PERL MEWN ADFYD

neu, Perl ysprydawl, gwyrthfawrocaf, yn dyscu i bôb dyn garu, a chofleidio y groes, meis peth hyfryd angenrheidiawl ir enaid, pa gonffordd sy yw gael o honi, ple, ac ym ha fodd, y dylid ceisiaw diddanwch, a chymorth ym'hob adfyd: a thrachefn. pa wedd y dyle bawb i ym­ddwyn i hunain mewn blinder, yn ol gair duw, a escrifennwyd yn gyntaf mewn Dwitch gann bregethwr dyscedig Otho Wer­mulerus, ac a droed ir Saesonaeg gann D. Miles Coverdal, ac yr awrhon yn hwyr ir Gambraeg gann. H. L.

Gorau or perlau, geirwir purlan,
Gorau gem eurwedd, iawnwedd anian,
Gorau dau gorau gwirian hynn i gyd
Y perl mewn blinfyd adfyd vdfan.

Joseph Barnes ai Printiodd yn Rhydychen. 1595. Robertus Pricius.

IR GWIR BARCHEDIC, AR ANRHYDEDDVSAF wr, RICHARD VYCHAN, Doctor o Ddiviniti, Archi­agon o Fydlesex, r'ad a thangneddyf Yng­hrist Iesu.

WRth ystig goffhau, a dilys ysty­riaw, (Ar­dderchaw­caf wr) ei­riaü, y pwy llawg a 'r y­madrodd­us Rufeinwr, M. T. Cicero, rhwn a ddywaid, na enir neb idd­aw ei hun, sef, er mwyn budd, a lles, iddaw ei hun yn vnic, (eythr er mwyn ei wlad, ei rieni, ei wraig, ei blant, ei geraint, ai gyfnesa­fieid,) mi a dybiais, fod yn rhwy­medig ddled arnaf am hynny, yn [Page] ol y gallu, ar rhodd fechan, a ro­ddes duw y my, gwblhau, (neu or lleiaf wneuthur fyngoreu) ar gwblhau a chyflawni hynn yma: Ac wrth hir fyfyriaw yno fy hu­nan, pa wedd y gallwn yn oreu wneuthur hynn, ni fedrais ddy­chymig, na dyfeisiaw vn modd gwell, nac wrth roddi allan, ryw draethiad dduwiol, neu lyfr dys­cedig, ymhwy vn y cae fy anwyl gydwladwyr, y Cymbru, yn eita­fodiaith ei hun, iachusawl, ac ys­prydawl athrawiaeth, a dysceidi­aeth. Ac yn y cyfamser, fe a ddamweiniawdd i'r llyfr hvvnn ddyfod im llaw, 'rhwnn, pann graff synniais arnaw gann bwyll, a fernais i fod yn fuddiawl, ac yn angenrheidiawl i bobl fyngwlad, a phan gefais amser, ac ennyd, mi ai drois ir Gymbraeg.

Ac er maint a fu fymhoen yn hynn, ei maint oedd ofy chwant, [Page] am awydd, i wneuthur, hyd y ga­llwn, lesim gwlad, ac er bod y llyfr hwnn yn etifedd cyntaf-anedic ymy, ac yn ffrwyth cyntaf, om myfyrdawd, am llafur, eto, ni thy­biais yn well, nac yn amgenach, o honaw, nac o erthyl anhymig, 'rhwnn a enid cynn ei amser. Ac am hynn my fi a ddechreuais i es­clusaw, ai ddifrawu ef, gann i da­flu ymaith yn ddiymgeledd.

Yno y dechreuawdd rhai om cydnabod (a rhai ni allwn yn dda i gomedd) ymbil, ac ymnhedd a myfi, er i ddiwgio, ai addurniaw, ai osod allan yn berffaith: my fi ai gwrthsefais, ac a ddoedais yw erbyn hvvy tros amser, can's y ddoeddwn, ac y ddwyfbyth, o feddwl Marcus Antonius, Arei­thiwr hyawdl dyscedig o Rufain 'rhwnn pan ofynnawdd vn iddaw ef vnvvaith, paham nad ydoed ef yn rhoddi ei waith mewn print [Page] meis y gwnae eraill, gann fod mor felys, ac mor flasus gann bawb i clywed: a attebawdd yn ddigrif, ac eto yn wir, fal hynn: sef, os dam­weiniaii ef ddoedyd dim ar draethiad yn anfedrus, yn anwe­ddus, ne yn amhwyllawg, y galle ef i wadu drachefn, ne i droi ffordd arall, ond o rhoe ef ddim allan ar gyhoedd mewn print, ar a fydde eniweidiawl, fe a ddelid arnaw, ac e fydde raid iddaw se­fyll wrthaw. Er fy mod yn gwy­bod, ac yn gweled, fod hynn i gyd yn wir, ac yn debig i ddig­wyddaw i mineu, eto mi a fum fodlon or diwedd, i ymroi fy hu­nani ewyllys a damuniad, fyng­haredigion am ewyllyswyr da, gann ddewis yn hytrach, ddangos ir byd fy anwybodaeth, drwy ro­ddi hwnn mewn print, na naghau, y rhai oeddynt mor gu, ac mor anwyl genyf, am beth cynn duw­ioled, [Page 4] a chan rhesymoled.

Ond yrawrhon, fe alle ond an­tur fod yn chwith, ac yn rhyfedd gennych, paham y bum cyn hy­fed, ac mor llefasus, ach trwbliaw chwi a ffeth cynn vvaeled, ac yw 'r llyfr hwnn, ac yn envvedig o wr anghy dnabyddus. dau achos am cymellesont i hynn. yn gyntaf, am i mi glyvved, (a hynny yn gy­ffredinawl gann bawb,) yn gystal, ac mor ddaionus o hanoch: ac y­mysc llawer o rinvveddae a chy­neddfae da, fod arnoch yr vn gamp honn yn hyspysawl, sef, bod yn greugar, yn dirion, yn dyner, ac yn naturiol tu-ac at eich gw­lad, gann garu, hoffi, perchi, a mavvrygu ych iaith gyssefin eich hun: ibwy, gann hynny, yr oedd iawnach, na chymesurach, roddi hwnn, (pe i tale i gael) nac i chwi? ofer fydde i mi, i roddi ef, i vn, fy ddirmygus, a diystyr ganthaw, [Page] yr iaith, can's ni ffrifieu ef yn­thaw, ni bydde gantho fater am danaw, ac ni fedre farnu o honaw: ac wrth hynny, mi a wnawn yr hynn y mae ein iachawdwr Crist,Mat. 7. 6. yn i wahardd, yn yr efangyl, sef, taflu perlau ne fain gwyrthfawr o flaen moch, yw sathru dann draed.

Yr ail achos, yw, am i mi wybod, fod rhai segurwyr, dyngas malei­sus, y rhain ni wnant ddim ond hynny, yn barod i feiaw arnaf yn ddiachos, ac heb ystyr, rhai ydynt mor atgas, mor ddrwg ewyllyscar, ac mor ddrygionus a chi Aesop, rhwnn a orweddai yn y presep, heb na phori y gwair i hun, nac eto gadel irr ych i bori chwaith.

Yr awron os bydd y llyfr hwn gymeradwy genych, ac yn rhyn­gu eich bodd, ni feiddia vn coegfeiwr, chwrnu, na chyfarth yw erbyn. fe a ddarlleuir mewn [Page 5] Croniclau awduredic pa wedd y gorchmynnawdd y Brenin Ed­vvard,Fe a darlle­nir hefyd y cyffelyb o Zisca Cap. ten y Boe.mieit. Fox yn llyfr y Metthyron dalen. 1557. y cyntaf, o bydde i'r Sco­tieid vn amser yn ol i farvvolaeth ef gyfodi, neu wrthryfela, yn erbyn y deyrnas honn, gyme­ryd i escyrn ef, ai dwyn ir maes, ac yn ebrwydd, hwy a ffoent y­maith. yn yr vn modd, cabl­wyr, a drwg absenwyr a gaeant ei safnau, ac a ffoant ymaith yn ollawl, pann glywant eich henwi vnvvaith o fewn fy llyfr, ac ni fei­ddiant ddoedyd gair ymhellach yn ferbyn.

Erwydd paham, mal y gwnae Aiax Oileus, ne Aiax leiaf gynt yn rhyfel Droia, sef ffo dann dari­an faith-ddyblyg Aiax fab Tela­mō, pan i gortreclud ac i'r amgyl­chid gann ei elynnion, felly ydd­wy finneu yn diainc atoch gan o­beithaw fy mod yn ddiāgol, oddi­wrth dafodeu gwenwynic, (rhai [Page] ynt lymmach i enlhbiaw eraill na chleddyf daw finiog) os y llyfr hwnn a gaiff fyned ir print, dann eich nodded, ach ymddeffynfa chvvi.

Yr awrhon, gann hynny, fy v­fudd ddysyfiad, am damuniant yw, bod i chwi dderbyn y llyfr hwnn yn ddehevig, a bod y ga­lennic wael hon, yn gymeradwy gennych. ac os hynn a wnewch, chwi am gwnevvch, nid yn v­me yn rhvvymedig, ac yn ddi­olchgar, i chwi, eythr chwi am cynhyrfvvch hefyd o hynn allan (os duw ai mynn) o osod allann bethau mvvy defnyddfawr, er lles, a budd ein gvvlad, ac er gogoniant i dduw. Ond yr wyf yn of ni fy mod yn rhyhir, ac yn rhy drwblus i chwi, am hynny nid af ymhellach, eythr eich gor­chymyn chwi, ar eiddoch, i dduw, yr hvvnn, a helaetho ei ddoni­eu [Page] ynoch, ac ach cynyscaeddo, a chvvaneg o vrddas, ac anrhy­dedd hyd eich dydd diweddaf. dic calan.

Eich vfudd, ach gostyngedicaf weddnyr, ac ewyllysiwr da, hyd ei elawr, HVW LEWYS.

At yr vnrhyw wr.

Mae 'n ddefod, hynod i hanian, rwyddwych,
o roddi y Kalan,
heirdd roddion glenigion glan
oreu gair, aur ag arian.
Rho finnau i chwithau, wych ieuthydd, glan­waith,
galennig iawn ddefnydd,
o rann ffawd i enraw 'n ffydd,
purlan yw, perl o newydd.
Pur drysor rhagor, rhowiogwych hanes,
perl hynod goleuwych,
perl enwog gyfoethog gwych
pur oleuni perl iawnwych.
Or perlau gorau, gwiriwn hynn yma
iawn amod a welwn,
goreu vn perl a garwn,
purloew hap, yw y perl hwnn.
Perl yw hwn, didwn, odidawg, wythoes
perl weithion cyfoethawg
perl iawn rhwydd pur lan y rhawg,
pa air lanach perl enwawg.
Ceisiwn o gallwn i gyd, o rann budd,
yr iawn berl mewn adfyd
llawenychol llawn iechyd,
llyna berl yn llenwi byd.
Cair beunydd gynnydd, a digonawl ddawn
gwir ddonieu ysprydawl,
a ffob peth difeth dwyfawl,
a gair yn hwnn gwir iawn hawl.
Er amled gweled, a gwlia y peth,
e wyr pawb hynn ymma,
eymrwch purwch er para,
y llew doeth, hwnn yn lle da.
HV: LEWYS.

IR DARLLENNYDD Christnogaidd rhad a thang­neddyf Ynghrist.

MAE yn scrifennedic mewn amryw Hysto­riau, o wirionedd ac awdurdot gwarante­dic, pa wedd yr arfere yr Emerodr mawr, Di­oclesian (pann gae ef ddim seibiant a llonyddwch gann ryfel oedd) o wau rhwydau manyl-faisc ple­thedic, i faglu ac i ddala gwybeid, ac ed­nogieid, ac eraill or cyfryw fan bryfed, rhag bod yn segur. Caius Caligula, y pedwerydd Cæsar, ac Emerodr mawr ynteu, pann ddychwelodd o ryfela yn er­byn y Germanieir, a gasclai blisc a chre­gin ynglann y mor, gann orchymyn yw holl filwyr wneuthyr y cyffelyb, rhag bod yn segur. Os oedd (gann hynny) y rhagddoededig Emrodrwyr hyn (gwyr synhwyrawl ardderchawg, pennaethieit pwyllawg, Concwerwyr galluawg, a lly­wodraethwyr godidawg) mor ddirfawr yn ffieiddiaw, ac yn cas-hau buchedd segurllyd, (yn vnic trwy ddirgel-waith natur, ac anian) fal y dewisent yn hy­trach [Page] wneuthur pob siapri, ac arabedd na bod yn segur, pa faint mwy y dylem ni (sef oll wir Gristnogion) 'rhai sy gen­nym, nid natur yn vnic, a rhesymmae na­turiol, eythr gwir, a bywiol air duw he­fyd, in dyscu, in cynghori, ac in rhybuddi­aw, rhag cwympaw, a digwyddaw o ho­nom, i'r cyfryw: fe a ddarlleun yn Gene­sis,Gen. 19. pa wedd y glawiodd duw dan or ne­foedd i ddinistriaw Sodom a Gomorha, o herwydd i pechodae: ar pennaf o be­chodae 'rhain, ydoedd diogi, a seguryd fal y trystia y Prophwyd Ezechiel.Ezech. 16.

Tra ydoedd Dafydd i hun yn rhyfela yn erbyn y Philystieit, ef a wnae yr hynn oedd gymeradwy, a da, yngolwg yr Arglwydd, ond pann dariodd ef gartref, fe gafes Sathan wall arnaw, gann i an­nog i wneuthyr yr hynn oedd ddrwg a ffiaidd garbron duw:2 Sam. 11. 1, 2. 3. &c. ac felly y digwy­ddawdd i'r vn a orfygodd y llew, yr arth,1. Sam. 17. 34. 35. 36. 37. 50. a Goliah y Philystiad mawr, ie, ac a orchfygodd ddeg mil o wyr i hunan, yn y maes, mal y tystia yr scrythur lan am danaw, (Sawl a Laddod i fil,1. Sa. 18. 7. a Da­fydd i ddengmil ne ifyrddiwn) adaw yn1. Sa. 21. 11. ei seguryd i orchfygu gann ei drachwan­tae ai bechodae i hunan. ystyrieth o hynn, ac o eraill or cyffelyb siampleu a hynn, am cymhellawdd i Gambraegu y [Page] llyfr hwnn; gann ym dybied yn anifyr, ac yn anuwiol fod yn segur, o'r pryd y rhodde yr haul ei byst goleuadfawr, ai be­lydr disclaerwiw, i oleuo yr dydd hir­ddydd haf, nes i fachludaw eilwaith, gan roddi lle i'r goleuadon lleiaf.

Ac er bod hynn yn achos mawr,Yr achos cyntaf. eto mae achosion dwysach o lawer, am cym­hellasont i gymeryd hynn arnat. Yn gyn­taf, ardderchowgrwydd y gwneuthurwr cyntaf, yr hwnn sy ddiau gennyf i fod, yn Awdur duwiol, yn Athro rhinwe­ddol, yn wr defosionol, yn bregethwr rhagorol, ac yn weithwr grymus ner­thol, yn y winllan ysprydol, (sef yw hynny, yn yr Eglwys Gristnogaidd gy­ffredinol) mal y mae eglur, nid vn vnic wrth ei boen ai lafur ef yn y llyfr pre­sennol hwnn, eythr hefyd mewn lla­weroedd o llyfreu eraill, 'rhain a scri­fennodd ef, drwy fawr boen a diwyd­rwydd, er lles i lawer, er moliant i dduw, ac er gosod allan ac eglurthau, ei sanctawl ewyllys ef: y rhain oll a dystiant o honaw ef, i fod yn ffyddlawn, ac yn ca­ru duw. ond ni safa i yn rhyhir, ar y pwnc hwnn, canys faly mae 'r ddiha­reb, vino vendibili suspensa hædera non est opus, ac fal y canodd Pendefig pencer­ddiaidd o'n gwlad ni ein hun.

[Page] Nid rhaid rhoi clod braunod bro iawn oll i vn ai nillo.

Yr ail achos am gwthiodd i hynn,Yr ail achos yw godidawgiwydd a daioni y llyfr, canys os ystyriwn, sylwedd y ddysceidiaeth gynwysedic oddifewn y llyfr, fe a gair ynthaw faterion defnyddfawr, dyscybli­aeth wyrthfawr, athrawiaeth fuddiol, ac angenrheidiol i bob dyn. canys os yw angenrheidiol i bob dyn fod yn Gristiō, ac os yw angenrheidiol i bob Cristion oddef croes ac adfyd yn y byd hwnn, fal y rhagordeiniawdd ein Iachawdwr Crist, yn ei Efangyl, gann ddoedyd, os e­wyllysia neb ddyfod ar fy ol i gwaded ef i hun a choded ei groes,Luc. 9. 23. &c.Matt. 16. 24. Ac fal yr escri­fennir yngweithredoed yr Apostolion,Marc. 8. 34. trwy lawer o gystudd mae yn rhaid my­ned i deyrnas dduw:Act. 14. 22. ac mal i tystia Saint Paul,2. Tim. 3. 12. l' awb ar a ewyllysiant fyw yn ddu­wiol ynghrist Iesu, a oddefant erlid: Pwy a ddichon ne a eill wadu, nad yw y peth sydd in fforddio, ac in confforddio yn ein croes, a'n ing, ac in cynorthwyaw megys i ddwyn ein baich yn fuddiol ac yn angenrheidiol hefyd? Ac yn ddiau or cyfryw ddiddanwch, mae yr llyfr hwn yn llawn, hwnn a ddysc i ni wybod, pwy sydd in ceryddu, neu yn rhoddi ein croes a'n adfyd arnom; sef duw: am ba beth; [Page] am ein pechodae: i ba beth: In dwyn i e­difeirwch a gwell-hant buchedd: drwy ba fodd: Drwy ein darostwng a'n vfudd­hau, a'n dyscu drwy ymynedd a goddef­garwch,2. Tim. 2. 12. i gyd-oddef gida Christ, fal y ga­llom hefyd, gyd-teyrnasu gidac ef. Hwnn a'n dysc i gymerryd ein clefyd, ein tlodi, ein carchar,1. Pet. 5. 6. a ffob croes arall a gofyd, yn llawen, ac yn orfoleddus, gann ein daro­stwng ein hunain tan alluawg law dduw, fal y gallo ef ein derchafu pann ddel am­ser ein gofwy:Luc. 21. 19. a chann feddiannu ein e­neidieu drwy ymynedd.

Y 3 achos yw,Y trvdydd achos. tlodi ac eisieu gwlad Gymbru o lyfreu yn i hiaith ei hun, ir di­wedd ar defnydd hwnn, sef, er rhoddi ia­chusawl, ac ysprydawl ddiddanwch, ir sawl sydd glwyfus, ne mewn rhyw fodd arall yn orthrymedic. A chyd bae bob gwlad a theyrnas o'n hamgylch, a llyfreu duwiol, daionus ganthynt, yw dyscu yn ffordd yr Arglwydd, ac yn ffydd Grist, yn ddigonawl, eto prin y cawsom ni lyfreu, (yr hynn sydd drwm a gofidus gennyf) yn ein iaith ein hun, in athrawy yngwy­ddorion, ac ymhyncieu cyntaf y ffydd. Ac er bod y Beibl, yr awrhon yn ddiwe­ddar, wedi i gyfieuthu, ai droi i'r Gam­braeg, drwy boen a dyfal ddiwydrwydd, y gwir ardderchawg, ddyscedicaf Wr, D. [Page] Morgan, (i bwy yn mae holl Gymbru byth yn rhwymedic, nid yn vnic am ei boen ai di aul, yn hynn, cyd bae hynny clodfawr ac addaso ddiolch, eythr hefyd am iddaw ddwyn y cyfryw drysawr, sef gwir a phurlan air duw, i oleuni yn gy­ffredinawl i bawb, 'rhwn ydoedd or bla­en guddiedic rhag llawer, gann adfere eilwaith yw pharch ai braint, iaith gy­forgolledic, ac agos wedi darfod am da­ni) er bod hwn (meddaf) gennym, ac o honaw i hun yn ddigonawl, i roddi cy­morth a chysur, ymhob gwrthwyneb, e­to, drwy fod hwn, mal y mae gweddaidd, a chymwys, yn gloedic yn yr Eglwysi, lle nid oes cyrchfa atto namyn vnwaith yn yr wythnos (a hynny sywaeth yn ddiog gann lawer) mae llaweroedd yn ymddi­faid o gyngor, yn amser i ymweliad, ac heb wybod pa wedd y mae yddynt i ym­ddwyn ei hunain, yn ei hadfyd, ai cle­di. Ac heb law hynn mae holl leoedd yr Scrythur lan, 'rhain ydynt yn perthynu ir diwedd, ac i'r pwrpas hwnn, megys ar dayn, ac yn wascaredic, ac am hynn yn flin ac vn anhawdd i neb, ac yn amhosibl i'r anyscedic wybod, pa le y cais hwy er i ddiddanu ai gonfforddio ei hun: Eythr pa beth bynac a escrifennir drwy holl gorff y Beibl, er y perwyl, hwnn, hynny [Page] oll a gynhwysir, a grynhoir, ac a gesclir ynghyd ir vnlle, mewn trefn, ac ordr dda, yn y llyfr bychan hwn, mal y di­chon gwr pann i mynno i caffael, yn hawdd ac yn ddiboen, mewn parod­rwydd, i fyfyriaw arnynt, yn amser i ad­fyd ai ofwy.

Yrawrhon, y diffig hwnn o lyfreu sy in mysc (gida bod y Preladieit ar gwyr egl­wysig hwythau yrhann fwyaf yn ddiog yn ei swydd ai galwedigaeth, heb ymar­ddel a phregethu ac a deongl, dirgelwch gair duw i'r bobl, eythr byw yn fudion, ac ya aflafar,Esa. 56. 10. 11 fal cwn heb gyfarth, clych heb dafodeu, ne gannwyll dann lestr) yw yr achos paham y mae cymeint o anwybo­daeth mewn pethau ysprydawl in mysc: mal y digwydd yn fynych, fod mewn amryw leoedd, henafgwyr briglwydion, trigeinmlwydd oed, ne fwy, mor ddeilli­on, ac mor anyscedic, ac na fedrant roi cyfri o byneiau yr ffydd, a'r crefydd Cristnogaidd, mwy na phlant bychain newydd eni.

Hynn yw yr achos pam y tyfodd cy­meint o chwynn, gwyg, ac efrae, yng­wenithfaes yr Arglwydd, sef cymeint o draddodiadae, a dynawl ddychmygion a gosodigaethae, yn yr Eglwys', yn gymys­cedic a gwir, ac a phurlan air duw.

[Page] Hyn yw yr achos pam y mae cymeint o gaudduwiaeth, delw-addoliant, pereryn­dod, gweddio ar Sainct meirwon, ar cy­fryw ddiwres argoelion in mysc. Hyn yw yr achos, pa ham y mae cymeint, o falch­der, a rhodres (a hynny heb droed) ie y­mysc rhai gwael, iseliadd. Pa faint yw rhwysc cybydd-dod, vsuriaeth, chwant, trais, lledrat ac ysbel, in mysc, fe wyr pawb sy yn dal ac yn craffu, ar gwrs y byd. Puteindra, ac anlladrwydd ni bu eri­oeod fwy: glothineb, brwysc, a medd-dod sy gyffredin; casineb, llid, geiynniaeth, di­gofaint, ymrysonau, ymgyfreithiaw, ang­hariadoldeb ac anudonau sy ry aml, ac a­gos a gorescyn ein gwlad. Ac ni wna beth yw yr achos o hyn, ond (gida bod y Eglwyswyr mal y doedias vchod, rhain a ddylent fod yn siampl ar air a gweithred i eraill, yn ddifraw, ac yn ddiddarbod) ein eisieu o lyfreu, in twysaw, ac in llwybraw yn y ffordd iawn. Ond bellach i bwysaw at ddiwedd: na fid rhyfedd, na chwith genyt, paham yr henwais y llyfr hwn yn berl, (gann mae gair Saesonaeg yw perl) nid wyf yn gwneuthyr yn hynn ond fal y gwnaeth fy ngwell om blaen, canys dar­llain y trydydd pennod ar ddeg o Efan­gyl Sainct Mathew, yn y 45. ar chweched wers a deugain, a thi a gai yr vn gair. Heb [Page] law hynn, oni chanlhynais, fy Awdur air yngair, na feddwl wneuthyr o honof ar fai canys weithieu (yr wyf yn cyfaddef) mi a rois lai, weithieu eraill, mi a rois fwy ac sydd yn y llyfr Saesonaeg, ond cofia eth o ddywaid y Bardd lladin non ver­bumreddere verbo', Curabit fidus interpres. my-fi a wneuthym yr hyn a dybiais fod yn oreu ar dy les.

Na feia am nad oes (y) ymhob mann o flaen (n) ne (r) lle i dyle fod, canys ni alle y printiwr wneuthyr amgen, am nad oedd ganthaw cymaint ac oedd angen­rheidiol or llythrennae hynny: ac felly cymer y (d') yn lle y (dd) ac (l') yn lle (ll) ac os damwainiodd i vn llythyren ne i air fod allan oi le, meddwl mae Saeson ai printiodd, 'rhai oeddynt anghyfar­wydd yn yr iaith, cymer bob peth mewn rhann dda, a thi am anogi i, ag eraill hefyd, i gymeryd poen mewn pethau e­raill o hyn allan, dro­sot. yn iach.

Pennod cyntaf.
Pob trwbleth ag adfyd sydd yn dyfod oddiwrth ddüw

HYnny oll a gyfriaf yn adfyd, nev flin­der, a'r y syd' yng­wrthwyneb ewyll­ys, ne ddysyfiad dyn, megys, aflo­nyd' ruthrae y cnawd, profedigaeth y cythraul, clefyd corfforawl, cym­ar cildynnus, anuwiol, mewn prio­das, plant anufuddgar, cymdeith­ion annaturiol, neu anniolchgar, colled o dda, caethiwed o ryw hen fraint, ne rydid, colliant o enw da, malais neu anfod' dynion, newyn, brudaniaeth, nodeu, thyfel, carchar, ag angeu: ag yn y rhol honn i hen­wir hefyd, bob bath ar adfyd a chle­di, pwy vn bynnag fyd'o, ai perthyn attom ni ein hunain, ai att ein cy­feillion a'n cyfnesafieit, ai cyffredin, ai anghyffredin, ai dirgel a chuddi­edig, [Page 2] ai goleu ag eglur, ai rhygly­ddus, ai anrhyglyddus: yn 'r hol' be­thau hynn (meddaf) fe ddyle bob dyn Christnogaid' ystyried yn gyn taf y gwreiddin, r achos, ar decchreu ad, fal hynn: sef, y dylem ni gym­ryd a derbyn yn ddioddefgar pa beth bynac, y mae duw yn i anfon: erwyd' hynn sy wir,Ge. 12. 2. mae duw yw ein creawdr,Dihar. 17. 5. an gwneuthurwr,Eccle. 2. 24. a ninnau,Esa. 9 16. ym waith i ddwylaw ef;Esa. 45. 9. ef yw ein brenin,Esa. 64. 8. ein arglwyd',Ierem. 18. 6. an tad ag fal nad yw weddus ir crochā,Ier. 19. 11. fā ­son yn erbyn y chrochenud',Mat. 19. 17. felly mae 'nanweddeiddiach o lawer i ni,Mar. 10. 18. furmur,2. Tim. 2. 19. ne rwgnach yn erbyn e­wyllys, a barnedigaeth ein duw.

Ag er bod gorthrymder ag ing yn codi, ag yn dyfod yn fynych, drwy ddrygioni ein gelynion, annogiad y cythraul, ne drwy ryw fod' aral', et­to ni ddylē ni feddwl i bod, yn dy­fod o ddamwain, heb oddefiad, or­deiniad ag ewyl'ys duw, onid trwy [Page 3] i ragwy bodaeth,Eccle. 11. 14. i ragor deiniad,Fla. 45 4. &c. ai bwyntmāt ef: ag i ddoedyd n gym­wys,Ez. 28. 2. yr vn mod' yw,2. Chro. 20. 6 tu ac acc amIudith. 9. 11. ein diogelwch pwy vn bynac fyddō Iob. 1. 11. yn byw,Mat 10. 29. ai mewn tlodi,Luc. 12. 6. ai mewn cy­foeth,Doeth. 17. 2. yn y tan, ai y n y dwfr, ymysc yn gelynion, ai ymysc yn cyfnesafi­eit, canys mae duw 'n gweled, yn gwybod, yn dosparthu, ag yn llywo draethu pob peth,1 Sem. 2. 6. mal i tystia llyfr 1. 0 Samuel:Deut. 32. 23. yr Arglwyd' syd' yn marwhau,1. Sam. 16. 23 ac yn by whau,Tob. 13. 2. ef syd' yn dwyn i wared ir bed',Iob. 1 21. ac ef a ddwgIob. 2. 10. i fynu,Eccl. 5. 14. &c.

A Iob hefyd a destiolaetha yn i1. Tim. 6. 7. drueni,Mat. 10. 29. yr arglwyd' ai rhoes,Luc. 22. 6. yr ar­glwyd' ai dyg: a Christ i hun a ddy weid, na ddescyn vn o adar y to, ar y ddayar, heb ewyllys ych tad, ie, mae gwallt ych penn y gyfrife­dig.

Gā' fod wrth hynny pob trwbleth a blinfyd yn dyfod oddiwrth dduw ni a ddylē ddarostwng ac vfud'hau [Page 4] ein calonneu a'n meddylieu, iddaw ef, gann oddef iddaw ef wneuthyr a ni, fal i gwelo i sanctawl ewyllys ef fod yn iawn: pa bryd bynac gaun hynny, y byd' i dowyd' stormus, ni­weidio ne lad' yd, a ffrwyth y ddae­ar, ne pān in difenwir gān ddrwg­ddynion, gann godi gwradwyd', ne gabl in erbyn, pam y dylem in rwg­nach, ne furmur yn erbyn yr elfynae ne geisio ein dial ar ein gelynnion? erwyd', oni dderchafwn ein meddy­lie, ag ystyriaw mae duw syd' yn go sod i law arnom, ag mae efe syd' in ceryddu, cyffelib ydym i gwn (eb ddim gwell) rhain pann i tafler a cherig, a gnoant y garreg, heb ystyr pwy sy yn taflu attynt. Ac hefyd ni ddyle neb fod yn anfoddgar, neu 'n anwllyscar i aildalu y dalent ne 'rMat. 25. 14. gwystl,'Luc. 19. 13. rhwn a roddwyd iddaw 'i vnic er i gadw. Duw sy yn rhodd bowyd, iechyd corfforawl, nerth, gwraig, plant, cymdeithion, cyfoeth [Page 5] anrhyded', gallu, awdurdod, hedd­wch, esmwythdra, a diogelwch dros amser, tra ryngo bodd iddo ef: yr awrhon, os yr vnrhyw ddüw y­ma, a ddwg drachefn rai or pethau hynn, neu r cwbl, nid yw ef yn dwyn dim onid yr eiddaw i hun, ar peth yr ym yn d'ledus iddaw o honaw. Erwyd' pahā, y mae yn bechod an­feidrawl, dialeddus, furmur yn erbyn ewyllys duw, neu wrthryfe­la yn erbyn i farnedigaethau ef.

Pen. 2.
Pob trwbleth, gorthrymder, ag ad­fyd, a ddanfonir arnom ni gann ddüw, er cospedigaeth am ein pechodae.

YR awrhon beth yw'r achos sy yn peri i ddüw anfon adref hyd attom, ac ymweled a ni drwy orth­rymder, ing, a gofyd? am y pwnc y­ma, ystyr hynn yn dda: pa beth by­nac [Page 6] nac a hauddod', neu a rygly ddawd' dyn, hynny oll a ddyle ef i d'erbyn, ai ddioddef yn llawen, ac yn ewyl­lyscar: Holed, ag ecsamnied, pob dyn i hunan, oni ryglyddawd' ef i gospi, ai geryddu gan dduw, naill ai am ryw bechod yspysol, yr hwn a wnaech ef yn bresennol, ne am be­chodau a wnaeth ef ar amseroed' e­raill: yr awrhon, yr arglwyd' ein duw ni, ymhob bath ar gosbe dig­aeth, ac ymweliad, a ddengys ac a fanega, drefn, ne ordr i gyfiawnder ai anfeidrawl ddiclloned', a digo­faint, yn erbyn pechod ag an wired': can's ef a ddy weid yn yr ail gorchyRuf. 5. 2. myn,Ex 20. 5. myfi'r arglwyd'dy dduw di, wyf d'uw eid'igus,Ex. 34. 7. yr hwn a ymwelDeut. 5. 9. a phechodae y tadau ar y plant hydDeut. 7. 9. y dryded' ar bed wared' genedlaethNum. 14. 18. os hwy am casant,Nah. 1. 2. &c. Ac yn y pu­med llyfr o Foeses: i rhifir yr oll ddialeddau ar ol i gilyd',Deut. 18. 16. rhain a dywelltir ar yr anwir, ar anuwiol [Page 7] ac yn y trydydd-ar-ddeg o Luc,Luc. 13. 5. i doedir fal hynn, oni wellewch ych buched' fe ach cyfergellir chwi oll.

Ag fal i galloch weled yn eglur­ach, ac megys o flaen ych llygaid, pa fod' y mae cospedigaeth, a phla, yn ddyledus am bechodau, mae duw yn gosod, ac yn rhoddi y cospe digaeth, yn gyffelyb ir pechod, fal i gallo 'r ddau gydgordio, yn gystal mewn ffurf a chyfflybrwyd',2. Sa. 11. 4. ac mewn llun a chyneddf: er ecsampl: mal ir halogod' Dafyd' wraig Vri­as2. Sa. 11. 17. felly ir halogwyd i wraged' yn­teu2. Sam. 13. 29 drachefn: ef a barod' lad',2. Sa. 15. 11. Vrias,2. Sa. 16. 6. ac am hynny y lladdod' i fab ynteu2 Sa. 17. 1. ei frawd ei hun, ag a godod' 2 Sa. 20. 1.gyndd ryged',2 Sa. 24. 15. a digased' yn erbyn ei dad,1. Chro. 22. 8 gann i hel ai ymlid allā oi deyrnas, fal na ddichon neb ddatgan yn ddi gonol, y diale d', ar trueni, 'rhain, a fu ar ddafyd', ai bobl, am y cwyly­ddgar anwired', ar ffieidd-dra, rhain a wnathe ef.

[Page 8] Yr awron ystyria, a ffwysa, me­gys mewn cowir glorian, yr vnion­der yr hwn y mae duw or naill du yn i erfyn arnom, a hol' gwrs ein bu ched' nineu,Doeth. 2. 23. or tu aral': pe i buase hi­liogaeth dyn,Eccles. 17. 2. yn vfu'dol i gyfreithie duw, ac heb yscogi oddiarnynt, e fu­asse yn ollawl yn gwbl ddedwyd', fendigedig, yn dragowyd': ag ni ly­grase, ag ni wyfase ymaith, fal ffrwyth, ne lyssieu y meusyd': euthr ef a yscogod', ag a gwympod' y tro cyntaf or dechrevad: yn rhieni, 'an henafieid cyntaf, a ddifrawasont, ag a wnaethont yn ddiystyr, o orch­mynnion duw, ac felly nineu trwy i cwymp hwy, ydym lygredic, a chlwyfedig, an holl reswm, synn­wyr, an deuall a ddallwyd, an ewyl'­ys a wenwynwyd: i ddym yn cly­wed, ag yn cael ynom ein hun, an­wireddus wnniae, a thrachwantat, gan geisio ein chwant, an pleser yn y byd hwnn, yn erbyn sancteiddiol [Page 9] air duw: ac fal pe i bae i assyn ym­wisco ai ad'urnio i hun mewn croen llew, a mynnu bod yn llew, etto i hir glustieu sythion yn bryssur ai datguddie, ag ai gwnae ef yn hy­nod: yn yr vn mod', er i nineu yn trwsiadu, an gosod ein hunain allan, ag y chydig brydferth, a gogonedd­us weithredoed', fal na ddichon neb d'oedyd na bom ni yn gwbl wirion, ag yn ddifeius mewn llawer o byn­ciau, er hynn i gyd, mae y nom ga­loneu budron, aflan, anwireddus, yn llawn diofalwch, a dirmig o dduw, gwedi ein rhoddi yn ollawl, in caru ein hunain a phob difrawch. yr awr hon, os ni a ymgylchir, ne os ym­welir a ni, a chlefyd, tlodi, rhyfel, ne gyfrysedd, ni ddylem ni roddi y bai o hynn, vn, ar swyd'og, arall ar bre­gethwr ne wenidog gair duw, ne ar y ffyd' ar crefyd', ne ar yr elfynav ar ser, ne ar dduw i hun, fal pe i bae vn o rhain yn achos or cyfryw ddia­leddau. [Page 10] megys ag na ddyle neb fei aw ar y Physygwr, (fal pe i bae ef yr vnic achos, oddwfrhaintieu lly­gredig o fewn y corff,) er i fod ef yn i dwyn ac yn i gyrru allā or enawd fal i galler yn eglur i gweled, euthr drwg ymwreddiad, ac anghyme­drawl ddeiad y gwr i hun, ywr iawn achos, ar gwreiddyn o hynn, felly ni ddylem ninneu roddi bai ar dduw, o dēfyn ef arnom ni, drist­wch, penyd, a thrwbleth, eythr med' wl fod hynn, yn feddeginiaeth, ac yn help addas, in pechodae ni: a ffob dyn a doyle roddi 'r achos o hynn, arno i hun, ai bechodau i hun, ac nid ar ddim arall. Ar ecsampl hwnn a ddarfu ir gwyr sanctaid', ar duwiol henafieit yn y cynfyd, i ddā ­gos, i ddatclario, ai adel i ninneu, gān roddi 'r achos bob amser, o or­thrwmderae, ac or cyfryw orthrwm ofydiae,' rhain a ddigwyddent yn i hāser hwy, ar i pechodae i hunain: [Page 11] mal i llefarod Daniel y proffwyd:Dani 9.5. o herwyd' ein pechodae ni, ag anwi reddau ein tadau ni, i dinistriwyd Caersalē ai phobl gān y sawl syd' amgylch ogylch iddi: erwyd' pahā ny ni a ddylē wylo, ag alaru, a chrio allā, och och, 'n hytrach'n erbyn ein pechodau, a'n anwireddau ein hu­nain, nag yn erbyn y gwendid, y cle fyd, ne'r adfyd arall ar trwbleth,Bar. 1. 15. 'rhain i ddym ni yn i dioddef, o her wyd' ein pechodae. Cans os wylē ne os tristaē eb fesur, a rheswm, pan fo duw ddim ond gwneuthur cyfi­awnder, ag vnionded ar i elyniō, pa bethfydde hyn ond bod yn anfod lō i gyfiawnder duw a charu y peth 'rhwn y mae ef' ni gasau? a beth yw hyn, eythr gwir gyfiāwder, a daoni duw, pann fo ef yn ceryddu, yn mar thyru, yn darostwng, ac yn gores­cyn'n ollawl ynō, y gelyniō pennaf iddaw ef, a ninneu, hynny yw, ein pechodeu ni? Gann hynny tristhau, [Page 12] ag alaru heb fesur ynghanol ein ing an trwbleth, yw, yn dangos ein hu­nain yn gymdeithion i bechod, yr hwnn yw y gelyn mwyaf i dduw, a ninnev: erwyd' paham, ni a ddylem yn hytrach foliannu duw, ac ym­lawenychu yn ddirfawr, nid yn v­nic'n ein adfyd an blinder, ond yng byfiawn, a graslawn ewyllys duw, cyfion (meddaf) am iddaw gospi pe­chod, graslawn, a thrigarog, am id­daw i gospi yn esmwythach o law­er, nac o gyfiawnder yr heuddasom.

Pen. 3.
Mae ein oll orthrymderae an blin­fyd, yn llai, ac yn esmwythach o lawer, nag i mae ein pecho­dae ni yn heuddu.

PA bryd bynac y byddo gwr yn rhoddi yscafn, ac esmwyth gos­pedigaeth, ar vn a haeddod' a fae drymach, y mae n rheswm iddawi [Page 13] ddioddef, ai dderbyn drwy ymy­ned': mal, vn a fo lladdwr celain, os caiff ef ddiainc er i guro, ne i fflan­gellu allan or dinas neu'r dref, mae ef yn cymryd hynny mewn rhann dda, gann iddaw wybod yn dda ddigon, i fod yn hauddu crog.

Ysancteidd-ferch Iudith,Iud. 8. 17. a dy­biai fod holl gospedigaethae tran­cedig, yn esmwythach, ac yn llai nac yw ein pechodae an anwired' au ni. Erwyd' paham, o goddefi dlodi, glefyd, ne ryw wrthwyneb arall ystyria, a meddwl ynot dy hun fall hynn.

Dy amryw bechodae a haedd­asont fil filioed' o weithiau, mwy dialeddus cospedigaeth, trymach dolur, mwy ofnadwy rhyfeloed', carchar mwy aneirifi oddef: ac pe i doe oll flinderoed' y byd, ar vn­waith yn vn pentwrr arnat, etto rhyglyddaist waeth o lawer. Tia haeddaist yn dda oddef gwbl allu a [Page 14] chreulondeb diawl, a dāuedigaeth tragwyddol,' rhain er hynny a atta liodd, ac a dynnod' duw oddiwrth­yt, oi wir drigared, yn vnic er mwyn Iesu Christ: Hefyd, y neb a gafes bob amser bethau da, llwyr ddiannus, ni ddyl ef ryfeddu, er derbyn o honaw weithiau, anffawd, ac adfyd: ie, plant y byd hwnn a ddoedant'n ddiharebawl.

Niwn ddyll iawn ddehellwch i ddewr draw na ddaw awr drwch.

Yrawrhon, mor drigarog yw duw, ac na ad ef neb heb i obrwyo a rhyw wobr, ne arall, yn gystal o flaē gorthrymder, ac wedi, ie, ac yngha nol ein blinfyd, mae ef yn rhoddi llawer rhod' ardderchawg, ac arbē ­igion ddomeu, yngystal ar les ein eneidieu ni a'n cyrff, ysprydawl a chorfforawl.

Ac am i ddonieu ef o flaen adfyd, a gorthrymder, mae i ni siampl odi­dog o flaen ein llygaid,Iob. 2. 10. o Iob, gann [Page 15] ddoedyd: gan i ni dderbyn cymeint o lesaut, oddi-ar law dduw, pam na fyddwn ni fodlon hefyd, i dderbyn y drwg? Hefyd Plinius yr ail, gwr cenedlig, wrth ddiddanu, vn oi gym deithion a fuase farw i anwylwraig briod, ymhlith pethau eraill, a escri­fenna fal hynn.

Hyn' a ddyle fod yn ddiddanwch mawr iti (sef) cael, a mwynhau o honot, berl mor wrthfawr, cyd o ā ­ser: can's pedair blyned' a deugain y bu hi gida thi, ac ni bu erioed ym­rafael, ymsennu, nac ymryson rhyn goch: ar naill, ni ddigiod'y llall, eri­oed: ie, ond yr awrhon ti a ddoedi, mae o hynny y mae yn drymach ac yn anaws genyt fod hebddi, am i chwi fyw ynghyd, cyd o amser, mor heddychol: can's prysur irr angho­fiwn y pleser', ar cymwynase, rhain ni chowson ond tros fyrr o amser. Ond i atteb hynn y­magochel, a gwilia, rhag dy gael [Page 16] yn aniolchgar, os ystyri yn vnic pa beth a gollaist, heb feddwl pa hydi cefaist hi yw mwynhau.

Ag hefyd mewn amser ac yng­hanol ein blinfid,' an trwbleth, mae duw yn rhoddi i ni ras i ystyried, dawnus, a llwyddiannus bethau e­raill,' rhain sy genym a rhain ydd­ym yn oestadol yn i mwynhau: fal drwy goffadwriaethag ystyrietho rheini, ir esmwytheir, y lleiiheir, ag ir anchwanegir ein gofid 'an poen.

Er ecsampl: bwrw dy fod yn wann, yn ddirym, ac yn wr clwy­fus o gorff, etto fe roddes duw iti gyfoeth yn ddigonol, a da yn rhe­symol ith gadw: ne os oes arnat brinder ag eisieu da, a chyfoeth, nid oes arnat er hynn ddiffig o iechyd corfforawl.

Yrawrhon oni osodwn y naill o hyn yn erbyn y llall, tebig ym i blant bychain, 'rhain os damwaini wr ychydig rwystro, ne dorri ar i [Page 17] chareu, ne ddwyn rhywbeth oddiar­nynt, yn ebrwyd', hwy a esclusant y cwbl, ac a gwympant i wylo: felly i byddem ninne debygol i wneuthur, pann ddigwyd' rhyw anffawd ini, o digiwn ne o byddwn anfodlon, heb gennym na chwant, nac ewllys i gymryd ac i fwynhau, y da rhwnn syd' gennym.

Bwrw dy fod n ymddifad, ne 'n ysbailedig, o bob diddanwch corffo­rawl, etto yn dy ddwyfron ath galō, mae genyt wybodaeth o Iesu Christ, yr hwn, athryddhaod'di o vffern, ac o ddamnedigaeth, rhain oceddynt ddledus iti: i bwy vn, nid yw rol' ddialeddae ar y ddayar fwy mewn cyfflybrwyd', nag yw vn def nyn o ddwfr wrth 'r oll for.

Heb law hynn hefyd, trwy ffyd'i ddwyd yn clywed ynot, obaith, a sicr wyd'o lawenyd' didranc, tragwyd'­ol, Fal i scrifenna S. Paul o hynn,Ruf 8. 18. gan ddoedyd: barnu irr wyf nad yw [Page 18] gofidiae 'r amser hynn,Luc 15.19. yw cystadlu irr gogoniant, a ddangosir i ni: mae i ni siampl o hyn, o flaen ein llygaid, or mab treilgar, anobeithedic, yr hwn, ai vfuddhaod', ac ai darostyn­god' i hunan, fal na ddysyfai ef mwy ach i gyfri yn lle mab, eythr i droi i weithiaw,Io. 8. 12. fal gwenidog ne was cy flog, os yn vnic, e gae aros, ynhuy ei dad. Felly beth bynag y mae duw yn i anfon, ni a ddylem i gymryd, yn ddioddefgar, os yn vnic i cenad­heir, i ni breswylio ynhuy dduw, yn y nefoed', gidac ef' n brag wyddawl. Yr awrhon, o tybia neb fal hynn, nid yw duw yn ceryddu eraill, a wnaethont anwireddau mwy dia­leddus, a chymeint o blae echrys, a doluriae, ag i cerydda ef ni: amar­chus, ag anghristnogaid' yw ei fed­dwl ef o dduw: can's beth os wyd di dy hun yn fwy anwireddus, na neb arall? Ond bwrw fod eraill yn byw yn fwy anwireddus, ac [Page 19] yn waeth na thi, a wyddost di pa web' y mae duw, yn i cospi hwy? Mwy af, agwaethaf poen, a chosb, a ddichon fod, yw, cystud' oddi­mewn, a dirgel gosbedigaethae y meddwl, rhain ni welir ar golwg oddiallan. Ag, er na byddo vn tri­stwch, na dialed' yspysol yn eglur yn ymddāgos iti, ag er nas gwydd­ost ba beth y mae duw yn i feddwl yn hynny, etto ti a ddylit, (mal plentyn yw dad) roddiiddaw ef an­rhyded', clod, a moliant, am iddaw ef ddosparthu pob peth a chyfrw ddoethineb, ac mewn cyfryw drefn ac ordr: a phanu welo ef i amser, ef a obrwya, ag a ystyria'r holl gyfryw bethae, 'rhain a wnaethwyd ym­laen llaw, yn erbyn i gyfion, ai vni­on gyfreithiau ef, megys ac ir hae­ddasont.

Pen. 4.
Pob bath ar adfyd a ddanfonir, ac sydd yn dyfod oddiwrth dduw, o feddwl ca­riadus, tadawl tuac attom.

NId yw ddigon i ni wybod fod pob bath ar flinfyd, yn dyfod drwy ymyned', a dioddefiad duw, oi gyfiawn farnedigaeth ef am ein pe chodae ni: erwyd' yn eithawed' pro­fedigaethae, ag yn yr angenion mwyaf, fal hynn i bydd y meddylie, ar dychmygion cyntaf ynom. Yn gymenit ac i mi yn ddialeddus ddi­gio duw, drwy fymhechodau, am hynny i llidiod' ef wrthyf, ag aeth yn elynn imi, ac a droes i ffafr od'i­wrthyf: ac oni byd' i ni ragflaenu, a thaflu ymaith mewn amser, y cy­fryw wag feddylieu, a bwriadae o­fer, hwy a wnant i ni ymwrthod, ac ymadael a duw, gann i gasau ef, a gryngan yw erbyn; megys i gwna­eth Sawl,' rhwn a gwbl feddyliod' [Page 21] ynthaw i hun, fod duw yn i geryddu ef, o lid a digofaint yw erbyn: am hynny calon Sawl a drod' oddi­wrth dduw, ac ai gadawod' ef, ac a ddechreuod' i gasau ai ffieiddio ef, megys vn creulon. Gān hynny mae y rhybyd' hwnn hefyd yn perthynu, irr cyfryw bynciau, in dyscwyd hyd hynn: sef, y dylem ni dderbyn yn ddiolchgar beth bynag i mae duw o feddwl tadawl, cariadus, ac nid o ddim digofaint tu-ac attom, yn i anfon ini, pwy vn bynac fyddo ai hyfrydlawn, ai dialeddus i'r cnawd. Yr arglwyd' dduw,Tob. 12. a ym­wel a ni ac amserawl,Iob. 5. 17. 11 &c. a thrancedic boenau, o dadawl a gofalus galon,Dihar. 3. 12. rhon sy ganthaw tu-ac attom,Hose. 6. 1. ac nid o ddigased' a diglloned' in er­byn.1. Pet. 4. 9. Canys duw a gymodir,Iaco. 1. 2. ac a gytunir a ffob Cristion drwy i fab,Hebr. 12. 1. 2. &c. ac ef ai car hwy o ddyfnder,gwel. 3. 19. ac o ei­giawn ei galon: erwyd' paham pa sut bynac, ne pa fod' bynac, i mae [Page 22] duw in ceryddu, ac in cospi, nid yw ef yn gwneuthur hynny o gasineb arnom, fal pe i gwrthode ef ni, gān ein taflu ymaith yn ollawl, eythr oi fawr dosturi, a thrigared', er'n der­byn fal ei blant, er yn cadw, an ym­ddiffyn, er yn meithrin an arfer, er yn vfuddhau, a'n darostwng, er yn symbylu, a'n gwthio rhag ein blaē, fal y byddai i weddi, ffyd', ofn duw, vfud'-dod, a rhinweddae erail' dyfu, a chynyddu ynō, er anrhyded' idd­aw ef, ag iechydwriaeth i ninne. Te stiolaethae o hynn: yn gyntaf Eze­chiel. 33.

Cynn wiried mae byw fi med' yr arglwyd',Ezech. 33 11. nid oes gennyf bleser ym­arwolaeth pechadur eythr troi o ho­naw, a bod yn gadwedig. Yma mae duw yn tyngu, nad yw ef yn cosbi er'n difa, ond er yn llithio, yn denu, a'n dwyn i edifeirwch.

Hefyd,Dihar. 3. 12. y sawl a gar duw, ef ai ce­rydda, ac er hynny mae gantho ble­ser [Page 23] ynthynt megys tad yn i blentyn. Hynn sy'destiolaeth eglur, nad yw adfyd, trwbleth, a blinfyd, yn arwy­ddion o lid, a diglloned'duw, eythr yn hytrach arwyddion sicr, oi rad, oi drigared', ai ffafr, drwy dwy rai, y mae duw yn sicr-hau i ni, i driga­rog ewyllys, ai dadawl galon, tuac attom.Rhuf. 8. 28 Drachefn fe a ddoedir, ni a wyddō fod pob peth'n cydweithio irr hynn goreu, irr sawl a garant dduw. Ac hefyd, fe a'n cosbir,i. Cor. 11. 32. ac a'n ceryddir gann yr arglwyd, rhac yn barnu yn euog gida'r byd.

Hynn hefyd i gyd a greffi, ag a ystyrri drwy holl stori Iob.

Yn yr vn mod',Gen. 37. 28. Ioseph a werth­wyd gā ei frodur,Act. 37. 9. 10. 11. &c. ac a rod'wyd yn­wylaw'r anffyddloneit, o dwyll, a chenfigen, drwy annog, a chyngor y cychraul: eythr y ffyddlonaf dduw a droes hynn er bud', a lles, yn gystal [...] duy yr Israel, ac i holl frenhini­aeth yr Aipht. Cans felly y darfu i [Page 24] Ioseph i hun ddeongl hynny.

Hefyd eglwys Ghrist, (sef yw hynny) y gynelleidfa Ghristnogaid' yr hon yw priodasferch crist, sy raid iddi ddioddef adfyd a blinder, ar y ddaear honn, ond yn gymeint abod duw yn hoffi priodasferch i anwyl fab, ('r honn yw cynelleidfa y rhai ffyddlon) mae ef yn bwriadu i chon­fforddio hi, a bod yn ddaionus iddi; gann hynny, megys ag i cyfodod' ef i fynyd' o angau, Grist i gwr priod, i ffenn, ai brenin, felly hefyd i gwa­red ef hithau o bob adfyd, gān roddi iddi lawenychol fuddigoliaeth, ar bob peth syd' yw gorthrymu: eythr cyfryw yw gwaeled', a gwendid u golwe ni, ac nas gallwn graffu, a gweled drigarog, a charedigol dda­ioni duw, dann i wialen ai scwrs.

Pa bryd bynac gann hynny irr ymwelir a ni a blinder ne adfyd, yn wir ein dled yw, yn gyntaf gydna­bod a chofio ein pechodae, ac ystyri­aw [Page 25] hefyd iau, a gefynnae diawl am bechod, ond ni ddylem ni farnu, na meddwl or cyfryw flinderoed', yn ol meddwl, ac ewyllys diawl (rhwn o frad, a meddwl maleisus, tu-ac att­om, ni chais ddim oll, onid dini­striad ollawl, a chyfan wradwyd' pob rhy w ddyn) ond yn hytrach ni a ddylem farnu ac ystyriaw or oll flinderoed' ar gofydiau hynny, ar ol meddwl duw, (ac felly i derbyn) rhwnn oi fawr ddaioni, sy'n i troi hwy oll, er bud' a llesant i ni, gann weithiaw drwyddynt hwy, ein per­ffaith iechy dwriaeth ni.

A phle bynac ni ddichon y galon, dderbyn y diddanwch hwnn (sef bod duw yn ceryddu, ac yn cosbi, o wir drigarog ffafr, a chariad arnō) yna yn angenrheidiol, mae'r profe­digaeth, ar dialed' yn drymach, ac yn fwy, ar dyn hwnnw or diwed' a gwympa, ac a syrth i ddirfawr an­obaith.

Pen. 5.
Duw yn vnic er mwyn Iesu Grist, a hynny oi fawr drigaredd, ca­riad, a ffafr, sydd in cosbi ac in ceryddu.

YR iawn ar vnic achos, o driga­rog a thadawl wllys duw, yw, yn, vnic rhyglyddiadae Iesu Grist, at bwy vn, ni a ddylem dderchafu ein calonnau tuar nefoed', gann fe­ddwl, ac ystyriaw yn ein meddyli­eu, yn oestadol, fal hynn: yn pechod a'n anwired' ni, sy'n haeddu newyn drudaniaeth, rhyfel, nodeu, a ffob rhyw blaee eraill:Es. 53. 4. 5. &c. yr awrhon, Crist a wnaeth arianswm a chyflawn da­ledigaeth,Io. 1. 29. am yr oll bechodae rhainIo 3. 16. a wnaethō ni,Ruf. 5. 6. 7. ef a ailbrynnod',Ruf 6. 7. a da­lod',Ruf. 8. 1. a ddigostod',1. Cor. 5. 7 ac a wnaeth n ddi­neweidiol ini,Eph. 25. yn oll gamweddau, drwy i chwerw angeu, i fuddygoli­aethae, ai ailgyfodiad, ac a ddigono­lod' gyfiawnner ei dad fal i testiol­aetha [Page 27] S. Paul, yn gonfforddus,1. Cor. 1 30 gān ddoedyd: Iesu Grist a wnaethwyd gān dduw i ni yn ddoethineb, a chy­fiawnder, a sanctenddrwyd', a ffryn­nedigaeth: fellyos blinderae an gor­thrymāt o erwyd' ein pechodae, a'n oll bechodae gwedi i digonoli, ai di­gosti, trwy angeu a dioddefaint Ie­su, mae'n angērhaid addef, fod yn ol' flinderoed' yn ddineweidiol ini, ac na allant ein briwo: ie, Crist trwy i ddioddefaint ai adfyd, a fendithiod' ac a sancteiddiod' bob rhyw adfyd, fal i gnasnaethent, ac fal i byddent, ioll wir ffyddlonieit Gristnogion, yn lle bud' gwyrthfawr, drwy or­deiniad a rhagwelediad duw i ne­fawl dad: ef yw y gwir Physy­gwr, 'rhwnn pann ddehallod', fod adfyd yn arswydus gennym, a gy­merod' arnaw i hun, ddioddef pob bath ar adfyd, blinderoed', ago­fydiae mwyaf dialeddus, er rho­ddi, a gosod terfyn, a ffenn, in [Page 28] blinderoed' nineu, ac hefyd i bendi­thiaw, ai sancteiddiaw, ie, a gwneu­thur angeu i hun yn brydferth ac yn felus i ni. Oh na allem deimlaw, gweled, ac ystyriaw, ewyllys, a me­ddwl Crist, pānoed' ef yn ewylly­scar yn dioddef ar y groes, gann o­ddef i d' ryllio, ai ferthy ru mor greu­lawn, ag mor boenus, eb vn achos, ond fal i galle ef yn ollawl ddirym' mio oll nerth ein pechodeu ni, gorth rymder ac angeu, ac hefyd dinistrio vffern, fal na alle vn o honynt byth wneuthur niwed ini. ymhellach (o) na allem ystyriaw pa wed' i chwae­thod', ac irr yfod' ef or cwpan on blaen ni, fal y gallem nineu, rhain ym weinied, yfed a chwaethu 'n wel' o honaw ar i ol ef, yn gymeint ac na ddamweiniod' iddaw ef ddim drwg o hynny, eythr yn'y mann cy­fodi o honaw o angeu: oh nas galle wybodaeth, a choffadwriaeth o hyn aros yn iawn yn oestad yn ein ca­lonnae [Page 29] ni, a llewychu bob amser on blaen ni: yno byth ni syfllem, ac ni ddyffygiem, ac ni byddem anob­eichiol, o drigared', a daioni duw, er i ni ymlad' mewn bateloed' en­bydus, a mwyaf dialeddus: ac er i ni'n hunain brofi a theimlaw, y cy­fiawn gosbedigaethae, hau doedic am ein pechodae ni. yno y gallem sefyll'n wrawl, ac yn nerthawg yn erbyn pyrth vffern, a phob bath ar dristyd, trymder, profedigaeth, ofn, ac anffawd, yn ollawl a ddifethid ac a lyncid i fyny.

A hynn yw y diddanwch penn­af, a mwyaf, a glowyd, ne a ddarll­euwid o honaw, er dechreuad y byd. duw i hun yn vnic a ddichon (os y­styriwn o honaw, ac os gafael wn arnaw, mal y dylem) blannu, ac im­pio, y cyfryw feddwl ynom, fal y gallom nid yn vnic na thristhaom, eythr gorflleddu a llawenychu yn ein blinder a'n cledi, fal i gorfole­ddod' [Page 30] S. Haul yn odiaeth lle i dy­waid ef: os duw nid arbedod', i vnic genedig fab, eythr i roddi ef drossō ni oll, pa wed' na ryd' ef i ni bob peth gidac ef? Beth gann hynny a wna­wn a'n ofer ofn, a'n gofal, a'n trist­wch, a'n trymder? Erwyd' pa ham, o byddwn Gristnogion, rhaid i ni'n ddiolchgar osod allan, ganmol, a mawrygu'r ardderchawg, anfei­drawl, a nefawl ras, a daoni duw, a'r vchel ddiddanwch rhwn sy gen­nym drwy Grist. cans pawb oll ar y syd' ddeffygiawl mewn gwybo­daeth, or daioni rhwnn yddym yn i gael trwy Grist, ac a wrthodant y mawr, ar ardderchawc drysor hwn, pwy vn bynac fyddāt, ai Iddewō, ai Cēhedloed', ai Mahometiaid, ai Pa byddion, ni fedrant roddi gwir, per­ffaith, ac iachusawl gyssur, iddynt i hun, nac i eraill chwaith, mewn ofn­awg, ac amheus gydwybod, neu mewn adfyd a chledi arall. Tra ga­ffont [Page 31] heddwch a llonyddwch, heb glowed nac ystyr ddim poenau an­geu, nar cyfryw flinder, a chledi, hwy a allant fyw yn ddiogel, ac vn hyderus, heb ofn: eythr pann dde­lo 'r awr ddrwg vnwaith, ac ychy­dic dro ar y towyd', mal naill ai trwy weledigaeth, ac eglurhad or gyfraith i clywant, ac i dehallant, ddigofaint duw tu-ac attynt, ne drwy yspys ac eglur arwyddion, a chyhoeddiad o gyfiawn gospediga­eth a dial duw, ne drwy brofiad, o ryw blaee presennol, nes i cynhyrfu yn ddysyfyd gan ofn, yna i ol' ddoe­thineb, ei cyngor, ai synwyr i wrth nebu y cyfryw ddrwg, a ballant yn ollawl, ac ai sōmant'n ddiatreg: y­na i ffoant oddiwrth dduw, ac ni wyddant i ba le i rhedant, ne ple ir ymguddiant: ac er bychaned fy­ddo i profedigaeth, ai plaee, ei ca­loneu er hynny a gynhyrfir, ac a ofnir mor ddirfawr (mal i tystia [Page 32] Moeses) gann chwthiad deilien,Lev. 26. 6. Dihar. 28.1. ac pe i bae ddyrnod taran.

Ac irr cyfryw ddynion, oll gwrs i bywyd or blaen, i oll lafur, ai tra­fael, ai goglud oll, yn ei ar goeledig wasnaethu duw, ac yn ei dirwe­stawl fuchedd, yn ollawl a gollir ac a fernir yn ofer: a ffa ddiddauwch bynac a geisiasant heb Grist, nid yw ddim oll, ond chwanegiad oi dialeddus ofn, a brisc, yw tywys i anobaith ac felly heb law yr Ar­glwyd' Iesu, nid oes dim didda­nwch, help na chymorthi edrych am dano.

Pen. 6.
Tebygoliaethae, a chyfflybon yn dan­gos, pa fod' y mae duw in cospi, ac in ceryddu, ofawr gariad, trigaredd, a ffafr tu­ac attom.

PAn fo'r ollalluog ddu w, er rhy­glyddiadae [Page 33] i fab, nid o feddwl di­gofus, ne o ddigter, eythr o ewyllys da, ac o galon gariadlawn tu-ac at­tom, in cospi ac in ceryddu, ef a ellir i gyfflybu, ai alw 'n debyg, i dad, i fam, i feistr, i physygwr, i lafur­wr, i Eurwr, ac ir cyffelyb, fal hynn.

Mal y mae tad naturiol, yn gyn­taf yn dyscu i anwyl blentyn, ac yn ail yn i rybuddio, ac yn i g ynghori, ac yn y diwedd yn i geryddu, felly, y mae y tad tragwyddol, yn profi pob fford' gida nineu, rhai ym gwedi cynyddu mewn oedran, ac etto, ifanic a meddalion yn y ffyd'. yn gyntaf, ef a ddysc i ni ei ewyllys, drwy bregethiad ei air, ac a'n rhy­buddia. yrawrhon os nyni nis canlhynwn ef, yno ef ychydic a'n tur, ac a'n chwystringa ni a gwia­len, fal weithieu a thlodi, weithieu a chlefydon, ne ddoluriau, ne ryw wrthwyneb arall, thwn nis dylid [Page 34] ryw wrthwyneb aral', rhwn nis dy­lid i farnu, nai alw, 'n ddim oll, ond gwialen ne fachgennaidd' gospedi­gaeth. Os y cyfryw wielyn ni hel­pia, ac ni wnaiff ddim lles, yno i cy­mer y tad ffonn, ne fflangell, mal os i fab a bēgleda, ne a dreilia i ariā, ai smōnaeth yn drythyllgar, ac yn a­fradlon, mewn socandai ynghyd a a chymdeithion diffaith, y na y daw y tad, ac ai tynn erbyn gwallt i benn, ef a rwym i draed, ai ddwy­law, ac ai cerydda nes dryllio i es­cyrn, ac ai denfyn i garchar, ne ef ai gyrr ymaith ymhell oi wlad. Yn run mod' pan elom nineu n gildyn­us, 'n afrowiog, ac yn ddibris ge­genym am eirieu, a gwialennodae, yna i denfyn duw attom blae try­mach, a chyffredinolach: mal, no­deu, drudaniaeth, cyfryssed', cyndd­ryged', trychineb gann dan, llaw­ruddiad, rhyfel, colliant or oruw­chafieth, fal pan' in dalier gā ein ge­lynion, [Page 35] yn caethgludo yn garshar­wyr. Hynny ol' a wnaiff ef, er'n ofni a'n dofi ni ac megys wrth nerth er yn cymell, a'n gwthio i edifeirwch, a gwellāt buched'. Yr awrhō, gwir yw, fod yn erbyn ewyllys y tad, fal hyn geryddu i fab, namyn gwneu­thur id' aw cymeint o les, ac a alle ef fwyaf: eythr y plant, trwy oddefga­rwch a gormod mwytheu, a ant yn anhywed', ac a angofiant bob dysc. Ac am hynny mae ef yn i ceryddu, eto ynghanol i ddig ai geryd', i da­dawl galō a ymddēgys: fal, o rhyd' ef i blentyn ymaith oddiwrtho, am ryw fai dialeddus, etto ni enfyn ef ddim o honaw, 'n ollawl yn ddigy­ssur, eythr ef a ryd' iddaw beth di­llad, a geirieu confforddus, ac felly ef ai enfyn nid i aros dros byth allā oi wlad ond er i alw ef adref dra­chefn, pann i gostynger, ir vf­uddhaer, ac i gwellhaer y-chy­dic: a hynn yn vnic yw meddwl y [Page 36] rad, sef, tynnu ymaith, a chadw odd­iwrth ei etifed' 'r ol' gyfryw bethau af yddēt eniweidiol iddaw, ne ai di­nistreint, ac nid gwrthod, a thaflu y­maith i blentyn dros byth: felly yn ddiau, pann fo duw 'n anfon trueni, a blinfyd ar ein gyddfe nineu, mae rued', a chalon dadawl, dann i wialē yn guddiedic: can's naturiol, ag iawn briodoldeb duw, yw, bod yn gariadlawn ac yn garedigawl, i ia­chau, cynorthwyo, a gwneuthur dai oni yw blant, sef, i hiliogaeth dyn. Adda ag Efa pan i cyfleuwyd ym­haradwys,Ge. 2. 15. oni chynyscaeddwyd hwy yn ddigonawl, a ffob peth da?Gen. 3. 6. eto ni fedrēt hwy (ac ni fedr vn o ho nō [...] 15. 14.ni) i ordrio ai iawn arferu: eythr cyn gynted ac i caffom bob peth a chwenychom heb arnom eisieu dim ar a fedrwn i ddysyfu, yna yn ddis­ymwth irr awn yn ddifraw ac yn ddiddarbodus: ac am hynny i dēfyn duw i ni ddrwg, fal i gallo wneu­thur [Page 37] i ni dda, ac etto ynghanol ein oll flinfyd, a'n cospedigaeth, ef a en­fyn beth esmwythdra, di-ddāwch, a chymorth: ac ni a al'wn gymryd siā pl, on rhagddoededig rieni, Adda ag Efa: pann ydoed' duw yn cwbl fw­riadu, ac ar ael i bwrw ai taflu allā o Baradwys, yn gyntaf ef ai dilladod', rag rhew, ac angerd' y towyd',Gen. 3. 15. ac ef ai diddanod' hefyd a gaddewid or bendigedic had, 'rhwn a wnaiff bob adfyd, nid yn vnic yn esmwyth, ac yn ddineweidiol ini, eythr yn ia­chus ac yn fuddiol hefyd.

Ar natur honn ni newidia 'r ane­widiol dduw byth, eythr ef ai ceidw yn oestadol, ni wrthyd ef ny ni yn gwbl, ond yn vnic ef a oddef i ni fer­wino ychydig, am y pechodae a wna ethom, ac felly ef an ceidw rhag pe­chu drachefn, rhag digwyddo o ho­uom,1. Cor. 11. 32. i enbydrwyd' poenau trag­wyddol.

Heb law hynn, bwrier fod i wr [Page 38] ddau o feibion, vn drwg anwiredd­us, ac ecco i dad ni chosbiff, ac ni cheryddiff ddim o honaw, ar llall a godir i fyny, ac yn brysur a gerydd­ir am y bai lleiaf: beth y w'r achos o hyn, ond bod y tad yn dd: obaith, o wellhad y naill vn amser, ai fod n bwriadu am hyny i ddietifeddu ef'n llwyr ac na roddo ef ddim idd­aw? Can's yr etifeddiaeth yn gwbl a berthyn i'r mab a geryddir, ac a gosbir: etto y plentyn truan a gos­bir fal hynn, a dybia yn i feddwl, fod ei frawd yn ddedwyd'ach, nac yw ef, am na churir, ac am na cheryddir ef vn amser. Ac am hyny, ef a ochnei deidia, ac a gwynfan wrthaw i hun ag a fed'wl fal hyn: wele, fy mrawd a wnaiff yr hynn a ewyllysiff yn er­byn ewyllys fy nhad, ac heb i gen­nad, ac ni ryd' fynhad air hagr idd­aw: ef a ad id'aw gael ei bleser a rho dio lle i mynno, ond tuac att yfi nid edrych ef vnwaith yn rhowiog onid [Page 39] byth n fynhop, os edrychaf vnwaith ar gam. Llyma i gelli weled ffoli­neb, ac anwybodaeth y plentyn, yr hwnn a ystyr yn vnic y gofyd pre­sennol, heb gofio nac ystyr vn amser yr hynn a gedwir iddaw ef ynstor.

Cyffelyb feddylieu a bwraiadau, a fyd' mewn cristnogion pan odde­font flinder lawer, a gweled pa fod' or tu arall y y llwydda' r auuwiol ar anwir. Hwy a ddylent yn hytrach i sirio a hunain, gann gofio yr etifed' iaeth' rhon' a gedwir yddynt hwy ny nefoed', ac a berthyn yd'yn hwy megys i blant da rhinweddol: am y llaill' rhain a lammant, ac a neidi­ant, a wnant yn llawen, ac a gyme­rant ei pleser yrawron dros ennyd, hwy a ddeolir or etifeddiaeth yn dragowyd', megrs dieithrieit, ac ni chant, rann na chyd, o honi. A hynn a brwfia Sanct Pawl, pann ddy­waid ef:Heb 12. 5. 6, 7. &c. Fy mab, nac esclusa gosbedigaeth yr arglwydd, ac [Page 40] na lausa pann ith gerydder di gan­tho: canys y neb a garo 'r arglwyd ef ai cosba, af flangellu a wna ef bob mab a dderbynio: os goddefwch gos bedigaeth, megys i feibion y mae duw yn ymgynig i chwi: canys pa fab fyd' nis cosba i dad ef? Eythr os heb gospedigaeth yddych, or honn y mae pawb n gyfrannog, meibon or­derch ydych ac nid o briod. yn y gei­rieu hynn, mae S. Pawl yn eglur yn cyffly bu cosbedigaeth yr argl­wyd' igeryd' tad cnawdol, ac i bwy ni wnaiffy geirieuhyn' ofni, a chryn nu, lle i dowaid ef, fod yr oll rai ni cheryddir yn fastardieit, ac nid plāt cyfraithlon? Ag eilwaith pwy nis llawenheiff, pann ddowaid ef, fod y sawl a geryddir, yn blant o briod? Erwyd' paham, er bod yr ollallvog arglwyd', yn i ddangos i hū yn ddig llon wrthym, nid yw hyn ddim, ond anwes tad naturiol, caredigaid', yr hwn' ni chais ein dinistr, a'n cwymp [Page 41] eythr yn vnic, ein g wellad, an bud' [...] ymddyro dy hun gann hynny drwy ymyned', i ewyllys duw dy dad ffyddlon, byd' orfoleddus ynghosbe digaeth 'r arglwyd', gann dy fod yn siccr drwy hynny, i fod ef yn dwyn calō, med'wl, ac ewyllys graslawn, tadawl tuac attat.

Heb law hynn, duw a gyfflybir i fam: y famm a fwydiff, ag a fegiff i etifed', ar oll ddaioni a ddichon hi, hi ai gnaiff iddaw, a hynn o galon fammawl rowiogaid': ac etto drwy anhyweithder ag afrwoldeb y plen­tyn, hi a gythruddir, ac weithiau hi a gynhyrfir i ddigio wrthaw, yw ddwrdio, yw geryddu, ag yw guro ef: felly i mae gwir natur a ffriodol­deb duw, na ddioddefe ef i auffawd yn y byd ddigwyddo ini, etto ein amryw bechodae ni, ai cymellant ef in cospi ag in ceryddu: yr awrhō, fal nad ywyfani, yn gwadu: yn gwrthod, nac yn rhoi ymaithi eti­fed', [Page 42] er i bod n ddicllō wrthaw felly duw ni wrthyd ac ni wediff ddim o honom ninneu, yn ein ing, angen, an cledi mwyaf, er iddaw gymryd ar­naw, fod yn ddigofus aruthr wrth­ym: yr scrythur lan yw yn awdur­dod am hynn:Isa 49. 15. a anghofia gwraig ei phlentyn sugno fal na thosturio wrth fab ei chroth? pe anghofie y rhai hynn, etto myfi nid angho­fiwn di.

Nid oes vn athro, na gwr o gel­fyddyd, a gymer scolhaig, ne bren­tis yw ddyscu, heb wneuthur yr a­modan hynn ac ef yn bendifaddef, sef na byddo ir llanc fod yn opinion­gar, ne yn gildynus, ac na chanlly­no ef i synnwyr ai feddwl ei hun, ey­thr gofalu yn ddiwyd ac yn dyfal, am yr hynn irr addyscer gann i a­thro, ac o byd' ef difraw, ac yn chwa­re 'r gwas diofal, bod yn fodlon ganthaw i geryddu gann i feistr. Yr awrhon, nid yw y meistr yn ce­ryddu [Page 43] ei scolaig, neu ei was er me­ddwl i friwo ef, ne o falais a drwg ewyllys iddaw, ond er dyscu o ho­naw yn well o hynny allan, bod yn fwy dilys, a chymeryd mwy gofal.

Felly yn 'r vn mod' ni dderbyn Christ vn scolaig, na dyscybl attaw heb wneuthur amodau ag efo, an­genrheidiol i bob cristion, 'rhain a yspysir yn Efengil Sainct Ma­thew.Mat. 16. 24.

Ac yn ddi au gair duw yw y rhwol wrth ba vn i dylem ni, yn llywodra­ethu ein hunain eythr gwell gen­nym o lawer, galyn ein dyfais an synwyr ein hun, rhain yn fynych an twysant ar gam, allan or iawn fford': am hynny y nefawl athro, an cur ni (rhyd ein byssed') hyd oni ddehallom ac oni ddyscom i ewyl­lys ef yn berffeiddiach.

Mal y mae yn rhaid ir physygwr, ne 'r meddig, dorri ymaith, a llosci y marwgig pydregig ai hayarn [Page 44] ne ai offer, rhag llygru a gwenwy­no'r oll gorff, ai gyfergolli, felly duw sy weithiau yn cosbi ein cyrff ninneu yn dost, ac yn ofidus, er ca­dw, ac iachau ein eneidiau ni. Ac er dyfned i gwthio duw 'r hayarn i fewn in enawd, a'n cyrff ni, ef ai gwnaiff yn vnic, er yn helpio an ia­chau: ac os damwain iddaw yn llad' yno ef an dwg ir iawn fywyd. Y Physygwr wrth wneuthur y tria­gl a gascl y Seirff ar nadroed', sef, i orchfygu vn gwenwyn drwy rym y llall: felly, duw pann in ceryddiff, ac in cospiff ninneu sy yn fynych yn codi ac yn gosod Diawl, a ffobl an­wir in herbyn, a hynn oll a wnaiff ef, er daioni i ni.

Tra fyddo gann y Physygwr ddim gobaith o wellad yn y claf, ef a braw bob fford' a ffob meddegini­aeth, yn gystal y sur ar tost, ar me­lys ar hyfryd: ond pan amhevo ef fod dim gwellad yn agos, ef a ad [Page 45] iddaw gael i rydyd ar bob peth, ar y mae ef yn i flysio: felly y nefawl physygwr tra gymero ef ni, ghrist­nogion, yn lle 'r eiddaw i hun, a chanthaw obaith o'n iechyd, ef a rwystr ar a wahard' i ni ein ewyll­ys, ac ni ad i ni gael y peth i ddym yn i chwantu fwyaf: eythr pan fy­tho ef anobait hol o honom ni a flān in rhoddo ef ni i fyny yno i gediff ef i ni tros amser, gael a mwynhau ein chwant, an pleser. y cyfflybr­wyd' hwn a dynnwyd allan, or pu­med llith o Iob;Iob. [...] os yr arglwyd' dduw a archolliff, i law ef eilchwel a iacheiff.

Pann roddo marchog ceffyl, i farch ifanc, hoew, nwyfus ormod or ffrwyn, efyd' gwylld a thrythyll, ac ni cherd' fali dyle: ac ond odid pann ddeli le gwlyb llithrig, ef a syrth i lawr bendromwnwgl: felly yn'r vn mod', os yn creawdr, a'n gwneuthurwr, a oddefe i ni ormod [Page 46] ormod rhwysc a rhydid, yn ebrwyd' ni aem yn wylltion, ac a falchiem o hynny, ac ond antur ni a'n drygem ac a'n difethem n hunain, am hynny e' ryd' hayarn llym yn n safnau ni, ac a'n helpia i ffrwyno, ac i ddofi y cnawd, rhag cyfergolli 'r ardderch­awg, ar gwyrthfawr enaid.

Drachefn: fal i mae Certweiniwr yn curo i feirch, ai chwip ne i fflan­gell, ac n i baeddu 'n dost, pryd na thynant, a phann nad ant yn i blaē, ac er hynny ef ai herbyd hwy he­fyd, ac a wnaiff yn fawr o honynt, er mwyn i caffael yw mwynhau a fo hwy, felly duw a'n curiff, ag a'n fflangeliff nineu, pann na wnelom 'r hyn a ddylom, yn iawn: ac er hyn i gyd ef a'n erbyd, ac ni wnaiff ddi­wed' yn gwbl o honom.

Fal y mae y bugail, pann gyfeili­orno i ddefaid ef, yn y gwllcoed', ar anialwch ymlihith bleiddieid, yn i gyrru drwy lwybrau dieithr irr [Page 47] iawn fford', ac yn i hel yw corlann­au, lle i gallant fod yn ddiofal: felly yn 'r vn mod' (yn gymeint a'n bod ni yn fynych yn gymyscedig a rhai bydol, ag yn gymdeithion irr sawl syd' elynnion in crefyd' gwir Grist­nogaid') fe ddaw duw attom, ag an didol drwy dristwch ac edifeirwch oddiwrthynt, rhag yn difetha a'n cyfergolli gidac hwynt. Bugeil y gwartheg a ad irr cyfryw loie a or­deiniwyd ir lladdfa, redeg, a llāmu fford' a fynnant o amgylch y borfa: eythr y rhai a gedwir i lafurio, a fei­thrinir, ac a arferir dā yr iau: felly r ollalluog d'uw, sy 'n goddef ac'n ga dael ir anuwolion (rhai syd' ai diny­str garllaw) fwpnhau ei chwant, ai pleser ar y ddayar hō, a chyflawni, a chwplau, i wllys ai damuniant: ey­thr y rhai duwiol, rhain a feithrin ef er i anrhyded', ai ogoniāt, a geidw ef dān r iau, gān igwahard' ai attal oddiwrth oll chwantae bydol.

[Page 48] Y llafurwr synhwyrol, celfyd' ni theifl, ac ni hauiff i had, mewn maes, ne dir, ni byddo gwedi i dorri, i aredig, ai lafurio yn iawn mal i dy­le, ond ef a ddeil ei ychen, ac aiff ir maes, ef a dry ac a eird'y tir, gann i ffaethu ai raglyfnu, ac yno ef ai ha­viff, ag ai llyfn, fal pann ddescyno'r glaw, i cadwer yr had, ag i gyrrer irr ddaear, fal i gwreiddio, ac i cy­nyddo ynthi: cyffelyb lafurwr yn duw,1. Cor. 1. 7. a nineu ym i lafur ef:Doeth. 1. 5. ac nid yw ef yn rhoddi ei yspryd ai wirio­ned', i'r rhai syd' wylldion, ac heb ofn duw arnynt.

Heb law hynn, fal i mae gardd­wr yn cau i ard' oi hamgylch, ac yn i chadw a drain a mieri, fal na ddi­chon yr anifeilieit i drygu, felly mae duw yn ein ymdyffyn, yn ein gwilio, ac yn ein cadw nineu oddi­wrth bob drwg cyfeillach, ac oddi­wrth bob pechod, drwy ddrain a mi­eri, (sef yw hynny), drwy y groes ac [Page 49] adfyd,Osc. 2. 6. fal i dy waid Oseas: mi a ga­vaf i fyny dy fford' di a drain, ac a furiaf fur fal na cheffych dy lwy­brau. os y garddwr a scythra y­maith, y cnyckieu ar ceincieu cei­mion o'r prennie yn'yr ard', gann i difrigo ychydig: etco cyd biddo 'r gwreid' in n ddifriw, nid gwaeth y prennieu, eythr cynyddu a wnant, a ffrwytho: felly mae duw yn torri ac yn cymynu 'r hen Adda gnykus, drwy y groes, 'nid er meddwl ein briwo ne wnethur eniwed ini, ond er ein cadw mewn ofn, ac er yn ca­dw mcwn duwiol arferau. Ac yn ddiau cyd byddo gwreiddin ffyd' yn aros ynom, er ein bod yn yshai­ledig ac yn ddiddim o olud, a ffob bath ar ddiddanwch bydol a chor­fforawl, eto ni a ddygwn ffrwythau daionus, er mwy anrhyded', a gogo niant i sancteiddlan enw duw.

Cristnogion heb y groes a gyffly­bir ir grawnwin, 'rhain sy yn tyfu [Page 50] ar y gwinwyd', ac yn cael mwyni­ant yr wybren egored, ac etto, n oe­stad ydynt ar ei gwyd' yn anffr wy­thlawn, eb neb yn well erddyn: Er­wyd' paham y nefawl winllanwr, ai dwg hwy irr gwinwryf, yw cu­ro, yw sigio ag yw dryllio, nid er i difa, eythr er i gwaredu oddiwrth lygredigaeth, a halogiad trachwan­tae by dol, ag fal i gallāt ddwyn all­an win melys, a ffrwythau hyfryd­lawn. Eurwr, a deifl ddryll o aur, ir ffwrn danllyd, nid yw yssu gan y tan, ond yw burhau oddiwrth ly­gredigeth sy ynthaw, ac fal i byddo i bob peth syd' ynthaw, (rhwn nid­yw aur) losci ymaith gann y tan, a myned yn lludw: felly, duw yw gof yr aur, y byd yw 'r ffwrnais, adfyd yw 'r tan, y ffyddlonieit Gristnogiō yw 'r aur, yr amhured' ar llwgr yw pechod. yr awrhon, duw a buriff ac a lanheiff y rhe ini a berthynant idd­aw ef, oddiwrth bob bryche, a lly­gredigaeth, [Page 51] ac ai gwnaiff yn ogo­neddus, ac yn brydferth iddaw i hun. Y Saer maen a dyrr y cerrig cledion, ac ai nad', peth yma, peth ackw, peth ffordd arall, oni wneler hwy, yn gyfleus ac yn gymwys irr man lle i gosoder: felly yn 'r vn modd, duw 'r hwn yw 'r saer maen nefawl, sy'n adeilad eglwys ghrist nogaid', ac ef a'n gweithia ac a'n addurniff ni rhai ym gerrig costus, gwrthfawr drwy y groes ag adfyd, fal i tynner ymaith pob ffieidddra ac anwired', 'rhain ni chydgordiāt, ar adeilad ogoneddus honn. Dra­chefn: mal i mae y lliwyd', ar vn sy yn cannu lliain, ar olchwraig, yn golchi, yn curo, ac yn gwascu y bu­dron ar aflan ddillad, fal i gwneler yn wnnion, yn lan, ag yn gannaid, felly i gwnaiff buw yn fynych o am­ser a ninneu, er yn gwneuthur yn bur, yn lan, ac yn ddifeius.

Pen. 7.
Trwbleth ac adfyd, a wasnaethnat in treio, ac in profi ni.

Gorthrymder ac adfyd, sy yn profi, yn addyscu, yn sicrhau, ac yn cadarnhau y ffyd', yn ein cy­mell, ac yn ein annog i weddiaw: yn ein gwthiaw ac yn ein cynhyrfu i wellant buched', i ofni duw, i vfud'­dod, ymyned', dianwadalwch, tiri­ondeb, sobrwed', cymedroldeb, ac i ddylyn bob rhinwed': ac ydynt a­chosion o lawer o ddaioni, yn gystal trancedic, a thragwyddol, yn y byd hwn, ac yn byd a ddaw. drwy orth­rymder ac adfyd, i praw duw, i cra­ffa, ac irr edrych ddyfndwr dy galō tuac atto ef: pa gymeint a ddichō dy ffyd' di i ddioddef ai dderbyn: ac a elli di ymwrthod a thi dy hunā, a oll greadurieit y byd, er i fwyn ef. ac, i ddoedyd mewn byrr eirieu: e fynn wybod, pa fod' ir ymwreddi di dy [Page 53] hun, pann ddygo ef yn ollawl oddi­arnat, ac allan oth olwg yr hynn i ddoeddyt ti yn ymddigrifhau fwyaf ynthaw, ac yn i hoffi yn bēnaf ar y­ddayar: fe wyr duw yn ddigon da ymaaē llaw pa wed' i cymeri di hyn ny, a beth a fyd' dy oddef: ond er hyn ef a ddengys ac a eglurheiff i ti, ac ir byd hefyd, beth sy ynot: cans yn fy­nych, pobl a gāmolāt wr, ac a wnāt y fath ffrost o honaw ef, (sef) i fod ef, yn ddoechaf, yn gallaf, yn wrolaf, ac yn onestaf gwr mewn gwlad, &c. ond pā d'elo 'r amser yw brofi ef, nid oes dim or fath beth ynthaw, a'r a oeddyd yn tybied fod, ne ar a oedd­yd yn i ddiscwyl am dano: ni ddichō gwr adnabod y milwr cryf calon­nawg, yn āser heddwch, ond mewn amser rhyfel, pann fyddo y creulon elyn, yn gorthrymu ac yn rhuthro i gaptē ef. pā gyfodo temestl aruthrol ar y mor, yno i gwelir, a fyd' meistr y llōg gyfarwyd' i lywio 'r llyw, ai [Page 54] na bo y rheini sy onestaf a diweiriaf wraged', rhain pan i temptier, pan i dener, ne pann i llithier i anwired', a gadwant er hynn i gyd i cred bri­odas yw gwyr yn ddihalog: yn 'r vn mod' ni ddichō neb wybod yn gwbl pa fod' y mae yr eglwys Grisino­gaid' yn cadwi chreb ai ffyddlon­veb tuac ac i gwr priod Crist Iesu, nes i Antechrist i hāgylchu, ai thēp­tio, a gau-ddysceidiaeth, creulōdeb ag erlid. Ni ddichon angerddol wres yr haul friwo, na niweidioy prennieu sy ai gwraid' yn gryfiō ac yn ddyfnion yn y ddayar, ag a di­gon ynthynt o sugn naturiol, ond y rhai a gymynwyd ac a dorrwyd i lawr, a wyfant yn fuan, gan wres 'r haul, fal y gwelltyn hefyd, yr hwn a fedir i lawr, ac yn brysur a ddi­flanna.

Felly, yn yr vn mod', ni ddichon trwblaethae, nac adfydau eraill, wneuthur niwed irr rhai ffyddlon, [Page 55] 'rhain a wreiddiwyd ynghrist Ie­su: Hwy a dyfant ac a flagurant yn iraidd bob amser: ond yr anffydd­lonieit, ai brad ychant i hunain, ac a ddangosant beth ydynt, cynn gy­flymed ac i gwelont wres ue an­gerdd trwbl, ac erlid yn dyfod.

Ar vn ffust i curir y cyrs ar ty­wys, ac i dyrnir, yr Yd: yn yr vn modd, drwy Yr vnrhyw drwb­leth ac adfyd, i glanheir, y ffyddlo­nieit, ac irr anogir i weddio duw, yw foli, ac yw fawrygu ef: ar an­ffyddlonieit i furmur, ac yw fell­dithio ef, ac felly i profir ac irr ad­waenir y ddau.

Pann ddyrnir yr yd, y gronyn syd' ynghymysc ar vs, a gwedi hyn­ny i nailldu-ir hwy ar gwa­gr ne ar gwyntell: felly y bobl yn yr eglwys, yn gyntaf a glywant bre­gethu gair duw, yr awrhonn rhai a dramgwyddir, ac a rwystrir oi ble­gyt, ac eraill ni rwystrir, ac etto [Page 56] hwy a drigant ynghyd, y naill gida 'r llall; ond pan nithir ne pan wyn­tellir y ddau, a ffann ddechreuo aw­elo drwbleth, ne erlid chwthu, yno i byd' hawd' adnabod y naill, rha­gor y llall, sef, y ffyddlō rhagor 'r an­ffyddlon. A wyd ti yd pur? Pam gā hynny irr ofni y ffust, ne 'r gwynt? VVrth dy ddyrnu ath nithio, ith dy­nnir ac ith naill du-ir, oddiwrth yr vs, ag rth wnair yn burach nac oe­d'it or blaē: ofned y sawl sy vs, rhain ni allāt oddef y gwynt, rhag i chw­thu ai caflu ymaith'n dragowyd'.

Henn duy, serfyll a sai dros āser, ond cyn gynted ac i del gwynt a chwthu, e fyd' eglur i bawb, mor wael oed' i rowndwal ai afael, fel­ly, mae cristnogion rai, heb sylfain a growndwal, rhai tra fyddo pob peth yn dda ac yn llwyddiannus, y­dynt gristnogion da, ond pann ddel gwythē o fimfyd a chle di, fe ymdde gys ei ffuāt, ac a dyrr allā yn eglur.

[Page 57] Fal i profir 'r aur yn y ffwrnais,Doeth. 3. 6. lle i toddir, felly i praw ac i pura duw hwy, ac ai derbyn fal perffaith ffrwyth aberth. yr awrhō os ydwyd aur, pam mae rhaid i ti ofni 'r tan, rhwn a wnaiff i ti fwy lles, nac afles a mwed?

Irr perwyl hwn hefyd i perthyn y ddihareb wir hon: cymdeithion a adweinir mewn adfyd. siāple o hyn.Gen. 22. 2,

Yr ollalluog dduw a dēptiod' ac a brofod' Abraham, gan erchi iddaw ef offrymmu a llad' i vnic genedic fab: yno irr oed' Abrahā mewn cle­di, cyfyngdra a chrymder mawr, gwell oed' gantho golli i hol' dda, ai feddianeu, a chwbl oll ar a fedde ef ar y ddayar, na llad' i anwyl fab: et­to er bod hynn yn erbyn natur, ac yn beth anioddefus, ef a ddyg i fab allan, ymddaith tridiau yw lad' ai law i hun: ef a orchfygod' i gnawd trwy ffyd', ac a vfuddhaod' dduw: yna i doedawd' duw wrthaw, yr­awron [Page 58] awron i gwnn dy fod yn ofni duw, ac nad arbedaist dy vnic ath anwyl faber fymwyn i. cofia (med' Moe­ses.)Deu. 3.2. 'r hol' fford', 'n yr hon yr arwei­niodd yr Arglwydd dy dduw di y deugain mlhyned hyn, trwy'r ani­aalwch er mwyn dy gystuddio di, gann dy hrofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchy­mynmon ef, ai nas cedwit.

Gosod Pharao a Dafydd yng­hyd,Ex 7. 3. y naill yn erbyn y llall:Ex 8. 32. dau o frenhinoedd arddeichawc:Ex. [...]. 1. Pha­rao yn sefyll, ac yn parhau, yn gil­dynnus, yn wrthryfelgar, ac yn wrthnysig, yn ei fwriad anuwiol, er yr oll ddialeddae, a syrthient ac a doescynent arnaw.

Ag yngwrthwyneb i hynn: mor fuan irr ymrod' Dafydd, gann dor­ri allan mewn vfudd dod, a gost­wngeiddrwydd, ymynedd, a chyd­nabod ei buteindra, pann ffoadd ef rhag Absalom a Shimei ddrygio­nus2. Sa. 16. 10 [Page 59] yn i wradwyddo ac yn ddilor­ni ef, yn gwylyddgar.

Iob a drawyb a llawer o ddia­leddae gofidus,Iob. 2. 7. fal nad oedd vn faun iach diddolur arnaw o wadn i droed byd yng wastadedd i benn, nid am iddaw haud du y cyfryw gosbe di­gaeth, mwy na gwyr eraill, ond fal igalle dduw eglurhau irr byd, ei ymynedd at ffyddlondeb ef, eythr i wraig ef a ddangosodd y pryd hynny i gwann ffydd ai natur ly­gredig.

Pwy ffyddlonach na brytach mewn zel na Phetr?Ma. 26. 70. [...] Etto ef a wa­dodd ac a wrthododd Ghrist,Mat. 14. 68. i fei­strLuc. 22. 57. at athro o flaen morwynig ehud.Io. 18. 25.

Pwy gann hynny ni ddyl ofni am danaw i hun, oddiethr i brofi ai gaffael ef ymlaen llaw yn ffyddlon, yn ddisigl ac yn safadwy?

Yn yr vn mod' mae arfer beunyd' in dyscu, i adnabod y ffyddlon, oddi­wrth yr anffyddlon, mewn erlid ac [Page 60] adfyd: rhai a lynant wrth yr Efan­gyl dros amser, ond pan welant na allant gael, y peth ir oeddynt yn e­drych am dano, yna hwy ai gada­want, ac a gwympant oddiwrthi drachefu: ie yn amser profedigaeth hwy a gablant y sancteiddlan E­fangyl: ond y rhai duwiol, rhai ai plannasont hi yn ei calonnau, a sa­fant yn ddiyscog trwy dduw mewn bowyd ag angeu.

Pen. 8.
Gorthrymder ac adfyd, an helpiant, ac a'n cynorthwyant, in adnabod ein hunain, a duw hefyd, ac yn anwedic a ddys­cant ddoethineb.

HEb law hynn, mae yn fuddiol ac n ddaionus i wr, i adnabod i hun yn dda. llwyddiant a dedwyd' wch a ddallant wr, eythr pan fyddo ef dan y groes, ef a ddechreu ystyr. [Page 61] gwaeled' ei gorff, ansiccrwydd i hoedl, gwendid i ddeall, methiant­rwyd' a muscrellwch i nerth, ai allu i hunan. Ef a gaiff weled a deuall pa bellder ir aeth ef, mewn ffordd rinwed', a ffa fod' i fai pob peth, rhwng duw, ag ef, a ffwy vn yw ef ai milwr i dduw ai i ddiawl: cans dyn yn fynych ai tybia i hun'n gryf, ac yn gadarn, oud yn amser profe­digaeth ef a wel mor hawd' ac mor ddiboen i chwthir ac ir escydwir gann bob awel o wynt.

Hefyd trwy orthrymder ac ad­fyd, y rhyd' duw di, mewn cof, pa­sawl mil o beryglon sy yn crogi vwch dy benn, rhain a ddigwydd­ent, ac a ddescynent arnat, oni bae i fod ef 'n dy gadw ac yn dy ym­ddyffyn oddiwrthynt. ar vnrhyw dduw yma a ddywaid wrthyd fal hynn: y gelyn anwir athamgylcha ac a wilia am danat, ith orchfygu ag ith lyncku i fynyd' a lliaws, ac a [Page 62] ffen twr anfeidrol o ddrygau a dia­leddau, ond myfi a osodais iddaw ef i derfynau, dros dwy rai ni ddichon ef fyned.

Pwy hwyaf i byddych dann y groes wellwell i dysci oll rinwedd­ae a daioni duw; ai iawn farnediga­ethau, ai wir gyfiawnder ef, drwy bwy rai i dengys ef i ddicllondeb, ai ddigofaint, yn erbyn yr anwir, ar pechadurus, gann anfon plaee ofnadwy, a'r ei gyddfe hwy; ar gwrthryfelgar ar any difeiriol, ef ai cyfergolliff'n drag wyddol.

Hefyd mewn adfyd i dysci ei an­feidrol fawredd ef, drwy bwy vn y dichon ef dy helpio, ath gynor­thwyo, yn y trueni ar anghenion mwyaf.

Hefyd mewn adfyd i dysci ei ann­ewidiol wirioned' ef, drwy bwy vn i cyflawna ef i oll addewidion 'n ffy­ddlawn, ag i cwpleiff ef i fygythia­dae. Hefyd ti a ddysci ei anfeidrol [Page 63] drigared', ai fawr ras ef, drwy bwy rai i rhagflaena ef bob drwg a ddig­wydd tu-ac attom, ac ni odde ef yn dala, ne 'n gorthymmu, gan afri­fed, ac aflwyd'.

Hefyd ti a ddysci ei ddidranc, ai dragwyddol ragordeiniad ef; drwy rhwnn megys tad i gofala ef tro­som, ac i llywodraetha ef bob peth yn synhwyrol.

Hefyd i ogoniant, ei fawredd, ai fawl, am y rhagddoededic rin­weddau, rhain a lewychant yn ddi­sclaer, mewn ing ac adfyd: erwyd' paham S. Bernard a escrifenna fal hynn: Pa fodd i gwyddom fod 'rhwnn sy 'n preswylio yn y ne­foedd yn ein mysc yma ar y dday­ar? Yn ddiau wrth hynn, am yn hod mewn blinder, ac adfyd; can's heb dduw pwy a alle i goddef ai derbyn.

Mae 'n angenrhaid i wr bob am­ser wrth ddoethineb, gofal, synwyr. [Page 64] a sobrwyd': ac fal i mae llwyddi­ant'n cau, ac 'n dallu golwg gwyr, felly i mae adfyd a blinder yn i ego­ryd hwy eilwaith.

Megys, ac i mae'r eli rhwnn sy 'n iachau'r llygaid, yn gyntaf yn merwind, ac yn llosci y glowg, ac yn peri yddynt ddyfrhau, eythr gwedy hynny ef a wnaiff y golwg yn disclairiach, ac yn llonnach nac ydoed' or blaen, felly blinder ac ad­fyd a boenant ac a flinant wyr yn aruthr y tro cyntaf, ond yn y diw­ed' hwy a gynorthwyant ac a lewy­chāt olwg y meddwl, gann i wneu­thur yn rhesymolach, 'n ddoethach, ac yn fwy gofalus: can's adfyd a ddwg wybodaeth, a gwybodaeth ddoethineb.

Gwialen a chosbedigaeth a fa­gant ddoethineb,Eccle. 34. 9. ac ar hynny y ty­fod' y diharebion hynn gyntaf:Dihar. 29. 15. pwy llawna 'r tir gwawetha 'r bobl ac he­fyd, adfyd a wnaff i wyr edrych oi [Page 65] deutuy ymhell ac'n agos. Hefyd: nid yw gall ond a gollo.

Hefyd: pann fo 'r dwr hyd'r en, fe ddyscir nofio.

Ar Proffwyd Dauydd a ddy­waid: O Arglwyd' mor ddaionus, ac mor fuddiol, yw i mi, gaffael fyn­gheryddu, am dorastwng genyt, fal i gallwn ddyscu dy gyfiawnder ath orchmynion.

Pen. 9.
Gorthrymder ae adfyd, an cynorthy­ant, ac an helpiant, i iawn adnabod ein pechodae, ac i fod' n edi­feiriawl drostynt.

MAe duw yn erfyn ac yn wyll­ysio, gynyddu a thyfu ynō, wybodaeth o'n gwenwynig a'n lly­gredic naturiaeth, ac oi ddigofaint ef yn erbyn pechod, fal i gallom ala­ru ac edifarhau, yn ein caloneu tros ein pechodae, ac gwellau, beunyd' [Page 66] yr awrhon gwir yw, fod o naturi­aeth 'n aros yn ein caloneu ormod diofalwch, a difrawch, o herwydd pwy rai, nid ym yn ystyr nac 'n pri­sio ond ychydic aflendid ein calo­neu oddifewn: yn anwedic, pryd na wyddom, beth pw adfyd, a chle­di, nid ystyriwn faintioli ein diale­ddus bechodae, na chyfiawn farne­digaeth duw, ai aruthrol ofna­dwy geryd' ef, dledus oi plegit: Ey­thr pann fo duw 'n darostwng neu 'n tynny i lawr, ryw rai espy­sol, ne oll gynylleidfa, yno i co­fiwn, faintioli a thrymder ein pe­chod, ac nad yw digofaint a dic­llonder duw 'n rhydrwm, nac heb yspysawl a chyfraithlawn a­chosion.

Yno i torrwn allan ir' cyfryw eirieu a rhain, O Arglwyd' ni a har­ddasom y plaee hynn fil o ffyrd', Oddaionus a chyfiownaf dduw, ti a obrwyi gamweddau a throseddau [Page 67] y tadau ar y plant,Exod. 20. 5. os hwy a gan­lhynantExod. 34. 7. lwybrau i tadau,Deut 5. 9. hyd yDeut. 7. 9. drydedd ar bedwaredd gened­laeth.

Mal i mae y copr caled ar el­ydn yn toddi yn y tan, felly mewn adfyd, ing, a blinder, caloneu caled, geirwon, afrowiog, a do­ddant: gann gashau a ffieiddio, ei pechodae.

Troseddwr y ddeddf, a gydne­byd' i feieu, pān i dyger irr farn yw gosbi, a phann i barner ac i bwrier yn euog o angeu.

Ac yn gystal cyffredinol ac ang­hyffredinol blaee a dialeddae, a ellir i galw, yn rhann o gyfraith dduw, neu megys pregethae duw, 'rhain a dystiant ac a fane­gant i ni, fod duw 'n ddigofus ar­uthr, wrth bob bath ar anwi­red' a ffieidd-dra, a deyrnasant yn y byd: fal i bydde i bawb i v­fuddhau ai darostwng i humain i [Page 68] dduw, nadu ac vdo am ei pechodae, a chystuddiedic a gwir edifeiriol ga­lon, gan ddisyf i ras ai drigared' ef.

Ac er ecsampl. Brodur IosephGen. 42. 6. yn gyntaf amser a welsont ei beieu 'rhain a wnaethēt 'n erbyn i brawd, pann i gorthrymwyd gann wir an­gen a chledi mewn gwlad estron.

Pann anfonodd 'r Arglwyd' ir a­nialwch ymhlith'r Iraelieit,Num, 21. 6. Se­irff gwenwynig, yw brathu, ac yw gwenwyno, yno i daethant gyntaf at Foeses, gann ddoedyd, ni a bechasom am i ni ddoydyd yn er­byn yr Arglwyd' ac'n derbyn di­theu.

Pann ydoed' y nodau'n difa ac'n ysu'r cwbl,1. Cro. 21. 17 yno i doedod' Dafydd wrth yr Arglwyd': myfi a bechais eythr beth a wnaeth y defaid hyn? Os yw gann hynny yn fuddiol ac yn angenrheidiol i ni gydnabod ein pechodae, a'n anwired' a bod yn [Page 69] edifeiriol oi plegyd, ni allwn ni yn dda hebcor trwbleth ac adfyd.

Pen. 10.
Trwbleth ac adfyd an helpiant ac an cynorthwyant i feithrin ac i chwanegu n ffydd.

FE ddangoswyd ymlaen, i profid 'n ffyd' ni drwy'r groes, ac ad­fyd: yr awrhon fe brofir yn eglur, mae cyntaf amser i cadarnheir, i meithrinir, ac i chwanegir'n ffyd' ni, pann ddel adfyd in gorthrymu▪ yr iawn ar wir ffyd' Gristnogaid' a sylfaenir yn vnic, ar ras, triga­red', gallu, a help dduw trwy Grist, rhwnn beth ni ellir i ymgyffred drwy ofer feddylieu, gwag fwria­dae, ne uwchelddysc ddynol, eythr duw a dywallr bentwr o ddialeddae ir pechadurieit.

Pa beth bynac a fwriadant, a 'mcanant, ne a gymerant mewn [Page 70] llaw, nid aiff ragddo ganthynt. ai holl fywyd, a wnair'n chwerwach yddynt nar bustyl, fal na allant gael dim esmwythdra: a ffa ham? 'n ddiau er y perwyl hwnn: sef er yddynt hwy 'n ollawl ddirmygu, a distyru pob cyngor, cymorth, a chysur gann ddyn, ac fal i tynnid hwy oddiwrth bob gobaith, mewn dichellion, a gallu bydol, ac fal na obeithient help mewn vn creadur, yn y byd.

Ac yn lle hynn, er yddynt osod a roddi i caloneu, 'n vnic ar dduw, ac fal na byddo dim oll 'n aros yn­thynt ond vwchneidieu a dagreu an-t-raethawl att dduw, 'n deilli­aw o wir ffyd', ynghymorth pwy vn'n vnic mae trigared' 'n sefyll 'n gwbl.

Testimoniae o hynn allan or Scrythur lan.Deut. 8. 2. Moses a destiolei­thiff, fod duw 'n goddef, dwyn'r Israelieit, i amryw drallodae, ac [Page 71] i gyfyngderae mawrion, ac etto i fod ef 'n i gwaredu hwy 'n rhyfedd­ol, er hynn, sef pann ddelent i dir y gaddewid na allent ddoedyd, fyn­gallu i fy hun, a nerth fynwylaw i a ddygasont hynn i benn: eythr meddwl o honynt am yr Arglwyd' i duw, cans ef a rydd y cyfryw allu, fal i galler cyflowni a gwneu­thur pob peth: ac felly i gwnaeth duw gwedi hynny a phlant'r Isra­el, rhain oi dyfais ac oi synwyr i hun, a geisient help a chymorth gann frenin 'r Assirieid, a brenin 'r Aipht, rhain gwedi hynn, ai am­gylchynasant hwy, ai lladdasont, ac ai caethgludasont ymaith 'n garcharwyr. yno i gweliont ag gwybuont hwy, nad oed' vn a alle i helpu ai cynorthwyo, ond yn vnic 'r Arglwyd', i bwy vn irr vfuddha­sont, ac irr ymroesont or diwedd,Iere. 10. 6. gan ddoedyd: nid oeddēn edrychamOsc. 6. [...]. dim oll, ond marwolaeth. Eythr [Page 72] hyn i gyd a wnaethwyd er y per­wyl hwnn, sef er i mi na obeithom ynom ein hun, eythr ynnuw, 'r hwnn a gyfyd i fyny y meirw eil­waith.

Hefyd beth bynac a gynhyrfiff ac a faethdriniff ein ffyd' ni, ni ddylem ni ofni, eythr n hytrach gorfoleddu yn hwnnw. Tra fyddom yn byw mewn seguryd, ymhob trachwant a ffleser, mae diawl yn cael gwall arnom, ac yn dallu ein gwen­did, fal y tybiwn nad yw duw yn prisio ynom, a bod holl bethau y byd yn digwyddo heb i ordeiniad, ai ragwelediad ef, ond ymhob rhyw gledi yngystal anghyffredinol, a chyffredinol, mae i ni fwy a dwy­sach achosion i faethdrino, ac i ar­feru ein ffyd.

Duw sy'n goddef i ti gwymp [...] mewn tlodi, ne i angeu ddwyn oddi arnat dy anwyl gymdeithion, ne ryw aflonyddwch arall ddamwai [...] [Page 73] iti, ar pryd hynny hefyd, mae i ef achos mawr i feichrin ac i arferu dy ffydd. Ac 'n gyntaf i gofio ga­ddewidion duw, a ysbyswyd yn i air ef, ac yno i alw arnaw am i ras ai help, ac felly gwrthnebu a sefyll'n erbyn pob rhyw angredi­niaeth ac anobaith, 'rhwn sy o na­turieth yn y cnawd, er maint fy­ddo dy angen, ac er pelled i tybia pob dyn droi o dduw i wyneb oddi­wrthyt, ac na chynorthwya ef ddun o honot. yn 'r vn mod', mewn oll angenion cyffredinol, hynn yw 'r iawn arfer o ffyd', a sancteiddi­af wasnaethu duw, sef, bod i ni 'n gyataf feddwl ac ystyriaw yn d di­lys, oll beryglon a gorthrymde­rae a ddigwyddant i'r eglwys, neu i'r wlad: gwedi hynny gwe­ddio ar dduw a ffyd' fywiol, ddiys­cog, ar iddaw ef waredu, a cha­dw, 'r eglwys oddiwrth gauddy­sceidiaeth, gwag argoelion a ffu­ant: [Page 74] Ac, ar iddaw ef i rhwoli ai lly­wodraethu, yn rasusol. Ac hefyd ar iddaw ef gadw'r wlad mewn rhwol dda, ac mewn heddwch gann roddi wybren iachus, towyd' rhesymol, a hefyd dofi a rhwystro, anystywalld ac anosparthus am­canion a bwriadau y gwerm bobl: gann ganiadhau hefyd, manti­mio, a chadw, crefyd' Cristnogaid', iawn ymwreddiad, a gonestrwyd', fal i mawryger, ac i molianner, i dduwiol a saentawl enw ef, ac i chwaneger, i'r helaether ac i siccra­er i deyrnas ef: ac fal i diwraiddier ac i gwradwydder teyrnas y cy­thraul.

A chofia hynn hefyd: pa bryd by­nac i'r ystyri dy adfyd, na Anghofi­ach erfyn gān dduw obaith, oi ddi­ddanwch, help, a chymorth: gann ymlad' ac ymdrech 'n nerthoc ac 'n wrawl, yn erbyn pob angredini­aeth: a dod ymaith hefyd, bob ano­baith, [Page 75] er maint y chwanega dy ad­fyd ath gledi ac fal hynn i'r iawn arferi ac i maethdrini dy ffyd': Er ecsampl.

Oddi ar y Sainetaid' wr Iob,Iob. 1. 13. y dygwyd ewbl oll a alle ddiddanu, a chonfforddio gwr: gwraig, plant, da, cyfeillion, ac vn trwbl, tristwch, a drwg newyd' a ddoe ar uwchaf y llall: ac nid ydoed' defnyn o waed o fewn i gorff ef heb sychu a dar­fod: ac ef a eistedde yngolwg'r oll fyd, ac ef oed' 'n wattorgerd' ydd­ynt, ac felly i'r arfereu ef i ffydd, gann ymroi i hun'n vnic, ac'n gwbl i dduw.

I Abraham i gaddawyd had,Gen. 12. 2. mewn rhif megys tywod y mor,Gen. 15. 18. a megys ser y nefoed',Gen. 18. 18. ac etto i wraig ef ydoed' amhlantadwy ac an­ffrwythlawn,Gen. 22. 17. ac ynteu hefyd,Eccl. 44. 21. oed' hen ac mewn oedran, fal wrth re­swm naturiol, nad oed' bossibl gy­flawni a dwyn'r addewid hynny i [Page 76] benn, ai wirhau ynthaw ef: etto A­braham drwy hynn a faethdrinod' a arferod' ac a brafod' i ffyd'.

Ac fal hynn i bu Ioseph, Davyd' Daniel yr holl Batriachiaid, Pro­ffwydi ac Apostolion, yn gystal mewn cyffredinol adfyd 'r eglwys, ac yn i blinderoed' i hunain, yn ar­feru, ac yn meithrin i ffyd'.

A hynn ydoedd i gwasanaeth mwyaf tu-ac at dduw, drwy bwy vn ir anrhydeddent, ac i gwasnae­chent ef: Erwyd' paham, yn ein amser ninneu, mae duw 'n rhoddii ni achosion mawrion, rhyfeddol, drwy drwbl ac adfyd, i ddeffroi, i gynhyrfu, ag i arfer ein ffyd': A thrwy y cyfryw arfer, i chwanegir ac i cadarnheir y ffyd', ie, ac i te­wyniff yn ddisclairiach, ac i gw­nair 'n brydferthach ac 'n fwy go­goneddus canys pa beth bynag a brofod' ac a dreiod' gwr i hun ym­laen llaw, hynny a grediff ef yn ddi­amau: [Page 77] yr awrhon y neb syd' Gristi­on yn fab, ne 'n ferch, a braw, ac a wybyd' yn ddiau, i rhwolir, ir ym­ddeffynnir, i cysurir ac i cedwir ef gann duw,Ruf. 5. 5. ynghanol i dristwch ai adfyd: can's gobaith ni chwi­lwyddia.

Ac am hynny y Christion, ar ffy­ddlō ddyn drwy adfyd a gorthrym­der, a wnair 'n hyfach, ac yn fwy hy­derus, ac a gred ynthaw i hun fod duw 'n prisio ac yn gofalu yn enwe­dic am y sawl syd' mewn adfyd, a thrueni, ac i cynorthwyiff, ac i gwa­rediff ef hwy, allan yn rasusol.

Megys ac i mae gwr 'rhwn a fy­nych hwyliod' ar y mor, ac a siglwyd gann forgymlad'y tonneu, ac a ddi­angod' rhag llawer o demestloed' rhyferthawc, enbydus, yn fwy Hy­derus, ac n hyfach eilchwel, i fyned irr mor, yn gymeint ac iddaw ddi­ainc vnwaith, a chael rhyde reg ymlaenllaw; felly, y gwr Cristno­gaid', [Page 78] 'rhwn a fynych flinwyd ac a siglwyd gann y groes, yn gymenit ac iddaw gael diddanwch, help, a chymorth gān dduw bob amser, yn ol hynny a obeithiff dduw 'n dda, (ac y 'n wellwell pwy hywyaf i ma­ethdrinir dan y groes) er i'r cyfryw adfyd 'rhwnn a fu unwaith arnaw, ddyfod drachefn: ac i'r pwrpas y­ma gwrando ac ystyr ddau ecsampl odidawg, arbennig, vn or hen, arall or testament newyd'.

Pann ydoed' Dafyd' yn i barotoi [...]. 17. 37. i hun i ymlad' 'n erbyn y nerthoc gawr Goliah ef a ddywod fal hyn: 'r Arglwyd' 'rhwnn am achubod' i, o grafane y llew, ac o balf yr Arth, ef am hachub i o law y Philistiad hwn. a thrachefn,1. Cor. 1. 10. Paul a ddywaid: yr hwn a'n gwaredod' ni oddiwrth gy­fryw ddirfawr angeu, ac sy yn ein gwaredu; yn 'r hwn yr ydym yn gobeitho y gwared ef rhag llaw.

Ac i'r vnrhyw berwyl, i perthyn [Page 79] hynn hefyd; sef ystyriaw fod y groesIob. 5. 17. 'n sicrhau y sawl ai dygant yn 'r Ar­glwyd',Ose. 6. 1. o ras,Dihar. 3. 11. affafr gann dduwTob. 12. 13. drwy dwy rai i gwydoont 'n ddia­meu,1. Pet. 4. 14. i bod o neirif yr etholedigionHeb. 12. 1. ac yn blant i dduw,Gwel. 3. 19. yn gymeint ac iddaw ef edrych arnynt yn dadawl, er i gwellau ai ceryddu hwy: can's fal hyun i scrifennir. Yr oll rai, a ryngasont fod' i dduw, a brofwyd, ac a dreiwyd drwy amryw flindero­ed', ac a gaed yn safadwy ac yn ddi­yscog yn y ffyd': hefyd.

Pawb oll ar a chwenychant fyw'n2. Tim. 3. 12. dduwiol ynghrist Iesu,Eccl. 2. 4. 5. sy raid yddynt oddet erlid lawer ac adfyd.Psal. 33. 1. 9.

Pen. 11.
Trwbl, a chledi, sy 'n rhoddi i ni acho­sion, i weddio duw, yw foli, ac yw fawrygu ef.

POb Cristion a wyr yn dda, fob yn angenrheidiol, ac yn fuddiol [Page 80] iddaw, weddio a galw ar oduw 'n ddyfal ac 'n ddefosionol. yr awron, pan fyddo gwr yn byw mewn llwy­ddiāt, ni weddia ef ond ychydig, neu hynny, yn oer, ac yn araf, nid oes gā ­cho fawr dued' na meddwl ar i we­ddi. y weddi rhon ni yrer, ac ni with­ier allan gān y groes nid yw 'n dy­fod, o ddyfndwr ac o eigiawn y ga­lō: eythr trystyd, trymder a chledi a fywhant, ac a enynnāt y meddwl, ai gwthiant, ai heliant, ac ai ymlidi­ant at dduw, ie, hwy ai cymhellant i alw arnaw yn daer, ac'n ddyfal.

Can's pann welom a phann dde­hallom yn dda, na allwn wneuthur dim o honom ein hunain, a ffa faint yw ein eisieu o dduw, ar fod yn wiw ganthaw ein llywodraethu, ein cy­northwyo, a'n amddeffynu.

Megys ac nad yw y dwfr, cyd y byddo 'n llenwi, ac yn rhedeg rhyd llydan, faith, wastadfaes, yn torri allan yn rhyferthawg, eythr [Page 81] yn ymwascaru, ac yn ymdaene llu, rhyd pob mann yn gyffelyb, ond pann i crynhoer ynhgyd drwy syn­wyr, a cyfrwyddyd, ai ddwyn i vn lle cyffng, megys i bistill, i bibell, ne i gwndit, yna i pist­illiff ac i saethiff ef allan yn vchel: felly meddwl dyn, cyd i byddo 'n llonyd', segur, ac heb flinder nac ad­fyd, sy 'n rhodio ac yn brwyd ro o­ddiāgylch, lle i mynno, wrth i gwrs hun: ond pann i dyger i mewn, pann i gwthier, ne pann i llockier i ryw gyfing gilfach, drwy drwbleth neu adfyd, yna i tyrr ef allan 'n vw­chel at dduw, tuar nefoed',Eccl. 35. 23. 24. 15. &c. drwy ddyfal, hyderus a thaer weddiaw,Act. 10. 4. am i ras, i help, ai gymorth.

Ar hynn y cyfod' y ddihareb gyff­redin, angen ac eisieu a ddyscāt we­ddiaw. O Arglwyd' mewn adfyd ir ymwelsont a thi,Esai. 26. 16. tywalltasont we­ddi, pann oed' dy gospedigaeth ar­nynt. Ecsampl o hynn. Pann glybu [Page 82] plant 'r Israel o ddyfodiad i gelynion y Philistieit, hwy a ofnesont, ac a ddoedasont, wrth Samuel: na thaw di a gweiddi drosom at yr Ar­glwyd',2. Sam. 7. 8. ein duw, ar iddaw ef ein gwa red o ddwylaw y Philistieit:2. Bre. 16. Ma­nasses rhwn oll ddyddieu i fywyd, ydoed' fathueitgi gwaedlyd, a chre­ulon, a rwymwyd mewn cadwyni, ac a arweiniwyd i Fabilon,2. Cro. 33. 11. a ffan ydoed' ef yn i gledi, ai ing eithaf, ef a wnaeth vfud' weddi, ac erfyn o flaen 'r Arglwyd' i dduw,2. Cro. 33. 13. a duw a wrandawod' i weddi ef ac ai dyg eil waith i Gaersalem.

Pann godod' Temestl ar y mor,Mat. 8. 28. fal i gorchguddid y llong gān donn­eu,Ma4. 4. 37. a Christ 'n cyscu,Luc. 8. 23. yno i prysureu i ddyscyblion atto ef yw ddeffrei, gann ddoedyd, cymorth Arglwyd' cans mae 'n darfod amdanom.

Siampl y wraig o Ganaan,Ma. 15 28. a ddysc i ni pa fod' y mae duw n' oedi, ac yn hwyrhau roddi help a chy­morth [Page 83] weithiau, o wirgythgoddef fal in cynhyrfer yn fwy dirfawr i alw arnaw, ac i barhau 'n daerach yn ein gweddiau.

S. Austin a scrifenna fal hynn: Y duwiol a orthrymir ac a gystu­ddir, yn 'r eylwys ne'r gynelleid­fa, er y perwyl hwnn: sef, pann i gorthrymer i galwant, pann al­want i clywid, pān i clywid, i maw­rygent ac i moliannent dduw.

Ac fal y mae y groes, ac adfyd, yn ein gwthio ac yn ein tanbigo yn ein blaen i'r rhan gyntaf o weddi, sef i erfyn, [...] ymbil a duw, felly hefyd, in helpiff, ac in annogiff i'r rhann arall o weddi, rhonn yw, moli duw, a bod 'n ddiolchgar iddaw. Ollall­uog allu, doethineb, cyfiawnder, tri­gared' a gwirioned' duw (yr vchel ar arderchawg, rinweddae hynny, addas o bob mawl ac anrhydded') a ymddangosant mewn croes, gor­thrymder, a chledi Cristnogion, pān [Page 84] fyddo duw yn gofwyo truain be­chadurieit, yn diddanu y rhai syd' mewn cyfyngder, a chledi, ac yn i cynorthwyd, ac 'n i gwaredu hwy allā o bob angenoctid, wrth hynn y rhyfeddiff oll Gristnogaid' bobl, 'n ddirfawr, ac a dorrant allann, i fawrygu, i ganmol, ac i addoli duw, a chlod a mawl anraethawl.

Y mae genym y cyfryw drysor,2. Cor. 4. 7. mewn llestri prid', fal i bydde ardd­erchowgrwyd'y meddiāt hwnnw, o dduw ac nid o hanā ni: sef yw hyny i ddym yn druem ac 'n llest [...] gwei­nieid, fal i chwaneger anrhy [...]d' a gogoniant duw, ac nid yr eiddō ni. Er ecsampl cymer stori D'aniel,Dan. 3. 27. pa wed' i trod' carchar a chaethiwed 'r Iddewon,'n ogoniant ac yn foliant mawr i dduw. yn Iachawdwr Crist sy 'n dangos 'r achos,Io. 5. 2. pam ir ydoed' y gwr yn ddall oi enedigaeth, sef er bod gwrthieu a gweithredoed' duw 'n oleu ac yn eglur ynddo ef.

[Page 85] Heb law hynn: yr oll Broffwydi, Apostolion, a dewisedig duw, drwy bwy rai y gwnaeth ef bethau maw­rion, rhyfeddawl,Ps. 44. 11. 22. a ddirmygwyd ac a ddistyrwyd,Act. 43. ie weithieu a ladd­wydRuf. 8. 36. ac a arteithiwyd,2. Cor 4 8. 9. fal i gwele,1. Mac. 2. 52. ac i dealle bawb, fod i ffyd',2. Mac. 5. 6. ai gwei­thred ('rhain oeddync ddisigl, a cha­darn) yn waith duw, ac nid gallu dyn. Ac am hyn i dylid, moli a maw­rygu duw, vwechlaw pob peth oll.

Pen. 12.
Trwbleth ac adfyd a'n tywysant i rinweddae da, ac i dduwioldeb

Y groes ag adfyd, a darfant, ac a yrrāt ymaith bechodae, a wna­ethwyd or blaen, ac a rwystrant, ac a wrthnebāt, bechodae syd' ar ddy­fod, a helpant i blānu, i feithrin, ac i chwanegu pob rhinwed' dda, fal i dener ac i dyger yr anuwiol i edi­feirwch, newydd-deb a gwellant [Page 86] buched', ar duwiol i fyned rhagddo i chwaneg o rinweddae, a duwiol­deb: cans pwy adfyd bynag a ddiod' efo 'r cnawd, y mae yn i boeni yn ddirfawr, gwell o lawer fydde gā ­tho fod yn llawen, yn heddychol ac yn ddihelbul: yr awrhon pob dyn 'rhwn syd' ganthaw ddim rheswm, a wyr yn ddigō da, i fod ef yn dwyn llawer o adfyd ar i wddwf i hun drwy i drachwantae, ai ymwreddi­ad drwg i hunan: am hyny ef a dde­chreu wilio, a gochel yn wello hyn­ny allan fuched' afrwolus ac anlly. wodraethus, megys achos, gwrei­ddin, a dechrevad pob blinder, a thristwch: fal hefyd (heb law cosbe­digaeth presennol) na ffoener ef yn dragwyddol. A hyn a fanegir, ac a brofir yn gyntaf, a chyfflybiaethae, yn ail a thestimoniae or Scrythur lan, ac yn drydyd' drwy hynod a gwybodedig ecsāpleu. dwfr 'r hwn sy 'n oestadol yn sefyll yn i vnlie, er [Page 87] gloywed fyddo, y mae yn llygre­dig ac n ddiffaith: eythr y dwfr syd' rydegog bobāser, pwy fwyai rhua ac i rhed, drwyr creigiau ar cerrig, teccach, croywach a pherffeiddiach fyd' o lawer: felly y gwr duwiol heb y groes, syd' ddiddarbod, dwl, a lluddedig, eythr drwy'r groes, ac adfyd, ef a fywheir, a faethdrinir, ac a chwanegir ymhob daioni. Yr hayarn rhydlyd, cācredic, gā y llif ddur, a loewir, ac a lyfnheir, felly ir hē Adda lygredic, mae'n angen­rhaid cael, ing ac adfyd yw ffwrbio ac yw lāhau oddiwrth gācr a rhwd pechod. Cyllell er llyfned fyddo, o­ni arferir, a gascl rwd, ar rhwd ai difa ac ai hyssiff: eythr pwy fwya ir arferir, er iddi ddarfod peth, etto gloewach fyd': yn'r vn mod', er bod llawer vn yn naturiol ac yn hynaws etto oni arferir, ac oni feithrinir ef, mewn trwbleth ac adfyd, ef a ly­griff gann rwd a chancr pechod.

Eythr drwy'r groes ac adfyd, er [Page 88] ir rhwd ynill peth o honaw, (oble­git ei ddynawl wendid) etto ef a loywir, a lanheir, ac a wnair yn fwy disclair, ac yn brydferthach drachefn.

Yr had rhwn a havir, yn y maes, er iddaw oddef gwynt, glaw, eira, rhew a ffob bath at demestl, etto fe gynyddiff, ag a ffrwythiff, felly 'r ysbrydol had, 'r hwn yw gair duw, pann i derbynir mewn calon dda ddefosionol, ni ddinistrir ddim o ha­naw drwy drwbleth, eythr ef a ddwg allan ffrwyth da proffidiol.

Prenn cnau ffcengig pwy fwy a i curir, wellwell fydd: felly gwr drwy aml wialennod, a llawer o ad­fyd, a dru oddiwrth i ddrigioni, ac awnair yn well.

I galed ac i dewgroen march ne assyn, nid oes dim well na ffrewyl' dost yw fflāgellu: felly nid oes dim mwy addas, na mwy buddiol in cnawd afrowiogfalch nineu, na [Page 89] thristwch a thrwbleth, er i gynhyr­fu ai yrru yn well rhagddo.

Brethyn syd' raid i fynych hau­lo ai frwyssio, rhag (mal y mae yr ddihareb) i yssu gann bryfed: felly yr ysbrydol bryfedae, a gwyfyn­nae, sef, anwired', pechod, a ffieidd­dra, syd' yn llai i grymm i fagu y­nō nineu, os nyni a gurir ag a frwy­ssir mewn amser, gann orthrym­der ac adfyd.

Y cig yr hwnn syd' newyd' lad', yn dyfod or farchnad, ac yn ir, yn brysur a ddiflesiff, ac a gynrhoniff, eythr yr heli, a'r halen ai ceidw yn felus ac yn ddilwgr: felly duw syd' yn taunu ac yn taenellu halen ar­nom nineu, drwy amryw brofedi­gaethae, a gorthrymderae, er ydd­ynt yn halldu, rhag yn llygru a'n tyfergolli mewn pechod.

Y corff rhwn syd dyn oestadawl'n segur, ac heb wneuthur dim, a ddig­wyd' yn hawd' i glefydon a doluri­au, [Page 90] eythr cyrff y rhai a weithiant ac a lafuriant, ydynt iachach, ac ifien­gach, ac a bai hauc yn well: felly yr enaid rhwn a faethdrinir, ac a arfe­rir mewn trwbleth a blinder, sydd iddaw a chofiō i fod, yn brydferthach yn iachach, ag yn ddisclairiach.

Mae yn ddihareb wir, pwy tosta yr lleifw, glana i gylch: felly in na­tur lygredig, wēwynig nineu, mae yn angeurhaid cael, tost, a garw fe­ddiginiaeth, a ffwy tosta fyddo yr adfyd, mwyaf or cwbl a ylch ef y­maith o aflēdid, ac āghymesurwyd'.

I gylla gwann, drwgfaethus, y mae yr chewrw wermod yn dda, ac yn iachus, felly i enaid llesc, gwae­lus, chwerw drwbl ac adfyd syd' iachus ac angērheidiol: cofia yr ddi­hareb honn.

Pann gaffo yr claf i iechyd. E fyd' gwaeth, na chyn ei glefyd.

Ac am hyny clefyd syd' angērhei­diolach iddaw, rhag i waethygu, a [Page 91] byw yn fwy anwireddus. Bellach, mi a roddaf i lawr destimonae or scrythur lan.Levit. 26. 16 Duw syd' yn bygwth anfon saith mwy pla, ar blant 'r Is­rael, os hwy ni wellhaen pann i cos­bid, yn yscafn ac yn esmwyth gan­thaw: gan ddwyn ar ddevall drwy foeseg, fod adfyd a blinder, in dyscu, igyweirio, ac i wellhau ein buched.

Briwiau,Diha. 20. 30 cleisiau, a dyrnodiau, yn curo celloed' y bol, ydynt scra­fellau i gosi yr anuwiol.

Ni welir chwaith yn hyfryd,Heb. 12. 11. vn cospedigaeth, tros 'r amser presen­nol, eythr yn anhyfryd: etto wedi hynny, heddychol ffrwyth cyfiawn­der a ryd' hi, irr rhai a fyddant we­di eu cynefino a hi.

Ac eilwaith fe a ddoe dir:1. Pet. 4. [...]. gan ddi­oddef o Grist trosom ni yny cnawd, chwithau hefyd arfogwch eich hu­nain, ar vnrhyw feddwl, sef peidio o hwnn a ddioddefod' yn y cnawd a ffechod: fal na byddo iddo o hyn allā [Page 92] tros hynn fyd' yngweddill' or am­ser'n y cnawd, fyw ar ol trachwan­tae dynion, eythr ar ol ewyllys duw.

A hyn a wnair yn cglurach trwy ecsample. Dann Iosua yr enilled' plant yr Israel,Ios. 2. 1. 2. lawer maes, a hwy ayrrwyd i ymlad' yn erbyn i gely­nion, ac ni chwympasont, ac ni ys­cogasont, oddiwrth yr Arglwyd', nes i dyfod i esmwythdra, ac i gael pob peth yn ddigonawl: hynn sy ec­sampl o liaws o bobl.

Jonas Broffwyd pann lydoedd ymol y morfarch,Ionas. 2. 1. a gofiod' ei becho­dae, ai newidiod' i hun, a droes, ac a fu vfuddol i dduw.

Y mab colledig, anystywalld, yn gyntaf amser a droes adref att i dad,Luc. 13. 14. pann ganfu a ffann welod' ef i drueni, ai dlodi i hunan.

Craffa, ar arfer beunyddol y byd: nyni a feddyliwn ynom ein hu­nain yn fynych fal hyn. O pe i bawn [Page 93] vnwaith etto yn iach, yn wir myfi a ymddygwn, ac am ordriwn fy hun mal i dy lwn: myfi a gynorthwywn ac a wnawn wasanaeth i bawb, &c. O na bawn gyfoethawg, mi a ran­nwn ac a roddwn yn llawen ac yn ffyddlon ir tlodion: eythr cyn gyn­ted, ac i delom allan o'n perigl, ni a ollyngasom hynn oll yn angof: tra fyddom heb eisiau dim arnem, ni ddichon neb rwystro, nac attal yn camwedd.

Bellach i ddyfod at ecsample. meddwl ddau amryw duy, naill­duawl, vn, yn yr hwnn i cedwir pri­odas lle i mae gorfoled' a llawe­nyd' a ffob daynteth: arall, yn yr hwn y mae vn yn ei glaf wely ym­ronn angeu. ynhuy yr briodas lle i mae dawnsio, ir arferir pob hoew­der a gwamalrwyd', geirieu an­weddus, aflā, cynghaneddion a rhi­mynau bustleddaid', digwilyd' ym­wreddiad ag arfereu, hoyw a gwa­mal [Page 94] mal drwssiadae, vn a neitia, ac a win ga, fal march: aral' a ddilia ei draed wrth lawr, fal assyn: y trydyd', a yf, oni feddwo: y pedweryd' ni wnaiff ddim a fyddo gonest, fal y dichon gwr ddoedyd yn wir, i bod hwy yn waeth nac anifeileit. Ond lle i mae y claf'n i welu, mae pob peth n ddi­staw, ni ddoedir gair ond a fyddo gonest, a gwed' us: pob peth a wnair 'n sobr, yn arafaid', a chā bwyll. Ar pryd hyny, nid n vnic y gwyr, eythr y gwraged', ar plāt hefyd, ar hol' du a arferir n dduwiol: hwy a weddiāt, bwy ai cyssurant i hunain, gā dorri allan irr rhain, ne irr cyfryw yma­droddion: pa beth y w dyn? O mor drancedig ac mor ofer yw'r oll be­chau syd' genym ar y ddayar yma? ond nid fal hyn y byd' yn y byd syd' ar d'yfod. Ac hefyd o duy'r briodas llawer vn a aiff adref yn drymhyr­ddig, yn drist yn helbulus, ac yn ddirmygus ei feddwl, am nad yw ef [Page 95] mor hapus, ac mor ddedwyd', ac e­raill: ac yn ddisymwth ef a dreisir gan bryd a gwed', rhyw wraig, ne forwyn, a welod' ef n y dawns,' rhō ai clwyfod' hyd att i galon: A ffann d'el ef adref, ef aedrych n sarug ar ei wraig, e fyd' chwerw wrth i blāt, a­nynad wrth ei deuluy, a neb ni fedr ryngu bod' iddaw. Ond'r hwn a aiff adref o duy'r claf, ai tybia i hun yn ddedwyd', ac n fendigedig, am nad yw ef yn gorwed' yn y cyfryw ddialeddus ing, ac os oes arnaw ef i hun, ryw ofyd ne flinder, y mae ef yr awrhō n aplach yw ddioddef n esm. wythach, ac n fwy ymorthoys, pan i cyfflybo i ferthur dialeddus, ac i a­noddefus boen, yr vn syd' ymhoene Angeu. Ac o achos hynn, mae ef yn fwy ei ymyned', n hawdgarach, ac n foneddigeiddiach tuac at ei wraig ei blant, ai hol' deuluy, ie, ac heb law hyn, ef a gymmer achos o hyn i wel'au i ddrwg fuchedd.

Pen. 13.
Tristwch ac adfyd, a'n dyscant i ofni, ac i garu duw.

ADfyd, a blinder a fagant ofn duw, yn y Sawl ai goddef, ac hefyd, yn y Sawl a glywant, ac a wyddant o hynny: ac felly mae lla­weryn cymryd siampl, ac addysc drwy hynn, ar na amcanant ddim yn amhwyllog yn erbyn ewyllys duw: canys ef yn gyfraithlawn a ddylid i ofni ai arswydo,Mat. 10. 28. 'rhwnn a ddichon ddwyn, a gosod arnom, bob bath ar ddialeddae, ac syd iddaw iawn achosiō, a hawl arnō, i, wneu­thur hynny: yr awrhonn ny ni yn wael ac yn weinieid ni allwn mewn mod' yn y byd, wrthnebu, na gwrth ryfela yn erbyn y nerthawg, ar galluawg dduw, nid allwn cy­meint a gwrthod ne droi ymaith y diwrnod lleiaf o'r acsus ne o'r crud [Page 97] crynnu: ie,Ex. 7. 10. nid allwn i rwystro, irr gwaelaf,Exod. 8. 6. ac irr dystyraf, o greadu­rieit Y byd,Exod. 9. 1. yn dialeddu, a'n aflo­nyddu: megys,Exod. 10 13. llau, chwain, pryfed, ar cyfryw gymyscbla,2. Mach. 9. 5. rhain, a fei­striasont,Act. 12. 23. ac a orfuont, rymus ac ar­dderchawg frenin yr Aipht.

Mae yn ddihareb wir,Exod. 20. 20 llaw a loscwyd vnwaith a ofna yr tan,Deut. 8. 2. ca­nys yn y synwyr ar deuall hwnnw,Barn. 2. 22. i doedodd Moeses wrth y bobl of­nus,Barn. 3. 1. ich profi chwi y daeth duw, ac i fod i ofn ef garr eich bronnau, fal na ffechech. Er ecsampl: pwy fwyaf ir ymdroe ac ir ymhelie yr Arglwyd' ynghylch Dafydd,2. Sa. 13. 30 dilusach yr oed' Dafydd yn edrych ar yr Arglwyd' ac yn i ofni: ac nid yn vnig Dafydd, eythr eraill hefyd, pann welsont, a phā ddeuallasōt ei trueni, ai gwae­led', a gymerasōt achos o hyn,2. Sa. 11. 27. i ofni2. Sa. 13. 31. duw n fwy nac y gwnaethēt or blaē 2. Sa. 15. 14. ac yn enwedig pan welsont,2. Sa. 16. 8. pa fod'2. Sa. 17. 22. i cospodd duw lawruddiaeth a godi­neb2. Sa. 18. 33. [Page 98] Dafyd', drwy derfyscae, cyfry­sed', celaned', ac a cholledan lawer o bobloedd.

Yr Scrythur lan syd' yn gosod o llaen ein llygaid ni, lawer or fath siamplau ofnadwy, fal na byddo i ni brisio ofn duw, yn yscafnbeth, ey­thr ofni o honom bob anwired', pe­chod, a ffieidd. dra.

Pan ddyger allan vn a fo trosedd­wr y gyfraith i dorri i ben, yw gro­gi, yw losci, ne mewn rhyw fodd a­rall yw ddihenyddio: eraill ar ai gwelāt ef, a ddyscant ofni, a gochel y peth ai dyg ef irr diwed' hwn: yn 'r vn mod' pan ddanfono duw ryw ddialedd, naill ai ar ryw rai yn en­wedic, ne ar 'r roll gyffredin, pawb eraill a ddylent ystyriaw o hyny, fal pe i baent hwy i hun, yn lle y rhai gorchrymedig hynny: ac fal pe i bae adfyd y rheim yn orthrymder ydd­ynt hwy i hunain, ac ofni duwn wel' a gwilio rhag cwympo o honynt [Page 99] hwythau, i gyfryw ddialedd duw.

Ac yn ddiau mae cymeint o achos ir da,Dihar. 11. 31. ar duwiol. i ofni, ac syd' ir an­wir ar anuwiol.1. Pet. 4. 18. Canys wrth hyn ir ystyr y ffyddlon, fod y trācedig ddi­aleddae hynn, yn arwyddion ac yn destimoniae eglur, or cospedigae­thae tragwyddol, syd' i ddyfod, 'rhai ynt fil stloeddo weithiau n fwy gofidus, ac heb ddiwed' yddynt. er wyd' pahā, yn gystal i adfyd ei hu­nain, a gorthrymder eraill, a rydd yddynt ddigon o achos i wellau, ac i ymwrthod ar peth, drwy 'r hwn y mae pawb oll, yn dwyn plaeae trag­wyddol, ar i gyddfe ei hunain. Yr Anwir ar anffy ddlonieit hwythau (oni fyddāt ry gildynnus, a gwrth­nysig, ac o bydd dim rheswm gan­thynr) a ddechreuāt hefyd ofni duw, a meddwl ynthynt i hunain fal hyn: gā fod duw 'n gofwyo,Ier. 25. 29. n scyrsio,Ier. 49. 12. ac'n ceryddu y da,Eze. 9. 5. ar ffyddlō,Dihar. 11. 31 drwy drym der, ac adfyd,1. Pet. 4. 8. rhai nid ydynt elfyd' [Page 100] anuwiol ac ym ni: pa wedd i di­engwn nineu 'rhai a hauddasom, ddengwaith,Ier. 25. 29. ie, vgeinwaith fwy di­aleddus cospedigaeth na hwynt hwy? creffwch ac ystyriwch (medd y Proffwyd Jeremi) canys wele mi a ddechrevais ddrygu y ddinas, yr honn i gelwir fy enw arni, ac a ddiengwch chwi? Canys yr ydwyf yn galw am gleddyf ar oll drigoli. on y ddayar, medd Arglwyd' y llu­oedd. Ac hefyd:Luc. 23. 31. os gwnant hyn irr prenn ir, beth a wnair i'r crin? Yr amser a ddaeth (medd S. Petr) i bydd rhaid, irr farn ddechreu ar dy dduw, ac os ydyw yn gyntaf yn de­dechreu arnom ni, pa ryw ddiwed' a fydd i'r rhai ni chredant efengyl dduw?

Ci diniwed, 'rhwnn ni wnaeth ddim drwg, a gurir yngolwg y llew, fal i byddo ir llew, pan wypo ddigio, a sorri i feistr, fod n fwy i ofn. A S. Grygor a escrifenna fal hynn.

[Page 101] Os yw duw yn ceryddu cyn drymed y rhai y mae ef yn i caru, pa wedd na chur ef yn dostach ac yn drymach, y sawl nid yw ef yn caru ddim o honynt?

Cristnogion, rhain a ddygant y groes, ac y dynt orthrymedig, a ga­rant dduw a mwy awyd', yngy­meint ag yddynt glywed ynghanol i hadfyd, yr hyfryd ddiddanwch, 'chwnn sydd yn dyfod oddiwrth ei tad nefol: o drigarog ewyllys pwy vn, nis gallant āmeu nac anobeitho.

Ci ffyddlon, er ei feistr i daro ef, eto fe ai car er hyny, ac a ymlewyd' ac ef drachefn: plentyn da er i guro, nid anllai i ceriff i dad ai fam, gann ddamuno i nawd' eilwaith: felly yn yr vn mod' mae meddylieu y gwir Gristnogiō, tuac at i tad nefol; ey­thr y cyfryw blant ac ydynt ddrigi­onus, ac anhynaws, pann i curer y­chydig hwy a ffoant ymaith oddi­wrth i rhieni gann furmur a grwg­nach yw erbyn.

Pen. 14.
Gorthrymder, ac adfyd sy dda, a buddiol, i ddys­cu ymynedd, vfudd-dod, a gostwngeiddrwyd'.

PEth enbyd yw balchder, or hwn ni ddaw dim daioni: yr awrhon llwyddiant, a dedwyddwch, trwy wnfyd, a fagant falchder, a dirmyg o eraill: eythr adfyd, a gorthrymder, a fagāt ostwngeiddrwyd', ac vfudd­dod, fal na byddo gwr falch yn ei farn i hun, eythr bod yn fodlon gan­thaw, brissio eraill, yn gystal ac ef i hun, gan gyfadde fod 'n angenrhaid iddaw, gael ei help ai cyngor.

Fal i'r arferir o gwttogi ne o dorri ynfyrrach escyll adar, ne ryw hedi­aid eraill, pan ddechreuont hedeg 'n rhy vchel, ne yn rhybell: felly mae duw yn lleihau, ein cyfoeth, ein me­ddianae, ein parch, ein anrhydedd, ein awdurdod, a'n gallu ninneu, rhag myned o honō tros ein terfy­nae, a balchio gormod or cyfryw ddonieu. Fal y mae 'r corff pan fli­no [Page 103] neu pan ddeffygio Gan waith a gorchwyl, yn damuno cael segurud ag esmwythdra i orffwysaw, felly yr enaid, pā i llwyther, ne pā i gor­thrymer, gan adfyd, a chledi, a ffan i dyger i gyfyng dra, yno i prysuriff at lonyddwch ag esmwythdra, ac nid oes dun y pryd hynny ai trwblia n llai, na balchder. Nabucodonozor,Dan. 3. 1. a ffrostiod' oi allu, oi weithredoed' bu­ddugoliaethus, oi gostfawr adeilad,Dan. 4. 3. ac ydoed' falch aruthr o honynt, ey­thr yn ol i gwymp ai gledi, ef a ddyscod' roddi ol' foliāt, anrhyded', a gogoniant i dduw.2. Cor. 12. 7. 8. &c. Pawl sy 'n cy­faddef dderbyn o honaw gernod gā gēnad Satan rhag ymffrostio o ho­naw allan o fesur, mewn llawndra gweledigaeth. Mae arfer hefyd in dyscu, pa wed' pann dreisier, ne pan ysbeilier gwyr cyfoethawg, go­didawg, arbēnig, a beilchiō, oi cyfo­eth: hwy 'n ol hyny a fyddāt Ufud'­ach, difalchach a boneddigeiddiach: [Page 104] canys, yno i deallant, mor ansiccr, ag mor ansafadwy, yw pethau am­serol trancedig, ac felly, hwy a ddys­cant tra fyddōt fyw, goelio llai ydd­ynt i hun: gann hynny trwbl ac ad­fyd ydynt yn fynych mor angērhei­diol i wyr, ac yw bwyd, a diod. Y groes, blinder, ac adfyd, a wnant wr yn war, yn ddof, yn ymynyddgar, yn sobr, yn gariadus ac yn hawddgar, tuac atto i hun ag eraill hefyd.

Dryllo hayarn, ne arian, rhwn a gurir, ne a gymynir a mwrthoyl, a wnair yn lledach yn denevach, yn llyfnach ac 'n feddalach, felly carre­gog a chledion galonnae dynion, drwy orthrymder, ag adfyd, a wnair, yn estwythach, ac yn ystum­garach, fal i galle wr (fal pe i doe­did,) i crydeddu o amgylch i fys.

Ebol farch gwyllt, lledffrom, a roddir geneu-fach, ne snaffl yn i bēn rhag iddaw frathu, y sawl ai teim­law: felly ffrwyn o adfyd a blinder, [Page 105] an lluddia, ac an rhwystra ninau, ('rhai ym bengledion, anosbarthus yn llawn digased', malais, a drigio­ni) i wneuthur anwired', ffieid'­dra, nac anghariadoldeb yn ein by­wyd. er ecsampl. Y cynddeiriog, ar cythreulig frenin Manasses, ydoedd war,2. Bre. 21. 1 [...] a dof ddigon, gwedi vnwaith i rwymo, i ddal yn garcharwr, ai ga­ethgludo ymaith.2. Cro. 33. 1 [...] Pawl yn agos at Ddamasco a drawyd i lawr me­gys blaid' rhuadus,Act. 9. rheibus, eythr ef a gyfodod' i fyny cyn vfudded ag oē.

Pen. 15.
Trwbleth, ac adfyd, a ddyscant i wyr drigaredd, tosturi, ac ymynedd, tuac at eraill.

MAe 'n rhinwed' Gristnogaid'Eccl. 7. 2. angenrheidiol,Mat. 11. 2 [...]. drigarhau aIoa. 13. 14. thosturio wrth bobl mewn adfyd Ruf. 15. 7. a thrueni.Gal. 6. 1. Eythr y Sawl ni chafod' erioed ddim profedigaeth, adfyd, na gwrthwyneb i hun, ni ddichon ef [Page 106] drigarhau na thosturio wrth arall ond ychydig. Vn gwr claf, a wyr an­ge ac eisieu y llall, ac vn tlawd yn 'r un mod' a wyr oddiwrth y llall: ac felly hefyd, yr vn syd' mewn trueni, a blinder i hunā a wyr 'n well oddi­wrth glwyf y sawl syd' n r vn cyflwr

Er ecsapl. pahā, ne am bwy achos y dichō yn Archoffeiriad ni, Crist, gymryd y fath drigared' a thosturi arnā, wir bechadurieit, fal i beidd­iwn n hyderus ddyfod hyd attaw ef, ac yn gysurus heb ofn, ac edrych am swckr, cymorth, a diddanwch, ar i law ef? yn ddiau am 'r achos hyn a thrwy hynn, [...]eb 2. 18. fal i doedawd' S. Pawl, sef) am ddioddef o honaw, a bod profedigaeth arnaw ef i hunan.

A chynefindra ag arfer a ddyscāt hyn hefyd: [...]aud igna­ [...] a mali, mi­ [...]eris succur­ [...]ere disco cans pwy bynac a fu vn­waith i hun yn glaf mewn hospytu, ef a ddichon dosturio yn well wrth eraill a ydynt yn 'r vn cyflwr: ac y mae ef byth wedi, yn barotach, ac 'n [Page 107] haws gantho Gynorthwyo y sawl syd' yn 'r vn ffunyd. Yr ardder­chawg ar wyrthfawr rinwed' ('rhō a elwir) ymyned', ni chaiff le i ddodi i ffenn yn amser llwyddiant.

Pan fyddo gwr yn iachus, ac yn ddi-ddolur dros hir āser, ni ddichō ef gymryd i ddolur yn y man, mor ymynyddgar ac i dyle: ac yn 'r vn mod' y neb ni chafod' erioed ddim blinder na chledi, pa bryd bynac i digwyddo dim arno, ef a gythrudd­ir yn ddirfawr gā anioddefgarwch: eythr adfyd a ddysc i wyr ymyned', ac ai meithrin ynthi: cans 'n gyntaf pā welo gwr fod pob peth 'n myned 'n ol llaw ac n i erbyn ef, heb obaith gwellad, ond waethwaeth: beth syd' iddaw ef āgenach yw wneuthur, na throi 'rangē hyn n rhinwed'. ac felly e fyd' bodlō ac abal gāthaw, pa fod' bynag ir elo pob peth gidag ef. Yn ail pann arferir gwr yn oestadawl mewn trwbleth, ac adfyd, 'r arfer ar [Page 108] ddefod hon a wnaiff hyny yn yscafn ac yn emwyth iddaw yn anwedig drwy ystyriaw ir helpa i cynorthwy a,Ruf. 5. 3. ac i confforddia duw ef. S. Pawl a ddywaid: gorthrymder a ddwg ddi­oddefgarwch, a dioddefgarwch, bro fiad, Luc. 15. 19.a ffrofiad obaith, a gobaith ni cwilwyddia. Y mab disperod, coll­edig, a ddyscod' y cyfryw ymyned' yn i drueni, ai flinfyd, fal y doedodd ef wrth i dad, na chymer ddim o ho­naf, ac na wna i mi o hynn allan, fal i fab, ond fal i was cyflog, nid wyt'n damuno dim oll, ōd cael trigo 'n dy duy di: n'r vn mod' i dylē nineu, od' ef pob peth yn ewyllyscar, a thrwy ymaros, beth bynac fyddāt, os duw a gynwys i ni dario o fewn i dy ef. Ir Ardderchawg, cenedlic wr So­crates, ir oedd dai wraig anynad, ddrwgnwydus, er y perwyl hwn, sef er bod id'aw drwy ddyscu ymyned' gartref, oddef n well ac n fwy ymar hoys, y bobl, rhain i ddoed' iddaw ef a wnele a hwynt oddigartref.

Pen. 16.
Gorthrymder, ac adfyd, a gledant, ag a gryfhant wyr, ac a ddyscant yddynt sobrwyd' a chy­medroldeb.

Ych' rhwnn a ymbawr ar dir my­nyddig a soflud' geirwon, syd' gledach i garneu, a gwell i dynnu ac i lafurio, na'r hwnn a borther mewn porfa fraisc, ac adlad' medd­alaid':

Y Plant a fegir wrth dan estron ydynt y rhann fwyaf, yn gledach ac yn gryfach, nag ywy rhai a fager yn gu ac yn anwyl, mewn gormo­ded', hoywder, a mwy na digoned', ynhai i tadau i hunain: felly yn'r vn mod', synwyr a meddylieu gwyr, drwy wnfyd a llawndra, a wnair yn fuscrell ac 'n weinieid, yn rhianaid' ac yn ddiffrwyth: ond pann i rhwy­strer drwy ryw boenus angen, ac [Page 110] adfyd, hwy a wnair yn gledach, 'n gryfach, yn wrolach, ac yn sobrach. Er ecsampl.

Y Sancaid' Apostolion anwyl, pwy fwya fydde 'r erlid, ar adfyd arnynt, hyfach, cryfach a mwy Sa­fadwy fyddent, fal i tystia gwei­thredoed' 'r Apostolion.

S. Pawl a ddywaid:2. Cor. 12. 10. am hynny yr ymddigrif-haf fi mewn gwen­did, mewn ammarch, mewn angen, mewn erlid, ac mewn inger mwyn Crist, canys pann wyf wann, yna yr wyf gadarn.

Pann wypo 'r Physygwr, y bwy­tu y claf sy dann i law ef ormod, ac i'r aiff yn rhy dew, ef a ddechreu scario arnaw, a rhoi iddaw i fwyd wrth fesur, ac felly wrth brinhau peth arnaw, ef ai adferiff yw iechyd drachefn ac ai gweryd; yn 'r vn mod' pann gam arferom nineu, yn warthus, win, yd, bara a diod, ac eraillo ddoineu a chreadurieit [Page 111] duw, er mantimio medd-dod, sur­ffedau, gormodoed' ac wttres, yna i ceryddiff duwni, anewyn, dru­dameth, tlodi, ne ryw blae eraill, fal i dyscom drwy hynny fod yn gy­medrol ac chadw mesur, ac arferu i ddonieu ef yn ddiolchgar. fe a ddoe­dir: mae cystud' awr awna angho­fio daintethion.Eccl. 11. 28. Ac felly i'r angho­fiod'2. Sa. 113. 4. &c. Dafyd' 'n brysur ei drachwan­tus wrhydri, ai drythyllwch 'n oll­awl, pann yrrod' Absalon ef allan oi deyrnas.

Pen. 17.
Blinder ac adfyd a ddyscāt i wyr ddir­mygu, distyru, a dibrissio'r byd, a bod 'n ddiwid, ac 'n ddyfal, mewn pob duwioldeb, a rhinwed'.

Y groes ac adfyd, a dynnant oddi­wrthym gariad tu-ac at y byd, ac a darfant yinaith oll beryglus, a [Page 112] daintethus wnniau, a thrachwan­tae, y bywyd trancedig hwnn: ni a fynnem pe i baem gyfoethogion, eythr duw a ryd' i ni dlodi: nyni a chwenychwn iechyd corfforawl, ey­thr, duw syd' 'n rhoddi clefydae, ac felly ef an maethdriniff ac a'n arfe­riff ni, mewn trneni ac adfyd, fal na wypom hayach, beth yw byw 'n ddaintethawl 'n esmwyth, ac 'n hy­fryd: ac fal hynn i dechreuwn ddir­mygu, a ffieiddio oll pethau trance­dig, a disyfu pethau eraill gwell, a gwerthfawrocach, sef, y bywyd tragwyddol, lle i diweddir pob ad­fyd a thrueni.

Y neb a gymero daith yn llaw, ac a aiff i wlad ddieithr, nid hwyr­ach iddaw pann ddelo ef i ryw dref hyfryd, lle i cydgyfwrd' a chymdei­thion llawen, ac a chyfeillion da, dreiliaw 'r amser, ac aros 'n rhy-hir gidac hwy, ac felly anghofio i deu­luy, ai bethau gartref, ond os dig­wyd' [Page 113] iddaw ef vn tramgwyd' ger­win, yn ol vn arall ef a brysuriff ad­ref'n gynt, at i wraig, ai blant, lle i caiff fwy o esmwythdra, a llonydd­wch: yn 'run mod' pann ddigwy­ddo dim or pethau trancedig hynn i ninau, mal, cyfoeth, iechyd, pryd­ferthwch, bud' lawer, anrhyded', ag vwchelfraint, os bwriadwn vn­waith arnynt, ag ymddigrif-hau ynthynt, yn gymeint, ac i bwriwn ne i prisiwn 'n llai, y nefawl fywyd, yno i gwnaiff duw y fford' yn arw, ac yn gnyckus ini, yma yn y byd hwnn, rhag cymeryd o honom y by­wyd trancedig yn y byd hwn, yn lle ein iawn wlad naturiol, tu-ac at bwy vn y mae ein taith a'n siwrnai. er ecsampl.

Nid oed' gann blant'r Israel fawr chwant,Psal. 137. i ganu ac i chwareu ar i hyfryd gerdd-dannau, tra eist­eddent fal carcharwyr o ddeutu i afonyd' Babilon.

[Page 114] A hynn a ellir i weled ai brwfio yn eglur yn y rhai y syd' yr awr­hon, mewn rhyw glefyd peryglus, neu mewn carchar caled, ne mewn cyfyngder a thrueni: y rhai oedd­ynt or blaen ry fwythus ar fwyd a diod, rhy hoew mewn dillad, ac 'n i ymroi i hunain i ddownsio, i gell­wair, i chwareu, i chwerthin, neu i'r cyfryw ddigrifwch fydol. Ca­nys y groes ac adfyd, drwy drist­wch, a escubant ac a lyfant ymaith yr oll bethau hynny, cynn llwyred ac y cawd' yr haul gwresog, yr ei­ra. Heb law hynn, y neb syd' dlawd, ac'n gyfing arnynt, yd ynt barotach bob amser i ymadel ar byd hwnn, na'r sawl syd' ganthynt gyfoeth, iechyd, a ffob dedwyddwch yn ol i meddwl ai ewyllys: ac am hynny Saint Awssin yn i lyfr ar y gre­do, neu de symbolo a scrifenna fal hynn.

Edrych pa fod' i cyflawnod' ac [Page 115] i llanwod' duw'r byd, a chymeint o flinderoed', ac a chymeint o or­thrymderon trwblus: y mae ef yn chwerw, ac etto fo ai cerir, y mae ef yn serfyll ac vn barod, i gwym­po, ac etto ef a breswylir: odydi fa'nwyl anwylyd fyd beth a wna­em ni pe i bait ti felys, safadwy a pharhaus, gān i wneuthur fal hyn 'rawrhonn? O dydi fudr ac aflan fyd, os wyd chwerw, ac etto yn ein twyllo, ac yn ein sommi, pwy nis somir ac nis twyllit pe i bait felys a hyfryd.

Ac nid yw'r groes 'n vnic'n ein gw­thio ag yn ein cymell rhagom, i bob rhin wed', ac yn ein rhoddi mewn meddwl o bob du wioldeb, eythr y mae yn bywhau, ag yn nynnu ynom hefyd, ddiwydrwyd' ac awyd' i fy­ned rhagom, ymhob daioni, 'n ner­thawg, 'n hyderus, 'n ddyfal, ac yn wraid', ac nid yn ddiog, ne 'n fethiant.

[Page 116] Fal y mae'n rhaid weithiau i wr, sparduno i farch, er i fod 'n farch da, bywiog, er iddo fyned yn i flaen a rhedeg yn ffestach, ac yn brysurach: felly yn 'r vn mod'm allwn nineu fyned rhagom, yn ein swyd' an gal­wedigaeth mor brysur, na chystal ag i dylem, oddieithr ein gwthio rhag ein blaen, a llymion yspardu­nau a frewyllau.

Pann geryddo y meistri was di­og, diddarbodus, segurllyd, yno ef a weithia yn ddilusach, ac y mae ef 'n fwy buddiol iddaw: felly nineui gyd y rhann fwya o honom, ydym o natur y cyfryw ddiog a segur­llyd weision: 'rhai ni wnawn ddim yn iawn, oddieithr ein cymell a'n gwthio o'n a'nfod', a'n curo a'n chwipio at yn gwaith. Er body rheini yn weision diffaith, rhai ni wnant ddim, oni byd' gwr'n oesta­dawl ar ffonn ar i cefnlle, ie, ac er hynny ni wnant ddim 'n iawn: etto [Page 117] ni ddyle wr byth beidio ai gwthio, ac ai cymell, nes yddynt ddechreu gwellau, a gwasnaethir'n ewyllys­gar ac 'n vfud': felly yn 'r vn mod', er nad eos vn gwasanaeth cymelle­dig yn rhyngu bod' duw, etto arfer a meithrin mewn daioni beunyd', a ddichon or diwed', i wneuthur mor hyfryd ac mor felys i ni, fal i cym­rom ddifyrwch a ffleser ynthaw.

Pen. 18.
Blinder ac adfyd ydynt achosion, a chymorth, o lawer diogelwch trancedig, a bud', yn y byd hwnn.

HYd hynn y dyscasom, y bud' ysprydawl syd' yn dyfod o ad­fyd, drwy bwy vn i cynysceiddir ac i'r addurnir enaid dyn, a doethineb affob rhinwed'. yrawrhon gedwch weled pa fuddiau bydol, syd' 'n fy­nych 'n cydgymdeithas, ac yn calyn, [Page 118] adfyd a gorthrymder.

Y Sawl syd' 'n trigo mewn nen­tyd, ac mewn, isel a dyfnion bres­wylfeud, nid chwaith hawd' i ni­weidir gann fellt: yn 'r vn modd, yr isel o rad', ai ceidw ac ai ymddiffin i hun, 'n sicrach ac a llai perigl, yn erbyn pob bath ar demestl.

Mal y mae llysieu ag aroglbethau gwyrthfawr, costus, 'n rhoddi gwell lawr ac arwynt, pann i siger, pann i morterer, ne pann i rhodder ar y tan: felly clod a chanmoliaeth rhin­wedd, drwy oestadawl arfer, a meithrin, a thrwy adfyd, a dae­nir oddiamgylch, ac a wnair yn e­glur, ag 'n wybodedig ymhob lle: Er ecsampl.

Pa fawr anrhyded',Gen. 20. a godidawg glod a chanmoliaeth ydoed' i Abra­ham yn y diwed', am iddo fyned all­an oi wlad i hun, ar grwydr, ac yno goddef dirfawr drwbleth, a gor­thrymder lawer.

[Page 119] Plant'r Israel, a gaethiwyd, ac a orthrymwyd yn aruthr yn 'r Aipht, eythr hwy a dywyswyd allan ac a ryddhawyd drachefn, ar fath ogo­niant, ag ardderchowgrwyd', ar nas clywyd, ac nos darllenwyd, e­rioed, or cyfryw.

Crwydriad Ulisses ar for, dros ddengmlyned', ydoed' achos iddaw ef i feithrin, ac i arferu i ddoethineb, ac eraill oi rinweddae da, yn y cy­fāser: tal i cates ef wrth hynny enw anfarwol ymhlith y cenedloed'.

Ac i ddoedyd ar ol mod' ac arfer cyffredinol, nid oes vn llawenyd', na gorfoled', heb ryw dristwch a thrymder'n myned oi flaen.

Wyneb blwyddyn syd' fwy cyme­radwy, hyfryd, a chroesafus genym, am i fod yn calyn, ac yn dyfod 'n ne­saf, at y garw, ar gerwin avaf.

Yn y rhyfel pwy dosta in am­gylchiff ein gelynion, ac i'r ymla­ddāt in herbyn, mwya fyd' y llaw­enyd' [Page 120] ar gorfoled', pann i gorch­fygir, ac i goresynnir hwy. y sawl a fu orweddiawg, dros amser mawr, ac 'n glwyfus dros hir dymor, we­di iddaw iachau mae iechyd yn dry­sor gwyrthfawroccach ganthaw, nag or blaen, cynn iddaw wybod beth oed' glefyd: ac hefyd, y sawl oeddynt alarus a phruddion o ble­git i ddolur ef, a lawenychant, ac a orfoleddant yn ddirfawr, pann i'r adferir ef eilwaith yw iechyd. felly mae duw'n dwyn oddiarnom dros amser, ein golud, ein cyfoeth, a'n llwyddiant, ein gwlad naturiol ein iechyd corfforawl, ac eraill o'r cy­fryw ddonieu trancedig, er y per­wyl hwnn, sef, pann i rhoddo ef hwynt hwy i ni drachefn, fod o ho­nom yn llawenach, ac yn fwy gor­foleddus o honynt.

Ecsampl syd' gennym,Mat. 18. 12. o hynn, or ddafad gyfeiliornus,Luc. 15. 12. ac or mab dis­perod, am bwy rai yr ydoed' y fath [Page 121] lawenyd' pān i caed drachefn, ac na buasse fyth mor fath, pe i buasent heb golli erioed, yn gymeint ac or blaen ni chymeresyd gofal nac alar am danynt.

Yr aw rhen oni chawn, ac oni ad­ferir ni byth eilwaith, yn y byd hwn, y peth a gollasom, etto mae 'n cydwybod yn ddiogel ac yn llawen ynnuw: yr hwnn ddiogelwch a llaw enyd', syd' ymhell yn rhagori, ar oll lawenyd' y byd: ac i ddoedyd mewn byrr o eirieu, ar ol trwbleth ac ad­fyd, i calyn pob daioni a dedwydd­wch. yn gyntaf, yn gymeint a bod duw, yma yn y byd hwnn, yn gobr­wyo ac yn aildalu duwioldeb, ymy­ned' a duwiol ddian wadalwch, yn gyflawn ac yn helaeth. yn ail, yn gy­meint, ac mae hyn yw natur, a phri­odoldeb duw,Deut. 32. 35. sef, taflu i lawr fal i derchafo eilwaith,1. Sa. 2. 6. a dwyn hyd ac byrth angeu,Tob. 13. 2. fal i gallo eilwaith ad­feruDoeth. 16. 13. i fywyd.

[Page 122] Rhos cochion 'rhai ynt y blodeu prydferthaf, a flagurant, ac a dyfant allan o'r drain pigog: felly, yn 'r vn mod', ofawr boen a thrafaul, y ty­fiff y frwyth prydferthaf.

Y wenynen fechan a gascl y mel melysaf, or llysieu ac o'r blodeu chwerwaf; felly gwyr o ddoethineb adeuall, a gāt, fud' a ffrwyth mawr oi blinder ai adfyd presemol.

Er ecsampl: Ioseph a gas-haed gann ei frodyr,Ge. 37. 5. 28. ac a werthwyd i wlad bell ddieithr: 'r hwnn beth a droed er mawr anrhyded', bud', a lles iddaw ef, am iddaw fod yn Ar­glwyd', ac yn llywodraethwr, ar oll frenhiniaeth'r Aipht.Ge. 41. 40.

Pwy fwya yr ymcane y creulon Pharao orthrymu a difa plant 'r Israel allan oi dir, fwyfwy i llwy­ddent, ac i'r amhlaeut, i rifedi anei­rif.Exod. 1. 12. Ni adawod' y cythraul ddim i'r duwiol wr Iob,Iob 1. eythr ef ai ysbei­liod', ac a ddygoddiarnaw, cy­meint, [Page 123] oll ag a fedde ef, eythr yr Arglwyd' a adferod' iddaw ef dra­chefn y cwbl yn ddaupeniog,Iob. 41. 12. a hynny yn y byd yhwnn.

Y neb sy 'n craffu ac 'n ystyr 'n dda gwrs y byd, a ddevall, pa wed' i dig­wyd' i wr weithiau yr hwn oed' ddi­bris 'n i wlad i hun, lle i adweinid ef, ac a yrrid oi wlad: ddyfod at bobl eraill,' rhain a dybiant yn dda, ac a wnant yn fawr o honaw: ie, ac ai an­rhyde ddant yn barchus. Ac felly 'n fynych o amser, adfyd, a gorthrym­der gwr i hun, a droes yn fud', ac yn lles godidawg iddaw.

Pen. 19.
Trwbl ac adfyd an cynorthwyant i'r bowyd tragwyddol.

GOrthrymder ac adfyd y duwiol, sy'n rhoddi yddynt destiolaeth odidawg o amarwolaeth, o gyffredin farn, ac hefyd o fywyd tragwyddol: [Page 124] canys y mae 'n amhossibl fod y cre­durieit goreu, 'n vnic gwedi i ordei­nio ai creu i bob artaith a phenyd, ar rhai gwaethaf ac annwiolaf i ddiainc'n ddigeryd'; e fydde hyn­ny yn llwyr yn erbyn cyfiawnder duw. yrawron mae'n eglur, na we­lir gwahanieth ar y ddayar honn, rhwng Paul a Nero, wrth ystyr gwobr y ddau: ie, y duwiolaf, ar mwyaf i rinwed' syd' yn gyffredi­nol waethaf i hap, a lleiaf i obr: Er­wyd' paam, mae 'n angenrhaid, fod bowyd arall i ddyfod, lle i caiff pob vn ar ol i ryglyddiad yn i fo­wyd, ar y ddayar honn. a thra­chefn: y fford' groes a ordeiniwyd i fod yn iawn fford', i'r bowyd tra­gwyddol.

Mal yn gyntaf i dyrnir 'r yd, i nithir, ac i purir oddiwrth yr vs, ac yno fe ai rhoir i fyny, ac ai cedwir yn 'r yscubor; felly Cristnogion ar y ddayr, a gurir, a labuddir, ac a [Page 125] amherchir, drwy bwy fod' i certhir ac i glanheir hwy, oddiwrth lawer o wyg ac amhured' gwag arferu, ac felly hwy a ddygir i'r scubor drag­wyddol, sef, teyrnas nefoedd.

Fal na ddichon neb orfoleddu yn y maes, a chael ei goroni, oddieithr iddaw ymlad' a rhyfela'n wrawl, (yr hynn beth ni ddichon fod heb perigl mawr, poen, a thrafael,) felly ni ddichon neb gael y goron, o'r bo­wyd tragwyddol, heb oddef o ho­naw 'n gyntaf drwbleth mawr, tri­stwch ac adfyd.

Rhaid i'r claf gymryd y ddiod, ar feddyginiaeth, er sured, ac er chwer wed fyddo, er mwyn iddaw gaffa­el drachefn i iechyd, a dianc rhac marw: felly nineu pann oddefom law dduw in rhwoli ac in ordrio (drwy fod 'n fodlon ac 'n oddefus i hynny) er iddaw ferwino, a dolurio ychydig, etto fe a wnaiff les, ac a'n helpiff, ir bowyd ac i'r iechyd trag­wyddol: [Page 126] yr scrythyr lan a dystia hynn.

Gwynn en byd y rhai galarus,Mat. 5. 4. canys hwynt a ddiddenir.

Cyfing yw 'r porth, a chul yw'r fford' sy 'n arwain i'r bywyd ac y­chydigMat. 7. 14 syd' yn i chael hi.

Gwyn eich byd y rhai a wylwch 'r awrō, canys chwi a chwerddwch.

Trwy lawer o gystud' y mae'n rhaid i m fyned i deyrnas dduw.Act. 14. 22.

Os ydym ni yn blant,Ruf. 8. 17. yr ydym ni hefyd yn et ife ddion, os yn etifeddi­on i dduw, yna yn gydetifeddion a Christ, ag os cyd-oddefwn ag ef, fe a'n cydogoneddir hefyd gyd ag ef.

Yn y geirieu hyn yn eglur, i den­gys S. Pawl fod yn rhaid i'r hwnn a fynno gyd-teyrnasu gida Christ, redeg hefyd trwy 'r tan, gidag ef.

Ac am hynny pann in bernir,1. Cor. 11. 32. ein cospir gann yr Arglwyd', rhag ein damnio gyd ar byd.

Pen. 20.
Pa wed', ne fa fod' y dichō adfyd a gor­thrymder, fod mor fuddiol, a chymeint i rhinwed', gann fod yr anffyddlo­nieit yn myned yn gildynnach, ag yn warrgledach, drwy or­thrymder ac adfyd.

HYd hyn i dangosasom y bud' ar lles cofforawl ag ysprydawl, trancedig a thragwyddol, 'rhwnn a dderbyn Cristnogion drwy y gro­es, adfyd, a gorthrymder: yr hyn ni ddylid y gymryd nai ddeuall fal hynn, sef, bod y groes ac adfyd, o ho­nynt i hun, ne oi natur i hun 'n gall­ell dwyn a gweithredu y cyfryw ar­dderchawg lesad, canys felly y ga­llase Pharao, ac eraill o'r anuwoli­on, yn i trwbl ai adfyd, droi a bod yn gadwedig hefyd: eythr yspryd duw syd' yn gorffowys yn ddirgel ac yn gorwedd yn guddiedig yn y ffyddlonieit dann wascod a rhisc gorthrymder ac adfyd, ac syd' yn i [Page 128] carthu, yn i glanhau, yn i cysuro, ac 'n i cadarnhau hwy, ac syd' 'n gwei­thio yr oll ragddoededig fuddiau ynthynt hwy.

Yr awron mal y mae'r scrythur lan yn gaddaw gwobr sicr, in gwei­thredoed' da ni, rhain weithredoed', er hynny, nid nyni fyd' yn i gwneu­thur, ond 'r Arglwyd' yr hwnn an cymer ni megys yn offer weithiaw; felly y mae 'r groes yn offer weithi­aw i dduw, drwy bwy vn y gorchfy­ga ef ein cnawd ni, in ceidw mewn yscol o gospedigaeth ac a'n cymell mal wrth gil gord' oddrwg, i dda. yrawron ple bynac y cymero yr ys­bryd glan i orffwysle, y rhann fyny­chaf, ef a ddenfyn arlwy wyr a rha­gredegwyr, rhai ynt, tristwch, ad­fyd, trwbleth a gorthrymder, fal y byddo yddynt drallodi, trafferthu, vfuddhau, darostwng, a dwyn i lawr galon dyn, ac 'n ollawl i gorchfygu, fal y caffo yr yspryd glan fwy lle, i [Page 129] weithio pob duwioldeb ynthi.

Ac am hynny beth bynag a ddoed­wyd hyd hynn, yn anwedig am yr ysprydol fud', rhwn syd' 'n dyfod or groes, ac adfyd, y mae, agfelly y pe­ru rhag llaw yn wir oll; os dehellir am y ffyddlinieit ar duwiol, rhain a gynesgeiddir, ac yspryd duw, i bwy rai y try pob peth er i diddanwch ai iechydwriaeth. Ac yrawron or ty a­rall er mwyn deuall y peth yn well, mi a fynegaf, ac a ddāgos af pa beth y mae adfyd yn i weithio yn 'r an­ffyddlonieit, ar anwir, rhai ynt dde­ffygiol o yspryd duw yr anffyddlo­nieit sy yn rhoddi yr achos o'i llwy­ddiant, ai dedwy ddwch, yw doethi­neb, gweithred ai synwyr i hun, ac nid i dduw: ac oi trychineb ai adfyd, i ryw drwg ddāwain, fal pe i bae allu i ffortū ne i ddāwain wneuthur dim o honi i hun, heb weithredu o dduw.

Cymer Senacheryb Arglwyd' a2. Bre. 19. 3 [...]. llywodraethwr yr Assuricit, er ec­sampl: [Page 130] yr hwn drwy hir oddef duw addyg 'r oll syd agos yn ddarostyn­gedic tano: yr hwnn beth a rodde ef yw allu ac yw synwyr, i hunan, ac nid i dduw: canys ef a gasaod' ac a gabled' wirdduw 'r Israel.' Eythr ar fyrder gwedi, y danfnod' duw i Angel, rhwnn a laddodd mewn vn noswaith, gāt, pedwar vgain a ffum mul, oi wyr ef: ac er hynn i gyd ni chydnabydde ef mae duw a wnaethe hyn: tebygu yr oed' ond antur, mae rhyw ffortun, ne ry w beth arall o­ed' yr achos o hynn: cans pe i base iddo ef gydnabod, fod y cospediga­eth hynn yn dyfod, a gwedi i ddan­fon, oddiwrth dduw,2 Bre. 17. 17 ni addolase ef fal y gwnaeth, wedi, yn heml euly­nawly gaudduw ar d'elw Nesrach.

Yn 'r vn mod', pann ddigwyddo dim trychnebus i'r anuwolion, hwy a feiant yn vnig, ar y peth cyntaf, a feddyliant am dano: ne yn an wire­ddus hwy a fwriāt y bai ar 'r oll rai1. Bre. 18. 17. [Page 131] nid ydynt oi ffyd' ne oi crefyd' hwy: er ecsampl: Pann beidiod' aglawio dros dair blyned', a chwemis, 'n am­ser Achab brenin Israel, y brenin a edliwiod' hyn i'r duwiol Broffwyd Elias. Yn yr vn mod' yn ein amser nineu, pan niweidio temestl yr yd, y gwin, ac eraill o ffrwythae y dday­ar, llaweroed' a griant allan ac a ddoedant, nid rhaid i in ddiolch hyn, ond i'r ddysceidiaeth ar ffyd' ne­wyd' honn: fal pe i baent hwy i hu­nain mor Sainctaid' ac na feiddie dduw, neu na ddyle ef ddim i cery­ddu hwy.

Ni ddichon dim ond y defeit tru­ain, gymyscu y dwfr i rwystro i'r blaid' yfed, ie, ernas deuant, ond yn vnic ar y dorlan, ac yfed o lann yr afon. Ac hwytheu, hefyd, 'rhai a gowsont bethpraw o'r Efangyl, ni fedrant oddefi hadfyd yn odde­fus, nai cyfaddef i hunain yn e­uawg: Eythr hwy a fynnent ysc­wyd [Page 132] y bai oddiarnynt i hun, ai roddi, ar y llywodraethwyr, ne ar y pregethwyr, neu ar ryw beth ar­all: ac er bod i pechodeu hwy yn bentwrr aruthr, ac er hod duw yn ewyllysio, i dwyn i edifeirwch, drwy i cospi, ai ceryddu, etto ni fe­drant ystyr trymfaich i pechodae, na gweled eglurwch cyfiownder duw,' rhwnn ni ddichon adel vn pe­chod heb geryddu: ac yn gymeint ac na chymerant y bychan, ar ys­cafn gospedigaeth hyn, yn ddiolch­gar, eythr chwenychu diame yn ddi­geryd' bob amser, (o cant i dewis) am hynny y denfyn dnw arnynt or diwed', blaee a ffoenus ddialeddae, yn bentyrrae: ag felly y digwyd' y­ddynt hwy, fal i'r assyn, 'rhwn a ro­esid i groen, ar y drwm neu 'r tab­wrd', (yn ol i ewyllys ai ddysyfiad i hun,) ac a gurid yn ddau mwy yno nac erioed or blaen, fal y testiolae­tha Aesop.

[Page 133] Ac yn gymeint ac yddynt hwy, drwy angrediniaeth a diffig ffydd, (yr hyn yw gwreiddin pob cabledd a ffieidd-dra) na ystyriant ac na cho­fiant pwy yw ef syd' yn gosod i law arnynt, neu er gwybod mae llaw dduw ydyw, ni chymerant 'n lle da, ac ni wellant yn amgenach, na chwrf sur yn yr haf, hwy a wnair yn gyffelyb i blant asprus, rhai ni thro­ant, ac ni wellant, er dwrd, nac etto er i curo. Ac am hynny y testia yr Scrythur lan yn dda: vn sen a ddy­chryn y call yn fwy na ffe i baeddidDihar 17. 10. y fol ganwaith. Er ecsampl: pwy hwy af a ffwy dostaf y cerydde dduw Pharao, cildynnach oed' ef'n yscogi ac yn llithro oddiwrthaw.

Yr anwir ar anuwiol, nid yn v­nig ni chymerant achos i gyweiri­aw, ac i wellau i buchedd er ei adfyd ai tristwch, eythr hwy hefyd a dy­walldant allan, bob bath ar aniodd­efgar wch, chwerwedd, agwenwyn [Page 134] atcas, 'n erbyn cyfiownder duw, gā ddoedyd, fod i croes hwy yn fwy o lawer, nai troseddau, ai bod hwy yn eael cam, ai ceryddu yn rhydrwm heb achos. Ac o hynn, mae genym si­ampl, o vn or lladron, yn crogi ar y groes gida Christ, yr hwn ai cab­lod' ef gan ddoedyd, os ti yw Crist, gwared dy hun a nineu hefyd: yn y geirieu hyn, mae ef yn dangos i fod ef yn i farnu i hun, mor deilwng o gymorth, ac ydoedd Crist mab duw. fal pe i bae yn rhaid i dduw angofio i holl gyfiawnder, a helpio yn y mann bob pechadur cablus, at edrych megys drwy i fysedd ar y byd anwireddus, yr hwn yw vn or cabledd mwyaf a ddichon fod tuac at dduw. Ac wedi yddyn ymdra­baeddu yn i pechod, (canys duw ni helpa ddim o hanynt, am nad oes ganthynt goel na gobaith ynthaw) gann geisio cymorth gann greadu­rieit, yn gystal yn y nef ag ar y [Page 135] ddayar, ac heb gael dim, yna y de­chreu i croes hwy, ai adfyd egoryd illygaid, mor llydain, fal y byddo angenrhaid yddynt weled, a chy­faddef, digofaint a llaw dduw vwch i penn.

Ac yna y bydd yr adfyd ar tri­stwch hwnn oddi allan, yn nyn­nuynthynt ofn ac ammeu oddifewn1. Sam. 31. 4. or hwn y tyf 'r anobaith mwyaf, fal ygwaeddāt ar Ddiawl,Flectere si nequeunt superos, A­cheronta movebun [...]. yw cynor­thwyaw, os duw ni ddaw a help y­ddynt: canys er i bod wedi i dwyn i adnabod i pechod, ac hefyd, i ala­ru ac i edifarhau oi plegit, drwy y groes, (fal yr oedd Cayn a Sudd­as) etto nid ynt yn credu, nac yn go­beithaw y delevir, ac y maddeuir yddynt i pechodae, eythr gwallgo­ff, ac ymgythreulio a wnant, ai rhoddi i hunain yn gwbl irr fall. ac felly hwy a ymadawant yn do­stur aruthr ar byd yma. o ddystry­wiant ac o wradwydd pwy rai, y [Page 136] calyn y buddieu hynn: yn gyntaf e fyd' rhaid yddynt beidiaw a gwneu thur chwaneg o helbul, yn eglwys a theyrnas dduw, drwy siampl anu­wiol i buchedd hwy.

Yn ail fal y gallo yr sawl syd' yn byw ar i hol hwy, ddyscu drwy i si­ampl ofnavwy hwy, edifarhau a gwellhau mewn amser. Felly wrth a fanegasom hyd hynn, fe ddichon pob Cristion wy bod, yn i drwbl ai adfyd, pwy vn yw, ai merthyr i dduw, ai i Ddiawl, a ffa fudd odia­eth, a lles godidawg, y mae yr oll rai yn i dderbyn, ar ydynt ferthyrō i dduw, drwy i blinder, i croes, ai merthyrodod.

Pen. 21.
Cymdeithion a chyfeillion mewn ad­fyd, a blinder sy gonfforddus.

PAm y dengys neb efo i hun ynSolamen miseris fo­cios habu­iffe doloris. anueddefgar er goddef y peth, [Page 137] yr hwn ni ddichon ef drwy ddichell, cyngor, na mod' cyfreithlawn yn y byd i ochlyd, i newidio, i droi y­maith, i ddiwgio, ne i wellau? Y neb syd' synbwyrawl, a wnaiff wir rin­wedd or cyfryw angenrheidioldeb, 'rhwn ni ellir mewn vn modd i hel­pu neu i wrthod. Yrawron trallod, ac adfyd, ydynt felly yn digwyddo i wr, fal na ddichon ef i gwilio, nai rhwystro, er daed ganthaw: rhaid i wr oddef trallod, a blinder ar y ddayar hon nid oes dewis. A thra­thefn: paham y trallodiff neb efo i hun allan o fesur ynghylch y peth sy gyffredin i bawb, neu i'r rhā fwyaf, ac nid iddaw ef yn vnic? Wrth reswm naturiol, mae yr baich yn yscafnach 'rhwn a ddwg llawer ynghyd. Yrawron peth truan iawn ac alarus yw bowyd dyn, pan fyddo vn yn llwyddo,Psa. 103. 15. ac yn cael pob peth wrth i fodd,Psa 90. 56. etto mae arall megys llyseun ne flodeun y maes,Psa. 78. 37. 'rhwnn a [Page 138] flaguriff dros ennyd, ac syd' hyfryd a ffrydferth i'r golwg ac ar ol ychy­dic Efa 40. 6. 7. amser a wyfa an a ddislanna y­maith:Eccl. 14. 17. Tra fom ar yddayar yma,1. Pet. 1. 24. y ddym megys mewn maes, [...]a. 1. 10. ne wer­syll, lle y mae yn rhaid i ni yn oesta­dol, luedda, ac ymlad' heb wybod pwy a dyrr allan yn gyntaf, ne pwy a ryd' yr arfod cyntaf in erbyn, ne ymhle, neu ymhwy fod', neu pa am­ser. weithiau fo restir ac a ddelir corffy gwr, weithieu i dda ef, wei­thieu fe ai difuddir oi enwda, wei­thieu eraill, fe a ddigwyd' iddaw aflwydd cyffre dinawl, mal druda­nieth, nodeu, rhyfel, rhain weithieu a varhant yn hir iawn, fal y dichon gwr ddoedyd yn dda, nad oes vn aflwydd, eb gydymaith, vn ai ym­laen ai yn ol. Ac nid oes vn aflwydd cymeint, ar nas dichon ddamwei­nio a syrthio ar bob vn a hanom ni oll.

Or lleiaf mae yn rhaid i bawbo [Page 139] honom edrycham angeu, fal y doedwyd er ystalm wrth ein rhi­eni cyntaf.Gen. 3. 19.

Nid oed' ond ffol, ag ofer, adro­ddi siample o hynn, yn gymeint, ac nad oes neb heb le i ddaw i achwyn am ryw beth ne i gilyd': ac er bod rhyw bethau yn damweinio ar ol ein ewyllys ni, etto nid yw hynny heb ryw saws chwerw yn calyn.

Ac yn anwedic yr awrhon, ysty­riwn pa fodd y mae pob teyrnas Gristnogaidd o'n amgylch wedi i amgylchu o ddeutuy a thristwch, trallodae, a thrueni? Nid rhaid i ni fwy o edrych nac ar ein gwlad ein hun (sef Germania) nid oes na da, na drwg, duwiol nac anuwiol, heb ryw flinder ne arall; Ac er bod rhai yn medru yindaro dros en­nyd, ac yn medru darbod o hanynt i hunain dros amser, drwy gyfrw­ysdra, dichell, ffug, a rhagrith neu drwy ryw ffalsedd mewn cyfei­llach, [Page 140] etto ymaent yn i dwyn i hu­nain or diwedd, i enbydrwydd, gwarth, a chwilydd mwyat yn y byd hwn, ac yn y byd syd' ar ddyfod.

A chann fod pob trallod ac adfyd yn y byd hwn fil o weithiau, yn ys­cafnach, ac yn esmwythach, ie, ac a­gos yn ddiddim wrth y tan tragwy­ddol, amffodadwy, 'rhwnn a ddar­parwyd ac a nynnwyd eusus, i an­ffyddlonieit, ac anwir elynion duw, fe a ddyle oll ffyddlonieit a duwiol bobl, dderbyn a goddef ei gorthrym deron, ai adfyd trancedic, drwy fwy ymyned', yn ewyllysgarach, ac yn fwy diolchgar, gann ystyr a chofio oll garedigion duw, 'rhain a orth­rymwyd, ac a arteithiwyd yn aru­throl gan i gelynion: Abraham gan y Caldieit,Genl 12. 14. Lot gā y Sodomitieit,Gen. 19. 4. Isac gā Ismael,Oen 20. 2. Iacob gan Esaw,G [...]n. 32. 7 Moeses gann i bobl,Nu. 20. 2. 3. 4. 5. &c. Dafydd gann Sawl a chan i fab i hun:1. Sa. 18. 11. ac am Iob Iob. 2. 7.nid ydoedd vn defnyn o waed o [Page 141] fewn i gorff ef heb ddarfod.Mat. 14. 10. Ioan fe­dyddiwr,Mar. 6. 27. y Sancteiddiaf ar ane de­rioed yn anianol o ferch, heb gwrs ag ordr cyfraith, cyfiawnder a rheswm, a dorwyd i benn yn y car­char, fal pe i buasse dduw heb wy­bod dim oddi wrthaw ef.

y mae genym sil o gydferthyron ac o gyinderithion yn ein trueni an adfyd, ac wrth ystyr pa sodd y car­charwyd, y dirdynnwyd, y crog­wyd inewn cadwyni, y llowscwyd mewn tan, ac y difethwyd hwy gan anifeiilieit gwylltion, ac ffa wedd y poenwyd mewn moddion eraill, nid yw yr cwbl y ddym ni yn i oddef ond gwynt, ne chwaren.

Ond yn anwedig, hynn a ddylid iystyr o flaen dim oll, yn ein trallod an blinder,Efa. 53. 3. 4 5. 6. &c. sef,Mat. 27. 1. 2, bod Iesu Christ yn gyfell,Mat. 15. 15. ac yn gydymaith i ni, ymhob adfyd,Mat. 10. yr hwn a oddefod' ar y dday­ar yn i gorff bob bath ar ferwindodLuc. 6. 48. a ffoen. Yr awrhon, nid yw y gwas [Page 142] vwch law i feistr: pa reswm ydoedd fod i naturiol fab duw, ('rhwnn y­doedd yn ollawl yn ddibechod) o­ddef1. Cor. 1. 30. mor greulon i faeddu,Gal. 4. 5. ai fer­thyru,Eph. 1. 5. 6. 7. ac i nineu 'rhai ym i blant ef (nid trwy natur, eythr trwy fab­wysiad a dewisedigaeth ac ymhob pwnc yn evawg) ddiainc yn ddi­friw? Yr awrhonn, gann hynny, pwy bynac sydd a chwilydd ar­naw oblegit y groes, ne syd' ridd­fanus tani, mae yn gwilwyddus ac yn flin gann hwnnw gael Crist yn gyfell ac yn gydymaith iddaw, ac am hynny yr Arglwydd Iesu Grist a fydd cwilydd ganthaw o honaw ynteu, yn y dydd diwe­ddaf.

YR AIL RHANN OR llyfr hwnn.

Pen. 22.
Moddion naturiol, a ffyrdd, drwy bwy rai y gostegir, yr esmwytheir, ac y gorchfygir trallod, ac adfyd.

Y modd cyntaf. Yn gyntaf, ac yn ben­naf ni d'yle neb ym gymyrred' a mate­rion gwyr eraill, 'rhain nid ynt yn perthyn iddaw ef, nai fwrw i hun mewn pericl, ac enbydrwydd, heb fod yn rhaid. Canys temptio duw fydde hynny, a gwrthnebus i siam­pleu ein iachawdwr Crist, ai sanc­taid' Apostolion hefyd, 'rhain drwy orchymyn Crist, a floesāt weithiau,Mat. 10. 23. ac a ochelasant beryglon ac enbydr­wydd. Ond ni ddichō gwr bobāser, yn onest ac yn weddaid' i gochel.

[Page 144] Yr ail mod': megys ac nad yw y moriwr yn gollwng allan i hwylieu cynn belled, nas dichon ef i tynnu i mewn trachefn yn hawdd, o gwyl ef demestl gar llaw yn yr vn modd y dyle bob dyn tra fo pob peth yn dda, ac yn llwyddianus oi duy ef, ragweled a darparu mewn amser y gwrthwyneb: erwyd' pahā e ddoe­dawdd yr Arglwydd yw ddyscy­blion ymlaen llaw, oi groes, oi an­geu, ai ddioddefaint, mal, pā i gwe­lent hwy ef, yn goddef ing, a thri­styd, i bydde yddynt ofni ac yscogi yn llai: yn 'r vn mod' hefyd, y mane­god' ef yddynt y malaen llaw, yr er­lidid ac y trallodid hwy, fal y gall­ent edrych am hynny, a bod yn gle­dach, yn hyfach ac yn gryfach, pa bryd bynac i'r erlidid hwy.

Y trydyd' mod', (ar bwy vn mae pwys a sylwed' y mater yn sefyll ac yn gogwyddo) yw, bod i wr dybied a barnu yn dda, or oll gyfryw be­thau [Page 145] a ddamweiniāt, ac a ddigwy­ddant: canys pob peth a fyd' fal y cymerer: os prisia gwr olud bydol yn yse afnbeth (fal y dilid yn ddiau thrisio) ef a ddichon fod hebddaw a llai gosid a ffoē. Ac yng wrthwyneb i hynny, o gwnaiff ef dduw o honaw ai brisio yn wyrthfawr, yna ef a of­niff ac a gryniff, ac a gymer yn drwm anfesurol, pann i'r yspeilir o hanaw, ne pan y dyger oddi arnaw. Yn 'r vn mod', mewn pethau erail', fe a debig ac a feddwl gwr yn fy­nych ynthaw i hun, na ddichon ef o­ddef, nac aros anffawd yn y byd; pann, pe i ystyrid yn dda: y drwg presennol, 'rhwnn yr yddoed' ef yn i ofni cymeint, a welid 'n waelbeth: ac nid aflwyd', cythr yn hytrach bendith, a daioni fydde. ac er na by­ddo ef yscafn, a bychan yn sieer, etto prisier a chymerer ef yn lle yscafn, yn ymeint ai fod yn dyfod yn vnig ac nad yw yn dwyn dau, tri ne gant [Page 146] o gymdeithion gidac ef. Cans rhy­feddawl, a mawr wyrthieu duw, y­dyw, pan ymyse cymeint o beryglō mor anfeidrol, ac mor aneirif, 'rhain a ddarparod', ac a anelod' y byd ar cythraul eusus in erbyn, na ddym­chwelid ni yn ollawl bendromw­nwgl,1. Pet. 5. 8. ac na ddinistrid ni yn ddisy­mwth ganthynt.

Ac eto mae duw yn anfon ac yn cymyscu bob amser ryw ddaioni a diddanwch yw mysc. Mal, ond an­tur mae iti gorff clwyfus, a dolurus eto mae dy feddwl, ath galon, yn iach, ac yn gref: ne, ond odid, ydd­wyd helbulus, a thrallodus yn dy feddwl, eto mae iti gorff iach dia­naf: ne, nid hwyrach, y lledretir, yr yspeilir, neu y dygir oddiarnad, dy olud bydol, ac eraill oth wnfydae trancedic, etto, mae genyt lawer­oed' ac amryw rinweddau Cristno­gaid;', a godidawg ddonieu o ras, lle i mae fil o weithiau mwy dedwy­ddwch, [Page 147] ddwch, nac mewn iechyd, prydfer­thwch, nerth, cyfoeth, cyfeillach, gwraig, plant, anrhyded', vrddas, a oll allu y byd. Canys ni scrifenn­wyd yn ofer;Psa. 104. 24 o Arglwyd', y ddayar syd' lawn oth ddaioni: yma y dyle galō a meddwl trallodus, cystuddi­edic, adel ymaith ystyrieth oi drue­ni, ai adfyd presēnol, a chosio pa gym wynasae eraill, oddiwrth dduw syd' eto genym, ne a gowsō ymlaēllaw, neu or lleiaf, pa rai syd;' eto i ddyfod, i hol' ffyddlonieit Gristnogiō. ac am hyny, y mae hen ddihareb, ddaionus yw choffa.

Mewn adfyd cosia lwyddiant:
Mewn llwyddiant meddwlam adfyd.

Heb law hyn: yn fynych, llawer colled ac anffawd, a aiff ymaith dra­chefn yn hawdd, ac a ddiwgir ryw fford' arall: mal os dygir rhyw an­wyl gydymaith oddiarnat, drwy angeu, di a elli gyffwrd' ai gystal ef yn i le, ne ryw lesad arall a ddichon ddigw yddo iti, ynghyfer dy golled o [Page 148] fewn ychydic amser. A bwrw y pe­ru oy drueni ath anffawd tros hir o amser, eto mae pob trallod 'rhwn yddym ni yn i oddef ar a ddayar honn yn drancedic, ac nid yw bar­haus a thragwyddol. Hir amser a o­stegiff, a esm wytheiff, a ostyngiff, ac a yscafnheiff bob merwindod, poen, a dialedd, os arferir, ac os meithri­nir y meddwl ychydic yn iawn. E­to y doeth ni ddylaros i'r gerwin­dod ar dialedd ballu, a gwisco y­maith o honaw i hū, eythr i ragflae­nu mewn amser, drwy yr cyfryw foddiō, ar a ddyscasom hyd hynn, ac syd' etto'n calyn. Yn bedwaryd' ini ddylid dirmygu, distyru, na gwrth­od moddiō arferedic. mal y mae me­istr llong, pā fyddo ar y mor, ac yn rhagweled temestl'n dyfod,Act. 27. 35. yn ga­lw am help a chymorth gā dduw, ac er hyny ai olwg ar y llyw, ac'n i rw oli mor drefnus, ac mor gelfyd' ac i medr; selly ymhob angenoctid a ffe­ryglō, [Page 149] mae'n gyfraithlō, ac fe a ddy­le wr hefyd, arferu pob mod' gonest, cyfaddas: mal, physygwriaeth, a me ddigyniaethae rhac dolur: poē, a lla­fur, a chwys or tal, rhac tlodi: gallu ac awdurdod y swyddog,Gen. 3. 19. rhac traw­sineb,Mat. 9. 12. cāwri, cynddryged' ac ymry­sonac: rhyfel, 'n erbyn fawl syd' ely­mō in gwlad, ar cyfryw a hyn: drwy na byddo i neb adeilad, na rhoi coel mewn dim, ond n y gwirdduw byw 'n vnic, 'rhwn a ddichō helpu, gwa­redu, a drwgio pob peth o honaw i hun, heb help arall. Y pumed: pan fo gwr 'n calyn, 'n arferu, ac yn gwas­naethu crefft onest, a'r alwedigaeth neu'r swyd' i bwy vn y galwyd ef gā dduw, ac 'n bwriadu i gwneu­ther, i cystowni, ai calyn yn ddilys fal y dyle, mae hynny yn gwlltio y­maith laweroed' o wag feddylieu, a­llan o feddwl trallodus,' rhwn a gy­studdir drwy adfyd, ne ryw ddialed'. arall. Y chweched. megys ac y gw­golwg [Page 150] gwā, clwyfus, 'n llō, ac 'n hā ­ddenus drwy wyrddiō a newyddiō liwiau hyfrydlawn, felly meddyli­eu helbulus gorthrymedic, a ddidde nir n rhyfeddawl, a fywheir, ac a ad­ferir eilwaith yw grym, trwy afi­aith, difyrrwch, a llawenyd' gonest, gweddaid', cymesurawl; fal, trwy wrandaw cerddānau musig, drwy rodio allan, drwy newid yr wybrē, a thrwy fyned allan or cyfryw leo­ed', ar ydynt fwll a thywyll. Ac yn enwedic hyn syd' ddiddanwch ac esmwythora daupenniog, i feddwl cystuddiedig aflonyd', sef, 'n i adfyd, ymweled ai anwyl garedigion, neu pan ddelōt hwy i ymweled ac efo: 'n gyntaf, wrth fanegu i ddialedd, ai ddolur, wrth i gydymaith, ac ego­ryd i holl galon, a doedyd i oll fe­ddwl wrthaw, ef a gaisl esmwyth­dra godidawg. Ac heb law hynn, y gwir ar slyddlon gydymaith, drwy dosturio wrthaw, a chwynfā iddaw, [Page 151] helpiff (megys) i ddwyn i faich: ac er na ddichon ef anchwanegu dim osylwed' i dristwch ef, etto i galon, at ewyllys da, ai eirieu caredigawl ydynt ddiddanwch mawr iddaw.

Pen. 23.
Goreu, a siccra cymorth a diddanwch mewn adfyd, sydd yn vnig yn nerth, gallu, ewyllys, a daioni duw.

YR awrhon mi a ddangosaf ac a fanegaf, pa wedd y gelliff, ac y dichon duw, helpu ac chynorthwy­aw yn ddigonawl, er mwyn Crist; er mwyn pwy vn, y mae ef yn gadd­aw i ni, bob bath ar help, cymorth, a diddanwch, ac yn i gyflawni. Myfi a ddangosaf hefyd, drwy ba foddion ac ymha fesur, y mae ef yn gwneu­thur hynn. Duw sy yn gweled ac yn edrych arnom, pa fodd yr ym ynglyn, ac yn ymdrech mewn pe­riel, ac enbydrwydd, ac ef a wyr yn oreu or cwbl, pa wedd a ffa bryd, y [Page 152] cynorthwya, yr helpa, ac y gware­diff ef ni; sal y chwaneger i ogoniat ef, an bud' mneu. Ac nid yw ef yn u­nic yn gwybod pob peth, ond y mae ef hefyd yn ollalluog, ac ef a ddichō wneuthur a dwyn pob peth i bē. Ac os ein gorthrymderō a chwanegāt, ac a gynyddant o ddyd' i ddyd' (ac a ant waethwaeth pwy hwyaf) eto mae duw fil o weithiau yn alluo­cach, ac n gryfach nag ynt hwy. ond ni ddichon duw fod mor alluawg, nad yw ef hefyd mor raslawn, ac mor drigawg, ac mae ganthaw fwy chwant, a disysiad, i ddangos ac i e­glurhau ei galon gowir, ai gariad tuac attō, nac a fedrwn i, i ewyllysio nai ddysyfu. Ac er i fod ef in tyb ni, 'n tynnu ymaith'n ollawl, gwblo­leuni ei ras allā o'n golwg ni, eto ef a beru yn raslawn ac yn gariadus tuac atom yn ddirgel ac megys yn guddiedig. Ac 'n ddiau ni wrthyd ef ddim o honō, ni ryd' ef ddim o honō [Page 153] i fyny, ac ni ediff i ni lynu, ac aros yn oestad, yn y cyfryw drymder, ac enbydrwydd.

Ac nid ein gweithredoed' da ni, na'n haeddiadae, a'n rhyglyddiadae ni, ai cynhyrfant ef i hyny, eythr an­feidrawl a didranc ryglyddiad a hauddiad Iesu Grist, 'rhwn a bwr­casod' i ni trwy i angeu ai ddiodde­faint, faddeuant pechodae, nefawl ddonieu 'r ysbryd glā, gostegiad ac esmwythdra o bob trallodae, a gor­thrymderae: ac nid yw bossibl, vn ai i bechod, ai i ddiawl, ai i'r byd, ai i ol' greadurieit yn y nefar ddayar, orthrymmu,Rhuf 8. 10 a gorchfygu y gwr,Psal. 34. 6. 'rhwn a gymero afael ar Grist,Dihar. 24. 10 ac sy ac ef ganthaw. Eythr ef a beru ac a saif yn dragwyddol dann ascell a noddfa duw.

Heb law hyn; yr ollallvog dduw 'rhwn agymodwyd, ac a heddych­wyd a ffob rhywddyn, a addawod' yn gystal i blāt yr Israel, ac i bawb [Page 154] oll syd' mewn gorthrymder ac ad­fyd, drwy i wenidogion yn drago­wyd', o amser i amser, help, cy­morth a diddanwch:Ps. 147. 3. yr arglwydd sy yn iachau y rhai briwedic o ga­lon, ac yn rhwymo i gwelieu.

Gwaredaf ef hefyd, am roddi o honaw i serch arnaf mi ai derchafaf amiddo adnabod fy enw.Ps. 91. 14.

Opa ryw beth cwnffwrddus, a ffa fawr anrhyded' yw, gael cy dy­maith mor ffyddlō ac mor alluawg, yr hwn mor gariadus a saif gida ni, ac an cynorthwyiff. yr awrhon am yr amser: fe helpiff duw mewn am­ser dledus cyfaddas, ac mae'n rhaid i ni oddef iddaw gymeryd i amser, ai ennyd. Canys fal y gwelo duw drwbleth a gorthrymder i eglwys, pa wed' y cystuddir, felly ef a ordei­niawd' amser pen, pa hyd y goddef ef i'r anuwiolion gael i gwnfyd, a ffa bellder yr ant, ac i bwriadant yw erbyn: a ffann ddarffo hynny, [Page 155] yn hwy, nac ymhellach ni allant fyned.2. Cro. 37.

Mal,Ier. 25. 12. caethiwed Babilon a or­deiniwydIer. 29. 10. i barhau ddegmlynedd a thrugain, ac yno i beidiaw: ie, pan fo tristwch a thrymder yn y fan eithaf, a ffob vn o hanom yn tybied ddar­fod i dduw yn ollawl yn gwrthod, yna mae duw barotaf in helpio, ac y mae i gymorth ef yn nessa fatom. ac i ddoedyd y gwirionedd mae duw yn oestadawl yn ein cysuraw,Psal. 46. 1. ynghanol yn trallod a'n trueni,Mat. 28. 9. ac nid yw ef vn amser oddiwrthym:Ioan. 14. 1. canys y gwr flyddlon sy ac ysbryd duw ganthaw yn ei galon,Io. 4. 14. 'rhwnn yw ffynnon a gwreiddin y nefawl ddwfr, o ba vn y dwsrheir ef yn oe­stadawl, i bywheir beunydd, ac i'r adnewyddir, yw fawr gysur.

A ffwy fwyaf y chwanegiff ein tristwch, a'n gorthrymder, mwy­fwy help a chymorth a gawn, ac a dderbynniwn gann dduw.

[Page 156] Duw sy ffyddlawn,1. Cor. 10. 3. 'rhwn ni ad eich tēptio vwch law hyn a alloch, eythr giva yr profedigaeth y gwna ef ollyngdawd,2. Pet. 2. 9. fal y galloch ymda­ro, yn y geirieu hyn, mae S. Pawl yn dyscu 'n gonfforddus,2. Cor. 1. 5. na themp­tia ac na ffraw duw ddun o hanom, yn dostach nac'n drymach, nac y ga­llom i aros ai oddef. Ac megys yr amlheir dioddefiadae Crist ynom, felly yr amlheir ein diddanwch niAct. 5. 40. trwy Grist. er ecsampl. Y sanctaid Apostoliō a gadarnhawyd mor ddir­fawr, 'n i adfyd, mal y llawenychēt, am i tybied yn deilwng i gael i am­herchi dros enw Crist. Ac n 'r amser presēnol hwn, mae duw n anfō mwy diddanwch i ni, nac a ddichon yr oll ddiawlieit, nar oll fyd i gyd, i anfon o drymder, tristwch, ac anghysur.

Mal y mae capten yn yr rhyfel'n rhoddi cysur vn i filwyr sy danaw, drwy y madroddi wrthynt yn wr­aidd, ac yn gōffwrddus, felly y myn [Page 157] duw beunyd', gyhoeddu a ffregethu allan, ei air confforddus ef, er mwyn diddanu i filwyr, sy 'n ymlad' dann i faner ef. Ac eto nid yw ddigon ganthaw ein confforddio yn vnic a geirieu, eythr y mae ef i hun yn bre­sennol gida ni hefyd ai yspryd, yr hwn yspryd,Mat. 28. 20. megys gwarant siccr, a chenniog ernes, sy 'n rhoddi gwy­bodaeth,Rhuf. 8. 12. ac yn sicrhau ein calonnae ni, o ras, trigared', a chymorth gān dduw. Ac fal hynn y confforddia ac y gwnaiff ef em calonnae, orfole­ddu yn ddiffuant, ac y rhyd' ef i ni ddoethineb, hyder, a nerth, i lue­dda, ac i ymlad', yn erbyn pob bath ar elynion, yn gystal ysprydawl, a chorfforawl.

Er bod prennieu y gauaf yn ed­rych nid yn vnic yn anffrwythlawn eythr yn ollawl yn feirwon, etto yr haul drwy i ddyfodiad, wedi i'r ga­naf gymeryd i gennad, sy 'n me­ddalhau, yn dattod, ac yngwresgi,Mat. 24. [Page 158] yn gystal y ddayar, ar prennieu, fal y blagurant eilchwel, yn wrdd­leision, gann ddwyn ffrwyth: fe­lly pann brisir, ne pann debigir fod y ffyddlawn, yn llesc, ac yn ddidd­im, o bob help ac yn ollawl yn wr­thodedic, etto mae nefawl yspryd duw, yn llewychu, yn gwresogi, ac yn cadarnhau i calonae i bob daoni.

Megys ac na ddichon dyn bychan, gerdded o honaw i hun, gann wir fethiantrwyd', a dilawch oddieythr i gynnal, ai ddala i fynu, ne i arwain erbyn i law gann y fammaeth. Ac meis, ac na ddichon merch glwy­fus, yr honn a wanhawyd gan law­er, a hir ddolur, gerdded vn camm, oddieythr i ryw ferched iach, cry­sion, i chymeryd erbyn i braich, ai fforddio, ne i thy wysu, i gerdded gi­da hwynt; yn yr vn mod', nid ym ni­neu abl i gerdded o hanom ein hu­nain oddieythr ein helpio, an cynor­thwyo gann dduw.

[Page 159] Y mae bath ar dristwch, a mer­thyrdod, rhac pwy vn yddym yn crynnu, ac yn ysewyd pann na chly­wom ond i henwi: llai o lawer y gallwn, i goddef, ai derbyn, eythr duw ai law nerthog, ac ai allu pre­sennol sy 'n ein cadarnhau, yn ein cynnal, ac yn ein gwaredu.

Yr yspryd sy yn cynorthwyo ac yn helpu ein gwendid,Ruf, 8. 11. a'n gwa­eledd ni. Ac os yw y cythraul drwy ei yspryd ef, yn gwthio ac yn cynhyrfu y bobl, i fod yn barod ac yn ewyllyscar i bob anwired', a ffieidd-dra, (pe i coste yddynt i hoedl) pam na elliff duw drwy ei yspryd ynteu, yn gwneuthur yn grysion, ac yn ewyllyscar ac yn barod i bob daioni, er yroll dryst­wch ac adfyd, 'rhai yddym ni yn i goddef? Mae duw weithiau yn llei­hau ac yn esmwythau cospedigae­thae, fal y gallo gwyr yn haws i gorchfygu.

[Page 160] Y capten weithiau, a ryd' rydid yw filwyr, i gymeryd i llonydd­wch, i esmwy thora ai difyrwch, fal y gallant i diflinaw ai hamdde­nu ei hunain, ac ymlad' yn ol hynny 'n wreiddiach, ac yn gryfach, felly ein capten nineu, a ganiadheiff yn fyny ch i ni, sef Cristnogiō, ryw ddi­fyrrwch, esmwythdra, a diogelwch, drwy ba rai in esmwytheir ac in hamddenir, fal y gallom ein ym­ddwyn ein hun yn wrolach yu ein milwriaeth ysprydol. Ac weithiau ef a ryd' yn ollawl i ni ollyngdawd, allan o bob trallod ac aflony ddwch, ac a abferiff drachefn i ni ein oll go­lledae, a'n rhwystrau, ac an gweryd er ein ragorfraint godidawg, mawl a chāmoliaeth, ac ef an ceidw ac a'n gweryd oddiwrth bob trueni ac anheddwch mewn amser i ddyfod. Ac i gyflawni hynn, nid yw duw yn arferu oi yspryd yn vnic, eythr o fo­ddion eraill hefyd, megys yr Angy­lion, [Page 161] y ser,Psal 104. yr elfynae,Hebr. 1. 7. bwystfilod, gwyr, a ffob bath ar greadurieit e­raill.

Meis ac y mae gann wroryfel well ewyllys, a chalon i ymlad', pann fyddo lliaws o weision gwchi­on wrth i gefn ef, 'rhain ni adawant iddaw gael camm,Psal. 347. felly yr Angyli­on sanctaid' a'n amgylchant,2. Bre. 6. 16. ac a'n ymddeffynnant nineu, fal y bydd­om hyderus, ac abl i sefyll, ac i bar­hau yn gryfion, ymhob rhyw adfyd a gorthrymder.

Elizeus a ddywod wrth i lanc,2. Bre. 6. 16. nac ofna, canys amlach yw y rhai syd' gida ni, na rhai sy gidac hwynt.

Y mor coch,Exod 14. 22. ar Iorddonen, a ym­holltasont fal y galle blant yr Is­rael fyned trofod' yn sych heb vn­waith wlychu i traed.

Yr haul,Ios. 4. 3. ar lleuad a safasont wrth bleser Iosua,Ios. 10 13. ac ni frysiasonc i fa­chludo, nes i'r genedl ddial ar ei ge­lynion, ac nes dal o honaw ef y [Page 162] pum brenin.

Elias a borthwyd yn rhyfed dol gann gigfrain.1. Bre 17. 6.

Trwy law merch y gwaredwyd'rEster. 7. 3. Israelieit oddiwrth lu creulō ofna­dwyEst. 8. 5. 6. ei gelynion,Est. 9. 1. ac yn gyffredinol,Iudit. 13. 8. duw a weryd wr drwy wr arall.Homo ho­mini Deus.

Mae hyn hefyd yn enwedic 'n beth cōfforddus, sef, bod holl ffyddlonieit, asanctaid' Gristnogion ar y ddaiar, yn cael cymdeithas a chyfranniad ynghyd, ymhob rhyw beth, da, a drwg, yn gystal y naill ar llall.

Ac am hynny pa bryd bynac y go­ddefwy ddim gerwindod,Esa. 58. 10. poen,Ez. 18 7. ne dristwch,Mat. 25 35. mae Crist a oll wir Grist­nogion, yn cydoddef a myfi: canys, ni ddiwaid yr Arglwyd', pann ne­wynent, ne pann sychedent, &c. Ey­thr ef a ddywaid, bym newynog, bym sychedig. &c.

Ac heb law hynn, holl gyneilleidsa Grist, am cynorthwyant, ac am hel­pant i ddwyn fymaich: canys y sawl [Page 163] sy aelodae o vn corff a gymerant o­fal a ffrudd-der y naill tros y llall. Os briwiff gwadn y troed, oni ddo­luria 'r holl gorff?Gal. 6. 2. yr awrhon S. Pawl a eilw oll Gristnogion vn corff, ac hefyd vn bara, vn cwpan: ac am hynn pawb eraill o ffyddlonieit Gristnogion, a dosturiant, ac a drist­hant trosof, a ffa beth bynac syd' ys­cafn yddynt hwy, syd' yscafn i mi­neu: cymer siampl eglur or duwiol Broffwyd Ieremi, 'rhwn a achwy­nai'n ddirfawr ac ydoed' mewn cy­fingdra mawr, pan nad oed' iddaw vn achos, eythr am fod yr Iddewon i gyd wladwyr ef mewn cymeint o ddialed' a chamwri.

Pen. 24.
Siampleu godidawg, o gymorth ac o help dduw.

IR perwyl, ac i'r diwedd yma, y dy lem ystyriaw hefyd, a chofio [Page 164] siamplae, or hen ac or testament ne­wyd'. Pe i base i dduw vn amser wrchod ei ffyddlawn etholedigion, yn ei trallod ai angen, yna y caem ni eseus cyfion ac achos cyfraith­lawn yw anghoelio ef. Ond yn gy­meint ac na wrthodwyd neb erio­ed,Psal. 37. 8. a geisiawd' dduw, oni ddyle hy­nny yn diddanu ni a sicerhau ini, y saif ef gida nineu hefyd'n drigarog, yn ein oll adfyd a'n eisieu?

Y gwr duwiol Noah, ai feibion,Gen 7. 1. a gwraged' ei feibion, a gadwyd gann dduw drwy arch, neu long, (pann gyfergollwyd yr oll fyd onid hynny) gan y diliw: yrawron os ny ni a gredwn gida Noah, yn y ben­digedic had, yna in cyfrifir ni hefyd 'n rhinweddol gidag ef, ac yn ddai­onus o slaen duw,Gen 3. 15. ac in cedwir fal ynteu.

Lot a waredwyd oddiwrth blaeeGen. 19. 16. a chospedigaeth y Sodomitieid.Gen. 37. 28.

Iacob a orfu arnaw ffo, rhag i [Page 165] frawd Esaw a goddef trawsineb, a chamwri mawr, gann i dad ynghy­fraith Laban, ac er hynny ef a fen­dithiwyd, ac a gadwyd gann dduw.

Ioseph pann i gwerthyd gann iGen. 39. 7. 20. 21. frodur, am na chytune ef i wneu­thur aflendid a ffieidd-dra, a gw­raig ei feistr, a daflwyd yngharchar. tythr duw ai gwaredodd ef ac ai derchafod'i anrhyded vchel.

Y brenin Pharao a fygythiodd foeles yn aruthr, a phlant 'r Israel hwythau a fynnēt i labyddio ef hyd farwolaeth,Exod. 14. 11. eythr duw ai ymdde­ffynnod' ef tann i nodded.

I blant 'r Israel y rhoes duwExo. 16 13. ddwfr allan or graigle galed,Exod. 17. 6. a ba­ra or nefoed', a soflieir, yn rhyfedd­awl, er cysur yddynt yn i angen ai cledi.

Mor raslawn y cadwod' duwy brenin Dafyd',2. Bre. 19. 6. ac Ezechias yn ei trwbl, ai adfyd,Eze 32 21. ac hefyd y Proffwy­diDan. 6. 23. Ezechiel, a Daniel ymlhith y yr [Page 164] [...] [Page 165] [...] [Page 166] anffyddlonieit: ac yn'r vn mod'y ymddeffynnod' ef Iudas Macha­beus,1 Mac. 2. 28. ac eraill y pryd hynny.Act. 23. 12. Dei­geinwyr a wnaethent adduned na fwytaent, ac na yfent, nes yddyt lad' Pawl: eythr ni oddefod' duw i hynny ddyfod i benn. Y rhain ar cyffelyb siamplae a'rhain, a scrifen­nir er y perwyl hwnn, sef, er i ni farnu, a thybied yn gyffelyb, or raill or cyffelyb ecsamplae. 'rhain ni honnwyd ddim o hanynt. Heb­law hynn: mae'n eglaer, ac fe i welwyd yn fynych, y rhai mwyal i hai swyd, y rhai gwannaf, ac ofnn­saf, wedi i cadarnhau mewn ffyd', trwy rymm agallu duw'n goddef artaith, allwladwriaeth, ac angeu, yn ewyllyscar, ac yn llawen, gann gonslorddio hefyd, (a hynny yn er­byn anian a natur cnawd dyn,) yn hyderus, y rhai agydoddefent gi­da hwy, ie, nid oes vn o hanom ni oll, nichafes help, ymddeffyn, a [Page 167] chymorth gann dduw: canys pwy a ddichon fostiaw, helpu o hanaw ef ddim, pann y lluniwyd ef ynghroth ei famm? am hynn o beth darllain Ddafydd.

Pwy an cadwod' ni hyd hynn tra fuom yn cyscu?Psal 119. Pwy a bryderod' ne a gymerth ofal am danom ni,Psal. 27. 2. tra deddē yn gweithiaw, neu yn chwa­reu, neu yn gwneuthur rhyw beth arall, heb ofalu gymeint ar mynu­dyn lleiaf am dauom ein hunain? fe alle y goddefiff duw weithiau i mi nofio, ond ni oddef ef byth i ni su­ddo, na boddi.

Ac i ddoedyd ar fyrr o eirieu: pe bae heb fod cymeint o siamplae o flaen ein llygaid, pe i baem ond e­drych ychydic yn ein ol, ac ystyriaw pa wed' y darfu i ni bassio a diainc a'r hyd 'r amser aeth heibiaw, yr hwnn yn ddiau a fu lawn o bery­glon mawrion, ac enbydrwyd': on anfod' fe an cymhellid i gyfaddef [Page 168] ac i ganiadhau, mae trigarog dda­oni duw a'n cynhalied' 'n i fynwes ac an cadwod' oddiwrth amryw enbydus beryglon, mwy, a goruwch oll a'r a fedrem ni byth i feddwl, fyfyrio, ne i ddychymig.

Yr awrhon, os helpod', ac os gwa­redod' duw ni cynn amled, a chynn fynyched, hed ein poen an llafur ein hunain, ac heb gymeint a gofalu un­waith, drosom ein hun, pan oeddem heb na gwybod, na meddwl i fod yn bresennol gida ni, fe ellid 'n bar­nu yn wrthnysic, yn aneallus, ac ynfyd aruthr, oni fwriem o hynn allan ymhob trallod,Psal. 55. 22. ac angenoc­tid, Mat 6. 25. ein pwys arnaw ef,Luc. 12. 22. gann adel i­ddaw ef ofalu trossom:1. Pet. 5. 7. ond nyni (gwae gann gwilyd') yn y cyfryw gyflwr, a ddechreuwn ameu ac of­ni, i fod ef eusus wedi ein gwrthod, neu rhac iddaw o hynn allan yn rhoi i fyny.

Heb law hynn, os yw duw oi na­turiol [Page 169] gariad, cymwynasgarwch, ai wir haelioni, yn rhoddi, yn y by­wyd trancedig hwnn, iechyd, nerth cymdeithas, gallu, awdurdod, ac an­rhyded', ar cyfryw a hynn, i'r an­wir, ac i'r anuwiol, ni a allwn wy­bod, a chasclu wrth hynn, y rhyd' ac y cyfrenniff ef fil o weithiau, well, a gwerthfawrochach ddonieu, i'r duwiol, ar ffyddlon Gristnogion, er nas gwelant, ac er na dderbyni­ant y donieu hynny'n yr amser pre­sennol.Luc. 12. 24. Heb law hynn, mae'r Ar­glwyd' yn ein conffordio ni,Mat. 6. 28. gann ddoedyd;Mat. 10. 29. os yw duw yn gofalu tros hediaid y nefoed', a llysieu y meu­syd', gann ddarparu yddynt fagw­riaeth, a dillad, yn wir, ef a wnaiff yn ffyddlonach ac yn gredicach, i ni, rhai ym yn rhagori, ymhell hedi­aid y nefoed', a gwellt y maes.

Y RHANN OLAF or llyfr.

Pen. 25.
Mae yn rhaid i ni vnioni a llwybro, ein ffydd, ein gobaith, an coel yn vnic tu-ac at dduw.

HYd hyn y dyscwyd ac y manegwyd, fod yr iawn, ar gwir help, cymorth a diddanwch yn se­fyll ynnuw, trwy Grist, ac er i fwyn ef. yrawrhon y dyscir, pa wed' y dylem ni yn llyw­odraethu a'n ymddwyn ein hunain trwy ffyd', gweddi, edifeirwch, gwellant buched', ac ymyned', fal y byddo i dduw gyfrannu, rhoddi, ac estyn, ei ras, ai nerthfawr drigaret law tu-ac attom.

Yn gyntaf oll, er bod yn rhaid ini, yn ollawl anobeithaw, o bob bath [Page 171] ar help, a chymorth gan ddyn, ac er na fedrom mewn vn mod', feddwl, na dychymig, pafford', ne pa wed', y dichon duw ein helpio, a'n cynor­thyaw; etto er hynn y mae'n rhaid i ni wrthnebu'n ollawl, a tharfu y­matth, bob trwm feddwl, gwag fw­riadau, ac ameaniō ofer, ac na rodd­om ddim lle yddynt, eythr rhoddi ein gobaith, a'n crediniaeth'n sicer, ac yn ddiyscog ar dduw, gann fedd­wl y gwyr, ac y cymer ef yr iawn amser, mewn mesur a moddion in helpu, ac in gwaredu, yn ardderch­awg ac yn ogoneddus.

Ymrewn ein hunain, gann hyn­ny i dduw, yn llawen, ac yn hyde­rus, heb ofn: a bit i drigared', ai ra­slawn ddaioni ef mwy in llaweny­chu, ac in diddanu, nac yw holl dru­eni a thristwch dann y nefoed', ac ar y ddaiar, neu yn vffern abl in ofni. ie, ni ddylem ni ofalu, na ffryderu am ddim'n gymeint, ac am hyn sef rhac [Page 172] ein bod yn rhy ofalus, ac yn draffer­thus ormod trosom ein hunain, fal pe i baei dduw fwrw ymaith pob gofal, a ffeidio a meddwl am da­nom. Canys, meis, ac y mae tad, lly­wodraethwr, ne wr tuy, yn cymeryd holl ofal, a siars, arnaw i hun, pa fod' y ceidw, y pyrth, ac y cynal ef i dyl­wyth, ai deulu: ar gwenidogiona ddylēt hwythau or ty arall, garu ei meistrieid, tybied'n dda o hanynt, ac hefyd gweithiaw, a gwneuthur y cyfryw wasanaeth, a gorchwyl, yn ffyddlawn, i bwy rai i'r ordeini­wyd hwy: felly yn yr vn mod', pob trafferth a gofal on plegit ni, sy'n perthynu i dduw, an rhann a'n dled nineu, yw, gobeithaw a chredu yn­thaw ef, ai wasanaethu ef yn ffydd­lawn yn y swyd' ar alwedigaeth i'r honn in galwyd, ac in ordeiniwyd gann dduw.

Yr awrhon, gān fod duw yn fudd ugoliaethus, ac yn ddiorfod, a chan [Page 173] fod ei anwyl garedic fab ef hefyd, yn nerth tragwyddawl, yr hwnn ni ddichon byth ballu yn erbyn y ey­thraul ar byd, a thrachefn, gann fod Crist, a duw i hun, yn eiddom ni trwy ffyd', ac'n trigo ynom, nid oes vn achos, pam i'r ofna y ffyddlawn Gristion, vn ai i gnawd, ai gorff llesc i hun, ai wann ai ddirym oed­ran, ai etto oll allu y cythraul, pe i rhown iddaw, a bod yn arfog, ag wedi i ymwiscaw i hun, a mil filio­ed' o fradau a dichellion yw erbyn. Canys os yw pob gorfoled', llawe­nyd', a dedwyddwch ynnuw, a ni­neu trwy ffyd' yn i brosi, ac yn i ga­el ef, yn drigarog, ac yn dduw gra­slawn, tu-ac attom, yna y gallwn yn gyfreithlawn, ymlawenhau yn­nuw, ynghanol y tristwch, ar adfyd mwyaf, ar a ddichon fod.

Teystiolaeth o hynn.Psal. 25. 3. Ni wradwyddir ac ni chwlyddir y neb a o­beithiff ynot i. Ac eilwaith. Bwrw [Page 174] dy ofal ar yr Arglwyd', ac ef ath fa­etha di, ac ni ad ef ir cyfiawn gwym­po byth. Beth ellir i feddwl, neu i ddychymig, mwy hyfryd a chōffor­ddus? Ywraig o Ganaan gan roddi ymaith bob gobaith a chonfford' yn help a synwyr dyn, sy'n damunaw help a chymorth gann Grist: Ac er i fod ef yn rhoddi iddi, y tro cyntaf atteb garw anghysurus, etto nid yw hynny yn sannu dim arni, ni fyn hi moi atteb felly ganthaw: yn yr vn mod', val dithau wrthaw gida 'r wraig cenedlic, gann ddoedyd a lle­fain yn ddibaid, Mab Dafydd tri­garha wrthyf, ac ynoy cai glywed or diwed'y newyd' da, ar rhyddhad conffordus hwn, mawr yw dy ffyd', bit i ti fal y mynnych. S. Bernard a ddengys yn gonfforddus iawn, pa ffyd' ocd' ganthaw, yn y gerieu dai­onus hyn: O Arglwyd', gwell i mi o lawer oddef adfyd, fal yn ynic y byddych im emyl na rhwoli yr oll [Page 175] fyd, a byw'n hyfryd, ac yn ddain­tethol hebod ti, mae yn well i mi fod mewn ffwrn boeth danllyd gida thi, na ffe i bawn'n y nefoed' hebod ti: Affwy erioed ar a obeith od' yn yr Arglwyd', a wrthodwyd yn y diwed'? Heb law hynn i gyd, mae yr ollalluawg dduw'n gorchy­myn, i ni obeithaw, ac edrych am help in vnic ganthaw ef: yr hwn o­baith a ddwg gidac ef esmwythdra, a seibiāt o bob merwindod a dialed'.

Mi a obeithaf yn yr Arglwyd', am hynny ni thramgwyddaf.Psa. 27. 14. gobiethaPsa. 28. 7. 'n vnic ynnuw,Rhuf. 5. 5. ac felly ith waredir. ac hefyd: govaith ni chwilwyddir, ac ni wrad wyddir byth.

Pen. 26.
Gweddi sy angenrheidiol, mewn trallod, a chledi.

YR Scrythur lan syd' in dyscu, ymhob bath ar ing, yngystal [Page 176] corfforawl, ac ysprydawl, i alw ar dduw, ac i ddiainc ataw: ac ymma mae'n fuddiawl iawn, fod 'n tyddyl­gar oi gilyd' yn ein, gweddi, Ond, am ba beth y dyle wr weddiaw? yn gyntaf, ac yn enwedic, am faddeu­aint on pechodae: canys, pā gaffom nawd' gann dduw am ein pechodae, yna yn ddiau pob clefyd, adfyd, a di­aled' a baid yn ollawl, neu drwy ra­susawl ewyllus a daoni duw hwy a droir er ein iechy dwriaeth. yn ail, ny ni a ddylem, hefyd weddiaw ar dduw, ar iddaw ef, vn, ai yn gware­du, a'n helpio, (nid yn ol dychymig a dyfais ein synwyr ni ein hunain, ond fal y gwelo i dduwiol ddoethi­neb ef fod yn orau) ai gostegu ac es­mwythau, ein poen, a'n dialed', fal na byddo in gwendid ni yn ollawl ballu, a suddaw i'r gwaelod.

Megys ac y mae gwr claf (er nad yw ef yn ammeu dim o ffyddlondeb gonestrwyd', a gofal y Physygwr [Page 177] neu'r meddic tu-ac ataw, etto 'n er­fyn arnaw deimlaw, a thrwssiaw, i friw ef yn arafaf i gallo, felly yn yr vn mod' y gall wn nineu alw ar dduw, ar deilyngu o honaw ef roddi i ni beth seibiant, ac esmwythdra on poen, oddieythr bob hynny yn erbyn i anrhyded', ai ogoniant ef. Ac yn enwedic erfynniwn arnaw, gamad­hau i ni nerth rhac pallu o honom, a rhac ein gorchfygu, gann ofn, a maintioli ein tristwch a'n dialed', gannn ymwrthod ac ef, a chwym­po i ryw anwired', eythr gallu o honom yn hytrach, yn ol siamplau y sanctaid' Ferthyron, oddef an­geu, a ffob artaith anoddefusaf, yn gynt nac i gadwom, neu i gwa­dom ein ffyd, neu y gwnelom ddim oll yn erbyn ewyllys duw. Ac mae yn angenrhaid i ni weddiaw, gida 'r mab colledic disperod, nid wyf deilwng o hynn allann im galw yn fab i ti, gwna i mi,Luc. 15. 17. fal i vn oth wei­sion [Page 178] cyflog, mi a oddefaf yn ewyll­yscar, dristyd, a thrallod ar y ddai­ar, megys gwenidog 'rhwn a wei­thia er i gyflog, os ti a ganiadhei i mi, breswyliaw ac aros yn dy duy di yn dragowyd'. Ond yrawron, pa fod'y dylem ni weddiaw? Saint Iago yn ei lith cyntaf a ddysc i ni weddiaw, mewn ffyd', yn ddiyscog: heb ddim ammeu, na wrendu duw ni yn drigarog. Rhaid i ni yn oesta­dawl edrych ar addewidion duw, ai gosod yn oestad o flaen ein golwg, a cheisiaw, nid yn vnic help a chyff­eri ar i ddwylaw ef, eythr hefyd go­beithaw ac edrych yn sicer am da­no, an gorchymyn ein hun'n gwbl, gorff, ac enaid, iddaw ef.Psal. 50. 15. Galw arnaf si yn dy angenoetid ac mi ath waredaf, a thi am gogoneddi fi: Galwed arna fi ac myfi ai gwran­dawaf,Psal. 91. 15. byddaf gidac ef yn'r ing, mi ai gwaredaf ac ai gogoneddaf.Ioan. 14. 13.

A thrachefn, yn wir, yn wir, y [Page 179] doedaf wrthych, pa beth bynac a o­synnoch im tad yn fy enw i, (sef yw hynny, mewn gobaith, a choel, ar fy rhyglyddiadae maufi,) ef ai rhyd'i chwi.

Er ecsampl:Ex. 17. 12. Pann dderchafai Foeses i ddwylaw tu-ac at dduw, a ffan weddie ef, i clynnion yr A­malecheitieit a orchfygid.

Yddau wr dall,Mat. 9, 27. yrhai a lefa­sont ar ol yr Arglwrd', gann ddoe­dyd, Mab Dafydd trigarha wr­thym, a wrandawyd. Or eyfryw siamplae, mae'r efangyl yn llawn: Heb law hynn, mewn trallod, ac adfyd, ni a ddylem foliannu duw, a diolch iddaw, am na ollynged' ef ddim o hanom yn angof, eythr drwy i dadawl ymweliad, i fod ef in ga­lw, a'n tynnu attaw ef, ac yn ra­susol in helpu i ddwyn ein baich: selly y molianawd' Saint Pawl dduw yn i adsyd, gan ddoedyd, Mo­liannus a fyddo duw, sef tad ein [Page 180] Arglwyd' Iesu Grist, tad y drig a­red',2 Cor. 1. a duw pob diddanwch, 'rhwnn a'n confforddiod; ni ymhob trall­od ac adfyd.

Pen. 27.
Edifeirwch, a gwellant buched', mewn trallod, ac adfyd, ydynt an­genrheidiol.

YR awrhon. Mae'n angenrhaid bod gida hynn oll, edifeirwch trymder, ac alar, am y pechodae 'rhai a wnaethō ymlaen, a gwellant buched', cariad tu-ac at dduw, ofn duw, pob rhinwed', a duwioldeb.

Manassess ydoed' drist, ac edifei­riawl, [...]. Cro. 33. 2. 13. am i fuched' anuwiol, ai gre­ulondeb, ac am hynny y gwaredod' duw ef, allan o rwymau a chaethi­wed Babilon, as ai adferod' dra­chefn yw frenhiniaeth yn Israel.

Trwy Ionas y pregethwyd, ac y cyhoeddwyd i Ninisi y ddinas [Page 181] fawr, y dinistrid, ac y difethid hi gan dduw, oddi fewn deugain ni­wrnod. Y Ninifeitied a gredasont ir cyhoeddiad,Ion. 3. 4. ar bregeth honn, ac a ddechreuasont edifarhau, a gwellau ei buched', drwy fawr vfudd-dod, a gostyngeiddrwyd', ac felly duw o'i drigared', ai arbedod' hwynt. Yr­awron ni strinhauwyd dim ar ga­lon drigarog dduw,Esa. 50. 2. o gwnawn niEsa 59. 1. fal y gwnaeth y Ninifeitieit, ef a ddichon yn gwaredu a'n arbed ni­neu, fal y gwnaeth ef y Ninifeitieit.

Pen. 28.
Cynghorau, a siampleu Cristnogaidd, allan o air duw, i gynhyrfu pobl i ymynedd, mewn blinder ac adfyd.

YMysc yr oll rinweddae, nid oes vn angenrheidiolach, nac ymy­nedd mewn adfyd: nid ymyned' i oddef i bob peth bassio, pwy vn by. [Page 182] nac fyddo, ai da, ai drwg, ai iawn, ai cam, gan roddi 'r cwbl, ar y disieu ond pan fom mewn trwbleth, ac ad­fyd, ac eb allu mewn vn mod' cy­freithlawn i gochel, (yn gymeint ac i ni, yn ol dysysiad ac ewyllys y enawd, rwgnach yn erbyn duw, i wrthod ef, ai roddi ymaith a ffob bath ar gysiawnder) yna y dylem wrthnebu, ac ymdrechu yn erbyn ein trueni, a'n oll dryimhyrddig fe­ddyliae, ac megys, gorchfygu, cae­thiwo, a darostwng ein golygon, naturiol, ein synwyr an rheswm, i v­fuddhau duw, gann ein ymroi, a'n darostwng ein hunain iddaw ef, a goddef beth bynac a ddigwyddo, yn barod, ac yn ewyllyscar; ie, pei bae y chwerwaf a chreulonaf an­geu, yn gynt nac y llithrom oddi­wrth air duw.

Ac heb law hyn, ny ni a ddylem foliannu duw, a rhoddi diolch iddaw ef, am fod yn wiw ganthaw ef, yn [Page 183] gofwyo mor dadawl, ac am na oll­yngod' ef ddim o honom yn angof: Honn a elwir yr iawn ymynedd, Gristnogaidd, canys archiad, a gor­chymyn duw ydyw, i ni, wilio rhac grwgnach a manson, yn i erbyn ef pan fo ef in ceryddu, eythr ymdda­rostwng ein hun, yn vfuddawl yw sanctawl ewyllys ef, ac ar ol mod', dysyfu, sef y whynny, goddef a der­byn 'n ewyllyscar, y ceryd', ar cospe digaeth, drwy bwy rai iddym yn a­ros ac yn parhau, yn vfuddawl yw dduwiol gysiawnder ef.

Na rwgnechwch megys y grwg­nachod' rai o honynt hwy,Nu. 21 6. ac ai de­struwiwyd gan y dinistryd'.1. Cor. 1010

Erwyd' paham, ni a ddylē ddan­gos ymyned', vmhob peth, megys pwnc o'n dled: ac mae 'n bechod di­aleddus furmur a grwgnach yn er­byn barnedigaeth dduw, ne wrthne­bu i ewyllys ef. Ac nid yw duw yn vnic yn gorchymyn ymyned, eythr [Page 184] mae ef i hun hefyd, yn oddefus ac yn hwyrfrydig, 'rhwn ni ddinystr y y puteiniwr, ar treisiwr ar vnwaith a mellt a tharaneu, ac eraill o anwi, reddus a cholledig bobl, er nad yw eisanctaid', ai wir gysiawnder, ef yn erfyn dim llai. Mae ef yn rhoddi amser ac yspait ddigonawl, i wr i e­difarhau, ac i droi adref drachefn at ras. Am hyn y dywaid S. Pawl. A dremygy di olud i ddaioni ef, ai ddi­oddefgarwch,Ru. 2. ai ymyned',2. Pet, 3. 9. eb gyd­navod fod daioni duw yn dy arwein di i edifeirwch? Er bod yn rhaidi ni, ar ol y siampl dduwiol hon, oddef peth yn erbyn ein ewyllys, ac yng­wrthwyneb in meddwl a'n dysyfi­ad, etto ni ddylem ni furmur, na grwgnach, eythr gwellau, ein bu­ched', a discwyl ac edrych yn odde­fus am wellad. Ac yn enwedic, ffyddlondeb ac anraethawl gariad duw, tuac atom, a ddyl yn gyfreith­lawn ein cymell a'n cynghori, i o­ddef [Page 185] i dduw wneuthur a ni ar ol i e­wyllys ai feddwl ef, canys wrth hynny i ddym yn rhoddi i dduw i anrhyded', sef yn cydnabod nad yw ef yn gwneuthur i ni ddim trais, na chamwri, eythr i fod ef yn llywo­draethu pob peth yn ddoeth, ac yn i fforddio i ddiwedd da.

Or ty arall, y gwr anioddefgar sy yn murmur, ac yn rhwytho yn erbyn duw, ac syd' lidiawg wrthawPsal. 37. fal pe i bae i farnedigaethae ai wei­thredoed' ef yn anghyfiawn, yn gy­meint ai fod ef yn goddef, ir anwir, ar anuwiol, fyw mewn rhodres, gwnfyd, a rhydid, a'r rhinweddus, ar duwiol, mewn tlodi, prudd-der, a thrueni. Fe a alle ond antur feddwl a thybied ynthaw i hunan, fod duw yn rhoddi gormod baich ar i ffydd­lon blant, gan oddef yddynt aros yn oestadawl mewn peryglon, angen, ac enbydrwyd', ac na wrendu ef ddim o honynt: ac fal hynn, y mae ef [Page 186] morr wenwynig drwy atgasrwyd' a chwerwed', fal y dechreu ef gablu a chasau duw, gan geisio moddion anghyfreithlawn Yw helpio ac yw ymadferth,1. Sa. 28. 7. mal y gwnaeth Sawl, gann redeg ar ol swynwyr, a chyfa­reddwyr. Erwyd' paham, gwilied pob rhyw Gristion, rhac i dreisiaw gann y cyfryw gythreildeb gwall­gofus, a chwerwder, neu or lleias rhac i ddala yn hir ynthynt.

Eythr yn y cyfryw brofedigaeth ymladded ef yn wrawl, meis o fla­en, ne yngolwgy nefawl Gapten, 'rhwn sy yn gweled ac yn gwybod, poh peth, ac syd' hefyd 'n ymddeffyn i filwyr 'n ffyddlawn, ac syd' megys 'n gydymaith neu 'n vn o hanynt, ac 'n gobrwyo i oll boen, ai llasur, hyd fil o weithiau, yn y by wyd tragwy­ddawl.

Heb law hyn, y mae genym ddelw a drych eglur perssaith o flaen ein llygaid, o bob ymyned', 'n ein Argl­wyd' [Page 187] Iesu Grist,Mat. 16 25. pa wed' y mae ef i hun, 'n ein ordeinio ni iddaw i hun: gan ddoedyd, pwy bynat am dilyn i, ymwrthoded ac ef i hun, a chyme­red i groes a chanlhyned si.

Pan ddechreuod' i ferthyrdod an­raethawl ef,Mat. 26. 39. ai ddioddefaint,Mar. 14. ef a weddiawd':Luc. 22. 30. vynhad, os gellir aed y cwpan hwn oddiwrthyf, etto nid fe ewyllys i namyn dy ewyllys di a gyllowner: ple darfu iddaw ef vn­waith fauson neu furmur, ne dy­wallt allā vn gair chwerw aniodde­fus, pan y gwatorwyd,Esa. 53. 2. 3. 4. &c. pan y dilorn­wyd, pann y scyrsiwyd, a phan yr amharchwyd ef yn greulon aruthr.

Printia hynn yn dda, ac yn siccr yn dy feddwl, sef, pa wed' y gweddi­awd' ef ar y groes,Luc 23. dros ei elynnion pennaf,Act 7. 60. gan ddoedyd: fynhad ma­ddeu yddynt, gā na wyddāt beth y maēt 'n i wneuthur; pe i basse iddaw ef drwy i nefawl ai dduwiol rym ai allu, ei waredu ei hunan oi oll [Page 188] boenau, tristwch, a fferyglon, a ffe i baem nineu yn ein tristyd, ing, ac angenoctid, heb gael nerth a gallu nefawl i orfod oddiwrth dduw, yna ni allem ni ddim o'n diddanu ein hunam, drwy ein iachawdwr Iesu Grist: ond ni roes ef ymaith i chwe­rw ddioddefaint, drwy i nerth olla­lluog: eythr yn hytrach ef ai gorfu trwy wendid.Psal 97. 9. Yrawron,Hebr. 1 2. 3. 4. 5. &c. os godded­fod' yr hwnn y mae oll Angylion a chreadurieit, yn y nefoed', ac ar y ddayar, yn craffu ac yn edrych ar­naw, (ie, 'rhwn sy raid iddynt hwy i gyd, i wasanaethu, ai ofni) yn wi­rion ac yn ddieuog, drwy bob ymy­ned' a gostyngeiddrwyd', fwy nac a oddefod' vn Cristion erioed, fe ddy­le hyn wneuthur i galon pei bae cyn galeted ar garreg ne hayarn, ymy­goryd a thoddi, a chymeryd y gor­thrymderon bychain hynn, rhygly­ddus, yn oddefgar, ar yn ewyllys­gar, ai derbyn yn ostyngedicaf.

[Page 189] A hynn a ddarfu i sanctaid' dde­wisedic duw, yn y cynfyd, nid yn v­nic i fynych ad roddi, ai ddyscu, ar ei­rieu, ond hefyd i eglurhau ai gy­flawni mewn gweithred.

Yr ydoed' yn groes drom i A­braham,Gen. 22. 2. lad' ac offrymmu i anwyl fab, ac etto ef drwy berffaith ymy­ned', ai dangosod' i hun yn vfudd i dduw.

Ac Isaac ynteu,Gen. 22. 7. er iddaw wybod fod yn sefyllar i hoedl ef, ac y bydde raid iddaw ef farw, ni wrthnebodd vnwaith ac ni egorod' i enau, yn i erbyn.

Ioseph pann y rhodded ef gan ei frodur ei hun,Gen. 37. 28. i ddwylaw 'r anffydd­lonieit Genedloedd rhai oeddynt e­strouieid iddaw,Gen. 45. 5. eto ef a faddeuod' yw frodur, ac a wnaerh ddaioni y­ddynt hwy am hynny.

Moeses pan i dilornwyd gan yr Israelieit,Exod. 17. 4. mal twyllwr, a vrady­thwr, etto ef a dosturiod' wrthynt, [Page 190] cymeint, ac y gweddie ef drostynt, gan ddoedyd, o Arglwyd, vn ai ma­ddeu yddynt hwy,Exod. 32. ai tynn fi allan oth lyfr: ymma y mae ef yn fodlon, ac yn barod,Rhuf. 9. y gymeryd holl becho­dae ac anwireddae 'r Israelieit ar­naw i hun fal y cospe dduw ef, dro­stynt hwy.1. Sa. 18. 12. Fe orfu i Ddafyd' dros hir a amser, ffo megys herwr, a di­ainc i bob lle rhac Sawl, 'rhwn, er hyn a allase ef vnwaith cyn hawsed i ddifetha, ai lad', a bwyta tameido fara; ac we di hyny, ef a yrrwyd i ffo gā ei fab ei hun, ac etto ef a ddywaid yn ymynyddgar, fal hynn, os gallaf gael gras, a ffafr, yngolwg duw, ef am adferiff eilwaith, ond, o dywaid ef,2. Sam. 15. nid oes genyf bleser, na gwnfyd ynthaw, wele, llymafi, gwnac di mi, fal y gwelo n oreu.

Iob,Iob. 21. drych pob ymyned', pan y­doed' ef yn llawn cornwydeu yn ei gorff, yspailedic oi dda, ac ymddi­fad oi blant, a dywedodd fal hynn [Page 191] duw ai rhoes duw ai dyg,Iob. 13. molian­nus a fo enw'r arglwyd': ac ef addy waid ymhellach, pe i lladde dduw fi etto myfi a ymddirieda ynthaw.

Matathias mewn pericl, ac enby­drwyd' eithaf oi gorff ai hoedel, pryd y cymellid, ac y gwthid i dde­lwaddoliāt, a attebod' fal hyn i wei­sion ac i wenidogion Antiochus, ni syflwn,1. Mac. 2. ac ni ymadawn a'n ffydd, nac ar llaw ddeau, nac ar y llaw asswy. Yr Apostolion a orfoleddent 'n ddirfawr,Act. 5. am i tybied 'n deilwng yw scyrsio, yw curo, ac yw dilornier enw Crist.

Ny ni a ddylem ddyscu llefain gida S. Pawl, diogel gennyf, nad oes nag angau, na bywyd, nac An­gyliō, na phēnaetheu, na meddiāneu na phetheu presennol, na phetheu i d'yfod, nac vchelder, na dyfnder, nac vn creadur aral' a ail' ein gohanu ni oddiwrth cariad duw,Rhuf. 8. 38. y syd' yng­hrist ein arglwyd'. Wedi āser y Pro­phwydi, [Page 192] ar Apostelion Sanctaidd, llawer mil o ferthyron (ymysc pwy rai y ddoed' llawer o wraged' cy­meradwy a gwyryfon diwair,1. Mac. 2 a phobl ievainc eraill) a ddioddefa­sont artaith,2. Mac. 6. 10 11. 12. &c. a dialed' aruthrol er mwyn y gwirioned'. Ond yma y gellid doedyd ein erbyn, fal hyn: nio rhyfed' er hod y Sainct gwnfyde­dig, yn dioddef yn llawen, ar yn hy­derus, o crwyd' i bod hwy 'n goddef, yn wirion, yn ddieuawg, ac yn an­rhyglyddus, ond am dana fi, (med' vn) rhaid imi gyfaddef fy mod yn wir druan bechadur a bod yr hynn yddwyf yn i oddef, am fy heuddia­dae am pechodae, ac am hynny y­ddwyf yn goddef yn euawg, ac am hyn ni ellir mewn vn mod', gystad­lu, a chyfflybu fy ngorthrymder i, i orthrymder y sainct. fe attebir i hyn arfyrr o eirieu: y sainct gwnfydedic pob vn o hanynt,Iob. 4. 17. 18. o hanynt i hun, ac oi natur i hun, oeddynt wir becha­durieit, [Page 193] Iob. 13. 19. ond eilwaith, yddoeddynt sanctaid',Esa. 44. a chyfiawn,2. Pet. 2. 20. trwy Iesu Grist,Gwel. 20. 4. 'rhwnn a gyfranodd, ac a ro­ddes i tithau hefyd trwy ffyd' i sanc teiddrwydd ai gyfiawnder.

Heb law hyn: y ddwy rinwed', sef gwir ffyd', achristnogaid' ymy ned' ydynt mor agos o garennydd, ac mor gyssylltedig ynghyd mewn cymdeithas, fal, y cymorth bob am­ser y naill y llall.

ffyd' agynhyrchir, a faethdrinir, ac a roir mewn gwaith, ac arfer, ac a dderbyn gynyddiaeth, a chwaneg o rym, trwy ymyned' mewn blin­der, ac adfyd: sef pan fom ni er mw­yn Crist, yn erfyn ag yn edrych he­fyd, am help a nerth gā dduw, 'n er­byn ein natur, ('rhon ni ddichon ddim, ōd petrusaw, ac anobeithaw) ac hefyd yn erbyn gwēdid y enawd, 'n erbyn profedigaeth y cythraul, ac 'n erbyn ol' ruthrau a bradau y byd. Trachefn, ymyned', a faethdrinir, a [Page 194] brofir, ac a gryfheir trwy wir ffyd', canys pwy bynac a wyr, ac a gred, fod ganthaw dduw grasawl, triga­rog, gida'rhwn ar ol y bywyd trā ­cedig hwn, y caiff ef fyw yn drag­wyddol; hwnnw, a ddichō ddioddef pob trallod,Rhuf. 4. 20. ac adfyd 'n ddioddefgar yn Gristnogaid',Gal. 4. 4. ac yn ddiolchgar. Trachefn,Eph. 2. 5. trwy ffydd ynghrist, y gwnair ni yn vn, ac in cymodir a duw, ac in gwnair yn siccr oi ras, oi drigared', ac oi gredigrwydd ef, er mwyn Iesu Grist, a heuddiadae i ddioddefaint ef. Er ecsampl: Dafyd' 'n gymeint ac iddaw ef gredu n wir ac 'n ddisigl ynnuw, a lefarod 'n hy­derus ac yn galonawg gā ddoedyd, duw yw ein gobaith,Ps. 46. 1. 2. a'n porth, ac ef syd' hawd' i gael mewn trallodion, am hyny ni byd' arnō ofn, cyd ymo­ter y ddayar, a chyd ysmuder y my­nyddoed' igalō y mor. ie, pob Cri­stiō a ddyle fod 'n fodlō i golli milo gyrff, a mil o oesoed', (pe bae bossibl [Page 195] fod cymeint ganthaw) pe i bae am ddim, ond am iddaw glowed, profi, a chredu yr efangyl. Eythr, pā fyddo gwr n aros ac 'n parhau yn anodde­fus, mae yn arwyd' eglur, na bu gan hwnw erioed wir ffyd', neu os bu ffyd' ganthaw, i bod wedi y diffodi, a darfod. Canys anioddefgarwch a gwympa, i furmur, ac i anufuddhau duw, ac a ddechreu i gas-hau, ai ga blu ef. Hefyd, gweddi Gristnogaid' sy help a chymorth mawr i ymy­ned'. Cans 'n ein gweddi y ddym 'n erfyn fod enw duw'n sācteiddiawl. Yrawrhō, enw duw a foliannir, ac a sancteiddir, pā fom ni yn ein pericl, a'n angen mwyaf, yn rhoi ein pwys a'n goglud ar dduw, trwy ffyd', ac ymynedd, mal ar vn, a lywodrae­tha bob peth yn dda, ac ai dwgi ddiwedd da. Hefyd, mewn gweddi yr ydym yn gweddio ar ddyfod teyrnas dduw arnom,Mat. 6. 10. y­rawrhon os gwradwydda ac osLuc. 11. 2. [Page 196] dinistria duw ynom deyrnas y ry­thraul, ar cnawd, neu os ef a'n ty­wys ac a'n arwain yw dduwiol ai nefawl deyrnas ef, drwy y groes, ond cymeint a gweddiaw yn ein er­byn ein hunain, yw, o byddwn ni a­nioddefus mewn adfyd.

Y ddym n gweddiaw hefyd, ar ddy­fod o ewyllys duw: yrawron, os e­wyllys duw yw, gaffael o hanō dri­styd, trallod, ac adfyd ar y ddayar yma, pa fodd y beiddiwn ne y ga­llwn ni wrthnebu, a grwgnach yn erbyn i ewyllys ef.

Pen. 29.
Siamplae, ac achosion, a dinnwyd allan, o bethau bydawl, ag o waith gwyr Cenedlig, i gynhyrfu pobl i ymy­nedd mewn adfyd.

Pe i bae heb fod scrythur lan yn y byd genym, etto fe alle wr wrth i reswm i hunan, gymeryd siampl [Page 197] wrth 'r hyn a galyn: sef, wrth anifei­lieit, wrth bethau naturiol, meis wrth gorff, ac euaid, ac eraill o ran­nae naturiol, 'rhain sy berthyna­sawl y ddynt hwy; hefyd, wrth wyr Cenedlic, wrth 'r Iddewon, wrth grefttwyr, ac wrth bob stad a grad' o bobl, ac 'n 'r vn mod' wrth yr An­gylion, ie ac wrth y cythraul hefyd. Wrth bwy rai oll y gellir gwybod, a dyscu, y dyle wr i ymddwyn i hun yn ymynyddgar, yn hyderus, ac yn wrawl mewn adfyd, a gorthrym­der.

Oen neu ddafad,Siampl o amfeilieit. a ddygir ir lladd­fa, ni chriant, ac ni egorant vn waith i geneuau, ond goddef, a derbyn i hangeu, yn ymynyddgar, ac yn ddi­staw: felly y dyle sanctaidd ddewi­sedic duw, wneuthur, mal, pann y melldithier, ac y cabler hwy, na fell dithiant, ac na chablant drachefn, pan y trawer na thrawāt eilwaith, eythr goddef pob gerwindod, a phoē [Page 198] heh egoryd vnwaith i geneu: nid yw ein cyrff ni ond bwyd i'r pryfed, ac oni ddylem ni fod yn llawen,Iob. 19. 26. ac yn orfoleddus, pe i ni edrem i rhoddi i anrhyded' ein prynwr, an iachaw­dwr Crist.

Megys ac y mae yn fodlon gann vn claf, dolurus, dorri ymaith vn oi aelodae, ai losci, er mwyn caffael wrth hyny beth seibiant, ac esmwy­thdra, oi ddirfawr ferwindod, ac oi oestadol boenau, ('rhain etto nid ynt ond trancedig) ac er mwyn ca­ffael i iechyd eilwaith.

Felly y dylem nineu, yn llawen, ac yn ewyllysgar, oddef in Argl­wydd dduw, a bod yn ddistaw ac yn llonyd' pan anfono ef i ni adfyd, er yn gwaredu, an rhyddhau, or poenau tragwyddawl, a chaffael ie­chydwriaeth, gwnfyd, a gwared in eneidieu.

Os medri graffu ar ordr, a chwrs natur ('rhwn sy o naturieth yn scri­fennedic [Page 199] yn dy galon,) ti a weli ac a ddysci, wrth hynn, y dyle wr fod yn gryf ac yn ddisigl, ac na ddyle ef y­modi er vn merthyrdod, poen, na phrofedigaeth arall, i wneuthur yr hyn sy anweddaidd, ac 'n erbyn gonestrwydd: ac or gonestrwydd yma, 'rhwn a seiliwyd, ac a blānwyd gan natur, y tyfod' dysceidiaeth, a siāpleu, y doethion, ar ardderchawg wyr cenedlig gynt, 'rhain a alwn ni Philosophyddion. ymysc pwy rai yr ydoedd hyn yn ddihareb, ac yn araith gyffredin, [...]. goddef, a gochel: y gair cyntaf or ddau hyn, sy in dys­cu i oddefpob croes yn oddefgar,Sustine, & abstine. ac i fod yn fodlon, ac yn vsudd, pann in gofwyit ac adfyd. yr ail gair sy 'n arwyddocau, y dylem ni gas­han, gochel a gwiliaw, pob rhyw siamplau, geirieu a gweichredo­edd, 'rhai a roddant i ni achlysur o ddrygioni. Aristotl yu i lyfr cyntaf oi Ethics sy in dyscu, nad [Page 200] yw, dedwyddwch ar daioni mwy­af, yn sefyll, yn vnic, mewn iechyd corfforawl, llawnder o dda, ne mewn anrhydedd fydawl, vrddas, ac uchelbarch, eythr, yn hytrach, mewn cynefinder ac arfer o rin­wedd. Wrth hyn mae yn eglur y di­chon gwr sy rinweddawl, fod yn wnfydedig, er maint fyddo i drallod ai adfyd, ac ef a gymmer ac a gyfri, flinder, ac adfyd, meis achlysur ac achos, drwy bwy vn y cynhyrfir, ac y cynhyrchir rhinwedd, ac ym hwy vn y llewycha, ac y tywynna, rhin­wedd, yn ddiscleiriaf or cwbl.

Ar vnrhyw Aristotyl, hefyd sy yn cyfflybu gwr gonest rhinweddol, i gapten da. canys, megys ac y mae y capten, yn tywysu ac yn llywodra­ethu i lu, fal y gwelo ef yr achos yn erfyn: felly gwr rhinweddol, ai ym­ddwg i hun yn oddefgar, ac yn dda mewn adfyd, ac a wnaiff y goreu o honaw Mae 'r Stoicieit'n dyscu ynStoici. [Page 201] eglaer, na ddylid cyfri'n ddrygbeth fyw mewn tlodi, clefyd, a thrueni, eythr, hyn 'n vnic sy ddrwg, sef, ym­wrthod a rhinwedd, aglynu wrth anonestrwydd.

Cicero vn ardderchawcaf, ac ar­benicaf or Rhufeinieit, a scrifenna fal hyn: cofia a chred ynot dy hun, na ddichon dim ddāwain i wr, am bwy vn y dyle ef sannu a brawychu oi blegit, ōd pechod ac anonestrwyd'. athrwy'r siampl yma, y diddaneu gynt vn gwr Cenedlic y llal', drwy ddwyn amgylchoed' o bethau fal y rhain, ac eraill or cyfryw. Mae 'n anweddus i wr wylaw, a nadu, fal plētyn neu wraig: a Sene­ca a scrifenna fal hyn. Mae 'n haws darostwng a gorfod hol' genedlaeth nac vn gwr vnic: hefyd; nid wyd mwyach blentyn blwyd', ond ydd­wyd o synwyr, ac o oedrā, ac am hy­ny fe a edrychir am fwy ar dy law di, na chā blētyn, neu ddyn bach: fe [Page 202] ath ddygwyd i fynu, ac ath addysc­wyd oth ifiengtid mewn duwiol ddoethineb, a gwybodaeth, rhaid iti 'r awrhō arferu o hyny, ai ddangos irr byd: cynn hynn ti a fedrid roddi cyngor a chysur da i eraill, na wna, gan hyny, sal y drwg Physygwr, rhain a fostiant, ac a gymerant ar­nynt iachau eraill, ac ni allant ddim or help yddynt i hun. ymlaen llaw, hyd hynn, tiath ddangosatst dy hun yn wrawl, bydd yrawrhon gann hynny debig i ti dy hun, ac na ddos yn dol: peth anweddaid' cwilyddus ydyw mined o ddydd i ddydd yn waeth, ac yn wannach.

Er bod y ddysceidiaeth hon gan wyr cenedlig yn hynn, ac ymhynci­au eraill yn ganmoladwy, etto mae r storiau yn son am lawer peth an­weddaid', a wnaethont hont hwy, fal hyn: Coriolanus cr chwāt i ddial, a ry­felodd yn erbyn i wlad naturiol, i hun: Cato, ac Antonius, o alar a [Page 203] thrymder, ai lladdasont i hunain: eychr rheswm dynawl a ddichon ddeuall, a barnu, am y cyfryw be­thau syd' yn erbyn naturieth, ac yn erbyn pob rhinwed', a gonestrwyd'. ond yr ardderchowcaf genedlic, ar rhai goreu o hanynt, a fawlasont, ac a osodasont allann ymynedd nid yn vnic ar eirieu, eythr hwy a ddan­gosasont hynny, wrth i siamplae, ai gweithredoedd: ymlhith y Groegi­eit, Aristides, gwr rhinweddawl o­diaeth, pann i gyrrwyd y maith oi wlad, a gymerod', ac a oddefawd 'i adfyd yn wrawl, ac yn ymynydd­gar: ymhlith y Rhufeinieit, Cami­llus, ac Attilius Regulns, a hau­ddent fawr glod a chanmoliacth, am i ymynedd oidawg, ai gw­reidd-dra,' rhai a ddangosasont hwy yn i hadfyd. Fe allase Scipio ei amddeffyn, ai ddial i hun ar y Terfyscwyr cynddrygeddus, ey­thr a chalon vchel, frenhinawl, [Page 204] ef aeth allan o olwg'ei elyniō, dros amser, ac a oddefod' lawer o drwb­leth, a chamwri ganthynt, er budd, a lles yw wlad: rhac yddynt gael achlysur, i wneuthur chwaneg o chwerwed' ac atgasrwydd. Ie y ddym'n darllein o ferched rai (me­is cornelia)'rhai, mewn ing, ac ad­syd, ai dāgosesont i hunain n wrawl ae 'n ddiorfod, Etto mae yn rhaid i ni bob āser, ystyriaw' r iawn waha­nieth, rhwng ymyned' y Paganieit ar Cristnogiō. mal: Socrates yn ei adfyd, a ryfeddai, wrth anghyfiawn­der gwyr, ac a dybiai nad ydoedd, ond damwain a hap iddaw,2. Sa. 24. 10. gaffael trallodae: eythr Dafyd' a wybu,1. Cro. 12. 17 ac a gyffesawd', fod i ymweliad ef, ai adfyd, yn dyfod oddiwrth dduw.

Socrates yn gymeint ac iddaw oddef'n wirion, ac yn ddiachos, ni wyr reswm,2. Sa. 24. pam y dyleu ef dda­munaw a disyfu cospedigaeth, ac ing: eythr Dafyd' (ar ol mod') sy yn da­munaw, [Page 205] ac yn ewylly siaw, caffael y groes, am iddaw wybod, mae ewy­llys duw yw, testiolaethu, ac eglur­hau i lid, ai ddigofaint, 'n erbyn pe­chod, drwy y groes, ac adfyd. Nid yw Socrates yn ei oddefaint, ai wrawl ymyned', yn ceisiaw, nac 'n edrych am ddim help, cymorth, nac esmwythdra, oi flinder, gann dduw. Ar ardderchawg cato, pann glybu ef orchfygu, a darostwng Pompei­na, ('rhwn ydoed' wr da) gann Iu­lius Caesar, (yr hwnn ydoed' wr drwg) a ddechreuawd' ameu ac a­nobeithiaw o help. Eythr Dafyd' trwy ymyned',Psal. 5. ac vfudd-dod, a al­wod' ar douw am help, ac ymwa­red, ac ydoed' siccr, a diogel, fod yr Arglwyd' ollalluawg, yn i gynor­thwyo ef, er mwyn y sanctaid', ar bendigedic had,Gen. 3. o bwy vn ni wyr y Paganieit oddiwrthaw.

Fal hynn wrth gystadlu y naill ar llall, y gwybyddwn, ac y deha­llwn, [Page 206] llwn, fod dysceidiaeth yr efangyl yn hyfrydach, ac yn dirionach, ac yn ein cynhyrfu i fwy diolchgar­wch, tu-ac efangyl Iesu Grist: trwy bwy vn, y ddym yn cael cyflawn, a fferffaithgwbl ddiddanwch a chon­ffordd.

Yrawron, oddiwrth 'rhen Baga­nieit, a chenedlic, deuwn a dychwe­lwn at y Twrcieit, ar Iddewon, yc at raddau eraill o wyr. llawer Twrc, ac Iddew, a oddefai i fer­thyru, ai arteithiaw yngreulon, yn gynt, nag i gwediff, ne i gwrthodiff grefyd' Mahomet, ai gauffyd' an­uwiol: a pham na bydd, (gann hynny) Cristnogion yn fodlonach, i ddioddef yn wrawl, (o byd' achos) ermwya y ffyd', ar crefyd' Crist­nogaid'?

Mersiandwr a wnaist deichian, a siwrneiau pell, ac a fentria i gorff, ai dda, ac ni thybia ef ddim yn rhy­vrwm, ne yn rhy boenus; yn vnic, [Page 207] er mwyn eaffael ychydig elw by­dawl, a bud' trancedig, ac etto mae i obaith ef yn ansicr pwy vn fydd i lwck ef ai da, ai drwg: ac er daed fo ei ddamwain, etto, nid yw yn ca­ffael dim yw ddwyn adref, ond pe­thau gwael, trancedig, y rhain a gant ddiwed', a therfyn.

Yr awrhonn, mae i ni i gyd daith bell, sef oddiar y ddayar, i'r nefoed', ac oni ddylem ni fod, cyn fodloned, cyn baroted, cyn llawened, a chann ewyllyscared, i oddef pob perigl, ac enbydrwyd', a ddigwyd' ini ar y fford', yn gymeint a bob gennym obaith sicr disomedig, o olud didrāc, tragwyddawl, 'n y nefoed', er mwyn Iesu Grist.

Y trafaeliwr, pann elef oddigar­tref, er iddaw ymddaith heb law tai teg, a gwairgloddie prydferth law­er, eto gann fod i feddwl yn gwbl ar ei gartref, ni themptia, ac ni rwy­stray cyfryw bethau ddim o honaw, [Page 206] [...] [Page 207] [...] [Page 208] yn yr vn mod', pryd na byddom ni­neu yn cael ein pleser, a'n gwnfyd yma, ni a ddylem ein cadarnhau, ein confforddio, a'n ddiddanu ein hn­nain, drwy gostaw,2. Cor 5. a choffhau,Philip. 3. ein gwlad, an preswylfa yn y nefoed'.

Pann dremyger, a phan ddisty­rer wr o anedigaeth, a braint vchel, mewn gwlad estron lle ni adwenir ef, nid yw cynddrwg ganthaw, a phe y digwydde y cyffelyb iddaw, yn et wlad naturiol i hun. yrawr­hon, mae 'n gwlad naturiol ni yn y nefoed', ar y ddayar nid ym ond d­eithrieit,Hebr. 3. 14. a phererynion,1. Pet. 1. 3. am hynny, ny ni a ddylē yn hytrach oddef pob peth yma yn ymynyddgar,Phi. 3 20. yn vnic, er mwyn caffael o honom orffwys­fa ymhlith triganwyt ein tref tad, a'n gwlad tragwyddawl.

Gwr o ryfel, wrth i baratoi i hun, a ffob peth angenrheidiol yw filwri­aeth, er cryfed fyddo ei elyn, etto ef a anghofia bob ofn, ac ni feddwl ef [Page 209] vnwaith am ddyrnodiau, a gweli­au, ond yn vnic, am yr oruwchafia­eth, ar orfodaeth, gan iyned ymaith, ac ymlad' yn wrawl fal cawr 'n er­byn i elynnion. a hyn, yn vuig, er elw a gogoniant fydawl: ond yw gwylwyddus, a gwarthus i Grist­nogion, os hwy ni fyddant cyn ba­roted, cyn ewyllyscared, ac chyn wroleiddied, i ymlad' yn erbyn ei gelynnion ysprydawl, er mwy, ac godidocach gorfodaeth, bud', ac elw? Arddwr, neu lafurwr a eiff all­ann i'r maes a deiliff, a erddiff, a lyfn: ff ei dir, ac a gymer boen a ge­fal mawr gidac efo, ac a discwyl ynghyferyd hyny, am strwyth ac e­lw, o honaw. Drwy 'r ecsampl hon mae Iago Sant,Ia. 5. 7. yn ein cyffroi, ac yn ein cynhyrfu i ymyned'.

Troer maen pedwarochrog fford' y fynner, ac fe a sai er hynny yn oe­stad: yn yr vn mod' pa delw bynat y temptier, ac y tralloder y gwir [Page 210] Gristnogion, hwy a barhant er hyny yn vnion ac yn ddifrycheulyd byth.

Pann fo gwr yn chwareu tabler ni fedr ef fwrw bob amser, y peth a fynno, eythr mae yn rhaid iddaw wneuthur y goreu o beth bynac a fwrio; i'r chwareu hwn mae Plato, yn cyfflybu by wyd dyn, ymha vn y mae 'n digwyddaw lawer peth yn­gwrthwyneb in ewyllys, 'rhynn sy raid i gymeryd yn oddefgar, ai droi i'r goreu, heb anobaith.

Pan ddamweinio i blentyn, 'rhwn ni ddichon ond 'n brin gerdded, da­ro i droed wrth garreg, ef a gwym­pa i lawr yno yn ebrwyd', ac a dde­threu grio, ac wylaw, nes i gyfodii fyny. Eythr ni ddyle bobl o reswm, a deuall wneut hur fal plant, ond gwneut hur i goreu i iachau, i esm­wythau, ac i ddiwgiaw, (cyn brysu: red ac y bo possibl) yelefyd neu 'r gwrthwyneb a ddigwyddawd'.

Plentyn rhinweddawl,Eccle. 3. 17. ni esclu­siff [Page 211] ei dad yn ei angenoctid, ai drall­od, nagwraig onest ei gwr, ai sfriod, na gwas ffyddlon ei feistr, A pham, gann hynny, yr yscluswa mnneu dduw, ein tad, neu Grist ein priod, ein nefawl Arglwyd', an meistr, mewn trallod, ac adfyd? Yr vsuri­wyr, y beilchion, y gwag-ogonedd­us, yr anlladwyr, y puteinwyr, ar lladdwyr celain, ni phrisiant er ei cwilyd', nac er dim arall, ac ni arbe­dant, na phoen, na thrafael, am y ga­llant ddwyn i chwant, ai dysyfiad anwireddus i benn, ac eto 'n fynych e fethiff ganthynt. A pham (gann hynny,) na fyd' y gwir dduwiol wr. yn ddifiog, yn boenus, ac yn ymar­hous, mewn pethae da, gonest, fal y scrifenna Saint Bernard, yn dda iawn gann ddoeddyd: Pa fe­thiantrwyd', pa ddiogi, asyrthni yw hwnn, sef, bod y rhai anwir, ar anuwiol, a mwy awydd yn dilyn anwired'a ffieidd-dra, nac ym ni yn [Page 212] dilyn gonestrwyd', a daioni, ie, i bod hwy yn rhedeg 'n gyflymach at ddi­awl, ac at angeu, na ym ni at dduw, ac at sywyd tragw yddawl?

Heb law hynn: dy ofn, ath ano­ddefgarwch, ydynt bleser a chon­fford' mawr, ith elynnion, a thrym­der, ac anghysur, ith garedigion. Canys yn ddiammeu, pawb oll, ar y syd' yn ewyllysio 'n dda iti, a law­enychant yn dy nerth ath gadernid ti. Hefyd meddwl pa wed' yddwyd yn ymladd yngolwg yr Ang ylion sanctaid', 'rhain trwy ragordeiniad ac ewyllys duw ydynt yn aros gi­da thi, ac ydynt yn dy gynhyrfu ac yn dy annog i fod yn safadwy.1 Cor. 4. 7. Ac maent hwy yn llawenychu, pann barhaech yn safadwy mewn daioni. A thrachefn, ny ni a ddylem hyd yr eithaf on gallu, ochel, a chasau, oll gyfryw bethau, a lawenychant ddi­awl: can's ef syd' benn gelyn mar­wol i dduw,1. Pet. 5 8. ac i hiliogaeth dyn: yr [Page 213] awrhon, hynn yw perwyl, ei brofe­digaethae, ai fradae ef, a hynn yw'r cwbl a gais ef, sef, bod i ni, pann fom dlodion, ledrata, pan fom glwyfus, murmur yn erbyn duw, ac mewn amser rhyfel, blinder, ac adfyd, ym­wrthod a'n ffyd' ac a'n crefyd' Cri­stnogaid'. Dianwadalwch, ffydd­londeb, ac astudrwyd', tu-ac at yr eglwys Cristnogaid', sy flin, a den­cryd ganthaw. Erwyd' paham, i lawenychu yr Angylion, ac i brudd­hau diawl, byddwn ffyrfion, safa­dwy, diyscog, a goddefgar yngha­nol ein oll adfyd.

Pen. 30.
Trwy ba foddion y mae ceisiaw, a cha­el ymyned, a ffann y caffer, pa fod' y gellir i chadw ai chwanegu.

ER ein bod yn gwybod, ac yn de­uall, fod ymyned' yn beth mor [Page 214] fuddiawl, ac mor ffrwythlawn i ni, eco yddym 'n elywed yn ein cnawd, ryw anwes, ac anfodlonrwyd, yn er­byn y groes. Pwy a ddichon, yn fodlon, ac yn llawen, weled, dwyn ei einioes, ei anrhyded', ei vrddas, ei dda, ei blant, ei wraig? Mae co­stadwriaeth y gwnfyd a'r llwy­ddiant a gawsom ymlaen llaw, mor osidus i ni,Gen. 19. 26. mal, yr ochneidi­wn, ac yr edrychwn yn ein ol gida gwraig Lot,Exod. 16. 3. tu-ac at Sodoma: ac y trachwantwn gida phlant 'r Isra­el, grochanau cig yr Aipht.

Ac yr ydoed' y cyfryw wendid a hwnn yn y Brenin ardderchawg, ar Proffwyd Dafyd', mal y testia ef i hun gann ddoedyd,Psal. 3. 2. llowero­ed' a ddoedant wrth fy enaid, nid oes ymwared iddaw ynuw: ac, fy archoll a redai y nos ac ny phe­idiai,Psal. 77 2. fy enaid a wrthodes i ddi­ddanu.

Hefyd, ein iachawdwr Iesu Grist, [Page 215] yn ei gnawd gwirion, a ddango­sod', ofn, gwendid y cnawd, y pryd y gostyngawd' ef ar ei liniau, ar fy­nyd Olewyd', ac ystiriaw ei ddi­oddefaint, ai ferthyrdawd, 'rhwn ydoed' garllaw, a phan chwysawd' efgann ddirfawr ing,Luc. 22. a chyfyng­dra, hyd onid oed' megis dagreu gwaed yn treiglaw i lawr hyd y ddaear: A phann weddiawd' ef ar ei dad, gann ddoedyd, y tad os ewyllysy, symud y cwpan hwnn oddiwrthyf &c.Psal. 22, Yn 'r vn mod', pann ydoed' ef ar y groes,Mat 27. y ddwe­dai, fynuw, fynnw, pa ham im gadewi?

Eto ni ddylid cymeryd hynn y­ma, fal pe i buaseu i Grist ameu, o gariad a gras duw ei dad tu-ac at­tw, ond am nas galle wendid ef gnawd ef oddef dim mwy. yr aw­ron,Mat. 26. 41. megis ac yr ydoed' yr ysprydMat. 14 38. ynghrist,Luc. 22. 42. yn rhagori, ac yn gorchfy­gu, 'r cnawd,Gal. 5. 16. felly mae rhaid iddaw [Page 216] ynō nineu, fal y byddo genym fwy pris am dduw, ac am y bywyd trag­wyddawl, nac am ein pryfedwled gnawd. Ac am hynny ni a ddango­swn yn awr, drwy resymae sicr dis­omadwy, pa fod', a pha fford' y di­chon gwr feistroli, a gorfod ei gnawd, yn amser y groes, ac adfyd, a dangos, ac eglurhau gwir a pher­ffeithgwbl ymyned'. Yr honn rin­wed', (meis eraill oll) sy 'n cael i dechreuad, ai chynyrch, o ras, gallu ac yspryd duw; heb pwy vn, ni all­wn ni wneuthur dim daionus, nac eto gwrthnebu, na gorfod y drwg. fe scrifennir,1. Mac. 3 19. nad mewn lliawso­grwyd' llu y saif buddigoliaeth' ny rhyfel, eythr gallu, a nerth, a ddevāt or nefoed'. Ac hefyd, pob peth a all­af trwy Grist 'rhwnn syd' im ner­thu. Phil. 4. 13. Erwyd' paham er bod fy rhe­swm cnawdol i, yn suddaw, yn vy­human, ac yn pallu, eto mae duw yn oestadawl yn cadw, ac yn cynal [Page 217] yspryd, fal na ddichon ef ballu yn ollawl, eythr parhau, yn barod, ac yn ewyllyscar, hyd yr amser y rhy­ddhaer, ac y gwareder ef.

Oud ynawr, pafod' y dylem ni 'n ymwreddu a'n ymddwyn ein hu­nain, fal y caniadhao duw i ni ei nerth, gwir ymyned', a hyder? Yn ddiau, trwy ffyd', gobaith, gweddi cariad, gwirioned', ffyddlondeh, rhinwed', a duwioldeb, y cawn hyn gann dduw.

Rhaid i ni yn gyntaf, addurnio, a chonfforddio ein calonnae, a'n me­ddylieu, affyd' tu-ac at dduw: ca­nys pwy vn bynac sy 'n gwybod yn berssatthlawn. ac sy ddiameu gan­thaw, fod duw, ('rhwnn sy Ar­glwyd' ar bob ffawd, ac anffawd, llwyddiant ac adfyd) yn gymo­dawl, ac yn gytun ac efo, ac am hyn­ny na ellir i ddeoli ef, o iechydwri­aeth dragwyddgwl; hwnnw addi­chon dremygu, a diystyru, oll an­rhyded', [Page 218] rhodres a thrachwantai bydawl. A thrachefn, ni dd chon vn penyd fod cyn chwerwed, cyn dost­ed, ac mor ddialeddus, ac y gelliffi ddwyn ef allan oi ymyned'. Yn ein ffyd' Gristnogaid' yddym yn cyfa­ddef ac yn credu fod eglwys sanct­aid' gyffredinawl, a bod i ni gym­deithas, a chyfran, gida oll sainct, a dewisedig duw. Athrachefn ydd­ym yn cyffesu, ac yn credu, fod ma­ddeuaint pechodae, ailgyfodiad y cnawd, a bywyd tragwyddawl. Mae Crist i hun, 'n rhoddi i bob vn sy a ffyd' gāthaw, y rhyddhad hwn: yr hwnn a glyw fy ngair,Ioan. 5. 25. ac a gred yn hwnn am anfonod', y mae iddaw fywyd tragwyddawl, ac ni ddaw i farn, eythr ef a ddiangawd' o angau ir bywyd.Rhuf. 5. 1. 2. Erwyd' pahā, trwy ffyd' y cair grym,Rhuf. 8. 26. nerth, ymyned',Heb 10. 22. diāwa­dalwch, Heb. 11 1. 2. a chadernid ymhob daioni.

Pe i bae i elynnion nerthawg, gry­mus bwysaw atat, gosod arnad, at [Page 219] amgylchu, ag oth dy dithau vn, 'rhwnn a wyddit yn ddiau, i fod yn Arglwyd', ar dy elynion, ac iddaw awdurdod drosdynt, ti a ellit fod yn hyderus, ac 'n eofu. Yrawrhon, mae genym (drwy ffyd') Grist in ty, yr­hwn yw Arglwyd, yr Arglwyddi. ac sydd iddaw allu goruwch pob ffawd, ac anffawd, ffynniāt ac adfyd: Erwyd' pahā, ni ddylit ti hir fedd­wl, ac edrych ar wendid dy gnawd, rhaid i ti feithrin ac arferu dy ffyd', sef yw hynny, rhaid i ti ystiriaw yn ddyfal, ac yn ddilys allu, a gwir ga­riad Iesu Grist, 'rhwnn a ddichen ac syd' hefyd 'n ewyllysiaw dy gon­fforddio, ath lawenychu, yn fwy, nac y dichon holl aflwyd' y byd, dy ansi [...]io, ath bruddhau. Fe a ddoedir wrthym,1. Pet. 5. 8. ych gwrthnebwr Diawl, sy yn rhodio oddiamgylch megis llew rhuadus, yn ceisio y neb a allo i lyncu,' rhwn a wrthsefwch yn ga­darn yn y ffyd'.

[Page 220] Hefyd Iago sanct a ddywaid,I1.1.3. mae profedigaeth eich ffyd' a bair ymy­ned'. Y Sanctaid' ar ffyddlonieit Apostolion a ddāgosesont 'n eglaer, fod yn orfoled' ac yn gonfford' gan­thynt, gaffael i curo ai scyrsio, er mwyn Crist.

Trachefn, pob trallod ac adfyd syd' ofidus gennym, o erwyd' gwendid ein ffyd' ni, 'rhonn eto ni faethdrin­wyd ond yhcydic, ac ni ffrofod' eto yn dda, ac yn gyflawn, o gyfoeth a thrysor etifeddion duw. Ond er hynn i gyd, ni ddyle neb anobeithi­aw er nad oes ffyd' berffaith gadarn ganthaw: fe ddamwain yn fynych, fod i'r ffyd' sy wann a bechan, gili­aw, a thynnu yn i hol, yn amser an­gencctid, ac ing, a bod yn debig bentewyn, ne i wreichionen, heb fawr dan ynthi, 'rhonn ni diffaud yr Arglwyd' Iesu, ond i chwanegu, os gweddiwn gida yr Apostolion an­wyl, Act. 4. 19. gan ddoedyd, O Arglwyd',Mar. 9. 24. ca­darnha [Page 221] ein ffyd' ni: ond pann fyddo gwr gwbl ymddifad offyd', mal vn ni wyr fod byd arall gwell na hwn, nid oes rhyfeddod er iddaw anobei­thaw or diwed'. ie, pwy fwyaf y coelio ef ynthaw i hunan, neu mewn dim bydawl, trancedic: anaplach a fyd' ef i orfod, ac i barhau mewn tra­llod, ac adfyd:Act. 4. 29. can's nid oes iawn gonfford',Act. 5. 41. na chymorth mewn dim oll, heb law 'r Arglwyd' Iesu.

Mae dau fath ar obaith, vn yn dy­fod o naturiaeth, arall o ffyd': go­baith naturiol, yw arbennig ddawn a rhod' duw, yr hwn (ar ol mod') syd' yn cymorth, ac 'n diddanu gwr y syd' dr aserthus, a gorthrymedic, rhac iddaw yn ollawl anobeithaw, eythr ynghanol i holl adfyd, gobei­thaw fod gwellant yn agos, ac fel­ly discwyl, ac aros, hyd oni ddel yr adfyd heibiaw.

Yr awrhon os yw gobaith natu­riol cymeint ei rym, ai rinwed', oni [Page 222] ddyle y gobaith arall, yr hwnn y mae yspryd duw yn i anadlu ynom o newyd' trwy ssyd', weithiaw mwy a pherffeiddiach ymyned', a nerth, fal y byddo i wr ynghanol ei adfyd, obeithaw, a disgwyl am ddidda­nwch nefawl, a chymorth gann duw er mwyn Crist. Ac er bod y gobaith naturiol yn fynych yn pallu, ac yn ein sommi, ac yn sersyll bob amser, eto y gobaith Cristnogaid' hwn, ni phalla ac ni symm byth.

Y llafurwr, ni ystyria ei boen, ai lafur, a ffa demestl, dryc-hin, ac any­dymyr a ddichon ddyfod, ond yn gymeint, ai fod ef yn gobeithaw, ac yn coeliaw, y cynyddiff, ac y cynyrchiff y ffrwyth mewn amser, ef a weithia yn rymmus, ac yn e­wyllyscar: yn 'r vn modd, yn y winllan ysprydawl,Rhuf. 8. 1. dan iau'r Ar­glwyd', gobaith o anrhyded', a gobr a wnaiff wyr yn ewyllysgar, ac yn dda i ymyned', ac a ryd' gysur a [Page 223] chalon dda ynthynt.

Os gobeithwn am y peth nid ym yn i weled, yddym yn edrych am da­naw trwy ymyned'.

Heblaw hynn, rhaid i ni erchi ar dduw yn ystig ac yn ddibaid, ar id­daw ef roddi i ni yspryd nerthawg hyderus,Mat. 24. 13. i oddef pob peth, ac i bar­hau yn safadwy hyd ydiwedd. Os gwnawn hynn, ef a'n gwrendu yn rasawl pann alwom arnaw, ar ol ei addewid ef, ac yn ffyddlawn ef a rydd ini, ddoniau ysprydawl yn helaeth.

Pann fo gwr yn gwneuthur i a­chwyn, ac yn egoryd ei eisieu, ai ddo­lur wrth i anwyl gydymaith, ef ai clyw yn esmwythach ar ol hynny, mal wrth adrod' i gyflwr yr ys­cafnheir, yr iacheir, ae yr anch­wanegir llawer ar ei boen ai ddi­aled' ef. Mwy o lawer fyd' y di­ddanwch ar esmwythdra, a gawn ni, wrth ddoeydyd, ac egoryd yn [Page 224] briw, a'n cyflwr i dduw: can's pry­sur y blina dyn, yn gwrandaw ein cwynfan: ond pe i gwariem yr oll ddiwrnod, yn gweddiaw, yn galw, ac yn cwynfanu wrth dduw, ef a'n care, a'n diddane, ac a'n cadarnhae yn fwy. Trachefn, mae 'n gymorth ac yn help mawr i ddiscu ymyned', bod i wr chwilio, gwrando, a dyscu gair duw, a myfyrio arnaw, ddyd', anos, can's ni egorawd', ac ni eg­lurhaod' duw, i air, 'n ofer i ni, eythr ef a ddangoses, ac a roddes o flaen ein golwg ni yn ei air, hyfrydlawn, a charedigawl addewidion, a siam­plae confforddus, drwy bwy rai y gallwn ddyscu, ei ddaioni, ei ffydd­londeb, ai garedic diriondeb ef, ac felly ein diddanu, an cadarnhau ein hunain a hwynt hwy, ymhob bath ar drallod ac adfyd'. Er ecsampl, Sanctaid' air duw, a ddywaid: yn y byd y cewch orthrymder,Ioan. 16. eythr byddwch o gyssur da, mi a orchfy­gais [Page 225] Y byd: Hefyd: duw yw ein go­baith a'n nerth.Psal. 25. O Arglwyd',Psal. 31. yr ei oll a obeithant y not ti ni chwyly­ddir. llawer or fath dduwiol adde­widion, a geirieu diddan, sy genym yn 'r scrythyr lan, 'rhain a ddylē ni i ceisiaw, ai cyrchu, (pe i bae o Gaer­salē,) ar ein gliniau, a moli, a maw­rygu duw yn ddibaid, am iddaw ef yn y dyddieu diwaethaf hynn, yn gwneuthur yn gyfranogion o drag­wyddol, a didwyll ddiddanwch ein eneidieu, 'n ei air ai efāgyl. Yr hwn air nid yw ddim, ond pur rinwed', a bywyd, fal y mae holl galonnae ffy­ddlawn, yn clywed ac yn gwybod.

Ac ni ddylid derbyn na gwrando yn amgenach, na ffe i baem yn cly­wed gwirlais duw i hun or nefoed' yn llefaru wrthym, yr ollgyfryw bethau yddym yn ei clywed, allan or ddau destament, hen, a newyd'.

Heb law hynn, cariad, 'rhwnn sy yn blaguro, ac yn tyfu, allan o wir [Page 226] ffyd', a weithia ymyned' mewn ad­fyd, di-anwadalwch, ac ystigr wyd' mewn daion:Gen. 29. 20. Iacob a wasnaethed' saith mlyned' am Rachel, ac o her­wyd' i ddirfawr gariad tuac ati, nid ydoed' 'r amser ond byr gāthaw: yn 'r vn mod', pwy bynac sy n caru duw, ef a gymer ac a dderbyn 'n oddefus, beth bynac a roddo duw arnaw ef, a ffa beth vynac y mae ef yn i oddef er mwyn duw, a fyd' yscafn ganthaw. Yrawrhon, nid yw clefyd a phlace eraill yn digwyddaw ini, heb ewy­llys a rhagordeiniad duw.

Os ydym, gan hynny, 'n caru duw yn dda, fal y dylem (yn gymeint ac mae ef yw ein tad trigarog ni, a ni­neu ym i blant, ai etifeddion ef) nid yw bossibl i ni rwgnach yn erbyn i ymweliad ef, na bod yn anfodlon iddaw: [...]ychr ny ni a redwn ar i ol ef, trwy bob ffyrd', erdrysed fydd­ant, ac a dremygwn bob peth er garwed, ac er anhawsed fyd , ac a [Page 227] bwyswn attaw ef byth trwy dew, a thene, hyd oni chaffom ddiogelwch perffaith ynthaw et, ar ol siampl y sainctaid' Apostolion, ar Merthyrō, 'rhain trwy ei cariad tuac at dduw, a ostegid, ac a esmwytheid, eipoe­nau, ei croes, ai merthyrdawd.

Helyd, rhoi elusenau, ac arfer o rin­wed', a duwioldeb, a fag ymyned', a hyny 'n enwedig am ddau achos: yn gyntaf, oherwyd' bod duw yn chwanegu ei ddonieu nefawl, yn y sawl ai arferant,Eccl. 35. 2. 3. ac ai tront i'r go­reu: can's i bob vn a fo ganthaw,Mat. 25. 23. y rhoddir.

Yn ail, pwy bynac ai ymddwg i hunan, yn dduwiol, ac yn rhinwe­ddawl, mae ganthaw well, a dioge­lach gydwy bod, a mwy coel, a hy­der: ond er hynn, ni adeilad, ac ni ryd' ef i bwys, ond yn vnic,2. Tim. 2. 10. ar gyfi­awnder Iesu Grist.

Hefyd, meis ac y mae rhyfelwr ('n gynt af rhac ofn carchar, ar cwy­lyddgar [Page 228] angeu, 'rhwnn a oddefai ef, o collid y maes: ac yn ail, o rann gobaith, o obr mawr, ac o anrhy­ded', a derchafiad vchel, os caid yr orfodaeth oi dy ef) yn ymlad' yn fwy hyderus, ac yn wrolach: yn 'r vn mod', pob gwir Gristion, a gyn­hyrfir, ac a anogir, i fwy ffyddlon­deb, ac ymyned', pann ystyrio ef y dirfawr lesad a bud', syd' yn dyfod, o ymyned', a thrachefn y dirfawr golled, ac afles syd' yn dyfod o ani­oddefgarwch.

Pen. 31.
Ffrwyth, bud', a lles ymyned', yn gystal ir corff ac ir enaid.

YN olaf or cwbl, mae ymyned' yn fuddiol er anrhyded', a go­goniant i dduw; ac er bud' a lles, i wr, yn gystal o rann enaid a chorff, da, meddianae, mawl, ac anrhyded' [Page 229] fydawl: cans y ffyddlawn, a wrth­nebant, ac a wrthsafant ei poen ai merthyrdawd, ac a oddefant yn ddi­rwgnach, drwy ymynedd, i dduw wneuthur a hwynt'n ol ei sanctawl ewyllys ef. Nid er gwag ogoniant, nid er elw bydol, a bud' trancedig, ond yn vnic, ac yn yspysawl, er ei dangos ei hun, yn vfuddawl i dduw, ac er i foliannu, ai fawrygu ef. er ec­sampl: duw a fawrygwyd, ac a ogo­neddwyd yn ddirfawr, pan odde­fawd' tri chydymaith Daniel, mor ddioddefgar, ac mor wrawl, i taflu, i ffwrn boeth danllyd: a phann dde­onglawd' Daniel trwy ei ddoethi­neb anfeidrawl, freuddwyd y bre­nin. Heb law hyn, y gwr dioddefgar syd' yn anfynych yn glaf, a phann fyddo ef glaf, ef a iacheir yn gynt: eythr trwy anioddefgarwch, y ga­lon a wescir, a drallodir, a gnoir, ac a ddiddimir yn ollawl. Calō lawen, yscafn sy help, a chymorth i iechyd: [Page 230] eythr meddwl trist, trwmhyrddig, a ddirymia nerth natur. Ac faly mae gwyfynnae yn bwyta y bre­thyn, ar pryfed y prenniae, yn 'r vn mod' y mae trystyd, a thryinder yn wastio ealon dyn. Pan fo plent yn, pryd y cerydder ac y cosper ef gan ei dad, yn goddef yn ymynyddgar, ei dad a gymer fwy trigared' arnaw, ac a attal ei law, ac a baid 'n gynt ac efo, eythr os y Plentyn ai dengysi hun yn anystywallt, gann lefam yn groch, murmur, a silgyngan yw er­byn, yna y byd' y tad ddiciach, a chreulonach wrtho ac ai cur yn ffyr­nicach. Yn 'r vn modd y tad nefawl a gosbiff, y gwr goddefgar, yn esm­wythach, ac ai iacheiff ef yn gynt: eythr ef ai dengys i hun yn ffyrni­cach, ac yn greulonach, tuac at y sawl ai gwrthddoedant ef.

Iob oddefus, a gafes i dda adref yn ddaupenniog, ac a obrwyed, yn helaeth gan 'r Arglwyd' yma yn y [Page 231] byd hwn. e brofawd' y ffyddlonieit, ac hwy a welsant yn dda, ac 'n ddai­onus yddynt, fod yn ymorthoys, a goddef i dduw, wneuthur i feddwl.

Ac eil waith llavveroed' drwy ei anioddefgarwth, ai drygnad, a go­llāt lawer peth, 'rhwn a gaent hwy yw fwynhau, (oni bae hyny.) Dio­ddefgarwch, ac ymyned', ydynt ar. wyddion o doethineb: tristwch an­fesurawl sy 'n arwyddocau ffolineb, Pan wylō, a phā achwynō, fal plāt, gā ddoedyd, ni thygaswn, ac nid oe­ddwn yn credu, y daethee y peth fal hyn, ac fal hynn, benn: &c. Heb law hyn, anioddefgarwch syd' 'n maglu ac 'n rhwydo y meddwl, ac a wnaiff wr weithiau yn syfrdanus, ac agos allā oi gof. Pā fo gwr yn ymddato­stwng, ac 'n i ymroi i hunā i dduw, er nas gellir (ond antur weithiau) iach au i glefyd ef, eto efyd' esmwythach ac yscafnach arnaw: ie nid oes dim cyn chwerwed cyn dosted, mor galed [Page 232] ofnadwy i wr, ar nas bydd drwy y moddion hyn, yn esmwyth, yn felys yn yscafn, ac 'n gonfforddus iddaw. Athrachefn, cyd y byddo gwr, heb i ymroi, ai vfuddhau i hunan i ddai­onus ewyllys duw, ac heb oddefi­ddaw ef wneuthur i feddwl, gann fod yn fodlon i ba beth bynac a an­fono ef, mae yn fwy i ddialedd ef, mae yn fwy aruthrol i benyd, i fe­ddwl ef a fy ddigus, a chnofaus, ac o vn tristyd, ef a wna dri, neu bedwar.

Megys ac y mae yr edn, a ddalier 'n y glud pwy fwyaf a waaiff o ym­ffust yw waredu i hun, fwyfwy yr ymdru ac y glyn ei esgyll ef yn y glud: ac mal, yn yr vn modd, pwy fwyaf'r yinguriff y pyscodyn a dda­liwyd yn y rhwyd, i ddyfod allan, fwyfwy y mae ef' ni ddrynnu i hun yw mewn: ac mal yr vn sy yn rhwyn mewn cadwyni, a gefynnae he y rn, pwy fwyaf y crwydra ef a­llan, [Page 233] fwyfwy o niwed a wnaiff ef i­ddaw i hun: yn yr vn mod', y neb sy ffrom ac annoddefus, mewn adfyd, a chwanegiff i dristwch, ac ai briw i hun yn fwy.

Y neb sy a baich gorthrwm ar i gesn, pwy fwya yr ymffustiff ac yr ymguriff ac efo, mwyfwy y poenir ganthaw: yn yr vn modd pwy ffro­maf ac anioddefgaraf a fyddo gwr dann y groes, mwyfwy fyd' ei ddia­ledd ef ai boen: nid anoeth am hyny y dywedod', y gwr cenedlic Plinius:

Calon dda mewn adfyd

A dawdd hanner ein blinfyd.

Ac mae yn ddihareb gyffredin ymhlith y cenedloed', sef, ofn adfyd, a ffoen, cyn i dyfod, sy waeth nar adfyd, ar boen pann ddelont.

Pob bath ar gospedigaeth, ac ad­fyd, ('rhwn ar ol heuddiad a rhy­glyddiad dyn, a ddyl fod iddaw ef yn braw, ac yn ddechreu or poenau, ar cospedigaethau tragwyddawl, a [Page 234] gymer y goddefgar 'n achlysur, yw arferu i hun mewn rhinweddae da, drwy bwy rai y cynyrchiff ac y chwanegiff ysprydawl ddomeu gras yn fwyfwy. Cans y sawl syd' oddefgar, hwy a gadwant y wir ffyd', tuac at dduw, hwy a lefant, ac a alwant, ar dduw trwy weddi, hwy ai anrhydeddant, ai molant, ac ai mawrygāt ef, nid yn vnic am iddaw lywodraethu a dosparthu pob peth, eythr hefyd, am iddaw ddwyn pob peth i ddiwed' a diben da, ai cynal felly yn oestadawl. Ac fal hyn drwy ymyned', y cynyddiff ymyned'. Ac yngwrthwyneb i hyn, yr anioddef­gar a belliff beunydd ymhob rhin­weddae, ac a yspailir, ac a anrhai­thir fwyfwy o bob daioni. Canys pwy bynac sydd fodlon ganthaw, ac sydd yn goddef ir cythraul, ac ir cnawd i lichiaw ai ddenu, ac a rydd le yddynt, mae hwnnw, ynn ymwr­thod a ffydd, gweddi ac vfudd­tuac [Page 235] at dduw, ac yn i gollwng hwy oddiwrthaw, ac felly e fyd' aniolch­gar yw wir ai ffyddlawn dduw; yr rhwn ni ddichon ef oddef yn vfud', nai orchymyn i hun iddaw dros amser, fal y byddo iddaw ef i am­ddeffyn ai waredu, yn fwy ac yn well o hynny allan.

Mae ef yn meddwl, nad yw duw yn prisiaw ynthaw, ac nad yw and ofered', obeithaw, a disgwyl am help, confford', a gwared gan dduw.

Nid yw ef yn tybio dim ynthaw i hunan, ond bod duw 'n gwbl ddigo­fus, ac yn ddigllon wrthaw ef, ac am hyny, ef a glyw arnaw felldithiaw, a chablu duw, fal pe i bae ef dduw creulō, anrhigarog, ac anghyfiawn, sef, yn dangos mwy cariad, a natu­rioldeb, ac 'n gwneuthur mwy lles, i'r anwir, nac i'r duwiol: ac o hyn ef a gymer achlysur i geisiew cy­morth, help, a diddanwch, gann gre­adurieit, ac a wnaiff addunedau [Page 236] i'r Sainct, ac i fyned i beryndota, sef yw hyny, i gapelau delw-addoli ant a gau-dduwiau, ac ef a wnaiff a­modeu anwireddus, cytundab, ac addewidion yn erbyn duw. Rhai rhac ofn a wrthodant, ac a wadant, y ffyd' Gristnogaid', ac a dderbym­ant grefyd' anwireddus y Pab, gā gydsynniaw i ddelw-addoliant, yn oleu ac yn eglur: ac hwy a wnant dduw yn gelwyddawg, fal, na ddi­chon ef, neu, nad yw ef ewyllyscar i gynorthwyaw yn hynn, neu mewn peth arall o hynn allan, yn ol i am­ryw addewidion ef, yn y testament hen, ar newydd.

Heb law hynn, Aflonyddwch, a chwanegir, ac a amlheir, trwy ani­oddefgarwch, fal y digwydd i'r vn sy annoddefus, fod bevnyd' yn dri­stach ac 'n fwy anobeithiawl, nai gi­lyd', gann ffo, pann i dyle ef yn hy­trach, barhau yn safadwy: ac nid yw ef yn cael, na heddwch, nac esm­wythdra, [Page 237] na diogelwch yn ei galō. A llawer vn, am na fedr ef dderbyn a goddef tlodi, ac eraill or cyfryw angenoctid, a gwympiffi ddrygio­ni, meis, i lawruddiaeth, i buteindra i ddoedyd celwyd', i ledrata, i ocreth i wttresu, i dorri pyrsae, ac ir cy­fryw ddigasawg ffieidd-dra.

Hefyd y sawl sy anioddefgar, a gensigenant wrth lwyddiant, a thwydd-deb rhai eraill: cans hwy a dybiant mae hyny yw'r achos oi croes, ai tristyd hwy, ac hwy a ym­ddigiant ynddynt i hun, gan genfi­gēnu, dirmygu, a chasau yn fynych, y gwirion, a hyny yn ddiachos: ie hwy a ymgythreusiant, ac a wall­gofant, gan redeg bendro mwnw­glyw dial i hun. Am yr achos hwnn yn fynych, (mal y testia, 'r storiau) y tyfod' ac y cododd, ymrysonau, ca­sineb, rhyfel, terfysc, tywallt gwa­ed, destryw, a dinystr ar eglwysi, trefyd', ac ar holl wlad.

[Page 238] Corsolanus er mwyn i ddial i hun a ddarparod' ryfel fal gelyn, yn er­byn ei wlad naturiol ei hun.

Mae yn anrhyded' ac yn ganmoli­aeth mawr, o flaen dynion, o flaen yr Angylion, O flaen y Sainct gwnfy­dedic, ac hefyd o flaen duw i hun, pann fo gwr yn dangos ymyned', hyder, a grymusder mewn adfyd. A thrachefn, mae yn warth, ac yn gy­wilydd, o flaen holl greadurieit y byd, ac o flaen y creawdwr hefyd, pann fyddo gwr, yn i ymddwyn ei hun yn anweddaid', yn anioddefgar ac meis vn heb obaith. Cans nid yw orchest i wr, i ddangos ei hun yn eofn, ac yn hyderus, a bod yn todlō i waith duw, pann fo pob peth yn damwain, yn llwyddiannus iddaw ef, ac yn ol ei ewyllys ef: eythr hynn sy rinwed', a ffwnc o gelfyddyd i wr, sef, hod ei feddwl ef yn ddigy­ffroys, ac yn ddiorfod, mewn adfyd, ac aflwyddiant.

[Page 239] megys ac mewn yscol o ffens, yr vn, a ddangos awdd fwya gwroldeb, a dewredd, a gaiff y canmoliaeth ar anrhyded' fwyaf, felly 'n'r vn mod', y mae, yn ysgol Grist, gorō ddiddar­fodedig, wedi i darparu i nineu, pān wrthnebom, a ffan orescynnom, ein gelynion ysprydawl, a phann ga­ffom yr orchafiaeth yw herbyn, sef rhuthrae y cnawd, ar cythraul.

Y gwas a wrthyd ei feistr dayar­ [...]l, heb achos cyfiawn, a fernir o flaen y byd y anffyddlon, yn anwir, ac yn anonest: ac ond yw hyn, bwnc ofwy anonestrwyd', ac anffyddlon­deb, sef, gwrthod Crist, ai air, yn amser adfyd, a thann y groes, a thrwy anioddefgarwch, gwneuthur i waethaf yw erbyn.

Yr vn a ddarostwng brofedigaethae y meddwl, sydd fwy canmoladwy, a mwy addas o glod, nar vn, a ym­gylchawdd, ac a enillawd', ddinas cadarn. Cans llaweroedd o wyr [Page 240] gwchiō, yn gystal ymhlith y Crist­nogion, ac ymysc y cenedlig, a gaw­sont fawrglod, a chanmoliaeth am ei ffyddlondeb, ei gonestrwyd', ai dianwadalwch, 'rhain a ddangose­sont, 'n'r ing, ac mewn angenoetid: ac yn anwedig fe a ddylid ystyri­aw, siampl ein iachawdwr Iesu Grist, o bwy vn i scrifenna Saint Pawl gan ddoedyd: os derchafwyd Crist, ar ol ei orthrymder, ai vfudd­dawd, (sef vfudd-dawd i angeu,) ir cyfryw ardderchawg anrhydedd, a gogoniant, e fyd' hyny yn 'r vn mod', yn gymorth i nineu, i ddyfod i fawr anrhyded', o chymerwn ein croes beunyd', ai galyn ef 'n eofn, ac yn wrawl. Mae cynefinder hefyd ein dyscu, pa wed', pann fyddo gwr yn yscwyd ymaith y groes oddiwr­thaw, drwy foddion anghyfreith­lawn, y cymhellir, ac y gwthir ef 'n fynych, oi anfodd, i oddef cymeint, neu fwy, drwy gwilyd', ac anone­strwydd. [Page 241] Iudith a ddywaid: y sawl ni chymersont ei croes, ai profedi­gaeth, mewn ofn duw, eythr trwy rwgnach, a murmur, 'n erbyn duw, ai oeddynt anoddefgar, a ddestry­wwyd, ac a ddifethwyd gann Se­irph.

Heb law hynn, pwy vn bynac fy­ddo gwr yn goddef, ai yn evog, ai yn ddieuog, o pery ef i furmur, ac i rwgnach, gann fod yn anoddefus, e droir hynny yn dānedigaeth drag­wyddawl iddaw ef. Ac eilwaith, pwy vn bynac fyddo gwr, ai rhy­glyddus ai anrhyglyddus, os ef ai cymer yn oddefgar, mal y dyle, e fydd hynny fuddiawl iddaw ef, a chymorth i gaffael y bywyd trag­wyddawl. Ar holl dristyd, a phoenae rhai ydynt ar y ddayar, nid ynt ond megis, brath ednogyn, neu chwan­nen, rhain sy hawdd i gorfod. Pann fyddo gwyr yn yr rhyfel, yn chwa­reu y gweision diog, ac yn gorwedd [Page 242] yn ddifraw, ac yn ddiofal, yn ei gwersyll, heb wrthnebu ei gelynion yn ddewr, ac yn wrawl: ei caredigi­on hwy a ddinystrir, ei tai a yspei­lir, ei pentrefydd a loscir, ei anwyl gymdeithion a leddir, ac a artei­thir, ei gwragedd, ai merched a ha­logir, ac a dreisir, a ffob peth a ddi­frodir, ac a ddestrywir: yn yr vn modd, yn y maes, ar rhyfel yspry­dawl, os ny ni a ymrown i'r cnawd ac ir cythraul, heb i gwrthnebu yn wrawl, ac yn gadarn, yddym yn ein taflu ein hunain, i enbydrwyd', tru­eni, ac aflonyddwch tragwyddawl: Ond os ymladdwn yn erbyn ein gelynnion ysprydawl, yn hyderus, ac yn ymyneddgar, nyni a enillwn esmwythdra, a diogelwch didranc, yn hawd' ac yn ddiboen.

Os y gwr claf a wrthyd y feddi­giniaeth am i bod yn chwerw, ac yn dost, nid oes rhyfeddod, na chwith­der, er marw o hanaw, yn ei glwyf [Page 243] ai ddolur: ond os ef ai ymryd' i hu­nan, i'r Physygwr, yw drin ac yw deimlaw, ar ol i feddwl ef, fe a alle orfod i ddolur, a bod mewn gobaith o gael i iechyd drachefn.

Yn 'r vn mod', holl wir, a ffydd­lonieit Gristnogion, ar y syd' odde­fus, mewn adfyd, a obeithant, ac a gredant yn sicrach, y cant ddioge­wch tragwyddawl yw eneidiau, ac yw cyrff.

Ac yngwrthwyneb i hynn, y sawl sy'n parhau, ac yn aros yn oesta­dawl, yn ei anynadrwyd', anhy­weithdra, ai hannoddefgarwch yn erbyn duw y nefawl Physygwr, a boenant, ac a ferwinant am hynny yn dragwyddol, mewn corff ac e­naid. Scrythur lan sy genym i sicr­hau, ac i brofi hynn yma.Iago. 1. 12.

Happus yw 'r gwr, a ymoddef brofedigaeth, can's pann fo prawe­dig, i caiff goron y bywyd, 'rhonn a addawod' 'r Arglwyd' ir rhai ai ca­ro [Page 244] ef. Ond ni ddichon neb ddoy­dyd na chasclu allan, o hynn, yn bod ni yn haeddu, ac yn rhyglyddu, o ha­nom ein hunain, iechyd tragwydd­awl, am ein ymyned': 'r hwn beth, a wnaeth Crist yn vnig.

Yn ddiweddaf or cwbl, ymy­ned' syd' fuddiol, ac a ddwg leshad mawr, nid ynig, ir vn syd' ar rhin­wed' yma ganthaw, eythr i eraill hefyd: can's pann ddehallo arall, dy fod yn safadwy yn y gwirioned', ef a gymer achos, i arferu y cyffe­lyb ymyned', a chadernid. Mae'n eglur trwy amryw hystoriau cre­dadwy, pa wed', pann oddefod' y Cristnogion yn eofn, ynghweryl y ffyd' Gristnogaid', y rhyfeddawd' rhai oi arteithwyr hwy 'n gymeint, ac y troesont drwy achlysur o hyn­ny (ac heb vn achos arall) i ffyd' Grist. Hefyd, ymyned' a dianwada­lwch, a wnaethont heddwch i law­er o wledyd', i'r eglwys, i genedlo­ed', [Page 245] ddinasoed', ac i drefi lawer. Scipio llywodraethwr godidawg, a ddewisawd' yn hytrach, ymadaw a Rhufain, na darostwng, a gorfod ei elynnion, drwy fin arfeu: yr hwn beth, a droes yn lles mawr, i'r oll wlad. Ac yngwrthwyneb i hynn, meddwl chwerwaid', creulon, ani­oddefgar, sy 'n dwyn ac yn peri, dia­led', a dinystr anfeidrawl. Hefyd trwy ein anioddefgarwch mewn adfyd, yddym yn rhod di achos i'r rhai fy weinieit yn y ffyd', i ammeu, beth yw ein ffyd' ni, ai bod yn wir ffyd' ai nad yw; pann fom yn cyffe­su enw duw, ac mae ef yw ein di­ddanwch yn y byd hwnn, ac yn y byd syd i dyfod, ac etto yn ein dan­gos ein hunain mor anobeithawl mewn adfyd, fal pe i bae i dduw, yn gwrthod a'n taflu ymaith yn oll­awl.

Erwyd' paham, ny ni a ddylem ein darparu ein hunain, yn erbyn [Page 246] pob adfyd, mewn amser llwyddiant a hawddfyd, ac nid rhoddi ein go­glud a'n pwys ar bethau bydawl, trancedig: mal pann fo achos, y ga­llom fod yn fodlon, ac yn ewyllys­car, yw maddeu, gann aros a phar­hau 'n oestadawl, yn ddiserfyll, ac yn ddisigl, yn yr iawn ffyd', ymhwy vn pwy bynac a erys hyd y diwed', a fyd' cadwedig.

I dduw 'r tad, i dduw 'r mab, i dduw 'r yspryd glan, tri pherson, ac vn duw, gogyfuwch, a gogyd­tragwyddawl, yn vnic, y bo oll anrhyddedd, moliant, a gogoni­ant yn oes oe soedd. Amen.

COWYDD IR IESV.

PWy sy rran yn passio byd?
Pwy oruwchaf pur iechyd?
Pa Arglwydd ynhop eurglod?
Pa Ior glwys y piau 'r glod?
Pa frenin pwy fry iawn wych?
Pwy oreu i ged pa wr gwych?
Pwy ond Iesu penn dwysair
Oreu mab o wiwryw mair?
Brenin ar bawb ar aned
Brau vnion cryf brenin Cred
Brenin dibrin da obrwy
Barwn mawr heb 'r vn mwy.
Awdur y grym wyd ar gras
Arglwydd-walch Ior glew addas.
Di yw yn penn, da yw 'n pwyll,
Dawn cynnes di yw 'n canwyll.
Di yw ffynnon gwirionedd,
Di wyr hynt, di yw yr hedd.
Di yw 'r ffordd dewr hoff vrddas
Di yw 'n grym da yw yn gras.
Di yw 'r hael diwair Helynt
Di yw 'r hap da yw yr hynt.
[Page] Di yw pob peth ddifeth dduw,
Deg vrddas di yw gwirdduw.
Bwy ath edwyn beth ydwyd?
Byth vn duw ba beth nid wyd?
Iesu ydwyd oes wiwdeg
I haws hau dyn Iesu deg.
Iesu wrawl oes wiwrym
Iesu Ghrist wiw oesawg rym.
Llew ydwyd llu a edwyn
Llew gwrdd o Iuda llew gwyn
Llew Dafydd oll wiw dyfiad
Llawen yw 'r iaith llawn o rad.
Llawenydd, llywydd, llewych,
Llwyddiannus, foliannus fych
Doethost or nef ner Dethawl,
Dyna hap in dwyno hawl.
Dioddefaist ond oedd ofyd
Draw Iesu boen dros y byd
Dygaist drom farnedigaeth
dygaist ddolur mal cur caeth:
Drud brynnaist drwy waed breini­awl
Dyn rhag aerwy dirwy diawl:
Nid ag aur bennod gwiwrym
Nid ag arian rwyddlan rym
[Page] Nid a main gwerthfain gwrthfawr
Nid a golud munud mawr:
Onid'o roddi deinioes
I brynnu cred ar brenn croes.
Ag yno yn deg anian
Rhwdda ystad rhyddheist wann.
Digonaist Ion deg ynad
Feddwl duw wiw fuddiol dad.
Dioddefaist ffiniaist hoff Ion
Dugaeth cur alaeth creulon,
Cefaist amarch ar wbatch oedd,
A chernodiau chwyrn ydoedd:
Poerwyd yn dwyneb pur wyn
Parod twyll fu'r poeriad hynn:
Cyn yt farw ceit arwain
Cur yn ddrwg coron o ddrain
Croes-hoeliwyd cur ias alaeth
Dy Iawn gorff a scyrsid yn gaeth
Un o dwyll yna a dyllodd
Dy ystlys anfelys fodd:
Gollyngodd mewn gwall angau
Y gwaed gwirion or fron frau,
Dy gorff oll a archollid
Iesu lan ath ais o lid
[Page] Ag yn ol hynn terfyn [...]
Mawr iawn waith mar [...] wnae­thost.
Ag yn ol dy farwolaeth
Codaist or bedd culwedd caeth
Derchefaist cefaist cofiwn
Ddeheulaw dduw gwiwdduw gwn
Yno ir wyd yn waredwr
I bawb a gais i bob gwr.
Yn frenin haelwin hylaw
Yn llywydd dragywydd draw
Yn garwr dyddiwr diddan
Yn oreu o glod yn ner glan
Yn nodded iawn yn wiwddyn
Yn fab duw, yn dduw, yn ddyn.
Terfyn.
H. Lewys.

Gweddi fer yw doedyd mewn adfyd

Pa bryd (Arglwydd) y synni di y vaich gorthrwm hwnn oddiwr­thyf, pa bryd yr adnewyddi fy nidda­nwch, ac i gyrri ymaith ofal o'm Calon, drwy dy dyner garedig­rwydd, yr hwnn am camweddae a ddigais? Dyre attaf drachefn (o Arglwydd grasusawl) drwy gari­ad, a llewyched dy wyneb-pryd ar­naf: Tynn ymaith y dialeddae hyn, y rhain a haeddais yn rhyglyddus: ac fal im ceryddi drwy gariad, er fyn' rhoi oddi-wrth fynghāweddae, felly (drigaroc Arglwydd) yr erfyn­niaf arnat yn ddiffuant, roddi i mi ras, cymorth, a diddanwch eilwaith trwy 'r unrhyw gariad, er mwyn dy vn mab ein Iachawdwr Iesu Grist. Amen.

[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.