Y CATECHISM NEV ATHRAWIaeth Gristianogawl, rhwn y mae pob plentyn y ddyscu, cyn iddo ef gael y vedydd Episcob: neu y dderbyn yr Cummûn bendigedig.
Imprinted at LONDON.
M.DC.XVII.
Y CATECHISM neu athrawiaeth Gristianogawl, rhwn y mae pob plentyn y ddyscu, cyn iddo ef gael y vedydd Episcob: neu y dderbyn yr Cummûn bendigedig.
HOLI.
BEth yw dy enw di?
ATEP.
David. neu W. &c.
H.
Pwy a roddes y ty yr enw hwnnw?
A.
Vyn-hadeu bedydd am mammeû bedydd wrth vy medyddio, pan im gwnaethpwyd yn aelod i Grist, yn blentyn i Dduw ag yn etifedd [Page 2] o teyrnas nef.
H.
Pa beth a wnaeth dy dadeu bedydd, ath vammeu bedydd yr amser hwnw trossot?
A.
Hwy a addawsout ag a eddûnassant yn vy enw i tri pheth: yn gyutaf, mae ymwrthodwn ar Diawl, ai holl weithredoedd balchedd a gorwagedd y byd drwg, a holl pechadurys whantaû y cnawd. Yn ail mae y credwn holl byncaû Fydd Grist. Ag yn drydydd mae y cadwn i, sanctaiddiol wyllys Dûw ai orchmynnion: ag y rhodiwn i ynthynt, holl ddyddiau fy mywyd.
H.
Anyd wyt i yn tibied dy vod yn rhwymedig i gredû, ag i wneuthyr megis ag y addawsont hwy trosot?
A.
Ydwyf yn wir, a thrwy nerth Dûw velly y gwnaf. Ag om calon ydd wyf yn rhoi diolch in Tad Nefawl am iddo vyng alw, i cyfryw y tragwyddol Iechydwriaeth hon trwy Iesu Grist eyn Iachawdwr. A mi addeisyfaf ar Dduw roddi i mi râs, modd i gallwyf aros yn y Iechydwrieth hon, oll ddyddiaû vy einioes.
H.
Adrodd i mi bynciaû dy Fydd?
A.
Credû yr wyf yn Nûw, y Tad oll allûog, Creawdwr nef a dayar.
Ag yn Iesu Grist i vnig vab ef, yu Arglwydd ni. yr hwn a genetlwyt trwy'r ysbryd glân, ac a aned o Vair vorwyn. Y ddioddefodd dan Pontius Pilatus, a groes-hoeliwyd, a vû varw ac a gladdwyd. Descemodd i yffern. Y trydydd dydd ve a cyfododd oddiwrth y meirw. Ef a dderchavodd ir nefoedd. Ag y mae ef ein eiste ar ddeheulaw Ddûw Dad oll allûog: odd yno y daw i varnû byw a meirw.
Credû ydd wyf yn ir Ysbrid glân. Bod Eglwys lân gatholic: Cymmûn y Saint: Maddeûaint pechodeû: ailgyfodiad y cnawd, ar bywyd tragywyddawl. Amen.
H.
Pa beth yr wyt yn i ddyscû yn bennaf, yn y pynciaû hyn oth Fydd?
A.
Yn gyntaf, ydd wyf yn dyscû credû yn Nûw dad, yr hwn am gwnaeth i ar holl vyd.
Yn ail, y credû yn Nûw vab, yr hwn am prynodd i phob rhyw ddyn.
Yn drydydd, y credû yn Nûw yr Yspryd glân, yr hwn sy yn vy sancteiddio i, ac holl ddewisedig pobl Dduw.
H.
Ti ddwedaist ith dadeû-bedydd ath vameû-bedydd addaw trosot: mae y cedwyd ti orchymynnion Dûw. Dywed gan hynny i mi, pa sawl vn y sydd o hanynt?
A.
Dec.
H.
Pa rai ydynt?
A.
Y rhai a lefarodd Dûw yn yr vgeinfed bennod o Exodus, gan ddywedyd?
I. MyFi ywr Arglwydd dy Dduw dy, yr hwn ath dwgodd dy ymaes o dir Egipt, allan o duy y caethiwed. Na vidd y ty dduwiaû eraill onyd myfi.
II. Na wna yt dy hûn vn ddelw gerviedig, na llûn dim ys ydd yn y nefoedd vchod, neu yn y ddaer isod, nag yn y dyfroedd dan y ddayar: na chrwm iddynt ag na addola hwynt, Cans myfi dy Arglwydd Ddûw di, wyf Ddûw eiddigûs, yn dial pechodaû y tadeu ar y plant, hyd y drydedd ar bedwaredd genhedlaeth or rhai am casaant i, ac yn dangos trugaredd i vilioedd or rhai am carant i, ac a gadwant ving-orchyminion i.
[Page 5] III. Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer, can ny bydd ef yn aneûog gan yr Arglwydd, yr hwn agymero i enw ef yn ofer.
IIII. Coffa y dydd Sabbath, y cadwef yn sanctaidd. Chwech diwrnod, y cey dy weithio a gwneûthyr dy oll waith: Ond y saithved dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw di. Ar y dydd hwnw, ny chay dy wneuther dym gwaith: tydi, nath vab, nath verch, nath wâs, nath vorwyn, nath anivail, na dy ddyn dierth yr hwn a sydd o vewn dy byrth di: Cans mewn chwech diwarnod y gwaneth yr Arglwydd nef a daiar, y môr ac oll y sydd ynthynt, ac y gorfwyssawdd y saithved dydd: o erwydd hyn, ve vendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabbath, ac ay sanctaeiddiodd ef.
V. Anrhydedda dy dad ath vam, val y bo dy ddyddieu yn hir ary tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dûw, yn rhoddi y ti.
VI Na ladd.
VII. Na wna odineb.
[Page 6] VIII. Na ledrata.
IX. Na ddwg gam destoliaeth yn erbyn dy gymodog.
X. Na chwenych duy dy gymodog, na chwenych wraig dy gymodog, nai was, nai vorwyn, nai ych, nai asen na dim ysydd yn helw dy gymodog.
H.
Beth yr wyt yn 1 ddyscû yn bennaf, yn y gorchy mynion hyn?
A.
Yr ydwyf yn dyscu dau beth: vym dled tû ag at Ddûw, am dled tû ag at ving-hymodog.
H.
Pa beth yw dy ddyled tù ag at Ddûw?
A.
Vy-nyled tû ag Ddûw yw, y gredû yntho ef, y ofni ef, ag y garû ef am oll galon, am oll veddwl, am holl enaid, ag am holl nerth. y addoli ef, y roddi diolch yddo e, y ossod vy holl ymd dyried yndo ef, y weddis arno ef, y anrhydeddu y sanctaiddid enw ai air, ag y wasanaethû e yn gowir, holl ddyddiau vy einioes.
H.
Pa beth yw dy ddyled tu ag at dy Gymodog?
A.
Vy-nyled tu ag at vyng-hymodog yw, y garû e vel vy hûnan, ag y [Page 7] wnethyr y bob dyn val y dynimynwn i, yddaw yntaû, wneûthyr i mineû. y garû, anrhydeddu, a chymorth fyn hâd am mam. Y anrhydeddû, ag y vod yn ûvydd in Brenhin ai swyddogion: Ymddarostwng in hol rheolwir, Athrawir, ysbrydol vugeilied, a meistri. Y ymddwyn vy hûnan yn ostwngedig, gan berchi pawb om gwell. Y wneuthyr drwg i neb mewn gair na gweithred. y vod yn gowir ag yn gyfion ymhob peth a wnelwyf. Na bo na châs na digassedd yn vinghalon ineb y cadw vinwylaw rhac chwilenna a lladrotta, am tavod, rhag dwedyd drwg, celwydd, ag enlhybiaeth. Y Cadw ving-horph mewn cymedroldeb, syberwyd ag honestrwydd. Nyd y chwenychû na dei syf golud neb arall, onid y ddyscû a llavirio mewn modd cowir, y geisio enill vy mowyd, a gwneûthyr a ddylwyf, ym-mharyw fuchedd bynac, y gwel Dûw vod yn dda im galw am gossot i.
H.
Vy anwyl plentyngwybydd hyn, nad wyt o hanot dy hûn yn abl y wneuthyr y pethau hyn: nag y rhodio yn orchyminion Duw, ai wasanaethy ef, heb y rinweddol râs ef, yr hwn rhaid y [Page 8] ty ddyscu beûnydd y alw am danaw trwy ddyval weddi: Am hyny gad y mi glywed os medry ddywedyt gweddi yr Arglwydd.
A.
Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sanctaiddiol a vo dy enw. Delet dy dirnas. Gwneir dy wyllys yn y ddaiar megis ag i mae yn y nefoedd. Dyro y ni heddyw eyn bara beunyddiol. A maddeû y in eyn dyledion, megis i maddeuwn nineû ein dyledwyr. Ag nag arwain ni y provedigaeth, ond gwared ni rhag drwg. Canys Ti a bieu yr dyrnas, ar Nerth ar gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
H.
Pa beth ydd wyt ti yn ei erchi ar Dduw yn y weddi hon?
A.
Yddw vi yn deisyf ar vy Arglwydd Dduw ein Tad nefawl, yr hwn yw rhoddwr pob daioni ddanvon y râs y my ag y holl ddewisiol pobl: val y gallom y anrhydeddû ef, y wasanaethû ef, ag vfyddhau iddo ef megis ag y dylem. Ag yddwyf yn gweddio ar Ddûw y ddanfon y ni bob peth rhwn y sydd anghenrheidol in emidiaû ag in Cyrph: ag y vod yn drugarawg wrthym, ag y vaddeû y ni ein pechodau. A bod yn teilyng [Page 9] gantho yn cadw an ymddiffin ni ym hob enbeidrwydd ysbrydol, a chorphoral: ag yddo ef yn cadw ni rhag pob pechod a drwgoni, a rhag yn gelin ysbrydol, a rhac angaû tragwiddol. Ag hyn yddwyf i yn gobeithio y gwna ef, oi drugaredd ai ddaioni, trwy eyn Arglwydd Iesu Ghrist. Ag am hyn ydd wyfi yn dywedyd, Amen. velly y bo.
H.
Pa sawl Sacrament a ordeiniodd yr Arglwydd yn ei Eglwys?
A.
Dau; ac nid oes mwy yn gyffredinol angenrheidiol y Iechydwriaeth; ar rhain yw, Bedydd, a Swpper yr Arglwydd.
H.
Beth wyt ti yn veddwl wrth y gair Sacrament hwn?
A.
Sacramenta yw Arwydd gweledig oddi allan, o ysbrydol râs oddy vewn, yr hwn a ordeiniodd Grist ei hûnan, ag a roddodd i ni, megis modd trwy yr hwn, yr wn i yn derbyn y ybrydol râs ef: ac y vod hevid yn wystl in siccrhâu ni, oi râs bendigedic ef.
H.
Pa sawl rhan y sydd mewn Sacrament?
A.
Dwy ran: yr arrwydd gweledic [Page 10] oddiallan: ar ysbrydol anweledie râs oddi vewn.
H.
Pa beth yw yr arwydd gweledic oddi allan, yn y bedydd?
A.
Dwfr: yn yr hwn y drochir y dyn a vedyddyr, neu a vwrir arno y dwfr, yn enw y Tad, ar Mâb, ar ysbryd glân.
H.
Pa beth yw yr ysbry dol râs oddi vewn? yn y bedydd?
A.
Marwolaeth y pechod, ac ail enedigaefh y gyfiawnder: ac o erwydd yn bod ni wrthnatûr wedy ein geni mewn pechod, ag yn blant llid, mae Duw yn gwneuthyr ni trwy vedydd yn blant y nefawl ai drag widdol râs.
H.
Beth a ddymûnyr yn y rhai a ddaw y bedyddio.
A.
Bod ynddint, ediveirwch, er ymmado yn hollawl ai pechodau, a Fydd y credû ein wastadol y addeweidion Dûw, yr hwn y mae e yn selû yddint yn y Sacrament hon.
H.
Pa ham ynteu ydd-ydis yn bedyddio yr hai bach; yr hai oblegit i hoedran, ny allânt gyflawni y pethaû hyn?
A.
Mae y rhai bach yn cyflawmi y [Page 11] pefhaû hyn trwy y Tadau ai Mammau beddydd, y meichûon, yrhai sy yn addo ac yn addûno y pethau hyn yn y enwaû hwy: a phan ddelant i lawn oedran, maenhwy yn rhwymedig y hunain, y gwplaû y peth a addawsont wrth eu bedy ddio.
H.
Pa ham y trefnwyd, neu y ordeiniwd Swpper yr Arglwydd?
A.
Y ddala ar gof yn wastod, vnic aberth marwolaeth Grist, ar holl ddonniaû ysprydol 'rhain yrwn i yn dderbyn, trwy ei farwolaeth ef.
H.
Pa beth yw yr rhan o ddiallan, neu yr arwydd gweledic yn Swpper yr Arglwydd?
A.
Bara a gwin, yr hwn a orchymynodd yr Arglwydd, y bawb y derbyn.
H.
Pa beth ywr rhann ysbry dol, oddi vewn, neur peth nefawl a arwyddoccaûr?
A.
Corph a gwaed Crist, yr hwn y mae pob dyn fyddlon, yn cymerid ac yn derbyn yn Supper yr Arglwydd.
H.
Pa rai ywr donniaû ysbrydol, or rhain y mae Cryst yn yn-gweuthyr ni yn gyfrannogion yn y Swpper ef.
A.
Nerthiant, ac adnewyddiant ein [Page 12] eneidieû. Canys fel y mae y bara yn porthi cyrph, ar gwin yn llawenychû calonneu dynion y vywyd daiarol: felly hevyd y mae corph Crist ai waed bendigedic yn porthi ac yn llawenychû yn y supper, y vywyd tragywddawl, eneidieû cynifer ac sy yn derbyn y Sacramēt trwy Ffydd, gan gredû y Iesu Grist ddioddef a marw dros y bechodau.
H.
Pa beth sy angenrheidiol, yr rhai a ddaw yn deilwng i Swpper yr Arglwydd?
A.
Rhaid yddynt hwy ymholi ei hunian, beth a wnaethont a chymeryd gwir edifeirwch o eigion ei calonnaû, am y pechodau, ac os ydynt yn bwriadû yn ffordd ddianwadal y vyw rhaglaw, mewn newydd a duwiol vuchedd: a bod genthyn Ffydd ddiogel yn rhûgaredd Dduw drwy Grist, a diolchys coffa am y varwolaeth ef, an pryniad ni. Yn ddiwethaf rhaid yddynt edrych yn fanwl, y bod hwy mewn cariad perffaith a phawb.
Grâs cyn Cinnaw.
LLygaid pob peth byw, a edrychant attat i o Arglwydd bendigedig: A phan y agory dy law, yr wyt yn cyflawni deisyviad pawbo honynt, trwy roddi yddint eû ymborth yn ei bryd. Edrych y nawr yn rasol arnom i ath llygaid, ag agor dy hael ddaionûs law, a bendithia dy wasaneuthwir ar holl ddoniaû rhain ydym y nawr yn barod y dderbyn oth ddirfawr halieoni di, trwy Iesu Grist ein Harglwydd ni, Amen.
Ymddyffin o Ddûw rag pob drwg, dy holl Eglwys, ein Brenhin Iames, y frenhines, y Tywysoc, ar Deyrnas, a chaniata y ni heddwch a gwirionedd yng Crist Iesu yn Arglwydd. Amen.
Grâs wedy Cinnaw.
MOliant ac anrhydedd avo y ti, o Arglwydd nefawl, am yr ymborth [Page] a roddest y ni o ddechreûad ein oes, hyd yr awr hon: a megis ag y porthaist i nawr yn cyrph ni a bwyd dayarol: felly ni a atolygwn y ti y borthi ein enidaû a dy fendigedicair y fywyd tragwyddawl. A dyro y ni nerth a grâs felly ith wasaneythû di mewn gwir grefydd yn y byd yma: fel y bo y ni gael bod yn gyfrannogion o lawenydd dy deirnas yn y byd a ddaw, trwy Iesu Grist ein Arglwydd ni. Amen.
Aralh.
BRenhin y gogoniant tragwyddawl, a wnel y ni vod yn gyfranogion oi wledd nefawl: trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Grâs cyn Swpper.
TRagywddawl Ddûw a thrûgaroccaf Dad; ni ddisyfwin arnat i faddeû y ni ein holl pechodaû, a rhoddi di fendith ar gymmaint o fwyd a diod ac a [Page] paratoest i y ni dderbyn er yn porthiant y pryd hyn. Gwna rhain ô Arglwydd ynvoddion y gadw ein cyrph mewn iechyd ac einoes, a gwna ein calonnae niney yn wir ddiolchgar yt i, am dy holl ddoniaû, rhain oth fawr haelioni yr wyt beûnydd yn rhoddi y ni, drwy Iesu Grist ein Harglwydd, Amen.
Grâs wedy Swpper.
YNnot i o Arglwydd y rwn i yn byw yn symmyd ag yn bôd: ac y ti y rhoddwn y nawr fawr ddiolch o ddyfnder ein calonnae, am tywall môr garedigol arnom i cynifer oth rhoddion daionûs. Yn enwedic am yn porthy ni môr rassawl ath Creadûrieid y pryd hyn. Caniatha ô nefawl Dad roddi y ni râs fal y gallom trwy nerth y ymborth [Page] fod yn barottach ag yn applach y fyw yn dy olwg di mewn vnion fûchedd, ac y wneûthyr pob gorchwyl da ac a ellom, er gogoniant dy enw bendigedyg trwy Iesu Grist yn Arglwydd ni. Amen.
Aralh.
AM ein bwyd an jechyd y fwtta, yr Duw mawr y bo diolch. Dûw a gatwo ei Eglwys, ein Brenhin ar deyrnas, ag a roddo y ni dangnhefydd yng-Hrist Iesu Amen.