North Library.

[Page]

Syr John Williams, Barnwnig.

Oll Synnwyr pen Kembero ygyd / VVedy r gynnull, ei gynnwys ae gyfansoddi mewn crynodab ddos­parthus a threfn odidawc drwy ddyual ystryw.

Gruffyd Hi­raethoc prydydd o wy­nedd Is Conwy.

Barn synnwyr pen Cambro am ddysc, doeththineb a synnwyr.

Lle ni bo dysc ni bydd dawn.
Map eb ddysc, tuy a lysc
Deuparth bonedd yw dysc
Deuparth dysc yn hyder.
Yr oen yn dyscy yr ddauat bori▪
Ateb araf, gan ddyscetic.
A gymero dysc, catwet.
Gwell map ieuank doeth, na bren­hin hen ynuyd.
Niuer pen, cynniuer synnwyr.

VVilliam Salesbury wrth y darlleydd Camberaec­gar.

WRth ryw drawsdrei­glo dysymmwth ar vy lly­freu golegur: e ddamwny­niadd y myuy caffael Copi o ddiarebion Camberaec, y ddaroedd y myuy y daer-copio am llaw vy hunan o vn o lyfreu. Gruffyth Hira­ethoc, prif prydydd o Wynedd. O bleit tu a thair blynedd weithan i Kalan-Mai diwethaf, y dygwyddadd arno gyttall cydymddaith fordd a myuy o Cymbry hyd yma. Ac yno y brith letre­teis copio hyn o ddiariebion oe lyfyr ef megys y doedeis yr awrhon ym blaen­llaw. Ac o llatreteis nyd gwaeth y lyfer ef ddim (o bleit e roesadd i venffyc ei ddarllen ac ei deimlo eissoes) ac nyd an­llai niuer y diarebyon anyd ynt vwy: eb law cahael trwy r llatrat yma meuvy, mil o Cymbry ddysceidaeth, llesahad, a diddanwch o ywrthaw: Pwy rei (a nys darvu yddyn ddigenetly yn rybell) a ddoedant heuyd Hawdd amor etto i Gruffyth Hiraethoc dros y ddiarebion Ac och ddeo (meddaf vi) na byddei cyn­niuer [Page] ar a vedd oll Cembry o lyfreu or iaith (rei y vei gwiw) wedy r lladrata or modd hynny. Ac e vyddei haws i Cem­bro ddeall y pregethwr, wrth pregethy gair Deo. E vyddei haws o lawer, it prechethwr traythy gair Deo yn ddeal­lus, Ac a vyddei haws i wr dyscedic o Cambro wedy bod yn hir allan oe wlad, ac anghynefino at iaith, cyfieithy iaith arall, ar iaith einym. Ac am hynny ato­lwg y chwy nyd er vy mwyn i, a nyd er mwyn Deo, nyd er pleser na serch arno vi, anyd er carat ar ddeo, er lles ych eneit­ieu ych hunein, er tragyvythawl glod ywch (y sawl ae gwnel) a dianck o yw­rth poeneu yffernal, pop vn o hanawch ys ydd yn meddy nac y perchenogy lly­freu n y byd o iaith Camberaec, atto­lwg ew cludo at pwy ryw sawl Gym­bry pynac a vo hyspys genwch i bod yn darbod yn naturial tros ymgeledd gw­ladwrieth yr vnryw iaith. Oh y pa peth ydd yngeneis i am wladwriaeth, can na ys gwyr Kymbro heddyo o pa han yw gwladwriaeth. Ond etwa er­uyn ac atolwg ychwy gludo ych llyfreu (bid wyn dda bid yn ddrwc) at y ryw ymgleddgar wladwyr a hynny. O bleit megys y meidyr y wenynen hela mel ar yr vn llyseun ac yr hela y prycopyn wenwyn: velly y meidrant wythe wue­uthy defnydd da melyswiw, or llyfyr [Page] gwaythaf ac or araith vustlaf ac ouer­af y sydd ar ych elw mewn escriuen. I ba veth y gedwch ich llyfreu lwydo me­wn coggleu, a phryfedy mewn ciste, ae darguddio rac gweled o neb, a nid chw­ychwy ech hunain? O bleit o ran ych bod chwi yn darguddio hen lyfreu ych iaith, ac yn enwedic y rei or yscrythur lan, nyd byw r Cembro er dyscedicket vo, a veidyr iawn draythy r yscrythur lan y chwy yn Camberaec, can y breg­nach ar y priniaith ydd ych chwi yr oes hon yn gyffredin. A ydych chwi yn tybi­eit nat rait amgenach eirieu, na mwy amryw ar amadroddion y draythy dy­sceidaeth, ac y adrodd athrawaeth a chelfyddodeu, nag sydd genwch chwi yn arueredic wrth siarad beunydd yn pry­ny agwerthy a bwyta ac yfed? Ac od ych chwi yn ty byeit hynny voch tuyller A chymerwch hyn yn lle rybydd y cenyf vi: a nyd achubwch chwi a chweirio a pherfeithio r iaith kyn daruod am y to ys ydd heddio, y bydd ryhwyr y gwaith gwedy. Ac a ny bydd dysc, gwybodaeth doethineb. a dywolwch mewn iaith, pa well hi na sirmwnt adar gwylltion, ne ruat aniueilieit a bwystuiloedd? O ble­it e veidyr yr adar ar aniveileit, trwy eu siarat ae bugat, ddyall y gylydd yn hys­pys ym pop chwedyl a vo yn perthyn ynghylch i trwyddet ai hymborth a ha­nas [Page] i cyrph: ac a wddant ym-blaen llaw yn well nag y gwyddoch chwi, pa ryw ardymmer vydd ar yr hin, a llawer o ryw wybyddieth a hynny. Ef wyr lla­wer Nasion y saith gelfyddyt, or ny ch­lypu er oed o ywrth Christ. Ny wydd­och chwi er ech ehud cymmendot, nag vn gelfyddyt perfeith, na dim yn iawn ddilwgyr o fydd Christ. Ond gwrande­wch chwi etto pa peth a ddywedaf ui wrthych chwi, y sawl ny bo gobeith y­wch ar ddyscy saesnec ne iaith arall y bodysc ynthei: Gwrandewch (meddaf) pa ddywaewyf wrthych: A ny vynwch vynet yn waeth nag aniueilieit (y rain uy anet y ddyall mal dyn) mynuch ddysc yn ych iaith: a ny vyunwch vod yn v­wy annaturial na nasion y dan haul, hoffwch ych iaith ac ae hoffo. A ny vy­nwch ymado yn dalgrwn dec a fydd Christ, a ny vynwch yn lan fyth na bo ywch ddim a wneloch ac ef, ac any vyn­nwch trosgofi ac ebryfygy i ewyllys ef y gyd achlan, mynwch yr yscrythur lan yn ych iaith, mal ac y bu hi y gan ych de­dwydd henafieit yr hen Urytanueit. Ei­thyr gwedy wynt wy, pan ddechreod ych Rieni chwi, ae gohelyth wynt, (mal ydd hyspysa hen Cronicls) ddiyst yry a diurawy am yr yschrythur lan, a gada­el i llyfreu hi y orwedd yn gwrachot lly­chlyt mewn congleu didreigl ddyn, ac [Page] ystewy a moliant Deo, a hoffy cloduory eu enw ehunain: yd aeth Deo ac a bar­add yddynt gael i galw yn aliwns ac yn estron genetl yn y ganedic wlat ehunain ac a baradd yddynt gasay a fieiddio ia­ith i mammeu, rac dyscy o hanynt drw­yddhi y iawn adnabot ef, a rac bot trwy hynny yn catwedic. A llena weddill yr hen vellith ddeo er yn oes Kad-waladr vendigeit. Ond o mynwch ymwrthot ar hir vaith velltith hono, gestyngwch ar dai glinieu ych calon y erchi gras ar ddeo. Pererindotwch yn droednoeth, at ras y Brenhin ae Gyncor y ddeisyf cael cennat y cael yr yscrythur lan yn ych ia­ith, er mwyn y cyniuer ohanoch or nyd yw n abyl; nac mewn kyfflypwriaethy ddyscy Sasnaec. Ond pe bysei rei om gwlad mor vwynion a gady ar vy elw yr eino vyhun, mi a wnethwn (a gat­wydd) o vudd ac o les kyffredyn mewn suwt betheu a vedryswn a ryw Cem­bro arall. Ond yr owrhon can yddint vy anreithio am espeilio mor llwyrgwbl. yn lle gweithret ny d allaf vi. hayach ond ewyllysy twrn da im gwlad, ac er­uyn y ddeo ddanfon yspryt gwell yn ca­loneu vecgwrthnebwyr. Ac am hyn o weithret sef am gyffredino hyn o ddia­rebion, ny ddylaf vi ddim angwanec diolch genwch mwy nag vn a godei y gwerchyr ne gayad o yar saic ne phial a [Page] ddygsit geyr ych bron. Eithyr (pe vei na thal na diolch yn yr oes heddy am vath petheu) e ddylye Gruffyth Hirae­thoc (pwy trwy ddyual y afrifed a thro­lythyr a poenws yn clafcy, yn cynull ac yn helkyd yr oll ddiarebion hyn yr vnl­le) gahel y ryw ddiolch ac a hayddei vwn a vyddei yn kyrchy at traws byt, ac yn arwein pop ryw oreusaic ac ew do dy yn rat geyr ych bron. Bychan ac o­uer genwch chwi ywaith ef ar hyn yma o orchwyl, tu ac at perfeithio r iaith. Ond im tyb i, nyd bychan o gymporth tu ac at adeilat tuy, yw cludo y sylueini, ae goet, ae gwnio, ae gody, ae roddy dan y wydd. Ac atolwc (o chreffwch yn dda) pa peth amgenach yw diarebion mewn iaith, na sylueini, na gwadne, na distie, na resi, na chyple a thrawste, ua thuyla­the a nenbrenni mewn tuy? A nyd yr vn nerth yw diarebion y gynal yr iaith, a r escyrn y gynnal y corph? A nyd yr vn pryduerthwch yw diarebion mewn ia­ith, ar ser yr fyruauen? Ac a nyd yr vn fy nyt yw diarebion mewn iaith a gēme, a main gwyrthuawr ymplith caregos fathredic? Je pa beth yw diarebion a nyd ryw wreichion o anueidrawl ddoe­thineb Deo, y ar ddargos gwneythyr dyn gynt ar lun y antraethawl ddelw ef? Ac y vyrhay, pa peth amgenach me­ddaf yw diarebion, anyd dywediadeu [Page] byrrion synnwyrol kyngorus o rei ny chahad vn er oed yn palledic: yn y rhein yr ymgyffred ac y cynnwysir oll synw­yr a doethineb yr iaith ne r nasion ae dy­chymygawdd yn gyntaf. Ac am hyny y galweis y llyfer hwn o ddiarebion Cam berace, yn synnwyr pen Cembro. Mi a alleswn (ac ny besei rybell chwaith o ywrth y testyn) y alw yn Eneit yr iaith ne yn Meirion Camberaec: anyd bot yn cyssonach y cenyf vi yr enw arall. Er hynny y gyt, a bydd anuoddus na chyr­tith y can nep yr enw, newidet yn y ba­tydd escop. Hefyd a bydd vn ddiareb o hanynt mor tywyll (yn aill ai y can he­neint yr iaith, ai o ran llediaith y vro, ai o neullturwydd synnwyr y dychymy gydd kyntaf. ai o cam traethiad tauod yr andyscedic, ae ynte o ba ryw achos pynac arall) gouyunwch yr pen awdur hwn a lavuriadd yn y peth: ac nyd an­kyffelyp vyddwch y gahel gwybyddi­eth deonglus a synnwyr ddeallus y can thaw. O bleit megys (od yspiwch yn dda) y darparws ef ynddyscedic wrth, gynull y diarebion hyn oll, e gesot wy mewn gwedd ac ordr tra threfnus. volly may n ddiogel, na bu ef mor anynat nac mor sceulus nad ymchwetlws e yn vanolgraff ympale, a phwy, a pha am­ser y traethwyt pop vn o naddynt: ac ia­wn hanas gyd a hynny. Ac etwa vyth, [Page] rhac y chwy tybieit, vot gwaith y Kem bro gwladwraidd hwn ar hyn orchwyl mor wael, mor ddisynnwyr, ac mor an­wyw ac na hayddei vnwaith gramersi. Gwybyddwch chwi yn ddinam yr hen vrytanieit dyscedic trauailio ynghy­lch yr vnryw waith. Megis y gwnaeth gwedill yr Athraon dyscedic pwy gy­nullwyt y wneythy Kyfraith Hoel dda. A megys ac y gwnaeth y dy­scedic vardd pwy a gant Englynion yr eiry: ac Eneruin Gwowdrydd pwy gant Englynion y misoedd, y reyn oll sydd yn llawn diarebion, eithyr we­eu plethy mor vwyn ac mor gelfyddy­dys a synnwyreu sathredigion (mal yn wyddor ar draethawd ir popul anlly­thyrennawc) ac na wyr nemor o ddyn vaint o ystryriol dywysogaeth coffadu­riareth sydd ynthynt. Uelly y gwnaeth gwr dyscedic (a elwir John Heywod) yn Sasnec er mwyn y Sason gwyr y wlat ef. Eithyr Polydorus Uergilius gwr a han yw or Ital sef o wlat Ruue­in ac vn or dyscedickaf heddy o wyr llen Lloect, (kyd nad da i air i Cembro) ea glascadd lawer o ddiarebion yn Ltatin ir vnlle. Either Erasmus Roteroda­mus yr athro dyscedickaf, huotlaf, ac awdurusaf yn Cred oll or a vu in oes ni ac ys llawer oes or blayn, efe a clascadd nyd cant, nyd mil, nyd lleng, nyd myrdd [Page] nyd Riallu, ac nid buna anyd caterua vawr o ddiarebion Groec a Llatin, ac ae kyfansoddes yn vnllyfr, megys ac y gwnaeth en bardd ni yma. Ac a dyby­gwch chwi y byddei gwyr kyn pwyllo­cket a reini, kyn ddyscedicket a rein, a chyn arbennicket a hwn, mor ddiwaith a phoeni yn cwlymmy mytroed godi­doc, ac yn escriueny llyfreu lluosawc, a ny bysei yddynt a rac wybot a deall ym blaenllaw vod dirvawr profit, budd anueidrawl, a lleshad afriuet yn tyfy yr darllēodron ae ymaruerynt? Ac welly os ynuyd y rein ackw, ynfyd yw hwn: ie ac as doethiō y rein ackw, paam nad doeth hwn, ac ynte yn dylyn yr vn athr­awaeth ac wyntwy? Pop oes a adaw­odd Maugant, Merddin Embris, a Thaliesin ef a Merddin wyllt eu ddis­cipl, ac Ystuduach vardd yn ddoethion yn ddyscedic ac yn gymen. A may o wa ith y bardd hwn, amryw vydroedd ei­thyr yn Cemberaec yn cystal eu deu­nydd ae dyual, a nyd bot yn well eu cyt­can, ac yn vanylach y gerdd na yr eino yr hen Brytanait y pwyllwyt o hanynt vchot: kyt byddeitra can moledic eu gw aith. Ac os ie, paam o ddieithyr ych bod yn aniueilieit, na ddiolchwch y ddeo vod yn ych oes y ryw athro kelfyddus y addurnaw ych iaith? Ny bu ac nyd yw prydyddion ereill anyd yn cany dernyn [Page] o gywydd (i bwy bynac vo) o chwant derbyn: lle nyd yw ef yu vnic ae awe­nyddgerdd ysprytol yn moly pendeui­gion gwledydd, o ran eu bonedd dile­dryw, ae rinweddeu ardderchawc: ei­ther bod hefyd yn helpy, yn kymmorth ac yn achup yr iaith rac lledle anyscora­wl, a diuancoll tragyuythawl. Ac am hynny, o gedwch chwi yn ddiddarwbot am dano, a gedwch eb anregy, ei vaw­rhay, at volyanny, pau ddel ar ych tu­edd, nyd han yw ddim honoch or wlad­wriaeth Uritaneidd, ny ddeiridych a­frywoc campe, ae daonus gynneddfe: ac as yr vn tal sydd genwch y odechwr ys­clethan, ac y weithwr gwrddlan. Ac as chwitheu a wnewch ych ran ach dyw­ti, sef yw hyny: kynal o hanoch y dys­cedicuardd hwn ef ae tuylu, mor parche dic anrydeddus, ac y may ef yn darpar peri ych iaith: a bod mor ymgledgdar ddarbodus o hono ef yn ych plith, ac yw ef, nyd yn vnic o hanoch chwir oll wlat or to sydd heddyw, and tros ych plant, ych wyrion, ych gorescenydd, ych gor­cheifn, ach goreiddin, ach gohelyth hyd byd dyddbrawd. Ac os chwchwy hefyd a ddylyuwch pwyll diarebion y llati­nwyr ys ef Honos olit artes ac Uirtus laudata crescit pa yw, Anrhydedd ne va wrhant a vacka gelfyddodeu, A Rin­wedd o chanmolit a gynydda: ef allei y [Page] kynnyrchei ac y llewychei mwy o ddys ceidaeth dda, ac o gelfyddodeu at arben­nic a gwybyddieth ysprytal yn ych mysc rac llaw, trwy nerth Deo goru­chaf. Ac velly bo, ydd archet pop Cem­bro Camberaec gar. O ddeo na allei pop dyscedic ddoedyt am ei iaith mal y dyuod Dauid ap Gwilim am Uoru­ydd: nid amgen,

Cof am gariad taladwy
Ni ddyly hi y mi mwy.
AByl i pop peth ae bodlono.
Abyl i pawp y gydrad
Achos bychan yd aw blinder
Achos eb achos o honaw
Achwyn rac achwyn racddo
A achwyno eb achos, gwneler achos iddo
A chwanekit mefyl mowrair
Achub maes mawr adryg wa­rch
Adwyth dirait eb achos
Adail dedwydd yn ddiddos
Adnau kehyryn gann gath
Adwaen mab ae lluwch ac nid
adwaen ae car
Adwyoc cae anhwsmon
Adiuar cupydd am draul
Aduyd pop hir tristwch
Addaw mawr, a rodd vechan
Addaw maen, addaw map
Addaw tec a wna ynfyd yn lla­wen
Addewit gwraic, odit yw
[Page]Addas i bawp i gydradd
Adduc yr hydd ir maes mawr
A ddyscych ith vap ddywsul ef ai cais ddywllun
Addef, a dau
Addued angau i hen
Addunet herwr, hirnos
A el i chware gaded i groen gar tref
A el i ddadlau eb neges, a ddaw a neges adref.
Aerwy kynn buwch.
Afiach pop trwm galonn
Afieithus pop maeth
Aflauar pop tawedoc
Aflwyddianns pop diriait
Aflednais pop gwyllt
Aflan dwylaw diowgswrth
Aflan genau anudonol
Afrwydd pop dyrys
A vo amyl i vara, dan gany aed i laetha
A vo amyl i veibion bid wac i [Page] goluddion.
A vo amyl i vel, troed yn i ywd
A vo trechaf treisiet
A vo nesaf ir ecclwys, pellaf o ywrth paradwys.
A vo da gau ddeo ys dir
A vo marw ny ochelir
A vo marw er bygwth a y ky­munet
A vynno clod, bid varw
A vynno Deo a vydd
A fwl, nid doeth ymryson
A gwyno kwyn bychan, kwyn mawr a ddarogan.
A gatwer, a gair wrth rait
A crea r vran vawr, a crea r vrall vechan.
A gymero dysc, catwet
A gynuller ar gefyn march mar len, dan i dor ydd a
A llygradd Deo, a lygradd dyn
Allan o olwc, allan o veddwl
Ameu pop annwybot
[Page]Amrafaelus pop ymladdgar
Amgeledd y ki am y cwd halen
Am gwymp hen, y chwardd gw­en gwas
Amod a dyr deuod
Amod a dyr kefreith
Amcan a vydd can bawb
Am caro i, caret vycki
Amaerwy diriait, dryc anian
Amlwc bai, lle ny charer
Amlaf ywr cwrwf tra hitler
Amraint, pop tor deuot
Amparat pop anallu
Amheuthun pop dieithrvwyt
Amser sydd i pop peth
Amser i vwyt, amser i lochwyt
A anraith gustuddiwyd tayoc yn hy i gylydd
Anafus pop drygvoesawc
Annoc dy ci, ac na ret canto
Annoc ci y cell egoret
Anhydyn pop afrywyoc
Anhappus pop trwch
[Page]Anhael pop cupydd
Annwyl can powp a gar
Anwadal pop hyhud
Anhyderus pop ofnoc
Angel pen fordd, a diauol pen­tan
Angen a dyr deddf
Angen a yrr hen i redec
Angen a yr henwrach i duthio
Angen a bryn ac a werth
Angenus pop tlawt
Ancynnes pop oet
Ancwbyl pop eisie
Ancariadus pop dirait
Ancymen pop fol
Antur hir latrat eb ddial
Andoeth, llithric i dauot
Ail y vam, modryb dda
A arbeto i vach, arbetet i gynoc
A ranno i liaws, ranet yn hyn­aws
Araf dan, a wna brag melys
Ar ni wano yn ddraen, ny wan yn giffill
[Page]Ar ny roddo a garo, ny chaiff a ddamuno
A ry bortho y cath, porthet i ly­got
Arwydd drwc, mwc yn diffaith
Ardd tra vych, ardd ken na bych
Ar ddiwedd y may barny
Arian a bryn ac a werth
A roddo dorth i daith ef a ddi­vudd a wnel i waith
A gwelle y llas y weirglood
Arglwyd a gympell
Arglwydd gwan gwae i was
Arglwydd powp ar a veddo
Assaeth ny phlycko, nyd da
Ascwrn hen yn angen
Aftrus pop anaf
Attat vebyn
Aatcas direid dyn
Atteb araf can ddyscedic
Athro powp yn i tuy
Athrod waith o genvigen
Aur can pawp a chwenych
[Page]Awchus arf, a eillio
Awdur pop kerdd ai gwnel
Awydd, a dyr i wddwf
Awgrym, pawp nis gwybydd
A wahanodd cnawd, gwaha­nadd a dolur
A wnel mad, mad a ddyly
A wnel drwc arhoed vn arall
A wnel y mowrddrwc a wna y mawrllw
Awr ddrwc caffaeliat ffalswr
A yuo ormodd, bid veddw
BAlchder eb droed
Bara ac emenyn yw vn tameit
Bai ar wrach dori i chlun
Be caffai bawb a vynnai, ef a vyddei gyuoethoc
Be caffei bawb a vynnei ni byd­dei hiraethus
Bendith ir hwch bieu r blonec
[Page]Bellach bellach val chwedyl y barkut
Bit gwastat gwraic ny charer
Bit gwyw gwr eb vagwrieth
Bid drwc gwraic, o vynech warth
Bit ehud drud er chwerthin
Bit aha byddar
Bid anwadal ehud
Bit nych kwyn claf
Blin yw bod yn vlin
Blawd yn y gist
Blodau kyn mai, gore na bai
Blaengar ymadrodd fol
Breuddwyt gwrach wrth hi e­wyllys
Brith i god a gynull
Boreu coch, a mowredd gwraic
Bonedd a dywys: dillat a gyn­nwys
Bu gwell ir gwr aeth i hely ar vanec, nac ir gwr aeth ar sach
Buan i barn pop hyhud
[Page]Bwrw ath vnllaw: cais ath ddwylaw
Bwrw y gwddi yn ol yr hwyaid
Bwrw dwfyr am ben gwr ma­rw
Bwrw cath i, cythraul
Bwrw heli yn y mor
Bychan yw mam y cynnen
Bychan yw mam y kenuil
Byr hoedloc dygasoc saint
Byddar a gaiff gyffelyp
CHware ac na vriw: kellwa­ir ac na chwelyddia
Chwarddedic pryd wrth a garer
Chwarddiat dwfyr dan ia
Chwanoc trwch i drin
Chwanoc map yw hynt, a chw­noc y dref a vo kynt
Chwedyl chwedston
Chwefror a chwyth, neidyr oe nyth.
DAdle gwedy brawd
Dadleu gwedy barn
Da ywr maen y gyd ar Euangel
Da gweddei r ber ir golwyth
Da gwna Deo roi cyrn vyron i vuwch hwylioc
Da yw cof map
Dall pop ancyfarwydd
Damwain pop hely
Dangos diriaid i gwn
Dangos ffordd i ancyfarwydd
Dau bryd newyuoc, a wnar trydydd yn glwth
Dauparth clod ympenclog
Dauparth gwaith i ddechrau
Dauparth fordd i gwybod
Dauparth fydd yn calon
Dauparth pryd yn trwsiat
Dauparth parch yn aruer
Dauparth bonedd yn dysc:
Dauparth dysc yw hyder
Dauparth taith ymdrwsio
Dauparth tref i haruereu
[Page]Dauparth kerdd i gwrando
Dauparth Rodd yw ewyllys
Dedwydd a i gwyl, ai car
Dedwydd dofydd a rydd rad iddo
Defnydd vawr pop ankeluydd
Dewys a yr iau a yr vwyall.
Dewys or ddwy vachddu hwch
Dibech vywyd, gwyn i vyd
Dygystudd deurudd dagrau
Digou o grwth a thelyn
Digon yw digon o fficus
Diglod pop anhawddgar
Diffaith llyffant dan rew
Dyencid rywan o lid ry gadarn
Dirait a gascl ir dedwydd
Diraid a gabyl i oreu
Dirmycker, ny weler
Dysymwth vydd dryglaw am­wyll
Dlet ar pawp i addaw
Drwc vn drwc a rall
Drwc pawp oe wybot
Drwc llys ny ater, ond a ohod­der
[Page]Drwc y ffordd nid eler iddi onid vnwaith
Drwc yw drygwas, gwaeth yw bot ebddo
Drwc pechat oe ddylyn
Drwc yw drwc, gwaeth yw r gwaethaf
Drwc wrth dranoeth
Drygwaith dwywaith y gw­nair
Drud a ddyly doeth i ostwng
Drych i ddyn i gydymaith
Drythyllwch drwc i ddichaen
Drythyll pop dirait
Dod venthic i noeth, nis cai dra noeth
Doeth dyn tra dawo
Doeth a dwyllir deirgweith, ny thwyllir drud ond vn­waith
Dotiedic pop anghofus
Dogyn sydd ar pop peth
[Page]Dolurus calon oualvawr
Deo a byrth i vusgrell
Deo a varn: dyn a levair
Deo a rannodd, nef a gafadd
Deo a rann yr anwyd val y rhan y dillat
Deo cadarn a varn pop iawn
Dy gas ath erlyn
Dygyn dyn o garchar
Dykid Deo da o law
Dyker ni weler i ran
Dyweddi o agos, galanas o pell
Dyryssus y garthen
Dyscy crafy i hen varch
Da yw Deo, a hir yw byth
EAang ywr byd i bawp
Eddunet herwr hirnos
Ef a ddaw haf ir ci coch
Ef a ddaw rhew y lyffant
Ef aeth hynny ar gyrn a phibeu
[Page]Ef a chwery y map noeth ac ny chwery y map newynoc
Ef a wyr dyn pan el at ny wyr pan ddell
Ef wyr y cath pa varyf a lyf
Ef vynner r cath pyscot, ac ny vynnei wlychy i throet
Eiriach law ac nac eiriach droet
Eiriol ni charer ni chyngain
E las a gauas rybydd, ac ny las ai cymerth
Elid yscupor can ddrycdorth
Elid y wrach ir vreu er i genau
Elid bryd yn ol breuddwyt
Elit gwraic yn ol i henllib
Elit ryw ar barth pan yw
Elit llaw can droet
Enw eb senw
Enwoc meichiad oi voch
Enwir divenwir i blant
Ehegr vydd dryglaw i amwyl
Escit drygddyn yn tuy arall
Esmwythaf dim yw methy
[Page]E volir pawp wrth i waith
E gaiff dyn dysc oe vebyt hyd i henaint
FAwd pawp yn i dal
Fol pop tlawt
Fordd bell i wr o Benllyn
Fo rac dicter, ac na fo rac drwc arglwydd
Fiaidd pop peth ny charet
GAdael y nos ddywaythaf yn olaf
Gair gwr o castell
Gair gwraic val gwynt yn va­wadaw
Gelyn i ddyn i dda
Gellwng drygwr i yscupor gwrda
Gochel tauern ac na ochel ildio
Goddiweddit hwyr vuan
Goval dyn, deo ae gweryd
Gogany r bwyt ae vwyta
[Page]Golwc deo ar adyn
Golwc serchoc syber vydd
Gorau can vy mam i lladd
Gorau ywr gwarau tra ater
Gorau enw Mi piau
Goreu gwrthwynep, gwrthwy­nep etewyn
Goreu gwrthwynep gwrthwy­nep kwys
Gordmodd bw ar ebol
Grawn cupydd a ys glwth
Gwac tuy eb vap
Gwae a dro o glun i glun ac ny veddo peth i hun
Gwae a vynn mefyl et pechat
Gwae a vo i vefyl yn i vonwes
Gwae a gawdd Deo, ac nis cred
Gwae a wyl i arglwydd beunyd
Gwae a wnel da i ddioc
Gwae ouerwr yn cynayaf
Gwae a gaffo drygair yn ie­uank
Gwae ieuank a edduno henaint
[Page]Gwae wr a gaffo dryg wraic
Gwaythaf ir yd ryfel teisban
Gwaythaf ystor, stor o verch
Gwaethwaeth, val map cafr
Gwas da a gaiff i le
Gwatwar dydd am waith y nos
Gwaith nos, dydd ai dangys
Gwayw yncalon can hiraeth
Gwala gweddw gwraic vnben
Gweddill map iach
Gweddw crefft eb i dawn
Gweddw pwyll eb amynedd
Gwelius nid diddolur
Gwelet deubeth or vn
Gwelet i clust ae lygat
Gwell aros, no mefyl gerddet
Gwell am y paret a derwydd nac am y tan a diriait
Gwell bedd na buchedd anghe­uol
Gwell eidiō gwerth nac vn pryn
Gwell y ddyn y drwc, a wyr nar drwc nys gwyr
[Page]Gwell i wraic y pyscotwr nac i wraic y gwynvydwr
Gwell can hwyr na chan voreu
Gwell gochell mefyl na e ddial
Gwelly gwr a ddeuth ympen y vlwyddyn nar gwr ny ddeuth byth
Gwell gwae vi na gwae ni
Gwell gwichio or coludd na chochi or ddeurudd
Gwell gwegil car, nac wynep e­stran
Gwell gwr na gwyr
Gwell y tynn gwraic na Raff
Gwell hen ddlet na hen ala­nas
Gwell hir weddtot na drwc wra
Gwell car yn llys nac aur ar vys
Gwell kyngor hen na i vayddy
Gwell clwt na thwll
[Page]Gwell coginaeth na brēhinaeth
Gwell map ieuank doeth na brenhin hen ynvyd
Gwell mayn garw am attalio nar maen llyfn am gellyngo
Gwell marw no mynych ddifr­od
Gwell naac, no gau addewit
Gwell nerth dwywrach nac vn
Gwell penloyn yn llaw, na hwy­ad yn awyr
Gwell pren, na dyn kyhuddgar
Gwell trann Ofyn, na ran Kary
Gwell vn gair ym blaen, na dan yn ol
Gwell vn keidwad, na dau ymlidiad
Gwell vn Hwde, no dau Ti gai
gwell ychydic gan rat, no llawer gan Afrat
Gwell ynckyscot y gawnen, nac eb ddim
Gwell ym blayn yr Iyrchot, nac yn ol yr Hyddot
Gwell y wialen a blycko na hon [Page] a dorro
Gwell yw drygsaer na drwg of
Gwell yw drygsaer na drwc daliwr
Gwell ywr ki a rodio nar ci a ei­steddo
Gwell yw toliaw na huriaw
Gwell yw Deo na drwc obaith
Gwell yw Deo n gar, na llu y ddaiar
Gwyrthvawr pop odidoc
Gwerthy cic twrch a phryny cic hwch
Gwneuthyr deuddrwc or vn
Gurthod gohadd, a dyuot i west
Gyr vap, cat nac
Gyrry bran i geiso tir
Gyrry y cyn a gerddo.
HAel Owain o bwrs y w­lad
Hap ddeo ddewryn
Hardd pop newydd
[Page]Hanner y wledd hoffedd yw
Hawdd eiriol ar a agarer
Hawdd dangos diraid i cwn
Hawdd yf, a wyl i wely
Hawdd yw ofny ofnoc
Hawdd yw digio dic
Hawdd yw clwyfo claf
Hawdd yw doedyt pymthec
Hawdd yw tynny cleddyf byr or wain
Hawdd yw tynny carrai lydan o groen vn arall
Hawdd yw tynny gwaet o grach
Hawdd yw cymod lle i bo cariat
Hawdd yw cennau tan yn lle tanllwyth
Hawdd naw ynghyscot gor­wyd
Hawdd yw peri y vingam wylo
Haws dringo na discin
Haws dadleu o goet nag o ca­stell
[Page]Haws doedyt mynydd na my­ned trostaw
Haws gan hwyr na chan vore
Haws cau a bys nac a dwrn
Haws bwrw tuy y lawr nae a­deilad
Haws twyllo maban na thwyl­lo gwrachan
Heb ddeo eb ddim
Hen pechat a wna cywilydd ne­wydd
Hen hwyr hawdd i orddiwes
Hen, hawdd i oruot
Heuddy annerch yw cary
Hir amod ni ddaw yn dda
Hir eistedd i ogan
Hir sefyll i drwm
Hir longwriaeth i vawdd
Hir latrat i croc
Hir addewit y nac
Hir nych i angau
Hir y bydd march bach yn ebol
Hir y bydd blewyn yn myned yn [Page] hin blaidd
Hir y bydd yn deric ych drygwr
Hir y bydd y mut ymporth y byd­dar
Hir y byddir yn cnoi tameit chw­erw
Hir y bydd chwerw hen alanas
Hir y bydd i cupydd i gabl
Hir weddwdot i vefyl
Hir wnnie gan ddiriait
Hir hun Uaelgwn yn Ros
Hir hi edau gwraic vusgrell
Hir i gof ny vynych rydd
Hir pop aros
Hoff can ynfyd i gnwpa
Hof can pop edyn i lais
Hof can angenoc i goelo
Hoed y dyn ny chalyn y da
Hwy yw clod na golud
Hwyr o ddial, dial Deo
Hwyr y gellir dyn, or diniawed du
Hy pawp ar i vapsant
Hy pawp yn absen ofyn
[Page]Hy pop costoc ar i domen i hun
JAch rydd ryuedd pa gwyn
Jr pant y red y dwfyr
Jro blonhogen
Jawn i pawp i gadw i hun
KAdarnach yw r edau yn gy frodedd
Kad maly, cad i werth
Kauas da ni chauas drwc
Kaledach glew, no maen
Kalon estran wrth Gymro
Kam wrando a wna cam ddoe­dyt
Kany eb gywydd
Kais yn y mwlwc
Kais varchoc dan draet i varch
Kaisiet powp dwfyr yw long
Kaisio swllt yngwalfa blaidd
Karet drwgchwaer kyn ni cha­rer
Karet yr afr i mynn bit e yn dduy bit yn wyn
Kas dyn yna, cas Deo vry
[Page]Kassec cloff, cloff hi e bol
Kas gwelet a geisio
Kas gwir ni charer
Kariat a orch vycca pop peth
Kas myharen, mieri
Kau r gorddlan wedy mynet y deueit allan
Kau r estabyl wedy dwyn y march
Kau tin wedy bramy
Kefaillt blaidd bugail diog
Keluydd kelet i aruaeth
Kell arglwydd yw y weilgi
Kell hauodwr yw i vuarth
Kenat vut drut ae cred
Kenau milgi a morwyn, ae mac­ko, ny chaiff i mwyn
Keintiach wedy brawt
Kerddodd a rwymodd
Ki chwrnoc holoc i bais
Kyd ar ki y cerdd i gynffon
Kymeint ar y werthvyt ac ar y bellen: ner cogel
Klywir corn kyn ni weler
[Page]Kludo heli ir mor
Knawd wedy traha tranck hir
Knaifier wedy praidd
Knaif Dauad varw
Kneuen yngenau henhwch
Knawd o egin meithrin das
Knawd aflwydd can ddiriait
Knawd anaf ar ddiriait
Knawdd o ben drythill draha
knawd cyssull dedwydd yn ddo­eth
Knawd digarad yn llys
Knawd wedy traha tramgw­ydd
Knawd buan o vain
Knawd ffo o fraeth
Knawd aelwyt ddiffydd, yn ddi­ffaith
Knawt gwarth o vynech gys­swyn
Koes yn lle morddwyt
Kof a lithr, llythr a geidw
Kof gan bawp a gar
Kofyl gwas dioc
Koffa dy din pan ystrewych
Kogor iar yn ydlam
[Page]Kosp ar ben iar
Kosp y llew yw maddy r arth
Kospi r arth yngwydd y llew
Kos din tayoc, ef a gach ith ddwru
Kraffach nac euail
Krechwen yngenau ynfyd
Kol medd y vran pan gaffo ddi­gon
Krywyn kyn moch, moch kyn a ddamwain
Kryd ar hen, angeu ys dir
Kryny val y vor wialen
Kwlwm angenoc ar y genioc
Kwlwm oedioc a ddetyd
Kwymp y gwr yn y Rych
Kwymp ar galedlawr
Kyd boed da, nid Morda
Kyd vwyta a bonneddic ac na chyd chwarau
Kyd gwichio y venn hi a ddwc i llwyth
Kydles i bawb yw galw ychen
Kyd keler nownos ny chelir no­wmis
[Page]Kydymdaith can ci ei losgwrn
Kyuathrach i vwyta, kenetl i ymladd
Kyvaereddion gwrach waeth­waeth
Kyfoed vydd da a dedwydd
Kyuoethoc i werthy, a thlawt i brynny.
Kyfing ac eheng yw dewis
Kyfoethdc pop dedwydd
Kyffes pop rrwydd
Kyn ebrwydded vynd ir varch­nat, croen yr oen a chroen y ddauat
Kynniuer pen, kynniuer synnw­yr
Kyngor yn ol
Kynt y llysc yr odyn na r yscu­por
Kynt crupyl na e was
Kynt meddwl na gweithret
Kysgy val y pathew
Kystadl yw march ae varchw­erth
[Page]Kystadl kerddet ar draet a mar­chogaeth ffon
Kystatl Howel a Heilyn
Kywir yn ing y gwelir
LEilai lymeit gayaf
Lledled rydau: waeth wa­eth ddeddfeu
Lladd y gwadyn val y bo r troet
Llawen meichiad pan vo gwynt
Llawer a ddyfynnwyt, ychydic a ddewiswyt
Llawer am hawl vu n dyly
Llawer a weddill o veddwi chw annawc
Llawer gwir drwc i ddoedyt
Llawer tec drwc i deunydd
Llawer hagyr hygar vydd
Llawer or dwfyr a heibio eb wy­bot ir melinydd
Llaw map yn llawes i dat
Llaw lan ddiogel i pherchen
Llaw liaws ar waith
[Page]Llaw pawp ar i anaele.
Llawn i bobi golwyth
Lle bo y dolur y bydd y llaw
Lle da i pawp y man y carer
Lles pawp pan veddyger
Lletaf vydd y biswelyn oe sa­thry
Llif yn auon hindda vydd
Llon colwyn ar arffet i veistres
Llon llygot lle ny bo cath
Llwm tir i poro dauat
Llwfr lladd i gydymaith
Llwyt pop hen
Llwyt ywr varchnat
Llygat Deo ar adyn
Llymaf vydd y gwayw oe vlayn
Llyma r maes llymar ysgyfar­noc
MAp eb ddysc tuy a lysc
Magy chwileryn ym mon wes
Mae achos ir byssen i vot ar y barth
Mae gwehilion ir gwenith
[Page]Maeddy tulluan wrth y maen
Maen dros iaen
Mai oer a wna yscupor glet
Mal angenoc eb geinoc
Mal dall yn tafly i ffon
Mal dryguoneddic ai vaich
Mal dyrnot pen
Mal gwalch tros vin yr ellyn
Mal cogail gwraic vusgrell
Mal cof gwrach
Mal llygoten dan balf y cath
Mal llyn melin ar drai
Mal llyffant dan yr oc
Mal llyffant dan y maen
Mal llwynoc am y sirian
Mal myn magot
Mal rraw ymisweil
Mal ederyn ar y cank
Mal y bydd y dyn y bydd y lw­dyn
Mal y ci ar hwch
Mal y moch am y ffawydd
Mal yr ap am i chenau
Mal y pysc yn y dwfyr
[Page]Mal yr aran am i dwygoes
Mal yr hwch dan y vwyall
Mal y rhisc am y pren
Mal y saeth or llinyn
Mal y tan ar yr aeloyt
Mal y tan yn y carth
Mam vechan a ddivanw plant
March a syrth o ddyar i bed­warcarn
March a wyl yr yd ac ni wyl y cae
Mawrhedic pendeuic castell
Mawr yw toreth yr aflwydd
Mawrth a ladd: Eprill a vling
Mefyl ir coc ny lyfo i law
Mefyl ir llygoden vntwll
Melus gair da am a garer
Melysaf ywr cic po nesaf ir as­cwrn
Melus, moes etto
Melus pan gaer chwerw pan daler
Mi a gawn a vyddei gan vy mam, ac ny chawn ae dyc­kei ir llan
Mi adwaen iwrch er nas dali­wyf
[Page]Moes pop tut yn i tut
Moliant gwedy marw
Molet pawp y rhyt mal i caffo
Mutlen o wr, mal o wraic
Mwy na r bel dan yr humoc
Mwy na r afr er dangos i thin
Mwy na r regen yn y rych
Mwy nag y bydd da blaidd, ny bydd da moi iscell
Mwy nag vn ci am y cynarth
Myned ar gogor ir afon
Mynech eb rait, bot ar wall add i
Mynech y daw drwc vugail.
NA choll dy henfordd er dy ffordd newydd
Na ddeffro y ci sy n cyscy
Na ddoes a gwr wrth y drych
Na vid drygwraic dy gyfrin
Na vram anyth wthier
Na bydd ty vwythus lle galler dy hepcor
[Page]Na vynych gur lwfr
Naill ai llwynoc ai llwyn redyn
Natur yr hwch a vydd yny por­chell
Na wrthot dy parch pan y cynyker
Neges pendeuic yn rat
Nesaf i bawp i nesaf
Nes elin nac arddwrn
Nes i mi vyccrys nam pais
Nesnes ywr llefain ir dref
Ny ad anoeth i or vot
Ny ain deu vras yn vnsach
Ny bu ry gu na bai ry gas
Ny bu Arthur ond tra vu
Ny bydd marw march er vn­nos
Ny bydd gwr wrth ddim
Ny bydd hybarch rry gynefin
Ny bydd y dryw, eb y lyw
Ny bydd vcheneit eb i deicr
Ny bydd budd o ychydic
Ny chredir y moel oni weler i e­menydd
Ny chlyw wilkyn, beth nys myn
[Page]Ny chlyw madyn i ddrygsawr i hun
Ny chryn llaw ar vapddysc
Ny bydd dialwr diofn
Ny bydd dy un dau Gymro
Ny bydd y gwan eb i gadarn
Ny bydd mosogloc maen a vy­nech ysmuter
Ny char buwch hesb lo
Ny chaiff ry voddawc rybarch
Ny chaiff chwedyl nid el oe duy
Ny chair dewis gam yn ffo
Ny chair gan y llwynoc ond i groen
Ny chair a ddiobaith ddeo
Ny chair gwlan rywoc ar glun cafr
Ny chair y melus eb y chwerw
Ny chair bwyd tayoc yn rat
Ny chair aual per ar pren sur
Ny chaidw Kymbro oni gollo
Ny chel grudd cystudd calon
Ny chred eiddic, er a deckaer
[Page]Ny chwery cath dros i blwydd.
Ny chyll iar i hirnos
Ny chwyn yr iar vod y gwalch yn glaf
Ny chwyn ci er i daro ac ascwrn
Ny chwsc gofalus, ac ef a gwsc galarus
Nyd aeth ryhir i goet
Nyd a ret a gaiff y budd
Nyd a wyl dyn ae pyrth
Nyd adwna Deo dim a wnaeth
Nyd a gwayw yngronyn
Nyd a cosp ar ynvyt
Nyd a vn trew na dau i angau
Nyd a cynic Arglwydd ir llawr
Nyd chware a vo erchyll
Nyd chware, chware a than nac a dur nac a hayarn
Nyd da ry o ddim
Nyd drwc wr, wrth ddrwc wraic
Nyd drwc arglwydd, namyn drwc was
Nyd diswrth nep dioc
Nyd edrychir dannedd march rodd
Nyd eglur y drych yn y tywyl­lwch
[Page]Nid erchys vwyt ond i broui
Nyd esmwyth ymgyflogi
Nid gwell dim no digon
Nid gwell gormodd na ryuy­chan
Nyda hawdd chwythy tan a y blawt yngeneu
Nid hawdd blingo callestr
Nyd hwyrach yn y varchnat, croen yr oen, na chroen y dauat
Nid iangwr nep ar Uerwyn
Nid kymeint bleddyn ae drwst
Nid kynefin cath a chapistr
Nyd cof can yr offeirat vot yn glochydd
Nit kytun hun a haint
Nyd kyweithas eb vrawt
Nyd cywaethoc ond ae cymero
Nyd moel gwr yn aros gwallt
Nyd llafurus llaw gywraint
Nyd llai gwerth mefyl na fawd
Nyd llai cyrch dyn i laith no gyuarwys
[Page]Nid moesawc morwyn a glyw llef ceiloc i that
Nyd mwy gwaith coc na chany
Nyd myned, a ddel eilwaith
Nyd oes nep eb i vai
Nyd oes ar vffern ond eissiau i threfny
Nid oes o ddim ond val i ky­merer
Nid prophwyt neb yn i wlat ehū
Nit rait i ddedwydd ond i eni
Nit rait roi cloch wrth vursen
Nit reit dangos direit i gwn
Nyt rhydda nep i wasanaythy ehun
Nyt twyll twyllo twyllwr
Nyt wrth i bic y mae pryny cyf­fyloc
Nyt y bore y may canmol dydd tec
Nyt amwys a wnel warth
Nyt yn vndydd ydd adeilwyt Ruuein
Nyt yn iach ond a vo marw
Nit estyn llaw nis rrybuch calō
Ny ddaw drwc i vn, niddel da i arall
[Page]Ni ddawr croesan pa ga­byl
Ny ddawr newynoc pa ys
Ny ddawr putain pa gnuch
Ny ddiolch dyn i borthi
Ny ddyly drwc voly, namyn drwc
Ny ddygymydd medd a chupyd
Ny phell anrregir tlawt
Ny phis boneddic ehun
Ny hynaf eiddigedd
Ny hyna hawl er i hoedi
Ny las cennat er oed
Ny ludd aniweirdeb ffawd
Ny ludd parot i gymryt
Ny lwgr y da ar y llall
Ny lwyddodd, ond a dramgwy­ddodd
Ny lwydd gwenyn i geilioc
Ny roed gwlad i vut
Ny thawdd dlet er i haros
Ny thyrr llestr er na bo llawn
Ny thyr pen er doedyt yn dec
Ny vynno Deo ny lwydd
Ny vutra dwyla er gwneuthy [Page] da i ddo i hun
Ny vynn drygwrach ddal i chwd
Ny vyn y sant mor caws
Ny weleis lam rwydd i ewic
Ny wna r mor waeth na boddi
Ny wnel kyngor i vam, gwnaed cyngor i lysfam
Ny wyl hawdd vod yn hawdd oni d el hawdd yn anhawdd
Ny wyddir mwyniant y ffynnon oni d el yn hispydd
Ny wyr y ci llawm pa gyfarth y ci gwac
Ny wyr ny wyl
Ny ddawr yr iar vot y gwalch yn glaf
Ny wyr yr iar nesaf ir ceiloc
No drwc dyn ys gwell ki da
Noswyl iar gwae ae car
O Bydd cell i ci, mynych ydd a iddi
O bydo nep yn ol bid y [Page] bawaf
O bop trwm, trymach henaint
O chaiff yr afr vynet it eccleis hi a ir allar
O chyrredd vry ny ddaw obry
Odid archoll eb waed
Odit o cant cydymaith
Odit elw eb antur
Odit da diwrafwn
O down ni, ni ddown
O down er. riiii. ni ddown er rv.
Offeren pawp yn i galon
Os gwr mawr cawr, os gwr by chan cor
Oni hehir ni vedir
Oni byddi gryf, bydd gyfrwys
Oni chai cenin, dwc vresych
O myni vod yn iyrchci ti a neidy yn well
O hoenyn i hoenyn, ydd a yr ce­phyl yn cwta
Oer yw isgell yr alanas
Oed y dyn, ny chalyn y da
O lladd y cath lygoten, ar vrys [Page] hi ay hys i hun
O vn wreichionen y cynne tan mawr
Odit taliwr diwaglaw
O sul i sul ydd ar vorwyn yn wrach
O vlewyn i vlewyn ydd ar pen yn voel
O lymeit i lymeit i darvu r cawl
PAn dywyso r dall dall a­rall, y ddau a ddygwydd ir pwll
Pan dywyso yr hen deric i bra­idd ni bydd yr yscrubl
Pand gwaeth y dring y gath o dori hi ewinedd
Pan gaer myhi ni chair myha
Pan roer yt porchell egor dy gwd
Pan vo moeliri ar ben ma­luriat, y bydd escud ascell gwpi­at
Pan vor boly n llawn y myn yr escyrn orffywys
Pan vo teckaf y chware, teckaf vydd peidio
[Page]Pawp a gnith cedor ynfyd
Pawp ae chwedyl cantho
Pawp a chwenych anrydedd
Pan el llatron i ymgyfymliw, y caiff kywiriait y da
Pen carw ar ysgyfarnoc
Pen kil ar vorau gwanwyn
Pen punt, a llosgwrn dime
Pensaer pop perchenoc
Pen rros pawp lle nis carer
Perchi gwr er i vawet
Petwn dewin ny vwytawn vur­gin
Pilio wy cynny rostio
Pop enwir diuenwir i blant
Pop diareb gwir
Pop coel celwydd
Pop gwlat yn hi aruer
Pop cyffelyp a ymgeis
Pop peth yn i amser
Pop cadarn gwan i ddiwedd
Po wyaf vo o ddeueit drutaf vydd y gwlan
Po ddyfnaf vor mor diogelaf [Page] bydd ir llong
Po gorau vor gwarau, goreu yw peidiaw
Po hynaf wydd dyn gwaythaf vydd i bwyll
Po hynaf vo r yd tebyckaf vydd i vyd
Po hynaf vor Kymro ynuytaf vydd
Po kyfyngaf can ddyn, ehengaf can ddeo
Po mwyaf vor brys, mwyaf vydd y llestair
Po mwyaf vor difrod mwyaf vydd y goruod
Po mwyaf vo r llanw mwyaf vydd y trai
Po tynnaf vo r llinin cyntaf i tyr
Pwy bynac sydd eb wraic, i mae ef eb ymryson
Pyscota o vlaen y Rwyt.
RAc bod y sul eb suglaw
Rait i segur beth yw w­neuthur
[Page]Reit yw croppian kyn kerddet
Rait wrth ammwyll pwyll bar ot
Rwng y ddwy stol ydd a r din i lawr
Ran ddrwc ran o drayan
Ran y gwas o cic yr iar
Ranny ryng y boly at cefyn
Ranny r gwadyn val y bo r tro­ed
Rin tridyn cannyn ae clyw
Roi y carr o vlayn y march
Rwydd pop peth ny bo dyrys
Ry dynn, a dyrr
Ry lawn a gyll
Ry vchel a syrth
Ry gas ry welir
Ryw i vap ys gyrchlamy
Rythyr mamaeth
Rodd ac adrodd a todd bachcen
SIeffre piaur troet, sieffre piau r vwyall
Somi Deo a manach ma­rw
Sonio am Awst wilieu na­talic
Sickraf ywr hyn sickraf
[Page]Swrth pop dioc
TAbler i lyuau
Tauern i chwedleu
Tauot aur ympen ded­wydd
Tafl ath vnllaw, cais ath ddwy law
Tairgwaith y dywait mu­rsen bendith ddeo yn tuy
Tebic oedd corn bwch i carecl
Tebic oedd cwd i gyfrwyf
Tec pop dianaf
Tec pop hardd
Tec pop chwedyl ny bo gwrth­wynep
Tra vo r yd yn ty fy y bydd marw y march
Tra vor ci n cachy, ydd a rysgy­uarnoc ir coet
Trech a gais nag a geidw
Trech Deo na dryc obaith
Treiglet maen hyt wastat
Trist pop galarus
Troi o poptuy ir berth
Troi r cath yn yr haul
Tario val yr abbat am y coueīt
[Page]Toll vechan a wna toll vawr
Tw varch benffyc
Tyst ywr chwedyl ir englyn
UMpryt yr iar yn yr yscu­por
Umpryd y ceiloc ar y twr gwenith
Unllaw ar tan, canllaw ar wlā
Unllawioc vydd mamaeth
Unwaith yr aeth yr arglwyddes y nofio ar waith hono y boddes
UUaeth waeth val map ca­fr
Waeth waeth vaensa­er, well well brensaer
Well well pop ffynnedic
Wythnos y llwynoc
YPendro wibwrn
Y budd a ludd y lluddet
Ychenait gwrach yn ol hi ywd
Ychenait at ddoeth
Ychydic laeth a hynny yn en­wyn
Ychidic yn amyl, a wna llawer
Y defnyn a dyll y carec, nyd o [Page] gryfder ond o vynechsyrthio.
Y drwc a wneler yn y nant a dy wynir yngwydd cant.
Y dywaythaf a orddiwedder ar hwnnw y dialer
Yydiw corn eb yscyarn
Y vorwyn a ato i phroui, hwyr i daw ew phriodi
Y gwr yn ceisio y casec, ae casec y dano
Y gwn a roed i gannwr, ac nyd ar gwn o duy r gwr
Y lle r ymgreingio r march y gedy beth oe vlew
Ymguddio ar gefyn y cist
Ympop daoni y may gobrwy
Ympop drigioni y may pechat
Ympop dewis y may cyfyng­dwr
Ympop kelfyddyt y may ffalster
Ympop rith i daw an­gau
Ympop ryuel y may gofal
Ympop pechat y may ffolder
Ympop clwyf y may pericl
[Page]Ympop dyn y may eneit
Ympop eneit y may deall
Ympop deall y may meddwl
Ympop meddwl y may naill ae drwc a e da
Y mut a ddywait y gwir
Y march a vram a ddwc y pwnn
Y march a wich ys ef a ladd
Y march a wyl yr yd ac ny wyl y cae
Ymryson ar gof yn i efail
Ymryson a doeth ti a vyddy ddoethach
Ymryson a fol ti a vyddy folach
Ynaill wenwyn a ladd y llall
Y nep a vo a march at ei elw, a gaiff benffic march
Y nep a vo marw er bigwth &c
Y nep ae ry vostio ehun, a baw y coroner
Ynuyd a gabl i wrth ban
[Page]Yn ceisio r blewyn glas y bod­des y casec
Yn y croen y ganer y ci y bydd marw
Y car cywir, yn yr ing y gw­elir
Y ci a vynner i ladd a ddoedir e vod yn cenddeirioc
Y ci a vynner i grogi, a ddywe­dir e vot yn lladd y deueit
Y cyn a el a orddir
Y cyntaf ai clybu dan i din y darfu
Y cyntaf i oc, cyntaf i gry­man
Yr cyntaf ir velin maler yn gyntaf
Y porchell a vo byw byddet mau
Yr afr dduy a las
Yr hai a laddodd yr hwch
[Page]Yr hwch a dau a vwyty r soec
Yr oen yn dyscy ir ddauat bori
Yr vn asgwrn ae tal
Ys dir drwc, rac drwc arall
Ys ef a ladd a gyhudd
Yscafnllwyth a glud coet
Yscafn y doeth ysgafn yr aeth
Ysglodun gwern ympen y gath
Ys marw a vo diobaith
Ys gwell y llysc dau tewyn nac vn
Ys dir nithio ni bo pur
Ys drwc a dec ewin or ny phor­tho vn gylvin
Yspys y dengys y dyn,
O ba radd i bo i wreiddyn
☞ Teruyn ☜
☞ Imprynted at London in saynt Iohns strete, by Nycholas Hyll.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.