd hwynt allan o'r bŷd, eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg.

16 O'r bŷd nid ydynt, megis nad ŵyf fin­neu o'r byd.

17 Sancteiddia hwyntA'th wirionedd. yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd.

18 Fel yr anfonaist fi i'r bŷd, felly yr an­fonais inneu hwythau i'r bŷd:

19 Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sanct­eiddio fy hun, fel y bont hwythau wedi eu sancteiddioNeu, gan. yn y gwirionedd.

20 Ac nid wŷf yn gweddio dros y rhai hyn yn vnic, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynofi, trwy eu hymadrodd hwynt.

21 Fel y byddont oll yn vn: megis yr wyt ti y Tâd ynof fi, a minneu ynot ti, fel y by­ddont hwythau vn ynom ni: fel y credo y bŷd mai tydi a'm hanfonaist i.

22 A'r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy, fel y byddont vn, megis yr ydym ni yn vn.

23 Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi, fel y bônt wedi eu perffeithio yn vn, ac fel y gwypo 'r bŷd mai tydi a'm hanfonaist i, a charu o honot hwynt megis y ceraist fi.

24Pen. 12.26. Y Tâd, y rhai a roddaist i mi, yr ŵyf yn ewyllysio, lle yr ŵyf fi, fod o honynt hwy­thau hefyd gyd â myfi: fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi, oblegid ti a'm ceraist cyn seiliad y bŷd.

25 Y Tâd cyfiawn, nid adnabu y bŷd dydi: eithr mi a'th adnabûm, a'r rhai hyn a ŵybu mai tydi a'm hanfonaist i.

26 Ac mi a yspysais iddynt dy enw, ac a'i hyspysaf: fel y byddo ynddynt hwy y cariad, â'r hwn y ceraist fi, a minneu ynddynt hwy.

PEN. XVIII.

1 Judas yn bradychu 'r Jesu. 6 y swyddogion yn syrthio i'r llawr. 10 Petr yn torri clust Malchus. 12 Dal yr Iesu, a'i ddwyn at An­nas, a Chaiaphas. 15 Petr yn gwadu Christ. 19 Holi 'r Iesu ger bron Caiaphas: 28 A cher bron Pilat. 36 Ei deyrnas ef. 40 Yr Iddewon yn dymuno cael gollwng Barabbas yn rhydd.

GWedi i'r Iesu ddywedyd y geiriau hyn,Matth. 26.36. efe a aeth allan, ef a'i ddiscyblion, tros afon Cedron, lle 'r oedd gardd, i'r hon yr aeth efe a'i ddiscyblion.

2 A Judas hefyd yr hwn a'i bradychodd ef, a adwaenei y lle: oblegid mynych y cyrchasei yr Iesu a'i ddiscyblion yno.

3Matth. 26.47. Judas gan hynny, wedi iddo gael by­ddin, a swyddogion, gan yr Arch-offeiriaid, a'r Pharisæaid, a ddaeth yno â lanternau, a lampau, ac arfau.

4 Yr Iesu gan hynny yn gwybod pôb peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio?

5 Hwy a attebasant iddo, Iesu o Nazareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Judas, yr hwn a'i bradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyd â hwynt.

6 Er cynted gan hynny ac y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn ŵysc eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr.

7 Am hynny efe a ofynnodd iddynt dra­chefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nazareth.

8 Yr Iesu a attebodd, mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio, gedwch i'r rhai'n fyned ymmaith:

9 Fel y cyflawnid y gair a ddywedasei efe,Pen. 17.12. O'r rhai a roddaist i mi, ni chollais i'r vn.

10 Simon Petr gan hynny a chanddo gle­ddyf, a'i tynnodd ef, ac a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ddehau ef: ac enw y gwâs oedd Malchus.

11 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth Petr, Dôd dy gleddyf yn y wain: y cwppan a roddes y Tâd i mi, onid yfaf ef?

12 Yna 'r fyddin, a'r milwriad, a swyddog­ion yr Iddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a'i rhwymasant ef,

13 Ac a'i dygasant ef at Annas yn gyntaf: canys chwegrwn Caiaphas, yr hwn oedd Arch-offeiriad y flwyddyn honno, ydoedd efe.

14Pen. 11.50 A Chaiaphas oedd yr hwn a gynghorasei i'r Iddewon, mai buddiol oedd farw vn dŷn tros y bobl.

15Matth. 26.58 Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu Simon Petr, a discybl arall: a'r discybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr Arch-offeiriad, ac efe a aeth i mewn gyd â'r Iesu, iNeuadd. lŷs yr Arch-offeiriad.

16 A Phetr a safodd wrth y drws allan. Yna y discybl arall, yr hwn oedd adnabyddus gan yr Arch-offeiriad, a aeth allan, ac a ddywe­dodd wrth y ddrysores, ac a ddug Petr i mewn.

17 Yna y dywedodd y llangces oedd ddry­sores, wrth Petr, Onid wyt titheu o ddiscy­blion y dŷn hwn? Dywedodd yntef, Nac ŵyf.

18 A'r gweision a'r swyddogion gwedi gwneuthur tân glo, o herwydd ei bôd hi yn oer, oeddynt yn sefyll, ac yn ymdwymno: ac yr oedd Petr gyd â hwynt yn sefyll, ac yn ymdwymno.

19 A'r Arch-offeiriad a ofynnodd i'r Iesu am ei ddyscyblion, ac am ei athrawiaeth.

20 Yr Iesu a attebodd iddo, Myfi a leferais yn eglur wrth y byd: yr oeddwn bôb amser yn athrawiaethu yn y Synagog, ac yn y Deml, lle mae 'r Iddewon yn ymgynnull bôb amser: ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim.

21 Pa ham yr wyti yn gofyn i mi? gofyn i'r rhai a'm clywsant, beth a ddywedais wrth­ynt: wele, y rhai hynny a ŵyddant pa be­thau a ddywedais i.

22 Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, vn o'r swyddogion, a'r oedd yn sefyll ger llaw, a roddesffonnod. gernod i'r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti yn atteb yr Arch-offeiriad?

23 Yr Iesu a attebodd iddo, Os drwg y dy­wedais, tystiolaetha o'r drwg; ac os da, pa ham yr wyt yn fy nharo i?

24 (Matth. 26.57. Ac Annas a'i hanfonasei ef yn rhwym at Caiaphas yr Arch-offeiriad.)

25 A Simon Petr oedd yn sefyll, ac yn ym­dwymno:Matth. 26.69. hwythau a ddywedasant wrtho, onid wyt titheu hefyd o'i ddiscyblion ef? Yntef a wadodd, ac a ddywedodd, Nac ŵyf.

26 Dywedodd vn o weision yr Arch-offeir­iad, câr i'r hwn y torrasei Petr ei glust, Oni welais i di gŷd ag ef yn yr ardd?

27 Yna Petr a wadodd drachefn, ac yn y man y canodd y ceiliog.

28Matth. 27.2. Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaphas, i'r dadleu-dŷ: a'r boreu ydoedd hi;Act. 10.28. ac nid aethant hwy i mewn i'r dadleu-dŷ, rhag eu halogi, eithr fel y gallent fwytta y Pasc.

29 Yna Pilat a aeth allan attynt, ac a ddy­wedodd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dŷn hwn?

30 Hwy a attebasant, ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fôd hwn yn ddrwg-weithredwr, ni thraddodasem ni ef attat ti.

31 Am hynny y dywedodd Pilat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, Nid cyfraithlon i ni lâdd nêb:

32Matth. 20.19. Fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedasei efe, gan arwyddocau o ba angeu y byddei farw.

33Matth. 27.11. Yna Pilat a aeth drachefn i'r dadleu-dŷ, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iddewon?

34 Yr Iesu a attebodd iddo; Ai o honot dy hun yr wyti yn dywedyd hyn, ai eraill a'i dy­wedasant i ti am danafi?

[...]
[...]

35 Pilat a attebodd, A'i Iddew ydwyf fi? dy genedl dy hun, a'r Arch-offeiriaid, a'th draddodasant i mi: beth a wnaethost ti?

36 Yr Iesu a attebodd, Fy mrenhiniaeth i nid yw o'r bŷd hwn: pe o'r bŷd hwn y byddei fy mrenhiniaeth i, fy ngweision i a ymdrechent, fel na'm rhoddid i'r Iddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi ymma.

37 Yna y dywedodd Pilat wrtho, wrth hynny ai brenin wyti? Yr Iesu a attebodd, Yr ydwyti yn dywedyd mai brenin wyf fi: er mwyn hyn i'm ganed, ac er mwyn hyn y daethym i'r bŷd, fel y tystiolaethwn i'r gwir­ionedd: pôb vn a'r sydd o'r gwirionedd, sydd yn gwrando fy llyferydd i.

38 Pilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt, Nid wyfi yn cael dimBai [...]no. achos ynddo ef.

39Matth. 27.15. Eithr y mae gennwch chwi ddefod, i mi ollwng i chwi vn yn rhydd ar y Pasc: a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi frenin yr Iddewon.

40Act. 3.14. Yna y llefasant oll drachefn, gan ddy­wedyd, Nid hwnnw, ond Barabbas: a'r Barab­bas hwnnw oedd leidr.

PEN. XIX.

1 Fflangellu Christ, a'i goroni â drain, a'i gu­ro. 4 Pilat yn chwennych ei ollwng ef yn rhydd, etto wedi ei orchfygu gan lefain yr Iddewon, yn ei roddi ef i'w groes-hoelio. 23 Bwrw coel-brennau ar ei ddillad ef. 26 Yn­tef yn gorchymmyn ei fam i Joan, 28 ac yn marw. 31 Gwanu ei ystlys ef. 38 Joseph a Nicodemus yn ei gladdu ef.

YNa gen hynnyMatth. 27.26. y cymmerodd Pilat yr Iesu, ac a'i fflangellodd ef.

2 A'r mil-wŷr a blethasant goron o ddrain, ac a'i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisc o borphor am dano:

3 Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon, ac a roesant iddoffonno­diau. gernodiau.

4 Pilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr ŵyfi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyfi yn cael ynddo ef vnAchos. bai.

5 Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwein y goron ddrain, a'r wisc borphor. A Philat a ddy­wedodd wrthynt, Wele y dŷn.

6 Yna yr Arch-offeiriaid a'r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croes-hoelia, croes-hoela ef. Pilat a ddywe­dodd wrthynt, Cymmerwch chwi ef a chroes­hoeliwch: canys nid ŵyfi yn cael dim bai ynddo.

7 Yr Iddewon a attebasant iddo, y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni, efe a ddylei farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fâb Duw.

8 A phan glybu Pilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn swy:

9 Ac a aeth drachefn i'r dadleu-dŷ, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu atteb iddo.

10 Yna Pilat a ddywedodd wrtho, Oni ddywedi di wrthif fi? oni wyddost di fôd gennyf awdurdod i'th groes-hoelio di, a bod gennyf awdurdod i'th ollwng yn rhydd?

11 Yr Iesu a attebodd, Ni byddei i ti ddim awdurdod arnafi, oni bai ei fôd wedi ei roddi i ti oddi vchod: am hynny yr hwn a'm tra­ddodes i ti sydd fwy ei bechod.

12 O hynny allan y ceisioddd Pilat ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Iddewon a lefa­sant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Cæsar: pwy bynnag a'i gwnelo ei hun yn frenin, y mae yn dywedyd yn erbyn Cæsar.

13 Yna pilat pan glybu yr ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu, ac a eisteddodd ar yr orsedd-faingc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebrew Gabbatha.

14 A darpar-ŵyl y Pasc oedd hi, ac yng­hylch y chweched awr: ac efe a ddywe­dodd wrth yr Iddewon, Wele eich Brenin.

15 Eithr hwy a lefasant, Ymmaith ag ef, ymmaith ag ef, croes-hoelia ef. Pilat a ddy­wedodd wrthynt, A groes-hoeliaf fi eich Bre­nin chwi? A'r Arch-offeiriaid a attebasant, Nid oes i ni frenin ond Cæsar.

16Matth. 27.31. Yna gan hynny, efe a'i traddodes ef iddynt i'w groes-hoelio: a hwy a gymmerasant yr Iesu, ac a'i dygasant ymmaith.

17 Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwidY Ben­glogfa. lle 'r Benglog, ac a elwir yn He­brew Golgotha:

18 Lle y croes-heeliasant ef, a dau eraill gyd ag ef, vn o bôb tu, a'r Iesu yn y canol.

19 A Philat a scrifennodd ditl, ac a'i dododd ar y groes. A'r scrifen oedd, IESV O NA­ZARETH, BRENIN YR IDDE­WON.

20 Y titl hwn gan hynny a ddarllennodd llawer o'r Iddewon: oblegid agos i'r ddinas oedd y fan lle y croes-hoeliwyd yr Iesu, ac yr oedd wedi ei scrifennu yn Hebrew, Groeg, a Lladin.

21 Yna Arch offeiriaid yr Iddewon a ddy­wedasant wrth Pilat, Na scrifenna, Brenin yr Iddewon, eithr dywedyd o hono ef, Brenin yr Iddewon ydwyfi.

22 Pilat a attebodd, yr hyn a scrifennais, a scrifennais.

23Matth. 27.35. Yna 'r mil-wŷr wedi iddynt groes­hoelio yr Iesu, a gymmerasant ei ddillad ef, (ac a wnaethant bedair rhan, i bôb milwr ran) a'i bais ef: a'i bais ef oedd ddi-wnîad, wedi ei gwau o'r cwrr vchaf trwyddi oll.

24 Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goel-brennau am deni, eiddo pwy fydd hi:Psal. 22.18. fel y cyflawnid yr Scrythur sydd yn dywedyd, Rhannasant fy nillad yn eu mysc, ac am fy mhais y bwriasant goel-brennau. A'r mil-wŷr a wnaethant y pethau hyn.

25 Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Clo­pas. Cleophas, a Mair Fagdalen.

26 Yr Iesu gan hynny pan welodd ei fam, a'r discybl, yr hwn a garei efe, yn sefyll ger llaw, a ddywedodd wrth ei fam, O wraig, wele dy fab.

27 Gwedi hynny y dywedodd wrth y discybl, Wele dy fam. Ac o'r awr honno allan, y cymmerodd y discybl hi iw gartref.

28 Wedi hynny yr Iesu yn gŵybod fôd pôb peth wedi ei orphen weithian,Psal. 69.21. fel y cyflawnid yr Scrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf.

29 Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr: a hwy a lanwasant yspwrn [Page] o finegr, ac a'i rhoddasant yngylch ysop, ac a'i dodasant wrth ei enau ef.

30 Yna pan gymmerodd yr Iesu y finegr, efe a ddywedodd, Gorphennwyd; a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fynu yr yspryd.

31 Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoei y cyrph ar y groes ar y Sabbath, o herwydd ei bôd yn ddarpar-ŵyl, (canys mawr oedd y dydd Sabbath hwnnw) a ddeisyfiasant ar Pilat, gael torri eu hesceiriau hwynt, a'u tynnu i lawr.

32 Yna y mil-wŷr a ddaethant, ac a dor­rasant esceiriau y cynaf, a'r llall, yr hwn a groes-hoeliasid gyd ag ef.

33 Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eusys, ni thorrasant ei esceiriau ef:

34 Ond vn o'r mil-wŷr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon, ac yn y fan daeth allan waed a dwfr.

35 A'r hwn a'i gwelodd a dystiolaethodd, a gwîr yw ei dystiolaeth: ac efe a wŷr ei fôd yn dywedyd gwîr, fel y credoch chwi.

36 Canys y pethau hyn a wnaethpwyd,Num. 9.12. Exod. 12.46. Psal. 34.20. fel y cyflawnid yr Scrythur, Ni thorrir ascwrn o honaw.

37Zach. 12.10. A thrachefn, Scrythur arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant.

38Matth. 27.57. Ac yn ôl hyn, Joseph o Arimathæa, (yr hwn oedd ddiscybl i'r Iesu, eithr yn gu­ddiedig rhag ofn yr lddewon) a ddeisyfiodd ar Pilat gael tynnu i lawr gorph yr Iesu. A Philat a ganiadhâodd iddo. Yna y daeth efe, ac a ddug ymmaith gorph yr Iesu.

39 A daeth Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethei at yr Iesu o hŷd nos) ac a ddug myrr ac aloes ynghymmysc, tua chan-pwys.

40 Yna y cymmerasant gorph yr Iesu, ac a'i rhwymasant mewn llieiniau, gydag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu.

41 Ac yn y fangre lle y croes-hoeliasid ef, yr oedd gardd, a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dŷn erioed.

42 Ac yno, rhag nesed oedd darpar-ŵyl yr Iddewon, am fôd y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.

PEN. XX.

1 Mair yn dyfod at y bedd, 3 A Phetr hefyd ac Joan heb wybod adgyfodi o'r Jesu. 11 Yr Iesu yn ymddangos i Mair Magdalen, 19 Ac iw ddiscyblion. 24 Anghrediniaeth, a chyffes Thomas. 30 Bôd yr Scrythur lân yn ddigo­nol i iechydwriaeth.

YMatth. 28.1. Marc 16.1. Dydd cyntaf o'rSabba­thau. wythnos, Mair Mag­dalen a ddaeth y boreu, a hi etto yn dy­wyll, at y bedd, ac a weles y maen wedi ei dyn­nu ymmaith oddi ar y bedd.

2 Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Petr, a'rPen. 13.23. & 21.20. discybl arall, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac a ddywedodd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymmaith o'r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef.

3 Yna Petr a aeth allan, a'r discybl arall, a hwy a ddaethant at y bedd:

4 Ac a redasant ill dau ynghyd: a'r discybl arall a redodd o'r blaen, yn gynt nâ Phetr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd.

5 Ac wedi iddo grymmu, efe a ganfu y llieiniau wedi eu gosod: er hynny nid aeth efe i mewn.

6 Yna y daeth Simon Petr yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i'r bêdd, ac a ganfu y llieiniau wedi eu gosod:

7 A'r napcin a fuasai am ei ben ef, wadi ei osod, nid gyd â'r llieiniau, ond o'r nailltu, wedi ei blygu mewn lle arall.

8 Yna yr aeth y discybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethei yn gyntaf at y bedd, ac a welodd, ac a gredodd.

9 Canys hyd yn hyn ni ŵyddent yr Scry­thur, fôd yn rhaid iddo gyfodi o feirw.

10 Yna y discyblion a aethant ymmaith drachefn at yr eiddynt.

11 Ond Mair a safodd wrth y bedd oddi allan, yn wylo: ac fel yr oedd hi yn ŵylo, hi a ymostyngodd i'r bedd;

12 Ac a ganfu ddau Angel mewn gwisenedd gwynion, yn eistedd, vn wrth ben, ac vn wrth draed y lle y dodasid corph yr Iesu.

13 A hwy a ddywedasant wrthi, O wraig. pa ham yr wyti yn ŵylo? Hithau a ddywe­dodd wrthynt, Am ddwyn o honynt hwy fy Arglwydd i ymmaith, ac nas gwn pa le y dodasant ef.

14 Ac wedi dywedyd o honi hyn, hi a droes drach ei chefn, ac a welodd yr Iesu yn sefyll: ac ni's gwyddei hi mai yr Iesu oedd efe.

15 Yr Jesu a ddywedodd wrthi, O wraig, pa ham yr wyti yn ŵylo? pwy yr wyti yn yn ei geisio? Hitheu yn tybied mai 'r gardd­wr oedd efe, a ddywedodd wrtho, Syre, os tydi a'i dygaist ef, dywed i mi pa le y do­daist ef, a myfi a'i cymmeraf ef ymmaith.

16 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Mair. Hitheu a droes, ac a ddywedodd wrtho, Rab­boni, yr hyn yw dywedyd, Athro.

17 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Na chy­ffwrdd â mi: (oblegid ni dderchefais i etto at fy Nhâd) eithr dôs at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn derchafu at fy Nhâd i, a'ch Tâd chwithau, a'm Duw i, a'ch Duw chwithau.

18 Mair Magdalen a ddaeth, ac a fynegodd i'r discyblion, weled o honi hi yr A glwydd, a dywedyd o honaw y pethau hyn iddi.

19Marc. 16.14. Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o'rSabba­thau. wythnos, a'r drysau yn gaead, lle yr oedd y discyblion wedi ymgasclu ynghyd, rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangne­ddyf i chwi.

20 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo, a'i ystlys. Yna 'r discyblion a lawenychasant, pan welsant yr Arglwydd.

21 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangneddyf i chwi: megis y danfon­odd y Tâd fi, yr ŵyf finneu yn eicn danfon chwi.

22 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Yspryd glân.

23Matth. 18.18. Pwy bynnac y maddeuoch eu pecho­dau, maddeuir iddynt: a'r eiddo pwy bynnac a attalioch, hwy a attaliwyd.

24 Eithr Thomas, vn o'r deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyd â hwynt, pan ddaeth yr Iesu.

25 Y discyblion eraill gan hynny a ddywe­dasant wrtho, Ni a welsom yr Arglwydd. Yn­tef a ddywedodd wrthynt, Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoelion, a dodi fy mŷs yn ôl [Page] yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chre­daf fi.

26 Ac wedi ŵyth niwrnod, drachefn yr oedd ei ddiscyblion ef i mewn, a Thomas gyd â hwynt. Yna yr Iesu a ddaeth a'r drysau yn gaead, ac a safodd yn y canol, ac a ddywe­dodd, Tangneddyf i chwi.

27 Wedi hynny y dywedodd efe wrth Tho­mas, Moes ymma dy fŷs, a gwêl fy nwylo; ac estyn dy law, a dôd yn fy ystlys, ac na fydd anghredadyn, ond credadyn.

28 A Thomas a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd, a'm Duw.

29 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, am i ti fy ngweled, Thomas, y credaist: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.

30Pen. 81.25. A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yngŵydd ei ddiscyblion, y rhai nid ydynt scrifennedig yn y llyfr hwn.

31 Eithr y pethau hyn a scrifennwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Christ, Mab Duw, a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef.

PEN. XXI.

1 Ei ddiscyblion yn adnabod Christ ar ei ail ym­ddangosiad, wrth y ddalfa fawr o byscod. 12 Yntef yn ciniawa gyd â hwynt: 15 Yn rhoddi gorchymmyn mawr ar Petr, i borthi ei wyn ef a'i ddefaid, 18 yn ei rybuddio ef o'i farwolaeth: 22 yn ceryddu ei brysurdeb ef ynghylch Joan. 25 Y diben.

GWedi y pethau hyn yr Iesu a ymddango­sodd drachefn iw ddiscyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymdangosodd.

2 Yr oedd ynghyd Simon Petr a Thomas, yr hwn a elwir Didymus, a Nathanael o Cana yn Galilæa, a meibion Zebedaeus, a dau eraill o'i ddiscyblion ef.

3 Dywedodd Simon Petr wrthynt, Yr wyfi yn myned i byscotta. Dywedafant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyd â thi. A hwy a aethant allan, ac a ddringasant i long yn y man: a'r nos honno ni ddaliasant ddim.

4 A phan ddaeth y boreu weithian, safodd yr Iesu ar y lan: eithr y discyblion ni wy­ddent mai'r Iesu ydoedd.

5 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt,Neu, cia wyr. O blant, a oes gennwch ddim bwyd? Hwythau a attebasant iddo, Nac oes.

6 Yntef a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i'r tu dehau i'r llong, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny, ac ni allent bellach ei thynnu, gan y lliaws pyscod.

7 Am hynny y discybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu, a ddywedodd wrth Petr, Yr Arglwydd yw. Yna Simon Petr, pan glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregysodd ei am­wisc, (canys noeth oedd efe) ac a'i bwriodd ei hun i'r môr.

8 Eithr y discyblion eraill a ddaethant mewn llong, (o blegid nid oeddynt bell oddi wrth dîr, ond megis dau can cufydd) dan lusco y rhwyd â'r pyscod.

9 A chyn gynted ac y daethant i dîr, hwy a welent dân o farwor wedi ei osod, a physcod wedi eu dodi arno, a bara.

10 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Dygwch o'r pyscod a ddaliasoch yr awron.

11 Simon Petr a escynnodd, ac a dynnodd y rhwyd i dîr, yn llawn o byscod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bôd cym­maint, ni thorrodd y rhwyd.

12 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch, ciniewch. Eithr ni feiddiei nêb o'r discyblion ofyn iddo, Pwy wyt ti? am eu bôd yn gŵybod mai yr Arglwydd oedd.

13 Yna y daeth yr Iesu, ac a gymmerth fara, ac a'i rhoddes iddynt, a'r pyscod yr vn modd.

14 Y drydedd waith hyn yn awr, yr ym­ddangosodd yr Iesu iw ddiscyblion, wedi iddo gyfodi o feirw.

15 Yna gwedi iddynt giniawa, yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Petr, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy nâ'r rhai hyn? Dywedodd yntef wrtho, Ydwyf Arglwydd; ti a ŵyddost fy môd yn dy garu di. Dywe­dodd ynteu wrtho, Portha fy ŵyn.

16 Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ail waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntef wrtho, Ydwyf Arglwydd, ti a ŵyddost fy môd yn dy garu di, Dywedodd ynteu wrtho, Bugeilia fy nefaid.

17 Efe a ddywedodd wrtho y drydedd waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Petr a dristaodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bôb peth; ti a ŵyddost fy môd i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid.

18 Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, pan oeddit ieuangach, ti a'th wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynnaist: eithr pan elech yn hên, ti a estynni dy ddwylo, ac arall a'th wregysa, ac a'th arwain lle ni fynnit.

19 A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo drwy ba fath angeu y gogoneddei efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywe­dodd wrtho, Canlyn fi.

20 A Phetr a drôdd, ac a welodd y discyblPen. 13.23. & 20.2. yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn: yr hwn hefyd a bwysasei ar ei ddwyfron ef ar swpper, ac a ddywedasei, Pwy, Arglwydd, yw yr hwn a'th fradycha di?

21 Pan welodd Petr hwn, efe a ddywe­dodd wrth yr Jesu, Arglwydd, ond beth a wna hwn?

22 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os myn­naf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hyn­ny i ti? canlyn di fy-fi.

23 Am hynny yr aeth y gair ymma allan ym mhlith y brodyr, na fyddei y discybl hwnnw farw: ac ni ddywedasei yr Iesu wrtho, na fyddei efe farw: ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti?

24 Hwn yw 'r discybl sydd yn tystiolae­thu am y pethau hyn, ac a scrifennodd y pe­thau hyn: ac ni a wyddom fôd ei dystiolaeth ef yn wîr.

25Pen. 20.30. Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped yscrifen­nid hwy bôb yn vn ac vn, nid ŵyf yn tyb­ied y cynhwyfei y bŷd y llyfrau a scrifen­nid. Amen.

¶ACTAV NEU WEITHREDOEDD YR APOSTOLION.

PENNOD I.

1 Christ er mwyn paratoi ei Apostolion i weled ei dderchafiad ef, yn eu casclu hwy ynghyd i fy­nydd yr Olewydd, ac yn gorchymmyn iddynt ddisgwyl yn Jerusalem am ddanfon yr Yspryd glan, ac yn addo cyn nemmawr o ddyddiau ei anfon ef; trwy rinwedd yr hwn y byddynt yn dystion iddo ef hyd eithafoedd y ddaiar. 9 Ar ôl ei ymdderchafiad ef, y mae dau Angel yn eu rhybuddio hwy i ymadel, ac i roddi eu meddy­liau ar ei ail-dyfodiad ef. 12 Hwythau felly yn dychwelyd, a chan ymroi i weddi, yn dewis Matthias yn Apostol yn lle Judas.

Y Traethawd cyntaf a wnaethum, o The­ophilus, am yr holl bethau a ddechreu­odd yr Iesu eu gwneuthur a'u dyscu,

2 Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fy­nu, wedi iddo trwy yr Yspryd glân roddi gor­chymmynion i'r Apostolion a etholasei.

3 I'r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef, trwy lawer o ar­wyddion sicr, gan fôd yn weledig iddynt tros ddeugain nhiwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw.

4 AcNeu, gyttal, neu, gyd­fwytta a hwynt. wedi ymgynnull gyd â hwynt, efe a orchymynnodd iddynt nad ymadawent o Jerusalem, eithr disgwyl am addewid y Tâd,Luc. 24.49. yr hwn eb efe a glywsoch gennyfi.

5Matth. 3.11. Oblegid Joan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr, ond chwi a fedyddir â'r Yspryd glân, cyn nemmawr o ddyddiau.

6 Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Arg­lwydd, ai 'r pryd hyn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel?

7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi ŵybod yr amseroedd, na'r prydiau, y rhai a osodes y Tâd yn ei feddiant ei hun:

8Pen. 2.2. Eithr chwi a dderbyniwch nerthNeu, pan ddel yr yspryd glan ar­noch. yr Yspryd glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerusalem, ac yn holl Judæa, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaiar.

9Luc. 34.51. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt hwy yn edrych, efe a dderchafwyd i fynu: a chwmmwl a'i derbyniodd ef allan o'u golwg hwynt.

10 Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tu a'r nêf, ac efe yn myned i fynu, wele, dau ŵr a safodd ger llaw iddynt, mewn gwisc wen:

11 Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilæa, pa ham y sefwch yn edrych tu a'r nêf? yr Iesu hwn, yr hwn a gymmer­wyd i fynu oddi wrthych i'r nêf, a ddaw felly yn yr vn modd ac y gwelsoch ef yn myned i'r nêf.

12 Yna y troesant i Jerusalem, o'r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Jerusalem, sef taith diwrnod Sabbath.

13 Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fynu i oruch-stafell, lle yr oedd Petr ac Jaco, ac Joan, ac Andreas, Philip, a Tho­mas, Bartholomew, a Matthew, Jaco mab Alphaeus, a Simon Zelotes, a Judas brawd Jaco, yn aros.

14 Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytûn mewn gweddi ac ymbil, gyd â'r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a chyd â'i frodyr ef,

15 Ac yn y dyddiau hynny Petr a gyfo­dodd i fynu ynghanol y discyblion, ac a ddy­wedodd, (a nifer yr henwau yn yr vn man oedd yngylch vgain a chant)

16 Ha-wŷr frodyr, yr oedd yn rhaid cy­flawni yr Scrythur ymmaPsal. 41.9. a rag-ddywedodd yr Yspryd glân trwy enau Dafydd, am Judas, yr hwn a fu flaenor i'r rhai a ddaliasant yr Iesu:

17 Canys efe a gyfrifwyd gyd â ni, ac a gawsei ran o'r weinidogaeth hon.

18Matth. 27.7. A hwn a bwrcasodd faes â gwobr an­wiredd, ac wedi ymgrogi, a dorrodd yn ei ga­nol: a'i holl ymyscaroedd ef a dywalltwyd allan.

19 A bu hyspys hyn i holl bresswyl-wŷr Jerusalem, hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy, Aceldama, hynny yw, maes y gwaed.

20Psal. 69.25. Canys scrifennwyd yn llyfr y Psalmau, Bydded ei drigfan ef yn ddiffaethwch, ac na by­dded a drigo ynddi:Psal. 109.8. A chymmered arall eiSwydd. escobaeth ef.

21 Am hynny mae yn rhaid, o'r gwŷr a fu yn cyd-ymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni,

22 Gan ddechreu o fedydd Joan hyd y dydd y cymmerwyd ef i fynu oddi wrthym ni; bôd vn o'r rhai hyn gyd â ni, yn dŷst o'i adgyfodiad ef.

23 A hwy a osodasant ddau ger bron, Jo­seph yr hwn a henwid Barsabas, ac a gyfenwid Justus, a Matthias:

24 A chan weddio, hwy a ddywedasant, Tydi Arglwydd, yr hwn a ŵyddost galonnau pawb, dangos pa vn o'r ddau hyn a etholaist,

25 I dderbyn rhan o'r weinidogaeth hon, a'r Apostoliaeth, o'r hon y cyfeiliornodd Judas, i fyned iw le ei hun.

26 A hwy a fwriasant eu coel-brennau hwynt: ac ar Matthias y syrthiodd y coel-bren, ac efe a gyfrifwyd gyd â'r vn Apostol ar ddeg.

PEN. II.

1 Yr Apostolion wedi eu llenwi â'r Yspryd glân, yn llefaru ag amryw dafodau, a rhai yn rhyfe­ddu o'i plegid, ac eraill yn eu gwatwar: 14 A Phetr yn eu hargyoeddi hwy, ac yn dangos fod yr Apostolion yn llefaru trwy nerth yr Yspryd glân, a bôd yr Jesu wedi cyfodi oddiwrth y meirw, a derchafu i'r nefoedd, a thywallt o hono yr Yspryd glan, ac mai efe oedd y Messias, gwr a wyddent hwy ei fôd yn brofedig gan Dduw, trwy ei wrthiau, a'i ryfeddodau, a'i arwyddion, a chwedi ei groes-hoelio, nid heb ei derfynedig gyngor, a'i rag-wybodaeth ef: 37 Petr yn bedyddio llawer o'r rhai a droesid: 41 Y rhai wedi hynny sydd yn cyttal yn dduw­iol ac yn gariadus: yr Apostolion yn gwneuthur gwrthiau lawer, a Duw beunydd yn chwanegu ei Eglwys.

AC wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr vn lle.

2 Ac yn ddisymmwth y daeth sŵn o'r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ, lle yr oeddynt yn eistedd.

3 Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwa­hanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bôb vn o honynt.

4 A hwy oll a lanwyd â'r Yspryd glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, me­gis y rhoddes yr Yspryd iddynt ymadrodd.

5 Ac yr oedd yn trigo yn Jerusalem, Iddewon, gwŷr bucheddol o bob cenedl dan y nêf.

6 Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, o herwydd bôd pôb vn yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun.

7 Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galilæaid yw y rhai hyn oll sy yn llefaru?

8 A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt, bôb vn yn ein hiaith ein hun, yn yr hon i'n ganed ni?

9 Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Judæa, a Chappa­docia, Pontus, ac Asia:

10 Phrygia, a Phamphilia, yr Aipht, a phar­thau Libya, yr hon sydd ger llaw Cyrene: a dieithriaid o Rufein-wŷr, Iddewon a phro­selytiaid,

11 Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein iaith ni, fawr­ion weithredoedd Duw.

12 A synnasant oll, ac a ammheuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fôd?

13 Ac eraill gan watwar a ddywedasant, llawn o wîn melus ydynt.

14 Eithr Petr yn sefyll gyd â'r vn ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrth­ynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerusalem, bydded yspysol hyn i chwi, a chlust-ymwrandewch â'm geiriau:

15 Canys nid yw y rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied, (oblegid y dry­dedd awr o'r dydd yw hi.)

16Joel. 1.28. Esa. 44.3. Eithr hyn yw y peth a ddywetpwyd trwy y Prophwyd Ioel,

17 A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywalltaf o'm Hyspryd ar bob cnawd: a'ch meibion chwi, a'ch merched a brophwy­dant, a'ch gwŷr ieuaingc a welant weledigae­thau, a'ch hynaf-gwŷr a freuddwydiant freu­ddwydion:

18 Ac ar fy ngweision, ac ar fy llaw-for­wynion, y tywalltaf o'm Hyspryd yn y dydd­iau hynny, a hwy a brophwydant:

19 Ac mi a roddaf ryfeddodau yn y nef vchod, ac [...]wyddion yn y ddaiar isod, gwaed, a thân, a tharth mŵg.

20Joel. 2.31. Yr haul a droir yn dywyllwch, a'r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod.

21Rhuf. 10.13. A bydd, pwy bynnag a alwo ar Enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig.

22 Ha-wŷr Israel, clywch y geiriau hyn: Iesu o Nazareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, ti wy nerthoedd, a rhyfeddo­dau, ac arwyddion, y rhal a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich-canol chwi, megis ac y gwyddoch chwithau:

23 Hwn wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhag-wybodaeth Duw, a gymmera­soch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groes­hoeliasoch, ac a laddasoch

24 Yr hwn a gyfodes Duw, gan ryddhau gofidiau angeu: canys nid oedd bossibl ei attal ef ganddo.

25 Canys Dafydd sydd yn dywedyd am dano,Psal. 16.8. Rhag-welais yr Arglwydd ger fy mron yn oestad, canys ar fy neheu-law y mae, fel na'm yscoger.

26 Am hynny y llawenhâodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod; îe, a'm cnawd hefyd a orphywys mewn gobaith:

27 Am na adewi fy enaid yn vffern, ac na oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth.

28 Gwnaethost yn hyspys i mi ffyrdd y bywyd: ti a'm cyflawni o lawenydd â'th wy­neb-pryd.

29 Ha-wŷr frodyr, y mae yn rhydd i mi ddywedyd yn hŷ wrthych, am y1 Bren. 2.10. Patriarch Dafydd, ei farw ef a'i gladdu, ac y mae ei fedd­rod ef gyd â ni hyd y dydd hwn.

30 Am hynny, ac efe yn Brophwyd,Psal. 132.11. yn gŵybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd, y cyfodei efe Grist, i eistedd ar ei orseddfa ef;

31 Ac efe yn rhag-weled, a lefarodd am ad-gyfodiad Christ,Psal. 16.10. na adawyd ei enaid ef yn vffern, ac na's gwelodd ei gnawd ef lygre­digaeth.

32 Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fynu, o'r hyn yr ydym ni oll yn dystion.

33 Am hynny wedi ei dderchafu ef drwy ddeheulaw Duw, ac iddo dderbyn gan y Tâd, yr addewid o'r Yspryd glân, efe a dywalltodd y peth ymma yr ydych chwi yr awron yn ei weled, ac yn ei glywed.

34 Oblegid ni dderchafodd Dafydd i'r ne­foedd: ond y mae efe yn dywedyd ei hun,Psal. 110.1. Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheu-law,

35 Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed­faingc i'th draed.

36 Am hynny, gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel, ddarfod i Dduw wneuthur yn Ar­glwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groes-hoel­iasoch chwi.

37 Hwythau wedi clywed hyn, a ddwys­bigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Petr, a'r Apostolion eraill, Ha-wyr frodyr, beth a wnawn ni?

38 A Phetr a ddywedodd wrthynt, Edifar­hewch, a bedyddier pôb vn o honoch yn Enw Iesu Grist, er maddeuant pechodau: a chwi a dderbyniwch ddawn yr Yspryd glân.

39 Canys i chwi y mae yr addewid, ac i'ch plant, ac i bawb ym-mhell, cynnifer ac a alwo yr Arglwydd ein Duw ni atto.

40 Ac â llawer o ymadroddion eraill y tystiolaethodd, ac y cynghorodd efe, gan ddy­wedyd, Ymgedwch rhag y genhedlaeth dro­faus hon.

41 Yna y rhai a dderbyniasant ei air ef yn ewyllysgar, a fedyddiwyd: a chwanegwyd at­tynt y dwthwn hwnnw, ynghylch tair mil o eneidiau.

42 Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac ynghymdeithas yr Apostolion, ac yn torri bara, ac mewn gweddiau.

43 Ac ofn a ddaeth ar bôb enaid: a llawer o ryfeddodau, ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr Apostolion.

44 A'r rhai a gredent oll oeddynt yn yr vn man, a phôb peth ganddynt yn gyffredin:

45 A hwy a werthasant eu meddiannau a'u da, ac a'u rhannasant i bawb, fel yr oedd yr eisieu ar neb.

46 A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y [Page] Deml, ac yn torri baraGartref. o dŷ i dŷ, a gymme­rasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon:

47 Gan foli Duw, a chael ffafor gan yr holl bobl. A'r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr Eglwys, y rhai fyddent gadwedig.

PEN. III.

1 Petr wrth bregethu i'r bobl a ddaethei i we­led y clôff a roesid ar ei draed, 12 yn proffessu nad trwy ei rym a'i dduwioldeb ef, neu Ioan, y gwnaethid ef yn iâch, ond trwy Dduw, a'i fâb Iesu, a thrwy ffydd yn ei Enw ef: 13 gan eu ceryddu hwy hefyd am groes-hoelio yr Iesu. 17 Yr hyn beth gan iddynt ei wneuthur mewn anwybod, ac wrth hynny gyflawni terfynedic gyngor Duw, a'r Scrythyrau, 19 Y mae efe yn eu hannog hwy trwy edifeirwch a ffydd, i geis­io maddeuant o'i pechodau, ac iechydwriaeth yn yr vnrhyw Iesu.

PEtr hefyd ac Ioan a aethant i fynu i'r Deml ynghyd, ar yr awr weddi, sef y nawfed:

2 A rhyw ŵr clôff o groth ei fam, a ddy­gid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y Deml, yr hwn a elwid prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i'r Deml.

3 Yr hwn, pan welodd ef Petr ac Ioan ar fedr myned i mewn i'r Deml, a ddeisyfiodd gael elusen.

4 A Phetr yn dal sulw arno gyd ag Ioan, a ddywedodd, Edrych arnom ni.

5 Ac efe a ddaliodd sulw arnynt, gan obeith­io cael rhyw beth ganddynt.

6 Yna y dywedodd Petr, Arian ac aur nid oes gennif; eithr yr hyn sydd gennif, hynny yr wyf yn ei roddi i ti: Yn enw Iesu Grist o Nazareth, cyfod a rhodia.

7 A chan ei gymmeryd ef erbyn ei ddeheu­law, efe a'i cyfododd ef i fynu: ac yn ebrwydd ei draed ef a'i fterau a gadarnhawyd:

8 A chan neidio i fynu, efe a safodd, ac a rodiodd, ac a aeth gyd â hwynt i'r Deml, dan rodio, a neidio, a moli Duw.

9 A'r holl bobl a'i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw.

10 Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod, mai hwn oedd yr vn a eisteddai am elusen, wrth borth prydferth y Deml: a hwy a lanwyd o fraw a synnedigaeth am y peth a ddigwy­ddasei iddo.

11 Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn at­tal Petr ac Ioan, yr holl bobl yn frawychus, a gyd-redodd attynt, i'r porth a elwir porth So­lomon.

12 A phan welodd Petr, efe a artebodd i'r bobl, Ha wŷr Israeliaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a wnewch chwi yn dal sulw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun, neu ein duwioldeb, y gwnae­them i hwn rodio?

13 Duw Abraham, ac Isaac, ac Jacob, Duw ein tadau ni, a ogoneddodd ei Fâb Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi, ac a'i gwadasoch ger bron Pilat, pan farnodd efe ef iw ollwng yn rhydd.

14Matth. 27.20. Eithr chwi a wadasoch y Sanct a'r Cyfiawn, ac a ddeisyfiasoch roddii chwi ŵr llofruddiog:

15 A thywysog y bywyd a ladiasoch, yr hwn a godes Duw o feirw, o'r hyn yr ydym ni yn dystion;

16 A'i Enw ef, trwy ffydd yn ei enw ef, a nerthodd y dyn ymma a welwch, ac a adwae­noch chwi: a'r ffydd yr hon sydd drwyddo ef, a roes iddo ef yr holl iechyd hwn, yn eich gwydd chwi oll:

17 Ac yn awr frodyr, mi a wn mai trwy anwybod y gwnaethoch, megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd.

18 Eithr y pethau a rag-fynegodd Duw trwy enau ei holl Brophwydi, y dioddefei Christ, a gyflawnodd efe fel hyn.

19 Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y deleer eich pechodau, pan ddelo yr am­seroedd i orphywys o olwg yr Arglwydd:

20 Ac yr anfono efe Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd o'r blaen i chwi:

21 Yr hwn sydd raid i'r nef ei dderbyn, hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai a ddy­wedodd Duw drwy enau ei holl sanctaidd Brophwydi, erioed.

22Deut. 18.15. Pen. 7.37. Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Brophwyd o'ch brodyr, megis myfi: arno ef y gwrandewchYn ol pob peth. ymmhob peth a ddywetto wrthych.

23 A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Prophwyd hwnnw, a lwyr-ddifethir o blith y bobl.

24 A'r holl Brophwydi hefyd o Samuel, ac o'r rhai wedi, cynnifer ac a lefarasant, a rag­fynegasant hefyd am y dyddiau hyn.

25 Chwy-chwi ydych blant y Prophwydi, a'r cyfammod, yr hwn a wnaeth Duw â'n tadau ni,Gen. 12.3. gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy hâd ti y bendithir holl dylwythau y ddaiar.

26 Duw gwedi cyfodi ei fab Iesu, a'i han­fonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, trwy droi pob vn o honoch ymmaith oddiwrth eich drygioni.

PEN. IV.

1 Llywodraethwyr yr Iddewon yn anfodlon i bregeth Petr, 4 (er troi miloedd i'r ffydd o'r bobl a glywsent y gair) ac yn ei garcharu ef, ac Ioan. 5 Wedi hynny Petr wrth ei holi, yn dywedyd yn hyderus, mai trwy Enw yr Iesu yr iachafid y cloff, ac mai trwy Iesu yn vnic y bydd rhaid i ninnau gael iechydwriaeth dra­gwyddol: 13 hwythau yn gorchymmyn iddo ef ac i Ioan, na phregethent mwyach yn yr Enw hwnnw, ac yn eu bygwth hwy. 23 Yr Eglwys ar hynny yn ymroi i weddio: 31 A Duw trwy gynnhyrfu y lle 'r oeddent wedi ymgynnull yn­ddo, yn tystiolaethu glywed o hono ef eu gwe­ddi hwynt: ac yn cadarnhau yr Eglwys trwy voddi yr Yspryd glân, a chariad perffaith tuac at ei gilydd.

AC fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaidA chap­ten. a blaenor y Deml, a'r Sadu­cæaid, a ddaethant arnynt hwy:

2 Yn flin ganddynt am eu bôd hwy yn dys­cu y bobl, ac yn pregethu trwy yr Iesu, yr ad­gyfodiad o feirw.

3 A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a'u dodasant mewn dalfa, hyd trannoeth, ca­nys yr oedd hi yn awr yn hwyr.

4 Eithr llawer o'r rhai a glywsant y gair a gredasant, a rhifedi y gwŷr a wnaed ynghylch pum mîl.

5 A digwyddodd drannoeth ddarfod i'w llywodraeth-wŷr hwy, a'r Henuriaid, a'r Scri­fennyddion, ymgynnull i Jerusalem;

6 Ac Annas yr Arch-offeiriad, a Chaiaphas, ac Ioan, ac Alexander, a chymmaint ac oedd o genedl yr Arch-offeiriad.

7 Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a ofynnasant, trwy ba awdurdod, neu ym mha enw y gwnaethoch chwi hyn?

8 Yna Petr, yn gyflawn o'r Yspryd glân, a ddywedodd wrthynt, chwy-chwi Benmethiaid y bobl, a Henuriaid Israel,

9 Od ydys yn ein holi ni heddyw am y weithred dda i'r dŷn clâf, sef pa wedd yr iachawyd ef,

10 Bydded yspys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Naza­reth, yr hwn a groes-hoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi.

11Psal. 118.22. Matth. 21.42. Hwn yw 'r maen a lyswyd gennych chwi yr adeiladŵyr, yr hwn a wnaed yn ben i'r gongl.

12 Ac nid oes iechydwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall tan y nef, wedi ei ro­ddi ym-mhlith dynion, drwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.

13 A phan welsant hyfder Petr ac Ioan, a deall mai gwŷr anllythyrennog, ac annyscedig oeddynt, hwy a ryfeddasant. A hwy a'i had­waenent, eu bod hwy gyd â'r Iesu.

14 Ac wrth weled y dŷn a iachasid, yn sefyll gyd â hwynt, nid oedd ganddynt ddim i'w ddywedyd yn erbyn hynny.

15 Eithr wedi gorchymmyn iddynt fyned allan o'r gynghorfa, hwy a ymgynghorasant â'i gilydd,

16 Gan ddywedyd, beth a wnawn ni i'r dynion hyn? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwvddynt hwy, yspys i bawb a'r sydd yn presswylio yn Ierusalem, ac nis gallwn ni ei wadu.

17 Eithr fel na's taner ymmhellach ym mhlith y bobl, gan fygwth bygythiwn hwy, na lefaront mwyach wrth vn dyn yn yr enw hwn.

18 A hwy a'u galwasant hwynt, ac a orch­ymynnasant iddynt nad ynganent ddim, ac na ddyscent yn enw 'r Iesu.

19 Eithr Petr ac Ioan a attebasant iddynt, ac a ddywedasant, Ai cyfiawn yw ger bron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw? bernwch chwi.

20 Canys ni allwn ni na ddywedom y pe­thau a welsom, ac a glywsom.

21 Eithr wedi eu bygwth ymmhellach, hwy a'u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael dim i'w cospi hwynt, oblegid y bobl: ca­nys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid.

22 Canys yr oedd y dŷn vwch-law deu­gain oed, ar yr hwn y gwnaethid yr arwydd hwn o iechydwriaeth.

23 A hwythau wedi eu gollwng ymmaith, a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasei yr Arch-offeiriaid, a'r Henuriaid wrthynt.

24 Hwythau pan glywsant, o vn-frŷd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddywedasant, ô Arglwydd, tydi yw y Duw yr hwn a wnae­thost y nef, a'r ddaiar, a'r môr, ac oll sydd ynddynt:

25Psal. 2.1. Yr hwn trwy yr Yspryd glân yng­enau dy wâs Dafydd, a ddywedaist, Pa ham y terfyscodd y Cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer?

26 Brenhinoedd y ddaiar a safasant i fynu, a'r llywodraethwŷr a ymgasclasant ynghŷd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef.

27 Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon yr ymgynhullodd yn erbyn dy Sanct Fâb Iesu, yr hwn a enneiniaisti, Herod a Phontius Pilat, gyd â'r Cenhedloedd, a phobl Israel:

28 I wneuthur pa bethau bynnag a raglun­iodd dy law a'th gyngor di, eu gwneuthur.

29 Ac yn awr, Arglwydd, e [...]rych ar eu bygythion hwy, a chaniadhâ i'th weision drae­thu dy air di gydâ phôb hyfder:

30 Trwy estyn o honot dy law i iachâu, ac fel y gwneier a wyddion a rhyfeddodau, trwy enw dy sanctaidd Fâb Iesu.

31 Ac wedi iddynt weddio, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo, a hwy a lanwyd oll o'r Yspryd glân; a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus.

32 A lliaws y rhai a gredasent oedd o vn galon, ac vn enaid, ac ni ddywedodd neb o honynt, fod dim a'r a feddei, yn eiddo ei hunan, eithr yr oedd ganddynt bôb peth yn gyffredin.

33 A'r Apostolion, trwy nerth mawr, a ro­ddasant dystiolaeth o adgyfodiad yr Arglwydd Iesu; a grâs mawr oedd arnynt hwy oll.

34 Canys nid oedd vn anghenus yn eu plith hwy, oblegid cynnifer ac oedd berchen tiroedd neu dai, au gwerthasant, ac a ddygasant werth y pethau a werthasid,

35 Ac a'i gosodasant wrth draed yr Apostol­ion: a rhannwyd i bôb vn megis yr oedd yr angen arno.

36 AJoses, Joseph, yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr Apostolion, (yr hyn o'i gyfieithu yw, mâb diddanwch) yn Lefiad, ac yn Cypriad o genedl,

37 A thîr ganddo, a'i gwerthodd, ac a ddug yr arian, ac a'i gosodes wrth draed yr Apostol­ion.

PEN. V.

1 Wedi i Ananias a Saphira ei wraig, am eu rhagrith gwympo i lawr yn feirw, wrth gerydd Petr, 12 ac i'r Apostolion eraill wneuthur llawer o wrthiau, 14 er cynnydd i'r ffydd: 17 y mae yr Apostolion yn cael eu carcharu eilwaith, 19 ac er hynny yn cael eu gwaredu gan Angel, yr hwn sydd yn erchi iddynt bre­gethu i bawb ar gyhoedd: 21 hwythau wedi iddynt bregethu felly yn y Deml, 29 a cher bron y Cyngor, 33 mewn perygl o gael eu lladd, eithr trwy gyngor Gamaliel, cynghorwr mawr ymhlith yr Iddewon, yn cael eu cadw yn fyw, 40 ac yn vnic eu curo; a hwythau yn gogoneddu Duw am hynny, ac heb beidio â phregethu.

EIthr rhyw ŵr, a'i enw Ananias, gyd â Sap­phira ei wraig, a werthoddFedd­iant. dîr,

2 Ac a ddarn-guddiodd beth o'r gwerth, a'i wraig hefydYn gwy­bod. o'r gyfrinach, ac a ddug ryw gyfran, ac a'i gosododd wrth draed yr Apostolion.

3 Eithr Petr a ddywedodd, Ananias, pa ham y llanwodd Satan dy galon di, i ddywedyd celwydd wrth yr Yspryd glân, ac i ddarn­guddio peth o werth y tîr?

4 Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy fe­ddiant di? pa ham y gosodaist y peth hyn yn dy galon? ni ddywedaist di gelwydd wrth ddynion, onid wrth Dduw.

5 Ac Ananias pan glybu y geiriant hyn, a syrthiodd i lawr, ac a drengodd: a daeth ofn [Page] mawr ar bawb a glybu y pethau hyn.

6 A'r gwŷr ieuaingc a gyfodasant, ac a'iHam­d [...]sant. cymmerasant ef, ac a'i dygasant allan, ac a'i claddasant.

7 A bu megis yspaid tair awr, a'i wraig ef heb wybod y peth a wnaethid, a ddaeth i mewn.

8 A Phetr a attebodd iddi, dywed ti i mi, ai er cymmaint y gwerthasoch chwi y rîr? Hi­theu a ddywedodd, ie, er cymmaint.

9 A Phetr a ddywedodd wrthi, pa ham y cuttunasoch i demtio Yspryd yr Arglwydd? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws, a hwy a'th ddygant ditheu allan.

10 Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd: a'r gwŷr ieuaingc wedi dyfod i mewn, a'i cawsant hi yn farw, ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a'i cla­ddasant hi yn ymyl ei gŵr.

11 A bu ofn mawr ar yr holl Eglwys, ac ar bawb oll a glybu y pethau hyn.

12 A thrwy ddwylaw yr Apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer, ym mhlith y bobl, (ac yr oeddynt oll yn gyttûn ym-mhorth Solomon.

13 Eithr ni feiddiei neb o'r lleill ymgyssull­tu â hwynt, ond y bobl oedd yn eu mawrhau.

14 A chwanegwyd attynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd hefyd.)

15 Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hŷd yr heolydd, a'u gosod ar welyau a glythau, fel o'r hyn lleiaf y cyscodei cyscod Petr, pan ddelei heibio, rai o honynt.

16 A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd, o'r di­nasoedd o amgylch Jerusalem, gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachawyd oll.

17 A'r Arch-offeiriad a gyfododd, a'r holl rai oedd gyd ag ef (yr hon yw heresi y Sa­ducæaid) a lanwyd oLid. gynfigen,

18 Ac a ddodasant eu dwylo ar yr Apostol­ion, ac a'u rhoesant yn y carchar cyffredin.

19 Eithr Angel yr Arglwydd o hyd nôs, a agorodd ddrysau y carchar, ac a'u dûg hwynt allan, ac a ddywedodd,

20 Ewch, sefwch a lleferwch yn y Deml wrth y bobl, holl eiriau y fuchedd hon.

21 A phan glywsant, hwy a aethant yn foreu i'r Deml, ac a athrawiaethasant: eithr daeth yr Arch-offeiriad, a'r rhai oedd gyd ag ef, ac a alwasant ynghyd y Cyngor, a holl Henuriaid plant yr Israel, ac a ddanfonasant i'r carchar, iw dwyn hwy ger bron.

22 A'r swyddogion pan ddaethant, ni chaw­sant hwynt yn y carchar, eithr hwy a ddych­welasant, ac a fynegasant,

23 Gan ddywedyd, yn wîr ni a gawsom y carchar wedi ei gau o'r fath siccraf, a'r ceid­waid yn sefyll allan o flaen y drysau; eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn.

24 A phan glybu yr Arch-offeiriad, aChapten. blaenor y Deml, a'r offeiriaid pennaf, yr ymadroddion hyn, ammau a wnaethant yn eu cylch hwy, beth a ddoe o hyn.

25 Yna y daeth vn ac a fynegodd iddynt, gan ddywedyd, wele y mae y gwŷr a ddoda­soch chwi yngharchar, yn sefyll yn y Deml, ac yn dyscu y bobl.

26 Yna yCapten. blaenor gyd â'r swyddogion, a aeth ac a'u dug hwy heb drais: (oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl, rhag eu llabyddio)

27 Ac wedi eu dwyn, hwy a'u gosodasant o flaen y Cyngor, a'r Arch-offeiriad a ofyn­nodd iddynt,

28 Gan ddywedyd,Pen. 4.18. oni orchymynnasom ni, gan orchymmyn i chwi na athrawiaethech yn yr enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerusalem â'ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dŷn hwn.

29 A Phetr a'r Apostolion a attebasant, ac a ddywedasant, rhaid yw vfyddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion.

30 Duw ein tadau ni a gyfododd i fynu Iesu, yr hwn a laddasoch chwi, ac a groes-hoel­iasoch ar bren.

31 Hwn a dderchafodd Duw â'i ddeheu­law, yn dywysog, ac yn lachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau.

32 A nyni ydym ei dystion ef o'r pethau hyn, a'r Yspryd glân hefyd, yr hwn a roddes Duw i'r rhai sydd yn vfyddhau iddo ef.

33 A phan glywsant hwy hynny, hwy a ffrommasant, ac a ymgynghorasant am eu lladd hwynt.

34 Eithr rhyw Pharisæad a'i enw Gama­liel, Doctor o'r gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, a gyfododd i fynu yn y Cyngor, ac a archodd yrru yr Apostolion allan dros ennyd fechan;

35 Ac a ddywedodd wrthynt, Ha-wŷr o Israel, edrychwch arnoch eich hunain, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur am y dynion hyn.

36 Canys o flaen y dyddiau hyn, cyfododd Theudas i fynu, gan ddywedyd ei fôd ef yn rhyw vn, wrth yr hwn y glynodd rhifedi o wŷr, ynghylch pedwar cant, yr hwn a ladd­wyd, a chynnifer oll aNeu, grede­sant. vfyddhasant iddo a wascarwyd, ac a wnaed yn ddiddim.

37 Yn ôl hwn y cyfododd Judas y Galilae­ad, yn nyddiau y drêth, ac efe a drôdd bobl lawer ar ei ôl, ac yntef hefyd a ddarfu am dano, a chynnifer oll a vfyddhasant iddo a wascarwyd.

38 Ac yr awron, meddaf i chwi, ciliwch oddiwrth y dynion hyn, a gadewch iddynt, oblegid os o ddynion y mae y cyngor hwn, neu 'r weithred hon, fe a ddiddymmir:

39 Eithr os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddiddymmu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw.

40 A chytuno ag ef a wnaethant; ac wedi iddynt alw yr Apostolion attynt, a'u curo, hwy a orchymmynnasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a'u gollyngasant ymmaith.

41 A hwy a aethant allan o olwg y Cyngor yn llawen, am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddioddef ammarch o achos ei enw ef.

42 A pheunydd yn y Deml, ac o dŷ i dŷ, ni pheidiasant â dyscu, a phregethu Iesu Grist.

PEN. VI.

1 Yr Apostolion yn chwennych nad esceulusid y tlodion, o ran eu lluniaeth corphorol, ac yn ofalus hefyd eu hunain am gyfrannu gair Duw, lluniaeth yr enaid, 3 yn ordeinio swydd Dia­coniaeth i saith o wyr etholedig: 5 o'r rhai y mae Stephan, gwr llawn o ffydd ac o'r Yspryd glân, yn vn: 12 ei ddal ef gan y rhai a wradwyddodd efe wrth ymresymmu: 13 ac achwyn arno ar gam, am gablu yn erbyn y gyfraith, a'r Deml.

AC yn y dyddiau hynny, a'r discyblion yn amlhau, bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebræaid, am ddirmygu eu gwrag­edd [Page] gweddwon hwy, yn y weinidogaeth seun­yddol.

2 Yna 'r deuddeg a alwasant ynghyd y lli­aws discyblion, ac a ddywedasant, nid yw gymhesur i ni adel gair Duw, a gwasanaethu byrddau.

3 Am hynny frodyr, edrychwch yn eich piith, am seithwŷr da eu gair, yn llawn o'r Yspryd glân, a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl.

4 Eithr nyni a barhawn mewn gweddi, a gweinidogaeth y gair.

5 A bodlon fu 'r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Stephan, gŵr llawn o ffydd, ac o'r Yspryd glân, a Philip, a Phro­cnorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicholas, proselyt o Antiochia:

6 Y rhai a osodasant hwy ger bron yr Apos­tolion, ac wedi iddynt weddio, hwy a ddoda­sant eu dwylo arnynt hwy.

7 A gair Duw a gynnyddodd, a rhifedi y discyblion yn Jerusalem a amlhaodd yn ddir­fawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid a vfyddhasant i'r ffydd.

8 Eithr Stephan yn llawn ffydd, a nerth, a wnaeth ryfeddodau, ac arwyddion ym-mhlith y bobl.

9 Yna y cyfodes rhai o'r Synagog a elwir eiddo y Libertiniaid, a'r Cyreniaid, a'r Alexan­driaid, a'r rhai o Cilicia, ac o Asia, gan ym­ddadleu ag Stephan.

10 Ac ni allent wrthwynebu y doethineb a'r Yspryd, drwy yr hwn yr oedd efe yn lle­faru.

11 Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, nyni a'i clywsom ef yn dywedyd geiriau cab­laidd yn erbyn Moses a Duw.

12 A hwy a gynhyrfasant y bobl, a'r he­nuriaid, a'r Scrifennyddion, a chan ddyfod ar­no, a'i cippiasant ef ac a'i dygasant i'r Gyng­horfa:

13 Ac a osodasant gau dystion, y rhai a ddywedent, nid yw y dŷn hwn yn peidio â dywedyd cabl-eiriau, yn erbyn y lle sanctaidd hwn a'r gyfraith.

14 Canys nyni a'i clywsom ef yn dywedyd, y destrywiei yr Iesu hwn o Nazareth y lle ymma, ac y newidiei efe y defodau a draddod­odd Moses i ni.

15 Ac fel yr oedd yr holl rai a eisteddent yn y Cyngor yu dal sulw arno, hwy a welent ei wyneb ef fel wyneb Angel.

PEN. VII.

1 Stephan wrth gael cennad i atteb trosto ei hun am y gabledd, 2 yn dangos ddarfod i Abraham addoli Duw yn iawn, a pha fôdd y dewifodd Duw y Tadau, 20 cyn geni Moses, a chyn adeiladu y Babell a'r Deml: 37 a thys­tiolaethu o Moses ei hun am Grist: 44 ac na pharhae y Ceremoniau oddiallan, y rhai a or­derniesid ar ddull y portreiad nefawl, ond tros amser: 51 Gan eu ceryddu hwy, am eu gwaith yn gwrthwynebu ac yn llâdd Christ y Cyfiawn hwnnw, am yr hwn y rhagddywedasei y pro­phwydi y doe efe i'r byd: 54 Hwythau ar hynny, yn ei labyddio ef i farwolaeth, ac yn­tef yn gorchymmyn ei enaid i'r Iesu, ac yn gweddio trostynt hwy.

YNa y dywedodd yr Arch-offeiriaid, a ydyw y pethau hyn felly?

2 Yntef a ddywedodd; Ha-wŷr, frodyr a thadau, gwrandewch, Duw y gogoniant a ymddangosodd i'n tâd Abraham, pan oedd efe ym Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Char­ran;

3 Ac a ddywedodd wrtho;Gene. 12.1. Dôs all [...]n o'th wlâd, ac oddi wrth dy dyfwyth, a thyred i'r tîr a ddangoswyf i ti.

4 Yna v daeth efe allan o dîr y Caldeaid, ac y presswyliodd yn Charran: ac oddi yno wedi marw ei dâd, efe a'i symmudodd ef i'r tîr ymma, yn yr hwn yr ydych chwi yn press­wylio yr awr hon.

5 Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, na dde lêd troed, ac efe a addawodd ei roddi iddo i'w feddiannu, ac i'w hâd yn ei ôl, pryd nad oedd plentyn iddo.

6 A Duw a lefarodd fel hyn,Neu, ei had ef. Dy hâd ti a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr, a hwy a'i caethiwant ef, ac a'i drygant, bedwar can mlynedd.

7 Eithr y genedl yr hon a wasanaethant hwy, a farnaf fi, medd Duw, ac wedi hynny y dônt allan, ac a'm gwasanaethant i yn y lle hwn.

8Gene. 17.9. Ac efe a roddes iddo gyfammod yr enwaediad;Gene. 21.3. felly Abraham a genhedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd:Gene. 25.26. ac Isaac a genhedlodd Jacob, acGene. 29.31. Jacob a gnehedlodd y deuddec Patriarch.

9Gene. 37.28. A'r Patrieirch gan genfigennu a wer­thasant Joseph i'r Aipht: ond yr oedd Duw gyd ag ef,

10 Ac a'i hachubodd ef o'i holl orthrym­derau,Gene. 41.37. ac a roes iddo hawddgarwch a doe­thineb, yngolwg Pharao brenin yr Aipht: ac efe a'i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aipht, ac ar ei holl dŷ.

11 Ac fe ddaeth newyn dros holl dîr yr Aipht a Chanaan, a gorthrymder mawr, a'n tadau ni chawsant lyniaeth.

12Gene. 42.1. Ond pan glybu Jacob fôd ŷd yn yr Aipht, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf.

13Gene. 45.4. A'r ail waith yr adnabuwyd Joseph gan ei frodyr, a chenedl Joseph a aeth yn hys­pys i Pharao.

14 Yna yr anfonodd Joseph, ac a gyrchodd ei dad Jacob, a'i holl genedl, pymthec enaid a thrugain.

15Gene. 46.5. Felly yr aeth Jacob i wared i'r Aipht,Gene. 49 33. ac a fu farw, efe a'n tadau hefyd.

16 A hwy a symmudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasei Abraham er arian, gan feibion Emor tâd Sichem.

17 A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasei Duw i Abraham, y bobl a gyn­nyddodd, ac a amlhâodd yn yr Aipht,

18 Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenei mo Joseph.

19 Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel na heppilient.

20Exod. 2.2. Ar yr hwn amser y ganwyd Moses,Hebr. 11.23. ac efe oeddDlws iawn. dlŵs i Dduw, ac a fagwyd dri mîs yn-nhŷ ei dâd.

21 Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharao a'i cyfodes ef i fynu, ac a'i magodd ef yn fâb iddi ei hun.

22 A Moses oedd ddyscedig yn holl ddoe­thineb yr Aiphtiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau, ac mewn gweithredoedd.

23 A phan oedd efe yn llawn ddeugein­mlwydd oed, daeth iw galon ef ymweled â'i frodyr plant yr Israel.

24Exod. 2.11. A phan welodd efe vn yn cael cam, efe a'i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthfymmid, gan daro yr Aiphtŵr.

25 Ac efe a dybiodd fôd ei frodyr yn deall, fôd Duw yn rhoddi iechydwriaeth iddynt trwy ei law ef, eithr hwynt hwy ni ddeallasant.

26Exod. 2.13. A'r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a'i hannog­odd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, ha­wŷr, brodyr ydych chwi, pa ham y gwnewch gam â'i gilydd?

27 Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â'i gymmydog, ai cilgwthiodd ef, gan ddywe­dyd, pwy a'th osododd di yn llywodraethŵr ac yn farnwr arnom ni?

28 A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Aiphtiwr ddoe?

29 A Moses a ffoawdd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhîr Madian, lle y cenhedlodd efe ddau o feibion.

30Exod. 3.2. Ac wedi cyflawni deugain mhlynedd, yr ymddangosodd iddo, yn anialwch mynydd Sina, Angel yr Arglwydd, mewn fflam dân mewn perth.

31 A Moses pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg, a phan nessaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd atto, gan ddywedyd,

32 Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abra­ham, a Duw Isaac, a Duw Iacob. A Moses wedi myned yn ddychrynnedig, ni feiddiai ystyried.

33 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Dattod dy escidiau oddi am dy dried, canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo, sydd dîr sanctaidd.

34 Gan weled y gwelais ddryg-fyd fy mhobl, y rhai sy yn yr Aipht, ac mi a glywais eu griddfan, ac a ddescynnais iw gwared hwy; Ac yn awr tyred, mi a'th anfonaf di i'r Aipht.

35 Y Moses ymma, yr hwn a wrthodasant hwy, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn llywodraethŵr, ac yn farnwr? hwn a anfonodd Duw yn llywydd, ac yn waredwr, trwy law yr Angel, yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth.

36Exod. 7.9. Hwn a'u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion, yn nhîr yr Aipht, ac yn y môr côch, acExod. 16.1. yn y diffaethwch, ddeugain mhlynedd.

37 Hwn yw'r Moses a ddywedodd i feibion Israel,Deut. 18.15. Prophwyd a gyfyd yr Arglwydd eich Duw i chwi, o'ch brodyr, fel myfi, arno ef y gwrandewch.

38Exod. 19.3. Hwn yw efe a fu ynY gyn­null [...]idfa. yr Eglwys yn y diffaethwch, gyd â'r Angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Sina, ac â'n tadau ni, yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol iw rhoddi i ni.

39 Yr hwn ni fvnnei ein tadau fod yn vfydd iddo, eithr cilgwthiasant ef, a throesant yn eu calonnau i'r Aipht,

40Exod. 32.1. Gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau i'n blaenori, oblegid v Moses ymma, yr hwn a'n dûg ni allan o dîr yr Aipht, ni wyddom ni beth a ddigwvddodd iddo.

41 A hwy a wnaethant lô yn y dyddiau hynny, ac a offrymmasant aberth i'r eulyn, ac a ymlawenhasant yngweithredoedd eu dwylo ei hun.

42 Yna y trôdd Duw, ac a'u rhoddes hwy i fynu i wasanaethu llu y nef,Ames 5.25. fel y mae yn scrifennedic yn llyfr y Prophwydi; A offrym­masoch i mi laddedigion ac aberthau, ddeugain mhlynedd yn yr anialwch, chwi tŷ Israel?

43 A chwi a gymmerasoch babell Moloch, a seren eich Duw Remphan, lluniau y rhai a wnaethoch iw haddoli, minneu a'ch symmu­daf chwi tu hwnt i Babilon.

44 Tabernacl y dystolaeth oedd ymmhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchymynnasei yr hwn a ddywedei wrth Moses,Exod. [...] 25.40. am ei wneu­thur ef yn ôl y portreiad a welsei.

45 Yr hwn a ddarfu i'n tadau ni ei gym­meryd, a'i ddwyn i mewn gyd ag Iesu i berchennogaeth y cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd;

46 Yr hwn a gafodd ffafor ger bron Duw, ac a ddymunodd gael Tabernacl i Dduw Iacob.

471 Cron. 17.12. Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef.

48Pen. 17.24. Ond nid yw y Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo, fel y mae y Prophwyd yn dywedyd,

49 Y nef yw fy ngorsedd-faingc, a'r ddaiar yw troed-faingc fy nhraed: Pa dŷ a adeiled­wch i mi, medd yr Arglwydd, neu pa le fydd im gorphwysfa i?

50 Ond fy llaw i a wnaeth hyn oll?

51 Chwi rai gwar-galed, a dienwaededig o galon, ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu yr Yspryd glân, megis eich tadau, felly chwithau.

52 Pa vn o'r Prophwydi ni ddarfu i'ch tadau chwi ei erlid? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn, i'r hwn yr awron y buoch chwi fradwŷr a llofruddion:

53 Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith drwy drefnid angelion, ac ni's cadwasoch.

54 A phan glywsant hwy y pethau hyn, hwy a ffrommasant yn eu calonnau, ac a yscyrnygasant ddannedd arno.

55 Ac efe yn gyflawn o'r yspryd glân, a edrychodd yn ddyfal tu a'r nef, ac a welodd ogoniant Duw, a'r Iesu yn sefyll ar ddeheu­law Dduw.

56 Ac efe a ddywedodd; wele, mi a welaf y nefoedd yn agored, a Mâb y dŷn yn eistedd ar ddeheu-law Dduw.

57 Yna y gwaeddasant â llef vchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn vn­fryd arno,

58 Ac a'i bwriasant allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant, a'r tyftion a ddodasant eu dillad wrth draed dŷn ieuangc a elwid Saul.

59 A hwy a labyddiasant Stephan, ac efe yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu derbyn fy yspryd.

60 Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a le­fodd â llef vchel, Arglwydd na ddod y pechod hyn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.

PEN. VIII.

1 Yr Eglwys, o achos yr erlid yn Ierusalem, wedi ei phlannu yn Samaria, 5 trwy waith Phi­lip y Diacon, yr hwn a bregethodd, ac a wnaeth wrthiau, ac a fedyddiodd lawer, ym­hlith eraill Simon y Swynwr, hudol mawr ym­mysc y bobl: 14 Petr ac Ioan yn dyfod i gadarn­hau. ac i chwanegu 'r Eglwys, gan roddi yr [Page] Yspryd glân trwy weddi ac arddodiad dwy­law: 18 A Simon yn ceisio prynu y cyffelyb awdurdod ganthynt; 20 a Phetr yn ei geryddu ef yn dôst, am ei ragrith a'i gybydd­dod, ac yn ei annoc ef i edifarhau, ac yn dych­welyd i Ierusalem, tan bregethu gair yr Ar­glwydd, efe ac Ioan. 26 Ac Angel yn anfon Philip i ddyscu, ac i fedyddio yr Efnuch o E [...]hiopia.

A Saul oedd yn cyttuno i'w lâdd ef. A bu yn y dyddiau hynny erlid mawr ar yr Eglwys oedd yn Jerusalem: a phawb a wascarwyd ar hŷd gwledydd Iudæa a Sama­ria, ond yr Apostolion.

2 A gwŷr bucheddol a ddygasant Stephan iw gladdu, ac a wnaethant alar mawr am dano ef.

3 Eithr Saul oedd yn anrheithio yr eglwys, gan fyned i mewn i bôb tŷ, a llusco allan wŷr a gwragedd, efe a'u rhoddes yngharchar.

4 A'r rhai a wascarasid, a dramwyasant gan bregethu y gair.

5 Yna Philip a aeth i wared i ddinas Sama­ria, ac a bregethodd Grist iddynt.

6 A'r bobl yn gyttûn a ddaliodd ar y pethau a ddywedid gan Philip, wrth glywed o honynt, a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur.

7 Canys ysprydion aflan, gan lefain â llêf vchel, a aethant allan o lawer a berchennogid ganddynt, a llawer yn gleifion o'r parlys, ac yn gloffion, a iachawyd.

8 Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno.

9 Eithr rhyw ŵr a'i enw Simon, oedd o'r blaen yn y ddinas, yn swyno, ac yn hudo pobl Samaria, gan ddywedyd ei fôd ef ei hun yn rhyw vn mawr.

10 Ar yr hwn yr oedd pawb, o'r lleiaf hyd y mwyaf, yn gwrando, gan ddywedyd, Mawr allu Duw yw hwn.

11 Ac yr oeddynt a'u coel arno, o herwydd iddo dalm o amser eu hudo hwy â swynion.

12 Eithr pan gredasant i Philip, yn prege­thu y pethau a berthynent i deyrnas Dduw, ac i enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd, yn wŷr ac yn wragedd.

13 A Simon yntef hefyd a gredodd, ac wedi ei fedyddio, a lynodd wrth Philip; a synnodd arno wrth weled yr arwyddion, a'r nerthoedd mawrion a wneid.

14 A phan glybu yr Apostolion yn Ierusa­lem, dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant attynt Petr ac Ioan.

15 Y rhai wedi eu dyfod i wared, a we­ddiasant drostynt, ar iddynt dderbyn yr Yspryd glân.

16 Canys etto nid oedd efe wedi syrthio ar nêb o honynt, ond yr oeddynt yn vnic wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Iesu.

17 Yna hwy a ddodasant eu dwylaw arnynt, a hwy a dderbyniasant yr Yspryd glân.

18 A phan welodd Simon mai trwyArddo­diad. oso­diad dwylaw yr Apostolion y rhoddid yr Ys­pryd glân, efe a gynnygiodd iddynt arian,

19 Gan ddywedyd, rhoddwch i minneu hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynnac y gosodwyf fy nwylo, y derbynio efe yr Yspryd glân.

20 Eithr Petr a ddywedodd wrtho, bydded dy arian gyd â thi i ddestryw, am i tiFeddwl. dybied y meddiennir dawn Duw trwy arian.

21 Nid oes i ti na rhan, na chyfran yn y gorchwyl hyn, canys nid yw dy galon di yn y vniawn ger bron Duw.

22 Edifathâ gan hynny am dy ddrygioni hyn, a gweddia Dduw a faddeuir i ti feddyl­fryd dy galon.

23 Canys mi a'th welaf mewn bustl chwe­rwder, ac mewn rhwymedigaeth anwiredd.

24 A Simon a attebodd ac a ddywedodd, gweddiwch chwi drosofi at yr Arglwydd, fel na ddêl dim arnaf o'r pethau a ddywe­dasoch.

25 Ac wedi iddynt dystiolaethu, a llefaru gair yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Ierusalem, ac a bregethasant yr Efengyl yn llawer o bentrefi y Samariaid.

26 Ac Angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfot a dôs tu a'r deau, i'r ffordd sydd yn myned i wared o Ierusalem i Gaza: yr hon sydd anghyfannedd.

27 Ac efe a gyfododd ac a aeth, ac wele gŵr o Ethiopia, Eunuch galluog dan Candace brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl dryssor hi, yr hwn a ddaethei i Ierusalem i addoli:

28 Ac oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, ac yn darllein y Prophwyd Esaias.

29 A dywedodd yr Yspryd wrth Philip, dôs yn nês, a glŷn wrth y cerbyd ymma.

30 A Philip a redodd atto, ac a'i clybu ef yn darllein y Prophwyd Esaias; ac a ddy­wedodd; A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllein?

31 Ac efe a ddywedodd, pa fodd y gallaf, oddieithr i ryw vn fy nghyfarwyddo i? Ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fynu, ac eistedd gyd ag ef.

32 A'r lle o'r Scrythur yr oedd efe yn ei ddarllein, oedd hwn,Esai. 53.7. fel dafad i'r lladdfa yr arweinwyd ef, ac fel oen ger bron ei gneifi-wr yn fud, felly nid agorodd efe ei enau.

33 Yn ei ostyngiad, ei farn ef a dynnwyd ymmaith, eithr pwy a draetha ei genhedlaeth ef? oblegid dygir ei fywyd ef oddi ar y ddaiar.

34 A'r Efnuch a attebodd Philip, ac a ddy­wedodd, Attolwg i ti, am bwy y mae 'r Pro­phwyd yn dywedyd hyn? am dano ei hun, ai am ryw vn arall?

35 A Philip a agorodd ei enau, ac a dde­chreuodd ar yr Scrythur honno, ac a bregeth­odd iddo yr Iesu.

36 Ac fel yr oeddynt yn myned ar hyd y ffordd, hwy a ddaethant at ryw ddwfr, a'r Efnuch a ddywedodd, wele ddwfr, beth sydd yn lluddias fy medyddio?

37 A Philip a ddywedodd, os wyti yn credu â'th holl galon, fe a ellir. Ac efe a atteb­odd ac a ddywedodd, yr wyf yn credu fod Iesu Grist yn fab Duw.

38 Ac efe a orchymynnodd sefyll o'r cerbyd, a hwy a aethant i wared ill dau i'r dwfr, Philip a'r Efnuch, ac efe a'i bedydd­iodd ef.

39 A phan ddaethant i fynu o'r dwfr, Yspryd yr Arglwydd a gippiodd Philip ymmaith, ac ni welodd yr Efnuch ef mwy­ach. Ac efe a aeth ar hyd ei ffordd ei hun yn llawen.

40 Eithr Philip a gaed yn A [...]otus; a chan dramwy, efe a efangylodd ym mhôb dinas, hyd oni ddaeth efe i Cæsarea.

PEN. IX.

2 Saul yn myned i Damascus; a'i daraw ef i lawr i'r ddaiar, 10 a'i alw i fôd yn Apostol, 18 a'i fedyddio gan Ananias. 20 Yntef yn pregethu Christ yn hyderus. 23 Yr Iddewon yn cynllwyn iw lâdd ef; 29 a'r Groeg-wyr hefyd; yntef yn diangc rhag y ddwy blaid. 31 Yr Eglwysi yn cael llonyddwch, Petr yn iachau Aeneas o'r parlys, 36 ac yn codi Tabitha o farw i fyw.

A Saul etto yn chwythu bygythiau a chelan­edd, yn erbyn discyblion yr Arglwydd, a aeth at yr Arch-offeiriad,

2 Ac a ddeisyfodd ganddo lythyrau i Dda­mascus, at y Synagogau, fel os cai efe nêb o'r ffordd hon, na gwŷr, na gwragedd, y gallei efe eu dwyn hwy yn rhwym i Ierusalem.

3 Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, bu iddo ddyfod yn agos i Ddamascus, ac yn ddi­symmwth llewyrchodd o'i amgylch oleuni o'r nef.

4 Ac efe a syrthiodd ar y ddaiar, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, pa ham yr wyt yn fy erlid i?

5 Yntef a ddywedodd, pwy wyt ti, Ar­glwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid: Caled yw i ti wingo yn erbyn y swmbylau.

6 Ynteu gan grynu, ac â braw arno, a ddy­wedodd, Arglwydd beth a fynni di i mi ei wneuthur? A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dôs i'r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth sy raid i ti ei wneuthur.

7 A'r gwŷr oedd yn cyd-teithio ag ef, a safasant ynSyn. fûd, gan glywed y llais, ac heb weled nêb.

8 A Saul a gyfododd oddi ar y ddaiar: a phan agorwyd ei lygaid, ni welei efe nêb: eithr hwy a'i tywysasant ef erbyn ei law, ac a'i dygasant ef i mewn i Ddamascus.

9 Ac efe a fu dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta, nac yfed.

10 Ac yr oedd rhyw ddiscybl yn Damas­cus, a'i enw Ananias. A'r Arglwydd a ddywe­dodd wrtho ef mewn gweledigaeth, Ananias. Yntef a ddywedodd, wele fi, Arglwydd.

11 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dôs i'r heol a elwir Vniawn, a chais yn nhŷ Iudas, vn a'i enw Saul, o Tharsus: canys wele y mae yn gweddio:

12 Ac ef a welodd mewn gweledigaeth ŵr a'i enw Ananias, yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei law arno, fel y gwelei eilwaith.

13 Yna yr attebodd Ananias, O Arglwydd, mi a glywais gan lawer am y gwr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i'th Sainct di yn Ieru­salem:

14 Ac ymma y mae ganddo awdurdod oddi wrth yr Arch-offeiriaid, i rwymo pawb fy'n galw ar dy enw di.

15 A dywedodd yr Arglwydd wrtho: dôs ymmaith, canys y mae hwn yn llestr ethol­edic i mi, i ddwyn fy enw ger bron cenhedl­oedd, a brenhinoedd, a phlant Israel.

16 Canys myfi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo ef eu dioddef, er mwyn fy enw i.

17 Ac Ananias a aeth ymmaith, ac a aeth i mewn i'r tŷ, ac wedi dodi ei ddwylo arno. efe a ddywedodd, Y brawd Saul, yr Ar­glwydd a'm hanfonodd i, (Iesu yr hwn a ym­ddangosodd i ti ar y ffordd y daethost) fel y gwelych drachefn, ac i'th lanwer â'r Yspryd glân.

18 Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddiwrth ei lygaid ef, megis cenn, ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd.

19 Ac wedi iddo gymmeryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyd â'r discyblion oedd yn Damascus, dalm o ddyddiau.

20 Ac yn ebrwydd yn y Synagogau, efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mâb Duw.

21 A phawb a'r a'i clybu ef, a synnasant ac a ddywedasant, ond hwn yw 'r vn oedd yn difetha yn Ierusalem, y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth ymma er mwyn hyn, fel y dygei hwynt yn rhwym at yr Arch-offeiriaid?

22 Eithr Saul a gynnyddodd fwy-fwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Damascus, gan gadarnhau mai hwn yw 'r Christ.

23 Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau, cyd-ymgynghorodd yr Iddewon iw ladd ef.

242 Cor. 11.32. Eithr eu cyd-fwriad hwy a wybuwyd gan Saul, a hwy a ddisgwiliasant y pyrth ddydd a nôs, iw ladd ef.

25 Yna y discyblion a'i cymmerasant ef o hŷd nôs, ac a'i gollyngasant i waredAr hyd. dros y mûr mewn basced.

26 A Saul, wedi ei ddyfod i Ierusalem, a geisiodd ymwascu â'r discyblion, ac yr oedd­ynt oll yn ei ofni ef, heb gredu ei fod efe yn ddiscybl.

27 Eithr Barnabas a'i cymmerodd ef, ac a'i dug at yr Apostolion, ac a fynegodd iddynt, pa fodd y gwelsei efe yr Arglwydd ar y ffordd, ac ymddiddan o honaw ag ef, ac mor hŷ a fuasei efe yn Damascus, yn enw yr Iesu.

28 Ac yr oedd efe gyd â hwynt, yn myned i mewn, ac yn myned allan, yn Ierusalem.

29 A chan fod yn hŷ yn enw 'r Arglwydd Iesu, efe a lefarodd, ac a ymddadleuodd yn erbyn y Groegiaid, a hwy a geisiasant ei ladd ef.

30 A'r brodyr pan wybuant, a'i dygasant ef i wared i Cæsarea, ac a'i hanfonasant ef ym­maith i Tharsus.

31 Yna 'r Eglwysi drwy holl Iudæa, a Ga­lilæa, a Samaria, a gawsant heddwch, ac a adeiladwyd, a chan rodio yn ofn yr Arglwydd, ac yn niddanwch yr Yspryd glân, hwy a amlhawyd.

32 A bu, a Phetr yn tramwyHeibio i bawb. drwy 'r holl wledydd, iddo ddyfod i wared at y Sainct he­fyd, y rhai oedd yn trigo yn Lyda.

33 Ac efe a gafodd yno ryw ddŷn a'i enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar wely, yr hwn oedd glâf o'r parlys.

34 A Phetr a ddywedodd wrtho, Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iachau di, Cyfod a chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn ebrwydd.

35 A phawb a'r oedd yn presswylio yn Lyda, a Saron, a'i gwelsant ef, ac a ymchwela­sant at yr Arglwydd.

36 Ac yn Ioppa yr oedd rhyw ddiscybles, a'i henw Tabitha, (yr hon, os cyfieithir, a elwir Dorcas,) hon oedd yn llawn o [Page] weithredoedd da, ac elusenau, y rhai a wnaethei hi.

37 A digwyddodd yn y dyddiau hynny, iddi fod yn glaf, a marw: ac wedi iddynt ei golchi, hwy a'i dodasant hi mewn llofft.

38 Ac o herwydd bod Lyda yn agos i Iop­pa, y discyblion a glywsant fod Petr yno, ac a anfonasant ddau ŵr atto ef, gan ddeisyfNa fy­ddei flin ganddo. nad oedei ddyfod hyd attynt hwy.

39 A Phetr a gyfodes, ac a aeth gyd â hwynt; ac wedi ei ddyfod, hwy a'i dygasant ef i fynu i'r llofft. A'r holl wragedd gweddwon a safa­sant yn ei ymyl ef yn wylo, ac yn dangos y peisiau, a'r gwiscoedd a wnaethei Dorcas, tra ydoedd hi gyd â hwynt.

40 Eithr Petr wedi eu bwrw hwy i gyd allan, a dodi ei liniau ar lawr, a weddiodd, a chan droi at y corph, a ddywedodd, Tabitha, Cyfod. A hi a agorodd ei llygaid, a phan welodd hi Petr, hi a gododd yn ei heistedd.

41 Ac efe a roddodd ei law iddi, ac a'i cy­fododd hi i fynu. Ac wedi galw y Sainct, a'r gwragedd gweddwon, efe a'i gosododd hi ger bron yn fyw.

42 Ac yspys fu drwy holl Ioppa: a llawer a gredasant yn yr Arglwydd.

43 A bu iddo aros yn Ioppa lawer o ddy­ddiau, gyd ag vn Simon Barcer.

PEN. X.

1 Cornelius, gwr defosionol, 5 wrth orchymmyn Angel, yn danfon i gyrchu Petr: 11 Ynteu, trwy weledigaeth, 15, 20 a ddyscir na ddiystyrei mo'r Cenhedloedd. 34 Ac efe yn pregethu Christ i Cornelius, a'r rhai oedd gydag ef, 44 yr Yspryd glan yn discyn arnynt, 48 a'i bedyddio hwy.

YR oedd rhyw ŵr yn Cæsarea, a'i enw Cornelius, Canwriad o'r fyddin a elwid yr Italaidd,

2 Gwr defosionol, ac yn ofni Duw, ynghyd â'i holl dŷ, ac yn gwneuthur llawer o elusenau i'r bobl, ac yn gweddio Duw yn wastadoi.

3 Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o'r dydd, Angel Duw yn dyfod i mewn atto, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius.

4 Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddiau di, a'th elusen [...]u a daerchafasant yn goffadwriaeth ger bron Duw.

5 Ac yn awr anfon wyr i loppa, a gyrr am Simon, yr hwn a gyfenwir Petr.

6 Y mae efe yn lleteua gyd ag vn Simon Barcer, tŷ 'r hwn sydd wrth y môr: efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur.

7 A phan ymadawodd yr Angel oed [...] yn ymddiddan â Chornelius, efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ, a milwr defosionol, o'r rhai oedd yn aros gyd ag ef:

8 Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl, efe a'u hanfonodd hwynt i loppa.

9 A thrannoeth, fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nessau at y ddinas, Petr a aeth i fynu ar y tŷ i weddio, ynghylch y chweched awr.

10 Ac fe ddaeth arno newyn mawr, ac efe a chwen [...]chei gael bwyd. Ac a hwynt yn paratoi iddo, fe syrthiodd arno lewyg:

11 Ac efe a welei y nef yn agored, a rhyw lestr yn descyn arno, fel llen-lliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, a'i gollwyng i wared hyd y ddaiar:

12 Yn yr hon yr oedd pôb rhyw bedwar­carnolion y ddaiar, a gwyllt-filod, ac ymlusci­aid, ac ehediaid y nef.

13 A daeth llef atto, Cyfod Petr, lladd, a bwyta.

14 A Phetr a ddywedodd, nid felly, Ar­glwydd; canys ni fwyteais i erioed ddim cyffredin neu aflan.

15 A'r llef drachefn a ddywedodd wrtho yr ail waith; Y pethau a lanhâodd Duw, na alw di yn gyffredin.

16 A hyn a wnaed dair gwaith, a'r llestr a dderbyniwyd drachefn i fynu i'r nef.

17 Ac fel yr oedd Petr yn ammau ynddo ei hûn, beth oedd y weledigaeth a welsei; wele, y gwŷr a anfonasid oddiwrth Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Simon, oeddynt yn sefyll wrth y porth:

18 Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynnasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Petr, yn lleteua yno.

19 Ac fel yr oedd Petr yn meddwl am y weledigaeth, dywedodd yr Yspryd wrtho; wele dry-wŷr yn dy geisio di.

20 Am hynny, cyfod, descyn, a dôs gyd â hwynt, heb ammau dim, o herwydd myfi a'u hanfonais hwynt.

21 A Phetr wedi descyn at y gwŷr a an­fonasid oddi wrth Cornelius atto, a ddywedodd, wele, myfi yw yr hwn yr ydych chwi yn ei geisio; beth yw yr achos y daethoch o'i her­wydd?

22 Hwythau a ddywedasant, Cornelius y Canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac a gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a ry­buddiwyd gan Angel sanctaidd, i ddanfon am danati i'w dŷ, ac i wrando geiriau gennit.

23 Am hynny efe a'u galwodd hwynt i mewn, ac a'u lletteuodd hwy. A thrannoeth yr aeth Petr ymmaith gyd â hwy, a rhai o'r bro­dyr o Ioppa a aeth gyd ag ef.

24 A thannoeth yr aethant i mewn i Cae­sarea, ac yr oedd Cornelius yn disgwil am da­nynt, ac efe a alwasei ei geraint a'i anwyl gyfeillion ynghyd.

25 Ac fel yr oedd Petr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a'i haddolodd ef.

26 Eithr Petr a'i cyfododd ef i fynu, gan ddywedyd, Cyfod, Dŷn wyf finneu hefyd.

27 A than ymddiddan ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd.

28 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlawn yw i ŵr o Iddew ymwascu, neu ddyfod at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi, na alwn neb yn gyffredin, neu yn aflan.

29 O ba herwydd, iê yn ddi-nâg y daeth­ym, pan anfonwyd am danaf: yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch am danaf.

30 A Chornelius a ddywedodd, Er ys ped­war diwrnod i'r awr hon o'r dydd, yr oeddwn yn ymprydio, ac ar y nawfed awr yn gweddio yn fy nhŷ, ac wele, safodd gŵr ger fy mron mewn gwisc ddisclair,

31 Ac a ddywedodd, Cornelius, gwranda­wyd dy weddi di, a'th elusenau a ddaethant mewn coffa ger bron Duw.

32 Am hynny anfon i Ioppa, a galw am Simon, yr hwn a gyfenwir Petr, y mae efe yn lleteua yn nhŷ Simon Barcer, ynglann y môr, yr hwn pan ddelo attat a lefara wrthit.

33 Am hynny yn ddioed myfi a anfonais attat, a thi a wnaethost yn dda ddyfod. Yr awron gan hynny, yr ŷm ni oll yn bresennol ger bron Duw, i wrando yr holl bethau a orchymynnwyd i ti gan Dduw.

34 Yna yr agorodd Petr ei enau, ac a ddy­wedodd,Deut. 10.17. Rhuf. 2.11. 1 Pet. 1.17. Yr wyf yn deall mewn gwirionedd, nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb.

35 Ond ym-mhôb cenhedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymmeradwy ganddo ef.

36 Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangnecdyf trwy Iesu Grist, efe yw Arglwydd pawb oll.

37 Chwy-chwi a wyddoch yNeu, peth. gair a fu yn holl Iudæa, gan ddechreu o Galilæa, wedi y bedydd a bregethodd Ioan:

38 Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Naza­reth â'r Yspryd glân, ac â nerth, yr hwn a gerdd­odd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iachau pawb a'r oedd wedi eu gorthrymmu gan ddia­fol: oblegid yr oedd Duw gyd ag ef.

39 A ninnau ydym dystion o'r pethau oll a wnaeth efe yngwlad yr Iddewon, ac yn Ieru­salem, yr hwn a laddasant, ac a groes-hoeliasant ar bren.

40 Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddes ef i'w wneuthur yn amlwg.

41 Nid i'r bobl oll, eithr i'r tystion ethole­dig o'r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom, ac a yfasom gyd ag ef, wedi ei ad­gyfodi ef o feirw.

42 Ac efe a orchymynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu mai efe yw 'r hwn a ordeiniwyd gan Dduw, yn farn-wr byw a meirw.

43Jer. 31.34. Mic. 7.18. I hwn y mae 'r holl Brophwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau, drwy ei enw ef.

44 A Phetr etto yn llefaru y geiriau hyn, syrthiodd yr Yspryd glân ar bawb a oedd yn clywed y gair.

45 A'r rhai o'r enwaediad a oeddynt yn credu, cynnifer ac a ddaethent gyd â Phetr, a synnasant, am dywallt dawn yr Yspryd glân ar y cenhedloedd hefyd.

46 Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr attebodd Petr,

47 A all neb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Yspryd glân, fel ninnau?

48 Ac efe a orchymynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd: yna y deisyfia­sant arno aros tros ennyd o ddyddiau.

PEN. XI.

1 Petr wedi achwyn arno am fyned i mewn at y Cenhedloedd, yn gwneuthur ei amddiffyn, 18 ac yn cael ei dderbyn. 19 Wedi cyrheu­ddyd o'r Efengyl hyd Phaenice, a Cyprus, ac Antiochia, yr ydys yn danfon Barnabas iw cadarnhau hwynt: 26 Y discyblion yno yn cael yn gyntaf rhai eu galw yn Gristianogion: 27 Ac yn anfon ymwared i'r brodyr yn Iudæa yn amser newyn.

A'R Apostolion a'r brodyr oedd yn Iudæa, a glywsant ddarfod i'r Cenhedloedd he­fyd dderbyn gair Duw.

2 A phan ddaeth Petr i fynu i Ierusalem, y rhai o'r enwaediad a ymrysonasant yn ei erbyn ef,

3 Gan ddywedyd, Ti a aethost i mewn at wŷr dienwaededig, ac a fwyteaist gyd â hwynt.

4 Eithr Petr a ddechreuodd, ac a eglurodd y peth iddynt mewn trefn, gan ddywedyd,

5 Yr oeddwn i yn ninas Ioppa yn gweddio, ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth, Rhyw lestr megis llenlliain fawr yn descyn, wedi ei gollwng o'r nef, erbyn ei phedair congl, a hi a ddaeth hyd attaf fi.

6 Ar yr hon pan edrychais, yr ystyriais, ac mi a welais bedwar-carnolion y ddaiar, a gwyllt-filod, ac ymlusciaid, ac ehediaid y nêf.

7 Ac mi a glywais lef yn dywedyd wrthif, Cyfod Petr, lladd, a bwyta.

8 Ac mi a ddywedais, nid felly Arglwydd, canys dim cyffredin neu aflan nid aeth vn amser i'm genau.

9 Eithr y llais a'm hattebodd i eilwaith o'r nef, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin.

10 A hyn a wnaed dair gwaith: a'r holl bethau a dynnwyd i fynu i'r nef drachefn.

11 Ac wele, yn y man yr oedd trywyr yn sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo, wedi eu hanfon o Cæsarea attafi.

12 A'r Yspryd a archodd i mi fyned gyd â hwynt heb ammau dim. A'r chwe brodyr hyn a ddaethant gyd â mi, ac nyni a ddaethom i mewn i dŷ y gŵr.

13 Ac efe a fynegodd i ni pa fodd y gwelsei efe Angel yn ei dŷ, yn sefyll, ac yn dywedyd wrtho, Anfon wŷr i Ioppa, a gyrr am Simon a gyfenwir Petr:

14 Yr hwn a lefara eiriau wrthit, trwy y rhai i'th iacheir di, a'th holl dŷ.

15 Ac a myfi yn dechreu llefaru, syrth­iodd yr Yspryd glân arnynt,Pen. 2.4. megis arnom ninnau yn y dechreuad.

16 Yna y cofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedasei efe,Joan. 1.26. Ioan yn wîr a fedyddiodd â dwfr, eithr chwi a fedyddir â'r Yspryd glân.

17 Os rhoddes Duw gan hynny iddynt hwy gyffelyb rodd ac i ninnau, y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw?

18 A phan glywsant y pethau hyn, distawu a wnaethant, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, fe roddes Duw gan hyn­ny i'r Cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd.

19Pen. 8.1. A'r rhai a wascarasid o herwydd y blinder a godasei ynghylch Stephan, a dram­wyasant hyd yn Phenice, a Cyprus, ac Antio­chia, heb lefaru y gair wrth nêb, ond wrth yr Iddewon yn vnig.

20 A rhai o honynt oedd wŷr o Cyprus, ac o Cirene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefa­rasant wrth y Groeglaid, gan bregethu yr Ar­wydd Iesu.

21 A llaw yr Arglwydd oedd gyd â hwynt, a nifer mawr a gredodd, ac a drôdd at yr Ar­glwydd.

22 A'r gair a ddaeth i glustiau yr Eglwys oedd yn Ierusalem, am y pethau hyn; A hwy a anfonasant Barnabas, i fyned hyd Anti­ochia.

23 Yr hwn pan ddaeth, a gweled grâs [Page] Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyr-fryd calon i lynu wrth yr Arglwydd.

24 Oblegid yr oedd efe yn ŵr da, ac yn llawn o'r Yspryd glân, ac o ffydd: a llawer o bobl a chwanegwyd i'r Arglwydd.

25 Yna yr aeth Barnabas i Tharsus, i geisio Saul, ac wedi iddo ei gael, efe a'i dug i Antiochia.

26 A bu iddynt flwyddyn gyfan ymgyn­nullNeu, gyda 'r Eglwys. yn yr Eglwys, a dyscu pobl lawer, a bod galw y discyblion yn Gristianogion yn gyntaf yn Antiochia.

27 Ac yn y dyddiau hynny, daeth pro­phwydi o Ierusalem i wared i Antiochia.

28 Ac vn o honynt, a'i enw Agabus, a gy­fododd, ac a arwyddocaodd drwy yr Yspryd, y byddei newyn mawr dros yr holl fŷd; yr hwn hefyd a fu tan Claudius Cæsar.

29 Yna 'r discyblion, bob vn yn ôl ei allu, aA lun­i [...]etha­sant. fwriadasant anfon cymmorth i'r brodyr oedd yn presswylio yn Iudæa.

30 Yr hyn beth hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr Henuriaid, drwy law Barna­bas a Saul.

PEN. XII.

1 Brenin Herod yn erlid y Christianogion, yn lladd Iaco, ac yn carcharu Petr: a'r Angel yn ei waredu ef wrth weddiau yr Eglwys. 20 Herod trwy falchder yn cymeryd iddo ei hun y gogoniant oedd ddyledus i Dduw, ac yn cael ei daro gan yr Angel, ac yn marw yn resynol. 24 A'r Eglwys yn llwyddo, ar ôl ei farwolaeth ef.

AC ynghylch y pryd hynny yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo, i ddrygu rhai o'r Eglwys.

2 Ac efe a laddodd Iacob brawd Ioan â'r cleddyf.

3 A phan welodd fod yn dda gan yr Idde­won hynny, efe a chwanegodd ddala Petr he­fyd: (A dyddiau y bara croyw ydoedd hi)

4 Yr hwn wedi ei ddal a roddes efe ynghar­char, ac a'i traddododd at bedwar pedwariaid o fil-wŷr, i'w gadw, gan ewyllysio ar ôl y Pasc ei ddwyn ef allan at y bobl.

5 Felly Petr a gadwyd yn y carchar, eithr gweddiNeu, ddibaid, neu, ddi­frif. ddyfal a wnaethpwyd gan yr Eglwys at Dduw drosto ef.

6 A phan oedd Herod a'i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos honno yr oedd Petr yn cyscu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn, a'r [...]eidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar.

7 Ac wele Angel yr Arglwydd a safodd ger llaw, a goleuni a ddiscleiriodd yny ty. y carchar, ac efe a darawodd ystlys Petr, ac a'i cy­fododd ef, gan ddywedyd; Cyfod yn fuan: a'i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo.

8 A dywedodd yr Angel wrtho, Ymwregy­sa, a rhwym dy sandalau, ac felly y gwnaeth efe; Yna y dywedodd, bwrw dy wisg am danat, a chanlyn fi.

9 Ac efe a aeth allan, ac a'i canlynodd ef, ac ni's gwybu mai gwir oedd y peth a wnae­thid gan yr Angel, eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd.

10 Ac wedi myned o honynt heb law y gyntaf a'r ail wiliadwriaeth, hwy a ddaethant i'r porth hayarn, yr hwn sydd yn arwain i'r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o'i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd vn heol, ac yn ebrwydd yr Angel a aeth ymmaith oddi wrtho.

11 A Petr, wedi dyfod atto ei hun, a ddy­wedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o'r Ar­glwydd ei Angel, a'm gwared i allan o law Herod, ac oddi wrth holl ddisgwiliad pobl yr Iddewon.

12 Ac wedi iddoNeu, ystyried y peth. gymmeryd pwyll, efe a ddaeth i dŷ Mair, mam Ioan, yr hwn oedd a'i gyfenw Marcus, lle yr oedd llawer wedi ym­gasclu, ac yn gweddio.

13 Ac fel yr oedd Petr yn curo drws y porth, morwyn a ddaethNeu, i ymofyn pwy oedd yno. i ymwrando, a'i henw Rhode.

14 A phan adnabu hi lais Petr, nid ago­rodd hi y porth gan lawenydd, eithr hi a re­dodd i mewn, ac a fynegodd fod Petr yn sefyll o flaen y porth.

15 Hwythau a ddywedasant wrthi, yr wyt ti yn ynfydu. Hitheu a daerodd mai felly yr oedd. Eithr hwy a ddywedasant, Ei Angel ef ydyw.

16 A Phetr a barhâodd yn curo; ac wedi iddynt agori, hwy a'i gwelsant ef, ac a synnasant.

17 Ac efe a amneidiodd arnynt â llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dy­gasei yr Arglwydd ef allan o'r carchar: ac efe a ddywedodd, mynegwch y pethau hyn i Iaco, ac i'r brodyr. Ac efe a ymadawodd ac a aeth i le arall.

18 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, yr oedd trallod nid bychan ym mhlith y mil-wŷr, pa beth a ddaethei o Petr.

19 Eithr Herod pan ei ceisiodd ef, a heb ei gael, a holodd y ceidwaid, ac a orchymmyn­nodd eu cymmeryd hwy ymaith. Yntef a aeth i wared o Iudæa i Cæsarea, ac a arhosodd yno.

20 Eithr Herod oeddNeu, a'i fryd ar ryfelae yn erbyn. yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon; a hwy a ddaethant yn gyttûn atto, ac wedi ennill Blastus, yr hwn oedd stafellydd y brenin, hwy a ddeisysiasant dangneddyf: am fôd eu gwlâd hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlâd y brenin.

21 Ac ar ddydd nodedig, Herod gwedi gwisco dillad brenhinol, a eisteddodd ar yr orsedd-faingc, ac a araithiawdd wrthynt.

22 A'r bobl a roes floedd, Lleferydd Duw, ac nid dŷn ydyw.

23 Ac allan o law y tarawodd Angel yr Arglwydd ef, am na roesei y gogonedd i Dduw; a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.

24 A gair Duw a gynnyddodd, ac a amlhâodd.

25 A Barnabas a Saul, wedi cyflawni euPen. 11.29.30. gwenidogaeth, a ddychwelasant o Ierusalem, gan gymmeryd gyd â hwynt Ioan hefyd, yr hwn a gyfenwid Marc.

PEN. XIII.

1 Dewis Paul a Barnabas i fyned at y Cenhed­loedd. 7 Sergius Paulus, ac Elymas y Swynwr. 14 Paul yn pregethu yn Antiochia, mai Iesu yw Christ. 42 Y Cenhedloedd yn credu: 45 Yr Iddewon yn gwrthwynebu, ac yn cablu: 46 Paul a Barnabas ar hynny yn troi at y Cenhedloedd. 48 Y rhai a ordeiniesid i fywyd yn credu.

YR oedd hefyd yn yr Eglwys ydoedd yn Antiochia, rai prophwydi ac athrawon, Barnabas, a Simeon, yr hwn a elwid Niger, a Lucius o Cirene, a Manaen brawd-maeth He­rod y Tetrarch, a Saul.

2 Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu [Page] yr Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Yspryd glân, Neillduwch i mi Barnabas a Saul, i'r gwaith y gelwais hwynt iddo.

3 Yna wedi iddynt ymprydio, a gweddio, a dodi eu dwylo arnynt, hwy a'u gollyngasant ymmaith.

4 A hwythau wedi eu danfon ymmaith gan yr Yspryd glân, a ddaethant i Seleucia, ac oddi yno a fordwyasant i Cyprus.

5 A phan oeddynt yn Salamis, hwy a brege­thasant air Duw yn Synagogau yr Iddewon, ac yr oedd hefyd ganddynt Joan yn weinidog.

6 Ac wedi iddynt dramwy trwy 'r ynys hyd Paphus, hwy a gawsant ryw swyn-wr, gau brophwyd o Iddew, a'i enw Bariesu:

7 Yr hwn oedd gydâ 'r Rhaglaw Sergius Paulus, gŵr call: hwn wedi galw atto Bar­nabas a Saul, a ddeisyfiodd gael clywed gair Duw.

8 Eithr Elymas y swyn-wr (canys felly y cyfieithir ei enw ef) a'i gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyr-droi y Rhaglaw oddiwrth y ffydd.

9 Yna Saul, yr hwn hefyd a elwir Paul, yn llawn o'r Yspryd glân, a edrychodd yn graff arno ef,

10 Ac a ddywedodd, O gyflawn o bôb twyll, a phôb scelerder, tydi mâb diafol, a gelyn pôb cyfiawnder, oni pheidi di â gwyro vniawn ffyrdd yr Arglwydd?

11 Ac yn awr wele, y mae llaw yr Arglwydd arnati, a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser. Ac yn ddiattreg y syrthiodd arno niwlen, a thywyllwch, ac efe a aeth oddiamgylch gan geisio rhai i'w arwain er­byn ei law.

12 Yna y Rhaglaw, pan welodd yr hyn a wnaethid, a gredodd, gan ryfeddu wrth ddysceidiaeth yr Arglwydd.

13 A Phaul a'r rhai oedd gyd ag ef, a aethant ymaith o Paphus, ac a ddaethant i Perga yn Pamphilia; eithr Joan a ymada­wodd oddi-wrthynt,, ac a ddychwelodd i Jerusalem.

14 Eithr hwynt hwy, wedi ymado o Perga, a ddaethant i Antiochia yn Pisidia, ac a aethant i mewn i'r Synagog ar y dydd Sabbath, ac a eisteddasant.

15 Ac yn ôl darllein y gyfraith a'r Proph­wydi, llywodraethwyr y Synagog a anfo­nasant attynt, gan ddywedyd, Ha-wŷr fro­dyr, od oes gennych air o gyngor i'r bobl, traethwch.

16 Yna y cyfododd Paul i fynu, a chan amneidio â'i law am osteg, a ddywedodd, O wŷr o Israel, a'r rhai ydych yn ofni Duw, gwrandewch.

17 Duw y bobl hyn Israel, a etholodd ein tadau ni, ac a dderchafodd y bobl,Exod. 1.1. pan oedd yn ymdeithio yngwiad yr Aipht,Exod. 13.14.16. ac â braich vchel y dug efe hwynt oddi yno allan.

18 Ac yngylch deugain mhlynedd o amser, y goddefodd efe eu harferion hwynt yn yr anialwch.

19 Ac wedi iddo ddinistrio saith genedl yn nhir Canaan,Jos. 14.2. â choel-bren y patthodd efe dîr y rhai hynny iddynt hwy.

20Barn. 3.9. Ac wedi y pethau hyn, dros yspaid ynghylch pedwar cant a dêng mhlynedd a deugain, efe a roddes farn-wŷr iddynt, hyd Samuel y prophwyd.

21 Ac yn ôl hynny y dymunasant gael brenin:1 Sam. 8.5. ac fe a roddes Duw iddynt Saul fâb Cis, gŵr o lwyth Benjamin, ddeugain mhlynedd.

22 Ac wedi ei ddiswyddo ef,1 Sam. 16.13. y cyfododd efe Ddafydd yn frenin iddynt, am yr hwn y tystiolaethodd, ac y dywedodd,Psal. 89.20. Cefais Ddafydd fab Jesse, gŵr yn ôl fy nghalon, yr hwn a gyflawna fy holl Ewyllys.

23Esa. 11.1. O hâd hwn, Duw yn ôl ei addewid a gyfododd i Israel yr Iachawdr Iesu.

24Matth. 3.1. Gwedi i Joan rag-bregethu o flaenWyneb ei ddyfo­diad. ei ddyfodiad ef i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Israel.

25 Ac fel yr oedd Joan yn cyflawni ei redfa, efe a ddywedodd,Joan. 1.20. pwy yr ydych chwi yn tybied fy mod i? nid myfi yw efe, eithr wele, y mae yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn nid wyfi deilwng i ddattod escidiau ei draed.

26 Ha-wŷr frodyr, plant o genedl Abraham, a'r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iechydwriaeth hon.

27 Canys y rhai oedd yn presswylio yn Jerusalem, a'u tywysogion, heb adnabod hwn, a lleferydd y Prophwydi, y rhai a ddarllennid bob Sabbath, gan ei farnu ef, a'u cyflawnasant.

28Matth. 27.22. Ac er na chawsant ynddo ddim achos angeu, hwy a ddymunasant ar Pilat ei ladd ef.

29 Ac wedi iddynt gwblhau pôb peth a'r a scrifennasid am dano ef, hwy a'i descyn­nasant ef oddi ar y pren, ac a'i dodasant mewn bedd.

30Matth. 28.6. Eithr Duw a'i cyfododd ef oddiwrth y meirw.

31 Yr hwn a welwyd, dros ddyddiau lawer, gan y rhai a ddaethei i fynu gyd ag ef o Gali­læa i Jerusalem, y rhai sydd dystionO ho­naw. iddo wrth y bobl.

32 Ac yr ydym ni yn efangylu i chwi, yr addewid a wnaed i'r tadau, ddarfod i Dduw gyflawni hwn i ni eu plant hwy, gan iddo ad­gyfodi 'r Iesu:

33 Megis ac yr yscrifennwydPsal. 2.7. Heb. 1.5. yn yr ail Psalm, Fy mâb i ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais.

34 Ac am iddo ei gyfodi ef o'r meirw, nid i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y dywedodd fel hyn,Esa. 55.3. Rhoddaf i chwi sicr drugareddau Dafydd.

35 Ac am hynny y mae yn dywedyd mewn psalm arall,Psal. 16 10. Ni ro­ddi dy Sanct i weled. Ni adewi i'th Sanct weled llygredigaeth.

36 Canys DafyddWedi iddo yn ei oes ei hun wasa­naethu Ewyllys Duw. wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw,1 Bren. 2.10. a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth.

37 Eithr yr hwn a gyfodes Duw, ni we­lodd lygredigaeth.

38 Am hynny, bydded hyspys i chwi, Ha wŷr frodyr, mai trwy hwn yr ydys yn prege­thu i chwi faddeuant pechodau:

39 A thrwy hwn y cyfiawnheir pob vn sydd yn credu, oddi wrth yr holl bethau, y rhai ni allech drwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddiwrthynt.

40 Gwiliwch gan hynny, na ddel arnoch y peth a ddywedpwyd yn yHab. 1.5. Prophwydi,

41 Edrychwch, ô ddirmyg-wŷr, a rhyse­ddwch, a diflenuwch: canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau, gwaith ni chredwch ddim, er i neb ei ddangos i chwi.

42 A phan aeth yr Iddewon allan o'r Syna­gog, [Page] y Cenhedloedd a attolygasant gael prege­thu y geiriau hyn iddynt y Sabbath nesaf.

43 Ac wedi gollwng y gynnulleidfa, llawer o'r Iddewon, ac o'r proselytiaid crefyddol, a ganlynasant Paul a Barnabas, y rhai gan le­faru wrthynt, a gynghorasant iddynt aros yng­râs Duw.

44 A'r Sabbath nesaf, yr holl ddinas agos, a ddaeth ynghŷd i wrando gair Duw.

45 Eithr yr Iddewon pan welsant y torfeydd, a lanwyd o genfigen, ac a ddywedasant yn erbyn y pethau a ddywedid gan Paul, gan wrth­ddywedyd a chablu.

46 Yna Paul a Barnabas a aethant yn hŷ, ac a ddywedasant, Rhaid oedd lefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf, eithr o herwydd eich bod yn ei wrthod, ac yn eich barnu eich hu­nain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, we­le yr ydym yn troi at y Cenhedloedd.

47 Canys felly y gorchymynnodd yr Ar­g [...]wydd i ni, gan ddywedyd, Esa. [...]9.6. mi a'th osodais di yn oleuni i'r Cenhedloedd, i fod o honot yn iechydwriaeth hyd eithaf y ddaiar.

48 A'r Cenhedloedd pan glywsant, a fu lawen ganddynt, ac a ogoneddasant air yr Arg­lwydd, a chynnifer ac oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragywyddol, a gredasant.

49 A gair yr Arglwydd a danwyd drwy 'r holl wlâd.

50 A'r Iddewon a annogasant y gwragedd crefyddol ac anrhydeddus, a phennaethiaid y ddinas, ac a godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a'u bwriasant hwy allan o'u ter­fynau.

51Matth. [...].14. Eithr hwy a escydwasant y llŵch oddi wrth eu traed yn eu herbyn hwy, ac a ddaethant i Iconium.

52 A'r discyblion a gyflawnwyd o lawenydd, ac o'r Yspryd glân.

PEN. XIV.

1 Erlid Paul a Barnabas allan o Iconium. 8 Paul yn iachâu y cloff efrydd yn Lystra: ac ar hynny y bobl yn tybied mai Duwiau oeddynt hwy. 19 Llabyddio Paul. 21 Hwynt hwy yn myned trwy fagad o Eglwysi gan gadarnhau y discyblion yn y ffydd, ac mewn dioddefgar­wch: 26 ac wedi dychwelyd i Antiochia, yn mynegi yno beth a wnaethei Duw trwyddynt hwy.

A Digwyddodd yn Iconinm iddynt fyned ynghyd i Synagog yr Idddewon, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr o'r Iddewon ac o'r Gro [...]g-wŷr hefyd.

2 Ond yr Iddewon anghredadyn a gyffroe­sant feddyliau y Cenhedloedd, ac a'u gwnae­thant yn ddrwg yn erbyn y brodyr.

3 Am hynny hwy a arhosasant yno amser mawr, gan fôd yn hŷ yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei râs, ac yn canhiadu gwneuthur arwyddion a rhyfe­ddodau trwy eu dwylo hwynt.

4 Eithr lliaws y ddinas a rannwyd, a rhai oedd gyd â'r Iddewon, a rhai gyd a'r Aposto­lion.

5 A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cen­hedloedd, a'r Iddewon, ynghŷd â'u llywodraeth­wyr, i'w hammerchi hwy, ac i'w llabyddio,

6 Hwythau a ddeallasant hyn, ac a ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i'r wlâd oddi amgylch.

7 Ac yno y buant yn Efangylu.

8 A [...] yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra, yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd glôff o groth ei fam, ac ni rodiasei erioed.

9 Hwn a glybu Paul yn llefaru, vr hwn wrth edrych yn grâff arno, a gweled fôd gan­ddo ffydd i gael iechyd,

10 A ddywedodd â llef vchel, Saf ar dy draed yn vniawn: ac efe a neidiodd i fynu, ac a rodiodd.

11 A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethei Paul, hwy a godasant eu llef gan ddy­wedyd yn iaith Lycaonia, y Duwiau yn rhith dynion a ddescynnasant attom.

12 A hwy a alwasant Barnabas yn Iupiter, a Phaul yn Mercurius: oblegîd efe oedd yr yma­droddwr pennaf:

13 Yna offeiriad Jupiter, yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau i'r pyrth, ac a fynnasei gŷd â'r bobl, aberthu.

14 A'r Apostolion Barnabas, a Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant ymmhlith y bobl, gan lefain,

15 A dywedyd, Ha wŷr pa ham y gwnewch chwi y pethau hyn? dynion hefyd ydym nin­nau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi, ar i chwi droi oddiwrth y pethau gweigion ymma, at Dduw byw,Gen. 1.1. Psal. 146, 6. Datc. 14.7. yr hwn a wnaeth nêf a daiar, a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt.

16Psal. 81.12. Yr hwn yn yr oesoedd gynt a odde­fodd i'r holl Genhedloedd fyned yn eu ffyrod eu hunain.

17 Er hynny ni adawodd efe mo honaw ei hun yn ddi-dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o'r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â llyn­niaeth, ac â llawenydd.

18 Ac er dywedyd y pethau hyn, braidd yr attaliasant y bobl rhag aberthu iddynt.

19 A daeth yno Iddewon o Antiochia ac Iconium, a hwy a berswadiasant y bobl,2 Cor. 11.25. ac wedi llabyddio Paul, a'i lluscasant ef allan o'r ddinas, gan dybieid ei fôd ef wedi marw.

20 Ac fel yr oedd y discyblion yn sefyll o'i amgylch, efe a gyfododd, ac a aeth i'r ddinas: a thrannoeth efe a aeth allan, efe a Barnabas, i Derbe.

21 Ac wedi iddynt bregethu yr Efengyl i'r ddinas honno, ac ennill llawer o ddiscyblion, hwy a ddychwelasant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia,

22 Gan gadarnhau eneidiau y discyblion, a'u cynghori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fy­ned i deyrnas Dduw.

23 Ac wedi ordeinio iddynt Henuriaid ym mhôb Eglwys, a gweddio gyd ag ymprydiau, hwy a'u gorchymynnasant hwynt i'r Arg­lwydd, yr hwn y credasent ynddo.

24 Ac wedi iddynt drammwy drwy Pisidia, hwy a ddaethant i Pamphilia.

25 Ac wedi pregethu y gair yn Perga, hwy a ddaethant i wared i Attalia.

26 Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia, o'r lle yr oeddynt wedi eu gorchymmyn i ras Duw, i'r gorchwyl a gyflawnasant.

27 Ac wedi iddynt ddyfod a chynnull yr Eglwys ynghyd, adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethei Duw gyd â hwy, ac iddo ef agoryd i'r Cenhedioedd ddrws y ffydd.

28 Ac yno yr arhosasant hwy, dros hîr o amser, gydâ 'r discyblion.

PEN. XV.

1 Ymryson mawr yn cyfodi ynghylch yr Enwae­diad. 6 Yr Apostolion yn ymgynghori yng­hylch hynny, 22 ac yn anfon eu meddwl trwy lythyrau at yr Eglwysi. 36 Paul a Barnabas wedi bwriadu myned i ymweled a'r brodyr, yn ymrafaelio ac yn ymadel â'i gilydd.

A Rhai wedi dyfod i wared o Judæa, a ddys­casant y brodyr gan ddywedyd, Gal. 5.2. onid en­waedir chwi yn ôl defod Moses, ni ellwch fod yn gadwedig.

2 A phan ydoedd ymryson a dadlau nid bychan gan Paul a Barnabas, yn eu herbyn, hwy a ordeiniasant fyned o Paul a Barnabas, a rhai eraill o honynt, i fynu i Jerusalem, at yr Apostolion, a'r Henuriaid, ynghylch y cwestiwn ymma.

3 Ac wedi eu hebrwng gan yr Eglwys, hwy a dramwyasant drwy Phaenice, a Samaria, gan fynegi troad y Cenhedloedd. A hwy a barasant lawenydd mawr i'r brodyr oll.

4 Ac wedi eu dyfod hwy i Jerusalem, hwy a dderbyniwyd gan yr Eglwys, a chan yr Apostolion, a chan yr Henuriaid, a hwy a fy­negasant yr holl bethau a wnaethei Duw gyd â hwynt.

5 Eithr cyfododd rhai o sect y Pharisæaid, y rhai oedd yn credu, gan ddywedyd, mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymmyn cadw Deddf Moses.

6 A'r Apostolion a'r Henuriaid a ddaethant ynghŷd, i edrych am y matter ymma.

7 Ac wedi bod ymddadleu mawr, cyfo­dodd Petr ac a ddywedodd wrthynt,Pen. 10.20. & 11.13. Ha­wŷr frodyr, chwi a ŵyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni, fy ethol i, i gael o'r Cenhedloedd drwy fy ngenau i, glywed gair yr Efengyl, a chredu.

8 A Duw, adnabydd-ŵr calonnau, a ddûg dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Yspryd glân, megis ac i ninnau.

9Pen. 10.43. 1 Cor. 1.2. Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan buro eu calonnau hwy trwy ffydd.

10 Yn awr, gan hynny, pa ham yr ydych chwi yn temtio Duw,Matth. 23.4. i ddodi iau ar warrau y discyblion, yr hon ni allodd ein tadau ni, na ninnau ei dwyn?

11 Eithr trwy râs yr Arglwydd Iesu Grist, yr ydym ni yn credu ein bôd yn gadwedig, yr vn modd a hwythau.

12 A'r holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint, a wnaethei Duw ym mhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy.

13 Ac wedi iddynt ddistewi, attebodd Jaco, gan ddywedyd, Ha-wŷr frodyr, gwrandewch arnaf fi.

14 Simeon a fynegodd pa wedd yr ymwelodd Duw ar y cyntaf, i gymmeryd o'r Cenhedlo­edd bobl iw Enw.

15 Ac â hyn y cyttûna geiriau y Prophwy­di; megis y mae yn scrifennedig:

16Amos 5.11. Yn ôl hyn y dychwelaf, ac yr adeiladaf drachefn Dabernacl Dafydd, yr hwn sydd wedi syrthio, a'i fylchau ef a adeiladaf drachefn, ac a'i cyfodaf eil-chwyl:

17 Fel y byddo i hyn a weddiller o ddy­nion, geisio yr Arglwydd, ac i'r holl genhed­loedd, y rhai y gelwir fy enw i arnynt, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn.

18 Yspys i Dduw yw ei weithredoedd oll erioed.

19 O herwydd pa ham, fy marn i yw, na flinom y rhai o'r cenhedloedd a droesant at Dduw.

20 Eithr scrifennu o honom ni attynt, ar ymgadw o honynt oddiwrth haiogrwydd del­wau, a godineb, ac oddiwrth y peth a dagwyd, ac oddiwrth waed.

21 Canys y mae i Moses, ym mhôb dinas, er yr hên amseroedd, rai a'i pregethant ef, gan fôd yn ei ddarllen yn y Synagogau bôb Sabbath.

22 Yna y gwelwyd yn dda gan yr Aposto­lion a'r Henuriaid, ynghyd â'r holl Eglwys, anfon gwŷr ethoiedic o honynt eu hunain, i Antiochia, gyd â Phaul a Barnabas, sef Judas a gyfenwir Barsabas, a Silas, gwŷr rhagorol ym-mhlith y brodyr.

23 A hwy a scrifennasant gyd â hwynt fel hyn, Yr Apostolion, a'r henuriaid, a'r brodyr, at y brodyr y rhai sy o'r Cenhedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia, yn anfon an­nerch.

24 Yn gymmaint a chlywed o honom ni, i rai a aethant allan oddi wrthym ni, eich trallodi chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau chwi, a dywedyd fod yn rhaid enwae­du arnoch, a chadw y Ddeddf, i'r rhai ni roesem ni gyfryw orchymmyn:

25 Ni a welsom yn dda, wedi i ni ymgyn­null yn gyttun, anfon gwŷr etholedig attoch, gyd â'n hanwylyd Barnabas a Phaul:

26 Gwŷr a roesant eu heneidiau dros enw ein Harglwydd ni Iesu Grist.

27 Ni a anfonasom, gan hynny, Judas a Silas, a hwythau ar air a fynegant i chwi yr vn pethau.

28 Canys gwelwyd yn dda gan yr Yspryd glân, a chennym ninnau, na ddodid arnoch faich ychwaneg nâ'r pethau angenrheidiol hyn:

29 Bod i chwi ymgadw oddi wrrh yr hyn a aberthwyd i eulynnod, a gwaed, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth odineb, oddi wrth yr hyn bethau, os ymgedwch, da y gwnewch. Byddwch iach.

30 Felly, wedi eu gollwng hwynt ymmaith, hwy a ddaethant i Antiochia: ac wedi cynnull y lliaws ynghyd, hwy a roesant y llythyr.

31 Ac wedi iddynt ei ddarllen, llawenychu a wnaethant am yNeu, cyngor. diddanwch.

32 Judas hefyd a Silas, a hwythau yn Broph­wydi, trwy lawer o ymadrodd, a ddiddanasant y brodyr, ac a'u cadarnhasant.

33 Ac wedi iddynt aros yno dros amser, hwy a ollyngwyd ymaith mewn heddwch, gan y brodyr, at yr Apostolion.

34 Eithr gwelodd Silas yn dda aros yno.

35 A Phaul a Barnabas a arhosasant yn Antiochia, gan ddyscu ac efengylu gair yr Ar­glwydd, gyd â llawer eraill hefyd.

36 Ac wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, dychwelwn, ac ymwelwn â'n brodyr, ym mhôb dinas y pregethasom air yr Arglwydd ynddynt, i weled pa fodd y maent hwy.

37 A Barnabas a gynghorodd gymmeryd gyd â hwynt Joan, yr hwn a gyfenwid Marcus.

38 Ond ni welei Paul yn addas gymme­ryd hwnnw gyd â hwynt, yr hwn a dynnasei [Page] oddi wrthynt o Pamphilia, ac nid aethei gyd â hwynt i'r gwaith.

39 A bu gymmaint cynhwrf rhyngddynt, fel yr ymadawsant oddi wrth ei gilydd, ac y cymmerth Barnabas Marc gyd ag ef, ac y mordwyodd i Cyprus:

40 Eithr Paul a ddewisodd Silas, ac a aeth ymmaith, wedi ei orchymmyn i râs Duw gan y brodyr.

41 Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cili­cia, gan gadarnhau yr Eglwysi.

PEN. XVI.

1 Paul wedi enwaedu ar Timotheus, 7 ac wedi ei alw gan yr Yspryd, 14 yn troi Lydia: 16 Yn bwrw allan yspryd dewiniaeth: 19 Ac am hynny Silas ac yntef yn cael eu fflangellu, a'i carcharu: 26 Egoryd drysau y carchar: 31 Troi ceidwad y carchar, 37 a'i gwaredu hwythau.

YNa y daeth efe i Derbe ac i Lystra; ac we­le, yr oedd yno ryw ddiscybl,Rhuf. 16.21. a'i enw Timotheus, mab i ryw wraig, yr hon oedd Iddewes, ac yn credu, a'i dâd oedd Roeg­wr:

2 Yr hwn oedd yn cael gair da gan y bro­dyr oedd yn Lystra, ac yn Iconium.

3 Paul a fynnei i hwn fyned allan gyd ag ef, ac efe a'i cymmerth, ac a'i henwaedodd ef, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny: canys hwy a wyddent bawb, mai Groeg-wr oedd ei dad ef.

4 Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy y dinasoedd, hwyDra­ddoda­sant idd­ynt. a roesant arnynt gadw y gor­chymmynionPen. 15.28. a ordeiniasid gan yr Apostolion a'r Henuriaid, y rhai oedd yn Jerusalem.

5 Ac felly yr Eglwysi a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynnyddasant mewn rhifedi beu­nydd.

6 Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia a gwlad Galatia, a gwarafun iddynt gan yr Yspryd glân bregethu y gair yn Asia:

7 Pan ddaethant i Mysia, hwy a geisiasant fyned i Bithynia, ac ni oddefodd Yspryd yr Ie­su iddynt.

8 Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i wared i Troas.

9 A gweledigaeth a ymddangosodd i Paul liw nos: Rhyw ŵr o Macedonia a safai, ac a ddeisyfai arno, ac a ddywedai, Tyred trosodd i Macedonia, a chymmorth ni.

10 A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Macedonia, gan gwbl gredu alw o'r Arglwydd nyni, i efangylu iddynt hwy.

11 Am hynny, wedi myned ymmaith o Troas, ni a gyrchasom yn vniawn i Samothra­cia, a thrannoeth i Neapolis:

12 Ac oddi yno i Philippi, yr honYw y ddinas gyntaf. sydd brif-ddinas o barth o Macedonia,Colonia. dinas rydd; ac ni a fuom yn aros yn y ddinas honno ddy­ddiau rai.

13 Ac ar y dydd Sabbath, ni a aethom allan o'r ddinas i lan afon, lle y byddid arferol o we­ddio; ac ni a eisteddasom, ac a Iefarasom wrth y gwragedd a ddaethant ynghyd.

14 A rhyw wraig a'i henw Lydia, vn yn gwerthu porphor, o ddinas y Thiatyriaid, yr hon oedd yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal ar y pethau a leferid gan Paul.

15 Ac wedi ei bedyddio hi a'i theulu, hi a ddymunodd arnom, gan ddywedyd, os barna­soch fy mod i yn ffyddlawn i'r Arglwydd, dewch i mewn i'm tŷ, ac arhoswch yno. A hi a'n cymmhellodd ni.

16 A digwyddodd, a ni yn myned i weddio, i ryw langces, yr hon oedd ganddi ysprydNeu, Python. de­winiaeth, gyfarfod â ni; yr hon oedd yn peri llawer o elw i'w meistraid, wrth ddywedyd dewiniaeth.

17 Hon a ddilynodd Paul a ninneu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn my­negi i chwi ffordd iechydwriaeth.

18 A hyn a wnaeth hi dros ddyddiau law­er, eithr Paul yn flin ganddo, a drodd, ac a ddywedodd wrth yr yspryd, Yr ydwyf yn gorchymmyn i ti, yn enw Iesu Grist, fyned allan o honi. Ac efe a aeth allan yr awr honno.

19 A phan welodd ei meistreid hi, fyned gobaith eu helw hwynt ymmaith, hwy a dda­liasant Paul a Silas, ac a'u lluscasant hwy i'r farchnadfa, at y llywodraeth-wŷr;

20 Ac a'i dygasant hwy at y swyddogion, ac a ddywedasant, y mae y dynion hyn, y rhai ydynt Iddewon, yn llwyr gythryblio ein dinas ni;

21 Ac yn dyscu defodau, y rhai nid ydyw rydd i ni eu derbyn, na'u gwneuthur, y rhai ydym Rufein-wŷr.

22 A'r dyrfa a safodd i fynu ynghŷd yn eu herbyn hwy, a'r swyddogion gan rwygo eu di­llad, a2 Cor. 11 25. 1 Thes. 2.2. orchymynnasant eu curo hwy â gwiail.

23 Ac wedi rhoddi gwialennodiau lawer iddynt, hwy a'u taflasant i garchar; gan or­chymmyn i geidwad y carchar, eu cadw hwy yn ddiogel.

24 Yr hwn wedi derbyn y cyfryw orchym­myn, a'u bwriodd hwy i'r carchar nesaf i mewn, ac a wnaeth eu traed hwy yn siccr yn y cyffion.

25 Ac ar hanner nôs, Paul a Silas oedd yn gweddio, ac yn canuHymn. mawl i Dduw, a'r car­charorion a'u clywsant hwy.

26 Ac yn ddisymmwth y bu daiar-gryn mawr, hyd oni siglwyd seiliau y carchar: ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion.

27 A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar, a chanfod drysau y carchar yn agored, efe a dynnodd ei gleddyf, ac a amcanodd ei ladd ei hûn; gan dybied ffoi o'r ca [...]charorion ym­maith.

28 Eithr Paul a lefodd â llef vchel gan ddy­wedyd, na wna i ti dy hûn ddim niwed; canys yr ydym ni ymma oll.

29 Ac wedi galw am oleu, efe a ruthrodd i mewn, ac yn ddychrynnedic ef a syrthiodd i lawr ger bron Paul a Silas,

30 Ac a'u dug hwynt allan, ac a ddywe­dodd, O feistred, beth sydd raid i mi ei wneu­thur, fel y byddwyf gadwedig?

31 A hwy a ddywedasant, Crêd yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu.

32 A hwy a draethasant iddo air yr Ar­glwydd, ac i bawb oedd yn ei dŷ ef.

33 Ac efe a'u cymmerth hwy yr awr hon­no o'r nôs, ac a olchodd eu briwiau, ac efe a fed y ddiwyd, a'r eiddo oil, yn y man.

34 Ac wedi iddo eu dwyn hwynt i'w dŷ, efe a osododd fwyd ger eu bron hwy, ac a fu lawen, gan gredu i Dduw, efe a'i holl deulu.

35 A phan aeth hi yn ddydd, y swyddogion [Page] a anfonasant y ceisiaid, gan ddywedyd, gollwng ymmaith y dynion hynny.

36 A cheidwad y carchar a fynegodd y geiriau hyn wrth Paul, Y Swyddogion a an­fonasant i'ch gollwng chwi ymmaith, yn awr gan hynny cerddwch ymmaith: ewch mewn heddwch.

37 Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, wedi iddynt ein curo yn gyhoedd heb ein barnu, a ninnau yn Rhufein-wŷr, hwy a'n bwriasant ni i garchar, ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? Nid felly: ond deuant hwy eu hunain, a dygant ni allan.

38 A'r ceisiaid a fynegasant y geiriau hyn i'r Swyddogion. A hwy a ofnasant, pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt.

39 A hwy a ddaethant ac a attolygasant ar­nynt, ac a'i dygasant allan, ac a ddeisyfiasant arnynt fyned allan o'r ddinas.

40 Ac wedi myned allan o'r carchar, hwy aAdn. 14. aethant i mewn at Lydia; ac wedi gweled y brodyr, hwy a'u cyssurasant, ac a ymadaw­sant.

PEN. XVII.

1 Paul yn pregethu yn Thessalonica: 4 lle y mae rhai yn credu, ac eraill yn ei erlid ef. 10 Ei anfon ef i Beræa, ac yntef yn pregethu yno. 13 Ac wedi ei erlid yn Thessalonica, 15 yn dyfod i Athen, ac yno yn ymresymmu, ac yn pregethu iddynt hwy y Duw byw, yr hwn nid adwaenent: 34 ac wrth hynny bagad yn troi at Grist.

GWedi iddynt dramwy drwy Amphipolis, ac Apollonia, hwy a ddaethant i Thessa­lonica, lle yr oedd Synagog i'r Iddewon.

2 A Phaul, yn ôl ei arfer, a ae [...]h i mewn attynt, a thros dri Sabbath a ymresymmodd â hwynt, allan o'r Scrythyrau,

3 Gan egluro, a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw: ac mai hwn yw y Crist, Iesu, yr hwn yr wyfi yn ei bregethu i chwi.

4 A rhai o honynt a gredasant, ac a ymwas­casant â Phaul a Silas, ac o'r Groeg-wŷr crefy­ddol lliaws mawr, ac o'r gwragedd pennaf nid ychydig.

5 Eithr yr Iddewon, y rhai oedd heb gredu, gan genfigennu, a gymmerasant attynt ryw ddynion drwg o gyrwydriaid; ac wedi casclu tyrfa, hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas, ac a osodasant ar dŷ Jason, ac a geisia [...]ant eu dwyn hwynt allan at y bobl.

6 A phan na chawsant hwynt, hwy a lusca­sant Jason, a rhai o'r brodyr, at bennaethiaid y ddinas, gan lefain, Y rhai sydd yn aflon­yddu y bŷd, y rhai hynny a ddaethant ym­ma hefyd;

7 Y rhai a dderbyniodd Jason, ac y mae y rhai hyn oll yn gwneuthur yn erbyn ordeinia­dau Cæsar, gan ddywedyd fod brenin arall, sef Iesu.

8 A hwy a gyffroesant y dyrfa, a llywo­draeth-wŷr y ddinas hefyd, wrth glywed y pethau hyn.

9 Ac wedi iddyntDder­byn. gaelB [...]d­lon­rwydd. siccrwydd gan Jason a'r llaill, hwy a'u gollyngasant hwynt ymmaith.

10 A'r brodyr yn ebrwydd o hŷd nôs, a anfonasant Paul a Silas i Beræa: y rhai wedi eu dyfod yno, a aethant i Synagog yr Iddewon.

11 Y rhai hyn oedd foneddigeiddiach nâ'r rhai oedd yn Thessalonica, y rhai a dderby­niasant y gair gyd â phôb parodrwydd meddwl, gan chwilio beunydd yr Scrythyrau, a oedd y pethau hyn felly.

12 Felly llawer o honynt a gredasant, ac o'r Groegesau parchedig, ac o wŷr nid ychydig.

13 A phan wybu yr Iddewon o Thessalonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Be­ræa hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi y dyrfa.

14 Ac yna yn ebrwydd, y brodyr a an­fonasant Paul ymmaith, i fyned megis i'r môr, ond Silas a Thimotheus a arhosasant yno.

15 A chyfarwydd-wyr Paul a'i dygasant ef hyd Athen: ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus, ar iddynt ddyfod atto ar ffrwst, hwy a aethant ymmaith.

16 A thra ydoedd Paul yn aros am danynt yn Athen, ei yspryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth weled y ddinasYn llawn eulynnod. wedi ymroi i eulyn­nod.

17 O herwydd hynny yr ymresymmodd efe yn y Synagog â'r Jddewon, ac â'r rhai crefy­ddol, ac yn y farchnad beunydd, â'r rhai a gyfarfyddent ag ef.

18 A rhai o'r Philosophyddion, o'r Epicu­riaid, ac o'r Stoiciaid, a ymddadleuasant ag efe; a rhai a ddywedasant beth a fynnei yHau-wr geiriau. siarad­wr hwn ei ddywedyd? a rhai, tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr, am ei fôd yn pregethu yr Iesu, a'r adgyfodiad, iddynt.

19 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i dygasant iHeol Fawrth, neu, Mars. Y llys vchaf yn Athen ydoedd. Areopagus, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth yw y ddysc newydd hon, a draethir gennit?

20 Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i'n clustiau ni: am hynny ni a fynnem wybod beth a allei y pethau hyn fod.

21 (A'r holl Atheniaid, a'r dieithriaid, y rhai oedd yn ymdeithio yno, nid oeddynt yn cymmeryd hamdden i ddim arall, ond i ddy­wedyd, neu i glywed rhyw newydd.)

22 Yna y safodd Paul ynghanol Areopagus, ac a ddywedodd, ha-wŷr Atheniaid, mi a'ch gwelaf chwi ym-mhob peth yn dra-choel­grefyddol.

23 Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych arNeu, eich du­wiau a addolwch, 2 Thes. 2.4. eich defosionau, mi a gefais allor, yn yr hon yr scrifennasid; I'R DVW NID AD­WAENIR. Yr hwn, gan hynny, yr ydych chwi heb ei adnabod, yn ei addoli, hwnnw yr wyfi yn ei fynegi i chwi.

24Pen. 7.48. Y Duw a wnaeth y bŷd, a phôb peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daiar, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo.

25 Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef,Psal. 50.8. fel pe bai arno eisieu dim, gan ei fôd efe yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll.

26 Ac efe a wnaeth o vn gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaiar, ac a bennodd yr amseroedd rhag-osodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt:

27 Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu am dano ef, a'i gael, er nad yw efe yn ddiau neppell oddiwrth bob vn o honom.

28 Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac yn bôd: megis y dywedodd rhai o'ch Poetau chwi eich hunain: canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.

29 Gan ein bod ni gan hynny, yn hilioga­eth Duw,Esai. 40.18. ni ddylem ni dybied fod y Duwdod [Page] yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd, a dychymmyg dŷn.

30 A Duw wedi esceuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorch­ymmyn i bôb dŷn, ym-mhob man, edifarhau:

31 O herwydd iddo osod diwrnod, yn yr hwn y barna efe y bŷd mewn cyfiawnder, drwy y gŵr a ordeiniodd efe, gan roddi ffydd i bawb, o herwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.

32 A phan glywfant sôn am adgyfodiad y meirw, rhai a watwarasant, a rhai a ddywe­dasant, ni a'th wrandawn drachefn am y peth hyn.

33 Ac felly Paul a aeth allan o'u plith hwynt.

34 Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho, ac a gredasant, ym-mhlith y rhai yr oedd Dionysius Areopagita, a gwraig a'i henw Damaris, ac eraill gyd â hwynt.

PEN. XVIII.

3 Paul yn gweithio â'i ddwylaw, ac yn pre­gethu yn Corinth i'r Cenhedloedd. 9 Yr Ar­glwydd yn ei gyssuro ef trwy weledigaeth. 12 Achwyn arno ef ger bron Galio y rhaglaw: yntef yn cael ei ollwng ymaith: 18 ac wedi hynny yn tramwy o ddinas i ddinas, ac yn nerthu y discyblion. 24 Apollos wedi ei ddys­cu yn fanylach gan Acuila a Phriscilla, 28 yn pregethu Christ, gyda nerth mawr.

YN ôl y pethau hyn, Paul a ymadawodd ag Athen, ac a ddaeth i Corinth.

2 Ac wedi iddo gael rhyw Iddew ai enwRhuf. 10.3. Acuila, vn o Pontus o genedl, wedi dyfod yn hwyr o'r Ital, a'i wraig Priscilla, (am orch­ymmyn o Claudius i'r Iddewon oll fyned allan o Rufain) efe a ddaeth attynt.

3 Ac o herwydd ei fod o'r vn gelfyddyd, efe a arhoes gyd â hwynt, ac a weithiodd (canys gwneuthur-wŷr pebyll oeddynt wrth eu celfyddyd)

4 Ac efe a ymresymmodd yn y Synagog bob Sabbath,Ber­swad iedd. ac a gynghorodd yr Iddewon, a'r Groegiaid.

5 A phan ddaeth Silas a Thimotheus o Macedonia, bu gyfyng ar Paul yn yr Yspryd, ac efe a dystiolaethodd i'r Iddewon, mai Iesu oedd Christ.

6 A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu,Matth. 10.14. efe a escydwodd ei ddillad, ac a ddywedodd wrthynt; Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain, glân ydwyf fi; o hyn allan mi âf at y cenhedloedd.

7 Ac wedi myned oddi yno, efe a ddaeth i dŷ vn a'i enw Justus, vn oedd yn addoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â'r Synagog.

81 Cor. 1.14. A Chrispus yr Arch-synagogydd a gre­dodd yn yr Arglwydd, a'i holl dŷ: a llawer o'r Corinthiaid wrth wrando, a gredasant, ac a fedyddiwyd.

9 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Paul trwy weledigaeth liw nôs, Nac ofna, eithr lle­fara, ac na thaw.

10 Canys yr wyfi gyd â thi, ac ni esyd neb arnat, i wneuthur niwed i ti: o herwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon.

11 Ac efe aGr. ei­steddodd. arhoes yno flwyddyn a chwe­mis, yn dyscu gair Duw yn eu plith hwynt.

12 A phan oedd Gal-lio yn rhaglaw yn Achaia, cyfododd yr Iddewon yn vn-fryd yn erbyn Paul, ac a'i dygasant ef i'r frawdle,

13 Gan ddywedyd, Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y Ddeddf.

14 Ac fel yr oedd Paul yn amcanu agoryd ei enau, dywedodd Gal-lio wrth yr Iddewon; Pe buasei gam, neu ddrwg weithred, ô Iddew­on, wrth reswm myfi a gyd-ddygaswn â chwi:

15 Eithr os y cwestiwn sydd am ymadrodd, ac enwau, a'r ddeddf sydd yn eich plith chwi, edrychwch eich hunain, canys ni fyddafi farn­wr am y pethau hyn.

16 Ac efe a'u gyrrodd hwynt oddiwrth y frawdle.

17 A'r holl Roeg-wŷr a gymmerasant Sost­henes yr Arch-synagogydd, ac a'i curasant o flaen y frawdle, ac nid oedd Gal-lio yn gofalu am ddim o'r pethau hynny.

18 Eithr Paul wedi aros etto ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i'r brodyr, ac a ford­wyodd ymmaith i Syria, a chyd ag ef Priscilla ac Acuila, gwedi iddo gneifio ei ben yn Cen­chrea, canys yr oedd arno adduned.

19 Ac efe a ddaeth i Ephesus, ac a'u ga­dawodd hwynt yno, eithr efe a aeth i'r Syna­gog, ac a ymresymmodd â'r Iddewon.

20 A phan ddymunasant arno aros gyd â hwynt dros amser hwy, ni chaniattâodd efe:

21 Eithr efe a ganodd yn iach iddynt, gan ddywedyd, Y mae yn anghenrhaid i mi gadw yr wŷl sy'n dyfod yn Jerusalem; ond1 Cor. 4.19. Iac. 4.15. os myn Duw, mi a ddeuaf yn fy ôl attochwi drachefn: ac efe a aeth ymmaith o Ephesus.

22 Ac wedi iddo ddyfod i wared i Cæsarea, efe a aeth i fynu, ac a gyfarchodd yr Eglwys, ac a ddaeth i wared i Antiochia.

23 Ac wedi iddo dreulio talm o amser, efe a aeth ymmaith gan dramwy trwy wlâd Ga­latia, a Phrygia, mewn trefn, a chadarnhau yr holl ddiscyblion.

241 Cor. 1.12. Eithr rhyw Iddew, a'i enw Apollos, Alexandriad o genedl, gŵr ymadroddus, ca­darn yn yr Scrythyrau, a ddaeth i Ephesus.

25 Hwn oedd wedi dechreu dyscu iddo ffordd yr Arglwydd, ac efe yn wresog yn yr Yspryd, a lefarodd, ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y pethau a berthynent i'r Arglwydd, heb ddeall ond bedydd Ioan yn vnig.

26 A hwn a ddechreuodd lefaru yn hŷ yn y Synagog: a phan glybu Acuila a Phriscilla, hwy a'i cymmerasant ef attynt, ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach.

27 A phan oedd efe yn ewyllysio myned i Achaia, y brodyr gan annog, a scrifennasant at y discyblion i'w dderbyn ef. Yr hwn wedi ei ddyfod, a gynnorthwyodd lawer ar y rhai a gredasent trwy râs.

28 Canys efe a orchfygodd yr Iddewon yn egniol, ar gyhoedd, gan ddangos trwy yr Scry­thyrau mai Iesu yw Christ.

PEN. XIX.

6 Rhoddi 'r Yspryd glân trwy ddwylaw Paul. 9 Yr Iddewon yn cablu ei athrawiaeth ef, yr hon a gadarnheir trwy wrthiau. 13 Y Con­surwyr Iddewaidd 16 yn cael eu curo gan y cythrael. 19 Llosci y llyfrau consurio. 24 De­metrius, o chwant elw yn codi terfysc mawr yn erbyn Paul: 35 ac yscolhaig y ddinas yn llonyddu 'r derfysc.

A Digwyddodd tra fu Apollos yn Corinth, wedi i Paul drammwy trwy y parthau vchaf, ddyfod o honaw ef i Ephesus, ac wedi iddo gael rhyw ddiscyblion,

2 Efe a ddywedodd wrthynt, a dderbynia­soch? chwi yr Yspryd glân, er pan gredasoch? [Page] A hwy a ddywedasant wrtho, Ni chawsom ni gymmaint a chlywed a oes Yspryd glân.

3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba beth gan bynny y bedyddiwyd chwi? hwythau a ddywedasant, I fedydd Ioan.

4Matth. 3.11. A dywedodd Paul, Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywe­dyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl ef, sef ynGhrist Iesu.

5 A phan glywsant hwy hyn, hwy a fe­dyddiwyd yn enw yr Arglwydd Iesu.

6 Ac wedi i Paul ddodi ei ddwylaw arnynt, yr Yspryd glân a ddaeth arnynt, a hwy a drae­thasant â thafodau, ac a brophwydasant.

7 A'r gwŷr oll oeddynt ynghylch deuddec.

8 Ac efe a aeth i mewn i'r Synagog, ac a lefarodd yn hŷ dros dri mis, gan ymresymmu a chynghori y pethau a berthynent i deyrnas Dduw.

9 Eithr pan oedd rhai wedi caledu, ac heb gredu, gan ddywedyd yn ddrwg am y ffordd honno, ger bron y lliaws, efe a dynnodd ym­maith oddi wrthynt, ac a nailltuodd y discyb­lion, gan ymresymmu beunydd yn yscol vn Tyrannus.

10 A hyn a fu dros yspaid dwy flynedd, hyd oni ddarfu i bawb a oedd yn trigo yn Asia, yn Iddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd Iesu.

11 A gwyrthiau rhagorol a wnaeth Duw drwy ddwylo Paul;

12 Hyd oni ddygid at y cleifion oddi wrth ei gorph ef, napcynnau neuCwrsiau. foledau, a'r cle­fydau a ymadawei â hwynt, a'r ysprydion drwg a aent allan o honynt.

13 Yna rhai o'r Iddewon cyrwydraidd, y rhai oedd gonsur-wŷr, a gymmerasant arnynt henwi vwch ben y rhai oedd ac ysprydion drwg ynddynt, enw 'r Arglwydd Iesu, gan ddy­wedyd, Yr ydym ni yn eich tynghedu chwi trwy yr Iesu, yr hwn y mae Paul yn ei bre­gethu.

14 Ac yr oedd rhyw saith o feibion i Scefa, Iddew ac arch-offeiriad, y rhai oeddyn gwneu­thur hyn.

15 A'r yspryd drwg a attebodd ac a ddy­wedodd, Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaen, eithr pwy ydych chwi?

16 A'r dŷn, yr hwn yr oedd yr yspryd drwg ynddo, a ruthrodd arnynt, ac a'uMei­strolodd. gorchfygodd, ac a fu drwm yn eu herbyn, hyd oni ffoesant hwy allan o'r tŷ hwnnw, yn noethion, ac yn archolledig.

17 A hyn a fu hyspys gan yr holl Iddewon a'r Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn presswylio yn Ephesus, ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwyd Iesu a fawrygwyd.

18 A llawer o'r rhai a gredasent a ddae­thant, ac a gyffessasant, ac a fynegasant eu gweithredoedd.

19 Llawer hefyd o'r rhai a fuasei yn gwneuthurManyl­waith. rhodreswaith, a ddygasant eu llyfrau ynghŷd, ac a'u lloscasant yngwydd pawb, a hwy a fwriasant eu gwerth hwy, ac a'u cawsant yn ddengmil a deugain o ddarnau arian.

20 Mor gadarn y cynnyddodd gair yr Ar­glwydd, ac y cryfhaodd.

21 A phan gyflawnwyd y pethau hyn, ar­faethodd Paul yn yr Yspryd, gwediiddo dram­mwy trwy Macedonia ac Achaia, fyned i Je­rusalem, gan ddywedyd, gwedi i mi fôd yno, rhaid i mi weled Rhufain hefyd.

22 Ac wedi anfon i Macedonia ddau o'r rhai oedd yn gweini iddo, sef Timotheus ac Erastus, efe ei hun a arhosodd dros amser yn Asia.

23 A bu ar yr amser hwnnw drallod nid bychan ynghylch y ffordd honno.

24 Canys rhyw vn a'i enw Demetrius, gôf arian, yn gwneuthur temlau arian i Ddiana, oedd yn peri elw nid bychan i'r crefftwŷr.

25 Y rhai a alwodd efe ynghyd â gweith­wŷr y cyfryw bethau hefyd, ac a ddywedodd, Ha-wŷr, chwi a wyddoch mai oddi wrth yr elw hwn y mae ein golud ni.

26 Chwi a welwch hefyd ac a glywch, nid yn vnig yn Ephesus, eithr agos tros Asia oll, ddarfod i'r Paul ymma berswadio a throi llaw­er o bobl ymmaith, wrth ddywedyd nad ydyw dduwiau y rhai a wnair â dwylo.

27 Ac nid yw yn vnig yn enbyd i ni ddy­fod y rhan hon i ddirmyg, eithr hefyd bod cyfrif Teml y dduwies fawr Diana yn ddiddim, a bôd hefyd ddestrywio ei mawrhydi hi, yr hon y mae Asia oll, a'r byd yn ei haddoli.

28 A phan glywsant, hwy a lanwyd o ddi­gofaint, ac a lefasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana yr Ephesiaid.

29 A llanwyd yr holl ddinas o gythryfwl, a hwy a ruthrasant yn vn-fryd i'rTheate­golygfa. orsedd, gwedi cippio Gaius ac Aristarchus o Macedonia, cydymdeithion Paul.

30 A phan oedd Paul yn ewyllysio myned i mewn i blith y bobl, ni adawodd y discybl­ion iddo.

31 Rhai hefyd o bennaethiaid Asia, y rhai oedd gyfeillion iddo, a yrrasant atto i ddeisyf arno, nad ymroddei efe i fyned i'r orsedd.

32 A rhai a lefasant vn peth, ac eraill beth arall. Canys y gynnulleidfa oedd yn gymmyfg: a'r rhan fwyaf ni wyddent o herwydd pa beth y daethent ynghŷd.

33 A hwy a dynnasant Alexander allan o'r dyrfa, a'r Iddewon yn ei yrru ef ym mlaen. Ac Alexander a amneidiodd â'i law am osteg, ac a fynnasei ei amddiffyn ei hun wrth y bobl.

34 Eithr pan ŵybuant mai Iddew oedd efe, pawb ag vn llef a lefasant megis dros ddwy awr, Mawr yw Diana yr Ephesiaid.

35 Ac wedi i yscolhaig y ddinas, lonyddu y bobl, efe a ddywedodd, Ha-wŷr Ephesiaid, pa ddŷn sydd ni's gŵyr fod dinas yr Ephsiaid ynYn geid­wad Teml. addoli y dduwies fawr Diana, a'r ddelw a ddisgynnodd oddi wrth Jupiter?

36 A chan fod y pethau hyn heb allu dy­wedyd i'w herbyn, rhaid i chwi fod yn llon­ydd, ac na wneloch ddim mewn byr-bwyll.

37 Canys dygasoch ymma y gwŷr hyn, y rhai nid ydynt, nac yn yspeilwŷr temlau, nac yn cablu eich duwies chwi.

38 Od oes, gan hynny, gan Ddemetrius a'r crefftwŷr sy gyd ag ef, vn hawl yn erbyn nêb, y mae cyfraith i'w chael, ac y mae rhaglawiaid, rhodded pawb yn erbyn ei gilydd.

39 Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill, mewn cynnulleidfa gyfraithlawn y terfynir hynny.

40 O herwydd enbyd yw rhag achwyn ar­nom am y derfysc heddyw, gan nad oes vn achos, trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o'r ymgyrch hwn.

41 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a oll­yngodd y gynnulleidfa ymmaith.

PEN. XX.

1 Paul yn myned i Macedonia, 7 yn gwasa­naethu swpper yr Arglwydd, ac yn pregethu. 9 Eutychus wedi cwympo i lawr yn farw, yn cael ei godi i fynu yn fyw. 17 Paul ym Miletus yn galw yr Henuriaid ynghyd, ac yn mynegi iddynt beth a ddigwyddai iddo, 28 yn gorchymmyn praidd Duw iddynt, 29 yn eu rhybuddio hwynt am y gau athra­won, 36 yn gweddio gydd hwynt, ac yn myned ymaith.

AC ar ôl gostegu y cythryfwl, Paul wedi ga­lw y discyblion atto, a'u cofleidio, a yma­dawodd i fyned i Macedonia.

2 Ac wedi iddo fyned tros y parthau hynny, a'i cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe a ddaeth i dîr Groeg:

3 Ac wedi aros dri-mis, a gwneuthur o'r Iddewon gynllwyn iddo, fel yr oedd ar fedr morio i Syria, efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Macedonia.

4 A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea, ac o'r Thessaloniaid Aristar­chus, a Secundus, a Gaius o Derbe, a Thimo­theus, ac o'r Asiaid Tychicus, a Throphimus.

5 Y rhai hyn a aethant o'r blaen, ac a arho­sasant am danom yn Troas.

6 A ninnau a fordwyasom ymmaith oddi wrth Philippi, yn ôl dyddiau y bara croyw, ac a ddaethom attynt hwy i Troas mewn pum nhiwrnod, lle yr arhosasom saith niwr­nod.

7 Ac ar y dydd cyntaf o'rSabba­thau. wythnos, wedi i'r discyblion ddyfod ynghydPen. 2.46. i dorri bara, Paul aBregeth­odd idd­ynt. ymresymmodd â hwynt, ar fedr myned ymmaith drannoeth, ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd hanner nôs.

8 Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ymgasclu.

9 A rhyw ŵr ieuangc, a'i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr, ac efe a syrthiodd mewn trym-gwsg, tra yr oedd Paul yn ym­resymmu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsc, ac a gwympodd i lawr o'r drydedd lofft, ac a gyfodwyd i fynu yn farw.

10 A Phaul a aeth i wared, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio, a ddywedodd, Na chyffroed arnoch; canys y mae ei enaid yn­ddo ef.

11 Ac wedi iddo ddyfod i fynu, a thorri bara, a bwyta, ac ymddiddan llawer hyd tor­riad y dydd; felly efe a aeth ymmaith.

12 A hwy a ddygasant y llangc yn fyw, ac a gyssurwyd yn ddirfawr.

13 Ond nyni a aethom o'r blaen i'r llong, ac a hwyliasom i Assos, ar fedr oddi yno dder­byn Paul: canys felly yr oedd efe wedi or­deinio, ar fedr myned ei hun ar ei draed.

14 A phan gyfarfu ef â ni yn Assos, nyni a'i derbyniasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene.

15 A morio a wnaethom oddi yno, a dy­fod trannoeth gyforbyn â Chios, a thradwy y tiriasom yn Samos, ac a arhosasom yn Trogil­ium, a'r ail dydd y daethom i Miletus.

16 Oblegid Paul a roddasei ei fryd ar hwylio heibio i Ephesus, fel na byddei iddo dreulio amser yn Asia, canys bryssio yr oedd, os bai bossibl iddo, i fod yn Jerusalem er­byn dydd yPente­cost. Sulgwyn.

17 Ac o Miletas efe a anfonodd i Ephesus, ac a alwodd atto Henuriaid yr Eglwys.

18 A phan ddaethant atto, efe a ddywe­dodd wrthynt, Chwi a ŵyddoch er y dydd cyntaf y daethym i Asia, pa fodd y bum i gyd â chwi dros yr holl amser,

19 Yn gwasanaethu yr Arglwydd gyd â phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau, a phrofedigaethau; y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon:

20 Y modd nad atteliais ddim o'r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi, a'ch dyscu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ,

21 Gan dystiolaethu i'r Iddewon, ac i'r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tu ag at Dduw, â'r ffydd sydd tu ag at ein Harglwydd Iesu Grist.

22 Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr yspryd yn myned i Jerusalem, heb wybod y pethau a ddigwydd i mi yno:

23 Eithr bod yr Yspryd glân yn tystio i mi ym-mhob dinas, gan ddywedyd, fod rhwymau a blinderau yn fy aros.

24 Ond nid wyfi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennif fy einioes fy hun, os gallaf orphen fy ngyrfa trwy lawen­ydd, a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu Efengyl grâs Duw.

25 Ac yr awron, wele, mi a wn na chewch chwi oll (ymmysc y rhai y bum i yn tram­mwy yn pregethu teyrnas Dduw) weled fy wyneb i mwyach.

26 O herwydd pa ham, yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddyw, fy môd i yn lân oddi wrth waed pawb oll.

27 Canys nid ymatteliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw.

28 Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y go­sododd yr Yspryd glân chwi yn olygwyr, i fugeilio Eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed.

29 Canys myfi a wn hyn, y daw yn ôl fy ymadawiad i, fleiddiauTrym­mion. blinion i'ch plith, heb arbed y praidd.

30 Ac o honoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gwyr-draws, i dynnu discyblion ar eu hôl.

31 Am hynny gwiliwch a chofiwch, dros dair blynedd na pheidiais i nos a dydd â rhy­buddio pob vn o honoch â dagrau.

32 Ac yr awr hon frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymmyn i Dduw, ac i air ei râs ef, yr hwn a all adeiladu chwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth ym-mhlith yr holl rai a sanct­eiddiwyd.

33 Arian, neu aur, neu wisg neb, ni chwen­nychais.

34 Ie chwi a wyddoch eich hunain1 Cor. 4.12. 1 Thes. 2.9. 2 Thes. 3.8. ddar­fod i'r dwylo hyn wasanaethu i'm cyfraidiau i, ac i'r rhai oedd gyd â mi.

35 Mi a ddangosais i chwi bôb peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynnorth­wyo y gweiniaid, a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd o honaw ef, mai dedwydd yw rhoddi yn hytrach nâ derbyn.

36 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a roddodd ei liniau i lawr, ac a weddiodd gyd â hwynt oll.

37 Ac wylo yn dost a wnaeth pawb, a hwy a syrthiasant ar wddf Paul, ac a'i cusanasant ef,

38 Gan ofidio yn bennaf am y gair a ddy­wedasei [Page] efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy. A hwy a'i hebryngasant ef i'r llong.

PEN. XXI.

1 Paul yn gwrthod ei gynghori i beidio a my­ned i Jerusalem. 9 Merched Philip yn Bro­phwydesau. 15 Paul yn dyfod i Jerusalem: 27 lle y daliwyd ef, ac y bu mewn mawr berygl: 31 a'r pen-capten yn ei achub ef, ac yn rhoi cennad iddo i lefaru wrth ybobl.

A Digwyddodd wedi i ni osod allan, ac yma­del â hwynt, ddyfod o honom ag vniawn­gyrch i Coos, a thrannoeth i Rhodos, ac oddi yno i Patara.

2 A phan gawsom long yn hwylio trosodd i Phenice; ni a ddringasom iddi, ac a aethom ymmaith.

3 Ac wedi ymddangos o Cyprusi ni, ni a'i gadawsom hi ar y llaw asswy, ac a hwyliasom i Syria, ac a diriasom yn Tyrus; canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth.

4 Ac wedi i ni gael discyblion, nyni a ar­hofasom yno saith niwrnod, y rhai a ddyweda­sant i Paul, trwy yr Yspryd, nad elei i fynu i Jerusalem.

5 A phan ddarfu i ni orphen y dyddiau, ni a ymadawsom, ac a gychwymasom: a phawb ynghyd â'r gwragedd, a'r plant, a'n hebryngasant ni hyd allan o'r ddinas, ac wedi i ni ostwng ar ein gliniau ar y traeth, ni a we­ddiasom.

6 Ac wedi i ni ymgyfarch â'i gilydd, ni a ddringasom i'r llong, a hwy a ddychwelasant i'w cartref.

7 Ac wedi i ni orphen hwylio o Tyrus, ni a ddaethom i Ptolemais: ac wedi i nigyfarch y brodyr, ni a drigasom vn diwrnod gyd â hwynt.

8 A thrannoethPaul a'r rhai oedd gyd ag ef, Pen. 13.13. y rhai oedd ynghylch PaulGwedi myned allan nyni a ddae­thom i Cæsarea. a ymadawsant, ac a ddaethant i Caesa­rea. Ac wedi i ni fyned i mewn i dŷ Philip yr Efengylwr, (Pen. 6.5. yr hwn oedd vn o'r saith) ni a arhosasom gyd ag ef.

9 Ac i hwn yr oedd pedair merched, o forwynion, yn prophwydo.

10 A [...] [...]el yr oeddem yn aros yno ddyddiau lawer, daeth i wared o Judæa brophwyd â'i enw Agabus.

11 Ac wedi dyfod attom, a chymmeryd gwregys Paul, a rhwymo ei ddwylaw ef a'i draed, efe a ddywedodd, hyn a ddywed yr Ys­pryd glân, Y gŵr biau y gwregys hwn, a rwym yr Iddewon fel hyn yn Jerusalem, ac a'i tra­ddodant i ddwylo y Cenhedloedd.

12 A phan glywsom y pethau hyn, nyni a'r rhai oedd o'r fan honno hefyd, a ddeifyfiasom nad elei efe i fynu i Jerusalem.

13 Eithr Paul a attebodd, beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? ca­nys parod wyfi, nid i'm rhwymo yn vnig, ond i farw hefyd yn Jerusalem, er mwyn Enw yr Arglwydd Iesu.

14 A chan na ellid ei berswadio, ni a beid­iasom, gan ddywedyd; Ewyllys yr Arglwydd a wneler.

15 Hefyd, yn ôl y dyddiau hynny, ni a gymmerasom ein beichiau, ac a aethom i fynu i Jerusalem.

16 A rhai o'r discyblion o Cæsarea a ddaeth gyd â ni, gan ddwyn vn Mnason o Cyprus, hên ddiscybl, gyd â'r hwn y lletteuem.

17 Ac wedi ein dyfod i Jerusalem, y brodyr a'n derbyniasant yn llawen.

18 A'r dydd nesaf yr aeth Paul gyd â ni i mewn at Iaco; a'r holl Henuriaid a ddae­thant yno.

19 Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt, efe a fynegodd iddynt bôb yn vn ac vn, bôb peth a wnaethei Duw ym-mhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef.

20 A phan glywsant, hwy a ogoneddasant yr Arglwydd, ac a ddywedasant wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd o'r Iddewon y rhai a gredasant, ac y maent oll yn dwyn zêl i'r Ddeddf.

21 A hwy a glywsant am danat ti, dy fod ti yn dyscu yr Iddewon oll, y rhai sydd ym mysc y Cenhedloedd i ymwrthod â Moses, ac yn dywedyd, na ddylent hwy enwaedu ar eu plant, na rhodio yn ôl y defodau.

22 Pa beth gan hynny? nidAng­henrhaid yw dyfod. oes fodd na ddêl y lliaws ynghŷd: canys hwy a gânt glyw­ed dy ddyfod ti.

23 Gwna gan hynny yr hyn a ddywedwn wrthit, y mae gennym ni bedwar-gwyr a chanddynt adduned arnynt:

24 Cymmer y rhai hyn, a glanhaer di gyd â hwynt, a gwna draul arnynt, fel yrNum. 6.18. Pen. 18.18. eilliont eu pennau, ac y gŵypo pawb am y pethau a glywsant am danat ti, nad ydynt ddim, ond dy fod di dy hun hefyd yn rhodio, ac yn cadw y Ddeddf.

25 Eithr am y Cenhedloedd, y rhai a gre­dasant,Pen. 15.20. ni a scrifennasom, ac a farnasom na bo iddynt gadw dim o'r cyfryw beth, eithr iddynt ymgadw oddi wrth y pethau a aberth­wyd i eulynnod, a gwaed, a rhag peth tagedig, a rhag putteindra.

26 Yna Paul a gymmerth y gwŷr, a thran­noeth gwedi iddo ymlanhau gyd â hwynt, efe a aeth i mewn i'r Deml;Num. 6.13. gan yspysu cyflawni dyddian y glanhâd, hyd oni offrymmid offrwm dros bôb vn o honynt.

27 A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod, yr Iddewon oeddent o Asia, pan welsant ef yn y Deml, a derfyscasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylo arno,

28 Gan lefain, ha-wŷr Israeliaid, cynnorth­wywch, dymma 'r dŷn sydd yn dyscu pawb ym mhôb man yn erbyn y bobl, a'r gyfraith, a'r lle ymma, ac ym mhellach, y Groegiaid hefyd a ddûg efe i mewn i'r Deml, ac a ha­logodd y lle sanctaidd hwn.

29 Canys hwy a welsent o'r blaen Trophi­mus yr Ephesiad yn y ddinas gyd ag ef, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i'r Deml.

30 A chynnhyrfwyd y ddinas oll,A bu aruthr gan y bobl, ac wedi & [...]. a'r bobl a redodd ynghyd, ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a'i tynnasant ef allan o'r Deml; ac yn ebrwydd, caewyd y drysau.

31 Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at ben-capten y fyddin, fôd Jerusalem oll mewn terfysc.

32 Yr hwn allan o law a gymmerodd fil­wŷr, a chanwriaid, ac a redodd i wared at­tynt: hwythau, pan welsant y pen-capten a'r milwŷr, a beidiasant a churo Paul.

33 Yna y daeth y pen-capten yn nês, ac a'i daliodd ef, ac a archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn, ac a ymofynnodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethei?

34 Ac amryw rai a lefent amryw beth yn y dyrfa: ac am nas gallei wybod yspysrwydd, [Page] o herwydd y cythryfwl, efe a orchymynnodd ei ddwyn ef i'r c [...]tell.

35 A phan oedd efe ar y grisiau, fe a ddig­wyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwŷr, o achos trais y dyrfa.

36 Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn, gan lefain, Ymmaith ag ef.

37 A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i'r castell, efe a ddywedodd wrth y pen-capten, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthit? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg?

38Pen. [...].36. Ond tydi yw yr Aiphti-wr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn, a gyfodaist derfysc, ac a arweiniaist i'r anialwch bedair mîl o wŷr llofruddiog?

39 A Phaul a ddywedodd, gŵr ydwyfi vn wîr o Iddew, vn o Tharsus, dinesydd o ddi­nas nid anenwog, o Cilicia; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl.

40 Ac wedi iddo roi cennad iddo, Paul a safodd ar y grisiau, ac a amneidiodd â llaw ar y bobl; ac wedi gwneuthur distawrwydd mawr, efe a lefarodd wrthynt yn Hebræ-aec, gan ddywedyd,

PEN. XXII.

1 Paul yn mynegi yn helaeth y modd y troe­sid ef i'r ffydd, 17 ac y galwesid ef i fod yn Apostl. 22 Y bobl wrth glywed crybwyll am y Cenhedloedd, yn llefain yn ei erbyn ef: 24 Ac ynteu yn debyg i gael ei fflangellu, 25 ac etto yn diangc trwy ymhonni o ddinas­fraint Rufain.

HA-wŷr, frodyr a thadau, gwrandewch fy amddiffyn wrthych yr awr hon.

2 A phan glywsant mai yn Hebræ-aec yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell, ac efe a ddywedodd:

3Pen. 21.39. Gŵr wyfi yn wîr o Iddew, yr hwn a aned yn Tharsus yn Cilicia, ac wedi fy meith­rin yn y ddinas hon, wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau, yn dwyn zêl i Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddyw.

4Pen. 8.3. A mi a erlidiais y ffordd hon hyd angeu, gan rwymo a dodi yngharchar wŷr a gwragedd hefyd.

5 Megis ac y mae yr Arch-offeiriad yn dyst i mi, a'r holl henaduriaeth, gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr aethym i Ddamascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Jerusalem, iw cospi.

6 Eithr digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesau at Ddamascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymmwth, i fawr oleuni o'r nef ddiscleirio o'm hamgylch.

7 A mi a syrthiais ar y ddaiar, ac a glywais lais yn dywedyd wrthif; Saul, Saul, pa ham yr wyt yn fy erlid?

8 A minneu a attebais, Pwy wyt ti, ô Ar­glwydd? Yntef a ddywedodd wrthif, myfi yw Iesu o Nazareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.

9 Hefyd y rhai oedd gyd â myfi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant, ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthif.

10 Ac myfi a ddywedais; Beth a wnaf, ô Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd wrthif, Cyfod, a dôs i Ddamascus, ac yno y dywedir i ti bob peth a'r a ordeinwyd i ti eu gwneuthur.

11 A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw, a'r rhai oedd gyd â mi yn fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddae­thym i Ddamascus.

12 Ac vn Ananias, gŵr defosionol yn ôl y Ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll, a'r oeddynt yn presswylio yno,

13 A ddaeth attaf, ac a safodd ger llaw, ac a ddywedodd wrthif, Y brawd Saul, cym­mer dy olwg, ac mi a edrychais arno yn yr awr honno.

14 Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni a'th rhag-ordeiniodd di i ŵybod ei Ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef.

15 Canys ti a fyddi dŷst iddo wrth bôb dŷn, o'r pethau a welaist, ac a glywaist.

16 Ac yr awrhon,Beth yr wyt ti yn ei amca­nu? beth yr wyt ti yn ei aros? Cyfod, bedyddier di, a golch ymmaith dy bechodau, gan alw ar Enw yr Arglwydd.

17 A darfu wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerusalem, fel yr oeddwn yn gweddio yn y Deml, i mi syrthio mewn llewyg;

18 A'i weled ef yn dywedyd wrthif, Bry­sia, a dôs ar frŷs allan o Jerusalem; o herwydd ni dderbyniant dy destiolaeth am danaf fi.

19 A minneu a ddywedais, O Arglwydd, hwy a ŵyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym-mhob Synagog, y rhai a gredent ynot ti.

20Pen. 7.58. A phan dywalltwyd gwaed Stephan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll ger llaw, ac yn cydsynio i'w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef.

21 Ac efe a ddywedodd wrthif, Dôs ym­maith, canys mi a'th anfonaf ym-mhell at y Cenhedloedd.

22 A hwy a'i gwrandawsant ef hyd y gair hwn. A hwy a godasant eu llef, ac a ddywe­dasant, Ymmaith â'r cyfryw vn oddi ar y ddai­ar, canys nid cymmwys ei fod ef yn fyw.

23 Ac fel yr oeddynt yn llefain, ac yn bwrw eu dillad, ac yn taflu llwch i'r awyr,

24 Y pen-capten a orchymmynnodd ei ddwyn efe i'r castell, gan beri ei holi ef trwy fflangellau, fel y gallei wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly.

25 Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â charreiau, dywedodd Paul wrth y Canwriad, yr hwn oedd yn sefyll ger llaw, Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeiniad, ac heb ei gondemno hefyd?

26 A phan glybu y Canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i'r pen-capten, gan ddywedyd, Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur, canys Rhufeiniad yw y dŷn hwn.

27 A'r pen-capten a ddaeth ac a ddywe­dodd wrtho, dywed i mi, ai Rhufeiniad wyt ti: ac efe a ddywedodd, îe.

28 A'r pen-capten a attebodd, A swm mawr y cefais i y ddinas-fraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, A minnau a anwyd yn freiniol.

29 Yn ebrwydd gan hynny yr ymadaw­odd oddi wrtho y rhai oedd ar sedr ei holi ef. A'r pen-capten hefyd a ofnodd, pan ŵybu ei fod ef yn Rhufeiniad, ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef.

30 A thrannoeth, ac efe yn ewyllysio gwy­bod yspysrwydd am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iddewon, efe a'i gollyngodd ef o'r [Page] rhwymau, ac a archodd i'r Arch-offeiriaid a'u cyngor oll ddyfod yno, ac efe a ddug Paul i wared, ac a'i gosododd ger eu bron hwy.

FEN. XXIII.

1 Paul yn atteb trosto ei hun. 2 Ananias yn gorchymmyn ei daro ef. 7 Ymryson ymysc ei gy­huddwyr ef. 11 Duw yn ei gyssuro ef. 14 Yr Iddewon yn cynllwyn iddo: 20 a dangos hynny i'r pen-capten: 27 Yntef yn ei anfon ef at Phelix y Rhaglaw.

A Phaul yn edrych yn graff ar y Cynghor a ddywedodd, Ha-wŷr, frodyr, mi a wa­sanaethais Dduw mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd heddyw.

2 A'r Arch-offeiriad Ananias, a archodd i'r rhai oedd yn sefyll yn ei ymmyl, ei daro ef ar ei enau.

3 Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw a'th dery di bared wedi ei wyngalchu: canys a ydwyt ti yn eistedd i'm barnu i yn ôl y Ddeddf, a chan droseddu y Ddeddf yn peri fy nharo i?

4 A'r sefyll-wŷr a ddywedasant wrtho, A ddifenwi di Arch-offeiriad Duw?

5 A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr Arch-offeiriad oedd efe:Exod 22.28. canys scrifen­nedic yw, Na ddywaid yn ddrwg am bennaeth dy bobl.

6 A phan wybu Paul fod y naill ran o'r Saducæaid, a'r llall o'r Pharisæaid, efe a lefodd yn y Cyngor, Hawyr frodyr,Phil. 3.5. Pharisæad wyfi, mab i Pharisæad:Pen. 24.21. am obaith ac adgy­fodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i.

7 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, bu ymryson rhwng y Pharisæaid a'r Saducæaid; a rhann­wyd y lliaws.

8Matth. 22.23. Canys y Saducæaid yn wîr a ddywe­dant nad oes nac adgyfodiad, nac Angel, nac yspryd: eithr y Pharisæaid sydd yn addef pôb vn o'r ddau.

9 A bu llefain mawr, a'r Scrifennyddion o ran y Pharisæaid a godasant i fynu, ac a ymry­sonasant, gan ddywedyd; Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dŷn hwn; eithr os yspryd a lefarodd wrtho, neu Angel, nac ymry­sonwn â Duw.

10 Ac wedi cyfodi terfysc mawr, y pen­capten yn ofni rhac tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a archodd i'r mil-wŷr fyned i wared, a'i gipio ef o'i plith hwynt, a'i ddwyn i'r castell.

11 Yr ail nos, yr Arglwydd a safodd ger llaw iddo, ac a ddywedodd, Paul, cymmer gyssur: canys megis y tystiolaethaistam da­nafi yn Ierusalem, felly y mae yn rhaid i ti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.

12 A phan aeth hi yn ddydd; rhai o'r Iddewon, wedi llunio cyfarfod, a'i rhwymasant eu hunain â diofryd, gan ddywedyd, na fwytâ­ent, ac nad yfent, nes iddynt ladd Paul.

13 Ac yr oedd mwy nâ deugain, o'r rhai a wnaethant y cyngrair hwn.

14 A hwy a ddaethant at yr Arch-offeiriaid a'r Henuriaid, ac a ddywedasant, Ni a'n rhwymason ein hunain â diofryd, na arch­waethem ddim, hyd oni laddem Paul.

15 Yn awr gan hynny, yspyswch gyd â'r Cyngor i'r pen-capten, fel y dygo efe ef i wared y foru attoch chwi, fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylach ei hares ef, a ninnau cyn y delo efe yn agos, ydym barod iw ladd ef.

16 Eithr pan glyb [...] mab chwaer Paul y cynllwyn ymma; efe a aeth i mewn i'r castell, ac a fynegodd i Paul.

17 A Phaul a alwodd vn o'r Canwriaid atto, ac a ddywedodd; Dwg y gŵr ieuangc hwn at y pen-capten; canys y mae ganddo beth iw fynegi iddo.

18 Ac efe a'l cymmerth ef, ac a'i dug at y pen-capten, ac a ddywedodd; Paul y carcharor a'm galwodd i atto, ac a ddymunodd arnaf, ddwyn y gŵr ieuangc ymma attati, yr hwn sydd ganddo beth i'w ddywedyd wrthit.

19 A'r pen-capten a'l cymmerodd ef erbyn ei law, ac a aeth ag ef o'r nailldu, ac a ofynnodd, Beth yw yr hyn sydd gennit i'w fynegi i mi?

20 Ac efe a ddywedodd, Yr Iddewon a gyd-fwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i wared y foru i'r Cyngor, fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef.

21 Ond na chyttuna di â hwynt; canys y mae yn cynllwyn iddo mwy nâ deugein-ŵr o honynt, y rhai a roesant ddiofryd na bwyta nac yfed, nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod yn disgwil am addewid gennit ti.

22 Y pen-capten, gan hynny, a ollyngodd y gŵr ieuangc ymmaith, wedi gorchymyn iddoGwel na ddywe­dech i neb ddangos o honot y pethau hyn i mi. na ddywedei i neb, ddangos o hono y pethau hyn iddo ef.

23 Ac wedi galw atto ryw ddau Ganwriad, efe a ddywedodd, paratowch ddau cant o fil­wyr, i fyned hyd yn Cæsarea, a dêc a thrugain o wŷr meirch, a deu-cant o ffyn-wewyr, ar y drydedd awr o'r nôs.

24 A pharattowch yscrubliaid iddynt i osod Paul arnynt, i'w ddwyn ef yn ddiogel at Phae­lix y Rhaglaw.

25 Ac efe a scrifennodd lythyr yn cyn­nwys yr ystyriaeth ymma.

26 Claudius Lysias at yr ardderchoccaf Raglaw Phaelix, yn anfon annerch.

27 Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Idde­won, ac a fu agos a'i ladd ganddynt, ac a achubais i, gan ddyfod a llû arnynt, gwedi deall mai Rhufeiniad oedd.

28 A chan ewyllysio gwybod yr achos yr oeddynt yn achwyn arno, mi a'i dugym ef i wared i'w Cyngor hwynt.

29 Yr hwn y cefais fod yn achwyn arno am arholion o'u cyfraith hwy, heb fod vn cwyn arno yn haeddu angeu neu rwymau.

30 A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i'r gŵr, myfi a'i hanfonais ef allan o law attati: ac a rybuddiais y cyhudd­wyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef, ger dy fron di. Bydd iach.

31 Yna y milwŷr, megis y gorchymynnasid iddynt, a gymmerasant Paul, ac a'i dygasant o hyd nôs i Antipatris.

32 A thrannoeth, gan adel i'r gwyr meirch fyned gyd ag ef, hwy a ddychwelasant i'r castell.

33 Y rhai gwedi dyfod i Cæsarea, a rhoddi y llythyr at y Rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef.

34 Ac wedi i'r Rhaglaw ddarllen y llythr, ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe, a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd,

35 Mi a'th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchymynnodd ei gadw ef yn nadieu-dŷ Herod.

PEN. XXIV.

1 Paul wedi ei gyhuddo gan Tertulus yr araithiwr, 10 yn atteb tros ei fuchedd a'i [Page] athrawiaeth, 24 Yn pregethu Christ i'r Rhag­law a'i wraig. 26 Y Rhaglaw yn gobeithio cael brib, eithr yn ofer: 27 ac o'r diwedd wrth fyned allan o'i swydd yn gadel Paul yngharchar.

AC yn ôl pum nhiwrnod y daeth Ananias yr Arch-offeiriad i wared, a'r Henuriaid, ac vn Tertulus areithiwr, y rhai a ymddangosas­ant ger bron y Rhaglaw yn erbyn Paul.

2 Ac wedi ei alw ef ger bron, Tertulus a ddechreuodd ei gyhuddo ef, gan ddywedyd,

3 Gan ein bod ni yn cael trwot ti heddwch mawr, a bod pethau llwyddiannus i'r genedl hon trwy dy ragwelediad di, yr ydym ni yn gwbl, ac ym-mhôb man yn eu cydnabod, (o ardderchoccaf Phaelix) gyd â phob diolch.

4 Eithr, fel na rwystrwyf di ym-mhellach, yr ydwyf yn deisyf arnat, o'th hynawsedd, wrando arnom ar fyrr eiriau.

5 Oblegid ni a gawsom y gŵr hwn yn blâ, ac yn cyfodi terfysg ym-mysc yr holl Iddewon drwy y byd, ac yn ben ar sect y Nazareniaid:

6 Yr hwn a amcanodd halogi y Deml; yr hwn hefyd a ddaliasom ni, ac a fynnasem ei farnu yn ôl ein cyfraith ni.

7 Eithr Lysias y pen capten a ddaeth, a thrwy orthrech mawr a'i dug ef allan o'n dwylo ni:

8 Ac a archodd iw gyhudd-wŷr ddyfod ger dy fron di, gan yr hwn wrth ei holi, y gelli dy hun gael gwybodaeth o'r holl bethau am y rhai yr ydym ni yn achwyn arno.

9 A'r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddywedyd, fôd y pethau hyn felly.

10 A Phaul a attebodd, wedi i'r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd, Gan i mi ŵybod dy fod ti yn farn-ŵr i'r genedl hon, er ys llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cyssu­rus yn atteb trosof fy hûn.

11 Canys ti a elli wybod nad oes tros ddeuddec diwrnod er pan ddaethym i fynu i addoli yn Ierusalem:

12 Ac ni chawsant fi yn y Deml yn ym­ddadleu â neb, nac yn gwneuthur terfysc i'r bobl, nac yn y Synagogau, nac yn y ddinas.

13 Ac ni allant brofi y pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o'i plegid.

14 Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffessu i ti, mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn he­resi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau, gan gredu yr holl bethau sy scrifennedic yn y Ddeddf a'r Prophwydi,

15 A chennif obaith ar Dduw, yr hon y mae y rhai hyn eu hunain yn ei disgwil, y bydd adgyfodiad y meirw, i'r cyfiawnion, ac i'r anghyfiawnion.

16 Ac yn hyn yr ydwyfi fy hûn yn ymar­fer, i gael cydwybod ddirwystr tu ag at Dduw a dynion, yn wastadol.

17 Ac yn ôl llawer o flynyddoedd, y daethym i wneuthur elusenau i'm cenedl, ac offrymmau.

18Pen 21. 27. Ar hynny rhai o'r Iddewon o Asia am cawsant i wedi fy nglanhau yn y Deml, nid gyd â thorf na therfysc.

19 Y rhai a ddylasent fôd ger dy fron di ac achwyn, os oedd ganddynt ddim i'm herbyn.

20 Neu ddyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, tra fum i yn sefyll o flaen y Cyngor,

21 Oddieithr yr vn llef hon a lesais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith,Pen. 23.6. Am adgyfodiad y meirw i'm bernir heddyw gennych.

22 Pan glybu Phaelix y pethau hyn, efe a'u hoedodd hwynt, gan wybod yn yspysach y pethau a berthynent i'r ffordd hon, ac a ddywe­dodd, Pan ddêl Lysias y pen-capten i wared, mi a gâf wybod eich matterion chwi yn gwbl.

23 Ac efe a archodd i'r Canwriad gadw Paul, a chael o hono esmwythdra, ac na lesteiriei neb o'r eiddo ef iw wasanaethu, nac i ddyfod atto.

24 Ac yn ôl talm o ddyddiau, y daeth Phae­lix gyd â'i wraig Drusilla, yr hon ydoedd Iddewes, ac a yrrodd am Paul, ac a'i gwranda­wodd ef ynghylch y ffydd ynGhrist.

25 Ac fel yr oedd efe yn ymresymmu am gyfiawnder, a dirwest, a'r farn a fydd, Phaelix a ddychrynodd, ac a attebodd, dôs ymaith ar hyn o amser, a phan gaffwyfi amser cyfaddas, mi a alwaf amdanat.

26 A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul, er ei ollwng ef yn rhydd: o her­wydd pa ham efe a anfonodd am dano yn fynychach, ac a chwedleuodd ag ef.

27 Ac wedi cyflawni dwy flynedd, y daeth Portius Ffestus yn lle Phaelix. A Phaelix yn ewyllysio gwneuthur cymmwynas i'r Idde­won, a adawodd Paul yn rhwym.

PEN. XXV.

1 Yr Iddewon yn achwyn ar Paul gar bron Ffestus: 8 ac ynteu yn atteb trosto ei hûn, 11 ac yn appelio at Cæsar: 14 Ac wedi hyn­ny Ffestus yn yspyssu ei achos ef i frenin Agrippa, 23 a'i ddwyn ef gar bron: 25 Ffe­stus yn ei ddiheuro ef, na wnaethai efe ddim a haeddai farwolaeth.

FFestus, gan hynny, wedi dyfod i'r dalaith, yn ôl tri diwrnod a aeth i fynu i Ierusalem o Cæsarea.

2 Yna yrYspys­sodd. ymddangosodd yr Arch-offeir­iad a phennaethiaid yr Iddewon, ger ei fron ef, yn erbyn Paul, ac a ymbiliasant ag ef,

3 Gan geisio ffafor yn ei erbyn ef, fel y cyrchei efe ef i Ierusalem, gan wneuthur cynllwyn i'w ladd ef ar y ffordd.

4 A Ffestus a attebodd, y cedwid Paul yn Cæsarea, ac yr ai efe ei hun yno ar fyrder.

5 Y rhai gan hynny, a allant yn eich mysc, eb efe, deuant i wared gyd â ni, ac od oes dim drwg yn y gŵr hwn, cyhuddant ef.

6 A phryd na thrigasei efe gyd â hwy drosWyth neu ddeg. ddêng nhiwrnod, efe a aeth i wared i Cæsarea, a thannoeth efe a eisteddodd yn yr orsedd, ac a archodd ddwyn Paul atto.

7 Ac wedi ei ddyfod, yr Iddewon a ddaethent o Ierusalem i wared, a safasant o'i amgylch, ac a ddygasant lawer o achwynion trymion yn erbyn Paul, y rhai ni's gallent eu profi.

8 Ac yntef yn ei amddiffyn ei hûn, Ni phe­chais i ddim, nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon, nac yn erbyn y Deml, nac yn erbyn Cæsar.

9 Eithr Ffestus yn chwennych dangos ffafor i'r Iddewon, a attebodd Paul, ac a ddywedodd, A fynni di fyned i fynu i Ierusalem i'th farnu yno ger fy mron i, am y pethau hyn?

10 A Phaul a ddywedodd, O flaen gor­sedd-faingc Cæsar yr wyfi yn sefyll, lle y mae yn rhaid fy marnu; ni wnaethum i ddim cam â'r Iddewon, megis y gwyddost ti yn dda.

11 Canys os ydwyf yn gwneuthur cam, ac os gwneuthym ddim yn haeddu angeu; nid wyf yn gwithod marw: eithr onid oes dim [Page] o'r pethau y mae y rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni ddichon neb fy rhoddi iddynt. Appelio yr wyf at Cæsar.

12 Yna Ffestus, wedi ymddiddan â'r Cyng­or, a attebodd, A appeliaist di at Cæsar? at Cæsar y cei di fyned.

13 Ac wedi talm o ddyddiau, Agrippa y brenin, a Bernice, a ddaethant i Cæsarea i gyfarch Ffestus.

14 Ac wedi iddynt aros yno lawer o ddy­ddiau, Ffestus a fynegodd i'r brenin hanes Paul, gan ddywedyd; Y mae ymma ryw ŵr wedi ei adel gan Phaelix yngharchar:

15 Ynghylch yr hwn, pan oeddwn yn Ieru­salem, yrNeu, yspysodd. ymddangosodd Arch-offeiriaid a henuriaid yr Iddewon ger bron, gan ddeisyf cael barn yn ei erbyn ef.

16 I'r rhai yr attebais, nad oedd arfer y Rhufein-wŷr, roddi neb rhyw ddŷn iw ddi­fetha, nes cael o'r cyhuddol ei gyhudd-wŷr yn ei wyneb, a chael lle iw amddeffyn ei hûn rhag y cŵyn.

17 Wedi eu dyfod hwy ymma gan hynny, heb wneuthur dim oed, trannoeth mi a eiste­ddais ar yr orsedd-faingc, ac a orchymmynnais ddwyn y gwr ger bron.

18 Am yr hwn ni ddûg y cyhydd-wŷr i fynu ddim achwyn, o'r pethau yr oeddwn i yn tybieid.

19 Ond yr oedd ganddynt yn ei erbyn ef ryw ymofynion ynghylch eu coel-grefydd eu hunain, ac ynghylch vn Iesu a fuasei farw, yr hwn a daerei Paul ei fod yn fyw.

20 A m [...] ynPetruso ynghylch y cyfryw gwestion. anhyspys i ymofyn am hyn, a ddy [...] a fynnei efe fyned i Ierusa­lem, a'i fa [...] [...] am y pethau hyn.

21 Eith [...] [...]edi i Paul appelio i'w gadw iNeu, farn. wybyddiaeth Augustus, mi a erchais ei gadw ef hyd oni allwn ei anfon ef at Cæsar.

22 Yna Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, minneu a ewyllysiwn glywed y dŷn. Yntef a ddywedodd, Ti a gei ei glywed ef y foru.

23 Trannoeth, gan hynny, wedi dyfod Agrippa, a Bernice, a rhwysc fawr, a myned i mewn i'r orsedd, a'r pen-capteniaid, a phende­figion y ddinas, wrth orchymmyn Ffestus fe a ddugpwyd Paul ger bron.

24 A Ffestus a ddywedodd; O frenin Agrippa, a chwi wŷr oll sydd gyd â ni yn bresennol, chwi a welwch y dŷn hwn, o blegit pa vn y galwodd holl liaws yr Iddewon arnafi, yn Ierusalem ac ymma, gan Iefain, na ddylei efe fyw yn hwy.

25 Eithr pan ddeellais na wnaethei efe ddim yn haeddu angeu, ac yntef ei hun wedi appelio at Augustus, mi a fernais ei ddanfon ef.

26 Am yr hwn nid oes gennif ddim siccr­wydd iw scrifennu at fy Arglwydd; o her­wydd pa ham, mi a'i dugym ef ger eich bron chwi, ac yn enwedic ger dy fron di, ô frenin Agrippa, fel wedi ei holi ef, y caffwyf ryw beth i'w scrifennu.

27 Canys allan o reswm y gwelaf fi anfon carcharor, heb yspysu hefyd yr achwynion a fyddo yn ei erbyn ef.

PEN. XXVI.

2 Paul yngwydd Agrippa yn dangos ei fuchedd o'i febyd, 12 ac mor rhyfeddol i troesid ac y galwesid ef i fôd yn Apostol. 24 Ffestus yn teuru ei fôd ef wedi ynfydu, yntef ar hynny yn atteb yn llariaidd. 28 Agrippa ymron myned yn Gristion. 31 Yr holl gynnulleidfa yn ei farnu ef yn ddieuog.

AC Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Y mae cennad i ti i ddywedyd trosot dy hunan. Yna Paul a estynnodd ei law, ac a'i hamddeffyn­nodd ei hun.

2 Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn dded­wydd, ô frenhin Agrippa, gan fy mod yn cael fy amddeffyn fy hun ger dy fron di heddyw, am yr boll bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon.

3 Yn bendifaddeu gan ŵybod dy fod di yn gydnabyddus â'r holl ddefodau, a'r holion sydd ym mhlith yr Iddewon: o herwydd pa ham, yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrando i yn ddioddefgar.

4 Fy muchedd i o'm mebyd, yr hon oedd o'r dechreuad, ym mhlith fy nghenedl yn Ieru­rusalem, a ŵyr yr Iddewon oll,

5 Y rhai am hadwaenent i o'r dechreu, (os mynnant dystiolaethu) mai yn ôl y sect fanylaf o'n crefydd ni, y bûm i fyw, yn Pha­risæad.

6 Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i'n tadau gan Dduw, yr wyf yn sefyll i'm barnu:

7 I'r hwn addewid y mae ein deuddec­llwyth ni,Yn astud. heb ddorr yn gwasanaethu Duw nôs a dydd, yn gobeithio dyfod; am yr hon obaith yr achwynir arnaf, ô frenin Agrippa, gan yr Iddewon.

8 Pa beth? ai anghredadwy y bernir gen­nych chwi, y cyfyd Duw y meirw?

9 Minneu yn wir a dybiais ynof fy hun, fod yn rhaid i mi wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nazareth.

10Pen. 8.3. Yr hyn hefyd a wneuthym yn Ierusa­lem; a llawer or Sainct a gaeais i mewn car­charau, wedi derbyn awdurdod gan yr Arch-offeiriaid; ac wrth eu difetha, mi a roddais farn yn eu herbyn.

11 Ac ym mhôb Synagog yn fynych mi a'i cospais hwy, ac a'u cymhellais i gablu; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn, mi a'u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd.

12Pen. 9.2. Ac yn hyn, a myfi yn myned i Dda­mascus, ag awdurdod a chennad oddi wrth yr Arch-offeiriaid;

13 Ar hanner dydd, ô frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o'r nef, mwy nâ disclairdeb yr haul, yn disclairio o'm hamgylch, a'r rhai oedd yn ymdaith gyd â mi.

14 Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaiar, mi a glywais leferydd yn llefaru wrthif, ac yn dy­wedyd yn Hebræ-aec, Saul, Saul, pa ham yr ydwyt yn fy erlid i? caled yw i ti wingo yn erbyn y swmbylau.

15 Ac mi a ddywedais, Pwy wyti, Ar­glwydd? Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.

16 Eithr cyfot, a saf ar dy draed, canys i hyn yr ymddangosais i ti, i'th osod ti yn weinidog, ac yn dyst o'r pethau a welaist, ac o'r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt:

17 Gan dy wared di oddiwrth y bobl a'r Cenhedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron:

18 I agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dy­wyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran ym mysc y rhai a sancteiddiwyd trwy y ffydd sydd ynof fi.

19 Am ba achos, ô frenin Agrippa, ni bûm anufydd i'r weledigaech nefol.

20 Eithr mi a bregethais i'r rhai yn Damas­cus yn gyntaf, ac yn Jerusalem, a thros holl wlad Iudæa, ac i'r Cenhedloedd; ar iddynt edifarhau, a dychwelyd at Dduw, a gwneu­thur gweithredoedd addas i edifeirwch.

21 O achos y perhau hyn, yr Iddewon a'm daliasant i yn y Deml, ac a geisiasant fy lladd i â'u dwylo eu hûn.

22 Am hynny wedi i mi gael help gan Dduw, yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn, gan dystiolaethu i fychan a mawr, ac heb ddy­wedyd dim amgen nag a ddywedasei y Proph­wydi a Moses, y delent i ben:

23 Y dioddefei Christ, ac y byddei efe yn gyntaf o adgyfodiad y meirw, ac y dangosei oleuni i'r bobl, ac i'r Cenhedloedd.

24 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto, Ffestus a ddywedodd â llef vchel, Paul, yr wyt ti yn ynfydu: llawer o ddysc sydd yn dy yrru di yn ynfyd.

25 Ac efe a ddywedodd, Nid wyf i yn yn­fydu, ô ardderchoccaf Ffestus; eithr geiriau gwirionedd a fobrwydd, yr wyfi yn eu hadrodd.

26 Canys y brenin a ŵyr oddi wrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wŷfi yn llefaru yn hŷf; o herwydd nid wyf yn tybied fôd dim o'r pethau hyn yn guddiedig rhagddo, oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn.

27 Oh frenin Agrippa, A wyt ti yn credu i'r Prophwydi? mi a wn dy fôd yn credu.

28 Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, yr wyti o fewn ychydig i'm hynnill i fôd yn Cristion.

29 A Phaul a ddywedodd; Mi a ddymunwn gan Dduw, o fewn ychydig, ac yn gwbl oll, fod nid tydi yn vnic, ond pawb hefyd a'r sydd yn fy ngwrando heddyw, yn gyfryw ac wyfi, ond y rhwymau hyn.

30 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, cyfododd y brenin, a'r Rhaglaw, a Bernice, a'r rhai oedd yn eistedd gyd â hwynt.

31 Ac wedi iddynt fyned o'r neilltu, hwy a lefarasant wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Nid yw 'r dŷn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angen neu rwymau.

32 Yna y dywedodd Agrippa wrth Ffestus, fe allasid gollwng y dŷn ymma ymmaith, oni buasei iddo appelio at Cæsar.

PEN. XXVII.

1 Paul wrth forio tua Rhufain, 10 yn rhag­ddywedyd perygl y daith, 11 ac heb gael ei goelio. 14 Hwythau yn cael eu taflu draw ac yma gan y dymestl: 41 y llong yn torri arnynt: 22, 34, 44 ac er hynny yn dyfod i gyd i dir yn ddiangol.

A Phan gyttunwyd forio o honom ym­maith i'r Ital, hwy a roesant Paul, a rhyw garcharorion eraill, at Ganwriad a'i enw Ju­lius, o fyddin Augustus.

2 Ac wedi dringo i long o Adramyttium, ar fedr hwylio i dueddau Asia, ni a aethom allan o'r porth-ladd, a chyd â ni yr oedd Aristar­chus, Macedoniad o Thessalonica.

3 A thrannoeth ni a ddygpwyd i wared i Sidon, a Iulius a ymddûg yn garedigol tu ac at Paul, ac a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion, i gael ymgeledd.

4 Ac wedi myned oddi yno, ni a hwyl­iasom tan Cyprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus.

5 Ac wedi hwylio o homom tros y môr sydd ger llaw Cilicia a Phamphilia, ni a ddaeth­om i Myra, dinos yn Lycia.

6 Ac yno y Canwriad wedi cael llong o Alexandria, yn hwylio i'r Ital, a'n gosodes ni ynddi.

7 Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau, a dyfod yn brin ar gyfer Gnidus, am na adawei y gwynt i ni; ni a hwyliasom is law Creta, ar gyfer Salmône.

8 Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddo, ni a ddaethom i ryw le a elwir y porthladdoedd prydferth, yr hwn yr oedd dinas Lasæa yn agos iddo.

9 Ac wedi i dalm o amser fyned heibio, a bôd morio weithian yn enbyd, o herwydd hefyd ddarfod yr ympryd weithian, Paul a gynghorodd,

10 Gan ddywedyd wrthynt, Ha wŷr, yr wyf yn gweled y bydd yr hynt hon ynghyd â sarhâed a cholled fawr, nid yn vnic am y llwyth a'r llong, eithr am ein heinioes ni hefyd.

11 Eithr y Canwriad a gredodd i lywydd, ac i berchen y llong, yn fwy nag i'r pethau a ddywedid gan Paul.

12 A chan fôd y porthladd yn anghyfleus i aiafu, y rhan fwyaf a roesant gyngor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gyrhae­ddyd hyd Phaenice, i aiafu yno; yr hwn sydd borthladd yn Creta, ar gyfer y deau-orllewin, a'r gogledd-orllewin.

13 A phan chwythodd y deheu-wynt yn araf, hwynt hwy yn tybied cael eu meddwl, gan godi hwyliau a foriasant heibio yn agos i Creta.

14 Ond cyn nemmawr, cyfododd yn ei herbyn hi wynt temhestlog, yr hwn a elwir Euroclydon.

15 A phan gippiwyd y llong, ac heb allu gwrthwynebu y gwynt, ni a ymroesom, ac a ddycpwyd gyd â'r gwynt.

16 Ac wedi i ni redeg goris ynys fach, a elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bâd:

17 Yr hwn a godasant i fynu, ac a wnaeth­ant gynnorthwyon, gan wregysu y llong oddi dani, a hwy yn ofni rhag syrthio ar sugn draeth, wedi gostwng yr hwyl, a dduc­pwyd felly.

18 A ni yn flîn iawn arnom gan y demestl, trannoeth hwy a yscafnhasant y llong.

19 A'r trydydd dydd y bwriasom, â'n dwylo ein hunain, daclau y llong allan.

20 A phan nad oedd na haul na sêr yn ymddangos dros lawer o ddyddiau, a thymestl nid bychan yn pwyso arnom, pôb gobaith y byddem cadwedic a ddycpwyd oddi arnom o hynny allan.

21 Ac wedi bod hir ddirwest, yna y safodd Paul yn eu canol hwy, ac a ddywedodd, Ha-wyr, chwi a ddylasech wrando arnafi, a bod heb ymadaw o Creta, ac ennill y syrhaed ym­ma, a'r golled.

22 Ac yr awr hon yr wyf yn eich cyng­hori chwi i fôd yn gyssurus; canys ni bydd colled am einioes vn o honoch, ond am y llong yn vnic.

23 Canys safodd yn fy ymyl y nôs hon Angel Duw yr hwn a'm piau, a'r hwn yr wyf yn ei addoli,

24 Gan ddywedyd, Nac ofna Paul, rhaid i ti sefyll ger bron Cæsar, ac wele, rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyd â thi.

25 Am hynny, Ha wyr, cymmerwch gyssur, canys yr wyf fi yn credu i Dduw, mai felly y bydd, yn ôl y modd y dywedpwyd i mi.

26 Ond mae yn rhaid ein bwrw ni i ryw ynys.

27 Ac wedi dyfod y bedwaredd nôs ar ddec, fe a ddigwyddodd a ni yn morio yn Adria, ynghylch hanner nôs, dybied o'r mor­wŷr eu bod yn nessau i ryw wlâd.

28 Ac wedi iddynt blymmio, hwy a'i cawsant yn vgain gwrhyd, ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a'i cawsant yn bymtheg gwrhyd.

29 Ac a hwy yn ofni rhagIddynt. i ni syrthio ar leoedd geirwon, wedi iddynt fwrw pedair angor allan o'r llyw, hwy a ddeisyfasant ei myned hi yn ddydd.

30 Ac fel yr oedd y llong-wŷr yn ceisio ffoi allan o'r llong, ac wedi gollwng y bâd i wared i'r môr, yn rhith bod ar fedr bwrw angorau o'r pen blaen i'r llong,

31 Dywedodd Paul wrth y Canwriad a'r mil-wŷr, onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fôd yn gadwedig.

32 Yna y torrodd y mil-wŷr raffau y bâd, ac a adawsant iddo syrthio ymmaith.

33 A thra 'r ydoedd hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymmeryd llyniaeth, gan ddywedyd, heddyw yw y pedwerydd dydd ar ddêc yr ydych chwi yn disgwil, ac yn aros ar eich cythlwng, heb gymmeryd dim.

34 O herwydd pa ham, yr ydwyf yn dymuno arnoch gymmeryd llyniaeth, oblegid hyn sydd er iechyd i chwi, canys blewyn i'r vn o honoch ni syrth oddiar ei ben.

35 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a gymerodd fara, ac a ddiolchodd i Dduw yn eu gŵydd hwynt oll, ac a'i torrodd, ac a ddechreuodd fwyta.

36 Ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gyssurol, a hwy a gymerasant lyniaeth hefyd.

37 Ac yr oeddem yn y llong i gyd, yn ddau cant, ac vn ar bymtheg a thrugain o eneidiau.

38 Ac wedi eu digoni o lyniaeth, hwy a yscafnhasant y llong, gan fwrw y gwenith allan i'r môr.

39 A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tîr; ond hwy a ganfuant ryw gilfach, a glan iddi, i'r hwn y cynghorasant os gallent wthio y llong iddo.

40 Ac wedi iddyntDorri. godi yr angorau,Gollyng­asant i'r mor. hwy a ymollyngasant i'r môr, ac a ollynga­sant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a goda­sant yr hwyl i'r gwynt, ac a geisiasan [...] y lan.

41 Ac wedi i ni syrthio ar le deu-for-gyfar­fod, hwy a wthiasant y llong, a'r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddi­yscog, eithr y pen ôl a ymddattododd gan nerth y tonnau.

42 A chyngor y milwyr oedd ladd y car­charorion, rhag i neb o honynt nofio allan, a diangc ymmaith.

43 Ond y Canwriad yn ewyllysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan, ac a archodd i bawb a'r a fedrei nofio, ymfwrw yn gyntaf i'r môr, a myned allan i'r tîr:

44 Ac i'r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o'r llong. Ac felly y digwydd­odd dyfod o bawb i dir yn ddiangol.

PEN. XXVIII.

1 Paul wedi torri y llong arno, yn cael ei dder­byn yn rhywiogaidd gan y Barbariaid. 5 Y wyber ar ei law ef, heb wneuthur iddo niwed: 8 ac ynteu yn iachau llawer o glefydau yn yr ynys. 11 Hwynt hwy yn myned ymaith tua Rhufain. 17 Yntef yn mynegi i'r Iddewon achos ei ddyfodiad. 24 wedi iddo bregethu, rhai yn credu, a rhai heb gredu: 30 ac yntau er hyn­ny yn pregethu yno ddwy flynedd.

AC wedi iddynt ddiangc, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys.

2 A'r Barbariaid a ddangosasant i ni fwy­neidd-dra nid bychan; oblegid hwy a gyn­neuasant dân, ac a'n derbyniasant ni oll, o herwydd y gafod gynnyrchiol, ac o herwydd yr oerfel.

3 Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer oGrin­ellen. friwydd, a'i dodi ar y tân, gwiber a dda­eth allan o'r gwrês, ac a lynodd wrth ei law ef.

4 A phan welodd y Barbariaid y bwyst-fil yngrhog wrth ei law ef; hwy a ddyweda­sant wrth ei gilydd, yn siccr, llawruddiog yw y dŷn hwn, yr hwn er ei ddiangc o'r môr, ni adawodd dialedd iddo fyw.

5 Ac efe a yscydwodd y bwyst-fil i'r tân, ac ni oddefodd ddim niwed.

6 Ond yr oeddynt hwy yn disgwil iddo ef chwyddo, neu syrthio yn ddisymmwth yn farw. Eithr wedi iddynt hîr ddisgwil, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai Duw oedd efe.

7 Ynghylch y man hwnnw yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a'i enw Publius, yr hwn a'n derbyniodd ni, ac a'n lletteuodd dridiau yn garedig.

8 A digwyddodd, fod tâd Publius yn gor­wedd yn glâf o gryd a gwaedlif, ac yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddio, efe a ddododd ei ddwylo arno ef, ac a'i iachaodd.

9 Felly wedi gwneuthur hyn, y lleill hefyd y rhai oedd a heintiau arnynt yn yr ynys, a ddaethant atto, ac a iachawyd.

10 Y rhai hefyd a'n parchasant ni â llawer o vrddas, a phan oeddym ym ymadel, hwy a'n llwythasant ni â pethau angenrheidiol.

11 Ac wedi tri mis yr aethom ymmaith mewn llong o Alexandria, yr hon a aiafasei yn yr ynys: a'i harwydd hi oedd Castor a Phollux.

12 Ac wedi ein dyfod î Syracusa, ni a dri­gasom yno dridiau.

13 Ac o ddiyno wedi myned oddi amgylch, ni a ddaethom i Rhegium, ac yn ôl vn diwrn­od y deheu-wynt a chwythodd, ac ni a ddaeth­om yr ail dydd i Puteoli;

14 Lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyd â hwynt saith niwmod: ac felly ni a ddaethom i Rufain.

15 Ac oddi yno pan glybu 'r brodyr am danom, hwy a ddaethant i'n cyfarfod ni hyd Appii fforum, a'r tair Tafarn; y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymmerodd gyssur.

16 Eithr pan ddaethom i Rufain, y Can­wriad a roddes y carcharorion at ben-capten y llu: eithr canhiadwyd i Paul aros wrtho ei hûn, gyd â milwr oedd yn ei gadw ef.

17 A digwyddodd yn ôl tridiau, alw o Paul ynghŷd y rhai oedd bennaf o'r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghŷd, efe a ddy­wedodd wrthynt, Ha-wŷr frodyr, er na wna­ethym i ddim yn erbyn y bobl, na defodau y [Page] tadau, etto mi a roddwyd yn garcharor o Ieru­salem i ddwylo y Rhufein-wŷr.

18 Y rhai wedi darfod fy holi, a fynnasent fy ngollwng ymmaith, am nad oedd dim achos angeu ynof.

19 Eithr am fôd yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn, mi a yrrwyd i appelio at Cae­sar, nid fel pettei gennif beth i achwyn ar fy nghenedl.

20 Am yr achos hwn gan hynny y gel­wais am danoch chwi, i'ch gweled, ac i ym­ddiddan â chun: canys o achos gobaith Israel i'm rhwymwyd i â'r gadwyn hon.

21 A hwythau a ddywedasant wrtho, ni dderbyniasom ni lythyrau o Iudæa yn dy gylch di, ac ni fynegodd, ac ni lefarodd neb o'r brodyr a ddaeth oddi yno, ddim drwg am danat ti.

22 Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennit ti beth yr ydwyt yn ei synied, oblegid am y sect hon, y mae yn hyspys i ni fod ym­mhôb man yn dywedyd yn ei herbyn.

23 Ac wedi iddyntBennu. nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth atto ef, i'w lettŷ, i'r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu, allan o gyfraith Moses, a'r Prophwydi, o'r boreu hyd yr hwyr.

24 A rhai a gredasant i'r pethau a ddywe­dasid, a rhai ni chredasant.

25 Ac a hwy yn anghyttûn â'u gilydd, hwy a ymadawsant, wedi i Paul ddywedyd vn gair, mai da y llefarodd yr Yspryd glân trwy Esaias y prophwyd wrth ein tadau ni,

26 Gan ddywedyd,Esai. 6.9. Matth. 13.14. Marc. 4.12. Luc. 8.10. Ioan. 12.40. Rhuf. 11.8. Dôs at y bobl ymma, a dywed, Yn clywed y clywch, ac ni ddeellwch, ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch.

27 Canys brâshawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywsant â'u clustiau, a'u llygaid a gaeasant, rhac iddynt weled â'u llygaid, a chly­wed â'u clustiau, a deall â'r galon, a dychwel­yd, ac i mi i hiachau hwynt.

28 Bydded hyspys i chwi gan hynny, anfon iechydwriaeth Dduw at y Cenhedloedd, a hwy a wrandawant.

29 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, ymada­wodd yr Iddewon, a chanddynt ddadl mawr yn eu plith.

30 A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hûn, ac a dderbyniodd bawb a'r oedd yn dyfod i mewn atto,

31 Gan bregethu teyrnas Dduw, ac athraw­iaethu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyd â phob hyfder, yn ddiwahardd.

Diwedd Gweithredoedd yr Apostolion.

¶EPISTOL PAUL YR APOSTOL AT Y RHUFEINIAID.

PENNOD. I.

1 Paul yn dangos ei alwedigaeth i'r Rhufeiniaid, 10 a'i chwant i ddyfod attynt hwy. 16 Beth yw ei Efengyl ef, a'r cyfiawnder y mae hi yn ei ddangos. 18 Bôd Duw yn ddigllon wrth bôb mâth a'r bechod. 21 Pa beth oedd bechodau y cenhedloedd.

PAul gwasanaethwr Iesu Grist, wedi ei alw i fod yn Apostol, ac wedi eiAct. 13.2. nailltuo i Efengyl Dduw:

2 Yr hon a rag-addawsei efe, trwy ei Brophwydi, yn yr Scrythurau san­ctaidd:

3 Am ei fâb ef Iesu Grist ein Arglwydd ni, yr hwn a wnaed o hâd Dafydd o ran y cnawd,

4 Ac aDerfyn­wyd. eglurwyd yn fâb Duw mewn gallu, yn ôl Yspryd sancteiddiad, trwy 'r ad­gyfodiad oddi wrth y meirw:

5 Trwy 'r hwn y derbyniasom râs ac apo­stoliaeth i vfydd-dod ffydd, ym mhlith yr holl Genhedloedd, er mwyn ei enw ef:

6 Ym-mysc y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist.

7 At bawb sydd vn Rhufain, yn anwyl gan Dduw, wedi eu galw: fôd yn Sainct; Gras i chwi a thangneddyf oddi wrth Dduw ein Tâd ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

8 Yn gyntaf yr wyf yn diolch i'm Duw trwy Iesu Grist trosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd.

9 Canys tŷst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethuNeu, a'm hys­pryd. yn fy yspryd, yn Efengyl ei fab ef, fy mod i yn ddibaid yn gwneuthur coffa o honoch, bob amser yn fy ngweddiau,

10 Gan ddeisyf a gawn ryw fôdd, ryw amser bellach, rwydd hynt gyd ag ewyllys

11 Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn Ysprydol, fel i'ch cadarnhaer.

12 A hynny sydd i'm cyd-ymgyssuroGyd o chwl. ynoch chwi, trwy ffydd ei gilydd; yr eiddoch chwi, a'r eiddof finnau.

13 Eithr ni fynnwn i chwi fôd heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod attoch, (ond fo'm lluddiwyd i hyd yn hyn) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ac yn y Cenhedloedd eraill.

14 Dyled-ŵr ydwyf i'r Groegiaid, ac i'r Barbariaid hefyd, i'r doethion, ac i'r annoeth­ion hefyd.

15 Felly, hyd y mae ynofi, parod ydwyf, i bregethu yr Efengyl i chwithau hefyd, y rhai ydych yn Rhufain.

16 Canys nid oes arnaf gywilydd o Efengyl Grist; oblegit gallu Duw yw hi er iechydwr­iaeth, i bôb vn a'r sydd yn credu: i'r Iddew yn gyntaf, a hefyd i'r Groeg-wr.

17 Canys ynddi hi y datcuddir cyfiawnder Duw, o ffydd i ffydd, megis y mae yn scrifen­nedig,Abac. 2.4. Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.

18 Canys digofaint Duw a ddatcuddiwyd o'r nef, yn erbyn pob annuwioldeb, ac anghyf­iawnder dynion, y rhai sydd yn attal y gwirionedd mewn anghyfiawnder.

19 O herwyd yr hyn a ellir ei ŵybod am Dduw sydd eglur ynddynt hwy; canys Duw a'i heglurodd iddynt.

20 Canys ei anweledig bethau ef, er crea­duriaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg; sef ei dragwyddol allu ef, a'i Dduwdod,Fel y byddent. hyd onid ydynt yn ddiescus.

21 Oblegit a hwy yn adnabod Duw, ni's gogoneddasant ef megis Duw, ac na buant [Page] ddiolchgar iddo; eithr ofer fuant yneu rhesym­mau, a'u calon anneallus hwy a dywyllwyd.

22 Pan dybient eu bôd yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid.

23 Ac a newidiasant ogoniant yr anllygre­digPsal. 106.20. Dduw, i gyffelybiaeth llun dŷn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwar carnol, ac ymlusciaid.

24 O ba herwydd, Duw hefyd a'u rhoddes hwy i fynu yn nrachwantau eu calonnau, i aflendid, i ammherchi eu cyrph eu hun yn eu plith eu hunain:

25 Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant, ac a wasanaethasant y creadur yn fwy nâ'r creawdr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen.

26 Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fynu i wyniau gwarthus: canys euBenwy­aid. gwragedd hwy a newidiasant yr arferNaturiol anianol, i'r hon sydd yn erbynNaturi­aeth. anian.

27 Ac yn gyffelyb yGwryw­iald. gwyr hefyd, gan adel yr arfer naturiol o'r wraig, a ymloscent yn eu hawydd i'w gilydd: y gwyr ynghŷd â gwyr yn gwneuthur brynti; ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyf­eiliorni, ac ydoedd raid.

28 Ac megis nad oedd gymmeradwy gan­ddyntNeu, gydnabod Duw. gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a'u rhoddes hwynt i fynu i feddwl anghymme­radwy, i wneuthur y pethau nid oedd we­ddaidd:

29 Wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, godineb, anwireddd, cybydd-dod, drygioni: yn llawn cynfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwg-anwydau:

30 Yn hustyng-wŷr, yn athrodwŷr, yn gâs ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwŷr, yn ddychymygwŷr drygioni, yn anufydd i rieni:

31 Yn anneallus, yn dorrwŷr ammod, ynDdiga­riad. angharedig, yn anghymmodlon, yn annhrugâ­rogion:

32 Y rhai yn gŵybod cyfiawnder Duw, (fod y rhai sy yn gwneuthur y cyfryw be­thau, yn haeddu marwolaeth) ydynt nid yn vnig yn gwneuthur y pethau hyn, eithr hefyd ynNeu, cydsynio. cyd-ymfodloni â'r rhai sy yn eu gwneu­thur hwynt.

PEN. II.

1 Na all y rhai sydd yn pechu, er eu bôd yn con­demnio pechod mewn eraill, mo'i hescusodi eu hunain, 6 ac mai anhaws o lawer iddynt ddiangc rhag barn Duw, 9 pa vn bynnac fônt ai Iddewon ai Cenhedloedd. 14 Nas gall y Cenhedloedd ddiangc, 17 Na'r Iddewon chwaith, 25 ac na wnâ eu Enwaediad leshad iddynt, oni chadwant y Ddeddf.

O Herwydd pa ham diescus wyt ti, ô ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr vn pethau.

2 Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau.

3 Ac a wyt ti yn tybied hyn, ô ddyn yr hwn wyt yn barnu y rhai sy yn gwneuthur y cyfryw bechau, a thithau yn gwneuthur yr vn pethau, y diengi di rhag barn Duw?

4 Neu a wyt ti yn diystyru golud ei ddaioni ef, a'i ddioddefgarwch, a'i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch?

5 Eithr yn ôl dy galedrwydd, a'th galon ddiedifeiriol, wyt ynJac. 3. trysori i ti dy hun ddigofaint, erbyn dydd y digofaint, a dadcu­ddiad cyfiawn farn Duw.

6Psal. 62.12. Mat. 26.27. Datc. 22.12. Yr hwn a dâl i bôb vn yn ôl ei weithred­oedd:

7 Sef i'r rhai trwy barhâu yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac an rhydedd, ac an­llygredigaeth, bywyd tragwyddol:

8 Eithr i'r rhai sy gynhennus, ac anufydd i'r gwirionedd, eithr yn vfydd i anghyfiawnder, y bydd llid, a digofaint;

9 Trallod, ac ing, ar bôb enaid dŷn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a'r Groegwr hefyd.

10 Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thang­neddyf, i bôb vn sydd yn gwneuthur daioni; i'r Iddew yn gyntaf, ac i'r Groegwr hefyd.

11 Canys nid oes derbyn, wyneb ger bron Duw.

12 Oblegid cynnifer ac a bechasant yn ddi­ddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddi-ddeddf. A chynnifer ac a bechasant yn y Ddeddf, a fer­nir wrth y Ddeddf.

13 (Canys nid gwranda-wŷr y Ddeddf sydd gyfiawn ger bron Duw, ond gwneuthur-wŷr y Ddeddf a gyfiawnheir.

14 Canys pan yw 'r Cenhedloedd y rhai nid yw y Ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y Ddeddf, y rhai hyn heb fod y Ddeddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain:

15 Y rhai sydd yn dangos gweithred y Ddeddf yn scirfennedig yn eu calonnau, a'u cyd­wybod yn cyd-tystiolaethu, a'u meddyliauRhyng­ddynt a'i gilydd yn cyhuddo, neu, yn escusodi. yn cyhuddo ei gilydd, neu yn escusodi.)

16 Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl fy Efengyl i, trwy Jesu Grist.

17 Wele, Iddew i'th elwir di, ac yr wyt yn gorphywys yn y Ddeddf, ac yn gorfoleddu yn Nuw;

18 Ac yn gŵybod ei ewyllys, ef, ac ynProfi pethau a gwaha­nia [...] rhyng­ddynt. darbod pethau rhagorol, gan fôd wedi dy addyscu o'r Ddeddf.

19 Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywy­fog i'r deillion, yn llewyrch i'r rhai sydd mewn tywyllwch:

20 Yn athro i'r anghall, yn ddyscawdr Pr rhai bach, a chennit ffurf y gwybodaeth, a'r gwirionedd yn y Ddeddf.

21 Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addyscu arall, oni'th ddysci dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladratter; a ladretti di?

22 Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gyssegr-yspeili di?

23 Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y Ddeddf, drwy dorri y Ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw?

24 Canys Enw Duw o'ch plegid chwi a geblir ym-mlith y cenhedloedd;Esa. 52.5. Ezec. 36.20, 23. megis y mae yn scrifennedig.

25 Canys Enwaediad yn wir a wna lês, os cedwi y Ddeddf: eithr os trosseddwr y Ddeddf ydwyt, aeth dy Enwaediad yn ddienwaediad.

26 Os y dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y Ddeddf, oni chyfrifir ei ddien­waediad ef yn enwaediad?

27 Ac oni bydd i'r dienwaediad, yr hwn sydd o naturiaeth (os ceidw y Ddeddf) dy farnu di, yr hwn wrth y llythyren, a'r enwa­ediad, wyt yn trofeddu y Ddeddf?

28 Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iddew: ac nid Enwaediad yw yr hyn sydd yn yr amlwg, yn y cnawd:

29 Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew, ac enwaediad y galon sydd yn yr yspryd, nid yn y llythyren: yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.

PEN. III.

1 Rhagor-fraint yr Iddewon: 3 yr hwn ni chollasant: 9 Er hynny y mae y Ddeddf yn eu barnu hwythau hefyd yn euog o bechod: 20 gan hynny ni chyfiawnheir vn cnawd trwy 'r Ddeddf, 28 Eithr pawb heb wahaniaeth, trwy ffydd yn vnic: 31 ac etto ni ddiddymwyd y Ddeddf.

PA ragoriaeth, gan hynny, sydd i'r Iddew? neu pa fûdd sydd o'r Enwaediad?

2 Llawer ym mhôb rhyw fodd. yn gyntaf o herwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw.

3 Oblegit beth os anghredodd rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer?

4 Na atto Duw. Eithr bydded Duw yn cir­wîr, a phob dŷn yn gelwyddog: megis yr scrifennwyd,Psal. 58.4. fel i'th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddechPan farnech. pan i'th farner.

5 Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddy­wedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dŷn yr wyf yn dywedyd)

6 Na atto Duw. Canys wrth hynny, pa fodd y barna Duw y byd?

7 Canys os bu gwirionedd Duw drwy fy nghelwydd i, yn helaethach i'w ogoniant ef, pa ham i'm bernir innou etto megis pechadur?

8 Ac nid (megis i'n ceblir, ac megis y dy­wed rhai ein bôd yn dywedyd) gwnawn ddrwg fel y dêl daioni; y rhai y mae eu dam­nedigaeth yn gyfiawn.

9 Beth gan hynny? A ydym ni fwy rhago­rol? Nac ydym ddim. Canys ni a brofasom o'r blaen fôd pawb, yr Iddewon, ar Groeg­wŷr, tan bechod;

10 Megis y mae yn scrifennedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes vn:

11 Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw.

12 Gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfu­ddiol; nid oes vn yn gwneuthur daioni, nac oes vn:

13 Bedd agored yw eu côg; â'u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn aspiaid sydd tan eu gwesusau:

14 Y rhai y mae eu genau yn llawn melldith a chwerwedd.

15 Buan yw eu traed i dywall: gwaed.

16 Destryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd:

17 A ffordd tangneddyf nid adnabuant.

18 Nid oes ofn Duw ger bron eu llygaid.

19 Ni a a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae y Ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sy tan y Ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y caner pob genau, ac y byddo yr holl fyd tan farn Duw.

20 Am hynny trwy weithredoedd y Ddeddf ni chyfiawnheir vn cnawd yn ei olwg ef; canys trwy y Ddeddf y mae adnabod pechod.

21 Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y Ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y Ddeddf a'r Prophwydi;

22 Sef cyfiawnder Duw, yr hon sydd trwy ffydd Iesu Grist i bawb, ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth:

23 Oblegit pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw:

24 A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei râs ef, trwy 'r prynedigaeth sydd yn Ghrist Iesu:

25 Yr hwn a osododd Duw ynGym­mod, gym­moawr. iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw:

26 I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hyn, fel y byddei efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.

27 Pa le gan hynny y mae yr gorfoledd? Ef a gaewyd allan. Trwy ba Ddeddf? Ai Deddf gweithredoedd▪ nag ô, eithr trwy Ddeddf ffydd.

28 Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dŷn, heb weithre­doedd y Ddeddf.

29 Ai i'r Iddewon y mae efe yn Dduw yn vnig? Onid yw i'r Cenhedloedd hefyd? yn wîr y mae efe i'r cenhedloedd hefyd.

30 Gan mai vn Duw sydd, yr hwn a gyfiawnhâ yr Enwaediad wrth ffydd, a'r dien­waediad trwy ffydd.

31 Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y Ddeddf yn ddirym trwy ffydd? Na atto Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau y Ddeddf.

PEN. IV.

1 Ffydd Abraham a gyfrifwyd iddo yn gyfiawn­der, 10 cyn enwaedu arno. 13 Trwy ffydd yn vnic y derbyniodd ef a'i hâd yr addewid. 16 Abraham yw Tâd pawb ac sydd yn credu. 24 Ein ffydd ninnau hefyd a gyfrifir i ni yn gyfiawnder.

PA beth, gan hynny, a ddywedwn ni ddar­fod i Abraham ein tâd ni ei gael, yn ôl y cnawd?

2 Canys os Abraham a gyfiawnhawyd trwy weithredoedd, y mae iddo orfoledd, eithr nid ger bron Duw.

3 Canys pa beth a ddywed yr Scrythur? Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.

4 Eithr i'r neb sydd yn gweithio, ni chy­frifir y gwobr o râs, onid o ddyled.

5 Eithr i'r neb nid yw yn gweithio, onid yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr an­nuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder.

6 Megis y mae Dafydd hefyd yn datcan dedwyddwch y dŷn y mae Duw yn cyfrif cy­fiawnder iddo heb weithredoedd, gan ddywedyd,

7 Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu han­wireddau, a'r rhai y cuddiwyd eu pechodau.

8 Dedwydd yw y gŵr nid yw yr Arglwydd yn cyfrif pechod iddo.

9 A ddaeth y dedwyddwch hwn, gan hynny, ar yr Enwaediad yn vnig, ynteu ar y dienwae­diad hefyd? Canys yr ydym yn dywedyd ddar­fod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder.

10 Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? Ai pan oedd yn yr Enwaediad, ynteu yn y dienwaediad? Nid yn yr Enwaediad, ond yn y dienwaediad.

11 Ac efe a gymmerth arwydd yr Enwae­diad yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad, fel y byddei efe yn dâd pawb a gredent yn y dienwaediad, fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd:

12 Ac yn dâd yr Enwaediad, nid i'r rhai o'r Enwaediad yn vnig, onid i'r sawl hefyd a ger­ddant lwybrau ffydd Abraham ein tâd ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad.

13 Canys nid trwy y Ddeddf y daeth yr addewid i Abraham, neu iw hâd, y byddei ef yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd.

14 Canys os y rhai sydd o'r Ddeddf, yw 'r etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a'r addewid yn ddirym.

15 Oblegit y mae y Ddeddf yn peri digofaint, canys lle nid oes Deddf, nid oes gamwedd.

16 Am hynny o ffydd y mae, fel y byddei yn ôl grâs, fel y byddei yr addewid yn siccr i'r holl hâd; nid yn vnig i'r hwn sydd o'r Ddeddf, onid hefyd i'r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tâd ni oll,

17 (Megis y mae yn scrifennedig,Gen. 17.5. Mi a'th wnaethym yn dâd llawer o Genhedloedd) ger bron y neb y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau y meirw, ac sydd yn galw y pethau nid ydynt, fel pe byddent:

18 Yr hwn yn erbyn gobaith, a gredodd tan obaith, fel y byddei efe yn dâd Cenhedloedd lawer, yn ôl yr hyn a ddywedasid,Gen. 15.5. felly y bydd dy hâd di.

19 Ac efe yn ddiegwan o ffydd, nid ystyr­iodd ei gorph ei hun, yr hwn oedd yr awron wedi marweiddio, ac ef ynghylch can-mlwydd oed, na marweidd-dra bru Sara.

20 Ac nid amheuodd efe addewid Duw drwy anghrediniaeth, eithr efe a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw:

21 Ac yn gwbl siccr ganddo, am yr hyn a addawsei efe, ei fod ef yn abl iw wneuthur hefyd.

22 Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyf­iawnder.

23 Eithr nid scrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn ynig, ddarfod ei gyfrif iddo;

24 Ond er ein mwyn ninnau hefyd, i'r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfodes Iesu ein Harglwydd ni o feirw:

25 Yr hwn a draddodwyd tros ein pecho­dau ni, ac a gyfodwyd i'n cyfiawnhau ni.

PEN. V.

1 Wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae i ni dangneddyf rhyngom a Duw, 2 a llawenydd yn ein gobaith: 8 gan ein cymmodi trwy ei waed ef, a nyni yn elynion iddo, 10 y cawn yn hytrach fôd yn gadwedig wedi ein cynnnodi. 12 Megis y daeth pechod a marwolaeth trwy Adda, 17 Felly yn hytrach y daw cyfiawnder a bywyd trwy Iesu Grist. 20 Lle 'r [...]mlhaodd pechod, y rhagor-amlhaodd grâs.

AM hynny, gan ein bod wedi ein cyfiawn­hau trwy ffydd, y mae gennym heddwch tu ag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

2 Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd, i'r grâs hyn, yn yr hwn yr yd­ym yn sefyll, ac yn gorfoleddu tan obaith gogo­niant Duw.

3 Ac nid felly yn vnig, eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau, gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch:

4 A dioddefgarwch brofiad, a phrosiad obaith:

5 A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni, trwy yr Yspryd glân, yr hwn a roddwyd i ni.

6 Canys Christ, pan oeddym ni etto yn wein­iaid,Mewn. amser cy­faddas. mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol.

7 Oblegid braidd y bydd neb farw dros vnsu cyfiawn, oblegid dros y da ys gatfydd fe feidd­iai vn farw hefyd.

8 Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tu ag attom, oblegid a nyni etto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni.

9 Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, i'n achubir rhag digofaint trwyddo ef.

10 Canys os pan oeddym yn elynion, i'n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei fâb ef, mwy o lawer wedi ein heddychu, i'n achubir trwy ei fywyd ef.

11 Ac nid hynny yn vnig, eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr-hon y derby­niasom y cymmod.

12 Am hynny, megis trwy vn dŷn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod, ac felly yr aeth marwolaeth ar bôb dŷn, yn gym­maint a phechu o bawb.

13 Canys hyd y Ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod, pryd nad oes Deddf.

14 Eithr teyrnasodd marwolaeth, o Adda hyd Moses, îe arnynt hwy, y rhai ni phecha­sant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr vn oedd ar ddyfod.

15 Eithr nid megis y camwedd, felly y mae y dawn hefyd; canys os drwy gamwedd vn y bu feirw llawer, mwy o lawer yr amlha­odd grâs Duw, a'r dawn trwy râs yr vn dŷn Iesu Grist, i laweroedd.

16 Ac nid megis y bu drwy vn a bechodd, y mae 'r dawn; canys y farn a ddaeth o vn camwedd i gondemniad, eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhâd.

17 Canys osTrwy vn cam­wedd. trwy gamwedd vn y teyrna­sodd marwolaeth trwy vn, mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosogrwydd o râs, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy vn, Iesu Grist.

18 Felly gan hynny, megis trwyVn cam­wedd. gamwedd vn y daeth barn ar bôb dŷn i gondemniad, felly hefyd trwyVn cyf­iawnder. gyfiawnder vn y daeth y dawn ar bob dŷn i gyfiawnhâd bywyd.

19 Oblegit megis trwy anufydd-dod vn dŷn, y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid, felly trwy vfydd-dod vn, y gwneir llawer yn gy­fiawn.

20 Eithr y Ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhaai y camwedd: eithr lle 'r amlhaodd y pechod, y rhagor-amlhaodd grâs.

21 Fel megis y teyrnassodd pechod i farwo­laeth, felly hefyd y teyrnasei grâs trwy gyf­iawnder, i fywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

PEN. VI.

1 Na ddylem ni fyw mewn pechod, 2 a ninnau wedi marw iddo, 3 megis y mae ein bedydd ni yn dangos. 12 Na theyrnased pechod mwy­ach, 18 gan ddarfod i ni [...]mroi i wasanaeth cyfiawnder, 23 ac o herwydd mai cyflog pechod yw marwolaeth.

BEth wrth hynny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr aml­hao grâs?

2 Na atto Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn fyw etto ynddo ef?

3 Oni wyddoch chwi am gynnifer o honom ac a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio ni iw farwolaeth ef?

4 Claddwyd ni gan hynny gyd ag ef trwy fedydd i farwolaeth, fel megis ac y cyfodwyd Christ o feirw trwy ogoniant y Tâd, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd-deb buchedd.

5 Canys os gwnaed ni yn gyd-blanbigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn i gyffelybiaeth ei adgyfodiad ef.

6 Gan ŵybod hyn, ddarfod croes-hoelio ein hên ddŷn ni gyd ag ef, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod.

7 Canys y mae yr hwn a fu farw, wedi eiGr. gy­ [...]awnhau. ryddhau oddi wrth bechod.

8 Ac os buom feirw gyd â Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn fyw hefyd gyd ag ef.

9 Gan ŵybod nad yw Christ, yr hwn a gy­fodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwy­ach, nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach.

10 Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw vnwaith i bechod: ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw.

11 Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hu­nain yn feirw i bechod, eithr yn fyw i Dduw, yn Ghrist Iesu ein Harglwydd.

12 Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corph marwol, i vfyddhau o honoch iddo yn ei chwantau.

13 Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod, eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw, a'ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.

14 Canys nid arglwyddiaetha pechod ar­noch chwi, oblegid nid ydych chwi tan y Ddeddf, eithr tan râs.

15 Beth wrth hynny? A bechwn ni o her­wydd nad ydym tan y Ddeddf eithr tan râs? Na atto Duw.

16 Oni ŵyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn wei­sion i vfyddhau iddo, eich bod yn weision i'r hwn yr ydych yn vfyddhau iddo, pa vn byn­nag ai i bechod i farwolaeth, ynte i vfydd-dod ī gyfiawnder?

17 Ond i Dduw y bo'r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod, eithr vfyddhau o honoch o'r galon i'r ffurf o athrawiaethI'r hon i'ch tra­ddodwyd. a draddodwyd i chwi.

18 Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth be­chod, fe a'ch gwnaethpwyd yn weision i gy­fiawnder.

19 Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys megis ac y rhoddasoch eich aelodau yn weision ī aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr hon, rhoddwch eich aelodau yn weision ī gyfiawnder, i sancteiddrwydd.

20 Canys pan oeddych yn weision pechod, rhyddion oeddychI gyfi­awnder. oddiwrth gyfiawnder.

21 Pa ffrwyth, gan hynny, oedd i chwi y pryd hynny o'r pethau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o'u plegid? canys diwedd y pe­thau hynny yw marwolaeth.

22 Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddi­wrth bechod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteidd­rwydd, a'r diwedd yn fywyd tragwyddol.

23 Canys cyflog pechod yw marwolaeth: eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

PEN. VII.

1 Nad oes vn Ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn, ond tra fyddo byw: 4 ond ein bod ni wedi meirw i'r ddeddf. 7 Etto nad yw 'r Ddeddf bechod, 12 eithr sanctaidd, a chyfiawn, a da, 16 fel yr ydwyfi yn cydnabod, ac yn ddrwg cennif nas gallaf ei chadw.

ONi wyddoch chwi frodyr, (canys wrth y rhai sy'n gwybod y Ddeddf yr wyf yn dywedyd) fod y Ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddŷn tra fyddo efe byw?

2 Canys y wraig y mae iddi ŵr, sydd yn rhwym wrth y Ddeddf i'r gŵr, tra fyddo efe byw: ond o bydd marw y gŵr, hi a ryddha­wyd oddi wrth ddeddf y gŵr.

3 Ac felly, os a'r gŵr yn fyw, y bydd hi yn eiddo gŵr arall, hi a elwir yn odinebus: eithr os marw fydd ei gŵr hi, y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf, fel nad yw hi odinebus, er bod yn eiddo gwr arall.

4 Ac felly chwithau, fy mrodyr, ydych wedi meirw i'r Ddeddf trwy gorph Christ, fel y byddech eiddo vn arall, sef eiddo yr hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.

5 Canys pan oeddym yn y cnawd, gwyn­iau pechodau, y rhai oedd trwy 'r Ddeddf, oedd yn gweithio yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth.

6 Eithr yn awr y rhyddhawyd ni oddi wrth y Ddeddf, wedi ein meirw i'r peth i'n attelid, fel y gwasanaethem mewn newydd­deb yspryd, ac nid yn hender y llythyren.

7 Beth wrth hynny a ddywedwn ni? Ai pe­chod yw 'r Ddeddf? Na atto Duw. Eithr nid adnabûm i bechod, ond wrth y Ddeddf. Canys nid adnabuaswn i drachwant, oni bai ddywe­dyd o'r Dddeddf, Na thrachwanta.

8 Eithr pechod wedi cymmeryd achlysur drwy 'r gorchymmyn, a weithiodd ynosi bôb trachwant.

9 Canys heb y Ddeddf, marw oedd bechod. Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y Ddeddf: ond pan ddaeth y gorchymmyn, yr adfywiodd pechod, a minneu a fûm farw.

10 A'r gorchymyn yr hwn ydoedd i fywyd, hwnnw a gaed i mi i farwolaeth.

11 Canys pechod, wedi cymmeryd achly­sur trwy 'r gorchymmyn, a'm twyllodd i, a thrwy nwnnw a'm lladdodd.

12 Felly yn wîr, y mae 'r Ddeddf yn sanct­aidd, a'r gorchymmyn yn sanctaidd, ac yn gy­fiawn, ac yn dda.

13 Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd dda, yn farwolaeth i mi? Na atto Duw. Eithr pechod, fel yr ymddangosei yn bechod, gan weithio marwolaeth ynofi, drwy 'r hyn sydd dda, fel y byddei pechod drwy 'r gorchymmyn yn dra phechadurus.

14 Canys ni a wyddom fod y Ddeddf yn ysprydol, eithr myfi fydd gnawdol, wedi fy ngwerthu tan bechod.

15 Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gennif. Canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, eithr y peth sydd gas gennif, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur.

16 Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyfi yn cydsynio â'r Ddeddf, mai da ydyw.

17 Felly yr awron, nid myfi sydd mwy yn [Page] gwneuthur hynny, eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynofi.

18 Canys mi awn nad oes ynofi, hynny yw yn fy nghnawd i, ddim da yn trigo: ob­legit yr ewyllysio sydd barod gennif; eithr cwplau yr hyn sydd dda, nid wyf yn medru arno.

19 Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio, ond y drwg, yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur.

20 Ac os ydwyfi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynofi.

21 Yr ydwyfi gan hynny, yn cael deddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur da, fôd drwg yn bresennol gydâ mi.

22 Canys ymhyfrydu yr wyf ynghyfraith Dduw yn ôl y dŷn oddi mewn.

23 Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau.

24 Ys truan o ddŷn wyfi: pwy am gwared iOddi­wrth y corph marwola­eth hwn. oddiwrth gôrph y farwolaeth hon?

25 Yr wyfi yn diolch i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Felly, gan hynny, yr wyfi fy hun â'r meddwl yn gwasanaethu Cyfraith Dduw, ond â'r cnawd cyfraith pechod.

PEN. VIII.

1 Bod y rhai sydd yn Ghrist, ac yn byw yn ôl yr Yspryd, yn rhyddion oddiwrth ddamnedigaeth. 5, 13 Pa niwed sydd yn digwydd oddiwrth y cnawd, 6, 14 a pha lês oddiwrth yr Yspryd, 17 ac o fôd yn blentyn i Dduw: 19 yr hwn y mae pob peth yn hiraethu am ei ogoneddus ym wared: 29 yr hwn a rag-ordeinwyd gan Dduw. 38 Na all dim ein gwahanu ni oddiwrth ei gariad ef.

NId oes gan hynny, yn awr ddim damne­digaeth i'r rhai sy ynGhrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr yspryd.

2 Canys deddf yspryd y bywyd ynGhrist Iesu, a'm rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pe­chod a marwolaeth.

3 CanysYr hyn oedd am­hossibl i'r Ddeddf, yn yr hyn yr oedd hi yn wan. yr hyn ni allai y Ddeddf o her­wydd ei bôd yn wan drwy'r cnawd, Duw a ddanfonodd ei fâb ei hun ynghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondem­nodd bechod yn y cnawd:

4 Fel y cyflawnid cyfiawnder y Ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr yspryd.

5 Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am be­thau 'r cnawd y maent yn syniaw: eithr y rhai sy yn ôl yr yspryd, am bethau yr yspryd.

6 Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw, a fyniad yr yspryd, bywyd a thangneddyf yw:

7 Oblegid synniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw; canys nid yw ddarostyngedic i Ddeddf Duw: oblegid ni's gall chwaith.

8 A'r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw.

9 Eithr chwy-chwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr yspryd; od yw Yspryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb Yspryd Christ ganddo, nid yw hwnnw yn eiddoef.

10 Ac os yw Christ ynoch, y mae 'r corph yn farw o herwydd pechod; eithr yr yspryd yn fywyd o herwydd cyfiawnder.

11 Ac os Yspryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch; yr hwn a gyfod­odd Grist o feirw, a fywoccâ hefyd eich cyrph marwol chwi, trwy ei Yspryd, yr hwn fydd yn trigo ynoch.

12 Am hynny, frodyr, dyled-wyr ydym, nid i'r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd.

13 Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch; eithr os ydych yn mar­weiddio gweithredoedd y corph trwy 'r Yspryd, byw fyddwch.

14 Canys y sawl a arweinir gan Yspryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw.

15 Canys ni dderbyniasoch yspryd cae­thiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch yspryd mabwysiad, trwy 'r hwn yr ydym yn llefain Abba Dâd.

16 Y mae yr YsprydEi [...]. hwn yn cyd-tystiolae­thu â'n hyspryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw.

17 Ac os plant, etifeddion hefyd, sef etifedd­ion i Dduw, a chyd-etifeddion â Christ; os ydym yn cyd-ddioddef gydag ef, fel i'n cyd­ogonedder hefyd.

18 Oblegid yr ydwyf yn cyfrif nad yw dioddefiadau yr amser persennol hwn, yn hae­ddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatcuddir i ni.

19 Canys awydd-fryd y creadur sydd yn disgwil am ddacuddiad meibion Duw.

20 Canys y creadur sydd wedi ei ddar­ostwng i oferedd, nid o'i fodd, eithr oblegit yr hwn a'i darostyngodd:

21 Tan obaith y rhyddheir y creadur yn­teu hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i rydd­did gogoniant plant Duw.

22 Canys ni a wyddom fod pôb creadur yn cyd-ocheneidio, ac yn cyd-ofidio hyd y pryd hyn.

23 Ac nid yn vnic y creadur, ond ninnau hefyd y rhai sydd gennym flaen-ffrwyth yr Yspryd; yr ydym ninnau ein hunain hefyd-yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwil y mabwysiad, sef Luc. 21.28. prynedigaeth ein corph.

24 Canys trwy obaith i'n hiachawyd: eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae vn yn ei weled, i ba beth y mae etto yn ei obeithio?

25 Ond os ydym ni yn gobeithio yr hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwil amdano.

26 A'r vn ffunyd y mae 'r Yspryd hefyd yn cynnorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wy­ddom ni beth a weddiom, megis y dylem, eithr y mae 'r Yspryd ei hun yn erfyn trosom ni, ag ocheneidiau annhraethadwy.

27 A'r hwn sydd yn chwilio y calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Yspryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn tros y Sainct.

28 Ac ni a wyddom fod pôb peth yn cyd­weithio er daioni, i'r rhai sy yn caru Duw, sef i'r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef.

29 Oblegid y rhai a ragŵybu, a ragluniodd efe hefyd, i fod yn vn ffurf â delw ei fâb ef, fel y byddei efe yn gyntaf-anedig ym mhlith bro­dyr lawer.

30 A'r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a'r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a'r rhai a gy­fiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogone­ddodd efe.

31 Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? os yw Duw trosom, pwy a all fod i'n herbyn?

32 Yr hwn nid arbedodd ei briod fab, ond a'i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gyd ag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth?

33 Pwy a rydd ddim yn erbyn ethole­digion Duw? Duw yw 'r hwn fydd yn cyf­iawnhau:

34 Pwy yw 'r hwn sydd yn damnio? Christ yw 'r hwn a fu farw, îe yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd: yr hwn hefyd sydd ar ddeheu-law Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni.

35 Pwy a'n gwahana ni oddi wrth gariad Christ? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf?

36 (Megis y mae yn scrifennedig,Psal. 44.22. Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hŷd y dydd, cyfrifwyd ni fel defaid i'r lladdfa)

37 Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy nâ chwnewer-wyr, trwy 'r hwn a'n carodd ni.

38 Canys y mae yn ddiogel gennif, na all nac angeu, nac einioes, nac Angelion, na thy­wysogaethau, na meddiannau, na phethau pre­sennol, na phethau i ddyfod,

39 Nac vchder, na dyfnder, nac vn crea­dur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yn Ghrist Iesu ein Har­glwydd.

PEN. IX.

1 Paul yn ddrwg cantho tros yr Iddewon. 7 Nad oedd holl hâd Abraham yn blant yr addewid. 18 Bod Duw yn trugarhau wrth y neb y mynno. 21 Y gall y crochenydd wneu­thur â'i bridd y peth a fynno. 25 Darfod rhag-fynegi galwedigaeth y Cenhedloedd, a gwrthodiad yr Iddewon. 32 Yr achos pa ham y croesawodd cyn lleied o'r Iddewon gyfiawn­der ffydd.

Y Gwirionedd yr wyfi yn ei ddywedyd yn Ghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, a'm cydwybod hefyd yn cyd-tystiolaethu â mi, yn yr Yspryd glân,

2 Fod i mi dristyd mawr, a gofid dibaid i'm calon.

3 Canys mi a ddymunwn fy mod fy hunWedi fyn, wa­hanu. yn anathema oddiwrth Grist, dros fy mro­dyr, sef fy nghenedl yn ôl y cnawd:

4 Y rhai sydd Israeliaid; eiddo y rhai yw y mabwysiad, a'r gogoniant, a'r cyfammodau, a dodiad y Ddeddf, a'r gwasanaeth, a'r adde­widion:

5 Eiddo y rhai yw 'r tadau, ac o'r rhai yr hanoedd Christ yn ôl y cnawd, yr hwn sydd vwch-law pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.

6 Eithr nid possibl yw myned gair Duw yn ddirym: canys nidTw y rhai hyn oll Israel, a'r a yd­ynt o Israel. Israel yw pawb ac sydd o Israel.

7 Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn hâd Abraham, i gŷd yn blant:Gene. 21.12. eithr yn Isaac y gelwir i ti hâd.

8 Hynny ydyw, nid plant y cnawd, y rhai hynny sy blant i Dduw; eithr plant yr adde­wid a gyfrifir yn hâd.

9 Canys gair yr addewid yw hwn,Gene. 18.10. Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mâb i Sara.

10 Ac nid hyn yn vnig, eithr Rebecca hefyd, wedi iddi feichiogi o vn, sef o'n Tâd Isaac,

11 Canys cyn geni y plant etto, na gwneu­thur o honynt dda na drwg, fel y byddei i'r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr o'r hwn sydd yn galw,

12 Y dywedwyd wrthi,Gene. 25.23. Yr hynaf a wasa­naetha yr ieuangaf.

13 Megis yr scrifennwyd,Mal. 1.2, 3. Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais.

14 Beth gan hynny a ddywedwn ni? a oes anghyfiawnder gyd â Duw? Na atto Duw.

15 Canys y mae yn dywedyd wrth Moses,Exod. 33.19. Mi a drugarhâf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.

16 Felly gan hynny, nid o'r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o'r hwn sydd yn rhe­deg chwaith, ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau.

17 Canys y mae yr Scrythur yn dywedyd wrth Pharao,Exod. 9.16. I hyn ymma i'th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot ti, ac fel y dat­cenid fy Enw trwy 'r holl ddaiar.

18 Felly gan hynny, y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y mynno y mae efe yn ei galedu.

19 Ti a ddywedi gan hynny wrthif, Pa ham y mae efe etto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef?

20 Yn hytrach, ô ddŷn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? A ddywed y peth ffurfiedic, wrth yr hwn a'i ffurfiodd,Esai. 45.9. Pa ham i'm gwnaethost fel hyn?

21 Onid oes awdurdodJere. 18.6. Doeth. 15.7. i'r crochenydd ar y pridd-gist, i wneuthur o'r vn telpyn pridd, vn llestr i barch, ac arall i amharch?

22 Beth os Duw yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd drwy hir-ymaros lestri digofaint, wedi euNeu, gorphen. cymhwyso i golledigaeth:

23 Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a rag-baratoodd efe i ogoniant?

24 Sef nyni y rhai a alwodd efe, nid o'r Iddewon yn vnig, eithr hefyd o'r Cenhed­loedd.

25 Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea,Hosea. 2.23. 1 Pet. 2.10. Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi, yn bobl i mi: a'r hon nid yw anwyl yn anwyl.

26Hosea. 1.10. A bydd yn y fangre lle y dywedwyd wrthynt, nid fy mhobl i ydych chwi, yno y gelwir hwy yn feibion i'r Duw byw.

27 Hefyd, y mae Esaias yn llefain am yr Israel,Esai. 10.22.23. cyd byddei nifer meibion Israel fel tywod y môr, gweddill a achubir.

28 Canys efe a orphen ac a gwttoga yNeu, cyfrif. gwaith mewn cyfiawnder: oblegid byrrNeu, gyfrif. waith a wna yr Arglwydd ar y ddaiar.

29 Ac megis y dywedodd Esaias yn y blaen,Esai. 1.9. Oni buasei i Arglwydd y Sabbath adel i ni hâd, megis Sodoma y buasem, a gwneuthid ni yn gyffelyb i Gomorra.

30 Beth gan hynny a ddywedwn ni? bod y Cenhedloedd, y rhai nid oeddynt yn dilyn cyfiawnder, wedi derbyn cyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd:

31 Ac Israel yr hwn oedd yn dilyn Deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd Ddeddf cyfiawn­der.

32 Pa ham? am nod oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd y Ddeddf: canys hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd;

33 Megis y mae yn scrifennedig,Esai. 8.14. & 28.16. 1 Pet. 2.6. wele fi yn gosod yn Sion faen tramgwydd, a chraig rhwystr, a phôb vn a gredo ynddo ni chywi­lyddir.

PEN. X.

5 Bod yr Scrythur lân yn dangos y rhagor sy rhwng cyfiawnder y gyfraith, a'r hwn sydd o ffydd, 11 ac na chywilyddir neb a gredo, pa vn bynnac ai Iddew ai Cenedl-ddyn fyddo; 18 ac y derbyn y Cenhedloedd y gair, ac y credant. 19 Nad oedd y pethau hyn anyspys i'r Iddewon.

OH frodyr, gwir ewyllys fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw dros yr Israel, syddAr eu bod yn gadwedig. er iechydwriaeth.

2 Canys yr wyfi yn dyst iddynt, fod gan­ddynt zêl Duw, eithr nid ar ôl gwybodaeth.

3 Canys hwynt hwy heb ŵybod cyfiawn­der Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw.

4 Canys Christ yw diwedd y Ddeddf, er cyfiawnder i bôb vn sy'n credu.

5 Canys y mae Moses yn scrifennu am y cyfiawnder sydd o'r Ddeddf, mai'rLevit. 18.5. Ezec. 20.11. Galat. 3.12. dŷn a wnêl y pethau hynny a fydd byw trwyddynt.

6 Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn,Deut. 30.12. Na ddywed yn dy galon, pwy a escyn i'r nef? hynny yw dwyn Christ i wared oddi vchod.

7 Neu pwy a ddescyn i'r dyfnder? hynny yw dwyn Christ drachefn i fynu oddi wrth y meirw.

8 Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd?Deut. 30.14. Mae 'r gair yn agos attat, yn dy enau, ac yn dy galon; hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu,

9 Mai os cyffessi â'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon, i Dduw ei gy­fodi ef o feirw, cadwedig fyddi.

10 Canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffessir i iechydwriaeth.

11 Oblegid y mae 'r Scrythur yndywedyd,Esai. 28.16. Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir.

12 Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groeg-wr, oblegid yr vn Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb ac sydd yn galw arno.

13Joel. 2.32. Act. 2.21. Canys pwy bynnag a alwo ar Enw yr Arglwydd, cadwedig fydd.

14 Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant am dano? a pha fodd y clywant heb bregeth-wr?

15 A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn scrifennedig,Esai. 52.7. Nah. 1.15. Mor brydferth yw traed y rhai sy yn efangylu tangneddyf, y rhai sydd yn efangylu pethau daionus!

16 Eithr nid vfyddhasant hwy oll i'r Efen­gyl; canys y mae Esaias yn dywedyd;Esai. 53.1. Ioan. 12.38. O Arglwydd, pwy a gredodd i'n hymadrodd ni?

17 Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw.

18 Eithr meddaf, oni chlywsant hwy?Psal. 19.4. Yn ddiau i'r holl ddaiar yr aeth eu sŵn hwy, a'u geiriau hyd derfynau y byd.

19 Eithr meddaf, Oni wybu Israel? Yn gyntaf y mae Moses yn dywedyd,Deut. 32.21. Mi a baraf i chwi wŷnfydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus i'ch digiaf chwi.

20 Eithr y mae Esaias yn ymhŷfhau, ac yn dywedyd,Esai. 65.1. cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn am danaf.

21 Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd,Esai. 65.2. Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufydd, ac yn gwrth-ddywedyd.

PEN. XI.

1 Na fwriodd Duw ymaith holl Israel: 7 ond rhai a ddewiswyd, er darfod caledu 'r lleill. 16 Y mae gobaith y troir hwynt. 18 Na ddylai y Cenhedloedd orfoleddu yn eu herbyn hwy: 26 oblegid y mae addewid o'i hiechyd­wriaeth hwythau. 33 Bod barnedigaethau Duw yn anchwiliadwy.

AM hynny meddaf, A wrthododd Duw ei bobl? Na atto Duw. Canys yr wyf fin­neu hefyd yn Israeliad, o hâd Abraham, o lwyth Benjamin.

2 Ni wrthododd Duw ei bobl, yr hwn a adnabu efe o'r blaen. Oni wyddoch chwi pa beth y mae yr Scrythur yn ei ddywedyd am Elias? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd,

31 Bren. 19.14. Oh Arglwydd, hwy a laddafant dy Brophwydi, ac a gloddiasant dy allorau i lawr; ac myfi a adawyd yn vnic, ac y maent yn ceisio fy einioes inneu.

4 Eithr pa beth y mae atteb Duw yn ei ddywedyd wrtho?1 Bren. 19.18. Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant eu glin­iau i Baal.

5 Felly gan hynny, y pryd hyn hefyd, y mae gweddill yn ôl etholedigaeth grâs.

6 Ac os o râs, nid o weithredoedd mwy­ach: os amgen nid yw grâs yn râs mwyach. Ac os o weithredoedd, nid yw yn râs mwyach: os amgen nid yw gweithred yn weithred mwy­ach.

7 Beth gan hynny? ni chafas Israel yr hyn y mae yn ei geisio: eithr yr etholedigaeth a'i cafas, a'r lleill aDdall­wyd. galedwyd.

8 Megis y mae yn scrifennedic;Esai. 29.10. Rhoddes Duw iddynt yspryd trym-gwsc;Esai. 6.9. llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent, hyd y dydd heddyw.

9 Ac y mae Dafydd yn dywedyd;Psal. 69.22. Bydd­ed eu bord hwy yn rhwyd, ac yn fagl, ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt.

10Psal. 69.23. Tywyller eu llygaid hwy, fal na we­lant, a chyd-grymma di eu cefnau hwy bob amser.

11 Gan hynny meddaf, a dramgwyddasant hwy fel y cwympent? Na atto Duw. Eithr trwy eu cwymp hwy y daeth iechydwriaeth i'r Cenhedloedd, i yrru eiddigedd arnynt.

12 O herwydd pa ham, os ydyw eu cwymp hwy yn olud i'r bŷd, a'u llelhâd hwy yn olud i'r Cenhedloedd, pa faint mwy y bydd eu cyf­lawnder hwy?

13 Canys wrthych chwi y Cenhedloedd yr wyf yn dywedyd, yn gymmaint a'm bôd i yn Apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau fy swydd:

14 Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fynghig a'm gwaed fy hun, ac achub rhai o honynt.

15 Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymmod i'r byd, beth fydd eu derbyniad hwy, ond bywyd o feirw?

16 Canys os sanctaidd y blaen-ffrwyth, y mae 'r clamp toes hefyd yn sanctaidd. Ac os sanctaidd y gwreiddyn, y mae 'r canghennau hefyd felly.

17 Ac os rhai o'r canghennau a dorrwyd ymmaith, a thydi yn olewydden wyllt a imp­iwyd i mewnYn eu lle hwy [...]t. yn eu plith hwy, ac a'th [Page] wnaethpwyd yn gyfrannog o'r gwreiddyn, ac o frasder yr olew-wydden:

18 Na orfoledda yn erbyn y canghennau. Ac os gorfoleddi, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi.

19 Ti a ddywedi gan hynny, torrwyd y canghennau ymmaith, fel yr impid fi i mewn.

20 Da; trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymmaith, a thitneu sydd yn sefyll trwy ffydd; na fydd vchel-fryd, eithr ofna.

21 Canys onid arbedodd Duw y canghen­nau naturiol, gwilia rhag nad arbedo ditheu chwaith.

22 Gwêl am hynny, ddaioni a thoster Duw, sef i'r rhai a gwympasant, toster; eithr daioni i ti, os arhosi yn ei ddaioni ef: os amgen, torrir ditheu hefyd ymmaith.

23 A hwythau, onid arhosant yn anghre­diniaeth, a impir i mewn, canys fe all Duw eu himpio hwy i mewn drachefn.

24 Canys os tydi a dorrwyd ymmaith o'r olewydden, yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth, a'th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olew-wydden: pa faint mwy y caiff y rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holew-wydden eu hun?

25 Canys ni ewyllysiwn, frodyr, eich bôd heb wybod y dirgelwch hyn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun) ddyfodCaled­wch. dallineb o ran i Israel, hid oni ddêl caflawn­der y Cenhedloedd i mewn.

26 Ac felly holl Israel a fydd cadwedig, fel y mae yn scrifennedic,Esai. 59.20. Y gwaredwr a ddaw allan o Sion, ac a drŷ ymmaith annuwioldeb oddiwrth Jacob.

27 A hyn yw 'r ammod sydd iddynt gen­nifi, pan gymmerwyf ymmaith eu pechodau hwynt.

28 Felly o ran yr Efengyl, gelynion ydynt o'ch plegid chwi; eithr o ran yr etholedigaeth, caredigion ydynt oblegid y tadau.

29 Canys diedifarus yw doniau, a galwedi­gaeth Dduw.

30 Canys megis y buoch chwithau gynt ynAng­hredadyn. anufydd i Dduw, eithr yr awron a gaw­soch drugaredd, drwyAng­hredini­aeth. anufydd-dod y rhai hyn:

31 Felly hwythau hefyd yr awron aAng­hreda­sant. anu­fyddhasant, fel y caent hwythau drugaredd, drwy eich trugaredd chwi.

32 Canys Duw a'i caeodd hwynt oll mewnAng­hredini­aeth. anufydd-dod, fel y trugarhaai wrth bawb.

33 O ddyfnder golud doethineb a gwybo­daeth Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! a'i ffyrdd mor anolrheinadwy ydynt!

34Esai. 40.13. Doeth. 9.13. 1 Cor. 2.16. Canys pwy a ŵybu feddwl yr Ar­glwydd? neu pwy a fu gynghor-wr iddo ef?

35 Neu pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn?

36 Canys o honaw ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pôb peth: iddo ef y byddo go­goniant yn dragywydd. Amen.

PEN. XII.

1 Y dylai trugareddau Duw ein cynhyrfu ni i ryngu ei fodd ef. 3 Na ddylai neb feddwl yn rhydda o hono ei hun, 6 eithr bôd yn ddiwyd yn yr alwedigaeth y gosodwyd ef ynddi. 9 Cariad a llawer eraill o rinweddant a ofyn­nir cennym ni: 19 A dial yn bendifaddeu a warafunir i ni.

AM hynny yr wyf yn attolwg i chwi, fro­dyr, er trugareddau Duw, roddi o honoch eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, cymme­radwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymmol wasanaeth chwi.

2 Ac na chyd-ymffurfiwch â'r byd hwn, eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y profoch beth yw daionus a chymmeradwy, a pherffaith ewyllys Duw.

3 Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y grâs a roddwyd i mi, wrth bob vn sydd yn eich plith, na byddo i nêb vchel-synied vn amgen nag y dylid synied, eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob vn fesur ffydd.

4 Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn vn corph, ac nad oes gan yr holl aelodau yr vn swydd;

5 Felly ninnau, a ni yn llawer, ydym vn corph ynGhrist, a phob vn yn aelodau i'w gi­lydd.

6 A chan fôd i ni amryw ddoniau, yn ôl y grâs a roddwyd i ni, pa vn bynnac ai pro­phwydoliaeth, prophwydwn yn ôl cyssondeb y ffydd:

7 Ai gweinidogaeth, byddwn ddyfal yn y weinidogaeth; neu 'r hwn sydd yn athrawiae­thu, yn yr athrawiaeth:

8 Neu 'r hwn sydd yn cynghori, yn y cyng­or; yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd: yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugar­hau, mewn llawenydd.

9 Bydded cariad yn ddiragrith: cassewch y drwg, a glynwch wrth y da.

10 Mewn cariad brawdol byddwch gare­dig i'w gilydd, yn rhoddi parch yn blaenori ei gilydd.

11 Nid yn ddiog mewn diwydrwydd, yn wresog yn yr Yspryd, yn gwasanaethu yr Ar­glwydd,

12 Yn llawen mewn gobaith, yn ddioddef­gar mewn cystudd, yn dyfal-barhau mewn gweddi,

13 Yn cyfrannu i gyfreidiau 'r Sainct, ac yn dilyd lletteugarwch.

14 Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felldithiwch.

15 Byddwch lawen gyd â'r rhai sydd lawen, ac wylwch gyd â'r rhai sy 'n wylo.

16 Byddwch yn vn-fryd â'i gilydd: heb roi eich meddwl ar vchel-bethau: eithrYn fod­lon i be­thau isel. yn gyd­ostyngedig â'r rhai isel-radd. Na fyddwch ddoethion yn eich tŷb eich hunain.

17 Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yngolwg pôb dŷn.

18 Os yw bossibl, hyd y mae ynoch chwi,Yn by [...] yn hedd­ychlawn. byddwch heddychlawn â phôb dŷn.

19 Nac ymddielwch, rai anwyl, onid rho­ddwch le i ddigofaint: canys y mae yn scri­fennedig,Deut. 32.35. I mi y mae dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd.

20 Am hynny,Dihar. 25.21. os dy elyn a newyna, por­tha ef: os sycheda, dyro iddo ddiod; canys wrth wneuthur hyn, ti a bentyrriFarw [...] tan. farwor tanllyd am ei ben ef.

21 Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni rwy ddaioni.

PEN. XIII.

1 Ymddarostwng, a llawer o bethau eraill sydd ddyledus i'r llywodraethwyr. 8 Mai car­iad yw cyflawnder y Ddeddf.11 Bod glothineb, a meddwdod, a gweithredoedd y tywyllwch, yn annhymmoraidd yn amser yr Efengyl.

YMddarostynged pob enaid i'r awdurdodau goruchel, canys nid oes awdurdod onid oddiwrth Dduw: a'r awdurdodau sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio.

2 Am hynny, pwy bynnac sydd yn ym­osod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrth­wynebu ordinhâd Duw: a'r rhai a wrthwy­nebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain.

3 Canys tywysogion nid ydynt ofn i weith­redoedd da, eithr i'r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna 'r hyn sydd dda; a thi a gai glod ganddo.

4 Canys gweinidog Duw ydyw ef i ti er daioni: eithr os gwnei ddrwg, ofna, canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer. Oblegid gweinidog Duw yw efe, dialudd llid i'r hwn sydd yn gwneuthur drwg.

5 Herwydd pa ham, anghenrhaid yw ym­ddarostwng, nid yn vnic o herwydd llid, eithr o herwydd cydwybod hefyd.

6 Canys am hyn yr ydych yn talu teyrn­ged hefyd, oblegid gwasanaeth-wŷr Duw yd­ynt hwy, yn gwilied ar hyn ymma.

7 Telwch gan hynny i bawb eu dyledion, teyrn-ged i'r hwn y mae teyrn-ged yn ddyledus, toll i'r hwn y mae toll; ofn i'r hwn y mae ofn; parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus:

8 Na fyddwch yn nlêd nêb o ddim, ond o garu bawb ei gilydd: canys yr hwnsydd yn caru arall, a gyflawnodd y Gyfraith.

9 Canys hyn, Na odineba, Na ladd, Na led­ratta, Na ddwg gam dystiolaeth, Na thrachwan­ta; ac od oes vn gorchymmyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, Câr dy gymmydog fel ti dy hun.

10 Cariad ni wna ddrŵg i'w gymmydog; am hynny cyflawnder y gyfraith yw cariad.

11 A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn brŷd i ni i ddeffroi o gyscu: canys yr awr hon y mae ein iechydwriaeth ni yn nês nâ phan gredasom.

12 Y nos a gerddodd ym-mhell, a'r dydd a nessaodd, am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwiscwn arfau y goleuni.

13 Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach, a meddwdod; nid mewn cyd-orwedd, ac anlladrwydd; nid mewn cynnen a chenfigen:

14 Eithr gwiscwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist, ac na wnewch rag-ddarbod tros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.

PEN. XIV.

1 Na ddylai dynion na dirmygu, na chondemnio ei gilydd, am bethau nid ydynt na da ra drwg, o honynt eu hunain: 13 Eithr gochelyd rhoddi achos tramgwydd ynddynt: 15 o blegid hynny y mae 'r Apostol yn ei brofi ei fôd yn anghyf­raithlawn trwy lawer o resymmau.

YR hwn sydd wan yn y ffydd, derbyniwch attoch,Nid i farnu ei feddyliau anhyspys. nid i ymrafaelion rhesymmau.

2 Canys y mae vn yn credu y gall fwyta pôb peth; ac y mae arall, yr hwn sydd wan, yn bwyta dail.

3 Yr hwn sydd yn bwyta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta; a'r hwn nid yw yn bwyta, na farned ar yr hwn sydd yn bwyta: canys Duw a'i derbyniodd ef.

4 Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu gwâs vn arall? I'w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll, neu yn syrthio; ac efe a gynhelir, canys fe a all Duw ei gynnal ef.

5 Y mae vn yn barnu diwrnod vwch-law diwrnod, ac arall yn barnu pôb diwrnod yn ogyfuwch. Bydded pôb vn yn siccr yn ei feddwl ei hun.

6 Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod, i'r Ar­glwydd y mae yn ei ystyried; a'r hwn sydd heb ystyried diwrnod, i'r Arglwydd y mae heb ei ystyried. Yr hwn sydd yn bwyta, i'r Ar­glwydd y mae yn bwyta: canys y mae yn diolch i Dduw. A'r hwn sy heb fwyta, i'r Ar­glwydd y mae heb fwyta, ac y mae yn diolch i Dduw.

7 Canys nid oes yr vn o honom yn byw iddo ei hun, ac nid yw yr vn yn marw iddo ei hun.

8 Canys pa vn bynnac yr ydym ai byw, i'r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw, i'r Ar­glwydd yr ydym yn marw. Am hynny, pa vn bynnac yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym.

9 O blegit er mwyn hyn y bu farw Christ, ac yr adgyfodes, ac y bu fyw drachefn hefyd, fel yr arglwyddiaethei ar y meirw, a'r byw hefyd.

10 Eithr pa ham yr wyt ti yn barnu dy frawd? neu pa ham yr wyt yn dirmygu dy frawd? Canys2 Cor. 5.10. gosodir ni oll ger bron gor­sedd-faingc Christ.

11 Canys y mae yn scrifennedig,Esai. 45.23. Byw wyfi, medd yr Arglwydd; Pôb glin a blyga i mi, a phob tafod a gyffessa i Dduw.

12 Felly gan hynny, pôb vn o honomAm da­no ei h [...]. trosto ei hun, a rydd gyfrif i Dduw.

13 Am hynny na farnwn ei gilydd mwyach; ond bernwch hyn yn hytrach, na bo i neb ro­ddi tramgwydd i'w frawd, neu rwystr.

14 Mi a wn, ac y mae yn siccr gennif trwy'r Arglwydd Iesu, nad oes dim ynGyffre­din. aflan o ho­naw ei hun, onid i'r hwn sydd yn tybied fod peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan.

15 Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl car­iad,1 Cor. 8.11. Na ddestrywia ef â'th fwyd, tros yr hwn y bu Christ farw.

16 Na chabler gan hynny, eich daioni chwi.

17 Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod, ond cyfiawnder, a thangneddyf, a llawen­ydd yn yr Yspryd glân.

18 Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Christ yn y pethau hyn, sydd hoff gan Dduw, a chymmeradwy gan ddynion.

19 Felly gan hynny dilynwn y pethau a berthynant i heddwch, a'r pethau a berthynant i adeiladaeth ei gilydd.

20 O achos bwyd na ddinistria waith Duw. PôbTit. 1.15. peth yn wîr sydd lân; eithr drwg yw i'r dŷn sydd yn bwyta drwy dramgwydd.

21 Da yw na fwytaer1 Cor. 8.13. cig, ac nad ŷfer gwîn, na dim drwy 'r hyn y tramgwydder, neu y rhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd.

22 A oes ffydd gennit ti? bydded hi gyd â thi dy hun ger bron Duw. Gwyn ei fyd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun, yn yr hyn y mae yn ei dybied yn dda.

23 Eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwyty, ef a gondemnwyd, am nad yw yn bwyta o ffydd. A pheth bynnag nid yw yn bwyta o ffydd. A pheth bynnag nid yw o ffydd, pech­od yw.

PEN. XV.

1 Rhaid i'r cryf gyd-ddwyn a'r gwan. 2 Na ddylem ni ryngu ein bodd ein hunain, 3 gan [Page] na wnaeth Christ hynny, 7 ond derbyn bôb vn ei gilydd, megis y derbyniodd Christ ninnau i gyd, 8 Iddewon, 9 a Chenhedloedd. 15 Paul yn escusodi ei scrifen, 28 ac yn addaw ym­weled â hwynt, 30 ac yn deisyf eu gweddiau.

A Nyni y rhai ydym gryfion, a ddylem gyn­nal gwendid y rhai gweniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain.

2 Boddhaed pôb vn o honom ei gymmy­dog, yn yr hyn sy dda iddo er adeiladaeth.

3 Canys Christ nis boddhaodd ef ei hun, eithr megis y mae yn scrifennedig,Psal. 69.9. Gwrad­wyddiadau y rhai a'th wradwyddent di, a syr­thiasant arnafi.

4 Canys, pa bethau bynnag a scrifennwyd o'r blaen, er addysc i ni yr scrifennwyd hwynt, fel trwy ammynedd a diddanwch yr Scrythy­rau, y gallem gael gobaith.

51 Cor. 1.10. A Duw yr ammynedd a'r diddanwch, a roddo i chwi synied yr vn peth tu ag at ei gilyddNeu, yn ol esampl Christ Iesu. yn ôl Christ Iesu:

6 Fel y galloch yn vn-fryd, o vn genau, ogoneddu Duw, a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist.

7 O herwydd pa ham, derbyniwch ei gilydd, megis ac y derbyniodd Christ ninnau i ogon­iant Duw.

8 Ac yr wyf yn dywedyd, wneuthur Iesu Grist yn wenidog i'r enwaediad, er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau yr addewidion a wnaethpwyd i'r tadau.

9 Ac fel y byddei i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd, fel y mae yn scrifenne­dig;Psal. 18.40. Am hyn y cyffesaf i ti ym-mhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i'th Enw.

10 A thrachefn y mae yn dywedyd;Deut. 32.43. Ym­lawenhewch Genhedloedd gyd â'i bobl ef.

11 A thrachefn,Psal. 117.1. Molwch yr Arglwydd yr holl Cenhedloedd, a chlodsorwch ef yr holl bobloedd.

12 A thrachefn y mae Esaias yn dywedyd,Esai. 11.10. Fe fydd gwreiddyn Jesse, a'r hwn a gyfyd i lywodraethu y Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia y Cenhedloedd.

13 A Duw 'r gobaith a'ch cyfiawno o bôb llawenydd a thangneddyf gan gredu, fel y cyn­nyddoch mewn gobaith, trwy nerth yr Ys­pryd glân.

14 Ac yr wyfi fy hun, fy mrodyr, yn credu am danoch chwi, eich bôd chwithau yn llawn daioni, wedi eich cyflawni o bôb gwybodaeth, ac yn abl i rybuddio ei gilydd hefyd.

15 Eithr mi a scrifennais yn hyfach o beth attoch, o frodyr, fel vn yn dwyn ar gof i chwi, trwy y grâs a roddwyd i mi gan Dduw.

16 Fel y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd, gan weini i Efengyl Dduw, fel y byddei offrymiad y Cenhedloedd yn gymme­radwy, wedi ei sancteiddio gan yr Yspryd glân.

17 Y mae i mi, gan hynny, orfoledd yn Ghrist Iesu, o ran y pethau a berthyn i Dduw.

18 Canys ni feiddiafi ddywedyd dim o'r pethau ni weithredodd Christ trwofi, i wneu­thur y Cenhedloedd yn vfydd, ar air a gweith­red:

19 Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, gan nerth Yspryd Duw: hyd pan o Jerusalem, ac o amgylch hyd lllyricum, y llenwais Efengyl Grist.

20 Ac felly gan ymorchestu i bregethu 'r Efengyl, nid lle yr henwid Crist, fel nad adei­ladwn ar sail vn arall:

21 Eithr megis y mae yn scrifennedic;Esai. 52.15. I'r rhai ni fynegwyd am dano, hwynt hwy a'i gwelant ef; a'r rhai ni chlywsant, a ddeallant.

22 Am hynny hefyd i'm lluddwyd yn fy­nych i ddyfod attoch chwi.

23 Eithr yr awr hon, gan nad oes gennif le mwyach yn y gwledydd hyn, a hefyd bod ar­naf hiraeth erys llawer o flynyddoedd am ddy­fod attoch chwi:

24 Pan elwyf i'r Hispaen, myfi a ddeuaf attoch chwi. Canys yr wyf yn gobeithio wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a'm hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwiNeu, o'ch cym­deithas, Gr. a chwi. o honoch.

25 Ac yr awr hon yr wyfi yn myned i Je­rusalem, i weini i'r Sainct.

26 Canys rhyngodd bodd i'r rhai o Mace­donia ac Achaia, wneuthur rhyw gymmorth i'r rhai tlodion o'r Sainct sydd yn Jerusalem.

27 Canys rhyngodd bodd iddynt, a'u dy­ledwŷr hwy ydynt: oblegid os cafodd y Cen­hedloedd gyfran o'u pethau ysprydol hwynt, hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwy­theu, mewn pethau cnawdol.

28 Wedi i mi, gan hynny, orphen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a ddeuaf heboch i'r Hispaen.

29 Ac mi a wn pan ddelwyf attoch, y deuaf â chyflawnder bendith Efengyl Grist.

30 Eithr yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac er car­iad yr Yspryd, ar gyd-ymdrech o honoch gyd â myfi mewn gweddiau trosofi at Dduw,

31 Fel i'm gwareder oddi wrth y rhaiHeb. gredu. anufydd yn Judæa, ac ar fod fy ngweinidog­aeth, yr hon sydd gennif i Jerusalem, yn gym­meradwy gan y Sainct.

32 Fel y delwyf attoch mewn llawenydd, trwy ewyllys Duw, ac i'm cyd-lonner gyd â chwi.

33 A Duw 'r heddwch fyddo gyd â chwi oll. Amen.

PEN. XVI.

3 Paul yn ewyllysio i'r brodyr annerch llawer, 17 ac yn eu cynghori hwy i ochelyd y rhai sydd yn peri anghydfod, a rhwystrau, 21 ac ar ôl amryw annherchion, yn diweddu gydâ mol­iant a diolch i Dduw.

YR wyf yn gorchymmyn i chwi Phaebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i Eglwys Cenchrea:

2 Dderbyn o honoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i Sainct, a'i chynnorth­wyo hi ym-mha beth bynnac y byddo rhaid iddi wrthych: canys hitheu hefyd a fu gym­morth i lawer, ac i minneu fy hun hefyd.

3 Annherchwch Priscilla, ac Acuila, fy nghydweith-wŷr ynGhrist Iesu.

4 (Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr; i'r rhai nid wyfi yn vnic yn diolch, onid hefyd holl Eglwysydd y Cenhedloedd)

5 Anherchwch hefyd yr Eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anherchwch fy anwyl Epenetus, yr hwn yw blaen-ffrwyth Achaia ynGhrist.

6 Annherchwch Mair, yr hon a gymme­rodd lawer o boen erom ni.

7 Annherchwch Andronicus, a Junia, fy ngheraint, a'm cydgarcharorion, y rhai sy hy­nod ym-mlith yr Apostolion, y rhai hefyd oedd­ent ynGhrist o'm blaen i.

8 Annherchwch Amplias [...] [...]wylyd yn yr Arglwydd.

9 Annherchwch Vrbanus [...] cydweithwr ynGhrist, ac Stachys fy anwylyd.

10 Annherchwch Apelles y profedic yn­Ghrist. Annherchwch y rhai sy o dŷlwyth Ari­stobulus.

11 Annherchwch Herodion fy nghâr. Annherchwch y rhai sy o dŷlwyth Narcissus, y rhai sydd yn yr Arglwydd.

12 Annherchwch Tryphaena a Thryphôsa, y rhai a gymmerasant boen yn yr Arglwydd. Annherchwch yr anwyl Persis, yr hon a gym­merodd lawer o boen yn yr Arglwydd.

13 Annherchwch Rufus etholedig yn yr Arglwydd, a'i fam ef a minneu.

14 Annherchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Mercurius, a'r brodyr sy gyd â hwynt.

15 Annherchwch Philologus, a Iulia, Ne­reus a'i chwaer, ac olympas, a'r holl Sainct, y rhai sydd gyd â hwynt.

16 Annherchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae Eglwysi Christ yn eich an­nerch.

17 Ac yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sy yn peri anghydfod a rhwystrau, yn erbyn yr athrawiaeth a ddyscas­och chwi, a chiliwch oddi wrthynt.

18 Canys y rhai sy gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd têg a gweniaith yn twyllo calonnau y rhai diddrwg.

19 Canys eich vfydd-dod chwi a ddaeth ar lêd at bawb. Yr wyfi gan hynny yn llawen o'ch rhan chwi, eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tu ag at y peth sy dda, ac yn wirion tu ag at y peth sy ddrwg.

20 A Duw y tangneddyf aY ssiga. sathr Satan tan eich traed chwi ar frys. Grâs ein Harglwydd Iesu Ghrist fyddo gyd â chwi. Amen.

21 Y mae Timotheus fy nghydweith-wr, a Lucius, a Iason, a Sosipater, fy ngheraint, yn eich annerch.

22 Yr wyfi Tertius, yr hwn a scrifen­nais yr Epistol hwn, yn eich annerch yn yr Arglwydd.

23 Y mae Gaius fy lletteu-wr i, a'r holl Eglwys, yn eich Annerch. Y mae Erastus, goruchwiliwr y ddinas, yn eich annerch, a'r brawd Quartus.

24 Grâs ein Harglwydd Iesu Ghrist a fyddo gyd â chwi oll. Amen.

25 I'r hwn a ddichon eich cadarnhau, yn ôl fy Efengyl i, a phregethiad Iesu Ghrist, yn ôl datcudddiad y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd am dano erAmser­oedd tra­gwyddol. dechreuad y byd;

26 Ac yr awron a eglurwyd, a thrwy Scrythyrau y Prophwydi yn ol gorchymmyn y tragwyddol Dduw, a gyhoeddwyd ym­mhlith yr holl Genhedloedd, er mwyn vfydd­dod ffydd.

27 I Dduw yr vnic ddoeth y byddo gogon­iant trwy Iesu Christ yn dragywydd. Amen.

¶At y Rhufeiniaid yr scrifennwyd o Co­rinthus, gyd â Phaebe gweinidoges yr Eglwys yn Cenchrea.

¶YR EPISTOL CYNTAF I PAVL YR APOSTOL at y CORINTHIAID.

PENNOD I.

1 Ar ôl iddo gyfarch iddynt a diolch troslynt, 10 y mae efe yn eu hannog i vndeb, ac 12 yn beio ar eu anghytundeb hwy. 18 Bôd Duw yn difetha doethineb y doethion, 21 trwy ffolineb pregethu, ac 26 nad yw efe yn galw y doethion, na'r galluoc, na'r boneddigion, ond 27, 28 y ffol, a'r gwan, a'r distadl.

PAul wedi ei alw i fôd yn Apostl Iesu Grist, trwy ewyllys Duw, a'r brawd Sosthenes,

2 At Eglwys Dduw, yr hon sydd yn Corinth, at y rhaiAct. 15.9. a sancteiddiwyd yn-Ghrist Iesu, aRhuf. 1.7. alwyd yn Sainct, gŷd â phawb ac sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Ghrist, ym-mhôb man,Neu, sef eu Hargl­wydd hwy a ninnau. o'r eiddynt hwy a ninnau:

3 Grâs fyddo i chwi a thangneddyf oddi­wrth Dduw ein Tâd ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

4 Yr ydwyf yn diolch i'm Duw bob amser drosoch chwi, am y grâs Duw a rodded i chwi yng-Ghrist Iesu:

5 Am eich bôd ym-mhôb peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, mewn pôb ymadrodd a phob gwybodaeth,

6 Megis y cadarnhawyd tystiolaeth Christ ynoch.

7 Fel nad ydych yn ôl mewn vn dawn, yn disgwil amNeu, ddyfodiad. ddatcuddiad ein Harglwydd Iesu Christ:

8 Yr hwn hefyd a'ch [...]darnhâ chwi hyd y diwedd, yn ddiargyoedd [...] nŷdd ein Har­glwydd Iesu Ghrist

91 Thes. 5.24. Ffyddlawn yw Duw, trwy yr hwn i'ch galwyd i gymdeithas ei fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni.

10 Ac yr wyf yn attolwg i chwi frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywe­dyd o bawb o honoch chwi yr vn peth, ac na byddoSchis­man. ymbleidio yn eich plith, eithr bod o honoch wedi eich cyfan-gyssylltu, yn yr vn meddwl, ac yn yr vn farn.

11 Canys fe ddangoswyd i mi am danoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai sy o dŷ Chloe, fôd cynhennau yn eich plith chwi.

12 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, bod pob vn o honoch yn dywedyd,Act. 18.24. Yr ydwyfi yn eiddo Paul, minneu yn eiddo Apollos, minneu yn eiddo Cephas, minneu yn eiddo Christ.

13 A rannwyd Christ? Ai Paul a groes­hoeliwyd trosoch? neu ai yn enw Paul i'ch bedyddiwyd chwi?

14 Yr ydwyf yn diolch i Dduw, na fedydd­iais i neb o honoch, ondAct. 18.8. Crispus a Gaius:

15 Fel na ddywedo nêb fedyddio o honofi yn fy enw fy hun.

16 Mi a fedyddiais hefyd dylwyth Stepha­nas: heb law hynny ni's gwn a fedyddiais i nêb arall.

17 Canys ni anfonodd Christ fi i fedyddio, onid i efangylu; nid2 Pet 1.16. mewn doethineb yma­drodd, fel na wnelid croes Christ yn ofer.

18 CanysPrege­thu y groes. yr ymadrodd am y groes, i'r rhai colledig ynfydrwydd yw; eithr i ni y rhai cadwedig,Rhuf. 1.16. nerth Duw ydyw.

19 Canys scrifennedic yw, Mi a ddifethaf [Page] ddoethineb y doethion, a [...]ay. [...]9.14. deall y rhai deallus a ddileaf.

20Esay. 33.18. Pa le y mae 'r doeth? Pa le mae 'r Scrifennydd? Pa le y mae ymholydd y byd hwn? Oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd?

21Rhuf. 1.20. Canys o herwydd yn noethineb Duw, nad adnabu y byd trwy ddoethineb mo Dduw; fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb preg­ethu, gadw y rhai sy yn credu.

22 Oblegit y maeMatth. 12.38. yr Iddewon yn gofyn arwydd, a'r Groegwŷr yn ceisio doethineb:

23 Eithr nyni ydym yn pregethu Christ wedi ei groes-hoelio, i'r Iddewon yn dram­gwydd, ac i'r Groeg-wŷr yn ffolineb;

24 Ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Idde­won a G [...]oeg-wŷ [...], yn Grist, gallu Duw, a doe [...]hineb Duw.

25 C [...]y [...] y mae ffolineb Duw yn ddoethach [...]a dynion, a gwendid Duw yn gryfach nâ dynion.

26 Canys yr ydych yn gweled eich galwe­ [...]eth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn [...] y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion, a alwyd.

27 Eithr Duw a etholodd ffol bethau y byd, fel y gwradwyddei y doethion, a gwan bethau y byd a etholodd Duw, fel y gwradwyddei y pethau cedyrn:

28 A phethau distadl y bŷd, a phethau dirmy­gus, a ddewisodd Duw, a'r pethau nid ydynt, fel y diddymmei y pethau sydd.

29 Fel na orfoleddeiPob [...]nawd. vn cnawd ger ei fron ef.

30 Eithr yr ydych chwi o honaw ef yn Ghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth:

31 Fel, megis ac y mae yn scrifennedig,Jer. 9.23.24. Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.

PEN. II.

1 Mae efe yn dangos fod ei bregeth ef, er nad ydoedd yn dwyn gyda hi odidawgrwydd ymadrodd, 4 neu ddoethineb dynawl: etto yn sefyll mewn 4, 5 nerth Duw, ac yn rhagori cymmaint 6 ar ddoethineb y byd yma, 9 a synn yr dynawl, ac nas 14 gall y dyn anianol mo'i deall.

A Myfi pan ddaethum attoch, frodyr, aPen. [...].17. ddaethum nid yn ôl godid [...]wgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Dduw.

2 Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Ghrist, a hwnnw wedi ei groes­hoelio.

3 A mi a fûm yn eich mysc mewn gwen­did, ac ofn, a dychryn mawr.

4 A'm hymadrodd, a'm pregeth i,1 Pet. 1.16. ni bu mewn geiriauHygoel. denu, o ddoethineb ddynawl, ond yn eglurhâd yr Yspryd, a nerth:

5 Fel na byddei eich ffydd mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw.

6 A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ym-mysc rhai perffaith; eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sy yn diflannu:

7 Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb gudd­iedig, yr hon a rag-ordeiniodd Duw cyn yr oesoedd, i'n gogoniant ni.

8 Yr hon ni adnabu neb o dywysogion y byd hwn, o herwydd pes adwaenasent, ni chroes­hoeliasent Arglwydd y gogoniant.

9 Eithr fel y mae yn scrifennedic,Esay. 64.4. Ni we­lodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dŷn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef.

10 Eithr Duw a'u heglurodd i ni trwy ei Yspryd, canys yr Yspryd sydd yn chwilio pob peth; ie dyfnion bethau Duw hefyd.

11 Canys pa ddŷn a edwyn bethau dŷn, ond yspryd dŷn yr hwn sydd ynddo ef? felly hefyd, pethau Duw nid edwyn neb ond Yspryd Duw.

12 A nyni a dderbyniasom, nid yspryd y byd, ond yr Yspryd sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a râd-roddwyd i ni gan Dduw.

132 Pet. 1.16. Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd, nid â'r geiriau a ddyscir gan ddo­ethineb ddynol, ond a ddyscir gan yr Yspryd glân; gan gyd-farnu pethau ysprydol a phethau ysprydol.

14 Eithr dŷn anianol nid yw yn derbyn y pethau sy o Yspryd Duw; canys ffolineb ydynt ganddo ef, ac nis gall eu gwybod; oblegid yn ysprydol y berni [...] hwynt.

15Dihar. 28.5. Ond yr hwn sydd ysprydol sydd yn barnu pôb peth, eithr efe nis bernir gan neb.

16Rhuf. 11.34. Esay. 40.13. Canys pwy a ŵybu feddwl yr Ar­glwydd, yr hwn a'i cyfarwydda ef? Ond y mae gennym ni feddwl Christ.

PEN. III.

1 Bod llaeth yn gymwys: blant. 3 Cynhen ac ymbleidio yn arwyddion o feddwl bydol. 7 Nad yw 'r hwn sydd yn plannu, na'r hwn sydd yn dyfrhau ddim. 9 Bod y gweinidogion yn gydweithwyr i Dduw. 11 Ch [...]st yw yr vnic sylfa [...]n. 16 Bod dynion yn Demlau Duw, y rhai 17 sydd raid eu cadw yn sanctaidd. 19 Nad yw doethineb y byd yma ond ffolineb gyda Duw.

A Myfi frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysprydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth rai bâch ynGhrist.

2 Mi a roddais i chwi laeth i'w yfed, ac nid bwyd: canys hyd yn hyn ni's gallech, ac ni's gellwch chwaith etto yr awron ei dderbyn.

3 Canys cnawdol ydych chwi etto. Canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen, a chyn­nhen, ac ymbleidio, onid ydych yn gnawdol, ac yn rhodio ynYn od dyn. ddynol?

4 Canys tra dywedo vn, myfi ydwyf eiddo Paul, ac a rall, Myfi wyf eiddo Apollos y ond ydych chwi yn gnawdol?

5 Pwy gan hynny yw Paul: A phwy Apol­los? ond gweinidogion, trwy y rhai y credas­och chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bôb vn.

6 Myfi a blennais, Apollos a ddyfrhaodd, ond Duw a roddes y cynnydd.

7 Felly nid yw yr hwn sydd yn plannu ddim, na'r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw yr hwn sydd yn rhoi y cyn [...]ydd.

8 Eithr yr hwn sydd yn plannu, a'r hwn fydd yn dyfrhau, vn ydynt;Psal. 62.12. Gal. 6.5. a phob vn a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ôl ei lafur ei hun.

9 Canys cyd-weithwŷr Duw ydym ni: llafur-waith Duw, adeiladaeth Duw, ydych chwi.

10 Yn ôl y grâ [...] Duw a roddwyd i mi, megis pen-saer celf [...], myfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall o'm goruwch-adeiladu, ond [Page] edryched pob vn pa wedd y mae yn goruwch-adeiladu.

11 Canys sylfaen arall ni's gall neb ei osod, heb law yr vn a osodwyd, yr hwn yw Iesu Ghrist.

12 Eithr os goruwch-adeilada neb ar y fylfaen hwn, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl:

13 Gwaith pôb dŷn a wneir yn amlwg: canys y dydd a'i dengys, oblegid trwy dân y dadcuddir ef; a'r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw.

14 Os gwaith nêb a erys, yr hwn a oruwch­adailadodd ef; efe a dderbyn wobr.

15 Os gwaith nêb a loscir, efe a gaiff golled; eithr efe ei hûn a fydd cadwedig, etto felly megis trwy dân.

16Pen. 6.19. Oni ŵyddoch chwi, mai Teml Dduw ydych, a bod Yspryd Duw yn trigo ynoch?

17 Os llygra nêb Deml Dduw, Duw a lygra hwnnw. Canys sanctaidd yw Teml Dduw, yr hon ydych chwi.

18 Na thwylled neb ei hunan, Od oes neb yn eich mysc yn tybied ei fôd ei hun yn ddoeth yn y byd hwn, bydded ffol fel y byddo doeth.

19 Canys doethineb y byd hwn sydd ffoli­neb gyd â Duw: o herwydd scrifennedig yw,Job. 5.13. Y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwystra.

20 A thrachefn,Psal. 94.11. Y mae 'r Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt.

21 Am hynny na orfoledded neb mewn dynion, canys pôb peth sydd eiddoch chwi.

22 Pa vn bynnag ai Paul, ai Apollos, ai Cephas, ai'r bŷd, ai bywyd, ai angeu, ai pethau refennol, ai pethau i ddyfod, y mae pôb beth yn eiddoch chwi:

23 A chwithau yn eiddo Christ, a Christ yn eiddo Duw.

PEN. IV.

1 Pa gyfrif a ddyleid ei wneuthur o weinido­gion. 7 Nad oes gennym ni ddim a'r nas der­byniasom. 9 Bod yr Apostolion yn ddrychau i'r byd, i'r Angylion, ac i ddynion, 13 yn yscu­bion, ac yn sorod y byd: 15 ac er hynny eu bod yn dadau i ni ynGhrist, 16 ac y dylem ni eu dilyn hwy.

FElly cyfrifed dŷn nyni, megis gwenidogion i Ghrist, a goruchwyi-wŷr ar ddirgeledig­aethau Duw.

2 Am ben hyn, yr ydys yn disgwil mewn goruchwyl-wŷr, gael vn yn ffyddlon.

3 Eithr gennifi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu ganDdydd dyn. farn dŷn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun.

4 Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni'm cyfiawnhawyd, eithr yr Ar­glwydd yw yr hwn sydd yn fy marnu.

5Matth. 7.1. Rhuf. 2.1. Am hynny, na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo yr Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau y calonnau, ac yna y bydd y glôd i bôb vn gan Dduw.

6 A'r pethau hyn, frodyr, mewn cyffelyb­iaeth a fwriais i attaf fy hun, ac at Apollos, o'ch achos chwi, fel y galloch ddyscu ynom ni, na fynier mwy nag sydd scrifennedig, fel na bôch y naill tros y llall yn ymchwyddo yn erbyn arall.

7 Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyng­oti ac arall? A pha beth sydd gennit a'r na's derbyniaist? Ac os derbyniaist, pa ham yr wyt ti yn gorfoleddu, megis pe bait heb dderbyn?

8 Yr ydych chwi yr awron wedi eich di­wallu, yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi, chwi a deyrnasasoch hebom ni; ac och Dduw na baech yn teyrnafu, fel y caem ninnau dcyrnasu gyd â chwi.

9 Canys tybied yr wyf, ddarfod i Dduw ein dangos ni, yr Apostolion diweddaf, fel rhai wedi eu bwrw i angeu; oblegid nyni a wnaeth­pwyd yntheatr. ddrych i'r byd, ac i'r Angelion, ac i ddynion.

10 Yr ydym ni yn ffyliaid er mwyn Christ, a chwithau yn ddoethion ynGhrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn anrnydeddus, a ninnau yn ddirmygus.

11 Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym ni yn noethion, ac yn cael cernodiau, ac yn grwydraidd;

12Act. 20.34. 1 Thes. 2.9. 2 Thes. 3.8. Ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â'n dwylo ein hunain. Pan i'n difenwir, yr ydym yn bendithio: pan i'n herlidir, yr ydym yn ei ddioddef:

13Matth. 5.44. Pan i'n ceblir, yr ydym yn gweddio, fel yscubion y bŷd y gwnaethpwyd ni, a sorod pob dim hyd yn hyn.

14 Nid i'ch gwradwyddo chwi yr ydwyf yn scrifennu y pethau hyn, ond eich rhybuddio yr wyf, fel fy mhlant anwyl.

15 Canys pe byddei i chwi ddeng-mil o athrawon ynGhrist, er hynny nid oes i chwi nemmawr o dadau: canys myfi a'ch cenhedl­ais chwi ynGhrist Iesu trwy yr Efengyl.

16 Am hynny yr wyf yn attolwg i chwi; byddwch ddilyn-wyr i mi.

17 O blegid hyn yr anfonais attoch Timo­theus, yr hwn yw fy anwyl fâb, a ffyddlawn yn yr Arglwydd, yr hwn a ddŵg ar gôf i chwi fy ffyrdd i ynGhrist; megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym-mhôb Eglwys.

18 Ac y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod attoch chwi.

19Act. 19.21. Eithr mi a ddeuaf attoch ar fyrder,Jac. 4.15. os yr Arglwydd a'i mynn, ac a fynnaf wybod, nid ymadrodd y rhai fy wedi chwyddo, ond eu gallu.

20 Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw, eithr mewn gallu.

21 Beth a fynnwch chwi? ai dyfod o ho­nofi attoch chwi â gwialen, ynteu mewn cariad, ac yspryd addfwynder?

PEN. V.

1 Bod y gwr godinebus yn achos o gywilydd iddynt, yn hytrach nag o orfoledd. 7 Rhaid yw ymlanhau oddiwrth yr hen Lefain. 10 Y dylid cilio oddiwrth anfad ddrwg weithredwyr.

MAe yr gair yn hollawl, fôd yn eich plith chwi odineb, a chyfryw odineb ac na henwir vn-waith ym mysc y Cenhedloedd: sef cael o vn wraig ei dâd.

2 Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y tynnid o'ch mysc chwi y neb a wnaeth y weithred hon.

3Col. 2.5. Canys myfi yn ddiau fel absennol yn y corph, etto yn bresennol yn yr yspryd, a fernais eusys, fel pe bawn bresennol, am yr hwn a wnaeth y peth hyn felly:

4 Yn enw ein Harglwydd Iesu Ghrist, pan ymgynnulloch ynghyd, a'm hyspryd inneu, gydâ gallu ein Harglwydd Iesu Ghrist,

51 Tim. 1.20. Draddodi y cyfryw vn i Satan, i ddinystr y cnawd, fel y byddo yr yspryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu.

6 Nid da eich gorfoledd chwi;Gal. [...]. 9. Oni wydd­och chwi fôd ychydig lefein yn lefeinio yr holl does?

7 Am hynny certhwch allan yr hên lefein, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys Christ ein Pasc ni aNeu, l [...]dwyd. aberthwyd trosom ni.

8 Am hynny cadwn ŵyl, nid â hên lefein, nac â lefein mafis a drygioni, ond a bara croyw purdeb a gwirionedd.

9 Mi a scrifennais attoch mewn llythyr, na chyd-ymgymmyscech â godineb-wŷr.

10 Ac nid yn hollawl a godineb-wŷr y byd hwn, neu â'r cybyddion, neu â'r cribddeil­wŷr, neu ag eulyn addolwŷr; oblegid felly, rhaid fyddai i chwi fyned allan o'r bŷd.

11 Ond yn awr mi a scrifennais attoch na chyd ymgymmyscech, os bydd neb a henwir yn frawd yn odineb-ŵr, neu yn gybydd, neu yn eulyn-addolwr, neu yn ddifennwr, neu yn feddw, neu yn grib-ddeiliwr, gyd â'r cyfryw ddyn, na chyd-fwytta chwaith.

12 Canys beth sydd i mi a farnwyf ar y rhai sy oddi allan? Onid y rhai sy oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu?

13 Eithr y rhai sy oddi allan, Duw sy yn eu barnu. Bwriwch chwithau ymmaith y dŷn drygionus hwnnw o'ch plith chwi.

PEN. VI.

1 Na ddylai y Corinthiaid flino eu brodyr trwy fyned i'r gyfraith â hwynt: 6 yn enwedic ger bron rhai digred. 9 Na chaiff y rhai anghyfi­awn etifeddu teyrnas Dduw. 15 Bod ein cyrph ni yn aelodau i Ghrist, 19 ac yn demlau i'r Yspryd glan: 16, 17 ac am hynny na ddy­lid mo'i halogi.

A Feiddia neb o honoch, a chanddo fatter yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y Sainct?

2 Oni ŵyddoch chwi y barna y Sainct y byd: Ac os trwoch chwi y bernir y byd, a yd­ych chwi yn anaddas i farnu y pethau lleiaf?

3 Oni wyddoch chwi y barnwn ni Angel­ion? pa faint mwy y pethau a berthyn i'r bywyd hwn?

4 Gan hynny, od oes gennwch farnedigae­thau am bethau a berthyn i'r bywyd hwn, dodwch ar y faingc y rhai gwaelaf yn yr Eglwys.

5 Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywe­dyd. Felly, onid oes yn eich plith cymmaint ac vn doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr?

6 Ond bôd brawd yn ymgyfreithio â brawd, a hynny ger bron y rhai digred.

7 Yr awron gan hynny y mae yn hollawl ddiffyg yn eich plith, am eich bôd vn ymgy­freithio â'i gilydd. Pa ham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? Pa ham nad ydych yn hytrach mewn colled?

8 Eithr chwy-chwi sydd yn gwneuthur cam, a cholled, a hynny i'r brodyr.

9 Oni ŵyddoch chwi na chaiff y rhai ang­hyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi; ni chaiff na godineb-wŷr, nac eulyn­addolwŷr, na thorwŷr priodas, na maswedd­wŷr, na gwrryw-gydwŷr,

10 Na lladron, na chybyddion, na medd­won, na difenwyr, na chribddeil-wŷr, etife­ddu teyrna [...] Dduw.

11 A hyn fu rai o honoch chwi. Eithr chwi a olchwyd; eithr chwi a sancteiddwyd; eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn Enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Yspryd ein Duw ni.

12 Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn lleshau; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni'm dygir i dan awdur­dod gan ddim.

13 Y bwydydd i'r bol, a'r bol i'r bwy­dydd; eithr Duw a ddinistria hwn, a hwythau. A'r corph nid yw i odineb, ond i'r Arglwydd; a'r Arglwydd i'r corph.

14 Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a'n cyfyd ninnau ttwy ei nerth ef.

15 Oni ŵyddoch chwi fôd eich cyrph yn aelodau i Ghrist? gan hynny a gymmeraf fi aelodau Christ, a'u gwneuthur yn aelodau puttain? Na atto Duw.

16 Oni ŵyddoch chwi fôd yr hwn sydd yn cydio â phuttain yn vn corph? canys y ddau (medd efe) fyddant vn cnawd.

17 Ond yr hwn a gysylltir â'r Arglwydd, vn yspryd yw.

18 Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dŷn, oddi allan iw gorph y mae: ond yr hwn sydd yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorph ei hun.

19 Oni ŵyddoch chwi fôd eich corph yn Deml i'r Yspryd glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch eich hunain?

20 Canys er gwerth y prynwyd chwi; gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corph, ac yn eich yspryd, y rhai sydd eiddo Duw.

PEN. VII.

2 Y mae efe yn crybwyll am briodas, 4 ac yn dan­gos mai rhwymedi yw yn erbyn godineb: 10 ac na ddylid dattod y cwlwm hwnnw mewn yscafnder. 18, 20 Rhaid i bob dyn fôd yn fodlon iw alwedigaeth. 25 Pa ham y dylid mawrhau gwyryfdod: 35 ac ar ba achosion y gallwn ni briodi neu beidio â phriodi.

AC am y pethau yr scrifennasoch attaf; da i ddyn na chyffyrddei â gwraig.

2 Ond rhag godineb, bydded i bôb gŵr ei wraig ei hun, a bydded i-bôb gwraig ei gŵr ei hun.

3 Rhodded y gŵr i'r wraig ddyledus ewyllys da, a'r vn wedd y wraig i'r gwr.

4 Nid oes i'r wraig feddiant ar ei chorph ei hun, ond i'r gŵr; ac yr vn ffunyd, nid oes i'r gŵr feddiant ar ei gorph ei hun, ond i'r wraig.

5 Na thwyllwch ei gilydd, oddieithr o gyd-syniad tros-amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temptio o Satan chwi o herwydd eich anlladrwydd.

6 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ganiad­tâd, nid o orchymmyn.

7 Canys mi a fynnwn fôd pôb dŷn fel fi fy hun, eithr y mae i bôb vn ei ddawn ei hun gan Dduw; i vn fel hyn, ac i arall fel hyn.

8 Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb priodi, a'r gwragedd gweddwon; Da yw iddynt os arhosant fel finneu.

9 Eithr oni allant ymgadw, priodant: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.

10 Ac i'r rhai a briodwyd yr ydwyf yn gorchymmyn, nid myfi chwaith ond yr Ar­glwydd, Nad ymadawo gwraig oddiwrth ei gŵr.

11 Ac os ymedy hi, arhoed heb priodi, neu gymmoder hi â'i gwr: ac na ollynged y gŵr ei wraig ymmaith.

12 Ac wrth y lleill, dywedyd yr wyfi, nid yr Arglwydd; Os bydd i vn brawd wraig ddigrêd, a hitheu yn fodlon i drigo gyd ag ef, na ollynged hi ymmaith.

13 A'r wraig, yr hon y mae iddi ŵr digrêd, ac yntef yn fodlon i drigo gyd â hi, naadawed. wrthoded hi ef.

14 Canys y gŵr di-grêd a sancteiddir trwy y wraig: a'r wraig ddi-grêd a sancteiddir trwy y gŵr. Pe amgen aflan vn ddiau fyddei eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt.

15 Eithr os yr anghredadyn a ymedy, ymadawed; nid yw y brawd neu y chwaer gaeth yn y cyfryw bethau: eithr Duw a'n gal­wodd niGr. mewn heddwch. i heddwch.

16 Canys beth a wyddost ti, wraig, a gedwi di dy ŵr? a pheth a wyddost titheu ŵr, a gedwi di dy wraig?

17 Ond megis y darfu i Dduw rannu i bôb vn, megis y darfu i'r Arglwydd alw pôb vn, felly rhodied. Ac fel hyn yr wyf yn ordeinio yn yr Eglwysi oll.

18 A alwyd neb wedi ei enwaedu? nac ad­geisied ddienwaediad. A aiwyd neb mewn dienwaediad? nac enwaeder arno.

19 Enwaediad nid yw ddim a dienwaediad nid yw ddim, ond cadw gorchymynion Duw.

20 Pob vn yn y galwedigaeth y galwyd ef, yn honno arhosed.

21 Ai yn wâs i'th alwyd? na fydded gwaeth gennit; etto os gelli gaelbod yn rhydd, mwynha hynny yn hytrach.

22 Canys yr hwn, ac ef yn wis, a alwyd yn yr Arglwydd, gŵr rhydd i'r Arglwydd ydyw. A'r vn ffunyd yr hwn, ac efe yn wr rhydd a alwyd, gwas i Ghrist yw.

23 Er gwerth i'ch prynwyd; na fyddwch weision dynion.

24 Yn yr hyn y galwyd pôb vn, frodyr, yn hynny arhosed gyd â Duw.

25 Eithr am wyryfon, nid oes gennif orch­ymyn yr Arglwydd. Ond barn yr ydwyf yn ei roi, fel vn a gafas drugaredd gan yr Ar­glwydd, i fod yn ffyddlon.

26 Am hynny yr wyf yn tybied mai da yw hyn, o herwydd yr angenrhaid presennol; mai da meddaf i ddŷn fôd felly.

27 A wyt ti yn rhwym i wraig? na chais dy ollwng yn rhydd. A wyt ti yn rhydd oddi­wrth wraig? na chais wraig.

28 Ac os priodi hefyd ni phechaist, ac os prioda gwyryf, ni phechodd. Er hynny, y cyfryw rai a gânt flinder yn y cnawd: eithr yr wyf yn eich arbed chwi.

29 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fro­dyr, am fod yr amser yn fyrr. Y mae yn ôl, fod o'r rhai sy a gwragedd iddynt, megis pe byddent hebddynt:

30 A'r rhai a ŵylant, megis heb ŵylo; a'r rhai a lawenhânt, megis heb lawenhau; a'r rhai a brynant, megis heb feddu;

31 A'r rhai a arferant y byd hwn, megis heb ei gam-arfer; Canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio.

32 Eithr mi a fynnwn i chwi fôd yn ddiofal. Yr hwn sydd heb priodi, sydd yn gofalu am bethau yr Arglwydd, pa wedd y bodlona 'r Arglwydd:

33 Ond y neb a wreiccâodd, sydd yn gofalu am bethau y byd; pa wedd y bodlona ei wraig.

34 Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraigmorwyn ieuaingc. a gwyryf. Y mae yr hon sydd h [...]b briodi, yn gofalu am y pethau sydd yn perthyn i'r Arglwydd, fel y byddo hi sanctaidd yng­horph, ac yspryd: ac y mae yr hon sydd wedi priodi, yn gofalu am bethau bydol; pa fodd y rhynga hi fodd i'r gŵr.

35 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd er llesâd i chwi eich hunain; nid i osod magl i chwi, eithr er mwyn gweddeidd-dra, a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahan.

36 Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tu ag at ei wyryf, od â hi tros flodau ei hoedran, a bod yn rhaid gwneu­thur felly, gwnaed a fynno; nid yw yn pethu; priodant.

37 Ond yr hwn sydd yn sefyll yn siccr yn ei galon, ac yn afraid iddo; ac a meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hun; ac a rodd ei frŷd ar hynny yn ei galon, ar gadw o honaw ei wyryf; da y mae yn gwneuthur.

38 Ac am hynny, yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn dda; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn well.

39 Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith, tra fyddo byw ei gŵr: ond o bydd marw ei gŵr, y mae hi yn rhydd i briodi y neb a fynno; yn vnic yn yr Arglwydd.

40 Eithr dedwyddach yw hi, os erys hi felly yn fy marn i: ac yr ydwyf finneu yn tybied fôd Yspryd Duw gennif.

PEN. VIII.

1 Bod iddynt ymgadw oddiwrth y bwydydd a offrymmir i eilynnod. 8, 9 Na ddylem ni gamarferu ein rhydd-did Christianogaidd, i rwystro ein brodyr: 11 Eithr ffrwyno ein gwybodaeth â chariad perffaith.

EIthr am yr hyn a aberthwyd i eulynnod, ni a ŵyddom fôd gan bawb o honom ŵy­bodaeth. Gwybodaeth sydd yn chwyddo, eithr cariad sydd yn adeiladu.

2 Eithr os yw neb yn tybied ei fôd yn gwybod dim, ni ŵyr efe etto ddim fel y dylei ŵybod.

3 Ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adwaenir ganddo ef.

4 Am fwytta gan hynny, o'r pethau a aberthir i eulynnod, ni a ŵyddom nad yw eulyn ddim yn y byd, ac nad oes vn Duw arall, onid vn.

5 Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa vn bynnag ai yn y nef ai ar y ddaiar, (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer)

6 Eithr i ni nid oes ond vn Duw, y Tâd, o'r hwn y mae pob peth, a ninnauIddo ef. Rhuf. 11.36. ynddo ef; ac vn Arglwydd Iesu Ghrist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef.

7 Ond nid yw yr ŵybodaeth hon gan bawb;Ond. canys rhai a chanddynt gydwybod o'r eulyn, hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eulynnod; a'u cyd-ŵybod hwy, a hi yn wan, a halogir.

8 Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymmeradwy gan Dduw, canys nid ydym, os bwytawn, ynW [...]ll. helaethach; nac onis bwytawn, ynWaeth. brinnach.

9 Ond edrychwch rhag mewn vn-modd i'ch rhydd-did hwn, fôd yn dramgwydd i'n rhai sy weiniaid.

10 Canys os gwêl neb dydi sydd a gwybodaeth gennit, yn eistedd i fwyta yn nheml yr eulynnod, oni chadarnheir ei [Page] gydŵybod of, ac ynteu yn wan, i fwyta y pethau a aberthwyd i eulynnod?

11 Ac a ddifethir y brawd gwan, trwy dy ŵybodaeth di, tros yr hwn y bu Christ farw?

12 A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Christ.

13 O herwydd pa ham, os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd, ni fwyttaf fi gig fyth, rhac i mi rwystro fy mrawd.

PEN. IX.

1 Y mae efe yn dangos ei rydd-did, 7 ac y dylai y gweinidoc fyw wrth yr Efengyl: 15 Etto ddarfod iddo ef o'i wir-fodd ymgadw 18 rhag na'i gyrru hwy mewn traul, 22 na bod yn achos o rwystr i nêb, mewn pethau cyffredin. 24 Dôd ein bywyd ni yn debyg i yrfa.

ONid wyfi yn Apostol? Onid wyfi yn rhydd? Oni welais i Iesu Ghrist ein Harglwydd? Onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Ar­glwydd?

2 Onid ŵyf yn Apostol i eraill, etto yr ŵyfi chwi, canys sêl fy Apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd.

3 Fy amddiffyn i i'r rhai a'm holant, yw hyn:

4 Onid oes i ni awdurdod i fwyta ac i yfed?

5 Onid oes i ni awdurdod i arwain o am­gylch wraig a fyddei chwaer, megis ac y mae i'r Apostolion eraill, ac i frodyr yr Arglwydd, ac i Cephas?

6 Ai myfi yn vnic a Barnabas nid oes gen­nym awdurdod i fôd heb weithio?

7 Pwy sydd vn amser yn rhyfela ar ei draul ei hun? Pwy fydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwyta o'i ffrwyth hi? Neu pwy sydd yn porthi praidd, ac nid yw yn bwytta o laeth y praidd?

8 Ai yn ôl dŷn yr wyfi yn dywedyd y pethau hyn? Neu onid yw y Ddeddf hefyd yn dywedyd hyn?

9 Canys scrifennedic yw yn Neddf Moses;Deut. 25.4. Na chae safn yr ŷch sydd yn dyrnu. Ai tros ychen y mae Duw yn gofalu?

10 Ynteu er ein mwyn ni vn hollawl y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr scrifenwyd, mai mewn gobaith y dylei yr arddwr aredig, a'r dymwr mewn gobaith, i fôd yn gyfrannog o'i obaith.

11Rhuf. 15.27. Os nyni a hauasom i chwi bethau ysprydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol?

12 Os yw eraill yngyfrannogion o'r awdur­dod hon arnoch; onid ydym ni yn hytrach? Eithr nid arferasom ni yr awdurdod hon: ond goddef yr ydym bŷb peth, fel na roddom ddim rhwystr i Efengyl Christ.

13Deut. 1 [...]. [...] Oni ŵyddoch chwi fôd y rhai sy yn gwneuthur pethau cyssyg [...]edig, yn bwytta o'r cyssygr, a'r rhai sy yn gw [...]s [...]naethu yr allor, yn gyd-gyfrannogion o'r allor

14 Felly hefyd, yr ordeiniodd yr Arglwydd, i'r rhai sy'n pregethu yr Efengyl, fyw wrth yr Efengyl.

15 Eithr myfi nid arfera [...] [...] vn o'r pethau hyn: ac nid [...]rifennais y pethau hyn, fel y gwnelid felly i mi: canys gwell yw i mi farw, nâ gwneuthur o neb fy ngorfoledd yn ofer.

16 Canys os pregethaf yr Efengyl, nid oes or­foledd i mi: canys angenrhaid a osodwyd arnaf; a gwae fydd i mi, oni phregethaf yr Efengyl.

17 Canys os gwnaf hyn o'm bodd, y mae i mi wobr: ond os o'm handfodd, ymddiried­wyd i mi am y gorchwyl.

18 Pa wobr sydd i mi gan hynny? Bod i mi pan efangylwyf, osod Efengyl Grist yn rhad, fel na cham-arferwyf fy awdurdod yn yr Efengyl.

19 Canys er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, mi a'm gwneuthym fy hun yn wâs i bawb, fel yr ennillwn fwy.

20 Ac mi a ymwneuthym i'r Iddewon megis yn Iddew, fel yr ennillwn yr Iddewon; i'r rhai tan y Ddeddf, megis tan y Ddeddf; fel yr ennillwn y rhai sy tan y Ddeddf;

21 I'r rhai di-ddeddf, megis di-ddeddf (a minnau hab fod yn ddi-ddeddf i Dduw, ond tan y Ddeddf i Ghrist) fel yr ennillwn y rhai di-ddeddf.

22 Ymwneuthym i'r rhai gweiniaid, megis yn wan, fel yr ennillwn y gweiniaid: Mi a ym­wneuthym yn bob peth i bawb, fel y gallwn yn hollawl gadw rhai.

23 A hyn yr wyfi yn ei wneuthur er mwyn yr Efengyl: fel i'm gwneler yn gyd-gyfrannog o honi.

24 Oni ŵyddoch chwi fod y rhai sy yn rhedeg mewn gyrfa, i gyd yn rhedeg, ond bod vn yn derbyn y gamp? Felly rhedwch fel y caffoch afael.

25 Ac y mae pob vn a'r sydd yn ymdre­chu, yn ymgadw ym-mhob peth; a hwynt hwy yn wir, fel y derbyniont goron lygredig, eithr nyni, vn anllygredig.

26 Yr wyfi gan hynny felly yn rhedeg, nid megis ar amcan, felly yr wyf yn ymdrechu, nid fel vn yn curo yr awyr.

27 Ond yr wyfi yn cospi fy nghorph, ac yn ei ddwyn yn gaeth; rhag i mi mewn vn modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymmeradwy.

PEN. X.

1 Bôd Sacramentau yr Iddewon, 6 yn gyscodau i ni, 7 a'i cospedigaethau hwy, 11 yn siamplau a ni. 14 Rhaid i ni ochelyd gau-dduwiaeth. 21 Na ddylem ni wneuthur bwrdd yr Ar­glwydd yn fwrdd cythreuliaid: 24 ac y dylem, mewn pethau cyffredin, ystyried ein brodyr.

AC ni fynnwn i chwi fod heb ŵybod, fro­dyr, fod ein tadau oll tan y cwmwl, a'u myned oll trwy y môr;

2 A'u bedyddio hwy oll i Moses, yn y cwm­wl, ac yn y môr;

3 A bwyta o bawb o honynt yr vn bwyd ysprydol,

4 Ac yfed o bawb o honynt yr vn ddiod ysprydol: (canys hwy a yfasant o'r graig ysprydol a oedd yn canlyn; a'r graig oedd Grist)

5 Eithr ni bu Dduw fodlonLlawer. i'r rhan fwyaf o honynt: canys cwympwyd hwynt yn y diffaethwch.

6 A'r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwennychem ddrygioni, megis ac yPsal. 106.14. chwennychasant hwy.

7 Ac na fyddwch eulyn addolwŷr, megis rhai o honynt hwy, fel y mae yn scrifennedic,Exod. 32.6. Eisteddodd y bobl i fwyta, ac i yfed, ac a gyfodasant i chwareu.

8 Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai o honynt hwy, ac yNum. 25.9. syrthiodd mewn vn dydd dair mil ar hugain.

9 Ac na themtiwn Ghrist, megis ac y tem­tiodd [Page] rhai o honynt hwy, ac a'iNum. 21.6. destrywi­wyd gan seirph.

10 Ac na rwgnechwch, megis y grwgna­chodd rhai o honynt hwy, ac a'iNum. 14.37. destrywi­wyd gan y dinistrydd.

11 A'r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy, ac a scrifennwyd yn rhybydd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd.

12 Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio.

13 Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, onid vn dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio ywch-law yr hyn a alloch, eithr a wna ynghŷd â'r temtasiwn ddiangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.

14 O herwydd pa ham, fy anwylyd, ffowch oddiwrth eulyn-addoliaeth.

15 Dywedyd yr wyf fel wrth rai synhwy­rol: bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddy­wedyd.

16 Phiol y fendith yr hon a fendigwn, onid cymmun gwaed Christ ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymmun corph Christ yw?

17 Oblegid nyni yn llawer ydym vn bara, ac vn corph; canys yr ydym ni oll yn gy­frannogion o'r vn bara.

18 Edrychwch ar yr Israel yn ôl y cnawd: onid yw y rhai sy yn bwyta yr ebyrth, yn gy­frannogion o'r allor?

19 Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywe­dyd? bôd yr eulyn yn ddim? neu 'r hyn a aberthwyd i eulyn yn ddim?

20 Ond y pethau y mae y Cenhedloedd yn euDeut. 32.17. Psal. 106.37. haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw. Ni fynnwn i chwi fôd yn gyfrannogion â'r cythreiliaid.

21 Ni ellwch yfed o phiol yr Arglwydd, a phiol y cythreuliaid. Ni ellwch fôd yn gyfran­nogion o fwrdd yr Arglwydd, a bord y cy­threuliaid.

22 Ai gyrru 'r Arglwydd i eiddigedd yr ydym? A ydym ni yn gryfach nag ef?

23 Pob peth sydd gyfreithlawn i mi, eithr nid yw pôb peth yn llesâu. Pob peth sydd gy­freithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu.

24 Na cheisied neb yr eiddo ei hun, on [...] pob vnFudd. yr eiddo arall.

25 Beth bynnag a werthir yn y gigfa, bwy­tewch, heb ofyn dim er mwyn cydwybod.

26 CanysDeut. 10.14. Psal. 24.1. eiddo 'r Arglwydd y ddaiar, a'i chyflawnder.

27 Os bydd i neb o'r rhai di-grêd eich gwa­hodd, ac os mynnwch fyned; bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod.

28 Eithr os dywed neb wrthych, peth wedi ei aborthu i eulynnod yw hwn; na fwytewch, er mwyn hwnnw, yr hwn a'i mynegodd, ac er mwyn cydwybod: canys eiddo 'r Arglwydd y ddaiar, a'i chyfiawnder.

29 Cydwybod meddaf, nid yr eiddot ti, ond yr eiddo arall. Canys pa ham y bemir fy rhydd-did i, gan gydwybod vn arall?

30 Ac os wyfi trwyDdiolch ras yn cymmeryd cyfran, pa ham i'm ceblir am y peth yr wyf yn rhoddi diolch amdano?

31 Pa yn bynnag, gan hynny, ai bwytta, ai yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw.

32 Byddwch ddiachos tramgwydd i'r Idde­wonGroeg­iaid. ac i'r Cenhedloedd hefyd, ac i Eglwys Dduw.

33 Megis yr ydwyf finneu yn rhyngu bodd i bawb ym-mhôb peth, heb geisio fy llesad fy hun, ond llesad llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig.

PEN. XI.

1 Y mae efe yn eu ceryddu hwy, 4 am fod eu gwyr yn y cynnulleidfaoedd sanctaidd yn gweddio a peth am eu pennau, a'u 6 gwrag­edd yn hen-noethion: 17 Ac o ran eu bod hwy yn gyffredinawl yn cyfarfod nad i'r gwell ond i'r gwaeth, 21 gan halogi swpper yr Ar­glwydd a'n gwleddoedd eu hunain. 23 Yn ddiweddaf y mae efe yn eu galw hwy yn eu hôl, at ordinhad cyntaf y Swpper hwnnw.

BYddwch ddilyn-wŷr i mi, megis yr wyf finnau i Ghrist.

2 Yr ydwyf yn eich canmol, frodyr, eich bôd yn fy nghofio i ym-mhob peth, ac yn dal y traddodiadau, fel y traddodais i chwi.

3 Eithr mi a synnwn i chwi wybod, mai pen pob gŵr yw Christ, a phen y wraig yw 'r gŵr, a phen Christ yw Duw.

4 Pob gŵr yn gweddio, neu yn proph­wydo â pheth am ei ben, sydd yn cy wilyddio ei ben.

5 Eithr pob gwraig yn gweddio, neu yn prophwydo, yn bennoeth, sydd yn cywilyddio ei phen; canys yr vn yw a plie byddei wedi ei heillio.

6 Canys os y wraig ni wisc am ei phen, cneifier hi hefyd: eithr os brwnt i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisced.

7 Canys gŵr yn wir ni ddylei wisco am ei ben, am ei fod yn ddelw a gogoniant Duw: a'r wraig yw gogoniant y gŵr.

8 Canys nid yw y gŵr o'r wraig, ond y wraig o'r gŵr.

9 Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig, eithr y wraig er mwyn y gŵr.

10 Am hynny y dylei y wraig fôd ganddi awdurdod ar ei phen, o herwydd yr Angelion.

11 Er hynny nid yw na'r gŵr heb y wraig, na'r wraig heb y gŵr, yn yr Arglwydd.

12 Canys vn wedd ac y mae y wraig o'r gŵr, felly y mae y gŵr drwy y wraig: a phob peth sydd o Dduw.

13 Bernwch ynoch eich hunain, ai hardd yw i wraig weddio Duw yn bonnoeth?

14 Ond yw naturiaeth ei hun yn eich dyscu chwi, os gwallt-laes a fydd gŵr, mai am­mharch yw iddo?

15 Eithr os gwraig a fydd gwallt-laes clôd yw iddi, oblegid ei llaes-wallt a ddodwyd yn orchudd iddi.

16 Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar, nid oes gennym ni gyfryw ddefod; na chan Eglwysi Duw.

17 Eithr wrthOrchym­myn. ddywedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghŷd, nid er gwell, ond er gwaeth.

18 Canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghŷd yn yr Eglwys, yr ydwyf yn clywed fodSchis­mau amrafaelion yn eich mysc chwi, ac o ran yr wyfi yn credu.

19 Canys rhaid yw bôd hefyd heresiau vn eich mysc; fel y byddo y rhai cymmeradwy yn eglur yn eich plith chwi.

20 Pan fyddoch chwi gan hynny yn dyfod [Page] ynghŷd i'r vn lle, nid bwyta swpper yr Ar­glwydd ydyw hyn.

21 Canys y mae pôb vn wrth fwytta yn cymmeryd ei swpper ei hun o'r blaen, ac vn fydd a newyn arno, ac arall sydd yn feddw.

22 Onid oes gennych dai i fwytta ac i yfed? Ai dirmygu yr ydych chwi Eglwys Dduw? A gwradwyddo y rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf i chwi yn hyn? nid wyf yn eich canmol.

23 Canys myfi a dderbyniais gan yr Ar­glwydd yr hyn hefyd a draddodals i chwi; bod i'r Arglwydd Iesu y nos y bradychwyd ef, gymmeryd bara,

24Matth. 26.26. Marc. 14.22. Luc. 22.19. Ac wedi iddo ddiolch, efe a'i torrodd, ac a ddywedodd, Cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf.

25 Yr yn modd efe a gymmerodd y cwppan wedi swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw 'r Testament newydd yn fy ngwaed, gwne­wch hyn cynnifer gwaith bynnac yr yfoch, er coffa am danaf:

26 Canys cynnifer gwaith bynnac y bwyta­och y bara hwn, ac yr yfoch y cwppan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo.

27 Am hynny, pwy bynnac a fwytâo y bara hwn, neu a yfo gwppan yr Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorph a gwaed yr Arglwydd.

28 Eithr holed dŷn ef ei hun, ac felly bwytaed o'r bara, ac yfed o'r cwppan.

29 Canys yr hwn sydd yn bwytta, ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corph yr Arglwydd.

30 Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesc yn eich mysc, a llawer yn huno.

31 Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni'n bernid.

32 Eithr pan i'n bernir, i'n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na'n damner gyd â'r bŷd.

33 Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwytta, arhoswch ei gilydd.

34 Eithr os bydd newyn ar neb, bwytaed gartref, fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a'u trefnaf pan ddel­wyf.

PEN. XII.

1 Bod amryw ddoniau ysprydawl, 7 Eithr y cwbl er lleshad 8 ac o ran hynny hwy a gyfren­nir mewn amryw foddion: 12 Megis y mae aelodau 'r corph naturiol yn gwasanaethu bob vn 16 er harddwch iw gilydd, 22 er gwasa­naeth, a 26 chymmorth i'r vn corph: 27 felly yr vn modd y dylem ni wneuthur y naill er y llall, er mwyn gorphen dirgel gorph Christ.

Eithr am ysprydol ddoniau frodyr, ni fynnwn i chwi fôd heb ŵybod.

2 Chwi a wyddoch mai Cenhedloedd oeddych, yn eich arwain ymmaith at yr eulyn­nod mudion, fel i'ch tywysid.

3 Am hynny yr wyf yn yspysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Yspryd Duw, yn galw yr Iesu ynAnn­chima. escymmun-beth: ac ni all neb ddywedydMal Iesu yw yr Arglwydd. yr Arglwydd Iesu, eithr trwy yr Yspryd glân.

4 Ac y mae amryw ddoniau, eithr yr vn Yspryd.

5 Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr vn Arglwydd.

6 Ac y mae a [...]ryw weithrediadau, ond yr vnNeu, yr vn Duw yw yr &c. yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb.

7 Eithr eglurhâd yr Yspryd a roddir i bob vn er lles-hâd.

8 Canys i vn trwy yr Yspryd y rhoddir ymadrodd doethineb, ac i arall ymadrodd gwy­bodaeth, trwy yr vn Yspryd:

9 Ac i arall ffydd, trwy yr vn Yspryd; ac i arallDoniau. ddawn i iachau, trwy yr vn Yspryd:

10 Ac i arall wneuthur gwyrthiau, ac i arall Brophwydoliaeth, ac i arall wahaniaeth ysprydoedd; ac i arall amryw dafodau, ac i arall gyfieithiad tafodau.

11 A'r holl bethau hyn, y mae 'r vn a'r vnrhyw Yspryd yn eu gweithredu, gan rannu i bôb vn o'r nailltu, megis y mae yn ewyllysio.

12 Canys fel y mae 'r corph yn vn, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau 'r vn corph, cyd bônt lawer, ydynt vn corph; felly y mae Christ hefyd.

13 O herwydd trwy vn Yspryd y bedy­ddiwyd ni oll yn vn corph, pa vn bynnag ai Iddewon ai Groegwŷr, ai caethion ai rhyddion, ac ni a ddiodwyd oll i vn Yspryd.

14 Canys y corph nid yw vn aelod, eithr llawer.

15 Os dywed y troed, am nad wyf law, nid wyf o'r corph; ai am hynny nid yw efe o'r corph?

16 Ac os dywed y glust, am nad wyf lygad, nid wyf o'r corph, ai am hynny nid yw hi o'r corph?

17 Pe yr oll gorph fyddei lygad, pa le y byddai 'r clywed? pe 'r cwbl fyddei glywed, pa le y byddai 'r arogliad?

18 Eithr yr awr hon, Duw a osododd yr aelodau, bob vn o honynt yn y corph, fel yr ewyllysiodd efe.

19 Canys pe baent oll vn aelod, pa le y byddai 'r corph?

20 Ond yr awron, llawer yw 'r aelodau, eithr vn corph.

21 Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthit; na'r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych.

22 Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corph y rhai a dybir eu bôd yn wannaf, ydynt angenrheidiol.

23 A'r rhai a dybiwn ni eu bôd yn am­mharchediccaf o'r corph, ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch; ac y mae 'n aelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch.

24 Oblegid ein aelodau hardd ni, nid rhaid iddynt wrtho, Eithr Duw a gyd-tymherodd y corph, gan roddi parch y chwaneg i'r hyn oedd ddeffygiol:

35 Fel na byddeiSchism anghydfod yn y corph, eithr bod i'r aelodau ofalu 'r vn peth tros ei gilydd.

26 A pha vn bynnag ai dioddef a wna vn aelod, y mae 'r holl aelodau yn cyd-ddioddef; ai anrhydeddu a wneir vn aelod, y mae 'r holl aelodau yn cyd-lawenhau.

27 Eithr chwy-chwi ydych gorph Christ, ac aelodau o ran.

28 A rhai yn wîr a osododd Duw yn yr Egl­wys, yn gyntaf Apostolion, yn ail Prophwydi, yn drydydd Athrawon, yna gwyrthiau, wedi hynny doniau i iachâu, cynhorthwyau, llywo­draethau, rhywiogaethu tafodau.

29 Ai Apostolion pawb? ai Prophwydi pawb? Ai Athrawon pawb? ai Neu, Nerth­oedd. gwneuthur­wyr gwyrthiau pawb?

30 A oes gan bawb ddoniau i iachâu? A yw pawb yn llefaru â thafodau? A yw pawb yn cyfieithu?

31 Eithr deisyfiwch y doniau goreu. Ac etto yr wyf yn dangos i chwi ffordd dra rhagorol.

PEN. XIII.

1 Nad yw 'r doniau godidowcaf ddim heb gariad. 4 Canmoliaeth cariad perffaith, a'i 13 ar­dderchawgrwydd rhagor gobaith, a ffydd.

PE llefarwn â thafodau dynion, ac Angelion, ac heb fôd gennif gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tingcian.

2 A phe byddei gennif brophwydoliaeth, a gwybod o honof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennif yr holl ffydd, fel y gallwn symmudo mynyddoedd, ac heb gennif gariad; nid wyfi ddim.

3 A phe porthwn y tlodion â'm holl dda; a phe rhoddwn fy nhorph i'm llosci, ac heb ga­riad gennif, nid yw ddim llesâd i mi.

4 Y mae cariad yn hir-ymaros, yn gym­wynascar, cariad nid yw yn cynfigennu, nid yw cariad ynAnwa­dalu. ymffrostio, nid yw yn ym­chwyddo;

5 Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd; nid yw yn ceisio yr eiddi ei hun; ni chythru­ddir; ni feddwl ddrwg;

6 Nid yw lawen am anghyfiawnder, onid cyd-lawenhau y mae â'r gwirionedd.

7 Y mae yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim.

8 Cariad-byth ni chwymp ymmaith: eithr pa vn bynnag ai prophwydoliaethau, hwy a ballant: ai tafodau, hwy a beidiant: ai gwy­bodaeth, hi a ddiflanna.

9 Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn Prophwydo.

10 Eithr pan ddelo yr hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddeleuir.

11 Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y lle­farwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgenNeu, yr ymre­symmwn. y meddyliwn: ond pan aethym yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd.

12 Canys gweled yr ydym yr awrhon trwy ddrych mewn dammeg, ond yna, wyneb yn ŵyneb. Yn awr yr adwaen o ran, ond yna yr adnabyddaf megis i'm hadwaenir.

13 Yr awr hon y mae yn aros, ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, a'r mwyaf o'r rhai hyn yw cariad.

PEN. XIV.

1 Canmol prophwydoliaeth, 2, 3, 4 a'i osod o flaen llefaru â thafodau, 6 trwy gyffelyb­rwydd oddiwrth offer cerdd: 12 Rhaid yw cyfeirio pôb vn o'r ddan tuac at adeiladaeth, 22 megis tuac at eu gwîr a'u priodawl bennod. 26 Iawn arfer pôh vn or ddau, 29 a'u cam­arfer. 34 Gorafun gwragedd i lefaru yn yr Eglwys.

DIlynwch gariad, a deisyfiwch ddoniau ys­prydol, ond yn hytrach fel y prophwy­doch.

2 Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, onid wrth Dduw: canys nid oes neb yn gwran­do: er hynny yn yr yspryd y mae efe yn lle­faru dirgeledigaethau.

3 Eithr yr hwn sydd yn prophwydo, sydd yn llefaru wrth ddynion, er adeliadaeth, a chyngor, a chyssur.

4 Yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, sydd yn ei adeiladu ei hunan; eithr yr hwn sydd yn prophwydo, sydd yn adeiladu yr Eglwys.

5 Mi a fynnwn pettych chwi oll yn llefaru â thafodau dieithr, ond yn hytrach brophwydo o honoch: canys mwy yw yr hwn sydd yn prophwydo, nâ'r hwn sydd yn llefaru â tha­fodau, oddi eithr iddo ei gyficithu, fel y der­bynio yr Eglwys adeiladaeth.

6 Ac yr awr hon frodyr, os deuaf attoch gan lefaru â thasodau, pa lesâd a wnaf i chwi; oni lefaraf wrthych naill ai trwy weledigaeth, neu trwy ŵybodaeth, neu trwy brophwydo­liaeth, neu trwy athrawiaeth?

7 Hefyd, pethau di-enaid wrth roddi sain, pa vn bynnag ai pibell ai telyn, oni roddant wahaniaeth yn y sain, pa wedd y gwyddir y peth a genir ar y bibell, neu ar y delyn?

8 Canys os yr vdcom a rydd sain anhynod, pwy a ymbaratoa i ryfel?

9 Felly chwithau, oni roddwch â'r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn lle­faru wrth yr awyr.

10 Y mae cymmaint, ysgatfydd, o rywogae­thau lleisiau yn y bŷd, ac nid oes vn o honynt yn aflafar.

11 Am hynny, oni wn i rym y llais, myfi a fyddaf Farbariad i'r hwn sydd yn llefaru: a'r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn Farbariad.

12 Felly chwithau, gan eich bod yn awy­ddus iYspry­dau. ddoniau ysprydol, ceisiwch ragori tu ag at adeiladaeth yr Eglwys.

13 O herwydd pa ham, yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, gweddied ar iddo allu cyficithu.

14 Canys os gweddiaf â thafod dieithr, y mae fy yspryd yn gweddio, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth.

15 Beth gan hynny? mi a weddiaf â'r yspryd, ac a weddiaf â'r deall hefyd: canaf â'r yspryd, a chanaf â'r deall hefyd.

16 Canys os bendithi â'r yspryd, pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle 'rAnnys­cedig. ang­hyfarwydd, Amen, ar dy ddodiad diolch, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd?

17 Canys tydi yn ddiau ydwyt yn diolch yn dda, ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu.

18 Yr ydwyf yn diolch i'm Duw, fy mod i yn llefaru â thafodau, yn fwy nâ chwi oll.

19 Ond yn yr Eglwys, gwell gennif lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dyscwyf eraill he­fyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr.

20 O frodyr, Na fyddwch fechgyn mewn deall, eithr mewn drygioni byddwch blant, ond mewn deall byddwch berffaith.

21 Yn y Ddeddf y mae yn scrifennedig,Esay. 28.11. Trwy rai estroniaithus, a thrwy wefalau estronol y llefaraf wrth y bobl hyn; ac ni'm gwrandawant felly, medd yr Arglwydd.

22 Am hynny tafodau ydynt arwydd, nid i'r rhai sy yn credu, ond i'r rhai di-grêd; eithr prophwydoliaeth nid i'r rhai di-grêd, ond i'r rhai sy yn credu.

23 Gan hynny, os daw yr Eglwys oll ynghŷd i'r vn lle, a llefaru o bawb â thafodau dieithr, a dyfod o rai annyscedig neu ddi-grêd i mewn; oni ddywedant eich bôd yn ynfydu?

24 Eithr os prophwyda pawb, â dyfod o vn di-grêd neu annysceilig i mewn, efe a [Page] argyoeddir gan bawb, a sernir gan bawb:

25 Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg, ac felly gan syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddywedyd fôd Duw yn wir ynoch.

26 Beth gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bôb vn o honoch Psalm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae ganddo dafodiaith, y mae ganddo ddatcuddiad, y mae ganddo gyfieithiad: gwneler pob peth er adei­ladaeth.

27 Os llefara neb â thafod dieithr, gwneler bob yn ddau, neu o'r mwyaf bob yn dri, a hynny ar gylch, a chyfieithed vn.

28 Eithr oni bydd cyfieithydd, tawed yn yr Eglwys; eithr llefared wrtho ei hun, ac wrth Dduw.

29 A llefared y Prophwydi, ddau neu dri, a barned y llaill.

30 Ac os datguddir dim i vn arall a fo yn eistedd yno, tawed y cyntaf.

31 Canys chwi a ellwch oll brophwydo bob yn vn, fel y dysco pawb, ac y cyssurer pawb.

32 Ac y mae ysprydoedd y Prophwydi yn ddarostyngedic i'r Prophwydi.

33 Canys nid yw Duw awdur anghydfod, ond tangneddyf; fel yn holl Eglwysi y Sainct.

34 Tawed eich gwragedd yn yr Eglwysi, canys ni chaniadhawyd iddynt lefaru, ond bod yn ddarostyngedig, megis ac y mae y mae yGen. 3.16. gyfraith yn dywedyd.

35 Ac os mynnant ddyscu dim, ymofyn­nant â'u gwyr gartref, oblegid anweddaidd yw i wragedd lefaru yn yr Eglwys.

36 Ai oddi wrthych chwi yr aeth gair Duw allan? Neu ai attoch chwi yn vnig y daeth ef?

37 Os ydyw neb yn tybied ei fod yn Broph­wyd neu yn ysprydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu scrifennu attoch, mai gorchymy­nion yr Arglwydd ydynt.

38 Eithr od yw neb heb ŵybod, bydded heb ŵybod.

39 Am hynny frodyr, byddwch awyddus i brophwydo, ac na waherddwch lefaru â tha­fodau dieithr.

40 Gwneler pob peth yn weddaidd, ac mewn trefn.

PEN. XV.

4 Wrth Adgyfodiad Christ, 12 y mae efe yn pro­fi y bydd rhaid i ninnau adgyfodi, yn erbyn y rhai a wadant adgyfodiad y cnawd. 21 Ffrwyth, 35 a dull yr adgyfodiad; 51 ac fel y ne­widir y rhai a gaffer yn fyw ar y dydd diweddaf.

HEfyd yr ydwyf yn yspysu i chwi (frodyr) yr Efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll,

2 Trwy yr hon i'ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich côf â pha ymadrodd yr efangyl­ais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer.

3 Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf, yr hyn hefyd a dderbyniais; farw o Ghrist tros ein pechodau ni, yn ôl yr Scrythyrau:

4 Ai gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Scrythyrau;

5 A'i weled ef gan Cephas, yna gan y deu­dde [...].

6 Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy nâ phum-can [...] brodyr ar vn-waith, o'i rhai y mae y rhan fwyaf yn aros hyd yr awron; eithr rhai a hunasant.

7 Wedi h [...]y y gwelwyd ef gan saco, yna gan yr holl Ap [...]stolion.

8 Ac yn dd [...]weddaf oll y gwelwyd ef gen­nif finneu h [...]d, megis gan vn an-nhymmig.

9 Canys myfi yw 'r lleiaf o'r Apostolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn Apostol, am i mi erlid Eglwys Dduw.

10 Eithr trwy râs Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf; a'i râs ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll; ac nid myfi chwaith, ond grâs Duw yr hwn oedd gyd â mi.

11 Am hynny pa vn bynnag, ai myfi ai hwynt hwy; felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi.

12 Ac os pregethir Christ, ei gyfodi ef o feirw, pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes adgyfodiad y meirw?

13 Eithr on [...] oes adgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Christ chwaith.

14 Ac os Christ ni chyfodwyd, ofer yn wîr yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau.

15 Fe a'n ceir hefyd yn gau-dystion i Dduw: canys nim dystiasom am Dduw, ddarfod iddo gyfodi Christ, yr hwn nis cyfododd efe, os y meirw ni chyfodir.

16 Canys os y meirw ni chyfodir, ni chy­fodwyd Christ chwaith.

17 Ac os Christ ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych etto yn eich pechodau.

18 Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a huna­sant ynGhrist.

19 Os yn y byd ymma yn vnig y gobeith­iwn ynGhrist, truanaf o'r holl ddynion ydym ni.

20 Eithr yn awr Christ a gyfodwyd oddi­wrth y meirw, ac a wnaed yn flaen-ffrwyth y rhai a hunasant.

21 Canys, gan fod marwolaeth trwy ddŷn, trwy ddŷn hefyd y mae adgyfodiad y meirw.

22 Oblegit, megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd ynGhrist y bywheu pawb.

23 Eithr pob vn yn ei drefn ei hun. Y blaen­ffrwyth yw Christ, wedi hynny y rhai ydynt eiddo Christ, yn ei ddyfodiad ef.

24 Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a'r Tâd, wedi iddo ddeleu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth.

25 Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion tan ei draed.

26 Y gelyn diweddaf a ddinistrir yw yr angeu.

27 Canys efe a ddarostyngodd bôb peth tan ei draed ef. Eithr pan yw yn dywedyd fod pob peth wedi eu darostwng, amlwg yw mai oddieithr yr hwn a ddarostyngodd bôb peth iddo.

28 A phan ddarostynger pôb peth iddo, yna y Mab ei hun hefyd a ddarostyngir, i'r hwn a ddarostyngodd bôb peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll.

29 Os amgen, beth a wna y rhai a fedyddir tros y meirw, os y meirw ni chyfodir ddim? Pa ham ynteu y bedyddir hwy tros y meirw?

30 A pha ham yr ydym ninnau mewn pe­rygl bôb awr:

31 Yr ydwyf beunydd yn marw,Tyst yw. myn eich gorfoledd yr hon sydd gennif ynChrist Iesu ein Harglwydd.

32 Os yn ôl dull dŷn yr ymleddais ag [Page] anifeiliaid yn Ephesus, pa les-hâd sydd i mi oni chyfodir y meirw? Bwytawn, ac yfwn, canys y foru marw yr ydym.

33 Na thwyller chwi, y mae ymddiddan­ion drwg vn llygru moesau da.

34 Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch, canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw: er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn.

35 Eithr fe a ddywaid rhyw vn, Pa fodd y cyfodir y meirw? Ac â pha ryw gorph y deuant?

36 Oh ynfyd; y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywh [...]ir oni bydd efe marw.

37 A'r peth yr wyt yn ei hau: nid y corph a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth, yscatfydd o wenith, neu o ryw rawn arall.

38 Eithr Duw sydd vn rhoddi iddo gorph, fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorph ei hun.

39 Nid yw pob cnawd vn rhyw gnawd; eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd i byscod, ac arall i adar.

40 Y mae hefyd gyrph nefol, a chyrph daiarol; ond arall yw gogoniant y rhai nefol, ac arall y rhai daiarol.

41 Arall yw gogoniant yr haul; ac arall yw gogoniant y lloer; ac arall yw gogoniant y ser: canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant.

42 Felly hefyd y mae adgyfodiad y meirw: efe a heuir mewn llygredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredigaeth.

43 Efe a heuir mewn ammarch, ac a gyfo­dit mewn gogoniant: efe a henir mewn gwendid, ac a gyfodir mewn nerth: efe a heuir yn gorph anianol, ac a gyfodir yn gorph ysprydol.

44 Y mae corph anianol, ac y mae corph ysprydol.

45 Felly hefyd y mae yn scrifennedig, Y dŷn cyntaf Addaf a wnaed yn enaid byw, a'r Adda diweddaf yn yspryd yn bywhau.

46 Eithr nid cyntaf yr ysprydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysprydol.

47 Y dŷn cyntaf o'r ddaiar yn ddaiarol; yr ail dŷn yr Arglwydd o'r nef.

48 Fel y mae y daiarol, felly y mae y rhai daiarol; ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd.

49 Ac megis y dygasom ddelw y daiarol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol.

50 Eithr hyn meddaf, o frodyr, na ddichon cîg a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; Ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth.

51 Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddir­gelwch; Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar darawiad llygad, wrth yr vdcorn diweddaf.

52 Canys yr vdcorn a gân, a'r meirw a gy­fodir yn anllygredic, a ninnau a newidir.

53 O herwydd rhaid i'r llygradwy hwn wisco anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisco anfarwoldeb.

54 A phan ddarffo i'r llygradwy hwn wisco anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisco amarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a scrifennwyd,Hos. 13 14. Angeu a lyngcwyd mewn buddugoliaeth.

55 O angeu pa le y mae dy golyn? ONeu, b [...]dd. vffern pa le mae dy fuddugoliaeth?

56 Colyn angeu yw pechod, a grym pe­chod yw 'r gyfraith.

57 Ond i Dduw y byddo 'r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Ghrist.

58 Am hynny fy mrodyr anwyl, byddwch siccr, a diymmod,Yn ym­helaethu. a helaethion yngwaith yr Arglwydd yn oestadol,Gan wybod. a chwi vn gwy­bod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.

PEN. XVI.

1 Y mae yn eu hannog i borthi angen y brodyr. yn Jerusalem: 10 yn canmol Timotheus, 13 ac ar ôl rhybuddion caredic, 16 yn diweddu ei Epistol ag amryw anrerchion.

HEfyd am y gascl i'r sainct, megis yr ordei­niais i Eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau.

2 Y dydd cyntaf o'r wythnos, pob vn o honoch rhodded heibio yn ei ymyl gan dryssori, fel y llwyddodd Duw ef, fel na byddo cascl pan ddelwyfi.

3 A phan ddelwyf, pa rai bynnag a ddan­gosoch eu bod yn gymmeradwy trwy lythy­rau, y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich rhôdd i Jerusalem.

4 AcNeu, os bydd addas. os bydd y peth yn haeddu i minneu hefyd fyned, hwy a gânt fyned gyd â mi.

5 Eithr mi a ddeuaf attoch, gwedi yr elwyf trwy Macedonia: (canys trwy Macedonia yr wyf yn myned)

6 Ac nid hwyrach yr arhosaf gydâ chwi, neu y gayafaf hefyd, fel i'm hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf.

7 Canys nid oes i'm bryd eich gweled yn awr ar fy hynt, ond yr wyf yn gobeithio 'r arhosaf ennyd gyd â chwi, os canhiada yr Ar­glwydd.

8 Eithr mi a arhosaf yn Ephesus hyd y Sul-gwyn.

9 Canys agorwyd i mi ddrŵs mawr a grym­mus, ac y mae gwrth-wyneb-wŷr l [...]wer.

10 Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fod yn ddiofn gyda chwi; canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel fin­neu.

11 Am hynny na ddiystyred neb ef; ond hebryngwch ef mewn heddwch, fel y delo at­tafi: canys yr wyfi yn ei ddisgwil ef gyd â'r brodyr.

12 Ac am y brawd Apollos, mi a ymbiliais lawer ag ef a [...] ddyfod attoch chwi gyd â'r brodyr, eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron, ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas.

13 Gwiliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrol­wch, ymgryfhewch.

14 Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad.

15 Ond yr ydwyf yn attolwg i chwi, frodyr, (chwi a adwaenoch dŷ Stephanas mai blaen-ffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymosod i weinidogaeth y Sainct)

16 Fôd o honoch chwitheu yn ddarostynge­dig i'r cyfryw, ac i bôb vn sydd yn cydwei­thio, ac yn llafurio.

17 Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Stephanas, a Ffortimatus, ac Achaicus; canys eich diffyg chwi, hwy a'i cyflawnasant.

18 Canys hwy a esmwythasant ar fy yspryd i, a'r eiddoch chwithau: cydnabydd­wch gan hynny y cyfryw rai.

19 Y mae Eglwysi Asia yn eich annerch chwi. Y mae Acuila a Phriscilla, gyd â'r Eglwys sŷdd yn eu tŷ hwynt, yn eich annerch chwi yn yr. Arglwydd, ynNeu, fawr. fynych.

20 Y mae y brodyr oll yn eich annerch. Anherchwch ei gilydd a chusan sancteiddiol.

21 Yr Annerch a'm llaw i Paul fy hun.

22 Od oes neb nid yw yn caru yr Arglwydd Iesu Grist, bydded Anathema Maranatha.

23 Grâs ein Arglwydd Iesu Grist a fyddo gŷd â chwi.

24 Fy serch inneu a fo gyd â chwi oll yn­Ghrist Iesu. Amen.

¶Yr Epistol cyntaf at y Corinthiaid a scrifennwyd o Philippi, gydag Ste­phanas, a Ffortunatus, ac Achaicus, a Thimotheus.

¶AIL EPISTOL PAUL YR APOSTOL at y CORINTHIAID.

PENNOD I.

4 Y mae 'r Apostol yn eu cysuro hwy yn erbyn trallod, trwy 'r diddanwch a'r ymwared a roesei Duw iddo ef, megis yn ei holl gyfyng­derau, 8 felly yn enwedic yn ei berygl di­weddar yn Asia: 12 a chan gymmeryd tystiolaeth o'i gydwybod ei hun, a'r eiddynt hwythau, am ei ddidwyll ddull yn pregethu anghyfnewidiol wirionedd yr Efengyl, 15 Y mae efe yn ei es­cusodi ei hun nas daethei attynt, gan iddo wneuthur hynny nid o yscafnder meddwl, eithr o'i dynerwch tuag attynt hwy.

PAul Apostol Iesu Grist, trwy ewyllys Duw, a'r brawd Timotheus, at Eg­lwys Dduw yr hon sydd yn Corinth, gyd â'r holl Scinctiau, y rhai sy yn holl Achaia:

2 Grâs fyddo i chwi, a thangneddyf oddi­wrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist.

3 Bendigedig fyddo Duw, a Thâd ein Har­glwydd ni Iesu Grist, Tâd y trugareddau, a Duw pob diddanwch;

Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu y rhai sy mewn dim gorthrymder, trwy y diddanwch, â'r hwn i'n diddenir ni ein hunain gan Dduw.

5 Oblegid fel y mae dioddefiâdau Christ yn amlhau ynom ni: felly trwy Grist y mae ein diddanwch ni hefyd yn amlhau.

6 A pha vn bynnac ai ein gorthrymmu yr ydys, er diddanwch ac iechydwriaeth i chwi y mae, yr hon a weithir trwy ymaros tan yr vn dioddefiadau, y rhai yr ydym ninnau yn eu dioddef: ai ein diddann yr ydys, er didda­nwch ac iechydwriaeth i chwi y mae hynny.

7 Ac y mae ein gobaith yn siccr am danoch, gan i ni ŵybod, mai megis yr ydych yn gyf­rannogion o'r dioddefiadau, felly y byddwch hefyd o'r diddanwch.

8 Canys ni synnem i chwi fod heb ŵybod, frodyr, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, hwyso arnom yn ddirfawr vwch ben ein gallu, hyd onid oeddem yn ammeu cael byw hefyd.

9 Eithr ni a gawsom ynom ein hunain farn angeu, fel na byddei i ni ymddiried ynom ein hunain, onid yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi y meirw.

10 Yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angeu, ac sy yn ein gwaredu; vn yr hwn yr ydym yn gobeithio, y gwared ni hefyd rhag llaw:

11 A chwitheu hefyd yn cydweithio tro­som mewn gweddi, fel, am y rhoddiad a rodd­ed i ni o herwydd llawer, y rhodder diolch gan lawer trosom.

12 Canys ein gorfoledd ni yw hyn, sef tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn syml­rwydd, a phurdeb duwiol, nid mewn doethineb cnawdol, ond trwy râs Duw, yr ymddygasom yn y byd, ond yn hytrach tuac attoch chwi.

13 Canys nid ydym yn scrifennu amgen bethau attoch, nag yr ydych yn eu darllein, neu yn eu cydnabod; ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd hefyd.

14 Megis y cydnabnoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr elddom ninnau hefyd, yn nydd yr Arglwydd Iesu.

15 Ac yn yr hyder hyn, yr oeddwn yn ewyllysio dyfod attoch o'r blaen, fel y caffech ail grâs:

16 A myned heb eich llaw chwi i Mace­donia, a dyfod trachefn o Macedonia attoch, a chael fy hebrwng gennwch i Judæa.

17 Gan hynny pan oeddwn yn bwriadu hyn, a arferais i yscafnder? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai ar ôl y cnawd yr wyf yn eu bwriadu? fel y byddai gydâ mi, iê, iê, ac Nac ê, Nac ê.

18 Eithr ffyddlon yw Duw, a'n ymadrodd ni wrthych chwi, ni bu iê, a nagê.

19 Canys Mab Duw Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, sef gen­nifi a Silfanus, a Thimotheus, nid ydoedd iê, ac nagê, eithr ynddo ef iê ydoedd.

20 O blegid holl addewidion Duw ynddo ef ydynt iê, ac ynddo ef Amen, er gogoniant i Dduw trwom ni.

21 Yr hwn sydd yn ein cadarnhau ni gyd â chwi ynGhrist, ac a'n eneiniodd ni, yw Duw.

22 Yr hwn hefyd a'n seliodd, ac a roesWystl. ernes yr Yspryd yn ein calonnau.

23 Ac yr wyf fi yn galw Duw yn dŷst ar fy enaid, mai er eich arbed chwi, na ddae­thym etto i Corinth.

24 Nid am ein bôd yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, ond yr ydym yn gydweith­wŷr i'ch llawenydd: oblegid trwy ffydd yr ydych yn sefyll.

PEN. II.

1 Wedi iddo ddangos yr achos na ddaethei efe attynt, 6 y mae efe yn erchi iddynt faddeu i'r dyn a escymmunasid, a'i gyssuro: 10 megis y maddeuasei yntef iddo, ar ei wîr edifei­rwch: 12 gan ddangos hefyd yr achos pa ham yr aethei efe o Troas i Macedonia, 14 a'r llwyddiant a'r ffynniant a roesai Duw iw bre­geth ef ym mhôb lle.

EIthr mi a fernais hyn ynof fy hunan, ni ddelwn drachefn mewn tristwch attoch.

2 Oblegit os myfi a'ch tristâf chwi, pwy yw 'r hwn a'm llawenhâ i, ond yr hwn a drist­awyd gennifi?

3 Ac mi a scrifennais hyn ymma attoch, fal pan ddelwn na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau: gan hyderu am danoch oll, fôd fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll.

4 Canys o orthrymder mawr, a chyfyng­der calon yr scrifennais attoch â dagrau lawer, nid fel i'ch tristâid chwi, eithr fel y gwybydd­ech y cariad sydd gennif yn helaethach tu ag attoch chwi.

5 Ac os gwnaeth nêb dristan, ni wnaeth efe i mi dristau, ond o ran, rhag i mi bwyso ar­noch chwi oll.

6 Digon i'r cyfryw ddyn y cerydd yma a ddaeth oddi wrth laweroedd.

7 Yn gymmaint ac y dylech yn y gwrth­wyneb, yn hytrach faddeu iddo, a'i ddiddanu, rhag llyngcu y cyfryw, gan ormod tristwch.

8 Am hynny yr ydwyf yn attolwg i chwi gadarnhau eich cariad tu ag atto ef.

9 Canys er mwyn hyn hefyd yr scrifennais, fel y gwybyddwn brawf o honoch, a ydych vfydd ym mhôb peth.

10 I'r hwn yr ydych yn maddeu dim iddo, yr wyf finneu: canys os maddeuais ddim, i'r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y ma­ddeuais, yngolwg Christ.

11 Fel na'n siommer gan Satan: canys nid ydym heb ŵybod ei ddichellion ef.

12 Eithr gwedi i mi ddyfod i Troas, i bre­gethu Efengyl Grist, ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd,

13 Ni chefais lonydd yn fy yspryd, am na chefais Titus fy mrawd, eithr gan ganu yn iach iddynt, mi a cuthym ymmaith i Mace­donia.

14 Ond i Dduw y byddo 'r diol h, yr hwn yn oestad fydd yn peri i ni oruchafiaeth yn­Ghrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei ŵybo­daeth trwom ni, ym mhôb lle.

15 Canys per-arogl Christ ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig,

16 I'r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth, ac i'r llaill yn arogl bywyd, i fy­wyd; A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?

17 Canys nid ydym ni megisllawer, yn gwneuthur masnach o air Duw, eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yngwydd Duw, yr ydym yn llefaru ynGhrist.

PEN. III.

1 Rhag iw gau-athrawon hwy roi gwâg-orfo­ledd yn ei erbyn ef, y mae efe yn dangos fôd ffydd a doniau y Corinthiaid yn canmol ei weinidogaeth ef yn ddigon helaeth. 6 Ac ar hyn trwy gyffelybrwydd rhwng gweinidogion y ddeddf a'r Efengyl, 12 y mae efe yn profi fôd ei weinidogaeth ef yn rhagori, o gymmaint ac y mae Efengyl y bywyd, a rhydd-did, yn fwy gogoneddus na chyfraith damnedigaeth.

AI dechreu yr ydym drachefn ein canmol ein hunain? Ai rhaid i ni, megis i rai, wrth lythyrau canmoliaeth attoch chwi, neu rai canmoliaeth oddi wrthych chwi?

2 Ein llythyr ni ydych chwi, ynscrifenne­dig yn ein calonnau, yr hwn a ddeellir, ac a ddarllennir gan bôb dŷn.

3 Gan fôd yn eglur mai llythyr Christ ydych, wedi ei weini gennym ni, wedi ei scrifennu nid ag ingc, ond ag Yspryd y Duw byw, nid mewn llechau cerrig, eithr mewn llechau cnawdol y galon.

4 A chyfryw hyder fydd gennym trwy Grist ar Dduw:

5 Nid o herwydd ein bôd yn ddigonol o honom ein hunain, i feddwl dim megis o honom ein hunain, eithr ein digonedd ni sydd o Dduw:

6 Yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weini­dogion cymmwys y Testament newydd, nid i'r llythyren ond i'r Yspryd. Canys y mae y lly­thyren yn lladd, ond yr Yspryd sydd yn byw­hau.

7 Ac os bu gweinidogaeth angeu mewn lly­thyrennau wedi ei hargraphu ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allei plant yr Israel edrych yn graff yn ŵyneb Moses, gan ogoniant ei wyneb­pryd, yr hwn ogoniant a ddilewyd,

8 Pa fodd yn hytrach na bydd gweinidog­aeth yr Yspryd mewn gogoniant?

9 Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant, mwy o lawer y mae gweinidog­aeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant.

10 Canys hefyd ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd, yn y rhan hon, o herwydd y gogoniant tra rhagorol.

11 Oblegid os bu yr hyn a ddeleuid, yn ogoneddus; mwy o lawer y bydd yr hyn sydd yn aros, yn ogoneddus.

12 Am hynny, gan fôd gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr.

13 Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei ŵyneb, fel nad edrychei plant Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddeleuid.

14 EithrC [...]lid­wyd. dallwyd eu meddyliau hwynt. Canys hyd y dydd heddyw y mae yr vn gor­chudd, wrth ddarllen yr hên Destament, yn aros heb ei ddatcuddio, yr hwn ynGhrist a ddileir.

15 Eithr hyd y dydd heddyw pan ddar­llennir Moses, y mae 'r gorchudd ar eu calon hwynt.

16 Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd.

17 Eithr yr Arglwydd yw 'r Yspryd: a lle mae Yspryd yr Arglwydd, yno y mae rhydd-did.

18 Eithr nyni oll, ag wyneb agored yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i'r vnrhyw ddelw, o ogon­iant i ogoniant, megisGan yr Ar­glwydd, yr Ys­pryd. gan Yspryd yr Ar­glwydd.

PEN. IV.

1 Y mae efe yn dangos arferu o honaw ef bôb mâth ar burdeb a diwydrwydd ffyddlawn, wrth bregethu yr Efengyl; 7 a bôd y blinderau a'r erlid yr oedd efe beunydd yn eu dioddef o achos yr Efengyl, er moliant i allu Duw, 12 a lles-hâd i'r Eglwys, a 16 gogoniant trag­wyddol iddo yntef.

AM hynny gan fôd i ni y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu.

2 Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra, na thrîn gair Duw yn dwyllodrus; eithr trwy eglurhâd y gwirionedd, yr ydym yn ein can­mol ein hun wrth bôb cydwybod dynion, yng­olwg Duw.

3 Ac os cuddiedig yw ein Efengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig.

4 Yn y rhai y dallodd Duw y bŷd hwn fe­ddyliau y rhai digrêd, fel na thywynnei iddynt lewyrch Efengyl gogoniant Christ, yr hwn yw delw Dduw.

5 Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Christ Iesu yr Arglwydd, a ninneu yn weision i chwi er mwyn Iesu.

6 Canys Duw yr hwn a orchymynnodd i'r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist.

7 Eithr y mae gennym y tryssor hwn mewn llestri pridd, fel y byddei godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni.

8 Ym mhob peth yr ŷm yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng gyngor, ond nid yn ddiobaith;

9 Yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr­adel; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha;

10 Gan gylch-arwain yn y corph bôb am­ser farweiddiad yr Arglwydd Iesu, fel yr eglur­er hefyd fywyd Iesu yn ein corph ni.

11 Canys yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym yn fyw yn oestad i farwolaeth, er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.

12 Felly y mae angeu yn gweithio ynom ni, ac enioes ynoch chwithau.

13 A chanfôd gennym yr vn yspryd ffydd, yn ôl yr hyn a scrifennwyd,Psal. 116.10. Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru.

14 Gan ŵybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninneu hefyd trwy Iesu, a'n gosod ger bron gyd â chwi.

15 Canys pôb peth sydd er eich mwyn chwi, fel y byddo i râs wedi amlhâu, trwy ddiolchgarwch llaweroedd, ymhelaethu i ogon­iant Duw.

16 O herwydd pa ham, nid ydym yn pallu, eithr er llygru ein dŷn oddi allan, er hyn­ny y dŷn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd.

17 Canys ein byrr yscafn gystudd ni, sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni:

18 Tra na bôm yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir sy tros amser, ond y pethau ni welir sy dragwyddol.

PEN. V.

1 Ei fod ef mewn siccr obaith o'r gogoniant tragwyddol, 6 a disgwyl am dano, ac am y farn gyffredinawl, yn ymegnio i gadw cyd­wybod dda, 12 nid er mwyn ymffrostio yn hynny, 14 eithr megis vn wedi derbyn bywyd oddi wrth Grist, yn ceisio byw fel creadur new­ydd i Grist yn unic, 18 a chymmodi eraill a Duw ynGhrist, trwy weinidogaeth y cymmod.

CAnys ni a wyddom, os ein daiarol dŷ o'r babell hon a ddattodir, fôd i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd.

2 Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisco â'n tŷ sydd o'r nêf:

3 Os hefyd wedi ein gwisco, nid yn noeth­ion i'n ceir.

4 Canys ninnau hefyd y rhai ŷm yn y ba­bell hon, ydym yn ochneidio, yn llwythog,O her­wydd nad. yn yr hyn nid ŷm yn chwennych ein diosc, ond ein harwisco, fel y llyngcer yr hyn sydd farwol gan fywyd.

5 A'r hwn a'n gweithiodd ni i hyn ymma, yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni [...] ernes yr Yspryd.

6 Am hynny yr ydym yn hyderus bôb am­ser, ac yn gwybod tra ydym yn gartrefol yn y corph, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Ar­glwydd.

7 Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg.

8 Ond yr ydym yn hŷ, ac yn gweled yn dda yn hytrach fôd oddi cartref o'r corph, a chartrefu gyd â'r Arglwydd.

9 Am hynny hefyd yr ydym yn ymor­chestu, pa vn bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, ein bod ynRhyngu [...]odd yn dda iddo ef. gymmeradwy ganddo ef.

10 Canys rhaid i ni oll ymddangos ger bron brawdle Christ, fel y derbynio pob vn y pethau a wnaethpwyd yn y corph, yn ôl yr hyn a wnaeth pa vn bynnag ai da, ai drwg.

11 A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Ar­glwydd, y [...] ydym yn perswadio dynion, eith i Dduw i'n gwnaed yn hyspys; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hys­pys yn eich cydwybodau chwithau hefyd.

12 Canys nid ydym yn ein canmol ein hu­nain drachefn wrchych, ond yn rhoddi i chwi achlysur gorfoledd o'n plegit ni, fel y caffoch beth i atteb yn erbyn y rhai fy yn gorfoleddu ynGr. yr wyneb. y golwg ac nid yn y galon.

13 Canys pa vn bynnag ai amhwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym: ai yn ein pwyll yr ydym, i chwi yr ydym.

14 Canys y mae cariad Christ yn ein cym­hell ni, gan farnu o honom hyn, os bu vn fa­rw tros bawb, yna meirw oedd pawb.

15 Ac efe a fu farw tros bawb, fel na byddei i'r rhai byw, fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw trostynt, ac a gyfodwyd.

16 Am hynny nyni o hyn allan nid adwae­nom nêb yn ôl y cnawd, ac os buom hefyd yn adnabod Christ yn ôl y cnawd, etto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach.

17 Gan hynny od oes nêb ynGhrist, y mae efe yn greadur newydd:Esai. 43.19. Dat. 21.5. Yr hên bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd.

18 A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a'n cymmododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymmod;

19 Sef bôd Duw ynGhrist, yn cymmodi y bŷd ag et ei hun, heb gyfrif iddynt eu pecho­dau ac wedi gosod ynom ni air y cymmod.

20 Am hynny, yr ydym ni yn gennadau tros Grist, megis pe byddei Duw yn deisyf ar­noch trwyddom ni; yr ydym yn erfyn tros Grist, cymmoder chwi a Duw.

21 Canys yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod trosom ni, fel i'n gwne­lid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.

PEN. VI.

1 Darfod iddo ei ddangos ei hun yn wenidog ffyddlawn i Grist, trwy ei gynghorion, 3 a di­niweidrwydd ei fuchedd, 4 a'i ddioddefgarwch mewn pôb math ar gystudd, ac ammarch, er mwyn yr Efengyl: 10 am yr hon y mae ef yn hyfach yn llefaru vn eu plith, am fod ei galon ef vn agored iddynt: 13 ac y mae efe yn disgwyl am y cyfryw ewyllysgarwch drachefn oddiwrthynt hwy, 14 gan eu hannoc i ochelyd cymdeithas ac aflendid eulyn-addolwyr, a hwy­thau yn Demlau y Duw byw.

A Ninnau gan gydweithio, ydym yn atto­lwg i chwi, na dderbynioch râs Duw yn ofer:

2 (Canys y mae efe yn dywedyd,Esai. 49.8. Mewn amser cymmeradwy i'th wrandewais, ac vn nydd iechydwriaeth i'th gynhorthwyais: wele yn awr yr amser cymmeradwy, wele yn awr ddydd yr iechydwriaeth)

3 Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth.

4 Eithr gan ein dangos ein hunain ym­mhob peth, fel gweinidogion Duw, mewn ammynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau,

5 Mewn gwialennodiau, mewn carcharau, mewn terfyscau, mewn poenau, mewn, gwil­iadwriaethau, mewn ymprydiau,

6 Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hîr-ymaros, mewn tiriondeb yn yr Yspryd glân, mewn cariad diragrith,

7 Yngair y gwirionedd, yn nerth Duw, trwy arfau cyfiawnder, ar ddehau, ac ar asswy,

8 Twy barch ac amharch, trwy anglod a chlôd, megis twyllwyr, ac er hynny yn eir-wir;

9 Megis anadnabyddus, ac er hynny yn adnabyddus, megis yn meirw, ac wele byw ydym; megis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd;

10 Megis wedi ein tristau, ond yn oestad yn llawen; megis yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer: megis heb ddim cennym, ond etto yn meddiannu pôb peth.

11 Ein genau ni a agorwyd wrthych chwi, o Gorinthiaid, ein calon ni a ehengwyd.

12 Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich ymyscaroedd eich hunain.

13 Ond am yr vn tâl, (yr ydwyf yn dywe­dyd megis wrth fy mhlant) ehenger chwi­thau hefyd.

14 Na iauer chwi yn anghymharus gyd â'r rhai di-grêd. Canys pa gyfeillach syddGr. i gyfiawn­der. rhwng cyfiawnder, ac anghyfiawnder? a pha gym­mundebGr. i oleuni. rhwng goleuni a thywyllwch?

15 A pha gyssondeb sydd rhwng Christ a Belial? neu pa ran sydd i gredadyn gŷd ag anghredadyn?

16 A pha gydfod sydd rhwng Teml Dduw ac eulynnod; canys Teml y Duw byw yd­ych chwi; fel y dywedodd Duw,Levit. 26.12. Mi a bress­wyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysc, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi.

17Esai. 52.11. O herwydd pa ham, deuwch allan o'u canol hwy, ac ymddidolwch, medd yr Ar­glwydd, ac na chyffyrddwch â dim aflan, ac mi a'ch derbyniaf chwi:

18Jere. [...].1. Ac a fyddaf yn Dâd i chwi, a chwi­thau a fyddwch yn feibion, ac yn ferched i mi; medd yr Arglwydd Holl-alluog.

PEN. VII.

1 Y mae efe ym mhellach yn eu hannog hwy i burdeb buchedd, 2 ac i ddwyn y cyfryw ewyllys da tuac atto ef, ac yr oedd yntau yn ei ddwyn tuag attynt hwy. 3 A rhag iddynt hwy fe­ddwl ei fod ef yn ammeu hynny, y mae efe yn dangos pa gysur a gymmerodd efe yn ei flin­derau, pan fynegodd Titus y tristwch duwiol a weithiasei ei Epistol cyntaf ef ynddynt hwy, 13 a'u caredigrwydd hwynt, a'u hufydd-dod tuag at Titus, megis y bestiasei efe e'r blaen am danynt hwy.

AM hynny gan fôd gennym yr addewidion hyn (anwylyd) ymlanhawn oddiwrth bob halogrwydd cnawd ac yspryd, gan ber­ffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.

2 Derbvniwch ni, ni wnaethom gam i nêb; ni lygrasom nêb; nid yspeiliasom nêb.

3 Nid i'ch condemnio yr wyf yn dywe­dyd; canys mi a ddywedais o'r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyd â chwi.

4 Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrth­ych. Y mae gennif orfoledd mawr o'ch plegid chwi; yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra-chyflawn o lawenydd, yn ein holl orth­rymder.

5 Canys wedi ein dyfod ni i Macedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd, eithr ym mhôb peth cystuddiedig fuom, oddi allan yr oedd ymladdau oddi fewn i ofnau.

6 Eithr Duw yr hwn sydd yn diddanu y rhai cystuddiedig, a'n diddanodd ni wrth ddy­fodiad Titus.

7 Ac nid yn vnig wrth ei ddyfodiad ef, ond hefyd wrth y diddanwch â'r hwn y diddanwyd ef ynoch chwi, pan fynegodd efe i ni eich awydd-fryd chwi, eich galar chwi, eich zêl tuag attafi, fel y llawenheais i yn fwy.

8 Canys er i mi eich tristâu chwi mewn llythyr, nid yw edifar gennif, er bod yn edifar gennif; canys yr wyf yn gwelod dristâu o'r llythyr hwnnw chwi, er nad oedd ond tros amser.

9 Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristâu chwi, ond am eich tristâu i edifei­rwch; canys tristâu a wnaethochYn ol Duw. yn dduw­iol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrth­ym ni.

10 Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch, er iechydwriaethDi-edi­far. ni bydd edifeir­wch o honi, eithr tristwch y byd sydd yn gwei­thio angeu.

11 Canys wele hyn ymma, eich tristâu chwiYn ol Duw. yn dduwiol, Pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch? ie pa amddiffyn, ie pa sor­iant, ie pa ofn, ie pa awydd-fryd, ie pa zêl, ie pa ddial? ym mhob peth y dangosasoch eich bôd yn bûr yn y peth hyn.

12 O herwydd pa ham, er scrifennu o ho­nof attoch, ni scrifennais o'i blegid ef a wnae­thei y cam, nac o blegit yr hwn a gawsei gam, ond er mwyn bôd yn eglur i chwi ein gofal trosoch ger bron Duw.

13 Am hynny, ni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus: oblegid esmwythâu ar ei yspryd ef gennych chwi oll.

14 Oblegid os bostiais ddim wrtho ef am danoch, ni'm cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bôb dim mewn gwirio­nedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein bôst ni, yr hwn a fu wrth Titus.

15 Ac y mae ei ymyscaroedd ef yn helae­thach tu ag attoch, wrth gofio o honaw eich vfydd-dod chwi oll, pa fôdd trwy ofn a dych­ryn, y derbyniasoch ef.

16 Am hynny llawen wyf, am fôd i mi hyder arnoch ym mhôb dim.

PEN. VIII.

1 Y mae efe yn eu hannog hwynt i gyfrannu yn helaeth i'r Sainct tlodion yn Jerusalem, trwy siampl y Macedoniaid, 7 trwy ganmol eu pa­rodrwydd hwy o'r blaen, 9 trwy siampl [Page] Christ, 14 a thrwy y llessâd ysprydawl a ddaw iddynt hwy o hynny: 16 gan ddangos iddynt burdeb ac ewyllysgarwch Titus, ac eraill o'r bro­dyr, y rhai ar ei ddeisyfiad, a'i annog, a'i orchymmyn ef, a ddaethent attynt hwy yn bwrpasol ynghylch y peth hyn.

YR ydym ni hefyd yn yspysu i chwi, fro­dyr, y grâs Duw a roddwyd yn Eglwysi Macedonia:

2 Ddarfod mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy, a'u dwfn ddodi, ymhelaethu i gyfoeth euSyml­rwydd. haelioni hwy.

3 Oblegid yn ôl eu gallu, (yr wyfi yn dŷst) ac vwch-law eu gallu, yr oeddynt yn ewyllys­gar o honynt eu hunain.

4 Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn o honom niY rhad. y rhôdd, a chym­deithas gweinidogaeth y Sainct.

5 A hyn a wnaethant nid fel yr oeddym ni yn gobeithio, ond hwy a'i rhoddasant eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninneu trwy ewyllys Duw:

6 Fel y dymunasom ni a'r Titus, megis y dechreuasai efe o'r blaen, felly hefyd orphen o honawYnoch chwi. yn eich plith chwi y gras hwn he­fyd.

7 Eithr, fel yr ydych ym-mhôb peth yn helaeth mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phôb astudrwydd, ac yn eich cariad tu ag attom ni, edrychwch a'r fôd o honoch yn y gras hwn hefyd yn chelaeth.

8 Nid trwy orchymmyn yr ydwyf yn dy­wedyd, ond oblegid diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi.

9 Canys chwi a adwaenoch râs ein Har­glwydd Iesu Ghrist, iddo ef, ac ynteu yn gy­soethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.

10 Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn, canys hyn sy dda i chwi, y rhai a rag-ddech­reuasoch, nid yn vnig wneuthur, ond hefyd ewyllysio er y llynedd.

11 Ac yn awr gorphennwch wneuthur he­fyd, fel, megis ac yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly y byddo i gwplau hefyd, o'r hyn sydd gennych.

12 Canys [...]s bydd parodrwydd meddwl o'r blaen, yn ôl yr hyn sydd gan vn, y mae yn gymmeradwy, nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo.

13 Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau,

14 Eithr o gymhwysdra: y pryd hyn bydded eich helaethrwydd chwi, yn diwallu eu diffyg hwy, fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau, fel y byddo cymhwysdra:

15 Megis y mae yn scrifennedig,Exod. 16.18. Yr hwn a gasclodd lawer, nid oedd ganddoOrmod. we­ddill, ac a gasclodd ychydig, nid oeddRhy fychan ganddo. arno eisieu.

16 Eithr i Dduw y byddo 'r diolch, yr hwn a roddodd yr vn diwydrwydd trosoch ynghalon Titus.

17 Oblegid yn wir efe a dderbyniodd y dymuniad, a chan fod yn fwy diwyd, a aeth attoch o'i wir-fodd ei hun.

18 Ni a anfonasom hefyd gyd ag ef y brawd, yr hwn y mae ei glôd yn yr Efengyl, trwy 'r holl Eglwysi:

19 Ac nid hynny yn vnig, eithr hefyd a ddewiswyd gan yr Eglwysi i gydymdaith â ni, â'r grâs hyn, yr hwn a wasanaethir gennym, er gogoniant i'r Arglwydd ei hun, ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi:

20 Gan ochelyd hyn, rhag i neb feio arnom yn yr helaethrwydd ymma, yr hwn a wasa­naethir gennym:

21 Y rhai ydym yn rhag-ddarpar pethau onest, nid yn vnig yngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yngolwg dynion.

22 Ac ni a anfonasom gyd â hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fôd ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried y syddNeu, gantho gennif ynoch.

23 Os gofynnir am Titus fy nghydymaith yw, a chydweithydd tu ag attoch chwi; neu am ein brodyr, cennadau yr Eglwysi ydynt, a gogoniant Christ.

24 Am hynny dangoswch iddynt hwy ys­pysrwydd o'ch cariad, ac o'n bôst ninneu am danoch chwi, yngolwg yr Eglwysi.

PEN. IX.

1 Y mae efe yn dangos yr achos pa ham y dan­fonasei efe Titus a'i frodyr o'r blaen, er ei fôd yn gwyhod eu parodrwydd hwy. 6 Ac y mae efe yn eu cynhyrfu hwy i roddi elusen yn he­laeth, gan fôd hyn megis math ar hauad hâd, 10 yr hwn a ddwg iddynt gynnyrch, 13 ac a bair aberth mawr o foliant i Dduw.

CAnys, tu ag at am y weinidlgaeth i'r Sainct, afraid yw i mi scrifennu attoch.

2 O herwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid am danoch chwi, fôd Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd, a'r zêl a ddaeth oddiwrthych chwi a annogodd lawer iawn.

3 A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bôst ni am danoch chwi yn ofer yn y rhan hon, fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi:

4 Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyd â mi, a'ch cael chwi yn ammharod, bôd i ni (ni ddywedaf, i chwi) gael cywilydd yn y fôst hyderus ymma.

5 Mi a dybiais gan hynny, yn anghenrheid­iol attolwg i'r brodyr, ar iddynt ddyfod o'r blaen attoch, a rhag-ddarparu eich bendith chwi, yr hon a fynegwyd, fel y byddo parod, megis bendith, ac nid megis o gybydd-dra.

6 A hyn yr ŵyf yn ei ddywedyd, yr hwn sydd yn hau ynDan eiriach. brin, a fêd yn brin, a'r hwn sydd yn hauGyd a bendith­ion. yn helaeth.

7 Pôb vn megis y mae yn rhag-arfaethu yn ei galon, felly rhodded, nidO drist­wch yn athrist, neuO angen­rhai [...]. trwy gymmell, canysDihar. 11.25. Rhuf. 11.8. Ecclus. 35.9 rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.

8 Ac y mae Duw yn abl i beri i bôb grâs fôd yn helaeth tu ag attoch chwi, fel y byddoch chwi ym-mhôb peth, bôb amser, a chennych bôb digonoldeb, yn helaeth i bôb gweithred dda:

9 (Megis yr scrifennwyd,Psal. 112.9. Efe a wasca­rodd, rhoddodd i'r tlodion, ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd.

10 A'r hwn sydd ynEsai. 55.10 rhoddi hâd i'r hau­wr,A rod [...] hefyd fara yn ymborth ac a aml­hao &c. rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich hâd, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder)

11 Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth, i bôbLlafur. haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw.

12 Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn vnic yn cyflawni diffygion y Sainct, ond hefyd yn ymhelaetha trwy aml roddi diolch i Dduw:

13 Gan eu bôd trwy brofud y weini­dogaeth hon yn gogoneddu Duw o herwydd darostyngiad eich cyffes chwi i Efengyl Ghrist, ac o herwydd Syml. ewydd. haelioni eich cyfranniad iddynt hwy, ac i bawb:

14 A thrwy eu gweddi hwythau trosoch chwi, y rhai ydynt yn hiraethu am danoch chwi, am y rhagorol râs Duw, yr hwn sydd ynoch.

15 Ac i Dduw y byddo 'r diolch am ei ddawn annrhaethol.

PEN. X.

1 Yn erbyn y gau-Apostolion, y rhai a ddiystyrent wendid ei bresennoldeb corphorawl ef, y mae efe yn gosod allan y nerth a'r awdurdod yspry­dawl, y gwiscid ef â hwynt yn erbyn pob gwrth­wyneb allu; 7 gan eu siccrhau hwy y ceir ef ar ei ddyfodiad, mor nerthol newn gair, ac ydyw ef yr awrhon yn absennol yn ei scrifen; 12 a chan feio ar y gau athrawon am ymgyr­haeddyd y tu hwnt iw mesur, ac ymffrostio yn llafur gwyr eraill.

A Myfi Paul wyf fy hun yn attolwg i chwi, er addfwynder a hynawsedd Christ, yr hwnWrth dwg. yn bresennol ŵyf wael yn eich plîth, ond yn absennol ydwyf yn hŷ arnoch.

2 Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hyf, â'r hyderI'm ty­bir fy mod. yr ŵyf yn medd­wl bôd tu ag at rai, y sy yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio ar ôl y cnawd.

3 Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ôl y cnawd.

4 Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nertholNeu, i. trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr.

5 Gan fwrwRhesym­miadau. dychymmygion i lawr, a phôb vchder ac sy yn ymgodi yn erbyn gŵy­bodaeth Dduw, a chan gaethiwo pob meddwl i vfydd-dod Christ:

6 Ac yn barod gennym ddial ar bob anuf­ydd-dod, pan gyflawner eich vfydd-dod chwi.

7 Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? os ymddiried nêb ynddo ei hun, ei fôd efe yn eiddo Christ, meddylied hyn drachefn o honaw ei hun, megis ac y mae efe yn eiddo Christ, felly ein bôd ninnau hefyd yn eiddo Christ.

8 Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Ar­glwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinistr chwi, ni'm cywilyddid:

9 Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau.

10 Oblegid y llythyrau yn wir, meddant, sy drymion, a chryfion, eithr presennoldeb y corph sydd wan, a'r ymadrodd yn ddirmygus.

11 Y cyfryw vn, meddylied hyn, mai y fath ydym ni ar air, drwy lythyrau yn ab­sennol, yr vn fath hefyd a fyddwn a'r weithred yn bresennol.

12 Canys nid ŷm ni yn beiddio ein cydstadlu, neu ein cyffelybu ein hunain, i rai sy yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt hwy gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a'i cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid ydynt yn deall.

13 Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan o'n mesur, ond yn ôl mesur y rheol a rannnodd Duw i ni, mesur i gyrhaeddyd hyd attoch chwi hefyd.

14 Canys nid ydym, megis rhai heb gyr­rhaeddyd hyd attoch chwi, yn ymystyn allan tu hwnt i'n mesur: canys hyd attoch chwi hefyd y daethom ag Efengyl Grist.

15 Nid gan fostio hyd at bethau allan o'n mesur, yn llafur rhai eraill, eithr gan obeithio pan gynnyddo eich ffydd chwi, gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl ein rheol,I hela­ethrwydd. yn che­laeth:

16 I bregethu yr Efengyl tu hwnt i chwi: ac nid i fostio yn rheol vn arall, am bethau parod eusys.

17Jer. 9.24. 1 Cor. 1.31. Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.

18 Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun, sydd gymmeradwy, ond yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ganmol.

PEN. XI.

1 Allan o'i eiddigedd tros y Corinthiaid, y rhai oedd yn dangos eu bod yn gwneuthur mwy o gyfrif o'r gau-Apostolion nag o hono ef, y mae yn gorfod arno yn erbyn ei ewyllys, ei ganmol ei hun, 5 trwy ei gystadlu ei hun â'r Aposto­lion pennaf, 7 a'i fod yn pregethu yr Efengyl yn rhâd, ac yn ddigost, iddynt hwy: 13 gan ddangos nad oedd efe ddim gwaeth nâ'r gwei­thredwŷr twyllodrus hynny, mewn vn rhagor­fraint o'r ddeddf, 23 a'i fod yn rhagori arnynt yngwasanaeth Christ, ac ym mhôb math a'r ddioddefiadau o achos ei weinidogaeth.

O Na chyd-ddygech â myfi ychydig yn fy ffolineb, eithr hefyd cyd-ddygwch â myfi.

2 Canys eiddigus wyf trosoch, ag eiddigedd duwiol; canys mi a'chGr. cym­mwysais. dyweddiais chwi i vn gwr, i'chPresen­tio. rhoddi chwi megis morwyn bûr i Grist.

3 Ond y mae arnaf ofn, rhag mewn modd yn y bŷd, megis y twyllodd y sarph Efa, trwy ei chyfrwysdra, felly bôd eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd ynGhrist.

4 Canys yn wir os ydyw yr hwn sydd yn dyfod, yn pregethu Iesu arall, yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych vn derbyn yspryd arall, yr hwn ni's derbyniasoch, neu Efengyl arall, yr hon ni dderbyniasoch, têg y cydd-ddygech ag ef.

5 Canys yr ydwyf yn meddwl, na bum i ddim yn ôl i'r Apostolion pennaf.

6 Ac os ydwyf hefyd yn anghyfarwydd ar ymadrodd, etto nid wyf felly mewn gwybod­aeth, eithr yn eich plith chwi, nyni a eglurha­wyd yn hollawl ym-mhôb dim.

7 A wneuthym i fai wrth fy ngostwng fy hun, fel y derchefid chwi; oblegid pregethu o honof i chwi Efengyl Dduw yn rhâd?

8 Eglwysi eraill a yspeiliais, gan gym­meryd cyflog ganddynt hwy, i'ch gwasa­naethu chwi.

9 A phan oeddwn yn bresennol gyd â chwi, ac arnaf eisieu, ni ormesais ar neb, canys fy eisieu i a gyflawnodd y brodyr a ddae­thent o Macedonia: ac ym-mhôb dim i'm cedwais fy hun heb pwyso arnoch, ac mi a ymgadwaf.

10 Fel y mae gwirionedd Christ ynof, ni [Page] argaeir yr ymffrost hyn yn fy erbyn, yngwled­ydd Achaia.

11 Pa ham? ai am nad ŵyf yn eich caru chwi? Duw a'i gŵyr.

12 Eithr yr hyn yr ŵyf yn ei wneuthur, a wnaf hefyd: fel y torrwyf ymmaith achlysur oddi wrth y rhai sy yn ewyllysio cael achlysur, fel yn yr hyn y maent vn ymffrostio, y caer hwynt megis ninnau hefyd.

13 Canys y cyfryw gau Apostolion sy weith-wŷr twyllodrus, wedi ymrithio yn Apo­stolion i Grist.

14 Ac nid rhyfedd, canys y mae Satan yntef yn ymrithio yn Angel goleuni.

15 Gan hynny nid mawr yw, er ymrithio ei weinidogion ef fel gweinidogion cyf­iawnder, y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gweithredoedd.

16 Trachefn meddaf, na thybied neb fy môd i yn ffôl: os amgen, ettoNeu, g [...]ddef­wch. derbyniwch fi fel ffôl, fel y gallwyf finneu hefyd ymffrostio ychydig.

17 Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd, eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fôst hyderus.

18 Gan fôd llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd, minneu a ymffrostiaf hefyd.

19 Canys yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hun yn synhwyrol.

20 Canys yr ydych yn goddef, os bydd vn i'ch caethiwo, os bydd vn i'ch llwyr-fwytta, os bydd vn yn cymmeryd gennych, os bydd vn yn ymdderchafu, os bydd vn yn eich taro chwi ar eich wyneb.

21 Am amharch yr ydwyf yn dywedyd, megis pe buâsem ni weiniaid: eithr ym mha beth bynnag y mae nêb yn hyf, (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd) hŷ wŷf finneu hefyd.

22 Ai Hebræid ydynt hwy? felly finneu. Ai Israeliaid ydynt hwy? felly finneu. Ai hâd Abraham ydynt hwy? felly finneu.

23 Ai gweinidogion Crist ydynt hwy? (yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl) mwy wyf fi. Mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialen­nodiau tros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych.

24 Gan yr Iddewon bum-waith y derbyni­aisDeut. 25.3. ddeugain gwialennod onid vn.

25 Tair gwaith i'm curwyd â gwiail; vn­waith i'm llabyddiwyd; teir-gwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bum yn y dyfn-for:

26 Mewn teithiau yn fynych, ym mher­yglon lli [...]-ddyfroedd; ym mheryglon lladron; ym mheryglon fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y Cenhedloedd; ym mher­yglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mheryglon ym mhlith brodyr gau:

27 Mewn llafur a lludded: mewn anhunedd yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni.

28 Heb law y pethau sy yn digwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd, y gofal tros yr hôll Eglwysi.

29 Pwy sy wan, nad wyf finneu wan? pwy a dramgwyddir, nad ŵyf finneu yn llosci?

30 Os rhaid ymffrostio, mi a ymfrostiaf am am y pethau sy yn perthyn i'm gwendid.

31 Duw, a Thâd ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.

32 Yn Damascus, y llywydd tan Aretas y brenin, a wiliodd ddinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i.

33 A thrwy ffenestr mewn basced i'm gollyngwydTros y mur. a'r hyd y mur, ac y diengais o'i ddwylaw ef.

PEN. XII.

1 Er gallu o hono ef orfoleddu yn ei ddatcuddi­adau rhyfeddawl, er mwyn gosod allan ei Apo­stoliaeth, 9 etto mae yn well gantho orfoleddu yn ei wendid: 11 gan fwrw hai arnynt hwy am ei yrru of i wag-fostio fel hyn. 14 Mae efe yn addo dyfod attynt hwy drachefn, ac er hynny trwy dadawl garedigrwydd: 20 er ei fôd yn ofni y caiff efe yno lawer o ddrwg-weithred­wyr, ac anhrefn cyffredinawl.

YMffrostio yn ddiau nid yw fuddiol i mi: canys myfi a ddenaf at weledigaethau, a datcuddiedigaethau yr Arglwydd.

2 Mi a adwaenwn ddyn ynGhrist, er ys rhagor i bedair blynedd ar ddêc, (pa vn ai yn y corph, ni wn, ai allan o'r corph, ni wn i, Duw a ŵyr) y cyfryw vn a gippiwyd i fynu hyd y drydedd nef.

3 Ac mi a adwaenwn y cyfryw ddyn (pa vn ai yn y corph, ai allan o'r corph ni wn i, Duw a ŵyr)

4 Ei gippio ef i fynu i Baradwys, ac iddo glywed geiriau annhraethadwy, y rhai nid ywBossi [...]l. gyfreithlon i ddŷn eu hadrodd.

5 Am y cyfryw vn yr ymffrostiaf; eithr am danaf fy hun nid ymffrostiaf, oddieithr yn fy ngwendid.

6 Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni byddaf ffôl; canys mi a ddywedaf y gwir: eithr yr wyf yn arbed, rhag i neb wneuthur cyfrif o honofi, vwch law y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed gennif.

7 Ac fel na'm tra derchafer gan odidowg­rwydd y datcuddiedigaethau, rhoddwyd i miEdrych Ezec. 28.24. swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, i'm cernodio, fel na'm tra derchefid.

8 Am y peth hyn mi a attolygais i'r Ar­glwydd deir-gwaith, ar fod iddo ymadel â mi.

9 Ac efe a ddywedodd wrthif, Digon i ti fy ngrâs i; canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid: yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi, yn hytrach yn fy ngwendid, fel y preswylio nerth Christ ynofi.

10 Am hynny yr wyf yn fodlawn mewn gwendid, mewn ammarch, mewn anghen­ion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau er mwyn Christ: canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.

11 Mi a euthym yn ffol wrth ymffrostio; chwychwi a'mCymme­llasoch. gyrrasoch, canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi: canys ni bûm i ddim yn ôl i'r Apostolion pen­naf, er nad ydwyfi ddim.

12 Arwyddion Apostol yn wîr a weithred­wyd yn eich plith chwi, mewn pôb amynedd, mewn arwyddion, a rhyfeddodau, a gweithred­oedd nerthol.

13 Canys beth yw yr hyn y buoch chwi yn ôl am dano, mwy nâ'r Eglwysi eraill, oddieithr am na bûm i fy hun ormesol arnoch? Madd­euwch i mi hyn o gam.

14 Wele, y drydedd waith yr wyfi yn barod i ddyfod attoch, ac ni byddaf ormesol arnoch; canys nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi, ond chwy-chwi; canys ni ddylei y plant [Page] gasclu trossor i'r rhieni, ond y rhieni i'r plant.

15 A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf, ac a ymdreuliaf tros eich eneidiau chwi, er fy môd yn eich caru yn helaethach, ac yn cael fy ngharu yn brinnach.

16 Eithr bid, Ni phwysais i arnoch: ond gan fôd yn gyfrwys, mi a'ch deliais chwi trwy ddichell.

17 A wneuthum i elw o honoch chwi, drwy neb o'r rhai a ddanfonais attoch?

18 Mi a ddeisyfiais ar Titus, a chyd ag ef mi a anfonais frawd: a elwodd Titus ddim arnoch? Onid yn yr vn yspryd y rhodiasom? Onid yn yr vn llwybrau?

19 Drachefn, A ydych chwi yn tybied mai ymescusodi yr ydym wrthych? Ger bron Duw ynGhrist yr ydym yn llefaru: a phôb peth, anwylyd, er adeiladaeth i chwi.

20 Canys ofni yr wyf, rhag pan ddelwyf, na'th caffwyf yn gyfryw rai ac afynnwn; a'm cael inneu i chwithau yn gyfryw ac nis myn­nech, rhag bôd cynhennau, cenfigennau, llidiau, ymrysonau,Absen­nau. goganau, hustingau, ymchwydd­iadau, anghydfyddiaethau:

21 Rhac pan ddelwyf drachefn, fôd i'm Duw fy narostwng yn eich plith, ac i mi ddwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eusys, ac nid edifarhasant am yr aflendid, a'r godineb, a'r anlladrwydd a wnaethant.

PEN. XIII.

1 Y mae efe yn bygwth pechaduriaid diedifeiriol â thoster, a gallu ei Apostoliaeth: 5 a chan eu cyng­hori hwynt i brofi eu ffydd, 7 ac i ddiwygio eu beiau cyn ei ddyfod ef, 11 y mae efe yn diweddu ei Epistol trwy eu hannoc hwy yn gyffredinawl, a gweddio.

Y Drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod attoch. Yngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair.

2 Rhag-ddywedais i chwi, ac yr ydwyf yn rhag-ddywedyd, fel pe bawn yn bresennol yr ail waith, ac yn absennol yr awron, yr ydwyf yn scrifennu at y rhai a bechasant eusys, ac at y lleill i gŷd, os deuaf drachefn, nad arbedaf?

3 Gan eich bôd yn ceisio profiad o Grist, yr hwn sydd yn llefaru ynof, yr hwn tu ag attoch chwi nid yw wan, eithr sydd nertholynochchwi.

4 Canys er ei groes-hoelio ef o ran gwendid, etto byw ydyw drwy nerth Duw; canys nin­nau hefyd ydym weiniaidGyd ag ef. ynddo ef, eithr byw fyddwn gyd ag ef, trwy nerth Duw tu ag attoch chwi.

5 Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd; holwch eich hunain. Ai nid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bôd Iesu Grist yn­och, oddieithr i chwi fôd yn anghymmeradwy?

6 Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymmeradwy.

7 Ac yr wyf yn gweddio ar Dduw na wne­loch chwi ddim drwg, nid fel yr ymddangosom ni yn gymmeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bôd o honom ni megis rhai anghymmeradwy.

8 Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond tros y gwirionedd.

9 Canys llawen ydym, pan fyddom ni yn weiniald, a chwithau yn gryfion. A hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef eich perffeith­rwydd chwi.

10 Am hynny, myfi yn absennol ydwyf yn scrifennu y pethau hyn, fel pan fyddwyf bre­sennol nad arferwyf doster, yn ôl yr awdurdod a roes yr Arglwydd i mi, er adeilad, ac nid er dinystr.

11 Bellach frodyr byddwchIach. wych; bydd­wch berffaith; diddaner chwi; syniwch yr vn peth; byddwch heddychol. A Duw y cariad a'r heddwch a fydd gyd â chwi.

12 Anherchwch ei gilydd â chusan sanctaidd. Y mae 'r holl Sainct yn eich annerch chwi.

13 Gras ein Hargwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Yspryd glan, a fyddo gyd â chwi oll. Amen.

¶ Yr ail at y Corinthiaid a scrifennwyd O Philipi ym-Macedonia, gyd â Titus a Luc.

¶EPISTOL PAVL YRAPOSTOL At y GALATIAID.

PENNOD I.

6 Y mae efe yn rhyfeddu iddynt ei adel ef a'r Efengyl cyn gynted: 8 ac yn melltithio y rhai a bregethant Efengyl amgen nâ'r hon a bregethai efe. 11 Nad gan ddynion y dyscodd efe yr Efengyl, eithr gan Dduw: 13 Ac y mae efe yn dangos pa beth ydoedd efe cyn ei alw, 17 a pha beth a wnaeth efe yn y man wedi ei alw.

PAul Apostol, nid o ddynion, na thrwy ddŷn, eithr trwy Iesu Grist, a Duw Tâd, yr hwn a'i cyfododd ef o feirw,

2 A'r brodyr oll, y rhai sy gyd â mi, at Eglwysi Galatia:

3 Gras fyddo i chwi, a heddwch oddiwrth Dduw Tâd, a'n Harglwydd Iesu Grist:

4 Yr hwn a'i rhoddes ei hun tros ein pecho­dau, fel i'n gwaredei ni oddi wrth y bŷd drwg presennol, yn ôl ewyllys Duw a'n Tad ni:

5 I'r hwn y byddo gogoniant yn oes oeso­edd. Amen.

6 Y mae yn rhyfedd gennif eich symmud mor fuan oddi wrth yr hwn a'ch galwoddYngras. i râs Crist, at Efengyl arall:

7 Yr hon nid yw arall: ond bôd rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwennych dattroi Efengyl Grist.

8 Eithr pe byddei i ni, neu i Angel o'r nef, efangylu i chwi amgen nâ'r hyn a efangyla [...] i chwi, byddedFelldi­gedig. anathema.

9 Megis y rhag-ddywedasom, felly yr yd­wyf yr awron drachefn yn dywedyd, os efangyla neb i chwi amgen nâ'r hyn a dder­byniasoch, bydded anathema.

10 Canys yr awron, aiPers­wadio. peri credu dynion yr ŵyf, ynteu Duw? neu a ydwyfi yn ceisio rhyngu bodd dynion? canys pe rhyngwn fodd dynion etto, ni byddwn was i Grist.

11 Eithr yr ydwyf yn yspysu i chwi, fro­dyr, am yr Efengyi a bregethwyd gennifi, nad yw hiYn ol dyn. ddynol.

12 Canys nid gan ddŷn y dderbyniais i hi, nac i'm dyscwyd: eithr trwy ddatcuddiad Iesu Grist.

13 Canys chwi a glvwsoch fy ymarweddiad i gynt yn y Grefydd iddewig, i mi allan o fesur erlid Eglwys Dduw, a'i hanrheithio hi.

14 Ac i mi gynyddu yn y Grefydd Idde­wig, yn fwy nâ llawer o'm cyfoedion, yn fy nghenedl fy hun, ganDdwyn zel yn fwy. fôd yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau.

15 Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a'm nailltuodd i o groth fy mam, ac a'm gal­wodd i trwy ei râs,

16 I ddatcuddio ei Fâb ef ynofi, fel y [Page] pregethwn ef ym mhlith y Cenhedloedd; yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed:

17 Ac nid aethymI fynu. yn fy ôl i Ierusalem, at y rhai oedd o'm blaen i yn Apostolion: ond mi a aethym i Arabia, a thrachefn y dychwe­lais i Ddamascus.

18 Yna yn ôl tair blynedd y daethymI fynu. yn fy ôl i Ierusalem i ymweled â Phetr; ac a arhosais gyd ag ef bymtheng nhiwrnod.

19 Eithr neb arall o'r Apostolion ni's gwel­ais, ond Iaco, brawd yr Arglwydd.

20 A'r pethau yr ŵyf yn eu scrifennu at­toch, wele, ger bron Duw nad wyf yn dywe­dyd celwydd.

21 Wedi hynny y daethym i wledydd Syria a Cilicia;

22 Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb yn Eglwysi Iudæa, y rhai oedd ynGhrist.

23 Onid yn vnic hwy a glywsent, fôd yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni, yr awron yn pregethu y ffydd, yr hon gynt a anrheithiasei.

24 A hwy a ogoneddasant Dduw ynofi.

PEN. II.

1 Y mae efe yn dangos pa bryd yr aeth efe i fynu i Ierusalem, ac i ba beth: 3 ac nad enwaeda­sid ar Titus, 11 a gwrthwynebu o hono ef Petr. 14 Pa ham y mae efe ac eraill, a hwy­thau yn Iddewon, yn credu y cânt ei cyfiawn­hau ynGhrist trwy ffydd, ac nid trwy wei­thredoedd, 20 ac na bo iddynt hwy y rhai a gyfiawnhawyd felly, fyw mewn pechod.

YNa wedi pedair blynedd ar ddêc yr aethym drachefn i fynu i Ierusalem gyd â Barna­bas, gan gymmeryd Titus hefyd gydâ mi.

2 Ac mi a aethym i fynu yn ôl datcuddiad, ac a fynegais iddynt yr Efengyl, yr hon yr ŵyf yn ei phregethu ym mhlith y Cenhedloedd: ond o'r nailltu, i'r rhai cyfrifol, rhag mewn vn modd fy môd yn rhedeg yn ofer, neu ddarfod i mi redeg.

3 Eithr Titus yr hwn oedd gyd â mi, er ei fôd yn Roegwr, ni chymmhellwyd chwaith i enwaedu arno:

4 A hynny o herwydd y gau-frodyr a ddy­gasid i mewn, y rhai a ddaethent i mewn i yspio ein rhydd-did ni, yr hon sydd gennym ynGhrist Iesu, fel i'n caethiwent ni:

5 I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyng­iad, na ddo tros awr: fel yr arhosai gwirion­edd yr Efengyl gyd â chwi.

6 A chan y rhai a dybid eu bôd yn rhyw beth, (pa fath gynt oeddynt, nid yw ddim i mi, nid yw Duw yn derbyn wyneb dŷn) canys y rhaia dybid eu bod yn rhyw beth. cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi.

7 Eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddar­fod ymddiried i mi am Efengyl y dienwaediad, megis am Efengyl yr Enwaediad i Petr:

8 (Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Petr, i apostoliaeth yr Enwaediad, a nerthol weithredodd ynofinnau hefyd tu ac at y Cenhedloedd.)

9 A phan ŵybu Iaco, a Cephas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bôd yn golofnau, y grâs a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas, dde­heu-ddwylo cymdeithas: fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr Enwaediad.

10 Yn vnic ar fod i ni gofio 'r tlodion: yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd iw wneuthur.

11 A phan ddaeth Petr i Antiochia, mi a'i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fôd iw feio.

12 Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iaco, efe a fwyttâodd gyd â'r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd ac a'i naill­tuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni y rhai oedd o'r Enwaediad.

13 A'r Iddewon eraill hefyd a gyd-ragrith-iasant ag ef; yn gymmaint ac y dygwyd Bar­nabas hefyd iw rhagrith hwy.

14 Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn­droedio at wirionedd yr Efengyl, mi a ddywe­dais wrth Petr yn eu gŵydd hwy oll, Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, pa ham yr wyti yn cymmell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd?

15 Nyni y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon, ac nid o'r Cenhedloedd yn becha­duriaid;

16 Yn gŵybod nad ydys yn cyfiawnhau dŷn trwy weithredoedd y Ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist: ninneu hefyd a gredasom yn­Ghrist Iesu, fel i'n cyfiawnhâer trwy ffydd Grist, ac nid trwy weithredoedd y Ddeddf: o blegid ni chyfiawnheir vn cnawd trwy weith­redoedd y Ddeddf.

17 Ac os wrth geisio ein cyfiawnhau yn­Ghrist, i'n caed ninneu hefyd yn bechaduriaid, a ydyw Christ am hynny yn wenidog pechod? Na atto Duw.

18 Canys os wyfi yn adeiladu drachefn, y pethau a ddestrywiais, yr ŵyf yn fy ngwneu­thur fy hun yn drosseddwr.

19 Canys yr wyfi trwy y Ddeddf wedi marw i'r Ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw.

20 Mi a groes-hoeliwyd gyd â Christ: eithr byw ydwyf, etto nid myfi, ond Christ sydd yn byw ynofi: a'r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a'm carodd, ac a'i dodes ei hun drosofi.

21 Nid ŵyf yn dirymmu grâs Duw: canys os o'r Ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Christ farw yn ofer.

PEN. III.

1 Y mae efe yn gofyn pa bêth a'i cynhyrfodd hwy i ymadel â'r ffydd, ac i lynu wrth y gyfraith. 6 Y rhai a gredant a gyfiawnheir, 9 ac a fen­dithir gydag Abraham: 10 a hyn y mae efe yn ei ddangos trwy lawer o resymmau.

OY Galatiaid ynfyd, pwy a'chrheib­iodd. llygadty­nodd chwi, fel nad vfuddhaech i'r gwir­ionedd: i ba rai o flaen eu llygaid y portreiad­wyd Iesu Grist, wedi ei groes-hoelio yn eich plith?

2 Hyn yn vnic a ewyllysiaf ei ddyscu gennwch, ai wrth weithredoedd y Ddeddf y derbyniasoch yr Yspryd, ynteu wrth wrandaw­iad ffydd?

3 A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechreu yn yr Yspryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd?

4 A ddioddefasoch gymmaint yn ofer? os yw ofer hefyd.

5 Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Yspryd, ac yn gwneuthur gwrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y Ddeddf, ynteu o wrandawiad ffydd y mae?

6 Megis y credodd Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.

7 Gŵybyddwch felly mai y rhai sy o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham.

8 A'r Scrythur yn rhag-weled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y Cenhedloedd, a rag-efangylodd i Abraham, gan ddywedyd, Gen. 12.3. Ynot ti y bendithir yr holl Genhedloedd.

9 Felly gan hynny, y rhai sy o ffydd a fendithir gyd ag Abraham ffyddlon.

10 Canys cynnifer ac y sy o weithredoedd y Ddeddf, tan felldith y maent: canys scrifenn­wyd,Deut. 27.26. Melldigedig yw pob vn nid yw yn aros yn yr holl bethau a scrifennir ynllyfr y Ddeddf, i'w gwneuthur hwynt.

11 Ac na cyfiawnheir neb trwy 'r Ddeddf ger bron Duw, eglur yw: oblegidHabac. 2.4. Rhuf. 1.17. y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.

12 A'r Ddeddf nid yw o ffydd: eithr yLevit. 18.5. dŷn a wna y pethau hynny, a fydd byw ynddynt.

13 Christ a'n llwyr-brynodd oddi wrth felldith y Ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom: canys y mae yn scrifennedig,Deut. 21.23. Mell­digedig yw pob vn sydd ynghrog ar bren:

14 Fel y delai bendith Abraham ar y Cen­hedloedd, trwy Grist Iesu: fel y derbyniem addewid yr Yspryd trwy ffydd.

15 Y brodyr, dywedyd yr ŵyf ar wedd ddynol, Cyd na byddo ondTesta­ment. ammod dŷn, wedi y cadarnhaer, nid yw neb yn ei ddirym­mu, neu yn rhoddi atto.

16 I Abraham y gwnaethpwyd yr addewid­ion, ac iw hâd ef. Nid yw yn dywedyd, Ac iw hadau, megis am lawer; ond megis am vn, Ac i'th hâd ti; yr hwn yw Christ.

17 A hyn yr ŵyf yn ei ddywedyd, am yr ammod a gadarnhawyd o'r blaen gan Dduw ynGhrist, nad yw y Ddeddf oedd bedwar cant a dêc ar hugain o flynyddoedd wedi, yn ei ddirymmu, i wneuthur yr addewid yn ofer.

18 Canys os o'r Ddeddf y nae yr etifedd­iaeth, nid yw hayach o'r addewid: ond Duw a'i rhâd-roddodd i Abraham drwy addewid.

19 Beth gan hynny yw 'r Ddeddf? oblegid trosseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelei yr hâd, i'r hwn y gwnaethid yr addewid: a hi a drefnwyd trwy Angelion, yn llaw Cyfryngwr.

20 A chyfryngwr nid yw i vn; ond Duw sydd vn.

21 A ydyw y Ddeddf gan hynny yn er­byn addewidion Duw? Na atto Duw: canys pe rhoesid Deddf a allasei fywhau, yn wîr o'r Ddeddf y buasai cyfiawnder.

22 Eithr cyd-gaeodd yr Scrythur bôb peth tan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist, i'r rhai fy yn credu.

23 Eithr cyn dyfod ffydd, i'n cadwyd tan y Ddeddf, wedi ein cyd gau i'r ffydd, yr hon oedd iw dad-cuddio.

24 Y Ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel i'n cyfiawnhaid drwy ffydd.

25 Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach tan athro.

26 Canys chwi oll ydych blant i Dduw, drwy ffydd ynGhrist Iesu.

27 Canys cynnifer o honoch ac a fedyddi­wyd ynGhrist, a wiscasoch Grist.

28 Nid oes nac Iddew na Croegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwr-ryw na benyw: canys chwi oll vn ydych ynGhrist Iesu.

29 Ac os eiddo Christ ydych, yna hâd Abra­ham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.

PEN. IV.

1 Ein bod ni tan y Ddeddf hyd ddyfodiad Christ, fel y mae 'r etifedd tan ei ymgeleddwr, nes ei ddyfod iw oed: 5 Eithr darfod i Grist ein rhyddau ni oddiwrth y Ddeddf: 7 Nad yd­ym ni gan hynny weision iddi mwyach. 14 Y mae efe yn cofio eu hewyllys da hwynt tuag atto ef, a'r eiddo yntef tuag attynt hwythau, 22 ac yn dangos mai meibion i Abraham ydym ni, o'r wraig rydd.

A Hyn yr ŵyf yn ei ddywedyd: dros gym­maint o amser ac y mae 'r etifedd yn fach­gen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwâs, er ei fôd yn Arglwydd ar y cwbl:

2 Eithr y mae efe tan ymgeledd-wŷr a llywo­draeth-wyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tâd.

3 Felly ninnau hefyd pan oeddym fechgyn, oeddym gaethion tan wyddorion y bŷd:

4 Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fâb, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur tan y Ddeddf:

5 Fel y prynei y rhai oedd tan y Ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad.

6 Ac o herwydd eich bôd yn feibion, yr an­fonodd Duw Yspryd ei Fâb i'ch calonnau chwi yn llefain, Abba, Dâd.

7 Felly nid wyti mwy yn wâs, ond yn fab: ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist.

8 Eithr y pryd hynny pan oeddych heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau.

9 Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at y gwyddorion llesc a thlodion, y rhai yr ydych yn chwen­nych drachefn o newydd eu gwafanaethu?

10 Cadw yr ydych ddiwrnodiau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd.

11 Y mae arnaf ofn am danoch, rhag dar­fod i mi boeni wrthych yn ofer.

12 Byddwch fel fyn, canys yr wyfi fel chwi, y brodyr, attolwg i chwi, ni wnaethoch i mi ddim cam.

13 A chwi a ŵyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efangylais i chwi y waith gyntaf:

14 A'm profedigaeth, yr hon oedd yn fynghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmyga­soch: eithr chwi a'm derbyniasoch megis Ang­el Duw, megis Christ Iesu.

15 Beth wrth hynny oedd eich dedwydd­wch chwi? canys tystio yr ŵyf i chwi, pe buasei bossibl, y tynnasech eich llygaid, ac a'u rhoesech i mi.

16 A aethym i gan hynny yn elyn i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwîr?

17 Y maent yn rhoi mawr-serch arnoch, ond nid yn dda, eithr chwennych y maentEin cau ni. eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr-serch ar­nynt hwy.

18 Eithr da yw dwyn mawr-serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn vnic tra fydd­wyf brefennol gyd â chwi.

19 Fy mhlant bychain, y rhai yr ŵyf yn eu hescor drachefn, hyd oni ffurfier Christ ynoch.

20 Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyd â chwi, a newidio fy llais, o herwydd yr ŵyf yn ammeuAm da­noch. o honoch.

21 Dywedwch i mi y rhai ydych yn chwen­nych bôd tan y Ddeddf, onid ydych chwi yn clywed y Ddeddf?

22 Canys y mae yn scrifennedig fod i Ab­raham ddau fâb: vn o'r wasanaeth-ferch, ac vn o'r wraig rydd.

23 Eithr yr hwn oedd o'r wasanaeth-ferch, a aned yn ôl y cnawd: a'r hwn oedd o'r wraig rydd, trwy 'r addewid.

24 Yr hyn bethau ydynt mewnCyffely­blaeth. alegori: canys y rhai hyn yw y ddau Destament, [Page] vn yn ddiau o fynydd Sina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar:

25 Canys yr Agar ymma, yw mynydd Sina yn Arabia; ac y mae yn cyf-atteb i'r Ierusalem sydd yn awr, ac y mae yn gaeth hi a'i phlant.

26 Eithr y Ierusalem honno vchod, sydd rydd, yr bon yw ein mam ni oll.

27 Canys scrifennedig yw,Esay. 54.1. Llawenhâ di yr ammhlantadwy yr hon nid wyt yn hep­pilio: torr allan a llefa, yr hon nid wyt yn escor: canys i'rYmddi­fad. vnic y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae iddi wr.

28 A minneu, frodyr, megis yr oedd Isaac, ydym blant yr addewid.

29 Eithr megis y pryd hynny, yr hwn a an­wyd yn ôl y cnawd a erlidiai yr hwn a anwyd yn ôl yr Yspryd: felly yr awrhon hefyd.

30 Ond beth y mae 'r Scrythur yn ei ddy­wedyd?Gen. 21.10. Bwrw allan y wasanaeth-ferch, a'i mab: canys ni chaiff mab y wasanaeth-ferch etifeddu gyd â mab y wraig rydd.

31 Felly, frodyr, nid plant î'r wasanaeth­ferch ydym, ond i'r wraig rydd.

PEN. V.

1 Y mae efe yn eu hannog hwy i sefyll yn eu rhydd­did, 3 ac nad arferont Enwaediad; 13 Eithr yn hytrach cariad, yr hwn yw cyflawnder y Gyfraith. 19 Y mae efe yn rhifo gweithredoedd y Cnawd, 22 a ffrwythau yr Yspryd, 25 ac yn eu hannog i rodio yn yr Yspryd.

SEfwch gan hynny yn y rhydd-did â'r hon y rhyddhaodd Christ ni, ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed.

2 Wele, myfi Paul ŵyf yn dywedyd wrth­ych, os enwaedir chwi, ni les-hâ Christ ddim i chwi.

3 Ac yr ŵyf yn tystiolaethu drachefn i bôb dŷn a'r a enwaedir, ei fôd efe yn ddyledwr iWneu­ [...]hur. gadw yr holl Ddeddf.

4 Chwi a aethoch yn ddifudd oddi wrth Grist. y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y Dd [...]f: chwi a syrthiasoch ymmaith oddi wrth râs.

5 Canys nyni yn yr Yspryd drwy ffydd ydym yn disgwil gobaith cyfiawnder.

6 Canys ynGhrist Iesu ni all enwaediad ddim, na di-enwaediad, ond ffydd yn gweithio trwy gariad.

7 Chwi a redasoch yn dda, pwy a'ch rhwyst­rodd chwi, fel nad vfyddhaech i'r gwirionedd?

8 Y cyngor hyn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi.

9 Y mae ychydig lefein yn lefeinio yr holl does.

10 Y mae gennifi hyder am danoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnediga­eth, pwy bynnag fyddo.

11 A myfi, frodyr, os yr Enwaediad etto yr ŵyf yn ei bregethu, pa ham i'm erlidir etto? yn wîr tynnwyd ymmaith dramgwydd y groes.

12 Mi a fynnwn, iê pe torrid ymaith y rhai sy yn aflonyddu arnoch.

13 Canys i rydd-did i'ch galwyd chwi, frodyr: yn vnic nac arferwch y rhydd-did yn achlysur i'r cnawd, ond trwy gariad gwa­saneth wch ei gilydd.

14 Canys yr holl Ddeddf a gyflawnir mewn vn gair, sef yn hwn,Lev. 19.18. Matth. 12 30. Câr dy gymmydog fel ti dy hun.

15 Ond osBrathu. cnoi a thraflyngcu ei gilydd yr ydych, gwiliwch na ddifether chwi gan ei gilydd.

16 Ac yr ŵyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Yspryd, acNi na chyflawnwch drachwant y cnawd.

17 Canys y mae y cnawd yn chwennychu yn erbyn yr Yspryd, a'r Yspryd yn erbyn y cnawd: a'r rhai hyn a wrth-wynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch.

18 Ond os gan yr Yspryd i'ch arweinir, nid ydych tan y Ddeddf.

19 Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw, tor-priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd,

20 Delw-addoliaeth, swyn-gyfaredd,Gelyn­laeth. cas­ineb, cynhennau, gwŷnfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresiau,

21 Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach; a chyffelyb i'r rhai hyn: am y rhai yr wyfi yn rhag-ddywedyd wrthych, megis ac y rhag-ddywedais, na chaiff y rhai sy yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw.

22 Eithr ffrwyth yr yspryd yw cariad, llawe­nydd, tangnedd yf, hir-ymaros, cymmwynasgar­wch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest.

23 Yn erbyn y cyfryw nid oes Ddeddf.

24 A'r rhai sydd yn eiddo Christ, a groes­hoeliasant y cnawd, a'i wyniau, a'i chwantau.

25 Os byw yr ydym yn yr Yspryd, rhodiwn hefyd yn yr Yspryd.

26 Na fyddwn wâg-ogonedd-gar, gan ymannog ei gilydd, gan ymgenfigennu wrth ei gilydd.

PEN. VI.

1 Y mae efe yn eu hannog hwy i ymddwyn yn llariaidd tuac at frawd a lithrodd, 2 ac i ddwyn bôb vn faich ei gilydd: 6 i fôd yn hael tuag at eu dyscawdwyr, 9 ac na ddeffygiont yn gwneuthur da. 12 Y mae efe yn dangos pa beth yw amcan y rhai sy'n pregethu 'r Enwaed­iad. 14 Nad yw efe yn gorfoleddu mewn dim, ond yngrhoes Christ.

Y Brodyr, os goddiweddir dŷn ar ryw fai, chwy-chwi y rhai ysprydol adgyweiriwch y cyfryw vn, mewn yspryd addfwynder: gan dy ystyried dy hun, rhag dy demtio ditheu.

2 Dygwch feichiau ei gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Christ.

3 Oblegid os tybia neb ei fôd yn rhyw beth, ac yntef heb fôd yn ddim, y mae efe yn eiGr. feddwl­dwyllo. dwyllo ei hun.

4 Eithr profed pôb vn ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn vnic, ac nid mewn arall.

5 Canys pôb vn a ddwg ei faich ei hun.

6 A chyfranned yr hwn a ddyscwyd yn y gair, â'r hwn sydd yn ei ddyscu, ym-mhôb peth da.

7 Na thwyller chwi: ni watworir Duw: canys beth bynnac a hauo dŷn, hynny hefyd a fêd efe.

8 Oblegid yr hwn sydd yn hau iw gnawd ei hun, o'r cnawd a fêd lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i'r Yspryd, o'r Yspryd a fêd fywyd tragwyddol.

9 Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddeffyg­iwn.

10 Am hynny tra ydym yn cael amser [Page] cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwe­dig i'r rhai sy o deulu 'r ffydd.

11 Gwelwch cyhyd y llythyr a scrifennais attoch, â'm llaw fy hun.

12 Cynnifer ac sy yn ewyllysio ymdeccâu yn y cnawd, y rhai hyn sy yn eich cymmell i'ch enwaedu, yn vnic fel nad erlidier hwy oblegid croes Christ.

13 Canys nid yw y rhai a enwaedir, eu hu­nain yn cadw y Ddeddf: ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, felYr ym­ffrostiont. y gorfôle­ddont yn eich cnawd chwi.

14 Eithr na atto Duw i mi ymffrostio, ond ynghroes ein Harglwydd Iesu Grist: drwy yr hwn y croeshoellwyd y bŷd i mi, a min­neu i'r bŷd.

15 Canys ynGhrist Iesu ni dichon Enwaediad ddim, na di-enwaediad, ond creadur newydd.

16 A chynnifer ac a rodiant yn ôl y rheol hon, tangneddyf arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw.

17 O hyn allan, na flined neb fi: canys dwyn yr ŵyfi yn fy nghorph nodau 'r Arg­lwydd Iesu.

18 Grâs ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyd â'ch yspryd chwi, frodyr. Amen.

At y Galatiaid yr scrifennwyd o Rufain.

¶EPISTOL PAVL YR APOSTOL at yr EPHESIAID.

PENNOD I.

1 Ar ôl cyfarch yr Ephesiaid, 3 a diolch tro­stynt, 4 y mae efe yn crybwyll im ein etho­ledigaeth ni, 6 a'n mabwysiad trwy ras, 11 yr hyn yw gwîr ffynnon iechydwriaeth dyn: 13 ac am na ellir yn hawdd gyrhaeddyd vchder y dirgelwch hwn, 16 y mae efe yn gweddio a'r iddynt ddyfod 18 i gyflawn wybodaeth, a 20 meddiant o hono ynGhrist.

PAul Apostol Jesu Grist trwy ewyllys Duw, at y Sainct sydd yn Ephesus, a'r ffyddloniad ynGhrist Iesu:

2 Grâs fyddo i chwi a thangneddyf oddi wrth Dduw ein Tâd, â'r Arglwydd Iesu Grist.

3 Bendigedig fyddo Duw, a Thâd ein Har­glwydd Iesu Grist, yr hwn a'n bendithiodd ni a phôb bendith yfprydol, yn y nefolionBethau. leoedd ynGhrist:

4 Megis yr etholodd efe ni ynddo ef, cyn seiliad y bŷd, fel y bŷddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad:

5 Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwy­siad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ôl bod­lonrwydd ei ewyllys ef,

6 Er mawl gogoniant ei râs ef, trwy yr hwnNeu, y rhad­gorodd ni. y gwnaeth ni yn gymmetadwy yn yr anwylyd:

7 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ôl cyfoeth ei râs ef:

8 Trwy yr hwn y bu efe helaeth i ni ym mhôb doethineb a deall:

9 Gwedi iddo yspysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ôl ei fodlonrwydd ei hun, yr hon a arfaethasei efe ynddo ei hun:

10Hyd ly­wodraeth cyfiawnder yr amser­odd i gryn­hoi &c. Fel yngorchwiliaeth cyflawnder yr amseroedd, y gallai grynhoi ynghyd ynGhrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaiar, ynddo ef;

11 Yn yr hwnNeu, y caws [...]m etifedd­iaeth. i'n dewiswyd hefyd, wedi ein rhaginniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pôb peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun:

12 Fel y byddem ni er mawl iw ogoniant ef, y rhai o r blaen a obeithiasom ynGhrist.

13 Yn yr hwn y gobeithiasoch chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair y gwirionedd, Efengyl eich iechydwriaeth, yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, i'ch seliwyd trwy lân Ys­pryd yr addewid.

14 Yr hwn ywGwyst l. ernes ein etifeddiaeth ni, hyd bryniadY me­ddiant a bwrca­swyd. y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef.

15 O herwydd hyn, minneu hefyd wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu, a'ch cariad tu ag at yr holl Sainct,

16 Nid wyf yn peidio a [...]olch trosoch, gan wneuthur coffa am danoch yn fy ngwe­ddiau:

17 Ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tâd y gogoniant, roddi i chwi yspryd doethineb, a datcuddiad, trwy ei adnabod ef:

18 Wedi goleuo llygaid eich meddyliau: fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y Sainct:

19 A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef, tu ac attom ni y rhai ŷm yn credu, yn ôl gweithrediad nerth ei gade [...]nid ef;

20 Yr hon a weithredodd efe ynGhrist, pan y cyfododd ef o feirw; ac a'i gosododd i eistedd ar ei ddeheu-law ei hûn, yn y nefolion leoedd,

21 Goruwch pôb tywysogaeth, ac awdur­dod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw a henwir, nid yn vnic yn y bŷd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw;

22 Ac a ddarostyngodd bôb peth tan ei draed ef: ac a'i rhoddes ef yn ben, vwch law pob peth i'r Eglwys,

21 Yr hon yw ei gorph ef, ei gyflawnder ef, yr hwn sydd yn cyflawni oll yn oll.

PEN. II.

1 Trwy gyffelybu yr hyn oeddym ni wrth 3 na­turiaeth, a'r hyn ydym ni 5 trwy râs: 10 Y mae efe yn dangos ddarfod ein creu ni i wei­thredoedd da, a 13 chan ein bod ni wedi ein dwyn yn agos trwy Grist, pa ddylem ni fyw megis 11 Cenhedloedd, ac 12 estroniaid gynt, ond megis 19 cyd-ddinasyddion â'r Sainct, a theulu Duw.

A Chwithau a fywhaodd efe, pan oeddych feirw mewn camweddau, a phechodau,

2 Yn y rhai y rhodiasoch gynt yo ôl helynt y bŷd hwn, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr; yr yspryd sydd yr awron yn gweithio ym­mhlant anufydd-dod.

3 Ym mysc y rhai hefyd y bn ein ymarwe­ddiad ni oll gynt yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd, a'r meddyl­iau: ac yr oeddym ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill.

4 Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni,

5 Ie pan oeddym feirw mewn camweddau, a'n cyd-fywhaodd ni gyd â Christ: (trwy râs yr ydych yn gadwedig)

6 Ac a'n cyd-gyfododd, ac a'n gosododd i gyd-eistedd yn y nefolion leoedd ynGhrist Iesu.

7 Fel y gallei ddangos yn yr oesoedd a ddeu­ei, ragorol olud ei râs ef, trwy ei gymmwyn­ascarwch i ni ynGhrist Iesu.

8 Canys trwy râs yr ydych yn gadwedig trwy ffydd: a hynny nid o honoch eich hu­nain; rhodd Duw ydyw:

9 Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb.

10 Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu ynGhrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a rag­ddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt.

11 Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddi-enwaediad gan yr hyn a elwir Enwaediad o waith llaw yn y cnawd;

12 Eich bôd chwi y pryd hynny heb Grist, wedi eich dieithro oddi-wrth wladwr­iaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth ammo­dau yr addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y bŷd:

13 Eithr yr awron ynGhrist Iesu, chwychwi y rhai oeddych gynt ym-mhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Christ.

14 Canys efe yw ein tangneddyf ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn vn, ac a ddattododd ganol­fûr y gwahaniaeth rhyngom ni:

15 Ac a ddirymmodd, drwy ei gnawd ei hun, y gelyniaeth, sef Deddf y Gorchym­mynion mewn ordeiniadau: fel y creai y ddau ynddo ei hun yn vn dŷn newydd, gan wneu­thur heddwch;

16 Ac fel y cymmodei y ddau â Duw, yn yn corph, trwy 'r groes, wedi lladd y gelyn­iaethNeu, vnddo ei hun. trwyddi hi:

17 Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dang­neddyf i chwi y rhai pell, ac i'r rhai agos.

18 Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn vn Yspryd at y Tâd.

19 Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd-ddinasyddion â'r Sainct, ac yn deulu Duw;

20 Wedi eich goruwch-adeiladu ar sail yr Apostolion a'r Prophwydi, ac Iesu Grist ei hun yn ben-congl faen:

21 Yn yr hwn y mae yr holl adeilad wedi ei chymmwys gyd-gyssylltu yn cynnyddu yn Deml sanctaidd yn yr Arglwydd:

22 Yn yr hwn i'ch cŷd-adeiladwyd chwi­thau, yn breswylfod i Dduw trwy yr Ys­pryd.

PEN. III.

3 Darfod yspyssu i Paul trwy ddatcuddiad, gu­ddiedig ddirgelwch 6 cadwedigaeth y Cen­ [...]dloedd: 8 ac mai iddo efe y rhoesid y grâs iw 9 bregethu ef. 13 Y mae efe yn dymuno arnynt na lwrfhaont oblegid ei flinderau ef, 14 ac yn gweddio 19 ar iddynt wybod mawr gariad Duw tuag attynt.

ER mwyn hyn myfi Paul, carcharor Iesu Grist trosoch chwi y Cenhedloedd,

2 Os clywsoch am orchwilliaeth grâs Duw, yr hon a roddwyd i mi tu ac attoch chwi:

3 Mai trwy ddatcuddiad yr yspysodd efe i mi y dirgelwch, (megis yr scrifennais o'r blaen ar ychydig eiriau:

4 Wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllen­noch, ŵybod fy neall i yn nirgelwch Christ)

5 Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i feibion dynion, fel y mae yr awron wedi ei ddatcuddio iw sanctaidd Apostolion a'i Broph­wydi trwy 'r Yspryd;

6 Y byddai y cenhedloedd yn gyd-etifedd­ion, ac yn gyd-gorph, ac yn gyd-gyfran­nogion o'i addewid ef ynGhrist, trwy 'r Efen­gyl:

7 I'r hon i'm gwnaed i yn weinidog, yn ôl rhodd grâs Duw, yr hwn a roddwyd i mi, yn ôl grymmus weithrediad ei allu ef.

8 I mi y llai nâ'r lleiaf o'r holl Sainct y rhoddwyd y grâs hyn, i efangylu ym mysc y Cenhedloedd, anchwiliadwy olud Christ;

9 Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreu­ad y bŷd yn Nuw, yr hwn a greawdd bôb peth trwy Iesu Grist:

10 Fel y byddei yr awron yn hyspys i'r tywysogaethau, ac i'r awdurdodau, yn y nefo­lion leoedd, trwy 'r Eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw;

11 Yn ôl yr arfaeth dragywyddol, yr hon a wnaeth efe ynGhrist Iesu ein Harglwydd ni:

12 Yn yr hwn y mae i ni hyfdra, a dyfodfa mewn hyder, trwy ei ffydd ef.

13 O herwydd pa ham yr ŵyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i trosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi.

14 O herwydd hyn yr ŵyf yn plygu fy ngliniau at Dâd ein Harglwydd Iesu Grist,

15 O'r hwn yr henwir yr hollDado­gaeth. deulu yn y nefoedd, ac ar y ddaiar;

16 A'r roddi o honaw ef i chwi yn ôl cy­foeth ei ogoniant, fôd wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Yspryd ef, yn y dŷn oddi mewn:

17 Ar fod Christ yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi;

18 Fel y galloch wedi eich gwreiddio, a'ch seilio mewn cariad, ymgyffred gyd â'r holl Sainct, beth yw 'r llêd, a'r hŷd, a'r dyfnder, a'r vchder:

19 A gwybod cariad Christ, yr hwn sydd vwchlaw gŵybodaeth: fel i'ch cyflawner â holl gyflawnder Duw.

20 Ond i'r hwn a ddichon wneuthur yn dra-rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni,

21 Iddo efe y byddo y gogoniant yn yr Eglwys trwy Ghrist Iesu, tros yr holl genhed­laethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.

PEN. IV.

1 Y mae yn eu hannoc hwynt i vndeb: 7 ac yn dangos bôd Duw yn rhoddi amryw 11 ddoniau i ddynion er mwyn 13 adeiladaeth ei Eglwys, a'i 16 chynnydd ynGhrist. 18 Y mae efe yn eu galw hwynt oddiwrth amhurdeb y Cenhed­loedd, 24 i wisco y dyn newydd, 25 ac i fwrw ymmaith gelwydd, ac 29 ymadrodd llygredic.

DEisyf gan hynny arnoch yr wyfi y carcha­ror yn yr Arglwydd, ar rodio o honoch yn addas i'r alwedigaeth i'ch galwyd iddi:

2 Gyd â phob gostyngeiddrwydd ac add­fwynder, ynghŷd â hîr-ymaros, gan oddef ei gilydd mewn cariad:

3 Gan fod yn ddyfal i gadw vndeb yr Ys­pryd, ynghwlwm tangneddyf.

4 Vn corph sydd, ac vn yspryd, megis ac i'ch galwyd yn vn gobaith eich galwedigaeth;

5 Vn Arglwydd, vn ffydd, vn bedydd:

6 Vn Duw a Thâd oll, yr hwn sydd gor­uwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll.

7 Eithr i bob vn o honom y rhoed grâs, yn ol mesur dawn Christ.

8 O herwydd pa ham, y mae efe yn dy­wedyd,Psal. 68.18. Pan dderchafodd i'r vchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion.

9 (Eithr, Efe a dderchafodd, beth yw ond­darfod iddo hefyd ddescyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaiar?

10 Yr hwn a ddescynnodd, yw yr hwn hefyd a escynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel yLlanwei cyflawnei bob peth.)

111 Cor. 12.28. Ac efe a roddes rai yn Apostolion, a rhai yn Brophwydi, a rhai yn Esangylwŷr, a rhai yn Fugeiliaid ac yn Athrawon:

12 I berffeithio y Sainct, i waith y weini­dogaeth, i adeilad corph Christ:

13 Hyd oni ymgyfarfyddom ollI. yn vndeb ffydd, a gŵybodaeth Mâb Duw, yn ŵr perffaith, at fesurMaint­ioli. oedran cyflawnder Christ.

14 Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwmman ac yn ein cylch-arwain â phob awel dysceidiaeth, trwy hocced dynion, trwy gyfrwysdra, i gynllwynTwyll. i dwyllo:

15 Eithr gan fod ynAirwir. gywir mewn cariad, cynyddu o honom iddo ef ym-mhob peth, yr hwn yw 'r pen, sef Christ:

16Col. 2.19. O'r hwn y mae yr holl gorph wedi ei gyd-ymgynnull a'i gyd-gyssylltu, trwy bobCysswllt. cymmal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithre­diad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corph, iw adeilad ei hun mewn cariad.

17 Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae y Cenhed­loedd eraill yn rhodio yn oferedd eu meddwl;

18 Wedi tywyllu eu deall, wedi ym­ddieithro oddi wrth fuchedd Dduw, drwy 'r anwybodaeth sydd ynddynt trwyGaled­rwydd. Rhuf. 1.21. ddallineb eu calon:

19 Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pôb aflendid yn vn­chwant.

20 Eithr chwy-chwi nid felly y dyscasoch Grist:

21 Os bu i chwi ei glywed es, ac os dys­cwyd chwi ynddo, megis y mae 'r gwirionedd yn yr Iesu:

22 Dodi o honoch heibio, o ran yr ymar­weddiad cyntaf, yr hên ddŷn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus:

23 Ac ymadnewyddu yn yspryd eich meddwl,

24 A gwisco y dŷn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder,A sanct­eiddrwydd y gwir­lonedd. a gwir sancteiddrwydd.

25 O herwydd pa ham, gan fwrw ym­maith gelwydd, dywedwch y gwîr bob vnGyd a'i. wrth ei gymmydog: oblegid aelodau ydym iw gilydd.

26 Digiwch, ac na phechwch: na fachlu­ded yr haul ar eich digo [...]int chwi:

27 Ac na roddwch le i dd [...]ol.

28 Yr hwn a ledratâodd, na ledra [...]d mwy­ach, eithr yn hytrach cymmered boen, gan weithio â'i ddwylo yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddo beth iw gyfrannu, i'r hwn y mae angen arno.

29 Na ddeued vn ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi: ond y cyfryw vn ac a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro râs i'r gwrandawŷr.

30 Ac na thristêwch lân Yspryd Duw, trwy 'r hwn i'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.

31 Tynner ymmaith oddi wrthych bôb chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyd â phôb drygioni.

322 Cor. 2.10. A byddwch gymmwynasgar iw gilydd, yn dosturiol, yn maddeu iw gilydd, megys y maddeuodd DuwynGhrist. er mwyn Christ i chwithau.

PEN. V.

2 Ar ôl cynghorion cyffredinawl i garu ei gilydd, 3 ac i ochelyd godineb, a 4 phob aflendid, 7 ac i beidio a chyttal â'r annuwiol, 15 ac i rodio yn ddiesceulus, 18 ac i fod yn llawn o'r Yspryd; 22 y mae efe yn dyfod at ddledion gwahanre­dol, pa fodd y dylai wragedd vfyddhau iw gwyr, 25 a gwyr garu eu gwragedd, 32 me­gys y mae Christ yn caru ei Eglwys.

BYddwch gan hynny ddilynwŷr Duw, fel plant anwyl:

2 A rhodiwch mewn cariad, megis y ca­rodd Christ ninnau, ac a'i rhoddodd ei hun trosom ni yn offrwm ac yn aberth i Dduw, o arogl peraidd.

3 Eithr godineb, a phôb aflendid, neu gy­bydd-dra, na henwer chwaith yn eich plith, megis y gweddei i Sainct:

4 NaBrynti serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg-ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch.

5 Canys yr ydych chwi yn gŵybod hyn, am bôb puttein-ŵr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw-addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Christ a Duw.

6 Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofain [...] Duw yn dyfod ar blant yr anufydd-dod.

7 Na fyddwch gan hynny gyfrannogion â hwynt.

8 Canys yr oeddych chwiRym amser. gynt yn dy­wyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni,

9 (Canys ffrwyth yr Yspryd sydd ym mhôb daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd)

10 Gan brofi beth sydd gymmeradwy gan yr Arglwydd.

11 Ac na fydded i chwi gyd-gyfeillach â gweithredoedd anffrwythlawn y tywyllwch, eithr yn hytrach argyoeddwch hwynt.

12 Canys brwnt yw adrodd y pethau wneir ganddynt hwy yn ddirgel.

13 Eithr pôb peth, wedi 'r argyoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw.

14 O herwydd pa ham y mae efe yn dy­wedyd,Esa. 60.1. Deffro di yr hwn wyt yn cyscu, a chyfod oddiwrth y meirw; a Christ a oleua i ti.

15Col. 4.5. Edrych­wch. 5 Gwelwch gan hynny, pa fodd y rho­dioch yn ddiesceulus: nid fel annoethion, ond fel doethion;

16 Gan brynu amser, oblegid y dyddiau fy ddrwg.

17 [...] hynny na fyddwch annoethion, eithr y [...] [...]eall beth yw ewyllys yr Arglwydd.

18 Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd, eithr llanwer chwi a'r Yspryd:

19 Gan le [...]ru wrth ei gilydd mewn Psal­mau, a Hymnau, ac odlau ysprydol: gan ganu a phyngcio yn eich calon i'r Arglwydd:

20 Gan ddiolch yn wastad i Dduw a'r Tâd, am bôb peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Ghrist:

21 Gan ymddarostwng iw gilydd yn ofn Duw.

22 Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis i'r Argl [...]ydd:

23 Oblegid y gŵr yw pen y wraig, megis ac y mae Christ yn ben i'r Eglwys, ac efe yw iachawdur y corph.

24 Ond fel y mae yr Eglwys yn ddaro­styngedig i Grist, felly hefyd bydded y gwrag­edd iw gwŷr priod, ym mhôb peth.

25 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, megis ac y carodd Christ yr Eglwys, ac a'i rhoddes ei hun trosti:

26 Fel y sancteiddiei efe hi, a'i glânhâu â'r olchfa ddwfr, trwy 'r gair:

27 Fel y gosodei efe hi ynEglwys ogoneddus iddo ei hun heb &c. ogoneddus iddo ei hun, yn Eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw, ond fel y by­ddei yn sanctaidd, ac yn ddifeius.

28 Felly y dylei y gwŷr garu eu gwragedd, megis eu cyrph eu hunain: yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun:

29 Canys ni chasâodd neb erioed ei gnawd ei hun, eithr ei fagu, a'i feithrin y mae, megis ac y mae 'r Arglwydd am yr Eglwys.

30 Oblegid aelodau ydym o'i gorph ef, o'i gnawd ef, ac o'i escyrn ef.

31 Am hynny y gâd dŷn ei dâd a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn vn cnawd.

32 Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr am Ghrist, ac am yr Eglwys yr wyfi yn dywedyd.

33 Ond chwithau hefyd cymmain vn, felly cared pôb vn o honoch ei wraig, fel ef ei hu­nan: a'r wraig edryched ar iddi berchi ei gŵr.

PEN. VI.

1 Dled-swydd plant tuag at eu rhieni, 5 a gweision tuac at eu harglwyddi. 10 Mai mil­wriaeth yw ein bywyd ni, 12 nid yn vnic yn erlyn cig a gwaed, eithr hefyd yn erbyn gelynion ysprydawl: 13 Cyflawn arfogaeth Cristion, 18 a'r modd yr arferir. 21 Can­mol Tychicus.

Y Plant, vfyddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn.

2 Anrhydedda dy dâd a'th fam, (yr hwn yw y gorchymmyn cyntaf mewn addewid)

3 Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hir-hoedlog ar y ddaiar.

4 A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio, ond maethwch hwynt yn addysca rhy­by [...]d. ac athrawiaeth yr Arglwydd.

5 Y gweision vfyddhewch i'r rhai sydd ar­glwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gŷd ag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Ghrist,

6 Nid a golwg-wasanaeth, fel bodlonwŷr dynion: ond fel gweision Christ, yn gwneu­thur ewyllys Duw o'r galon:

7 Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasa­naeth, megys i'r Arglwydd, ac nid i ddynion:

8 Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pôb vn, hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa vn bynnag ai caeth ai rhydd fyddo.

9 A chwithau feistred gwnewch yr vn pe­thau tu ac attynt hwy, gan roddi bygwth hei­bio: gan ŵybod fôd eich ArglwyddChwi­thau he­fyd. chwi a hwythau yn y nefoedd, acNad. nid oes derbyn wyneb gyd ag ef.

10 Heb law hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac ynghadernid ei allu ef.

11 Gwiscwch oll-arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol.

12 Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a cnnawd, ond yn erbyn tywy­sogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol-lywiawdŵyr tywyllwch y bŷd hwn, yn erbynYspryd­ion drwg. drygau yspydol yn y nefolionBethau. leoedd.

13 Am hynny cymmerwch attoch holl­arfogaeth Duw, fel y galloch wrth-sefyll yn y dydd drwg, ac wedi gorphen pôb peth, sefyll.

14 Sefwch gan hynny wedi amgylch wregy­su eich lwynau â gwirionedd, a gwisco dwy­fronneg cyfiawnder:

15 A gwisco am eich traed escidiau para­tôad Efengyl tangneddyf.

16Heb law. Neu, ym­mhob peth. Vwch law pôb dim, wedi cymmeryd tarian y ffydd, â'r hwn y gellwch ddiffoddi holl biccellau tanllyd yDrwg. fall.

17 Cymmerwch hefyd helm yr iechyd­wriaeth, a chleddyf yr Yspryd, yr hwn yw gair Duw:

18 Gan weddio bôb amser, â phôb rhyw weddi a deisyfiad yn yr yspryd, a bôd yn wiliadurus at hyn ymma, trwy bôb dyfal-bara, a deisyfiad tros yr holl Sainct:

19 A throsof finneu, fel y rhodder i mi yma­drodd drwy agoryd fy ngenau yn hŷ, i yspysu dirgelwch yr [...]fengyl:

20 Tros yr hon yr ŵyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hŷ am deni, fel y perthyn i mi draethu.

21 Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr ŵyf yn ei wneuthur, Tychicus y brawd anwyl, a'r gwenidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a yspysa i chwi bôb peth.

22 Yr hwn a anfonais attoch er mwyn hyn ymma, fel y caech ŵybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi.

23 Tangneddyf i'r brodyr, a chariad gyd â ffydd oddi wrth Dduw Tâd, a'r Arglwydd Iesu Ghrist.

24 Grâs fyddo gyd â phawb sy yn caru ein Harglwydd Iesu Ghrist mewnAnlly­gredigaeth. purdeb. Amen.

¶At yr Ephesiaid yr scrifennwyd o Ru­fein gyd â Tychicus.

¶EPISTOL PAVL YR APOSTOL AT Y PHILIPPIAID.

PENNOD I.

3 Y mae efe yn tystiolaethu ei ddiolchgarwch i Dduw, a'i serch tuag attynt hwythau, am ffrwythau ei ffydd hwynt, a'u cymdeithas yn ei ddioddefiadau ef, 9 gan weddio beunydd, ar iddynt gynnyddu mewn grâs. 12 Y mae efe yn dangos pa ddaioni a ddaeth i ffydd Ghrist trwy ei flinderau ef yn Rhufain, 21 ac mor barod ydyw ef i ogoneddu Christ, pa vn byn­nac ai trwy fywyd, a'i trwy farwolaeth: 27 gan eu hannog hwy i vndeb, 28 ac i fod yn gryfion mewn erlid.

PAul a Thimotheus gweision Iesu Ghrist, at yr holl Sainct ynGhrist Iesu, y rhai sy yn Philippi, gyd â'r Escobion a'r Diaconiaid:

2 Grâs i chwi a thangneddyf oddi wrth Dduw ein Tâd ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

3 I'm Duw yr ydwyf yn diolch, ym mhôb coffa am danoch,

4 Bôb amser ym mhôb deisyfiad o'r eiddof trosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyd â llawenydd:

5 Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr Efengyl, o'r dydd cyntaf hyd yr awr hon:

6 Gan fôd yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orphen hyd ddydd Iesu Grist:

7 Megis y mae yn iawn i mi synied hyn am danoch oll,Am fod gennych fi yn eich calon. am eich bôd gennif yn fy ngha­lon, yn gymmaint a'ch bôd chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ac yn fy amddiffyn, a cha­darnhâd yr Efengyl, yn gyfrannogionO'm gras. â mi o râs.

8 Canys Duw sydd dyst i mi, mor hirae­thus ŵyf am danoch oll yn ymyscafoedd Iesu Grist.

9 A hyn yr ŵyf yn ei weddio, ar amlhau o'ch cariad chwi etto fwy-fwy, mewn gwy­bodaeth, a phôb synwyr.

10 Fel y profoch y pethau syRhago­rol. a gwahan­iaeth rhyngddynt: fel y byddoch bur a di­dramgwydd hyd ddydd Christ:

11 Wedi eich cyfiawni â ffrwythau cy­fiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er go­goniant a moliant i Dduw.

12 Ac mi a ewyllysiwn i chwi ŵybod, fro­dyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddy­fod o honynt yn hytrach er llwyddiant i'r Efengyl:

13 Yn gymmaint a bôd fy rhwymau iO achos Christ. ynGhrist, yn eglur yn yr holl lys, acI bawb eraill. ym­mhôb lle arall:

14 Ac i lawer o'r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bôd yn hyfach o lawer i draethu y gair yn ddiofn.

15 Y mae rhai yn wîr yn pregethu Christ trwy genfigen ac ymryson: a rhai hefyd o ewyllys da.

16 Y naill sy'n pregethu Christ o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i'm rhwymau i:

17 A'r lleill o gariad, gan ŵybod mai er amddeffyn yr Efengyl i'm gosodwyd.

18 Beth er hynny? etto ym mhôb modd, pa vn bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirion­edd, yr ydys yn pregethu Christ: ac yn hyn yr yr ydwysi yn liawen, îe a llawen fyddaf.

19 Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iechydwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynnorthwy Yspryd Iesu Grist,

20 Yn ôl fy awydd-fryd a'm gobaith, na'm gwradwyddir mewn dim, eithr mewn pôb hyder, fel bôb amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Christ yn fy nghorph i, pa vn byn­nag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth.

21 Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw.

22 Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur; a pha beth a ddewisaf, ni's gwn.

23 Canys y mae yn gyfyng arnaf o'r ddeu tu, gan fôd gennif chwant i'm dattod, ac i fôd gyd â Christ: canys llawerM [...]y. iawn gwell ydyw:

24 Eithr aros yn y cnawd, sydd fwy ang­enrheidiol o'ch plegid chwi.

25 A chennif yr hyder hyn, yr ŵyf yn gŵybod yr arhosaf, ac y cyd-trigaf gyd â chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd;

26 Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach ynGhrist Iesu o'm plegid i, drwy fy nyfodiad i drachefn attoch.

27 Yn vnic ymddygwch yn addas i Efengyl Grist, fel pa vn bynnag a wnelwyf ai dyfod a'ch gweled chwi, ai bôd yn absennol, y cly­wyf oddiwrth eich helynt chwi, eich bôd yn sefyll yn vn yspryd, ac vn enaid, gan gyd­ymdrechNeu, tros, neu trwy. gyd â ffydd yr Efengyl:

28 Ac heb eich dychrynu mewn vn dim gan eich gwrthwynebwŷr: yr hyn iddynt hwy yn wîr sydd arwydd siccr o golledigaeth, ond i chwi o iechydwriaeth: a hynny gan Dduw.

29 Canys i chwi y rhoddwyd bôd i chwi er Christ, nid yn vnic gredu ynddo ef, ond hefyd dioddef erddo ef;

30 Gan fôd i chwi yr vn ymdrin ac a wel­soch ynofi, ac yr awron a glywch ei fod ynofi.

PEN. II.

1 Y mae efe yn eu hannog hwynt i vndeb, ac i bôb gostyngeiddrwydd meddwl, trwy siampl vfydd­dod a derchafiad Crist: 12 ac i fyned rhag­ddynt yn ofalus yn ffordd iechydwriaeth, fel y bônt megis yn oleuadau i'r byd annuwiol, 16 ac yn ddiddanwch iddo yntef, eu Apostol hwynt, yr hwn sydd bellach barod iw offrym­mu i Dduw. 19 Y mae efe yn gobeithio dan­fon Timotheus attynt, yr hwn y mae efe yn ei ganmol yn fawr, 25 ac felly Epaphroditus, yr hwn y mae ef ar fedr ei ddanfon attynt yn ddiattreg.

OD oes gan hynny ddim diddanwch yn­Ghrist, od oes dim cyssur cariad, od oes dim cymdeithas yr Yspryd, od oes dim ymyscar­oedd a thosturiaethau;

2 Cyflawnwch fy llawenydd, fel y byddoch yn meddwl yr vn peth, a'r vn cariad gennych, yn gyttûn, yn synnied yr vn peth.

3 Na wneler dim drwy gynnen, neu wâg­ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, gan dybied ei gilydd yn well nâ chwi eich hunain.

4 Nac edrychwch bôb vn ar yr eiddoch eich hunain, eithr pôb vn ar yr eiddo eraill hefyd.

5 Canys bydded ynoch y meddwl ymma, yr hwn oedd hefyd ynGhrist Iesu:

6 Yr hwn ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd vn drais fôd yn ogyfuwch â Duw:

7 Eithr efe a'iGwag­haodd. dibrisiodd ei hun, gan gym­meryd arno agwedd gwâs, ac a wnaed mewnNeu, gofgedd. cyffelybiaeth dynion:

8 A'i gael mewn dull fel dŷn, efe a'i daro­styngodd ei hun, gan fod yn vfydd hyd angeu, ie angeu 'r groes.

9 O herwydd pa ham Duw a'i tra-dercha­fodd yntef, ac a roddes iddo Enw, yr hwn sydd goruwch pôb enw:

10 Fel yn Enw Iesu y plygei pôb glîn o'r nefolion, a'r daiarolion, a than-ddaiarolion bethau:

11 Ac y cyffesei pôb tafod fôd Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Tâd.

12 Am hynny fy anwylyd, megis bôb am­ser yr vfyddhasoch, nid fel yn fy ngwydd yn vnic, eithr yr awron yn fwy o lawer yn fy absen, gweithiwch allan eich iechydwriaeth eich hunainGyd ag. drwy ofn a dychryn.

13 Canys Duw yw 'r hwn sydd yn gweith­io ynoch ewyllysio a gweithredu, o'i ewyllys da ef.

14 Gwnewch bôb dim heb rwgnach, ac ymddadleu:

15 Fel y byddoch ddiargyoedd, aNeu, phurion dini­wed, yn blant difeius i Dduw, ynghanol cen­hedlaeth ddrygionus a throfaus: ym-mhlith y rhai yr ydych yn disclairio, megis goleuadau yn y bŷd;

16 Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i miNeu, hyd ddydd, neu, er­byn dydd. yn-nŷdd Christ, na redais yn ofer, ac na chymmerais boen yn ofer.

17 Ie, a phe i'mAber­thid. hoffrymmid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau 'r ŵyf, a chyd-lawenhau â chwi oll.

18 Oblegid yr vn peth hefyd, byddwch chwithau lawen, a chyd-lawenhewch â minneu.

19 Ac yr ŵyf yn gobeithio yn yr Ar­glwydd Iesu, anfon Timotheus ar fyrder at­toch, fel i'm cyssurer inneu hefyd, wedi i mi ŵybod eich helynt chwi.

20 Canys nid oes gennif neb o gyffelyb feddwl, yr hwnNeu, yn natu [...]iol a ofala. a wîr ofala am y pethau a berthyn i chwi.

21 Canys pawb sy yn ceisio yr eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu.

22 Eithr y prawf o honaw ef, chwi a'i gŵyddoch, mai fel plentyn gyd â thâd, y gwa­sanaethodd efe gyd â myfi yn yr Efengyl.

23 Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeith­io ei ddanfon, cyn gynted ac y gwelwyf yr hyn a fydd i mi.

24 Ac y mae gennif hyder yn yr Ar­glwydd, y deuaf sinneu hefyd ar fyrder attoch.

25 Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon attoch Epaphroditus fy mrawd, a'm cyd-weithwr, a'm cyd-filwr, ond eichApostol. cennad chwi, a gwenidog i'm cyfreidiau inneu.

26 Canys yr oedd efe yn hiraethu am da­noch oll, ac yn athrist iawn, oblegid i chwi glywed ei fod ef yn glâf.

27 Canys yn wîr efe a fu glâf, yn agos i angeu: ond Duw a drugarhaodd wrtho ef: ac nid wrtho ef yn vnic, ond wrthif finnau hefyd, rhac cael o honof dristwch ar dristwch.

28 Yn fwyGofalui. diwyd gan hynny yr anfo­nais i ef, fel gwedi i chwi ei weled ef drachefn, y byddech chwi lawen, ac y byddwn inneu yn llai fy nhristwch.

29 Derbyniwch ef gan hynny yn yr Ar­glwydd, gyd â phôb llawenydd: a'r cyfryw raiAnrhy­deddwch. gwnewch gyfrif o honynt.

30 Canys oblegid gwaith Christ y bu efe yn agos i angeu, ac y bu di-ddarbod am ei ein­ioes, fel y caflawnei efe eich diffyg chwi, o'ch gwasanaeth tu ac attafi.

PEN. III.

1 Y mae efe yn eu rhybuddio hwy i ochelyd gau-Athrawon yr Enwaediad, ac 4 yn dangos fod iddo ef fwy o achos nag iddynt hwy, i hyderu ynghyfiawnder y Ddeddf: 7 yr hyn, er hynny, y mae efe yn ei gyfrif yn dom ac yn golled, er mwyn ynnill Christ, a'i gyfiawnder ef; 12 gan gydnabod ei amherffeithrwydd ei hun yn hyn. 15 Y mae efe yn eu hannog hwy i fod o'r meddwl hwn, 17 ac iw ddynwared ef, 18 ac i ochelyd ffyrdd Christianogion cnawdol.

WEithian, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd: scrifennu yr vn pethau attoch, gennifi yn wir nid yw flin, ac i chwi­thau y mae yn ddiogel.

2 Gochelwch gŵn. Gochelwch ddrwg­weithwŷr. Gochelwch y cyd-torriad.

3 Canys yr enwaediad ydym ni y rhai yd­ym yn gwasanaethu Duw yn yr yspryd, ac yn gorfoleddu ynGhrist Iesu, ac nid yn ymddiried yn y cnawd.

4 Ac er bôd gennif achos i ymddiried, ie yn y cnawd: os yw neb arall yn tybied y gall ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy:

5 Wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o genedl Israel, o lwyth Benjamin, yn Heb­raewr o'r Hebræaid, yn ôl y Ddeddf yn Pha­risæad:

6 Yn ôl zêl, yn erlid yr Eglwys: yn ôl y cyfiawnder sydd yn y Ddeddf, ynDdiach­wyn ar­naf. ddiar­gyoedd.

7 Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hyn­ny a gyfrifais i yn golled er mwyn Christ.

8 Ie yn ddiammeu yr ŵyf hefyd yn cyf­rif pôb peth yn golled, o herwydd ardder­chowgrwydd gwybodaeth Christ Iesu fy Ar­glwydd: er mwyn yr hwn i'm colledwyd ym mhôb peth, ac yr ŵyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr ennillwyf Grist,

9 Ac i'm caer ynddo ef heb fy nghyfiawn­der fy hun, yr hwn sydd o'r gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Grist, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd:

10 Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei adgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefia­dau ef, gan fôd wedi fy nhŷd-ffurfio â'i farwo­laeth ef:

11 Os mewn vn modd y gallwn gyrrhae­ddyd adgyfodiad y meirw:

12 Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eusys, neu fôd eusys wedi fy mhe [...]ffeithio: eithr dilyn yr ŵyf fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist I [...]u.

13 Y brodyr, nid wyfi yn bwrw ddarfod i mi gael gafael; ond vn peth, gan anghofio y pethau [Page] sy o'r tu cefn, ac ymestyn at y pethau o'r tu blaen,

14 Yr ydwyf yn cyrchu at y nôd, am gamp vchel alwedigaeth Duw ynGhrist Iesu.

15 Cynnifer gan hynny ac ydym berffaith, syniwn hyn: ac os ydych yn synied dim yn amgenach, hyn hefyd a ddatcuddia Duw i chwi.

16 Er hynny y peth y daethom atto, cer­ddwn wrth yr vn rheol, syniwn yr vn peth.

17 Byddwch ddilynwŷr i mi, frodyr, ac edrychwch ar y rhai sy yn rhodio felly, megis yr ydym ni yn siampl i chwi.

18 (Canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awron hefyd, tan wylo yn dywedyd, mai gelynion croes Christ ydynt:

19 Diwedd y rhai yw destryw; duw y rhai yw eu bol, a'u gogoniant yn eu cywilydd: y rhai sydd yn synied pethau daiarol.)

20 Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd, o'r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist:

21 Yr hwn a gyfnewidiaCorph ein gwae­ledd ni. ein corph gwael ni, fel y gwneler ef yr vn ffurfA chorph ei ogo­nedd ef. a'i gorph go­goneddus ef, yn ôl y nerthol weithrediad trwy'r hwn y dichon efe,Hefyd, neu, hyd yn oed. îe ddarostwng pôb peth iddo ei hun.

PEN. IV.

1 Yn ôl rhybuddion nailltuol 4 y mae efe yn myned rhagddo at gynghorion cyffredinawl, 10 ac yn dangos pa fôdd y llawenychodd efe wrth eu haelioni hwy tuag atto ef, pan oedd yngharchar, nid yn gymmaint am iddynt borthi ei anghenion ef, ac am y grâs Duw oedd yn­ddynt hwy. 19 Ac felly y mae ef yn di­weddu, gan weddio, a'i hannerch hwy.

AM hynny, fy mrodyr anwyl a hoff, fy llawenydd a'm coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwylyd.

2 Yr ydwyf yn attolwg i Euodias, ac yn attolwg i Syntyche synied yr vn peth yn yr Arglwydd:

3 Ac yr ydwyf yn dymuno arnat titheu fy ngwîr gymmar, cymmorth y gwragedd hynny, y rhai yn yr Efengyl a gyd-lafuriasant â mi, ynghyd a Chlement hefyd, a'm cyd­weithwŷr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd.

4 Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wasta­dol: a thrachefn meddaf, llawenhewch.

5 Bydded eich arafwch yn hyspy: i bôb dŷn. Y mae 'r Arglwydd yn agos.

6 Na ofelwch am ddim: eithr ym mhôb peth mewn gweddi ac ymbil gyd â diolch­garwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hys­pys ger bron Duw.

7 A thangneddyf Dduw yr hwn sydd vwch law pôb deall, a geidw eich calonnau a'ch me­ddyliau ynGhrist Iesu.

8 Yn ddiweddaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wîr, pa bethau bynnag syddBarch [...] ­dig. onest, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bûr, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy; od oes vn rhinwedd, ac od oes dim clôd; meddyl­iwch am y pethau hyn:

9 Y rhai a ddyscasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi: y pethau hyn gwnewch, a Duw 'r heddwch a fydd gyd â chwi.

10 Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegidAdne­wyddu o honoch, o ran gofa­lu am danafi. i'ch gofal chwi am danafi, yr awrhon o'r diwedd, adnewyddu: yn yr hyn y buoch ofalus hefyd, ondYr oe­ddych heb gael en­nyd. eisieu amser cy­faddas oedd arnoch.

11 Nid am fy môd yn dywedyd o herwydd eisieu: canys myfi a ddyscais, ym mha gyflwr bynnag y byddwyf, fôd yn fodlon iddo.

12 Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu: ym mhôb lle, ac ym mhob peth, i'm haddyscwyd, i fôd yn llawn, ac i fôd yn newynog, i fôd mewn helaethrwydd, ac i fôd mewn prinder.

13 Yr ŵyf yn gallu pôb peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i.

14 Er hynny da y gwnaethoch gyd-gyfran­nu â'm gorthrymder i.

15 A chwithau Philippiaid hefyd a wydd­och, yn nechreuad yr Efengyl, pan aethym i ym­maith o Macedonia, na chyfrannodd vn Eglwys â mi, o ran rhoddi a derbyn, ond chwy-chwi yn vnic.

16 O blegid yn Thessalonica hefyd yr an­fonasoch i mi vnwaith, ac eilwaith wrth fy anghenrhaid.

17 Nid o herwydd fy môd i yn ceisio rhodd, eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi.

18 Ond y mae gennif bôb peth, ac y mae gennif helaethwrwydd: mi a gyflawn­wyd, wedi i mi dderbyn gan Epaphroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi, sef aroglNeu. pertidd­dra. peraidd, aberth cymeradwy, bodlon gan Dduw.

19 A'm Duw i a gyflawna eich hollEisieu. raid chwi, yn ôl ei olud ef mewn gogoniant yn­Ghrist Iesu.

20 Ond i Dduw, a'n Tâd ni, y byddo go­goniant yn oes oesoedd. Amen.

21 Anherchwch yr holl Sainct ynGhrist Iesu: y mae y brodyr sy gyd â mi, yn eich annerch.

22 Y mae y Sainct oll yn eich annerch chwi, ac yn bennaf y rhai sydd o deulu Gae­sar.

23 Grâs ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyd â chwi oll. Amen.

¶At y Philippiaid yr scrifennwyd o Ru­fein gyd ag Epaphroditus.

¶EPISTOL PAUL YR APOSTOL AT Y COLOSSIAID.

PENNOD I.

1 Ar ôl cyfarch iddynt, y mae efe yn diolch i Dduw am eu f [...]ydd hwy; 7 ac yn cadarnhau dysceidiaeth Epaphr [...]s; 9 ac yn gweddio ym­hellach ar iddynt gynnyddu mewn gras: 14 yn portreiadu y gwir Grist, 21 ac yn eu hannog hwy i dd [...]n I [...]s [...] Grist, ac yn canmol ei wei­nidogaeth [...]i [...].

PAul [...] Grist trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd,

2 [...] [...]inct a'r [...]d [...]on frodyr ynGh [...], y rhai sydd yn Colossa: gras i chwi a [...]gneddyf oddi wrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist.

3 Yr yd [...]m yn diolch i Dduw a Thâd ein Arglwydd Iesu Grist, gan weddio trosoch chwi yn wastadol:

4 Er pan glywsom am eich ffydd ynGhrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tu ac at yr holl Sainct:

5 Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o'r blaen yngair gwirionedd yr Efengyl;

6 Yr hon sydd wedi dyfod attoch chwi, megis ac y mae yn yr holl fŷd: ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ac yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch râs Duw mewn gwirionedd.

7 Megis ac y dyscasoch gan Epaphras ein hanwyl gyd-was, yr hwn sydd trosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist:

8 Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Yspryd.

9 O herwydd hyn, ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddio trosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwy­bodaeth ei ewyllys ef, ym mhob doethineb a deall ysprydol:

10 Fel y rhodioch yn addas i'r Arglwydd, i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynnyddu yngwy­bodaeth am Dduw:

11 Wedi eich nerthu â phob nerth, yn ôl ei gadernid gogoneddus ef,Cad [...]r­nid ei og n­iant ef. i bob dioddefgarwch a hîr-ymaros, gyd â llawenydd:

12 Gan ddiolch i'r Tâd, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymmwys i gael rhan o etifeddiaeth y Sainct yn y goleuni:

13 Yr hwn a'n gwaredodd ni allan o fedd­iant y tywyllwch, ac a'n symmudodd i deyrnasMab ei gariad. ei anwyl Fâb:

14 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau:

15 Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob cre [...]dur:

16 Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a'r sydd yn y ne [...]oe [...]d, ac sydd ar y ddaiar, yn weledig, ac yn anwele [...]ig: pa vn bynnag ai thro [...]au, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau: pob dim a g [...]ewyd trwyddo ef, ac erddo ef.

171 Cor. 8.6. Ioan. 1.3. Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cyd-sefyll.

18 Ac efe yw penY corph, yr Egl­wys. corph yr Eglwys, efe yr hwn y [...] 'r dechreuad, y cyntaf-anedig oddi­wrth y [...], fel y byddei efe yn blaenori ymMhlith pawb. mhob peth.

19 Oblegid rhyngodd bodd i'r Tâd, drigo o bob cyflawnder ynddo ef.

20Neu, a chan wneu­thur. Ac (wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef) trwyddo ef gymmodi pob peth ag ef ei hun, trwyddo ef meddaf, pa vn bynnag ai pethau ar y ddaiar, ai pethau yn y nefoedd.

21 A chwithau y rhai oeddych ddieithraid, a gelynionNeu, trwy feddwl. mewn meddwl, trwy weithred­oedd drwg, yr awronEtto. hefyd a gymmododd efe,

22 Ynghorph ei gnawd ef, trwy farwolaeth, i'ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddi­feius, ac yn ddiargyoedd ger ei fronEi hun. ef:

23 Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich sellio a'ch siccrhau, ac heb eich symmud oddi wrth obaith yr Efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ym mysc pob creadur a'r sydd tan y nef: i'r hon i'm gwnaethpwyd i Paul yn wenidog:

24 Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau trosoch, ac yn cyflawni yr hyn sydd yn ol o gystuddiau Christ yn fy nghnawd i, er mwyn ei gorph ef, yr hwn yw 'r Eglwys:

25 I'r hon i'm gwnaethpwyd i yn weni­dog, yn ol gorchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tu ag attoch chwi, i gyflawni gair Duw:

26 Sef y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd, ac er cenhedlaethau, ond yr awrhon a eglurwyd iw Sainct ef:

27 I'r rhai yr ewyllysiodd Duw hyspysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hyn, ym­mhlith y cenhedloedd; yr hwn yw ChristYn eich plith chwi. ynoch chwi, gobaith y gogoniant:

28 Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan rybudddio pôb dŷn, a dyscu pob dŷn, ym mhôb doethineb, fel y cyflwynom bôb dŷn yn berffaith ynGhrist Iesu:

29Yn. Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn lla­furio, gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef, yr hon sydd yn gweithio ynofi yn nerthol.

PEN. II.

1 Y mae efe etto yn eu hannog hwy i fôd yn ddianwadal ynGhrist, 8 ac i ochelyd Philo­sophyddiaeth, a thraddodiadau ofer, 18 ac addoli Angylion, 20 a Ceremoniau y Gyfraith, y rhai sy wedi terfynu ynGhrist.

CAnys mi a ewyllysiwn i chwi ŵybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a'r rhai yn Laodicea, a chynnifer ac ni welsant fy wyneb i yn y cnawd:

2 Fel y cyssurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgyssylltu mewn cariad, ac i bôb golud sicr­wydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a'r Tâd, a Christ:

3 Yn yr hwn y mae holl dryssorau doethi­neb a gwybodaeth yn guddiedig.

4 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel.

5 Canys er fy môd i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyd â chwi yn yr yspryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd ynGhrist.

6 Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo:

7 Wedi eich gwreiddio, a'ch adeiladu yn­ddo ef, a'ch cadarnhau yn y ffydd, megis i'ch dyscwyd, gan gynnyddu ynddi mewn diolch­garwch.

8 Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi, a gwâg dwyll, yn ôl traddod­iad dynion, yn ôl gwyddorion y bŷd, ac nid yn ôl Christ:

9 Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorphorol.

10 Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pôb twysogaeth ac awdurdod:

11 Yn yr hwn hefyd i'ch enwaedwyd, ag Enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosc corph pechodau y cnawd, yn Enwaediad Christ:

12 Wedi eich cyd-gladdu ag ef yn y Be­dydd, yn yr hwn hefyd i'ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw, yr hwn a'i cyfodes ef o feirw.

13 A chwithau, pan oeddych yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gyd-fywhâodd efe gyd ag ef, gan faddeu i chwi yr holl gamweddau,

14 Gan ddileuYr scri­fen-law mewn er­deinia­dau. yscrifen law yr ordeinia­dau, yr hon oedd i'n herbyn ni, yr hon oedd yngwrthwyneb i ni, ac a'i cymmerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes:

15 GanDdad­wis [...]o. yspeilio y tywysogaethau, a'r awdurdodau, efe a'u herddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnyntNeu, ynddo ei hun. arni hi.

16 Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gwyl, neu newydd-loer, neu Sabbathau:

17 Y rhai ydynt gyscod pethau i ddyfod: ond y corph sydd o Grist.

18 NaFarned neb i'ch er [...]yn. thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth eiYmpwy. ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd,A chre­fydd. ac addoliad Angelion, gan ruthro i bethau ni's gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl ei hun:

19 Ac heb gyfattal y pen, o'r hwn y mae yr holl gorph, trwy 'r cymmalau a'r cyssyllt­iadau, yn derbyn llyniaeth, ac wedi ei gyd­gyssylltu, yn cynnyddu gan gynnydd Duw.

20 Am hynny os ydych wedi meirw gyd â Christ oddi wrth wyddorion y bŷd, pa ham yr ydych megis petrych yn byw yn y bŷd, yn ymroi i ordeiniadau?

21 Na chyffwrdd, ac na archwae [...]ha, ac na theimla.

22 Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer, yn ôl gorchymmynion ac athrawiae­thau dynion.

23 Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doe­thineb mewn ewyllys-grefydd, a gostyngeidd­rwydd, a bod heb arbed y corph, nid mewn bri, i ddigoni y cnawd.

PEN. III.

1 Y mae efe yn dangos pa le y dylem ni geisio Christ: 5 ac yn ein hannog i'n marwolaethu ein hunain, 10 i ddiosc yr hen ddyn, ac i wisco Christ am danom: 12 yn ein cynghori ni i gariad perffaith, a gostyngeiddrwydd, ac am­ryw rinweddau eraill.

AM hynny os cyd-gyfodasoch gyd â Christ, ceisiwch y pethau sydd vchod, lle mae Christ yn eistedd ar ddeheu-law Duw.

2 Rhoddwch eichBryd. serch ar be [...]hau sydd vchod, nid ar bethau sy ar y ddaiar.

3 Canys meirw ydych, a'ch bywyd a gudd­iwyd gyd â Christ yn Nuw.

4 Pan ymddangoso Christ, ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gyd ag ef mewn gogoniant.

5 Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sy ar y ddaiar, godineb, aflendid, gwŷn, dryg-chwant, a chybydd-dod, yr hon sydd eulyn-addoliaeth:

6 O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufydd-dod.

7 Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddych yn byw ynddynt.

8 Ond yr awrhon rhoddwch chwithau ym­maith yr holl bethau hyn, digter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o'ch genau.

9 Na ddywedwch gelwydd wrth ei gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosc yr hên ddŷn, yng­hyd a'i weithredoedd:

10 A gwisco 'r newydd, yr hwn a adnew­yddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a'i creawdd ef.

11 Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, en­waediad na di-enwaediad, Barbariad na Scyth­iad, caeth na rhydd: ond Christ sydd bôb peth; ac ym mhob peth.

12 Am hynny megis etholedigion Duw, sanctaidd ac anwyl, gwiscwch am danoch ym­yscaroedd trugareddau, cymmwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addîwynder, ymaros:

13 Gan gyd-ddwyn â'i gilydd, a maddeu iw gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ac y maddeuodd Christ i chwi, felly gwnewch chwithau.

14 Ac am ben hyn oll, gwiscwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd.

15 A llywodraethed tangneddyf Dduw yn eich calonnau, i'r hwn hefyd i'ch galwyd yn vn corph: a byddwch ddiolchgar.

16 Preswylied gair Christ ynoch ynGyfoe­thog. he­laeth, ym mhob doethineb: gan ddyscu, a rhybuddio bawb ei gilydd, mewn psalmau, a hymnau, ac odlau ysprydol, gan ganuYn ra­sol. trwy râs yn eich calonnau i'r Arglwydd.

17 A1 Cor. 10.31. pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bôb peth yn Enw 'r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tâd Trwyddo ef.

18 Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Ar­glwydd.

19 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt.

20 Y plant, vfyddhewch i'ch rhieni, ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i'r Arglwydd yn dda.

21 Y tadau na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont.

22 Y gweision, vfyddhewch ym mhôb peth i'ch meistred yn ôl y cnawd, nid â llygad­wasanaeth, fel bodlon-wŷr dynion, eithr mewn symlrwydd-calon, yn ofni Duw:

23 A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o'r galon, megis i'r Arglwydd, ac nid i ddyn­ion:

24 Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: ca­nys yr Arglwydd Grist yr ydych yn ei wasa­naethu.

25 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes der­byn wyneb.

PEN. IV.

1 Y mae efe yn eu hannog hwy i fôd yn wresog [Page] mewn gweddi, 5 i rodio yn ddoeth tu ac at y rhai ni ddaethant etto i wir wybodaeth am Grist: 10 Ac yn eu hannerch hwy, ac yn ewy­llysio iddynt bob rhyw lwyddiant.

Y Meistred, gwnewch i'ch gweision yr hyn sydd gyfiawn, ac vniawn, gan ŵybod fôd i chwithau feistr yn y nefoedd.

2 Parhewch mewn gweddi, gan wilied yn­ddiMewn diclch­garwch. gyd â diolchgarwch;

3 Gan weddio hefyd trosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Christ, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau:

4 Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi ei draethu.

5 Rhodiwch mewn doethineb tu ac at y rhai sy allan, gan brynu 'r amser.

6 Bydded eich ymadrodd bôb amserMewn gras. yn rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwy­poch pa fodd y mae yn rhaid i chwi atteb iPob math ar ddyn. bôb dŷn.

7 Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi, y brawd anwyl, a'r gweinidog ffyddlon, a'r cydwas yn yr Arglwydd:

8 Yr hwn a ddanfonais attoch er mwyn hyn, fel y gwybyddei eich helynt chwi, ac y diddanei eich calonnau chwi:

9 Gyd ag Onesimus y ffyddlon a'r anwyl frawd, yr hwn sydd o honoch chwi: hwy a yspysant i chwi bob peth a wneir ymma.

10 Y mae Aristarchus fy nghyd-garcharor yn eich annerch, a Marcus nai Barnabas fâb ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch or­chymmynion: os daw efe attoch, derbyniwch ef)

11 A Jesus, yr hwn a elwir Justus, y rhai ydynt o'r Enwaediad: y rhai hyn yn vnic yw fy nghyd-weithwŷr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gyssur i mi.

12 Y mae Epaphras, yr hwn sydd o honoch, gwâs Christ, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol trosoch mewn gweddiau, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn, ynghwbl o ewyllys Duw,

13 Canys yr ydwyf yn dŷst iddo, fôd ganddo zêl mawr trosoch chwi, a'r rhai o Lao­dicea, a'r rhai o Hierapolis.

14 Y mae Luc y physygwr anwyl, a Demas yn eich annerch.

15 Anherchwch y brodyr sydd yn Laodi­cea, a Nymphas, a'r eglwys sydd yn ei dŷ ef.

16 Ac wedi darllein yr Epistol hwn gyd â chwi, perwch ei ddarllein hefyd yn eglwys y Laodiceaid; a darllen o honoch chwithau yr vn o Laodicea.

17 A dywedwch wrth Archippus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Ar­glwydd, ar i ti ei chyflawni hi.

18 Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Grâs fyddo gyd â chwi. Amen.

¶At y Colossiaid yr scrifennwyd o Rufein gyd â Tychicus ac Onesimus.

¶EPISTOL CYNTAF PAUL YR APOS­TOL AT Y THESS ALONIAID.

PENNOD I.

1 Paul yn dwyn ar ddeall i'r Thessaloniaid, nid yn vnic mor feddylgar oedd efe am danynt hwy bôb amser, mewn diolchgarwch a gweddi; 5 Eithr hefyd gystal yr oedd ef yn tybied am wirionedd a phurdeb eu ffydd hwynt, a'i dych­weliad at Dduw.

PAul a Siluanus a Thimotheus at Eglwys y Thessaloniaid, yn Nuw Tâd, a'r Ar­glwydd Iesu Grist: grâs i chwi a thangneddyf, oddi wrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist.

2 Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol trosoch chwi oll, gan wneuthur coffa am danoch yn ein gweddiau:

3 Gan gofio yn ddibaid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cariad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, ger bron Duw a'n Tâd:

4 Gan wybod, frodyrA gar­wyd gan Dduw, eich etho­ledigaeth ghwi. anwyl, eich etho­ledigaeth chwi gan Dduw.

5 Oblegid ni bu ein Efengyl ni tu ac attoch mewn gair yn vnic, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Yspryd glân, ac mewn siccrwydd mawr, megis y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith, er eich mwyn chwi.

6 A chwi a aethoch yn ddilynwŷr i ni, ac i'r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gorth­rymder mawr, gyd â llawenydd yr Yspryd glân:

7 Hyd onid aethoch yn siamplau i'r rhai oll sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia.

8 Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn vnic ym Macedonia ac yn Achaia, ond ym mhôb man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw, a aeth ar lêd, fel nad rhaid i ni ddywedyd dim.

9 Canys y maent hwy yn mynegi am danom ni, pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom ni attoch chwi, a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eulynnod, i wasanaethu 'r bywiol a'r gwir Dduw:

10 Ac i ddisgwyl am ei Fab ef o'r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe o feirw, sef Iesu, yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod.

PEN. II.

1 Pa fodd y daeth, ac y pregethwyd yr Efeng­yl i'r Thessaloniaid, a pha fodd y derbynia­sant hwythau hi. 18 Yr achos pa ham y bu S. Paul cyhyd yn absennol oddi wrthynt hwy, a pha ham yr ydoedd efe mor chwannoc iw gweled hwynt.

CAnys chwi eich hunain a wyddoch, fro­dyr, ein dyfodiad ni i mewn attoch, nad ofer fu:

2 Eithr wedi i ni ddioddef o'r blaen, a chael ammharch, fel y gwyddoch chwi, yn Philippi, ni a fuom hŷ yn ein Duw, i lefaru wrthych chwi Efengyl Duw trwy fawr ym­drech.

3 Canys ein cyngor ni nid oedd o hudol­iaeth, nac o aflendid, nac mewn twyll:

4 Eithr megis i'nDewls­wyd gan Dduw i ymddir­ied. cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr Efengyl, felly yr ydym yn llefaru: nid megys yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni.

5 Oblegid ni buom ni vn amser mewn [Page] ymadrodd gweniaithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod; Duw yn dyst:

6 Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na chennych chwi, na chan eraill: lle y gallasem bwyso arnoch, fel Apostolion Christ.

7 Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysc chwi, megys mammaeth yn maethu ei phlant.

8 Felly, gan eich hoffi chwi, nia welsom yn dda gyfrannu â chwi, nid yn vnic Efengyl Dduw, ond ein heneidiau ein hunain hefyd, am eich bôd yn anwyl gennym.

9 Canys cof yw gennych, frodyr, ein llafur a'n lludded ni: canys gan weithio nôs a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch, ni a brege­thasom i chwi Efengyl Dduw.

10 Tystion ydych chwi, a Duw hefyd, mor sanctaidd, ac mor gyfiawn, a diargyoedd yr ymddygasom yn eich mysc chwi, y rhai ydych yn credu.

11 Megis y gŵyddoch, y modd y buom yn eich cynghori, ac yn eich cyssuro, bôb vn o honoch, fel tâd ei blant ei hun:

12 Ac ynTesti­olaethu. ymbil ar rodio o honoch ynAddas. deilwng i Dduw, yr hwn a'ch galwodd chwi iw deyrnas a'i ogoniant.

13 Oblegit hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddibaid, o herwydd i chwi pan dderbyniasoch air Duw, yr hwna glywsoch gennym ni, ei dderbyn ef nid fel gair dyn, eithr (fel y mae yn wîr) yn air Duw, yr hwn hefyd sydd yn nerthol-weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu.

14 Canys chwy-chwi, frodyr, a wnaethpwyd yn ddilyn-wŷr i Eglwysi Duw, y rhai yn Iudæa sydd ynGhrist Iesu; oblegid chwithau a ddiodd­efasoch y pethau hyn gan eich cyd-genedi, me­gis hwythau gan yr Iddewon:

15 Y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu, a'i prophwydi eu hunain, ac a'n herlidiasant ninneu ymmaith; ac ydynt heb ryngu bodd Duw, ac yn erbyn pôb dŷn:

16 Gan warafun i ni lefaru wrth y Cen­hedloedd, fel yr iacheid hwy, i gyflawni eu pechodau hwynt yn wastadol: canys digofaint Duw a ddaeth arnynt hyd yr eithaf.

17 A ninnau, frodyr, wedi ein gwneuthur yn ymddifaid am danoch dros emyd awr, yngolwg, nid ynghalon, a fuom fwy astud i weled eich wyneb chwi mewn awydd mawr.

18 Am hynny 'r ewyllysiasom ddyfod at­toch, (myfi Paul) yn ddiau, vn-waith a dwy­waith hefyd, eithr Satan a'n lluddiodd ni.

19 Canys beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein gorfoledd? onid chwy-chwi, ger bron ein Harglwydd Iesu Grist, yn ei ddyfodiad ef?

20 Canys chwy-chwi yw ein gogoniant a'n llawenydd ni.

PEN. III.

1 S. Paul yn tystiolaethu ei fawr gariad tuac at y Thessaloniaid, trwy anfon Timotheus attynt hwy, iw cadarnhau, ac iw diddaru: trwy lawenychu yn eu gweithredoedd da hwy: 10 a thrwy weddio trostynt, a dymuno cael dyfod yn ddiogel attynt.

AM hynny gan na allem ymattal yn hwy, ni a welsom yn dda ein gadel ni ein hu­nain yn Athen:

2 Ac a ddanfonasom Timotheus ein brawd, a gwenidog Duw, a'n cyd-weithwr yn Efengyl Grist, i'ch cadarnhau chwi, ac i'ch diddanu ynghylch eich ffydd;

3 Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrym­derau hyn: canys chwy-chwi eich hunain a ŵyddoch, mai i hyn i'n gosodwyd ni.

4 Canys yn wîr pan oeddym gyd â chwi, ni a rag-ddywedasom i chwi y gorthrymmid ni: megis y bu, ac y gwyddoch chwi.

5 O herwydd hyn, minneu heb allu ymattal yn hwy, a ddanfonais i gael gŵybod eich ffydd chwi: rhag darfod i'r temtiwr eich temtio chwi, a myned ein llafur ni yn ofer.

6 Eithr yr awron wedi dyfod Timotheus at­tom oddi wrthych, a dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a'ch cariad, a bôd gen­nych goffa da am danom ni yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megis yr ydym nin­neu am eich gweled chwithau:

7 Am hynny y cawsom gyssur, frodyr,Ynoch. am danoch chwi, yn ein holl orthrymder a'n hangenoctid, trwy eich ffydd chwi:

8 Oblegid yr awronRhuf. 7.9. byw ydym ni, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd.

9 Canys pa ddiolch a allwn ni ei adtalu i DduwTrosoch chwi. am danoch chwi, am yr holl lawen­ydd, â'r hwn yr ydym ni yn llawen o'ch achos chwi, ger bron ein Duw ni,

10 Gan weddio mwy nâ mwy, nôs a dydd, ar gael gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd chwi?

11 A Duw ei hun, a'n Tâd ni, a'n Har­glwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd ni attoch chwi.

12 A'r Arglwydd a'ch lluosogo, ac a'ch chwanego ym mhob cariad iw gilydd ac i bawb, megis ac yr ydym ninnau i chwi:

13 I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyoedd mewn sancteiddrwydd, ger bron Duw a'n Tâd, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Ghrist gyd â'i holl Sainct.

PEN. IV.

1 Y mae efe yn eu hannog hwynt i fyned rhag­ddynt mewn pob mâth a'r dduwioldeb, 6 i fyw yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, 9 i garu ei gilydd, 11 a thrwy lonyddwch i wneuthur y pethau â berthyn iddynt eu hunain: 13 ac yn ddiwe­ddaf i dristau yn gymhedrol tros y meirw. 17 A chydâ 'r cyngor diwaethaf hwn, y mae ef yn cyssylltu dosparth byrr o'r Adgyfodiad, ac o ail-dyfodiad Christ i'r farn.

YM mhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn attolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Ar­glwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynnyddu fwy-fwy.

2 Canys chwi a wyddoch pa orchym­mynion a roddasom i chwi trwy 'r Arglwydd Iesu.

3 Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw o honoch rhag godineb:

4 Ar fedru o bôb vn o honoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd, a pharch:

5 Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw:

6 Na byddo i neb orthrymmu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialudd yw 'r Ar­glwyddA [...] ar y rhai hyn oll, megis y dyweda­som i chwi o'r blaen, ac y tystiasom.

7 Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd.

8 Am hynny, y neb sydd yn dirmygu, nid dŷn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Ysgryd glân ynom ni.

9 Ond am frawdgarwch, nid rhaid i chwi scri­fennu o honof attoch: canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dyscu gan Dduw i garu ei gilydd.

10 Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o'r brodyr, y rhai sy trwy holl Macedo­nia: ond yr ydym yn attolwg i chwi, frodyr, gynnyddu o honoch fwy-fwy:

11 A rhoddi o honoch eich brŷd ar fôd yn llonydd, a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio â'ch dwylo eich hunain, (megis y gorchymynnasom i chwi:)

12 Fel y rhodioch yn weddaidd tu ac at y rhai sy oddi allan, ac na byddo arnoch eisieuNeb. dim.

13 Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fôd heb wybod am y rhai a hunasant, na thrista­och, megis eraill, y rhai nid oes ganddynt obaith.

14 Canys os ydym yn credu farw Iesu a'i adgyfodi, felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gyd ag ef.

15 Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yngair yr Arglwydd, na bydd i ni y rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu y rhai a hunasant.

16 Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddes­cyn o'r nef gyd âGawr. bloedd, â llef yr Arch­angel, ac ag vdcorn Duw: a'r meirw ynGhrist a gyfodant yn gyntaf:

17 Yna ninnau y rhai byw, y rhai a ada­wyd, a gippir i fynu gyd â hwynt yn y cymmylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyd â'r Arglwydd.

18 Am hynnyCyng­horwch. diddenwch ei gilydd â'r ymadroddion hyn.

PEN. V.

1 Y mae efe yn myned rhagddo, ac yn dangos (fel o'r blaen) ddull dyfodiad Christ i'r farn, 16 ac yn rhoddi amryw orchymmynion, 23 ac felly yn diweddu ei Epistol.

EIthr am yr amserau a'r prydiau, frodyr, nid rhaid i chwi scrifennu o honof attoch.

2 Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hyspys, mai felly y daw dydd yr Arglwydd, fel lleidr yn y nôs.

3 Canys pan ddywedant, Tangneddyf, a diogelwch; yna y mae dinistr disymmwth yn dyfod ar eu gwartha, megis gwewyr escor ar vn a fo beichiog: ac ni ddiangant hwy ddim.

4 Ond chwy-chwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo y dydd hwnnw chwi megis lleidr.

5 Chwy-chwi oll plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni o'r nôs, nac ô'r tywyllwch.

6 Am hynny na chyscwn, fely lleill. rhai eraill, eithr gwiliwn, a byddwn sobr.

7 Canys y rhai a gyscant, y nôs y cyscant: a'r rhai a feddwant, y nôs y meddwant.

8 Eithr nyni, gan ein bôd o'r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisco â dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iechydwriaeth yn lle helm.

9 Canys nid appwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iechydwriaeth, trwy ein Harglwydd Iesu Grist,

10 Yr hwn a fu farw trosom: fel pa vn bynnag a wnelom ai gwilied, ai cyscu, y byddom fyw gyd ag ef.

11 O herwydd pa ham cynghorwch ei gilydd, ac adeiledwch bob vn ei gilydd, megis ac yr ydych yn gwneuthur.

12 Ac yr ydym yn attolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sy yn llafurio yn eich mysc, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eichCyng­hori. rhybuddio:

13 A gwneuthur cyfrif mawr o honynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith: bydd­wch dangneddefus yn eich plith eich hu­nain.

14 Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhaiAllan o drefn. afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb.

15 Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tu ac attoch ei gilydd, a thu ac at bawb.

16 Byddwch lawen yn wastadol.

17 Gweddiwch yn ddibaid.

18 Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw ynGhrist IesuAm danoch. tu ac attoch chwi.

19 Na ddiffoddwch yr yspryd.

20 Na ddirmygwch brophwydoliaethu.

21 Proswch bob peth, deliwch yr hyn sy dda.

22 Ymgedwch rhac pobMath ar ddrwg. rhith drygioni.

23 A gwir Dduw y tangneddyf a'ch sanctei­ddio yn gwbl oll: a chadwer eich yspryd oll, a'ch enaid, a'ch corph, yn ddiargyoedd yn ny­fodiad ein Harglwydd Iesu Ghrist.

24 Ffyddlon yw 'r hwn a'ch galwodd, yr hwn hefyd a'i gwna.

25 O frodyr, gweddiwch drosom.

26 Anherchwch yr holl frodyr â chusan sancteiddiol.

27 Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Ar­glwydd, ar ddarllen y llythyr hwn i'r holl frodyr sanctaidd.

28 Grâs ein Harglwydd Iesu Ghrist fyddo gyd â chwi. Amen.

Y cyntaf at y Thessaloniaid a scrifennwyd o Athen.

¶AIL EPISTOL PAVL YR APOSTOL AT Y THESSALONIAID.

PENNOD I.

1 Y mae S. Paul yn yspysu idlynt ddaied yr oedd efe yn meddwl am eu ffydd, a'i cariad, a'i hamynedd hwynt: 11 a chydâ hynny yn gosod llawer o resymmau ar lawr, iw cysuro hwy mewn erlid; a'r pennaf o'r rhai hyn a gym­merir oddiwrth gyfiawn farn Duw.

PAul, a Silvanus, a Thimotheus, at Egl­wys y Thessaloniaid, yn Nuw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist:

2 Grâs i chwi, a thangneddyf, oddi­wrth Dduw ein Tâd ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

3 Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bôd eich ffydd chwi yn mawr-gynnyddu, a chariad pôb vn o honoch oll tu ac at ei gilydd yn chwanegu:

4 Hyd onid ydym ni ein hunain ynYmffro­stio. gor­foleddu ynoch chwi yn Eglwysi Duw, o her­wydd eich amynedd chwi a'ch ffydd yn eich oll erlidiau, a'r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef.

5 Yr hyn sydd argoel goleu o gyfiawn farn Duw, fel i'ch cyfrifer yn deilwng i deyr­nas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef:

6 Canys cyfiawn yw ger bron Duw, dalu cystudd i'r rhai sy yn eich cystuddio chwi:

7 Ac i chwithau y rhai a gystuddir, es­mwythdra gyd â ni, yn ymddangosiad yr Ar­glwydd Iesu o'r nef,Gyd ag angelion ei nerth. gyd â'i angelion nerthol,

8Mewn tan. A thân fflamllyd, gan roddi dial i'r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn vfyddhau i Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist:

9 Y rhai a ddioddefant yn gospedigaeth, ddinistr tragwyddol oddi ger bron yr Ar­glwydd, ac oddiwrth ogoniant ei gadernid ef:

10 Pan ddêl efe iw ogoneddu yn ei Sainct, ac i fôd yn rhyfeddol yn y rhai oll [...] 'n credu (o herwydd i'n tystiolaeth ni yn [...] mysc chwi gael ei chredu) yn y dydd h [...]w.

11 Am ba achos yr ydym hefyd yn gwe­ddio yn wastadol trosoch, ar fôd i'n Duw ni eich cyfrif chwi yn deilwng o'r alwedigaeth hon, a chyflawni holl fodlonrwyddI ddai­oni. ei ddaioni, a gwaith ffydd, yn nerthol:

12 Fel y gogonedder Enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi, a chwithau ynddo yntef, yn ôl grâs ein Duw ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

PEN. II.

1 Mae efe yn ewyllysio iddynt barhau yn ddisigl yn y gwirionedd a dderbyniasant, 3 ac yn dan­gos y bydd ymadawiad oddiwrth y ffydd, 9 ac y datcuddir Anghrist, cyn dyfod dydd yr Arglwydd: 15 ac yno yn ail-adrodd ei gyng­or o'r blaen, ac yn gweddio trostynt hwy.

AC yr ydym yn attolwg i chwi, frodyr, er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a'n cydgynhulliad ninneu atto ef,

2 Na'ch sigler yn fuanO'ch meddwl. neu, ym meddwl. oddiwrth eich meddwl, ac na'ch cynhyrfer, na chan yspryd, na chan air, na chan lythyr megis oddi wrth­ym ni, fel pe bai ddydd Christ yn gyfagos.

3 Na thwylled neb chwi mewn vn modd: oblegid ni ddaw y dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a datcuddio dŷn pechod, mâb y golledigaeth,

4 Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac yn ymdderchafuYn er­byn. goruwch pôbVn. peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe megis Duw, yn eistedd yn-Nheml Dduw, ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw.

5 Onid côf gennych chwi, pan oeddwn i etto gyd â chwi, ddywedyd o honof y pethau hyn i chwi?

6 Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn attal, fel y datcuddier ef yn ei bryd ei hun.

7 Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eusys; yn vnic yr hwn sydd yr awron yn attal, a ettyl nes ei dynnu ym­maith.

8 Ac yna y datcuddir yr anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha 'r Arglwydd ag yspryd ei enau, ac a ddilea â discleirdeb ei ddyfodiad:

9 Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan gyd â phob nerth, ac ar­wyddion, a rhyfeddodau gau,

10 A phôb dichell anghyfiawnder, yn y rhai colledig: am na dderbyniasant gariad y gwir­ionedd, fel y byddent gadwedig.

11 Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwyNerthol weithre­diad cyf­eiliorni. amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd:

12 Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i'r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder.

13 Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw trosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i iechydwriaeth, trwy sancteiddiad yr Yspryd, a ffyddY. i'r gwirionedd:

14 I'r hyn y galwodd efe chwi trwy ein Efengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Har­glwydd Iesu Grist.

15 Am hynny, frodyr, sefwch, a deliwch y traddodiadau a ddyscasoch, pa vn bynnag ai trwy ymadrodd, ai trwy ein Epistol ni.

16 A'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw a'n Tâd, yr hwn a'n carodd ni, ac a roddes i ni ddiddanwch tragwyddol, a gobaith da trwy râs,

17 A ddiddano eich calonnau chwi, ac a'ch sicrhâo ym mhob gair, a gweithred dda.

PEN. III.

1 Y mae efe yn deisyfu eu gweddiau hwy trosto ei hun, 3 yn tystiolaethu pa hyder oedd gantho arnynt, 5 ac yn gweddio ar Dduw trostynt hwy, 6 ac yn rhoddi amryw orchymmynion, yn enwedic i ochelyd seguryd, a chymdeithas rhai drwg, 16 ac yn diweddu trwy weddio, a'i hannerch hwy.

BEllach, frodyr, gweddiwch trosom ni, ar fod i air yr Arglwydd redeg, a chael go­gonedd, megis gyd â chwithau:

2 Ac ar ein gwared ni oddi wrth ddynionNeu, allan o lle. anhywaith a drygionus: canys nid oes ffydd gan bawb.

3 Eithr ffyddlon yw 'r Arglwydd, yr hwn a'ch sicrhâ chwi, ac a'ch ceidw rhac drwg.

4 Ac y mae gennym hyder yn yr Ar­glwydd am danoch, eich bôd yn gwneuthur, ac y gwnewch, y pethau yr ydym yn eu gorchymmyn i chwi.

5 A'r Arglwydd a gyfarwyddo eich calon­nau chwi at gariad Duw, ac i ymaros am Grist.

6 Ac yr ydym yn gorchymmyn i chwi, fro­dyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, dynnu o honoch ymmaith oddi wrth bob brawd a'r sydd yn rhodioA [...]lan o dr [...]fn. yn afreolus, ac nid yn ôl y traddodiad a dderbyniodd efe gennym ni.

7 Canys chwi a wyddoch eich hunain, pa fodd y dylech ein dilyn ni; oblegid ni buomAllan o drefn. afreolus yn eich plith chwi;

8 Ac ni fwyttasom fara neb yn rhâd: ond trwy weithio mewn llafur a lludded, nôs a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch chwi.

9 Nid o herwydd nad oes gennym awdur­dod, ond fel i'n rhoddem ein hunain yn siampl i chwi i'n dilyn.

10 Canys pan oeddym hefyd gyd â chwi, hyn a orchymynnasom i chwi, os byddai nêb ni fynnai weithio, na chai fwytta chwaith.

11 Canys yr ydym yn clywed fôd rhai yn rhodio yn eich plith chwiAllan o o drefn. yn afreolus, heb weithio dim, ond bôd yn rhodresgar.

12 Ond i'r cyfryw gorchymyn yr ydym, a'u hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar iddynt weithio trwy lonyddwch, a bwytta eu bara eu hunain.

13 A chwithau, frod yr, na ddeffygiwch yn gwneuthur daioni.

14 Ond od oes neb heb vfyddhau i'n gair,Trwy lythyr yspyswch y dyn hwn. trwy 'r llythyr ymma, yspyswch hwnnw: ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe.

15 Er hynny na chymmerwch ef megis gelyn, eithrRhybu­ddiwch. cynghorwch ef fel brawd.

16 Ac Arglwydd y tangneddyf ei hun a roddo i chwi dangneddyf yn wastadol, ym mhob modd. Yr Arglwydd a fyddo gyd â chwi oll.

17 Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun: yr hyn sydd arwydd ym mhob Epistol: fel hyn yr ydwyf yn scrifennu.

18 Grâs ein Harglwydd Iesu Grist gyd â chwi oll. Amen.

¶Yr ail at y Thessaloniaid a scrifenn­wyd o Athen.

¶EPISTOL CYNTAF PAUL YR APOSTOL at TIMOTHEUS.

PENNOD I.

1 Y mae Paul yn dwyn ar gof i Timotheus y siars a roddasei efe iddo, wrth fyned i Mace­donia. 5 Iawn arfer a diwedd y Gyfraith. 11 ynghylch galw S. Paul i fod yn Apostol. 20 Am Hymenaeus ac Alexander.

PAul Apostol Iesu Ghrist yn ôl gorchym­myn Duw ein lachawdr, a'r Arglwydd Iesu Grist, einCol. 1.27. gobaith:

2 At Timotheus fy mab naturiol yn y ffydd; grâs,, trugaredd, a thangneddyf oddi wrth Dduw ein Tâd, a Christ Iesu ein Har­glwydd.

3 Megis y deisyfiais arnat aros yn Ephesus, pan aethym i Macedonia, fel y gellit rybyddio rhai na ddyscont ddim amgen:

4 Ac na ddaliont arPen. 4. 7. chwedlau, ac achau anorphen, y rhai sy 'n peri cwestiwnau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol, yr hon syddMewn. trwy ffydd; gwna felly.

5 EithrRhuf. [...] diwedd y gorchymmyn yw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith.

6 Oddi wrth yr hyn bethau y gŵyrodd rhai, ac y troesant heibio at ofer-siarad:

7 Gan ewyllysio bôd yn athrawon o'r Ddeddf, heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd, nac am ba bethau y maent yn taeru.

8 Eithr nyni a ŵyddom mai [...] da yw 'r Gyfraith, os arfer dŷn hi yn gyfreithlon:

9 Gan ŵybod hyn, nad i'r cyfiawn y rhodd­wyd y Gyfraith, eithr i'r rhai digyfraith ac [...]nnfydd, i'r rhai annuwiol, a phechaduriaid, i'r [...]ai disanctaidd a halogedig, i dâd-leiddiaid, a [...]m-leiddiaid, i leiddiaid dynion,

10 I butein-wŷr, i wrryw-gydŵyr, i la­ [...] [...]ynion, i gelwydd-wŷr, i anudon-wŷr: [...] [...]es dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth [...]:

11 Yn ôl Efengyl [...] gogoniant y bendigedig [...] am yr hon yr ymddiriedwyd i mi.

12 Ac yr ydwyf yn diolch i'r hwn a'm [...] i, sef Christ Iesu ein Harglwydd, am [...] fy nghyfrif yn ffyddlon, gan fy ngosod yn [...] [...]dogaeth:

13 Yr hwn oeddwn o'r blaen yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais drugaredd, am i mi yn ddiarwybod ei wneu­thurMewn. trwy anghrediniaeth:

14 A grâs ein Harglwydd ni a dra-amlhâ­odd gyd â ffydd a chariad, yr hwn sydd yn­Grist Iesu.

15 Gwîr yw 'r gair, ac yn haeddu pôbCroeso. derbyniad, ddyfod Christ Iesu i'r bŷd i gadwMatth. 9.13. pechaduriaid, o ba rai,Blaenaf. pennaf ydwyfi.

16 Eithr o achos hyn y cefais drugaredd, fel y dangosei Iesu Ghrist ynofiNeu, y blaenaf. yn gyntaf, bôb hîr-oddef, er siampl i'r rhai a gredant rhag-law ynddo ef, i fywyd tragwyddol.

17 Ac i'r brenin tragwyddol, anfarwol, anweledig, i'r Duw vnic ddoeth, y byddo anrhydedd, a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

18 Y gorchymmyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti, fy mab Timotheus, yn ôl y pro­phwydoliaethau a gerddasant o'r blaen am danat, ar filwrio o honot ynddyntPen. 6.12. fil­wriaeth dda:

19 Gan fôd gennit ffydd, a chydwybod dda, yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant long-ddrylliad am y ffydd.

20 O ba rai y mae Hymaeneus ac Alexan­der: y rhai a1 Cor. 5.5. roddais i Satan, fel y dyscent na chablent.

PEN. II.

1 Bod yn iawn gweddio a diolch tros bob dyn. 9 pa fodd y dylei gwragedd ymdrwsio. 12 Nad ydys yn canhiadu iddynt na dyscu na bod yn ben: 15 y byddant hwy gadwedig, er bod ynddynt arwydd o ddigofaint Duw, wrth ddwyn plant i'r byd, os hwy a arhosant yn y ffydd.

Attol­wg.CYnghori yr ydwyf am hynny ym mlaen pôb peth fôd ymbiliau, gweddiau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bôb dŷn:

2 Dros frenhinoedd, a phawb sy mewnNeu, awdurdod. go­ruchafiaeth: fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol, mewn pôb duwioldeb ac honestrwydd.

3 Canys hyn sydd dda a chymmeradwy ger bron Duw ein Ceidwad,

4 Yr hwn sydd yn ewyllysio bôd pôb dŷn yn gadwedig, a'i dyfod i wybodaeth y gwir­ionedd.

5 Canys vn Duw sydd, ac vn cyfryngŵr hefyd rhwng Duw a dynion, y dŷn Christ Iesu:

6 Yr hwn a'i rhoddes ei hunan yn brid­werth dros bawb,Yn dest­iolaeth. iw dystiolaethu yn yr amseroedd priawd.

72 Tim. 1.11. I'r hyn i'm gosodwyd i yn bregeth­wr ac yn Apostol, (y gwîr yr wyf yn ei ddy­wedyd ynGhrist, nid wyf yn dywedyd cel­wydd) yn Athro y Cenhedloedd, mewn ffydd a gwirionedd.

8 Am hynny yr wyf yn ewyllysio i'r gwŷr weddio ym mhôb man, gan dderchafu dwylo sanctaidd, heb na digterNac ammeu. na dadl.

91 Pet. 3.3. Yr vn môdd hefyd, bod i'r gwragedd eu trefnu eu hunain mewn dillad gweddus, gyd â gwylder a sobrwydd, nid â gwallt plethedig, nêu aur, neu emmau, neu ddillad gwerthfawr:

10 Ond (yr hyn sydd yn gweddu i wragedd a fo yn proffessu duwioldeb) â gweithredo­edd da.

111 Cor. 14.34, 35. Dysced gwraig mewn distawrwydd gyd â phob gostyngeiddrwydd.

12 Ond nid wyf yn canhiadu i wraig athrawiaethu, nac ymawdurdodi ar y gŵr, eithr bôd mewn distawrwydd.

13 CanysGen. 2.21, 22. Addaf a luniwyd yn gyntaf, yna Efa.

14 Ac nid Addaf a dwyllwyd: eithr yGen. 3 6. wraig wedi ei thwyllo, oedd yn y camwedd.

15 Etto cadwedig fyddYn planta. wrth ddwyn plant, os arhosant hwy mewn ffydd, a chariad, a sancteiddrwydd, ynghyd â sobrwydd.

PEN. III.

2 Cynneddfau Escobion, a Diaconiaid, a'i gwra­gedd; 14 A pha ham y mae 'r Apostol yn scri­fennu 'r pethau hyn at Timotheus. 15 Ynghylch yr Eglwys, a'r gwirionedd a ddyscir ynddi.

GWîr yw 'r gair, Od yw neb yn chwen­nych swydd Escob, gwaith da y mae yn ei chwennych.

2 Rhaid gan hynny i Escob fôdTitus 1.6. yn ddi­argyoedd, yn ŵr vn wraig, yn wiliadwrus, yn sobr, yn weddaidd, yn lletteugar, yn athra­waidd:

3 Nid yn wîn-gar, nid yn darawudd, nid yn budr-elwa: eithr yn dirion, yn anymladd­gar, yn ddi-arian-gar:

4 Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn vfydd-dod, ynghyd â phob honestrwydd:

5 (Oblegid oni seidr vn lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymmer efe ofal dros Eglwys Dduw?)

6 Nid yn newyddian yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo, a syrthio i ddamaedigaeth diafol.

7 Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan: rhag iddo syrthio i wradwydd, ac i fagl diafol.

8 Rhaid i'r Diaconiaid yr vn ssunyd, fôd yn honest, nid yn ddau-eiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budr-elwa:

9 Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cyd­wybod bur.

10 A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf, yna gwasanaethant swydd Diaconiaid, o [...] byddant ddiargyoedd.

11 Y mae yn rhaid iw gwragedd yr vn modd fôd yn honest, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlon ym-mhob peth.

12 Bydded y Diaconiaid yn wŷr vn wraig, yn llywodraethu eu plant, a'u tai eu hunain yn dda.

13 Canys y rhai a wasanaethant swydd Diaconiaid yn dda, ydynt yn ennill iddynt eu hunain radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd ynGhrist Iesu.

14 Y pethau hyn yr ydwyf yn eu scrifennu attat, gan obeithio dyfod attat ar fyrder.

15 Ond os tariaf yn hir, fel y gwypech pa fodd y mae yn rhaid i ti ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw Eglwys y Duw byw, colofn aNeu, chynha­liad. sylfaen y gwirionedd.

16 Ac yn ddi-ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb: Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Yspryd, a wel­wyd gan Angelion, a bregethwyd i'r Cenhedl­oedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gymmer­wyd i fynu mewn gogoniant.

PEN. IV.

1 Y mae efe yn prophwydo ymadawiad oddiwrth y ffydd, yn yr amseroedd diwaethaf: 6 Ac er mwyn na byddei i Timotheus ballu yn ei swydd, y mae efe yn rhoi iddo amryw gynghorion ynghylch hynny.

AC y mae 'r Yspryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diweddaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i yspryd­ion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreul­iaid,

2 Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a'u cydwybod eu hunain wedi eilloscl. serio â haiarn poeth,

3 Yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymat­tal oeddiwrth fwydydd, y rhai a greawdd Duw, i'w derbyn trwy roddi diolch gan y ffyddloniaid, a'r rhai a adwaenant y gwir­ionedd.

4 Oblegid y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim iw wrthod, os cym­merir trwy dalu diolch.

5 Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw, a gweddi.

6Os dygi y pethau hyn ar gof i'r brodyr. Os gosodi y pethau hyn o flaen y bro­dyr, ti a fyddi wenidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu yngeiriau 'r ffydd, ac athrawiaeth dda; yr hon a ddilynaist.

7 Eithr gâd heibio halogedig, a gwra­chiaidd chwedlau: ac ymarfer dy hun i dduw­ioldeb.

8 CanysNeu, tros y­chydig. i ychydig y mae ymarfer corpho­rol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bôb peth, a chenddi addewid o'r bywyd y sydd yr awron, ac o'r hwn a fydd.

9 Gwir yw 'r gair, ac yn haeddu pôbCroeso. der­byniad.

10 Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwradwyddo, o herwydd i ni obeithio yn y Duw byw, yr hwn yw achubydd pôbDynion. dŷn, yn enwedig y ffyddloniaid.

11 Y pethau hyn gorchymmyn a dysc.

12 Na ddiystyred neb dy ieuengtid ti, eithr bydd yn esampl i'r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn yspryd, mewn ffydd, mewn purdeb.

13 Hyd oni ddelwyf, glŷn wrth ddarllein, wrth gynghori, wrth athrawiaethu.

14 Nac escaelusa y dawn sydd ynot, yr hwn a rodded i ti trwy brophwydoliaeth, gyd ag arddodiad dwylo yr Henuriaetn.

15 Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pe­thau hyn aros: fel y byddo dy gynnydd yn eglurym mhob Peth. i bawb.

16 Gwilia arnat dy hun, ac ar yr athra­wiaeth: aros ynddynt: canys of gwnei hyn, ti a'th gedwi dy hun, a'r rhai a wrandawant arnat.

PEN. V.

1 Rheolau i'w dilyn wrth geryddu. 3 Ynghylch gwragedd gweddwon, 17 a Henuriaid. 23 Cyn­gor ynghylch iechyd Timotheus. 24 Bod pe­chodau rhai yn myned or blaen i farn, a'r eiddo eraill yn canlyn.

NA cherydda Henaf-gŵr, eithr cynghora ef megis tâd, a'r rhai ieuaingc, megis bro­dyr;

2 Yr hôn wragedd, megis mammau, y rhai ieuaingc, megis chwiorydd, gyd âMewn pob di­wtirdeb. phôb purdeb.

3 Anrhydedda 'r gwragedd gweddwon, y rhai sy wîr weddwon.

4 Eithr o bydd vn weddw ac iddi blant neu wyrion, dyscant yn gyntaf arfer duwioldeb gar­tref, a thalu 'r pwyth iw rhieni: canys hynny sydd dda, a chymmeradwy ger bron Duw.

5 Eithr yr hon sydd wîr weddw ac vnic, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ymbiliau, a gweddiau, nôs a dydd.

6 Ond yr hon sydd Yn byw yn foe­cbus. drythyll, a fu farw, er ei bôd yn fyw.

7 A gorchymyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyoedd.

8 Ac od oes neb heb ddarbod tros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw nâ'r di-ffŷdd.

9Na chyf­rifer ym­mhlith y rhai gwe­ddwon. Na ddewiser yn weddw vn a fo tan dri­ugein-mlwydd oed, yr hon fu wraig i vn gŵr:

10 Yn dda ei gair am weithredoedd da: os dygodd hi blant i fynu, of bu letteugar, o gol­chodd hi draed y Sainct, o chynhorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bôb gorch­wyl da.

11 Eithr gwrthod y gweddwon ieuaingc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Christ, priodi a fynnant;

12 Gan gael barnedigaeth, am iddynt ddir­mygu y ffydd gyntaf.

13 A hefyd, y maent yn dyscu bôd yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ: ac nid yn segur yn vnic, ond hefyd yn wâg-siaradus, ac yn rhodres-gar, gan adrodd pethau nid ŷnt gym­mwys.

14 Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i'r rhai ieuaingc briodi, planta, gwarchod y tŷ, heb roi dim achlysur i'r gwrth-wyneb-ŵr i ddifenwi.

15 Canys y mae rhai ensus wedi gŵyro ar ôl Satan.

16 Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon, wragedd gweddwon, cynnorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr Eglwys, fel y gallo hi ddi­wallu y gwîr weddwon.

17 Cyfrifer yr Henuriaid sy'n llywodraethu yn dda, yn dellwng o barch dau-ddyblyg: yn enwedig y rhai sy yn poeni yn y gair a'r athrawiaeth.

18 Canys y mae yr Scrythur yn dywedyd,Deut. 25.4. 1 Cor. 9.9. Na chae safn yr ŷch sydd yn dyrnu yr ŷd; Ac,Matth. 10.10. Y mae 'r gweithiŵr yn haeddu ei gyflog.

19 Yn erbyn Henuriad na dderbyn achwyn, oddieithrNeu, ger [...]ron dau. tan ddau neu dri o dystion.

20 Y rhai sy'n pechuargyoe­ [...]da. cerydda yngwydd pawb, fel y byddo ofn ar y llaill.

21Dir. de­stiolaethu. Gorchymmyn yr ydwyf ger bron Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, a'r etholedig Angelion, gadw o honot y pethau hyn heb rag-farn, heb wneuthur dimO du­cdd. o gyd-bartiaeth.

22 Na ddôd ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill: cadw dy hun yn bur.

23 Nac ŷf ddwfr yn hwy: eithr arfer ychy­dig wîn, er mwyn dy gylla, a'th fynych wendid.

24 Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o'r blaen, yn rhag-flaenu i farn: eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd.

25 Yr vn ffunyd hefyd y mae gweithre­doedd da yn amlwg o'r blaen: a'r rhai sy am­genach, ni's gellir eu cuddio.

PEN. VI.

1 Dyled gweision i'w meistred. 3 Am ochelud athrawon newydd. 6 Duwioldeb sydd elw mawr: 10 a chwant arian ydyw gwreiddyn pob drwg. 11 Beth a ddylei Timotheus ei ochelyd a'i ddilyn: 17 Am ba beth yr oedd iddo rybuddio y cyfoethogion. 20 Am gadw yr athrawiaeth iawn: a gochelud siaradach ofer.

Ephes. 6.5. Colos. 3.22. 1 Pet. 2.18.CYnnifer ac sy wasanaeth-wŷr tan yr iau, tybiant eu meistred eu hun yn deilwng o bôb anrhydedd; fel na chabler Enw Duw, a'i athrawiaeth ef.

2 A'r rhai sy a meistred ganddynt yn credu, na ddiystyrant hwynt, o herwydd eu bôd yn frodyr: eithr yn hytrach gwasanaethant hwynt, am eu bôd yn credu, ac yn anwyl, yn gyfran­nogion o'r llesâd. Y pethau hyn dysc, a chyng­hora.

3 Od oes neb yn dyscu yn amgenach, ac heb gyttûno ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac a'r athrawiaeth sydd ar ôl du­wioldeb,

4 Chwyddo y mae, heb ŵybod dim, eithrGr. yn glaf. ammhwyllo ynghylch cwestiwnau, ac ymry­son ynghylch geiriau: o'r rhai y mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwg dybiau, yn dyfod,

5 Cyndyn ddadlau dynion llygredig eu meddwl, heb fôd y gwirionedd ganddynt; yn tybied mai elw yw duwioldeb: cilia oddi wrth y cyfryw.

6 Ond elw mawr yw duwioldeb gyd â bodlonrwydd.

7 CanysPreg. 5.14. Job. 1.21. ni ddygasom ni ddim i'r bŷd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith.

8 Ac o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny.

9 Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgy­foethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd, a niwei­diol, y rhai sy yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth.

10 Canys gwreiddyn pôb drwg yw arian­garwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd, ac a'u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau.

11 Eithr tydi, gŵr Duw, gochel y pethau hyn: a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, ammynedd, addfwyndra.

12 Ymdrecha hardd-deg ymdrech y ffydd, cymmer afael ar y bywyd tragwyddol, i'r hwn hefyd i'th alwyd, ac y proffessaist broffes dda ger bron llawer o dystion.

13Pen. 5.21. Yr ydwyf yn gorchymmyn i ti ger bron Duw, yr hwn sydd yn bywhau pôb peth, a cher bron Christ IesuJoan. 18.37. yr hwn tan Pontius Pilat a dystioddGyffes. broffess dda;

14 Gadw o honot y gorchymyn hwn, yn ddifeius, yn ddiargyoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist:

15 Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a'r vnic Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi:

16 Yr hwn yn vnic sydd ganddo anfarwol­deb, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod atto:Joan. 1.18. 1 Joan. 4.12. yr hwn ni's gwelodd vn dŷn, ac ni's dichon ei weled: i'r hwn y byddo anrhydedd, a gallu tragywyddol. Amen.

17 Gorchymyn i'r rhai sy oludog yn y bŷd ymma, na byddont vchel-feddwl, ac na obeithiont mewnAnwa­dalwch golud. golud anwadal, ond yn y Duw byw, yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bob peth iw mwynhau:

18 Ar iddynt wneuthur daioni, ymgysoe­thogi mewn gweithredoedd da, fôd yn hawdd ganddynt roddi, a chyfrannu:

19Matth. 6.20. Luc. 12.33. Yn trossori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod, fel y caffont afael ar y bywyd tragwyddol.

20 O Timotheus, cadw yr hyn a roddwyd iw gadw attat, gan droi oddi wrth halogedig ofer-sain, a gwrthwyneb gwybodaeth, a gam­henwir felly:

21 Yr hon tra yw rhai yn eiHaddo. phroffessu, hwy a gyfeiliornasant o ran y ffydd. Grâs fyddo gyd â thi. Amen.

¶Y cyntaf at Timotheus a scrifennwyd o Laodicea, yr hon yw prif ddinas Phrygia Pacatiana.

¶AIL EPISTOL PAVL YR APOSTOL AT TIMOTHEVS.

PENNOD I.

Serch Paul tuag at Timotheus: a'r ffydd ddiffuant oedd yn Timotheus, ac yn ei fam, a'i nain. 6 Ei annog ef i gyffroi rhoddiad Duw oedd ynddo ef: 8 I fod yn ddianwadal, ac yn ddioddefgar mewn erlid: 13 Ac i barhau yn y wir athrawiaeth a ddyscasai ganddo ef. 15 Ynghylch Phygelus a Hermogenes, a chlod Onesiphorus.

PAul Apostol Iesu Ghrist trwy ewyllys Duw, yn ol addewid y bywyd, yr hwn sydd ynGhrist Iesu,

2 At Timotheus, fy mab anwyl; grâs, trugaredd, a thangneddyf, oddi wrth Dduw Tâd, a Christ Iesu ein Harglwydd.

3 Y mae gennif ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o'm rhieni â chyd­wybod bur, morRhuf. 1.9. ddibaid y mae gennif goffa am danat ti, yn fy ngweddiau, nôs a dydd:

4 Gan fawr ewyllysio dy weled, gan gofio dy ddagrau, fel i'm llanwer o lawenydd:

5 Gan alw i'm cof y ffydd ddi-ffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice: a diammeu gennif ei bod ynot titheu hefyd.

6 O herwydd pa achos yr ydwyf yn dy goffau i ail-ennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot, trwy arddodiad fy nwylo i.

7 Canys ni roddes Duw i ni yspryd ofn, onid yspryd nerth, a chariad, a phwyll.

8 Am hynny na fid arnat gywilydd o dyst­lolaeth ein Harglwydd, nac o honof finneu ei garcharor ef: eithr cyd-oddef di gystudd â'r Efengyl, yn ol nerth Dnw:

9 Yr hwn a'n hachubodd ni, ac a'n galwodd â galwedigaeth sanctaidd:Tit. 3.5. nid yn ol ein gweithredoedd ni, ond yn ol ei arfaeth ei hun a'i râs, yr hwn a roddwyd i ni ynGhrist Iesu,Tit. 1.2. cyn dechreu 'r bŷd:

10 Eithr a eglurwyd yr awron trwy ym­ddangosiad ein lachawdr Iesu Grist, yr hwn a ddiddymmodd angeu, ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni, trwy 'r Efengyl:

111 Tim. 2.7. I'r hon i'm gosodwyd i yn bregethŵr ac yn Apostol, ac yn athro y Cenhedloedd.

12 Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd; canys mi a wn i bwyYr ym­ddirie­dais. y credais, ac y mae yn ddiammeu gennif ei fod ef yn abl i gadw yr hyn a roddais atto erbyn y dydd hwnnw.

13 Bydded gennit ffurf yr ymadroddion iachus, y rhai a glywaist gennif fi, yn y ffydd, a'r cariad sydd ynGhrist Iesu.

14 Y peth da a rodded iw gadw attat, cadw trwy 'r Yspryd glân, yr hwn sydd yn pres­wylio ynom.

15 Ti a ŵyddost hyn, ddarfod i'r rhai oll sy yn Asia droi oddi wrthifi: o'r sawl y mae Phygelus a Hermogenes.

16 Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesiphorus: canys efe a'm llonnodd i yn fynych, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i.

17 Eithr pan oedd yn Rhufain, efe a'm ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac a'm cafodd.

18 Rhodded yr Arglwydd iddo gael tru­garedd gan yr Arglwydd, yn y dydd hwnnw: a maint a wnaeth efe o wasanaeth yn Ephesus,gwell. goreu y gwyddost ti.

PEN. II.

1 Ei annog ef i ddianwadalwch, ac i barhau, ac i wneuthur rhan gwenidog ffyddlon yr Ar­glwydd, gan gyfrannu gair Duw yn iawn, ac attal siaradach ofer. 17 Am Hymenaeus a Philetus. 19 Bod sylfaen yr Arglwydd yn siccr. 22 Y mae yn dyscu iddo beth sydd iw ochelud ac iw ddilyn, a pha fodd y gweddei i wenidog yr Arglwydd ymddwyn.

TYdi gan hynny, fy mâb, ymnertha yn y grâs sydd ynGhrist Iesu:

2 A'r pethau a glywaist gennif trwy lawer o dystion, traddoda y rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymmwys i ddyscu eraill hefyd.

3 Tydi gan hynny goddef gystudd, megis mil-ŵr da i Iesu Grist.

4 Nid yw neb a'r sydd yn milwrio yn ym­rwystro â negeseuau y bywyd hwn, fel y rhyngo fodd i'r hwn a'i dewisodd yn fil-ŵr.

5 Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon.

6 Y llafur-ŵrGan la­furio. sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntafFod yn gyfr [...]nnog o'r ffrwy­thau. dderbyn y ffrwythau.

7 Ystyria yr hyn yr ydwyf yn ei ddywe­dyd: a'r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhôb peth.

8 Cofia gyfodi Iesu Grist o hâd Dafydd, o feirw, yn ôl fy Efengyl i:

9 Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwg-weithred-wr, eithr gair Duw nis rhwymir.

10 Am hynny yr ydwyf yn goddef pôb peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallent hwythau gael yr iechydwriaeth sydd ynGhrist Iesu, gyd â gogoniant tragwyddol.

11 Gwîr yw 'r gair: canysRhuf. c. 5.8. os buom feirw gyd ag ef, byw fyddwn hefyd gyd ag ef:

12 Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gyd ag ef: Matth. 10.33. Marc. 8.38. os gwadwn ef, ynteu hefyd a'n gwâd ninnau:

13Rhuf. 3.3. Os ŷm ni heb gredu, etto y mae efe yn aros yn ffyddlon: ni's gall efe ei wadu ei hun,

14 Dwg y pethau hyn ar gôf, ganDdir­dystiolae­thu. or­chymmyn ger bron yr Arglwydd na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw suddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr.

15 Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brofe­dig gan Dduw, yn weithiwr difefl, yn iawn­gyfrannu gair y gwirionedd.

16 Ond halogedig ofer-sain, gochel: canys cynnyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb.

17 A'u hymadrodd hwy a yssa fel cancr: ac o'r cyfryw rai y mae Hymenaeus a Philê­tus:

18 Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeilior­nasant, gan ddywedyd ddarfod yr adgyfodiad eusys: ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai:

19 Eithr y maeSail Duw yn sefyll yn si [...]r. cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo y sêl hon, Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a phôb vn sydd yn henwi Enw Christ, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder.

20 Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn ynig Iestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd: a rhai i barch, a rhai i ammarch.

21 Pwy bynnag gan hynny a'i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gym­mwysI waith yr Ar­glwydd. i'r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda.

22 Ond chwantau ieuengctid, ffo oddi wrthynt; a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangneddyf, gyd â'r rhai sy yn galw ar yr Arglwydd o galon bur.

23 Eithr gochel ynfyd ac annyscedigTit. 3.9. gwestiwnau, gan ŵybod eu bôd yn magu ymrysonau.

24 Ac ni ddylei gwâs yr Arglwydd ym­ryson, ond bôd yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddioddefgar:

25 Mewn addfwynder yn dyscu y rhai gwrthwynebus, i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser, edifeirwch i gydnabod y gwir­ionedd.

26 A bôd iddyntDdeffroi ddyfod i'r iawn allan o fagl diafol, y rhai aDdali­wyd yn garcharo­rion, neu, yn fyw. ddolid ganddo wrth ei ewyllys ef.

PEN. III.

Y mae yn ei rybuddio ef am amseroedd blinion: 6 yn dangos pa fath ydyw gelynion y gwirion­edd: 10 yn ei osod ei hun yn siampl iddo: 16 Ac yn canmol yr Scrythur lân.

GWybydd hyn hefyd, y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diweddaf.

2 Canys bydd dynion a'u serch arnynt eu hunain, yn arian-gar, yn ymffrost-wŷr, yn feilchion, yn gabl-wŷr, yn anufyddion i rieni, yn anniolch-gar, yn annuwiol,

3 Yn angharedig, yn torri cyfammod, ynDdiaf­laid. enllibaidd, yn anghymhesur, yn anfwyn, yn ddiserch i'r rhai da,

4 Yn frâd-wŷr, yn waed-wyllt, yn chwydde­dig, yn caru melys-chwant yn fwy nag yn caru Duw:

5 A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi: a'r rhai hyn gochel di.

6 Canys o'r rhai hyn y mae y rhai sy yn ymlusco i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrage­ddos llwythog o bechodau, wedi eu harwain gan amryw chwantau:

7 Yn dyscu bôb amser, ac heb allu dyfod vn amser i ŵybodaeth y gwirionedd.

8Exod. 7.11. Eithr megis y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses, felly y mae y rhai hyn he­fyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd, dynion o feddwl llygredig, yn anghymmeradwy o ran y ffydd.

9 Eithr nid ânt rhagddynt ym mhellach: canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, megis y bu yr eiddynt hwythau.

10 Eithr ti aDdiwyd­ddilynaist. lwyr adwaenost fy nysceidi­aeth, fy muchedd, fy arfaeth, ffydd, hir­ymaros, cariad, ammynydd:

11 Yr eriidiau, y dioddefiadau, y rhai a ddigwyddasant i mi ynAct. 13.14.50. Antiochia, yn Ico­nium, yn Lystra; pa erlidiau a ddioddefais: eithr oddi wrthynt oll i'm gwaredodd yr Ar­glwydd.

12 Ie, a phawb a'r sy yn ewyllysio byw yn dduwiol ynGrist Iesu, a erlidir.

13 Eithr drwg-ddynion a thwyll-wŷr a ânt rhagddynt waeth-waeth, gan dwyllo a chael eu twyllo.

14 Eithr aros di yn y pethau a ddyscaist, ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt, gan ŵybod gan bwy y dyscaist:

15 Ac i ti er yn fachgen ŵybod yr Scrythur lân, yr hon sydd abl i'th wneuthur di yn ddoeth i iechydwriaeth, trwy 'r ffydd sydd yn­Christ Iesu.

162 Pet. 1.22. Yr holl Scrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysprydoliaeth Dduw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyoeddi, i geryddu, i hyffor­ddi mewn cyfiawnder,

17 Fel y byddo dŷn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bôb gweithred dda.

PEN. IV.

1 Y mae yn ei annog ef i fod yn ofalus ac yn ddiwyd i gwplau ei swydd: 6 Yn ei rybuddio nesed oedd ei farwolaeth ef; 9 yn ewyllysio iddo ddyfod atto ef ar fyrder: 14 ac yn ei rybuddio ef i ochelud Alexander y gof: 16 Yn dangos iddo beth a ddigwyddasei iddo wrth ei atteb cyntaf: 19 Ac ar ôl hynny y mae efe yn dibennu.

YR ydwyfi gan hynny ynDir des­tiolaethu. gorchymmyn ger bron Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a farna y byw a'r meirw, yn ei ym­ddangosiad a'i deyrnas:

2 Pregetha 'r gair, bydd daer, mewn amser, allan o amser; argyoedda, cerydda, annog, gydâ phôb hir-ymaros ac athrawiaeth,

3 Canys daw yr amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus: eithr yn ôl eu chwantau eu hunain, y pentyrrant iddynt eu hunain ath­rawon, gan fôd eu clustiau yn merwino:

4 Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ym­maith eu clustiau, ac at chwedlau y troant.

5 Eithr gwilia di ym mhôb peth, dioddef adfyd: gwna waith Efengyl-ŵr,Llawn­brifia. cyflawna dy weinidogaeth.

6 Canys myfi yr awron a aberthir, ac amser fy ymddattodiad i a nesaodd.

7 Mi a ymdrechais ymdrech dêg, mi a or­phennais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd.

8 O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder iw chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y barnwr cyfiawn, i mi yn y dydd hwnnw: ac nid yn vnic i mi, ond hefyd i bawb a garant ei ymddangosiad ef.

9Cais ddyfod. Bydd ddyfal i ddyfod attaf yn ebrwydd:

10 Canys Demas a'm gadawodd, gan garu y bŷd presennol, ac a aeth ymmaith i Thessa­lonica, Crescens i Galatia, Titus i Dalmatia.

11 Lucas yn vnic sydd gyd â mi. Cym­mer Marc, a dwg gyd â thi: canys buddiol yw efe i mi i'r weinidogaeth.

12 Tychicus hefyd a ddanfonais i Ephesus.

13 Y cochl a adewais i yn Troas gyd â Charpus, pan ddelych dwg gyd i thi, a'r lly­frau, yn enwedig y memrwn.

14 Alexander y gôf copr a wnaeth i mi ddry­gau lawer: taled yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd.

15 Yr hwn hefyd gochel ditheu: canys efe a safodd yn ddir-fawr yn erbyn einNeu, pregeth. hyma­droddion ni.

16 Yn fy atteb cyntaf ni safodd neb gyd â mi, eithr pawb a'm gadawsant: mi a archaf i Dduw na's cyfrifer iddynt.

17 Eithr yr Arglwydd a safodd gyd â mi, ac a'm nerthodd: fel trwofi y byddei y pregethiad ynGyflawn llawn hyspys, ac y clywei yr holl Genhedloedd: ac mi a waredwyd o enau y llew.

18 A'r Arglwydd a'm gwared i rhag pôb gweithred ddrwg, ac a'm ceidw iw deyrnas nefol: i'r hwn y byddo gogoniant yn oes oeso­edd. Amen.

19 Annerch Prisca, ac Ac a, aThy. theulu Onesiphorus.

20 Erastus a arhosodd yn Corinth: ond Trophimus a adewais ym Miletum yn glâf.

21Cais ddyfod. Bydd ddyfal i ddyfod cyn y gayaf. Y mae Eubulus yn dy annerch, a Phudens, a Linus, a Chlaudia, a'r brodyr oll.

22 Yr Arglwydd Iesu Ghrist fyddo gyd â'th yspryd di. Grâs fyddo gyd â chwi. Amen.

¶Yr ail epistol at Timotheus, yr Escob cyntaf a ddewiswyd ar Eglwys yr Ephesiaid, a scrifennwyd o Rufain, pan ddygpwyd Paul yr ail waith ger bron Cæsar Nero.

¶EPISTOL PAVL YR APOSTOL AT TITVS.

PENNOD I.

5 I ba beth y gadawodd Paul Titus yn Creta. 6 Pa gynneddfau a ddylei fod mewn eglwys­wyr. 11 Rhaid yw cau safnau y rhai a ddyscant y pethau ni ddylent: 12 A pha fath wyr ydynt.

PAul gwâs Duw, ac Apostol Iesu Grist, yn ôl ffydd etholedigion Duw, ac adnabyddiaeth y gwirionedd, yr hon sydd yn ôl duwioldeb:

2Mewn gobaith. I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y di-gelwyddog Dduw2 Tim. 1.9. cyn dechreu 'r bŷd:

3 Eithr mewn amseroedd priodawl efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu,1 Tim. 1.11. am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ôl gorchymyn Duw ein Iachawdwr:

4 At Titus fy1 Tim. 1.2. mab naturiol yn ôl y ffydd gyffredinol, Grâs, trugaredd, tangneddyf oddi wrth Dduw Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist ein Iachawdwr ni.

5 Er mwyn hyn i'th adewais yn Creta, fel yr iawn-drefnit y pethau sy ynddeffy­giol. ôl, ac y go­sodit henuriaid ym mhôb dinas, megys yr or­deiniais i ti.

6 Os yw neb yn1 Tim. 3.2. ddi-argyoedd, yn ŵr vn wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufydd.

7 Canys rhaid i Escob fod yn ddiargyoedd, fel gorchwyliwr Duw: nid yn gyndyn, nid yn ddigllon, nid yn1 Tim. 3.3 wîn-gar, nid yn darawudd, nid yn budr-elwa;

8 Eithr yn lletteugar, yn caruy rhai da. daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymmherus:

9 Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ol yr addysc, fel y gallo gynghori yn yr athraw­iaeth iachus, ac argyoeddi y rhai sy yn gwrth­ddywedyd;

10 Canys y mae llawer yn anufydd, yn ofer-siaradus, ac yn dwyllwŷr meddyliau, yn enwedig y rhai o'r Enwaediad:

11 Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau: y rhai sy yn dymchwelyd tai cyfan, gan a­thrawiaethu y pethau ni ddylid, er mwyn budr-elw.

12 Vn o honynt hwy eu hunain, vn o'i prophwydi hwy eu hunain a ddywedodd, Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwyddog, drwg fwyst-filod, boliausegur­llyd. gorddiog.

13 Y dystiolaeth hon sydd wîr: am ba achos argyoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd:

14 Heb ddal ar chwedlau Iddewaidd, a gorchymmynion dynion yn troi oddi wrth y gwirionedd.

15Rhuf. 14.20. Pur yn ddiau yw pob peth i'r rhai pur: eithr i'r rhai halogedig a'r di-ffydd, nid pur dim, eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a'u cydwybod hwy.

16 Y maent yn proffessu yr adwaenant Dduw, eithr ar weithredoedd ei wadu y maent, gan fod yn ffiaidd, ac yn anusydd, ac at bob gweithred dda yn anghymmeradwy.

PEN. II.

Y mae efe yn hyfforddi Titus yn ei athrawiaeth, ac yn ei fuchedd. 9 Rhan gweision, a phob math ar Gristianogion.

EIthr llefara di y pethau a weddo i athraw­iaeth iachus:

2 Bod o'r henaf-gwŷryn wil­iadwrus. yn sobr, yn honest, yn gymhesur, yn iach yn y ffydd, ynghariad, mewn ammynedd:

3 Bod o'r henaf-gwragedd yr vn ffunyd mewn ymddygiad, fel y gweddai irai san­taidd. san­cteiddrwydd, nid ynddiafli­aid. enllibaidd, nid wedi [Page] ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni:

4 Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuaingc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant:

5 Ynbwyllog. sobr, ynddiwair. bur, yn gwarchad gartref, yn dda,Eph. 5.22. yn ddarostyngedig iw gwŷr priod: fel na chabler gair Duw.

6 Y gwŷr ieuaingc yr vn ffunyd, cynghora i fod yn sobr:

7 Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn esampl i weirhredoedd da, a dangos mewn athrawiaeth anllygredigaeth, gweddeidd-dra, purdeb,

8 Ymadrodd iachus, yr hwn ni aller beio arno: fel y byddo i'r hwn sydd yn y gwrth­wyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg iw ddywedyd am danoch chwi.

9 Cynghora Ephes. 6.5. Col 3.22. 1 Pet. 2.18. weision i fod yn ddaros­tyngedig iw meistreid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth, nid yn gwrth­ddywedyd:

10 Nid yn darn-guddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da: fel yr harddont athrawiaeth Dduw ein Iachawdur, ym mhob peth.

11 Canys ymddangosodd grâs Duw, yr hon sydd yn dwyn iechydwriaeth i bôb dŷn:

12 Gan ein dyscu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gy­fiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron;

13 Gan ddisgwil am y gobaith gwynfyde­dig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a'n Iachawdur Iesu Grist:

14 Yr hwn a'i rhoddes ei hun trosom, i'n prynu ni oddiwrth bob anwiredd, ac i'n puro ni iddo ei hun, yn bobl briodol, awyddus i weithred oedd da.

15 Y pethau hyn llefara, a chynghora, ac argyoedda gyd â phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.

PEN. III.

Y mae Paul yn hyfforddi Titus pa bethau a ddysc, a pha bethau ni ddysc efe iddynt. 10 Am ochelud haeretic cyndyn. 12 Y mae yn dangos iddo i ba fan, a pha bryd y deuai atto ef: ac felly y mae yn dibennu.

DWg ar gof iddynt fod ynRhuf. 13.1. 1 Pet. 2.13. ddarostynge­dig i'r tywysogaethau, a'r awdurdodau, fod yn vfydd, fod yn barod i bob gweithred dda:

2 Bod heb gablu neb, yn anymladdgar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tu ac at bob dŷn.

3 Canys yr oeddym ninneu hefyd gynt yn annoethion, yn anufydd, yn cyfeiliorni, yn gwasanaethu chwantau ac amryw folyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn ddiga­sog, yn casau ei gilydd.

4 Eithr pan ymddangosodd daioni aDyn­serch Duw ein Iachaw­dur. cha­riad Duw ein Achubwr tu ac at ddŷn,

52 Tim. 1.9. Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ol ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenediga­eth, ac adnewyddiad yr Yspryd glân;

6 Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Iachawdur:

7 Fel gwedi ein cyfiawnhau trwy ei râs ef, i'n gwneid yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol.

8 Gwîr yw 'r gair, ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer, fel y byddo i'r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da: y pethau hyn sydd dda, a buddiol i ddynion.

9 Eithr1 Tim. 1.4. gochel gwestiwnau ffôl, ac achau, a chynnhennau, ac ymrysonau ynghylch y Ddeddf: canys anfuddiol ydynt, ac ofer.

10 Gochel y dyn a fyddo Heretic, wedi vn ac ail rhybydd:

11 Gan ŵybod fod y cyfryw vn wediei ddym­chwelyd. ei ŵyr-droi, ac yn pechu, gan fod yn ei ddam­nio ei hunan.

12 Pan ddanfonwyf Artemas attat, neu Tychicus, bydd ddyfal i ddyfod attaf i Nico­polis: canys yno yr arfaethais aiafu.

13 Hebrwng Zenas y cyfreithiŵr, ac Apol­los yn ddiwyd, fel na byddo arnynt eisieu dim.

14 A dysced yr eiddom ninnau flaenori mewn gweithredoedd da i angenrheidiau, fel na byddont yn ddi-ffrwyth.

15 Y mae yr holl rai sy gyd â mi yn dy annerch. Annerch y rhai sy yn ein caru ni yn y ffydd. Grâs fyddo gyd â chwi oll. Amen.

¶At Titus, yr Escob cyntaf a ddewiswyd ar Eglwys y Cretiaid, yr scrifennwyd o Nicopolis ym Macedonia.

¶EPISTOL S. PAVL AT PHILEMON.

PENNOD I.

4 Y mae yn wych gantho ef glywed am ffydd a chariad Philemon: 9 Ac yn dymuno arno faddeu iw was Onesimus: 12 Ai gymeryd ef adref yn garedig drachefn.

PAul carcharor Christ Iesu, a'r brawd Timotheus, at Philemon ein hanwylyd, a'n cydweithiwr;

2 Ac at Apphia ein hanwylyd, ac at Archippus cin cyd-filwr, ac at yr Eglwys sydd yn dy dŷ di:

3 Grâs i chwi a thangneddyf oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Ghrist.

4 Yr wyf yn diolch i'm Duw, gan wneu­thur coffa am danat yn wastadol yn fy ngwe­ddiau,

5 Wrth glywed dy gariad, a'r ffydd sydd gennit tu ac at yr Arglwydd Iesu, a thu ac at yr holl Sainct:

6 Fel y gwneler cyfranniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pôb peth daionus, a'r sydd ynoch chwi ynGhrist Iesu.

7 Canys y mae gennym lawer o lawenydd, a diddanwch yn dy gariad ti, herwydd bod ymyscaroedd y Sainct wedi eu llonni trwot ti, frawd.

8 O herwydd pa ham, er bôd gennif hyf­dra lawer ynGhrist, i orchymmyn i ti y peth sydd weddus,

9 Etto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn attolwg, er fy môd yn gyfryw vn a Phaul yr henaf-gŵr, ac yr awron hefyd yn garcha­ror Iesu Ghrist.

10 Yr ydwyf yn attolwg i ti dros fy mabCol. 4. [...]. Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau:

11 Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minneu hefyd:

12 Yr hwn a ddanfonais drachefn: a der­byn ditheu ef, yr hwn yw fy ymyscaroedd i.

13 Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyd â mi, fel trosot ti y gwasanaethei efe fi yn rhwymau yr Efengyl.

14 Eithr heb dyGyngor. feddwl di, ni ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddei dy ddaioni di megis o anghenrhaid, onid o fodd.

15 Canys yscatfydd er mwyn hyn yr yma­dawodd tros amser, fel y derbynnit ef yn dra­gywydd:

16 Nid fel gwâs bellach, eithr vwch-law gwâs, yn frawd anwyl, yn enwedig i mi, eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd, ac yn yr Arglwydd hefyd?

17 Os wyti gan hynny yn fy nghymeryd i ynGyfran­nog. gydymmaith, derbyn ef fel myfi.

18 Ac of gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny ar­nafi.

19 Myfi Paul a'i scrifennais â'm llaw fy hun, myfi a'i talaf: fel na ddywedwyf wrthit dy fôd yn fy nyled i ym mhellach am danat dy hun hefyd.

20 Ie frawd, gâd i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd: llonna fy ymyscaroedd i yn yr Arglwydd.

21 Gan hyderu ar dy vfydd-dod yr scri­fennais attat, gan ŵybod y gwnei, îc mwy nag yr ydwyf yn ei ddywedyd.

22 Heb law hyn hefyd, paratoa i mi lettŷ: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gwe­ddiau chwi, y rhoddir fi i chwi.

23 Y mae yn dy annerch Epaphras, fy nghŷd­garcharor ynGhrist Iesu,

24 Marcus, Aristarchus, Demas, Lucas, fy nghŷdweith-wŷr.

25 Grâs ein Harglwydd Iesu Ghrist gyd â'ch yspryd chwi. Amen.

¶At Philemon yr scrifennwyd o Rufain gyd â'r gwâs Onesimus.

¶EPISTOL PAVL YR APOSTOL AT YR HEBRÆAID.

PENNOD I.

1 Duw yn y dyddiau diweddaf a lefarodd wrth­ym ni trwy ei Fab ei hun: yr hun o ran ei berson a'i swydd sydd yn rhagori ar yr Angelion. 14 Swydd yr angelion.

DVw wedi iddo lefaru lawer gwaith, a llawer modd gynt wrth y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab,

2 Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pôb peth, trwy 'r hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd.

3Col. 1.15. Doeth. 7.26. Yr hwn ac efe yn ddisclairdeb ei ogoni­ant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pôb peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pe­chodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheu-law y mawredd, yn y goruwch­leoedd:

4 Wedi ei wneuthur o hynny yn well nâ'r Angelion, o gymmaint ac yr etifeddodd efe Enw mwy rhagorol nâ hwynt hwy.

5 Canys wrth bwy o'r Angelion y dywedodd efe vn amser?Psal. 2.7. pen. 5.5. Actau. 13.33. fy Mâb ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais di. A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab.

6 A thrachefn, pan yw yn dwyn y cyntaf­anedig i'r byd, y mae yn dywedyd, Ac addo­led holl Angelion Duw ef.

7 AcGr. wrth. am yr Angelion y mae yn dywedyd,Psal. 104.4. Yr hwn sydd yn gwneuthur ei Angelion yn ysprydion, a'i weinidogion yn fflam dân.

8 Ond wrth y Mab,Psal. 45.6. Dy orseddfaingc di, o Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrn-wialen vniondeb, yw teyrn-wialen dy deyrnas di:

9 Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist an­wiredd, am hynny i'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i'th gyfeillion.

10 Ac,Psal. 102.25. Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaiar, a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd.

11 Hwynt-hwy a ddarfyddant, ond tydi sydd yn parhau: a hwynt-hwy oll fel dilledyn a heneiddiant:

12 Ac megis gwisc y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr vn ydwyt, a'th flyny­ddoedd ni phallant.

13 Ond wrth ba vn o'r Angelion y dywe­dodd efe vn amser,Psal. 110.1. Matth. 22.44. Eistedd ar fy neheu-law,1 Cor. 15.25. Pen. 10.13. hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i'th draed?

14 Onid ysprydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iechydwriaeth?

PEN. II.

1 Y dylem ni fod yn vfydd: Ghrist Iesu, 5 gan fod yn wiw gantho ef ei hun gymmeryd ein na­turiaeth ni arno, 14 fel yr oedd yn anghen­rhaid.

AM hynny y mae yn rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom, rhag vn amser i niGr. oll­wng fel llestri candryll. eu gollwng hwy i golli.

2 Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy Angelion, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufydd-dod gyfiawn daledigaeth;

3 Pa fodd y diangwn ni, os esceuluswn iechydwriaeth gymmaint, yr hon wedi dechreu ei thraethu trwy 'r Arglwydd, a sicrhawyd i ni, gan y rhai a'i clywsant ef:

4Marc. 16.20. A Duw hefyd yn cyd-tystiolaethu trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nertho­edd, aRhania­dau. doniau yr Yspryd glân, yn ôl ei ewyllys ei hun?

5 Canys nid i'r Angelion y darostyngodd efe y byd a ddaw, am yr hwn yr ydym yn lle­faru.

6 Eithr vn mewn rhyw fan a dystiolaethodd, gan ddywedyd,Psal. 8.4. Pa beth yw dŷn, i ti i seddwl am dano? neu fab dŷn, i ti i ymweled ag ef?

7 Ti a'i gwnaethost ef ychydig îs nâ'r Ang­elion: â gogoniant ac anrhydedd y coronaisti ef, ac a'i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylo:

81 Cor. 15.27. Ti a ddarostyngaist bob peth tan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo: ond yr awron nid ydym ni etto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo.

9 Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu yr hwn a wnaed ychydig yn îs nâ'r Angelion,Trwy ddio. o her­wydd dioddef marwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd: fel trwy râs Duw y profei efe farwolaeth tros bob dŷn.

10 Canys gweddus oedd iddo ef, o herwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy 'r hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio tywysog eu hiechydwri­aeth hwy trwy ddioddefiadau.

11 Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai a sancteiddir, o'r vn y maent oll: am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr,

12 Gan ddywedyd,Psal. 22.22. Myfi a fynegaf dy Enw di i'm brodyr, ynghanol yr EglwysY canaf hymnau i ti. i'th folaf di.

13 A thrachefn,Psal. 18.2. Myfi a fyddaf yn ym­ddiried ynddo. A thrachefn,Esa. 8.18. Wele fi a'r plant a roddes Duw i mi.

14 Oblegid hynny, gan fod y plant yn gyfrannogion o gîg a gwaed, yntef hefyd yr vn modd a fu gyfrannog o'r vn pethau: felHose. 13.14. trwy farwolaeth y dinistriei efe yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo, hynny yw diafol:

15 Ac y gwaredel hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt tros eu holl fywyd tan gaethiwed.

16 CanysGr. nid yw yn cymmeryd gafael ar Angel­ion, eithr ar had Abra­ham y mae efe yn cyni­meryd gafaei. ni chymmerodd efe naturiaeth Angelion, eithr hâd Abraham a gymmerodd efe.

17 Am ba achos y dylei efe ym mhob peth fôd yn gyffelyb iw frodyr, fel y byddei dru­garog, ac Arch-offeiriad ffyddlon mewn pethau yn perthyn i Dduw, i wneuthur cym­mod tros bechodau 'r bobl.

18 Canys yn gymmaint a dioddef o ho­naw ef, gan gael ei demtio, efe a ddichon gyn­northwyo y rhai a demtir.

PEN. III.

1 Bod Christ yn rhagori ar Moses: 7 am hyn­ny oni chredwn ni iddo ef, yr ydym ni yn haeddu ychwaneg gospedigaeth na'r Israeliaid gwrthnysig.

O Herwydd pa ham, frodyr sanctaidd, cyf­rannogion o'r galwedigaeth nefol, ystyr­iwch Apostol ac Arch-offeiriad ein cyffes ni, Christ Iesu;

2 Yr hwn sydd ffyddlon i'r hwn a'iGwnaeth hor­deiniodd ef, megis ac y bu Num. 12.7. Moses yn ei holl dŷ ef.

3 Canys fe a gyfrifwyd hwn yn haeddu mwy gogoniant nâ Moses, o gymmaint ac y mae 'r hwn a adeiladodd y tŷ, yn cael mwy o barch nâ'r tŷ.

4 Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw vn: ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw.

5 A Moses yn wîr a fu ffyddlon yn ei holl dŷ ef, megis gwâs, er tystiolaeth i'r pethau oedd iw llefaru;

6 Eithr Christ, megis mab ar ei dŷ ei hun: tŷ yr hwn ydym ni, os hyni a geidw ein hyf­der, a gorfoledd ein gobaith, yn siccr hyd-y diwedd.

7 Am hynny megis y mae yr Yspryd glân yn dywedyd,Psal. 95.7.8. Pen. 4.7. Heddyw os gwrandewch ar ei leferydd ef,

8 Na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffae­thwch:

9 Lle y temtiodd eich tadau fyfi, y pro­fasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mhlynedd.

10 Am hynny y digiais wrth y genhed­laeth honno, ac y dywedais, Y maent bob am­ser yn cyfeiliorni yn eu calonnau: ac nid ad­nabuant fy ffyrdd i:

11 Fel y tyngais yn fy llid,Gr. ci cant. na chaent ddyfod i mewn i'm gorphwysfa.

12 Edrychwch frodyr, na byddo vn amser yn neb o honoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw.

13 Eithr cynghorwch ei gilydd bob dydd, tra y gelwir hi heddyw: fel na chaleder neb o honoch trwy dwyll pechod.

14 Canys fe a'n gwnaed ni yn gyfrannog­ion o Ghrist, os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd.

15 Tra y dywedir, Heddyw os gwran­dewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad.

16 Canys rhai wedi gwrando a'i digiasant ef, ond nid pawb a'r a ddaethant o'r Aipht trwy Moses.

17 Ond wrth bwy y digiodd efe ddeugain mhlynedd? onid wrth y rhai a bechasent, y rhai y syrthiodd eu cyrph yn y diffaethwch?

18 Ac wrth bwy y tyngodd efe, na chaent hwy fyned i mewn iw orphwysfa ef, onid wrth y rhaiNid vfydd­haesant. ni chredasant?

19 Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn o herwydd anghredinaeth.

PEN. IV.

Trwy ffydd y mae cael gorphwysfa y Christia­nogion. 12 Gallu gair Duw. 14 Trwy ein Arch-offeiriad Iesu Fab Duw, yr hwn oedd heb pechod, ond nid heb ei wendid, 16 y mae i ni gyrchu yn hyf at orseddfaingc gras.

OFnwn gan hynny, gan fod addewid we­di ei adel i ni i fyned i mewn iw or­phwysfa ef, rhac bod neb o honoch yn debyg i fôd yn ôl.

2 Canys i ninneu y pregethwyd yr Efengyl, megis ac iddynt hwythau: eithr y gairBregeth­wyd. a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-tymheru â ffydd yn y rhai a'i clywsant.

3 Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i'r orphywysfa, megis y dywe­dodd efe,Psal. 95.11. Fel y tyngais yn fy llid, os ânt i mewn i'm gorphywysfa i: er bod y gweithred­oedd wedi eu gwneuthur er seiliad y bŷd.

4 Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn,Gen. 2.2. Exod. 20.11. A gorphywysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weith­redoedd.

5 Ac ymma drachefn, Os ânt i mewn i'm gorphywysfa i.

6 Gan hynny gan fod hyn wedi ei adel, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt i mewn, o herwyddAnu­fydd-dod. anghrediniaeth:

7 Trachefn y mae efe yn pennu rhyw ddi­wrnod, gan ddywedyd yn Nafydd, Heddyw, ar ol cymmaint o amser; megis y dywedir,Pen. 3.7. Ps. 95.7.8 Heddyw os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau.

8 Canys pe dygaseiSef, Josuah. Iesus hwynt i orphy­wysfa, ni soniasei efe ar ol hynny am ddiwr­nod arall.

9 Y mae gan hynny orphywysfa etto yn ôl i bobl Dduw.

10 Canys yr hwn a aeth i mewn iw orphy­wysfa ef, hwnnw hefyd a orphywysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntef.

11 Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i'r orphywysfa honno: fel na syrthio neb, yn ôl yr vn siampl oAnu­fydd-dod. anghrediniaeth.

12 Canys bywiol yw gair Daw a nerthol, a llymmach nag vn cleddyf dau-finiog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r yspryd, a'r cymmalau a'r mêr; ac yn barnu meddyliau, a bwriadau y galon.

13 Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth, ac yn agored iw lygaid ef, am yr hwn yr ydym yn sôn.

14 Gan fôd wrth hynny i ni Arch-offeir­iad mawr, yr hwn a aeth i'r nefoedd, Iesu Mâb Duw, glynwn yn ein proffess.

15 Canys nid oes i ni Arch-offeiriad, heb fedru cyd-ddioddef gyd â'n gwendid ni, ond wedi [...]i demtio ym mhob peth yr vn ffunyd a ninnau, etto heb pechod.

16 Am hynny, awn yn hyderus at orsedd­faingc y grâs, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom râsI'n cym­morth mewn pryd. yn gymmorth cyfamserol.

PEN. V.

Awdurdod a braint Offeiriadaeth ein Hachubwr. 11 Y mae efe yn beio arnynt am eu bod mor esceulus, ac mor ddiwybod yn y pethau hynny.

CAnys pob Arch-offeiriad wedi ei gym­meryd o blith dynion, a osodir tros ddynion yn y pethau sy tu ac at Dduw, fel yr offrymmo roddion ac aberthau tros be­chodau:

2 Yr hwn a ddichonGyd­ddwyn a'r rhal. dosturio wrth y rhai sy mewn anwybodaeth ac amryfusedd: am ei fod ynteu hefyd wedi ei amgylchu â gwendid:

3 Ac o achos hyn y dylei, megis tros y bobl, felly hefyd trosto ei hun offrymmu tros bechodau.

42 Cron. 26.18. Ac nid yw neb yn cymmeryd yr anrhy­dedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron:

5 Felly Christ hefyd ni's gogoneddodd ei hun i fôd yn Arch-offeiriad; ord yr hwn a ddywedodd wrtho, Tydi yw fy Mab, myfi he­ddyw a'th genhedlais di.

6 Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall,Psal. 110.4. offeiriad wyt ti yn dragywydd, yn ôl vrdd Melchisedec.

7 Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gwe­ddiau ac erfyniau at yr hwn oedd abl iw achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrandoO achos ei dduw­ioldeb. yn yr hyn a ofnodd:

8 Er ei fôd yn Fâb, a ddyscodd vfydd-dod, trwy y pethau a ddioddefodd:

9 Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd ynAchos. awdur iechydwriaeth dragwyddol, i'r rhai oll a vfyddhânt iddo:

10 Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Arch­offeiriad yn ôl vrdd Melchisedec.

11 Am yr hwn y mae i ni lawer iw dywe­dyd, ac anhawdd eu traethu: o achos eich bod chwi yn hwyr-drwm eich clustiau.

12 Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser, mae arnoch drachefn eisieu dyscu i chwi beth ydyw gwyddorion dechreuad ymad­roddion Duw: ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth ac nid bwyd cryf.

13 Canys pob vn ac sy yn ymarfer â llaeth, sydd anghynefin â gair cyfiawnder: canys ma­ban yw.

14 Eithr bwyd cryf a berthyn i'r rhaiMewn oedran. per­ffaith, y rhai o herwydd cynnefindra y mae ganddynt synhwyr, wedi ymarfer i ddosparthu drwg a da.

PEN. VI.

Y mae efe yn eu cynghori hwy na chilient oddi­wrth y ffydd: 11 ond bod yn ddianwadal, 12 yn ddiwyd, ac yn ddioddefgar, i ddisgwyl wrth Dduw, 13 Am fod Duw yn sicr yn ei addewid.

AM hynny gan roddi heibio yrYma­drodd de­chreuad Christ. ymadrodd sydd yn dechreu rhai ynGhrist, awn rhag­om at berffeithrwydd; heb osod i lawr dra­chefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tu ac at Dduw,

2 I athrawiaeth bedyddiau, ac arddodiad dwylo, ac adgyfodiad y meirw, a'r farn drag­wyddol.

3 A hyn a wnawn, os caniadhâ Duw.

4 CanysPen. 10.26. 2 Petr. 2.20. Matth. 12.45. amhossibl yw i'r rhai a oleu­wyd vn-waith, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaethbwyd yn gyfrannogion o'r Yspryd glân,

5 Ac a brofasant ddaionus air Duw, a nerth­oedd y byd a ddaw;

6 Ac a syrthiant ymaith; ymadnewyddu drachefn i edifeirwch, gan eu bod yn ail-croes­hoelio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn eiWneu­thur yn siampl. osod yn watwor.

7 Canys y ddaiar yr hon sydd yn yfed y glaw sy yn mynych ddyfod arni, ac yn dwyn llysiau cymmwys i'r rhai y llafurir hi gan­ddynt, sydd yn derbyn bendith gan Dduw:

8 Eithr yr hon sydd yn dwyn drain a mieri, sydd anghymmeradwy, ac agos i felldith, di­wedd yr hon yw ei llosci.

9 Eithr yr ydym ni yn coelio am danoch chwi, anwylyd, bethau gwell, a phethau yng­lŷn wrth iechydwriaeth, er ein bod yn dywe­dyd fel hyn.

10 Canys nid yw Duw yn anghyfiawn, fel yr anghofio eich gwaith,A lla­fur y ca­riad. a'r llafurus gar­iad, yr hwn a ddangosasoch tu ac at ei Enw ef, y rhai a weiniasoch i'r Sainct, ac ydych yn gweini.

11 Ac yr ydym yn chwennych fod i bob vn o honoch ddangos yr vn diwydrwydd, er mwyn llawn-siccrwydd gobaith hyd y diwedd:

12 Fel na byddoch fuscrell, eithr yn ddilyn­wyr i'r rhai, trwy ffydd ac ammynedd, sy yn etifeddu yr addewidion.

13 Canys Duw wrth wneuthur addewid i Abraham, oblegid na allei dyngu i neb oedd fwy; a dyngodd iddo ei hun,

14 Gan ddywedyd,Gent. 12.2. & 22.17. Yn ddiau gan fen­dithio i'th fendithiaf, a chan amlhau i'th aml­hâf.

15 Ac felly wedi iddo hir-ymaros efe a ga­fodd yr addewid.

16 Canys dynion yn wîr sydd yn tyngui vn a fo mwy; a llŵ er sicrwydd sydd derfyn iddynt ar bob ymryson.

17 Yn yr hyn, Duw yn ewyllysio yn he­laethach ddangos i etifeddion yr addewid, ddianwadalwch ei gyngor ef, a gyfryngodd trwy lw:

18 Fel trwy ddau beth dianwadal yn y rhai yr oedd yn ammhossibl i Dduw fod yn gel­wyddog, y gallem ni gael cyssur crŷf, y rhai a ffoesom i gymmeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'n blaen:

19 Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn siccr, ac yn myn­ed i mewn hyd at yr hyn sydd o'r tu fewn i'r llen:

20 I'r man yr aeth y rhag-flaenor trosom ni, sef Iesu, yr hwn a wnaethbwyd yn Arch-off­eiriad yn dragwyddol, ar ôl vrdd Melchisedec.

PEN. VII.

Christ Iesu sydd Offeiriad yn ôl vrdd Melchise­dec: 11 Ac felly yn rhagori llawer ar yr Offeiriaid oedd ar ol vrdd Aaron.

CAnys yGene. 14.18. Melchisedec hwn, brenin Salem, Offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gy­farfu ag Abraham wrth ddychwelyd o ladd y brenhinoedd, ac a'i bendigodd ef:

2 I'r hwn hefyd y cyfrannodd Abraham ddegwm o bob peth: yr hwn yn gyntaf, o'i gyfieithu, yw brenin cyfiawnder, ac wedi hynny hefyd brenin Salem, yr hyn yw brenin heddwch:

3 Heb dâd, heb fam, heb achau, heb fôd iddo na dechreu dyddiau, na diwedd enioes: eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i fab Duw, sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd.

4 Edrychwch faint oedd hwn, i'r hwn he­fyd y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm o'r anrhaith.

5 A'r rhai yn wir sy Num. 18.21. o feibion Lefi yn derbyn swydd yr Offeiriadaeth, y mae gan­ddynt orchymmyn i gymmeryd degwm gan y bobl, ar ol y Gyfraith, sef gan eu brodyr, er eu bôd wedi dyfod o lwynau Abraham:

6 Eithr yr hwn nid oedd ei achau o honynt hwy, a gymmerodd ddegwm gan Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewid­ion iddo.

7 Ac yn ddi-ddadl, yr hyn sydd leiaf a sen­dithir gan ei well.

8 Ac ymma y mae dynion, y rhai sy yn meirw, yn cymmeryd degymmau: eithr yno, yr hwn y tystiolaethwyd am dano ei fôd efe yn fyw.

9 Ac (fel y dywedwyf felly) yn Abraham y talodd Lefi hefyd ddegwm, yr hwn oedd yn cymmeryd degymmau.

10 Oblegid yr ydoedd efe etto yn lwynau ei dad pan gyfarfu Melchisedec ag ef.

11 Os ydoedd gan hynny berffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi, (oblegid tan honno y rhoddwyd y gyfraith i'r bobl) pa raid oedd mwyach godi offeiriad arall ar ol vrdd Melchisedec, ac na's gelwid ef ar ôl vrdd Aaron?

12 Canys wedi newidio yr Offeiriadaeth, angenrhaid yw bôd cyfnewid ar y gyfraith hefyd.

13 O blegid am yr hwn y dywedir y pethau hyn, efe a berthyn i lwyth arall, o'r hwn nid oedd neb yn gwasanaethu yr allor.

14 Canys hyspys yw mai o Juda y cododd ein Harglwydd ni: am yr hwn lwyth ni ddy­wedodd Moses ddim tu ag at offeiriadaeth.

15 Ac y mae yn eglurach o lawer etto,O her­wydd hod. od oes ar ol cyffelybrwydd Melchisedec, Offeiriad arall yn codi,

16 Yr hwn a wnaed, nid yn ol cyfraith gor­chymmyn cnawdol, eithr yn ol nerth bywyd annherfynol.

17 Canys tystiolaethu y mae,Pen. 5.6. Psal. 110.4. offeiriad wyt ti yn dragywydd, ar ol vrdd Melchisedec.

18 Canys yn ddiau y mae dirymmiad i'r gorchymmyn sydd yn myned o'r blaen, o her­wydd ei lescedd, a'i afles.

19 O blegid ni pherffeithiodd y Gyfraith ddim, namyn dwyn gobaith gwell i mewn a berffeithiodd, trwy yr hwn yr ydym yn ne­sau at Dduw.

20 Ac yn gymmaint nad heb lw,

21 (Canys y rhai hynny yn wîr, ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid hob lw: ond hwn, trwy lw, gan yr hwn a ddywedodd wrtho,Psal. 110.4. Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, Ti sydd Offeiriad yn dragywydd ar ol vrdd Melchisedec.)

22 Ar Destament gwell o hynny y gwnaeth­pwyd Iesu yn fachniudd.

23 A'r rhai hynny yn wîr lawer sydd wedi eu gwneuthur yn offeiriaid, o herwydd lluddio iddynt gan farwolaeth barhau;

24 Ond hwn, am ei fôd ef yn aros yn dra­gywydd, sydd ag offeiriadaeth dragwyddol ganddo.

25 Am hynny efe a ddichon hefyd yn gwbl iachau y rhai trwyddo ef sy yn dyfod at Dduw, gan ei fôd ef yn byw bob amser, i eiriol trost­ynt hwy.

26 Canys y cyfryw Arch-offeiriad sanct­aidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddi wrth be­chaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn vwch nâ'r nefoedd, oedd weddus i ni:

27 Yr hwn nid yw raid iddo beunydd, megis i'rLefit. 16.6. offeiriaid hynny offrymmu aberthau yn gyntaf tros ei bechodau ei hun, ac yna tros yr eiddo 'r bobl: canys hynny a wnaeth efe vnwaith, pan offrymmodd efe ef ei hun.

28 Canys y gyfraith sydd yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt, yn Arch-offeir­iaid: eithr gair y llw, yr hwn a fu wedi y gyfraith, sydd yn gwneuthur y Mab, yr hwn a berffeithiwyd yn dragywydd.

PEN. VIII.

Offeiriadaeth Aaron a ddiflannodd, pan ddaeth Christ yr Offeiriad tragwyddol: 7 a'r ammod a wnaed a'r tadau tros amser a roddes le i gyfammod tragwyddol yr Efengyl.

ASwm y pethau a ddywed­wyd yw hyn. Phen ar y pethau a ddywedwyd, yw hyn: y mae gennym y fath Arch-offeir­iad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gor­seddfaingc y mawredd yn y nefoedd,

2 Yn wenidog yPethau sanctaidd. gyssegrfa, a'r gwîr Dabernacl, yr hwn a osodes yr Arglwydd, ac nid dŷn.

3 Canys pôb Arch-offeiriad a osodir i off­rymmu rhoddion ac aberthau: o herwydd pa ham, rhaid oedd bôd gan hwn hefyd yr hyn a offrymmei.

4 Canys yn wîr pe bai efe ar y ddaiar, ni byddei yn offeiriad chwaith,Tra fy­ddei. gan fôd offeir­iaid, y rhai sydd yn offrymmu rhoddion yn ôl y Ddeddf:

5 Y rhai sy yn gwasanaethu iBor­treiad. siampl a chyscod y pethau nefol, megis y rhybuddi­wyd Moses gan Dduw, pan oedd efe ar fedr gorphen yTaber­nacl. babell. CanysExod. 25.40. Act. 7.44. gwêl, medd efe, ar wneuthur o honot bob peth ar ôl [Page] y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

6 Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymmaint ac y mae yn gyf­ryngŵrNeu, Testa­ment. Cyfammod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell.

7 Oblegid yn wîr pe buasei y cyntaf hwn­nw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i'r ail.

8 Canys yn beio arnynt hwy y dywed efe, Jer. 31.31. Pen. 10.16. Wele, y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, ac mi a wnaf â thŷ Israel ac â thŷ Juda, gyfammod newydd:

9 Nid fel y cyfammod a wnaethum â'u tadau hwynt, yn y dydd yr ymaflais yn eu llaw hwynt, iw dwyn hwy o dîr yr Aipht: oblegid ni thrigasant hwy yn fy nghyfammod i, minneu a'u hesceulusais hwythau, medd yr Arglwydd.

10 Oblegid hwn yw y cyfammod a am­modafi a thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd,Jere. 31.33. Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, acNeu, ar. yn eu calon­nau yr scrifennaf hwynt: a mi a fyddaf idd­ynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minneu yn bobl;

11 Ac ni ddyscant bob vn eiGr. ddine­sydd. gymmydog, a phob vn ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd: oblegid hwynt hwy oll a'm hadnabyddant i, o'r lleiaf o honynt, hyd y mwyaf o honynt.

12 Canys trugarog fyddaf wrth eu hang­hyfiawnderau, a'u pechodau hwynt, a'u han­wireddau ni chofiaf ddim o honynt mwyach.

13 Wrth ddywedyd, Cyfammod newydd, efe a farnodd y cyntaf yn hên: eithr yr hyn aeth yn hên ac yn oedrannus, sydd agos i ddiflannu.

PEN. IX.

Y mae yn dangos dull ceremoniau, ac aberthau gwaedlyd y Gyfraith: 11 A'i bod yn llai eu teilyngdod a'i perffeithrwydd, nag Aberth Christ, a'i waed.

AM hynny yn wîr yr ydoedd hefyd i'rExod. 26.1. Tabernacl cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw, a chyssegr bydol.

2 Canys yr oedd tabernacl wedi ei wneu­thur, y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyll­bren, a'r bwrdd, a'r bara gosod: yr hwn da­bernacl a elwid yNeu, Sanct­aidd. Cyssegr.

3 Ac yn ol yr ail llen, yr oedd y Babell, yr hon a elwid y Cyssegr sancteiddiolaf:

4 Yr hwn yr oedd y thusser aur ynddo, ac Arch y Cyfammod wedi ei goreuro o amgylch: yn yr hon yr oedd y crochan aur a'r Manna ynddo,Numb. 17.10. a gwialen Aaron, yr hon a flagurasei, a1 Bren. 8.9. llechau y Cyfammod:

5 Ac vwch ei phenExod. 25.22. Cherubiaid y gogon­iant, yn cyscodi y Drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan.

6 A'r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i'r Tabernacl cyntaf yn ddiau yr ai bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw:

7 Ac i'r ail,Exod. 30.10. vnwaith bob blwyddyn yr ai yr Arch-offeiriad yn vnic: nid heb waed, yr hwn a offrymmei efe trosto ei hun, a thros an­wybodaeth y bobl.

8 A'r Yspryd glân yn yspysu hyn, nad oedd y ffordd i'r Cyssegr sancteiddiolaf yn agored etto, tra fyddei y Tabernacl cyntaf yn sefyll:

9 Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth tros yr am­ser presennol, yn yr hwn yr offrymmid rhodd­ion ac aberthau, y rhai ni allent o ran cydwy­bod berffeithio yr addoludd,

10 Y rhai oedd yn sefyll yn vnic ar fwydydd, a diodydd, ac amryw olchiadau, a defodau cnawdol, wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad.

11 Eithr Christ wedi dyfod yn Arch-offeir­iad y daionus bethau a fyddent, trwy Daber­nacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r adeiladaeth ymma,

12 Nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun yr aeth efe vnwaith i mewn i'r Cyssegr, gan gael i ni dragwyddol ryddhâd.

13 Oblegid os ydywLefit. 16.14. Num. 19.17. gwaed teirw a geifr, a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd,

14 Pa faint mwy y bydd i1 Pet. 1.19. 1 Ioan. 1.7. Dat. 1.5. waed Christ, yr hwn trwy yr Yspryd tragwyddol a'i hoff­rymmodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon,Luc. 1.74. i wasanaethu y Duw byw?

15 Ac am hynny y mae efe yn Gyfryngwr y Cyfammod newydd, megis trwy fôdRhuf. 5.6. 1 Pet. 3.18. mar­wolaeth yn ymwared oddi wrth y trosseddau oedd tan y Cyfammod cyntaf, y cai y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth drag­wyddol.

16 Oblegid lle byddo Testament, rhaid yw digwyddo marwolaeth y Testament-ŵr.

17 Canys wedi marw dynion y mae Testa­ment mewn grym, oblegid nid oes etto nerth ynddo, tra fyddo y Testament-ŵr yn fyw.

18 O ba achos ni chyssegrwyd y cyntaf heb waed.

19 Canys gwedi i Moses adrodd yr holl orchymmyn, yn ôl y gyfraith, wrth yr holl bobl, ef a gymmerodd waed lloi a geifr, gyd â dwfr, a gwlân porphor, ac yssop, ac a'i tae­nellodd ar y llyfr, a'r bobl oll,

20Exod. 24.8. Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y Testament a orchymynnodd Duw i chwi.

21 Y Tabernacl hefyd, a holl lestri y gwa­sanaeth, a daenellodd efe â gwaed, yr vn modd.

22 A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y Gyfraith, ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant.

23 Rhaid oedd gan hynny i bortreiadau y pethau sy yn y nefoedd, gael eu puro â'r pethau hyn: a'r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell nâ'r rhai hyn.

24 Canys nid i'r Cyssegr o waith llaw, por­treiad y gwîr Gyssegr, yr aeth Christ i mewn, ond i'r nêf ei hun, i ymddangos yn awr ger bron Duw trosom ni:

25 Nac fel yr offrymmei ef ei hun yn fynych, megis y mae yr Arch-offeiriad yn myned i mewn i'r Cyssegr bob blwyddyn, â gwaed arall:

26 Oblegid yna rhaid fuasei iddo yn fyn­ych ddioddef er dechreuad y bŷd: eithr yr awron vnwaith yn niwedd y bŷd yr ymddan­goses efe, i ddeleu pechod, trwy ei aberthu ei hun.

27 Ac megis y gosodwyd i ddynion farw vnwaith, ac wedi hynny bôd barn:

28 Felly Christ hefyd, wedi ei offrymenu1 Pet. 3.18. vnwaith i ddwyn ymmaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith heb pechod, i'r rhai sy yn ei ddisgwyl, er iechydwriaeth.

PEN. X.

1 Gwendid aberthau y Gyfraith. 10 Aberth corph Christ a offrymmwyd vnwaith, 14 sydd byth yn tynnu ymaith bechodau. 19 Cyngor i lynu yn lew yn y ffydd, trwy ammynedd a diolch.

OBlegid y gyfraith, yr hon sydd ganddi gyscod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwîr ddelw y pethau, ni's gall trwy yr aber­thau hynny, y rhai y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymmu yn wastadol, bŷth berfleithio y rhai a ddêl atti.

2 Oblegid yna hwy a beidiasent â'u hoff­rymmu, am na buasei gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glanhau vn­waith:

3 Eithr yn yr aberthau hynny y mae adcoffa pechodau bob blwyddyn.

4 Canys amhossibl yw i waed teirwLevit. 16.21. a geifr dynnu ymmaith bechodau.

5 O herwydd pa ham y mae efe wrth ddy­fod i'r bŷd, yn dywedyd,Psal. 40.6, 7. Aberth ac offrwm ni's mynnaist, eithr corph a gymmhwysaist i mi:

6 Offrymmau poeth, a thros bechod, ni buost fodlon iddynt:

7 Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod (y mae yn scrifennedig yn nechreu y llyfr am da­naf) i wneuthur dy ewyllys di, o Dduw.

8 Wedi iddo ddywedyd vchod, Aberth, ac offrwm, ac offrymmau poeth, a thros bechod ni's mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt, y rhai yn ôl y Gyfraith a offrymmir;

9 Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, ô Dduw: y mae yn tynnu ymmaith y cyntaf, fel y gosodei yr ail.

10 Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymmiad corph Iesu Grist vnwaith.

11 Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beu­nydd yn gwasanaethu, ac yn offrymmu yn fy­nych yr vn aberthau, y rhai ni allant fyth ddeleu pechodau:

12 Eithr hwn wedi offrymmu vn aberth drosBecho­dau yn dragy­wydd, a eistedd­odd. bechodau, yn dragywyddPen. 1.13. a eisteddodd ar ddeheu-law Duw:

13 O hyn allan yn disgwylPsal. 110.1. 1 Cor. 15.25. hyd oni osoder ei elynion ef yn droed-faingc iw draed ef.

14 Canys ag vn offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sy wedi eu sanct­eiddio.

15 Ac y mae yr Yspryd glân hefyd yn tyst­iolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o'r blaen,

16Jer. 31.33. Pen. 8.8.10. Dymma 'r Cyfammod, yr hwn a am­modafi â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a'u scrifennaf yn eu meddyl­iau:

17 A'u pechodau, a'u hanwireddau, ni chofiaf mwyach.

18 A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm tros bechod.

19 Am hynny frodyr gan fôd i niHyfder. rydd-did ifyned i mewn i'r Cysiegr trwy waed Iesu,

20 Ar hŷd ffordd newydd, a bywiol, yr hon a gyssiegrodd efe i ni, trwy 'r llen, sef ei gnawd ef:

21 A bod i ni Off eiriad mawr ar dŷ Dduw:

22 Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wediTaenellu. glânhau ein calonnau oddl wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corph â dwfr glân.

23 Daliwn gyffes ein gobaith yn ddisigl, (canys ffyddlon yw 'r hwn a addawodd.)

24 A chyd-ystyriwn bawb ei gilydd, i ym­annog i gariad a gweithredoedd da:

25 HebWrthod. esceulufo ein cyd-gynhulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai, ond annog bawb ei gilydd, a hynny yn fwy, o gymmaint a'ch bod yn gweled y dydd yn nesau.

26 CanysPen. 6.4. of o'n gwir-fodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth tros bechodau wedi ei adel mwyach:

27 Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am far­nedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa y gwrthwyneb-wŷr.

28 Yr vn a ddirmygai Gyfraith Moses, a fyddei farw heb drugaredd,Deut. 17.6. & 19.15. Mat. 18.16. Ioan. 8.17. 2 Cor. 13.1. tan ddau neu dri o dystion:

29 Pa faintgwaeth. mwy cospedigaeth (dyby­gwch chwi) y bernir haeddu o'r hwn a fath­rodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y Cyfammod, trwy 'r hwn y sancteiddwyd ef, ac a ddifenwodd Yspryd y grâs?

30 Canys nyni a adwaenom y neb a ddy­wedodd,Deut. 32.35. Rhuf. 12.19. myfi pieu dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn,Deut. 32.36. yr Arglwydd a farna ei bobl.

31 Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo y Duw byw.

32 Ond gelwch i'ch cof y dyddiau o'r blaen, yn y rhai wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon;

33 Wedi eich gwneuthur weithieu yn wawd, trwy wradwyddiadau, a chystuddiau: ac weithieu yn bôd yn gyfrannogion â'r rhai a drinid felly.

34 Canys chwi a gyd-ddioddefasoch â'm rhwymau i hefyd, ac a gymmerasoch eich ys­peilio am y pethau oedd gennych, yn llawen: ganWybod. ynoch eich hu­nain fod gennych olud &c. wybod fôd gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac vn parhaus.

35 Am hynny na fwriwch ymmaith eich hyder, yr hon sydd iddi fawr wobr.

36 Canys rhaid i chwi wrth ammynedd: fel wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y der­bynioch yr addewid.

37 O blegid ychydig bachigyn etto, a'r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda.

38Habac. 2.4. Rhuf. 1.17. Galat. 3.11. A'r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thynn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo.

39 Eithr nid ydym ni o'r rhai sy yn tynnu yn ol i golledigaeth, namyn o ffydd i gadwe­digaeth yr enaid.

PEN. XI.

1 Beth ydyw ffydd. 6 Heb ffydd ni allwn ni ryngu bodd Duw. 7 Ei ffrwythau rhagorol hi yn yr hen dadau gynt.

FFydd yn wîr ywHanffod. sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled.

2 Oblegid trwyddi hi y cafodd yr Henur­iaid air da.

3Gene. 1.1. Wrth ffydd yr ydym yn deall wneu­thur y bydoedd trwy air Duw, yn gymmaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir.

4Gene. 4.4. Trwy ffydd vr offrymmodd Abel i Dduw aberth rhagorach nâ Chain, trwy 'r hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn, gan i [Page] Dduw ddwyn tystiolaeth iw roddion ef: a thrwyddi hi y mae efe wedi marw, yn llefaru etto.

5 Trwy ffyddGen. 5.24. Ecclus. 44.16. y symmudwyd Enoch, fel na welei farwolaeth: ac ni chaed ef, am ddar­fod i Dduw ei symmud ef; canys cyn ei sym­mud, efe a gawsei dystiolaeth, ddarfod iddo ryngu bodd Duw.

6 Eithr heb ffydd amhossibl yw rhyngu ei fodd ef: oblegid rhaid yw i'r neb sydd yn dy­fod at Dduw gredu ei fod ef, a'i fod yn obr­wywr i'r rhai sy yn ei geisio ef.

7 Trwy ffydd Noe wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau ni's gwelsid etto, gydâ pharchedig ofnGen. 6.22. a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy 'r hon y condemnodd efe y bŷd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd.

8 Trwy ffyddGen. 12.4. Abraham pan ei galwyd a vfyddhaodd,i fyned. gan fyned i'r man yr oedd efe iw dderbyn yn etifeddiaeth: ac a aeth allan heb ŵybod i ba le yr oedd yn myned.

9 Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn hîr yr addewid, megis mewn tîr dieithr, gan drigo mewn lluestai, gyd ag Isaac, ac Iacob, cyd­etifeddion o'r vn addewid.

10 Canys disgwyl yr ydoedd am ddinas ac iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw.

11 Trwy ffyddGen. 17.19. & 21.2. Sara hitheu yn am­mhlantadwy, a dderbyniodd nerth i ymddwyn hâd, ac wedi amser oedran a escorodd, oblegid ffyddlon y barnodd hi yr hwn a addawsei.

12 O herwydd pa ham hefyd y cenhedl­wyd o vn, a hwnnw yn gystal a marw, cyn­niferGen. 15.5. & 22.17. a sêr y nef mewn lliaws, ac megis y tywod ar lan y môr, y sydd yn aneirif.

13Neu, Yn ol ffydd. Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb dderbyn yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt, a chredu, a chyfarch, a chy­faddef mai dieithriaid a phererinion oeddynt ar y ddaiar.

14 Canys y mae y rhai sy yn dywedyd y cyfryw bethau, yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio gwlâd.

15 Ac yn wîr pe buasent yn meddwl am y wlâd honno, o'r hon y daethant allan, hwy a allasent gael amser i ddychwelyd:

16 Eithr yn awr gwlâd well y maent hwy yn ei chwennych, hynny ydyw vn nefol: o achos pa ham nid cywilydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy: oblegid efe a baratôdd ddinas iddynt.

17 Trwy ffydd yr offrymmoddGen. 22.9.10. Abraham Isaac, pan ei profwyd, a'i vnic-anedig fab a offrymmodd efe, yr hwn a dderbyniasei yr addewidion.

18 Wrth yr hwn y dywedasid,Gen. 21.12. Rhuf. 9.7. Yn Isaac y gelwir i ti hâd:

19 Gan gyfrif bôd Duw yn abl iw gyfodi ef o feirw: o ba le y cawsei efe ef hefyd mewn cyffelybiaeth.

20Gen. 27.27, 28, 39. Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Iacob ac Esau, am bethau a fyddent.

21 Trwy ffydd,Gen. 48.15. Iacob wrth farw a fen­dithiodd bob vn o feibion Ioseph: ac a addo­lodd a'i bwys ar ben ei ffon.

22 Trwy ffydd,Gen. 50.24.25. Ioseph wrth farw a goffa­odd am ymadawiad plant Israel, ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn,

23 Trwy ffydd,Exod. 2.2. Actau. 7.20. Moses pan anwyd a guddiwyd drimis gan ei rieni, o achos eu bôd yn ei weled yn fachgen tlws: ac nid ofnasantExod. 1.16. orchymmyn y brenin.

24 Trwy ffydd, MosesExod. 2.11. wedi myned yn fawr, a wrthodes ei alw yn fab merch Pharao;

25 Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyd â phobl Dduw, nâ chael mwyniant pechod tros amser;

26 Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Christ, nâ thryssorau yr Aipht: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy.

27 Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aipht, heb ofni llid y brenin: canys efe a ymwrolodd fel vn yn gweled yr anweledig.

28 Trwy ffydd yExod. 12.22. gwnaeth efe y Pasc a gollyngiad y gwaed, rhag i'r hwn ydoedd yn dinistrio y rhai cyntafanedig, gyffwrdd â hwynt.

29 Trwy ffyddExod. 14.22. yr aethant trwy 'r môr coch, megis ar hyd tîr sych: yr hyn pan brofodd yr Aiphtiaid, boddi a wnaethant.

30 Trwy ffyddIosua 6.20. y syrthiodd caerau Ieri­cho, wedi eu hamgylchu tros saith niwrnod.

31 Trwy ffydd ni ddifethwydIosua 6.23. Rahab y buttain, gyd â'r rhaianu­fydd. ni chredent, pan dder­byniodd hi yr yspiwŷr yn heddychol.

32 A pheth mwy a ddywedaf? canys yr amser a ballei i mi i fynegi amBarn 6.11. Gedeon, amBarn. 4.6. Barac, ac amBarn. 13.24. Samson, ac amBarn. 11.1. Iephthae, am Ddafydd hefyd a1 Sam. 1.20. Samuel, a'r Pro­phwydi:

33 Y rhai trwy ffydd a orescynnasant deyr­nasoedd, a wnaethant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a gauasant safnau llewod:

34 A ddiffodasant angerdd y tân, a ddiang­asant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wen­did, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a yrrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio:

35 Gwragedd a dderbyniodd eu meirw trwy adgyfodiad: ac eraill a2 Maec. 7.7. ddirdynnwyd, heb dderbyn ymwared, fel y gallent hwy gael adgyfodiad gwell.

36 Ac eraill a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau, ie trwy rwymau hefyd a charchar.

37 Hwynt hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw â'r cleddyf, a grwydrasant mewn crwyn defaid, a chrwyn geifr, yn ddiddym, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr:

38 (Y rhai nid oedd y bŷd yn deilwng o honynt) vn crwydro mewn anialwch, a my­nyddoedd, a thyllau, ac ogofeydd y ddaiar.

39 A'r rhai hyn oll, wedi cael tystiolaeth trwy ffydd, ni dderbyniasant yr addewid;

40 Gan fod Duw yn rhag-weled rhyw beth gwell am danom ni, fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau.

PEN. XII.

1 Cyngor i ffydd ddianwadal, ammynedd, a duw­ioldeb. 22 Canmol y Testament newydd rhagor yr hên.

OBlegid hynny, ninnau hefyd gan fôd cymmaint cwmwl o dystion wedi ei osod o'n hamgylch, ganEphes. 4.22. Colos. 3.8 1 Pet. 2.1. roi heibio bob pwys, a'r pechod sydd barod i'n hamgylchu, trwy ammynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o'n blaen ni;

2 Gan edrych ar Iesu pentywysog a pher­ffeithydd ein ffydd ni, yr hwn yn lle y llawen­ydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, [Page] gan ddiystyru gwradwydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorsedd-faingc Duw.

3 Ystyriwch am hynny yr hwn a ddiodd­efodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan be­chaduriaid, fel na flin­och, ac nad ymollyng­och yn eich eneidiau.

4 Ni wrthwynebasoch etto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod.

5 A chwi a ollyngasoch tros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant,Dihar. 3.11. Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan i'th argy­oedder ganddo.

6 Canys y neb y mae yr Arglwydd yn ei garu, y mae yn ei geryddu: ac yn fflangellu pob mab a dderbynio.

7 Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tu ac attoch, megis tu ac at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu?

8 Eithr os heb gerydd yr ydych, o'r hon y mae pawb yn gyfrannog, yna bastardiaid ydych, ac nid meibion.

9 Heb law hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i'n ceryddu, ac a'u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostynedig i Dâd yr ysprydoedd, a byw?

10 Canys hwynt hwy yn wîr tros ychydig ddyddiau a'u ceryddent, fel y gwelent hwy yn dda: eithr hwn er llesâd i ni, fel y byddem gyfrannogion o'i sancteiddrwydd ef.

11 Etto ni welir vn cerydd tros yr amser presennol yn hyfryd: eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r rhai sy wedi eu cyn­nefino ag ef.

12 O herwydd pa ham, cyfodwch i fynu y dwylo a laesasant, a'r gliniau a ymollyng­asant:

13 A gwnewch lwybrauGwa­sidd. vniawn i'ch traed: fel na throer y cloff allan o'r ffordd, ond yr iachaer efe yn hytrach.

14Rhuf. 22.18. Dilynwch heddwch â phawb, a sanct­eiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb w [...]d yr Arglwydd:

15 Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddi wrth râs Duw: rhac bod vn gwrei­ddyn chwerwedd yn tyfu i fynu, ac yn peri blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer:

16 Na bo vn putteiniwr, neu halogedig, megis Esau, yr hwn am vn saig o fwyd,Gen. 25.33. a weithodd ei enedigaeth-fraint.

17 Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef, pan oedd efe ynGen. 27 38. ewyllysio etifeddu y fendith: oblegid ni chaf­odd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer-geisio hi.

18 Canys ni ddaethoch chwi atExod. 19.18.19. y my­nydd teimladwy, sydd yn llosci gan dan, a chwmwl, a thywyllwch, a thymestl,

19 A sain vdcorn, a llef geiriau, yr hon pwy bynnac a'i clywsant, a ddeisynasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt.

20 Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchymynnasid.Exod. 19.13. Ac os bwyst-fil a gyffyrddei â'r, mynydd, efe a labyddir, neu a wenir a phiccell.

21 Ac mor ofnadwy oedd y golwg, ac y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu.

22 Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Sion, ac i ddinas y Duw byw, y Ierusalem nefol, ac at fyrddiwn o Angelien,

23 I gymmanfa a chynnulleidfa y rhai cyntafanedig, y rhai a scrifennwyd yn y nefo­edd, ac at Dduw barnwr pawb, ac at yspryd­oedd y cyfiawn, y rhai a berffeithiwyd,

24 Ac at Iesu cyfryngwr y Testament newydd, a gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell nâ'r eiddoGen. 4.10. Abel.

25 Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru. Oblegid oni ddiangodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru ac y ddaiar, mwy o lawer ni's diangwn ni, y rhai ydym yn troi ymmaith oddiwrth yr hwn sydd yn llefaru o'r nef:

26 Llef yr hwn y pryd hynny a escydwodd y ddaiar: ac yn awr a addawodd, gan ddywe­dyd,Hagg. 2.6. Etto vnwaith yr wyf yn cynnhyrfu, nid yn vnic y ddaiar, ond y nef hefyd.

27 A'r Etto vnwaith hynny, sydd yn yspysu symmudiad y pethau aNeu, ellir eu hyscwyd. yscydwir, me­gis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso y pethau nid yscydwir.

28 O herwydd pa ham, gan ein bôd ni yn derbyn teyrnas ddisigl, bydded gennym râs, drwy 'r hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyd â gwylder, a pharchedig ofn.

29 OblegidDeut. 4.24. ein Duw ni sydd dân yssol.

PEN. XIII.

1 Amryw gynghorion, megis i garu i gilydd: 4 i fyw yn honest: 5 i ochelyd cybydd-dra: 7 i berchi pregethwyr Duw: 9 i ochel athra­won dieithr: 10 i gyfaddef Crist: 16 i roi elusen: 17 i ufyddhau i swyddogion: 18 i weddio tros yr Apostol. 20 Y diwedd.

PArhaedRhuf. 12 10. brawd-garwch.

2 Nac anghofiwchRhuf. 12.13. 1 Pet. 4.9. leteugarwch: ca­nys wrth hynny y lletteuodd rhai Angelion yn ddiarwybod.

3 Cofiwch y rhai sy yn rhwym, fel pettech yn rhwym gyd â hwynt: y rhai cystuddiol, megis yn bôd eich hunain hefyd yn y corph.

4 Anrhydeddus yw priodas ym mhawb, a'r gwely dihalogedig: eithr putteinwŷr a godi­neb-wŷr a farna Duw.

5 Bydded eich ymarweddiad yn ddiarian­gar: gan fôd yn fodlon i'r hyn sydd gennych. Canys efe a ddywedodd,Iosu. 1.5. Ni'th roddaf di i fynu, ac ni'th lwyr-adawaf chwaith,

6 Fel y gallom ddywedyd yn hŷ,Psal. 118.6. Yc Ar­glwydd sydd gymmorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnel dŷn i mi.

7 Meddyliwch am eichLlywo­draeth­wyr. blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai, dylynwch, gan ystyried diwedd eu hymarwe­ddiad hwynt.

8 Iesu Grist ddoe, a heddyw yr vn, ac yn dragywydd.

9 Na'ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr: canys da yw bôd y galon wedi ei chryfhâu â grâs, nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt, fudd.

10 Y mae gennym ni allor, o'r hon nid oes awdurdod i'r rhai sy yn gwasanaethu y Ta­bernacl i fwytta.

11 CanysLevit. 4.12. cyrph yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr Arch-offeiriad i'r Cyssegr tros bechod, a loscir y tu allan i'r gwersyll.

12 O herwydd pa ham Iesu hefyd, fel y sancteiddiei y bobl trwy ei waed ei hun, a ddioddefodd y tu allan i'r porth.

13 Am hynny awn atto ef o'r tu allan i'r [Page] gwersyll, gan ddwyn ei wradywdd ef.

14 CanysMic. 2.10. nid oes i in ymma ddinas bar­haus, eithr vn i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwil.

15 Trwyddo ef gan hynny, offrymmwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn ywHose. 14.2. ffrwyth gwefusau yn cyffessu iw Enw ef.

16 Ond gwneuthur daioni a chyfrannu nac anghofiwch: canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.

17 Vfyddhewch i'chLlywo­draeth wyr. blaenoriaid, ac ym­ddarostyngwch: oblegid y maent hwy yn gwilio tros eich eneidiau chwi, megis rhai a sydd rhaid iddynt roddi cyfrif: fel y gallont wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys difudd i chwi yw hynny.

18 Gweddiwch trosom ni: canys yr ydym yn credu fôd gennym gydwybod dda, gan ewyllysio byw ynDda. onest ym mhob peth.

19 Ond yr ydwyf yn helaethach yn dy­muno gwneuthur o honoch hyn, i gael fy rhoddi ichwi drachefn yn gynt.

20 A Duw 'r heddwch, yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, bugail mawr y defaid, trwy waed yNeu, Testa­ment. Cyfammod tragywyddol,

21 A'ch perffeithio ym mhob gweithred dda, i wneuthur ei ewyllys ef: gan weithio ynoch yr hyn sydd gymmeradwy yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist: i'r hwn y byddo y gogo­niant yn oes oesoedd. Amen.

22 Ac yr ydwyf yn attolwg i chwi, frodyr, goddefwch air y cyngor: oblegid ar fyrr eiriau yrAnfo­nais scrifennais attoch.

23 Gwybyddwch ollwng ein brawd Ti­motheus yn rhydd, gyd â'r hwn, os daw efe ar fyrder, yr ymwelaf â chwi.

24 Anherchwch eich hollLywo­araeth­wyr. flaenoriaid, a'r holl Sainct. Y mae y rhai o'r Ital yn eich annerch.

25 Grâs fyddo gyd â chwi oll. Amen.

¶At yr Hebræaid yr scrifennwyd o'r Ital gyd â Thimotheus.

¶EPISTOL CYFFREDINOL IACO YR APOSTOL.

PENNOD I.

2 Cyngor i lawenychu mewn blinder, 5 i ofyn doethineb gan Dduw: 13 Nâ fwrier y bai ar­no ef o ran ein gwendid na'n pechodau ni: 22 I wrando ac i fyfyrio ar air Duw: ac i wneuthur ar ei ôl: 26 Os amgen fe all rhai ymddangos yn grefyddol oddi allan, ond ni allant fôd felly mewn gwirionedd.

IAco gwasanaethwr Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg-llwyth sydd ar wascar, annerch.

2 Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofe­digaethau:

3Rhuf. 5.3. Gan ŵybod fôd profiad eich ffydd chwi yn gweithredu ammynedd,

4 Ond caffed ammynedd ei pherffaith waith, fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddeffygio mewn dim.

5 O bydd ar neb o honoch eisieu doethineb,Matth. 7.7. Luc. 11.9. Ioan. 14.13. gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi ynRhwydd haelionus i bawb, ac heb ddanrod: a hi a roddir iddo ef.

6 Eithr gofynnedMarc. 11.24. mewn ffydd, heb am­meu dim. Canys yr hwn sydd yn ammeu, sydd gyffelyb i donn y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt.

7 Canys na feddylied y dŷn hwnnw, y der­byn efe ddim gan yr Arglwydd.

8 Gŵr dau-ddyblyg ei feddwl, sydd anwa­stad yn ei holl ffyrdd.

9 Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth:

10 A'r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canysPsal. 103.15. Eccl. 14.18. Esai. 40.6. 1 Pet. 1.21. megis blodeuyn y glâs-welltyn y di­flanna efe.

11 Canys cyfododd yr haul gyd â gwres, a gwywodd y glâs-welltyn, a'i flodeuyn a gwym­podd, a thegwch ei brŷd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna y cyfoethog yn ei ffyred.

12Job. 5.17. Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i'r rhai a'i carant ef.

13 Na ddyweded neb pan demtier ef, Gan Dduw i'm temptir: canys Duw ni's gellir ei demptio â drygau, ac nid yw efe yn temptio neb.

14 Canys yna y temptir pob vn, pan y tyn­ner ef, ac y llithier, gan ei chwant ei hun:

15 Yna chwant wedi ymddwyn, a escor ar bechod: pechod hefyd pan orphenner, a escor ar farwolaeth.

16 Fy mrodyr anwyl, na chyfeiliornwch.

17 Pôb rhoddiad daionus, a phôb rhodd berffaith, oddi vchod y mae, yn discyn oddi­wrth Dâd y goleuni, gyd â'r hwn nid oes gyfnewidiad, na chyscod troedigaeth.

18 O'i wîr ewyllys yr ennillodd efe nyni, trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaen-ffrwyth o'i greaduriaid ef.

19 O achos hyn, fy mrodyr anwyl, bydded pôb dŷn escud i wrando,Dihar. 17.27. diog i lefaru, diog i ddigofaint.

20 Canys digofaint gŵr, nid yw yn cyflawni cyfiawnder Duw.

21 O herwydd pa ham, rhoddwch heibio bôb budreddi, a helaethrwydd malis, a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.

22 AMatth. 7.21.26 Rhuf 2.13. byddwch wneuthur-wŷr y gair, ac nid gwrandawŷr yn vnic, gan eich twyllo eich hunain.

23 Oblegid os yw neb yn wrandaŵr y gair, a heb fod yn wneuthur-ŵr, y mae hwn yn debyg i ŵr yn edrych ei wyneb-pryd na­turiol mewn drych.

24 Canys efe a'i hedrychodd ei hun, ac a aeth ymmaith, ac yn y man efe a anghofiodd pa fath ydoedd.

25 Eithr yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhydd-did, ac a barhao ynddi, hwn heb fôd yn wrandaŵr anghofus, ond gwneu­thur-ŵr y weithred, efe a fydd dedwydd yn ei weithred.

26 Os yw neb yn eich mysc yn cymmeryd arno fôd yn grefyddol, hebffrwyno. attal ei dafod, ond twyllo ei galon ei hun, ofer yw crefydd hwn.

27 Crefydd bur a dihalogedig gor bron Duw a'r Tad, yw hyn, ymweled â'r ymddi­faid, [Page] a'r gwragedd gweddwon, yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y bŷd.

PEN. II.

1 Nad gweddol i Gristianogion ddiystyru eu brodyr tlodion: 13 Ond bod yn gariadus, ac yn drugarogion. 14 Na ddylid ymffrostio o ffydd lle ni bytho gweithredoedd da: 17 nad yw 'r ffydd honno ond ffydd farw, 19 a ffydd y cythreuliaid: 21 Ac nid ffydd Abraham, 25 a Rahab.

FY mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gydâLevit. 19.15. Dihareb. 24.23. derbyn wyneb.

2 Oblegid os daw i mewn i'chSynagog. cyn­nulleidfa chw [...], ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd vn tlawd mewn dillad gwael;

3 Ac edrych o honoch ar yr hwn sydd yn gwisco y dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di ymma mewn lle da: a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd ym­ma islaw fy stôl-droedd i:

4 Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain, ac onid aethoch yn farn-wŷr medd­yliau drwg?

5 Gwrandewch, fy mrodyr anwyl, oni ddewisodd Daw dlodion y byd hwm, yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas, yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef?

6 Eithr chwithau a ammharchasoch y tlawd. Onid yw y cyfoethogion yn eich gorth­rymmu chwi, ac yn eich tynnu ger bron brawdleoedd?

7 Onid ydynt hwy yn cablu yr Enw rhag­orol, yr hwn a elwir arnoch chwi?

8 Os cyflawni yr ydych y Gyfraith fren­hinol, yn ôl yr Scrythur,Matth. 22.39. Lefit 19.18. Rhuf. 13.9. Câr dy gymmydog fel ti dy hun, da yr ydych yn gwneuthur.

9 Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argy­oeddi gan y Cyfraich, megis trosedd-wŷr.

10Levit. 19.37. Canys pwy bynnag a gatwo 'r Gy­fraith i gyd oll, ac a ballo mewn vn pwngc, y mae efe yn euog o'r cwbl.

11 Canys yNeu, gyfraith. neb a ddywedodd, Na odine­ba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, etto a leddi, yr wyt ti yn troseddu y Gyfraith.

12 Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth Gyfraith rhydd-did.

13 Canys barn ddi-drugaredd fydd i'r hwn ni wnaeth drugaredd, ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn.

14 Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed nêb fôd ganddo ffydd, ac heb fôd ganddo weithred­oedd? a ddichon ffydd ei gadw ef?

15 EithrLuc. 3.11. 1 Ioan. 3 17. os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisieu beunyddiol ymborth,

16 A dywedyd o vn o honoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch, etto heb roddi iddynt angen­rheidiau 'r corph, pa lês fydd?

17 Felly ffydd hefyd, oni bydd genddi weithredoedd, marw ydyw, a hi Wrthi [...] hun. vn vnic.

18 Eithr rhyw vn a ddywed, Tydi ffydd fydd gennit, minneu gweithredoedd sy gennif: dangos i mi dy ffydd diNeu, wrth. heb dy weithredo­edd, a minneu wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd inneu.

19 Credu yr wyt ti mai vn Duw sydd: da yr wyti yn gwneuthur: y mae y cythreu­liaid hefyd yn credu, ac yn crynu.

20 Eithr a fynni di ŵybod, o ddŷn ofer, am ffyd heb weithredoedd, mai marw yw?

21 Abraham ein Tâd ni, onid o weithred­oedd y cyfiawnhawyd ef,Gene. 22.9, 10. pan offrymmodd efe Isaac ei fab ar yr allor?

22Neu, A weli &c? Ti a weli fôd ffydd yn cyd-weithio â'i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fôd ffydd wedi ei pherffeithio.

23 A chyfiawnwyd yr Scrythur, yr hon sydd yn dywedyd,Gene. 15.6. Rhuf. 4.3. Galat. 3.6. Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder, a chyfaill Duw y galwyd ef.

24 Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dŷn, ac nid o ffydd yn vnic.

25 Yr yn ffunyd hefyd,Iosu. 2.3. Rahab y buttain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi y cennadau, a'u danfon ym­maith ffordd arall?

26 Canys megis y mae [...] corph heb yrAnadl. yspryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, ma [...]w yw.

PEN. III.

1 Na ddylem ni fod yn brysur i feio ar eraill: 5 ond yn hytrach ffrwyno y tafod, yr hwn er nad ydyw ond aelod bychan, etto y mae efe yn achos llawer o ddaioni, ac a ddrygioni. 13 Y rhai sydd wir synhwyrol, y maent yn fwy­nion, yn heddychlon, heb gynfigennu, a heb ymryson.

NA fyddwch feistreid lawer, fy mrodyr, gan ŵybod y derbyniwn ni farnedigaeth fwy.

2 Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro: od oes neb heb lithro ar air, gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwy­no 'r holl gorph hefyd.

3 Wele, yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau ym-mhennau 'r meirch, i'w gwneuthur yn vfydd i ni, ac yr ydym yn troi eu holl gorph hwy oddi amgylch.

4 Wele y llongau hefyd er eu maint, ac er eu gyrru gan wyntoedd creulon, a droir oddi amgylch â llyw bychan, lle y myn­no 'r llywydd.

5 Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion: wele faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei ennyn.

6 A'r tafod, tân ydyw, bŷd o anghyfiawn­der: felly y mae y tafod wedi ei osod ym­mhlith ein haelodau ni, fel y mae yn halo­gi 'r holl gorph, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflamm, ac wedi ei wneuthur yn fflamm gan vffern.

7 Canys holl natur gwyllt-filod, ac adar, ac ymlusciaid, a'r pethau yn y môr, a ddofir, ac a ddofwyd gan natur ddynol:

8 Eithr y tafod ni ddichon vn dŷn ei ddofi. Drwg anllywodraethus ydyw: yn llawn gwen­wyn marwol.

9 Ag ef yr ydym yn bendithio Duw, a'r Tâd: ag ef hefyd yr ydym yn melldithio dy­nion a wnaethpwyd ar lun Duw.

10 O'r vn genau y mae yn dyfod allan fendith a melldith; fy mrodyr, ni ddylai y pethau hynfôd felly.

11 A ydyw ffynnon o'r vn llygad, yn rhoi dwfr melus a chwerw?

12 A ddichon y pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifaid? neu winwydden ffigys? [Page] felly ni ddichon vn ffynnon roddi dwfr hallt a chroyw.

13 Pwy sydd ŵr doeth aChyfar­wydd. deallus yn eich plith? dangosed drwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb.

14 Eithr od oes gennych genfigen chwerw, ac ymryson yn eich calon, ni fyddwch ffrost-wŷr, a chelwyddog yn erbyn y gwir­ionedd.

15 Nid yw y doethineb hyn yn descyn oddi vchod: ond daiaiol, anianol, cythreu­lig yw.

16 Canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysc, a phob gweithred ddrwg.

17 Eithr y ddoethineb sydd oddi vchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychol, boneddigaidd, hawdd ei thrîn, llawn truga­redd a ffrwythau da, di-duedd, a di-ragrith.

18 A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch, i'r rhai sy 'n gwneuthur heddwch.

PEN. IV.

1 Rhaid i ni ymrysson yn erbyn trachwant: 4 ac anghymmedrolder: 5 a balchder: 11 ac en­llib, a barnu ar eraill: 13 ac na roddom ormod hyder ar lwyddiant bydol: nac ar einioes dyn: ond rhoi y cwbl ar Dduw.

O Ba le y mae rhyfeloedd, ac ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melys-chwantau, y rhai sydd yn rhy­fela yn eich aelodau?

2 Chwennychu yr ydych, ac nid ydych yn cael:Lladd. cenfigennu yr ydych, ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd, a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn.

3 Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, o herwydd eich bôd yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melus-chwantau.

4 Chwi odineb-wŷr, a godineb-wragedd, oni ŵyddoch chwi fôd cyfeillach y bŷd, yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fôd yn gyfaill i'r bŷd, y mae yn elyn i Dduw.

5 A ydych chwi yn tybied fôd yr Scrythur yn dywedyd yn ofer. At genfigen y mae chwant yr yspryd a gartrefa ynom ni?

6 Eithr rhoddi grâs mwy y mae: o her­wydd pa ham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrthwynebu 'r beilchion, ond yn rhoddi grâs i'r rhai gostyngedig.

7 Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw, gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrhtych.

8 Nessewch at Dduw, ac efe a nessâ attoch chwi: glânhewch eich dwylo, chwi bechadu­riaid, a phurwch eich calonnau, chwi â'r meddwl dau-ddyblyg.

9 Ymofidiwch, a galerwch, ac ŵylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a'ch llawen­ydd yn dristwch.

101 Pet. 5.6. Ymddarostyngwch ger bron yr Ar­glwydd, ac efe a'ch derchafa chwi.

11 Na ddywedwch yn erbyn ei gilydd, fro­dyr: y neb sydd vn dywedyd yn erbyn ei frawd, ac yn barnu ei frawd, y mae efe yn dywedyd yn erbyn y Gyfraith, ac yn barnu 'r Gyfraith: ac od wyt ti yn barnu 'r Gyfraith, nid wyt ti wneuthur-ŵr y Gyfraith, eithr barn-wr.

12 Vn Gosodwr cyfraith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli:Rhuf. 14.1 pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall?

Belly. Iddo yn awr, y rhai ydych yn dy­wedyd, Heddyw neu y foru ni a awn i gyfryw ddinas, ac a arhoswn yno flwyddyn, ac a farchnattawn, ac a ennillwn:

14 Y rhai ni ŵyddoch beth a fydd y foreu: canys beth ydyw eich enioes chwi? canys tarth ydyw, yr hwn sydd tros ychydig yn ymddang­os, ac wedi hynny yn diflannu.

15 Lle y dylech ddywedyd,1 Cor. 4.19. Os yr Ar­glwydd a'i mynn,Byddwn fyw ac a wnawn. as os byddwn byw, ni a wnawn hyn neu hynny.

16 Eithr yn awr gorfoleddu yr ydych yn eich ymffrost: pôb cyfryw orfoledd, drwg ydyw.

17 Am hynny i'r neb a feidr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ydyw iddo.

PEN. V.

1 Rhaid i wyr cyfoethogion drygionus ofni dia­ledd Duw. 7 Ni a ddylem fod yn ddioddefgar mewn adfyd, yn ol esampl y Prophwydi a Iob: 12 gochelud tyngu: 13 a gweddio mewn adfyd, a chanu mewn hawddfyd: 16 a chyfaddef ein beiau iw gilydd, a gweddio tros ei gilydd, 19 a dwyn i'r iawn y brawd a fytho yn myned ar gyfeiliorn.

Felly.IDdo yn awr, chwi gyfoethogion, ŵylwch ac vdwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch.

2 Eich cyfoeth a bydrodd, a'ch gwiscoedd a fwytawyd gan bryfed.

3 Eich aur a'ch arian a rydodd, a'u rhŵd hwynt a fydd yn dystiolaethI chwi. yn eich erbyn chwi, ac a fwytty eich cnawd chwi fel tân, chwi a gasciasoch dryssor yn y dyddiau diweddaf.

4 Wele, y mae cyflog y gweithwŷr a seda­sant eich meusydd chwi, yr hwn a gam-attali­wyd gennych, yn llefain: a llefain y rhai a sedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd.

5 Moethus fuoch ar y ddaiar, a thrythyll: meithrin eich calonnau a wnaethoch, megis mewn dydd lladdedigaeth.

6 Condemnasoch, a lladdasoch y cyfiawn, ac ynteu heb sefyll i'ch erbyn.

7 Byddwch gan hynny yn ymarhous, fro­dyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae y llafur-ŵr yn disgwil am werth-fawr ffrwyth y ddaiar, yn dda ei ammynedd am dano, nes iddo dderbyn y glaw cynnar a'r diweddar.

8 Byddwch chwithau hefyd dda eich am­mynedd, cadarnhewch eich calonnau, oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nessâodd.

9 NaRodd­wch oche­naid ar e gilydd. rwgnechwch yn erbyn ei gilydd, frodyr, fel na'ch condemner: wele, y mae y barnwr yn sefyll wrth y drŵs.

10 Cymmerwch, fy mrodyr, y Pro­phwydi, y rhai a lefarasant yn Enw 'r Ar­glwydd, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hîr ymaros.

11 Wele, dedwydd yr ydym ynCyfrif. gadel y rhai sy ddioddefus. Chwi a glywsoch am am­mynedd Iob, ac a welsoch ddiwedd yr Ar­glwydd, oblegid tosturiol iawn yw 'r Ar­glwydd, a thrugarog.

12 Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr,Matth 5.34. na thyngwch, nac i'r nêf, nac i'r ddaiar, nac vn llw arall: eithr bydded eich îe chwi, yn îe, a'ch nag-ê, yn nag-ê, fel na syrthioch i farne­digaeth.

13 A oes nêb yn eich plith mewn adfyd? [Page] gweddied. A oes nêb yn esmwyth arno? caned Psalmau.

14 A oes nêb yn eich plith yn glâf? galwed atto Henuriaid yr Eglwys, a gweddiant hwyƲwch ei ben. trosto,Marc. 6.13. gan ei eneinio ef ag olew yn Enw 'r Arglwydd:

15 A gweddi 'r ffydd a iachâ 'r claf, a'r Ar­glwydd a'i cyfyd ef i fynu: ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy a faddeuir iddo.

16 Cyffeswch eich camweddau bawb iw gilydd, a gweddiwch tros ei gilydd, fel i'ch iachaer: llawer a ddichon taer-weddi y cyf­iawn.

171 Bren. 17.1. Elias oedd ddŷn yn rhaid iddo ddio­ddeffel ninneu, ac mewn gweddi efe a weddi­odd na byddei law; ac ni bu glaw ac y ddaiar dair blynedd a chwe mîs.

18 Ac efe a weddiodd drachefn, a'r nêf a roddes law, a'i ddaiar a ddug ei ffrwyth.

19 Fy mrodyr, od aeth nêb o honoch ar gyfeiliorn oddi wrth y gwirionedd, a throi o ryw vn ef;

20 Gwybydded y bydd i'r hwn a drôdd bechadur oddiwrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angeu, a chuddio lliaws o bechodau.

¶EPISTOL CYNTAF CYFFREDINOL PETR YR APOSTOL.

PENNOD I.

1 Y mae efe yn bendithio Duw am ei amryw râd ysprydol: 10 Gan ddangos nad ydyw yr iechyd­wriaeth ynGhrist beth newydd, eithr peth a brophwydwyd am dano er ystalm. 13 Cyngor i fyw yn dduwiol, gan eu bod hwy wedi eu geni o newydd trwy air Duw.

PETR, Apostol Iesu Ghrist, at y dieithr­iaid sy ar wascar ar hyd Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia, a Bithynia:

2 Etholedigion yn ôl rhag-wyboda­eth Duw Tâd, trwy sancteiddiad yr Yspryd, i vfydd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Ghrist: grâs i chwi a heddwch a amlhaer.

32 Cor. 1.3. Ephes. 1.3. Bendigedig fyddo Duw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd a'n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol trwy adgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,

4 I etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a di-ddiflannedig, ac ynghadw yn y nefoedd iNi. chwi,

5 Y rhai trwy allu DuwYaym. ydych gadwedig trwy ffydd i iechydwriaeth, parod iw dat­cuddio yn yr amser diweddaf.

6 Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bôd ychydig yr awron (os rhaid yw) mewn tristwch, trwy amryw brofediga­ethau:

7 Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werth fawrusach nâ'r aur colladwy, cyd profer ef trwy dân, er mawl, ac an­rhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist:

8 Yr hwn, er na's gwelsoch, yr ydych yn ei garu: yn yr hwn heb fôd yr awron yn [...]i weled, ond yn credu, yr ydych vn mawr lawenhau â llawenydd annhraethadwy, a go­goneddus:

9 Gan dderbyn diwedd eich ffydd, sef iechydwriaeth eich eneidiau:

10 Am yr hon iechydwriaeth yr ymofyn­nodd, ac y manwl chwiliodd y Prophwydi, y rhai a brophwydasant am y grâs a ddeuai i chwi.

11 Gan chwilio pa brŷd, neu pa ryw amser, yr oedd Yspryd Christ yr hwn oedd ynddynt, yn ei yspysu, pan oedd efe yn rhag­dystiolaethu dioddefaint Christ, a'r gogoniant ar ôl hynny.

12 I'r rhai y dadcuddiwyd nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni yr oeddynt ynTrefnu y pethau. gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi gan y rhai a efangylasant i chwi trwy 'r Yspryd glân, yr hwn a ddanfonwyd o'r nêf, ar yr hyn bethau y mae 'r Angelion yn chwen­nychu edrych.

13 O herwydd pa ham, gan wregysu lwy­nau eich meddwl, a bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y grâs a ddygir i chwi yn nat­cuddiad Iesu Ghrist:

14 Fel plant vfydd-dod, heb gyd-ymag­weddu â'r trachwantau o'r blaen yn eich anŵybodaeth:

15 Eithr megis y mae y neb a'ch galwodd chwi yn sanctaidd,Luc. 1.75. byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhôb ymarweddiad:

16 Oblegid y mae 'n scrifennedig,Lev. 11.44. & 19.2. & 20.7. Bydd­wch sanctaidd, canys sanctaidd ydwyfi.

17 Ac os ydych yn galw ar y Tâd, yr hwn sydd,Deut. 10.17. Rhuf. 2.11. Gal. 2.6. heb dderbyn wyneb, yn barnu yn ôl gweithred pôb vn, ymddygwch mewn ofn tros amser eich ymdeithiad:

18 Gan ŵybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, i'ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hon a gawsoch trwy draddodiad y tadau:

19 Eithr â1 Cor. 6.20. & 7.23 Heb. 9.14. 1 Ioan. 1.7. Datc. 1.5. gwerthfawr waed Christ, megis oen difeius a difrycheulyd:

20 Yr hwn yn wîr aRag­wybuwyd. rag-ordeiniwydRhuf. 16.25. Ephes. 3.9. Col. 1.26. 2 Tim. 1.9.10. Tit. 1.2. cyn sylfaenu y bŷd, eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diweddaf, er eich mwyn chwi;

21 Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddei eich ffydd chwi a'ch gobaith yn Nuw.

22 Gwedi puro eich eneidiau, gan vfydd­hau i'r gwirionedd trwy 'r Yspryd, i frawd­garwch diragrith, cerwch ei gilydd o galon bur yn helaeth:

23 Wedi eich ail-eni, nid o hâd llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw, ac yn parhau yn dragvwydd.

24Esai. 40.6. Eccles. 14.18. Iac. 1.10. Canys pôb cnawd fel glâs-welltyn yw, a holl ogoniant dŷn fel blodeuyn y glâs­welltyn: gwywodd y glâs-welltyn, a'i flodeuyn a syrthiodd:

25 Eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd: a hwn yw 'r gair a bre­gethwyd i chwi.

PEN. II.

Y mae efe yn eu cynghori na wnelont ddim yn erbyn cariad: 4 ac yn dangos mai Christ ydyw 'r sylfaen yr adeiladwyd hwynt arno: 11 ac yn dymuno arnynt ymgadw rhag chwantau cnawdol: 13 a bôd yn vfydd i swyddogion. 18 Ac y mae yn dyscu i weision [Page] vfyddhau iw meistred, 20 a bod yn ddioddef­gar wrth esampl Christ, er eu bod yn cael cam.

WEdi rhoi hebio gan hynnyEphes. 4.22. Col. 3.8. Heb. 12.1. bôb drygioni, a phôb twyll, a rhagrith, a chenfigen, a phôb gogan-air,

2 Fel rhai bychain newydd eni, chwen­nychwchY rhesy­mol a'r didwyll laeth. ddidwyll laeth y gair, fel y cynny­ddoch trwyddo ef:

3 Os profasoch fod yr Arglwydd yn dir­ion.

4 At yr hwn yr ydych yn dyfod megis at faen bywiol, a wrthodwyd gan ddynion, eithr etholedig gan Dduw, a gwerthfawr.

5 A chwithau megis meini bywiol ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysprydol,Datc. 1.6. yn offeiriadaeth sanctaidd, i offrymmu aberthau ysprydol, cymmeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.

6 O herwydd pa ham y cynnwysir yn yr Scrythur, WeleEsa. 28.16. Rhuf. 9.33. yr wyf yn gosod yn Sion ben-conglfaen, etholedig, a gwerthfawr: a'r hwn a grêd ynddo, ni's gwradwyddir.

7 I chwi gan hynny y rhai ydych yn credu, y mae ynWerth­fawr. vrddas: eithr i'rRhai nid ydynt yn credu. anufyddion,Psal. 118.22. Matth. 21.42. Act. 4.11. y maen a wrthododd yr adeilad-wŷr, hwnnw a wnaed yn ben y gongl,

8Esa. 8.14. Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr i'r rhai fy yn tramgwyddo wrth y gair, gan fôd yn anufydd; i'r hwn beth yr ordeiniwyd hwynt hefyd.

9 Eithr ehwy-chwi ydych rywogaeth etho­ledig,Exod. 19.6. brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanct­aidd, pobl briodol i Dduw: fel y mynegoch rinweddau yr hwn a'ch galwodd allan o dy­wyllwch i'w ryfeddol oleuni ef.

10Hos. 2.23. Rhuf. 9.25. Y rhai gynt nid oeddych bobl, ond yn awr ydych bobl i Dduw: y rhai ni chawsech drugaredd, ond yr awron a gawsoch druga­redd.

11 Anwylyd, yr wyf yn attolwg i chwi megis dieithriaid a phererinion, ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol, y rhai sy yn rhyfela yn erbyn yr enaid:

12 Gan fôd a'ch ymarweddiad yn honest ym-mysc y Cenhedloedd: fel, lle maent yn eich goganu megis drwg-weithredwŷr, y ga­llont o herwydd eich gweithredoedd da a welant, ogoneddu Duw yn nydd yr ymwe­liad.

13Rhuf. 13.1. Ymddarostyngwch oblegid hyn i bôb dynol ordinhâd, o herwydd yr Arglwydd: pa vn bynnag ai i'r brenin, megis goruchaf:

14 Ai i'r llywiawd-wŷr, megis trwyddo ef wedi eu danfon er dial ar y drwg-weithred wŷr, a mawl i'r gweithred-wŷr da.

15 Canys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneuthur daioni, ost [...]gu anwy­bodaeth dynion ffollon:

16 Megis yn rhyddion, ac nid â rhydd­did gennych megis cochl malis, eithr fel gwa­sanaeth-wŷr Duw.

17 Perchwch bawb.Rhuf. 12.10. 1 Pet. 1.22. Cerwch y brawdol­iaeth. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y bre­nin.

18Ephes. 6.5. Col. 3 22. Tit. 2.9. Y gweision, byddwch ddarostyngedig gydâ phob ofn, i'ch meistred, nid yn vnic i'r rhai da a chyweithas, eithr i'r rhai anghywei­thas hefyd.

19 Canys hyn syddR [...]s, neu ddiolch. rasol, os yw neb o herwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef ar gam.

20 Oblegid pa glôd yw, os pan bechoch a chael eich cernodio, y byddwch dda eich am­mynedd? eithr os a chwi yn gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich ammynedd, hyn sydd Ras, neu ddiolch. rasol ger bron Duw.

21 Canys i hyn i'ch galwyd hefyd, oblegid Christ yntef a ddioddefodd trosom ni, gan adel iNeu, chwi. ni esampl, fel y canlynech ei ôl ef:

22 YrEsa. 53.9. hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau:

23 Yr hwn pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn, pan ddioddefodd ni fygythiodd: eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn.

24Esa. 53.5. Matth. 8.17. Yr hwn ei hun a ddûg ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren: fel gwedi ein marw i bechodau, y bydddem byw i gyfi­awnder:Esa. 53.5. trwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi.

25 Canys yr oeddych megis defaid yn myned ar gyfeiliorn: eithr yn awr chwi a ddychwelwyd at fugail ac escob eich enei­diau.

PEN. III.

1 Y mae yn dyscu i wyr a gwragedd eu dyled iw gilydd; 8 yn annog pawb i vndeb a chariad; 14 ac i ddioddef erlid; 19 ac yn adrodd daioni Duw i'r hôn fyd gynt.

YR vn ffunydCol. 3.18. Ephes. 5.22. bydded y gwragedd ostyng­edig iw gwŷr priod: fel od oes rhai heb gredu i'r gair, y galler trwy ymarweddiad y gwragedd, eu hynnill hwy heb y gair,

2 Wrth edrych ar eich ymarweddiad di­wair chwi yngyd ag ofn.

31 Tim. 2 9. Trwsiad y rhai bydded nid yr vn oddi allan, o blethiad gwallt, ac amgylch osodiad aur, neu wiscad dillad:

4 Eithr bydded cuddiedig ddŷn y galon, mewn anllygredigaeth yspryd addfwyn a llon­ydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn werth­fawr.

5 Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai oedd yn gobeithio yn Nuw, yn ymdrwsio, gan fôd yn ddarostyng­edig iw gwŷr priod:

6 Megis yr vfyddhâodd Sara i Abraham, gan ei alw ef ynGene. 18.12. Arglwydd:Gr. plant. merched yr hon ydych chwi, tra fyddoch yn gwneuthur yn dda, ac heb ofni dim dychryn.

71 Cor. 7.3. Y gwŷr yr vn ffunyd, cyd-gyfannedd­wch â hwynt yn ôl gwybodaeth, gan roddi parch i'r wraig, megis i'r llestr gwannaf, fel rhai sy gyd-etifeddion grâs y bywyd, rhag rhwystro eich gweddiau.

8 Am ben hyn, byddwch oll yn vn-fryd, yn cyd oddef â'i gilydd, yn caruNeu, y bro [...]yr. fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd:

9Dihar. 20.22. Matth. 5.39. Rhuf. 12.17. 1 Thes. 5.15. Nid yn tala drwg am ddrwg, neu senn am senn: eithr yngwrthwyneb, yn bendithio: gan ŵybod mai i hyn i'ch galwyd, fel yr edife­ddoch fendith.

10 CanysPsal. 34.12, 13, 14 y neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, attalied ei dafod oddi wrth ddrwg, a'i wesusau rhag adrodd twyll.

11 Gocheled y drwg, a gwnaed y da; ceisied heddwch, a dilyned ef.

12 Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a'i glustiau ef tu ac at eu gweddi hwynt: eithr y mae wyneb yr Arglwydd yn e [...]byn y rhai sy yn gwneuthur drwg.

13 A phwy a'ch dryga chwi, os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda?

14 EithrMatth. 5.10. o bydd i chwi hefyd ddioddef o herwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nacEsai. 8.12. ofnwch rhac eu hofn hwynt, ac na'ch cyn­nhyrfer:

15 Eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau: a byddwch barod bôb amser i atteb i bôb vn a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch, gyd ag addfwynderA phorch ac ofn:

16 A chennych gydwybod dda: fel yn yr hyn y maent yn eich goganu megis drwg­weithredwŷr, y cywilyddio y rhai sydd yn beio ar eich ymarweddiad da chwi ynGhrist.

17 Canys gwell ydyw, os ewyllys Duw a'i mynn, i chwi ddioddef yn gwneuthur daioni, nag yn gwneuthur drygioni:

18 Oblegid Christ hefyd vnwaith a ddio­ddefodd tros bechodau, y CyfiawnRhuf. 5.6. tros yr anghyfiawn; fel y dygei ni at Dduw, wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Yspryd:

19 Trwy 'r hwn yr aeth efe hefyd ac a bre­gethodd i'r ysprydion yngharchar;

20 Y rhai a fu gynt anufydd, pan vn-waith yr oedd hîr ammynedd Duw yn aros yn ny­ddiau Noe, tra y darperidGene. 6. Matth. 24.38. yr arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr.

21 Cyffelybiaeth cyf-attebol i'r hwn, sydd yr awron yn ein hachub ninnau, sef bedydd, (nid bwrw ymmaith fudreddi y cnawd, eithr ymatteb cyd-wybod dda tu ac at Dduw) trwy adgyfodiad Iesu Grist:

22 Yr hwn sydd ar ddeheu-law Duw, wedi myned i'r nef, a'r Angellon, a'r awdurdodau, a'r galluoedd, wedi eu darostwng iddo.

PEN. IV.

1 Y mae yn eu hannog hwy i beidio â phechu, trwy esampl Christ, a thrwy ystyried fôd di­wedd pob peth yn pwyso yn agos. 12 Y mae yn eu cyssuro yn erbyn erlid.

AM hynny, gan ddioddef o Grist trosom ni yn y cnawd, chwithau hefyd byddwch wedi eich arfogi â'r vn meddwl: oblegid yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd, a beidiodd â phechod;

2 Fel na bvddo mwyach fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw, tros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd.

3 Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o'r enioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach,Ymyfed. diotta, a ffiaidd eulyn addoliad:

4 Yn yr hyn y maent yn ddieithr yn eich cablu chwi, am nad ydych yn cyd-redeg gyd â hwynt i'r vn rhyw ormod rhyfedd:

5 Y rhai a roddant gyfrif i'r hwn sydd barod i farnu y byw a'r meirw.

6 Canys er mwyn hynny yr efangylwyd i'r meirw hefyd, fel y bernid hwy yn ôl dy­nion yn y cnawd, ac y bydde [...]t fyw yn ôl Duw yn yr yspryd.

7 Eithr diwedd pôb peth a nesâodd: am hyn­ny byddwch sobr, a gwiliadwrus i weddiaw.

8 Eithr o flaen pôb peth bydded gennych gariadGwre­ [...], par­haus. helaeth tu ac at ei gilydd: canys cariad a guddia liaws o bechodau.

9 Byddwch Rhuf. 12.13. Heb. [...]. [...]. leteugar y naill i'r llall, heb rwgnach.

10 Pôb vnRhuf. 12.6. megis y derbyniodd rodd, cyf­rennwch â'i gilydd, fel daionus orchwylwŷr amryw râs Duw.

11 Os llefaru a wna neb, llefared megisOraclau. geiriau Duw: os gweini y mae neb, gwnaed megis o'r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhôb peth y gogonedder Duw trwy Iesu Ghrist, i'r hwn y byddo yr gogoniant a'r gallu, yn oes oesoedd. Amen.

12 Anwylyd, na fydded ddieithr gennwch am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi:

13 Eithr llawenhewch, yn gymmaint a'ch bôd yn gyfrannogion o ddioddefiadau Christ, fel pan ddatcuddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen, ac yn gorfoleddu.

14Matth. 5.10.11. Os difenwir chwi er mwyn Enw Christ, gwyn eich bŷd: oblegid y mae Yspryd y gogoniant, ac Yspryd Duw yn gorphywys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wîr efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir.

15 Eithr na ddioddefed neb o honoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwg-weithredŵr, neu fel vn yn ymmyrreth â matterion rhai eraill:

16 Eithr os fel Christion, na fydded gy­wilydd ganddo, ond gogonedded Dduw yn hyn o ran.

17 Canys daeth yr amser i ddechreu o'r farn o dŷ Dduw: ac os dechreu hi yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai nid ydynt ynVfydd­hau. credu i Efengyl Duw?

18 Ac os braidd y mae 'r cyfiawn yn gad­wedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur?

19 Am hynny y rhai hefyd sy yn dioddef yn ôl ewyllys Duw, gorchymmynnant eu he­neidiau iddo ef, megis i greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yn dda.

PEN. V.

1 Y mae yn annog yr Henuriaid i borthi defaid Christ: 5 a'r ieuaingc i vfyddhau: 8 A phawb i wilied, ac i fod yn sobr, ac yn ddianwadal yn y ffydd: 9 Ac i wrthwynebu y cythrael, y gwrthwynebwr creulon.

YR Henuriaid sy yn eich plith, attolwg iddynt yr ydwyfi, yr hwn wyf gyd­henuriad, a thŷst o ddioddefiadau Christ, yr hwn hefyd wyf gyfrannog o'r gogoniant a ddad­cuddir;

2 Porthwch braidd Duw,Hyd y galloch. yr hwn sydd yn eich plith, gan fwrw golwg arnynt, nid trwy gymmell, eithr yn ewyllysgar, nid er mwyn budr-elw, eithr o barodrwydd meddwl:

3 Nid fel rhai yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Dduw, ond gan fôd yn esam­plau i'r praidd.

4 A phan ymddangoso y Pen-bugail, chwi a gewch dderbyn anniflannedig goron y go­goniant.

5 Yr vn ffunyd yr ieuaingc, byddwch ost­yngedig i'r Henuriaid: a byddwch bawb yn ost­yngedig iw gilydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu y beilchion, ac yn rhoddi grâs i'r rhai gostyngedig.

6Ja [...] 4.10. Ymddarostyngwch gan hynny tan alluog law Dduw, fel i'ch derchafo mewn amser cy­faddas:

7Psal. 53.22. Matth. 6.25. Luc. 12.22. Gan fwrw eich holl ofal arno ef, canys y mae efe yn gofalu trosoch chwi.

8 Byddwch sobr, gwiliwch: oblegid y mae eich gwrth-wynebwr diafol, megis llew rhuad­wy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio y nêb a allo ei lyngcu.

9 Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd, gan ŵybod fôd yn cyflawni yr vn blinderau yn eichBraw­doliaeth, yr hon sydd. brodyr, y rhai sydd yn y bŷd.

10 A Duw pôb grâs, yr hwn a'ch galwodd chwi iw dragwyddol ogoniantynGhrist Iesu. trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhâo, a'ch cryf­hâo, a'ch sefydlo.

11 Iddo ef y byddo y gogoniant, a'r gallu, yn oes oesoedd. Amen.

12 Gyd â Siluanus brawd ffyddlon i chwi (fel yr wyf yn tybied) yr scrifennais ar ychy­dig eiriau, gan gynghori a thestiolaethu mai gwîr râs Duw yw yr hwn yr ydych yn se­fyll ynddo.

13 Y mae 'r Eglwys sydd yn Babylon yn gyd-etholedig â chwi, yn eich annerch, a Mar­cus fy mâb i.

14Rhuf. 16.16. 1 Cor. 16.20. 2 Cor. 13.12. Anherchwch ei gilydd â chusan cariad, Tangneddyf i chwi oll, y rhai ydych yn­Ghrist Iesu. Amen.

¶AIL EPISTOL CYFFREDINOL PETR YR APOSTOL.

PENNOD I.

1 Y mae efe yn eu cadarnhau mewn gobaith o gynnydd gras Duw: 5 ac yn eu hannog i wneuthur eu galwedigaeth yn siccr trwy ffydd a gweithredoedd. 12 Y mae yn ofalus i ddwyn hynny ar gof iddynt, gan wybod fod ei far­wolaeth ef ei hun yn agos. 16 Y mae yn eu rhybuddio hwy i fod yn ddianwadal yn ffydd Grist, gwir fab Duw, trwy dystiolaeth yr Apo­stolion a welsant ei ogoniant ef, a thrwy dyst­iolaeth y Tad, a'r Prophwydi.

SImon Petr, gwasanaeth-ŵr ac Apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffe­lyb werth-fawr ffydd â ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw ni, a'n Achubwr Iesu Grist:

2 Grâs i chwi, a thangneddyf a amlhaer, trwy adnabod Duw, ac Iesu ein Harglwydd ni.

3 Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bôb peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef, yr hwn a'n galwodd niTrwy. i ogo­niant a rhinwedd:

4 Trwy 'r hyn y rhoddwyd i ni addewi­dion mawr iawn, a gwerthfawr, fel trwy y rhai hyn y byddech gyfrannogion o'r duwiol anian, wedi diangc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y bŷd trwy drachwant.

5 A hyn ymma hefyd, gan roddi cwbl ddi­wydrwydd, chwanegwchYn. at eich ffydd rin­wedd, acMewn rhinwedd. at rinwedd ŵybodaeth:

6 AcMewn gwybod­aeth. at ŵybodaeth gymmedrolder, acMewn cymme­drolder. at gymmedrolder ammynedd, acMewn. at am­mynedd duwioldeb,

7 Ac at dduwioldeb garedigrwydd brawdol, ac at garedigrwydd brawdol, cariad.

8 Canys os yw y pethau hyn gennych, ac ynHelaeth. aml hwynt, y maent yn peri na bôch na segur na diffrwyth yngwybodaeth ein Har­glwydd Iesu Grist.

9 Oblegid, yr hwn nid yw y rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled y [...] mhell, wedi gollwng tros gôf ei lanhâu oddiwrth ei be­chodau gynt.

10 O herwydd pa ham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedig­aeth a'ch etholedigaeth yn siccr: canys tra fôch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth.

11 Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Achubwr Iesu Grist.

12 O herwydd pa ham, nid esceulusaf eich coffau bôb amser am y pethau hyn, er eich bôd yn eu gwybod, ac wedi eich siccrhau yn y gwirionedd presennol.

13 Eithr yr ydwyf yn tybied fôd yn iawn, tra fyddwyf yn y tabernacl hwn, eich cyffroi chwi, trwy ddwyn ar gôf i chwi.

14 Gan wybod y bydd i mi ar frŷs roddi fy nhabernacl hwn heibio,Ioan. 21.18. megis ac yr yspysodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi.

15 Ac mi a wnaf fy ngoreu hefyd ar allu o honoch bôb amser, ar ôl fy ymadawiad i wneuthur coffa am y pethau hyn.

16 Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys yr yspysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Har­glwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawr­edd ef â'n llygaid.

17 Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Tâd barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lêf atto oddi wrth y mawr ragorol ogoniant,Matth 3.17. & 17.5. Hwn yw fy anwyl Fâb i, yn yr hwn i'm bodlonwyd.

18 A'r llêf yma, yr hon a ddaeth o'r nef, a glywsom ni, pan oeddym gyd ag ef yn y mynydd sanctaidd.

19 Ac y mae gennym air sicrach y proph­wydi: yr hwn da y gwnewch fôd yn dal arno, megys ar ganwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio 'r dydd, ac oni chodo 'r seren ddydd yn eich calonnau chwi:

20 Gan ŵybod hyn yn gyntaf,2 Tim. 3.16. nad oes vn brophwydoliaeth o'r Scrythur o ddeongliad priod.

21 Canys nid trwy ewyllys dŷn y daethVn am­ser. gynt brophwydoliaeth, eithr dynion sanct­aidd Duw a lefarasant megis y cynnhyrfwyd hwy gan yr Yspryd glân.

PEN. II.

1 Y mae efe yn prophwydo am athrawon ffeilsion, ac yn dangos eu hanwiredd a'i dialedd hwy, a'i dilynwyr: 7 oddiwrth y rhai y gwaredir y rhai duwiol, fel y gwaredwyd Lot o Sodom. 10 Y mae efe yn dangos yn helaethach gyn­neddfau y twyllwyr annuwiol hynny, fel y galler eu hadnabod hwy yn haws, a'i gochelyd.

EIthr bu gau-brophwydi hefyd ym-mhlith y bobl, megis ac y bydd gau-athrawon yn eich plith chwithau, y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresiau dinistriol, a chan wadu yr Arglwydd, yr hwn a'u prynodd hwynt, ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan.

2 A llawer a ganlynant euNeu, trychyll­wch. destryw hwynt, o herwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd:

3 Ac mewn cybydd-dod trwy chwedlau gwneuthur, y gwnânt farsiandiaeth o honoch: barnedigaeth y rhai er ystalm nid yw segur, a'u colledigaeth hwy nid yw yn heppian.

4 Canys onid arbedodd Duw 'rJob. 4.18. Jud. 6. Angelion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i vffern, a'u rhoddi i gadwynau tywyllwch, iw cadw i far­nedigaeth:

5 AcGen. 7.1. onid arbedodd efe yr hen fŷd, eithr Noe pregethwr cyfiawnder a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y Diluw ar fyd y rhai anwir:

6 A chan droi dinasoeddGen. 19.13.24. Sodoma a Go­morrha yn lludw, a'u damnodd hwy â dym­chweliad, gan eu gosod yn esampl i'r rhai a fyddent yn annuwiol;

7 Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid.

8 (Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysc hwynt, yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o dydd i ddydd, trwy eu hanghyfreithlon weithredo­edd hwynt)

9 Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duw­iol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghy­fiawn i ddydd y farn iw poeni:

10 Ac yn bennaf y rhai sy 'n rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diysty [...]uArgl­wyddiaeth. llywodraeth:Jud. 8. rhyfygus ydynt, cyndyn, nid ydynt yn arswydo cablu vrddas:

11 Lle nid yw 'r Angelion, y rhai sy fwy mewn gallu a nerth, yn rhoddi cablaidd farn yn eu herbyn hwynt ger bron yr Arglwydd.

12 Eithr y rhai hyn, megis anifeiliaid an­rhesymmol anianol, y rhai a wnaed iw dal ac iw difetha, a gablant y pethau ni ŵyddant oddi wrthynt, ac a ddifethir yn eu llygrediga­eth eu hunain:

13 Ac a dde [...]byniant gyflog anghyfiawnder, a hwy yn cyfrif moetheuGr. yn y, neu, trwy 'r dydd. beunydd yn hy­frydwch, brycheu a meflau ydynt, vn ym­ddigrifo yn eu twyll eu hunain, gan wledda gyd â chwi:

14 A llygaid ganddynt yn llawnGr. o'r odin [...]b­wraig. godineb, ac heb fedru peidio â phechod: yn llithio eneidiau anwadal, a chanddynt galon wedi ymgynnefino â chybydd-dra, plant y fell­dith:

15 Wedi gadel y ffordd vniawn, hwy a aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn fforddNum. 22.5, 23. Ba­laam, mab Bosor, yr hwn a garodd wobr an­ghyfiawnder:

16 Ond efe a gafodd gerydd am ei gam­wedd:Num. 22.28. assyn fud arferol â'r iau, gan ddywe­dyd â llef ddynol, a waharddodd ynfydrwydd y Prophwyd.

17 Y rhai hyn ydynt ffynhonnauJud. 12. di­ddwfr, cymmylau a yrrid gan dymestl, i'r rhai y mae niwl tywyllwch ynghadw yn dragywydd.

18 Canys gan ddywedyd chwyddedig eiriau gorwagedd, y maent hwy trwy chwantau 'r cnawd, a thrythyllwch, yn llithio y rhai a ddi­angasei yn gwbl oddi wrth y rhai sy yn byw ar gyfeiliorn:

19 Gan addo rhydd-did iddynt,Joan. 8.34. Rhuf. 6.10. a hwy­thau eu hunain yn wasanaeth-wŷr llygredig­aeth: canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth.

20 CanysMatth. 12.45. Heb. 6.4. os wedi iddynt ddiangc oddi­wrth halogedigaeth y bŷd, trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a'r Achubwr Iesu Grist, y rhwystrir hwy drachefn â'r pethau hyn, a'u gorchfygu, aeth diwedd y rhai hynny yn waeth nâ'i de­chreuad.

21 Canys gwell fuasei iddynt, fôd heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag wedi ei hadnabod, troi oddiwrth y gorchymmyn sanct­aidd, yr hwn a draddodwyd iddynt.

22 Eithr digwyddodd iddynt yn ôl y wîr ddihareb, Y cî a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun: a'r hŵch wedi ei golchi, iw hym­dreiglfa yn y dom.

PEN. III.

Y mae efe yn eu sicrhau hwy am ddyfodiad Christ i'r farn, yn erbyn y gwatwarwyr a ym­resymmai yn y gwrthwyneb: 8 gan rybuddio y rhai duwiol i brysuro eu hedifeirwch, o ran hir ammynedd Duw: 10 Ac y mae yn dangos pa fodd y dinistrir y byd: 11 Ac yn eu hanog hwy i sancteiddrwydd buchedd, trwy ddisgwil hynny: 15 A hefyd i feddwl mai er mwyn eu iechyd­wriaeth hwynt y mae Duw yn ddioddefgar, megis yr scrifennodd Paul attynt.

YR ail Epistol hwn, anwylyd, yr ydwyf yn awr yn ei scrifennu attoch,ym mhob vn o'r adau. y [...] yr hwn yr ydwyf yn cyffroi eich meddwl puraidd, trwy ddwyn ar gôf i chwi:

2 Fel y byddo cofus gennych y geiriau a rag­ddywedwyd gan y prophwydi sanctaidd, a'n gorchymmyn ninnau, Apostolion yr Arglwydd, a'r Iachawdwr:

3 Gan ŵybod hyn yn gyntaf, y daw1 Tim. 4.1. Jud. 18.2 Tim. 3.1. yn y dyddiau diweddaf watwar-wŷr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain:

4 Ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pôb peth yn parhau,Fel hyn fel yr oeddynt o ddechreuad y creaduriaeth.

5 Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o'u gwîr-fodd, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ystalm, a'r ddaiar yn cyd-sefyll o'r dwfr, a thrwy 'r dwfr.

6 O herwydd pa ham, y bŷd a oedd y pryd hynny, wedi ei orchguddio â dwfr a ddifethwyd.

7 Eithr y nefoedd a'r ddaiar sy yr awrhon, ydynt trwy 'r vn gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion.

8 Eithr yr vn peth hyn na fydded yn ddiar­wybod i chwi, anwylyd, fôd vn dydd gyd â'r Arglwydd megis mîl o flynyddoedd,Psal. 90.4. a mîl o flynyddoedd megis vn dydd.

9 Nid ydyw 'r Arglwydd yn oedi ei adde­wid, (fel y mae rhai yn cyfrif oed) ond hir­ymarhous yw efe tu ac attom ni,Ezec. 18.32. & 33.11. heb ew­yllysio bôd neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch.

10 Eithr dydd yr Arglwydd a ddawDatc. 3.3. & 16.15. me­gis lleidr y nôs, yn yr hwn y nefoedd a ânt h [...]ibio gydâ thwrwf, a'rElemen­tau. defnyddiau gan wîr wrês a doddant, a'r ddaiar a'r gwaith a f [...]o ynddi a loscir.

11 A chan fôd yn rhaid i hvn i gŷd ymoll­wng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fôd, mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb,

12 Yn disgwil ac yn bryssio at ddyfodiad dydd Duw,Trw [...] yn yr hwn y nefoedd gan losci a [Page] ymollyngant, a'rElemen­tau. defnyddiau gan wîr wrês a doddant?

13 EithrEsa. 65.17. & 66.22. Dat. 21.1. nefoedd newydd, a daiar newydd yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef, yn eu disgwil, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu.

14 O herwydd pa ham, anwylyd, gan eich bôd yn disgwil y pethau hyn, gwnewch eich go­reu ar eich cael ganddo ef mewn tangneddyf, yn ddi-frycheulyd, ac yn ddi-argyoedd:

15 ARhuf. 2.4. chyfrifwch hir-ammynedd ein Har­glwydd, yn iechydwriaeth: megis ac yr scri­fennodd ein hanwyl frawd Paul attoch chwi, yn ôl y doethineb a rodded iddo ef:

16 Megis yn ei holl epistolau hefyd, yn lle­faru ynddynt am y pethau hyn: yn y rhai y mae rhyw bethau anhawdd eu deall, y rhai y mae yr annyscedig a'r anwastad yn eu gŵyr­droi, megis yr Scrythurau eraill, iw dinistr eu hunain.

17 Chwy-chwi gan hynny, anwylyd, a chwi yn gwybod y pethau hyn o'r blaen, ymged­wch rhag eich arwain ymmaith trwy amryfu­sedd yr annuwiol, a chwympo o [...]onoch oddi­wrth eich siccrwydd eich hun.

18 Eithr cynnyddwch mewn grâs a gŵybo­daeth ein Harglwydd a'n lachawdwr [...]esu Grist. Iddo ef y byddo gogoniant yr awr hon, acHyd ddydd tragwy­ddoldeb. yn dragwyddol. Amen.

¶EPISTOL CYNTAF CYFFREDINOL JOAN YR APOSTOL.

PENNOD I.

Y mae efe yn gosod allan berson Christ, yn yr hwn y mae i ni fywyd tragwyddol, trwy gymdeithas â Duw. 5 Rhaid i ni ymroi i sancteiddrwydd buchedd, i dystiolaethu gwirionedd y gymdeithas honno, a'n ffydd: a hefyd i'n siccrhau ein hu­nain o faddeuant pechodau, trwy farwolaeth Crist.

YR hyn oedd o'r dechreuid, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â'n llygaid, yr hyn a edrychasom ar­no, ac a deimlodd ein dwylo am air y bywyd:

2 (Canys y bywyd a eglurhawyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn my­negi i chwi y bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyd â'r Tâd, ac a eglurhawyd i ni)

3 Yr hyn a welsom ac a glywsom, yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyd â ni: a'n cymdeithas ni yn wîr sydd gyd â'r Tâd, a chyd â'i Fab ef Iesu Grist.

4 A'r pethau hyn yr ydym yn ei scrifennu attoch, fel y byddo eich llawenydd yn gy­flawn.

5 A hon yw 'r gennadwri a glywsom gan­ddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi, maiJoan. 1.9. & 8.12. goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim ty wyllwch.

6 Os dywedwn fôd i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd.

7 Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â'i gilydd,Heb. 9 14. 1 Pet. 1.19. Datc. 1.5. a gwaed Iesu Grist ei Fab ef, sydd yn ein glânhau ni oddi wrth bôb pechod.

81 Bren. 8.46. 2 Cron. 6.36. Dih. 20.9. Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom.

9 Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe, a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac i'n glanhâo oddiwrth bob anghy­fiawnder.

10 Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a'i air ef nid yw ynom.

PEN. II.

Y mae efe yn eu cyssuro hwy yn erbyn pechodau o wendid. 3 Adnabod Duw yn iawn yw cadw ei orchymynion ef: 9 a charu ein brodyr: 15 ac na roddom ein serch ar y byd. 18 Rhaid i ni ochelud twyllwyr: 20 y rhai y mae y duwiol yn ddiogel oddiwrth eu twyll, trwy barhâu yn y ffydd, ac mewn sancteiddrwydd buchedd.

FY mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu scrifennu attoch, fel na phechoch: ac o phecha neb, y mae i ni eiriolwr gyd â'r Tâd, Iesu Grist y Cyfiawn:

2 Ac efe, yw 'rCym­mod. iawn tros ein pechodau ni: ac nid tros yr eiddom ni yn vnig, eithr tros bechodau yr holl fŷd.

3 Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchymmynion ef.

4 Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a'i had­waen ef, ac heb gadw ei orchymmynion ef, celwyddog yw, a'r gwirionedd nid yw ynddo.

5 Eithr yr hwn a gadwo ei air ef, yn wîr yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gŵyddom ein bôl ynddo ef.

6 Yr hwn a ddywed ei fôl yn aros ynddo ef, a ddylei yntef felly rodio, megis ac y rho­diodd ef.

7 Y brodyr, nid gorchymmyn newydd yr wyf yn ei scrifennu attoch, eithr gorchym­myn hên, yr hwn oedd gennych o'r dechreu­ad: yr hên orchymmyn yw 'r gair a glywsoch o'r dechreuad.

8 Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei scrifennu attoch, yr hyn sydd wîr yn­ddo ef, ac ynoch chwithau: oblegid y ty­wyllwchSydd yn myned. a aeth heibio, a'r gwîr oleuni sydd yr awron yn tywynnu.

9 Yr hwn a ddywed ei fôd yn y goleuni, ac a gasâo ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y prŷd hyn.

10Pen. 3.14. Yr hwn sydd yn caru ei frawd, sydd yn aros yn y goleuni, ac nid oes rhwystr ynddo.

11 Eithr yr hwn sydd yn casau ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio: ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, oblegid y mae y tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef.

12 Scrifennu yr wyf attoch chwi, blant bychain, oblegid maddeu i chwi eich pechodau, er mwyn ei Enw ef.

13 Scrifennu yr wyf attoch chwi, dadau, am adnabod o honoch yr hwn sydd o'r de­chreuad: scrifennu yr wyf attoch chwi, wŷr ieuaingc, am orchfygu o honoch yr vn drwg; scrifennu yr wyf attoch chwi, rai bychain, am i chwi adnabod y Tâd.

14 Scrifennais attoch chwi, dadau, am adna­bod o honoch yr hwn sydd o'r dechreuad: [Page] scrifennais attoch chwi, wŷr ieuaingc, am eich bod yn gryfion, a bôd gair Duw yn aros ynoch, a gorchfygu o honoch yr vn drwg.

15 Na cherwch y bŷd, na'r pethau sy yn y bŷd: o châr neb y bŷd, nid yw cariad y Tâd ynddo ef.

16 Canys pôb peth a'r y sydd yn y bŷd, megis chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a balchder y bywyd; nid yw o'r Tâd, eithr o'r bŷd y mae.

17 A'r bŷd sydd yn myned heibio, a'i chwant hefyd: ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewy­llys Duw, sydd yn aros yn dragywydd.

18 O blant bychain, yr awr ddiweddaf ydyw: ac megis y clywsoch y daw Anghrist, yr awr­on hefyd y mae Anghristiau lawer: wrth yr hyn y gŵyddom mai yr awr ddiweddaf ydyw.

19 Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt o honom ni: canys pe bua­sent o honom ni, hwy a arhosasent gyd â ni: eithr hyn a fu fel yr eglurid nad ydynt hwy oll o honom ni.

20 Eithr y mae gennnych chwi enneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw, a chwi a wyddoch bôb peth.

21 Ni scrifennais attoch oblegid na ŵydd­ech y gwirionedd, eithr oblegid eich bod yn ei ŵybod, ac nad oes vn celwydd o'r gwir­ionedd.

22 Pwy yw 'r celwyddog, ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw 'r Christ? Efe yw 'r Anghrist, yr hwn sydd yn gwadu y Tâd a'r Mâb.

23 Pôb vn ac fydd yn gwadu y Mâb, nid oes ganddo y Tâd chwaith: yr hwn sydd yn cyffesu y Mâb, y mae y Tad ganddo hefyd.

24 Arhosed gan hynny ynoch chwi, yr hyn i glywsoch o'r dechreuad: od erys ynoch yr hyn a glywsoch o'r dechreuad, chwithau hefyd a gewch aros yn y Mâb, ac yn y Tâd.

25 A hwn yw 'r addewid a addawodd efe i ni, sef bywyd tragwyddol.

26 Y pethau hyn a scrifennais attoch yng­hylch y rhai sy yn eich hudo.

27 Ond y mae yr enneiniad a dderbynia­soch ganddo ef, yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch eisieu dyscu o neb chwi: eithr fel y mae yr vn enneiniad yn eich dyscu chwi am bôb peth, a gwîr yw, ac nid yw gelwydd: ac me­gis i'ch dyscodd chwi, yr arhoswch ynddo.

28 Ac yr awron, blant bychain, arhoswch ynddo: fel pan ymddangoso efe, y byddo hy­der gennym, acNa'n cywily­ddier ganddo. na chywilyddiom ger ei fron ef, yn ei ddyfodiad.

29 Os gŵyddoch ei fôd ef yn gysiawn,Gwy­byddwch. chwi a wyddoch fôd pôb vn sydd yn gwneu­thur cyfiawnder, wedi ei eni o honaw ef.

PEN. III.

1 Y mae efe yn dangos rhagarol gariad Duw tuag attom ni, yn ein gwneuthur ni yn blant iddo ei hun. 3 Ac am hynny y byddei raid i ninnau fod yn vfydd i gadw ei orchymmynion: 11 A charu bawb ei gilydd fel brodyr.

GWelwch pa fath gariad a roes y TâdI ni. ar­nom, fel i'n gelwid yn feibion i Dduw: oblegid hyn nid edwyn y bŷd chwi, oblegid nad adnabu efe ef.

2 Anwylyd, yr awrhon meibion i Dduw ydym, ac nid amlygwyd etto beth a yddwn: eithr ni a wyddom pan ymddangoso ef, y by­ddwn gyffelyb iddo: oblegid ni a gawn ei weled ef megis ac y mae.

3 Ac y mae pôb vn sydd ganddo y gobaith hyn ynddo ef, yn ei buro ei hun, megis y mae yntef yn bûr.

4 Pôb vn ac sydd yn gwneuthur pechod, sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith:Ac. oble­gid anghyfraith yw pechod.

5 A chwi a ŵyddoch ymddangos o honaw ef, felEsai. 53.6. 1 Pet. 2.21, 22. y deleai ein pechodau ni: ac ynddo ef nid oes pechod.

6 Pôb vn ac sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu: pôb vn ac sydd yn pechu, ni's gwelodd ef, ac ni's adnabu ef.

7 O blant bychain, na thwylled nêb chwi: yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyfiawn, megis y mae yntef yn gyfiawn.

8Ioan. 8.44. Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae: canys y mae diafol yn pechu o'r dechreuad: i hyn yr ymddangosodd Mâb Duw, fel y dattodai weithredoedd diafol.

9 Pôb vn a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod: oblegid y mae ei hâd ef yn aros ynddo ef, ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw.

10 Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: pôb vn ac sy heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, nâ'r hwn nid yw yn caru ei frawd.

11 Oblegid hon yw 'r gennadwri a glywsoch o'r dechreuad,Ioan. 13.34. bod i ni garu ei gilydd.

12 Nid felGene. 4.8. Cain, yr hwn oedd o'r drwg, ac a laddodd ei frawd: a pha ham y lladdodd ef? Oblegid bôd ei weithredoedd ef yn ddrwg, a'r eiddo ei frawd yn dda:

13 Na ryfeddwch, fy mrodyr, os yw'r bŷd yn eich casâu chwi.

14 Nyni a ŵvddom ddarfod ein symmud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bôd yn caru y brodyr:Pen. 2.11. yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth.

15 Pôb vn ac sydd yn casâu ei frawd, lleiddiad dŷn yw: a chwi a wyddoch nad oes i vn lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo.

16Ioan. 15.13. Eph. 5.2. Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, obiegid dodi o honaw ef ei einioes drosom ni: a ninneu a ddylem ddodi ein heinioes tros y brodyr.

17Luc. 3.11. Eithr yr hwn fydd ganddo dda 'r bŷd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisieu, ac a gaeo eiYmys­caroedd. dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef?

18 Fy mhlant bychain, na charwn ar air, nac ar dafod yn vnic, eithr mewn gweithred a gwirionedd.

19 AcYn. wrth hyn y gŵyddom ein bôd o'r gwirionedd, ac yPer­swadiwn. siccrhawn ein calonnau ger ei fron ef.

20 Oblegid os ein calon a'n condemna, mwy yw Duw nâ'n calon, ac efe a ŵyr bôb peth.

21 Anwylyd, os ein calon ni'n condemna, y mae gennym hyder ar Dduw:

22 APen. 5.14. Matth. 21.22. Ioan. 15.7. pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef, oblegid ein bôd yn cadw ei orchymynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef.

23 A hwn yw ei orchymyn ef, gredu o honomI. yn Enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ei gilydd, megis y rhoes efe orchymmyn i ni.

24 A'r hwn sydd yn cadw ei orchymynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntef ynddo yn­tef: acYn. wrth hyn y gwyddom ei fôd ef yn aros ynom, sef o'r Yspryd a roddes efe i ni.

PEN. IV.

Y mae efe yn eu rhybuddio hwynt na wnaent goel ar bob athro sydd yn ymffrostio o'r Yspryd, eithr eu profi hwy yn hytrach trwy reolau y ffydd Gatholig. 7 Ac y mae efe trwy am­ryw resymmau yn eu hannog hwy i gariad brawdol.

ANwylyd na chredwch bôb yspryd, eithr profwch yr ysprydion ai o Dduw y maent: oblegid y mae gau brophwydi lawer wedi myned allan i'r bŷd.

2Yn. Wrth hyn adnabyddwch Yspryd Duw: pôb yspryd ac sydd yn cyffessuddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae.

3 A phôb yspryd a'r nid yw yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid yw o Dduw: eithr hwn yw yspryd Anghrist, yr hwn y clywsoch ei fôd yn dyfod, a'r awron y mae efe yn y bŷd eusus.

4 Chwy-chwi ydych o Dduw, blant by­chain, ac a'u gorchfygasoch hwy: oblegid mwy yw 'r hwn sydd ynoch chwi, nâ'r hwn sydd yn y bŷd.

5 Hwynt-hwy o'r bŷd y maent: am hynny y llefarant am y bŷd, a'r bŷd a wrendy arnynt.

6 Nyni o Dduw yr ydym:Ioan. 8.47. yr hwn sydd yn adnabod Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwran­do ni: wrth hyn yr adwaenom yspryd y gwirionedd, ac yspryd y cyfeiliorni.

7 Anwylyd, carwn ei gilydd: oblegid cariad o Dduw y mae: a phôb vn ac sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw.

8 Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw cariad yw.

9Ioan. [...].16. Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tu ac attom ni, oblegid danfon o Dduw ei vnic­anedig Fab i'r bŷd, fel y byddem fyw trwyddo ef.

10 Yn hyn y mae cariad, nidam i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fôd ynGymmod iawn dros ein pechodau.

11 Anwylyd, of felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ei gilydd.

12Ioan. 1.18. 1 Tim. 6.16. Ni welodd neb Dduw erioed: os ca­rwn ni ei gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom.

13Yn. Wrth hyn y gwyddom ein bôd yn trigo ynddo ef, ac yntef ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o'i Yspryd.

14 A ninnau a welsom, ac ydym yn tyst­iolaethu, ddarfod i'r Tad ddanfon y Mab, i fôd yn lachawdwr i'r bŷd,

15 Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntef yn Nuw.

16 A nyni a adnabuom, ac a gredasom y cariad sydd gan DduwYnom ni. tuac attom ni. Duw cariad yw: a'r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntef.

17 Yn hyn y perffeithiwydGr. cari­ad gyda nyni. ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd farn: oblegid megis ac y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y bŷd hwn.

18 Nid oes ofn mewn cariad, eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth: a'r hwn sydd yn ofni ni pherffeithiwyd mewn cariad.

19 Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.

20 Os dywed nêb, Yr wyf yn caru Duw, ac efe yn casau ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn ni's gwelodd?

21 A'rIoan. 13.34. gorchymmyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef, bôd i'r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.

PEN. V.

Y neb sydd yn caru Duw sydd yn caru ei blant ef hefyd, ac yn cadw ei orchymynion ef; 3 Y rhai sydd yscafn, ac nid trymion i'r ffydd­loniaid. 9 Y mae Iesu yn fab Duw, ac yn abl i'n hachub ni: 14 ac i wrando ein gwe­ddiau, y rhai yr ydym yn eu gwneuthur tro­som ein hunain, a thros eraill.

POb vn ac sydd yn credu mai Iesu yw 'r Christ, o Dduw y ganed ef: a phôb vn ac sy yn caru yr hwn a genhedlodd, sydd hefyd yn caru yr hwn a genhedlwyd o honaw.

2 Yn hyn y gwyddom ein bôd yn caru plant Duw, pan fôm yn caru Duw, ac yn ca­dw ei orchymynion ef:

3 Canys hyn yw cariad Duw, bôd i ni gadw ei orchymynion:Matth. 11.30. a'i orchymynion ef nid ydynt drymion.

4 Oblegid beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu 'r bŷd: a hon yw 'r oruch­afiaeth sydd yn gorchfygu y bŷd, sef ein ffydd ni.

52 Cor. 13.3. Pwy yw 'r hwn sydd yn gorchfygu 'r bŷd, onid yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mâb Duw?

6 Dymma yr hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist: nid trwy ddwfr yn vnic, ond trwy ddwfr a gwaed: a'r Yspryd yw 'r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Yspryd sydd wirionedd.

7 Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nêf, y Tâd, y Gair, a'r Yspryd glân: a'r tri hyn vn ydynt.

8 Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaiar, yr Yspryd, a'r dwfr, a'r gwaed: a'r tri hyn, yn vn y maent yn cyttûno.

9 Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei dder­byn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystiolae­thodd efe am ei fâb.

10 [...]. 3.36. Yr hwn sydd yn credu ym Mâb Duw, sydd ganddo y dystiolaeth ynddo ei hun yr hwn nid yw yn credu i Dduw, a'i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dyst­iolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fâb.

11 A hon yw 'r dystiolaeth, roddi o Dduw i ni fywyd tragywyddol: a'r bywyd hwn sydd yn ei Fâb ef.

12 Yr hwn y mae y Mâb ganddo, y mae y bywyd ganddo: a'r hwn nid yw ganddo Fâb Duw, nid oes ganddo fywyd.

13 Y pethau hyn a scrifennais attoch chwi, y rhai ydych yn credu yn Enw Mâb Duw: fel y gwypoch fôd i chwi fywyd tragywyddol, ac fel y credoch yn Enw Mab Duw.

14 A hyn yw 'r hyfder sydd gennym tu ac atto ef, ei fôd ef yn ein gwrando ni,Pen. 3.21. os go­fynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef.

15 Ac os gwyddom ei fôd ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a ŵyddom ein bôd yn cael y deisyfiadau a ddei­syfiasom ganddo.

16 Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i'r rhai sy 'n pechu nid i [Page] farwolaeth: y mae pechod i farwolaeth, nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf o honaw.

17 Pôb anghyfiawnder pechod yw: ac y mae pechod nid yw i farwolaeth.

18 Ni a wyddom nad yw 'r neb a aned o Dduw, yn pechu: eithr y mae yr hwn a aned o Dduw yn ei gadw ei hun, a'r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef.

19 Ni a wyddom ein bôd o Dduw, ac y mae yr holl fŷd yn gorwedd mewn drygioni.

20 Ac a ŵyddom ddyfod Mâb Duw, ac efeLuc. 24.31, 32. a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir: ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sef yn ei Fâb ef Iesu Grist. Hwn yw y gwîr Dduw, a'r bywyd tragwyddol.

21 Y plant bychain, ymgedwch oddi wrth eul, nnod. Amen.

¶AIL EPISTOL IOAN YR APOSTOL.

Y mae efe yn annog rhyw Arglwyddes vrddasol a'i phlant, i barhau mewn cariad a ffydd Grist, 8 Rhag iddynt golli gwobr eu proffess o'r Haen: 10 Ac na byddei iddynt a wnelent â'r twyllwyr nid oedd yn dyscu gwir athrawiaeth Christ Iesu.

YR Henuriad at yr etholedig Ar­glwyddes, a'i phlant, y rhai yr wyfi yn eu caru yn y gwirionedd, ac nid myfi yn vnic, ond pawb he­fyd a adnabuant y gwirionedd;

2 Er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyd â ni yn dra­gywydd:

3 Bydded gyd â chwi râs, trugaredd, a thangneddyf, oddiwrth Dduw Tâd, ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mâb y Tâd, mewn gwirionedd a chariad.

4 Bu lawen iawn gennif i mi gael o'th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymmyn gan y Tâd.

5 Ac yn awr yr wyf yn attolwg i ti, Ar­glwyddes, nid fel vn yn scrifennu gorchymmyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o'r dechreuad, garu o honom ei gilydd.

6 A hyn yw 'r cariad, bod i ni rodio yn ôl ei orchymynion ef. Hwn yw 'r gorchymyn, megis y clywsoch o'r dechreuad, fôd i chwi rodio ynddo.

7 Oblegid y mae twyll-wŷr lawer wedi dyfod i mewn i'r bŷd, y rhai nid ydynt yn cyffessu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd. Hwn yw 'r twyll-wr a'r Anghrist.

8 Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr.

9 Pôb vn ac sy yn trosseddu, ac heb aros yn nysceidiaeth Christ, nid yw Duw ganddo ef; yr hwn sydd yn aros yn nysceidiaeth Christ, hwnnw y mae y Tâd a'r Mâb ganddo.

10 Od oes neb yn dyfod attoch, ac heb ddwyn y ddyfceidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ, acRhuf. 16.17. na ddywedwch Duw yn rhwydd, wrtho.

11 Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o'i weith­redoedd drwg ef.

12 Er bôd gennif lawer o bethau iw scri­fennu attoch, nid oeddwn yn ewyllysio scri­fennu â phapir ac ingc: eithr gobeithio 'r yd­wyf ddyfod attoch, a llefaruGr. enau wrth enau. wyneb yn wy­neb, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn.

13 Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch. Amen.

¶TRYDYDD EPISTOL IOAN YR APOSTOL.

Y mae efe yn canmol Gaius am ei dduwioldeb: 5 ac am gressawu pregeth-wyr. 9 Y mae efe yn achwyn rhag angharedigrwydd ac vch­der Diotrephes: 11 yr hwn ni ddylid dilyn ei ddrwg esampl. 12 Y mae efe yn rhoi can­moliaeth mawr i Demetrius.

YR Henuriad at yr anwyl Gaius, yr hwn yr wyf yn ei garuNeu, yn gy­wir. mewn gwirionedd.

2 Yr anwylyd, yr ydwyf yn bennat dimGwe­ddio. yn dymuno dy fôd yn llwy­ddo, ac yn iach, fel y mae dy enaid yn llwy­ddo.

3 Canys mi a lawenychais yn fawr, pan ddaeth y brodyr, a thystiolaethu am dy wirio­nedd di, megis ac yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd.

4 Mwy llawenydd nâ hyn nid oes gennif, sef cael clywed bôd fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd.

5 Yr anwylyd, yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur, tu ac at y brodyr, a thu ac at ddieithriaid:

6 Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di, ger bron yr Eglwys: y rhai os hebryngi, fel y gweddei i Dduw, da y gwnei.

7 Canys er mwyn ei Enw yr aethant allan, heb gymmeryd dim gan y Cenhedloedd.

8 Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyf­ryw rai, fel y byddomGyd-weith­wyr. gyd-gynhorthwy-wŷr i'r gwirionedd.

9 Mi a scrifennais at yr Eglwys: eithr Dio­trephes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim o honom.

10 O herwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gôf ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneu­thur, gan wâg-siarad i'n herbyn â geiriau dryg­ionus: ac heb fôd yn fodlon ar hynny, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr, a'r rhai sy yn ewyllysio, y mae yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o'r Eglwys.

11 Anwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. Yr hwn sydd yn gwneu­thur daioni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw.

12 Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun: a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu, a chwi a ŵydd­och fôd ein tystiolaeth ni yn wîr.

13 Yr oedd gennif lawer o bethau iw scri­fennu, ond nid wyf yn chwennych scrifennu ag ingc a phin attat ti.

14 Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwnGr. enau yngenau. wyneb yn wyneb.

15 Tangneddyf i ti. Y mae y cyfeillion i'th annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau.

¶EPISTOL CYFFREDINOL JUDAS YR APOSTOL.

Y mae yn eu hannog i broffessu ffydd Grist yn ddianwadal: 14 Bod gau athrawon wedi ymlusco i mewn iw hudo hwynt: a bod dialedd creulon wedi ei ddarparu iw hathrawiaeth a'i cynneddfau melltigedig hwynt: 20 Ond bod y rhai duwiol trwy gynhorthwy yr Yspryd glân, a thrwy weddio ar Dduw, yn abl i bar­hau, ac i gynnyddu mewn gras: ac iw cadw eu hunain, ac i achub eraill rhac maglau y twyllwyr hynny.

JVdas, gwasanaethwr Iesu Grist, a brawd Iaco, at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Tâd, acA gad­wyd i Ie­su Grist. a gadwyd yn Iesu Grist, ac a alwyd:

2 Trugaredd i chwi, a thangneddyf, a char­iad a luosoger.

3 Anwylyd, pan roddais bôb diwydrwydd ar scrifennu attoch am yr iechydwnaeth gyff­redinol, anghenrhaid oedd i mi scrifennu at­toch, gan eich annog i ymdrech ymhlaid y ffydd, yr hon a rodded vn-waith i'r Sainct.

4 Canys y mae rhyw ddynion wedi ym­lusco i mewn, y rhai a rag-ordeinwyd er ystalm i'r farnedigaeth hon, annuwiolion, yn troi grâs ein Duw ni i drythyllwch, ac2 Pet. 2.1. yn gwaduYr vnic Dduw, ac Ar­glwydd ein Har­glwydd Iesu Grist. yr vnic Arglwydd Dduw, a'n Harglwydd Iesu Grist.

5 Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffau chwi, gan eich bôd vn-waith yn gwy­bod hyn, i'r Arglwydd wedi iddo waredu y bobl o dîr yr Aipht, ddestrywio eilwaith y rhai ni chredasant.

62 Pet. 2.4. Yr Angelion hefyd y rhai ni chad­wasant euGoru­chafiaeth. dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwy­nau tragwyddol tan dywyllwch, i farn y dydd mawr.

7 Megis y maeGen. 19.24. Sodoma a Gomorrha, a'r dinasoedd o'u hamgylch mewn cyffelyb fodd â hwynt wedi putteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol.

8 Yr vn ffunyd hefyd y mae yY rhai hyn trwy eu hun. breudd­wyd-wŷr hyn, yn halogi 'r cnawd, yn di­ystyruArg­lwyddi­aeth. llywodraeth, ac yn cablu y rhai sy mewnVrddas. awdurdod.

9 Eithr Michael yr Arch-angel, pan oedd efe wrth ymddadleu â diafol, yn ymresymmu ynghylch corph Moses, ni feiddiodd ddwyn barnCab­l [...]dd. gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd,Zech. 3.2. Cerydded yr Arglwydd dydi.

10 Eithr y rhai hyn sydd yn cablu y pethau ni's gwyddant; a pha bethau bynnag y maent yn anlanawl, fel anifeiliaid di-reswm, yn eu gŵybod, yn y rhai hynny ymlygru y maent.

11 Gwae hwynt-hwy: oblegid hwy a gerddasant yn fforddGen. 4.8. Cain,A thrwy dwyll gwobr Balaam a reda­sant allan. ac a'u collwydNum. 22.17. 2 Pet. 2.15. trwy dwyll gwobr Balaam, ac a'u difethwyd yngwrthddywediadNum. 16.1. Core.

12 Y rhai sydd frychau yn eich cariad­wleddoedd chwi, yn cyd-wledda â chwi, yn ddiofn yn eu pesci eu hunain: cwmylau2 Pet. 2.17. di­ddwfr ydynt, a gylch-arweinir gan wyntoedd: preniau distannedig, heb ffrwyth, dwy-waith yn feirw, wedi eu diwreiddio:

13 Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewyn­nu allan eu cywilydd eu hunain: sêr gwibiog, i'r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragy­wydd.

14 Ac Enoch hefyd y seithfed o Addaf, a brophwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd,Datc. 1.7. Wele, y mae 'r Arglwydd yn dyfod gyd â myrddiwn o'i Sainct,

15 I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr-argyoeddi yr holl rai annuwiol o hon­ynt, am holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl eiriau caledion, y rhai a lefarodd pecha­duriaid annuwiol yn ei erbyn ef.

16 Y rhai hyn sydd rwgnach-wŷr, tuchan­wŷr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hun­ain: acPsal. 17.10. y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig, yn mawrygu wynebau dynion, er mwyn bûdd.

17 Eithr chwi, o rai anwyl, cofiwch y geiriau a rag-ddywedpwyd gan Apostolion ein Harglwydd Iesu Grist:

18 Ddywedyd o honynt i chwi y bydd yn1 Tim. 4.1. 2 Tim. 3.1. 2 Pet. 3.3. yr amser diweddaf watwar-wŷr, yn cerdd­ed yn ôl eu chwantauAnnuw­ioldeb. annuwiol eu hunain.

19 Y rhai hyn yw y rhai sy yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Yspryd gan­ddynt.

20 Eithr chwy-chwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddio yn yr Yspryd glân,

21 Ymgedwch ynghariad Duw, gan ddis­gwil trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist, i fywyd tragwyddol.

22 A thrugarhewch wrth rai, gan wneu­thur rhagor:

23 Eithr rhai cedwchMewn. trwy ofn, gan eu cippio hwy allan o'r tân, gan gasâu hyd yn oed y wisc a halogwyd gan y cnawd.

24 Eithr i'r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp, a'ch gosod ger bron ei ogon­iant ef yn ddifeius mewn gorfoledd,

25 I'r vnic ddoeth Dduw, ein Iachawdur ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac aw­durdod, yr awrhon ac yn dragywydd. Amen.

¶DADCVDDIAD S. IOAN Y DIFINYDD.

PENNOD I.

4 Ioan yn scrifenni: ei Ddatcuddiad at y saith Eglwys o Asia, yr rhai a arwyddocceir wrth y saith ganhwyll-bren aur. 7 Dyfodiad Christ: 14 a'i allu gogoneddus, a'i ardderchawgrwydd ef.

DAd-cuddiad Iesu Grist, yr hon a roddes Duw iddo ef, i ddangos iw wasanaeth-wŷr y pethau sy raid eu dyfod i ben ar fyrder: a chan ddanfon trwy ei Angel, efe a'i hyspysodd iw wasanaeth-wr Ioan:

2 Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Iesu Grist, a'r holl bethau a we­lodd.

3 Dedwydd yw 'r hwn fydd yn darllen, a'r rhai sy 'n gwrando geiriau y brophwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau sy yn scrifennedig ynddi: canys y mae 'r amser yn agos.

4 Ioan at y saith Eglwys sydd yn Asia; Grâs fyddo i chwi a thangneddyf, oddi wrth yr hwnExod. 3.14. sydd, a'r hwn a fu, a'r hwn sydd ar ddyfod: ac oddi wrth y saith yspryd sydd ger bron ei orsedd-faingc ef:

5 Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y tŷst ffyddlon,1 Cor. 15.20. Col. 1.18. y cyntaf-anedig o'r meirw, a thywysog brenhinoedd y ddaiar: iddo ef yr hwn a'n carodd ni, ac a'nHebr. 9.14. golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun:

6 Ac a'n1 Pet. 2.5. gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw, a'i Dâd ef, iddo ef y byddo y gogoniant, a'rllywo­draeth. gallu, yn oes oesoedd. Amen.

7Mat. 24.30. Wele, y mae efe yn dyfod gyd â'r cwmmylau, a phôb llygad a'i gwêl ef, ie y rhai a'i gwanasant ef: a holl lwythau y ddaiar a alarant o'i blegid ef: felly, Amen.

8 Mi yw Alpha ac Omega, y dechreu a'r diwedd, medd yr Arglwydd yr hwn sydd, a'r hwn oedd, a'r hwn sydd i ddyfod, yr Holl-alluog.

9 Myfi Ioan, yr hwn wyf hefyd eich brawd, a'ch cydymaith mewn cystudd, ac yn nheyrnas ac ammynedd Iesu Grist, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos, am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist.

10 Yr oeddwn i yn yr Yspryd a'r ddydd yr Arglwydd; ac a glywais o'r tu ôl i mi lêf fawr, fel ll [...]is [...]dcorn,

11 Yn dywedyd. Mi yw Alpha ac Omega, y cyntaf a'r diweddaf: a'r Hyn yr wyt yn ei weled, scrifenna mewn llyfr, a danfon i'r saith eglwys, y rhai sy 'n Asia: i Ephes [...]s, ac i Smyr­na, ac i Pergamus, ac i Thyati [...]a, ac i Sardis, a Philadelphia, a Lao [...]icea.

12 Ac mi a droais i we [...]ed y ll [...]f a lef [...]rai wrthif: ac wedi i mi dro [...], mi a welais saith ganhwyllbren aur,

13 Ac ynghanol y sa [...]h ganhwyllbren, vn tebyg i Fab y dŷn, wedi ymwisco â gwisc laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau â gwregys aur.

14 Ei ben ef a'i wallt oedd wynion fel gwlân,Gwyn fel eira. cyn wynned a'r eira: a'i lygaid fel fflamm dân,

15 A'i draed yn debyg i brês coeth, megis yn llosci mewnFfwr­neis. ffwrn: a'i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd.

16 Ac yr oedd ganddo yn ei law ddehau saith seren: ac o'i enau yr oedd cleddau llym dau-finiog yn dyfod allan: a'i wyneb-pryd fel yr haul yn discleirio yn ei nerth.

17 A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw: ac efe a osododd ei law ddehau arnafi, gan ddywedyd wrthif, Nac ofna:Esai. 41.4. & 44.6. myfi yw y cyntaf a'r diweddaf,

18 A'r hwn ŵyf fyw, ac a fûm farw: ac wele byw ydwyf yn oes oesoedd, Amen: ac y mae gennif agoriadau vffern a marwolaeth.

19 Scrifenna y pethau a welaist, a'r pethau sydd, a'r pethau a fydd ar ôl hyn.

20 Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddehau, a'r saith ganhwyllbren aur. Y saith seren, Angelion y saith Eglwys ydynt: a'r saith ganhwyllbren a welaist, y saith Eglwys ydynt.

PEN. II.

Pa beth a orchymmynnir ei scrifennu at Ang­ylion, hynny yw, gweinidogion Eglwysi 1 Ephe­sus, 8 Smyrna, 12 Pergamus, 18 Thyatira: a pha beth sydd ganmoladwy, neu ddeffygiol ynddynt.

AT Angel yr Fglwys sydd yn Ephesus, scri­fenna, Y pethau hyn y mae yr hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddehau, yr hwn sydd yn rhodio ynghanol y saith ganhwyll­bren aur, yn eu dywedyd:

2 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th lafur, a'th ymmynedd, ac na elli oddef y rhai drwg: a phrofi o honot y rhai sy 'n dywedyd eu bôd yn Apostolion, ac nid ydynt: a chael o honot hwynt yn gelwyddog.

3 A thi a oddefaist, ac y mae ymmynedd gennit, ac a gymmeraist boen er mwyn fy Enw i, ac ni ddiffygiaist.

4 Eithr y mae gennif beth yn dy erbyn, am i ti ymadel a'th Gariad cyntaf.

5 Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist, ac edi [...]hâ, a gwna y gweithredoedd cyntaf: ac onid e, yr wyfi yn dyfod attati ar frŷs, ac mi a symmudaf dy ganhwyllbren di allan o'i le, oni edifarhei di.

6 Ond hyn sydd gennit, dy fôd ti yn casâu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr ŵyfi he­fyd yn eu casâu.

7 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed pa beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi: I'r hwn sydd yn gorchfygu y rhoddaf iddo fwytta o bren y bywyd, yr hwn sydd ynghanol Paradwys Dduw.

8 Ac at Angel yr Eglwys sydd yn Smyrna, scrifenna, Y pethau hyn y mae y cyntaf, a'r diweddaf, yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn eu dywedyd:

9 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gystudd, a'th dlodi, eithr cyfoethog ŵyt: ac mi a adwaen gabledd y rhai sy yn dywedyd eu bôd yn Iuddewon, ac nid ydynt ond Syna­gog Satan.

10 Nac ofna ddim o'r pethau yr ydwyt iw dioddef: wele, y cythraul a fwrw rai o ho­noch chwi i garchar, fel i'ch profer: a chwi a [Page] gewch gystudd ddeng-nhiwrnod. Bydd ffyddlon hyd angeu, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd.

11 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi, Yr hwn sydd yn gorchfygu ni chaist ddim niwed gan yr ail farwolaeth.

12 Ac at Angel yr Eglwys sydd yn Perga­mus, scrifenna, Y pethau hyn y mae yr hwn fydd ganddo y cleddyf llym dau-finiog, yn eu dywedyd,

13 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a pha le yr ŵyt yn trigo, sef lle mae gorsedd-faingc Satan: ac yr ŵyt yn dal fy Enw i, ac ni wedaist fy ffydd i, îe yn y dyddiau y bu An­tipas yn ferthyr ffyddlon i mi, yr hwn a ladd­wyd yn eich plith chwi, lle y mae Satan yn trîgo.

14 Eithr y mae gennif ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegid bôd gennit yno rai yn dal athrawiaethNum. 25. Balaam, yr hwn a ddyscodd i Balac fwrw rhwystr ger bron meibion Israel, i fwytta pethau wedi eu haberthu i eulynnod, ac i odinebu.

15 Felly y mae gennit titheu hefyd rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid: yr hyn beth yr wyfi yn ei gasâu.

16 Edifarhâ: ac os amgen, yr wyfi yn dyfod attat ar frys, ac a ryfelafa hwynt. yn eu herbyn hwynt â chleddyf fy ngenau.

17 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi, I'r hwn sydd yn gorchfygu y rhoddaf iddo fwyta o'r Manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garrec henw newydd wedi ei scrifennu, yr hwn nid edwyn nêb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.

18 Ac at Angel yr Eglwys sydd yn Thya­tira, scrifenna, Y pethau hyn y mae Mâb Duw yn eu dywedyd, yr hwn sydd a'i lygaid fel fflam dân, a'i draed yn debyg i brês coeth:

19 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gariad, a'th wasanaeth, a'th ffydd, a'th ym­mynedd di,A bod dy wei­chredoedd dlweddaf yn fwy na 'r &c. a'th weithredoedd: a bôd y rhai diweddaf yn fwy nâ'r rhai cyntaf.

20 Eithr y mae gennif ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fôd yn gadel i'r wraig honno,1 Bren. 16.31. Iezabel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn brophwydes, ddyscu, a thwyllo fy ngwasanaeth-wŷr, i odinebu, ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eulynnod.

21 Ac mi a roddais iddi amser i edifarhauOddi­wrth. am [...]i godineb; ac nid edifarhaodd hi.

22 W [...]e, yr ŵyfi yn ei bwrw hi ar wely, a'r rhai [...] yn godinebu gyd â hi, i gystudd mawr, on [...] edifarhântodd­iwrth. am eu gweithred­oedd.

23 A'i phlant hi a laddaf â marwolaeth: a'r holl Eglwysi a gânt ŵybod mai myfi yw yr hwn sydd ynJere. 11.20. & 17.10. chwilio yr arennau a'r ca­lonnau: ac mi a roddaf i bôb yn o honoch yn ôl eich gweithredoedd.

24 Eithr wrthych chwi yr ŵyf yn dywe­dyd, ac wrth y lleill yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysceidiaeth hon, a'r rhai ni adnabuant ddyfnderau Satan, fel y dywedant: ni fwriaf arnochEwys. faich arall:

25 Eithr, yr hyn sydd gennwch, deliwch hyd oni ddelwyf.

26 A'r hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo awdurdod ar y Cenhedloedd:

27 (Psal. 2.9. Ac efe a'u bugeilia hwy â gwialen haiarn: fel llestri pridd y dryllir hwynt;) fel y derbyniais inneu gan [...]

28 Ac mi a rodd [...] [...]

29 Yr hwn [...] wed beth y mae 'r [...] wrth yr Eglwysi.

PE [...] [...]

2 Argyoeddi Angel [...] ef i edifarhau, a'i fyg [...] [...] [...] ­gel Eglwys Philadel [...] [...] [...] ­mol am ei ddiwydr [...] [...] 15 Angel Laodicea y [...] [...] bai na brwd nac oer, 19 [...] fwy ei zêl. 20 Christ yn s [...] [...] yn curo.

AC at Angel yr Eglwys [...] scrifenna, Y pethau hyn [...] sydd a saith Yspryd Duw, a'i [...] [...] ­ddo, yn eu dywedyd; mi a [...] [...] ­thredoedd di; oblegid y ma [...] [...] fôd yn fyw, a marw ydwyt.

2 Bydd wiliadwrus, a si [...] [...] sy yn ôl, y rhai sydd barod [...] ni chefais dy weithredoedd y [...] [...] bron Duw.

3 Cofia gan hynny pa fodd [...] ac y clywaist: a chadw, [...] [...] Os tydi gan hynny ni wili, [...] arnati fel lleidr, ac ni chei di ŵy [...] [...] deuaf arnat.

4 Eithr y mae gennit ychydig e [...] [...] Sardis, y rhai ni halogasant eu dill [...] rodiant gyd â mi mewn dillad gwy [...] [...] legid teilwng ydynt.

5 Yr hwn sydd yn gorchfygu, h [...] wiscir mewn dillad gwynion: ac ni dde [...] enw ef allan o [...] 4. lyfr y bywyd, ond [...] gyffesaf ei enw ef ger bron fy Nhâd, a [...] ­bron ei Angelion ef.

6 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi.

7 Ac at Angel yr Eglwys sydd yn Philadel­phia, scrifenna, Y pethau hyn y mae y Sanctaidd, y Cywir, yn eu dywedyd, yr hwn sydd gan­ddo agoriad Dafydd, yr hwn sydd yn agoryd, ac nid yw neb yn cau; ac yn cau, ac nid yw neb yn agoryd;

8 Mi a adwaen dy we [...]thredoedd: wele, rhoddais ger dy fron ddrŵs agored, ac ni ddi­chon neb ei gau: canys y mae gennit ychydig nerth, a thi a gedwaist fy ngair: ac ni wedaist fy Enw.

9 Wele, mi a wnaf iddynt hwy o synagog Satan, y rhai sydd yn dywedyd eu bôd yn Iddewon, ac nid ydynt, ond dywedyd celwydd y maent: wele, meddaf, gwnaf iddynt ddyfod, ac addoli o flaen dy draed, a gŵybod fy môd i yn dy garu di.

10 O achos cad y o honot air fy ymmy­nedd i, minneu a'th gadwaf di oddi wrth awr y brofedigaeth, yr hon a ddaw ar yr holl fyd, i brofi y rhai sydd yn trigo ar y ddaiar.

11 Wele, yr ŵyf yn dyfod ar frŷs: dal yr hyn sydd gennit, fel na ddygo nêb dy goron di.

12 Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a'i gwnaf yn golofn yn Nheml fy Nuw i, ac allan nid â efe mwyach: ac mi a scrifennaf arno ef henw fy Nuw i, a henw dinas fy Nuw i, yr hon ydyw Ierusalem newydd, yr hon sydd yn descyn o'r nêf oddi wrth fy Nuw i, ac mi a scrifennaf arno ef fy Enw newydd i.

[...] [...]d ganddo glûst, gwranda­ [...] [...] Yspryd yn ei ddywedyd [...]

[...] y Laodiceaid, scri­ [...] [...] [...]ae Amen yn eu dy­ [...] [...] chywir, dechreuad [...]

[...] weithredoedd di, nad [...] [...]d: mi a fynnwn pe [...]

[...] [...]d yn glayar, ac nid yn [...] a'th chwydaf di allan [...]

[...] fôd yn dywedyd, Goludog [...] [...]foethogais, ac nid oes arnaf [...] [...]i ŵyddost dy fôd yn druan, [...] yn dlawd, ac yn ddall, ac [...]

[...] [...]n dy gynghori i brynu gen­ [...] [...] [...]i buro trwy dân, fel i'th gyf­ [...] [...] [...]llad gwynion, fel i'th wiscer, [...] [...]ddangoso gwarth dy noethder [...] dy lygaid ag ell llygaid, fel y [...]

[...] [...]fi yn argyoeddi, ac yn ceryddu [...] [...]f yn eu caru: am hynny bydded [...] edifarhâ.

[...] yr ŵyf yn sefyll wrth y drws ac [...] clyw nêb fy llais i, ac agoryd y [...] ddeuaf i mewn atto ef, ac a swp­ [...] [...] ef, a [...] yntef gyd â minneu.

[...] [...]wn sydd yn gorchfygu, rhoddaf [...] [...]edd gyd â mi ar fy ngorsedd-faingc, [...] [...]orchfygais inneu, ac yr eisteddais gyd [...] ar ei orsedd-faingc ef.

[...] Yr hwn sydd ganddo glûst, gwranda­ [...] [...]eth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd [...] yr Eglwysi.

PEN. IV.

2 Ioan yn gwel [...] gorsedd-faingc Duw yn y Nef: 4 Y pedwar Henuriad ar hugain: 6 Y pedwar anifail yn llawn llygaid ymlaen ac yn ol: 10 Yr Henuriaid yn bwrw i lawr eu co­ronau, ac yn addoli 'r hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc.

YN ôl y pethau hyn yr edrychais, ac wele ddrŵs wedi ei agoryd yn y nêf, a'r llais cyntaf a glywais, oedd fel llais vdcorn yn ymddiddan â mi; gan ddywedyd, Dring i fynu ymma, a mi a ddangosaf i ti y pethau sy raid euGwneu­thur. bôd ar ôl hyn.

2 Ac yn y man yr oeddwn yn yr yspryd: ac wele, yr oedd gorsedd-faingc wedi ei gosod yn y nêf, ac vn yn eistedd ar yr orsedd-faingc:

3 A'r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen Iaspis a Sardin: ac yr oedd enfys o amgylch yr orsedd-faingc, yn debyg yr olwg arno i Smaragdus.

4 Ac ynghylch yr orsedd-faingc yr oedd pedair gorsedd-fraingc ar hugain: ac ar y gorsedd-feingciau y gwelais bedwar Henuriad ar hugain yn eistedd, wedi eu gwisco mewn dillad gwynion: ac yr oedd ganddynt ar eu pennau goronau aur.

5 Ac yr oedd yn dyfod allan o'r orsedd-faingc, fellt, a tharanau, a lleisiau: ac yr oedd saith o lampau tân yn llosci ger bron yr orsedd-faingc, y rhai yw saith Yspryd Duw.

6 Ac o flaen yr orsedd-faingc yr ydoedd môr o wydr, yn debyg i grystal: ac ynghanol yr orsedd-faingc, ac ynghylch yr orsedd-faingc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o'r tu blaen, ac o'r tu ôl.

7 A'r anifail cyntaf oedd debyg i lew, a'r ail anifail yn debyg i lo, a'r trydydd anifail oedd ganddo wyneb fel dŷn, a'r pedwerydd anifail oedd debyg i eryr yn ehedeg.

8 A'r pedwar anifail oedd ganddynt, bôb vn o honynt, chwech o adenydd o'u hamgylch, ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn llygaid: ac nid oeddynt yn gorphywys ddydd a nôs, gan ddywedyd,Esay. 6.3. Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn oedd, a'r hwn sydd, a'r hwn sydd i ddyfod.

9 A phan fyddo yr anifeiliaid yn rhoddi gogoniant, ac anrhydedd, a diolch, i'r hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd,

10 Y mae y pedwar Henuriad ar hugain yn syrthio ger bron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac yn addoli yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd: ac yn bwrw eu coronau ger bron yr orsedd-faingc, gan ddy­wedyd,

11Pen. 5.12. Teilwng ŵyt o Arglwydd i dderbyn gogoniant, ac anrhydedd, a gallu: canys ti a greaist bôb peth, ac o herwydd dy ewyllys di y maent, ac y crewyd hwynt.

PEN. V.

1 Y llyfr wedi ei selio â saith sel: 9 yr hwn yr oedd yr Oen a laddesid yn vnic yn deilwng iw agoryd. 12 Yr Henuriaid o ran hynny yn ei foliannu ef, 9 ac yn cyfaddef mai efe a'i pryna­sei hwy â'i waed.

AC mi a welais yn neheu-law yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, lyfr wedi ei scrifennu oddi fewn acAr y tu cefn. oddi allan, wedi ei selio â saith sêl.

2 Ac mi a welais Angel crŷf yn cyhoeddi â llêfFawr. vchel, Pwy sydd deilwng i agoryd y llyfr, ac i ddattod ei seliau ef?

3 Ac nid oedd nêb yn y nêf, nac yn y ddaiar, na than y ddaiar, yn gallu agoryd y llyfr, nac edrych arno.

4 Ac mi a ŵylais lawer, o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd, ac i ddarllen y llyfr, nac i edrych arno.

5 Ac vn o'r Henuriaid a ddywedodd wrth­if, Nac ŵyla; wele, yGen. 49.9. Llew yr hwn sydd o lwyth Iuda, gwreiddyn Dafydd, a orchfygodd i agoryd y llyfr, ac i ddattod ei saith sêl ef.

6 Ac mi a edrychais, ac wele, ynghanol yr orsedd-faingc a'r pedwar anifail, [...] [...]ghanol yr Henuriaid, yr oedd Oen yn [...]ll, megis wedi ei ladd, a chanddo saith g [...]n, a saith lygad; y rhai ydyw saith Yspryd Duw, wedi eu danfon allan i'r holl ddaiar.

7 Ac efe a ddaeth, ac a gymmerth y llyfr o ddeheu-law yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc.

8 A phan gymmerth efe y llyfr, y pedwar anifail, a'r pedwar Henuriad ar hugain, a syrthiasant ger bron yr Oen, a chan bôb vn o honynt yr oedd telynau, a phialau aur, yn llawn o arogl-darth: y rhai ydyw gwe­ddiau 'r Sainct.

9 A hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, Teilwng ŵyt ti i gymmeryd y llyfr, ac i agoryd ei selau ef: oblegid ti a ladd­wyd, ac a'n prynaist ni i Dduw trwy dy waed, allan o bôb llwyth,A tha­fod. ac laith, a phobl, a chenedl:

101 Pet. 2.9. Ac a'n gwnaethost ni i'n Duw ni, yn [Page] frenhinoedd, ac yn offeiriaid: ac ni a deyrna­swn ar y ddaiar.

11 Ac mi a edrychais, ac a glywais lais Angelion lawer ynghylch yr orsedd-faingc, a'r anifeiliaid, a'r Henuriaid: a'u rhifedi hwynt oedd fyrddiwnau o fyrddiwnau, a miloedd o filoedd:

12 Yn dywedyd â llêfFawr. vchel, Teilwng yw'r Oen, yr hwn a laddwyd, i dderbyn gallu, a chyfoeth, a doethineb, a chadernid, ac anrhy­dedd, a gogoniant, a bendith.

13 A phôb creadur ac sydd yn y nêf, ac ar y ddaiar, a than y ddaiar, a'r pethau sydd yn y môr, ac oll ac sy ynddynt, a glywais i yn dywedyd, l'r hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac i'r Oen y byddo y fendith, a'r anrhy­dedd, a'r gogoniant, a'r gallu, yn oes oesoedd.

14 A'r pedwar anifail a ddywedasant, Amen. A'r pedwar Henuriad ar hugain a syrthiasant i lawr, ac a addolasant yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.

PEN. VI.

1 Agoryd y seliau, y naill ar ol y llall, a pha beth a ddigwyddodd ar hynny, yr hyn sydd yn cyn­wys prophwydoliaeth hyd ddiwedd y byd.

AC mi a welais pan agorodd yr Oen vn o'r seliau, ac mi a glywais vn o'r pedwar anifail yn dywedyd, fel trŵst taran, Tyred a gwêl.

2 Ac mi a welais, ac wele farch gwyn, a'r hwn oedd yn eistedd arno, a bwa ganddo: a rhoddwyd iddo goron, ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu.

3 A phan agorodd efe yr ail sel, mi a gly­wais yr ail anifail yn dywedyd, Tyred a gwêl.

4 Ac fe aeth allan farch arall, vn coch: a'r hwn oedd yn eistedd arno y rhoddwyd iddo gymmeryd heddwch oddi ar y ddaiar, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr.

5 A phan agorodd efe y drydedd sêl, mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred a gwêl. Ac mi a welais, ac wele farch dû, a'r hwn oedd yn eistedd arno, â chlorian ganddo yn ei law.

6 Ac mi a glywais lais ynghanol y pedwar anifail yn dywedyd,Choinix a arwy­ddoca fe­sur yn cynnwys vn chwart gwin, a deuddeg­fed ran chwart. Mesur o wenith er cei­niog, a thri mesur o haidd er ceiniog: a'r olew a'r gwîn, na wna niwed iddynt.

7 A phan agorodd efe y bedwaredd sêl, mi a glywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd, Tyred a gwêl.

8 Ac mi a edrychais, ac wele farch gwelw­las: a henw yr hwn oedd yn estedd arno oedd Marwolaeth; ac yr oedd Vffern yn canlyn gyd ag ef: a rhoddwydIddo. iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o'r ddaiar, i lâdd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, ac â bwyst­filod y ddaiar.

9 A phan agorodd efe y bummed sêl, mi a welais tan yr allor eneidiau y rhai a laddesid am air Duw, ac am y dystiolaeth oedd ganddynt.

10 A hwy a lefasant â llêfFawr. vchel, gan ddy­wedyd, Pa hyd Arglwydd, sanctaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu, ac yn dial ein gwaed ni, ar y rhai sy yn trigo ar y ddaiar?

11 A gŷnau gwynion a roed i bôb vn o honynt, a dywedpwyd wrthynt ar iddynt orphywys etto ychydig amser, hyd oni chy­flawnid rhif eu cyd-weision, a'u brodyr, y rhai oedd i gael eu llâdd, megis ac y cawsent hwy­thau.

12 Ac mi a edrychais pan agorodd efe y chweched sêl, ac wele, bu daiar-gryn mawr: a'r haul a aeth yn ddû fel sachlen flew, a'r lleuad a aeth fel gwaed.

13 A sêr y nef a syrthiasant ar y ddaiar, fel y mae 'r ffigys-bren yn bwrw ei ffigys gleision, pan ei hescydwer gan wynt mawr.

14Esai 34.4. A'r nef a aeth heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd, a phôb mynydd, ac ynys a symmudwyd allan o'u lleoedd.

15 A brenhinoedd y ddaiar, a'r gwŷr mawr, a'r cyfoethogion, a'r pen-capteniaid, a'r gwŷr cedyrn, a phob gwr caeth, a phôb gŵr rhŷdd, a ymguddiasant yn yr ogfeydd, ac ynghreigiau y mynyddoedd;

16 Ac a ddywedasant wrth y mynyddoedd a'r creigiau,Luc. 23.30. Syrthiwch arnom ni, a chuddi­wch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac oddiwrth lîd yr Oen:

17 Canys daeth dydd mawr ei ddigter ef: a phwy a ddichon sefyll?

PEN. VII.

3 Angel yn selio gwasanaethwyr Duw yn eu talcennau. 4 Nifer y rhai a seliwyd: o lwythau Israel rhifedi yspysawl: 9 o bôb Cenhedloedd eraill tyrfa aneirif, y rhai sydd yn sefyll ger bron yr orsedd-faingc, a gynau gwynion am danynt, ac a phalmwydd yn eu dwylaw. 14 Bôd eu gynau wedi eu golchi yngwaed yr Oen.

AC yn ôl y pethau hyn, mi a welais bedwar Angel, yn sefyll ar bedair congl y ddaiar, yn dal pedwar gwynt y ddaiar, fel na chwythei 'r gwynt ar y ddaiar, nac ar y môr, nac ar vn pren.

2 Ac mi a welais Angel arall yn dyfod i fynu oddi wrth godiad haul, a sêl y Duw byw ganddo: ac efe a lefodd â llêfFawr. vchel ar y pedwar Angel, i'r rhai y rhoddasid gallu i ddry­gu 'r ddaiar a'r môr,

3 Gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaiar, na'r môr, na'r preniau, nes darfod i ni selio gwasanaeth-wŷr ein Duw ni yn eu talcen­nau.

4 Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd: yr oedd wedi eu selio gant a phedair a deugain o filoedd, o holl lwythau meibion Israel.

5 O lwyth Iuda, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Ruben, yr oedd deu­ddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Gad, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio:

6 O lwyth Aser, yr oedd deuddeng-mil we­di eu selio: o lwyth Nephthali, yr oedd deu­ddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Manasses, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio:

7 O lwyth Simeon, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Lefi, yr oedd deu­ddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Isachar, yr oedd deuddeng-mil wedi eu felio:

8 O lwyth Zabulon, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Ioseph, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Benia­min, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio.

9 Wedi hyn mi a edrychais, ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allei nêb ei rhifo, o bôb cenedl, a llwythau, a phobloedd,A tha­fodau. ac ieithoedd, yn sefyll ger bron yr orsedd-faingc, a cher bron yr Oen, wedi eu gwisco mewn gynau gwynion, a phalm-wydd yn eu dwylo:

10 Ac yn llefain a llêfFawr. vchel, gan ddywe­dyd, Iechydwriaeth i'n Duw ni, yr hwn sydd [Page] yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac i'r Oen.

11 A'r holl Angelion a safasant o amgylch yr orsedd faingc, a'r He [...]u [...]iaid, a'r pedwar anifail: ac a sy [...]asant ger bron yr orsedd­faingc ar [...] hwynebau, ac a addolasant Dduw,

12 Gan ddywedyd, Amen: y fendith [...] gogoniant, a'r doethineb, a'r diolch, a'r an [...] ­dedd, a'r gallu, a'r nerth, a fyddo i'n [...] ni yn oes oeso [...]. Amen.

13 Ac vn o'r Henuriaid a [...], gan ddywedyd wrthif, Pwy ydyw [...] rhai hyn sy wedi eu gwisco mewn gynau g [...]nion? ac o ba le y daethant?

14 Ac mi a ddywedais wrtho ef, Arglwydd, ti a ŵyddost. Ac efe a ddywedodd wrthif, Y rhai hyn yw y rhai a ddaethant allan o'r cy­studd mawr: ac a olchasant eu gŷnau, ac a'u cannasant hwy yn waed yr Oen.

15 O herwydd hynny y maent ger bron gorsedd-faingc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nôs yn ei Deml: a'r hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-faingc,Pen. 21.3. aEsyd ei bab [...]ll ar­nynt, neu trostynt. drîg yn eu plith hwynt.

16Esai. 49.10. Ni fydd arnynt na newyn mwyach, na syched mwyach: ac ni ddescyn arnynt na'r haul, na dim gwrês.

17 Oblegid yr Oen, yr hwn sydd ynghanol yr orsedd-faingc, a'i bugeilia hwynt ac a'u har­wain hwynt at ffynnhonnauByw. buwiol o ddy­froedd: aEsai. 25.8. Pen. 21.4. Duw a sych ymmaith bôb deigr oddiwrth eu llygaid hwynt.

PEN. VIII.

1 Wrth agoryd y seithfed sêl, 2 y rhoddwyd saith o vdcyrn i saith o Angylion. 6 Pedwar o honynt yn vdcanu â'i hudcyrn, a phlaau mawr yn calyn. 3 Angel arall yn rhoddi arogl-darth at weddiau y Sainct ar yr Allor aur.

A Phan agorodd efe y seithfed sêl, yr ydoeddDistaw­rwydd. gosteg yn y nêf, megis tros han­ner awr.

2 Ac mi a welais y saith Angel, y rhai oedd yn sefyll ger bron Duw: a rhoddwyd iddynt saith o vdcyrn.

3 Ac Angel arall a ddaeth, ac a safodd ger bron yr allor, a thusser aur ganddo: a rhodd­wyd iddo arogl-darth lawer, felY rho­ddei at weddiau. yr offrym­mei ef gyd â gweddiau yr holl Sainct ar yr allor aur, yr hon oedd ger bron yr orsedd-faingc.

4 Ac fe aeth mŵg yr arogl-darth gyd â gweddiau 'r Sainct, o law 'r Angel, i fynu ger bron Duw.

5 A'r Angel a gymmerth y thusser, ac a'i llanwodd hi o dân yr allor, ac a'i bwriodd i'r ddaiar: a bu lleisiau, a tharanau, a mellt, a daiar-gryn.

6 A'r saith Angel, y rhai oedd â'r saith vdcorn ganddynt, a ymbaratoesant i vdcanu.

7 A'r Angel cyntaf a vdcanodd, a bu cen­llysc, a thân, wedi eu cymmyscu â gwaed, a hwy a fwriwyd i'r ddaiar: a thraian yDdaiar. pre­niau a loscwyd, a'r holl lâswellt a loscwyd.

8 A'r ail Angel a vdcanodd, a megis my­nydd mawr yn llos [...]i gan dan a fwriwyd i'r môr: a thraian y môr a aeth yn waed.

9 A bu farw traian y creaduriaid, y rhai oedd yn y môr, ac â byw ynddynt: a thraian y llongau a ddinistriwyd.

10 A'r trydydd Angel a vdcanodd, a syr­thiodd o'r nêf seren fawr, yn llosci fel lamp, a hi a syrthiodd ar draian yr afonydd, ac ar ffynhonnau y dyfroedd:

11 A henw 'r seren a elwir Wermod, ac [...] traian y dyfroedd yn Wer [...] [...] [...]wer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, ob­legid eu myned yn chwerwon.

12 A'r pedwerydd Angel a vdcanodd, a tharawyd traian yr haul, a thraian y lleuad, a thraian y sêr: fel y tywyllwyd eu traian hwynt, ac ni lewyrchodd y dydd ei draian, a'r nôs yr vn ffunyd.

13 Ac mi a edrychais, ac a glywais Angel yn ehedeg ynghanol y nêf, gan ddywedyd â llêfFawr. vchel, Gwae, gwae, gwae, i'r rhai sy 'n trigo ar y ddaiar rhag lleisiau eraill vdcorn y tri Angel, y rhai sydd etto i vdcanu.

PEN. IX.

1 Seren yn syrthio o'r Nef, wrth vdcanu o'r pummed Angel, i'r hwn y rhoddwyd agoriad y pwll heb waelod: 2 Yntef yn agoryd y pwll, a locustiaid fel Scorpionau yn dyfod allan. 12 Y wae gyntaf wedi myned heibio. 13 Y chweched vdcorn yn canu: 14 a gollwng pedwar Angel yn rhydd, y rhai oedd wedi eu rhwymo.

A'R pummed Angel a vdcanodd, ac mi a welais seren yn syrthio o'r nêf i'r ddaiar; a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod.

2 Ac efe a agorodd y pydew heb waelod: a chododd mŵg ô'r pydew, fel mŵg ffwrnes fawr: a thywyllwyd yr haul, a'r awyr, gan fŵg y pydew.

3 Ac o'r mŵg y daeth allan locustiaid ar y ddaiar: a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan scorpionau 'r ddaiar awdurdod.

4 A dywedpwyd wrthynt na wnaent niwed i las-wellt y ddaiar, nac i ddim gwyrdd-las, nac i vn pren: ond yn vnic i'r dynion oedd heb sêl Duw yn eu talcennau.

5 A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt eu blino hwy bum mîs: ac y byddei eu gofid hwy, fel gofid oddi wrth scor­pion, pan ddarfyddai iddi frathu dŷn.

6 Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth, ac ni's cânt: ac a chwennychant­farw, a marwolaeth a gilia oddi wrthynt.

7 A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratôi i ryfel: ac yr oedd ar eu pen­nau megis coronau yn debyg i aur, a'u hwy­nebau fel wynebau dynion.

8 A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwrag­edd, a'u dannedd oedd fel dannedd llewod.

9 Ac yr oedd ganddynt lurigau, fel llurigau haiarn: a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel.

10 Ac yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i scorpionau, ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau hwy, a'u gallu oedd i ddrygu dy­nion bum mîs.

11 Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt, sef Angel y pydew di-waelod: a'i henw ef yn Ebrew ydyw Abad-don, ac yn Roeg y mae iddo enwSef di­nistrudd. Apol-lyon.

12 Vn wae a aeth heibio, wele y mae yn dyfod etto ddwy wae yn ôl hyn.

13 A'r chweched Angel a vdcanodd, ac mi a glywais lêf allan o bedwar corn yr allor aur, yr hon sydd ger bron Duw,

14 Yn dywedyd wrth y chweched Angel, yr hwn oedd a'r vdcorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar Angel sydd yn rhwym yn yr afon fawr Euphrates.

15 A gollyngwyd y pedwar Angel, y rhai oedd wedi eu paratôi erbyn awr, a diwrnod, a mîs, a blwyddyn, fel y lladdent y traian o'r dynion.

16 A rhifedi y llu o wŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiwnau: ac mi a gly­wais eu rhifedi hwynt.

17 Ac fel hyn y gwelais i y meirch yn y weledigaeth, a'r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau tanllyd, ac o liw hyacint a brwmstan: a phennau 'r meirch oedd fel pen­nau llewod, ac yr oedd yn myned allan o'u safnau dân, a mŵg, a brwmstan.

18 Gan y tri hyn y llâs traian y dynion, gan y tân, a chan y mŵg, a chan y brwmstan oedd yn dyfod allan o'u safnau hwynt.

19 Canys eu gallu hwy sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau: canys eu cynffonnau oedd debyg i seirph, a phennau ganddynt: ac â'r rhai hynny y maent yn drygu.

20 A'r dynion eraill, y rhai ni laddwyd gan y plâau hyn, nid edifarhasant oddi wrth wei­thredoedd eu dwylo eu hun,Psal. 116.4. & 135.15. fel nad addolent gythreuliaid, a delwau aur, ac arian, a phrês, a main, a phrennau, y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio:

21 Ac nid edifarhasant oddi wrth eu ll [...]fru­ddiaeth, nac oddi wrth eu cyfareddion, nac oddi wrth eu godineb, nac oddi wrth eu lledrad.

PEN. X.

1 Angel cryf cadarn yn ymddangos, a llyfr agored yn ei law: 6 Ac yn tyngu i'r hwn sydd yn byw yn dragywydd, na bydd amser mwy. 9 Gorchymmyn i Ioan gymmeryd y llyfr a'i fwytta.

AC mi a welais Angel crŷf arall yn descyn o'r nêf, wedi ei wisco â chwmwl: ac en­fys oedd ar ei ben: a'i wyneb ydoedd fel yr haul, a'i draed fel colofnau o dân.

2 Ac yr oedd ganddo yn ei law lyfr bychan wedi ei agoryd: ac efe a osododd ei droed dehau ar y môr, a'i asswy ar y tîr,

3 Ac a lefodd â llêfFawr. vchel, fel y rhua llew: ac wedi iddo lefain, y saith daran a lefarasant eu llefau hwythau.

4 Ac wedi darfod i'r saith daran lefaru eu llefau, yr oeddwn ar fedr scrifennu: ac mi a glywais lêf o'r nêf yn dywedyd wrthif, Selia y pethau a lefarodd y saith daran, ac na scrifen­na hwynt.

5 A'r Angel, yr hwn a welait i yn sefyll ar y môr, ac ar y tîr, a gododd ei law i'r nêf,

6 Ac a dyngodd i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nêf, a'r pethau sydd ynddi, a'r ddaiar a'r pethau sydd ynddi, a'r môr a'r pethau sy ynddo, na byddei amser mwyach.

7 Ond yn nyddiau llêf y seithfed Angel, pan ddechreuo efe vdcanu, gorphennir dirgelwch Duw, fel y mynegodd efe iw wasanaethwŷr y Prophwydi.

8 A'r llêf a glywais o'r nêf, a lefarodd drachefn wrthif, ac a ddywedodd, Dôs, cym­mer y llyfr bychan sydd wedi ei agoryd yn llaw 'r Angel, yr hwn sydd yn sefyll ar y môr, ac ar y tîr.

9 Ac mi a aethym at yr Angel, gan ddy­wedyd wrtho, Moes i mi y llyfr bychan. Ac efe a ddywedodd wrthif,Enoc. 2.8. & 3.3. Cymmer a bwyta ef yn llwyr: ac efe a chwerwa dy fol di: eithr yn dy enau y bydd yn felys fel mêl.

10 Ac mi a gymmerais y llyf [...] bychan o law'r Angel, ac a'i bwyfêais ef, ac yr oedd efe yn fy ngenau megis mel yn felys; ac wedi i mi ei fwytta ef, fy mol a aeth yn chwerw.

11 Ac efe a ddywedodd wrthif, Rhaid i ti drachefn brophwydo i bobloedd, a chenhedloedd,A tha­fodau. ac ieithoedd, a brenhinoedd lawer.

PEN. XI.

3 Y ddau dyst yn prophwydo. 6 Bod ganthynt awdurdod i gau 'r nef, rhag iddi lawio: 7 Yr ymladd y Bwystfil yn eu herbyn, ac y llâdd hwynt; 8 Hwythau yn gorwedd heb eu claddu, 11 ac ar ôl tridiau a hanner yn adgyfodi. 14 Yr ail wae yn myned heibio. 15 Y seithfed vdcorn yn canu.

A Rhoddwyd i mi gorsen debyg i wialen: a'r Angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfed, a mesura Deml Dduw, a'r allor, a'r rhai sy yn addoli ynddi.

2 Ond y cyntedd sydd o'r tu allan i'r Deml,Neu, gad allan. bwrw allan, ac na fesura ef, oblegid efe a roddwyd i'r Cenhedloedd: a'r ddinas sanctaidd a fathrant hwy ddeu-fîs a deugain.

3 Ac mi a roddaf allu i'm dau dŷst: a hwy a brophwydant, fîl, a deu-cant a thrugain o ddyddiau, wedi ymwisco â sachliain.

4 Y rhai hyn yw yZach. 4.3.11.14. ddwy olewydden, a'r ddau ganhwyll-bren sydd yn sefyll ger bron Duw 'r ddaiar.

5 Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o'u genau hwy; ac yn difetha eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt, fel hyn y mae 'n rhaid ei lâdd ef.

6 Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau y nef, fel na lawio hi yn nyddiau eu pro­phwydoliaeth hwynt: ac awdurdod sydd gan­ddynt ar y dyfroedd, iw troi hwynt yn waed, ac i daro 'r dddaiar â phôb plâ, cyn fynyched ac y mynnont.

7 A phan ddarfyddo iddynt orphen eu tystiolaeth, y Bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o'r pwll di-waelod a ryfela â hwynt, ac a'u gorchfyga hwynt, ac a'u llâdd hwynt:

8 A'u cyrph hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysprydol a elwir So­doma, a'r Alpht: lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni.

9 A'r rhai o'r bobloedd, a'r llwythau, a'rTa­fodau. ieithoedd, a'r Cenhedloedd, a welant eu cyrph hwynt dri-diau a hanner, ac ni oddefant roi eu cyrph hwy mewn beddau.

10 A'r rhai sydd yn trigo ar y ddaiar a lawenhant o'u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant roddion iw gilydd: oblegid y ddau brophwyd hyn oedd yn poeni y rhai oedd yn trigo ar y ddaiar.

11 Ac yn ôl tridiau a hanner, yspryd bywyd oddi wrth Dduw, a aeth i mewn iddynt hwy: a hwy a safasant ar eu traed, ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a'i gwelodd hwynt.

12 A hwy a glywsant lefFaw [...] vchel o'r nef, yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fynu ymma. A hwy a aethant i fynu i'r nef mewn cwmmwl: a'u gelynion a edrychasant arnynt.

13 Ac yn yr awr honno y bu daiargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd, a lladdwyd yn y ddaiar-gryn saith mîl oGr. hen­wau gwyr. wŷr: a'r lleill a ddychrynasant, ac a rodda­sant ogoniant i Dduw 'r nef.

14 Yr ail wae a aeth heibi [...] [...] [Page] y drydedd wae yn dyfod ar frys.

15 A'r seithfed Angel a vdcanodd, a bu llefauMawri­ [...]n. vchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyr­nasoedd y bŷd yn eiddo ein Harglwydd ni, a'i Grist ef: ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd.

16 A'r pedwar Henuriad ar hugain, y rhai oedd ger bron Duw yn eistedd ar eu gorsedd­feingciau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,

17 Gan ddywedyd, Yr wydym yn diolch i ti ô Arglwydd Dduw Holl-alluog, yr hwn ŵyt, a'r hwn oeddit, a'r hwn ŵyt yn dyfod: oble­gid ti a gymmeraist dy allu mawr, ac a deyr­nesaist:

18 A'r Cenhedloedd a ddigiasant, a daeth dy ddîg di:Neu, ac amser y meirw: gael eu barnu. a'r amser i farnu 'r meirw, ac i roi gwobr i'th wasanaethwŷr y Prophwydi, ac i'r Sainct, ac i'r rhai sydd yn ofni dy Enw, fychain a mawrion: ac iLygru. ddifetha y rhai sydd ynLlygru. difetha 'r ddaiar.

19 Ac agorwyd Teml Dduw yn y nef, a gwelwyd arch ei gyfammod ef yn ei Deml ef; a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daiar-gryn, a chenllysc mawr.

PEN. XII.

1 Gwraig wedi ei gwisco â'r haul yn trafaelu ar ei thymp i escor. 4 Y ddraig fawr gôch yn sefyll o'i blaen hi i ddifa ei phlentyn hi. 6 Wedi iddi escor, y mae hi yn cilio i'r diffaethwch. 7 Michael a'i angylion yn ymladd â'r ddraig, ac yn myned yn drêch na ni. 13 Y ddraig wedi ei thaflu i'r ddaiar yn erlid y wraig.

AArwydd. Rhyfeddod mawr a welwyd yn y nef; gwraig wedi ei gwisco â'r haul, a'r lleuad tan ei thraed; ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren:

2 A hi yn feichiog, a lefodd gan fôd mewn gwewyr, a gofid i escor.

3 A gwelwydArwydd. rhyfeddod arall yn y nef, ac wele ddraig goch fawr, a saith ben iddi, a deg corn; ac ar ei phennau saith goron.

4 A'i chynffon hi a dynnodd draian sêr y nef, ac a'u bwriodd hwynt i'r ddaiar: a'r ddraig a safodd ger bron y wraig yr hon ydoedd yn barod i escor, i ddifa ei phlentyn hi, pan escorei hi arno.

5 A hi a escorodd ar fâb gwr-ryw, yr hwn oedd i fugeilio yr holl Genhedloedd â gwialen haiarn: a'i phlentyn hi a gymmerwyd i fynu at Dduw, ac at ei orsedd-faingc ef.

6 A'r wraig a ffôdd i'r diffaethwch, lle mae genddi le wedi ei baratol gan Dduw, fel y porthent hi yno fîl, a deu-cant, a thrugain o ddyddiau.

7 A bu rhyfel yn y nef: Michael a'i ange­lion a ryfelasant yn erbyn y ddraig, a'r ddraig a ryfelodd, a'i hangelion hithau.

8 Ac ni orfuant, a'u lle hwynt ni's cafwyd [...]wyach yn y nef.

9 A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hên sarph, yr hon a elwir diafol, a Satan, yr hwn sydd yn twyllo 'r holl fŷd, efe a fwriwyd allan i'r ddaiar, a'i angelion a fwriwyd allan gyd ag ef.

10 Ac mi a glywais lefFawr. vchel yn dywe­dyd yn y nef, Yr awron y daeth iechydwriaeth, a [...]e [...]th, a theyrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef: canys cyhuddwr ein brodyr ni a fw­riwyd i'r llawr, yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy ger bron ein Duw ni, ddydd a nôs.

11 A hwy a'i gorchfugasant ef trwy [...] ac ni charasant eu henioes hyd angeu.

12 O herwydd hyn llawenhewch, y nefoedd, a'r rhai ydych yn trigo ynddynt. Gwae y rhai sydd yn trigo ar y ddaiar, a'r môr, canys diafol a ddescynnodd attoch chwi, a chanddo lîd mawr, o herwydd ei fôd yn gŵybod nad oes iddo ond ychydig amser.

13 A phan welodd y ddraig ei bwrw i'r ddaiar, hi a erlidiodd y wraig a escorasei ar y mâb.

14 A rhoddwyd i'r wraig ddwy o adenydd eryr mawr, fel yr chedai hi i'r diffaethwch iw lle ei hun: lle yr ydys yn ei maethu hi yno tros amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y sarph.

15 A'r sarph a fwriodd allan o'i safn, ar ôl y wraig, ddwfr megis afon: fel y gwnai ei dwyn hi ymaith gyd â'r afon.

16 A'r ddaiar a gynhorthwyodd y wraig, a'r ddaiar a agorodd ei genau, ac a lyngc­odd yr afon, yr hon a fwriodd y ddraig allan o'i safn.

17 A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac a aeth i wneuthur rhyfela gwe­ddill ei had hi. â'r lleill o'i hâd hi, y rhai sydd yn cadw gorchymynion Duw, ac sy â thystiolaeth Iesu Ghrist ganddynt.

PEN. XIII.

1 Bwystfil yn cyfodi allan o'r mor, a saith ben gartho, a dêc corn, i'r hwn y mae y ddraig yn rhoddi ei gallu. 11 Bwystfil arall yn dyfod i fynu allan o'r ddaiar: 14 ac yn peri gwneu­thur delw y Bwystfil cyntaf: 15 ac yn peri i ddynion ei addoli ef, 16 a derbyn ei nôd ef.

AC mi a sefais ar dywod y môr, ac a welais fwystfil yn codi o'r môr, a chanddo saith ben, a deg corn; ac ar ei gyrn ddeg coron, ac ar ei bennauHen­wau. henw cabledd.

2 A'r Bwystfil a welais i oedd debyg i lewpard, a'i draed fel traed arth, a'i safn fel safn llew; a'r ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a'i gorseddfaingc, ac awdurdod mawr.

3 Ac mi a welais vn o'i bennau ef megis wedi ei ladd yn farw, a'i friw marwol ef a iachawyd, a'r holl ddaiar a ryfeddodd ar ôl y Bwystfil.

4 A hwy a addolasant y ddraig, yr hon a roes allu i'r Bwystfil, ac a addolasant y Bwyst­fil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i'r Bwyst­fil? Pwy a ddichon ryfela ag ef?

5 A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion, a chabledd, a rhoddwyd iddo awdur­dod iBarhau, neu, ryf­ela. weithio ddau fîs a deugain.

6 Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei Enw ef a'i Daber­nacl, a'r rhai sy yn trigo yn y nêf.

7 A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â'r sainct, a'u gorchfygu hwynt. A rhoddwyd iddo awdurdod ar bôb llwyth,A tha­fod. ac iaith, a chenedl.

8 A holl drigolion y ddaiar a'i haddolant ef, y rhai nid yw eu henwau yn scrifennedig yn llyfr bywyd yr Oen, yr hwn a laddwyd er dechreuad y bŷd.

9 Od oes gan neb glust, gwrandawed.

10 Os yw neb ynCasgla caeth­gludiad. tywys i gaethîwed,Y mae efe yn [...]ned efe a â i gaethiwed:Matth [...] os yw neb yn lladd â chle­ddyf, rhaid yw ei ladd ynteu â chleddyf: dym­ma ymmynodd a ffydd y Sainct.

11 Ac mi a welais fwyst-fil arall yn codi [...] ddaiar [...] yr oedd g [...]nddo ddau gorn, [Page] tebyg i oen: a llefaru yr oedd fel draig.

12 A holl allu y bwyst-fil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef; ac yn peri i'r ddaiar, ac i'r rhai sy yn trigo ynddi, addoli y bwyst-fil cyntaf, yr hwn yriachawyd ei glwyf marwol.

13 Ac y mae efe yn gwneuthurArwy­ddion. rhyfeddo­dau mawrion, hyd onid yw yn peri i dân ddescyn o'r nêf i'r ddaiar yngolwg dynion.

14 Ac y mae efe yn twyllo y rhai sy yn trigo ar y ddaiar, trwyYr ar­wyddion. y rhyfeddodau y rhai a roddwyd iddo ef eu gwneuthur ger bron y Bwyst-fil, gan ddywedyd wrth drigolion y ddaiar, am iddynt wneuthur delw i'r Bwyst­fil, yr hwn a gafodd friw gan gleddyf, ac a fu fyw.

15 A chaniatawyd iddo ef roddi anadl i ddelw y bwyst-fil fel y llefarei delw y bwyst­fil hefyd, ac y parei gael o'r sawl nid addolent ddelw y bwyst-fil, eu lladd:

16 Ac y mae yn peri i bawb, fychain a mawrion, cysoethogion a thlodion, rhyddion a chaethion,Roddi. dderbyn nôd ar eu llaw ddehau, neu ar eu talcennau:

17 Ac na allei nêb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddei ganddo nôd, neu henw y Bwyst-fil, neu rifedi ei henw ef.

18 Ymma y mae doethineb. Yr hwn sydd ganddo ddeall, bwried rifedi y bwyst-fil: canys rhifedi dŷn ydyw: a'i rifedi ef yw chwe chant, a thrugain, a chwech.

PEN. XIV.

1 Tra 'r oedd yr Oen yn sefyll ar fynydd Sion gyda 'i fintai, 6 Angel yn pregethu 'r Efengyl. 8 Cwymp Babylon. 15 Cynhaiaf y byd, a dodiad y crymman i mewn. 20 Gwin-gyn­haiaf, a gwin-wryf digofaint Duw.

AC mi a edrychais, ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Sion, a chyd ag ef bedair mîl a saithugein-mil, a chanddynt Enw ei Dâd ef yn scrifennedig yn eu talcennau.

2 Ac mi a glywais lêf o'r nêf, fel llêf dy­froedd lawer, ac fel llêf taran fawr: ac mi a glywais lêf telynorion yn canu ar eu telynau.

3 A hwy a ganasant megis caniad newydd ger bron yr orsedd-faingc, a cher bron y ped­war anifail, a'r Henuriaid: ac ni allodd nêb ddyscu y gân, ond y pedair mîl a'r saithugein­mil, y rhai a brynwyd oddi ar yddaiar:

4 Y rhai hyn yw y rhai ni halogwydGyd a. â gwragedd; canys gwyryfon ydynt: y rhai hyn yw y rhai sy'n dilyn yr Oen, pa le bynnag yr elo: y rhai hyn a brynwyd oddi wrth ddynion, yn flaen-ffrwyth i Dduw ac i'r Oen:

5 Ac yn eu genau ni chaed twyll: canys difai ydynt ger bron gorsedd-faingc Duw.

6 Ac mi a welais Angel arall yn ehedeg ynghanol y nef, a'r Efengyl dragywyddol ganddo, i efangylu i'r rhai sy yn trigo ar y ddaiar, ac i bôb cenedl, a llwyth,A tha­f [...]d. ac iaith, a phobl;

7 Gan ddywedyd â llefFawr. vchel, Ofnwch Dduw, a rhoddwch iddo ogoniant, oblegid daeth awr ei farn ef:Psal. 146.5.6. Act. 14.15. ac addolwch yr hwn a wnaeth y nef, a'r ddaiar, a'r môr, a'r ffynhon­nau dyfroedd.

8 Ac Angel arall a ddilynodd, gan ddywe­dyd,Esa. 21.9. Ier. 51 8. Svrthiodd, syrthiodd Babylon, y ddinas fawr honno, oblegid hi a ddiododd yr holl Genhedsoedd, â gwin llid ei godineb.

9 A'r trydydd Angel a'u dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef [...] vchel, Os addola neb y Bwyst-fil, a'i ddelw ef, a derbyn ei nôd ef yn ei dalcen, neu yn ei law,

10 Hwnnw hefyd a ŷfo wîn digofaint Duw, yr hwn yn ddi-gymmysc a dywalltwyd yn phiol ei lîd ef: ac efe a boenir mewn tân a brwmstan, yngolwg yr Angelion sanctaidd, ac yngolwg yr Oen:

11 A mŵg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fynu yn oes oesoedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorphywysdra ddydd a nôs, y rhai sydd yn addoli y bwyst-fil a'i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nôd ei enw ef.

12 Ymma y mae ymmynedd y Sainct: ymma y mae y rhai sy yn cadw gorchymmyn­ion Duw, a ffydd Iesu.

13 Ac mi a glywais lêf o'r nêf, yn dywe­dyd wrthif, Scrifenna, Gwyn eu byd y meirw y rhai sy yn-marw yn yr Arglwydd o hyn allan, medd yr yspryd, fel y gorphywysont oddi wrth eu llafur: a'u gweithredoedd syYn can­lyn gyd a hwynt. yn eu canlyn hwynt.

14 Ac mi a edrychais, ac wele gwmmwl gwyn, ac ar y cwmwl vn yn eistedd, tebyg i Fâb y dŷn, a chanddo ar ei ben goron o aur, ac yn ei law grymman llym.

15 Ac Angel arali a ddaeth allan o'r Deml, gan lefain â llêfFawr. vchel, wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmmwl,Joel. 3.13. Bwrw dy grym­man i mewn,A chyn­haiafa a meda: canys daeth yr am­ser i ti iGyn­haiafu. fedi: oblegid addfedodd cynhaiaf y ddaiar.

16 A'r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl a fwriodd ei grymman ar y ddaiar: a'r ddaiar a fedwyd.

17 Ac Angel arall a ddaeth allan o'r Deml sydd yn y nêf, a chanddo ynteu hefyd grym­man llym.

18 Ac Angel arall a ddaeth allan oddi wrth yr Allor, yr hwn oedd a gallu ganddo ar y tân, ac a lefodd â bloeddFawr. vchel ar yr hwn oedd â'r crymman llym ganddo, gan ddywedyd, Bwrw i mewn dy grymman llym, a chascl ganghennau gwinwydden y ddaiar, oblegid addfedodd ei grawn hi.

19 A'r Angel a fwriodd ei grymman ar y ddaiar, ac a gasclodd win-wydden y ddaiar, ac a'i bwriodd i gerwyn fawr digofaint Duw.

20 A'r gerwyn a sathrwyd o'r tu allan i'r ddinas, a gwaed a ddaeth allan o'r gerwyn hyd at ffrwynau y meirch, ar hŷd mîl a chwechant o stadau.

PEN. XV.

1 Y saith Angel, a'r saith blâ diweddaf. 3 Ca­niad y rhai â orchfygant y Bwyst-fil. 7 Y saith phiol yn llawn o ddigofaint Duw.

AC mi a welais arwydd arall yn y nêf, mawr a rhyfeddol, saith Angel, a chanddynt y saith bla diweddaf, oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llîd Duw.

2 Ac mi a welais megis môr o wydr wedi ei gymmyscu â thân; a'r rhai oedd yn cael y maes ar y bwyst-fil, ac ar ei ddelw ef, ac ar ei nôd ef, ac ar rifedi ei enw ef, yn sefyll ar y môr gwydr, a thelynau Duw gan­ddynt:

3Exod. 15.1. A chanu y maent gân Moses gwasan­aethwr Duw, a chân yr Oen, gan ddywedyd, Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd, ô Ar­glwydd [Page] Dduw Holl-alluog: [...] cyfiawn a chy­wir yw dy ffyrdd di, Brenin y Sainct.

4 [...]er. 10. [...] Pwy ni'th ofna di, o Arglwydd, ac ni ogonedda dy Enw? Oblegid tydi yn vnic wyt sanctaidd: oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di: oblegid dy far­nau di a eglurwyd.

5 Ac yn ôl hyn mi a edrychais, ac wele yr ydoedd Teml pabell y dystiolaeth yn y nêf, yn agored.

6 A daeth y saith Angel, y rhai yr oedd y saith blâ ganddynt, allan o'r Deml, wedi eu gwisco mewn lliain pûr a disclair, a gwregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur.

7 Ac vn o'r pedwar anifail a roddodd i'r saith Angel saith phiol aur, yn llawn o ddigofaint Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.

8 A llanwyd y Deml o sŵg oddi wrth ogo­niant Duw, ac oddi wrth ei nerth ef: ac ni allei neb fyned i mewn i'r Deml, nês darfod cyflawni saith blâ y saith Angel.

PEN. XVI.

2 Yr Angelion yn tywallt allan ei phioleidiau digofaint. 6 Y plaau yn canlyn ar hyn. 15 Christ yn dyfod fel lleidr. Gwyn eu byd y rhai a wiliant.

AC mi a glywais lêfFawr. vchel allan o'r Deml, yn dywedyd wrth y saith Angel, Ew [...] ymmaith a thywelltwch phiolau digofaint Duw ar y ddaiar.

2 A'r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd ei phiol ar y ddaiar: a bu cornwyd drŵg, a blin, ar y dynion oedd â nôd y bwyst-fil arnynt, a'r rhai a addolasent ei ddelw ef.

3 A'r ail Angel a dywalltodd ei phiol ar y môr, ac efe a aeth fel gwaed dŷn marw: a phôb enaid byw a fu farw yn y môr.

4 A'r trydydd Angel a dywalltodd ei phiol ar yr afonydd, ac ar y ffynhonnau dyfroedd: a hwy a aethant yn waed.

5 Ac mi a glywais Angel y dyfroedd yn dy­wedyd, Cyfiawn, o Arglwydd, ydwyti, yr hwn ŵyt, a'r hwn oeddit,Neu, a Sanct­aidd. a'r hwn a fyddi, oblegid barnu o honot y pethau hyn:

6 Oblegid gwaed Sainct a Phrophwydi a dy­walltasant hwy, a gwaed a roddaist iddynt iw yfed: canys y maent yn ei haeddu.

7 Ac mi a glywais vn arall allan o'r allor yn dywedyd, lê Arglwydd Dduw Holl-alluog, cywir a chyfiawn yw dy farnau di.

8 A'r pedwerydd Angel a dywalltodd ei phiol ar yr haul: a gallu a roed iddo i boethi dynion â thân.

9 A phoethwyd y dynion â gwrês mawr, a hwy a gablasant Enw Duw, yr hwn sydd ag awdurdod ganddo ar y plaau hyn: ac nid edifarhasant i roi gogoniant iddo ef.

10 A'r pummed Angel a dywalltodd ei phiol ar orsedd-faingc y bwyst-fil: a'i deyrnas ef a aeth yn dywyll: a hwy a gnoesant eu tafo­dau gan ofid:

11 Ac a gablasant Dduw y nêf, o herwydd au poenau, ac o herwydd eu cornwydydd: ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithre­doedd.

12 A'r chweched Angel a dywalltodd ei phiol ar yr afon fawr Euphrates: a sychodd ei dwfr hi, fel y paratoid ffordd brenhinoeddGr. y rhai sydd [...] [...]diad y dwyrain.

13 Ac mi a welais dri yspryd aflan, tebyg i lyffaint yn dyfod allan o safn y ddraig, ac allan o safn y bwyst-fil, ac allan o enau y gau brophwyd.

14 Canys ysprydion cythreuliaid yn gwneu­thur gwrthiau ydynt, y rhai sy 'n myned allan at frenhinoedd y ddaiar, a'r holl fŷd, iw casclu hwy i ryfel y dydd hwnnw, dydd mawr Duw Holl-alluog.

15Matth. 24.43, 44. Wele, yr ŵyfi yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fŷd yr hwn sydd yn gwilio, ac yn cadw ei ddillad, fel na rodio yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef.

16 Ac efe a'u casclodd hwynt ynghŷd i le a elwir yn Ebrew, Armaged-don.

17 A'r seithfed Angel a dywalltodd ei phiol i'r awyr, a daeth llêfFawr. vchel allan o Deml y nâf, oddi wrth yr orsedd-faingc, yn dywedyd, Darfu.

18 Ac yr oedd lleisiau, a tharanau, a mellt: ac yr oedd daiar-gryn mawr, y fath ni bu er pan yw dynion ar y ddaiar, cymmaint daiar­gryn, ac mor fawr.

19 A gwnaethpwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a dinasoedd y Cenhedloedd a syrthiasant: a Babilon fawr a ddaeth mewn côf ger bron Duw,Jerem. 25.15. i rôddi iddi gwppan gwîn digofaint ei lîd ef.

20 A phôb ynys a ffôdd ymmaith, ac ni chafwyd y mynyddoedd.

21 A chenllysc mawrO bwy [...] talentau. fel talentau, a syr­thiasant o'r nêf ar ddynion: a dynion a gablasant Dduw am blâ 'r cenllysc: oblegid mawr iawn ydoedd eu plâ hwynt.

PEN. XVII.

3, 4 Gwraig wedi ei gwisco â phorphor ac yscar­lat, a chwppân aur yn ei llaw, yn eistedd ar y Bwyst-fil, 5 yr hon yw Babylon fawr, mam pôb ffieidd-dra. 9 Deongliad y saith ben: 12 a'r dêc corn. 14 Goruwchafiaeth yr Oen. 16 Cospedigaeth y Buttain.

A Daeth vn o'r saith Angel, oedd â'r saith phiol ganddynt, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd wrthif, Tyred, mi a ddan­gosaf i ti farnedigaeth y Buttain fawr sydd yn eistedd ar ddyfroedd lawer:

2 Gyd â'r hon y putteiniodd brenhinoedd y ddaiar, ac y meddwyd y rhai sy yn trigo ar y ddaiar gan wîn ei phutteindra hi.

3 Ac efe a'm dygodd i i'r diffaethwch yn yr yspryd, ac mi a welais wraig yn eistedd ar fwyst-fil o liw scarlad, yn llawn o henwau cabledd, â saith ben iddo, a dêc corn.

4 A'r wraig oedd wedi ei dilladu â phor­phor ac yscarlad, ac wedi eiGoreure. gwychu ag aur, ac â main gwerth-fawr a pherlau, a chanddi gwppan aur yn ei llaw, yn llawn o ffieidd­dra, ac aflendid ei phutteindra.

5 Ac ar ei thalcen yr oedd henw wedi ei scrifennu, DIRGELWCH, BABYLON FAWR, MAMPuttein­dra. PVTTEINIAID, A FFIEIDD-DRA 'R DDAIAR.

6 Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y Sainct, a chan waed merthyron Iesu: a phan ei gwelais, mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr.

7 A'r Angel a ddywedodd wrthif, Pa ham y rhyfeddaist? myfi a ddywedaf i ti ddir­gelwch y wraig, a'r bwyst-fil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sy a'r saith ben ganddo, a'r dec corn.

8 Y bwyst-fil a welaist, a fu [...] nid yw: a [Page] bydd iddo ddyfod i fynu o'r pydew heb wael­od, a myned i ddestryw: a rhyfeddu a wna y rhai sy yn trigo ar y ddaiar, (y rhai ni scri­fennwyd eu henwau yn llyfr y bywyd er seil­iad y bŷd) pan welont y bwyst-fil, yr hwn a fu, ac nid yw,Ac a fydd. er ei fôd.

9 Dymma 'r meddwl syddâ doethineb gan­ddo. Y saith ben, saith fynydd ydynt, lle mae 'r wraig yn eistedd arnynt.

10 Ac yMaent yn. mae saith frenin: pump a gwym­pasant, ac vn sydd, a'r llall ni ddaeth etto; a phan ddêl, rhaid iddo aros ychydig.

11 A'r bwyst-fil, yr hwn oedd, ac nid ydyw, yntef yw 'r wythfed, ac o'r saith y mae, ac i ddestryw y mae yn myned.

12 A'r dêc corn a welaist, dêc brenin yd­ynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth etto, eithr awdurdod fel brenhinoedd, vn awr y maent yn ei dderbyn gyd â'r bwyst-fil.

13 Yr vn meddwl sydd i'r rhai hyn, a hwy a roddant eu nerth, a'u hawdurdod, i'r bwyst-fil.

14 Y rhai hyn a ryfelant â'r Oen, a'r Oen a'u gorchfyga hwynt: oblegid1 Tim. 6.15. Pen. 10.16. Arglwydd arglwyddi ydyw, a Brenin brenhinoedd: a'r rhai sy gyd ag ef, sydd alwedig, ac etholedig, a ffyddlon.

15 Ac efe a ddywedodd wrthif, Y dyfroedd a welaist, lle mae 'r Buttain yn eistedd, poblo­edd, a thorfeydd ydynt, a chenhedloedd,A tha­fodau. ac ieithoedd.

16 A'r dec corn a welaist ar y bwyst-fil, y rhai hyn a gasant y Buttain, ac a'i gwnant hi yn vnic, ac yn noeth, a'i chnawd hi a fwyt­tânt hwy, ac a'i lloscant hi â thân.

17 Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt wneuthur ei ewyllys ef, a gwneuthur yr vn ewyllys, a rhoddi eu teyrnas i'r bwyst­fil, hyd oni chyflawner geiriau Duw.

18 A'r wraig a welaist, yw y ddinas fawr sydd yn teyrnasu ar frenhinoedd y ddaiar.

PEN. XVIII.

2 Cwymp Babilon: 4 Gorchymmyn pobl Dduw i gilio allan ô honi hi. 9 Brenhinoedd y ddaiar, 11 gydâ 'r marsiand-wyr, a'r llongwyr, yn ddrwg ganthynt trosti hi. 20 Y Sainct yn llawenychu o achos barn Duw arni hi.

AC yn ôl y pethau hyn, mi a welais Angel arall yn dyfod i wared o'r nêf, ac awdur­dod mawr ganddo: a'r ddaiar a oleuwyd gan ei ogoniant ef.

2 Ac efe a lefodd yn groch, â llêfFawr. vchel gan ddywedyd,Pen. 14.8. Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr honno, ac aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwriaeth pôb yspryd aflan, ac yn gad­wriaeth pôb aderyn aflan, ac atcas.

3 Oblegid yr holl Genhedloedd a yfasant o wîn digofaint ei godineb hi: a brenhinoedd y ddaiar a butteiniasant gyd â hi, a march­nattawyr y ddaiar a gyfoethogwyd ganNerth. aml­der ei moetheu hi.

4 Ac mi a glywais lef arall o'r nêf yn dy­wedyd, Deuwch allan o hono hi fy mhobl i, fel na byddoch gyd-gyfrannogion o'i phecho­dau hi, ac na dderbynioch o'i phlaau hi:

5 Oblegid ei phechodau hi a gyrhaeddasant hyd y nef, a Duw a gofiodd ei hanwireddau hi.

6 Telwch iddi fel y talodd hithau i chwi, a lldyblwch iddi y dau cymmaint yn ôl ei gweithredoedd: yn y cwppan a lanwodd hi, llenwch iddi yn ddau ddyblyg:

7 Cymmaint ac yr ymogoneddodd hi, ac y bu mewn moetheu, y cymmaint arall rhodd­wch iddi oBoenedi­gaeth. ofid a galar: oblegid y mae hi yn dywedyd yn ei chalon,Esa, 47.8. Yr ŵyf yn eistedd yn frenhines, a gweddw nid ydwyf, a galar ni's gwelaf ddim.

8 Am hynny yn vn dydd y daw ei phlaau hi, sef marwolaeth, a galar, a newyn: a hi a lwyr-loscir â than, oblegid crŷf yw 'r Arg­lwydd Dduw, yr hwn sydd yn ei barnu hi.

9 Ac ŵylo am dani, a galaru trosti a wna brenhinoedd y ddaiar, y rhai a butteiniasant, ac a fuant fyw yn foethus gyd â hi, pan welont fŵg ei llosciad hi:

10 Gan sefyll o hirbell, gan ofn eiPh [...]e­nediga [...]. gofid hi; a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, Babylon, y ddinas gadarn, oblegid mewn vn awr y daeth dy farn di.

11 A marchnattawŷr y ddaiar a ŵylant, ac a alarant trosti, oblegid nid oes nêb mwyach yn prynu eu marsiandiaeth hwynt:

12 Marsiandiaeth o aur, ac arian, a meini gwerth-fawr, a pherlau, a lliain main, a phor­phor, a sidan, ac yscarlad: a phôb coedPeraidd. Thy­non, a phôb llestr o Ifori, a phôb llestr o goed gwerth-fawr iawn, ac o brês, ac o haiarn, ac o faen marmor:

13 A cinamom, a pher-aroglau, ac ennaint, a thus, a gwîn, ac olew, a pheillieid, a gwe­nith; ac yscrybliaid, a defaid, a meirch, a cherbydau, aChyrph. chaeth-weision, ac eneidiau dynion.

14 A'r aeron a chwenychodd dy enaid a aethant ymaith oddi wrthit, a phôb peth dain­teithiol a gwych a aethant ymaith oddi wrthit; ac ni chei hwynt ddim mwyach.

15 Marchnatawŷr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd ganddi, a safant o hirbell oddi wrthi, gan ofn eiPhoene­digaeth. gofid hi, gan ŵylo a ga­laru:

16 A dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yr hon oedd wedi ei gwisco â lliain main, a phorphor, ac yscarlad, ac wedi eiGoreuro. gwychu ag aur, a meini gwerth-fawr, a pherlau:

17 Oblegid mewn vn awr yr anrheithiwyd cymmaint cyfoeth. A phôb llong-lywydd, a phôb cwmpeini mewn llongau, a llong-wŷr, a chynnifer ac y sy a'u gwaith ar y môr, a sa­fasant o hirbell,

18 Ac a lefasant, pan welsant fŵg ei llosciad hi, gan ddywedyd, Pa ddinas debyg i'r ddinas fawr honno?

19 A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau, ac a lefasant gan ŵylo, a galaru, a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yn yr hon y cy­foethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau ar y môr,O Her­wydd ei thraul hi. trwy ei chôst hi, oblegid mewn vn awr yr anrheithiwyd hi.

20 Llawenhâ o'i phlegid hi y nêf, a chwi Apostolion sanctaidd a Phrophwydi, oblegidBarnoda Duw eich barn chwi all­an o hon­hi. dialodd Duw arni trosoch chwi.

21 Ac Angel cadarn a gododd faen, megis maen melin mawr, ac a'i bwriodd i'r môr, gan ddywedyd, Fel hyn gydâ rhuthr y teflir Ba­bylon y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach.

22 A llais telynorion, a cherddorion, a phibyddion, ac vdcanwŷr, ni chlywir ynot mwyach; ac vn crefft-wr o ba grefft bynnag y bo, ni cheir ynot mwyach, a thrŵst maen [Page] melin ni chlywir ynot mwyach:

23 A llewyrch canwyll ni welir ynot mwyach: a llais priodas-fab a phriodas-ferch ni chlywir ynot mwyach: oblegid dy farch­nattawŷr di oedd wyr mawr y ddaiar, oblegid trwy dy fŵyn-gyfaredd di y twyllwyd yr holl Genhedloedd.

24 Ac ynddi y caed gwaed Propwydi a Sainct, a phawb a'r a laddwyd ar y ddaiar.

PEN. XIX.

1 Clodfori Duw yn y nefoedd am farnu y But­tain fawr, a dial gwaed ei Sainct. 7 Priodas yr Oen. 10 Yr Angel heb fynnu ei addoli. 17 Galw 'r ehediaid i'r lladdfa fawr.

AC vn ôl y pethau hyn mi a glywais megis llef vchel gan dyrfa fawr yn y nef, yn dy­wedyd, Aleluia; iechydwriaeth a gogoniant, ac anrhydedd, a gallu, i'r Arglwydd ein Duw ni:

2 Oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef: oblegid efe a farnodd y Buttain fawr, yr hon a lygrodd y ddaiar â'i phutteindra, ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi.

3 Ac eilwaich y dywedasant, Aleluia: A'i mŵg hi a gododd yn oes oesoedd.

4 A syrthiodd y pedwar Henuriad ar hu­gain, a'r pedwar anifail i lawr, ac a addola­sant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr or­fedd-faingc, gan ddywedyd, Amen, Aleluia.

5 A llêf a ddaeth allan o'r orsedd-faingc, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw ni, ei holl weision ef, a'r rhai ydych yn ei ofni ef, bychain a mawrion hefyd.

6 Ac mi a glywais megis llêf tyrfa fawr, ac megis llêf dyfroedd lawer, ac megis llêf taranau cryfion, yn dywedyd, Aleluia: ob­legyd teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Holl­alluog.

7 Llawenychwn, a gorfoleddwn, a rhodd­wn ogoniant iddo ef: oblegid daeth priodas yr Oen, a'i wraig ef a'i paratôdd ei hun.

8 A chaniatawyd iddi gael ei gwisco â lliain main glân a disclair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y Sainct.

9 Ac efe a ddywedodd wrthif, Scrifenna,Matth. 22.2. Bendigedig yw y rhai a elwir i swpper neith­ior yr Oen. Ac efe a ddywedodd wrthif; Gwir eiriau Duw yw y rhai hyn.

10 Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, iw addoli ef: ac efe a ddywedodd wrthif,Pen. 22.9. Gwêl na wnelych hyn: cyd-was ydwyf i ti, ac i'th frodyr, y rhai sy ganddynt dystiolaeth Iesu: addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw yspryd y brophwydoliaeth.

11 Ac mi a welais y nêf yn agored, ac wele farch gwyn, a'r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlon a Chywir, ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu, ac yn rhy­fela.

12 A'i lygaid oedd fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd coronau lawer: ac yr oedd gan­ddo henw yn scrifennedig, yr hwn ni ŵyddei neb ond efe ei hun.

13Esa. 63.2. Ac yr oedd wedi ei wisco â gwisc wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei enw ef, Gair Duw.

14 A'r lluoedd oedd yn y nêf a'i canlyna­sant ef ar feirch gwynion, wedi eu gwisco â lliain main gwyn, a glân.

15 Ac allan o'i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daro y Cenhedloedd ag ef: ac efe a'u bugeilia hwynt â gwialen haiarn: ac efe sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llîd Duw Holl-alluog.

16 Ac y mae ganddo ar ei wisc, ac ar ei forddwyd henw wedi ei scrifennu,Pen. 17.14. BRE­NIN BRENHINOEDD, AC AR­GLWYDD ARGLWYDDI.

17 Ac mi a welais Angel yn sefyll yn yr haul: ac efe a lefodd â llefFawr. vchel, gan ddy­wedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedegYngha­nol. trwy ganol y nêf, Deuwch ac ymgesclwch ynghŷd i swpper y Duw mawr,

18 Fel y bwytaoch gîg brenhinoedd, a chîg pen-capteniaid, a chîg y cedyrn, a chîg meirch, a'r rhai sy yn eistedd arnynt, a chîg holl ry­ddion a chaethion, a bychain a mawrion.

19 Ac mi a welais y bwyst-fil, a brenhin­oedd y ddaiar, a'u lluoedd wedi ymgynnull ynghŷd i wneuthur rhyfel yn erbyn yr hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei lu ef.

20 A daliwyd y bwyst-fil, a chyd ag ef y gau-brophwyd, yr hwn a wnaeth wrthiau ger ei fron ef, trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nôd y bwyst-fil, a'r rhai a addolasent ei ddelw ef: yn fyw y bwriwyd hwy ill dau, i'r llyn tân yn llosci â brwmstan:

21 A'r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn oedd yn dyfod allan o'i enau ef: a'r holl adar a gaw­sant eu gwala o'u cîg hwynt.

PEN. XX.

2 Rhwymo Satan tros fil o flynyddoedd. 6 Yr Adgyfodiad cy [...]af: mai gwyn eu byd y rhai sydd iddynt gyfran ynddo. 7 Gollwng Satan yn rhydd drachefn. 8 Gog a Magog. 10 Bwrw Diafol i'r pwll o dan a brwmstan. 12 Yr ad­gyfodiad diwaethaf cyffredinawl.

AC mi a welais Angel yn descyn o'r nêf, a chanddo agoriad y pydew di-waelod, a chadwyn fawr yn ei law.

2 Ac efe a ddaliodd y ddraig, yr hen sarph, yr hon yw diafol, a Satan: ac a'i rhwymodd ef tros fîl o flynyddoedd,

3 Ac a'i bwriodd ef i'r pydew di-waelod, ac a gaeodd arno, ac a seliodd arno ef, fel na thwyllei efe y Cenhedloedd mwyach, nes cyflawni 'r mîl o flynyddoedd: ac yn ôl hynny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd tros ychydig amser.

4 Ac mi a welais orsedd-feingciau, a hwy a eisteddasant arnynt, a barn a roed iddynt hwy: ac mi a welais eneidiau y rhai a dor­rwyd eu pennau am dystiolaeth Iesu, ac am air Duw, a'r rhai ni addolasent y bwyst-fil, na i ddelw ef: ac ni dderbyniasent ei nôd ef ar eu talcennau, neu ar eu dwylo: a hwy a fuant fyw, ac a deyrnasasant gyd â Christ fil o flynyddoedd.

5 Eithr y lleill o'r meirw ni fuant fyw drachefn, nes cyflawni 'r mîl blynyddoedd. Dymma 'r adgyfodiad cyntaf.

6 Gwynfydedig a sanctaidd yw 'r hwn sydd a rhan iddo yn yr adgyfodiad cyntaf: y rhai hyn nid oes i'r ail farwolaeth awdurdod ar­nynt, eithr hwy a fyddant offeiriaid i Dduw, ac i Grist, ac a deyrnasant gyd ag ef fîl o flyny­ddoedd.

7 A phan gyfiawner y mîl blynyddoedd, go­llyngir Satan allan o'i garchar.

8 Ac efe a â allan i dwyllo y Cenhedloedd sydd ym-mhedair congl y ddaiar,Ezec. 38.2. & 39.1. Gog a Ma­gog, iw casclu hwy ynghŷd i ryfel, rhif y rhai sydd fel tywod y môr.

9 A hwy a aethant i fynu ar lêd y ddaiar, ac a amgylchasant wersyll y Sainct, a'r ddinas anwyl: a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i wared o'r nêf, ac a'u hysodd hwynt.

10 A diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, a fwriwyd i'r llyn o dân a brwmstan, lle y mae y bwyst-fil a'r gau-brophwyd:Ac y poenir hwynt. a hwy a boenir ddydd a nôs, yn oes oesoedd.

11 Ac mi a welais orsedd-faingc wen fawr, a'r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth ŵy­neb yr hwn y ffôdd y ddaiar a'r nêf: a lle ni chafwyd iddynt.

12 Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll ger bron Duw, a'r llyfrau a agorwyd: aPen. 3.5. llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu scrifennu yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.

13 A rhoddodd y môr i fynu y meirw oedd ynddo, a marwolaeth ac vffern a roddasant i fynu y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bôb vn yn ôl eu gweithredoedd.

14 A marwolaeth ac vffern a fwriwyd i'r llyn o dân: hon yw 'r ail farwolaeth.

15 A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei scri­fennu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i'r llyn o dân.

PEN. XXI.

1 Nêf newydd, a daiar newydd. 10 Jerusalem nefol, a'i chyflawn bortreiad. 23 Nid rhaid iddi wrth haul: Gogoniant Duw yw ei goleuni hi. 24 Brenhinoedd y ddaiar yn dwyn eu cyfoeth iddi hi.

ACEsa. 65.17. 2 Pet. 3.13. mi a welais nêf newydd, a daiar new­ydd: canys y nêf gyntaf, a'r ddaiar gyn­taf a aeth heibio: a'r môr nid oedd mwyach.

2 A myfi Joan a welais y ddinas sanctaidd, Jerusalem newydd, yn dyfod oddi wrth Dduw i wared o'r nêf, wedi ei pharatoi fel priodas­ferch wedi ei thrwssio iw gŵr.

3 Ac mi a glywais lêfFawr. vchel allan o'r nêf yn dywedyd, Wele y mae pabell Duw gyd â dynion, ac efe a drig gyd â hwynt, a hwy a fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyd â hwynt, ac a fydd yn Dduw iddynt.

4Pen. 7.1 [...]. Ac fe sŷch Duw ymmaith bôb deigr oddi wrth eu llygaid hwynt, a marwolaeth ni bydd mwyach: naGalar. thristwch, na llefain, na phoen ni bydd mwyach, oblegid y pethau cyn­taf a aeth heibio.

5 A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc,2 Cor. 5.17. Wele, yr ŵyf yn gwneu­thur pôb peth yn newydd. Ac efe a ddywe­dodd wrthif, Scrifenna: canys y mae y geiriau hyn yn gywir, ac yn ffyddlon.

6 Ac efe a ddywedodd wrthif, Darfu:Pen. 1.8. & 22.13. myfi yw Alpha ac Omega, v dechreu, a'r diwedd:Esa. 55.1. i'r hwn sydd sychedig y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhâd.

7 Yr hwn sydd yn gorchfygu a etifedda bôb peth, ac mi a fyddaf iddo ef yn Dduw, ac yn­tef a sydd i minneu yn fâb.

8 Ond i'r rhai ofnog, a'r di-gred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puttein-wŷr, a'r swyn-gy­fareddwŷr, a'r eulyn-addolwŷr, a'r holl gel­wydd-ŵyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosci â thân a brwmstan, yr hwn yw 'r ail farwolaeth.

9 A daeth attaf vn o'r saith Angel yr oedd y saith phiol ganddynt yn llawn o'r saith blâ diweddaf, ac ymddiddanodd â mi, gan ddy­wedyd, Tyred, mi a ddangosaf i ti y briodas­ferch, gwraig yr Oen.

10 Ac efe a'm dûg i ymmaith yn yr yspryd i fynydd mawr ac vchel, ac a ddangosodd i mi y ddinas fawr, Jerusalem sanctaidd, yn descyn allan o'r nêf oddi wrth Dduw:

11 A gogoniant Duw ganddi: a'i goleu hi oedd debyg i faen o'r gwerthfawroccaf, megis maen Jaspis, yn loyw fel Grisial:

12 Ac iddi fûr mawr ac vchel, ac iddi ddeu­ddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg Angel, a henwau wedi eu scrifennu arnynt, y rhai yw henwau deuddeg-llwyth plant Israel.

13 O du y dwyrain, tri phorth: o du y gogledd, tri phorth: o du y dehau, tri phorth: o du y gorllewin, tri phorth.

14 Ac yr oedd mur y ddinas â deuddeg syl­faen iddo, acArnyn [...]. ynddynt henwau deuddeg Apos­tol yr Oen.

15 A'r hwn oedd yn ymddiddan â mi, oedd â chorsen aur ganddo, i fesuro y ddinas, a'i phyrth hi, a'i mûr.

16 A'r ddinas sydd wedi ei gosod yn bedeir­ongl, a'i hŷd sydd gymmaint a'i llêd; ac efe a fesurodd y ddinas â'r gorsen, yn ddeudeng-mîl o stadau: a'i hŷd, a'i llêd, a'i huchder, sydd yn ogymmaint.

17 Ac efe a fesurodd ei mûr hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, wrth fesur dŷn, hynny yw, eiddo 'r Angel.

18 Ac adeilad ei mûr hi, oedd o faen Jaspis: a'r ddinas oedd aur pûr, yn debyg i wydr gloyw.

19 A seiliau mûr y ddinas oedd wedi eu harddu â phôb rhyw faen gwerthfawr: y sail cyntaf, oedd faen Jaspis: yr ail, Saphyr: y trydydd, Calcêdon, y pedwerydd, Smaragdus:

20 Y pummed, Sardonyx: y chweched, Sardius: y seithfed, Chrysolithus: yr ŵythsed, Beril: y nawfed, Topazion: y decfed, Chry­soprasus: yr vnfed ar ddeg, Hyacinthus: y deuddegfed, Amethystus.

21 A'r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt, a phôb vn o'r pyrth oedd o vn perl: a heol y ddinas oedd aur pûr fel gwydr gloyw:

22 A Theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw Holl-alluog, a'r Oen, yw ei Theml hi.

23Esa. 60.19. A'r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na'r lleuad i oleuo ynddi: canys gogon­iant Duw a'i goleuodd hi, a'i goleuni hi ydyw yr Oen.

24Esa. 60.3 A Chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddaiar yn dwyn eu gogoniant a'u hanrhy­dedd iddi hi.

25Esa. 60.11. A'i phyrth hi ni cheuir ddim y dydd: canys ni bydd nôs yno.

26 A hwy a ddygant ogoniant ac anrhy­dedd y Cenhedloedd iddi hi.

27A phob peth aflan, ac yn gw­neuthur ffieidd-dra a chel­wydd, nid a ddim i mewn iddi, ond &c. Ac nid â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu scrifennu yn llyfr bywyd yr Oen.

PEN. XXII.

1 Afon dwfr y bywyd. 2 Pren y bywyd. 5 Duw sydd oleuni iw ddinas ei hun. 9 Yr Angel heb fynnu ei addoli. 18 Ni ellir rhoddi dim at air Duw, na thynnu dim oddiwrtho ef.

AC efe a ddangosodd i mi afon bûr o ddwfr y bywyd, disclair fel grisial, yn dyfod allan o orseddfaingc Duw, a'r Oen.

2 Ynghanol ei heol hi, ac o ddau tu 'r afon, yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bôb mîs yn rhoddi ei ffrwyth: a dail y pren oedd i iachau y Cenhedloedd.

3 A phôb melldith ni bydd mwyach:A. ond gorsedd-faingc Duw a'r Oen a fydd ynddi hi: a'i weision ef a'i gwasanaethant ef.

4 A hwy a gânt weled ei ŵyneb ef, a'i Henw ef a fydd yn eu talcennau hwynt.

5Pen. 21.23. Ac ni bydd nôs yno: ac nid rhaid iddynt wrth ganwyll, na goleuni haul, oblegid y mae yr Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd.

6 Ac efe a ddywedodd wrthifi, Y geiriau hyn sy ffyddlon a chywir, ac Arglwydd Dduw y Prophwydi sanctaidd, a ddanfonodd ei Angel, i ddangos iw wasanaeth-wŷr y pethau sy raid iddynt fôd ar frŷs.

7 Wele, yr ŵyf yn dyfod ar frŷs. Gwyn ei fŷd yr hwn sydd yn cadw geiriau prophwy­doliaeth y llyfr hwn.

8 A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac a'u clywais: a phan ddarfu i mi glywed, a gweled, mi a syrthiais i lawr i addoli ger bron traed yr Angel oedd yn dangos i mi y pethau hyn.

9 Ac efe a ddywedodd wrthifi,Pen. 19.10. Gwêl na wnelych: canys cydwas ydwyf i ti, ac i'th frodyr y Prophwydi, ac i'r rhai sy yn cadw geiriau y llyfr hwn: addola Dduw.

10 Ac efe a ddywedodd wrthifi, Na selia eiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn: oblegid y mae 'r amser yn agos.

11 Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded ang­hyfiawn etto; a'r hwn sydd frwnt, bydded frwnt etto: a'r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn etto; a'r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd etto.

12 Ac wele, yr ŵyf yn dyfod ar frŷs, a'm gwobr sydd gyd â mi,Rhuf. 2.6. i roddi i bôb vn, fel y byddo ei waith ef.

13 Myfi yw Alpha ac Omega,Esa. 41.4. & 44.6. y dechreu a'r diwedd, y cyntaf a'r diweddaf.

14 Gwyn eu bŷd y rhai sy yn gwneuthur ei orchymynion ef, fel y byddo iddyntGyfi­awnden, neu, aw­durdod. fraint ym mrhen y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy 'r pyrth i'r ddinas.

15 Oddiallan y mae 'r cŵn, a'r sŵyn­gyfaredd-wŷr, a'r putteinwŷr, a'r llofruddion, a'r eulynaddol-wŷr, a phôb vn ac sy yn caru, ac yn gwneuthur celwydd.

16 Myfi Iesu a ddanfonais fy Angel i dyst­iolaethu i chwi y pethau hyn yn yr Eglwysi. Myfi yw gwreiddyn a hiliogaeth Dafydd, a'r seren foreu eglur.

17 Ac y mae yr Yspryd a'r briodas-ferch yn dywedyd, Tyred: a'r hwn sydd yn clywed, dyweded, Tyred:Esa. 55.1. a'r hwn sydd a syched arno, deued; a'r hwn sydd yn ewyllysio, cymmered ddwfr y bywyd yn rhâd.

18 Canys yr wyfi yn tystiolaethu i bôb vn sydd yn clywed geiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn:Deut. 4.2. Dihar. 30.6. Os rhydd neb ddim at y pethau hyn, Duw a rydd atto ef y plâau sy wedi eu scrifennu yn y llyfr hwn.

19 Ac o thynn nêb ymmaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y brophwydoliaeth hon, Duw a dynn ymmaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o'r ddinas sanctaidd, ac oddi wrth y pethau sy wedi eu scrifennu yn y llyfr hwn.

20 Yr hwn sydd yn tystiolaethu y pethau hyn, sydd yn dywedyd, Yn wîr yr ŵyf yn dyfod ar frŷs: Amen. Yn wîr, tyred Arglwydd Iesu.

21 Grâs ein Harglwydd ni Iesu Grist fyddo gyd â chwi oll. Amen.

DIWEDD.

I'r vnic Dduw y byddo 'r gogoniant.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.