Car-wr y Cymru, Yn annog ei genedl anwyl, a'i gyd­wlad-wyr er mwyn Crist ai heneidiau i chwilio, yr Scrythyrau, yr ol gorchy­myn Crist. Ioh. 5. 39.

Y rhai, yr awr' hon yn ddiweddar â brintiwyd o newydd yn Gymraec: ac a geir ar werth yn llyfran cynnwys, a bychain eu maintioli a'i prîs, drwy fawr ddiwydrwydd, a thraulswrn o wyr Duwyol, enwog ac ewyllys-gar i wneuthur daioni i'r Cymru.

Prŷn y gwîr, ac na werth, &c. Diha. 23. 23.
MATH. 22. 23. Yr ydych mewn amryfusedd, o herwydd na wyddoch yr Scrythyrau, na nerth Duw.
Chry. in Epist. ad Col. Hom. 9. Audite obsecro seculares omnes, comparate vobis Biblia.
Et Hom. 2. in Mat. Et domi divina Biblia in manus sumite, & vtilitatem in ex positam, magno studio suscipite.

LLVNDAIN, Printiedig gan FELIX KYNGSTON, drwy awdurdod. 1631.

TO ALL THE WORTHY and True-hearted Well-willers and furtherers of the spiritual weale of Wales, who haue put their helping hands and hearts to that late, necessary, and worthy worke of setting forth the Bible in Welsh, in a small volume. The Authour of this Welsh treatise; wisheth Wisdoms Gift (as a graci­ous Recompence of Reward from the Lords viz. Length of daies, riches and honor; with Eternall life which is the gift of God through Iesus Christ our Lord. Amen.

HOnoured and beloued of all that know you, and the Truth, for the truth sake that dwelleth in you, as also for your (more then ordinary) loue vnto the truth, lately expressed in the furtherance thereof in the Welsh Language, among Welsh families, who neuer enioyed it before this time in the like manner and measure, who are greatly bound to [Page] blesse God for you, and to blesse the time that euer he put into your hearts to take that blessed course of sending home into their houses and families the Word of Life and Saluation, to bring them to life and saluation: The name­lesse Author of this Welsh Treatise knowne vnto you all by name (though not vnto the world) dedicates this his little Booke vnto you all, though not by name, knowing that it is your ioy, that your names are written in the Booke of God, rather than in the books of men, such of you as vnderstand not the subiect, matter, and scope of this treatise (being in a language vnknowne vnto you) be pleased to vnderstand that it containeth that necessary and weighty duty of reading and searching the Scrip­tures, grounded vpon the command of Christ. Ioh. 5. 39. Search the Scriptures for in them ye thinke ye haue eternal life, &c. and setteth forth the necessity im­posed vpon all sorts, of searching the Scriptures, for the attaining of Eternall life, together with the transcendent au­thority, excellency, and vtility of the [Page] Scriptures aboue all other writings, as also the hainousnesse of the sinne of neglecting this search, with the fearfull punishment due to all that neglect it, discouering also the manner of right and profitable searchings, together with two generall Epistles written, the first to all the Ministers of Wales, the second, to all the common people thereof, con­taining sundry arguments and motiues to moue all the Ministers, to stirre vp their congregations to the buying and right searching of the Scriptures, and to moue their people to yeeld thereunto, answering all the objections of all sorts of men (that could be remembred) ob­iected against the daily due search of Scriptures in families, by all sorts, all done familiarly, by way of questions and answeres, with as much breuity and perspicuity as could bee, all gathered principally out of the Scriptures them­selues, together with collections of the principall things drawne out of the best Authors, who haue written (in sundry languages) of the same subiect. There is also annexed hereunto a short Cate­chisme, [Page] containing the duties of parents and children, with domesticall prayers. May it please you therefore, honorable, worshipfull, and beloued, to vouchsafe the acceptance thereof, and as you haue beene lately pleased, after your great care, paines, and charges vndertaken, in procuring the printing of the Welsh Bible, to send it abroad into the country of Wales, so be pleased to send this Welsh booke after it, which may happily o­uertake it, spurre it forward, yea, goe before it as an Harbinger into many houses and families, to prepare a roome for it, in their houses and in their hearts, and returne againe to giue that holy and blessed booke of God the meeting, by causing many so to doe, and to procure it welcome among many, who vnto this day, neuer gaue it entertainement into their hearts or houses; seeing that by this little booke they now vnderstand that the Bible now printed for them, is the booke of God, which he hath sent from heauen into this World, to bring them out of this world into heauen, by the dayly and due search thereof.

[Page] Sith the Lord in great mercy hath bin pleased to vse you as his instruments to prepare and conuey the Bread of life in a whole loafe into Wales; oh that he would also be pleased to vse you as his instruments to send some skilfull Diui­ders and faithfull Distributers of this spirituall Loafe, and Bread of Life, for children may perish for want of bread, with a whole loafe before them, if there be not some to diuide and distribute it vnto them in due season: Enquire after our estate this way, and accordingly pi­ty our misery, in regard of our necessity, that (if you can doe any thing) you may helpe vs, that the blessings of many that are ready to perish may fall vpon you, be it so, O Lord, for the Lord Iesus sake, euen so be it,

‘He was worthy for whom he should doe this, for he loueth our nation, & hath built vs a Synagogue, Luc. 7. 4. 5.‘It grieued them exceedingly, that there was come a man to seeke the welfare of the children of Israel. Neh. 2. 10.

The pronunciation of the Let­ters in the Brittish tongue.

THe letters in the British tongue, haue the same fi­gure and fashion as they haue in English, and be in number as here vn­derneath in the Alphabet appeareth.

A b c ch d dd e f ff g h i k l ll m n o p r s t th v u w y.

These be the vowels. a e i o u w y.

These two vowels a w be mutable.

The digthongs b these, and be pro­nounced with two sounds, after the very Greeke pronunciation.

  • Ae ai au aw ay
  • ei ew
  • ia ie io iw
  • oe ow oy
  • uw
  • wi wy

These letters be called consonants: b c d dd f ff g k l ll m n o p r s t th v.

A comparison of the pronoun­ciation of the letters in Welsh, to the Greeke and Hebrew Letters.

A Is not vnlike of pronun­ciation to the He­brewes Aleph.

B most entirely resem­bleth the nature of Beth.

C and K be not vnlike in sound vnto Caph and Coph.

Ch, chi, cheth and caph, with raphe, be of one sound.

D soundeth as Daleth, Daghessata.

Dd containeth the power but of one letter, and that of Dhelta, or of Dhaleth, not Daggesset.

E is much spoken after the sound of the vowels Segol or Epsilon.

F and Beth without the point Dagges, or the Greeke Veta, bee as one in sound.

ff, or ph, agree in pronounciation with the Greeke phi, or the Hebraick [Page] phe, not poynted with Dages.

G is sounded as Gimel, or the Dutch g.

H and th'aspiration He, bee equall in power.

I in euery poynt agreeth with the Greeke Iota.

L Lamedh, and Lamdha, disagree not in sound.

Ll counteruaileth Lambda, comming before Iota.

M. N, Mem Nun, and My Ny differ not in sound.

O and Omega shall sound as one.

P doth as well imitate Phe and Phy in sound, as in other conditions.

R hath a peculiar concinnity with Rho.

S Samech and Sigma may goe toge­ther well ynough for their tune.

T soundeth as Teth or Tandagesset in in the Hebrew.

Th hath the very sound of Theta or Tan, hauing no Dages.

V being consonant, soundeth as Beth without Dages, or as Veta doth.

V being a vowel, is read as Kibuts, and not much vnlike vnto Ypsilon.

Y hath the very sound of Ypsilon. By Edward Kyffin.

Cynhwysiad y llyfran hwn.

YN gynt af y rhag yma­drodd at Eglwys-wyr y Cymru i'w hannog hw­ynt, i fod yn eiriol ar eu plwyfolion i brynu Bib­lau, ac i chwilio yr Scrythyrau. 1. O herwydd gorchymmyn Crist.

2. Er mwyn llesâd y bobl â oso­dwyd tan eu gofal hwynt.

3. Er mwyn cael y cyssur, a'r glôd â ddigwydd iddynt os gallant ddwyn hynny i ben.

2. Yn ail llythyr yr Awdwr at y Cymru cyffredin, yn cynnwys deuddeg o resymmau i'w Cymmell oll i brynu Biblau, ac i Chwilio yr Scrythyrau.

3. Ymddiddannion rhwng y Carŵr a'r Cymro ynghylch chwilio yr Scrythy­rau: ac yn y rhain chwêch o bethau [Page 2] buddiol i'w hystyried, sef.

1. Pwy sydd i chwilio yr Scry­thyrau?

2. Pa Scrythyrau â ddylid eu chwilio?

3. Pa bryd y dylid eu chwilio?

4. Pa hŷd y dylid barhau yu chwilio?

5. Pa fudd i w gael o'u Chwilio?

6. Pa fôdd yr iawn-chwilir yr Scrythyrau i gael budd oddi-wrthynt. Gan atteb y pethau sydd, gan bobl wrth­nebus yn erbyn prynu Biblau chwilio yr Scrythyrau.

4. Yn bedwaredd Gweddi y Cymro am faddeuant, am esceuluso o ho­naw hyd yn hyn chwilio yr Scrythyrau, ac am ras o hyn allan i'w iawn chwil­lio hwynt yn ôl Gorchymyn Crist.

5. Gweddi yr Awdur dros y Cymru, ar drugarhau o'r Arglwydd wrthynt, a gostwng ey calonnau i gadw y gyfraith hon.

6. Boreuol a phrydnawnol weddi i'w harfer mewn teuluoedd.

7. Gweddi cyn bwyd, a diolchiga­rwch yu ol bwyd.

Y rhag-ymadrodd at Eglwys-wyr Cymru.

HA-wŷr frodyr, a thadau, Parchedig ac anwyl yn yr Arglwydd, y mae yn weddus i mi synnied hyn a'm danoch ôll nad yw yn anwybod i chwi, ond eich bôd yn credu yn ddilys mai ewyllys Crist yw nid ar i chwi yn vnig either i'r hôll braidd y gwnaeth yr Yspryd glan chwi yn olygwyr arnynt,Act. 20. 28. chwilio yr Scrythyrau.

Canys y mae y ddyled-swydd hon wedi ei yspyssu yn amlwg, ac mor gy­ffredin mewn amryw fannau o Air Duw, ac o'r Tadau dyscedyg gynt ac na ddychon nêb oddieithr Gwilie­dyddion deillion fod yn anhysspys arni.Musc. loc. co. de sac. Scrip. Aug. Amb. Hier. Orig. Theoph. Chrys. Athro rhagorol yn nechreu yr oes hon â gasclodd allan o'r hên Dadau athrawaidd gynt, mor daer, ac mor ddifrifol oeddynt bawb yn, hamser, yn [Page 4] Cymmell y cyffredin i fod yn gydna­byddus â Gair Duw, ac i'w fynych chwilio gan; gynghori hefyd y Periglo­rion o'r amsroedd hynny i gynhyrfu, ac i fôd yn daer ar bawb tan eu gofal hw­ynt, i ymarfer ar ddyled-swydd gre­fyddol hon, yn eu tai eu hûn gartref, ym mysc eu teulu. A minneu (frodyr) gan ganlyn ar ôl y Seint Dwyfol hyn, â fyddaf (drwy eich cennad) cyn hyfed arnoch ag attolwg i chwi er mwyn Crist Iesu, er mwyn eneidiau eich pra­idd, ac er eich mwyn eich hûn fod yn eiriol ar eich plwyfolion, ar iddynt brynu Biblau bychain y rhai sy yr awr'hon drwy râs Duw a'i ragorol ymgeledd tu ag attom (y cyffelyb peth ni bu yn ein plith erioed or blaen) yn aml yn dda'r newid arnynt, ac yn hawdd i'r tlawd eu cael, fel y gallo pob dyn anyscedig â dim athrylith dduwiol ynddo, o medr ddarllein ei iaith ei hûn (yr hyn â ddylei pawb ei fedru) gan fanwl chwilio Gair Duw, a bod yn hyspys ynddo. A hyn yr wyf fi yn ei attolwg i chwi.

1. Yn gyntaf, er mwyn Crist; O [Page 5] herwydd chwi â wyddoch mai hynny yw ei ewyllys ef, sef fôd i bawb o'i bobl ef tan eich gofal chwi fynych gyr­chu at ei Air ef; myfyrio yn ei gy­fraith ef ddyd a nôs,Psal. 1. 2. fel y byddo iddynt yn gannwyll i'w traed,Psal. 119. ac yn llewyrch i'w llwybr; ac i chwithau fynegu hyn, au ddwyn ar góf iddynt beunydd, heb attal dim buddiol oddi wrthynt, yn ôl esampl S. Paul: Act. 20. 26. Os ymrowch gan hyn­ny, i wneuthur ewyllys Crist, bydded ei gariad ef i'ch cymmell i gyflawni y ddyled orchymynnedig hon. Ac os bu nêb o honom or blaen esceulus, a di­fraw yn hyn o bêth, bydded pawb o honom o hyn allan diescealus, a gofa­lus; oblegit mawr fydd ein cyfrif ni yn anad eraill. Tebygol yw y buasai y ngwlâd Gymru yn nyddiau ein Tadau fwy o chwilio ar yr Scrythyrau nag a fu hyd yn hyn o'n hoes ni, pe buasei y Bugeiliaid ysprydol, neu y rhan fwy­af o honynt, mor gràff, mor ddiwyd, ac mor daer ag y dylasent i annog, i gymmell, i gynnyrfu y cyffredin bobl yn y ddyled-swydd anhepcor, ac ang­enrheidiol hon.

[Page 6] 2. Yn ail er mwyn y bobl tan eich gofal chwi, byddwch daer arnynt am ddarparu iddynt eu hunain bôb vn ei lyfr; gan ddwyn ar ddeall iddynt pa lesâd anrhaethol a ddigwddd o iawn ymarfer a Gair Duw. Fel y mae yn eglur wrth ystyried esampl gwŷr Berea y rhai yn ôl gwrando ar S. Paul yn Pregethu, drwy chwilio yr Scrythyrau â droed i ffydd Crist, ac â gadarnhaed ynddi. Pwy bynnac gan hynny o ho­noch chwi sydd yn ewyllysio y cyffe­lyb lwyddiant ysprydol i'ch plwyfoli­on, na fyddwch difraw, a dîog i'w cymmell hwynt i arfer y cyffelib fo­ddion, a chyfryngau mal o wneuthur hyn yn gydwybodus yn ôl eich gal­wedigaeth,2 Tim. 4. 16 y galloch eich cadw eich hûn ar sawl â wrandawant arnoch.

3. Er eich mwyn eich hûn ceisiwch ddwyn eich pobl i fod yn gydnaby­ddus a Gair Duw drwy fedru ei ddar­llein yn eu tai eu hùn, a myfyrio arno gartref gyd a'u teulu: fel y byddo eu diwydrwydd hwynt yn gymmorth i chwi yn eich gweinidogaeth; yn lla­wenydd hefyd, ac yn glôd os rhynga [Page 7] bodd i Dduw roddi llwyddiant, a bendith ar eich gwaith.

I. yn gymmroth mewn amryw foddion.

1. Yn gyntaf, haws i chwi eu dwyn hwynt i wybodaeth iechydwriaeth, a Chynt y dyscant bob perthynas Du­wioldeb os ymroant i gymmeryd poen i ddarllein Gair Duw, ac i fyfyrio ar­no. Haws yw i bôb mâth at Athro ddyscu eraill, os bydd ganddynt lyfrau yn barod fel yr oedd gan wŷr Berea, i weled ynddynt, ac i ddwyn ar gof iddynt y gwersi, a ddyscir allan o honynt. Ac o herwydd hynny y par­odd yr Arglwydd i'r Israeliaid fôd ei Air ef gŷd â hwynt yn barod gar llaw bôb amser,Deu. 6. 8, 9, 10. a bod o honynt yn hyspys ynddo. Ac y gorchymynnodd i Io­suah nad ymadawei llyfr y gyfraith o'i enau, eithr myfyria ynddo (eb efe) ddydd a nôs, fel y cadwech ar wneu­thur yn ôl yr hyn ôll sydd scrifennedig ynddo: lle y mae yn eglur i'w weled sef oni bydd gennym lyfr cyfraith Dduw; oni byddwn hyspys ynddo, na allwn wneuthur yn ôl yr hyn âddys­cir o honaw.

[Page 8] 2. Parottach fydd eich gwranda­wyr i gredu y gwirionedd a draethoch iddynt pan welont a'u llygaid eu hûn, nad ydych yn cynnig dyscu iddynt ddim amgen ond gwirionedd Duw, fel y gwybu y Bereaid am S. Paul.

3. Yn drydydd; eu diwydrwydd hwy i geisio cyrhaeddyd gwybodaeth a fydd yn gymmorth mawr, ac yn hyfforddrwydd tueddol i chwithau i drîn, ac i borthi eich praidd. Canys o hynny y daw y Perchen-tŷ a'r pen­teulu i fedru dyscu eu plant a'u tylwyth gartref y ngwyddorion y ffydd; ac i ennyn yn eu cymmydogion bêth gw­res ewyllys-frŷd, ac awydd i ymgom­mio ynghylch Crefydd, ac i fyfyrio ar amryw byngciau o athrawiaeth yn ôl eu clywed allan o Air Duw yn yr E­glwys; yr hyn beth sydd yn helaethu gwybodaeth, y ngwaith y Gwenidog poenus.

4. Yn bedwaredd, hynod ac am­lwg yw fôd gwybodaeth, zêl, a san­cteiddrwydd llawer o'r Cyffredin bobl â iawn chwilio yr Scrythyrau yn hogi, ac yn blaen-llymmu llawer ar awydd­fryd [Page 9] yr Eglwyswyr i fyned rhagddynt yn ddiwydiach, ac i gymmeryd mwy gofal, a phoen yn eu swydd a'u gwe­nidogaeth. Chwi â wyddoch pa gym­morth, ac hyfforddrwydd a gafodd Apollos gan Aquila, a Phrysyla: pa gyssur a ddûg Iethro i Moses? A pha gyngor duwiol a roddes Abigael i'r Brenhin Dafydd? Nid yw yn anwy­bod i chwi, frodyr, mai prif arfer Duw yw dangos ei nerth ei hûn drwy wen­did dynion; a rhoddi i'r gwannaf ryw ddawn i gynnorthwyo y cryfaf.

5. I fythau i chwi, y gwrandawyr diwyd i chwilio yr Scrythyrau fyddant barod i ddadleu ym mhlaid eu gwe­nidogion yn erbyn eu gwrthwyneb­wyr, fel mil-wr yn taro ym mharti eu Capteniaid. Hŷf, ac hyderus y gall­ant fôd y nghweryl y gwirrionedd, pan fyddo ganddynt gleddyf yr yspryd, yr hwn yw Gair Duw yn arf parod yn erbyn dynion anwybodus, ac an-rashol pan ymosodant i wrthddywedyd, gan gablu y gwirionedd drwy resymmau dynol, a chwantau cnawdol. Canys bydd bŷth rhag-llaw, fel y bu erioed [Page 10] o'r blaen lle byddo gwenidogaeth Gair Duw ar gerdded yn hwylys, ym­ddadleu, ac ymbleidio ynghylch wir Grefydd, megis yr oedd rai gyd a'r Apostolion,Act. 14 4. a rhai yn eu herbyn gyd­a'r Iuddewon.

Wrth hyn chwi â welwch, frodyr anwyl, os medrwch ddwyn eich plwy­folion i brynu llyfrau Duw, fel y gal­lont chwilio yr Scrythyrau, chwi a'u dygwch drwy hynny i ddyscu llawer o athrawiaeth, a chynghorion hawdd e'u dyscu wrth ddarllein at eu pennau eu hunain gartref: o'r hyn lleiaf chwi a'u dygwch hwynt i fod yn gyd­nabyddus ag Histori y traethawd; ac O hyn yn barottach eu deall, a'u côf i ddirnad, ac i ddwyn gan­ddynt pa athrawiaeth bynnac a gly­want ei bregethu; ac a'i credant yn rhwyddach. Heb law hyn mawr yw'r llawenydd a'r cyshur â ddigwydd i'wch o'i plegit, yn y byd sydd, ac yn yr hwn a fydd, wrth ystyried y daioni â dderbyniant: o wrando arnoch chwi yn pregethu, a thrwy eu cyfarwyddyd yn yr Scrythyrau yn cymhwyso y pe­thau [Page 11] hynny attynt eu hunain. Canys llawen, a hyfryd gan bôb Eglwys­wr graslawn weled ei wrandawyr yn ofalus ac yn ddarbodus am iechydw­riaeth eu heneidiau. Yn hyn yr oedd Paul,Act. 11. 23. 3. Ioh. 4. a Barnabas yn llawenychu. A mwy llawenydd na hyn (medd Ioan) nid oedd ganddo.

4. Yn bedwaredd er mwyn y glôd, a'r ggoniant a ddigwydd i chwi yn Eglwys Crist yn ei ddyfodiad ef, drwy fod yn ermigion ac yn beiriannau Duw i ennill eich praidd i gael cydnabyddi­aeth a'r Pen-bugail Crist Iesu. Y cy­fryw rai â ddygoch drwy eich dir­fawr boen i'r pennod hwn, a fyddant i chwi yn goron,1. Thes. 12. 19, 20. yn orfoledd, ac yn o­goniant. Canys yn y bŷd yma y rêb â ennillo eneidiau sydd ddoeth.Diha. 11. 30. Ac yn y bŷd â ddaw, yr Athrawon â ddiscleiriant fel discleirdeb y ffurfafen, a'r rhai â droant lawer i gyfiawnder,Dan. 12. 3. fyddant fel seir bŷth yn draggwydd.

Y moddion a'r Cyfryngau i gyflawni hyn ydynt yn Canlyn.

YN gyntaf os mynnwch annog eraill i ddyfal chwilio Gair Duw, rhaid oedd i chwi eich huuain yn anad dim fod yn esampl iddynt yn hyn o beth; sef drwy eich diwydrwydd yn eich Swydd dangos iddynt ar eich gweithred fod eich ewyllys chwi y nghrfraith yr.Psal. 1. 2. Arglwydd, a'ch bôd yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd, a nôs; ac yna bydddwch wedi eich gosod ar hwyl i eiriol ar eriall, ac i'w cymmell i chwilio, ac i gasclu allan o Air Duw y cyffelib fudd, a llesâd ac â brofasoch eich hûn fod iw gael ynddo.Preg. 12. 10. Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymmeradwy. Ac om byddwch chwi yn trîn Gair duw yn ddiwŷd, ac yn astud, pa fodd yn iawn y gesiwch chwi gynghori a chynyrfu eraill i astudio arno?

Mynych dros ben y mae dolur yn taro yn fy nghalon wrth weled, ac [Page 13] ystyried y diffyg mawr a'r esceulusdra dybryd sydd yn ein plith ni Eglwy­swyr cymru, o gymmeryd poen i ddys­cu ein praidd yn gydwybodus eisueu ymosod a llwyr-fryd calon i ddarlle­in,1 Tim. 4, 13. gynghori, ac i athrawiaethu. Yr ydym ni ein hunain (lawer o ho­nom) yn anghynefin a Gair cyfiawn­der, ac am hymy yn anghyfarwydd, ac yn anghymen i gyfarwyddo eriall, y mae yn aml gweled yn ein plîth ni ynghymru Eglwys-wyr o ran eu dys­ceidiaeth yn ganmoladwy, a'i yma­drodd yn barabl-ddoeth ac etto yn an­aml gweled mewn lawer goror or wlâd yr Scrifennydd wedi ei addyscu i deyrnas nef yn dwyn allan o'i dryssor bethau newydd,Mat. 13. 52. a hên. Ie rhoddwch gennad imi, fy mrodyr anwyl, i ddy­wedyd wrthych (y peth sydd ddrŵg gennif orfod i ddywedyd) y gellir cael ym mhôb vn o Escobaethau Cymru ddeugain neu drugain o Eglwysi heb vn bregeth ynddynt ar y suliau hir­ddydd hâf, pan fo, sychaf y ffyrdd a chlaiaraf yr hîn. A pha fodd y gallwn ni gymmell y Cyffredin i wnenthur [Page 14] y peth â esceulusswn ein hunain yn er­byn ein galwedigaeth, a'n cydwybod? nyd wyfi yn barnu ar nêb, oblegit pawb a ddŵg ei faich ei hun, ac sydd yn sefyll neu yn syrthio i'w Arglwydd ei hûn; eithr dymuno yr wyf lwyddiant i Air Duw, a dyfod o bawb i wyboda­eth y y gwirionedd. Gwae hwynt-hwy ryw ddydd rhai ni ddeffroant mewyn prŷd o swrthgwsc eu difrawch i arcilio ac i borthi praidd Crist â orchymyn­nwyd iw gofal, ac i fod yn siāpl iddynt o astudrwydd yn chwilio yr Scrythyrau.

2 Yn ail, Da ydoedd, pan fo'm ni ein hunain yn pregethu. dewis, a­chymmeryd y cyfryw destyn i bre­gethu, arno, ac a berthyno yn gym­mwys, ac yn bendant i ddangos i'n gw­randawyr angenrhaid y ddyled hon; sef mai peth an hepcor i bôb dyn gofa­lus am ei iechydwriaeth yw bôd yn ofalus hefyd am chwilio yr Scrythy­rau, Ac i'm tŷbi, y mannau o Air Duw ar y cyfryw achosion yw y rhai hyn, a'u cyffelyb Ioshua. 1. 8. Deu. 17. 19. Psal. 1. 2. Act. 17. 11. Io. 5. 39. Di­ha. 23. 23. Dat. 1. 3. Mat. 22. 29.

[Page 15] 3 Y trydydd môdd yw ymbil â Duw drwy weddi ar ryngyu bodd iddo dywalt ei fendith ar eich gwenidoga­eth, gan roddi i'w bobl ewyllysgar­wch, a gallu i gynyddu mewn gwy­bodaeth am Dduw, ac er mwyn hyn i chwilio yr Scrythyrau: Iam. 5. 16. canys llawer â ddichon taer-weddi y cyfiawn,

4 Yn bedwaredd, drwy fod eich hunain yn ofalus am ddarparu i'ch gwragedd, ac ich plant bôb vn ei lyfr bibl i'w ddwyn ganddo i'r Eglwys, ac i'w ddarllain gartref. Canys à ofalwn ni yn vnig am gael iddynt angen rheidi­au eu cyrph, ac oni ofalwn ddim am eu heneidiau hwynt? a ddyscwn ni iddynt gelfyddodau bydol am bethau y by­wyd yma, ac â esceuluswn eu dyscu i ofni Duw tu ag at gael y bywyd â bery byth? Chwi a wyddoch mai o­did gweled yn lloygr, yn enwedig mewn Dinasoedd neu drefi; na gwraig, na mâb, na merch ie hyd yn oed y gwa­sanaethin, heb fedru darllain, ac heb lyfrau ganddynt yn yr Eglwys a char­tref: A pha ham na wnawn ninnau y cyffelyb? Yn enwedig yr Eglwyswyr. [Page 16] Ac nid gwiw i ni ddisgwil gallu gyrru eraill i wneuthur i'w teuluoedd y peth nis gwnawn ni i'n teulu ein hun oni fedr vn lywodrathu ei dŷ ei hûn yn dda pa fodd y gofala efe am Eglwys Dduw? By­dded gan hynny esampl pôb vn o hon­och chwi, fy mrodyr yn eich teulu ich hûn yn ganwyll i berchen-tai a Tha­dau eraill yn eu teulu hwythau.Luc. 19.

5 Y pummed, ar môdd olaf i bara­toi eich praidd i chwilio yr Scrythyrau, a llyfrau da eraill, yw gosod allan ly­frau newyddion o'ch poen, ach gwaith eich hûn, neu cyfiethu llyfrau o waith rhai dyscedig eraill, a'u gosod mewn print; Ar gair oh yn abair i'r cyffredin bobl ewyllysio eu gweled, a'u darllein (canys hôff pôb newydd) pe na bai ddim amgen ond i gael gweled pa fâth ydynt, fel Zacheus am weled Crist. Cywilydd Eglwyswyr Cymru yw bod cymmaint o lyfrau da yn Saesonec, ac mewn ieithoedd eraill, a chyn lleied nifer yn Gymraec: yr hyn beth sydd argoel hynod mai llai yw eu gofal hwynt nac eraill, am eneidiau, eu pobl.

[Page 17] O herwydd paham, attolygaf i'wch, frodyr,1. Pet. 5. 2, 3, 4. er mwyn gorchymmyn, a thrugareddau Duw, Porthwch braidd Duw yr hwn sydd tan eich llaw, ac ym­geleddwch hwynt, nid trwy gymmell, eithr yn ewyllysgar; nid er chwant budr-elw, eithr o barodrwydd me­ddwl; nid fel rhai yn Arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Dduw, ond gan fôd yn esampl i'r praidd; A phan ymddango fo y Penbugail, chwi â gewch dderbyn anniflannedig goron y Gogoniant: Amen, felly y byddo i chwi oll er mwyn Iesu.

Eich Brawd, a'ch Câr-wr a'ch câr Di-enwog Di-Enw.
‘Oh fy N V W, cofia hwynt Sydd yn halogi yr offeiriadeth, Neh. 13. 29. ac yn peri ffieiddio offrwm yr Arglwydd, 1 Sam. 2. 17.
[...]
[...]

At ei anwyl geraint a'i gyd-wladwyr y Cyffredin Gymru.
Annerch.

FY nghenedl anwyl a hôff, a'm gwîr gare­digion y Nghrist Ie­su, y mae ir dyrnaid bychan hwnnw O weddillion Cenedl-Gymru sydd yn cyfanneddu etto yn eu Gwaled ei hûn, lawer o achosion dirfawr, a dirfyng i ystyrieth, ac i gydnabod tru­garedd Duw tu ag attynt o herwydd ei amryw ymgeledd▪ a'i ddaioni iddynt, eithur yn anad dim arall am ei Air Sanctaidd a'i scrythyrau cyssegredig i'w feddiannu. ac i'w fwynhau yn eich tafod-iaeth eich hûn, nid yn vnig er ys talm o flynyddoedd mewn llyfrau maw­rion yn yr Eglwysi plwyfol, eithr yr [Page 19] awr'hon yn y dyddiau hyn wedi ei ddar­paru a'i gymhwyso i'r eglwysi bychain sydd (neu a ddylei fod) yn eich tai eich hûn,Rhuf. 16. 34. a hynny mewyn llyfreu bychan eu prîs,Phile 2. yn gymmaint a bod yn hawdd i chwi yr awr'hon gael y peth oedd anhawdd gynt i'n henafiaid ni sef Gair Duw i'w ddarllein ym mhôb tŷ; a hynny fyddei gyfrwng ac achlyssur cymmwys i gyfla­wni gorchymmyn Crist am chwilio yr Scrythyrau, yr hwn orchymmyn sydd wedi ei eglurhau, a'i yspysyu yn fanawl mewn swrn o ymddiddanion sydd yn canlyn yn y llyfrau hwn, os bydd gwiw gennych eu darllein. Ac i'ch cynnyrfu i hyn.

1. Yn gyntaf ystyriwch pwy yw Aw­dur yr holl Scrythur lan sef Duw Tad drwy ei fab Iesu, a'i Yspryd Glan Ob­legit yr holl Scrythyrau (medd S. Paul)2. Tim. 3. 16. sydd wedi eu rhodyi drwy ysprydo­liaeth Dduw. Nid drwy ewyllys dŷn (heb S. Peter) y daeth gynt Brophwy­doliaeth, 1. Pet. 1. 21. eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant, megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Yspryd Glân. Gan hynny os bydd llawer o honoch barod a chwannog [Page 20] i brynu, ac i ddarllein llyfrau o ddy­chymmyg Dynion yn cynnwys ynddynt ddigrifwch, ac oferedd; byddwcb ewyll­ysgarach i brynu llyfr Duw, drwy chwi­lio yr hwn y gellwch gael digrifwch ys­prydol, a thragwyddol.

2. Yn ail, i bwy y darparodd Duw ei lyfr hwn, ac at bwy y danfonwyd ef, sef i'r Etholedigion y rhai a ordeinw­yd i fywyd tragywyddol. Y pethau am­lwg (medd Moses) a roddwyd i ni ac i'n plant hyd bŷth. Den. 29. 29 Nyd yn vnig i blant cenedl Abraham, ond i bawb ac sydd yn ofni Duw yr anfonwyd Gair yr iechydwriaeth hon. Act. 13. 26. Vn o'r hên Dadau sydd yn galw y Bibl yn llythyr wedy ei anfon oddi-wrth yr holl-alluog Dduw iw greaduriaid.Greg. epist. 84. Gan i Dduw scrifennu llythyr, a'i anfon i chwi os ydych yn ofni Duw, rhag ei anfodloni ef, neu yn ei garu am ei garedigrwydd a'i ddaioni, derbyniwch y llythyr a anfonodd Duw e'r nefoedd i chwi ac i'ch plant.

3. Yn drydydd. I ba bêth yr scri­fennodd Duw y llyfr hwn attoch? Onid i gael gennych ddyscu allan o honaw adnabod ewyllys eich Tad nefol, drwy [Page 21] gymmeryd hamdden, a phoen yn i ddar­llen a myfyrio ynddo, Pa bethan byn­nac a scrifennwyd or blaen (medd S. Paul) er addysc i in yr scrifennwyd. Ruf. 15. 4. Ac mewn man arall, yr scrythur sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyoeddi, i geryddu, 2. Tim. 3. 16. ac i hyfforddi mewyn cyfi­awnder, Esay. 44. 13▪ ler. 6▪ 45. fel y byddo dŷn Duw wedi ei berffeithio i bob gweithred dda. Ac i gyflowni hynny pawb â ddyscir gan Dduw, sef pawb ac sydd yn eiddo Duw, ac er mwyn hyn y Danfonodd iddynt ei lyfr nid i'w ddangos yn vnig, nac i'w daflau mewn conglau new i'w ddwyn tan gesseiliau, neu i orwedd mewn ffe­nestri, eithr i chwilio ynddo yr scry­thyrau fel y dyscoch o honaw ewyllys Duw yr hwn sydd dda, Ruf. 12. 2. a chymmera­dwy a pherffaith.

4. Yn bedwerydd, y mae llyfr Duw yn cynnwys ynddo yr scrythur lan, ac am hynny o herwydd ei odidawgrwydd yn rhagori llawer ar hôll lyfrau y bŷd. Oblegit hwn a scrifennwyd a bŷs Duw, heb ynddo ddim llygradwy, dim anwi­redd, ond purdeb, a gwirionedd Pe le­farwn a thafodau dynion, ac Angelion ni [Page 22] fedrwn, ni allwn fynegi yn deilwng gan moliaeth llyfr Duw. Hwn, ac nid yr vn arall a orchymynnodd yr Arglwydd i Iosuah nad ymadawei allan o'i enau ef. Iosui. 1. A hwn a fyn y Prophwyd sanctaidd i'r dŷn Duwiol fyfyrio ynddo ddydd, a nos. Psal. 12. Y mae llyfrau eraill da. a Duwiol a osodwyd allan yn ddiweddar o amser yu ein plîth ni, sef y llwylbr hyffordd i'r nefoedd, ac ymarfer O Dduwiol­deb; a da oedd waith y cyfiethwyr, a a Duw a dalo iddynt, ac a fendithio eu gwaith; eithr pa ddaioni bynnac sydd yn yr rheini, o'r llyfr hwn y tynnwyd ef allan, ac am hynny nid ydynt hwy er eu bod yn dda, i'w cyffelybu i hwn. Da yw' duwiolfryd y rhai o honoch a bryna­sant, ac a chwiliant yr rheini, ond gwell y gwnant o cheisiant hwn hefyd.

5. Yn bummed, gorchymmyn Duw Tad, ai fab Iesu yw chwilio yr Scry­thyrau fel y clywsoch yn fynych or bla­en. ac ni allwch chwi esceuluso vfyddhau i'r gorchymmyn na byddoch yn euog o'i dorri; ac ai peth yscafn yn eich golwg chwi yw anufyddod i Dduw?

6. Yn chewched, ystyriwch esamplau [Page 23] y rhai ydynt ofalus, a diwyd i fyfyrio yngair Duw. Mi a goffais i chwi or blaen am wŷr Berea Yn nyddiau y Par­chedig Dad S. IeromAct. 17. 11. yr oedd ymryson Duwiol, ac ymorchestu ymhlith Crist­ianogion pa sawl o honynt a ddyscei fw­yaf or scrythyrau,Ierom. in Psal 133. ac a fedrei ei adrodd ar ei Dafodleferydd. Ym mysc y Sae­son ni chewch, ond odid, nêb na fedro ddarllain; ac hyd yn oed meibion, a merched ir graddau gwaelaf o honynt sef eurychod, a chowperiaid, ar cyffelyb a'u Biblau ganddynt, ac yn hyspys yn­ddynt: Ac yr awrhon gan fod gennym ni gystal môdd ac achlussur a hwythau, ôch Dduw na chymmerem ni wrth eu esamplau hwy, y cyffelyb helynt a gofal am iechawdwriaeth ein heneidiau.

Yn seithfed, cofiwch addewid Duw yn ei Air ir hwn a fyfyrio yn ei gyfraith ef.Psal. 1. 3. Canys efe fydd fel pren â blanner ar lan afonydd dyfroedd yr hwn a rŷdd ei ffrwyth yn ei bryd▪ a'i ddalen ni wywa, a phêth bynnac â wnel efe â lwydda. A wyllysiwch chwi gael y fen­dith hon ar llwyddiant, gwnewch chw­ithau felly: myfiriwch ynghyfraith yr [Page 24] Arglwydd, ac yma disgwiliwch wrtho ef. Ni thwylla Duw ei obeithiwr.

8. Yn wythfed, lle y byddo Gair Duw yn cael ei fawrhau, ac yn gymme­radwy yna y mae bendith yr Arglwydd yn dilyn y bobl hynny mewyn pethau ys­prydol, a bydol.Psal. 119. 98. &c. Wrth drîn Gair yr Ar­glwydd y deallodd y Breinu Dafydd fwy na'r henuriaid Pan aeth Arch cyfam­mod yr Arglwydd at Obed-edom y ben­dithywyd ei dŷ ef a phob peth a feddei.1. Sam. 6. 12. Ac felly y gwna Duw a chwithau, os mawrhewch ei Air ef a'i gymmeryd i chwi yn gyfarwyddyd.

9. Yn nawfed, clôd, a chanmoliaeth a gewch gan Dduw ei hûn os ymorolwch am drîn ei Air ef yn ddyfal fel y ca­fodd gwŷr Bereya eu galw yn foneddi­geiddiach na'r rhai o Thessalonica, Act. 17. 11. am iddynt hwy dderbyn y Gair a phob parodrwydd meddwl a chyd a'r Gair cael y doethineb sydd oddi­uchod, Iam. 3. 17. yr hwn sydd bur, a boneddiga­idd. Fe ddywedir ar watwor am danom ni y Cymru, y mynnei pawb o honom eu cyfrif yn foneddigion▪ dymma'r môdd i fod yn wir foneddig, sef ymroddi i [Page 25] chwilio Gair gr Arglwydd, ac i fyw wrtho, Canys felly y cyrhaeddwn y ben­defigaeth orchestol o fod yn blant i Dduw, ac yn frodyr i Grist Iesu; mwy boneddigrwydd nac a ddichon y bŷd ei roddi i ni,Ruf. 2. vlt. a mwy clôd na'n canmol gan ddymion, yw cael gan Dduw ein can­mol.

10. Yn ddegfed, esceuluso chwilio Gair Duw yw esceuluso gorchymmyn Crist, a dirmygu ei Air.Io. 12 48. Gwrandewch pa Gwynfan y mae yr Arglwydd yn er­byn dirmygwyr yr Scrythyrau:Hos. 8. 12. Mi â scrifennais iddynt (medd yr Arglwydd) bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithrbeth ŷ cyfrifwyd megis pethau nid oeddynt yn perthyn iddynt hwy. Am hynny y mae yr Arglwydd yn fynych yn bygwth y cyfryw rai difraw.Diha. 13. 13. Yr hwn a ddirmygo y Gair, a ddifethir medd Salomon y sawl a'm dirmygo i (medd Crist) ac ni dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo ef vn a'i barn: Io. 12. 48. y gair â ddywedais i, hwnnw a'i barn ef yn y dydd diw­weddaf. Felly bod yn ddifatter am Air Duw yw dirmygu Crist, ac ar y cyfryw vn y daw dial; yr hwn fel y galloch [Page 26] chwi, frodyr anwyl, ddiango rhagddo attolwg i'wch gofelwch am gyrchu at ei Air ef, ai chwilio.

11. Yn vnfed-arddêg, o herwydd y dedwyddwch diball a ddigwydd i'ch ene­idiau. Canys yr Scrythur lan sydd me­gis gardd Eden, neu Baradwys daiarol, ac wrth ddarllein neu fyfyrio ar y Gair y bydd dŷn y nghanol yr ardd megis yn yn ymddiddan a Duw fel yr oedd Adda gynt, ac yn bwyta o bren gwybodaeth da, a drwg yn ddiorafun, ie ac yn cael bw­ytta o bren y bywyd yr hwn sydd y nghanol Paradwys Duw. Datc. 2. 7. Ar pren hwnnw yw Crist, a'i ffrwyth ef sydd fe­lus y ngenau y ffyddloniaid,Can. 2. 3. a da gan­ddynt eistedd tan ei gyscod ef.

Yn yr Ardd honno, y mae cael pôb pren dymunol i'r golwg, a daionus yn fwyd, sef ffrwyth ysprydoli borthi yr ena­id. Yn yr Ardd hon (sef yn yr Scrythur lân) y mae afon hyfrydwch, a ffynnon y bywyd, a ffynnonnau iechydwriaeth, o chwilio yr rhain y cewch ddwfr i'ch di­odi o afon hyfrydwch Duw: pwy byn­nac â yfo o'r dwfr hwn ni sycheda yn dragywydd.

[Page 27] Ie yn hytrach wrth chwilio Gair Duw y mae dŷn yn y Paradwys nefol, wedi megis ei gippio gŷd â S. Paul i'r dry­dydd ffurfafen,2. Col. 12. ac i glywed geiriau an­rhaethadwy. I weled Duw Tâd, ai fâb Iesu, y Patrierch, y Prophwydi, ar A­postolion: canis yngair Duw y mae ym­ddiddan â hwynt, a gweled helynt eu buched, ac o hyn y cânt mwy o lawe­nydd, nac â ddichon y byd ei osod ger eu bron.

12 Yn ddeu ddegfed, chwiliwch yr Scrythyrau canys ynddynt hwy yr yd­ych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol: nid yn vnig cyssur i'ch enei­diau yn y byd yma, ond tragwyddol ddi­ddanwch yn y byd a ddaw.

Gan hynny chwychwi ddynion ie­uaingc, cofiwch eich Creawdwr yn nyddiau eich ieuengtid' a chofiwch pa fodd y glânhâ llangc ei lwybr, sef wrth ymgadw yn ol Gair Duw.

Chwy-chwi bobl hen: ac oedrannus; y rhai â esceulusasoch hyd yn hyn ymorol am Air Duw, madws i chwi brynu llyfruau, a chwilio yr Scrythyrau gan weled mai hon yw'r ffordd a osododd [Page 28] Duw i chwi i gyrhaeddyd Iechydwriaeth.

Ond cywilydd i ddynion oedrannus we­led plantos a chanddynt mwy o wyboda­eth yngwasanaeth Duw na hwynt hwy? O frodyr, 1. Cor. 14. na fyddwch fechgin mewn deall, canys felly y bu llawer o honoch hyd yn hyn: eithr ysttyriwch eiriau yr Arglwydd drwy'r Prophwyd.Hos. 4. 6. Fy mhobl â ddifethir o eisieu gwybodaeth, A­chwyn ac escus cymru o'r blaen oedd hyn, nad oedd llyfrau i'w cael am arian, ac am y rhai a oeddynt, drudion oeddynt, ac anhawdd i'r tlawd eu cyrhaeddyd, ond yr awrhon torrwyd ymmaith yr escus hwnnw; y mae llyfrau ddigon i'w cael, a newid fawr arnynt: ystyriwch, fy anwyl wlad-wyr, ar yr holl bethau hyn, a'r Ar­glwydd a roddo i chwi ddeall ym mhob peth angen rheidiol i iechydwriaeth eich eneidiau: Amen, Amen.

Eich carwr îw orchymmyn yn yr Arglwydd Iesu:
‘Na ymadawed llyfr y Gyfraith hon oth enau, eythr Myfyrya ynddo ddydd a nos, fel y cedwych ar wneu­thur yn ol yr hyn holl sydd scrifenedig ynddo canys yno i llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffyni. Iosh. 1. 8.‘Nec solum vobis sufficiat quod in Ec­clesia divinas lectiones auditis, sed etiam in domibus vestris, aut ipsi legite aut alios legentes requirite; & libenter au­dite Aug. de Temp. Ser. 54.’‘Pa ham y bydd gwerth yn llaw y'r ffol i berchennogi doethineb, ac yntau heb galon gantho, Diha. 17. 16.‘Mi a Scrifennais iddynt bethau maw­rion fynghyfraith, ac fel diethr-bethau y cyfrifwyd hwynt: Hose. 8. 12.

Ymddiddanion rhwng Ca­rwr ar Cymro, ynghylch gor­chymmyn Crist am chwilio yr Scrythyrau.
IOH. 5. 39.

Chwiliwch yr Scrythyrau:

Canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwy­ddol, a hwynt hwy yw y rhai sydd yn tystiolaethu am danafi.

Cymro.

CHwy-chwi gâr-ŵr y cymru ydych daer iawn arnom yn eich llythyr o'r blaen am brynu Biblau, a chwi­lio yr Scrythyrau, gan ddangos fod yn [Page 31] hawdd eu cael, ac yn yscafn eu pris yn y dyddiau hyn: rhoddwch gennad i mi, attolwg, i ofyn i chwi rai cwesti­nau y nghylch chwilio yr Scrythyrau, ac o gellwch drwy resymmau hygo­el, ac ansiommedig brofi â pheri i mi goelio fod hynny yn Ddyled angen­rheidiol i bob Cristion, myfi drosof fy hûn, ac yn enw pob Cymro diled­ryw, a ddiolchaf i chwi am eich cyngor Duwiol, ac a wnâf fyngoreu drwy râs Duw, i wneythur Denfydd o'ch athrawiaeth.

Y Car-wr.

Yr ydwyf yn ewyllys-gar yn ol y gallu a roddes Duw i mi, i roddi i chwi atteb am bob questiwn (buddiol) â ofynuoch y nghylch y peth hyn. A da iawn gennif eich gweled mor dued­dol, ac mor rhwydd i ymddadleu. Ynghylch Gair Duw. Peth anfynych ei weled yn ein gwlâd ni yw ymgom­mio am fatterion ysprydol, ac iechy­dwriaeth eneidiau.

Cymro.

Gwir yw hynny etto er na bu ym mysc cymru nemmawr arfer o flino eu [Page 32] pennau, na'u meddyliau hyd yn hyn ynghylch yr Scrythyrau, etto madws i ni bellach ymorol am ddiddanwch ein eineidiau drwy gyrchu at Air Duw, fel i'n dyscasoch yn eich llythyr drwy am­ryw resymmau, denfydd-fawr; megis yno y mae i'w weled yn eglur, ac yn helaeth.

Car-wr.

Na atto Duw i mi Scrifennu attoch ddim ond gwirionedd. A llawen gen­nif eich bod mor hyrwydd i ddal sulw ac ystyriaeth y peth a Scrifenais: a gobeithio yr wyf nad yw ofer fy ngwaith i chwi nag i neb â wir ewlly­sio iechyd i'w enaid.

Cymro.

Myfi â wn gael peth daioni eusus oddi-wrth eich llafur-waith chwi yn eich llythur; a gobeithio yr wyf cael etto lesâd ychwaneg oddiwrth yr ymddi­ddanion hyn, gan eich bod morf wyn ac ym resymmu a mi y nghylch y peth nid yw etto eglur, a hyspys i mi, nac i lawer o'm Gwlâd-wŷr â ewyllysient wybodaeth o'r gwirionedd iachwy­awl.

Carwr.
[Page 33]

I Dduw y byddo'r diolch am y dai­oni a gawsoch, ac ar Dduw y gweddi­af ar gael o honoch ychwaneg drwy yr ymddiddanion hyn yn ol ewyllys eich calon, a'ch gobaith: Dechreuwch a gofynwch a'r Arglwydd a'ch attebo drwy eu gennad-wr-gwael yn ol ei Air scrifenedig yn yr Scrythyrau.

Cymro.

Yn gyntaf pêth, dangoswch i mi yn eglur or Scrythrau, i bwy y mae Crist yn gorchymmyn chwilio yr Scrythy­rau.

Car-wr.

I bawb oll heb ddieithro, na neillduo nêb mwy na'i gilydd, sef i'r Tywysog Iosuah, Ios. 1. 8. ac i'r Brenin Saul, ac iw weni­dog Timothi: Deu. 17. 19. Ac yn y rhai hyn, a than eu henw hwynt' i holl dywyso­gion,1. Tim. 4. 13. Bren hinoedd, a Gwenidogion Duw yn y bŷd. heb law hyn at dadau, a gwŷr ieuaingc, at blant a rhai by­chain yr Scrifennodd yr yspryd glân drwy eu Efangylwr Ioan, diammeu ar ddarllein o honynt,1. Io. 2. 14. ac ystyried o'r pe­thau [Page 34] â scrifenuwyd attynt.Deu. 29. 29. Y pethau amlwg, aroddwyd i ni (medd Moses) ac i'n plant hyd byth, fel y gwelwn wrth eiriau y gyfraith, wrth hyn eglur yw o'r Scrythyrau, mai ewyllys Duw yw i Swyddogion, a Gweinidogion i Dadau, ac i blant, i hên ac i ieuaingc chwilio yr Scrythyrau. Ac er bod y gorchymmyn hwn wedi ei roddi, yn gyntaf i'r Iuddewon gwrandawyr Grist;Io. 5. 39. etto y mae yn cyrhaeddyd pawb oll hefyd yn gystal Iuddewon a chenedloedd. Megis ac y dylei bawb wilio; yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi, yr ydwyf yn ei ddywdyd wrth bawb, Ioh. 13. 37. gwiliwch: felly y dylei bawb cywilio.

Cymro.

Wrth hyn y mae yn gredadwy mai ewyllys Duw yw nid yn Vnig i'r Eglwys-wyr a'r dyscedig ond i bob mâth ar ddyn, chwilio yr Scrythyrau, i'r llafur-wr, ar creft-wr, i'r Saer, a'r gwŷdd ar crŷdd; i'r pan-wr, a'r gôf, a'r tacliwr, i'r siop-wr, a'r eurych, ie i bôb grâdd o ddŷn, er gwaeled fyddo'r gŵr, a'i greft (os gwnâ yn ol ewyllys [Page 35] Duw) chwilio yr Scrythyrau. Canys y mae eneidiau dynion gwael issel-radd mor werthfawr ger bron Duw ac yd­yw eneidiau y gallhog. Ar anrhydu­eddus: a'r vn rhyw foddion, a chy­fryngau â osododd Duw i achub y naill fel y llall, nid amgen na gwyboda­eth o'i Air, yr hwn sy raid ei chwilio.

Cymro.

Eithr bêth am wragedd, hên ac ieuaingc Aai rhaid yw i rheini gym­myrhedd yngair Duw.

Car-wr.

Rhaid, canys yno y gosododd yr, Arglwydd ddy'led gwragedd yn gy­stadl a gwŷr tu ag att Dduw, a dynion. Rhaid yw i hen wragedd ymddwyn yn sanctaidd a rhoddi athrawiaeth o ddaio­ni i'r gwragedd ienaingc. Tit. 2. 3. A pha le y cânt wybodaeth o hyn, oddieythr oddi-wrth Air Duw.

Cymro.

A ellwch chwi brofi fòd y gwra­gedd gynt yn arfer Darllein yr Scry­thyrau? ac yn hyspys ynddynt?

Car-wr.

Gallaf yn hawdd, Canys fel y daeth [Page 36] boneddigion Bereya felly y daeth y Groegeshau parchedig i gredu drwy ganlyn eu hôl hwynt wrth wrando a'r S. Paul yn pregethu, ac o chwilio yr Scrythyrau, â oedd y pethau hyn felly. Ac oni buasei Eunice yn dra cydnaby­ddus a Gair Duw,Act, 17. 11. pa fodd y gyllasei hi ddyscu i'w mab Timothi wybod yr Scrythyr lân er ein fachgen? 2. Tim. 13. 15. Gwŷr a gwragedd yr vn ydynt ynghrist Iesu, Gal 3. 28 gyd ag ef nid oes na gwryw,Act. 10. na be­nyw; nid yw efe yn derbyn wyneb neb, ond pawb ar a'i gwasanaetho ef yn ôl ei air sydd gymmeradwy gan­ddo.

Cymro.

Gan mai ewyllys Duw yw i bôb mâth, ar ddynon chwilio yr Scrythy­rau. Bellach moeswch glywed pa Scrythyrau â ewyllysia Duw eu chwi­lio?

Car-wr.

Yr hôll Scrythur lân â chwilir, y Testament hên, a'r newydd o ddechreu Genesis hyd ddiwedd Dartuddiad Io­an. Pa bethau bynnac a scrifennwyd o'r blaen (medd S. Paul) er addysc i ni yr [Page 37] Scrifennwyd. Ruf. 15. 4. Ac (eb yr vn Apostol) yr holl Scrythyrau sydd wedi eu rhoddi drwy ysprydoliaeth Dduw ac yn fuddi­ol i athrawraethu, i argyoeddi, i gery­ddu, ac i hyfforddi mewn cyfiawnder, fel y byddo dyn Duw yn berffaith, &c. Os i bawb, ac er addysc i bawb, ac yn fuddiol i bawb y rhoddwyd yr Scry­thyrau, pawb gan hynny â ddylei eu chwilio hwynt ond yn enwedig y dy­lid chwilio yn fynychach ac yn fany­lach y cyfryw fannau o Air Duw ac â berthyn yn briodol, ac yn gymmwys i bôb dŷn er mwy o fudd, a llesâd iddo.

Cymro.

Gadewch i'r pethau hyn fod felly; etto attebwch fi ym mhellach; â oes Scrythyrau eraill, neu lyfrau yn y bŷd â ddylid ei chwilio onid llyfr Duw sef y Bibl?

Car-wr.

Yr wyf fi yn hyn o bêth o'r vn fe­ddwl a Luther gynt: sef pe bai'r hóll bethau â gynnwys yr Scrythyrau yn scrifenedig y nghalonnau Cristianno­gion fel y deallent hwynt, ac y gallent [Page 38] wneuthur iawn ddefnydd o honynt ni byddei ddim niwed er bod pôb llyfrau eraill yn danllwyth o dan. Canys di­gon yw'r Scrythur lân yn vnig i wne­uthur dyn Duw yn berffaith i bob gwe­ithred dda; ac yn ddoeth i iechydwria­eth, a pha ddaioni y chwanec a chw­enychech i'ch enaid? Eithr yn gym­maint ac na all pawb drwy chwilio Gair Duw (gwnaent eu gorau) gyrha­eddyd cael allan holl ddirgel a dyfn bethau yr Arglwydd cynnwysedig yn yr Scrythyrau, er budd a llesad iddynt. Gwelodd Duw yn dda roddi donniau rhagorol i rai i chwilio yn ddyfnach nac eraill, a thrwy eu dir­fawr boen casclu, a gosod ar gyhoedd dryshorau godidoccach, nid yn vnig yn eu pregethau, ond hefyd mewn llyfrau; sef y cyfryw bethau ac na allai y bobl gyffredin (drwy chwilio) eu cael allan. O hyn y mae cymmaint o wybodaeth yn lluosogi ym mysc Saeson yn Llo­egr, y rhai ydynt ddiwyd tros ben i brynu llyfrau Duwioll eraill, ac yn cael oddi-wrthynt gymmorth (nid by­chan) i ddeall yr Scrythyrau. A'r [Page 39] cyffelyb peth a ddylem ninnau ei wne­uthur, gan geisio i ni y fath lyfrau sydd i'w cael yn Gymraec; rhai bychain yn cynnwys ynddynt ar fyrr, wyddo­rion y ffydd, a phyngciau angenrhei­diol eu gwybod: eraill dyfnach eu ystyriaith, ac ynddynt mwy o bwys; sef bwyd crŷf, ac nid llaeth fwyd fel y dywed yr Apostol: o'r ddau fath hyn a'r lyfrau y mae syrnyn wedi eu gosod allan yn ddiweeddar; fel nad oes heddyw y cyfryw ddiffyg ac ydoedd gynt y nghymry o lyfrau da yn dyscu gwybodaeth o Dduw, oni bydd y bai yn fawr arnom ni, eisieu eu prynu a'u chwilio. Mawr yw yn ddi-wad y llawnder a'r amldra llyfrau yn saesonec a nifer anneirif a brynir bob blwyddyn gan y cyffredin bobl; yr hyn sydd yn arddangos gofal duwiol yr eglwyswyr am eu praidd, a darbodrwydd y bobl am eu iechydwriaeth: nid wyf fi yn ewyllysio gwradwyddo ein bugeiliaid ni na'n pobl am eu hesceulusdra, a'u diddarbodrwydd yn hyn o beth.

Cymro.

Gobeithio y bydd llawer o'r Cym­ru [Page 40] mor barod i brynu iddynt lyfr Duw, a'r llyfrau eraill hefyd, ac oedd yr Awduron, a'r Goreugwyr dai­onus a gymmerasant boen a chost wr­thynt i'w darparu ar eu medr. Ond megis y dangosasoch i mi i bwy y per­thyn chwilio yr Scrythyrau, a pha Scrythyrau sydd iw chwilio; felly dan­goswch i mi, attolwg pa brŷd y dylem ddechreu chwilio yr Scrythyrau.

Car-wr.

Goref pa gyntaf, pan oeddych yn blant bychain y dylesych ddechreu sugno o ddwyfron y Briod-ferch, sef yr Eglwys, o'r hên Destament ac o'r newydd ddidwyll laeth y gair fel y gallesych gynnyddu mewn Gras a gwy­bodaeth megis mewn corpholedd.Esay. 38. 19 Am hynny y gorchymyn Duw i'r Tadau yspysu ei eiriau ef i'w plant: Deut. 6. 6. 7 Nos a boreu, a'u meithrin hwynt yn addysc, ac athrawiaeth yr Arglwydd; yr hwn addysc, ac athrawiaeth sydd i blant i'w gael yn yr Scrythyrau.

Cymro.

Mi a welaf mai felly y dylei fod, fel y perffrithier moliant i Dduw o enau [Page 41] plant, ac y cofiont eu creawdwr yn ny­ddiau eu ieuengtid. Eithr ni ddyscodd fy nhad i mi, nac i'm brodyr, nac i'm chwiorydd ddarllein Gair Duw, na'i chwilio. Ond y mae yn fy mrŷd i o hyn allan, drwy ras Duw gymmeryd mwy gofal a'm fy enaid, ac am enei­diau fy mhlant nac a gymmerais hyd yn hyn er pan i'm ganed.

Cymro.

Yr Arglwydd â gynhalio rhag-llaw y meddylfryd Duwiol hwnnw yn eich calon er daioni i chwi ac i'ch plant; eithr dangoswch i mi bellach, ar ba ddyddiau, neu amseroedd y mae yn ddyledus arnom chwilio yr Scrythy­rau.

Car-wr.

Yr Arglwydd ei hûn â ddengys i chwi pa brŷd y dylid gwneuthuthur y gwasanaeth hwn, sef dydd a nos fel Iosuah. Iosh. 11. 8. beunydd fel gwŷr Bereya; Psal. 1. 2. yn ddibaid fel Dafyd, Act. 17 11. yn ddidor fel deuddeg-llwyth Israel. Psal. 119. 97. Oblegit cyn rheitue'd yw i'r enaid gael ei ym borth ys prydol beunydd,Act. 26. 7. nos a boreu, ac i'r corph ei ymborth corphorol.

Cymro.
[Page 42]

Bellach mynegwch i mi pa hŷd y mae yn rhaid parhau yn chwilio yr Scrythyrau?

Car-wr.

Tra parhao enaid a chorph y nghŷd, nid amgen holl ddyddiau eich bywyd. Y peth â orchymyn Duw i'r Brenin â orchymmyn efe hefyd i'r gwerin, sef darllein llyfr ei gyfraith ef holl ddyddi­au ei fywyd. Deut. 17. 19. Canys pe byddei dyn yn cael byw yn y byd hwn oedran Methuselah sef naw-cant, a naw a thrugain o flynyddoedd, gan barhau yn oestadol yn chwilio, ac yn darllein ddydd, a nos; etto fyddei ryw bêth buddiol i chwilio a'm dano. Yn y dydd diweddaf; naill ai cyngor a'i cer­ydd, a'i cyssur, a'i pob vn canys rhaid yw i ni wrthynt tra fo'm yn y byd hwn; ni allwn yn iawn fod hebddynt vn dydd; ac er hyn ni bydd ein gwybo­daeth ond am herffaith,1. Cor. 13. 9 ac o ran, tra fyddom yn y bywyd yma.

Cymro.

Eithr pa fudd sydd i'w gael drwy barhau yn y gwaith hwn mor astud, [Page 43] a chwilio yr Scythyrau bob dydd?

Car-wr.

Amryw fendithion Duw yn y byd yma, a chyflwr gwyndfyedic yn y byd â ddaw, fel y dangosais o'r blaen ar y dechreu: megis pe baech wedi eich symmud or bŷd, nid yn ving i ddaia­rol Baradwys Duw, ond i'w Barad­wys nefol, i'w weled ef a'i Seintiau, ac i gael cymdeithas, ac ymddiddan â hwynt. Canys y maent hwy etto yn llefarau yn yr Scrythyrau, megis y den­gys Crist yn eglur drwy eiriau Abra­ham wrth y glŵth goludog ynghylch ei ddesyfiad dros ei frodyr; sef y mae ganddynt Moses, a'r prophwydi, gw­randawant arnynt hwy, sef yn llefaru yn yr scrythyrau er eu bod lawer oes cyn Crist,Luc. 16. 29. wedi mynyd i'r nêf. Felly y mae gan y sawl a ddarllenant Air Duw nid yn vnic Moses a'r Prophwydi, ond Crist hefyd, a'r Apostolion i wrando arnynt, ac i gasclu llesad mawr oddi­wrthynt, fel pe baent yn eu mysc yn bresennol ar y ddayar.

Cymro.

A pheth ychwanec gyd â hyn â [Page 44] geir o drin Gair Duw?

Car-wr.

Dau beth gorchestol.

Yn gyntaf, cydnabyddiaeth â Christ. Canys yr Scrythyrau sydd yn testiolaethu am Grist ac yn ei egluro ef,Gen. 73. 15 i gael ei adnabod.Deut. 18. 15. Y nghaniadau Salomon y mae Crist yn ymddangos i'w Eglwys,Esa 9. 6, 7. ac yn ymddiddan â hi. Pan gollodd Crist gan Ioseph,Esa 53. a'i fam,Can. 28. yn ôl chwilio am dano dridiau drwy ofal, a gofid, pa le y caed ef ar y diwedd ond yn y deml yn eistedd y nghanol y Doctoriaid yn gwrando arnynt, Luc. 2. ac yn ymholi â hwynt. Allan o'r Scrythyrau nid yw Crist yn ymddangos, eithr cei­siwch ef yn y Deml, ar Eglwys, ac ym mhlith y dyscedyg yn ei Air ef, ac yno chwi a'i cewch pan ei ceisioch ef a'ch holl galon▪ Ier. 29. 13. Ac o chewch vnwaith gydnabyddiaeth â Christ, a gafael arno drwy ffydd fywiol, iachwyawl, cewch gaffaeliad mawr. Canys cewch gyd ag ef bôp pêth hefyd.Ruf. 8. 32. O'i gyflawnder ef y cewch ras am ras. Io. 1. 16. Pwy bynnac nid yw gydnabyddus a'r Scrythyrau, nid yw chwaith gydnabyddus â Crist: [Page 45] ac heb adnabod Crist nid oes iechyd­wriaeth.Ioh. 17. 13. A'r neb ni cheisio gydnaby­ddiaeth â Christ yn y bŷd yma, nid edwyn ynteu hwnnw yn y bŷd â ddaw.

Cymro.

Bêth yw'r ail budd, neu 'r llesâd o chwilio yr Scrythyrau?

Yr ail budd, yw bywyd tragywy­ddol. Chwiliwch yr Scrythyrau, canys ynddynt hwy yr ydych yn meddwl cael bywyd tragywyddol: ac nid oeddynt yn cam-feddwl. Canys yn yr Scrythyrau y mae Duw yn dangos y ffordd i fywyd tragywyddol, drwy egluro Crist yr hwn yw'r ffordd, a'r gwirionedd, a'r bywyd.Io. 14. 6. Pan ofynnodd rhyw Gyfrei­thiwr i Grist, pa beth a wnaf i gael by­wyd tragywyddol, Luc. 10. 25. ynteu a ddywedodd wrtho; pa beth sydd scrifennedig, pa fôdd y darllenni?

Cymro.

Eglurwch i mi, attolwg, yn fany­lach ddalltwriaeth yr ymadrodd hwn â ddywed Crist, am gael bywyd tra­gwyddol drwy chwilio yr Scrythyrau: ac os ydyw y peth mor angenrheidiol [Page 46] ac anhepcor, yna y bydd ei waed ar ei ben ei hûn, pwy bynnac â esceuluso ei wneuthur.

Car-wr.

Pawb oll o ran eu cyflwr anianol ydynt yn feirw mewn pechodau:Eph. 2. 2. ac yn gorwedd mewn tywyllwch,Mat. 4. 16. a chys­cod angeu;1. Pet. 2. 25 yn myned ar gyfeiliorn allan o ffordd y bywyd. Eithr Duw drwy ei Air scrifennedig yn yr Scry­thyrau sydd.

Yn gyntaf, yn adgyfodi, ac yn by­whau ei etholedigion oddi-wrth y me­irw; ac am hynny y dywed Moses: Nid Gair ofer yw hwn i chwi, Deu. 32. 47. o herwydd eich enioes chwi yw efe. Felly S. Paul a'i geilw yn Air y bywyd. Phil. 2. 16. A S. Peter âddywed wrth Grist.Io. 6. 68. Gennid ti y mae geiriau bywyd tragywyddol.

Yn ail,Eph. 2. 2. wedi eu bywhau, a'u cyfodi ofeirw i fyw,Act. 26. 18. y mae Duw drwy ei Air yn llewyrchu iddynt, gan eu dwyn o dywyllych i'r goleuni; ac yno gweled y maent wrth oleuni y Gair, eu bod we­di myned ar gyfeiliorn; a'r môdd y syr­thiasant o'r cyflwr gwynfededig cyn­taf y crewyd hwynt ynddo yn Adda, [Page 47] i'r cyflwr naturiol melldigedig drwy bechod: yn yr hwn y buasent yn aros rhag llaw, oni buasai gael trugaredd Dduw drwy yr Achubwr Crist.Luc. 1. 79.

Yn drydydd, y mae Duw drwy'r Scrythyrau yn eu bywhau hwynt me­gis y bywhaodd efe Ddafydd. Byth nid anghofiaf dy orchymynnion, canys a hwynt i'm bywheuaist. A thrachefn: canwyll yw dy Air i'm traed, Psal. 119. 110. a llewyrch i'm llwybr.

Yn bedwerydd, y mae iddynt drwy'r Gair â osodwyd yn yr Scry­thyrau, gael nid yn vnig goleuni i'w harwain ar hyd y ffordd, ond ymborth ysprydol hefyd i'w diwallu, rhag i neb o honynt lewygu ar y ffordd; nid amgen y bwyd â beri i fywyd tragy­wyddol.Io. 6. 27. Am hynny y dewisodd Iob Air Duw o flaen ei ymborth angenrhei­diol.

Yn bummed, yn yr scrythyrau y ceir arfau ysprydol i ymdrech, ac i orchfygu eich holl elynion ysprydol, a bydol â geisiont eich rwwystro i ger­dded yn ffordd y bywyd ysprydol, a'ch troi ar ddidro rhag myned i'r by­wyd [Page 48] tragwyddol.Eph. 6. 11. Cewch weled y ngair Duw yr arfogaeth (sef y doniau) angenrheidiol i ymladd; a'r gelynion sydd raid eu gorchfygu; a'r gwrth-ry­fel y maent yn ei gynnal yn erbyn eich eneidiau oddi-mewn, ac oddi-allan. I ddiweddu, Gair Duw yw'r Trysordŷ diandlawd, cyflawn o bob daioni ys­prydol a'r sydd angenrheidiol i dde­dwyddyd didrangcedig: Ac megis am bethau y byd yma, rhaid yw chwilio a llafurio am danynt os mynnir eu cael a'u mwynhau i ddiwallu angenrheidi­au y corph: felly am angenrheidiau yr enaid rhaid yw chwilio yr Scrythyrau.

Cymro.

Wrth hynny, eich meddwl chwi yw hyn, fod Gair Duw yn fywyd i'r me­irwon, yn oleuin i'r Deillion, yn ffordd i'r anghyfarwydd, yn ymborth i ddi­wallu, ac yn arfau i ymddeffyn Dŷn Duw, a'r Gair hwn meddwch chwi sydd raid ei chwilio: eithr beth âddy­wedwch chwi am S. Paul yr hwn â ddywed mai drwy ffydd y byddir cadw­edig; Eph. 2. a ffydd sydd yn dyfod o wran­dy y Gair:Ruf. 10. pa fodd y cymmwyswch [Page 49] chwi y ddau beth hyn ynghŷd i gyt­tuno a'u gilydd?

Car-wr.

Duw â gyssyllteodd a ddau hyn ynghyd, gwrando, a chwilio yr Scry­thyrau; ac â gyssyllto Duw na waha­ned dŷn. Gwrando ar Bregeth S. Paul a chwilio yr Scrythyrau â oedd pre­geth S. Paul yn cyttuno â hwynt yn ôl gwirionedd, oedd y môdd a ddychw­elodd y Bereyaid i gredu, ac i fod yn gadwedig. Darllein, a chwilio y Pro­phwyd Esay ar scrythyrau eraill, a gwrando ar yr Apostol Philip yn ago­ryd,Act. 17. 11. ac yn esponnio yr Scrythyrau a a ddûg yr efnuwch i gredu y Nghrist.Act. 8.

Cymro.

Paham nad digon yw gwrando yn vnig i ddwyn dŷn i fôd yn gadwedig, heb orfod hefyd chwilio yr Scrythyrau?

Car-wr.

Er bod gwrando ar bregethau yn angenrheidiol,Ruf. 10. canys ffydd sydd yn dy­fod drwy glywyd; etto y mae pedw­ar achos yn dangos yr angenrhaid o chwilio yr Scrythyrau.

Y cyntaf yw, gorchymmyn Crist i [Page 50] chwilio, yr ail, i brofi yr ysprydion a ydynt o Dduw, sef i brofi athrawiaeth y Pregethwr, â ydyw yn gysson a Gair Duw, neu â ydyw y pethau hyn­ny felly, fel y gallom osod ein ffydd, nid ar ddŷn, ond ar Dduw. Canys ffydd Dduwiol, ac nid ffydd ddynol â ddŵg i fywyd tragywyddol. Ac am hynny y mae Duw yn gyrrn ei bobl att y Gyfraith, ar destiolaeth: oni lefarant y Pregethwŷr yn ôl y Gair, nid oes go­leuni ynddynt; ac ni ddylei nêb gredu (yn lle athrawiaeth iachwyawl) y pe­thau â ddywedant.Esay. 8. 20.

Yn drydydd; fel y bu gau Broph­wydi gynt,2. Cor. 11. 14. a gau Apostolion; fel y bu, y mae,2. Pet. 2. 15. ac y bydd gau Athrawon yn y dyddiau diweddaf, yn ymrithio me­gis Prophwydi, Apostolion, ac Athra­won Christ, gan ddywedyd fel hyn y dywed yr Arglwydd, ac etto llefarasant weniaith eu calonnau eu hunain, ac nid o enau yr Arglwydd. O herwydd y cy­fryw weith-wyr twyllodrus yn ceisio gwyr-droi y gwrandawyr, rhaid yw profi yr yspydion a'i o Dduw y maent. Canys ni ddylid credu pôb yspryd. 1. Io. 4. 1.

[Page 51] Yn bedwerydd, y Pregeth-wyr er eu bôd yn wŷr da, ac a'u calonnau yn vnion, etto dynion ydynt, ac yn ddar­ostynyedig i wendid. Ac o herwydd hyn y mae yn bossibl i wîr Bregeth­wŷr y gwirionedd allu gwŷro, a threi­llio mewn rhyw bethau oddiwrth y gwirionedd, mewn amryfusedd, neu yn ddiarwybod iddynt eu hunain fel y gwnaeth y dyscawd-wŷr goreu. Gan yr hên Brophwydi gynt, gan Grist a'i Apostolion yr oedd mesur digoll per­ffeith gwbl or yspryd, fel na allent gam­gymmeryd yn eu athrawiaeth; eithr am eraill gynt ac wedi, er eu bôd o ddoniau ragorawl, ac yn dwyn odiaeth ar lawer (ie hyd yn oed y tadau â gy­frifir yn golofnau y Brîf-eglwys sef Awstin, Ierom, Bernard, &c) etto nid oedd eu llygaid mor eglur, a chrâff ac y canfyddent bôb peth; na'u athraw­iaeth, mor ansiommedig ac na allant ŵyro oddiwrth nod y gwirionedd, gan nad oedd eu gwybodaeth hwynt ond o ran, ac am hynny y treulliasant ôll mewn rhyw beth neu gilydd; yn vnic nyni a'i dilynwn hwynt gan [Page 52] dderbyn eu hathrawiaeth cyn belled ac y byddont hwythau yn dilyn yr Scrythrau.

Yn ddiweddaf oll, y mae llawer o Bregethwyr yn y dyddiau hyn yn ce­reddu pechodau, a chnawdol drach­wantau yr amseroedd hyn, yn llym, ac yn haerllyg; ac am hynny yn cael gan ddynion drygionus y peth â gafodd y­pro: Michaiah gan Ahab, sef casineb, a dryg-air. O herwydd hyn fel y gallo pawb wybod nad ydynt yn dyscu dim ond yr hyn y mae Duw yn ei ofyn gan­ddynt, nac yn argyoeddi dim ond y peth sydd feius, ewyllys pob gwir Bre­geth wr ffyddlon yw i bawb o honoch chwilio yr Scrythyrau, er mwyn gallu o honoch weled eich hunain, nad yw yr Athro yn myned dim pellach nai Awdurdod, nac yn dyscu ddim amge­nach nac y gallo ddwyn warant, a phrawf allan a Air Duw am dano.

Cymro.

Os yw yr Athrawon fel hyn yn an­ghyttuno a'i gilydd a'r dyscawd-wyr ffeilstyn gystal ar geir-wir yn dangos lliw, a rhith at brawf o Air Duw (er eu [Page 53] bôd fel y dywedwch yn gwyro y Gair) pa fodd gan hynny y gallwn ni sydd ddynion annyscedig drwy chwilio yr Scrythyrau adnabod gwahaniaeth▪ a dirnad rhwng gwirionedd, a geudeb?

Car-wr.

Gwir athrawiaeth sydd yn cyttuno yn gysson â Gair Duw yn hollawl ym mhôb man, ac nid yw yn erbyn, neu yngwrthwyneb i vn man arall o ho­naw. Nid oes ie yn y naill fan, a nagê mewn man arall: Nid ywr Scrythy­rau yn ymrafaelio a'i gilydd, eithr pa bêth bynnac â ddywed y naill le â ga­darnhâ y lle arall; felly nid oes yno an­ghydfod, ond cyslondeb yn ôl rheol, a threfn yr iawn ffydd. Eithr gau athra­wiaeth er ei fod yn cymmeryd escus, a lliw o Air Duw, etto y mannau o'r Scrythur â ddygir i'w brofi, â wyr­droir yn erbyn deall yr Yspryd glân, ac yn erbyn lleoedd eraill or Gair, y rhai â wir destiolaethant yr vnion wrthwyneb i'r hyn â deurir: megis hyn, rhai â heurant fôd mewn dŷn o naturiaeth beth tuedd gogwydd i gymmorth ei iechydwriaeth drwyddo [Page 54] ei hun; a'i hescus â gymmerant o ei­riau yr Apostol: sef gweithredwch eich iechydwriaeth drwy ofn, a dychryn ond pan iawn ystyrier ddeall y geiriau, ac y cymmwyser hwynt at fannau eraill o'r Gair, profi y maent y gwir wrth­wyneb. Oblegit ein iechydwraieth ni sydd yu gwbl oll o Dduw, ac nid oes ynom ni o naturiaeth ddim tu ag atto.

Cymro.

Ewyllysio yr wyf (fe ai gŵyr Duw) gael gwir wybodaeth o'r gwirionedd a Grâs i lynu wrtho fel na allo gau­ddyscawdwr twyllodrus drwy ymri­thio megis Gwenidog Grist fy nhwy­llo: A wyddoch chwi gan hynny oddi-wrth ddim moddion eraill i'w harfer fel y Caffwyf adnabod gwaha­niaeth rhwng gau-athrawiaeth a gwi­rionedd?

Car-wr.

Os ydych yn gwir garu y gwirio­nedd (fel y mae yr awr'hon yn dybygol wrth eich geiriau) Duw â ddengys i chwi y gwirionedd, ac 'a'ch ceidw yn­ddo rhag rhoddi o honoch goel ar ge­lwydd: Eithr y rhai nid ydynt yn ca­ru, nac yn credu y gwirionedd, y mae [Page 55] Duw yn eu gadael i gredu celwydd, o herwydd eu bod yn ymfodloni mewn anghyfiawnder. 2. The. 2. 10 Hefyd os vfyddhewch i'r gwirionedd wedi ei wybod,Io. 7. 17. cewch adnabod y ddysceidiaeth ai o Dduw y mae. Ac os adnewydda Duw chwi yn adnewyddiad eich meddwl i fod yn ofalus am ei wasanaethu ef, yna y cewch brofi beth yw ewyllys Duw, Ruf. 12. 2. yr hwn sydd ddaionus, cymmeradwy, a pherffaith. I fyrhau, os rhŷdd Duw i chwi wir ostyngeiddrwydd calon, a gweithio ei wir ofn ynoch,Psal. 25. 9. yna efe a'ch dysc yn y ffordd ddewisol, a'i gyf­ammod fydd gyd â chwi i'ch cyfarwy­ddo, fel na'ch twyller gan vn gau-ddys­cawdwr cyfrwys, er dyfned ei ddiche­llion, a'i ddysceideaeth yn ceisio eich gŵyr droi oddi wrth y gwirionedd. Gweddiwch ar Dduw am y doniau hyn, ac yno nid rhaid i chwi vnon vn gau-ddyscawdwr.

Cymro.

Dangosassoch yn syrn helaeth y budd, a'r llesâd sydd i'w gael drwy chwilio yr Scrythyrau, a gwrando ar Bregethau: ond dywedwch i mi, â [Page 56] ydyw pawb ac sydd yn arfer o chwilio yr Scrythyrau yn cael y daioni hwn­nw?

Car-wr.

Nag ydyw; o herwydd nad ydynt yn chwilio yn y modd y dylent wrth orchymmyn Duw, yn astud, yn ddy­fal, yn ddiwyd, yn ofalus, ac yn ddies­ceulus: eithr yn ddiofal, yn ddifraw, ac yn esceulus; heb ddal sulw, nac ysty­ried yn ddyfal y pethau y maent yn eu darllein. Ac felly y maent yn Cym­meryd Enw Duw yn ofer, ac yn gwne­uthur gwaith yr Arglwydd yn esceu­lus, ac am hynny yn tynnu arnynt fell­dith Dduw i'w dialedd,Ier. 48. 10. yn hytrach na'i fendith er llesâd iddynt.

Cymro.

A ddichon dŷn drwy ei athrylith dda, neu ei rym, a'i ddoethineb ei hûn chwilio yr Scrythyrau yn y modd y dylei i gael budd oddi-wrthynt.

Car-wr.

Na ddichon ddim; Canys heb Grist ni ellwch wneuthur dim.Io. 15. 5. Efe sydd yn gweithio yr ewyllys,Phil. 2. 13. ar gallu i hyn, megis i bob gweithred dda arall.

Cymro.
[Page 57]

Pa fôdd y mae efe yn rhoddi Grâs, a grym i wneuthur hynny fel y dylem?

Car-wr.

Mewn amryw ddull, ac agwedd sef 1. wrth ddechreu. 2. wrth ddilyn. 3. yn ôl y gwaith yn chwilio.

Cymro.

Pa fodd y mae Crist yn paratoi dy­nion i iawn chwilio, ac yn eu cymmorth er budd iddynt?

Car wr.

Drwy roddi iddynt lygaid i weled, a chalonnau i ddeall yr Scrythyrau,Luc 24. 45. fel yr agorodd afe ddeall ei ddysciblion.

Cymro.

Drwy ba foddion y mae Crist yn rhoddi iddynt lygaid i weled, a cha­lonnau i ddeall yr Scrythyrau?

Car-wr.

Drwy bregethiad ei Air.Act. 16. 14. Felly yr agorodd efe galon Lydia wrth wrando ar Paul yn pregethu. O hyn y gelwir pregethiad yr Efengyl yn wenidogaeth yr yspryd, drwy'r hyn beth y mae Duw yn gweithio yn ei bobl ddewisedig, ddeall-garwch i ddirnad deall yr ys­pryd [Page 58] yn y Gair, ac awydd-chwant i chwilio allan ddirgel,2. Cor. 3. 8. a dyfnion bethau Duw.1. Cor. 2. 10

Cymro.

Pa gymmorth â gânt gaddo pan elont y nghylch y gwaith i ddechreu chwilio?

Car-wr:

Efe â bair iddynt ystyried eu bod yn nessau at Dduw i ymddiddan ag ef nid y nghylch matterion gwael ond pethau rhyfedd-fawr yn cynnwys dir­geledigaethau Duwioldeb, a pherthy­nas iechydwriaeth eu heneidiau. Y mae efe drwy ei yspryd yn eu cynnyrfu i gymmeryd y gwaith mawr hwnnw yn llaw drwy wyldra a pharchedig ofn, Heb. 12. 28. fel y gallont ryngu bôdd iddo ef. Wrth agoryd y Bibl y maent megis yn ago­ryd genau Duw i lefaru wrthynt o'i Air, megis pe dywedent fel y dywe­dodd Samuel: llefara Arglwydd, canys y mae dy wâs yn gwrando. 1. Sam. 3. 10. Y mae Crist yn gorchymmyn i'r hwn a ddarlleno,Mat. 24. 15. ystyryed wrth ddarllein: A gostwng ei galon, a, i feddwl i ddal sulw yn ddy­fal ar y peth â dderllyn; fel y dywed y [Page 59] Prophwyd. psal. 95. 8. Gwrandawaf beth ddywed yr Arglwydd Dduw &c. Ac fel yr ae yr Israeliaid at Moses ei hûn i ymofyn am fatterion caled. Felly pan ddigwyddo wrth ddarllein bêth anhawdd ei ddeall,Act. 8. 30. fel y digwyddodd i'r Efnuwch, yna cyrchu at wenidog crist i gael ganddo ef ddattod y cwlwm caled. Canys gwefusau yr offeiriad a geidw wybodaeth, a thi a geisi y gy­fraith o'i enau ef &c.

Cym-rw.

Ond digon yw darllein y Gair yn rhygl, ac yn adrybelydr, pa raid y fâth astudrwydd wrth ddarllain?

Car-wr.

1. Yn gyntaf, pa bethau bynnac a scryfennwyd or blaen er addysc i ni yr scrifennwyd hwynt. Sef i ni yn gystall ac i eraill:Ruf. 15. 4. Am hynny y mae yn rhaid i ni yn enwedic chwilio yn ddyfal er budd, ac addysc i ni.

2. Yn ail, y mae i ni addewid o gael deall, a gwybod ewyllys, ac ofn yr Arglwydd, os gwaeddwn ar ôl gwybodâ­eth, os ceisiwn hi fel ceisio arian, os chwili­wn am Dani fel am dryssorau cuddiedig.Diha. 2. 3.

[Page 60] 3. Yn drydydd, yn y dyfnder y mae gweled rhyfeddodau yr Arglw­ydd. Yn y gwreiddin y mae 'r sugn, ac yn y cynewillin y mae 'r ffrwyth ac nid yn y gangen, neu'r cibin, neu'r blis­cin. Nid yn y croen, y mae'r mêr ond yn yr ascwrn, felly nid yn y llythyren, ond yn nirgel ddeall yr yspryd y mae'r grym a'r melysdra a'r bûdd iw gael. Nid ar wyneb y ddaiar y ceir y mwyn arian, ac aur, ar tryssorau gwerth fawr eithr yn eigion, ac ym mherfedd y ddaiar ac am hynny rhaid yw cloddio yn ddyfn, a descyn i'r diffwys cyn eu cael allan: yn yr vn ffunyd rhaid yw chwilio'r Scrythyrau, a'u chwilio yn fanwl, ac yn astud er mwyn cyrhae­ddyd tryssorau gwybodaeth a deall ysyrydol i ddiddanwch ein eneidiau.

Cymro.

Eithr y mae yn yr Scrythyrau lawer o bethau dyfnion (ac fel y dywed S. Peter a'm lythyrau Paul anhawdd eu deall) sef Rhagwybodaeth Duw a'i Arfaeth, etholedigaeth, adenedigaeth ar cyffelyb, â ydyw Duw yn canniadhau i bobl gyffredin chwilio y pethau hyn?

Car-wr.
[Page 61]

Y mae Duw yn canniadhau, ac yn gorchymmyn i'w wenidogion fynegu i'w bobl ef ei hôll gyngor, heb attal dim oddiwrthynt, ac am hynny y mae yn rhaid ir bobl hwythau chwilio â ydyw y pethau hyn felly,Act. 20. fel y dŷsc y Pregethwyr. A pha bethau bynnac â scrifennwyd er addysc i ni yr Scrifen­nwyd hwynt, a rhan ydynt o'r pethau amlwg â roes Duw, nid yn vnig i'r Gwenidogion i'w treuthu, ond i'r bobl hefyd i'w dyscu.Deu. 29. 29.

Cymro.

Ai possibl i bobl gyffredin allu, drwy chwilio, gael gwybod yn siccr â ydiw Duw wedi eu rhaglunio, a'u rhag ordeinio hwynt i fywyd tragw­yddol cyn seiliad y bŷd, a bod eu henwau hwynt yn Scrifennedig yn llyfr y bywyd; ac os yw bossibl cael gwybodaeth, a siccrwydd o hyn, dan­goswch, attolwg, pa fodd?

Car-wr.

Pe buasai hyn yn amhossibl, ni bua­sai Duw yn gorchymmyn i ni fod yn ddiwyd i wneuthur ein galwedigaeth, a'n [Page 62] Etholedigaeth yn siccr: 2. Pet. 1. 16. Ar siccrwydd hwn sydd i'w gael a'm ein rhaglunia­eth, a'n Etholedigaeth, drwy chwilio yr Scrythyrau, a'n calonnau ein hunain hefyd. Canys y rhai â ragluniodd Duw, Ruf. 8. 30. y rhai â alwodd, â gyfiawnhaedd, ac â ogoneddodd efe. Dymma'r gadwyn euraid ddiwahan sydd yn cyrhaedd o'r nefoedd i'r ddaiar; ac i galonnau etho­ledigion Duw ar y ddaiar: ac oddi­yno yn cyrhaedd drachefn i'r nef: Pwy bynnac gan hynny sydd wedi cael gw­ybodaeth a siccrwydd (drwy Air Duw, a chwilio ei galon i hûn) fod ganddo afael yn y lingciau sydd y nghanol y gadwyn hon, nid amgen, fod Duw wedi ei alw ef drwy ei Air, a'i yspryd, allan o dywyllwch anwybodaeth, a drygioni i oleuni ffydd, a buchedd ddu­wiol; a'i fod drwy'r ffydd hon wedi ei gyfiawnhau, ac wedi ei sancteiddio drwy yspryd Crist y mae efe wedi cael gwybodaeth siccr ddarfod i Dduw ei raglunio ef, a'i ragordeinio i fywyd tragywdddol.

Cymro.

Os Caiff rhai wybod yn siccr eu bod [Page 63] wedi eu Dewis i fywyd tragywyddol, a bod etholedigaeth Duw yn ddi-an­wadal, ac yn ansiommedig, oni wnâ hyn hwynt yn ddiofal, ac yn ddifraw am wasanaethu Duw? oni thybiant y gallant fyw fel y mynnont, os gwy­ddant na ollwng Duw hwynt i fod yn golledig? Ac onid gwell fyddei eu cadw tan ofn, heb na chwilio, na gw­ybod beth à ddarparodd Duw o ho­nynt, rhag iddynt esceuluso ofni Dnw, ac abrgofi pob gofal am ei wasanaethu ef?

Car-wr.

Er bod rhai yn tybied felly, etto cam gymmeryd y maent. Nid oes neb yn ofni mwy rhag digio Duw, nac yn ei wasanaethu yn ddiwydiach a sic­crwydd eu bod yn etholedigion Duw yn ôl ei ragwybodaeth ef, 1 Pet. 1. 20 drwy sancte­iddiad yr yspryd. Canys drwy wy­bodaeth o ddirfawr gariad Duw tu ag attynt, yn ei etholedigaeth i fywdd, y mae Duw yn tywallt ei gariad yn eu calonnau drwy'r yspryd, ac yn ennyn ynddynt gariad tu ag at Dduw. Dra­chefn, yr ydym ni yn ei garu ef,Ruf. 5. 5. am [Page 64] iddo ef ein caru ni yn gyntaf. Ac am iddo ein caru cyn ein bod,1. Io. 4. 19. y mae ar blant Duw ofn gwastadol rhag rhoddi iddo achos i ddigio drwy eu camwe­ddau; gan wybod hyn, megis yr or­deiniodd efe hwynt i fywyd, felly yr ordeiniodd efe hefyd iddynt rodio yn ffordd y bywyd, drwy ei wasanaethu ef mewn vniondeb, a Duwioldeb hôll ddyddiau eu bywyd.

Cymro.

Dangoswch bellach y Grâs, a'r gal­lu y mae Crist yn ei roddi i'r sawl â chwiliant yr Scrythyrau i wneuthur iawn ddefnydd o honynt yn ôl eu chwilio.

Car-wr.

1. Yn gyntaf, y mae efe yn eu cyn­nyrfu i gofio y daioni â gawsant drwy ymddiddan â Christ wrth drin ei Air ef, gan weithio ynddynt dristwch Duwiol am gasclu cyn lleied o fudd oddi-wrtho: yn enwedig gan nad oedd vn gair ofer â ddaeth o enau Duw, na allesid tynnu mwy llesâd o honaw pe buasent yn ymroddi i'w iawn ddeall ef ac i'w gadw.

[Page 65] 2. Yn ail, y mae Crist yn rhoddi iddynt galonnau diolchgar am â gaw­sant o ddaioni, a diddanwch oddiwrth ei Air ef.

3. Yn drydydd, y mae Crist yn rhoddi iddynt nerth a gofal i gadw ei eiriau ef yn eu calonnau fel y gwnaeth Mair:Psal. 119. 11. ac megis y cuddiodd Dafydd ymadroddion Duw yn ei galon fel na phechei yn ei erbyn: Col. 3. 16. fel y preswylio gair Crist ynddynt yn helaeth. Canys y doethion â drysorant wybodaeth. Diha. 10. 14.

4. Yn bedwerydd, ar y tryssor hwn y gosodant eu serch, a'u calon, gan fyfyrio y nghyfraith yr Arglwydd ddydd,Psal. 1. 2. a nôs. Canys lle y mae y try­ssor, Mat 6. 21. yna y mae y galon hefyd.

5. Yn bummed,Psal. 119. 105. y cymerant Air Duw yn ganwyll i'w traed, ac yn llewyrch i'w llwybr. Felly y mae Duw yn gor­chymmyn i Iosuah fyfyrio ar lyfr y Gy­fraith ddydd, a nôs fel y gwneler yn ôl yr hyn ôll sydd scrifennedig ynddo: felly yr oedd testiolaethau Duw yn gyngor wyr i Ddafydd drwy dy orchymynnion y pwyllais, Iosh. 1. 8. am hynny y casiais bob gau lwybr. Psal. 1. 9.

[Page 66] 6. Y chweched rhôdd y mae Crist yn ei rhoddi i iawn chwilwyr ei Air, yw gallu dwyn allan o ddaionus dry­shor eu calonnau y pethau da â gascla­sant wrth drîn y Gair yn gyd wybodus: fel y gorchymynnodd Duw i bôb Pen-teulu. Bydded y geiriau hyn yn dy galon, ac yspyssa hwynt i'th blant, a chrybwyll am danynt; Psal. 11. 4. pan eistoddych yn dy dŷ, a phan gerddyth ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, Col. 3. 16. a phan gyfodych i ynu. Diha. 10. 19 Ac y mae hefyd yn erchi: di­ddanu. Pawb eu gilydd a chynnal y gweiniaid; cyfrannu a'u gilydd y rhodd a dderbyniasant fel daionus orchwy­lwyr amryw râs Duw. Yna y dichon y rhai â chwiliant yr Scrythyrau ddy­wedyd wrth ei cyfaill fel y dywedodd Iob wrth yr eiddo yntau:1 Pet. 4. 10. wele ni â chwiliasom hyn, ac felly y mae efe, gwrando hynny, a gwybydd di er dy fwyn dy hûn.

Cymro.

Wrth hyn mi â welaf yn eglur fod amryw fâth ar fudd, a llesad yspry­dol i'w gael o chwlio yr Scrythy­rau.

Car-wr.
[Page 67]

Diddadl yw hynny. Yno y caiff dyn ei wir adnabod ei hûn; a gweled yn amlwg mor wael, ac mor ffiaidd ydyw ger bron Duw, ac mor wrth­wynebus yn ei olwg ei hûn, wrth gan­fod yn nrŷch Gair Duw aruthredd ei holl bechodau erchyll â wnaeth efe erioed yno y caiff weled y dull, ar ag­wedd y merthyrwyd Crist drwy ei groes, a'i ddioddefaint dros ein pecho­dau ni. Pa dristwch duwiol â weithia hyn y nghalon y dŷn gras lawn, gan beri iddo lefain fel S. Paul: Ys truan o ddŷn wyfi. Ac fel y gwahan-glwyfus wrth y gyfraith, aflan ydwyf, aflan yd­wyf. Ie megis Iob ffiaidd yw gennif fi fy hûn, Iob. 42. 6. ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llŵch, a lludw. Ie pa ofn, a dychryn, â ddaw arno wrth ystyried bygythion Duw yn erbyn ei bechodau, rhag iddo syrthio iddynt drachefn, a thynnu digo­faint arno, Ie pa gyssur, a diddanwch ym mhob cyflwr: mewn hawddfyd pan allo ddywedyd: Canwyll yw dy Air i'm traed a llewyrch i'm llwybr: ac mewn adfyd;Psal. 129. 92. oni bai fod dy ddeddf [Page 68] yn hyfrydwch, Psal. 119. 92. i ni, darfuasai am danaf yn fy nghystudd. Ie pa dryshor o gyng­horion Duwiol fydd ganddo pan fe­dro allan o Air Duw gynghori ei wraig a'i blent, a'i wasanaeth-ddynion, a'i gymmydogion' pa fodd y dylent rodio a bodloni Duw Drwy dalu i bawb eu dyledion, teyrnged i'r hwn y mae teyr­nged yn ddyledus, toll i'r hwn y mae toll, Ruf. 13. 7. ofn i'r hwn y mae ofn, parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus.

Ie pa amldra o fannau or Scrythyrau sydd ganddo yn barod yn erbyn coel­fuchedd, a gaugrefudd, ac i faentumio gwir wasanaeth Duw. Hefyd i atteb drosto ei hûn y nghweryl ei ymarwe­ddiad duwioll, a sanctaidd, drwy gau safnau gwrthwynebwyr cnawdol, a gyrru taw ar goeg-siarad wyr, a dda­dleuant yn erbyn y gwirionedd. Dym­ma'r ffrwythau, ar effeithiau gwir­fuddiol â gânt y sawl â iawn-chwiliant yr Scrythyrau.

Cymro.

Pe rhôn â bod dŷn mor ddyfal yn chwilio Gair Duw ac yr ydych chwi yn gofyn, er hynny y mae côf y rhan fwy­af [Page 69] o honom yn wan, a'n calonnau sy­waeth yn fuscrell i ddwyn gennym ac i gadw gŷd â ni yr amryw bethau â ddarllenir yn yr Scrythyrau: hawdd gan bawb ollwng tros gof bethau da, er eu darllein, neu eu clywed yn fy­nych.

Car-wr.

Gwir; anhawdd yw cadw y cwbl, etto fe fwriada dŷn Duw gyd a'r Pro­phwyd: Psal. 119. 93. Bŷth nid anghofiaf dy orchymyn­nion, canys a hwynt i'm bywheaist. Ac o'i ofal am wasanaethu Duw efe â geidw lawer, er na chadwo y cwbl â ewylly­siei ei gofio o'i Air ef: A phan ballo ei gôf efe â wŷr pa le y mae chwilio am y pethau a fynne ei wybod sef yn llyfr Duw.

Cymro.

Er daed y dadleuasoch y nghweryl chwilio yr Scrythyrau, er eglured eich rhesymmau, etto y mae llawer mâth ar ddynion bydol-feddwl â ymosodant yn daer, ac yn haerllyw i ddadleu yn erbyn yr ymarfer dduwiol, angenrhei­diol hon; beth gan hynny â ddywed­wch yn erbyny rheini?

Car-wr.
[Page 70]

Hyn â ddyweddaf fi; pwy byn­nac â ddywedo yn erbyn chwilio yr Scrythyrau sydd yn dywedyd yn er­byn Duw yr hwn â orchymynnodd eu chwilio hwynt; ar cyfryw rai nid oes ganddynt ddim gwir gariad, nac i Dduw, nac i'w Air, nac i'w heneidiau eû hunain. Ac os medrwch chwi gofio, ac adrodd eu gwâg-resymmau hwynt, chwi â gewch atteb iddynt yn ol y gwybodaeth â roes Duw i mi.

Cymro.

Rhai a ddywedant mai ceisio yr y­dych chwi godi arfer newydd, gan osod allan y pethe ni bu erioed yn gyffredin yn y wlâd hon, ac nid yw bossibl ei fod ym mŷsc cyffredin Gymru o herwydd Ilawer o rwystrau.

Car-wr.

Ni ddylem ni adael i ddim ein rhw­ystro i wneuthur ewyllys Crist, a'r pe­thau goreu at lesâd ein eneidiau. Gwir yw mai arfer newydd y nghymru yw ymorol yn gydwybodus am Air Duw, eithr greshynaf oll yw'r peth, na baem ni yn gofalu am wneuthur ewyllys [Page 71] Crist megis cenedloedd eraill erioed, yn enwedig y Saeson; diwidrwydd yr rhai addylei ein cynnyrfu ni i'r cyffelib. Er derbyn o'n henafiaid ni gynt ffydd Grist lawer cant o flynyddoedd o'u blaen hwy; a bod (yn ddiammeu) Gair Duw y pryd hynny yn aml i'n plith yn eie tafodiaith ein hûn; etto fe fu coll mawr arno wedi hynny tros hir o amser, hŷd yr awrhon yn ddiweddar yr ennynnydd o newydd drwy râs Duw ac y mae beunydd yn ymhelae­thu yn ein mysc: ac megis yr oeddym ni gynt yn blaenori ar y saeson mewn crefydd Gristnogawl; felly y maent hwythau heddyw yn rhagori llawer arnom ninnau mewn gwybodaeth, a zêl i wasanaethu Duw. Eithr y diffyg sydd o honom ni ein hunain eisieu chwilio yr Scrythyrau, yr hyn er ei fod yn beth newydd i ni, etto nid ne­wydd y dylasei y ddyled-swydd hon fod, ond hen megis y mae gŷd â che­nedloedd eraill. Eithr gan fod llyfrau ddigon wedi dyfod allan, y mae goba­ith y bydd mwy o chwilio ar yr Scry­thyrau y nghymru o hyn allan, fel yr [Page 72] amlhao, ac yr heneiddio yr ymarfer ddwwiol hon y Nghymru megis yn Lloegr.

Cymro.

Eithr y mae vn rhwystr mawr at ffordd y Cymru rhagor a'r rai eraill, nid amgen nad oes yn hôll Cymru ond ychydig â fedr ddarllein Cymraec; oddieithr yr Eglwys-wyr; A digon llesc, ac anhyspys y medr rhai o'r rhe­ini ddarllein eu hiaith eu hûn. A pha fodd y daw pawb yn gyffredin i chwi­lio yr Scrythyrau, gan na fedry cyffre­din eu darllein?

Car-wr.

Cywilydd Cymru yw bod cynnifer o honynt yn medru ieithoedd eraill, ac etto heb fedru darllein eu hiaith eu hûn. Eithr hawdd i'r rheini ddyfod i'w dar­llein, a rhag cywilydd dechreuant arni. Ac am y sawl ni fedrant ddarllein, dim nid anhawdd iddynt ddyscu, os byddant ewyllysgar, ac er eu bôd wedi myned mewn gŵth o oedran cyn de­chreu, etto nid rhaid i neb wladeiddio am gymmeryd yn llaw bêth mor an­genrheidiol; mwy gwradwydd o la­wer [Page 73] yw ei esceuluso hŷd yn hyn. Myfi â adwen rai vgein-mlwydd, a dêg ar hugain, ie a deugain oed, â ddys­casant ddarllein pan roes Duw iddynt râs i ofalu am eu hiechydwriaeth. Os bydd vn mewn teulu a fedro darllain, hawdd yw i'r lleill ddyscu gan hwn­nw drwy fod y naill yn ewyllysgar i ddangos, a'r lleill i ddyscu. Ac nid yw cymmaint gorchest dyscu darllein cym­raec, ac na allo pawb â fyddo gan­ddynt ewyllys iddi, yn hawdd ei gyrha­eddyd ac ar fyrr o amser. Eithr oni bydd neb yn tŷ â fedro darllain Gair Duw, oni bydd dim chwilio, na myfy­rio ar ei Gyfraith ef, pa fodd meddwch chwi, y dichon y teulu hwnw fod yn deulu Duw?

Cymro.

Y mae rhai yn medru darllein, a deall y Bibl yn saeson-aec, ac am hyn­ny yn tybied nad rhaid iddynt hwy geisio y Bibl yn Gymraec, na dyscu ei ddarllein.

Car-wr.

Os yw pawb oll drwy'r tŷ yn deall saeson-aec, fe wasanaetha hynny: nid [Page 74] gwaeth y naill iaith na'r llall eithr os oes rai o'r tylwydd heb ddeall saesonec fe ddylei berchen y ty ofalu, a darparu am gael o'r rhei ni ddyscu iddynt yn yr iaich a deallont, ddarllein gair Duw.

Cymro.

Y mae rhai yn gywilydd-gar, ac yn wladaidd ganddynt chwilio'r Scrythy­rau, o herwydd y bugeirhes, y gwa­wd, ar gwatwor a gynnal dynion dry­gionus yn eu herbyn.

Car-wr.

Nid oes nêb yn gwatwar y rhai a wasanaethant Dduw ond dynion an­nuwiol dirâs. Y mae yn rhaid dioddef gwatwor er mwyn Crist,Mat. 5. 10. a'i efengyl; A gwyn ei fyd â oddefo erlid, gwradw­ydd er ei fwyn ef. A gwae yneb ni ddi­oddefo. Canys pwy bynnac fydd cy­wilydd ganddo Grist a'i eiriaw yn yr odinebu, Mac. 8. 33. a'r bechadurus genedlaeth hon, bydd cywilydd gan fab y dŷn yntef hefyd pan ddelo y ngogoniant ei Dad, gŷd a'r Angelion sanctaidd. Gan hyn­ny, ni ddylei neb arswydo gwasanae­thu Duw drwy fawrhau ei Air ef, a chwilio yr Scrythyreu rhag gwawd a [Page 75] gwatwor drwg-ddynion, y rhi medd S. Petr a yn y dyddiau diweddaf (ac dymma'r dyddiaw hynny) nid gwra­dwydd, a chywilydd yw hyn, meddaf ond coron, a gogoniant i'r sawl a'i gw­nêl.

Cymro.

Eithr i ba beth y prynir y Bibl, ob­legit er ei ddarllain, ai chwilio, etto pwy o'r cyffredin bobl a'i deall? pwy a feidr gasclu o honaw feddwl yr yspryd glân, oni bydd rhyw vn a'i cyfarwyddo, fel y dywed yr Efnuwch wrth Philip y nghylch darllein y Prophwyd Esay. Act. 8. 3. 1.

Car-wr.

Er bod y ngair Duw ryw fannau anhawdd eu Deall,2 Pet. 3. 11. fel yr man â ddar­llenei yr efnwwch;) etto y mae man­nau eraill mor rhwydd, ac mor hawdd eu deall,Diha. 1. 4. ac y rhoddant ddoethineb i'r angall, ac i'r bachgen wybodaeth a syn­wyr, 2 Cor. 4. 3. cuddiedig yw Efengyl Grist i'r rhai colledig y rhai y dallodd Duw y byd hwn eu meddyliau fel na thywynnei iddynt, Psal. 119. 130. &,. Eithr i eraill, Agoriad dy Air a rydd oleuni medd Prophwyd) Pair ddeall i'r rhai annichellgar Ac am hyn­ny [Page 76] darllened dyn Duw yr holl Scry­thyrau, i fod yn gydnabyddus a'u stori, ac yn hyspys yn y drefn â osododd yr yspryd glan arnynt, a cheisied ddeall hyd y gallo; ond pan ddigwyddo man caled neu ryw ddirgelwch megis y daw yn aml mewn prophwdyliaethau, a dammegion, yna angenrhaid yw cyr­chu at ryw Philip i gael cyfarwyddyd; canys gwefusau yr offeiriaid a gadwant wybodaeth, Mal. 2. 7. a'r gyfraith a geisiant o'i enau ef.

Cymro.

Eithr nid oes gan dlodion mor modd i brynu llyfrau: os bydd ychydig dda tu ag at eu cadwraeth eu hun, a'u plant, ni allant hepcor ddim o hynny, rhag dwyn eisieu bwyd, a dillâd.

Car-wr.

Y mae a'r y tlottaf fwy o eisieu pe­thau ysyrydol i ddiwallu eu heneidiau, na phethau bydol i ddianghenu eu cyrph.Iob. 23. 12. Iob a ddewisodd Air Duw o flaen ei ymborth angenrheidiol. Canys y mae gwell ymborth i'w gael i'r enaid drwy ddidwyll laeth y Gair er cyn­nydd ysprydol,1 Pet. 2. 2. nac i'r corph drwy ym­borth [Page 77] corphorol. Angenrheidiaf peth, a buddiolaf y nhŷ gŵr tlawd yw Gair Duw, yr hwn a'i gwna ef yn oludog o Ras. Clôd Cristion da yw prinhau ychydig (o bydd rhaid) a'r ormodedd y bol, a'r cefn er mwyn darparu modd i gael llyfr Duw yn ei feddiant beu­nydd, o'r hwn y dichon, pan gymme­ro hamdden i'w ddarllein, dynnu cys­sur i'w enaid yn wastadol, ac esmwy­thâu llawer a'r ei faich tlodi. A mwy difyrrwch i weision, a morwynion ar suliau, a gwyliau dreulio yr amser ar ddarllein, a gwrando, nac ar bottiau, a phibellau, a phibyddion, a gwell yw'r draul a wneler ar y naill, na'r arian a afradloner yn gywilyddus ar y llall.

Cymro.

Eithr ni ddichon y tlawd hepcor cimmaint o amser ac sydd raid i chwilio yr Scrythyrau, gan gyfodi yn foreu myned yn hwyr i gyscu, a bwytta bara gofidus. Digon bychan yw'r amser oll i ddarparu iddynt eu llynniaeth, ac i'r sawl sydd yn disgwyl wrthynt.

Car-wr.

Y mae yn rhaid i'r tlodion gymme­ryd [Page 78] amser i gyscu, i orphwyso, ac i gy­meryd eu hymborth, a chyffelyb an­genrheidiau y corph, a phaham nac al­lant gymmeryd peth amser hefyd i'w dreulio a'r angenrheidiau eu heneidiau, drwy ymddiddan â Duw yn ei Air. Pa dlottaf fyddo dyn rheitiaf ôll iddo wahanaethu Duw. Ac nid yw tlodi yn rhwystro, ond yn hyttrach yn cyn­northwyo y tlawd i ddilyn Duwiol­deb. Yr oedd Crist yn pregethu i'r tlo­dion. A'r tlodion oedd yn Derbyn yr Efengyl, Luc. 7. 22. a'r cyfoethogion yn ei gwr­thod.Yuc 4. 18. A Duw â ddewisodd dlodion y bŷd hwn i fod yn gyfaethogion yn y ffydd, Luc. 14. ac yn etifeddion ei deyrnas, Iap. 2. 5. ond pa fodd? drwy gyrchu at ei Air ef, &c. Ac dyna'r môdd iddo i gael bendith yr Arglwydd a'r yr ychydig fydde ganddio i beri iddo gynnyddu yn gyfo­eth mawr. Ac nid yw Duw yn gofyn gan y tlawd mwy amser yn ei wasana­eth nac â allo yn hawdd ei hepcor, &c.

Cymro.

Gan na ddichon y tlodion ymescuso­di nad rhaid iddynt hwy chwilio yr Scrythyrau: beth â ddywedwch [Page 79] chwi am y cyfoethogion? y mae gan­ddynt hwy lawer o bethau i ofalu am danynt fel yr oedd gan Martha gynt: tîr i'w weled, Luc. 14. ychen iw profi, a gwragedd wedi eu priodi. Ni chânt fawr amser na hamdden i ymorol am y pethau hyn gan bryssurdeb ynghylch pethau bydol er mwyn darparu dros eu gwragedd, a'u plant, a'u teulu: rhai os esceulu­sant, gwaeth fyddent na'r rhai di-ffydd.

Car-wr.

1. Yn gyntaf, gorchymmyn Crist yw chwilio yr Scrythyrau o flaen dim, er maint eu trafferth, a'u pryssurdeb. nid ydys yn dywdyd, o's cewch en­nyd, neu hamdden i chwilio; nid oes mor fâth os yn y gorchymmyn, na lliw i gymmeryd escus i'w esceuluso o her­wydd achosion bydol, ond chwiliwch (medd efe) er dim a ddigwyddo gan droi heibio bôb rhwystr. A'r hwn sydd yn erchi chwilio, sydd hefyd tan yr vn gorchymmyn yn erchi cymmeryd amser i chwilio. Oblegit ni ellir chwi­lio, na darllein,Preg. 1. na gwrando heb gael amser, ac ennyd i hynny. Ac am hyn­ny beth bynnac fyddo i w wneuthur ni [Page 80] wasanaetha gadael hyn heb ei wneu­thur llafuriwch nid am y bwyd a dder­fydd, ond am y bwyd a beri i fywyd tragywyddol. Io. 6. 27.

2. Yn ail, cofiwch atteb Crist i far­tha Martha, Martha yr wyt ti yn ym­drafferthu a'm lawer o bethau, eithr vn peth sydd angenrheidiol; Mair a dde­wisodd y rhan oreu, yr hon ni ddyger oddi-arni sef gwrando ar Grist a gofalu am deyrnas nêf; dyna'r pêth rheitiaf.

3. Yn drydydd, nid ewyllys Duw yw i nêb gymmeryd arno gym­maint o drafferthau bydol, ac o her­wydd yr rhai yr esceuluser ei wasana­eth ef: ac ni fyn Duw wneuthur pethau y byd hwn yn rhwystr i bethau gwell; yn hytrach y dylid tynnu ymmaith y llygad, a thorri ymaith y llaw neu'r troed a'n rhwystro, hynny yw, troi he­ibîo y pethau cûaf a feddom yn hyt­trach nag y caffont ein denu, na'n hat­tall oddiwrth ein dyledswydd i Dduw?

4. Yn bedwerydd pa fwyaf o a­chosion bydol fyddo i'w trin, rheittiaf o'r cwbl yw cyrchu at Air yr Arglw­ydd [Page 81] am gyfarwyddyd, a chyngor i'w iawn-drîn, fel y bodloner Duw ym mhôb pêth â gymmerant yn llaw, ac y digwyddo bendith oddi-wrtho ef ar gwbl ôll o'r eiddynt.Iosh. 1. 8.

5. Yn bummed, esamplau gwasa­naeth-wyr Duw gynt â ddylei ein cyn­nyrfu ni i wneuthur y cyffelyb yn yr achosion hyn: hwynt hwy yn dwyn mwy pwys arnynt mewn matterion bydol, na nêb yn ein mysc ni, er hyn­ny ni esceulusent ddim o'r ddyled hon. Pan oedd Daniel fwyaf ei drafferth a'i flinder,Dan. 6. etto efe yn erbyn gorchym­myn y Brenin daiarol a weddie dair gw­aith yn y dydd ar y Brenin nefol. Psal. 119. 164. A'r Brenin Dafydd saith waith yn y dydd: a phryd na allei efe liw dydd gan a­chosion y deyrnas foliannu Duw fel yr ewyllysei, etto efe â fyddei hanner nôs yn molianu Duw am farnedigaethau ei gyfiawnder. Psal. 119. 62.

6. Y chweched pêth â ddylei an­nog y goludog i chwilio yr Scrythyrau yw atteb Crist i'r rhai â wrthodasant ddyfod i'r swpper mawr,Luc. 14. sef ni chaiff yr vn o'r gwŷr hynny â wahoddwyd brofi [Page 82] o'm swpper i. Pa lesâd gan hynny sydd ir bobl fydol hyn pe gallent ynnill yr holl fŷd a cholli eu heneidian eu hûn. Marc. 8. 36. Gwae y bobl fydol sydd yn cael, ac yn cymmeryd hamdden i bob peth oddieithr i wasanethu Duw. Pwy bynnac â gymmero ar eu cefnau yr hôll drafferthau â osodo y byd, a'i chawntau cnawdol arnynt, â orchfy­gir ganddynt, ac â gânt eu heinioes yn chwerw drwy wasanaeth caled.Eccle 8. 4. Eithr calon y doeth a edwyn yr amser i wasa­naethu Duw a dynion, Psal. 1. 2. ac a lywodrae­tha ei holl achosion wrth farn.

Cymro.

Ond beth am wasanaeth-ddynion yn eu gwasanaeth caled, pa amser a gaiff y rhai hyn i chwilio yr Scrythy­rau?

Car-wr.

Odid nad yw'r nos yn rhydd iddynt, a'r dyddiau gwylion, a'r Suliau; ac oni channiadha eu meistred bydol iddynt rydd-did ar y dyddiau hyn i wasana­thu eu Meistr nefol, madws, a rhywyr ymadael ar cyfryw feistred digydwy­bod.

Cymro.
[Page 83]

Beth am y rhai ni wnânt na chwilio yr Scrythyrau eu hûn, nac ou bôdd gadael llonydd i eraill a'u gwnelo; ond gwatwor, a gwawdio, a'u difenwi yn gywilyddys?

Câr-wr.

Nid oes i'w ddywedyd wrth yr rheini, ond y peth â ddywedodd Crist wrth y Phariseiaid, Gwae chwi; Canys yr ydych yn cau teyrnas nêf o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn.Mal. 13. 13. a'r rhai sydd yn ceisio myned,Luc. 11. 52. ni adewch iddynt fyned.

Cymro.

Y mae yn yr Scrythyrau ryw bethau anhawdd eu deall, y rhai y mae yr an­nyscedig, 2 Pet. 3. 16. a'r anghyfarwydd yn eu gwŷr­droi i'w dinistr eu hûn; O herwydd hyn enbaid, a pheryglus yw ir cyffre­din ymgymmyrhedd a hwynt drwy eu darllein, neu eu chwilio.

Car-wr.

Felly yn ddiau y dywedir eithr ni ddylid ymadel ag iawn arfer ar bethau da, angenrheidiol O herwydd bod rhai yn eu cam-arfer hwynt: felly y gellid [Page 84] ym-wrthod a bwyd, a diod, a dillad e mwyn bod eraill yn eu cam-arfer i lo­thineb, meddwdod, a balchder i'w di­nistr eu hûn. Pwy â rwystrai i'r weny­nen gasclu mêl o herwydd bod y prŷf­coppyn yn casclu gwenwyn o'r vn llysieun, y mae llawer o ddyscawdwyr, a gwrandaw yr dyscedig yn gŵyrdroi yr Scrythyrau i'w dinistr eu hûn, ac eraill, fel yr oedd y gau Brophwydi, y gau Apostolion,2. Pet. 2. 1. a'r gau-Athrawon gynt, i'r rhai yr oedd pregethiad Gair Duw yn arogl marwolaeth i farwola­eth:2. Cor. 2. 16 er hynny fo ddy'ei gwir ddysca­wd-wyr, a gwrandawyr ddyscu, a gwrando, canys i'r cyfryw y mae y Gair yn arogl bywyd i fywyd, er ei fod yn y gwrth wyneb i eraill.

Cymro.

Ai rhŷdd i ddynion llûg sef rhieni, neu berchen tai esponnio, deongl, ac ago­ryd yr Scrythyrau yn eu teiau eu hun yn neill-tuol, er mwyn dyscu eu plant, a'u teuluoedd?

Car-wr.

Rhŷdd, a hynny y mae Duw yn ei ofyn ganddynt sef dyscu eu plant a'u [Page 85] tylwyth, a pha fodd y gallant eu iawn­ddyscu hwynt oni agorant iddynt y mannau caledion, ac an-hawdd eu de­all? Eithr yn hyn y mae dau beth i'w ochelyd. Yn gyntaf, na chymmerant arnynt ddeongl Gair Duw, na'i espon­nio mewn mâth yn y byd ar gynnulle­idfa, ueu gymanfa o bobl wedi ymgas­clu ynghyd o amryw deuluoedd; ca­nys hynny a berthyn yn vnig i'r eglw­ys-wr cyffredin, ac nid oes i'r llugion awdurdod i gymmyrhedd oddiethr ar eu teuluoedd eu hun yn vnig: yn ail, ar fod o hynynt yn siccr ymmlaen-llaw fod yr hyn â esponniont, neu â ddys­cont i'w teulu eu hun, yn ôl rheol y ffydd. Drachefn, am y gwybodaeth â gasclo neb rhyw ddyn wrth ddarlle­in, neu wrando Gair Duw, y mae yn rhydd iddo, ie y mae efe yn rhwyme­dig, pwy bynnac fyddo, i ddwyn allan o ddaionus dryssor ei galon bethau da, sef cynghorion, neu rybuddion, neu gyssuron, neu geryddon nid yn vnig iw Deulu ei hun, ond hefyd i'w gym­mydogion. Y brodyr, er dala dŷn ar ar ryw fai, chwy chwi y rhai sy ysprydol [Page 86] cymmwyswch y cyfryw ddŷn ag yspryd mwyneidd-drâ, Gal. 6. 1. gan ystyried rhag dy demptio dy hunan hefyd. Thes 5 11 Cynghorwch bawb ei gilydd, ac adeiledwch bob vn ei gilydd &c.Iud. 20. Ymadeiledwch yn eich san­cteiddiaf ffydd, &c.

Cymro.

Beth oni ddaw pawb o dylwyth y tŷ yn hyrwydd ac yn ewyllys-gar i wasanaethu Duw, onid dal allan yn wrthnyssig, ac yn anfodlon i'r pethau gorau?

Car-wr.

Odid o deulu na byddo ynddo ryw Gain neu Ismael neu Esau â gwrthw­yneb ganddo i Dduwioldeb; felly y prophwydodd Crist, y byddei pump yn yr vn tŷ, dau yn erbyn tri; a thry yn erbyn dau: Mat. 10. 35. A gelynion dŷn fydd tylwyth ei dŷ ei hûn. Ac felly y bydd ymrannu, ac ymrafelio, ac ym bleidio yn yr vn tŷ, rhwng rhai di serch i wasanaeth Duw, ar sawl â roddant eu brŷd ar wneuthur ei ewyllys ef. Canys odid, ac anaml cael yn yr vn tŷ bawboll yn gyfan yn awyddus eu athrylith a'u llwyrfryd calon i wasanaethu yr Ar­glwydd, [Page 87] gan lynu yn lew wrth ei Air ef,Act. 10. fel tŷ Cornelius gynt. Ac o hyn y digwydda yn fynych fod y rhai Du­wiolaf o'i rhan eu hun, a mwyaf eu go­fal am gynnal, a chadw eu teulu ar ffordd sancteiddrwydd yn gorfod di­oddef gwrthwyneb, a blinder mawr yn y cweryl hwn; ac er hynny yn cael rhai neu ryw vn o honynt yn wrthny­ssig, ac yn wrthnebus ganddynt ddi­lyn llwybrau gwirionedd.

Cymro.

Eithr fe ddichon Duw droi Saul yn Paul, a thynnu ymaith y calonnau ca­ledion, a rhoddi yn eu lle galonnau rhywiog, a hynaws i ymgais a Gair yr Arglwydd: Efe â ddichon pan fynno ei hûn o'r cerrig gyfodi plent i Abra­ham.

Car-wr.

Gwir yw hynny, ac efe ai gwna os gwêl yn dda, pan ddelo dydd eu hym­weliad, yr amser cymmeradwy, a dydd eu hiechydwriaeth hwynt. Efe â ddichon beri iddynt garu, a chydtu­no yngwasanaeth gwir Grefydd a'r rhai yr oeddynt gynt yn eu casau, ac yn [Page 88] eu herlid, er eu bod or ûn teulu, fel yr oedd Ismael ac Isaac.

Cymro.

Beth o bydd y wraig yn anghyttu­no a'i gŵr yngwasanath Duw, pa fodd­ion a gymmer y gwr i geisio ei hyn­nill hi i gydtuno ag ef yn y gorchwyl hwn?

Car-wr.

1. Aed att Dduw drwy ddyfal­weddio drosti ar agoryd ei llygaid i weled yr vn peth angen-rheidiol, a throi ei chalon i wasanaethu Duw gyd ag ef.

2. Yn ail, mewn amser cyfaddas, ac ar achlyshur cymmwys, cynghored hi drwy gariad, ac addfwynder i ystri­ed or achosion hyn; gan fod yn daer arni ar gyttuno ag ef yngwasanaeth yr Arglwydd, heb adael llonyddwch iddi hyd oni ryngo bodd i Dduw fen­dithio ei waith, gan droi ei chalon i ymroi i'w gyngor Duwiol.

Cymro.

Beth onis gall efe mewn môdd yn y byd ei hynnill hi?

Car-wr.

[Page 89] Ni ddylei efe er hyn gymmeryd es­cus i esceuluso gwasanaeth Duw yn ei deulu, ond cadw ei awdurdod ar ei dŷ, a chynnal gwasanaeth Duw yn ddi­anwadal drwy gadw trefn ddiball ar ddarllein Gair Duw, a gweddio, &c. Ac na roddo iddi achos tramgwydd i'w chaledu, a'i chryfhau yn ei chyndyn­rhwydd.

Cymro.

Beth os y gŵr â fydd gwarsyth, a diog i wasanaethu Duw yn ei deulu, pa ffordd a gymmery wraig dduwiol ewyllysgar, i ennill calon ei gŵr, i gael ganddo ymroi i flaenori a ei deu­lu, ac i wneuthur ei ran yn yr achosion hyn?

Car-wr.

1. Yn gyntaf; damuned ar Dduw drwy weddion dibaid droi, a pharatoi calon ei gŵr i ofalu am wasanaeth yr Arglwydd.

2. Yn ail, damuned ar ei gŵr fe­ddwl ac ystyried mai gorchymmyn Crist yw iddo chwilio yr Scrythyrau, a meithrin ei blant mewn addysc, ac athrawiaeth yr Arglywdd.

[Page 88] [...][Page 89] [...]

[Page 90] 3. Yn drydydd bydded ostyngedig, ac vfydd iddo ymmhôb peth yn yr Ar­glwydd, fel drwy ei hymarweddiad di­wair y nghyd ag ofn yr ynniller ei gŵr heb y Gair, 1. Pet. 3. 1. 2. &c.

4. Yn bedwerydd, yn ôl esampl y wraig oludog o Sunem attolyged i'w gŵr wneuthur croesaw i ŵr Duw â fyddo yn cynniwair heibio, gan ei dderbyn i'w dŷ, yna eirioled ar Eli­seus am annog ei gŵr i wasanaethu Duw.

Cymro.

Beth os ei gŵr ni wrendu arni hi, nag ar gyngor nêb arall yn yr achosion hyn?

Car-wr

Dilyned esample Eunice mam Timo­thi, Act. 16. 1. yr hon oedd Iuddewes ac yn credu, er bod ei gŵr yn Roeg wr▪ ac heb gre­du: heb ymorol am ddyscu i'w fâb Timothi wybodaeth yr Scrythyrau, etto yr oedd ei fam yn ei feithrin ef er yn fachgen yngwybodaeth yr Scrythur lán. 2. Tim. 3. 15. Ac er bod ei gŵr megis Nabal yn fab y fall fel na ellir ymddiddan ag ef yn cymmeryd ffordd ddiŵg; ac yn tynnu [Page 91] Dialedd Duw arno ei hûn, ac ar i deu­lu: etto ei rhan hi yw megis Abigail, 1 Sam. 25. 3. drwy Dduwioldeb a doethineb cym­meryd ffordd i attal dial Duw rhag syrthio er ei thŷ, a'i thylwyth. Ac yn amser trallod a chyfyngdra canlyn esampl Hester yr hon â ymrodd a'i llangcessau i wasanaethu Duw drwy ymprydio,Hest. 4. 16. a gweddio pan oedd ei gŵr yn ei lawenydd yn ymyfed gyd a'r gelyn Haman. Hest. 3. 15.

Cymro.

Beth os bydd vn, neu ddau o'r plant yn ewyllysio darllain Gair Duw, a my­fyrio arno yn fynych. Ac etto y Tâd ar fam yngwrthwyneb iddynt?

Car-wr.

Gweddient ar Dduw ddydd a nos ar iddo droi eu calonuau hwynt i'w wa­sanaethu ef; ac ymbilient yn daer â hwynt am gael cennad, a rhydd-did i ofalv, a darparu dros ei eneidiau, &c.

Cymro.

Beth os y rhieni fyddant Grefyddol, ar plant yn gyndyn, ac yn anraslawn?

Car-wr.

Yn gyntaf, holant eu cydwybod eu [Page 92] hûn â fuant esceulus yn eu meithrin, hwynt ac yn eu haddyscu yn ofn yr Arglwydd, ac edifarhânt am eu diffyg yn hyn o beth.

Yn ail ymbilient â Duw am eu dwyn hwynt i'r iawn, fel y dûg efe y mâb afradlon.

Yn drydydd, damunent ar y sawl a'i caro eu cynghori, a'u ceryddu, ac i'r rhai sydd ac awdurdod ganddynt i cospi yn ôl â haeddont.

Cymro.

Beth os bydd y gwasanaeth-ddyni­on hefyd yn ddichwant i wasanaethu Duw, ac yn ddiflas ganddynt ei cym­mell i hynny gan eu meistred?

Car-wr.

Er daed eu gorchwylwaith er budd i ddynion, oni bydd ganddynt serch, ac awydd ir gwaith ysprydol, yn ôl Arfer cyfryngau cymmwys i'w gosod ar vni­awn-ffordd iechydwriaeth, drwy gynghorion, a cheryddon, a chospedi­gaethau, oni wellhânt er hyn cofied y meistr yr hyn â ddywed y Brenhin Duwiol, na chai yr vn drygionus aros yn ei dŷ ef, nac yn ei olwg, ond yr hwn [Page 93] a rodiei mewn ffordd berffaith hwnnw a'i gwasanaethei ef. Psal. 101. 6. 7.

Cymro.

Attebasoch bellach i gymmaint ac oedd gennyf ar hyn o amser i,w ymo­fyn am y matterion hyn; gobeithio y bydd o hyn allan llai o ymddadleu yn erbyn gorchymmyn Crist ynghylch chwilio yr Scrythyrau, ac y bydd y­chwaneg yn ymroddi ir arfer dduwiol hon, drwy fendith ar yr ymddiddan­nion hyn. Yr aw'r hon cyn ymadael â chwi, mi â attolygaf i'wch na omme­ddoch fi o ddau beth â ddamunaf ar­noch.

1. Vn yw, bod o honoch yn eiriol ar Dduw drwy daer oestadol weddiau, ar iddo faddeu i ni y Cymru esceuluso mor gyffredin, chwilio yr Scrythyrau yn ôl gorchymmyn Crist. gan drugar­hau wrthym, a gostwng ein calonnau o hyn allan i gadw'r gyfraith hon.

2. Yr ail damuniad yw ar osod allan o honoch i mi, ac i eraill ffurf ar we­ddi, fel y gallom weled, a gwybod pa fodd y dylem weddio ar Dduw am faddeuaint, a thrugaredd am â aeth [Page 94] heibio, ac am Râs o hyn allan i ni ac i'n tylwyth i'w gŷd wasânaethu ef yn ddi­ymddadleu, ac yn ddiymbleidio o vn feddwl, vn frŷd vn galon, ac o vn genau mewn vniondeb, a gwirionedd ddydd, a nôs holl ddyddiau ein henioes.

Car-wr.

Na atto Duw i mi bechu yn erbyn yr Arglwydd drwy beidio â gweddio trossoch.1. Sam. 12. 13. Dangosaf hefyd i chwi y ffordd­dda, ac vinawn sydd i'w harfer, drwy weddi i gael cymmod â Duw, a chym­morth gan Dduw i'w iawn wasanae­thu ef mewn yspryd, a gwirionedd.

Cymro.

Nid oes gennif yr awrhon ddim mwyach i'w ddywedyd wrthych, ac ni'ch rhwystraf i fyned at yr Arglw­ydd mewn gweddi trosom, a'r iddo drugarhau wrthym fel na byddom feirw, 1 Sam. 12. 19. canys chwanegasom ddrygioni yn ddir­fawr ar ein holl bechodau, am esceuluso chwilio yr Scrythyrau: Etto gan yr Arglwydd ein Duw y mae trugaredd, a maddeuaint, er gwrthryfela o honom i'w erbyn.Dan. 9. 9.

TERFYN.
‘Pa Ryw ymadroddion yw y rhai hyn yr ydych yn i bwrw at i gilidd dan rodio. Luk. 24. 17.

Onid oedd yn calon ni yn llosci ynom, tra yr ydoedd ef yn ymddiddan a ni ar y ffordd, a thra yr ydoedd ef yn ago­ryd i ni yr scrythyrau. Luk. 24. 32.

Hyn a scrifennir ir genhedlaeth a ddel, ar bobl a greuir a foliannant yr Arglwydd. Psal. 102. 18.

Gweddi y Cymro am faddeuant am iddo hyd yn hyn esceuluso chwilio yr Scrythyrau, ac am Râs o hyn allan i'w iawn‐chwilio hwynt.

O Ardderchoccaf Dduw a thrugaroccaf Arglw­ydd, myfi bechadur truan llawn muscrellni, ac anwybodaeth, â ge­fais wybod yn awr drwy dy Air di dy fod yn gorchym­myn i mi, ac i bawb chwilio yr Scry­thyrau yn ddiwyd, ac yn ddyfal holl ddyddiau fy mywyd, fel y gallwn dy­adnabod ti yr vnic Dduw, a'r hwn â anfonaist Crist Iesu. Yr wyf yn cyd­nabod, Arglwydd, i mi dorri y gor­chymmyn hwn, a chyfeiliorni allan o'th ffyrdd di, o herwydd nad, oeddwn yn ymgais a'th Air i oleuo fy llygaid drwy ei gymmeryd yn gannwyll i'm traed, ac yn llewyrch i'm llwybr Bùm hyd [Page 97] yn hyn o'm hoes: yn eistedd mewn ty­wyllwch anferthol, ac yn gorwedd y nglynn cyscod angeu, heb ystyried, na gwybod beth yr oeddwn yn ei wneu­thur, nac i ba le y tueddwn. O dirion­deb dy drugaredd tosturiaf wrthif ddrŵg weithredwr truan; Dyro i mi wîr edifeirwch o herwydd i mi drwy y pechod mawr hwn, a thrwy fy holl bechodau eraill dy gyffroi di i ddigo­faint o Dduw. Maddeu, oh maddeu i mi er mwyn dy fâb Iesu y cwbl oll: Ca­nys yn ddi‐arwybod drwy anghredi­niaeth y pechais y pecbod hwn yn dy erbyn. A chan ryngu bodd i ti roddi i mi ewyllys i chwilio yr Scrythyrau o hyn allan; dyro i mi allu i gyflawni hynny yn y cyfryw fodd ac y byddo gogoniant i'th enw di, a diddanwch i'm henaid, ac y byddo hefyd fy niwy­drwydd, am gofal duwiol yn hyn, yn esampl hynod i erail i'w hannog hwy­thau i wneuthur y cyffelyb. Bywhâ fi gan hynny o Arglwydd yr hwn wyf farw mewn pechodau, a dyro i mi en­naint dy sanctaidd yspryd i egluro lly­gaid fy neall, ac i gryfhau golwg fy [Page 98] ffydd fel y gallwyf â chalon syn hwyr-gall ddirnad y pethau sydd ang­enrheidiol i mi eu holrhein allan au casclu o'r Scrythyrau drwy eu man­wl‐chwilio er anrhydedd i'th enw di, iechydwriaeth i'm henaid, ac eneidiau fy nhwylwyth. A phan elwyf yn­ghylch eu chwilio, na âd i mi Ar­glywdd, gymmeryd dy Enw sancta­idd yn ofer drwy wneuthur dy waith di yn esceulus, ond pâr i mi ddyfal syn­nied ar y pethau y byddwyf yn eu darllein fel y gallwyf eu deall, Ac o'th fawr drugaredd datcuddia i mi, ac i'th rai bychain eraill, y pethau sydd guddi­edig i'r doethion, ac i'r deallus, fel y gallwyf gael gwybodaeth o'th ddyf­nion bethau di, O Arglwyd, ac y gosad­wyf hwynt i gadw yn fy nghalon, ac y gosodwyf fy holl serch arnynt megis ar y tryssor gwerth‐fawroccaf, gan fyfy­rio ynddynt ddydd, a nos, fel y bydd­ont yn oleuni i gyfarwyddo fy nhraed, ac i'm harwain drwy-anial dywyllwch y bŷd hwn i fywyd tragywyddol, ac yn ymborth i'm henaid rhag llewygu o honof ar y ffordd, ac yn arfogaeth [Page 99] ysprydol i orchfygu fy holl elynion ysprydol, a chorphorol â geisiont fy rhwystro, neu fy ngwyrdroi i fyned ar ddidro oddi ar ffordd y bywyd. A phan welwyf ar neb o'm teulu eisiau dim o'r pethau ysprydol â gesclais, ac â osodais yn fy nghalon drwy chwilio yr Scry­thyrau, gwna i mi o ddaionus dryssor fy nghalon ddwyn allan bethau da er cyngor, cerydd, neu gyshur-iddynt. A chan fod dy ewyllys di yn gofyn gennif fyfyrio yn dy gyfraith ddydd a nos, na âdo mi, O Arglwydd, na deffygio, na diogi yn y gorchwyl hwn; nac i neb fy nigalonni yn y iawn ymarfer o honaw hyd ddiwedd fy enioes. A channiattâ o'th fawr drugaredd i'm holl deulu wir ewyllysgarwch, calon i gydsynnio a mi i gadw dy orchymmyn hwn o chwilio yr Scrythyrau, a'th wasanaethu di mewn sanctaidd ymarweddiad, a du­wioldeb, fel y digwydd i mi ac i'm tyl­wyth dy hôll fendithion bydol, ac ys­prydol, â addewaist i'r cyfriw, er mwyn Iesu Grist ein Harglwydd,

Amen.

‘A'th fendith di bendithier tŷ dy wâs yn dragywydd, 2. Sam. 7. 9.

Gweddi y Car‐wr dros y Cym­ru, ar i Dduw drugarhau wr­thynt a gostwng eu calonnau i gadw y gyfraith hon.

O Arglwydd Dduw, Duw y Duwiau, tra mawr ac ofnadwy, Ceidwad cy­fammod a thrugaredd i'r rhai a'th garant, ac â gadwant dy orchymynnion, yr hwn â wyddost ddirgelion calonnau pawb oll, â wyddost hefyd mai gwir ewyllys fynghalon a'm gweddi attat dros fy nghenedl anwyl ynol y cnawd yw ar eu bod yn gadwedig. Canys yr yd­wyf yn dŷst fod gan lawer o honynt zêl Duw, eithr nid yn ol gwybodaeth, o herwydd na wyddant yr Scrythyrau. Gan hynny o amldra dy drugaredd yr anfonaist iddynt yn awr dy Air yn he­laeth i'w plith, Anfon hefyd iddynt o Arglwydd, galonnau diolchgar, ac [Page 101] ewyllysgar i'w dderbyn drwy bob lla­wenydd, a pharodrwydd meddwl, ac i wneuthur mawr-gyfrif o honaw fel y llwyddô drwy dy fendith di, yn y peth yr anfonaist ef. A chan nad oes nêb yn y nêf, nac ar y ddaiar yn gallu nac yn deilwng i agoryd llyfr dy Gy­fraith di, ac edrych ynddo, anfon y llew o Lwyth Iuda, gwreiddin Dafydd drwy ei yspryd i'w calonnau hwynt, i agoryd y llyfr ac i ddattod ei selau ef, fel y gallont weled y pethau rhyfeddol sydd yn dy Gyfraith, a'th Efengyl yn perthyn i'th ogoniant di, ac i iechydw­riaeth eu heneidiau. Ac yn gymmaint â rhyngu bodd i ti ddwyn dy ethole­digion drwy iawn chwilio'r Scrythy­rau, i gael cydnabyddiaeth â thi, a thrwy hynny fywyd tragywyddol, gosod o Arglwydd, eu calonnau, a'u heueidiau ar lwybr hyffordd i ofalu am y gwasanaeth hwn; A maddeu iddynt eu cyffredinol esceulusdra hyd yr awr hon. Cadw a chynnal hwynt oll yn yr ymarfer dduwiol yma yn eu teuluoedd, ddydd a nos holl ddyddiau eu henioes, fel y byddo i dylwythau [Page 100] y bobl dy addoli di, O Duw drwy iawn chwilio yr Scrythyrau, eiriol weddiau, a chanu Psalmau, fel y by­ddo llef gorfoledd, ac iechydwriaeth ym mhebyll y cyfiawn, ac fel y byddo Gair Crist yn preswylio yn gartrefol gyd â hwynt, nid yn vnig en eu teiau, ond yn ei calonnau; a hynny yn he­laeth ym mhôb doethineb, gan ddyscu, a rhybuddio bawb eu gylidd. Pâr (O Arglwydd) i'th ddeheulaw wneuthur hyn yn nheuluoedd y Cymru megis y peraist yn lloegr: A phâr i'm llygaid weled hyn cyn fy myned, ac na by­ddwyf mwyiach; yna i'th glodforaf o herwydd i ti wrando ar lais fy ngh­weddi Moliannaf di am dy ddaioni, a'th ryfeddodau i'm cenedl anwyl. A phan welo fy llygaid dy iechydwriaeth di yn dyfod mal hyn i Dai fy nghe­nedl anwyl, yna canaf gân Simeon; sef yr awr hon Arglwydd, gollwng dy wâs mewn tangnheddyf, canys fy llygaid a welsant dy iechydwriaeth. A chan fod llawer drwy ddallineb eu meddyliau, a chaledrwydd eu calonnau yn dirmygu dy Air, a'th orchymmyn [Page 101] hwn ynghylch chwilio yr Scrythyrau, gwared hwynt ôll, Arglwydd daionus, oddiwrth y plaau ysprydol hyn: tru­garhâ wrthynt, a gostwng eu calonnau i gadw y gyfraith hon, a'th holl gy­freithiau eraill, er mwyn Crist.

Ac yn gymmaint a darfod i ti eusus O Arglwydd ostwng calonnau rhai on Cenedl anwyl i ofalu a'm gadw y gorchymmyn hwn, cynnal hyn rhag­llaw, O Arglwydd, ym meddyl‐fryd eu calonnau, ac na âd i neb o'u gwr­thwynebwyr eu rhwystro, na pheri iddynt syrthio oddiwrth eu cariad cyntaf drwy adael heibio yr arfer ddu­wiol hon yn dy wasanaeth di, eithr cyssura, a chynnorthwya hwynt, a'u teuluoedd i barhau yn gefnog mewn gwir vfydd‐dod i'th ewyllys, fel y cynnorthwyaist dy wâs Ioshuah; fel y byddo i'w zêl hwynt annog llawer eraill i ddilyn yr ymarfer sanctaidd hwn, ac y discleirio eu goleuni ger bron dynion, ac y gwelont eu gwei­thredoedd da er anrhydedd i'th Ddu­wiol fawredd di eu Tâd Nefol. Gw­rando Arglwydd, o'th breswylfa yn y [Page 104] Nefoedd ar weddi dy wasanaeth‐wr gwael; Dyro imi, ac i'm cenedl yn ôl y cnawd, ddeisyfiadau fy nghalon, na ommedd fi o ddamuniadau fy ngw­efusau er mwyn dy anwyl fâb Iesu fy Achubwr a'm Ceidwad; i'r hwn gyd a thi a'r yspryd glan y byddo Gogo­niant, a Moliant ym mysc fy holl Ge­nedl, a holl Genedloedd y bŷd o'r dydd heddyw byth yn dragywydd.

Amen.

Felly y byddo.

TERFYN.
‘Oh frodyr, gwir Ewyllys fynghalon am Gweddi ar Dduw sydd, ar ych bod yn gadwedig. Rhu. 10. 1.
‘My fi yn ewyllyscar iawn a dreuliaf, ac a ymdreuliaf dros ych eneidiau chwi, er fy mod yn ych caru yn helaethach, ac yn cael fyngharu yn brinach. 2. Cor. 12. 14.

Boreuol weddi i'w harfer mewn Teulu.

YN foreu Arglwydd y clywi yn llef,Psal. 5. 5. 3. yn foreu y cyfeiriwn attat,Psal. 96. 7. ac yr edrychwn i fynu, canys ti O Arglwydd a orch­mynaist oll dylwythan y ddaiar, a theuluoedd y Bobloedd ith addoli ath foliannu di;Iere. 10. 25. gan fygwth tywallt dy lid ar y teuluoedd ni alwant ar dy ENW,Ma. 15. 19. 20. a chan addo bendithio yr holl Deulu­oedd ar bobloedd a alwant ar dy Enw,Rhu. 10. 3. ac a ymadawant ai hanwiredd, gan hynny, er mwyn dy orchymyn, fel i bo i ni gael bod yn ddiangol oddiwrth dy lid, ac fel y caffom fod yn gyfrannog o'th addewidion, ir ydym yr awr hon wedy ymgynill oth flaen di O Arglw­ydd i alw ar dy Sanctaidd enw, er mewn Crist dyro i bob vn o honom yr ewyllus ar gallu, yr awr hon, i ddat­cuddio yn hanwireddau, i gyffessu drwy wir edifeirwch calon) yn cam­weddau, [Page 104] [...] [Page 105] [...] [Page 104] ac i ymadel an holl becho­dau,Diha, 28. 13 canys gwyddom drwy dy air, na lwydda neb a guddio i pechodau, ond y sawl ai cyffessant ac a ymadawant a hwynt, a gânt drigaredd, o drigarog Dad er mwyn dy anwyl fab Iessu ma­dde i ni ddallineb yu meddyliau a cha­ledrwydd yn calonnau, a gwared ni oll oddiwrthynt, Madde i ni hefyd, yn holl fwriadau, eiriau, an gweithre­doedd drigionus, a wnaethom yn dy erbyn di o Dduw, ac yn erbyn dyni­on, on mebyd hyd yr awr hon, a dyro i bob vn o honom, lygaid i weled, glustiau i glywed, a chalonnau i dde­all, dy holl orchmynion, fygythion, ath addewidion di, a grâs i vfuddhau dy orchmynion, i ochelyd dy fygythion, ac i gredu dy holl addewidion, bydded yn gofal Mwia ith wasnaethu di (o Dduw) wrth dy fodd, gyda gwylder, a phar­chedig ofn,Heb. 12. 28. a bydded yn hofn mwia Rhag dy ddigio di drwy drosseddu dy orchmynion, par i ni oll garu yr holl bethau yr ydwyt ti yn i garu, a chas­sau yr holl bethau yr ydwyt ti yn i gassau, a bydded i ni oll wneuthur dy [Page 105] Ewyllus di, ac nid yn Ewyllus ni O Dduw, y dydd heddiw, a holl ddyddi­au yn heinoes. Yr ydym yn gwir Ewyllyssio hefyd, Rhoddi gwir ddi­olch i ti O Arglwydd, am dy holl dda­ioni a Roddaist ac a addewaist i ni, yn benna, am dy fab Iessu Grist a rodda­ist yn Iechawdwr i ni, in hachub oddi­wrth deilwng boenau vffernol, ac in dwyn i fywyd tragwyddol, drwy i ddarostyngedig vfudd-dod hyd angeu ie angeu 'r groes, a thrwy i adgyfo­diad, a'i dderchyfiad i nefoedd, i ba­ratoi lleoedd iw etholedigion; O Ar­glwydd fel i pararoaist Nef ith bobl, paratoa yn heneidiau ir nef hwnnw, a gwna ni yn gymmwys i gael Rhan o eti­feddiaeth y Saint yn y goleuni, drwy farwolaeth Crist, a thrwy yn adgyfodi i fod yn greaduriad newydd,Rhu. 6. 23. 45. i ddilin buchedd newydd drwy rym i adgyfo­diad ef, ir ydym hefyd yn Rhoddi di­olch i ti am yn gwir wybodaeth O Grist, drwy yr Efengil, an gwir ffydd yn Grist, am yn heddwch dedwyddwch an diogelwch dan, a thrwy reolaeth a llywodraeth yn Harglwydd frenin, i [Page 104] [...] [Page 105] [...] [Page 108] fyw yn llonydd,1. Tim. 2. 2. mewn pob Duwiol­deb ac honestrwdyd. Diolchwn hefyd i ti am ein esmwythdra an lludded a gawsom y nos a basiodd, ac am yn cadw yn ddiangol hyd dechre y dydd heddiw, oddiwrth oll beryglon y nos, a chan nad oes vn dydd ar y byddom yn codi on gwely na bo gelynion yn heneidiau, sef y byd, y cnawd, ar cy­threl, yn codi i wrthryfela ein herbyn, O Arglwydd nertha ni a phob nerth ysprydol fel na bo iddynt yn llygru, drygu, nan gwaethygu, Bendithia ni y dydd heddiw ath ras, cyfarwydda ni ath yspryd, i wneuthur yn vnig y pe­thau yr ydwyt yn i orchymyn i ni, o ga­riad, ac er gogoniant, i ti, fal y bo mwia buddiol i ni ac eraill; ac fal y digwy­ddo achossion newydd i ni ith folianu di O Dduw liw Nos, am dy drigare­ddau diar hyd y dydd, bydded hyn oll i ni, nid er yn haeddedigaethau ni, ond er dy drigaredddau di, drwy dy fab Iessu yn enw yr hwn gweddiwn fel i dyscodd. Ein Tad yr hûn hwyt, &c.

Pryd-nawnol weddi i'w harfer mewn teulu.

O Arglwydd ti a orchmyna­ist dy drigareddau liw dydd,Psal. 42. 8. ath gân fydd gida ni liw nos,Psal. 141. 2. sef gweddi ar Dduw yn heinioes, gan hynny cyfeirier yn gweddi ger dy fron fel arogldarth, a derchafiad yn dwylo fel prydnhawnol ofrwm, tywallt arnom yspryd gweddi, fel i byddo i ni dywallt yn calonnau oth flaen di o Dduw yr awrhon, drwy ddangos yn diolchgaruch am dy dri­gareddau, drwy gyffessu yn pechodau, a thrwy fod yn eiriol arnat am bob ys­prydol a bydol ddonniau, fel y Rho­ddest i ni lawer o achossion y dydd heddiw or boreu hyd y nos hon i'th foliannu di o Dduw, felly dyro i ni ga­lonnau i ddangos yn diolchgarwch amdanynt oll, ac fel y rhoesom i ti am­riw achossion y dydd heddiw i ddigio wrthym drwy yn amriw bechodau, felly dyro i ni oll wir edifeirwch calon [Page 108] am danynt oll er mwyn Crist, a gwir sicrwydd ein hyspryd o faddeuant am danynt drwy dy yspryd ti, gad i ni gael cymmod a thi drwy yn Dadleuwr Iessu, llewyrched dy wyneb arnom, trigarha wrthym, a dyro i ni dy dangnheddyf, bydded dy olwg ath galon oth fawr drigaredd er daioni ar yn tŷ an teulu yn dragywydd, gwna yn teulu yn Deulu i ti, yn plant yn Blant i ti, an gweision yn weision i ti, O Dâd a Meistr Nefol ti yr hwn ydwyt Benna Pen pob teulu, Rheola a llywodraetha yr holl deulu hwn, a gostwng yn calonnau i vfudd­hau ith Reolaeth ath lywodraeth di, ac fel ein gwnaethost yn dylwyth vn tŷ, dyro i ni vn feddwl ac vn galon ith wasnauthu di, Canys ti ydwyt yn gw­neuthur pobl o un feddwl mewn teulu, dyro i ni wybodaeth on holl ddyledi­on i ti, iw gilidd, ac ein cymydogion, a gostwng yn calonnau iw gwneuthur, drwy bob llawenydd, a pharodrw­ydd meddwl, dangos i ba le'r elwn, beth a wnawn, a pha fodd yr ymddy­gwn ym mhob lle, ym mhob peth, ca­dw ni Rhag drygu eraill, cadw eraill [Page 109] Rhag yn drygu ninnau,Rhu. 12. 21. na âd i ddrigi­oni eraill yn gorchfygu ni, ond dyro i ni ras i orchfygu i drigioni drwy dda­ioni, par i ni ymrysson yn vnig yn er­byn y byd y cnawd ar Cythrel, a phar i ni fod yn vn ac yn gyd tûn a'i gilidd yn ol Duwioldeb, ac os yw bossibl, hyd y mae ynom ni, par i ni fod yn heddych­lawn a phob dyn, na ddylo ni i lynu i lygredigaeth yn cnawd, na âd i ni fy­ned ymlaen yn ein pechodau, tro ni oddiwrthynt, ac na âd i ni drachefn droi iddynt, megis Ci iw chwdiad,2 Pet. 2. 21. a Hwch iw thomllyd ymdrobaeddiad, na âd i ni ymfodloni ein hûn mewn Rhith Duwioldeb, gan wadu i grym hi, pâr i ni ochelyd ac ymwrthod ar cyfriw Ragrithwyr, paratoa ni erbyn amser profedigaeth,2. Tim. 3. 5. cadw, a chynal ni yn amser profedigaeth, a gwared ni oddiwrth brofedigaeth, Sancteiddia dy holl gystuddiau ath gospedigaethau a welych yn dda i hanfon arnom, er lles­sad i ni, fel i bo i ti O Arglwydd drw­yddynt hwy, lanhau yn anwiredd,Isa. 27. 9. dynnu ymaith yn pechod (yn ol dy addewid)Heb. 12. 10. an gwneuthur yn gyfranno­gion [Page 110] oth Sancteiddrwydd. Gwna yn Harglwydd frenin yn Dad Maeth, an Brenhines yn fam maeth ith Eglwys, o amldra dy drigaredd amlhâ Dduwiol Swyddogion, Gweinidogion, a chyffre­din cymru, a lleihâ yr annwiolion, gwir ewyllys ein calonnau an gweddi attati O Dduw yw dros yn cenedl yn ol y cnawd,Rhuf 10. 1. ar i bod yn gadwedig, pa­ratoa ni O Arglwydd, fel pan ymada­wom an tû daiarol hwn, y caffom Dŷ,2. Cor. 5. 1. nid o waith llaw, ond tragwyddol yn y nefoedd, i'th ddwylo, ac i'th gadw­reth di O Arglwydd, ir ydym yn gor­chymmyn yn heneidiau an Cyrph, ac oll ar sydd eiddom, gan attolwg i ti gadw y cwbl ath gadarn allu y nos hō oddiwrth yn bydol ac ysprydol elyni­on, a Rhoddi heddwch ac esmwyth­dra ein heneidiau an cyrph fel i bo i ti adnewyddu yn nerth, erbyn y dydd nessa i'th wasanaethu di yn ol dy ewyllys, caniatâ hyn oll i ni er mwyn dy anwyl fab Iessu Grist yn harglwydd, yn Enw yr hwn y gweddiwn fel y dys­codd i ni. Ein Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd, &c.

Boreuol weddi Penteulu ar y dydd Sabboth.

O Arglwydd Dduw y Sabbath yr hwn a orchmynaist im i, ac i'm holl deuleu, goffa cadw yn Sanctaidd y dydd sabboth, i'r ydwyf yn ewyllyssio (drwy wir dduwiol dristwch calon) addef oth flaen yr awr hon, i mi ac im teulu an­ghofio dy orchymyn o sancteiddio dy Sabboth, halogassom dy Sabothau, drwy esceulusso dy wasanaeth oddi­mewn, ac oddiallan, a thrwy Rodio yn ein ffyrdd yn hûn, gan ymroi yn hûn, i feddyliau, geiriau, a gweithredoeth bydol, a chnawdol ar dy ddydd di o Dduw, am hynny melldithiaist, ac ni fendithiaist, O Arglwydd y seithfed dydd i ni,1. Cor. 11. 17. daethom ynghyd ar dy ddydd Sabboth, ith wasanaethu di, nid er gwell, ond er gwaeth, yn pechodau ni ar y Sabboth, a attaliassont ddaioni [Page 112] [...] [Page 113] [...] [Page 112] y Sabboth oddiwrthym, oh madde i ni oll er mwyn Crist y pechod hwn o halogi y Sabboth, a chwanegassom att yn holl Bechodau eraill, a dyro ras i mi am teulu Sancteiddio dy ddydd sab­both, fel y gorchmynais i ni, ac nid fel y byddo da yn ein golwg yn hûn, drwy ymadel an ffyrdd,Psal. 110. 1. 2. an ewyllus ac an gei­riau yn hûn, a galw y Sabboth yn hy­frydwch,Psal 95. 7. 8. gan dy wasanaethu di o ar­glwydd mewn llawenydd a dyfod oth flaen mewn gorfoledd,1. Cor. 1. 21 a gwrando ar dy lyferydd heb galedu yn calonnau; gan dy fod ti yn gweled yn dda drwy ffolineb Bregethiad gadw y rhai sydd yn credu o arglywdd pâr i ni gredu hyn anfon i ni, a chadw a chynal yn ein mysc Wir bregrethiad dy Air, drwy roddi i ni, ac ith oll etholedigion yn ein mysc, fugeiliaid wrth fodd dy galon ein porthi a gwybodeth ac a deall,Ier. 3. 15. par i ni weled dy nerth,Psal. 27. 4. dy brydferthwch, ath ogoniant yn dy gyssegr,Psal. 63. 2. fel y gwe­lom ac y profom mor dda ydwyt,Psal. 73. 28. ir sawl a nessao attat,Psal 42. 1. fel y bo in heneidiau hiraethu a Sychedu am danat ti o dduw ac fel i bo i ni hoffi trigfan dy dŷ aPsal. 25. 8. [Page 113] phresswylfa dy ogoniant; paratoa yn heneidiau an cyrph i fyned yng hylch dy wasanaeth, par i ni olchi yn dwylo mewn diwidwydd (drwy wir edifeir­wch calon am yn oll bechodau) cyn i ni ddyfod i amgylchu dy allor, dyro i ni oll, lygaid i weled glustiau i glywed a colonnau i gredu dy addewidion, i grynnu wrth glywed dy fygythion, ac i vfuddhau drwy lwyrfryd calon yn wa­stadol dy oll orchymynion, fel i bo dy air di yn arogl bywyd i fywyd i ni oll, ac nid yn arogl marwola­eth i farwolaeth i vn o honom, par i ni ymgadw oddiwrth y bobl sydd yn halogi dy sabboth, a bod yn gefeillion ir cyfriw ai Sancteiddiant ef. Na âd i Rwystrau cnawdol, nac i escussodion gwael bydol, yn cadw, nan tynnu, oddi­wrth dy wasaneth, ar dy ddydd di o Dduw, ond par i ni barhau drwy yr holl ddydd, yn yr ymarfer dduwiol a orchmynaist i ni, drwy wrando ar bregethau, chwilio yr Scrythyrau, ganu Psalmau eiriol weddiau, nefol feddyliau a myfyriau, a thrwy ymddiddanion ys­prydol, ymweled ar clwyfus, ddiwallu [Page 114] yr anghenus, a diddanu y galarus: gor­weddassō cyscassom deffroessom codas­som canys ti o Arglwydd an cynnheili­aist y nos aeth heibio, cadw ni hefyd y dydd heddiw fel i bo i ni y nos nessa dy foliannu di am dy fendithion, ysprydol a chorphorol ar hyd y dydd, er mwyn Iessu Grist yn harglywd yn enw yr hwn y gweddiwn fel in dyscodd, gan ddwedyd, ein Tad yr wyt yn y nefoedd, &c.

Prydnawnol weddi pen teulu ar y dydd Sabboth.

FEl y mae yn gwbl addas ac yn gyfi­awn i ni o arglwydd,Psal. 92. 2. fanegu dy drigareddau di ar dy ddydd Sabboth y borau, felly dy wirionedd y nosweithi­au, gan hynny,Isa. 26. 8. megis an henediau y cei­siassom di y bore, felly an oll yspryd, oddimewn y ceisiwn di liw nos, gan at­tolwg i ti er mwyn Crist fadde i ni yn gwendid yn dy wasaneth di y dydd heddiw, am wneuthur dy waith yn es­ceulus yr ydym yn haeddu dy felldith, [Page 115] canys ni wasanaethassom mo honot fel y dylassem mewn yspryd a gwirionedd,Isa. 29. 13. an holl enaidiau, Nerth, an calonau, Nessauasson attat an genau, anrhyde­ddassom di an gwefussau, a bu yn ca­lonnau yn bell oddiwrthyt, y cyfriw wasaneth sydd ffiedd yn dy olwg O Arglwydd, ac yn anfuddiol i ni, par i ni ediferhau am y dryigioni a wnae­thom, a phar i ni gofio a chalyn y da­ioni a glywsom, planna nhwy yn ein calonnau fel i ffrwythont yn ein bu­chedd, ie planna ni yn dy dŷ O Ar­glwydd,Psal. 92. 13. a phar i ni flodeuo yn dy gyn­teddau,Psal. 84. 10. 14. canys gwell yw vn diwrnod yn dy gynteddau, na mil ym mhebill annuwioldeb.

Oh llawn ddigona ni (ath oll etho­ledigion yn y wlad hon) a brasder dy dŷ, dioda ni oll ac afon dy hyfrydwch, canys gida thi y mae ffynnon y bywyd Crea O Arglwydd, (yn ol dy adde­wid) ar bob trigfa o fynydd Sion, ac ar i gymanfaoedd, gwmwl a mwg y dydd, a llewyrch tân fflamllyd y nos, i arwain dy etholedigion drwy anialwch a thywyllwch y byd hwn, ir nesol Ga­naan, [Page 116] Moliant a fyddo i ti o Arglwydd am yn iechyd, nerth, an Rhydddyd a Roddaist i ni y dydd heddiw i fyned i'th gyulleydfa Sanctaidd, ac am yr ysprydol ddaioni a gawsom yno, fel y cedwaist ni O Arglwydd yn ein myne­diad allan, ac yn ein dyfodiad i mewn y dydd heiddiw, felly ti ceidwad Israel yr hwn nid wyt yn huno nac yn cyscu, par i ni orwedd y nos hon a huno mewn heddwch a diogelwch,Psal. 4. 8. oddi­wrth yn holl elynion ysprydol a bydol, fel y byddo yn ein genau gân newydd y boreu o ddiolchgarwch i ti, Cania­tâ i ni hyn a phob dawn arall angenrhe­idiol ar les yn heneidiau an cyrph er mwyn dy fab an iechawdwr Iessu, yn enw yr hwn y galwn arnat yn i weddi. Ein Tâd yr hun wyt yn y Nefoedd, &c.

Gweddi pen teulu cyn bwyd.

O Drigarog Arglwydd Madde i ni, a marwola­etha ynom ni, yn holl bechodau, adnewydda yn calon­nau gwellâ yn buchedd, Sanc­teiddia y creaduriaid hyn a ro­ddaist oth haelioni i ni, ein porthi an Nerthu i fyned yng­hylch gwueuthur dy ewyllys di, er gogoniant i ti, er llesad ein yn hûn, ac er diddanwch ein heneidiau, er mwyn yn ie­chawdwr Iessu Grist, Amen.

Diolchgarwch pen teulu yn ol bwyd.

O Raslawn a daionus Ar­glwydd ir ydym yn de­isyf on calonnau Roddi gwirfawr ddiolch i ti, am yn bywyd an golud, am yn nerth an iechyd, am yn heddwch an diogelwch, ac yn enwedig am Grist yn iechawdwr ac am bob dawn ysprydol a Roddaist i ni oi cyflawnder ef drwy dy air ath yspryd, ac am yn cyflawn ymboth corphorol yr awr hon, portha ni yn benna ath yspry­dol ymborth, fel i gallom drwy i Rym Rodio megis Cristnogion yn dduwiol yn gyfiawn ac yn sobr yn y byd sydd, fel y caffom yn y byd a fydd, fywyd tragwy­ddol drwy Iessu Grist yn har­glydd, felly y bo.

At y darlleydd.

Y Darlleydd hy gar, y lly­fran hwn â ddaeth attaf oddi tan law yr Awdur, yr hwn a'i geilw ei hûn ynddo, Car-wr y Cym­ru sef yw hynny yn ôl ei ddalltwriaeth ef, vn yn caru y Cymru; eithr Car-wr mewn deall cyffredin, a sathredig yw Câr, neu vn yn deiryd o garennydd, &c. Hwn wedi i mi ei ddarllein, a'i ysty­ried, mi â lawenychais yn fawr wrth weled ei ewyllys-garwch ef, a'i awydd­fryd i wneuthur daioni i'w wlad-wŷr, yn enwedig yn achosion eu hiachawd­wriaeth. I gyflawni hyn hyd y daeth eiddo ef, ti â weli dy hûn mor gym­mwys yw ei destyn, ac mor drefnus, a hyrwydd yw'r ffordd â gymmerodd. Canys i hyfforddi yr anghyfarwydd, ac i'w osod ar hwyl i ddilyn vniawn­lwybr [Page 120] Duwioldeb beth angenrheidi­ach na'i annog ef i geisio gwybodaeth o ewyllys Duw, pa fodd y mae efe yn gofyn ei wasanaethu? A pha fodd y gellir cael y gwybodaeth hwnnw ond drwy chwilio yr Scrythyrau? Ac i an­nog i chwilio yr Scrythyrau, pa ddull, neu ffurf ar ymmadrodd gymhwysach nac ymddiddanion mwynion rhwng y Cymro, a'i Gar-wr? Lle y gelli we­led yn eglur (onis gwyddost eusys) mor angenrheidiol yw y ddyled-swydd hon, nid i'r Eglwyswr yn vnic (fel y cam-dybia rhai, ac y trawsdaera llaw­er) eithr hefyd i bob mâth ar alwedi­gaeth, a grâdd o'r Brenhin Ardderchog i'r cardottyn clyttiog, megis y profir yn eglur yn y llyfran hwn. ni ryngodd bodd i'r Awdur osod ei henw, ei hûn wrth ei waith, ond ei gelu er mwyn arddargos i'r bŷd nad oedd ganddo galon Phariseiaidd yn disgwil clôd, a chanmoliaeth, gan ddynion; ond me­ddwl issel-fryd, awyddus i osod allan ogoniant Duw, a chariad diragrith tu ag at ei Genedl a'i gyd-wlad-wyr i gymmorth peth arnynt hwythau, ac [Page 121] i'w hyfforddi ar lwybrau iechydwria­eth. Derbyn gan hynny yn groesaw­gar y llefran bychan defnydd-fawr hwn; ac am y llesàd (pa faint bynnac) â gesclych oddi-wrtho, dyro y Gogo­niant i Dduw, Rhoddwr pôb Dawn daionus, a rhôdd berffaith, a gweddia dros yr Awdur: eithr oni fedri dynnu dim budd oddi-wrtho (ac yntef â lla­wer ynddo) bydded y bai ar dy ben dy hûn, nid gwaeth cyngor da i'r sawl a'i derbynniant, er nas derbynnio pawb. Bydd iâch y Cymro hawdd­gar, a Duw â roddo it Râs i osod dy galon at hwyl i fod dy ewyllys y nghy­fraith yr Arglwydd, ac i fyfyrio yn ei Gyfraith ef ddydd, a nos.

Yr eiddot yn yr Arglwydd, R. LLOYD.
TERFYN.

Felix Kyngston ai preintiodd, dros yr Awdur, drwy Aw­durdod.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.